Y Cyfarfod Llawn

Plenary

07/01/2025

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Prynhawn da a chroeso, bawb, i’r Cyfarfod Llawn—Cyfarfod Llawn cyntaf 2025. Blwyddyn newydd dda i chi i gyd fel Aelodau.

Rŷn ni’n cychwyn y flwyddyn, yn anffodus, ar nodyn trist, drwy nodi marwolaeth dau gyn-Aelod o’r Senedd yma—Jenny Randerson, Aelod dros Ganol Caerdydd o 1999 i 2011, a Peter Rogers, Aelod rhanbarth y gogledd o 1999 i 2003.

Roedd y ddau yn perthyn i'n dosbarth '99 ni. Roedd Jenny yn Aelod dylanwadol, uchel iawn ei pharch a roddodd wasanaeth maith o'r Senedd hon. Roedd yn un o'i chefnogwyr mwyaf cadarn, tra yma, ac yn ei swyddogaeth wleidyddol barhaus yn Nhŷ'r Arglwyddi. Roedd yn llais doeth yn y dyddiau cynnar hynny o ddatganoli.

Roedd Peter Rogers yn dod o ran wahanol iawn o Gymru ac o wahanol draddodiad gwleidyddol. Roedd ei lais ef yn un angerddol dros gymunedau gwledig yn arbennig. Roedd yn ŵr caredig ac ymroddgar.

Mae ein meddyliau fel Senedd gyda theuluoedd, ffrindiau a chydweithwyr gwleidyddol Jenny Randerson a Peter Rogers. Gofynnaf yn awr i Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, ddweud ambell air er cof am Jenny.

Diolch yn fawr iawn am y cyfle i roi teyrnged byr i Jenny Randerson.

Y peth cyntaf yr hoffwn i ei wneud yw cydymdeimlo o'r galon â Pete a'r teulu ar yr adeg drist iawn hon. Roedd yn sydyn iawn ac yn sioc iddyn nhw o golli Jenny.

Roedd Jenny yma ar wawr datganoli. Roedd yn was cyhoeddus ar hyd ei hoes. Roedd yn athrawes, yna'n ddarlithydd, ac yna aeth ymlaen i gael ei hethol fel yr Aelod cyntaf yma dros Ganol Caerdydd, ac yna, fel rydych chi wedi clywed, aeth ymlaen i fod yn Nhŷ'r Arglwyddi hefyd.

Roedd Jenny yn unigryw iawn. Disgleiriodd ei chariad a'i hangerdd at y celfyddydau, diwylliant a'r Gymraeg. Roedd fel golau yn mynd trwy brism i Jenny. Deilliodd cymaint o hynny. Rydym ni i gyd yn nyled Jenny am fynediad am ddim i amgueddfeydd ac orielau celf. Rydym ni i gyd yn nyled Jenny am y penderfyniad i adeiladu Canolfan y Mileniwm yma drws nesaf. Rydym ni yn nyled Jenny, hefyd, am gychwyn bod â strategaeth ar gyfer y Gymraeg. Ei babi hi oedd 'Iaith Pawb'.

Aeth Jenny ymlaen i fod yn Weinidog yma yng Nghaerdydd, ac yna'n Weinidog yn Llundain. Hi oedd y cyntaf o lawer. A hi oedd Gweinidog fenywaidd gyntaf ein plaid erioed. Felly, fe wnaeth hi wir yrru ymlaen yn hynny o beth.

Dim ond dau fyfyrdod go iawn yn bersonol gen i. Roedd Jenny yn rhywun a oedd yn gwybod sut i gyflawni pethau. Roedd yn gwybod sut i weithio ar draws pleidiau. Roedd yn Aelod yma, ac yn Aelod Cabinet yn Llywodraeth Lafur Cymru, ac yna aeth ymlaen i fod yn Weinidog yn y Llywodraeth Geidwadol hefyd. Roedd yn gwybod sut i weithio ar draws pleidiau—dawn wirioneddol—ac roedd ganddi nodwedd athrylithgar yn hynny.

Mae'r ail beth yn rhywbeth personol iawn i mi. Fel gwleidydd benywaidd o Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru, fe wnaeth hi wir ysbrydoli llawer ohonom ni i ymuno â byd gwleidyddiaeth. Roedd yn berson tawel, sensitif, yn y cefndir, a wnaeth ein helpu ni i gyd ar y daith honno i gamu i fyd gwleidyddiaeth fel menyw.

Rwy'n gwybod bod llawer ohonoch chi yn ei hadnabod, ac rwy'n gwybod y byddai llawer ohonoch chi eisiau rhannu eich cydymdeimlad diffuant â'i theulu ar yr adeg hon. Diolch, Jenny. Diolch yn fawr iawn.

Diolch. Roedd Peter Rogers yn aelod o'r Ceidwadwyr Cymreig a wasanaethodd yn y Senedd, ac i fyfyrio ar hynny, Darren Millar, eu harweinydd.

Diolch, Llywydd. Roeddwn innau hefyd yn drist iawn o glywed newyddion am gyn-gydweithiwr arall yn ein gadael dim ond ddoe—ein ffrind annwyl Peter Rogers, a wnaeth, wrth gwrs, wasanaethu fel Aelod y Ceidwadwyr Cymreig o'r Senedd hon rhwng 1999 a 2003. Bydd colled fawr ar ei ôl ymhlith pawb a oedd yn ei adnabod. Roedd yn gymeriad anhygoel yng ngwleidyddiaeth Cymru, rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud—yn angerddol iawn, iawn. Roedd wrth ei fodd yn gwneud araith lem yn erbyn Gweinidog Llafur. Ceir llawer o ymadroddion lliwgar yng Nghofnod y Trafodion o ganlyniad i hynny.

Ond roedd yn weithredwr aruthrol. Gweithiodd yn eithriadol o galed dros bobl y gogledd, yr oedd yn falch iawn o'u cynrychioli, ac, wrth gwrs, pobl Ynys Môn, y gwnaeth eu gwasanaethu gyda rhagoriaeth fel cynghorydd cymuned, ac fel cynghorydd sir dros y blynyddoedd hefyd.

Roedd yn hoff iawn o'i rygbi. Roedd yn un o'r pethau yr oedd yn angerddol drosto, ochr yn ochr â ffermio a chefnogi'r gymuned amaethyddol, y siaradodd yn groch ar ei rhan yn aml yn y Siambr hon dros y blynyddoedd pan oedd yn Aelod. Bydd colled fawr ar ei ôl ymhlith pawb, yn enwedig ei deulu, ac rydym ni'n anfon ein cydymdeimlad dwysaf atyn nhw.

Hoffwn hefyd, gyda'ch goddefgarwch, dalu teyrnged i'r Farwnes Jenny Randerson. Roedd Jenny Randerson yn Aelod o'r Senedd hon pan gefais fy ethol gyntaf yn ôl yn 2007, a chefais yr anrhydedd o allu gwasanaethu ochr yn ochr â hi fel cynrychiolydd etholedig. Roedd yn uchel iawn ei pharch ar bob ochr i'r Senedd, gan gynnwys Aelodau o'r Ceidwadwyr Cymreig ar y meinciau hyn. Roedd hi wedi ennill y parch hwnnw oherwydd y gwaith a'r ymroddiad yr oedd hi wedi eu cyfrannu, fel aelod o'r meinciau cefn ac, yn wir, fel aelod o'r meinciau blaen, fel Gweinidog.

Mae'n rhaid i ni gofio hefyd iddi wasanaethu yn Llywodraeth y DU, ac nid yng ngweinyddiaethau Llywodraeth Cymru yn unig. Roedd yn un o arloeswyr y Llywodraeth glymblaid honno yma yn y Senedd, a oedd yn newydd i lawer o bobl ar y pryd. Gwasanaethodd ei hetholaeth yng Nghanol Caerdydd a phobl Cymru, rwy'n credu, gyda rhagoriaeth. Yn sicr, gwnaeth ei marc yn hanes gwleidyddol Cymru, ac rydym ni, fel yr ydych chi, Jane Dodds, yn anfon ein cydymdeimlad dwysaf atoch chi a theulu Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ar eich colled, ond yn enwedig i deulu, ffrindiau ac anwyliaid Jenny hefyd. Diolch.

13:35
1. Enwebiadau ar gyfer Cadeirydd Pwyllgor

Fe wnawn ni symud ymlaen i'r eitem cyntaf o fusnes, sef enwebiadau ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig. Dwi nawr yn mynd i alw am enwebiadau ar gyfer y gadeiryddiaeth honno. I atgoffa Aelodau, dim ond Aelod o'r grŵp gwleidyddol y dyrannwyd y pwyllgor hwnnw iddo a all gael ei enwebu'n Gadeirydd, a dim ond Aelod o'r un grŵp gwleidyddol sy'n cael cynnig yr enwebiad. Y grŵp hwnnw yw grŵp y Torïaid Cymreig. Os bydd unrhyw Aelod yn gwrthwynebu enwebiad, neu os gwneir dau neu fwy o enwebiadau, bydd yna bleidlais gudd yn cael ei chynnal. A oes unrhyw enwebiad ar gyfer cadeiryddiaeth y Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig? 

A oes unrhyw enwebiadau eraill? Na, does yna ddim unrhyw enwebiadau eraill. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu'r enwebiad hwnnw? Na, does yna ddim gwrthwynebiad i'r enwebiad hwnnw. Felly, fe fedraf i gadarnhau bod Andrew R.T. Davies wedi cael ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig. Pob dymuniad da gyda'r gwaith hwnnw, Andrew.

2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Cwestiynau i'r Prif Weinidog sydd nesaf. Mae'r cwestiwn cyntaf y prynhawn yma gan Julie Morgan.

Pobl ag Alergeddau

1. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi pobl ag alergeddau? OQ62065

Gyda'ch goddefgarwch, Llywydd, a gaf i ymuno â Jane Dodds i dalu teyrnged i Jenny Randerson am ei chyfraniad enfawr at Gymru ac at y sefydliad hwn yn arbennig, yn y dyddiau cynnar hynny o ddatganoli? Rwy'n gwybod ei bod wedi gwasanaethu fel Gweinidog yn y Llywodraeth glymblaid o dan Rhodri Morgan. Roedd yn eiriolwr dros ei chymuned, roedd yn eiriolwr dros y Democratiaid Rhyddfrydol, roedd yn eiriolwr dros Gymru, a bydd colled ar ei hôl.

Hoffwn hefyd nodi gyda thristwch fod y cyn-Aelod Ceidwadol Peter Rogers, a oedd, ochr yn ochr â Jenny, yn un o Aelodau gwreiddiol y Siambr hon, a etholwyd ym 1999. Ar ran fy ngrŵp gwleidyddol, hoffwn rannu ein cydymdeimlad â theuluoedd ein cyn-gydweithwyr.

Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn am alergeddau, Julie. Byrddau iechyd lleol sy'n gyfrifol am gynllunio a darparu gwasanaethau alergedd ar draws eu hardaloedd lleol, yn unol â safonau ansawdd y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal.

Diolch am yr ateb.

Mae etholwr wedi cysylltu â mi sydd ag alergedd i brotein pys, yn ogystal ag i godlysiau a phylsiau. Alergedd pys yw'r alergedd sy'n tyfu gyflymaf, gan oddiweddyd sesame yn ei gyffredinrwydd. Mae protein pys yn cael ei ddefnyddio mewn mwy a mwy o fwydydd, fel holl fyns byrgers McDonald's, y rhan fwyaf o selsig, lolipops, cacennau, teisennau crwst a losin gludiog. Er gwaethaf y cynnydd i alergeddau pys, nid yw'n un o'r 14 prif alergenau y mae'n rhaid eu harddangos ar gynhyrchion bwyd. Mae fy etholwr wedi disgrifio i mi pa mor anodd yw hi mynd i fwytai, gan nad yw'n ofynnol i fwytai ddarparu rhestr gynhwysion lawn eu bwyd i gwsmeriaid. Felly, a oes unrhyw beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod bwytai a chaffis yn helpu eu cwsmeriaid i nodi alergenau posibl yn y bwyd? Hefyd, beth sy'n cael ei wneud i nodi alergenau poblogaidd sy'n dod i'r amlwg fel y gellir eu hychwanegu at y rhestrau cynhwysion a ddangosir ar fwyd?

13:40

Diolch yn fawr iawn, Julie. Ni allaf ddychmygu pa mor anodd yw hi i oedolion, ond yn enwedig rhieni plant sydd â'r alergeddau hyn. Mae'n ymddangos eu bod nhw'n dod yn fwy cyffredin, ac mae'n ymddangos bod gan pobl lai o oddefiad. Rwy'n credu bod cydnabyddiaeth y byddai mwy o wybodaeth o gymorth, ac weithiau'n gallu achub bywydau. Rwy'n gwybod bod yr Asiantaeth Safonau Bwyd, sef y sefydliad sydd â chyfrifoldeb am ddiogelwch bwyd o ran labelu yng Nghymru a Lloegr, wrth gwrs, yn datblygu canllawiau cryfach ar gyfer busnesau bwyd, gan gynnwys bwytai. Ar hyn o bryd, gallwch fynd i mewn i fwyty a gallan nhw ddweud wrthych chi ar lafar beth yw'r sefyllfa o ran yr hyn sydd yn y bwyd, ond ceir awgrym y dylid ei ysgrifennu i lawr. Mae ymgynghoriad a ddaeth i ben ym mis Tachwedd 2024. Rwy'n gwybod bod yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn bwriadu cyhoeddi'r canllawiau ar hyn yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Rwy'n gobeithio y bydd hynny'n helpu i fynd i'r afael â'r mater yr ydych chi wedi ei nodi.

Prif Weinidog, mae achosion diweddar wedi tynnu sylw at heriau sy'n wynebu unigolion ag alergeddau difrifol yng Nghymru, fel teuluoedd sy'n troi at brofi bwyd ar eu plant mewn meysydd parcio ysbytai oherwydd diffyg gwasanaethau alergedd arbenigol ledled Cymru. Yn ôl Allergy UK, mae 61 y cant o unigolion yn teimlo nad oes digon o gymorth gan y Llywodraeth i ddioddefwyr alergeddau. Hefyd, mae data yn dangos angen cynyddol am driniaethau brys fel chwistrellwyr adrenalin awtomatig a seilwaith gofal alergedd gwell. A allech chi amlinellu heddiw, Prif Weinidog, yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ehangu gwasanaethau alergedd arbenigol ledled Cymru ac i wella mynediad at driniaeth frys fel EpiPens, a hefyd sicrhau bod cyfleusterau cyhoeddus fel ysgolion a chyfleusterau a lleoliadau cymunedol ledled Cymru yn cael eu hyfforddi i ymdrin ag adweithiau alergaidd difrifol ymhlith ein poblogaeth?

Diolch yn fawr iawn, a chroeso i'ch portffolio newydd. Gobeithio nad ydych chi'n rhy hoff o gysgu; bydd yn eich cadw'n effro llawer yn ystod y nos.

Dim ond i fod yn eglur, rydym ni'n ymwybodol iawn bod cymorth alergedd ledled Cymru yn amrywio llawer. Dyna pam rydym ni wedi cynnal ymarfer cwmpasu i ddeall yn well ble mae'r bylchau o ran darpariaeth. Rydym ni wedi penodi'r Athro Chris Fegan i ymgymryd â'r gwaith hwn, ac felly mae'r gwaith hwnnw'n cael ei wneud wrth i ni siarad. Rhoddir canllawiau i bob ysgol ac fe'u hyfforddir i adnabod yr arwyddion a'r symptomau sy'n sbarduno'r cyflyrau meddygol hynny sy'n peryglu bywyd yn arbennig. Mae angen iddyn nhw wybod beth sy'n digwydd mewn achos brys, ac mae angen iddyn nhw wybod sut i ddefnyddio EpiPen. Mae hyn eisoes yn cael ei wneud yn ein hysgolion. Fel y gwyddoch chi, mae gennym ni brydau ysgol am ddim mewn ysgolion cynradd, a cheir sensitifrwydd ynghylch hynny hefyd, lle mae angen cymryd anghenion deietegol dysgwyr i ystyriaeth.

Gofal Iechyd Preifat

2. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r rhesymau dros y cynnydd yn nifer y cleifion sy'n defnyddio gofal iechyd preifat yng Nghymru? OQ62084

Mae'r data cenedlaethol gan y Rhwydwaith Gwybodaeth Gofal Iechyd Preifat yn dangos y bu cynnydd i dderbyniadau ar gyfer gofal iechyd preifat ym mhob rhan o'r DU yn 2023 o'i gymharu â 2022. Mae her gyffredin y DU o amseroedd aros hir yn debygol o fod yn ffactor allweddol sy'n sail i'r cynnydd hwn.

Diolch, Prif Weinidog. Fel y gwyddoch chi, ac fel yr ydym ni i gyd yn ei wybod, mae rhestrau aros wedi bod yn mynd ymhellach allan o reolaeth, gan gyrraedd lefel uchaf erioed newydd ar ôl naw mis o gynnydd yn olynol. Mae'r sefyllfa enbyd hon yn gorfodi llawer o bobl i dalu am eu gofal iechyd yn dilyn blynyddoedd o aros—mewn poen, yn aml—am apwyntiad.

Rwy'n siŵr eich bod chi wedi gweld ymgais ddiweddaraf Keir Starmer i ail-frandio. Cyhoeddodd Prif Weinidog y DU y byddai mwy o gydweithio rhwng y sector preifat a'r GIG yn Lloegr. Er bod eich Llywodraeth wedi dyrannu rhywfaint o gyllid i geisio mynd i'r afael â'r rhestrau aros hiraf, y gwir amdani yw bod ein GIG yn dal i fod filltiroedd y tu ôl i Loegr.

Fel ffordd fyrdymor a phragmatig ymlaen i leddfu dioddefaint cleifion ledled y wlad, pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi ei rhoi i gynyddu cydweithrediad ymhellach rhwng GIG Cymru a darparwyr gofal iechyd preifat i helpu i wrthdroi'r duedd echrydus o ran amseroedd aros yma yng Nghymru?

13:45

Wel, diolch yn fawr iawn. Dydw i ddim yn siŵr a oes gan Loegr lawer i ymffrostio ynddo: mae ganddyn nhw 7.5 miliwn o bobl ar eu rhestrau aros nhw. Ond, rydych chi'n iawn—rydych chi'n iawn—mae'r sefyllfa yng Nghymru yn sylweddol a dyna pam rydym ni'n rhoi llawer o sylw, yn benodol, i'r arosiadau hiraf hynny. Tua 22 wythnos yw'r arhosiad cyfartalog yng Nghymru am ofal bellach, rwy'n credu. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid i ni gofio bod y person cyffredin yn aros 22 wythnos. Ond, wrth gwrs, rwy'n deall bod y bobl hynny sydd wedi bod yn aros am amser maith yn rhwystredig, weithiau'n aros mewn poen, ac, wyddoch chi, maen nhw'n ddig gyda'r system. Rwy'n deall hynny. Roedd rhywun ar y teledu yn Lloegr neithiwr a oedd wedi bod yn aros naw mlynedd am lawdriniaeth ar y glun. Felly, dydw i ddim yn gwybod yn union sut rydych chi'n cyfateb hynny i 'Mae gennym ni ffigurau gwych yn Lloegr'.

Gadewch i mi esbonio i chi, mewn gwirionedd, yng Nghymru, mai dim ond 172 o welyau preifat sydd gennym ni yng Nghymru gyfan, felly, yn syml, nid yw'r capasiti yno, hyd yn oed pe baem ni eisiau dilyn y llwybr hwnnw ymhellach. Wrth gwrs, nid oedd yr arian gennym ni yn y gorffennol i wneud yr hyn yr ydym ni'n gallu ei wneud heddiw, sef gofyn i'n llawfeddygon a'n nyrsys weithio goramser—i weithio fin nos, i weithio ar benwythnosau—ac mae hynny'n bosibl bellach oherwydd y chwistrelliad enfawr hwnnw o arian ychwanegol sydd wedi dod gan Lywodraeth Lafur newydd y DU. Ond, yng Nghymru, mae llai nag 1 y cant o'r boblogaeth yn defnyddio cyfleusterau preifat mewn gwirionedd.

Bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol bod eHarleyStreet yn rhedeg meddygfeydd yng Nghaerffili, ym Mlaenau Gwent, yng Nghasnewydd ac yn Nhorfaen. Maen nhw'n eu rhedeg o bell, fel cwmni preifat wedi'i leoli yn Lloegr. Rwyf i wedi siarad â Lynne Neagle am hyn ac rwyf i wedi siarad ag Alun Davies am hyn, yn ogystal â Nick Smith AS. Mae gennym ni bryderon: mae cleifion wedi nodi dirywiad i'r gwasanaeth ers iddyn nhw gymryd drosodd; nid yw staff, gan gynnwys meddygon teulu, wedi cael eu talu'n brydlon; ac nid yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi rhoi atebion argyhoeddiadol i ni hyd yma, er ein bod ni'n parhau i fynd i'r afael â'r bwrdd iechyd a cheisio eu cael i ymateb. Ar y mater hwn, rydym ni'n credu ei bod hi'n bryd i Lywodraeth Cymru ymyrryd. Felly, a gaf i ofyn pa ymgysylltiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei gael ar hyn hyd yma, ac a allwn ni weld ymgysylltiad pellach gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd?

Wel, diolch yn fawr iawn. Rwy'n fwy nag ymwybodol bod sawl Aelod o'r Senedd wedi codi'r mater hwn gyda mi. Rwy'n credu ei fod yn rhywbeth y dylem ni fod yn bryderus iawn amdano, a dyna pam rwyf i wedi codi'r mater hwn. Rwy'n gwybod bod yr Ysgrifennydd iechyd wedi codi'r mater gyda'r bwrdd iechyd ac mae disgwyl iddo gyfarfod eto gyda'r cadeirydd yr wythnos nesaf, rwy'n credu, neu yn ystod yr wythnosau nesaf, dim ond i wneud yn siŵr bod dealltwriaeth nad yw'r math hwn o ymddygiad yn ddigon da. Mae contract yn weithredol; mae angen ei barchu. Rydym ni'n disgwyl i feddygfeydd sy'n ennill contractau ymddwyn yn gyfrifol, ac os nad ydyn nhw'n gwneud hynny, mae'n rhaid bod canlyniadau. Felly, rwy'n siŵr y bydd y sgwrs honno'n parhau. Rwy'n deall y bydd grŵp ohonoch chi yn cyfarfod â phrif weithredwr y bwrdd iechyd yn fuan. Bydd yn dda cael rhywfaint o adborth o hynny, yn enwedig os yw cyn i'r Ysgrifennydd iechyd gyfarfod â'r cadeirydd. Ond gallaf eich sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn bryderus iawn am y sefyllfa, ac ni fyddwn yn goddef y math hwn o ymddygiad a diffyg parch i'r contract a lofnodwyd.

Mae fy mhryderon yn debyg i rai Hefin yn hyn o beth. Mae nifer o feddygfeydd teulu yn y Cymoedd sy'n cael eu rheoli gan y cwmni preifat hwn, eHarleyStreet. Nawr, mae hynny'n effeithio ar feddygfeydd ym Margoed, Hengoed, Brynmawr, Tredegar—ar draws y Cymoedd. Mae cleifion, fel yr ydym ni wedi clywed, yn ei chael hi'n anodd cael apwyntiadau. Ceir meddygon nad ydyn nhw wedi cael eu talu gan y cwmni hwn; mae miloedd o bunnoedd yn ddyledus i rai. Nawr, rwy'n poeni y gallai'r model hwn, os nad yw'n cael ei wirio, fod yn gyfystyr â phreifateiddio meddygfeydd drwy'r drws cefn. Cafodd rhai cleifion eu cyfweld gan y BBC yn ystod yr wythnosau diwethaf, ac fe wnaethon nhw ddweud nad oedden nhw'n teimlo'n ddiogel oherwydd y newidiadau hyn—sut y mae'n effeithio ar eu gofal. A fyddech chi'n cefnogi galwadau am ymchwiliad i'r modd y dyfarnwyd y contractau hyn, yn ogystal ag edrych ar yr hyn sydd angen ei newid i ddiogelu ein gwasanaethau GIG rhag y cwmnïau hyn, y mae'n ymddangos eu bod nhw'n poeni mwy am elw nag am ddarparu gofal sydd ei angen ar y cleifion?

Wel, rwy'n credu bod angen dealltwriaeth bod meddygfeydd teulu wedi bod yn annibynnol erioed, ac, mewn gwirionedd, yr hyn sydd wedi bod yn digwydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf yw bod y byrddau iechyd, pan fyddan nhw'n methu, yn eu cymryd nhw drosodd mewn gwirionedd, gan fod cyfrifoldeb i wneud yn siŵr bod y ddarpariaeth honno yn y gymuned. Ond, ar y cyfan, mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw'n cael eu rhedeg yn annibynnol. Felly, i gael i bob pwrpas yr hyn sy'n cael ei ystyried yn gwmni preifat—dyna'r model. Nawr, yr hyn nad wyf i'n hapus ag ef yw model sy'n cael ei redeg o bell i bob pwrpas, lle nad yw contractau'n cael eu parchu. Ac rwy'n credu bod hynny'n mynd â ni ar drywydd y mae'n rhaid i ni fod yn wyliadwrus iawn, iawn ohono. 

Rwy'n gwybod bod y bwrdd iechyd yn darparu cymorth i'r meddygfeydd yn ystod cyfnod pontio. Rwy'n gwybod eu bod nhw'n cyfarfod â'r rheolwyr a'r meddygon teulu partner yn rheolaidd i geisio cael sicrwydd ynghylch cydymffurfiad cytundebol â'u contract gwasanaethau meddygol cyffredinol. Felly, mae'r sgyrsiau hynny'n digwydd, ond os na fydd pethau'n gwella, yna wrth gwrs byddwn yn disgwyl y bydd canlyniad.

13:50

Rwy'n ddiolchgar i chi, Prif Weinidog, am eich ateb cynharach i'n cyd-Aelod Hefin David. Mae methiant eHarleyStreet yn warth, ac mae fy etholwyr ac etholwyr pobl eraill yn canfod nid yn unig nad ydyn nhw'n gallu cael mynediad at wasanaethau gofal sylfaenol hanfodol yn unig, ond ein bod ni mewn sefyllfa lle mae meddygon a chyflenwyr yn dal i fod heb eu talu a lle mae staff yn cael eu bwlio. Nid dyma'r gwerthoedd yr ydym ni'n eu cynrychioli fel Llywodraeth ac fel Senedd, rwy'n credu, ac nid dyma werthoedd y gwasanaeth iechyd gwladol. Pan sefydlodd Aneurin Bevan y gwasanaeth iechyd gwladol, sefydlodd wasanaeth a oedd yn sicrhau mynediad i bawb—mynediad at ofal iechyd ar lefel leol, gwasanaethau gofal sylfaenol. A'r hyn na allwn ni ei gael yw gwasanaethau gofal sylfaenol yn cael eu gwerthu i bobl sy'n hidio dim am y bobl y maen nhw i fod i'w gwasanaethu. Nid ymchwiliad rydym ni ei eisiau, rydym ni eisiau gweithredu. Yr hyn yr ydym ni ei eisiau yw gwasanaethau gofal sylfaenol i'n hetholwyr, ac rwy'n falch o glywed eich bod chi, Prif Weinidog—. Rwy'n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd wedi ymyrryd, ac rwy'n ddiolchgar iddo am ysgrifennu ataf dros y toriad. Yr hyn sydd ei angen arnom ni nawr yw gweithredu gan Lywodraeth Cymru a'r bwrdd iechyd i sicrhau bod gan ein hetholwyr y gwasanaethau y maen nhw'n eu haeddu. 

Diolch yn fawr iawn, Alun. Mae'n gwbl annerbyniol peidio â thalu pobl am waith y maen nhw wedi ei wneud. Mae hynny'n anfaddeuol ac yn torri pob rheol yn y llyfr. Felly, mae'n rhaid bod canlyniad i hynny, ac rwy'n siŵr y bydd hynny'n rhywbeth a fydd yn cael ei godi gyda'r prif weithredwr yn fuan. Rwy'n gwybod eu bod nhw wedi mynd trwy broses gaffael. Rydym ni'n aml yn ei chael hi'n anodd recriwtio i rai o'r ardaloedd hyn, felly rwy'n credu bod yn rhaid i ni fod yn realistig ynghylch pwy sy'n barod i ymgymryd â'r meddygfeydd hyn, ond mewn llawer o fyrddau iechyd yr hyn sy'n digwydd yw bod y bwrdd iechyd eu hunain yn cymryd y rheolaeth drosodd ac maen nhw'n cyflogi meddygon teulu yn uniongyrchol. Felly, mae modelau amgen y dylid eu harchwilio, efallai, os nad yw'r un yma yn datrys ei hun.

Roeddwn i eisiau dod â'r mater yn ôl i ofal iechyd, ac o ran rhyddhau o ysbytai yn benodol, boed hynny o ysbytai preifat neu o'n hysbytai gwladol ein hunain, oherwydd mae un o'r heriau mawr yn ymwneud â gofal cymdeithasol a'i argaeledd. Clywsom ar 30 Rhagfyr bod gwasanaeth ambiwlans Cymru wedi datgan argyfwng. Roedd hanner yr ambiwlansys, rydym ni'n deall, yn aros y tu allan i ysbytai, yn aros i symud cleifion i mewn i'r ysbytai hynny. Rydym ni'n gwybod bod awdurdodau lleol yn edrych ar godiadau sylweddol i'r dreth gyngor er mwyn bodloni eu cyllidebau gofal cymdeithasol, ac rydym ni hefyd yn gwybod bod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi cyfeirio at bryderon ynghylch y pwysau cyllidebol sydd ar bob awdurdod lleol ledled Cymru oherwydd gofal cymdeithasol. Felly, tybed a allech chi amlinellu'r hyn yr ydych chi'n mynd i'w wneud er mwyn ariannu gofal cymdeithasol i ni gefnogi ein gweithwyr iechyd gwych a'r bobl hynny yn y gwasanaethau iechyd sydd wir yn ei chael hi'n anodd er mwyn symud pobl ymlaen y tu allan i'n hysbytai. Diolch yn fawr iawn.

Wel, diolch yn fawr iawn. Wrth gwrs, os cawn ni ein cyllideb drwodd, byddwn ni'n gallu parhau i gynnig cap o £100 i bobl o ran gofal cartref. Nid yw hynny yn rhywbeth sy'n digwydd yn Lloegr, lle ceir swm diderfyn, a byddwch chi wedi clywed yr wythnos diwethaf bod pobl yn talu miloedd o bunnoedd yr wythnos yn Lloegr am eu gofal cartref; nid yw hynny'n wir yng Nghymru. Yng Nghymru, hefyd, rydym ni'n talu'r cyflog byw gwirioneddol. A byddwch yn fwy ymwybodol na neb mai rhan o'r broblem o ran llif drwy'r ysbytai yw ein diffyg argaeledd o ran gofal yn y gymuned. Mae hynny mewn gwirionedd, o gael at wraidd y mater, yn golygu cael digon o arian i ddwylo'r bobl sy'n darparu'r gwasanaethau hynny. A'n gweithwyr gofal cymdeithasol cwbl arwrol yw'r rheini. 

Rydym ni yng Nghymru yn talu'r cyflog byw gwirioneddol, a hoffem barhau i dalu'r cyflog byw gwirioneddol, wrth gwrs. Mae'n rhaid i ni gael y gyllideb drwodd i wneud yn siŵr bod hynny'n wir. Rwy'n gwybod y bydd awdurdodau lleol bob amser yn gofyn am fwy o arian, ac nid wyf i'n eu beio, maen nhw wedi bod o dan bwysau enfawr ar ôl 14 mlynedd o gyni cyllidol, ond rydym ni wedi cynnig codiad sylweddol iddyn nhw yn y gyllideb eleni, sydd wrth gwrs yn cynnwys rhywfaint o'r gost honno yr ydych chi'n sôn amdani y mae angen ei dyrannu i ofal cymdeithasol, sy'n gyfran enfawr o'u cyllideb heddiw.

13:55
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar.

Diolch, Llywydd. Blwyddyn newydd dda, a blwyddyn newydd dda i chithau hefyd, Prif Weinidog, a holl Aelodau'r Siambr hon.

Prif Weinidog, dros wyliau'r Nadolig, yn anffodus, fe wnaeth gwasanaeth ambiwlans Cymru ddatgan digwyddiad critigol. Rydym ni'n gwybod bod 340 o gleifion yn aros am ymateb ambiwlans, ac eto nid oedd modd anfon ambiwlans gan fod dros hanner y fflyd y tu allan i ddrysau ffrynt ysbytai ledled y wlad. Cefais gyfarfod â phrif weithredwr gwasanaeth ambiwlans Cymru dim ond ddoe, a dywedodd wrthyf i fod tua 1 o bob 10 claf yn ystadegol yn dioddef niwed neu'n marw hyd yn oed o ganlyniad i oediadau ambiwlansys. A ydych chi'n gallu dweud wrthym ni faint o farwolaethau y mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif y gellir eu priodoli i oediadau ambiwlansys dros y 12 mis diwethaf?

Wel, a gaf i ddechrau drwy ddiolch i staff y GIG, sydd wedi bod o dan bwysau enfawr dros gyfnod y Nadolig? Rydym ni wedi gweld, unwaith eto, galw enfawr am y gwasanaeth, lle'r ydym ni wedi gweld, er enghraifft, cynnydd sylweddol—50 y cant yn fwy nag yn yr un cyfnod yn 2023-24. Felly, bu galw ychwanegol enfawr. Rydych chi'n gwbl gywir, cawsom ni ddigwyddiad difrifol a gafodd ei ddatgan. Gostyngwyd lefel y rhybudd o fewn 72 awr. Rwy'n siŵr bod prif weithredwr y gwasanaeth ambiwlans wedi dweud wrthych chi, fel y dywedodd wrthyf i y bore yma, nad yw Cymru yn allanolyn o ran perfformiad. Roedd cynnydd o 18 y cant i'r galw o ran galwadau coch o'i gymharu â chyfnod cyfartalog y tri mis blaenorol. Nawr, ceir llawer o resymau am hyn; roedd rhywfaint ohono oherwydd y sefyllfa gyda'r ffliw a hefyd y cyfnod o dywydd oer. Felly, mae'r rheini i gyd yn ychwanegu at yr anawsterau.

Prif Weinidog, fe wnaeth bob un ohonom ni weld y lluniau ohonoch chi'n diolch i'n gweithwyr iechyd proffesiynol ar-lein ac yn dosbarthu bocsys o siocledi. A bod yn onest, rwy'n credu bod pobl yng Nghymru eisiau gwasanaethau o ansawdd, nid Quality Street. A phan ydych chi'n sôn am weithwyr rheng flaen, rwyf innau hefyd eisiau talu teyrnged iddyn nhw am eu gwaith caled. Ond gadewch i mi ddweud wrthych chi, maen nhw wedi digalonni. Maen nhw wedi cael llond bol ar weithio o dan bwysau—lefelau annerbyniol o bwysau—ac maen nhw'n teimlo fel pe baen nhw'n methu cleifion. Ac rydym ni'n gwybod mai ffaith drist y mater yw os ydych chi mewn argyfwng, yma yng Nghymru, ac angen ambiwlans brys, pan fyddwch chi'n codi'r ffôn yna ac yn deialu 999, dim ond siawns o un o bob dau sydd y bydd yr ambiwlans hwnnw yn cyrraedd o fewn yr amser targed. Nid yw hynny'n ddigon da. Mae pobl yn marw, Prif Weinidog, o ganlyniad, ac nid yw hynny'n dderbyniol. Mae pobl eisiau atebion.

Dywedwyd wrthyf i ddoe, yn ystod fy ymweliad, er gwaethaf y ffaith mai 15 munud yn unig yw eich targed ar gyfer trosglwyddiadau ambiwlansys y tu allan i ysbyty, mai'r cyfartaledd, ar adeg fy ymweliad, oedd tair awr a 26 munud. Dywedwyd wrthyf i hefyd, pan ddechreuodd y prif weithredwr ei swydd chwe blynedd a hanner yn ôl, mai dim ond 6,000 awr oedd yr oriau cyfartalog a gollwyd i oedi wrth drosglwyddo bob mis. Mae'r ffigur hwnnw bellach, ar gyfartaledd, bob un mis yn GIG Cymru, rhwng 25,000 a 30,000 awr. A'r ffigur hwnnw o 340 o alwadau ddim yn gallu cael yr ymateb ambiwlans oedd ei angen arnyn nhw—o ddydd i ddydd, mae hwnnw rhwng 150 a 200 o bobl ddim yn gallu cael yr ymateb hwnnw. Nawr, byddai hynny wedi bod yn ddigon i sbarduno digwyddiad critigol tua pum mlynedd yn ôl. Pam nad yw'n ddigon i sbarduno digwyddiad critigol nawr, a beth ydych chi'n ei wneud i ddatrys y sefyllfa hon?

Wel, diolch yn fawr iawn. Fe wnes i bwynt o ymweld â sawl adran achosion brys yn ddirybudd, gan fy mod i'n gwybod, os byddaf yn dweud wrthyn nhw fy mod i'n dod, mae popeth yn—[Anghlywadwy.] Roeddwn i eisiau ei weld fel yr oedd: amrwd, heb ei hidlo, gan wneud yn siŵr fy mod i'n gweld y profiad y mae pobl eraill yn ei gael. Rwy'n falch o ddweud, mewn gwirionedd, bod ymateb da iawn i'r ymweliadau, ac roedden nhw wir yn gwerthfawrogi'r ffaith fy mod i wedi dod ac fy mod i'n gwrando arnyn nhw. Roeddwn i'n ymwybodol iawn nad oeddwn i eisiau bod yn y ffordd, ond rhoddais glust i bobl a oedd eisiau siarad â mi a rhannu rhai o'r rhwystredigaethau yr oedd ganddyn nhw. Rwy'n falch o ddweud, yn yr adran achosion brys, pan siaradais â llawer o'r cleifion yno, bod y rhan fwyaf ohonyn nhw wedi cael eu brysbennu o fewn cyfnod byr iawn o amser, o fewn tua 30 munud.

Byddwch yn ymwybodol, Darren, fel yr wyf i'n ymwybodol, fel y mae pawb yn y Siambr hon yn ymwybodol, bod y sefyllfa o ran y GIG yn aml iawn o ganlyniad i'r diffyg llif drwy'r ysbyty, ac mae hynny'n arbennig o anodd ar yr adeg hon o'r flwyddyn pan fo pwysau gwirioneddol, lle mae gennych chi lawer iawn o bobl oedrannus yn dod i mewn gyda phroblemau anadlu ac na ellir eu rhyddhau gan nad oes neb yno i ddarparu'r pecynnau gofal. Yn ystod y Nadolig, pan fo llawer o bobl i ffwrdd o'r gwaith, mae'n fwy anodd darparu'r pecynnau gofal hynny. Felly, ceir llawer o resymau pam mae'r adeg hon o'r flwyddyn yn fwy anodd, ond yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych chi yw, ers y digwyddiad critigol diwethaf gyda gwasanaeth ambiwlans Cymru, eu bod nhw'n falch iawn eu bod nhw wedi cael swm ychwanegol sylweddol yn eu setliad—3.6 y cant yn y flwyddyn ariannol hon. Maen nhw wedi defnyddio'r arian hwnnw i recriwtio clinigwyr ychwanegol ar eu desgiau cymorth, ac mae hynny wedi helpu i leddfu rhai o'r problemau yno. Mae 6 y cant o ymgynghoriadau bellach yn cael eu cloi heb anfon ambiwlans. Felly, yr adnodd ychwanegol hwnnw a gyfrannwyd sy'n golygu nad yw'r sefyllfa'n waeth nag y mae ar hyn o bryd. Mae brysbennu o bell yn digwydd, ac mae'r gwasanaeth 111 yn sicr yn chwarae rhan arwyddocaol, ac mae'r gyfradd hepgor, sy'n golygu bod pobl wedi bod yn aros am gyfnod rhy hir, i bob pwrpas, mae honno'n sylweddol is, dair gwaith yn is nawr nag yr oedd y llynedd. Felly, perfformiad llawer iawn gwell yn hynny o beth.

Rwy'n falch o ddweud hefyd bod y gyfradd salwch yn y gwasanaeth ambiwlans, sydd weithiau'n arwydd o staff sydd wedi digalonni, wedi gostwng yn sylweddol hefyd. Felly, mae pethau'n gwella. Mae'n ymwneud â galw, galw, galw.

14:00

Maddeuwch i mi, Prif Weinidog, ond rydych chi'n swnio'n eithaf hunanfodlon i mi ynglŷn â'r materion hyn. Nid yw taflu arian at y broblem yn mynd i'w datrys. Rydym ni i gyd yn gwybod hynny. Pan fyddwch chi'n siarad am y problemau gyda llif cleifion, mae llawer o hyn wedi cael ei greu, y broblem yn ein gwasanaeth iechyd gwladol, gennych chi a'ch rhagflaenwyr. Ers 2010, mae nifer y gwelyau yn GIG Cymru wedi gostwng dros 20 y cant; rydych chi wedi addo ers hynny i adeiladu mwy o ysbytai â mwy o welyau, ond nid ydych chi wedi cyflawni. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae nifer y gwelyau yn GIG Cymru wedi bod yn gwbl sefydlog, ac, fel y dywedais i, mae gennym ni wasanaeth ambiwlans yng Nghymru sydd, i bob pwrpas, yn ymdrin â digwyddiad critigol bob un diwrnod o'r flwyddyn. Mae tua 14 mis wedi mynd heibio ers i'r digwyddiad eithriadol diwethaf gael ei ddatgan, ac eto nid ydym ni'n gweld unrhyw newid.

Felly, nid yw'n syndod, o gofio'r ffaith nad oes gennym ni ddigon o welyau, nad yw'r sefyllfa yn gwella, yn enwedig o ran ein poblogaeth sy'n heneiddio yn gwaethygu'r heriau hyn hefyd. Felly, a ydych chi'n cytuno â mi a Rob Perry, is-lywydd y Coleg Brenhinol Meddygaeth Argyfwng, sy'n dweud bod angen gwelyau ychwanegol arnom ni yn ein gwasanaeth iechyd gwladol, ac a ydych chi hefyd yn derbyn bod angen i chi dynnu'r ewinedd o'r blew a darparu'r gwelyau ychwanegol hyn a'r ysbytai ychwanegol yr ydych chi wedi eu haddo ac wedi methu â'u darparu?

Wel, mae'n amlwg nad ydych chi'n deall y mater. Os ydych chi'n meddwl bod y cyfan yn ymwneud â gwelyau, dydych chi ddim wedi deall, mewn gwirionedd, bod llawer o bobl mewn gwelyau na ddylai fod yno. Mae'n ymwneud â llif. Mae'n ymwneud â llif. Mae'n ymwneud â gwneud yn siŵr bod gennym ni'r—[Torri ar draws.]—bod gennym ni'r cyllid ychwanegol hwnnw sydd gennym ni nawr, ar ôl 14 mlynedd o gyni cyllidol, i'w gyfrannu at y GIG. A rhai o'r gwelyau hynny, mae'r gallu ymchwydd yno, mae'n cael ei ddefnyddio, y gallu ychwanegol—. Ac mae gennym ni fwy o welyau y pen o'r boblogaeth nag sydd ganddyn nhw yn Lloegr. Ond y broblem allweddol yma yw bod llawer o bobl yn yr ysbyty heddiw sydd wedi cael eu hoptimeiddio'n glinigol, maen nhw wedi cael eu helpu ac mae angen iddyn nhw fynd adref. Ond y gwir broblem yw bod angen i ni ddatrys gofal cymdeithasol, ac mae llawer iawn o waith yn cael ei wneud ar hynny gan y Gweinidog iechyd; cawsom ni'r her 50 diwrnod honno lle gwnaethom ni weithio allan yn union, 'Beth yw'r rheswm pam maen nhw'n dal yma?', 'Pam maen nhw'n dal yma?' Ac rydym ni wedi ei weithio—. Nid yw'n ymwneud â gwelyau mewn gofal cymdeithasol yn unig. Rydym ni'n gwybod yn union beth yw'r broblem. Mae'r data gennym ni ar bob un rheswm pam mae pob unigolyn yn dal yn yr ysbyty. Mae rhywfaint ohono yn ymwneud ag asesiad. Pam ydym ni'n aros cyhyd am asesiadau? Pwy sy'n cynnal yr asesiadau? Pam na allwn ni gael mwy? Mae llawer mwy o bobl yn gallu asesu heddiw nag oedd y llynedd. Bob un dydd rydym ni'n gwneud gwelliannau, gwelliannau bach mewn nifer enfawr o wahanol feysydd. Mae hwn yn faes cymhleth. Nid yw'n faes sydd ag ateb hawdd, ond gallaf ddweud wrthych chi fod Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio'n llwyr ar y mater hwn.

14:05

Diolch yn fawr, a gaf i ddymuno blwyddyn newydd dda i chi, Llywydd, ac i holl Aelodau’r Senedd? A buaswn innau hefyd yn licio dechrau drwy anfon fy nghydymdeimlad i ac Aelodau Plaid Cymru i anwyliaid dau o gyn Aelodau ein Senedd ni. Mi wnaeth Jenny Randerson gyfraniad sylweddol iawn i fywyd cyhoeddus Cymru fel un o Aelodau cyntaf un ein Cynulliad Cenedlaethol ni. Rydym ni'n cofio hynny heddiw a’i hymroddiad hi hefyd fel Gweinidog yma ac yn Swyddfa Cymru. Ac mi oedd Peter Rogers yn un o'r cymeriadau a gwleidyddion cwbl unigryw yna. Di-flewyn ar dafod, siaradwr plaen os buodd yna un erioed, ac mi oedden ni'n anghytuno ar bron popeth yn wleidyddol, ond mi ddes i i'w nabod o yn dda fel cyd-lywodraethwr ysgol ac fel etholwr i mi, ac mi fyddaf i yn ei gofio fo am ei ymroddiad di-gwestiwn i'w filltir sgwâr.

Ar ddechrau blwyddyn newydd, rydym ni'n edrych ymlaen, ond mae'n rhaid i ni fyfyrio ar y flwyddyn a aeth heibio hefyd: blwyddyn y bydd Llafur yng Nghymru, heb amheuaeth, eisiau ei hanghofio—tri Phrif Weinidog, rhoddwyr amheus, ymddiswyddiad a orfodwyd. Ond gadewch i ni beidio ag anghofio pwy sydd wir yn ddioddef o dan oruchwyliaeth Llafur: pobl hŷn sy'n ei chael hi'n anodd ar ôl colli taliad tanwydd y gaeaf; defnyddwyr systemau trafnidiaeth eilradd, sy'n gwybod beth allai biliynau HS2 sy'n ddyledus i Gymru ei gyflawni; pensiynwyr sydd wedi cael eu taro'n galed gan Lafur yn cefnu ar eu haddewid Menywod yn Erbyn Anghydraddoldeb Pensiwn y Wladwriaeth. A dweud y gwir, er gwaethaf ei haddewid o newid, mae gennym ni Brif Weinidog sy'n gwbl fodlon gadael ei haddewidion a'i hegwyddorion ar risiau Parc Cathays. Roedd hi'n arfer galw am rewi prisiau ynni; safodd gydag ymgyrchwyr WASPI, gydag addewid y byddai Llywodraeth Lafur yn unioni pethau; roedd hi'n arfer cytuno â ni ar HS2, ac eto mae'n hapus nawr i gefnogi bradychiadau Prif Weinidog y DU. A yw'r Prif Weinidog yn deall pam y bydd llawer yn pendroni pa addewidion y mae'n bwriadu cefnu arnyn nhw yn 2025?

Wel, roeddwn i'n meddwl y byddem ni'n dechrau'r flwyddyn newydd gyda rhywbeth newydd, ond na, rydym ni yn ôl i'r holl fater o bethau lle nad oes gen i gyfrifoldeb. Mae gen i gyfrifoldeb dros faterion datganoledig. Gallaf roi gwers arall i chi ar sut mae Llywodraeth ddatganoledig yn gweithio os hoffech chi. Ond gadewch i ni fod yn eglur bod gan y sefydliad yma gyfrifoldeb am graffu arnaf i ar feysydd lle mae gen i ddylanwad a grym yn uniongyrchol. Ac mae llawer o'r meysydd hynny yr ydych chi wedi cyfeirio atyn nhw yn feysydd lle mai Llywodraeth y DU sy'n rhaid iddi wneud y penderfyniadau hynny.

Mae'r Prif Weinidog yn ein hatgoffa ni eto ei bod hi'n credu bod ganddi fwy o ddylanwad dros Donald Trump nag sydd ganddi dros Syr Keir Starmer. Ond mae ganddi ddylanwad ac mae'n methu â dysgu gwersi o ran y meysydd hynny y mae ganddi gyfrifoldeb amdanyn nhw. Mae'r Prif Weinidog ei hun wedi rhoi'r GIG—cyfrifoldeb datganoledig y Llywodraeth hon yng Nghymru—ar frig ei rhestr o flaenoriaethau. Pwy fyddai'n anghytuno â hynny, mewn gwirionedd? Ond, yn anffodus, mae ganddi record y gallwn ni ei mesur ar ei sail, ac mewn gwirionedd, ni ellir ei amddiffyn. Fel Gweinidog iechyd, addawodd na fyddai neb yn aros yn hirach na 12 mis am driniaeth yn y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn gwanwyn eleni. Bellach, mae'n dweud na fydd mwy nag 8,000 yn aros dros ddwy flynedd erbyn mis Ebrill. Yn seiliedig ar niferoedd mis Rhagfyr, mae hyd yn oed y ffigurau hynny yn mynd i'r cyfeiriad anghywir. A dyma'r Prif Weinidog yn methu ar ei phrif flaenoriaeth. Nawr, â hithau'n ymddangos bod addewid i ddileu amseroedd aros o 12 mis yn cael ei ychwanegu at gabinet ffeilio targedau na fodlonwyd sy'n tyfu Llafur, a wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau pa un a yw'n cadw at yr addewid am arosiadau o ddwy flynedd?

Wel, diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu ei bod hi'n werth dweud bod gen i lawer iawn mwy o ddylanwad, rwy'n credu, ar Keir Starmer nag y bydd ganddo ef fyth pe bai ef yn dal yr awenau. Gadewch i ni fod yn eglur hefyd mai'r hyn yr ydym ni wedi ei weld yw gostyngiad o 66 y cant i arosiadau dwy flynedd ers mis Mawrth 2022. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y mae'n werth tynnu sylw ato. Rydym ni wedi gweld gostyngiad sylweddol er gwaethaf y gofynion enfawr iawn hynny ar y GIG, ac mae'n debyg ei bod hi'n werth atgoffa pobl am y pwysau ar y GIG. Dim ond i roi syniad i chi o faint o waith maen nhw'n ei wneud, ym mis Tachwedd, roedd 2.1 miliwn o alwadau i feddygfeydd teulu a chynigiwyd 1.6 miliwn o apwyntiadau, mewn poblogaeth o 3 miliwn o bobl. Felly, rydych chi'n gwbl gywir. Mae'n rhaid i ni barhau i ganolbwyntio, yn benodol, ar y bobl hynny sydd wedi bod yn aros ers amser maith mewn poen, a dyna lle mae'r pwyslais llwyr. Dyna pam rydym ni wedi gwario £50 miliwn o gyllid ychwanegol y flwyddyn ariannol hon, na fyddai wedi bod gennym ni pe na bai gennym ni Lywodraeth Lafur yn San Steffan, gyda llaw, ac mae llawer mwy i ddod, os gallwn ni basio'r gyllideb. Gadewch i mi fod yn eglur: os na allwn ni basio'r gyllideb, bydd yn anodd i ni lynu at leihau'r amseroedd aros a chyflawni hynny. Felly, os yw o ddifrif ynglŷn â bod eisiau ein helpu gyda'r GIG, yna dylai ystyried yr hyn y mae'n mynd i'w wneud o ran y gyllideb.

14:10

Mae'r Prif Weinidog yn geg i gyd o ran y bartneriaeth mewn grym. Yn anffodus, nid yw'n gallu cyflawni unrhyw beth, mae'n ymddangos. Un ffordd o fod yn sicr o beidio â chael y £4 biliwn sy'n ddyledus ar HS2 yw rhoi'r gorau i ofyn. Yr un ffordd o fod yn sicr o beidio â chael cyllid teg yw rhoi'r gorau i ofyn, sef yr union beth yr ydym ni wedi gweld Llywodraeth Cymru yn ei wneud o dan y Prif Weinidog hwn, yn hytrach na sefyll dros Gymru. Nawr, ar iechyd, mae'r un peth â thargedau adfer ôl-COVID, onid ydyw? Er gwaethaf newid y rheolau, mae'r Prif Weinidog eisoes wedi methu'r rhan fwyaf o'r targedau hynny hefyd. Neb yn aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cleifion allanol cyntaf erbyn diwedd 2022—wedi ei fethu. Dileu nifer y bobl sy'n aros mwy na dwy flynedd yn y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn mis Mawrth 2023—wedi ei fethu. Gallwn i barhau. Nawr, wrth bennu ei blaenoriaethau, dywedwyd wrthym ni mai dyma gyfle gorau'r Llywodraeth ers dros 14 mlynedd i wireddu uchelgeisiau Cymru: partneriaeth mewn grym, dwy Lywodraeth Lafur—y broblem wedi'i datrys. Pwy ddylem ni ei ddwyn i gyfrif felly? Gweinidogion iechyd Llafur olynol a ddyrchafwyd i fod yn Brif Weinidogion? Ysgrifennydd Cabinet Llafur dros gyflawni? Llywodraeth Lafur y DU? Neu a yw'n fethiant cyfunol Llafur am siomi Cymru?

Wel, yn gyntaf oll, a gaf i eich sicrhau nad wyf i wedi rhoi'r gorau i ofyn am arian am HS2? Ac ni wnaf i roi'r gorau i ofyn tan ein bod ni'n fodlon. Rwy'n credu, yn ôl pob tebyg, ei bod hi'n werth tanlinellu'r ffaith mai'r arhosiad, ar gyfartaledd yng Nghymru, yw 23 wythnos am driniaeth yn y GIG. A phan fyddwn ni'n sôn am bartneriaeth mewn grym, ceir adegau pan fo hynny'n ystyrlon iawn, a gadewch i mi roi enghraifft i chi. Roedd y ffaith ein bod ni wedi gallu rhoi codiadau cyflog uwch na chwyddiant i weithwyr GIG yng Nghymru oherwydd partneriaeth mewn grym—rhywbeth y dylem ni fod yn falch iawn, iawn ohono. Mae'r ffaith ein bod ni wedi gallu cael £25 miliwn i'n helpu i glirio'r pyllau—dyna enghraifft arall o bartneriaeth mewn grym. Ond yr hyn y gwnaf i ei ddweud wrthych chi yw—[Torri ar draws.] A gaf i fod yn eglur mai'r hyn yr ydym ni wedi ei gael yw cyfle i gael y cynnydd mwyaf ers dechrau datganoli yn ein cyllideb, ac mae ef a'i blaid yn bygwth peidio â'i gefnogi, ac, o ran cyflwyno eich hunain i'r cyhoedd a gofyn i ni drwsio'r GIG, byddwch chi'n cael eich dwyn i gyfrif am beidio—am beidio—â rhoi'r arian yr ydym ni ei eisiau i helpu i gyflawni dros Gymru? Mae'r arian yno. Mae'r arian yno. Mae yno i'w gasglu. Mae'n bwysig, rwy'n credu, eich bod chi'n rhoi eich gair ar le mae'r arian a'ch bod chi'n cefnogi'r buddsoddiad hwnnw.

Mynediad i Wasanaethau Iechyd yn y Gogledd

3. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau mynediad amserol i wasanaethau iechyd i drigolion Gogledd Cymru? OQ62080

Mae'r Llywodraeth yma wedi ymrwymo i leihau amseroedd aros gwasanaethau iechyd ledled Cymru. Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cael £7.3 miliwn yn ychwanegol y flwyddyn ariannol yma ar gyfer yr amseroedd aros hiraf am ofal wedi'i gynllunio ac am ofal diagnosteg. Mae hyn ar ben y £34 miliwn sydd eisoes wedi'i ddarparu i'r bwrdd iechyd i helpu adfer gofal wedi'i gynllunio.

Wel, y realiti yw, pan ŷch chi'n edrych ar ddarpariaeth ddeintyddol, er enghraifft, yn y gogledd, dim ond 27 y cant o drigolion y gogledd erbyn hyn sydd â mynediad i wasanaethau deintyddion NHS yng ngogledd Cymru, ffigwr sydd wedi gostwng bob blwyddyn ers degawd, ac mi fydd e’n gostwng ymhellach o ddiwedd mis Mawrth, achos roeddwn i’n deall heddiw fod dau bractis deintyddol arall yn rhoi eu contractau NHS i fyny ac yn symud i’r sector breifat, un yn Llandudno ac un ym Mwcle.

Nawr, dyw’r bwrdd iechyd ddim yn gallu dweud wrthym ni faint o’r rheini sydd heb fynediad i wasanaethau NHS sydd yn cael mynediad i wasanaethau preifat, felly rŷn ni’n tybio bod hyd at, o bosib, dri chwarter trigolion y gogledd erbyn hyn ddim yn gallu cael y gwasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw. Mi fyddwn i’n dadlau bod iechyd deintyddol plant a phobl ifainc, yn enwedig, yn y fantol yn y sefyllfa yma. Mae deintyddion eu hunain wedi gofyn, er enghraifft, os gallan nhw barhau i gynnig gofal deintyddol dan gontract NHS i blant 18 oed, ond mae’r bwrdd iechyd wedi gwrthod y cais yna. Felly, a gaf i ofyn pa ystyriaeth ŷch chi fel Llywodraeth yn ei rhoi i sicrhau bod o leiaf plant dan 18 yn gallu parhau i gael mynediad i wasanaethau deintyddol NHS ble bynnag maen nhw yn y gogledd? Oherwydd heb hynny, ŷch chi’n storio trafferthion lan i’r dyfodol, ac mi fydd y gost i’r NHS yn yr hir dymor lawer iawn yn fwy.

14:15

Diolch yn fawr. Rydych chi'n eithaf reit ei bod yn bwysig ein bod ni'n sicrhau bod mynediad, a bod mynediad am ddim, o ran deintyddiaeth ar gael i blant yn arbennig. Wrth gwrs, rŷn ni mewn sefyllfa nawr lle mae lot o procurement yn mynd ymlaen, felly mae 94 y cant o waith deintyddol yn y gogledd nawr yn dod o dan y trefniadau deintyddol newydd ac mae hynny wedi sicrhau bod 80,000 o bobl wedi gallu cael apwyntiad o ganlyniad i’r trefniant newydd yna.

Caiff contractau eu trosglwyddo'n ôl o bryd i'w gilydd; gall pobl ddewis a ydyn nhw eisiau gweithio i'r GIG neu a ydyn nhw eisiau cynnig y ddarpariaeth breifat honno. Pan fydd contractau'n cael eu trosglwyddo'n ôl, maen nhw'n cael eu hailgaffael ac mae cryn dipyn o weithgarwch caffael deintyddol yn digwydd ar draws y gogledd ar hyn o bryd.

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n swnio braidd fel record wedi torri wrth sôn am y mater hwn, ond ni wnaf i ymddiheuro am sefyll dros fy etholwyr yn Nyffryn Clwyd. Mae amseroedd aros adrannau brys yn y gogledd ar lefel na fyddai gwledydd datblygedig eraill yn ei goddef. Rwyf i a chyd-Aelodau Ceidwadol y Senedd wedi rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru ers blynyddoedd, gan eich gorfodi chi i weithredu ar ysbyty cymunedol gogledd sir Ddinbych, ac eto rydych chi wedi parhau i lusgo'ch traed. Felly, a all y Prif Weinidog gadarnhau ai 2025 fydd y flwyddyn y bydd Llywodraeth Cymru o'r diwedd yn rhoi arian ar gyfer ysbyty cymunedol gogledd sir Ddinbych yn y Rhyl y mae fy etholwyr yn Nyffryn Clwyd wedi bod yn galw amdano ers ymhell dros ddegawd, neu a fyddwn ni'n parhau i gael aer poeth gennych chi a'r Llywodraeth hon?

Diolch yn fawr. Rwy'n gwybod bod y bwrdd iechyd yn adolygu cynigion ar gyfer Ysbyty Brenhinol Alexandra mewn partneriaeth â rhanddeiliaid lleol. Y disgwyl yw y bydd y cynigion hyn yn cynnwys uned mân anafiadau, a fydd, gobeithio, yn tynnu pwysau oddi ar yr adran frys, a nifer o welyau gofal canolraddol. Nawr, unwaith y bydd yr achos busnes diwygiedig yn cael ei gyflwyno, bydd yn cael ei ystyried a'i flaenoriaethu yn erbyn yr amrywiaeth eang o geisiadau cyllid eraill sy'n cael eu derbyn ar draws y GIG yng Nghymru. Bydd y ffaith bod gennym ni fwy o gyfalaf nawr nag sydd gennym ni ers blynyddoedd yn ein helpu ni i wneud y penderfyniad hwnnw.

Rwy'n ymwybodol bod cyflawni yn flaenoriaeth i'r Prif Weinidog ac felly hefyd llif cleifion, felly roeddwn i'n mynd i ofyn cwestiwn hefyd am Ysbyty Brenhinol Alexandra. Rwy'n gwybod eu bod yn llunio cynllun wedi'i gostio'n llawn yn y flwyddyn newydd, ac rwy'n credu eu bod yn cyfarfod â Chyngor Sir Ddinbych heddiw, ac maen nhw'n falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych, a fydd yn defnyddio arian y gronfa gofal integredig, arian Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth ag unrhyw arian cyfalaf ychwanegol sy'n dod o'r bwrdd iechyd a'r Llywodraeth.

Felly, hoffwn i ofyn: a ydych chi'n croesawu'r bartneriaeth hon sy'n gweithio nawr rhwng awdurdodau lleol a'r bwrdd iechyd i helpu gyda'r llif hwn, oherwydd mae'n bwysig iawn cael y llif hwnnw i ofal iechyd cymdeithasol, a gobeithio y bydd y prosiect hwn, Ysbyty Brenhinol Alexandra, yn helpu i gyflawni hynny? Ac rwy'n falch iawn bod gennym ni gyllid cyfalaf nawr, am y tro cyntaf, gan Lywodraeth y DU, sydd wedi dal hyn yn y gorffennol, ac felly a fyddech chi'n croesawu hyn? A, gobeithio, nawr y gallwn ni gyflawni prosiect Ysbyty Brenhinol Alexandra ar gyfer pobl sir Ddinbych a'r gogledd. Diolch.

Diolch am fod yn hyrwyddwr mor frwd dros Ysbyty Brenhinol Alexandra, fel yr oedd Ann Jones o'ch blaen, yr hyrwyddwr gwych dros Ysbyty Brenhinol Alexandra, ac mae hi'n fy atgoffa i bob tro rwy'n ei gweld hi. Bydd y ffaith bod gennym ni'r cyfalaf ychwanegol hwn yn gwneud bywyd yn haws o lawer i ni. Y ffaith bod gennym ni £1 miliwn y llynedd, fel cynnydd cyfalaf ar gyfer yr holl gyfalaf ledled Cymru gyfan; mae gennym ni dros £200 miliwn y flwyddyn hon. Rwy'n cofio wrth eistedd yn yr adran iechyd, pa mor anodd oedd hi i ddod o hyd i'r gwariant cyfalaf ychwanegol hwnnw i drwsio ein hysbytai a rhoi trefn ar yr ysbytai. Y ffaith bod yr arian hwnnw, unwaith eto, yn dechrau llifo—partneriaeth mewn grym, nid ydyn nhw'n hoffi hynny, ond dyna'r rheswm ein bod ni'n gallu gwneud y mathau yma o benderfyniadau.

Felly, rwy'n croesawu'r ffaith eu bod yn gweithio gyda'r awdurdodau lleol. Dyna'n union sut y dylai hi edrych, pawb yn gweithio gyda'i gilydd, yn deall ei fod yn berthynas uniongyrchol rhwng iechyd a gofal, ac mae'r ffaith eu bod wedi datblygu'r prosiect hwn gyda'i gilydd yn fodel gwirioneddol, gobeithio, ar gyfer yr hyn y gallen ni ei weld yn y dyfodol. Ond nid wyf i wedi gweld yr achos busnes eto, rwy'n gwybod nad yw'r Gweinidog iechyd wedi gweld yr achos busnes chwaith. Byddwn ni'n aros i hynny gael ei gyflwyno, ac yna penderfynu.

14:20
Anghydraddoldebau Iechyd

4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd yn Nwyrain Casnewydd? OQ62085

Diolch. Rydyn ni wedi nodi, yn y camau newydd ar gyfer 'Cymru Iachach', ein hymrwymiad i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd ledled Cymru. Mae hyn yn cynnwys gweithredu i sicrhau mynediad cyfartal i'n system iechyd a gofal cymdeithasol i wella tegwch canlyniadau.

Diolch, Prif Weinidog. Dim ond y mis hwn, bydd Canolfan Iechyd a Lles 19 Hills yn agor yn Ringland yn Nwyrain Casnewydd. Bydd y ganolfan hon yn gwasanaethu llawer o gymunedau difreintiedig yn yr ardal honno o Gasnewydd, a bydd yn ddull integredig o ymdrin â gofal iechyd a lles, gan ganolbwyntio'n gryf ar gymunedau. Rhai o'r gwasanaethau sy'n cael eu symud i'r gymuned drwy'r ganolfan honno, yn ogystal â'r broses o gryfhau gwasanaethau meddygon teulu ar hyn o bryd, fydd iechyd meddwl a lles, gwasanaethau deintyddol, cymorth camddefnyddio sylweddau, amrywiaeth o weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd fel ffisiotherapyddion, yn ogystal â chymorth camddefnyddio sylweddau a llawer mwy.

A fyddech chi'n cytuno â mi, Prif Weinidog, bod y model hwn o gyflawni, cysylltu â'r gymuned a gweithio gyda'r gymuned ynghylch atal yn ogystal â thriniaeth, yn fodel cryf iawn, sydd eisoes wedi'i sefydlu mewn mannau eraill yng Nghymru, ac y gallwn ni ddisgwyl yn ffyddiog y bydd yn ymdrin â'r gyfraith gofal iechyd wyneb i waered, lle, yn anffodus, yn aml iawn, mae cymunedau mwy difreintiedig yn cael llai o wasanaethau nag ardaloedd mwy cefnog? Hoffwn i longyfarch Llywodraeth Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ac amrywiaeth o bartneriaid eraill am wireddu'r prosiect hwn. Yn olaf, Prif Weinidog, a wnewch chi barhau i weithio gyda'r bwrdd iechyd, yr holl weithwyr iechyd proffesiynol dan sylw, yr awdurdod lleol a llawer o rai eraill i sicrhau bod potensial y model hwn yn cael ei gyflawni'n llawn ar gyfer pobl yn y cymunedau hynny?

Diolch yn fawr iawn, John, a diolch am hyrwyddo hyn fel menter bwysig iawn yn eich etholaeth chi. Mae'n gallu bwrw ymlaen oherwydd bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi clustnodi arian i wneud yn siŵr y gallwn ni weld mwy o integreiddio o ran iechyd a gofal, gan ddeall, a dweud y gwir, y bydd y berthynas honno â sicrhau bod pobl yn gorfforol iach, yn feddyliol iach, hynny i gyd, yn cael ei grynhoi yn y prosiect hwn. Felly, rwy'n ddiolchgar iawn i chi. Bydd £25 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru yn mynd i mewn i'r datblygiad hwnnw yng Nghanolfan Iechyd a Lles 19 Hills. Mae honno'n cael ei hadeiladu ar dir sy'n eiddo i Gyngor Dinas Casnewydd, felly y cyngor, Llywodraeth Cymru, y bwrdd iechyd i gyd yn gweithio gyda'i gilydd. Dyna'n union lle mae angen i ni fod, a'r ffaith bod hyn yn digwydd mewn rhanbarth Marmot—. Rwy'n gefnogwr mawr o Michael Marmot, sy'n deall nad yw iechyd yn ymwneud â phan yr ydych chi'n mynd yn sâl; mae'n ymwneud â sicrhau bod yr holl amodau ar waith i sicrhau y gallwch chi fod yn ffit, parhau i fod yn heini, parhau i fod yn iach, cael y cyfleoedd sydd eu hangen arnoch chi i fyw bywyd iach. Mae'r ffaith bod hyn yn digwydd mewn rhanbarth Marmot yn rhywbeth arbennig iawn.

14:25

Prif Weinidog, ychydig cyn y Nadolig, cafodd ei gyhoeddi bod yr uned strôc acíwt yn Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful yn mynd i gau. Mae'r gwasanaeth erbyn hyn wedi'i symud i Ysbyty Brenhinol Morgannwg, dros 20 milltir i ffwrdd. Er fy mod i'n gwerthfawrogi'r briff manwl y rhoddodd penaethiaid y bwrdd iechyd i gynrychiolwyr etholedig ychydig ddiwrnodau cyn y Nadolig—

Fe wnaf. Mae hynny'n iawn. Mae hynny'n iawn. Mae hynny'n iawn. Fel y dywedais i, mae'r cam wedi ysgogi cryn anfodlonrwydd ymhlith etholwyr yn Nwyrain Casnewydd, Gorllewin Casnewydd a'r rhanbarth sy'n defnyddio'r gwasanaeth—dyna chi, Llywydd, roeddwn i'n dod ato—ac mae deiseb ar-lein wedi ei chreu yn galw am atal cau'r uned, yn wir, cafodd bron i 5,500 o lofnodion. Mae craidd y penderfyniad, o fy nealltwriaeth i, yn ganlyniad anawsterau gyda'r gweithlu a phroblemau recriwtio ymgynghorwyr strôc. Yn seiliedig ar y ffaith bod Llywodraeth Lafur Cymru yn gyfrifol am iechyd, Prif Weinidog, rwy'n chwilfrydig i wybod a wnaeth Llywodraeth Cymru ymchwilio i ddod ag arbenigwyr strôc o fyrddau iechyd eraill yng Nghymru neu o fannau eraill yn y DU, hyd yn oed dros dro, mewn ymgais i osgoi cau'r uned hon. A nawr bod y penderfyniad wedi'i wneud, a oes unrhyw le iddo gael ei adolygu yn y dyfodol? Diolch.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod yna ddealltwriaeth mai'r hyn y mae gan y rhan fwyaf o bobl ddiddordeb ynddo mewn gwirionedd yw sicrhau'r canlyniadau gorau posibl. Ac i gael y canlyniadau gorau posibl, mae angen clinigwyr rhagorol arnoch chi, ac nid oes llawer ohonyn nhw o gwmpas. Rydyn ni'n cystadlu mewn marchnad fyd-eang yma, a phan ddaw i wasanaethau strôc, rydyn ni wedi gwneud llawer iawn o waith ar hyn. Rydyn ni'n cael cyngor gan yr arbenigwyr, maen nhw wedi llunio cynllun o ran sut y dylai hyn gael ei gyflawni a'r hyn maen nhw'n ei ddweud yw, 'Mae angen arbenigwyr arnoch chi; mae angen i chi ganoli gwasanaethau os ydych chi eisiau'r canlyniadau gorau i bobl.' Ac mae'n bwysig ein bod yn dilyn y cyngor clinigol hwnnw. Nawr, rwy'n gallu deall bod pobl eisiau'r gwasanaethau hynny mor agos at eu cartrefi â phosib—rwy'n deall hynny—ond mewn gwirionedd, rwy'n credu i'r rhan fwyaf o bobl, yr hyn mae ganddyn nhw wir ddiddordeb ynddo yw cael y canlyniad clinigol gorau, ac os oes angen symud ychydig ymhellach am hynny, dyna'r peth sy'n mynd i achub eu bywyd, o bosibl.

Cymorth i Berchnogion Tai

5. Pa gymorth sy'n gysylltiedig â thai y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i berchnogion tai? OQ62051

Wel, yn ôl pob tebyg, rwy'n credu ei bod hi'n werth cychwyn drwy siarad am y ffaith bod tua 66 y cant o boblogaeth Cymru yn berchen ar eu cartrefi eu hunain. Ond yr hyn y mae llawer ohonyn nhw wedi'i weld, yn enwedig y rhai â morgeisi, yw cynnydd o £2,000 ar gyfartaledd nawr, o'i gymharu â Rhagfyr 2021. A pham mae hynny'n digwydd? Mae hynny oherwydd menter fach Liz Truss i fyd ideolegol, a gafodd effaith ar bobl yn ein cymunedau. O ganlyniad uniongyrchol i ymddygiad gwleidyddol gwael, yr ydyn ni'n gweld pobl yn wynebu'r cynnydd hwnnw mewn morgeisi. Felly, rydyn ni'n cydnabod bod cyfrifoldebau gan Lywodraeth y DU, ond mae cyfrifoldebau ac mae yna feysydd lle y gallwn ni gamu i mewn, ac rydyn ni'n gwneud cryn dipyn, yng Nghymru, i helpu pobl, oherwydd un o brif achosion yr argyfwng costau byw yw'r cynnydd hwnnw yw faint o arian y mae'n rhaid i bobl ei wario ar eu morgeisi a'u rhent. Felly, rydyn ni wedi rhoi llawer iawn o gefnogaeth Cymorth i Aros a Cymorth i Brynu; rydyn ni wedi rhoi grantiau tai gwag ac rydyn ni wedi rhoi benthyciadau eiddo. Mae rhestr ychwanegol enfawr, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig bod y Blaid Geidwadol yn derbyn ei chyfran o'r cyfrifoldeb am y llanast hwn. 

Ar ôl i Truss dros dro gael ei dileu, adlamodd y marchnadoedd, ond yna tarodd argyfwng costau byw byd-eang y byd a chododd cyfraddau llog. Mae'r risg yn cynyddu y bydd pobl yn cael trafferth gyda morgeisi, gyda data'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn dangos cynnydd yn nifer y ceisiadau meddiannu morgeisi sy'n cael eu cyflwyno yn chwarter 3 yng Nghymru, a chrynodeb o ddata Shelter Cymru o fis Hydref 2024 yn dangos cynnydd o ran achosion yn ymwneud ag ôl-ddyledion morgais ac achosion meddiannu. Fodd bynnag, er i Lywodraeth Cymru nodi y gallai ei chynllun cymorth gyda morgeisi, benthyciad ecwiti a rennir, Cymorth i Aros Cymru, gyda £40 miliwn o gyllid cyfalaf ad-daladwy ar gyfer 2023-24, helpu cannoedd o berchnogion cartrefi sy'n ei chael hi'n anodd yng Nghymru, dangosodd datganiad i'r wasg gan Lywodraeth Cymru mai dim ond pum benthyciad Cymorth i Aros a gafodd eu cymeradwyo y flwyddyn gyntaf y cafodd y cynllun ei weithredu. O ystyried y dystiolaeth gref hon bod angen rhywbeth mwy cynhwysfawr fel ymateb, pa gamau ydy'ch Llywodraeth yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r cynnydd diweddar mewn ceisiadau meddiannu morgeisi, a pha drafodaethau ydy'ch eich Llywodraeth wedi'u cael o ran yr angen am gyllid wedi'i glustnodi ar gyfer cynlluniau achub morgeisi yng Nghymru?

14:30

Diolch yn fawr. Rydych chi'n hollol gywir—y ffaith yw ein bod ni wedi cyflwyno'r gefnogaeth Cymorth i Aros newydd yma, a dim ond blwyddyn yn ôl y dechreuodd. Mae'r pethau hyn yn cymryd amser i fynd ar eu traed. Mae'r cynllun wedi annog nifer o aelwydydd i ofyn am gyngor am ddim ar ddyledion, a allai ddarparu ateb arall i ddiwallu eu hanghenion.

Rydych chi'n gofyn beth arall yr ydyn ni'n ei wneud. Mae'r cynllun Cymorth i Brynu, a ddechreuodd ym mis Ionawr 2014, wedi helpu dros 14,350 o bobl i brynu eu cartrefi eu hunain, ac mae'r Llywodraeth wedi sicrhau bod swm enfawr o arian ar gael drwy'r cyfalaf trafodiadau ariannol. Mae'r arian hwnnw nid yn unig wedi'i roi ar y bwrdd—£780 miliwn ohono—ond yn y gyllideb ddrafft ar gyfer y flwyddyn nesaf—os ydych chi eisiau ein helpu ni, mae croeso i chi wneud hynny—bydd £57 miliwn o gyfalaf trafodiadau ariannol ychwanegol ar gyfer y cynllun Cymorth i Brynu yng Nghymru. Os hoffech chi fynd i siarad â Shelter am hynny, am sut yr hoffech chi eu cefnogi nhw drwy gefnogi'r gyllideb, croeso i chi wneud hynny.

Gwella Canlyniadau Iechyd

6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella canlyniadau iechyd i drigolion Canol De Cymru? OQ62082

Rydyn ni'n cymryd camau trawslywodraethol i wella canlyniadau iechyd ledled Cymru, gan gynnwys camau i ymdrin â'r annhegwch iechyd sy'n cael ei achosi gan amddifadedd. Mae rhaglenni fel Dechrau'n Deg, cefnogaeth i aelwydydd agored i niwed dros y gaeaf, a'n fframwaith presgripsiynu cymdeithasol i gyd yn cefnogi'r bobl yn ein cymunedau sy'n wynebu'r amddifadedd cymdeithasol mwyaf.

Diolch am yr ateb hwnnw, Prif Weinidog, a'r atebion yr ydych chi wedi'u rhoi i gydweithwyr eraill y prynhawn yma, nad ydyn nhw'n ennyn hyder bod gan eich Llywodraeth afael ar amseroedd aros yma yng Nghymru.

Bore ddoe, cysylltodd etholwr â mi a gafodd ei atgyfeirio i Ysbyty Athrofaol Cymru Caerdydd i gael archwiliad niwrolegol ar frys. Cafodd wybod mai 122 wythnos oedd yr amser aros. Cadwch hynny mewn cof bod gennych chi 'ar frys' wedi'i ysgrifennu ar yr atgyfeiriad hwnnw.

Rwy'n gwybod na wnewch chi sylwadau ar fanylion achos yr unigolyn hwn, ond beth ydw i fod i'w ddweud wrth yr unigolyn hwnnw pan fyddaf i'n mynd yn ôl ato ac yn ceisio cynnig rhywfaint o obaith iddo? Y byddwch chi'n galw draw at ei dŷ gyda bocs o Quality Street, neu a oes gennych chi atebion iddo fel y gall gael yr apwyntiad brys hwnnw y mae ei angen mor daer arno?

Rwy'n deall y rhwystredigaeth y byddai gan eich etholwr. Nid yw'n ddigon da. Ar gyfer rhywbeth sy'n angen brys, mae angen i ni fod yn ymdrin â hynny'n gyflymach. Rwy'n gwybod na fydd o unrhyw gysur iddo wybod mai 25 wythnos yw'r amser aros ar gyfartaledd yng Nghaerdydd, sy'n sefyllfa wahanol iawn, ac mae'r un peth yn wir am Gwm Taf Morgannwg. Rwy'n gwybod pan ddaw i ganser, er enghraifft, bod 72 y cant o gleifion yng Nghaerdydd wedi dechrau eu triniaeth canser o fewn 62 diwrnod. Mae hynny'n welliant sylweddol i'r hyn y gwnaethon ni ei weld yn y gorffennol.

Rwy'n derbyn nad yw hynny'n helpu'ch etholwr penodol, ond, yn amlwg, rydyn ni'n ceisio ymdrin â nifer enfawr o'r materion hyn. Mae yna wahanol feysydd lle mae pwysau ychwanegol. Mae'r rhan fwyaf o'r amserau aros dwy flynedd erbyn hyn wedi'u cyfyngu mewn mannau penodol, ac mewn ardaloedd penodol. Ym maes orthopaedig, er enghraifft, a oedd yn broblem fawr ledled Cymru ers amser maith, rydyn ni'n ffyddiog ein bod ni wedi dod â'r rhestrau aros hynny i lawr yn sylweddol ar draws Cymru gyfan. Mae gennym ni broblemau o hyd yn Betsi, ond rydyn ni'n adeiladu hwb orthopedig newydd yno i helpu pethau yno. Ac mae gan Gaerdydd broblemau o hyd gydag amserau aros orthopedig hefyd.

Ond mae'r gweddill ohonyn nhw wedi bod yn gostwng yn sylweddol, yn rhannol o ganlyniad i'r gwaith rhanbarthol a'r cydweithrediad hwnnw. Efallai fod mwy o'r gweithio a'r cydweithredu rhanbarthol hwnnw yn rhywbeth y mae angen i Gaerdydd a'r byrddau iechyd eraill ei ystyried. Mae gan Gaerdydd broblem benodol gydag amseroedd aros niwrolegol. Mae angen iddyn nhw fod yn ystyried sut y gallan nhw weithio gyda byrddau iechyd eraill.

14:35
Trafnidiaeth Gyhoeddus yn y Rhondda

7. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn annog y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus yn y Rhondda? OQ62079

Bydd cyflwyno'r trenau trydan newydd yn llwyddiannus ar reilffordd Treherbert yn galluogi gwasanaethau cyflymach ac amlach, gan annog defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn Rhondda a thu hwnt, yn ogystal â'n Bil gwasanaethau bysiau sydd ar ddod, a fydd yn galluogi gwell integreiddio â rheilffyrdd ac a ddylai wella cysylltiadau ag amwynderau lleol.

Rydyn ni'n gwybod bod trafnidiaeth gyhoeddus dda yn hanfodol er mwyn cadw cymunedau mewn cysylltiad, helpu pobl i gyrraedd y gwaith a phlant i gyrraedd yr ysgol a'r coleg. Bydd buddsoddiad rheilffordd Treherbert Llywodraeth Cymru yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y Rhondda; ni all preswylwyr aros i weld y trenau newydd ar y rheilffordd, gwasanaethau hwyrach gyda'r nos a hwb trafnidiaeth y Porth ar waith cyn gynted â phosibl. Bydd yr hwb yn allweddol ar gyfer cysylltu trenau a bysiau yn iawn a sicrhau y gall trigolion Rhondda Fach elwa ar docynnau drwodd unwaith eto. A all y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am hwb trafnidiaeth y Porth, pryd y gallwn ni ddisgwyl gweld y ganolfan ar agor, ac a oes unrhyw ddiweddariadau eraill ynghylch gwasanaethau hwyrach gyda'r nos ar reilffordd Treherbert?

Diolch yn fawr. Dywedais i wrthych chi fy mod i'n canolbwyntio ar gyflawni, ac mae hyn yn enghraifft o gyflawni: mae trenau trydan newydd bellach yn rhedeg ar reilffordd Treherbert fel rhan o gyflwyniad graddol. Rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn croesawu hynny, rwy'n siŵr y bydd eich etholwyr yn croesawu hynny. Rwy'n gwybod eu bod wedi dioddef llawer, yn aros iddo ddigwydd, ond mae yno nawr. Mae'n rhywbeth y dylen ni ei ddathlu, ac rwy'n gobeithio y bydd yn drawsnewidiol i'r Cymoedd. Rwy'n credu bod hyn o fudd gwirioneddol i deithwyr; rwy'n credu ei fod yn arwydd gweladwy o gyflawni a thrawsnewid sy'n digwydd yng Nghymru.

Rwy'n gwybod bod Trafnidiaeth Cymru yn gweithio'n agos gyda Rhondda Cynon Taf i agor cyfnewidfa'r Porth. Rwy'n deall bod hynny'n cael ei gynllunio o fewn yr wythnosau nesaf, felly ni fydd yn rhaid iddyn nhw aros am ryw lawer. Maen nhw hefyd wedi dod i gytundeb gyda bysiau Stagecoach i gyflwyno gwell tocynnau bws-trên yn y Rhondda Fach. Mae hynny'n mynd i gael ei gyflwyno pan fydd gorsaf fysiau newydd y Porth yn agor. Felly, mae llawer o bethau i'w dathlu, ac rwy'n gobeithio y bydd llawer o bobl yn deall cyflawni ar waith.

Uwchgynhadledd Fuddsoddi

8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr uwchgynhadledd fuddsoddi arfaethedig a fydd yn cael ei chynnal yn ddiweddarach eleni? OQ62063

Bydd yr uwchgynhadledd fuddsoddi yn arddangos Cymru i arweinwyr diwydiant byd-eang a buddsoddwyr posibl, gan dynnu sylw at y cyfleoedd a'r cryfderau niferus mewn diwydiannau allweddol yma yng Nghymru. Nod cyffredinol yr uwchgynhadledd fydd ysgogi buddsoddiad newydd i Gymru, gan gefnogi ein blaenoriaeth ar gyfer swyddi a thwf gwyrdd.

Diolch am yr ateb. Rydw i wir yn gobeithio y bydd y gynhadledd yn llwyddiant. Mae gan Gymru stori dda a chynnig da mewn nifer o feysydd yn yr economi, o'r gwyddorau bywyd i ynni adnewyddadwy, technoleg ariannol, seiberddiogelwch, ac, wrth gwrs, gweithgynhyrchu gwerth uchel. Mae gan bob un o'r meysydd hyn botensial gwirioneddol ar gyfer twf a swyddi da ledled Cymru. Un o'r meysydd y gallen ni wella arno yw'r amser y mae'n dal i'w gymryd i wneud penderfyniadau cynllunio mawr, er mwyn gwneud hynny'n gyflymach a gyda mwy o sicrwydd i fuddsoddwyr. Bydd y Prif Weinidog yn cofio materion parcffordd Caerdydd sydd heb eu datrys, yr wyf i wedi'u codi gyda hi fel enghraifft o'r hyn na ddylai ddigwydd a'r angen i ddysgu gwersi. A all y Prif Weinidog gadarnhau y bydd dysgu gwersi o barcffordd Caerdydd a gwella cyflymder penderfyniadau yn ein system gynllunio, ynghyd â meysydd penodol buddsoddi a thwf posibl, yn ymddangos yn yr uwchgynhadledd fuddsoddi y bydd hi'n ei chynnal yn ddiweddarach eleni?

Diolch yn fawr iawn, Vaughan. Rwy'n credu eich bod chi'n iawn—mae gennym ni stori dda i'w hadrodd ac mae angen i ni ei hadrodd hi i gynulleidfa ryngwladol. Mae hynny'n rhan o'r hyn yr ydyn ni'n bwriadu ei wneud yn yr uwchgynhadledd fuddsoddi. Ond rydych chi'n hollol gywir—rwy'n credu mai'r hyn y mae buddsoddwyr rhyngwladol, sy'n gallu mynd i unrhyw le yn y byd, eisiau gwybod yw beth y gallwn ni ei gynnig iddyn nhw yn ogystal. Mae gennym ni sylfaen sgiliau gwych, mae gennym ni seilwaith gwych erbyn hyn, ac mae'n bwysig nawr ein bod ni'n cynnig penderfyniadau cynllunio cyflym, oherwydd mae hynny'n rhywbeth sy'n bwysig iddyn nhw. Felly, rydyn ni'n archwilio amrywiaeth eang o ddewisiadau i gyflymu penderfyniadau cynllunio sy'n cael eu gwneud gan Weinidogion ac awdurdodau cynllunio lleol, ac rydyn ni'n mynd i lunio'r rhain yn gynllun cyflawni. Mae arian ychwanegol wedi mynd i mewn i gynllunio. Felly, rwyf i eisiau eich sicrhau chi fy mod i'n cymryd y mater cynllunio o ddifrif. Rwy'n gwybod eich bod chi'n ddiamynedd am ateb o ran parcffordd Caerdydd, ac unwaith y bydd yr ymgynghoriad wedi cau, yna, yn amlwg bydd penderfyniad yn cael ei wneud cyn gynted â phosibl.

3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes. Mae'r datganiad hwnnw gan y Trefnydd, Jane Hutt.

14:40
Member (w)
Jane Hutt 14:40:00
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae tri datganiad wedi cael eu hychwanegu i agenda heddiw. Fodd bynnag, bydd y datganiad ar dechnoleg a’r Gymraeg yn cael ei gyhoeddi fel datganiad ysgrifenedig. Mae’r cwestiynau i Gomisiwn y Senedd yfory wedi cael eu lleihau i 10 munud. Mae busnes drafft y tair wythnos nesaf wedi’i nodi yn y datganiad a’r cyhoeddiad busnes, sydd ar gael i Aelodau yn electronig.

Trefnydd, hoffwn i alw am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru ynghylch cau'r A487 yng Nghasnewydd yn fy etholaeth i. Bydd y ffordd ar gau am wyth wythnos, ac yn ddealladwy, mae busnesau lleol yn bryderus am effaith cau'r ffordd ar y gymuned a'r ffaith y gallai atal pobl rhag ymweld â'r ardal a'u busnesau. Wrth gwrs, mae pawb yn gwerthfawrogi bod angen cynnal a chadw hanfodol, ond ar yr un pryd mae'n hanfodol bod rhywfaint o gymorth ar gael i fusnesau lleol a fydd dan anfantais yn ystod y cyfnod penodol hwn. Felly, o ystyried bod yr A487 yn gefnffordd o dan awdurdodaeth Llywodraeth Cymru, byddwn i'n ddiolchgar pe bai datganiad yn cael ei wneud ynglŷn â'r mater hwn, fel y gall busnesau ddeall sut y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cefnogi tra bod y ffordd ar gau. Bydd cael datganiad fel hyn yn ddefnyddiol oherwydd gall ddweud wrth bob busnes, yn wir, ledled Cymru, pa gymorth sydd ar gael o dan amgylchiadau fel y rhain pan fydd ffyrdd yn cau.

Diolch yn fawr, Paul Davies, am eich cwestiwn.

Mae cyfle, wrth gwrs, yfory i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru. Rwy'n credu bod hwnnw yn gyfle i chi godi hyn. Wrth gwrs, mae'n bwysig, y ddealltwriaeth honno, fel yr ydych chi wedi'i chydnabod, o'r angen am gynnal ac uwchraddio ffyrdd. Mae'n gefnffordd, ond hefyd mae'n drefniant partneriaeth gyda'r awdurdod lleol. Felly, wrth gwrs, mae'ch cwestiwn wedi'i gofnodi heddiw, ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n manteisio ar y cyfle i ofyn cwestiwn i'r Ysgrifennydd Cabinet yfory.

Trefnydd, dwi’n nodi ddoe y cyhoeddwyd y crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ar flaenoriaethau drafft ar gyfer diwylliant. Dwi’n croesawu hynny. Mae’n dweud yn y datganiad ysgrifenedig y bydd ymateb y Llywodraeth yn cael ei gyhoeddi yn y gwanwyn, gan gynnwys y strategaeth derfynol, gobeithio. Dydy o ddim yn dweud pryd yn y gwanwyn. A gaf i ofyn a gawn ni sicrhau bod hwnnw’n ddatganiad llafar? Oherwydd mae yna nifer o bethau pryderus yn cael eu codi yn y crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad. Er enghraifft, mae’n dweud bod y gallu i ofalu am gasgliadau ac asedau hanesyddol o dan fygythiad ac yn hawdd ei gymryd yn ganiataol, bod angen mwy o gefnogaeth ar gyfer diwylliant a threftadaeth sydd mewn perygl, a bod angen adnoddau i warchod rhag bygythiadau amgylcheddol a chostau gweithredol cynyddol. Dydyn ni heb gael cyfle i drafod diwylliant ar lawr y Senedd hon am amser maith, ac mae yna nifer o bethau y byddwn i’n hoffi gweld eglurder gan y Gweinidog arnyn nhw. Dwi’n siŵr y bydd yna Aelodau eraill efo cwestiynau arnyn nhw hefyd. Dydyn ni ddim wedi cael fawr ddim o fanylder gan y Llywodraeth o ran y datganiad ysgrifenedig. Mae’r ymateb yn annelwig iawn. Felly, gaf i ofyn am y sicrhad hwnnw fel ein bod ni’n cael cyfle i graffu’n iawn ar hyn, ond hefyd cael yr atebion?

Diolch, Heledd Fychan. Mae'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi bod yn rhan fawr o hyn ynghylch ymateb i'r ymgynghoriad helaeth sydd wedi digwydd. Bydd cyfleoedd i graffu o ran bwrw ymlaen â hyn, ond unwaith eto nodir eich sylwadau heddiw yn y Siambr.

Gweinidog, byddwch chi wedi clywed y trafodaethau yn ystod y cwestiynau ar fater eHarley Street a darparu gofal sylfaenol yn fy etholaeth i ac mewn mannau eraill yn ardal Aneurin Bevan. Cafodd y mater hwn ei drafod cyn y Nadolig hefyd. Byddai'n ddefnyddiol cael datganiad gan Lywodraeth Cymru ar yr hyn sy'n digwydd pan fydd gwasanaethau'n chwalu. Mae'n gwbl amlwg i mi fod eHarley Street wedi methu pobl Brynmawr, Aberbîg, Tredegar a rhannau eraill o ardal Aneurin Bevan. Maen nhw wedi methu'u staff, maen nhw wedi methu'r bobl maen nhw i fod i'w gwasanaethu. Beth ydyn ni'n ei wneud fel Aelodau pan fydd y math hwnnw o fethiant yn digwydd? Rydyn ni'n codi materion gyda'r bwrdd iechyd, ond mae hyn yn mynd y tu hwnt i ddarparu gwasanaethau yn unig; mae'n ymwneud â'n gwerthoedd fel Llywodraeth ac fel pobl. Mae'r ffordd y mae staff wedi cael eu siomi a'u bwlio gan eHarley Street yn warthus. Ni allwn ni sefyll o'r neilltu a chaniatáu i hynny ddigwydd yn y wlad hon. Ni allwn ni sefyll o'r neilltu a gweld ein gwasanaethau sylfaenol yn cael eu preifateiddio yn y modd hwn, ac ni allwn ni sefyll o'r neilltu pan fydd gwasanaethau'n methu. A fyddai'n bosibl cael datganiad? Beth yr ydyn ni'n ei wneud i sicrhau parhad gwasanaethau i'r bobl yr ydyn ni'n eu cynrychioli?

14:45

Diolch i chi, Alun Davies, am godi hyn eto'r prynhawn yma ac, yn wir, gyda'r Prif Weinidog, ond hefyd ei godi gyda mi, fel Trefnydd, cyn y Nadolig ar fwy nag un achlysur, ac, yn wir, ymunodd Aelodau eraill o'r Senedd—Hefin David, Jocelyn Davies—ac mae Aelodau eraill o'r Senedd y mae hyn yn effeithio arnyn nhw wedi ei godi hefyd—Lynne Neagle—ac Aelodau Seneddol hefyd. Ac rwy'n credu eich bod chi'n cyfarfod â'r prif weithredwr—rydych chi i fod i gwrdd â nhw—yn fuan, i drafod y materion hyn. Byddwch chi wedi gweld yr ymrwymiad—wedi clywed yr ymrwymiad—gan y Prif Weinidog o ran pryderon sydd wedi'u codi am rai o'r arferion, rwy'n credu, sydd wedi dod trwy'r gwaith hwnnw y mae eHarley Street yn ymwneud ag ef, o ran eu rheolaeth o'r contract sydd ganddyn nhw. Cyfrifoldeb y bwrdd iechyd yw hyn ac, wrth gwrs, mae'n ymwneud â'u rheolaeth o'r contract hwn, ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n ei godi gyda nhw. Ac, yn wir, mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn cyfarfod â'r cadeirydd i drafod hyn ymhellach. Felly, rwy'n credu y bydd lefel y drafodaeth a'r pryder a gafodd ei godi yn y Siambr heddiw, Llywydd, gan yr Aelodau, yn sicrhau ein bod ni, fel Llywodraeth, yn ystyried hyn yn ofalus iawn o ran cyfrifoldebau'r bwrdd iechyd i ymdrin â hyn.

Blwyddyn newydd dda. Hoffwn i gael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid ar y camau sy'n cael eu cymryd i wella diwydrwydd dyladwy y Llywodraeth Cymru hon cyn dyfarnu grantiau i rai mentrau busnes. Dim ond yr wythnos ddiwethaf fe wnaethom ni glywed am safle'r hen weithfeydd alwminiwm yn Nolgarrog. Fe gawson nhw £8 miliwn o arian trethdalwyr Cymru, ac eto fe ddaeth y morlyn syrffio, a gafodd hefyd ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, i ben yn 2023. Rwy'n gwybod, o Dŷ'r Cwmnïau, fod gan Lywodraeth Cymru arwystl yn erbyn y cwmni cyfyngedig, ond hefyd, nid hynny'n unig. Nawr, ddwy flynedd yn ôl, fe wnes i godi gyda'r Prif Weinidog ym mhwyllgor craffu'r Prif Weinidog, pan fo'r grantiau hyn yn cael eu rhoi i rai cwmnïau sydd, yn absenoldeb gwell air, yn mynd i'r wal, pa fonitro ariannol sy'n digwydd mewn gwirionedd? Wyddoch chi, pe bai Banc Datblygu Cymru yn rhoi benthyciadau, bydden nhw'n monitro'n drylwyr a byddai angen achos busnes arnyn nhw, oherwydd cafodd £400,000 ei fuddsoddi ym mhencadlys methedig G.M. Jones yn Llanrwst, £9 miliwn o arian cyhoeddus ar Gylchffordd Cymru, £100 miliwn wedi'i wastraffu ar ganolfannau technium, £114 miliwn ar brosiect ffordd liniaru'r M4, a llawer mwy, gan gynnwys Maes Awyr Caerdydd, parc busnes Bryn Cegin, Bangor. Mae llawer o etholwyr i mi ond yn anobeithio am filiynau o bunnoedd sy'n cael eu gwastraffu gan Lywodraeth Cymru, ac, yn fy marn i, mae angen rhai gwersi mewn diwydrwydd dyladwy cyn dyfarnu grantiau o'r fath. Felly, sut y byddwch chi'n gweithio gyda'r Prif Weinidog newydd i sicrhau hynny—? Rydych chi'n gwybod, mae gennyf i fusnesau bach lle byddai £5,000 yn eu helpu i aros yn gynaliadwy, ond mae miliynau yn cael eu rhoi i brosiectau gwael iawn, ac mae'n bryd rhoi diwedd ar hyn. Diolch.

Wel, Janet Finch-Saunders, fe ddechreuoch chi drwy ddweud 'Blwyddyn newydd dda'—blwyddyn newydd dda. Ond rwy'n gobeithio y gallwn ni gael rhai cwestiynau synhwyrol i'r Trefnydd, o ran y ffaith eich bod chi'n gwybod nad oes unrhyw fodd i mi ymateb i'r rhestrau, ac mae'n ymwneud â rhestru, onid yw, Janet? Mae'n ymwneud â rhestru grantiau i sefydliadau, i fusnesau, i'r sector preifat, ond fe aethoch chi ymhell y tu hwnt i hynny, y tu hwnt i'ch rhanbarth a'ch etholaeth eich hun, i lawer o feysydd eraill o ran llywodraethu. Y cyfan y gallaf i ei ddweud yw fy mod i'n siŵr y bydd rhai yn nodi eich cwestiynau, ac yn wir, mae'n bwysig eich bod chi'n cael y cyfle i wneud hynny. 

Blwyddyn newydd dda. Hoffwn i gael datganiad, plis, sy'n dweud pa gefnogaeth sydd ar gael i awdurdodau lleol i ddelio â sgileffeithiau'r tywydd gaeafol.

Mae'r tywydd gaeafol wedi achosi llawer o anhawster yn lleol. Pan doddodd yr eira achosodd lifogydd a arweiniodd at gau ffyrdd yn Hengoed, yng Nglyn Ebwy, ac roedd tirlithriad ger Crumlin. A nawr bydd hynny wedi achosi pryder i bobl nid yn unig yn yr ardal honno, chwaith, oherwydd yn y stormydd y cawsom ni ddiwedd y llynedd, roedd tirlithriadau ar draws y Cymoedd. Fe wnaethom ni weld llyncdyllau yn agor, a gwnaeth hyd yn oed tomen lo lithro yng Nghwmtyleri. Mae cynllun ein cymoedd, y topograffi, y ffaith bod cymaint o drefi wedi'u hadeiladu ar ben y cwlfertau hynafol iawn hyn neu ar ochr mynyddoedd neu o dan y tomenni hyn—sy'n gwneud ein cymunedau'n arbennig o agored i niwed yn ystod glaw trwm neu eira. Rwy'n galw, os gwelwch yn dda, am ddatganiad a allai osod cefnogaeth wedi'i thargedu ar gyfer awdurdodau lleol sy'n cynrychioli'r cymunedau hynny i'w helpu nhw, nid yn unig i ymateb pan fo llifogydd mewn mannau neu'r tir yn llithro, ond i helpu i atal y problemau hynny rhag digwydd fel bod modd gwneud rhywbeth i gysoni hynny'n genedlaethol, os gwelwch yn dda, oherwydd y gaeaf hwn, gallwn ddisgwyl mwy o stormydd, mwy o eira. Felly, a allai datganiad nodi'r gefnogaeth y byddai modd ei chydlynu fel blaenoriaeth? Diolch.

14:50

Diolch yn fawr, Delyth Jewell. Maen nhw wedi wynebu eto—pobl a chymunedau, ein hetholwyr—effaith tywydd y gaeaf, effaith newid hinsawdd. Ac, yn wir, cyn y Nadolig, ar ddiwedd y sesiwn, roedd y Dirprwy Brif Weinidog yn gwneud datganiadau ar storm Darragh, a storm Bert dim ond ychydig wythnosau ynghynt, ac yna rydyn ni wedi gweld effaith tywydd y gaeaf yn ystod yr wythnosau diwethaf. Ac mae'r effaith yn aruthrol i bobl, ond hefyd i awdurdodau lleol o ran eu hymateb. Ond rwy'n credu bod y cyfleoedd a fydd yn cael eu cyflwyno drwy'r gyllideb ddrafft ar gyfer y flwyddyn nesaf yn mynd i fod yn bwysig iawn o ran cynorthwyo awdurdodau lleol, yn enwedig o ran ffyrdd. Mae effaith y tywydd gwael ar ffyrdd, rydym yn gwybod, ac rwy'n credu bod y ffaith bod gennym ni, yn y gyllideb ddrafft, y cyfle hwn i awdurdodau lleol ddefnyddio eu pwerau benthyca i'n helpu ni i gael rhaglen cynnal a chadw ffyrdd wirioneddol gadarn ledled Cymru, rwy'n credu, yn bwysig iawn. Ond, unwaith eto, mae'r Dirprwy Brif Weinidog a'r Gweinidog Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wir yn cydnabod effaith tywydd y gaeaf, ac rwy'n siŵr y byddwn ni'n ei thrafod yn y dyddiau a'r wythnosau nesaf.

Trefnydd, rwyf i eisiau gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru i'r ymyriadau gwyllt yng ngwleidyddiaeth y wlad hon dan arweiniad dyn cyfoethocaf y byd. Yn ôl y disgwyl, o ganlyniad i hynny, mae dyn arall wedi cael ei gyhuddo o anfon cyfathrebiadau maleisus at Jess Phillips AS, ac mae bygythiadau difrifol wedi bod i'w lles. Fel cadeirydd cacws menywod y Senedd hon—ac rwy'n siŵr y bydd menywod yn y Siambr hon yn cytuno—rwy'n bryderus iawn y gall y gwenwyn hwn atal menywod da—pob menyw—rhag mynd i fywyd cyhoeddus. Mae digon o dystiolaeth ei fod eisoes yn achosi menywod i adael bywyd cyhoeddus. Ar adeg pan rydyn ni'n bwriadu ehangu a chyfoethogi ein sefydliad yma yn yr etholiad nesaf, er mwyn annog amrywiaeth yn y Siambr drafod hon, mae'n rhaid i ni godi pryderon am ymyriadau sy'n dod yma i'r DU. A ni yw'r nesaf i gynnal etholiadau, felly rwy'n awyddus iawn i wybod beth mae ein Llywodraeth yn ei roi ar waith, gan weithio gyda chyrff eraill sydd â phwerau i roi pethau ar waith, i atal hyn rhag mynd yn drech na'r gwaith da iawn a fydd yn digwydd i annog pobl i sefyll. 

Wel, diolch yn fawr iawn, Joyce Watson, am godi'r mater hwn, ac rwy'n siŵr ar draws y Siambr ein bod yn parchu ac yn deall ei fod yn gwbl annerbyniol ac mae'n rhaid i ni gondemnio'n llwyr y ffyrdd y mae rhai pobl mewn sefyllfa i ddylanwadu—ac rydych chi wedi cyfeirio at hynny—sy'n ymddangos bod ganddyn nhw fwy o ddiddordeb mewn lledaenu camwybodaeth yn eang, a hefyd yr effaith ar bobl mewn bywyd cyhoeddus y mae'r geiriau hynny wedi'i chael—canlyniadau trasig. Rwy'n credu y bydden ni i gyd eisiau—byddwn i eisiau gwneud hynny'n sicr—sefyll gyda chi i gefnogi Jess Phillips, sy'n un o'r gwleidyddion benywaidd mwyaf rhyfeddol, a dreuliodd ei hoes gyfan, cyn iddi ddod yn wleidydd, yn sefyll dros hawliau menywod a mynd i'r afael â cham-drin domestig a thrais yn erbyn menywod ac aflonyddu rhywiol. Mae'r hyn y mae hi wedi'i wynebu, dim ond yn ystod y dyddiau diwethaf yn warthus, ac mae'n rhaid i ni ei gondemnio'n llwyr.

Rwy'n credu ei bod hefyd yn bwysig iawn ein bod ni'n cysylltu hyn â'r ffaith ein bod newydd orffen ein hymgynghoriad ar amrywiaeth a chynhwysiant, a chanllawiau ar gyfer pleidiau gwleidyddol cofrestredig. Rwy'n ddiolchgar i bob plaid wleidyddol, pob plaid wleidyddol gofrestredig, am ymgysylltu â hyn, oherwydd mae hyn yn ymwneud â sut y gallwn ni yn arbennig ymgysylltu â menywod a phobl fwy amrywiol a'u hannog, i gyflwyno eu hunain a sefyll mewn etholiad. Ond byddech chi'n gofyn i'ch hun, 'Pam fyddwn i eisiau cyflwyno fy hun?', ac wrth gwrs dynion, pawb, o ran meddwl am gyfleoedd i sefyll mewn etholiad. Felly, rydyn ni'n chwilio am bleidiau gwleidyddol—. Ac edrychaf ymlaen at weld yr ymatebion o ran y ffyrdd y gallwn ni gael amgylchedd gwaith gwell, a'i fod yn barchus, a'n bod ni'n cydnabod effaith y math o gamwybodaeth warthus a celwyddau a difenwi sydd wedi bod, nid yn unig yn ystod y diwrnodau diwethaf, ond yn aml iawn yn targedu menywod ym maes gwleidyddiaeth. Felly, diolch am hynny. Rwy'n gwybod bod y Comisiwn Etholiadol wir yn ymgysylltu â hyn, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol yn gweithio gyda'r Comisiwn Etholiadol, oherwydd mae hyn yn ymwneud â sut y gallwn ni gael democratiaeth fywiog, gynhwysol a llawn parch.

14:55

Prynhawn da, Trefnydd. Roeddwn i eisiau gweld a gaf i ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol o ran cyllid i fyrddau iechyd, yn enwedig y rhai sy'n gweithredu ar y ffin â Lloegr. Mae'r her fawr yn ymwneud â sut y gallwn ni ariannu llawdriniaeth ddewisol ac wedi ei chynllunio pan fo hynny mewn bwrdd iechyd yn Lloegr. A'r effaith, er enghraifft, ar Fwrdd Iechyd Addysgu Powys yw ein bod ni'n wynebu diffyg posibl o £9.4 miliwn y flwyddyn ariannol hon, a fydd yn golygu y bydd yn rhaid i ni ystyried atal y defnydd o staff locwm, a hefyd ymestyn amseroedd aros. Mae hyn yn arbennig o bryderus i drigolion Powys, fel y gallwch chi ei ddychmygu. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed a allwch chi fyfyrio ar rai o'r materion hynny sy'n ymwneud â chyllid ar gyfer ein byrddau iechyd, yn enwedig y rhai sy'n gweithredu ar y ffin â Lloegr. Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr, Jane Dodds. Cyn i mi ateb eich cwestiwn, a gaf i hefyd estyn fy nghydymdeimlad dwysaf a chydymdeimlad â chi, teulu'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a theulu Jenny Randerson? Cefais y fraint fawr o wasanaethu fel Gweinidog a bod yn un o ddosbarth 1999—nid oedd llawer ohonon ni yma—fu'n gweithio gyda Jenny ar hyd y blynyddoedd. A hefyd, wrth gwrs, rwy'n cofio Peter. Rydyn ni'n mynd yn ôl at gydnabod cyd-Aelodau blaenorol, ond yn enwedig ar gyfer Jenny—roedd hi'n esiampl i fenywod, dim ond dilyn y cwestiwn hwnnw a'r sylw hwnnw yr ydyn ni wedi'i gael ar effaith gwleidyddiaeth ar fywydau menywod, a'r ffaith bod Jenny yn fenyw mor gryf ym mhob rôl y gwnaeth hi ei chwarae. Rydyn ni'n gweld ei heisiau hi'n fawr ac yn anfon ein cydymdeimlad.

Rydych chi'n codi cwestiwn am sefyllfa ariannol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, ac, wrth gwrs, derbyniodd Powys, fel yr holl fyrddau iechyd eraill, gynnydd fel rhan o'r gyllideb derfynol ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, ac mae nawr, wrth gwrs, yn edrych i'r flwyddyn ariannol nesaf, gan barhau â'r gyllideb ddrafft, gan edrych ar y flaenoriaeth i ymdrin â'r holl faterion yr ydyn ni wedi bod yn eu trafod y prynhawn yma, y Prif Weinidog yn arbennig, o ran lleihau'r amseroedd aros hiraf, gan gynnwys, mae'n rhaid i mi ddweud, iechyd meddwl, mynediad at ofal cymdeithasol a gwasanaethau ar gyfer iechyd menywod. Rwy'n deall bod cyfarfod wedi ei gynnal gyda'r Ysgrifennydd Cabinet a chadeirydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys cyn y Nadolig, felly mae'n amlwg eu bod yn ystyried y materion hyn ac yn ymdrin â nhw. 

Hoffwn i gael datganiad, os gwelwch yn dda, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar bolisiau ffonau symudol ysgolion. Cyhoeddodd Ysgol Gatholig Crist y Gair yn y Rhyl bolisi ysgol newydd ar ffonau ar gyfer disgyblion yr wythnos diwethaf, lle mae'n ofynnol iddyn nhw osod eu ffonau mewn cwdyn o flaen yr ystafell ddosbarth, gan sicrhau nad yw'r ffonau'n tynnu eu sylw. Rwy'n credu bod hwn yn benderfyniad ardderchog ac rwy'n cymeradwyo camau gweithredu beiddgar y pennaeth. Mae tystiolaeth empirig gadarn nad dim ond tynnu sylw oddi ar yr ystafell ddosbarth a rhwystro dysgu y mae ffonau clyfar a'r cyfryngau cymdeithasol ond maen nhw hefyd yn gysylltiedig â chyfraddau uwch o iechyd meddwl a lles gwael, a bwlio. Mae nifer o ysgolion yn Lloegr wedi penderfynu gwahardd ffonau o'r ystafell ddosbarth, ac yn rhyngwladol, mae gwahardd ffôn yn dod yn gyffredin, gyda'r canlyniadau hyd yma yn edrych yn bositif iawn. Mae talaith Florida wedi cyflwyno gwaharddiad ledled y dalaith ar ffonau yn yr ystafell ddosbarth, gyda llywodraethwr Efrog Newydd hefyd yn cefnogi'r mesur. Mae canllawiau Llywodraeth y DU ar gyfer ysgolion yn Lloegr yn annog ysgolion i weithredu mesurau i wahardd ffonau o'r ystafell ddosbarth, ac eto nid oes canllawiau o'r fath yn bodoli yng Nghymru, gyda'r canllawiau presennol yn annog defnydd effeithiol. Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar y canllawiau sydd wedi'u cyhoeddi i ysgolion o ran eu polisïau ffonau, ac i ystyried adolygu canllawiau presennol yn unol â'r dystiolaeth ddiweddaraf gan arbenigwyr ac yn unol â gweddill y DU? Diolch.

15:00

Diolch yn fawr iawn i chi, Gareth Davies, a diolch i chi am godi'r mater hwn, sef cyfrifoldeb yr ysgolion, ac mae yna ysgolion sy'n gwneud y penderfyniadau pwysig hyn. Wrth gwrs, fe fydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn ymwybodol o'r sylwadau y gwnaethoch chi'r prynhawn yma.

Diolch i'r Trefnydd.

Y cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau sydd nesaf. Os nad oes yna unrhyw wrthwynebiad, dwi'n cynnig bod y cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau, yn unol â Rheol Sefydlog 12.24 a 12.40, yn cael eu grwpio i'w trafod ac ar gyfer pleidleisio arnynt. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu hynny? Os na—.

Cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau

Felly, fe wnaf i alw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i'w wneud y cynigion yma yn ffurfiol. Jane Hutt.

Cynnig NNDM8768 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Natasha Asghar (Ceidwadwyr Cymreig) yn lle Tom Giffard (Ceidwadwyr Cymreig) a Joel James (Ceidwadwyr Cymreig) yn lle Gareth Davies (Ceidwadwyr Cymreig), yn aelodau o’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

Cynnig NNDM8769 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Paul Davies (Ceidwadwyr Cymreig) yn lle Darren Millar (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Biliau Diwygio.

Cynnig NNDM8770 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Tom Giffard (Ceidwadwyr Cymreig) yn lle Natasha Asghar (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus.

Cynnig NNDM8771 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol James Evans (Ceidwadwyr Cymreig) yn lle Sam Rowlands (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Cynnig NNDM8772 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Sam Rowlands (Ceidwadwyr Cymreig) yn lle Peter Fox (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Cyllid.

Cynnig NNDM8773 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Paul Davies (Ceidwadwyr Cymreig) yn lle Darren Millar (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o Bwyllgor Senedd y Dyfodol.

Cynnig NNDM8774 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Paul Davies (Ceidwadwyr Cymreig) yn lle Darren Millar (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Busnes.

Cynnig NNDM8775 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Gareth Davies (Ceidwadwyr Cymreig) yn lle Laura Anne Jones (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol.

Cynnig NNDM8776 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Joel James (Ceidwadwyr Cymreig) yn lle Peter Fox (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Deisebau.

Cynnig NNDM8777 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Laura Anne Jones (Ceidwadwyr Cymreig) yn lle Natasha Asghar (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad.

Cynnig NNDM8778 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Peter Fox (Ceidwadwyr Cymreig) yn lle Altaf Hussain (Ceidwadwyr Cymreig) a Laura Anne Jones (Ceidwadwyr Cymreig) yn lle James Evans (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelodau o’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.

Cynnig NNDM8779 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Altaf Hussain (Ceidwadwyr Cymreig) yn lle Joel James (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol.

Cynigiwyd y cynigion.

Member (w)
Jane Hutt 15:01:54
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Yn ffurfiol.

Mae'r cynigion wedi'u gwneud. Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn y cynigion? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae pob Aelod wedi'u hethol i'r pwyllgorau.

Derbyniwyd y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

4. Datganiad gan y Prif Weinidog: Cyflawni dros Gymru

Eitem 4 sydd nesaf: datganiad gan y Prif Weinidog yw'r eitem yma, ar gyflawni dros Gymru. Y Prif Weinidog, felly, Eluned Morgan.

Diolch yn fawr. Llywydd, nid areithio yn y Siambr hon oedd fy nhasg gyntaf wrth i mi ddod yn Brif Weinidog, ond yn hytrach mynd allan, cwrdd â phobl a gwrando arnyn nhw: sgyrsiau gwirioneddol mewn cymunedau gwirioneddol ledled Cymru. [Torri ar draws.] Diawch, mae'r heclo wedi dechrau. Fe ddywedoch chi wrthyf i beth oedd bwysicaf—[Torri ar draws.] Mae'n iawn—mae'r fyddin ar ei ffordd. Mae'n iawn, mae'r fyddin ar ei ffordd.

Fe ddywedoch chi wrthyf i—chi'r cyhoedd—beth oedd yn bwysicaf: Cymru iachach, swyddi a thwf gwyrdd, cyfle i bob teulu, a chysylltu cymunedau, a dyna sy'n llunio popeth yr ydyn ni'n ei wneud.

Fe wnes i addo ar y pryd y byddwn i'n Brif Weinidog sy'n canolbwyntio ar gyflawni, nid ar eiriau teg, nid ar strategaethau crand, ond ar weithredu, ac rydyn ni wedi rhoi £157 miliwn ychwanegol eisoes yn ystod y flwyddyn ariannol hon yn yr union fan pwysicaf oll yn ôl y bobl a wnaeth siarad â mi—yn syth i gyflymu triniaethau'r GIG. Roedd 21 miliwn o bunnau o hynny ar gyfer offer diagnostig y GIG i helpu i leihau amseroedd aros. Roedd blynyddoedd o gyni yn golygu nad oedd arian i dalu goramser i staff, nac am lawdriniaethau ychwanegol, na dewis. Ond nawr mae'r staff yn gweithio oriau ychwanegol, yn gweithio gyda'r nos ac ar benwythnosau. Rydym ni'n dechrau rhoi Cymru ar waith unwaith eto.

Yr hyn sy'n werth ei ailadrodd bob amser yw bod 2 filiwn o gysylltiadau â'r GIG yn cael eu gwneud bob mis mewn poblogaeth o 3 miliwn o bobl. Honno yw ein sefyllfa wirioneddol ni, a gadewch i ni fod yn eglur: mae'r mwyafrif helaeth yn derbyn gofal rhagorol. Ond, ydi, mae'r pwysau yn wirioneddol, ac rwyf innau wedi teimlo hynny. Fe gerddais i ar hyd y coridorau ysbytai hynny dim ond yr wythnos diwethaf. Fe siaradais i â'n staff ar y rheng flaen. Mae angen cefnogwyr arnyn nhw, mae angen cefnogaeth arnyn nhw, ac rydyn ni'n rhoi'r gefnogaeth honno iddyn nhw.

Er eiddigedd i'r ymddiriedolaethau iechyd yn Lloegr, rydyn ni wedi cyflwyno gwasanaeth cyswllt toresgyrn ledled Cymru eisoes—ffordd newydd o atal pobl rhag torri eu hesgyrn yn cael ei chyflwyno ym mhob bwrdd iechyd. Ac rydyn ni wedi gostwng yr oedran y mae pobl yn cael profion sgrinio canser y coluddyn i 50 oed oherwydd pwysigrwydd atal mewn gofal iechyd.

Nawr, os wnewch chi basio'r gyllideb hon ym mis Mawrth fe fyddan nhw'n cael mwy o gefnogaeth fyth, ond rydyn ni wedi rhoi £50 miliwn ychwanegol eisoes eleni ar gyfer gwell adeiladau ysgolion, gan ehangu ar lwyddiant ein rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, a £180 miliwn ychwanegol i gefnogi ein myfyrwyr—pob plentyn, pob cyfle, bob dydd. Nawr, fe ddywedoch chi wrthyn ni fod angen cymorth dysgu ar fwy o blant. Felly, fe wnaethon ni wrando. Rydyn ni'n gweithredu. Fe wnaethon ni gyflawni: £10 miliwn, staff cymorth newydd, adnoddau gwell, newid gwirioneddol, effaith wirioneddol ledled Cymru, o Ynys Môn i Gaerdydd, o Wrecsam i sir Benfro.

A thai. Rydyn ni'n bwrw ymlaen â hynny: £20 miliwn yn rhagor ar gyfer cartrefi cymdeithasol a gofal cymunedol. Pam? Oherwydd bod pobl yn brifo. Oherwydd bod argyfwng costau byw y Torïaid yn effeithio arnyn nhw'n llym o hyd. Parodd arbrawf ideolegol Truss i forgeisi godi i'r entrychion, gan wthio pobl hyd y dibyn, a rhai ohonyn nhw i'r strydoedd. Teuluoedd yn wynebu dewisiadau amhosibl. Nid yma. Nid yng Nghymru. Nid o dan ein gofal ni. Rydyn ni'n camu i'r adwy. Rydyn ni'n sefyll yn gadarn, yn cefnogi ein cymunedau, oherwydd dyna'r hyn y mae Cymru'n ei wneud. Dyna pwy ydym ni. Nid o ran gwario yw unig, ond buddsoddi yn yr hyn y mae'r cyhoedd wedi dweud wrthym ni sydd yn bwysig. Nid dim ond cleber Llywodraeth yw hyn, arian y cyhoedd ydyw, yn gweithio drostyn nhw: eich arian chi'n gweithio drosoch chi.

Edrychwch ar yr hyn rŷm ni wedi ei wneud yn barod: cynllun iechyd menywod cyntaf Cymru, achos bod iechyd menywod yn bwysig. Roedd llawer o fenywod yn teimlo nad oedden nhw yn cael y gwrandawiad roedden nhw'n ei haeddu, a byddwn ni'n cyflwyno hybiau iechyd menywod ym mhob ardal bwrdd iechyd yng Nghymru. Rŷm ni hefyd wedi agor ysgol feddygaeth newydd yng ngogledd Cymru, yn hyfforddi ein meddygon yn fwy agos at adref ac yn annog y rhai sy'n dod i astudio i aros. Ac rŷm ni'n fwy nag ymwybodol o heriau tlodi plant, a dyna pam rŷm ni mor falch erbyn heddiw fod gan bob plentyn ysgol gynradd brydau ysgol am ddim, achos dŷn ni ddim yn derbyn plant cynradd Cymru yn dysgu ar stumogau gwag.

Dwi wedi bod a byddaf yn parhau i ganolbwyntio ar economi Cymru, a chyda Llafur nawr yn San Steffan, byddwn ni'n gwneud mwy yn y maes yma—dwy Lywodraeth Lafur, dwbl y pŵer, dyblu'r effaith ar Gymru, partneriaeth go iawn, canlyniadau go iawn. Gan weithio gyda Llafur y Deyrnas Unedig, gwnaethon ni helpu i ddod â buddsoddiad o £1 biliwn i Felin Shotton. Dyna 367 o swyddi yng Nghymru—pobl go iawn, teuluoedd go iawn, sicrwydd go iawn. 

Rŷm ni wedi cyflymu penderfyniadau cynllunio seilwaith ac rŷm ni wedi cymeradwyo pum project ynni adnewyddadwy mawr a fydd yn cynhyrchu digon o bŵer i helpu 180,000 o gartrefi. Ac mae £3.7 miliwn ychwanegol i gynyddu penderfyniadau cynllunio. Ar ben hynny, rŷm ni wedi gwario £12 miliwn ar gysylltedd band eang a fydd yn helpu pobl mewn ardaloedd gwledig i weithio o adref a chael mynediad cyflymach i'r rhyngrwyd. 

Rŷm ni wedi gwneud i fyny am y ffaith bod yn rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd iawn y flwyddyn diwethaf wrth dorri'r cyllidebau celfyddydol achos austerityac yn awr rŷm ni wedi rhoi £2.5 miliwn yn ychwanegol i sefydliadau celfyddydol a sicrhau bod holl ddiwylliant Cymru yn fyw ac yn iach. Rŷm ni wedi parhau i fuddsoddi mewn cysylltu cymunedau, gan fuddsoddi £800 miliwn mewn cerbydau newydd i drawsnewid ein rheilffyrdd, buddsoddi £7.7 miliwn yn yr uned burns yn Nhreforys, sy'n gwasanaethu 10 miliwn o bobl o Aberystwyth i Rydychen, a buddsoddi yn ein gweithlu drwy godiadau cyflog uwch na chwyddiant i gannoedd o filoedd o weithwyr yn y sector cyhoeddus. 

Rŷm ni wedi sicrhau £25 miliwn yn ychwanegol wrth Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer diogelwch tomenni glo, ac rŷm ni'n obeithiol y bydd mwy yn dod. Ac rŷm ni'n darparu £10 miliwn ar gyfer systemau ynni lleol clyfar, a galluogi ein cymunedau i gymryd rheolaeth dros eu dyfodol ynni eu hunain. Ac er ein bod ni'n gwybod nad yw llawer o ffermwyr yn hapus ar hyn o bryd, rŷm ni wedi sicrhau bod £14 miliwn ar gael iddynt i gefnogi arferion cynaliadwy ar ffermydd, ac mae'r Dirprwy Brif Weinidog wedi nodi cynllun clir ar gyfer dyfodol amaethyddiaeth Cymru, drwy weithio gyda'r diwydiant. Rŷm ni wedi rhoi £1.5 miliwn i ddarparu lleoedd diogel a chynnes i bobl gael mynd iddynt, ac rŷm ni wedi cynnig £700,000 yn ychwanegol mewn talebau i helpu pobl gyda'u biliau tanwydd.

Mae'r holl bethau hyn wedi'u cyflawni ers i mi ddechrau ar fy rôl fel Prif Weinidog llai na chwe mis yn ôl, a dyna sut mae delifro yn edrych.

Ac mae cyllideb newydd arfaethedig gennym ni nawr, ac fe fydd y cyhoedd yng Nghymru yn edrych i weld a fydd honno'n cael ei chefnogi neu beidio. £1.5 biliwn ychwanegol arfaethedig ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus mewn termau gwirioneddol—y gyllideb fwyaf erioed ar gael i Lywodraeth Cymru y tu hwnt i COVID. Mae pob adran yn derbyn mwy. Buddsoddiad gwirioneddol yng ngwead ein cenedl ni. Ar ôl 14 mlynedd o weld y Torïaid yn gwasgu popeth yng Nghymru, rydym ni'n ymladd yn ôl. Rydym ni'n buddsoddi yn ein dyfodol.

Ond dyma'r peth: dim ond megis dechrau ydym ni. Gadewch i mi fod yn eglur, fel yr wyf wedi bod gyda fy swyddogion a Gweinidogion: nid yw 2025 yn ymwneud ag adroddiadau mawr, mae'n ymwneud â chyflawni. Rhagor o gyflymder. Rhagor o weithredu. Rhagor o ganlyniadau. Ac ydym, rydym ni'n gobeithio am 25 mlynedd arall eto. Rwy'n falch o'r hyn yr ydym ni'n ei wneud, ond rwy'n fwy cyffrous ynglŷn â'r hyn yr ydym ni am ei wneud. Drwy weithio gydag unrhyw un sy'n rhannu yn ein gweledigaeth ni i Gymru—busnesau, cynghorau, cymunedau, undebau llafur—rydym ni'n magu stêm. Erbyn diwedd tymor y Senedd hon, fe fyddwn ni wedi buddsoddi £400 miliwn yn fwy i gefnogi gwasanaeth y GIG gyda darpariaeth a chyflog. Fe fyddwn ni'n gwario £175 miliwn yn rhagor ar foderneiddio ein GIG. Fe fyddwn ni'n dwyn bysiau i reolaeth y cyhoedd ac yn atgyweirio miloedd o dyllau a phalmentydd. Rydym ni am wario mwy o arian ar ddiwylliant, treftadaeth a chwaraeon, oherwydd dyna'r hyn sy'n ein gwneud ni'n Gymry. Rydym ni am ganolbwyntio ar weld cyfraddau presenoldeb mewn ysgolion yn ôl i'r hyn oedden nhw cyn y pandemig, ac rydym ni am lenwi'r bwlch rhwng y rhai sy'n cael prydau ysgol am ddim a'u cyfoedion nhw. Fe fyddwn ni'n darparu cymorth ychwanegol a anelir ar gyfer llythrennedd a rhifedd ar gyfer pob ysgol, ac fe fyddwn ni'n darparu £40 miliwn i gefnogi pobl ag anghenion dysgu ychwanegol. Ac rydym ni am sicrhau bod gan bob ysgol uwchradd gynllun ar waith i gefnogi iechyd meddwl a llesiant. Fe fyddwn ni'n darparu £144 miliwn i gynnal ein rhaglen brentisiaeth flaenllaw. Dyma ddim ond ychydig o enghreifftiau o'r cynlluniau uchelgeisiol sydd gennym.

Ac nid areithio yn y lle hwn yn unig yw hyn; mae'n ymwneud â gwneud gwahaniaeth ar lawr gwlad, yn ein hysbytai, yn ein hysgolion, yn ein cymunedau. Rwyf i yma oherwydd bod angen gweithredu ar Gymru. Mae angen newid gwirioneddol. Mae angen canlyniadau gwirioneddol. Rydych chi'n dweud wrthyf i pa beth sy'n gweithio a pha beth nad yw'n gweithio. Rydych chi wedi dangos i mi beth sydd angen ei newid, ac rydym ninnau'n bwrw ymlaen â hynny. Dyna fy arddull i: gwrando, gweithredu, cyflawni. Dim geiriau crand, dim esgusodion, dim ond gweithredu gwirioneddol er mwyn pobl wirioneddol mewn cymunedau gwirioneddol. Oherwydd, gyda'n gilydd, rydym ni'n meithrin Cymru sy'n gweithio, lle mae ein GIG ni'n cyflawni ar gyfer pobl, lle mae cyfleoedd gan ein plant, lle mae ein cymunedau yn ffynnu, lle mae swyddi da yn tyfu. Nid yw'r sgwrs hon yn gorffen yn y fan hon; dim ond dechrau. A phob dydd, mae fy addewid i'n aros: fe fyddaf yn cyflawni er mwyn Cymru, rwy'n mynd i gyflawni ar eich rhan chi, ac fe fyddaf i'n nodi rhagor o bethau yn y dyfodol agos y gall y cyhoedd ddisgwyl eu gweld yn cael eu cyflawni cyn yr etholiad nesaf. Diolch.

15:10

Wel, wel, wel. 'Mae angen canlyniadau gwirioneddol arnom ni a newid gwirioneddol.' Rydych chi'n hollol iawn, mae angen newid gwirioneddol. Dyna pam y mae angen i ni weld cefn y Llywodraeth Lafur ddiog, flinedig hon sydd wedi mynd â'i phen iddi, Llywodraeth sydd wedi siomi pobl Cymru ers 26 mlynedd. Rydych chi'n sôn am y ffaith mai newydd ddechrau ydych chi; rydych chi wedi bod mewn grym am fwy na chwarter canrif, ar wahanol agweddau. Rydych chi'n dweud nad ydych chi'n dymuno bod ag unrhyw strategaethau crand—fe fyddai bod â strategaeth o gwbl yn ddechrau, ond nid yw hi'n ymddangos bod gennym ni unrhyw un o'r rhain chwaith. Datganiad ar gyflawni ydy hwn i fod ac eto nid ydych chi'n cyflawni o ran ein GIG, nid ydych chi'n darparu ar gyfer ein plant o ran eu haddysg, ac nid ydych chi'n cyflawni o ran ein heconomi chwaith. Fe welsom ni brosiectau ffyrdd yn cael eu diddymu. Fe glywsom ni yn eich datganiad chi eich bod chi am gyflymu penderfyniadau cynllunio, a hynny ar yr union ddiwrnod ag y cawsoch eich beirniadu gan arweinydd Cyngor Caerdydd am beidio â gwneud penderfyniad ynglŷn â gorsaf reilffordd parcffordd Caerdydd. Prin y gallech chi ddychmygu'r peth. Ni allai'r amseru fod yn waeth.

Ac rydych chi'n sôn hefyd am hynny ar ddiwrnod pan fuom ni'n trafod yng nghwestiynau'r Prif Weinidog gynnau y ffaith fod y GIG yng Nghymru, a dweud y gwir, ar ei liniau: un o bob dau ambiwlans yn methu â chyrraedd ar amser, rhestrau aros sy'n hwy nag erioed, 24,000 o bobl yn aros am dros ddwy flynedd am eu triniaethau—18 gwaith yn fwy na'r gyfradd yn Lloegr, lle nad yw ond 148 o bobl—perfformiad annerbynniol adrannau damweiniau ac achosion brys, a byrddau iechyd, pob un o'n byrddau iechyd yng Nghymru, mewn gwahanol fannau ar raddfa'r cynnydd. Yr hyn sydd ei angen arnom ni mewn gwirionedd yw, a hynny ar fyrder, gwelyau ychwanegol ar gael yn ein byrddau iechyd; mae angen i ni wneud yn siŵr bod y canolfannau diagnostig hynny yr ydym wedi bod yn galw amdanynt ers tair blynedd ar waith yma, nad yw hi'n ymddangos eich bod chi wedi dechrau tynnu eich ewinedd o'r blew i ddatrys hynny tan nawr; ac mae angen cynllun gweithlu manwl a phriodol arnom ni, oherwydd rydych wedi bod yn gyfrifol am gynllunio'r gweithlu ers 26 mlynedd, ac rydych wedi ei gwneud smonach lwyr ohoni. Dyna pam nad oes deintyddion gennym ni; dyna pam nad oes unrhyw feddygon gennym ni; dyna pam mae prinder nyrsys yma ac rydym yn gorfod eu mewnforio o wahanol fannau yn fyd-eang. Nid yw hynny'n ddigon da.

Ac o ran addysg, rydych chi'n dweud eich bod chi'n awyddus i roi cyfle i bob plentyn, bob diwrnod—fel rwyf innau—ond, yn anffodus, maen nhw'n cael eu siomi. Mae hi'n warth mawr i'r genedl fod un o bob pump o'n plant ni'n gadael yr ysgol yn anllythrennog yn weithredol. Mae hi'n warthus bod y bobl, y bobl ifanc yn Lloegr o'r cefndiroedd mwyaf difreintiedig ar gyfartaledd yn gwneud yn well na'r cyfartaledd cyfan ar gyfer pob disgybl yng Nghymru. Nid yw hynny'n iawn. Mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod ni'n denu athrawon newydd i'r proffesiwn, ac mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod yn cael trefn ar y sefyllfa ar gyfer ein pobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol, y mae llawer ohonyn nhw'n colli ar eu haddysg yn gyfan gwbl neu'n gorfod mynd i mewn i'r system breifat, yr ydych chi'n ei threthu eto gyda TAW erbyn hyn, i sicrhau eu bod nhw'n cael y cyfleoedd addysgol angenrheidiol y maen nhw'n eu haeddu.

Ni wnaethoch chi sôn o gwbl am bobl hŷn, gyda llaw, yn eich datganiad. Ni wnaethoch chi sôn am bobl hŷn. Mae hynny, wrth gwrs, oherwydd eich bod chi wedi methu â chyflawni eich addewid i ferched WASPI; rydych chi wedi methu o ran parhad y lwfans tanwydd gaeaf, a gafodd ei dynnu yn ei ôl. Rydych chi'n dweud nad yw'r arian gennych chi i gyflwyno lwfans tanwydd gaeaf yng Nghymru, ac eto rydych chi newydd roi yn eich cyllideb chi, £117 miliwn, sef eich cyllideb gwasanaethau canolog. Wel, fe wn i'r hyn sydd ei angen ar bobl hŷn yng Nghymru, ac nid taleb mo honno. Nid taleb i fynd i ganolfan gynnes neu i'w helpu i dalu am eu biliau trydan; ond sicrhau bod y lwfansau tanwydd gaeaf hynny ar gael i achub bywydau'r 4,000 o bobl ledled Cymru y mae amcangyfrifon eich Llywodraeth eich hun hyd yn oed yn nodi y bydden nhw'n cael eu colli o ganlyniad i dynnu'r rhain yn eu holau. Gwarthus o beth.

Ac nid ydych chi'n cyflawni o ran ein heconomi. Rydych chi wedi cael gwared ar brosiectau ffyrdd. Rydych chi wedi bod yn sicrhau bod cefn gwlad Cymru yn cael ei hagru yn gynyddol gan beilonau, paneli solar a thyrbinau gwynt. Y nhw yw'r unig benderfyniadau cynllunio yr ydych yn ymddangos eu bod chi'n awyddus i'w hwyluso yn Llywodraeth Cymru. Ac rydych chi'n dweud nad ydych chi wedi cael unrhyw arian; dim ond ychydig flynyddoedd yn ôl y gwnaethoch chi anfon £150 miliwn yn ôl i'r Trysorlys am eich bod chi'n dweud na allech chi ei wario mewn pryd, ac nid oedd gennych chi syniadau ynglŷn â sut i'w wario.

Eich datrysiad ar gyfer bysiau yw eu gwladoli nhw, wel, mae hynny wedi bod yn llwyddiant mawr gyda'n trenau ni, onid ydyw e'? Fe fu hynny'n llwyddiant ysgubol gyda'n maes awyr, gwladoli'r pethau hynny i gyd, lle mae cannoedd o filiynau o bunnau wedi eu gwastraffu gan eich Llywodraeth, wedi mynd i lawr y draen, a dyna gannoedd o filiynau o bunnau y gallech fod wedi eu gwario ar atebion priodol i ddatrys yr heriau y mae pobl yn eu hwynebu ledled Cymru.

Unwaith eto, mae hi'n warthus fod gennym ni'r gyfradd fwyaf o anweithgarwch economaidd yng Nghymru a'r pecynnau cyflog isaf yn y DU hefyd. Mae angen i ni unioni'r pethau hyn, ond mae arnaf ofn, os dim ond megis dechrau arni yr ydych chi, nid wyf i'n dymuno gweld diwedd y daith. Felly, gadewch i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n cael etholiad cyn gynted â phosibl i gael cefnu ar eich ciwed chi, oherwydd dyna'r hyn yr wyf i'n ei ddymuno.

15:15

Wel, diolch yn fawr iawn. Ym mhle rwyf i'n dechrau? [Chwerthin.] Os ydych chi'n awyddus i weld sut beth yw methiant, Darren, edrychwch chi ar ganlyniadau eich canlyniadau chi yn yr etholiad cyffredinol diwethaf yng Nghymru. Dyna sut beth yw methiant. Pedair blynedd ar ddeg o gamreolaeth ar economi'r DU ac fe gawsoch chi eich gwrthod yn llwyr gan bobl Cymru, felly peidiwch chi â dod yma i bregethu i mi gyda'ch, 'Fe allem ni wneud hyn yn well', oherwydd nid yw pobl Cymru ar yr un dudalen â chi.

Nawr, gadewch i mi fod yn eglur. Rydym ni wedi nodi rhestr o flaenoriaethau, ac rydym ni wedi dweud, ac rwyf innau wedi bod yn eglur iawn, ein bod am ganolbwyntio ar y pedwar peth y dywedodd y cyhoedd wrthym ni a oedd yn fwyaf pwysig yn eu golwg nhw. Rwyf i am ddal ati i ganolbwyntio ar y rhain ac nid oes dim am dynnu fy sylw i oddi arnyn nhw. Rwyf i wedi bod yn arweinydd am gyfnod o lai na chwe mis. Mae gen i arddull gwahanol iawn o arwain, ac fe fyddwn yn gwneud pethau mewn ffordd wahanol. Un o'r pethau yr ydym ni am eu gwneud yw sicrhau ein bod ni'n ysgogi newid o ran cynllunio, felly bydd £3.7 miliwn o gyllid ychwanegol yn mynd i mewn i gyflymu'r penderfyniadau hynny ynglŷn â chaniatâd cynllunio.

Cyfartaledd y GIG—. Gadewch i ni fod yn eglur, mae hwnnw'n cyflawni er mwyn mwyafrif helaeth y bobl yng Nghymru: 2 filiwn o gysylltiadau bob mis o boblogaeth o 3 miliwn. Yr amser aros am driniaeth yw 23 wythnos ar gyfartaledd. Rydych chi'n siarad am yr angen i sefydlu cyfleusterau diagnostig. Fe fyddem ni wedi bod wrth ein boddau pe byddem ni wedi gallu sefydlu cyfleusterau diagnostig cyn hyn. Nid oedd y cyfalaf gennym ni. Ni roddodd eich Llywodraeth chi'r cyfalaf i ni a fyddai wedi caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfalaf ychwanegol sylweddol gennym ni erbyn hyn, a dyna pam y byddwn ni'n gallu buddsoddi yn ein hysgolion cyhoeddus. Ac mae hi'n bwysig iawn, rwy'n credu, eich bod yn edrych ar yr ystadegau mwyaf diweddar o ran safonau addysg yma. Rydych chi'n defnyddio ystadegau cynhanesyddol sydd wedi dyddio llawer iawn. Fe allaf i ddweud wrthych chi fod y math o gefnogaeth yr ydym ni'n ei roi i'n hysgolion, o ran llesiant, at iechyd meddwl a'r holl bethau eraill hynny, yn llawer, llawer gwell nag unrhyw beth y maen nhw'n ei gael mewn unman arall.

Pan oeddech chi'n sôn nad oedd dim yma o ran pobl hŷn, mae pobl hŷn yn defnyddio'r GIG, mae pobl hŷn yn cerdded ar ein palmentydd, maen nhw'n defnyddio ein ffyrdd, mae ganddyn nhw gap o £100 o ran gofal. Felly, mae'r holl bethau hyn yn bethau y mae llawer ohonyn nhw'n eu cymryd yn ganiataol heddiw. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn i bobl ddechrau cydnabod, mewn gwirionedd, os ydych chi eisiau hynny, os ydych chi'n gwerthfawrogi hynny, yna mae'n rhaid i chi bleidleisio dros hynny. Mae'r ffaith bod presgripsiynau am ddim gennym ni yng Nghymru yn rhywbeth y mae pobl yn ei gymryd yn ganiataol, ac nid rhywbeth a gynigiodd eich Llywodraeth chi oedd hwnnw.

Rydych chi'n sôn nad ydym ni'n adeiladu ffyrdd mwyach. Wel, roedd Ken i fyny yn y prosiect adeiladu mwyaf yn y DU ddoe, ac a fydd yn agor cyfleoedd enfawr ar gyfer datblygu economaidd yn ein Cymoedd, ac mae hynny'n bwysig iawn i'r bobl sy'n byw yno. Mae'r Cymry yn chwilio am obaith, ac rwy'n siŵr iawn na chân nhw mo hwnnw oddi wrthych chi.

15:20

Datganiad llipa gan y Prif Weinidog oedd hwn, gyda'r enw 'cyflawni' arno, ond, yn y bôn, nid oedd yn gwneud dim ond ein hatgoffa ni mai Llywodraeth ddiffygiol yw hon sydd mewn rhigol, yn amddifad o syniadau, yn amddifad o egni, a chyn bo hir, gyda gobaith, fe fydd hi'n amddifad o rym. Fe glywsom ni oddi wrth y Prif Weinidog heddiw ei bod yn seilio'r hyn y mae hi'n ei wneud ar weithredoedd yn hytrach na geiriau. Fe sefydlodd Carwyn Jones uned gyflawni yn 2011. Fe'i diddymwyd hi bum mlynedd yn ddiweddarach. Ond ar y pryd, serch hynny, fe ddywedodd ef:

'Nid ydym ni'n dymuno geiriau heb unrhyw gamau yn dilyn y geiriau hynny.'

Fodd bynnag, mae'n sicr y dylem ni ddisgwyl i Lywodraeth, os oes uned gyflawni neu Weinidog Cyflawni, fel sydd i'w gael gennym ni nawr, fod yn hyrwyddo a chwilio am gamau i'w gweithredu ar bob achlysur. Agorodd y Prif Weinidog ei datganiad heddiw trwy ddathlu'r ffaith iddi fynd o amgylch yn siarad â phobl wirioneddol, fel pe byddai hynny'n rhywbeth arbennig iawn. Unwaith eto, siawns nad yw hwnnw'n rhywbeth y dylem ni ddod i'w ddisgwyl oddi wrth Lywodraeth. Ac fe fu 25 mlynedd o fethu â gwrando ar bobl i bob golwg, ac eto fe ddywedir wrthym ni nawr mai gweithredu sydd i fod nawr heb unrhyw strategaethau crand. Rwy'n sicrhau'r Prif Weinidog bod angen strategaeth arni hi.

Yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog yn gynharach heddiw, fe wnes i gyfeirio at gyfres faith o addewidion a gafodd eu torrri. Pan oedd hi'n Weinidog Iechyd, fe addawodd hi na fyddai neb yn aros am fwy na 12 mis am driniaeth erbyn y gwanwyn eleni, ond gan lwyr anwybyddu'r effaith ar gleifion a staff fel ei gilydd, ac fe gafodd yr addewid toredig hwn ei ailbecynnu nawr fel un i ostwng cyfraddau arosiadau o ddwy flynedd i lawr i 8,000. Cofiwch yr hyn a ddywedodd Carwyn Jones:

'Nid ydym ni'n dymuno geiriau heb unrhyw gamau yn dilyn y geiriau hynny.'

Llywydd, fe aeth y Prif Weinidog i ddosbarthu siocledi wedi'r Nadolig i staff rheng flaen—da o beth oedd bod y camera yno. Ond gweithred o garedigrwydd oedd hon nad yw hi'n gwneud yn iawn, ydyw hi, am y ffaith fod diffygion mawr gennym ni o ran cyflawni ar yr addewidion a gafodd eu gwneud i bobl Cymru.

Rwyf i am ddechrau, er hynny, drwy gytuno ag un neu ddau o bethau adeiladol a gafodd eu crybwyll gan y Prif Weinidog fel llwyddiannau i'r Blaid Lafur. [Torri ar draws.] Honno yw'r alwad arnoch chi i fynd i gyflawni, Ysgrifennydd Cabinet. Ie, un neu ddau o addewidion: cafodd ysgolion meddygol Bangor a phrydau ysgol am ddim eu dathlu. Fe hoffwn ei hatgoffa mai cynigion gan Blaid Cymru oedd y rhain a gafodd eu hatal dro ar ôl tro gyda'r Blaid Lafur yn pleidleisio yn eu herbyn. Ond, ydym, rydym yn falch ein bod ni, trwy benderfyniad y meinciau hyn, wedi perswadio'r Llywodraeth i'w gwneud yn y pen draw. Ond edrychwch chi fan arall, ac yn rhy aml fe welsom ni addewidion yn cael eu gwneud ond heb eu cadw.

Nawr, wrth iddo fyfyrio ar drafferthion Llafur yn ei flog diweddaraf, mae'r Aelod dros Lanelli o'r farn mai'r rheswm dros ei safle yn yr arolygon barn cyfredol yw chwyddiant a gwrthryfel yn erbyn y Llywodraeth bresennol, ond mae ei ddadansoddiad a'i welliant arfaethedig ef, nad wyf i'n anghytuno llawer â nhw, gyda llaw, yn diystyru un pwynt hanfodol. Sut fyddai hi pe byddai'r Llywodraeth yn cadw ei haddewidion? Sut fyddai hi pe byddai—chwedl y Blaid Lafur eu hunain ar un adeg—fformiwla gosbol a hen ffasiwn Barnett yn cael ei disodli, fel clywsom ni y byddai hi? Sut fyddai hi pe byddai'r cynllun iechyd trawsffiniol yn fwy o beth na stỳnt cysylltiadau cyhoeddus? Sut fyddai hi pe byddai Prif Weinidog Cymru wedi perswadio Prif Weinidog y DU i ddatganoli Ystad y Goron? Sut fyddai hi pe byddai'r bartneriaeth o ran pŵer yn golygu rhywbeth mewn gwirionedd? Oni fyddai hynny'n fan cychwyn? Ni allwch chi sefyll dros Gymru drwy eistedd ar eich dwylo chi.

Llywydd, mae addewidion gwag yn annog pobl i droi at rymoedd sy'n bwydo ar ofnau a rhagfarnau. Mae'n rhaid ennyn ymddiriedaeth yn ein haddewidion. Dyna ydy hanfod delifro: gwneud yr hyn rydyn ni'n dweud ein bod ni am wneud, a hynny er mwyn creu cymdeithas decach sydd yn gweithio dros bob un sy'n rhan ohoni. Record y Llywodraeth Lafur, mae gen i ofn, ydy beio eraill, yn amlach na pheidio, boed yn COVID neu'r Ceidwadwyr, a dwi'n cytuno efo cymaint o'r feirniadaeth o'r Ceidwadwyr, wrth gwrs, ond i'w beio nhw am bob dim sy'n mynd o chwith—. Ond wyddoch chi beth? Wythnos ar ôl wythnos, dwi'n siarad efo mwy a mwy o bobl Cymru sy'n gofyn mwy, yn gofyn am newid—pobl sydd am weld safonau yn codi yn ein hysgolion, amseroedd aros yn gostwng yn ein gwasanaeth iechyd, ac economi mwy mentrus sydd yn gwneud y mwyaf o holl adnoddau a photensial ein cymunedau. Ac er gwaethaf yr ailbecynnu ar y mesurau sydd yn cyfrif, dydy Llafur ddim yn delifro. Dydy Llafur ddim yn gweithio i Gymru.

Rwyf i am orffen trwy fyfyrio ar yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog: 'Dim ond dechrau arni ydym ni.' Mae Llafur wedi bod yn arwain Llywodraeth Cymru ers 25 mlynedd. Os yw'r Prif Weinidog o'r farn mai nawr yw'r amser iddyn nhw ddechrau arni hi, yna mae hi'n hen bryd i ni gael dechreuad newydd dan Blaid Cymru.

15:25

Wel, rwyf i o'r farn bydd hi'n anodd iawn i chi werthu eich breuddwydion gwrach i'r cyhoedd, oherwydd dyna ydyn nhw. Breuddwydion gwrach ydyn nhw. Ar un adeg, roeddech chi'n awyddus i wladoli Tata. Rwy'n credu, y Nadolig hwn, roeddech chi'n awyddus i wladoli porthladd Caergybi.

Dyna chi. Ym mha le y mae'r goeden arian hudolus hon sydd gan Blaid Cymru? Beth ydych chi am ei dorri? A ydych chi'n gwybod hynny? Os ydych chi o ddifrif ynglŷn â bod mewn grym, fe fydd yn rhaid i chi fod o ddifrif ynglŷn â dweud beth a fyddwch chi'n ei dorri. A phob tro y byddwch chi'n pleidleisio yn erbyn y gyllideb, bob tro y byddwch chi'n gofyn am ragor o arian, y mae'r cyhoedd yn eich gwylio chi ac yn meddwl, 'Nid difrifoldeb mo hynny.' Nid difrifoldeb mo hynny. Os ydych chi'n awyddus i bobl fod yn rhedeg eich gwlad chi, mae angen oedolion cyfrifol arnoch chi yno, ac mae hi'n bwysig iawn fod pobl yn deall ei bod hi'n anodd rhedeg Llywodraeth, ac wrth wneud addewidion ynglŷn â gwladoli Tata, ynglŷn â gwladoli porthladd Caergybi, heb unrhyw glem o'r hyn y byddai'n ei olygu, faint fyddai'n ei gostio, ond yr unig beth sydd o ddiddordeb i ni yw canolbwyntio ar y pedair blaenoriaeth a fynegodd y cyhoedd i ni y dylem ni fod yn canolbwyntio ar eu gwneud, a dyna'r hyn yr ydym ni'n ei wneud, oherwydd nid ydym ni erioed wedi cymryd y cyhoedd yng Nghymru yn ganiataol. Fe wyddom ni ei bod hi'n rhaid i ni ennill eu hymddiriedaeth nhw. Fe wyddom ni fod y galwadau ar y GIG yn cynyddu yn gyson a bod heriau aruthrol gennym ni. A gadewch i mi ddweud wrthych chi. Efallai eich bod chi'n sinigaidd ac yn codi eich trwyn arnaf i wrth i mi fynd i ddiolch i bobl ar ein rheng flaen. A dweud y gwir, fe gafodd hynny ei werthfawrogi gan bobl yn wirioneddol, ac rwy'n credu bod pobl wedi cael digon o'r agwedd negyddol wawdlyd hon.

A wyddoch chi beth maen nhw'n ei alw ef yn lle rwyf i'n byw? Maen nhw'n ei alw ef yn 'Rhun ap Negydd'. Dyna beth maen nhw'n ei alw ef. Yn wrthodwr bob amser, ac mae hi'n bwysig i ni weld mai un sy'n cerdded i ffwrdd yw Rhun ap Negydd. Fe gerddodd ef i ffwrdd oddi wrth y—[Torri ar draws.] Fe gerddodd ef i ffwrdd oddi wrth y cytundeb. Felly, mae hi'n bwysig, yn fy marn i, i ni gydnabod—. Nid yw ef yn hoffi hynny, ydyw ef? Mae hynny wedi gwneud iddo godi ei wrychyn ryw gymaint—

Rwy'n credu bod y galw enwau yn codi gwrychyn cryn dipyn ohonom ni, mewn gwirionedd, felly a gawn ni ymatal rhag bod yn rhy bersonol, Prif Weinidog?

15:30

Rwy'n credu ei bod yn bwysig i ni sicrhau nad ydym yn tynnu sylw oddi wrth ein blaenoriaethau ni: oddi wrth swyddi, oddi wrth y GIG, oddi wrth gysylltu cymunedau, oddi wrth estyn cyfleoedd. Fe wyddom ni i gyd pe bydden nhw yn dod i rym ryw dro, ni fyddai unrhyw ran o hynny, unrhyw broblem, yn gyfrifoldeb iddyn nhw—fe fyddai'r cwbl yn cael ei roi ar ysgwyddau Llywodraeth y DU. Mae'r cyhoedd yn gwybod hynny. Maen nhw'n gwybod, mewn gwirionedd, ei bod hi'n gwneud llawer mwy o synnwyr i fod â rhywun sy'n gallu cynnal sgwrs foddhaol gyda Phrif Weinidog y DU.

Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am y datganiad yna. Rwy'n rhoi croeso mawr i'r blaenoriaethau a nododd Prif Weinidog Cymru'r prynhawn yma, ac rwy'n rhoi croeso mawr i'w dull hi o wneud hynny. Mae hi'n amlinellu ei gweledigaeth i'r dyfodol. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn cydnabod ac yn croesawu hynny.

Os ydym ni o ddifrif ynglŷn â chyflawni'r uchelgeisiau hynny, ac os ydym ni o ddifrif ynglŷn â chyflawni'r weledigaeth a nododd y Prif Weinidog, mae arnom angen setliad ariannol wedyn sy'n caniatáu i hynny ddigwydd. Un o'r pethau allweddol sy'n wynebu Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yw'r setliad ariannol y mae'r uchelgeisiau hyn i gyd yn dibynnu arno. Fe wyddom ni mai Cymru yw'r rhan dlotaf o'r Deyrnas Unedig o ran ei chyllid. Fe wyddom ni fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cydnabod anghenion Gogledd Iwerddon, ac fe wyddom ni fod fformiwla Barnett yn gweithio yn effeithiol i'r Alban. Mae Barnett yn siomi Cymru bob dydd o'r wythnos, bob wythnos o'r flwyddyn. Os ydym ni o ddifrif ynglŷn â sicrhau ein bod ni'n gallu cyflawni er mwyn y bobl rydym ni'n eu cynrychioli yn y blynyddoedd i ddod, yna mae angen fformiwla ariannol arnom ni sy'n ariannu Cymru yn unol ag anghenion Cymru. Mae'n rhaid i honno fod yn flaenoriaeth i ni.

Rwy'n gobeithio, Prif Weinidog, wrth i ni gyflawni'r uchelgeisiau a wnaethoch chi eu nodi'r prynhawn yma, ac wrth gyflawni'r weledigaeth sy'n gyffredin i bob un ohonom ni, rhan o hynny fydd sicrhau bod setliad gennym ni yma sy'n cydnabod anghenion Cymru, ac yn galluogi Llywodraeth Cymru i yrru ymlaen ar gyfer gyflawni ein huchelgeisiau i gyd er mwyn y bobl yr ydym ni'n eu cynrychioli i gyd.

Diolch i chi. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod mai'r hyn sydd gennym yw'r setliad ariannol gorau ers dechrau datganoli. Mae hynny'n rhywbeth y dylem ni ei ddathlu yn fy marn i. Ond rydych chi'n hollol iawn—mae hi'n bwysig i ni ystyried diwygio fformiwla Barnett. Mae hynny'n rhywbeth sydd wedi bod yn fater hirsefydlog i ni yn y Llywodraeth Lafur. Ond gadewch i mi ddweud wrthych chi fy mod i'n credu y bydd hi'n llawer anoddach gofyn am ddiwygio fformiwla Barnett os bydd y Siambr hon yn troi yn erbyn codiad o £1.3 biliwn. Nid oes unrhyw ffordd y byddan nhw'n ein cymryd ni o ddifrif pe byddai'r Siambr hon yn gwrthod hynny.

Eich steil, meddai chi, Brif Weinidog, ydy gwrando, gweithredu a delifro. Roeddech chi yn Weinidog iechyd am dair blynedd, a phan wnaethoch chi adael y rôl honno, roedd y rhestrau aros wedi cynyddu, roedd gennym ni lai o feddygon teulu, a 2,000 o nyrsys yn brin. Ai hyn ydy canlyniad ymarferiad o wrando, gweithredu a delifro? Mae un o bob pump person yng Nghymru ar restr aros. Mae cleifion yn aros oriau, dyddiau weithiau, mewn ambiwlansys ac mewn unedau damweiniau ac achosion brys cyn cael eu gweld. Mae pobl yn methu â gweld deintydd ac yn tynnu eu dannedd eu hunain allan. Mae meddygon teulu yn methu â chael digon o amser gyda’u cleifion oherwydd nad oes digon o feddygon teulu. Mae cleifion yn aros mewn gwelyau yn yr ysbytai yn ddiangen oherwydd nad oes gofal yn y gymuned, ac mae pobl fregus yn methu â chael gofal oherwydd nad oes gofalwyr. Ac mae gofalwyr di-dâl yn cael eu llosgi allan oherwydd diffyg cefnogaeth. Fe ddywedoch chi, yn eich datganiad, ‘dim esgusodion’. A wnewch chi, felly, gymryd cyfrifoldeb am y methiannau yma?

Diolch yn fawr. Wrth gwrs, mi oeddwn i yn gyfrifol am iechyd pan oedd pandemig ymlaen, ac roedd sefyllfa lle roedd y rhestrau aros wedi cynyddu lot o dan yr amgylchiadau hynny. Fel dwi wedi dweud yn flaenorol, mae pobl yn cael ymyrraeth glinigol, ar gyfartaledd, o fewn 24 wythnos. A dwi’n meddwl ei bod hi hefyd yn werth pwysleisio bod, ar gyfartaledd, 1.6 miliwn o apwyntiadau gyda GPs yn ein cymunedau ni bob mis. Mae hwnna yn gyfystyr â thua hanner poblogaeth Cymru. Mae hwn yn waith aruthrol sy’n cael ei wneud gan y bobl sy’n gweithio yn yr NHS bob dydd o’r flwyddyn.

Y llynedd oedd y flwyddyn dwymaf erioed, sy'n dilyn 2023, sef y flwyddyn dwymaf erioed. Mewn gwirionedd, fe ddywed y Cenhedloedd Unedig fod yr holl amcanestyniadau bellach ar ben uchaf yr hyn a ragwelwyd. Mae'r 10 mlynedd dwymaf ar gofnod erioed wedi digwydd yn ystod y 10 mlynedd diwethaf. A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau bod mynd i'r afael â newid hinsawdd yn dal i fod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth, a bod cyflawni'r nodau cyfreithiol a'r cyllidebau carbon yn dal i fod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon?

15:35

Diolch yn fawr iawn i chi. Fe hoffwn ei gwneud hi'n eglur fod y Llywodraeth hon, wrth gwrs, yn cymryd newid hinsawdd o ddifrif. Mae angen i ni edrych ar y tywydd diweddar i ddeall nad yw'n rhywbeth sy'n y dyfodol—mae'n rhywbeth sydd gyda ni nawr. Mae'n effeithio ar ein cymunedau, yn sicr bob gaeaf, ond yn yr haf hefyd. Mae yna effaith uniongyrchol ar y ffordd yr ydym ni'n byw ar hyn o bryd, ac oni bai ein bod ni'n dwyn ein cyfran o gyfrifoldeb, yna fe fyddwn ni'n trosglwyddo sefyllfa enbydus i genedlaethau'r dyfodol. Nid dyna'r math o lywodraeth yr wyf i'n ei harwain.

Rwy'n credu bod cyfleoedd gwirioneddol i'w cael, serch hynny, o ran newid hinsawdd, ac un o'r rhain yw'r cyfle sydd gennym ni i elwa ar yr adnoddau naturiol sydd gennym ni yng Nghymru. Dyna pam, yn nes ymlaen heddiw, y bydd datganiad gan yr Ysgrifennydd dros yr economi ar gyfer nodi sut y byddwn ni'n symud ymlaen yn ymarferol, drwy sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen, gyda datblygu gwynt ar y môr yng Nghymru—pa fuddsoddiad y bydd hynny ei angen, beth sydd angen i ni ei roi ar waith yn y Llywodraeth i wireddu hynny. Felly, fe allaf i roi'r sicrwydd hwnnw iddo ef.

Does dim byd, beth bynnag dŷch chi'n ei ddweud am gyflawni, ymhellach o'r gwirionedd o safbwynt beth dŷn ni'n ei weld ledled Cymru. Mae un maes lle mae hyn yn gwbl amlwg, a maes addysg yw hwnnw. Gadewch i fi jest roi un enghraifft—mae llawer mwy, wrth gwrs. Mae'r Llywodraeth hon wedi methu ers wyth mlynedd yn olynol â chyrraedd ei thargedau ar gyfer recriwtio athrawon ysgolion uwchradd. Dros y cyfnod hwn, mae dros 5,500 o athrawon wedi gadael y proffesiwn, ac mae hyn yn cyfateb i ryw 100,000 o flynyddoedd o brofiad sydd wedi cael ei golli. Gadewch i ni fod yn onest: mae athrawon yng Nghymru wedi eu dadrithio ac yn teimlo'n gwbl ddigalon. Ac yn anffodus, os yw'r sgyrsiau dwi wedi eu cael dros y Nadolig gydag athrawon yn unrhyw ffon fesur, does dim byd yn mynd i newid o gwbl yn fuan iawn. Yn ystod ymgyrch yr etholiad cyffredinol, fe wnaeth Llafur addo mwy o arian a mwy o athrawon ar gyfer addysg yng Nhgymru. Brif Weinidog, gaf i ofyn faint mwy o arian, a phryd y byddwn ni'n gweld mwy o athrawon yn cael eu penodi a'u rhoi o flaen dosbarthiadau yng Nghymru? Gofynnais i'r cwestiwn yma i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn ystod y tymor diwethaf. Ches i ddim ateb. Gaf i ofyn i chi am yr atebion, os gwelwch chi'n dda?

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Diolch yn fawr, Cefin. Dwi'n siŵr eich bod chi'n ymwybodol bod recriwtio athrawon yn broblem drwy'r byd i gyd—mae hwn yn rhywbeth sy'n wynebu pobl ar draws y byd. Mae pob un ohonom ni yn ceisio sicrhau a'u darbwyllo nhw i ddod i'n gwlad ni, i wneud yn siŵr eu bod nhw'n dysgu ein plant ni. Felly, nid problem unigryw i Gymru yw hi. Rydych chi wedi gofyn am faint o arian fydd yn dod yn ychwanegol. Bydd yna £101 miliwn yn ychwanegol yn dod at addysg o Ebrill ymlaen—£73 miliwn mewn refeniw, £28 miliwn mewn cyfalaf—a bydd hwn yn cael ei anelu i sicrhau ein bod ni'n gweld gwelliant o ran pobl yn mynychu'r ysgol a gwella safonau yn ein hysgolion. Ond wrth gwrs, bydd dim o'r arian yna yn dod os na fyddwn ni'n cael cyllideb trwy'r lle yma. Mae eisiau i chi feddwl am beth mae hynny'n ei olygu.

Prif Weinidog, rwy'n awyddus i grybwyll mater plant sy'n byw mewn tlodi yma yng Nghymru. Mae tua 190,000 o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi cymharol, ac, er gwaethaf y degawdau o addewidion, mae'r nifer hwnnw'n aros yn ddigyfnewid, mae arna i ofn. Mae hynny'n dorcalonnus ac yn annerbyniol. Pan fo mwy na hanner y plant mewn tlodi yn dod o deuluoedd lle ceir plant o dan bump oed, a 92 y cant o rieni yn dweud bod costau gofal plant yn rhy uchel i'w hincwm nhw, fe ddylai gofal plant fod yn flaenoriaeth amlwg. Ac eto er gwaethaf y dystiolaeth ysgubol, mae'r Llywodraeth hon yn parhau i ddarparu system dameidiog nad yw hi'n gweithio, yn blwmp ac yn blaen. Mae gwledydd fel yr Alban yn dangos sut y gall gofal plant cyffredinol drawsnewid bywydau a chodi plant o dlodi, ac eto rydym ni'n dewis peidio â dilyn eu harweiniad nhw yno. Nid llwytho rhagor o arian i'r cynnig gofal plant yw'r datrysiad, nid pan fo rheolau cymhwysedd gennym ni sy'n rhoi cymaint o deuluoedd dan anfantais, yn enwedig y rhai sy'n agored i niwed. Fe ddywedwch chi, 'Pob plentyn, pob cyfle, pob dydd', ac eto nid yw plant sy'n byw mewn tlodi yn cael eu cynnwys yn hynny. Diolch yn fawr iawn.

15:40

Diolch, Jane. Rwy'n derbyn nad yw'r sefyllfa hon yn un foddhaol yn eich barn chi nac ym marn pobl ar fy meinciau i, yn sicr. Mae'r syniad o blant yn byw mewn tlodi yn wrthun i ni. Rydym ni'n falch iawn fod ganddyn nhw, yn yr ysgolion cynradd o leiaf, lond eu boliau o fwyd. Mae hynny'n rhywbeth sy'n cyfrannu at sicrhau eu bod nhw'n cael digon o faeth i'w cyrff, o leiaf. Rwy'n gwybod bod hwn yn fater sy'n agos at eich calon chi. Rwy'n gwybod eich bod chi wedi hyrwyddo'r achos hwn ers tro byd. Rydym ni wedi rhoi swm nad yw'n ddibwys ar gyfer cefnogi pobl gyda phlant ifanc wrth iddyn nhw fynd ôl i weithio, i sicrhau nad yw costau gofal plant yn rhy rwystrol i bobl. Wrth gwrs, dyma fater lle bydd cyfle, mae'n debyg, i lunio'r polisi hwn o ran y gyllideb. Rwy'n credu bydd cyfleoedd i ni gynnal trafodaethau pellach. Yn sicr, a minnau'n fenyw, rwy'n awyddus iawn i weld thema fel hon yn cael ei hyrwyddo. Mae'n rhaid i bob un ohonom ni wneud penderfyniadau anodd iawn, ac mae'n rhaid i ni benderfynu beth yw ein blaenoriaethau ni. Mae hwn yn faes yr ydym ni'n agored i gael mwy o drafodaethau yn ei gylch, yn enwedig o ran y gyllideb.

Prif Weinidog, un o'r heriau mawr a fu i Gymru, Lloegr a'r Alban oedd y ddarpariaeth o ysgolion newydd, a'r etifeddiaeth gyffredin ledled y DU o ran cyflwr ein hysgolion ni, llawer ohonyn nhw'n dyddio o oes Fictoria. Er enghraifft, wrth edrych ar y sefyllfa yn Lloegr, fe geir adroddiadau bod chwech o bob 10 ysgol mewn rhannau o Loegr ag adeiladau sydd ag angen eu hatgyweirio ar frys, fe geir 7,158 o ysgolion mewn perygl o fethiant, mae un o bob tri o fwy na 22,000 o ysgolion mewn cyflwr gwael, ac fe ddisgrifir rhai adeileddau fel rhai'n peryglu bywyd.

A gaf i gymharu hynny ag un maes lle mae'r ddarpariaeth wedi bod yn destun balchder i mi yn y Senedd hon dros y degawd diwethaf, a rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yw honno? Rwy'n edrych o gwmpas Rhondda Cynon Taf yn unig ac fe welaf i ysgol newydd sbon Y Pant, Ysgol Gymunedol newydd sbon Tonyrefail, yr ysgolion newydd a agorwyd yn ddiweddar ym Maesybryn, Tonysguboriau, yr adeiladau chweched dosbarth newydd ym Mryn Celynnog, lle mae'r Gweinidog addysg wedi ymweld â nhw'n ddiweddar. Mae hyn yn rhywbeth sy'n gymhariaeth enfawr ac yn deyrnged enfawr i'r ddarpariaeth yr wyf i o'r farn y dylai pawb o bob plaid yn y Senedd hon fod yn falch ohoni. Mae hyn yn digwydd ledled Cymru benbaladr ac mae'n esiampl ddisglair o'r hyn y gellid ei wneud a'r hyn sy'n cael ei wneud—

A wnewch chi baratoi adroddiad i ni a fydd yn nodi mewn gwirionedd beth fydd y datblygiadau i'r degawd nesaf ar gyfer ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, ein hymrwymiad ni i ariannu parhad ailgyflenwi ein hysgolion, ac adroddiad hefyd i ddangos yr hyn a gafodd ei gyflawni hyd yn hyn a'r hyn yr ydym ni'n disgwyl ei gyflawni yn ystod degawd nesaf Llywodraeth Lafur Cymru?

Diolch yn fawr iawn i chi, Mick. Rwy'n credu bod hwn yn un o lwyddiannau mwyaf Llywodraeth Lafur Cymru. Mae'n rhywbeth y gall pobl ym mhob etholaeth dynnu sylw ato a gweld y gwahaniaeth a wnaeth Llywodraeth Lafur i Gymru. Mae'r ffaith eu bod nhw wedi gorfod cau cymaint o ysgolion yn Lloegr oherwydd y sefyllfa gyda choncrit awyredig awtoclafiedig cyfnerth (RAAC) a'r ffaith mai ychydig iawn o broblemau a fu gennym yma yng Nghymru yn awgrymu bod y buddsoddiad hwnnw wedi gwneud gwahaniaeth enfawr. Bydd gwahaniaeth o ran—[Torri ar draws.]

A gaf i ofyn i'r Aelodau ar feinciau'r wrthblaid ganiatáu i'r Prif Weinidog ymateb i'r Aelod a ofynnodd y cwestiwn?

O ran yr hyn a fydd yn digwydd nesaf, mae yna £28 miliwn ychwanegol mewn cyfalaf a gafodd ei glustnodi ar gyfer cyllideb y flwyddyn nesaf, os gwnawn ni lwyddo i'w gael drwy'r Siambr. Ond wrth gwrs, unwaith eto, os na chawn ni'r arian hwnnw drwodd, ni ddaw'r cyfalaf ychwanegol hwnnw wedyn. Ond rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth y dylem ni fod yn ei ddathlu, ac mae'n rhywbeth y byddaf i'n gofyn i'r Gweinidog addysg ei ddwyn gerbron y Siambr hon o bosibl, ar gyfer dathlu llwyddiant y mater arbennig hwn.

15:45

Wel, rydym wedi clywed tipyn o rethreg dila heddiw, mae'n rhaid i mi ddweud. Gadewch i ni edrych ar y realiti caled yng Nghymru, oherwydd rydych chi'n brolio am y 'canlyniadau go iawn', fel y gwnaethoch chi eu galw, o'r bartneriaeth mewn grym, gyda dwy Lywodraeth Lafur naill ben yr M4. Wel, dyma rai canlyniadau go iawn i chi: 5,000 o blant yn gaeth mewn tlodi oherwydd y cap budd-dal dau blentyn; bron i un o bob pump o bobl hŷn yng Nghymru yn byw mewn tlodi; tra bod dros hanner miliwn o bensiynwyr wedi colli eu taliad tanwydd gaeaf, gan wthio miloedd yn fwy i dlodi, rhoi eu hiechyd mewn perygl, gan roi pwysau pellach ar GIG Cymru. Ac, ydym, rydym yn falch iawn o'r ffaith bod prydau ysgol am ddim wedi cael eu darparu mewn ysgolion cynradd, diolch i'r cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru. Mae un o bob tri o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi, mae dros hanner y rheini—y mwyafrif o'r rheini—mewn teuluoedd â phlant dan bedair oed. Nid yw prydau ysgol am ddim yn eu helpu nhw, ac mae angen strategaethau 'ffansi' arnom. Am ffordd blentynnaidd o siarad am strategaethau. Strategaethau effeithiol yw'r hyn sydd ei hangen arnom, fel y strategaeth tlodi plant, efallai gyda rhai targedau. Felly, hoffwn ofyn i chi, Prif Weinidog, sut allwch chi wir ddweud fod Llywodraeth Cymru yn cyflawni dros Gymru, pan fo eich polisïau a'ch parodrwydd i ddilyn arweiniad San Steffan yn dyfnhau anghydraddoldeb?

Fe ddyweda' i wrthych chi beth mae'r gwahaniaeth yn ei wneud, y gwahaniaeth y mae'n ei wneud i'r bobl yw e', y cannoedd o filoedd o bobl, sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus. Mae hynny wedi gwneud gwahaniaeth. Rydym wedi gweld cynnydd yn eu cyflogau o ganlyniad i'r cynnydd a ddaeth i Lywodraeth Lafur Cymru. Ac unwaith eto, rydych chi'n dychwelyd at bethau nad oes gen i gyfrifoldeb drostyn nhw. Rydych chi'n parhau i geisio fy nal yn atebol am bethau nad oes gen i fawr o ddylanwad drostyn nhw, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn i ni ddeall cyfrifoldebau'r Siambr hon. A gallaf ddweud wrthych chi, os ydym yn sôn am ddylanwad, fy mod yn gallu cael cyfarfodydd rheolaidd gyda Phrif Weinidog Llafur y DU. Nid yw hynny'n rhywbeth a fydd yr un mor hawdd i unrhyw un o unrhyw blaid arall. Nawr, mae digon o strategaethau—mae digon o strategaethau—sy'n bodoli a'r hyn y mae gen i ddiddordeb ynddo yw cyflawni'r strategaethau sydd eisoes yn bodoli o dan y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru.

Prif Weinidog, diolch yn fawr iawn am eich datganiad heddiw. Rwy'n cytuno'n llwyr, mae 2025 yn ymwneud â chyflawni, mwy o gyflymder, mwy o weithredu, mwy o ganlyniadau, ac rydym i gyd yn gwybod bod llawer o anfodlonrwydd ledled y byd ymhlith dinasyddion cyffredin. Ac ers argyfwng bancio ariannol byd-eang 2008, nid yw economïau Prydain a'r byd erioed wedi adfer yn wirioneddol i'r dyn a'r fenyw ar y stryd, ond nid oedd esgus dros gyni Torïaidd hunanachosedig a oedd o fudd i'r bobl gyfoethog iawn yn unig ac yn cosbi pobl dlawd. Prif Weinidog, mae gan Lywodraeth Cymru gyfle nawr i weithio am y tro cyntaf gyda Llywodraeth Lafur y DU i wneud gwahaniaeth, gwahaniaeth cryf a diriaethol, ac am y tro cyntaf, i fuddsoddi cyfalaf gwirioneddol, ar ôl 14 mlynedd o ddim i Gymru, i fuddsoddi yn ein seilwaith, ochr yn ochr â setliad ariannol sy'n torri pob record eleni—enghreifftiau uniongyrchol o'r gwahaniaeth yn sgil datganoli wedi'i alinio. Ond bydd pobl yn anfaddeugar os bydd oedi, ac felly mae angen diwygio'n setliad yn y tymor hwy i wneud hynny dros Gymru a diwygio ein fformiwla Barnett.

Prif Weinidog, a ydych yn cytuno â mi bod yn rhaid i'r blaenoriaethau ar gyfer Llywodraeth Lafur Cymru fod, yn gyntaf ac yn bennaf, yn flaenoriaethau'r bobl o bwrs y bobl—am y tro cyntaf, codiadau cyflog uwch na chwyddiant gwirioneddol i'r sector cyhoeddus, y meddygon a'r nyrsys gweithgar yr oeddem ni i gyd yn clapio iddyn nhw ond na chawsant eu talu, cynllun iechyd menywod cyntaf erioed Cymru mewn canolfannau hybiau rhanbarthol, Mae ysgol feddygol newydd Cymru, nawr, am y tro cyntaf, yn gallu darparu nid yn unig gwelyau, ond y staff ar gyfer ein GIG sydd wedi lleihau y mae angen eu cyflawni, ac, yn olaf—o'r diwedd—os caf ddweud, nid yn unig lleihau tlodi plant ond darparu'r swyddi gwyrdd o ansawdd newydd hynny i Gymru a fydd yn gwneud gwahaniaeth i bob dyn a menyw ledled Cymru, yn ogystal ag amddiffyn ein dyfodol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol?

Diolch yn fawr, Rhianon. Ac rydych chi'n llygad eich lle, mae'n bwysig i ni ddathlu'r £1.5 biliwn yna o arian ychwanegol sydd wedi dod i ni o ganlyniad i'r Llywodraeth Lafur honno wneud penderfyniadau anodd, ond gan sicrhau bod yr arian ychwanegol hwnnw ar gael i ni wella ein gwasanaethau cyhoeddus pe baem eisiau codi'r cyllid hwnnw. Mae swyddi o safon rwy'n credu yn rhywbeth sy'n wirioneddol bwysig i'r cyhoedd; mae hynny'n rhywbeth y maen nhw'n ei ddweud wrthym. A lle bo hynny'n bosibl, pe bai rheini'n gallu bod yn swyddi gwyrdd, byddai hynny'n fudd ychwanegol. Mae'r bobl eisiau i ni ganolbwyntio ar y GIG, maen nhw eisiau i ni ganolbwyntio ar gysylltu cymunedau, maen nhw eisiau sicrhau ein bod ni'n rhoi cyfleoedd i bawb, a dyna lle bydd ein pwyslais yn parhau.

15:50

Diolch, Dirprwy Lywydd. Yn eich datganiad, mi wnaethoch chi ddweud bod y sector diwylliant yn fyw ac yn iach. Gaf i ofyn ar ba sail dŷch chi'n gwneud y datganiad yna ac ar bwy ydych chi wedi bod yn gwrando, oherwydd o edrych ar y crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar y blaenoriaethau drafft ar gyfer diwylliant, nid dyna dwi'n ei glywed? Felly, mi fyddwn i'n hoffi gwybod beth ydy gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector diwylliant. Ac os nad ydych chi wedi bod yn gwrando, a dwi'n cymryd eich bod chi ddim wedi bod yn gwrando ar y sector, gan eich bod chi'n herio bod y sector yn fyw ac yn iach, a wnewch chi ddechrau gwrando rŵan a sicrhau bod y Llywodraeth hon yn cyflawni o ran y sector pwysig hwn?

Diolch yn fawr. Wel, fel y dywedais i, roedd yn anodd iawn i ni y llynedd, achos roedd yn rhaid inni wneud toriadau oedd yn anodd dros ben er mwyn sicrhau bod yr arian ychwanegol yn mynd i'r NHS. Beth sydd wedi bod yn dda eleni yw ein bod ni wedi gallu rhoi mwy o arian yn ystod y flwyddyn ariannol, a'n bod ni'n gobeithio rhoi mwy o arian y flwyddyn nesaf ar gyfer yr adran diwylliant. Felly, mae'r arian ar gael ar eu cyfer nhw. Mae'n bwysig ein bod ni, os yn bosibl, yn cael y cyfle i gynnig yr arian yna iddyn nhw. Wrth gwrs, bydd hwnna'n anodd os na allwn ni gael y gyllideb trwyddo.

5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru: Porthladd Caergybi

Eitem 5 sydd nesaf, datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru: porthladd Caergybi. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Ken Skates. 

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae porthladd Caergybi wedi bod ar gau ers penwythnos 7-8 Rhagfyr y llynedd, yn dilyn difrod i'w seilwaith docio a achoswyd gan storm Darragh. Er gwaethaf optimistiaeth gychwynnol y byddai'r porthladd yn gallu ailagor yn fuan wedi'r storm, yn dilyn archwiliadau peirianyddol daeth yn amlwg bod y difrod yn fwy helaeth na'r hyn a feddyliwyd yn gyntaf a byddai yn parhau ar gau yn hwy, yn ymestyn dros gyfnod y Nadolig a'r flwyddyn newydd. O ystyried statws Caergybi fel porthladd fferi teithwyr ail-brysuraf y DU a'i bwysigrwydd o ran cysylltedd ar draws Môr Iwerddon, roedd effeithiau posibl dod â symudiadau teithwyr a nwyddau i ben yn sylweddol iawn, yn enwedig i'n cymdogion yng Ngweriniaeth Iwerddon, gyda'r angen i nwyddau tymhorol sensitif i amser gyrraedd y farchnad ac i bobl allu teithio adref at eu teuluoedd ar gyfer y Nadolig. I gydnabod yr effeithiau hyn, bu Llywodraeth Cymru yn gweithio ar frys gyda Llywodraeth Iwerddon, porthladdoedd Cymru, cwmnïau fferi ac eraill i sicrhau llwybrau amgen ar gyfer nwyddau a phobl i gyrraedd lle roeddent angen bod. Siaradais yn rheolaidd â gweinidogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU i helpu i sicrhau ymateb cydlynol.

O ganlyniad, gwelsom gyflawniad cyflym o gapasiti teithwyr a nwyddau ychwanegol sylweddol ar wasanaethau a ailgyfeiriwyd trwy Abergwaun a Doc Penfro, yn ogystal â rhywfaint o gapasiti cludo nwyddau ychwanegol a ddarparwyd trwy borthladdoedd yng ngogledd-orllewin Lloegr. Gweithiodd Llywodraeth Cymru a thimau trafnidiaeth awdurdodau lleol i sicrhau y byddai cysylltiadau trafnidiaeth ffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus â'r gwasanaethau newydd hyn yn gweithredu'n esmwyth a chyda'r capasiti angenrheidiol dros gyfnod y gwyliau. Rwy'n ddiolchgar iawn i bawb a oedd yn gysylltiedig â'r ymdrechion hyn, a wnaeth wahaniaeth gwerthfawr iawn i deithwyr a oedd yn ceisio croesi Môr Iwerddon mewn pryd ar gyfer y gwyliau. Rwyf hefyd yn ddiolchgar iawn i'n sector logisteg, sydd unwaith eto wedi dangos ei gydnerthedd a'i allu i addasu yn wyneb amgylchiadau anffafriol. Mae mis Ionawr fel arfer yn fis tawelach ar gyfer symudiadau ar lwybrau môr Iwerddon, ond mae'r gwasanaethau fferi dros dro newydd hyn yn parhau i fod ar waith i sicrhau y gall pobl a nwyddau barhau i lifo yn ôl yr angen.

Roeddwn yn falch iawn o glywed bod porthladd Caergybi bellach yn hyderus y gall ailagor un o'i ddocfeydd fferi o'r unfed ar bymtheg o'r mis hwn, gyda phedwar gwasanaeth y dydd i Ddulyn ac yn ôl. Bydd hyn yn gwneud cyfraniad enfawr at gael pethau'n ôl i'r arfer, ond byddaf i, ochr yn ochr â'm gweinidogion cyfatebol yn Llywodraeth Iwerddon, yn parhau i fonitro'r sefyllfa dros y misoedd nesaf i sicrhau bod digon o gapasiti'n parhau i fod ar gael ar lwybrau môr strategol bwysig Iwerddon. Byddaf hefyd yn parhau i fod â diddordeb brwd yng nghynnydd y gwaith tymor hwy i adfer yr holl ddocfeydd fferi i gapasiti gweithredol llawn. Hoffwn ddiolch i'r tîm ym mhorthladd Caergybi am eu hymdrechion sylweddol parhaus i adfer gwasanaethau yn wyneb amgylchiadau heriol iawn. 

Bydd adfer gwasanaethau yng Nghaergybi yn helpu i fynd i'r afael â rhai o'r pryderon lleol dealladwy iawn ynghylch effaith bosibl cau'r porthladd ar yr economi ranbarthol. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod mewn cysylltiad agos â chyngor Ynys Môn a grwpiau rhanddeiliaid ehangach i fonitro am dystiolaeth o effeithiau ar fusnesau lleol, ac wrth gwrs, gall unrhyw gwmni sy'n ceisio cymorth gysylltu â Busnes Cymru. Fodd bynnag, hyd yn oed os yw'r pryderon presennol wedi gostwng, mae'r digwyddiad wedi tynnu sylw at ba mor bwysig yw Caergybi i economïau a chymunedau lleol yn y gogledd, i'r DU yn ehangach ac i'n partneriaid yn Iwerddon. Fel sy'n digwydd yn aml gyda rhwydweithiau trafnidiaeth, mae tueddiad i'w gwir werth bylu o'n meddwl o ddydd i ddydd tan i rywbeth fynd o'i le.

Mae Llywodraeth Cymru bob amser wedi cydnabod arwyddocâd strategol Caergybi, fel y dengys ein cefnogaeth i borthladd rhydd Ynys Môn a'n cefnogaeth i sicrhau y gellir cynnal morglawdd y porthladd, fel y gellir defnyddio'r porthladd am ddegawdau lawer i ddod. Yn yr un modd, rwy'n ddiolchgar am y sicrwydd diweddar gan borthladdoedd Stena eu bod yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i ddyfodol hirdymor Caergybi.

Ond rwy'n credu bod yr amser bellach yn iawn i ni ailwerthuso'r hyn sydd ei angen ar Gaergybi gan ei holl randdeiliaid dros y tymor hwy nid yn unig i oroesi, ond i ffynnu. Felly, ochr yn ochr ag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, rwy'n bwriadu sefydlu tasglu aml-randdeiliaid dan arweiniad Llywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth newydd ar gyfer dyfodol Caergybi. Mae'r Gweinidog Lawless o Lywodraeth Iwerddon wedi cytuno'n garedig i ymuno â mi i sbarduno'r prosiect hwn ymlaen fel y gallwn sicrhau y bydd y porthladd yn diwallu anghenion y ddwy wlad yn y dyfodol. Byddaf hefyd eisiau i'r tasglu hwn ystyried cydnerthedd cysylltedd môr rhwng Cymru ac Iwerddon yn fwy cyffredinol, fel y gall y cysylltiadau trafnidiaeth hanfodol hyn wrthsefyll yn well yr heriau a ddisgwylir gennym a ddaw yn sgil newidiadau a ysgogir gan yr hinsawdd ym mhatrymau tywydd garw a pheryglon a bygythiadau eraill. Bydd y tasglu wrth gwrs yn cysylltu â'n gwaith ehangach ar strategaeth porthladdoedd i Gymru.

Byddaf yn cyhoeddi rhagor o fanylion am y tasglu hwn maes o law ond rwy'n disgwyl gwahodd cyfranogiad gan yr holl brif chwaraewyr ym mhorthladdoedd a diwydiant fferi Cymru ac Iwerddon, Llywodraeth y DU, awdurdodau lleol, busnesau a chynrychiolwyr rhanbarthol, cyrff logisteg a gweithredwyr trafnidiaeth ar y tir a'r môr. Ac rwy'n gobeithio y bydd cyd-Aelodau yn y Senedd yn fy nghefnogi yn yr ymdrech hon fel y gallwn sicrhau dyfodol llwyddiannus i borthladd Caergybi.

15:55

Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd Cabinet, am eich datganiad. Mae cau porthladd Caergybi yn dilyn y difrod a achoswyd gan storm Darragh wedi rhoi straen aruthrol ar economi'r gogledd, busnesau sy'n dibynnu ar fasnach ar draws Môr Iwerddon, a'r cymunedau y mae eu bywoliaeth yn dibynnu ar weithrediad effeithlon yr hyb trafnidiaeth hanfodol hwn. Rwy'n croesawu'n gynnes yr ymdrechion a wnaed yn sgil y storm, ac fel cyn-forwr fy hun yn gweithio ar y fordaith i Rosslare, mae hwn yn rhywbeth rydw i wedi talu sylw manwl iddo ers storm Darragh.

Ysgrifennydd Cabinet, rydych chi'n tynnu sylw at arwyddocâd Caergybi fel porthladd fferi teithwyr ail-brysuraf y DU a'i rôl ganolog yng nghoridor masnach y DU-Iwerddon. Fodd bynnag, mae'r oedi wrth ailagor y porthladd y rhagwelwyd y byddai'n digwydd yn fuan ar ôl y storm ac yna'n cael ei wthio ymlaen i 16 Ionawr ar gyfer gweithrediadau rhannol wedi achosi cryn ansicrwydd. Er ei bod yn gadarnhaol clywed y bydd un ddocfa fferi yn ailagor ar gyfer pedwar gwasanaeth dyddiol, mae'r ffaith nad oes disgwyl gweithrediadau llawn tan fis Mawrth yn gadael busnesau a chymunedau mewn sefyllfa ansicr ac amhendant. Felly, a all yr Ysgrifennydd Cabinet roi mwy o eglurder ynghylch y llinell amser ar gyfer adfer gwasanaethau'n llawn, yn enwedig yng ngoleuni'r oedi mewn arolygiadau tanddwr?

Nodaf ymdrechion clodwiw rhanddeiliaid i sicrhau llwybrau amgen a chapasiti ychwanegol trwy Abergwaun, Doc Penfro a phorthladdoedd yng ngogledd-orllewin Lloegr. Roedd llongau fferi James Joyce ac Isle of Innisfree Irish Ferries a Nordica ac Adventurer Stena Line, a oedd yn hwylio o borthladdoedd sir Benfro, yn hanfodol wrth fynd i'r afael â'r effaith uniongyrchol yn ystod y tymor gwyliau, fel y cydnabuwyd yn briodol yn eich datganiad. Fodd bynnag, mae hyn hefyd yn tanlinellu pwysigrwydd coridor y de, sy'n aml yn cael ei anwybyddu, ac er fy mod yn sylweddoli bod y datganiad hwn yn canolbwyntio'n briodol ar Gaergybi, byddai diweddariad gennych chi ar borthladd Penfro a harbwr Abergwaun, a pha un a oes gan Lywodraeth Cymru farn ar ganolbwyntio neu gydgrynhoi gwasanaethau teithwyr yn y coridor deheuol i'w gryfhau ar y llwybr i Rosslare, i'w groesawu, oherwydd bod angen sicrhau cydbwysedd gan wneud y mwyaf o'r cyfleoedd a gyflwynir gan goridor y de gan sicrhau, ar yr un pryd, nad yw hyn yn amharu ar Gaergybi. Felly, pa sicrwydd y gall yr Ysgrifennydd Cabinet ei roi na fydd y mesurau dros dro hyn yn arwain at symud gwasanaethau o Gaergybi'n barhaol? Yn ogystal, sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu manteisio'n llawn ar y cyfleoedd yn y coridor deheuol heb danseilio pwysigrwydd strategol Caergybi? Rwy'n credu bod yr ymadrodd a ddefnyddiwyd gennych chi, Ysgrifennydd Cabinet, sef nid yn unig goroesi, ond ffynnu, yn un y byddwn yn cytuno ag ef.

Croesewir cydnabyddiaeth yr Ysgrifennydd Cabinet o'r straen ar logisteg a gallu'r sector i addasu, ond mae'r sgil-effeithiau yn parhau i fod yn sylweddol. Mae'r traffig cynyddol i borthladdoedd eraill wedi tynnu sylw at broblemau gyda chyfleusterau gyrwyr a seilwaith ffyrdd. Yn wir, roedd cludwyr yn cysylltu â mi ynghylch cyfleusterau gwael posibl. Ac mae gan adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, 'Cyfeiriad newydd ar gyfer gyrwyr cerbydau nwyddau trwm', argymhellion 4 a 6, sy'n galw am welliannau mewn darpariaethau a chyfleusterau gorffwys ar gyfer gyrwyr. Mae hyn yn arbennig o berthnasol o ystyried y pwysau cynyddol ar borthladdoedd a llwybrau eraill. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, a allech roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr ar gynnydd wrth weithredu argymhellion adroddiad ETRA? Byddwn hefyd yn annog yr Ysgrifennydd Cabinet i ystyried o bosibl yn y dyfodol, gyflawni datganiad penodol ar gynnydd Llywodraeth Cymru wrth weithredu'r adroddiad cyfan hwn, o gofio bod eich rhagflaenydd heblaw un wedi cytuno mewn egwyddor neu'n gyfan gwbl ag argymhellion yr adroddiad hwnnw.

Yn olaf, er fy mod yn croesawu sefydlu tasglu i ddatblygu strategaeth newydd ar gyfer Caergybi a'r gwaith ehangach ar strategaeth porthladdoedd i Gymru, mae'n hanfodol bod y mentrau hyn yn sicrhau canlyniadau diriaethol. Yn rhy aml, rydym wedi clywed am grwpiau ffocws a grwpiau gorchwyl a gorffen yn cael eu lansio heb unrhyw ganlyniadau diriaethol. Felly, pa fesurau penodol fydd y tasglu'n eu blaenoriaethu i wella cydnerthedd cysylltiadau trafnidiaeth hanfodol fel Caergybi a phorthladdoedd eraill ar draws Môr Iwerddon? Ar ben hynny, sut y bydd y tasglu yn sicrhau bod y porthladdoedd hyn yn cael eu defnyddio fel catalyddion economaidd, gan ddarparu ffyniant i'r rhanbarthau y maen nhw'n eu gwasanaethu? Yn wir, mae porthladdoedd dros amser wedi bod yn gatalyddion wrth ddarparu ffyniant economaidd yn y rhanbarth, boed hynny trwy bysgota, boed hynny nawr trwy'r diwydiant olew a nwy yn sir Benfro, neu boed hynny trwy derfynfeydd cludo nwyddau a theithwyr i fyny yng Nghaergybi a phorthladdoedd eraill. Mae'r harbyrau hyn, y porthladdoedd hyn, yn allweddol i hynny. Pe bai eich tasglu yn edrych ar hynny'n benodol fel rhan o ffyniant ehangach y rhanbarthau hynny a sut mae porthladdoedd yn chwarae rhan sylfaenol yn hynny, rwy'n credu y byddai hynny'n hynod arwyddocaol.

Nid dim ond her logistaidd yw cau porthladd Caergybi, ond prawf o arweinyddiaeth a rhagolwg. Wedi dweud hynny, mae gallu porthladdoedd eraill i addasu wrth lenwi'r gwagle wedi cael croeso cynnes a chanmoladwy. Wrth edrych ymlaen, mae angen sicrwydd ar gludwyr, busnesau a phob cwsmer ynghylch dyfodol mordeithiau môr Iwerddon. Rhaid i Lywodraeth Cymru arwain wrth gyflawni'r sicrwydd hwnnw. Diolch, Dirprwy Lywydd.

16:00

A gaf i ddiolch i Sam Kurtz am nid yn unig ei gwestiynau, ond ei gydnabyddiaeth hael iawn ei fod mewn gwirionedd yn ymateb anferthol i'r hyn a allai fod, ac ar un adeg roedd yn ymddangos ei fod, yn argyfwng, gyda degau o filoedd—mewn gwirionedd, rwy'n credu, i gyd, tua 100,000—o ddinasyddion Iwerddon angen dychwelyd ar gyfer y Nadolig, a dibyniaeth enfawr yn economi Iwerddon ar y nwyddau oedd angen symud ar draws môr Iwerddon o Gaergybi? Fe lwyddon ni i osgoi argyfwng oherwydd fe wnaethon ni ymateb ar unwaith, ac fe wnaethon ni ymateb gyda'n gilydd. Nid wyf erioed wedi gweithio gyda Llywodraeth Iwerddon mor agos ag yr wyf wedi'i wneud yn ystod y chwe wythnos diwethaf, ac rwy'n credu ei fod wedi cryfhau ein perthynas, mae hynny'n sicr. Rwy'n credu y bydd gwaith y tasglu hefyd yn parhau i gryfhau ein perthynas; byddwn yn gallu nodi meysydd o gydweithio economaidd nad ydym wedi'u nodi yn y gorffennol a fydd o fudd i'r ddwy wlad. Felly, rwy'n ddiolchgar iawn i Sam Kurtz am gydnabod yr ymateb ar unwaith i'r her.

Roedd yn her enfawr i'r porthladd hefyd. Doedd dim modd anfon deifwyr i'r dŵr yn ystod y storm; roedd hi'n rhy beryglus i wneud hynny. Mae wedi bod yn gyfnod hynod heriol i'r porthladd, ac yn enwedig i'r peirianwyr hynny sy'n gorfod ymateb i'r difrod sydd wedi'i achosi i'r docfeydd. Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau cyn gynted ag y bydd gennyf fwy o wybodaeth am ailagor y docfeydd yn llawn. Rwy'n falch y bydd un o'r docfeydd hynny yn ailagor y mis hwn. Bydd hynny'n darparu capasiti sylweddol i fynd i'r afael â phryderon cludwyr, Llywodraeth Iwerddon a llawer, llawer o fusnesau.

Fy nghred i yw na fydd newid parhaol—dim symudiad parhaol—gan fod pob parti sy'n rhan o'r ymdrech hon wedi cytuno bod y mesurau sydd wedi eu gweithredu yn fesurau dros dro nes bod modd ailagor y ddwy ddocfa. Yn wir, rwy'n credu mai'r hyn y mae wedi'i amlygu yw'r angen i sicrhau ein bod yn gweithio gyda'n gilydd i fuddsoddi ac i ganolbwyntio ar botensial porthladd Caergybi. Mae Caergybi i'r Gwyddelod yr un peth a yw Calais i'r Prydeinwyr. Mae'n hanfodol bwysig i'w llesiant a'u heconomi, ac mae angen i ni sicrhau ein bod yn gwneud y mwyaf o botensial y porthladd a sicrhau y gellir adnewyddu'r morglawdd cyn gynted â phosibl, a hynny fel blaenoriaeth. Yn amlwg bydd hynny—. Gofynnodd Sam am waith penodol y tasglu—bydd hynny'n amlwg yn un o'r blaenoriaethau y bydd y tasglu'n canolbwyntio arnynt. Ond bydd y tasglu hefyd yn edrych ar lwybrau eraill—pob llwybr arall. Nid ydym eisiau sathru ar draed arbenigwyr sy'n edrych ar strategaeth porthladdoedd, ond yr hyn yr ydym eisiau ei wneud o fewn yr adran drafnidiaeth yw sicrhau y gallwn nodi cyfleoedd i'n porthladdoedd a chyfrannu at y strategaeth. Felly, byddwn yn gweithio'n agos iawn gyda Gweinidog yr economi a chynllunio.

Nawr, mae'r sector cludo nwyddau, mae'n rhaid i mi ddweud, wedi bod yn rhyfeddol—hynod yn y ffordd y mae wedi ymateb i'r her hon a'r ffordd y mae wedi ymgysylltu â ni, gyda Llywodraeth Iwerddon a Llywodraeth y DU a'r awdurdod lleol. Cawsom gyfarfodydd amrywiol gyda chynrychiolwyr y sector cludo nwyddau, gyda Chymdeithas Cludo ar y Ffyrdd Iwerddon, Logistics UK, y Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd, a bydd mwy o gyfarfodydd yn dod, hefyd; mae cyfarfod arall wedi'i drefnu ar gyfer 15 Ionawr i ddarparu mwy o ddiweddariadau i'r cyrff perthnasol. Ond hoffwn gofnodi fy niolch iddynt am eu gallu i addasu yn yr amgylchiadau anoddaf hyn.

Ac yna, yn olaf, at y pwynt a wnaeth Sam am yr effaith a'r effaith bosibl ar fusnes, rwy'n falch o ddweud y bydd y porth y soniais amdano ar yr adeg yr oedd Cyngor Sir Ynys Môn, Cyngor Ynys Môn, yn bwriadu nodi ar eu gwefan y bydd yn mynd yn fyw yn fuan iawn. Bydd hynny'n galluogi busnesau i gofrestru unrhyw bryderon am golli refeniw o ganlyniad i'r difrod a achoswyd yn y porthladd. Yn amlwg, byddwn yn asesu'r dystiolaeth. O hyn ymlaen, mae'r cyngor wedi cadarnhau nad oes tystiolaeth i gefnogi'r ymyrraeth economaidd ychwanegol y mae rhai yn chwilio amdano. Ond, wrth gwrs, yn seiliedig ar y porth hwnnw'n mynd yn fyw, rwy'n credu ar 10 Ionawr, y bydd gennym dystiolaeth fanylach i allu gwneud penderfyniad ar yr hyn y gallwn ei wneud i gynorthwyo'r busnesau yng Nghaergybi ac o amgylch Caergybi ac ar draws y gogledd.

16:05

Gaf i ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei ddatganiad o heddiw? Rydym yn falch ein bod ni wedi gallu bod mewn cyswllt drwy'r cyfnod yma hefyd, ac mi wnaf i nodi fy syndod ein bod ni wedi clywed cyn lleied gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, o ystyried pwysigrwydd, fel rydym ni wedi clywed y prynhawn yma, y porthladd yma, nid yn unig i ni yng Nghymru ond fel rhan o rwydwaith strategol y Deyrnas Unedig. Mae'r difrod, wrth gwrs, a wnaed i'r porthladd wedi cael effaith ar draws nifer o sectorau gwahanol, i'r gymuned leol a'r gweithwyr sydd wedi gorfod, o bosib, symud dros dro, neu rai wedi colli eu swyddi. Mae busnesau lleol wedi colli incwm. Mae wedi effeithio ar deithwyr, yn cynnwys rhai yn fy nheulu fy hun. Mae cwmni cludo dwi wedi bod yn trafod â nhw yn wynebu costau llawer uwch ac yn y blaen. Ac wrth gwrs, ar gyfer ein partneriaid ni yn Iwerddon, mae'r golled i'w heconomi nhw'n sylweddol iawn.

Mae yna gwestiynau byr dymor, tymor canolig a hirdymor. Sylw neu ddau gen i ynglŷn â'r perig o bobl yn chwilio am ffyrdd eraill o groesi môr yr Iwerddon. Mi welon ni ar ôl Brexit, onid oedden ni, cwmnïau’n penderfynu trio hwylio'n uniongyrchol o Ffrainc; mae llawer wedi parhau i wneud hynny. Rydym ni wedi gweld cwmnïau, wrth gwrs, yn cael eu gorfodi dros dro i ddefnyddio porthladdoedd eraill, ond dwi'n falch o glywed yr Ysgrifennydd Cabinet yn dweud nad ydy o'n disgwyl sifft parhaol yn fan hyn. Dwi ychydig bach yn bryderus o glywed llefarydd y Ceidwadwyr yn sôn am ddefnyddio'r sefyllfa o gwmpas Caergybi i edrych ar gryfhau croesiadau o sir Benfro. Oes, wrth gwrs mae eisiau sicrhau bod y porthladdoedd hynny'n cael buddsoddiad, ond dydyn ni ddim eisiau rhoi unrhyw arwydd y gallai gael ei weld fel cyfle yn cael ei dynnu oddi ar Gaergybi—[Torri ar draws.] Ond dwi'n clywed yr Aelod yn dweud nad dyna'r bwriad.

O ran y cwestiynau byr dymor, dwi innau wedi siarad efo Stena ac maen nhw'n hyderus y bydd un o'r terfynellau'n gallu agor ar 16 Ionawr, neu, os ydy'r tywydd yn wael iawn, yn fuan iawn wedi hynny. Maen nhw'n methu rhoi sicrwydd, wedyn, ynglŷn â'r ail derfynell. Oes gan yr Ysgrifennydd Cabinet rhagor o wybodaeth ynglŷn â hynny? Achos dwi'n ofni bod mis Mawrth yn swnio'n uchelgeisiol iawn, iawn, mae'n rhaid dweud, o ystyried cymaint o (1) opsiynau sy'n gorfod cael eu trafod, a (2) gwaith cynllunio'n cael ei roi mewn lle ar gyfer gweithredu'r gwahanol opsiynau ar gyfer ailosod y derfynell honno. 

Cefnogaeth i fusnes: dwi'n cydnabod bod y portal yma'n mynd i fod yn mynd yn fyw mewn ychydig ddyddiau i fusnesau allu dweud sut maen nhw wedi cael eu taro. Dwi wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cabinet yn gofyn am ragor o gefnogaeth i fusnesau. Mi fyddwn i'n licio clywed pa baratoadau sy'n cael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod yna gronfa ar gael i wneud taliadau i fusnes, achos does gen i ddim amheuaeth bod yna golledion mawr wedi cael eu gwneud gan rai. Rydym ni wedi clywed am westai'n siarad yn y dyddiau diwethaf yma am ddegau o filoedd o bunnau o golledion iddyn nhw, felly dwi yn meddwl y bydd angen gwneud taliadau. Dwi eisiau dysgu mwy am sut y bydd penderfyniadau'n cael eu gwneud yn gyflym, a beth fydd ffynhonnell yr arian hwnnw.

Dysgu gwersi wedyn: dwi wedi canolbwyntio ar drio gofyn y cwestiynau angenrheidiol er mwyn cael eglurder ar y camau sy'n digwydd nesaf i gael llongau i hwylio eto. Mi fyddwn ni angen dysgu gwersi, serch hynny, ynglŷn â beth sydd wedi bod yn digwydd a allai fod wedi rhoi'r porthladd mewn perig. Rydym ni'n gwybod bod yna ddiffygion wedi bod dros gyfnod hir sydd wedi arwain at danseilio'r morglawdd, er enghraifft. Dwi angen gwybod bod y cwestiynau'n mynd i gael eu gofyn gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â beth oedd y gwaith cynnal a chadw oedd yn digwydd, ac ati, ar y terfynellau yma, fel ein bod ni'n gallu sicrhau na fyddwn ni'n wynebu problemau tebyg mewn stormydd sydd yn mynd i fod yn digwydd yn fwy a mwy aml yn y dyfodol.

Ac yn olaf, ar y tasglu yma, dwi wedi galw am ddod â'r partneriaid i gyd ynghyd, felly dwi'n falch o glywed bod y tasglu'n cael ei sefydlu. Mi fyddwn i'n croesawu mwy o wybodaeth ynglŷn â chylch gorchwyl y tasglu hwnnw, yn cynnwys a all o edrych ar y cwestiwn o berchnogaeth y porthladd. Rŵan, mi wnaeth y Prif Weinidog ymosod arnaf i'n gynharach heddiw am gefnogi gwladoli gwaith dur Tata—mi oeddwn i'n barod i wneud unrhyw beth i warchod gwaith dur Tata—ac am alw am wladoli porthladd Caergybi. Dwi ddim yn ymwybodol fy mod i wedi galw'n gyhoeddus yn un lle am wladoli porthladd Caergybi, oherwydd mi oeddwn i eisiau gofyn y cwestiynau sy'n flaenoriaeth rŵan o ran ailagor y terfynellau. Ond mi fydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn gwybod fy mod i wedi trafod efo fo y posibilrwydd yma o edrych ar fodel perchnogaeth newydd ar gyfer y dyfodol, achos rydym ni'n angen gwybod bod Llywodraethau—p'un ai'n Llywodraeth ni yma yng Nghymru, neu efo mewnbwn o Lywodraeth Iwerddon, hyd yn oed—yn gallu sicrhau bod yr isadeiledd allweddol yma yn cael ei warchod a'i hybu ar gyfer y dyfodol, ac mi fyddai gen i ddiddordeb mewn clywed mwy gan y Gweinidog ynglŷn â hynny.

16:10

A gaf i ddiolch i'r Aelod lleol dros Ynys Môn am ei gyfraniad heddiw? Fe wnaethon ni gadw mewn cysylltiad—yn agos iawn—dros gyfnod y Nadolig. Rwy'n ddiolchgar iawn am yr wybodaeth y gall ei chyfleu i mi, ynghyd ag aelodau etholedig awdurdodau lleol hefyd ar Ynys Môn. A gaf i roi ar y cofnod, Dirprwy Lywydd, fy niolch diffuant i'r Llu Ffiniau, a oedd yn rhyfeddol yn ystod cyfnod y Nadolig wrth sicrhau bod pobl yn gallu symud ar draws môr Iwerddon yn gyflym, o ystyried yr her a gawsant wrth symud staff ar draws arfordir gorllewinol Prydain Fawr? Dylwn ddweud hefyd fy mod wedi cwrdd â Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a chyda Heidi Alexander, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, i drafod y mater hwn yn ystod y dyddiau cyntaf pan ddaeth y mater yn argyfwng. Ac mae'n rhaid i mi ddweud bod Llywodraeth y DU wedi symud ar gyflymder mellten i brosesu'r rhanddirymiad awr gyrwyr, a oedd mor bwysig wrth alluogi nwyddau i ddychwelyd i Iwerddon, i gyrraedd Iwerddon, i gefnogi'r economi adeg y Nadolig. Felly, rwy'n ddiolchgar iawn am y gwaith a wnaed gan bob Llywodraeth ar bob lefel. Ni allaf feirniadu unrhyw Lywodraeth ar yr hyn a gyflawnwyd. Mae wedi bod yn gyfnod hynod heriol, ond mae'r egni a'r penderfyniad gan gymaint wedi arwain at osgoi argyfwng, rwy'n credu.

Nawr, o ran yr amserlen ar gyfer ailagor y ddwy ddocfa, rwy'n rhannu'r holl wybodaeth sydd gen i â'r Aelodau, ac rwy'n addo rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd o ran yr ail ddocfa. Cyn gynted ag y byddwn yn cael mwy o wybodaeth o'r porthladd, byddwn yn ei throsglwyddo i'r Aelodau mewn modd tryloyw.

Bydd busnesau cyn bo hir, ymhen ychydig ddyddiau, yn gallu cyflwyno tystiolaeth am unrhyw golled enillion, ac wrth gwrs rwyf wedi clywed am lawer o achosion lle mae busnesau'n codi pryderon am golledion sylweddol. Mae croeso mawr i'r porth y mae'r awdurdod lleol yn ei agor, rwy'n credu. Mae'n fenter i'w chroesawu'n fawr, a bydd yn ein helpu i ganfod pa gymorth y gallai fod ei angen. Mae Busnes Cymru ar gael i gefnogi busnesau, a gwn fod Gweinidog yr economi wedi cymryd diddordeb brwd iawn yn hyn hefyd.

Ni allaf ddyfalu ynghylch achos y difrod yn y porthladd, ond gallaf sicrhau'r Aelodau y bydd gwersi'n cael eu dysgu o ganlyniad i'r asesiadau sy'n cael eu cynnal, yr ymchwiliadau sy'n cael eu cynnal, a byddant yn cael eu hystyried, rwy'n credu, fel mater o frys gan y tasglu. Fel yr Aelod lleol, byddwn yn awyddus iawn i ystyried unrhyw awgrymiadau sydd ganddo ar gyfer aelodaeth o'r tasglu, cylch gorchwyl y tasglu, ar gyfer unrhyw feysydd penodol yr ydym wedi'u hepgor nad wyf wedi meddwl amdanynt y gallai'r tasglu edrych arnynt efallai. Rwy'n agored iawn, iawn i awgrymiadau, a byddwn yn ymgysylltu â chynifer o bartneriaid ag y gallwn i sicrhau bod y tasglu hwn yn cynhyrchu'r argymhellion gorau posibl ar gyfer sut y gallwn symud ymlaen.

Nid yw'r porthladd ar werth ar hyn o bryd, ac mae Stena, diolch byth wedi ymrwymo'n llawn i'w ddyfodol tymor hir. Rwyf eisiau gweithio gyda gweithredwyr preifat, nid y porthladd yn unig, ond hefyd y gweithredwyr fferi, i sicrhau i'r eithaf fuddion y porthladd ar gyfer pobl y gogledd, pobl Cymru, y DU ac Iwerddon.

16:15

Rwyf am dynnu sylw at ba mor bwysig yw porthladd Caergybi, ac rwy'n gobeithio y bydd yn parhau i fod yn bwysig ac yn flaenoriaeth, ac rwyf wedi clywed hynny heddiw, a hefyd pa mor fregus ydyw. Mae rheilffordd gogledd Cymru yn cysylltu â'r porthladd hefyd, onid ydyw? Mae'n galluogi pobl i barhau â'u siwrneiau. Yr A55, mae'n rhan o'r briffordd Ewropeaidd mewn ffordd; mae popeth mor bwysig.

Rwy'n croesawu'r tasglu sy'n cael ei sefydlu a'r berthynas waith dda ag Iwerddon. Cefais fy synnu hefyd o weld y bydd docfa yn cael ei hagor, ac mae'r gwaith caled sydd wedi mynd i mewn i hynny wedi cael ei werthfawrogi'n fawr.

Roeddwn yn bryderus ac yn synnu o glywed pa mor fregus yw e'. Felly, hoffwn ofyn i chi: gyda newid hinsawdd cynyddol, pa mor bryderus ydych chi am y porthladd? A oedd hi'n storm unwaith ac am byth, y ffordd a effeithiodd yn fawr arni, neu a yw'n mynd i barhau i fod yn fater o gydnerthedd? Pa wahaniaeth fydd y buddsoddiad yn y morglawdd yn ei wneud yn y dyfodol mewn gwirionedd? Dydw i ddim eisiau swnio'n ddigalon, ond rydw i eisiau gwneud yn siŵr fod hyn yn parhau'n flaenoriaeth fawr. Mae'n bwysig iawn, iawn i'r gogledd. Ond dim ond i wybod pa mor gydnerth ydyw, ac a fydd yn parhau i fod yn gydnerth wrth symud ymlaen? Diolch.

A gaf i ddiolch i Carolyn Thomas am ei chwestiynau? Rwy'n gwybod bod Carolyn wedi dangos diddordeb brwd iawn mewn adnewyddu'r morglawdd ers rhai blynyddoedd. Mae hwn yn fater yr ydym yn awyddus iawn i'w archwilio: sut y gallwn gyflawni'r gwaith adnewyddu cyn gynted â phosibl ac ar y cyflymder uchaf. Dyna brif bwrpas y tasglu ar y dechrau, i edrych i weld sut y gall hynny ddigwydd. Ond bydd y tasglu, fel yr wyf wedi'i ddweud wrth Aelodau eraill, yn archwilio llawer, llawer o faterion.

Rwy'n credu bod yr Aelod mewn gwirionedd yn gwneud pwynt pwysig iawn am seilwaith cysylltiedig. Yr A55, yn fy marn i, yw'r galluogwr economaidd mwyaf a phwysicaf yn y gogledd, ac rydym wrth ein bodd ag ef, ac mae'r Gwyddelod wrth eu bodd hefyd, ac felly hefyd pobl ar draws Prydain Fawr, oherwydd heb y llwybr hwnnw rwy'n ofni y byddai'r porthladd yn eithaf dibwrpas. Felly, mae'n rhaid i ni edrych nid yn unig ar y porthladd ar ei ben ei hun, ond mae'n rhaid i ni edrych ar lwybrau hefyd, yr holl lwybrau sy'n arwain at y porthladd ac oddi yno. Rwy'n siŵr y bydd y tasglu yn archwilio hynny. Wrth gwrs, mae cysylltedd rheilffyrdd yn bwysig hefyd ar draws y gogledd.

O ran newid hinsawdd, nid wyf yn arbenigwr mewn digwyddiadau hinsoddol o'r math hwn, ac roedd y storm yn eithriadol. Dydw i ddim yn arbenigwr, ond wrth gwrs rydym yn disgwyl mwy o ddigwyddiadau tywydd difrifol fel hyn, ac felly mae angen i ni sicrhau nid yn unig porthladd Caergybi, ond sicrhau bod ein holl seilwaith yn gallu gwrthsefyll digwyddiadau mwy difrifol a thrychinebus fel yr un a welsom ychydig cyn y Nadolig.

Gwelais fideo'r Prif Weinidog ar ôl storm Darragh cyn y Nadolig, ond roedd hi'n siomedig nad oedd hi'n gallu gadael y gorllewin i recordio ei fideo o borthladd Caergybi, sef y porthladd a ddifrodwyd dan sylw, a dewisodd yn hytrach recordio ei fideo ym mhorthladd Abergwaun yn sir Benfro, a pha neges mae hynny'n ei rhoi i bobl ar Ynys Môn ac yn wir, yn y gogledd hefyd.

Hoffwn atgoffa'r Ysgrifennydd Cabinet, yn dilyn tswnami 2011 yn Japan, bod llawer o'r porthladdoedd a ddifrodwyd, ar waith o fewn dyddiau. Ond fis ar ôl storm Darragh mae'r porthladdoedd yn parhau ar gau ar gyfer busnes, a soniodd y datganiad hefyd y gallai un o'r porthladdoedd fod ar gau tan fis Mawrth, sydd, yn anffodus, yn siomedig am lawer o resymau, yn economaidd ac yn wir o ran ein perthynas ag Iwerddon, ac yn wir o ran cludo ceir, oherwydd dyna'r unig ffordd y gallwch gael cerbyd ar draws Môr Iwerddon ac mae yna lawer o gydgysylltedd o ran cerbydau yno hefyd. Felly, hoffwn wybod sut mae'r Ysgrifennydd Cabinet dros drafnidiaeth yn gweithio gyda meysydd eraill o'r Llywodraeth i sicrhau bod y prosesau biwrocrataidd yn cael eu symleiddio, a bod gwaith atgyweirio'n cael ei wneud ar frys i agor y porthladd cyn gynted â phosibl? Diolch. 

16:20

Diolch i Gareth Davies am ei gwestiynau. Yn gyntaf, dylwn ddweud, yn amlwg, fe siaradom ni â phorthladd Caergybi yn syth ar ôl y digwyddiad a gofyn a fyddai'n ddefnyddiol i'r Prif Weinidog ac eraill ymweld ag ef i edrych ar y difrod. Yn amlwg roedd y difrod o dan y dŵr, a'r hyn nad oedd ei angen ar y porthladd ar y foment honno, pan oeddem yn daer yn ceisio nodi cyfleoedd i hwylio o rywle arall, oedd llwyth o bobl yn troi fyny i syllu'n fusneslyd ar y difrod a achoswyd, neu o leiaf y dŵr oedd ar ei ben. Roedd yn hanfodol bwysig bod ein holl ymdrechion yn canolbwyntio ar nodi capasiti ychwanegol mewn porthladdoedd eraill yn unig. A'r rheswm pam y gwnaeth y Prif Weinidog recordio'r fideo yn Abergwaun oedd oherwydd ei bod yno yn helpu brocera bargen i gael mwy o gapasiti yn y porthladd penodol hwnnw. Hoffwn ddiolch i'r holl borthladdoedd ar hyd arfordir y gorllewin am helpu yn yr ymdrech enfawr hon, a chwaraeodd y Prif Weinidog ei rhan yn hyn. 

Rydym hefyd yn awyddus i wneud yn siŵr bod y ddocfa benodol honno sy'n parhau ar gau y tu hwnt i fis Ionawr yn cael ei hailagor cyn gynted ag y bo modd. Byddwn yn gweithio gyda pherchennog a gweithredwr y porthladd i sicrhau, lle gallwn gyflymu'r gwaith atgyweirio, y byddwn yn gwneud hynny a byddan nhw'n gwneud hynny. Ond byddai hefyd yn rhan o waith y tasglu hefyd, gan edrych i weld sut y gellir rhoi'r gwelliannau i'r porthladd ar y trywydd cyflym ar garlam. 

Wel, mae hyn yn sicr wedi cael rhywfaint o drafodaeth eang ac mae'n eithaf calonogol mewn gwirionedd. Fe sylwch, yfory, fy mod i wedi rhoi hyn mewn gwirionedd fel cwestiwn oherwydd mae'n effeithio arnom ni i gyd, yn Aberconwy ac yn amlwg ar Ynys Môn. Rwy'n croesawu'r cyhoeddiad am dasglu aml-randdeiliaid i ddatblygu strategaeth newydd ar gyfer dyfodol Caergybi. Rwyf ychydig yn bryderus pan glywaf eich bod yn siarad am wladoli'r porthladd môr hwn pan fo'n deg dweud, mewn gwirionedd, fod llawer o fethiannau wedi bod wrth wladoli Maes Awyr Caerdydd.

Caergybi i Ddulyn yw'r llwybr fferi ail-brysuraf yn y DU ac mae'r porthladd ei hun yn trin dros 2 filiwn o deithwyr y flwyddyn, ac mae llawer o fusnesau yn dibynnu ar fusnes gan deithwyr fferi yn mynd heibio. Mae nifer yr ymwelwyr wedi plymio o ganlyniad i'r difrod hwn ac mae masnachwyr yng Nghaergybi ac ardaloedd eraill wedi adrodd am ostyngiad sydyn mewn cwsmeriaid, yn enwedig y rhai sy'n darparu ar gyfer ymwelwyr o Iwerddon ac America. Mae perchennog cwmni Mete's Smash Burger wedi gweld gostyngiad o 25 y cant mewn busnes, tra bod perchnogion caffi Holly Molly hefyd wedi nodi gostyngiad mewn masnach. Mae'r sector lletygarwch wedi cael ei daro'n arbennig o galed a soniodd Claudia Howard, sy'n rhedeg Gwesty'r Boathouse ger marina Caergybi, ei bod wedi colli £14,700 mewn archebion wedi'u canslo yn unig.

Felly, rydych chi wedi sôn eich bod chi'n mynd i fod yn llawn cydymdeimlad. A ydym i ddeall heddiw, lle y gellir profi bod busnesau wedi dioddef caledi ariannol, y byddwch yn wir yn darparu iawndal? Diolch.

A gaf i ddiolch i Janet Finch-Saunders am ei chwestiynau? Dylwn ychwanegu, mewn gwirionedd, at y cyfraniad olaf a wnaed nad yn unig y gwnaeth y Prif Weinidog fynd i Abergwaun i helpu brocera yn y fargen honno, arweiniodd y Prif Weinidog ar amryw o sgyrsiau—mewnol, allanol—dros gyfnod y Nadolig i gyd. Ac rwy'n gwybod ei bod hi wedi siarad ar o leiaf un achlysur, ac rwy'n credu o bosib dau achlysur erbyn hyn, â Taoiseach Iwerddon, ac mi fydd yn siarad â'r Taoiseach eto'r wythnos nesaf. Felly, mae hi wedi bod yn ymgysylltu ar bob lefel, yn allanol ac yn fewnol, i sicrhau ein bod yn ymdrin â'r her hon.

Rwyf eisoes wedi ymdrin â chwestiynau, rwy'n credu'n eithaf helaeth, am effeithiau busnes. Roedd hwn yn ddigwyddiad eithriadol. Rydym yn gweithio'n agos iawn gyda'r awdurdod lleol a gyda Busnes Cymru i sicrhau y gallwn ystyried hynny lle mae busnesau angen cymorth, ond penderfyniad Gweinidog yr economi fydd hwn i bob pwrpas, ac rwy'n siŵr bod ganddi ddiddordeb mawr mewn dysgu am unrhyw effaith y mae busnesau yn y gogledd wedi dangos tystiolaeth ohoni.

16:25

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i chi, Ysgrifennydd Cabinet, am gyflwyno'r datganiad heddiw, cyn gynted â phosibl, rwy'n dyfalu, er mwyn i'r Senedd ei glywed. Fel y nodwch yn briodol, ni ellir tanbrisio arwyddocâd y porthladd: dyma'r ail borthladd cludo nwyddau prysuraf yn y DU. Tybed, weithiau, nad ydym efallai yn gwerthfawrogi pwysigrwydd hwn tan eiliadau fel hyn, pan nad oes modd ei ddefnyddio am gyfnod byr.

Hoffwn ofyn ychydig o gwestiynau am y tasglu aml-randdeiliaid, fel y'i disgrifir gennych, ar gyfer dyfodol Caergybi. Rwy'n ymwybodol y bydd llawer o'r wynebau o gwmpas y bwrdd hwnnw yn wynebau sy'n eistedd o gwmpas llawer o fyrddau eraill ar gyfer materion sy'n ymwneud â'r gogledd—rwy'n dychmygu, fel y dywedoch chi, gynrychiolwyr o awdurdodau lleol a chyrff eraill yn y gogledd. Mae gen i rai pryderon am feysydd gwaith eraill nad ydyn nhw'n cael eu cyflawni ar y cyflymder y dylen nhw fod yn y gogledd—pethau fel bargen twf y gogledd, pethau sy'n ymwneud ag Uchelgais Gogledd Cymru, a darnau rhanbarthol eraill o waith. Felly, rwyf eisiau ddeall sut rydych chi'n disgwyl y bydd cyflymder yn cael ei gyflawni drwy'r tasglu hwn pan nad ydym efallai wedi gweld y lefel honno o gyflymder mewn meysydd gwaith eraill.

Ac yn ail, yn fyr iawn, iawn, pa mor eang fydd y gwaith yr ydych chi'n disgwyl i'r tasglu hwn ei wneud? Rwy'n credu eich bod chi newydd ei ddisgrifio fel tasglu ar gyfer dyfodol Caergybi. Ai dim ond ar gyfer porthladd Caergybi yn unig yw hyn, neu a yw'n ehangach na hynny, o ystyried yr effaith y mae'r porthladd yn ei gael ar Gaergybi yn ei chyfanrwydd? Diolch yn fawr iawn. 

A gaf i ddiolch i Sam Rowlands am ei gwestiynau? Ac mae'n hollol gywir pan fo'n dweud, weithiau, nad ydym yn gwerthfawrogi ac yn cydnabod pa mor bwysig yw ased nes ei fod yn dod yn faich, nes ei fod yn torri i lawr, nes ein bod wedi ei golli. Mae porthladd Caergybi yn borthladd hynod bwysig i'r Deyrnas Unedig gyfan, a dyna pam rydym yn benderfynol o sicrhau, drwy'r tasglu, y gallwn sicrhau'r buddion mwyaf posibl i Gymru.

Bydd y tasglu hwn yn wahanol iawn i unrhyw beth yr ydym wedi'i lunio yn y gorffennol. Bydd cael Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Iwerddon ochr yn ochr â Llywodraeth y DU, yng nghanol y tasglu, yn ei gwneud yn fwrdd eithaf diddorol ar gyfer archwilio'r hyn y gallwn ei wneud ar y cyd ar draws tair Llywodraeth genedlaethol. Ond bydd hefyd yn cynnwys, yn hollbwysig yn fy marn i, gynrychiolwyr awdurdodau lleol, yn bennaf o Ynys Môn, ond bydd hefyd yn cynnwys buddiannau hanfodol bwysig y sector preifat, yn bennaf y porthladd ei hun, a hefyd y sector cludo nwyddau a logisteg. Felly, rwy'n hyderus bod hwn yn ddull ffres iawn nid yn unig i ymdrin â her yr ydym yn ei hwynebu, ond mae'n gyfle sy'n cael ei amlygu, rwy'n credu. Rwy'n credu y gallwn wneud llawer mwy gyda phorthladd Caergybi nid yn unig i Gaergybi, ond i'r gogledd i gyd. Ond mae'r Aelod yn hollol gywir: nid edrych, drwy'r tasglu ar y porthladd yn unig yr ydym ni; hoffwn archwilio sut y gallwn sicrhau bod y porthladd yn cyfrannu'n llawn at y gobeithion economaidd gorau posibl i Gaergybi ei hun.

6. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Pwysau Gaeaf y GIG

Eitem 6 heddiw yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar bwysau gaeaf yr NHS. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Jeremy Miles.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Yn wreiddiol, roeddwn i wedi bwriadu rhoi diweddariad i'r Senedd yr wythnos nesaf, gan fod y rhagolygon yn awgrymu mai dyna bryd y byddem ni'n gweld achosion o'r ffliw a phwysau'r gaeaf ar eu hanterth. Ond, fe gyrhaeddodd y ffliw yn gynnar eleni, a chafwyd cynnydd mewn heintiau anadlol eraill, gan gynnwys COVID-19 a'r feirws syncytiol anadlol. Rŷn ni hefyd wedi gweld cynnydd mewn achosion o norofeirws. Mae'r cyfuniad yma wedi golygu bod galw sylweddol ar wasanaethau'r NHS, a hynny'n fwyaf amlwg ar wasanaeth ambiwlans Cymru, a wnaeth ddatgan digwyddiad critigol ar 30 Rhagfyr y llynedd. Byddaf yn rhoi rhagor o fanylion am raddfa'r galw a'r camau mae'r gwasanaeth iechyd wedi'u cymryd i ymateb iddo.

Ond yn gyntaf, Dirprwy Lywydd, hoffwn gofnodi fy niolch i staff y GIG a gofal cymdeithasol, sydd wedi gweithio'n ddiflino dros gyfnod y Nadolig mewn amgylchiadau anodd yn aml. Dirprwy Lywydd, mae'r GIG yn gweithio drwy gydol y flwyddyn i gynllunio ar gyfer y gaeaf. Rydym yn disgwyl i fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau'r GIG ddisgrifio sut y bydd pwysau tymhorol yn cael eu rheoli drwy eu cynlluniau, gan alluogi dull gweithredu drwy gydol y flwyddyn er mwyn i gapasiti fodloni'r galw. Cefnogwyd cyflawniad y cynlluniau hyn gan raglenni cenedlaethol gweithrediaeth y GIG ar gyfer gofal brys ac argyfwng, gofal sylfaenol, iechyd meddwl a gofal wedi'i gynllunio, yn ogystal â rhwydweithiau clinigol. Gwnaethom sicrhau bod mwy na £180 miliwn ar gael i sefydliadau ar ddechrau'r flwyddyn ariannol i roi cymaint o amser â phosibl iddynt ddatblygu a sefydlu ystod o ymyraethau, a fydd yn darparu mwy o gydnerthedd dros y gaeaf. Ym mis Hydref, fe wnaethom ni gyfarwyddo byrddau iechyd i ddatblygu strategaethau i ystwytho capasiti gwelyau ac i gyflwyno cynlluniau ar gyfer gofal cymunedol brys rhwng diwedd mis Rhagfyr a dechrau mis Ionawr.

Rydym hefyd wedi pwysleisio dro ar ôl tro mai brechu yw un o'r ffyrdd gorau o atal lledaeniad y ffliw, feirws syncytiol anadlol (RSV) a feirysau anadlol cyffredin eraill. Dechreuodd y rhaglen frechu rhag y ffliw o ddifrif eleni ar 1 Hydref ac, am y tro cyntaf, cynigiwyd brechlyn RSV i fenywod beichiog i helpu i amddiffyn babanod newydd-anedig rhag y feirws hwn, a all arwain, fel y gwyddom, at gymhlethdodau difrifol. Gwyddom y gall y ffliw fod yn arbennig o ddifrifol i bobl sydd â chyflyrau meddygol sylfaenol, y rhai sy'n agored i niwed, a naill ai pobl ifanc iawn neu oedrannus iawn. Ond mae'r nifer sy'n derbyn eleni wedi bod yn is na'r disgwyl ac yn sicr yn is na'r hyn y byddem wedi'i hoffi. Rwy'n parhau i annog pawb sy'n gymwys i gael pigiad ffliw am ddim gan y GIG i gael y brechlyn, yn enwedig gan fod lefelau uchel o ffliw yn cylchredeg mewn cymunedau lleol.

Wrth gynllunio ar gyfer y gaeaf, gofynnodd y dirprwy brif swyddog meddygol hefyd i fyrddau iechyd ddatblygu cynlluniau ymchwydd pediatrig i sicrhau y gallent ymateb i unrhyw achos arwyddocaol pan fo RSV ar ei anterth, neu gyflyrau plentyndod eraill. Ym mis Tachwedd, lansiwyd her gaeaf gofal integredig 50 diwrnod i leihau derbyniadau yn ddiogel a gwella trefniadau rhyddhau.

Fel y gwnaethom ragweld a chynllunio ar ei gyfer, mae rhai rhannau o'r GIG wedi profi cynnydd yn y galw oherwydd cyfuniad o'r tywydd oer diweddar, y ffliw a salwch tymhorol eraill. Roedd cynnydd yn nifer y bobl â'r ffliw mewn ysbytai ledled Cymru drwy gydol mis Rhagfyr, gyda'r niferoedd yn codi 18 y cant yn ystod wythnos y Nadolig. Mae'r data diweddaraf sydd ar gael yn dangos bod mwy na 900 o bobl â'r ffliw, COVID-19 ac RSV yn ein gwelyau ysbyty. Mae hyn 20 y cant yn fwy nag yn yr un cyfnod y llynedd ac mae'n uwch na'r senario mwyaf tebygol a fodelwyd gan ein harbenigwyr.

Mae bron i un o bob 10 o bobl yn yr ysbyty yn dioddef o haint anadlol acíwt. Dangosodd canlyniadau sgrinio cannoedd o bobl a oedd yn mynd i'r ysbyty yn ystod yr wythnos diwethaf, ni waeth beth fo unrhyw symptomau, fod 30 y cant o bobl a gafodd eu profi am y ffliw yn bositif. Mae hyn dair gwaith cymaint â'r adeg hon y llynedd. Rydym bellach yn dechrau ar gyfnod anterth y ffliw a gallai'r niferoedd gynyddu ymhellach dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf.

Efallai nad yw'n syndod bod nifer cynyddol o feirysau anadlol wedi cael effaith ganlyniadol ar gyfraddau absenoldeb salwch y GIG ac ar alw am holl wasanaethau'r GIG. 'Problemau anadlu' yw'r rheswm mwyaf cyffredin pam y mae pobl wedi bod yn ffonio 999.

Yn y cyfnod rhwng 19 Rhagfyr a Dydd Calan, bu cynnydd o 19 y cant mewn galwadau 999 ynghylch problemau anadlu o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd. Mae cymhlethdod ychwanegol brysbennu, asesu a rhyddhau pobl sydd â heintiau anadlol acíwt mewn gofal critigol ac adrannau brys wedi cyfrannu at amseroedd aros hirach ar gyfer mynediad. Mae hyn wedi arwain at orlenwi wardiau ac adrannau brys, ac oedi hirach wrth drosglwyddo o ambiwlansys, gan gyfyngu ar adnoddau ambiwlans.

Bydd yr aelodau, wrth gwrs, yn ymwybodol bod gwasanaeth ambiwlans Cymru wedi datgan digwyddiad critigol gyda'r nos 30 Rhagfyr. Y nifer uchel o bobl a oedd yn aros am alwad 999 oedd y prif ffactor a gyfrannodd at hyn. Nid gwasanaeth ambiwlans Cymru oedd yr unig ymddiriedolaeth ambiwlans ar draws y DU i ddatgan digwyddiad o'r fath.

Er gwaethaf yr heriau sy'n wynebu'r gwasanaeth ambiwlans, roedd cyfran y bobl a fynychodd adran frys ac a aeth ymlaen i gael eu derbyn i'r ysbyty yn aros yn sefydlog neu'n is na'r llynedd. Mae'r defnydd cyson o ddewisiadau amgen i dderbyn, fel gwasanaethau gofal brys yr un diwrnod, wedi helpu pobl i osgoi gorfod cael eu derbyn i'r ysbyty. Fodd bynnag, bydd y cyfnod oer presennol yn cyflwyno heriau newydd i bobl agored i niwed yn ein cymunedau, i staff y GIG, ac i wasanaethau'n ehangach.

Er mwyn mynd i'r afael â'r pwysau hyn, mae byrddau iechyd wedi agor yr holl gapasiti gwelyau ymchwydd sydd ar gael a chynyddu capasiti staff dros dro mewn rhannau hanfodol o'n gwasanaethau cymunedol, lle bo hynny'n bosibl. Er enghraifft, mae nifer o fyrddau iechyd a'r gwasanaeth ambiwlans wedi recriwtio staff ychwanegol i asesu cleifion o bell dros y ffôn fel y gallant osgoi'r angen am gludiant i'r ysbyty neu gellir eu llywio i'r gwasanaeth cywir er mwyn i'w hanghenion gael eu trin yn gyflymach. Rwyf hefyd wedi darparu cyllid ychwanegol i gynyddu gwasanaethau ymateb i gwympiadau yn y gymuned i helpu i gadw pobl gartref yn ddiogel.

Dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf, rwy'n disgwyl gweld byrddau iechyd a phartneriaid yn canolbwyntio ar ryddhau cleifion yn ddiogel ac yn gyflym, gan adeiladu ar yr her 50 diwrnod, er mwyn gwella capasiti ymhellach i ymateb i bwysau'r gaeaf.

Yn olaf, Dirprwy Lywydd, rwy'n gofyn i'r cyhoedd helpu'r GIG trwy ddewis y ffynhonnell gymorth fwyaf priodol ar gyfer eu hanghenion. Gall hyn olygu defnyddio'r gwasanaeth Dewis Fferylliaeth, sy'n darparu cyngor a thriniaeth am ddim ar gyfer 26 o anhwylderau cyffredin, neu ffonio GIG 111 Cymru am gyngor a chefnogaeth. Ac os gwelwch yn dda, os nad ydych wedi cael pigiad ffliw eto, cysylltwch â'ch fferyllfa, meddygfa neu fwrdd iechyd i gael gwybodaeth ynghylch sut i gael eich brechu. Diolch, Dirprwy Lywydd. Byddaf yn darparu diweddariad pellach maes o law.

16:35

Hoffwn ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei ddatganiad heddiw a hefyd ymuno ag ef i ddiolch i staff y GIG a'n staff gofal cymdeithasol ledled Cymru am y gwaith anhygoel y maen nhw'n ei wneud i'n cadw ni i gyd yn ddiogel yn ystod y gaeaf hwn.

Ysgrifennydd Cabinet, fel y dywedoch chi, o ystyried y pwysau sylweddol ar y GIG oherwydd tymor ffliw cynnar a dwys, ynghyd â chynnydd mewn achosion o heintiau anadlol fel COVID-19 ac RSV, mae hyn yn rhoi pwysau enfawr ar ein hadrannau damweiniau ac achosion brys. O ystyried y gostyngiad ym mherfformiad damweiniau ac achosion brys yn erbyn y targed aros pedair awr ym mis Medi 2024, pa nodau penodol y mae Llywodraeth Cymru wedi'u rhoi ar waith i leihau amseroedd aros yn ystod misoedd y gaeaf? Pa ymyraethau sydd wedi'u cynllunio i fynd i'r afael ag oedi wrth ryddhau, prinder staff ac aneffeithlonrwydd mewn systemau brysbennu sy'n aml yn gwaethygu'r problemau a welwn yn ein hadrannau damweiniau ac achosion brys?

Hefyd, Ysgrifennydd Cabinet, datganodd gwasanaeth ambiwlans Cymru, fel y dywedoch chi, y digwyddiad critigol hwnnw ar 30 Rhagfyr. Mae'n tynnu sylw at yr heriau difrifol, gan gynnwys galwadau 999 cynyddol a'r oedi hir wrth drosglwyddo mewn adrannau damweiniau ac achosion brys. Pan dreuliais amser gyda nhw allan ar y rheng flaen ddydd Gwener diwethaf, a hefyd yn y ganolfan gyswllt ddoe, roedd yn eithaf trawiadol mewn gwirionedd eu clywed yn dweud y gallai pethau bach wneud cymaint o wahaniaeth. Pan oeddwn i yno, roedden nhw'n sôn am gael adnoddau ychwanegol, ymarferwyr meddygol uwch, mwy o feddygon teulu yn y gwasanaeth hwnnw, mwy o gymorth iechyd meddwl. Dywedon nhw pe bai modd rhoi hynny i mewn i'r gwasanaeth hwnnw, byddai'n lleihau nifer y bobl sydd angen ambiwlansys, a gallai mwy o bobl gael eu cadw gartref gyda phenderfyniadau clinigol uwch yn cael eu gwneud am ganlyniadau pobl ac i ble maen nhw'n mynd. Un peth rwyf eisiau sôn amdano yw'r camau sy'n cael eu cymryd gan y Llywodraeth i gefnogi llesiant staff ambiwlans a chanolfannau galw yn ystod y cyfnod hwn, oherwydd gwelais yn uniongyrchol y pwysau sydd arnynt. Byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn gwybod pa waith rydych chi'n ei wneud, Ysgrifennydd Cabinet, gyda gwasanaeth ambiwlans Cymru, i sicrhau bod staff yn cael eu cefnogi yn ystod y cyfnod hwn.

Rydym i gyd yn gwybod bod oedi wrth ryddhau ac argaeledd gwelyau yn un o'r problemau mawr. O ystyried yr her 50 diwrnod barhaus y mae Llywodraeth Cymru wedi'i chychwyn, sut mae byrddau iechyd yn addasu i'r fenter hon i fynd i'r afael â'r cyfnodau brig mewn derbyniadau i'r ysbyty sy'n cael eu hachosi gan heintiau anadlol? Hoffwn wybod pa ganlyniadau mesuradwy sy'n cael eu targedu o ran argaeledd gwelyau hefyd, ac effeithlonrwydd rhyddhau, a sut mae'r rhain yn cael eu monitro gan y Llywodraeth i sicrhau bod yr her 50 diwrnod yn cyflawni mewn gwirionedd. Oherwydd, fel y gwyddom i gyd yn y Siambr hon, os gallwch ddatrys y broblem o gael pobl allan drwy'r cefn ac i ofal cymdeithasol neu yn ôl i'w cartrefi, mae'n lleddfu'r pwysau ar y system gyfan ar draws y GIG. Nid gwyddoniaeth roced mohoni—dyna mae pawb wedi ei ddweud wrthyf i, ac rwy'n siŵr eu bod nhw'n dweud yr un peth wrthoch chi.

O ran cydnerthedd hirdymor y GIG, rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth y mae angen i ni ganolbwyntio arno fel y Senedd hon, oherwydd hoffwn wybod beth yw cynllun hirdymor Llywodraeth Cymru i adeiladu GIG mwy cydnerth, sy'n gallu cynnal ein staff, cynnal safonau, a chadw pobl yn ddiogel, oherwydd mae gennym yr heriau hyn sy'n digwydd dro ar ôl tro yn y gaeaf hefyd, sy'n ymddangos eu bod yn gwaethygu flwyddyn ar ôl blwyddyn, felly mae angen i ni gael y cynllun hirdymor hwnnw. Rwy'n gwybod bod y Prif Weinidog wedi dweud nad oes angen strategaethau ffansi arnom ni, ond rwy'n credu yn y gwasanaeth iechyd, rydyn ni wir angen y rheini, oherwydd, Ysgrifennydd Cabinet, nid wyf yn hoffi dweud hyn, ond mae ein GIG wedi torri. Mae ei staff ar eu gliniau, ac mae disgwyliadau cleifion o ran y GIG yn mynd yn fwy a mwy, ac mae'r galw yn mynd drwy'r to hefyd. Felly, hoffwn wybod beth yw'r cynllun hirdymor hwnnw, oherwydd mae angen i ni weld un yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach gennych chi.

Un mater rwyf eisiau ei godi, Ysgrifennydd Cabinet, gyda chi heddiw hefyd yw rhywbeth sydd wedi cyrraedd y newyddion yn lleol yn fy rhan i o'r byd, sy'n effeithio ar bob etholaeth ar y ffin. Mae'n ymwneud â Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn ystyried nifer o gamau gweithredu ddydd Gwener i arbed arian yn y system sydd ganddyn nhw yno nawr oherwydd eu diffyg yn y gyllideb, sydd hefyd yn cynnwys rhewi recriwtio, rhewi'r defnydd o staff asiantaeth, a gofyn i ddarparwyr iechyd Lloegr gadw cleifion Powys yn aros am fwy o amser am driniaeth ar gyfer llawdriniaeth ddewisol oherwydd nad oes ganddyn nhw ddigon o arian i dalu'r biliau, gan ei bod yn ymddangos bod llawdriniaethau yn Lloegr yn cael eu gwneud yn gynt nag yng Nghymru, ac maen nhw'n fwy effeithlon na darparwyr Cymru. Mae cleifion Powys eisoes yn teimlo fel dinasyddion eilradd oherwydd amseroedd aros hirach am driniaeth o'u cymharu â mewn ardaloedd eraill ledled y wlad, a bydd cynigion sy'n ymestyn amseroedd aros yn fwriadol dim ond yn dyfnhau'r problemau hynny. Rydyn ni eisoes wedi cael gwybod bod angen gofal amserol ar bobl, a'r hiraf maen nhw'n aros, mae hynny'n golygu'r mwyaf o weithiau maen nhw'n mynd i wasanaethau eraill—yn ôl at feddygon teulu, yn ôl i ffisiotherapi, yn ôl i adrannau damweiniau ac achosion brys, ffonio ambiwlansys am eu bod mewn poen. Felly, mae'r cynnig hwn, os caiff ei gyflwyno, yn mynd i greu mwy o broblemau i'r gwasanaeth iechyd, a'i wneud yn waeth.

Felly, Ysgrifennydd Cabinet, hoffwn ofyn i chi: pa gymorth ariannol y gallwch ei ddarparu i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys, a pha gamau pendant y gall Llywodraeth Cymru eu cyflwyno'n gynt yn hytrach nag yn hwyrach, i sicrhau nad oes gennym sefyllfa ym Mhowys a byrddau iechyd eraill a allai esgor ar yr un duedd ledled y wlad, na allwn anfon cleifion i Loegr, neu os ydyn nhw gyda darparwyr yn Lloegr y bydd yn rhaid iddyn nhw aros am fwy o amser, oherwydd bod y system yno yn fwy effeithlon na'r hyn sydd gennym yma yng Nghymru? Felly, hoffwn gael eich barn ar hynny, Ysgrifennydd Cabinet.

A gan nad oeddwn wedi agor gyda hyn, mae'n anrhydedd dod i'r briff iechyd hwn. Mae'n her fawr, rwy'n edrych ymlaen ati, a byddaf yn gweithio'n adeiladol gyda chi i geisio gwella canlyniadau iechyd i bobl Cymru. Diolch.

16:40

Diolch i James Evans, a chroeso i'r portffolio newydd. Rwy'n cytuno ag ef. Mae'n anrhydedd cael bod yn y portffolio iechyd a gofal cymdeithasol. Rwy'n ddiolchgar iddo am y ffordd bwyllog y gofynodd ei gwestiynau ar adeg anodd iawn i'r GIG ac yn amlwg i'r cyhoedd hefyd. Gofynnodd gyfres o gwestiynau pwysig. Fe geisiaf gynnwys cymaint ag y gallaf.

Rwy'n credu ei fod yn gofyn pa gamau a gymerwyd yn ddiweddar, mae'n debyg, i baratoi ar gyfer y pwysau penodol sy'n codi, o angenrheidrwydd efallai, yn ystod misoedd y gaeaf ond mae hynny wedi bod yn arbennig o heriol eleni. Yn ystod 2024, mae nifer o gamau pwysig iawn wedi'u cymryd. Mae'r GIG yn cynllunio ar gyfer y gaeaf yn gyson, yn amlwg, ond mae'n ceisio dysgu o brofiad y blynyddoedd blaenorol, ac roedd yn amlwg o'r llynedd mai'r rheswm mwyaf cyffredin a roddwyd bryd hynny, fel eleni, am alwadau coch i ambiwlansys yn benodol oedd anawsterau anadlu. Felly, roedd nifer o ymyraethau yn adlewyrchu hynny. Soniodd ei fod wedi bod i weld ymddiriedolaeth gwasanaeth ambiwlans Cymru a'u bod wedi siarad ag ef fel y maen nhw wedi siarad â mi, am y capsiti i barafeddygon ymarferwyr uwch allu gwneud mwy, sy'n galonogol iawn, a'r manteision cadarnhaol y maen nhw'n eu gweld o gapasiti mwy clinigol mewn brysbennu ac ati. Y rheswm pam eu bod wedi gallu dweud wrtho ef a minnau hynny yw oherwydd eu bod yn defnyddio cyllid yr oeddem wedi'i ddarparu i gyflogi mwy o'r bobl hynny, felly rydym yn gwybod ei fod yn gweithio.

Rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud mae'n debyg bod yr adnoddau yr oedd yr ymddiriedolaeth ambiwlans wedi'u rhoi o'r neilltu ar gyfer cyfnod y gaeaf eleni yn fwy na'r ddwy flynedd ddiwethaf. Felly, mae'r lefel adnoddau sy'n mynd i mewn i'r cyfnod heriol wedi bod yn lefel dda o adnoddau, rwy'n credu. O ran staffio yn benodol, darparwyd lefel dda o gapasiti. Felly, rwy'n credu bod y gwaith paratoi o ran adnoddau a staffio wedi bod yn effeithiol ac yn gadarn, ond mae'r cynnydd yn y galw wedi bod yn arbennig o heriol, hyd yn oed yn erbyn y cefndir hwnnw. Yn ogystal â hynny, cyfeiriodd at yr her 50 diwrnod. Mae hynny'n rhan hanfodol o sut y gallwn roi'r gwasanaeth ar sail fwy sefydlog yn gyffredinol. Mae'n amlwg ei bod yn arbennig o berthnasol adeg y Nadolig, felly mae honno'n fenter newydd i fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol weithio gyda'i gilydd.

Gofynnodd i mi mewn perthynas â hynny sut y gallem fod â hyder yn effeithiolrwydd neu fel arall yr ymyraethau sydd wedi'u rhoi ar waith. Felly, mae dau beth ar waith yno—ac rwy'n bwriadu gwneud datganiad pellach, fel yr ymrwymais i lefarydd Plaid Cymru ychydig wythnosau yn ôl y byddwn i'n ei wneud—yn gyntaf, mae gennym fonitro wythnosol gan y rhanbarthau sy'n edrych ar gynnydd wrth weithredu'r ymyraethau amrywiol, ac ar wahân mae gennym adroddiad misol o ran nifer y bobl sy'n aros i gael eu rhyddhau ac sy'n ffit ac yn barod i fynd adref. Felly, rydyn ni'n gwybod ein bod ni wedi mynd i mewn i fis Rhagfyr eleni—dydyn ni ddim eto wedi cyhoeddi ffigurau Rhagfyr; byddan nhw'n dod yn fuan—fe aethon ni i mewn i fis Rhagfyr gyda thuedd ar i lawr a ffigurau ar gyfer pobl sy'n aros yn yr ysbyty yn barod i'w rhyddhau yn is nag yr oedden nhw yn 2023. Felly, lefel gymedrol o gynnydd yno, ond cynnydd serch hynny. Yr hyn y byddaf nawr eisiau ei weld yw'r effaith ym mis Rhagfyr, ac yn hollbwysig, gan ein bod bellach yn dechrau ar gyfnod pan fydd rhyddhau cleifion yn dod yn arbennig o bwysig, i sicrhau bod y system honno'n gallu gweithio'n esmwyth. Does gen i ddim ffigurau ar gyfer hynny eto, ond rwy'n weddol hyderus y bydd y ffyrdd o weithio a ddatblygwyd yn ystod y cyfnod 50 diwrnod hwnnw o ddwyster, gan roi ffyrdd newydd o weithio ar waith, yn dwyn ffrwyth o ran y duedd dros amser. Felly, byddwn yn amlwg yn cyhoeddi'r ffigurau misol fel bod cyd-Aelodau yn gallu gweld beth ydyn nhw.

Gofynnodd i mi yn olaf—wel, yn olaf cyn iddo sôn am y pwynt am ei fwrdd iechyd lleol—beth oedd y cynllun tymor hir, ac rwy'n credu ei fod e'n gwneud pwynt teg, mae'r her honno yn y system eleni yn acíwt. Rydyn ni'n gweld pwysau'r gaeaf bob blwyddyn; y cwestiwn wedyn yw pam y maen nhw'n arbennig o acíwt. Ac rwy'n credu mai'r ateb anochel yw, pan fydd y system ei hun yn gweithredu ar lefel o bwysau, nid oes unrhyw slac yn y system, fel petai, i allu ymdrin â'r cynnydd hwn yn y galw. Felly, yr ateb hirdymor i hynny yw galluogi adrannau brys i weithredu'n fwy esmwyth. Rydym wedi sefydlu rhaglenni er mwyn gwneud hynny, wedi'u cefnogi gyda lefelau sylweddol o gyllid. Mae bwrdd iechyd Bae Abertawe, er enghraifft, wedi cael ychydig o wythnosau heriol, ac mae'n dal i gael ychydig o wythnosau heriol o ran derbyniadau. Maent wedi bod yn siarad â'r tîm Gwneud Pethau'n Iawn y Tro Cyntaf, y tîm GIRFT, sy'n edrych ar sut mae systemau'n gweithio ym mhob rhan o'r gwasanaeth iechyd, mewn gwirionedd, ond yn y cyd-destun hwn, yn yr adran argyfwng, ac yn gallu cynghori ar sut i wella ymarfer er mwyn sicrhau darpariaeth esmwythach. Felly, mae'r mathau hynny o fentrau ar y gweill, ond bydd hefyd yn gwybod ein bod yn adolygu'r dull a osodwyd gennym ar gyfer targedau galwadau coch ar gyfer ambiwlansys i sicrhau bod ambiwlansys ar gael i'r rhai sydd eu hangen fwyaf. Felly, mae amrywiaeth o ymyraethau yn y system sydd eisoes ar waith gyda chyllid, a phan fyddant yn dwyn ffrwyth, byddwn yn gallu gweld gostyngiad yn y pwysau hwnnw, ac yn y pen draw bydd hynny'n rhoi'r gwasanaeth ar sail fwy cydnerth.

Ei gwestiwn olaf—rwy'n gwybod y bydd eraill yn y Siambr gyda diddordeb yn hyn hefyd, Dirprwy Lywydd—siaradais â chadeirydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys cyn y Nadolig. Roeddem wedi darparu cyllid ychwanegol sylweddol yn yr wythnosau cyn y Nadolig. Nid oes gennyf y ffigurau o'm blaen, ond byddaf yn hapus i ysgrifennu at yr Aelod gyda'r ffigurau hynny. Gwelais hefyd yr hyn y mae'r bwrdd iechyd wedi'i gyhoeddi. Yn amlwg, mae angen i bob bwrdd iechyd allu cydbwyso eu cyllidebau. Nid yw hon yn elfen y gellir ei thrafod, ac felly'r hyn rwy'n gobeithio ei weld yw bod y bwrdd yn gallu gwneud penderfyniadau sy'n galluogi'r gyllideb i gael ei chydbwyso a hefyd i sicrhau bod pobl yn cael y gofal yn y ffordd amserol y maent ei hangen a'i haeddu.

16:45

Blwyddyn newydd dda i'r Ysgrifennydd Cabinet. Mae’r Nadolig a chalan yn adeg o lawenydd ac o ddathlu, ond i nifer mae’n gyfnod anodd, wrth i glefydau gael eu lledaenu, gan effeithio yn enwedig ar y mwyaf bregus, efo pobl yn disgyn, goryfed, heb sôn am unigrwydd a'r effeithiau ar iechyd meddwl pobl. Felly, mae pwysau gaeafol, felly, yn anochel. Mae'n digwydd bob blwyddyn, ac mae'n rhaid paratoi ar ei gyfer, ond mae’r pwysau’n cynyddu ac mae gallu ein gwasanaeth iechyd i ymdopi yn gwanhau. Roedd datganiad argyfwng y gwasanaeth ambiwlans yn dyst i'r pwysau anferthol yma rhai wythnosau yn ôl. Nid beirniadaeth mo hyn ar y staff ymroddedig sy'n parhau i gyflawni gwaith arwrol ymysg amodau anodd dros ben; yn hytrach, mae’n adlewyrchiad o record y Llywodraeth yma o danfuddsoddi yng nghapasiti’r ystad, a’r gamreolaeth cyson o'r adnoddau prin sydd gennym ni. Er enghraifft, dros y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi gweld cwymp sylweddol yn niferoedd gwelyau a bil cynnal a chadw’r ystad yn chwyddo i dros £1 biliwn, sydd yn amharu ar allu ein hysbytai i gydymffurfio â safonau atal a rheoli heintiau anadlol. Yn y cyfamser, mi ydyn ni hefyd wedi gweld erydiad difrifol yng nghapasiti gofal cynradd, yn enwedig o ran niferoedd meddygon teulu, sydd yn creu pwysau aruthrol i’r rheng flaen. Mae’r ffaith fod 99 y cant o feddygon teulu wedi pleidleisio i wrthod y cynnig tâl diweddaraf yn tanlinellu’r gagendor sy’n bodoli rhwng disgwyliadau rhesymol y gweithlu a’r gwerth y mae’r Llywodraeth yma yn ei roi ar y sector.

Mae’r ffaith fod y Llywodraeth yma yn ymateb yn adweithiol yn hytrach nag yn rhagweithiol yn llesteirio pethau ymhellach. Cafodd hyn ei amlygu gan y ffaith ein bod ni wedi gorfod aros tan ddiwedd mis Medi am gyhoeddiad modelu diweddaraf y Llywodraeth ar heintiau anadlol, a hynny dim ond ar ôl i fi ofyn am y wybodaeth yma mewn cwestiwn ysgrifenedig rhai wythnosau ynghynt. Tra dwi’n cydnabod bod y gwaith modelu yn parhau trwy gydol y flwyddyn, mae’n angenrheidiol bod y Llywodraeth yn barod i rannu’r wybodaeth yma yn rheolaidd ac yn brydlon er mwyn sicrhau dealltwriaeth a chydweithio effeithiol rhwng y byrddau iechyd, byrddau partneriaethau rhanbarthol ac awdurdodau lleol.

I droi at elfennau mwy penodol y fframwaith anadlol, dwi’n siŵr bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn ymwybodol, fel gwnaeth o sôn, fod yna ostyngiadau wedi eu gweld yn y lefelau brechu yn erbyn ffliw. Mae llai o bobl 65 oed a phobl fwy anghenus, ynghyd â llai o’r gweithlu iechyd wedi dewis cymryd y brechlyn ffliw eleni, o’i gymharu â’r flwyddyn gynt. Beth, felly, ydy dealltwriaeth yr Ysgrifennydd Cabinet o’r gostyngiadau ymysg y grwpiau penodol yma, ac ydy hyn yn gofyn am newid o ran y strategaeth i annog mwy o bobl i dderbyn y brechiad?

Ar yr un pwnc, dwi’n sylwi bod byrddau iechyd Caerdydd a’r Fro, Cwm Taf Morgannwg a Hywel Dda wedi cyflwyno rheolau dros yr wythnosau diwethaf o ran gwisgo mwgwd ymysg staff ac ymwelwyr. I ba raddau ydych chi, felly, wedi ystyried gwneud hyn yn orfodol ledled Cymru? Hefyd, a oes gennych chi bolisi cyfredol er mwyn sicrhau awyru yn ein hysbytai ni? Hynny yw, mae llawer o’r heintiau gaeafol yma yn rhai sydd yn cael eu lledaenu yn yr ysbytai, ac yn fwy felly pan fo ysbytai yn llawn. Felly, pryd fedrwn ni ddisgwyl diweddariad ar bolisi nosocomial y Llywodraeth?

Rydyn ni hefyd yn gwybod, wrth gwrs, fod polisi Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol o dorri lwfans y tanwydd gaeaf yn mynd i fod wedi ei gwneud hi’n anos i bobl ariannol fregus wresogi eu tai. Pa waith modelu, felly, sydd wedi cael ei wneud er mwyn deall effaith hyn yn well, a faint o adnoddau ychwanegol fydd eu hangen er mwyn ymdopi â’r cynnydd o ran yr heintiau anadlol ac ymweliadau ysbytai a ddaw yn sgil hyn?

Mae cwympiadau a thorri esgyrn yn ddigwyddiadau mynych yn y gaeaf, yn enwedig ymhlith pob hŷn, a hynny’n rhannol oherwydd methiant rhai i gymryd y meddyginiaethau cywir, neu’r dos cywir o feddyginiaeth. Mae Prifysgol Abertawe, o dan yr Athro Sue Jordan, wedi gwneud gwaith clodwiw yn datblygu’r rhaglen ADRe, er mwyn sicrhau bod pobl yn deall eu meddyginiaethau yn well ac atal pethau fel cwymp yn sgil meddyginiaethau anghywir. Ydy’r Ysgrifennydd Cabinet yn ymwybodol o’r cynllun ADRe ac a ydy o’n fodlon cyfarfod gyda fi a’r Athro Sue Jordan er mwyn trafod y cynllun a allai helpu nifer fawr o bobl wrth symud ymlaen? Diolch.

16:50

Diolch i Mabon ap Gwynfor am y cwestiynau hynny. Roedd e’n ceisio gwahaniaethu rhwng ffyrdd rhagweithiol a ffyrdd adweithiol o fynd i’r afael â heriau pwysau yn y gaeaf. Beth rwyf i’n credu y gwelson ni dros y flwyddyn ddiwethaf oedd Llywodraeth yn gweithredu yn rhagweithiol iawn i fynd i’r afael â dysgu gwersi o'r llynedd a’r flwyddyn cynt, felly mwy o adnoddau i wasanaethau ambiwlans, mwy o adnoddau i adrannau brys, mwy o ganllawiau ar sut i fynd i’r afael â diheintio, mwy o ganllawiau i fynd i’r afael â sut ŷn ni’n trosglwyddo o’r gwasanaeth ambiwlans i ysbytai, a mwy o gefnogaeth i fyrddau iechyd a llywodraeth leol i gydweithio i roi gwasanaethau cwymp yn eu lle. Felly, ar bob un o’r mesurau yma, roedd camau penodol iawn wedi eu cymryd yn sgil yr hyn wnaethon ni ei ddysgu'r llynedd. Felly, rwy’n credu, o ran paratoadau ar gyfer y cyfnod, roedd y paratoadau yn rhai sylweddol iawn, ond roedd yr her sydd wedi dod yn sgil y surge yn y galw yn sgil heintiau o ran ffliw ac ati yn uchel iawn hefyd.

O ran brechiad a sut ŷch chi'n mynd ati i sicrhau bod pobl yn cymryd mantais o argaeledd y brechlyn, mae hwn yn rhywbeth sydd yn gyson o dan drosolwg, a dweud y gwir, oherwydd mae'n rhaid inni ymateb i batrymau ymwybyddiaeth pobl o le mae negeseuon yn dod: ydyn nhw'n dod o Weinidogion, o gyrff cyhoeddus, o fyrddau iechyd eu hunain? Ac mae llawer o dystiolaeth sy'n dangos gwahanol fathau o ymateb i wahanol fathau o negeseuon. Felly, rŷn ni'n edrych yn gyson, a dweud y gwir, ar sut gallwn ni addasu'r negeseuon i sicrhau eu bod nhw'n cyrraedd y nod. Rwy'n credu bod y darlun wedi bod yn un, yn anffodus, sydd yn ehangach na Chymru, ac mae Llywodraethau'n cymryd gwahanol initiatives er mwyn ceisio annog pobl i gymryd y brechlyn. Felly, byddwn ni'n sicr yn ceisio dysgu gwersi o brofiad y cyfnod hwn, yn y ffordd rŷn ni'n gyson yn ceisio'i wneud.

O ran polisi diheintio a pholisi awyru ac ati, mae'r dystiolaeth rŷn ni'n seilio ein polisïau arni yn gyhoeddus eisoes, yn hynny o beth. Fe wnaeth yr Aelod sôn am y fframwaith y gwnaethon ni ei gyhoeddi ym mis Medi; mae elfen o hwnnw'n delio gyda hynny hefyd.

Gwnaeth e ofyn cwestiwn ynglŷn ag a oedd tystiolaeth o oed y rheini, efallai, oedd yn dod i mewn i'r ysbytai gydag anhwylder anadlu. Yr hyn rŷn ni'n gwybod cyn belled yw bod oed y rheini sydd mewn ICU gyda heintiau anadlu ar hyn o bryd yn tueddu tua'r ieuengaf yn hytrach na'r hynaf. Felly, dyna'r dystiolaeth sydd eisoes gyda ni, sy'n awgrymu mai un o'r strains o ffliw sydd, os hoffech chi, yn ymosod ar y bobl ieuengaf yn hytrach na'r rhai hŷn sydd ar waith yma. Ond dyw'r dystiolaeth ddim yn gwbl glir eto, ond dyna'r darlun sy'n ymddangos i fod yn iawn.

Fe wnaeth e bwynt pwysig yn y diwedd o ran gwasanaethau cwymp. Rŷn ni yn gweld mwy a mwy o hyn yn cael ei sefydlu gan fyrddau iechyd. Mae e'n rhan o'r cynllun 50 diwrnod i edrych ar beth mwy y gallwn ni ei wneud yn y maes yma. Rwy'n credu ei fod e'n rhan o'r ffordd bwysig iawn o sicrhau gwasanaethau yn y gymuned, yn y cartref, fel ein bod ni'n gallu osgoi pobl yn cael eu cludo i'r ysbyty.

16:55

Fel y dywedoch chi yn eich datganiad, mae pwysau gaeaf y GIG yn cael eu gwaethygu gan lawer o bethau, ond roeddwn i eisiau canolbwyntio ar ddau faes. Fe wnaeth Mabon ap Gwynfor godi'r pryderon hyn hefyd ynghylch y nifer sy'n derbyn brechlyn y ffliw. Rydym yn gwybod mai dim ond 27 y cant o staff y GIG sydd wedi derbyn y brechlyn hwnnw, felly rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn eich bod yn edrych ar arfer gorau i weld beth arall y gellir ei wneud i annog pobl i gael y brechlyn. Rwy'n credu hefyd fod angen i bobl gymryd cyfrifoldeb, ac os ydyn nhw'n cael cynnig y brechlyn, yn amlwg dylen nhw ei gael i amddiffyn eu hunain a'u hanwyliaid, yn ogystal â'n GIG. Rwy'n gwerthfawrogi bod gennych chi adnoddau iechyd cyfyngedig, ond tybed a fyddech chi'n edrych ar ehangu'r grwpiau sy'n cael cynnig y brechlyn. Felly, er enghraifft, a fyddech chi'n edrych ar bobl dros 55 oed yn cael y cyfle i gael pigiad ffliw am ddim hefyd? Rwy'n gwerthfawrogi y byddech chi'n ceisio cyngor gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu hefyd, ond byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn clywed eich barn ar hynny.

Y maes arall yw llif cleifion gwael, ac rydym yn gwybod beth sy'n achosi hynny. Felly, wrth i chi fynd i'r afael â chyllideb y flwyddyn nesaf, rwy'n credu ei bod yn hanfodol iawn nad gofal sylfaenol yn unig sy'n gweld cynnydd yn ei gyllideb, ond gofal cymdeithasol a gofal eilaidd hefyd.

Diolch i Lesley Griffiths am y cwestiynau hynny. Rwy'n rhannu ei syndod, rwy'n credu, ynghylch lefelau'r nifer sy'n derbyn y brechlyn ymhlith staff, ac maen nhw dipyn yn is na rhai y llynedd, hyd yn oed, felly rwy'n credu bod rhywbeth y mae angen i ni fynd i'r afael ag ef yn sicr, ac rydym am sicrhau bod y sgwrs yn un sy'n gefnogol ac yn galluogi pobl i wneud y dewis cywir, ar gyfer eu hunain a'r cleifion y maen nhw'n gofalu amdanynt. Felly, byddaf eisiau edrych, dros yr wythnosau nesaf, ar beth arall y gallwn ni ei wneud, gan weithio gydag undebau llafur a byrddau iechyd i geisio annog mwy o bobl i gael y brechlyn, yn amlwg eleni, ond yn benodol, ar hyn o bryd, ar gyfer y flwyddyn nesaf, a deall, rwy'n credu, yn well nag yr ydym ni'n ei wneud, beth yw'r rhwystrau craidd i'w gael ymhlith pobl sy'n aml yn treulio eu hamser yn rhoi brechiadau a meddyginiaethau i bobl eraill. Felly, mae'n gwestiwn eithaf cymhleth, ond mae angen i ni ddeall hynny. Ac rwy'n credu bod hynny'n effeithio ar yr wythnosau i ddod, lle gall salwch staff ei hun achosi pwysau yn y system, oni all?

Yr ail bwynt a wnaethoch chi—. Byddwn ni, yn amlwg, yn derbyn cyngor gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu, fel yr amlygodd yr Aelod, ond rwy'n credu, os yw'r patrymau y cyfeiriais i atyn nhw yn fy ymateb i Mabon ap Gwynfor yn cael eu cadarnhau, byddaf am ddeall a oes achos dros ehangu'r garfan, yn anad dim oherwydd y pwysau y gall ei greu ar y system. Felly, bydd hynny'n rhywbeth y byddaf yn ei godi.

Rwy'n credu bod y pwynt mae hi'n ei wneud am—. Ac mae hi'n cydnabod y pwysau cyllidebol rydyn ni'n amlwg yn ei wynebu ar draws y Llywodraeth, ond rwy'n credu ei bod yn hollbwysig, wrth gwrs—. Rwyf wedi sôn llawer heddiw am yr her 50 diwrnod a'r llwybrau gofal sydd wedi'u hoedi; mae hwn yn faes lle mae'r cysylltiad dwfn rhwng y gwasanaeth gofal cymdeithasol a'r gwasanaeth iechyd ar ei fwyaf amlwg, mae'n ymddangos i mi, ac felly rwy'n credu bod achos i ni wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi'r gwasanaeth gofal cymdeithasol hefyd, gan weithio gyda'n gilydd, wrth gwrs, gyda'r Ysgrifennydd Cabinet dros lywodraeth leol, a fy nghyd-Aelod, y Gweinidog gofal cymdeithasol. 

17:00

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ysgrifennydd Cabinet, ym Mhowys, does dim ysbytai cyffredinol ardal, fel y gwyddoch chi; mae 60 y cant o fy etholwyr i yn derbyn eu triniaeth gan ysbytai dros y ffin yn Lloegr. Nawr, heddiw, mae wedi datgelu bod bwrdd iechyd Powys yn cynnig gofyn i ddarparwyr yn Lloegr beidio â gweld cleifion yn rhy gyflym, oherwydd nad ydyn nhw'n gallu fforddio talu. Ni allaf gredu fy mod i'n dweud hyn mewn gwirionedd. Mae'n sefyllfa chwerthinllyd i fod ynddi y gallai cleifion o Gymru fod yn eistedd yn yr un ysbyty, yn cael eu gweld gan yr un gweithwyr iechyd proffesiynol, ond nad ydyn nhw'n cael eu gweld mor gyflym â chleifion o Loegr. 

Nawr, fe ddywedoch chi yn gynharach bod yn rhaid i fyrddau iechyd fantoli eu llyfrau. Rwy'n deall hynny, ond y sefyllfa ym Mhowys yw nad ydyn nhw'n mynd i fantoli eu llyfrau. Mae hynny'n hollol glir. Siawns bod yn rhaid i chi ymyrryd. A gaf i ofyn i chi: a wnewch chi, cyn cyfarfod bwrdd bwrdd iechyd Powys ddydd Gwener, gytuno i gyfarfod â chadeirydd y bwrdd iechyd ac estyn allan ato a dweud, 'Beth sydd angen digwydd fel nad yw'r penderfyniad hwn yr ydych yn ei gynnig yn digwydd?' Oherwydd, ni all fod yn wir nad yw cleifion ym Mhowys yn cael eu gweld am resymau ariannol, ac nid angen. Rwy'n gwybod, Ysgrifennydd Cabinet, eich bod yn dweud eich bod am wneud popeth y gallwch chi—mae'n un o'ch prif flaenoriaethau—i leihau amseroedd aros am driniaeth. Mae hon yn sefyllfa lle mae triniaeth ar gael ychydig filltiroedd i fyny'r ffordd. Ni all fod yn benderfyniad ariannol, a byddwn yn gofyn i chi ymyrryd â'r bwrdd iechyd ar frys yn ystod y dyddiau nesaf.

Wel, fel y dywedais i yn fy ateb i James Evans, rwyf eisoes wedi siarad â chadeirydd y bwrdd iechyd ynghylch y cwestiwn hwn, ac, ar yr un pryd, rwyf wedi sicrhau bod cyllid ar gael i'r bwrdd iechyd, fel y soniais i yn fy ateb cynharach. Mae'n rhaid i'r bwrdd iechyd wneud dau beth: mae'n rhaid iddo fantoli ei lyfrau, ac mae'n rhaid iddo ddarparu gofal amserol i drigolion Powys. Mae'n aml yn heriol iawn gwneud hynny, ond, yn amlwg, dyna'r hyn y mae angen i bob bwrdd iechyd yng Nghymru ei wneud, ac nid yw Powys yn wahanol yn hynny o beth.

7. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: Grŵp Gorchwyl a Gorffen Gwynt ar y Môr

Eitem 7 heddiw yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, grŵp gorchwyl a gorffen gwynt ar y môr. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Rebecca Evans.

Diolch. Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi ymrwymo i greu swyddi a thwf gwyrdd i sicrhau bod teuluoedd yng Nghymru yn fwy ffyniannus ac i helpu gyda chostau byw. Rydym hefyd yn Llywodraeth sy'n gwrando ar bryderon pobl yng Nghymru, a thrwy wrando arnynt, mae'r Prif Weinidog wedi nodi blaenoriaethau'r Llywodraeth hon a sut y byddwn yn cyflawni ar ran pobl Cymru.

Yn hanfodol i economi gynaliadwy yng Nghymru mae darparu swyddi a thwf gwyrdd. Mae Cymru eisoes wedi chwarae rhan sylweddol yn y gwaith o ddarparu gwynt ar y môr sefydlog yn y DU. Roedd yr aráe gyntaf o wynt ar y môr oddi ar arfordir y gogledd. Mae hyn wedi helpu i sefydlu canolfan economaidd trwy borthladd Mostyn sydd wedi bod yn rhan annatod o adeiladu, gweithredu a chynnal y prosiectau gwynt ar y môr sefydlog hyn oddi ar arfordir gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr. Dros amser, mae'r prosiectau hyn wedi darparu cyfleoedd i'r gweithlu lleol, ond rydym yn cydnabod bod angen gwneud mwy i wireddu ein gweledigaeth ar gyfer economi Cymru yn y dyfodol.

Rydym wedi nodi mwy na 15 GW o brosiectau gwynt ar y môr sy'n cael eu datblygu, prosiectau gwynt sy'n cael eu datblygu o amgylch ein harfordir. Mae'r prosiectau hyn wedi'u gwasgaru ar draws dyfroedd Cymru, Lloegr ac Iwerddon ac mae disgwyl iddynt fod yn weithredol erbyn diwedd y 2030au. Mae'r cyfleoedd i Gymru yn enfawr, ac mae'r grŵp gorchwyl a gorffen gwynt ar y môr rwy'n ei gyhoeddi heddiw wedi'i greu i'n helpu ni, gyda'u harbenigedd, i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd hyn. Er mwyn gwneud hyn, mae'n hanfodol ein bod yn deall y cyfleoedd cywir. Y bwriad yw y bydd y grŵp hwn yn darparu'r cyfeiriad hwnnw er mwyn i ni allu denu gwerth economaidd parhaol.

Mae gennym weledigaeth ar gyfer gwynt ar y môr sy'n cefnogi diogelwch ynni'r DU ac sy'n creu swyddi ar gyfer y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau'r dyfodol yng Nghymru. Yn ôl adroddiad diweddaraf 'Cyflwr y Sector' gan Ynni Morol Cymru, mae gwynt ar y môr arnofiol eisoes wedi darparu £21.2 miliwn i economi Cymru ac mae disgwyl iddo dyfu'n sylweddol oherwydd datblygiad y prosiectau profi ac arddangos yn y môr Celtaidd a phiblinell fasnachol fwy yn cael ei chadarnhau gan Ystad y Goron.

Nododd adroddiad 'Celtic Sea Blueprint' Ystad y Goron y gallai cyflwyno'r tair fferm wynt ar y môr fasnachol gyntaf yn y môr Celtaidd ddarparu £1.4 biliwn y flwyddyn i economi'r DU a chynnal mwy na 5,000 o swyddi dros bum mlynedd. Rwyf am i ni nodi a chanolbwyntio ar y meysydd blaenoriaeth a fydd yn dod â'r budd mwyaf i bobl a busnesau yng Nghymru. Er enghraifft, rwyf am i'r porthladdoedd yng Nghymru arwain integreiddio a chydosod, gan geisio cyfleoedd gweithgynhyrchu realistig a gweithredu fel canolfannau ar gyfer gweithrediadau a chynnal a chadw parhaus.

Er mwyn denu gwerth economaidd parhaol, mae angen i ni sefydlu a chefnogi'r gadwyn gyflenwi weithgynhyrchu o amgylch ystod realistig o feysydd cyraeddadwy y bydd datblygwyr gwynt ar y môr yn disgwyl i Gymru eu cyflenwi. Rydym hefyd yn cydnabod bod cadwyni cyflenwi gwynt sefydlog ac arnofiol ar lefelau gwahanol o aeddfedrwydd a chyfleoedd. O safbwynt gwynt ar y môr sefydlog, credwn y gallwn ddarparu ystod o atebion integreiddio a chydosod i'r sector, ynghyd â gweithrediadau parhaus a chymorth cynnal a chadw. Yna, o'r ochr gwynt ar y môr arnofiol, byddwn yn canolbwyntio ar ddefnyddio cryfderau Cymru, gan ddal rhannau o'r gadwyn gyflenwi sy'n datblygu, gan gynnwys systemau sylfaen arnofiol ac is-adeileddau dur. Mae gan Gymru rai cryfderau amlwg, gan gynnwys defnyddio dur gwyrdd a allai gefnogi dyfodol cynaliadwy newydd i Bort Talbot, a defnyddio cynhyrchion rebar o Gaerdydd.

Mae'r holl waith hwn yn cael ei ategu gan gefnogi'r cyfleoedd cywir, a thrwy fod â'r sgiliau cywir a datblygu'r gweithlu i gefnogi'r gweithgaredd newydd. Mae hyblygrwydd hefyd yn hanfodol, oherwydd ar hyn o bryd nid ydym yn hollol sicr pa dechnolegau sy'n dod i'r amlwg a fydd yn cael eu defnyddio yn y môr Celtaidd. Gallaf eich sicrhau chi nawr na fydd y grŵp hwn yn cynhyrchu adroddiad arall ar y cyfleoedd lefel uchel na'r heriau i Gymru. Bydd yn canolbwyntio ar gamau clir y mae angen eu cymryd ar draws y sectorau perthnasol a'r holl randdeiliaid yn economi Cymru i wireddu'r cyfle ac i oresgyn yr heriau. Bydd hyn yn cael ei arwain gan arweinwyr sector perthnasol a bydd yn cael ei gefnogi gan arbenigwyr o bob rhan o ddiwydiannau a chyrff arweiniol.

Mae gennym ddealltwriaeth dda eisoes o lawer o'r cyfleoedd ledled Cymru a sut mae'r rhain yn cyd-fynd â gweithgarwch mewn mannau eraill yn y DU. Gan weithio drwy'r rhaglen ynni morol, y Gynghrair Ynni ar y Môr a Chlwstwr y môr Celtaidd, rydym wedi bod yn datblygu ein dealltwriaeth o sut allai llwyddiant edrych i Gymru. Rydym hefyd wedi ymgysylltu'n weithredol â datblygwyr prosiect a'r cyflenwyr haen 1 gweithredol a chwmnïau peirianneg, caffael, adeiladu a gosod i wirio ein dealltwriaeth o'r cyfle. Y bwriad yw sicrhau bod y gwaith hyd yma yn gynhwysfawr, a bod llinellau amser clir wedi'u cynnwys i'r grŵp gorchwyl a gorffen brofi'r safbwynt hwn, a chytuno ar raddfa'r cyfle i Gymru lywio'r gwaith o ddatblygu'r cynllun gweithredu.

Mae hefyd yn caniatáu i ni rannu gwybodaeth â Llywodraeth y DU o ran camau gweithredu ar gyfer 'Cynllun Gweithredu Pŵer Glân 2030' a thu hwnt. Mae llwyddiant y pedwar cwmni o Gymru yng nghyflymydd cadwyn gyflenwi Ystad y Goron yn amlygu'r potensial sydd gennym eisoes o ran cefnogi'r gwaith o gyflawni prosiectau ynni adnewyddadwy, a fydd yn ei dro yn cefnogi'r broses o gyflenwi gwynt arnofiol. Bydd y meysydd allweddol y bydd angen i'r grŵp gorchwyl a gorffen eu hystyried wrth ddatblygu'r cynllun gweithredu yn cynnwys yr amserlen ar gyfer darparu cyfleoedd prydlesu presennol ac yn y dyfodol dan arweiniad proses brydlesu Ystad y Goron a thrywydd gwynt ar y môr. O'r amserlen honno, gallwn ddeall y llif o gyfleoedd buddsoddi gan y datblygwyr sy'n cynnig am brydlesau. Bydd hyn yn llywio'r cynllun gweithredu ar gyfer maint cyfle economaidd Cymru. Yn ganolog i'r cyfle i Gymru fydd y porthladdoedd a'r gofynion buddsoddi a datblygu i sicrhau'r cyfle buddsoddi yn ein cymunedau. Ac yn olaf, bydd angen i ni gryfhau ein dealltwriaeth o'r sgiliau penodol a gofynion y gweithlu.

Bydd y grŵp gorchwyl a gorffen yn cydlynu'r gwaith ar draws sectorau i ddatblygu cynllun cyffredinol, gan gydnabod y cydberthnasau rhwng sectorau. Mae gennym gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i gefnogi miloedd o swyddi yng Nghymru ac i dyfu ein heconomi ar gyfer y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau'r dyfodol. Rydym yn gwybod bod gan Gymru rôl allweddol wrth ysgogi pŵer glân a diogelwch ynni, a bydd y grŵp gorchwyl a gorffen hwn yn creu'r cynllun i gyflawni ein gweledigaeth ar gyfer ein heconomi ac adfywio llawer o'n cymunedau. 

17:10

Diolch i chi, Ysgrifennydd Cabinet, am eich datganiad cynhwysfawr y prynhawn yma, oherwydd mae'n fodd amserol o'n hatgoffa o'r potensial aruthrol a'r heriau dybryd sy'n wynebu sector ynni adnewyddadwy Cymru. Mae cyhoeddi'r grŵp gorchwyl a gorffen i'w groesawu'n sicr, yn enwedig o ystyried arbenigedd ei aelodau, ac rwy'n diolch i chi am ei rannu cyn eich datganiad y prynhawn yma. 

Mae eich cydnabyddiaeth o rôl arloesol Cymru ym maes gwynt ar y môr sefydlog, yn enwedig trwy borthladd Mostyn, yn galonogol. Fodd bynnag, mae'r diffyg twf mewn capasiti gwynt ar y môr ers 2016 yn amlygu materion systemig y mae'n rhaid mynd i'r afael â nhw ar frys. Mae adroddiad diweddar y Pwyllgor Newid Hinsawdd yn tanlinellu'r brys hwn, gan nodi nad yw Cymru ar y trywydd iawn i gyflawni ei nodau sero net. Mae'r uchelgais i gyflawni 15 GW o brosiectau gwynt ar y môr erbyn y 2030au yn ganmoladwy ond mae'r llwybr presennol yn awgrymu risgiau sylweddol o dangyflawni heb gamau gweithredu pendant. Byddwn hefyd yn gofyn a allai'r Ysgrifennydd Cabinet ddarparu dadansoddiad o'r gigawatiau ar gyfer gwynt ar y môr sefydlog a'r gigawatiau ar gyfer gwynt ar y môr arnofiol.

Roeddech chi'n sôn y bydd y grŵp gorchwyl a gorffen yn canolbwyntio ar gamau gweithredu clir yn hytrach na chynhyrchu adroddiad arall eto. Mae hyn yn galonogol iawn. Fodd bynnag, hoffwn ddeall sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu goresgyn y rhwystrau parhaus, yn enwedig oedi cynllunio a chyfyngiadau capasiti'r grid sydd wedi rhwystro cynnydd hyd yn hyn. Mae honiad RenewableUK Cymru bod y ffactorau hyn yn mygu cylchoedd datblygu yn frawychus o wir, gyda'r penderfyniadau ar ffermydd gwynt sy'n gallu pweru 170,000 o aelwydydd yn dal i gael eu gohirio. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, sut ydych chi'n bwriadu hwyluso'r prosesau hyn a lleihau aneffeithlonrwydd? 

Mae eich gweledigaeth i borthladdoedd Cymru arwain integreiddio a chydosod, yn ogystal â'ch pwyslais ar systemau sylfaen arnofiol a dur gwyrdd, yn cyd-fynd yn dda â chryfderau naturiol a diwydiannol Cymru. Yn wir, rydym wedi trafod porthladdoedd y prynhawn yma eisoes gyda'r Ysgrifennydd Cabinet dros drafnidiaeth, ond wrth i chi dynnu sylw at botensial economaidd gwynt ar y môr, gan gynnwys £1.4 biliwn bob blwyddyn i economi'r DU a miloedd o swyddi, y cwestiwn dybryd o hyd yw sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y buddion hyn yn cael eu gwireddu'n ymarferol? Nid yw bod â'r rhifau hyn wedi'u hysgrifennu mewn datganiadau o unrhyw werth pan fydd cymunedau'n cael eu gadael ar ôl a ffyniant yn llithro oddi wrthynt oherwydd nad yw'r cyfleoedd hyn yn cael eu gwireddu, oherwydd mae gan y porthladd rhydd Celtaidd a phorthladd rhydd Ynys Môn addewid mawr, ond mae angen gweithredu cyflym a chydlynol i fynd i'r afael â bylchau mewn seilwaith a chadwyni cyflenwi a bylchau mewn sgiliau.

Mae eich ymrwymiad i hyblygrwydd mewn technolegau sy'n dod i'r amlwg yn ddoeth ond rhaid i strategaeth gwynt ar y môr gadarn, sefydlog ac arnofiol, hefyd gynnwys mesurau uniongyrchol i gryfhau'r system gynllunio ac uwchraddio seilwaith y grid, fel yr wyf wedi sôn. Mae cynyddu capasiti penderfyniadau cynllunio ac amgylcheddol yng Nghymru yn hanfodol er mwyn cyrraedd targedau uchelgeisiol 100 y cant o drydan adnewyddadwy erbyn 2035, ond, Ysgrifennydd Cabinet, pa gamau penodol sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r tagfeydd hyn, yn enwedig o ran uwchraddio'r grid a diwygio cynllunio? 

Yn olaf, rwy'n croesawu eich cydnabyddiaeth o'r angen i ddatblygu gweithlu medrus. Dylid blaenoriaethu sioeau teithiol a llwybrau clir i bobl ifanc i'r gweithlu ynni morol, oherwydd rwyf wedi dweud erioed ei bod yn anodd iawn i'r gweithlu hwn ddychmygu'r technolegau hyn yn y dyfodol, dychmygu gwynt ar y môr arnofiol, pan nad ydyn nhw eto wedi gweld sut olwg sydd ar faes gwynt ar y môr arnofiol. Ac rwy'n gwybod bod Blue Gem Wind wedi defnyddio deallusrwydd artiffisial a chlustffonau, realiti estynedig, i ddangos maint a graddfa'r rhain, ond weithiau mae'n anodd rhesymoli'r cyfleoedd i bobl ifanc sydd ond yn mynd drwy'r system addysg nawr, ac nid yw'r diwydiannau hyn yn hygyrch eto. Felly, pa fentrau y mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi ynddynt i sicrhau bod creu swyddi yn cyd-fynd â graddfa ac amserlen ar y prosiectau hyn? Oherwydd, o ran sgiliau, byddwn hefyd yn gofyn, o ran y rhai sydd ar y grŵp gorchwyl a gorffen, pam nad yw Barry Walters, pennaeth Coleg Sir Benfro, wedi cael ei gynnwys? Wrth i chi bwysleisio pwysigrwydd datblygu'r gweithlu'n briodol, mae Coleg Sir Benfro yn sefydliad allweddol wrth hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o weithwyr medrus ar gyfer y chwyldro ynni gwyrdd. Yn wir, mae Shell UK wedi—. Rwy'n siŵr eich bod chi wedi gweld y ganolfan pontio sgiliau; rydych chi'n nodio, Ysgrifennydd Cabinet. Mae Coleg Sir Benfro ar flaen y gad yn hyn o beth, felly mae'r ffaith nad ydynt yn rhan o hyn, naill ai fel camgymeriad neu—. Mae angen mynd i'r afael ag ef, oherwydd maen nhw'n cyflawni eisoes ymhell uwchlaw'r hyn sy'n ofynnol ganddyn nhw, ac o ystyried eu hagosrwydd at y môr Celtaidd, byddwn i'n dweud y dylen nhw fod ar y rhestr honno.

Mae'r cyfleoedd i Gymru ym maes gwynt ar y môr ac ynni adnewyddadwy ehangach yn wirioneddol aruthrol, fel rydych chi wedi amlinellu, ac rydych chi a minnau wedi trafod yn breifat nifer o weithiau. Fodd bynnag, mae'n rhaid paru uchelgais â gweithredu. Gallai cydweithio, fel tîm adnewyddadwy pedair gwlad, ddarparu'r dull cydgysylltiedig sydd ei angen i oresgyn heriau a rennir. A yw hyn yn rhywbeth y byddech chi'n ystyried ei ddilyn gyda Llywodraeth y DU?

I gloi, mae'r weledigaeth rydych chi wedi'i nodi yn ganmoladwy, ac rwy'n ei chroesawu, ond mae'r angen am gamau pendant yn hollbwysig. Drwy fynd i'r afael â rhwystrau cynllunio, buddsoddi mewn seilwaith a meithrin gweithlu domestig medrus, gall Cymru arwain yn wirioneddol wrth drosglwyddo i ddyfodol gwyrddach a mwy cynaliadwy, gan ddod â ffyniant yn ôl i'r cymunedau yr ydym yn eu cynrychioli. Diolch, Dirprwy Lywydd.

17:15

Rwy'n ddiolchgar iawn i Sam Kurtz am y cwestiynau hynny y prynhawn yma, ac rwy'n gwybod ei fod hefyd yn rhannu angerdd go iawn a gwirioneddol dros yr agenda benodol hon, a diddordeb gwirioneddol yn hyn hefyd. Wrth gwrs, rwy'n awyddus i weithio gyda'r holl gydweithwyr sy'n angerddol am ynni adnewyddadwy, ac yn enwedig y cyfleoedd y mae ynni adnewyddadwy yn eu cynnig i'n heconomi'n ehangach. Cyfeiriodd Sam Kurtz at y potensial aruthrol sydd yn y maes hwn, ac rwy'n cytuno'n llwyr ag ef ar hynny.

O ran y brys hwnnw y soniodd amdano, rwy'n credu bod rownd ddiweddaraf y contractau ar gyfer gwahaniaeth wedi bod yn gam enfawr ymlaen o ran dull Llywodraeth y DU. Mae Llywodraeth newydd y DU wedi cynyddu'r gronfa ariannu, gan alluogi dod â 8 GW o brosiectau newydd i'r farchnad. Wrth gwrs, rwy'n credu bod angen i ni barhau i wneud mwy i gyflymu'r broses gyflenwi a sicrhau bod ymrwymiadau cryfach i ddatblygu'r gadwyn gyflenwi yn y maes hwnnw, ond bydd bonws y diwydiant glân, rwy'n credu, yn bwysig iawn.

Hoffwn hefyd weld pot o arian yn cael ei glustnodi ar gyfer y prosiectau profi ac arddangos. Rwy'n credu y bydd hynny'n helpu i hybu hyder yn y sector, a gallai roi mwy o hyder ar gyfer dechrau'r gadwyn gyflenwi benodol honno hefyd. Rwyf wedi trafod y pwynt penodol hwnnw gyda Gweinidog Llywodraeth y DU, Michael Shanks, pan gefais drafodaeth gydag ef ar 'Gynllun Gweithredu Pŵer Glân 2030'. Ac rwy'n falch, wrth gwrs, ein bod ni wedi cydsynio prosiect profi ac arddangos ym mhrosiect Erebus, ac rwy'n gobeithio y gellir datblygu perchnogaeth y cynllun, fel y gall wneud cais am gylchoedd contractau ar gyfer gwahaniaeth yn y dyfodol.

Rwy'n credu bod y pwynt am yr angen i wella cyflymder y cynllunio wedi'i wneud yn dda iawn. Mae'n rhywbeth y mae'r Prif Weinidog wedi'i nodi fel un o'i phrif flaenoriaethau. Rwy'n falch fy mod, hyd yn oed ers i mi ddod i'r swydd ychydig fisoedd yn ôl, wedi gallu cytuno ar ddatblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol a fydd yn pweru 150,000 o gartrefi yng Nghymru. Felly, rydym yn gwneud cynnydd gwirioneddol nawr o ran pa mor gyflym y gallwn ni wneud y penderfyniadau hynny. Bydd cyd-Aelodau yn ymwybodol, yn ddiweddar, fy mod wedi cyhoeddi ymgynghoriad sy'n edrych ar gamau y gallwn ni eu cymryd i gyflymu'r broses gynllunio ymhellach.

Yn ddiweddar, rwyf wedi lansio ymgynghoriad ar adennill costau llawn i awdurdodau lleol, a fydd yn bwysig er mwyn rhoi mwy o fynediad i awdurdodau lleol at adnoddau i gryfhau eu hadrannau cynllunio, y gwyddom eu bod dan bwysau ac wedi bod yn gweithredu â llai o adnoddau yn ddiweddar. Mae rhan o'r gwaith hefyd yn cynnwys sgyrsiau fel y rhai a gefais yr wythnos hon ochr yn ochr ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai gyda'n cydweithwyr yn y cyd-bwyllgorau corfforedig. Bydd hynny'n ymwneud â sut rydym yn manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd sy'n ymwneud â gweithio rhanbarthol, er mwyn sicrhau bod modd rhannu'r meysydd arbenigol iawn hynny o adnoddau cynllunio ar draws rhanbarthau er mwyn caniatáu mynediad i'r math o wybodaeth a chyngor sydd eu hangen ar awdurdodau lleol i wneud penderfyniadau.

Ac, wrth gwrs, rwyf hefyd wedi dirprwyo penderfyniadau i arolygwyr ar gyfer y prosiectau hynny hyd at 50 MW, felly, yn gymharol fach o'i gymharu â'r hyn yr ydym yn sôn amdano yma o ran y cyfleoedd mawr ar gyfer gwynt ar y môr. Mae'r rheiny wedi eu dirprwyo i arolygwyr er mwyn dileu tua thri mis o'r holl broses penderfyniad cynllunio. Felly, yn sicr, mae llawer o gamau gweithredu yr ydym yn eu cymryd, a byddwch yn gweld, gobeithio, y cyllid ychwanegol ar gyfer cynllunio o fewn y gyllideb ddrafft hefyd, ac unwaith eto, rwy'n gobeithio y byddai cyd-Aelodau yn ceisio manteisio ar y cyfle i gefnogi hynny.

Mae'r heriau sy'n ymwneud â'r grid, rwy'n credu, unwaith eto'n cael eu cydnabod yn dda iawn gennym ni a chan Lywodraeth y DU. Yn amlwg, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau sero net, ond rydym yn cydnabod y bydd hynny'n gofyn am rai newidiadau mawr i'r system ynni ac i'r seilwaith sy'n cefnogi hynny. Roedd ein hadroddiadau 'Gridiau Ynni'r Dyfodol i Gymru' yn 2023 yn archwilio llwybrau ar gyfer y system ynni yn y dyfodol, er mwyn deall beth allai hynny ei olygu i gridiau trydan yma yng Nghymru. Buom yn gweithio'n agos iawn gyda'r Gweithredwr System Ynni Cenedlaethol, ac rydym yn croesawu'r cynlluniau y mae'n eu nodi ar gyfer dull mwy strategol o ymdrin â'r system grid ym Mhrydain. Mae'r cynllun rhwydwaith strategol canolog arfaethedig yn rhoi cyfle i fod â dull wedi'i gynllunio'n well ar gyfer y grid, gan ystyried anghenion y dyfodol yn hytrach nag ymateb i brosiectau unigol ac anghenion datblygwyr unigol dros amser yn unig. Felly, unwaith eto, rwy'n credu bod hwnnw'n ddatblygiad newydd pwysig.

Ac unwaith eto, rwy'n cytuno'n llwyr â'r holl bwyntiau pwysig ynghylch sgiliau a pham mae'n bwysig ein bod yn deall beth fydd y llif o weithgarwch ac yna sicrhau bod gennym y bobl fedrus ar gael. Ar argymhelliad Sam Kurtz, ymwelais â chanolfan pontio sgiliau Shell yn sir Benfro. Ymwelais ochr yn ochr â'm cyd-Aelod Vikki Howells a Joyce Watson hefyd, ac mae dweud ein bod wedi ein plesio gan yr hyn a welsom yn danddatganiad enfawr, ac nid yn unig gan y cit a'r dysgu a oedd yn digwydd yno, ond mewn gwirionedd gan y bobl ifanc eu hunain a'r brwdfrydedd llwyr yr oedd ganddyn nhw am y cyfleoedd y bydd ynni adnewyddadwy yn eu darparu ar eu cyfer yn y dyfodol.

O ran aelodaeth y grŵp ei hun, bydd y grŵp yn arddel dull a arweinir gan y sector, felly bydd arweinwyr sector unigol yn eistedd ar y grŵp gorchwyl a gorffen, ond yna bydd yr arweinwyr sector hynny'n mynd allan ac yn ymgynghori'n ehangach â'r rhai o fewn eu maes arbenigedd. Paul Flanagan, pennaeth Coleg Llandrillo, fydd yr arweinydd sector ar gyfer sgiliau, ond rwy'n gwybod y bydd yn ceisio ymgynghori ac ymgysylltu â Choleg Sir Benfro i sicrhau bod y dysgu a'r arbenigedd trawiadol sydd ganddyn nhw yno hefyd yn cael eu hystyried fel rhan o'n dull o ymdrin â sgiliau yng ngwaith y grŵp gorchwyl a gorffen.

17:20

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am y datganiad. Mae'n ddatganiad positif. 

Rwy'n credu bod hwn yn edrych fel datganiad cadarnhaol, ac rwy'n edrych ymlaen nawr at weld llif gwaith y grŵp gorchwyl a gorffen yn datblygu dros y blynyddoedd nesaf. Nid oes angen i mi ailadrodd pa mor bwysig yw hi ein bod yn cael hyn yn iawn. Roedd Sam Kurtz yn iawn: mae hwn yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth. Rwy'n croesawu'r grŵp gorchwyl a gorffen, ond serch hynny, byddwn yn gofyn i'r Llywodraeth ochel rhag bod yn anweithredol o bosibl o ran lle mae angen i ni fod o ran gwynt ar y môr dros y blynyddoedd nesaf, oherwydd mae'n brosiect y mae angen i bawb gymryd rhan weithredol ynddo i raddau helaeth, ond rwy'n gwybod bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn sensitif i hynny.

Mae nifer o rwystrau i'w goresgyn ac rydym wedi clywed rhai ohonyn nhw nawr: cynllunio a chapasiti'r grid. Ond pe bawn i'n gallu cymryd eiliad dim ond i edrych ar barodrwydd cyffredinol porthladdoedd, ac yn enwedig wrth feddwl am y flaenoriaeth a nodwyd gan yr Ysgrifennydd Cabinet o ran gweithgynhyrchu, a chlywais y cyfeiriad at ddur gwyrdd, felly a allwn i gymryd o hynny, neu dybio o hynny, fod sgyrsiau wedi dechrau nawr gyda Tata ym Mhort Talbot ynghylch y potensial ar gyfer melin dur plât? Oherwydd wrth feddwl yn ôl i'r dystiolaeth a gawsom ym Mhwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, roedd Tata yn eithaf clir, fel y mae pethau ar hyn o bryd, nad yw'r capasiti i gymryd rhan mewn gwynt ar y môr yno ym Mhort Talbot. Mae'n ofynnol bod â melin dur plât, ond y broblem yna, wrth gwrs, yw nad yw'r galw am ddur plât yno chwaith, felly byddai angen rhyw fath o ymyrraeth gan y Llywodraeth. Felly, byddwn yn croesawu unrhyw feddyliau gan yr Ysgrifennydd Cabinet ar hynny ac a yw'r sgyrsiau hynny o leiaf wedi dechrau nawr.

Oherwydd un peth sydd wedi'i wneud yn glir i mi gan randdeiliaid yn y sector ynni yw'r mater hwn sy'n ymwneud â pharodrwydd porthladdoedd, gweithgynhyrchu a chapasiti yn ein porthladdoedd. Un peth yr ydym wedi'i weld yw bod buddsoddiadau'n cael eu gwneud mewn porthladdoedd yn Ewrop, boed hynny yn Ffrainc, yr Iseldiroedd, neu hyd yn oed yn Sbaen, lle mae gweithgynhyrchu mawr o dyrbinau gwynt ar y môr eisoes yn digwydd. Un o'r ofnau y gwnaethon nhw ei gyfleu i mi, ac un o'r ofnau yr wyf i yn eu rhannu â nhw mewn gwirionedd, yw y gallem ni weld y buddsoddiadau y dylid eu gwneud yng Nghymru yn cael eu gwneud mewn mannau eraill, ac felly'r manteision economaidd yn osgoi ein cymunedau a bod yn Ewrop, boed hynny, unwaith eto, yn Ffrainc, yr Iseldiroedd neu Sbaen. Felly, byddwn yn croesawu rhywfaint o newyddion gan yr Ysgrifennydd Cabinet ar sut y bydd y grŵp gorchwyl a gorffen yn canolbwyntio'n arbennig ar y rhan weithgynhyrchu o hyn. Oherwydd os na chawn ni hyn yn iawn, yna bydd yr holl fudd economaidd yr ydym wedi sôn amdano, yr holl botensial yr ydym wedi sôn amdano yn cael ei golli, ac unwaith eto byddwn yn gweld economi echdynnol yng Nghymru nad yw o fudd i'n cymunedau.

17:25

Rwy'n ddiolchgar iawn i Luke Fletcher am ei sylwadau ac, unwaith eto, mae'n gyd-Aelod yr wyf yn gwybod sy'n rhannu gwir angerdd am yr agenda benodol hon ac yn gweld y cyfleoedd i ni yma yng Nghymru. Rwy'n credu bod eich cyfeiriad at y ffaith bod 'angen i bawb gymryd rhan weithredol' yn hollol gywir, yn yr ystyr bod hon mewn gwirionedd yn agenda lle mae cymaint o wahanol bartneriaid a phartïon yn cymryd rhan, ond mae angen i ni i gyd ddeall beth yw ein rolau penodol. Un o rolau'r grŵp gorchwyl a gorffen hwn yw nodi, os mynnwch chi, y trywydd hwnnw ynghylch pa bartneriaid sydd angen bod yn gwneud yr hyn y mae angen iddyn nhw fod yn ei wneud ar ba adegau er mwyn gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd sydd ar gael i ni. Rwy'n credu mai un o'r rolau penodol y gall Llywodraeth Cymru ymgymryd â hi, yn enwedig yn y cyfnod cynnar hwn, yw rhoi hyder—hyder i fuddsoddwyr, hyder i fusnesau, hyder i'r gadwyn gyflenwi ar gyfer y dyfodol hefyd. Ac rwy'n gwbl barod am yr her honno, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y bydd y grŵp, unwaith eto, yn gallu ein cynghori arno, o ran gallu gwneud yn siŵr ein bod yn rhoi ein hymdrechion lle byddan nhw'n cael yr effaith fwyaf.

Rydym hefyd yn gwybod, er mwyn datgloi'r cyfleoedd cyflogaeth gwerth uchel ychwanegol hynny, yr wyf yn gwybod bod y ddau ohonom eisiau eu gweld, bod yn rhaid i ni sicrhau bod seilwaith porthladdoedd yn addas i'r diben ac yn cynnig yr ateb o un pen i'r llall hwnnw ar gyfer datblygwyr prosiectau. Gwnaethom drafod yn benodol y mathau o weithgynhyrchu gwerth uchel, gwasanaethau technegol a gweithgareddau gweithredu a chynnal a chadw y gellid eu cynnal ar draws pob porthladd a'r ardaloedd cyfagos, felly rydym wedi bod yn cael y trafodaethau hynny gyda phartneriaid.

Rydym yn gwybod y bydd strategaeth aml-borthladd hefyd yn bwysig o ran cyflwyno prosiectau gwynt ar y môr o amgylch arfordir Cymru, felly mae gennym y rhaglen ynni morol. Mae honno'n fenter drawslywodraethol sy'n gweithio'n agos gyda'n prif weithredwyr porthladdoedd yng Nghymru a datblygwyr prosiectau i ddeall yn llawn yr hyn sy'n ofynnol ac, wrth gwrs, lle gall Llywodraeth Cymru wneud y gwahaniaeth mwyaf. Ac fel enghraifft o'n dull gweithredu, mae'r rhaglen ynni morol wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r ddau brif weithredwr porthladdoedd yn y de-orllewin i hwyluso'r trafodaethau ynghylch meysydd o ddarparu posibl. Rydym hefyd wedi darparu cymorth cam cynnar i'r ddau borthladd ar ffurf cyllid cyfatebol o £1 filiwn o gyllid cyfalaf i rannu'r risg o gamau cynnar y datblygiad, gan gynnwys, er enghraifft, cydsynio, gorchmynion diwygio harbwr, a gwaith dylunio cynnar ac ymchwiliadau hefyd. Ac, wrth gwrs, mae gennym ni dir Llywodraeth Cymru ym Maglan hefyd, a allai, unwaith eto, ddarparu adnodd cwbl hanfodol i ni yn y dyfodol wrth i ni geisio datblygu, drwy'r cyfleoedd hyn. Felly, mae gwaith yn mynd rhagddo i archwilio pa waith adfer fydd ei angen ar gyfer y tir hwnnw hefyd. Felly, mae llawer o waith da yn digwydd gyda'r porthladdoedd, ac rwy'n credu bod hynny'n hollbwysig.

O ran y cyfleoedd am ddur, wel, y prynhawn yma, yn union cyn y datganiad hwn, roeddwn i yng nghyngor dur Llywodraeth y DU. Felly, dyna oedd cyfarfod cyntaf y cyngor dur newydd, a chefais gyfle o fewn hynny i sôn am y cyfleoedd wrth edrych i'r dyfodol, o ran gwynt ar y môr arnofiol, ond gwynt ar y môr yn fwy cyffredinol, a gwneud yn siŵr bod y cyfleoedd hynny yno i'r diwydiant dur yma yng Nghymru fanteisio arnyn nhw. Mae hwnnw'n ddarn o waith y mae angen i ni ei wneud i ddeall sut y gallwn fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd hynny i'n gwneuthurwyr dur yng Nghymru hefyd. Felly, dim ond i'ch sicrhau bod hynny'n sicr yn rhan o'r sgwrs yr ydym yn ei chael.

Ac fel rhan o'r cyngor dur, wrth gwrs, roedd Tata yno fel cynrychiolydd hefyd. Ac rwy'n gwybod yr oedd y ddau ohonom ym mwrdd pontio Tata ychydig cyn y Nadolig, a chawsom gyfle i feddwl am yr hyn sydd ei angen o ran ymateb i'r cyfnod pontio yn Tata, er mwyn manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd i bobl sy'n gweithio yn yr ardal leol hefyd. Felly, dim ond i sicrhau cyd-Aelodau, er bod heddiw yn ymwneud â grŵp gorchwyl a gorffen, gan edrych, mae'n debyg, i'r cyfleoedd tymor canolig i dymor hirach hynny, rydym yn ymwybodol iawn o'r heriau uniongyrchol hefyd.

Roeddwn i'n falch o fod yn agoriad uned beirianneg Coleg Llandrillo, lle maen nhw'n cynnal a chadw tyrbinau gwynt ac yn gweithio gydag RWE, y llynedd. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi helpu i ariannu'r uned honno hefyd, ac mae hynny i'w groesawu'n fawr ar gyfer y Rhyl. Rwyf hefyd wedi ymweld â phorthladd Mostyn, sy'n hynod bwysig. Rwy'n gwybod, yn amodol ar gynllunio, y gallen nhw fod â'r gallu i gael tyrbinau gwynt mwy yn mynd oddi yno hefyd—capasiti nad oes ganddyn nhw efallai yn Iwerddon, hyd yn oed. Felly, rwy'n gwybod ei fod yn bwysig i fusnesau edrych ar y maes hwnnw.

Ar ymweliad â'r pwyllgor i Iwerddon, clywsom am gebl ynni yn mynd o Iwerddon i Gymru fel y byddai yna lwyth sylfaenol rhwng y ddau, yn dibynnu ar ble mae'r gwynt yn chwythu, sy'n ddiddorol iawn i mi. Gallwn ddefnyddio ynni gwynt ar gyfer llwyth sylfaenol hefyd wedyn, gan ei rannu rhwng Iwerddon a Chymru. Pan roeddwn i yn y coleg, yn siarad gyda RWE, roedden nhw'n dweud bod angen miloedd o brentisiaid arnyn nhw, yn y bôn—llawer. Felly, rwyf am wybod sut y mae Llywodraeth Cymru, gyda'r cynllun gweithredu sgiliau sero net, yn helpu i lywio gofynion o ran sgiliau ar gyfer y prosiectau hyn, a gweithio gydag RWE ac eraill hefyd, gan greu cwricwla, fel yr un yng ngholeg y Rhyl. Diolch.

17:30

Diolch yn fawr iawn am y cwestiynau hynny. Mae'n wych clywed am y profiad ymarferol rydych chi wedi bod yn ei gael yn lleol, gweld y gwahaniaeth y mae ynni gwynt yn ei ddarparu, o ran cyfleoedd cyflogaeth i bobl ar hyn o bryd, ond wedyn fel bod pobl ifanc yn gallu gweld y cyfleoedd a fydd yn bodoli iddyn nhw yn y dyfodol hefyd.

O ran sgiliau, mae gennym drywyddau sgiliau'r sector ynni glân drafft, ac mae hynny'n cynnwys rhai prosiectau allweddol, gofynion sgiliau a rhagolygon maint y gweithlu ar gyfer sectorau sy'n gysylltiedig ag ynni glân. Maen nhw wedi'u datblygu ond maen nhw'n ddarostyngedig ar hyn o bryd i rai prosesau gwirio data. Felly, rydym yn bwriadu cyhoeddi'r rhain. Does gen i ddim dyddiad ar eu cyfer eto nes bod y ffigurau hynny wedi cael eu profi ac rydym yn hyderus bod yr hyn sydd wedi'i gynhyrchu yn gadarn. Ond eto, dim ond i dawelu meddyliau cyd-Aelodau bod y gwaith hwnnw'n mynd rhagddo o ran cwmpasu beth allai'r gofynion sgiliau fod ar gyfer amrywiol brosiectau ynni glân yn y dyfodol.

Roedd gen i ddiddordeb mawr yn y cyfeiriadau hefyd at Iwerddon, a'r cyfleoedd ym Môr Iwerddon. Cawsom sgwrs dda iawn yn y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn ddiweddar. Roedd gennym bwyslais ar ynni yn y cyfarfod penodol hwnnw. Roedd yr awydd hwnnw i gydweithio yn gryf iawn yn y cyfarfod hwnnw, o ran pryd yr oeddem yn archwilio ffyrdd y gallwn gydweithio a dysgu oddi wrth ein gilydd, ond yna hefyd y math o arbenigedd y gallwn ni ei rannu yn y maes hwn hefyd. Rwy'n credu bod hwn yn bendant yn faes lle rydym yn deall fel grŵp drwy'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig beth yw'r heriau, ond rydym yn awyddus iawn i gydweithio hefyd, a oedd yn galonogol iawn.

Rwy'n croesawu'r datganiad heddiw, wrth gwrs, ar ble rwy'n byw. Rydych yn cyfeirio at biblinell o dros 15 GW o brosiectau gwynt ar y môr y bwriedir eu datblygu yng Nghymru, a hefyd yn Iwerddon a Lloegr. Rydym i gyd yn gwybod y bydd yn sicrhau budd economaidd ond hefyd gyfleoedd enfawr i uwchsgilio gweithluoedd presennol a hyfforddi'r rhai sy'n dod drwodd. Gwelsom hynny—y tri ohonom—yng Ngholeg Sir Benfro, pan oedden ni yno dim ond y diwrnod o'r blaen. Roeddwn i'n eithaf cenfigennus o'r holl offer oedd ganddyn nhw. Ac roedd yn wych, oherwydd o fewn hynny roedd llawer o noddwyr o'r sector ynni yn noddi'r disgyblion hynny ac yn ymgysylltu â nhw ac yn sicrhau eu bod ar flaen y gad. Roedd e'n gwbl wych.

Ond mae'n debyg mai'r cwestiwn go iawn yma yw a ydych chi'n gallu darparu unrhyw wybodaeth bellach am yr hyn y mae'r prosiectau penodol yn mynd i'w olygu, yn ogystal â'r holl bethau eraill sydd wedi'u trafod. A beth fyddai'n allweddol yma, wrth gwrs, yw hyn: rydych chi'n dweud bod y porthladdoedd yn mynd i arwain yr integreiddio, ond sut mae integreiddio'r cynigion hyn yn mynd i gyd-fynd â'r cynlluniau presennol sydd gennym, efallai ar gyfer porthladdoedd rhydd, a llwybrau eraill y gallwn eu harchwilio? Oherwydd, mae'n amlwg ein bod ni ar drothwy'r trydydd chwyldro diwydiannol ac mae'n rhaid gwneud unrhyw beth y gallwn ni i achub ar y cyfle hwnnw. Rwy'n cytuno hefyd, o ran gweithgynhyrchu, na allwn golli'r cyfleoedd. Rydym eisoes wedi disgyn ar ei hôl hi—

17:35

Diolch. Roedd yn wych bod yng Ngholeg Sir Benfro ochr yn ochr â Joyce Watson a gweld pa mor frwdfrydig oedd y bobl ifanc am y cyfleoedd sydd ar gael iddynt, ond yna hefyd pa mor uchel eu parch yr oedden nhw'n teimlo o ran gallu dysgu mewn amgylchedd mor rhagorol gyda chit mor ardderchog ar gael iddynt. Roedd yn galonogol iawn, yr amser a dreulion ni yn y coleg. 

Roedd gen i ddiddordeb mawr yn y cyfeiriad at y trydydd chwyldro diwydiannol. Rwy'n credu bod hynny wir yn cyfleu pwysigrwydd pontio teg, oherwydd unwaith eto, wrth feddwl yn ôl i'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, cawsom drafodaeth dda iawn yno am sut mae Cymru yn y gorffennol wedi wynebu pontio annheg o ran symud i ffwrdd oddi wrth danwydd ffosil, yn enwedig glo, a'r hyn y mae hynny wedi ei olygu i'n cymunedau yng Nghymru, ac na allwn ni wynebu pontio annheg arall. Dyna pam y bydd edrych ar yr agenda sgiliau gyfan a'r cyfleoedd trwy'r prosiectau eu hunain ond hefyd drwy'r cadwyni cyflenwi yn gwbl hanfodol i sicrhau ein bod yn cadw cymaint o'r gwerth a'r cyfle ag y gallwn ni yma yng Nghymru. Mae'r gwaith prentisiaeth, rwy'n credu, yn un ffordd y gallwn wneud hynny.

Mae'r ymrwymiadau yr ydym wedi'u gwneud drwy ein cyfrifon dysgu personol wedi helpu pobl i uwchsgilio. Ond rhan o hynny, yn bwysig iawn, fu cyfrifon dysgu personol gwyrdd, ac mae hynny wedi ymwneud â llenwi bylchau sgiliau sero net ym maes adeiladu, yr wyf yn gwybod bod Joyce Watson yn arbennig o angerddol amdano, yn ogystal ag ynni, gweithgynhyrchu a pheirianneg. Mae'r cap cyflog wedi'i ddileu ar gyfer yr elfen honno er mwyn caniatáu i fwy o bobl gael mynediad at y sgiliau a'r cymwysterau sero net hyn. Hyd yn hyn, mae bron i 1,900 o bobl wedi defnyddio cyfrifon dysgu personol gwyrdd ym mlwyddyn academaidd 2023-24, yn ôl ffigurau dros dro. Ond bydd gennym rai ffigurau terfynol ar gyfer hynny. Felly, mae hynny'n gadarnhaol iawn o ran pobl yn gweld y cyfleoedd sy'n bodoli iddyn nhw eu hunain a'u teuluoedd o ran gwella sgiliau i gwrdd â'r anghenion hynny ar gyfer y dyfodol.

Unwaith eto, rwy'n credu y bydd gwaith porthladdoedd rhydd yn bwysig iawn. Rydym yn falch iawn yng Nghymru bod ein dull o ymdrin â phorthladdoedd rhydd gyda Llywodraeth flaenorol y DU wedi ein galluogi i drafod gwaith teg ac amodau amgylcheddol fel rhan o'n cynnig. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth bresennol y DU yn edrych ar hynny'n ehangach nawr ar gyfer ei dull o ymdrin â phorthladdoedd rhydd. Ond bydd porthladdoedd rhydd yn sicr, rwy'n credu, yn chwarae rhan bwysig yn ein stori yn y dyfodol ar gyfer gwynt ar y môr arnofiol a gwynt ar y môr sefydlog hefyd. 

Rwy'n cytuno â siaradwyr blaenorol bod hwn yn ddatblygiad hynod bwysig ac yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth, ond mae angen i ni sicrhau ein bod yn cael pethau'n iawn. Fel y dywedodd Luke Fletcher, mae angen i ni gadw ein llygad ar y bêl yma. Yn eich datganiad, fe wnaethoch chi sôn am bedwar sefydliad o Gymru yn cymryd rhan yn rownd gyntaf y cyflymydd cadwyn gyflenwi. Nid yw yn y datganiad, ond rwy'n tybio mai'r pedwar oedd Marine Power Systems, wedi'u lleoli yn Abertawe, grŵp colegau Castell-nedd Port Talbot, Coleg Sir Benfro, ac yna'r pedwerydd un yr oedd wedi'i nodi gennyf oedd Tugdock, ond maen nhw wedi'u lleoli yng Nghernyw. Felly, pwy yw'r pedwar sefydliad hyn? Oherwydd, mae'n gwbl hanfodol nad ydym yn ailadrodd yr hyn a ddigwyddodd gyda'r diwydiant glo, lle aeth yr holl elw i rywle arall.

Yr ail yw'r hyn sydd eisoes wedi'i wneud o ran datblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnom. Bron i flwyddyn yn ôl dywedodd rheolwr gyfarwyddwr morol Ystad y Goron ei fod yn gyfle anhygoel, ond os ydym am wneud y gorau o'r newid i ynni adnewyddadwy, rhaid i ni fod ar y droed flaen, gan weithredu nawr i ddatblygu'r gallu, y sgiliau a'r seilwaith sydd eu hangen ar y gadwyn gyflenwi. Roedd hynny yn ôl ym mis Chwefror. Beth sydd wedi'i wneud eisoes, neu a yw'n wir y buom yn aros am y grŵp gorchwyl a gorffen hwn i sicrhau bod y sgiliau hyn yn cael eu datblygu nawr? Oherwydd, rydym yn gwybod y bydd angen llawer iawn o weldio a'r gallu i drin concrit yn gywir iddo aros ar ei draed yn y gwynt ar y môr. 

Y trydydd peth yw—

Buom yn trafod y materion cynllunio yma; beth yw rôl Deddf Seilwaith (Cymru) 2024 wrth sicrhau bod y penderfyniadau cynllunio hyn yn mynd i gael eu gwneud mewn modd amserol, o gofio, os na fyddwch yn gwneud penderfyniad o fewn chwe mis, y bydd yn rhaid i chi ddod yma ac egluro eich hun?

17:40

Diolch yn fawr iawn am y cwestiynau hynny. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwynt bod hwn yn gyfle enfawr ac mae angen i ni ei gael yn iawn yn sicr.

Dylwn i ddweud o ran sgiliau nad ydym yn aros i'r grŵp gorchwyl a gorffen hwn ddarparu'r hyn sydd ei angen arnom o gwbl. Soniais i mewn ymateb i gyfrannwr blaenorol fod gennym ein trywyddau sgiliau sector ynni glân drafft. Pan fyddwn ni'n gallu cyhoeddi'r rheini, bydd hynny'n cynnwys mwy o fanylion am y prosiectau allweddol y gwyddom sydd ar y gweill a pha sgiliau sydd eu hangen i allu cyflawni a chynnal y prosiectau hynny. Rwy'n credu y bydd hynny'n ddefnyddiol iawn.

Ond hyd yn oed cyn hynny, rydym wedi anelu ein cyfrifon dysgu personol tuag at yr agenda werdd a'r sgiliau sero net. Roeddwn i'n gallu dweud ychydig mwy am hynny yn yr ymateb i Joyce Watson. Ond dylwn i hefyd sôn am ein helfen sgiliau sero net o fewn y rhaglen sgiliau hyblyg hirsefydlog. Mae hynny yno i gefnogi cyflogwyr i uwchsgilio staff i ddiwallu anghenion economi'r dyfodol. Mae'n grant hyfforddi; mae ar gael i bob cyflogwr yng Nghymru sydd am brynu cyrsiau i gyflawni amcanion uwchsgilio. Byddwn yn darparu 50 y cant tuag at y costau hyfforddi.

Yna mae'n cynnwys rhai rhaglenni penodol i gefnogi bylchau mewn sgiliau yn y sector peirianneg a gweithgynhyrchu, yn ogystal â datblygu sgiliau i helpu i fynd i'r afael â heriau sero net, ymhlith meysydd eraill. Yn y cyfleoedd yr ydym yn eu darparu, boed yn gyfrifon dysgu personol, y rhaglen sgiliau hyblyg neu ein rhaglen brentisiaethau, rydym yn sicrhau bod pob un o'r rheini'n ymroi tuag at y cyfleoedd sy'n bodoli yn y gofod ynni gwyrdd.

O ran y Ddeddf seilwaith, mae honno'n mynd i fod yn allweddol iawn wrth gyflymu'r broses o wneud penderfyniadau, oherwydd mae'n symleiddio'r broses ganiatáu; mae'n llawer mwy clir nawr ar y wybodaeth y bydd datblygwyr ei hangen ac ar ba bryd. Ochr yn ochr â'r buddsoddiad yr ydym yn ei wneud yn y proffesiwn cynllunio, bydd hynny, rwy'n siŵr, yn cyflymu'r amser y mae'n ei gymryd i benderfyniadau gael eu gwneud ar y prosiectau seilwaith mawr hynny, sy'n gadarnhaol iawn.

Ac ar y pwynt gwreiddiol a wnaeth Jenny Rathbone o ran y sefydliadau, byddaf yn ysgrifennu i roi eglurder ar y pwynt hwnnw.

8. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg: Technoleg a’r Gymraeg

Mae eitem 8 wedi ei gyhoeddi fel datganiad ysgrifenedig, ac felly daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch yn fawr.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:42.