Y Cyfarfod Llawn
Plenary
27/11/2024Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio sydd gyntaf y prynhawn yma, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Russell George.
1. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo Dydd Sadwrn Busnesau Bach yn sir Drefaldwyn? OQ61946
Microfusnesau a busnesau bach yw 98.4 y cant o'r holl fusnesau yng Nghymru ac maent yn anadl einioes i'n cymunedau. Fel erioed, mae Llywodraeth Cymru yn parhau'n ymrwymedig i gefnogi microfusnesau a busnesau bach, a bydd yn mynd ati i hyrwyddo Dydd Sadwrn y Busnesau Bach drwy sianeli digidol Busnes Cymru.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet, ac wrth gwrs, mae'n bwysig iawn ein bod i gyd yn cefnogi ein siopau bach ac annibynnol, yn enwedig yn y cyfnod cyn y Nadolig, a byddaf yn gwneud popeth yn fy ngallu i annog pobl i ystyried siopa'n lleol yn y cyfnod cyn y Nadolig. Nawr, rwyf wedi bod yn ymweld â siopau ar draws fy etholaeth—y siopau bach annibynnol yn y Drenewydd, y Trallwng, Llanfyllin. Llanidloes—rwy'n mynd i ymweld â siopau yno ddydd Gwener. Ddydd Sadwrn diwethaf, fe ymwelais â siopau ym Machynlleth a dywedodd un perchennog siop wrthyf eu bod yn teimlo'r wasgfa ym mhob ffordd ar hyn o bryd. Un yn arbennig yw bod pryder gan rai busnesau sy'n cyflogi nifer bach o bobl ynghylch y cynnydd yng nghyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr, a'r wasgfa arall arnynt yw ardrethi busnes a'r cynnig llai deniadol nag a fu yn y blynyddoedd blaenorol. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, wrth imi barhau i ymweld â busnesau bach yn fy etholaeth, pa wybodaeth gadarnhaol y gallwch ei rhoi i mi i'w throsglwyddo i'r busnesau hynny i'w hannog wrth iddynt feddwl am eu busnesau yn y dyfodol?
Wel, rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn ac am y cyfle i dynnu sylw at Ddydd Sadwrn y Busnesau Bach ac rwy'n annog pob cyd-Aelod i'w ddathlu, fel y gwn eich bod chi wedi ei wneud—rwyf wedi bod yn dilyn eich anturiaethau ar y cyfryngau cymdeithasol a'ch dechrau cynnar ar eich siopa Nadolig yn y Drenewydd hefyd. Felly, yn hollol, rwy'n gobeithio y bydd pob cyd-Aelod yn dilyn eich esiampl ragorol yn hynny o beth.
Cafwyd amodau masnachu anodd i fusnesau bach yn ddiweddar gyda chostau byw, ac effaith chwyddiant wrth gwrs. Ond i gyfeirio'n benodol at y cyfraniadau yswiriant gwladol, dangosodd dadansoddiad Llywodraeth y DU, o ganlyniad i'r holl fesurau yn y gyllideb, na fydd 865,000 o fusnesau'r DU yn talu unrhyw gyfraniadau yswiriant gwladol o gwbl a bydd mwy na hanner holl rwymedigaethau cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr naill ai'n golygu na fydd unrhyw newid neu y byddant ar eu hennill at ei gilydd y flwyddyn nesaf. Felly, rwy'n credu bod hynny wedi'i golli yn y ddadl a gafwyd ar y cyfraniad yswiriant gwladol.
O'n rhan ni, serch hynny, rydym yn canolbwyntio ar ddefnyddio'r dulliau sydd gennym at ein defnydd i gefnogi busnesau bach a microfusnesau yma yng Nghymru. Yn amlwg, rwy'n tynnu sylw at Fanc Datblygu Cymru a'r gwaith gwych sy'n digwydd yno, yn enwedig drwy'r gronfa microfenthyciadau, sy'n cefnogi dros 280 o fusnesau gwahanol y flwyddyn gyda dros £8 miliwn o gyllid microfenthyciadau rhwng £1,000 a £50,000.
Ac wrth gwrs, mae gwaith Busnes Cymru yn allweddol hefyd. Rydym yn gwybod bod busnesau, pan fyddant yn dechrau, os ydynt yn troi at Busnes Cymru ac yn ceisio cymorth, eu bod ddwywaith yn fwy tebygol o fod yn dal i fasnachu bum mlynedd yn ddiweddarach, ac rwy'n credu bod hynny'n dweud rhywbeth am werth y cynnig Busnes Cymru sydd gennym yma yng Nghymru. Felly, os yw busnesau'n ei chael hi'n anodd ar hyn o bryd neu'n ystyried sut y gallant ehangu a thyfu, rwy'n eu hannog i siarad â chynghorydd Busnes Cymru.
2. Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o'r effaith y mae'r cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr wedi'i chael ar fentrau cymdeithasol? OQ61944
Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn trafod amrywiaeth o faterion yn rheolaidd gyda'r sector mentrau cymdeithasol. Mae ein gwasanaeth Busnes Cymdeithasol Cymru wrth law i ddarparu cymorth arbenigol i gynnig gwybodaeth, arweiniad a chefnogaeth i fentrau cymdeithasol ledled Cymru.
Diolch yn fawr am yr ateb yna.
Mae goblygiadau cyllideb Llywodraeth Lafur y DU fis diwethaf yn gwawrio ar lawer o sectorau a gafodd eu clustnodi ar gyfer adfer diffygion cyllidebol. Mae Plaid Cymru wedi dadlau o'r dechrau bod y dewisiadau anghywir wedi eu gwneud. Mae'r ergyd i fentrau cymdeithasol trwy'r cynnydd i yswiriant gwladol yn un o'r rheini. Dywedodd pennaeth polisi Social Enterprise UK fod mwy o risgiau wrth roi mwy o faich ar fentrau cymdeithasol sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol ac yn creu cyfleoedd cyflogaeth, yn aml i'r rhai sydd bellaf o'r farchnad Lafur. Mae'n rhaid i un fenter gymdeithasol yn fy rhanbarth i, sy'n cyflogi naw o bobl mewn ardal ddifreintiedig, ddod o hyd i £7,000 ychwanegol y flwyddyn oherwydd y cynnydd i yswiriant gwladol. Mae hynny cyn unrhyw godiadau cyflog a chyda chostau gwresogi wedi treblu. Fel y dywedodd uwch aelod o staff, 'Am nad oes unrhyw hyblygrwydd yn weddill, nid oes modd gwneud hyn heb leihau gwasanaethau'. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n rhannu fy mhryderon ynglŷn â'r hyn y mae eich cymheiriaid yn San Steffan wedi'i wneud i fentrau cymdeithasol? A ydych chi'n lobïo eich cymheiriaid yn eich plaid am rywfaint o hyblygrwydd i'r mentrau cymdeithasol hynny? Ac yn olaf, pa fesurau lliniarol y mae eich Llywodraeth wedi ystyried eu rhoi ar waith i leddfu'r baich ar ein mentrau cymdeithasol, gyda llawer ohonynt yn cyflawni gwasanaethau hanfodol ar y rheng flaen?
Unwaith eto, rwy'n ddiolchgar am y cwestiwn. Fe ddywedwyd o'r blaen, wrth gwrs, fod y Canghellor yn wynebu set o amgylchiadau anodd iawn pan ddaeth i'w swydd a'i bod wedi gorfod datblygu ei chyllideb gyntaf, ac wedi gwneud penderfyniadau na fyddai hi wedi bod eisiau eu gwneud, neu hyd yn oed yn disgwyl gorfod eu gwneud. Ond wrth wneud hynny, mae hi wedi gallu mantoli'r cyfrifon a rhoi'r wlad ar sail gadarn a sefydlog, sef y bwriad. Ac fe wnaed dewisiadau anodd ar y daith honno, rwy'n gwybod.
Felly, o'n rhan ni, mae Llywodraeth Cymru yn archwilio sut y gallwn ddefnyddio'r dulliau sydd gennym ni yn y ffordd orau. Felly, rwyf eisoes wedi sôn am rywfaint o'r cymorth sydd ar gael drwy Busnes Cymru. Bydd hwnnw ar gael hefyd drwy Busnes Cymdeithasol Cymru i fentrau cymdeithasol. Yr wythnos diwethaf, cefais y pleser o ymweld â Thrive, sy'n fenter gymdeithasol anhygoel ym Mhort Talbot, i ddathlu Diwrnod Menter Gymdeithasol. Maent yn darparu gwasanaethau glanhau ac arlwyo masnachol o ansawdd uchel i fusnesau a sefydliadau. Ond y peth arbennig amdanynt yw bod yr holl arian sy'n cael ei godi yn cael ei ailfuddsoddi i dargedu trais yn erbyn menywod a chefnogi pobl sydd wedi goroesi'r amgylchiadau ofnadwy hynny. Felly, dyna un enghraifft yn unig o'r gwaith gwych sy'n digwydd, ac fel y dywedais, rydym yn defnyddio'r dulliau sydd ar gael i ni. Felly, rydym yn buddsoddi £1.7 miliwn y flwyddyn tan y flwyddyn nesaf yn y sector mentrau cymdeithasol, i ddarparu cyngor busnes arbenigol i gefnogi gweledigaeth 'Trawsnewid Cymru trwy fentrau cymdeithasol', ac mae hynny'n ymwneud â rhoi mentrau cymdeithasol wrth galon Cymru decach, fwy cynaliadwy a mwy ffyniannus. Yn ystod yr ymweliad hwnnw, cefais gyfle i siarad â Cwmpas a Busnes Cymdeithasol Cymru am y ffordd orau i fusnesau fynd i'r afael â'r heriau y maent yn eu hwynebu, yn enwedig cyfraniadau yswiriant gwladol. Fel cam cyntaf, rwy'n annog busnesau yn y sector hwnnw i ymgysylltu â Busnes Cymdeithasol Cymru a gofyn am eu cyngor a'u cefnogaeth.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae penderfyniad Llafur i godi cyfraniadau yswiriant gwladol yn sylweddol yn y gyllideb ddiweddar wedi achosi llawer o bryder yn y diwydiant lletygarwch, sector sydd eisoes wedi bod dan bwysau aruthrol cyn hyn. Rwyf wedi siarad â llawer o fusnesau yn fy rhanbarth yn ne-ddwyrain Cymru am yr effaith y bydd y penderfyniad hwn yn ei chael arnynt, a chredwch fi, Ysgrifennydd y Cabinet, nid yw'n ddarlun braf o gwbl. Datgelodd un busnes penodol y siaradais ag ef y bydd costau net ychwanegol yn fwy na £180,000 yn 2025-26. Mae busnesau yma yng Nghymru eisoes wedi cael eu cosbi, gyda'r ardrethi busnes uchaf ym Mhrydain, ac mae cyllideb fawr Llafur yn frad llwyr a dweud y gwir. Fel y gwyddom, fe wnaeth gweinidogion Llafur yma leihau rhyddhad ardrethi o 75 y cant i ddim ond 40 y cant ar gyfer busnesau manwerthu a lletygarwch, ac fel y gwelsom yn ddiweddar, dilynodd Llywodraeth Lafur y DU yr un esiampl a gostwng rhyddhad ardrethi i 40 y cant. Wel, rwy'n credu y gallwn ychwanegu perchnogion busnes at y rhestr gynyddol o bobl sydd ar restr dargedau Llafur, ochr yn ochr â phensiynwyr a ffermwyr. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, gyda chyllid ychwanegol yn gwneud ei ffordd i goffrau Llywodraeth Cymru, a wnaiff y Llywodraeth hon ymrwymo i adfer rhyddhad i 75 y cant, i roi cefnogaeth go iawn i'r sector pwysig hwn ar yr adeg anodd hon? Diolch.
Rwy'n credu bod yr iaith ymfflamychol a ddefnyddiwyd yn y cwestiwn yn gwbl ddiangen; rwy'n credu ei bod yn bosibl gwneud pwyntiau pwysig mewn ffyrdd gwahanol. Rwyf am ychwanegu hefyd fod y cwestiwn yn ymwneud â mentrau cymdeithasol, ac er bod y cwestiwn a ofynnwyd gennych yn ymwneud â busnesau lletygarwch, fe af i'r afael â'r pwynt mewn perthynas ag ardrethi annomestig. Mae gan Lywodraeth Cymru hanes hir o ddarparu cefnogaeth sylweddol i'r sectorau manwerthu, lletygarwch a hamdden drwy ein cymorth rhyddhad ardrethi annomestig. Rydym yn darparu dros £130 miliwn eleni mewn cymorth, a hynny, wrth gwrs, yn ychwanegol at y £250 miliwn a ddarparwn bob blwyddyn. Felly, eleni'n unig, mae dros £0.3 biliwn yn mynd tuag at gefnogi'r busnesau hynny, ac mae hwnnw'n fuddsoddiad sylweddol iawn. Bydd cyd-Aelodau'n gwybod mai rhyddhad dros dro oedd y cymorth rhyddhad ardrethi a ddarparwyd i'r sectorau manwerthu, lletygarwch a hamdden—dros dro. Cafodd ei roi mewn perthynas â'r amgylchiadau penodol a achoswyd gan bandemig COVID, ac yna, wrth inni symud i mewn i'r argyfwng costau byw, fe wnaethom benderfynu cadw peth o'r cymorth hwnnw. Ond yn gyffredinol, rydym wedi darparu bron i £1 biliwn o gymorth drwy'r cynlluniau rhyddhad ardrethi ers 2020-21, ac mae hwnnw'n gymorth sylweddol iawn i'r sector. Ac fe ddaw ochr yn ochr â'r holl gymorth arall y cyfeiriais ato, y mae Busnes Cymru yno i'w gynnig i fusnesau, gyda'r banc datblygu wrth gwrs.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Samuel Kurtz.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae Deutsche Bank wedi amcangyfrif y gallai 100,000 o swyddi gael eu colli oherwydd cyllideb Llafur. A yw Llywodraeth Cymru wedi cynnal unrhyw asesiad o faint o'r swyddi hynny fydd yn cael eu colli yng Nghymru?
Fel y dywedais, mae Llywodraeth Cymru yn deall yn llwyr fod y Canghellor wedi wynebu set o amgylchiadau anodd iawn pan aeth ati i osod ei chyllideb, a gwnaeth ddewisiadau na fyddai wedi gorfod eu gwneud. Ond rwy'n credu ein bod i gyd yn gwybod bod y Canghellor yn ymateb i her enfawr y sefyllfa ofnadwy a adawyd iddi gan Lywodraeth flaenorol y DU. Rwy'n clywed mwmian oddi ar feinciau'r Ceidwadwyr nad oedd yn sefyllfa ofnadwy—[Torri ar draws.]—
A wnewch chi ganiatáu i Ysgrifennydd y Cabinet ymateb, os gwelwch yn dda?
Rwy'n clywed awgrymiadau na wynebodd y Canghellor set ofnadwy o amgylchiadau. Wrth gwrs ei bod. Gwyddom fod miliynau a biliynau o bunnoedd o gyhoeddiadau heb eu costio wedi eu gwneud gan Lywodraeth y DU. Roedd rhai ohonynt yn ymwneud yn benodol â ni yma yng Nghymru, pan edrychwch chi ar Tata, pan edrychwch chi ar y parthau buddsoddi—cyhoeddiadau bob un, ond ni chafodd yr un ohonynt ei ariannu. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid inni edrych yn ofalus iawn ar y gyllideb a deall bod yn rhaid gwneud dewisiadau anodd.
Diolch. Rwy'n cymryd o hynny nad oes unrhyw ddadansoddiad wedi'i wneud o dynged economaidd Cymru yn dilyn y gyllideb honno. A gadewch inni atgoffa ein hunain o'r hyn a wnaeth Llywodraeth Lafur y DU ei etifeddu. Fe etifeddodd yr economi sy'n tyfu gyflymaf yn y G7, chwyddiant ar 2 y cant—economi a greodd 800 o swyddi y dydd, dros y 14 mlynedd diwethaf. Ac yn ddiweddar dywedodd Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru fod cyllideb Llywodraeth y DU yn pwyso'n drwm ar fusnesau llai, yr union fusnesau y dibynnir arnynt i ddod ag economïau'r DU a Chymru yn ôl i dwf mwy cynaliadwy. Pam y gwnaethant ddweud hyn? Oherwydd, o fis Ebrill 2025, bydd cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yn codi o 13.8 y cant i 15 y cant, gan ychwanegu £24.5 biliwn amcangyfrifedig at y costau y mae busnesau'n eu hwynebu bob blwyddyn. Ar ben hynny, mae gostyngiadau i'r trothwyon yn golygu y bydd yn rhaid i fusnesau bach dalu cyfraniadau yswiriant gwladol ar enillion gweithwyr gan ddechrau ar £5,000, i lawr o £9,100, gan gynyddu'r straen ar gostau cyflogaeth ymhellach. Mae'r Ffederasiwn Busnesau Bach hefyd yn tynnu sylw at y ffaith mai busnesau bach a chanolig yw anadl einioes economi Cymru, gan gynrychioli 99.3 y cant o'r boblogaeth fusnes, 62.3 y cant o gyflogaeth y sector preifat, a 43.4 y cant o'r trosiant. Mae'r busnesau bach hyn—ein bwytai bach, gweithgynhyrchwyr, manwerthwyr a darparwyr gwasanaethau—yn creu swyddi ac yn lledaenu ffyniant ledled Cymru. Felly, yng ngoleuni hyn, Ysgrifennydd y Cabinet, gyda chwyddiant yn codi, y cap ar brisiau ynni yn codi a chyfraniadau yswiriant gwladol ar fin codi, sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r busnesau hanfodol hyn i oroesi'r pwysau cynyddol?
Daw hyn gan y blaid a wnaeth chwalu'r economi yn llythrennol, ond mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n galed i gefnogi busnesau yn y ffyrdd y gallwn wneud hynny, gyda'r dulliau sydd gennym at ein defnydd. Ac rwy'n credu ei bod hefyd yn werth ystyried, fel y soniais yn gynharach, y bydd tua 53 y cant o gyflogwyr yn well eu byd neu o leiaf, heb fod yn waeth eu byd yn dilyn y newidiadau i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr. Fel rhan o'r pecyn o newidiadau i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr a gyflwynwyd gan y Canghellor, gwelwyd cynnydd o £5,000 i'r lwfans cyflogaeth, sef y swm sydd ar gael i fusnesau lle nad oes yswiriant gwladol cyflogwr yn daladwy. Mae hynny'n cyfateb i gynnydd o 90 y cant. Ac mae'r newid hwnnw'n golygu y bydd cyflogwyr nawr yn cael gostyngiad o £10,500 yn eu bil yswiriant gwladol cyflogwr, ac mae hwnnw'n newid a fydd o fudd arbennig i fusnesau bach. Felly, mewn datganiad, roedd Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn glir iawn fod hyn yn caniatáu i gwmnïau Cymreig gyflogi pedwar gweithiwr cyflog byw cenedlaethol yn llawn amser heb dalu yswiriant gwladol cyflogwr ar eu cyflogau, a gwyddom fod llawer o'n busnesau bach a'n microfusnesau yn y categori hwnnw o ran niferoedd staff.
Wel, dof yn ôl at y pwynt a gawsom o'r cwestiwn cyntaf, Ysgrifennydd y Cabinet, sef na fu dadansoddiad o faint o swyddi—y 100,000 o swyddi hynny—y gwnaeth Deutsche Bank nodi y cânt eu colli yng Nghymru. Felly, mae'r hyn y mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ei ddweud yn annidwyll a dweud y lleiaf.
Ond yn hwyrach heddiw, byddwn yn trafod Dydd Sadwrn y Busnesau Bach, a braf oedd clywed Russell George yn codi hynny yn flaenorol, a'ch cefnogaeth chi i hyn hefyd, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n gyfle gwerthfawr i ddathlu'r rôl hanfodol y mae busnesau bach yn ei chwarae nid yn unig yn ein heconomi, ond yn ein cymunedau hefyd, fel y dywedoch chi'n gywir ddigon yn eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Pan fyddwch chi'n prynu gan fusnes bach lleol, rydych chi'n cefnogi teulu, nid cyfranddalwyr pell. Fel Gweinidog cyllid, fe wnaethoch chi ddewis lleihau rhyddhad ardrethi busnes i fusnesau manwerthu o 75 y cant i 40 y cant. A do, fe glywais yn eich ateb mai mesur dros dro oedd hwn, ond fe gafodd y Ceidwadwyr eu ceryddu am fod mesur dros dro wedi dod i ben yn Lloegr. Felly, a fyddwch chi'n gwrando ar ein galwadau i godi hwnnw'n ôl i 75 y cant, neu o leiaf yn gwrando ar alwadau'r Ffederasiwn Busnesau Bach am ei gynnal ar 40 y cant? Gyda llai na mis i fynd tan y Nadolig, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi roi rhywfaint o newyddion da mawr ei angen i fusnesau Cymru, oherwydd, mawredd, ar ôl 25 mlynedd o bolisïau Llafur yma yng Nghymru, maent yn ei haeddu?
Wel, Lywydd, mae llai na mis i fynd tan y cawn gyllideb Llywodraeth Cymru, a bydd honno'n cael ei chyhoeddi ar 10 Rhagfyr. Wrth gwrs, nid wyf mewn unrhyw sefyllfa i wneud unrhyw gyhoeddiadau cyn hynny.
Cwestiynau nawr gan lefarydd Plaid Cymru, Luke Fletcher.
Diolch, Lywydd. Gadewch inni ganolbwyntio ar Great British Energy a'i oblygiadau i Gymru. Mae GB Energy ar fin buddsoddi £8.3 biliwn dros y pum mlynedd nesaf gyda mandad clir i ddatblygu, perchnogi a gweithredu asedau ynni glân. Fodd bynnag, mae diffyg eglurder sylweddol o hyd ynghylch sut y bydd ei addewidion i leihau biliau defnyddwyr yn cael eu cyflawni, yn enwedig yn absenoldeb diwygiadau ystyrlon i'r farchnad neu ymdrechion i fynd i'r afael ag annhegwch taliadau sefydlog.
Cyflwynwyd Bil Ynni Prydain i Dŷ'r Cyffredin ar 25 Gorffennaf ac mae'n amodol ar y broses cydsyniad deddfwriaethol, ac eto nid oes gennym fanylion hanfodol o hyd ynglŷn â sut y bydd y Bil hwn yn effeithio ar Gymru. Felly, pa bryderon penodol sydd gan y Llywodraeth am weithrediadau GB Energy a'i effaith berthnasol bosibl, oherwydd nid oes gennym fawr o ddealltwriaeth o'r goblygiadau ymarferol? Felly, sut y mae'r ansicrwydd hwn yn siapio argymhellion y Llywodraeth i'r Senedd?
Fel y dywed Luke Fletcher, cafodd Bil Ynni Prydain ei gyflwyno i Dŷ'r Cyffredin gan Lywodraeth y DU ym mis Gorffennaf eleni. Yn y bôn, nid yw'r Bil ei hun ond yn mynd ati i sefydlu Great British Energy fel cwmni sy'n eiddo i'r cyhoedd. Bydd llawer mwy o waith i'w wneud ar ei weithrediad, ac rydym yn cael trafodaethau cynnar gyda Llywodraeth y DU. Rwyf wedi cael cyfle ar ambell achlysur i siarad â'r Gweinidog Michael Shanks am y synergedd sydd eisoes yn bodoli o ran Trydan Gwyrdd Cymru, a'r gwaith y gallwn ei wneud gyda'n gilydd i sicrhau ein bod yn mynd ar drywydd rhai o'r cyfleoedd a gawn yng Nghymru.
O ran y Bil ei hun, fel y dywedais, ac fel y rhoddais dystiolaeth yn ei gylch i'r pwyllgor, rydym yn dal i fod yn y broses o ystyried ein safbwynt mewn perthynas â chydsyniad deddfwriaethol. Mae'r materion hynny'n dal i gael eu trafod mewn perthynas â'r pwyntiau ynglŷn ag ymgynghori yn hytrach na chydsyniad ac yn y blaen. Ond rwyf am sicrhau fy nghyd-Aelodau ein bod yn parhau i gael y trafodaethau hynny, a chyn gynted ag y byddaf mewn sefyllfa i allu darparu ateb cliriach i fy nghyd-Aelodau ynghylch argymhelliad Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chydsyniad deddfwriaethol, byddaf yn awyddus i wneud hynny cyn gynted ag y gallaf.
Wrth gwrs, y prif bryder yma yw y gellid gofyn inni gydsynio i sefydlu GB Energy heb wybod mewn gwirionedd beth y bydd yn ei gyflawni na sut y bydd yn rhyngweithio â sefydliadau Llywodraeth Cymru sydd eisoes yn gweithredu yn y sector ynni. Wrth gwrs, un o brif gymhellion polisi Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chynhyrchu ynni yw ei werth i'r gymuned a'i fudd cymunedol.
I fod yn deg, dywedodd cadeirydd Great British Energy yng nghynhadledd flynyddol Cydffederasiwn Diwydiant Prydain ddydd Llun fod yn rhaid i brosiectau pŵer glân newydd 'ddangos budd' i grwpiau lleol a 'dod â chymunedau gyda ni' yn ystod y pontio i ynni gwyrdd. Yn anffodus, mae ymadroddion fel y rhain wedi dod yn fwyfwy diystyr, oherwydd fe wyddom, ac yn hollbwysig mae ein cymunedau'n gwybod, fod manteision ariannol y pontio hwn yn aml yn anwybyddu'r cymunedau sydd agosaf at yr asedau cynhyrchu, gan lifo yn lle hynny i fuddsoddwyr sydd ymhell o'r ardaloedd hyn. Ni all unrhyw wyngalchu cymunedol guddio'r realiti hwn. Mae perchnogaeth yn bwysig.
Mae'r datganiad sefydlu ar gyfer GB Energy yn rhoi rôl iddo yn ariannu'r cynllun pŵer lleol, ac unwaith eto nid oes unrhyw fanylion eto, ond y nod a nodwyd yw cyflwyno prosiectau ynni adnewyddadwy ar raddfa fach a chanolig. Felly, gyda hyn mewn golwg, rwy'n meddwl yn benodol am rôl a chylch gwaith Ynni Cymru, ac a all Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw drafodaethau rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru a'u cymheiriaid yn yr Adran Diogeledd Ynni a Sero Net? A oes unrhyw ystyriaeth wedi'i rhoi i sut y bydd y rhyngweithio hwn yn cael ei reoli'n ymarferol, oherwydd mae gwir angen inni gael y manylion hyn nawr?
Unwaith eto, diolch am y pwyntiau pwysig hyn. I dawelu meddyliau cyd-Aelodau, mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn trafod yn gyson â'u cymheiriaid yn Llywodraeth y DU mewn perthynas â'r pwynt penodol am y rhyngweithio rhwng Trydan Gwyrdd Cymru a Great British Energy. Rwy'n credu bod yn rhaid inni ddeall safbwynt Llywodraeth y DU ar y pwynt hwn. Mae'r Bil ei hun, fel y dywedais, yn mynd ati i sefydlu Great British Energy fel cwmni sy'n eiddo cyhoeddus, ond mae llawer iawn o waith i'w wneud ar sut y caiff hynny ei weithredu, felly dyna ran o'r trafodaethau. Ac mae Llywodraeth y DU yn dysgu gennym ni, oherwydd gyda Trydan Gwyrdd Cymru, rydym ni sawl blwyddyn ar y blaen nawr o ble y mae Llywodraeth y DU arni ar hyn o bryd, felly maent yn dysgu llawer gennym ni.
A rhywbeth sy'n gwbl hanfodol i'n dull o weithredu yw buddion cymunedol ac mae'n dangos sut y gallwn wneud buddion cymunedol yn wahanol yng Nghymru, sut y gallwch chi ddarparu templed ar gyfer sut y dylid gwneud buddion cymunedol, a dyna yw ein bwriad drwy Trydan Gwyrdd Cymru. Ac wrth gwrs, mae gennym uchelgeisiau yn ymwneud â pherchnogaeth gymunedol hefyd, ac rydym yn parhau i gefnogi'r mathau hynny o brosiectau. A hoffwn dynnu sylw at Ynni Cymru fel cyfle i ddatblygu mwy, oherwydd mae gennym ein buddsoddiad o £10 miliwn yn hwnnw hefyd. Felly, mewn sawl ffordd, mae Llywodraeth y DU yn ein dilyn ni ar y daith hon, am ein bod wedi bod yn gweithio ar hyn ers amser mor hir.
Ond mae'r pwynt gwreiddiol yn dal i sefyll, onid yw? Efallai y byddwn mewn sefyllfa lle rydym yn cydsynio i sefydlu rhywbeth pan nad ydym yn gwybod yn union beth y bydd y peth hwnnw'n ei wneud. Gallai hynny osod cynsail peryglus i'r lle hwn gytuno i bethau cyn inni gael y manylion llawn. Os yw Llywodraeth y DU yn gweithredu ym meysydd gweithredu Llywodraeth Cymru eisoes, mae hwnnw'n fater go ddifrifol. Pe bai'r Llywodraeth flaenorol wedi gwneud hyn, rwy'n credu y byddai safbwynt Llywodraeth Cymru wedi bod yn wahanol iawn. Mae'r rheswm pam y mae hyn yn bwysig, y rheswm pam y mae angen inni wneud hyn nawr yn glir i bob un ohonom. Unwaith eto, mae ein hetholwyr wedi cael y newyddion y bydd y cap ar brisiau ynni yn codi, gyda disgwyl i brisiau ynni aros yn uchel am y dyfodol rhagweladwy. Nawr, os ydym wedi ymrwymo o ddifrif i'r cysyniad o bontio teg, mae'n rhaid i ynni cymunedol fod yn ganolog iddo.
Nid yw'r diffyg manylion am GB Energy a'r diffyg gweithredu gan Ynni Cymru wedi gwneud llawer i fynd i'r afael â'r materion hyn yn ymwneud ag ynni hyd yma, ac rwy'n ofni pan fydd GB Energy yn weithredol, y bydd Ynni Cymru yn cael ei wthio i'r cyrion. O ystyried diffyg perchnogaeth cyfalaf Cymreig mewn datblygiadau ynni adnewyddadwy yng Nghymru eisoes, gyda pherchnogaeth prosiectau yn nwylo cwmnïau a chwmnïau rhyngwladol sy'n eiddo i wladwriaethau Ewropeaidd, bydd llwyddiant GB Energy yn dibynnu ar bartneriaeth â'r gwledydd hyn gan anwybyddu anghenion Cymru—yr union wlad y bydd cyfran sylweddol o'r cyfoeth yn debygol o ddeillio ohoni. Felly, sut y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn cynnig ein bod yn mynd i'r afael â'r mater sy'n sail i'r holl broblemau a welwn yn economi Cymru—perchnogaeth?
Rwy'n credu mai'r peth pwysicaf i'w nodi yma yw na fu unrhyw newid o gwbl yn safbwynt Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag effeithiau cyfansoddiadol a goblygiadau deddfwriaeth sy'n deillio o Lywodraeth y DU, ni waeth beth y bo lliw'r Llywodraeth honno. Oherwydd fe wyddom y bydd y ddeddfwriaeth yno y tu hwnt i'r Llywodraeth hon a thu hwnt i Lywodraethau'r DU yn y dyfodol o ba bynnag liw, felly mae'n rhaid i'r ddeddfwriaeth fod yn iawn i Gymru ac mae'n rhaid iddi barchu Cymru. Mae'n rhaid iddi barchu Llywodraeth Cymru a'r Senedd a datganoli, ac rydym wedi bod yn gwbl glir ynglŷn â hynny ar bob cam o'r daith.
Nid yw Great British Energy yn weithredol eto; ni fydd yn weithredol am beth amser eto, ond mae gennym y ddeddfwriaeth i'w sefydlu. Felly, nid oes unrhyw beth yn digwydd ar lawr gwlad yng Nghymru mewn perthynas â Great British Energy ar hyn o bryd, ond rwy'n credu ei bod yn gadarnhaol iawn ein bod yn cael y trafodaethau hynny mewn perthynas â'r cyfleoedd yma yng Nghymru. Rydym wedi gallu nodi pa mor bell y daethom mewn perthynas â Trydan Gwyrdd Cymru, nifer y prosiectau a nodwyd gennym, y safleoedd a nodwyd gennym a'r cynnydd y gallwn ei wneud yn gyflym gyda Llywodraeth y DU. Rwy'n gweld hon fel partneriaeth i raddau helaeth. Mae Llywodraeth y DU yn deall Trydan Gwyrdd Cymru a'r gwaith pwysig y mae hwnnw'n ei wneud. Rwy'n credu bod Ynni Cymru mewn gofod gwahanol, felly mae Great British Energy a Trydan Gwyrdd Cymru yn edrych ar y prosiectau mwy o faint, ond mae Ynni Cymru yn ymwneud llawer mwy â phrosiectau cymunedol sy'n gwneud gwahaniaeth ar lefel leol iawn.
3. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r diwydiant twristiaeth ym Mhreseli Sir Benfro? OQ61916
Cefnogir y diwydiant twristiaeth yn y Preseli drwy weithgareddau marchnata a hyrwyddo Croeso Cymru. Mae Cruise Cymru yn gweithio gyda'r fasnach deithio i hyrwyddo porthladdoedd Abergwaun ac Aberdaugleddau ar gyfer ymweliadau llongau mordeithio. Mae cymorth arall a ddarperir yn cynnwys gweithgareddau graddio, datblygu sgiliau ar draws y diwydiant, a rhaglen buddsoddi cyfalaf.
Ysgrifennydd y Cabinet, un ffordd o gefnogi'r diwydiant twristiaeth yn fy etholaeth i yw edrych unwaith eto ar y trothwy 182 diwrnod ar gyfer llety gwyliau. Rwyf wedi cael llawer o negeseuon e-bost yn ystod yr wythnosau diwethaf gan fusnesau hunanddarpar yn fy etholaeth i, sy'n dweud wrthyf fod y polisi hwn yn difetha busnesau bach. Maent yn gwneud y pwynt nad oes gan unrhyw sector busnes arall yn y DU darged mor feichus i'w gyrraedd i gymhwyso fel busnes at ddibenion trethiant lleol. Mae eleni wedi bod yn arbennig o anodd i'r sector twristiaeth, gan fod y tywydd wedi bod yn ffactor enfawr, yn ogystal â'r argyfwng costau byw a chostau gweithredu uwch. Mae cyrraedd y trothwy 182 diwrnod yn dod yn fwyfwy amhosibl bob dydd i lawer o'r busnesau rwy'n eu cynrychioli. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi gefnogi galwad y diwydiant am asesiad effaith economaidd ac adolygiad ffurfiol o'r polisi 182 diwrnod, wedi'i gynnal gyda chynrychiolwyr o'r economi ymwelwyr, i sefydlu trothwy llawer tecach?
Wel, mae arnaf ofn nad oes gennym unrhyw gynlluniau i gynnal adolygiad ffurfiol o'r newidiadau i'r meini prawf hunanddarpar yn y tymor byr. Yn sicr, ni fyddem am gynnal y math hwnnw o adolygiad yn annibynnol ar y pecyn o fesurau o fewn y dull tair rhan sydd gennym o fynd i'r afael ag effaith ail gartrefi a llety gwyliau ar gymunedau ac ar yr iaith Gymraeg. Ein pryder yw y byddai ymrwymiad o'r fath i gynnal y math hwnnw o adolygiad yn creu ansicrwydd i'r sector hunanddarpar, sy'n annhebygol o fod o gymorth ar hyn o bryd.
Wrth gwrs, mae'r mater hwn yn gyfrifoldeb i'r Gweinidog cyllid bellach, gan mai ef sy'n gyfrifol am drethiant lleol. Ond wrth gwrs, mae gennyf ddiddordeb mawr ym marn y sector ymwelwyr, a chefais gyfle i siarad a gwrando ar y fforwm economi ymwelwyr yn ddiweddar, a chlywais yn glir iawn y cyfraniadau yr oeddent yn eu gwneud.
Mae cronfa dwristiaeth ar raddfa fach Llywodraeth Lafur Cymru, Y Pethau Pwysig, wedi bod o fudd i nifer o brosiectau ledled Cymru, gan gynnwys Grass Roots Caravan a Glamping yn Waterston ger Aberdaugleddau. Derbyniodd y busnes gyllid Banc Datblygu Cymru o £205,000 drwy'r gronfa fuddsoddi mewn twristiaeth yng Nghymru i uwchraddio ei gyfleusterau.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £5 miliwn i 27 o brosiectau rhwng 2023 a 2025, gan helpu awdurdodau lleol a pharciau cenedlaethol i gael seilwaith sylfaenol ond hanfodol i ymwelwyr, fel toiledau cyhoeddus, meysydd parcio ac arwyddion, i wella profiad ymwelwyr mewn cyrchfannau twristiaeth. Bydd hynny o fudd i'r ymwelydd a hefyd i'r gymuned leol. A ydych chi'n cytuno â mi, Ysgrifennydd y Cabinet, fod y math hwn o fuddsoddiad yn helpu, gyda busnesau bach a hefyd gyda thwristiaeth yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Diolch am hynny. Rwy'n siŵr y byddai pob un ohonom yn cytuno ynghylch pwysigrwydd cefnogi cynllun Y Pethau Pwysig a'r gwahaniaeth y mae'n ei wneud mewn cymunedau trwy ddarparu buddsoddiad, fel y dywed Joyce Watson, yn y pethau bach ond syml sy'n gwella'r profiad i dwristiaid ac ymwelwyr, ond a all hefyd fod o fudd i fusnesau bach yn ein hardaloedd. Yn ddiweddar, rydym wedi cael rownd arall o geisiadau'n agor ar gyfer y cynllun penodol hwnnw, ac rwy'n gobeithio dweud mwy yn fuan iawn ynghylch yr ymateb a gawsom. Ond rwy'n credu bod lefel y diddordeb yn gadarnhaol iawn.
4. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith y Llywodraeth yn ymwneud ag wythnos waith pedwar diwrnod? OQ61947
Diolch. Gyda'n partneriaid cymdeithasol, fe wnaethom archwilio cyfleoedd a heriau wythnos waith pedwar diwrnod yn drylwyr. Arweiniodd yr ymdrech hon at adroddiad y gwnaeth cyngor partneriaeth y gweithlu ei adolygu, ei gymeradwyo a'i gyhoeddi.
Diolch am yr ateb, Weinidog.
Wrth gwrs, dangosodd peilot y DU a gynhaliwyd gan dîm ymchwil medrus o amrywiaeth o sefydliadau y llynedd fod hyn yn cael effaith gadarnhaol iawn ar weithwyr a chyflogwyr, ac mae'n rhywbeth y gellid ei deilwra i ystod amrywiol o sefydliadau ar draws sawl sector. Ac wrth gwrs, mae gennym y peilot sector cyhoeddus cyfredol yn yr Alban.
Nawr, wrth gwrs, fe soniodd am waith cyngor partneriaeth y gweithlu. Er hynny, mae'n ymddangos bod pethau wedi mynd yn dawel ers mis Ebrill. Rwy'n credu bod pwynt ehangach i'w wneud ynghylch yr angen i edrych ar sut y gwnawn gyflwyno hyn i weithwyr rheng flaen ac yn y blaen—y rhai ar waith shifft—ond a yw'r Llywodraeth yn dal i fod yn ymrwymedig i gael cynllun peilot sector cyhoeddus ar y gwell? Ac os felly, pa waith sydd wedi'i wneud ers mis Ebrill i wneud i hyn ddigwydd? Mae nifer o sefydliadau a nifer o fusnesau sy'n gefnogol iawn i dreialu wythnos waith pedwar diwrnod yn dechrau poeni bod y Llywodraeth wedi colli ei hymrwymiad.
Rwy'n ddiolchgar i Luke Fletcher am dynnu sylw at y mater pwysig hwn. Mae'r Aelod yn gywir i nodi gwaith cyngor partneriaeth y gweithlu a'r gweithgor a sefydlwyd mewn ymateb i ymchwiliad i ddeiseb Senedd, y cefais y pleser o'i gadeirio. Roedd yr Aelod ar y pwyllgor a chymerodd ran yn yr ymchwiliad hwnnw. Lywydd, hoffwn dalu teyrnged i'r deisebydd arweiniol, Mark Hooper, a ddechreuodd y broses honno a'r ymchwiliad a ddilynodd.
Mae'r Aelod yn iawn i nodi treialon yn y DU lle cafwyd llwyddiannau. Nid yw fy marn i ar y pwnc wedi newid. Mae canlyniadau cynlluniau peilot ar draws sectorau, gan gynnwys y sector preifat, yn glir iawn: lle cyflwynwyd wythnos waith fyrrach mewn partneriaeth â'i weithlu, mae'r buddion yno i'w gweld. Mae'r Aelod yn cyfeirio at yr adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Mawrth eleni. Nid oedd yr adroddiad yn argymell cyflwyno wythnos pedwar diwrnod ar unwaith naill ai yn Llywodraeth Cymru na gwasanaethau cyhoeddus datganoledig, ond nododd yr egwyddorion craidd y dylai cyflogwyr ac undebau llafur eu hystyried pe baent yn ystyried treialu wythnos waith fyrrach.
Mae'r cyfrifoldeb am dreialu wythnos waith fyrrach neu am reoli'r sefydliad a'u gweithleoedd eu hunain gyda'r cyrff sector cyhoeddus datganoledig eu hunain. Rwy'n disgwyl iddynt gyflawni'r cyfrifoldebau hynny mewn partneriaeth gymdeithasol. Felly, cam nesaf yr adroddiad hwnnw, a'r ystyriaeth o'r adroddiad hwnnw, yw i gyflogwyr yn y sector cyhoeddus datganoledig, gweithwyr a'u hundebau llafur ystyried beth y mae'r adroddiad hwnnw'n ei olygu iddynt hwy a'u hamgylchiadau penodol. Pe bai hynny'n digwydd, buaswn yn hapus i helpu i hwyluso rhai o'r sgyrsiau hynny.
Fel y gwyddom, y brif broblem gydag wythnos waith pedwar diwrnod yw na fyddai’n bosibl ei chyflwyno ym mhob sector, gan olygu y byddai rhai gweithwyr yn y sector cyhoeddus yn cael braint na fyddai’r rhan fwyaf o weithwyr y sector preifat yn ei mwynhau, a hyd yn oed llawer o weithwyr rheng flaen eraill yn y sector cyhoeddus. Er y gwn fod galwadau am wythnos waith pedwar diwrnod, fy marn i a barn fy ngrŵp yw ein bod yn credu y gellir cael manteision wythnos waith pedwar diwrnod drwy wella’r hyblygrwydd i weithwyr gymryd amser o'r gwaith, i gydbwyso bywyd teuluol ac ymrwymiadau eraill.
Mae dwy ffordd o gyflawni wythnos waith pedwar diwrnod. Gallwch naill ai gywasgu pum diwrnod o waith a chanlyniadau hynny i mewn i bedwar diwrnod, gan arwain at oriau gwaith hwy, neu gallwch dalu eu cyflog presennol i weithwyr am lai o oriau gwaith, a allai, i bob pwrpas, gael ei ystyried fel codiad cyflog o 20 y cant iddynt. Gwyddom nad yw’n bolisi gan Lywodraeth Lafur y DU i gefnogi newid cyffredinol i wythnos waith pedwar diwrnod am werth pum diwrnod o gyflog. A gaf i ofyn felly i'r Gweinidog a yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried effaith y posibilrwydd o weithio ar wahanol adegau yn y dydd ar yr holl wasanaethau cyhoeddus, pe bai'r wythnos waith pedwar diwrnod yn cael ei chyflwyno yma?
Diolch i’r Aelod am ei sylwadau. Rwy’n cytuno â’r Aelod ynghylch y dull gweithio hyblyg yn gyffredinol—nid mai'r wythnos waith pedwar diwrnod yw’r unig ateb i’r problemau sydd yno, ond y gallai fod yn ateb i’r problemau i raddau helaeth. Mae a wnelo hyn â chyfres o opsiynau a allai fod ar gael i gyflogwyr a gweithwyr. Y rhan bwysig o hyn yw nad yw'n cael ei orfodi ar y gweithlu, ei fod yn cael ei wneud gyda'r gweithlu, yn y dull Cymreig o bartneriaeth gymdeithasol. Rwyf bob amser wedi dweud yn glir iawn, Lywydd, lle gallwch gyflwyno’r mathau hyn o gynigion yn y gweithle, fod y manteision yno i’w gweld.
Cyfeiriodd yr Aelod at y sector cyhoeddus efallai'n cael braint dros y sector preifat. Wel, y sector preifat sy'n sicr yn arwain ar y mater hwn. Felly, os yw'r Aelod yn ceisio dweud yn y Siambr fod yr arweinwyr busnes hynny'n anghywir, hoffwn ofyn iddo ystyried y pwyntiau hynny. Ond rwyf bob amser wedi fy synnu'n fawr mewn rhai ffyrdd, efallai, ond ddim cymaint mewn ffyrdd eraill, mai dyma'r un dadleuon a ddefnyddir, Lywydd, nid yn unig gan yr Aelod, ond yn fwy cyffredinol gan ei grŵp pan fydd y dadleuon hyn yn codi. Rhain oedd yr un dadleuon a ddefnyddiwyd ar gyfer y penwythnos fel y gwyddom amdano, yr un dadleuon a ddefnyddiwyd ar gyfer cyflwyno'r isafswm cyflog, yr un dadleuon a ddefnyddiwyd yn erbyn creu'r GIG. Yn ôl rhesymeg y dadleuon hyn, byddai'r un dadleuon yn cael eu defnyddio i barhau i anfon plant i'r pyllau glo, a bodloni ar hynny. Mae hwn yn ateb posibl i rai o'r heriau y mae gweithwyr yn eu hwynebu. Dylid ei wneud drwy ddull partneriaeth gymdeithasol. Dylai’r Senedd hon a Llywodraeth Cymru gefnogi’r dull hwnnw o weithredu.
5. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd prosiectau ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr yng Ngogledd Cymru? OQ61952
Rydym wedi gosod targedau uchelgeisiol i gynhyrchu digon o ynni adnewyddadwy ledled Cymru i sicrhau'r hyn sy’n cyfateb i 100 y cant o’n defnydd blynyddol o drydan erbyn 2035. Wrth wneud hynny, rydym yn disgwyl gweld buddion i’n cymunedau, gan gynnwys drwy greu swyddi a buddsoddiad lleol.
Fel y gwyddom, Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n hollbwysig fod Cymru'n cyflawni ei thargedau sero net, ond rydym ar frys i harneisio rhywfaint o botensial ynni adnewyddadwy Cymru. Rydym yn gweld mwy a mwy o gwmnïau rhyngwladol yn aml yn diystyru cymunedau lleol yn llwyr wrth geisio cael cymeradwyaeth gynllunio. Gŵyr pob un ohonom am y ddwy fferm solar fawr arfaethedig ar Ynys Môn, safleoedd a fydd defnyddio oddeutu 3,700 erw o dir fferm. Ni fydd y mwyaf o’r datblygiadau hyn yn cael caniatâd yng Nghymru oherwydd ei faint, a bydd y penderfyniad ar ei ddyfodol yn cael ei wneud yn Whitehall. Felly, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi y dylai caniatâd ar gyfer pob prosiect ynni gael ei ddatganoli i Gymru, fel mai Cymru sy'n penderfynu ar y defnydd gorau o'n hadnoddau naturiol?
Rwy'n ddiolchgar iawn am y pwynt hwnnw. Wrth gwrs, mae a wnelo hynny â phrosiect Maen Hir, y byddai Llywodraeth y DU—ar hyn o bryd, o dan y rheolau presennol—yn gwneud penderfyniad yn ei gylch. Credaf fod y pwynt a godwyd yn un pwysig, ac mewn gwirionedd, credaf ei fod yn un y buaswn yn fwy na pharod i gael trafodaeth bellach arno gyda fy nghymheiriaid yn San Steffan, gan fod y pwynt a wnaed yn un pwysig.
Mae copr yn hanfodol i weithgynhyrchu llawer o dechnoleg werdd, megis tyrbinau gwynt, cerbydau trydan, paneli solar, a'r seilwaith trydan. Mae copr hefyd yn hanfodol i gefnogi'r newid o ddefnyddio tanwydd ffosil, ac ymwelais â mwynglawdd ar Ynys Môn yn ddiweddar sy'n cloddio am aur, arian, efydd, mwyn haearn a chopr.
Mewnforiodd y Deyrnas Unedig werth dros £1.5 biliwn o gopr yn 2023, er bod cronfeydd mawr o haearn a mwyn copr yn bodoli yn y Deyrnas Unedig. Mae’r mwynau hyn bellach yn cael eu mewnforio'n bennaf, o wledydd fel Chile a Tsieina. Fel yr Aelod dros Aberconwy, gallaf siarad o fy mhrofiad fy hun am ba mor werthfawr y mae’r mwyngloddiau copr ar y Gogarth wedi bod ers blynyddoedd lawer. Y cyfoeth o gloddio'r copr hwnnw a helpodd i ffurfio'r dref sydd yno heddiw.
Nid yw copr ar restr mwynau hanfodol y DU o hyd, yn wahanol i’r UE ac UDA, er bod cymaint o botensial i’w gloddio yma yng Nghymru. A wnewch chi gydweithredu â Llywodraeth y DU i sicrhau bod copr yn cael ei gynnwys ar restr mwynau hanfodol y DU, fel bod seilwaith gwyrdd yn cael ei ddatblygu yng Nghymru gyda chopr Cymru, nid copr tramor, fel y gallwn ddibynnu llai ar ôl troed carbon mor drwm yn sgil mewnforio metelau prin a gwerthfawr o'r fath? Diolch.
Diolch am y cwestiwn. Mae'n swnio fel pe bai Janet Finch-Saunders wedi cael ymweliad diddorol iawn. Rwy'n croesawu’r cyfle, y tu allan i’r Siambr efallai, i gael trafodaeth bellach am yr hyn a ddysgoch chi ar yr ymweliad hwnnw, fel y gallaf ystyried pa drafodaethau pellach, os o gwbl, y byddai’n rhaid imi eu cael gyda chydweithwyr. Ond rwy’n awyddus i ddysgu—[Torri ar draws.]—yr hyn a ddysgwyd gennych chi a Rhun ap Iorwerth ar eich ymweliad.
6. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector gwyddorau bywyd yng Ngorllewin De Cymru? OQ61945
Rydym yn cefnogi’r sector gwyddorau bywyd yng Nghymru mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys drwy ein rhaglen cymorth arloesedd hyblyg SMART, y cymorth ariannol a ddarparwn i Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, a’n cymorth i ddigwyddiadau masnach, yng Nghymru ac yn rhyngwladol.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn ddiweddar, cefais gyfle i ymweld â labordy CanSense ym Mhrifysgol Abertawe i weld â fy llygaid fy hun y gwaith rhagorol sy’n mynd rhagddo yn y sector gwyddorau bywyd yn fy rhanbarth. Er bod y rhagolygon ar gyfer yr economi yn fy rhanbarth a ddaw yn sgil CanSense a’r sector gwyddorau bywyd ehangach yn wych, mae’r datblygiadau gwyddonol yn anfesuradwy. Mae CanSense yn datblygu profion gwaed rhad a all wneud diagnosis o ganser y coluddyn yn llawer cynt na’r profion presennol, gan fynd i’r afael ag un o’r lladdwyr mwyaf yng Nghymru, gan leihau'r baich ar y GIG ar yr un pryd, dau beth sydd â chostau economaidd ehangach y tu hwnt i'r costau dynol. Mae labordai tebyg hefyd yn datblygu profion gwaed syml ar gyfer gwneud diagnosis cynnar o glefyd Alzheimer. Ysgrifennydd y Cabinet, pa drafodaethau a gawsoch gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd am fuddsoddiad pellach mewn labordai fel CanSense i sicrhau’r manteision mwyaf posibl i iechyd ac economi ein cenedl?
Rwy’n ddiolchgar iawn am y cwestiwn hwnnw y prynhawn yma. Mae'n adeiladu ar y ddadl a arweiniwyd gan Mike Hedges yn y Senedd yn ddiweddar iawn, a oedd yn cynnwys ffocws cryf iawn ar y diwydiant gwyddorau bywyd a sut y mae'n tyfu mor gyflym. Mae’n un o’n sectorau twf mwyaf cyffrous a deinamig yng Nghymru, gyda throsiant o fwy na £2.85 biliwn y flwyddyn. Rydym yn gefnogol iawn i fusnesau yn y sector hwn ac i arloesi yn y sector hwn. Fe ofynnoch chi sut rwy'n gweithio ochr yn ochr â Jeremy Miles. Mae ein hadrannau’n cyd-ariannu Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, ac eleni dyfarnwyd cyllid blynyddol o £3.5 miliwn gennym, felly'n rhannol o gyllideb yr economi ac yn rhannol o’r gyllideb iechyd. Fe alluogodd hynny’r hwb i weithio tuag at ei genhadaeth o drawsnewid iechyd a lles economaidd y genedl. Gwn fod Jeremy wedi ymweld yr wythnos diwethaf i ddarganfod mwy.
Rwy'n awyddus iawn i ddeall sut rydym yn chwalu'r rhwystrau ar gyfer mabwysiadu'r arloesedd sydd i'w gael yng Nghymru a sicrhau ei fod ar gael i'r GIG cyn gynted â phosibl. Gwn fod gan Jeremy Miles gryn ddiddordeb yn hynny hefyd. Yn ddiweddar, cefais gyfle i ymweld â Medica, sef un o ffeiriau masnach mwyaf y byd ar gyfer y sector technoleg feddygol. Aethom â 33 o wahanol fusnesau o Gymru yno gyda 50 o gynrychiolwyr eraill. Fe wnaethom arddangos y gwaith arloesol anhygoel sy’n mynd rhagddo yma yng Nghymru a rhoi llwyfan i’r busnesau hynny allu gwerthu ac allforio. Mae gennym raglen clwstwr allforio hefyd sy’n edrych yn benodol ar y sector technoleg feddygol a diagnostig. Felly, mae hwn yn faes cyffrous iawn. Mae'n faes twf ac rwy'n croesawu diddordeb fy nghyd-Aelodau ynddo.
Am yr eildro yr wythnos hon, rwy'n gofyn cwestiwn ynglŷn â phwysigrwydd gwyddorau bywyd. Mae bargen ddinesig bae Abertawe wedi ffurfio cysylltiadau allweddol gyda chwmnïau yn y sector iechyd a lles yn barod ar gyfer caffael. Dan arweiniad Prifysgol Abertawe, mae'r prosiect hefyd wedi defnyddio'r cyfleoedd ariannu sydd ar gael ar gyfer prosiect peilot sgiliau a thalent ac wedi cael £1.5 miliwn o gronfa arloesi 5G y rhaglen seilwaith digidol. Bydd y prosiect yn darparu ymchwil a datblygu, cyfleusterau profi a threialu, gan alluogi ymchwil a diwydiant i gael eu cydleoli ochr yn ochr â seilwaith clinigol a chyfleoedd buddsoddi. A all y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y grant biowyddoniaeth o £22.4 miliwn ar gyfer rhaglen hyfforddi y mae Prifysgol Abertawe yn rhan ohoni?
Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn ac am angerdd Mike Hedges ynghylch y sector gwyddorau bywyd ac yntau, fel y soniais yn gynharach, wedi cyflwyno dadl a oedd yn canolbwyntio'n gadarn iawn ar hyrwyddo'r sector hwnnw. Ar garreg drws Mike a minnau yn Abertawe, mae gennym waith anhygoel yn mynd rhagddo, sy'n harneisio’r galluoedd unigryw a’r ecosystem gwyddorau bywyd ffyniannus sy’n rhan o ddinas-ranbarth bae Abertawe. Maent yn sefydlu canolfan ryngwladol ar gyfer arloesi mewn gwyddorau bywyd, llesiant a chwaraeon, yn cefnogi ymyriadau ataliol mewn gofal iechyd a meddygaeth, ac yn sbarduno twf diwydiant technoleg chwaraeon o bwys byd-eang hefyd. Nid yw'r rheini ond yn rhan o'r gwaith sy'n mynd rhagddo drwy'r cyllid y gallasom ei ddarparu.
Fel y dywed Mike, bydd yn darparu cyfleusterau profi, treialu ac ymchwil a datblygu, gan alluogi ymchwil a diwydiant i gael eu cydleoli ochr yn ochr â seilwaith clinigol a chyfleoedd buddsoddi. Credaf ei bod yn bwysig iawn cael y dull gweithredu hwnnw lle mae gennych amrywiaeth o fusnesau ac academyddion yn gweithio yn yr un maes gyda'i gilydd, gan fod y syniadau hynny'n tanio'i gilydd. Mae'r rhwydweithiau sydd ynghlwm wrth hyn yno i gydweithio hefyd. Felly, mae'n sector cyffrous iawn, ac mae llawer o hyn yn digwydd ar garreg drws Mike a minnau yn Abertawe.
7. Beth yw asesiad Llywodraeth Cymru o'r effaith fydd ymestyn rhaglen waith atgyweirio Pont y Borth yn ei gael ar fusnesau Ynys Môn? OQ61951
Nid yw hyd y gwaith ffisegol wedi newid. Drwy wrando ar y gymuned leol, rydym wedi aildrefnu'r dyddiad dechrau, sy'n mynd i arwain at nifer o fanteision. Hoffwn annog unrhyw fusnes sy’n wynebu ansicrwydd oherwydd y rhaglen atgyweirio i gysylltu â Busnes Cymru am gyngor cyn gynted â phosibl.
Diolch am yr ymateb yna. Mae yna anniddigrwydd mawr yn Ynys Môn ynglŷn â'r newid amserlen yma. Pan gafodd y gwaith ei oedi dros y gaeaf yma, roedd pobl yn cymryd bod hynny'n golygu bod pethau o flaen amser. Wedyn, wrth gwrs, mi gyhoeddwyd bod y gwaith oedd i fod i orffen tua diwedd yr haf nesaf yn mynd i fod yn cario ymlaen tan y Nadolig. Rŵan, nid dim ond anghyfleustra ydy hynny, mae o'n cael effaith economaidd ar gymunedau o fewn yr ynys ac ar yr ynys gyfan.
Felly, beth fydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ei wneud i edrych ar sut i gynnig rhagor o gefnogaeth i fusnesau a fydd rŵan yn colli allan yn y cyfnod yn arwain at y Nadolig 2025, pan oedden nhw'n cymryd y byddai pethau nôl i'r arfer erbyn hynny, a hefyd i edrych ar y sefyllfa o gwmpas pont Britannia? Oherwydd mae'r arafwch o hyd yn ymateb Llywodraeth Cymru i'r angen am ateb i broblemau traffig ar bont Britannia a phroblemau resilience ar bont Britannia yn cael effaith economaidd ar yr ynys. Beth fydd yr Ysgrifennydd Cabinet dros yr economi yn ei wneud i roi pwysau ar yr Ysgrifennydd Cabinet dros drafnidiaeth i sortio'r broblem yma allan unwaith ac am byth?
Wel, yn ôl yr hyn a ddeallaf gan yr Ysgrifennydd trafnidiaeth a’i swyddogion, newidiwyd yr amserlen ac aildrefnwyd y dyddiad cychwyn i fis Mawrth 2025 ar gais y gymuned leol—
Na, nid yw hynny'n wir.
—gan gynnwys busnesau lleol. Awgrymwyd nifer o fanteision y byddai’n eu sicrhau i fusnesau lleol, er enghraifft llai o berygl o ganslo gwasanaethau ac oedi oherwydd tywydd gwael, risg o gerbydau nwyddau trwm a cherbydau eraill yn methu croesi’r Fenai yn ystod y gaeaf, gwell llif traffig i ac o Borthaethwy, a fyddai o gymorth i ysgolion ac ysbyty Bangor, a sicrhau bod porthladd Caergybi yn parhau i fod yn weithredol am gyfnod hwy. Felly, dyma’r dadleuon a wnaed yn ôl yr hyn a ddeallaf i’r Ysgrifennydd trafnidiaeth a’i swyddogion, ac mae rhan o hynny, wrth gwrs, oherwydd tywydd y gaeaf. Ond gwn fod y bont yn agosáu at ei deucanmlwyddiant, ac yn amlwg, mae angen inni gynnal a chadw’r bont, ac rydym am i'r gwaith hwnnw gael ei gwblhau erbyn ei deucanmlwyddiant. Ond yn amlwg, byddaf yn cael y trafodaethau hynny gyda'r Ysgrifennydd trafnidiaeth mewn perthynas â'r effeithiau ar fusnesau, ond fy nealltwriaeth i yw bod y newidiadau wedi'u gwneud ar gais y gymuned.
8. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio Banc Datblygu Cymru i annog twf a buddsoddiad mewn diwydiannau creadigol, yn enwedig y rhai sy'n gweithredu yn ôl amserlenni hirach ar gyfer eu prosiectau? OQ61934
Diolch, Rhys. Fel y gwelsom o’r ystadegau a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, mae twf y diwydiannau creadigol yng Nghymru yn parhau i fod yn llwyddiant. Drwy Cymru Greadigol a Banc Datblygu Cymru, rydym yn cynnig amrywiaeth o gynlluniau cymorth ariannol, sy’n cael eu hadolygu’n barhaus yng ngoleuni galwadau'r farchnad.
Diolch, Weinidog. Fe fyddwch yn cofio Mike Hedges yn dweud wrthym yr wythnos diwethaf am gyfraniad anhygoel gemau fideo i economi Cymru. Nawr, ymchwiliais i hyn wedi hynny, a gwelais, yn sgil colli cyllid yr UE, fod prosiectau mwy hirdymor, fel gemau fideo, ond yn cael eu hariannu'n rhannol bellach, sy'n golygu bod llawer mwy o berygl o fethu. Mae'r rhan fwyaf o gwmnïau gemau fideo yng Nghymru bellach yn methu o fewn y pum mlynedd cyntaf o fasnachu. Argymhellodd y Ffederasiwn Busnesau Bach yn ddiweddar y dylai Llywodraeth Cymru archwilio’r defnydd o fenthyciadau gwarantedig y Llywodraeth, gan ddilyn esiampl lleoedd fel De Korea, gwlad sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn am allforio ffilm, teledu a cherddoriaeth, yn eu hiaith eu hunain, ledled y byd. Mae’r diwydiannau creadigol yno’n cynrychioli mwy na 10 y cant o gyfanswm y cyfalaf menter a godir. A wnaiff y Gweinidog annog Cymru Greadigol a Banc Datblygu Cymru i ddilyn esiampl modelau cyllido llwyddiannus ledled y byd, fel y gall Cymru wireddu ei photensial creadigol? Diolch yn fawr.
Wel, diolch yn fawr, Rhys, am eich diddordeb parhaus yn y diwydiannau creadigol. Rydych yn hyrwyddwr gwirioneddol ar ran y sector a'i holl uchelgeisiau. Mae’r Aelod yn tynnu sylw at gemau fideo a gwaith Mike Hedges—wel, rwy’n ddiolchgar am y cyfle i allu siarad am hynny. Felly, drwy Cymru Greadigol, rydym yn parhau i gefnogi’r diwydiant gemau fideo. Mae Rocket Science, unwaith eto, i lawr y ffordd, yn enghraifft o hynny. Ond ar gwestiwn penodol yr Aelod ynghylch y banc datblygu a'r gwaith y gallant ei wneud yn y dyfodol—mae gennyf gryn ddiddordeb yn yr hyn y gallent ei gynnig yn y dyfodol. Mae'n sgwrs y byddaf yn ei chael gyda chydweithwyr o Cymru Greadigol. Mae hwn yn faes ag iddo botensial mawr ar gyfer twf ac uchelgais sy’n cyfateb i hynny gan y diwydiant ei hun, felly byddaf yn cael y sgwrs honno gyda chydweithwyr yn Cymru Greadigol a’r Banc Datblygu.
Mae'n sgwrs yr hoffwn ei chael hefyd gyda Llywodraeth y DU, sydd hefyd wedi cydnabod diwydiannau creadigol yn eu strategaeth ddiwydiannol. Credaf fod gemau fideo yn rhan allweddol o hynny. Mae’r gronfa gemau, y byddaf yn sicrhau bod yr Aelod yn cael y manylion amdani, ar gael i gwmnïau eisoes, ond lle gallwn gefnogi’r diwydiant hwn ymhellach, efallai drwy’r banc datblygu—. Mae rhaglen beilot ar waith sy’n edrych ar gefnogi llif arian yn y diwydiant cynhyrchu, yn enwedig o ran ffilmiau. Efallai fod hynny’n rhywbeth y gallem ei archwilio yn y diwydiant gemau hefyd. Felly, bydd canlyniad y cynllun peilot hwnnw’n bwysig, ond lle gallwn wella ein cynnig yn y sector hwn ymhellach, rwy'n awyddus iawn i edrych ar y cyfleoedd hynny. Diolch.
Diolch i'r Gweinidog a'r Ysgrifennydd Cabinet.
Yr eitem nesaf, felly, fydd y cwestiynau i'r Ysgrifennydd Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Mick Antoniw.
1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am y ganolfan driniaeth ranbarthol arfaethedig yn Llantrisant? OQ61921
Mae cynlluniau ar gyfer y ganolfan driniaeth ranbarthol yn gwneud cynnydd. Bydd y ganolfan yn gwella gofal ac yn darparu gwasanaethau hygyrch a diogel i filoedd o gleifion y flwyddyn ar draws de-ddwyrain Cymru. Mae gwasanaeth diagnostig dros dro wedi’i ddarparu ar y safle ers mis Ebrill 2024, sydd wedi cael effaith sylweddol ar amseroedd aros.
Ysgrifennydd y Cabinet, diolch am yr ateb. Mae cryn dipyn o gyffro ynglŷn â’r cynnig arloesol hwn i hwyluso llif llawdriniaethau pen-glin a chlun a llawfeddygaeth orthopedig eraill ar hen safle afioneg British Airways, a gaeodd beth amser yn ôl. Ond beth y gellir ei wneud i gyflymu datblygiad hyn? Mae'n amlwg fod ei angen yn ddybryd, a bod disgwyl mawr amdano, a'i fod yn fuddsoddiad posibl pwysig iawn. A wnewch chi amlinellu pa gysylltiad a fu rhyngoch a bwrdd iechyd Cwm Taf, pa gamau pellach sydd eu hangen, naill ai o ran cynllun a hefyd o ran yr ochr fuddsoddi er mwyn rhoi hyn ar waith, ac a allwch chi amlinellu unrhyw beth y gellir ei wneud er mwyn cyflymu a sicrhau ei fod yn agor cyn gynted â phosibl? Mae disgwyl mawr amdano yn ardal Tonyrefail, yn ardal Cwm Taf, a hefyd yn fwy cyffredinol yn ne Cymru.
Wel, rwy'n cytuno â brwdfrydedd yr Aelod dros y prosiect. Rwyf wedi bod yn yr adeiladau sydd yno ar hyn o bryd i weld y weledigaeth sydd gan y partneriaid, ynghyd â Llywodraeth Cymru, ar gyfer y datblygiad hwn. Mae'n fodel o ddiagnosteg a llawfeddygaeth y mae tystiolaeth yn y DU ac yn rhyngwladol yn dweud wrthym y gall wneud cyfraniad sylweddol at ganlyniadau gwell drwy leoli'r cyfleusterau hynny ar wahân i'r hyn a ystyrir yn aml yn amgylchedd poeth ysbyty brys. Felly, yn hynny o beth, mae wedi'i anelu at drawsnewid gofal rhanbarthol a gynlluniwyd, a bydd yn amlwg yn cefnogi'r gostyngiad mewn rhestrau aros rhanbarthol.
Rwyf wedi dweud yn glir fod angen i hyn fod yn ateb rhanbarthol sy’n cefnogi ôl troed y bwrdd iechyd ei hun, ac ardaloedd cyfagos hefyd. Mae hynny’n gwbl hanfodol i lwyddiant y prosiect, a byddaf eisiau rhoi camau ar waith i sicrhau bod hynny’n digwydd pe bai eu hangen.
Mae'r achos busnes yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. Gwn fod y bwrdd iechyd yn edrych ar arferion gorau ar draws y GIG ac yn datblygu cynllun gweithlu clir i gefnogi’r prosiect. Y cam nesaf yw bod y bwrdd iechyd a’i bartneriaid rhanbarthol i roi cyflwyniad ac ateb cwestiynau yng nghyfarfod y bwrdd buddsoddi mewn seilwaith yn ystod y dyddiau nesaf. Rwy'n gobeithio y bydd hyn yn dangos cynnydd ac yn nodi’r gofynion ariannu arfaethedig ar gyfer cam nesaf y cynllun. Felly, mae gwaith mewn perthynas â chynllunio ac adeiladu, gwaith mewn perthynas â modelu goblygiadau cyllid hynny, gwaith mewn perthynas â'r model gweithredu sy'n ymwneud nid yn unig â'r bwrdd iechyd, ond â byrddau iechyd cyfagos hefyd. Ac yna, yn olaf, cynllun gweithlu i gefnogi'r datblygiad hwnnw. Rwy’n awyddus i’w weld yn symud ymlaen. Yn ogystal â bod yn ddatblygiad cyffrous ynddo'i hun, credaf y gall fod yn esiampl ar gyfer y ffordd honno o weithio mewn rhannau eraill o’r GIG yng Nghymru.
Diolch, Mick, am godi’r mater hwn. Ysgrifennydd y Cabinet, gallai’r ganolfan ranbarthol fod yn hwb mawr i gleifion yn fy rhanbarth sy’n dibynnu ar wasanaethau yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, er bod diffyg eglurder ynghylch pa driniaethau a fydd yn cael eu darparu yn Llantrisant. Yn ôl Coleg Brenhinol y Llawfeddygon, rhan o’r ateb i fynd i’r afael â’r rhestrau aros enfawr yng Nghymru yw cyflymu datblygiad canolfannau llawfeddygol, fel y gall llawdriniaethau ddigwydd ar adegau pan fo’r GIG dan bwysau cynyddol, sef nawr. O ystyried y fantais a roddir gan driniaethau a gynlluniwyd wedi'u segmentu, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet sicrhau nad ar gyfer diagnosteg yn unig y bydd y ganolfan ranbarthol arfaethedig, ond ar gyfer llawdriniaethau hefyd? Oherwydd, ar hyn o bryd, diagnosteg yn unig sy'n digwydd yno.
Na, gallaf gadarnhau’n llwyr i Altaf Hussain fod y cynllun ar gyfer diagnosteg a llawdriniaethau, gan gynnwys orthopedeg, ond llawdriniaethau eraill hefyd, yn yr amgylchedd dewisol, gwyrdd hwnnw, a bydd yn gwybod beth a olygaf wrth hynny.
Hoffwn gydnabod y pwynt y mae wedi'i wneud am Goleg Brenhinol y Llawfeddygon. Mae eu dadl yn argyhoeddiadol iawn, yn enwedig mewn perthynas ag orthopedeg, ond mewn cyd-destunau llawfeddygol eraill hefyd. Rwyf wedi cael cyfle, nid yn unig i ddarllen y gwaith hwnnw, ond i'w drafod gyda hwy, ac mewn gwirionedd, byddaf yn siarad yn eu cynhadledd yn nes ymlaen yr wythnos hon, ac rwy'n gobeithio y bydd hwnnw’n gyfle i ymgysylltu ymhellach â hwy ar y weledigaeth y maent yn ei rhannu gyda ni yn y math hwn o ddatblygiad.
Mae cwestiwn 2 [OQ61931] wedi'i dynnu'n ôl. Cwestiwn 3 sydd nesaf—Mark Isherwood.
3. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector gofal cymdeithasol? OQ61923
Yn ogystal â’r cymorth ariannol y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu, mae ein Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth sydd newydd ei lansio yn cynnig dull newydd o gefnogi’r sector. Nod ein ffocws ar atebion cynaliadwy yw sicrhau bod gwasanaethau o ansawdd uchel yn cael eu darparu’n barhaus, gan sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion uniongyrchol a hirdymor ledled Cymru.
Diolch. Yn ddiweddar, ymwelais â chartref preswyl yng ngogledd Cymru gyda Fforwm Gofal Cymru i drafod materion sy’n bygwth hyfywedd y sector. Yng ngoleuni cyllideb yr hydref y DU, roedd y rhain yn cynnwys cost gynyddol cyfraniadau yswiriant gwladol a’r cyflog byw cenedlaethol, a phryder, er mai bwriad cod ymarfer y fframwaith cenedlaethol ar gyfer comisiynu gofal a chymorth yng Nghymru, a ddaeth i rym ar 1 Medi eleni, o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, yw symud arferion comisiynu presennol awdurdodau lleol oddi wrth gost a thuag at ansawdd a gwerth cymdeithasol, a sicrhau bod gan bobl lais a rheolaeth dros eu gofal a'u cymorth, fod sir Ddinbych yn lleoli pobl ar sail cost yn unig, gan nodi, pan fydd yn penderfynu diwallu anghenion cymwys dinesydd am ofal a chymorth drwy drefnu llety cartref gofal, ei bod yn ofynnol iddynt ddod o hyd i’r llety hwnnw am bris neu mor agos at bris y maent yn credu sy’n gynaliadwy a chosteffeithiol, a elwir yn gyfradd ddangosol. Pa ymyrraeth a chymorth, felly, y bydd Llywodraeth Cymru yn eu darparu ar gyfer y sector gofal yn yr ardaloedd hyn?
A gaf i ddiolch yn gyntaf i Mark Isherwood am ei gwestiwn? Ac wrth gwrs, rydym yn gwbl ymwybodol o'r pwysau anhygoel sydd ar ofal cymdeithasol a'r angen inni ailgydbwyso a diwygio'r ffordd y caiff gofal cymdeithasol ei ddarparu, a dyna pam ein bod wedi sefydlu'r fframwaith cenedlaethol ar gyfer comisiynu gofal a chymorth, a pham ein bod wedi sefydlu’r Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth, gyda’r bwriad o symud, yn y tymor hwy, tuag at wasanaeth gofal cenedlaethol, am ddim pryd a lle bynnag y bo’i angen.
Mae’r pwyntiau a godwyd gennych yn rhai da, fodd bynnag, ac yn bethau yr ydym yn eu gweld ledled y wlad, ond mae fframwaith yno i'w gwneud hi'n bosibl datblygu’r ddarpariaeth o ffioedd gofal cymdeithasol mewn partneriaeth rhwng yr awdurdod lleol, a lle bo’n briodol, y gwasanaeth iechyd, a dyna’n union y bwriedir i'r fframwaith ei wneud. Nid mater o gyflwyno ffioedd cyson neu’r un ffioedd ledled y wlad yw hyn o reidrwydd, ond dull gweithredu cyson i sicrhau nad oes loteri cod post o ran ffioedd comisiynu. Ac rydym wedi cynnal nifer o sesiynau gyda chomisiynwyr ledled Cymru, gan roi cefnogaeth a phecyn cymorth iddynt i'w galluogi i weithio yn y ffordd y gwyddom y bydd yn sicrhau'r canlyniadau gorau. Rydym yn nodi lle mae gennym arferion gorau ac rydym yn safoni comisiynu gofal a chymorth, a fydd, yn y tymor hwy, gobeithio, yn lleddfu'r mathau o faterion a godwyd gennych heddiw.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Sam Rowlands.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn ymwybodol fod ymarfer cyffredinol dan bwysau aruthrol. Mae dros 100 o feddygfeydd yng Nghymru wedi cau ers 2012, gan ei gwneud hi'n anos i bobl gael mynediad at feddyg teulu yn eu hardal leol. Mae'n amlwg fod meddygfeydd dan fwy byth o bwysau diolch i'r cynnydd i gyfraniadau yswiriant gwladol gan y Llywodraeth Lafur, sydd, fel y byddech yn ei gydnabod rwy'n siŵr, yn godiad treth ar weithwyr a busnesau. Yn wir, esboniodd meddyg teulu yn y lle hwn neithiwr fod y cynnydd yswiriant gwladol ar ei ben ei hun yn mynd i gostio £50,000 yn ychwanegol y flwyddyn i'w bractis. Mae Cymdeithas Feddygol Prydain wedi rhybuddio bod y mesur hwn mewn perygl o danseilio sefydlogrwydd ariannol meddygfeydd ac ansawdd y gofal y gallant ei ddarparu i gleifion. A ydych chi'n cytuno ag asesiad y BMA?
Mae'r Aelod yn rhoi'r pwynt i mi fel pe na bai ganddo gyfrifoldeb am y sefyllfa yr ydym ynddi. Mae Llywodraeth Lafur y DU wedi gorfod gwneud dewisiadau anodd tu hwnt i glirio'r llanast a adawodd ei Lywodraeth—cyflwr echrydus cyllid cyhoeddus: £22 biliwn o lanast a adawodd ei Lywodraeth ar eu holau. Felly, mae Llywodraeth Lafur y DU wedi gorfod gwneud dewisiadau anodd er mwyn gwneud hynny. Nid oes yr un ohonom eisiau gorfod gwneud y dewisiadau hynny, ond mae arnaf ofn fod y cyfrifoldeb yn llwyr ar yr ochr honno i'r Siambr am yr amgylchiadau y mae Sam Rowlands yn eu nodi.
Wrth gwrs, fel y cydnabu, caiff penderfyniadau ynghylch cyfraniadau yswiriant gwladol eu gwneud gan Lywodraeth y DU. Rwy'n gwbl ymwybodol o bryderon a dynnwyd i fy sylw i yn uniongyrchol gan y BMA ac eraill, mewn perthynas ag effaith cyfraniadau yswiriant gwladol, ar ddarparwyr gofal sylfaenol—meddygon teulu ac eraill—a darparwyr gofal cymdeithasol. Rydym yn monitro'r sefyllfa mewn trafodaeth â hwy i ddeall yn llawn beth yw'r goblygiadau, ac yn yr un modd, yn cael trafodaethau gyda'r Trysorlys drwy swyddogion yn adran fy nghyfaill, Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid.
Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau bod y diffiniad y bydd yn ei ddefnyddio ar gyfer y cymorth y bydd yn ei ddarparu yn ymwneud â gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus yn unig. Nid ydym mewn sefyllfa ar hyn o bryd i ddeall effeithiau llawn y penderfyniad hwnnw ar y sectorau, ond rydym mewn trafodaethau parhaus.
A dweud y gwir, ar y pwynt hwn, mewn ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet—25 mlynedd o Lywodraeth Lafur yma yng Nghymru, 25 mlynedd o gyfrifoldeb am ddarparu gwasanaethau iechyd, 25 mlynedd o sicrhau bod practisau meddygon teulu'n gallu gweithredu hyd eithaf eu gallu—mae'n ymddangos bod yna fethiant i ysgwyddo cyfrifoldeb ar eich ochr chi i'r Siambr yma heddiw.
Mae'n eithaf amlwg y bydd llawer o bractisau'n methu fforddio'r cynnydd mewn yswiriant gwladol y dewisodd y Llywodraeth Lafur yn San Steffan ei weithredu. Ac maent wedi cydnabod eu bod yn mynd i leihau eu staff a'u gwasanaethau o ganlyniad. Felly, rydym wedi cael dros 100 o feddygfeydd teulu yn cau dros y 12 mlynedd diwethaf. Mae capasiti a'r modd y darparir gwasanaethau yn mynd i fod yn anos oherwydd dewisiadau'r Llywodraeth Lafur. Ac wrth gwrs, ar hyn o bryd, rydych chi'n ceisio sefydlu contract newydd gyda meddygon teulu drwy'r contract gwasanaethau meddygol cyffredinol. Nawr, o siarad â meddygon teulu, rwy'n deall eu bod yn credu bod y cynnig a wnewch iddynt ar hyn o bryd yn gwbl annigonol ac yn dangos diffyg ystyriaeth i'r problemau a'r pwysau hirsefydlog y maent yn gyson yn eu dwyn i fy sylw i ac Aelodau ar draws y Siambr, ac mae'r bleidlais ar y cynnig ar hyn o bryd yn debygol o gael ei wrthod. Felly, beth yw eich cynllun i fynd i'r afael â phleidlais i wrthod y cynnig contract sydd gennych chi ar gyfer meddygon teulu ar hyn o bryd?
Wel, yn amlwg, rwy'n siomedig fod negodiadau'r contract gwasanaethau meddygol cyffredinol eleni wedi dod i ben heb benderfyniad, a'r un mor siomedig fod Pwyllgor Meddygon Teulu Cymru wedi penderfynu rhoi pleidlais i'w haelodau ar y cynnig a wnaed. Rwyf am ein gweld mewn sefyllfa lle mae staff gweithgar mewn ymarfer cyffredinol yn gallu cael codiad cyflog cyn gynted â phosibl, ynghyd â newidiadau i'r gwasanaeth y credaf fod pawb yn cydnabod y byddant yn gwella gofal cleifion, sef yr hyn y mae pawb ohonom eisiau ei weld.
Mae'r cynnig a wnaethom i BMA Cymru—ac rwyf wedi cyfarfod â hwy fy hun, fel y nodais wrth yr Aelod eiliad yn ôl—yn diwallu argymhelliad y corff adolygu cyflogau ar gyfer meddygon teulu yn ogystal â staff practis ac yn adeiladu ar fuddsoddiad dros sawl blwyddyn. Mae'n gwbl hanfodol fod gennym wasanaethau gofal sylfaenol o ansawdd uchel y gall pobl eu defnyddio'n agos at adref. Mae'n flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Rwy'n gwerthfawrogi'n llwyr y gwaith y mae meddygon teulu a'u timau yn ei wneud yn darparu'r gwasanaethau hanfodol hyn, ac rwy'n disgwyl y cawn gyfle i barhau â'r trafodaethau gyda meddygon teulu dros yr wythnosau nesaf.
Wrth gwrs, Ysgrifennydd y Cabinet, roeddech chi'n cydnabod yno y gwerth sydd i bractisau meddygon teulu yn ein cymunedau yn cefnogi pobl ledled Cymru, ond mae angen dilyn y gwerth hwnnw gan gynnig sy'n ddigonol i ateb y galw wrth eu drysau. Rydych chi wedi sôn bod y cynnig a wnaed ar hyn o bryd yn cyd-fynd â'r hyn a ddisgwyliwyd yn y gorffennol, ond yn amlwg, rydych chi'n gwybod nad yw'r hyn sydd ar y bwrdd yn ddigon i fodloni'r gofynion a wynebant. Felly, a ydych chi'n cadarnhau heddiw y byddwch chi'n dychwelyd at y bwrdd gyda chynnig digonol sy'n cydnabod y galwadau a wnaed gan ymgyrch Achubwch ein Meddygfeydd y BMA ac sydd o ddifrif yn parchu ac yn gwerthfawrogi'r cyfraniad y mae meddygon teulu yn ei wneud yn ein cymunedau ac i'r GIG yma yng Nghymru?
Wel, rwy'n siŵr nad yw meddygon teulu, ac yn sicr nid wyf i'n ystyried mai negodi trwy'r Aelod yn y Siambr yw'r ffordd fwyaf effeithiol o fynd i'r afael â'r hyn sy'n amgylchiadau anodd; byddai'r ddwy ochr yn cydnabod hynny. Y cyfan a ddywedaf yw ein bod wedi cael trafodaethau da ac adeiladol gydag ymarferwyr cyffredinol, mewn cyd-destun heriol. Fel y dywedaf, rwy'n siomedig fod y cam wedi'i gymryd fel y mae, ond gobeithio y bydd cyfle i barhau â'r trafodaethau hynny. Ac fel y dywedaf, rwyf am weld staff ymarfer cyffredinol yn cael codiad cyflog cyn gynted â phosibl.
Llefarydd Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Wel, Ysgrifennydd y Cabinet, ces i'r fraint o fynychu uwch-gynhadledd canser y Sefydliad Canser Ewropeaidd yr wythnos diwethaf, ac roedd hi’n drawiadol pa mor ddatblygedig oedd nifer o’n cymdogion Ewropeaidd pan fo’n dod at ddiagnosis, triniaeth a byw’n dda gyda chanser. Mae datganiad ansawdd ar gyfer canser y Llywodraeth yma yn un uchelgeisiol, gan bwysleisio diagnosis cynnar, cyfeirio at driniaeth, a sicrhau bod cynllunio’r gweithlu yn alinio i alwadau'r dyfodol ac ymagwedd sy'n canolbwyntio ar y claf. Ond gyda bod ystadegau perfformiad diweddaraf yr NHS yn dangos nad ydy bron i hanner cleifion canser Cymru yn derbyn y driniaeth angenrheidiol o fewn yr amser dynodedig, a chyfraddau goroesi cyflyrau fel canser yr iau, pancreatig, y stumog ac eraill ymhlith y gwaethaf yn y byd datblygedig, pryd ydym ni am gyrraedd y pwynt ble mae’r rhethreg a’r disgwyliadau yn cyd-fynd â’r canlyniadau?
Wel, mae gwasanaethau canser wrth gwrs yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth. Roedden ni yn siomedig â'r ffigurau perfformiad, y rhai a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf. Fe welson ni ostyngiad o ychydig yn y perfformiad ar draws y system yn gyfangwbl. Mae'r darlun yn amrywio o le i le ac yn dibynnu ar y math o ganser. Roeddwn i'n gallu bod, er enghraifft, yr wythnos diwethaf mewn canolfan canser y fron a oedd wedi dwyn gwasanaethau at ei gilydd ac yn cyrraedd y nod o rhyw 79 y cant o bobl yn cael eu gweld o fewn y 62 diwrnod. Felly, mae enghreifftiau llwyddiannus yn y system hefyd, a beth dŷn ni eisiau ei weld, wrth gwrs, yw hynny yn ehangach ar draws y system. Fe fyddwn i yn dweud, yn amryw o'r mathau o ganser y gwnaeth yr Aelod sôn amdanyn nhw yn ei gwestiwn, fod datblygiadau technolegol cyffrous yn digwydd yn rhyngwladol, yn cynnwys yma yng Nghymru, yn cynnwys gydag AI hefyd, a dŷn ni'n edrych ar sut y gallwn ni ddefnyddio'r rheini i allu sicrhau bod mwy o bobl yn cael triniaeth bwysig cyn gynted ag sy'n bosib.
Diolch am yr ateb yna, Ysgrifennydd y Cabinet. Mi oeddech chi'n sôn am y datblygiadau technolegol cyffrous yma. Wrth gwrs, un o’r nodweddion mwyaf trawiadol am yr uwch gynhadledd roeddwn i ynddi oedd pa mor bell y mae nifer o’r gwledydd yma o’n blaenau ni pan fo'n dod at ddatblygiadau technolegol, megis digideiddio gofal iechyd. Mae’r Ffindir, er enghraifft, wedi bod yn digideiddio data ar gleifion canser ers yr 1970au, ac roedd straeon tebyg am gamau breision yn cael eu gwneud yn Slofenia ac yn Estonia. Mae’r gwledydd yma yn rhannu un peth yn gyffredin, sef eu maint. Maen nhw’n wledydd bach, ac mi ydym ni'n clywed yn gyson am sut mae gan wledydd bach fantais pan fo'n dod at weithredu datrysiadau digidol yng ngofal iechyd. Ond mae’n ymddangos bod Cymru yn eithriad i’r rheol hon. Yma, mae gennym ni recordiau papur anghyson a hen dechnoleg analog, fel ffacs, yn cael eu defnyddio, ac mae’r gweithlu yn gyson yn cwyno nad ydy casglu data yn addas i bwrpas. Felly, ydy’r Ysgrifennydd Cabinet yn medru ateb pam nad ydy Cymru wedi manteisio ar ei statws fel cenedl fach a datblygu arbenigedd ar ddigideiddio iechyd? Beth ydy’r clwydi sy’n atal hyn rhag digwydd, ac ydy’r Llywodraeth, felly, yn ystyried digideiddio yn flaenoriaeth?
Mae digideiddio yn rhan bwysig o sut rŷn ni’n gallu esblygu gwasanaethau iechyd i gymryd mantais o’r dechnoleg, ond hefyd i sicrhau gwasanaethau sydd yn effeithlon ac yn ddiogel. Felly, mae e’n flaenoriaeth i’r Llywodraeth. Mae gennym ni amryw o raglenni o fuddsoddiad mewn prosiectau digidol ym mhob rhan o’r gwasanaeth ac ym mhob rhan o Gymru, yn aml yn digwydd ar lefel genedlaethol, ac, o bryd i’w gilydd, yn digwydd ar lefel leol. Ac mae Sarah Murphy, fy nghyd-Weinidog i, yn gyfrifol am y maes polisi hwn.
Byddwn i hefyd yn cymryd—. Mae’r Aelod yn gwneud pwynt pwysig am gymryd mantais o faint system, a maint cenedl, i allu gwneud cynnydd yn y maes yma. Byddwn i’n argymell iddo fe edrych ar y gwaith mae canolfan genomig Cymru yn ei wneud yn y maes hwn, yn aml yn gweithio ym maes canser—maes canser yr ysgyfaint yn ddiweddar; gwaith blaengar iawn wedi bod yn digwydd fanna. Ac mae cytundeb wedi ei gytuno’n ddiweddar gyda Illumina, cwmni biotech rhyngwladol, er mwyn gwneud mwy o waith, sydd ar flaen y gad, os hoffwch chi, yn rhyngwladol, a dyna’r union sgwrs roedden ni’n gallu ei gael gyda nhw. Roedden nhw’n gweld manteision mawr i weithio gyda Chymru ym maes genomig, gan fod gyda ni un system a bod gyda ni boblogaeth cymharol fach.
Felly, mae manteision, a, lle mae gennym ni fantais naturiol, rŷn ni wedi bod yn llwyddiannus, er enghraifft, yn genomig, yn symud ac yn gwneud cynnydd sylweddol iawn. Mae mwy i'w wneud, ac mae’r cyfle yn sylweddol iawn. Ond mae’n deg i ddweud hefyd, rwy’n credu, fod pobl yn edrych i Gymru am ddatblygiadau cyffrous yn y maes hwnnw.
Wel, rhan o'r ateb yn unig yw diwygio'r seilwaith digidol a data i wella canlyniadau i gleifion canser. Mae arnom angen gweithlu i fynd gyda hynny. Mae ansefydlogrwydd y gweithlu oncoleg wedi bod yn fater o bryder ers amser maith yn hyn o beth. Disgwylir i'r prinder oncolegwyr clinigol godi i 28 y cant erbyn 2028, ac mae'r prinder hwn wedi arwain yr holl ganolfannau canser a arsylwyd yng Nghymru i adrodd am oedi cyn rhoi triniaeth. Ac yn debyg iawn i'n gwasanaethau meddygon teulu, neu nyrsio, rydym yn dibynnu'n ormodol ar recriwtio oncolegwyr clinigol locwm. Yn wir, mae adroddiad Coleg Brenhinol y Radiolegwyr yn dangos bod 19 y cant o staff oncoleg Cymru wedi eu categoreiddio fel staff locwm, o gymharu â 9 y cant yn Lloegr, a 5 y cant yn yr Alban. A oes gan Lywodraeth Cymru strategaeth ar gyfer sicrhau cadernid y gweithlu oncoleg clinigol yn y dyfodol y tu hwnt i logi mwy o staff locwm yn unig, nad yw'n gosteffeithiol yn ôl yr hyn a ddywed adroddiad Coleg Brenhinol y Radiolegwyr yn glir, ac sy'n peryglu sefydlogrwydd hirdymor y gwasanaeth?
Rwy'n credu bod yr Aelod yn iawn i dynnu sylw at y ffaith bod heriau o ran recriwtio, a gall hynny effeithio ar ddisgyblaethau penodol o fewn oncoleg. Rwy'n credu ei bod yn her y mae rhannau eraill o'r DU hefyd yn ei rhannu. Mae'r Aelod yn rhannu ystadegau a ffigurau gyda ni heddiw sy'n awgrymu bod hwn yn batrwm nad yw'n gyfyngedig i Gymru. Nid yw hynny'n ddigon da fel ateb, ond mae'n rhan o'r cyd-destun pwysig. Credaf y bydd y gallu i ddenu staff yn y maes hwn yn cael ei gyfoethogi a'i gefnogi gan ddatblygiadau yn y maes digidol, datblygiadau mewn genomeg, datblygiadau mewn ymchwil ac arloesi, y gwyddom y gallant ddenu ymarferwyr o ystod o ddisgyblaethau. Dyna pam y mae datblygiadau, a mynd ar drywydd y rheini hefyd, ochr yn ochr â strategaethau recriwtio sy'n targedu'r gweithlu yn benodol, yn rhan o'r darlun cyfan.
4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gwella hygyrchedd i wasanaethau iechyd ar draws gofal sylfaenol ac eilaidd i drigolion Rhondda? OQ61928
Mae 'Cymru Iachach' yn nodi ein gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau gofal sylfaenol ac eilaidd yng Nghymru. Rydym yn gweithio gyda GIG Cymru i wella mynediad at wasanaethau yn y Rhondda a gweddill Cymru, yn unol â'n cynllun.
Diolch. Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i iechyd da, a chamau gweithredu Ysgrifennydd y Cabinet i fynd i'r afael â rhestrau aros, yn galonogol iawn i fy etholwyr, sy'n dweud wrthyf eu bod, mewn rhai ardaloedd, yn dal i wynebu'r ymrafael 8 o'r gloch y bore i gael apwyntiad meddyg teulu, ac mae eraill wedi bod yn aros dros flwyddyn am driniaethau fel llawdriniaeth cataract. Gwn y bydd y cyhoeddiadau cyllid diweddar i fynd i'r afael â rhestrau aros, ynghyd â chynlluniau ar gyfer y ganolfan ddiagnostig a thriniaeth ger Ysbyty Brenhinol Morgannwg, yn arwain at well canlyniadau gofal iechyd i fy etholwyr. Ac rwy'n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi crybwyll hyn o'r blaen, ond a allai roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y ganolfan ddiagnostig a thriniaeth, egluro sut y bydd bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg yn defnyddio ei gyfran o'r £50 miliwn a ddyrannwyd i leihau amseroedd aros, ac amlinellu cynlluniau i gyflawni dull fferyllfa yn gyntaf ledled Cymru?
Yn sicr. Mae'r Aelod yn nodi'r ystod o gamau yr ydym yn eu cymryd fel Llywodraeth i wella mynediad at ofal ac i gyflymu mynediad at apwyntiadau meddygol a thriniaethau. Bydd trigolion ei hetholaeth, fel ym mhob rhan o Gymru, yn elwa o hynny. Mae hi'n gofyn yn benodol i mi am y datblygiadau ym mharc iechyd Llantrisant. Bydd cyfarfod yn ddiweddarach yr wythnos hon o'r holl bartneriaid i nodi cynnydd mewn perthynas â'r cynlluniau ar gyfer y prosiect yn fwyaf arbennig. Ond mae angen i'r gwaith barhau mewn perthynas â'r model gweithredu, y bydd angen iddo fod yn fodel rhanbarthol, yn ogystal â chynllun gweithlu er mwyn cefnogi'r datblygiad yno. Rwy'n credu ei fod yn ddatblygiad cyffrous, ac fel y soniais yn gryno yn gynharach, bydd yn darparu gallu diagnostig yn ogystal â llawdriniaeth ddewisol, yn aml mewn mannau lle mae gennym rai o'r amseroedd aros mwyaf heriol ar hyn o bryd.
Felly, rwy'n credu ei fod yn gam ymlaen. Nid yw'n gam ymlaen ar unwaith yn y tymor byr. Felly, yr arian a ddarparwyd gennym dros yr wythnosau diwethaf—. Bydd Cwm Taf Morgannwg yn cymryd rhan yn hynny. Ac yn ogystal, rydym wedi gallu darparu cymorth i'r bwrdd iechyd ar gyfer ymdrin â chanlyniadau'r datblygiadau yn Ysbyty Tywysoges Cymru, sy'n effeithio ar ôl troed cyfan y bwrdd iechyd, am resymau a fydd yn amlwg, rwy'n credu.
Ysgrifennydd y Cabinet, yn ôl StatsCymru, o fis Medi eleni, roedd 9,319 o bobl yn aros am wasanaethau awdioleg yng Nghymru, gyda 3,845—tua 41 y cant—yn aros dros 14 wythnos. O'r ffigur o 9,319, mae 1,027 yn Rhondda Cynon Taf. Rwyf wedi siarad sawl gwaith yn y Siambr hon i ofyn a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried defnyddio awdiolegwyr preifat ar y stryd fawr i ddarparu gwasanaethau awdioleg mewn lleoliad mwy cyfleus a hygyrch, yn yr un modd ag y mae'n defnyddio meddygon teulu, deintyddion a fferyllwyr. Mae clyw gwael yn uniongyrchol gysylltiedig â dirywiad gwybyddol ymhlith pobl hŷn, yn ogystal â phroblemau lleferydd ac iaith mewn plant, ac mae amseroedd aros hwy am wasanaethau awdioleg yn cynyddu'r tebygolrwydd y bydd pobl angen gwasanaethau gofal iechyd eraill. O ystyried bod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd £50 miliwn ychwanegol o gyllid ar gael i leihau'r amseroedd aros hwyaf, a allwch chi gadarnhau pa un a fydd unrhyw ran o'r cyllid hwn yn cael ei ddefnyddio i dalu am wasanaethau awdioleg a gomisiynir yn breifat yn y gymuned i helpu i leihau'r ôl-groniad o apwyntiadau yn GIG Cymru? Diolch.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Yn ddiweddar, cefais brofiad uniongyrchol o'r gwasanaethau awdioleg sydd ar gael ar y stryd fawr a deall pa mor bwysig y gall hynny fod. Mae'r cyllid a ddarparwyd gennym yn ystod yr wythnosau diwethaf wedi bod yn benodol mewn perthynas â chynlluniau gan fyrddau iechyd i fynd i'r afael â'r amseroedd aros hwyaf yn eu hardaloedd. Byddai angen imi ysgrifennu at yr Aelod ar wahân mewn perthynas â'r dyraniad penodol ar gyfer awdioleg. Fel y byddwch wedi'i nodi o'r hyn a ddywedais yn y Siambr yn ddiweddar, yn rhan o'r cymysgedd ehangach o fuddsoddiad ychwanegol yn y system, bydd llawer o hynny'n ymwneud â newid dulliau mewn lleoliadau gofal eilaidd i ddarparu gwasanaethau mewn gwahanol ffyrdd—felly, weithiau, clinigau ar gyfer niferoedd mwy o achosion ar gyfer ymyriadau heb fod yn gymhleth. Weithiau mae'n ymwneud â rhoi gweithgaredd ar gontract i leoliadau eilaidd. Ond mae yna elfen o gomisiynu gan y sector preifat hefyd, rhywbeth y bu'n rhaid inni ei wneud o bryd i'w gilydd. Ymrwymiad rwy'n ei wneud ac a wnawn fel Llywodraeth yw na fydd hynny byth ar draul cynaliadwyedd a gwelliant hirdymor y gwasanaeth iechyd cyhoeddus yng Nghymru.
5. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar y cynlluniau i ddatblygu canolfan iechyd a lles integredig yng Nghaergybi? OQ61949
Rwy'n ymwybodol iawn o gynigion ar gyfer canolfan iechyd a lles newydd yng Nghaergybi. Mae Llywodraeth Cymru nawr wedi cael cais am gyllid ar gyfer datblygu achos busnes.
Diolch yn fawr iawn am yr ymateb yna. Mi godais i'r achos yma rai wythnosau yn ôl, ychydig ddyddiau cyn i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ddod i benderfyniad ar yr achos amlinellol. Roeddwn i a llawer o drigolion Caergybi a’r ardal yn falch iawn fod y bwrdd iechyd bryd hynny wedi cytuno i gymeradwyo’r cam hwnnw, a bod hynny bellach wedi’i basio i’r Llywodraeth er ystyriaeth. Does dim angen i fi atgoffa’r Ysgrifennydd Cabinet o ba mor bwysig ydy hi ein bod ni'n gallu bwrw ymlaen ar fyrder i sefydlogi a datblygu gofal iechyd sylfaenol yng Nghaergybi a’r ardal. Felly, gaf i ofyn, ynglŷn â’r amseru, ba bryd fydd Llywodraeth Cymru’n debyg o ddod i gasgliadau ynglŷn â'r cyfnod yma yn y datblygiad, ynglŷn â sicrhau'r arian? A pha fath o becyn ariannol fydd yn cael ei ystyried, fel ei fod o'n barod i fynd pan fydd, gobeithio, yr achos llawn yn cael ei gyflwyno a'r cais llawn hwnnw am arian yn dod ar ddesg y Gweinidog?
Dwi ddim yn gallu rhoi amserlen benodol i'r Aelod, ond y math o beth sy'n cael ei ystyried ar y cam yma yw'r elfen weithredol, yr elfen o ran ariannu ac elfennau ymarferol eraill. Felly, mae'r gwaith hwnnw yn mynd rhagddo ar hyn o bryd.
O ran ffynonellau ariannu, mae amryw o ffynonellau sydd yn bosib ar gyfer hyn. Mae'r integration and rebalancing capital fund yn elfen bwysig o hyn, ond mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cael trafodaethau calonogol gyda Chyngor Sir Ynys Môn a'r bwrdd iechyd ynglŷn â'r datblygiad hwn a'r potensial o edrych ar gronfa Transforming Towns hefyd, oherwydd mae elfen o adnewyddu yn dod yn sgil y math yma o ddatblygiad. Felly, does dim cynnig wedi cael ei dderbyn i'r gronfa honno eto, ond mae mwy nag un ffordd y gellid cyfrannu tuag at hwn. Ond mae'r gwaith yn digwydd ar hyn o bryd o gloriannu'r cynnig yna ei hunan.
6. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau faint o'r £50 miliwn o gyllid i gefnogi byrddau iechyd, y cyfeiriwyd ato yn ei ddatganiad ar 17 Tachwedd 2024, y mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi'i gael? OQ61927
Bydd Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys, fel darparwr, yn derbyn eu cyfran o'r £3 miliwn ychwanegol i wella amseroedd aros niwroamrywiaeth i blant. Bydd 164 o drigolion Powys sy'n aros dros ddwy flynedd ar draws Cymru yn elwa o'r arian a roddir i'r byrddau iechyd eraill lle maent yn aros ar hyn o bryd.
O'r gorau. Diolch yn fawr, Ysgrifennydd y Cabinet. Ni wnaethoch ateb fy nghwestiwn o gwbl, ac rwy'n meddwl eich bod chi'n gwybod na wnaethoch ei ateb—fe ofynnais i chi yr wythnos diwethaf. Fe gyhoeddoch chi, 10 diwrnod yn ôl, mewn datganiad i'r Aelodau ac yng nghynhadledd y Blaid Lafur, y byddai gwerth £50 miliwn o wariant ar draws y saith bwrdd iechyd ac y byddai cyllid yn cael ei ddarparu iddynt ar unwaith. Dyna oedd geiriad eich datganiad. Felly, rwy'n gofyn yn benodol faint o'r £50 miliwn hwnnw y bydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn ei gael? Rwy'n credu eich bod wedi siarad am y £3 miliwn. Nid dyna'u cyfran; byddant yn derbyn rhan o'r £3 miliwn hwnnw. Ond rwy'n gofyn faint o'r £50 miliwn y bydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn ei gael. Rydym yn gwybod bod y pwysau ar y bwrdd iechyd yn eithafol. Gwyddom fod rhestrau aros mewn rhai meysydd yn sylweddol. Gwyddom fod yna israddio i ysbyty Llanidloes o ganlyniad i bwysau ariannol ar y bwrdd iechyd. Ac wrth gwrs, rwy'n gwybod y byddwch chi'n cytuno â mi ei bod yn hanfodol fod cydweithrediad trawsffiniol rhwng Cymru a Lloegr, ac wrth gwrs, mae'n rhaid i'r bwrdd iechyd ddarparu cyllid i fyrddau iechyd yn Lloegr er mwyn lleihau eu rhestrau aros eu hunain. Felly, a gaf i ofyn yn benodol, Weinidog, faint o'r £50 miliwn hwnnw y bydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn ei gael?
Wel, nid yw'n fwriad gennyf beri dryswch, felly gadewch imi geisio ei egluro'n syml. O'r £50 miliwn, mae yna gronfa gwerth £3 miliwn, sy'n cael ei dyrannu rhwng byrddau iechyd mewn perthynas ag amseroedd aros niwroamrywiaeth i blant. Bydd Powys yn cael cyfran o hynny, yn seiliedig ar berfformiad mewn perthynas â nifer y bobl sydd ar y rhestrau aros hwyaf sydd ganddo. Mae gweddill y cyllid—[Torri ar draws.] Rwy'n hapus i ateb cwestiwn yr Aelod, os yw'n barod i wrando arno. Mae gweddill y cyllid yn cael ei roi i fyrddau iechyd fel darparwyr ac yn cydnabod yr amseroedd aros hwyaf o fewn eu hôl troed fel darparwyr. Nid oes gan Bowys amseroedd aros hir am y gwasanaethau y maent hwy eu hunain yn eu darparu. Felly, mae dyraniad y £50.4 miliwn yn cyd-fynd â'r byrddau iechyd sydd â'r ôl-groniadau mwyaf o gleifion a'r amseroedd aros hwyaf, ac wrth gwrs, mae trigolion Powys wedi'u cynnwys yn y ffigurau hynny.
7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o niwrowahaniaeth o fewn byrddau iechyd? OQ61924
Rydym yn cyflawni newid. Ers 2022, rydym wedi buddsoddi £12 miliwn ychwanegol i gyflawni'r rhaglen gwella niwrowahaniaeth hyd at fis Mawrth 2025. Ac eleni, bydd £3 miliwn arall hefyd yn darparu cyllid i fyrddau iechyd i leihau'r amseroedd aros hwyaf am asesiadau i blant a phobl ifanc.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Diolch i waith caled ac ymroddiad ei staff, yn ddiweddar daeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn fwrdd iechyd cyntaf Cymru i ennill statws 'dealltwriaeth o awtistiaeth'. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i'w llongyfarch ar y cyflawniad gwych hwnnw. Er mwyn cyflawni'r statws hwnnw, cwblhaodd 85 y cant o staff y bwrdd iechyd fodiwlau e-ddysgu ar niwrowahaniaeth ac mae gwaith ar godi ymwybyddiaeth o niwrowahaniaeth ymhellach yn mynd rhagddo ar draws y bwrdd iechyd. Nod yr hyfforddiant yw helpu i sicrhau bod staff a chleifion niwrowahanol yn cael eu cefnogi'n well, naill ai wrth weithio i'r bwrdd iechyd fel gweithwyr neu wrth gael mynediad at wasanaethau fel cleifion. Mae'r achrediad yn cael ei roi gan y tîm niwrowahaniaeth cenedlaethol, ac mae hwnnw'n gorff a ariennir gan Lywodraeth Cymru sydd wedi ymrwymo i wella bywydau plant, pobl ifanc ac oedolion niwrowahanol a'u teuluoedd. Weinidog, a allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â sut y mae byrddau iechyd eraill ledled Cymru yn bwrw ymlaen â sicrhau 'dealltwriaeth o awtistiaeth'?
Diolch yn fawr i Joyce Watson am y cwestiwn, oherwydd mae hefyd yn rhoi cyfle i minnau hefyd longyfarch a diolch i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda am fod yn fwrdd iechyd cyntaf Cymru i ennill statws 'dealltwriaeth o awtistiaeth'. Cefais gyfle i gyfarfod â Catherine Vaughan, rheolwr gwasanaethau niwroddatblygiadol yn Hywel Dda, a Liz Carroll, cyfarwyddwr iechyd meddwl ac anableddau dysgu, pan ymwelais â'r ganolfan lles seicolegol yng Nghaerfyrddin yr wythnos diwethaf. Mae'r tîm cyfan yn hollol wych ac ysbrydoledig, felly nid wyf yn synnu eu bod yn gyrru'r newid cadarnhaol hwn. Fel y soniodd Joyce Watson, caiff yr achrediad ei roi gan y tîm niwrowahaniaeth cenedlaethol, corff a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy'n ymroddedig i wella bywydau plant a phobl ifanc niwrowahanol a'u teuluoedd, ac mae'r tîm yn ymgysylltu â rhanddeiliaid o bob sector ledled Cymru i helpu i ddatblygu polisi, deddfwriaeth, adnoddau a gwybodaeth am niwrowahaniaeth. Mae hyn yn cynnwys awtistiaeth, helpu i gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth, a chael gwared ar rwystrau a allai atal pobl niwrowahanol rhag cyflawni eu potensial. Maent hefyd yn gweithio'n agos gyda holl reolwyr gweithlu'r bwrdd iechyd, ac maent wedi datblygu modiwl ADHD a syndrom Tourette yn ddiweddar ar gyfer yr e-ddysgu. Maent ar gael ar holl lwyfannau hyfforddiant digidol y bwrdd iechyd. Ac fel y dywedoch chi, er mwyn cyflawni'r statws 'dealltwriaeth o awtistiaeth', roedd yn rhaid i 85 y cant o'u 13,000 o staff gwblhau'r modiwl e-ddysgu, ac mae'r dyfarniad yn golygu bod y sefydliad yn deall awtistiaeth. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd hyn, yn ei dro, yn galluogi staff a chleifion niwrowahanol i gael eu cefnogi'n well yn yr amgylchedd gwaith, ac roeddwn eisiau rhoi dyfyniad yma gan Angela Lowe, sydd wedi dechrau gweithio ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda yn ddiweddar. Roedd hi'n dweud:
'O'r blaen, roeddwn i'n mynd adref a byddai'n rhaid imi fwrw bol drwy'r amser. Byddai llawer o brofiadau negyddol yn troi yn fy meddwl ac roedd yn eithaf ofnadwy mewn gwirionedd. Rwy'n dod adref nawr yn gyffrous iawn i fod adref ac yn edrych ymlaen at weld fy nheulu ac yn hapus iawn.
'Mae gweithio yma wedi newid fy mywyd.'
Felly, diolch am ddod â'r cyflawniad rhagorol hwn i'r amlwg, Joyce Watson. Ond hefyd, Hywel Dda yw'r unig fwrdd iechyd sydd wedi gwneud yr hyfforddiant 'dealltwriaeth o awtistiaeth' yn orfodol hyd yma. Ac felly, rwy'n credu mai wrth ei flas mae profi pwdin, ac rwy'n gobeithio y bydd hyn yn annog byrddau iechyd eraill i wneud hyn. Mae'r adnoddau ar gael yn eang, a byddaf yn darparu ymateb ysgrifenedig i Joyce Watson gyda'r wybodaeth ddiweddaraf am bob bwrdd iechyd a phob modiwl a lle maent arni gyda'u staff yn eu cwblhau. Diolch.
8. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddarparu diweddariad ynglŷn â datblygu'r cynllun iechyd menywod GIG Cymru arfaethedig? OQ61932
Bydd y cynllun iechyd menywod yn cael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr. Mae'r rhwydwaith iechyd menywod wedi ei ddatblygu drwy weithio mewn partneriaeth â'r holl fyrddau iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru, gweithrediaeth y GIG, y byd academaidd a Llywodraeth Cymru, gan wrando ar leisiau dros 3,800 o fenywod yn rhan o'r cam darganfod.
Diolch am hynny, Weinidog. Ychydig wythnosau yn ôl, cefnogodd y Senedd hon gynnig a gyflwynais gyda'r nod o gryfhau lleisiau menywod yn eu gofal iechyd. Galwai fy nghynnig am weithredu i fynd i'r afael â phoen menywod a sut y mae hynny'n cael ei dderbyn fel rhywbeth normal ym maes gofal iechyd, ac i'r cynllun iechyd menywod sydd ar y ffordd gael ei ddefnyddio fel modd o newid hynny. Cafodd y cynnig ei basio'n unfrydol. A allwch chi fy sicrhau, os gwelwch yn dda, y bydd y cynllun iechyd menywod sydd ar y ffordd yn mynd i'r afael â hynny mewn gwirionedd? Hoffwn yn fawr gael cyfarfod â chi inni gael trafod hynny ymhellach, os gwelwch yn dda. Rwy'n arbennig o bryderus ar hyn o bryd am y diffyg ôl-ofal digonol sy'n cael ei roi i fenywod ar ôl iddynt roi genedigaeth. Rwy'n deall bod rhestrau aros hir i weld gynaecolegwyr. Yn fwyaf arbennig, rwy'n poeni am ôl-ofal geni trawmatig. Cysylltodd un fenyw â mi a ddywedodd ei bod wedi cael gwybod y byddai'n rhaid iddi aros 15 mis. Rydym yn gwneud cam â menywod. Felly, a gawn ni gyfarfod os gwelwch yn dda i drafod hynny ac agweddau eraill ar y cynnig a basiwyd yn ddiweddar?
Yn sicr. Diolch yn fawr, Delyth Jewell, am y cwestiwn hwnnw ac am y ddadl a gawsom ychydig wythnosau yn ôl. A dweud y gwir—ac rwyf wedi ei nodi yn fy nodiadau yma—fe wnaethoch chi gloi'r ddadl drwy ddweud
'os oes un peth lle gallwn sicrhau newid, dylai lleisiau menywod gael eu clywed ac mae'n rhaid credu menywod.'
Felly, mae hynny'n treiddio drwy bopeth rwy'n ei wneud. Hefyd, pan wnaethoch bostio ar Facebook, gwelais faint o sylwadau a gawsoch, ac mae hynny'n siarad cyfrolau. Mae 3,800 o fenywod wedi cyfrannu at gam darganfod y cynllun iechyd menywod hwn yn unig. Mae hynny'n dweud y cyfan. Rydym yn brwydro i sicrhau bod ein lleisiau yn cael eu clywed. Fe hoffwn yn fawr gael cyfarfod. Byddai hynny'n ddefnyddiol iawn. Ac rwyf eisiau eich sicrhau fy mod yn benderfynol y bydd y cynllun yn dadlau dros fenywod a merched yn y GIG, ac y bydd yn grymuso menywod i gael eu clywed wrth iddynt gael ofal iechyd. Mae gan y rhwydwaith iechyd menywod rôl bwysig yn dadlau dros fenywod hefyd, a bydd y rôl hon yn cynnwys gweithio gyda'r rhwydweithiau clinigol eraill i sicrhau bod anghenion menywod yn cael eu hystyried, fod eu lleisiau'n cael eu clywed a bod eu profiadau'n cael eu cydnabod.
O ran yr hyn rydych chi'n sôn amdano, rhoi genedigaeth, rwyf innau hefyd yn gwneud llawer o ymweliadau ar hyn o bryd, ac un o'r pethau sy'n dod yn amlwg mewn gwirionedd yw trawma genedigaeth i fenywod, yn ogystal â'u partneriaid a'u teuluoedd. Rwy'n credu bod Mothers Matter, sydd wedi'u lleoli yn Nhonypandy yn y Rhondda, yn hollol wych, ond mae clywed ganddynt faint o fenywod sy'n dod i'w gweld yn dorcalonnus, ac mae gorfod aros 15 mis yn annerbyniol.
Fodd bynnag, hoffwn dalu teyrnged. Rwy'n cyfarfod â nifer o'r timau mamolaeth ledled Cymru, a'r bydwragedd profedigaeth hefyd, ac maent yn gwneud gwaith aruthrol, ond weithiau nid oes digon ohonynt, ac mae angen y gefnogaeth a'r cadernid hwnnw o fewn y tîm, oherwydd mae'r hyn y maent yn ei gynnig a'i ddarparu yn dipyn o dreth arnynt.
Felly, roeddwn eisiau dweud y buaswn yn croesawu cael sgwrs am hyn. Ac un o'r pethau sydd wedi dod yn amlwg iawn i mi yw bod menywod yn aml yn cael eu hannog i lunio cynllun geni ond nid ydynt yn cael eu hannog i lunio cynllun gwella i'r un graddau, a chredaf fod hynny'n rhywbeth y mae angen inni godi mwy o ymwybyddiaeth yn ei gylch. Mae angen amser arnoch i wella hefyd, ac mae angen i chi ystyried hynny. Ac mae'r pwysau ar ôl rhoi genedigaeth yn enfawr weithiau. Felly, rwy'n croesawu unrhyw beth y gallwn ei wneud gyda'n gilydd i ddatblygu hynny. Diolch.
Ac yn olaf, cwestiwn 9, Hannah Blythyn.
9. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fynediad at wasanaethau meddyg teulu yn Nelyn? OQ61935
Mae sicrhau mynediad da at wasanaethau meddygon teulu ledled Cymru yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Rydym wedi gweithio gyda'r proffesiwn meddygon teulu i gyflwyno newidiadau deddfwriaethol sy'n cefnogi gwelliannau mynediad, ac mae buddsoddiad drwy'r gronfa capasiti ychwanegol wedi helpu practisau i gyflogi mwy o staff i ddarparu gwell gwasanaethau i'w cleifion.
Diolch yn fawr am eich ymateb, Ysgrifennydd Cabinet.
Rwy'n llwyr gydnabod y gwaith rydych chi a Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ar hyn, ac wrth gwrs y pwysau ar bractisau mewn cymunedau ledled y wlad. Nodais yma yn y gorffennol fy mod wedi gwneud arolwg ar draws fy etholaeth dros yr haf ac i mewn i'r gaeaf nawr o'r enw, 'Ein Cartref, Ein Hiechyd', ac mae hwnnw wedi gofyn amryw o gwestiynau am fynediad at wasanaethau, ond hefyd am awgrymiadau gan bobl ynglŷn â sut y maent yn meddwl y gellid gwella neu newid pethau i ddarparu ar eu cyfer yn well.
Mae'n debyg na fyddwch yn synnu clywed, ond roedd mynediad at wasanaethau meddygon teulu yn fater a gafodd ei grybwyll gryn dipyn, yn anad dim oherwydd ein bod yn gwybod mai dyna yw cyswllt mwyaf cyffredin y rhan fwyaf o bobl â'r gwasanaeth iechyd. Ond er bod rhai pethau cadarnhaol i'w hadrodd, mae'n ymddangos bod yna gryn dipyn o feddygfeydd o hyd lle mae'r dagfa'n parhau i ddigwydd o gwmpas 8 y bore, lle rydych chi'n gorfod aros ar y ffôn am amser hir, ac ar ôl cael ateb o'r diwedd rydych chi'n cael gwybod nad oes apwyntiad ar gael, neu nad oes apwyntiad ar gael ar yr un diwrnod, ac na fydd rhai ond yn gallu cael mynediad drwy e-wasanaethau. Felly, mae'n amlwg fod angen gwneud rhywfaint o waith o hyd i sicrhau bod y polisïau hynny, pan gânt eu cyflwyno, yn gweithio'n dda yn ymarferol.
A gaf i ofyn, efallai, pan fydd y wybodaeth o fy arolwg wedi'i chrynhoi'n llawn, a fyddai'n bosibl i mi gyflwyno'r wybodaeth honno i chi? Ac yn rhan o hynny, hoffwn eich gwahodd i ddod i ymweld â gwasanaeth yn fy etholaeth i, lle gallwn siarad â phobl ar lawr gwlad yno hefyd. Diolch.
Wel, diolch i'r Aelod am y gwaith y bu'n ei wneud yn ei chymuned mewn perthynas â'r mater pwysig hwn, a buaswn yn hapus iawn i ymweld â phractis yn ei hetholaeth gyda hi a hefyd, yn amlwg, i dderbyn canfyddiadau'r gwaith ymchwil y mae hi wedi'i wneud. Rwy'n dweud, a dylwn fod wedi dweud hyn wrth Buffy Williams yn gynharach, os oes gennych chi feddygfeydd penodol lle rydych chi'n clywed bod pobl yn cael trafferth gyda mynediad, rhowch wybod i mi, oherwydd rwy'n awyddus i ddeall, yn enwedig oherwydd ein bod wedi diwygio'r contract gwasanaethau meddygol cyffredinol yn 2022 i gynnwys yr ymrwymiad mynediad, fel y mae'r Aelod wedi cydnabod yn ei chwestiwn, ac mae hwnnw wedi'i lunio'n benodol i fynd i'r afael â'r dagfa 8 y bore y cyfeiriodd ati. Mae practisau'n dweud wrthym, ar sail hunanatgyfeiriad, fod 97 y cant yn bodloni'r gofyniad i ddarparu model mynediad cyfunol gyda chymysgedd o apwyntiadau o bell, wyneb yn wyneb, brys, ar yr un diwrnod neu y gellir eu harchebu ymlaen llaw, i sicrhau bod mynediad mor hyblyg â phosibl. Ond fe fydd yn gwybod, fel y gwn i o fy mag post etholaethol fy hun, fod yna bractisau nad ydynt yn bodloni'r disgwyliad llawn hwnnw, ac fe ddylent. Felly, os gall roi gwybod i mi, buaswn yn ddiolchgar iawn.
Yn ogystal â hynny, rydym wedi ceisio cefnogi practisau i gyflawni'r nod hwnnw. Rydym wedi buddsoddi £12 miliwn yn y cyfamser i helpu i adeiladu capasiti practisau, gyda staff ychwanegol yn benodol i gefnogi'r ymrwymiad hwnnw, ond rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod cynnydd go sylweddol wedi bod, ond mae'n amlwg fod mwy i'w wneud, a hoffwn weld yr holl bractisau'n cyflawni'r ymrwymiad 100 y cant.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Does yna ddim eitemau o dan eitem 3.
Eitem 4 yw'r datganiad 90 eiliad. Y datganiad y prynhawn yma gan Mabon ap Gwynfor.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Yr wythnos diwethaf oedd Wythnos Ymwybyddiaeth o Ymwrthedd Gwrthficrobaidd y Byd. Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi disgrifio ymwrthedd gwrthficrobaidd fel un o'r bygythiadau mwyaf sy'n wynebu dynoliaeth yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae angen mynd i’r afael ag ymwrthedd gwrthficrobaidd am sawl rheswm. Yn gyntaf ac yn bennaf, mae gwrthfiotigau yn achub bywydau. Mewn byd ôl-wrthfiotig, gallai hyd yn oed mân heintiau fel heintiau croen ac wrin arwain at fynd i'r ysbyty neu hyd yn oed farwolaeth. Drwy frwydro yn erbyn ymwrthedd gwrthficrobaidd, byddwn yn sicrhau dyfodol hirdymor y triniaethau meddygol hanfodol hyn. Mae rheoli ymwrthedd gwrthficrobaidd hefyd yn hanfodol er mwyn cadw gweithdrefnau iechyd arferol fel llawdriniaethau, triniaethau canser a thrawsblaniadau organau, sydd i gyd yn dibynnu ar wrthfiotigau effeithiol er mwyn atal heintiau.
Rhaid cofio hefyd fod gwrthfiotigau yn hanfodol ar gyfer cynhyrchu bwyd ac amaethyddiaeth. Os daw'r gwrthfiotigau yna'n aneffeithiol, gallai hefyd fygwth y gadwyn cyflenwi bwyd byd-eang. Wrth gwrs, mae brwydro yn erbyn ymwrthedd gwrthficrobaidd yn gofyn am ymdrech fyd-eang, ond rwy’n gobeithio y gallwn ni fel Senedd gytuno ei bod yn bwysig bod Cymru’n chwarae ei rhan drwy gydweithio’n rhyngwladol i ddatblygu cyffuriau newydd a hyrwyddo defnydd cyfrifol o wrthfiotigau.
Ac yn olaf, o fewn Cymru, dwi'n annog y Llywodraeth a’r gwasanaeth iechyd i ganmol gwaith caled ac arweiniad y tua 30 o fferyllwyr gwrthficrobaidd arbenigol sy’n gweithio ledled y wlad. Maen nhw'n gweithio’n ddiflino er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r bygythiad hwn a sicrhau ein bod yn gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o wrthfiotigau, gan gadw eu heffeithiolrwydd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Eitem 5 sydd nesaf. Datganiad gan James Evans yw hwn, ar y diweddaraf am y Bil Safonau Gofal Iechyd Meddwl (Cymru) arfaethedig. Ac felly, James Evans i gyflwyno'i ddatganiad.
Diolch, Lywydd, ac mae'n bwysig i mi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd ar fy Mil Safonau Gofal Iechyd Meddwl (Cymru) a'r sefyllfa hyd yma. Hoffwn roi rhywfaint o gefndir i chi. Pan gyflwynais y Bil hwn, fe wneuthum ei gyflwyno oherwydd bod gennym ddwy ddeddfwriaeth sylfaenol ar draws y Deyrnas Unedig sy'n ein harwain mewn perthynas â gofal iechyd meddwl, sef Deddf Iechyd Meddwl 1983 a Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010, a gafodd ei arwain drwy'r Senedd hon gan Jonathan Morgan. O'r holl sgyrsiau a gefais pan oedd gennyf y briff iechyd meddwl ar ran yr wrthblaid, roedd y ddwy ddeddfwriaeth wedi dyddio, nid ydynt yn addas i'r diben, ac nid ydynt yn cynrychioli Prydain yr unfed ganrif ar hugain. Mae'r deddfwriaethau hynny'n siomi nifer o bobl, nid yn unig yma yng Nghymru, ond ar draws y Deyrnas Unedig gyfan. Felly, yr hyn y ceisiais ei wneud oedd gwella'r ddeddfwriaeth honno.
Ar y pryd, penderfynodd Llywodraeth y DU dynnu'r Mesur Iechyd Meddwl yn San Steffan yn ôl, penderfyniad a oedd yn destun gofid mawr i mi ac yn gamgymeriad yn fy marn i. Felly, penderfynais gyflwyno fy Mil fy hun yma yn y Senedd ac roeddwn yn ddiolchgar iawn, pan gyflwynwyd y Bil hwnnw, fy mod wedi gallu ennyn cefnogaeth drawsbleidiol i'r Bil, yn enwedig gan Lywodraeth Cymru, fy ngrŵp fy hun a Phlaid Cymru. A byddaf yn fythol ddiolchgar i'r Prif Weinidog blaenorol—wel, y Prif Weinidog cyn yr un blaenorol—Mark Drakeford, a gefnogodd hyn hefyd.
Wrth imi fynd drwy'r camau o ddatblygu'r Bil hwn, daeth yn amlwg fod rhai heriau anodd iawn y mae angen eu goresgyn, rhai heriau a fyddai'n cymryd llawer mwy o amser na'r broses sydd ar gael i mi i gyflwyno deddfwriaeth sy'n addas i'r diben, y gellir ei gweithredu ar y diwrnod cyntaf ar ôl ei chyflwyno, ac i sicrhau ei bod yn gwasanaethu'r bobl hynny ledled Cymru mewn gwirionedd. Egwyddor arweiniol i mi, ers imi ddod yma, yw na ddylem gyflwyno deddfwriaeth i'r Senedd hon os yw'n ddiffygiol ac os nad yw'n diwallu anghenion y bobl rydym yn eu gwasanaethu. Felly, am y rheswm hwnnw, Lywydd, rwyf wedi penderfynu tynnu fy Mil yn ôl ac rwyf am nodi rhai rhesymau dros wneud hynny.
Un o'r prif resymau yw bod Llywodraeth newydd y DU wedi penderfynu cyflwyno'r Mesur Iechyd Meddwl yn San Steffan i ddiweddaru'r ddeddfwriaeth honno, rhywbeth y mae angen ei wneud. Rwy'n credu ei bod yn bwysig, mewn perthynas â rhai rhannau o'r ddeddfwriaeth hon, ein bod yn gweithio ar sail drawsffiniol yng Nghymru a Lloegr. I mi, roedd un o rannau allweddol y Bil yn ymwneud â phobl a enwebwyd. Rydym yn clywed yn llawer rhy aml fod pobl sy'n dioddef cam-drin domestig, neu unrhyw fath o gamdriniaeth, yn gorfod troi at wasanaethau iechyd meddwl, ac yn aml iawn eu camdriniwr yw'r un sy'n cynghori ar eu gofal iechyd meddwl. I mi, mae hynny'n wrthun, nid yw'n iawn, ond mae'r system wedi'i sefydlu ar hyn o bryd i frwydro yn erbyn hynny. Mae hynny'n rhywbeth yr wyf wedi bod eisiau ei newid yng Nghymru ac mae'r Mesur Iechyd Meddwl newydd yn San Steffan yn cyflwyno hynny. Felly, cafodd hwnnw ei ddileu ar y pwynt hwnnw hefyd.
Roeddwn eisiau gwneud gwaith ar gadwad hefyd. Fel y gwelais yn ystod datblygiad y Bil, mae'n anodd iawn gosod meini prawf gwahanol ar gyfer gosod dan gadwad ar draws Cymru a Lloegr, yn bennaf am nad yw cyfiawnder wedi'i ddatganoli i Gymru, felly mae'n anodd iawn mewn perthynas â'r elfen blismona a sut y mae hynny'n gweithio'n ymarferol. Felly, cafodd hwnnw ei dynnu o'r Bil hefyd wrth ei gyflwyno.
Un o'r prif bethau yr oeddwn eisiau ei newid oedd diweddaru—ac roedd yn sbardun wrth iddo fynd yn ei flaen—ailasesu plant. Fel y mae'r ddeddfwriaeth wedi'i drafftio ar hyn o bryd yn y Mesur Iechyd Meddwl (Cymru), ni ellir ailasesu iechyd meddwl pobl ifanc. Nid yw hynny'n cydymffurfio â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a dywedwyd hynny wrthyf gan Barnardo's a sefydliadau eraill y cyfarfûm â hwy yn fy amser ar y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Cafodd y ffaith bod pobl ifanc yn cael eu hamddifadu o'r un cyfleoedd ag eraill ei godi fel problem. Felly, roedd hynny'n rhywbeth yr oeddwn eisiau ei newid gyda'r Gweinidogion a oedd yn rhan o'r Bil, yn ystod ei ddatblygiad.
Yr hyn a welais a'r hyn rwy'n credu sydd angen ei newid a'i ystyried yw sut y mae'r Senedd yn edrych ar ddeddfwriaeth meinciau cefn. Mae'n cael ei reoli'n llym ar hyn o bryd, mae'n gyfnod byr iawn, fel y gŵyr Aelodau eraill sydd wedi cyflwyno deddfwriaeth meinciau cefn. A byddai cyflwyno'r ddeddfwriaeth sydd ei hangen i sicrhau bod plant yn cael eu diogelu, i sicrhau bod yr holl fesurau diogelu ar waith yn cymryd dros ddwy flynedd yn ôl fy amcangyfrifon i. Nid yw'r amser hwnnw ar gael i mi. Ac fel y dywedais yn gynharach, nid wyf am gyflwyno unrhyw beth sy'n rhoi plant mewn perygl, neu—fel y gŵyr y Dirprwy Brif Weinidog, sydd yn y Siambr nawr, ac roeddem yn gyd-aelodau o'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad—sy'n rhoi pŵer eang ar waith i'r Llywodraeth allu gwneud rheoliadau, iddynt gael rhwydd hynt i wneud yr hyn y maent ei eisiau yn y bôn. Nid wyf yn credu mai dyna'r ffordd gywir o wneud deddfwriaeth. Efallai fod gan y Dirprwy Brif Weinidog safbwynt gwahanol nawr ei fod yn y Llywodraeth, ond nid wyf yn credu mai dyna'r ffordd briodol o wneud deddfwriaeth; rwy'n credu y dylid fformiwleiddio'r cyfan mewn ffordd briodol fel y gellir ei gyflwyno.
Felly, dyna pam rwy'n tynnu'r ddeddfwriaeth hon yn ôl, ond nid dyma'r diwedd. Rwy'n falch iawn o'r gwaith yr wyf fi a fy nhîm a phawb yn y Siambr hon yn ei wneud i godi materion iechyd meddwl a llesiant. Rwy'n credu bod y Bil newydd yn San Steffan yn gyfle gwych i ni godi'r materion hynny ymhellach, i roi llais i bobl sy'n cael eu tawelu. Ond hoffwn sôn hefyd am Goleg Brenhinol y Seiciatryddion a roddodd gefnogaeth i mi drwy'r gwaith hwn, yn enwedig Oliver John a'r holl waith y mae wedi'i wneud ar hyn. Rwy'n gwybod bod digwyddiadau yn San Steffan yn cymryd llawer o'i amser nawr, ond hoffwn ddiolch iddo am yr holl waith y mae wedi'i wneud i mi. Diolch hefyd i fy nhîm yn fy swyddfa a thîm y Senedd hefyd, oherwydd mae gennym dîm gwych wedi'i leoli yma yn y Senedd, sy'n cefnogi Aelodau meinciau cefn gyda'r holl ddeddfwriaeth y maent yn ei chyflwyno. Ond mae yna Aelodau yn y Siambr sy'n rhan o Bwyllgor Senedd y Dyfodol, ac rwy'n credu bod angen inni edrych ar broses deddfwriaeth meinciau cefn. Ac efallai fod angen i'r Llywodraeth ystyried rhywbeth y maent yn ei wneud yn San Steffan, sef llunio rhestr o Filiau yr hoffent eu cyflwyno mewn gwirionedd, ond nad oes ganddynt amser i'w wneud, ond y byddent yn eu cefnogi serch hynny. Felly, rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y gallai'r Llywodraeth edrych arno—sut y maent yn cefnogi deddfwriaeth meinciau cefn wrth symud ymlaen.
Hoffwn ddiolch i bobl eraill sydd yn y Siambr hefyd. Rwy'n gwybod bod yna gwpl o Ysgrifenyddion Cabinet nad ydynt yma nawr, ond roedd Lynne Neagle yn frwd iawn. Gweithiodd Lynne yn agos iawn gyda mi ar gyflwyno'r Bil hwn ac oni bai am y berthynas waith agos rhyngof i ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, nid wyf yn credu y byddai'r Bil hwn wedi ennyn cefnogaeth eang ar draws y Llywodraeth, ac roedd ei chynghorydd arbennig ar y pryd yn eithriadol o dda hefyd. Ac yn amlwg, roedd fy Nghadeirydd, pan oeddwn ar y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, Jane Bryant, pan ddaeth i'r swydd, yn gefnogol iawn i'r Bil ac eisiau bwrw ymlaen â hyn, a Sarah Murphy nawr, fel y Gweinidog. Mae pawb ohonom yn y Siambr yn cydnabod bod angen gwneud pethau. Rwy'n dweud 'pethau' oherwydd mae yna lawer iawn o bethau i'w gwneud. Ni allwch roi eich bys ar un peth y mae angen ei wneud i wella'r maes gwaith hwn.
Mae gennym hyrwyddwyr iechyd meddwl gwych yn y Siambr hon, ac rwyf eisiau dweud bod rhai pobl wedi creu argraff arnaf yn ystod y broses hon: Jack Sargeant, fy nghyfaill da, a wnaeth fy nghefnogi drwy hyn; Buffy Williams; Aelodau o fy ngrŵp fy hun a wnaeth fy nghefnogi; ynghyd ag Aelodau o Blaid Cymru hefyd a gefnogodd y broses hon. Felly, mae'r ffaith bod yn rhaid i mi ei dynnu'n ôl yn destun siom fawr i mi. Ond rwy'n credu, er budd y Senedd a'r deddfu gorau, ac er lles y bobl yr oedd y Bil hwn yn gobeithio gwella eu bywydau, nid wyf yn credu mai dyma'r amser iawn i gyflwyno'r Bil hwn. Felly, Lywydd, rwy'n tynnu'r Bil hwn yn ôl yn swyddogol. Diolch.
Galwaf ar y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant i gyfrannu i'r datganiad yma—Sarah Murphy.
Diolch, Lywydd. Hoffwn gofnodi fy niolch diffuant i James Evans am ei waith ar ei Fil safonau gofal iechyd meddwl, ac am y dull gwirioneddol gydweithredol a fabwysiadodd wrth ddatblygu ei Fil. Fel James, rwy'n siomedig na fydd yn parhau. Rwy'n cydnabod yr amser, yr ymdrech a'r angerdd y mae wedi'i fuddsoddi yn y gwaith, a'i ymdrechion i wella cefnogaeth i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru.
Fel y mae James eisoes wedi ei ddweud, cyflwynodd Llywodraeth y DU ei Bil Iechyd Meddwl ar 6 Tachwedd, a nod Bil y DU yw moderneiddio deddfwriaeth iechyd meddwl yng Nghymru a Lloegr, gan roi mwy o ddewis, ymreolaeth, hawliau estynedig a chefnogaeth. Ei nod hefyd yw gwella gofal i bobl ag anabledd dysgu neu awtistiaeth.
Rwy'n cefnogi'r newidiadau hyn, a chafodd nifer ohonynt eu cynnwys yng nghwmpas gwreiddiol y Bil a gynigiodd James. Cyfarfûm â'r Farwnes Merron cyn cyflwyno Bil y DU, ac rydym wedi cytuno i weithio'n agos i sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn gweithio i Gymru. Mae fy swyddogion yn cyfarfod â swyddogion Llywodraeth y DU bob wythnos, a byddaf yn derbyn diweddariadau rheolaidd ar gynnydd.
Yn ogystal, fe wnaeth James gynnig defnyddio ei Fil i wneud newidiadau i'r Mesur iechyd meddwl yng Nghymru, a bydd y rhain yn cael eu hadlewyrchu yng nghanfyddiadau'r ddyletswydd i adolygu. Roeddwn yn cefnogi'r dull hwn yn fawr iawn. Rwy'n falch o wneud ymrwymiad heddiw i droi'r newidiadau hyn yn gamau gweithredu yn ein strategaeth iechyd meddwl a llesiant meddyliol newydd, a fydd yn cael ei chyhoeddi y flwyddyn nesaf.
I gloi, Lywydd, rwy'n siomedig na fydd Bil safonau gofal iechyd meddwl James Evans yn parhau, ond bydd y newidiadau y ceisiai eu sicrhau drwy ei ddeddfwriaeth, a gefnogwyd gan Lywodraeth Cymru, yn cael eu cyflawni drwy Fesur Iechyd Meddwl y DU a thrwy waith a gynlluniwyd ar y Mesur yng Nghymru yn y dyfodol. James, hoffwn ddweud cymaint yr wyf fi, eich cyd-Aelodau, o fy ngrŵp i, o'r Senedd, yn eich parchu am y ffordd yr aethoch chi ati i wneud hyn. Rydych chi wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Felly, diolch yn fawr.
Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei sylwadau caredig iawn. Hoffwn ddweud hefyd fy mod yn gwybod eich bod yn cyflwyno cynnig cydsyniad deddfwriaethol i'r Senedd ar y Bil Iechyd Meddwl, ac edrychaf ymlaen at edrych ar hwnnw pan gaiff ei gyflwyno. Fel y dywedais, os oes unrhyw beth yno, byddaf yn cefnogi'r Llywodraeth gyda hynny, oherwydd rwy'n credu bod gwir angen inni weld diweddariadau i ddeddfwriaeth iechyd meddwl yng Nghymru. Rwy'n siŵr y bydd fy ngrŵp yn arswydo wrth fy nghlywed yn dweud hynny—ond dyna ni—heb fynd drwy'r gwaith craffu arno. [Chwerthin.]
Ond hoffwn ddweud hefyd ei bod yn braf iawn clywed ymrwymiad y Llywodraeth i ddiweddaru'r Mesur iechyd meddwl ar gyfer plant. Rwy'n gwybod bod llawer iawn o bobl a sefydliadau a fydd yn eich clywed yn dweud hynny, ac rwy'n falch iawn eich bod wedi cynnwys hynny yn y strategaeth ddiweddaraf. Felly, diolch yn fawr iawn, Weinidog.
Rydym yn gresynu at y ffaith bod y Bil hwn yn cael ei dynnu'n ôl, yn enwedig am y rhesymau a restrir gan yr Aelod. Er nad oedd sylwedd y Bil, yn ein barn ni, o reidrwydd yn mynd yn ddigon pell mewn rhai meysydd, roedd yn gam sylweddol ymlaen er hynny i fynd i'r afael â rhai o'r diffygion difrifol yn y fframwaith deddfwriaethol presennol sy'n ymwneud â safonau iechyd meddwl.
Ond rydym bellach yn wynebu'r posibilrwydd cyfarwydd y bydd maes cyfrifoldeb datganoledig yn cael ei allanoli, i bob pwrpas, i San Steffan ei ddatrys. Nid wyf yn dweud hyn fel beirniadaeth o'r Aelod ei hun. Yn wir, rwy'n canmol James am gyflwyno'r Bil pwysig hwn ar lawr y Senedd yn y lle cyntaf, a gwn pa mor angerddol y mae wedi bod yn hyrwyddo gwelliannau yn y ddarpariaeth iechyd meddwl. Mae James wedi bod yn hyrwyddwr cyson dros iechyd meddwl ers iddo ddod i'r Siambr hon, ac rwyf wedi cael trafodaethau gydag ef ynghylch y Bil arfaethedig hwn.
Rwy'n sôn am hyn, yn hytrach, i dynnu sylw at y mater ehangach o ran sut y mae'r lle hwn, yn rhy aml, yn methu cyflawni addewidion datganoli i ddarparu atebion creadigol a radical i bobl Cymru. Ni ddylai fod yn uchelgais i ni yma i aros i San Steffan arwain ar faterion, ac rwy'n credu y gallem ni fel Senedd fod wedi bod yn llawer mwy rhagweithiol ac uchelgeisiol wrth wthio'r ffiniau mewn perthynas â diwygio iechyd meddwl, yn lle blynyddoedd o ddiffyg gweithredu gan Lywodraethau olynol y DU.
Gan droi at y newidiadau arfaethedig i Ddeddf Iechyd Meddwl y DU, mae pawb ohonom yn gwybod lle mae'r diffygion, yn enwedig o ran mynediad i bobl ifanc, y nifer anghymesur o bobl o gymunedau lleiafrifol ethnig sy'n cael eu gosod dan gadwad, a'r diffyg grym a roddir i gleifion mewn perthynas â'u triniaeth. Felly, hoffwn yn fawr pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet egluro neu roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni yn y Senedd am ba sgyrsiau y mae hi wedi bod yn eu cael gyda chymheiriaid yn Llywodraeth y DU ar yr amserlenni tebygol ar gyfer diwygio'r Ddeddf—neu'r Gweinidog, dylwn ddweud, yn hytrach nag Ysgrifennydd y Cabinet; rwy'n rhoi dyrchafiad iddi. A yw'r Gweinidog hefyd yn cydnabod y rôl bwysig sydd gan sefydliadau'r trydydd sector mewn perthynas â gweithredu, ac fel y cyfryw, a yw'r Gweinidog wedi codi'r pryderon eang gan elusennau iechyd meddwl ynghylch effaith y cynnydd i gyfraniadau yswiriant gwladol ar eu gwaith yn ystod y trafodaethau hyn?
Er eglurder, nid lle'r Gweinidog yw ymateb. James, nid chi yw'r Gweinidog, ond chi yw'r un sy'n ymateb.
Nid wyf yn siŵr a fyddai'r bobl o fy mlaen eisiau imi ymateb ar ran Llywodraeth Cymru—wel, pwy a ŵyr, efallai y bydd pethau'n newid yn y dyfodol. Fel rydych chi wedi'i ddweud, Mabon, yr hyn roeddwn i'n falch yn ei gylch gyda'r Bil hwn yw bod gennym ni gynghrair ar draws y Senedd ar sut y gallwn wella deddfwriaeth iechyd meddwl. Fel chi, buaswn wrth fy modd yn gweld cyfraith yn cael ei chreu yng Nghymru, yn cael ei thrafod yng Nghymru ac yna'n cael ei chymeradwyo yma yng Nghymru, ond yn anffodus, roedd y broses sydd gennyf—. Buaswn wedi parhau â'r broses pe bai gennyf fwy o amser. Felly, efallai y gallai Plaid Cymru ddadlau dros newid y broses meinciau cefn, er mwyn sicrhau ein bod yn rhoi mwy o amser i'r Aelodau lunio Biliau i wneud yn siŵr ein bod yn cael cyfnodau ymgynghori priodol ar eu cyfer, oherwydd dyna'r unig ffordd o greu cyfraith dda. Oherwydd nid oes llawer ohonom yn dod i'r Senedd gyda chyfraith wedi'i hysgrifennu'n llawn, yn barod, gyda'r holl reoliadau yn eu lle—nid yw hynny'n digwydd. Ac rwy'n gwybod nad oes gan y Senedd gapasiti i wneud llawer iawn o'r gwaith hwnnw. Mae'n rhaid inni ddibynnu ar lawer o sefydliadau allanol. Nid ni yw'r Llywodraeth, nid oes gennym yr holl weision sifil a'r arbenigedd, ond rwy'n credu ei fod yn rhywbeth, wrth symud ymlaen, y mae gwir angen inni edrych arno—sut i wella'r broses hon. Ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn ysgrifennu atoch maes o law. [Chwerthin.]
Diolch i chi am eich datganiad, James Evans, sy'n amserol iawn heddiw, oherwydd bydd y Pwyllgor Busnes, yn eu cyfarfod nesaf ddydd Mawrth, yn dechrau eu hadolygiad o'r prosesau deddfwriaethol sydd gennym yn y Senedd, mewn perthynas â Biliau Aelodau a Biliau cyhoeddus yn gyffredinol. Felly, rwy'n siŵr y bydd gan James Evans ac eraill lawer iawn i'w gyfrannu at yr adolygiad hwnnw.
Diolch yn fawr, felly, am hynny.
Fe wnawn ni symud i'r eitem nesaf. Yr eitem nesaf yw eitem 6, y ddadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar Fanc Datblygu Cymru. Y Cadeirydd, Paul Davies, sy'n cyflwyno'r eitem yma.
Cynnig NDM8746 Paul Davies
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi droddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar Fanc Datblygu Cymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Gorffennaf 2024, ac y gosodwyd ymateb iddo gan Lywodraeth Cymru ar 20 Tachwedd 2024.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Lywydd, ac rwy'n gwneud y cynnig a gyflwynwyd yn fy enw i. Rwy'n siŵr y byddem i gyd yn cytuno bod Banc Datblygu Cymru yn chwarae rhan bwysig yn economi Cymru. Mae'n bodoli i gefnogi busnesau sydd â rhagolygon da ond sy'n cael trafferth cael gafael ar yr holl gyllid sydd ei angen arnynt, ac mae'n bodoli hefyd i helpu i gefnogi rhai o nodau economaidd allweddol Llywodraeth Cymru. Fel y gwyddom, mae'r banc yn gyfrifol am wario, benthyca a buddsoddi swm sylweddol o arian cyhoeddus. Mae hyn yn golygu bod perfformiad y banc yn wirioneddol bwysig.
Fel arfer, mae'r pwyllgor yn cynnal sesiwn graffu flynyddol gyda'r banc i archwilio ei adroddiad blynyddol, ei gynnydd a'r hyn y mae'n ei gyflawni yn erbyn amcanion Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, eleni, oherwydd bod Aelodau'n teimlo bod y banc wedi cyrraedd aeddfedrwydd priodol, penderfynodd y pwyllgor gynnal ymchwiliad llawn i Fanc Datblygu Cymru. Edrychodd yr ymchwiliad ar berfformiad cyffredinol y banc ers iddo gael ei sefydlu yn 2017, sut y mae'n cyflawni'r amcanion y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gosod ar ei gyfer, ac fe wnaethom edrych ar sut y mae'n cymharu ag arferion gorau rhyngwladol, fel y gallem weld sut y mae'r banc yn cymharu â rhai tebyg iddo ledled y byd.
Yn ystod yr ymchwiliad hwn, cawsom lawer o dystiolaeth gadarnhaol ynghylch gweithgareddau'r banc a'i ddull o weithredu fel benthyciwr ac fel buddsoddwr. Nododd Ysgol Fusnes Caerdydd rôl bwysig y banc yn helpu busnesau i adfer yn dilyn y pandemig, a dywedodd Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru fod y banc yn offeryn effeithiol, adnabyddus a defnyddiol yn arfogaeth Llywodraeth Cymru, ac yn un sydd wedi cael ei dderbyn yn gyflym gan fusnesau llai fel rhan dda o'r amgylchedd busnes.
Clywsom hefyd am rai problemau a heriau sy'n wynebu'r banc, ac yn wir, gan Lywodraeth Cymru, oherwydd rhai problemau'n ymwneud â dosbarthiad y banc, a dof yn ôl at hynny yn nes ymlaen. Serch hynny, clywsom lawer o awgrymiadau adeiladol ar gyfer gwelliannau, sef y rheswm pam y gwnaethom ddechrau'r ymchwiliad yn edrych amdanynt. Fodd bynnag, yn bryderus, clywsom hefyd dystiolaeth a beirniadaeth negyddol iawn, yn enwedig ynghylch buddsoddiadau ecwiti'r banc. Darparwyd llawer o'r dystiolaeth hon yn ddienw, a oedd yn peri lefel o anhawster i ni o ran sut roeddem yn ymdrin â'r wybodaeth hon a sut y gallem ddefnyddio'r dystiolaeth i adeiladu ein hargymhellion.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Byddaf yn canolbwyntio'r rhan fwyaf o'r anerchiad agoriadol hwn ar y meysydd lle credwn fod camau pwysig y mae angen eu cymryd i wella perfformiad y banc. Fodd bynnag, Ddirprwy Lywydd, ni hoffwn i chi na'r Aelodau eraill yma gymryd yn ganiataol bod hyn yn golygu bod y banc mewn cyflwr ofnadwy, ac ni hoffwn i chi feddwl fy mod yn credu nad yw'n gwneud gwaith da. Nid yw'r un o'r pethau hyn yn wir. Yn eu dogfen ased strategol, dywedodd y banc y byddent yn
'gonglfaen ar gyfer cyflawni blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, gyrru cynnydd twf hirdymor, a chreu a diogelu swyddi o ansawdd uwch.'
Ac roedd llawer o bobl y gwnaethom ni siarad â hwy o'r farn eu bod yn cyflawni'r nod hwnnw. Dywedodd prif swyddog gweithredol Laser Wire Solutions wrthym fod y banc ar genhadaeth fwy na benthycwyr eraill ac mai eu nod oedd datblygu economi Cymru. A dywedodd prif swyddog gweithredol Nutrivent wrthym fod y banc
'heb os, wedi bod yn gatalydd ar gyfer twf a datblygiad economaidd.'
Felly, cawsom sylwadau cadarnhaol iawn yn ystod ein hymchwiliad. Wedi dweud hynny, fel y byddech chi'n disgwyl o gynnal ymchwiliad, rwyf am ganolbwyntio ar feysydd y credwn fel pwyllgor y mae angen i Lywodraeth Cymru a/neu'r banc datblygu weithio arnynt i sicrhau y gall y banc gyflawni ei nodau cyffredinol.
Mae adroddiad y pwyllgor yn gwneud 13 o argymhellion sy'n cwmpasu, ymhlith materion eraill, cylch gwaith y banc, ei weithrediadau, ei berthynas â Llywodraeth Cymru a sut y mae'n ymdrin â chwynion a diwydrwydd dyladwy. Wrth gwrs, Llywodraeth Cymru sy'n ymddiried cyfrifoldebau i'r banc. Y prif lwybr ar gyfer gwneud hyn yw drwy lythyr cylch gwaith tymor llywodraeth. Er ei bod yn ymddangos bod gan Lywodraeth Cymru gysylltiadau strategol cryf â'r banc, gan gynnwys gweision sifil sy'n arsylwyr ar ei fwrdd, mae'n bwysig fod y banc yn dal i fyny ag uchelgais economaidd y Llywodraeth.
Fodd bynnag, oherwydd y gall blaenoriaethau economaidd newid, yn argymhelliad 2 o'i adroddiad, mae'r pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru nodi'r mecanwaith ar gyfer adlewyrchu newidiadau i'w blaenoriaethau economaidd yn ystod tymor y Senedd, ac roeddem yn gobeithio y byddai'r ymateb i'r argymhelliad penodol hwn wedi arwain at lythyrau cylch gwaith mwy rheolaidd. Serch hynny, ymatebodd Llywodraeth Cymru i hyn gyda'r ymateb 'derbyn mewn egwyddor' ofnadwy hwnnw a dywedodd y byddent yn bwrw ymlaen â'r argymhelliad hwn drwy ddiweddariad i ddogfen fframwaith y banc datblygu. Fodd bynnag, rwy'n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn myfyrio ar y mater hwn ac yn sicrhau bod llythyrau cylch gwaith rheolaidd yn cael eu cyhoeddi i'r banc yn y dyfodol.
Soniais yn gynharach ein bod wedi cael tystiolaeth bryderus iawn ynghylch gwaith buddsoddi ecwiti'r banc, ac rwyf am droi at hynny nawr. Dywedodd yr Athro Dylan Jones-Evans wrthym—ac rwy'n darllen y dyfyniad hwn air am air gan ei fod yn cynnwys honiadau difrifol iawn—
'Yn anffodus, mae amrywiaeth o fusnesau wedi cysylltu â mi cyn yr adolygiad hwn i ddweud eu bod yn teimlo nad ydynt wedi cael eu trin yn deg, gyda phrisiadau yn rhy isel, lle mae penderfyniadau wedi cymryd llawer gormod o amser, a lle mae termau'n annerbyniol gydag ymagwedd "derbyniwch hwy neu anghofiwch amdano". Yn waeth byth, cafwyd achosion lle mae rhai wedi cael eu bwlio gan y cyfarwyddwyr a orfodwyd arnynt, lle maent wedi cael eu gorfodi allan drwy ddulliau amheus a lle mae sylfaenwyr yn teimlo nad ydynt wedi cael eu cefnogi gan y Banc.'
Aeth ymlaen i ddweud wrthym fod hyn wedi digwydd i nifer o sylfaenwyr ifanc dibrofiad a ddylai fod wedi cael llawer mwy o gefnogaeth gan y banc datblygu ar y pryd fel prif ariannwr eu busnes. Rwy'n siŵr y bydd pawb yn y Siambr hon yn pryderu am honiadau'r Athro ac yn cytuno bod entrepreneuriaid ifanc yn union y math o bobl rydym eisiau eu hannog i wneud busnes yma yng Nghymru. Ac os yw'r adroddiadau hyn yn gywir, mae'n ddigon posibl fod y gweithredoedd hynny wedi diffodd yr ysbryd entrepreneuraidd hwnnw, a fyddai'n drasiedi, a'r gwrthwyneb llwyr i'r hyn y sefydlwyd y banc i'w wneud.
Yn dilyn ein sesiwn gyda'r Athro Jones-Evans, cawsom nifer o negeseuon e-bost gan bobl a oedd wedi ymdrin â'r banc ac a oedd yn teimlo eu bod wedi cael eu bwlio allan neu'n teimlo fel pe bai eu busnesau wedi cael eu dwyn oddi arnynt i bob pwrpas. Yn anffodus, rhoddwyd llawer o'r dystiolaeth hon yn ddienw, a oedd yn cyfyngu ar ein gallu fel pwyllgor i graffu arni. Fel y byddech chi'n disgwyl, trefnais y cwynion hyn drwy lythyr gyda'r Ysgrifennydd Cabinet ar y pryd, Jeremy Miles. Fodd bynnag, Ddirprwy Lywydd, gan fod yr honiadau hyn mor gryf, efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau ei bod wedi gweld y ddogfen hon, a byddai gennym ni fel pwyllgor ddiddordeb mawr yn ei safbwyntiau.
Rwyf am fod yn glir: rwyf wedi trafod y cyhuddiadau hyn gyda'r banc drwy ohebiaeth ac mewn cyfarfod preifat, ac maent yn eu gwrthod yn llwyr. Dywedodd y banc wrthym fod cyfarwyddwyr buddsoddi yn gyffredin mewn cyfalaf menter ac y byddent bob amser yn gweithio er budd y cwmni ei hun fel mater o gyfraith cwmnïau. Eglurodd y banc hefyd fod ganddynt weithdrefn gwyno gynhwysfawr a'u bod yn ceisio ymdrin â'r holl gwynion yn agored ac yn deg, a'u bod wedi agor llwybr newydd fel y gellir gwneud cwynion yn uniongyrchol i gwnsler cyffredinol y banc os yw'r achwynydd yn dymuno i'r mater gael ei gadw'n gyfrinachol.
Gwnaethom ddau argymhelliad o ganlyniad i'r dystiolaeth hon: argymhelliad 10, a oedd yn argymell y dylai proses ymdrin â chwynion y banc gael ei chynnwys mewn adolygiad llawn o'r banc gan Lywodraeth Cymru, ac argymhelliad 11, a ddywedodd y dylai'r banc a Llywodraeth Cymru ystyried sut y gallant gasglu barn gan fusnesau yn gyfrinachol. Rwy'n falch o ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhelliad 10 mewn egwyddor a'u bod wedi derbyn argymhelliad 11 yn llawn.
Ar gyfer argymhelliad 10, dywedodd y Llywodraeth y byddai gweithdrefn gwyno'r banc yn cael ei chynnwys mewn adolygiad asesu prosiect yn cael ei arwain yn annibynnol ar agweddau ar gyflawni a sicrwydd a ddarparir gan y banc, sydd i'w gynnal yn 2025. Yn ei hymateb, efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym pryd yn union y disgwylir i'r adolygiad hwn ddechrau yn 2025 ac a oes amserlen ar gyfer pryd y mae disgwyl iddo adrodd.
Mewn ymateb i argymhelliad 11, dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'r banc yn rhoi ystyriaeth bellach i sut y gallai ddefnyddio dulliau eraill i annog a chasglu adborth mewn ffordd gyfrinachol. Hoffwn glywed hefyd a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn fodlon ar y cynnydd mewn perthynas â'r mater hwn.
Agwedd arall ar weithrediadau'r banc a arweiniodd at beth pryder oedd ei brosesau diwydrwydd dyladwy. Er ei bod yn ymddangos bod y banc yn dda am asesu gallu'r rhai hynny sy'n derbyn benthyciadau i ad-dalu, o ystyried bod y banc yn benthyca arian cyhoeddus, roeddem yn teimlo bod angen bar uwch ar gyfer asesu priodoldeb ymgeisydd i dderbyn y cyllid hwn yn y lle cyntaf, er enghraifft a oedd ganddynt unrhyw hanes o weithgarwch troseddol?
Awgrymodd argymhelliad 8 yn ein hadroddiad fod Llywodraeth Cymru'n gofyn i'r banc adolygu ei brosesau diwydrwydd dyladwy—ac rwy'n falch o ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad hwnnw. Yr wythnos diwethaf, cynhaliwyd ein sesiwn graffu flynyddol gyda'r banc ac rwyf hefyd yn falch o ddweud eu bod wedi trafod eu prosesau diwydrwydd dyladwy newydd estynedig ac roeddem yn fodlon yn gyffredinol â'r cynnydd ar y mater hwn. Byddwn yn monitro, ac yn parhau i fonitro, prosesau diwydrwydd dyladwy estynedig y banc a'u heffeithiolrwydd wrth symud ymlaen.
Cyn i mi ddod â fy sylwadau i ben, Ddirprwy Lywydd, hoffwn ganolbwyntio ar bwynt braidd yn dechnegol y mae gwir angen mynd i'r afael ag ef os yw'r banc datblygu am barhau i gyflawni ei rôl. Ym mis Awst 2021, ailddosbarthwyd y banc gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ac eithrio ei gangen FW Capital, fel Llywodraeth ganolog. Mae hwn yn newid technegol, ond mae'r ailddosbarthu'n creu problem a ddisgrifiwyd gan yr Ysgrifennydd Cabinet ar y pryd fel 'cyfrif dwbl', lle mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gadw arian wrth gefn i dalu am unrhyw arian y mae wedi'i roi i'r banc i'w fuddsoddi, ond nid yw hwnnw wedi'i fuddsoddi eto. Fel pwyllgor, rydym yn pryderu y bydd y cyfrif dwbl hwn yn cyfyngu ar faint o arian y gellir ei roi i'r banc ar gyfer buddsoddiadau. Cytunodd yr Ysgrifennydd Cabinet ar y pryd fod hon yn broblem a dywedodd wrthym, ac rwy'n dyfynnu:
'Rydym yn ceisio dod o hyd i ateb i hynny gyda'r Trysorlys ar hyn o bryd. Nid ydym wedi dod o hyd i ateb eto. Mae'n bwysig ein bod ni'n gwneud hynny, oherwydd mae'n creu cyfrif dwbl yn ein cyfrifon.'
Dywedodd hefyd fod Llywodraeth Cymru yn chwilio am arian gan y Trysorlys i dalu am y cyfrif dwbl hwn. Mae argymhelliad 6 yn annog Llywodraeth Cymru i ddod â thrafodaethau gyda'r Trysorlys i ben ynghylch yr ailddosbarthiad cyn gynted â phosibl.
Rydym hefyd o'r farn y dylai unrhyw gytundeb ddiogelu rôl y banc ac na ddylai gael effaith andwyol ar sefyllfa gyllidebol Llywodraeth Cymru yn y dyfodol. Derbyniodd Llywodraeth Cymru hyn mewn egwyddor a dywedodd y byddent yn parhau i weithio gyda'r Trysorlys, gyda'r nod o sefydlu canlyniad o ran ailddosbarthiad y banc datblygu sy’n niwtral o ran cyllideb i’r banc a Llywodraeth Cymru. Unwaith eto, yn ei hymateb i'r ddadl hon, efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ar gynnydd y trafodaethau hyn.
Ddirprwy Lywydd, cyn i mi ddod i ben, hoffwn ddiolch i bawb a ymgysylltodd â'r pwyllgor ar yr ymchwiliad pwysig hwn a'r timau clercio, ymchwil a chyfreithiol a'n cefnogodd drwy'r gwaith pwysig hwn. Hoffwn ddiolch yn benodol hefyd i'r banc datblygu a'i staff am eu hymgysylltiad. Gwn na fyddai bod yn ddarostyngedig i'r ymchwiliad hwn wedi bod yn brofiad cyfforddus, ond rwy'n falch fod y banc wedi ymgysylltu ag ef ac yn parhau i ymgysylltu â'r pwyllgor. Yn fras, roedd mwyafrif y dystiolaeth a gawsom yn gefnogol i'r banc a'i weithrediadau, ac mae hynny'n rhywbeth y dylai staff y banc fod yn falch ohono. Edrychaf ymlaen at glywed barn yr Aelodau eraill y prynhawn yma. Diolch yn fawr iawn.
Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i'r Cadeirydd am ei gadeiryddiaeth yn ystod yr ymchwiliad hwn. Hoffwn ddiolch i’r clercod am symud yr ymchwiliad hwn yn ei flaen hefyd. Roeddwn yn falch iawn, fel Aelod o’r pwyllgor, ein bod wedi cael cyfle i wneud gwaith manylach ar weithrediad y banc datblygu, gan y credaf ei bod yn gyfrifoldeb ar bob un ohonom yma i ddeall yn iawn sut y mae’r banc datblygu’n gweithio, i gydnabod potensial y banc datblygu. Y mater ynglŷn â dosbarthiad y soniodd y Cadeirydd amdano yn gynharach: realiti’r sefyllfa yw na fyddai llawer o bobl yn y Siambr hon yn gwybod am yr ailddosbarthiad hwnnw, ac eto mae effeithiau’r ailddosbarthiad ar allu’r banc i fuddsoddi ac i weithredu yn enfawr. Felly, mae'n wirioneddol bwysig fod yr Aelodau'n dangos diddordeb yn y modd y mae'r banc datblygu'n gweithredu a'i fuddsoddiadau hefyd.
O ran buddsoddi mewn busnes yng Nghymru, ni chredaf fod yna fawr o amheuaeth fod y newid o Cyllid Cymru i Fanc Datblygu Cymru yn newid sylweddol. Yn ei flwyddyn olaf, yn 2016-17, buddsoddodd Cyllid Cymru £56.5 miliwn; erbyn 2022-23, roedd Banc Datblygu Cymru wedi dyblu hyn mewn enw, gan gyrraedd £124 miliwn. Nawr, ar yr wyneb, mae'r ffigurau hyn yn dangos twf trawiadol, ond pan ymchwiliwn yn ddyfnach i'r goblygiadau ehangach ar gyfer cymorth i fusnesau yng Nghymru, mae'r darlun yn dod ychydig yn fwy cymysg. Mae targedau cyd-fuddsoddi preifat, y nifer a'r math o fusnesau a gefnogir a natur y buddsoddiadau a wnaed yn creu darlun mwy cymhleth, ac ar brydiau, mae'n ddarlun sy'n peri pryder. Nawr, mae'r ymchwiliad hwn wedi rhoi cyfle pwysig i gael yr archwiliad dwfn, fel y soniais, a mynd y tu hwnt i waith craffu blynyddol y pwyllgor ar y banc datblygu ar sail ei adroddiad blynyddol a'i gyfrifon, sydd, hyd yn oed yn ôl cyfaddefiad y banc ei hun, wedi dod yn fwyfwy anodd eu deall yn y blynyddoedd diwethaf. Mae’r adroddiad yr ydym yn ei drafod heddiw yn codi cwestiynau pwysig sydd weithiau'n peri pryder am rôl y banc datblygu o fewn ecosystem cymorth i fusnesau Cymru, ecosystem sy'n amlwg yn methu cyflawni’r math o dwf cynaliadwy yr hoffai pob un ohonom ei weld ym musnesau Cymru.
Felly, er enghraifft, yn frawychus, wrth ryngweithio â’r banc datblygu, mae rhai busnesau, fel y nodwyd, yn nodi problemau llywodraethu, yn enwedig ynghylch y modd y mae’r banc yn penodi cyfarwyddwyr anweithredol ac yn rheoli ei brosesau diwydrwydd dyladwy. Nawr, gellir dadlau bod yr heriau hyn yn cynrychioli rhai o'r enillion hawdd. Dylai diwygiadau y gellir eu gwneud yn gyflym i wella’r ffordd y mae busnesau’n rhyngweithio â’r banc datblygu ac yn cael cymorth ganddo fod yn weddol syml. Credaf fod yr argymhellion yn yr adroddiad yn cynrychioli’r opsiynau ymarferol lleiaf—y lleiaf y mae angen i ni ei wneud i roi’r banc ar sylfaen fwy sefydlog, cynaliadwy a dibynadwy. Ac nid oes unrhyw reswm na ddylai unrhyw un ohonynt gael eu rhoi ar waith, a'u rhoi ar waith yn gyflym.
Felly, wrth edrych ymlaen ymhellach, rwyf wedi nodi'n glir fy nghred fod angen inni gydgrynhoi ac ad-drefnu cymorth i fusnesau yng Nghymru, gan greu’r siop un stop yr oedd Banc Datblygu Cymru i fod i'w chynnig o’r dechrau. Drwy uno’r gwasanaethau a gynigir gan Busnes Cymru a’r banc datblygu, rwy'n credu y gallwn greu system symlach a mwy effeithiol. Ac rwy'n arbennig o bryderus ynghylch yr hyn a ganfuwyd gennym yn yr ymchwiliad hwn, sef bod y banc, hyd yma, yn methu mynd i'r afael ag un o'r problemau strwythurol mwyaf hirsefydlog a mwyaf difrifol yn amgylchedd busnes Cymru, yr hyn y mae'r Ffederasiwn Busnesau Bach wedi'i alw'n gyson yn ganol coll—y strata coll hwnnw o fusnesau Cymreig canolig eu maint, sy’n golygu bod ein heconomi yn llai cynhyrchiol ac arloesol nag y gallai neu y dylai fod.
Nawr, mae’r bwlch strwythurol hwn yn llesteirio cynhyrchiant ac arloesedd ar draws ein heconomi. Mae'n rhaid i’r banc datblygu fynd i’r afael â’r mater hwn fel blaenoriaeth ganolog, gan ddechrau gyda buddsoddiad priodol mewn cynllunio ar gyfer olyniaeth. Mae cadw busnesau llwyddiannus yng Nghymru, boed hynny drwy bryniant gan y rheolwyr, perchnogaeth gan y gweithwyr neu fodelau eraill, yn allweddol i sicrhau ffyniant hirdymor Cymru. Mae’r adroddiad yn cynnwys argymhellion yn y maes hwn y buaswn yn ein hannog i’w blaenoriaethu. Wrth edrych ar adroddiad blynyddol y banc ar gyfer 2023-24, datgelodd ei fod wedi buddsoddi bron i £11 miliwn yn fwy mewn eiddo preswyl nag mewn olyniaeth fusnes. Nawr, credaf fod yn rhaid inni gwestiynu a yw hyn yn dangos cyflawniad yn erbyn cylch gwaith y banc. Os nad yw, mae arnom angen mesurau sy'n gorfodi cyflawniad yn erbyn y cylch gwaith hwnnw. Os yw’r banc yn gweithredu o fewn ei gylch gwaith, credaf ei bod yn bryd ailfeddwl y cylch gwaith hwnnw a’i ailgyfeirio i gefnogi a thyfu busnesau Cymru.
Ac yn olaf, Ddirprwy Lywydd, credaf fod yr adroddiad hwn yn canu larymau, yn ogystal â chynllun. Nawr, mae'n tynnu sylw at faterion dybryd o fewn Banc Datblygu Cymru a'r ecosystem cymorth ehangach i fusnesau, ac ar yr un pryd, mae'n cynnig camau ymarferol uniongyrchol ar gyfer gwella. Fel y dywedais ar ddechrau fy nghyfraniad, mae'n gyfrifoldeb ar bob un ohonom yma i ddangos diddordeb yn y ffordd y mae'r banc datblygu'n gweithredu, mae'n gyfrifoldeb ar bob un ohonom i gydnabod y cyfle y mae'r banc datblygu'n ei gyflwyno, ac mae'n bwysig hefyd fod pob un ohonom yn y Siambr am ei weld yn llwyddo, ac rydym ni, fel pwyllgor, yn dymuno gweld hynny.
Gwrthodwyd argymhelliad 12 gan Lywodraeth Cymru, a chredaf fod yr ymateb gan y Llywodraeth yn nodi’n glir y gwahaniaeth rhwng adolygiad teilwredig ar gyfer sefydliad aeddfed—. Ac ymddengys nad yw Llywodraeth Cymru yn ystyried bod Banc Datblygu Cymru yn sefydliad aeddfed, a'i bod, yn lle hynny, yn cynnal adolygiad asesu prosiect. Dywed Llywodraeth Cymru ei bod,
'yn bwriadu comisiynu Adolygiad Asesu Prosiect sy’n cael ei arwain yn annibynnol ar agweddau ar gyflawni a sicrwydd a ddarparwyd gan y banc yn 2025. Bydd adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn cael ei ddefnyddio fel sail i’r cylch gorchwyl ar gyfer Adolygiad Asesu Prosiect pellach a bydd yn cynnwys elfennau o’r argymhellion yn adroddiad y Pwyllgor.'
A gaf i awgrymu bod Ysgrifennydd y Cabinet yn cysylltu â’r pwyllgor i ddatblygu hynny, fel yr amlinellwyd yn ymateb Llywodraeth Cymru, o ystyried bod adroddiad pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig wedi ysgogi’r angen am hynny?
Mae’n bosibl y gellid mynd i’r afael â’r mater arall—cefais gyfarfod â Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru—yng nghyd-destun adroddiad y pwyllgor, a hoffwn godi hynny nawr. Nid yw Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ei hun yn berthnasol i Fanc Datblygu Cymru, ond deallwn fod arweinyddiaeth y banc datblygu yn gefnogol iawn i hynny. Mae comisiynydd cenedlaethau’r dyfodol wedi awgrymu, o ran y cymorth y mae’r banc yn ei roi i fusnesau Cymru, y gellid gosod cymal gwerth cymdeithasol mewn cytundebau grant a benthyciadau, a fyddai’n cyd-fynd â saith nod llesiant y Ddeddf, sef, i'n hatgoffa: Cymru lewyrchus, Cymru gydnerth, Cymru sy'n fwy cyfartal, Cymru iachach, Cymru o gymunedau cydlynus, Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu, a Chymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang. Gallai’r holl bethau hynny gael eu cynnwys yn uchelgeisiau’r banc.
Mae gan siop un stop Llywodraeth Cymru ar gyfer cyngor a chymorth i fusnesau, Busnes Cymru, gontract economaidd sy’n nodi sut y bydd yn gweithio gyda busnesau mewn partneriaeth i greu busnesau cydnerth sy’n cynnig lle deniadol i weithio ynddo. Gallai cymal gwerth cymdeithasol o dan Ddeddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol weithredu mewn ffordd debyg i hyn. Felly, hoffwn glywed a oes gan Ysgrifennydd y Cabinet unrhyw farn ar hyn, ac a yw hi wedi cael unrhyw drafodaethau gyda chomisiynydd cenedlaethau’r dyfodol ynglŷn â sut y gall ei rôl ef, a’r Ddeddf, a’r ddeddfwriaeth, gefnogi’r banc i gyflawni amcanion polisi strategol Llywodraeth Cymru ymhellach.
A gaf i ddechrau drwy ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor, Paul Davies, am arwain y pwyllgor, a’r staff clercio a chyd-Aelodau’r pwyllgor hefyd am eu cyfraniadau heddiw? Ac rwy’n ategu sylwadau a chyfraniadau'r holl Aelodau o’r pwyllgor sydd wedi siarad yma heddiw, gan ei bod yn adeg amserol i gynnal y ddadl hon, dros bedwar mis ar ôl cyhoeddi’r adroddiad, a mis ers ymateb calonogol y banc datblygu.
Gyda'ch caniatâd, Ddirprwy Lywydd, hoffwn dynnu sylw at rai argymhellion, argymhellion allweddol, yn enwedig argymhelliad 5, sy’n cynnig ailasesu’r berthynas rhwng Banc Datblygu Cymru a Busnes Cymru, fel y crybwyllwyd ar lawr y Siambr y prynhawn yma. Mae Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru wedi disgrifio tirwedd hynod dameidiog cymorth i fusnesau, sydd ymhell o fod yn ddelfrydol i fusnesau a pherchnogion busnesau sy'n ceisio cymorth. Credaf fod argymhelliad 5 yn awgrymu y dylai Llywodraeth Cymru ystyried integreiddio swyddogaethau Busnes Cymru â rhai Banc Datblygu Cymru, ac rwy’n aros yn eiddgar am y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru ar unrhyw drafodaethau neu ystyriaethau ynghylch y mater hwn.
Yn ail, ar argymhelliad 8, ynghylch annibyniaeth Banc Datblygu Cymru ar Lywodraeth Cymru, roedd yr argymhelliad yn annog Llywodraeth Cymru i gyfarwyddo’r banc i adolygu ei brosesau diwydrwydd dyladwy, gyda’r bwriad o’u cryfhau os oes angen. Trafodwyd y pwnc hwn yn y pwyllgor yr wythnos diwethaf, fel y crybwyllwyd gan Gadeirydd y pwyllgor, ac rwy’n falch fod llythyr y banc ym mis Hydref wedi ymateb i’r argymhellion, gan nodi bod y banc, yn gyffredinol, yn bodloni neu’n rhagori ar y prosesau a gyflawnir gan fenthycwyr eraill. Ond rwyf braidd yn ansicr a yw'r ymadrodd 'yn gyffredinol' yn awgrymu eithriadau, felly buaswn yn gwerthfawrogi eglurhad pellach ar y pwynt hwnnw. Fodd bynnag, rwy'n croesawu cynnig Llywodraeth Cymru i gomisiynu adolygiad asesu cyhoeddus o'r banc, a fydd yn cynnwys archwilio'r prosesau diwydrwydd dyladwy. Yn wir, dyma oedd testun fy nghwestiynau i’r banc yn ystod eu gwaith craffu blynyddol ym mhwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yr wythnos diwethaf, ac rwy'n croesawu, fel y soniodd y Cadeirydd, y diwydrwydd dyladwy gwell a grybwyllwyd gan Fanc Datblygu Cymru.
Ac yn olaf, soniaf am argymhellion 10 ac 11 gyda'i gilydd, sy'n ymwneud ag ymdrin â chwynion. Mae ymdrin â chwynion yn effeithiol, a sicrhau canlyniadau cyfiawn a theg, yn hollbwysig. Ni chredaf y byddai unrhyw un yn anghytuno â hynny. Fodd bynnag, mae'n achos pryder fod rhai achwynwyr wedi bod yn amharod i godi eu llais yn gyhoeddus. Yn waeth byth, rhoddodd yr Athro Dylan Jones-Evans dystiolaeth i’r pwyllgor gan nodi
'Rwyf hefyd wedi gweld achosion… lle mae cyfarwyddwyr wedi cael eu gorfodi ar fusnesau, lle maent yn teimlo eu bod wedi cael eu bwlio gan y cyfarwyddwyr hynny, lle cymerwyd camau, yn y bôn, i gael gwared ar y sylfaenwyr gwreiddiol. Ac mae'r banc datblygu fel cyllidwr wedi sefyll yno heb wneud dim byd'.
Dylai'r honiadau hyn gyfiawnhau argymhellion 10 ac 11 yn llawn, sy'n cynghori y dylid mynd i'r afael â'r mater o ymdrin â chwynion yn yr adolygiad teilwredig a argymhellir o'r banc. Yn ogystal, dylai Llywodraeth Cymru a'r banc ystyried sut i gasglu barn busnesau yn gyfrinachol ac yn ddienw. Byddai hyn yn gam sylweddol ymlaen o ran casglu gwybodaeth am arferion y banc heb orfod ofni dial. Os cânt eu rhoi ar waith yn effeithiol, credaf fod gan yr argymhellion hyn allu i gryfhau ymddiriedaeth o fewn Banc Datblygu Cymru a’i arfogi’n well i gefnogi busnesau ledled y wlad. Oherwydd, fel y mae Aelodau eraill wedi'i ddweud ar lawr y Siambr, mae Banc Datblygu Cymru yn gwneud llawer o ddaioni yn y maes hwn. Edrychaf ymlaen at weld cynnydd sylweddol ar ganfyddiadau adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, ac unwaith eto, hoffwn ddiolch i’r tîm cyfan am eu cyfraniadau iddo. Diolch, Ddirprwy Llywydd.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans.
Diolch. Rwy’n ddiolchgar i Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig am eu hadroddiad ar waith Banc Datblygu Cymru. Rwy'n llwyr gydnabod gwerth y craffu, sydd wedi bod yn glir yn y cyfraniadau heddiw yn fy marn i. Mae’r rhan fwyaf o’r argymhellion a wnaed gan y pwyllgor wedi’u derbyn, ac mae’n newyddion da i Gymru fod y banc datblygu, fel sefydliad, wedi cyflawni ac yn parhau i gyflawni ei brif amcanion yn llwyddiannus.
Gan weithio i gylch gwaith clir, mae'r sefydliad wedi elwa ar yr eglurder a'r sefydlogrwydd a ddarparwyd gennym iddo, gan ganiatáu i'r banc feithrin perthynas waith gref â busnesau ac i gynllunio ar gyfer y tymor hir. Wrth ymateb i Brexit, y pandemig, ac yn fwy diweddar, yr argyfwng costau byw, mae'r banc wedi dangos dro ar ôl tro ei fod yn gallu bod yn ystwyth ac ymatebol, gan ddarparu atebion i uchelgeisiau polisi a chyflawni.
Ers 2017, mae’r banc wedi buddsoddi £778 miliwn mewn mwy na 3,900 o fusnesau yng Nghymru, gan gefnogi 41,700 o swyddi. Mae hynny'n gyfanswm o £1.66 biliwn o effaith ar economi Cymru—buddsoddiad real, busnesau real, twf real, yn cefnogi busnesau ym mhob rhan o Gymru. Mae’r banc wedi ysgogi £531 miliwn o gyd-fuddsoddiad uniongyrchol o'r sector preifat rhwng 2017 a mis Mawrth 2024, gan luosogi effaith cyllid cyhoeddus.
Gan fod y banc yn delio mewn cyllid ad-daladwy yn hytrach na grantiau, bydd y buddsoddiad cyhoeddus hwnnw, i raddau helaeth, yn cael ei ad-dalu a bydd ar gael i fusnesau eto yn y dyfodol, gan ganiatáu i'r adnoddau a ddarparwn i'r banc ymestyn yn bellach ac i’r datganiad gwerth cyffredinol luosogi eto. Bydd y banc yn bwrw ymlaen â gwaith i ddeall ymhellach effaith economaidd buddsoddiad y sector preifat sy'n cael ei alluogi gan fuddsoddiad y banc.
Mae dysgu ymdrin â chwynion neu bryderon cwsmeriaid yn effeithiol yn hanfodol i bob sefydliad. Gall cyllid fod yn gymhleth, ac rwy’n ymwybodol fod yna adegau pan nad yw cwsmeriaid yn deall rôl y banc na rhwymedigaethau’r banc, a gall hyn, yn anffodus, arwain at gamddealltwriaeth a chwynion. Ac rwy’n ymwybodol fod cwynion penodol wedi’u dwyn i sylw’r pwyllgor, a lle bo’n bosibl, rwyf wedi ymgyfarwyddo â’r rheini, ac wedi cael cyfle i fynd i’r afael â phryderon gyda swyddogion.
Fodd bynnag, mae'n wir fod aelodau sefydlu cwmnïau weithiau'n cael eu diswyddo gan eu byrddau. Rôl y banc yw benthyciwr a chyfranddaliwr lleiafrifol, ac fel y cyfryw, mae hawliau'r banc wedi'u cyfyngu i'r rhai y cytunwyd arnynt gyda'r cwmni yn y cytundeb buddsoddi a'r erthyglau cymdeithasu.
A wnaiff y Gweinidog dderbyn ymyriad? Mae'n rhaid imi ddweud, nid wyf yn rhy gyfarwydd â’r adroddiad pwyllgor hwn, ac rwyf wedi eistedd i mewn a gwrando arno. Mae'r sylw a ddarparwyd gan dystiolaeth tyst i’r pwyllgor yn feirniadaeth lem, fod pobl yn cael eu gorfodi fel mentoriaid ar gwmnïau ac yna bod aelodau sefydlu yn cael eu diswyddo. Mae dweud ei fod yn arfer cyffredin i fyrddau ddiswyddo, pan ddangosodd y dystiolaeth a roddwyd i'r pwyllgor fod rhywfaint o amheuaeth ynghylch y rhesymau dilys pam y gallai aelodau fod wedi cael eu diswyddo—sylfaenwyr gwreiddiol y cwmni—yn peri cryn bryder. Rydych chi wedi dweud eich hun eich bod wedi edrych ar rai o'r cwynion hyn. A ydych chi'n credu bod y cwynion yn dal dŵr ac angen eu harchwilio ymhellach?
Dywedais fod aelodau sefydlu yn cael eu diswyddo gan fyrddau 'weithiau'; ni fuaswn yn mynd mor bell â dweud bod hynny'n beth cyffredin. Ond credaf mai’r pwynt yma yw nad ydym yn deall beth yw rôl Banc Datblygu Cymru mewn perthynas â’r byrddau hyn. Mae'r hawliau yr wyf newydd gyfeirio atynt yn rhai safonol yn y diwydiant ac maent ar waith i ddiogelu'r buddsoddiad cyhoeddus, gan ddarparu mesurau diogelu ar gyfer y cronfeydd cyhoeddus y mae'r banc yn eu buddsoddi. Fodd bynnag, rwy'n fodlon fod y banc wedi edrych ar y cwynion. Bu rhai achosion, a bod yn deg, lle mae’r cwynion wedi’u dwyn i sylw’r pwyllgor, yn hytrach nag yn briodol drwy’r broses gwyno i’r banc. Felly, buaswn yn amlwg yn annog unrhyw un sydd â chwyn i'w chodi'n uniongyrchol gyda'r banc.
Gwn fod y banc, serch hynny, wedi rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r pwyllgor am y newidiadau y mae’n eu gwneud i’w weithdrefnau ymdrin â chwynion, ac mae wedi bod yn myfyrio ar yr achosion a godwyd ac yn dysgu ac yn datblygu'r dull gweithredu cyffredinol. Ond i fanc neu sefydliad sy'n gweithio gyda dros 3,000 o gwsmeriaid, mae nifer cyffredinol y cwynion yn galonogol o isel mewn gwirionedd. Mae'r rhan helaeth o adborth cwsmeriaid am y banc yn gadarnhaol, a chredaf y byddai’r pwyllgor yn derbyn hynny hefyd. Mae sgôr hyrwyddwr net ddiweddaraf y banc o 91 yn gyflawniad eithriadol, ac yn dynodi bod y banc yn ymgysylltu ac yn perfformio’n dda a’i fod yn rheoli’r cysylltiadau cwsmeriaid hynny’n dda, ac mae hynny’n rhywbeth y mae ymrwymiad y banc i fodel cyflawni perthynol yn helpu i’w ategu.
Mae'r banc yn cynnal arolygon rhanddeiliaid gan ddefnyddio trydydd parti i sicrhau annibyniaeth a lle mae ymatebion yn ddienw. Rwy’n deall bod y banc yn rhoi ystyriaeth bellach i gynyddu amlder yr ymchwil hwn ac annog ymgysylltu pellach gan barhau i gasglu adborth mewn ffordd gyfrinachol.
Mae'r banc wedi bod yn weithgar yn cefnogi pryniannau gan weithwyr ochr yn ochr â chyllid olyniaeth rheoli ehangach. Gwn fod hwnnw’n argymhelliad pwysig yn adroddiad y pwyllgor. Mae cronfa olyniaeth rheoli Cymru wedi cefnogi buddsoddiad o £19 miliwn ers 2017, gan alluogi llawer o fusnesau i aros yng Nghymru ac mewn dwylo Cymreig. Ond rwyf wedi bod yn myfyrio ar yr argymhelliad hwn mewn trafodaethau a gefais yn ddiweddar gyda Busnes Cymdeithasol Cymru, a hefyd gyda Cwmpas a chyda phartneriaid yn y sector cydweithredol yn fwy cyffredinol, sydd â chryn ddiddordeb mewn sicrhau bod busnesau sy’n ystyried beth yw eu cynlluniau ar gyfer olyniaeth yn ystyried beth yw’r opsiynau o ran y modelau cymdeithasol hynny hefyd, ac mae hynny’n rhywbeth rwy'n awyddus i fynd ar ei drywydd.
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet dderbyn ymyriad? Yn fyr, ar dystiolaeth a gawsom yn ein gwaith craffu diweddaraf ar y cyfrifon blynyddol, cyfeiriodd y banc datblygu at derfyn uchaf i fuddsoddiad mewn busnesau unigol o ran y gronfa olyniaeth honno. A ydych chi wedi cael cyfle i edrych ar y dystiolaeth honno? Os nad ydych, a fyddech chi cystal ag edrych ar y dystiolaeth honno? Oherwydd credaf fod achos yma o blaid edrych, efallai, i weld a allwn gynyddu’r terfyn hwnnw ai peidio, gan fod enghreifftiau o rai cwmnïau y gallai’r banc datblygu fod yn ymwneud â hwy, ond yn anffodus, oherwydd y terfyn ar eu gallu i fuddsoddi, mae’n eu hatal rhag ymwneud â hwy, a thrwy hynny, ddiogelu busnes Cymreig a fyddai fel arall yn hyfyw.
Rwy’n fwy na pharod i archwilio gyda'r banc datblygu eu hunain y rhesymeg sy'n sail i'r terfyn hwnnw, i archwilio pethau o’u safbwynt hwy, ond rwy'n fwy na pharod, fel y dywedaf, i fwrw ymlaen â hynny.
Felly, o ran pethau eraill roedd gan y pwyllgor ddiddordeb mewn dysgu mwy amdanynt, rwy'n gwybod bod un yn ymwneud â sut y mae’r banc yn cefnogi datblygiad prosiectau ynni cymunedol, ac rwy'n awyddus hefyd i weld pa rôl y gall y banc ei chwarae yn cynyddu perchnogaeth leol drwy ymchwilio i'r defnydd o'r drefn rheoli cymhorthdal ar gyfer y gronfa ynni lleol, sy'n werth £12 miliwn, a hefyd drwy ymgysylltu â datblygwyr preifat. Felly, unwaith eto, credaf fod hwnnw'n faes o ddiddordeb cyffredin rhyngom ni a'r pwyllgor.
Mewn ymateb i argymhelliad yr adroddiad ar symleiddio’r cynnig ehangach i fusnesau, buaswn yn dweud bod gennym seilwaith cryf o gymorth i fusnesau drwy Busnes Cymru, a bod perthnasoedd a chysylltiadau â’r banc yn gweithio’n effeithiol. Fodd bynnag, mae’r ffocws a’r flaenoriaeth nawr ar sicrhau bod yr holl wasanaethau cymorth yn cyflawni ein blaenoriaethau economaidd, ac mae angen i bob un ohonom ganolbwyntio ar hynny, a dyna lle hoffwn weld ymdrech sefydliadol ar waith.
Mewn ymateb i awgrym y pwyllgor y dylem ystyried rhoi'r banc datblygu ar sylfaen statudol, credaf fod hynny’n dangos y gwerth a roddir ar y banc, ac yn cydnabod natur hirdymor y gwaith a wneir. Ond fel y nodwyd yn fy ymateb i’r pwyllgor, credaf fod hwnnw’n gwestiwn y byddai’n well dychwelyd ato pan fydd y materion sy'n ymwneud ag ailddosbarthiad y banc wedi'u datrys. A gwn fod hyn yn flaenoriaeth yn y trafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid yn eu cael gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, ac nid oes unrhyw un am i hyn gael ei ddatrys yn fwy na minnau, ac rwy’n rhannu ymdeimlad y pwyllgor o frys yn y mater penodol hwn.
Ac yna, i gloi, ar ôl derbyn ychydig o ymyriadau, Ddirprwy Lywydd, o ran argymhelliad y pwyllgor ar ddiwydrwydd dyladwy, rydym wedi gofyn i'r banc adolygu eu gweithgarwch, ac maent wedi gwneud hynny ac mae newidiadau wedi'u gwneud. Felly, rwy’n falch fod y pwyllgor eisoes wedi cael y wybodaeth ddiweddaraf am rywfaint o’r gwaith hwnnw. Mae'r banc yn gweithredu yn unol â gofynion rheoleiddiol ac mae eu diwydrwydd yn gyffredinol yn cyfateb neu'n rhagori ar yr hyn a gyflawnir gan fenthycwyr eraill. Er enghraifft, ochr yn ochr â’r diwydrwydd dyladwy a gyflawnir i fynd i’r afael â throseddau ariannol a gwyngalchu arian, ac ochr yn ochr â’r diwydrwydd a gyflawnir drwy asiantaethau credyd, mae’r banc bellach wedi cryfhau ei dull o wneud chwiliadau ar y rhyngrwyd sydd wedi’u cynllunio i nodi unrhyw ffactorau risg posibl i'w enw da y gallai fod angen ystyriaeth bellach arnynt cyn cymeradwyo cytundeb.
Yn olaf, i gloi, mae gennyf hyder yn arweinyddiaeth y banc a’r bwrdd, a’r flwyddyn nesaf, byddwn yn gweithio gyda’r bwrdd i gwblhau adolygiad asesu prosiect teilwredig o’r banc, gan adlewyrchu’r dull a ddefnyddiwyd gennym yn 2021, sef y tro diwethaf i adolygiad allanol o'r fath gael ei gynnal. Rwy’n disgwyl gweld yr adolygiad hwnnw’n ystyried y cynnydd a wnaed ar y camau gweithredu y cytunwyd arnynt drwy adroddiad y pwyllgor. A diolch eto i'r pwyllgor.
Galwaf ar Paul Davies nawr i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf i ddiolch i’r Aelodau am gymryd rhan yn y ddadl bwysig hon y prynhawn yma? Rydym wedi clywed cyfraniadau hynod ddiddorol gan Aelodau heddiw, yn ogystal ag ymateb adeiladol gan Ysgrifennydd y Cabinet. Roeddwn yn falch o glywed enghreifftiau o’r gwaith da a wneir gan y banc a chefnogaeth i’r argymhellion a wnaed gennym, a fydd, yn fy marn i, yn ei wneud yn sefydliad gwell byth. Hoffwn ddiolch hefyd i Ysgrifennydd y Cabinet am ei diweddariad ar fater y dosbarthiad, ac rwy'n falch fod Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid yn cael trafodaethau pellach ar y mater hwn. Mae hwn yn faes y bydd y pwyllgor, wrth gwrs, yn parhau i gadw llygad arno.
Nawr, ni chlywais Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud unrhyw beth nac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am yr adolygiad asesu prosiect. Credaf ei bod yn bwysig fod yr adolygiad hwn yn helpu’r banc i sicrhau bod ei broses gwyno’n gweithio nid yn unig i’w reoleiddwyr ond i’r banc ei hun a’i gwsmeriaid, gan gynnwys y rheini y mae wedi’u gwrthod. Edrychaf ymlaen hefyd at glywed mwy, efallai, gan Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch y gwaith i annog adborth dienw ar y banc. Mae hwn yn faes a allai, unwaith eto, helpu'r banc yn fawr i ddeall ei gwsmeriaid a datrys problemau cyn iddynt ddatblygu yn y dyfodol.
Roedd yn ddiddorol clywed barn Ysgrifennydd y Cabinet ar y cwynion a gawsom ynghylch buddsoddiadau ecwiti’r banc datblygu. Fel y soniais yn fy sylwadau agoriadol, cawsom y cwynion hyn yn ddienw, sydd wedi cyfyngu ar ein gallu i’w hintegreiddio. Er bod y banc wedi gwrthod yr honiadau hyn, mae’n ddyletswydd ar y pwyllgor hwn i gymryd y mathau hyn o honiadau o ddifrif, gan mai dim ond cipolwg ar wefan newyddion sydd ei angen i ddod o hyd i sefyllfaoedd lle mae honiadau fel bwlio wedi’u gwneud yn erbyn sefydliadau cyhoeddus eraill lle maent, mewn rhai achosion, wedi cael eu hanwybyddu, ac fel y gwyddom, weithiau nid yw'r achosion hyn yn gorffen yn dda yn y tymor hir. Fel rwy’n siŵr y byddwch yn ei werthfawrogi, fel Cadeirydd y pwyllgor, byddaf yn trafod yr hyn y mae’r Aelodau eraill ac Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i ddweud yn y ddadl heddiw gyda gweddill y pwyllgor, a byddwn yn gwneud penderfyniad ar ein camau nesaf ynghylch y cwynion hyn yn y dyfodol agos iawn.
Nawr, roedd yn ddiddorol clywed barn yr Aelodau ar fater diwydrwydd dyladwy. Yn ystod ein hymchwiliad, roeddem yn falch o weld, er bod y banc yn cael ei gyfarwyddyd strategol gan y Llywodraeth, ei fod yn gweithredu'n annibynnol. Fodd bynnag, mae’n bwysig ei fod yn gweithredu’n unol â’r disgwyliadau a fydd gan y cyhoedd ynghylch y defnydd o arian cyhoeddus, a dyna pam fod yn rhaid iddo osod gofynion uwch tebyg i ofynion person addas a phriodol ar gyfer benthyca na banc masnachol cyffredin. Fel y dywedais yn fy sylwadau agoriadol, ymddengys bod y banc wedi cytuno i hyn, ac edrychaf ymlaen at weld canlyniadau eu dull gweithredu newydd maes o law.
Felly, gyda hynny, Ddirprwy Lywydd, rwyf am ailadrodd fy niolch i’r banc a’i staff am ymgysylltu â’r gwaith hwn. Fel y dywedais yn gynharach, gwn na fyddai wedi bod yn hawdd. Rwy'n gobeithio y bydd y canlyniadau’n helpu’r banc i adeiladu ar y gwaith da yn gyffredinol y mae’n ei wneud ar hyn o bryd a gwella ei berfformiad, a fydd, yn ei dro, yn cefnogi datblygiad pellach economi Cymru.
Felly, i gloi, a gaf i ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma? Rwyf am roi sicrwydd i’r Aelodau y bydd y pwyllgor yn parhau i fonitro cynnydd yn erbyn ein hargymhellion ac yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a’r banc i sicrhau y gellir mynd i’r afael â’r materion a nodwyd gennym, ac y gellir rhoi’r banc yn y sefyllfa orau bosibl i gyflawni ar gyfer busnesau Cymru a’n heconomi. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 7 sydd nesaf, dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, 'Craffu ar Gyfrifon: Amgueddfa Cymru 2021-22'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig, Mark Isherwood.
Cynnig NDM8745 Mark Isherwood
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus - Craffu ar Gyfrifon: Amgueddfa Cymru 2021-22, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Mehefin 2024.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch. Mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn ddiolchgar am y cyfle i drafod ein hadroddiad ar gyfrifon Amgueddfa Cymru ar gyfer 2021-22, a gododd faterion llywodraethu difrifol gan arwain at gostau sylweddol i'r pwrs cyhoeddus. Cafodd adroddiad y pwyllgor ei gyhoeddi ar 26 Mehefin eleni.
Cododd Archwilydd Cyffredinol Cymru bryderon yn adroddiadau ariannol yr amgueddfa ar gyfer 2020-21 a 2021-22. Arweiniodd hyn at ddiddordeb sylweddol gan y cyhoedd yn yr amgylchiadau yn gysylltiedig â chyfres o anghydfodau yn ymwneud â chyn-gyfarwyddwr cyffredinol, cyn-lywydd a chyn-brif swyddog gweithredu'r sefydliad. Datgelodd gwaith dilynol yr archwilydd cyffredinol faterion llywodraethu difrifol yn ymwneud â'r setliad ariannol gyda'r cyn-gyfarwyddwr cyffredinol, y mae eu manylion wedi'u nodi yn ei adroddiad budd y cyhoedd, a allai fod o ddiddordeb i'r Aelodau.
Roedd Amgueddfa Cymru hefyd yn destun adolygiad teilwredig gan Lywodraeth Cymru, y cyhoeddwyd ei adroddiad ym mis Gorffennaf 2023 a gwnaeth 77 o argymhellion, 27 ohonynt yn ymwneud â llywodraethu. Yn ei adroddiad budd y cyhoedd, daeth yr archwilydd cyffredinol i'r casgliad fod y setliad gyda'r cyn-gyfarwyddwr yn 'anarferol' ac yn 'ddadleuol', barn a rannai'r pwyllgor.
Ar 5 Rhagfyr 2022, setlodd Amgueddfa Cymru gyfres o hawliadau a wnaed gan gyn-gyfarwyddwr cyffredinol yr amgueddfa. Cyflwynodd gŵyn i Lywodraeth Cymru am ymddygiad cyn-lywydd yr amgueddfa ym mis Mehefin 2021, gan wneud honiadau am weithredoedd ac ymddygiad amhriodol. Ond roedd y cyn-gyfarwyddwr cyffredinol wedi dweud wrth archwilwyr ei fod wedi dwyn pryderon ynglŷn â llywodraethu i sylw Llywodraeth Cymru a'r cyn-lywydd ers mis Rhagfyr 2020.
Gwaethygodd yr anghydfod rhwng y partïon dros gyfnod hir, gyda'r cyfarwyddwr cyffredinol yn cyflwyno cwynion ym mis Medi 2021 a mis Ionawr 2022, a honiadau'n cael eu cyflwyno yn y pen draw i dribiwnlys cyflogaeth ym mis Hydref 2021 a mis Awst 2022. Daeth Archwilydd Cyffredinol Cymru i'r casgliad nad oedd gan Amgueddfa Cymru bolisïau digonol i ymdrin â phryderon a chwynion o'r math hwn. Nid oedd y trefniadau a oedd ar waith ond yn berthnasol i staff cyflogedig yn unig ac nid oeddent yn berthnasol i gwynion a gâi eu codi gan uwch staff ac yn ymwneud ag aelod anweithredol o'r bwrdd, fel y cyn-lywydd.
Roedd y pwyllgor yn bryderus iawn fod y trefniadau ar gyfer ymdrin â chwynion yn gwbl anfoddhaol. Roedd methiant perthnasoedd ar lefel uwch yn risg ragweladwy a ddylai fod wedi cael ei hadlewyrchu yn eu polisïau a'u gweithdrefnau. Er bod y pwyllgor yn fodlon bod ceisio setliad yn well na symud ymlaen i dribiwnlys cyflogaeth, ar ôl adolygu'r cyngor cyfreithiol preifat a rannwyd gyda'r pwyllgor, nid oeddem yn fodlon â'r rhesymeg dros y ffigur a benderfynwyd ar gyfer y setliad, a oedd yn seiliedig ar gyfnod rhybudd o 22 mis, pan nodai contract cyflogaeth y cyn-gyfarwyddwr cyffredinol gyfnod rhybudd o 12 mis yn unig. Yn wir, mae Archwilydd Cyffredinol Cymru yn barnu nad oedd yr amgueddfa wedi gallu dangos ei bod wedi gweithredu er budd gorau'r pwrs cyhoeddus.
Ar adeg adroddiad budd y cyhoedd yr archwilydd cyffredinol i'r mater hwn, cyfanswm costau posibl y taliad i'r cyn-gyfarwyddwr cyffredinol oedd £325,698, gyda chostau cyfreithiol a phroffesiynol allanol pellach o £419,915, sy'n golygu cyfanswm setliad o £757,613. Mae hyn yn cynnwys taliad a wnaed i'r cyn-brif swyddog gweithredu, a ymddeolodd ar sail afiechyd. Mae hyn yn arbennig o ofidus yn yr hinsawdd ariannol bresennol, pan ellid bod wedi osgoi'r costau hyn pe bai trefniadau llywodraethu cryfach ar waith. Roedd y pwyllgor yn drist o glywed am y pwysau ariannol sy'n wynebu Amgueddfa Cymru, gyda thua 90 o swyddi i'w colli a chynllun diswyddo gwirfoddol yn ei le.
Roedd y taliadau i, neu mewn perthynas â'r cyn-gyfarwyddwr cyffredinol yn cynnwys cyflog ac argostau gwerth cyfanswm o £225,698 ar gyfer y cyfnod rhwng 17 Tachwedd 2022, sef y dyddiad y peidiodd y cyn-gyfarwyddwr cyffredinol â chyflawni ei ddyletswyddau heblaw am chwe ymrwymiad a drefnwyd yn flaenorol, a 30 Medi 2024. Roedd hefyd yn destun pryder fod y fframwaith llywodraethu yn yr amgueddfa i'w weld wedi dod i stop, gyda chyfarfodydd wyneb yn wyneb rheolaidd bwrdd yr ymddiriedolwyr heb fod yn digwydd rhwng Medi 2021 a Mai 2022, a busnes yn cael ei gyflawni drwy e-bost, yn groes i'r rheolau sy'n llywodraethu'r amgueddfa.
Roedd y pwyllgor hefyd yn bryderus o glywed am y cyngor gweinidogol a roddwyd i gyn-Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon adeg yr anghydfod, nad oedd yn nodi cyfanswm gwerth y setliad. Daethom i'r casgliad fod y Dirprwy Weinidog ar y pryd wedi ei rhoi mewn sefyllfa anodd oherwydd hyn, a bod materion ehangach yn ymwneud â chyngor gweinidogol angen sylw brys.
Yn wir, yn yr achos hwn, nid oedd yn glir pa weithdrefnau oedd yn berthnasol er mwyn i Lywodraeth Cymru ystyried a chymeradwyo'r setliad ar gyfer y cyn-gyfarwyddwr cyffredinol. Roedd hyn oherwydd anghysondeb rhwng gweithdrefnau galw i mewn Llywodraeth Cymru ar gyfer cyrff hyd braich a'u canllawiau 'Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru', nad ydynt wedi'u diweddaru ers 2018.
O ystyried y methiant perthnasoedd sylweddol a arweiniodd at y setliad hwn, roedd y pwyllgor yn pryderu bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu penodi cyn-lywydd yr amgueddfa i arwain adolygiad o Cadw, gan weithredu yn yr un sector treftadaeth a diwylliannol â'r amgueddfa. Er bod y pwyllgor yn cydnabod y casgliad nad oedd y cyn-lywydd wedi torri egwyddorion Nolan, roedd hi'n amlwg o'r ymchwiliad annibynnol i gwynion fod rhai elfennau o'r cwynion yn ei erbyn wedi eu cadarnhau, naill ai'n rhannol neu'n llawn.
Testun pryder mwy cyffredinol yw'r newid arfaethedig i'r rhaglen adolygu teilwredig, gyda phrif swyddog gweithredu Llywodraeth Cymru yn dweud wrthym ar 14 Rhagfyr 2023 y byddai'r rhaglen hon yn cael ei gohirio wrth iddi weithredu model hunanasesu newydd. Er bod y pwyllgor yn poeni am gyflawnadwyedd rhaglen adolygu teilwredig Llywodraeth Cymru, a oedd â'r nod gwreiddiol o adolygu pob corff cymwys yn ystod tymor y Senedd hon, ond a fethodd wneud hynny, gallai newid i ddull asesu llai dwys arwain at broblemau tebyg yn digwydd mewn cyrff eraill.
Gwnaeth y pwyllgor gyfanswm o 14 o argymhellion, gydag wyth o'r rheini wedi'u cyfeirio at Lywodraeth Cymru, a'r gweddill i Amgueddfa Cymru. Roedd yr wyth argymhelliad i Lywodraeth Cymru yn cynnwys y canlynol: hysbysu'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus pan gaiff atgyfeiriadau eu gwneud gan Lywodraeth Cymru i'r Comisiwn Elusennau yn y dyfodol; egluro'r prosesau yn 'Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru' i fynd i'r afael â'r datgysylltiad rhyngddo a'r gweithdrefnau galw i mewn, yn ogystal â senarios pan fo'n ymwneud â'r materion hynny ei hun; darparu rhagor o wybodaeth am y broses benodi ar gyfer penodi cyn-lywydd Amgueddfa Cymru i'w rôl yn adolygu Cadw; rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor pan fydd y broses ar gyfer cyflwyno'r model hunanasesu newydd ar gyfer adolygu cyrff hyd braich wedi dod i ben; darparu rhagor o wybodaeth am y cymorth ariannol sy'n cael ei ddarparu i Amgueddfa Cymru i ddiogelu Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; ac adolygu'r polisïau cwyno ym mhob un o'i gyrff hyd braich a'r cyrff a noddir ganddi er mwyn sicrhau eu bod yn gadarn ac yn addas i'r diben.
Derbyniodd Llywodraeth Cymru bump o'n hargymhellion yn llawn, ond derbyniodd ddau mewn egwyddor yn unig, gan gynnwys yr argymhelliad am benodiad cyn-lywydd yr amgueddfa i'r rôl yn adolygu Cadw. Mae hyn yn peri pryder, pan fo'r Ysgrifennydd Parhaol blaenorol wedi rhoi ymrwymiad i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ym mis Ionawr 2018 i ddod â'r arfer hwn i ben yng ngoleuni pryderon yr aelodau nad oedd derbyn mewn egwyddor yn ymateb digonol. Rydym yn parhau i fod o'r farn nad yw'n ymateb digonol.
Gwrthododd Llywodraeth Cymru un argymhelliad yn ymwneud ag adolygiad o'r polisïau cwyno mewn sefydliadau eraill tebyg. Eglurodd Llywodraeth Cymru mai cyfrifoldeb y swyddogion cyfrifeg unigol yn y sefydliadau hynny yw'r polisïau hyn, a bod y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu yn rhoi cymorth i gyrff o'r fath ar weithdrefnau disgyblu a chwyno. Yn ogystal, fe wnaethant nodi costau staff sylweddol fel rhwystr rhag gweithredu'r argymhelliad hwn. Cafodd y pwyllgor ei synnu gan yr ymateb hwn, o ystyried methiant amlwg y polisïau a'r gweithdrefnau cwyno yn Amgueddfa Cymru, a arweiniodd at gostau sylweddol i'r pwrs cyhoeddus. Rydym yn annog Ysgrifennydd y Cabinet i ailystyried yr ymateb hwn.
Er ein bod yn cydnabod y costau staff posibl sy'n gysylltiedig â gweithredu ein hargymhelliad, rydym yn teimlo bod angen clir am ddull mwy ymyraethol gan Lywodraeth Cymru, er mwyn lliniaru'r risgiau y bydd sefyllfa debyg yn digwydd eto. Gallai hyn gynnwys cyhoeddi canllawiau mwy cadarn, neu gynnig cymorth i gyrff sydd â phryderon ac sy'n dymuno ailgynllunio neu adolygu eu polisïau.
Cyfeiriwyd y chwe argymhelliad arall at Amgueddfa Cymru, ac roeddent yn cynnwys cais am ragor o wybodaeth am eu gweithdrefnau cwyno, gweithredu argymhellion yr adolygiad teilwredig, a chynllun gweithlu'r amgueddfa. Cadarnhaodd eu hymateb fod yr amgueddfa bellach wedi cyflwyno cynllun datrysiad cynnar newydd i'w gweithdrefn gwyno, a ddatblygwyd ar y cyd â thîm y cyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru a'i rannu gyda'r pwyllgor. Hefyd, fe wnaethant ddarparu copi o'u cynllun gweithlu a nodi gwybodaeth bellach am eu rhaglen newid, Llunio ein Dyfodol, sydd â'r dasg o reoli'r gwaith o ailstrwythuro'r sefydliad yn llawn, gan leihau eu costau gweithredu, a hybu proffidioldeb trwy weithgareddau cynhyrchu incwm.
Mae'r pwyllgor yn fodlon fod yr amgueddfa wedi ymateb i'r sefyllfa anffodus hon a bellach mewn gwell sefyllfa i ymdrin â sefyllfa debyg yn y dyfodol. Fodd bynnag, nid yw'r pwyllgor yn argyhoeddedig fod gwersi wedi'u dysgu ar draws y sector cyhoeddus ehangach yng ngoleuni'r materion hyn, ac rydym yn pryderu y gallai sefyllfa debyg ddigwydd mewn mannau eraill heb ymyrraeth fwy cadarn gan Lywodraeth Cymru. Gwaethygir y risgiau hyn yn sgil cyflwyno'r model hunanasesu ar gyfer adolygu, fel yr amlinellais uchod, a allai arwain at fethu mynd i'r afael â phroblemau mawr mewn cyrff cyhoeddus nes bod niwed sylweddol yn digwydd.
Bydd y pwyllgor yn craffu gyda diddordeb ar drosolwg Llywodraethu Cymru o'i gyrff hyd braich a chyrff cyhoeddus. Rydym yn annog ein pwyllgorau polisi cyfatebol i wneud yr un peth, o ystyried ein pryderon. Diolch yn fawr.
Yn amlwg, mae'r amgueddfa genedlaethol, Amgueddfa Cymru, yn un o'n sefydliadau cenedlaethol pwysicaf. Dyma'r sefydliad sy'n ein helpu i adrodd ein stori genedlaethol, a chredaf ei bod yn amlwg mewn unrhyw genedl, mai'r ffordd yr ydym yn cadw ein gorffennol a'r ffordd y strwythurwn ac y cefnogwn y sefydliadau sy'n ein helpu i wneud hynny, os cawn hynny'n anghywir, sut y gallwn ni siapio ein dyfodol? Felly, diwylliant yw'r allwedd, yn aml, a phan aiff rhywbeth o'i le gyda'n sefydliadau diwylliannol, dylai hynny fod yn bryder sylfaenol i'n gwleidyddiaeth.
Ac mae'n rhaid dweud bod yr hyn rydym newydd ei glywed gan gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn destun pryder mawr am ei fod yn codi cwestiynau difrifol am fethiant systemig, o fewn yr amgueddfeydd cenedlaethol, ond hefyd o ran cyfrifoldebau ehangach Llywodraeth Cymru. Ond mae'n codi cwestiynau ehangach sy'n berthnasol i drefniadau llywodraethu'r sector cyhoeddus a phob corff hyd braich, ac rwyf am siarad am y rheini mewn eiliad.
Mae'r llun sydd newydd gael ei baentio i ni yn un go enbyd, onid yw? Yma, roedd gennym anghydfod mewnol hirfaith, yn y bôn, gwrthdaro parhaus, anghytundeb difrifol rhwng uwch reolwyr ac ymddiriedolwyr, a arweiniodd at barlys, dros nifer o flynyddoedd, yn y prosesau gwneud penderfyniadau. Cawsom ddirprwyo penderfyniadau allweddol megis setliadau ariannol i is-set gyfyngedig o ymddiriedolwyr. Cawsom y defnydd o e-bost yn unig ar gyfer gwneud penderfyniadau, cyfarfodydd bwrdd heb gofnodion, ac ati. Cafodd hyn effaith negyddol iawn. Clywsom am y £750,000 y mae'n ei gostio'n uniongyrchol, ond meddyliwch am y miloedd o oriau, mae'n debyg, a aeth i mewn i'r sefyllfa hon. Gwelsom oedi cyn llunio adroddiadau ariannol. Mae'r ffaith ein bod yma, ym mis Tachwedd 2024, yn trafod cyfrifon ar gyfer 2021-22 ynddo'i hun yn cyfleu hynny. Yn amlwg, gwelsom systemau gwan ar gyfer ymdrin â chwynion mewnol a chwythu'r chwiban, sy'n adlewyrchu problem ehangach gyda chamweithrediad sefydliadol wrth wraidd y sefydliad.
Ond mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru dderbyn ei chyfrifoldebau yma hefyd. Er gwaethaf eu hymwybyddiaeth o fethiannau llywodraethu difrifol ers 2020, nid oedd ymyrraeth Llywodraeth Cymru yn amserol, dangosai ddiffyg tryloywder, ac fe ganiataodd iddo grynhoi, ac nid dyna'r ffordd gywir o'i wneud. Yna, wedyn, rwy'n credu bod cwestiynau dilys wedi eu codi gan y pwyllgor ynglŷn ag ai'r peth iawn, o ran canfyddiad y cyhoedd, oedd penodi cyn-lywydd Amgueddfa Cymru—. Nid wyf am gyfreitha'r materion o sylwedd a oedd wrth wraidd yr anghytundeb, ond o ran enw da cyhoeddus, a oedd hi'n iawn penodi'r cyn-lywydd i rôl yn arwain grŵp gorchwyl a gorffen yn y sector treftadaeth, yn dilyn yr anghydfod hwn, a dod i'r casgliad, fel y dywedodd y Cadeirydd, o safbwynt polisi cyhoeddus, mai'r peth i'w wneud ar ôl y stori ddiflas hon wedyn oedd symud i system reoleiddio ysgafn ar gyfer rheoleiddio cyrff hyd braich, symud i hunanasesiad? Dylem fynd i'r cyfeiriad arall. Yr hyn sydd angen i ni ei gael yw archwilio, trosolwg a goruchwyliaeth fwy trylwyr ar gyrff y sector cyhoeddus.
Oherwydd mae'n fwy na'r problemau yma yn Amgueddfa Cymru yn unig. Cofiwch am yr argyfwng arweinyddiaeth yn 2017 yn Chwaraeon Cymru a'r camweithredu a welwyd yno; y camreoli ariannol a'r amodau archwilio ailadroddus a arweiniodd at ymddiswyddiad cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn 2018; y problemau gydag ymddiswyddiad gorfodol bwrdd Betsi Cadwaladr; adolygiad yr archwilydd cyffredinol o'r awdurdodau tân yng Nghymru, gan ddangos y strwythurau atebolrwydd gwan yno. Rwy'n credu bod gennym broblem gyffredinol gyda llywodraethu yn y sector cyhoeddus, ac mae hynny'n erydu ymddiriedaeth y cyhoedd, sy'n golygu na ellir darparu gwasanaethau cyhoeddus yn y ffordd y dylent gael eu darparu, ac felly mae angen inni gryfhau'r fframweithiau llywodraethu. Nid system hunanasesu sydd ei hangen arnom, ond archwilio mwy trylwyr gan uned cyrff cyhoeddus Llywodraeth Cymru.
Mae angen inni edrych ar fyrddau mwy amrywiol. Mae yna theori mewn llywodraethu sector cyhoeddus fod 'amrywiaeth yn bwysicach na thalent'. Os oes gennych fwrdd amrywiol, mae yna dystiolaeth gref y cewch fwrdd sy'n gweithredu'n well. Mae angen apwyntiadau seiliedig ar sgiliau arnoch hefyd, felly nid dim ond dewis o gronfa fach, grŵp bach o dalent a wnewch, ond rydych chi mewn gwirionedd yn ceisio cael y grŵp ehangaf a mwyaf amrywiol, oherwydd dyna'r byrddau mwyaf effeithiol, ac os gwnawn hynny, rwy'n credu y gallem fod mewn sefyllfa i osgoi rhai o'r problemau rwyf newydd eu disgrifio.
Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i glercod y pwyllgor, cyd-Aelodau, y Cadeirydd, a'r rhai a gyfrannodd ac a helpodd i lunio'r adroddiad hwn. Rwy'n cytuno'n llwyr ag Adam Price. Mae ein diwydiant diwylliant a chelfyddydau, ynghyd â hanes, yn asedau hanfodol i Gymru, ac rwy'n credu'n gryf fod gennym gyfrifoldeb i'n cenedlaethau iau a phobl Cymru yn gyffredinol i flaenoriaethu cynnal a chadw cyfleusterau fel rhai'r amgueddfa genedlaethol yng Nghymru. Y gred hon sy'n gwneud imi sefyll dros y syniad fod llywodraethu cymwys mewn sefydliadau fel Amgueddfa Cymru mor bwysig. Gwyddom fod adroddiad y pwyllgor yn dod o fewn cefndir ehangach o doriadau diweddar i gyllideb yr amgueddfa genedlaethol o dan arweinyddiaeth flaenorol Vaughan Gething, a arweiniodd fel y gwyddom at drafodaethau difrifol a phryderon ynghylch y posibilrwydd y byddai'r amgueddfa genedlaethol yng Nghaerdydd yn cau. Ddiwedd y llynedd, clywsom hefyd am brinder cyllid difrifol, a oedd yn rhagddyddio'r toriadau hyn, gan arwain at ôl-groniad atgyweirio gwerth £90 miliwn, sy'n cynnwys holl safleoedd yr amgueddfa a gwaith brys gwerth cyfanswm o £25 miliwn yn yr amgueddfa genedlaethol yng Nghaerdydd yn unig.
Mae'r cyd-destun ehangach hwn o brinder cyllid a phenderfyniadau anodd, fel gyda llawer o sefydliadau'r sector cyhoeddus, yn gwneud yr adroddiad a'i ganfyddiadau hyd yn oed yn anos i'w ddarllen. Fel y gwyddom, mae adroddiad yr archwilydd cyffredinol yn ymchwilio'n fanwl, gan dynnu sylw yn gyntaf at y ffaith nad oedd gan Amgueddfa Cymru bolisïau digonol ar waith i ymdrin â phryderon a godwyd gan uwch swyddogion; yn ail, fod yr anghydfod cyflogaeth wedi effeithio'n andwyol ar eu trefniadau llywodraethu rhwng mis Medi 2021 a mis Tachwedd 2022; ac yn drydydd, fod y costau cyfreithiol ychydig o dan £420,000 i ddatrys anghydfod yn unig. Nid yw'r ffigur hwnnw'n cynnwys y swm a wariwyd ar gytundeb setliad, y cyfeiriodd yr archwilydd cyffredinol at ei gost fel un 'anarferol, dadleuol ac adleisiol'. Felly mae'n frawychus i mi fod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod argymhelliad 3 yn adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, a oedd yn cynghori y dylid gweithredu system i adolygu gweithdrefnau cwyno mewn cyrff hyd braich a chyrff a noddir i sicrhau eu bod yn gadarn ac yn addas i'r diben. Felly, gyda hyn mewn golwg, Ysgrifennydd y Cabinet, gan ystyried difrifoldeb pryderon y pwyllgor a'r archwilydd cyffredinol, a fyddech chi cystal ag amlinellu yn eich ymateb pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i sicrhau bod cymorth ac arweiniad priodol, yn ogystal â chyngor, wedi'u rhoi i amgueddfa genedlaethol Cymru mewn perthynas â pholisïau cwyno i sicrhau na fydd sefyllfa fel hon byth yn digwydd eto?
Rwy'n ymwybodol fod yr amser sydd gennym yn brin, Ddirprwy Lywydd, ond roeddwn eisiau cyfeirio at un o'r argymhellion cyn gorffen. Mae argymhelliad 8 yn cyfeirio at benodi cyn-lywydd Amgueddfa Cymru i rôl newydd yn adolygu Cadw. Mae'r argymhelliad ei hun yn cynghori Llywodraeth Cymru i ddarparu amgylchiadau penodi'r cyn-lywydd i'r rôl i'r pwyllgor, a llinell amser ar gyfer y penodiad hwnnw. Er ei fod wedi ei dderbyn mewn egwyddor, credaf fod y cyfiawnhad a roddwyd bod amser yn gyfyngedig i'r broses recriwtio ar gyfer y rôl hon yn Cadw ac nad oedd ei aelodaeth o'r grŵp gorchwyl a gorffen yn cael ei hystyried yn benodiad cyhoeddus yn ddadleuon eithaf gwan a dweud y gwir, o ystyried cyd-destun difrifoldeb yr anghydfod hwn. Ac rwy'n credu y byddai'n fuddiol i Ysgrifennydd y Cabinet nodi hefyd pa drafodaethau a gynhaliwyd o fewn y Llywodraeth cyn y penodiad hwn ynghylch y risgiau ac a ymgynghorwyd ag aelodau eraill o'r bwrdd o fewn Cadw ar y pryd ynghylch eu safbwyntiau ynglŷn ag a oedd hwn yn benodiad priodol, o gofio bod y gwaith a oedd ei angen yn digwydd ochr yn ochr â'r cyn-lywydd.
I gloi, Ddirprwy Lywydd, rydym yn aml yn clywed llawer am wersi'n cael eu dysgu, ond rwy'n mawr obeithio nad gwasanaeth gwefusau yn unig yw hwn. Mae'r diwydiant hwn, y llywodraethu o'i fewn a'r caledi ariannol parhaus yn rhy ddifrifol i wneud colledion ariannol o'r fath ar anghydfodau y gellid bod wedi'u rheoli'n wahanol, ac wedi'u hatal o bosibl hyd yn oed. Gyda Llywodraeth Cymru yn darparu trosolwg hyd braich, mae cyfrifoldeb yma, Ddirprwy Lywydd, i gefnogi a chynghori sefydliadau fel Amgueddfa Cymru i recriwtio uwch aelodau bwrdd a swyddogion gweithredol ac i ddysgu o'r gwersi hyn fel bod trethdalwyr bob amser yn cael gwerth am eu harian ac osgoi anghydfodau yn y dyfodol ar gyfer gweithrediad cyffredinol y sefydliad pwysig hwn yn y dyfodol. Diolch.
Gaf i ddiolch i'r pwyllgor am eu gwaith ar hwn? Mi hoffwn i ddatgan yr oeddwn i'n gyflogedig efo Amgueddfa Cymru hyd at Ebrill 2021. Felly, er ei fod o ddim yn gyfnod hollol berthnasol, dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig fy mod i'n rhoi hynny ar y record, ac yn amlwg dwi'n adnabod nifer o'r unigolion yn fan hyn. Mae'n fy nhristáu i hefyd. Mae'n sefydliad rydw i'n angerddol amdano fo. Fel amlinellodd Adam Price, mae'n bwysig eithriadol i ni fel cenedl. Mae hwn yn adroddiad pwysig ac yn adlewyrchiad trist iawn o bennod difrifol iawn, nid yn unig yn hanes Amgueddfa Cymru, ond hefyd Llywodraeth Cymru. Un o'r pethau dwi'n anfodlon iawn efo fo ydy ymateb Llywodraeth Cymru, sydd mwy neu lai yn awgrymu mai bai Amgueddfa Cymru ydy'r holl broses. Ond, os edrychwch chi ar adroddiad y pwyllgor, mae o'n glir bod gwersi angen eu dysgu gan Lywodraeth Cymru.
Hoffwn ategu sylwadau Adam Price ynglŷn â chyrff a noddir a phenodiadau gan Lywodraeth Cymru. Mae angen tryloywder arnom, mae angen cysondeb arnom. Yr hyn sy'n amlwg yma yw, er bod rôl y llywydd, neu gadeirydd y bwrdd bellach, yn un a benodir gan Lywodraeth Cymru ac yn un y bydd gennym ni fel Senedd lais yn eu cylch, pan aiff pethau o chwith, mae'n ymddangos mai mater i'r sefydliad dan sylw ydyw. Mae bron yn ddull hyd braich, ac eto nid oedd y prosesau ar waith. Ac mae'n ddrwg gennyf weld nad yw'n ymddangos bod nifer o'r gwersi a ddeilliodd o Chwaraeon Cymru wedi cael eu dysgu. Felly, yn union y pwynt a wnaed gan Natasha Asghar yn ei chyfraniad: ni allwn barhau i ddweud bod angen datrys y mathau hyn o bethau.
Mae gennyf bryderon enfawr hefyd, fel y soniodd Adam Price, ynghylch amrywiaeth y byrddau. Gwelwn yr un wynebau'n ymddangos ar wahanol fyrddau. Rwy'n ddiolchgar i'r pwyllgor am bwysleisio a gwneud argymhellion mewn perthynas â phenodi'r cyn-lywydd i'r rôl newydd yn adolygu Cadw. Mae hynny'n codi cwestiynau difrifol o ran, nid yr unigolyn dan sylw, ond y prosesau, oherwydd mewn unrhyw achos arall lle mae cwynion, byddech yn disgwyl y byddai Llywodraeth Cymru yn bod yn ddiduedd tra bod yr ymchwiliadau hynny'n mynd rhagddynt. Mae'n ymddangos bod penodi rhywun i fod yn gweithio yn yr un sector pan fo'r anghydfod hwn yn mynd rhagddo yn dangos nad yw Llywodraeth Cymru yn bod yn ddiduedd. Ac i mi, nid yw hynny'n iawn, a rhaid edrych arno.
Mae angen inni edrych ar gyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru. Mae'r anghysondeb o ran pa rolau ymddiriedolwyr sy'n cael eu talu, a pha rai nad ydynt yn cael eu talu, ac yn y blaen, yn golygu nad yw'n amrywiol, nid yw'n gae chwarae gwastad o ran pwy sy'n mynd ar y byrddau hyn, pwy sy'n ein cynrychioli ni, pwy sy'n helpu i siapio ein sefydliadau. Hoffwn pe bai pob Aelod o'r Senedd yn darllen yr adroddiad hwn. Hoffwn pe bai pob Aelod o'r Senedd yn darllen ymateb Llywodraeth Cymru hefyd. Rwy'n gobeithio bod Llywodraeth Cymru wedi dysgu gwersi, ac efallai na fydd y rheini wedi eu hadlewyrchu yn ymateb y Llywodraeth, ond bod gwersi wedi cael eu dysgu, oherwydd nid yw'n ddigonol.
Hoffwn weld swyddogion yn ailystyried argymhelliad 3 hefyd. Nid wyf yn derbyn y dylai hwnnw fod wedi cael ei wrthod. Mae yna rôl i Lywodraeth Cymru. Felly, rwy'n ddiolchgar i'r pwyllgor, ond mae cymaint o waith pellach i'w wneud, ac rwy'n gobeithio clywed ystyriaeth yn ymateb y Gweinidog o'r hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud, nid yr hyn y maent wedi bod yn annog Amgueddfa Cymru i'w wneud yn unig.
Galwaf ar y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, Jack Sargeant.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf i ddechrau drwy ddiolch i'r pwyllgor am yr adroddiad, yn enwedig y Cadeirydd, Mark Isherwood, am y modd y mae wedi arwain y pwyllgor yn ystod y cyfnod anodd iawn hwn a'r holl bethau eraill y mae'r Cadeirydd wedi mynd ymlaen i'w gwneud, ac i bawb sydd wedi cyfrannu at y drafodaeth hon heddiw?
Dylwn ddweud ar y cychwyn, Gadeirydd, fy mod yn croesawu gwaith y pwyllgor a gwaith y pwyllgor yn y dyfodol a gwaith craffu'r pwyllgor gyda fy mhortffolio ac efallai ar gyflwyno'r model hunanasesu y mae'r Cadeirydd ac eraill wedi codi pryderon yn ei gylch heddiw. Gallech glywed yr angerdd yn yr ymateb gan holl yr Aelodau dros Amgueddfa Cymru. Roedd Adam Price yn iawn i nodi ei fod yn un o'r sefydliadau pwysicaf i'r genedl. Mae'n un o'r sefydliadau diwylliannol mwyaf gwerthfawr, ac mae'r digwyddiadau a amlinellir yn yr adroddiad hwn yn cynrychioli cyfnod hynod heriol yn ei hanes. Er nad oeddwn yn ymwneud yn uniongyrchol yn ystod y cyfnod anodd hwn, rwy'n hyderus fod gwersi wedi'u dysgu a bod y gwaith a wnaed gan y pwyllgor, yn ogystal â'r adroddiad a gyhoeddwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, wedi chwarae rhan bwysig yn y broses hon.
Roeddwn yn falch fod y pwyllgor yn fodlon fod y penderfyniad i geisio sicrhau setliad yn hytrach na mynd ymlaen i dribiwnlys yn un cywir, gan nodi ymateb y Cadeirydd a'r pwyllgor i'r setliad. Fodd bynnag, rwy'n deall bod y penderfyniadau wedi'u gwneud i ddatrys problemau a galluogi pob parti i symud ymlaen gan osgoi mwy o gost i'r pwrs cyhoeddus. Rhoddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip ymateb i adroddiad y pwyllgor yn ôl ym mis Awst. Nododd fod y pwyllgor wedi tynnu sylw at feysydd roeddem wedi'u nodi fel blaenoriaethau a lle roedd cynnydd eisoes yn cael ei wneud. Fel y nododd y Cadeirydd, o'r wyth argymhelliad ar gyfer Llywodraeth Cymru, fe wnaethom dderbyn pump yn llawn a dau mewn egwyddor.
Ni wnaethom dderbyn yr argymhelliad yn ymwneud ag adolygu polisïau cwyno pob un o'n cyrff noddedig hyd braich, sy'n gyfrifoldeb i swyddogion cyfrifeg unigol. Mae gan ACAS god ymarfer statudol eisoes, a rhaid iddynt ddilyn gweithdrefn lawn a theg yn unol â'r cod ymarfer ar gyfer unrhyw achos disgyblaeth neu gwyno. Rydym yn parhau i adolygu a diweddaru ein polisïau a'n prosesau i helpu i liniaru'r risg o broblemau tebyg yn codi yn y dyfodol. Ers cyhoeddi ein hymateb, mae'r Ysgrifennydd Parhaol wedi ysgrifennu at y pwyllgor yn amlinellu'r dull o ddiweddaru 'Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru'. Bydd swyddogion yn blaenoriaethu'r elfennau hanfodol yn y ddogfen sydd angen sylw ar unwaith, ac wrth i benodau gael eu diweddaru, byddant yn cael eu cyhoeddi. Rydym yn anelu at gwblhau adolygiad cynhwysfawr o'r ddogfen gyfan erbyn mis Rhagfyr 2025. Ac fel y nodwyd yn ein hymateb, Lywydd, bydd y ddogfen wedi'i diweddaru yn cynnwys egluro prosesau i fynd i'r afael â senarios lle mae Llywodraeth Cymru yn barti sy'n ymwneud â'r materion hynny ei hun.
Mae gwaith hefyd yn parhau ar ein canllawiau ar gyfer codi pryder neu gŵyn yn erbyn cadeirydd corff cyhoeddus, ar gyflwyno'r model hunanasesu ar gyfer adolygu cyrff hyd braich. Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor am y darnau pwysig hyn o waith. Mewn ymateb i'r adroddiad, cytunwyd hefyd y bydd ein hatgyfeiriadau at y Comisiwn Elusennau yn y dyfodol yn cael eu cyfleu i'r pwyllgor ac i'r archwilydd cyffredinol. Mae cadeirydd a phrif weithredwr Amgueddfa Cymru wedi ysgrifennu at y pwyllgor yn ymateb i'r argymhellion sy'n berthnasol iddynt. Fis diwethaf cefais gyfle i gyfarfod â hwy i drafod eu gweledigaeth ar gyfer dyfodol Amgueddfa Cymru a'r rôl y gall ei chwarae yn cefnogi'r blaenoriaethau ar gyfer diwylliant a blaenoriaethau'r Prif Weinidog. Rydym yn parhau i weithio mewn partneriaeth gydag Amgueddfa Cymru i ymateb i'r 77 o argymhellion a wnaed gan yr adolygiad teilwredig. Bellach, nid oes angen camau pellach ar 60 o'r argymhellion hynny neu maent wedi'u hymgorffori mewn cynlluniau fel busnes fel arfer. Bydd y 17 argymhelliad sy'n weddill—bydd y rhan fwyaf o'r rheini wedi'u cwblhau neu mewn cynlluniau fel busnes fel arfer erbyn mis Mawrth 2025.
Mae diwygio llywodraethu yn flaenoriaeth i gadeirydd Amgueddfa Cymru wrth iddi barhau i ymateb i'r adolygiad teilwredig ac adeiladu sylfaen gref ar gyfer y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys cyflwyno strwythur pwyllgor newydd ar gyfer y bwrdd ac adolygu dogfennau llywodraethu allweddol. Gadeirydd, rwy'n ystyried y pwyntiau a godwyd gan Heledd, Adam ac eraill ynghylch amrywiaeth y byrddau, ac mae hwn yn faes y gallai pob un ohonom wneud mwy arno ac rydym i gyd wedi ymrwymo i wneud hynny.
Cyfeiriodd y pwyllgor yn ei adroddiad hefyd at y pwysau cyllidebol a wynebodd Amgueddfa Cymru yn ystod y flwyddyn ariannol hon yn enwedig. Fel y gwyddom, mae hon wedi bod yn flwyddyn anodd iawn i'n holl sefydliadau diwylliannol ac nid oes ateb syml i ddatrys eu heriau ariannol presennol. Ers adroddiad y pwyllgor, Lywydd, rydym wedi gwneud buddsoddiad pellach o £940,000 o gyllid refeniw i Amgueddfa Cymru, ac mae'n ei ddefnyddio i ailadeiladu yn dilyn yr ailstrwythuro diweddar, i'w helpu i ddod yn fwy cynaliadwy ar gyfer y dyfodol ac i gryfhau ei drefniadau llywodraethu. Rydym hefyd wedi sicrhau bod cyllid ar gael ar gyfer gwaith hanfodol yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, a phan gaiff cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26 ei derbyn, byddwn yn cysylltu â'r amgueddfa ynglŷn â'i chyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
Lywydd, mae ein dogfen ddrafft 'Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant 2024–2030' yn nodi ein blaenoriaethau a'n huchelgeisiau ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Ni fyddwn yn dal yn ôl ar ein huchelgeisiau ar gyfer y sector. Fy uchelgais yw bod gan bob person yng Nghymru hawl i gael mynediad at, i guradu, i gymryd rhan ac i weld eu hunain wedi eu hadlewyrchu yng ngweithgarwch diwylliannol y genedl. Mae gan Amgueddfa Cymru rôl allweddol yn helpu i gyflawni hyn ac rwyf wedi ymrwymo i'w helpu i ffynnu fel sefydliad. Cefais fy sicrhau bod gwersi wedi'u dysgu a bod heriau'n cael sylw. Unwaith eto, rwy'n ddiolchgar i'r pwyllgor am eu gwaith ar yr adroddiad hwn ac rwy'n edrych ymlaen at graffu pellach gan y pwyllgor yn y misoedd sydd i ddod. Diolch.
Galwaf ar Mark Isherwood i ymateb i'r ddadl.
Diolch i bawb am eu cyfraniadau. Adam Price, fel y dywedoch chi, Amgueddfa Cymru yw un o'n sefydliadau cenedlaethol pwysicaf ac felly mae'n bryder sylfaenol os aiff rhywbeth o'i le ar un o'r rhain. Fe wnaethoch chi dynnu sylw at y ffaith bod hyn yn codi cwestiynau ehangach am lywodraethu'r sector cyhoeddus a chyrff hyd braich a bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru hefyd dderbyn ei chyfrifoldebau yma pan ddaeth yn ymwybodol o faterion llywodraethu difrifol a chaniatáu iddynt grynhoi. Fel y dywedoch chi, mae symud wedyn i hunanasesu cyrff cyhoeddus yn anghywir, pan fo hyn, yn hytrach, wedi dangos yr angen am reolaethau archwilio mwy trylwyr.
Cyfeiriodd Natasha Asghar eto at gefndir ehangach o brinder cyllid yn yr amgueddfa, y diffyg polisïau digonol ar waith, effaith trefniadau'r Llywodraeth a'r gost uchel i'r pwrs cyhoeddus. Dywedodd, yn gwbl briodol, ei bod yn frawychus fod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod ein hargymhelliad y dylid cynnal adolygiad o weithdrefnau cwyno mewn cyrff eraill tebyg. A gofynnodd pa drafodaeth a fu yn Llywodraeth Cymru ynglŷn â'r risgiau sy'n gysylltiedig â phenodi'r cyn-lywydd i'r rôl o adolygu Cadw.
Heledd Fychan, fel y dywedoch chi, mae angen dysgu gwersi. Mae angen tryloywder a chysondeb arnom. Fe wnaethoch chi gyfeirio at ddull hyd braich Llywodraeth Cymru pan fo angen datrys y pethau hyn, ac i roi'r gorau i weld yr un wynebau'n ymddangos ar fyrddau. Daethoch i'r casgliad eich bod yn gobeithio bod Llywodraeth Cymru wedi dysgu gwersi mewn ffordd na chaiff ei hadlewyrchu yn ei hymateb.
Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol yn gywir ddigon mai Amgueddfa Cymru yw un o'n sefydliadau diwylliannol mwyaf gwerthfawr. Nododd fod cynnydd yn cael ei wneud, ond dywedodd mai pump yn unig o argymhellion y pwyllgor a gafodd eu derbyn, ffaith nad yw'n rhoi'r sicrwydd a geisiwn ac sydd angen i'r cyhoedd ei glywed. Dywedodd fod gwaith yn mynd rhagddo, ac y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi gwybod i'r pwyllgor amdano, a'i fod wedi ystyried y pwyntiau a wnaed am amrywiaeth y byrddau a'r pwysau cyllidebu. Daeth i'r casgliad fod yn rhaid dysgu gwersi a gweithredu ar heriau.
Ond rwyf am orffen trwy ailadrodd un neu ddwy o linellau o fy araith, pan gyfeiriais at dderbyn dau argymhelliad mewn egwyddor yn unig, gan gynnwys yr argymhelliad am benodi cyn-lywydd yr amgueddfa i'r rôl yn adolygu Cadw. Mae hyn yn peri pryder, pan roddodd yr Ysgrifennydd Parhaol blaenorol ymrwymiad i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn y Senedd ddiwethaf y byddai'r arfer hwn yn dod i ben yng ngoleuni pryderon yr Aelodau nad oedd 'derbyn mewn egwyddor' yn ymateb digonol. Rydym yn gobeithio ac yn ffyddiog mai dyna yw safbwynt Llywodraeth Cymru o hyd. Fel y soniais o'r blaen, wrth arwain dadleuon yn y Siambr yn y swydd hon—. Rwyf wedi pwysleisio bod angen i Lywodraeth Cymru ailedrych ar hynny ac ailedrych ar y rhesymau pam, yn 2018, y teimlai bryd hynny fod hwnnw'n safbwynt priodol.
Rhaid i chi orffen nawr, Mark, os gwelwch yn dda.
Fel y dywedais wrth orffen, bydd y pwyllgor yn craffu ar drosolwg Llywodraeth Cymru ar gyrff hyd braich a chyrff cyhoeddus gyda diddordeb, ac rydym yn annog pob pwyllgor polisi cyfatebol arall i wneud yr un peth. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliant 2 yn enw Heledd Fychan.
Eitem 8 yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig: rhyddhad eiddo amaethyddol. Galwaf ar James Evans i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8747 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
Yn galw ar Lywodraeth Lafur y DU i wyrdroi ei phenderfyniad i osod treth fferm deuluol ar fusnesau amaethyddol.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar. Heddiw, rydym ni yn y Blaid Geidwadol yn sefyll gyda'n ffermwyr ac yn cynnig bod y Senedd hon yn galw ar Lywodraeth Lafur y DU i wyrdroi ei phenderfyniad niweidiol i osod yr hyn a elwir yn briodol yn dreth ar y fferm deuluol. Bydd y newidiadau hyn i ryddhad eiddo amaethyddol a rhyddhad eiddo busnes yn arwain at ganlyniadau difrifol i ffermio yng Nghymru, cymunedau gwledig a'n heconomi.
Ffermio yw piler economi Cymru. Mae amaethyddiaeth yn cyfrannu £1.6 biliwn bob blwyddyn i'n heconomi ac mae'n cyflogi dros 50,000 o bobl yn uniongyrchol a chaiff llawer mwy o swyddi eu cefnogi'n anuniongyrchol mewn cadwyni cyflenwi, cynhyrchiant bwyd a manwerthu. Ac eto, mae'r newidiadau i ryddhad eiddo amaethyddol a rhyddhad eiddo busnes yn bygwth tanseilio'r sector hanfodol hwn. Ar hyn o bryd, mae rhyddhad eiddo amaethyddol yn darparu rhyddhad o 100 y cant rhag treth etifeddiant ar gyfer eiddo amaethyddol cymwys, ac mae rhyddhad eiddo busnes yn cynnig rhyddhad tebyg i asedau sy'n gysylltiedig â busnes nad ydynt yn dod o dan ryddhad eiddo amaethyddol. Mae'r rhyddhadau hyn yn caniatáu i deuluoedd sy'n ffermio drosglwyddo eu busnesau heb wynebu biliau treth cosbol a allai eu gorfodi i werthu tir, adeiladau a pheiriannau i gyflawni eu rhwymedigaethau.
Nid bwlch yn y gyfraith yw rhyddhad eiddo amaethyddol. Mae'n bolisi a gynlluniwyd yn benodol ac a gyflwynwyd yn Neddf Treth Etifeddiant 1984, i ddiogelu ffermydd teuluol Prydain rhag cael eu gwerthu a'u hollti, gan sicrhau ein diogeledd bwyd ledled y Deyrnas Unedig. Gall newidiadau arfaethedig Llafur i gapio'r rhyddhad eiddo amaethyddol llawn ar £1 filiwn a lleihau rhyddhad i 50 y cant ar asedau uwchben y trothwy hwn ymddangos yn rhesymol ar bapur, ond unwaith eto, mae Llafur wedi cael eu rhifau'n anghywir. Yn ymarferol, bydd yn dinistrio ffermydd teuluol, gyda llawer ohonynt yn werth llawer mwy na'r trothwy o ran gwerth asedau, ond yn gweithredu ar y llif arian parod lleiaf posibl ac elw bach. Er mwyn rhoi'r ffigurau hyn mewn persbectif, efallai y bydd gan fferm dda byw 200 erw nodweddiadol yng Nghymru werth ased o £1.5 miliwn i £2 filiwn. Er y gall hyn ymddangos yn uchel, mae'n adlewyrchu'r cynnydd ym mhris tir amaethyddol, sydd ar hyn o bryd yn £8,000 i £10,000 yr erw. Nid yw'n cynrychioli proffidioldeb y fferm. O dan y newidiadau arfaethedig hyn, gallai'r baich treth ychwanegol fod yn fwy na £200,000 yn hawdd ar gyfer fferm o'r maint hwn. I deuluoedd sy'n etifeddu'r fferm honno, mae'n debygol y byddai hyn yn golygu gwerthu tir, adeiladau, cymryd benthyciadau anghynaliadwy neu chwalu'r busnes yn gyfan gwbl. Mae'r Llywodraeth yma, a'r Llywodraeth yn San Steffan, yn rhagdybio bod bod yn berchen ar fferm yn cyfateb i gyfoeth. Mae'n gamddealltwriaeth sylfaenol o economeg ffermio. Mae'r rhan fwyaf o ffermydd yn gyfoethog mewn asedau, ond yn dlawd mewn arian parod. Mae gwerth uchel y tir yn cael ei wrthbwyso gan yr enillion isel iawn ar gyfalaf—dim ond 1 y cant y flwyddyn ar gyfartaledd.
Mae'r newidiadau hyn hefyd yn fygythiad sylweddol i'n sector ffermwyr tenant yng Nghymru, sy'n ffermio tua 30 y cant o dir amaethyddol Cymru. Mae tua'i hanner yn cael ei osod dan denantiaethau busnes fferm, y gall y tirfeddiannwr ei adennill ar ddiwedd eu cyfnod penodol. Mae'r newidiadau i ryddhad eiddo amaethyddol yn lleihau manteision treth bod yn berchen ar dir, gan gymell tirfeddianwyr i werthu neu addasu eu hasedau at ddibenion gwahanol, yn hytrach na'u gosod ar rent, ac fel y gŵyr y rhan fwyaf o bobl, mae hynny'n golygu plannu coed yn unig, colli tir fferm cynhyrchiol. Bydd ffermwyr ifanc a newydd-ddyfodiaid sy'n aml yn dibynnu ar dir rhent i ddechrau eu gyrfa yn cael eu heffeithio'n anghymesur ar adeg pan ddylem fod yn annog y genhedlaeth nesaf i mewn i fyd amaeth. Mae'r polisi hwn yn creu rhwystrau i fynediad ac yn lleihau'r cyfle i dyfu.
Ond ni ellir anwybyddu goblygiadau economaidd ehangach y newidiadau hyn. Amaethyddiaeth yw sylfaen y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru. Dyma sector gweithgynhyrchu mwyaf Cymru, sy'n werth £7 biliwn bob blwyddyn. Mae tanseilio ffermydd yn creu perygl o ansefydlogi'r gadwyn gyflenwi gyfan yn llwyr. Mae diogeledd bwyd yn fater o bwys cynyddol. Mae'r DU yn mewnforio tua 40 y cant o'i bwyd, gan ein gadael yn eithriadol o agored i darfu byd-eang ar y gadwyn gyflenwi. Mae ffermydd teuluol ledled Cymru yn chwarae rhan ganolog yn cynnal cynhyrchiant bwyd domestig a lleihau dibyniaeth ar fewnforion.
Nawr, gadewch inni droi at y gwelliannau i'r cynnig hwn, a'r gwelliant a gynigiwyd gan y Llywodraeth. Mae'n ymddangos eich bod yn ail-fframio'r holl fater, gan feio Llywodraethau Ceidwadol blaenorol y DU am heriau cyllidol. Fodd bynnag, mae'r ymgais hon i gyfiawnhau'r polisi hwn unwaith eto'n anwybyddu'r niwed y bydd yn ei achosi i ffermio yng Nghymru. Unwaith eto, yma ym Mae Caerdydd, rhoi'r bai ar rywun arall a pheidio ag ysgwyddo unrhyw gyfrifoldeb am yr hyn y maent wedi'i wneud. Mae gwelliant 2, a gynigiwyd gan Heledd Fychan, yn galw am asesiad pellach o'r polisi hwn. Byddwn yn cefnogi'r gwelliant hwn. Er ei bod yn bwysig ein bod yn deall y canlyniadau, mae gennym ddigon o dystiolaeth eisoes ar draws y sector i ddangos y bydd y polisi hwn yn niweidio busnesau ffermio ledled y wlad. Nid wyf yn meddwl bod oedi'n opsiwn ar hyn o bryd—mae angen gweithredu nawr.
Ddirprwy Lywydd, mae'r dreth hon ar ffermydd teuluol yn bolisi niweidiol cibddall sy'n creu perygl o niwed anadferadwy i sector ffermio Cymru, ac nid yma yng Nghymru yn unig, ond ar draws y Deyrnas Unedig. Mae'n camddeall realiti economaidd ffermio. Mae'n tanbrisio pwysigrwydd diwylliannol y ffermydd teuluol, sy'n cefnogi'r Gymraeg ar draws ein gwlad. Ac mae'n anwybyddu'r canlyniadau ehangach i gymunedau gwledig a diogeledd bwyd. Ond Ddirprwy Lywydd, onid dyma sydd i'w ddisgwyl gan Lafur? Mae'n elfen arall yn eu rhyfel dosbarth yn erbyn gweithwyr. Maent wedi trethu busnesau, maent wedi trethu gweithwyr a nawr maent yn trethu ffermwyr. Maent eisiau dweud wrth bobl lle gallant a lle na allant anfon eu plant i'r ysgol hyd yn oed. Unwaith eto, mae'r Llywodraeth hon yn cefnogi Llywodraeth yn San Steffan i ymladd rhyfel dosbarth yn erbyn gweithwyr. Cefnogwch ein cynnig heddiw, a gadewch inni anfon neges glir i San Steffan: digon yw digon, mae'r amser ar ben yn barod, ac mae'n bryd newid.
Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig, a galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt.
Gwelliant 1—Jane Hutt
Dileu popeth a rhoi yn ei le
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod cyfraniad pwysig ffermwyr at ein heconomi, ein prosesau cynhyrchu bwyd, ein hamgylchedd a’n cymunedau.
2. Yn nodi penderfyniad Llywodraeth y DU i newid y rhyddhad eiddo amaethyddol.
3. Yn cydnabod bod newidiadau Llywodraeth y DU i ryddhad eiddo amaethyddol wedi’u gwneud o fewn cyd-destun y niwed a achoswyd gan Lywodraeth flaenorol y DU i wasanaethau cyhoeddus a’r diffyg o £22 biliwn mewn arian cyhoeddus.
4. Yn croesawu cymorth amrywiol Llywodraeth Cymru i ffermwyr, gan gynnwys sicrhau estyniad i ryddhad eiddo amaethyddol o fis Ebrill 2025 i gynnwys y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Yn ffurfiol.
A galwaf ar Llyr Gruffydd i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan.
Gwelliant 2—Heledd Fychan
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraethau Cymru a’r DU i gynnal asesiad manwl o effaith y newidiadau trethiannol ar fusnesau amaethyddol, er mwyn deall yr effaith y mae’n debygol o’i gael ar gynaliadwyedd a hyfywedd ffermydd teuluol yng Nghymru.
Cynigiwyd gwelliant 2.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Er tryloywder, mae'n well i fi ddweud does gen i ddim tir i'w rhoi yn etifeddiaeth i unrhyw un, a dydw i ddim chwaith yn derbyn neu'n disgwyl derbyn tir yn etifeddiaeth, ond mae gen i blant, wrth gwrs, a all, efallai, yn y dyfodol derbyn etifeddiaeth o'r fath.
Nawr, mae cynnwrf wedi bod ynghylch y polisi hwn, yn amlwg, yn gyntaf mae'n debyg oherwydd bod Llafur wedi addo pan oeddent yn wrthblaid na fyddent yn newid polisi, ond wedyn wrth gwrs fe wnaethant hynny yn eu cyllideb gyntaf un. Ond fe'i cyhoeddwyd yn sydyn hefyd, heb lawer o amser cyn ei gyflwyno, ac mae hynny wedi gadael y nesaf peth i ddim amser i lawer, yn enwedig y ffermwyr hynaf, roi trefn ar eu cynlluniau etifeddiaeth.
Ond bu cynnwrf hefyd oherwydd ei fod yn bolisi diwahân. Nid yw'n gwahaniaethu rhwng tir sy'n gweithio, yn cynhyrchu bwyd, ffermydd teuluol, a thir sydd wedi'i brynu'n bwrpasol gan rai o bobl gyfoethocaf cymdeithas er mwyn osgoi talu treth ar eu cyfoeth a'u hasedau, a dyna pam y mae Plaid Cymru'n cefnogi'r cynnig hwn. Nawr, nid yw hynny'n golygu na ddylai'r deiliaid asedau cyfoethocaf oll hynny dalu eu cyfran deg, ond mae'n golygu na ddylem beryglu dyfodol ffermydd teuluol sy'n gweithio. Maent yn crafu bywoliaeth o'u tir, gan wneud elw bach ar eu tir: incwm cyfartalog o tua £18,500 i ffermwyr da byw yng Nghymru, ac maent yn gweithio 60 i 70 awr yr wythnos. Dyna'r isafswm cyflog, ynte? A hwy yw'r bobl sy'n rhoi bwyd ar ein byrddau, sy'n ymdrechu i ddarparu'r diogeledd bwyd yr ydym i gyd eisiau ei weld i'r wlad hon. Maent yn cyflawni cynlluniau amaeth-amgylcheddol, ac wrth gwrs, fel y clywsom, maent yn sail i wead cymdeithasol, diwylliannol ac ieithyddol cymunedau ar hyd a lled Cymru.
Nawr, pe bai Llywodraeth y DU wedi rhoi amser i ffermwyr hŷn wneud trefniadau, neu pe baent wedi cyflwyno dull wedi'i dargedu'n llawer gwell nad oedd yn tanseilio dyfodol llawer o'n ffermydd teuluol cyffredin yma yng Nghymru, rwy'n siŵr y byddai'r drafodaeth ynghylch y newid i ryddhad eiddo amaethyddol yn wahanol iawn. Ond ni wnaethant hynny. A dyna pam ein bod yn cefnogi'r cynnig hwn heddiw.
Nawr, hoffwn ofyn i'r Aelodau gefnogi gwelliant er hynny i ychwanegu galwad ychwanegol ar Lywodraethau Cymru a'r DU i gynnal asesiad manwl o effaith y newidiadau treth ar fusnesau amaethyddol er mwyn ein helpu i ddeall yr effaith y mae'n debygol o'i chael ar gynaliadwyedd a hyfywedd ffermydd teuluol yng Nghymru.
Nid wyf am weld ein ffermydd teuluol sy'n ei chael hi'n anodd yn gorfod gwerthu rhannau o'u fferm i dalu'r dreth etifeddiant ac o ganlyniad, yn dod yn llai hyfyw fel busnes fferm ar gyfer y genhedlaeth nesaf. Ie, gwnewch yn siŵr fod biliwnyddion sy'n dirfeddianwyr fel James Dyson a Dug Westminster yn talu eu cyfran deg, ond wrth wneud hynny, peidiwch â thanseilio'r ffermydd teuluol gonest, gweithgar yn y wlad hon sy'n darparu cymaint o'r gwasanaethau y mae cymdeithas yn eu cymryd yn ganiataol y dyddiau hyn. Diolch.
Mae'r dreth fferm deuluol ar fusnesau ffermio yn gyfeiliornus ac yn ddifeddwl, a bydd yn arwain at niwed parhaol i ffermio yng Nghymru a chwalu ffermydd teuluol. Ond bydd y dreth hefyd yn gadael ffermwyr heb fawr o hyder i fuddsoddi yn nyfodol eu busnesau. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n hynod siomedig yw bod Gweinidogion Llafur yma yn poeni mwy am sefyll dros eu plaid eu hunain yn San Steffan na sefyll dros gymunedau gwledig yma yng Nghymru. Ac o ran nifer y ffermydd yr effeithir arnynt, clywsom bob math o ffigurau o wahanol adrannau yn Llywodraeth y DU. Rwy'n credu mai'r ffigur diweddaraf yw mai dim ond y 500 ystad gyfoethocaf bob blwyddyn fydd yn talu'r dreth fferm. Ond wrth gwrs, mae Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr a Chymdeithas y Tirfeddianwyr—ac mae'n well gennyf gredu eu ffigurau hwy na'r ffigurau a ddaw allan o wahanol adrannau Llywodraeth y DU ar hyn o bryd—yn amcangyfrif y bydd hyd at 70,000 o ffermydd yn cael eu heffeithio. Ac er bod y Llywodraeth Lafur yma'n honni bod y trothwy newydd o £1 filiwn yn golygu na fydd y newid yn effeithio ar dri chwarter y ffermydd, clywn gan yr undebau ffermio fod hwnnw'n danamcangyfrif ac y gallai'r dreth newydd effeithio ar hyd at hanner yr holl ffermydd sy'n gweithio, a mwy na hynny o bosibl. Ac nid yw'r ffigurau y mae'r Trysorlys yn eu defnyddio yn adlewyrchiad cywir o effaith y newidiadau hyn ar gymunedau gwledig. Maent yn honni y bydd llai na 25 y cant o fusnesau'n cael eu heffeithio, ond buaswn i'n dweud bod hwnnw'n gamgyfrifiad sylweddol. Hoffwn wybod er hynny, oherwydd byddai gan Lywodraeth Cymru ei ffigurau ei hun hefyd, gobeithio, ac efallai y byddant yn wahanol i ffigurau Llywodraeth y DU, yn dibynnu ar ba adran y maent yn siarad â hi.
Ond rwy'n credu naill ai nad yw Gweinidogion Llafur yma'n deall sut y mae busnesau ffermio'n gweithredu, neu eu bod yn deall, ond eu bod yn barod i weld tranc y diwydiant.
A wnaiff ildio ar y pwynt hwnnw?
Yn bendant.
A ydych chi'n gwrthddweud y dadansoddiad ffeithiol o'r Trysorlys, yn 2018-19 i 2021-22, fod 47 y cant o fudd y rhyddhadau wedi mynd i'r 7 y cant uchaf o ystadau sy'n gwneud hawliadau, neu eu dadansoddiad o'r rheini sy'n fuddsoddwyr ym model cyfranddaliadau'r farchnad buddsoddiadau amgen, nad ydynt yn ffermwyr â mwd ar eu hesgidiau gwaith? Felly, a ydych chi'n anghytuno â'r ffigurau hynny?
Huw, y pwynt rwy'n ei wneud yw bod adrannau Llywodraeth y DU—. Mae gennym ffigurau gwahanol o ba bynnag adran y siaradwn â hwy. Mae'r Trysorlys yn dweud un peth ac mae DEFRA yn dweud rhywbeth arall. Dyma'r broblem. Dyma'r pwynt rwy'n ei wneud: os na all Llywodraeth y DU ei hun gael nifer y ffermydd yr effeithir arnynt yn iawn rydym mewn llanast go iawn, onid ydym? A beth rwy'n ei ofyn i chi—a gobeithio y gallwch ymateb i hyn yn eich sylwadau i gloi—yw beth yw eich ffigurau chi. Ffigurau pa adran rydych chi'n eu derbyn?
Nawr, yr wythnos diwethaf gwelsom ddegau o filoedd o ffermwyr yn heidio i Lundain, oni wnaethom, ac wrth gwrs mae hynny'n debyg i'r dicter a'r rhwystredigaeth a welwyd gan y ffermwyr a ddaeth yma ym mis Chwefror. Y mantra oedd 'Dim ffermwyr, dim bwyd', ac mae hynny'n cyfleu'r mater mewn ffordd y dylem i gyd ei deall mewn gwirionedd. Os nad oes gennym ffermwyr, neu os oes gennym lai o ffermwyr, rydym yn fwy dibynnol ar gyflenwyr bwyd o'r tu allan i Gymru a thu allan i'r DU. A gwelsom yr effaith a gafodd hynny ar gadwyni cyflenwi yn ystod COVID, ac rydym yn gwybod am yr effaith a gafodd y rhyfel yn Wcráin ar gyflenwadau bwyd hefyd. Felly, mae angen inni wneud yn siŵr fod gennym ni—
Mae angen ichi orffen nawr, Russell, os gwelwch yn dda.
—ffermydd gwydn da yng Nghymru a gwneud yn siŵr ein bod yn cefnogi'r ffermwyr hynny yn y tymor hir. Felly, rwy'n sicr yn gobeithio y bydd yr Aelodau ar draws y Siambr hon yn cefnogi ein cynnig heddiw ac yn pleidleisio i sicrhau bod y dreth fferm niweidiol hon yn cael ei gwrthdroi, oherwydd os na wnawn hynny, byddwn yn gweld dirywiad ffermydd a chymunedau ffermio ledled Cymru.
Yma ar yr ochr hon i'r Siambr, y Ceidwadwyr Cymreig, rydym i gyd yn llwyr yn erbyn y dreth fferm deuluol annheg a chreulon hon. Yr wythnos diwethaf, cefais y fraint o ymweld â marchnad da byw Rhaglan. Yno, cyfarfûm â ffermwyr lleol a siaradodd â mi am yr effaith ddinistriol y bydd y newidiadau i'r dreth etifeddiant a gyhoeddwyd yn y gyllideb Lafur yn ei chael ar ffermydd teuluol ledled Cymru.
Nid yw ffermwyr yn grŵp sy'n aml yn heidio i'r strydoedd mewn protest. [Torri ar draws.] Maent yn gymuned heddychlon a gweithgar sy'n treulio eu dyddiau'n gweithio'n galed i roi bwyd ar eich byrddau a chynnal y tirweddau gwledig a garwn. Ac eto, yr wythnos diwethaf, roedd miloedd o ffermwyr, gan gynnwys rhai o sir Fynwy y cyfarfûm â hwy yn y farchnad, yn teimlo rheidrwydd i adael eu ffermydd a theithio i Lundain i godi eu lleisiau mewn protest heddychlon am fygythiad difrifol y newidiadau hyn i'w bywoliaeth.
Wrth wraidd eu pryderon roedd cael gwared ar eithriadau treth etifeddiant ar gyfer ffermydd sy'n gweithio. Nid bwlch yn y gyfraith yw'r eithriad hwn; mae'n achubiaeth. Mae'n hanfodol sicrhau bod ffermydd bach yn parhau i gynhyrchu bwyd. Mae'n ei gwneud hi'n bosibl trosglwyddo ffermydd i lawr y cenedlaethau, ac os caiff ei golli, bydd y meibion a'r merched sy'n gweithio'r tir ochr yn ochr â'u rhieni yn wynebu biliau treth o filoedd o bunnoedd. I'r rhan fwyaf o ffermydd teuluol, bydd hynny'n golygu gwerthu er mwyn talu'r dreth a throsglwyddo ffermydd i gwmnïau mawr.
Siaradais ag un ffermwr yn y farchnad a chanddo stori nodweddiadol, yn anffodus. Cafodd ei eni yn ystod y rhyfel. Cafodd ei ysbrydoli gan ddogni wedi'r rhyfel i fynd i fyd ffermio. Dechreuodd drwy rentu plot o dir, gweithiodd yn ddiflino dros ddegawdau ac ymestyn ei dir yn raddol, cynyddodd ei fuches, adeiladodd ei fferm, creodd gartref a busnes i'w deulu. Am fwy na 50 mlynedd, arllwysodd ei fywyd i'r fferm honno gyda'i wraig, ei feibion a'i ferch. Maent wedi gweithio'r tir gydag ef ar y sail y byddai'n cael ei throsglwyddo ymlaen rhyw ddydd a byddai'r fferm deuluol yn parhau. Ond nawr mae'r cynlluniau hynny wedi eu dinistrio, ac roedd y boen a'r pryder yn amlwg ar ei wyneb. Ond nid stori un dyn yn unig yw hon; mae'n stori debyg i filoedd o ffermydd a ffermydd teuluol ar draws Cymru. Bydd colli ffermydd teuluol yn dinistrio ein cymuned wledig, yn gwanhau ein diogeledd bwyd, ac yn agor y drws i gorfforaethau mawr a chwmnïau ynni brynu tir ar gyfer tyrbinau gwynt neu ffermydd solar.
Yr wythnos diwethaf, i gefnogi'r gymuned ffermio ac ar gais undebau ffermio, ymunais â fy Aelodau Ceidwadol i wisgo esgidiau gwaith i'r Senedd, ond nid yw arwyddion o gefnogaeth yn ddigon. Mae angen gweithredu. Mae angen i'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru sefyll gyda ffermwyr a gwrthwynebu Lywodraeth Lafur y DU. Mae angen i Aelodau o'r Senedd ac Aelodau Seneddol gwledig o bob plaid sefyll gyda ffermwyr a gwrthwynebu'r newidiadau treth brysiog a difeddwl hyn.
Cymerodd fy AS yn sir Fynwy ran mewn hysting ym marchnad Rhaglan ac fe addawodd gefnogi ffermwyr. Ysgrifennydd y Cabinet, fe aeth â chi o gwmpas y farchnad da byw cyn yr etholiad, ac wrth wynebu'r etholiad, fe addawodd y ddau ohonoch y byddai Llafur yn gwrando ac yn cefnogi ffermwyr Cymru. Felly, heddiw, ar ran y ffermwyr y gwnaethoch chi siarad â hwy cyn yr etholiad, rwy'n gofyn i chi anrhydeddu'r addewidion yr oeddech chi'n hapus i'w gwneud pan oeddech chi eisiau ymddangos mewn ffotograffau gyda hwy yn ystod ymgyrch yr etholiad. Mae'r rhan fwyaf o'n ffermydd teuluol—
Mae angen i chi orffen nawr, os gwelwch yn dda.
Mae'r rhan fwyaf o'n ffermydd teuluol, fel y dywedwyd eisoes, yn gyfoethog o ran asedau ac yn dlawd o ran arian parod. Bydd y dreth fferm deuluol gosbol hon yn dinistrio anadl einioes Cymru a'n cymunedau gwledig, a bydd unrhyw obaith o genedl gynaliadwy sy'n cynhyrchu bwyd Cymreig oddi ar dir Cymru yn anghyraeddadwy. Rwy'n eich annog chi i gyd i gefnogi ein cynnig heddiw. Dim ffermwyr, dim bwyd. Diolch.
Galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Yn gyntaf, diolch am y cyfle i drafod y newidiadau i'r dreth etifeddu ar eiddo amaethyddol, sydd, fel rydym ni'n gwybod, yn fater sydd wedi'i gadw'n gyfrifoldeb Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Rwy'n deall bod llawer o aelodau ein cymuned ffermio yn poeni'n arw am y newidiadau i ryddhad ar drethu eiddo amaethyddol. Dwi wedi gwrando ar y gofidiau hyn ac wedi cael trafodaethau adeiladol ag undebau'r ffermwyr. Yn dilyn fy nhrafodaethau ag undebau'r ffermwyr am y newidiadau i'r rhyddhad ar drethu, dwi wedi gofyn i Lywodraeth y Deyrnas Unedig am addewidion, ac wedi cael addewid y bydd clust i glywed lleisiau undebau'r ffermwyr ac y caiff amgylchiadau unigryw ffermwyr Cymru eu hystyried.
Mae'n bwysig cofio cyd-destun y tu ôl i benderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig, sef yr angen dybryd i ddelio â'r twll du o £22 biliwn yn ein coffrau cyhoeddus a achoswyd gan anhrefn economaidd y Llywodraeth Dorïaidd ddiwethaf, a'r newid a wnaed i'r gwasanaethau cyhoeddus. Dyna'n union yr un gwasanaethau cyhoeddus y mae pob ffermwr yn eu defnyddio ac yn dibynnu arnyn nhw, gan gynnwys ysgolion, ffyrdd ac ysbytai ac ati.
Ac mae hefyd yn bwysig nodi ei bod yn hanfodol ein bod yn osgoi rhagdybio effaith bosibl y newid trwy geisio pennu gwerth ffermydd oherwydd y nifer o ffactorau cymhleth sy'n gysylltiedig. Strwythurau perchnogaeth fferm, cynlluniau etifeddiant, rhyddhadau cymwys—maent yn amrywio'n eang, ac mae gwerth ffermydd yn amrywio hefyd, gan ei gwneud hi'n anodd amcangyfrif faint o ffermydd y gellid pennu bod eu gwerth dros drothwyon treth etifeddiant ar unrhyw adeg benodol. Felly, er enghraifft, Ddirprwy Lywydd, bydd lleiafswm y lwfans di-dreth ar gyfer perchennog fferm nodweddiadol sy'n ei throsglwyddo i'w ddisgynyddion hyd at £1.5 miliwn, hyd at £3 miliwn ar gyfer cyplau, ac yn ddiderfyn os byddant yn ei rhoi'n rhodd o leiaf saith mlynedd cyn iddynt farw. Ac o'r herwydd—[Torri ar draws.]—fe ildiaf mewn eiliad—gall dibynnu'n llwyr ar werth asedau fod yn gamarweiniol, ac fel y gwyddom, mae dadansoddiad Trysorlys EF yn nodi mai nifer cymharol fach o ffermydd fydd yn cael eu heffeithio. Mabon.
Diolch am y pwyntiau hynny. Yn gyntaf oll, onid ydych chi'n derbyn na fydd y dreth hon yn codi cymaint â hynny o arian, yn y pen draw? Ni fydd yr arian sy'n cael ei godi o Gymru, oherwydd y setliad gwael sydd gennym gyda fformiwla Barnett, ni fydd Cymru o reidrwydd yn gweld ein cyfran o'r cronfeydd treth hynny'n dod yn ôl i Gymru. Ac mae'ch plaid chi wedi canu clodydd Dan Neidle yn y gorffennol, arbenigwr treth—mae wedi newid ei feddwl ac wedi dweud y bydd hyn yn niweidio ffermydd teuluol mewn gwirionedd. A ydych chi'n derbyn y pwyntiau hynny?
Wel, rwy'n sylwi bod Paul Johnson o'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid hefyd yn dweud y bydd yr effaith yn gyfyngedig. Ond hoffwn awgrymu yma yng Nghymru hefyd, lle mae nodweddion ffermio Cymreig yn llai na rhai o'r megaffermydd a welwn yn y DU, y bydd yr effaith yn llai na'r hyn ydyw ar draws rhannau ehangach o Loegr. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod pawb yn cael cyngor unigol yn hytrach na dyfalu beth fyddai'r effaith gyffredinol, ac rwy'n gwybod bod ffermwyr yn gwneud hynny ar hyn o bryd. Mae hefyd yn bwysig nodi bod ffermwyr yn gyffredinol, fel y dywedais, yn dibynnu ar y gwasanaethau cyhoeddus pwysig hynny hefyd, felly o gofio hyn, gan gynnwys bod hwn, yn y pen draw, yn fater a gedwir yn ôl i Lywodraeth y DU, ein rôl ni yn wir yw pwyso er mwyn i leisiau Cymru gael eu clywed.
Nawr, gadewch imi ddweud, mae ffermwyr yn gwneud cyfraniad hanfodol i'n heconomi, ein hamgylchedd hefyd, a'n cymunedau ledled Cymru, a dyna pam y mae Llywodraeth Cymru mor ymrwymedig i gefnogi'r sector ffermio. Mewn gwirionedd, mae'r sector ffermio yn un o sectorau'r economi sy'n derbyn fwyaf o gyllid gan Lywodraeth Cymru. Felly, er enghraifft, rydym eisoes wedi diogelu cyllideb cynllun y taliad sylfaenol ar £238 miliwn ar gyfer 2024—yr un lefel â 2023—er gwaethaf y pwysau cyllidebol sy'n ein hwynebu. Rydym hefyd wedi cyhoeddi parhad cynllun y taliad sylfaenol am flwyddyn arall, a nifer o gynlluniau allweddol ar gyfer 2025, i roi cymaint o sicrwydd â phosibl i deuluoedd ffermio ar gyfer y flwyddyn i ddod. Rydym hefyd wedi sicrhau bod £52 miliwn ychwanegol ar gael ar gyfer buddsoddiadau seilwaith ar y fferm, a £14 miliwn arall ar gyfer y sectorau amaethyddiaeth a garddwriaeth yn 2025. A chyda llaw, Ddirprwy Lywydd, buom hefyd yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod eiddo amaethyddol o 6 Ebrill 2025 yn ymestyn i gynnwys tir sy'n cael ei reoli o dan gytundeb amgylcheddol, gan gynnwys y cynllun ffermio cynaliadwy.
Rydym hefyd yn darparu £11 miliwn y flwyddyn i Cyswllt Ffermio, sy'n darparu cyngor ac arweiniad i gefnogi perchnogion busnesau a'u teuluoedd, gan gynnwys cymorth i ddatblygu cynllun olyniaeth, y mae llawer o Aelodau yn y Siambr yn aml yn siarad â mi amdano, pwysigrwydd cynlluniau olyniaeth. Felly, drwy Cyswllt Ffermio, gellir cefnogi teuluoedd ffermio i gael cyfarfodydd teuluol wedi'u trefnu ac y telir amdanynt yn llawn i drafod olyniaeth ffermydd a datblygu'r cynllun hwnnw. Fel y gŵyr yr Aelodau, bydd cynllun olyniaeth yn unigryw i bob busnes fferm; nid oes opsiwn un maint i bawb. Mae pob teulu'n wahanol; mae pob busnes yn wahanol. Dyna pam y mae cymorth Cyswllt Ffermio yn cynnwys trefnu cyfarfodydd olyniaeth teuluol, cymorthfeydd olyniaeth un i un, a chyngor busnes a chyfreithiol â chymhorthdal. Mae Cyswllt Ffermio yn bwysig yn y gofod hwn. Mae'n iawn ein bod yn canolbwyntio ein hadnoddau Llywodraeth Cymru ar ddarparu'r cymorth hwn, a hefyd ar sicrhau dyfodol cynaliadwy i ffermio yng Nghymru.
Nawr, ddydd Llun, fel y gŵyr yr Aelodau, cyhoeddais gynllun ffermio cynaliadwy diwygiedig, ar ôl gweithio'n agos iawn gyda'r diwydiant ffermio a'r undebau drwy gydol yr haf. Rwy'n falch o'n cydweithrediad, a diolch i'r gwaith caled hwnnw, llwyddais i gyhoeddi'r cynllun diwygiedig, y credaf yn gryf ei fod yn gweithio i ffermwyr a'r amgylchedd. Felly, er bod y cynnydd a wnaethom yn sylweddol, nid dyma'r cynllun terfynol, mae gwaith i'w wneud, ond rwy'n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi cydweithio â mi.
I gloi, Dirprwy Lywydd, rwy'n gobeithio bod yr hyn rwyf wedi'i amlinellu heddiw yn dangos ein hymrwymiad parhaus i gefnogi ein ffermwyr a chynhyrchiant bwyd. Rwy'n cydnabod bod llawer yn y gymuned ffermio yn parhau i bryderu am eu hamgylchiadau unigol. Rwy'n annog unrhyw un sy'n pryderu i gysylltu â Chyswllt Ffermio i gael cyngor ar gynllunio olyniaeth, yn ogystal â chynghorwyr proffesiynol a'n helusennau gwledig ardderchog, i ofyn am gymorth. Byddwn ni'n wynebu'r heriau hyn gyda'n gilydd ac yn sicrhau dyfodol cynaliadwy ar gyfer ffermio yng Nghymru.
Galwaf ar Samuel Kurtz i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn ddechrau drwy ddatgan buddiant a thrwy ddiolch i'r holl siaradwyr am gyfrannu at y ddadl hon.
Ar y cyfan, mae'r ddadl economaidd, fel y clywsom, yn amlwg yn cwympo ac yn methu, ac mae effaith hyn ar ffermwyr yn cynyddu. Y dreth ar y fferm deuluol—ac er budd y gwylwyr na allant glywed y chwerthin oddi ar feinciau Llafur pan gaiff ei galw'n 'dreth ar y fferm deuluol', dyna beth y mae Llafur yn ei feddwl o ffermwyr. Dyna beth y mae Llafur yn ei feddwl o ffermwyr. Dim ond tua £115 miliwn y flwyddyn y disgwylir i'r dreth hon ar y fferm deuluol ei godi. Mae hynny'n llai na 0.01 y cant o wariant y Llywodraeth, a llai na 0.3 y cant o'r holl godiadau treth a gyhoeddwyd gan Rachel Reeves yn y gyllideb.
Wrth roi hynny mewn persbectif gwell fyth, benthycodd Llywodraeth y DU £5 biliwn yn fwy nag y disgwyliai ym mis Hydref yn unig—33 gwaith yn fwy mewn un mis nag y byddai'n ei gael mewn blwyddyn gyfan o'r polisi hwn. Ac ar draws y cyfryngau cymdeithasol, gan y Canghellor, a hyd yn oed gan y meinciau cefn yn y Siambr hon, mae gwleidyddion Llafur wedi tynnu sylw at ddadansoddiadau blaenorol gan yr arbenigwr treth Dan Neidle, a'i gefnogaeth i gyflwyno'r dreth fferm deuluol hon. Fodd bynnag, nawr, gan ddefnyddio data mwy cywir a diweddar na'r hyn sydd gan y Trysorlys—
Mae angen ichi ddod i ben nawr, os gwelwch yn dda.
Mae dadansoddiad pellach wedi gweld Neidle yn mynd o fod yn gefnogwr i fod yn feirniad. Yn wir, fe ddywedodd,
'Mae'r Gyllideb yn taro ffermwyr yn rhy galed a'r rhai sy'n osgoi trethi yn rhy ysgafn. Mae'n rhaid i hynny newid.'
Sam, dowch i ben nawr, os gwelwch yn dda.
Fel y dywedodd John Maynard Keynes, 'Pan fydd y ffeithiau'n newid, rwy'n newid fy meddwl.' Felly, beth ydych chi'n ei wneud, Ysgrifennydd y Cabinet? Rwy'n annog y Senedd i bleidleisio gyda'r cynnig heddiw i gefnogi ein ffermydd teuluol ac i ddweud wrth Syr Keir am adael llonydd i ffermydd Cymru.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly gohirir y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt.
Eitem 9, ail ddadl y Ceidwadwyr Cymreig, busnesau bach a threthiant, a galwaf ar Samuel Kurtz i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8748 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi y bydd Dydd Sadwrn y Busnesau Bach yn cael ei gynnal ar 7 Rhagfyr 2024.
2. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae busnesau bach yn ei wneud o ran creu swyddi, cefnogi cymunedau a datblygu economïau lleol ledled Cymru.
3. Yn credu bod Llywodraeth Lafur y DU wedi torri ymrwymiad maniffesto drwy godi cyfraniadau yswiriant gwladol ac yn nodi bod Consortiwm Manwerthu Prydain a 79 o arweinwyr manwerthu amlwg wedi dweud y bydd y cynnydd yn arwain at brisiau uwch, swyddi'n cael eu colli, a niwed i lefelau buddsoddi.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru:
a) i wneud sylwadau brys i Lywodraeth y DU o blaid gwyrdroi'r cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol; a
b) dychwelyd rhyddhad ardrethi busnes i 75 y cant ar gyfer y sector manwerthu, lletygarwch a hamdden i gefnogi busnesau bach a diogelu swyddi.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac mae hi mor braf cael codi'n ôl ar fy nhraed mor fuan. Rwy'n siŵr fod pawb yn hapus iawn i fy nghlywed i eto. Ond Ddirprwy Lywydd, mae'n anrhydedd cael agor y ddadl hon heddiw, dadl sy'n dathlu ac yn hyrwyddo cyfraniadau rhyfeddol busnesau bach i Gymru. Y mentrau hyn yw anadl einioes ein heconomi a'n cymunedau, ac maent yn haeddu ein cefnogaeth lawn. Nid yn unig ar ddydd Sadwrn y Busnesau Bach, ymhen 10 diwrnod, ond bob dydd o'r flwyddyn.
Rwy'n siŵr fod pob Aelod yn y Siambr hon wedi ymwneud â busnesau bach yn eu hetholaethau. Gall pob un ohonom enwi enghreifftiau o entrepreneuriaid a mentrau lleol sy'n cael effaith fawr, yn creu swyddi, cefnogi cymunedau a chyfoethogi bywydau'r rhai o'u cwmpas. Ac ym mhob dadl flynyddol a gawn ar hyn, bydd pob Aelod yn bachu ar y cyfle i enwi busnesau yn eu hetholaeth, oherwydd eu llwyddiannau hwy yw ein llwyddiannau ni, a llwyddiant Cymru.
Eto i gyd, heddiw, mae busnesau bach yn wynebu pwysau cynyddol, pwysau nad yw'n fai arnynt hwy, ond canlyniad dewisiadau gwleidyddol. Dewisiadau a wneir gan Lywodraeth Lafur y DU sy'n tanseilio twf a sefydlogrwydd. Mae cyllideb Llafur wedi rhoi baich hyd yn oed yn drymach ar ein busnesau bach, gyda pholisïau annoeth fel y cynnydd i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr. I fusnesau bach, mae'r heriau'n pentyrru: cyfraniadau yswiriant gwladol uwch; codi'r cap ar brisiau ynni; a chwyddiant yn codi unwaith eto, a oedd, gadewch inni beidio ag anghofio, wedi'i ddwyn dan reolaeth gan y Prif Weinidog blaenorol.
Mae canlyniadau'r polisïau hyn eisoes yn amlwg. Mae Consortiwm Manwerthu Prydain, ochr yn ochr â 79 o leisiau blaenllaw yn y sector manwerthu, wedi rhybuddio y bydd y cynnydd i gyfraniadau yswiriant gwladol yn arwain at brisiau uwch, colli swyddi a llai o fuddsoddi. Bydd hyn yn niweidio busnesau bach, eu gweithwyr a'u cwsmeriaid, gan ein gadael yn y pen draw â thwf is a chostau uwch. Mabon.
Dwi'n derbyn yr hyn rwyt ti'n ddweud, fod chwyddiant yn is ond yn tyfu ar hyn o bryd, ond wyt ti ddim yn derbyn bod y Ceidwadwyr a rheolaeth y Ceidwadwyr yn y Llywodraeth ddiwethaf wedi arwain at chwyddiant o tua 10 y cant, 15 y cant yn y sector rŷn ni'n sôn amdano, ac felly bod lot o'r problemau mae'r busnesau bach yn eu hwynebu heddiw o ganlyniad i Lywodraeth San Steffan oedd dan reolaeth y Ceidwadwyr?
Rwy'n anghytuno â hynny. Pan edrychwch ar yr holl wledydd eraill sydd wedi cael chwyddiant dau ddigid lle nad yw'r Ceidwadwyr mewn grym—yr Almaen, gwledydd cyfandirol eraill, gwledydd draw yng Ngogledd America—y gwledydd hynny, dim byd i'w wneud â'r DU, lle cafwyd chwyddiant dau ddigid oherwydd y goresgyniad yn Wcráin a'r chwyddiant yn y farchnad ynni fyd-eang. Felly, dyna ddadansoddiad economaidd i chi.
Ddirprwy Lywydd, gellir gwrthdroi dewisiadau gwael fodd bynnag, a dyna mae'r cynnig heddiw yn ei gyflwyno—mae'n ddau argymhelliad syml, ond hawdd eu gwneud. Yn gyntaf, rydym yn galw ar Lywodraeth Lafur Cymru i gyflwyno sylwadau brys i Lywodraeth y DU yn eu hannog i wyrdroi'r cynnydd niweidiol i gyfraniadau yswiriant gwladol. Yn ail, rydym yn galw am adfer rhyddhad ardrethi busnes o 75 y cant ar gyfer y sectorau manwerthu, lletygarwch a hamdden. Byddai'r cymorth wedi'i dargedu hwn yn darparu lle i anadlu mawr ei angen i'r busnesau bach sy'n ffurfio asgwrn cefn ein strydoedd mawr a'n heconomïau lleol.
Nid yw'r rhain yn ofynion radical—synnwyr cyffredin ydynt. Byddent yn lleddfu'r baich ar ein cymuned fentrau bach a chanolig sydd wedi'i gorlethu ac yn caniatáu i fusnesau ganolbwyntio ar yr hyn a wnânt orau: arloesi, creu swyddi a sbarduno twf. Mae busnesau bach yn deall eu cymunedau, eu cwsmeriaid a'u heriau'n llawer gwell nag y gallai unrhyw Lywodraeth. Ein gwaith ni yw clirio'r rhwystrau o'u llwybr, nid ychwanegu atynt.
Rwy'n falch o gynrychioli cymaint o fusnesau bach rhagorol yn fy etholaeth i yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro—busnesau sy'n gweithio'n ddiflino i ddarparu nwyddau, gwasanaethau a chyflogaeth. Rwyf am i'r busnesau hyn gael gobaith. Rwyf am iddynt lwyddo, ac rwyf am i Gymru ffynnu oherwydd eu llwyddiant. O dan arweinyddiaeth y Ceidwadwyr Cymreig, byddai Cymru ar agor i fusnes. Gyfeillion, mae gennym ddewis. Gallem gefnogi'r cynnig hwn a rhoi'r gydnabyddiaeth a'r rhyddhad y maent yn eu haeddu i fusnesau Cymru, neu gallem wneud cam â hwy, ar adeg pan fônt ein hangen fwyaf. Eu llwyddiant hwy, fel y dywedais, yw ein llwyddiant ni mewn gwirionedd. Gadewch inni eu cefnogi, fel y gallant barhau i gefnogi ein cymunedau, ein heconomi a'n dyfodol. Gadewch inni eu dathlu, eu cefnogi, a gadewch inni wyrdroi'r newidiadau niweidiol hyn cyn ei bod hi'n rhy hwyr. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio i gynnig yn ffurfiol welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt.
Gwelliant 1—Jane Hutt
Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn nodi penderfyniad Llywodraeth y DU i gynyddu cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yng nghyllideb yr Hydref er mwyn ceisio sefydlogi sefyllfa ariannol y wlad.
Yn cydnabod bod rhyddhad ychwanegol ar gyfer ardrethi annomestig wedi bod ar gael i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch ers pum mlynedd yn olynol, am gost o £1 biliwn, ynghyd â phecyn blynyddol Llywodraeth Cymru o ryddhad ardrethi parhaol gwerth £250 miliwn.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Yn ffurfiol.
Hoffwn groesawu'r cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw a dod â'r ddadl hon i lawr y Senedd. Hoffwn siarad am bartneriaethau cyhoeddus-preifat, Ddirprwy Lywydd, a defnyddio Casnewydd fel enghraifft dda iawn o sut y gall hyn gyflawni ar gyfer busnesau bach.
Rydym i gyd yn gwybod am yr heriau y mae'r stryd fawr yn eu hwynebu ac y mae siopau'n eu hwynebu oherwydd siopa ar-lein a llawer o agweddau eraill ar fywyd modern, ond mae'n bosibl cynyddu nifer yr ymwelwyr gyda'r bartneriaeth gyhoeddus-breifat honno a chymorth cymunedol. Yng Nghasnewydd, gwelodd digwyddiad ar drywydd y Nadolig eleni yng nghanol y ddinas 2,000 yn fwy o bobl o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol, oherwydd y cynnig a oedd yno—y bwyd, yr atyniadau ffair, y tân gwyllt, yr adloniant. Yn ystod yr wythnos cyn hynny, cynyddodd nifer yr ymwelwyr 20 y cant o gymharu â'r wythnos flaenorol ac roedd 12 y cant yn uwch na'r un adeg y llynedd. Canlyniad partneriaeth dda yw hyn rhwng Llafur, Cyngor Dinas Casnewydd a'r gweithredwyr masnachol, gan gynnwys canolfan siopa Friars Walk. Yn y ganolfan siopa honno, fe wnaethant ddyblu nifer yr ymwelwyr o'i gymharu â dydd Sadwrn arferol.
Mewn gwirionedd, mae cyffro gwirioneddol yng Nghasnewydd ar hyn o bryd, Ddirprwy Lywydd, diolch i lawer o ddatblygiadau, a chyngor y ddinas a'i arweinyddiaeth Lafur, buaswn yn dweud. Enghraifft arall o hyn, sydd unwaith eto'n cynyddu nifer yr ymwelwyr â chanol y ddinas, yw gŵyl y gaeaf gyntaf erioed y ddinas, a fydd unwaith eto'n gynnig gwych i bobl leol. Mae llawr sglefrio iâ go iawn yno, mae yna ffair, mae yna fwyd a diod, mae yna adloniant. A bydd yr holl weithgareddau hyn yn hybu canol y ddinas ac yn gynnig deniadol i siopwyr, rwy'n siŵr. Bellach mae 60 y cant o'r unedau manwerthu yng nghanol y ddinas wedi eu cymryd gan fanwerthwyr annibynnol. Felly, mae cynnydd go iawn yn cael ei wneud ac mae'r busnesau bach yng nghanol y ddinas yn elwa o ganlyniad.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n credu ei bod yn bwysig fod y mentrau hyn, y digwyddiadau untro hyn, yn fwy na hynny'n unig, ond yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau, fel sy'n digwydd yng Nghasnewydd, a bod Llywodraeth Cymru yn edrych ar gynllun mwy hirdymor wrth weithio gydag awdurdodau lleol fel Casnewydd, sydd, yn fy marn i, yn enghraifft dda iawn, i weld sut y gellir annog y datblygiad hwn a sut y gall ddatblygu a ffynnu. Mae o fudd i ni i gyd i gael ardaloedd siopa prysur ar y stryd fawr, yng nghanol y ddinas neu yng nghanol y dref. Mae'n ddeniadol iawn. Mae'n ganolbwynt i boblogaethau lleol, sy'n ymfalchïo'n fawr yng nghanol y trefi a'r dinasoedd hynny, ac maent eisiau eu gweld yn ffynnu eto, ac rwy'n credu bod esiampl Casnewydd yn dangos bod hyn yn bosibl. Mae'n bartneriaeth gyhoeddus-breifat ar waith, yn darparu ar gyfer ein busnesau bach a'n cymunedau.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Mae busnesau bach yng Nghymru yn wynebu ergyd ddwbl y toriadau i ryddhad ardrethi busnes ynghyd â'r codiadau i gyfraniadau yswiriant gwladol a gyhoeddwyd yn y gyllideb. Nawr, bydd y polisïau hyn yn cael effaith andwyol ar fusnesau bach yng Nghymru, a busnesau bach yw dros 90 y cant o fusnesau Cymru. Rwy'n credu mai dyna pam y mae angen inni edrych eto ar ardrethi busnes. Mae angen inni edrych ar ryddhad ardrethi eto, a defnyddio'r pwerau yn Neddf Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) 2024, amrywio'r lluosydd, a meddwl yn wahanol ynglŷn â sut rydym yn sicrhau bod y baich o dalu'r ardrethi busnes hynny ar ysgwyddau rhai o'r cwmnïau mwy o faint ac nid ar y busnesau bach ar ein strydoedd mawr. Ac mae angen inni wneud hyn oherwydd, unwaith eto, rydym yn sôn am adfywio ein strydoedd mawr, ac fe gawsom Gasnewydd yn esiampl gan John Griffiths, ond ni allwn wneud hynny heb fusnesau bach.
Mae gofyn i'r Llywodraeth feddwl ar draws portffolios hefyd. Mae cynllunio'n enghraifft berffaith. Rwyf wedi dadlau yn y Siambr hon sawl gwaith fod angen inni edrych ar sut y down â phobl i ganol ein trefi. Un ffordd o wneud hynny yw troi eiddo masnachol, yn enwedig y gofod uwchben siopau, yn eiddo preswyl.
A wnaiff yr Aelod ildio?
Wrth gwrs.
Rwy'n ddiolchgar i chi am ildio ar y pwynt hwnnw'n benodol. Hoffwn dynnu sylw at y gwaith da y mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ei wneud ar hyn gydag eiddo y maent yn berchen arno, gyda newid cynllunio i ganiatáu unedau preswyl mewn hen unedau masnachol, gan ddod â phobl yn ôl i mewn i'r cymunedau hynny.
Diolch i Sam Kurtz am yr ymyriad, ac rwy'n credu bod enghreifftiau ledled Cymru. Mae gennym enghreifftiau i fyny yng ngogledd Cymru, ym Mangor, a Chaerfyrddin, yn ogystal â Chaernarfon. Y broblem sydd gennym, wrth gwrs, yw nad yw'r arfer da hwnnw'n cael ei rannu ar draws awdurdodau lleol. Hoffwn weld sut y gall y Llywodraeth wneud diwygiadau i'r system gynllunio i wneud i'r arfer da hwnnw gael ei rannu'n haws. Rwyf bob amser yn defnyddio Friends fel cymhariaeth. Mae'r grŵp yn cyfarfod yn Central Perk, y siop goffi yn eu hadeilad. Mae'r rhan fwyaf ohonynt yn byw uwch ei phen neu yn y cyffiniau. Nid yn unig y mae'r siop goffi honno'n elwa o fasnach sy'n pasio ar y stryd fawr, mae'n elwa o gwsmeriaid mewnol, ac mae hynny'n rhywbeth y dylem edrych arno ar ein strydoedd mawr, yng nghanol ein trefi, fel ffordd o wneud busnesau bach yn llawer mwy cynaliadwy. [Torri ar draws.] Wrth gwrs.
Rydych chi wedi bod yn hael iawn y prynhawn yma. Rydych chi'n annog Llywodraeth Cymru i fod mor arloesol â phosibl gyda'r dulliau polisi sydd ganddi at ei defnydd. Roeddech chi'n cyfeirio at ardrethi busnes, ac yn wir cyfeiriwyd atynt ar y dechrau hefyd. Mae tarddiad yr ardrethi busnes yn mynd yn ôl i 1601. Mae'n dreth mor hen â hynny—deddf y tlodion Elisabethaidd, a gynhyrchai ryddhad i'r tlodion yn seiliedig ar werth rhent adeiladau masnachol. Yn sicr, mae'n hen bryd inni gael rhywbeth yn ei lle, oherwydd nid yw'n addas i'r diben ac mae ffyrdd llawer tecach i fusnes wneud cyfraniad priodol, yn bendant, ond i wneud hynny mewn ffordd sy'n ddefnyddiol, yn hytrach na llyffetheirio busnesau.
Rwy'n ddiolchgar am yr ymyriad gan Adam Price. Rwy'n credu y byddai'n dda clywed gan Ysgrifennydd y Cabinet am y cynnydd ar ddiwygio ardrethi busnes yn ei hateb i'r ddadl hon, neu hyd yn oed mewn datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog cyllid, os nad yw Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf.
Mae cyfle yma i Lywodraeth Cymru gyflwyno cyllideb ddrafft ar 10 Rhagfyr sy'n darparu camau rhagweithiol i wella'r amodau y mae busnesau Cymru'n gweithredu ynddynt, gan gynnwys elfen ardrethi busnes pethau a hefyd, sut rydym yn defnyddio cymorth busnes yn llawer gwell er mwyn hybu cynhyrchiant. Mae'n siŵr y byddwn yn clywed mewn ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet y dylem aros am y gyllideb. Wel, cymerwch y ddadl hon fel arwydd o flaenoriaeth y Senedd hon. Mae'n bwysig ein bod yn cefnogi busnesau bach, nid yn unig ddydd Sadwrn ond drwy gydol y flwyddyn.
Fel erioed, mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon, sy'n dathlu'r busnesau bach niferus ledled Cymru. Ond yn anffodus, mae'n adeg anodd i lawer gormod o'r busnesau bach hynny, i'r bobl weithgar sy'n eu rhedeg, i'r aelodau o staff ac i gwsmeriaid sydd eisiau strydoedd mawr ffyniannus. A gadewch inni beidio ag anghofio pam ei bod hi'n anodd i'r busnesau hynny ar hyn o bryd. Mae gennym Lywodraeth Lafur Brydeinig sydd wedi codi yswiriant gwladol cyflogwyr ac wedi rhoi pwysau gwaeth nag erioed ar fusnesau. Ac mae gennym Lywodraeth Lafur yng Nghymru yma yn gosod yr ardrethi busnes uchaf ym Mhrydain, gan ddangos yn glir nad yw'r Blaid Lafur yn gyfaill i fusnes o gwbl.
Ac os ydynt yn onest am hyn, nid yw'n ddamweiniol. Mae'n ymddangos i mi ei fod yn deillio o ryw fath o elyniaeth neu amheuaeth gynhenid, neu ryw fath o genfigen o fusnesau preifat a menter rydd. Roedd cyllideb y Llywodraeth Lafur yn enghraifft mor glir ag y gwelech chi byth o'r amheuaeth a'r elyniaeth hon tuag at fusnes. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn chwerthin, ond mae'n cael ei amlygu yn y gwelliant yma heddiw, o'n blaenau. Mae'r gwelliant gan y Llywodraeth Lafur yn disgrifio'r rhyddhad ardrethi fel 'cost o £1 biliwn'—cost, gan anghofio'n llwyr fod y £1 biliwn hwnnw a ddisgrifir fel cost yma yn arian a godir gan y busnesau hyn sy'n talu trethi, a busnesau sy'n talu trethi sy'n gwneud eu gorau i redeg eu busnesau. Mae'n rhaid inni gofio nad arian y Llywodraeth mohono, arian trethdalwyr sy'n cael ei wario.
Mae risg arall yma, Lywydd, a'r risg weithiau yw bod y Llywodraeth hon yn arbennig ond yn gweld ei hun fel corff darparu gwasanaethau, gan anghofio'r ffaith bod y Llywodraeth yn llawer ehangach na hynny mewn gwirionedd. Rhan o waith y Llywodraeth wrth gwrs yw gosod yr amgylchedd i bobl sefydlu mentrau a ffynnu ym mha bynnag fentrau y maent yn ceisio eu cyflawni.
Ar y pwynt am arian trethdalwyr, rwy'n derbyn hynny, ond rhan o'r arian trethdalwyr hwnnw yw'r arian a godwn ni yma yng Nghymru, ac fel y soniais yn gynharach, mae'r ffaith nad ydym yn cael yr hyn a dalwn yn ôl gan fformiwla Barnett yn golygu nad ydym yn cael yr arian yr ydym yn ei haeddu, sef ein harian ni. Felly, onid ydych chi'n derbyn bod angen inni weld diwygio fformiwla Barnett fel bod gennym Lywodraeth a all gefnogi busnesau bach yng Nghymru yn iawn gyda'r arian sydd ei angen arnynt?
Diolch am yr ymyriad, Mabon ap Gwynfor. Rydym ni ar y meinciau hyn yn cytuno bod angen edrych ar fformiwla Barnett i wneud yn siŵr fod Cymru'n cael y lefel gywir o gyllid y mae'n ei haeddu, ond mae'n debyg y byddai'r cenedlaetholwyr eisiau dadlau bod arian a godir yng Nghymru yn ddigon i ddarparu'r gwasanaethau sydd eu hangen arni, pan fo'n amlwg nad yw'n ddigon. Dyna pam ei bod yn bwysig inni fod yn rhan o Deyrnas Unedig gref fel y gallwn wneud yr hyn y mae angen inni ei wneud dros bobl Cymru. Ar yr ochr hon i'r Siambr, Lywydd, rydym hefyd yn credu mewn menter rydd, codi baich rheoliadau gormodol, i helpu entrepreneuriaid a pherchnogion busnesau i dyfu a datblygu fel y gall pobl ffynnu gyda beth bynnag y maent yn dewis mentro gydag ef. Rwy'n ymwybodol fod amser yn hedfan, Lywydd, felly rwy'n annog cyd-Aelodau o'r Senedd i edrych yn ôl ar y cynnig hwn ac i ddewis dull synnwyr cyffredin i hybu busnes ledled Cymru. Diolch yn fawr iawn.
Doeddwn i ddim yn bwriadu siarad tan fy mod i wedi meddwl am y busnesau bach sydd yn fy etholaeth i, a pa mor bwysig ydyn nhw, mewn gwirionedd, i economi Dwyfor a Meirionnydd. Mewn gwirionedd, rydym ni wedi clywed y term yma yn cael ei ddweud sawl gwaith yn barod, sef y ffaith bod y busnesau bach yma yn asgwrn cefn i’n heconomi, ac mae hynny’n berffaith wir; os ydw i’n cerdded y stryd fawr ym Mhorthmadog, dwi’n gweld y busnesau bach yma sydd yn rhan o wead cymuned Porthmadog, yn rhan o wead y gymdeithas, ac maen nhw felly yn rhan o’r economi sydd yn gwbl greiddiol, yn cyflogi pobl sydd wedi dewis aros yn lleol, sydd wedi dewis byw yn lleol, ac felly yn rhan bwysig o'r economi yna.
Dwi’n meddwl wrth fy mod i’n mynd yn ddyddiol draw i’r Bala ac yn cerdded y stryd fawr yn y Bala, a gweld y busnesau yna, am bwysigrwydd y busnesau yna i’r economi dwi’n cyfrannu ato. Yr hyn sydd yn bwysig ei ystyried wrth ein bod ni’n trafod y busnesau bach yma ydy’r ffaith nad ydyn nhw’n bodoli er mwyn gwneud elw mawr. Nid busnesau sy’n gwneud miliynau o bunnoedd ydyn nhw, ond busnesau sydd yn bodoli er mwyn darparu gwasanaeth, gwasanaeth sydd yn bwysig i’r bobl. Os ystyriwch chi ein cymunedau gwledig ni, yn amlach na pheidio, mae pobl yn gorfod teithio ymhell er mwyn derbyn llawer o’u gwasanaethau, er mwyn mynd i siopa a chael yr hyn sy’n elfennol. Ond heb y siopau bach yna’n lleol ar ein stryd fawr ni yn ein cymunedau gwledig ni, yn y trefi bach yma, yna mi fuasai pobl yn gorfod teithio ymhellach. Felly, maen nhw’n darparu gwasanaeth sydd yn andros o bwysig i bobl sydd yn fregus, i bobl sydd yn oedrannus, ac i bobl sydd yn byw mewn lleoedd diarffordd.
Ac yn sôn am yr elfen yna o’r ffaith eu bod nhw’n darparu gwasanaeth, mae yna ran fawr o’r busnesau bach sydd gennym ni yn Nwyfor Meirionnydd yn fentrau cymunedol, yn fentrau sydd yn bodoli er mwyn sicrhau bod pobl yn cydweithio efo’i gilydd. Mae’n rhan o’n traddodiad ni yma yng Nghymru i sicrhau bod pobl yn cydweithio efo’i gilydd er lles cymuned. Os ewch chi i rywle fel Blaenau Ffestiniog a gweld y busnesau sydd yn Blaenau Ffestiniog, mentrau cydweithredol sydd wedi dod at ei gilydd, ac yn sicrhau bod pobl yn cael y gwasanaethau angenrheidiol yna ac yn cael yr hyn sydd yn hanfodol iddyn nhw yn ardal Blaenau Ffestiniog, mae hynny'n gwbl greiddiol er mwyn sicrhau bod y dref honno'n parhau i’r dyfodol. Pan fyddwn ni’n sôn wedyn am y ffaith nad miliwnyddion ydy’r cwmnïau yma, mae'n bwysig i ni ystyried yr elfen yna eu bod nhw’n cloi'r bunt yna’n lleol. Mae’r arian yna sydd yn cael ei greu, ac y maen nhw’n ei ddefnyddio yn y busnesau yna, yn bres sydd yn cylchdroi yn economi’r cymunedau yna.
Rydym ni yma yng Nghymru wedi gweld llawer gormod o’r traddodiad yna o bres yn cael ei echdynnu allan o’r economi wledig, allan o’r economi leol, arian sydd yn mynd er budd pobl eraill, nid er budd ein cymunedau ni. Ond mae'r busnesau bach lleol rydyn ni'n sôn amdanynt yma heddiw yn sicrhau bod y bunt yna'n cael ei gloi yn yr economi leol. Felly, rydyn ni wedi bod yn aros rhy hir am gynllun er mwyn cefnogi ein busnesau lleol ni; dyma'r amser, rŵan, er mwyn sicrhau bod yr economi leol yn cael ei gefnogi, bod busnesau lleol yn cael eu cefnogi, i ni weld y Llywodraeth yma yng Nghymru yn sicrhau eu bod nhw'n rhoi'r gefnogaeth angenrheidiol i'n busnesau. Dyna pam dwi am gefnogi'r cynnig yma ac yn croesawu'r cynnig yma gan y Ceidwadwyr heno. Diolch yn fawr iawn ichi.
'Dydd Sadwrn y Busnesau Bach'—dywedwch hyn yn uchel a'i ddweud yn falch. Mae penderfyniad Llywodraeth Lafur y DU i gynyddu cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yn mynd i fod yn ergyd drom i'n busnesau, sydd eisoes yn ymrafael â chostau cynyddol. Mae'n debyg iawn i déjà vu yma. Roeddwn i'n sefyll yma, roedd y Gweinidog cyllid yn eistedd yno, a dyna ni. [Chwerthin.] Ynghyd â gostwng y trothwy eilaidd i £5,000, mae'r polisi hwn yn torri addewidion maniffesto Llafur yn llwyr ac yn bradychu ymddiriedaeth ein gweithwyr a'n perchnogion busnes yn y Blaid Lafur. Ac roedd hi'n braf—ac yn chwa o awyr iach mewn gwirionedd—i glywed John Griffiths ar y meinciau Llafur yn cefnogi ethos ein dadl heddiw.
Mae hyn yn mynd i fod yn niweidiol iawn i Gymru, lle mae dros 99 y cant o fusnesau'n fentrau bach a chanolig sy'n darparu 63 y cant o gyflogaeth y sector preifat. Rwyf wedi dweud hyn o'r blaen ac rwy'n ei ddweud eto: mae codi cyfraniadau yswiriant gwladol yn cynyddu'r lletem dreth rhwng yr hyn y mae cyflogwyr yn ei dalu i gyflogi gweithwyr a'r hyn y mae gweithwyr yn ei dderbyn. Mae hyn yn rhwystr i greu swyddi, yn cadw cyflogau'n isel, yn lleihau elw, gyda llai o dreth yn cael ei dalu i bwrs y wlad. Mae mor syml â hynny mewn gwirionedd. Ar ben hynny, effeithir yn anghymesur ar fusnesau bach yng Nghymru, sy'n brwydro yn erbyn cefndir economaidd o ardrethi busnes uwch o'i gymharu â busnesau dros y ffin, twf refeniw cyfyngedig a'r argyfwng costau byw parhaus.
Mae mynegai busnesau bach diweddaraf y Ffederasiwn Busnesau Bach—. Rhaid imi ddiolch iddynt; maent yn dda iawn ar bolisi ac am gefnogi ein busnesau bach, ac mae angen dweud hynny. Bydd cynnydd cyffredinol mewn trethi i fusnesau bach o £24.5 biliwn y flwyddyn o 2025-26. Nid yn unig hynny, ond daw codiadau treth Llafur ochr yn ochr â beichiau eraill, gan gynnwys cyfraddau isafswm cyflog cenedlaethol uwch a threthi pecynnu. Mae manwerthwyr yn amcangyfrif y bydd y polisïau hyn yn costio £7 biliwn ychwanegol i'r sector, gan arwain at brisiau uwch byth a mwy o golli swyddi. Yng Nghymru, lle ceir y diweithdra uchaf yn y DU ar 5.3 y cant, ni fydd y mesurau hyn ond yn gwaethygu anweithgarwch economaidd ac yn erydu economïau lleol bregus ymhellach. Fodd bynnag, mae'n ymddangos mai ni yw'r cryfaf—y Ceidwadwyr Cymreig yw'r cryfaf am sefyll dros ein busnesau.
Mae busnesau bach lleol, fel tafarn y Black Boy yng Nghaernarfon—mae honno'n dafarn dda iawn, gyda llaw, tafarn y Black Boy, ac nid yw yn fy etholaeth i—yn nodi eu bod yn ganolog i warchod calon ac enaid ein trefi. Os cefnwn arnynt hwy, pa ddyfodol a roddwn i'n canolfannau diwylliannol? Dyna pam y mae angen dod â rheolaeth chwarter canrif Llafur Cymru yma i ben ymhen 18 mis. Mae'n rhaid inni gyflwyno cynigion rhagweithiol, dileu ardrethi busnes i fusnesau bach, cynnig rhyddhad taprog am bum mlynedd i gefnogi busnesau newydd a chyflwyno cynllun sbardun i Gymru i dalu cyfraniadau yswiriant gwladol ar gyfer dau weithiwr mewn microfusnesau am ddwy flynedd. Polisïau fel hyn fydd yn darparu sefydlogrwydd ariannol ac yn meithrin entrepreneuriaeth, gan sicrhau y gall busnesau bach ffynnu heb drethi cosbol.
Yn rhy aml, rwy'n sefyll yma ac mae'n her i Lywodraeth Lafur Cymru hyd yn oed ddeall hyn, ac ni ddylai fod. Mae ein busnesau bach yn gweld beth sy'n digwydd yma, maent yn clywed beth sy'n digwydd yma ac maent yn teimlo beth y mae eich polisïau chi'n ei wneud iddynt. Gallwch wenu, gallwch chwerthin, ond rwy'n dweud wrthych nawr fy mod i'n credu, ymhen 18 mis—. Mae ein busnesau bach wedi cael digon. Yn debyg iawn i'n ffermwyr, maent wedi cael digon; maent wedi cael digon arnoch chi a'ch polisïau. Hoffwn pe bai etholiad yma yng Nghymru yn llawer cynt na 18 mis. Byddwn bob amser yn cefnogi—[Torri ar draws.] Byddwn bob amser yn cefnogi hawliau ein busnesau bach ac yn diolch iddynt am yr hyn a wnânt. Diolch yn fawr.
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio nawr i gyfrannu—Rebecca Evans.
Wel, diolch am gyflwyno’r ddadl hon heddiw a rhoi cyfle inni ddathlu ein busnesau bach ledled Cymru sydd, fel y mae nifer o'n cyd-Aelodau wedi'i ddweud, yn asgwrn cefn i’n heconomi yng Nghymru, yn creu swyddi, yn cefnogi cymunedau, ac wrth gwrs, yn datblygu economïau lleol ledled Cymru. Rydym wedi clywed am y cyfraniad gwych y mae mentrau bach a micro yn ei wneud yng Nghymru, a dyna yw oddeutu 98.4 y cant o’r holl fentrau, gan gyflogi mwy na hanner miliwn o bobl, sef oddeutu hanner yr holl gyflogaeth yng Nghymru. Felly, mae pwysigrwydd y sector i ni yn glir iawn.
Mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn parhau i fod yn ymrwymedig i helpu busnesau bach i ddechrau, ond hefyd i fod yn wydn yn erbyn hinsoddau economaidd anodd, a hefyd i'w helpu i nodi cyfleoedd i dyfu ac i ffynnu, i gyfoethogi ein cymunedau a darparu cyfleoedd ar gyfer llwyddiant cymdeithasol ac economaidd.
Diolch am dderbyn ymyriad. Yn amlwg, mae nifer o fusnesau bach wedi cael eu taro gan lifogydd dinistriol yr wythnos hon. Fel y trafodwyd ddoe, mae llawer yn methu cael yswiriant bellach. Fe sonioch chi am wytnwch. Pa gymorth a gaiff ei ddarparu? Clywais y Prif Weinidog yn dweud ar y newyddion, o ran cymorth, o ran yswiriant—. Rhywfaint o eglurder o ran yr hyn y mae’r cymorth hwnnw’n ei olygu—. Yn amlwg, gyda newid hinsawdd, a thywydd mwy eithafol dro ar ôl tro, ein busnesau bach, sydd mor hanfodol i'n strydoedd mawr, sy’n cael eu taro. Hebddynt, mae arnaf ofn meddwl sut olwg sydd ar ddyfodol busnesau bach mewn trefi fel Pontypridd.
Mae cefnogi busnesau bach i allu gwrthsefyll newid hinsawdd yn amlwg yn hanfodol bwysig. Gwyddom fod rhai o’r busnesau bach a fanteisiodd ar y benthyciadau a’r grantiau a ddarparwyd yn sgil storm Dennis, ac a lwyddodd i wneud addasiadau, wedi agor eto o fewn oriau yn sgil y llifogydd diweddar.
Felly, rydym yn archwilio beth arall y gallwn ei wneud yn y maes penodol hwn, a hefyd yn gweithio gydag awdurdodau lleol i nodi, ar lawr gwlad, y sefyllfa nawr ar gyfer y busnesau yr effeithiwyd arnynt dros y dyddiau diwethaf. Ond rwy'n rhoi sicrwydd i fy holl gyd-Aelodau yn y Siambr fod hynny’n flaenoriaeth i fy adran ar hyn o bryd, gan weithio gyda llywodraeth leol.
Ychydig cyn dydd Sadwrn y Busnesau Bach, fe wnaethom ddathlu Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang yr wythnos diwethaf, ac mae honno'n ymgyrch bwrpasol i ddathlu a grymuso entrepreneuriaid. Ledled Cymru, cafwyd dros 100 o ddigwyddiadau ar y cyd â Busnes Cymru. Cefais gyfle hefyd, wrth gwrs, i ddathlu Diwrnod Mentrau Cymdeithasol drwy ymweld â Thrive, a soniais yn gynharach yn y Siambr am y gwaith gwych y maent yn ei wneud yn cefnogi menywod sydd wedi goroesi trais domestig, a’r gwaith y maent yn ei wneud i ddarparu gwasanaethau i bobl yn y gymuned.
Rwy'n amlwg yn falch iawn o gefnogi ymgyrchoedd fel Dydd Sadwrn y Busnesau Bach. Yn ogystal â thynnu sylw at lwyddiant busnesau—ac rydym wedi clywed am enghreifftiau gwych o gwmpas y Siambr y prynhawn yma—maent hefyd yn annog defnyddwyr i siopa'n lleol a chefnogi'r busnesau bach yn eu cymunedau. Felly, rydym yn mynd ati i gefnogi Dydd Sadwrn y Busnesau Bach drwy ein gwasanaeth Busnes Cymru, i godi ymwybyddiaeth lle bynnag y bo modd.
Yn y blynyddoedd diwethaf, mae economi Cymru wedi wynebu heriau sylweddol, yn amrywio o Brexit i COVID. Ond er hynny, mae'r amgylchedd economaidd cyffredinol yn parhau i wella. Bydd fy nghyd-Aelodau'n gyfarwydd â’n cenhadaeth economaidd, sy'n nodi ein meysydd blaenoriaeth cenedlaethol, gyda’n ffocws ar Gymru gryfach, decach, wyrddach, gan gefnogi twf economaidd drwy ddefnyddio dull sy’n seiliedig ar unigolion a lleoedd, ac sy’n ystyried yr economi sylfaenol yn rhan allweddol o’n strategaeth economaidd.
A wnewch chi dderbyn ymyriad? Diolch. Mae pryderon gwirioneddol ynglŷn ag effaith y cyfraniadau yswiriant gwladol ar fusnesau bach. Rydych chi wedi ailadrodd y ffaith ein bod wedi clywed cynifer o bobl yn sôn heddiw—eu bod mor bwysig i'n trefi a'n cymunedau ledled Cymru. A ydych chi wedi gwneud asesiad o effaith hyn ar fusnesau Cymru, ac os ydych, a allech chi rannu’r wybodaeth honno â ni? Ac a ydych chi'n gwybod hefyd faint o’r arian hwnnw a fydd yn dychwelyd i Gymru drwy fformiwla Barnett, neu unrhyw fformiwla arall, fel ein bod yn gwybod a fydd Cymru'n elwa o’r cyfraniad yswiriant gwladol hwnnw?
Yn ystod y sesiwn gwestiynau y prynhawn yma, cefais gyfres hir o gwestiynau ar gyfraniadau yswiriant gwladol, felly nid wyf am ailadrodd popeth a ddywedais bryd hynny. Efallai y caf gyfeirio fy nghyd-Aelodau at y cofnod o'r cwestiynau llafar y prynhawn yma, o ystyried fy mod wedi ymdrin â llawer o hynny, a dim ond oddeutu munud sydd gennyf ar ôl i ymateb i’r ddadl. Ond hoffwn dynnu sylw at ein ffocws ar swyddi gwyrdd, twf, creu lleoedd a sicrhau bod cymunedau'n gryfach ac yn fwy gwydn, a gweithio hefyd i nodi'r rhwystrau sy'n bodoli o ran gallu rhai pobl i gael mynediad at swyddi a sgiliau, a gweithio mewn partneriaeth i gryfhau’r cynnig a chreu mannau gwaith a chyfleoedd cynhwysol.
Diben Busnes Cymru yw cefnogi twf busnesau ym mhob rhan o Gymru, ac mae ei wybodaeth, ei ganllawiau a’i gymorth i fusnesau yn gwbl hanfodol. Hoffwn dynnu sylw’n benodol at y rhaglen cyflymu twf, sy’n helpu’r busnesau hynny i feithrin gwytnwch a gwella cynhyrchiant, ac i dyfu. Mae’n darparu cymorth penodol iawn ar feysydd fel cyflogaeth, cydraddoldeb, gwaith teg, ac mae’n ysgogi uchelgeisiau ar gyfer yr economi werdd a datgarboneiddio. Ac wrth gwrs, mae mynediad at gyllid a chymorth ar gyfer sgiliau hefyd yn hollbwysig i alluogi busnesau bach i ffynnu, ac mae'r rheini'n feysydd lle rydym, drwy weithio gyda Cymru'n Gweithio a Banc Datblygu Cymru, yn ceisio sicrhau bod yr ecosystem gyfan yno i roi cymorth i fusnesau bach pan fydd ei angen arnynt.
Gwelaf fod yr amser bron ar ben, felly hoffwn ddweud bod gan bob un ohonom ran i’w chwarae yn gwreiddio diwylliant o entrepreneuriaeth a chreu amgylchedd busnes sy’n cefnogi ac yn annog busnesau i ffynnu, ac mae’n parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i'r Llywodraeth hon. Hoffwn gloi drwy annog cefnogaeth i fusnesau bach drwy gydol y flwyddyn, fel y mae eraill wedi ei ddweud, yn hytrach nag ar ddydd Sadwrn y Busnesau Bach yn unig. Gwn y bydd pob un ohonom yn gwneud y gorau o'r penwythnos hwn i dynnu sylw at y busnesau gwych ym mhob un o'n hetholaethau.
Peter Fox nawr i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd. Diolch yn fawr i bawb a gyfrannodd at y ddadl hynod bwysig hon. Mae Dydd Sadwrn y Busnesau Bach yn ddiwrnod pwysig lle byddwn yn cydnabod pwysigrwydd cefnogi’r busnesau teuluol hyn. A gaf i ddiolch i Sam Kurtz am agor y ddadl a nodi’n glir mai busnesau bach yw anadl einioes ein cymunedau, gan rannu’r pwysau y maent yn ei wynebu gydag yswiriant gwladol, ynni a chwyddiant, a sut y mae’r pethau hyn yn arwain at golli swyddi a llai o fuddsoddiad? Mae'n ddirgelwch llwyr i lawer ohonom sut y mae hyn i fod i arwain at amgylchedd economaidd gwych ar gyfer twf busnes.
A gaf i ddiolch i John Griffiths am nodi'r heriau ar y stryd fawr a thynnu sylw at yr hyn y gellir ei wneud pan fydd pobl yn cydweithio? Rhannodd rai o’r pethau ffyniannus sy’n digwydd yng Nghasnewydd, a gobeithiwn y bydd hynny’n cael ei ailadrodd—a gwyddom ei fod—mewn llawer o drefi eraill yng Nghymru. Dywedodd Luke—yn llygad ei le—fod busnesau’n wynebu ergyd ddwbl, fel rydym wedi’i glywed sawl gwaith heddiw, gydag yswiriant gwladol ac ardrethi annomestig. Mae 90 y cant a mwy o fusnesau yn fusnesau bach. Mae gwir angen inni edrych eto ar ardrethi busnes ac annog y Llywodraeth i edrych ar hynny. A diolch, Adam, am eich ymyriad, a’r wers, gan nad oeddwn yn gwybod bod ardrethi busnes wedi dechrau ym 1601. Ydy, mae’n hen bryd inni eu hadolygu. Dywedodd Sam Rowlands ei bod yn adeg anodd i gynifer o fusnesau a’r rhai sy’n eu rhedeg, a nododd yn glir iawn nad yw Llafur yn ffrind i fusnes. Tynnodd sylw at y ffaith nad arian y Llywodraeth yw'r arian a godir, ond arian y trethdalwyr. Mabon, a gaf i ddiolch i chi am eich cefnogaeth ac am dynnu sylw at bwysigrwydd busnesau yn eich etholaeth, a’r effaith y mae’r busnesau hynny'n ei chael ar eich economi leol a’r gymuned, a'u bod yn rhan o wead y gymuned? Dywedodd Janet, yn angerddol iawn fel arfer—a diolch am hynny—fod yswiriant gwladol yn cael effaith ddinistriol ar fusnesau, ynghyd â’r trothwyon is, gan ein hatgoffa bod Llafur wedi torri eu haddewidion.
Ysgrifennydd y Cabinet, diolch am eich cyfraniad. Rydych chi a’ch Llywodraeth yn dathlu busnesau bach hefyd, ac yn cydnabod y pwysigrwydd y rhan y maent yn ei chwarae yn yr economi leol, gan gyflogi dros 0.5 miliwn o bobl. Rydych chi wedi ymrwymo i gefnogi busnesau bach, ond mae llawer o fusnesau bach yn teimlo nad yw'r Llywodraeth na Llafur yn eu cefnogi.
A diolch i Heledd am ei hymyriad ac am dynnu sylw at ba mor bwysig yw hi fod cymorth yn cael ei ddarparu i fusnesau bach yr effeithiwyd arnynt gan lifogydd a thywydd garw. A diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich ymrwymiad i sicrhau y bydd y busnesau hynny'n cael cymorth, ac rwy'n siŵr y byddant.
Lywydd, yn y pen draw, mae busnesau yma'n crefu am well cymorth. Nid ydynt yn disgwyl taliadau enfawr na gwerth biliynau o bunnoedd o fenthyciadau, dim ond amgylchedd economaidd lle mae eu gwaith caled a'u buddsoddiad yn dwyn ffrwyth. Yn anffodus, nid yw hyn yn wir yng Nghymru o dan Lafur, ac mae'n prysur ddod yn amlwg na fydd yn wir o dan Lywodraeth San Steffan ychwaith. Felly, beth y gellir ei wneud? Ac rwyf i a fy nghyd-Aelodau wedi nodi'n glir heddiw fod angen inni weld rhyddhad ardrethi busnes o 75 y cant yn cael ei adfer i'r sectorau lletygarwch, manwerthu a hamdden yma yng Nghymru, neu o leiaf ei fod yn cyfateb i'r cyllid sydd ar gael, y cymorth sydd ar gael yn Lloegr.
Y llynedd, roedd busnesau Cymreig yn y sector yn talu bron i ddwbl yr ardrethi busnes, ac ni all hynny barhau. Lywydd, mae angen ein cymorth ar fusnesau bach, mae angen y cynnydd mewn rhyddhad ardrethi annomestig, mae angen iddynt weld y lluosydd yn cael ei rewi, ac mae arnom angen i Lafur yma sefyll o'u plaid yn erbyn eu cymheiriaid yn San Steffan a phwyso ar y rheini i wrthdroi’r cynnydd dinistriol mewn yswiriant gwladol, gan eu bod yn amlwg wedi torri ymrwymiad maniffesto. Bydd y pethau hyn yn sicrhau bod busnesau Cymru yn cael y cyfle i dyfu a ffynnu. Yn y pen draw, Lywydd, rwy’n siŵr fod pob un ohonom yn dymuno gweld ein busnesau bach yn ffynnu yng Nghymru, felly rwy'n gobeithio y bydd pawb yma yn ymuno â ni i ddathlu busnesau lleol a chefnogi Dydd Sadwrn Busnesau Bach ar 7 Rhagfyr.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly fe wnawn ni gymryd y bleidlais ar yr eitem yma yn ystod y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Rŷn ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio nawr, ac os nad oes yna dri Aelod sy'n dymuno i fi ganu'r gloch, fe fyddwn ni'n symud i'r bleidlais gyntaf. Felly, mae'r gyfres o bleidleisiau cyntaf ar eitem 8—dadl y Ceidwadwyr yw hon, ar ryddhad eiddo amaethyddol. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 26 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi'i wrthod.
Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Rhyddhad eiddo amaethyddol. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 24, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Mae'r bleidlais nesaf ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Mae gwelliant 1 wedi'i dderbyn.
Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Rhyddhad eiddo amaethyddol. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 26, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Gwelliant 2 yw'r bleidlais nesaf, yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Mae'r gwelliant yna wedi'i wrthod.
Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Rhyddhad eiddo amaethyddol. Gwelliant 2, cyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 24, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Y bleidlais nesaf yw'r bleidlais ar y cynnig wedi'i ddiwygio.
Cynnig NDM8747 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod cyfraniad pwysig ffermwyr at ein heconomi, ein prosesau cynhyrchu bwyd, ein hamgylchedd a’n cymunedau.
2. Yn nodi penderfyniad Llywodraeth y DU i newid y rhyddhad eiddo amaethyddol.
3. Yn cydnabod bod newidiadau Llywodraeth y DU i ryddhad eiddo amaethyddol wedi’u gwneud o fewn cyd-destun y niwed a achoswyd gan Lywodraeth flaenorol y DU i wasanaethau cyhoeddus a’r diffyg o £22 biliwn mewn arian cyhoeddus.
4. Yn croesawu cymorth amrywiol Llywodraeth Cymru i ffermwyr, gan gynnwys sicrhau estyniad i ryddhad eiddo amaethyddol o fis Ebrill 2025 i gynnwys y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 24 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i dderbyn.
Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Rhyddhad eiddo amaethyddol. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 26, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Mae'r pleidleisiau nesaf ar eitem 9—dadl y Ceidwadwyr ar fusnesau bach a threthiant yw hon. Galwaf am bleidlais yn gyntaf ar y cynnig heb ei ddiwygio yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei wrthod.
Eitem 9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Busnesau bach a threthiant. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 24, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Gwelliant 1 sydd nesaf, yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Mae gwelliant 1 wedi ei dderbyn.
Eitem 9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Busnesau bach a threthiant. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 26, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Felly, y bleidlais olaf fydd ar y cynnig wedi'i ddiwygio.
Cynnig NDM8748 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi y bydd Dydd Sadwrn y Busnesau Bach yn cael ei gynnal ar 7 Rhagfyr 2024.
2. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae busnesau bach yn ei wneud o ran creu swyddi, cefnogi cymunedau a datblygu economïau lleol ledled Cymru.
3. Yn nodi penderfyniad Llywodraeth y DU i gynyddu cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yng nghyllideb yr Hydref er mwyn ceisio sefydlogi sefyllfa ariannol y wlad.
4. Yn cydnabod bod rhyddhad ychwanegol ar gyfer ardrethi annomestig wedi bod ar gael i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch ers pum mlynedd yn olynol, am gost o £1 biliwn, ynghyd â phecyn blynyddol Llywodraeth Cymru o ryddhad ardrethi parhaol gwerth £250 miliwn.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Ac felly mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn.
Eitem 9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Busnesau bach a threthiant. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 26, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Dyna ni; dyna ddiwedd ar y pleidleisiau y prynhawn yma.
Ac fe fyddwn ni'n symud ymlaen nawr i'r ddadl fer. Mae'r ddadl fer y prynhawn yma gan Delyth Jewell ac fe gaiff hi gychwyn unwaith mae yna rywfaint o dawelwch yn y Siambr. Delyth Jewell.
Diolch, Llywydd. Dwi wedi addo rhoi munud o fy amser i Sioned Williams, Peredur Owen Griffiths a Heledd Fychan.
Lywydd, pan gyflwynais y ddadl hon ar effaith ein gwaddol diwydiannol ar ein tirweddau, nid oeddwn wedi sylweddoli pa mor boenus o berthnasol, pa mor amserol, y byddai. Dros y penwythnos diwethaf, daeth glaw trwm â thomen lo i lawr dros Gwmtyleri. Oni bai am weithredu cyflym diffoddwyr tân yn gwacáu'r ardal, gallai bywydau fod wedi'u colli neu eu difetha'n barhaol, gan godi'r holl atgofion ofnadwy o'r gorffennol. Ni all ein Cymoedd wrthsefyll tirlithriad arall i'r tomenni hyn. Roedd yr hyn a ddigwyddodd yng Nghwmtyleri yn arwydd brawychus nad yw’r tomenni glo, y mwyngloddiau brig, y safleoedd halogedig—yr holl blâu hyn ar ein tirweddau—nid ydynt yn segur; maent yn llechu'n barod amdanom, gyda'r gallu i ddinistrio ein cymunedau. Ac mae'n rhaid gorfodi San Steffan i'w clirio.
Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.
Y tomenni glo yw gwaddol mwyngloddio. Dyma'r cyfan a adawyd i ni pan gafodd ein cyfoeth ei ddwyn. Ar wahân i'r llwch yn ysgyfaint glowyr, y bwganod ar y bryniau oedd ein hunig waddol, cymynrodd o faw a budreddi, yn cadw ein Cymoedd yn y cysgod wrth edrych i lawr arnom a'n gwawdio. Dylai Aberfan fod wedi newid pethau. Dylai marwolaethau’r plant druain a’u hathrawon fod wedi dychryn nid yn unig y byd, ond calonnau San Steffan hyd yn oed. Cafodd Aberfan ei fradychu ddwywaith, unwaith gan esgeulustod y bwrdd glo ac yna eto gan ddiglemdod y Gweinidogion a wnaeth ddwyn o’u cronfa elusen i dalu i glirio’r domen a laddodd eu plant. Gadawodd y trychineb hwnnw, y trychineb ataliadwy hwnnw, gysgod hir dros y Cymoedd hyn, cysgod a ddyfnhaodd yn 2020 gyda chwymp tomen Tylorstown ac sydd wedi tywyllu eto gyda'r tirlithriad yng Nghwmtyleri.
Nawr, mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn am £25 miliwn gan San Steffan i glirio’r tomenni, pan wyddom y bydd y pris yn sylweddol uwch, yn nes at £500 miliwn neu £600 miliwn efallai. Fel y dywedais yn y Siambr ddoe, mae cost clirio tomen Tylorstown yn unig yn £20 miliwn. Mae’n rhaid inni gael sicrwydd y bydd San Steffan yn talu’r pris i wneud ein cymunedau’n ddiogel. Beth arall y byddai'n ei gymryd iddynt wneud hyn?
Nawr, bydd y ddeddfwriaeth rydym yn ei disgwyl ym mis Rhagfyr yn canolbwyntio, yn ôl yr hyn a ddeallaf, ar ddiogelwch yn hytrach na chyllid, er ein bod yn aros, wrth gwrs, i weld manylion hynny. Os yw hynny'n wir pan gaiff y Bil hwnnw ei gyflwyno, mae'n rhaid ei gywiro. A gwyddom y bydd cwmpas y Bil yn gadael twll mawr arall. Bydd safleoedd mwyngloddio brig fel Ffos-y-Fran y tu allan i gwmpas y Bil. Mae arnom ddyled i gymunedau fel y rheini ym Merthyr Tudful i beidio â gadael mwy o glwyfau yn ein Cymoedd. Y safleoedd mwyngloddio brig hynny hefyd, gallant gael eu hansefydlogi gan law trwm. Mae cyrff dŵr wedi cronni mewn llawer ohonynt, fel Ffos-y-Fran, oherwydd methiannau i adfer y safleoedd pan nad oedd arian i'r cwmnïau ei wneud mwyach. Mae’n rhaid inni ddefnyddio’r ddeddfwriaeth newydd hon i roi diwedd ar gloddio am lo yn ein trefi, boed hynny mewn safleoedd mwyngloddio brig neu gloddio llechwraidd, lle mae cwmnïau’n ceisio ariannu'r gwaith o adfer tomenni glo drwy ysbeilio'r tomenni, fel yr hyn a gynigir ym Medwas. Ni allwn ganiatáu i’n cymunedau ddioddef y sarhad hwn eto, ac ni allwn fforddio colli’r cyfle i ddwyn y cwmnïau hynny i gyfrif.
A Ddirprwy Lywydd, mae yna drydydd staen hyll, staen ystyfnig arall, ffordd arall y mae cwmnïau preifat wedi llygru ein dyfrffyrdd a’n tirweddau, ffordd arall y mae ein Cymoedd wedi’u hecsbloetio. Weithiau, cyfeirir at biffenylau polyclorinedig fel 'cemegion am byth', a daw llawer o'r hyn a ddywedaf yma gan Cyfeillion y Ddaear, Cadwch Gymru'n Daclus, cynghorwyr ac ymgyrchwyr lleol. Mewn safleoedd fel Tŷ Llwyd yn Ynys-ddu, gadawyd i'r cemegion carsinogenaidd hyn dreiddio i'r pridd. Maent i’w cael mewn o leiaf 12 safle ledled Cymru lle gadawodd y gorfforaeth gemegol Americanaidd, Monsanto, ac eraill, wastraff gwenwynig yn y 1960au a’r 1970au. Nawr, ar hyn o bryd, dim ond dau safle sydd wedi’u dynodi’n dir halogedig gan awdurdodau lleol, sef chwarel Brofiscin yn Rhondda Cynon Taf a Phenrhos yng Nghaerffili, ond mae cymaint o dystiolaeth yn awgrymu bod Tŷ Llwyd yng Nghaerffili hefyd wedi’i halogi gan y cemegion hyn. Nawr, carwn awgrymu nad yw'r rheoliadau presennol yn ddigon cryf i ddiogelu iechyd y cyhoedd, os oes cymaint o safleoedd yn llithro drwy'r meini prawf dynodi ar sail dechnegol. Rhaid bod Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi fod pobl yn haeddu gwybod os ydynt yn byw yn agos at safle gwenwynig. Hoffwn ofyn a fyddai’n ymrwymo’r Llywodraeth i gadw cofrestr o safleoedd halogedig, gan gynnwys y rheini sy’n destun ymchwiliad, ac i’r gofrestr honno fod ar gael ar-lein i’r cyhoedd. A hoffwn ofyn hefyd sut y gallai'r Bil llywodraethu amgylcheddol sydd ar y ffordd sicrhau bod llygrwyr yn cael eu dwyn i gyfrif am y llygredd hwn. Dylent fod yn talu costau clirio’r safleoedd hynny unwaith ac am byth.
Mae Dan Ashby, cyflwynydd rhaglen Buried ar Radio 4 yn ddiweddar, rhaglen a oedd yn canolbwyntio ar y pwnc hwn, wedi nodi, ac rwy’n dyfynnu yma, mewn tri man cyhoeddus gwahanol yng Nghymru, eu bod wedi dod o hyd i gemegyn carsinogenaidd sydd wedi’i wahardd ar lefelau yr ystyrir eu bod yn arwyddocaol gan y Gymdeithas Gemeg Frenhinol. Roedd un o'r rhain ar ffordd gyhoeddus yn llifo i mewn i ddraen; roedd un arall mewn coetir lle mae pobl yn cerdded a phlant yn chwarae. Ar eu lefelau uchaf, roedd pridd Cymru yn cynnwys 140 gwaith yn fwy o biffenylau polyclorinedig na lefelau cefndirol a brofwyd gan awdurdodau yn flaenorol. Nawr, mae hwn yn amlwg yn fater sy'n mynnu sylw. Mae'n debyg fod cytundeb rhwng olynwyr Monsanto yn chwarel Brofiscin ac awdurdodau cyhoeddus lle gwnaethant gytuno i dalu rhywfaint o arian tuag at adfer. Nawr, mae'r cytundeb hwnnw wedi'i olygu'n helaeth, a hoffwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet a ellir cyhoeddi fersiwn heb ei golygu, neu o leiaf ei darparu i Aelodau'r Senedd, fel y gallwn ni ddarllen y manylion.
Nawr, rwy’n sylweddoli y bydd nifer o Aelodau'n dymuno siarad yn y ddadl amserol hon. Byddaf yn dirwyn i ben cyn bo hir, Ddirprwy Lywydd, ond hoffwn ddweud, wrth gloi, fod ein Cymoedd yn gwisgo creithiau ein gorffennol. Mae rhai o'r creithiau hynny'n llawer rhy weladwy, fel y tomenni glo ar y mynyddoedd, a safleoedd mwyngloddio brig sydd wedi'u gadael yn glwyfau agored i'r awyr. Mae creithiau eraill wedi’u cuddio o’r golwg, fel y gwastraff cemegol parhaol sy’n llechu yn y dŵr a’r tir mewn mannau lle gadawyd sbwriel gwenwynig i bydru. Fel hyn y cafodd ein Cymoedd eu halogi gan gwmnïau preifat a wnaeth arian cyflym ar draul ein tir ond a adawodd y gwastraff a'r dinistr i ni. Mae ein Cymoedd wedi dioddef yn rhy hir yn sgil y gwaddol hwn. Mae'n bryd, o'r diwedd, i gamweddau'r gorffennol gael eu hunioni. Mae'n bryd caniatáu i'n tir wella.
Rwyf am gloi lle dechreuais, Ddirprwy Lywydd, gyda’r domen lo yng Nghwmtyleri, y domen a gwympodd i lawr y mynydd, gan ddod â mwd ac atgofion i’n plith. Rhaid iddo fod y tro olaf y perir i'n cymunedau ddioddef y fath drychineb. Ni allwn gael mwy o ddigwyddiadau trwch blewyn. Nid oes amser ar ôl i'w golli. Mae'n rhaid sicrhau'r arian yn llawn i hel y cythreuliaid hyn o'n drysau. Mae'n rhaid clirio’r tomenni ar geiniog San Steffan. Ni allwn fforddio aros mwyach.
Roedd aelod o'm teulu i'n athrawes yn Ysgol Pant Glas, Aberfan. Llwyddodd fy niweddar Fopa Hettie Williams a'i dosbarth oroesi slwj tip 7, ond fe dyfais i lan gyda'r atgof am arswyd y tipiau yn rhan o hanes y teulu.
Mae effaith ddinistriol llygredd diwydiannol wedi ei danlinellu'r wythnos hon, wrth gwrs, yng Nghwmtyleri. Mae addewid, o'r diwedd, y bydd gweithredu. Ar draws fy rhanbarth i yng Ngorllewin De Cymru, mae mwy na 900 o domenni, gyda'r nifer uchaf o unrhyw ardal awdurdod lleol—dros 600 ohonynt—yng Nghastell-nedd Port Talbot, y sir ble rwy'n byw. Mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw'n risg is, ond mae 41 o fewn y categorïau risg uwch.
Ond fydd y ddeddfwriaeth a fydd yn ceisio eu diogelu ddim yn gwaredu ar y domen a adawyd gan y cwar yng Ngodre'r Graig yng nghwm Tawe, sydd wedi cau ysgol, achosi ei bod hi'n hollol amhosib i yswirio rhai cartrefi a rhai teuluoedd wedi gorfod symud o'u haelwydydd; nac yn diogelu trigolion Cwmllynfell, Gwauncaegurwen a Thai'r Gwaith rhag peryglon gadael corff enfawr o ddŵr ar ffawt daeargryn 150m uwchben llawr y cwm, gydag ochrau o rwbel rhydd.
Hoffwn glywed, felly, beth mae'r Llywodraeth yn mynd i'w wneud i dawelu meddyliau'r cymunedau hyn. Ni ddylwn fyth dderbyn, yng ngeiriau cerdd Gwenallt i drychineb Aberfan, fod cynnyrch yn fwy gwerthfawr na gweithwyr, a chost na chartrefi.
Diolch, Delyth, am ddod â'r ddadl yma gerbron heddiw. Mae'n amserol iawn.
Mae gennyf un neu ddau o bwyntiau yr hoffwn i Ysgrifennydd y Cabinet ymateb iddynt, a dweud y gwir. Yn benodol, maent yn ymwneud â'r rhyngweithio rhwng tomenni glo a'r safleoedd gwenwynig a'r safleoedd sbwriel ar draws y Cymoedd yn enwedig. Nid yw adfer un ohonynt o reidrwydd yn adfer rhai o'r lleill, ac mae pryder yn ein cymunedau o ran, 'Wel, os oes un yn cael ei adfer, beth am y lleill?' Ac efallai y gallech sôn sut y gallai'r Bil leddfu rhywfaint ar y pryder hwnnw.
Yr agwedd arall yr hoffwn i chi ei hesbonio yw eich bod wedi dweud mewn ymateb ddoe, pan oeddem yn sôn am hyn yn y Siambr, ac adfer tomenni glo, eich bod wedi gwario £65 miliwn, os wyf yn gywir, neu o gwmpas hynny, yn barod. Sut y cyrhaeddoch chi'r ffigur o £25 miliwn y gofynnoch chi amdano, a thros ba gyfnod o amser y cafodd y £65 miliwn ei wario, ac ai £25 miliwn yw’r swm i gynnal hynny yn unig, neu a yw’r £25 miliwn yn ychwanegol at hynny er mwyn gallu dechrau gwneud rhywfaint o waith? A sut y mae'r arian hwnnw'n mynd i gael ei wario? Oherwydd rwyf wedi treulio amser yng Nghwmtyleri gyda chydweithwyr yn edrych ar yr hyn a ddaeth i lawr y mynydd a'r hyn sydd wedi digwydd, ac yn siarad â thrigolion. Maent yn poeni ac maent yn ofnus, ac mae arnynt eisiau gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd a phryd y bydd yn digwydd. Felly, os gallwch siarad am amserlenni a sut y byddwch yn blaenoriaethu'r gwaith. Diolch.
Diolch, Delyth, am ddod â hwn gerbron.
Yn dilyn 2020, a Tylorstown, yn amlwg, mae llawer iawn o fuddsoddiad wedi bod ers hynny, ond mae cymunedau fel fy un i a llawer o'r rhai a gynrychiolir yma—mae 14 o ardaloedd awdurdodau lleol yn cael eu heffeithio gan domenni glo yng Nghymru—byddant yn arswydo ar ôl gweld yr hyn sydd wedi digwydd yng Nghwmtyleri yr wythnos hon, gan eu bod wedi cael sicrwydd, ers 2020, fod arolygiadau mwy rheolaidd wedi'u gwneud. Mae clywed bod y domen hon wedi'i harolygu ddiwethaf ym mis Awst—.
Felly, y cwestiwn y mae trigolion yn ei ofyn i mi, a'r cwestiwn yr hoffwn gael ateb iddo heddiw, os gwelwch yn dda, Ddirprwy Brif Weinidog, yw: pa waith sy'n mynd rhagddo i sicrhau yr edrychir ar yr holl domenni hynny eto? Efallai eu bod wedi cael eu harolygu mor ddiweddar â'r mis diwethaf, ond mae angen sicrwydd ar bobl, oherwydd, fel y gwelwch, gyda’r tywydd mwy eithafol, mae’n anrhagweladwy. Rydym hefyd yn gweld llawer o ddatblygiadau cynllunio yn cael eu caniatáu ar gyfer ffermydd gwynt ar fynyddoedd yn agos iawn at domenni glo. Mae rhai o'r adroddiadau wedi dweud nad oes unrhyw sicrwydd na fydd llif y dŵr yn newid ac y gallai fod wedi'i gyfeirio at domenni glo, felly mae pobl yn byw mewn ofn. Nid yw'n fater o wrthwynebu ffermydd gwynt: mae'n ymwneud ag ofni'r hyn y mae hynny’n ei olygu o ran llif dŵr i’r tomenni glo hyn. Ni wyddom ychwaith ble yn union y mae rhai o'r tomenni glo hyn mewn rhai ardaloedd. Felly, byddai unrhyw sicrwydd y gallwch ei roi i’n cymunedau nawr, o ran y gwaith sy’n mynd rhagddo ar unwaith, yn cael ei werthfawrogi, wrth inni edrych, yn fwy hirdymor, ar sicrhau bod y rhain yn cael eu clirio unwaith ac am byth.
Galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig i ymateb i'r ddadl—Huw Irranca-Davies.
Diolch, Dirprwy Llywydd, a diolch hefyd, Delyth, am gyflwyno’r ddadl bwysig hon heddiw, ac i’r Aelodau eraill am eu cyfraniadau gwerthfawr. Fel yr ydych wedi tynnu sylw ato, mae gan Gymru dreftadaeth ddiwydiannol falch. Fodd bynnag, mae llawer o’n cymunedau, gan gynnwys y rhai a oedd unwaith yn pweru’r byd yn ystod y chwyldro diwydiannol, bellach yn cael eu gadael gydag etifeddiaeth anodd sy'n effeithio ar bobl a lleoedd. Ledled Cymru, mae bron 2,600 o domenni glo a thua 1,300 o fwyngloddiau metal, yn ogystal â miloedd o safleoedd sy'n gysylltiedig â mathau eraill o weithgarwch diwydiannol.
A chyda'n hinsawdd sy'n newid, mae'r safleoedd hyn bellach yn peri heriau sylweddol, fel y clywsom, i'n cymunedau a hefyd i'n hecosystemau, gan gynnwys yn ystod y cyfnodau o dywydd eithafol a welsom, ac roedd yn frawychus ei weld. Ni allwn ond dychmygu sut y mae'r bobl sy'n byw yn rhai o'r tai hynny'n teimlo, ac rydym yn deall, wrth gwrs, y bydd llawer o deuluoedd eraill sy'n byw ger tomenni glo nas defnyddir hefyd yn teimlo'n bryderus iawn. Felly, rwyf am ddechrau fy ymateb heddiw trwy rannu fy nghydymdeimlad diffuant unwaith eto â phawb yr effeithiwyd arnynt gan storm Bert y penwythnos diwethaf, gan gynnwys y bobl yng Nghwmtyleri. Siaradais yn fwy manwl am ymateb Llywodraeth Cymru i'r digwyddiadau hynny yn fy natganiad llafar ddoe, ond roeddwn i'n teimlo ei bod hi'n bwysig imi weld yr effaith yng Nghwmtyleri fy hun. Roedd yn arwydd byw iawn o bwysigrwydd y gwaith parhaus a wnawn ar domenni glo, a pha mor bwysig hefyd yw edrych ar y tymor hwy. Mae'n rhaid inni fabwysiadu dull llawer mwy strwythuredig o reoli'r safleoedd hyn a helpu i gadw cymunedau'n ddiogel. Ac mae'n bwysig fod Llywodraeth Cymru, drwy ein diogelwch tomenni glo a thrwy bethau fel ein rhaglenni adfer mwyngloddiau metel hefyd, yn gwneud y gwaith hwn, a helpu i atal llygredd o weithfeydd diwydiannol presennol hefyd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Felly, yn gyntaf, mae rhaglen diogelwch tomenni glo Llywodraeth Cymru yn rhan hanfodol o'r gwaith i fynd i'r afael â chanlyniadau ein gorffennol diwydiannol. Mae'n tanlinellu ein hymrwymiad i ddiogelwch y cyhoedd.
Roedd tirlithriad yn Nhylorstown ym mis Chwefror 2020 ac, yn wir, y digwyddiad yng Nghwmtyleri dros y penwythnos yn ein hatgoffa’n glir sut mae newid hinsawdd yn cynyddu’r risgiau i'n cymunedau glofaol, ac rwy'n deall yn llwyr y pryder y bydd cymaint o deuluoedd a busnesau yn ein cymunedau glofaol yn ei deimlo, yn enwedig yn ystod tywydd garw’r gaeaf.
Nawr, mae'r Aelodau wedi gofyn ynglŷn â'r hyn rydym yn symud ymlaen gydag ef. Wel, ers sefydlu'r rhaglen yn 2020, rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol. Rydym wedi hysbysu'r cyhoedd nawr lle mae'r tomenni hyn wedi'u lleoli ac wedi gwneud y dadansoddiadau risg. Rydym wedi darparu tua £65 miliwn i'r Awdurdod Glo ac awdurdodau lleol, Pred, i fonitro'r tomenni a'u cadw'n ddiogel. Rydym wedi datblygu deddfwriaeth newydd addas i'r diben wedi'i moderneiddio y byddaf yn ei chyflwyno i'r Senedd yn fuan iawn. Bydd hon yn sicrhau rheolaeth hirdymor effeithiol ar y tomenni nas defnyddir hyn ac yn lleihau'r bygythiad i ddiogelwch y cyhoedd. Ac yn ogystal â'r camau hyn, mae'r weithdrefn bresennol ar gyfer arolygu a chynnal a chadw tomenni glo wedi cyflwyno cyfleoedd newydd ar gyfer defnyddio technoleg. Rydym am ddiogelu'r system hon ar gyfer y dyfodol drwy gadw i fyny â datblygiadau technolegol, felly dyna pam ein bod yn cyflawni rhaglen o dreialon technoleg ar hyn o bryd gyda rhywfaint o'r cyllid hwnnw, ar draws mwy na 70 o domenni glo categori C a D, ochr yn ochr â'n partneriaid cyhoeddus. Oherwydd y gwaddol hwn ac oherwydd ein bod yn bachu ar ffyrdd y gallwn ymdrin â'r gwaddol hwn, mae Cymru nawr yn cael ei gweld ar flaen y gad yn hyn o beth. Yn wir, roeddem yn falch o groesawu cymheiriaid o dramor yn ddiweddar i rannu'r hyn a ddysgwyd gennym ac i arddangos y gwaith a wnawn yn rhyngwladol.
Ond mae'n gwbl glir fod angen rhaglen fuddsoddi barhaus ar gyfer tomenni glo, ac rydych chi'n iawn, Heledd, ni all ac ni ddylai Llywodraeth Cymru wneud hyn ar ei phen ei hun. Rydym bob amser wedi honni bod hyn yn ymwneud â risgiau a rennir ledled y DU—y manteision a ddeilliodd o'r meysydd glo hyn. Nawr mae angen inni rannu'r baich o ymateb i'r heriau sydd gennym o'r gwaddol hwnnw. Rydym wedi trafod rôl Llywodraeth y DU yn y Siambr sawl gwaith, ac rwy'n falch fod cyllideb yr hydref yn ddiweddar yn dangos bod y Canghellor—nid ydym wedi clywed hyn o'r blaen, dros y degawd diwethaf a mwy—wedi gwrando arnom o'r diwedd. Dyma'r gyfran gyntaf o £25 miliwn a ddyrannwyd ar gyfer 2025-26. Mae croeso mawr iddo, yn ogystal â'r buddsoddiad a wnaethom yma gan Lywodraeth Cymru. Ond cyfran gyntaf ydyw. Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU cyn ail gam yr adolygiad o wariant, i barhau i ddadlau bod anghenion Cymru ar gyfer y blynyddoedd i ddod hefyd yn cael eu hystyried ac i helpu i wneud tomenni glo nas defnyddir yn ddiogel. A chyda llaw, mae'n rhaid inni ddefnyddio'r arian wrth iddo ddod ar gael yn y ffordd y gallwn, gyda'r gallu i'w ddefnyddio hefyd ar y tomenni sydd â blaenoriaeth. Peredur.
A wnewch chi'r pwynt fod angen i chi flaenlwytho'r arian hwnnw i wneud yn siŵr, oherwydd mae angen inni wneud y tomenni hyn yn ddiogel nawr, a lleihau hwnnw wedyn, yn hytrach na'i gynyddu?
Ie. Byddwn yn sicr yn dadlau'r achos dros fuddsoddiad cynyddol, ac yn unol â'n gallu i'w ddefnyddio hefyd. Y peth gwaethaf yn y byd fyddai cael buddsoddiad wedi'i ollwng arnom na allwn fwrw ymlaen ag ef wedyn, felly rwy'n credu bod gennym raglen y mae angen inni ei rhoi ar waith—gallaf weld bod Rhun eisiau dod i mewn—er mwyn inni allu defnyddio'r arian sy'n dod ar gael. Rhun.
Rydych chi'n gwneud pwynt amlwg mewn gwirionedd, fod yn rhaid i chi gynyddu'r capasiti, ond onid yw'n wir ar yr un pryd fod angen sicrwydd gan Lywodraeth y DU y bydd y cyllid yn cael ei roi yno yn ei gyfanrwydd i wthio'r gwaith yn ei flaen mewn modd mor amserol â phosibl, oherwydd mae'n fater brys?
Rhun, byddwn yn parhau i ddadlau'r achos, ac rwy'n credu bod yr hyn a welsom yma yn wahaniaeth amlwg. Y £25 miliwn yw'r gyfran gyntaf o randaliad, ond fel y dywedasom ar lawr y Siambr ddoe mewn ymateb i ddigwyddiadau diweddar, mae'r gwahaniaeth yn amlwg, y gwahaniaeth diriaethol pan fo Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn codi'r ffôn, pan glywn fod tirlithriad, ac yn dweud, 'Beth y gallaf i ei wneud?' ac rydym yn mynd ar drywydd hynny. Byddwn yn mynd yn ôl at Lywodraeth y DU ac yn dweud, 'Yng ngoleuni digwyddiadau'r penwythnos, beth y gallwn ni ei wneud nawr? Sut y gallwn ni gyflymu'r rhaglen fuddsoddi?' yn unol â'r gallu i'w defnyddio'n gynhyrchiol hefyd. Ond yn y cyfamser, byddwn yn canolbwyntio ar ddarparu'r dyraniad presennol. Mae'n rhaid inni fod yn drefnus. Mae'n rhaid inni fod yn fanwl gywir o ran sut y defnyddir y cyllid hwn ar draws pob safle cymwys yng Nghymru, a chyda llaw, bydd unrhyw dirffurf sy'n cyd-fynd â'r diffiniad y cytunwyd arno o domen nas defnyddir yn cael ei hystyried yn gymwys.
A wnewch chi dderbyn ymyriad ar hynny?
Gwnaf, Ddirprwy Lywydd.
Rwy'n credu bod gennych 15 munud.
Yn fy etholaeth i, nid oes gennym domenni glo, fel y gwyddoch mae'n debyg, ond mae gennym lawer o domenni llechi. Pa fath o asesiad a wnaethoch o ddiogelwch tomenni llechi, ac os oes achos lle gwelwn broblemau yn Ffestiniog, dyweder, neu leoedd eraill, a fyddai'r arian hwnnw ar gael i gymunedau sydd â thomenni llechi?
Gallaf ddod yn ôl gyda mwy o fanylion am yr hyn a wnawn ar domenni llechi hefyd a diogelwch tomenni llechi, oherwydd mae'r un egwyddor yn berthnasol i ddiogelwch unrhyw domenni sydd gennym yng Nghymru, ac rwy'n credu bod rhai o'n ceisiadau rhagarweiniol ar domenni glo hefyd yn berthnasol ar gyfer tomenni eraill yn ogystal lle mae gennym y dreftadaeth ddiwydiannol honno.
Roeddwn i'n mynd i grybwyll y materion sy'n ymwneud ag adfer mwyngloddiau metel hefyd, ond rwy'n mynd i hepgor y rheini ar gyfer heddiw, oherwydd rwyf eisiau mynd i'r afael â rhai o'r pwyntiau a godwyd gan gyfranwyr yn y ddadl. Felly, er ein bod yn ystyried y gwaddol diwydiannol, safleoedd gwaredu gwastraff, mwyngloddiau metel, tomenni glo a mwy, mae'n rhaid mai'r blaenoriaethau trosfwaol yw diogelu iechyd pobl a diogelu'r amgylchedd ehangach. Felly, yn ogystal â'r rhaglen diogelwch tomenni glo, byddwn hefyd yn ceisio ymdrin â safleoedd problemus, gan ddefnyddio'r ddeddfwriaeth sydd gennym ar waith. Nawr, Ddirprwy Lywydd, mae hyn yn cynnwys Rhan 2A o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, lle mae gan awdurdodau lleol, fel y prif reoleiddwyr, ddyletswydd i nodi halogiad tir, a allai beri risg bosibl o lygredd i iechyd pobl neu'r amgylchedd ehangach—i nodi'r rheini yn eu holl ardaloedd. Os pennir bod tir, ar ôl archwilio ac asesu safle, yn dir halogedig, mae dyletswydd arnynt wedyn i sicrhau ei fod yn cael ei adfer yn briodol. Nid wyf yn siŵr—. Efallai y bydd yn rhaid i mi dderbyn pedwerydd ymyriad mewn eiliad, ond fe ddaw fy amser i ben.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn darparu rôl reoleiddiol mewn rhai safleoedd mewn rhai amgylchiadau—felly, er enghraifft, os effeithir ar ddŵr daear. Efallai y gwnaf barhau am ychydig, Delyth, oherwydd mae mwy yr hoffwn ei ddweud ar y mater hwn. Felly, mae'r ddeddfwriaeth Rhan 2A yn gweithredu ar egwyddor mai'r llygrydd sy'n talu, felly mae'r atebolrwydd am adfer naill ai ar berson dosbarth A, y rheini a ganiataodd yn fwriadol i lygrydd fod yn, ar, neu o dan y tir, neu berson dosbarth B, perchennog neu feddiannydd y tir, mewn amgylchiadau lle na ellir dod o hyd i berson dosbarth A. A phan na ellir dod o hyd i'r naill na'r llall—ac mae gennym rai o'r rhain—mae'r safle i bob pwrpas yn dod yn beth sy'n cael ei alw'n safle amddifad. Nawr, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod, yn yr achosion hynny lle nad yw'r llygrwr gwreiddiol bellach mewn bodolaeth, fod adennill costau'n anodd iawn. Fodd bynnag, yn y gorffennol rydym wedi ceisio ysgwyddo rhywfaint o'r baich ariannol gydag awdurdodau lleol i atal deiliaid tai rhag gorfod talu tuag at y costau hyn—felly, er enghraifft, eiddo a gafodd ei effeithio gan hen weithfeydd toddi plwm a chopr yng Nghoed-poeth, Wrecsam, a Chraig y Don, Ynys Môn. Rydym hefyd wedi darparu dros £12 miliwn o gyllid i awdurdodau lleol a CNC drwy ein cynllun grantiau cyfalaf yn ôl disgresiwn ar gyfer tir halogedig, a oedd yn gweithredu rhwng 2005 a 2011 ar rai o'r safleoedd mwyaf halogedig, ac yn fwy diweddar eto pan wnaethom nodi safleoedd eraill yn 2017-18. Roedd hwn yn ei gwneud hi'n bosibl targedu'r safleoedd blaenoriaeth yn seiliedig ar y risgiau yr oeddent yn eu creu, a gwnaethom dargedu hwnnw at 100 o safleoedd i'w harchwilio a'u hasesu. Ac oherwydd hyn, mae 21 o safleoedd ledled Cymru bellach yn cael eu hadfer drwy gyllid grant. Felly, mae yna ffyrdd o'i wneud.
Mae nifer o'r safleoedd, rhai o'r rhai y cyfeirioch chi atynt hefyd, wedi cynnwys safleoedd tirlenwi hanesyddol, fel chwarel Brofiscin a hen safle tirlenwi yn y Groes-faen hefyd. Ac mae'r ddau safle wedyn, yn rhan o'r rhaglen honno, wedi cael gwaith adfer wedi'i wneud arnynt. Fodd bynnag, rwy'n ymwybodol fod rhai safleoedd o hyd, gan gynnwys rhai o'r rhai y cyfeiriwyd atynt yma heddiw, a allai fod mewn perygl o achosi niwed amgylcheddol. Nawr, yn anffodus, roedd y safleoedd hyn yn gweithredu'n wreiddiol heb yr un rheolaethau amgylcheddol, heb yr un fframwaith rheoleiddio ag sydd gennym ar waith heddiw, ac mae honno'n ddadl dros reoleiddio, gyda llaw. Pan fydd rhai pobl yn dweud wrthym am gyfyngu ar reoleiddio, mae'n rhaid inni gael y rheoliadau cywir ar waith yn amgylcheddol. Ceir rhywfaint o dystiolaeth sy'n awgrymu bod nifer fach o'r safleoedd hyn wedi derbyn gwastraff cemegol yn hanesyddol, gan gynnwys, fel y sonioch chi, Delyth, o bosibl—o bosibl—sylweddau sy'n llygru fel biffenyl polyclorinedig neu gyfansoddion cemegol eraill. Felly, mae nifer o awdurdodau lleol wedi buddsoddi cryn dipyn o adnoddau erbyn hyn i fonitro ac asesu'r safleoedd hyn i sefydlu a ydynt yn peri risg annerbyniol.
Felly, er enghraifft, rwyf wedi bod wrthi'n ofalus yn monitro cynnydd y gwaith sy'n cael ei wneud nawr gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn Nhŷ Llwyd—soniwyd amdano yn gynharach yn y ddadl—ger Caerffili. Yn unol â'u dyletswyddau rheoleiddio, maent wedi rhoi cryn dipyn o adnoddau tuag at asesu'r safle a sicrhau nad yw'n peri risg annerbyniol i'r gymuned leol na'r amgylchedd ehangach. Nawr, maent wedi gwneud llawer o waith caled ar hyn ac mae ganddynt lawer o ymroddiad. Mae'r cyngor bellach yn agos at bennu statws rheoleiddio'r safle a pha ymyriadau a allai fod yn ofynnol yn y dyfodol, ac rwy'n credu y byddwn i gyd yn edrych ymlaen at yr hyn y byddant yn ei gyflwyno. Gwn fod rhai Aelodau o'r Senedd wedi ymgysylltu â'r cyngor ar y mater, a diolch iddynt am hynny. A byddant yn ymwybodol o rywfaint o'r gwaith sydd wedi'i wneud. Ond bydd fy swyddogion a sefydliadau partner fel CNC ac Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn parhau i ymgysylltu â'r cyngor ac yn cefnogi eu hasesiad o Dŷ Llwyd. A Ddirprwy Lywydd, rwy'n annog pob awdurdod lleol yng Nghymru i ddilyn yr enghraifft a osodwyd gan Gaerffili i adolygu'n rheolaidd a lle bo angen, i asesu'r safleoedd a allai achosi niwed neu lygredd amgylcheddol.
Ac os caf ddweud hefyd, o dan ddeddfwriaeth Rhan 2A, mae'n ofynnol i awdurdodau lleol gadw cofrestr o dir halogedig yn eu hardaloedd. Mae'r cofrestri hyn ar gael i'r cyhoedd hefyd. Ac yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru, gan weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol, wedi casglu gwybodaeth ychwanegol am safleoedd y gallai halogiad effeithio arnynt. Cyhoeddwyd hyn, Delyth, yn yr adroddiad 'Cyflwr Tir Halogedig' yn ystod 2016. [Torri ar draws.] Ewch amdani, ond mae fy amser yn brin iawn.
Fe fyddaf yn fyr iawn. Diolch yn fawr am hynny. Yr hyn a fyddai'n arbennig o ddefnyddiol yw pe bai modd cael cofrestr a fyddai ar gael yn gyhoeddus i gynnwys nid yn unig y safleoedd y sefydlwyd eu bod yn dir halogedig ond hefyd y rhai sydd naill ai'n destun ymchwiliad neu'r rhai lle nad ydynt, am resymau technegol, yn cyrraedd y meini prawf ond lle mae'n amlwg fod llygredd amgylcheddol o wastraff cemegol wedi bod yno, ond bod y meini prawf yn llym iawn ar hynny weithiau.
O'r gorau. Gadewch imi ystyried hynny gyda fy swyddogion. Yr hyn nad ydych am ei roi allan yno yw gwybodaeth sy'n ddryslyd, yn gamarweiniol neu'n peri pryder diangen i'r cyhoedd, os yw safleoedd yn cael eu hasesu ac yna y dywedir, 'Wel, iawn, nid oes risg y gellir ei nodi yno.' Ond gadewch imi ystyried hynny.
Ddirprwy Lywydd, mae'n bwysig iawn diogelu cenedlaethau'r dyfodol a'r genhedlaeth hon, a'u cael i'r pwynt lle gallwn helpu i osgoi gorfod ymdrin â rhai o'r problemau etifeddol sydd gennym nawr. Rhan o hynny yw sefydlu system reoleiddio gadarn, gan sicrhau bod diwydiant a chwmnïau rheoli gwastraff a gweithredwyr eraill yn rheoli eu cyfrifoldebau amgylcheddol yn drylwyr, ac yn ogystal, fod system gynllunio awdurdodau lleol yn sicrhau bod safleoedd tir llwyd yr effeithiwyd arnynt gan weithgareddau llygru yn y gorffennol yn cael eu harchwilio a'u hadfer fel rhan o'r broses ailddatblygu, gan sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn addas i'r diben. Gyda llaw, telir am y broses hon gan ddatblygwyr y gwefannau hyn. Mae'n ein helpu i adfywio ardaloedd yr effeithiwyd arnynt gan ddefnydd tir yn y gorffennol, gan ddod â hwy'n ôl i ddefnydd buddiol gan ddiogelu cenedlaethau'r dyfodol a'r presennol a defnyddwyr terfynol rhag y llygredd hanesyddol ehangach ar yr un pryd.
Nawr, mae'n ddrwg gen i—
Nid yn aml y byddwch chi'n fy nghlywed i'n dweud hyn, ond mae gennyf ddiddordeb yn y drafodaeth, nid yn unig gwrando ar yr hyn mae'n ei ddweud, ond fel Aelod etholaeth hefyd. Felly, rwy'n mynd i roi ychydig mwy o amser ichi ddirwyn i ben, peidiwch â phoeni.
Diolch. Yn olaf, ni fydd yr heriau a ddaw yn sgil y safleoedd a adawyd ar ôl y gorffennol diwydiannol yn cael eu datrys dros nos, ond bydd yn cymryd amser ac adnoddau pwrpasol i weithio drwyddynt. Fel Llywodraeth, rydym yn defnyddio pob ysgogiad sydd ar gael i ni i ddatblygu’r rhaglenni yr wyf wedi’u hamlinellu heddiw ar fyrder, gan fanteisio ar y cyfleoedd i ymateb i'n hargyfyngau hinsawdd a natur. Rwy’n parhau i fod yn ddiolchgar i’n partneriaid allweddol am eu cymorth i gyflawni a datblygu’r gwaith hwn, yn enwedig yr Awdurdod Glo a’n hawdurdodau lleol. Diolch i Delyth ac Aelodau eraill am y ddadl heddiw.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet, a diolch i Delyth Jewell, a daw hynny â thrafodion heddiw i ben.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:17.