Y Cyfarfod Llawn
Plenary
14/01/2025Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da, a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf y prynhawn yma gan Rhys ab Owen.
1. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i weithwyr llawrydd ym maes teledu a ffilm i sicrhau bod sgiliau yn cael eu cynnal yn y diwydiant? OQ62111
Ers 2020, rŷn ni wedi ariannu 51 o brosiectau yn y sector allweddol yma, gan arwain at £342 miliwn o wariant yng Nghymru. Bydd llawer o weithwyr llawrydd wedi cael cyfleoedd i weithio o ganlyniad i'r buddsoddiad hwn.
Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Dwi'n gobeithio y cawsoch chi'r cyfle i wylio dros y Nadolig y Gavin and Stacey Christmas special—fe wnes i weld bod hwnna'n ddymuniad gyda chi. Mae honna'n un enghraifft, onid yw hi, o lwyddiant rhaglenni teledu Cymreig. Mae rhaglenni Cymraeg yn cael eu gwerthu i gwmnïau fel Netflix, a dwi'n gweld bod Un Bore Mercher a Keeping Faith yn mynd i gael eu dangos mewn Corëeg a Ffrangeg bellach. Ond, wrth gwrs, y tu ôl i'r llwyddiant, mae pobl, ac, fel y gwyddoch chi, mae BECTU wedi dweud bod y diwydiant llawrydd yn poeni'n fawr am ei ddyfodol—bron i hanner yn ddi-waith, a 78 y cant yn stryglo i dalu biliau. Nawr, mae yna enghreifftiau diddorol o'r hyn sy'n digwydd gyda Llywodraethau tramor, fel yn Ffrainc ac Iwerddon, i gefnogi'r diwydiant llawrydd. Beth, yn ymarferol y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i wneud ymhellach i gynnal y diwydiant ac i sicrhau bod rhaglenni Cymreig ar gael ar sgriniau dros y byd i gyd? Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr iawn. Dŷch chi'n iawn—dwi'n ffan massive o Gavin and Stacey, fel, rwy'n siŵr, mae'r rhan fwyaf o bobl yn y Siambr yma. Roedd hi'n braf gweld Cymru'n cael ei hadlewyrchu mewn ffordd rîli positif, a phobl Cymru'n cael eu gweld mewn ffordd bositif, a bod cymaint o bobl dros y Deyrnas Unedig, a'r byd, wedi gweld pa fath o le ydym ni. Ond rŷch chi'n iawn—mae'r sector yn bwysig iawn i economi Cymru. Mae hi hefyd yn werth ystyried bod nifer fawr o bobl wastad wedi gweithio yn llawrydd yn y sector yma. Dwi'n meddwl bod perfect storm wedi digwydd, achos roedd y pandemig ac wedyn roedd y streiciau yn yr Unol Daleithiau. Dyna pam roedd cymaint o bobl, ar un adeg, allan o waith yn y sector yna. Mae e wedi dod lawr rywfaint, ond mae hon yn broblem, fel rŷch chi'n dweud, sydd wedi effeithio ar bobl ar draws y diwydiant, ar draws Ewrop. Felly, fel dwi'n dweud, beth rŷn ni wedi ei wneud fel Llywodraeth yw'r buddsoddiad yna, sydd ddim yn fuddsoddiad bach, ond mae wedi arwain at £342 miliwn. A beth sy'n digwydd wedyn yw bod pobl sy'n gweithio yn y diwydiant—y gweithwyr llawrydd yna—yn cael cyfle i weithio. Felly, dyna sut rŷn ni fel Llywodraeth yn helpu. Hefyd, dwi'n meddwl ei bod hi'n werth dweud ein bod ni'n rhoi cymorth i ddatblygu sgiliau trwy'n cronfa sgiliau Cymru Greadigol, ac rŷn ni hefyd yn gweithio'n anuniongyrchol trwy raglenni partner fel y siop un stop a gafodd ei lansio'n ddiweddar.
Mynegwyd pryderon gan y diwydiant ffilm bod cyllid a ddarperir drwy Pinewood a Llywodraeth Cymru yn cael ei gynnig ar delerau masnachol drwy egwyddor buddsoddwr economi'r farchnad, sydd yn hanesyddol wedi ffafrio cwmnïau mwy sefydledig y tu allan i Gymru, ac sy'n rhoi crewyr annibynnol llai o dan anfantais. Yn ôl tystiolaeth a gyflwynwyd gan Ffilm Cymru, mae gweithwyr llawrydd a chwmnïau gwasanaethau a chyfleusterau yn dal i fod mewn perygl yn dilyn COVID, ac mae nifer wedi methu â chael mynediad at fecanweithiau cymorth. Dangosodd adroddiad Oxford Economics a gomisiynwyd gan Ffederasiwn y Diwydiannau Creadigol y rhagwelir y bydd Cymru yn colli 26 y cant o'i swyddi creadigol ac y bydd gostyngiad o 10 y cant i werth ychwanegol gros y diwydiannau creadigol, felly mae cefnogi'r diwydiant ar lawr gwlad yn bwysig. Mae Ffilm Cymru yn gwneud gwaith gwych i gynorthwyo gwneuthurwyr ffilmiau annibynnol trwy ddarparu grantiau a buddsoddiad i gwmnïau cynhyrchu newydd sbon bach, gan sicrhau bod y sgiliau hynny yn aros yng Nghymru, ond mae'n bwysig bod ganddyn nhw'r adnoddau i ddarparu'r cymorth hwn i grewyr. Mae'r gostyngiad i gyllid y loteri, sy'n cael ei ddirprwyo gan Gyngor Celfyddydau Cymru, hefyd wedi cael effaith sylweddol, a dyma sut mae Ffilm Cymru yn derbyn eu cyllid, ond maen nhw'n awyddus i ddenu mwy o roddion haelionus. Felly, hoffwn wybod beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog rhoddion haelionus i grwpiau fel Ffilm Cymru sy'n cefnogi gwneuthurwyr ffilmiau annibynnol, a beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddenu buddsoddiad rhyngwladol yn y diwydiant. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n gwybod am ffaith fod y sector creadigol, a ffilmiau a theledu yn arbennig, yn rhan greiddiol o'r hyn yr oeddem ni'n ceisio ei hyrwyddo yn y strategaeth ryngwladol. Ac rwy'n credu, ers hynny, mewn gwirionedd, ein bod ni wedi gweld y sector yn tyfu yn sylweddol yng Nghymru. Os edrychwch chi ar 2023 yn unig, cynhyrchodd y sectorau creadigol yng Nghymru drosiant blynyddol o £1.5 biliwn, ac roedd hynny yn gynnydd o 10.6 y cant o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Mae hynny'n dwf aruthrol ac yn rhywbeth yr wyf i'n credu y dylid ei ddathlu. Rhan o hynny oedd y 51 prosiect yr ydym ni fel Llywodraeth wedi eu cefnogi, ac wrth gwrs byddem ni'n annog nid yn unig buddsoddiad rhyngwladol, ond hefyd y rhoddion haelionus hynny, fel y gwnaethoch chi awgrymu y dylem ni.
Prif Weinidog, yn gyntaf, os caf i ddatgan buddiant, mae fy mab i'n gweithio fel gweithiwr llawrydd yn y diwydiant ffilm a theledu. Mae BECTU, yr undeb llafur sy'n cynrychioli llawer o'r gweithwyr llawrydd, yn dweud, er gwaethaf rhywfaint o fân adferiad ar ôl y streic ac ar ôl COVID, bod 70 y cant o weithwyr llawrydd allan o waith ar hyn o bryd. A dweud y gwir, mae llawer yn gadael y diwydiant yn gyfan gwbl, ac, wrth gwrs, ychydig iawn o fynediad sydd gan lawer ohonyn nhw at unrhyw fath o fudd-daliadau gwladwriaethol gan eu bod nhw, i bob pwrpas, yn weithiwyr llawrydd hunangyflogedig, sy'n achosi problem sylweddol. Un o'r prif broblemau, fel yr wyf i'n ei deall gan yr undeb llafur BECTU, yw bod llawer o'r bobl yn y diwydiant sy'n gweithio fel gweithwyr llawrydd yn aml yn dod i mewn i Gymru o'r tu allan, ac felly nid ydym ni'n gwneud y defnydd mwyaf posibl o sgiliau yng Nghymru ac yn y blaen, ac mae honno yn broblem ddiwylliannol o fewn y diwydiant ei hun. Felly, rwy'n meddwl tybed beth y gellir ei wneud i ail-ganolbwyntio yng Nghymru ar ddefnyddio gweithwyr llawrydd o Gymru ar gyfer cynyrchiadau sy'n digwydd yng Nghymru, ond hefyd y gefnogaeth sydd ei hangen i gadw'r sgiliau yn y diwydiant.
Diolch yn fawr iawn. Rydych chi'n gwbl gywir—rwy'n gwybod bod BECTU, sef fy hen undeb i, wedi gwneud awgrym, ym mis Gorffennaf 2024—. Fe wnaethon nhw lunio adroddiad, a tua 68 y cant oedd canran y rhai a oedd yn gweithio yn y sector a oedd yn ddi-waith. Rhwng mis Chwefror a mis Gorffennaf, roedd hynny wedi gostwng i 52 y cant. Felly, mae'n rhoi rhywfaint o syniad i chi bod cryn dipyn o newid yn digwydd, ond mae 52 y cant yn dal i fod yn eithriadol o uchel. Mae'n ddiwydiant anodd iawn. Natur llawer o'r diwydiant yw eu bod nhw'n cyflogi pobl ar sail lawrydd. Ac, wrth gwrs, byddem ni fel Llywodraeth bob amser yn annog unrhyw fuddsoddwyr neu unrhyw gwmnïau lleol i ddefnyddio gweithwyr llawrydd o Gymru. Mae gennym ni weithwyr llawrydd hynod dalentog yma yng Nghymru, ac nid wyf i'n gweld pam mae angen dod â phobl i mewn o'r tu allan os yw'r sgiliau hynny gennym ni yma yng Nghymru.
2. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella seilwaith ffyrdd yng ngogledd Cymru? OQ62115
Mae ein rhestr bresennol o welliannau i seilwaith rhwydweithiau ffyrdd strategol wedi ei chynnwys yn y cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth. Bydd cyllid hefyd ar gael i awdurdodau lleol ar gyfer gwaith atgyweirio ffyrdd lleol a thrwsio cannoedd o dyllau yn y ffordd, gan fod y bobl wedi dweud wrthyf i fod hyn yn bwysig iddyn nhw yn ystod fy ymarfer gwrando yn y gogledd.
Diolch am eich ymateb, Prif Weinidog. Rydym ni'n gwybod, ar ôl blynyddoedd lawer, bod ffordd Blaenau'r Cymoedd yma yn ne Cymru ar fin cael ei chwblhau, fel y ffordd ddrytaf yng Nghymru—gwerth tua £2 biliwn o wariant. Mae fy thrigolion yn y gogledd yn gofyn ble mae'r gwerth £2 biliwn o wariant ar ffyrdd i fyny yn y gogledd. Rydym ni'n gwybod bod cyfle enfawr i ollwng y ffrwyn ar economi'r gogledd drwy fuddsoddiad ar yr A55, buddsoddiad ar yr A483 o amgylch Wrecsam yn benodol, a buddsoddiad ar drydedd groesfan i Ynys Môn i ddiwallu anghenion pobl ar yr ynys hefyd. Felly, Prif Weinidog, a allech chi roi eglurder ynghylch pryd y bydd y gogledd yn derbyn y lefelau buddsoddiad sydd eu hangen i ollwng y ffrwyn ar yr economi sydd ei hangen mor daer? Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr iawn, Sam. Gallaf eich sicrhau ein bod ni'n buddsoddi yn y seilwaith ffyrdd yn y gogledd. Fe wnaf i roi ychydig o enghreifftiau i chi: disodli pont Afon Dyfrdwy, nad yw'n fuddsoddiad dibwys; y gwelliannau i wytnwch croesfannau’r Fenai; y gwelliannau i goridor aml-ddull Wrecsam a chysylltedd canol y ddinas. Ceir gwerth £20 miliwn o gyllid i'w fuddsoddi hefyd mewn blaenoriaethau trafnidiaeth ar draws y rhanbarth, gan gynnwys yn sir Ddinbych, sir y Fflint, Gwynedd, Wrecsam ac Ynys Môn.
Prif Weinidog, rwy'n croesawu eich sylwadau nawr am y buddsoddiad i wella pont Afon Dyfrdwy. A dweud y gwir, rwy'n ddigon hen, yn anffodus, i gofio'r seilwaith a oedd yn rhagddyddio'r A55 a phan yr oedd mor wael y gallai fy mam, ar daith i'n carafán ar Ynys Môn, fynd allan o'r car, gwneud ychydig o siopa ac yna cerdded a'n cyrraedd ni eto yn dal yn y dagfa draffig yn mynd trwy Gonwy. Ond wedi dweud hynny, heddiw, yr A55 yw'r prif borth i ogledd Cymru o hyd ac mae'n gyswllt hanfodol i drigolion ac ymwelwyr hefyd, un sydd hefyd yn elfen allweddol ar gyfer y seilwaith economaidd ar gyfer ein rhan ni o'r wlad. Ceir pethau y gallwn ni eu gwneud i wella'r seilwaith ffyrdd presennol hwn a fyddai'n mynd i'r afael â mannau cyfyng fel y'u gelwir a hefyd yn dod â manteision ehangach. Felly, Prif Weinidog, a gaf i annog Llywodraeth Cymru, efallai mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU ac, wrth gwrs, gan gynnwys y rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn lleol, i flaenoriaethu ystyriaeth o welliant ymarferol ac arloesol i'r A55, fel edrych ar lonydd ymlusgo o amgylch ardal Helygain, mesurau i liniaru damweiniau a hefyd lleddfu sgil-effeithiau achosion o dorri i lawr, sydd ar hyn o bryd yn broblem i lawer? Diolch.
Diolch yn fawr iawn, Hannah, ac rwy'n ymwybodol o'ch ymrwymiad i siarad dros y bobl yn eich ardal o ran trafnidiaeth, a'r hyn sy'n bwysig, rwy'n credu, yw i ni gydnabod bod mannau cyfyng o hyd, fel yr ydych chi'n ei ddweud. Yr hyn sy'n mynd i ddigwydd nesaf yw bod y cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol yn mynd i gael eu datblygu, gan ddarparu dull strategol, ac maen nhw'n mynd i—. Yr hyn yr ydym ni'n mynd i'w weld yw gweithio cydgysylltiedig ar lefel ranbarthol, ac mae'r cyd-bwyllgorau corfforedig wrthi'n drafftio eu cynlluniau ar hyn o bryd. Felly, mae'n golygu dod â'r awdurdodau hynny at ei gilydd, eu hannog i wneud yn siŵr eu bod nhw'n gweithio gyda'n swyddogion cyngor technegol i wneud yn siŵr eu bod nhw'n cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw i ddatblygu'r cynlluniau hyn ac i wneud yn siŵr eu bod nhw hefyd yn cyd-fynd â strategaeth drafnidiaeth Cymru.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â'r corws cynyddol o leisiau, gan gynnwys yr AS Llafur dros Rochdale, yr AS Llafur dros Rotherham a maer Llafur Manceinion Fwyaf, ein bod ni angen ymchwiliad newydd ar sail y DU gyfan i gamfanteisio'n rhywiol ar blant gan gangiau meithrin perthynas amhriodol?
Diolch. Yn gyntaf oll, rwy'n credu, mae'n bwysig, pan fyddwn ni'n trafod materion sensitif fel hyn, ein bod ni'n meddwl yn gyntaf am y dioddefwyr, ac mae llawer wedi dioddef cam-drin ofnadwy, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n sefyll gyda nhw ac y tu ôl iddyn nhw pan fyddwn i'n ceisio sicrhau cyfiawnder. Rwy'n credu ei bod hi'n siomedig iawn bod y mater hwn wedi cael ei wleidyddoli i bwynt lle mae pobl sy'n gweithio i sefydliadau dyngarol a phlant yn yr ysgol yn teimlo o dan fygythiad, ac rwyf i wir yn gobeithio y gallwn ni dawelu'r rhethreg ar y mater hwn.
Gyda pharch, Prif Weinidog, wnaethoch chi ddim ateb fy nghwestiwn i, sef 'A ydych chi'n cefnogi'r galwadau, sydd wedi cael eu gwneud gan lawer o bobl, gan gynnwys y dioddefwyr hynny, y mae angen i ni wrando'n ofalus arnyn nhw—a ydych chi'n cefnogi'r galwadau—am ymchwiliad newydd ar sail y DU gyfan i gangiau meithrin perthynas amhriodol a chamfanteisio'n rhywiol ar blant hefyd?' Rydym ni'n gwybod bod pobl ar hyd a lled Cymru yn siarad am y mater hwn. Mae angen sicrwydd arnyn nhw bod Llywodraethau Cymru a'r DU, ynghyd â'r heddlu a gwasanaethau cymdeithasol, yn gwneud popeth o fewn eu gallu i atal merched ifanc yng Nghymru rhag dioddef yn nwylo gangiau meithrin perthynas amhriodol. Maen nhw eisiau gwybod y bydd cyfiawnder yn cael ei sicrhau yn erbyn cyflawnwyr y troseddau hyn, ond dim ond os ydym ni'n gwybod maint llawn y problemau sydd gennym ni yma yng Nghymru a'r camau sy'n cael eu cymryd gan bawb i fynd i'r afael â nhw allan nhw gael y sicrwydd hwnnw. Felly, a gaf i ofyn i chi, yn ogystal â'r cwestiwn cyntaf yna, na wnaethoch chi ei ateb, pa ohebiaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi ei chael gyda'r heddlu, gydag adrannau gofal cymdeithasol awdurdodau lleol Cymru a chyda rhanddeiliaid eraill ynghylch gangiau meithrin perthynas amhriodol sy'n gweithredu yma yng Nghymru a'r amcangyfrif o nifer y dioddefwyr yng Nghymru? Ac a wnewch chi gyhoeddi'r ohebiaeth rhwng Llywodraeth Cymru a'r sefydliadau hynny er mwyn atal unrhyw honiadau a allai gael eu gwneud o guddio pethau?
Gallaf weld beth sy'n digwydd yma; rwy'n siomedig, ond fe wnaf i ateb eich cwestiwn. Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gefnogi yr ymchwiliad annibynnol blaenorol i gam-drin plant yn rhywiol yn llawn ac rydym ni, ar sail hwnnw, yn datblygu strategaeth 10 mlynedd ar gyfer atal ac ymateb i gam-drin plant yn rhywiol. Gwnaeth awdur yr adroddiad hwnnw hi'n eglur iawn bod ei diddordeb mewn gwneud yn siŵr bod argymhellion yr adroddiad hwnnw yn cael eu gweithredu, a gallaf eich sicrhau bod nifer o'r argymhellion hynny eisoes wedi cael eu gweithredu yma yng Nghymru.
Prif Weinidog, rydych chi wedi sôn am gynllun gweithredu 10 mlynedd. Mae pobl eisiau gweithredu cyflym, wrth gwrs. Gwnaed argymhellion i Lywodraeth Cymru. Gofynnais ddau gwestiwn penodol i chi. Nid ydych chi wedi ateb yr ail gwestiwn nawr, a oedd yn ymwneud â pha ohebiaeth sydd wedi bod rhwng Llywodraeth Cymru, heddluoedd Cymru, awdurdodau lleol Cymru a rhanddeiliaid eraill am faint y problemau hyn, oherwydd mae pobl angen y sicrwydd hwnnw.
Nawr, mae'n amlwg iawn i mi nad ydych chi'n gallu rhoi'r sicrwydd hwnnw heddiw, ac mae hynny, mae gen i ofn, yn sgandal genedlaethol. Rydym ni'n gwybod o adroddiadau yn y cyfryngau—[Torri ar draws.] Rydym ni'n gwybod o adroddiadau yn y cyfryngau bod merched ifanc wedi cael eu recriwtio gan gangiau meithrin perthynas amhriodol yma yn ne Cymru cyn cael eu treisio gan gangiau ac yna eu masnachu i Telford, Henffordd a Blackpool. Mae un dioddefwr hyd yn oed wedi dweud ei bod wedi cael ei thagu, ei bod wedi cael ei bygwth gyda chyllell, ac y bu bygythiad i losgi ei chartref. Yna cafodd ei threisio, mae gen i ofn dweud, Prif Weinidog, 1,000 o weithiau. Doedd hi ddim yn gwybod nifer y troseddwyr, gan fod cynifer ohonyn nhw.
Rwyf i angen i chi ddod at eich cwestiwn nawr. Rydych chi'n bod yn or-ddisgrifiadol, ac yn agos at beidio â bod yn gwbl barchus tuag at y dioddefwr ar hyn o bryd rwy'n credu. Felly, a allwch chi dawelu rhywfaint ar y rhethreg a—
Y cwbl yr wyf i'n ei wneud yw darllen ffeithiau mae gen i ofn, Llywydd—
Na. Nac ydych. Nac ydych. Mae angen i'r defnydd o iaith yn y lle hwn wneud yn siŵr eich bod chi'n cadw ymhell i ffwrdd o ymfflamychu unrhyw fath o wahaniaethu neu annog unrhyw fath o wahaniaethu. Roeddech chi'n gwneud yn dda, Darren Millar, gyda'ch dau gwestiwn cyntaf i osgoi hynny; yn eich trydydd un, rydych chi wedi dod yn or-ddisgrifiadol, ac mae angen i chi fyfyrio ar hynny nawr a gofyn y cwestiwn eto, os gwelwch yn dda.
Nid wyf i'n ceisio ymfflamychu unrhyw beth—
Da iawn. Rwy'n falch eich bod chi wedi cadarnhau hynny.
Rwy'n ceisio dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.
Rwy'n falch eich bod chi wedi cadarnhau hynny. Nawr parhewch â'ch cwestiwn.
Iawn. Felly, rydym ni'n gwybod bod rhai o'r pethau sydd wedi cael eu disgrifio gan ddioddefwyr wedi bod yn gwbl ffiaidd. Rydym ni'n gwybod bod y pethau hynny wedi digwydd—merched ifanc yng Nghymru—
Iawn. Cwestiwn.
—o ran recriwtio gan gangiau meithrin perthynas amhriodol yng Nghymru.
Cwestiwn. Darren Millar, rwy'n gofyn i chi am eich cwestiwn.
Felly mae angen i ni wybod bod y pethau hyn—nad oes gennym ni Rotherham neu Rochdale arall ar garreg ein drws.
Darren Millar, rydych chi'n cadw at eich sgript nawr a dydych chi ddim yn gwrando ar fy nghyngor. Os na wnewch chi ofyn eich cwestiwn yn y 10 eiliad nesaf, rwy'n mynd i ofyn i chi eistedd i lawr. Doeddwn i ddim yn disgwyl gorfod gwneud hyn i chi yn ystod eich wythnosau cyntaf fel arweinydd Plaid y Ceidwadwyr Cymreig yma.
Dyma fy nghwestiwn: o gofio eich bod chi'n gwrthwynebu ymchwiliad ar sail y DU gyfan, o gofio nad ydym ni wedi cael y sicrwydd yr wyf i wedi gofyn amdano gennych chi heddiw, ac o ystyried maint pryder y cyhoedd, a wnewch chi nawr gomisiynu ymchwiliad Cymru gyfan i gamfanteisio'n rhywiol ar blant gan gangiau meithrin perthynas amhriodol yma yng Nghymru?
Darren, mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i'n siomedig iawn ynoch chi. Doeddwn i ddim yn disgwyl i chi fabwysiadu'r math yna o ddull. Mae hyn yn rhywbeth, rwy'n credu, lle mae'n rhaid i ni gofio'r dioddefwyr a'u cofio nhw mewn ffordd a fydd yn gefnogol. Ac nid wyf i'n credu bod yr hyn yr ydym ni wedi ei weld dros y dyddiau diwethaf wedi bod yn fan lle y bydden nhw'n teimlo eu bod nhw'n cael eu cefnogi. Nawr, gallaf ei gwneud yn eglur i chi fy mod i wedi gofyn cwestiynau ynghylch i ba raddau y mae hyn yn broblem yng Nghymru i'r heddlu. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig yw ein bod ni'n cydnabod, a dweud y gwir, yng Nghymru, ein bod wedi deddfu. Ceir dyletswyddau yng Nghymru i adrodd, a gyflwynwyd yn ôl yn 2014. Efallai nad ydych chi'n ymwybodol o hyn, Darren, ond roedd hyn yn rhan o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Ceir dyletswydd gyfreithiol ar asiantaethau, gan gynnwys byrddau iechyd, gan gynnwys yr heddlu, y gwasanaeth prawf ac awdurdodau lleol eraill i hysbysu'r awdurdod lleol os oes ganddyn nhw reswm rhesymol i amau bod plentyn, neu oedolyn ag anghenion gofal a chymorth, yn eu hardal mewn perygl o gael ei gam-drin, ei esgeuluso neu ei niweidio. Mae hynny yn ein cyfraith ni. Mae eisoes yn bodoli.
Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch, Llywydd. Yr wythnos diwethaf, mi wnaeth y Prif Weinidog fy ngwahodd i i ganolbwyntio dim ond ar bethau mae ganddi hi ddylanwad drostyn nhw, nid ar faterion yn ymwneud â'i pherthynas hi efo Llywodraeth Keir Starmer, er mai hi ydy arweinydd plaid Keir Starmer yng Nghymru. Mae gen i ofn does dim modd golchi dwylo mor hawdd â hynny. Ond mi wnes i, fel bydd hi'n cofio, ofyn cwestiwn ynglŷn ag amseroedd aros y gwasanaeth iechyd—rhywbeth, wrth gwrs, y mae hi'n llwyr gyfrifol amdano. Mi fethodd â rhoi sicrwydd y byddai hi’n gallu cyrraedd ei tharged o dorri amseroedd aros dwy flynedd erbyn mis Ebrill. Wel, o ystyried absenoldeb cynlluniau cadarn gan Lywodraeth Cymru i dorri amseroedd aros, dwi'n annog y Prif Weinidog i edrych ar gynlluniau Plaid Cymru a gafodd eu cyhoeddi heddiw. Drwy gyflwyno hybiau arbenigol rhanbarthol, gwasanaeth triage cenedlaethol, deddfwriaeth frys i greu capasiti, gwell defnydd o dechnoleg i asesu symptomau, rydym ni'n credu y gall amseroedd aros gael gymaint â’u haneru mewn cyfnod cymharol fyr. O ystyried pwyslais y Prif Weinidog ar wrando, ydy hi’n barod i ystyried y cynlluniau yma, a gafodd eu datblygu mewn partneriaeth, wrth gwrs, efo gweithwyr iechyd proffesiynol yr NHS?
Diolch yn fawr. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod y bu gostyngiad o 65 y cant i'r amseroedd aros ar gyfer y rhai sy'n aros dros ddwy flynedd, felly rydym ni'n gwneud gwelliannau sylweddol. Rwy'n gwybod bod yr arian ychwanegol hwnnw sydd wedi dod i mewn i'r gwasanaeth iechyd, y £50 miliwn, y bydd hwnnw'n dechrau gwneud gwahaniaeth mawr yn fuan.
Rwyf i wedi edrych ar eich cynigion mewn gwirionedd, ac nid oes un nad ydym ni eisoes yn ei weithredu. Canolfannau triniaeth lleol, gwasanaeth brysbennu gweithredol—wel, y cwbl rydych chi wedi ei wneud yw rhoi'r gair 'gweithredol' ar ôl 'gwasanaeth brysbennu'; nid wyf i'n gwybod sut mae hynny'n gweithio—ac yna'r defnydd o dechnoleg i allu trin cleifion yn gynt. O ddifrif? Rydym ni'n gwneud hynny i gyd eisoes. Mae'r cwbl yn ein strategaeth a ddatblygwyd saith mlynedd yn ôl.
Pe bai'r pethau yma i gyd yn cael eu gwneud yn barod, fyddai rhestrau aros ddim fel ag y maen nhw ar hyn o bryd.
Hoffwn symud ymlaen at rywbeth a allai ymddangos ar yr wyneb nad yw'n gysylltiedig, ond mae'n bendant yn gysylltiedig. Gall y ffordd yr ydym ni'n ymgysylltu â'n diwylliant gael effaith uniongyrchol ar ein llesiant fel cenedl, gan gynnwys ar ein hiechyd. Ni ddylid ystyried mynediad at ddiwylliant fel rhywbeth 'braf ei gael'. Mewn gwirionedd, mae ein treftadaeth ddiwylliannol yn rhywbeth yr ydym ni'n ei ddathlu mewn cerddoriaeth, mewn theatr, mewn dawns, mewn llenyddiaeth, yn y Gymraeg ac yn y Saesneg. Gwlad y gân—mae hyd yn oed ein hanthem genedlaethol yn ei dathlu, 'gwlad beirdd a chantorion'. A dylem ni adeiladu ar ein cryfderau hefyd. Mae'r sector diwylliannol yn cyflogi 80,000 o bobl yng Nghymru, ond mae'r diffyg cefnogaeth gan y Llywodraeth i'r sector yn peri pryder mawr.
Nawr, arweiniodd y diffyg cefnogaeth hwnnw yr wythnos diwethaf at un unigolyn yn camu i mewn i wneud gwaith y Llywodraeth ar ei rhan. Arweiniodd y penderfyniad diweddar i ddiddymu cefnogaeth i gwmni theatr iaith Saesneg cenedlaethol Cymru i Michael Sheen benderfynu nad oedd ganddo ddewis ond ei wneud ei hun—nodweddiadol o ŵr sydd wedi dod yn adnabyddus am ei ymrwymiad dwfn i Gymru ac i ddiwylliant Cymru. Nawr, a all y Prif Weinidog ddweud a oedd hi'n teimlo cywilydd bod diffyg cefnogaeth ei Llywodraeth i ddiwylliant wedi arwain at hyn, ac, os felly, beth mae'n bwriadu ei wneud yn wahanol o hyn ymlaen, neu a yw'n edrych at unigolion eraill y gall hi allanoli gwaith y Llywodraeth iddyn nhw?
Wel, diolch yn fawr iawn. Mae bod mewn Llywodraeth yn golygu bod angen i chi wneud penderfyniadau anodd ac mae angen i chi flaenoriaethu, ac fe wnaethom ni rai penderfyniadau anodd y llynedd o ran diwylliant, ac fe wnaethom ni benderfynu bod angen i ni roi mwy o arian i'r gwasanaeth iechyd. Oherwydd rydych chi newydd fod yn siarad am yr angen i leihau rhestrau aros. Nid yw hynny'n digwydd trwy hud—mae angen arian ar ei gyfer, ac mae angen i chi wneud penderfyniadau anodd. Dyna beth mae bod mewn Llywodraeth yn ei olygu. Ac roedden nhw'n benderfyniadau anodd, gan ein bod ni wedi ymrwymo i ddiwylliant ein cenedl, a dyna pam, cyn gynted ag yr oedd gennym ni arian ychwanegol, rydym ni wedi rhoi mwy o arian i mewn yn y flwyddyn ariannol hon, ac rydym ni wedi rhoi mwy o arian i mewn ar gyfer y flwyddyn nesaf. Ar ben hynny, rwy'n credu yn ôl pob tebyg ei bod hi'n werth pwysleisio pethau fel y gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol. Mae hyn yn ddiwylliant—cyfrannwyd £13 miliwn i wneud yn siŵr bod gennym ni'r pwyslais hwn ar gerddoriaeth mewn ysgolion. Mae'r rhain yn benderfyniadau anodd, ond, eto, rydym ni eisiau buddsoddi yn nyfodol diwylliannol ein plant.
Es i weld y cynhyrchiad o Nye yr oedd Michael Sheen ynddo. Roedd yn gynhyrchiad rhagorol, ac fe wnes i ddod allan o'r fan honno yn meddwl, 'Pa un fyddai'n ef yn ei ddewis?' Oherwydd roedd yn gwthio'r ffaith bod y GIG yn bwysig, ond mae'n rhaid i ni wneud y penderfyniadau hynny sy'n anodd iawn. Rwy'n talu teyrnged i Michael Sheen. Mae wedi bod yn hyrwyddwr go iawn dros Gymru, ac mae'r cynhyrchiad hwnnw a'i ymrwymiad i ddangos Cymru drwy fynegiant artistig yn rhywbeth yr ydym ni'n ei groesawu, ac yn amlwg, bydd Cyngor Celfyddydau Cymru eisiau gweld a fyddan nhw, ar ôl i hyn ddatblygu ychydig ymhellach, eisiau cefnogi ei brosiect.
Mae'n peri gofid i mi nad yw'r Prif Weinidog yn teimlo cywilydd nac edifeirwch am hyn, ac mae'n ymddangos ei bod yn gwadu'r effaith y mae penderfyniadau'r Llywodraeth wedi ei chael, ac yn sicr nid yw hyn yn rhywbeth a oedd yn ymwneud â chylch gwariant anodd y llynedd. Y gwir yw, o dan Lywodraethau Llafur olynol, bod Cymru wedi llithro i waelod tabl cynghrair Ewrop o ran gwariant diwylliannol. Bydd cyngor y celfyddydau yn cael llai o arian yn y flwyddyn ariannol nesaf nag y gwnaeth ddwy flynedd yn ôl. Ar gyfartaledd, mae gwledydd Ewrop yn gwario 1.5 y cant o'u cyllidebau ar ddiwylliant. Yma, 0.15 y cant yw cyllideb cyngor y celfyddydau. Dim ond hanner pwynt canran yw diwylliant yn ei gyfanrwydd, a chwaraeon, wedi'u cyfuno. Gwrandewch ar Noel Mooney, prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru yr wythnos hon, yn ymateb i adroddiad pwyllgor diwylliant y Senedd ar wariant:
'Y ras hon i'r gwaelod',
fel y'i galwodd, ac
'mae angen i ddiffyg gweledigaeth, awydd a gallu ddod i ben heddiw. Byddwch yn uchelgeisiol, byddwch yn arloesol, byddwch yn ddewr, gwnewch iddo ddigwydd a bydd llwyddiant yn dod.'
'Os gwelwch yn dda. I Gymru.'
Felly, i Brif Weinidog Cymru, os gwelwch yn dda, i Gymru, a wnaiff hi fapio llwybr i fuddsoddi yn ein diwylliant ar lefel y cyfartaledd Ewropeaidd o leiaf, neu a yw hi'n barod i weld Cymru yn troi'n lle marwaidd o ran diwylliant o dan ei goruchwyliaeth?
Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn i ni gydnabod bod yn rhaid gwneud penderfyniadau, fel y dywedais i. Ceir dyraniad ar gyfer y flwyddyn ariannol hon o £30 miliwn i Gyngor Celfyddydau Cymru, ac roedd yr arian ychwanegol hwnnw a ddaeth i mewn, fel yr awgrymais. Ond, ar ben hyn, rydym ni wedi rhoi cyllid diogelu swyddi, cyllid gwytnwch—cronfa wytnwch ychwanegol o £1 filiwn i gefnogi gwytnwch sefydliadol—a dyfarniad cyflog o £64,000 i gefnogi dyfarniad cyflog cyfartalog o hyd at 5 y cant yng Nghyngor Celfyddydau Cymru. Nid yw'r pethau hyn ar gael am ddim. Rwy'n cydnabod pa mor bwysig yw diwylliant a'r celfyddydau. Rwy'n cydnabod hynny'n llwyr. Ond mae'n rhaid i ni gydbwyso hynny yn erbyn penderfyniadau anodd iawn, ac rydym ni wedi cadw'r rhan fwyaf o'r arian yn y celfyddydau ac mewn diwylliant, ond roeddem ni angen, mewn cyfnod o chwyddiant, ar adeg pan oedd cyni cyllidol yn brathu, gwneud penderfyniadau anodd, ar ôl 14 mlynedd, o le'r oedd angen i ni flaenoriaethu ein cyllid, ac roedd y cyhoedd yn eglur. Roedden nhw eisiau i ni ei wario ym maes iechyd, a dyna wnaethom ni.
3. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch amddiffyn pobl ifanc sy'n agored i niwed yng Nghymru rhag gangiau camfanteisio rhywiol? OQ62129
Archwiliodd yr ymchwiliad annibynnol i gam-drin plant yn rhywiol yng Nghymru a Lloegr sut y gwnaeth sefydliadau'r wlad drin eu dyletswydd gofal i amddiffyn plant rhag cam-drin rhywiol. Fel y mae Prif Weinidog y DU wedi ei ddweud, mae angen i ni ganolbwyntio ar weithredu ei argymhellion. Yng Nghymru, gwnaed cynnydd ar hyn eisoes, fel y dywedais i.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. A allwch chi esbonio sut mae argymhellion adroddiad yr Athro Jay yn cael eu gweithredu yma yng Nghymru a'u datblygu, oherwydd maen nhw'n rhan bwysig o'r dirwedd i gynnig yr amddiffyniad hwnnw? Ond a allech chi hefyd, gan na wnaethoch chi ymateb i arweinydd yr wrthblaid, roi eglurder i gefnogi eich cydweithwyr Llafur, Andy Burnham a'r glymblaid fach o ASau Llafur sy'n galw am ymchwiliad cenedlaethol, fel y gellir cysylltu'r dotiau ac y gellir cynnig yr amddiffyniadau hynny ar draws y Deyrnas Unedig gyfan?
Felly, fel y dywedais i, mae gennym ni ddyletswydd gyfreithiol sefydliadol eisoes, sef un o argymhellion yr ymchwiliad annibynnol hwnnw, felly mae gennym ni hynny ar waith eisoes. Mae gennym ni strategaeth 10 mlynedd ar gyfer atal ac ymateb i gam-drin plant yn rhywiol, ac mae honno yn mynd i fynd i'r afael ymhellach â materion a godwyd gan yr ymchwiliad—er enghraifft, casglu data yn effeithiol, gwella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y cyhoedd o gam-drin plant yn rhywiol. Ceir pedair ffrwd i'r strategaeth hon—felly, nid yw hyn yn rhywbeth sy'n freuddwyd gwrach; mae hyn yn rhywbeth y mae Jane Hutt wedi bod yn gweithio arno yn galed iawn—atal, amddiffyn, cefnogi plant, pobl ifanc a'u teuluoedd, a chefnogi goroeswyr sy'n oedolion. Ac yn allweddol i hyn yw ein bod ni'n ymgysylltu â phartneriaid allweddol a rhanddeiliaid i adolygu'r systemau diogelu presennol yng Nghymru.
Mae rhywbeth hynod annifyr ac annymunol am gyn-arweinydd yr wrthblaid yn defnyddio delweddau wedi'u golygu'n drwm o ferched ysgol ifanc er mwyn erlyn achos sy'n diferu gyda hiliaeth a rhagfarn. Ni ddylai fod unrhyw le i hynny yn y Senedd hon nac yn ein dadl wleidyddol, ac rwy'n credu y bydd y rhan fwyaf o bobl weddus yng Nghymru yn condemnio Andrew R.T. Davies a'r Ceidwadwyr Cymreig am y ffordd y maen nhw wedi mynd ar drywydd y materion hyn. Mae'n destun pryder mawr bod hiliaeth yn dod yn iaith rhagfarn i'r Ceidwadwyr Cymreig ac mae angen i ni sefyll yn erbyn hynny. [Torri ar draws.]
A ydych chi'n cytuno â mi, Prif Weinidog—[Torri ar draws.] A ydych chi'n cytuno â mi—[Torri ar draws.] Mae gen i lais uwch na chi. A ydych chi'n cytuno â mi, Prif Weinidog, bod yn rhaid i ni roi buddiannau dioddefwyr yn gyntaf, a bod yn rhaid i ni hefyd amddiffyn y bobl hynny sy'n gweithio'n galed gyda ffoaduriaid, gan estyn allan at bobl sydd wedi dioddef trallod echrydus ledled y byd, ac sy'n dod yma i gael lloches ddiogel? Mae angen i ni amddiffyn y bobl hynny, ac mae angen i ni roi'r dioddefwyr yn gyntaf, yn ail ac yn drydydd, a pheidio â defnyddio pobl er mwyn gwneud pwyntiau gwleidyddol sy'n slebogaidd braidd.
Edrychwch, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i uno ein cymdeithas yn hytrach na'i rhannu.
4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DG i sicrhau bod gwerthoedd pobl Cymru yn cael eu cynrychioli ar y llwyfan ryngwladol? OQ62125
Ein mandad yw hyrwyddo'r gwerthoedd Cymreig sydd wedi’u nodi yn ein strategaeth ryngwladol, ac sy’n rhan hefyd o’n gwaith ymgysylltu rhyngwladol ar draws y Llywodraeth. Mae ein swyddfeydd tramor, sydd wedi’u lleoli ar y cyd â swyddfeydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig, yn gweithio gyda'i gilydd bob dydd i hyrwyddo Cymru, ac mae hynny’n cynnwys ein gwerthoedd.
Diolch, Brif Weinidog. Ar ddechrau'r flwyddyn newydd, bu pobl o bob cwr o Gymru yn ymgynnull y tu allan i brif ysbytai Cymru i dynnu sylw at y gweithwyr iechyd sydd wedi eu lladd, eu hanafu a'u dal mewn carchar heb gyhuddiad gan luoedd Israel yn Gaza. Mae ysbytai wrth gwrs wedi'u gwarchod dan gyfraith ddyngarol ryngwladol, ac mae'r ymosodiadau ar gyfleusterau a gweithwyr iechyd yn cael eu cyfrif yn droseddau rhyfel. Yn eu plith roedd Dr Hussam Abu Safiyya, cyfarwyddwr ysbyty olaf gogledd Gaza, a losgwyd gan luoedd Israel. Roedd y bobl oedd yn mynychu'r gwylnosau hyn yn galw ar Lywodraeth Cymru i siarad mas yn erbyn hyn.
Felly, a wnewch chi wrando, ac ar ran pobl Cymru, gondemnio ymosodiadau Israel ar ysbytai Gaza, a galw ar Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol i fynnu rhyddhau Dr Abu Safiyya a'r holl weithwyr iechyd sy’n cael eu dal yn anghyfreithlon gan Israel?
Wrth inni glywed bod cadoediad posibl ar y gorwel, a wnewch chi felly sicrhau, fel y mae Llywodraeth yr Alban wedi gwneud, fod llais eich cenedl yn cael ei glywed yn glir, yn eiriol dros heddwch a chyfiawnder ar gyfer pobl Palesteina, nawr ac i'r dyfodol, a galw ar Lywodraeth San Steffan i atal gwerthu arfau i Israel nes bod cadoediad parhaol a chadarn wedi'i gytuno?
Wel, diolch yn fawr. Mae trydydd llinyn ein strategaeth ryngwladol yn hyrwyddo Cymru fel cenedl sy’n gyfrifol yn fyd-eang, ac mae hynny’n cynnwys gwerthoedd, pethau fel hawliau dynol, a dydyn ni ddim wedi gweld lot o hynny'n digwydd yn y dwyrain canol ac yn Wcráin yn ddiweddar. Fel dwi wedi dweud o'r blaen, mi wnes i godi hyn mewn uwchgynhadledd Iwerddon-Prydain yn ddiweddar, lle'r oedd y Prif Weinidog yn bresennol. Mi wnes i alw'n gynnar am gadoediad ac, wrth gwrs, mi ddylem ni sefyll gyda’r gweithwyr iechyd hynny yn Palestine.
Dwi’n siŵr bod pawb yn falch o weld arwyddion posibl fod cadoediad efallai yn mynd i fod yn bosibl rhwng Israel a Hamas; mae'n rhaid i ni i gyd weddïo bod hynny yn mynd i ddigwydd. Dwi'n meddwl bod pobl yr ardal yna wedi dioddef digon. Ond wrth gwrs, yn gyffredinol, mae materion rhyngwladol yn gyfrifoldeb i Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ond mi fyddaf i hefyd yn sicrhau bod fy llais i yn cael ei glywed fel rhywun sydd yn awyddus iawn i weld cadoediad.
Prif Weinidog, yr wythnos nesaf, bydd Donald Trump yn cael ei urddo yn Arlywydd nesaf yr Unol Daleithiau ac rwy'n siŵr y bydd Llywodraethau Cymru a'r DU eisiau cydweithio'n agos i sicrhau bod gwerthoedd Prydain a Chymru yn cael eu gwneud yn eglur i'r Arlywydd newydd, yn enwedig gan eich bod chi wedi sôn yn flaenorol pa mor agos yw'r berthynas rhyngoch chi a'r Arlywydd Trump.
Fodd bynnag, rydym ni wedi gweld adroddiadau sy'n peri pryder mawr yn y cyfryngau ddoe a ddangosodd y gallai cynlluniau Trump ar gyfer tariffau ar fusnesau ym Mhrydain sy'n allforio i America gostio £2.5 biliwn i ddiwydiant Prydain, ac, yn gywilyddus, yn hytrach na eirioli dros fusnesau Prydain, treuliodd arweinydd Reform, Nigel Farage, ei haf yn dilyn Trump o gwmpas America yn eirioli'n weithredol yn erbyn buddiannau busnesau Prydain a'n heconomi. Felly, a wnewch chi ymuno â mi a'r Ceidwadwyr Cymreig, Prif Weinidog, i eirioli dros fusnesau Cymru ar y llwyfan rhyngwladol, yn hytrach na cheisio gwerthu ein buddiannau economaidd fel y mae Reform a Farage yn bwriadu ei wneud?
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni baratoi ar gyfer taith ddiddorol pan welwn ni Arlywydd newydd yn cael ei urddo yn yr Unol Daleithiau yr wythnos nesaf. Byddai tariffau, yn amlwg, yn niweidiol iawn i'n busnesau yng Nghymru, a bydden nhw'n arwain yn anochel at golli swyddi, felly rwy'n credu eu bod nhw'n rhywbeth y mae angen i ni ei gymryd o ddifrif iawn, a dyna pam rwy'n falch iawn fy mod i wedi derbyn cais i gyfarfod â'r llysgennad newydd o'r Deyrnas Unedig a fydd yn mynd i'r Unol Daleithiau i wneud y ddadl dros ba mor bwysig yw marchnad yr Unol Daleithiau i Gymru, pa mor bwysig yw hi ein bod ni'n gallu ysgogi rhagor o fuddsoddiad o'r Unol Daleithiau i Gymru, ac y gallwn ni hefyd annog allforion, heb dariff yn ddelfrydol.
Mae Cymru'n wlad fach o tua 3 miliwn o bobl, ond rydym ni wir yn cyflawni y tu hwnt i'n maint o ran rhannu ein diwylliant, ein hiaith a'n gwerthoedd, pa un a ydym ni'n dewis byw yma neu wedi cael ein geni yma. Mae Cymru yn llawn cymunedau bendigedig, pobl garedig, gofalgar sy'n helpu eu cymdogion—edrychwch ar yr hyn a ddigwyddodd yn ystod y pandemig—helpu ffoaduriaid o Wcráin. Mae gennym ni sioeau amaethyddol ac eisteddfodau gwych. Rwy'n falch iawn o fod yn rhan o Gymru ac o fyw yma. Mae Dydd Gŵyl Dewi yn ddiwrnod da iawn i hyrwyddo ein gwerthoedd Cymreig ar draws y byd, ac roeddwn i'n meddwl tybed beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo Cymru a'n gwerthoedd gwych ar draws y byd ar Ddydd Gŵyl Dewi ac o gwmpas y diwrnod hwnnw. Diolch.
Gwych, diolch yn fawr, Carolyn, ac rwy'n gwybod pa mor awyddus ydych chi i hyrwyddo Cymru, nid yn unig yma, ond yn rhyngwladol hefyd. Mae gen i ofn fy mod i wedi dechrau'n gynnar pan ddaeth i berthynas ryngwladol Cymru a Japan. A gaf i ymddiheuro am fy nhrychlais? Rwy'n credu fy mod i newydd ladd enw da Cymru fel gwlad y gân. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod Cymru a Llywodraeth Cymru yn defnyddio ein diwrnod cenedlaethol fel llwyfan i godi ein proffil yn rhyngwladol. Un o'r pethau yr wyf i wedi ei wneud yn ddiweddar yw gwneud yn siŵr fy mod i wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Tramor i wneud yn siŵr eu bod nhw'n cymryd eu cyfrifoldeb o ddifrif o ran hyrwyddo Cymru hefyd. Felly, mewn llawer o wledydd, mae gennym ni gynrychiolaeth o Gymru wedi'i chydleoli â Llywodraeth y DU, ond ceir llawer iawn o leoedd lle nad oes gennym ni, yn amlwg, yr adnoddau i hynny ddigwydd ledled y byd, yn amlwg. Mae cyfrifoldeb ar Lywodraeth y DU i'n cynrychioli ni, felly rwyf i wedi ysgrifennu ato yn gofyn iddo a allai wneud yn siŵr bod pob llysgenhadaeth yn manteisio ar y cyfle hwnnw i hyrwyddo Cymru ar Ddydd Gŵyl Dewi ac ar adegau eraill o'r flwyddyn.
Mae cwestiwn 5 [OQ62126] wedi ei dynnu yn ôl. Cwestiwn 6, Natasha Asghar.
6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella canlyniadau addysgol yn Nwyrain De Cymru? OQ62089
Trwy fuddsoddiad cyfalaf parhaus yn ein cyfleusterau addysg, Cwricwlwm newydd i Gymru a phwyslais parhaus ar ansawdd addysgu, rydym ni'n gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol i wella canlyniadau addysgol yn ne-ddwyrain Cymru.
Diolch am yr ymateb, Prif Weinidog. Yr wythnos diwethaf, yn ein Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, datgelodd Gweinidog iechyd meddwl y Llywodraeth y byddai nifer y plant sy'n aros am asesiad awtistiaeth neu anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd yng Nghymru yn treblu dros y ddwy flynedd nesaf. Gallai rhwng 41,000 a 61,000 o bobl fod yn aros am asesiad erbyn mis Mawrth 2027. Mewn cymhariaeth, roedd 20,717 o blant yn aros am asesiad ym mis Medi'r llynedd. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno, Prif Weinidog, bod derbyn diagnosis yn allweddol i ddatgloi cymorth ychwanegol i ddisgyblion, sydd, yn ei dro, yn gwella deilliannau addysgol i'n plant. Prif Weinidog, mae'n amlwg bod argyfwng gwirioneddol o ran amseroedd aros anghenion dysgu ychwanegol, sy'n gadael llawer o fyfyrwyr yn nhir neb ar hyn o bryd. Felly, pa gymorth fydd Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i ysgolion Cymru i'w helpu i ymdopi yn sgil y rhybudd bod disgwyl i'r nifer sy'n aros am ddiagnosis dreblu yn y blynyddoedd i ddod? Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Rydym ni'n ymwybodol iawn bod amseroedd aros am asesiadau niwrolegol plant yn rhy hir. Dyna pam, ym mis Tachwedd, y gwnaethom ni gyhoeddi £3 miliwn ychwanegol i gyflymu'r asesiadau hynny. Rydym ni'n gwybod bod angen gwneud mwy ac rydym ni'n gwybod bod y galw yn mynd drwy'r to, felly mae'n rhaid i ni feddwl yn ofalus ac yn greadigol am sut rydym ni'n cynnal yr asesiadau hyn mewn gwahanol ffordd. Ac roedd digwyddiad llwyddiannus iawn a drefnwyd gan Weithrediaeth GIG Cymru, digwyddiad dylunio carlam, ddiwedd y llynedd, lle cawsom ni'r holl weithwyr proffesiynol i mewn i geisio ail-ddychmygu sut olwg allai fod ar y llwybr hwnnw, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig o dan yr amgylchiadau hyn i fod yn greadigol. Rydym ni'n ymwybodol iawn bod angen cymorth ar bobl ifanc, bod angen cymorth ar eu teuluoedd a dyna pam rydym ni wedi cyfrannu'r cyllid ychwanegol hwnnw.
Un o'r penderfynyddion mwyaf pan fo'n dod i ganlyniadau addysgol ydy darllen llyfrau, ond mae cymaint o heriau'n wynebu’r diwydiant cyhoeddi ar hyn o bryd yng Nghymru. Yn y de-ddwyrain, mae cyhoeddwyr megis Rily yng Nghaerffili yn gwneud gwaith mor bwysig wrth gyhoeddi llyfrau plant. Rŷn ni'n gwybod bod darllen llyfrau yn helpu plant gyda'u llythrennedd, sydd yn bwnc pryder, ond mae hefyd yn datblygu'r dychymyg; mae'n helpu o ran empathi, sgiliau rhyngbersonol a'u gallu i ddeall pobl a phlant eraill. Mae'r sefyllfa wedi cyrraedd pwynt o greisis i'r diwydiant cyhoeddi llyfrau ac mae nifer o gwmnïau’n poeni am eu dyfodol. Rŷn ni'n clywed yn anecdotaidd am ysgolion newydd sbon sydd newydd agor, ond heb gyllid ar gyfer gwario ar lyfrau neu ar lyfrgelloedd. Felly, beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i wella'r sefyllfa hon, plis, sefyllfa eithriadol o ddifrifol, cyn i ni golli cenhedlaeth o blant sydd yn mwynhau darllen?
Wel, diolch yn fawr iawn. Mae'n bwysig bod plant yn darllen ac yn darllen am bleser, ac mae hwnna'n anodd y dyddiau yma achos mae cymaint o blant ar eu sgriniau nhw drwy'r amser, ac felly mae sicrhau bod ganddyn nhw lyfrau sydd yn ddiddorol ac yn eu denu nhw'n bwysig. Dyna pam rŷn ni'n dal i sicrhau bod yna arian ar gyfer cyhoeddwyr yng Nghymru. Mae hwnna'n wir yn arbennig yn y maes cyhoeddi Cymraeg, achos, yn amlwg, mae'n anodd sicrhau eich bod chi'n cael digon o arian nôl os ŷch chi'n ei wneud e mewn ffordd commercial yn Gymraeg. Dyna pam dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n parhau. Dwi'n ymwybodol iawn bod cyhoeddwyr wedi gweld toriad unwaith eto achos y penderfyniadau anodd yna yn y blynyddoedd diwethaf, ond rŷn ni'n dal i'w cefnogi nhw, ac rŷn ni'n ymwybodol iawn eu bod nhw mewn sefyllfa fregus.
7. Pa asesiad mae'r Llywodraeth wedi ei wneud o ddiogelwch llethrau yng Nghymru yn dilyn tirlithiadau diweddar? OQ62131
Mae Llywodraeth Cymru a'n hasiantau cefnffyrdd yn archwilio ac yn monitro’r seilwaith geodechnegol yn rheolaidd. Mae hyn yn cynnwys llethrau sydd gerllaw’r rhwydwaith ffyrdd strategol ar draws Cymru, yn unol â safonau'r Deyrnas Unedig.
Diolch yn fawr iawn. Mi fyddwch chi'n ymwybodol, o adroddiadau sydd wedi bod yn y wasg, fod yr asiant cefnffyrdd wedi gwneud gwaith ar ffordd yn Ninas Mawddwy a bod ffordd ger Corris wedi cau, y ddwy ohonyn nhw'n ffyrdd allweddol i fynd o'r de i'r gogledd. Diolch byth doedd y ddwy ffordd ddim ar gau ar yr un pryd. Ond mi achosodd o niwed anferthol i fusnesau oedd angen mynd, angen cario nwyddau ar draws y ffyrdd yna, ac i bobl a oedd eisiau teithio i gael meddyginiaeth ac i fynd i weld meddygon teulu ac yn y blaen. Mae hyn yn debygol o ddigwydd yn amlach wrth fod mwy o ddŵr yn disgyn ar ein mynyddoedd ni, felly mae eisiau i ni gael asesiad o ba ffyrdd sy'n debygol o gael tirlithriadau, pa diroedd sy'n fwy tebygol o fod yn agored i ddifrod o'r fath. Felly, dwi eisiau deall yn union pa asesiadau rydych chi wedi'u gwneud fel Llywodraeth er mwyn paratoi ar gyfer tirlithriadau fel yma.
Diolch yn fawr. Rŷn ni'n cymryd y risg o dirlithriadau, yn arbennig ar gyfer ein seilwaith trafnidiaeth yng Nghymru, o ddifrif. Ar y rhwydwaith, rŷn ni'n arolygu tua 200 km o wrthgloddiau bob blwyddyn, ac rŷn ni'n monitro dros 75 o safleoedd yn rhagweithiol. Felly, mae'r monitro hynny'n digwydd. Rydw i'n meddwl bod difrifoldeb y stormydd diweddar wedi cael effaith ar gymunedau a busnesau yng Nghymru. Mae'r hinsawdd yn newid, ac rydyn ni'n ymwybodol o'r sefyllfa yn Ninas Mawddwy a ger Corris. Diogelwch y ffyrdd oedd y peth pwysicaf yn fanna. Cafodd y gwaith ei wneud dros gyfnod y Nadolig, felly rydw i eisiau diolch i’r bobl a ddaeth allan yn ystod cyfnod y Nadolig i sicrhau bod y ffyrdd yna yn ailagor cyn gynted ag oedd yn bosibl.
A gaf i ddiolch i Mabon am gyflwyno'r cwestiwn hwn? Mae llawer o blith fy etholwyr i, fel llawer o'ch rhai chi, siŵr o fod, yn bryderus ynglŷn ag effaith tirlithriadau a'r effaith ar eu cymunedau. Fel gwyddoch chi, Prif Weinidog, dim ond un enghraifft yn unig yw'r tirlithriad ar yr A40, a achosodd fisoedd lawer o dagfeydd traffig, gan arwain at amhariad a rhwystredigaeth enfawr, yn ogystal â gwneud difrod i'n heconomi. Mae enghreifftiau diweddar eraill yn cynnwys dyffryn Gwy, er enghraifft. Fe welsom ni flynyddoedd o amhariad, gyda dau neu dri o dirlithriadau yn nyffryn Gwy, ac effaith hynny ar ein diwydiant twristiaeth ni hefyd.
Felly, yn amlwg, mae angen i ni fod yn fwy rhagweithiol o ran nodi meysydd posibl o risg—ac fe glywais i'r hyn a ddywedoch am yr hyn yr ydych chi'n ei wneud eisoes—a chanfod ffordd o asesu peryglon ar y llethrau ac yn y dyffrynnoedd. Gyda hynny mewn golwg, Ysgrifennydd Cabinet, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod dull cydgysylltiedig rhwng gwasanaethau cyhoeddus ac asiantaethau o ran asesu a bod yn rhagweithiol o ran nodi peryglon posibl ar lethrau, a chael datrysiad sy'n fwy cydgysylltiedig a chwim pan fydd y rhain yn digwydd? Yn aml, nid yw hi'n ymddangos bod yr asiantaethau amrywiol yn gweithio yn ddigon cyflym gyda'i gilydd, ac fe welwn ni gyfnodau hirfaith, anferthol hyn pryd y mae hi'n ymddangos nad oes dim yn cael ei wneud. Diolch i chi.
Diolch yn fawr. Fel dywedais i wrth Mabon, rydyn ni'n gwneud arolwg o 200 km yn rheolaidd, a 75 km yn rhagweithiol iawn. Mae gennym ni ddau asiant rhwydwaith ffyrdd strategol—un yn y gogledd a'r canolbarth, ac un arall yn y de—ac mae tua 500 o weithwyr yn y ddwy ardal fel ei gilydd. Maen nhw'n gweithio gydag awdurdodau lleol.
Yr hyn sy'n bwysig, yn fy marn i, yw sicrhau, yn y cytundebau ag asiantiaid cynnal a chadw cefnffyrdd, eu bod nhw'n deall yr hyn sydd angen ei wneud yn rheolaidd. Ond rwy'n credu, os edrychwch chi ar yr hyn a ddigwyddodd yng Nghorris a pha mor gyflym y cafodd y sefyllfa ei datrys, roedd honno'n esiampl loyw iawn, yn enwedig felly dros wyliau'r Nadolig.
Unwaith eto, fe hoffwn i ddiolch i'r bobl hynny sy'n mynd allan mewn amgylchiadau anodd iawn fel hyn. Fel dywedais i, mae newid hinsawdd yn effeithio ar ein cymunedau, ar ein ffordd o fyw, ac ar seilwaith ein ffyrdd, ac mae'n rhaid i rywun fod ar gael i sicrhau ein bod ni'n gallu lliniaru i'r fath raddau ag sy'n bosibl pan fydd y peryglon hynny'n dod i'r golwg.
8. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl sy'n byw mewn tlodi? OQ62130
Rŷn ni wedi buddsoddi bron i £5 biliwn rhwng 2022 a 2025 mewn cynlluniau i gefnogi pobl ym mhob rhan o Gymru sy'n byw mewn tlodi. Mae'r rhain yn gynlluniau sy'n targedu'r cymorth at y bobl sydd ei angen fwyaf, yn helpu pobl i gael gafael ar yr hyn mae ganddyn nhw hawl iddo, ac yn helpu i gadw arian ym mhocedi pobl.
Diolch yn fawr iawn am yr ymateb.
Prif Weinidog, chi yw ein cynrychiolydd o Gymru i Lywodraeth Lafur y DU. Fe wyddom ni fod Llywodraeth Lafur y DU wedi gwneud pobl yma yng Nghymru yn llawer tlotach mewn gwirionedd. Mae lwfans tanwydd y gaeaf, sy'n destun prawf modd erbyn hyn, wedi gadael dros 500,000 o bensiynwyr Cymru heb y rhaff achub dyngedfennol honno. Cafodd y cap budd-daliadau dau blentyn, y gwnaethoch chi a'ch Cabinet ei alw yn ysgogydd mwyaf tlodi plant, ei gadw yn ei le yn greulon iawn, sy'n gadael 65,000 o blant mewn tlodi yma yng Nghymru. Ac mae codiadau yswiriant gwladol yn faich ar elusennau fel Gofal Canser Tenovus gyda bil blynyddol o £250,000, wrth iddyn nhw geisio helpu pobl sy'n byw mewn tlodi mewn gwirionedd.
Fe wnaethoch chi ein sicrhau ni y byddech chi'n hyrwyddo Cymru. Y gwir amdani yw nad yw Llywodraeth y DU yn ystyried codi trethi i'r 1 y cant ar y brig, ac nid ydych chi'n barod i symud ymlaen gyda datganoli Ystad y Goron. Fe wyddom ni y byddai hynny'n llenwi'r twll gwerth £22 biliwn yr ydych chi'n sôn bod Llywodraeth y DU wedi cael ei gadael ynddo. Felly, os gwelwch chi'n dda, a wnewch chi ddweud wrthym ni, pan aethoch chi i gyfarfod â Keir Starmer i ddweud wrtho ef eich bod chi'n dymuno i'r budd-daliadau hynny gael eu hadfer, beth oedd ei ymateb? Diolch yn fawr iawn.
Diolch i chi. Fy ngwaith i yw rhoi cyfrif o'r hyn a wnawn ni yng Nghymru i fynd i'r afael â thlodi. Fel dywedais i, rydyn ni'n gwario swm na ddylid ei ddiystyru ar fynd i'r afael â'r mater hwn. Mae gennym ni strategaeth tlodi plant. Rydyn ni wedi bod â chronfa gynghori sengl, sydd wedi helpu 280,000 o bobl i hawlio £137 miliwn, nid swm bychan o arian. Rwy'n credu mai rhan o'r hyn y mae angen i ni ei wneud yn y Llywodraeth yw sicrhau bod pobl yn cael yr hyn y mae ganddyn nhw hawl i'w gael. Mae degau o filoedd o bobl yn ein gwlad nad ydyn nhw'n cael yr arian y mae ganddyn nhw hawl iddo. Mae cronfa cymorth dewisol gennym ni hefyd ar gyfer y bobl hynny sydd mewn argyfyngau a thrafferthion. Rydyn ni'n gwneud cyfraniadau enfawr o ran gostyngiadau yn y dreth gyngor, ac yn amlwg, mae gennym ni brydau ysgol am ddim a'r grant hanfodion ysgol. Mae gennym ni restr hirfaith o'r hyn yr ydym ni'n ei wneud yng Nghymru i helpu i fynd i'r afael â materion tlodi.
Prif Weinidog, y ffordd orau o gefnogi pobl sy'n byw mewn tlodi yw eu hatal nhw rhag mynd yn dlawd yn y lle cyntaf. Roedd y cyn-Brif Weinidog Llafur, Tony Blair, wrth siarad ar bodlediad Jimmy's Jobs of the Future yn dweud bod llawer gormod o bobl yn hunan-ddiagnosio cyflyrau iechyd meddwl. Fe ddywedodd ef fod yn rhaid i chi fod yn ofalus o drosi heriau yn gyflyrau iechyd meddwl a cholli eich galluogedd i fod yn feistr ar eich bywyd eich hun:
'Mae bywyd yn gallu bod ar i fyny neu ar i lawr ac mae pawb yn profi hynny. Ac mae'n rhaid i chi fod yn ofalus wrth annog pobl i ystyried a oes rhyw fath o gyflwr ganddyn nhw yn hytrach na'u bod nhw'n gwneud dim ond wynebu heriau bywyd yn unig.'
Roedd Mr Blair yn dweud bod hyn yn gorfodi pobl i mewn i'r system fudd-daliadau. Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â'ch cyn-arweinydd chi, ac, os felly, pa gamau a ydych chi'n eu cymryd i wella cydnerthedd gweithlu'r dyfodol? Diolch i chi.
Diolch yn fawr i chi. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni fagu cydnerthedd, ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni gydnabod bod rhai pobl yn cael bywyd yn anodd iawn hefyd, ac mae angen cymorth arnyn nhw. Dyna'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud yn y Llywodraeth: rhoi'r gefnogaeth honno. A'i rhoi o'r cychwyn cyntaf. O'r eiliad ein bod ni'n clywed bod rhywun yn feichiog, fe rown ni'r gefnogaeth, fe'i rhown hi o ran Cychwyn Cadarn, Dechrau'n Deg a'r mesurau cymorth hynny i gyd. Ym more oes, rydyn ni'n rhoi'r gefnogaeth honno, pan fyddan nhw'n mynd i'r ysgol. Edrychwch chi ar yr hyn yr ydym ni'n ei wneud o ran cymorth iechyd meddwl—mae hi'n syfrdanol iawn, a dweud y gwir, y ffordd y mae'r gefnogaeth ar gael yn ein hysgolion ni nawr. Ac mae'r rhestrau aros, gyda llaw, am gymorth iechyd meddwl wedi lleihau yn aruthrol. Mae hi'n bwysig iawn fod pobl yn cydnabod y camau enfawr hynny a gafodd eu cymryd o ran cymorth iechyd meddwl plant. Hefyd, mae hi'n bwysig cydnabod bod gwasanaeth '111 pwyso 2' gennym ni yma yng Nghymru nad yw'n bodoli mewn lleoedd eraill. Felly, rydyn ni'n rhoi'r gefnogaeth honno i fagu cydnerthedd. Ac wrth gwrs, o ran tlodi, y peth allweddol yw gweld yr hyn y gallwn ni ei wneud i gael pobl yn ôl i'w gwaith. Mae angen i ni gryfhau'r cyfleoedd i bobl fod mewn gwaith, a dyna pam rydyn ni'n sicrhau bod swyddi da ar gael a fydd yn rhoi bodlonrwydd i bobl. Dyna pam rwy'n gweithio gyda Gweinidog yr economi ac eraill i sicrhau y gallwn ni greu'r swyddi hynny sy'n fwy boddhaol i bobl, oherwydd rwyf i o'r farn fod honno'n ystyriaeth bwysig hefyd.
Yn olaf, cwestiwn 9, Russell George.
9. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gwella gwasanaethau iechyd i bobl canolbarth Cymru? OQ62090
Mae byrddau iechyd Cymru yn gyfrifol am gomisiynu gwasanaethau oddi wrth amrywiaeth o ddarparwyr. Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi cael £7 miliwn ychwanegol eleni i gefnogi'r gwaith o gyflawni yng ngoleuni'r heriau parhaus gyda'r galw am wasanaethau ac ar gyfer byrhau amseroedd aros.
Prif Weinidog, a ddylai hi fod yn wir y gallai cleifion o Gymru fod yn eistedd yn yr un ysbyty, a chael eu gweld gan yr un ymgynghorydd â chleifion sy'n byw yn Lloegr, a chael gwybod gan yr ymgynghorydd hwnnw, 'Fe fydd hi'n rhaid i chi aros am gyfnod sylweddol hwy am mai claf o Gymru ydych chi'? A ddylai hynny ddigwydd, er y byddai'r ymgynghorydd hwnnw yn sicrhau'r claf bod capasiti i'w weld yn llawer cynt?
Prif Weinidog, rydych chi'n dweud wrthym ni mai un o'ch pedwar maes i'w blaenoriaethu yw byrhau rhestrau aros y GIG. O gofio mai eich blaenoriaeth chi yw honno, o gofio mai y chi sy'n gyfrifol yn y pen draw am sicrhau bod cleifion Cymru yn cael eu trin mewn da bryd, fe fyddwn i'n amau na fyddech chi'n dweud wrthyf i mai cyfrifoldeb i rywun arall yw hyn. A wnewch chi roi'r cymorth ariannol sydd ei angen ar Fwrdd Iechyd Addysgu Powys i osgoi eu cynnydd arfaethedig o ran amseroedd aros am driniaethau trawsffiniol neu eu cyfarwyddo nhw'n syml nad yw hyn yn dderbyniol?
Diolch yn fawr iawn i chi. Fel gwyddoch chi, yn y Llywodraeth, rydyn ni'n canolbwyntio yn wirioneddol ar fyrhau'r rhestrau aros hir hynny, ac rydyn ni'n disgwyl i Bowys chwarae ei rhan yn hynny o beth hefyd. Nid yw sefyllfa fel yr un y gwnaethoch chi ei phortreadu yn dderbyniol. Rwy'n falch o weld bod y bwrdd yn cymryd ei gyfrifoldeb o ddifrif o ran yr angen i ymddwyn mewn modd difrifol o ran mantoli'r cyfrifon, ond rwy'n falch iawn o weld hefyd eu bod wedi gohirio'r penderfyniad ar y mater hwn, ac rwy'n siŵr y bydd y trafodaethau yn Llywodraeth Cymru yn parhau.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes. Rwy'n gofyn i'r Trefnydd wneud y datganiad yma. Jane Hutt.
Diolch, Llywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd ar gael i Aelodau yn electronig.
Trefnydd, fe hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch chi'n dda. Yn gyntaf, fe hoffwn i ofyn am ddatganiad ar achosion clefyd y traed a'r genau yn yr Almaen. Mae llawer iawn o ffermwyr ledled y wlad yn pryderu ynglŷn â'r hyn mae'n ei olygu i'r Deyrnas Unedig ac i ffermwyr yng Nghymru. Felly, fe fyddwn i'n croesawu diweddariad gan Lywodraeth Cymru ar y gwaith yr ydych chi'n ei wneud gyda DEFRA ynghylch rheolaeth clwyf y traed a'r genau a'i atal rhag dod i mewn i'r Deyrnas Unedig.
Fe hoffwn i ofyn am ddatganiad hefyd, Trefnydd, gan yr Ysgrifennydd iechyd ynglŷn ag adroddiad diweddar Archwilio Cymru am wasanaethau canser yng Nghymru. Nid yw'r adroddiad yn ddim llai na brawychus. Mae'n datgelu nad oes unrhyw fwrdd iechyd, ers mis Awst 2020, wedi cyrraedd y nod o 75 y cant o gael cleifion yn dechrau ar eu triniaethau o fewn 62 diwrnod i amheuaeth o ganser. Rhwng mis Awst 2023 a mis Awst 2024, dim ond 53 y cant hyd 61 y cant o gleifion a gafodd eu trin o fewn y ffrâm amser dyngedfennol hon. Mae'r adroddiad yn rhoi llawer iawn mwy o fanylion am ddiffygion o ran triniaeth canser ledled Cymru. Felly, rwy'n galw am ddatganiad ar frys gan Lywodraeth Cymru ar ba gamau y byddwch chi'n eu cymryd ar unwaith i gywiro'r diffygion echrydus hyn a sicrhau bod cleifion canser ledled Cymru yn cael y gofal amserol ac effeithiol y maen nhw'n ei haeddu.
Diolch yn fawr iawn i chi, James Evans. I ymateb i'ch cwestiwn cyntaf, mae Gweinidogion Cymru yn ymwybodol o'r achos unigol o glwyf y traed a'r genau yn yr Almaen. Mae'r prif swyddog milfeddygol a swyddogion yn gweithio yn agos gyda Llywodraeth y DU. Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig yn amlwg yn gweithio yn agos gyda Llywodraeth y DU ar gyfer diogelu ein da byw yn dilyn y newyddion anffodus hyn. Ond fe allaf i roi gwybod i chi hefyd fod Llywodraeth y DU yn amlwg mewn cysylltiad agos ag awdurdodau yn yr Almaen i ddeall natur yr achos ac ymateb yn briodol. Ond er mwyn rhoi sicrwydd i chi—ac rwy'n siarad ar ran y Dirprwy Brif Weinidog—mae cynlluniau wrth gefn cadarn gennym ni ar waith i reoli perygl y clefyd hwn ar gyfer amddiffyn ffermwyr a'n diogeledd bwyd, sy'n golygu defnyddio pob mesur i gyfyngu ar y risg o ymlediad a lledaeniad y clefyd dinistriol hwn. [Torri ar draws.] Rwy'n dod at eich ail gwestiwn chi. Parchwch y broses yn hyn o beth, os gwelwch yn dda. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr iawn i chi am eich ail gwestiwn, James Evans. Mae'r Prif Weinidog wedi ymateb y prynhawn yma. Rydyn ni'n croesawu canfyddiadau adroddiad Archwilio Cymru a'r gydnabyddiaeth hefyd—fe glywais i, fel gwnaethoch chi, efallai, ef ar y radio'r bore yma—gan yr archwilydd cyffredinol o'n hymrwymiad amlwg i ofal canser o ansawdd uchel. Fe ddaeth hyn yn amlwg iawn o'r adroddiad. Yr her allweddol a nododd yr archwilydd cyffredinol yw'r un o ran yr angen i gynyddu capasiti'r GIG i ateb y galw cynyddol am archwiliad canser a'i driniaeth. Fel gwyddoch chi ac fel clywsoch chi, rydyn ni'n canolbwyntio yn wirioneddol ar weithio gyda'r GIG i wella mynediad at ddiagnosis a thriniaeth yn rhan o'n nod o gael 75 y cant o'r rhai sydd wedi cael diagnosis yn dechrau ar eu triniaethau o fewn 62 diwrnod o'r amheuaeth gyntaf o ganser. Ac ar gyfer ymateb i faint yr her honno, rydyn ni'n sefydlu trefniant o arweinyddiaeth genedlaethol sy'n fwy cydlynol ar gyfer yr holl gamau amrywiol sy'n angenrheidiol i wella gwasanaethau canser.
Trefnydd, dwi ddim eisiau swnio fel tôn gron, ond mi fuaswn i'n hoffi gofyn pryd ydyn ni'n mynd i gael datganiad llafar gan y Gweinidog efo cyfrifoldeb dros ddiwylliant a chwaraeon ynglŷn â sut y mae Cymru'n mynd i fod yn cael ei hyrwyddo yn sgil yr Ewros yr haf hwn. Yn amlwg, mi gawson ni hynny pan aeth y dynion i gwpan y byd, ond lle y mae'r un sylw rŵan fod y merched yn mynd i fod ar y llwyfan rhyngwladol? Mi oeddech chi'n dweud bod y Gweinidog yn awyddus i wneud hyn; dydy o'n dal ddim ar yr agenda. Felly, gawn ni wybod beth ydy'r cynlluniau, os gwelwch yn dda, oherwydd buan y daw'r haf hwn, a buan y byddwn ni wrthi'n cefnogi'r merched wrth iddyn nhw hyrwyddo Cymru i'r byd.
Diolch yn fawr. Wel, unwaith eto, mae honno'n gyfan gwbl yn flaenoriaeth i'r Gweinidog diwylliant a chwaraeon. Rydych chi'n hollol iawn—yn dilyn yr Ewros, gadewch i ni ddathlu; mae angen i ni gydnabod a rhoi'r cyfle i'r Senedd wneud hynny. Felly, rwy'n gwybod y bydd hynny'n dod eto o ran ein datganiad busnes. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr am godi mater pwysig iawn i ferched, ac i bawb, dwi'n meddwl.
Fe hoffwn ofyn am ddau ddatganiad, sy'n gysylltiedig. Mae'r cyntaf ar ddefnyddio ffermydd gwynt lleol a ffermydd solar i ddarparu ynni i ddefnyddwyr mawr. Mae enghraifft o hynny gennym ni yn Ysbyty Treforys, lle mae fferm solar leol yn diwallu cyfran uchel o'u hanghenion ni o ran ynni trydanol. A ellir ail-greu hyn yn rhywle arall? Mae strwythur y grid yn seiliedig ar drydan yn cael ei gynhyrchu mewn gorsaf ynni, a thrwy gyfrwng is-orsafoedd, yn cael ei anfon i'r defnyddwyr. Beth a gafodd ei wneud gan y Llywodraeth i gefnogi creu gridiau lleol fel yr un o amgylch Ysbyty Treforys?
Mae'r ail yn ymwneud â chreu canolfannau storio data ar raddfa eang yng Nghymru. Maen nhw'n crynhoi, storio, prosesu, dosbarthu ac yn caniatáu mynediad at lawer iawn o ddata. Yn aml, 'y cwmwl' yw'r enw a roddir ar hynny, ac yno y mae llawer iawn o ddata yn cael ei gadw. Mae mwy o gwmnïau yn symud eu data i'r cwmwl, sy'n golygu, yn hytrach na'u rhedeg neu eu storio yn ein cyfrifiaduron eu hunain yn y cartref neu'r gwaith, rydyn ni'n cael mynediad atyn nhw trwy weinydd lletya darparwyr cwmwl. Mae'r cwmwl yn defnyddio llawer iawn o ynni, ac os byddwn ni'n creu llawer iawn o ynni drwy gyfrwng gwynt ar y môr, yn hytrach na'i drosglwyddo drwy'r canolbarth a'r gorllewin, fe ellid ei ddefnyddio ar gyfer creu canolfannau data ar arfordir y gorllewin. Mae Iwerddon wedi achub y blaen arnom ni nawr i raddau helaeth iawn. Onid hwn yw'r amser i Lywodraeth Cymru ddechrau dal i fyny, oherwydd fe fydd arian mawr iawn ar gael ar gyfer hyn yn y dyfodol?
Diolch yn fawr iawn i chi, Mike Hedges. Onid yw hi'n bwysig fod gennym ni, fod gennych chi'r cyfle hwn i godi'r cwestiynau hyn a thaflu goleuni ar ddatblygiadau y dylem ni fod yn ymwybodol ohonyn nhw? Rydych chi'n cyfeirio at sut mae Ysbyty Treforys wedi cysylltu â'u fferm solar leol. Rwy'n deall mai'r datblygiad solar ar Fferm Brynwhilach sy'n gysylltiedig â Threforys, ar hyd gwifren breifat 3 km. Fe gafodd y cynllun hwnnw ei adeiladu gyda chefnogaeth oddi wrth wasanaeth ynni Llywodraeth Cymru a chynllun benthyciadau rhaglenni cyllido Cymru, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i ddatgarboneiddio'r sector cyhoeddus erbyn 2030. Mae hwnnw'n fenthyciad sy'n ad-daladwy, benthyciad ad-daladwy o £5.7 miliwn, ar sail buddsoddi ar gyfer arbed. Ond mae hi mor bwysig, fel rydych chi'n dweud, o ran yr arbedion—1,000 tunnell o garbon a £500,000 y flwyddyn mewn biliau, a'r cynhyrchiant dros ben yn cael ei werthu. Fe wnaethoch chi'r pwyntiau hyn mor eglur, ac rwy'n dymuno rhoi diolch i chi am hynny, ac ailadrodd yr hyn a wnaethoch chi ei amlinellu. Ond rydyn ni wedi ymrwymo i gynnal digon o gynhyrchiant yng Nghymru i ddiwallu ein hanghenion erbyn 2035, a dal i fyny wrth i'r galw am ynni gynyddu. Ac rydyn ni'n cefnogi hyn. Mae dadansoddiad ar gyfer gridiau Cymru yn y dyfodol yn dangos y gallai'r galw gynyddu hyd at bron i deirgwaith erbyn 2050. Felly, diolch i chi eto am godi hyn, ac mae gwasanaeth ynni Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo hyn gyda chyrff cyhoeddus fel y bo'n briodol.
Diolch i chi am eich ail gwestiwn hefyd. Mae hyn yn ymwneud yn fawr iawn â'r cyfleoedd sydd gan Gymru, onid ydy, o ran ynni gwynt ar y môr, ac yna'r wythnos diwethaf fe gawsom ni ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet ar y grŵp gorchwyl a gorffen gwynt ar y môr. Fe fydd hwnnw'n gwneud y mwyaf posibl o'r cyfleoedd, ac fe fydd y grŵp hwnnw'n rhoi cyfeiriad clir ar gyfer denu gwerth economaidd parhaol. Rwy'n deall bod y cyfarfod cyntaf wedi cael ei gynnal ar 13 Ionawr, ac oddi ar arfordir y gogledd y cafwyd yr aráe gwynt ar y môr cyntaf. Bydd hynny o gymorth i borthladd Mostyn, a hefyd, dim ond o ran symud ymlaen â hyn, y digwyddiadau diwydiant niferus sy'n hyrwyddo'r cyfle o ran llif yn y môr Celtaidd.
Trefnydd, fe hoffwn i alw am ddatganiad cyfamserol gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ynghylch yr ymdrechion i wella ansawdd dŵr ledled Cymru. Mae hi'n hanfodol i Lywodraeth Cymru fod yn gweithio gyda chwmnïau dŵr, a Cyfoeth Naturiol Cymru, yn wir, i fynd i'r afael â llygredd oherwydd ollyngiadau carthion a gorlifiadau ar ôl stormydd. Mae hi'n hanfodol hefyd fod gwaith yn cael ei wneud i wella ein seilwaith dŵr, yn ogystal â hynny.
Rwy'n sylweddoli, yn y Llywodraeth, eich bod chi wedi gwneud datganiadau dros y chwe mis diwethaf ar rai agweddau ar y mater hwn. Serch hynny, ym mis Tachwedd, fe ddatgelodd ymchwil gan Brosiect Cleddau yn fy etholaeth i fod bron i 56,000 metr ciwbig o garthion amrwd wedi cael eu gollwng i ardal gadwraeth arbennig ar Afon Cleddau, ac roedd trigolion lleol ledled sir Benfro yn dal i gysylltu â mi ynglŷn â gollyngiadau carthion ar draethau lleol. Felly, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe gallem ni gael datganiad cyfamserol gan y Llywodraeth ar y camau gweithredu sy'n cael eu cymryd i wella ansawdd dŵr yma yng Nghymru, er mwyn i'm hetholwyr i a phobl ledled Cymru, yn wir, gael deall pa waith sy'n mynd rhagddo i fynd i'r afael â'r mater hwn, ac er mwyn iddyn nhw gael sicrwydd bod y mater hwn yn cael ei flaenoriaethu gan Lywodraeth Cymru.
Diolch yn fawr iawn i chi, Paul Davies. Mae hi o gymorth gwirioneddol eich bod chi wedi tynnu ein sylw ni hefyd at ymdrechion cymunedau lleol o ran monitro. Fe wnaethoch chi dynnu sylw at yr ymdrech gymunedol honno ar Afon Cleddau, ond fe wyddom ni fod hyn yn digwydd ledled Cymru mewn llawer o'n hetholaethau. Mae'r Dirprwy Brif Weinidog wedi clywed yr alwad honno am ddiweddariad, mewn gwirionedd, o ran y ffyrdd yr ydym ni, gyda'r pwerau sydd gennym ni, nad ydyn nhw'n cynnwys pob cyfle—sut mae ein cwmnïau ni yng Nghymru yn gwella ansawdd dŵr. Rwy'n siŵr y bydd y Dirprwy Brif Weinidog yn ystyried y ffordd orau o ymateb i'r cwestiwn hwnnw.
Rwy'n galw am ddatganiad, os gwelwch chi'n dda, ar ddigonolrwydd y gwasanaethau mewn ysbytai yn y de-ddwyrain. Nid oes gan Gwm Rhymni adran ddamweiniau ac achosion brys, nid oes ysbyty cyffredinol yno, a phan gafodd ysbyty'r glowyr yng Nghaerffili ei gau fe addawyd ysbyty cyffredinol newydd i'r cymunedau hynny. Fe gafodd hynny, fel rwy'n deall, ei gynllunio ar ei gyfer yn wreiddiol. Roedd hyd yn oed arwyddion ffyrdd yr ysbyty newydd yn Ystrad Mynach yn nodi'r 'ysbyty cyffredinol ac adran ddamweiniau ac achosion brys'. Ond am resymau nid wyf i wedi gallu eu deall nhw erioed, fe gafodd yr ysbyty hwnnw ei israddio a dim ond uned mân anafiadau sydd gennym ni yno. Mae hyn yn golygu bod cleifion sydd â'r ysbyty mawr iawn yma yn eu cymuned nhw'n dal i orfod teithio am filltiroedd i ysbytai eraill yng Nghwmbrân a'r Fenni ar gyfer gwahanol apwyntiadau. Yn fwyaf torcalonnus, fe fyddai'n rhaid iddyn nhw deithio am filltiroedd mewn argyfwng, ac rwyf i'n cael gwaith achos ynglŷn â hyn bron bob wythnos, mewn gwirionedd, yn arbennig felly pan fydd y cyfnodau aros mewn ambiwlansys yn ddychrynllyd o faith. Yn sicr, mae yna oblygiadau o ran diogelwch yn deillio o'r penderfyniad hwn i beidio â rhoi adran ddamweiniau ac achosion brys yn yr ysbyty newydd hwnnw pan gafodd ei adeiladu. Felly, rwy'n dymuno galw am ddatganiad, os gwelwch chi'n dda, i ymateb i hynny. Rwy'n sylweddoli, wrth gwrs, fod llawer o faterion yn hyn o beth sydd ar gyfer y bwrdd iechyd, ond o ran edrych ar y ddarpariaeth o ofal brys yn y cwm hwnnw'n neilltuol, fe fyddwn i'n gwerthfawrogi datganiad, os gwelwch chi'n dda. Diolch.
Diolch, Delyth Jewell. Ac, wrth gwrs, fe gewch chi gyfle i godi hyn gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ystod ei gwestiynau llafar ef yn y Senedd. Ond mae hi'n bwysig, unwaith eto, eich bod chi'n tynnu sylw at anghenion eich etholwyr. Ac fel rydych chi'n dweud, mae hyn ar gyfer bwrdd iechyd Aneurin Bevan, ac rwy'n siŵr, os nad ydych chi wedi gwneud hynny'n barod, y byddwch chi'n codi hyn gyda nhw o ran eu darpariaeth nhw o wasanaethau yn yr ardal hefyd.
Prynhawn da, Trefnydd. Fe hoffwn i alw am ddatganiad, os caf i, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru. Mae'n ymwneud â llifogydd yn Llanwrtyd. Fe es i yno dros y penwythnos ar gyfer cyfarfod cyhoeddus i drafod effaith ddinistriol y llifogydd diweddar, sydd mewn gwirionedd yn tarddu oddi ar y brif ffordd, y gefnffordd, yn y dref. Dim ond ar gyfer rhoi ychydig o gyd-destun i hyn, mae cwlfert wedi torri, pibellau wedi torri ar hyd y pentref, sydd wedi achosi difrod sylweddol. Ac ar noson y llifogydd, 1 Ionawr, roedd draeniau stormydd yn gorlifo, ac mae'n ddrwg gen i ddweud bod aelwydydd wedi gweld llyncdyllau yn agor yn eu gerddi nhw. Mewn un sefyllfa drist, fe es i ymweld â theulu gyda llyncdwll 12 troedfedd yn eu gardd gefn. Fe lanwodd â dŵr ac fe ollyngodd merch fach 8 oed gi'r aelwyd o'r tŷ, wedi anghofio bod y llyncdwll yn llawn dŵr ac, yn anffodus, fe foddodd y ci. Ac, yn amlwg, mae honno'n stori drist iawn, ond mae'r dref mewn gwirionedd yn ymddangos fel pe bai pawb wedi cefnu arni. Ni ddaeth neb i'w gweld nhw. Rwy'n cysylltu â'r asiantaeth gefnffyrdd, ond tybed a fyddech chi'n eu cymell nhw er mwyn i'r bobl hynny fod â chyfran o sicrwydd y bydd rhywbeth yn cael ei wneud. Diolch yn fawr iawn.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Diolch yn fawr iawn i chi, Jane Dodds. Ac a gawn ni gymryd munud i feddwl am y rhai yr effeithiwyd arnynt, yn amlwg o ran eich ardal chi, yn Llanwrtyd? Mae effaith y llifogydd diweddar hynny y gwnaethoch chi eu disgrifio mor fyw, yr effaith ar y dref honno, yn amlwg iawn ac rydyn ni'n meddwl am y teuluoedd yr effeithiwyd arnynt, yn enwedig am y stori drist am golli anifail anwes un teulu o ganlyniad i'r llyncdwll. Nawr, rwy'n deall bod sawl mater yn mynd rhagddyn nhw yn Llanwrtyd yn dilyn y stormydd a'r materion lleol o ran perchnogaeth tir. Felly, rwy'n gobeithio y gallwch chi roi'r neges hon i'ch etholwyr chi sef ein bod ni'n ymwybodol o'r materion hyn, rydyn ni'n ymwybodol o sefyllfa Llanwrtyd ac effaith y llifogydd. Felly, mae is-adran rhwydwaith ffyrdd strategol Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyfarfod â thrigolion lleol yr wythnos nesaf i drafod y dewisiadau ar gyfer datrys rhai o'r materion, ac mae'r is-adran rhwydwaith ffyrdd strategol yn ymchwilio ar y cyd â'u hasiantiaid nhw i achos y difrod ar lôn gerbydau'r A483 ac yn bwriadu gwneud atgyweiriadau angenrheidiol cyn gynted â phosibl, Ond rwyf i wedi gofyn hefyd a allai ein swyddogion ni gwrdd â chi, Jane, yr wythnos nesaf, i fynd trwy'r materion hyn.
Ysgrifennydd Cabinet, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth am y broses o roi tystysgrifau marwolaeth yma yng Nghymru? Y rheswm pam rwy'n gofyn hyn yw fy mod i wedi dod ar draws llawer o wahanol achosion, ond rwyf i am rannu un yma gyda chi heddiw. Yn anffodus, fe fu etholwr i mi farw ar 26 Tachwedd 2024, yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Yn dilyn marwolaeth fy etholwr, roedd y teulu yn dorcalonnus ac yn eu galar, ond eto roedden nhw'n wynebu sefyllfa wirioneddol annerbyniol y gellid bod wedi ei hosgoi yn gyfan gwbl. Am wythnosau lawer, nid oedd y teulu yn gallu rhyddhau corff eu hanwylyd, oherwydd ni allai'r ysbyty gael meddyg i lofnodi'r dystysgrif marwolaeth. A phan lwyddodd yr ysbyty i gael llofnod ar y dystysgrif marwolaeth, ni chafodd hynny ei wneud yn gywir ac felly fe gafodd ei gwrthod. Diolch byth, fe gwblhawyd y gwaith papur angenrheidiol i gyd ychydig cyn y Nadolig, ond nid heb achosi llawer iawn o straen a phoen i'r teulu, cymaint felly fel bod gweddw fy etholwr wedi dioddef strôc, ac ni allai fynd i angladd ei gŵr ac fe fu hi farw wedi hynny. Ac unwaith eto mae'r teulu yn wynebu arhosiad annerbyniol o faith am dystysgrif marwolaeth iddi hi ac fe ddywedwyd wrthyn nhw fod y gwaith wedi pentyrru yn sylweddol ac fe fydd hi'n cymryd cryn amser. Ysgrifennydd Cabinet, y peth olaf sydd ei angen ar deuluoedd wrth iddyn nhw ymdopi â phrofedigaeth yw gorfod mynd trwy rywbeth fel hyn, ac, yn un sydd wedi mynd drwy'r peth fy hunan, rwy'n gwybod yn union pa mor dorcalonnus y gall hyn fod. Rwy'n gwerthfawrogi fy mod i newydd ddyfynnu un achos i chi, ond mae llawer mwy na hynny ar lawr gwlad nawr. Felly, mae hi'n amlwg nad yw'r system bresennol yn gweithio yn effeithiol, felly fe fyddai datganiad gan Lywodraeth Cymru yn amlinellu pa gamau y bydd yn eu cymryd i atal teuluoedd eraill rhag gorfod mynd trwy rywbeth o'r fath yn cael ei werthfawrogi yn fawr. Diolch i chi.
Diolch yn fawr iawn i chi, Natasha Asghar. A diolch i chi am godi'r mater sensitif hwn ond sy'n bwysig iawn i deuluoedd, ac rydych chi wedi sôn wrthym ni am un teulu sydd wedi mynd drwy hyn. Yn amlwg, rydyn ni'n drist iawn am yr oedi hwnnw a fu. Fe fydd rhaid i mi godi hyn gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfer nodi sut yr ymdrinnir â hyn o ran oediadau ac arosiadau am dystysgrifau marwolaeth. Ond, ie, unwaith eto, mae hwn yn gyfle, rwy'n sicr, i chi allu codi hyn—oherwydd fe reolir hyn yn weithredol yn lleol—gyda byrddau iechyd, rwy'n siŵr yn ogystal â chael gwybod, yn wir, a oes darlun cyffredinol oddi wrth yr Ysgrifennydd Cabinet.
A gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth ynglŷn â’r sefyllfa sydd nawr yn wynebu darlledu masnachol ar donfeydd radio yng Nghymru, oherwydd yr wythnos diwethaf fe gyhoeddodd cwmni radio Global eu bod nhw'n rhoi’r gorau i ddarlledu llawer iawn o’u hallbwn rhanbarthol, gan gynnwys yr orsaf radio Capital Cymru? Nawr, mae’r orsaf honno, wrth gwrs, yn unigryw oherwydd mae crynswth ei hallbwn hi yn ystod y dydd drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r cwmni, o ganlyniad, yn mynd i gau ei stiwdio yn Wrecsam; mae yna 12 o swyddi yn cael eu colli. Ond mae’r oblygiadau, wrth gwrs, yn bellgyrhaeddol, oherwydd dyma ddiwedd ar ddarlledu masnachol cyfrwng Cymraeg yn y gogledd ac mae hynny’n mynd i fod yn ergyd nid yn unig i’r iaith Gymraeg, ond i’r sector gerddoriaeth Gymraeg hefyd.
Nawr, mae’r penderfyniad yn dod, wrth gwrs, yn dilyn cyflwyno Deddf Cyfryngau 2024 newydd gan Lywodraeth San Steffan. O dan yr hen drefn, mi oedd Ofcom yn gallu mynnu bod yna allbwn cyfrwng Cymraeg fel rhan o amodau trwyddedu rhai o'r cwmnïau masnachol yma. Ac er i bwyllgor diwylliant y Senedd alw am amddiffyn hynny o fewn y ddeddfwriaeth newydd, mi anwybyddwyd yr alwad honno. Felly, ydych chi'n cytuno â fi mai datganoli cyfrifoldebau dros ddarlledu ydy'r unig ateb yn y pen draw i amddiffyn darlledu Cymraeg a Chymreig? Ac a gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth yn esbonio beth rydych chi'n bwriadu ei wneud i geisio amddiffyn y ddarpariaeth Gymraeg a Chymreig yma, sydd yn prinhau nawr ar ein gorsafoedd masnachol ni?
Diolch yn fawr, Llŷr, a diolch am ddwyn hyn i'n sylw ni unwaith eto yn y Senedd, sef effaith newidiadau ar ein darlledu masnachol, ond sy'n effeithio yn arbennig ar ddarlledu Cymraeg, darlledu cyfrwng Cymraeg. Rwy'n siŵr fod y pwyllgor diwylliant wedi bod yn ymdrin â hyn. Fe geir rhai agweddau ar hynny nad ydyn nhw wedi cael eu datganoli, ond dyna pryd y mae angen i ni ystyried ein sefyllfa gyda'n hymrwymiadau i edrych ar ddarlledu. Felly, fe fyddwn ni'n ceisio rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi o ran ein sefyllfa bresennol gyda'r gwaith cynghori a gafodd ei wneud. Diolch.
Trefnydd, fe hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch swyddogaeth ymgyrchoedd gwybodaeth gyhoeddus o ran agenda iechyd ataliol. Mae'r GIG yn wynebu gaeaf ofnadwy arall, gydag ambiwlansys yn sefyll y tu allan i bob ysbyty mawr. Mae pobl yn aros am ddiwrnodau am ofal brys ac mae staff yn cael eu gorweithio a'u gorlethu. Er bod llawer o'r problemau sy'n wynebu ein hysbytai yn rhai systemig, fe ellid atal llawer o'r pwysau. Mae'r llenyddiaeth wyddonol yn dweud wrthym ni fod y tywydd oer yn cynyddu'r perygl o drawiadau ar y galon. Fe wyddom ni fod misoedd y gaeaf yn gweld cynnydd sylweddol yn y niferoedd sy'n dioddef salwch anadlol, ond fe allwn ni, yn unigolion, gymryd camau i leihau'r peryglon i'n hiechyd ein hunain, ac iechyd pobl eraill ac, ar yr un pryd, ysgafnu'r baich ar ein GIG. Fe all rhai sydd mewn perygl o drawiadau ar y galon gymryd camau i osgoi'r straen y mae tywydd oer yn ei roi ar y galon trwy wisgo dillad addas, cadw'n gynnes ac osgoi gweithgareddau awyr agored pan fydd hi'n neilltuol o oer. Fe all pob un ohonom ni gymryd camau i atal feirysau anadlol rhag ymledu trwy olchi dwylo yn fwyaf syml neu aros gartref pan fyddwn ni'n sâl. Ond mae angen gwneud pobl yn ymwybodol o'r mesurau syml hyn. Nid yw poster mewn meddygfa neu ystafell aros ysbyty yn ddigon, ac mae'n rhy hwyr. Mae angen i negeseuon iechyd ataliol sy'n cydgysylltiedig gael eu cyfleu i aelodau'r cyhoedd. Felly, Trefnydd, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd wneud datganiad i'r Siambr, yn amlinellu sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno'r wybodaeth am gadw'n ddiogel yn ystod y gaeaf. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr, Altaf Hussain. Diolch i chi am eich cwestiwn, a oedd wedi'i seilio hefyd, rwy'n siŵr, i raddau helaeth iawn ar eich profiad meddygol chi hefyd. Wrth gwrs, mae hyn yn ymwneud i raddau helaeth â sut yr ydym ni'n paratoi ar gyfer pwysau'r gaeaf, ac fe wnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet y datganiad hwnnw'r wythnos diwethaf. Ac mae hwnnw'n ddull cyfannol. Mae'n cynnwys, yn amlwg, y mesurau ataliol hynny y gall pob un ohonom ni eu cymryd. Diolch i chi am rannu'r rhain gyda ni. Hyd yn hyn, y gaeaf hwn, fel y gwyddoch chi, mae'r GIG wedi gweld y cyfraddau uchaf erioed o alw ar wasanaethau ambiwlans, a ysgogwyd yn bennaf gan alwadau sy'n gysylltiedig ag anawsterau anadlu, a gysylltir yn arbennig â'r tywydd oer iawn—rydyn ni'n dod drwy un o'r cyfnodau oer iawn hynny—ond y cyfraddau uchel hynny o gleifion sydd ag anghenion o ran y ffliw ac afiechydon anadlol hefyd. Ond rwy'n credu ei bod ni'n bwysig ein bod ni'n ystyried y genadwri ataliol. Rwy'n ddiolchgar eich bod chi wedi codi hyn gyda ni heddiw.
Fe hoffwn i ofyn am ddatganiad, os gwelwch chi'n dda, Trefnydd, ar sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau diogelwch y sefydliadau trydydd sector hynny sy'n cefnogi gwaith sy'n ganolog i gynllun y genedl noddfa a'r 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol', megis Cyngor Ffoaduriaid Cymru, yn dilyn lledaeniad bwriadol camwybodaeth ar y cyfryngau cymdeithasol gan yr adain dde eithafol dros y penwythnos, a ategwyd gan Elon Musk, ac yn bryderus iawn gan Aelod Ceidwadol yn y Senedd hon. Mae staff Cyngor Ffoaduriaid Cymru wedi dioddef camdriniaeth, aflonyddwch a bygythiadau, ac roedd yn rhaid iddyn nhw ymgynghori â'r heddlu. Yn ogystal â bod yn ddychrynllyd, gwarthus ac annerbyniol, mae hyn yn codi pryderon ynghylch sut mae sefydliadau fel Cyngor Ffoaduriaid Cymru yn cael eu diogelu, wrth i ni weld rhagor o hiliaeth ac ymdrechion sinigaidd a pheryglus i greu ymraniadau yn ein cymunedau a throi pobl yn erbyn ei gilydd. Fe hoffwn i ei roi ar y cofnod gefnogaeth lawn Plaid Cymru i Gyngor Ffoaduriaid Cymru a'r gwaith y maen nhw'n yn ei wneud, wrth gefnogi ceiswyr noddfa a ffoaduriaid, meithrin dealltwriaeth a hyrwyddo cynhwysiant yn ein cymunedau. Ni allwn ni ganiatáu i'w gwaith nhw gael ei danseilio, na pheryglu eu diogelwch nhw, na diogelwch y rhai y maen nhw'n eu cefnogi.
Diolch yn fawr, Sioned Williams. Diolch yn fawr am eich cwestiwn pwysig iawn.
Rwy'n ymwybodol, wrth gwrs, o'r honiadau anghyfrifol a ffug a gafodd eu gwneud yn ystod y penwythnos am Gyngor Ffoaduriaid Cymru, honiadau anwir a chwbl anghyfrifol. Roedd y fideo a ddefnyddiwyd ar gyfryngau cymdeithasol yn cyfeirio at honiadau a gafodd eu gwneud gan grŵp o ddisgyblion a oedd yn dymuno dangos bod eu hysgol nhw'n fan sy'n croesawu pawb, ac fe wnaethpwyd y fideo hwnnw dros flwyddyn yn ôl. Fe gafodd ei dynnu yn ôl yn 2023 o ganlyniad i sarhad a gafodd yr ysgol a Chyngor Ffoaduriaid Cymru ar gam, ac fe gredwyd bod cymryd y camau hynny'n angenrheidiol i ddiogelu'r disgyblion a'r staff.
Sut allwn ni fod yn fath sefyllfa â hon lle mae pobl ifanc a'n partneriaid—elusennau cofrestredig a'r trydydd sector—yn cael eu trin fel hyn yn y pen draw? Felly, mae ailgylchu'r wybodaeth ffug hon yn achosi peryglon diogelu newydd i'n rhanddeiliaid ac, yn wir, i bobl ifanc—rhanddeiliaid fel Cyngor Ffoaduriaid Cymru. Ac roeddwn i'n awyddus i roi gwybod i'r Senedd fy mod i wedi siarad â Chyngor Ffoaduriaid Cymru; fe aeth fy swyddogion a minnau i gwrdd â nhw heddiw. Fe wnaeth fy swyddogion gwrdd â nhw ar nos Sul hefyd. Maen nhw wedi gorfod cau eu swyddfeydd, ac wedi gofyn am gyngor gan yr heddlu am yr effaith a gafodd y wybodaeth anwir hon arnyn nhw, wedi iddi fynd ar hyd ac ar led. Rydyn ni'n cysylltu â'r heddlu a'r partneriaid i fynd i'r afael â'r mater hwn. A, Dirprwy Lywydd, a gaf i ddweud, yn rhinwedd swydd Trefnydd, ein bod ni'n annog pawb i ymatal rhag hyrwyddo'r honiadau ffug peryglus hyn?
Trefnydd, mae'n rhaid i mi ddweud eich bod wedi gwneud gwaith anhygoel yma'r prynhawn yma o ymdrin â'r rhan fwyaf o geisiadau am ddatganiadau, ond tybed a gaf i eich temtio chi gyda chais arall am ddatganiad yn y fan hon heddiw, sef datganiad gan Lywodraeth Cymru ar ei chynlluniau i symleiddio cydnerthedd rhag llifogydd a buddsoddiad a goruchwyliaeth amddiffyn rhag llifogydd. Fe gefais fy nharo mewn cyfarfod ddydd Gwener gyda grŵp llifogydd Brychdyn a Bretton, sydd wedi profi cryn dipyn o lifogydd rheolaidd yn yr ardal honno yn ystod y blynyddoedd diwethaf, fod yna amryw o awdurdodau, fel Dŵr Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, yr awdurdodau lleol, yn ogystal â gwaith y trigolion eu hunain, sy'n sgrialu yn aml eu hunain i ymdrin â llifogydd yn uniongyrchol, ond sy'n dyfeisio cynlluniau a strategaethau i'r dyfodol hefyd, yn ogystal â hynny.
Nawr, roedd y cyfarfod hwn o drigolion lleol yn Bretton a Brychdyn wedi gwneud gwaith rhyfeddol wrth ddod â'r sefydliadau hynny ynghyd a'r awdurdodau perthnasol hynny, ond mae hi'n fy nharo i y gellid gwneud hynny mewn ffordd llawer mwy effeithlon gan fod llawer ohonyn nhw'n ceisio mynd ar ôl cronfeydd tebyg o arian, ac mewn perygl weithiau o weld bai ar ei gilydd am faterion sy'n codi. Felly, rwy'n credu y byddai hi'n llawer gwell i drigolion ledled Cymru pe byddai dull symlach o wrthsefyll llifogydd a buddsoddiad a goruchwyliaeth yn bod ar gyfer amddiffyn rhag llifogydd, ac fe fyddwn i'n ddiolchgar pe byddech chi'n ymrwymo i gael datganiad gan Lywodraeth Cymru i esbonio sut y bydd hi'n ceisio gwneud y broses honno yn ei chyfanrwydd yn llawer gwell ar gyfer trigolion yma yng Nghymru.
Diolch i chi am godi'r cwestiwn yna, ac mae hi'n amlwg—ac rwyf i wedi ateb un cwestiwn ar lefel ranbarthol/lleol eisoes o ran yr effeithiau ar un dref, Llanwrtyd—ac fe wyddom ni ei bod hi'n bwysig i bobl leol, cynrychiolwyr etholedig lleol ac, yn wir, Aelodau'r Senedd ac Aelodau Seneddol San Steffan, gymryd rhan yn yr ymateb i'r angen yn eu cymunedau lleol nhw. Ond mae'r dull symlach hwnnw gennym ni o ran symud ymlaen ac ymateb i ddigwyddiadau o lifogydd, ond i symud ymlaen o ran ein cynlluniau ni ar gyfer lliniaru llifogydd hefyd. Wrth gwrs, fe gaiff hynny ei adlewyrchu hefyd yn y cyllid a fydd ar gael yn y gyllideb ddrafft. Felly, yn amlwg, fe fydd y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig yn ymwybodol o'r cwestiwn a wnaethoch chi ei godi'r prynhawn yma, ond rwyf i o'r farn fod hynny'n cael ei gyflawni trwy gyfrwng ein strategaethau ni ar gyfer lliniaru effaith llifogydd a'u hatal.
Ac yn olaf, Gareth Davies.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros newid hinsawdd, os caf—peidiwch â phoeni, nid yw'n ymwneud â biniau sir Ddinbych y tro hwn, ond mae'n gysylltiedig—ynglŷn â'r cynnydd mewn gwastraff sy'n dod dros y ffin ac yn cael ei adael mewn safleoedd tirlenwi ar draws y gogledd. Mae etholwyr wedi codi pryderon gyda mi ynglŷn ag awdurdodau lleol yn y gogledd yn caniatáu gwaredu symiau cynyddol o wastraff o Loegr yn eu hardal leol. Mae'r rhan fwyaf o'r gwastraff sy'n cael ei adael ar safle tirlenwi'r Hafod yn Wrecsam yn dod o Loegr, gyda 37 y cant o wastraff sy'n cael ei adael ar safle tirlenwi'r Hafod yn dod o Lannau Mersi, sy'n gynnydd o 16 y cant ers 2020. Mae'r cynnydd hwn yn y gwastraff sy'n cael ei ollwng hefyd wedi arwain at bryderon iechyd cyhoeddus a chynnydd mewn arogl annioddefol o'r safle. Mae trigolion sir Ddinbych yn poeni, ac yn iawn felly, y gallent hefyd fod yn gweld gwastraff o leoedd eraill yn cyrraedd. Felly, a allai Ysgrifennydd y Cabinet dros newid hinsawdd amlinellu sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ac awdurdodau lleol yn Lloegr i sicrhau nad oes rhaid i drigolion y gogledd dalu am fethiannau awdurdodau lleol yng ngogledd-orllewin Lloegr? Diolch.
Rydych wedi codi cwestiwn a mater penodol iawn i'r Ysgrifennydd Cabinet a'r Dirprwy Brif Weinidog, a bydd yn dod o hyd i ffordd briodol o ymateb i hwnnw. Diolch am ei godi.
Diolch i'r Trefnydd.
Eitem 3 heddiw yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai ar Gartrefi Clyd. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Jayne Bryant.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Siaradodd pobl Cymru yn glir pan ymwelodd y Prif Weinidog Eluned Morgan â chymunedau ledled Cymru a gofyn i bobl beth oedd yn fwyaf pwysig iddyn nhw. Heddiw, rydw i yma i ddangos sut rydyn ni'n troi'r geiriau hynny'n weithrediadau. Rydym yn gwneud cartrefi'n gynhesach, biliau'n is, ac yn cymryd camau pendant i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, ac rwyf eisiau amlinellu'n union beth mae hynny'n ei olygu i deuluoedd ledled ein gwlad.
Mae'n rhaid i'r degawd hwn fod yn ddegawd o weithredu ar yr hinsawdd, ac rydym yn cefnogi'r ymrwymiad hwnnw gyda mwy na £30 miliwn eleni yn unig yn ein cynllun Nyth, Cartrefi Clyd, gwell. Mae ein dull gweithredu yn gynhwysfawr ac wedi'i dargedu. Rydym yn mynd i'r afael â thlodi tanwydd trwy strategaeth ddeublyg: darparu cyngor arbenigol i aelwydydd Cymru, gan ddarparu gwelliannau corfforol i'n cartrefi lleiaf effeithlon o ran ynni, sy'n costio mwy i'w cynhesu. Mae ein rhaglen newydd, a lansiwyd ym mis Ebrill, eisoes yn gwneud gwahaniaeth go iawn. Dyma beth mae'n ei olygu. Os yw pobl yn cael trafferth gyda biliau tanwydd, bydd ein cynghorwyr yn gweithio gyda nhw i nodi'r gwelliannau mwyaf effeithiol ar gyfer eu cartrefi. Byddant yn darparu awgrymiadau ymarferol i hybu effeithlonrwydd ynni, lleihau biliau ac arwain pobl tuag at wasanaethau cymorth ychwanegol pan fo angen. Gallai fod yn well inswleiddio, gallai fod yn baneli solar neu hyd yn oed pwmp gwres. Hoffwn fod yn glir ynghylch pwy all gael y cymorth hwn. Rydym wedi ehangu'r rhwyd. Os yw incwm cartref yn is na 60 y cant o incwm nodweddiadol Cymru, gallai fod yn gymwys i gael cymorth. Mae hyn yn ymwneud â helpu pawb sydd angen cymorth, ni waeth beth fo'u hamgylchiadau.
Rydym yn gwybod, i deuluoedd ledled Cymru, nad yw gwresogi yn rhywbeth braf i'w gael yn unig; mae'n hanfodol. Ers mis Ebrill, rydym wedi helpu mwy na 100 o aelwydydd agored i niwed a oedd mewn argyfwng o ganlyniad i foeleri wedi torri. Mae pobl go iawn sydd â phroblemau go iawn yn cael cymorth go iawn pan fônt ei angen fwyaf. Rydym hefyd yn helpu pobl mewn tai cymdeithasol. Fis diwethaf yn unig, ymwelais â datblygiad Llys Esgob Morgan sir Ddinbych. Mae'r gymdeithas dai, ClwydAlyn, wedi defnyddio cyllid Llywodraeth Cymru i wella effeithlonrwydd ynni trwy ddulliau inswleiddio traddodiadol a chynhyrchion arloesol. Mae hynny'n golygu cartrefi cynhesach i bobl yn sir Ddinbych. Dyma beth sy'n fy ngwneud yn arbennig o falch: mae 90 y cant o'r arian yr ydym yn ei wario i wella ein tai cymdeithasol yn mynd yn syth i fusnesau Cymru a gweithwyr Cymru. Dyna swyddi lleol, cadwyni cyflenwi lleol a theuluoedd lleol sy'n elwa'n uniongyrchol ar ein buddsoddiad. Mae gennym hanes balch.
Rydym yn adolygu Rhan L o'n rheoliadau adeiladu i sicrhau bod adeiladau newydd yng Nghymru yn fwy effeithlon o ran ynni, gyda'r nod o gynyddu'r defnydd o systemau gwresogi carbon isel fel pympiau gwres. Rydym hefyd wedi cyfrannu dros £2 biliwn i wella ein tai cymdeithasol dros yr 20 mlynedd diwethaf. Daeth y buddsoddiad hwnnw â ni i'r lle rydym ni heddiw, gyda'n cartrefi cymdeithasol yn ennill sgôr tystysgrif perfformiad ynni D ar gyfartaledd, ond nid ydym yn stopio yn y fan honno. Eleni gwelwn gychwyn ein safon newydd, fwy mentrus, un sy'n mynnu bod pob un cartref cymdeithasol yng Nghymru yn cyrraedd EPC C erbyn 2030, cyn symud ymlaen tuag at EPC A, y lefel uchaf o effeithlonrwydd ynni. Mae hynny'n golygu biliau sefydlog ac ôl troed carbon llai i filoedd o deuluoedd Cymru.
Yn ddiweddar, ymwelodd y Prif Weinidog a minnau â'r datblygiad tai goddefol rhyfeddol yng Nghaerdydd. Mae'r cartrefi hyn wedi'u hadeiladu mor dda fel mai prin y mae angen gwresogi arnynt o gwbl: dyna'r dyfodol rydyn ni'n ei adeiladu gyda'n buddsoddiad. Erbyn 2030, bydd pob cartref cymdeithasol yng Nghymru yn bodloni safonau effeithlonrwydd ynni uchel. Nid targed amgylcheddol yn unig yw hynny; mae'n ymrwymiad i ddarparu biliau is, flwyddyn ar ôl blwyddyn, i filoedd o deuluoedd. Nid yw ein rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio gwerth £260 miliwn, sydd wedi gweld gwario £70 miliwn eleni yn unig, dim ond yn ein helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd, er bod hynny'n bwysig iawn; mae hefyd yn ymwneud â sicrhau nad oes neb yng Nghymru yn gorfod dewis rhwng cynhesu eu cartref a bwydo eu teulu.
Ar gyfer perchnogion tai sydd eisiau gwneud newidiadau ond na allant fforddio'r costau cychwynnol, mae gennym fenthyciadau di-log trwy ein cynllun Cartrefi Gwyrdd Cymru. Mae'r nifer sy'n derbyn hwn wedi bod yn wych, gyda dros 2,500 o ddatganiadau o ddiddordeb hyd yma—tystiolaeth bod pobl ledled Cymru eisiau gwneud eu cartrefi'n addas ar gyfer y dyfodol. Bydd fy nghyd-Ysgrifennydd Jane Hutt yn siarad yn ddiweddarach am gefnogaeth ychwanegol a allai roi arian yn ôl yn eich poced, ond nid wyf am ddwyn ei chlodydd. Yr hyn a ddywedaf yw: mae biliynau o gymorth heb ei hawlio a ddylai fod yn helpu teuluoedd Cymru gyda'u biliau, ac rydym eisiau i bobl hawlio'r hyn y mae ganddynt hawl iddo.
Gadewch i mi orffen gyda neges i unrhyw un sy'n eistedd gartref yn poeni am eu biliau ynni neu'n pendroni sut i wneud eu cartref yn gynhesach: os gwelwch yn dda, codwch y ffôn a ffoniwch gynllun Nyth, Cartrefi Clyd. Mae'n rhif rhadffôn. Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn barod i'ch helpu i ganfod pa gymorth sydd orau i chi, oherwydd, pan fyddwn yn siarad am fyw mewn cartrefi cynnes, rydym yn sôn am urddas. Rydyn ni'n sôn am blant sy'n gallu canolbwyntio ar eu gwaith cartref yn hytrach na chrynu. Rydyn ni'n siarad am deuluoedd na ddylai orfod dewis rhwng pethau angenrheidiol. Dyma sut mae gweithredu'n edrych: cymorth sy'n cyrraedd y cartrefi a'r teuluoedd sydd ei angen fwyaf. Mae pob cartref cynnes, pob bil llai, pob teulu sydd wedi cael cymorth—mae'n fwy na pholisi ar bapur, mae'n newid go iawn sy'n digwydd ar hyn o bryd ar draws Cymru, gan wneud bywydau pobl yn well. Dyma gyflawni ar waith. Diolch yn fawr.
Wel, rwyf wedi bod yn codi hyn ers dros ddau ddegawd yma, ac eto mae tlodi tanwydd yn parhau i fod yn fater dwys, parhaus ledled Cymru, yr amcangyfrifir ei fod yn effeithio ar bron pob un o'n haelwydydd incwm is. Gyda phrisiau ynni yn debygol o aros yn uchel drwy gydol y gaeaf, ymhell uwchlaw lefelau cyn yr argyfwng, bydd llawer o aelwydydd yn ei chael hi'n anodd cadw'n gynnes ac yn iach. Mae angen brys i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi sy'n dlawd o ran tanwydd yng Nghymru gyda biliau ynni sy'n isel yn barhaol. Ac eto ar gyfradd bresennol y gwaith o gyflwyno cynllun Cartrefi Clyd Nyth Llywodraeth Cymru—ychydig dros 1,600 o gartrefi y flwyddyn—bydd yn cymryd ymhell dros ganrif i wella effeithlonrwydd ynni ein holl aelwydydd incwm is yr amcangyfrifir eu bod mewn tlodi tanwydd ar hyn o bryd. Mae'r sector yn parhau i alw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu cyllid ei rhaglen Cartrefi Clyd yn sylweddol, gan eu bod yn datgan nad yw hyn yn ddigonol ar hyn o bryd i fynd i'r afael â maint her tlodi tanwydd yng Nghymru. Sut ydych chi, felly, yn ymateb i'r alwad yng nghyfarfod ar y cyd fis Tachwedd diwethaf o'r grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni a'r grŵp trawsbleidiol ar dai i Lywodraeth Cymru ddyrannu'r symiau canlyniadol o gynllun Cartrefi Clyd Llywodraeth y DU i'w rhaglen Cartrefi Clyd i gefnogi hyn, yr amcangyfrifir y bydd oddeutu £170 miliwn yng Nghymru?
Fel y dywedodd swyddfa'r comisiynydd pobl hŷn, dylai atgyweirio neu amnewid boeleri o dan amgylchiadau angenrheidiol fod ar gael i bob ymgeisydd cymwys sydd heb system wresogi yn gweithio na dŵr poeth lle nad yw gwresogi carbon isel yn hyfyw neu'n briodol eto, ni waeth beth fo'u hoedran a'u hiechyd. Fodd bynnag, o fewn chwe mis cyntaf rhaglen Cartrefi Clyd cyfredol Llywodraeth Cymru, a lansiwyd 1 Ebrill y llynedd, roedd rhai aelwydydd cymwys yn cael eu gwrthod ar gyfer mesurau os nad oedd eu cartref yn hyfyw neu'n briodol ar gyfer pwmp gwres eto. Roedd hyn yn peri pryder mawr ac mewn cyferbyniad llwyr â'r ffordd yr oedd National Energy Action a phartneriaid yn deall sut y byddai'r cynllun yn cael ei weithredu, gan o bosib adael aelwydydd incwm isel cymwys, i fyw yn y cartrefi lleiaf effeithlon, heb unrhyw system wresogi yn gweithio na dŵr poeth. Roeddent felly'n argymell yn gryf bod y mater hwn yn cael ei ddatrys ar frys. Diolch byth, mewn ymateb i'w hadborth, mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i sicrhau y gall pob ymgeisydd cymwys Nyth nawr gael boeler wedi'i atgyweirio neu ei amnewid os nad oes ganddynt system wresogi neu ddŵr poeth sy'n gweithio, sy'n golygu, er bod pympiau gwres yn dal i fod ar gael, gall aelwydydd cymwys, am y tro, barhau i allu cael boeler newydd neu ei atgyweirio fel dewis arall, ochr yn ochr â mesurau inswleiddio ac effeithlonrwydd ynni eraill. Fodd bynnag, sut ydych chi'n ymateb i bryder Cynghrair Tlodi Tanwydd Cymru mai dim ond tan ddiwedd mis Mawrth y mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i'r ddarpariaeth angenrheidiol hon, ac i'w galwad nhw i hyn aros yn ei le drwy gydol y rhaglen?
Mae Gofal a Thrwsio yn gwneud gwaith helaeth, o ran mynd i'r afael â thlodi tanwydd a chefnogi'r broses o wneud y mwyaf o incwm i bobl hŷn yng Nghymru sy'n byw yn rhai o'r eiddo mwyaf aneffeithlon o ran ynni ac felly'n oer. Sut ydych chi'n ymateb i'w galwad am adnoddau i hyrwyddo'r wybodaeth ddiweddaraf am fudd-daliadau yn uniongyrchol i ymgyrchoedd lleol sy'n cael eu rhedeg gan sefydliadau lleol er mwyn gwella ymwybyddiaeth am hawliau a helpu i leihau stigma a chymhlethdod o amgylch y system fudd-daliadau?
Ar ôl cael gwared ar daliadau tanwydd gaeaf i filiynau o bensiynwyr, anogodd Llywodraeth Lafur y DU bensiynwyr i wirio a allent fod yn gymwys i gael credyd pensiwn i sicrhau taliad tanwydd y gaeaf. Amcangyfrifir y bydd 130,000 o bobl hŷn yn y DU ar eu colled oherwydd eu bod dim ond £500 dros y trothwy incwm i hawlio credyd pensiwn. Sut ydych chi, felly, yn ymateb i'r alwad gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru am weithredu i ddatrys mater sydd fel ymyl clogwyn pan fo pobl hŷn sy'n gymwys i gael credyd pensiwn, oherwydd incwm ychydig yn uwch na'r trothwy, ar eu colled o ran cymorth yn gyfan gwbl, ac i'r alwad gan Gofal a Thrwsio Cymru ar gyfer gweithredu grant rhwyd ddiogelwch ar gyfer diffyg atgyweirio mewn aelwydydd sy'n agored i niwed ac incwm isel, gan gynnwys y rhai sy'n methu o drwch blewyn â chyrraedd y trothwy er mwyn bod yn gymwys ar gyfer Credyd Pensiwn, i'w cadw'n ddiogel, yn gynnes ac allan o'r ysbyty?
Yn olaf, sut ydych chi'n ymateb i bryder a fynegwyd gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, mewn tystiolaeth i ymgynghoriad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar dlodi tanwydd yng Nghymru, rwy'n dyfynnu:
'Mae pryderon eraill gyda’r Rhaglen Cartrefi Clyd yn cynnwys maint y cynllun (yn enwedig o ystyried prisiau ynni cynyddol a’r argyfwng costau byw), lefelau cyffredinol y cyllid a ddarperir i ymgymryd â gweithgareddau, a’r prosesau monitro, gwerthuso ac adrodd ar gynnydd'?
Diolch, Mark, ac, yn gyntaf oll, hoffwn gofnodi fy niolch am y gwaith rydych wedi'i wneud ar y grŵp trawsbleidiol, a gwn fy mod wedi bod yn ffodus i ddod i'r grŵp trawsbleidiol hwnnw ychydig cyn y Nadolig i siarad amdano a chlywed gan randdeiliaid yn uniongyrchol yn ogystal ag am rai o'r materion rydych chi wedi'u crybwyll heddiw.
Er mwyn tynnu sylw at rai o'r pethau rydyn ni'n eu gwneud, hyd yma, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mwy na £251 miliwn i wella effeithlonrwydd ynni cartref drwy'r rhaglen Cartrefi Clyd, ac mae Nyth wedi helpu mwy na 82,000 o aelwydydd incwm is drwy osod mesurau yn eu cartrefi, ac mae mwy na 210,000 wedi cysylltu â Nyth i dderbyn y cyngor effeithlonrwydd ynni am ddim hwnnw. Mae hyn yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo iddo yn y tymor hir, oherwydd, rhwng 2009 a 2021, rydyn ni wedi helpu dros 21,000 o aelwydydd trwy Arbed, gan fuddsoddi'r arian Ewropeaidd hwnnw i wella amodau tai yn ein hardaloedd mwyaf difreintiedig.
O ran y mater sy'n ymwneud â phobl sydd angen cymorth mewn sefyllfa o argyfwng, sydd, yn fy marn i, yn un pwysig iawn, fel y soniais yn fy natganiad, ac fe wnaethoch ei grybwyll, Mark, hefyd, roeddwn wedi cytuno i ganiatáu atgyweirio neu amnewid boeleri y gaeaf hwn i helpu pob cartref sy'n gymwys ar gyfer Nyth sy'n cael eu hunain mewn argyfwng uniongyrchol heb wres na dŵr. Rhaid i ddeiliaid tai fodloni'r meini prawf cymhwysedd Nyth cyfredol, ac nid oes unrhyw newidiadau yn cael eu cynnig i'r meini prawf hynny. Gall pob deiliad tŷ sy'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd Nyth ac nad oes ganddynt wres na dŵr poeth gael eu boeleri wedi'u hatgyweirio neu eu hamnewid. Bydd deiliaid tai sydd â'u boeleri wedi'u hatgyweirio neu eu hamnewid drwy'r llwybr hwn yn dal i gael asesiad o'u tai am fesurau effeithlonrwydd ynni pellach, gyda'r bwriad o wneud y tai yn barod i symud i ffwrdd o wresogi tanwydd ffosil yn y dyfodol. Felly, mae hynny'n rhywbeth rydyn ni'n ei wneud ar hyn o bryd. Mae pobl yn teimlo eu bod mewn argyfwng. Rydyn ni'n edrych i weld beth y gallwn ei wneud yn y dyfodol i sicrhau bod yr arbedion effeithlonrwydd hynny'n cael eu rhoi yn nes ymlaen. Felly, mae llawer o bethau'n digwydd yn y maes hwnnw, ac, o ran gweithio gyda Llywodraeth y DU, yn amlwg mae swyddogion yn gweithio'n agos, yma yng Nghymru ac ar lefel Llywodraeth y DU. Mae derbyn credyd pensiwn yn allweddol i lawer o bobl hŷn yng Nghymru er mwyn datgloi eu hawl i'r taliad tanwydd gaeaf hwnnw, ac fel y gwyddoch, roedd gan Lywodraeth Cymru ymgyrch gref iawn i gael pensiynwyr cymwys i gofrestru ar gyfer credyd pensiwn, a sicrhaodd hynny fod pensiynwyr cymwys yn derbyn taliadau tanwydd gaeaf.
Mae Llywodraeth y DU yn parhau i ddarparu'r disgownt Cartrefi Clyd, sy'n diogelu deiliaid tai ar incwm is ac yn sicrhau eu bod yn gallu gwresogi eu cartrefi, gyda £150 oddi ar eu biliau ynni, ond gwn fod fy nghyd-Ysgrifennydd Cabinet Jane Hutt wedi bod yn gwneud llawer o waith yn y maes hwn, ac mae'n bwysig ein bod hefyd yn gweithio ar draws y Llywodraeth i wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod pobl yn cael popeth y mae ganddynt hawl iddo.
Diolch am y datganiad. O feddwl mai rhaglen Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru ydy conglfaen yr ymdrechion i liniaru tlodi tanwydd yma yng Nghymru, mae yna ddau fater yn codi pryder yn syth i mi, ac i nifer o bobl eraill hefyd, ac y cyntaf ydy lefel y buddsoddiad yn y rhaglen yma. Dim ond tua 1,700 o gartrefi'r flwyddyn all gael cefnogaeth o fewn y cyllid presennol, ond mae yna dros 200,000 o aelwydydd yn byw mewn tlodi tanwydd yng Nghymru, felly fe welwch chi pam dwi'n poeni am lefel y buddsoddiad. Felly, a fedrwch chi fanylu ychydig yn fwy am y gyllideb, y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf, ond hefyd y gyllideb yn fwy hir dymor? Oes yna unrhyw arian ychwanegol ar y ffordd o San Steffan? Pa ddulliau ariannu—yn enwedig, efallai, ariannu cyfalaf a dulliau amgen—sy'n cael eu hystyried, a faint o flaenoriaeth ydy ystyried y dulliau ariannu amgen yma gan Lywodraeth Cymru?
Yr ail fater sy'n codi pryder ydy diffyg eglurder am nod polisi'r rhaglen. Beth yn union ydyn ni'n ceisio ei wneud yn fan hyn? Ydyn ni'n ceisio defnyddio'r rhaglen er mwyn cyrraedd net sero yn gyflymach, neu ydy Cartrefi Clyd yn ceisio mynd i'r afael â'r argyfwng uniongyrchol tlodi tanwydd? Neu ydy o, rywsut, yn trio gwneud y ddau beth? Mewn rhai achosion, mae'r ddau beth yn gallu mynd law yn llaw. Ond mae o hefyd yn gallu creu gwrthdaro pan ydych chi'n trio cyflawni dau nod polisi o fewn yr un rhaglen, ac yn sicr os nad oes yna eglurder ynglŷn â beth rydych chi'n ceisio ei wneud. Er enghraifft, tra bo pympiau gwres yn dechnoleg bwysig ar gyfer datgarboneiddio, dydyn nhw ddim bob amser, wrth gwrs, yn addas ar gyfer pob cartref, nac yn fforddiadwy i bob aelwyd o ran eu cynnal nhw a'u rhedeg nhw, oherwydd y costau gweithredu uwch o'u cymharu efo boeleri nwy. Rŵan, mi fedrwn ni fynd i bob math o drafodaethau ynglŷn â pha mor annheg ydy hynny, a'r system fel mae o yn dibynnu ar bris nwy, ond mae o yn golygu ar hyn o bryd fod yna bach o wrthdaro yn digwydd o ran y ddau nod polisi, a buaswn i'n hoffi clywed tipyn bach mwy am hynny gennych chi.
Mae hi'n galonogol bod y cynllun atgyweirio ac ailosod boeleri wedi cael ei adfer, ond mae’n bryderus mai dim ond hyd at fis Mawrth eleni mae’r sicrwydd yna’n bod, ac felly mi fyddwn i’n hoffi gwybod beth fydd yn digwydd o fis Ebrill yma ymlaen. Ydy’r cynllun atgyweirio yma’n mynd i gario ymlaen, ynteu ydych chi’n mynd i fynd yn ôl i beth oedd yn y cynllun gwreiddiol? Yn amlwg, mae arnom angen dull tymor hir a hyblyg sy'n ystyried anghenion penodol cartrefi ac aelwydydd.
Ac yn olaf gen i, y mater yma o fonitro, gwerthuso ac addasrwydd y rhaglen. Mae’r monitro a gwerthuso yn parhau i fod yn aneglur, gan ei gwneud hi’n anodd felly i asesu cynnydd neu nodi meysydd i’w gwella. Ond beth rydym ni yn ei wybod drwy randdeiliaid, a beth dwi’n ei wybod drwy waith achos hefyd, ydy bod yna bryderon yn codi ynghylch cymhwysedd, hygyrchedd y rhaglen Nyth, a’r diffyg dull gweithredu ar sail ardal oedd ar gael cyn hyn, oedd yn helpu i dargedu cefnogaeth yn effeithiol. Ac at hyn hefyd, mae yna broblemau efo’r cyfeiriadau, y referrals, yn golygu bod rhai aelwydydd sydd yn gymwys yn dal i lithro drwy'r rhwyd, ac felly, mi fyddai symleiddio'r rhaglen a'i gwneud yn fwy hygyrch yn gwella'r sefyllfa. Felly, pa gamau sydd ar y gweill gennych chi fel Llywodraeth i symleiddio’r rhaglen ac i sicrhau bod y cymorth yn cyrraedd pawb sydd yn gymwys i’w gael o? Diolch.
Diolch, Siân, ac fe wnaf geisio mynd i'r afael â nifer o'r cwestiynau yn eich cyfraniad. O ran y rhaglen Cartrefi Clyd, fel y dywedais i, rydyn ni'n buddsoddi mwy na £13 miliwn eleni yng nghynllun Nyth, Cartrefi Clyd newydd hwnnw. Bydd aelwydydd cymwys yn derbyn y pecyn pwrpasol hwnnw o fesurau i inswleiddio a datgarboneiddio eu cartrefi, gan arwain at y biliau ynni is hynny a'u symud allan o dlodi tanwydd, ac mae hyn yn adleisio'r hyn yr oeddech chi'n ei ddweud am nodau'r cynllun.
Mae ein cynllun yn mabwysiadu dull ffabrig a charbon isel yn gyntaf i wella effeithlonrwydd ynni hirdymor yr aelwydydd incwm isel lleiaf effeithlon yn thermol yng Nghymru. Felly, mae'n ddull o weithredu deuol drwy wasanaeth cynghori a thrwy wella cartrefi'r rhai mewn tlodi tanwydd yn ffisegol. Mae'r cynllun yn ei ddyddiau cynnar, ac rwy'n credu y bydd swyddogion yn adolygu'r cynnydd i sicrhau bod y cynllun yn cyflawni'r prif amcan. Felly, rwy'n credu ei fod yn parhau a byddwn yn adolygu pethau. Rydyn ni wastad yn edrych ar fylchau, a dyna un o'r pethau gafodd eu codi am y gwaith trwsio boeleri nwy, felly rydyn ni'n gwrando; rydyn ni wedi rhoi'r buddsoddiad hwnnw i mewn i gefnogi'r bobl hynny sydd mewn argyfwng—. Fel y dywedwch chi, nid yw pympiau storio gwres yn addas i bawb ar hyn o bryd, ond yna byddwn ni—. Fel y dywedais i mewn ymateb i Mark, rydyn ni'n mynd i mewn i hyn ac rydyn ni hefyd yn edrych ar beth arall y gellir ei wneud yn y dyfodol i sicrhau y gallai pethau fod yn barod ar gyfer gwresogyddion stôr, o bosibl, neu'r datblygiadau technolegol eraill sy'n digwydd.
I ddweud hefyd, o ran y rhaglen, rwy'n gweld yn fy mag post fy hun fel AS etholaeth ac fel Ysgrifennydd Cabinet hefyd, pan fydd pobl o'r Siambr hon yn ysgrifennu ataf am faterion penodol, rwyf bob amser yn awyddus i nodi lle efallai fod rhai bylchau, a'r hyn y gallwn ni ei wneud i lenwi rhai o'r bylchau hynny gyda sefydliadau eraill a allai helpu weithiau. Er enghraifft, rwy'n gwybod bod Gofal a Thrwsio yn gallu cefnogi pobl hefyd mewn amgylchiadau penodol, felly mae llawer yn digwydd o fewn hynny, ond rwyf bob amser yn awyddus i wrando ar bawb os oes bylchau.
Mae'n rhaid i ni fod yn ymwybodol, rydyn ni wedi cyrraedd pwynt, rydyn ni wedi cael cam cyntaf y cynllun, a gall pethau fod ychydig yn fwy cymhleth nawr pan fyddwn yn edrych ar eiddo pobl a'r hyn sydd angen ei wneud yn yr eiddo hynny, felly rydyn ni'n ymwybodol o'r heriau, ond rydyn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi pobl, ac rwy'n awyddus iawn bod cynifer o bobl yn y Siambr hon yn helpu i hyrwyddo'r cyngor sydd ar gael, ac mae'r cyngor hwnnw'n annibynnol.
O ran y dull o weithredu sy'n seiliedig ar ardal, unwaith eto, mae'r cynllun newydd yn ei fabandod, rydych chi'n gwybod, cam 2. Felly, unwaith eto, mae swyddogion yn adolygu'r cynnydd hwnnw i sicrhau bod elfen y rhaglen sy'n cael ei harwain gan alw yn cyflawni'r prif amcan hwnnw o fynd i'r afael â thlodi tanwydd a'r argyfwng hinsawdd.
Yn y ddau brif god post ar gyfer fy etholaeth, CF23 a 24, 2019 a 2021 oedd y blynyddoedd mawr ar gyfer ôl-osodiadau. Ond rydyn ni'n sôn am 105 a 103 ym mhob un o'r blynyddoedd hyn, sy'n amlwg i'w groesawu'n fawr gan y cartrefi hynny, ond piso dryw bach yn y môr yw hwn o'i gymharu â'r angen enfawr sydd yn y sector preifat, a dyna lle mae'r holl gartrefi oeraf erbyn hyn, oherwydd y cynllun sy'n seiliedig ar ardal sydd wedi bod ar waith. Felly, yn amlwg, mae angen i ni gael pobl i ffonio'r rhif rhadffôn hwnnw 0808 808 2244, oherwydd mae angen i bobl sydd ag arian fod yn gwneud y peth iawn ar gyfer eu biliau ynni yn ogystal ag ar gyfer yr amgylchedd, oherwydd nid oes unrhyw resymeg y tu ôl i barhau i wresogi'r adar.
Siaradais â thenant yn y sector preifat ddydd Gwener diwethaf, a dim ond un rheiddiadur oedd ganddi yn gweithio yn y fflat tair ystafell wely cyfan. Mae'n rhaid i ni gael y landlordiaid preifat hyn i ymgysylltu â'r cynllun i sicrhau bod pobl sy'n byw yn y cartrefi rhent drutaf yn cael bargen lawer gwell. Felly, beth allwn ni ei wneud i gael y rhai sydd ag arian i wneud y peth iawn ar gyfer yr amgylchedd yn ogystal ag ar gyfer eu biliau gwresogi, ond hefyd, sut allwn ni ymgysylltu â landlordiaid preifat i'w cael i uwchraddio eu hadeiladau? Mae eu codi i EPC C yn bell iawn o ble rydyn ni ar hyn o bryd; maen nhw bron i gyd yn E, a'r rhai gwaethaf yw F a G.
Ond yn ogystal â hynny, mae'n amlwg bod angen cynllun yn seiliedig ar ardal, oherwydd mae'r pethau unigol hyn yn ddim—
Diolch yn fawr, Jenny.
—o'u cymharu â nifer y cartrefi Arbed a gafodd eu hôl-osod yn eu miloedd.
Diolch, Jenny, ac rydych chi wedi codi pwyntiau pwysig yna. O ran datgarboneiddio cartrefi preifat a'r cyngor y gall pobl ei gael, unwaith eto, dyma'r llinell gyngor y sonioch chi amdani. Mae'n llinell radffôn a gallwch fynd ati ar y wefan hefyd. Ond rwy'n credu ei fod yn bwysig iawn, byddan nhw'n cynnig awgrymiadau ac yn cynnig ffyrdd ymlaen pan ddônt i siarad â chi, sy'n golygu bod pobl yn gallu cael y cyngor dibynadwy hwnnw, sydd, yn fy marn i, mor bwysig yn y maes hwn.
Mae cynllun Cartrefi Gwyrdd Cymru, a weithredir gan Fanc Datblygu Cymru, yn cefnogi perchen-feddianwyr ar eu taith ddatgarboneiddio, gyda mynediad at gyllid dim llog ac asesiadau ôl-osod i helpu i ddeall y gwaith sydd ei angen ar gyfer eu cartref, felly rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr at weld effaith cynllun Cartrefi Gwyrdd Cymru. Unwaith eto, mae'n gam allweddol mewn gwirionedd wrth alluogi perchnogion tai i wneud y dewisiadau gwyrdd hynny ar gyfer eu cartrefi.
Ond mae'r pwynt rydych chi'n ei wneud ynghylch landlordiaid preifat wedi'i wneud yn dda iawn. Rydyn ni'n gwneud llawer iawn o ran yr hyn yr ydym eisiau ei wneud gyda'n cartrefi cymdeithasol. Rydyn ni'n rhoi llawer o bwyslais ar hynny, ond erys yr her enfawr rydyn ni'n barod amdani, sy'n edrych ar y sector rhentu preifat a'r holl eiddo preifat y gwyddom sy'n gorfod cyrraedd y safon benodol honno. Ond byddai gennyf ddiddordeb mawr efallai i gwrdd â chi i siarad am hyn yn fanylach hefyd.
Nid wyf yn credu ein bod wedi gweld y camau brys o weithredu a maint y buddsoddiad sydd ei angen, mewn gwirionedd, i fynd i'r afael â thlodi tanwydd drwy'r rhaglen Cartrefi Clyd, er mai dyna bolisi blaenllaw'r Llywodraeth, sef gwneud hynny. Ac rwy'n credu bod hynny'n rhannol oherwydd bod darlun Llywodraeth Cymru o dlodi tanwydd wedi aros yn y gorffennol. Nid yw'r amcangyfrifon hen ffasiwn sy'n sail i'w dealltwriaeth o dlodi tanwydd yn adlewyrchu'r realiti llym sy'n wynebu llawer gormod o aelwydydd ledled Cymru heddiw. Maen nhw o'r cyfnod cyn yr argyfwng costau byw ac ynni, Brexit a'r pandemig. Mae'r ddealltwriaeth yn seiliedig ar arolwg byw yng Nghymru 2008 ac arolwg cyflwr tai Cymru 2017-18, ac mae'r arolwg hwnnw i fod i gael ei ddiweddaru bob pum mlynedd, ond dyma ni, wyth mlynedd yn ddiweddarach, yn agosáu at naw, heb unrhyw ddiweddariad a dim arwydd o un.
Gan ein bod ar bwnc oedi, ni allwn anwybyddu'r cynllun trechu tlodi tanwydd. Ai uchelgais Llywodraeth Cymru o hyd yw ei adolygu? A ydych chi'n cytuno, Ysgrifennydd Cabinet, bod targedau dros dro yn darparu map ffordd clir hyd at 2035 a chyfleoedd i fonitro cynnydd? Felly, a wnewch chi sicrhau bod y Llywodraeth yn cyflawni ei rhwymedigaethau statudol i osod y targedau hynny? Ac a ydych chi'n cytuno bod y data presennol ar dlodi tanwydd wedi dyddio, felly sut ydych chi'n mynd i gywiro hynny?
Diolch, Sioned. A diolch am y pwyntiau pwysig yna. Rwy'n credu bod Llywodraeth Cymru wedi dangos dros nifer o flynyddoedd yr uchelgais sydd gennym yma i fynd i'r afael â hyn. Rydyn ni wedi rhoi arian yn ein rhaglen Cartrefi Clyd, rydyn ni wedi buddsoddi yn hynny, dyna bobl sydd ei angen fwyaf yn cael cymorth. Rwy'n credu bod ein dull newydd, sef y dull ffabrig gwaethaf hwnnw, yn bwysig, oherwydd rydyn ni wir yn cyrraedd y bobl hynny sydd, rwy'n credu, yn hanfodol bwysig o ran pwy sydd ei angen fwyaf. Ac rydyn ni wedi ceisio gwneud yr hyn a allwn i ymestyn y meini prawf cymhwysedd, fel y byddwch wedi gweld o'n cynllun newydd.
Rydyn ni'n helpu pobl, ac fel y dywedais i, mae wedi bod yn ymrwymiad hirsefydlog gan y Llywodraeth hon dros nifer o flynyddoedd. Rydyn ni wedi dysgu o'r rhaglenni hynny hefyd. Rydyn ni wedi gweld rhaglenni fel y rhaglen dai arloesol a gynhaliwyd rhwng 2017 a 2022, lle ymrwymwyd dros £155 miliwn o grant cyfalaf yn unig i ariannu dros 70 o ddatblygiadau ledled Cymru a darparu tua 2,000 o gartrefi fforddiadwy, carbon isel. A ydw i eisiau gweld mwy? Yn bendant, rwyf eisiau gweld hynny, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym yn gweithio'n galed i'w wneud.
Mae eich pwynt o ran niferoedd a chael y data yn un pwysig ac rwy'n gwybod bod y rhain yn drafodaethau a gefais gyda chyd-Aelodau yn y Cabinet hefyd.
Ysgrifennydd Cabinet, mae bob amser yn her sicrhau bod y cynlluniau hyn yn cyd-fynd ag amgylchiadau pawb a allai elwa ar y cymorth a gynigir. Mae gen i etholwyr, er enghraifft, sy'n byw mewn tŷ cerrig, nid ydynt ar y grid, maen nhw yn eu 70au hwyr, mae'r dyn yn gofalu am ei wraig, ond mae ef ei hun yn anabl ac mewn gwirionedd yn aros am ben-glin newydd. Maent yn gymwys i gael cymorth drwy Nyth, ond oherwydd nad ydynt ar y grid, nid yw eu hopsiwn dewisol o losgwr olew annibynnol ar gael o dan y cynllun, fel rydych chi wedi dweud wrthyf mewn llythyr a oedd yn ymateb i mi'n codi eu hachos. Byddai pympiau gwres yn rhy ddrud iddyn nhw, ac ar hyn o bryd, maen nhw'n llosgi glo ac rydych chi wedi ymgysylltu'n garedig â Gofal a Thrwsio i'w helpu gyda'r ymdrech a'r anhawster o gynnau tanau ac ymdrin â thanau yn ddyddiol. Rydych chi'n dweud yn eich llythyr, Ysgrifennydd Cabinet, eich bod chi mewn trafodaethau â British Gas ar gyfer y rhai sydd o dan yr un amgylchiadau â nhw, nad ydynt ar y grid ac nad ydynt yn gallu cael pympiau gwres, felly tybed a allech chi barhau â'ch ymdrechion ar gyfer y cwpl penodol hwn, oherwydd mae tanau glo braidd yn anodd o ystyried eu hamgylchiadau a'u hanableddau, ac mae gwir angen ateb gwahanol arnyn nhw.
Diolch yn fawr, John. A diolch i chi am godi'r achos yna, a diolch i bawb sy'n codi achosion penodol. Rwy'n gwerthfawrogi ein bod wedi cael y sgwrs hon drwy ryw ohebiaeth hefyd, ac rwy'n credu pan godir materion, mae hynny'n golygu fy mod yn gallu meddwl sut y gallwn wneud mwy os oes bylchau o fewn cynlluniau. Fel y dywedais i yn y llythyr, rydyn ni'n trafod gyda British Gas ynghylch sut y gellir cefnogi cwsmeriaid, fel yr etholwyr rydych chi wedi'u nodi. Felly, rwy'n edrych ymlaen at gadw mewn cysylltiad â'r pwyntiau cyffredinol hefyd.
Fel y dywedais i, rwy'n credu bod yna agweddau lle nad ydynt, efallai, yn gymwys ar gyfer y cynllun, ond mae mathau eraill o gyngor ar gael, pethau fel Gofal a Thrwsio, sy'n gallu eu helpu yn ymarferol ar hyn o bryd. Ond rwy'n credu mai dyna pam y mae hi'n bwysig cael y sgyrsiau hynny gyda chynllun Nyth hefyd, gan eu bod yn gallu cyfeirio pobl at y lle cywir yn ogystal â rhoi'r cyngor diduedd hwnnw, rwy'n credu sy'n bwysig iawn, bod pobl gael y cyngor diduedd hwnnw i sicrhau eu bod yn gwneud y dewisiadau cywir drostynt eu hunain.
Diolch yn fawr, Ysgrifennydd Cabinet, am y datganiad. Hoffwn ddiolch iddi hefyd am ei hymgysylltiad ar fater Arbed yng Nghaerau. Rwy'n gwybod ei bod wedi cymryd diddordeb brwd ers dechrau yn y swydd ac wedi siarad â nifer o randdeiliaid ynghylch ceisio datrys y mater hwn, a dyna fyrdwn fy nghwestiwn heddiw.
Pan soniaf am gynlluniau Llywodraeth Cymru ynghylch Cartrefi Clyd i etholwyr, yn enwedig yn yr ardaloedd hynny, yr ateb a gaf yn ôl fel arfer yw, 'O, dyma ni eto, cynllun arall gan Lywodraeth Cymru, does dim peryg y byddaf yn cofrestru ar gyfer hwnnw'—ac rwy'n defnyddio iaith ddiplomyddol wrth gyfleu hynny i chi. Yr hyn sydd gennym yma nawr, o ganlyniad i fethiannau rhaglenni blaenorol, yw diffyg ymddiriedaeth yn llwyr mewn rhaglenni Llywodraeth Cymru o fewn y maes penodol hwn. Felly, fy nghwestiwn i chi heddiw yw sut ydym yn adfer rhywfaint o'r ymddiriedaeth honno ymhlith y cymunedau hyn. Mae angen i rai o'r cymunedau hyn weld eu cartrefi'n cael eu hôl-osod, bydd o fudd iddynt, ond rwy'n credu bod angen corff o waith gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo hynny ar gyfer y cymunedau hynny ac adfer yr ymddiriedaeth honno. Oherwydd ar hyn o bryd nid yw'r ymddiriedaeth honno'n bodoli.
Diolch yn fawr, Luke. Diolch i chi am yr ymrwymiad yr ydym wedi'i gael i hyn hefyd. Rwyf wedi cael trafodaethau gyda Huw Irranca-Davies hefyd ar hyd llinellau tebyg. Yn gyntaf oll, hoffwn gofnodi eto fy mod yn deall pa mor anodd y mae wedi bod i bobl yng Nghaerau, a'r gofid y mae hynny wedi'i achosi. Fel y gwyddoch chi, rydyn ni wedi dyfarnu arian grant ar gyfer y cynllun hwnnw, ond rydych chi'n hollol gywir—mae'n bwysig iawn bod gan bobl yr ymddiriedaeth honno. Rwy'n cymryd hyn o ddifrif, ac rwy'n gwybod eich bod chithau hefyd yn gwneud hynny, Luke.
Yn gyntaf oll rwyf am dynnu sylw at gwpl o ddiweddariadau ynghylch Caerau. Cefais gyfarfod ychydig cyn y Nadolig gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i gael diweddariad. Roeddwn hefyd wedi gofyn i swyddogion fynd ar ôl hyn hefyd, ac maen nhw'n mynd i gael diweddariad gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr am yr eiddo yng nghanol mis Chwefror, felly byddwn yn hapus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ac eraill am hynny. Mae cyfarfod trigolion wedi'i drefnu ar gyfer dydd Mercher 22 Ionawr, efallai eich bod yn gwybod am hwnnw, ac rwy'n edrych ymlaen at gael yr wybodaeth ddiweddaraf yn dilyn y cyfarfod trigolion hwnnw. Rwy'n credu mai dyna'n rhannol sut y gallwn feithrin yr ymddiriedaeth honno o fewn y grŵp hwnnw o bobl, yr ydym wedi siarad amdano ac sydd mor bwysig. Hyd yn hyn, mae wyth cartref wedi'u cwblhau, mae 47 o gartrefi wedi cael gwared â'r deunydd inswleiddio waliau allanol, ac mae 19 ar hyn o bryd yn cael gwared â'r deunydd insiwleiddio waliau allanol trwy fis Ionawr. Ar hyn o bryd mae dylunwyr a chontractwyr ôl-osod yn gwirio ansawdd yr eiddo. Mae dyluniadau'n cael eu cwblhau a bydd gwaith i ailosod y deunydd inswleiddio a'r rendro yn digwydd dros yr wythnosau nesaf hefyd.
Mae'n gwbl bwysig ein bod yn dysgu gwersi o'r cynlluniau hynny. Rydyn ni wedi gweithredu sawl mesur i roi mwy o sicrwydd a diogelwch i ddeiliaid tai o dan ein rhaglen Nyth, Cartrefi Clyd newydd. Mae hynny'n cynnwys sicrhau llywodraethu drwy fonitro ariannol, byrddau prosiect a chyfarfodydd cydymffurfio, cyflwyno dangosyddion perfformiad allweddol ar gyfer cwynion a dderbynnir, lleihau gwrthdaro buddiannau posibl trwy osod contractau ar wahân ar gyfer ein darparwr cyngor ac atgyfeirio a'n darparwr cyflenwi. Dim ond ychydig o enghreifftiau ydy'r rhain, ond gallaf eich sicrhau fy mod yn cymryd hyn o ddifrif, fel y gwnewch chithau, ac yn amlwg, y trigolion hefyd. Mae'n bwysig ein bod yn ail feithrin yr ymddiriedaeth honno.
Mewn cymunedau ar draws y gogledd, rwyf wedi gweld y gwahaniaeth y mae'r cyllid wedi'i wneud, boed yn waith gorchuddiol, inswleiddio, toeau newydd, ffenestri, drysau. Fe wnes i ymweld â menyw yn Ynys Môn sydd yn y cynllun, mewn llety gwarchod. Roedd hi'n ddall, a'r gwahaniaeth roedd y gwaith wedi'i wneud i'w hiechyd a'i llesiant, bod yn gynnes yn y tŷ hwnnw. Dywedodd menyw arall, a oedd yn dioddef o glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint, fod y gwahaniaeth y mae'n ei wneud i'w hiechyd hefyd, gan ei bod mewn cartref cynnes, yn arbennig o dda. Rwyf wedi cyfeirio pobl at gynllun Nyth hefyd a oedd angen boeleri newydd. Rwy'n gwybod bod problemau wedi bod gyda'r pympiau gwres ffynhonnell aer, gyda phobl ddim yn gwybod sut i'w defnyddio'n iawn. Rwy'n gwybod bod ClwydAlyn wedi buddsoddi mewn cynghorydd mewn gwirionedd, a oedd yn gallu mynd o gwmpas yr holl gartrefi y maent wedi'u hadeiladu, y tai cymdeithasol newydd hefyd, lle mae'r rhain ar waith, i gynghori pobl sut i'w defnyddio'n iawn, fel eu bod yn cael eu defnyddio'n effeithiol. Felly, fy nghwestiwn i chi yw sut mae gwasanaethau'n cyfeirio pobl fel y gallant gael y cyngor diduedd hwn, a pha mor llwyddiannus y maent wedi bod wrth ddod o hyd i atebion. Yn fy mhrofiad i, mae wedi bod yn ddefnyddiol iawn ac yn dda iawn yn y lleoedd rydw i wedi bod ynddyn nhw, ond pe gallech roi mwy o wybodaeth i mi am hynny, os gwelwch yn dda.
Diolch yn fawr, Carolyn. Diolch am dynnu sylw at yr arfer da. Mae'n bwysig iawn ein bod yn rhannu hynny, onid ydyw? Hefyd, mae'n dipyn o beth pan fyddwch chi'n meddwl am yr holl bobl sydd wedi cael cymorth. Weithiau, rydyn ni'n gwybod bod heriau mewn ardaloedd neu'n wynebu unigolion. Ond fel y dywedais i, mae'r cynllun Nyth wedi helpu mwy na 82,000 o bobl mewn aelwydydd incwm is drwy osod y mesurau hynny yn eu cartrefi. Ac mae hyd yn oed mwy wedi cael cymorth i gael y cyngor effeithlonrwydd ynni am ddim hwnnw. Felly, rwy'n awyddus bod cymaint o bobl a phosibl yn cael y gefnogaeth drwy'r llinell ffôn cyngor effeithlonrwydd ynni am ddim, ac rwy'n siŵr bod pawb arall hefyd o ran helpu i hyrwyddo hynny.
O ran pympiau gwres ffynhonnell aer, fel y dywedwch chi, mae'n dda iawn clywed bod pobl yn cael eu cyflogi i sicrhau bod pobl yn gwybod sut i'w defnyddio. Rwy'n credu bod hynny'n enghraifft dda iawn o ble y gallwn rannu'r arfer gorau hwnnw. Oherwydd ei bod yn bwysig, os ydyn nhw yno, bod pobl yn gwybod sut i'w defnyddio. Ac mae'n chwalu hud hefyd o ran rai o'r pethau sy'n ymwneud â phympiau gwres ffynhonnell aer.
O ran gwasanaethau cynghori, rwy'n credu bod y gwahanu rhwng y gwasanaeth cynghori a'r ddarpariaeth yn elfen bwysig o'r cynllun. Unwaith eto, mae hynny'n dychwelyd i helpu i feithrin ymddiriedaeth. Mae swyddogion wedi bod yn gweithio gyda'n contractwyr, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i sicrhau bod y cynllun newydd sy'n cael ei arwain gan alw yn ategu cynlluniau effeithlonrwydd ynni a thlodi tanwydd eraill. Mae ein partner cyflenwi, yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, yn darparu cyngor arbed ynni annibynnol am ddim i'r holl aelwydydd hynny, fel y dywedais i, ac mae'r rhaglen newydd hon yn ddull mwy cydgysylltiedig gyda chynlluniau ategol i sicrhau'r buddion mwyaf posibl i holl ddinasyddion Cymru.
Ac yn olaf, Llyr Gruffydd.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n credu bod angen i ni edrych ar wir natur y sefyllfa yma. Gadewch i ni beidio â meddwl bod Cymru'n gwneud gwaith da yn y maes hwn. Mae'n rhaid i mi ddweud bod comisiynwyr cenedlaethau'r dyfodol—y comisiynydd blaenorol a'r comisiynydd presennol—wedi ein hatgoffa pa mor druenus o brin yw'r buddsoddiad sy'n mynd i mewn i'r maes hwn o'i gymharu â lefel yr her sy'n ein hwynebu. Mae gennym y stoc dai fwyaf effeithlon o ran ynni yng ngorllewin Ewrop o hyd. Ac er bod pethau da yn digwydd, nid ydynt yn digwydd ar y raddfa nac ar y cyflymder sydd ei angen i gael effaith wirioneddol yn y maes hwn.
Rydych chi wedi sôn y gall y Llywodraeth ddwyn cryn dipyn o ddylanwad o fewn maes tai cymdeithasol a'r sector cyhoeddus, ond wrth gwrs mae'r sector preifat yn her anodd iawn. Mae'r pwyllgor amgylchedd wedi awgrymu yn y gorffennol ein bod yn defnyddio'r dreth trafodiadau tir fel trosoledd, os mynnwch chi, i annog gweithredu yn y sector preifat. Er enghraifft, os bydd rhywun yn gwella effeithlonrwydd ynni yn ei gartref cyn gwerthu tŷ, yna mae'n ddigon posibl y gall dderbyn rhyw fath o dreth trafodiadau tir is. Neu, o fewn 12 neu 18 mis, ei fod yn gwella effeithlonrwydd ynni'r tŷ ar ôl ei brynu, yna mae'n derbyn ad-daliad. Mae hynny wedi cael ei ddiystyru gan y Llywodraeth hyd yma, ond byddwn i'n gofyn a fyddech chi'n fodlon ystyried, oherwydd ei fod yn drosoledd go iawn, rwy'n credu, bod yn rhaid i'r Llywodraeth geisio dylanwadu ar newid yn y sector preifat.
Diolch, Llyr, a diolch am y gwaith rydych chi wedi'i wneud yn y maes hwn fel Cadeirydd y pwyllgor newid hinsawdd. Mae'r pwyntiau rydych chi'n eu codi ynghylch yr her yn sicr—. Rwy'n sôn am y pethau cadarnhaol iawn heddiw, ond, fel rydych chi wedi sôn, mae rhai o'r ffigurau rydych chi'n eu nodi ynghylch yr her sydd o'n blaenau yn enfawr. Rwy'n deall hynny. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cofio beth rydyn ni'n ei wneud a sut rydyn ni'n gwneud cynnydd. Rwyf bob amser yn awyddus i edrych ar beth arall y gallwn ei wneud, pa fwy o gynlluniau sydd ar gael. Fel y soniais i, mae cynllun Cartrefi Gwyrdd Cymru, gyda Banc Datblygu Cymru, yn gwneud rhywbeth a fydd yn gadarnhaol iawn yn fy marn i, ac rwy'n awyddus iawn i edrych ar yr effaith y mae hynny'n ei chael ar berchnogion tai.
O ran cymorth arall rydyn ni'n ei ddarparu i, er enghraifft, landlordiaid preifat, mae un o'r pethau yn ymwneud â Chynllun Prydlesu Cymru, sy'n gynllun diweddar. Mae hwnnw'n ymwneud â dod ag eiddo yn ôl i'r safon i wella effeithlonrwydd ynni'r cartrefi, yn ogystal â cheisio cael mwy o gartrefi yn gyffredinol. Felly, mae yna bethau rydyn ni'n eu gwneud. Nid wyf yn tanamcangyfrif yr her, ond rydyn ni'n gwneud yr hyn a allwn o fewn yr amlen sydd gennym, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig cofio'r bobl hynny sy'n cael cymorth ar hyn o bryd hefyd.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
Eitem 4 yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a'r Trefnydd ar wneud y gorau o incwm a diweddariad ar waith i weithredu siarter budd-daliadau Cymru. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Jane Hutt.
Diolch yn fawr, Dirprwy Llywydd. Rwy'n falch o gael y cyfle i wneud datganiad am ymrwymiad Llywodraeth Lafur Cymru i helpu aelwydydd Cymru i wneud y gorau o'u hincwm.
Amcangyfrifir bod tua £2 biliwn o gymorth ariannol heb ei hawlio yng Nghymru, ac un o'r ysgogiadau allweddol sydd gan Lywodraeth Lafur Cymru yw sicrhau bod pobl yn hawlio'r hyn y mae ganddynt hawl iddo, gan helpu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i deuluoedd ledled Cymru. Rydym yn helpu pobl i hawlio pob punt y mae ganddynt hawl iddi drwy nifer o gamau: yr ymgyrch derbyn budd-daliadau 'Hawliwch yr Hyn sy’n Ddyledus i Chi', y gronfa gynghori sengl, darparu hyfforddiant am ddim i weithwyr rheng flaen a chyflawni'r ymrwymiadau yn siarter budd-daliadau Cymru.
Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ariannu gwasanaethau cyngor lles cymdeithasol yn elfen allweddol o'n gwaith gwneud y gorau o incwm. Mae gwasanaethau cynghori yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu pobl i gael mynediad at eu hawliau i dai, cyflogaeth a chymorth ariannol, ac mae'n un o amcanion allweddol y strategaeth tlodi plant. Rhwng Ionawr 2020 a Medi 2024, mae gwasanaethau a ddarperir trwy'r gronfa gynghori sengl wedi helpu pobl i hawlio incwm ychwanegol o dros £160 miliwn. Hefyd, mae dyledion o £43.6 miliwn wedi'u dileu.
Yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, roedd 76 y cant o bobl sy'n defnyddio gwasanaethau yn dod o grŵp poblogaeth ymylol neu ddifreintiedig, gan gynnwys pobl hŷn, pobl anabl a phobl o gymunedau du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol. Dyma'r grwpiau poblogaeth hefyd nad ydynt yn cyrchu eu hawl i gymorth ariannol, a dyna pam mae pawb sy'n cyrchu un gwasanaeth cronfa gynghori yn cael sgwrs am eu hawliau i hawlio incwm ychwanegol a sut mae arbed arian ar eu gwariant hanfodol, er enghraifft trwy gael mynediad at dariffau cymdeithasol.
Mae'r dull hwn nid yn unig yn dileu'r ddibyniaeth ar bobl yn gwybod pa gymorth ariannol sydd ar gael iddynt, ond mae hefyd yn dileu'r stigma sy'n gysylltiedig â pherson yn gofyn am help gyda chyllid. Ni ellir goramcangyfrif y manteision i bobl o gael mynediad at un gwasanaeth cronfa gynghori, ac rwyf wedi ymrwymo £36 miliwn ar gyfer darparu gwasanaethau cynghori dros y tair blynedd nesaf. Ym mis Rhagfyr, cyhoeddais y darparwyr a fydd yn darparu gwasanaethau'r gronfa gynghori sengl o fis Ebrill 2025, ac mae'r cynnig o ddyfarniad grant tair blynedd i'r darparwyr hyn yn dangos yn glir ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaethau cynghori.
Mae'r ymgyrch derbyn budd-daliadau 'Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi' yn annog pobl nad ydynt fel arfer yn defnyddio gwasanaethau cynghori i wirio eu hawl i gael cymorth ariannol trwy gysylltu â llinell gymorth Advicelink Cymru. Mae'r llinell gymorth yn rhan o'r model darparu cronfa gynghori sengl sy'n cydnabod bod gan bobl nifer o broblemau lles cymdeithasol yn aml. Pan fydd person yn cysylltu â'r llinell gymorth, bydd yr ymgynghorydd yn ei helpu i nodi unrhyw broblemau eraill sydd ganddo. Y llynedd, cafodd y 36,800 o bobl a gysylltodd â'r llinell gymorth help i ddatrys 120,000 o broblemau yr oeddent wedi'u cael gyda'u hawliau ariannol, tai, cyflogaeth neu reoli dyledion. Ar hyn o bryd rydym yn cynnal pumed ymgyrch cyfryngau gyda negeseuon yn cael eu rhannu trwy ystod o sianeli cyfryngau, gan gynnwys teledu a radio, a bydd pobl yn dod o hyd i wybodaeth am eu hawliau ariannol ar Facebook a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol eraill.
Rwyf wedi ymrwymo i rymuso gweithwyr rheng flaen i wneud i bob cyswllt gyfrif, ac rwy'n gwybod bod gweithwyr rheng flaen yn ymgysylltu'n rheolaidd â phobl sydd ar eu colled o ran eu hawl i gymorth ariannol. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae dros 6,000 o weithwyr rheng flaen, sy'n cefnogi ystod eang o ddefnyddwyr gwasanaethau gan gynnwys teuluoedd, pobl sydd mewn swyddi cyflog isel, gofalwyr, pobl hŷn, myfyrwyr a phobl ifanc, wedi derbyn yr hyfforddiant rheng flaen hwn. Mae saith deg y cant wedi cadarnhau eu bod wedi defnyddio'r hyn a ddysgwyd drwy'r hyfforddiant i hysbysu defnyddwyr gwasanaethau am incwm ychwanegol. Rwyf wedi sicrhau bod cyllid ar gael ar gyfer rhaglen newydd o hyfforddiant am ddim ar wneud y gorau o incwm sydd i ddechrau yn y gwanwyn, sydd unwaith eto yn dangos ein hymrwymiad i wneud i bob punt gyfrif.
Dirprwy Lywydd, ynghyd â'n llwyddiant wrth godi ymwybyddiaeth pobl o gymorth ariannol a'u helpu i hawlio eu hawliau, rwy'n benderfynol o wneud y budd-daliadau, y grantiau a'r taliadau eraill a ddarperir gan Lywodraeth Lafur Cymru mor syml i'w hawlio ag y gallant fod. Mae'r gwaith yn cael ei lywio gan yr ymchwil a gyhoeddwyd gan Policy in Practice ym mis Mawrth 2023, 'Dull cyffredin o ymdrin â budd-daliadau Cymru', a gomisiynwyd gan Sefydliad Bevan. Ym mis Ionawr 2024, roeddwn yn falch o lansio siarter budd-daliadau Cymru a'i nod oedd sicrhau bod person dim ond yn gorfod adrodd ei stori unwaith i gael mynediad i'w hawliau. Cymeradwywyd y siarter gan bob un o'r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru mewn arddangosiad clir o'u hymrwymiad i weithio tuag at ddylunio a chyflawni budd-daliadau, grantiau a thaliadau yng Nghymru sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae grŵp llywio o arbenigwyr o awdurdodau lleol a'r trydydd sector yn gyrru'r gwaith hwn yn ei flaen.
Oherwydd cymhlethdod y gwaith sydd ei angen i symleiddio'r gwaith o gyflawni holl fudd-daliadau Cymru, mae'r grŵp llywio wedi mabwysiadu dull graddol gan ganolbwyntio ar nifer bach o fudd-daliadau allweddol yn gyntaf. Mae map llwybr cyfnod 1 yn cael ei gyhoeddi heddiw. Mae hwn yn nodi'r tasgau a wneir i sicrhau y gall pobl hawlio eu hawl i ostyngiad yn y dreth gyngor, prydau ysgol am ddim a'r grant hanfodion ysgol ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru erbyn mis Ebrill 2026. Bydd hyn o fudd i deuluoedd ledled Cymru. Cyflwynais y map llwybr cyfnod 1 i gyngor partneriaeth Cymru ym mis Tachwedd lle cafodd ei groesawu a'i gymeradwyo gan holl aelodau'r cyngor partneriaeth. Mae cyhoeddi map llwybr cyfnod 1 yn garreg filltir arwyddocaol yn ein gwaith i wella mynediad at fudd-daliadau Cymru ac, wrth i'r gwaith fynd rhagddo, byddwn yn dysgu gwersi a fydd yn llywio sut y caiff budd-daliadau a thaliadau eraill Cymru eu cyflwyno i'r rhaglen.
Dirprwy Lywydd, pan oedd y map llwybr yn cael ei ddatblygu, cydnabuwyd bod rhannu data a dadansoddi data yn rhwystrau rhag symleiddio'r broses o gyflwyno budd-daliadau Cymru a hefyd yn rhwystr a oedd yn atal pobl rhag hawlio eu hawliau. Felly, rwy'n falch o gyhoeddi fy mod wedi darparu £550,000 ar gyfer prosiect peilot, sy'n ceisio nodi sut y gallwn ni ddileu'r rhwystrau hyn. Mewn cynllun peilot 12 mis, a ddechreuodd yr wythnos hon, mae 11 o awdurdodau lleol yn cael eu cefnogi gan y cwmni dadansoddi data Policy in Practice i ddadansoddi eu setiau data incwm i nodi a thargedu trigolion sydd ar eu colled o ran eu hawliau. Un o'r cyfranogwyr yn y cynllun peilot yw Cyngor Castell-nedd Port Talbot, sydd eisoes wedi ymgymryd â gwaith gyda Policy in Practice, gan sicrhau enillion incwm sylweddol i'r nifer sy'n derbyn credyd pensiwn. Rwy'n edrych ymlaen at weld canlyniadau'r cynllun peilot yn rhoi canlyniadau tebyg yn ogystal â dysgu gwerthfawr ar gyfer ein gwaith i symleiddio'r ddarpariaeth o fudd-daliadau Cymru, yn enwedig o ran llywodraethu data. A hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddiolch i aelodau grŵp pwyslais ar incwm arbenigol Llywodraeth Cymru a'r grŵp llywio symleiddio budd-daliadau Cymru.
Nod ein holl waith ar wneud y gorau o incwm yw rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl, gan eu helpu i dalu biliau'r aelwyd, osgoi mynd i ddyled a gwella eu llesiant ariannol. Ond rydym hefyd yn cefnogi economïau lleol ledled Cymru, lle bydd llawer o bobl yn gwario eu hincwm ychwanegol. Felly, dyma Lywodraeth Cymru yn cyflawni ar gyfer pobl Cymru.
Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd Cabinet. Rwy'n croesawu'r gwaith sy'n cael ei wneud i sicrhau bod pobl Cymru yn hawlio pob punt y mae ganddynt hawl iddi. Un llygedyn o obaith i ddod allan o benderfyniad dideimlad Llywodraeth y DU i ddileu'r taliad tanwydd gaeaf i'r rhai nad ydynt yn derbyn budd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd yw'r ffaith ei fod wedi sbarduno llawer o bobl hŷn i hawlio'r credyd pensiwn yr oedd ganddynt hawl iddo. Fel y dywedoch yn gywir, Ysgrifennydd Cabinet, mae tua £2 biliwn o gymorth ariannol heb ei hawlio gan deuluoedd ac unigolion mewn angen ledled Cymru. Bydd y gronfa gynghori sengl, ynghyd â'r ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd, yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod ein hetholwyr yn cael y gefnogaeth y maent ei hangen a'i haeddu. Nodaf, fodd bynnag, fod y gronfa gynghori sengl yn cael ei darparu ar sail ranbarthol, gyda chwe phartner rhanbarthol. Sut ydych chi'n sicrhau bod y gwasanaeth a ddarperir yn un gwasanaeth cyson ar draws Cymru gyfan?
Rwyf hefyd yn croesawu'r ymrwymiad i wneud i bob cyswllt gyfrif a chyflwyno hyfforddiant i weithwyr rheng flaen. Rydych chi'n dweud bod cyllid wedi'i sicrhau ar gyfer dechrau hyfforddiant newydd yn y gwanwyn. Allwch chi ymhelaethu ar y niferoedd dan sylw, o ran cronfeydd ond hefyd nifer y staff y disgwylir iddynt gael yr hyfforddiant hwn? Ysgrifennydd Cabinet, elfen allweddol o wneud i bob cyswllt gyfrif fyddai cynnwys staff yr Adran Gwaith a Phensiynau a'r rhai sy'n gweithio yn swyddfeydd y Ganolfan Byd Gwaith. Pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael gydag aelodau cyfatebol yn Llywodraeth y DU ynglŷn â'u rôl o ran cefnogi budd-daliadau Cymru?
O ran system budd-daliadau Cymru, mae'n siomedig ein bod yn dal yn bell o ddarparu system fudd-daliadau gydlynol ac integredig i Gymru ar gyfer yr holl fudd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanynt. Ddegawd ers y galwadau cyntaf, a blwyddyn ers lansio'r siarter, mae gennym fap ffordd o'r diwedd, ond nid yw ond yn ymwneud â thri o fudd-daliadau Llywodraeth Cymru. Ysgrifennydd Cabinet, pryd y byddwn yn gweld cyfnod nesaf y map ffordd?
Mae gennym grŵp llywio nad yw wedi cyfarfod ers cyn yr haf, os yw'r cofnodion a gyhoeddir ar eich gwefan yn gyfredol. Ysgrifennydd Cabinet, allwch chi nawr chwistrellu ymdeimlad o frys i'r gwaith hwn? Yn hytrach na chael cyfarfodydd i ddatblygu cynlluniau ar gyfer cynlluniau, allwn ni weld gweithredu?
Nodaf eich bod wedi sôn am y gwaith a wnaed gan gyngor CNPT yn fy rhanbarth i, sy'n gweithio gyda Policy in Practice i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar gredyd pensiwn. Pe byddent wedi aros am Lywodraeth Cymru, ni fyddai llawer o'r bobl oedrannus yn fy rhanbarth wedi derbyn y taliad tanwydd gaeaf. Ysgrifennydd Cabinet, rwy'n croesawu'r gwaith sy'n cael ei wneud, ond ni all pobl sy'n byw mewn tlodi aros 10 mlynedd arall i'r gwaith hwn gael ei gwblhau. Diolch yn fawr.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Diolch yn fawr, Altaf Hussain, a diolch am y gefnogaeth eang, rwy'n deall, i'r gwaith yr ydym yn ei wneud. Dyma'r gwaith rydym yn ei wneud i sicrhau bod pobl yng Nghymru yn hawlio pob punt y mae ganddynt hawl iddi. Er mwyn eich sicrhau chi, rydym wedi cael grŵp rhanddeiliaid pwyslais ar incwm sefydledig, sy'n cynnwys, byddwn i'n dweud, DWP—yr Adran Gwaith a Phensiynau, i yrru'r gwaith hwn yn ei flaen. Ac mae ein hymgyrchoedd yn cyflawni'r canlyniadau hynny.
Dim ond i ateb eich cwestiynau, telerau'r gronfa gynghori sengl—. Fe wnaethom gyflwyno'r gronfa gynghori sengl honno i sicrhau ein bod yn ariannu gwasanaethau sydd wedi'u cynllunio'n strategol. Yn wir, rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â'r rhwydwaith cynghori cenedlaethol, gan ddod â'r darparwyr hynny ynghyd. Rydym eisiau gwasanaeth di-dor a mynediad at yr holl gyngor a chymorth sydd eu hangen ar bobl i fynd i'r afael â'u hanghenion nhw. Ond hefyd, dim ond i ddweud, o ran sut rydym ni'n darparu'r gronfa gynghori sengl, mae'n cynnwys partneriaid cyngor a mynediad. Mae partneriaid mynediad yn ystod eang o sefydliadau cymunedol. Maent yn estyn allan at eu defnyddwyr gwasanaethau a'u grwpiau cymunedol lleol i sicrhau bod pobl yn gallu deall sut y gallant gael gafael ar y cyngor sydd ei angen arnynt. Rwyf wedi sôn am allgymorth pwysig y cyfryngau, sy'n bwysig o ran y dolenni i 'Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi'.
Mae'n bwysig, fel y dywedais, yn y flwyddyn ariannol, fod dros 70 y cant o'r bobl a ddefnyddiodd y gwasanaeth cynghori sengl yn dod o grwpiau blaenoriaeth, gan gynnwys pobl â namau neu broblemau iechyd meddwl, pobl â namau a phroblemau iechyd corfforol. Hefyd, dim ond i ddweud, yn bwysig, rydym wedi diogelu cyllideb y gronfa gynghori sengl gwerth £12 miliwn yng nghyllideb ddrafft 2025-26, ochr yn ochr â'r £1.9 miliwn ychwanegol a gawsom o gyfran yr ardoll ddyled, sydd wedi ein galluogi i barhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyngor gwybodaeth. Ac rwy'n tynnu sylw at y datganiad ysgrifenedig a wnes i ar 12 Medi, sy'n rhoi mwy o wybodaeth i chi am ganlyniad yr ymarfer grant agored a lansiwyd gennym i sicrhau bod y darparwyr gennym ni.
Rwy'n credu bod yr hyfforddiant i weithwyr rheng flaen ar wneud y gorau o incwm wedi profi'n hynod werthfawr. Yn wir, rwy'n cofio bod hyn yn rhywbeth a ddaeth i'r amlwg yn benodol pan wnaethom gydnabod effaith yr argyfwng costau byw. Buom yn gweithio ar hyn yn ystod y cyfnod o gyni, gyda chyllid cyhoeddus cyfyngedig iawn. Mae gwasanaethau rheng flaen yn chwarae rhan hanfodol yng Nghymru. Mae hon wedi bod yn ymyrraeth lwyddiannus, gyda thros 6,000 o weithwyr rheng flaen yn derbyn hyfforddiant yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Felly, fel y dywedais yn fy natganiad, rwyf wedi ariannu rhaglen hyfforddi newydd, a fydd yn cychwyn yn fuan, a bydd hynny'n cryfhau effaith hynny. Rydym wedi sicrhau bod £300,000 ar gael ar gyfer rhaglen ddwy flynedd—hyfforddiant am ddim ar wneud y gorau o incwm—i weithwyr rheng flaen o fis nesaf ymlaen. Mater i'r gweithwyr rheng flaen hynny yw meithrin yr wybodaeth honno am systemau cymorth ariannol.
Peth diddorol arall yw fy mod wedi cwrdd â benthycwyr cyfrifol yr wythnos diwethaf o ystod o sefydliadau, fel undebau credyd, ond benthycwyr cyfrifol hefyd yn y sector bancio, a buom yn siarad am bwysigrwydd cael gwiriadau budd-daliadau, bod pobl yn cael eu hyfforddi i allu gwneud hynny ar y rheng flaen. Ac rwy'n cofio, pan ddechreuon ni weithredu ar fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw, ein bod ni wedi siarad tipyn am y ffaith bod pob cyswllt yn cyfrif. Rwy'n credu, mewn gwirionedd, fod Lynne Neagle, yn ei rôl weinidogol flaenorol ar gyfer iechyd y cyhoedd, wedi gweld pwysigrwydd galluogi ac annog pobl i fanteisio ar dalebau Cychwyn Iach ac wedi cefnogi hyfforddi ymwelwyr iechyd, oherwydd, yn amlwg, mae ymwelwyr iechyd yn hanfodol i rieni newydd, ac arweiniodd hynny at lawer yn derbyn talebau Cychwyn Iach, sy'n hanfodol bwysig o ran atal tlodi.
O ran y mater a godoch ynglŷn â siarter budd-daliadau Cymru, wel, fe gwrddais i—rwy'n credu fy mod eisoes wedi ei ddweud yn fy natganiad—y bartneriaeth llywodraeth leol—dyna'r holl arweinwyr—cyn y Nadolig, i'w diweddaru wrth i ni baratoi i adrodd, fel rwy'n gobeithio fy mod i heddiw, ar gyfnod 1. Dyma'r 22 o awdurdodau i gyd yn cymeradwyo'r siarter. Roeddwn yn falch iawn o lansio'r siarter ym Mlaenafon, dan arweiniad cyngor Torfaen. Yn wir, fe wnes i ei chymeradwyo yno a'i lansio gyda Siân Gwenllian, gan fod hyn yn rhan o'n cytundeb cydweithio. Gwnaethom gwrdd â phob un o'r rheini sy'n rhoi'r cyngor hwnnw. Mae'n ddarpariaeth grantiau a thaliadau budd-daliadau Cymru sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Ond mae'n bwysig ein bod yn helpu awdurdodau lleol i symud tuag at y pwyslais hwn ar ddarpariaeth fwy cydlynol o fudd-daliadau, grantiau a thaliadau yng Nghymru sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan ei fod yn golygu mewn gwirionedd bod newid diwylliannol o ran sut maen nhw'n ymateb i hyn, cael pob awdurdod i symud i'r un cyfeiriad a symleiddio budd-daliadau Cymru.
Felly, rwy'n falch iawn o'r cynnydd rydym wedi'i wneud ers mis Ionawr diwethaf. A'r map ffordd cyfnod 1 hwn yw'r dull realistig. Oes, mae rhai awdurdodau eisoes yn gwneud hyn. Mae hon yn daith. Felly, rwy'n credu, er i ni ddweud erbyn mis Ebrill 2026, mae'r bobl hyn—. Ac fe wnes i gyfarfod â'r grŵp llywio, gallaf eich sicrhau, cyn y Nadolig hefyd, a'r grŵp llywio yw'r bobl sydd mewn gwirionedd yn darparu'r hawliau hynny ar lefel awdurdod lleol. Fe wnes i gyfarfod â'r grŵp llywio, ac maent yn gweithio i sicrhau y gallwn ni gyflawni'r canlyniadau hyn. Mae cyfnod 1 yn garreg filltir allweddol yn y gwaith, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig mai dim ond dechrau'r daith yw hon wrth i'r gwaith fynd rhagddo.
Diolch am y diweddariad ar y gwaith hanfodol yma. Mae'n flwyddyn gyfan ers i chi lansio'r siarter, fel y gwnaethoch chi sôn, a dwi'n meddwl bod y cwestiynau ynglŷn â pham rŷn ni angen y siarter wedi'u hen ateb. Rŷn ni wedi cael digon o ymchwil gan bobl fel Policy in Practice, gan y Sefydliad Bevan, a hynny ers bron i ddegawd—degawd o Lywodraeth Lafur yng Nghymru, a phobl Cymru yn dioddef dan effeithiau llymder Torïaid San Steffan.
Fe wnaethoch chi sôn, flwyddyn yn ôl, yn eich datganiad bryd hynny, ei bod hi nawr yn amser i weithredu, i gyflawni, ac fe ddywedon ni, ar y meinciau yma, 'Amen i hynny.' Ond fe wfftioch chi ein galwad ni i'r system fod yn un statudol er mwyn sicrhau bod y gwaith yn cael ei gyflawni'n brydlon gan bob awdurdod lleol. A dyma ni flwyddyn yn ddiweddarach ac rŷn ni’n dal heb gyflawni cam 1. Roedd y cynllun gweithredu i fod yn barod cyn haf y llynedd, ac o gofio am y rhybudd rŷn ni wedi'i glywed gan arweinwyr cyngor ers i chi gyhoeddi eich cyllideb ddrafft fod yna dwll du enfawr o £0.5 biliwn yn eu cyllid, sy'n mynd i olygu bod toriadau a diswyddiadau yn bosib iawn. Felly, ŷch chi wedi cael sicrwydd y bydd capasiti ac adnoddau digonol ganddyn nhw i gyflawni cyfnod un y gwaith yma yn brydlon, heb sôn am fwrw ymlaen a sicrhau bod y cynllun yn ei gyfanrwydd yn cael ei wireddu? Mae £550,000 yn ychwanegol yn cael ei ddyrannu i gefnogi'r gwaith yma nawr gan Policy in Practice i edrych ar y rhwystrau, fel gwnaethoch chi eu disgrifio nhw. Ydy hyn yn ddigonol, o gofio, fel dywedodd Trussell mewn tystiolaeth i'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn sgil y sefyllfa argyfyngus sydd ohoni o ran tlodi, fod angen i Lywodraeth Cymru gyflymu ei hymdrechion i roi ymrwymiadau'r siarter ar waith? Mae'n bryderus taw dim ond 11—dim ond hanner—ein hawdurdodau lleol sydd am ymuno yn y fenter newydd yma gyda Policy in Practice. Ydy hynny'n foddhaol, Ysgrifennydd Cabinet? Mae yn codi cwestiynau, dwi'n meddwl, ar allu awdurdodau lleol i ymrwymo i'r gwaith hollbwysig yma.
Hoffwn hefyd drafod mater mae Sefydliad Bevan wedi bod yn codi, sef yr angen dirfawr i adolygu'r trothwyon cymhwysedd ar gyfer budd-daliadau Cymreig. Os nad ŷch chi'n cynyddu'r trothwyon cymhwysedd yn rheolaidd, dyw e ddim yn mynd i gwrdd ag anghenion y bobl rŷch chi eisiau eu cefnogi, wrth gwrs; mae'n rhaid i chi fod yn dlotach ac yn dlotach ac yn dlotach er mwyn bod yn gymwys ar gyfer cefnogaeth, ac mae'n cosbi gweithwyr incwm isel am fynd mas ac ennill eu tamaid. Felly, gadewch i ni eich atgoffa hefyd, yn y gorffennol, mae Llywodraeth Cymru wedi annog Llywodraeth San Steffan dro ar ôl tro i uwchraddio trothwyon cymhwysedd budd-daliadau yn flynyddol. Felly, ydych chi'n mynd i arwain trwy esiampl? Pam nad ŷch chi wedi gwneud yr un peth gyda'ch grantiau a'ch lwfansau eich hun? Eich ateb chi ddoe i'r cwestiwn yna yn y pwyllgor oedd yn craffu ar eich cyllideb chi oedd cyfrifoldeb yr holl Weinidogion yn Llywodraeth Cymru yw hyn; wel, chi yw'r Ysgrifennydd Cabinet ddylai fod yn cynnig arweiniad, felly pa sgyrsiau sydd wedi digwydd am hyn gyda'ch cyd-Weinidogion wrth osod y gyllideb ddrafft?
Wrth ymateb i gwestiynau llefarydd y Ceidwadwyr wrth lansio'r siarter y llynedd, gwnaethoch chi feirniadu system fudd-daliadau Llywodraeth San Steffan a'r newidiadau i amodau hawlio credyd cynhwysol, a'r modd roedden nhw'n defnyddio mesurau fel sancsiynau i orfodi pobl i mewn i swyddi nad oeddent o reidrwydd yn addas iddyn nhw. Felly, ydych chi wedi bod yn cyfleu'r un anfodlonrwydd a dicter i'ch chwaer Lywodraeth Lafur, gan eu bod nhw'n parhau â'r drefn yma? Ydych chi wedi codi'r ffaith bod diwygiadau creulon y Torïaid i'r asesiadau gallu i weithio ar gyfer pobl anabl yn cael eu cadw nawr gan Lywodraeth Keir Starmer, yr hyn sydd wrth gwrs wedi anelu at leihau nifer y bobl sy'n gymwys ar gyfer cymorth budd-daliadau?
Felly, modd o gyflawni nod, onid yw e, yw'r system fudd-daliadau. Y nod yw sicrhau bod teuluoedd sydd ar incwm isel yn derbyn cefnogaeth yn amserol, yn urddasol, yn drugarog. Mae'n fesur i atal effeithiau niweidiol a hirdymor tlodi, niwed sy'n effeithio gymaint yn nhermau dynol a hefyd yn ariannol. Mae'n achubiaeth, nid yn addewid wedi'i ohirio neu gynllun sy'n hel lluwch. Felly, beth yw dyddiad targed Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithredu system budd-daliadau Cymru llawn ar gyfer pob grant a lwfans sydd ar gael drwy awdurdodau lleol a'r Llywodraeth? Mae tlodi yn dileu breuddwydion. Mae angen i ni wneud popeth yn ein gallu i atal hynny.
Diolch yn fawr, Sioned Williams, a diolch i chi nid yn unig am gydnabod bod hwn yn waith hanfodol, ond am y gefnogaeth a roesoch chi ac yr ydym ni wedi elwa'n ffurfiol ohoni o ran y cytundeb cydweithio a lansio'r siarter budd-daliadau hon i Gymru y llynedd. Ac wrth gwrs, rwy'n cofio'r ffaith ein bod ni wedi trafod yn y Siambr hon ar fwy nag un achlysur bwysigrwydd ymateb i waith Policy in Practice a gomisiynwyd gan Sefydliad Bevan. Yn wir, soniais i amdano yn fy natganiad, oherwydd mae mor bwysig ein bod ni yn symud ymlaen gyda'r dystiolaeth ynglŷn â sut y gallwn ni gael pobl Cymru i hawlio'r hyn sy'n ddyledus iddyn nhw. 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi'—yr ymgyrch manteisio ar fudd-daliadau, rwy'n meddwl, fu'r derminoleg gywir erioed; 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi'.
Mae a wnelo hyn â rhywbeth a ddywedodd Altaf Hussain, ei fod yn ymwneud â hawl, mae'n ymwneud â hawliau, ac roedd cydnabyddiaeth gref ynghylch cynnydd mewn ceisiadau am gredyd pensiwn oherwydd y gydnabyddiaeth bod pobl hŷn yn gweld hyn fel hawl. Mewn gwirionedd, mae hynny wedi ei gydnabod yn y cynnydd enfawr yn nifer y ceisiadau.
Felly, mae siarter budd-daliadau Cymru yn gam mawr ymlaen. Mae'n destun diddordeb mawr nid yn unig gan Lywodraeth y DU, mae'n rhaid i mi ddweud—fe ddof i at hynny o ran eu hymatebion—ond hefyd gan Lywodraeth yr Alban. Dyna ichi'r ffaith bod gennym ni'r holl awdurdodau lleol ynghyd yn dangos eu hymrwymiad i gyflawni ar gyfer pobl Cymru. Wrth gwrs, rwy'n cofio'r ddadl am orfodi a gyflwynoch chi i'r Siambr o ran y llwybr statudol i'r siarter y gellid ei ystyried, ond roeddem yn teimlo, a dywedais bryd hynny ac rwy'n dal i deimlo, nad oes angen gorfodi'r siarter oherwydd bod pob awdurdod lleol yng Nghymru yn ymrwymo i gyflawni'r siarter budd-daliadau wrth i ni ei datblygu. Hyd yn oed pe bai'n orfodol, byddwn i'n dweud y byddai dal angen arnyn nhw, a byddai'n rhaid i ni fod yn cydnabod hyn—. Byddai angen gwneud gwaith paratoi i wneud cynnydd, a byddai angen adnoddau ychwanegol i sicrhau bod awdurdodau lleol yn cyflawni eu dyletswyddau cyfreithiol.
Rwy'n credu os gallwn ni symud ymlaen mewn ffordd gydweithredol, yr ydym ni'n ei wneud gyda llywodraeth leol—cefnogol, cydweithredol, cyflawni eu hymrwymiadau, atebion wedi'u teilwra sy'n parchu nodweddion unigryw awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae rhai o'ch negeseuon yn bwysig iawn i lywodraeth leol yn ogystal ag i mi fy hun, oherwydd, yn amlwg, maen nhw'n cymryd rhan frwd a gweithgar yn hyn.
Ac mae'n ddiddorol, dim ond o ran fy natganiad heddiw, fod y Cynghorydd Anthony Hunt, llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru dros gyllid, wedi dweud:
'Rydym yn llwyr gefnogi ymdrechion Llywodraeth Cymru i helpu pobl i hawlio'r cymorth ariannol y mae ganddynt hawl iddo. Gall sicrhau bod teuluoedd ac unigolion yn cael y budd-daliadau y maent yn gymwys ar eu cyfer wneud gwahaniaeth gwirioneddol, yn enwedig yn ystod cyfnodau anodd.... Trwy ei gwneud yn haws i bobl gael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt, gallwn nid yn unig wella lles ariannol unigolion ond hefyd gryfhau cymunedau'.
'Mae CLlLC wedi ymrwymo i weithio gydag awdurdodau lleol, grwpiau cymunedol a phartneriaid i symleiddio'r broses hawlio a helpu pobl i ddeall y gefnogaeth sydd ar gael.'
Rwy'n credu na allech chi gael cymeradwyaeth gliriach o siarter budd-daliadau Cymru gan arweinydd y cabinet dros gyllid, ac, fel y dywedais i, rwyf wedi cwrdd nid yn unig â'r arweinwyr a'r cyngor partneriaeth ond hefyd y grŵp llywio sy'n gwneud y gwaith i ddeall sut y gallwn ni ddefnyddio'r map llwybr cam 1 hwn. Ac i'n hatgoffa ni, mae'n ymwneud â sicrhau mai dim ond unwaith y bydd angen i bobl hawlio am ostyngiad yn y dreth gyngor, prydau ysgol am ddim a grantiau hanfodion ysgolion, ac, fel y dywedais i, maen nhw i gyd ar y gweill, mae ganddyn nhw i gyd amserlen i'w cyflawni, ond mae llawer eisoes wedi eu cyflawni.
Rwy'n credu, o ran deall y gwahaniaeth gyda'r cynllun peilot rwy'n ei gyhoeddi heddiw, flwyddyn yn ôl nid oeddem wedi meddwl am y cynllun peilot hwn. Mae'n rhaid i mi ddweud bod hwn yn rhywbeth lle rydym ni wedi dysgu nid yn unig o bapur gwreiddiol Policy in Practice, gyda chefnogaeth Sefydliad Bevan, ond rwyf wedi cwrdd â Policy in Practice fwy nag unwaith, yn enwedig ar ôl i ni ddeall bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn gwneud cynnydd o ran cyflwyno Policy in Practice i'w helpu gyda'r niferodd sy'n hawlio credydau pensiwn.
O ganlyniad i hynny, fe wnaethom ni edrych, fe wnes i edrych, am rywfaint o gyllid y gallem ni ei ddarparu i dalu Policy in Practice i ddarparu'r offeryn dadansoddol hwnnw. Mae'n offeryn olrhain teuluoedd incwm isel, a'r hyn y bydd yn ei wneud yw galluogi awdurdodau lleol i adnabod preswylwyr sydd â hawl i amrywiaeth o gymorth ariannol, gan gynnwys holl fudd-daliadau yr Adran Gwaith a Phensiynau sy'n destun prawf modd, credyd pensiwn, credyd cynhwysol, a budd-daliadau Cymru, prydau ysgol am ddim, grant hanfodion ysgolion, cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, help gyda chostau gofal iechyd.
Mae gennym 12 sydd wedi dod ymlaen yn dweud yr hoffen nhw fod yn rhan o'r cynllun peilot hwn, ond hefyd mae dau arall eisoes yn gweithio gyda Policy in Practice—roedd llawer o ddiddordeb pan gawson ni'r adroddiadau ar y nifer sy'n derbyn credyd pensiwn yn ffafriol iawn. Felly, rwy'n credu ein bod ni'n cymryd camau breision ac mewn gwirionedd, dywedodd cyfarwyddwr a sylfaenydd Polisi in Practice:
'Rydyn ni'n falch iawn o fod yn bartner gyda Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i roi £2 biliwn o fudd-daliadau a chymorth heb ei hawlio yn rhagweithiol ym mhocedi pobl Cymru.'
Dyna ddatganiad gan gyfarwyddwr Policy in Practice.
Yn olaf, fe hoffwn i ddweud ein bod yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU ar y materion hyn. Mae gennym ni dasglu tlodi plant Llywodraeth y DU. Maen nhw'n canolbwyntio ar leihau nifer y plant mewn tlodi cymharol ar ôl costau tai, lleihau nifer y plant sy'n mynd heb hanfodion, gan roi'r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn. Ac maen nhw wedi canolbwyntio—. Mae eu pwyslais cychwynnol, a gefnogais yn fawr, ac rwy'n cyfarfod ar sail pedair gwlad gydag Ysgrifennydd y Cabinet o Lywodraeth yr Alban, Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, yn ogystal â Gweinidogion Llywodraeth y DU, yn canolbwyntio ar gynyddu gwytnwch ariannol, sef prif amcan ein strategaeth tlodi plant, cynyddu incwm, gwell cefnogaeth leol, yn enwedig canolbwyntio ar flynyddoedd cynnar plant, a'r gwaith rydyn ni'n ei wneud ar gynyddu incwm i'r eithaf. Ac mae'r pedair gwlad yn cyfarfod—. Rydym ni wedi cael sawl cyfarfod eisoes, ac rwyf wedi bod yn hyrwyddo ein hamcanion a'n blaenoriaethau yn ein strategaeth tlodi plant. Rwyf wedi bod yn hyrwyddo'r materion a'r pryderon. Rwyf wedi bod yn codi blaenoriaethau ar gyfer buddsoddi, yn enwedig ar ddiwygio lles a thariffau cymdeithasol, gan ofyn am fwy o gydweithio rhwng ein Llywodraethau ac awdurdodau lleol a sefydliadau sy'n gweithredu yng Nghymru i fynd i'r afael â thlodi.
Diolch am y diweddariad, Ysgrifennydd Cabinet.
Rwy'n croesawu'n fawr y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran cynyddu incwm ac o ran y nifer sy'n manteisio ar hyn, yn ogystal â'r ymrwymiad a'r gefnogaeth barhaus i fentrau fel y gronfa cymorth dewisol ac argyfwng. Mae eich datganiad heddiw yn cyfeirio'n benodol at bobl o grwpiau difreintiedig o'r boblogaeth, fel pobl hŷn ac anabl. Fe hoffwn i grybwyll heddiw beth mwy, o bosibl, y gall Llywodraeth Cymru ei ystyried i gynorthwyo'r grwpiau hyn yn benodol, ac, wrth wneud hynny, tynnu sylw at rai cynigion gan Uno'r Undeb. Ac yn hynny o beth, Llywydd, rwy'n datgan fy mod yn aelod balch o Uno'r Undeb. Ond maen nhw yn cyflwyno nifer o awgrymiadau, boed hynny'n help penodol i bensiynwyr sy'n derbyn budd-dal tai neu bensiynwyr anabl, neu yn gais i gronfa ganolog, neu hyd yn oed dim ond addasiadau i'r taliadau cymorth brys. Ysgrifennydd Cabinet, a gaf i ofyn a yw hyn yn rhywbeth efallai y byddech chi'n fodlon rhoi ystyriaeth bellach iddo? Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr, Hannah Blythyn. Wel, rwy'n croesawu gwaith Uno'r Undeb yn fawr, ac a gaf i gynnig cwrdd â nhw i drafod hyn ymhellach i weld beth allwn ni ei wneud o fewn y grymoedd sydd gennym ni? Rwy'n siŵr y bydd ganddyn nhw ddiddordeb mawr yn siarter budd-daliadau Cymru. Ond rwy'n credu bod y cynllun peilot rydym ni'n bwrw ymlaen ag e nawr, fel rydw i wedi'i ddisgrifio, gyda 12, 14, ac eraill yn ymuno, i wneud yn siŵr bod ganddyn nhw'r dadansoddiad data hwnnw, felly, darganfod mewn gwirionedd pwy sydd â hawl i beth—fe ddylen ni wybod hyn, oni ddylen ni—ac edrych ar a gallu targedu'r bobl hynny, fel y gallan nhw dderbyn yr holl fudd-daliadau sy'n ddyledus iddyn nhw—. Felly, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gwrdd ag Uno'r Undeb i drafod hyn ymhellach.
Diolch, Trefnydd, am y datganiad heddiw.
Fe hoffwn i ategu'r holl bwyntiau a godwyd gan fy nghyd-Aelod, Sioned Williams. Rwy'n credu bod angen eglurder arnom ni, serch hynny, dim ond o ran y cyllid a'r sefyllfa. Roeddech chi'n cyfeirio ar ddechrau eich datganiad at y gronfa gynghori sengl, ond, fel y gwyddom ni, ni fydd yn mynd mor bell ag y gwnaeth o'r blaen oherwydd y cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol. Rydym ni wedi clywed yr holl rybuddion gan Gyngor ar Bopeth am yr hyn y mae'r cynnydd hwnnw'n ei olygu o ran faint o gynghorwyr y byddan nhw'n gallu eu cyflogi yn y dyfodol. Felly, pa asesiad rydych chi wedi'i wneud, wrth lansio hyn, o effaith newidiadau eraill a sut y bydd y cyllid mewn gwirionedd yn gallu cyflawni'r dyheadau y tu ôl i'r hyn rydych chi'n ei lansio? Yn amlwg, mae gennych chi ein cefnogaeth lawn o ran bod eisiau cyflawni hyn, ond fe hoffwn i ddeall pa oblygiadau sydd yna o ran y sefyllfa yswiriant gwladol.
Diolch yn fawr iawn. Diolch yn fawr, Heledd. Rwyf eisoes wedi sôn am y ffaith fy mod i wedi diogelu'r gronfa gynghori sengl. Ni allaf ddweud wrthych chi pa mor falch y bu'r ymateb fod honno bellach yn ffrwd ariannu tair blynedd warantedig. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn o ran cyflawni ein cod ymarfer ar gyfer y trydydd sector, ond hefyd ein bod wedi cael y £1.9 miliwn ychwanegol hwnnw o'n cyfran o'r ardoll ddyledion, a bydd hynny'n cyfrannu at gyllid ychwanegol i fuddsoddi mewn gwasanaethau gwybodaeth a chyngor.
Yn amlwg, rydym ni'n gweithio gyda'r trydydd sector o ran cyhoeddiadau diweddar, effeithiau yswiriant gwladol, ond yn fy mhortffolio i, fel y dywedais i ddoe yn y gwaith craffu drafft ar y gyllideb yn y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, cafwyd cynnydd o 7 y cant o ran cefnogaeth i seilwaith y trydydd sector a chynnydd o 3 y cant ar draws yr holl sefydliadau trydydd sector yr wyf yn eu cefnogi, gan gynnwys cydraddoldeb, cynhwysiant a gwasanaethau arbenigol. Felly, rwy'n ffyddiog y bydd y trydydd sector a darparwyr y gronfa gynghori sengl yn gallu cyflawni hyn.
Rwyf wedi sôn am y gefnogaeth mewn perthynas â'm datganiad heddiw. A gaf i ddyfynnu Dylan Jordan, cynghorydd yn Cyngor ar Bopeth Pen-y-bont ar Ogwr? Dywed:
'Mae llawer o bobl yn dod i Gyngor ar Bopeth sydd eisiau help ond ddim yn gwybod ble i ddechrau. Rydym ni'n gwirio eu bod yn cael yr arian y mae ganddyn nhw'r hawl iddo ac unrhyw gymorth brys sydd ei angen arnyn nhw ar hyn o bryd. Efallai ei fod yn barsel bwyd, taleb tanwydd'—
wrth gwrs, hefyd, nid wyf wedi sôn am bartneriaeth y Fuel Bank Foundation, yr ydym ni wedi rhoi mwy o arian ynddi—
'neu ychydig bach o help gyda chost gwisgoedd ysgol drwy Lywodraeth Cymru.'
Ac yna meddai Dylan,
'Byddwn yn gwneud ein gorau i'ch helpu i symud ymlaen.'
Felly, rwy'n credu fy mod wedi cael y cymorth hwnnw o bob rhan o'r sectorau i sicrhau bod pobl yn hawlio'r hyn sy'n ddyledus iddyn nhw. Rwy'n gobeithio fod hynny'n rhoi sicrwydd ichi.
Rwy'n adleisio llawer o'r sylwadau a wnaed mewn perthynas â hyn, mae'n wych ei weld yn digwydd, ond nid yw'n ymddangos bod y geiriau 'cyflymder' a 'sylweddol' yno. Fe gawsom ni'r addewid hwn ers blwyddyn. Rydym ni nawr yn gweld tri budd-dal yn dod at ei gilydd, nid ar gyfer mis Ebrill eleni, ond ar gyfer mis Ebrill nesaf, ar gyfer mis Ebrill 2025. Mae'n wych clywed bod y sefydliadau yn gefnogol, ond, mewn gwirionedd, rwy'n siŵr y byddent i gyd eisiau gweld hyn yn digwydd yn gynt o lawer a'i weld ar raddfa fwy sylweddol hefyd.
Amlygodd Sefydliad Bevan, fel y gwyddoch chi, wrth y Pwyllgor Cyllid yn ddiweddar na fu newid ers blynyddoedd yn y meini prawf cymhwysedd ar gyfer budd-daliadau allweddol, ac fel y dywedodd Sioned, mae angen i deuluoedd fod yn dlotach nag erioed i fod yn gymwys i gael cymorth sy'n crebachu. A chydag arafwch cyflwyno'r siarter hon, mae hynny'n mynd i'w gymhlethu mewn gwirionedd.
Mae llywodraeth leol yn ei erbyn; ni allan nhw ysgwyddo rhagor o faich. Ni allwn ni ddisgwyl iddyn nhw greu mwy o gymhwysedd er mwyn cyflawni hyn. Felly, a allech chi roi gwybod i mi, os gwelwch yn dda, sut y byddwn yn cael y maen yma i'w wal? Pryd mae cam 2 yn dod? A allwch chi ystyried y sylwadau o'r Siambr bod angen i hyn ddigwydd yn llawer cyflymach, ac mae arnom ni angen iddo fod yn llawer mwy sylweddol? Diolch. Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr, Jane Dodds. Wel, nid wyf wedi enwi'r holl awdurdodau sydd wedi dod i mewn i'n peilot, ond mae Powys, mae'n rhaid i mi ddweud, yn un ohonynt, ac rwy'n siŵr y byddwch yn falch o glywed hynny. Rwy'n sicr yn barod i gofnodi'r holl awdurdodau sy'n ymwneud â'n cynllun peilot, sydd, yn fy marn i, yn ychwanegol, fel y dywedais i, i gyflwyno cam siarter budd-daliadau 1 Cymru. Rwy'n credu bod yn rhaid cydnabod y ffaith ein bod yn gwneud mwy nag y dywedom ni y byddem yn ei wneud flwyddyn yn ôl.
Felly, o ran graddfa, mae pob un o'r 22 awdurdod lleol yn cymryd rhan, ac rydym yn gweithio gyda nhw mewn cydweithrediad i gyflawni'r cam cyntaf hwnnw. A'r cam cyntaf hwnnw, os gall pobl lwyddo i gael y droed honno trwy'r drws i hawlio tri budd-dal ar yr un pryd, bydd hynny'n gwneud gwahaniaeth enfawr o ran y nifer sy'n manteisio arni. Ond hefyd, mae'n rhaid i mi ddweud, rydym yn edrych yn gyffredinol o ran y manteision y gallwn eu rhoi a'r gefnogaeth y gallwn eu rhoi, a ddoe roeddwn i'n gallu, er enghraifft, tynnu sylw at ein hymateb i Sefydliad Bevan a Chyngor ar Bopeth Cymru i roi cynnydd yn ein budd-dal oddi ar y grid, ac rwy'n siŵr y bydd gennych ddiddordeb ynddo o ran eich etholwyr, o ran taliadau'r Gronfa Cymorth Dewisol.
Felly, rwy'n credu ein bod yn gweithio'n gyflym, ond rydym yn gweithio ar y cyflymder y gall yr awdurdodau lleol ei reoli, a byddwn yn annog pobl i siarad â'u hawdurdodau lleol am eu hymrwymiad i gyflwyno cam 1 siarter budd-daliadau Cymru, ond hefyd eu hymrwymiad i ddysgu o'r cynllun peilot hwn, y mae dros hanner yr awdurdodau lleol yng Nghymru wedi tanysgrifio iddo. Rydym yn ei ariannu, rydym yn ariannu Polisi Ymarfer. Mae Polisi ar Waith yn credu y bydd hyn yn ein helpu i alluogi pobl yng Nghymru i hawlio'r £2 biliwn y mae ganddynt hawl iddo. A pha wahaniaeth y bydd hynny'n ei wneud i'w bywydau, bywydau eu teuluoedd, a'u cymunedau a'u heconomïau lleol.
Fe ddywedoch chi yn y fan yna eich bod yn mynd ar gyflymder y gall awdurdodau lleol ei reoli. Rydych chi wedi dweud bod 22 yn gefnogol, ond mai dim ond 50 y cant sy'n cyflawni mewn gwirionedd, ac mae gen i ddiddordeb yn yr agwedd gyflawni honno, yn enwedig gyda chyllid. Felly, mae'n rhaid i mi fynegi rhywfaint o bryder. Sut allwn ni ddisgwyl yn rhesymol i awdurdodau lleol barhau i ddarparu gwasanaethau anstatudol, fel siarter budd-daliadau Cymru, pan fydd eu sefyllfa ariannol yn ansicr iawn? Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth o'u hymrwymiad, ond mae a wnelo hyn â chyflawni. Felly, yr hyn yr hoffwn i ei ddeall yw'r hyn rydych chi wedi'i wneud i hybu'r yr 11 arall i gyflawni'r siarter. A pha agweddau eraill ydych chi wedi edrych arnyn nhw o ran rhoi sail statudol i hyd? Oherwydd os yw ar sail statudol ac y caiff ei ariannu'n iawn, yna bydd yn cyflawni. Mae gennych chi ymrwymiad ein bod yn eich cefnogi gyda hyn, ond mae arnom ni angen i chi edrych ar sut y caiff ei ariannu a sicrhau bod gweddill yr awdurdodau lleol yn ymuno. Felly, os gallwch chi ateb y cwestiynau hynny, os gwelwch yn dda.
Diolch yn fawr, Peredur. Wel, fe hoffwn i egluro'r ffaith bod gennym ni ymrwymiad gan bob un o'r 22 awdurdod lleol, a wnaed flwyddyn yn ôl, i siarter budd-daliadau Cymru, a cham 1, mae pob awdurdod lleol wedi ymrwymo iddo. Mae o ddiddordeb iddyn nhw. Mae arnyn nhw eisiau sicrhau bod eu dinasyddion yn cael mynediad at yr holl fudd-daliadau sy'n ddyledus iddyn nhw. Mae arnyn nhw eisiau sicrhau eu bod yn cael mynediad at gynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, y grant hanfodion ysgol a phrydau ysgol am ddim, bydd hyn yn enwedig yn eu helpu o ran eu holl amcanion i gefnogi pobl a theuluoedd a phlant yn eu cymunedau. Maen nhw i gyd yn barod am hynny, maen nhw i gyd yn ei ddarparu, ac mae llawer eisoes yn darparu'r cymorth cynhwysfawr hwnnw o ran y tri budd-dal hynny. Ond mae ganddyn nhw eu cynllun, ac wrth gydweithio â'n hawdurdodau lleol, fel y gwyddoch chi, credwn y gallant ddarparu'r 22 awdurdod cyfan dros y flwyddyn ariannol hon i gyflawni'r cam cyntaf hwnnw.
Ar wahân, ac yn ychwanegol at yr ymrwymiad hwnnw, rydym ni wedi ymateb i Policy in Practice a Sefydliad Bevan, ac yn wir i awdurdodau lleol fel Castell-nedd Port Talbot, sydd wedi defnyddio Policy in Practice—y teclyn dadansoddi data hwnnw—i helpu adnabod pwy yn eu cymunedau, yn eu hardaloedd cyngor, sydd â'r hawl i ystod eang o fudd-daliadau eraill. Felly, mae hwn yn ychwanegiad rwy'n ei gyhoeddi heddiw, y £550,000 hwn. Nid wyf am ailadrodd yr holl ddyfyniadau sydd gennyf, ond yn sicr cryfder y gefnogaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sy'n amlwg yn cynnwys awdurdodau lleol lle mae gennym ni gefnogaeth gan bob arweinydd ledled Cymru i gyflawni hyn. Ac mae'n gynllun peilot. Rwyf wedi sôn am y ffaith bod 12, efallai 14 nawr, yn ymuno o'u gwirfodd. Mae'n gynllun peilot y mae angen ei weld, ac mae Policy in Practice mor argyhoeddedig y bydd yn dangos y bydd defnyddio'r offeryn dadansoddi data hwn yn sicrhau y gallwn ni sicrhau yr hawlir yn amcangyfrif hwnnw o £2 biliwn o fudd-daliadau sydd heb eu hawlio yng Nghymru.
Diolch yn fawr i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Eitem 5 fydd nesaf, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cofrestru Etholiadol heb Geisiadau) (Cynllun Peilot) (Cymru) 2025 yw hyn, a dwi’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai i wneud y cynnig, sef Jayne Bryant.
Cynnig NDM8782 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cofrestru Etholiadol heb Geisiadau) (Cynllun Peilot) (Cymru) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Rhagfyr 2024.
Cynigiwyd y cynnig.
Cynnig.
O. Mick Antoniw.
Mae'n ddrwg gen i, oes angen i mi—?
Os oes gennych unrhyw beth i'w ddweud, dyma'ch amser i'w ddweud, Ysgrifennydd Cabinet.
Oes, mae gen i, Llywydd. Mae gen i.
Fe'ch galwaf nawr mewn munud.
Mae etholiadau yn hanfodol i'n democratiaeth, yn ogystal â sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn cymryd rhan yn ein democratiaeth. Rydym yn cydnabod y gall y broses o gofrestru i bleidleisio weithiau fod yn rhwystr i bobl gymryd rhan mewn etholiadau. Felly, mae arnom ni eisiau galluogi pleidleiswyr cymwys i gael eu hychwanegu at y gofrestr llywodraeth leol heb orfod gwneud cais i wneud hynny—y cyfeirir ato'n aml fel cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig. Rwy'n falch mai ni yng Nghymru yw rhan gyntaf y Deyrnas Unedig i gymryd y cam hwn. Yn y cyd-destun hwn rwy'n falch o fod yn dod â Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cofrestru Etholiadol heb Geisiadau) (Cynllun Peilot) (Cymru) 2025 ger eich bron chi heddiw. Edrychaf ymlaen at glywed barn cyd-Aelodau yn y Siambr.
Gwneir y rheoliadau o dan bwerau a roddwyd gan Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024. Rhoddodd y Ddeddf bwerau i Weinidogion Cymru ymgymryd â gweithgarwch peilot am gyfnod penodol o amser mewn un neu nifer o ardaloedd etholiadol. Mae'n nodi na ellir cychwyn rhai o ddarpariaethau'r Ddeddf yn llawn nes bod darpariaeth beilot wedi'i gwneud mewn rheoliadau ac mae adroddiad gan y Comisiwn Etholiadol i weithredu'r rheoliadau hynny wedi'i anfon at Weinidogion Cymru a'i gyflwyno gerbron Senedd Cymru.
Diben y rheoliadau yw caniatáu i dri awdurdod lleol—Casnewydd, Powys a Gwynedd—ymgymryd â'r gweithgaredd peilot hwn ynghylch cofrestru etholiadol heb gais. Mae sir Gaerfyrddin yn bedwerydd awdurdod sy'n gweithio o fewn y rhaglen beilot hon. Fodd bynnag, dylid nodi, gan na fydd sir Gaerfyrddin yn ychwanegu pobl at y gofrestr ei hun, nid yw wedi'i chynnwys yn y rheoliadau hyn. Rwy'n ddiolchgar i'r awdurdodau hynny, Cymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol a'r Comisiwn Etholiadol am eu gwaith yn cyd-gynhyrchu'r cynlluniau peilot hyn. Mae'r rheoliadau'n darparu y bydd y gweithgaredd peilot yn digwydd rhwng 17 Ionawr a 30 Medi 2025. Y bwriad yw caniatáu i awdurdodau lleol ddefnyddio'r data lleol presennol i nodi a gwirio etholwyr posibl, cyn eu hychwanegu at y gofrestr etholiadol sydd gan y llywodraeth leol. Rydym yn disgwyl i'r paru data hwn ddigwydd erbyn diwedd y gwanwyn.
Bydd etholwyr yn cael hysbysiad cofrestru a fydd yn eu hysbysu bod ganddyn nhw 60 diwrnod i hysbysu eu hawdurdod lleol os nad ydyn nhw'n dymuno cael eu cofrestru'n awtomatig, os ydyn nhw'n credu eu bod yn gymwys i gael eu cofrestru'n ddienw, neu os ydyn nhw'n credu nad oes ganddyn nhw hawl i gael eu cofrestru. Rydym yn disgwyl i'r llythyrau hyn gael eu cyhoeddi ddiwedd y gwanwyn neu ddechrau'r haf. Bydd yr hysbysiad cofrestru hwn hefyd yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol arall i'r etholwr, ac yn benodol, gan nodi'n glir y gwahaniaeth gyda chofrestru ar gyfer y gofrestr seneddol, ble byddai angen gwneud cais. Ni fyddai unrhyw un sy'n cael ei ychwanegu at y gofrestr llywodraeth leol ar gyfer y cynlluniau peilot hyn yn cael eu cofrestru'n awtomatig ar gyfer etholiadau Senedd y DU neu gomisiynwyr heddlu a throseddu. Gan y bydd y dull hwn o gofrestru ochr yn ochr â system gofrestru etholiadol unigol bresennol y DU, bydd y cynlluniau peilot yn rhoi cyfle gwerthfawr i ystyried y ffordd orau o osgoi drysu pleidleiswyr rhwng y ddau ddull cofrestru.
Un ystyriaeth allweddol arall o'r cynlluniau peilot yw deall effaith cofrestru heb gais ar grwpiau anodd eu cyrraedd, pleidleiswyr bregus ac yn enwedig y rhai sydd â sail i gofrestru'n ddienw. Mae swyddogion wedi cynnal gweithdai gyda sefydliadau sy'n cynrychioli grwpiau agored i niwed i amlinellu'r cynlluniau peilot ac i drafod y mesurau diogelu sydd ynddynt. Maen nhw'n awyddus i barhau i gwrdd ag unrhyw grwpiau eraill sydd â diddordeb yn y gwaith hwn.
Bydd y cynllun peilot hefyd yn gofyn am werthusiad llawn gan y Comisiwn Etholiadol, a gyflwynir i Weinidogion Cymru erbyn diwedd 2025. Bydd hyn yn caniatáu i Weinidogion Cymru ystyried a ddylid cyflwyno hyn ledled Cymru, a oes angen unrhyw addasiadau, a'r amserlenni cysylltiedig.
Fe hoffwn i ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ystyried y ddeddfwriaeth hon. Fe hoffwn i ddiolch hefyd i'r Senedd am drafod a chraffu ar Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024, sy'n darparu'r sail gyfreithiol i'r rheoliadau hyn. Arweiniodd hyn at welliannau defnyddiol, megis cynyddu'r cyfnod amser i etholwyr wrthwynebu cael eu cofrestru i 60 diwrnod, yn ogystal â mynnu bod y gofrestr agored yn cael ei dileu cyn y gellir gweithredu'r cofrestriad awtomatig yn llawn ledled Cymru. Edrychaf ymlaen at glywed barn yr Aelodau.
A gaf i ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am yr adroddiad? Rwy'n croesawu'r rheoliadau penodol hyn. Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, cafwyd adroddiad gan y Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus a oedd yn edrych yn union ar y mater hwn, gan ystyried y nifer isel iawn a bleidleisiodd yn etholiad cyffredinol y DU. Wrth gwrs, un o'u hargymhellion allweddol yw sefydlu trefn gofrestru awtomatig. Yr hyn a oedd yn siomedig iawn yn yr adroddiad yw nad oeddent yn sôn o gwbl am ba mor agos y mae'r Senedd at gyflwyno hynny. A dyna'r pwynt rwy'n ei wneud: mae hon yn ddeddfwriaeth gwbl arloesol i'r DU—ac, rwy'n credu, yn rhyngwladol—o ran sicrhau ein bod ni'n symud i sefyllfa lle mae'r 400,000 o bobl yng Nghymru sydd ddim ar y gofrestr etholiadol yn cael eu cynnwys mewn gwirionedd. Bydd yn rhoi'r etholfraint fwyaf democrataidd i ni, rwy'n credu, mewn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig. O ran y rheoliadau hyn, pa drafodaethau ydych chi'n eu cael gyda Llywodraeth y DU o ran y gwaith a wneir yng Nghymru fel y gall fod buddion yno, yn Lloegr a'r Alban—rwy'n gwybod eu bod yr un mor bryderus am gyflwr y gofrestr etholiadol, nifer y bobl nad ydyn nhw arni—ac yna hefyd i sôn bod ein hetholfraint ein hunain yn cynnwys pleidleisio yn 16 oed hefyd?
Ysgrifennydd Cabinet, mae gennym ni ar yr ochr hon i'r Siambr wrth gwrs feddwl agored o ran cofrestru'n awtomatig gan fod y system bresennol yn ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau lleol gysylltu â phob cartref i wirio data etholiadol presennol neu nodi pleidleiswyr newydd sydd wedyn yn cael eu gwahodd i wneud cais i fod ar y gofrestr. Fodd bynnag, mae'r memorandwm esboniadol sy'n cyd-fynd â'r rheoliadau hyn yn nodi bod gan y rheoliadau hyn gost gyfunol o £1.3 miliwn. Deallaf fod bron i £1.2 miliwn o hynny i'w wario ar weithredu newidiadau i'r systemau rheoli etholiadol sy'n cefnogi'r broses o gofrestru etholwyr. Fodd bynnag, mae'r memorandwm esboniadol yn esbonio, gan mai cynllun peilot yw hwn, nad yw'n bosibl mesur union gostau newidiadau i feddalwedd y systemau rheoli etholiadol a bod costau annisgwyl yn debygol wrth i'r newidiadau gael eu datblygu. Ac ar ben hynny, mae costau cyfathrebu hefyd.
Ysgrifennydd Cabinet, mae hwn yn swm sylweddol o arian, ac o ystyried yr hinsawdd bresennol a datganiadau niferus Llywodraeth Cymru am ei chyllid cyfyngedig, nid ydym ni ar yr ochr hon i'r Siambr wedi ein hargyhoeddi eto y dylai Llywodraeth Cymru fod yn gwario cymaint o arian ar y cynlluniau peilot penodol hyn. Felly, efallai yn eich ymateb y gallech chi esbonio pam mae'r cynlluniau peilot hyn yn costio cymaint, a sut mae'r ffigur ar gyfer y newidiadau i feddalwedd y systemau rheoli etholiadol wedi'i gyfrifo mewn gwirionedd. Yn wir, credaf y byddai'n synhwyrol cyhoeddi dadansoddiad o sut yn union y caiff yr arian hwn ei wario.
O ystyried bod y memorandwm esboniadol yn egluro ei bod hi'n debygol y bydd costau annisgwyl, efallai y gallech chi hefyd ddweud wrthym ni yn eich ymateb faint y mae Llywodraeth Cymru yn barod i'w wario ar y cynlluniau peilot hyn. Oes yna uchafswm i'r costau hyn o gwbl, a faint ydych chi'n barod i'w wario ar y mater hwn? Ac efallai y gallwch chi hefyd ddweud wrthym ni pam mae Llywodraeth Cymru yn gwthio'r cynlluniau peilot costus hyn nawr pan wy'n gwybod bod Ysgrifenyddion Cabinet wedi'i gwneud hi'n glir iawn nad oes llawer o arian ar gael iddyn nhw.
Ac Ysgrifennydd Cabinet, byddwch yn gwybod yn well na neb pa mor dynn yw cyllid i awdurdodau lleol, y mae llawer ohonyn nhw'n torri gwasanaethau cymunedol pwysig. Felly, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi y gallai £1.3 miliwn rhwng tri awdurdod lleol gefnogi nifer o fentrau hanfodol. Ac rwy'n siŵr os byddwch yn gofyn i uwch arweinwyr yng Nghasnewydd, Powys a Gwynedd, nad cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig fyddai'r peth cyntaf y bydden nhw'n dewis gwario cyfran o £1.3 miliwn gan Lywodraeth Cymru arno.
Felly, o ystyried y diffyg eglurder a thryloywder ynghylch y costau hyn, oni bai y gallwch chi ddarparu rhagor o wybodaeth y prynhawn yma, ni fyddwn yn gallu cefnogi'r rheoliadau hyn ar eu ffurf bresennol.
Byddaf yn siarad fel Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn dilyn ein gwaith craffu ar Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru). Rwy'n falch, Ysgrifennydd Cabinet, eich bod, mewn ymateb i argymhelliad ein pwyllgor, wedi dewis rhoi'r trefniadau ar brawf yng Ngwynedd, Casnewydd a Phowys, a thrwy hynny sicrhau bod amrywiaeth o wahanol ardaloedd daearyddol yn cymryd rhan. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn i brofi'r cynigion a'r trefniadau newydd yn ddigonol.
Hefyd, Ysgrifennydd Cabinet, bydd codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r cynlluniau peilot yn allweddol. Tybed a allech chi ddweud ychydig mwy am eich cynlluniau i godi ymwybyddiaeth cyn cyflwyno'r cynlluniau peilot, oherwydd, unwaith eto, rwy'n credu y bydd hynny'n hanfodol.
Roedd un o'r prif bryderon a amlinellwyd yn ein hadroddiad yn ymwneud â'r angen i ddiogelu pobl sy'n agored i niwed rhag peryglon posibl, felly rydym yn croesawu'n fawr y cynnydd yn yr amserlen ar gyfer ymateb i rybudd o 45 i 60 diwrnod, gan y bydd hynny'n rhoi mwy o gyfle i ymateb. Rwy'n falch hefyd fod sefydliadau sy'n cynrychioli grwpiau agored i niwed wedi cymryd rhan, fel yr amlinellwyd gennych chi yn gynharach. Tybed a allech chi ddweud wrth y Siambr a fydd y grwpiau hynny hefyd yn rhan o godi ymwybyddiaeth, oherwydd rwy'n credu y bydd hynny, unwaith eto, yn arwyddocaol.
Bydd y cynlluniau peilot yn gyfle hanfodol i brofi trefniadau, a bydd angen gwerthusiad trylwyr cyn gweithredu cofrestru awtomatig ledled Cymru. A allech chi gadarnhau, felly, Ysgrifennydd Cabinet, a fydd gwerthuso yn cynnwys asesu cywirdeb a chadernid y ffynonellau data a ddefnyddir i adnabod pleidleiswyr nad ydyn nhw wedi cofrestru? Diolch yn fawr.
Ysgrifennydd Cabinet, rwy'n croesawu'r rheoliadau a'r penderfyniad i dreialu. Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod o'r farn bod pryderon y Ceidwadwyr yn anonest, o ystyried y record oedd gan y Ceidwadwyr mewn Llywodraeth o atal pleidleiswyr. Does ganddyn nhw ddim diddordeb mewn etholfreinio pleidleiswyr ymylol, ac mae'r dadleuon a gyflwynwyd ganddyn nhw fel rhaglith, a dweud y gwir, yn ddagrau gwneud.
Bwriedir i'm sylwadau fod yn ehangach. Rwy'n credu bod y gwaith y mae'r Llywodraeth hon yn ei wneud i gyflwyno newidiadau gweithdrefnol i'w gwneud hi'n haws i bobl gymryd rhan mewn etholiadau yn bwysig. Rwy'n credu bod hynny'n gam blaengar iawn. Ond dangosodd y dystiolaeth, yn enwedig gwaith prosiect y Democracy Box, nad yw llawer o'r rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu ynghylch cymryd rhan yn ein democratiaeth yn rhai technegol. Maen nhw'n rhai o ymgysylltu, maen nhw'n rhai lle maen nhw'n teimlo nad oes ganddyn nhw ran ac nad ydyn nhw'n deall y broses. Mae lefel yr addysg wleidyddol yn elfennol i lawer o bobl.
Er ein bod yn canolbwyntio ar ddatrys y system, nid wyf yn credu ein bod yn gwneud digon i feddwl am waith llawer anoddach yr ymgysylltiad darniog hwnnw â phobl. Gwnaeth prosiect y Democracy Box waith gwych, gan ddangos sut roedd hi'n bosibl, trwy ei weithgareddau dros dro a thrwy drafod â phobl ac egluro i bobl sut maen nhw'n defnyddio'r system i godi'r materion sy'n bwysig iddyn nhw, i gyrraedd pobl nad ydyn nhw wedi'u cynnwys yn y broses ar hyn o bryd. Yn ôl yr hen ddywediad, does dim y fath beth â grwpiau anodd eu cyrraedd, dim ond nad ydym yn ceisio'n ddigon caled i'w cyrraedd.
Rwyf yn credu, o ran ein holl ddiwygio democrataidd, o bleidleisiau yn 16 oed i hyn a thu hwnt, nad ydym ni'n meddwl digon am yr ymyrraeth ymddygiadol honno, yr agweddau meddalach i fynd ochr yn ochr â'r newidiadau gweithdrefnol. Tybed a allech chi ddweud ychydig mwy ynghylch beth mae'r Llywodraeth yn credu y gall ei wneud y tu hwnt i'r newidiadau i'r system i gyrraedd pobl nad ydyn nhw ar hyn o bryd yn teimlo fel cymryd rhan mewn prosesau democrataidd.
Yr Ysgrifennydd Cabinet nawr i ymateb.
Diolch, Llywydd. Diolch i'r Aelodau am gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw ac i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu hystyriaethau trylwyr o'r rheoliadau hyn. Fe hoffwn i hefyd ddiolch ar goedd i'm rhagflaenydd yn y swydd hon, Mick Antoniw, am y gwaith y mae wedi'i wneud yn y maes hwn. Rwy'n cydnabod fy mod i'n sefyll yma heddiw, ond rydych chi wedi bod o flaen yr holl bwyllgorau, yn cael eich herio, ac rydw i eisiau dweud diolch am y gwaith rydych chi wedi'i wneud ynghylch hyn dros y blynyddoedd diwethaf hefyd yn benodol.
Rwy'n cytuno â chi, mae'n hollol arloesol ac mae'n gyffrous. Rwyf wedi gweld rhai o'r adroddiadau a gyflwynwyd yn ddiweddar, hefyd, ac rwy'n teimlo'n eithaf rhwystredig nad oes sôn am yr hyn rydym ni'n ei wneud yma yng Nghymru. Felly, rwy'n awyddus iawn i helpu i hyrwyddo hynny, ac rwyf hefyd wedi siarad â swyddogion ynghylch sut y gallwn ni sicrhau bod y negeseuon yn cael eu cyfleu ynghylch y cynllun peilot hwn i dynnu sylw at rai o'r pethau da iawn rydym ni'n eu gwneud. Rwy'n gwybod bod rhannau eraill o'r wlad yn edrych yn ofalus iawn ar yr hyn rydym ni'n ei wneud, yn ogystal â gwledydd eraill.
Llywydd, a gaf i ymdrin ag un neu ddau o bwyntiau eraill?
Cewch, fe gewch chi, ar bob cyfrif.
Ynghylch un o'r pwyntiau a wnaeth Paul, rydym ni wedi gwrando. Yn ystod hynt y Ddeddf, yn unol â rhai o welliannau'r grŵp Ceidwadol, fe wnaethom ni gynyddu'r cyfnod amser i etholwyr wrthwynebu cael eu cofrestru o 45 diwrnod i 60. Rydym ni wedi cael cyfle i gymryd rhan yn hyn, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod gennym ni brosiectau peilot. Rwy'n credu bod y tair ardal, gyda sir Gaerfyrddin sydd wedi ymrwymo o'i gwirfodd, yn ardaloedd amrywiol iawn ac rwy'n credu y cawn ni wybodaeth dda iawn o hynny, yn y dyfodol.
Fe hoffwn ddiolch i John, hefyd, am ei waith ar y pwyllgor a gwaith y pwyllgor yn arbennig. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar yr hyn y gallwn ni ei wneud yma yng Nghymru.
Ac i Lee, yn hollol, rwy'n credu bod y gwaith y mae Democracy Box wedi'i wneud yn gyffrous iawn, hefyd. Yr agweddau meddalach hynny y mae'n rhaid i ni i gyd boeni amdanyn nhw mewn gwirionedd yw'r ymyriadau ymddygiadol hynny y gallwn ni eu gwneud i fynd ochr yn ochr â'r ymyrraeth strwythurol hon. Oherwydd, ar ddiwedd y dydd, mae angen i ni gynyddu cyfranogiad yn ein democratiaeth ac mae angen i ni ei gwneud hi mor hawdd â phosibl i gymryd rhan.
Mae cofrestru awtomatig yn rhan o'r pecyn ehangach hwnnw o ddiwygio etholiadol ac yn helpu i gael gwared ar y rhwystrau hynny i gofrestru i bleidleisio—mae hynny'n bwysig i'n hiechyd democrataidd. Mae fy swyddogion a minnau'n barod i ymgysylltu a chefnogi awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill sy'n ymwneud â'r cynlluniau peilot ac rydym yn edrych ymlaen at ystyried y canlyniadau hynny maes o law. Diolch, Llywydd.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly gwnawn ni ohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Bydd y cynigion nesaf ar eitemau 6 a 7. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai fod Aelod yn gwrthwynebu, bydd y ddau gynnig o dan eitemau 6 a 7 ar yr egwyddorion cyffredinol a phenderfyniad ariannol Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) yn cael eu grwpio i'w trafod, ond gyda phleidleisiau ar wahân. Os nad oes yna wrthwynebiad i hynny, fe wnaiff hynny ddigwydd.
Gwnawn ni symud ymlaen i alw'r Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg i gynnig y cynigion yma—Mark Drakeford.
Cynnig NDM8780 Mark Drakeford
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru).
Cynnig NDM8781 Mark Drakeford
Cynnig bod Senedd Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.
Cynigiwyd y cynigion.
Diolch yn fawr, Llywydd. Dwi'n symud y cynigion ar y papur trefn. Dyma'r ail ddadl yn y Cyfarfod Llawn yn ystod Cyfnod 1 o drafodion y Senedd ar Fil y Gymraeg ac Addysg (Cymru). Mae'r ddadl heddiw yn digwydd yn dilyn gwaith craffu tri o bwyllgorau'r Senedd a'r dystiolaeth a gyflwynwyd gan lawer o unigolion a sefydliadau sydd â diddordeb yn y Bil. Rwy'n ddiolchgar iawn i Gadeiryddion ac aelodau'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Cyllid am yr adroddiadau sydd bellach ar gael i'r Aelodau. Mae'r adroddiadau hynny'n arbennig o ddefnyddiol i Aelodau wrth i ni wneud y penderfyniad yn y Senedd heddiw. Ar ddiwedd Cyfnod 1, gofynnir i chi gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil a chaniatáu iddo symud ymlaen i Gyfnod 2.
Yn ei hanfod, mae'r Bil yn bodoli i gefnogi uchelgais y Senedd hon ar gyfer y Gymraeg. Mae'n newid y ffordd y mae'r Gymraeg yn cael ei chynllunio a'i darparu yn y system addysg fel bod pob disgybl yn dod yn ddefnyddwyr Cymraeg annibynnol a hyderus erbyn iddynt gyrraedd diwedd eu haddysg orfodol. Cafodd y Bil ei ddatblygu yn ystod cyfnod y cytundeb cydweithio. Mae sylwedd y Bil yn parhau i ddod o'r gwaith a wnaed ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, ac rwy'n parhau i fod yn ddiolchgar am gyfraniad yr Aelodau dynodedig yn y gwaith o lunio'r Bil.
Llywydd, argymhelliad cyntaf adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yw bod y Senedd yn derbyn egwyddorion cyffredinol Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru). Rwy'n ddiolchgar iawn i'r pwyllgor, ac i Gadeirydd y pwyllgor, Buffy Williams, am roi'r argymhelliad yna ar ddechrau eu hadroddiad nhw.
Nawr, Lywydd, mae hi bron yn 12 mlynedd ers i mi, fel yr Aelod cyfrifol, helpu i fynd â deddfwriaeth drwy'r Senedd am y tro cyntaf, mewn proses yr oeddem ni i gyd yn dal i ddod yn gyfarwydd â hi. Yn ystod yr holl amser yma—mwy na degawd nawr—dwi ddim yn credu bod unrhyw Fil heb gael ei wella gan y broses graffu, a dydy’r Bil hwn ddim yn eithriad.
Er fy mod yn ddiolchgar iawn i’r pwyllgorau am eu cymeradwyaeth eang yn ystod Cyfnod 1, ac yn gobeithio’n fawr y bydd y Senedd yn dilyn y cyngor hynny y prynhawn yma, rwyf am ddefnyddio gweddill y cyfraniad hwn i edrych ymlaen, drwy nodi beth mae’r Llywodraeth yn bwriadu ei wneud mewn ymateb i argymhellion yn adroddiadau’r pwyllgorau am bethau i’w gwella.
Rwyf eisoes wedi ysgrifennu at Gadeirydd pob pwyllgor yn ymateb i bob argymhelliad. Byddaf nawr yn tynnu sylw at chwech o’r materion mwyaf sylweddol. Lywydd, os yw’r Bil am lwyddo, rhaid sicrhau bod capasiti yn y system addysg i’w weithredu. Roedd hon yn thema a godwyd yn rheolaidd yn ystod Cyfnod 1—yr angen am weithlu sydd â’r gallu i gyflawni’r camau newydd a nodir yn y Bil.
Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.
Ddoe, fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle, gyhoeddi datganiad am y gwaith sydd wedi dechrau i lunio cynllun gweithlu addysg i Gymru. Bydd y cynllun hwnnw’n cynnwys addysgu’r Gymraeg ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Ond fel mae adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn ei argymell, mae’r cynllun gweithlu hwn yn mynd y tu hwnt i’r Bil yn unig ac yn cwmpasu datblygiad y gweithlu addysg yn fwy cyffredinol. At ddibenion penodol y Bil yma, rwy’n bwriadu cyflwyno gwelliant yng Nghyfnod 2 i osod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i nodi, yn y fframwaith cenedlaethol, y camau sydd i’w cymryd i sicrhau bod gweithlu digonol yn cael ei ddatblygu i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Nawr, ochr yn ochr â mater y gweithlu, mae’r mater o ran llwyth gwaith. Bydd asesiad o’r effaith ar lwyth gwaith wedi’i ddiweddaru yn cael ei gyhoeddi ar ddiwedd trafodion Cyfnod 2, a hwnnw wedi’i lywio gan y dystiolaeth a glywyd gan y pwyllgorau a thrafodaethau pellach gydag undebau athrawon ac eraill.
Ddirprwy Lywydd, roedd y term 'addysg Gymraeg' yn destun pryder i rai ymatebwyr. Bydd y Llywodraeth yn creu fersiwn bellach o’r memorandwm esboniadol, wrth i’r Bil fynd yn ei flaen drwy’r Senedd, er mwyn rhoi mwy o eglurder ar y mater yma. Am heddiw, gallaf gadarnhau bod pwrpas y Bil yn cynnwys addysgu’r Gymraeg fel pwnc a darparu addysg a hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg. I roi sicrwydd pellach, fel mae rhai ymatebwyr wedi gofyn amdano, bydd gwelliannau yn cael eu cyflwyno yng Nghyfnod 2 i gadarnhau’r pwysigrwydd y mae Llywodraeth Cymru yn parhau i’w roi i gynyddu cyfran y disgyblion sy’n derbyn eu haddysg mewn ysgolion prif iaith Cymraeg.
Ddirprwy Lywydd, gofynnodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg hefyd inni ystyried faint o addysg Gymraeg fyddai i’w darparu ymhob categori iaith ysgol a sefydlir yn y Bil. Bydd hynny'n fater i reoliadau ei gadarnhau ac ar gyfer y broses ymgynghori y bydd ei hangen ar gyfer y rheoliadau hynny. Fodd bynnag, rwyf wedi fy mherswadio gan gasgliadau'r pwyllgor y byddai'n ddefnyddiol darparu mwy o fanylion am yr ystod debygol o ddarpariaeth iaith yr ydym yn rhagweld y byddwn yn ymgynghori arno, a byddwn yn ychwanegu'r wybodaeth yma wrth ddiweddaru'r memorandwm esboniadol a'r datganiad o fwriad polisi.
Ac yn olaf, Ddirprwy Lywydd, byddwn hefyd yn cyflwyno gwelliannau i sicrhau bod y fframwaith cenedlaethol yn cynnwys addysg drydyddol. Bydd y memorandwm esboniadol, fel roedd y pwyllgor yn awgrymu, yn egluro'r berthynas rhwng yr athrofa a'r sector addysg drydyddol, gan gynnwys Medr a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n ymwybodol iawn o'r materion pwysig nad ydw i wedi cael y cyfle i'w trafod y prynhawn yma, gan gynnwys agweddau ar y Bil ei hun, y gwelliannau pellach y mae'r Llywodraeth yn bwriadu eu cyflwyno mewn ymateb i argymhellion y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad. Mae hyn i gyd i'w weld yn yr ymatebion a roddwyd i'r adroddiadau hynny, ac os aiff y Bil yn ei flaen heddiw, bydd yn destun dadl bellach gan y Senedd yng Nghyfnodau 2 a 3. Er mwyn i hynny ddigwydd, bydd y Bil angen cefnogaeth yr Aelodau i symud ymlaen, ac yn ysbryd adeiladol adroddiadau Cyfnod 1, rwy'n gobeithio y gallwn ni wneud hynny. Edrychaf ymlaen at gydweithio pellach â phob plaid yn ystod Cyfnod 2 a 3 hefyd.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, Buffy Williams
Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i bawb a gyfrannodd at ein gwaith craffu ar y Bil pwysig hwn. Cafodd ein gwaith fel pwyllgor ei hwyluso gan ansawdd uchel y dystiolaeth ysgrifenedig a llafar a gawsom. Hoffwn hefyd ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet a'i swyddogion am ymdrin â'n gwaith craffu mewn ffordd agored, fy nghyd-aelodau ar y pwyllgor a aeth ati i graffu gyda meddyliau agored, a pharodrwydd i wrando ar ei gilydd a dod o hyd i'r mannau yr oedd cytundeb yn eu cylch, ac yn olaf, i Heledd Fychan a Lee Waters, a ymunodd â ni o'r pwyllgor diwylliant—enghraifft dda o'r ffordd y gall pwyllgorau gydweithio ar faterion o ddiddordeb cyffredin.
Mae wedi bod yn ddefnyddiol cael yr ymateb i'n hargymhellion cyn y ddadl. Rwy'n falch bod pob un o'r 10 argymhelliad ar gyfer Llywodraeth Cymru naill ai wedi'u derbyn yn llawn neu wedi'u derbyn mewn egwyddor. Mae'n anghyffredin i un o dargedau'r Llywodraeth, fel yr un yn 'Cymraeg 2050', ddal dychymyg ehangach, ond mae miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 wedi gwneud hynny. Ac eto, mae canlyniadau'r cyfrifiad diwethaf yn dangos gostyngiad yn nifer y bobl sy'n dweud eu bod yn siaradwyr Cymraeg. Mae'n amlwg bod angen gweithredu i wrthdroi'r dirywiad hwn. Bydd y Bil, yn ein tyb ni, yn fecanwaith pwysig i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r targed hwn. Rydym felly'n argymell bod y Senedd yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil. Ond fydd hi ddim yn hawdd. Bydd yn golygu bod angen i bob elfen o'r system addysg ymdrechu i'r eithaf i gyflawni—hynny yw Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, pob ysgol yng Nghymru, waeth beth fo'i chategori iaith ar hyn o bryd, a'r holl sefydliadau sy'n cefnogi addysg a'r Gymraeg. Rydym o'r farn y bydd y Bil hwn yn sefydlu'r bensaernïaeth gywir, gan gynnwys cyflwyno fframwaith cenedlaethol a fydd yn llywio gwaith cynllunio a darparu ysgolion ac awdurdodau lleol. Bydd sefydlu'r sefydliad cenedlaethol ar gyfer dysgu Cymraeg hefyd yn chwarae rhan hanfodol.
Ond y rhwystr mwyaf i gyflawni'r Bil hwn yw bod â gweithlu addysg sydd â'r sgiliau iaith cywir ledled Cymru. Fydd hyn ddim yn hawdd. Rydym yn gwybod bod prinder ar hyn o bryd ledled Cymru mewn amrywiaeth o bynciau, ac mae'r prinder hwn yn arbennig o heriol i rai pynciau mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg. Fe wnaethon ni argymell bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cynllun gweithlu addysg statudol, gan fod pryderon yn ymestyn y tu hwnt i'r Gymraeg. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi'r mecanwaith deddfwriaethol mwyaf priodol i gyflwyno hyn, a'i bod yn edrych ar bob elfen o recriwtio a chadw athrawon yn hytrach nag edrych ar un elfen o'r gweithlu addysg ar wahân.
Ddoe, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ddatblygiad cynllun gweithlu addysg strategol. Yn yr ymateb i'n hadroddiad, dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd y cynllun hwn yn anstatudol. Rydym eisoes wedi ymrwymo i edrych ar recriwtio a chadw athrawon yn ddiweddarach eleni, a byddwn yn dilyn datblygiad y cynllun hwn gyda diddordeb mawr.
Thema fawr arall drwy gydol ein gwaith craffu oedd yr angen am fwy o eglurder ar rai materion allweddol, gan gynnwys sut yr eir ati i wahaniaethu rhwng addysgu'r Gymraeg fel pwnc ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn y diffiniad o addysg Gymraeg; faint o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg sy'n debygol yn y categorïau ysgolion prif iaith Cymraeg ac ysgolion dwy iaith; pa weithgareddau fydd yn cyfrif tuag at yr isafswm presennol o 10 y cant o ddarpariaeth Gymraeg mewn ysgolion prif iaith Saesneg a rhannol Gymraeg; y rôl y bydd y sector addysg drydyddol yn ei chwarae wrth gyflawni'r fframwaith cenedlaethol; a sut y bydd y sefydliad cenedlaethol yn gweithio gyda'r sector addysg drydyddol ehangach. Fel y mae'r rhestr honno yn dangos, mae rhywfaint o ddryswch wrth wraidd y Bil, yn enwedig y diffiniad o addysg Gymraeg a'r manylion ynghylch categorïau ysgolion. Maen nhw mor ganolog i'r Bil, felly bydd mwy o eglurder ynghylch y meysydd hyn cyn i ni symud i'r camau diwygio yn ddefnyddiol i'r holl Aelodau wrth ystyried unrhyw welliannau posibl. Yn ei ymateb, mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi ymrwymo i roi eglurder ar y materion hyn mewn memorandwm esboniadol wedi'i ddiweddaru, ac rwy'n croesawu hynny.
Yn olaf, gofynnwn i Lywodraeth Cymru roi ystyriaeth bellach i'r dystiolaeth a glywsom yn galw ar i gategori ysgol arall gael ei ychwanegu at y Bil, a fyddai'n cyfateb i'r categori cyfrwng Cymraeg dynodedig 3P anstatudol presennol. A all yr Ysgrifennydd Cabinet ddweud wrthym a yw ei farn ar y mater hwn wedi newid o ganlyniad i'r dystiolaeth yr ydym wedi'i chlywed?
Rwy'n edrych ymlaen at glywed cyfraniadau gan Aelodau eraill ac at barhau â'n gwaith craffu ar y Bil os cytunir ar yr egwyddorion cyffredinol. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Cafodd adroddiad y pwyllgor ar y Bil ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr. Hoffwn ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am roi ymateb y Llywodraeth i'n hadroddiad cyn y ddadl heddiw. Gwnaeth adroddiad y pwyllgor 17 o argymhellion a daeth i un casgliad. Byddaf yn canolbwyntio fy sylwadau ar rai o'r argymhellion hyn.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet wrthym fod Llywodraeth Cymru yn cynnal asesiad hawliau dynol ar gyfer y Bil. Fodd bynnag, nid yw dogfennaeth ategol berthnasol y Bil yn sôn o gwbl am hyn, ac felly nid oedd yn glir pa hawliau yn y confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol a ystyriwyd gan asesiadau Llywodraeth Cymru. Rydym felly'n argymell bod Llywodraeth Cymru yn amlinellu unrhyw asesiad a wneir gan Lywodraeth Cymru o'r Bil mewn perthynas â hawliau'r confensiwn. Nodaf fod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi cadarnhau yn ei ymateb bod Llywodraeth Cymru wedi ystyried holl erthyglau perthnasol hawliau'r confensiwn. Nodaf hefyd fod Llywodraeth Cymru o'r farn bod y darpariaethau yn ffordd gymesur o gyflawni nod dilys, sef sicrhau bod pob disgybl yn cyrraedd diwedd oedran ysgol gorfodol fel defnyddwyr annibynnol o'r Gymraeg.
Gwnaethom hefyd nifer o argymhellion mewn perthynas â defnyddio diffiniadau yn y Bil. Nid yw'r Bil yn cynnwys diffiniad o siaradwr Cymraeg. Ym marn y pwyllgor, mae peidio â chynnwys y diffiniad yn peryglu tanseilio pa mor ystyrlon fyddai rhai o ddarpariaethau craidd y Bil. Felly, rydym yn galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i esbonio pam nad yw lefel cyfeirio gyffredin defnyddiwr Cymraeg, fel y nodir yn y Bil, wedi'i defnyddio fel sail i unigolion asesu eu gallu ieithyddol at ddibenion cyfrifo nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. Yn ei ymateb, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet wrth y pwyllgor na fyddai lefel cyfeirio gyffredin yn cael ei defnyddio at y diben hwn, o gofio bod Llywodraeth Cymru o'r farn mai mater i'r unigolyn yw penderfynu a fyddai'n disgrifio'i hun fel siaradwr Cymraeg. Fodd bynnag, fe wnaeth y Llywodraeth gydnabod ei bod yn anochel y byddai cysylltiad â'r lefelau cyfeirio cyffredin dros amser wrth i Lywodraeth Cymru osod nodau dysgu Cymraeg ar gyfer ysgolion.
Yn yr un modd, defnyddiodd y Bil y term 'addysg Gymraeg' yn lle'r term mwy sefydledig 'addysg cyfrwng Cymraeg'. Oherwydd hyn, fe wnaethom alw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i rannu gyda'r pwyllgor unrhyw asesiad a wneir gan Lywodraeth Cymru ar yr effaith bosibl y byddai hyn yn ei chael ar ddealltwriaeth a hygyrchedd y gyfraith. Yn ei ymateb, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet wrthym fod y diffiniad yn ddiamwys. Fodd bynnag, yng ngoleuni argymhellion y pwyllgor, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno gwelliant yn ystod Cyfnod 2 i'w gwneud yn glir bod y diffiniad o addysg Gymraeg yn golygu addysg a hyfforddiant drwy wersi ysgol.
Mae'r pwyllgor yn fodlon ar y cyfan â'r cydbwysedd rhwng yr hyn sydd ar wyneb y Bil a'r hyn sydd wedi'i adael i'r is-ddeddfwriaeth. Mae hefyd yn croesawu, at ei gilydd, lefel y manylion a ddarperir yn y datganiad o fwriad polisi. Fodd bynnag, cwestiynodd y pwyllgor Lywodraeth Cymru yn cymryd pwerau rheoleiddio er mwyn 'diogelu deddfwriaeth at y dyfodol', a galwodd ar yr Ysgrifennydd Cabinet i esbonio pam nad yw'r Bil yn cynnwys rhai darpariaethau ar ei wyneb. Yn benodol, gwnaethom alw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i egluro pa fathau o ddarpariaethau pellach y gallai rheoliadau o dan is-adran (1) o adran 13 o'r Bil eu cynnwys, ac argymhellwyd bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn ystyried pa gyfyngiadau pellach y gellir eu gosod ar y pŵer yn yr adran hon. Nodwn ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet, sef er ei bod yn rhy gynnar i roi rhestr gynhwysfawr o'r hyn y gellid ei gynnwys mewn rheoliadau o dan yr adran hon, y gellid ei defnyddio i wneud darpariaeth ar gyfer sut y dylai ysgolion gategoreiddio eu hunain yn ystod cyfnod pontio.
Hefyd, cododd y pwyllgor ei bryderon am bŵer Harri'r VIII yn is-adran (9) o adran 23 o'r Bil, sy'n galluogi Gweinidogion Cymru i ddiwygio ei is-adrannau (3) i (7). Roedd y pwyllgor o'r farn bod hyn yn dirprwyo pŵer yn amhriodol, ac argymhellodd y dylai'r Bil gael ei ddiwygio i gynnwys dyletswydd i Weinidogion Cymru ymgynghori cyn gosod rheoliadau o dan adran 23 o'r Bil. Yn ogystal, gwnaethom argymell y dylid diwygio'r Bil hefyd i'w gwneud yn ofynnol na ddylai rheoliadau a wneir o dan yr adran honno gael eu gwneud nes bod 60 diwrnod wedi mynd heibio ers gosod y rheoliadau drafft. Rydym yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod y ddau argymhelliad hyn.
Yn olaf, argymhellodd y pwyllgor hefyd y dylai Llywodraeth Cymru ystyried diwygio'r Bil i gynnwys rhagor o wybodaeth am gynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg lleol ar y cyd i roi mwy o sicrwydd ac i wella hygyrchedd. Nodwn fod Llywodraeth Cymru o'r farn nad oes angen diwygio'r Bil, ond y bydd yn darparu rhagor o wybodaeth yn nogfennau ategol y Bil. Diolch.
A galwaf yn awr ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Peredur Owen Griffiths.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a dwi’n croesawu’r cyfle i gymryd rhan yn y ddadl yma heddiw. Yn ein hadroddiad, daethom ni i ddau gasgliad a gwnaethom ni chwe argymhelliad. Dwi’n falch bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi derbyn pump o’n hargymhellion ond yn siomedig ei fod wedi gwrthod un argymhelliad, a byddaf yn sôn am yr argymhelliad hwnnw yn ddiweddarach yn fy nghyfraniad.
Rydym yn croesawu ac yn cefnogi diben cyffredinol y Bil, sef cyfrannu at darged Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050. Fodd bynnag, rydym wedi nodi rhai materion penodol i’r Ysgrifennydd Cabinet eu hystyried, gyda'r nod o wella'r wybodaeth ariannol a gyhoeddir ochr yn ochr â'r Bil hwn. Dŷn ni'n fodlon ar y cyfan â goblygiadau ariannol y Bil, ac rydym yn cytuno â'r dull o ddarparu'r amcangyfrifon cost fel ffigur manwl gywir yn hytrach nag fel ystod o ffigurau, o ystyried yr amrywiaeth eang o gostau sy’n deillio o’r Bil. Mae hwn yn ddull cadarnhaol, ac yn ddull y mae'r pwyllgor yn ei gefnogi.
Fodd bynnag, mae’n siomedig nad yw Llywodraeth Cymru ar yr achlysur yma wedi dilyn ei chanllawiau arfer gorau ei hun, drwy gynnwys dadansoddiad cost a budd ar gyfer yr holl opsiynau a amlinellir yn yr asesiad effaith rheoleiddiol, yr RIA. Mae hyn yn ei gwneud yn anodd cynnal gwaith craffu llawn a chadarn ynghylch goblygiadau ariannol Biliau. Rydym felly’n argymell y dylid cynnwys gwaith dadansoddi ar gyfer yr holl opsiynau sy’n cael eu hystyried gan Lywodraeth Cymru mewn RIA, a hynny fel mater o drefn. Felly, rydym yn gresynu’r ffaith bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi gwrthod yr argymhelliad hwn, yn enwedig gan fod y pwyllgor ddim ond yn atgoffa’r Llywodraeth i ddilyn ei harfer gorau ei hun yn yr achos yma.
Rydym hefyd yn pryderu na chynhaliwyd unrhyw ymarfer modelu fel rhan o’r gweithgarwch ynghylch datblygu’r gweithlu ysgolion, ac rydym o’r farn bod angen rhagor o wybodaeth cyn y gall Llywodraeth Cymru ddarparu amcangyfrifon cost mwy cywir. Gwnaethom ofyn am gadarnhad ynghylch pryd y bydd y data hyn ar gael, ac rwy’n falch bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi cadarnhau y bydd y ffigurau yn cael eu cynnwys yn y fframwaith cenedlaethol cyntaf.
Rydym yn nodi bod y Bil yn cynnwys darpariaethau ar gyfer cyflwyno rheoliadau a fyddai’n ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol ddrafft. Fodd bynnag, nid yw’r costau sy’n deillio o reoliadau o’r fath wedi’u cynnwys yn yr RIA ar gyfer y Bil. Er ein bod yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyhoeddi asesiad effaith ar gyfer unrhyw reoliadau o’r fath, rydym yn pryderu mai prin yw’r amser sydd ar gael i graffu ar y costau sy’n deillio o reoliadau o’r fath. Bydd yr Aelodau’n ymwybodol nad dyma’r tro cyntaf i ni godi pryderon am y diffyg amcangyfrifon costau sy’n gysylltiedig â darpariaethau ym Miliau’r Senedd sy’n cael eu harfer gan bwerau dirprwyedig. Felly, rydym yn argymell y dylai RIAs gynnwys yr amcangyfrif gorau o’r costau a’r buddion sy’n gysylltiedig ag is-ddeddfwriaeth ochr yn ochr â’r ddeddfwriaeth sylfaenol berthnasol.
Dwi'n croesawu’r ffaith bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi ymrwymo i’r cam o gynhyrchu RIA ar gyfer pob set o reoliadau, gan y bydd hyn yn hanfodol o ran caniatáu inni ddeall effaith ariannol y Bil yn ei gyfanrwydd. Rydym yn cefnogi’r ddarpariaeth yn y Bil sy’n caniatáu ar gyfer cydweithio ar draws ysgolion wrth ddatblygu eu cynlluniau cyflawni addysg Gymraeg. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod adnoddau'n cael eu defnyddio'n ddoeth, a gallai arwain at rai arbedion cost.
Ond, yn ogystal, mae’r Bil hefyd yn creu corff statudol newydd, sef yr Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Nodwn fod yr RIA yn rhagdybio y daw’r athrofa yn weithredol pan ddaw'r cytundeb ariannu presennol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i ben. Fodd bynnag, mae gwahaniaeth yn y costau a amcangyfrifir ar gyfer yr athrofa o'u cymharu â'r costau ar gyfer y ganolfan ar gyfer yr un cyfnod, os na chytunir ar y Bil hwn. Rydym wedi gofyn i'r Llywodraeth ddarparu RIA wedi'i ddiweddaru yng Nghyfnod 2 er mwyn darparu dadansoddiad llawn o'r costau sy'n gysylltiedig â'r athrofa a sut y maent yn cymharu â chostau’r ganolfan. Rwy'n croesawu’r ffaith bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi cytuno i wneud hyn.
Mae ein hargymhelliad nesaf eto yn ymwneud â’r angen i gynnwys mwy o waith modelu o fewn yr RIA, y tro hwn mewn perthynas â chyrsiau trochi iaith. Rydym yn cydnabod bod trochi yn ddull cymharol newydd, a bod nifer y bobl sy'n dilyn cyrsiau trochi wedi cynyddu'n sylweddol. Gall y ffactorau hyn ei gwneud yn anodd i Lywodraeth Cymru ddarparu amcangyfrifon o'r gost. Fodd bynnag, rydym o’r farn y gallai’r RIA fod wedi cynnwys rhywfaint o waith modelu ar gyfer y maes hwn er mwyn darparu amcangyfrifon o’r costau dan sylw, yn seiliedig ar senarios twf gwahanol. Felly, rydym yn argymell bod yr RIA yn cael ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2 i ddarparu amcangyfrifon cost sy’n gysylltiedig â’r cynnydd mewn galw am gyrsiau trochi iaith. Unwaith eto, rwy’n croesawu’r ffaith bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn mynd i ddarparu’r ffigurau hyn mewn RIA diwygiedig.
Dirprwy Lywydd, mae ein hargymhelliad olaf—a dwi'n dod i ben â hyn—yn ymwneud â'r adolygiad ôl-weithredu. Rwyf wedi siarad droeon yn y Siambr yma am bwysigrwydd adolygiadau o’r fath o ran sicrhau bod amcanion deddfwriaethol yn cael eu bodloni yn unol â’r disgwyliadau, a bod gwerth am arian yn cael ei sicrhau. Felly, rydym yn croesawu’r cam o gynnwys adolygiad ôl-weithredu ac asesiad fforddiadwyedd yn y Bil ac yn croesawu hefyd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i asesu costau cyffredinol y newid yn ystod y cyfnod adolygu. Yn benodol, rydym yn argymell bod yr adolygiad hwn yn asesu costau a buddion cyffredinol y drefn gydsynio newydd ac os yw'n bodloni’r disgwyliadau a nodir yn yr RIA. Rydym yn croesawu’r ffaith bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi ymrwymo i wneud hyn, ac rydym yn edrych ymlaen at weld canlyniadau’r adolygiad, unwaith y bydd y Bil wedi’i roi ar waith. Diolch yn fawr.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am drafod hyn gyda mi yn gynharach heddiw—dwi'n gwerthfawrogi hynny yn fawr iawn. Rwyf fi a fy mhlaid yn croesawu'r uchelgais i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. Fel siaradwr Cymraeg, rwy'n angerddol am weld mwy o bobl yn defnyddio'r iaith yn eu bywydau bob dydd.
Er ein bod yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil, mae deddfwriaeth effeithiol yn gofyn am graffu manwl i sicrhau ei bod yn cyflawni ei nodau. Rwy'n gwerthfawrogi gwaith y tri phwyllgor wrth lunio eu hadroddiadau, ac rwy'n croesawu ymrwymiad y Llywodraeth i fynd i'r afael â'u hargymhellion. Fodd bynnag, mae heriau allweddol yn parhau, yn enwedig o ran capasiti'r gweithlu. Tynnodd Ysgrifennydd y Cabinet sylw priodol at yr angen am weithlu sy'n gallu cyflawni'r newidiadau yn y Bil hwn. Mae'r datganiad diweddar gan y Gweinidog addysg ar ddatblygu cynllun gweithlu addysg yn gam ymlaen, ond dylai'r cynllun hwn fod wedi cael ei ddatblygu ochr yn ochr â'r Bil, o ystyried pa mor agos mae'r ddau yn gysylltiedig. Hefyd, doedd yna ddim sôn am yr iaith Gymraeg yn y datganiad a ddaeth mas ddoe.
Rwy'n croesawu'r gwelliant Cyfnod 2 arfaethedig i osod dyletswydd ar Weinidogion i amlinellu camau ar gyfer datblygu gweithlu digonol i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hyn yn hanfodol, gan fod materion recriwtio a chadw cyfredol, yn enwedig mewn ardaloedd Saesneg eu hiaith, yn bygwth llwyddiant y Bil. Rwyf hefyd yn nodi bwriad y Llywodraeth i egluro'r term 'addysg Gymraeg', a rhoi mwy o fanylion am ddarpariaeth iaith yng nghategorïau ysgolion. Mae'r eglurder hwn yn holl bwysig, gan fod Estyn ac eraill wedi rhybuddio bod termau fel 'Prif Iaith Saesneg, rhannol Gymraeg' yn peryglu cymysgu rhieni a thanseilio ymdrechion i ehangu addysg Gymraeg. Mae'n galonogol clywed y bydd rhagor o ddeunyddiau esboniadol yn cael eu cynhyrchu ac y bydd gwelliannau'n mynd i'r afael â phryderon am gynyddu carfan y disgyblion mewn ysgolion prif iaith Cymraeg.
Mae cludiant i ysgolion cyfrwng Cymraeg yn parhau i fod yn rhwystr sylweddol, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig a difreintiedig. Mae llwyddiant y Bil yn dibynnu ar fynd i'r afael â'r heriau logistaidd hyn, ac eto nid yw'r mater hwn wedi cael sylw digonol hyd yn hyn. Mae teithio gan ddysgwyr yn hanfodol er mwyn ehangu mynediad i addysg cyfrwng Cymraeg, ac rwy'n annog y Llywodraeth i sicrhau bod hyn yn cael ei flaenoriaethu yn y rheoliadau a'r fframwaith polisi cysylltiedig.
Yn olaf, ni ellir anwybyddu goblygiadau ariannol. Mae'n annhebygol y bydd y grant Cymraeg mewn addysg bresennol o £6.7 miliwn yn ddigon i gyflawni nodau uchelgeisiol y Bil. Mae ysgolion ac awdurdodau lleol eisoes wedi'u hymestyn, fel yr amlygwyd gan bennaeth Ysgol yr Olchfa yn Abertawe, a rhybuddiodd y bydd rhywbeth arall ar ei golled. Tybed a all Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu beth fydd hwn.
I gloi, rwy'n cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil ac yn croesawu'r ymrwymiad cyffredinol i gryfhau ein treftadaeth ieithol. Fodd bynnag, byddaf yn cyflwyno fy ngwelliannau fy hun i fynd i'r afael â rhai o'r prif bryderon, fel y'u gwelaf. Rwy'n falch bod y Gymraeg yn parhau i fod yn bwnc sy'n ein huno o fewn y Senedd hon, ac edrychaf ymlaen at gydweithio pellach i sicrhau canlyniadau ystyrlon, ymarferol a chynhwysol ar gyfer addysg a'r Gymraeg. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am gyflwyno cyfnod cyntaf Bil y Gymraeg ac Addysg. Chwarter canrif wedi agor y Senedd hon, mae'n hynod o siomedig bod y mwyafrif o blant a phobl ifanc yng Nghymru yn parhau i gael eu hamddifadu trwy ein system addysg o'r cyfle i ddysgu a defnyddio'r Gymraeg. Dyna pam mae hi'n holl bwysig ein bod ni'n deddfu yn y maes hwn.
Nawr, fel dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet, cyflwynwyd y Bil yma yn wreiddiol yn dilyn cyhoeddiad Papur Gwyn y llynedd fel rhan o'r cytundeb cydweithio rhwng y Llywodraeth a Phlaid Cymru. Ac ar gyfer y record, hoffwn i nodi, wrth gwrs, roeddwn i'n rhan o'r trafodaethau yna fel Aelod dynodedig.
Ond, wrth gwrs, fe gyflwynwyd y Bil fel y mae e ar ôl i'r cytundeb ddod i ben, a rhaid dweud, dyw uchelgais y Bil ar ei ffurf bresennol ddim yn cyrraedd yr hyn y byddwn i eisiau iddo fe fod, ac mewn rhai adrannau rwy'n ofni bod y Llywodraeth wedi rhwyfo nôl ar rai elfennau o'r Papur Gwyn gwreiddiol.
Fel rŷn ni wedi clywed yn barod, mae'r pwyllgor plant a phobl ifanc wedi derbyn tystiolaeth gan ystod eang o randdeiliaid yn ystod y sesiynau llafar, a phob un ohonyn nhw wedi croesawu prif egwyddorion y Bil ac yn cefnogi'r prif amcanion polisi o gael o leiaf miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a datblygu system addysg sydd yn sicrhau bod pob disgybl yn dod yn siaradwr Cymraeg hyderus erbyn diwedd eu cyfnod mewn addysg statudol.
Mewn perthynas â'r rhai sydd wedi cwestiynu a yw'r Bil a'i darpariaethau yn flaenoriaeth yn wyneb heriau addysgol eraill, dwi'n sicr fy marn bod yn rhaid gweithredu nawr er mwyn gwyrdroi'r hyn rŷn wedi ei weld dros y degawdau diwethaf, sef cwymp yn nifer a chanran y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, ac mae hynny'n fater o bryder mawr i ni i gyd.
Heblaw am drosglwyddiad iaith yn y cartref, y system addysg yw'r dull mwyaf effeithiol o dyfu a datblygu sgiliau iaith ac i annog cynnydd mewn defnydd o'r Gymraeg yn y gymuned. Felly, does dim amheuaeth ynghylch a ddylai’r Bil a’i ddarpariaethau fod yn flaenoriaeth i ni yn y Senedd.
Ond dwi am daro nodyn cwbl ddifrifol. Rŷn ni wedi gweld ymrwymiadau gan y Llywodraeth ar hyd y blynyddoedd, mewn strategaethau amrywiol i dyfu addysg cyfrwng Cymraeg, sydd wedi methu yn llwyr. Allwn ni ddim cario ymlaen gyda’r drefn o gyhoeddi cynlluniau sydd yn ffaelu â chyflawni’r nod sylfaenol o alluogi pob plentyn i ddod yn ddefnyddiwr Cymraeg hyderus drwy’r system addysg. Ers dros 20 mlynedd, mae targedau cenedlaethol anstatudol gan y Llywodraeth i ehangu addysg cyfrwng Cymraeg wedi eu methu. Mae hyn yn cwmpasu targedau 'Iaith Pawb' yn 2003, dros 20 mlynedd yn ôl, y strategaeth addysg Gymraeg genedlaethol yn 2010, a thargedau 'Cymraeg 2050' a gyhoeddwyd yn 2017.
A ble mae hynny wedi ein gadael ni? Wel, os edrychwn ni ar y sefyllfa dros y ddegawd diwethaf yn unig, yn 2014, roedd 21.9 y cant o ddisgyblion ysgolion cynradd yn derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Erbyn 2024, 10 mlynedd yn ddiweddarach, y ganran gyfatebol oedd 22.5 y cant—cynnydd bychan iawn o ddim ond 0.6 y cant dros 10 mlynedd. Dros yr un cyfnod, ar gyfer disgyblion mewn ysgolion uwchradd, mae’r ganran o’r rhai oedd yn derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg wedi gostwng, o 14.2 y cant i 13.5 y cant. Mae’n gwbl amlwg felly fod angen trawsnewid y system bresennol er mwyn sicrhau twf sylweddol mewn addysg cyfrwng Cymraeg, a newid sylfaenol yn y ffordd mae’r Gymraeg yn cael ei haddysgu yn ein hysgolion Saesneg ni.
Ac yn ganolog i hynny, wrth gwrs, mae’r gweithlu. Roedd hi’n siomedig darllen ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet dros y Gymraeg i argymhelliad y pwyllgor ar gynnwys ymrwymiad i ddatblygu gweithlu dwyieithog fel rhan o’r Bil. Wedyn cafwyd, fel rŷn ni wedi clywed yn barod, datganiad ysgrifenedig gan yr Ysgrifennydd addysg ddoe wnaeth anwybyddu’r mater yma yn llwyr. Doedd dim cyfeiriad at y Gymraeg neu ddatblygu gweithlu dwyieithog yn y datganiad yna o gwbl. Ond dwi'n falch o gael esboniad y prynhawn yma gan yr Ysgrifennydd fod yna ymrwymiad yn mynd i fod i hynny. Mae rhywun yn colli hyder o weld datganiadau fel hyn.
Felly, i gloi, Dirprwy Lywydd, yn fy marn i, mae’n rhaid cryfhau nifer o agweddau’r Bil, ond, serch hynny, mae'r egwyddorion cyffredinol i’w croesawu fel man cychwyn, a bydd Plaid Cymru yn pleidleisio o blaid yr egwyddorion hynny y prynhawn yma. Ond, i fod yn glir, mi fyddwn ni'n defnyddio’r wythnosau a’r misoedd nesaf i gynnig gwelliannau er mwyn sicrhau bod gan bob plentyn yng Nghymru gyfle i ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus.
Efallai dwi'n mynd i ddefnyddio tôn braidd yn wahanol i Cefin Campbell achos dwi'n optimist. Mi oeddwn i pan oeddwn i'n Weinidog yn sefyll fan hyn yn cyflwyno’r targed o filiwn o siaradwyr, a dwi'n optimist heddiw fod hynny yn bosibl. Ond mae'n her. Mae'n her i bob un ohonom ni, ac mae'n her i'r Llywodraeth, ond mae'n her i ni fel gwlad hefyd. Mae'n her i ni fel cenedl, achos dydy’r filiwn o bobl sy'n mynd i siarad a defnyddio’r Gymraeg ddim yn filiwn o bobl sy'n ymddangos mewn araith gan y Gweinidog neu’r wrthblaid; mae'n filiwn o bobl sy'n byw yng Nghymru, yn filiwn o bobl sy'n dewis defnyddio a siarad y Gymraeg. A dwi'n meddwl bod hynny yn bwysig, achos pa bynnag ddeddfwriaeth dŷn ni'n ei mabwysiadu fan hyn, dŷn ni ddim yn gallu deddfu i orfodi rhywun i siarad unrhyw iaith. Dŷn ni ddim yn gallu fy ngorfodi i siarad Cymraeg gyda fy mab pan fydd Cardiff City yn colli unwaith eto. Dŷn ni ddim yn gallu deddfu i fynnu fy mod i'n defnyddio’r Gymraeg pan dwi'n trio perswadio’r crwt i wneud ei waith cartref. Mae'n rhaid i ni berswadio. Ac mae'n rhaid i ni hefyd ddangos y posibilrwydd a'r cyfleodd sy'n dod o ddefnyddio a siarad Cymraeg.
Roeddwn i wedi croesawu'r cyfle i ymuno â'r pwyllgor, a dwi'n gwerthfawrogi'r gwaith mae'r Cadeirydd wedi ei wneud yn arwain y gwaith o sgrwtineiddio'r ddeddfwriaeth yma. A hefyd, pan fydddwch chi'n sgrwtineiddio deddfwriaeth—dydyn ni ddim yn gwneud digon ohono fe fan hyn, ambell waith—rydych chi'n gwerthfawrogi Stage 1, cyfnod cyntaf y broses deddfu, achos dyna lle mae'r cyhoedd yn siarad, ble mae pobl Cymru yn cael eu cyfle i fynegi barn ar y ddeddfwriaeth rŷn ni'n ei phasio yn fan hyn. Dydy e ddim yn digwydd lan y ffordd yn San Steffan, a dwi'n credu bod y stage cyntaf o'n proses ddeddfu ni yn hynod o bwysig, ac ambell waith rydyn ni'n anghofio hynny.
Ond mi ddysgais i lot fawr drwy eistedd ar y pwyllgor yma. Mi ddysgais i amboutu y pwysau eto sydd ar athrawon ac yn y system addysg. Gwnaeth fy nysgu i am bwysigrwydd dod â phobl gyda ni, siarad gydag ein cyd-Gymry amboutu'r amcanion yma, a sut rydyn ni wedi hynny yn gallu cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr, trwy berswâd, trwy ddangos y posibiliadau, bod y Gymraeg yn rhywbeth sy'n bia i bob un ohonom ni ac yn rhywbeth i'w groesawu ym mhob un o'n cymunedau.
Dwi'n falch iawn ar hyn o bryd o weld ysgol Gymraeg—y cyntaf—yn cael ei hadeiladu yn Nhredegar. Pan oeddwn i yn yr ysgol, wrth gwrs, doedd dim Cymraeg yn yr ysgol o gwbl. Pan oedd dad yn yr ysgol, doedd dim Cymraeg yn yr ysgol. Pan oedd mam-gu yn yr ysgol, roedden nhw'n cael eu gorfodi i beidio â siarad Cymraeg. So, mewn canrif, rydyn ni wedi gwrthdroi y sefyllfa yn Nhredegar. Dyna beth dwi eisiau ei wneud ar draws ein gwlad. Ac fe ddysgon ni lot yn ystod y cyfnod yma o sgrwtineiddio'r ddeddfwriaeth. Leiciwn i ofyn i'r Gweinidog i ystyried ambell ran o'r ddeddfwriaeth, i feddwl, 'Ydyn ni'n gallu gwella'r Bil yn fwy na mae hi ar hyn o bryd?' A dwi yn meddwl bod y Bil yn wellhad pwysig i'r system bresennol. Mae'n rhaid dweud hynny.
I fod yn hollol onest â chi, a doeddwn i ddim eisiau dweud hyn ar y pryd, ond pan oeddwn i'n Weinidog y Gymraeg, ac erbyn hyn, dwi'n dal ddim yn siŵr fy mod i'n deall yr holl gategorïau o ysgolion sydd gyda ni, sy'n categoreiddio sut ydyn ni'n defnyddio'r Gymraeg ym mhob un ysgol. Dwi'n credu, ambell waith, rŷn ni'n cymhlethu pethau gormod, a buaswn i'n leicio gofyn i'r Gweinidog i edrych eto ar rai o'r categorïau sydd gyda ni, a beth mae hynny yn ei feddwl i blant, i athrawon ac i'r cymunedau.
Dydy e ddim yn bwynt pwysig yn y llun mawr, ond mae'n bwysig ein bod ni'n gallu gwahaniaethu rhwng addysg drwy gyfrwng y Gymraeg ac addysg Gymraeg. Rwy'n credu bod addysg drwy gyfrwng y Gymraeg wedi bod yn llwyddiannus iawn, a thwf yn addysg drwy gyfrwng y Gymraeg wedi bod yn bwysig iawn, ac mae pobl yn deall hynny, ac mae pobl yn deall beth mae e'n ei feddwl. Felly, dwi ddim yn credu fy mod i eisiau ein gweld ni'n symud i ffwrdd o hynny. Dwi hefyd eisiau deall, Gweinidog, sut mae'r continwwm addysg Gymraeg rŷn ni wedi bod yn sôn amdano fe yn y blynyddoedd diwethaf yn ffitio i mewn i'r gyfundrefn newydd yma. Beth mae hynny yn ei feddwl yn y byd newydd rŷn ni'n ei fabwysiadu yn fan hyn?
Ac fe wnaf i fennu gyda dau bwynt cloi. Pan oedden ni'n gosod y targed, roedden ni'n defnyddio'r sensws i fesur faint ohonom ni sy'n siarad ac yn medru'r Gymraeg, ac roeddwn i'n meddwl bod hynny'n bwysig. Mae'r Llywodraeth nawr yn cyflwyno'r CEFR newydd. Doeddwn i ddim yn deall hyn cyn inni ddechrau gwaith ar y Bil. Dwi'n croesawu hynny. Ond leiciwn i ddeall sut mae hynny'n mynd i arwain polisi Llywodraeth. A'r peth olaf dwi eisiau ei wneud yw dychwelyd at y pwynt o hyrwyddo'r Gymraeg. Sut ydyn ni'n gallu hyrwyddo'r Gymraeg a sut mae'r Llywodraeth yn gallu sicrhau bod pobl yn cael y cyfle, lle bynnag maen nhw'n byw yn y wlad, i fwynhau'r Gymraeg? Ambell waith, dwi'n becso amboutu tôn y drafodaeth—
Alun, mae'n rhaid iti orffen nawr.
—a dwi yn meddwl, pan oeddwn i'n mynd ati i ddysgu Cymraeg, es i ati i ddysgu Cymraeg drwy fwynhau fy hun fel myfyriwr yn y coleg yn Aber. Sut ydyn ni nawr yn perswadio plant, pobl yn eu harddegau, pobl ifanc, i ddefnyddio'r Gymraeg pan ŷn ni i gyd yn gwybod mai'r dewis amlwg i bob un ohonom ni yw siarad Saesneg? So, mae'n rhaid meddwl amboutu sut rŷn ni'n gallu hyrwyddo'r Gymraeg a sicrhau bod pobl yn defnyddio'r Gymraeg heb gael eu gorfodi i wneud.
Dwi innau'n optimist hefyd, Alun Davies, ond dwi ddim yn meddwl ein bod ni'n dod o gyfeiriadau gwahanol o ran hyn, oherwydd nid mater o orfodaeth ydy o, mae o ynglŷn â rhoi'r cyfle i bawb. A dydy'r cyfle yna ddim yn bodoli ar y funud. Rydyn ni'n sôn am ddewis, bod y Gymraeg yn perthyn i bawb, ac ati—maen nhw'n bethau sy'n cael eu dweud drwy'r adeg rŵan—ond dydy'r Gymraeg ddim yn perthyn i bawb ar y funud, oherwydd pan dwi'n mynd i ysgolion yn fy rhanbarth i, mae'n stori wahanol iawn o ysgol i ysgol. Dwi wrth fy modd, fel mae nifer ohonoch chi, dwi'n siŵr, yn cyfarfod â phobl ifanc a chlywed eu barn nhw, ac mae nifer sy'n 16 neu'n 17 oed rŵan yn flin eu bod nhw wedi cyrraedd yr oed y maen nhw, bod y Senedd hon wedi bodoli ers iddyn nhw gael eu geni a'u bod nhw ddim gyda'r iaith. Maen nhw'n teimlo, 'Dwi'n methu siarad Cymraeg.' Ac efallai eu bod nhw eisiau rŵan, wrth iddyn nhw fod yn 16 neu'n 17 oed, yn mynd ati efo Duolingo, ac ati. Ond maen nhw yn y system addysg rŵan. Mi ddylen nhw allu'r Gymraeg erbyn hyn. Felly mae yna ddatrysiadau yn cael eu cynnig yn y Bil hwn.
Dwi'n cytuno, wrth gwrs, efo Cefin Campbell, dydy o ddim yn mynd yn ddigon pell eto ac mae yna waith fydd angen ei wneud i gryfhau hynny, ond dydy'r dewis ddim yna ar hyn o bryd, ac mae'n rhaid inni fod yn onest am hynny. A'r cyfleoedd i fwynhau yn y Gymraeg, yr holl bethau roedd Alun Davies yn sôn amdanyn nhw, dydy'r rheini ddim ar gael i bawb ar y funud. Felly, sut ydyn ni'n sicrhau hynny? Oherwydd pan fyddwch chi'n cael y cyfle hwnnw, mae plant a phobl ifanc yn ffynnu. [Torri ar draws.] Ie, hapus i gymryd ymyriad.
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n dysgu Cymraeg, ac iaith yw calon y genedl. Os bydd yr iaith yn marw, bydd y genedl yn marw. Felly, os mai dyna ein neges i'r cyhoedd, i bobl, rwy'n siŵr y byddan nhw i gyd yn siarad Cymraeg. Diolch.
Gwych. Wel, does yna ddim ffordd well o ddisgrifio hynny. A dyna un o'r pethau sydd efallai'n mynd ar goll wrth inni drafod y Bil hwn, nad dim ond am addysg y mae o. A dwi yn gresynu, efallai, drwy'r broses craffu, ein bod ni ddim wir wedi cael y cyfle i edrych ar yr elfennau eraill sydd ynglŷn â defnydd. A dwi'n edrych ymlaen, wrth i'r Bil fynd rhagddo, at sut y byddwn ni'n gallu canolbwyntio ar hynny, oherwydd mae hwn yn Fil gydol oes. Mae o ynglŷn â'r Gymraeg yn fyw ac yn berthnasol i'ch bywyd chi, beth bynnag fo'ch oed chi.
A dyna pam dwi innau hefyd yn croesawu sefydlu dull safonol i ddisgrifio gallu yn y Gymraeg, oherwydd mae hwnnw'n rhywbeth sydd i'w weld yn wendid, onid ydy, o ran y cyfrifiad ac ati, bod pobl yn teimlo, 'Dwi ddim yn hyderus i ddisgrifio fy hun fel hyn.' Mae cael rhyw fath o fframwaith, gobeithio, yn mynd i helpu pobl. Dwi ddim yn gwybod faint o weithiau rydych chi wedi cael y profiad, efallai, o gael rhywun yn trio am swydd sy'n dweud bod dim Cymraeg ganddyn nhw. Wel, dwi'n gwybod bod Cymraeg gan rai pobl sydd wedi trio am swyddi, ac rydych chi'n gallu cynnal sgwrs efo nhw, ond maen nhw'n meddwl gan fod eu Cymraeg nhw ddim yn berffaith eu bod nhw ddim hyd yn oed yn gallu dweud ar ffurflen eu bod nhw'n gallu'r Gymraeg, sy'n golygu weithiau nad ydyn nhw hyd yn oed yn cael y cyfle i fynd i gyfweliad. Felly, gobeithio bydd hwn hefyd yn help i rheini sy'n mynd am swyddi lle mae'r Gymraeg yn ddymunol neu'n hanfodol, eu bod yn gallu gweld wedyn eu bod nhw'n gallu ymgeisio.
Felly, yr hyn yr hoffwn i ofyn i'r Gweinidog—. Mae yna un peth sy'n dal i fy mhryderu i, sef y categori dwy iaith yn benodol. Un ysgol sydd yng Nghymru sydd efo'r model hwn ar y funud. Dwi'n feddwl agored o ran y model hwn, ond o ran y sail ymchwil bod hwn yn fodel sy'n mynd i weithio i Gymru, mae gen i bryderon, a dwi'n gobeithio y byddwn ni'n gallu gweld sut y bydd hwn yn gweithio. Mae'n rhaid i ni hefyd fod yn onest ar y funud, mae yna rai penderfyniadau yn cael eu hariannu gan y Llywodraeth sy'n effeithio yn negyddol ar y Gymraeg. A dwi'n sôn am ysgolion newydd, ac ati. Mae hynny'n gallu cael effaith. Ac mae'r ffaith y bydd y Bil yma'n sicrhau bod ysgolion yn methu newid categori iaith i israddio, mae hynny i'w groesawu.
Dwi eisiau mynd ar ôl un pwynt roedd Samuel Kurtz wedi ei godi o ran cludiant, oherwydd mae hwn yn fater hollbwysig hefyd. Mae hwnnw yn rhwystr ar hyn o bryd. Rydyn ni'n gwybod bod pobl yn gwneud y dewis i fynd am addysg Saesneg yn hytrach na'r Gymraeg. Felly, dydy o ddim yn fater o bobl yn dewis y Gymraeg neu beidio wedyn; dydy o ddim yn ddewis os nad oes cludiant. Felly, mi fyddwn i'n hoffi gwybod sut y mae'r Llywodraeth yn bwriadu mynd i'r afael â hyn.
Felly, mae yna nifer o agweddau cadarnhaol, wrth gwrs, ond mae'n rhaid inni fod yn onest: nid ynglŷn â dewis ydy hyn, mae o am gyfle cyfartal i bawb i allu siarad iaith ein cenedl. Mae o ynglŷn â dod â Chymru yn agosach at y byd, gan fod dwyieithrwydd, amlieithrwydd yn normal mewn gwledydd eraill. Felly, a gawn ni symud y drafodaeth ymlaen? Mae yna rai yn parhau i fod yn negyddol am y Gymraeg allan yna, oes; wel, mi fyddan nhw'n ddeinosoriaid yn y dyfodol wrth i ni roi'r cyfle hyderus i bawb ddod yn siaradwyr Cymraeg.
Mae'n rhaid i mi ddweud, rwy'n cael fy nharo gan y gwahaniaeth amlwg rhwng tôn y ddadl a'r naws yn y pwyllgor, ac efallai mai dyna yw natur y tymheredd yn y Siambr o gymharu â'r tymheredd yn ystafell y pwyllgor. Roeddwn i'n falch o fod yn rhan o broses y pwyllgor, oherwydd roeddwn i'n meddwl ei fod yn graffu da iawn, ac roedd yn graffu cydsyniol trawsbleidiol. Fe wnaethon ni i gyd chwilio am y meysydd hynny lle gallem ddod o hyd i dir cyffredin a chawsom sesiynau o ansawdd uchel iawn gyda'r Ysgrifennydd Cabinet lle gwnaethom drafod egwyddor a manylion y ddeddfwriaeth arfaethedig.
Rwyf wedi dod allan o'r broses honno yn teimlo'n eithaf optimistaidd fy hun am ein gallu fel Senedd i lunio polisi mewn maes anodd a heriol iawn. Gadewch i ni beidio â thanbrisio pa mor uchelgeisiol yw'r Bil hwn, a rhoi clod llawn i Blaid Cymru, oherwydd oni bai am y cytundeb cydweithio, ni fyddai'r Bil hwn wedi cael ei gyflwyno. Yn amlwg, mae wedi mynd drwyddo gyda chytundeb, ac mae'n rhywbeth rydyn ni i gyd yn ymrwymo iddo, ond mae hynny'n rhywbeth rwy'n credu y gallan nhw fod yn falch iawn ohono wrth ddod â ni i'r cam hwn, a chael y targed o 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 mewn deddfwriaeth. Pan fyddwch chi'n ei roi yng nghyd-destun sefyllfa fyd-eang ieithoedd lleiafrifol, mae ieithoedd lleiafrifol yn hynod fregus ledled y byd, ac rwy'n credu bod yr hyn rydyn ni'n ceisio'i wneud yma yn agenda unigryw uchelgeisiol a heriol o geisio gwrthdroi'r duedd honno. Dydy e ddim yn hawdd, ac rwy'n credu y dylem gymryd rhywfaint o gysur o'r ffaith ei fod yn anodd, ond ein bod ni'n ei wneud gyda'n gilydd, a'n bod yn uchelgeisiol ar ei gyfer.
Mae'n anochel mai Bil sy'n canolbwyntio ar y system addysg yw hwn, ond nid problem addysg yw hon yn bennaf; polisi diwylliannol ydyw lle rydyn ni'n gofyn i'r system addysg gyflawni ar ein rhan. Rydym hefyd yn gofyn i'r system addysg gyflawni llawer o bethau eraill, ac mae hynny'n rhoi straen enfawr ar y system addysg ac ar y gweithlu. Rwy'n credu y dylem gydnabod yr heriau y mae hynny yn eu cyflwyno i ni. Roeddwn i'n falch iawn o weld, ar nodyn ychydig yn llai sur na Cefin Campbell, y datganiad ysgrifenedig ddydd Llun gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar yr ymrwymiad i ddatblygu cynllun gweithlu, a oedd yn argymhelliad yn adroddiad y pwyllgor—nid dim ond y gweithlu Cymraeg, y gweithlu cyfan, oherwydd rydyn ni'n cydnabod bod amrywiaeth o bwysau. Ond yn amlwg, mae'r gweithlu Cymraeg yn hollbwysig, ac rwy'n falch o nodi sicrwydd yr Ysgrifennydd Cabinet ar hynny hefyd.
Ond rydym yn dibynnu'n llwyr ar y gweithlu, ac yn enwedig yn yr ysgolion hynny sy'n gyfrwng Saesneg yn bennaf ar hyn o bryd. Dyna'r plant rwy'n credu sydd wedi bod ar eu colled fwyaf yn yr agenda ddiwylliannol wych hon sydd gennym. Oherwydd a dweud y gwir, os ewch chi i ysgol cyfrwng Saesneg, mae eich siawns o ddod allan ar y diwedd yn gallu cael sgwrs ystyrlon yn Gymraeg yn eithaf isel. Yr hyn y mae'n ei wneud hefyd yw magu drwgdeimlad a chwerwder ymhlith llawer o ddisgyblion sy'n mynd i'r ysgol eu bod wedi cael addysg o ansawdd gwael a phrofiad gwael lle nad ydynt yn deall pam eu bod yn destun hyn. Rwyf wedi cael llawer o sgyrsiau gyda phobl ifanc yn Llanelli sy'n adlewyrchu hynny, ac mae'n rhaid i mi ddweud ei fod yn eithaf torcalonnus. Felly, mae'n hanfodol ein bod yn canolbwyntio ar ansawdd y ddarpariaeth cyfrwng Saesneg, ac ansawdd y system gyfan i sicrhau ein bod yn cyrraedd y safon gyffredin. Felly, rwy'n falch iawn o'r cynnydd yr ydym wedi gallu ei wneud trwy gydweithredu i gyrraedd y pwynt hwn.
Rwyf am ganolbwyntio ychydig ar un elfen o'r Bil, sef yr adran 5 honno, y fframwaith safonol newydd ar gyfer disgrifio gallu yn y Gymraeg, y CEFR fel y'i gelwir, y fframwaith cyfeirio Ewropeaidd cyffredin ar gyfer ieithoedd, fframwaith Cyngor Ewrop a ddefnyddir ledled y byd ac nad yw, hyd yma, wedi'i fabwysiadu'n eang yn ein gwlad. Rwy'n credu ei fod yn ddatblygiad cadarnhaol iawn. Mae'n cael ei ddefnyddio yng Ngwlad y Basg ac yn y Ffindir, ac mae'n gosod categorïau o ddatblygiad iaith sy'n ei roi ar sbectrwm a chontinwwm, sydd, yn fy marn i, yn iach iawn. Mae'n sôn am lefel sylfaenol, y mae'n ei galw'n A1 un ac A2, yna'n symud i fyny i'r hyn y mae'n ei gategoreiddio fel y defnyddiwr annibynnol, B1 a B2, ac yna yn olaf, defnyddiwr hyfedr, C1 a C2. Ac mae'n rhaid i mi ddweud, rwy'n credu ei bod yn gadarnhaol iawn symud i ffwrdd o'r system gategoreiddio ddeuaidd flaenorol a oedd gennym o siaradwr hyderus neu rhugl a dysgwr, yr wyf wastad wedi bod yn bryderus iawn yn ei chylch.
Dwi ddim yn aml yn siarad Cymraeg yn y Siambr achos dwi ddim yn ddigon hyderus; dwi ddim yn teimlo fy mod i'n gallu dweud mewn ffordd ffurfiol y pethau dwi eisiau eu dweud, a'r ffordd dwi eisiau eu dweud nhw. Ond dwi'n cofio mynd i Nant Gwrtheyrn am sbel a chael sgwrs gyda dyn o America a dyn o Awstralia oedd wedi dysgu Cymraeg yn wych. Rôn ni'n chwarae Monopoly gyda'n gilydd, ac rôn i wedi siarad yr holl amser wrth y ddau ohonyn nhw yn Gymraeg. Rôn i'n esbonio iddyn nhw y ffordd mae'r sensws yn gweithio yng Nghymru, a'r ffaith nad yw pobl fel fi ddim yn disgrifio ein hunain yn y sensws fel siaradwyr rhugl. Ac rwy’n cofio nhw’n dweud wrthyf fi, ‘Beth wyt ti’n meddwl? Rydych chi wedi siarad â ni yr holl waith yn Gymraeg. Beth sy’n bod arnoch chi?’ Sylweddolais i eu bod nhw’n hollol gywir. Ond mae barier seicolegol gyda ni, a dwi ddim yn credu bod y ffordd roeddem ni’n meddwl am y Gymraeg rhwng y categories hyn o ddysgwyr a siaradwyr rhugl yn helpu. Rwy’n cofio pobl yn dweud pan oeddwn i’n tyfu lan, ‘Mae e’n siarad fel dysgwr', ac roedd hynny yn hollol unhelpful—dyna’r gair.
Dyna'r hyn rwy'n ei hoffi am y fframwaith hwn: mae'n ein symud i ffwrdd o'r ymdeimlad hwnnw o wahaniaeth deuaidd, ac rwy'n credu ei fod yn helpu. Bydd yn helpu cyflogwyr, bydd yn helpu pobl gyda'u bagiau eu hunain a'u taith eu hunain fel siaradwr Cymraeg i gydnabod y gallwn ni i gyd siarad rhywfaint o Gymraeg, ac y gallwn ni i gyd siarad ychydig yn fwy. Rydyn ni i gyd yn Gymry Cymraeg, oherwydd rydyn ni'n genedl a, gyda'n gilydd, mae hon yn nodwedd unigryw y mae'n rhaid i ni ei choleddu. Rwy'n credu bod y Bil hwn yn gam pwysig ymlaen. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a diolch i bob un sydd wedi cyfrannu at y ddadl—dadl ddiddorol, dadl adeiladol. A diolch yn fawr i bob un sydd wedi dweud o bob plaid maen nhw’n mynd i gefnogi’r Bil i symud ymlaen ar ôl Cyfnod 1. Dwi’n cytuno gyda beth ddywedodd Alun Davies: pan oeddwn i’n darllen yr adroddiadau ar ôl Cyfnod 1 dros y Nadolig, beth oedd yn fy nharo i oedd safon y ddadl tu ôl i adroddiadau’r pwyllgorau. Dwi’n meddwl bod hwnna wedi cael ei adlewyrchu ar lawr y Senedd y prynhawn yma.
Yn y ddadl sydd wedi bod o gwmpas y Bil, rydych chi’n gallu clywed pethau ar lawr y Senedd y prynhawn yma. Ar un ochr, roedd Sam Kurtz yn ei gyfraniad adeiladol e yn dechrau gyda’r heriau sydd tu ôl y Bil. Mae’r Bil yn heriol, a bydd y Bil yn heriol mewn rhai ardaloedd yma yng Nghymru. Dyma pam rŷn ni’n mynd i wneud gwaith gyda’n gilydd i roi system yn ei lle ble mae pob rhan o Gymru’n gallu defnyddio’r Bil. Ar yr un ochr, mae yn heriol.
Ar yr ochr arall, roedd Cefin Campbell yn dweud dyw’r Bil ddim yn ddigon uchelgeisiol, ac, wrth gwrs, roedd y pwyllgor wedi clywed wrth bobl o bob ochr. Roedd rhai pobl yn dweud ei fod e'n rhy heriol, roedd rhai pobl yn dweud nad yw e ddim yn ddigon uchelgeisiol. Dwi’n meddwl bod y Bil yn uchelgeisiol, ac mae’n uchelgeisiol dros bob plentyn yma yng Nghymru. Fel roedd Lee Waters yn ei ddweud, rydym ni wedi llwyddo. Rydym ni wedi cael llwyddiant mawr yma yng Nghymru yn tyfu addysg trwy gyfrwng y Gymraeg a safon yr addysg mae pobl yn ei chael pan fyddan nhw’n mynd trwy'r system yna. A jest i ddweud unwaith eto y prynhawn yma, dyna uchelgais y Llywodraeth hefyd: cynyddu y ganran o blant sy’n cael eu haddysg trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.
Ond ar yr ochr arall, mae’r rhan fwyaf o blant yng Nghymru yn cael eu haddysg drwy gyfrwng y Saesneg. Mae wedi bod yn orfodol iddyn nhw ddysgu Cymraeg am ddegawdau nawr, ond rydym ni’n gwybod dydyn ni ddim wedi llwyddo i roi’r un safon o brofiadau iddyn nhw, a dyna beth mae’r Bil yn trio ei wneud, tynnu pob un plentyn sydd gyda ni i mewn i system ble mae pob un yn gallu dod mas ar y diwedd yn gallu siarad Cymraeg yn hyderus ac yn teimlo bod y profiadau maen nhw wedi eu cael pan oedden nhw mewn addysg yn rhai sy’n mynd i fod yn ddefnyddiol iddyn nhw. Ac i fwynhau’r Gymraeg, fel oedd Alun Davies yn ei ddweud, trwy ei wneud e fel yna.
Dwi’n edrych ymlaen, Dirprwy Lywydd, at gael mwy o gyfleon yn ystod Cyfnod 2 a Chyfnod 3 i ddelio gyda rhai o’r manylion mae pobl wedi eu codi y prynhawn yma.
Rwy'n cytuno'n fawr â phwynt Lee Waters bod y CEFR yn ddatblygiad mawr o'n meddylfryd yma yng Nghymru sy'n ein symud i ffwrdd o'r ddau gategori di-fudd iawn hynny: ydych chi'n siaradwr Cymraeg neu ddim? Rwy'n credu y bydd hyn yn ddefnyddiol iawn yn y gweithle hefyd. Byddwn ni'n gweld, yn y dyfodol, swyddi yn cael eu hysbysebu nad oes rhaid iddynt ddewis rhwng 'Cymraeg yn hanfodol' a 'Cymraeg yn ddymunol', ond a fydd yn gallu dweud, 'Rydym yn chwilio am rywun sy'n gallu siarad Cymraeg ar lefel C3, C2'—beth bynnag fyddai hynny—sy'n paru lefel y Gymraeg sydd gan rywun â natur y swydd y byddan nhw'n ei chyflawni. Gwnaeth Mike Hedges y pwynt bod y Llywodraeth, yn y pen draw, wedi glynu at egwyddor sylfaenol nad mater i'r Llywodraeth yw penderfynu a yw rhywun yn siaradwr Cymraeg ai peidio; yng Nghymru, mater i'r unigolyn yn y diwedd yw gwneud y penderfyniad hwnnw. Ond bydd y fframwaith Ewropeaidd cyffredin hwnnw yn caniatáu i bobl wneud y penderfyniad hwnnw amdanyn nhw eu hunain, gan wybod eich bod yn defnyddio system y mae pobl eraill yn ei chydnabod ac sy'n ymdeimlad cyffredin o'r hyn y bydd yn ei olygu i fod yn siaradwr Cymraeg yng Nghymru, mewn gwahanol gyd-destunau.
Mae llawer mwy o agweddau ar y Bil y byddwn yn eu trafod, rwy'n siŵr, yn ystod—
—Cyfnod 2 a Chyfnod 3. Dwi'n edrych ymlaen. Un o'r pethau rŷn ni wedi llwyddo i'w wneud, ac mae'n hollbwysig, dwi'n meddwl, yw cadw'r iaith ar lawr y Senedd fel rhywbeth sy'n bwysig i ni yn drawsbleidiol. Mae pob plaid fan hyn eisiau gweld y Gymraeg yn ffynnu yn y dyfodol. A thrwy wneud pethau yn y ffordd yna, rŷn ni'n gallu gweld ffordd ymlaen, ffordd sydd yn optimistig, ffordd sydd yn gallu rhoi mwy o gyfleoedd a mwy o hyder i bobl yma yng Nghymru at y dyfodol i gadw'r iaith yn fyw, cadw'r iaith yn rhywbeth rŷn ni'n ei defnyddio bob dydd, a chadw'r iaith sy'n bwysig i ni fel cenedl. Mae'r Bil yn un peth sy'n ein helpu ni i wneud hynny. Dwi'n ddiolchgar iawn i bob un sydd wedi cyfrannu i'r ddadl a dwi'n edrych ymlaen at gydweithio gyda phobl pan fydd y Bil yn mynd drwy'r Senedd. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 6? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Y cwestiwn nesaf yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 7? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio.
Bydd yr unig bleidlais heno ar eitem 5, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cofrestru Etholiadol heb Geisiadau) (Cynllun Peilot) (Cymru) 2025. Galwaf am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 38, neb yn ymatal ac 14 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn.
Eitem 5. Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cofrestru Etholiadol heb Geisiadau) (Cynllun Peilot) (Cymru) 2025: O blaid: 38, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.
Daeth y cyfarfod i ben am 17:44.