Y Cyfarfod Llawn

Plenary

21/01/2025

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Prynhawn da a chroeso, bawb, i’r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Y cwestiynau i’r Prif Weinidog fydd yr eitem gyntaf heddiw, ac mae’r cwestiwn cyntaf gan Mark Isherwood.

Canol Trefi Hygyrch

1. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod canol trefi yn hygyrch i bawb? OQ62142

Diolch yn fawr. Dogfen a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru yw'r 'Llawlyfr Strydoedd', sy'n nodi ein disgwyliadau o ran sut i sicrhau lleoedd cynhwysol. Ar y lefel leol, mae cynlluniau datblygu lleol a chynlluniau creu lleoedd yn amlinellu sut y gellir gwella trefi i bawb, gan gynnwys pobl anabl. Gyda chymorth Comisiwn Dylunio Cymru, mae awdurdodau lleol yn grymuso cymunedau i fod yn rhan o'r broses hon.

Mae bron i 22 mlynedd ers i mi fynychu digwyddiad Cŵn Tywys Cymru yma am y tro cyntaf, yn tynnu sylw at yr angen i roi'r gorau i droi strydoedd a rennir a mannau cyhoeddus yn yr awyr agored yn ardaloedd caeedig i bobl ddall a rhannol ddall drwy eu cynnwys yn ystod y cam dylunio. Fodd bynnag, parhaodd y broblem. Yn gynnar yn y pandemig, bu'n rhaid i Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall Cymru a Guide Dogs Cymru godi pryder ynghylch y mater o fannau a rennir a'r goblygiadau mesurau trafnidiaeth dros dro Llywodraeth Cymru i bobl ddall a rhannol ddall. Heddiw, mae RNIB Cymru yn parhau i alw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu diogelwch pobl anabl drwy ymgorffori eu hegwyddorion allweddol o ddylunio strydoedd cynhwysol yng nghanllawiau teithio llesol Llywodraeth Cymru. Ac mae Guide Dogs Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar ganfyddiadau eu hymchwil 'Dylunio ar gyfer Cynhwysiant', ac i ddiwygio canllawiau teithio llesol nodyn cyngor technegol 18 a chanllawiau perthnasol eraill, gan gynnwys pobl anabl a defnyddwyr seilwaith eraill. Sut wnewch chi sicrhau bod geiriau gwresog Llywodraeth Cymru o'r diwedd yn cael eu troi'n weithredu go iawn ar lawr gwlad yn unol â hynny?

Diolch yn fawr iawn. Gallaf eich sicrhau bod Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth eisoes yn gweithio ar y mater hwn, oherwydd rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod pawb yn teimlo y gallan nhw fod yn rhan o'n cymuned. Ac, i sicrhau hynny, mae angen i ni wneud yn siŵr nad yw pobl ag anableddau yn teimlo wedi'u cloi allan; mae angen iddyn nhw fod yn rhan o'r broses o ddatblygu polisïau. Felly, rydym ni wedi gofyn i'r awdurdodau lleol sicrhau, pan fyddan nhw'n gweithio allan sut i ddatblygu canol eu trefi, eu bod nhw'n cymryd hynny i ystyriaeth, gan gynnwys pobl sy'n ddall. Felly, mae gan awdurdodau lleol y cynlluniau datblygu lleol hyn, ac un o'r pethau y mae'n rhaid iddyn nhw eu gwneud wrth ddatblygu cynllun yw'r cynllun creu lleoedd hwn, ac er mwyn i hynny weithio'n dda, mae'n rhaid iddyn nhw wneud yn siŵr bod cydraddoldeb ac amrywiaeth yn rhan o'r broses honno, fel y gall pobl gyfrannu.

Mae canol ein trefi yn llawer mwy na lleoedd yn unig; maen nhw'n rhan o bwy ydym ni ac o le'r ydym ni'n dod. Dyna pam mae mor bwysig eu bod nhw'n hygyrch i bawb a'u bod nhw'n fannau i bawb fod yn rhan ohonyn nhw. Ddydd Gwener, Prif Weinidog, cwrddais â chynrychiolydd o WeMindTheGap i drafod eu prosiect Sgwrs Fawr mewn partneriaeth â phrifysgol Wrecsam, gyda'r nod o roi llais i brofiad pobl ifanc 18 i 21 oed yn sir y Fflint. Nawr, er y codwyd yn rheolaidd bod â rhywle i fynd yn y dref, mae gallu cyrraedd yno yn y lle cyntaf yn rhywbeth sydd hyd yma wedi cael ei amlygu drwy'r gwaith y maen nhw'n ei wneud—nad yw trafnidiaeth gyhoeddus, fel y mae, yn gwasanaethu pobl ifanc na'n lleoedd ar hyn o bryd, ac yn aml maen nhw'n cael trafferth dim ond i gyrraedd unrhyw le, ac yn enwedig canol trefi.

Fe wnes i hefyd daro ar WeMindTheGap ym marchnad yr Wyddgrug ddydd Sadwrn, gan eu bod nhw allan yn siarad â phobl ifanc yn rhan o'r prosiect. Rwyf i bellach yn byw yn yr Wyddgrug ac mae gen i fy swyddfa yno, ond, yn fy arddegau, roeddwn i'n arfer dibynnu ar y bws i gyrraedd yno pan oedd gen i ddigon o arian ar gyfer bag o losin a sengl casét o Woolies efallai. Ond symudwch ymlaen ychydig flynyddoedd yn unig i heddiw, Prif Weinidog, rwy'n gwybod eich bod chi wedi ymweld â'r Wyddgrug ddiwedd yr haf. A gaf i ofyn, felly, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wneud yn siŵr bod trefi fel yr Wyddgrug nid yn unig yn lleoedd y mae pobl ifanc eisiau mynd iddyn nhw o ran yr hyn sydd ar gael yno, ond eu bod nhw'n hygyrch iddyn nhw yn y lle cyntaf? Diolch.

Diolch yn fawr iawn. Yn fy ymarfer gwrando, roedd mater canol trefi a'r angen i'w huwchraddio yn rhywbeth a gafodd ei gyfleu yn eglur iawn. Felly, rwy'n falch iawn ein bod ni'n gwario swm sylweddol o arian—tua £40 miliwn y flwyddyn—yn benodol ar rywfaint o hynny. A cheir enghreifftiau ledled Cymru gyfan lle mae gennym ni'r cynlluniau creu lleoedd hyn, ac mae gennym ni'r uwchgynlluniau hyn ar gyfer trefi a strydoedd mawr. Ond rwy'n clywed yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud o ran pobl ifanc. Mae'n bwysig iawn eu bod nhw'n teimlo y gallan nhw gyrraedd canol y trefi. Rydym ni'n cydnabod bod problem gyda bysiau ar hyn o bryd. Dyna pam rydym ni'n mynd i fod yn cyflwyno'r Bil bysiau. Bydd hwnnw yn rhoi mwy o reolaeth i ni dros sut mae bysiau a sut mae masnachfreintiau yn gweithio yn y dyfodol. Rwy'n obeithiol y bydd hynny yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i bobl yn eich etholaeth. Roedd yn wych dod i ymweld â chi yn yr Wyddgrug a siarad â rhai o'r bobl leol yno. Roedd yn wych gallu prynu rhywfaint o—. Prynais y llyfr gorau yr wyf i erioed wedi ei ddarllen, rwy'n meddwl, yn yr Wyddgrug. Ac rwy'n falch iawn ei bod hi'n edrych fel pe bai rhywfaint o'r buddsoddiad sy'n cael ei wneud wir yn gwneud gwahaniaeth yng nghanol rhai o'n trefi.

13:35

Brif Weinidog, fe gysylltodd ymwelydd o Fanceinion â fy swyddfa ychydig cyn y Nadolig. Mae ganddo anableddau cerdded ac mae e'n rhannol ddall. Roedd tocynnau gyda fe i gyngerdd fawr yn y stadiwm cenedlaethol, ond roedd angen cyrraedd y lle. Fe gynigiwyd lle parcio iddo yn y stadiwm, ond roedd yn rhaid iddo fe gyrraedd bum awr cyn i'r gyngerdd ddechrau a dwy awr cyn i'r gatiau agor. Opsiwn arall oedd park and ride, a fyddai wedi ei ollwng e ar ochr arall y stadiwm i ble roedd ei gât e, heb unrhyw gymorth i gerdded o gwmpas y stadiwm i gyrraedd ei gât. Y trydydd opsiwn oedd lle i barcio yng Ngerddi Sophia, ond dim cymorth iddo fe fynd i'r stadiwm ac yn ôl o'r stadiwm. Dyw hyn ddim yn hygyrch, a dyw e ddim yn deg chwaith. Rŷn ni'n ymfalchïo bod Caerdydd yn cynnal nifer o ddigwyddiadau, ond mae angen sicrhau bod y digwyddiadau yma ar gael i bawb. Trwy drafod gyda'r cyngor a'r stadiwm, fe ddaethom ni i ddatrysiad, ond mae hwn wedi gadael blas cas yng ngheg yr ymwelydd yma o Fanceinion, a fydd e ddim yn dod nôl ar frys i Gaerdydd. A wnewch chi siarad â chynghorau, a rhanddeiliaid eraill, i sicrhau bod pobl yn cael eu trin yn deg, a bod y sefydliadau yma yn cydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010? Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr. Mae lot o waith i'w wneud i ni sicrhau ein bod ni'n gwneud mwy fel bod pobl yn teimlo eu bod nhw'n gallu cyfrannu i'n cymdeithas, eu bod nhw'n gallu cymryd rhan yn ein cymdeithas ni. A dwi'n falch i ddweud bod Jane Hutt yn gwneud lot o waith ar hwnna ar hyn o bryd, wedi bod yn ymgynghori â grwpiau ar draws Cymru, a, chyn bo hir, mi fyddwn ni'n cael action plan sydd wedi cael ei gynllunio gyda phobl i sicrhau ein bod ni'n rhoi blaenoriaeth i'r pethau sy'n bwysig iddyn nhw.

Mae'n flin iawn gyda fi glywed am y profiad a gafodd eich ffrind chi yn y stadiwm. Dwi'n meddwl ei bod hi'n werth efallai i chi ysgrifennu at y stadiwm i weld beth maen nhw'n gallu ei wneud, achos mae cyfrifoldeb arnyn nhw hefyd i wneud beth sydd ei angen yn y maes yma. Felly, rŷn ni'n ymwybodol, ac os ydych chi'n ystyried faint o bobl sydd ag anabledd yng Nghymru, mae'r rhif yn eithaf uchel, ac felly mae'n bwysig ein bod ni'n cydnabod bod yna wahanol fathau o anabledd hefyd a bod yn rhaid i ni ystyried y rhain i gyd.

Gwasanaethau Swyddfa'r Post yn Arfon

2. Pa drafodaethau mae Llywodraeth Cymru yn eu cael efo Swyddfa'r Post am gwtogi gwasanaethau hanfodol yn Arfon? OQ62159

Er bod y rhain yn faterion i Lywodraeth y Deyrnas Unedig, mae hi’n bryder i mi pan fydd materion penodol yn effeithio ar bobl yn ein cymunedau ni yng Nghymru. Rŷn ni mewn cysylltiad rheolaidd â Swyddfa'r Post i sicrhau ein bod ni’n cael gwybod am faterion sy'n poeni'r gymuned leol. Dwi’n annog pobl sy’n cael eu heffeithio i gysylltu â Swyddfa'r Post i dynnu sylw at y galw am wasanaethau yn lleol.

Mae Swyddfa'r Post yn troi ei gefn ar Wynedd. Maen nhw'n cael gwared ar y gwasanaethau allgymorth symudol mewn 21 o gymunedau ar draws y sir, ac mae'r toriadau yma'n ychwanegol at gau swyddfa post Criccieth a'r bygythiad i gau swyddfa post y Goron yng Nghaernarfon. Caernarfon ydy'r unig swyddfa post y Goron ar ôl mewn ardal eang o Gymru erbyn hyn. Gaf i ofyn, felly, am eich help chi fel Prif Weinidog i ddwyn pwysau ar Swyddfa'r Post i gadw swyddfa post Caernarfon, fel swyddfa'r Goron ac i adfer y gwasanaethau eraill? Beth mae Swyddfa'r Post yn ei ddweud wrth bobl Gwynedd ydy hyn: 'Oherwydd nad ydych chi'n byw mewn lle poblog, dydych chi ddim yn cyfrif', ac mae hynny'n gywilyddus. Felly, dwi yn gofyn, ar ran pobl Gwynedd, i chi droi pob carreg er mwyn adfer a diogelu'r gwasanaethau hanfodol yma.

Diolch yn fawr. Mae'n ddrwg iawn gyda fi glywed hynny, a dwi'n siŵr y bydd hwnna yn cael effaith ar y boblogaeth leol. Dwi’n gwybod bod llawer iawn o bobl yn ffafrio gwasanaeth wyneb yn wyneb, yn arbennig yr henoed. Dwi’n gwybod bod hwn yn creu pryder i chi a hefyd i ni fel Llywodraeth. Mae cyfrifoldeb ar Swyddfa'r Post i sicrhau bod 99 y cant o bobl yn byw o fewn tair milltir i swyddfa bost leol. Nawr, dyw hwnna ddim yn helpu’r math o ardal sydd gyda chi achos maen nhw’n rhan o’r 1 y cant sydd ddim yn cael eu cynrychioli. Dwi’n hapus i ofyn i’n Gweinidog ni sy’n gyfrifol am drafodaeth gyda Swyddfa'r Post a phobl eraill sy’n ymwneud â sicrhau bod yna ffyrdd eraill gan bobl i gael mynediad, er enghraifft, at arian. Fe wnawn ni ofyn a gwneud cynrychioliadau.

13:40

Rwy'n ddiolchgar i Siân Gwenllian am godi'r pwnc pwysig hwn yn y Siambr yma heddiw. Prif Weinidog, byddwch yn ymwybodol bod ein cymunedau yn gwerthfawrogi gwasanaethau post yn fawr iawn, a'u bod nhw'n sicr yn rhan annatod o'n strydoedd mawr. Fel yr ydych chi wedi ei amlinellu, nid yw'n ymwneud â sicrhau bod llythyrau'n cael eu danfon yn unig, ond darparu siop un stop ar gyfer llawer o wasanaethau eraill. Mae angen i ni weld y rhain yn cael eu cynnal yn ein cymunedau am y rhesymau yr ydych chi wedi eu hamlinellu. Felly, tybed pa wasanaethau ydych chi wedi eu hystyried fel Llywodraeth Cymru i'w comisiynu i Swyddfa'r Post i helpu eu cynaliadwyedd yn ein cymunedau, a pha sgyrsiau sydd wedi cael eu cynnal gyda Swyddfa'r Post i weld beth allan nhw ei ddarparu yn ein cymuned, boed hynny gennych chi yn uniongyrchol fel Llywodraeth Cymru neu'n annog llywodraeth leol i wneud yr un peth, fel y gallwn ni weld swyddfeydd post yn aros ar ein strydoedd mawr ac aros yn ein cymunedau?

Diolch. Mae Swyddfa'r Post, wrth gwrs, yn sefydliad annibynnol, ond mae ganddo gyfrifoldebau cyhoeddus ac mae'n rhaid iddyn nhw fodloni meini prawf penodol. Rwy'n credu, o ran gwasanaethau ariannol, bod pobl yn cydnabod bod hwn, yn gyffredinol, yn faes a gadwyd yn ôl, ond fel Llywodraeth Cymru rydym ni hefyd yn cydnabod bod angen i ni sefyll ochr yn ochr a chyda phobl sy'n cael anhawster yn cael gafael, yn benodol, ar arian. Dyna pam mae cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru yn cyfarfod yn rheolaidd, er enghraifft, gyda LINK a Cash Access UK, o ran, er enghraifft, gwneud yn siŵr bod darpariaeth o beiriannau ATM am ddim mewn cymunedau a darpariaeth o ganolfannau bancio a rennir. Mae rhai o'r rheini wedi cael eu cyflwyno yng Nghymru eisoes oherwydd y sylwadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.

Diolch, Llywydd, a phrynhawn da, Prif Weinidog. A gaf i wahodd y Prif Weinidog yn gyntaf i ymuno â mi a phob un o'r Ceidwadwyr Cymreig i longyfarch deugain a seithfed Arlywydd Unol Daleithiau America, Donald Trump, ar ei urddiad ddoe? Rydym ni'n sicr yn edrych ymlaen at allu gweithio i gefnogi Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn eu hymdrechion i feithrin y berthynas arbennig gyda'n cynghreiriad pwysicaf.

Yr wythnos diwethaf, Prif Weinidog, cyhoeddodd y Coleg Nyrsio Brenhinol eu hadroddiad 'On the frontline of the UK’s corridor care crisis'. Roedd wedi'i seilio ar ymatebion dros 5,000 o nyrsys sy'n gweithio ledled y DU, gan gynnwys tystebau dienw gan staff nyrsio yma yng Nghymru, ac roedd llawer o'i gynnwys yn frawychus. Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â chyfarwyddwr y Coleg Nyrsio Brenhinol yng Nghymru, Helen Whyley, a ddywedodd fod argyfwng yn digwydd yn ein hysbytai ledled Cymru oherwydd bod pobl yn cael eu trin mewn amgylcheddau anniogel, anurddasol ac annerbyniol?

Diolch yn fawr iawn. Wel, yn gyntaf oll, ar ethol Donald Trump, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni gydnabod bod 40,000 o bobl yng Nghymru sy'n gweithio i gwmnïau o'r Unol Daleithiau, felly mae cynnal perthynas â'r Unol Daleithiau yn hollbwysig iddyn nhw. Mae hefyd yn gyfrifol am 14 y cant o'n hallforion a hwythau hefyd yw'r mewnfuddsoddwyr mwyaf yng Nghymru. Felly, mae cynnal perthynas ag un o'r gwledydd mwyaf grymus yn y byd, rwy'n credu, yn bwysig, waeth pwy sy'n rhedeg y wlad.

Ar bwynt y Coleg Nyrsio Brenhinol, rwy'n ymwybodol o'r adroddiad argyfwng gofal, ac, yn amlwg, mae'r Ysgrifennydd iechyd yn cyfarfod yn rheolaidd gyda'r RCN, fel y gwnes i pan oeddwn i'n Weinidog iechyd. Mae'r pwysau ar ysbytai—. Does dim un ohonom ni sydd ddim yn ymwybodol o'r galw enfawr iawn sydd ar y system. Mae'r boblogaeth sy'n heneiddio a'r ffaith bod llawer o weithwyr wedi mynd yn ôl o ganlyniad i Brexit, y ffaith ein bod ni wedi cael 14 mlynedd o gyni cyllidol, mae'r holl bethau hynny yn cyfrannu at y ffaith ei bod hi wedi bod yn anodd cadw i fyny â'r galw. Wrth gwrs, mae mwy o waith i'w wneud. Y llynedd, y flaenoriaeth bendant i'r RCN oedd lleihau'r defnydd o weithwyr asiantaeth. Rwy'n falch o ddweud ein bod ni wedi cymryd camau breision yn hynny o beth o ran nyrsio. Yr hyn sydd gennym ni nawr yw swyddi parhaol yn ein byrddau iechyd, ac mae hynny yn rhywbeth y gwn fod yr RCN wedi ei groesawu.

13:45

Prif Weinidog, y cyfrannwr unigol mwyaf at fethiant ein GIG i ddiwallu anghenion cleifion a staff yw Llywodraeth Lafur Cymru, sydd wedi bod yn gyfrifol am ein GIG yng Nghymru ers dros 26 mlynedd, ac rydych chi wedi bod yn Ysgrifennydd iechyd am dair ohonyn nhw. Yn adroddiad y coleg brenhinol, dyfynnwyd un nyrs o Gymru yn dweud bod cleifion yn cael

'eu hamddifadu o'u hurddas bob dydd'.

Gofynnodd nyrs arall gwestiwn a ddylai ein trwblu ni i gyd:

'Sut mae'n deg dweud wrth rywun eu bod nhw'n marw mewn coridor?'

Dim ond ddoe, adroddodd y BBC ar sylwadau gan y crwner David Regan ynghylch triniaeth mewn coridorau yn cael ei normaleiddio yn GIG Cymru. Ac mae hyd yn oed un o'ch ASau eich hun, Henry Tufnell, wedi beirniadu'r gwasanaethau gwael sy'n cael eu darparu gan y gwasanaeth iechyd yng ngorllewin Cymru i'w etholwyr, ac yntau hefyd, wrth gwrs, wedi condemnio'r cyflogau enfawr sy'n cael eu talu i reolwyr y GIG yma yng Nghymru.

Prif Weinidog, mae nyrsys yn feirniadol o'r ffordd y mae'r GIG yng Nghymru yn cael ei redeg, mae crwneriaid yn feirniadol o'r ffordd y mae'r GIG yng Nghymru yn cael ei redeg, ac mae hyd yn oed eich ASau eich hun yn feirniadol o'r ffordd y mae'r GIG yn cael ei redeg yma yng Nghymru. Pryd ydych chi'n mynd i gydnabod bod argyfwng a bod angen i chi wneud rhywbeth yn ei gylch?

Rwy'n credu bod y GIG yn gwneud gwaith hollol anhygoel wythnos ar ôl wythnos. Mae pobl ar y rheng flaen—mwy nag erioed o'r blaen, mwy na 100,000 o bobl—yn gweithio bob un dydd, yn ddiflino, yn wyneb y galw enfawr hwnnw. A gadewch i mi ddweud wrthych chi ei bod hi'n bwysig cofio, o ran y rheng flaen, bod yr hyn sy'n cyfateb i ddwy ran o dair o'r boblogaeth mewn cysylltiad â'r GIG yng Nghymru bob mis, y mwyafrif llethol ohonyn nhw'n cael gwasanaeth da iawn. Os ydych chi eisiau siarad am Hywel Dda, gadewch i mi roi enghraifft i chi: bob mis, mae 212,000 o gleifion yn cael eu gweld yn Hywel Dda yn unig. Rydym ni'n sôn am ymateb enfawr ar ran y GIG yng Nghymru, a hoffwn, fel y dywedais i, dalu teyrnged i'r bobl sy'n gwneud yr ymdrechion enfawr hynny, er gwaethaf y cynnydd enfawr hwnnw i alw yr ydym ni wedi ei weld.

Mae'n amlwg iawn i mi, a phawb yn y Siambr hon ac unrhyw un sy'n gwylio, eich bod chi'n gwrthod cydnabod bod argyfwng yn ein GIG. Oni bai eich bod chi'n cydnabod bod argyfwng yn ein GIG, ni fyddwn ni byth yn cael cyfle i ymdrin â'r argyfwng hwnnw a datrys y problemau. Gadewch i mi ddyfynnu adroddiad yr RCN eto—Helen Whyley o'r Coleg Nyrsio Brenhinol a dweud y gwir. Dywedodd:

'Rydym ni'n credu bod y gofal hwn o'r fath safon ei fod yn caniatáu sefyllfa lle mae'n fwy tebygol y bydd cleifion yn marw o'i herwydd.'

Bythefnos yn ôl, yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog, codais fater diffyg gwelyau ysbyty yng Nghymru yn uniongyrchol gyda chi. Fe wnaethoch chi ddweud wrthyf i nad oeddwn i'n deall y mater. Fe wnaethoch chi ddweud wrthyf i, ac rwy'n dyfynnu:

'Os ydych chi'n meddwl bod y cyfan yn ymwneud â gwelyau, dydych chi ddim wedi deall'.

Wel, dyma gopi o adroddiad y coleg brenhinol. Nid wyf i'n gwybod a ydych chi wedi ei ddarllen. Rwy'n hapus i'w rannu â chi. Nid yw'n swnio i mi fel eich bod chi wedi ei ddarllen. Dros 500 o weithiau yn yr adroddiad hwn, cyfeirir at welyau fel problem—dros 500 o weithiau. Nid fy mhroblemau i ydyn nhw, yr RCN sy'n honni bod hyn yn broblem. Ac rydych chi'n gwybod, ac rwyf innau'n gwybod, bod nifer y gwelyau yn ein gwasanaeth iechyd gwladol, ers 1999, o dan oruchwyliaeth Llafur yn gyfan gwbl, wedi gostwng dros 30 y cant, tra bod ein poblogaeth wedi cynyddu 10 y cant.

Felly, nid fi sydd wedi camddeall y mater, ond chi. Rydych chi'n methu â chydnabod yr argyfwng, rydych chi wedi methu hyfforddi a recriwtio digon o feddygon a nyrsys, rydych chi wedi cael gwared ar welyau, wedi cau ysbytai ac rydych chi wedi methu ag adeiladu'r ysbytai newydd yr ydych chi wedi eu haddo. Felly, mae'n amlwg, o dan eich goruchwyliaeth chi, fel Llywodraeth Lafur, bod y GIG wedi torri. Pryd ydych chi'n mynd i symud o'r neilltu, fel y gallwn ni'r Ceidwadwyr Cymreig ei drwsio?

Diolch yn fawr iawn. Byddem ni wedi bod wrth ein boddau o fod wedi adeiladu ychydig yn fwy o ysbytai, ond rhoddwyd cynnydd o £1 filiwn i ni o ran cyfalaf pan oedd eich Llywodraeth chi mewn grym. Nid oes llawer y gallwch chi ei wneud gyda chynnydd o £1 filiwn. Diolch byth, erbyn hyn, rydym ni wedi cael cynnydd enfawr o ganlyniad i'r Llywodraeth Lafur, y cynnydd sylweddol cyntaf o ran iechyd yng Nghymru ac o ran gwariant cyfalaf.

Rydym ni'n eglur iawn ynghylch y cynllun sydd gennym ni. Mae gennym ni gynllun strategol o ran iechyd. Fe'i lluniwyd ynghyd â rhanddeiliaid, gyda'r cyhoedd, gydag arbenigwyr, ac roedd yr RCN hefyd yn rhan o ddatblygiad y cynllun hwnnw.

Pan ddaw i welyau ysbyty, gadewch i mi ddweud wrthych chi fod gennym ni fwy o welyau yng Nghymru y pen na'r hyn sydd ganddyn nhw yn Lloegr. Ceir cydnabyddiaeth mai'r ffordd ymlaen yma yw symud i fwy o gymorth yn y gymuned, i wneud yn siŵr ein bod ni'n gwneud mwy o waith atal ac i sicrhau ein bod ni'n cael trawsnewid digidol. Dyma'n union y maen nhw'n meddwl ei wneud yn Lloegr; a dweud y gwir, rydym ni'n bell ar hyd y daith honno yng Nghymru, ac rydym ni'n mynd i gadw at y llwybr yr ydym ni wedi ei nodi.

13:50

Mi fydd y Prif Weinidog yn gwybod bod Plaid Cymru wedi galw ers blynyddoedd lawer am ddatganoli Ystad y Goron. Sôn ydyn ni am reoli ac elwa ar ein hadnoddau naturiol. Wrth iddi hi nodi ei 100 diwrnod cyntaf yn ei rôl, mi ddywedodd y Prif Weinidog ei bod hi'n brwydro dros ragor o reolaeth dros asedau Ystad y Goron yng Nghymru. A all hi ddweud wrthym ni pa sianeli ffurfiol y mae hi wedi eu defnyddio i drio gwthio'r mater yma yn ei flaen?

Dwi'n cwrdd yn aml gyda'r Prif Weinidog, ac mae fy nirprwy yn gyfrifol am faterion cyfansoddiadol. Gallaf ddweud yn glir wrthych chi eu bod nhw'n ymwybodol bod hwn yn rhan o'n polisi ni a'n bod ni eisiau gweld Ystad y Goron yn cael ei datganoli. 

Nid wyf yn siŵr beth mae'r Prif Weinidog yn ei gredu yw natur y sgyrsiau hyn y mae'n eu cael. Fe wnaethom ni ofyn i'r Canghellor pa drafodaethau diweddar yr oedd hi wedi eu cael gyda Llywodraeth Cymru ar ddatganoli rheolaeth Ystad y Goron i Gymru. Yr ateb, a ddaeth gan gydweithiwr Llafur y Prif Weinidog, Darren Jones, Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, oedd nad yw Llywodraeth y DU wedi cael unrhyw drafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ar ddatganoli Ystad y Goron—dim. Fel Prif Weinidog, byddwn yn barod i wneud y ddadl gadarnhaol dros ddatganoli Ystad y Goron bob un dydd, a byddaf yn ei gwneud nawr.

Fel y maen nhw'n ei wneud yn yr Alban, gallai Cymru wneud mwy i fanteisio ar ein potensial ynni adnewyddadwy, ail-fuddsoddi'r elw yn ein cymunedau, creu mwy o swyddi. Mae'r Prif Weinidog wedi treulio ei misoedd cyntaf yn y swydd yn cuddio y tu ôl i'r setliad datganoli i bob pwrpas. 'Nid fy nghyfrifoldeb i yw e', meddai, 'Peidiwch â gofyn i mi am faterion sydd heb eu datganoli.' Ond mae hi ei hun yn hoffi rhoi'r argraff, fel ar yr union fater hwn, ei bod hi'n mynd ar drywydd materion sydd heb eu datganoli. Felly, naill ai dydy hi ddim yn ceisio gwneud hyn, dydy hi ddim yn ceisio digon caled i wneud hyn, neu mae ei chydweithwyr yn y Blaid Lafur yn ei rwystro. Felly, pryd mae'r trafodaethau ffurfiol hynny yn cael eu cynnal ac a allwn ni gael sicrwydd cwbl bendant y byddan nhw'n cael eu cynnal?

Gallaf eich sicrhau eu bod nhw'n cael eu cynnal. Efallai nad yw Darren Jones wedi cymryd rhan ynddyn nhw, ond gallaf eich sicrhau chi bod Gweinidogion eraill wedi cymryd rhan ynddyn nhw. Mae'r Ysgrifennydd cyllid wedi cael trafodaethau yn ddiweddar iawn, rwyf i wedi sôn am hyn a'i godi gyda'r Canghellor, ac rwy'n gwybod ei fod yn rhan o drafodaethau cyfansoddiadol y Dirprwy Brif Weinidog hefyd. Nid yw'r ffaith nad yw Darren Jones yn gwybod amdano yn golygu nad oes pobl eraill yn y Llywodraeth sy'n cymryd rhan ac yn ymgysylltu â hyn.

Sôn am bethau a chodi pethau? Nid yw hynny'n gyfystyr â thrafod gyda Llywodraeth y DU. Yr hyn a ddywedwyd mewn ateb ysgrifenedig gan Lywodraeth y DU oedd hyn:

'Nid yw Llywodraeth y DU wedi cael unrhyw drafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ar ddatganoli Ystad y Goron.'

Ac wrth gwrs, ar gyfer Ystad y Goron, gweler HS2 hefyd. Ni fydd unrhyw faint o gymysgu materion ar raglen galw i mewn ar Radio Wales yn taflu llwch i lygaid pobl. Mae'r Prif Weinidog eisiau symud y sgwrs ymlaen o gyfran Cymru o arian HS2 i gael rhywfaint o arian, ond heb ddweud faint, tuag at brosiectau seilwaith rheilffordd yng Nghymru nad ydyn nhw wedi cael eu nodi eto. Nid arian HS2 yw hwnnw, arian y dylai Cymru fod yn ei gael beth bynnag ac sydd wedi cael ei wadu i ni gan Lywodraethau Llafur a Cheidwadol olynol yw hwnnw. Pe bai rheilffyrdd wedi'u datganoli, fel yn yr Alban, byddai £0.5 biliwn ychwanegol wedi bod ar gael i dalu am welliannau i reilffyrdd yng Nghymru yn ystod y degawd diwethaf yn unig. Mae ein cyfran o HS2 yn fater cyfan gwbl ar wahân. 

Yr wythnos hon, rydym ni'n clywed bod y Canghellor Llafur yn ystyried atal yr holl wariant ar wella rheilffyrdd, ac eithrio tri phrosiect yn Lloegr. Allech chi wir ddim gwneud y pethau hyn i fyny. Felly, faint mae'r Prif Weinidog yn gofyn amdano ar gyfer rheilffyrdd bellach? Nid wyf i eisiau iddi ailadrodd y camgymeriadau a wnaeth wrth setlo am £25 miliwn allan o'r £600 miliwn sydd ei angen ar gyfer diogelwch tomenni glo. Felly, i gyd, mae'r arian HS2—£4.6 biliwn rwy'n credu yw'r ffigur a ddefnyddiwyd gan Ysgrifennydd Cymru Jo Stevens—yn ogystal a thanfuddsoddiad hanesyddol a, os yw'r hyn yr ydym ni'n ei glywed nawr yn wir, pharhaus mewn rheilffyrdd yng Nghymru. Beth yw'r ffigur hwn? Oherwydd allwn ni ddim caniatáu i Gymru fod ar ei cholled.

13:55

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n falch o ddweud bod y sylwadau cryf yr ydym ni wedi bod yn eu gwneud yn golygu, am y tro cyntaf ers 14 mlynedd, y bu cydnabyddiaeth o'r ffaith nad yw Cymru wedi cael digon o adnoddau o ran rheilffyrdd. Dyma'r tro cyntaf mewn 14 mlynedd i hynny ddigwydd. Nawr, wrth gwrs—[Torri ar draws.] A ydych chi eisiau i mi orffen? [Torri ar draws.] Ai dyna'r trydydd cwestiwn? Rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig yw bod pobl eisiau gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd i wasanaethau rheilffyrdd, a'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd yw bod trafodaethau manwl iawn yn cael eu cynnal rhwng yr Ysgrifennydd Cabinet a'r Gweinidogion perthnasol yn San Steffan o ran sut y bydd y buddsoddiad yn edrych. Mewn amser, byddwch chi'n gwybod faint fydd hynny. Rydych chi'n gwybod yn iawn bod hyn i gyd yn mynd i gael ei nodi yn yr adolygiad o wariant, a bydd yn rhaid i chi fod ychydig yn amyneddgar. Rydym ni wedi ceisio bod yn amyneddgar am 14 mlynedd; mae wedi cymryd cryn dipyn o amser. Ond yr hyn sy'n fy synnu i yw eich bod chi yma yn curo'r bwrdd am £4 biliwn yn ychwanegol, ond allwch chi ddim hyd yn oed dod â'ch hun i bleidleisio dros £1 biliwn o bunnoedd yn ychwanegol sy'n dod. Allwch chi ddychmygu pe baen nhw fyth yn dod i rym? Dyna'r gwir amdani. Mae pobl yng Nghymru yn eich gwylio chi. Mae £1 biliwn ar y bwrdd i chi fynd i'w godi—[Torri ar draws.]

Allaf i ddim clywed y Prif Weinidog. Hoffwn glywed y Prif Weinidog. Allwn ni gael ychydig o dawelwch os gwelwch yn dda?

Y cwbl yr oeddwn i'n ei ddweud oedd bod £1 biliwn ar y bwrdd i chi ddod i'w godi. Os nad ydych chi'n mynd i'w godi, rwy'n credu y bydd y cyhoedd yng Nghymru yn gwylio ac y byddan nhw'n cydnabod, a byddan nhw'n dweud, 'Beth yw'r pwynt rhoi £4 biliwn iddyn nhw? Efallai na wnawn ni godi hwnnw.'

Gwasanaethau Deintyddol y GIG yn Llanelli

3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella mynediad at wasanaethau deintyddol y GIG yn Llanelli? OQ62189

Rydym ni'n diwygio'r contract deintyddol ac yn ailgyfeirio deintyddiaeth y GIG tuag at system sy'n canolbwyntio ar atal a darparu triniaeth yn seiliedig ar risg ac angen. Mae ein diwygiadau hyd yma wedi galluogi bron i 38,000 o gleifion newydd i dderbyn cwrs llawn o driniaeth yn ardal Hywel Dda.

Diolch am yr ateb. Cymerais ran mewn sesiwn ddeialog ddigidol ardderchog gyda disgyblion Ysgol Gynradd Bigyn yn Llanelli yn ddiweddar ac fe wnaethon nhw ofyn i mi o ganlyniad i hynny godi gyda chi y ffaith bod eu teuluoedd yn ei chael hi'n anodd cael mynediad at ddeintydd GIG yn Llanelli. Rwy'n mynd i ymweld â nhw eto ac eisiau rhoi ateb iddyn nhw. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi gallu sicrhau lleoedd deintyddol ychwanegol ledled Cymru, ond mae nifer o'm hetholwyr yn Llanelli yn dal i dynnu sylw at rwystredigaethau ac yn dweud eu bod yn teimlo eu bod nhw'n cael eu gorfodi i gael triniaeth y tu allan i'r GIG. Beth arall allwn ni ei wneud i annog mwy o ddeintyddion i gynnig apwyntiadau GIG?

Diolch yn fawr iawn. Diolch am godi'r materion hyn gyda mi. Rwy'n falch iawn eich bod chi'n mynd i fod yn dychwelyd i'r ysgol ddydd Gwener. Rydym ni'n eglur iawn ein bod ni eisiau cyrraedd sefyllfa lle gall pawb sydd eisiau mynediad at ddeintyddiaeth GIG gael mynediad. I wneud hynny, rydym ni'n newid y ffordd y mae deintyddion yn gweithio, ac yn gwneud yn siŵr, er enghraifft, nad deintyddion yn unig sy'n gwneud y gwaith ond ein bod ni'n cael therapyddion deintyddol a phobl eraill sy'n gallu rhoi'r cymorth hwnnw o gwmpas pobl. I wneud hynny ac i gymell deintyddion fel y gwnaethoch chi ei awgrymu, mae angen i ni ddiwygio contract y GIG yn llwyr. Rydym ni wedi bod ar daith gyda'r diwygiad hwnnw, ac mae'n parhau. Rwy'n falch o ddweud nawr y bydd hwnnw'n destun ymgynghoriad yn y gwanwyn, felly mae'r ymgynghoriadau hynny eisoes yn digwydd.

Rwy'n credu mai'r peth arall efallai yr hoffech chi ei rannu gydag ysgol Bigyn yw'r ffaith ein bod ni'n awyddus iawn i fynd i faes atal. Rwy'n falch iawn o weld bod ysgol Bigyn yn rhan o'r rhaglen Cynllun Gwên, felly mae plant yn yr ysgol honno yn cael cymorth i wneud yn siŵr eu bod nhw'n defnyddio'r rhaglen honno. Mae Llywodraeth y DU yn edrych ar ba mor llwyddiannus yw'r prosiect hwn. Mae hon yn enghraifft ohonyn nhw yn dysgu oddi wrthym ni. Mae'n wych gweld bod 1,176 o ysgolion wedi cymryd rhan yn y sesiwn brwsio dannedd dan oruchwyliaeth honno, â 59,000 o blant yn cymryd rhan, ac rwy'n falch iawn o weld bod ysgol Bigyn yn un ohonyn nhw. Mae'n debyg ei bod hi'n werth sôn hefyd mai'r peth allweddol yw gwneud yn siŵr ein bod ni'n denu deintyddion i fannau fel Llanelli a gorllewin Cymru. Un o'r pethau yr ydym ni'n ei wneud yw cymell hyfforddeion i wneud yn siŵr mewn gwirionedd eu bod nhw'n mynd i'r gorllewin, felly rydym ni'n rhoi cymorth ychwanegol iddyn nhw. Rwy'n falch o ddweud bod saith o'r 15 lle yn y gorllewin.

14:00
Cyllid Canlyniadol HS2

4. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cyllid canlyniadol HS2 i Gymru? OQ62148

Rwy'n codi mater cyllid rheilffyrdd ac, yn benodol, cyllid canlyniadol HS2 gyda Llywodraeth y DU yn rheolaidd iawn. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru hefyd wedi cael cyfres o sgyrsiau cynhyrchiol gyda'r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. A gaf i groesawu'r cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru mewn trafodaethau gyda Llywodraeth y DU, gan ei bod hi bellach yn cydnabod yn ffurfiol tanariannu estynedig a hanesyddol seilwaith y rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru? Rwy'n cydnabod, wrth gwrs, bod llawer o etifeddiaethau ariannol o  gamreolaeth drychinebus y Torïaid sydd wedi difetha cynifer o'n gwasanaethau cyhoeddus dros y 14 mlynedd diwethaf. Fe wnaeth y Torïaid gamddefnyddio a thanseilio fformiwla Barnett i ddwyn cyllid yr oedd mawr ei angen ac yr oedd gennym ni hawl iddo yn gyfansoddiadol oddi ar Gymru, ac roedd y Trysorlys, bryd hynny, yn gydgynllwynydd yn y naratif ffug hwnnw. Nawr, nid yw mater HS2, Prif Weinidog, wedi diflannu. Mae gennym ni hawl cyfansoddiadol i fuddsoddiad rheilffyrdd canlyniadol yn Lloegr o hyd, pa un a yw'r Trysorlys yn esgus bod HS2 wedi diflannu ai peidio, felly mae angen ateb priodol ar y mater hwn. Felly, a wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau y bydd yn parhau i sefyll dros Gymru ac ystyried uwchgyfeirio'r mater hwn o dan y fframwaith rhynglywodraethol?

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n falch iawn bod y sylwadau cryf iawn yr ydym ni wedi bod yn eu gwneud hyd yn hyn yn dechrau cyflawni'r canlyniadau cyntaf hynny. Mae'n daith hir, ond mae'n daith y rhoddodd pobl eraill gynnig arni heb lwyddiant gyda'r Llywodraeth Dorïaidd. Rwy'n falch o weld ein bod ni'n gweld rhywfaint o newid gan Lywodraeth Lafur y DU. Rydym ni mewn trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynghylch cyllid rheilffyrdd, ac mae pecyn o fesurau, gan gynnwys cyllid ar gyfer gwelliannau i reilffyrdd craidd y Cymoedd, sy'n cael ei drafod. Rydym ni'n gwybod bod hyn yn debygol o gael ei ddatblygu drwy adolygiad o wariant y DU. Dim ond o ran y mater ehangach o degwch, roedd maniffesto Llafur y DU yn cydnabod bod oes fframwaith cyllidol Cymru, fformiwla Barnett, wedi darfod, ac mae'r sgyrsiau hynny hefyd yn parhau.

Rydym ni wedi cael tanfuddsoddiad difrifol yn ein rheilffyrdd, gan gynnwys yn y gogledd. Cawsom addewidion ffug gan Lywodraeth y DU ynghylch trydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru, nid oedd yr arian yno—[Torri ar draws.] Nid oedd yr arian erioed yno. Fe wnaethon nhw gais ddwywaith am gyllid ar gyfer prosiect Porth Wrecsam ac i gael trenau cludo nwyddau oddi ar y rheilffordd yn Padeswood, ac eto, gwrthodwyd y cyllid ddwywaith. Rydym ni mewn angen taer o fuddsoddiad yng Nghaer ar brif reilffordd gogledd Cymru a rheilffordd Wrecsam i Lerpwl. Mae wedi'i ffurfio. Rydym ni wedi ceisio cynifer o weithiau i gael hynny yno; bydd yn helpu i ddatgloi'r economi ar gyfer y gogledd. Felly, eto, rwy'n mynd i ofyn i chi, Prif Weinidog, am sgyrsiau yr ydych chi'n eu cael, yn ogystal ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, gyda Llywodraeth y DU, oherwydd gwelais Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens, hefyd yn dweud ac yn cyfaddef bod angen cyllid ar gyfer Cymru hefyd, a oedd yn wych ei weld. Rwy'n gwybod bod y Canghellor yn deall bod angen hwn arnom ni i ddatgloi'r economi. Felly, rydym ni wir yn pwyso am hyn, os gwelwch yn dda, Prif Weinidog, dim ond i roi gwybod i chi. Beth allwch chi ei wneud ar gyfer y gogledd hefyd? Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr iawn. Gallaf eich sicrhau fy mod i'n gwneud y ddadl dros Gymru gyfan, ac rwy'n gwybod, yn benodol, bod ei swyddogaeth ddeuol fel yr Ysgrifennydd trafnidiaeth ac Ysgrifennydd gogledd Cymru yn golygu nad oes unrhyw ffordd bod mater y gogledd yn mynd i ddisgyn oddi ar yr agenda. A dweud y gwir, rwy'n gwybod bod adroddiad Burns y gogledd yn mynd i fod yn ganolog o ran penderfynu i le yr hoffem ni i'r arian hwnnw fynd. Rydym ni wedi gwneud cryn dipyn o fuddsoddiad mewn gwasanaethau rheilffordd yng Nghymru—£800 miliwn mewn trenau newydd, trenau a gynhyrchwyd yng Nghymru. Rydym ni'n gweld gwell dibynadwyedd ac rydym ni'n gweld mwy o wasanaethau, felly mae hyn oll yn stori arwyddocaol a newyddion da i bobl Cymru.

14:05

Prif Weinidog, rydym ni i gyd wedi drysu braidd ar feinciau hyn y gwrthbleidiau ynghylch pam mae'r Llywodraeth yn galw'n gyhoeddus am oddeutu £400 miliwn yn unig o symiau canlyniadol o HS2. Rwyf i wedi clywed yr atebion i gyd, ond yn wyneb yr Ysgrifennydd Gwladol yn y gorffennol yn galw am y biliynau hynny o bunnoedd—mae hyd yn oed ein Cwnsler Cyffredinol ein hunain wedi galw am £5 miliwn o ganlyniad i HS2—yn amlwg, rydym ni'n ei ystyried fel ymgais i sicrhau bod pobl Cymru ar eu colled, ac wnaf i ddim cael fy argyhoeddi fel arall. Rwyf i a'm cyd-Aelodau wedi bod yn eglur bod yn rhaid i gyllid teg gael ei ddyrannu gan Lywodraeth San Steffan, waeth pa blaid sy'n rheoli. Gyda hyn mewn golwg, Prif Weinidog, a allwch chi egluro beth yw'r cyfiawnhad dros alw am £400 miliwn yn unig pan ddylai symiau canlyniadol teg yr hyn a wariwyd hyd yma, tua £38 biliwn, fod yn darparu gwerth ymhell dros £1.5 biliwn o symiau canlyniadol ar hyn o bryd?

Diolch yn fawr iawn. Ni wnaeth y Torïaid ennill unrhyw dir yn hyn o beth pan oeddech chi'n rhedeg San Steffan. A gwrandewch, i roi eich clod i chi, hwn, o leiaf, oedd y tro cyntaf, rwy'n credu, i ni weld y Torïaid yn dweud, mewn gwirionedd, bod hyn yn annheg. Felly, diolch am hynny—roedd hynny'n dda. Ond ni wnaethoch chi lwyddo i ennill unrhyw dir ar y mater, fodd bynnag, ac rydym ni'n llwyddo a dweud y gwir, i gael cydnabyddiaeth o leiaf. Mae ffordd bell i fynd, ond dyna'r cychwyn.

A gaf i roi sylw cyflym i'r mater yn ymwneud â faint o ran y cyllid? [Torri ar draws.] Byddwch yn ymwybodol—

Mae'n ddrwg gen i. Cwestiwn gan Peter Fox yw hwn, sy'n cael ei ateb gan y Prif Weinidog. Mae gormod o lawer o bobl eraill yn ceisio cyfrannu yn y sesiwn hon. A gawn ni'r Prif Weinidog i ymateb?

Byddwch yn ymwybodol bod rhaglen HS2 yn rhaglen enfawr iawn i gychwyn, a oedd yn mynd i fod yn parhau am ddegawdau ar ddegawdau ar ddegawdau, ac a oedd yn mynd i ddefnyddio gwerth biliynau o bunnoedd o gyllid. Ond fe wnaeth eich Llywodraeth ganslo'r rhan fwyaf ohono, felly, yn amlwg, allwn ni ddim gofyn am symiau canlyniadol am ddarnau o'r rheilffyrdd nad oedden nhw'n mynd i gael eu hadeiladu. Felly, rwy'n fwy na pharod i ofyn i swyddogion roi dadansoddiad manwl i chi o sut y cawsom ni'r ffigurau hynny a pham rydym ni'n gofyn am y swm hwnnw o arian. Ac edrychwch, os byddan nhw'n parhau i adeiladu darnau o HS2 i mewn i Lundain, fe ddywedaf i wrthych chi beth, byddwn ni'n gofyn am yr arian hwnnw hefyd. Felly, mae'n ymwneud â faint maen nhw wedi ei wario eisoes, a, Peter, os hoffech chi gael papur briffio technegol ar hyn, rwy'n fwy na pharod i drefnu hynny i chi.

Blaenoriaethau Deddfwriaethol

5. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am flaenoriaethau deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer gweddill tymor y Senedd hon? OQ62188

Yn ogystal â'r ddeddfwriaeth sy'n destun craffu ar hyn o bryd, rydym ni eisoes wedi cyhoeddi Biliau pwysig i ddod eleni, gan gynnwys rhai'n ymwneud â bysiau, llywodraethu amgylcheddol a bioamrywiaeth, digartrefedd a diogelwch adeiladau. Nodir blaenoriaethau deddfwriaethol y Llywodraeth yn flynyddol, a byddaf yn gwneud ein datganiad deddfwriaethol nesaf ar ôl toriad y Pasg.

Diolch yn fawr. Un o'r blaenoriaethau a nodwyd gennych chi pan gawsoch eich penodi'n Brif Weinidog oedd sicrhau bod mwy o bobl yng Nghymru yn byw mewn cartrefi cynnes. Ac i'r perwyl hwnnw, sylwais ar drydariad a anfonwyd gennych chi yr wythnos diwethaf yn dweud:

'Cartrefi cynnes a biliau is—y dyfodol rydyn ni'n ei adeiladu yma yng Nghymru'.

Mae hynny'n swnio'n wych, ond dydy'r ffeithiau ddim yn cefnogi hynny. Eich plaid chi, wrth gwrs, yw'r un sydd wedi torri lwfans tanwydd y gaeaf i filoedd o bensiynwyr Cymru yn ystod un o'r gaeafau oeraf ers blynyddoedd. Mae hyd yn oed ffigurau'r Blaid Lafur ei hun yn awgrymu y gallai'r penderfyniad gostio 4,000 o fywydau. Ac yn ogystal, addawyd i bobl cyn yr etholiad cyffredinol y byddai biliau ynni yn gostwng o dan Lywodraeth Lafur, dim ond wedyn i'w gweld yn codi o dan Lywodraeth Lafur. Sut allwn ni fod ag unrhyw hyder y byddwch chi'n darparu cartrefi cynnes a biliau is pan fo hanes eich plaid yn dangos y gwrthwyneb llwyr?

Wel, mae honna'n un dda yn dod gan eich plaid chi, a bod yn onest. Edrychwch, rwyf i wedi nodi—a byddaf yn cymryd i ystyriaeth y materion hynny yr wyf i'n atebol amdanyn nhw yng Nghymru; allaf i ddim bod yn atebol am yr hyn sy'n digwydd yn San Steffan. Rwy'n dweud hyn wythnos ar ôl wythnos ar ôl wythnos, os byddwch chi'n parhau i fod eisiau gwneud hynny, yna parhewch chi, ond rwy'n credu y bydd y cyhoedd yn meddwl tybed beth ar y ddaear sy'n digwydd yma. 'Datganoli' yw ei enw; efallai yr hoffech chi gymryd golwg ar sut mae'n gweithio.

Edrychwch, mae ein blaenoriaethau o ran deddfwriaeth yn seiliedig ar y rhaglen lywodraethu a'r maniffesto, felly nid wyf i'n hollol siŵr sut mae eich cwestiwn dilynol yn ymwneud â chartrefi cynnes. Ond yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych chi yw ein bod ni'n gwario £30 miliwn y flwyddyn yn cynorthwyo pobl i fyw mewn cartrefi cynhesach, ac mae hwnnw'n un o lawer iawn o brosiectau yr ydym ni'n eu hariannu i gynorthwyo pobl pan fydd bywyd yn anodd, ac mae bywyd yn anodd. Rydym ni i gyd yn gwybod bod biliau wedi codi; maen nhw wedi codi yn rhannol oherwydd yr hyn sydd wedi digwydd yn Wcráin. Mae'r rhain yn bethau sydd y tu hwnt i reolaeth unrhyw Lywodraeth, ac mae'n iawn, lle gallwn ni, fel Llywodraeth, ein bod ni'n gallu camu i'r adwy a chynorthwyo'r rheini—yn enwedig y rhai mwyaf agored i niwed.

14:10

Prynhawn da, Prif Weinidog. Mae un darn o ddeddfwriaeth y gwn sydd yn eich rhaglen yn ymwneud â Bil ar atebolrwydd Aelodau, a'r elfen o dwyll gwleidyddol bwriadol yn benodol, ac i wneud hynny yn drosedd trwy broses annibynnol. Mae ymddiriedaeth y cyhoedd mewn gwleidyddion ar ei lefel isaf erioed ar hyn o bryd, â dim ond 9 y cant o'r cyhoedd yn mynegi hyder ynom ni, yr isaf y mae wedi bod ers 40 mlynedd. Mae mwy na hanner pleidleiswyr y DU—58 y cant—yn credu nad yw gwleidyddion bron byth yn dweud y gwir. Does dim ond yn rhaid i ni edrych ar ddoe, ac Arlywydd newydd yr Unol Daleithiau, ac yn sicr nid wyf i'n rhannu'r gymeradwyaeth gan y blaid gyferbyn a wnaeth—. Arlywydd, pan oedd yn Arlywydd y tro cyntaf—roedd ei arlywyddiaeth yn cynnwys nifer syfrdanol o 21 o gelwyddau y dydd, yn ôl y Washington Post. Felly, Prif Weinidog, nid ydym ni byth eisiau gweld hynny yma yng Nghymru, ac nid yw'r broblem honno gennym ni yng Nghymru, ond mae angen deddfwriaeth arnom ni i sicrhau bod gennym ni Senedd sydd, yn bendant, yn dechrau adfer ymddiriedaeth ymhlith pobl yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr iawn. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflwyno deddfwriaeth o ran gwahardd Aelodau ac ymgeiswyr y'u ceir yn euog o dwyll bwriadol. Byddwch yn ymwybodol bod Pwyllgor Safonau Ymddygiad y Senedd yn cynnal ymchwiliad i atebolrwydd Aelodau unigol, sy'n cynnwys ystyried materion adalw a thwyllo, ac rydym ni'n edrych ymlaen at dderbyn adroddiad ac argymhellion y pwyllgor.

Iechyd y Cyhoedd ym Mhreseli Sir Benfro

6. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd y cyhoedd ym Mhreseli Sir Benfro? OQ62132

Mae ein blaenoriaethau ar gyfer iechyd y cyhoedd yng Nghymru wedi’u nodi yn 'Cymru Iachach' ac mae'r camau diwygiedig a gafodd eu cyhoeddi fis Rhagfyr yn canolbwyntio ar atal iechyd gwael ac afiechydon yn y lle cyntaf, ac ar adnabod ac ymyrryd yn gynnar pan fydd afiechydon yn digwydd.

Prif Weinidog, byddwch yn ymwybodol bod safle tirlenwi Withyhedge yn sir Benfro wedi dechrau derbyn gwastraff eto yn ddiweddar, a chysylltwyd â mi eisoes ynghylch arogleuon yn dod o'r safle, sy'n peri pryder mawr. Mae trigolion yn ddealladwy yn bryderus, oherwydd yn y gorffennol bu adegau pan fo pobl wedi dioddef symptomau iechyd difrifol, fel amrannau poenus ac wedi chwyddo, cur pen a chyfog, o ganlyniad i allyriadau gwenwynig posibl yn dod o'r safle.

Prif Weinidog, mae'n hanfodol bod gwersi yn cael eu dysgu fel y gall trigolion fyw heb y bygythiad y bydd eu hiechyd yn cael ei beryglu oherwydd y gweithrediadau ar y safle tirlenwi penodol hwn. Fel y gwyddoch chi, rwyf i wedi galw am ymchwiliad cyhoeddus i reolaeth y safle, fel y gall y cyhoedd o'r diwedd gael yr atebion y maen nhw'n eu haeddu, ac rwy'n credu, drwy gydweithio, y gallwn ni sicrhau ymchwiliad cyhoeddus. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi weithio gyda mi, er budd y gymuned ac mewn ysbryd o ddidwylledd a thryloywder, i helpu i ddarparu'r ymchwiliad cyhoeddus y mae'r gymuned wedi galw amdano er mwyn diogelu iechyd cyhoeddus pobl yn y dyfodol?

Diolch yn fawr iawn. Wel, edrychwch, dim ond rhywbeth i bawb ei nodi, rwy'n credu: o ran ymchwiliadau cyhoeddus, mae llawer o waith i'w wneud. Wyddoch chi, mae llawer ohonom ni yn rhan o'r ymchwiliad COVID, ac allaf i ddim ddechrau dweud wrthych chi faint o adnoddau, cyllid a phopeth y mae hwnnw wedi ei gymryd, ac mae'n cymryd blynyddoedd ar flynyddoedd ar flynyddoedd. Rwyf i wir yn credu y byddai'n well gan lawer o bobl i ni fwrw ymlaen â phethau. Yr hyn sy'n digwydd yw bod eich sylw'n cael ei dynnu weithiau. Mae'n bwysig, rwy'n credu, o ran rhywbeth fel COVID—yn bwysig iawn—ein bod ni'n dysgu'r gwersi, ac mae darlun ehangach i'w gymryd i ystyriaeth yn hynny o beth. Rwy'n credu, o ran esiampl fel hon, ac rwy'n clywed eu bod nhw eisoes wedi ailddechrau derbyn gwastraff i'r safle—. Rwy'n deall bod staff Cyfoeth Naturiol Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyngor Sir Penfro a'r bwrdd iechyd yn bresennol mewn sesiwn ymgysylltu â'r cyhoedd. Roedd tua 60 aelod o'r cyhoedd yno. Rwy'n gwybod bod lefel uchel o bryder ymhlith trigolion o hyd, ac rwyf i hefyd wedi derbyn sylwadau. Rwy'n gwybod bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ceisio tawelu meddyliau rhai o'r Aelodau yno o ran y buddsoddiad y mae'r cwmni wedi ei wneud o ran seilwaith ar y safle, yn enwedig yn y system rheoli nwy tirlenwi. Gallaf eich sicrhau y byddaf yn cadw llygad barcud ar hyn, ac os bydd y pryderon hynny yn parhau, yna bydd yn rhaid i ni drafod gyda Cyfoeth Naturiol Cymru pa gamau ychwanegol pendant y bydd yn rhaid eu cymryd.

14:15
Gwasanaethau Iechyd yn Nwyrain De Cymru

7. Beth y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i wella gwasanaethau iechyd acíwt i bobl yn Nwyrain De Cymru? OQ62185

Llynedd, roedd bron i 980,000 o ymweliadau ag ysbytai o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn unig. Mae’r lefelau galw a gweithgaredd yn cynyddu bob blwyddyn. Rydyn ni’n gweithio'n agos gyda'r bwrdd iechyd i sicrhau bod gwasanaethau iechyd a gofal diogel ac amserol ar gael i’r rhai sydd eu hangen.

Diolch yn fawr am yr ateb yna.

Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ddigwyddiad critigol oherwydd pwysau parhaus. Nid oedd y cyhoeddiad hwn yn syndod i unrhyw un a oedd wedi bod yn dilyn y newyddion o'r ysbyty ers iddo agor ei ddrysau ddim ond ychydig flynyddoedd yn ôl. Yr hyn a roddodd sioc i mi oedd yr adroddiadau a gefais i gan aelodau staff yr ysbyty eu hunain. Maen nhw'n disgrifio argyfwng parhaol o ran gwelyau yn yr ysbyty, gyda chleifion difrifol wael yn cael eu gosod mewn coridorau am gyfnodau maith o amser nes bod gwelyau ar gael. Roedden nhw'n dweud wrthyf i fod bywydau cleifion yn cael eu rhoi mewn perygl oherwydd yr amgylchedd y mae'r RCN, fel clywsom ni'n gynharach, yn dweud sy'n peryglu diogelwch, urddas ac ansawdd gofal. Nid dim ond i'r cleifion y mae'r amodau hyn yn drychinebus, ond maen nhw'n achos digalondid mawr i'r staff, sydd wedi ymuno â'r proffesiwn i helpu pobl hyd eithaf eu gallu. Nid oes rhyfedd fod llawer wedi gadael y GIG, ac mae llawer mwy yn ystyried gadael y llong.

Prif Weinidog, fe glywais i'r hyn a wnaethoch chi ei ddweud yn gynharach y prynhawn yma, ond, heb roi'r cyfrifoldeb a'r bai i gyd ar y bwrdd iechyd, sut ydych chi'n bwriadu gwella'r sefyllfa enbyd hon i gleifion a staff sy'n gweithio yn galed, a beth ydych chi'n bwriadu ei wneud yn wahanol, oherwydd nid yw'r hyn yr ydych chi'n ei wneud ar hyn o bryd yn gweithio? Nid yw meddygon na nyrsys yn gwybod beth i'w wneud nesaf.

Wel, diolch yn fawr iawn. Rydym ni i gyd yn ymwybodol iawn o'r digwyddiad critigol hwnnw a gafodd ei ddatgan yn Aneurin Bevan dros y Nadolig. Fe gefais i gyfle hefyd i fynd i siarad â phobl yn yr adran argyfwng ychydig wythnosau yn ôl, ar ymweliad dirybudd unwaith eto, dim ond ar gyfer clywed drosof fy hunan sut roedd pobl yn teimlo. Roedd hi'n syndod pa mor amyneddgar oedd rhai o'r cleifion, a dweud y gwir, a pha mor ddiolchgar yr oedden nhw am y gefnogaeth yr oedden nhw'n ei chael. Yn amlwg, roedd y staff yn ymwybodol o'r pwysau a oedd arnyn nhw. A dim ond i roi ymdeimlad o hynny i chi, ym mis Hydref, fe gafodd 7,800 o gleifion eu gweld gan yr adran argyfwng honno. Dyna nifer fawr o bobl.

Rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig yw ein bod ni'n sylwi ar yr hyn sydd wedi gweld gwelliant yno hefyd. Felly, er enghraifft, fe fu cynnydd o 94 y cant yn nifer y cleifion a gyfeiriwyd at y gwasanaeth gofal argyfwng un diwrnod yn ysbyty'r Faenor. Nawr, beth mae hynny'n ei olygu yw bod y rhain yn cael eu dargyfeirio o'r adran argyfwng. Felly, pe na fyddai'r pethau hynny wedi cael eu rhoi ar waith gennym ni, fe fyddem ni mewn sefyllfa llawer anoddach nawr. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod bod buddsoddiadau enfawr yn digwydd hefyd, ac, fel gwyddoch chi, mae buddsoddiad sylweddol yn cael ei wneud ar hyn o bryd yn yr adran argyfwng.

Rwy'n credu bod gwersi iddyn nhw eu dysgu, a dweud y gwir, o'r dull y caiff cleifion eu croesawu a'u cofrestru mewn mannau fel Caerdydd. Rwy'n credu bod gwersi gwirioneddol y gall yr ysbytai i gyd eu dysgu oddi wrth ei gilydd. Ond roeddwn i'n falch o weld bod gostyngiad o 8 y cant wedi bod yn nifer y trosglwyddiadau ambiwlans un awr o gymharu â mis Ionawr 2024. Felly, fe geir rhai llygadennau o oleuni, ond ni ellir amau maint y pwysau o gwbl. 

Amgylcheddau Morol

8. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella amgylcheddau morol? OQ62187

Mae gwella'r amgylchedd morol yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Rydym ni'n ariannu amrywiaeth o brosiectau morol, gan gynnwys adfer morwellt, ailgylchu offer pysgota ac ymchwil ar gyfer gwella ein dealltwriaeth ni o'r amgylchedd morol. Rydym ni'n cymryd camau hefyd i fynd i'r afael â phwysau ar yr amgylchedd morol, fel dŵr o ansawdd gwael.

14:20

Rwy'n arbennig o falch o glywed y cyhoeddiad am y £100,000 o arian ychwanegol ar gyfer y prosiect morwellt, ac wrth gwrs mae'n angenrheidiol oherwydd fe ddaeth yn sgil yr ystadegyn dadlennol, sef bod 90 y cant o ddolydd morwellt wedi cael eu hanrheithio am amryw o resymau dros y 30 mlynedd diwethaf.

Mae hyn i'w groesawu, mae angen dirfawr amdano, ac rwy'n deall y bydd nifer o asiantaethau yn rhan o'r gwaith o ddarparu'r rhaglen honno. Ac fe wyddom ni i gyd, pe byddem ni'n cadw golwg ar y siart dywydd am y llynedd, fod tymheredd y môr yn codi, ac fe all morwellt helpu i ocsigeneiddio'r dŵr hwnnw a'i oeri felly. Felly, mae ganddo ran hanfodol o ran cynhesu byd-eang. Felly, a ydych chi'n cytuno â mi, Prif Weinidog, mai dyma'r union fath o brosiect, menter o'r fath a chyllid a chymorth wrth symud ymlaen, a fydd yn helpu i gynnal ein moroedd ni mewn cyflwr iach i'r dyfodol?

Diolch yn fawr iawn, Joyce. Rwy'n gwybod pa mor angerddol yr ydych yn teimlo ynghylch y mater hwn, ac rwyf innau'n falch iawn hefyd o'r cyllid o £100,000 a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf i helpu i adfer cynefinoedd morwellt. Rwy'n credu, os nad oes ots gennych chi, y byddaf i'n eich atgoffa unwaith eto pa mor bwysig yw morwellt, oherwydd mae morwellt yn dal carbon hyd at 35 gwaith yn gynt na fforestydd glaw trofannol. Mae'r rhif hwn yn dal i fod yn syfrdanol i mi. Rwyf i am ddal ati i'w ailadrodd i bawb ohonoch chi oherwydd mae'n rhywbeth yr wyf i o'r farn fod angen i bobl ei glywed, a dyna pam rwy'n credu bod y buddsoddiad hwnnw mor hanfodol, wir.

Mae hyn yn dod â'r buddsoddiad y gwnaethom ni ei fuddsoddi mewn prosiectau adfer morwellt a morfeydd heli hyd at oddeutu £1.12 miliwn ers 2021, felly mae hwn yn fater yr ydym ni wedi ymrwymo iddo ac rwy'n falch iawn eich bod chi wedi tynnu sylw at y mater hwn unwaith yn rhagor, Joyce.

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni

Yr eitem nesaf fydd cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni, a'r cwestiwn cyntaf—James Evans.

Llysoedd Teulu Cyffuriau ac Alcohol

1. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i lysoedd teulu cyffuriau ac alcohol? OQ62147

6. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi diweddariad ar y gwerthusiad o raglen beilot y llys teulu cyffuriau ac alcohol? OQ62133

Diolch. Llywydd, rwy'n deall eich bod chi wedi rhoi caniatâd i gwestiynau 1 a 6 gael eu grwpio gyda'i gilydd. Diolch i chi.

Darparodd Llywodraeth Cymru £450,000 ar gyfer cynllun treialu llysoedd teulu cyffuriau ac alcohol o ddwy flynedd i Gymru, ac fe ddaeth hwnnw i ben ym mis Tachwedd 2023. Yn dilyn cyhoeddiad y gwerthusiad annibynnol o'r cynllun treialu ym mis Gorffennaf 2024, cafodd gweithgor ei sefydlu gyda chynrychiolaeth gan bartneriaid allweddol i roi cyngor am y camau nesaf.

Diolch yn fawr, Cwnsler Cyffredinol, am eich ateb. Fel roeddech chi'n ei amlygu, fe ddarparwyd £450,000 i lysoedd teulu cyffuriau ac alcohol ledled Cymru. Nodwyd canlyniadau cadarnhaol yn y gwerthusiad a gynhaliwyd gan CASCADE ym Mhrifysgol Caerdydd, a oedd yn awgrymu bod Llysoedd Teulu Cyffuriau ac Alcohol yn ddewisiadau amgen i achosion gofal safonol ac maen nhw'n ymarferol a manteisiol, ac fe wn i mi glywed yn uniongyrchol, pan oeddwn i ar y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, am y gwaith da y mae llysoedd teulu cyffuriau ac alcohol yn ei wneud yn yr achosion gofal hynny. Felly, o ystyried y canfyddiadau hynny, a allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd ar beth yw dyfodol ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer ariannu a chynnal llysoedd teulu cyffuriau ac alcohol ledled Cymru, ac, o bosibl, a allem ni eu cyflwyno nhw ledled y wlad y tu hwnt i'r cynllun treialu a gynhaliwyd yng Nghaerdydd a'r Fro? Ac rwy'n meddwl tybed sut mae gwerthusiad CASCADE wedi helpu i lywio penderfyniadau polisi'r dyfodol ynghylch y model llysoedd teulu cyffuriau ac alcohol.

Diolch yn fawr iawn, James. Rwyf i am ddechrau drwy ddweud pa mor falch ydym ni ein bod wedi llwyddo i dreialu'r rhaglen llysoedd teulu cyffuriau ac alcohol ar gyfer profi ac adrodd yng Nghymru, ac rwy'n awyddus i ddweud gair o ganmoliaeth unwaith eto wrth y teuluoedd a gymerodd y cam dewr o gymryd rhan yn y rhaglen a gwaith caled a phroffesiynoldeb pob un a oedd yn ymwneud â'r cynllun treialu. Ac yna, fel rydych chi'n gywir i'w ddweud, fe fuom ni'n trafod gwerthusiad CASCADE o'r cynllun treialu gyda'r bwrdd cyfiawnder teuluol lleol. Trafodwyd hynny yn hydref y llynedd ac yn y rhwydwaith cyfiawnder teuluol ym mis Rhagfyr, ochr yn ochr â chyfarfodydd â chynrychiolwyr penaethiaid gwasanaethau plant Cymru yn yr awdurdodau lleol.

O ganlyniad i'r pethau hynny i gyd, gan gynnwys y gwerthusiad, fe argymhellwyd ein bod ni'n sefydlu gweithgor a fyddai â chynrychiolaeth o bob partner allweddol. Fe fydd y grŵp yn arwain wrth helpu i lunio'r camau nesaf mewn ffordd sy'n gynaliadwy a chost-effeithiol, a ategir gan ymrwymiad cyffredin i gyflawni'r canlyniadau gorau. Mae disgwyl i gyfarfod cyntaf y grŵp hwnnw, sy'n cael ei sefydlu o ganlyniad i gyfres o bethau sydd wedi digwydd ers cyhoeddi adroddiad CASCADE, gael ei gynnal yn ystod y mis hwn ac fe fydd yn adrodd yn ôl erbyn diwedd yr haf. Felly, erbyn diwedd yr haf fe fyddwn ni'n gwybod am ddewisiadau o ran maint ar gyfer y llysoedd teulu cyffuriau ac alcohol yng Nghymru, ac fe fyddwn ni'n ystyried cyllid yn y dyfodol, sut y gellid cymhwyso'r dull o ddatrys problemau a fabwysiadwyd yn y cynllun treialu yn fwy eang mewn llysoedd teulu yng Nghymru, a sut gall y llysoedd teulu cyffuriau ac alcohol gydweddu â gwasanaethau ehangach a fydd yn darparu cymorth cydlynol i deuluoedd ynghylch materion o gamddefnyddio cyffuriau ac alcohol, er enghraifft.

Felly, rwy'n falch iawn fod y broses honno ar waith. Rydym ni'n awyddus iawn hefyd i ystyried ehangu. Felly, mae hyn yn ymwneud â nifer o deuluoedd sy'n gallu cymryd rhan yn hyn a rhoi'r gwasanaethau cymorth o'u hamgylch nhw i wneud hynny'n bosibl. Ac nid wyf i'n credu mai peth bychan yw hwn; nid yw hwn yn rhywbeth y gall pobl ei wneud heb fod â'r gefnogaeth honno. Felly, mae angen mynd trwy broses i allu gwneud felly, ond rwy'n falch fod y broses honno ar waith. Mae'n cael ei gwneud mewn ffordd gydsyniol iawn gyda dealltwriaeth sylfaenol yr hoffem ni wneud hyn os yw'n bosibl mewn ffordd sydd o gymorth, ac fe fyddaf i'n adrodd yn ôl i'r Senedd wrth i ni gael rhagor o wybodaeth. 

14:25

Rwyf i braidd yn siomedig gyda'ch ateb chi, Cwnsler Cyffredinol, oherwydd fe wnaethoch chi ddweud wrthyf i ar y 1 o fis Hydref y byddech chi'n ymateb i werthusiad CASCADE erbyn y Nadolig neu cyn hynny. Erbyn hyn mae hi'n ymddangos ei fod wedi cael ei wthio ymlaen tan yr haf. Rydych chi'n ymwybodol o adroddiad Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd, a gyhoeddwyd ym mis Mai 2023, a oedd yn argymell rhoi llysoedd teulu cyffuriau ac alcohol ar waith. Ac fe ddywedodd Julie Morgan, oedd yn Ddirprwy Weinidog ar y pryd, ei bod hi'n gwbl argyhoeddedig o werth y model o lysoedd teulu ar gyfer datrys problemau. Dyna a gafwyd gan Lywodraeth Cymru yn ôl ym mis Mai 2023. Cafodd gwerthusiad CASCADE ei gyhoeddi ym mis Ionawr 2024, flwyddyn yn ôl. Mae'r dadansoddiad yn casglu bod y llys yn costio £18,000 ond yn cynhyrchu budd uniongyrchol cyfartalog o dros £74,000 fesul achos. 

Nawr, fe glywsoch chi fi'r tro diwethaf yn dyfynnu barnwr cylchdaith deuluol yn y llys datrys problemau yn dweud pa mor fuddiol oedd y llys i deuluoedd a phlant. Mae cadw plant allan o ofal mor bwysig ac nid ydym ni'n gwneud digon ar hyn o bryd yma yng Nghymru. Felly, pryd ydych chi'n gobeithio y byddwn ni'n ailsefydlu'r llys teulu, cyffuriau ac alcohol yma yng Nghymru ac yn agor eraill mewn ardaloedd eraill yng Nghymru? Diolch yn fawr.

Diolch, Rhys, a dim ond er mwyn bod yn eglur iawn o ran yr hyn a wnawn ni yma, roedd gwerthusiad CASCADE yn dda iawn ond mae gennym ni gyfres o bethau i fynd drwyddyn nhw ar ôl hwnnw. Felly, fe ddywedais i y byddwn i'n dod yn ôl atoch chi, a dim ond newydd fod y mae'r Nadolig nawr, ac rwy'n falch iawn ein bod ni, o ganlyniad i'r sgyrsiau hynny i gyd, wedi sefydlu—. Y consensws gyda'r rhanddeiliaid oedd y byddem ni'n sefydlu'r gweithgor hwn ac y byddai'r grŵp hwnnw'n adrodd yn ôl erbyn yr haf. Felly, rydym ni wedi gwneud hynny. Felly, mae hynny'n symud yn ei flaen. Y canlyniad yw eu bod nhw'n dymuno i'r gweithgor hwn ystyried sut y gallem ni ehangu a beth yw'r materion yr wyf newydd eu trafod wrth roi ateb i James. Rwy'n awyddus iawn i sicrhau ein bod ni'n gadael llonydd i'r gweithgor wneud ei waith nawr ac wrth iddo ystyried effaith y cynllun treialu.

Rydych chi'n gywir ynglŷn ag effaith y cynllun treialu. Rwy'n hoffi'r syniad o lysoedd datrys problemau. Fe gefais i'r fraint o gyfarfod â'r Arglwyddes Brif Ustus yn Llundain yr wythnos diwethaf yn y Llysoedd Cyfiawnder Brenhinol, ac fe fuom ni'n trafod llysoedd datrys problemau yn fwy cyffredinol. Felly, mae hwn yn gyfle da i wneud hynny. Ond fe wyddom ni bod rhaid i ni sicrhau bod y system sydd gennym ni ar waith yn cefnogi'r teuluoedd sydd yn y system honno, ac rwy'n pryderu yn arbennig iawn ynglŷn â bod â'r gallu gennym ni i ehangu yn briodol. Felly, ni fydd y màs critigol o deuluoedd yno sy'n angenrheidiol i allu cynnal y gyfundrefn honno o lysoedd ar ffurf y llysoedd ar hyn o bryd.

Felly, mae yna ddarn o waith i'w wneud i sicrhau y bydd yn gweithio, yn gost-effeithiol ac yn rhyddhau adnoddau i gefnogi gwaith ataliol gyda theuluoedd yn fwy cynnar, oherwydd dyna ydyw'r syniad. Y syniad yw sicrhau bod hyn yn bwydo yn ôl i mewn i'r system a'i fod, fel rydych chi'n gywir i'w ddweud, yn cefnogi teuluoedd i aros gyda'i gilydd mewn ffordd lawer mwy adeiladol. Felly, rydym ni wedi ymrwymo yn bendant i gefnogi teuluoedd yn y ffordd honno, yn sgil problemau oherwydd camddefnyddio sylweddau yn benodol. Rydym ni'n llwyr gydnabod y galw cynyddol am gefnogaeth i'r teuluoedd hynny, felly rydym ni wedi buddsoddi rhagor yn y gwasanaethau hynny, ond mae angen ei ystyried yn un darn o waith.

Felly, nid wyf i'n ystyried hwn yn gam yn ôl, mewn gwirionedd; rwy'n ei ystyried yn gam ymlaen. Rwy'n credu bod consensws gwirioneddol ynglŷn â'r angen i'r grŵp allu gwneud ei waith, ac maen nhw wedi ymrwymo i adrodd yn ôl i ni erbyn yr haf. 

14:30

Prynhawn da, Gweinidog. Rwy'n credu mai rhan o'n gwaith ni yn y fan hon yw pwyso arnoch chi'r Gweinidogion, yn ogystal â rhannu ein profiadau cyn i ni ddod i'r lle gwych hwn. Felly, fe hoffwn i ddiolch i James, a Rhys hefyd, am ddal ati i godi'r mater hwn. A'r cyfan y gallaf i siarad yn ei gylch yw fy mhrofiadau i pan oeddwn i'n weithiwr cymdeithasol amddiffyn plant, gan weithio gyda llysoedd teulu cyffuriau ac alcohol yn Lloegr, lle mae enw da profedig ganddyn nhw o ran cadw plant allan o ofal a chadw teuluoedd gyda'i gilydd. Rwy'n synnu braidd nad ydym ni'n dysgu oddi wrth Loegr, ac nad ydym ni'n edrych ar y canlyniadau yno ac yn cyflymu hyn yn chwim iawn, oherwydd mae gennym ni deuluoedd ar hyn o bryd sy'n eiddgar i aros gyda'i gilydd, trwy gyfrwng system yr wyf i fy hunan wedi ei gweld hi'n gweithio.

Felly, tybed a gaf i bwyso arnoch chi'n wirioneddol. Fe allai'r haf fod yn dechrau ym mis Mawrth, os ydym ni'n lwcus, neu fe allai'r haf barhau tan fis Hydref. A allech chi fod ychydig yn fwy penodol, neu ysgrifennu atom ni efallai a rhoi rhai amserlenni eglur iawn i ni o ran pryd y gallem ni fod yn cael gweld cynllun gweithredu eglur iawn ar gyfer y llysoedd teulu cyffuriau ac alcohol yn y dyfodol, sy'n cynnwys enw mis o leiaf, yn hytrach na dim ond 'yr haf'? Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr iawn, Jane. Ar gyfer taflu goleuni ar ein sefyllfa bresennol, fe gyflwynwyd y llysoedd teulu cyffuriau ac alcohol tua'r un pryd yn Lloegr—sef rhwng 2010 a 2014—wrth i ni gyflwyno'r rhaglen ymyrraeth gynnar o wasanaethau cymorth integredig i deuluoedd yng Nghymru. Felly, roedd yna ffrydiau cyfochrog. Ar hyn o bryd, mae'r llys teulu cyffuriau ac alcohol yn nodi, ledled y DU, bod 13 o dimau arbenigol llys teulu cyffuriau ac alcohol yn gweithio mewn 19 o lysoedd ac yn gwasanaethu teuluoedd mewn 35 o awdurdodau lleol. Felly, nid yw'n rhywbeth cyffredin yn Lloegr eto. Felly, mae yna elfen o dreialu.

Un o'r materion yn sicr yw sut fath o fàs critigol o ran poblogaeth sydd ei angen arnoch chi i gynnal y gwasanaeth hwn, a beth sy'n digwydd mewn ardaloedd gwledig lle nad yw'r màs critigol hwnnw'n bresennol. A oes rhyw unrhyw ffordd o sicrhau y gall y llys teulu cyffuriau ac alcohol weithio mewn meysydd lle na fyddech chi'n gallu ei gynnal oherwydd y ffordd y mae cyllid yn gweithio, oherwydd rhaglen o ymyrraeth ddwys ydyw hon? Felly, mae'n rhaid i ni wneud y darn hwn o waith.

Rwy'n deall eich pwynt chi am 'yr haf'. Mae tymhorau'r llywodraeth yn hyblyg iawn, fel gwnes i ganfod ers i mi fod yn y Llywodraeth, ond rwy'n gobeithio yn fawr y bydd hynny'n digwydd cyn toriad yr haf. Fe hoffwn i'n fawr iawn fod mewn sefyllfa i adrodd yn ôl i'r Senedd cyn toriad yr haf.

Cymorth Cyfreithiol

2. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am y cymorth cyfreithiol sydd ar gael i bobl yng Nghymru o fewn y system fewnfudo a lloches? OQ62152

Diolch, Mick. Llywodraeth y DU, wrth gwrs, sydd â chyfrifoldeb am ddarpariaeth cymorth cyfreithiol yng Nghymru, ond er mwyn mynd i'r afael â bylchau o ran cyngor mewnfudo a lloches yng Nghymru, yn y byrdymor, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid yn ddiweddar ar gyfer hyfforddiant ac achrediad, ynghyd â gwerth bron i £150,000 o gyllid grant, i gryfhau sector cyngor cyfreithiol mewnfudo yng Nghymru.

Diolch i chi am y sylwadau yna. Cwnsler Cyffredinol, ni allaf i gredu bod unrhyw un yng Nghymru nad yw'n credu bod argaeledd cyngor a chynrychiolaeth gyfreithiol briodol yn un o gonglfeini ein system gyfiawnder ni. Mewn gwirionedd, heb hynny, ni all ein system gyfiawnder ni weithio yn iawn.

Mae'r system gyfiawnder wedi cael ei rhedeg i lawr dros y 14 mlynedd diwethaf. Mae yna adroddiad a ddaeth o Sefydliad Bevan sy'n edrych yn benodol ar ba gyngor sydd ar gael o ran mewnfudo a lloches ac, yn y bôn, yr hyn y mae'n ei ddweud yw bod 40 y cant o'r bobl sydd wedi cysylltu â nhw a oedd ag achos cyfreithiol cyfredol wedi methu dod o hyd i gyngor cyfreithiol na chynrychiolaeth gyfreithiol. Mae hyn yn effeithio ar ein cymdeithas ni, ac ar y system yn ei chyfanrwydd.

Rwy'n gwybod bod hwn yn fater a gafodd ei godi gan Gymdeithas y Cyfreithwyr, ac y bydd yn parhau i'w godi. Rwy'n meddwl tybed pa gyfraniad y gall Llywodraeth Cymru ei wneud yn eich barn chi nid yn unig i dynnu sylw at y bwlch pwysig hwn sy'n bodoli, ond hefyd y modd y gallwn ni helpu i sicrhau bod cyngor a chynrychiolaeth gyfreithiol ar gael.

Diolch yn fawr iawn i chi am y cwestiwn, Mick. Rwy'n parhau i bryderu yn wirioneddol am gynaliadwyedd practisau cymorth cyfreithiol ledled Cymru ar lawer cyfrif, ac nid o ran achosion mewnfudo a lloches yn unig. Ond fe wyddom ni, ar gyfer achosion mewnfudo a lloches, fod y galw yn llawer mwy na'r ddarpariaeth. A dyna pam mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd nifer o gamau i geisio mynd i'r afael â'r materion uniongyrchol yn y sector hwn, gan gynnwys datblygu'r rhwydwaith rhanddeiliaid cymorth cyfreithiol ar gyfer mewnfudo a lloches, yn ogystal ag ariannu rhaglen achredu Swyddfa'r Comisiynydd Gwasanaethau Mewnfudo. Ac mae gennym nifer o brosiectau a gafodd eu hariannu yn ddiweddar sy'n edrych ar gynyddu'r ddarpariaeth yn y tymor hwy hefyd, i geisio cryfhau'r sector.

Rwy'n gwybod eich bod chi'n gyfarwydd ag adroddiad Sefydliad Bevan ynghylch mynediad at gyfiawnder i ymfudwyr a cheiswyr lloches yng Nghymru. Rydym yn gofidio'n arw ynghylch y problemau o brinder mawr sy'n wynebu darparwyr cyfreithiol yng Nghymru. Mae chwalu'r system cymorth cyfreithiol o dan y Llywodraeth Geidwadol flaenorol yn tynnu'r gallu i bwysleisio rheolaeth y gyfraith. Ni allwch chi gael rheolaeth y gyfraith oni bai fod gennych fynediad at gyfiawnder—dyna'r gwir amdani. Felly, roeddwn i'n falch iawn o weld yr hyn yr wyf i'n gobeithio a fydd yn gam cyntaf ar y ffordd o adfer darpariaeth cymorth cyfreithiol. Mae yna ffordd bell i fynd eto, ond roedd hi'n braf cael gweld y cam cyntaf hwnnw. Rydym ni'n obeithiol y gall Llywodraeth newydd y DU wyrdroi rhywfaint o'r golled o ran capasiti cyngor cyfreithiol mewnfudo yng Nghymru, oherwydd mae angen i ni fod â mynediad at gynrychiolaeth a chefnogaeth sy'n rhoi tegwch cyfartal i bawb.

Mae fy nghyd-Aelod i, Jane Hutt, fel gwyddoch chi, Mick, fel gwn i, wedi bod yn gwneud llawer o waith ynglŷn â'r gwasanaethau cynghori, a cheisio gwella gwasanaethau cynghori yn fwy cyffredinol. Mae'r Cyd-gyngor er Lles Mewnfudwyr i'w gael hefyd, sydd wedi cyhoeddi adroddiad yn ddiweddar o ran cymorth cyfreithiol—'wn i ddim os ydych chi'n ymwybodol o hwnnw—sy'n trafod rhai o'r materion ynglŷn â'r galw. Felly, rydym ni'n awyddus iawn i weithio gyda Llywodraeth y DU. Fe gefais sgyrsiau cynhyrchiol iawn yr wythnos diwethaf yn unig gyda nifer o swyddogion y gyfraith, a'r Arglwyddes Brif Ustus yn wir, am gymorth cyfreithiol yn fwy cyffredinol a mynediad at faterion cyfreithiol. Ac felly, rwy'n obeithiol iawn bod Llywodraeth bresennol y DU yn amgyffred y mater a'i bod yn cymryd y camau cyntaf nawr i geisio adfer y system.

14:35
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch, Llywydd. Gweinidog, fe gawsoch chi eich penodi yn Weinidog Cyflawni gan y Prif Weinidog ar 11 o fis Medi'r llynedd, swydd y mae llawer o bobl ledled Cymru o'r farn ei bod yn ddiangen, o ystyried mai'r Prif Weinidog a'r Ysgrifenyddion Cabinet yn amlwg sydd â'r gallu o ran polisi a deddfwriaeth. Felly, a wnewch chi egluro i'r Siambr, ac yn wir i bobl Cymru, beth yn union ydych chi'n ei wneud yn rhinwedd swydd Gweinidog Cyflawni?

Fe wnaf i, Paul, yn sicr. Fe eglurais i o'r blaen, rwy'n hapus iawn i wneud hynny eto. Rwy'n bwrw trosolwg ar y rhaglen lywodraethu. Mae gen i gyfarfod dwyochrog gyda phob un o Ysgrifenyddion y Cabinet ar raglen dreigl, lle rydym ni'n trafod eu cynnydd o ran y rhaglen lywodraethu a'r broses drawslywodraethol ar gyfer hynny—pa gymorth y gellir ei ddarparu trwy gyfrwng system swyddfa'r Cabinet i'w galluogi nhw i gyflymu unrhyw un o'r ymrwymiadau yn y rhaglen lywodraethu sydd ag angen ei chyflymu fel hyn. Rwy'n gweithio gyda nhw i nodi unrhyw atalfeydd a rhwystrau rhag cyflawni hynny, ac mae gen i swyddogaeth o ran dod â chynghrair o bobl at ei gilydd, ar draws y Llywodraeth, a all ddod at ei gilydd i fynd i'r afael â'r rhwystrau hynny.

Nid oes unrhyw gyfrifoldeb trosfwaol am agweddau unigol y rhaglen lywodraethu gennyf i—maen nhw, wrth gwrs, yn aros gyda'r Ysgrifenyddion Cabinet a'r Gweinidogion fel bo hynny'n briodol. Fy ngwaith i yw dod â mecanweithiau Llywodraeth ynghyd ar gyfer sicrhau y gallwn ni, lle bynnag y bo hynny'n bosibl, oresgyn y rhwystrau sy'n bodoli.

Wel, fe ddywedaf i gymaint â hyn wrthych chi, Gweinidog, mae eich swydd chi'n dangos nad oes gan y Prif Weinidog unrhyw hyder y bydd ei Chabinet ei hun yn cyflawni. Ond nid wyf i'n synnu; mae digonedd o bobl ledled Cymru hefyd nad oes ganddyn nhw hyder yn y Llywodraeth hon.

A gadewch i mi eich atgoffa chi, o dan y Llywodraeth hon, mai Cymru sydd â'r rhestrau aros hwyaf yn y GIG, y perfformiad addysgol gwaethaf, a'r gyfradd diweithdra uchaf yn y Deyrnas Unedig. Felly, o ystyried mai eich swyddogaeth newydd yw arwain y gwaith o gyflawni yn Llywodraeth Cymru, a wnewch chi ddweud wrthym ni beth yn union a wnaethoch chi ei gyflawni yn eich swydd newydd hyd yn hyn, a pha bolisïau neu ganlyniadau sydd wedi cael eu cyflawni oherwydd eich swyddogaeth yn Weinidog Cyflawni?

Wel, Paul, rwy'n llwyr anghytuno â hanfod y cwestiwn yna. Nid wyf i'n credu mai dyna'r hyn y mae'n ei ddangos o gwbl. Mae gan y rhan fwyaf o Lywodraethau, yn fyd-eang, adrannau cyflawni neu swyddfeydd cyflawni oddi mewn iddyn nhw, gan gynnwys llawer o Lywodraethau Ceidwadol y gorffennol—mae'n rhaid i mi ddweud, heb fawr ddim effaith, os o gwbl. Felly, mae hwn yn fecanwaith cyffredin, i ddod â phobl o'r tu allan i wahanol adrannau sy'n gweithio ar wahân at ei gilydd, os hoffech chi, i sicrhau bod gennym ni gytundeb ar draws y llywodraeth o ran problemau sy'n arbennig o ddyrys. Fel dywedais i dro ar ôl tro, os ydych chi'n dymuno edrych ar fetrigau penodol, mae angen i chi ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet penodol.

Wel, fe wnaethoch chi ddim ateb fy nghwestiwn i, Gweinidog. Mae hi'n amlwg i mi nad oes unrhyw beth o werth wedi dod mewn gwirionedd o gael Gweinidog Cyflawni yn y Llywodraeth hon, ac eto dyma chi. Gweinidog, mae'r amseroedd aros yn hwy nag erioed yng Nghymru, mae un o bob pump o'n plant yn gadael yr ysgol yn anllythrennog, ac mae'r gyfradd uchaf o anweithgarwch economaidd yn y Deyrnas Unedig gennym ni yma. Os yw swydd Gweinidog Cyflawni am olygu rhywbeth gwirioneddol, yna fe fydd angen tryloywder ynglŷn â'r gwaith hwnnw, ac mae angen i ni ddeall sut y bydd hynny'n sicrhau gwerth am arian i drethdalwr Cymru.

Nawr, fe gafodd y syniad o uned gyflawni ei wthio gan Brif Weinidog blaenorol, a gafodd ei dileu wedyn pan welwyd ei bod yn aneffeithiol. Felly, pa sicrwydd a wnewch chi ei roi y bydd pethau yn wahanol y tro hwn? A wnewch chi ddweud wrthym ni pa nodau a wnaethoch chi eu pennu i chi eich hun fel Gweinidog Cyflawni, a beth yn union a ydych chi'n ei wneud i ddangos i bobl Cymru bod y Gweinidog Cyflawni yn benodiad ystyrlon sy'n cyflawni ar eu rhan nhw mewn gwirionedd?

14:40

Wel, yn sicr, Paul, mae hi'n werth ailadrodd hynny, wrth gwrs. Mae gennym ni raglen lywodraethu gynhwysfawr iawn, sy'n hygyrch i'r cyhoedd. Rydym ni'n adrodd yn flynyddol am ein cynnydd ni'n unol â honno. Un o'r rhesymau pam mai Plaid Lafur Cymru sy'n cael ei hethol bob amser gan bobl Cymru yw am eu bod nhw'n ymddiried ynom ni i gyflawni'r addewidion yr ydym ni'n eu rhoi yn ein maniffesto. Mae'n rhaid i mi ddweud, ni ellir dweud hynny am eich plaid chi ar eich meinciau chi. Yn ddiweddar iawn, wrth gwrs, fe gafodd pobl Cymru wared ar bob AS Torïaidd yng Nghymru, o ganlyniad i'r ymddiriedaeth yr oedden nhw'n gallu ei chael yn eich Llywodraeth chi.

Felly, fe ddywedaf i wrthych chi unwaith eto fod gennym ni raglen lywodraethu gynhwysfawr, mai fy swyddogaeth i yw sicrhau bod y rhaglen lywodraethu honno'n cael ei chyflawni hyd eithaf ein gallu, fy mod i'n tynnu pobl o bob rhan o'r Llywodraeth at ei gilydd i wneud felly, ac yn ystod blwyddyn olaf tymor y Senedd, fe fydd Plaid Lafur Cymru yn cyflawni fel pob amser er mwyn cadw ei haddewidion i bobl Cymru.

Diolch, Llywydd. Cwnsler Cyffredinol, wythnos nesaf, fe fydd hi'n bum mlynedd ers i Gymru ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, sydd wedi bod yn drychineb i'n heconomi. Fe ddywedodd eich rhagflaenydd chi, sy'n eistedd y tu ôl i chi, pan ofynnwyd iddo i ba raddau y dylem alinio cyfraith Cymru o fewn cymhwysedd datganoledig â chyfreithiau newydd yr UE, os caf i aralleirio, y dylem ni osgoi unrhyw wahaniaethu lle bo hynny'n bosibl oni bai y byddai hynny'n caniatáu i ni wella ein safonau. Felly, fe allai cyfreithiau newydd yr UE gynnig sylfaen gyffredin, ond ni ddylai fod yn derfyn ar ein huchelgeisiau. A ydych chi rhannu'r farn honno'n gyffredinol?

Ac yn rhan o'ch gwaith yn Gwnsler Cyffredinol, a ydych chi neu a oes rhywun arall yn y Llywodraeth yn monitro rheoliadau newydd yr UE i asesu a ellid eu deddfu nhw yng nghyfraith Cymru? Ac yn seiliedig ar yr asesiad hwnnw, sut mae Cymru yn cymharu â'r deddfwrfeydd datganoledig eraill o ran cyfran o alinio â chyfraith newydd yr UE bum mlynedd yn ddiweddarach? A ydych chi o'r farn pe byddem ni wedi cadw yn hytrach na diddymu'r Ddeddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018, fe fyddai hi wedi bod yn haws cyflawni'r nod o aliniad cadarnhaol yn y ffordd a ddisgrifiais i?

Wyddoch chi, rwy'n cael fy nhemtio i ateb eich cwestiwn trwy ddweud, 'Ydw, ydw, nac ydw', ond rwyf i am ymhelaethu ychydig ar hynny. Felly, ydw, rwy'n cytuno y dylem ni geisio alinio cymaint â phosibl, am dri rheswm da iawn. Yn gyntaf, oherwydd bod yr Undeb Ewropeaidd yn dal i fod yn bartner masnachu pwysig iawn i Gymru, ac fe wyddom ni, yn arbennig felly yn y sector bwyd a diod, os nad ydych chi'n cydymffurfio â'r rheolau, 'chewch chi ddim allforio i'r farchnad honno. Felly, mae hi'n bwysig iawn i ni allu dangos ein bod yn cadw at yr un safonau. Fe welsom ni rai achosion digalon iawn, lle nad oedd rhai a oedd wedi arfer allforio i'r farchnad Ewropeaidd yn gallu gwneud hynny'n syth ar ôl i ni ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, felly mae hwnnw'n achos sy'n profi'r pwynt, mewn gwirionedd. Felly, rwyf i'n cytuno â hynny.

Mae Llywodraeth newydd y DU yn cytuno â hynny hefyd ac maen nhw'n cynnal sgyrsiau ynglŷn â sut y gallwn ni alinio unwaith eto mewn rhai meysydd lle mae'r alinio wedi gwyro mewn ffordd ddinistriol. Wrth gwrs, rwy'n cytuno y dylai hynny fod yn sylfaen ac nid yn derfyn, ac felly fe ddylem ni geisio, wrth gwrs, wella ar hynny. Ac mae yna faterion ynglŷn â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd ac ati yr wyf i'n credu bod llaweroedd o bobl o'r farn y gellid eu gwella, ac rydym ni wedi gweithio yn galed iawn dros nifer o ailadroddiadau i weld a yw hynny'n bosibl, ac felly rwy'n cytuno â hynny hefyd.

Rydym ni'n monitro cyfarwyddebau'r Undeb Ewropeaidd a mentrau amrywiol eraill. Nid oes gennym ni uned ganolog ar gyfer gwneud hynny, ond mae gennym ni nifer o dimau o gyfreithwyr sy'n gweithio gyda'r Ysgrifenyddion Cabinet amrywiol, sy'n monitro datblygiadau amrywiol ac ati ar eu rhan nhw. Ac rydym ni'n gweithio gyda Llywodraeth y DU ar gyfer gwneud hynny hefyd, rydym ni'n monitro'r rhaglen ddeddfwriaethol yno. Mae yna rai pethau diddorol yn digwydd yn Ewrop, rhai ohonyn nhw nad ydyn nhw wedi cael eu datganoli. Mae rhai ohonyn nhw ar gyrion datganoli, ac rydym ni'n trafod y rhain gyda Llywodraeth y DU.

Felly, fel dywedais i, fe gefais fy nhemtio i ddweud, 'Ydw, ydw, nac ydw'. Nid oes gennym ni uned ganolog sy'n gwneud hynny, ond mae gennym ni fecanwaith i wneud hynny ar draws y Llywodraeth.

Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Cwnsler Cyffredinol am ei hateb. Wrth gwrs, mae Llywodraeth yr Alban wedi cadw ei phriod Ddeddf Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd (Parhad) (Yr Alban) 2021, sy'n berthnasol mewn meysydd datganoledig ar gyfer yr Alban. Mae honno'n gwneud dau beth defnyddiol, rwy'n credu: mae hi'n rhoi dyletswydd i Weinidogion yr Alban lunio adroddiad blynyddol a gaiff ei gyhoeddi ar gyfer y Senedd, sy'n nodi deddfwriaeth newydd yr UE ac i ba raddau y bwriedir ei gweithredu yng nghyfraith yr Alban, a hefyd mae'n rhoi'r gallu i Weinidogion yr Alban weithredu rheoliadau neu benderfyniadau newydd yr UE trwy is-ddeddfwriaeth—pŵer 'parhau i ddatblygu’n gyfochrog' fel y'i gelwir. A wnewch chi gadarnhau, Cwnsler Cyffredinol, y byddai hi o fewn ein cymhwysedd deddfwriaethol ni nawr i basio deddf a fyddai'n rhoi pŵer cyffredinol tebyg i Weinidogion Cymru i barhau i ddatblygu'n gyfochrog â safonau'r UE o fewn meysydd lle y mae cymhwysedd wedi ei ddatganoli, ac a ydych chi'n gweld rhywfaint o werth, o bosibl, mewn cynnig o'r fath?  

14:45

Y gwir plaen yw nad wyf i'n gwybod—fe fyddai'n rhaid i mi gael cyngor. Rwy'n credu yn reddfol ei fod yn ôl pob tebyg o fewn ein cymhwysedd ni, ond nid wyf i'n dymuno dweud hynny 100 y cant nes i mi gael rhywfaint o gyngor ar hynny. Yn reddfol, serch hynny, mae hwn yn swnio fel rhywbeth a fyddai o fewn cymhwysedd. Rwy'n credu, o'n rhan ni, serch hynny, mae'n ymwneud a'r ffordd yr ydym ni'n trefnu ein hadnoddau a'r hyn yr ydym ni'n awyddus i'r adnoddau hyn ei gyflawni. Nid ydym ni wedi dewis, yn y Llywodraeth, i wneud yr union beth yr ydych chi'n ei ddisgrifio, oherwydd ni chawsom ein strwythuro yn hollol yn y ffordd honno. Yn hytrach na hynny, yr hyn a wnawn ni yw cadw safbwynt portffolio drwyddi draw, ac yna fe all pob Gweinidog portffolio ochr yn ochr â'u cynghorwyr cyfreithiol fod â barn am y ffordd orau o fwrw ymlaen â hyn, boed hynny drwy offeryn statudol neu fel arall, neu drwy drafodaeth gyda Llywodraeth y DU am, o bosibl, yr hyn y maen nhw yn ei wneud mewn termau deddfwriaethol sylfaenol. Felly, rydym ni wedi dewis llwybr gwahanol, ond, rwy'n credu, gyda chyrchfan weddol debyg mewn golwg. 

Rwy'n credu mai'r pwynt am y pŵer hwnnw, wrth gwrs, yw ei fod yn ei gwneud hi'n llawer haws gweithredu'r newidiadau hynny yn llawer cynt a heb y fath alw ar adnoddau. Yn rhan o'ch cyfrifoldeb dros oruchwylio effaith deddfwriaeth y DU ar Gymru, rydych chi wedi cefnogi darpariaeth debyg, Cwnsler Cyffredinol, yn y Bil Rheoleiddio Cynnyrch a Mesureg. Mae cymal 1 o'r Bil hwnnw'n rhoi pwerau i'r Ysgrifennydd Busnes wneud darpariaeth gyfatebol neu gyffelyb i ddarpariaeth cyfraith berthnasol yr UE yng nghyd-destun rheoleiddio cynnyrch. Felly, mae hwnnw'n bŵer 'parhau i ddatblygu’n gyfochrog', sy'n debyg i'r un cyffredinol sy'n bodoli yn yr Alban, ac, oherwydd y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol fe fydd gan Weinidogion y DU, felly, bŵer i barhau i ddatblygu’n gyfochrog â chyfraith yr UE, hyd yn oed mewn rhai meysydd a gafodd eu datganoli i Gymru. Felly, rydym ni'n rhoi pŵer o'r fath i Weinidogion y DU ar gyfer parhau i ddatblygu’n gyfochrog â chyfraith newydd yr UE. Pam nad ydym ni, mewn gwirionedd, yn cymryd y pŵer hwnnw i'n dwylo ein hunain, a'i roi i Weinidogion Cymru, er mwyn i ni barhau i ddatblygu’n gyfochrog â'r ddeddfwriaeth newydd orau ledled yr UE?

Roedd honno'n enghraifft dda iawn. A dweud y gwir, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi yn dal i drafod yr union ffordd y mae hynny'n cael ei strwythuro, ac rwy'n gwybod bod sgwrs barhaus. Rwyf i wedi bod yn rhan o'r sgwrs barhaus ynglŷn â sut cafodd hynny ei strwythuro, oherwydd nid yw'n cyd-fynd yn llwyr â'r hyn yr ydym ni'n dymuno iddo fod eto, ond rydym ni cynnal sgwrs adeiladol, gynhyrchiol gyda Llywodraeth y DU am hynny. Yr ateb yw, Adam, na wnaethom ni ddewis gwneud hyn yn y ffordd honno; fe wnaethom ni ddewis ei wneud mewn ffordd sy'n cydweddu â'r strwythur presennol a oedd gennym ni a'r ffordd yr ydym ni'n defnyddio ein hadnoddau. Mae Llywodraethu yn ymwneud â dewisiadau, ac rydym ni wedi dewis llwybr ychydig yn wahanol, ond rwy'n credu mai'r un yw'r gyrchfan, fel rwy'n dweud.

Cemegau am Byth mewn Hen Safleoedd Diwydiannol

3. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch ei phwerau i weithredu mewn cysylltiad â chemegau am byth mewn hen safleoedd diwydiannol? OQ62144

Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn yna, Delyth. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i fynd i'r afael â'r problemau llygredd posibl, sy'n cynnwys cemegau sy'n parhau yn yr amgylchedd, ar safleoedd sy'n gysylltiedig â defnydd diwydiannol hanesyddol. Rydym ni'n parhau i weithio yn agos â'r awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru ac eraill i fynd i'r afael ag effeithiau amgylcheddol posibl y cemegau hyn yng Nghymru.

Mae hynna'n ddefnyddiol iawn. Diolch yn fawr iawn i chi am hynna. Nid yw pob rhan o'n hetifeddiaeth ddiwydiannol ni yn y Cymoedd yn weladwy, wrth gwrs. Mewn llawer o'r safleoedd tir llygredig hyn, gollyngodd cwmnïau gemegau, ddegawdau yn ôl. Nawr, fe geir un o'r safleoedd hynny ar chwarel Tŷ Llwyd yng Nghaerffili. Mae'r trigolion a'r cynghorwyr lleol yn gwybod yn iawn beth sy'n gallu digwydd pan fo glaw trwm, pryd ceir sylwedd brwnt, llygredig, a allai fod yn beryglus yn llifo tua'r pentref yn nŵr y llifogydd. Fe geir galwadau ledled y DU am gyfraith Zane, er cof am fachgen ifanc fu farw oherwydd dŵr llifogydd llygredig a ddaeth o safle tirlenwi hanesyddol. Mae'r gyfraith yn galw am gofrestriad mwy caeth o dir llygredig ar gyfer cynnal arolygiadau mwy eang a bod y sawl a achosodd y llygryddion yn wreiddiol yn talu. Nawr, mae nifer o gynghorau yn Lloegr wedi pasio cynigion i gefnogi'r gyfraith honno. Rwy'n deall y bydd cynnig yn dod cyn hir gerbron cyngor Caerffili i'w hystyried, hefyd. A fyddech chi'n cwrdd â mi ac ymgyrchwyr eraill, os gwelwch chi'n dda, i drafod a allai Cymru fabwysiadu egwyddorion y gyfraith hon i helpu i sicrhau nad cymunedau heddiw sy'n gorfod talu am y difrod a gafodd ei wneud i'w tirweddau nhw'r holl ddegawdau hynny'n ôl?

14:50

Gwnaf, Delyth, fe fyddaf i'n hapus iawn i gwrdd â chi a'r ymgyrchwyr. Dim ond i nodi, er hynny, ein bod ni'n gwneud nifer o bethau yng Nghymru eisoes. Rwy'n fwy na pharod i drafod yr hyn y gellir ei wneud eto. Felly, rydym ni'n gweithio gyda UK REACH i roi cyfres o reoliadau ar waith, ac mae gennym ni strategaeth tir llygredig yng Nghymru, sydd wedi bodoli ers blynyddoedd lawer. Ac felly, er enghraifft, mae gennym ni gronfa neilltuol i gynorthwyo rhywun sy'n awyddus i ymgymryd â datblygu tir i lanhau'r tir hwnnw'n unol â'r rheoliadau i helpu i ddod â thir at ddefnydd buddiol unwaith eto. Ac ni allaf i beidio â manteisio ar y cyfle i gymeradwyo gwaith Prifysgol Abertawe wrth ddatblygu planhigion sy'n gallu amsugno gwahanol gemegau—nid pob un ohonyn nhw, wrth gwrs. Rwy'n dangos fy oedran nawr, Llywydd, mae arna' i ofn, ond, yn ystod fy oes i, roedd Mynydd Cilfái yn Abertawe yn edrych fel tirwedd ar y lloer ond fe gafodd ei orchuddio yn llwyr â llystyfiant erbyn hyn, ac fe ddatblygwyd y llystyfiant yn rhannol gan Brifysgol Abertawe ar gyfer bod â ffyrdd naturiol, os mynnwch chi, i helpu gyda glanhau'r amgylchedd. Ond, rwy'n fwy na pharod i gwrdd â chi a'r ymgyrchwyr i drafod unrhyw beth y gallem ni ei wneud fel arall. 

Pensiwn Gwladol Menywod a Anwyd yn y 1950au

5. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi diweddariad ar drafodaethau gyda swyddogion y gyfraith ynghylch sefyllfa menywod a anwyd yn y 1950au y gwrthodwyd eu pensiwn gwladol iddynt gan Lywodraeth y DU? OQ62145

Ni chafodd materion o ran pensiwn y wladwriaeth eu datganoli ac maen nhw'n gyfrifoldeb i'r Adran Gwaith a Phensiynau yn y DU, ac felly ni chefais i unrhyw drafodaethau o'r fath.

Iawn. Diolch i chi am hynna. Rwy'n datgan buddiant, Llywydd, oherwydd fe gafodd fy mam ei geni yn y 1950au.

Fe hoffwn i roi teyrnged i'r ymgyrchwyr hynny a wnaeth frwydro dros gyfiawnder a thegwch i fenywod a gafodd eu geni yn y 1950au, ac mae rhai ohonyn nhw yn oriel y cyhoedd y prynhawn yma. Mae'r menywod hyn wedi dioddef anghyfiawnder deuol, yn gyntaf trwy wrthod pensiwn y wladwriaeth iddyn nhw, ac yn ail trwy fod â Llywodraeth yn San Steffan a oedd yn arfer cydnabod y ffaith honno yn gwrthod rhoi'r hyn sy'n ddyledus iddyn nhw nawr. Mae Plaid Cymru yn cefnogi pleidlais ar y mater hwn yn Nhŷ'r Cyffredin. A fyddai'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno bod angen cyfryngu i drafod cyfraddau iawndal, adferiad ac, wrth gwrs, mater o ymgorffori hawliau'r Confensiwn ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod mewn cyfraith ddomestig? Nawr, er nad oes gennym ni bwerau dros bensiynau yn y fan hon, a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried bod â rhan mewn unrhyw gyfryngu a fyddai'n digwydd, oherwydd fe geir llawer o ddicter ac ymdeimlad o frad oherwydd y penderfyniad hwn? Mae'r menywod hyn wedi blino ar ddisgwyl i Lywodraeth y DU wneud yr hyn sy'n iawn. Felly, a fyddech chi'n fy nghefnogi yn yr alwad honno wrth ystyried a allai fod angen cyfryngu er mwyn cael cyfiawnder o'r diwedd i'r menywod hyn?

Fe ddylwn i ddweud, Llywydd, y dylwn i ddatgan buddiant gan fy mod yn un o'r menywod dan sylw. Fe gefais i fy ngeni yn y 1950au ac fe ohiriwyd fy oedran pensiwn i'n sylweddol iawn. Felly, fe ddylwn i ddweud fy mod i yn yr un categori. Serch hynny, rwy'n ffodus iawn o fod yn dal i weithio a heb fod mor ddibynnol ar bensiwn. Mae gen i ddau ffrind da iawn, iawn a fu farw heb weld hyn yn cael ei ddatrys, y ddwy ohonyn nhw wedi dioddef llawer iawn oherwydd y newid yn yr oedran pensiwn nad oedden nhw wedi gallu cynllunio ar ei gyfer oherwydd y ffordd y cafodd ei gyfathrebu.

Mae hwn yn fater difrifol a chymhleth iawn, ac fe wyddom fod yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau wedi ymateb yn llawn i adroddiad yr ombwdsmon. Nid ymchwiliodd yr ombwdsmon i ddim ond i'r dull y cyfathrebwyd y newid i oedran pensiwn y wladwriaeth; nid ymchwiliwyd i'r polisi ei hun. Cytunwyd ar y newid yn Senedd San Steffan yn ôl ym 1995 ac fe ystyriwyd hynny'n gyfreithlon gan y llys ar y pryd. Felly, mae hyn yn ymwneud â chyfathrebu, yn fy marn i. Mae Llywodraeth y DU wedi ymddiheuro am yr oedi o 28 mis wrth ysgrifennu at fenywod ac wedi dweud y byddan nhw'n dysgu'r gwersi ynglŷn â hynny, ac fe fyddan nhw'n sicrhau eu bod nhw'n bwrw ymlaen â'r gwersi o ran cyfathrebu yn y dyfodol hefyd. Felly, mae hwnnw'n gam bach ymlaen.

Rwy'n credu y byddai Llywodraeth Cymru yn hoffi cynorthwyo pobl sydd â diffyg incwm o ganlyniad i nifer o bethau, ac mae hwn yn un ohonyn nhw. Mae fy nghyd-Aelod Jane Hutt wedi bod yn gweithio'n galed iawn yn y maes hwn. Ni chafodd ei ddatganoli i Gymru. Felly, gyda het y Cwnsler Cyffredinol ar fy mhen, ni allaf i ddweud â chydwybod iach y gall Llywodraeth Cymru fod â rhan ffurfiol yn hynny am nad yw'n fater datganoledig. Mater a gedwir yn ôl yw hwn i raddau helaeth iawn. Ond, wrth gwrs, rydym ni'n gweithio'n galed iawn i sicrhau bod pobl yng Nghymru yn cael cyfiawnder mewn nifer o feysydd ac rydym ni'n gweithio'n galed iawn i sicrhau eu bod nhw'n cael eu cefnogi â'r cyngor priodol, ac rydym ni'n hapus iawn i helpu mewn unrhyw ymgyrch sy'n gwneud y mwyaf o incwm ar gyfer pobl yng Nghymru. Felly, mae'n debyg bod amodau ar fy mharodrwydd i gefnogi eich galwad chi. Hynny yw, mae fy nghalon i'n gwaedu dros y bobl sydd wedi cael eu dal yn hyn o beth, mae llawer ohonyn nhw wedi dioddef canlyniadau difrifol i'w ffordd o fyw a'u gallu nhw i oroesi, mewn gwirionedd. Ond, rwy'n credu, gyda het y Cwnsler Cyffredinol ar fy mhen, mae'n rhaid i mi ddweud mai mater a gedwir yn ôl yw hwn ac felly ni allaf i fod â rhan ffurfiol ynddo. Ond, rwy'n credu, Delyth, y byddai Jane Hutt a minnau'n hapus iawn i drafod unrhyw beth gyda chi y gellid ei ddatblygu mewn ystyr ymgyrchol.

14:55
Canllawiau Dedfrydu

7. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'r Cyngor Dedfrydu i sicrhau bod canllawiau dedfrydu yn adlewyrchu cyfraith Cymru yn ddigonol? OQ62134

Diolch, Rhys. Nid yw dedfrydu yn fater datganoledig, ond, yn swyddog cyfraith, rwy'n ymddiddori yn fawr iawn mewn canllawiau dedfrydu a'u cymhwysiad i droseddau mewn meysydd datganoledig.

Diolch yn fawr, Cwnsler Cyffredinol. Nawr, mae adran 124 o Ddeddf Crwneriaid a Chyfiawnder 2009 yn rhoi pŵer i'r Arglwydd Ganghellor gynnig diwygiadau i ganllawiau dedfrydu. Yng ngoleuni'r newid i'r setliad datganoli a'r pŵer deddfu sylfaenol sydd ar ddod i rym, gan fod y ddeddfwriaeth honno wedi cael ei phasio, fe fyddwn i'n disgwyl y byddai cynnig gan y Cwnsler Cyffredinol sy'n ymwneud â chyfraith Cymru—deddf sy'n ymwneud yn unig â Chymru—yn gyfartal o ran dylanwad. Nawr, yn dilyn ymateb y Llywodraeth i ddadl Aelod Carolyn Thomas, na fyddan nhw'n cyflwyno Deddf dwyn anifeiliaid anwes yn ystod y Senedd hon, a wnewch chi ysgrifennu at y Cyngor Dedfrydu yn gofyn am ddiwygiadau i'r canllawiau lladrad i adlewyrchu bod anifeiliaid anwes yn llawer mwy nag eiddo yn unig a'r trallod emosiynol ofnadwy y mae'n ei achosi i berchnogion pan gaiff anifeiliaid anwes eu dwyn, i adlewyrchu hynny yn y canllawiau dedfrydu ar gyfer lladrad? Diolch yn fawr.

Ie. Diolch i chi, Rhys. Wel, fe wn i eich bod chi'n deall sut mae hyn yn gweithio. Felly, mae'r Cyngor Dedfrydu yn gorff anadrannol annibynnol, ac mae'n gweithredu hyd braich oddi wrth y Llywodraeth. Mae'n atebol i Senedd y DU am gyflawni ei rwymedigaethau statudol. Er hynny, fe gefais i gyfle i drafod materion dedfrydu ar sail llawer ehangach na'ch cwestiwn chi—y byddaf i'n dod at hynny mewn eiliad—gyda nifer o swyddogion  cyfraith yr wythnos diwethaf, pryd y gwnes i godi nifer o faterion yr ydym ni'n ofidus yn eu cylch nhw. Rwy'n arbennig o bryderus, ac mae fy nghyd-Aelod Jane Hutt wedi bod yn gweithio yn y maes hwn ers blynyddoedd lawer, ynglŷn â niferoedd y dedfrydau byrion, er enghraifft. Mae carchar Abertawe yn fy etholaeth i, yn y canol. Mae nifer fawr o ddynion ifanc yn y carchar hwnnw sydd â dedfrydau y mae hi'n ymddangos i mi eu bod nhw wedi eu cynllunio yn union ar gyfer sicrhau na fydd ganddyn nhw unrhyw gyfleoedd pellach yn eu bywydau, ond nid oes dim i argymell hynny. Felly, os ydych chi'n cael eich carcharu am naw mis, mae hynny'n ddigon i wneud yn siŵr bod cofnod gennych chi, y bydd gennych chi broblemau teuluol, y byddwch chi'n colli eich cartref, ac y byddwch chi'n colli unrhyw swydd oedd gennych chi, a dim byd tebyg i'r hyn a fyddai'n ddigonol i chi gael unrhyw fath o gymorth o ran camddefnyddio sylweddau—wel, unrhyw gefnogaeth, mewn gwirionedd, y mae ei angen arnoch chi. Felly, rwyf wedi gwneud y pwynt dro ar ôl tro bod y dedfrydau hynny wedi'u cynllunio yn wael iawn ac maen nhw'n debygol o fod ag effaith andwyol ar bawb bron iawn. Mae honno'n farn gyffredin ymhlith bron pob llywodraethwr carchar yn Abertawe yr wyf i wedi siarad â nhw, ac rwyf i wedi siarad â llawer ohonyn nhw dros y blynyddoedd. Felly, fe gefais i'r drafodaeth ehangach honno.

Mae lladrad a dwyn anifeiliaid anwes, rwy'n cytuno, yn ddirdynnol iawn. Rwy'n hapus i fynegi barn Llywodraeth Cymru ynglŷn â hynny, ond, wyddoch chi, nid yw'n fater datganoledig. Ond rwy'n hapus iawn i wneud hynny—yn hapus iawn i wneud hynny'n drawsbleidiol, pe byddai pobl yn hapus i mi wneud felly. Ond dim ond gwneud ein barn ni'n hysbys a fyddem ni; nid oes gennym ni unrhyw rym gwirioneddol yn y maes hwnnw.

Fe wnes i geisio cyflwyno'r Bil dwyn anifeiliaid anwes, gan gydnabod, yn aml iawn, mai dim ond yn y llysoedd ynadon y mae achosion lladrad yn cael eu cynnal ac nad yw'r dedfrydu yn ddigonol. Ond mae anifeiliaid anwes yn wirioneddol amhrisiadwy. Hyd yn oed pan glywir achosion yn y llys ynadon, nid yw'r dedfrydu yn ddigon llym; fel arfer, dedfrydau gohiriedig sy'n cael eu rhoi. Fe hoffwn i ddarllen hwn i chi: 'Roedd colli Angel fel colli fy mywyd. Angel oedd fy ffrind gorau. Fe wnes i wario mwy na £13,000 ar geisio ei chael hi'n ei hôl. Fe wnes i ailforgeisio ein tŷ ni, gan gymryd seibiant o'r gwaith yn ddi-dâl, nid oeddwn i'n gweithio am amser maith. Nid oeddwn i'n gallu canolbwyntio. Fe ddechreuais i ysmygu eto, fe gollais i bwysau, a bu ysgariad yn y pen draw.' Bum mlynedd yn ddiweddarach, nid yw Dawn wedi cael gweld diwedd ar y mater. Rwy'n diolch i Rhys am godi hyn, ac rwy'n gobeithio y gellid gwneud apêl mewn gwirionedd. Rwy'n credu bod yr Athro John Cooper CB wedi gofyn a fyddai modd mireinio'r Ddeddf lladrad gyfredol. Mae hi'n debyg fod madarch ac anifeiliaid gwyllt eisoes yn gynwysedig, felly beth am anifeiliaid anwes? Mae'r gair 'eiddo' yn gwneud perchnogion anifeiliaid anwes yn anghyfforddus, oherwydd mae anifeiliaid anwes yn fwy nag eiddo yn unig. Felly, pe gallech chi fwrw ymlaen â hynny er fy mwyn i ac er mwyn pawb sydd wedi siarad am y peth yn y fan hon, fe fyddai hynny'n cael ei werthfawrogi yn fawr iawn. Diolch i chi.

15:00

Diolch yn fawr, Carolyn. Rwy'n deall yn llwyr yr hyn rydych chi'n ei ddweud. Rwyf wedi bod ag anifeiliaid anwes ar hyd fy oes; rwy'n deall eu bod yn rhan o'ch aelwyd ac yn bendant nid yn ddarn o eiddo, felly rwy'n deall hynny'n llwyr. Rwy'n hapus iawn, Llywydd, i drafod gyda chi sut y gallem ni wneud rhywbeth trawsbleidiol, efallai. Fel y dywedais i, nid yw'n rhywbeth y gallaf ei wneud gan wisgo fy het Cwnsler Cyffredinol, ond mae gen i bob cydymdeimlad â'r teimlad a fynegwyd.

3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Eitem 3 sydd nesaf. Y datganiad a chyhoeddiad busnes yw hwn. Mae'r Trefnydd yn mynd i wneud y datganiad hwnnw—Jane Hutt.

Member (w)
Jane Hutt 15:01:12
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae un newid i'r agenda ar gyfer heddiw. Yn nes ymlaen, bydd y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig yn gwneud datganiad ar darfu ar y cyflenwad dŵr yn sir Conwy. Mae busnes drafft y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, ac ar gael i Aelodau yn electronig. 

Trefnydd, byddwn yn ddiolchgar pe gallem gael datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ar ymdrechion ailgylchu ledled Cymru. Mae Cymru yn ail yn y byd ar hyn o bryd am ei chyfraddau ailgylchu, ac mae'n hanfodol ein bod yn parhau i fod yn arweinydd byd-eang yn y maes hwn. Ar hyn o bryd, mae Cyngor Sir Penfro yn adolygu ei waith rheoli casgliadau wrth ymyl y ffordd fel rhan o ymgynghoriad ar ei strategaeth amgylcheddol ddrafft, ac mae pryderon ynghylch sut y gallai hynny edrych yn y dyfodol. Ni allaf orbwysleisio pa mor bwysig yw casglu ac ailgylchu gwastraff i'n hamgylchedd, ac yn wir i'n hiechyd. Rhaid i gasgliadau rheolaidd ar ochr y ffordd barhau i ddigwydd, neu fel arall gall ddadwneud peth o'r cynnydd da a wnaed gan Gyngor Sir Penfro yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallem gael datganiad gan Lywodraeth Cymru ar gyfraddau ailgylchu sy'n cynnwys y canllawiau diweddaraf sy'n cael eu rhoi i awdurdodau lleol ynghylch casgliadau wrth ymyl y ffordd ac sydd hefyd yn esbonio sut mae Llywodraeth Cymru yn diogelu canolfannau gwastraff ac ailgylchu ledled y wlad.

Diolch yn fawr, Paul Davies. Fel y dywedwch chi, rydym yn arweinydd byd-eang yn ein hymdrechion ailgylchu, sef ymdrechion ailgylchu gan ein cymunedau, ein pobl, ein busnesau, ein haelwydydd. Rydym yn falch ein bod yn arweinydd byd-eang ac rydym yn diolch i bawb am chwarae eu rhan. Mae'n ymdrech gymunedol gref, ond yn cael ei chefnogi'n fawr gan awdurdodau lleol. Mae'n dda clywed bod Cyngor Sir Penfro yn cynnal yr adolygiad hwn, gan gofio am y materion a'r heriau penodol o ran casglu wrth ymyl y ffordd. Yn amlwg, mae yna arfer gorau. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn cymryd rhan fawr yn hyn, yn ogystal â Llywodraeth Cymru. Yn amlwg, mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi clywed y pwynt o ran statws hynny nid yn unig o ran bod yn gyfredol, ond hefyd dangos yr arfer gorau ledled Cymru, ac rwy'n credu bod llawer ohonom yn elwa arno.

Hoffwn gael datganiad, os gwelwch yn dda, ar ddeddfwriaeth cynllunio chwareli. Yn ôl y sôn, mae chwarel Bryn yng Ngelligaer wedi parhau â gweithrediadau ffrwydro er i'w caniatâd cynllunio ddod i ben ddiwedd y llynedd. Maen nhw wedi gwneud cais am estyniad, ond nid yw wedi'i gymeradwyo. Bu'r chwarel hon yn ddadleuol ers blynyddoedd. Mae trigolion sy'n byw ger y chwarel wedi cwyno ers tro am lygredd sŵn o ffrwydradau, llwch, dirgryniadau yn eu tai, ac arogleuon annymunol. Mae ffotograffau wedi'u hanfon ataf o ddifrod adeileddol i eiddo y dywed trigolion a achoswyd gan y gwaith yn y chwarel. Ni chafodd cynnig gan Blaid Cymru y llynedd yn y Senedd i gyflwyno llain glustogi rhwng chwareli fel hyn ac eiddo preswyl ei gefnogi yn y Senedd, ac edrychwch ar yr hyn sy'n digwydd nawr. Mae hyn yn adlais o'r hyn sydd wedi digwydd yn Ffos-y-fran ym Merthyr. Mae'n siŵr na allwn ganiatáu i gwmnïau barhau i weithio fel hyn mor agos at gartrefi pobl pan fydd eu caniatâd cynllunio wedi dod i ben. Siawns nad oes rhaid edrych eto ar gynnig Plaid Cymru am lain glustogi orfodol. Felly, a gawn ni ddatganiad, os gwelwch yn dda, yn ymateb i'r angen hwnnw?

15:05

Diolch yn fawr iawn, Delyth Jewell. Mae'r materion hyn wedi eu trafod yn y Siambr hon, ac rydym wedi canolbwyntio ar safleoedd penodol hefyd. Ac, fel y dywedwch chi, mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldeb a phwerau caniatâd cynllunio—beth sydd gan awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru ac, yn wir, darparwyr safleoedd eu hunain? Felly, diolch i chi am dynnu sylw at hyn eto heddiw, ac fe wnaf ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet egluro a oes unrhyw beth y mae angen i ni ymateb iddo o ran y safle penodol hwnnw yr ydych yn sôn amdano.

A gaf i godi datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch sgrinio am anewrysmau aortig yn yr abdomen neu AAA yng Nghymru? Ar hyn o bryd, mae sgrinio ar gyfer anewrysmau aortig yn yr abdomen yn cael ei gynnig fel mater o drefn i ddynion dros 65 oed, ond nid ydynt yn cael eu cynnig fel mater o drefn i fenywod. Dim ond un o bob 70 o ddynion a sganiwyd fydd ag anewrysm aortig yn yr abdomen, sy'n gyflwr marwol, ac mae rhwyg yn arwain at farwolaeth ar unwaith. Felly, mae sgrinio a chanfod yn gynnar yn hanfodol.

Mae ffactorau risg ar gyfer y cyflwr hwn yn cynnwys ysmygu, pwysedd gwaed uchel, neu hanes teuluol agos, ac mae dynion chwe gwaith yn fwy tebygol o fod ag anewrysm aortig na menywod, ond mae anewrysmau aortig yn dal i ddigwydd mewn menywod. Ar hyn o bryd, er nad yw sgrinio yn cael ei gynnig fel mater o drefn i fenywod, mae meddygon teulu yn dymuno cyfeirio menywod â ffactorau risg sylweddol at uned fasgwlaidd ysbyty ar gyfer delweddu yn hytrach na'r rhaglen sgrinio.

Mae un o fy etholwyr yn ymgyrchu i gynnwys menywod â ffactorau risg mewn sgrinio AAA fel rhan o drefn arferol, a byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod a yw Llywodraeth Cymru wedi ymchwilio i weld a oes achos dros wneud hyn, sy'n gwneud synnwyr o ran iechyd ac yn economaidd. Felly, a gawn ni glywed gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch a yw Llywodraeth Cymru wedi ymchwilio i'r achos dros sgrinio AAA fel rhan o drefn arferol i fenywod? Diolch.

Diolch yn fawr iawn, Gareth, a diolch am godi'r mater pwysig hwn. Mae'n ymwneud â chanfod yn gynnar, fel y dywedwch chi. Dyna beth yw pwrpas ac amcan sgrinio. Ac rydych chi wedi tynnu sylw at y sgrinio ar gyfer anewrysm gyda anewrysmau yn yr abdomen o ran sgrinio ar gyfer dynion, a bellach yn codi'r mater ar gyfer menywod hefyd. Dydw i ddim yn siŵr beth yw'r sefyllfa, statws y sgrinio hwnnw o ran canllawiau cenedlaethol, ond fe wnaf dynnu sylw Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol at hyn.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth, os gwelwch yn dda, yn dilyn y cadoediad a ddaeth i rym yn Gaza ddydd Sul, a allai efallai gynnwys ymateb i'r pwyntiau canlynol. Mae Oxfam Cymru wedi ysgrifennu at bob Aelod o'r Senedd yn gofyn i ni annog Llywodraeth Cymru i alw ar Lywodraeth y DU i chwarae ei rôl wrth gyflawni cadoediad parhaol sy'n arwain at heddwch a chyfiawnder parhaol ac i ddod â gwarchae, meddiannaeth a gormes y Palesteiniaid yn Gaza a'r tiriogaethau sydd wedi'u meddiannu i ben yn barhaol.

Hefyd, hoffwn wybod sut mae Cymru wedi cymryd ac yn cymryd pob cam posibl, o fewn ei chymhwysedd, i sicrhau nad yw'n cyfrannu at droseddau rhyfel posibl trwy gysylltiadau, partneriaethau neu gyllid uniongyrchol neu anuniongyrchol. A hefyd, a fydd y Llywodraeth yn cynyddu ei rhodd bresennol o £100,000 i apêl y Pwyllgor Argyfyngau Brys yn y dwyrain canol yng ngoleuni'r amodau ofnadwy sy'n wynebu cannoedd o filoedd o bobl y mae eu cartrefi, busnesau a gwasanaethau wedi'u chwalu'n deilchion, o gofio bod y Llywodraeth wedi rhoi £4 miliwn i apêl DEC Wcráin?

Ac yn olaf, a wnaiff y Llywodraeth dalu teyrnged i'r holl ddinasyddion hynny yng Nghymru sydd wedi protestio yn erbyn y rhyfel yn Gaza, ym mhob rhan o Gymru, ac yma yn y Senedd, gan erfyn ar bob un ohonom i godi ein lleisiau i alw am heddwch, cymorth dyngarol a chyfiawnder? Diolch.

Diolch yn fawr iawn, Sioned Williams. Rwy'n ddiolchgar iawn eich bod wedi gofyn y cwestiwn hwn y prynhawn yma. Yn wir, byddaf yn cyhoeddi datganiad yfory ac rwy'n gobeithio gallu cyhoeddi newyddion da am ffyrdd y gallwn ni gyfrannu at gronfa y Pwyllgor Argyfyngau Brys. Mae'n ymateb dyngarol, fel y dywedwch chi, y mae angen i ni ei wneud nawr.

Ar ôl misoedd o laddfa ddinistriol a bywydau dirifedi wedi'u colli, roedd yn newyddion yr oedd pobl Israel a Phalesteina wedi bod yn disgwyl yn llawer rhy hir ac yn daer amdano. Byddaf yn ymateb yn fy natganiad i'r materion a'r cyfrifoldebau o ran yr hyn y gallwn ni ei wneud a'n perthynas â chymunedau yma yng Nghymru, ac mae hynny'n cynnwys llawer o gymunedau rwyf wedi bod yn cwrdd â nhw ac mae llawer o bobl wedi bod yn cwrdd ers y diwrnod ofnadwy hwnnw ar 7 Hydref.

Rwy'n credu bod yn rhaid i ni gofio pawb yr effeithiwyd arnynt hefyd. Rydym yn ymuno â'r gymuned ryngwladol i obeithio bod yr holl wystlon, gan gynnwys gwystl y mae ei deulu yn byw yma yng Nghymru, yn cael eu rhyddhau'n gyflym a heb niwed. Ond i'r Palesteiniaid diniwed y trodd eu cartrefi yn barth rhyfel dros nos a'r niferoedd lawer sydd wedi colli eu bywydau, rhaid i'r cadoediad hwn ganiatáu ar gyfer yr ymateb hwnnw mewn cymorth dyngarol, sydd ei angen mor daer ac y byddaf yn ei gyhoeddi yfory.

15:10

Prynhawn da, Trefnydd. Roeddwn i eisiau codi mater, os caf i, gyda chi ynghylch rheilffordd Calon Cymru a gofyn am ddatganiad pellach, os gwelwch yn dda, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru. Mae rheilffordd Calon Cymru newydd gael pumed trên wedi'i dynnu o'r amserlen. Dyna bedwar trên y dydd ym mhob cyfeiriad yn mynd o Craven Arms a'r Amwythig i lawr i Lanelli, gan fynd trwy lefydd hyfryd fel Llandrindod, Llanwrtyd, Llandeilo, Llanymddyfri ac ati—26 o orsafoedd i gyd. Mae'n cynnig opsiwn trafnidiaeth go iawn i'r cymunedau hynny sy'n byw ar reilffordd Calon Cymru, ond hefyd mae'n gyfle i hybu twristiaeth ac ymwelwyr â'r ardal. Felly, hoffwn gael datganiad pellach, os caf i, gan y Gweinidog, a meddwl oeddwn i tybed a allech chi roi gwahoddiad i'r Gweinidog ymuno â mi ac efallai eraill sydd yn y rhanbarth hwnnw ar daith drwy'r 26 gorsaf, dim ond i ddarganfod pa mor annwyl yw'r rheilffordd honno a faint o fuddsoddiad pellach sydd ei angen arnom ynddi. Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr, Jane Dodds. Rwy'n siŵr y bydd gennych wirfoddolwyr i fynd ar y daith honno ar y rheilffordd Calon Cymru wych honno. Mae materion o ran newidiadau amserlen ar gyfer gwasanaethau prif reilffyrdd yn digwydd, gyda mwy o gysondeb i deithwyr, ond wrth gwrs rydym wedi clywed eisoes y prynhawn yma ac rydym wedi cael ein hatgoffa o'r buddsoddiad o £800 miliwn yn ein fflyd newydd sbon o drenau cyfoes. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig yw y bydd teithwyr ar reilffordd Calon Cymru yn elwa ar drosi unedau teithio llesol dosbarth 153, a fydd yn darparu seddi ychwanegol a lle ar gyfer beiciau. Mae'n bwysig, yn gyffredinol yn 2024, gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru oedd y rhai mwyaf prydlon a dibynadwy o holl weithredwyr trenau Cymru, ond mae mwy i'w wneud o hyd, yn gwbl amlwg—gwelliannau enfawr o ganlyniad uniongyrchol i berchnogaeth gyhoeddus a buddsoddiad. Ond mae'n bwysig eich bod wedi tynnu sylw heddiw at gapasiti llwybrau rheilffordd Calon Cymru a'r gwasanaeth ei hun. Mae hyn yn rhywbeth lle rwy'n siŵr y bydd gan gyd-Aelodau, o ran ein Hysgrifennydd Cabinet, ddiddordeb yn y cwestiwn, ond hefyd yn gweld bod hon yn bartneriaeth gyda Chyngor Sir Powys hefyd, o ran gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus integredig, ac rwy'n gwybod bod trafodaethau'n cael eu cynnal arnynt.

Prynhawn da, Trefnydd. Hoffwn ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar effaith Llafur yn codi TAW ar ysgolion preifat. Er gwaethaf argyfwng cadw a recriwtio athrawon, mae Llywodraeth San Steffan wedi gosod codiad TAW o 20 y cant ar ysgolion preifat, ochr yn ochr â chynnydd mewn yswiriant gwladol, gan arwain at golli swyddi ledled Cymru, gan gynnwys yn ysgol Haberdashers yn Nhrefynwy yn fy rhanbarth i. Mae eu costau wedi codi 25 y cant, a bydd hyn yn wir gyda nifer o ysgolion preifat ledled Cymru. O ganlyniad, bydd llawer o athrawon yn cael eu gorweithio a bydd llawer o fyfyrwyr yn cael eu gorfodi i adael, gan gynnwys myfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, gan roi pwysau pellach ar ein hysgolion gwladol, sydd eisoes yn gweithredu ar eu capasiti llawn ac sydd eisoes yn ei chael yn anodd gofalu am ein dysgwyr ADY. Rwy'n gobeithio y bydd datganiad ar lawr y Senedd hon yn rhoi esboniad i ni gan Lywodraeth Cymru o sut y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu ar gyfer y myfyrwyr ychwanegol hyn yn y system ysgolion gwladol ac yn cefnogi'r myfyrwyr hynny sy'n cael eu gorfodi i adael sydd ag ADY y mae eu hanghenion wedi'u gwasanaethu'n dda iawn mewn ysgolion preifat.

15:15

Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn yna, Laura Anne Jones. Mae hwn, yn amlwg, yn ymrwymiad maniffesto a wnaed gan y Blaid Lafur, ac, yn wir, fel y gwyddom ni yn rhy dda, arweiniodd yr etholiad ym mis Gorffennaf at ethol ASau Llafur, gan gynnwys yn eich etholaeth chi a ledled Cymru hefyd. Felly, rwy'n credu nawr ei fod yn fater i'w weithredu, ac yn amlwg mae hynny'n fater o drafod ac ymgysylltu, o ran effeithiau nid yn unig ar yr ysgolion annibynnol—gyda theuluoedd a chydag awdurdodau lleol—o ran capasiti yn y system wladol, yr ydym, wrth gwrs, mor falch ohoni ac sy'n gallu darparu'r holl addysg honno i'n pobl ifanc, gan gynnwys pobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.

Felly, rydym ni, fel Llywodraeth Lafur Cymru, yn cefnogi'r ffordd ymlaen, yn cefnogi'r newid sy'n digwydd o ganlyniad i Lafur yn ennill yr etholiad hwnnw mor gadarn ym mis Gorffennaf. Ond hefyd mae egwyddor hyn yn bwysig o ran sicrhau bod gennym yr arian i gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig, wrth gwrs, ein system addysg yma yng Nghymru, ac o ganlyniad i gamreolaeth Llywodraeth flaenorol eich plaid chi o'r economi, hefyd, wrth gwrs, roedd angen i ni chwilio am y ffynonellau incwm hynny a fydd yn bwysig iawn o ran cefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus.

A gaf i ofyn am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig am gynlluniau Llywodraeth Cymru i gefnogi’r ddau barc daeareg sydd â statws UNESCO yng Nghymru: parc Fforest Fawr ym Mannau Brycheiniog ac, wrth gwrs, parc GeoMôn yn Ynys Môn. Mi es i draw i borth Amlwch rai misoedd yn ôl i gyfarfod efo rhai o’r tîm o wirfoddolwyr yn GeoMôn, a chael fy atgoffa unwaith eto o bwysigrwydd y statws UNESCO yma, nid yn unig fel cydnabyddiaeth o hanes daeareg arbennig iawn, iawn, iawn Ynys Môn, ond fel modd i ddenu buddsoddiad a thwristiaid hefyd.

Mi fydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ymwybodol o'r llythyr y gwnes i yrru ato fo rai misoedd yn ôl yn dweud bod yr asesiad i ddal gafael ar y statws arbennig hwnnw unwaith eto ar y gorwel a bod y meini prawf sydd wedi'u gosod gan UNESCO yn rhai trylwyr dros ben. Felly, a gaf i ofyn, felly, am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet yn cadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn barod i estyn llaw a chefnogi GeoMôn, boed hynny drwy adnoddau ychwanegol neu gymorth ariannol, er mwyn sicrhau bod y safle yn gallu cadw ei statws allweddol fel parc daeareg UNESCO?

Diolch yn fawr, Rhun ap Iorwerth, am eich cwestiwn pwysig iawn.

Mae gennym y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig yma gyda ni heddiw. Ydy, yn amlwg, mae hyn yn bwysig iawn o ran GeoMôn a statws UNESCO, ac rydych chi wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cabinet, felly byddwn yn ymateb i edrych ar ffyrdd y gallwn ni gefnogi a chynorthwyo ar y mater hwn.

A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ar y cynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ar wella ein systemau bwyd a'n diogeledd bwyd? Mae'n fater hynod o bwysig a byddwn yn casáu iddo gael ei droi o'r neilltu. Mae bron i ddwy flynedd wedi mynd heibio ers y trechwyd fy Mil bwyd mewn pleidlais yn y Senedd, er gwaethaf cefnogaeth enfawr eang gan randdeiliaid ledled y wlad, gan gynnwys comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol. Ac ar y pryd, addawyd y byddai'r gwaith ar argymhellion Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn parhau ac y byddai mwy o waith yn cael ei wneud i wella diogeledd bwyd ledled Cymru, a chymerodd y Prif Weinidog, er tegwch, ar y pryd, rai camau ar unwaith. Fodd bynnag, ers hynny, ychydig iawn yr ydym wedi'i glywed am yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ei wneud. Ers tair blynedd, rydym wedi bod yn trafod strategaeth bwyd cymunedol, ond nid ydym erioed wedi gweld unrhyw beth hyd yn hyn. Felly, byddwn yn croesawu diweddariad gan Lywodraeth Cymru ar ba gynnydd sy'n cael ei wneud i wella diogeledd bwyd yma yng Nghymru a chryfhau ein system fwyd yn unol â hynny.

Diolch yn fawr iawn. Mae hyn, mewn gwirionedd, yn gyfrifoldeb trawslywodraethol, dan arweiniad y Dirprwy Brif Weinidog, o ran datblygu strategaeth bwyd cymunedol, yr ydym yn mynd ati i ymgysylltu â hi. Ond i mi, y Gweinidog cyfiawnder cymdeithasol, yn gweithio ochr yn ochr â'r Dirprwy Brif Weinidog, mae hyn yn hanfodol bwysig o ran diogeledd bwyd i'n cymunedau yma yng Nghymru. Ac rwy'n gobeithio y byddwch yn ystyried cefnogi ein cyllideb ddrafft, Peter Fox, oherwydd ynddi mae'n cynnwys cryn dipyn o gyllid o fy mhortffolio i, ac yn wir o bortffolio'r Dirprwy Brif Weinidog, i sicrhau y gallwn gadw ein partneriaethau bwyd i fynd yng Nghymru. Rwy'n siŵr eich bod nid yn unig yn ymwybodol, ond byddwch yn gwybod am bwysigrwydd y partneriaethau bwyd hyn, sy'n dod â'r holl randdeiliaid at ei gilydd fesul sir. Roeddwn yn falch iawn o ymweld â'r bartneriaeth fwyd yn sir Gaerfyrddin, partneriaeth Bwyd Sir Gâr, sy'n cynnwys pob sector ac, yn ddiddorol, fe wnes i fwynhau pryd o fwyd mewn cyfleuster cymunedol arloesol iawn yng Nghaerfyrddin, a gyflenwir gan fwyd o'r fferm sy'n eiddo i'r cyngor sir. Roedd hwn yn lleoliad sydd wedi ennill gwobrau hefyd i'r rhai oedd yn rhan ohono.

Felly, ydi, mae ar ei ffordd. Mae angen i ni gael cefnogaeth i'n cyllideb i gael y cyllid drwyddo, ond rwy'n credu bod Synnwyr Bwyd Cymru, y byddwch chi'n ymwybodol ohono, dan arweiniad Katie Palmer, yr holl waith sy'n cael ei wneud gyda'r cynllun ffermio cynaliadwy—yn wir, mae ar draws, fel y dywedoch chi, bob portffolio, bron iawn, yn y Senedd a'r Llywodraeth hon, gan gynnwys, wrth gwrs, addysg yn ogystal ag amaethyddiaeth, materion gwledig, cyfiawnder cymdeithasol, ac iechyd, wrth gwrs.

15:20

A gaf i ofyn am ddau ddatganiad os gwelwch yn dda? Yn gyntaf, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Cwnsler Cyffredinol ar barodrwydd y Llywodraeth ar gyfer effaith debygol Mesur Aelod preifat yr Aelod Seneddol Kim Leadbeater ar oedolion â salwch terfynol ar Gymru? Bydd y Bil, os caiff ei basio i gyfraith, yn cael effaith ddofn arnom ni yma. Nid yn unig y bydd yn cael effaith ar ein gwasanaeth iechyd, ond bydd hefyd yn debygol o effeithio ar y capasiti barnwrol yng Nghymru, oherwydd rydym eisoes yn cael gwybod na fydd gan yr Uchel Lys y capasiti i ymdrin â phob achos, a'u bod yn debygol o gael eu gwthio i'r tribiwnlys. Mae'n gofyn y cwestiwn felly: pa gapasiti sydd ar gael yng Nghymru? Disgwylir y bleidlais derfynol ar y Bil ar 25 Ebrill, felly byddai'n dda cael datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol, ac asesiad y Llywodraeth cyn hyn.

Yn ail, a gaf i ddatganiad gan y Gweinidog partneriaethau cymdeithasol ynglŷn â'r cymorth a ddarperir i gymunedau sy'n cael eu tanwasanaethu gan Swyddfa'r Post? Clywsom yn gynharach gan Siân Gwenllian am y cynigion i gael gwared ar y gwasanaeth symudol i dros ddwsin o gymunedau yn fy etholaeth i, a fydd yn effeithio'n ddifrifol ar allu llawer o bobl, y rhai mwyaf agored i niwed yn y cymunedau hyn, i gael gafael ar wasanaethau hanfodol, felly byddem yn ddiolchgar am unrhyw gymorth gan y Llywodraeth.

Diolch yn fawr, Mabon ap Gwynfor. Iawn, fe wnaf ofyn i'r Cwnsler Cyffredinol ymateb ar fater effaith y Bil. Yn amlwg, mae peth amser eto cyn, fel y dywedwch chi, y dyddiad rydych chi wedi'i nodi, 25 Ebrill. Yr asesiad o'r effaith ar Gymru, capasiti yn yr Uchel Lys—yn wir, mae angen i ni edrych ar hyn yn ofalus, ac fe wnaf waith dilynol ar hyn, fel rydych chi wedi clywed. Mae hyn hefyd yn ymwneud â ni'n edrych ar ein rolau a'n cyfrifoldebau hefyd.

O ran cymunedau sy'n cael eu tanwasanaethu o ran swyddfeydd post, wel, mae hynny mewn gwirionedd yn dod o fewn fy nghyfrifoldeb i o ran y berthynas â Swyddfa'r Post a lleihau gwasanaethau hanfodol, y clywsom amdanyn nhw'n gynharach. Rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth lle, yn dilyn nid yn unig y cwestiwn gan Siân Gwenllian, rwy'n gweithio'n eithaf rheolaidd gyda'r rhai sy'n ymwneud â hyn fel benthycwyr cyfrifol. Ond ar gyfer Swyddfa'r Post—byddaf yn cwrdd â phenaethiaid Swyddfa'r Post dros Gymru ac edrych ar sut maen nhw'n dileu gwasanaethau. Maen nhw'n cynnal adolygiadau, rwy'n gwybod, ac mae'n fater a gedwir yn ôl, ond rwy'n credu bod yn rhaid i ni nawr roi'r dystiolaeth honno gan Lywodraeth Cymru a chan Senedd Cymru, o'r Senedd, felly rwy'n ddiolchgar eich bod wedi codi hyn.

A gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol ar y defnydd o geir sy'n cael eu gyrru gan chauffeur gan gynghorau Cymru? Daw hynny wedi adroddiadau yn y newyddion yn dweud bod cyn-arweinydd Llafur ac sydd bellach yn faer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi defnyddio car a oedd yn cael ei yrru gan chauffeur, a ariennir gan drethdalwyr, i fynychu digwyddiadau Plaid Lafur Cymru ym Mae Caerdydd. Roedd ei bresenoldeb yng nghinio dathlu 100 mlynedd o Blaid Lafur Cymru yn amlwg yn bleidiol ei natur, ond eto mae wedi ei amddiffyn yn y cyfryngau gan y Cynghorydd Huw David. Yn amlwg, ni ddylid caniatáu defnyddio car ar gyfer maer a ariennir gan drethdalwyr i fynychu digwyddiadau pleidiol. Felly, a wnewch chi naill ai drefnu datganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet yn egluro hynny neu, os na wnewch chi hynny, yna defnyddio'r cyfle hwn nawr i'w gondemnio?

15:25

Wel, nid mater i lywodraeth leol yn unig yw hwn, ond, yn wir, mater i'r awdurdod lleol y gwnaethoch chi ei grybwyll, ac mae'n fater i'r rhai sydd â'r fraint o wasanaethu mewn llywodraeth leol hefyd.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ysgrifennydd Cabinet—. Trefnydd, hoffwn gael—. Ni allaf gael fy ngeiriau allan. Hoffwn gael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi ynghylch Arlywydd newydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, ac am ein perthynas fasnachu â'r Unol Daleithiau. Mae llawer o fusnesau yng Nghymru yn dibynnu ar berthynas gref rhwng Cymru a'r Unol Daleithiau, felly byddai'n dda iawn pe gallem gael datganiad gan Weinidog yr economi ynghylch sut y gellir datblygu'r berthynas honno nawr bod yr Arlywydd Trump yn y swydd.

Hoffwn hefyd gael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch y canfyddiadau bod swyddfa'r grŵp yn ein plaid wedi canfod bod GIG Cymru wedi gwario dros £700 miliwn ar hawliadau esgeulustod dros y 10 mlynedd diwethaf, a £100 miliwn o hwnnw wedi'i wario y llynedd yn unig. Mae hwnnw'n sgandal cenedlaethol ac rwy'n credu ei bod hi ond yn iawn ac yn briodol cael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch yr hyn y bydd yn ei wneud i leihau'r hawliadau esgeulustod hynny, oherwydd os ydym yn mynd i weld y gwelliannau hynny yn ein GIG, mae angen i ni sicrhau bod yr arian yn cael ei wario ar y rheng flaen yn hytrach na thalu pobl yn sgil hawliadau esgeulustod.

Diolch yn fawr iawn, James Evans. Yn amlwg, mae er ein budd ni i gyd bod cysylltiadau da o ran masnach nid yn unig yn parhau, ond maen nhw'n amlwg yn mynd i fod yn heriol hefyd o ran polisïau a datganiadau newydd yr Arlywydd newydd. Ond mae'n hanfodol, ac nid dim ond y 40,000 y soniwyd amdanyn nhw'n gynharach gan y Prif Weinidog, y buddiannau Americanaidd a busnes hynny yng Nghymru, ond hefyd y perthnasoedd hynny ar draws yr Unol Daleithiau, ac rwy'n siarad am y taleithiau hefyd, talaith fesul talaith—. Mae yna berthnasoedd pwysig iawn ac mae gennym ein buddiannau ni nid yn unig i'w hamddiffyn ond i'w datblygu hefyd. Felly, rydyn ni'n rhagweld y bydd hynny'n parhau.

Ydyn, mae hawliadau esgeulustod bob amser yn destun gofid o ran gofal cymdeithasol i oedolion, ond rydyn ni'n falch o gyflawni ein gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion, ond hefyd yn ystyriol iawn, fel y gwyddoch chi, o'r gwaith sy'n cael ei wneud ac sy'n cael ei arwain gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol Oedolion mewn perthynas â'n gwasanaeth gofal cenedlaethol. Nawr, mae'n dda bod gennym hefyd y Farwnes Louise Casey yn gwneud y gwaith hwn yn San Steffan, yn wir yn edrych ar hyn ar sail drawsbleidiol. Ac yma yng Nghymru roedd llawer iawn o waith, drwy'r cytundeb cydweithio, ar ddatblygu'r gwasanaeth gofal cenedlaethol hwnnw fesul cam. Ond nawr, rwy'n gobeithio, ei fod yn llwybr trawsbleidiol yr ydym yn ei ddilyn o ran sicrhau bod gennym y capasiti a'r rhagoriaeth mewn gofal cymdeithasol i oedolion y gwyddom sydd mor bwysig i bawb, pob un yr ydym yn ei wasanaethu yng Nghymru.

4. Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Adfer natur yng Nghymru

Eitem 4 heddiw yw datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ar adfer natur yng Nghymru. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Huw Irranca-Davies.

Member (w)
Huw Irranca-Davies 15:29:22
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Diolch, Dirprwy Lywydd. Bron i 75 mlynedd yn ôl i'r diwrnod, cafodd mynediad pobl at natur ei chwyldroi pan sefydlwyd Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949. Am y tro cyntaf, rhoddodd hyn hawliau tramwy cyhoeddus i bobl, llwybrau cenedlaethol ac ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol. Roedd y Ddeddf yn troi rheolau canrifoedd oed ynghylch mynediad i dir ar eu pen gan roi hawl i bawb—pawb—i fwynhau natur, ni waeth faint o arian oedd ganddyn nhw yn eu pocedi.

Nid yw'n gyd-ddigwyddiad, wrth gwrs, mai hon oedd yr un Llywodraeth Lafur drawsnewidiol a greodd y GIG. Yr un egwyddorion sosialaidd ar waith. Mae'n ymwneud â thegwch ac am bobl yn cael y rhyddid i gael gafael ar yr hanfodion sydd eu hangen arnom i gyd i fyw bywyd iach a hapus. A'r un egwyddorion hynny yw'r hyn sy'n sail i hanes amgylcheddol balch Llywodraethau Llafur olynol Cymru yma yn y Senedd dros y 25 mlynedd diwethaf, o greu llwybr arfordir Cymru, i sefydlu coedwig genedlaethol Cymru. Ac mae'r un egwyddorion hynny yn dal i'n hysgogi ni heddiw. A chan fod un o bob chwe rhywogaeth bellach mewn perygl o ddiflannu yng Nghymru, ni fu erioed yn bwysicach adfer a chryfhau cysylltiad pobl â natur. Mae adfer natur yn golygu adfer y lleoedd rydyn ni'n byw ynddyn nhw ac yn eu mwynhau. Mae'n darparu swyddi gwyrdd. Mae'n cefnogi economïau lleol a gwledig, ac mae'n sail i'r economi mewn ystod eang o sectorau, gan gynnwys, wrth gwrs, cynhyrchu bwyd a thwristiaeth.

Dirprwy Lywydd, siaradodd pobl Cymru yn glir iawn yn ystod ymarfer gwrando'r Prif Weinidog, a heddiw rydw i yma i ddangos sut rydyn ni'n troi eu geiriau'n weithredoedd. Yn nhymor y Senedd hon yn unig, rydyn ni wedi buddsoddi dros £150 miliwn i adfer natur ac i wella mynediad at natur ar stepen drws pobl. Rydyn ni wedi darparu mwy na 4,000 o fannau gwyrdd, 790 o safleoedd tyfu bwyd cymunedol, 670 o berllannau cymunedol ac 80 o erddi synhwyraidd therapiwtig trwy ein Lleoedd Lleol ar gyfer Natur. A gyda llaw, mae hyn yn cynnwys darparu mwy o fannau gwyrdd mewn cymunedau llai cefnog yn ein trefi a'n dinasoedd ledled Cymru, lle gall fod yn anoddach dod o hyd i fannau gwyrdd weithiau. Ac rydyn ni wedi trawsnewid ein glaswelltiroedd trefol yn gartrefi i beillwyr a bywyd gwyllt, gan weithio gyda'r partneriaethau natur lleol. Drwy newid y ffordd yr ydym yn torri gwair mewn lleoedd fel Parc Singleton yn Abertawe, ac ymylon ffyrdd sir Ddinbych, rydyn ni wedi helpu i'w gwneud yn fwy cyfeillgar i beillwyr.

Rydyn ni wedi buddsoddi £54 miliwn yn ein rhaglen Rhwydweithiau Natur i wella ein safleoedd gwarchodedig a chysylltu pobl â natur. Ac, yn ymarferol, mae hyn yn golygu ariannu lleoedd fel y fferm trychfilod yn Nhyddewi yr ymwelais â hi yn ddiweddar. Roedd yn wych clywed yn uniongyrchol am y gwaith y maen nhw'n ei wneud i gysylltu 200 hectar o gynefin bywyd gwyllt ac agor eu canolfan adfer natur, gan ddarparu adnodd gwych i blant lleol, ac i dwristiaid hefyd, ei fwynhau. A bydd llawer o Aelodau yma wedi cael y pleser o gwrdd â Jinx, y ci bioddiogelwch, sydd wedi helpu i ddiogelu poblogaeth adar môr sy'n bwysig yn fyd-eang ond sydd mewn perygl yng Nghymru ar ynysoedd fel Ynys Dewi yn sir Benfro. Ac rwyf eisoes wedi sôn am y goedwig genedlaethol, sydd bellach â dros 100 o safleoedd, gan greu rhwydwaith o goetiroedd a reolir yn dda ar hyd a lled Cymru. Mae'r safleoedd hyn yn darparu lleoedd i fyd natur ffynnu, ac i gymunedau eu mwynhau.

Mae ein grant buddsoddi mewn coetiroedd a chynlluniau Coetiroedd Bach wedi creu a gwella coetiroedd ledled Cymru, gyda dros £8 miliwn wedi'i ddyfarnu i 56 o brosiectau. Felly, er enghraifft, ym Mharc Dyfrdwy yn sir y Fflint, helpodd ein cefnogaeth i gyflogi dau barcmon rhan-amser i reoli'r safle ac i arwain dosbarthiadau a digwyddiadau cymunedol. Mae cyllid ar gyfer Llandegfedd yn y de wedi cefnogi gwelliannau sylweddol i lwybrau i greu man gwyrdd mwy hygyrch i'r cyhoedd ei fwynhau.

Ac, wrth gwrs, rwy'n cydnabod pa mor gryf mae pobl yn teimlo am bwysigrwydd gwella ansawdd dŵr ac adfer ein hafonydd, ac yn briodol felly. A dyna pam rydyn ni wedi darparu £40 miliwn ychwanegol o gyllid i Cyfoeth Naturiol Cymru i wneud hynny. Yn ddiweddar, ymwelais â phrosiect rhyfeddol ar Nant Dowlais, lle mae rhan o'r afon wedi ei hail-igam-ogamu, gobeithiwn y bydd y nant newydd honno yn ffurfio pyllau ac yn creu cynefin naturiol. Mae'n enghraifft wych o sut y gallwn weithredu i ddod ag ystod eang o fuddion gwahanol i ansawdd dŵr a bioamrywiaeth.

Ac oherwydd ein hymdrechion, mae ardal sy'n cyfateb i gannoedd o filoedd o gaeau rygbi o gynefin bellach yn cael ei hadfer, rhywbeth nad oedd yn digwydd o'r blaen. Mae cynllun Cynefin Cymru yn cefnogi ffermwyr i gynnal a gwella'r cynefin ar eu tir. Yn 2024 yn unig, dyrannwyd £16 miliwn, gyda 341,794 hectar dan gytundeb. Ac rydyn ni hefyd wedi cynnig contractau i ffermwyr i gefnogi'r gwaith o greu ac adfer dros 300 km o wrychoedd.

Mae'r rhaglen weithredu mawndir genedlaethol wedi adfer dros 3,000 o gaeau rygbi o fawn a adferwyd, gan gyrraedd ein targed flwyddyn o flaen amser—mae 1.6 miliwn tunnell o garbon wedi'i ddiogelu drwy hyn; mae allyriadau carbon yn gostwng 8,000 tunnell y flwyddyn. Mae'n cyfateb i 5,700 o allyriadau car. Ac mae adfer mawndir hefyd yn cefnogi rheoli llifogydd naturiol, yn ogystal â gwella ansawdd dŵr.

Ond nid ar dir yn unig yr ydyn ni'n gweithredu. Drwy gefnogi datblygiad y cynllun gweithredu morwellt cenedlaethol, byddwn yn galluogi adfer 266 hectar o forwellt erbyn 2030, o sir Benfro i Draeth Penial yng Nghaergybi. Ac mae Cymru yn arwain y ffordd ar y cynllun offer pysgota diwedd oes, sydd wedi casglu 12 tunnell o offer, lleihau llygredd plastig yn ein moroedd ac atal bywyd gwyllt rhag cael ei ddal a mynd ynghlwm yn yr offer.

Rydyn ni wedi cyflawni hyn i gyd, Dirprwy Lywydd, drwy weithio gyda phartneriaid a gwirfoddolwyr ledled Cymru. Ac rydyn ni wedi cyflawni hyn i gyd yn wyneb blynyddoedd a blynyddoedd a blynyddoedd o gyllidebau sydd dan bwysau oherwydd anhrefn economaidd Torïaidd yn San Steffan. Rydyn ni wedi cyflawni hyn i gyd, a byddwn yn parhau i gyflawni mwy, oherwydd bod amddiffyn ac adfer natur, a helpu mwy o bobl i'w fwynhau, wrth wraidd y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru.

Nawr, wrth gwrs, mae mwy y mae'n rhaid i ni ei wneud. Rydyn ni'n wynebu argyfwng hinsawdd a natur y mae angen i bob un ohonom fynd i'r afael ag ef yn uniongyrchol. Dyna pam rwy'n falch iawn o gyhoeddi heddiw y bydd 11 prosiect ychwanegol yn derbyn bron i £2.7 miliwn o gyllid Rhwydweithiau Natur, gyda chyhoeddiadau pellach i fod ym mis Mawrth. Rwyf hefyd yn bwriadu cynnal rownd arall o'r gronfa yn 2025-26. Ac nid dyna'r cyfan. Bydd ein gwaith buddsoddi cynaliadwy yn ein galluogi i gynyddu maint a chyflymder adfer natur ledled Cymru, i'n helpu i gyflawni ein huchelgeisiau mawr. Byddaf yn cyflwyno deddfwriaeth nodedig ar gyfer targedau adfer natur a chorff llywodraethu amgylcheddol. A bydd y cynllun ffermio cynaliadwy yn gofyn i ffermwyr, ac yn eu cefnogi, i reoli o leiaf 10 y cant o'u ffermydd fel cynefin, a chefnogi ystod eang o gamau gweithredu eraill ar gyfer natur.

Mae ein buddsoddiad, Dirprwy Lywydd, mewn adfer natur yn sicrhau gwelliannau y mae pobl ledled Cymru eisiau eu gweld nawr: diogelu rhywogaethau eiconig, gwella mynediad i bob cymuned, hybu ansawdd dŵr, cefnogi economïau lleol, swyddi gwyrdd, twf cynaliadwy. Bydd adfer a chysylltu pobl â natur hefyd yn sicrhau manteision yn y dyfodol, gan wella ein cydnerthedd yn wyneb newid hinsawdd a chryfhau ein gallu i reoli'r môr a'r tir yn gynaliadwy. Yr etifeddiaeth orau y gallwn ei gadael ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol yw amgylchedd naturiol sy'n gwella a all eu cefnogi nhw fel y mae wedi ein cefnogi ni. Edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau'r Aelodau, Dirprwy Lywydd.

15:35

A gaf fi ddiolch i chi, Ysgrifennydd Cabinet, am eich datganiad, a diolch i chi am rannu eich brwdfrydedd? Rwy'n croesawu rhai o'r cyhoeddiadau, yn amlwg, yn eich datganiad, gan gynnwys yr 11 prosiect newydd hynny. Yn wir, wrth wrando ar y datganiad, byddem yn teimlo bod popeth yn iawn. Ond dydyn ni ddim mewn lle da, nac ydyn ni? Mae un o bob chwe rhywogaeth mewn perygl o ddiflannu, ac mae bywyd gwyllt yng Nghymru wedi gostwng 20 y cant ers 1994. Mae Llywodraeth Cymru yn methu â chymryd y mater hwn yn ddigon o ddifrif. Nawr, a gaf i ganmol y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith am eu gwaith ar eu hadroddiad, a gyhoeddwyd ddoe, sy'n taflu goleuni ar y duedd bryderus o ddirywiad ym mywyd gwyllt ein gwlad? Yn 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru argyfwng natur, sef un o'r Seneddau cyntaf yn y byd i ddatgan argyfwng o'r fath. Fodd bynnag, mae'n amlwg o'r dystiolaeth sydd gennym nad yw hyn wedi arwain at unrhyw gamau cynaliadwy i wella ein sefyllfa gan Lywodraeth Cymru.

Mae blaenoriaethu'r amgylchedd yn golygu llawer mwy na datganiadau a chynlluniau. Mae'n gofyn am weithredu, ac mae'n gofyn am adnoddau priodol ac ymrwymiad llwyr, a byddai'n ymddangos nad ydym wedi gweld digon o hynny hyd yn hyn. Mae'n rhaid ymgysylltu'n ystyrlon â rhanddeiliaid i ddeall y problemau a'r camau atal, ac yna mae'n rhaid rhoi amcanion gyda thargedau mesuradwy y gellir eu cyflawni ar waith. Dim ond wedyn y gallwn ni obeithio ymdrin â maint yr argyfwng rydyn ni'n ei wynebu nawr. Mae'r ychydig dargedau yr oedd Llywodraeth Cymru wedi'u nodi, darllenom, wedi cael eu symud o 2025 i 2029. Rwy'n credu bod angen i ni wybod pam, Ysgrifennydd Cabinet. Mae hyn yn adlewyrchu diffyg brys, neu ymddengys ei fod yn adlewyrchu diffyg brys. Mae'n ymddangos mai ychydig iawn sydd wedi'i gyflawni o ran y targedau y bu gweithio arnynt ers 2022, ac ni ddylem fod mewn sefyllfa o oedi y tu ôl i Loegr a'r Alban unwaith eto. Mae'n sefyllfa drist yr ydym yn clywed amdani yn rhy aml. Mae adroddiad y pwyllgor yn datgelu maint methiant llywodraethau olynol Cymru. Mae methiannau ar lefel ddeddfwriaethol a strategol wedi ein gadael â chyfraith a pholisi hen ffasiwn, gan arwain at ychydig iawn o effaith. Nawr, mae CNC, y corff sydd i fod yn diogelu'r amgylchedd, yn parhau i fod heb ddigon o adnoddau, a chlywais yr hyn a ddywedwyd yn y datganiad am yr arian ychwanegol, ac eto rydyn ni'n parhau i ofyn iddo wneud mwy a mwy. Yn bersonol, rwy'n credu bod angen ailfeddwl yn sylfaenol am beth y dylai CNC fod yn gyfrifol. Yna mae angen adnoddau priodol arno er mwyn iddo wneud ei waith os ydym o ddifrif ynglŷn â gwneud cynnydd ar ein hafonydd. Nid wyf yn siŵr a fydd y £40 miliwn ychwanegol yn cyflawni hynny mewn gwirionedd.

Ar ddiwedd y dydd, Dirprwy Lywydd, ni all y Llywodraeth barhau i ofyn i fwy o bobl fel ffermwyr a chymunedau gwledig gyfrannu mwy a mwy i fynd i'r afael â materion amgylcheddol pan nad yw'r Llywodraeth ei hun yn tynnu ei phwysau ei hun. Ysgrifennydd Cabinet, mae gennym gyfle i wyrdroi'r duedd drychinebus hon a gwneud diwygiadau ystyrlon, cyflawni targedau a gyrru ymlaen gyda strategaeth a fydd yn gwneud gwahaniaeth mewn gwirionedd. Ysgrifennydd Cabinet, pryd y byddwn yn gweld strategaeth fesuradwy a fydd yn cael adnoddau priodol? Nid yw'n rhy hwyr, ond os na fyddwn yn gweithredu'n fuan fe fydd yn sicr.

15:40

Peter, edrychwch, yn gyntaf oll, diolch yn fawr iawn, oherwydd rwy'n credu, yn fras, eich bod wedi cefnogi'r cyhoeddiad ychwanegol sydd gennym heddiw ar gyfer cyllid Rhwydweithiau Natur o £2.7 miliwn ychwanegol ar gyfer 11 prosiect. Rwy'n credu eich bod wedi cefnogi hefyd y £40 miliwn ychwanegol yr ydym wedi'i roi i CNC i fynd i'r afael ag ansawdd dŵr. Yna rydych chi'n ein herio ni i wneud mwy. Byddwn i'n dweud, gan fyfyrio ar y pwyntiau a wnes i yn fy nghyfraniad agoriadol, fod yr holl bethau rydyn ni wedi'u gwneud dros y degawd diwethaf a mwy wedi'u gwneud yn wyneb cyni, yn wyneb toriadau nid yn unig i CNC ond i Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr hefyd. Drwyddi draw, mae pob Llywodraeth yn y DU wedi gorfod ymestyn. Nawr, rydyn ni mewn sefyllfa lle mae gennym gyfle i ddenu cyllid ychwanegol i Gymru, £1.5 biliwn ychwanegol. Allan o hynny gallwn fuddsoddi o fewn natur ac o fewn CNC ac o fewn eraill, a gallwn fynd ymhellach, ac rwy'n croesawu'r gefnogaeth i hynny.

Ond a gaf i ofyn hefyd i'r Aelodau, pan fyddant yn siarad dros natur, i sefyll gyda ni hefyd pan fyddwn yn cyflwyno'r polisïau sy'n cyflawni dros natur—y polisïau hynny, gan gynnwys ar ansawdd dŵr, y polisïau hynny, gan gynnwys ar ansawdd pridd, y polisïau hynny drwyddi draw? Ni allwn ddweud un peth yma ac yna pleidleisio yn ei erbyn oherwydd ein bod o dan bwysau gan rhanddeiliaid y tu allan. Mae'n rhaid i ni fod yn gyson. Mae hynny'n golygu, mewn gwirionedd, gweithio gyda datblygwyr, gyda ffermwyr, gyda diwydianwyr, gyda phawb, ond mae'n golygu ein bod yn gyson.

Rydyn ni'n rhoi ein harian ar ein gair ar hyn. Mae'r cyllid morwellt o £100,000 yn enghraifft dda iawn o ble mae cyfraniad o'n harian ni wedyn yn galluogi'r gwaith o ysgogi gwirfoddolwyr ychwanegol a chyllid i fynd â hynny hyd yn oed ymhellach, oherwydd ein bod ni'n gwybod—. Y darn adfer mawn, lle, unwaith eto, rydyn ni'n gweithio gyda phartneriaid i fynd ymhellach.

Felly, ni ddylai'r cyfan ddisgyn ar ysgwyddau trethdalwyr Cymru, Dirprwy Lywydd. Mae gennym ni ran i'w chwarae, ac mae Llywodraeth Cymru yn gwneud hynny, felly hefyd y sector cyhoeddus, felly hefyd partneriaid preifat a llawer o rai eraill, ond felly, byddwn i'n dweud, Peter—ac yn wir, Peter, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda chi yn eich rôl newydd chi hefyd—mae'n rhaid i ni lynu'n gadarn wrth y polisïau a fydd hefyd yn cyflawni hyn, hyd yn oed pan fyddwn weithiau'n cael adborth negyddol yn dweud, 'O, mae hynny ychydig yn rhy anodd i'r grŵp hwn o randdeiliaid, neu hwnna.' Rydyn ni i gyd yn hwn gyda'n gilydd. Rydyn ni'n adfer natur trwy sicrhau bod pawb yn barod i godi'r cwch gyda'n gilydd.

Rwy’n croesawu’r cyfle hwn. Diolch i’r Dirprwy Brif Weinidog am y datganiad hwn. Mae yna lot o bethau da ar y gweill, yn sicr. Rwy’n croesawu nifer o’r pethau roedd y Dirprwy Brif Weinidog yn sôn amdanyn nhw yn y datganiad. Mae’n rhaid i ni wrth gwrs ystyried cyd-destun yr adroddiad beirniadol a gafodd ei gyhoeddi ddoe gan y pwyllgor newid hinsawdd. Mae hwnnw’n mynd i grisialu'r ffordd rŷn ni’n gweld nifer o’r pethau hyn. Mae’r pwyntiau hyn yn cael eu codi er mwyn i ni sicrhau bod y gwaith rili da, rili pwysig sydd ar y gweill yn cael ei adeiladu arno fe. Mae yna gymaint o bobl sydd eisiau gweld mwy yn digwydd. Mae’r adroddiad yn rhybuddio am gwymp aruthrol ym mywyd gwyllt Cymru. Rydych chi wedi sôn yn barod am y ffaith bod un o bob chwe rhywogaeth mewn perygl ar hyn o bryd. Mae poblogaethau bywyd gwyllt wedi lleihau 20 y cant dros y 30 mlynedd diwethaf. A phan dŷn ni’n sôn am fioamrywiaeth, wrth gwrs, mae hwnna’n sylfaen i’n bywydau ni. Dyna pam mae e mor bwysig.

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at fel dŷn ni flynyddoedd ar ei hôl hi pan fo’n dod at ddogfennau polisi allweddol Llywodraeth Cymru ar adfer natur. Nid yw’r cynllun adfer natur, fel dŷn ni wedi clywed, wedi ei adolygu, fel un enghraifft. Felly, sut bydd Llywodraeth Cymru yn gallu edrych ar hyn? A beth fydd y cyfiawnhad fyddwch chi'n ei roi i'r sector ac i bobl sydd yn poeni am hyn wrth ddiweddaru cynlluniau sylfaenol? Ydych chi'n poeni fod hyn efallai yn tanseilio hygrededd y Llywodraeth ar y llwyfan rhyngwladol, achos dŷn ni wedi gwneud ymrwymiadau i wrthdroi colled natur, sydd mor bwysig? Ydy hwnna efallai yn tanseilio hynny?

Dŷn ni wedi clywed yn barod am y diffyg adnoddau a staff sydd wedi’u neilltuo ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru. Rwy'n croesawu'r hyn rydych chi wedi ei ddweud am arian i Gyfoeth Naturiol Cymru. Beth fyddwch chi'n ei wneud i wella cyfathrebu'r gwaith yna mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei wneud i'r cyhoedd ac i sicrhau bod pobl yn fwy ymwybodol o le i fynd a pha bethau maen nhw'n mynd i allu blaenoriaethu? Achos o hyd, rwy'n poeni bod pobl yn feirniadol iawn o'r gwaith maen nhw'n ei wneud. Efallai fod hynny wedi ychwanegu at ymdeimlad o iselder ysbryd ymysg nifer o'r gweithlu yna. Maen nhw'n gwneud gwaith mor bwysig. Beth sy'n gallu cael ei wneud i gyfathrebu'r heriau, ond hefyd i sicrhau bod y cyfathrebu yna'n gwella oddi wrthyn nhw, plis?

Mae yna nifer fawr iawn o bartneriaid eraill, tu hwnt i beth mae'r Llywodraeth yn gallu ei wneud, sydd yn gwneud gwaith eithriadol o bwysig ar adfer natur. Pa waith ydych chi yn ei ragweld, plis, neu sy'n cael ei wneud—sydd ar y gweill yn barod—i ddenu arian o du hwnt i beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud ac i gydlynu'r gwaith eithriadol o bwysig mae nifer o'r partneriaid yna—? Roeddech chi wedi sôn am y sector preifat hefyd yn hyn. Sut gallwn ni gydlynu hynny, achos, eto, mae nifer o brosiectau cyffrous iawn ar y gweill gyda hynny?

Nawr, i droi at y Bil natur sydd i ddod. Eto, mae hyn wedi cael ei godi yn barod, a'r ffaith bod y pwyllgor newid hinsawdd wedi sôn bod y targedau bioamrywiaeth ddim yn debygol o fod yn eu lle tan 2029. A wnewch chi ymrwymo i wneud popeth dŷch chi'n gallu i gyflymu'r gwaith o ddatblygu'r targedau hyn, fel eu bod yn cyd-fynd â’r amserlen cytundebau rhyngwladol? Mae yna bryder mawr os na fydd y fframweithiau angenrheidiol yn eu lle tan y flwyddyn cyn 2030, byddai hwnna'n gallu arwain at ddirywiad mawr. Wrth gwrs, gadewch i ni beidio ag anghofio bod Llywodraeth Cymru wedi pleidleisio o blaid cynnig Plaid Cymru yn y Senedd gan ymrwymo i atal colled bioamrywiaeth erbyn 2030, ac wedi datgan argyfwng natur. Dŷn ni gyd wedi cytuno ar hynny, ond mae'n rhaid i'r gweithredu sicrhau ein bod ni'n cyflawni hynny. Felly, faint o gynnydd ydych chi yn—? Beth ydych chi yn meddwl ydy'r her fwyaf o ran cyflawni hynny? A beth sydd angen digwydd er mwyn sicrhau, o ran y targedau yna, ein bod ni ddim yn gorfod aros cyhyd? Achos mae'n rhaid i ni ofyn i'n hunain pa fath o Gymru fyddwn ni'n ei gadael i genedlaethau'r dyfodol, i'n plant ni—tir dŷn ni eisiau ei adael iddyn nhw sy'n llawn bioamrywiaeth, lle gall plant glywed natur ac edmygu rhyfeddod ecosystemau bywiog. Mae hynny'n rhywbeth gall dal ddigwydd, ond mae ond yn mynd i ddigwydd os dŷn ni yn gwneud penderfyniadau anodd ond angenrheidiol.

Felly, i grynhoi, achos rwy'n gweld ein bod ni mas o amser nawr, er mwyn sicrhau targedau yn gyflymach, sicrhau bod gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru'n cael ei gyfathrebu'n well a rhoi cefnogaeth iddyn nhw, ac er mwyn gwarantu bod yr ymrwymiadau sydd wedi cael eu gwneud yn COP15 yn y Senedd hon yn cael eu cyflawni. Mae'n flin gen i ein bod ni wedi mynd 20 eiliad dros amser. 

15:45

Delyth, diolch yn fawr iawn. Roedd llawer o bwyntiau pwysig yna.  

O ran yr adroddiad, byddwn yn amlwg yn ymateb yn llawn maes o law i'r adroddiad, ond rydyn ni'n croesawu'r adroddiad a'r her sydd ynddo, oherwydd ein bod yn cytuno â'r her. Byddwn i'n dweud, wrth edrych i'r chwith ohonoch chi, fel yr ydych chi'n eistedd yna, at y Cadeirydd, y bûm i'n arfer gwasanaethu fel aelod ar ei bwyllgor, bod yr her yn iawn, ond rwy'n credu ei bod yn her i bob un ohonom, nid yn Llywodraeth Cymru, ond rydych chi'n gywir yn crybwyll sut rydyn ni'n ysgogi cyllid ychwanegol mewn gwirionedd. Wel, mae hynny'n her i'r holl gymunedau buddsoddwyr mawr posibl hynny sydd eisiau buddsoddi mewn buddsoddiad llawn uniondeb ag egwyddorion moesol cryf iawn mewn adfer natur, ond i'w wneud ar ein telerau ni, fel ei fod yn bodloni'r hyn yr ydym eisiau ei wneud yng Nghymru, yn ein cymunedau lleol, ac fel ei fod yn cyd-fynd â'n hamcanion o fewn Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, egwyddorion rheoli tir cynaliadwy a hynny i gyd.

Rwy'n credu y gallwn ddyfeisio cynlluniau a all wneud hynny. Mae rhai datblygiadau arloesol da allan yna eisoes sy'n gwneud hynny, gan gynnwys y gwaith y gwnaethom ei grybwyll sef y prosiect adfer mawn, lle ysgogwyd Dŵr Cymru i roi arian tuag ato. Mae rhywfaint o'r gwaith rydyn ni'n ei wneud ym mhrosiect Teifi eisoes yn gwneud hynny, ac mae hynny'n ddarn diddorol o waith adfer natur yn ogystal ag ansawdd afonydd, gwneud y darn cyfan, gan weithio ar sail dalgylch. Ond rwy'n credu bod mwy y gallwn ni ei wneud, ac mae gen i ddiddordeb yn yr agwedd hon ar gyllid cyfunol, sut mae'n gweithio gyda ni yma yng Nghymru. Rwy'n credu nad yw hon yn drafodaeth yr oeddem yn ei chael mor hawdd, efallai, bum neu 10 mlynedd yn ôl oherwydd llosgwyd bysedd gyda rhai o'r gwersi a ddysgwyd gyda gwrthbwyso carbon ac ati. Ond rwy'n credu, os gallwn ei fframio gyda'n telerau ni ac yna ysgogi arian i mewn, yna gallem ychwanegu at y cwantwm o fuddsoddiad. Ac mae buddsoddi yn bwysig. Nid dyna'r unig beth; mae arnom angen cael strwythur y polisi yn iawn hefyd.

Diolch i chi, gyda llaw, am roi clod i waith da CNC yn y maes hwn. Weithiau maen nhw'n cael eu cystwyo. Mae llawer o bobl yn eu rhoi nhw dan y lach, ond mewn gwirionedd mae'r arbenigedd sydd o fewn CNC a'r gwaith ar lawr gwlad maen nhw'n ei wneud—mae'r prosiect ail-igam-ogamu hwnnw y soniais i amdano gyda'r afon yn hollol gyfareddol. Rydyn ni wedi mynd trwy ganrif neu fwy o sythu a throi afonydd yn gamlesi ac yn y bôn gadael i'r afon redeg yn syth drwodd, gan achosi llifogydd i rywun arall ymhellach i lawr yr afon, rhwygo'r fioamrywiaeth yn gyfan gwbl. Nawr, rydyn ni wedi dysgu mynd yn ôl, gyda dull peirianyddol modern, i'r hen ffyrdd o wneud i'r afon honno weithio'n naturiol ac mae nifer o fanteision. Ond dyna CNC, yn gweithio gyda, a gyda llaw—wrth sôn am swyddi gwyrdd—peirianwyr â chyflog uchel mewn cwmnïau lleol yn mynd i mewn yno i wneud y gwaith ail-igam-ogamu, ond gyda CNC yn cymryd rhan. Ac maen nhw'n gwneud cymaint mwy o ran rhywogaethau a chynefinoedd ledled Cymru ac o ran ansawdd dŵr. Rydyn ni'n falch ein bod yn rhoi mwy o arian tuag at ansawdd dŵr, ond rydyn ni hefyd yn rhoi mwy o arian ym maes gorfodi hefyd, oherwydd gwyddom fod gan y cyhoedd ddiddordeb mawr yn hynny.

Yn olaf, ar yr agwedd—ac ymddiheuriadau i, Peter, oherwydd i chi godi hyn hefyd a doeddwn i ddim yn bwriadu ei anwybyddu. Pan ymddangosais i o flaen y pwyllgor, roeddwn i'n gallu gweld wynebau aelodau'r pwyllgor pan soniais i am yr amserlen ar gyfer cyflwyno'r targedau. Rwy'n effro iawn i hynny. Rydyn ni'n gweithio, fy swyddogion, ond hefyd gyda rhanddeiliaid allweddol, i weld sut y gallwn hwyluso hynny'n bragmataidd, ei gyflwyno gan gael y targedau'n iawn hefyd. Ac mae yna fater hollbwysig yma, oherwydd os caiff y Bil ei gyflwyno a'n bod yn ei yrru drwy'r lle hwn, yna bydd bwrw ymlaen â'r targedau manwl hynny a fydd yn deillio o'r Bil, os dyna'r pwynt yr ydym yn ei gyrraedd, yn gofyn am lefel sylweddol o weithio allan. Bydd yn wir. Ac rwy'n credu, wrth i ni fynd drwy'r pwyllgor, os oes unrhyw beth y gallaf ei wneud o ran briffio technegol ac ati, esbonio'r heriau o wneud hynny ac egluro pam na ellir ei wneud dros nos, yna fe wnawn ni hynny.

Ond y peth arall fyddwn i'n ei ddweud yw, ydym, edrychwch, rydyn ni'n glynu'n dynn wrth yr ymrwymiadau sydd gennym ni ar fioamrywiaeth—atal colli, ond hefyd adfer—ond mae'n heriol. Rydyn ni wedi bod yn sôn am hyn ers sawl blwyddyn. Os cawn ni hyn yn iawn, yna gallwn ei gynyddu a mynd amdani, yna hwn fydd y gwasanaeth mwyaf y gallwn ei wneud i genedlaethau'r dyfodol. Gadewch i ni roi'r fframwaith iddynt gyda'r Bil newydd hwn, gadewch i ni gael y targedau ar waith cyn gynted ag y gallwn ac yna symud ymlaen.

A dyna'r agwedd arall y sonioch chi amdani, am y cynllun hefyd, y cynllun adfer natur. Edrychwch, rydyn ni'n gwybod bod hynny'n orfodol. I ni, ar hyn o bryd, mae'n bwysig iawn bwrw ymlaen â'r camau sydd wedi deillio o'r cynllun yn ei iteriadau blaenorol a mwy, ond bydd yn rhaid i ni gyflwyno hynny mewn gwirionedd. Ond nid yw absenoldeb cynllun yn golygu diffyg gweithredu. Rydyn ni'n symud ymlaen. Disgrifiais yn fy natganiad agoriadol lawer o'r pethau yr ydym yn eu gwneud. 

15:50

A gaf i ddatgan fy mod i wedi bod yn gweithio ar brosiect gyda Llywodraeth Cymru o'r enw 'Iddyn Nhw', o ran rheoli ymylon ffyrdd a glaswelltiroedd amwynder ar gyfer natur, oherwydd ein bod wedi colli 97 y cant o'n dolydd blodau gwyllt dros y 50 mlynedd diwethaf?

Hoffwn ddechrau drwy ddweud bod cysylltu pobl â natur nid yn unig yn helpu iechyd a llesiant corfforol a meddyliol, mae hefyd yn helpu pobl i ddeall pwysigrwydd natur a bioamrywiaeth hefyd, gan eu cysylltu, felly, a gobeithio eu harwain i swyddi hefyd. Rwy'n gwybod, gyda'r cyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, yr ydym wedi'i ddatblygu, 4,000 o safleoedd, yn rhyfeddol, gyda pherllannau, safleoedd peillwyr, rhandiroedd, gerddi therapiwtig, a gyda 20,000 o wirfoddolwyr, sy'n anhygoel, yn cysylltu â natur ac yn dysgu am natur. Mae'r cyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur hefyd wedi helpu i gynnal swyddogion bioamrywiaeth mewn awdurdodau lleol, a fyddai wedi cael eu torri fel arall, ac maen nhw wedi helpu gyda'r gwirfoddolwyr hyn. Felly, hoffwn ofyn i chi, Ysgrifennydd Cabinet: mae angen sawl sector o'r economi, gan gynnwys swyddi gwyrdd, felly pa asesiad sydd gennych o'r potensial ar gyfer swyddi gwyrdd, nid yn unig wrth gefnogi natur, ond ar gyfer tyfu'r economi hefyd drwy natur?

15:55

Rwy'n credu bod y potensial yn enfawr ac mae'n tyfu, nid yn unig yn yr agweddau hynny fel Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, y gronfa rhwydweithiau natur leol a'r holl waith sy'n llifo o hynny, oherwydd mae hyn i gyd—yn ogystal â'r cyfraniad anhygoel gan wirfoddolwyr—yn cael ei ysgogi gan fyddin fach o bobl ar lawr gwlad sydd â gwybodaeth go iawn, naill ai ar ecoleg neu ar reoli gwirfoddolwyr, rheoli prosiectau ac ati—maen nhw'n bobl anhygoel. Ond hefyd, wrth i ni gyflwyno'r cynllun ffermio cynaliadwy, wrth i ni gyflwyno'r strategaeth ar gyfer pren ac wrth i ni fwrw ymlaen â'r goedwig genedlaethol, mae hynny i gyd yn creu cyfleoedd i lawer o bobl ifanc sy'n dod allan o'n colegau addysg bellach a'n colegau addysg uwch, ond hefyd ar gyfer dysgu a gwella parhaus yn y gwaith. Felly, mae'r potensial yma'n enfawr. 

Rydyn ni'n aml yn teimlo'n gyffrous iawn, iawn, yn ddealladwy, ac rwy'n gwybod y bydd y Dirprwy Lywydd yn teimlo felly ynghylch, er enghraifft, y potensial gyda'r moroedd Celtaidd a'r swyddi hynny yn y technolegau newydd hynny o wynt arnofiol, er enghraifft, y gallwch eu creu yn yr harbyrau wrth wasanaethu'r llwyfannau hynny ac ati. Maen nhw'n gyffrous iawn, ond yr un mor gyffrous yw'r potensial o fewn y maes gwyrdd hwnnw o adfer natur. Pwy fydd y rhai sy'n cynghori ar greu gwrychoedd? Pwy fydd y rhai sy'n cynghori ar y pyllau a'r pyllau dŵr tymhorol? Pwy fydd y rhai a fydd yn siarad am y ffordd rydych chi'n rheoli ffosydd, nid yn unig ar gyfer llif dŵr, ond i adfer natur ynddynt ac ati? Mae'r rhain i gyd yn gyffrous iawn, ac rydyn ni'n gwybod y bydd llawer—. Nid yw pob un o'n disgyblion yn mynd i fynd ymlaen i fod yn wleidyddion, diolch byth, oherwydd mae'n ddigon cystadleuol yn barod, neu, o reidrwydd, i fod yn nyrsys neu'n llawfeddygon cardiaidd, neu hwn a'r llall. Bydd rhai ohonyn nhw, ond bydd rhai ohonyn nhw eisiau gweithio yn yr awyr agored yn y maes amgylcheddol, ac mae angen i ni gyflwyno'r sgiliau a'r cyfleoedd hyfforddi hynny iddyn nhw hefyd, ochr yn ochr â'r miloedd ar filoedd o wirfoddolwyr sy'n sbarduno hyn i ni hefyd.

Er gwaethaf polisïau amrywiol, sylwadau bachog a datganiadau o'r fan hon, mae'n deg dweud bod y strategaethau a'r oedi yn y ddeddfwriaeth wedi achosi camau gweithredu annigonol, ac mae'r rhain bellach yn rhwystro ymrwymiadau adfer bioamrywiaeth Cymru. Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, a oedd unwaith yn cael ei galw'n arloesol, wedi methu â sbarduno newid ystyrlon. Mae drafftio gwan a gweithredu gwael iawn wedi golygu nad yw'r amcan rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy wedi'i alinio â nodau bioamrywiaeth. Yn yr un modd, mae'r polisi adnoddau naturiol hen ffasiwn wedi gweld methiant o ran adolygu a chasglu data pwysig, ac mae hyn yn gwneud y cyfan yn aneffeithiol.

Mae un o bob chwe rhywogaeth mewn perygl erbyn hyn. Amlygodd yr Athro Steve Ormerod o Brifysgol Caerdydd yn ein Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith fod y ddeddfwriaeth bresennol sydd gennym wedi methu â gwneud gwahaniaeth wrth leihau colli bioamrywiaeth. Cyd-Aelodau, mae gennym argyfwng natur, ac er gwaethaf galwad gan y Llywodraeth hon—

—i ddatgan argyfwng natur, rydyn ni'n parhau i weld dirywiad yn ein rhywogaethau. Pa gamau ydych chi wir yn eu cymryd, Ysgrifennydd Cabinet, i sicrhau—[Torri ar draws.]—o ran ystadegau ac o ran niferoedd, y cymerir y camau real hynny i atal dirywiad a lleihad ein rhywogaethau? Nid yw'n ddigon da ac mae angen newid arnom.

Diolch, Janet, ac rwy'n tybio yr oeddech yma ar gyfer fy natganiad agoriadol, pan wnes i restru'r cyllid, y prosiectau, y gwirfoddolwyr, yr arbenigedd, y buddsoddiad ychwanegol, neu efallai eich bod wedi colli hynny, ac os felly fe anfonaf gopi o'r araith atoch eto. Ond byddwn yn dweud wrthych, Janet: ymunwch â ni ar y genhadaeth hon a sefyll wrth ein hochr pan fyddwn yn cyflwyno'r polisïau sydd eu hangen i wneud i hyn ddigwydd. Peidiwch â throi eich cefn pan fydd hi'n anodd. Safwch gyda ni. Safwch wrth ein hochr ar y buddsoddiad, ar ôl 14 mlynedd o gyni gwasgedig, a darodd y sector amgylcheddol yn fwy nag unrhyw un arall. Gwelsom y peth yn Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr, a drwyddi draw, diolch i'r Llywodraeth Geidwadol flaenorol honno. O leiaf nawr mae gennym gyfle i gyflwyno £1.5 biliwn ychwanegol i gyllideb Cymru. Rwy'n gobeithio'n fawr y byddwch yn ei chefnogi, oherwydd mae llawer o'r cyllid ychwanegol yr wyf wedi'i gyhoeddi'n ddiweddar yn seiliedig ar yr hyn yr ydym newydd ei ddweud. Felly, rwy'n gobeithio na fyddwch yn pleidleisio yn erbyn natur. Pleidleisiwch drosti mewn cyllid, a phleidleisio dros y polisïau hefyd.

Mae tuedd yma gan feinciau'r Ceidwadwyr, Dirprwy Lywydd, i ddweud nad ydym wedi gwneud dim. Wel, ar y twyni i lawr ger Cwm Ogwr, lle roeddwn i'n cerdded y penwythnos diwethaf gyda grŵp o wirfoddolwyr, ac ymunodd y Prif Weinidog â ni hefyd, yn y niwl, yr oerni ofnadwy, roedd prosiect 20, 30 mlynedd o hyd i achub y glöyn byw y fritheg frown. Mae'n un o ddim ond tri safle yn y Deyrnas Unedig. Dyma'r unig un lle mae'r fritheg frown bellach yn cael ei hadfer, ac mae yno oherwydd gwaith y gwirfoddolwyr, wedi ymrwymo dros ddegawdau, ac mae hynny oherwydd buddsoddiad parhaus hefyd, ac arbenigedd gan CNC, a'r holl bobl hynny sydd eisiau gweld rhywogaeth yn cael ei hachub, a thrwy wneud hynny, roedd cynefin arbennig yr iseldir hwnnw hefyd yn cael ei warchod. Gallwn wneud hyn. Gallwn yn sicr wneud hyn. A dydw i ddim fel Jeremeia. Ni fyddaf yn rhywun sy'n dweud, 'Mae'r cyfan yn ddigalon, ac mae'r cyfan yn anobeithiol', oherwydd fel yna bydd pobl ifanc y wlad hon hefyd yn troi i ffwrdd ac yn dweud, 'Wel, ni allwn wneud unrhyw beth, beth bynnag.' Os gwrandewch ar feinciau'r Ceidwadwyr, mae hi ar ben arnom ni i gyd.

Nid bygythiad a her i Gymru yn unig yw'r un o bob chwe rhywogaeth. Mae'r un peth yn wir ar draws yr ynysoedd hyn i gyd; mae'r un peth yn wir yn fyd-eang hefyd. Mae angen i ni wneud pethau'n well, ac yn hytrach na beio rhywun arall, dywedwch, 'Beth yw rôl y Llywodraeth? Beth yw rôl pobl eraill yn y maes hwn? 'Beth yw ein rôl ni fel cynrychiolwyr etholedig, i sefyll yn unol â'n hegwyddorion, ac nid yn unig y bydd y cyllid, ond hefyd bydd y polisïau yn gwneud i hyn ddigwydd.' Bydd hyn yn digwydd, a bydd yn rhoi heriau, Janet, o ran datblygu, amaethyddiaeth, defnydd tir, cynllunio cymunedol, yr hyn a wnawn mewn mannau trefol hefyd. Pan fydd y rhain yn digwydd, yn seiliedig ar yr hyn yr ydych newydd ei ddweud, rwyf eisiau i chi sefyll wrth ein hochr a glynu wrth eich egwyddorion yr ydych newydd eu harddel a pheidio â phleidleisio yn erbyn natur.

16:00

Gofynnaf i'r Aelodau fod yn gryno a chadw at eu terfynau amser. A gaf i hefyd ofyn i'r Ysgrifenyddion Cabinet fod yn gryno yn eu hymatebion?

Rwy'n croesawu datganiad y Llywodraeth. Effeithir arnom gan ddau ffactor allanol. Mae newid hinsawdd, tymereddau cynhesach a phatrymau tywydd sy'n newid yn amharu ar gydbwysedd arferol natur, gan beri risgiau i bob math o fywyd. Mae'n gwneud rhai ardaloedd yn anaddas ar gyfer rhywogaethau brodorol trwy fod naill ai'n rhy wlyb neu'n rhy gynnes. Mae gennym lygredd ac ewtroffigedd, lle mae crynodiadau uchel o faethynnau, fel nitrogen, yn ysgogi gordyfiant algâu mewn afonydd, fel Afon Gwy, a all, yn ei dro, ladd pysgod ac achosi colli planhigion ac anifeiliaid. Mae'n hysbys iawn bod llygryddion gwenwynig yn yr awyr, neu ddyddodion ar bridd neu ddŵr wyneb, yn gallu effeithio ar fywyd gwyllt mewn sawl ffordd. Mae anifeiliaid yn profi problemau iechyd os ydynt yn agored i grynodiadau digonol o wenwynau aer dros amser. Mae astudiaethau'n dangos bod gwenwynau aer yn cyfrannu at ddiffygion, methiant atgenhedlu a chlefyd mewn llawer o anifeiliaid. Er mwyn adfer natur, mae'n rhaid i ni ymdrin â newid hinsawdd a llygredd. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leihau llygredd, gan gynnwys llygredd afonydd? Mae angen ysglyfaethwyr pen uchaf arnom hefyd, neu bydd anifeiliaid fel llygod mawr yn parhau i gynyddu mewn niferoedd. Pa gynigion sydd gan Lywodraeth Cymru i gynyddu nifer yr ysglyfaethwyr pen uchel, fel tylluanod?

Diolch yn fawr iawn, Mike. O ran llygredd—i'w gadw'n fyr iawn—mae yna amrywiaeth o bethau y gallwn ni eu gwneud ar hyn. Dyna'r plaladdwyr rydyn ni'n eu defnyddio, a'r gwaith rydyn ni'n ei wneud i leihau'r plaladdwyr, nid yn unig o ran amaethyddiaeth, ond hefyd o ran y ffordd rydyn ni'n eu defnyddio gyda'n hawdurdodau trefol hefyd. Mae gwaith da yn digwydd yn y maes yna. Mae angen i ni wneud yr arfer da yn arfer gyffredin ac yn safonol. Dyma'r hyn rydyn ni'n ei wneud o ran ansawdd dŵr—a soniais yn fy natganiad am y £40 miliwn ychwanegol rydyn ni'n ei roi i CNC—ond dyma'r gwaith rydyn ni'n ei wneud hefyd gyda phobl fel Afonydd Cymru ac eraill, gan weithio gyda phartneriaid, gydag ymddiriedolaeth afon Tywi ac eraill, i lanhau ein hafonydd, cael gwared ar rwystrau, eu gwneud yn fwy cyfeillgar i wahanol rywogaethau sy'n dychwelyd i'r ardaloedd hynny.

A dim ond yn fyr iawn, fe wnaethoch chi sôn am ysglyfaethwyr hefyd; rydyn ni'n cydnabod pwysigrwydd ysglyfaethwyr pen uchaf a'u rôl o fewn swyddogaethau bioamrywiaeth ac ecosystem, felly rydyn ni'n croesawu'r gwaith a'r ymchwil sy'n cael ei wneud ledled Cymru ar bethau fel ailgyflwyno rhywogaethau mewn ffordd a reolir, gan gydnabod pwysigrwydd dilyn y canllawiau rhyngwladol gorau, a hefyd wrth gwrs ymgysylltu â rhanddeiliaid, ymgysylltu'n lleol, a chynnal y gwaith o gasglu tystiolaeth leol hefyd. Mae rôl i'r ailgyflwyno hwn mewn ffordd a reolir, mewn ffordd sy'n cael ei harwain gan dystiolaeth, ond hefyd yn seiliedig ar ymgysylltiad da â'r cymunedau yr effeithir arnynt hefyd.

16:05

Diolch am yr holl waith gwych a ddisgrifiwyd gennych, sy'n digwydd lledled Cymru gyfan. Hoffwn ddiolch yn arbennig i chi am lynu wrth eich safbwynt o ran sicrhau y bydd yn rhaid i unrhyw un sy'n ymuno â'r cynllun ffermio cynaliadwy sicrhau bod 10 y cant o'u fferm ar gael ar gyfer adfer cynefinoedd. Mae hynny'n hynod o bwysig. Edrychaf ymlaen at y ddeddfwriaeth, a fydd yn ein galluogi i fod â thargedau cadarn ac ymestynnol, oherwydd mae hyn yn rhywbeth y mae'n rhaid i ni ei ddatblygu gyda'n gilydd, fel arall ni fydd gan genedlaethau'r dyfodol unrhyw natur.

Yr wythnos diwethaf, ymwelais â gwarchodfa natur Howardian, sydd wedi'i rhyngosod rhwng ystad dai, safle rhandir poblogaidd a phriffordd pedair lôn fawr. Roedd yn safle gwaredu sbwriel yn flaenorol, ac mae bellach yn gartref i dros 500 o rywogaethau o fflora a ffawna, sydd ond yn dangos yr hyn y gellir ei wneud gydag unrhyw le. O ystyried maint yr argyfwng natur a achoswyd gan y rhyfel ar chwyn a phryfed dros 60 mlynedd, sut allwn ni ddefnyddio pob darn bach o dir i feithrin natur, gan gymell pobl i ddefnyddio eu gerddi eu hunain neu fannau cyhoeddus i dyfu bwyd a phlanhigion eraill fydd yn meithrin natur?

Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn yna. A gyda llaw, nid oedd gofyn i rywun gytuno ar gynefin o 10 y cant fel rhan o'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn dasg anodd. Roedd y ffermwyr wir eisiau dod gyda ni ar hyn, ac mae hyn yn wych, felly rwy'n teimlo'n gyffrous iawn ynghylch hynny a'r dull cydweithredol sy'n dweud bod angen i ni i gyd wneud hyn a chyfrannu ato.

Mae gan y cyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur sy'n mynd i bethau fel gwarchodfa natur Howardian ac eraill—rwy'n gwybod eich bod yn hyrwyddo hyn ac rydych chi'n ymweld â llawer o'r safleoedd hyn—mewn gwirionedd yn cael y manteision lluosog hynny, oherwydd ei fod yn adfer mannau gwyrdd yn y pocedi hynny o amgylcheddau trefol a fyddech gynt wedi eu hanwybyddu neu eu gadael fel yr oedden nhw, mewn rhyw fath o gyflwr adfeiliog, sydd bellach yn cael eu cyfoethogi ar gyfer bioamrywiaeth, ond hefyd y buddion cymunedol ehangach hynny, gan gynnwys, yng nghanol problemau costau byw ac ati, gan alluogi pobl i fwydo eu hunain hefyd, naill ai trwy blannu perllannau neu drwy dyfu bwyd a chynnyrch neu fforio hefyd. Mae'n wirioneddol wych.

Byddwn yn parhau i weithio gyda chymunedau drwy roi'r cyllid ar waith fel y gallant gael mynediad at y rheini i wneud y pethau manwl hynny mewn rhannau bychain o'u cymuned leol eu hunain lle gallant weld gwelliannau yn cael eu gwneud. Byddech chi'n meddwl, 'Wel, pam ar y ddaear y byddai'r bobl hyn yn barod i wneud hyn? Pwy fyddai'n ceisio sicrhau mynediad at hyn er mwyn gwneud hynny?' Ond mewn gwirionedd, rwy'n credu bod pob Aelod o'r Senedd yma bellach yn gweld nid yn unig un neu ddau o'r rhain, ond ugeiniau o'r rhain o fewn eu hetholaethau eu hunain. Mae pobl eisiau gwneud y gwelliannau hyn. Maen nhw'n sylweddoli o'r galon pam mae hyn yn bwysig. Felly, byddwn, Jenny, byddwn yn parhau i ddarparu cefnogaeth i'r mentrau hyn ac annog cymunedau i fod yn rhan o'r genhadaeth wych hon yr ydym arni. Unwaith eto, rydyn ni i gyd yn rhan o hyn gyda'n gilydd.

Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd Cabinet, am eich datganiad, am y cyhoeddiadau rydych chi wedi'u gwneud heddiw, ac am eich brwdfrydedd ynghylch y maes gwaith hanfodol hwn. Rwy'n arbennig o gefnogol i ymrwymiad Llywodraeth Cymru i blannu coed a chreu coedwig genedlaethol. Yng Nghaerdydd, bwriad prosiect Coed Caerdydd yw creu coedwig drefol. Dim ond ddoe, dechreuodd gwirfoddolwyr blannu'r 50 o rywogaeth brin o goeden afalau Gabalfa ym mharc Gabalfa a pharc Maitland yn fy etholaeth i. Mae'n 100 mlynedd ers i'r rhywogaeth hon o goeden afalau gael ei gweld yng Nghaerdydd, felly mae'n hollol wych ei bod yn cael ei hailgyflwyno. Hoffwn bwysleisio hefyd bwysigrwydd cael pobl allan i fyd natur, yn enwedig mewn ardaloedd adeiledig trefol fel y mae Jenny wedi cyfeirio atynt. Mae Gerddi Byd-eang yn brosiect tyfu cymunedol, eto yn ardal Gabalfa, ardal adeiledig yng Nghaerdydd, ac mae'r gwaith maen nhw'n ei wneud gyda gardd gegin organig wedi creu cymaint o argraff arnaf, gan ddathlu cnydau o bob cwr o'r byd, maen nhw'n rhedeg ysgol goedwig, sesiynau synhwyraidd therapiwtig, dysgu yn y gymuned a sesiynau arbenigol—

16:10

—gyda cheiswyr lloches a ffoaduriaid. A fyddai'r Ysgrifennydd Cabinet yn cytuno mai'r mathau hyn o fentrau sy'n gwbl hanfodol? Dylem fod yn eu dathlu yma yn y Senedd heddiw ac yn ceisio eu hailadrodd ledled Cymru. 

Yn hollol, Julie, a diolch am hyrwyddo hyn yn eich maes eich hun yn y nifer fawr o fentrau hyn rydym bellach yn eu gweld. Dyma'r rhan gyffrous o hyn, oherwydd nid yw'n ymwneud â rhywun yn dod i mewn o'r tu allan i ddweud, 'Dyma beth rydych chi'n ei wneud'. Y gymuned eu hunain sy'n cydio yn hyn ac yn dweud, 'Gallwn weld cyfle yma'. Rydw i'n edrych ymlaen yn fawr at flasu ffrwythau coeden afalau Gabalfa yn llythrennol, oherwydd mae hyn, unwaith eto, wrth fynd i'r llinellau treftadaeth hyn y byddem fel arall yn eu colli, yn hollol anhygoel.

Mae'r dull gerddi cymunedol, fel rhan o'r prosiect Gerddi Byd-eang, yn anhygoel, oherwydd rydym yn bwriadu mynd i'r afael ag ardaloedd sydd wedi tyfu'n wyllt ac yn dioddef tipio anghyfreithlon a oedd gynt wedi mynd yn anialwch, creadigaethau gwrychoedd newydd, dolydd newydd, amddiffyn rhywogaethau - gludlys codrwth, suran y cŵn, troed yr iâr, sydd yn fy ngardd innau hefyd, gyda llaw, er diddordeb—coed afalau newydd, gwelyau mawr o blanhigion peillio brodorol yn cael eu plannu, ac mae hyn i gyd gyda chymuned wrth ei wraidd, pobl a natur gyda'i gilydd. 

Ond ar ben hyn, Dirprwy Lywydd, mae gennym ni bethau fel Coetiroedd Bach. Yn ddiweddar, ymwelais â phrosiect yn sir Fynwy ar hyn, a gwelais blant ifanc yn gwneud cynllun plannu bioamrywiol iawn, ymhell y tu hwnt i'r hyn y byddech chi'n ei weld yn digwydd yn naturiol, mewn darn bach o dir lle roedd tirfeddiannwr wedi rhoi mynediad iddo ac wedi creu'r llwybrau gyda'n cyllido ni hefyd. Ac roedd yn arbrawf mor wych mewn bioamrywiaeth. Felly, ym mhob un o'r pethau hyn, gall ein cyllido fynd yn bell. Yr hyn y mae'n ei ryddhau yw potensial pobl wedyn i gymryd rhan go iawn a dod â llawer mwy iddo. 

Ysgrifennydd Cabinet, roedd yn dda mynd gyda chi ar eich ymweliad diweddar â gwastadeddau Gwent, ac rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno bod hyn yn enghraifft dda iawn o sut mae tir wedi'i ddatblygu ar gyfer natur a phobl. Mae gennym ni'r gardwenynen feinlais, llygoden bengron y dŵr, y gylfinir gobeithio—llu o fioamrywiaeth yn dod yn ôl i'r ardal honno o dir. Mae gennym y bartneriaeth Lefelau Byw sy'n ysgogi cyfranogiad cymunedol, a'r penderfyniad i beidio â bwrw ymlaen â ffordd liniaru'r M4 gan ddarparu'r potensial o dir yn cael ei neilltuo ar gyfer y prosiect hwnnw sydd bellach yn cael ei ddefnyddio ar gyfer natur a mynediad i gymunedau. Ac, wrth gwrs, mae gwarchodfa gwlyptiroedd yr RSPB. Mae'n ardal unigryw a gwych ac mae cefnogaeth gymunedol wedi datblygu mor sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf. Rwy'n siŵr y byddech yn cytuno â mi, Ysgrifennydd Cabinet, fod hon yn enghraifft bwysig iawn o sut y gallwn fwrw ymlaen â pholisi ar gyfer natur a phobl yma yng Nghymru.

John, rwy'n cytuno'n llwyr â chi. Roedd yn ymweliad hyfryd, a gallaf ddweud yn onest mai dyma'r tro cyntaf—. Ai heddiw neu yfory ydyw? Ai'r ail ar hugain yw hi heddiw? Yfory. Rwy'n 62 yfory, a dyna'r tro cyntaf i mi weld murmur y drudwy yn digwydd. Rydw i wedi ei weld ar y teledu; doeddwn i erioed wedi sefyll mewn cae yn y gwastadeddau a gweld hynny'n digwydd, ac roedd yn eithaf hudolus. Ond yn ogystal â hynny, cyfarfod yno gyda rhai o'r arbenigwyr ar lawr gwlad, ond hefyd gweld nifer y bobl leol oedd yn dod yno y noson honno hefyd, a oedd yn cynnal sesiwn yno i ddysgu amdano ac yna dod allan i wylio, ac yna byddai gwirfoddolwyr yn gwneud gwaith o amgylch hynny yno hefyd. 

Dyma'r gobaith a'r optimistiaeth y gallwn ei roi. Mae'n hollol gywir bod angen i ni wneud mwy, llawer mwy, gyda'n gilydd, ac mae gennym rôl i'w chwarae ynddo, ond yr hyn y gallwn ei ddweud mewn gwirionedd yw, gyda'r gwaith sydd wedi'i wneud yno, y gwaith sydd wedi'i wneud ar dwyni Ogwr gyda'r fritheg frown ac eraill, y gallwn achub rhywogaethau. Gallwn newid hyn er gwell a gallwn achub cynefinoedd hefyd. Maen nhw'n mynd gyda'i gilydd fel un darn a dyna'n union sy'n digwydd yng ngwastadeddau Gwent. Felly, diolch i chi a phawb a ddaeth allan gyda mi y diwrnod hwnnw. Roedd yn wirioneddol ysbrydoledig ac yn foment arbennig ar ôl 62 mlynedd cael gweld y murmur hwnnw'n digwydd hefyd, oherwydd y cynefin sy'n cael ei ddiogelu. 

16:15

Diolch. Mae rhai pethau gwych yn digwydd, yn enwedig mewn rhai o'r ysgolion sy'n cael eu hariannu hefyd, ac os ydym yn mynd i wneud unrhyw beth cadarnhaol wrth symud ymlaen, byddwn yn dibynnu ar y genhedlaeth nesaf. Felly, Ysgol y Bedol, sydd yn fy ardal i yn sir Gaerfyrddin, oedd yr ysgol gymunedol gyntaf un yng Nghymru. Mae ganddyn nhw raglen wych o dyfu, gofalu a choginio'r cynnyrch. Mae'r plant mor frwdfrydig, mor frwdfrydig. Mae ganddyn nhw fferm trychfilod yno ac mae ganddyn nhw gwch gwenyn sy'n datblygu. Felly, mae hynny'n enghraifft wirioneddol o fuddsoddiad a brwdfrydedd gan yr holl staff yn yr ysgol honno, a'r garddwr sy'n eu dysgu, gan ymgysylltu'n wirioneddol â'r genhedlaeth nesaf i warchod natur, wrth symud ymlaen.

Joyce, diolch yn fawr iawn, a llongyfarchiadau mawr i'r rhai yn Ysgol y Bedol. Ac mae'n rhaid i mi ddweud, wrth yr holl ysgolion hynny sydd bellach ledled Cymru, yr effaith enfawr y mae Eco-Ysgolion—dyma Gymru'n arwain eto—wedi ei chael yn y maes hwn. Mae plant yn dod allan o'r ysgolion nawr, Joyce—bydd yr holl Aelodau yn gwybod—maen nhw'n ysgrifennu llythyrau at bob un ohonom, i ddweud, 'Beth arall ydych chi'n mynd i'w wneud? Rydyn ni'n gwneud hyn, rydyn ni'n gwneud ein rhan fach; beth ydych chi'n mynd i'w wneud nawr?' Ac mae hynny'n wych, dyna'r ymdrech sydd ei hangen arnom. Ond, ie, trychfilod, gwenyn, tipyn o faw ar y llaw, baw o dan yr ewinedd—dyma'r hyn y mae teimlo a chyffwrdd â natur yn ysbrydoli ein pobl ifanc i'w wneud, ac yna beth rydyn ni eisiau wedyn, yw mynd â hynny drwodd i'w blynyddoedd hŷn, fel pobl yn eu harddegau hwyr, i mewn i'r ysgol uwchradd, ac fel oedolion, a pheidio byth â rhoi'r gorau, mewn gwirionedd i'n herio ni i wneud mwy. Ond dyna nodyn o optimistiaeth hefyd: mae'n ymwneud â'n pobl ifanc ni.

5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Mynediad at Wasanaethau Gofal Sylfaenol a Chymunedol

Eitem 5 yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar fynediad at wasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Jeremy Miles.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae gofal sylfaenol yn greiddiol i'r gwasanaeth iechyd. Dyma sut mae'r mwyafrif ohonon ni'n dod i gysylltiad â gwasanaethau gofal iechyd. Os oes angen gofal mwy arbenigol arnon ni, mae'n agor y drws i'r gwasanaethau hynny. Heddiw, mae gweithwyr gofal sylfaenol yn gweld mwy o bobl nag erioed. Maen nhw'n darparu ystod ehangach o wasanaethau, sy'n golygu bod mwy o ofal ar gael i bobl yn agosach at eu cartrefi, ac yn gyflymach. Rŷn ni'n buddsoddi yn sgiliau gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ac yn ehangu cwmpas yr ymarfer ym maes gofal sylfaenol. Rŷn ni'n ariannu cymwysterau i helpu i ddarparu llwybrau clinigol newydd ym maes optometreg. Rŷn ni'n gwneud newidiadau deddfwriaethol i alluogi technegwyr fferyllol i ddarparu gwasanaethau clinigol. Rŷn ni hefyd wedi datrys y mater rheoleiddio oedd yn atal therapyddion a hylenyddion deintyddol rhag gallu rhoi triniaethau yn annibynnol. Mae'r newidiadau yma nid yn unig yn gwneud y proffesiynau hyn yn fwy deniadol, ond maen nhw hefyd yn galluogi'r gweithlu i ddarparu mwy o wasanaethau.

Dirprwy Lywydd, rŷn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i ofal sylfaenol yng Nghymru, ym meysydd optometreg, fferylliaeth, deintyddiaeth y gwasanaeth iechyd a gwasanaethau meddygon teulu. Ein bwriad yw parhau i wneud newidiadau o'r fath. Rwyf am ddefnyddio'r cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am y cynnydd ymhob un o'r meysydd hyn.

Mae'r maes optometreg wedi cael ei ddiwygio yn sylweddol erbyn hyn. Mae newidiadau i'r contract wedi ehangu cwmpas y gwasanaethau sydd ar gael yn y gymuned. Bellach mae optometryddion ar y stryd fawr yn gallu rheoli, monitro a thrin nifer cynyddol o gyflyrrau llygaid, gan ddarparu gofal amserol yn agosach at y cartref. Mae hyn wedi lleihau'r pwysau ar feddygon teulu ac ysbytai. Mae dros 2,000 o ymgynghoriadau y mis yn cael eu cynnal gan optometryddion presgripsiynu annibynnol yn y gymuned.

Mae diwygiadau cytundebol hefyd yn trawsnewid fferylliaeth gymunedol. Gwnes i gychwyn y diwrnod heddiw mewn fferyllfa ar y stryd fawr yn y Barri, a diolch i Gwawr Elis Jones a'r tîm am eu croeso. Mae £9.9 miliwn ychwanegol wedi cael ei ddarparu fel rhan o fframwaith cytundebol fferylliaeth gymunedol eleni. Mae hyn yn gynnydd o 24 y cant yn y cyllid ers 2016-17. Bellach mae 99 y cant o fferyllfeydd yn rhoi triniaeth am ddim ar gyfer 28 o gyflyrau drwy'r gwasanaeth anhwylderau cyffredin: poen yn y cefn, yn y llwnc—edrychwch arlein am y rhestr ehangach o'r rheini.

Dirprwy Lywydd, cafodd dros 400,000 o bobl eu gweld a'u trin gan y gwasanaeth y llynedd. Dywedodd wyth o bob 10 o bobl y bydden nhw wedi mynd i rywle arall am help pe bai'r gwasanaeth yma ddim ar gael. Cymru yw'r wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gyflwyno gwasanaeth presgripsiynu mewn fferyllfeydd cymunedol sy'n cael ei gomisiynu'n genedlaethol.

Gall fferyllwyr hyfforddedig drin ystod ehangach o gyflyrau, fel heintiau'r glust, y trwyn a'r gwddf, heb fod angen ymweliad meddyg teulu. Ers ei lansio yn 2020, mae tua thraean o fferyllfeydd wedi mabwysiadu'r gwasanaeth rhagnodi annibynnol hwn. Cafwyd mwy na 0.25 miliwn o ymgynghoriadau. Mae'r ddau wasanaeth fferylliaeth hyn yn darparu mynediad cyflym a chyfleus i ofal ar gyfer ystod eang o fân afiechydon heb fod angen apwyntiad meddyg teulu, gan gefnogi gwasanaethau meddygon teulu i weld pobl ag anghenion iechyd mwy cymhleth.

Dirprwy Lywydd, rwy'n troi yn awr at ddeintyddiaeth y GIG. Mae'r amrywiad a wnaethom i'r contract presennol, sy'n canolbwyntio ar atal a thrin pobl ar sail risg ac anghenion, yn golygu bod mwy na 420,000 o gleifion newydd wedi derbyn cwrs llawn o driniaeth ers mis Ebrill 2022. Mae dros 142,000 yn fwy o bobl wedi derbyn gofal brys hefyd. Nid yw'r trefniadau hyn yn berffaith, ond maen nhw wedi gwneud gwahaniaeth i bobl sydd wedi cael trafferth cael mynediad at ddeintyddiaeth y GIG ers dechrau'r pandemig.

Rydym yn canolbwyntio ar gontract deintyddol newydd, a fydd yn gwneud deintyddiaeth y GIG yn ddeniadol i'r proffesiwn ac yn decach i gleifion. Rydym yn disgwyl ymgynghori ar y contract deintyddol newydd yn y gwanwyn. Yn y cyfamser, rydym yn gweithredu cynnydd o 6 y cant i'r contract. Rydym wedi bod yn gweithio gyda Chymdeithas Ddeintyddol Prydain i ddatblygu hyn, ac rwy'n bwriadu cael y contract ar waith yn gynnar yn 2026.

Rhan olaf y darlun gofal sylfaenol, a'r rhan fwyaf cyfarwydd efallai, yw ymarfer cyffredinol. Mae practisau meddygon teulu yn darparu 1.6 miliwn o apwyntiadau bob mis. Mae hynny'n cyfateb i weld hanner poblogaeth Cymru. Rydym wedi negodi diwygiadau helaeth i ymarfer cyffredinol i wella mynediad dros y blynyddoedd diwethaf. Rydym newydd ailddechrau trafodaethau gyda Phwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol Cymru mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol bresennol. Mae'n ofynnol i bractisau weithredu systemau trin galwadau priodol i reoli'r nifer uchel o alwadau ac osgoi dychwelyd galwadau di-ri. Mae'n ofynnol iddynt gynnig ffordd ddigidol i bobl ofyn am ymgynghoriadau nad ydynt yn rhai brys a sicrhau bod mynediad ffisegol rhwng 8.30 yn y bore a 6 p.m. bob diwrnod gwaith.

Er gwaethaf y newidiadau hyn ac ymdrechion parhaus timau ymarfer gweithgar, gwn y gall pobl deimlo'n rhwystredig pan fyddant yn teimlo na allant gysylltu â'u practis neu'n ei chael hi'n anodd cael apwyntiad, ond mae gwasanaethau gofal sylfaenol eraill a all helpu, fel fferyllfeydd, fel mai dim ond y rhai hynny sydd angen apwyntiad meddyg teulu sy'n ceisio apwyntiad meddyg teulu. Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae yn hynny. Nid oes rhaid i'r feddygfa fod yr unig opsiwn, ac nid dyma'r opsiwn mwyaf priodol bob amser.

Rwyf eisiau defnyddio gweddill y datganiad, Dirprwy Lywydd, i siarad am y newidiadau rydym wedi'u gwneud i wella mynediad at wasanaethau cymunedol, sy'n chwarae rhan bwysig wrth helpu pobl i fyw'n annibynnol gartref.

O fis Ebrill 2023 fe wnaethom ddarparu £5 miliwn ychwanegol o gyllid rheolaidd i fyrddau iechyd i ehangu gwasanaethau proffesiynol perthynol i iechyd cymunedol. Mae hyn wedi creu mwy na 100 o swyddi newydd, gan gynnwys ffisiotherapyddion, dietegwyr, therapyddion galwedigaethol, seicolegwyr, therapyddion lleferydd ac iaith, podiatryddion ac ystod o staff cymorth. Ac mae nifer y nyrsys ardal wedi cynyddu 49 o swyddi cyfwerth ag amser llawn ers mis Tachwedd 2023. Mae hyn, yn ei dro, wedi cynyddu gwaith dros y penwythnos. Mae'r staff newydd hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, mae amseroedd aros troed ddiabetig frys wedi lleihau o bedair wythnos i 48 awr gan ddefnyddio gwasanaethau podiatrydd. Mewn un mis yn unig, helpodd gweithlu proffesiynol perthynol i iechyd estynedig Bae Abertawe 240 o oedolion hŷn trwy ymyrraeth gynnar, rheoli cydafiachedd cymhleth a chymorth diwedd oes, gan atal 110 o dderbyniadau i'r ysbyty. Ac mae rhaglen rhagsefydlu orthopedig Caerdydd a'r Fro, sy'n cefnogi pobl sy'n aros am lawdriniaeth ar y glun a'r pen-glin trwy ymarfer corff a chefnogaeth gan gymheiriaid, wedi adrodd am ganlyniadau ôl-lawdriniaeth sylweddol ac enillion cymdeithasol ar fuddsoddiad o £2.86 am bob £1 sy'n cael ei gwario.

Dirprwy Lywydd, rwy'n glir mai parhau i fuddsoddi a diwygio gwasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol yw'r peth iawn i'w wneud i'r cyhoedd ac i'r GIG ehangach. Un o fy mhrif flaenoriaethau yn fframwaith cynllunio'r GIG 2025-2028, a gyhoeddais cyn y Nadolig, yw meithrin capasiti yn y gymuned. Rwy'n disgwyl i gynlluniau lleol ddangos camau i barhau i wella mynediad at y gofal cywir, gan y gweithiwr iechyd proffesiynol cywir, ym mhob cymuned ledled Cymru. Ond wrth i ni barhau i wneud newidiadau i wella gwasanaethau, mae'n rhaid i ni sicrhau bod mynediad yn hawdd ac yn gyson ledled Cymru fel bod pobl yn deall i ble y gallant fynd i gael y gofal cywir ar gyfer eu hanghenion.

Yn olaf, Dirprwy Lywydd, ac yn bwysig, hoffwn ddiolch i bawb sy'n gweithio mewn gwasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol. Mae eu hymrwymiad a'u cydnerthedd parhaus wedi bod yn gwbl allweddol wrth ddiwygio gwasanaethau yn barhaus i wella mynediad a chanlyniadau i bobl ledled Cymru.

16:25

Hoffwn ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei ddatganiad heddiw, a hoffwn hefyd ddiolch i'r holl bobl hynny sy'n gweithio ym maes gofal cymunedol a gofal sylfaenol, ar hyd a lled Cymru.

Ysgrifennydd Cabinet, o ran y £5 miliwn o gyllid cylchol ar gyfer gwasanaethau proffesiynol perthynol i iechyd cymunedol, byddai'n ddiddorol gwybod gennych sut mae'r arian hwnnw'n cael ei ddyrannu ar draws byrddau iechyd ledled Cymru, a sut mae Llywodraeth Cymru yn olrhain hynny i fesur ar gyflawnadwyedd ar draws y gwasanaeth. Nododd y datganiad fod gweithwyr gofal sylfaenol proffesiynol yn rheoli mwy o lwyth cleifion ac yn cynnig ystod ehangach o wasanaethau yn nes at adref. Eto i gyd, mae'r data o ymgyrch Achubwch ein Meddygfeydd Cymdeithas Feddygol Prydain yn datgelu tueddiadau pryderus. Ar 31 Mawrth y llynedd, gostyngodd nifer y meddygfeydd yng Nghymru o 474 i lawr i 374—gostyngiad o 100 o feddygfeydd—ac mae nifer y meddygon teulu cyfwerth ag amser llawn wedi gostwng 25 y cant ers 2012, gyda gostyngiad pellach o 3.8 y cant ers sefydlu'r ymgyrch yn 2023. Felly, o ystyried yr ystadegau hyn, Ysgrifennydd Cabinet, sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd i'r afael nifer y meddygfeydd teulu sy'n lleihau i'r gymhareb claf/meddyg teulu sy'n cynyddu, er mwyn sicrhau y gall pobl gael y gofal effeithlon hwnnw ar draws Cymru? Oherwydd, rydyn ni wedi clywed enghreifftiau, onid ydyn ni, gan Aelodau? Rwy'n meddwl am Alun Davies, i fyny ym Mlaenau Gwent, am bractis eHarleyStreet, am nifer y bobl yno yn gweld nifer y meddygon teulu sydd ar gael.

Mae ymrwymiad y Llywodraeth i uwchsgilio gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn ganmoladwy iawn. Fodd bynnag, mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol wedi tynnu sylw at rai heriau sylweddol ac, yn 2024, dywedodd bron i 20 y cant o feddygon teulu eu bod yn teimlo dan straen ac nad oeddent yn gallu ymdopi â'r rhan fwyaf o ddyddiau, a bod dros 40 y cant yn profi teimladau o'r fath o leiaf unwaith neu ddwywaith yr wythnos, ac mae mwy na 40 y cant o feddygon teulu yn ystyried gadael y proffesiwn o fewn pum mlynedd. Gan nodi cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a'r straen fel ffactorau sylfaenol. O ystyried yr ystadegau hyn, Ysgrifennydd Cabinet, pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi ar waith i er mwyn gwella llesiant meddygon teulu a'u cadw, i sicrhau ein bod yn buddsoddi mewn hyfforddiant, a'i fod yn trosi i ofal cleifion parhaus ledled Cymru?

Fe sonioch chi am wasanaethau optometreg a fferylliaeth, ac mae ehangu'r gwasanaethau hynny yn ddatblygiad cadarnhaol. Mae'n rhywbeth yr ydym ni ar y meinciau hyn yn ei groesawu. Fodd bynnag, mae effeithiolrwydd y gwasanaethau hyn yn dibynnu ar ymwybyddiaeth a hygyrchedd i'r cyhoedd, onid ydyw? Cyflwynodd Iechyd Cyhoeddus Cymru y dangosfwrdd clystyrau gofal sylfaenol newydd ym mis Medi'r llynedd i gynorthwyo gyda'r gwaith o gynllunio a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r dangosfwrdd hwn i hyrwyddo a monitro effeithiolrwydd gwasanaethau optometreg a fferylliaeth estynedig i sicrhau bod mynediad teg i bob cymuned? Ac fel y dywedais i, mae angen i ni sicrhau bod pobl yn gwybod bod y gwasanaethau hyn ar gael. Nid yw llawer o bobl rwy'n siarad â nhw yn gwybod am y gwasanaeth anhwylderau cyffredin, ac mewn gwirionedd gallant fynd at eu fferyllfeydd i gael trafod y cyflyrau hyn mewn gwirionedd—fel y dywedais i, dolur gwddf a gwahanol bethau, heintiau'r frest, er enghraifft—felly mae'n dda gwybod beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo hynny ar draws y system.

Fe grybwyllodd y datganiad ddeintyddiaeth. Er bod y datganiad yn nodi bod dros 420,000 o gleifion newydd wedi cael triniaeth ddeintyddol lawn ers mis Ebrill 2022, mae mynediad at ddeintyddiaeth y GIG yn parhau i fod yn bryder. Pwysleisiodd maniffesto etholiad cyffredinol Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol 2024 yr angen am opsiynau gyrfa cynaliadwy ym maes deintyddiaeth y GIG. Felly, pa strategaethau sy'n cael eu gweithredu i sicrhau bod deintyddiaeth y GIG yn ddewis gyrfa deniadol a chynaliadwy? Oherwydd, mae llawer o'r deintyddion yr wyf i'n siarad â nhw yn dweud na allant fforddio parhau i wneud yr hyn maen nhw'n ei wneud nawr. Ac fe ddywedoch chi am y diwygiadau contract sy'n dod i rym, yr ydych yn gobeithio y byddant ar waith erbyn diwedd 2026. Mae hyn wedi bod yn mynd rhagddo ers 2021. Gwnaeth y Prif Weinidog presennol, Eluned Morgan, ddatganiad ar hyn yn 2021, gan ddweud ei fod yn mynd i gael ei gwblhau yn fuan iawn, felly hoffwn wybod pa sicrwydd y gallwch ei roi i'r deintyddion ledled y wlad y bydd hyn yn cael sylw. A hefyd ar ddeintyddiaeth hefyd, mae pryder cynyddol am bydredd deintyddol ymhlith plant ifanc ledled y wlad; mae 32.4 y cant o blant yng Nghymru yn arddangos pydredd deintyddol, o'i gymharu â 23.7 y cant yn Lloegr, felly hoffwn wybod beth arall rydych chi'n ei wneud i wella mynediad i wasanaethau plant i ddeintyddion hefyd.

Felly, rwyf eisiau sôn ychydig mwy am wasanaethau gofal cymunedol. Mae ychwanegu dros 100 o swyddi proffesiynol perthynol i iechyd a'r 49 nyrs ardal amser llawn yn galonogol, ac rwyf am dalu teyrnged i rôl ein nyrsys ardal. Maen nhw'n gwneud gwaith gwych ar draws ein cymunedau. Fodd bynnag, mae cynllun gweithlu strategol Addysg a Gwella Iechyd Cymru ar gyfer gofal sylfaenol yn amlygu'r angen am sefydlogrwydd parhaus y gweithlu, felly sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau cynaliadwyedd hirdymor y gweithlu gofal cymunedol i ateb gofynion iechyd y dyfodol ledled Cymru. Ac mae'r datganiad yn pwysleisio'r angen am fynediad cyson ar draws Cymru. Nod cyflwyno'r dangosfwrdd clwstwr gofal sylfaenol oedd mynd i'r afael â hynny, fel y soniais i yn gynharach. Felly, rwyf am bwysleisio i chi, Ysgrifennydd Cabinet—. Beth ydych chi'n ei wneud i sicrhau bod pob ardal yng Nghymru—boed hynny yn y gogledd, y de, y dwyrain neu'r gorllewin—yn cael mynediad cyfartal at wasanaethau, yn enwedig y gwasanaethau fferylliaeth hynny, pan nad ydym wedi gweld pawb yn rhagnodwyr annibynnol? A byddai'n ddiddorol gwybod pa waith rydych chi'n ei wneud ynghylch hynny hefyd. Diolch, Llywydd—Dirprwy Lywydd.

16:30

Gofynnodd yr Aelod nifer o gwestiynau; fe wnaf fy ngorau i ateb o leiaf y rhai allweddol. O ran y £5 miliwn, dyrannwyd y rheini i ehangu'r gweithlu ledled Cymru o ran gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd. Rwy'n credu mai'r hyn yr ydym yn ei weld mewn gwirionedd yw'r lefel uchaf erioed o gyllid a ddyrannwyd i gefnogi nifer uchaf erioed o gyfleoedd hyfforddi ar gyfer gweithlu'r gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, ac mae hynny ledled Cymru. Crybwyllais y datblygiadau ym myrddau iechyd Cwm Taf Morgannwg ac ym myrddau iechyd Bae Abertawe, ond gallwn fod wedi cyfeirio at yr ymarferwyr eiddilwch ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys, rwy'n siŵr y bydd ganddo ddiddordeb ynddynt, neu'r gwaith y mae Caerdydd a'r Fro yn ei wneud mewn perthynas â'r rhaglen orthopedig; soniais am honno yn fy natganiad. Ond hefyd mae Hywel Dda wedi lansio gwasanaeth strôc cymunedol integredig, sy'n lleihau amseroedd aros mewn ysbytai. Felly, mae amrywiaeth o ffyrdd, ar draws Cymru, ym mhob un o'r byrddau iechyd, lle mae'r cyllid hwnnw'n cael ei ddefnyddio'n dda a chynhyrchiol iawn, a chael canlyniadau amlwg, effeithiau amlwg ar ganlyniadau cleifion, sy'n amlwg yn fesur llwyddiant mewn perthynas â'r buddsoddiad hwnnw.

Mae'n gwneud pwynt pwysig mewn perthynas â'r pwysau ar feddygfeydd. Rwy'n credu bod byrdwn fy natganiad yn ymwneud â thynnu sylw at yr ystod o ffyrdd eraill y gall pobl gael mynediad at wasanaethau gofal sylfaenol, sy'n cael dwy effaith: un yw lleihau'r galw ar wasanaethau meddygon teulu, a hefyd sicrhau bod cleifion yn cael mynediad i'r driniaeth sydd ei hangen arnynt yn y ffordd fwyaf cyfleus posibl. Felly, mae ganddo'r ddau fudd hynny, ac rwy'n credu, mewn gwirionedd, ei bod yn bwysig bod pobl yn parhau i wneud y dewisiadau hynny. Rydym yn gweld galw cynyddol am wasanaethau meddygon teulu. Lle mae'r galw hwnnw'n gallu cael ei fodloni'n well mewn mannau eraill, a dweud y gwir dylem fod yn chwilio am y dewisiadau amgen hynny. Felly, dylai fod yn fwy cyfleus i ni, ond dylem hefyd fod yn gwneud hynny'n rhagweithiol. Mae'n gwneud pwynt pwysig ynglŷn â sut y gall rhywun sicrhau bod y cyhoedd yn deall ystod y gwasanaethau hynny, ac, ar un ystyr, yr hyn yr ydym yn ceisio'i wneud yw sicrhau newid mewn cenhedlaeth o ran mynediad pobl at ofal iechyd. Bydd hyn yn cymryd blynyddoedd, rwy'n credu, i'w wreiddio, fel ffordd o ddeall sut y gall y gwasanaeth iechyd ddarparu'r cymorth sydd ei angen arnom.

Roeddwn mewn fferyllfa, fel y soniais i yn fy natganiad y bore yma, ac yn trafod yn helaeth iawn gyda'r fferyllydd yno y strategaethau yr oeddent wedi'u defnyddio i weithio gyda meddygfeydd lleol i dynnu sylw at yr ystod o ddewisiadau amgen. Felly, os bydd rhywun yn galw ac yn gofyn am feddyg teulu, mae yna sgwrs sy'n dweud, 'Wel, ydych chi wedi rhoi cynnig ar eich fferyllydd lleol? Mae'n fferyllfa ragnodi, felly byddwch yn gallu cael y cymorth sydd ei angen arnoch yno.' Felly, mae'n sicrhau bod hynny'n rhan o'r drafodaeth drwy feddygfeydd, ond hefyd o ran ymgyrchoedd gwybodaeth gyhoeddus a hefyd y gwaith y mae fferyllfeydd eu hunain yn ei wneud i hyrwyddo'r ystod gynyddol o wasanaethau y gallant eu darparu. Mae hefyd yn wybodaeth sydd ar gael drwy GIG 111, dros y ffôn ac ar-lein, felly rwy'n annog Aelodau i gyfeirio eu hetholwyr at y gwasanaethau hynny, a gallwn ni i gyd chwarae rhan, rwy'n credu, i annog pobl i fanteisio ar y gwasanaethau hynny.

Gofynnodd gyfres o gwestiynau mewn perthynas â mynediad at ddeintyddiaeth. Mae negodi contract yn ymarfer ar gyfer dau barti; nid yw'n gwbl o fewn pŵerau'r Llywodraeth. Felly, mae'r pethau hyn weithiau'n cymryd mwy o amser na, a dweud y gwir, y byddai unrhyw un ohonom yn dymuno. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig dweud bod nifer o ddiwygiadau wedi bod i'r contract presennol, ac rydym wedi bod mewn cyfnod o amrywiad blynyddol, ac, er bod pob un o'r rheini wedi ceisio adlewyrchu canlyniad a dealltwriaeth sy'n dod i'r amlwg o newidiadau yn y galw, ac, yn amlwg, mae bwlch yn y ddarpariaeth o ran gwasanaethau'r GIG, yr ydym yn amlwg yn gwybod amdano ac wedi ei drafod yn y Siambr hon lawer gwaith, rwy'n derbyn hefyd nad yw cael set flynyddol o amrywiadau yn darparu'r platfform sefydlog hwnnw sy'n bwysig ar gyfer cydnerthedd arferion ac am ein gallu i ddisgrifio gyda hyder ac mewn ffordd ddeniadol sut mae practis deintyddol yn edrych. Felly, rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn edrych ymlaen at y pwynt pryd y bydd gennym y contract newydd hwnnw ar waith, a fydd yn llwyfan newydd i wneud deintyddiaeth, fel y dywedais i yn fy natganiad, yn decach i gleifion ac yn fwy deniadol i'r proffesiwn. Gallaf ddweud, fel y gwnes i yn fy natganiad, ein bod ni'n disgwyl ymgynghori ar hynny yn y gwanwyn, a byddwn ni'n gweld beth mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad yn eu dweud. Mae'n amlwg yn gontract a drafodwyd gyda Chymdeithas Ddeintyddol Prydain, a fy nisgwyliad i yw y bydd hynny ar waith ar gyfer dechrau'r flwyddyn nesaf, felly gwanwyn y flwyddyn nesaf, fan bellaf. A'r hyn rydw i wedi'i glywed hefyd, wrth siarad â deintyddion, yw eu bod nhw'n gwerthfawrogi ychydig mwy o amser paratoi pan fydd newidiadau i gontractau, fel y gallant wneud yr addasiadau angenrheidiol i'w practis.

Yn olaf, gwnaeth yr Aelod bwynt am iechyd deintyddol plant, ac, yn benodol, mae'r newidiadau rydym wedi'u gwneud wedi rhyddhau capasiti apwyntiadau ychwanegol ar gyfer plant a phobl ifanc, a gwn y byddwch yn falch o glywed ein bod yn parhau i fuddsoddi, er enghraifft, yn ein rhaglen Cynllun Gwên, y soniodd y Prif Weinidog amdani yng nghwestiynau'r Prif Weinidog yn gynharach; mae 60,000 o blant wedi elwa ar y cynllun hwnnw yn ystod y flwyddyn ddiwethaf; hyfforddwyd 5,000 o athrawon a chynorthwywyr addysgu i ddarparu'r gwasanaethau hynny. Felly, mae honno'n rhaglen lwyddiannus, ac rydym yn gwybod ei bod yn gwneud gwahaniaeth go iawn.

16:35

Mae gofal sylfaenol yn gyfrifol am dros 90 y cant o gysylltiad cleifion â'r system iechyd, ond eto mae’n parhau i gael ei dangyllido, ac mae'r canran o arian sy’n mynd at ofal sylfaenol wedi crebachu’n sylweddol dros yr 20 mlynedd diwethaf. Fel dwi wedi sôn sawl gwaith, mae hyn yn cael ei amlygu yn y ffaith bod dros 600 o feddygon teulu yn brin o gyfartaledd yr OECD yma yng Nghymru, heb unrhyw arwydd bod hyn am gael ei unioni. Yn wir, collodd yr NHS yng Nghymru 51 o feddygon teulu rhwng mis Medi 2023 a mis Mawrth 2024 yn unig.

Rŵan, dydy cywiro'r camau yma ddim am fod yn hawdd nac am ddigwydd dros nos, ond dyma rai mesurau tymor byr, wedi’u llywio gan ein trafodaethau gyda gweithwyr iechyd proffesiynol, a allai leddfu rhai o’r pwysau mwyaf uniongyrchol. Yn gyntaf, nodwyd bod diffyg argaeledd y gallu i archebu apwyntiad ar-lein mewn practisau yng Nghymru yn rhwystr arbennig i gael trefn apwyntiadau mwy effeithiol. A allai'r Ysgrifennydd Cabinet felly gadarnhau a ydy Llywodraeth Cymru wedi ystyried neilltuo cyllid penodol i gefnogi costau cyflwyno systemau apwyntio ar-lein ar raddfa ehangach? Mae gan systemau ymgynghori fideo, megis system Babylon, botensial sylweddol i feithrin mwy o hyblygrwydd mewn cyswllt staff a chleifion, ond mae’n amlwg nad yw’n cael ei ddefnyddio'n ddigonol yma, yn enwedig o'i gymharu â phractisau meddygon teulu yn Lloegr. Pam? Pa fesurau mae’r Llywodraeth yn eu cymryd i hyrwyddo’r defnydd o dechnoleg o’r fath?

Mae gan nyrsys ymgynghorol rôl i’w chwarae, ond ers i’r Llywodraeth dynnu ariannu tuag at y rôl yma nôl yn 2008 mae eu niferoedd nhw wedi disgyn. Oes bwriad ailgyflwyno cyllideb er mwyn cyflogi mwy, neu o leiaf er mwyn creu llwybr gyrfa ar gyfer nyrsys ymgynghorol a datblygu sgiliau'r nyrsys yma yng Nghymru?

Yn olaf, mae Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu wedi galw am uwchraddio rolau llywyddion gofal neu care navigators i wella dealltwriaeth cleifion o'r broses brysbennu, er mwyn sicrhau nad yw amser yn cael ei wastraffu wrth ailgyfeirio cleifion i'r lefel briodol o ofal. Ydy hyn yn rhywbeth sy’n cael ei ystyried yng nghynlluniau’r Llywodraeth ar gyfer gofal sylfaenol?

Gan droi at fater gofal cymunedol, mae'r byrddau partneriaeth rhanbarthol yn amlwg yn elfen bwysig o gyflawni yng nghyd-destun y gronfa integreiddio ranbarthol a'r rhaglen Ymhellach yn Gyflymach, y rhaglen Further, Faster. Ond mae gweithwyr proffesiynol yn dweud wrthym ni fod cylchoedd gwaith y byrddau partneriaeth rhanbarthol yma yn rhy aneglur ac nad ydyn nhw’n llwyddo i feithrin cydweithio ar draws byrddau iechyd ac awdurdodau lleol. Rŵan, mewn ymateb i gwestiwn gen i yr wythnos diwethaf, fe soniodd yr Ysgrifennydd Cabinet nad oes angen deddfwriaeth i osod y byrddau yma ar sylfaen statudol gan y gall cyfarwyddyd gweinidogol orfodi cydweithio rhanbarthol mwy systematig beth bynnag. Felly, gall yr Ysgrifennydd Cabinet egluro pam nad yw’r cyfeiriad gweinidogol yn gweithio, neu o leiaf ddim hyd yma? 

Mae'r rhaglen Ymhellach yn Gyflymach hefyd yn nodi yr angen i ymgysylltu â'r trydydd sector i gynyddu nifer y cydlynwyr cymunedol a'r opsiynau atgyfeirio. Ond mae'n anochel y bydd yr uchelgais hwn yn cael ei danseilio'n llwyr gan benderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol i gynyddu cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr heb unrhyw warant o ad-daliadau'r Trysorlys ar gyfer sefydliadau trydydd sector a phractisau meddygon teulu. Mae cangen Cymru o Marie Curie, er enghraifft, sy'n bartner allweddol yn y ddarpariaeth o ofal lliniarol, yn edrych ar gynnydd o dros £0.25 miliwn yn y flwyddyn nesaf ac mae elusen Tenovus mewn sefyllfa tebyg iawn. Mae’r BMA hefyd wedi rhybuddio am y posibilrwydd y bydd meddygfeydd teulu’n cau o ganlyniad i’r mesurau hyn, sydd ddim yn syndod o gwbl pan ystyriwn ni fod meddygfa fel Meddygfa Treflan yn fy etholaeth i yn wynebu £19,000 ychwanegol mewn costau.

Felly, er mwyn rhoi rhywfaint o eglurder, eglurder y mae dirfawr ei angen er mwyn i'r sefydliadau hyn oroesi yn ystod y cyfnod heriol yma, tybed a all y Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau gyfanswm y costau ychwanegol y mae sefydliadau trydydd sector a meddygon teulu perthnasol yn disgwyl eu talu. Diolch.

16:40

Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny. O ran yr impact o ran taliadau, mae’r gwaith hwnnw yn dal yn mynd yn ei flaen. Wrth gwrs, allaf i ddim sôn am gefnogaeth ariannol benodol i feddygon teulu ar hyn o bryd. Rŷn ni yng nghanol, fel gwnes i sôn yn y datganiad, ein trafodaethau pellach gyda nhw o ran y contract, felly. Ond mae’r pethau yma’n cael eu trafod yn gyson rhyngom ni â’r meddygon teulu ar hyn o bryd, fel byddai’r Aelod yn ei ddisgwyl.

Gwnaeth e bwynt pwysig ynglŷn â safonau ar-lein i alluogi pobl i gael mynediad hafal at apwyntiadau trwy’r safonau priodol. Rwy’n credu pan welwn ni lansiad ap y gwasanaeth iechyd bydd hyn yn cryfhau’r cynnig, os hoffwch chi, a’r cyfle i bobl allu gweithredu ar-lein trwy greu apwyntiadau. Rŷn ni wedi darparu cyllideb er mwyn sicrhau helaethu mynediad hafal o ryw £12 miliwn, rwy’n credu, fel rwy’n cofio, tuag at hynny, ac mae hynny’n cael ei weithredu gan fyrddau iechyd, yn gweithio ar y cyd gyda meddygon teulu.

Rydym ni wedi, fel gwnes i sôn yn fy natganiad, blaenoriaethu buddsoddiad mewn nyrsio cymunedol, ac mae hynny wedi dwyn ffrwyth o ran cynnydd yn y niferoedd sydd ar gael. Wrth gwrs, mae angen mwy o hynny arnom ni, ond y nod sydd gyda ni yw sicrhau bod darpariaeth nyrsio yn gallu sicrhau ar y penwythnos rhyw 80 y cant o’r hyn sydd ar gael yn ystod yr wythnos. Dŷn ni ddim wedi cyrraedd y nod hwnnw eto, ond dyna’r gwaith sydd wrthi ar hyn o bryd, ond mae’r niferoedd wedi eu cynyddu.

Gwnaeth yr Aelod yr un pwynt, rwyf i’n credu, y gwnaethon ni ei drafod wythnos diwethaf o ran Further, Faster, ac rwy’n credu mai her yr Aelod yw bod angen dodi’r RPBs ar sail statudol fel bod y rheini'n gallu sicrhau cydweithio, ond nid dyna yw swyddogaeth yr RPBs; nid byrddau ydyn nhw ar gyfer delifro, byrddau ydyn nhw ar gyfer cydlynu gwaith dau gorff sydd eisoes yn statudol ac sydd eisoes â chyfrifoldebau sylfaenol mewn statud ac mewn cyfrifoldebau eraill. Felly, dwi fy hun ddim yn credu mai creu strwythur statudol arall, eto fyth, o ran ein cenedl or-gymhleth, yw'r ateb i hyn; rwy'n credu mai gwell cydweithio yw'r ateb.

Fe wnaeth yr Aelod roi her arall i fi, lle mae enghraifft o weithgaredd o ran gorchymyn gweinidogol wedi gweithio. Wel, fe wnaeth y Prif Weinidog, pan oedd hi'n Weinidog iechyd, roi gorchymyn i fyrddau iechyd Hywel Dda a bae Abertawe i greu bwrdd ar y cyd i gydweithio o ran darparu gwasanaethau ar y cyd, ac mae hynny wedi gweithio; rŷn ni'n gweld ffrwyth hynny'n digwydd yn barod o ran gwaith orthopedig, ond mewn ffyrdd eraill hefyd. Felly, mae ein system ni wedi'i strwythuro i ddatganoli pwerau gweithredol, fel mae'r Aelod yn gwybod, i'r byrddau iechyd, a hynny ar y cyfan yw'r ffordd iawn o wneud pethau. Mae'n her benodol, rwy'n credu, i greu cydweithio rhanbarthol; dŷn ni ddim wedi gwneud cymaint o hynny ag y dylem ni fod wedi, felly dyna'r neges dwi wedi ei rhoi i'r sector yn gyffredinol: os na welwn ni fwy o hynny'n digwydd, byddaf yn barod i barhau i ddefnyddio'r pwerau gweinidogol hynny i sicrhau bod hynny'n digwydd ar lawr gwlad. Dwi ddim fy hun yn credu bod creu corff statudol yn mynd i fod yn fwy effeithiol na'r gallu i orchymyn cyrff sydd eisoes yn bodoli i gymryd camau penodol.

16:45

Diolch am y diweddariad, Ysgrifennydd Cabinet.

Rwy'n croesawu pwyslais y datganiad ar ofal sylfaenol fel prif bwynt cyswllt y mae'r rhan fwyaf o bobl yn ei gael gyda gwasanaethau gofal iechyd, a dyna pam, yn amlwg, mae ei gefnogi a buddsoddi ynddo a'i ategu mor bwysig. Rwyf wedi codi yma, gyda chi o'r blaen, ganfyddiadau fy arolwg iechyd diweddar yn fy etholaeth i, ac roedd llawer o'r pwyntiau a godwyd yno ynghylch mynediad at wasanaethau meddygon teulu neu gysylltu â nhw neu fethu cael apwyntiad. Rwy'n cydnabod yr hyn rydych chi'n ei ddweud ac rwy'n falch, er eich bod wedi cyfeirio'n briodol at y newidiadau i helpu pobl i gael mynediad at feddygon teulu, eich bod yn cydnabod bod yna rwystredigaeth o hyd, ac mae'n debyg bod rhywfaint o waith i'w wneud o hyd i ategu'r hyn a gyflawnwyd eisoes.

Felly, a gaf i ofyn heddiw pa sicrwydd y gallwch ei roi bod cryfhau mynediad at feddygon teulu a gofal sylfaenol yn parhau i fod yn ganolbwynt allweddol i waith Llywodraeth Cymru? Ac o ran y gwasanaethau ehangach a allai fod ar gael yn y gymuned nawr trwy ddulliau eraill, boed hynny drwy fferyllfeydd neu rywle arall, a oes ffordd y gallwn gael ymarfer mapio sy'n addysgu pobl ac sy'n gwneud pobl yn ymwybodol o ble y gellir dod o hyd i'r gwasanaethau hyn, fel y gallwn gynyddu gallu pobl i gael mynediad at y gwasanaethau hynny, nid dim ond trwy eu meddyg teulu yn y dyfodol?

Diolch i'r Aelod am hynna. Rwy'n credu ei bod yn gwneud pwynt pwysig, ac mae eraill wedi cyffwrdd â hyn hefyd, am her y galw yn y system a darparu mynediad at wasanaethau meddygon teulu yn benodol. Rwy'n credu ei fod yn dirwedd eithaf cymhleth, oherwydd mae'n dirwedd sy'n newid. Felly, yn amlwg, mae lefel y galw yn cynyddu a'r cwestiwn yw a yw proffil y galw hwnnw'n newid hefyd. Felly, efallai y bydd pobl eisiau gweld meddyg teulu ar unwaith, ond mae dau gwestiwn yn hynny o beth, onid oes: ai'r meddyg teulu yw'r person iawn i ddarparu'r gofal ac a oes yna, os caf ei roi yn y termau hyn, angen ar sail dda am frys, neu a yw hynny'n rhywbeth y mae'r claf yn ei ffafrio. A bydd yn amrywio, yn amlwg, o achos i achos. Nid yw'n glir i mi fod patrwm amlwg yno; bydd meddygon teulu yn adrodd am wahanol bethau.

Rwy'n credu bod yna ymdeimlad hefyd, pan fydd cymaint o agweddau eraill ar ein bywyd modern ar gael gydag ymdeimlad gwirioneddol o fod ar unwaith, yna mae lefel o ddiffyg amynedd pan na all pobl weld meddyg teulu ar unwaith, ac efallai y bydd hynny'n ddigon teg, ond bydd amgylchiadau eraill lle nad yw'r brys hwnnw, efallai, yno. Felly, rwy'n credu ei fod yn ddarlun eithaf cymhleth. Yr hyn sy'n hollol wir yw, lle rydym yn gwybod bod dewisiadau amgen eraill, fel yr wyf wedi bod yn siarad amdanynt yn y datganiad, mae angen i ni sicrhau bod pobl yn deall ble y gallant gael mynediad atynt. Rwy'n credu bod dealltwriaeth pobl o sut rydych chi'n cael gafael ar wasanaethau'r GIG yn gyffredinol, o safbwynt cleifion, naill ai yn eich meddygfa neu adrannau damweiniau ac achosion brys, ac mae her i ni yna, oherwydd mae'r ddwy ran hynny o'r GIG o dan bwysau sylweddol iawn. Felly, rwy'n credu bod achos dros edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud i helpu pobl i lywio drwy'r GIG yn well. Mae GIG 111 wedi bod yn effeithiol iawn wrth wneud hynny, ond wrth i ni sicrhau lefel mor ddiwygiedig yn y system, mae her gyson i ni, rwy'n credu, ynglŷn â sut y gallwn sicrhau bod pobl yn gallu llywio drwy'r gwasanaeth yn y ffordd honno.

16:50

Ysgrifennydd Cabinet, wrth gwrs, mae'r rhan fwyaf o fy etholwyr i yn derbyn eu triniaeth gan ddarparwyr yn Lloegr. Pan fyddaf yn siarad ag optegwyr, fferyllwyr, deintyddion a meddygon teulu, maent yn aml yn dweud wrthyf am gymhlethdodau ymdrin â darparwyr yn Lloegr o ran systemau technoleg gwybodaeth yn benodol; mae yna lawer o aneffeithlonrwydd yn y broses hefyd. Tybed, o ran yr hyn rydych chi wedi'i amlinellu heddiw, pa ystyriaethau rydych chi wedi'u rhoi i'r mater hwn, a pha waith sydd wedi mynd rhagddo wrth rannu llwyfannau digidol.

Y mater arall, wrth gwrs, y gwnaethoch chi sôn amdano yw gwella mynediad at ddarparwyr gofal sylfaenol. Un o'r problemau mawr sydd gennym ar draws Cymru, yn enwedig yng nghefn gwlad Cymru, yw denu gweithwyr gofal sylfaenol proffesiynol i ddod i weithio yng Nghymru, yn enwedig yng nghefn gwlad Cymru. Yn aml, y mater a godwyd—mae'n fater hanesyddol ers peth amser—yw'r broblem gyda rhestr perfformwyr meddygol Cymru gyfan, felly, un rhestr i Gymru. Tybed ers i chi fod yn y swydd, a ydych chi wedi ystyried hyn. Mae llawer o brinder staff yn deillio o'r mater o gael meddygon teulu, efallai, yn cael eu hyfforddi yn rhywle arall yn Lloegr, ond heb fod yn barod i ddod i Gymru oherwydd cymhlethdodau gorfod cofrestru ar restr perfformwyr gwahanol. Felly, a gaf i ofyn, hefyd, a ydych chi wedi ystyried hyn, ac ystyried y posibilrwydd o weithio gyda Llywodraeth y DU i gael un rhestr perfformwyr ar gyfer Cymru a Lloegr?

Diolch i'r Aelod am hynna. Mae'n gwneud pwynt pwysig i'r rhannau hynny o Gymru sydd ar y ffin. Mae'n dirwedd fwy heriol hyd yn oed na'r un y mae'n ei ddisgrifio, rwy'n credu, yn ymarferol, oherwydd nid oes un dull o weithredu o ran TG yn GIG Lloegr, ac felly hefyd mewn sawl rhan o GIG Cymru. Felly, yr hyn rydych chi'n edrych arno mewn gwirionedd yw'r trefniadau TG sy'n bodoli ar lefel ymddiriedolaeth neu fwrdd, felly mewn gwirionedd mae'n ddarlun mwy cymhleth na hyd yn oed yr un y mae ef yn ei ddarlunio.

Mae'r hyn yr ydym yn awyddus iawn i'w wneud o safbwynt digidol yng Nghymru yn ddeublyg. Yr elfen hanfodol i hyn, a chrybwyllais hyn yn y pwyllgor y diwrnod o'r blaen, yw cael pensaernïaeth ddigidol genedlaethol ar waith i Gymru, fel y gall mentrau, wedyn, naill ai ar lefel bwrdd iechyd neu ar lefel genedlaethol yng Nghymru, i gyd gydymffurfio â'r daith yr ydym eisiau i'r system fod arni. Nid ydym yn y lle hwnnw eto, ond mae'n sicr yn flaenoriaeth i gael y bensaernïaeth honno ar waith. Bydd hynny wedyn yn caniatáu dull unwaith i Gymru ar gyfer nifer penodol o ymyriadau, a fydd yn helpu gyda'r her y mae'n ei disgrifio. Ni fydd yn ei datrys, oherwydd nid oes dull 'unwaith i Loegr' dros y ffin, ond bydd yn cyfrannu at ddatrys hynny, o leiaf.

Ond yna bydd rhai pethau rwy'n credu—. Wyddoch chi, nid oes angen i ni ailddyfeisio'r olwyn yn gyson, nac oes? Mae yna bethau sy'n bodoli—ceisiadau masnachol—sydd ar gael i fyrddau iechyd neu bractisau eu prynu eu hunain, a'r peth tyngedfennol yw eu bod nhw i gyd yn ffurfio rhan o'r darlun mwy yna gyda'i gilydd, felly rwy'n credu bod hynny'n bwysig ym maes digidol.

Cefais y cyfle i siarad â rhywun yn ddiweddar mewn cinio yr oeddwn yn bresennol ynddo, ac roeddwn wedi cael diwrnod pan oeddwn wedi cael fy atgoffa drwy gydol y diwrnod o'r heriau yn y GIG yng Nghymru, ac roeddwn i'n teimlo, ar ddiwedd y dydd, ychydig yn isel. Eisteddais wrth ymyl menyw yn y cinio ac eglurodd i mi ei bod yn ymarferydd nyrsio mewn practis ym Mhowys. Disgrifiodd pa mor llwyddiannus oedd y model, y morâl a'r pethau am y practis hwnnw a oedd wedi ei denu i weithio yno, ac roeddwn i'n meddwl bod hynny'n rhywbeth i'n hatgoffa ni i gyd mewn ffordd lesol, mewn gwirionedd, bod pobl sy'n dewis gweithio yn GIG Cymru bob dydd sy'n ymroddedig, yn cael eu sbarduno ac sydd â lefelau uchel iawn o gymhelliant. Felly, er yr holl heriau, ac mae wedi sôn am rai ohonyn nhw heddiw, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn, iawn mai profiad y rhan fwyaf o bobl yw eu bod yn mynd i mewn i waith wedi'u hysgogi i helpu pobl a gallu gwneud hynny mewn ffordd rydyn ni i gyd yn ddiolchgar amdani.

Bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ymwybodol o'r anawsterau y mae llawer o gleifion yng Nghwm Rhymni a thrwy gydol y de-ddwyrain yn eu cael wrth geisio cael apwyntiadau meddygon yn y meddygfeydd hynny sy'n cael eu rhedeg gan eHarley Street. Mae'r cwmni preifat hwn yn cynnal meddygfeydd ym Margoed, Gelligaer, Brynmawr, Tredegar a llawer o rai eraill, ac mae cleifion yn ei chael bron yn amhosibl cael yr apwyntiadau hynny, ond pan fyddan nhw'n cyrraedd y feddygfa, mae'r ystafelloedd aros bron yn wag. Nawr, rydyn ni'n gwybod, ac mae wedi cael ei godi yn y Siambr nifer o weithiau, nad yw meddygon wedi cael eu talu gan eHarley Street; mae miloedd o bunnau yn ddyledus iddynt, ac o ganlyniad, mae llawer o feddygon yn gwrthod gweithio mwy o shifftiau yn y meddygfeydd hynny, ac mae hynny'n golygu nad yw cleifion yn cael y gofal y maent yn ei haeddu.

Rwyf wedi codi pryderon yn y Siambr ers wythnosau lawer am hyn, ac am lywodraethu clinigol hefyd, tâl meddygon, a'r pwysau sy'n cael ei roi ar nyrsys yn y meddygfeydd hynny. Mae'n ymddangos bod pawb yn cytuno bod rhywbeth mawr o'i le yma, ond does neb eto yn ymddangos eu bod yn addo yn union yr hyn sydd ei angen er mwyn sicrhau bod hyn yn gwella yn y meddygfeydd hynny ac nad yw'n cael ei ailadrodd. A allwch chi ddweud wrthym ni, os gwelwch yn dda, pa sgyrsiau rydych chi wedi'u cael gyda'r bwrdd iechyd am hyn, ac a allech chi sicrhau'r Siambr y byddwch chi'n gwneud popeth o fewn eich gallu i sicrhau bod cleifion yn dechrau cael y gofal eto y maen nhw'n ei haeddu?

16:55

Rwy'n credu imi grybwyll yn y cwestiynau yr wythnos diwethaf, pan gododd Alun Davies a'r Aelod y pwyntiau pwysig iawn hyn yn y Siambr, y dylid talu'r staff, yn amlwg, y dylid talu cyflenwyr, yn enwedig oherwydd ein bod yn gwybod beth yw goblygiadau'r dewis arall. Mae'n amlwg ei fod yn iawn yn ei dermau ei hun, ond mae'n amlwg bod ganddo ganlyniadau parhaus os nad yw pobl yn cael eu talu. Fe wnes i'n glir—a byddaf yn ailadrodd hynny—fy mod i wedi siarad â chadeirydd y bwrdd iechyd, a mynegi fy mhryderon, i wneud yn siŵr y dylai practisau fod yn cydymffurfio â'r contract gwasanaethau meddygol cyffredinol, gan sicrhau bod pobl yn cael eu talu, a bod lefel y llywodraethu clinigol ac argaeledd apwyntiadau ar y lefel y mae angen iddyn nhw fod. 

Yn fy sgyrsiau diweddaraf gyda'r bwrdd, eu dealltwriaeth o argaeledd apwyntiadau oedd ei fod yn gyson yn fras â'r trefniadau a oedd wedi bod ar waith o'r blaen, o ran faint o apwyntiadau a oedd wedi bod ar waith, pan oedd y bwrdd iechyd yn rheoli'r arferion hynny'n uniongyrchol, ond rwyf wedi gofyn am adroddiad pellach gan y bwrdd iechyd yr wythnos hon, ar ôl y trafodaethau pellach y maent wedi bod yn eu cael. Mae'n amlwg bod angen cynllun i sicrhau bod gwasanaethau'n gynaliadwy ac yn darparu'r lefel o fynediad yr ydym am i bobl ei weld. Felly, fel y soniais i yr wythnos diwethaf, byddaf yn hapus i adrodd yn ôl i'r Senedd pan fydd gennyf yr adroddiad pellach hwnnw.

Mae gofal sylfaenol yn gweld mwy o bobl ag anghenion iechyd nag unrhyw ran arall o'r system. Mae'r gyfran o'r gyllideb iechyd sy'n cael ei gwario ar wasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol wedi lleihau. Rhaid ailganolbwyntio'r system iechyd a gofal yn radical i roi gofal sylfaenol a chymunedol wrth ei graidd os yw am fod yn effeithiol ac yn gynaliadwy. Y penderfyniad sydd wedi cael yr effaith andwyol fwyaf ar ofal sylfaenol a chymunedol oedd uno gofal sylfaenol ac eilaidd, a arweiniodd at y gyfran o wariant ar ofal eilaidd yn cynyddu ar draul gofal sylfaenol. Mae'r gwasanaeth iechyd cymunedol ac ymarfer cyffredinol yn wynebu heriau lluosog, heb ddigon o staff a gallu i ddiwallu anghenion a chymhlethdod cynyddol cleifion.

Mae'r rhan fwyaf o ddarparwyr gofal sylfaenol yn darparu gwasanaeth rhagorol mewn amgylchiadau anodd. Pan na all pobl gael gofal sylfaenol, maen nhw'n mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys, gan roi mwy o bwysau ar system sydd eisoes o dan bwysau. Mewn rhai meddygfeydd, os bydd rhywun yn dweud bod angen apwyntiad meddyg teulu brys arnynt, yna maen nhw'n cael eu hanfon at adrannau damweiniau ac achosion brys, gan hefyd lyffetheirio'r system. Mae'n hawdd dweud pa mor bwysig yw gofal sylfaenol a pha mor ddibynnol ydyn ni arno. Mae gennyf ddau gais: bod cyfran y gyllideb iechyd a wariwyd gan fyrddau iechyd ar ofal sylfaenol a chymunedol yn cael ei gwarchod y flwyddyn nesaf, a bod cyfran yr ymyriadau llawfeddygol mân a wneir mewn gofal sylfaenol yn cynyddu.

Diolch i Mike Hedges am y cwestiynau yna. Mae'r ffordd y gofynnodd ei gwestiwn, rwy'n credu, yn dangos ei gymhlethdod. Gwnaeth y pwynt am wahanu gofal eilaidd a gofal sylfaenol, ond yna'r enghraifft a roddodd oedd un sy'n ein hatgoffa o'r gyd-ddibyniaeth, os mynnwch, rhwng mynediad pobl at ofal sylfaenol a'r hyn y gall hynny ei olygu o ran cael mynediad at ofal eilaidd. Felly, mae'r berthynas, yn amlwg, yn gyd-ddibynnol iawn yn y ffordd honno.

Rwy'n cytuno ag ef mai'r hyn y dylem ei weld, cyn belled ag y gallwn, yw darparu mwy a mwy o wasanaethau yn y lleoliad gofal sylfaenol, p'un a yw hynny'n ddiagnosteg, ond yn y ffordd y dywedodd hefyd, mân ymyriadau llawfeddygol ac ystod o rai eraill. Crybwyllais rai ohonynt heddiw, ond mae'n gwneud pwynt, rwy'n credu, am nifer fwy o weithgaredd mewn gofal sylfaenol. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth o gwbl mai dyna'r ffordd gywir ymlaen, a gobeithiaf y byddwn yn gallu gweld cynnydd fesul cam yn hynny. P'un a yw ar lefel practis, neu ar lefel clwstwr, credaf yn llwyr fod hynny'n rhan o'r ateb i allu darparu mwy o gyllid i leoliadau gofal sylfaenol a chynaliadwyedd y model i'r dyfodol.

Rydym wedi gwneud gwaith gwych ar gael gwell defnydd allan o'r fferyllwyr cymunedol, oherwydd eu bod yn unigolion medrus iawn, ac mae'r ffaith eu bod yn ymdrin â'r cynllun anhwylderau cyffredin yn ymddangos i mi fel defnydd llawer gwell o'u sgiliau na dim ond rhoi presgripsiynau rhywun arall i bobl.

Rydw i ychydig yn ddryslyd ynghylch y ffordd y mae practisau meddygon teulu yn gweithio, oherwydd nid wyf eto wedi dod ar draws practis meddyg teulu gyda'r gymysgedd o sgiliau y byddwn yn ei ddisgwyl. Er enghraifft, pa feddygfa sy'n cyflogi nyrs diabetes, o ystyried cyffredinrwydd diabetes yn ein cymuned? Byddech chi'n disgwyl bod digon o waith ar gael i rywun o'r fath. Yn hytrach, mae'n ymddangos bod gennym bedwar neu bump o feddygon teulu medrus iawn i gyd yn gweithredu fel ymgynghorwyr mewn gofal sylfaenol, gydag un nyrs practis efallai. Nid yw hynny'n teimlo fel y cydbwysedd cywir. Ac yna mae gennym wasanaeth ar wahân o'r enw nyrsio cymunedol, neu weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd cymunedol, ac roeddwn i'n meddwl tybed a oes angen i ni feddwl ychydig yn fwy creadigol yn y ffordd rydyn ni'n darparu gwasanaethau gofal sylfaenol.

Roedd gen i ddiddordeb mawr amser cinio i glywed gan Nia Boughton, sy'n nyrs ymgynghorol ar gyfer gofal sylfaenol yn Betsi Cadwaladr. Mae hi wedi gwneud gwaith gwych ar gael rhywun ag endometriosis yn ôl i'r gwaith—

17:00

Yr allwedd yno yw'r ffaith bod Nia yn gweithio mewn practis sy'n cael ei reoli'n uniongyrchol gan y bwrdd iechyd, yn hytrach nag un sy'n cael ei reoli gan bractis meddyg teulu. Yn amlwg, mae yna wahanol ffyrdd y mae angen i ni edrych ar y contract meddygon teulu i gael gwasanaeth mwy cyfannol ar gyfer yr hyn sydd ei angen ar bobl mewn gofal sylfaenol.

Diolch i Jenny am y cwestiwn yna, ac am y trafodaethau rydym wedi'u cael dros yr wythnosau diwethaf yn arbennig am gyllid ar gyfer meddygfeydd. Rwy'n credu ei bod yn amlwg yn y ffordd y mae hi'n rhoi'r cwestiwn heddiw mai un o'r edeifion trwy'r trafodaethau hynny rydyn ni wedi'u cael yn ddiweddar oedd beth yw'r cymysgedd o wasanaethau y gellir eu darparu gan feddygon teulu, sy'n ffordd o gryfhau'r model, ond hefyd, yn bwysicach fyth, darparu'r math o wasanaeth y mae cleifion ei eisiau ac y bydd yn gallu elwa arno. Mae yna amrywiaeth o wahanol fodelau. Roedd yr enghraifft a roddais i Russell George yn gynharach yn enghraifft lle roedd yr ymarferydd nyrsio yn y practis hwnnw yn rhan sylweddol a gweladwy iawn o'r cynnig i drigolion lleol. Rwy'n credu bod amrywiaeth o fodelau, ond rwy'n credu bod angen i ni gadw lefel yr uchelgais ynghylch symud gwasanaethau i leoliadau gofal sylfaenol yn uchel, a hefyd y berthynas honno rhwng lleoliadau gofal sylfaenol a gwasanaethau cymunedol, i gadw'r rheini'n greadigol a pharhau i esblygu hynny fel ein bod yn sicrhau bod gennym y lefel o hyblygrwydd o ran darparu gwasanaethau sy'n diwallu anghenion cleifion yn y ffordd orau.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ysgrifennydd Cabinet, bydd y ganolfan iechyd 19 Hills sydd newydd ei hagor yn Ringland yn Nwyrain Casnewydd yn darparu ystod o wasanaethau cynradd a chymunedol a ddarperir gan ymarferwyr cyffredinol ac amrywiaeth o weithwyr gofal iechyd proffesiynol, gwasanaethau iechyd corfforol a meddyliol. Mae'n gwasanaethu nifer o gymunedau cymharol ddifreintiedig lle mae'r ddeddf gofal gwrthgyfartal yn berthnasol iawn, gyda'r rhai sydd â'r angen mwyaf am ofal iechyd yn llai tebygol o'i gael. Tybed sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a'r ganolfan iechyd 19 Hills i wneud yn siŵr ein bod yn gweld gwelliant gwirioneddol mewn mynediad at ofal iechyd gan y rhai yn y gymuned sydd angen y gwasanaethau hynny yn ddirfawr ond nad ydynt yn eu derbyn ar hyn o bryd, i sicrhau bod potensial tynnu'r gwasanaethau hyn o'r sector acíwt i ofal sylfaenol ac i leoliad cymunedol yn cael ei wireddu'n llawn.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Rwy'n cytuno â'r hyn y mae'r Aelod wedi'i ddweud yw'r uchelgais a'r cyfeiriad teithio. Rwy'n credu fy mod yn iawn wrth ddweud fy mod wedi cael sgwrs ag un o'r ymarferwyr yn y practis hwnnw dros yr wythnosau diwethaf, ac adleisiodd y pwynt y mae'r Aelod newydd ei wneud eto heddiw am fodolaeth barhaus a niweidiol deddf gofal gwrthgyfartal Julian Tudor Hart, hyd yn oed 50 mlynedd ers yr adeg y datganodd hynny gyntaf fel cysyniad, sy'n ein hysgogi ni, onid yw e'?

Rwy'n credu bod yna heriau heb amheuaeth. Y cwestiwn yw beth yw'r ffordd orau o sicrhau ein bod yn gallu gwneud yn siŵr bod y practisau hynny sy'n gwasanaethu cleifion mewn cymunedau difreintiedig, y gwyddom eu bod yn debygol o fod ag ystod ehangach o anghenion mwy cymhleth ac angen darparu'r gwasanaethau mewn gwahanol ffyrdd, gyda mwy o waith allgymorth yn benodol, gydag elfen waith cymunedol—yr atebion llawn dychymyg hynny—y gallwn wneud hynny mewn ffordd sy'n gynaliadwy i'r dyfodol.

Cafwyd trafodaethau yn y Siambr ac mewn mannau eraill am y fformiwla ar gyfer dyrannu'r cyllid hwnnw. Mae'n ymddangos bod hynny'n faes cymhleth, ond nid yw hynny'n golygu na ddylem geisio ffyrdd eraill o sicrhau, yn enwedig ar lefel clwstwr, lle gallwch chi gael cydnerthedd nifer o bractisau sy'n gwasanaethu'r ôl troed mwy hwnnw—. Rwy'n credu bod hynny'n rhan o'r ateb i'r her y mae'r Aelod wedi'i nodi heddiw.

6. Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Tyfu'r Diwydiant Pren yng Nghymru: Swyddi a Thwf Gwyrdd

Yr eitem nesaf fydd y datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ar dyfu'r diwydiant pren: swyddi a thwf gwyrdd. Yr Ysgrifennydd Cabinet, felly, Huw Irranca-Davies. 

17:05
Member (w)
Huw Irranca-Davies 17:05:01
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Rwy'n falch iawn o annerch Aelodau cyn ein hymgynghoriad ar gynigion ar gyfer strategaeth ddiwydiannol bren gyntaf Cymru. 

Bydd tyfu'r sector coedwigaeth yn cynnig ystod eang o swyddi gwyrdd yng Nghymru. Bydd yn ein helpu i adeiladu tai mwy cynaliadwy a bydd yn rhoi hwb i'n cynnydd tuag at ddatgarboneiddio. Mae rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy i gynhyrchu pren yn enghraifft wych o dwf economaidd gwyrdd a chynaliadwy. Pan gynaeafir coed, mae carbon a gafodd ei secwestru pan oedden nhw'n tyfu yn aros wedi'i storio yn y pren. Pan fydd y pren hwnnw'n cael ei ddefnyddio yn y tymor hir, fel wrth wneud dodrefn neu adeiladu tai, yna mae'r carbon hwnnw'n aros wedi'i gloi'n sownd, heb ei ryddhau i'r atmosffer. Yn y cyfamser, mae'r cnwd o goed a gynaeafwyd yn cael ei ailblannu, gan secwestru mwy o garbon, ac mae'r cylch yn parhau.

Nid yn unig hyn, ond mae'r economi pren yn cynnig cyfleoedd go iawn i goedwigwyr, proseswyr pren a gweithgynhyrchwyr. Mae ystod eang o swyddi a sgiliau sy'n llifo ar hyd y gadwyn gyflenwi, o feithrinfeydd coedwig trwy blannu, cynaeafu a melino, i, yn wir, ddylunio ac adeiladu'r cynhyrchion terfynol sy'n cynnal bywoliaeth pobl. Ac mae'n rhaid i mi ddweud, mae hyn yn arbennig o wir am bobl sy'n byw yng nghefn gwlad Cymru.

Mae'r sector coedwigaeth yng Nghymru yn cynnwys busnesau teuluol sydd â sylfaen wledig yn bennaf, ac maen nhw'n darparu cyfleoedd cyflogaeth gwerthfawr i gymunedau lleol. Y llynedd, fel yr wyf wedi sôn, ymwelais â Teifi Timber Products. Mae eu melin lifio a'u masnachwyr pren yn Llanllwni yn sir Gaerfyrddin yn cael gafael ar bren mor lleol â phosibl, ac maen nhw'n cynnig swyddi medrus i bobl leol yn eu cymuned wledig. Mae prentisiaethau yn y sector coedwigaeth ac adeiladu carbon isel yn hanfodol wrth gefnogi'r newid hwn i economi gynaliadwy, gan ddarparu cyfleoedd go iawn i bobl dalentog ffynnu.

Wrth i ni bontio i Gymru gryfach, decach a gwyrddach, mae'r sectorau coedwigaeth, pren ac adeiladu yn cynnig gyrfaoedd amrywiol, gan gynnwys swyddi â chyflog uchel. Mae'r ymgynghoriad yn nodi cynigion i wella recriwtio a chadw gweithlu medrus, amrywiol a hyblyg sy'n gallu addasu i newid. Mewn gwirionedd, mae busnesau fel Teifi Timber Products yn dangos beth all yr economi goed ei gyflawni a pham mae mor bwysig ein bod yn cefnogi ei thwf mewn ffordd strategol.

Trwy weithio gyda'n gilydd, gallwn gefnogi'r cadwyni cyflenwi lleol hynny a fydd yn cynyddu'r potensial o ran gwerth a gawn o'n pren, yr holl ffordd o'r goedwig i'r cynnyrch. Drwy weithio mewn partneriaeth â diwydiant, gall Cymru fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd i wneud a gwerthu cynhyrchion coedwig o goedwigoedd adnewyddadwy, cynaliadwy a reolir yn gyfrifol. Byddwn yn cefnogi datblygu a mabwysiadu cynhyrchion, prosesau, technolegau newydd ac yn hybu cydweithredu daearyddol ac adnoddau a rennir, lle bo hynny'n briodol.

Yn ogystal â'r cyfraniad amlwg y gall pren ei wneud tuag at flaenoriaeth y Llywodraeth hon o hybu swyddi a thwf gwyrdd, mae'n cyfrannu'n uniongyrchol at ein hymrwymiad i adeiladu cartrefi cynaliadwy a fforddiadwy. Mae pren yn ein galluogi i adeiladu cartrefi perfformiad uchel, gwydn, iach a chynaliadwy, gan gynnwys tai cymdeithasol. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ymweld â datblygiad tai cymdeithasol a adeiladwyd gyda phren o Gymru ym Mhenrhyndeudraeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol yn ddiweddarach yr wythnos hon.

Mae adeiladu cartrefi gyda phren yn cynnig cyfleoedd enfawr i bobl ond hefyd i'r blaned. Wrth i'r byd geisio cyflawni sero net, gall pren, deunydd adeiladu carbon ymgorfforedig isel, ddisodli deunyddiau carbon ymgorfforedig uchel fel concrit. Mae pren a ffeibr pren yn cynnig cyfleoedd ar gyfer dulliau adeiladu amgen, datrysiadau â phaneli a gweithgynhyrchu oddi ar y safle. Mae'r dulliau hyn yn lleihau'r ôl troed carbon o'i gymharu â dulliau adeiladu traddodiadol ar y safle a gellir eu hadeiladu'n gyflymach, a fydd yn ein helpu i ddarparu mwy o dai cymdeithasol i'r rhai sydd eu hangen nawr.

Er mwyn ehangu'r gwaith o gynhyrchu pren o Gymru o safon i fodloni'r galw cynyddol am gartrefi cymdeithasol ffrâm bren carbon isel, mae angen i ni weithredu, a dyna pam rwyf mor falch o fod yn lansio'r ymgynghoriad hwn. Gadewch i ni fod yn glir—mae Cymru eisoes wedi sefydlu cwmnïau sy'n arwain y ffordd, fel SO Modular yng Nghastell-nedd a Kronospan yn eu canolfan yn y Waun. Fel y dengys y ddogfen ymgynghori hon, gallwn ysgogi mwy o dwf trwy hybu arloesedd, dylunio a gweithgynhyrchu cynhyrchion pren gyda mwy o werth, gan ymestyn parhauster a'r gallu i wrthsefyll yr hinsawdd. Wrth edrych i'r dyfodol, mewn byd y mae angen iddo ddatgarboneiddio ar frys, mae'n amlwg y bydd gan bren rôl hanfodol i'w chwarae.

Ar hyn o bryd mae'r DU yn mewnforio llawer o'n pren, ac mae disgwyl i'r galw byd-eang gynyddu pedair gwaith erbyn 2050. Mae hyn yn golygu bod potensial enfawr ar gyfer twf. Mae hefyd yn golygu, er mwyn i ni fod â chyflenwad dibynadwy a chynaliadwy o bren yn y dyfodol, y bydd yn rhaid i ni dyfu mwy o bren yng Nghymru, cynyddu ein dulliau cylchol, ailddefnyddio ac ailgylchu, wedi'u cydbwyso â mewnforio mewn ffordd sy'n gyfrifol yn fyd-eang. Mae Cymru'n cael ei pharatoi i wneud y mwyaf o'r cyfle hwn. Mae Cymru'n cynnig amodau tyfu ffafriol i lawer o rywogaethau cynhyrchiol, pren meddal a phren caled. Mae angen i ni fanteisio i'r eithaf ar hyn, a gwella dealltwriaeth, drwy'r gadwyn gyflenwi, o'r holl ffyrdd posibl y gellir defnyddio pren a dyfwyd gartref. 

Wrth i ni ystyried y dyfodol a'r rôl y bydd yn rhaid i bren ei chwarae, rhaid i ni hefyd ystyried sut olwg fydd ar yr hinsawdd tyfu yn y dyfodol. Efallai y bydd effeithiau newid hinsawdd yn effeithio ar gynhyrchiant coedwigoedd. A gadewch i ni fod yn glir: mae Cymru eisoes yn profi amodau hinsoddol newidiol a'r digwyddiadau tywydd eithafol amlach hynny, yn union fel y gwelsom gyda storm Darragh, a ddaeth â choed di-rif i lawr ledled y wlad. Dyna pam mae'r strategaeth ddiwydiannol ar gyfer pren yn nodi cynigion penodol i ddiogelu ein coedwigoedd yn y dyfodol. Mae angen i ni ddewis rhywogaethau a fydd yn parhau i fod yn gynhyrchiol yn y dyfodol, gan sicrhau mynediad at stoc sy'n amrywiol o safbwynt genetig ac sy'n briodol i'r hinsawdd. Mae angen cyflenwad dibynadwy o ddeunyddiau genetig coedwigoedd, gan gynnwys perllannau hadau, ac mae angen digon o gapasiti arnom mewn meithrinfeydd coedwig. Fel hyn, gallwn sicrhau bod ein coedwigoedd pren a'r holl swyddi sy'n dibynnu arnyn nhw'n ddiogel ac yn gadarn.

Mae hefyd yn bwysig iawn i ni nodi nad yw'r strategaeth ddiwydiannol ar gyfer pren yn digwydd mewn gwactod. Ddiwedd mis Tachwedd y llynedd, lansiwyd tasglu plannu coed ar lefel y DU, i oruchwylio plannu miliynau o goed ledled y DU i gyrraedd ein targedau sero net. Mae'r tasglu, dan gadeiryddiaeth gweinidogion coedwigaeth y pedair gwlad, yn cydnabod bod coed yn hanfodol ar gyfer darparu pren cynaliadwy ac ystod eang o fuddion eraill i natur ac i bobl. Ond wrth gwrs, nid yw diogeledd pren yn dibynnu ar bren crai yn unig. Mae marchnad iach eisoes ar gyfer ffeibr pren wedi'i ailgylchu a photensial i adennill mwy o bren nag yr ydym yn ei adfer ar hyn o bryd, er enghraifft, o adeiladau sydd wedi'u dymchwel.

Mae tyfu coedwigoedd yn cymryd amser, ond mae enillion tymor byr sylweddol i'w cael. Rwy'n cael fy nghalonogi'n fawr gan gyflawniad mentrau cydgysylltiedig ar draws portffolios y Llywodraeth, fel Cartrefi o Bren Lleol 2. Mae'r llyfr patrwm Tai ar y Cyd ar gyfer cartrefi cymdeithasol, a lansiwyd yr wythnos diwethaf yn unig, yn dangos tai a choedwigaeth yn cydweithio i greu cartrefi mwy cynaliadwy. Mae ehangu rhaglen sgiliau hyblyg Llywodraeth Cymru i gynnwys y sectorau coedwigaeth a phren yn golygu y gall busnesau gael gafael ar gymorth grant i uwchsgilio eu gweithlu. Mae'n rhaid i ni barhau â'r cydweithio agos hwn wrth i ni symud o ddatblygu'r strategaeth i'w gwireddu ar lawr gwlad.

Byddwn wir yn annog ymgysylltiad eang â'r ymgynghoriad hwn. Cyhoeddir y strategaeth ddiwydiannol ar gyfer pren fydd yn deillio o hwnnw yn ddiweddarach yn y flwyddyn, gan nodi map ffordd clir iawn ar gyfer sut y bydd y Llywodraeth a diwydiant yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau economi goed ffyniannus yng Nghymru, gan gefnogi twf a swyddi gwyrdd yn y sectorau coedwigaeth a phren, gan helpu i adeiladu cartrefi cymdeithasol mwy cynaliadwy, a chyfrannu at fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.

Dylai ein coedwigoedd fod mewn defnydd gweithredol, cynaliadwy ac amrywiol, gan ddarparu buddion economaid, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol i bobl Cymru am ganrifoedd lawer i ddod. Diolch yn fawr iawn, Llywydd.

17:10

Rwy'n croesawu'r cyfle i ymateb i'r datganiad hwn ar ddatblygiad strategaeth ddiwydiannol ar gyfer pren gyntaf Cymru. Er bod yr uchelgeisiau a amlinellir yn y datganiad yn ganmoladwy, Dirprwy Brif Weinidog, mae sawl maes sydd angen mwy o eglurder a chamau pendant i sicrhau eu llwyddiant.

Mae'r datganiad yn tynnu sylw at amodau tyfu ffafriol Cymru ar gyfer pren, ac yn cydnabod y galw byd-eang am bren y rhagwelir y bydd yn cynyddu pedair gwaith erbyn 2050. Er gwaethaf hyn, mae'r ddibyniaeth ar fewnforion yn parhau i fod yn uchel, gydag 80 y cant o bren sy'n cael ei ddefnyddio yn y DU yn dod o dramor, a dim ond 4 y cant o bren a gynaeafwyd yng Nghymru yn cael ei brosesu ar gyfer adeiladu. Mae hyn yn cynrychioli tanddefnydd sylweddol o adnoddau Cymru. Er mwyn mynd i'r afael â hyn, rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod pren a dyfwyd gartref yn chwarae rhan ganolog wrth ateb y galw am dai cynaliadwy, fel yr amlinellwyd gennych. Ond a wnewch chi amlinellu camau pellach a phenodol i flaenoriaethu pren Cymru yn y diwydiant adeiladu a lleihau'r ddibyniaeth ar fewnforion drwy'r broses gaffael, er enghraifft?

Mae potensial i bren ddisodli deunyddiau carbon uchel fel concrit wrth adeiladu, yn enwedig wrth adeiladu tai cynaliadwy, ond pa mor gosteffeithiol yw hyn? Hefyd, rhaid ehangu cynhyrchu a defnyddio cynhyrchion pren peirianyddol, fel glulam ac inswleiddio ffeibr pren. Mae'r datganiad yn cyfeirio at yr angen am arloesi a thechnolegau newydd, yr wyf yn eu croesawu, ond mae'r cynnydd yn y maes hwn wedi bod yn araf. Felly, a wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i gefnogi datblygu cynhyrchion pren gwerth ychwanegol a'u hintegreiddio yn y sector adeiladu?

Mae'r datganiad hefyd yn cydnabod pwysigrwydd sgiliau a datblygu'r gweithlu wrth gefnogi'r newid i economi gynaliadwy. Er bod croeso i'r buddsoddiad mewn hyfforddiant sy'n gysylltiedig â choedwigaeth, mae graddfa'r bwlch sgiliau yn y sector yn gofyn am ddull mwy cynhwysfawr. Gyda gweithlu sy'n heneiddio a chyfleoedd hyfforddi arbenigol cyfyngedig, mae cydweithredu â darparwyr addysg yn hanfodol i ehangu hyfforddiant ar draws y gadwyn gyflenwi, o feithrinfeydd coedwig i brosesu pren datblygedig ac adeiladu carbon isel. Felly, pa gamau sy'n cael eu cymryd i ymgysylltu â sefydliadau addysgol a mynd i'r afael ag anghenion gweithlu'r sector?

Law yn llaw â sgiliau mae pwysigrwydd cadwyni cyflenwi a phartneriaethau lleol, sydd wedi'i bwysleisio'n briodol. Fodd bynnag, mae cynnydd pendant yn y maes hwn yn parhau i fod yn gyfyngedig. Mae cryfhau'r gadwyn gyflenwi yn hanfodol er mwyn sicrhau bod buddion economaidd y diwydiant pren yn aros yng Nghymru. Felly, pa gamau penodol fydd yn cael eu cymryd i feithrin partneriaethau cryfach rhwng cynhyrchwyr, proseswyr a gweithgynhyrchwyr coedwigaeth, ac i fuddsoddi mewn cyfleusterau prosesu lleol?

Byddai'n esgeulus i mi beidio â chymryd y cyfle hwn i godi pryderon cymunedau gwledig ledled Cymru unwaith eto sydd wedi gweld tir amaethyddol yn cael ei brynu i'w orchuddio'n llwyr â choedwig, mewn ymdrech i gwmnïau wyrddgalchu, wrthbwyso eu hallyriadau, heb wneud dim newidiadau i'w harferion busnes eu hunain. Mae'r newid defnydd hwn o dir yn niweidiol iawn i'r cymunedau lleol ac mae'n cael effaith negyddol ar gynhyrchu bwyd a diogeledd bwyd, felly sut mae datganiad heddiw yn lleddfu ofnau'r cymunedau hyn sydd wedi gweld hyn yn digwydd, neu a allai weld hyn yn digwydd yn y dyfodol agos?

Yn olaf, er bod ymgynghoriad i'w groesawu bob amser—rydym wrth ein bodd ag ymgynghoriad yma yng Nghymru—nid yw'r amser byr rhwng cau'r ymgynghoriad ym mis Ebrill a chyhoeddi'r strategaeth ddiwydiannol ar gyfer pren yn yr haf yn gadael llawer o amser i drafod a chymryd i ystyriaeth y cyflwyniadau. Cafodd ymgynghoriad y cynllun ffermio cynaliadwy gymaint o ymatebion nes bod llawer o amser wedi ei gymryd i'w hystyried. Felly, a ydych chi'n hyderus, Ysgrifennydd Cabinet a Dirprwy Brif Weinidog, bod gennych chi ddigon o amser rhwng cau'r ymgynghoriad a lansio'r strategaeth i ymgorffori ac ystyried yr adborth yn llawn, ac nad ymarfer ticio bocsys yn unig yw'r ymgynghoriad a'r strategaeth eisoes yn fait accompli? Diolch, Llywydd.

17:15

Sam, diolch yn fawr iawn am hynna. A gaf i groesawu'r hyn rwy'n credu oedd eich croeso chi i'r ymgynghoriad ar y strategaeth? Mewn gwirionedd, mae llawer o'ch cwestiynau'n rhagweld nid yn unig y pwyntiau a wneir o fewn y strategaeth ond hefyd cyflwyno y strategaeth ei hun. Felly, cadwyni cyflenwi lleol—soniais amdanynt yn fy sylwadau agoriadol—y llif sgiliau y bydd angen i ni ei greu hefyd. Mae caffael, gyda llaw, o fewn yr ymgynghoriad hefyd, felly rydym yn edrych ymlaen at bobl yn cyflwyno eu barn. Ond mae'n bendant yn wir, o fewn Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023, bod potensial o fewn hynny nawr i'w gryfhau, gan ei fod yn ymdrin nid yn unig â'r gost gaffael isaf, ond y nwyddau ehangach yn amgylcheddol, economïau lleol, cymunedau lleol ac ati hefyd. Felly, rydym yn edrych ymlaen at glywed y safbwyntiau hynny'n cael eu cyflwyno.

Fe wnaethoch chi grybwyll llawer o bwyntiau sydd wedi'u hamlinellu yn yr ymgynghoriad ei hun, mewn gwirionedd. Felly, gyda'ch cefnogaeth chi, byddwn yn annog pawb i roi eu barn ar y ffordd orau ymlaen ar y rheini. Mae syniadau yn yr ymgynghoriad, ond gadewch i ni glywed beth sydd gan bobl i'w ddweud. A ydw i'n credu bod digon o amser gyda ni, yna, i gyflwyno'r strategaeth? Ydw. Mae llawer o waith wedi bod gyda rhanddeiliaid hyd yn oed yn arwain at y pwynt hwn, felly mae cynnal ymgynghoriad yn caniatáu i'r darn hwnnw o waith gael ei wneud sy'n profi'r syniadau, yn profi eu barn—ydyn ni yn y lle iawn? Ac yna gallwn ei mireinio a'i haddasu cyn i ni ei chyflwyno. Ond gan gydnabod lle rydyn ni gyda'r broses o bennu cyllideb garbon, yn ogystal â'n huchelgeisiau ar gyfer y strategaeth bren a chreu coetiroedd, mae angen i ni fwrw ymlaen â hyn, mae gwir angen i ni wneud hynny. Felly, mae gennym ddigon o amser, ond gadewch i ni annog pobl, mewn gwirionedd, i ddod ymlaen. Gyda llaw, bydd cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu â rhanddeiliaid cyhoeddus drwy gydol yr ymgynghoriad. Bydd dadansoddiad annibynnol, yna, o'r adborth o'r ymgynghoriad. Felly, nid fi fydd yn ymateb yn reddfol fel Gweinidog mewn rhyw drefn fer. Byddwn yn gwneud dadansoddiad priodol.

Fe wnaethoch chi sôn am sgiliau a hyfforddiant, y gwnes i eu crybwyll yn fy sylwadau agoriadol. Dim ond i ddweud hefyd, byddwn ni hefyd yn cynnal adolygiad o addysg ôl-16 i sicrhau bod gennym y darn ôl-16 hwnnw, o ran coedwigaeth yn y lle iawn hefyd. Ond mae yna ddarn ehangach yma ynglŷn â datblygu sgiliau pobl sydd eisoes yn gweithio yn y diwydiant hefyd, ond bydd colegau addysg bellach a darparwyr cymorth hyfforddiant eraill yn gallu ein helpu â hynny.

Roedd amrywiaeth o bethau roeddech chi'n sôn amdanyn nhw yna am greu coetiroedd a sicrhau ein bod ni'n gwneud yn siŵr bod pa bynnag gyllid a chymorth rydyn ni'n eu rhoi ynddo o fudd i'r gymuned leol. I'w wneud yn glir, mae'r grantiau creu coetiroedd, er enghraifft, gyda ni yn mynd yn uniongyrchol i dirfeddianwyr Cymru yng Nghymru i greu coetir yng Nghymru. Un o'r pethau na allwn ei wneud, er nad oes llawer o enghreifftiau, mae'n rhaid i mi fod yn glir, ond mae ambell enghraifft wedi eu nodi'n flaenorol yn Siambr y Senedd hon—yr hyn na allwn ei wneud yw sefyll yn ffordd tirfeddianwyr neu ffermwyr unigol o Gymru sydd wedyn yn gwneud penderfyniad i wneud rhywbeth ar eu tir y gallech chi a minnau ddweud, 'Mae hynny'n anghywir. Mae hynny'n teimlo'n anghywir o ran yr hyn rydyn ni'n ceisio'i wneud.' Weithiau maen nhw'n gwneud eu penderfyniadau preifat masnachol eu hunain. Ond yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yw sicrhau bod unrhyw arian cyhoeddus sy'n mynd i'r maes hwn o fudd i gymunedau lleol a'n strategaeth creu coetiroedd hefyd.

Ond diolch am eich cefnogaeth, ac anogwch bobl i roi'r pwyntiau hynny yn yr ymgynghoriad.

17:20

A gaf i ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei ddatganiad? Mae'n sicr yn un dwi'n ei groesawu. Mae hwn yn fater allweddol, wrth gwrs, ar gyfer ein heconomi, ar gyfer yr amgylched hefyd, ac yn un lle mae angen i Lywodraeth Cymru, yn fy marn i, ddangos uchelgais ac eglurder pwrpas os ydyn ni am gwrdd â'n nodau amgylcheddol ni, a hefyd, wrth gwrs, i gyflawni twf economaidd cynaliadwy. Felly, dwi yn edrych ymlaen at bori drwy’r ymgynghoriad—rhywbeth, wrth gwrs, dŷn ni ddim, efallai, wedi cael cyfle i'w wneud i'r graddau y byddem ni'n dymuno hyd yma—a dwi'n diolch am gael copi cynnar o hwnnw. 

Mae cyfyng-gyngor yma, er hyn, wrth gwrs, on'd oes e, oherwydd gwyddom fod y Llywodraeth yn methu â chyrraedd targedau plannu coed? Felly, yn amlwg, byddai'n ddiddorol clywed sut rydych chi'n teimlo y bydd y strategaeth hon yn parhau tuag at gynyddu cyflawniad y targedau hynny, ond ar yr un pryd yn gwneud hynny mewn ffordd nad yw'n ein gadael ar agor, fel y clywsom, i rai buddiannau masnachol allanol a allai weld cyfle i fanteisio ar hynny. Felly, meddwl ydw i tybed a ydych chi'n mynd i'r afael â hynny yn eich ymgynghoriad, neu a oes gennych unrhyw feddyliau, yn enwedig ar y mater hwnnw. Mae newidiadau cynyddrannol i gyfraddau talu a gwella prosesau ymgeisio i gyd yn gadarnhaol, ond efallai fod rhwystrau systemig y mae angen mynd i'r afael â nhw hefyd o fewn yr hafaliad hwnnw, ac mae llawer ohono'n nodi tir priodol ac ati.

Un arall, wrth gwrs, unwaith eto—rydyn ni'n dod yn ôl at hyn—yw capasiti Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae pryderon gan Confor ac eraill am—. Gwyddom fod ystad goetir Llywodraeth Cymru yn ased economaidd hanfodol, ond eto mae swm y pren sy'n dod i'r farchnad wedi gostwng yn gyson yn is na lefelau cynhyrchu cynaliadwy. Felly, sut y bydd Llywodraeth Cymru a sut y bydd y strategaeth hon yn mynd i'r afael â thanddefnydd o bren o ystad goetir y Llywodraeth? A sut y byddwch yn sicrhau bod gan Cyfoeth Naturiol Cymru yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i gyflawni eu rôl yn briodol yn y maes hwn?

Nawr, rwy'n gwerthfawrogi bod y datganiad yn ymwneud ag ychwanegu gwerth, neu am ychwanegu gwerth at y cynnyrch, a byddwn yn cefnogi ymdrechion yn fawr iawn yn hynny o beth, ond sut olwg sydd ar hynny o ran strategaeth y Llywodraeth? A fydd map ffordd, neu ble rydym yn mynd, o ran canlyniad yn dilyn hyn? Rwy'n gwybod y bydd strategaeth, ond a ydych chi'n edrych ar bwyntiau ar hyd y daith honno fel rhan o gynllun gweithredu, neu unrhyw beth a ddaw o ganlyniad?

Nawr, byddwn yn cytuno bod angen dybryd i leihau dibyniaeth Cymru ar fewnforion pren, wrth gwrs, oherwydd gwyddom eu bod yn tueddu i gynyddu allyriadau carbon, ac maen nhw'n codi pryderon moesegol ynghylch dinistrio cynefinoedd a safonau amgylcheddol gwael dramor. Felly, pa gamau sy'n cael eu cymryd i leihau'r dibyniaeth honno, yn enwedig yn y tymor byrrach efallai, oherwydd yn y tymor hwy rydym yn gobeithio y byddwn yn fwy hunangynhaliol yn y maes hwnnw? Ond mae angen i ni hybu cynhyrchu moesegol a chynaliadwy, gartref ond hefyd o ran ein mewnforion.

Ac yn olaf gen i, rwyf eisiau gofyn am y goedwig genedlaethol. Yn amlwg, fe wnaethoch chi sôn yn gynharach heddiw bod 100 o safleoedd bellach wedi cyflawni statws coedwig genedlaethol, ond sut ydych chi'n bwriadu sicrhau bod y fenter honno'n sicrhau buddion economaidd ac amgylcheddol diriaethol? Ai prosiect amgylcheddol symbolaidd yn unig yw'r goedwig genedlaethol, neu a ydych chi'n rhagweld hynny'n cyfrannu'n ystyrlon at gynhyrchu pren, yn ogystal â gwella bioamrywiaeth? Diolch, Llywydd.

17:25

Llyr, diolch yn fawr iawn i chi. Gadewch imi sôn am y cyfraddau plannu coed mewn ymateb i chi, yn gyntaf oll. Roedd y targedau plannu coed a argymhellir gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd yn heriol iawn, ond rydym wedi ymrwymo i weithio gyda nhw i sicrhau bod y targedau hynny yn uchelgeisiol ond eu bod hefyd yn realistig i Gymru, gan gydnabod bod gennym bwysau cystadleuol ar dir yn ein tirwedd wledig hefyd. Rydym yn cydnabod y manteision lluosog hynny, ac mae angen i ni gydbwyso'r rheini wrth i ni ymdrechu i gyrraedd sero net erbyn 2050. Ond yr hyn yr ydym ni eisiau ei wneud, yn yr ymgynghoriad hwn ac yn y strategaeth sy'n deillio ohono, yw annog tirfeddianwyr i gymryd rhan mewn ystod eang o brosiectau a chydweithio â'i gilydd i gyflawni ystod amrywiol o brosiectau plannu coed a chreu coetiroedd. Nawr, bydd rhai o'r rheini, yn wir, yn dod o fewn y dull gwerth ychwanegol hwnnw yn y strategaeth ar gyfer pren, y gellir ei ddefnyddio nid yn unig wrth secwestru wrth i chi eu plannu ac ati, ond mewn gwirionedd i greu cynhyrchion hirhoedlog hefyd. Eraill fydd gwahanol fathau o blannu, ac rydym yn awyddus i weld mwy o ddefnydd o blannu coed am wahanol resymau hefyd.

Mae ystadegau, y diweddaraf sydd gennym, yn dangos bod 640 hectar o goetir wedi'i greu yng Nghymru yn nhymor plannu 2023-24. Mae'n debyg i'r gyfradd flynyddol gyfartalog o blannu yr ydym wedi'i chyflawni dros y degawd diwethaf, ond yn nodedig, dyma'r drydedd gyfradd uchaf yn y cyfnod hwnnw. Ond rydyn ni'n gwybod bod yn rhaid i ni wneud mwy a mynd ymhellach, ac mae hynny'n rhan o beth mae hyn yn ei olygu. Ond mae hyn yn ymwneud â, fel y disgrifiwyd gan yr ymgynghoriad, nid yn unig cynhyrchu'r cwantwm hwnnw o gynnyrch cartref, o'r math cywir ac amrywiol—pren meddal a phren caled sy'n gallu mynd i mewn i gynhyrchion carbon sydd wedi'u hymgorffori'n ddwfn, megis tai, fel dodrefn ac ati—ond mae hefyd yn ymwneud â bod â gwahanol fathau o blannu a all roi buddion i'r gymuned, manteision natur a buddion bioamrywiaeth hefyd. Felly, ar sail Cymru, dyna'r dull yr ydym yn ei fabwysiadu yn fawr iawn.

Ac i ddweud hefyd, rydym yn aml yn cicio ein hunain ac yn beirniadu ein hunain yng Nghymru am gyfraddau plannu coed a beth arall y gallwn ni ei wneud i'w cynyddu. Nid ydym yn wynebu'r her hon ar ein pen ein hunain, mae'n rhaid i mi ddweud, ledled y DU, a dyna pam y sefydlwyd tasglu coed y DU, i rannu arfer da, gweld beth yw'r rhwystrau a gweld a allwn weithio gyda'n gilydd i chwalu'r rhwystrau hynny rhag creu coetiroedd da a phriodol yn y lle iawn. Felly, rydym yn hyderus y bydd Cymru'n elwa ar y cyfle hwnnw.

Soniais yn gryno am y pwynt ynglŷn â pheidio â chael rhai o'r canlyniadau anfwriadol hynny o bobl yn dod i mewn o'r tu allan i Gymru ac ati. Mae'n rhaid i ni fod yn wyliadwrus o hynny, heb amheuaeth.

Un o'r pethau y mae ystad goetir Llywodraeth Cymru, yr ystad goedwigaeth, sydd gennym, ei hangen, yw nid yn unig dod o hyd i'r ardaloedd hynny lle gallwn blannu a chael y model busnes yn iawn ar gyfer hynny hefyd, ond hefyd i ôl-lenwi hyn, mewn gwirionedd, gyda chyflenwad dibynadwy o goed ifanc i wneud hyn. Felly, unwaith eto, rhan o'r strategaeth hon yw sicrhau bod gennym y coed ailgyflenwi hynny yn dod drwodd. Felly, roedd gan Cyfoeth Naturiol Cymru broses dendro gystadleuol yn ôl yn 2022-23, a dyfarnwyd y contract ar gyfer ailgyflenwi i Maelor Forest Nurseries. Felly, mae manteision gwirioneddol yma os cawn y gadwyn gyflenwi yn iawn.

A'r agwedd arall i'w nodi, wrth gwrs, yw nad yw hyn yn sefyll ar ei ben ei hun ychwaith o ran creu coetiroedd, y sonioch chi amdano. Felly, yr hyn y gallwn ei wneud o fewn y cynllun ffermio cynaliadwy, wrth ddylunio hynny nawr dros y misoedd nesaf, ar ôl cyrraedd y cam amlinellol hwnnw, yw rhoi'r cymhelliant cywir i ffermwyr sydd mewn gwirionedd eisiau creu coetiroedd—efallai ar gyfer coedamaeth neu amaethgoedwigaeth, efallai ar gyfer lleiniau cysgodi, ond mewn gwirionedd i'n helpu i fwrw ymlaen â hynny. Bydd rhai yn elwa ar hyn, yn gweld y cyfle i arallgyfeirio, peidio â dileu tir pori cynhyrchiol o'r radd flaenaf ac ati, heb ddileu'r ffriddoedd gyda'r fioamrywiaeth ac ati, ond, yn y lle iawn, efallai y byddant yn dweud, 'Rydym eisiau gwneud hyn hefyd.' Felly, dyna pam rwy'n credu bod angen i ni fwrw ymlaen â hyn—ymgynghori, ymgysylltu, gweld a ydym ni wedi ei gael mwy neu lai yn iawn, addasu os nad ydym ni, ac yna bwrw ati. Diolch.

17:30

[Torri ar draws.] Peidiwch â phoeni, Aelod penodol oedd yn ceisio tynnu sylw oddi wrth eich datganiad ar bren, felly rwy'n siŵr y bydd hi'n gwrando ar weddill y datganiad nawr. Carolyn Thomas, yn olaf.

Dim ond gwrando ar y sgyrsiau, fe wnaethoch chi fy atgoffa fy mod wedi ymweld â meithrinfa Cyngor Sir Ddinbych. Maen nhw wedi dechrau tyfu coed o eginblanhigion eu hunain, a hefyd blodau gwyllt, sy'n anhygoel, i gael y cyflenwad lleol hwnnw yn barod i'w blannu ar yr ystad gyhoeddus.

Rwyf eisiau sôn am goedwigaeth gorchudd parhaus yn hytrach na llwyrgwympo. Mae mor bwysig i fioamrywiaeth ac atal llifogydd hefyd. Rydyn ni wedi gweld hynny ar ein hystadau cyhoeddus a reolir gan CNC, felly a fyddai hynny'n rhan o'r strategaeth, wrth symud ymlaen? Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn.

Rwy'n bryderus iawn am glefydau fel clefyd coed ynn a chlefyd llarwydd hefyd, felly mae bod ag amrywiaeth o rywogaethau yn bwysig iawn wrth symud ymlaen.

Felly, fy nghwestiwn i chi, mewn gwirionedd, yw: sut y byddai Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod coedwigaeth Cymru yn gallu gwrthsefyll yr hinsawdd, ac a fydd hyn yn cael ei adolygu, ac a fyddwn yn gweld ac yn dysgu mwy am newid hinsawdd yng Nghymru ac yn addasu?

Diolch yn fawr, Carolyn, am y cwestiwn yna. Mae'n dda clywed am y gwaith sy'n digwydd gyda meithrinfeydd sir Ddinbych hefyd. Mae angen i lawer o'r gwaith hwn ddigwydd ym mhob rhan o Gymru, ac mae'r ymgynghoriad hwn yn mynd o'r dechrau o ran meithrinfeydd, trwy'r plannu, y cynaeafu, yr ymgorffori, yr adeiladu, a'r gwerth ychwanegol yr holl ffordd drwyddo. I wneud hynny'n glir: nid yw hyn yn ymwneud â phlannu coed neu un math o goeden yn unig, dyma'r maes cyfan yn y fan yma, oherwydd rydym yn gweld gwir botensial mewn twf economaidd a swyddi yn hyn o beth.

Ond fe wnaethoch chi grybwyll yn hollol briodol yr agwedd o orchudd parhaus a chydnerthedd, gan feithrin cydnerthedd ynddo. Mae hynny'n bendant yn rhan o'r ymgynghoriad a bydd angen iddo fod yn rhan o'r strategaeth. Felly, mae'r ail flaenoriaeth a drafodir yn yr ymgynghoriad yn mynd i'r afael â'r angen i gynyddu cydnerthedd, hybu amrywiaeth ac addasu ein systemau coedamaeth, ac mae gennym rai cynigion penodol yn yr ymgynghoriad yr ydym eisiau i bobl wneud sylwadau arnynt, ar sut rydym yn diogelu ein coetir a'n coedwigoedd at y dyfodol. Mae yna wahanol fathau o ddulliau coedamaeth i gyflawni gwahanol amcanion dros wahanol amserlenni—nid bod un perffaith—felly mae angen i ni wneud yn siŵr bod gennym ni'r amrywiaeth honno yn hyn, fel y gallwn ni secwestru carbon, fel y gallwn ni gael y cyflenwadau pren yn dod i'r llif, ond hefyd bod ag amrywiaeth go iawn, cydnerthedd gwirioneddol, gan gynnwys cydnerthedd rhywogaethau, bioamrywiaeth a secwestru carbon.

Cynhaliwyd digwyddiad cyfnewid gwybodaeth ar 12 Rhagfyr y llynedd. Roedd yn canolbwyntio'n benodol ar ddethol rhywogaethau cynhyrchiol yn y dyfodol, nodweddion pren, ac, yn hwnnw, roedd gennym yr arbenigwyr blaenllaw ac ystod eang o randdeiliaid i rannu arfer gorau, ond hefyd yr ymchwil ddiweddaraf—felly, roedd gennym Forest Research, CNC, Prifysgol Bangor yno, Woodknowledge Cymru, Confor a rhanddeiliaid blaenllaw eraill. Mae hyn, gyda llaw, yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau rydym yn eu cynnal nawr o ddigwyddiadau cyfnewid gwybodaeth yr ydym yn mynd i fod yn eu cynnal, ond roedd yn ddiddorol gweld hyn yn y sector pren, yn sôn am y cydnerthedd a'r amrywiaeth hwnnw a'r gallu i wrthsefyll yr hinsawdd yn y dyfodol hefyd.

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet. Roeddwn i'n pryderu ychydig yn ystod y datganiad hwnnw ar bren a choedwigaeth, oherwydd roeddwn i'n gallu arogli llosgi, ond rydw i wedi cael sicrwydd mai cwpl o gacennau te wedi'u tostio sydd wedi mynd ar dân yn y gegin—[Chwerthin.]—a bod popeth wedi'i ddatrys.

7. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip: Diwrnod Cofio’r Holocost 2025

Yr eitem nesaf, felly, bydd y datganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol ar y Diwrnod Cofio'r Holocost 2025, a dwi'n gofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet i wneud y datganiad yma—Jane Hutt.

Member (w)
Jane Hutt 17:34:26
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Diolch, Llywydd. Dydd Llun nesaf yw Diwrnod Cofio’r Holocost, y diwrnod coffáu blynyddol i gofio mwy na 6 miliwn o Iddewon a Roma a gafodd eu llofruddio yn ystod yr Holocost, a’r miliynau o bobl a laddwyd oherwydd erledigaeth y Natsïaid. Rydyn ni hefyd yn cofio'r rhai a laddwyd yn yr hil-laddiadau wedi hynny, fel Cambodia, Rwanda, Bosnia a Darfur.

Mae Diwrnod Cofio'r Holocost eleni yn nodi 80 mlynedd ers rhyddhau Auschwitz-Birkenau, gwersyll-garchar mwyaf y Natsïaid. I nodi'r flwyddyn arwyddocaol hon, rydym wedi rhoi cyllid i Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost ymgymryd â gwaith a chyflogi gweithiwr cymorth yng Nghymru. Dros y misoedd diwethaf, maen nhw wedi bod yn gweithio gyda chymunedau a sefydliadau i gynllunio a chefnogi gweithgareddau coffa ledled Cymru, oherwydd rhaid i ni byth anghofio. Mae ysgol yng Nghonwy yn cynnal sgwrs gan un o oroeswyr yr Holocost. Bydd Art Central Gallery yn y Barri yn cynnal arddangosfa gelf Diwrnod Cofio'r Holocost, a fydd yn cyflwyno cyfres o greadigaethau sy'n ystyried trawma a cholled. Mae llyfrgell ganolog Abertawe wedi trefnu sgwrs ar 'Hanesion Llafar y Kindertransport yng Nghymru'. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn cynnal gweminar fyw ar gyfer disgyblion ar draws gorllewin Gwent, lle gallan nhw glywed tystiolaeth gan un o oroeswyr yr Holocost, gyda chyfle i ofyn cwestiynau.

Fe wnaeth ein cyllid alluogi'r ymddiriedolaeth i ymgysylltu â chymunedau a sefydliadau yng Nghymru fel rhan o'i phrosiect celfyddydau ac addysg, '80 Cannwyll ar gyfer 80 Mlynedd'. Mae 80 o gymunedau a sefydliadau o bob rhan o'r DU wedi dylunio a chreu daliwr canhwyllau pwrpasol i nodi bywyd unigolyn neu gymuned a wynebodd erledigaeth gan y Natsïaid. Mae'r 80 o ddalwyr canhwyllau yn cael eu harddangos mewn arddangosfa ddigidol, gan ddod ag amrywiaeth o straeon ynghyd. Bydd tri chyfraniad o Gymru yn ymddangos yn yr arddangosfa. Mae archifau Oriel Môn ac Ynys Môn wedi edrych ar straeon bywyd Hendrik a Karel Lek, a ffodd o Wlad Belg ac ymgartrefu ar Ynys Môn. Dewisodd grŵp Sipsiwn, Roma, Teithwyr CEF Berwyn ganolbwyntio ar ddioddefwyr Romani Auschwitz-Birkenau, a threfnwyd gweithdai ynghylch effaith erledigaeth y Natsïaid ar y gymuned Sipsiwn, Roma, Teithwyr. Mae CEF Parc wedi canolbwyntio ar hanes bywyd Helene Melaine Lebel, a gafodd ei lladd gan raglen ewthanasia'r Natsïaid. Ceisiodd y cyfraniad hwn godi ymwybyddiaeth o'r gwahanol gymunedau a gafodd eu herlid, gan gynnwys pobl anabl.

Mae 2025 hefyd yn nodi 30 mlynedd ers yr hil-laddiad ym Mosnia. Y gyflafan yn Srebrenica oedd yr achos mwyaf o lofruddiaeth dorfol yn Ewrop ers yr ail ryfel byd. Byddwn ni'n cofio'r 8,000 o Fwslemiaid o Fosnia a gafodd eu lladd yn ystod yr erchyllterau, yn ogystal â'r rhai a oroesodd triniaeth mor annynol yn ystod y gwrthdaro.

Ochr yn ochr â'r Prif Weinidog, byddaf yn mynychu seremoni Diwrnod Cofio'r Holocost Cymru. Mae bob amser yn seremoni hynod emosiynol, gyda chyfraniadau amhrisiadwy gan oroeswyr hil-laddiad. Eleni, bydd un o oroeswyr yr Holocost, Eva Clarke, a Safet Vukalić, un o oroeswyr yr hil-laddiad ym Mosnia, yn siarad yn y seremoni. Bydd cynrychiolwyr o'r cymunedau Iddewig a Roma yn cymryd rhan yn y seremoni genedlaethol, yn ogystal â phobl anabl a phobl LHDTC+, a gafodd eu targedu hefyd yn ystod yr Holocost.

Bydd y Prif Weinidog hefyd yn bresennol mewn digwyddiad Diwrnod Cofio'r Holocost yn y Senedd brynhawn yfory. Mae gan y digwyddiad nawdd trawsbleidiol, sydd unwaith eto'n adlewyrchu ymrwymiad a chefnogaeth barhaus y Siambr hon ar gyfer nodi'r diwrnod.

Am 8 p.m. ar Ddiwrnod Cofio'r Holocost, bydd moment genedlaethol 'goleuo'r tywyllwch' yn digwydd. Gwahoddir pobl i oleuo canhwyllau a'u rhoi yn ddiogel yn eu ffenestri i gofio'r rhai a gafodd eu llofruddio yn ystod yr Holocost a hil-laddiadau dilynol. Bydd y canhwyllau hefyd yn cynrychioli gwrthwynebiad i'r rhagfarn a'r casineb sy'n parhau i fodoli heddiw. Bydd adeiladau eiconig ledled Cymru, gan gynnwys y Senedd a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn cael eu goleuo mewn porffor.

Eleni, thema Diwrnod Cofio'r Holocost yw 'er budd dyfodol gwell'. Mae Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost yn dweud ar ei gwefan bod

'gan bob un ohonom gyfle i weithredu er budd dyfodol gwell. Dyfodol gwell lle nad yw pobl yn dioddef rhagfarn nac erledigaeth oherwydd eu ffydd, eu hethnigrwydd neu nodweddion eraill.'

Mae'r ymddiriedolaeth yn tynnu sylw at rai camau pwysig y gallwn ni i gyd eu cymryd i ymdrin â gwrthsemitiaeth a mathau eraill o gasineb i greu dyfodol gwell: tynnu sylw at wadu'r Holocost neu hil-laddiad neu beri iddyn nhw ymddangos yn ddibwys pan fyddwch chi'n ei weld neu'n ei glywed; defnyddio ffynonellau awdurdodol, dilys i ddysgu mwy am yr Holocost a hil-laddiadau, ac i rannu ag eraill; riportio pob trosedd casineb i'r heddlu neu drwy wasanaethau cymorth. Mae Llywodraeth Cymru yn llwyr ategu'r alwad hon i weithredu. Mae'n hanfodol bod plant a phobl ifanc yn deall y rhesymau y tu ôl i'r Holocost a chanlyniadau dad-ddyneiddio rhannau o gymdeithas. Rydym yn parhau i ariannu Ymddiriedolaeth Addysg yr Holocost i gynnal prosiect Gwersi o Auschwitz yng Nghymru, sy'n rhoi cyfle i fyfyrwyr ôl-16 oed ymweld â Gwlad Pwyl a chlywed yn uniongyrchol gan un o oroeswyr yr Holocost. Mae myfyrwyr yn gorffen y rhaglen drwy amlinellu sut y byddan nhw'n rhannu'r hyn y maen nhw wedi'i ddysgu a'i brofi gyda'u hysgol a'u cymuned ehangach.

Yn yr un modd â'r ymddiriedolaeth, rydym yn annog pobl yn gryf i roi gwybod am droseddau casineb. Mae modd rhoi gwybod amdanynt drwy gysylltu â'r heddlu neu drwy Ganolfan Cymorth Casineb Cymru sy'n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a'i chynnal gan Cymorth i Ddioddefwyr. Mae'r gwasanaeth yn cynnig cymorth ac eiriolaeth gyfrinachol am ddim i bob dioddefwr troseddau casineb, gan gynnwys gwasanaeth pwrpasol i blant a phobl ifanc. Mae Llywodraeth Cymru yn falch o gynnal ein safiad cryf: does dim lle i gasineb yng Nghymru. Mae'r egwyddorion hyn yn flaenllaw yn ein 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol' a'n cynllun gweithredu LHDTC+ a'r cynllun hawliau anabledd sydd ar ddod. 

Rwyf am gloi'r datganiad hwn trwy ddiolch i'r nifer fawr o bobl ledled y DU sy'n neilltuo eu hamser a'u hymdrech tuag at godi ymwybyddiaeth o'r Holocost. Mae anrhydeddu atgofion y rhai a gollwyd a chadw eu straeon yn fyw yn ffordd bwysig o sicrhau bod ein gwead cymdeithasol yn parhau'n gryf. Hoffwn ddiolch i Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost ac Ymddiriedolaeth Addysg yr Holocost am y gwaith hanfodol mae'n nhw'n ei wneud i helpu i addysgu a chofio. Mae'r Holocost yn dal i fod yn atgof byw, ac rydym yn hynod ddiolchgar i'r nifer o oroeswyr, gan gynnwys Eva a Safet, sy'n teithio o amgylch Cymru yn rhannu eu rhybuddion o'u plentyndod a'u gweledigaeth ar gyfer dyfodol gwrth-hiliol a chydlynol. 

Rwy'n gobeithio y bydd yr holl Aelodau yn ymuno â mi heddiw a dydd Llun i annog cymunedau Cymru i arddangos eu hymrwymiad trwy oleuo'r tywyllwch ar gyfer dyfodol gwell. Diolch yn fawr.

17:40

Diolch, Ysgrifennydd Cabinet, am eich datganiad. Wrth i ni baratoi i nodi 80 mlynedd ers rhyddhau Auschwitz-Birkenau, y mwyaf o wersylloedd marwolaeth y Natsïaid, mae'n bwysicach nag erioed ein bod ni'n dysgu gwersi'r Holocost. Yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, gwnaethom ddysgu bod dwy ran o dair o'r holl bobl Iddewig a oedd yn byw yn Ewrop a thros filiwn o bobl nad oedd y Natsïaid yn eu cymeradwyo wedi cael eu llofruddio'n systematig mewn gwersylloedd marwolaeth helaeth. Dywedodd y byd 'byth eto', ac rydym yn nodi'r diwrnod y cafodd y gwersyll marwolaeth mwyaf ei ryddhau ar Ddiwrnod Cofio'r Holocost fel na fyddwn byth yn anghofio. Ond mae gormod o lawer wedi anghofio, rhai yn mynd mor bell â gwadu llofruddiaeth 6 miliwn o Iddewon, 0.5 miliwn o bobl Roma a Sinti, yn ogystal â channoedd o filoedd o bobl hoyw, pobl ddu, pobl anabl a phobl oedd yn wahanol.

Mae'n rhaid i ni atgoffa pobl yn gyson nid yn unig bod yr Holocost wedi digwydd, ond nad dyma ddiwedd hil-laddiad. Yn ystod y blynyddoedd yn dilyn trechu'r Almaen Natsïaidd, mabwysiadodd y byd gonfensiwn hil-laddiad y Cenhedloedd Unedig, a luniwyd gan y cyfreithiwr o Wlad Pwyl, Raphäel Lemkin. Lemkin oedd y cyntaf i fathu'r ymadrodd 'hil-laddiad' a nododd dro ar ôl tro fod amlygiad cynnar i straeon am droseddau Otomaniaid yn erbyn pobl Armenia mewn papurau newydd yn allweddol i'w gredoau am yr angen i amddiffyn grwpiau yn gyfreithiol. Er bod llawer o genhedloedd yn dal i wrthod galw llofruddiaeth cannoedd o filoedd o bobl Cristnogol Armenia a oedd yn byw yn yr Ymerodraeth Otomanaidd yn 1915 a 1916 yn hil-laddiad, rwy'n credu mai hwn oedd hil-laddiad cyntaf yr ugeinfed ganrif.

Ar Ddiwrnod Cofio'r Holocost, rydym yn cofio'r rhai a fu farw yn yr Holocost, yn ogystal â'r hil-laddiadau yn Cambodia, Rwanda, Bosnia, Darfur a hil-laddiad Yazidi. Fe ddywedon ni 'byth eto', ac eto mae hil-laddiadau yn dal i ddigwydd heddiw. Yn Sudan, rydym yn gweld achosion cynyddol o lanhau ethnig yn y frwydr dros Khartoum. Yn y dwyrain canol, rydym yn gweld gwrthdaro a allai ddod yn hil-laddiad. Mae Hamas a Hezbollah sydd wedi'u cefnogi gan Iran wedi addo dileu Israel oddi ar y map a chael gwared ar Iddewon o'r rhanbarth. Ar yr ochr arall, mae ymsefydlwyr Israelaidd yn ceisio cael gwared ar Balestiniaid o'r tir. Gartref, rydym yn gweld cynnydd yr asgell dde eithafol ac yn dyst i fethiant y rhaglen Prevent flaenllaw i atal terfysgwyr Islamaidd fel Axel Rudakubana.

Ysgrifennydd Cabinet, rwy'n croesawu'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gadw'r Holocost yn fyw yn y cof fel na fyddwn ni byth yn anghofio'r erchyllterau, ond os ydym am sicrhau dyfodol gwell, ydych chi'n cytuno bod yn rhaid i ni ymdrin â thwyllwybodaeth? Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau nad yw casineb yn cael ei fwyhau ar-lein, yn enwedig trwy ddeallusrwydd artiffisial? Ydych chi'n cytuno bod addysgu sgiliau meddwl beirniadol i genedlaethau iau yr un mor bwysig â'u haddysgu am erchyllterau'r Holocost?

Rwy'n cytuno â'ch datganiad ynglŷn â gwadu hil-laddiad. Ysgrifennydd Cabinet, pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU ynghylch cydnabod hil-laddiad Armenia a'r Holodomor fel hil-laddiadau? Yn olaf, Ysgrifennydd Cabinet, sut ydych chi'n gweithio gyda chymunedau Mwslimaidd ledled Cymru i godi ymwybyddiaeth o hil-laddiad Bosnia a'u hymwneud â Diwrnod Cofio'r Holocost? Rwy'n edrych ymlaen at nodi Diwrnod Cofio'r Holocost ddydd Llun a gweithio gyda chi i oleuo'r tywyllwch er budd dyfodol gwell. Diolch.

17:45

Diolch yn fawr iawn, Altaf Hussain; diolch yn fawr iawn am wneud datganiad mor gryf heno. Fel y dywedoch, mae'n bwysicach nag erioed ein bod ni'n dysgu gwersi'r Holocost. Rydym yn gwybod bod coffáu'r Holocost yn hanfodol er mwyn sicrhau na fyddwn byth yn anghofio pa mor beryglus y gall naratifau atgas a rhwygol fod. Mae'n ein hatgoffa ni o'r hyn a all ddigwydd pan fydd pobl a chymunedau'n cael eu targedu a'u dad-ddyneiddio dim ond oherwydd pwy ydyn nhw. Wrth gwrs, ni ddigwyddodd yr Holocost dros nos; dechreuodd gydag erydu hawliau dynol yn raddol a rhethreg ymrannol yn erbyn pobl a oedd yn wahanol, neu'n cael eu hystyried yn wahanol i eraill, ac rydych chi wedi nodi'r hyn y mae hynny wedi'i olygu, fel y gwnes i yn fy natganiad.

Rwy'n falch eich bod chi wedi codi'r pwynt ynghylch herio camwybodaeth. Mae'n ddyletswydd ac yn gyfrifoldeb arnom, rwy'n credu—i bob un ohonon ni yma—i herio camwybodaeth a meithrin cydlyniant cymunedol. Dyna'r mesurau diogelu i geisio sicrhau na fydd yr erydiad hwn o hawliau dynol byth yn digwydd yma ledled Cymru, ac onid yw'n dda, rwyf wedi amlinellu sut, ledled Cymru, y mae awdurdodau lleol yn ymgysylltu â grwpiau cymunedol, gan gyflwyno amrywiaeth o ddigwyddiadau ar gyfer Diwrnod Cofio'r Holocost.

O ran y pwynt ar risg ac effaith casineb a chamwybodaeth ar-lein, wrth gwrs, yn anffodus—fel y dywedwch chi, nid oes diwrnod pwysicach na heddiw i ni fod yn trafod hyn—mae'n parhau i gynyddu. Mae'n hanfodol bod cwmnïau cyfryngau cymdeithasol a thechnoleg yn gwneud popeth o fewn eu gallu i amddiffyn eu defnyddwyr rhag niwed ar-lein, fel cynnwys atgas a chamarweiniol. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda'r Swyddfa Gyfathrebiadau yn eu capasiti newydd fel rheoleiddwyr diogelwch ar-lein yn y DU.

Mae addysgu pobl ifanc yn chwarae rhan hanfodol wrth greu cymdeithas fwy gwybodus a chynhwysol, felly roeddwn i eisiau tynnu'ch sylw at yr adran 'Cadw'n ddiogel ar-lein' ar Hwb ar gyfer ein hysgolion. Mae ar gael fel ffynhonnell cymorth i ysgolion a'r gymuned ehangach, ac rwy'n annog pobl i fynd ar Hwb. Mae wedi'i chynllunio i gefnogi diogelwch ac addysg ar-lein, gan gynnal cyfres o adnoddau i ymdrin â chasineb, radicaleiddio ac eithafiaeth ar-lein. Gall yr adnoddau hyn helpu i addysgu pobl ifanc i ddefnyddio sgiliau meddwl beirniadol, fel yr ydych chi wedi nodi—yr angen am hyn—ac rwy'n credu bod hyn yn digwydd drwy ein cwricwlwm newydd, ond bydd yn helpu'r bobl ifanc hynny wrth ymgysylltu â chynnwys ar-lein.

Yn amlwg, rwy'n cysylltu â Llywodraeth y DU ar y materion hyn hefyd, ac, yn wir, rwy'n edrych ymlaen at groesawu'r Arglwydd Khan, sy'n gyfrifol am gydlyniant cymunedol, o fewn y pythefnos nesaf. Mae ef eisiau gweld yr hyn yr ydym yn ei wneud yng Nghymru—y Gweinidog—ac rwy'n edrych ymlaen at drafod y materion hyn gydag ef. Ond, hefyd, mae hyn yn ymwneud â'r hyn yr ydym yn ei wneud yma yng Nghymru, onid ydyw, yn gweithio gyda'n cymuned Fwslimaidd, a Chyngor Mwslimaidd Cymru, a siaradodd yr wythnos diwethaf am yr angen i ni wrando ar ein gilydd a chael consensws. Roedd yn hynod emosiynol, pan es i i'r digwyddiad ar 30 Rhagfyr yn y synagog yng Nghaerdydd, y ffaith bod cynrychiolwyr rhyng-ffydd wedi ymuno â ni yn y digwyddiad hwnnw. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cydnabod bod gennym ni, yng Nghymru, gyda'n cyngor rhyng-ffydd a'n fforwm ffydd gymunedol, ffordd o gyfathrebu a chydnabod yr hyn sy'n digwydd i bob cymuned ledled Cymru, a'r hyn y mae'r digwyddiadau erchyll yn y dwyrain canol wedi'i olygu i'r cymunedau hynny, fel y dywedom yn gynharach, ac fe fyddaf yn gwneud datganiad ar hyn yfory.

Holodomor: rwy'n credu bod hyn yn bwysig. Rydym yn trafod hyn bob blwyddyn. Mae'n fater yr ydym yn ei ddatblygu o ran cydnabod bod Llywodraeth Wcráin, yn 2006, wedi pasio deddf a oedd yn cydnabod bod yr Holodomor yn hil-laddiad yn erbyn pobl Wcráin. Mae wedi cael ei gydnabod gan Senedd Awstralia a sawl gwlad Ewropeaidd, felly mae hyn, unwaith eto, yn rhywbeth y byddwn ni'n mynd ar ei drywydd ac yn ei godi ar lefel uwch, ehangach. Rydym yn sefyll mewn undod â'n ffrindiau yn Wcráin, ac efallai, am eiliad, gallwn ni gydnabod y ffaith bod un o'n Haelodau, Alun Davies, yn Wcráin ar hyn o bryd yn dosbarthu cerbyd a chyflenwadau o ganlyniad i lawer o gefnogaeth gan gymunedau, pobl ac elusennau yng Nghymru.

17:50

'Er budd dyfodol gwell', thema obeithiol, ond mae'n anodd magu gobaith wrth i ni nodi Diwrnod Cofio'r Holocost ym mis Ionawr 2025. Mae hi'n 80 mlynedd ers rhyddhau Auschwitz-Birkenau. Gall ymddangos nad yw gobaith yn wyneb Auschwitz yn fawr mwy na ffydd ddi-sail y bydd y dyfodol yn well na'r gorffennol. Mae gwersyll-garcharau'r Natsïaid wedi dod i symboleiddio sut arweiniodd gwrthsemitiaeth a rhagfarn at affwys sy'n anodd ei ddeall. Anodd, ie, ond efallai nid yn amhosibl, wrth i ni weld dad-ddyneiddio cannoedd o filoedd yn Gaza a'r adrodd gwasaidd ar gynnydd goruchafiaeth wen yn yr Unol Daleithiau. Heb os, mae sail dros besimistiaeth, wrth i ni weld casineb, gelyniaeth ac aralleiddio yn cael eu hysgogi a'u hymfflamychu yn ein gwleidyddiaeth ac ar y cyfryngau cymdeithasol, ond ar adeg fel hyn y mae angen gobaith, ffydd yn y dyfodol, yn fwy nag erioed. Mae 'dros ddyfodol gwell' yn thema angenrheidiol eleni wrth i ni geisio bywiogi a threfnu ein hunain yn well.

Roedd un o ddeallusion mwyaf dylanwadol Cymru, Raymond Williams, yn gapten tanc ei hun yn ymgyrch Normandi yn yr ail ryfel byd, ac aeth ymlaen i'r Almaen, ac, fel y nododd, roedd y miliynau a fu farw yng ngwersylloedd y Natsïaid, ac roedd yna hefyd y rhai a roddodd eu bywydau i waredu'r byd o'r rhai a adeiladodd y gwersylloedd hynny.

Mae eleni, fel y dywedoch, yn nodi 30 mlynedd ers yr hil-laddiad ym Mosnia. Yr haf diwethaf, fe ymwelais i â Mostar, lle mae creithiau'r erchyllterau a gyflawnwyd yn erbyn pobl, nid oherwydd unrhyw beth yr oedden nhw wedi'i wneud, ond oherwydd pwy oedden nhw, yn dal i'w gweld yn y dirwedd, ac mae'r clwyfau dal yn agored yn y gymuned. Roedd yn ein hatgoffa y gall hil-laddiadau ddigwydd ym mhob gwlad, ym mhob oes, i unrhyw bobl, os nad eir i'r afael â'r camau sy'n arwain at hil-laddiad drwy orfodi hawliau dynol rhyngwladol a rheolau cyfraith ryngwladol. Roedd hefyd yn ein hatgoffa bod Cristnogion, Mwslemiaid ac Iddewon, y mae eu cymunedau i gyd i'w gweld ym Mostar, wedi cyd-fyw mewn heddwch ac wedi dangos parch at ei gilydd hefyd.

Pan ydym yn cofio delweddau Auschwitz, Srebrenica, rydym yn deall ar unwaith bod dad-ddyneiddio yn gam annatod o hil-laddiad. Mae hil-laddiad yn digwydd pan fo'r rhai dal pŵer ac sy'n gallu dylanwadu yn ystyried bod un bywyd yn werth llai nag eraill. A thros y flwyddyn ddiwethaf, rhaid i ni ychwanegu at y delweddau hynny y llinell ar ôl llinell o amwisgoedd bach, y cleifion yn llosgi'n fyw mewn ysbytai, teuluoedd wedi'u claddu o dan adeiladau, bomio gwersylloedd ffoaduriaid ac ysbytai. Rydym wedi bod yn dyst bob nos ar ein sgriniau teledu i sut mae dad-ddyneiddio pobl Gaza wedi arwain at erchylltra ar raddfa sy'n gwneud i ddyfodol gwell deimlo fel gobaith pell, ac i'r mantra 'byth eto' deimlo'n ofer.

Mae Human Rights Watch wedi tynnu sylw at sut y gwnaethom glywed gwleidyddion a rheolwyr milwrol Israel yn dweud na ddylai pobl Gaza gael unrhyw ddyfodol. Ni ddylai fod unrhyw fwyd, unrhyw ddŵr, oherwydd eu bod yn ymladd yn erbyn anifeiliaid dynol. Roedd holl bobl Palestina yn gyfystyr â Hamas, poblogaeth gyfan wedi'i dad-ddyneiddio, ond parhaodd Llywodraeth y DU i arfogi Israel beth bynnag. Fe wnaethoch chi sôn am bwysigrwydd tynnu sylw at hil-laddiad. Hoffwn i dalu teyrnged i bob un o ddinesyddion Cymru sydd wedi protestio yn erbyn y dad-ddyneiddio hwnnw wythnos ar ôl wythnos, ym mhob cwr o Gymru, ac yma yn y Senedd. Fe wnaethon nhw weithredu.

Mae'n rhaid i gofio am yr Holocost a hil-laddiadau'r blynyddoedd diwethaf ein harwain ni i weithredu os ydym wir eisiau gweld y dyfodol gwell hwnnw. I ymyrryd. Sut bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod ei choffâd yn un weithredol? A wnaiff annog Llywodraeth y DU i sicrhau bod y cadoediad yn Gaza yn dod yn heddwch parhaol a chyfiawn nawr, trwy wrthwynebu meddiannu a gormesu pobl Palesteina?

Mae'r erchyllterau annisgrifiadwy a gyflawnwyd gan Hamas ar 7 Hydref, cymryd a dal gwystlon Israel yn greulon ac yn anghyfreithlon, a gweithredoedd hil-laddol Llywodraeth Israel yn erbyn y Palesteiniaid wedi arwain at gynnydd mewn Islamaffobia a throseddau casineb gwrthsemitig yn ein cymunedau, y mae'n rhaid iddo gael ei wrthwynebu'n weithredol gan ein system cyfiawnder troseddol a chan bob cynrychiolydd gwleidyddol. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod ei holl bartneriaid sy'n cefnogi gwaith sy'n ganolog i 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol' a'r cynllun gweithredu LHDTC+ yn cael eu diogelu rhag troseddau casineb, aflonyddu a chamdriniaeth, yn enwedig pan fo'n deillio o weithredoedd y rhai sy'n manteisio ar sefyllfaoedd i ysgogi casineb, a all arwain yn aml at drais?

Wrth ysgrifennu'n ddiweddar yn The Economist, mae Philippe Lazzarini, pennaeth Asiantaeth Cymorth a Gwaith y Cenhedloedd Unedig, yn dyfynnu'r athronydd Hannah Arendt, a rybuddiodd fod marwolaeth empathi dynol yn un o'r arwyddion cynharaf a mwyaf arwyddocaol o ddiwylliant sydd ar fin troi'n farbariaeth. Mae Lazzarini yn dadlau'n bwerus mai'r hyn a all atal hynny rhag digwydd yw pŵer cyfraith ryngwladol. Ni ellir caniatáu unrhyw eithriadau os ydym wir eisiau cynnal yr amddiffyniad hanfodol hwnnw rhag yr erchyllterau yr ydym yn eu cofio heddiw. Mae Amnesty'n dweud ein bod ni wedi gweld gweithredoedd hil-laddol gan Israel yn Gaza, y mae'n rhaid ei dwyn i gyfrif amdanynt. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru ychwanegu llais Cymru at rai'r Llywodraethau eraill,  gwladwriaethau ac is-wladwriaethau, sy'n galw ar Lywodraeth Israel i gael ei dwyn i gyfrif am unrhyw droseddau rhyfel a gyflawnwyd er mwyn sicrhau cyfiawnder, ie, ond hefyd i atal achosion o dorri cyfraith ddyngarol ryngwladol yn y dyfodol hefyd? Siawns mai dyna'r unig ffordd i ni gadw'r gobaith am ddyfodol gwell yn fyw heddiw.

17:55

Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr, Sioned Williams, am eich datganiad pwysig iawn.

Datganiad pwerus iawn, unwaith eto, a diolch am eich cwestiynau. Fel y dywedwch chi, mae'n rhaid i ni gael ffydd yn y dyfodol, 'er budd dyfodol gwell'. Wrth ymateb i'ch cwestiynau, mae'n bwysig iawn bod ein hymgyrch gyfathrebu yn erbyn troseddau casineb, Mae Casineb yn Brifo Cymru, yn tynnu sylw cyflawnwyr neu gyflawnwyr posibl at effaith negyddol iawn eu gweithredoedd ar y dioddefwr, y goroeswr, a'u bywydau eu hunain, yn ogystal â thynnu sylw at bwysigrwydd gwylwyr wrth sicrhau canlyniad cadarnhaol.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig dweud bod pŵer lleisiau dioddefwyr—cawson ni gynhadledd ym mis Tachwedd ar gyfer pobl sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus ac ymarferwyr gwasanaethau cyhoeddus—yn rhoi dealltwriaeth o droseddau casineb sy'n seiliedig ar hunaniaeth, ac mae hynny wedi'i lywio gan ymchwil gan Ganolfan Cymorth Casineb Cymru a hefyd ymwybyddiaeth fforwm eiriolaeth profiad bywyd. Mae'n anodd dehongli ystadegau troseddau casineb, ond maen nhw'n dangos y ffaith bod cynnydd o 21 y cant mewn troseddau casineb crefyddol yng Nghymru, y mwyaf diweddar, o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Efallai fod y cynnydd yn gysylltiedig â'r gwrthdaro yn y dwyrain canol, ond beth bynnag sy'n digwydd mewn rhannau eraill o'r byd, wrth gwrs, byddwn ni'n parhau i hyrwyddo gwaith i ddod â'n holl gymunedau ynghyd, ac rydym yn cydnabod gwaith arweinwyr ffydd, a chymunedau Iddewig a Mwslimaidd yng Nghymru, sydd wedi cydweithio'n heddychlon yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae llawer ohonom yn rhyngweithio â nhw mewn gwahanol fforymau, ond hefyd yn amlwg mae gan bobl yr hawl i leisio eu barn yn y ffordd y mae angen iddyn nhw ei wneud yng Nghymru, ac rydym yn parchu hynny o ran yr ymgysylltu yr ydym yn ei gael.

Mae'n hanfodol bod y DU a'i chynghreiriaid yn parhau i fod ar flaen y gad o ran ymdrechion hanfodol i dorri'r cylch trais a sicrhau heddwch hirdymor yn y dwyrain canol, ac fe ddywedaf fwy yn fy natganiad yfory am ffyrdd yr ydym yn helpu'n arbennig i gefnogi'r cymorth dyngarol y mae'n rhaid iddo gyrraedd y bobl ddiniwed hynny, cynifer o blant ym Mhalesteina y mae eu cartrefi wedi troi'n barth rhyfel dros nos, ac mae cynifer wedi colli eu bywydau. 

Ac mae'n bwysig—. Rwyf wedi gwneud datganiad cryf iawn am gydnabod o ran gwrthsemitiaeth. Mae ein safiad a'n hymrwymiad yn glir iawn yma, ac mae'n ddealltwriaeth glir yn ein cymunedau rhyng-ffydd, ond rydym hefyd yn sefyll yn gadarn yn erbyn unrhyw fath o Islamaffobia a gwrthsemitiaeth. Mae'r ddau yn fathau o fwlio sy'n gysylltiedig â rhagfarn. Nid oes lle iddynt mewn unrhyw ran o'n cymdeithas yng Nghymru, ac mae unrhyw fath o fwlio ac aflonyddu yn annerbyniol. Rydym yn disgwyl i honiadau ac achosion o hiliaeth ac aflonyddu hiliol gael eu hymchwilio'n llawn gan leoliadau addysg, ac i gamau priodol gael eu cymryd i fynd i'r afael â'r rhain. Mae hyn, wrth gwrs, i gyd yn gysylltiedig, ac rydych chi wedi sôn am ein 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol' ac, yn wir, yr ymrwymiad nid yn unig i weithredu hynny ond mae gennym ni nod yn y cynllun i fynd i'r afael â phob math o Islamaffobia, ond hefyd yn ein cynllun gweithredu LHDTC+. Unwaith eto, roedd y rhai a ddioddefodd ac a gafodd eu targedu gan y Natsïaid yn cynnwys nid yn unig pobl LHDTC+ ond cymunedau Sipsiwn Roma hefyd. 

Felly, diolch am y cwestiynau hynny ac am y ddeialog barhaus honno y mae'n rhaid i ni ei chael yma yn y Senedd ac yng Nghymru i helpu ar y llwybr hwnnw tuag at heddwch, ac er budd dyfodol gwell.

18:00

Diolch i chi, Ysgrifennydd Cabinet, am roi'r datganiad pwysig iawn hwn heddiw, 80 mlynedd ers rhyddhau Auschwitz-Birkenau. Rwyf wedi ymweld ag Auschwitz gyda myfyrwyr o Gymru, fel yr wyf yn siŵr y mae llawer o Aelodau eraill wedi gwneud, ac roedd hwnnw'n achlysur hynod emosiynol, felly rwy'n falch iawn bod y Llywodraeth yn parhau i gefnogi'r rhaglen addysg. Rwyf hefyd wedi ymweld â Rwanda ac wedi gweld drosof fi fy hun effeithiau parhaol yr hil-laddiad yn y wlad honno.

Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig, fel yr oedd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ei ddweud yn y fan honno, ein bod ni'n cofio pob un person y gwnaeth yr Holocost effeithio arno, y 6 miliwn o Iddewon, y 500,000 o Sipsiwn a Roma, y 300,000 o bobl anabl, a'r miloedd yn fwy o bobl a gafodd eu targedu oherwydd eu cyfeiriadedd rhywiol, neu oherwydd eu crefydd, eu credoau gwleidyddol, eu hethnigrwydd. 

A thema Diwrnod Cofio'r Holocost eleni, fel sydd wedi'i hailadrodd dro ar ôl tro heddiw, yw 'er budd dyfodol gwell', ac os ydym yn mynd i gael dyfodol gwell, mae'n rhaid i ni fod yn feiddgar, mae'n rhaid i ni herio rhagfarn ar ei holl ffurfiau, ac mae'n rhaid i ni dynnu sylw at anghyfiawnder. Felly, rwy'n credu mai'r neges yw bod yn rhaid i ni wneud yn well, pob un ohonon ni yn unigol a phob un ohonon ni gyda'n gilydd. Felly, beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod holl genedlaethau'r dyfodol yn dysgu o'r gorffennol fel y gallwn ni geisio atal yr Holocost a hil-laddiadau rhag digwydd yn y ffordd y maen nhw wedi'u gwneud yn y gorffennol?

Diolch yn fawr, Julie Morgan, a diolch am rannu gyda ni eich profiad, gwybodaeth, dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth helaeth o effaith hil-laddiad a'r hyn y mae'n ei olygu i bob person, pob unigolyn. Fel y soniais i, y rhai a gafodd eu targedu oedd y rhai a gafodd eu hystyried yn wahanol. Nhw yw'r ddynoliaeth. Mae hyn yn ymwneud â'r effaith ar ddynoliaeth yn ei holl amrywiaeth ryfeddol. A hefyd, o'ch profiad chi o ymweld â gwledydd fel Rwanda, mae'n ymwneud â deall a dysgu'r gwersi hynny er budd dyfodol gwell. 

Mae'n bwysig ein bod ni'n parhau i ariannu Ymddiriedolaeth Addysg yr Holocost, ac fe fyddwch chi'n ymwybodol o hyn, ond bydd llawer wedi cwrdd â'r bobl ifanc sy'n dychwelyd. Mae prosiect Gwersi o Auschwitz yn cynnig 156 o leoedd bob blwyddyn i ddysgwyr chweched dosbarth a cholegau addysg bellach ledled Cymru. Rwy'n cofio Sam Kurtz yn myfyrio o'r blaen ar y budd a gafodd wrth ymweld ag Auschwitz pan oedd yn blentyn ysgol, ac, wrth gwrs, dysgu am fywyd Iddewig cyn y rhyfel, hen wersyll marwolaeth a gwersyll-garchar y Natsïaid, ac yna meddwl beth sy'n bwysig—yn ôl i'r meddwl beirniadol—gan ystyried perthnasedd cyfoes yr Holocost. Bydd pob myfyriwr sy'n cymryd rhan yn dod yn genhadon Ymddiriedolaeth Addysg yr Holocost, ac mae hynny'n dylanwadu ar eu dewisiadau oes gyfan a'u profiadau bywyd, ac maen nhw, fel cenhadon, yn rhannu eu gwybodaeth mewn cymunedau yng Nghymru. Felly, mae hwn yn fuddsoddiad yn ein pobl ifanc, a hefyd, fel y gwnaethom sôn, yn y cwricwlwm hefyd, oherwydd rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth lle mae ymdrin â gwahaniaethu a hiliaeth yn golygu bod timau arweinyddiaeth ysgolion, athrawon, staff eraill, dysgwyr a chymuned ehangach yr ysgol yn chwarae rhan hanfodol wrth gyflawni ein gweledigaeth ar gyfer sector addysg Cymru wrth-hiliol.

Gyda'r cwricwlwm hwn, gadewch i ni atgoffa'n hunain mai ni yw'r genedl gyntaf yn y DU i'w gwneud hi'n orfodol i addysgu hanes a phrofiadau pobl ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol. Mae'n thema drawsbynciol, amrywiaeth, ar gyfer y Cwricwlwm newydd i Gymru, fel y gall pobl ifanc ddysgu i fod yn ddinasyddion sy'n wybodus yn foesegol. Ac rwy'n credu bod llawer ohonoch chi—os nad ydych chi wedi gwneud eisoes—wedi ymweld ag ysgolion lle mae'r dysgu proffesiynol ynghylch amrywiaeth a gwrth-hiliaeth wedi helpu'r ysgolion i ddysgu sut y gallan nhw ddefnyddio'r adnoddau hynny i roi ymarfer gwrth-hiliol ar waith, ac rwy'n credu ei fod yn ysbrydoledig iawn. Fe es i i un yn ddiweddar iawn yng Nghaerdydd lle roedd plant ysgol gynradd mor wybodus, mor addysgedig, mor barod i gwestiynu ac mor falch o'u hamrywiaeth yn yr ysgol honno—wyddoch chi, gallwn ni ddysgu ganddyn nhw hefyd. Ond dyma gyd-destun 'er budd dyfodol gwell'.

18:05

A gaf i ddiolch i chi, Ysgrifennydd Cabinet, am eich datganiad heddiw? Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd hyn yma yn y Senedd ac ar draws Cymru i atgoffa pobl lle y gall casineb a gwahaniaethu arwain yn y pen draw. Ac, o gofio ei bod hi'n 80 mlynedd ers rhyddhau Auschwitz-Birkenau eleni, rwy'n credu ei bod yn briodol ein bod ni'n cael datganiad blynyddol yn y Senedd hon ac rydym yn nodi'r digwyddiadau yma yfory ar sail drawsbleidiol hefyd. Yn wir, bydd Paul Sved, un o oroeswyr yr Holocost o Hwngari, gyda ni yfory, ac rwy'n siŵr y bydd ei stori ryfeddol yn ysbrydoliaeth i bob un ohonon ni ac yn ein cymell ni i gyd i wneud popeth o fewn ein gallu i atal gweithredoedd tebyg—gweithredoedd erchyll—rhag digwydd yn y dyfodol.

Rwy'n credu ei fod, yn amlwg, yn flwyddyn nodedig o ran y digwyddiadau yn Srebrenica hefyd, 30 mlynedd yn ôl. Rwyf eisiau cofnodi fy muddiant fel ffrind i Srebrenica a sefydliad Cofio Srebrenica Cymru, a dylai hynny hefyd beri i ni fyfyrio ar y cymunedau Mwslimaidd hynny yng Nghymru y mae casineb a gwahaniaethu a hiliaeth ledled ein gwlad yn effeithio arnyn nhw. Mae'r rhain yn bethau na ddylem byth eu goddef ac y dylem bob amser dynnu sylw atynt pryd bynnag y byddwn yn eu gweld.

Ond roeddwn i hefyd eisiau achub ar y cyfle hwn i gofnodi'r rhyddhad a deimlais o ganlyniad i'r cyhoeddiad am y cadoediad rhwng Israel a Hamas yn y dwyrain canol, oherwydd rydyn ni i gyd yn gwybod yr effaith yr oedd hynny'n ei chael ar bawb yn y dwyrain canol—y gymuned Balesteinaidd, y gymuned Israelaidd, a'u hanwyliaid ledled y byd. Cefais i'r fraint o allu ymweld ag Israel fis Ebrill diwethaf gyda dau Aelod arall o'r Senedd hon, Sam Rowlands a Russell George, lle cawson ni gyfle i ddysgu mwy am y gwrthdaro, ond hefyd i gwrdd â phobl ryfeddol a oedd yn aelodau o deulu rhai o'r gwystlon sydd wrthi'n cael eu rhyddhau erbyn hyn. Un o'r unigolion hynny oedd Mandy Damari, yr oedd ei merch Emily ymhlith y tri a gafodd eu rhyddhau yn ystod y diwrnodau diwethaf. Roedd hi'n ddynes hynod o gryf. Nid oedd ganddi unrhyw syniad a oedd ei merch yn fyw neu'n farw, ond roedd ganddi dyst mewnol ei bod yn dal yn fyw, ac roedd hynny'n cadw gobaith yn fyw ynddi. Ac roedd ei gweld hi gyda'i merch unwaith eto yn rhywbeth arbennig iawn, iawn, ond mae'n ein hatgoffa ni hefyd bod yna deuluoedd yng Nghymru y mae'r sefyllfa ofnadwy hon yn effeithio arnynt—fel y dywedaf, y rhai sydd ag aelodau o'r teulu ar yr ochr Balesteinaidd a'r ochr Israelaidd. Soniodd teulu Brisley, a ddaeth i rannu eu stori yn y Senedd hon y llynedd, wrthym am Eli Sharabi, wrth gwrs, y cafodd ei wraig a'i ferched eu lladd ar 7 Hydref. Mae e dal wedi'i gaethiwo. Dydyn ni ddim yn gwybod a fydd e'n rhan o'r cytundeb gwystlon hwn, oherwydd mae'r enwau'n cael eu cytuno fesul un fel rhan o'r cytundeb rhyddhau. Mae ei rieni yng nghyfraith, Gill a Pete Brisley, wrth gwrs, yn byw ym Mhencoed, ger Pen-y-bont ar Ogwr. Dydyn nhw ddim yn gwybod a yw'n fyw neu'n farw. Ond, mae'n rhaid i ni roi gobaith iddyn nhw ein bod ni yn y Senedd hon yn unedig wrth sefyll yn erbyn y mathau o erchyllterau sy'n arwain yn y pen draw at hil-laddiad, ac a arweiniodd yn y pen draw at yr Holocost.

Felly, a gaf i ddiolch i Lywodraeth Cymru am bopeth y mae'n ei wneud o ran ariannu ar gyfer y rhaglen Auschwitz bwysig honno yr ydych chi'n ariannu disgyblion i gymryd rhan ynddi? Hoffwn ofyn i chi, Ysgrifennydd Cabinet, a fydd Llywodraeth Cymru yn ystyried ymestyn rhaglenni i Srebrenica hefyd fel y gall mwy o bobl ddod i wybod am yr erchyllterau a brofodd pobl yno. Rwy'n gwerthfawrogi ei bod hi'n ddrud anfon pobl dramor, ond does dim byd tebyg i'r profiadau uniongyrchol hynny, siarad â phobl y gwnaeth yr erchyllterau hyn a'r math hwn o wahaniaethu effeithio arnyn nhw, i sicrhau ei fod yn dod â phobl ynghyd i wneud popeth o fewn eu gallu i'w atal yn y dyfodol. Dyna pam rwyf yn sefyll gyda chi, ysgwydd wrth ysgwydd, o ran eisiau sicrhau ein bod ni yn goleuo'r tywyllwch er budd dyfodol gwell yma yng Nghymru a thu hwnt.

18:10

Diolch yn fawr iawn, Darren Millar. Fel y dywedwch chi, coffáu wyth deg mlynedd, y 6 miliwn a laddwyd—llofruddiwyd—gan y Natsïaid, dyma'r hyn y byddwn ni'n myfyrio arno yfory. Yn bwysig, mae'n ddigwyddiad trawsbleidiol yfory, ac mae'n rhaid i mi ddweud 'diolch' am ddod â'r digwyddiadau hyn i'r Senedd bob blwyddyn, ac, wrth gwrs, bydd y seremoni y byddwn ni'n ei mynychu ddydd Llun nesaf hefyd. Ond mae'n bwysig ein bod ni i gyd yn gallu mynegi a rhannu, fel yr ydych chi wedi'i wneud heddiw, ac fel yr ydym ni wedi'i wneud heddiw, rhyddhad, fel y dywedwn, yn enwedig o ran y cadoediad. Roeddwn i eisiau dweud bod hynny'n rhywbeth lle'r oeddwn i'n falch iawn, mewn gwirionedd, i gwrdd â grŵp trawsbleidiol o Aelodau'r Senedd—y Blaid Lafur, Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr Cymreig. Fe wnaethon ni gyfarfod i ystyried a myfyrio—Huw, Luke a Tim Giffard oedd yno—ac fe wnaethon ni fyfyrio ar sefyllfa Eli Sharabi, y mae ei deulu'n byw yng Nghymru, fel y dywedoch chi. Rydym yn ymuno â'r gymuned ryngwladol sy'n gobeithio bod pob gwystl yn cael ei ryddhau'n gyflym ac yn ddianaf. Mae'n bwysig hefyd ein bod ni'n cydnabod ac y byddwch chi'n gweld bod yn rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi'r holl ymdrechion i sicrhau heddwch hirdymor yn y dwyrain canol. Rhaid i ni droi ein sylw at sut y gallwn ni sicrhau dyfodol gwell i bobl Israel a Phalesteina ar sail barhaol, yn seiliedig ar ddatrysiad dwy wladwriaeth a fydd yn gwarantu diogelwch a sefydlogrwydd i Israel ochr yn ochr â gwladwriaeth Balesteinaidd sofran a hyfyw. Nid i ni y mae hynny; gallwn ni fyfyrio, ond mae angen i ni gydnabod y nodau a'r amcanion hynny.

Mae'r hil-laddiad yn Srebrenica, y mae cynifer yma yn gysylltiedig ag ef—gallaf weld Jane, Mike, ac eraill ar draws y Siambr hon sydd wedi siarad amdano—rydym yn parhau nid yn unig i gofio'r dioddefwyr, y goroeswyr a'r teuluoedd, ond rydym hefyd yn canmol gwaith Cofio Srebrenica Cymru a'r rhan hanfodol maen nhw'n ei chwarae, oherwydd maen nhw hefyd, fel y dywedwch chi, yn codi ymwybyddiaeth o ganlyniadau casineb ac yn hyrwyddo dealltwriaeth addysgol i frwydro yn erbyn casineb a rhagfarn. Felly, gan eich bod chi wedi codi'r mater hwnnw, fe wnaf i gwrdd â nhw eto i weld sut mae'r gwaith hwnnw'n cael ei gyflawni.

Diolch, Llywydd. Mae dyled arnom i bobl Iddewig ym mhobman i beidio byth ag anghofio erchyllterau'r hyn a ddigwyddodd yn ystod yr Holocost, ac, wrth gwrs, yr holl gymunedau eraill hynny yr effeithiwyd arnyn nhw mewn ffordd mor erchyll yn ystod y cyfnod hwnnw. Mae arnom ddyled iddyn nhw hefyd i sicrhau ein bod yn tynnu sylw at wrthsemitiaeth heddiw a'i gondemnio. Ni ddylai pobl Iddewig sy'n byw yn ein cymunedau ddioddef oherwydd gweithredoedd Llywodraeth miloedd o filltiroedd i ffwrdd. Rwyf wedi siarad â phobl Iddewig sydd wedi bod ofn gwisgo'r kippah neu seren Dafydd neu sydd wedi bod yn nerfus wrth adael y synagog. Ni all hyn fod pwy ydyn ni. Er ein bod ni'n croesawu'r cadoediad bregus yn y dwyrain canol, er ein bod ni'n teimlo rhyddhad ei fod wedi digwydd a dicter ei fod wedi cymryd yn rhy hir, ydych chi'n cytuno nad yw'r angen i warchod rhag y cynnydd mewn casineb yn ein cymunedau wedi dod yn fater llai brys, a bod dyled arnom i'n brodyr a'n chwiorydd Iddewig a Mwslimaidd i ddangos ein hundod â nhw nawr yn fwy nag erioed?

18:15

Diolch yn fawr, Delyth Jewell. Rydym ni wedi bod mor bryderus am adroddiadau o droseddau casineb a dargedir at bobl Iddewig mewn cymunedau yng Nghymru. Rydych chi'n gwybod ein bod ni'n annog pobl i adrodd am ddigwyddiadau casineb, ond hefyd ymgysylltu â'r cymunedau, mynychu'r synagogau a chwrdd â phobl Iddewig, condemnio casineb ffiaidd a fynegir gan unigolion. Mae hyn yn ymwneud â chreu hinsawdd o ofn, ymrannol, gan ddarnio ein cymunedau. Ac unwaith eto, mae'n ymwneud â ni yn cydnabod bod troseddau casineb hefyd wedi'u targedu at lawer o'n ffrindiau a'n dinasyddion Mwslimaidd hefyd. Felly, trwy addysg, unwaith eto, credwn y bydd ein plant a'n pobl ifanc yn tyfu'n oedolion â'r ddealltwriaeth honno o'r hyn a olygwn ni gan gymuned heddychlon—yn wir, cenedl noddfa.

Fe hoffwn i ddim ond gorffen, Llywydd, trwy ddweud fy mod i'n edrych ymlaen at wneud datganiad yn fuan ar genedl noddfa. Rwy'n credu bod angen i ni ailystyried ac ailgloriannu hyn. Mae'n weledigaeth o Gymru fel cenedl noddfa, oherwydd credwn mai dyna sy'n amlygu'r gorau ynom ni, o ran yr hyn rydym ni'n ei gredu a'r hyn rydym ni'n gobeithio amdano, nid yn unig i bobl Cymru, ond deall eu holl berthnasau, o ble maen nhw wedi dod, gwrthdaro, a'r persbectif rhyngwladol hwnnw, yr ydym ni wedi ei grybwyll heddiw, meddwl am yr heddwch hwnnw a gobeithio iddo aros a pharhau i'n cyfeillion yn y Dwyrain Canol.

8. Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Tarfu ar y cyflenwad dŵr yng Nghonwy

Eitem 8 fydd nesaf. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ar darfu ar gyflenwad dŵr yng Nghonwy yw hwn. Yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud y datganiad—Huw Irranca-Davies.

Member (w)
Huw Irranca-Davies 18:18:02
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Diolch, Llywydd. Ddydd Mercher 15 Ionawr, cafodd Llywodraeth Cymru wybod gan Dŵr Cymru Welsh Water fod pibell dŵr ar gyfer y prif gyflenwad ger gwaith trin dŵr Bryn Cowlyd, Dolgarrog, Conwy wedi byrstio. Roedd y bibell wedi byrstio’n ddifrifol, a oedd yn golygu bod angen gwneud gwaith atgyweirio cymhleth mewn lleoliad heriol iawn o dan Afon Ddu. Cafodd hyn ei gyhoeddi yn ddigwyddiad mawr.

Cyhoeddwyd statws ymateb i ddigwyddiadau gan Lywodraeth Cymru ddydd Mercher 15 Ionawr i gefnogi Dŵr Cymru a grŵp cydlynu strategol amlasiantaeth gogledd Cymru, dan arweiniad gwasanaeth tân ac achub gogledd Cymru. Arhosodd y strwythur ymateb ar waith tan heddiw, ac mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu'n agos trwy gydol y broses. Erbyn nos Sul, roedd dŵr bron pawb yn ôl, ac mae'r digwyddiad bellach wedi'i ddatrys yn llawn. Effeithiodd y digwyddiad ar lawer o bobl yn ardaloedd Dyffryn Conwy, Llandudno a Bae Colwyn. Collwyd cyflenwadau ar gyfer hyd at 40,000 o eiddo ar anterth y digwyddiad, ac effeithiwyd ar rai cymunedau am sawl diwrnod. Roedd hwn yn ddigwyddiad difrifol iawn. Gall colli cyflenwad dŵr am unrhyw gyfnod estynedig gael effaith sylweddol iawn. Mae'n destun gofid a phryder i bob preswylydd, ac yn enwedig i'r rhai sy'n agored i niwed neu'n derbyn cymorth iechyd neu ofal.

Fe hoffwn i gydnabod gwytnwch y cymunedau hynny yr effeithiwyd arnyn nhw, a chydymdeimlo â nhw oherwydd y sefyllfa anodd y maen nhw wedi'i hwynebu. Ond fe hoffwn i hefyd gydnabod y ffordd anhygoel y mae pobl wedi dod at ei gilydd i gefnogi ei gilydd yn wyneb yr amgylchiadau anodd hyn. Gyda'r tarfu ar gyflenwad dŵr prif gyflenwad, darparodd Dŵr Cymru gyflenwadau brys yn canolbwyntio ar leoliadau iechyd a gofal a'r bobl hynny ar restr gwasanaethau blaenoriaeth Dŵr Cymru. Roedd tanceri wedi'u cysylltu â dau ysbyty a dwy uned iechyd meddwl, gan eu galluogi i weithredu fel arfer drwy'r cyfnod dan sylw. Roedd yr ymateb amlasiantaeth yn hanfodol wrth sicrhau bod pobl a lleoliadau agored i niwed yn cael dŵr. Gwn fod Cyngor Conwy a'i gynghorwyr, Aelodau yn y Siambr hon ac Aelodau Seneddol wedi chwarae rhan allweddol wrth gyfeirio cefnogaeth i'r lle mae ei hangen fwyaf. Diolch yn fawr iawn.

18:20

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Ar 17 Ionawr, agorwyd gorsafoedd dŵr potel yn Nolgarrog a Bae Colwyn, ac yn ddiweddarach yng Nghonwy a Llandudno ar gyfer aelodau'r cyhoedd. Mae'r rhain wedi aros ar agor hyd heddiw. Aethpwyd â chyflenwadau hefyd i leoliadau allweddol mewn cymunedau mwy anghysbell, ac wrth i'r penwythnos ddynesu bu byddin fechan o wirfoddolwyr o bartneriaid gwasanaethau cyhoeddus a grwpiau cymunedol yn helpu i ddosbarthu dŵr yn uniongyrchol i'r rhai oedd ei angen. Gwnaed darpariaeth hefyd i sicrhau bod gan ffermwyr fynediad at ddŵr, sy'n hanfodol ar yr adeg hon o'r flwyddyn pan fydd gwartheg yn debygol o fod dan do. Diolch i Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ac Undeb Amaethwyr Cymru, oherwydd bu ganddyn nhw ran allweddol yn rhoi'r gair ar led am leoliad y mannau llenwi hynny. Mae'r digwyddiad wedi cael effaith eang ar fusnesau ac ysgolion, sydd bellach yn gallu dychwelyd i'w trefniadau arferol.

O ystyried natur sylweddol y digwyddiad, cyfarfûm â phrif weithredwr Dŵr Cymru i gael gwybod am y cynnydd o ran atgyweirio a darparu dŵr i bobl a oedd wedi colli cyflenwad. Yn y cyfarfod hwnnw, pwysleisiais bwysigrwydd negeseuon clir i'r cyhoedd a sicrhau bod cyflenwadau brys yn cael eu darparu ac yn hygyrch i bawb, ac o sicrhau bod cwsmeriaid bregus yn cael eu cefnogi'n arbennig. Ymwelodd fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, â'r ardal a chafodd ddiweddariad gan gyngor Conwy. Cynhaliais gyfarfod dilynol gyda phrif weithredwr Dŵr Cymru ddoe i adolygu'r cynnydd o ran dychwelyd i weithredu fel arferol, ac i fyfyrio ar yr hyn y gellir ei ddysgu o'r digwyddiad. Rwyf hefyd yn bwriadu ymweld â chymunedau yr effeithir arnyn nhw yn y dyddiau nesaf.

Fe hoffwn i ddiolch ar goedd i'r llu o sefydliadau a gwirfoddolwyr a chwaraeodd ran hanfodol wrth gefnogi cymunedau drwy gydol y digwyddiad hwn. Mae wedi bod yn ymateb amlasiantaethol ar raddfa fawr. Mae Dŵr Cymru, ein gwasanaethau golau glas, cydweithwyr yn ein hawdurdodau lleol, a grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr i gyd wedi chwarae rhan allweddol, gan helpu i ddosbarthu dŵr a sicrhau bod pobl yn ddiogel. Roedd yn ymdrech gydweithredol go iawn. Fe hoffwn i ddiolch hefyd i'r peirianwyr hynny a weithiodd yn ddiflino am sawl diwrnod i drwsio hyn. Gadewch i mi fod yn glir iawn: roedd hwn yn waith anodd iawn. I gwblhau'r gwaith ar un adeg, roedden nhw'n gorwedd ar eu cefnau mewn dŵr oer rhewllyd, yng nghanol y nos, mewn twll 12 troedfedd o dan Afon Ddu. Cymerodd dîm enfawr o bobl, a rhywfaint o waith logistaidd a pheirianneg anhygoel, i drwsio hyn.

Mae Dŵr Cymru, yn gwbl briodol, wedi cyhoeddi trefniadau ar gyfer iawndal sydd ar gael i gwsmeriaid preswyl a busnes, ac mae'r wybodaeth ar gael ar eu gwefan. Nawr, fel bob amser mewn sefyllfaoedd fel hyn, bydd gwersi i'w dysgu. Felly, wrth i ni symud i'r cam adfer, bydd Dŵr Cymru yn myfyrio ar y digwyddiad, gan nodi'r hyn a weithiodd yn dda, a phethau y mae angen i ni eu gwneud yn well. Rwyf hefyd yn bwriadu cynnal cyfarfod gyda Dŵr Cymru a'r holl bartneriaid dan sylw—fel y gwnaethom ni, yn wir, yn dilyn storm Bert a storm Darragh—i fyfyrio ar yr hyn y gellid bod wedi'i wneud yn wahanol, a sut y gallwn ni baratoi ac ymateb yn well gyda sefyllfaoedd fel hyn yn y dyfodol.

Yn ddiau, roedd heriau wrth ddarparu cyflenwadau dŵr amgen yn gynnar yn y digwyddiad. Rwy'n gwybod bod rhywfaint o rwystredigaeth gyda chyfathrebu hefyd, ac mae angen i ni edrych ar hynny a gweld beth y gellid ei wella. Yr Arolygiaeth Dŵr Yfed yw'r rheoleiddiwr sy'n goruchwylio pa mor barod yw cwmnïau dŵr ar gyfer digwyddiadau fel hyn, a byddai, wrth gwrs, gennyf ddiddordeb yn eu hadolygiad o'r digwyddiad. Yr hyn yr ydym yn ei wybod am y tro yw, o ganlyniad i'r amodau rhewi a dadmer dros yr wythnos flaenorol, y symudwyd gwaddod yng ngwaelod yr afon, a chaniatáodd hyn i glogfaen mawr roi pwysau yn uniongyrchol ar y bibell, ac achosodd hyn y byrstio. Roedd hon yn rhan fwy newydd o'r rhwydwaith. Fe'i gosodwyd yng nghanol a diwedd y 1990au. Yng ngoleuni hynny a'r amodau tir y daethpwyd ar eu traws, mae Dŵr Cymru wedi fy sicrhau ymhellach y byddant yn gwneud gwelliannau pellach i wneud yr adran hanfodol hon yn fwy cadarn.

Adlewyrchir y pwysau ar ein seilwaith yng nghanlyniad yr adolygiad prisiau diweddar, a fydd yn gweld dros £6 biliwn yn cael ei fuddsoddi yn seilwaith dŵr Cymru dros y pum mlynedd nesaf. Bydd Llywodraeth Cymru ac Ofwat yn cadw golwg agos ar y gwaith o gyflawni'r rhaglen uchelgeisiol hon o welliannau i sicrhau bod arian talwyr biliau yn cael ei wario'n effeithiol. 

Mewn ymateb i faint yr her yr ydym yn ei hwynebu, rydym wedi mynd ati, gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig, i sefydlu comisiwn annibynnol ar y cyd o dan gadeiryddiaeth Syr Jon Cunliffe i gynnal adolygiad eang o’r sector. Rwy'n edrych ymlaen at glywed argymhellion Syr Jon yn nes ymlaen eleni. Unwaith eto, hoffwn ddiolch i bawb yn y gymuned leol a'r llu o sefydliadau ac unigolion am eu hymdrech fawr i gefnogi'r bobl hynny yr oedd y digwyddiad hwn wedi effeithio arnynt. Diolch.

18:25

Diolch am eich datganiad yma heddiw. Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i wir yn credu eich bod yn gwbl ddiffuant wrth ddarllen y datganiad hwnnw, ond mae'n rhaid i chi ddeall difrifoldeb yr hyn ddigwyddodd. Rwy'n gwybod ein bod ni i gyd wedi ein syfrdanu gan COVID, ac i hynny esblygu dros gyfnod o amser, ond yn sydyn cawsom sefyllfa frys lle nad oedd gan bobl ddŵr nos Fercher. Rydych chi newydd ddweud bod cyflenwad pawb wedi dychwelyd  ar hyn o bryd. Wel, gallaf ddweud wrthych fy mod yn dal i dderbyn negeseuon o bryderon nawr.

Roedd yn anhrefn llwyr. Fe gawsom ni sicrwydd bod y rhaglen aur hon yn ei lle. Arferwn fod yn aelod cabinet yng Nghonwy ar gyfer diogelu'r cyhoedd, ac rwyf wedi mynychu digwyddiadau gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn ynghylch gwytnwch a chynllunio ar gyfer argyfwng, ac mae'n rhaid i mi fod yn onest, cefais sioc o weld bod y cyfan yn ôl-ystyriaeth. Y rheswm y cefais lond paled o ddŵr—. Doedd unman yn Llandudno i bobl—ein cartrefi gofal, ein meddygfeydd, ein siopau a'n busnesau, ein henoed, ein mamau gyda babanod i wneud llaeth fformiwla. Roedd yn erchyll. Mae'n debyg mai dyma'r profiad mwyaf torcalonnus imi erioed ei weld—nid fel gwleidydd, ond fel unigolyn. Ni allaf bwysleisio digon pa mor ofidus ydoedd, a sut y gadawyd pobl wedi eu trawmateiddio ganddo, oherwydd doedd gan rai ohonyn nhw ddim cyflenwad nid yn unig dydd Mercher, neu ddydd Iau, neu ddydd Gwener, ond dydd Sadwrn, dydd Sul—yr holl amser hwnnw, yn pendroni o ble roedden nhw'n mynd i gael dŵr. Roedd yn argyfwng dyngarol. Dywedodd Darren Millar hynny wrth Peter Perry, prif weithredwr Dŵr Cymru, pan wnaethon ni siarad ag ef.

Rwyf wedi cael llythyr pedair tudalen yn nodi eu pryderon eu hunain ynghylch, mae'n debyg, sut fu iddyn nhw ymdrin â'r sefyllfa. Ond pan fyddan nhw'n dweud bod y sefydliadau hyn yn dod at ei gilydd—. Fe hoffwn i, mewn rhai ffyrdd, Ysgrifennydd Cabinet, siarad â chi eto am hyn, oherwydd roedd yn ddychrynllyd. Gadewch i ni gyd fod yn glir, nid amhariad nac ymyrraeth ydoedd, fel y mae'n dweud yn yr eitem ar yr agenda heddiw; roedd y rhain yn bobl nad oeddent yn gallu cael gafael ar unrhyw ddŵr glân, yn methu ag ymolchi nac ymdrochi, yn methu â gwneud llaeth babanod. Fe ddywedoch chi am ein ffermwyr, ac fe roesoch yr argraff bod ein ffermwyr wedi derbyn gofal da. Collodd dynes yn flaenorol, yr wythnos flaenorol, pan fu hi heb ddŵr, ei cheffyl oherwydd syched. Roedd gen i ffermwyr yn cysylltu â mi, a dywedwyd wrthyn nhw, 'Ewch allan i brynu poteli o ddŵr a rhoi'r derbynebau i ni.' Oes gennych chi syniad faint mae un fuwch yn ei yfed? Roedd yn gwbl anghredadwy. Cafodd trigolion nad oedd yn gallu mynd allan o'u cartrefi wybod dros y ffôn gan Dŵr Cymru i fynd allan a phrynu eu dŵr eu hunain. Roedd y siopau i gyd wedi gwerthu pob potel.

Dyna'r penderfyniad peryglus i ddarparu dim ond dwy orsaf ddŵr ar gyfer 40,000 o bobl, nes i Darren Millar a minnau ddweud, 'Nid yw'n ddigon.' Roedd trigolion yn aros mewn ceir am oriau bwygilydd, gan rwystro'r ffyrdd, roedd Heddlu Gogledd Cymru yn cyhoeddi rhybuddion ar y cyfryngau cymdeithasol. Roedd trefi mawr fel Llandudno, Llanrwst, Conwy a mwy yn cysylltu â ni, 'Ble mae'r dŵr i'n cymuned?' Roedd yn erchyll. Pan agorwyd yr orsaf yn nhref Conwy, bu'n rhaid ei hatal oherwydd maint y galw. Y broblem fwyaf oedd diffyg gwybodaeth gan Dŵr Cymru neu, mewn rhai ffyrdd, gwybodaeth gyferbyniol. Nid oedd cynllun cydnerthedd brys trefnus o gwbl.

Fe wnaethom ni sylweddoli'n gyflym, lle roedd y bibell hon wedi byrstio, y byddai'r gwaith atgyweirio, sawl medr i lawr o dan wely afon Conwy, yn dasg beryglus a hirfaith, a rhaid imi ganmol pawb a oedd yn rhan o'r dasg erchyll honno. Roedd yn rhaid iddyn nhw adeiladu argae, ond hefyd roedd yn rhaid iddyn nhw fynd, fel y dywedwch, sawl troedfedd i lawr, deifwyr, ar eu cefnau, yn ceisio trwsio'r bibell hon. Ac mae'n rhaid i fi sôn y bu Gareth Shorty Evans yn un o'r rhai oedd yn y sefyllfa yna, ac mae'n un o fy nhrigolion. Diolch yn fawr, Gareth. Gwelsom fusnesau yn cael eu gorfodi i gau, ac yna rydych chi'n sôn am yr iawndal. Wel, mae'n chwerthinllyd—£30 i breswylwyr, am 12 awr. A busnesau—mae gen i fusnesau a gollodd sawl mil o bunnoedd. Nid yw'n ddigon. Pan fo prif weithredwr y cwmni dŵr—

18:30

—yn gallu cael £345,000 a phecynnau eraill sy'n gwneud £0.5 miliwn, mae'n sarhad cynnig £75 i'm busnesau am 12 awr. Rydym ni'n dal i weld—

Iawn. Erbyn hyn mae gennym ni achos o lygredd, Darren, heddiw, yn eich etholaeth chi a fy un i—mae yna orlif erbyn hyn yn achosi llawer o lygredd. Roedd hwn yn drychineb llwyr. Ni ellir caniatáu i hyn ddigwydd eto. Gweinidog, fe ddywedaf hyn: roeddwn yn ffieiddio—dim neges gan Brif Weinidog Cymru, dim ond neges o gefnogaeth i'm trigolion. Roedd hi'n hwyr ddydd Sadwrn. Dechreuodd hyn ddydd Mercher, felly yn sicr ni chafodd yr hyn a wnaethoch chi yn y cefndir ei gyfleu i bobl yn fy nghymuned.

Ie iawn. Ond, yn siomedig iawn, iawn. Rydym ni bellach yn gwybod bod y rhaniad rhwng y gogledd a'r de yn bodoli.

Wel, rwy'n siomedig iawn clywed hynny mewn sylw clo, ac rwy'n credu y gallwn i weld y terfyn hwnnw drwy hynt yr araith. Ac mae'n siomedig, oherwydd fe wnes i ddiolch yn fy sylwadau agoriadol i'r cydweithwyr hynny ar lawr gwlad a lwyddodd i gynorthwyo'r ymateb ar lawr gwlad trwy gyfarwyddo lle gallai dŵr fynd, dŵr potel ac yn y blaen. Ond yr hyn rwyf hefyd yn gresynu ato yw'r agwedd lle mae yna ymosodiad uniongyrchol ar y diffyg cynllunio, diffyg rhagolwg, diffyg ymwybyddiaeth. Rwy'n cytuno â chi fod hyn wedi cael effaith ddinistriol ar y cymunedau yr effeithiwyd arnyn nhw. Ond gadewch i mi fod yn hollol glir, trefnwyd yr ymateb o'r eiliad y daeth hyn i'r amlwg fel problem. Y grŵp ymateb strategol ar lawr gwlad—. Rydych chi'n ysgwyd eich pen.

Janet, rydych chi'n ysgwyd eich pen. Rwy'n dweud wrthych chi i'ch gwyneb fod y grŵp ymateb strategol ar waith o ddechrau'r digwyddiad hwn. Yr hyn a newidiodd, Janet, os wnewch chi ddim ond gwrando yn hytrach nag ysgwyd eich pen a'm gwrth-ddweud, yw i ddechrau—

Gadewch i ni ddod â'r sgwrs hon i ben ar draws y Siambr. Rydych chi wedi cael cyfle i ofyn eich cwestiynau ac mae angen i chi ymateb i'r cwestiynau hynny nawr.

Dirprwy Lywydd, yr hyn y byddaf yn ceisio ei wneud yw siarad â'r Siambr, yn hytrach nag â Janet yn uniongyrchol, ac â'r etholwyr ar lawr gwlad a gafodd eu heffeithio. Cynyddodd hyn o 8,000 yn yr asesiad cychwynnol o bwy yr effeithiwyd arnyn nhw yn gyflym iawn i 30,000, ac ar ei anterth daeth yn 40,000. Trwy gydol hynny i gyd, roedd y grŵp ymateb strategol ar waith, ac mae hynny'n cynnwys yr awdurdodau golau glas, yr awdurdodau lleol, yn ogystal â Dŵr Cymru. Sylwais fod llawer o'r cyfraniad yn canolbwyntio'n llwyr ar Dŵr Cymru ac ar unigolion o fewn Dŵr Cymru, ond mewn gwirionedd mae yna ymateb ehangach yno. Ac roedd hynny nid yn unig ar waith ymlaen llaw ond fe wnaeth esblygu wrth i'r sefyllfa waethygu hefyd.

Dim ond i atgoffa pobl hefyd, roedd yn hynod heriol o ystyried lleoliad y bibell wedi byrstio mewn prif gyflenwad pwysedd uchel. Roedd maint y rhwydwaith yr effeithiwyd arno bron i 900 km pan ddaeth graddfa lawn hyn i'r amlwg, sef nid graddfa ddisgwyliedig wreiddiol y broblem. Gweithredodd Llywodraeth Cymru ei hymateb sifil wrth gefn nos Fercher i gefnogi grŵp cydlynu strategol amlasiantaeth gogledd Cymru, Janet, sy'n cael ei arwain gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Janet. Roedd hi'n iawn fod Dŵr Cymru yn blaenoriaethu cyflenwad amgen i grwpiau a lleoliadau agored i niwed i ddechrau fel ysbytai o ystyried y problemau ar draws y sector gyda chyflenwad dŵr amgen.

Ychydig o bethau eraill mewn ymateb. Yn ystod y digwyddiad, soniais fy mod wedi cwrdd â phrif weithredwr Dŵr Cymru—un o'r pethau oedd yn amlwg o'r dechrau'n deg oedd bod hyn yn gwaethygu'n raddol, maint yr effaith a nifer y bobl dan sylw, a dyna pam yr ymatebwyd yn fwy difrifol wedyn. A rhai o'r problemau gyda'r cyfathrebu cychwynnol, o'r hyn rydw i wedi'i glywed yn ôl gan yr ymatebwyr, yn hytrach na Dŵr Cymru yn unig, oedd, wrth i hyn gynyddu, bu'n rhaid addasu'r cyfathrebu i adlewyrchu ei fod bellach mewn ardal ddaearyddol llawer ehangach, bod mwy o bobl wedi eu heffeithio, a hefyd bu'n rhaid addasu'r ymateb i hynny—o ran lle roedd y canolfannau dosbarthu, faint o ganolfannau gofal gafodd eu heffeithio, a oedd, ar un adeg, tua 60 o gartrefi gofal hefyd.

Rwy'n nodi eich pwyntiau, Janet, o ran iawndal ac yn y blaen, ond dim ond i fod yn glir hefyd, nid dim ond yr iawndal arferol ydyw. Mae Dŵr Cymru wedi nodi'n glir iawn, os oes busnesau sydd wedi eu heffeithio'n fwy sylweddol, ac yr effeithwyd yn wirioneddol ar eu masnach, bod angen iddyn nhw hysbysu Dŵr Cymru o hynny, a fydd yn edrych ar bob achos yn unigol. Efallai eu bod wedi eich hysbysu o hynny, ac na wnaethoch chi grybwyll hynny yn eich sylwadau, felly rwy'n rhoi'r eglurder hwnnw yma hefyd.

Rydym yn awyddus, gyda llaw, Dirprwy Lywydd, bob amser, fel y dywedais i yn fy sylwadau agoriadol, i ddysgu'r gwersi o unrhyw ddigwyddiad fel hyn. Wedi dweud hynny, rwy'n credu bod angen i ni fod yn glir iawn nad oedd hwn yn ddigwyddiad y gwyddai'r ymatebwyr ar lawr gwlad, o'r eiliad y cychwynnodd, y byddai'n effeithio ar 40,000 a mwy o bobl a busnesau. Esblygodd i hynny a bu'n rhaid iddyn nhw addasu eu cynlluniau wrth fynd ymlaen. Ond mae'r feirniadaeth nad oedd cynllun ar waith, ac nad oedd ymateb cydgysylltiedig amlasiantaethol, yn gwbl gyfeiliornus.

18:35

Dim ond ychydig llai na blwyddyn sydd yna, mewn gwirionedd, 11 mis, ers i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith adrodd ar berfformiad Dŵr Cymru. Roedd yr adroddiad yn dilyn yr adroddiad perfformiad diweddaraf gan Cyfoeth Naturiol Cymru ac Ofwat, ac fe ddangoson nhw, wrth gwrs, ddirywiad pryderus ym mherfformiad Dŵr Cymru o ran ei berfformiad amgylcheddol. Syrthiodd y cwmni i sgôr dwy seren, ar ôl cael ei raddio yn flaenorol yn bedair seren, a chafodd ei berfformiad cyffredinol ei gategoreiddio fel diffygiol gan Ofwat, am yr ail flwyddyn yn olynol, ac ers ein hadroddiad, wrth gwrs, nid yw'r darlun wedi gwella.

Nawr, ymyrraeth mewn cyflenwad dŵr yw un o'r prif feysydd problemus o ran perfformiad Dŵr Cymru. Mae adroddiad perfformiad diweddaraf Ofwat yn dangos bod Dŵr Cymru yn un o'r cwmnïau sy'n perfformio waethaf ledled Cymru a Lloegr o ran ymyrraeth yn y cyflenwad. Dywedodd prif weithredwr Dŵr Cymru wrth y pwyllgor fod ymyrraeth i'r cyflenwad yn un o'i heriau gwirioneddol. Mae'r prif gyflenwadau dŵr mewn rhai rhannau o Gymru, wrth gwrs, ar ddiwedd eu hoes, ac mae angen eu diweddaru, a fydd yn broses gostus a bydd yn cymryd amser i wneud hynny, ac mae hynny, wrth gwrs, o fawr o gysur, mae'n debyg, i'r rhai a adewir heb ddŵr oherwydd y digwyddiad diweddar yng Nghonwy. Mae Dŵr Cymru yn cynllunio'r buddsoddiadau mwyaf erioed dros y pum mlynedd nesaf. Wrth gytuno ar ei gynlluniau buddsoddi, mae Ofwat wedi gosod targed heriol i'r cwmni sicrhau gostyngiad o 79 y cant i ymyriadau yn y cyflenwad dŵr o'i berfformiad presennol, ac mae'n rhaid i mi ddweud bod y pwyllgor yn disgwyl i Dŵr Cymru ymateb i'r her honno ac, yn wir, bydd y pwyllgor yn ailedrych ar berfformiad Dŵr Cymru dros y misoedd nesaf.

Nawr, fe hoffwn i hefyd ddiolch i bawb a oedd yn rhan o'r ymateb, o'r peirianwyr, fel y sonioch chi, Ysgrifennydd Cabinet, i'r gwasanaethau golau glas, yr awdurdod lleol, grwpiau cymunedol a'r holl wirfoddolwyr hynny a dorchodd eu llewys a mynd ati i helpu. Ond tri phwynt—neu dri chwestiwn, efallai—gen i. Yn gyntaf oll, ynghylch cydnerthedd y system. Mae'n frawychus, onid yw, y gallai un bibell unigol sy'n byrstio achosi annhrefn mor eang. Fe sonioch chi am y 900 km o rwydwaith a gafodd ei effeithio gan yr un bibell unigol honno - 13 tanc storio tanddaearol, 40,000 o gartrefi, 40 ysgol yn cau, cannoedd a channoedd o fusnesau wedi eu heffeithio. Felly, a ydych chi'n cytuno â mi fod hyn eto, onid ydyw, yn codi cwestiynau difrifol am wytnwch ein seilwaith dŵr, a beth felly, yw eich disgwyl, o ran sut ddylai Dŵr Cymru weithredu, i geisio gwella'r seilwaith sy'n amlwg yn fregus y maen nhw'n ymdrin ag ef?

Yn ail, fe wnaf i grybwyll cynllunio wrth gefn. Nawr, rwy'n credu bod yr hyn a welsom ni wedi amlygu diffygion sylweddol. Rydych chi'n iawn i ddweud bod pobl wedi torchi llewys, a bu i'r rhai a ymatebodd wneud hynny hyd eithaf eu gallu, ond rwy'n cwestiynu a oedd y cynllunio wrth gefn rhag blaen yn ddigon effeithiol. Bu sicrhau a dosbarthu dŵr potel, wrth gwrs, yn broblem. Roedd y logisteg o ran y mannau dosbarthu, a'r cyfathrebu yn ogystal o ran hynny i gyd, rwy'n credu, yn broblem. Felly, beth yw eich neges i Dŵr Cymru ynglŷn â'i gynllunio wrth gefn, a beth fyddech chi'n ei ddisgwyl ohono o ran ei barodrwydd ar gyfer digwyddiadau tebyg yn y dyfodol? Ac, yn drydydd, fe ddof i at yr iawndal hefyd i'r rhai yr effeithiwyd arnyn nhw—£30 am bob 12 awr heb ddŵr i aelwydydd cymwys a £75 i gwsmeriaid busnes, gydag, wrth gwrs, modd i hawlio am golledion ychwanegol, er na ddeallwyd hynny i ddechrau o ran ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r hyn oedd ar gael. Felly, pa drafodaethau a gawsoch chi, neu efallai Gweinidogion eraill ac Ysgrifenyddion Cabinet o fewn y Llywodraeth, gyda Dŵr Cymru ynghylch y lefel honno o iawndal arfaethedig, a beth yw eich disgwyliadau, yn enwedig o ran y busnesau hynny sydd wedi colli miloedd ar filoedd o bunnoedd, llawer ohonynt? Sut allwn ni sicrhau bod eglurder a hygyrchedd o ran gweithdrefnau a phrosesau i sicrhau eu bod yn cael yr iawndal y maen nhw yn ei haeddu? Gan fod pobl Conwy yn haeddu atebion, maen nhw'n haeddu sicrwydd na fydd hyn yn digwydd eto. Yn sicr bydd y pwyllgor yn chwarae ein rhan wrth graffu ar Dŵr Cymru a chodi llawer o'r cwestiynau hyn.

Fe wnaethoch chi sôn am nifer o gyfarfodydd a gawsoch chi gyda phrif weithredwr Dŵr Cymru. A yw hynny'n rhywbeth yr ydych yn bwriadu parhau i'w cael yn uniongyrchol gyda'r prif weithredwr, ac, yn wir, beth mae hynny'n ei ddweud wrthych chi ynghylch a oes angen inni oruchwylio'r cwmnïau dŵr yn fwy llym, o ystyried y methiannau a welsom ni yn ystod yr wythnos ddiwethaf?

18:40

Llyr, diolch yn fawr iawn, ac rwy'n croesawu'r modd y goruchwylir hyn a hefyd materion ehangach sy'n ymwneud â'r diwydiant dŵr y gall y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ei wneud o dan eich stiwardiaeth. Mae hynny'n groeso mawr. Rwyf eisoes wedi dweud y bydd pwyntiau adolygu hefyd o'r digwyddiad hwn, gan gynnwys un yr ydym ni'n eithaf awyddus i'w wneud ein hunain, yn yr un modd ag y gwnaethom ni ar ôl storm Bert a storm Darragh, oherwydd y budd o wneud hynny yn gymharol gynnar lle mae'n fyw ym meddyliau pobl i weld beth y gellir ei ddysgu, beth oedd yn gweithio, beth oedd ddim yn gweithio ac yn y blaen.

Ar fater iawndal, rwy'n falch bod Dŵr Cymru wedi cydnabod maint effaith hyn ar fusnesau. Byddaf yn mynd â'r neges yn ôl atynt ynghylch sut maen nhw'n gweithio i gyfleu'r neges honno hyd yn oed yn fwy eang, ac rwy'n credu bod gennym ni rôl gyda'n gilydd i helpu i wneud hynny.

O ran y cynllunio wrth gefn, rwyf wedi sôn am y cynlluniau a'r gweithredu uniongyrchol pan oeddem yn gwybod maint hyn, a rôl Llywodraeth Cymru yn hynny, ond hefyd, ar lawr gwlad, yr ymateb lleol, yr ymateb amlasiantaethol. Ddylem ni ddim anghofio'r ffaith bod hyn ar un adeg, o ran dim ond danfoniad dŵr—gan roi'r tanceri o'r neilltu am eiliad oedd yn danfon i ysbytai ac i ambell i gartref gofal hefyd—roedden ni'n sôn am 450,000 potel y dydd. Nawr, rhan o'r cynllunio wrth gefn mewn gwirionedd yw'r egwyddor cydgymorth rhwng gwahanol gwmnïau dŵr. Dim ond mewn ychydig ddyddiau, yn llythrennol y dyddiau a'r wythnosau cynt, bu digwyddiad mewn ardal arall o'r wlad, lle roedd Dŵr Cymru ac eraill i gyd wedi camu i'r adwy i roi eu cyflenwadau i gwmni arall, ac yna canfod eu bod hwythau wedyn yn brin. Felly, gallaf ddeall o safbwynt y cyhoedd eu bod yn holi, 'Pam na allan nhw—? Lle mae hyn?' Wel, achos roedd pawb wedi cyfeirio'r cyflenwad wrth gefn i ardal arall, gan gynnwys Dŵr Cymru, ac wedyn roedd rhaid iddyn nhw ôl-lenwi. Ond mae hynny'n rhywbeth y mae angen i ni eu dysgu at y dyfodol hefyd.

Dim ond ynghylch y mater mai cyflwr y rhwydwaith oedd yn gyfrifol, y rhwydwaith enfawr hwn—a oedd mewn lle mor dyngedfennol o dan afon, gan ei gwneud hi'n anodd, ond hefyd fe arweiniodd hynny wedyn at ddwysáu o gwmpas y rhwydwaith ehangach ar hyd y cannoedd o gilometrau hynny. Un o'r pethau mae Dŵr Cymru wedi dweud yw eu bod nhw wedi gwneud y gwaith atgyweirio cychwynnol, a fu'n llwyddiannus, ac mae gan bawb bellach gyflenwad. Roedd rhai cloeon aer yn y system hefyd, oedd yn golygu y cafwyd byrstiau llai mewn rhai mannau, ond maen nhw wedi cael eu hatgyweirio hefyd. A chan gofio mai pibell gymharol ddiweddar yw hon—o'r 1990au; nid pibell oes Fictoria mo hon—roedd hyn yn ymwneud â symud o dan y ddaear, mewn gwirionedd, a chlogfaen yn taro yn erbyn y bibell wedi'r tywydd diweddar gawsom ni. Felly, bydd angen i ni fod yn fwy gwydn o ran ymateb i'r hinsawdd. Ond nid yw'r hyn maen nhw'n bwriadu ei wneud bellach yn dibynnu ar un groesfan ar Afon Ddu, felly maen nhw'n mynd i ystyried, nawr bod hyn wedi'i ddatrys, dychwelyd ar yr adeg briodol ac mewn gwirionedd creu ail groesfan, a fydd yn helpu. Ond nid hen ran o'r system mo hon.

Yn y cyfamser, mae angen i ni fwrw ati i ddefnyddio'r swm o gyllid a ryddheir yn yr adolygiad prisiau nawr er mwyn bwrw ymlaen â gweithio ar sail blaenoriaeth ar draws y rhwydwaith, i ymdrin â'r hyn rydych chi'n dweud yn briodol sy'n faes lle mae Dŵr Cymru yn ddiffygiol yn ei gylch, ac i fwrw ymlaen â'r buddsoddiad hwnnw. Ond rwy'n edrych ymlaen at weld y pwyllgor yn craffu ar hyn a'r ymateb, a hefyd, wrth iddynt symud nawr i'r cam ar ôl yr ymateb cychwynnol, sut y gwneir hynny hefyd.

18:45

Fe hoffwn i ddiolch hefyd i Ysgrifennydd y Cabinet dros ogledd Cymru a'r Cynghorydd Emily Owen, a fu'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i mi, a hefyd yr holl bobl wych a ddaeth i gefnogi'r gymuned a'r holl bobl fregus, a hefyd i bawb a dreuliodd oriau hir yn adfer y sefyllfa. Ond mae angen dysgu gwersi. Roeddwn i'n deall bod Dŵr Cymru yn dda am drwsio eu pibellau, ond yn ofnadwy o ran cyflenwi dŵr, a bod rhwymedigaeth gyfreithiol arnyn nhw i wneud hynny o fewn 12 awr. Fe ddywedson nhw'n wreiddiol nad oedd unrhyw un ar gael lle roedd pobl—. Wel, roedd y dirprwy arweinydd yn gwybod bod gan Costco 48 crat ac y gellid darparu mwy yn gyflym hefyd. Mae si hefyd eu bod yn bod yn gwybod am ollyngiad ac yr adroddwyd yn ei gylch bythefnos ymlaen llaw. A yw hyn yn wir ac, os felly, pam nad oedd ganddyn nhw ddŵr wrth gefn eisoes? 

Roedd diffyg cyfathrebu a'r canlyniad wedyn yw pobl yn troi at y cyfryngau cymdeithasol yn poeni. Felly, roedd y cyfathrebu cyhoeddus yn wael. Dylen nhw fod wedi bod yn cyfathrebu gydag arweinydd a phrif weithredwr y cyngor oherwydd y bydden nhw wedi eu helpu nhw o ran ble ddylen nhw fod wedi sefydlu'r gorsafoedd dŵr. Sefydlwyd gorsaf ddŵr yn y lle anghywir neu mewn lle annigonol. Felly, mae angen iddyn nhw weithio eu ffordd drwy hynny. 

O'r gorau. Fe wnaf i ddim ond gofyn un cwestiwn arall os gwelwch yn dda. A yw'n bosibl cael rhestr gyfun o bobl agored i niwed, pe bai'r dŵr yn diffodd? Felly, er enghraifft, mae rhestr gyda Scottish Power pe bai'r trydan yn methu. Maen nhw'n gwybod pwy sy'n agored i niwed. Felly, a yw'n bosibl cael rhestr gyfun gyda chwmnïau cyfleustodau? Nid wyf yn siŵr am ddiogelu data, ond a yw hynny'n bosibl? Diolch.

Diolch yn fawr, Carolyn. O ran y pwynt penodol hwnnw, mae'n wers o storm Darragh hefyd mewn cyd-destun gwahanol iawn. Ar ddechrau'r digwyddiad hwn, roedd gan Dŵr Cymru, er diddordeb i'r Siambr, yn fras, 3,500 o bobl yn yr ardal yr effeithiwyd arni a oedd ar eu rhestr cwsmeriaid agored i niwed blaenoriaeth 1. Erbyn diwedd hyn, pan wnaethon nhw ddechrau cysylltu dros y ffôn i ddweud wrth bobl, 'Rydym yn cael gwybod nad ydych chi ar y rhestr, rhowch wybod inni', roedd dros ddwbl hynny. Roedd dros ddwbl hynny. Nawr, rydym ni wedi clywed adroddiadau tebyg o ran ymatebion amlasiantaeth eraill ar lawr gwlad; mae gennych chi restr gwasanaethau cymdeithasol, mae gennych chi restrau eraill o gwsmeriaid sy'n agored i niwed. Maen nhw i gyd ychydig yn wahanol ac, wrth gwrs, mae gennych chi reolau diogelu data.

Ond mae hwn yn faes y mae gennym ni gryn ddiddordeb ynddo, ynglŷn â sut y gallwn ni sicrhau bod y rhestri hyn o leiaf mor gyfredol â phosibl, y gellir eu cydlynu lle bo hynny'n bosibl, gan barchu diogelwch data'r unigolyn hefyd, neu o leiaf y gellir rhannu pwy sydd â pha restr ar yr adeg y bydd digwyddiad fel hyn, o gofio bod hyn wedi gwaethygu ar y nos Fercher yn gyflym i effeithio ar ardaloedd eraill.

Roeddech chi hefyd yn sôn yn y fan yna am yr ymgysylltu â'r awdurdod lleol, ac rwy'n credu y bydd hyn yn rhan o ddeall y gwersi, yn y dyfodol, oherwydd roedd ymgysylltu. Y cwestiwn yw, mewn sefyllfa fel hon, lle mae'n cynyddu'n gyflym o 8,000 o gwsmeriaid yr effeithir arnyn nhw i 32,000, gan gwmpasu mwy o ardaloedd daearyddol, gan gynnwys mwy o gynrychiolwyr etholedig unigol, arweinwyr cynghorau ac ati, mae'n beth da i edrych arno, i ddweud, 'Sut yn y sefyllfa honno y gweithiodd y cyfathrebu'n effeithiol, neu a oes mwy i'w ddysgu hefyd?'

Dim ond i ddweud, o ran cyfathrebu â chwsmeriaid, mai'r hyn yr ydym yn ei ddeall gan dîm cyfathrebu Dŵr Cymru yw y gwnaethon nhw fynd ati o'r dechrau'n deg i gyfleu'r sefyllfa i gwsmeriaid. Rhwng chwech ac wyth o'r gloch, anfonwyd negeseuon i bob cwsmer, gan ddechrau gyda chwsmeriaid bregus. Diweddarwyd y cyfryngau cymdeithasol, cyhoeddwyd datganiadau i'r cyfryngau. Yn gynnar yn y sefyllfa, roedden nhw'n obeithiol o wneud gwaith trwsio ar y diwrnod hwnnw ac atgyweirio, a dyna fyddai'r diwedd arno, ond wnaeth e ddim gweithio—fe ehangodd. Felly, unwaith y gwnaethon nhw gadarnhau y byddai'r gwaith atgyweirio yn cymryd mwy o amser a byddai'r ail-lenwi yn cymryd o leiaf 48 awr, fe wnaethon nhw gyhoeddi datganiad pellach.

Yr her, rwy'n credu, os oes gennych broblem sy'n gwaethygu fel hyn, sut ydych chi'n sicrhau bod y sianeli cyfathrebu yn glir a bod un ffynhonnell o wirionedd, os mynnwch chi? Ac rwy'n credu mai dyna'r her. Dyna fydd un o'r gwersi i'w dysgu. 

18:50

Diolch, Ysgrifennydd Cabinet, am eich datganiad, ac fe hoffwn i gofnodi fy niolch i chi ac i Ysgrifennydd y Cabinet dros ogledd Cymru am gysylltu i geisio deall yn well beth oedd yn digwydd ar lawr gwlad yn fy etholaeth i, ac mae'n rhaid i mi ddweud, roedd yn anhrefn. Rydym yn aml yn cymryd yn ganiataol, onid ydym ni, y dŵr glân sy'n dod o'n tap, sy'n llenwi ein baddonau, sy'n dod o'n cawodydd, yr ydym yn golchi ein llestri ag e ac yn gwagio ein tai bach ag e, ond gallwch chi ddychmygu'r tarfu a wynebodd ein hetholwyr pan nad oedden nhw'n gallu gwagio'r tŷ bach am hyd at bum diwrnod; roedd yn ofnadwy. Yn wir, roedd llawer o'r cwsmeriaid hynny'n agored i niwed a'r hyn y gwnaethom geisio'i wneud, cyn gynted ag yr oeddem yn deall natur gynyddol y broblem yn ein hetholaeth, oedd, yn amlwg, cael sgyrsiau gyda Dŵr Cymru—sgyrsiau brys—i ddarganfod beth oedd yn digwydd a beth y gallem ni ei wneud i'w helpu i gyfathrebu eu negeseuon, ond roedd yna negeseuon cymysg, mae gen i ofn. Dywedwyd wrthym am annog pobl i gofrestru ar y gofrestr flaenoriaeth. Roedd gennym ni etholwyr wedyn yn ffonio i gofrestru a'r person ar y pen arall yn dweud wrthyn nhw, 'Does dim diben, bydd yn cymryd ychydig ddyddiau i ailgysylltu'r cyflenwad, ewch i helpu eich hun i ddŵr potel.' Roedd gennym ni drigolion sy'n gaeth i'r tŷ nad oeddent yn gallu cael dŵr am dridiau. Roedd gen i un etholwr, ffoniodd hi dair gwaith, a dim tan fore Sadwrn, am 2 o'r gloch y bore, y cafodd gnoc ar y drws gyda photeli yn cyrraedd. Nawr, yn amlwg, nid yw hynny'n ddigon da. Roedd yna gartrefi gofal na chawson nhw gyflenwad yn ddigon cyflym o ddŵr potel hyd yn oed, heb sôn am gael eu rhoi yn ôl ar y prif gyflenwad. Ac roedd hi'n 100,000 o bobl—. Efallai mai 40,000 oedd nifer y cwsmeriaid, ond effeithiwyd ar 100,000 o bobl, yn y pen draw, gan y problemau hyn.

Nawr, fe wnaethoch chi gyfeirio at y cymorth ar y cyd rhwng y gwahanol gwmnïau dŵr. Yn amlwg, nid yw'r system hon yn gweithio. Rydym ni wedi gweld ei bod yn amlwg yn annigonol i allu ymdrin â maint y broblem benodol hon. Dywedwyd wrthym ni fod problemau cyflenwad, o ran ceisio cael dŵr potel, ac eto roedd yn ymddangos bod manwerthwyr lleol yn gallu ail-lenwi eu silffoedd yn hawdd iawn. Felly, mae'n amlwg bod her yno i Dŵr Cymru ynglŷn â sut maen nhw'n trin y cadwyni cyflenwi hynny.

Fe hoffwn i gofnodi fy niolch i'r ymatebwyr brys ac i'r timau a weithiodd yn galed i drwsio pethau. Ond mae gen i ofn nad oedd y modd y gweithredwyd yr ymateb brys yn ddigonol, Ysgrifennydd Cabinet: ni chafodd ysgolion eu cyflenwadau, mae hynny'n achosi anhrefn wedyn i rieni sy'n methu mynd i'r gwaith oherwydd bod ganddyn nhw broblemau gofal plant i'w datrys—

Rwy'n gwerthfawrogi hynny. Dim ond dau bwynt arall yr hoffwn i eu gwneud, ac y byddaf yn eu gwneud yn fyr, oherwydd rwy'n gwybod bod llawer o bobl wedi siarad. Safleoedd cartrefi mewn parciau, Ysgrifennydd Cabinet—. Felly, safleoedd cartrefi mewn parciau yw safleoedd lle mai perchennog y busnes yw'r unig gwsmer ac yna mae'n cyflenwi preswylwyr cartrefi'r parc ar y safle hwnnw. Maen nhw'n bobl breswyl, rhai ohonyn nhw ag anghenion difrifol, ond ni chawson nhw'r ymateb blaenoriaeth yr oedd ei angen arnyn nhw.

Rydym ni hefyd yn gwybod na wnaeth y prif weithredwr ymweld â'r gymuned o gwbl drwy gydol yr ymarfer hwn. Nawr, maddeuwch i mi am ddweud hyn, ond mae rhywun sydd ar becyn o dros £500,000 y flwyddyn na all drafferthu i godi a siarad â'r cwsmeriaid sy'n cael eu heffeithio gan y llanast o ran yr ymateb i'r sefyllfa gyda'r cyflenwad dŵr yn gwbl annerbyniol. 

Felly, byddwn yn gofyn i chi—byddwn yn gofyn y ddau beth hynny i chi—beth ydych chi'n mynd i'w wneud am y cartrefi mewn parciau yn y dyfodol a'r ysgolion, gan sicrhau eu bod yn flaenoriaethau, a sicrhau bod y prif weithredwr yn cymryd y sefyllfa hon yn ddigon difrifol i ymgysylltu'n uniongyrchol â'r cwsmeriaid hynny ar lawr gwlad yng nghanol argyfwng ar y raddfa hon?

Darren, diolch yn fawr iawn, a dim ond i ddweud dau beth byr iawn: un yw, os oes gennych chi enghreifftiau penodol iawn, codwch nhw'n uniongyrchol gyda Dŵr Cymru. Diolch am y sgwrs, oherwydd fe es i yn ôl a dweud, 'Edrychwch, mae gennym ni rai pryderon na chafodd unigolyn neu rai cartrefi gofal unigol e, neu na chawson nhw fe tan yn hwyrach nag eraill ac yn y blaen', a materion y cartrefi mewn parciau hefyd—. Ond rwy'n credu mai'r hyn fyddai'n ddefnyddiol yw cael y manylion i Dŵr Cymru fel y gallan nhw ddelio ag ef, a byddwn i'n dweud hynny wrth yr holl Aelodau hefyd. Ond diolch am y sgwrs a gawsom, oherwydd roedd yn ddefnyddiol wrth geisio codi rhai o'r pryderon hyn.

O ran safleoedd cartrefi mewn parciau, rwy'n gwybod mai un o'r pethau a godwyd gennych chi gyda mi yw, 'Beth am y taliad?', oherwydd os oes gennych chi £35 i breswylfeydd a £75 i fusnesau, wel, nid nhw yw'r unigolion mesuredig mewn gwirionedd; perchennog y safle yw hwnnw. Felly, rwyf wedi codi hynny, ac rwy'n gwybod y bydd Dŵr Cymru yn gwrando ar hyn, fel y gallant fynd yn ôl atoch gyda mwy o eglurder. Ond, yn y bôn, bydd taliad i bob un sy'n byw mewn cartref mewn parc, ond mae angen iddo fynd drwy'r talwr biliau mesuredig. Ond bydd rhwymedigaeth arnynt i gyfleu hynny i'r trigolion unigol ar y safle hwnnw, gallaf eich sicrhau chi.

Ond, edrychwch, ar unrhyw agwedd arall, rwyf wedi bod yn glir iawn heddiw ac yn onest: bydd gwersi i'w dysgu o hyn—fe fydd, heb os—ond gadewch i ni wneud hynny yn y broses briodol. Ac yna, yr hyn rwy'n awyddus i'w wneud yw ceisio annog y rhai sy'n ymwneud â'r ymateb, gan gynnwys yr awdurdodau lleol, ond hefyd Dŵr Cymru ac eraill, i roi briff priodol ar hynny, a'r gwersi a ddysgwyd, oherwydd bydd pethau i'w gwella; dylai fod pethau i'w gwella pryd bynnag y byddwn yn gweld rhywbeth fel hyn. A hoffwn iddynt wneud hynny wyneb yn wyneb gydag Aelodau ac eraill sydd wedi bod yn codi'r pryderon. Yn hytrach na fi'n ceisio esbonio, rwy'n credu, nawr eu bod nhw'n symud i'r cyfnod adfer, sy'n dda, gadewch i ni roi ychydig o amser iddyn nhw wneud hynny, gwneud yn siŵr bod popeth yn cael ei sortio, ac yna byddwn i'n awyddus i chwarae fy rhan drwy eu gwahodd nhw, wedyn, i roi briff priodol i bawb. Felly, gallwch chi godi'r cwestiynau hyn eto, y cwestiynau dilys sydd wedi'u codi, a dweud, 'Wel, sut ydym ni'n ei osgoi rhag digwydd eto?' P'un a yw'n ymwneud ag ansawdd y seilwaith, yr ymateb, nifer y poteli, sut mae'r egwyddor cyd-gymorth yn gweithio, allwn ni ei wella? Oherwydd, os gallwn ni ei wella, ni fydd yn gwestiwn i Dŵr Cymru yn unig; bydd yn ymwneud â system gyfan y DU o gyd-gymorth ac yn y blaen. Ond maen nhw i gyd yn gwestiynau dilys; gadewch i ni weld a allwn ni gael yr atebion, wrth symud ymlaen.

18:55

Diolch, Dirprwy Lywydd. Fe hoffwn i adleisio'r sylwadau a wnaed gan gyd-Aelodau ynghylch difrifoldeb y mater o'r wythnos diwethaf gyda phibell ddŵr y prif gyflenwad wedi byrstio. Rwy'n credu bod Darren Millar wedi tynnu sylw at y ffaith, er ei fod wedi effeithio ar 40,000 eiddo, mae'n ddigon posibl y gallai fod wedi effeithio ar hyd at 100,000 o bobl. Nid wyf yn siŵr y deallwyd nac y sylweddolwyd hynny yn iawn, gwir faint y mater hwn, heb sôn am y busnesau ac, yn arbennig, ffermwyr ac ati, yn cefnogi eu da byw pan nad oedd dŵr ar gael iddyn nhw. Fe hoffwn i ddiolch hefyd am y gefnogaeth a roddwyd gan y rhai yn y cymunedau, gwirfoddolwyr yn arbennig, a aeth allan o'u ffordd i sicrhau bod eu cymdogion yn derbyn gofal a'u bod yn gwneud eu rhan i wneud bywydau pobl ychydig yn well yn ystod yr argyfwng hwn.

Rydyn ni wedi crybwyll hyn yn barod—

Mae angen i chi ofyn cwestiwn, oherwydd rwyf wedi rhoi digon o amser i'ch cyd-Aelodau; mae angen i chi ofyn eich cwestiwn nawr, os gwelwch yn dda.

Rydych chi'n gwybod y dyraniadau amser fesul siaradwr, Janet. Ac felly, mae angen i chi ofyn eich cwestiwn nawr, os gwelwch yn dda.

Felly, mae'r cwestiwn byr sydd gen i, felly, Ysgrifennydd Cabinet, mewn perthynas â'r rhestr o bobl agored i niwed a'r bobl agored i niwed. Mae'n amlwg bod diffyg gwybodaeth yno, o wybod pwy fyddai'n gymwys i gael y cymorth hwn. Tybed a allech chi fyfyrio ar sut y bydd hynny'n newid yn y dyfodol—ac yn gyflym hefyd. Yn aml, gall gwersi a ddysgwyd gymryd llawer gormod o amser i gael eu gweithredu. Dangosodd hyn wendid gwirioneddol o ran gwybod pwy sy'n agored i niwed yn ein cymunedau a sut y gallwn ni gael y gefnogaeth iddyn nhw cyn gynted â phosibl pan fo angen.

Ie, diolch, ac mae hwnnw'n gwestiwn defnyddiol iawn. Fel yr wyf wedi crybwyll o'r blaen mewn ymateb, fe gododd o ychydig dros 3,500 o gwsmeriaid ar ddechrau'r digwyddiad hwn, i, pan oedd y llinellau ffôn ar agor i ddweud, 'Cofrestrwch os ydych chi hefyd yn credu eich bod yn agored i niwed', fwy na dwbl hynny. Cynyddodd o 8 y cant o gwsmeriaid i dros 16 y cant o gwsmeriaid o fewn cyfnod o 24 awr. Felly, mae cwestiwn yno ynghylch pam roedd pobl wedi dewis peidio â dynodi eu hunain fel blaenoriaeth 1 bregus. Ond y cwestiwn cysylltiedig arall yw: oes yna rywbeth y gellir ei wneud, wrth ddiogelu data a hawliau preifatrwydd unigolyn yn iawn, i gael mynediad at y rhestrau eraill hynny sydd ar gael—gwasanaethau cymdeithasol, cwmnïau cyfleustodau eraill ac yn y blaen? Nawr, nid wyf yn dweud bod yna ateb hawdd, ond rwyf wedi gweld hyn mewn dau ddigwyddiad diweddar nawr. Felly, rwy'n credu bod darn o waith yr wyf yn gwybod bod yr ymatebwyr yn awyddus iawn i'w wneud, i weld a oes ffordd y gallem adnabod yn gyflymach, nid yn unig rhestr Dŵr Cymru o gwsmeriaid agored i niwed, ond pwy arall fyddai'n nodi eu bod yn agored i niwed, ac a fyddai'n berthnasol defnyddio'r wybodaeth honno mewn sefyllfa fel hon. Mae'n gwestiwn gwirioneddol, oherwydd pan edrychwch chi ar ddyblu nifer y bobl a ffoniodd a dweud, 'Fe hoffwn i fod ar y rhestr honno', mae'n codi cwestiynau diddorol ynghylch pam nad oedden nhw ar y rhestr yn y lle cyntaf, a sut y gallwn ni wneud hynny'n haws.

9. Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2025

Eitem 9 yw'r Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2025. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg i wneud y cynnig—Mark Drakeford.

19:00

Cynnig NDM8790 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Rhagfyr 2024.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Wel, bob blwyddyn, ers dros ddegawd, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod rheoliadau gerbron y Senedd i sicrhau bod y symiau a ddefnyddir wrth gyfrifo budd-dal treth gyngor yn cael eu diweddaru'n rheolaidd ac i sicrhau bod y cymorth a ddarparwn i aelwydydd yn cadw i fyny â newidiadau mewn budd-daliadau lles eraill. Rwy'n gobeithio y bydd y Senedd yn cytuno i wneud hynny eto eleni, o ystyried maint ac arwyddocâd y cymorth a gynigir i'r aelwydydd tlotaf drwy'r cynllun budd-dal treth cyngor.

Bob blwyddyn, hefyd, rydym yn achub ar y cyfle i sicrhau bod y rheoliadau'n cael eu diwygio i sicrhau ein bod yn cadw i fyny â newidiadau eraill sy'n cael eu gwneud yn system fudd-daliadau'r DU, a, lle y gallwn, i wneud y cynllun yn haws ei ddefnyddio ac yn symlach i'w weinyddu. Mae'r rheoliadau gerbron y Senedd eleni yn sicrhau y gall awdurdod lleol gydnabod person sy'n derbyn credyd cynhwysol fel rhywun sydd wedi gwneud cais am ostyngiad y dreth gyngor, yn gyson â'r gwaith siarter budd-daliadau y mae fy nghyd-Aelod Jane Hutt wedi bod yn ei wneud.

A gaf i ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ei ystyriaeth o'r rheoliadau? Nid oes unrhyw reoliadau, wrth gwrs, wedi'u llofnodi nes bod y Senedd yn dod i'w phenderfyniad. Pe bai'r Senedd yn cymeradwyo'r rheoliadau, yna bydd cywiriadau wedi'u cynnwys yn y fersiwn y byddaf i wedyn yn ei llofnodi, gan adlewyrchu cyngor y pwyllgor, ac wrth gwrs, byddaf yn ymateb i'r llythyr gan Gadeirydd y pwyllgor i gadarnhau hynny. Gofynnaf i Aelodau'r Senedd gymeradwyo'r rheoliadau hyn heddiw.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Trafododd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y rheoliadau drafft hyn yr wythnos diwethaf. Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am yr ymateb a gafodd y pwyllgor i'w adroddiad.

Roedd adroddiad y pwyllgor yn cynnwys un pwynt adrodd technegol, sy'n tynnu sylw at ddrafftio a allai fod yn ddiffygiol mewn perthynas â diwygiadau sy'n cael eu gwneud i destun Cymraeg cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor a gofynion rhagnodedig y rheoliadau yn 2013. Fel y nodwyd yn adroddiad y pwyllgor, y mater yma yw, yn y gorffennol, diwygiwyd rheoliadau dwyieithog 2013 gan reoliad statudol y DU, a ddiwygiwyd yn y testun Saesneg yn unig, ac nid y Gymraeg. Mae'r diwygiadau sydd bellach yn cael eu gwneud gan y rheoliadau hyn yn tybio bod testun Cymraeg hefyd wedi cael ei ddiwygio. O'r herwydd, nid yw'r diwygiadau i'r testun Cymraeg yn hollol gywir. Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno â'r pwyllgor, ac yn cynnig cywiro'r gwallau cyn gwneud y rheoliadau, yn amodol ar benderfyniad y Senedd y prynhawn yma.

Nawr, er bod y pwyllgor yn cydnabod yr ymateb hwn gan y Llywodraeth, er mwyn cywiro'r mater, gwnaethom nodi bod angen ychwanegu isadran newydd o destun at y rheoliadau ar ôl i'r drafft gael ei gymeradwyo gan y Senedd. Efallai ei bod yn amlwg yn y rheoliadau drafft a osodwyd mai'r bwriad oedd i'r testun Cymraeg a Saesneg fod â'r un ystyr. Felly, nid yw'r cywiriadau a gynigir yn dechnegol ansylweddol, hyd yn oed os yw'r newidiadau testunol sydd eu hangen yn ymddangos yn sylweddol. Byddwn yn croesawu pe byddai'r Ysgrifennydd Cabinet yn ymdrin â hyn yn ei sylwadau cloi, ac yn datgan ai dyma farn Llywodraeth Cymru yn wir.

Yn anffodus, mae'r pwyllgor o'r farn bod problem gyda chywiriadau arfaethedig y Llywodraeth. Mae'r Llywodraeth yn bwriadu mewnosod is-baragraff (iii) newydd yn rheoliadau 5(e), 8(e) a 17(b). Er bod hyn yn gweithio mewn perthynas â'r ddau reoliad cyntaf, nid yw hyn yn gweithio ar gyfer y rheoliad diwethaf, gan nad yw rheoliad 17 yn cynnwys is-baragraffau â rhifolion Rhufeinig. Yn hytrach, mae'r pwyllgor yn credu y byddai angen mewnosod rheoliad 17(c) newydd. Ysgrifennom at yr Ysgrifennydd Cabinet brynhawn ddoe i dynnu ei sylw at y mater hwn.

Wrth gloi, mae diwygio'r rheoliad drafft ar ôl craffu a chymeradwyo gan y Senedd, a chyn ei wneud, yn fater pwysig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Diolch i Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am y gwaith manwl a thechnegol y maent wedi'i wneud ar y rheoliadau. Cred y Llywodraeth yw y bydd y diwygiadau y byddwn yn eu gwneud i'r rheoliadau sydd i'w llofnodi yn ddigonol i ymdrin â sylwedd y pwyntiau y mae'r pwyllgor wedi'u gwneud ar gyfer eleni.

Mae rhai ystyriaethau ehangach yn y ffordd y mae Mike Hedges wedi esbonio, a bydd y Llywodraeth yn ceisio ymdrin â'r materion ehangach hynny mewn rheoliadau a ddaw gerbron y Senedd yr adeg hon y flwyddyn nesaf. Ar hyn o bryd, bydd y rheoliadau yn dod i rym y flwyddyn nesaf; byddant yn caniatáu i awdurdodau lleol weinyddu'r cynllun yn effeithlon ac yn effeithiol, ac yn bwysicaf oll, bydd yn sicrhau, i dderbynwyr y budd-dal hwn, y bydd ei wir werth yn cael ei gadw. Gofynnaf i'r Senedd gymeradwyo'r rheoliadau y prynhawn yma.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

10. Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Addasu Rhyddhad ar gyfer Safleoedd Treth Arbennig) (Cymru) 2025

Eitem 10 yw'r Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Addasu Rhyddhad ar gyfer Safleoedd Treth Arbennig) (Cymru) 2025. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg i wneud y cynnig—Mark Drakeford.

19:05

Cynnig NDM8791 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Treth Trafodiadau Tir (Addasu Rhyddhad ar gyfer Safleoedd Treth Arbennig) (Cymru) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Rhagfyr 2024.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae'r rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 21A i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrth-osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 i ymestyn rhyddhad safleoedd treth arbennig y dreth trafodiadau tir i'r safleoedd treth arbennig a ddynodwyd gan Lywodraeth y DU mewn perthynas â phorthladd rhydd Ynys Môn. Bydd cyd-Aelodau yn cofio y daethpwyd â rheoliadau cyfochrog o flaen y Senedd cyn y Nadolig i ymestyn y rhyddhad hwnnw i'r porthladd rhydd Celtaidd, tra bod gwaith pellach yn parhau i osod porthladd rhydd Ynys Môn yn yr un sefyllfa. Mae'r gwaith hwnnw bellach wedi'i gwblhau.

Os yw'r Senedd yn cymeradwyo'r rheoliadau heddiw, bydd rhyddhad ar gyfer trafodiadau yn ardal porthladd rhydd newydd Ynys Môn yn dod i rym ddydd Iau, 23 Ionawr. Bydd hyn yn cyd-fynd â dyddiad dod i rym Llywodraeth y DU o'u rheoliadau dynodi safle treth arbennig ar gyfer porthladd rhydd Ynys Môn, sy'n golygu y bydd pob cymhelliant treth ar gael ar yr un dyddiad, a bydd porthladd rhydd Ynys Môn yn gallu elwa o'r manteision hynny yn y ffordd y mae'r porthladd rhydd Celtaidd eisoes yn gallu ei wneud.

Unwaith eto, rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu gwaith, a gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau hyn.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

11. Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2024

Eitem 11 yw'r Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2024. A galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg i wneud y cynnig—Mark Drakeford.

Cynnig NDM8789 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2024 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Rhagfyr 2024.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Yn y gyllideb ddrafft a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr, nodais fanylion cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwariant yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod a hefyd ar gyfer sut y byddwn yn cyflawni ein cyfrifoldebau wrth godi refeniw i gefnogi'r blaenoriaethau gwario hynny.

O ran treth trafodiadau tir, cyhoeddais y byddai cyfradd breswyl uwch y dreth trafodiadau tir yn cynyddu 1 pwynt canran ar draws pob band, gan greu gordal o 5 pwynt canran dros y cyfraddau sy'n daladwy gan brynwyr tai eraill. Mae'r rheoliadau'n cynyddu'r cyfraddau sy'n berthnasol i'r cyfraddau preswyl uwch, ac mae'r rheini'n gyfraddau a godir ar eiddo preswyl ychwanegol a brynir gan unigolion sydd eisoes yn berchen ar annedd, er enghraifft, ail gartrefi ac eiddo prynu-i-osod, ac maent hefyd yn berthnasol i gwmnïau sy'n prynu anheddau.

Mae'r newidiadau hyn yn golygu bod cyfraddau'r dreth trafodiadau tir yng Nghymru unwaith eto yn cymharu yn fras â chyfraddau treth dir y dreth stamp yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. Bydd y penderfyniad hwnnw'n codi £7 miliwn ychwanegol yn y flwyddyn ariannol nesaf i'w fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, ac yn amddiffyn cyllideb Cymru rhag effaith andwyol addasiad i'r grant bloc a fyddai, fel arall, yn berthnasol gyda chynnydd yn y gyfradd drethu yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, ond dim cynnydd o'r fath yma yng Nghymru. Nid yw'r rheoliadau yn gwneud unrhyw newidiadau i brif gyfraddau preswyl y dreth trafodiadau tir.

Daeth y rheoliadau i rym ar 11 Rhagfyr o dan y weithdrefn gadarnhaol, ond er mwyn i'r newidiadau gael effaith barhaol, mae angen cymeradwyaeth y Senedd ar gyfer y rheoliadau diwygio hyn. Dim ond i roi gwybod i Aelodau'r Senedd bod rheolau trosiannol wedi'u darparu i'r prynwyr hynny a gyfnewidiodd gontractau cyn i'r cyfraddau newid, ond a gwblhaodd ar ôl i'r cyfraddau newydd ddod i rym. Bydd y trethdalwyr hynny yn gallu, ac eithrio pan fo'r contract hwnnw wedi'i amrywio, talu treth yn seiliedig ar y cyfraddau sydd mewn grym pan wnaethant gyfnewid contractau.

Unwaith eto, Dirprwy Lywydd, rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ei adroddiad, a gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r rheoliadau hyn.

Byddaf yn siarad yn fyr am y cynnig sydd o'n blaenau ni yma heddiw. Bydd ein grŵp Ceidwadwyr Cymreig yn gwrthwynebu'r diwygiad hwn i'r rheoliadau. Fel y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i amlinellu, mae cynnydd pellach i'r cyfraddau uwch ar drafodiadau eiddo preswyl yn rhywbeth nad ydym yn ei gefnogi. Credwn fod pobl eisoes yn cael eu trethu i lefel ddigonol, sylweddol ledled Cymru, ac er i'r Ysgrifennydd Cabinet amlinellu rhai o'r bobl y byddai hyn yn effeithio arnynt, megis perchnogion ail gartrefi a darpar landlordiaid eiddo prynu i osod, mae yna bobl eraill hefyd wedi'u dal yn y dreth benodol hon, fel rhiant neu nain a thaid, efallai, sy'n ceisio cefnogi eu plentyn neu wyrion i brynu eiddo os ydyn nhw eu hunain eisoes yn berchnogion eiddo.

A phan edrychwn ni ar y symiau yma, er bod hyn yn gynnydd o 1 y cant ar bob un o'r bandiau hynny, pan ydym yn edrych ar brisiau tai cyfartalog yng Nghymru nawr yn codi'n raddol i hyd at oddeutu £250,000, mae'r braced penodol hwnnw bellach yn fraced 10 y cant o ran effaith y dreth trafodiadau tir ar gyfer y cyfraddau uwch hynny.

Felly, yn sylfaenol, nid ydym yn credu mai dyma'r peth iawn i'w wneud. Mae'r baich treth yn parhau i gynyddu ar bobl yng Nghymru, a byddwn yn gwrthwynebu'r diwygiad penodol hwn yma heddiw. Diolch yn fawr iawn.

19:10

Wel, rwy'n deall y pwyntiau y mae Sam Rowlands wedi'u gwneud, Dirprwy Lywydd, oherwydd maen nhw'n wahaniaeth o ran egwyddor rhwng y blaid Geidwadol Gymreig a'r rhai ar y meinciau hyn. Rydym yn credu mewn trethiant blaengar, yn wahanol i'r blaid Geidwadol Gymreig. Mae nifer y trafodiadau y mae'r gyfradd uwch yn effeithio arnynt yn lleiafrif bach o drafodiadau yn gyffredinol, ac mae'r rhain i gyd yn drafodiadau sy'n cael eu gwneud gan bobl sydd â'r ysgwyddau ehangaf.

Pe na bai Llywodraeth Cymru yn cynyddu cyfraddau yn unol â'r cynnydd yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, fel yr eglurais i wrth agor, Dirprwy Lywydd, nid yn unig y byddem yn colli'r £7 miliwn a fydd ar gael nawr i'w fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, ond byddai'r addasiad i'r grant bloc yn tybio ein bod yn gwneud hynny a byddem yn colli arian yn y ffordd honno hefyd. Yn wir, bydd y £7 miliwn a godwn ond yn ddigon i gwmpasu'r addasiad anffafriol i'r grant bloc. Felly, mae penderfyniad i bleidleisio yn erbyn y rheoliadau heddiw nid yn unig yn benderfyniad i adael y £7 miliwn heb ei effaith ar wasanaethau cyhoeddus Cymru, ond byddai'n dyblu'r effaith andwyol trwy ein gadael yn agored i'r addasiad hwnnw i'r grant bloc.

Y rhai fydd yn talu yw'r rhai sydd fwyaf abl i dalu. Nid oes unrhyw dystiolaeth o flynyddoedd blaenorol bod y cyfraddau hyn yn cael effaith andwyol ar allu pobl i weithredu yn y rhan honno o'r farchnad, ac, unwaith eto, gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r rheoliadau blaengar hyn.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Dwi wedi clywed gwrthwynebiad. Felly, gohiriaf y bleidlais dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

12. Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) 2025

Eitem 12 yw'r Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) 2025. A galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig i wneud y cynnig—Huw Irranca-Davies. 

Cynnig NDM8792 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Rhagfyr 2024.

Cynigiwyd y cynnig.

Member (w)
Huw Irranca-Davies 19:13:43
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o allu cyflwyno Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) 2025, sy'n gwneud gwelliannau i Orchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020, a chynigiaf y cynnig.

Mae cynllun masnachu allyriadau'r DU yn parhau i fod yn un o'n harfau mwyaf pwerus i ddatgarboneiddio diwydiannau yng Nghymru a'r DU ac i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Felly, mae sicrhau ei fod yn gweithredu yn y ffordd fwyaf effeithiol yn hollbwysig. Nawr, mae'r gwelliannau a wneir gan y ddeddfwriaeth hon yn helpu i sicrhau bod y lwfansau am ddim a ddyrennir o fewn cynllun masnachu allyriadau'r DU yn cael eu targedu'n fwy effeithiol. Mae'r newid hwn hefyd yn cadw'r hyblygrwydd i ddyrannu lwfansau am ddim yn llawn pan fydd gweithredwyr yn rhoi'r gorau i weithredu, er mwyn galluogi buddsoddiadau datgarboneiddio i gael eu cyflawni, gan gydnabod a chefnogi cymhelliant datgarboneiddio ETS y DU.

Felly, yn fyr, Dirprwy Lywydd, mae'r Gorchymyn yn newid sut y dyrennir lwfansau am ddim yn y flwyddyn olaf o weithredu, os bydd gosodiad neu is-osodiad yn rhoi'r gorau i weithredu'n barhaol, gan seilio'r hawliau ar lefelau gweithgarwch gwirioneddol yn hytrach na lefelau gweithgarwch hanesyddol. Gall gweithredwyr sy'n rhoi'r gorau i weithrediadau i weithredu buddsoddiadau datgarboneiddio gael lwfansau llawn o hyd os byddant yn darparu digon o dystiolaeth bod y cau oherwydd datgarboneiddio. Mae hefyd yn diweddaru'r diffiniad o 'roi'r gorau iddi'n barhaol' i gynnwys senarios lle mae rhoi'r gorau i weithgaredd dros dro yn dod yn barhaol. Ac fe wnaethom ofyn am gyngor gan ein cynghorwyr statudol, y Pwyllgor Newid Hinsawdd, ar y cynigion a gwmpesir yn y Gorchymyn.

Ac, yn olaf, fel bob amser yn y materion hyn, a gaf i ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu gwaith craffu ar y Gorchymyn hwn? A, gan ddweud hynny, rwy'n cymeradwyo'r cynnig i'r Siambr.

19:15

Nid oes unrhyw siaradwyr ar yr eitem hon. Ysgrifennydd y Cabinet, ydych chi am ychwanegu unrhyw beth arall?

Ydych chi eisiau dweud unrhyw beth arall?

Member (w)
Huw Irranca-Davies 19:15:44
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Dim ond i ddweud mai dyrannu'r lwfansau hyn am ddim yw'r prif offeryn polisi y mae'r risg o ollyngiadau carbon yn cael ei lliniaru drwyddo yn y DU, felly os yw'r ffaith nad oes neb arall yn sefyll i siarad yn golygu bod y rhain yn mynd i fynd drwodd gyda chefnogaeth y Siambr, rwy'n falch iawn, oherwydd mae'n ein helpu ni ar ein llwybr i sero net.

Wel, fe wnawn ni ddarganfod hynny mewn eiliad. [Chwerthin.]

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

13. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Dŵr (Mesurau Arbennig)

Eitem 13, cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Dŵr (Mesurau Arbennig). Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig i wneud y cynnig—Huw Irranca-Davies. 

Cynnig NDM8793 Huw Irranca-Davies

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Dŵr (Mesurau Arbennig), sef Cymalau 1, 2, 3, 4, 5, 6, 7, 8, 9, 10, 11, 13, 14 a 15, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Cynigiwyd y cynnig.

Member (w)
Huw Irranca-Davies 19:16:30
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Mae'n rhaid imi ymddiheuro i'r Aelodau yma am y ffaith fy mod i'n codi ar fy nhraed unwaith eto, ond rwy'n cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai darpariaethau yn y Bil Dŵr (Mesurau Arbennig), i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, gael eu hystyried gan Senedd y DU, ac fe wnaf i egluro pam. Mae gwella ansawdd dŵr ac adfer iechyd ein hafonydd yn fater o ddiddordeb cyhoeddus dwys, ac yn briodol felly. Dyna pam, ers i'r Llywodraeth newydd ddod i rym yn San Steffan, rydym wedi bod yn gweithio'n gyflym i wella'r ffordd rydym yn cydweithredu i fynd i'r afael â llygredd yn ein hafonydd, ein llynnoedd a'n moroedd. Ac, fel y gŵyr yr Aelodau, mae rhai o'n hafonydd mwyaf eiconig, fel afon Hafren, afon Dyfrdwy, afon Gwy, wrth gwrs, yn croesi'r ffiniau cenedlaethol hynny. Felly, mae'r hyn sy'n digwydd i fyny'r afon yn Lloegr yn cael effaith i lawr yr afon yng Nghymru, ac i'r gwrthwyneb. Felly, mae hynny'n golygu, er mwyn gwneud newid gwirioneddol a pharhaol, bod yn rhaid i ni weithio gyda'n gilydd. Ac yn y cyd-destun hwnnw, mae'r bartneriaeth newydd rydym wedi'i gweld rhwng y ddwy Lywodraeth ers mis Gorffennaf diwethaf i'w chroesawu'n fawr. Ac, fel rhywun sydd wedi gwasanaethu yn y ddwy Senedd ac fel Gweinidog yn y ddwy Senedd, mae'n hen bryd i hynny ddigwydd. Dyna'r ffordd y dylem fod yn gwneud pethau. Ac yn yr ysbryd hwnnw o gydweithio a gweithio trawsffiniol, rwyf wedi cytuno y dylid ymestyn Bil Dŵr (Mesurau Arbennig) newydd Llywodraeth y DU i Gymru.

Felly, beth fydd hyn yn ei wneud? Bydd y ddeddfwriaeth yn cryfhau pwerau'r rheoleiddiwr i fynd i'r afael â llygredd dŵr, bydd yn rhoi pŵer newydd i Ofwat gyfyngu'r taliadau bonws a delir i weithredwyr cwmnïau dŵr, bydd yn caniatáu i Cyfoeth Naturiol Cymru adennill costau gan gwmnïau dŵr i gefnogi ei weithgareddau gorfodi, bydd yn gwneud camau gorfodi yn fwy effeithlon trwy gosbau awtomatig ar gyfer rhestr ddiffiniedig o droseddau, a bydd yn caniatáu opsiynau gorfodi mwy effeithiol trwy alluogi rheoleiddwyr i gymhwyso cosbau cosbau sifil yn gyflymach, mewn ffordd fwy amserol. 

Nawr, wrth gwrs, mae'r sector dŵr yng Nghymru yn wahanol i'r un yn Lloegr. Rwyf wedi cydnabod hynny'n gyson. Ac, fel y gŵyr yr Aelodau, mae Dŵr Cymru yn gweithredu mewn ffordd wahanol iawn. Mae'n gwmni nid-er-difidend. Mae polisi Llywodraeth Cymru yn wahanol ar ystod o bethau hefyd, o'r amgylchedd i gystadleuaeth a meysydd eraill. Ond bydd y darpariaethau yn y Bil yn ein galluogi i ddatblygu atebion sy'n diwallu ein hanghenion yma yng Nghymru. Mae'r Bil yn ymwneud â gwneud gwelliannau i drefn reoleiddio a rennir. Felly, er enghraifft, mae'r rheoleiddiwr economaidd, Ofwat, a'r Arolygiaeth Dŵr Yfed yn cwmpasu Cymru a Lloegr. Felly, bydd y gwelliannau hyn, yn eu tro, yn helpu i adfer ein hafonydd. 

Mae hefyd yn bwysig cydnabod mai cam cyntaf yw'r Bil hwn. Mae'r comisiwn dŵr annibynnol ar y cyd, sy'n adrodd nawr i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, yn parhau ochr yn ochr, ac mae'n edrych yn fwy sylfaenol ar yr achos dros newid. Ac mae'r holl waith hwn yn adeiladu ar ein rhaglen uchelgeisiol bresennol sydd wedi'i chynllunio i fynd i'r afael â heriau ansawdd dŵr yma yng Nghymru. Rydym yn darparu dros £40 miliwn o gyllid ar gyfer prosiectau penodol, gan gynnwys, er enghraifft, £1.5 miliwn ar gyfer cefnogi gwaith ein byrddau rheoli maethynnau yn nalgylchoedd afonydd ein hardaloedd cadwraeth arbennig; £5 miliwn a ddyrannwyd ar gyfer adfer y mwyngloddiau metel segur mwyaf llygredig yng Nghymru, gan gydnabod yr hanes hwnnw sydd gennym mewn sawl rhan, yn enwedig o gefn gwlad Cymru, hefyd.

Felly, wrth i ni fwrw ymlaen i roi rhai o'r mesurau hyn y darperir ar eu cyfer yn y Bil ar waith, byddwn ni hefyd yn hyrwyddo'r atebion sy'n gweithio i Gymru ac yn sicrhau bod y broses weithredu yn cefnogi ein huchelgeisiau yma yng Nghymru. Ond mae'r Bil hwn yn gyfle pwysig iawn i ni wneud cynnydd go iawn o ran gwella ansawdd dŵr ac adfer ein hafonydd. Felly, rwy'n edrych ymlaen at glywed sylwadau'r Aelodau y prynhawn yma.

19:20

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a chyn imi droi at sylwedd y cynnig sydd o’n blaenau heddiw, dwi'n meddwl ei bod yn bwysig inni fel Senedd fyfyrio unwaith eto, os caf i ddweud, ar ba mor addas yw’r broses cydsyniad deddfwriaethol, a pha mor rhesymol yw’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn gofyn inni ei wneud.

Nawr, fe osodwyd pum memorandwm cydsyniad deddfwriaethol gerbron y Senedd mewn perthynas â’r Bil Dŵr yma—pum memorandwm sy’n cyfeirio at wahanol gymalau a diwygiadau a wnaed gan Dŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi yn ystod taith y Bil drwy Senedd y Deyrnas Unedig.

Nawr, mae’r pedwerydd memorandwm yn cyfeirio at ddiwygiadau a roddwyd yn y Bil, ac mae'r pumed yn gweld yr un gwelliannau yn cael eu tynnu allan o'r Bil. Nawr, mi fydd Aelodau’n gweld nad yw adroddiad y pwyllgor yn cyfeirio at y pumed memorandwm. Mae hynny oherwydd bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu yn unol ag amserlen Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a fuodd yna ddim digon o amser iddo fe, felly, gael ei gyfeirio at bwyllgor polisi ar gyfer gwaith craffu.

Yn ystod tymor y Senedd hon, rŷn ni wedi gweld cynnydd enfawr yn y defnydd o’r broses memorandwm cydsyniad deddfwriaethol gan Lywodraeth Cymru. Mae’r cwestiwn a ydych chi'n cytuno â hynny neu beidio, wrth gwrs, yn fater i’w drafod. Dwi'n gwybod bod Gweinidogion y Llywodraeth yma yng Nghymru o’r farn ei bod hi'n briodol mewn llawer o achosion. Nawr, efallai y byddai modd amddiffyn eu safbwynt nhw pe bai'r system yn gweithio, ond dyw e ddim, ac mae hynny, yn fy marn i, yn tanseilio safbwynt y Llywodraeth o safbwynt defnyddio'r modd yma. Os yw Gweinidogion Cymru am i San Steffan ddeddfu ar ran y Senedd, mae'n ddyletswydd arnyn nhw, felly, i wneud yn siŵr bod y broses yn gweithio. Ddim ond mis yn ôl, fe gyhoeddodd y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad ysgrifenedig ar egwyddorion Llywodraeth Cymru ar ddeddfwriaeth y DU mewn meysydd datganoledig. Soniodd am yr

'ymgysylltu llawer mwy cadarnhaol a chalonogol sydd wedi datblygu dros y misoedd diwethaf.'

gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Ond dyma ni eto, yn cael yr un ddadl.

Dwi'n gofyn, felly, i’r Dirprwy Brif Weinidog, sydd, fel cyn-gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, wrth gwrs, yn ymwybodol iawn o fethiannau’r broses y mae e’n ei ddefnyddio mor frwd ar hyn o bryd, i roi ymrwymiad i edrych gyda’i gydweithwyr ar sut y gellir gwella’r broses hon fel mater o frys. Mae'n drueni fy mod i wedi gorfod defnyddio cymaint o'm hamser i ganolbwyntio ar broses ac nid polisi, ond mi fyddaf i'n parhau i wneud y pwyntiau hyn hyd nes y bydd Llywodraeth Cymru yn dangos ei bod yn gwrando.

Felly, i symud, os caf i, Dirprwy Lywydd, yn fyr, at y cynigion yn y Bil, mae ein hadroddiad ni fel pwyllgor yn cynnwys sawl casgliad, ond mi fyddaf i'n canolbwyntio ar dair agwedd allweddol. Yn gyntaf, mae Dŵr Cymru, wrth gwrs, yn gweithredu model perchnogaeth cwbl wahanol i gwmnïau dŵr yn Lloegr, ac mae angen inni wneud yn siŵr bod y cynigion llywodraethu yn y Bil yma yn rhoi ystyriaeth lawn i’r sefyllfa fel ag y mae hi yng Nghymru.

Yn ail, fel mater o egwyddor, mi ddylai’r arian sy'n cael ei gynhyrchu gan ddirwyon sy'n cael eu codi ar gwmnïau yng Nghymru aros yng Nghymru, fel y gallwn ni ddefnyddio'r arian hwnnw i wella gwasanaethau a seilwaith—o gofio'r drafodaeth rŷn ni wedi'i chael yn gynharach y prynhawn yma—a hefyd i gefnogi prosiectau sy’n gwella ein hamgylchedd ni.

Ac yn drydydd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru, wrth gwrs, wedi mynegi pryderon y bydd gweithredu yn unol ag amserlen Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer cyflwyno’r cynigion yn gryn her yng Nghymru, oherwydd, wrth gwrs, diffyg adnoddau. Mi fyddwn i'n ddiolchgar, felly, am sicrwydd gan yr Ysgrifennydd Cabinet y bydd yn ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol ynghylch yr amserlen ar gyfer cyflwyno’r darpariaethau yng Nghymru.

Dwi'n edrych ymlaen at glywed barn yr Ysgrifennydd Cabinet ar gasgliadau’r pwyllgor yn ei ymateb i’r ddadl yma. Diolch.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Adroddodd y pwyllgor ar femorandwm cydsyniad deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Dŵr (Mesurau Arbennig) ddoe. Yr wythnos diwethaf, gwnaethom ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cabinet i roi hysbysiad ymlaen llaw o ddau argymhelliad, ac rydym yn ddiolchgar am ei lythyr mewn ymateb. Yn gyntaf, gwnaethom geisio tynnu sylw at ddiffyg eglurder ym memorandwm Rhif 3. Nodwn fod y cynnig heddiw yn cyfeirio at rifau cymalau, gerbron y Senedd, sydd wedi bod yn arfer diweddar. Byddai'n ddefnyddiol pe gallai'r Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau pa fersiwn o Fil y DU y mae'r rhifau cymalau yn cyfeirio ati, gan fod rhai o'r rhifau cymalau wedi newid o ganlyniad i welliannau a wnaed i'r Bil yn ystod y camau diwygio. Ar ben hynny, nodwn o'i lythyr ddoe y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn gosod memorandwm atodol arall mewn perthynas â gwelliannau Cyfnod Adrodd. Felly, byddwn yn croesawu esboniad ynghylch beth mae hyn yn ei olygu o ran y cydsyniad y gofynnir i'r Senedd ei ddarparu heddiw.

Mae'r ail argymhelliad yn ymwneud â'r cyfiawnhad dros ddefnyddio Bil Llywodraeth y DU. Ym mharagraff 14 o'r memorandwm cyntaf, mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn datgan bod dŵr yn fater trawsffiniol cynhenid. Credwn fod y datganiad hwn yn groes i bolisi Llywodraeth Cymru a nodwyd yn ei strategaeth ddŵr yn 2015, sy'n datgan mai amcanion Llywodraeth Cymru yw alinio'r ffiniau rheoleiddio ar gyfer dŵr a charthffosiaeth â'r ffin ddaearyddol rhwng Cymru a Lloegr. Mae'r strategaeth yn mynd ymlaen i ddatgan y byddai hyn yn galluogi Llywodraeth Cymru i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd y mae adnoddau naturiol Cymru yn eu cynnig. Felly, gwnaethom argymell bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn rhoi naratif mwy cywir o safbwynt Llywodraeth Cymru o ran ei strategaeth ddŵr yn 2015 mewn memorandwm atodol arall. Nodwn ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet.

Gan gydnabod y byddai dechrau adran 48(1) o Ddeddf Cymru 2017 yn helpu i gyflawni amcanion Llywodraeth Cymru yn ei strategaeth ddŵr, argymhellodd ein hadroddiad y dylai'r Ysgrifennydd Cabinet esbonio pam nad yw adran 48(1) wedi'i chychwyn a darparu amserlen ar gyfer dechrau'r adran honno. Mae'r Ysgrifennydd Cabinet hefyd yn cyfiawnhau defnyddio Bil y DU oherwydd bod Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn rhannu nodau ac amcanion, ac oherwydd ei fod o'r farn bod dull cydgysylltiedig yn hanfodol i sicrhau cysondeb rheoleiddiol. Fodd bynnag, nid yw dull cydgysylltiedig rhwng Cymru a Lloegr, yn ein barn ni, yn gofyn am yr un cyfrwng deddfwriaethol yn y DU. Mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn cydnabod y pwynt hwn i bob pwrpas drwy gymryd pwerau deddfu ar gyfer Gweinidogion Cymru. O'r herwydd, mae yna anghysondeb o ran ymagwedd Llywodraeth Cymru. Ar y naill law, mae angen Bil Llywodraeth y DU i gyflawni'r un amcanion a chanlyniadau â Llywodraeth y DU, ond eto nid yw'n ymddangos bod y ddadl honno'n berthnasol wrth ddefnyddio is-ddeddfwriaeth at yr un diben, lle bydd pwerau yn cael eu harfer gan Weinidogion y DU yn Lloegr a Gweinidogion Cymru yng Nghymru. Felly, unwaith eto, mae'r Senedd hon yn cael ei gwthio o'r neilltu fel deddfwrfa. Mae Aelodau Etholedig o'r Senedd yn cael eu hatal rhag mynegi eu barn yn llawn ar ddeddfwriaeth sy'n effeithio ar afonydd sy'n llifo drwy eu hetholaethau. Er y bydd ASau yn Lloegr yn gallu cyflwyno gwelliannau i'r Bil ar faterion a fydd yn effeithio ar afonydd yng Nghymru, mae Aelodau o'r Senedd yn cael eu hamddifadu o'r cyfle hwnnw.

At ei gilydd, nid yw'r dystiolaeth a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi'r dull hwn o ddefnyddio Bil Llywodraeth y DU i ddeddfu ar gyfer Cymru wedi bod yn berswadiol. Daethom i'r casgliad felly bod cyfiawnhad yr Ysgrifennydd Cabinet dros ddefnyddio'r Bil hwn i ddeddfu ym maes datganoledig polisi dŵr yn wan, oherwydd mae'r dystiolaeth a ddarparwyd wedi bod yn anghywir ac yn anghyson ar adegau, ac mae'n ymddangos ei bod yn groes i strategaeth ddŵr Llywodraeth Cymru yn 2015. At hynny, canlyniad dull Llywodraeth Cymru o neidio ar gefn Bil Llywodraeth y DU, i bob pwrpas, yw creu fframwaith deddfwriaethol ar gyfer Llywodraeth Cymru, gyda'r pwerau hynny'n cael eu dirprwyo gan Senedd y DU, yn hytrach na'r Senedd. Daethom i'r casgliad felly bod defnydd Llywodraeth Cymru o'r Bil i geisio darpariaeth ar gyfer Cymru yn atgoffa rhywun o ddatganoli gweithredol y Cynulliad cyntaf a'r ail Gynulliad, sy'n anfoddhaol ac yn anffodus.

Mae ein hadroddiad yn nodi hefyd nad oedd y penderfyniad i gynnwys darpariaethau ar gyfer Cymru yn y Bil yn seiliedig ar unrhyw ddatblygiad polisi a dadansoddiad trylwyr gan Lywodraeth Cymru. Mynegwyd pryder felly bod oportiwnistiaeth Llywodraeth Cymru wrth gymhwyso darpariaethau mewn Bil Llywodraeth y DU a ddyluniwyd ar gyfer Lloegr i Gymru wedi cael ei gwneud yn rhy gyflym ac efallai nad yw wedi cael ei hystyried yn llawn. O'r herwydd, daethom i'r casgliad bod y Bil Dŵr (Mesurau Arbennig) a'r darpariaethau sy'n berthnasol i Gymru wedi cael eu gyrru gan Lywodraeth y DU a chraffu gan Senedd y DU, ac, yn ein barn ni, nid yw hyn yn ffordd foddhaol na derbyniol o wneud cyfraith sylfaenol yng Nghymru.

19:25

Byddwn yn cefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn heddiw. Fel y nodir yn y nodiadau esboniadol, mae'r Bil yn ceisio sicrhau bod cwmnïau dŵr yn cael eu dwyn i gyfrif yn well lle maent wedi methu â chyflawni ar gyfer yr amgylchedd a chwsmeriaid. Mae angen mwy o atebolrwydd yn sicr, yn enwedig yng ngoleuni'r hyn rydym wedi'i weld yn ddiweddar yn y gogledd ac, yn wir, yn fy etholaeth fy hun—ymateb mor anhrefnus i argyfwng dŵr Conwy, a welodd hyd at 40,000 o gartrefi yn cael eu gadael heb ddŵr am gyhyd â phedwar diwrnod a hanner.

Mae'r Bil yn cynnwys llawer o ddarpariaethau rwy'n eu croesawu, gan gynnwys gwahardd taliadau bonws i bobl sydd â rolau uwch lle nad yw cwmnïau dŵr yn cyrraedd safonau gofynnol sy'n ymwneud â materion defnyddwyr, yr amgylchedd, gwytnwch ariannol, neu atebolrwydd troseddol. Yn bersonol, rwy'n credu bod angen gofyn cwestiynau ynghylch a ddylid caniatáu unrhyw fonysau iddynt o gwbl pan nad ydynt yn darparu'r adnodd hwn y mae mawr ei angen.

Bydd hefyd yn cyflwyno prawf person addas a phriodol i weithredwyr cwmnïau dŵr ac yn sicrhau bod defnyddwyr yn cael eu cynrychioli ar fyrddau cwmnïau dŵr. Bydd hefyd yn ymestyn pŵer dedfrydu'r llysoedd i gynnwys carcharu ym mhob achos lle mae unigolion wedi rhwystro ymchwiliadau gan Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Arolygiaeth Dŵr Yfed. Bwriedir iddo ostwng safon y prawf ar gyfer cosbau sifil Asiantaeth yr Amgylchedd a Cyfoeth Naturiol Cymru er mwyn sicrhau bod cosbau mwy cyflym yn gallu cael eu rhoi ar gyfer mân droseddau a throseddau cymedrol. Dim ond blas ar y Bil yw hynny. Yn bersonol, rwy'n dweud y dylem fwrw ati i wneud unrhyw beth y gallwn ni ei wneud i reoleiddio'r diwydiant dŵr yn fwy. Diolch.

19:30

Mae'r Bil Dŵr (Mesurau Arbennig) yn cynnwys sawl darpariaeth a allai gryfhau ein hymdrechion ar y cyd i leihau llygredd dŵr yng Nghymru, yn enwedig trwy wella pwerau rheoleiddwyr fel Ofwat. Gwnaf i ganolbwyntio yn gyntaf ar y polisïau. Mae'r fframwaith newydd, wrth gwrs, ar gyfer dal cwmnïau dŵr yn atebol am lywodraethu a thâl yn gam ymlaen, yn sicr o ran gwella perfformiad ac ailadeiladu ymddiriedaeth yn y sector.

Fodd bynnag, hoffwn i ofyn rhai cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet. Os bydd hwn yn pasio, sut mae Llywodraeth Cymru yn rhagweld bydd y Bil hwn yn gwella gallu’r Llywodraeth yma i fynd i'r afael â phryderon parhaus ymysg y cyhoedd ac Aelodau o’r Senedd am ollyngiadau anghyfreithlon o garthion gan Dŵr Cymru, yn enwedig o ystyried y dicter, pa mor grac yn barhaol mae pobl yn y cyhoedd am lygredd yn ein hafonydd a'n dyfroedd arfordirol? Buaswn i’n gofyn hefyd pa gynlluniau sydd ar waith i sicrhau bod y gofynion adrodd o dan gymal 3, megis data rhyddhau amser real, yn cael eu gorfodi'n effeithiol. Sut bydd Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r data hwn i ddal cwmnïau'n atebol?

Sut bydd darpariaethau'r Bil yn cyd-fynd â'r ddeddfwriaeth sydd ar ddod ar gorff llywodraethu amgylcheddol newydd Cymru? A fydd fframwaith cydlynol i sicrhau goruchwyliaeth gadarn ac osgoi dyblygu neu fylchau mewn gorfodi? Ac yn olaf o ran polisïau, a yw Ysgrifennydd y Cabinet o'r farn bod y cosbau ariannol a'r meysydd gorfodi yn y Bil yn ddigonol i weithredu fel rhwystr gwirioneddol i droseddau amgylcheddol?

Mae nifer o bethau yr ydym yn cytuno arnynt, Dirprwy Lywydd, yn y Bil hwn, ac eto mae yna fater sylfaenol yma o ran y ffordd y mae hyn wedi'i gyflwyno yma, mai dim ond trwy weithio gyda San Steffan y gellir gwneud rhai pethau. Mae hynny, yn ein tyb ni, yn groes i bolisi a gyflwynwyd gan y Llywodraeth, ac, o ganlyniad, ni fyddwn yn cefnogi hyn, ond byddwn yn ymatal yn y bleidlais hon.

Rwy'n cytuno â sylwadau Delyth Jewell. Rwy'n credu bod llawer o bethau yn y Bil dŵr drafft y byddem yn cytuno â nhw, ond nid yw'r hyn a gyflwynwyd yn y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ac sydd wedi'i adleisio, Dirprwy Brif Weinidog, yn eich sylwadau chi yma, yn dderbyniol. Rydych chi wedi dweud nad yw newid enfawr yn bosibl oni bai ein bod ni'n gweithio ochr yn ochr â San Steffan. Dywedoch chi yn y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol

'Mae dŵr yn ei hanfod yn fater trawsffiniol'.

Mae 33 o systemau afonydd yng Nghymru, a 50 o brif lednentydd. Mae tair o'r rheiny yn croesi'r ffin, a phump o'r llednentydd—10 y cant. Enwch wlad yn Ewrop nad oes ganddi afonydd sy'n croesi ffiniau, yn hollol, ond maen nhw'n parchu'r ffaith mai yn y gwledydd y mae penderfyniadau democrataidd am y cyrsiau dŵr hynny yn cael eu gwneud. Mae'r datganiad rydych chi wedi'i wneud yn y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol bod dŵr yn ei hanfod yn fater trawsffiniol yn groes, fel y dywedodd Delyth Jewell, ac fel y mae'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad wedi'i ddweud, i'ch polisi dŵr eich hun fel y nodwyd yn 2015, pan ddywedoch chi

'Bydd sicrhau bod proses reoleiddio gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth yn cyd-fynd â'r ffin ddaearyddol yn ein galluogi i integreiddio dŵr yn well o fewn ein dull o reoli adnoddau naturiol, gan sicrhau ein bod yn manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd y mae adnoddau naturiol Cymru yn eu cynnig.'

Mae hynny'n groes i'r datganiad ei fod yn fater trawsffiniol yn ei hanfod, oherwydd yr hyn rydych chi'n ei ddweud yn y fan honno yw, mewn gwirionedd, drwy ddod â'r pŵer i Gymru a pheidio â chael y cyfrifoldeb cymysg hwn, dyna'r ffordd orau o sicrhau gwell canlyniadau o ran ansawdd dŵr a phopeth arall mewn perthynas â'r systemau afonydd hynny. Felly, pa un ydyw, Dirprwy Brif Weinidog? Ai'r polisi a nodwyd gennych yn 2015 ydyw neu onid yw hwnnw'n weithredol mwyach? Rydych chi, i bob pwrpas, drwy Fil San Steffan, wedi newid y polisi drwy'r drws cefn.

Rydych chi hefyd, fel mae'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn mynd ymlaen i nodi, wedi rhoi'r gorau, yn ôl pob golwg, i'r brys o ddod â rheolaeth lwyr ar ddŵr yng Nghymru a roddwyd gan Ddeddf 2017—ydych chi'n cofio cytundeb Dydd Gŵyl Dewi, lle cyhoeddwyd bod pŵer dros ddŵr yn dod adref i Gymru? Ac eto, dydych chi ddim wedi ceisio dechrau'r pwerau o dan adran 48(1) o'r Ddeddf honno eto, ac rydych chi'n dweud nawr, oherwydd bod Hafren Dyfrdwy wedi'i wahanu fel is-gwmni i Severn Trent, nad yw'n angenrheidiol mwyach ac nad oes angen gwneud hynny ar unwaith.

Ac eto, y pwynt yw bod yna gwmnïau dŵr sy'n gweithredu yng Nghymru nad ydynt wedi'u lleoli'n gyfan gwbl yng Nghymru: Severn Trent, sy'n rhedeg cronfeydd dŵr cymoedd Elan ac yn allforio'r dŵr i Birmingham; United Utilities, cwmni o Loegr sy'n rhedeg cronfa ddŵr Llyn Efyrnwy, gan allforio dŵr i Lannau Mersi a Chaer—a nid dim ychydig bach o ddŵr, Dirprwy Brif Weinidog, mae tua 200 biliwn o litrau o ddŵr y flwyddyn yn gadael Cymru ac nid yw Cymru'n cael ad-daliad priodol am yr adnodd hanfodol hwnnw. Pe byddem, gellid ail-fuddsoddi’r arian hwnnw i wella seilwaith ein diwydiant dŵr. Rydym newydd glywed am y problemau y mae pobl wedi gorfod eu hwynebu yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Mae hynny oherwydd tanfuddsoddiad, a rhan o'r rheswm yw nad yw Cymru wedi cael pris priodol am y dŵr hwnnw. Allwn ni gyflwyno ardoll dŵr? Na, does ganddon ni ddim y pŵer cyfreithiol, oherwydd dydych chi ddim wedi gofyn amdano. Pam dydych chi ddim wedi gofyn amdano?

Rwy'n credu bod y ffordd rydych chi wedi fframio hyn eto, yn anffodus—. Argymhelliad y pwyllgor oedd y dylech chi dynnu'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol hwnnw yn ôl, oherwydd mae'r hyn rydych chi wedi'i ddweud ynddo yn anghywir, oni bai eich bod chi'n dweud wrthym fod y polisi dŵr hwnnw wedi newid. Felly, ydy'r polisi wedi newid? Ac allwch chi roi rheswm boddhaol i ni pam dydych chi ddim wedi ceisio dod â'r pwerau a gynigiwyd ac a addawyd i roi rheolaeth lawn i ni dros ein dŵr yn ôl i Gymru?

19:35
Member (w)
Huw Irranca-Davies 19:39:02
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Diolch yn fawr iawn. Byddaf yn ceisio mynd i'r afael â'r nifer o bwyntiau a godwyd yma. Yn gyntaf oll, mae'n ddiddorol nodi yn y ddadl hon ei bod yn ymddangos bod yna agenda a rennir o ran yr hyn yr ydym yn ceisio'i gyflawni yma, trwy ganlyniadau'r hyn y gall y Bil hwn ei wneud. Ond er mwyn egluro, mae hyn yn ymwneud â gweithrediad, er enghraifft, Ofwat a'r Arolygiaeth Dŵr Yfed, sy'n gyfundrefn reoleiddio a rennir yr ydym yn ei rhannu ledled Cymru a Lloegr. Mae'n bwysig nodi hynny ar y dechrau, oherwydd mae'r trafodaethau ynghylch afonydd yn llifo ar draws ffiniau yn un agwedd, ond rydych chi'n nodi'n gywir, Adam, fod yna lawer o afonydd nad ydyn nhw'n llifo ar draws ffiniau, ond mae'r gyfundrefn reoleiddio yr ydym yn cyfeirio ati, ac y mae'r Bil hwn yn berthnasol iawn iddi, yn cwmpasu Cymru a Lloegr. Ond fe drof ato mewn mwy o fanylder nawr.

Mae gwerthfawrogiad a rennir yma, rwy'n credu, yn y Siambr bod mynd i'r afael ag ansawdd dŵr yn ein hafonydd a'n moroedd yn destun pryder mawr i'r cyhoedd, a bod y mater yn flaenoriaeth. Y cwestiwn yw sut allwn fynd ati i wneud hynny. Un o'r pethau sydd wedi newid yn sylweddol mewn gwirionedd yw cael Llywodraeth y DU sy'n ein gwahodd ni i'r bwrdd ac yn dweud, 'Fyddech chi eisiau gweithio gyda'n gilydd, lle mae gennym ni gyfundrefn reoleiddio gyffredin, a chydweithio ar hyn, a bod yn rhan o hyn, ac ymgysylltu?' Dyna pam fy mod wedi gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU i ddatblygu'r mesurau yn y Bil, a pham rwyf wedi cytuno i ymestyn cymhwyso darpariaeth y Bil i Gymru, gyda phwerau i Weinidogion Cymru sy'n cyfateb i rai'r Ysgrifennydd Gwladol. Ac i fod yn glir eto, mae'r Bil yn ymwneud â chefnogi gorfodi gofynion rheoleiddio yn y sector dŵr a gwella perfformiad cwmnïau dŵr. Wrth gwrs, mae hyn yn gysylltiedig â'r gwaith tymor hwy o lanhau afonydd, llynnoedd a moroedd.

Mae'n hollol wir, ac rydym yn cydnabod hyn, fod y Bil wedi'i ddatblygu'n gyflym. Rydym wedi parhau i graffu ar y mesurau arfaethedig ac ystyried yr holl effeithiau posibl i Gymru drwy gydol hynt y Bil hwn yn y Senedd. Rydym yn ddiolchgar iawn i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu gwaith wrth ystyried hyn.

Mae'r amserlen ar gyfer datblygu'r Bil wedi bod yn heriol. Mae wedi effeithio ar amserlen y Senedd a'r gwaith o ystyried y Bil ac, yn wir, mae fy swyddfa wedi codi rhai o'r materion hyn gyda'n gweinidogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU. Mae'n gwbl gywir sicrhau bod y gweithredu'n cael ei wneud yn y ffordd orau i Gymru. Mae rhai o'r mesurau y darperir ar eu cyfer yn y Bil yn debygol o symud ymlaen yn wahanol rhwng Cymru a Lloegr, ac rydym bob amser wedi bod yn glir iawn ynglŷn â hynny. Oherwydd er bod llawer o bethau yn gyffredin, byddwn yn cymryd yr amser i sicrhau bod y gweithredu'n digwydd mewn ffordd sy'n briodol ar gyfer y gwahanol gyd-destunau deddfwriaethol a rheoleiddiol yng Nghymru ac yn caniatáu—y cwestiwn a ofynnwyd—ar gyfer ymgynghori'n briodol â rhanddeiliaid yng Nghymru.

Ond i fod yn gwbl glir, mae'r Bil hwn yn cynnig newidiadau cadarnhaol, mae'n cefnogi ein nod cyffredinol i leihau llygredd dŵr yng Nghymru, mae'n deddfu ar ystod o faterion a materion polisi y mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn eu rhannu—nodau ac amcanion clir; nid felly y mae hi wedi bod bob amser. Ac ydy, mae'r setliad datganoli mewn perthynas â dŵr yn gymhleth, ond mae gan y Senedd a Gweinidogion Cymru swyddogaethau helaeth o fewn yr hyn sydd, i bob pwrpas, yn gyfundrefn reoleiddio a rennir i raddau helaeth. Soniais yn benodol fod y rheoleiddiwr economaidd, Ofwat, a'r Arolygiaeth Dŵr Yfed yn cwmpasu Cymru a Lloegr. Ond mae'r dull hwn yn y fan yma, y cyfle hwn yn y fan yma, gyda'r Bil yn cael ei gyflwyno yn y Senedd, yn ateb effeithiol i gyflawni amcanion polisi ehangach yr ydym yn eu rhannu.

Rydym wedi gweithio'n galed i sicrhau bod y Senedd yn rhoi cymaint o ystyriaeth â phosibl i'r Bil er gwaethaf yr amserlen ar garlam y soniais amdani. Rydym wedi ceisio sicrhau bod y Senedd yn cael cyfle i ystyried a phleidleisio ar y Bil cyn y Cyfnod Adrodd yn Nhŷ'r Cyffredin, er mwyn sicrhau bod y safbwyntiau yma yn gallu cael eu hystyried mewn ffordd ystyrlon yn ystod y gweithdrefnau hynny yn Nhŷ'r Cyffredin. Rwy'n deall nad yw hon yn sefyllfa ddelfrydol. Nid yw'n ddelfrydol i bwyllgorau'r Senedd ystyried a chraffu ac adrodd ar y Bil. Rwy'n hapus i ystyried unrhyw sylwadau a phryderon a all fod gan bwyllgorau, fel y gwnawn ni, trwy ohebiaeth, ac yn y blaen.

Ond oherwydd gweithrediad y sector dŵr a natur drawsffiniol y cyrff dŵr hyn, mae Bil a gyflwynir yn Senedd y DU yn ateb effeithiol i gyflawni'r nodau a rennir gennym. Rydym yn rhannu'r heriau tebyg hynny o ran iechyd rhai o'n cyrff dŵr yng Nghymru a Lloegr. Felly, mae cydweithio i fynd i'r afael â'r heriau hyn yn ddatrysiad effeithiol ac ymarferol hefyd. Mae gwella ansawdd dŵr yn flaenoriaeth allweddol i'r Llywodraeth hon. Bydd cryfhau pwerau rheoleiddwyr y sector dŵr, sef amcan y Bil hwn, yn cyfrannu at y nod hwnnw. Rydym yn rhannu'r un amcanion polisi, gallwn ni gydweithio yma â Llywodraeth y DU. Mae'n ffordd effeithlon ac effeithiol o ddefnyddio ein hadnoddau. Mae'r Bil hwn yn ein galluogi i ddarparu buddion i Gymru heb effeithio'n negyddol ar faterion yr ydym yn bwriadu eu cyflawni mewn mannau eraill, neu ein hagenda ein hunain o fewn y maes dŵr.

Mae'n rhaid i mi ddweud bod y Bil hwn yn dangos camau cydweithredol cynnar iawn ar ansawdd dŵr rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Cafodd y Bil ei gychwyn gan Lywodraeth y DU, ond fe wnaethon nhw ofyn am ein cynnwys yn y Bil ar unwaith. Cymerodd Gweinidogion a swyddogion Cymru ran lawn yn y gwaith o ddatblygu a mireinio'r cynigion, yn syth o'r camau cynnar. Mater i ni oedd p'un a fyddem yn cymryd rhan, ac roeddem ni ac rydym ni wedi bod yn gweithio'n agos. Mae holl gymalau'r Bil wedi cael eu hasesu o safbwynt polisi Cymru. Maent wedi cael eu hystyried gan ein cynghorwyr cyfreithiol.

Mae'r Bil wedi cael ei gyflwyno'n gyflym, ac felly mae'r asesiad o'r mesurau a'r gwaith o ddatblygu'r cynllun gweithredu yn parhau. Rydym yn parhau i ymwneud â hynny. Nid oedd cyflymder y Bil—mae cynnwys rhanddeiliaid wedi cael ei grybwyll, Dirprwy Lywydd—yn caniatáu ar gyfer ymgynghoriad cyn-ddeddfwriaethol ffurfiol gan y naill Lywodraeth na'r llall—y naill Lywodraeth neu'r llall—fodd bynnag, mae ein swyddogion wedi bod yn ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol, fel Cyfoeth Naturiol Cymru, Ofwat a'r Arolygiaeth Dŵr Yfed, fel y mae Llywodraeth y DU, ac mae'r Bil yn rhoi pwerau fframwaith i ni y bydd yn ofynnol eu deddfu drwy is-ddeddfwriaeth. Bydd ymgysylltu agos â rhanddeiliaid, ac, yn dibynnu ar y gofynion deddfwriaethol, ymgynghoriad cyhoeddus ar yr offerynnau statudol arfaethedig a'r canllawiau a gyhoeddir o dan y Bil, a dyna'n rhannol pam ein bod ni'n gweithredu'r mesurau eilaidd hyn yn annibynnol ar Lywodraeth y DU. 

Cafodd holl fesurau'r Bil, fel y soniais i, eu hystyried o safbwynt Cymru, gan gynnwys, gyda llaw, fel y soniais i o'r blaen, fodel nid-er-elw Dŵr Cymru. Bydd hyn yn parhau yn ystod camau gweithredu darpariaethau'r Bil ar ôl y Cydsyniad Brenhinol, os bydd yn cael Cydsyniad Brenhinol. Mae'n debygol y bydd gweithredu rhai o'r mesurau a ddarperir yn y Bil yn mynd rhagddo, fel y dywedais i, yn wahanol i Gymru o gymharu â Lloegr, gan adlewyrchu pethau fel model llywodraethu gwahanol Dŵr Cymru yma yng Nghymru, ac, er enghraifft—ac, er enghraifft—y ffaith bod Cymru ymhell ar y blaen i Loegr o ran monitro hyd digwyddiadau ar orlifoedd carthffosiaeth gyfun a gorlifoedd argyfwng. Felly, mae hynny'n bwysig i'w nodi hefyd. 

Felly, yn olaf, Dirprwy Lywydd—[Torri ar draws.]

Na, mae'n ddrwg gennyf. Codwyd llawer o gwestiynau.

19:45

Bydd cryfhau pwerau rheoleiddwyr y sector dŵr, sef amcan sylfaenol y Bil hwn, yn cyfrannu at gyflawni ein nodau. Bydd yn dod â newidiadau cadarnhaol. Felly, wrth gyflwyno hyn heddiw, at ei gilydd, oherwydd y ffordd y mae'r sector dŵr yn gweithio, natur drawsffiniol nid yn unig ein cyrff dŵr, ond y gyfundrefn reoleiddio, mae Bil a gyflwynir yn Senedd y DU yn ddatrysiad effeithiol i gyflawni amcanion polisi ehangach a rennir. Rydym yn rhannu'r un nodau o ran gwella ansawdd dŵr a gwydnwch y sector dŵr. Felly, Dirprwy Lywydd, mae'r ddeddfwriaeth yn amserol, mae gwir angen y mesurau, fel y nodwyd eisoes, ac felly rwy'n argymell bod y Senedd yn cefnogi'r cynigion ac yn rhoi ei chydsyniad.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Rwyf wedi clywed gwrthwynebiad, felly gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

14. Cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru)

Eitem 14 yw cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru). Galwaf ar y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol i wneud y cynnig. Dawn Bowden.

Cynnig NDM8788 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:

Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i’r Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn ganlynol:

a) Adrannau 2-13;

b) Adran 1;

c) Adrannau 14-22;

d) Atodlen 1;

e) Adrannau 24-25;

f) Atodlen 2;

g) Adran 26;

h) Adran 23;

i) Adrannau 27-30;

j) Teitl Hir.

Cynigiwyd y cynnig.

Rwy'n cynnig y cynnig yn ffurfiol, Dirprwy Lywydd. Ac nid oes gennyf unrhyw beth i'w ddweud wrth gynnig y cynnig, ond cadwaf fy hawl i ateb os oes unrhyw siaradwyr. Diolch.

Does dim siaradwyr, felly does dim angen ateb.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

A dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio.

15. Cyfnod Pleidleisio

Bydd y bleidlais gyntaf ar eitem 11, rheoliadau treth trafodiadau tir. Galwaf am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 37, neb yn ymatal, 10 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn.

Eitem 11. Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2024: O blaid: 37, Yn erbyn: 10, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Bydd y bleidlais olaf heddiw ar eitem 13, cynnig cydsyniad deddfwriaethol y Bil dŵr. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 37, 10 yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn.

19:50

Eitem 13. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Dŵr (Mesurau Arbennig): O blaid: 37, Yn erbyn: 0, Ymatal: 10

Derbyniwyd y cynnig

Daeth y cyfarfod i ben am 19:50.