Y Cyfarfod Llawn

Plenary

26/05/2021

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn y Siambr ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, lle bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw, ac mae'r rheini wedi'u nodi ar eich agenda chi. Dwi eisiau atgoffa'r Aelodau fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn berthnasol i'r cyfarfod yma, ac yr un mor berthnasol i Aelodau yn y Siambr ag i'r rhai sy'n ymuno drwy gyswllt fideo. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Dyma ni, felly, yn cyrraedd yr eitem gyntaf, sef y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Rhun ap Iorwerth.

Argaeledd Tai yn Ynys Môn

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am argaeledd tai yn y farchnad leol yn Ynys Môn? OQ56522

Llywydd, diolch yn fawr. Mae pwysau sylweddol o ran nifer y tai sydd ar gael yn Ynys Môn. Yn ogystal â’r camau sydd ar waith yn barod—Cymorth i Brynu, swyddogion galluogi tai gwledig, a’r gronfa safleoedd segur, er enghraifft—byddwn ni’n cyflwyno cynigion newydd i helpu pobl o gymunedau lleol i gael tai, gan gynnwys cymunedau yn Ynys Môn. 

Diolch yn fawr i chi, ac a gaf i eich llongyfarch ar eich ailethol yn Brif Weinidog? A dwi'n meddwl ei bod hi'n briodol iawn bod y cwestiwn cyntaf yn y tymor seneddol newydd yma yn ymwneud â mater sy'n gymaint o argyfwng ac yn un mae pobl yn mynnu gweld gweithredu arno fo. Un cyfraniad cwbl amlwg at yr argyfwng tai ydy'r twf cwbl ddireolaeth yn y farchnad am ail gartrefi. Dwi'n ei weld o bob dydd. Dwi'n ei weld o yn fy mhentref fy hun. Dwi'n ei weld o mewn pentrefi glan môr yn enwedig. Dwi'n ei weld o yn strydoedd gwag a ffenestri tywyll y gaeaf, yn rhwystredigaeth pobl ifanc yn methu fforddio cael cartref yn eu cymuned. Dwi'n ei weld o yn y cynnydd o 16 y cant mewn pris eiddo ar Ynys Môn yn y flwyddyn ddiwethaf. Mae pethau'n mynd yn waeth bob dydd. Ac a gaf i wahaniaethu'n glir rhwng perchnogaeth ail gartrefi a thwristiaeth? Mae twristiaeth gynhenid, wedi'i pherchnogi'n lleol, yn arf economaidd pwysig, ond dydy perchnogaeth ail gartrefi ddireolaeth yn helpu dim. 

Oes, mae angen gwell swyddi efo cyflogau uwch. Oes, mae eisiau adeiladu llawer mwy o dai gwirioneddol fforddiadwy i'w prynu a'u rhentu, ond mae'n rhaid i'ch Llywodraeth chi yn y Senedd yma weithredu ar frys i ddefnyddio pob arf cynllunio a threthiant, ac ati, i geisio dod â rhyw fath o reolaeth ar y farchnad dai, ac i roi rhyw fath o obaith, rhyw fath o siawns i bobl yn ein cymunedau ni. Dwi ac eraill wedi gofyn am weithredu ers blynyddoedd. A gaf i ofyn i chi reit ar ddechrau'r tymor yma i roi ymrwymiad llwyr a chlir, neu mi fydd hi'n rhy hwyr?

Wel, Llywydd, diolch yn fawr i Rhun ap Iorwerth am y cwestiwn yna. Bydd yr Aelod yn gwybod bod hwn—ail gartrefi—yn fater rydw i wedi cynnig gweithio yn drawsbleidiol arno'n benodol. Ysgrifennais at arweinydd Plaid Cymru yr wythnos diwethaf yn cadarnhau bod y Llywodraeth yn barod i ystyried nifer o faterion yn y ffordd honno, a dwi'n edrych ymlaen at y sgwrs rŷn ni'n mynd i'w chael cyn diwedd y prynhawn.

Rydw i wedi gweld cynllun pum pwynt Plaid Cymru, a dwi'n siŵr bod syniadau yn y cynllun yna y byddwn ni'n gallu gweithio arnyn nhw gyda'n gilydd. Dwi'n cytuno gyda beth ddywedodd Rhun ap Iorwerth. Mae'n rhaid i ni ddefnyddio nifer o'r pethau sydd gyda ni ym maes trethi, ym maes cynllunio, a rhai pethau eraill—eu tynnu nhw gyda'i gilydd i drio gwneud gwahaniaeth yn y sefyllfa mae e wedi ei hesbonio y prynhawn yma, ac i'w wneud e, os gallwn ni, trwy gydweithio â'n gilydd. 

Diolch, Prif Weinidog, am eich ymatebion hyd yn hyn i'r pwyntiau pwysig a godwyd gan Rhun. Yn sicr, mae pwysau ychwanegol ar y farchnad dai oherwydd perchnogaeth ail gartrefi, ond, efallai fod perygl o gael ein gweld yn chwarae'r crwth a Rhufain yn llosgi os mai dyna fydd y prif bwyslais mewn ffordd i gefnogi'r maes gwaith pwysig hwn, mae'n debyg mai'r peth pwysicaf i gefnogi hyn fyddai gweld mwy o gartrefi yn cael eu hadeiladu mewn gwirionedd. Felly, er enghraifft, mae asesiad eich Llywodraeth eich hun o angen yn y gogledd yn dweud y dylid adeiladu 1,600 o gartrefi bob blwyddyn am yr 20 mlynedd nesaf. Ar hyn o bryd, dim ond 1,200 o gartrefi y flwyddyn sy'n cael eu hadeiladu. Yn amlwg felly, mae problem yn yr amgylchedd o ran buddsoddi mewn adeiladu cartrefi. Felly, beth fyddwch chi'n bwriadu ei wneud i wella'r amgylchedd hwnnw, i weld mwy o fuddsoddiad, mwy o gartrefi i'w hadeiladu, ac felly mwy o bobl yn cael cyfle i gael gafael ar yr eiddo hynny?

13:35

Wel, Llywydd, nid wyf i'n anghytuno bod cyd-destun ehangach y mae'n rhaid ystyried cwestiwn Rhun ap Iorwerth oddi mewn iddo. Ond roedd yn gofyn yn benodol iawn am y cyfresi hynny o amgylchiadau lle mae perchnogaeth ail gartref mewn perygl o yrru pobl allan o'r cymunedau lleol hynny oherwydd bod prisiau eiddo yn mynd yn rhy ddrud iddyn nhw allu eu prynu oherwydd bod pobl o bellach i ffwrdd sydd â phocedi dyfnach yn gallu gwneud cais. Felly, er bod cyd-destun ehangach, nid dyna oedd pwyslais y cwestiwn a ofynnwyd i mi.

O ran y cwestiwn ehangach ynghylch adeiladu mwy o gartrefi, mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i adeiladu 20,000 o gartrefi carbon isel at ddibenion rhentu cymdeithasol. Yr hyn na fyddwn ni'n ei wneud, Llywydd, yw ni fyddwn yn rhwygo'r amddiffyniadau y mae'r system gynllunio yn eu cynnig i unigolion a chymunedau lleol, fel y cynigir gan ei blaid ef yn Lloegr. Mae'r rhain yn amddiffyniadau pwysig a byddwn yn awyddus i'w gweld yn cael eu parhau yma yng Nghymru. Felly, er ein bod yn adeiladu mwy o dai, sy'n angenrheidiol yn y ffordd y mae cyfrifiadau Llywodraeth Cymru wedi'u nodi, rydym yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n cydbwyso'n briodol yr angen am dai newydd a'r amddiffyniadau sydd gan gymunedau lleol yn briodol, er mwyn sicrhau y gellir diogelu eu dyfodol hwythau hefyd.

Gwn fod y sefyllfa dai yn anodd i drigolion Ynys Môn. Mae wedi bod yn amlwg i mi drwy negeseuon e-bost fod angen mwy o dai fforddiadwy ar breswylwyr—felly, yn yr un modd. Prif Weinidog, rwy'n cymeradwyo Llywodraeth Cymru am gyrraedd ei tharged uchelgeisiol o 20,000 o dai fforddiadwy—dim ond y tymor diwethaf oedd hynny—ac am ymrwymo i adeiladu 20,000 o gartrefi carbon isel eraill y tymor hwn. Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi darparu cyllid trawsnewidiol hefyd ar gyfer tai cymdeithasol i awdurdodau lleol, fel sir y Fflint, lle'r wyf i'n aelod. Ac rydym ni'n bwriadu adeiladu 500 o dai fforddiadwy yn sir y Fflint, gan ganiatáu iddyn nhw adeiladu cartrefi fforddiadwy wrth greu swyddi a phrentisiaethau i bobl leol hefyd—felly mae'n creu swyddi hefyd. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r cynlluniau sydd gan ei Lywodraeth Lafur newydd yng Nghymru ar gyfer adeiladu cartrefi, trwy awdurdodau lleol, er mwyn helpu i fynd i'r afael â phrinder tai yn yr ardaloedd hyn lle mae pobl yn ei chael hi'n anodd fforddio cartref? Diolch.

Lywydd, a gaf i longyfarch yr Aelod ar gael ei hethol i'r Siambr, ac ar ei chyfraniad cyntaf hwn at ein dadleuon, a chyfraniad pwysig ydoedd hefyd? Oherwydd mae ein huchelgais i adeiladu 20,000 o gartrefi ar gyfer rhentu cymdeithasol yn dibynnu ar gapasiti newydd i'n cydweithwyr mewn awdurdodau lleol i adeiladu tai i'w rhentu yn y cymunedau hynny, lle mae'r stociau hynny, yn rhy aml o lawer, wedi'u lleihau gan bolisïau a hyrwyddir gan bleidiau eraill. Ac mae cynlluniau uchelgeisiol mewn nifer o rannau o Gymru i awdurdodau lleol chwarae eu rhan. A bydd y Llywodraeth hon yn sicr, trwy gyllid, ond hefyd trwy'r partneriaethau y byddwn yn eu creu, drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac eraill, yn ceisio sicrhau'r cyfraniad mwyaf y gall awdurdodau lleol ym mhob rhan o Gymru ei wneud i sicrhau bod tai fforddiadwy ar gael i'w rhentu i'r poblogaethau lleol hynny—pobl sy'n gweld eu dyfodol yn y cymunedau hynny ac sy'n awyddus i wybod bod ganddyn nhw dai y gallan nhw ddibynnu arnyn nhw, a fydd yno yn y tymor hir ac a fydd yn caniatáu iddyn nhw chwarae'r rhan y maen nhw'n dymuno ei chwarae wrth adeiladu dyfodol iddyn nhw eu hunain ac i'w cymunedau ehangach.

Blaenoriaethau Economaidd

2. Beth yw blaenoriaethau economaidd uniongyrchol Llywodraeth Cymru ar gyfer tymor y Senedd hon? OQ56527

Lywydd, diolchaf i John Griffiths am hynna. Ymhlith ein blaenoriaethau pwysicaf mae parhau â'r gefnogaeth i fusnesau tra bod yr argyfwng coronafeirws yn parhau a gweithredu ein gwarant pobl ifanc o gynnig o waith, addysg neu hyfforddiant i bawb sydd o dan 25 oed yng Nghymru.

Prif Weinidog, mae canol ein dinasoedd a'n trefi yn bwysig iawn ar gyfer gweithgarwch economaidd a swyddi, ac yn bwysig iawn mewn ffyrdd eraill, fel lleoedd i bobl gyfarfod, o ran yr ymdeimlad hwnnw o falchder lleol ac, yn wir, ymdeimlad o les. Yng Nghasnewydd, fel mewn lleoedd eraill ledled y DU, rydym yn wynebu llawer o heriau yn sgil newidiadau mewn arferion siopa manwerthu i ddigwydd ar-lein. Yn ddiweddar, mae Debenhams wedi cau. Ond mae llawer o waith da yn cael ei wneud: prosiect mawr i ailwampio marchnad Casnewydd, gwesty newydd mawr a llawer o bethau eraill hefyd. Mae'r gwaith da hwnnw, Prif Weinidog, o ganlyniad i waith partneriaeth cryf rhwng Cyngor Dinas Casnewydd, Llywodraeth Cymru, busnesau ac eraill, ac mae wedi arwain at lawer o ddatblygiadau preswyl newydd, darpariaeth gwasanaethau a darpariaeth hamdden yng nghanol y ddinas. Ond, wrth gwrs, rydym yn wynebu heriau newydd erbyn hyn yn sgil y pandemig a'r newid parhaus ym maes manwerthu. Felly, Prif Weinidog, tybed a wnewch chi roi sicrwydd heddiw y bydd y gwaith partneriaeth cryf—cryf iawn—hwnnw rhwng Llywodraeth Cymru, Cyngor Dinas Casnewydd a phartneriaid eraill yn parhau ac yn cynnal y newid hwnnw yr ydym wedi ei weld eisoes, a sicrhau bod canol dinas Casnewydd yn addas i ateb heriau'r dyfodol.

13:40

Wel, Llywydd, a gaf i ddiolch i John Griffiths am hynna? Mae e'n cyfeirio at her polisi cyhoeddus wirioneddol ein cyfnod ni. Roedd dyfodol manwerthu ar ein strydoedd mawr eisoes yn un heriol cyn y coronafeirws, ac mae hynny'n sicr wedi ychwanegu at yr heriau y mae'r sector hwnnw'n eu hwynebu. Ond mae John Griffiths yn iawn, Llywydd, mai'r hyn y mae hynny'n ei olygu yw bod yn rhaid i ni ail-ddychmygu’r dyfodol, nid ceisio ail-greu'r gorffennol yn y presennol, a bydd hynny'n golygu ystod ehangach o weithgareddau a fydd yn dod â phobl i ganol trefi a chymunedau a dinasoedd, gan gynnwys defnydd preswyl o'r canol trefi hynny, math gwahanol o weithgareddau manwerthu a gweithgareddau eraill hefyd.

Yn ystod mis Ebrill, fe wnes i lwyddo i ymweld â chanol dinas Casnewydd gyda Mr Griffiths, ac fe wnaethom gyfarfod â busnesau yno a oedd wedi agor yn ystod y pandemig ac a oedd yn dangos ei bod hi'n dal i fod yn bosibl i'r busnesau hynny lwyddo, gan ddefnyddio'r buddsoddiadau y mae Llywodraeth Cymru a gweithredwyr lleol eraill wedi'u gwneud i ail-greu canol dinas Casnewydd, boed hynny'n fuddsoddiad yn y farchnad, yn y llyfrgell, yn y ganolfan hamdden neu yng ngwesty'r Chartist Tower, y cyfeiriodd John Griffiths ato. Ond mae hefyd yn cynnwys y brifysgol, gan sicrhau bod bywyd yng nghanol y ddinas honno a fydd yn denu mwy o bobl iddi.

Ac, i ateb ei gwestiwn sylfaenol ynghylch pa un a fydd y dull partneriaeth yr ydym wedi ei ddefnyddio i ailddatblygu canol trefi dros y pum mlynedd diwethaf yn parhau yn y tymor hwn, yna, bydd, yn sicr dyna'r ffordd y byddwn yn blaenoriaethu gwaith adfywio dinasoedd a threfi: partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, busnesau eu hunain a phartneriaid mawr eraill yn y sector cyhoeddus sy'n gallu gwneud y gwahaniaeth hwnnw a sicrhau bod gan y canolfannau hynny fywyd a fydd yn denu pobl iddyn nhw yn y dyfodol.

Diolch, Llywydd, ac a gaf i achub ar y cyfle hwn i'ch llongyfarch ar eich ailethol ac, yn yr un modd, i'r Prif Weinidog. Prif Weinidog, y llynedd, cafodd Stryd Fawr Treorci ei henwi yr orau yn y DU a chafodd ei chanmol am ei siopau annibynnol a'i hysbryd cymunedol. Fodd bynnag, mae'n peri siom nad yw'r llwyddiant hwnnw wedi'i wasgaru'n gyfartal ar draws Canol De Cymru. Yn ddiweddar, cafodd Tonypandy a'r Porth eu henwi ymhlith yr 20 tref fwyaf agored i niwed economaidd yn y DU. Yn anffodus, mae'r pandemig wedi gwaethygu'r anghydraddoldebau presennol hyn hyd yn oed ac wedi tynnu sylw at yr angen am gynllun beiddgar, uchelgeisiol i helpu'r stryd fawr i godi yn ôl ar ei thraed ac i ddarparu swyddi lleol da i bobl leol. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi fod angen i ni roi hwb i fusnesau bach er mwyn cefnogi'r stryd fawr ledled Cymru, trwy sefydlu parthau sy'n rhydd o ardrethi busnes, a diwygio ardrethi busnes fel nad ydyn nhw'n dreth hen ffasiwn ar dwf mwyach? Diolch.

Wel, diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna ac am ei agoriad hael iddo. Yn ystod mis Ebrill, fe lwyddais i ymweld â strydoedd mawr Treorci a Thonypandy. Siaradais â llawer o fusnesau yno, Llywydd, ac mae gwersi y gall gwahanol gymunedau eu dysgu oddi wrth ei gilydd lle mae llwyddiant wedi ei gyflawni ac yna cymhwyso rhai o'r gwersi hynny mewn mannau eraill. Ac roedd yn wych cael y cyfle i fod yno gyda fy nghyd-Aelod Buffy Williams a chael y sgyrsiau hynny.

Nawr, mae busnesau yng Nghymru, Llywydd, yn gwybod bod ganddyn nhw wyliau rhyddhad ardrethi i fusnesau bach o 12 mis am y flwyddyn gyfan i ddod ac mae hynny'n wahaniaeth llym i'r hyn a fydd yn digwydd dros ein ffin, wrth gwrs, lle bydd yn rhaid i'r busnesau hynny ddechrau talu ardrethi unwaith eto hanner ffordd drwy'r flwyddyn ariannol hon.

Rwy'n cytuno bod angen ailystyried y system gyfan o ran sut yr ydym yn codi trethi lleol, ond nid yw hynny'n ddadl yn erbyn codi trethi lleol. Mae busnesau'n elwa ar yr holl wasanaethau cyhoeddus sy'n caniatáu iddyn nhw fasnachu'n llwyddiannus, boed hynny'n adeiladu ffyrdd a phalmentydd sy'n arwain eu cwsmeriaid atyn nhw, boed hynny'n sicrhau pan fydd eu gweithwyr yn sâl eu bod yn gallu defnyddio'r gwasanaeth iechyd gwladol, neu boed hynny drwy'r buddsoddiad mawr yr ydym ni'n ei wneud mewn addysg a sgiliau i sicrhau bod gweithlu ar gael ar gyfer y dyfodol. Mae busnesau'n elwa ar hynny i gyd ac mae'n iawn eu bod nhw'n cyfrannu at yr amodau sy'n caniatáu iddyn nhw lwyddo. Mae'r modd yr ydym yn gwneud hynny, rwy'n cytuno, yn fater gwahanol, ac mae nifer o syniadau mewn gwahanol rannau o'r Deyrnas Unedig y byddwn yn awyddus i'w hystyried wrth i ni feddwl am ffyrdd y gallwn wneud y system honno'n fwy effeithiol ar gyfer y dyfodol.

13:45

Diolch yn fawr iawn, Madam Llywydd, a llongyfarchiadau i chi ar gael eich ethol a llongyfarchiadau i'r Prif Weinidog yn yr un modd.

Fy nghwestiwn i yw hwn: a fyddai'r Prif Weinidog yn cytuno â fi fod heriau economaidd arbennig yn wynebu cymunedau gwledig Cymru sydd angen mynd i'r afael â nhw fel mater o frys? Fe fydd e, wrth gwrs, yn ymwybodol bod lefelau incwm y pen a lefelau sgiliau yn yr ardaloedd hyn yn is na chyfartaledd Cymru, ac mae'n hysbys iddo hefyd fod yr argyfwng ail gartrefi—fel rŷn ni wedi clywed yn barod gan Rhun ap Iorwerth—a'r diffyg tai fforddiadwy ynghyd â diffyg swyddi o ansawdd yn arwain at allfudo gan bobl ifanc, sy'n cael effaith niweidiol ar ddemograffeg a'r ffabrig cymdeithasol. Ac mae effaith hyn wrth gwrs yn niweidiol iawn i'r iaith Gymraeg mewn ardaloedd lle mae'r Gymraeg yn para i fod yn iaith fyw. Felly, ydy'r Prif Weinidog yn barod i dderbyn bod angen i'r Llywodraeth roi blaenoriaeth i ddatblygu strategaeth a chynllun gweithredu penodol i adfywio ein hardaloedd gwledig, lle mae'r holl elfennau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol yn gallu dod at ei gilydd mewn ffordd integredig a holistaidd? Achos, ar ôl 22 o flynyddoedd, does yna ddim ffocws penodol, mor bell â dwi'n gwybod, Brif Weinidog, wedi cael ei roi i'n hardaloedd gwledig ni. Ydy e'n cytuno bod angen i hyn newid?

Diolch yn fawr i Mr Campbell am y cwestiwn yna, ac, wrth gwrs, mae'r cyd-destun yn heriol i bob cwr o Gymru ar ôl y pandemig. Mae lot o her yn yr ardaloedd gwledig, fel y mae Cefin Campbell wedi sôn amdani, ond mae'n heriol, dwi'n gallu dweud wrtho fe, yng Nglan yr Afon yn fy etholaeth i yng nghanol y ddinas. Mae'r heriau yn wahanol, ond mae'r heriau yna ym mhob man. Dwi ddim cweit yn cytuno ag e, dros y cyfnod o ddatganoli i gyd, nad ydym wedi canolbwyntio ar bethau gwledig. Roedd y Llywydd ei hun yn Weinidog dros gefn gwlad yn Llywodraeth Cymru'n Un, ac, yn y tymor diwethaf, roeddem ni'n defnyddio adroddiad gan Rhodri Glyn Thomas ar sut y gallwn ni ddefnyddio'r iaith Gymraeg fel rhywbeth sy'n gallu hybu datblygiad economaidd yn y gorllewin. So, rŷn ni wedi gwneud nifer o bethau pwysig. Wrth gwrs, mae yna fwy rŷn ni'n gallu ei wneud, a dwi'n edrych ymlaen at drafod gydag Aelodau ar lawr y Senedd syniadau i helpu cefn gwlad Cymru, cymunedau gwledig a chymunedau eraill sy'n wynebu dyfodol sy'n heriol pan fyddwn ni'n treial dod mas o'r cyfnod anodd diwethaf.

13:50
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies. 

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, rwyf wedi arfer â chael fy nghyfran deg o benawdau negyddol yn y Western Mail, ond yr wythnos diwethaf cyhoeddodd y Western Mail bennawd a oedd yn dweud bod busnesau wedi cael cyllell yn eu cefnau gan Drakeford. Aeth ymlaen ar y tu mewn i ddweud eu bod yn teimlo eu bod wedi cael eu dyrnu yn eu boliau gan Lywodraeth bresennol Cymru. Ydych chi'n credu bod hynny'n adlewyrchiad teg o'r cymorth yr ydych chi wedi ei roi i fusnesau ers i'r pandemig ddechrau?

Wel, roedd y pennawd yn ddyfyniad o ddatganiadau i'r wasg a gyhoeddwyd gan ei blaid ef. [Chwerthin.] Efallai y dylai ddarllen ei ddatganiadau ei hun i'r wasg cyn iddo ddarllen y Western Mail, Llywydd. Mae fy rhoi i mewn pennawd yn y papur newydd a ysbrydolwyd gan ei blaid ef ei hun fel pe byddai hyn rywsut yn sylw teg, wel, yn wir, nid yw hynny'n ddechrau da, nac ydyw, i'w gwestiwn cyntaf ar y llawr yn y fan yma. A yw'n sylw teg? Wrth gwrs nad ydyw.

Mae'n sylw teg iawn oherwydd, mewn gwirionedd, daeth y sylw hwnnw gan berchennog busnes yn y gogledd, Prif Weinidog; nid oedd yn sylw o ddatganiad i'r wasg gan y Ceidwadwyr—

—ond rydym ni wedi rhoi sylwadau ynghylch y diffyg cymorth yr ydych chi wedi ei roi ar y bwrdd i fusnesau ar hyd a lled Cymru. Pam nad ydych chi wedi rhoi cymorth ar gyfer grantiau cychwyn busnes i sicrhau y gall busnesau ail-gyfalafu eu hunain? Rydym ni'n gwybod bod gennych chi £140 miliwn heb ei ddyrannu o hyd o'r £200 miliwn a nodwyd gennych yn ystod ymgyrch yr etholiad. Onid yw'n adlewyrchiad teg bod angen ail-gyfalafu busnesau? A phan eich bod yn cael sylwadau fel yna, nid sylwadau gwleidyddion yw hynny—perchnogion busnes eu hunain yw hynny yn dweud eu bod yn teimlo eu bod wedi eu siomi gan Lywodraeth Cymru. Felly, a wnewch chi heddiw amlinellu'r hyn y byddwch yn ei wneud gyda'r £140 miliwn ychwanegol sydd ar gael gennych chi yng nghyllideb Llywodraeth Cymru i gefnogi busnesau yma yng Nghymru?

Wel, Llywydd, mae cwestiwn mwy synhwyrol yn y cyfraniad yna, ond gadewch i mi roi ychydig o ffeithiau ar y cofnod yn gyntaf. Yma yng Nghymru rydym ni wedi dyrannu £2.3 biliwn mewn grantiau coronafeirws a rhyddhad i fusnesau yng Nghymru. Beth ydym ni wedi ei gael gan ei Lywodraeth ef yn San Steffan ar gyfer ariannu'r £2.3 biliwn hwnnw? Rydym ni wedi cael £1.9 biliwn mewn symiau canlyniadol busnes. Os mai ei gynnig o ddifrif o'i sefyllfa eisteddog yw y dylem ni fod wedi defnyddio arian a roddwyd i ni ar gyfer gofal coronafeirws i gleifion i roi—[Torri ar draws.] Llywydd, rwy'n clywed arweinydd yr wrthblaid yn dweud wrthyf ein bod ni wedi cael £6 biliwn gan Lywodraeth y DU, fel petai hynny i gyd ar gael i fusnesau. Ai ei gynnig o ddifrif yw y dylem ni fod wedi defnyddio'r arian a roddwyd i ni at ddibenion profi, olrhain, diogelu, at ddibenion brechu, at ddibenion dal i fyny yn ein hysgolion—y dylai hynny i gyd fod wedi ei ddefnyddio ar gyfer cymorth busnes yng Nghymru? Os mai dyna ydyw, gadewch iddo ddweud hynny. Ei fod yn ddewis y gallai ef fod wedi ei gynnig. Fodd bynnag, nid wyf i'n tybio ei fod o gwbl. Rydym ni wedi cael £1.9 biliwn mewn symiau canlyniadol, ac rydym ni wedi darparu £2.3 biliwn—£400 miliwn yn fwy—i fusnesau yng Nghymru nag y bydden nhw wedi ei gael pe bydden nhw wedi bod yr ochr arall i'r ffin.

Nawr, mae ei gwestiwn ynglŷn â sut yr ydym ni'n defnyddio'r arian sy'n dal i fod wedi ei neilltuo yn un pwysig, ac mae fy nghyd-Aelod Vaughan Gething, mi wn, yn gweithio gyda'i swyddogion i gynllunio'r defnydd gorau o'r arian hwnnw ochr yn ochr â busnesau sydd wedi teimlo'r effaith fwyaf ac yn enwedig y busnesau hynny y bydd cyfyngiadau coronafeirws yn parhau i effeithio fwyaf arnyn nhw. Mae'n rhaid i ni symud ymlaen o gyfnod pan oedd angen cymorth ar bron bob busnes i ganolbwyntio'r cymorth hwnnw ar y rhai hynny y mae amgylchiadau yn golygu nad ydyn nhw'n gallu ailddechrau gweithredu'n llawn. Dyna'r sgwrs yr ydym ni'n ei chael. Dyna sut y byddwn ni'n ail-grynhoi'r cyllid hwnnw. Rwy'n awyddus iddo fynd i ble y bydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf.

Rwy'n sylweddoli bod y Prif Weinidog yn dymuno defnyddio tactegau dargyfeiriol dro ar ôl tro, ond mae'n ffaith bod y sylwadau a gyflwynais i chi yn sylwadau gan berchnogion busnes eu hunain sy'n teimlo eu bod wedi cael eu dyrnu yn eu boliau neu gael cyllell yn eu cefnau gan y Llywodraeth bresennol, sef eich Llywodraeth chi, Prif Weinidog. Mae'n ffaith bod yr arian hwnnw gennych chi heb ei ddyrannu yn y gyllideb, ac mae angen yr arian hwnnw ar fusnesau nawr. Nid oes angen iddyn nhw aros mis arall, chwe wythnos arall. Busnesau eu hunain yw'r rhain sy'n dweud bod angen yr arian arnyn nhw nawr, oherwydd bod angen iddyn nhw ail-gyfalafu ar ôl bod yn y rhan o'r Deyrnas Unedig a oedd wedi cau am y cyfnod hwyaf, oherwydd fe wnaethom ni gau cyn i rannau eraill o'r Deyrnas Unedig wneud hynny.

Ond maes pwysig arall o'r economi i gael cysur gan Lywodraeth Cymru a dealltwriaeth o'r rheolau a'r rheoliadau yw'r sector lletygarwch a'r sector digwyddiadau, yn bwysig. Ac rwy'n gwerthfawrogi bod angen cydbwyso gofalus iawn yn hyn o beth, gan ein bod ni'n gwybod bod yr amrywiolyn Indiaidd yn cael gafael mewn rhannau o'r Deyrnas Unedig ac, yn wir, yma yng Nghymru. Ond beth yw barn y Prif Weinidog ar y rheoliadau y bydd yn rhaid i'r sectorau digwyddiadau yn arbennig ymdrin â nhw wrth symud ymlaen, pan ein bod yn gwybod bod gan rannau eraill o'r Deyrnas Unedig ddyddiad, sef 21 Mehefin? Rwy'n sylweddoli y gallai'r dyddiad hwnnw symud, Prif Weinidog; rwy'n sylweddoli y gallai'r dyddiad hwnnw symud. Ond rwy'n nodi heddiw fod rheolwr y Celtic Manor—[Torri ar draws.]—mae rheolwr y Celtic Manor yn dweud nad ydyn nhw'n gallu denu busnesau i Gymru oherwydd y rheolau presennol sy'n bodoli. Felly, ydych chi'n gallu cynnig unrhyw ddarlun i ni o'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu i bethau weithio ddiwedd yr haf a dechrau'r hydref, gyda'r cyfyngiadau y mae'n rhaid i'r sector digwyddiadau a'r sector lletygarwch eu gweithredu yma yng Nghymru?

13:55

Llywydd, byddaf yn ymdrin â rhan gyntaf cwestiwn yr Aelod yn gyntaf. Felly, un o'r penderfyniadau cyntaf a wnes i wrth ailddechrau yn y swydd hon ar ôl yr etholiad oedd rhyddhau £66 miliwn o'r £200 miliwn hwnnw i fynd yn uniongyrchol i fusnesau yng Nghymru. Erbyn diwedd yr ail ddiwrnod ar ôl agor y gronfa honno, roedd bron i 2,000 o geisiadau wedi eu derbyn am £10.1 miliwn, ac, erbyn heddiw, mae dyfarniadau eisoes wedi eu cynnig i'r cyntaf o'r busnesau hynny a wnaeth gais, a bydd yr arian hwnnw gyda nhw erbyn dechrau'r wythnos nesaf. Bwriad yr arian hwnnw yw cefnogi'r busnesau hynny trwy fis Mai a thrwy fis Mehefin hefyd, ac ar yr adeg honno byddwn yn gallu cytuno, trwy drafodaethau gyda'r sectorau, ar y ffordd orau o ddefnyddio rhywfaint o'r arian a fydd yn weddill bryd hynny. Felly, hoffwn i fod yn glir gyda'r Aelodau nad oes unrhyw fusnes nad yw'n gallu hawlio cymorth. Mae busnesau eisoes yn hawlio cymorth o'r £66 miliwn. Mae penderfyniadau i ddyfarnu cyllid eisoes wedi eu gwneud, ac mae'r arian ar ei ffordd iddyn nhw.

Mae'n bwynt pwysig iawn y mae'r Aelod yn ei godi ynghylch lletygarwch a'r sector digwyddiadau, a hoffwn pe gallwn i roi ateb mwy pendant iddyn nhw nag y gallaf ei wneud. Rydym ni wedi symud i gyfyngiadau lefel 2. Bydd y Cabinet yn ystyried, yr wythnos hon a'r wythnos nesaf, a yw hi'n ddigon diogel yng Nghymru i symud i gyfyngiadau lefel 1 ai peidio, a byddai hynny'n rhoi mwy o ryddid i'r sectorau lletygarwch a digwyddiadau i allu ailgychwyn eu busnesau. Wrth gwrs, dyna'r hyn yr ydym ni eisiau ei weld yn digwydd. Rydym ni eisiau bod mewn sefyllfa ddigon cryf i'r sectorau hynny allu ailagor yn ddiogel a gallu denu cwsmeriaid yn ôl atyn nhw. Rwy'n gwybod, yn y cwestiwn nesaf, Llywydd, y byddwn ni'n sôn am ddigwyddiadau arbrofol yr ydym yn eu cynnal i ddysgu gwersi ynghylch y modd gorau o allu gwneud hynny. Ond mae'r cyd-destun yr ydym yn gwneud y penderfyniadau hynny ynddo yn un gwirioneddol heriol.

Mae amrywiolyn India o'r coronafeirws eisoes yng Nghymru, fel y cydnabu arweinydd yr wrthblaid. Dros ein ffin, mae bellach yn lledaenu yn y gymuned. Mae'n dyblu bob pump i saith diwrnod yn y cymunedau hynny. Rydym ni'n gwybod ei fod yn fwy trosglwyddadwy. Rydym ni'n gwybod bod y brechlyn yn llai effeithiol wrth ymdrin ag ef. Cyhoeddodd Ysbyty Brenhinol Bolton apêl ddoe gan ei brif weithredwr i gleifion beidio â mynd yno, oherwydd y pwysau sydd ar yr ysbyty oherwydd yr achosion o goronafeirws yn y ddinas honno: wyth o bobl mewn gofal critigol yn yr un ysbyty hwnnw yn Lloegr—mwy na dwywaith nifer y bobl mewn gofal critigol yng Nghymru gyfan. Mae'n rhaid i ni symud ymlaen yn ofalus iawn, gan edrych ar y cyd-destun hwnnw, gan weld unrhyw effaith a allai fod yng Nghymru, ac yna gwneud penderfyniadau sydd mor ddefnyddiol i'r sector ag y gallwn eu gwneud, heb wneud yr hyn y mae'r sector ei hun wedi ei ofyn i ni drwy'r holl beth: peidio â chanfod ein hunain mewn sefyllfa lle mae'n rhaid i ni gau'r sector unwaith eto ar ôl ei agor. Fel y dywedodd arweinydd yr wrthblaid, mae'n gyfres o arfarniadau y mae angen ei cydbwyso'n fanwl, a byddwn yn parhau i wneud yr arfarniadau hynny yn ystod yr wythnos nesaf wrth i ragor o ddata ddod i law am yr hyn sy'n digwydd dros ein ffin a'r niferoedd yr ydym yn eu gweld yma yng Nghymru erbyn hyn.

Diolch, Llywydd. Pleidleisiodd pobl Cymru y mis hwn gan fwy na 2:1 dros bleidiau a safodd ar lwyfan i roi mwy o bwerau i'r Senedd. Ymateb San Steffan i'r mandad hwn hyd yma fu nid yn unig ei anwybyddu ond ceisio ei wrthdroi. Mae ganddyn nhw gynllun i Gymru;  ond nid yw'n ein cynnwys ni. Osgoi'r Senedd o ran disodli cronfeydd yr Undeb Ewropeaidd; ailfrandio Trafnidiaeth Cymru yn 'Great British Railways'; Cymru i gael porthladd rhydd, pa un a ydym ni eisiau hynny ai peidio, ac efallai hyd yn oed dwnnel yn y môr Celtaidd, wedi ei grybwyll heb ymgynghori a chael ei adeiladu, yn ôl pob tebyg, yn yr un modd â ffordd liniaru'r M4, heb ein cydsyniad ni. Os byddwch yn ychwanegu Bil y farchnad fewnol, cytundeb masnach Awstralia, a chanolfan Llywodraeth y DU wedi ei llunio yn ôl pob golwg fel rhyw gadarnle imperialaidd at y rhestr, onid yw'n ymddangos fwyfwy fel diddymu yn llechwraidd?

14:00

Wel, Llywydd, mae'n rhaid i mi gytuno ag arweinydd Plaid Cymru fod y rhestr o gyhuddiadau yn erbyn Llywodraeth bresennol y DU yn un hir a difrifol. Y cynllun honedig i Gymru—cynllun a wnaed ar gyfer Cymru heb Gymru: heb unrhyw sgwrs â Llywodraeth Cymru wrth ei lunio; dim gwahoddiad hyd yn oed i unrhyw sgwrs gyda'r Ysgrifennydd Gwladol cyn ei gyhoeddi, na hyd yn oed wahoddiad i'w lansiad. Mae'n rhaid i mi ddweud, roedd yn fwriadol, roedd yn herfeiddiol a dyna'r hyn y bwriadwyd iddo fod. Nawr, dywedaf wrth yr Aelodau ar feinciau'r Ceidwadwyr yn y fan yma, os ydym ni o ddifrif ynglŷn â dyfodol y Deyrnas Unedig—ac rwyf i yn sicr o ddifrif ynglŷn â'r pwnc hwnnw—ni allwn ffurfio dyfodol iddi os yw Llywodraeth y DU yn credu mai'r ffordd o wireddu'r dyfodol hwnnw yw trwy geisio gwyrdroi y setliadau y cytunwyd arnyn nhw mewn dau refferendwm yma yng Nghymru. Ac eto, bob dydd—bob dydd—dyna maen nhw'n ei wneud. Ac wrth iddyn nhw wneud hynny, bydd pobl sy'n credu mewn gwahanu Cymru oddi wrth y Deyrnas Unedig yn dod o hyd i'r dadleuon y mae arweinydd Plaid Cymru wedi eu gwneud eisoes y prynhawn yma.

[Anghlywadwy.]—enghraifft arall. Mae ymosodiad diweddaraf San Steffan ar ddemocratiaeth Cymru yn ymwneud â bonws o £500 i staff iechyd a gofal yng Nghymru. Heb fod yn fodlon ar ei drethu, mae'n ymddangos erbyn hyn fod San Steffan yn ei ddefnyddio fel esgus i dorri budd-daliadau pobl. Felly, yn hytrach na chael bonws i ddweud diolch, bydd llawer o weithwyr yn cael eu cosbi trwy ddidyniad o hyd at 63 y cant yn eu credyd cynhwysol. Wrth gwrs, pe byddem ni yn rheoli ein polisi lles a threth ein hunain yn y fan yma, ni fyddai hyn yn digwydd o gwbl. Nawr, fe wnaethoch chi ailadrodd yn ddiweddar, Prif Weinidog, eich gwrthwynebiad personol i ddatganoli treth a budd-daliadau mewn ffordd gyfanwerthol, oherwydd, i chi, maen nhw'n rhan o'r glud sy'n dal y Deyrnas Unedig gyda'i gilydd. Efallai, serch hynny, y gallech chi hyd yn oed gyfaddef erbyn hyn fod y glud hwnnw yn mynd yn gwbl ansefydlog. Beth yw barn gyfunol Llywodraeth newydd Cymru ar ddatganoli lles?

Wel, Llywydd, bydd yn rhaid i mi awgrymu'n garedig i arweinydd Plaid Cymru fod yr etholiad ar ben, a chafodd y syniad o annibyniaeth ei brofi'n drylwyr iawn yn yr etholiad hwn ac fe wnaeth pobl yng Nghymru eu penderfyniad ar y mater hwnnw.

Felly, polisi fy mhlaid i ar y system fudd-daliadau yw y dylem ni archwilio o ddifrif, fel y gwnaeth John Griffiths ar ein rhan wrth arwain y pwyllgor llywodraeth leol yn y Senedd ddiwethaf, ddatganoli gweinyddu rhannau o'r system fudd-daliadau. Ond dylai'r system fudd-daliadau ei hun fod yn beiriant ailddosbarthu ar draws y Deyrnas Unedig gyfan. Nid yw'r ffaith ei bod o dan reolaeth dros dro plaid nad yw'n ei ystyried yn y ffordd honno yn feirniadaeth o'r potensial y bu gan y system honno erioed i symud arian oddi wrth y rhai sydd â mwy nag sydd ei angen arnyn nhw i'r rhai y mae arnyn nhw angen mwy ohono i gynnal ffordd o fyw gyffredin. Rwy'n credu bod hynny'n dal i fod yn un o'r pethau sydd â'r potensial i ddal y Deyrnas Unedig at ei gilydd.

Rwy'n gresynu'n fawr ein bod ni wedi methu â dwyn perswâd ar Lywodraeth y DU i beidio â threthu'r cyfandaliad yr ydym ni wedi gallu ei ddarparu i weithwyr gofal cymdeithasol. Ac mae'r ffaith ei fod yn cael ei ddefnyddio fel tystiolaeth o incwm ar gyfer y system fudd-daliadau yn ergyd fwy fyth i'r bobl hynny sy'n gweithio bob dydd yn y sector hwnnw i ennill bywoliaeth ac yn gweld bellach fod yr arian a roddwyd iddyn nhw gan Lywodraeth Cymru yn cael ei dynnu oddi arnyn nhw gan Lywodraeth y DU drwy gredyd cynhwysol.

Efallai fod yr etholiad ar ben, Prif Weinidog, ond mae gwaddol chwerw tlodi dwfn ac anghydraddoldeb yn ein cymunedau, sy'n cael ei roi i ni gan y Deyrnas Unedig hynod anghyfartal hon, mae hynny'n parhau. Y 31 y cant o'n plant yng Nghymru sy'n byw mewn tlodi: sut gallwch chi ddadlau bod yr undeb wedi bod yn rym er lles dilyffethair iddyn nhw? Cyferbynnwch hynny â Seland Newydd: yn ystod yr wythnos ddiwethaf, pasiwyd cyllideb llesiant radical gan y Llywodraeth yno a fydd yn lleihau tlodi plant eleni i hanner y lefel yng Nghymru. Llywodraeth Lafur yw honno, ond mewn gwlad annibynnol sydd â'r pŵer i ddewis ei dyfodol ei hun.

Nawr, rydych chi fel Llywodraeth wedi addo arwain sgwrs ddinesig genedlaethol newydd ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru. A fydd hi'n sgwrs wirioneddol agored—yn agored i bosibiliadau annibyniaeth ac, ie, yr heriau hefyd? Yn agored iddo o leiaf fel cynllun B, os bydd Cymru'n dweud 'ie' i ffederaliaeth radical, ond mae San Steffan yn parhau i ddweud 'na' wrth Gymru. Nawr, byddai honno'n sgwrs y byddwn i a'm plaid yn falch o ymuno â hi.

14:05

Wel, Llywydd, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at allu datblygu cynlluniau ar gyfer y sgwrs ddinesig honno. Rwy'n awyddus i wneud hynny gyda phleidiau ar draws y Siambr gyfan sydd â diddordeb o ddifrif yn nyfodol y Deyrnas Unedig a lle Cymru ynddi. Nid wyf am ddiffinio unrhyw syniadau o'r sgwrs honno oherwydd, os yw'n sgwrs ddinesig, bydd gan ddinasyddion y gallu i wneud y cyfraniad hwnnw. Bydd yr holl bosibiliadau hynny yn gallu cael eu trafod oddi mewn iddi.

Hoffwn i ddweud unwaith eto, Llywydd, ein bod ni wedi cael etholiad lle nad oedd modd i'r dewis fod yn gliriach. Roedd pleidiau a oedd yn credu y dylid diddymu'r sefydliad cyfan hwn, ac y dylid trosglwyddo'r gwaith o lywodraethu Cymru yn ôl i San Steffan. Ni wnaethon nhw lwyddo i gael cefnogaeth i gael eu cynrychioli yn y fan yma. Roedd plaid a oedd yn credu y dylid tynnu Cymru allan o'r Deyrnas Unedig. Os bydd unrhyw blaid yn sefyll ar y cynnig hwnnw ac yn ennill etholiad, yna mae ganddi fandad i fynd ar drywydd hynny. Ond, tan y bydd hi wedi ennill etholiad, ni all ddisgwyl i ganolbwynt y drafodaeth ynghylch ein dyfodol gael ei lusgo i gynnig a fethodd ag ennyn cefnogaeth digon o bobl yng Nghymru i roi mwyafrif iddi yma ar lawr y Senedd.

Digwyddiadau Prawf Peilot

3. Pa wersi mae Llywodraeth Cymru wedi eu dysgu o'r digwyddiadau prawf peilot er mwyn datblygu prosesau a chanllawiau a fydd yn caniatáu i ddigwyddiadau ddychwelyd yn ddiogel yng Nghymru? OQ56529

Llywydd, diolch i Llyr Gruffydd am y cwestiwn. Mae cynnydd da yn cael ei wneud gyda’r rhaglen digwyddiadau peilot, ac mae pum digwyddiad wedi cael eu cynnal yn barod. Bydd yr wybodaeth sy’n dod i’r amlwg, er enghraifft o ran cynnal profion COVID ar gyfer digwyddiadau, yn cael ei defnyddio i baratoi ar gyfer yr adolygiad 21 diwrnod nesaf. Byddwn ni’n ystyried y posibilrwydd o ddatblygu dull fesul cam o ailagor digwyddiadau. 

Roedd hi'n dda, wrth gwrs, gweld torfeydd yng ngemau Abertawe a Chasnewydd yn ddiweddar—a Wrecsam, gobeithio, cyn bo hir. Ond, tra eich bod chi wedi blaenoriaethu timau pêl-droed sy'n chwarae yng nghynghreiriau Lloegr, dwi eisiau gwybod pam eich bod chi wedi anwybyddu'r timau sy'n chwarae yn ein prif gynghrair genedlaethol ni yma yng Nghymru. Dyw'r clybiau yn y pyramid Seisnig ddim yn gynrychioladol o drwch y gêm ddomestig, a byddai peilota digwyddiadau yn y Cymru Premier, er enghraifft, wedi bod yn llawer mwy perthnasol i weddill y clybiau ar lawr gwlad ar hyd a lled Cymru.

Ac, onid yw hi'n ffars bod cefnogwyr y Cymru Premier nawr yn gorfod stwffio i mewn i dafarndai i wylio gemau, neu yn wir eu gwylio nhw o'r clubhouse sy'n ffinio â'r cae, yn lle gwneud hynny o'r eisteddleoedd yn yr awyr agored gydag ymbellhau cymdeithasol? Dyw hi ddim yn rhy hwyr, wrth gwrs, i newid hynny. Felly, a wnewch chi ailystyried caniatáu rhywfaint o gefnogwyr i fynychu'r gêm derfynol, dyngedfennol olaf o'r tymor rhwng Caernarfon a'r Drenewydd ddydd Sadwrn yma—y gêm fwyaf, wrth gwrs, yn hanes clwb pêl-droed Caernarfon?

Wel, Llywydd, a allaf i ddweud 'pob lwc' i Wrecsam, i ddechrau, ar ddydd Sadwrn? Rwy'n gobeithio y bydd Wrecsam yn ymuno ag Abertawe a Chasnewydd yn y llwyddiant y maen nhw wedi ei gael yn barod.

Pethau ymarferol oedden nhw, Llywydd, pan oeddem ni'n gwneud y dewis o ran ble oedd y digwyddiadau peilot yn gallu cael eu rhedeg. Mae lot fawr o waith y tu ôl i'r peilot. Mae'n amhosibl jest i ddweud, 'O, gallwch chi ddweud, ar ddydd Sadwrn, fod rhywbeth arall yn gallu digwydd.' Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhan o bob peilot. Mae'r awdurdodau lleol yn rhan o bob peilot. Beth bynnag rŷm ni’n ei ddefnyddio ar gyfer peilot, mae'r grŵp lleol yn rhan o'r peilot hefyd. So, doedd hi jest ddim yn ymarferol i wneud peilot ym mhob man ac am bob peth, ac i'w gwneud nhw yn ddiogel. Dyna pam rŷm ni wedi cael rhestr o bum digwyddiad a dyna pam rŷm ni'n mynd i ddysgu gwersi i weld a allwn ni wneud mwy yn y dyfodol, ond gwneud hynny mewn ffordd sy'n ddiogel i'r bobl sy'n troi lan i weld beth sy'n mynd ymlaen ac yn llwyddiannus i'r bobl sy'n rhedeg y digwyddiadau hefyd.

Diolch, Llywydd. Llongyfarchiadau i chi a'n Prif Weinidog—i'r ddau ohonoch chi—ar eich swyddogaethau newydd, wel, cyfredol. Mae'n braf bod yn ôl yma ar lawr y Siambr ac, yn wir, fel Aelod etholedig o'r Senedd hon, a diolch i bobl Aberconwy am roi i mi yr hyn sy'n fraint enfawr.

Nawr, er bod y digwyddiadau prawf arbrofol i ddatblygu prosesau a chanllawiau i'w croesawu, mae eich canllawiau Llywodraeth Cymru cyfredol eich hun ar gyfer sector y celfyddydau yn cynnwys prif bwynt sy'n gwrth-ddweud ei hun. Mae'r union eiriad yn peri penbleth i un o'n gwyliau cerddoriaeth blaenllaw yn Aberconwy, a fydd, gobeithio, yn digwydd yn fuan mewn eglwys leol. Felly, gofynnaf i chi, Prif Weinidog: pam mae eich canllawiau, o'r enw 'Ymarfer, perfformio a chymryd rhan yn y celfyddydau perfformio', yn caniatáu i offerynnau chwyth gael eu chwarae dan do, ond mae'r canllawiau ar ailagor addoldai yn gwahardd defnyddio'r offerynnau chwyth hynny? Mae eich cynllunio wedi taro nodyn gwag gyda'n digwyddiadau ar raddfa fwy yn yr awyr agored  hefyd. Yn wir, mae Adam Newton, Tough Runner UK, wedi cyfeirio at Lywodraeth Cymru gan ddweud mai dim ond hanner cynllun sydd ganddi. Felly, a wnewch chi roi map ffordd ar waith ar gyfer digwyddiadau ar raddfa fwy i ailddechrau ac i hyn gynnwys amrywiaeth ehangach o leoliadau, gan ddod â rhywfaint o normalrwydd yn ôl i'n traddodiadau hirsefydlog? Diolch.

14:10

Wel, Llywydd, fel yr eglurais mewn ateb i gwestiwn cynharach, os byddwn yn gallu—ac 'os' ydyw, onid yw e—os gallwn ni symud i lefel rybudd 1 ar ddiwedd yr adolygiad tair wythnos hwn, yna bydd hynny'n cyflwyno posibiliadau newydd i ddigwyddiadau ailddechrau dan do ac yn yr awyr agored ledled Cymru. Pan fydd hynny'n digwydd, bydd yn dal i fod rhaid iddyn nhw o reidrwydd gadw at yr amddiffyniadau sydd gennym ni yn erbyn y coronafeirws yn ailddechrau. A dyna ble mae'r canllawiau yn dechrau bob amser, a dyna ble mae'r Llywodraeth hon wedi arddel safbwynt gwahanol i'r Aelod yn aml, rwy'n credu.

Ein man cychwyn bob amser yw: sut y gallwn ni gadw pobl yn ddiogel yn y digwyddiadau hyn? Sut y gallwn ni sicrhau eu bod yn cael eu cynnal mewn ffordd nad yw'n creu risgiau y gellir eu hosgoi o ddechrau lledaenu'r coronafeirws unwaith eto? Dyna pam y darperir y canllawiau; dyna pam mae'n gwahaniaethu rhwng yr hyn y gellir ei wneud mewn un cyd-destun ac mewn un arall. Maen nhw bob amser yn cael eu llunio'n ofalus, maen nhw bob amser wedi eu seilio ar y cyngor gorau sydd gennym. Ac er y gallai ymddangos—[Torri ar draws.] Er y gallai ymddangos yn anghyson ar brydiau, y rheswm am hynny yw y bydd y cyd-destun yn wahanol mewn ffordd sy'n arwain at y cyngor gwahanol hwnnw. Pan fo pobl yn gofyn i ni egluro yn fanylach pam mae angen y cyfyngiadau, yna wrth gwrs rydym yn ceisio gwneud hynny, ond nid yw'r cyfyngiadau byth yn wrthnysig yn fwriadol, ac maen nhw bob amser yn dechrau gyda'r cwestiwn hwnnw: beth y gellir ei wneud yn ddiogel yn y fan yma yn y cyd-destun y mae'r coronafeirws yn ei osod i ni ar unrhyw un adeg?

Fy ngobaith, a gwn ei fod yr un gobaith ag sydd gan yr Aelod, yw bod amgylchiadau'n parhau i wella, ac wrth iddyn nhw barhau i wella, bryd hynny bydd modd adfer mwy o ran digwyddiadau yn yr awyr agored, a pherfformiadau, canu, offerynnau cerdd dan do hefyd. Ond y ffactor cyfyngol bob amser yn anorfod yw gwneud pethau mewn ffordd nad yw'n rhoi Cymru a phobl mewn perygl.

Prif Weinidog, mae'n dda cael bod yn ôl, a gan ein bod yn sôn am Uwch Gynghrair Cymru, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn yn awr, fel llysgennad clwb mwyaf balch yng Nghymru, i gofnodi fy llongyfarchiadau i'r Nomadiaid am gadw'r teitl yng Nghymru.

Prif Weinidog, byddwn i'n ddiolchgar pe gallech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr am y cynlluniau profi ac olrhain arbrofol sy'n cael eu cynnal ym mhum rhan y gogledd, ac a wnewch chi amlinellu manylion penodol y cymorth ychwanegol sy'n cael ei roi i'r rhai hynny sy'n hunanynysu.

Wel, diolch i Jack Sargeant am hynna. Mae e'n iawn, wrth gwrs: mae mwy nag un math o gynllun arbrofol yn cael ei gynnal yn y gogledd ar hyn o bryd. A llongyfarchiadau, wrth gwrs, i bobl dda Cei Connah ar lwyddiant y Nomadiaid y tymor hwn.

Y cynlluniau arbrofol, Llywydd, y mae Jack Sargeant yn cyfeirio atyn nhw yw'r cynlluniau arbrofol yr ydym yn eu cynnal i ddarparu cymorth ychwanegol y tu hwnt i'r taliad hunanynysu o £500 yr ydym yn ei wneud i'r bobl yr ydym yn gofyn iddyn nhw hunanynysu, er mwyn diogelu eu hunain a diogelu eraill, a phan nad oes ganddyn nhw ddigon o incwm i hynny fod yn bosibl. Nawr, yr hyn yr ydym wedi ei ddysgu, o'r gwaith sydd wedi ei wneud eisoes yn ardal Cwm Taf, yw bod mathau eraill o gymorth y gallwch eu hychwanegu at yr arian sy'n gwneud gwahaniaeth i allu pobl i hunanynysu yn y modd yr hoffem ni iddyn nhw ei wneud. Weithiau mae hynny'n gymorth ar unwaith, gyda bwyd a thlodi tanwydd; weithiau mae'n gymorth gyda materion tymor hwy fel cymorth iechyd meddwl ac allgáu digidol.

Bydd pum cynllun arbrofol ar draws y gogledd. Mae'r un yng Nghaergybi eisoes wedi dechrau—rwy'n siŵr y bydd yr Aelod lleol yn gwybod ei fod yn gweithredu o'r swyddfa Cyngor ar Bopeth yng Nghaergybi—ac ar 7 Mehefin a 14 Mehefin, bydd cynlluniau arbrofol eraill yn dechrau. Maen nhw wedi eu cynllunio i gynnig rhagor o gymorth i bobl, i sicrhau bod y rhai y mae hunanynysu yn fwy o her iddyn nhw nag eraill yn cael, yn ogystal â'r arian y gallwn ni ei ddarparu, cymorth ychwanegol hefyd i wneud y profiad hwnnw yn haws ei reoli iddyn nhw. Rydym ni'n dysgu llawer o'r cynlluniau arbrofol, ac yna'r pethau sy'n llwyddiannus ac sy'n gwneud gwahaniaeth—y bwriad fydd gwneud mwy o hynny ar sail ddaearyddol ehangach.

14:15
Cymorth i Fusnesau

4. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi i fusnesau y mae cyfyngiadau COVID-19 wedi effeithio arnynt? OQ56520

Rydym ni wedi ymrwymo dros £2 filiwn i gefnogi busnesau, ac mae dros £1.9 miliwn o'r £2 filiwn hynny eisoes wedi eu cyrraedd. Agorodd y pecyn diweddaraf i geisiadau ddydd Llun. Bydd rhagor o gyllid yn dilyn i helpu busnesau i ddatblygu, cynnal a thyfu.

Prif Weinidog, y pecyn diweddaraf yr ydych chi'n cyfeirio ato oedd cymorth yr oedd busnesau yn gallu ei weld am y tro cyntaf pan agorodd y gwiriwr cymhwysedd ddydd Llun diwethaf a gadawyd busnesau wedi eu siomi ac wedi cael cam. Nid wyf i'n credu ei bod yn iawn diystyru barn busnesau, fel y gwnaethoch chi, yn fy marn i, wrth arweinydd yr wrthblaid yn gynharach heddiw. Yr hyn sy'n peri mwy o rwystredigaeth i fusnesau yw pan fyddan nhw'n clywed Llywodraeth Cymru yn ailadrodd y frawddeg hon dro ar ôl tro eu bod yn cynnig y cymorth busnes gorau o unrhyw un o wledydd y DU, oherwydd y realiti yw bod y cynnig yn llawer mwy hael yn yr Alban a Lloegr o ran cymorth busnes o dan y cyhoeddiadau presennol yr ydych wedi eu gwneud.  Rydym yn gwybod y bydd campfeydd yn Lloegr yn cael £18,000 i ailagor, ac yng Nghymru mai dim ond hyd at £5,000 yw'r swm. Mae'r sector lletygarwch yn Lloegr yn cael grantiau ailagor; yng Nghymru, mae gennym ni dafarndai a sefydliadau bwyta eraill nad ydyn nhw'n cael hawlio oherwydd bod y meini prawf yn rhy llym. Ac wrth sôn am y meini prawf, mae rhestr hir o feini prawf i'w bodloni, fel darparu tystiolaeth bod gostyngiad o 60 y cant neu fwy mewn masnach—mewn trosiant—dros y 12 mis diwethaf, ond mae llawer o fusnesau nad ydyn nhw'n gallu gwneud hynny gan nad oes ganddyn nhw'r cyfrifon hynny wedi eu paratoi hyd yma. Ni allwch chi droi'r cloc yn ôl yn llawn o ran y cymorth busnes a oedd ar goll ym mis Ebrill yng Nghymru, ond fe allwch chi fynd i'r afael â'r bylchau mewn cyhoeddiadau yn y dyfodol a'u llenwi. Felly, a gaf i ofyn i chi, Prif Weinidog, ailedrych ar y cynlluniau cymorth busnes, sicrhau eu bod yn debyg i gymorth mewn mannau eraill yn y DU, a sicrhau yn benodol nad yw'r meini prawf mor llym ac anhyblyg, a bod busnesau'n gallu cael gafael ar gyllid mewn modd teg a phriodol?

Nid wyf i'n diystyru barn busnesau, ond rwyf i yn diystyru ymdrechion propaganda Plaid Geidwadol Cymru, a dyma ymdrech arall arni unwaith eto yn awr. Yn sicr, ni fyddaf i—[Torri ar draws.] Yn sicr, ni fyddaf i'n rhoi addewid i chi y byddwn yn cyd-weddu â'r hyn sy'n digwydd mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig, oherwydd byddai hynny'n golygu y byddai miloedd ar filoedd o bunnoedd na fyddai ar gael i fusnesau Cymru mwyach. Yng Nghymru, bydd busnes lletygarwch sydd â 10 o weithwyr ac sydd â gwerth ardrethol o £25,000 wedi bod yn gymwys i gael mwy na £52,000 ers mis Rhagfyr; byddai busnes cyfatebol yn Lloegr wedi cael £26,000. Felly, pe byddwn yn cyd-weddu â'r cynnig yn Lloegr, fel y mae'r Aelod yn gofyn i mi ei wneud, byddwn yn rhoi £26,000 i'r busnes hwnnw.

Mae e'n dweud wrthyf i y bydd campfeydd yn cael £18,000; pa ganran o fusnesau yn Lloegr y mae e'n ei gredu sy'n cael £18,000? Nid wyf yn credu ei fod yn gwybod. Dau y cant ydyw. Dau y cant o fusnesau sy'n cael £18,000, ac mae 98 y cant o fusnesau nad ydyn nhw'n cael dim byd tebyg i hynny. Wrth wneud cymariaethau, nid oes pwynt i'r Aelod ddewis a dethol y ffigurau ac yna eu cymhwyso mewn ffordd na fyddai'n gweithredu yn y byd go iawn.

Yn sicr, nid wyf i'n cytuno ag ef ynglŷn â'r meini prawf. Rydym ni'n dyrannu symiau anferth o arian cyhoeddus—anferth. Mae miliynau ar filiynau o bunnoedd o arian cyhoeddus yn mynd i fusnesau, fel yr oeddem ni'n awyddus i'w wneud. Ond ei blaid ef fyddai'r gyntaf i gwyno pe na byddem ni'n gwneud hynny mewn modd a allai ddangos bod y busnesau hynny yn rhai go iawn, bod ganddyn nhw hawl i'r cymorth hwnnw a bod yr arian cyhoeddus yn cael ei wario mewn ffordd yr oedd modd ei gyfiawnhau. Dyna ddiben y meini prawf. Nid yw'n fwriad iddynt ei gwneud yn anodd i fusnesau gael y cymorth y maen nhw'n dymuno ei gael; maen nhw yno i sicrhau, yma yng Nghymru, pan fydd busnesau'n cael arian gan y trethdalwr, bod yr arian hwnnw yn mynd i'r lle iawn ac yn mynd mewn modd y gellir ei gyfiawnhau.

14:20

Fel yr wyf wedi ei ddweud o'r blaen, rwy'n gwybod bod llawer o fusnesau sy'n ddiolchgar am y cymorth y maen nhw wedi ei gael hyd yma, ond nawr rwy'n credu bod angen rhywfaint o gydnabyddiaeth gan Lywodraeth Cymru o'r gost y mae busnesau yn ei hwynebu wrth iddyn nhw ailagor. Rwy'n dod yn ôl at y sector lletygarwch yn arbennig yn y fan yma, o gofio'r holl flynyddoedd a dreuliais i yn y sector. Er enghraifft, mae ailstocio nwyddau darfodus a dod â staff yn ôl o ffyrlo yn anodd, yn enwedig pan fo llawer o'r busnesau hyn yn dibynnu ar dywydd braf i agor. Rydym ni'n gwybod bod nifer o gwmnïau wedi rhoi'r gorau i gyfleoedd i ailagor yn yr awyr agored cyn bod ailagor dan do wedi'i ganiatáu, a hyd yn oed wedyn, ni all busnesau ddefnyddio'r holl le sydd ganddyn nhw dan do ac maen nhw'n ei chael hi'n anodd masnachu yn yr awyr agored mewn tywydd gwael. Yn y pen draw, bu bwlch mewn cyllid. Fe wnaeth busnesau roi'r gorau i gynlluniau oherwydd y tywydd, ac nid ydyn nhw'n gallu gweithredu'n llawn. Rwy'n ddiolchgar am y cyfle y mae Gweinidog yr Economi wedi ei roi i gyfarfod ag ef a llefarwyr eraill y gwrthbleidiau i drafod hyn ymhen pythefnos, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio'n adeiladol ar hyn, ond mae angen dybryd am hyblygrwydd o ran cyllid yn awr er mwyn helpu i wrthbwyso'r risgiau y mae busnesau'n parhau i'w hwynebu. Felly, a gaf i ychwanegu fy llais at alwadau llawer o bobl eraill a phwyso ar y Prif Weinidog, a Gweinidog yr Economi drwyddo ef, i weithredu ar hyn ar frys? Oherwydd mae busnesau angen sicrwydd nawr ac nid ymhen pythefnos. Ac rwy'n eithaf sicr fy mod i'n gallu siarad dros Blaid Cymru pan ddywedaf ein bod ni'n awyddus i ddechrau gweithredu ar hyn nawr.

Rwy'n cydnabod y pwyntiau y mae'r Aelod yn eu gwneud ynglŷn â'r heriau y mae busnesau yn eu hwynebu pan fyddan nhw'n ailddechrau masnachu, boed hynny'n fater ailstocio, boed hynny'n dywydd, ond mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cymorth i fusnesau ar bob cam o'r ffordd. Rwyf wedi clywed honiadau yn gynharach nad oedd unrhyw gymorth ar gael i fusnesau yn ystod mis Ebrill, er enghraifft. Ar ddiwedd mis Mawrth ac ar ddechrau mis Ebrill, fe wnaethom ni dalu mwy na £147 miliwn i fusnesau mewn grantiau ardrethi annomestig. Ym mis Ebrill a dechrau mis Mai, aeth swm ychwanegol o dros £24 miliwn i fusnesau drwy'r gronfa cydnerthedd economaidd, ac erbyn hyn mae £66 miliwn arall ar gael i helpu'r busnesau hynny yn ystod gweddill y mis hwn a thrwy fis nesaf hefyd. Roeddwn i eisiau gwneud yr hyn y mae Mr Fletcher wedi ei awgrymu; roeddwn i eisiau cyrraedd y busnesau hynny lle mae'r amodau masnachu yn fwyaf heriol a lle mae'r cyfyngiadau anochel yn dal i fodoli er mwyn ymdrin â chyfyngiadau coronafeirws yn cyfyngu ar yr hyn y cânt ei wneud. Dyna pam y byddwn ni'n cael y trafodaethau gyda phleidiau eraill, ond gyda busnesau a sefydliadau busnes eu hunain, i sicrhau y gellir targedu gweddill y £200 miliwn yr ydym wedi ei neilltuo eisoes yn y ffordd honno fel bod y rhai yr effeithir arnyn nhw fwyaf ac sy'n parhau i deimlo effaith amodau masnachu yn gallu cael y cymorth mwyaf posibl y gallwn ni ei gynnig.

Diolch, Llywydd, a llongyfarchiadau i chi a David ar gael eich ethol yn Llywydd a Dirprwy Lywydd. Prif Weinidog, yn ystod yr ymgyrch etholiadol, cysylltodd busnesau ledled Pen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl â mi i ddiolch am y ffordd yr ydych chi a'ch Llywodraeth wedi ymdrin â phandemig y coronafeirws drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf, yn enwedig i gydnabod y cymorth ariannol sydd wedi ei roi ar waith i fusnesau y bu'n rhaid iddyn nhw gau drwy'r gronfa cydnerthedd economaidd bwrpasol ar gyfer Cymru yn unig, sydd wedi arbed dros 160,000 o swyddi. A ydych chi'n cytuno â mi, pe byddai eich Llywodraeth wedi dilyn ymagwedd Lloegr drwy gydol y cyfyngiadau symud, fel y mae'r Ceidwadwyr wedi awgrymu mor aml, y byddai busnesau Cymru wedi eu gadael yn waeth eu byd ac y byddai mwy o swyddi wedi cael eu colli?

Diolchaf i Sarah Murphy am y cwestiwn yna ac rwy'n ei llongyfarch ar gael ei hethol ac am siarad yn y Siambr am y tro cyntaf.  Fe wnes i gyfarfod â llawer o fusnesau gyda hi yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr a wnaeth ymdrech arbennig i ddweud wrthym gymaint yr oedden nhw'n gwerthfawrogi'r cymorth yr oedden nhw wedi ei gael gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru hefyd. Mae'n hawdd iawn i rai o'r Aelodau yn y Siambr fod yn uwchseinydd i leisiau'r bobl hynny sy'n teimlo bod ganddyn nhw gŵyn, ond mae mwyafrif llethol y busnesau yng Nghymru sydd wedi cael cymorth gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn cydnabod y cymorth y maen nhw wedi ei gael. Efallai nad yw'n gwneud popeth maen nhw'n ei ddymuno, yn sicr nid yw'n dileu'r holl heriau y maen nhw'n eu hwynebu, ond maen nhw wedi gwerthfawrogi'r cymorth sydd wedi bod ar gael, pa mor gyflym y mae wedi bod ar gael a'r ffordd y mae wedi caniatáu iddyn nhw gynllunio llwybr trwy'r pandemig ac erbyn hyn, gobeithio, y tu hwnt iddo. Rwy'n credu bod y profiad y mae'r Aelod yn cyfeirio ato yn llawer mwy nodweddiadol o'r ffordd y mae busnesau yng Nghymru wedi ymateb na rhai o'r cwynion yr ydym ni wedi eu clywed yn gynharach y prynhawn yma.

14:25
Adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru

5. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr amserlen ar gyfer gweithredu argymhellion adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru? OQ56523

Diolch yn fawr i Rhys am y cwestiwn.

Pan nad yw gweithredu argymhellion y comisiwn yn dibynnu ar Lywodraeth y DU, mae cynnydd eisoes wedi ei wneud, er enghraifft trwy greu cyngor cyfreithiol Cymru. Bydd pwyllgor cyfiawnder y Cabinet yn cael ei ailsefydlu i fynd ar drywydd yr achos a wnaed gan y comisiwn dros ddatganoli plismona a chyfiawnder i Gymru.

Diolch yn fawr ichi am eich ateb, Prif Weinidog. Dwi'n gobeithio y bydd modd inni weld amserlen fwy pendant am sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu implementeiddio'r argymhellion yn ymwneud â Llywodraeth Cymru. Pan ddes i fan hyn fel bachgen ysgol yn 1999 i agoriad y Cynulliad, byddwn i byth wedi dychmygu y byddwn i'n sefyll yn Senedd Cymru yn holi cwestiwn. Rydyn ni'n ddiolchgar iawn, onid ydyn ni, i nifer o griw 1999—nifer ohonynt o bob plaid wedi gadael ar ôl y Senedd diwethaf—am y seiliau cadarn y maen nhw wedi'u gosod i ni. Dwi'n falch bod un o'r criw sy'n weddill o 1999 yn bwrw'r gwaith ymlaen gyda diwygio'r Senedd. Ond cam pwysig ymlaen, Prif Weinidog, yw sicrhau bod cyfiawnder a phlismona yn cael eu datganoli i Gymru.

Dwi'n ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am gamu i'r adwy, yn dilyn toriadau llym y Blaid Geidwadol yn San Steffan, ac am y cyfraniad anferthol maen nhw'n ei wneud i'r system gyfiawnder—mae hyd at 40 y cant o wariant ar y system gyfiawnder yn dod o fan hyn. Ond, mae hynny'n creu problem, problem y gwnaeth yr Arglwydd Thomas ei chodi yn yr adroddiad, a hynny yw problem craffu. Does dim digon o graffu yn digwydd am y gwariant sylweddol sy'n dod o Lywodraeth Cymru. Sut byddech chi, fel Llywodraeth, yn hyrwyddo craffu pellach ar y gwariant sylweddol yna sy'n gwneud impact mawr ar fywydau cymaint o bobl yng Nghymru? Diolch yn fawr. 

Diolch yn fawr i Rhys ab Owen am ei gwestiwn cyntaf ers iddo fe gael ei ethol. Hoffwn gydnabod hefyd arbenigedd penodol Rhys ab Owen yn y maes hwn ar ôl y gwaith roedd e wedi'i wneud i helpu greu adroddiad comisiwn Thomas fel rhan o'r tîm ysgrifenyddiaeth. Mae safbwynt Llywodraeth Cymru yn glir. Rydym ni'n credu y dylid datganoli cyfiawnder. I ni, nid yw'n fater mwyach o ofyn a ddylai hynny ddigwydd, ond sut a phryd.

Yn y maes craffu, dwi wedi gofyn i'r Cwnsler Cyffredinol arwain yn y maes yma. Fe fydd yn cadeirio is-bwyllgor y Cabinet ar adroddiad Thomas ac ar gyfiawnder, a bydd cyfleon dwi'n siŵr i Aelodau ofyn cwestiynau iddo fe am yr amserlen, am y gwaith rydyn ni'n ei wneud yn fewnol yng Nghymru o ran yr argymhellion yn yr adroddiad sydd yn ein dwylo ni, ond hefyd i ofyn cwestiynau am y gwaith rydyn ni'n mynd i'w wneud i drio tynnu Llywodraeth y Deyrnas Unedig i mewn unwaith eto i'r sgwrs ar yr adroddiad—adroddiad a oedd wedi gwneud yr achos dros ddatganoli yn y maes cyfiawnder mor glir i ni i gyd. 

Adfer ar ôl COVID-19 ym Mlaenau Gwent

6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo'r adferiad o COVID-19 ym Mlaenau Gwent? OQ56514

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Byddwn yn defnyddio ein holl ymdrechion a'n hegni i greu Cymru gryfach, decach a gwyrddach, lle nad oes neb yn cael ei ddal yn ôl na'i adael ar ôl. Bydd newid yn yr hinsawdd, swyddi gwyrdd ac adferiad o'r pandemig hir ac ofnadwy wrth wraidd ein rhaglen lywodraethu newydd.

14:30

Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am hynna, ac yn ddiolchgar am y ffordd y mae wedi arwain ymateb Llywodraeth Cymru i COVID dros y flwyddyn ddiwethaf. Ac mae llawer o agweddau ar adfer o COVID y mae'r Prif Weinidog wedi eu disgrifio eisoes. Ond, heddiw, hoffwn ganolbwyntio unwaith eto ar ddyfodol canol ein trefi. Prif Weinidog, siaradodd John Griffiths yn gynharach heddiw am ddyfodol Casnewydd a'n dinasoedd, ond mae ein trefi'n wynebu her wahanol iawn i her ein dinasoedd. A hoffwn i glywed gennych, os yw'n bosibl, sut y byddwch chi'n gallu mynd i'r afael â'r sefyllfa ar hyn o bryd o ran cefnogi busnesau a pherswadio pobl i ddefnyddio'u canol trefi lleol. Ond, yna, yn ail, yn y tymor hwy, roedd canol trefi, fel yr ydych eisoes wedi ei ddweud y prynhawn yma, dan bwysau ymhell cyn COVID, ac rydym wedi gweld trefi fel Abertyleri neu Lynebwy, Tredegar neu Frynmawr, yn dioddef dros nifer o flynyddoedd. Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i weithio yn y tymor hwy, yn ogystal â'r presennol, i greu dadeni ar gyfer ein trefi a chanol ein trefi?

Llywydd, diolchaf i Alun Davies am y cwestiwn pwysig yna. Bydd yn gwybod bod rhaglen Trawsnewid Trefi'r Llywodraeth hon wedi darparu gwerth £110 miliwn o fuddsoddiad yn nhrefi Cymru yn y 12 mis diwethaf yn unig. Atgyfnerthir hynny gan yr egwyddor 'canol trefi yn gyntaf' a fabwysiadodd y Cabinet yn ystod y tymor diwethaf, gan ei gwneud yn glir, pan fydd buddsoddiadau mawr o'r pwrs cyhoeddus, boed hynny mewn addysg, iechyd neu wasanaethau cyhoeddus yn cael eu hystyried, mai canol trefi ddylai fod yr ystyriaeth gyntaf ar gyfer pob penderfyniad wrth leoli gweithleoedd a gwasanaethau. Ac mae rhai enghreifftiau da iawn o hynny yn etholaeth yr Aelod ei hun. Pwysigrwydd fferyllfeydd cymunedol—maen nhw ar y stryd fawr ym mhob tref ledled Cymru, ac yn cael eu cefnogi'n sylweddol gan y Llywodraeth hon yng Nghymru, gan ddenu pobl i ganol trefi, gan ddarparu siop ddenu y gall eraill dyfu o'i chwmpas. 

Rydym wedi rhoi llawer o arian yn ddiweddar i ganolfannau ailgylchu yng nghanol trefi. Mae'r gronfa economi gylchol wedi cefnogi datblygiad siop ailddefnyddio newydd yng Nglynebwy ei hun, ac mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent wedi darparu'r cyfeiriadur atgyweirio ar-lein cyntaf erioed yng Nghymru, gan dynnu sylw at gyfleoedd sy'n bodoli mewn trefi yn y fwrdeistref i bobl ailddefnyddio ac ailgyfarparu eu hunain ar gyfer eu defnyddio yn y dyfodol.

Rwy'n falch iawn ein bod ni wedi gallu darparu dros £200,000 i gefnogi gwasanaeth Wi-Fi canol tref am ddim, yng Nglynebwy, ym Mrynmawr, yn Abertyleri ac ym Mlaenau, gan fod hynny'n enghraifft o'r buddsoddiad tymor hwy y cyfeiriodd Alun Davies ato. Mae angen i ni sicrhau bod y seilwaith yno ar y stryd fawr er mwyn i weithrediadau masnachol allu gweithredu o dan amgylchiadau cyfoes, a gallwch weld hynny yn digwydd eisoes yn y trefi hynny yn etholaeth yr Aelod.

Ac, yn olaf, gwn ei fod wedi cymryd diddordeb personol brwd yng nghynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer canolfannau cydweithio y tu hwnt i'r dinasoedd. Bydd llawer o drigolion ei etholaeth ef yn teithio i'r gwaith y tu hwnt i ffiniau'r fwrdeistref. Nawr, rydym yn buddsoddi £100,000 i greu canolfan gydweithio ym Mharc Bryn Bach yn Nhredegar, a dim ond un enghraifft yw hynny o'r canolfannau cydweithio yr ydym yn eu creu ar draws cymunedau'r Cymoedd fel y bydd pobl yn gallu gweithio o bell, parhau i weithio gartref am ran o'r wythnos, ac yna, ar adegau eraill, dod i ganolfan lle gallan nhw gwrdd â phobl eraill, defnyddio cyfleusterau a rennir, gwario eu harian yn y canol trefi ac yn y mannau lle maen nhw'n byw ac yn gweithio, ac unwaith eto mae hynny'n rhan o gynllun tymor hwy sydd gan y Llywodraeth hon ar gyfer ail-greu y canol trefi hynny fel bod swyddi gwell ar gael, yn nes adref a bod pobl yn gallu byw a gweithio yn y cymunedau sydd bwysicaf iddyn nhw.

Gweithio Gartref

7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fanteision economaidd gweithio gartref? OQ56515

Diolch i Mike Hedges am hynna, Llywydd. Mae manteision economaidd i fusnesau ac unigolion, gan gynnwys costau is ar gyfer teithio a gorbenion. Gall gweithio o bell yn fwy ddenu mwy o ymwelwyr i ganol trefi lleol hefyd. Dyna pam yr ydym yn treialu canolfannau gwaith lleol ledled Cymru, fel yr ydym newydd ei drafod. Mae manteision pwysig eraill yn cynnwys lleihau allyriadau carbon a gwella cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.

14:35

Roeddwn i hefyd yn mynd i ddweud, mantais arall yw lleihau tagfeydd traffig ar draffyrdd. Ond mae pobl yn gweithio mewn swyddfeydd oherwydd, pan oedd popeth ar bapur, roedd yn rhaid iddyn nhw wneud hynny er mwyn cael gafael ar ddata a diweddaru ffeiliau. Bu symudiad tuag at weithio gartref, gyda'r niferoedd yn cynyddu'n araf ymhell cyn y cynnydd mawr yn ystod y cyfyngiadau symud. Mae naw o bob 10 o weithwyr a oedd yn gweithio gartref yn ystod y cyfyngiadau symud yn dymuno parhau i weithio gartref i ryw raddau, ac mae tua un o bob dau weithiwr yn dymuno gweithio gartref yn aml neu drwy'r amser. Mae gan weithio gartref fanteision i gyflogwyr, fel yr ydych wedi eu hamlinellu, ac i weithwyr, ond mae yn effeithio ar drefi mwy a chanol dinasoedd trwy leihau nifer yr ymwelwyr â nhw. Y cwestiwn yr oeddwn i eisiau ei ofyn oedd: a ddylid bod lwfans gweithio gartref ar gael i dalu costau pobl sy'n gweithio gartref, pan fo'n rhaid iddyn nhw dalu am drydan a nwy a phethau eraill drwy'r dydd?

Llywydd, bydd yr Aelodau yn y Siambr hon—. Bydd yr Aelodau a oedd yma yn y Senedd ddiwethaf yn gwybod bod ein staff ein hunain mewn etholaethau, drwy waith y Comisiwn, wedi gallu hawlio lwfans gweithio gartref yn ystod y pandemig. Ac mae'r mater hwnnw wedi ei drafod yng nghyngor y bartneriaeth gymdeithasol, ac rwy'n gwybod y bydd ar agenda cyfarfodydd y cyngor yn y dyfodol hefyd. Ai dyma'r ateb cywir o dan yr holl amgylchiadau? Rwy'n credu bod hynny i'w drafod yn fwy agored, ond mae'n amlwg ei fod wedi ei gydnabod mewn rhai cyd-destunau eisoes, gan gynnwys yma yn y Senedd. A bydd yn drafodaeth bwysig, oherwydd, fel y gŵyr Mike Hedges, mae gan Lywodraeth Cymru uchelgais hirdymor i 30 y cant o staff fod yn gweithio o bell ar unrhyw adeg, ac mae'n rhaid i ni greu'r amodau ar gyfer gwneud hynny'n llwyddiannus.

Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru

8. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru? OQ56526

Llywydd, rydym ni wedi penodi Simon Gibson CBE yn gadeirydd bwrdd cyflawni Burns. Bydd yn goruchwylio datblygiad y 58 o argymhellion Burns gan yr uned a sefydlwyd at y diben hwnnw yn Trafnidiaeth Cymru. Mae cyllideb o dros £4 miliwn eisoes wedi ei chymeradwyo ar gyfer y gwaith hwnnw, er mwyn sicrhau y gallwn ddatblygu argymhellion y comisiwn.

Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Mae comisiwn Burns wedi nodi gwelliannau cyffrous y gellir eu cyflawni i'r system drafnidiaeth yng Nghasnewydd a'r cyffiniau—system drafnidiaeth gyhoeddus y mae Casnewydd yn ei haeddu, a wnaed yn bosibl drwy fuddsoddiad blaengar a strategol gan Lywodraeth Cymru. Gyda'r uned gyflawni ar waith, mae'n rhaid cynnal y pwyslais a'r cyflymder gan sicrhau ein bod yn gweld canlyniadau gwirioneddol yng Nghasnewydd. Fodd bynnag, mae rhannau allweddol o'r cynllun hwn yn cynnwys uwchraddio seilwaith y rhwydwaith rheilffyrdd, maes y mae Llywodraeth y DU yn gyfrifol amdano. Dros y blynyddoedd diwethaf, dim ond 2 y cant o gyllidebau gwella Network Rail y mae Cymru wedi ei gael, er bod ganddi tua 10 y cant o rwydwaith rheilffyrdd y DU. Mae Llywodraeth y DU yn brolio o ran buddsoddi, ond anaml y bydd yn cyflawni. A wnaiff y Prif Weinidog barhau i'w hannog i roi ei harian ar ei gair, a sicrhau'r buddsoddiad rheilffyrdd sydd ei angen ar Gymru ac y mae'n ei haeddu?

Diolch i Jayne Bryant am hynna ac rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd am y buddsoddiadau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu gwneud eisoes—y £70 miliwn i sicrhau gwasanaethau ychwanegol, gwasanaethau rheilffyrdd, rhwng Glynebwy a Chasnewydd. Ac rwy'n falch iawn o weld bod cytundeb wedi ei wneud erbyn hyn i ymestyn bysiau fflecsi ar alw i gyflenwi rhwydwaith cyfan bysiau lleol dinas Casnewydd. Ac mae hynny wedi ei ariannu gan refeniw a chyfalaf a ddarperir mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Casnewydd. A bydd hynny'n chwarae rhan bwysig wrth ddarparu'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus lleol hwnnw y cyfeiriodd Jayne Bryant ato.

Ond fel y gŵyr hi, prif argymhelliad adolygiad Burns oedd buddsoddi'n briodol yn y brif reilffordd, i greu posibiliadau cymudo newydd a fyddai'n gwasanaethu'r bobl, nid yn unig o Gasnewydd, ond o Gaerdydd a thu hwnt. Nawr, cyhoeddodd adolygiad Hendy—yr adolygiad o gysylltedd yr undeb, a sefydlwyd gan y Prif Weinidog—ei adroddiad interim ar 10 Mawrth. Cyfeiriodd at lwyddiant datganoli trafnidiaeth, ac ymysg ei argymhellion cyntaf mae argymhelliad bod Llywodraeth y DU yn derbyn yr argymhelliad hwnnw o adolygiad Burns, ac yn darparu'r buddsoddiad sydd ei angen i wneud y rhwydwaith rheilffyrdd hwnnw yn ffordd effeithiol o symud pobl ar draws y de.

Nawr, rwy'n cyfeirio pwynt difrifol at arweinydd yr wrthblaid, sef os yw Llywodraeth y DU eisiau dangos ei hymrwymiad i gysylltedd yr undeb yn wirioneddol, yna dyma syniad sy'n barod iddi ei defnyddio—syniad a ddatblygwyd yn fanwl gan gomisiwn Burns, a gymeradwywyd yn adolygiad Hendy ac sy'n barod i'w weithredu. Os yw Llywodraeth y DU o ddifrif ynghylch buddsoddi ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig, i ddarparu cysylltedd ar draws yr undeb, ac nid oes gen i unrhyw reswm i ddweud fel arall, o gofio mai'r Prif Weinidog sefydlodd adolygiad Hendy, pan fydd Hendy yn gwneud ei argymhellion terfynol yn yr haf, y bydd hon yn foment fawr i weld a yw Llywodraeth y DU yn mynd i wneud mwy, fel y dywedodd Jayne Bryant, na dim ond siarad, ond rhoi'r buddsoddiad i sicrhau bod pobl y de yn cael eu gwasanaethu gan fuddsoddiad y DU yn y ffordd y mae adolygiadau Burns a Hendy bellach wedi ei nodi. 

14:40
2. Cynnig o dan Reol Sefydlog 9.1 i gytuno ag argymhelliad Prif Weinidog Cymru i'w Mawrhydi ynglyn â pherson i'w benodi'n Gwnsler Cyffredinol

Y cynnig nesaf, felly, yw'r cynnig o dan Reol Sefydlog 9.1 i gytuno ag argymhelliad y Prif Weinidog i'w Mawrhydi ynglŷn â pherson i'w benodi'n Gwnsler Cyffredinol. Dwi'n galw ar y Prif Weinidog i wneud y cynnig yn ffurfiol.  

Cynnig NDM7688 Mark Drakeford

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 9.1, yn cytuno â'r argymhelliad gan Brif Weinidog Cymru i Ei Mawrhydi benodi Mick Antoniw AS yn Gwnsler Cyffredinol.

Cynigiwyd y cynnig.

Wel, mae'n bleser i'w wneud ef, Llywydd, ond dwi'n ei wneud e'n ffurfiol. 

Diolch, Llywydd, a diolch i'r Prif Weinidog am fy enwebu. Hoffwn i dalu teyrnged i Jeremy Miles a oedd yn y rôl hon o'm blaen i. Diolch iddo ef am ei waith caled i hybu a datblygu awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru ac amddiffyn statws cyfansoddiadol y Senedd hon ar ran pobl Cymru. Dros y blynyddoedd diwethaf, ers Brexit ac o ganlyniad i'r pandemig, mae pobl wedi dod i sylweddoli a deall yn well pa mor bwysig yw gwaith y Senedd hon.  

Mae'r pandemig, Llywydd, wedi tynnu sylw penodol at y dylanwad a'r effaith y mae'r cyfreithiau a wneir yma, yn y Senedd hon, yn eu cael ar fywydau pob dydd pobl Cymru. Mae effaith lawn y setliad datganoli wedi ei chydnabod yma yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig. Mae'r Senedd hon a'r cyfrifoldebau deddfwriaethol yr ydym ni yma i'w harfer wedi eu hamlygu ym meddyliau poblogaeth Cymru. Edrychaf ymlaen at chwarae fy rhan i helpu'r Senedd a Llywodraeth Cymru i ymateb i'r heriau a'r anawsterau y byddwn yn eu hwynebu dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf. Byddaf, fel arfer, yn gweithio i amddiffyn a chryfhau uniondeb ein swyddogaeth gyfansoddiadol fel Senedd i bobl Cymru, ein democratiaeth Gymreig a rheolaeth y gyfraith. Diolch, Llywydd.

Y Prif Weinidog eisiau ymateb? O bosib ddim. Nac ydy, ac felly dwi'n gofyn y cwestiwn: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, ac felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.  

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad—Lesley Griffiths. 

Diolch, Llywydd. Mae dau newid i'r agenda heddiw: bydd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn gwneud datganiad ar adnewyddu a diwygio: cefnogi llesiant a dilyniant dysgwyr. Yn ail, rwyf wedi ymestyn hyd y ddadl ar Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2021 i 30 munud. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi ei nodi ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymysg papurau'r cyfarfod sydd ar gael yn electronig i'r Aelodau.

A gaf i longyfarch y Trefnydd ar ei phenodiad i Gabinet Llywodraeth Cymru ac ar ei swyddogaeth weinidogol arall hefyd ar gyfer materion gwledig a'r gogledd? A gaf i alw am ddau ddatganiad gan Lywodraeth Cymru heddiw, os gwelwch yn dda? Mae'r cyntaf yn ymwneud â gofal newyddenedigol yng Nghymru. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol iawn o'r ffaith y bu effaith sylweddol ar drefniadau ymweld â chyfleusterau gofal newyddenedigol ledled y wlad o ganlyniad i bandemig COVID-19, ond mae'r elusen ar gyfer babanod a anwyd yn gynnar ac yn sâl, Bliss, wedi codi pryderon ynghylch y trefniadau i ymweld â'r rhain, sy'n eithrio tadau babanod bach a sâl yn bennaf. Tybed pa gamau y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd drwy gyhoeddi canllawiau cenedlaethol mwy diweddar, gan fod y gyfradd frechu bellach wedi bod mor llwyddiannus ac rydym wedi gweld gostyngiad sylweddol yn nifer yr achosion o COVID. Felly, a gawn ni'r wybodaeth ddiweddaraf am y trefniadau ar gyfer ymweld â'r canolfannau gofal newyddenedigol penodol hynny ledled y wlad?

Yn ail, a gawn ni ddatganiad arall gan y Gweinidog iechyd, y tro hwn ynglŷn â chael apwyntiadau meddyg teulu wyneb yn wyneb? Rwy'n cael gohebiaeth gynyddol o bob rhan o'r etholaeth oddi wrth bobl sy'n awyddus iawn i drefnu apwyntiad wyneb yn wyneb gyda'u meddyg teulu ac sy'n teimlo'n fwyfwy rhwystredig oherwydd y system brysbennu galw yn gyntaf sy'n gweithredu ar draws y gogledd a rhannau eraill o'r wlad. Nawr, gallaf werthfawrogi, yn amlwg, yr angen i ddiogelu'r trefniadau rheoli heintiau yn ein meddygfeydd, ond mae hyn nawr yn mynd yn fater dadleuol mewn llawer o gymunedau a tybed a ellir cyhoeddi canllawiau newydd sy'n caniatáu i drefn apwyntiadau wyneb yn wyneb ddychwelyd yn raddol, trefn fwy arferol i ddychwelyd i'n meddygfeydd ledled y wlad. Diolch.

14:45

Diolch, Darren Millar, am eich geiriau caredig ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chi ar y Pwyllgor Busnes. Fe wnaethoch chi godi dau bwynt pwysig iawn, a gwn y bu'n gyfnod arbennig o anodd a phryderus i rieni a theuluoedd babanod yr oedd angen gofal newyddenedigol arnyn nhw. Yn amlwg, mae gan fyrddau iechyd hyblygrwydd o fewn y canllawiau presennol ynghylch ymweliadau ac rwy'n siŵr y bydd pob bwrdd iechyd yn edrych, fel y dywedwch chi, pan fydd y sefyllfa'n gwella, ar ehangu'r amseroedd ymweld yn yr ardaloedd hynny.

O ran eich ail gwestiwn ynghylch mynediad at feddygon teulu, rydym yn gwybod bod pobl, yn bennaf, yn cael ymgynghoriadau dros y ffôn a dulliau technolegol eraill. Ond rwy'n gwybod bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol newydd, Eluned Morgan, wrthi'n gweithio gyda meddygon teulu eu hunain a rhanddeiliaid eraill i weld pryd y bydd hynny'n bosibl. Ac eto, mae rhywfaint o hyblygrwydd ynghylch hynny. Gwn am rai practisau meddygon teulu yn fy etholaeth fy hun lle mae'r ymweliadau wyneb yn wyneb hynny'n digwydd ar hyn o bryd.

Trefnydd, dangosodd adroddiad a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf gan glymblaid End Child Poverty fod rhannau o Gymru wedi gweld cynnydd dramatig mewn tlodi plant yn ystod y pum mlynedd diwethaf a bod gan Gymru bellach y gyfradd dlodi plant waethaf o holl genhedloedd y Deyrnas Gyfunol, gyda 31 y cant o blant yn byw o dan y llinell dlodi. 

Mae sefyllfa tlodi plant yng Nghymru yn sgandal cenedlaethol. Yn anffodus, nid yw tlodi plant yn rhywbeth newydd ac mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ceisio mynd i'r afael â'r mater ond wedi methu. Mae elusennau a sefydliadau eraill yn galw ar Lywodraeth newydd Cymru i flaenoriaethu lleihau tlodi plant, gyda cherrig milltir mesuradwy clir a thargedau uchelgeisiol. A wnaiff y Trefnydd ymrwymo heddiw i neilltuo amser yn yr amserlen seneddol ar y cyfle cynharaf i roi cyfle i ni i gyd fel Senedd drafod a chraffu ar gynlluniau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi plant? A gaf i hefyd erfyn ar y Trefnydd yn yr un modd i neilltuo amser i'r Senedd roi sylw i effaith amddifadedd ar ein pobl ifanc, rhywbeth y mae'r heddlu yn cytuno sydd angen ei flaenoriaethu wrth ystyried, yn enwedig, digwyddiadau yr wythnos diwethaf yn ardal Mayhill, Abertawe?

Diolch am y cwestiwn yna ac, yn amlwg, bydd tlodi plant a lliniaru tlodi plant a phob math o dlodi yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru. Byddaf yn sicr yn siarad â'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, i weld pa gynlluniau sydd ganddi o ran mynd i'r afael â phob math o dlodi yn ogystal â thlodi plant a, phan fo'n briodol, rwy'n siŵr y bydd yn cyflwyno datganiad.

Rwy'n gofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf am y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar ddedfrydau hwy am greulondeb i anifeiliaid. Cytunodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn unfrydol i'w gefnogi yn ystod y Senedd ddiwethaf, ond, yn anffodus, roedd yn rhy agos at y diwedd iddo gael ei weithredu. A wnaiff y Trefnydd roi dyddiad ar gyfer ei gyflwyno gerbron y Senedd i ni, oherwydd fy mod i ar ddeall bod gennych gefnogaeth unfrydol ar draws pleidiau ac o fewn pleidiau i'r ddeddfwriaeth hon, a fydd yn golygu y gellir cynyddu yn sylweddol iawn ddedfrydau pobl sy'n cyflawni troseddau creulondeb i anifeiliaid?

Diolch, Mike Hedges, ac, yn amlwg, rwy'n ymwybodol iawn o'r gefnogaeth drawsbleidiol a gafwyd i'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol. Ond, yn anffodus, bwrodd Llywodraeth y DU ymlaen â'r Bil Lles Anifeiliaid (Dedfrydu), er gwaethaf y diffyg cyfle i'r Senedd roi caniatâd, oherwydd yr etholiad, ac yr oedd yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad, pan nad oeddwn i'n credu y byddai'r memorandwm yn cael ei gyflwyno bryd hynny. Nid oeddem yn credu y byddai'r Bil yn cael ei brosesu mor gyflym â hynny, felly fe wnes i ysgrifennu at Lywodraeth y DU ar unwaith i fynegi fy mhryder ynglŷn â hyn. Rwy'n credu ei bod yn enghraifft arall o amarch Llywodraeth y DU tuag at gonfensiwn Sewel. Byddaf yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig—efallai y prynhawn yma, ond yn sicr gobeithio erbyn yfory—a byddaf i hefyd yn ysgrifennu at Lywodraeth y DU eto. Yr hyn yr wyf i'n dymuno ei ddarparu yw manylion i'r Aelodau ynghylch sut y digwyddodd hyn a pha gamau y gwnaethom ni Lywodraeth Cymru eu cymryd i'w osgoi.

14:50

Galwaf am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar ei safbwynt presennol ynghylch coridor yr A55, yr A494, a'r A548 yn sir y Fflint. Cyhoeddodd Llywodraeth Lafur Cymru yn 2017 ei bod wedi penderfynu ar ddewis llwybr coch sir y Fflint i'r A55 yn Llaneurgain. Yn dilyn hynny codais bryderon etholwyr ynglŷn â hyn gyda chyn-Weinidog yr economi droeon, gan dynnu sylw at faterion gan gynnwys effaith amgylcheddol ar gynefinoedd, dolydd a choetir hynafol. Fis Medi diwethaf, dywedodd,

'Rydym yn disgwyl cynnal rhai ymchwiliadau amgylcheddol ar hyd y llwybr a ffefrir yn hydref 2020.'

Fis Hydref diwethaf dywedodd,

'Rydym yn parhau â'r cam datblygu nesaf i wella coridor sir y Fflint ac ar hyn o bryd rydym yn caffael cynllunydd i ddatblygu cynigion y cynllunydd yn fanylach.'

Fis Rhagfyr diwethaf, dywedodd wrthyf yn y Siambr hon mai'r llwybr hwn oedd yr un mwyaf addas ar gyfer yr her yr ydym yn ei hwynebu yn yr ardal benodol honno o Gymru. Fodd bynnag, yn ystod yr etholiad diweddar, dywedodd yr Aelod lleol—sy'n Aelod o Lywodraeth Cymru ei hun—ei bod yn gwrthwynebu'r llwybr a deellir wedyn i'r Prif Weinidog ddweud y byddai'n adolygu hyn. O ganlyniad galwaf am ddatganiad.

Mae'n amlwg bod y Gweinidog newydd yn edrych ar y mater hwn ac yn sicr byddaf yn gofyn iddi gyflwyno datganiad pan fydd ganddi'r holl wybodaeth berthnasol.

Yn gyntaf, buaswn i'n licio diolch yn fawr i chi i gyd am y cyfle i siarad prynhawn yma, a llongyfarchiadau yn wir i'r Aelodau i gyd am gael eu hethol. Buaswn i hefyd yn licio diolch i'm hetholwyr am ddangos eu ffydd ynof fi i'w cynrychioli nhw fel Aelod rhanbarthol.

Mae pandemig y coronafeirws wedi ysgogi gwerthfawrogiad o'r newydd ynom ni o'n mannau gwyrdd, pwysigrwydd a harddwch Cymru a'r awyr agored yng Nghymru, a'r angen am adferiad gwyrdd. Fodd bynnag, fis Mehefin diwethaf, pan welsom fannau gwerthu bwyd brys drwy ffenest y car yn ailagor, cafodd ein mannau gwyrdd eu difetha gan sbwriel. Mae taflu sbwriel yn broblem hollbresennol ledled Cymru, yn enwedig yn y de-ddwyrain, ac mae fy etholwyr i yn awyddus i fynd i'r afael â'r argyfwng sbwriel sy'n cynyddu'n barhaus. Un ateb posibl i'r argyfwng fyddai ei gwneud yn orfodol i fannau gwerthu bwyd brys drwy ffenest y car argraffu rhifau ceir ar eu pecynnau bwyd fel y gellir olrhain sbwriel er mwyn annog pobl i beidio â thaflu sbwriel. Mae'n rhaid i adferiad COVID yn y de-ddwyrain fod yn adferiad gwyrdd. Felly, hoffwn gael datganiad gan Lywodraeth Cymru ynghylch ei chynlluniau ar gyfer mynd i'r afael â'r argyfwng sbwriel, ac a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried mabwysiadu'r dull hwn i annog pobl i beidio â thaflu sbwriel? Diolch yn fawr.

Diolch, a chroeso. Un o'r pethau olaf a wnes i cyn yr etholiad yn fy mhortffolio blaenorol oedd lansio ymgynghoriad ynghylch tipio anghyfreithlon a thaflu sbwriel. Rwy'n cytuno â chi yn llwyr—mae'n beth ofnadwy ein bod, yn anffodus, wedi gweld cynnydd, yn enwedig dros y 12 mis diwethaf, ac mae'r Llywodraeth hon wedi ei gwneud yn glir iawn bod yn rhaid iddo fod yn adferiad gwyrdd wrth i ni ddod allan o COVID. Ni allwn barhau i wneud yr un pethau yn wahanol; mae'n rhaid i ni wneud pethau gwahanol, a bydd rhan o hynny yn yr adferiad gwyrdd ac yn wir yr adferiad glas. Felly, rwy'n siŵr, pan fydd y Gweinidog—ni allaf gofio pryd y daw'r ymgynghoriad i ben, ond nid yw wedi cau eto—yn cael cyfle i edrych ar yr ymatebion, y bydd yn cyflwyno gwybodaeth berthnasol i'r holl Aelodau bryd hynny.

Hoffwn eich llongyfarch, Trefnydd, ar eich swyddogaeth newydd hefyd. Trefnydd, ddechrau mis Ebrill, cyhoeddodd Pwyllgor Dethol Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol Tŷ'r Cyffredin ei adroddiad ar gynllun pensiwn y glowyr, ac roedd ei ganfyddiadau'n llwm. Dyfynnaf:

'Mae'n hollol amlwg...bod Llywodraeth y DU wedi elwa heb hawl ar drefniadau'r cynllun ac mae'n anniffynadwy i'r Llywodraeth barhau i ddadlau bod y trefniadau'n parhau'n deg.'

Ni ddylai llywodraethau fod yn elwa ar bensiynau glowyr. Roedd yr adroddiad yn glir fod yr elwa hwn ar draul glowyr a'u teuluoedd, y mae llawer ohonyn nhw'n ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd. A gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar ei hymateb i'r adroddiad hwn, sy'n effeithio ar gynifer o fy etholwyr i yng Nghwm Cynon? A wnewch chi hefyd ofyn i'ch cyd-Weinidogion godi hyn gyda Gweinidogion y DU fel y gallwn gael cyfiawnder i'r rhai hynny yr effeithir arnyn nhw?

14:55

Diolch, Vikki Howells, am godi'r pwynt pwysig iawn hwn. Rydym yn ymwybodol iawn o ymgyrch hirsefydlog Undeb Cenedlaethol y Glowyr ynghylch hyn ac, yn amlwg, mae Llywodraethau blaenorol Cymru wedi ei gwneud yn glir iawn i Lywodraeth y DU eu bod yn cefnogi safbwynt yr UCG. Y pwyllgor yr ydych chi'n cyfeirio ato, rwy'n credu ei bod yn galonogol iawn gweld ei fod wedi dod i'r un casgliadau ag a wnaeth Llywodraeth Cymru. Nid yw'n fater sydd wedi'i ddatganoli, ac mae'n amlwg nad oes gennym ni'r pwerau i wireddu eu hargymhellion. Fodd bynnag, mae gennym ymrwymiad i waith teg. Byddwch yn ymwybodol iawn ei bod yn egwyddor sylfaenol y dylai gweithwyr gael tâl teg am eu gwaith, ac rwyf i'n credu bod hynny'n cynnwys pensiwn teg. Felly, byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU ar y mater hwn a byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Senedd drwy ddatganiadau ysgrifenedig.

Gweinidog, a gaf i alw am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd ar y penderfyniad i ganiatáu i feddygon ragnodi pils dros y ffôn neu drwy fideo i alluogi merched a menywod i erthylu gartref? Rwy'n siŵr bod llawer o'r Aelodau wedi clywed gan bobl sy'n pryderu bod dileu unrhyw oruchwyliaeth feddygol uniongyrchol sy'n goruchwylio'r defnydd o'r pils erthylu hyn gartref yn codi nifer o faterion diogelwch o ran y fam, gan beryglu ei hiechyd a'i diogelwch, a'r pryder y gallai arwain at roi mwy o bwysau ar y GIG, sef yr union ganlyniad y mae'r polisi'n ceisio'i osgoi yn y pen draw. Dywedodd y Gweinidog iechyd blaenorol mai cymeradwyaeth dros dro oedd hyn, yn sgil coronafeirws, a fyddai'n dod i ben ar y diwrnod y daw darpariaethau dros dro Deddf Coronafeirws 2020 i ben, neu ar ddiwedd y cyfnod o ddwy flynedd, gan ddechrau ar y diwrnod y cafodd ei gwneud, neu ba un bynnag yw'r cynharaf. Wrth i'r cyfyngiadau coronafeirws gael eu llacio, ac o gofio'r angen i leddfu'r pwysau ar staff rheng flaen y GIG, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog iechyd ynghylch a fydd y polisi dros dro hwn o ganiatáu i fenywod gael gwasanaethau terfynu beichiogrwydd gartref yn barhaol ai peidio? Diolch.

Diolch, a diolch am y cwestiwn yna. Fel y dywedwch, sefyllfa dros dro ydoedd a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol blaenorol, ac rwy'n siŵr, pan fydd y Gweinidog newydd wedi cael amser i'w hystyried—ac fe wnaethoch chi roi dwy enghraifft pryd y byddai'n dod i ben; nid wyf i'n credu ein bod ni wedi cyrraedd yr un o'r ddau eto—yna bydd yn cyflwyno rhagor o wybodaeth.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Llongyfarchiadau i chi, gyda llaw, ar eich etholiad i'r rôl, a llongyfarchiadau i chi, Drefnydd, ar eich apwyntiad i'r rôl bwysig yma yn y Cabinet. Gaf i ddweud i gychwyn faint o anrhydedd ydy fy mod i yma yn eich plith chi fel Aelod o'r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd? Diolch i bobl ac etholwyr Dwyfor Meirionnydd am roi eu ffydd ynof fi. Gaf i hefyd gymryd y cyfle yma i nodi pa mor chwith ydy meddwl am y Senedd yma heb bresenoldeb fy rhagflaenydd, Dafydd Elis-Thomas? Diolch iddo fo am ei gyfraniad aruthrol i fywyd cyhoeddus Cymru ac, yn wir, i dwf y Senedd.

Roeddwn i'n falch iawn o glywed y Prif Weinidog yn dweud yn y Siambr yr wythnos diwethaf nad oedd am weld Gweinidogion y Llywodraeth yn dod i'r Siambr gan wadu cyfrifoldeb am benderfyniadau a phethau sy'n cael eu gwneud oherwydd bod y cyfrifoldeb yna wedi cael ei drosglwyddo i gorff allanol. Gobeithio, felly, y bydd yr un peth yn wir am y gwasanaeth iechyd, ac yn yr ysbryd hynny, felly, a wnaiff y Llywodraeth sicrhau bod adroddiad Robin Holden i fewn i wasanaethau iechyd meddwl bwrdd iechyd gogledd Cymru yn cael ei gyhoeddi'n llawn? Ac a wnaiff y Gweinidog roi diweddariad i ni ar y camau sydd wedi cael eu cymryd i wella a chryfhau gwasanaethau iechyd meddwl gogledd Cymru ers iddyn nhw gael eu tynnu allan o fesurau arbennig yn ôl yn yr hydref? Diolch.

Diolch a chroeso, Mabon. Fel y gwyddoch, mae gennym Weinidog penodol, neu Ddirprwy Weinidog, dros iechyd meddwl a lles, ac mae Lynne Neagle newydd ddod i'r rôl honno ac, yn amlwg, bydd yr adroddiad hwnnw ar ei desg, yn ei hambwrdd. Rwy'n siŵr, ar yr adeg briodol, y bydd yr adroddiad naill ai'n cael ei gyhoeddi neu bydd datganiad i gyd-fynd ag ef, oherwydd, fel y dywedwch, mae'n fater difrifol iawn y mae'r Llywodraeth Cymru hon yn ei gymryd o ddifrif, a byddwn yn amlwg yn sicrhau bod pob Aelod yn cael ei hysbysu.

Maniffesto Llafur Cymru—. A ddylwn i groesawu'r Gweinidog i'w swydd yn Drefnydd yn gyntaf a'i llongyfarch hefyd? Dywedodd maniffesto Llafur Cymru,

'Byddwn yn gweithredu'r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd, i drawsnewid y profiadau a'r canlyniadau i blant a phobl ifanc.'

Er mwyn i hynny fod yn llwyddiannus, rwy'n credu y bydd yn brawf enfawr ar Lywodraeth Cymru. Mae'n rhaid ei ariannu'n llawn ac mae'n rhaid iddo hefyd gysylltu'n ddi-dor addysg, gofal cymdeithasol ac iechyd gyda'i gilydd, ac rwy'n credu bod hynny ynddo'i hun yn her ac ni ddylem fod mewn sefyllfa lle mai addysg yn unig sy'n ysgwyddo'r baich a ddaw, a faint o waith a ddaw, yn sgil cyflwyno'r Ddeddf. Felly, a gawn ni ddatganiad cyn toriad yr haf gan y Gweinidog iechyd i roi gwybod i ni sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflawni'r addewid maniffesto hwnnw, ac i'n galluogi i graffu'n briodol ar gynlluniau cynnar Llywodraeth Cymru?

15:00

Diolch i Hefin David am ei eiriau caredig, a gwn fod hwn yn fater sy'n agos iawn at ei galon. Mae gwaith sylweddol wedi ei wneud, fel y gŵyr yr Aelod, rwy'n siŵr, i baratoi ar gyfer gweithredu'r Ddeddf. Mae arweinwyr trawsnewid, er enghraifft, wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda rhanddeiliaid allweddol a phartneriaid cyflawni fel bod y system newydd yn barod ar gyfer y bobl sy'n mynd i'w chyflawni. Mae canllaw i'r flwyddyn gyntaf o weithredu yn cael ei gwblhau ar hyn o bryd. Bwriedir cyhoeddi hynny yn ystod yr wythnosau nesaf, ac yna bydd gwybodaeth ychwanegol i rieni a'u teuluoedd. Ac yna bydd gwaith yn parhau o ran blwyddyn 2 a blwyddyn 3 y gweithredu, gyda chanllawiau gweithredu ychwanegol i ddilyn.

Llongyfarchiadau i chi ar eich swyddogaeth yn Drefnydd. Nawr, fel y gwyddoch chi, mae'r sector twristiaeth wedi dioddef yn fawr dros y 14 mis diwethaf, yn enwedig yn fy etholaeth i, sef Aberconwy, ac mae'n wirioneddol wych, mewn gwirionedd, yrru ar hyd promenâd Llandudno nawr a mynd trwy'r dyffryn a gweld gwestai'n dechrau ailagor yn araf. Fodd bynnag, maen nhw'n dal i fod o dan anfantais fawr yma yng Nghymru o'u cymharu â'r rhai dros y ffin yn Lloegr. Yma, mae gwestai wedi'u cyfyngu gan y rheol 2m, yn Lloegr mae'n 1m neu fwy, felly mae hynny yn effeithio ar faint sy'n cael cadw bwrdd mewn bwytai—mae'n rhaid iddyn nhw gadw at hanner y niferoedd yno. Nawr, mae gennym ni'r gwaharddiad afresymol ar berfformiadau byw mewn gwestai. Nid yw rhai o fy etholwyr i sydd, yn wir, yn cael eu cyflogi fel diddanwyr yn y sector hwn wedi gweithio ers tua 16 mis bellach, ac rydym  ni hefyd yn clywed am westai yn colli cwsmeriaid i Loegr—teithiau bws ac ati. Maen nhw eisiau adloniant yn eu gwesty. Felly, a wnewch chi gyflwyno datganiad, Trefnydd, yn sicrhau y bydd ein rheoliadau yn gyson cyn gynted â phosibl er mwyn i westywyr yn Aberconwy allu gweithio i'r rheol 1m neu fwy, a hefyd y cawn ni fynd yn ôl at gael adloniant byw yn ein gwestai? Diolch, Llywydd.

Diolch, Janet Finch-Saunders, am eich geiriau caredig ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chithau hefyd. O ran—. Nid wyf i'n ei gweld hi'n sefyllfa annheg i ni. Yn amlwg, mae gan Loegr reoliadau gwahanol i'r hyn sydd gennym ni yng Nghymru ynghylch coronafeirws. Weithiau maen nhw yr un fath, weithiau maen nhw'n wahanol, ac, yn amlwg, gan fy mod i'n cynrychioli etholaeth ar y ffin, rwy'n ymwybodol iawn bod pobl yn teimlo nad ydyn nhw'n cael eu trin yn yr un modd, ond nid yw hynny'n wir. A byddwch chi wedi clywed y Prif Weinidog yn ateb yn helaeth ynghylch lletygarwch a sectorau eraill mewn cysylltiad â choronafeirws. Yr wythnos nesaf, bydd adolygiad arall o'r rheoliadau. Bydd popeth yn cael ei ystyried, ond, fel y dywedodd y Prif Weinidog, y flaenoriaeth yw cadw pobl ac, yn amlwg, busnesau yng Nghymru yn ddiogel. Unwaith eto, rydym ni wedi cefnogi busnesau yn y ffordd a amlinellwyd gan y Prif Weinidog, ac mae'n dda gweld lleoedd yn agor nawr a phobl mewn bwytai ac ati. Ond rwy'n credu bod yn rhaid i ni bob amser ystyried diogelwch a diogelu cymaint o fywydau â phosibl, sef y rheswm sylfaenol dros y cyfyngiadau yr ydym wedi eu gweithredu erioed.

Trefnydd, croeso i'ch rôl newydd. 

Hoffwn i ofyn am ddatganiad ar ddiogelwch tomenni glo yng nghymoedd y de. Yn gynharach eleni, adroddwyd bod bron i 300 o domenni glo yng Nghymru wedi eu dosbarthu fel rhai â risg uchel, a bod y nifer mwyaf, mewn unrhyw ardal awdurdod lleol, yng Nghaerffili, yn fy rhanbarth i. Nawr, rwy'n sylweddoli y bydd llawer o'r rhain ar dir preifat—nid ydyn nhw i gyd o dan reolaeth awdurdodau lleol—ond mae rhai etholwyr wedi cysylltu â mi yn gofyn a oes modd i'r wybodaeth am leoliad y safleoedd hyn fod ar gael yn haws i'r cyhoedd. Felly, gofynnaf am eglurder ynglŷn â hynny, ond, yn bwysicach, hoffwn i wybod pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd nawr, sut y mae hyn wedi datblygu ers yr etholiad, a pha gamau yr ydych yn eu mynnu o du Llywodraeth y DU, oherwydd siawns na ddylen nhw fod yn talu i wneud y tomenni hyn yn ddiogel. Ni arhosodd elw cloddio yn y cymoedd hyn, ac eto rydym ni wedi talu pris mor uchel am gloddio glo. Trefnydd, rwy'n cynrychioli ardal sydd wedi ei handwyo gan alar oherwydd tomenni glo, ac ers tirlithriad Tylorstown y llynedd, yn y rhanbarth cyfagos, gwn fod pobl sy'n byw ger y tomenni hyn yn mynd mor ofnus bob tro y bydd glaw trwm, fel sydd wedi digwydd yn ystod yr wythnosau diwethaf. Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, fel y gallwn ni leddfu pryderon pobl, fel y gallwn ni fod yn agored, ond, yn bwysicaf oll, er mwyn gwybod pa gamau fydd yn cael eu cymryd i leddfu pryderon pobl? Diolch yn fawr iawn.

15:05

[Anghlywadwy.]—Delyth Jewell. Fel y gwyddoch, gwnaed llawer iawn o waith yng nghyswllt diogelwch tomenni glo ers i ni gael y tirlithriad hwnnw yn Tylorstown ym mis Chwefror 2020. Cynullodd y Prif Weinidog fforwm diogelwch tomenni glo, ac mae'n amlwg bod Llywodraeth y DU—Ysgrifennydd Gwladol Cymru—wedi eistedd ar y fforwm hwnnw, oherwydd, fel y dywedwch, Llywodraeth y DU sy'n—. Etifeddiaeth yw hon; mae hyn yn rhagflaenu datganoli. Ac mae'n amlwg bod angen i Lywodraeth y DU ddarparu cyllid sylweddol, oherwydd, fel y dywedwch, gyda phob mis sy'n mynd heibio, mae'r bil hwnnw yn cynyddu yn fwy ac yn fwy. Felly, mae'n bwysig iawn.

Un o'r pethau a ddaeth i'r amlwg yn gyflym iawn oedd nad oeddem yn gwybod ble'r oedd yr holl domenni glo hynny a phwy oedd yn berchen arnyn nhw. Felly, mae llawer iawn o waith wedi ei wneud i gael cofrestr, oherwydd, fel y dywedwch, mae llawer ohonyn nhw mewn perchnogaeth breifat. Mae llawer ohonyn nhw ym mherchnogaeth yr awdurdod lleol, ond rwy'n credu bod y rhan fwyaf ohonyn nhw mewn perchnogaeth breifat. Felly, mae hwn yn waith sydd wedi ei wneud. Mae llinell gymorth ar gael. Gwnaeth Llywodraeth Cymru yn siŵr fod llinell gymorth ar gael i bobl a oedd yn pryderu, a byddaf yn sicrhau bod y rhif ffôn ar gyfer y llinell gymorth yna yn mynd at bob Aelod, oherwydd, yn amlwg, mae gennym ni Aelodau newydd nad ydyn nhw efallai'n ymwybodol ohono. Ond mae hwn yn ddarn o waith sy'n parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, gan weithio gyda Llywodraeth y DU ac, yn amlwg, awdurdodau lleol.

Hoffwn i ofyn am ddatganiad brys ar unrhyw gytundeb masnach rydd bosibl ag Awstralia. Fe wnaethom ni glywed y newyddion dros y penwythnos fod Llywodraeth Geidwadol y DU yn troi ei chefn ar y Gymru wledig ac yn troi ei chefn ar y diwydiant amaethyddol. Rydym wedi clywed gan y ddau undeb ffermio am yr effaith andwyol bosibl ar ffermio ledled ein gwlad ar sail cytundeb masnach rydd a fydd o fudd i gyllidwyr y Torïaid yn Ninas Llundain ac a fydd yn aberthu amaethyddiaeth Cymru i dalu am hynny. Mae'n bwysig nid yn unig i ucheldir Cymru, nid yn unig i'r Gymru wledig, ond i'n hunaniaeth genedlaethol ni ein hunain ein bod yn gallu trafod a dadlau y materion hyn yn y Senedd hon a sicrhau bod lleisiau'r Senedd hon yn cael eu clywed—ein bod ni eisiau cefnogi ein ffermwyr a'n bod ni eisiau cefnogi ein diwydiant defaid hyd yn oed os yw'r Llywodraeth Geidwadol yn troi ei chefn arnyn nhw, ac mae angen datganiad brys ar hynny, neu gyfle i drafod y materion hyn.

Hoffwn i ofyn hefyd am ddatganiad ar yrru oddi ar y ffordd a'i effaith ar gymunedau yng Nghymru. Efallai fod yr Aelodau a'r Gweinidog wedi gweld yr adroddiadau ar y BBC ddoe o Fynydd Carn-y-Cefn yng Nglynebwy, lle mae porwyr wedi bod yn trafod sut mae gyrru oddi ar y ffordd yn effeithio arnyn nhw, yn effeithio ar ein hamgylchedd lleol ym Mlaenau Gwent, ond mae hefyd yn cael effaith wirioneddol ar gymunedau'r fwrdeistref hefyd. Mae hyn yn rhywbeth sydd wedi bod yn digwydd ers rhai blynyddoedd, ac mae gyrwyr oddi ar y ffordd, wrth chwalu ffensys, wrth ddinistrio ein hamgylchedd, yn cael effaith wirioneddol ar ein bwrdeistref ac ar amgylchedd Blaenau'r Cymoedd. Ond rwy'n cydnabod ei fod hefyd yn broblem mewn mannau eraill yn y wlad. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu gwneud datganiad ar hyn a dod â gwahanol asiantaethau at ei gilydd er mwyn mynd i'r afael â'r mater hwn.

Diolch. Ar hyn o bryd, nid ydym yn gwybod union fanylion cynnig Llywodraeth y DU i Awstralia. Fel chithau, rwyf i wedi gweld llawer o ddyfalu yn y wasg, ond, yn sicr, mae swyddogion Llywodraeth Cymru o fewn fy mhortffolio fy hun ac o fewn portffolio'r economi wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda Llywodraeth y DU i egluro'n glir iawn ein barn bod yn rhaid gwneud popeth i gefnogi ein sector amaethyddol, ac mae hynny'n cynnwys y cwotâu a'r tariffau ar gyfer amaethyddiaeth. Fe wnes i gyfarfod ag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr yr wythnos diwethaf, ynghyd â Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, i glywed yr hyn yr oedden nhw'n ei ddweud, oherwydd bod ganddyn nhw farn gref iawn amdano hefyd, yn amlwg. Rwy'n credu bod angen i ni barhau i gael y trafodaethau hynny gyda Llywodraeth y DU. Mae ein swyddogion hefyd yn cyfarfod yn rheolaidd â'r Adran Masnach Ryngwladol yn ogystal â swyddogion Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig. Rwy'n credu bod angen i ni gael yr wybodaeth ddiweddaraf, ond yn sicr nid ydym yn cael llawer o'r wybodaeth yr wyf, yn anffodus, wedi ei darllen yn y wasg.

Mae'r trafodaethau gydag Awstralia yn parhau. Darllenais hefyd, rwy'n credu mai Liz Truss yw hi, fod yr Ysgrifennydd masnach ryngwladol yn gobeithio eu cwblhau erbyn mis nesaf, felly mae angen dod i ryw fath o gasgliad. Ond hyd nes y byddwn yn gwybod yr union fanylion rydym yn parhau i weithio'n agos iawn, ac rwy'n sicr yn ceisio cael rhywfaint o wybodaeth gan Ysgrifennydd Gwladol DEFRA fel mater o frys.

O ran eich ail bwynt, o ran gyrru oddi ar y ffordd, byddaf yn sicrhau bod y Gweinidog wedi clywed yr hyn a ddywedoch chi, oherwydd fy mod i'n credu ei bod yn bwysig iawn bod asiantaethau'n gweithio gyda'i gilydd, ond gofynnaf iddi ysgrifennu at yr Aelod.

15:10

Diolch i'r Trefnydd. Rŷn ni allan o amser ar yr eitem yma. Fe fyddwn ni nawr yn cymryd toriad byr ar gyfer caniatáu newidiadau yn y Siambr. Fe wnaiff y gloch ganu dwy funud cyn i ni ailddechrau.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:11.

15:20

Ailymgynullodd y Senedd am 15:22, gyda'r Dirprwy Lywydd (David Rees) yn y Gadair.

4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Adnewyddu a diwygio: Cefnogi lles a chynnydd dysgwyr

Croeso nôl. Yr eitem nesaf ar yr agenda yw'r datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg ar adnewyddu a diwygio, cefnogi lles a chynnydd dysgwyr. Galwaf ar Weinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, mae'r flaenoriaeth sydd angen sylw ar frys yn glir: sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn gwneud cynnydd tuag at gyflawni eu potensial llawn, er gwaethaf y pandemig. Fe fydd pob penderfyniad y byddaf i'n ei wneud fel Gweinidog yn cael ei lywio gan anghenion dysgwyr a'u lles nhw, gyda ffocws ar leihau anghydraddoldebau addysgol a sicrhau'r canlyniadau gorau i bawb.

Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod, yn amlwg, yn un bwysig iawn yn ein hysgolion ni, ein lleoliadau dysgu ni, ein colegau a'n prifysgolion ac yn dangos pa mor bwysig ydyn nhw i'n plant a'n pobl ifanc. Mae ymarferwyr addysg wedi ymateb yn arwrol i heriau'r pandemig, gan arddangos hyblygrwydd, ymrwymiad a gwydnwch trawiadol. Dwi am ddiolch iddyn nhw am eu hymroddiad, eu dyfeisgarwch a'u hymateb cyflym. Mae dysgwyr hefyd wedi gorfod addasu, gan ddysgu a gweithio drwy ddulliau gwahanol iawn. Ond mewn gwirionedd, er gwaethaf hyn oll, mae'r pandemig wedi cael effaith arwyddocaol ar ein pobl ifanc, ar y proffesiwn addysg sy'n eu cefnogi, ac ar eu teuluoedd. Mae llawer o'n plant a'n staff wedi’i chael yn anoddach rheoli eu hiechyd meddwl a'u perthynas gydag eraill, ac mae wedi amlygu'r anghydraddoldebau di-ildio sy'n dal i fodoli mewn rhannau o'n system addysgol, bylchau o ran cyrhaeddiad ac mewn mynediad digidol na ddylai'r un ohonom eu derbyn.

Mae'n rhaid inni sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl. Fe fydd hyn yn galw am ymdrech aruthrol gan bob rhan o'r Llywodraeth a'r system addysg er mwyn mynd i'r afael ag effeithiau uniongyrchol a thymor hirach COVID ar addysg. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rŷm ni wedi cymryd camau breision o ran cefnogi disgyblion o gefndiroedd difreintiedig. Mae'n rhaid inni adeiladu ar hyn. Allwn ni ddim caniatáu i’r pandemig gyfyngu ar uchelgais pobl ifanc o dan unrhyw amgylchiadau.

Fel Gweinidog a fydd yn gweithio gyda'r proffesiwn, fe fydd pob polisi a phenderfyniad yn cael ei wneud yng ngoleuni pa un ai yw'n cefnogi ein dysgwyr mwyaf difreintiedig. Ein nod ni yw sicrhau bod pob dysgwr yn gwneud cynnydd tuag at gyflawni eu potensial llawn, dim ots lle maen nhw arni ar hyn o bryd. Ac nid mater yw hyn o ddweud wrth ddysgwyr eu bod nhw 'ar ei hôl hi' neu dreulio oriau yn gweithio ar daflenni gwaith a phrofion. Allwn ni ddim seilio ein hadferiad yn dilyn y pandemig ar fodel o'r hyn sy'n ddiffygiol. Yn hytrach, mae angen inni aildanio brwdfrydedd dros ddysgu a gwneud yn siŵr bod dysgwyr—yn enwedig dysgwyr sydd wedi cael eu heffeithio fwyaf—yn teimlo eu bod nhw'n cael eu cefnogi bob cam o'r ffordd. Fe fyddwn ni'n rhoi dysgwyr gyntaf felly, gan gefnogi eu hiechyd a'u lles, eu lefelau cymhelliant a'u hyder, a gwneud yn siŵr eu bod nhw'n parhau i ddatblygu'r sgiliau allweddol sy'n eu galluogi i ddysgu. Dyma'r seiliau y bydd ein dysgwyr yn adeiladu arnyn nhw i wneud y cynnydd sydd ei angen.

Mae'r pecynnau cymorth rŷn ni'n eu datblygu yn cael eu dylunio i fynd i'r afael â'r heriau unigryw sy'n wynebu gwahanol ddysgwyr. Mae pob dysgwr wedi bod drwy ei brofiad ei hun o gyfnod COVID, ac fe fydd natur ein cefnogaeth yn adlewyrchu hyn. Bydd ein cefnogaeth yn canolbwyntio ar helpu dysgwyr ôl-16 i symud ymlaen i gamau nesaf eu taith, darparu'r seiliau sy'n galluogi ein dysgwyr mwyaf agored i niwed a difreintiedig i gyflawni eu potensial, a chefnogi datblygiad hollbwysig ymhlith dysgwyr blynyddoedd cynnar.

A bydd y dysgwyr ieuengaf hynny'n cael eu cefnogi gan y £13 miliwn ychwanegol rwy'n ei gyhoeddi heddiw ar gyfer ysgolion a lleoliadau nas cynhelir, i'w helpu i ddarparu capasiti addysgu ychwanegol i gefnogi anghenion unigryw ein dysgwyr yn y blynyddoedd cynnar. Mae cyfleoedd rhyngweithio ystyrlon o ansawdd yn hanfodol, ac mae galluogi cymarebau gwell o ran ymarferwyr a dysgwyr yn helpu i ddarparu'r cyfleoedd chwarae addysgol, gweithredol, a dysgu drwy brofiadau gyda chymorth ymarferydd, sy'n ofynnol ar gyfer ein dysgwyr ieuengaf.

Bu heriau penodol i'n dysgwyr ieuengaf sy'n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg lle nad yw'r Gymraeg yn cael ei siarad gartref. Mae athrawon mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg wedi gweithio'n eithriadol o galed yn ystod y pandemig i gefnogi cynnydd dysgwyr yn y Gymraeg, ac yn bwysicach, eu cariad at ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Byddwn ni'n parhau i gefnogi'r athrawon a'r dysgwyr hynny, gan adeiladu ar gefnogaeth y rhaglen Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau, sydd wedi helpu i gynyddu capasiti ac i ddod â dulliau newydd ac arloesol o ddiwallu anghenion ieithyddol ysgolion.

Nid oes gennyf i unrhyw amheuaeth bod gan ein cwricwlwm newydd y potensial i drawsnewid dysgu, ond dim ond os ydym ni'n cefnogi ein hathrawon ni i'w wneud yn llwyddiant. Rhaid i ni wella a diwygio, ac rwy'n benderfynol ein bod yn adeiladu ar y pwyslais ar les a hyblygrwydd a welwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a sicrhau ei fod yn cyd-fynd yn agos â'r cwricwlwm newydd. Mae ein system addysg wedi dangos cadernid a hyblygrwydd rhyfeddol, ac mae'n rhaid i ni ddysgu o hynny.

Rwy'n bwriadu cymryd camau ar unwaith i gefnogi'r proffesiwn a rhoi lle iddyn nhw ganolbwyntio ar yr hyn y maen nhw'n ei wneud orau: addysgu. Mae hynny'n golygu ymdrin â biwrocratiaeth ddiangen, ymddiried yn eu barn broffesiynol a chefnogi eu lles. Rwyf eisiau i'r system gyfan ddysgu o'r hyn sydd wedi gweithio yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a pharhau i gynyddu gallu i wella.

Dyna pam yr wyf i hefyd yn cyhoeddi £6.25 miliwn i helpu athrawon mewn ysgolion i ehangu eu gallu a'u medrusrwydd i gefnogi lles dysgwyr o fewn addysgu, hyrwyddo arfer gorau a rhannu hynny ar draws ysgolion, fel ein bod ni'n helpu ysgolion i feithrin cadernid rhag COVID ac ehangu'r newidiadau cadarnhaol i ffyrdd o weithio. Daw hyn â'n buddsoddiad ni i dros £150 miliwn mewn cymorth addysgu mewn ysgolion a cholegau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. 

Byddaf i'n gweithio mewn partneriaeth â'r proffesiwn, ein partneriaid addysg, undebau llafur a rhanddeiliaid eraill, i sicrhau ein bod ni'n cyd-fynd â'r blaenoriaethau cyffredin hyn ac yn symud tuag atyn nhw gyda'n gilydd. Byddaf i'n gwrando ar leisiau ein dysgwyr, gan adeiladu ar waith gwerthfawr arolygon 'Coronafeirws a Fi' Comisiynydd Plant Cymru, fel bod gan ein plant a'n pobl ifanc lais yn y polisïau sy'n effeithio fwyaf arnyn nhw.

Mae ein partneriaid eisoes wedi ein helpu ni i ddiffinio'r egwyddorion llywodraethu yr wyf i wedi'u nodi heddiw ar gyfer ein cynlluniau adnewyddu a diwygio. Yn ystod yr wythnosau nesaf, byddaf i'n cyhoeddi cynllun manwl sy'n adlewyrchu'r egwyddorion hynny ac sy'n adeiladu ar y 1,800 o staff addysgu llawn amser ychwanegol a gafodd eu recriwtio yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac yn eu cefnogi. Bydd y cynllun hefyd yn disgrifio sut y byddwn ni'n gweithio gyda'n partneriaid i alluogi dysgwyr i symud ymlaen yn hyderus drwy eu haddysg. Ac yn olaf, byddaf i'n nodi sut y byddwn ni'n gwerthuso'r camau yr ydym ni'n eu cynnig, a sut y byddwn ni'n dangos bod ein cynlluniau'n llwyddo, o ran cefnogi ein dysgwyr a'n hathrawon ac adnewyddu'r sector addysg i symud ymlaen at ddiwygio.  

Dirprwy Lywydd, bydd y flwyddyn nesaf hon yn hanfodol er mwyn sicrhau y gallwn ni gyflawni ein huchelgeisiau mawr ni ar gyfer dysgwyr yng Nghymru. Mae'n ddyletswydd arnom ni i beidio â chaniatáu i'r pandemig bylu dyheadau na chulhau gorwelion ein plant a'n pobl ifanc. Mae'r penderfyniadau yr ydym ni'n eu gwneud yma nawr yn hanfodol i sicrhau bod pob dysgwr unigol yn cael ei gefnogi i fod y gorau y gall fod.

Nid yw COVID-19 wedi diflannu, ac fel Llywodraeth byddwn ni'n parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i ymateb i'r pandemig. Ond nawr yw'r amser i gefnogi ein hymarferwyr a'n dysgwyr ni i wneud y cynnydd sydd ei angen arnyn nhw, i adeiladu ar y cynnydd yr ydym ni wedi'i wneud yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac i edrych ymlaen ac i fanteisio ar y cyfleoedd sydd o'n blaenau ar gyfer addysg yng Nghymru.

15:30

Cyn i mi alw'r siaradwr nesaf, a gaf i atgoffa'r Aelodau, yr hen a'r newydd, mai diben datganiadau yw gofyn cwestiynau ac nid gwneud areithiau hir? Mae hynny ar gyfer dadleuon, a fydd yn dod yn ddiweddarach yn y Senedd; rwy'n siŵr y bydd pawb yn cymryd rhan yn hynny. Felly, er bod pum munud wedi'u neilltuo i lefarwyr y prif bleidiau, mae gan bawb arall un funud. Cadwch at hynny a gofynnwch gwestiynau. Ac i'r Gweinidogion, a gaf i eu hatgoffa i fod yn gryno yn eu hatebion hefyd?

Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Yn gyntaf, a gaf i'ch llongyfarch ar eich penodiad yn Weinidog addysg? Mae'n swydd mor hanfodol bwysig; mae gennych chi ddyfodol ein plant yng Nghymru yn eich dwylo chi nawr. Ac i'r diben hwn, yn ogystal â chraffu arnoch chi a'ch dwyn i gyfrif, byddwn ni'r Ceidwadwyr Cymreig yn ceisio gweithio gyda chi mewn unrhyw ffordd y gallwn ni, mewn modd adeiladol, oherwydd mae'n bwysig nawr ein bod ni'n gwneud pethau'n gywir o ran addysg a dyfodol ein plant, ar ôl popeth y maen nhw wedi bod drwyddo yn y pandemig yn ystod y flwyddyn a hanner diwethaf—mae'n gwbl hanfodol ein bod ni'n gwneud pethau'n gywir, ac mae'n hanfodol ein bod ni'n gweithio gyda'n gilydd ar draws y Siambr er mwyn gwneud hyn. 

Mae angen i ni sicrhau bod ein plant yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd, eu bod yn cael y system addysg deg, gyfartal a blaengar y maen nhw'n ei haeddu, a'u bod yn cael y gefnogaeth a'r cyfleoedd i symud ymlaen i'w bywydau yn y dyfodol. Hoffwn i hefyd, fel yr oeddech chi wedi'i amlinellu yn eich datganiad, ddiolch yn gyflym, os caf i, Dirprwy Lywydd, i'r holl staff addysgol sydd wedi gofalu am ein plant drwy gydol y pandemig hwn gyda'r holl ffyrdd newydd o weithio, a gweithio gartref. Fel rhiant i blentyn 11 oed, gwelais drosof fi fy hun yr anawsterau yn sgil hynny, cyrraedd ein plant, a darparu'r addysg honno hefyd. Felly, pob clod iddyn nhw. Gwnaethon nhw waith mor wych o dan amgylchiadau mor anodd. 

Hefyd, hoffwn i sôn am y pandemig a'r effaith a gafodd hwnnw. Roedd yn enfawr. Roedd yn amlwg yn effeithio ar bawb, ond collodd ein pobl ifanc gymaint o gyfnodau o'u bywyd, a rhoi'r gorau i gymaint i amddiffyn y rhai sy'n agored i niwed yn ein cymdeithas, ac maen nhw wedi colli rhywfaint o addysg oherwydd hynny, ond hefyd agwedd gymdeithasol ysgol, y gwelwn ni nawr sydd, fel yr ydych chi wedi ei amlinellu yn eich datganiad, yn hanfodol, ac yn rhan hanfodol bwysig o daith system addysg ein plant. Felly, roeddwn i eisiau sicrhau ein bod ni'n canolbwyntio'n wirioneddol ar hynny. 

Ynghylch y datganiad, o ran cyllid, wrth gwrs, rydym ni'n croesawu eich datganiad, a chroesawn ni fwy o arian yn dod i'r system addysg. Mae'n hanfodol nawr ein bod ni nid yn unig yn llenwi bylchau gydag arian, ond ein bod ni wir yn ystyried sut y gallwn ni gefnogi ein plant ni yn y tymor hir, a'n hathrawon ni yn y tymor hir nawr, a chadw'r cyllid hwnnw'n fyw cyhyd ag sy'n angenrheidiol i'w helpu nhw i ddod yn ôl ar eu traed—disgyblion ac athrawon. Rydym ni'n croesawu'r cyllid, ond yn benodol, Gweinidog, a wnewch chi amlinellu sut y caiff y cyllid hwnnw ei ddefnyddio? A yw'n mynd i gael ei ddefnyddio ar gyfer athrawon newydd, neu a yw, fel yn y cylch ariannu diwethaf, yn mynd i gael ei ddefnyddio ar gyfer cynorthwywyr addysgu newydd?

Yn amlwg, mae gwahaniaeth mawr rhwng y ddau, ac rydym ni wedi gweld nifer yr athrawon yn gostwng yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Felly, byddai'n dda cynyddu nifer yr athrawon sydd gennym ni. Byddwn i'n gwerthfawrogi eglurder ar hynny. Hefyd, o ran graddau asesu athrawon, mae angen i ni ystyried y presennol, a dyna sydd bwysicaf yn ein hysgolion ar hyn o bryd. Mae gennym ni lawer iawn o bwysau yn cael ei roi ar ein hysgolion a'n hathrawon i gyflawni hyn yn gywir, ac mae'n bwysig ein bod ni i gyd yn gweithio gyda'n gilydd i sicrhau bod y graddau asesu athrawon yn deg ac yn gywir, ond mae'r pwysau y maen nhw'n ei roi ar wneud yr asesiadau ac ati, a phopeth sy'n gysylltiedig â hynny i gyrraedd y pwynt hwnnw nawr, yn enfawr.

Rwy'n gwybod eich bod chi wedi ymweld ag ysgol yn fy rhanbarth i yn ddiweddar, Ysgol Gyfun Trefynwy, ac rwy'n gwybod bod y pennaeth yno yn pryderu'n fawr ynghylch y niferoedd y mae'n rhaid iddo ymdrin â nhw—gorfod darparu 30,000 o raddau asesu athrawon a'r cyfan sy'n gysylltiedig â hynny. Roeddwn i eisiau gwybod pa fathau o gynlluniau sydd gennych chi ar waith i gefnogi ein hathrawon yn hynny o beth. A hefyd, a ydych chi'n credu bod y pwysau hynny, felly, os ydych chi'n ystyried ceisio cyflwyno'r cwricwlwm newydd hwn, yn ôl yr amserlen sydd gennym ni—a ydych chi'n credu bod y pwysau hynny'n arwain pobl oddi ar y trywydd iawn yr adeg hon pryd y dylen nhw fod yn defnyddio'r amser i baratoi ar gyfer cyflwyno'r cwricwlwm newydd hwnnw, o fewn yr amserlenni sydd gennym ni? Felly tybed a wnewch chi ateb rhai o'r cwestiynau hynny.

Hefyd, o ran addysg cyfrwng Cymraeg, mae eich datganiad yn cydnabod bod heriau penodol wedi bod i'r dysgwyr iau sy'n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg, lle nad oedd y Gymraeg yn cael ei siarad gartref. Mae hwn yn fater yr oedd Estyn wedi'i godi'n ddiweddar wrth ymgysylltu'n ddiweddar â'n hysgolion, ac roedd llawer o ysgolion yn teimlo, at ei gilydd, fod rhywfaint o golli tir ym medrau iaith ein disgyblion. Felly, mae angen, Gweinidog, ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi, cymorth wedi'i dargedu'n fwy ar gyfer y dysgwyr penodol hyn. Byddai gennyf i ddiddordeb mewn clywed yr hyn sydd gennych chi i'w ddweud ynghylch hynny.

A hefyd, o ran iechyd meddwl, mae'n rhaid i iechyd meddwl fod—

15:35

A gaf i atgoffa'r Aelod ei bod hi nawr wedi cael y pum munud? Byddaf i'n efelychu fy rhagflaenydd drwy sicrhau bod pobl yn cadw at yr amser.

Iawn. Mae'n ddrwg gennyf. Dof at y terfyn. Yn amlwg, mae'n rhaid i iechyd meddwl fod yn flaenoriaeth lwyr, ond yn eich datganiad chi nid oeddech chi mewn gwirionedd wedi ymdrin ag iechyd meddwl ein hathrawon a sut y byddan nhw'n cael eu cefnogi. Felly, byddwn i'n gwerthfawrogi eich sylwadau ar hynny. Diolch, Gweinidog. Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd.

Diolch am eich geiriau yn fy llongyfarch, ac am wneud eich sylwadau yn y fath gywair. Yn sicr, byddaf i eisiau gweithio'n adeiladol gyda'r holl bleidiau yn y Siambr hon i gyflawni dros ein plant a'n pobl ifanc, ledled Cymru. Rwy'n credu, os byddwn ni'n canolbwyntio ar les a dilyniant dysgwyr, gan gefnogi lles y proffesiwn, yn y ffordd y cyfeiriodd yr Aelod ato ar ddiwedd ei chwestiwn, y byddwn ni'n dod o hyd i ddigon o dir cyffredin.

Ar ddiwedd y Senedd ddiwethaf, gwnaethom ni gynnal ymarfer helaeth, fel y mae'r Aelod yn ei wybod, o ran edrych ar effaith COVID ar draws pob agwedd ar ein cymdeithas. Roedd yn amlwg iawn bryd hynny, fel y gwnaethom ni ei drafod yn y Siambr hon ar ddiwedd y Senedd ddiwethaf, y byddai ein plant a'n pobl ifanc yn ysgwyddo baich sylweddol o ran ymdrin â COVID oni bai ein bod yn cymryd camau penodol i ymyrryd. Dyna sy'n ysgogi'r datganiad yr wyf i wedi'i wneud heddiw. Rwy'n cytuno â'r Aelod bod gweledigaeth hirdymor ac ymrwymiad hirdymor yn gwbl hanfodol. Rwy'n credu mai dyna'r cymhelliant y tu ôl i nifer o'r ymyriadau yr ydym ni wedi'u gwneud hyd yn hyn, sy'n canolbwyntio ar allu dysgwyr i ddysgu, ond mewn ffordd sy'n cefnogi eu lles ehangach, sy'n rhoi iddyn nhw y sgiliau y mae eu hangen arnyn nhw, neu i ailddysgu'r sgiliau nad oedden nhw efallai wedi gallu eu harfer yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, fel bod eu hymgysylltiad â'u dysgu gystal ag y gall fod. Rwy'n credu y bydd angen dull pwrpasol iawn o ymdrin â dysgwyr, oherwydd nid yw profiad pob dysgwr o'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yr un fath.

O ran y cyllid yr oedd yr Aelod wedi gofyn i mi amdano, bydd yn cofio'r cyhoeddiad gwerth £72 miliwn o fuddsoddiad ar ddiwedd tymor diwethaf y Senedd, a oedd wedi'i fwriadu yn bennaf i gefnogi ein cyllid ar gyfer y rhaglen recriwtio, adfer a chodi safonau sy'n canolbwyntio'n benodol ar ddysgwyr agored i niwed a dysgwyr difreintiedig, ac yn ogystal â hynny, cyllid o £33 miliwn i gefnogi addysgu ôl-16 mewn colegau addysg bellach a dosbarthiadau chweched dosbarth awdurdodau lleol. A bydd hwnnw, ynghyd â'r cyllid heddiw, yn cael eu defnyddio i gefnogi dysgwyr yn y dyfodol, yn y cyfnod i ddod.

O ran y cyllid newydd, mae'n cyflawni dau ddiben. Yn gyntaf, gwella'r cymarebau ar gyfer dysgwyr blynyddoedd cynnar. Rydym ni'n ymwybodol bod meithrin cydberthnasau, dysgu drwy chwarae, yn gwbl hanfodol yn y blynyddoedd cynnar, ac felly mae'r cymarebau'n bwysig iawn. Felly, mae'r cyllid wedi'i gynllunio i wella'r cymarebau hynny, ac yna hefyd i ddarparu adnoddau fel y gall athrawon gefnogi lles dysgwyr drwy ddysgu, a bod yr arferion gorau hynny'n cael eu rhannu ymhlith ein hysgolion. Felly, mae ganddo'r ddau ddiben hynny.

Gofynnodd yr Aelod rai cwestiynau penodol iawn ynghylch y gwaith o ran graddau wedi'u pennu gan y ganolfan ar gyfer yr asesiadau yr haf hwn. Rwyf i'n cydnabod yn llwyr fod athrawon yn chwarae rhan gwbl hanfodol wrth gyflawni hynny. Gwnaethom ni ddysgu hynny o'r haf diwethaf—pa mor bwysig yw ymddiried ym marn athrawon wrth gyflawni'r canlyniadau i'n dysgwyr. Rwy'n cydnabod bod hynny'n golygu eu bod yn rheoli blaenoriaethau sy'n cystadlu â'i gilydd yn eu bywyd gwaith. Rydym ni wedi ceisio cefnogi hynny drwy ddarparu adnoddau a deunyddiau, drwy ddarparu rhywfaint o hyblygrwydd ychwanegol, yn enwedig  o ran asesu a chymedroli diwedd cyfnod mewn blynyddoedd nad ydyn nhw'n arwain at gymwysterau, a darparu rhywfaint o arian ychwanegol fel y gall ysgolion greu rhywfaint o gapasiti ychwanegol yn eu darpariaeth. 

O ran y cwricwlwm, nid wyf i eisiau colli'r momentwm sy'n bodoli yn y system tuag at weithredu'r cwricwlwm. Mae brwdfrydedd mawr, rwy'n credu, a'r hyn rwy'n credu yr ydym ni wedi'i ddysgu o COVID yw bod angen i ddysgwyr allu addasu a bod yn fentrus ac ymateb i fyd sy'n newid o'u cwmpas—a'r canolbwyntio hollbwysig hwnnw ar les dysgwyr. Dyna'n union yw'r rhinweddau y mae eu hangen arnom ni yn ein system ysgolion er mwyn ffynnu ym myd y cwricwlwm newydd. Felly, rwy'n awyddus ein bod ni'n symud ymlaen, a'n bod ni'n adeiladu ar yr hyn yr ydym ni wedi'i ddysgu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac ymgorffori hynny yn y cwricwlwm newydd. 

Yn olaf, Dirprwy Lywydd, ar fater iechyd meddwl, rwy'n credu bod mater lles dysgwyr a gweithwyr proffesiynol wrth wraidd hyn. Cafodd y fframwaith ysgol gyfan ei gyhoeddi ar ddiwedd tymor diwethaf y Senedd. Rydym ni wedi cyhoeddi cyllid sylweddol i ddatblygu hynny yn nhymor y Senedd hon, ac mae'n parhau i fod yn ymrwymiad sylfaenol ar fy rhan i i gyflawni hynny yn ein hysgolion. 

15:40

Llongyfarchiadau mawr ichi ar eich penodiad. Dwi'n edrych ymlaen at gydweithio efo chi, Jeremy. Byddwch chi'n gwybod y byddaf i'n craffu ar eich gwaith chi'n fanwl, yn herio pan fydd angen, a hynny er mwyn gwella profiadau plant a phobl ifanc Cymru a'r rhai hynny sydd yn eu cefnogi nhw. Gobeithio y byddwch chi'n barod i gyfarfod yn rheolaidd. Roedd gwneud hynny efo eich rhagflaenydd yn werthfawr iawn. 

Diolch ichi am eich datganiad y prynhawn yma. Mae yna lawer o waith i'w wneud i ddelio ag effeithiau'r pandemig, fel rydych chi'n ei ddweud, ond, yn anffodus, dydy COVID ddim wedi mynd, ac mae yna risg o drydedd don, a hynny'n gynyddol debygol. Gallai hynny, wrth gwrs, arwain at amharu pellach ar addysg. Yn anffodus, mae yna fylchau yn y data a'r wybodaeth o ran yr amrywiolyn India mewn ysgolion. Rydym ni wedi clywed undebau athrawon yn Lloegr yn pryderu'n fawr am ddiffyg tryloywder gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig o ran effaith a lledaeniad yr amrywiolyn mewn lleoliadau addysgol. Os ydym ni i weld yr amrywiolyn yn dechrau lledaenu yng Nghymru, mae angen inni ei ddeall o, cyn iddo fo ddod yn broblem ac amharu ar addysg eto. Felly, fy nghwestiwn cyntaf i chi prynhawn yma ydy: a ydy Llywodraeth Cymru wedi gweld data ar ledaeniad yr amrywiolyn India ac effaith hynny, neu effaith tebygol hynny, ar ysgolion yng Nghymru? 

Mae ysgolion wedi gorfod cau eu drysau mewn ardaloedd o Loegr yn ddiweddar, ac mae hyn wedi dechrau digwydd yng Nghymru hefyd, yn anffodus. Ddydd Llun, fe welwyd 335 o ddysgwyr yn ysgol West Park ym Mhorthcawl yn gorfod hunanynysu, ac mae yna beryg go iawn y gwelwn ni aflonyddwch tebyg i'r hyn a brofwyd dros y cyfnodau clo diwethaf. Felly, hoffwn i wybod beth ydy cynlluniau Llywodraeth Cymru i liniaru ar effeithiau hunanynysu a cholledion dysgu ar gynnydd a lles dysgwyr Cymru. Rydym ni yn gobeithio na fydd hyn ddim yn digwydd, ond mae'n rhaid cael sicrwydd fod gennych chi gynlluniau penodol yn ymwneud â chysylltedd, yn ymwneud â phrinder offer, gofod, amgylchiadau addas sy'n angenrheidiol i ddysgu. A gobeithio bod yna gyfle y prynhawn yma i chi amlinellu yn union beth ydy'r cynllun yna. 

Yn eich datganiad chi rydych chi'n gosod gweledigaeth o gefnogi plant a phobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig, a dwi'n cytuno yn llwyr efo chi ar hynny. Mae tlodi plant yn parhau i gyfyngu ar gynnydd a lles ein dysgwyr ni ac yn niweidio pob agwedd ar ddatblygiad plant yma yng Nghymru, o bosib yn fwy nag unrhyw ffactor arall.

Dwi yn mynd i droi at fanteision pryd bwyd ysgol am ddim i bawb. Rydym ni'n gwybod y gall pryd maethlon rheolaidd wella perfformiad plentyn yn yr ysgol ac iechyd y plentyn yn gyffredinol, ond rydym ni hefyd yn gwybod bod hanner y plant sydd mewn tlodi yng Nghymru yn colli allan ar brydau ysgol am ddim—dros 70,000 o blant. Mae'r pandemig, wrth gwrs, wedi gwaethygu tlodi, gan gynnwys tlodi plant, ac felly'n effeithio ymhellach ar les ac addysg ein pobl ifanc ni. Felly, fy nghwestiwn olaf i brynhawn yma ydy: a wnewch chi wneud y peth cyfiawn, sef ehangu cymhwysedd prydau ysgol am ddim i blant o deuluoedd sy'n derbyn credyd cynhwysol? Pryd fyddwch chi'n amlinellu eich amserlen chi ar gyfer cyflawni hyn? Diolch.

15:45

Diolch i Siân Gwenllian am ei chwestiynau a diolch am y cynnig i gydweithio. Rwy'n sicr yn frwd fy hunan i gydweithio ac yn bwriadu danfon gwahoddiad i lefarwyr y gwrthbleidiau ar y maes addysg a'r Gymraeg i gwrdd yn rheolaidd er mwyn i ni allu datblygu patrwm o gyfathrebu agored ynglŷn â'r sialensiau rŷn ni'n sicr i gyd eisiau cydweithio arnyn nhw er mwyn eu datrys.

O ran dyfodol patrwm lledaeniad yr amrywiolyn a'r pandemig yn fwy cyffredinol, wrth gwrs, does dim un ohonom ni'n gallu darogan yn sicr beth a ddaw o'n blaenau ni yn y misoedd nesaf. Beth rŷn ni'n gallu gwneud yma yng Nghymru yw edrych ar batrwm lledaeniad yr amrywiolyn yn Lloegr ar hyn o bryd a dysgu gwersi o'r hyn rŷn ni'n gweld yn fanna a'r data sy'n dod ac sy'n deillio o'r trosglwyddiad fanna.  Felly, mae gennym ni gyfle i edrych ac i ddysgu o'u profiad nhw gan eu bod nhw'n gweld y lledaeniad yn mynd rhagddo cyn iddo ddigwydd yma yng Nghymru. Ac, wrth gwrs, mae impact hynny ar sut y mae'r ysgolion yn gweithredu yn greiddiol. Wrth gwrs, bydd yr Aelod yn gwybod bod y cyngor rŷn ni'n ei gael wrth yr incident management teams yn gyffredinol yn dangos mai lledaeniad cymdeithasol sydd y tu cefn i'r achlysuron o'r trosglwyddiad a'r impact yn yr ystafell ddosbarth, a dyna'r patrwm rŷn ni dal yn ei weld. Ond, wrth gwrs, bydd cynlluniau wrth gefn gyda ni. Rwyf eisoes wedi trafod gyda rhai o'r undebau dysgu ynglŷn â rhoi rhyw elfen o ddarlun o'r hyn fydd yr ysgol yn edrych fel yn yr hydref, ond mae dealltwriaeth glir, rwy'n credu, ei fod yn anodd darogan yn sicr beth yw patrwm y pethau yma. Ond yr ymrwymiad rydw i'n ei roi yw i gydweithio gyda'r proffesiwn a chyda'r awdurdodau lleol fel ein bod ni'n edrych yn dryloyw ar y sialensiau sydd o'n blaenau ni ac fel bod gyda ni gynlluniau wrth gefn sydd yn addas ar gyfer hynny. Byddem yn sicr yn moyn darparu cefnogaeth, fel yr oedd Siân Gwenllian yn dweud, i ddisgyblion sydd yn gorfod hunan-ynysu—darpariaeth ar-lein, darpariaeth ddigidol ac yn ehangach na hynny hefyd.

O ran prydiau bwyd yn yr ysgol, rwyf eisoes yn edrych gyda swyddogion ar yr opsiynau y gallwn ni edrych arnyn nhw. Yn y flwyddyn hon, mae yna £23 miliwn o gyllideb wedi'i neilltuo ar gyfer prydiau bwyd am ddim a'r cynllun SHEP dros yr haf—y school holiday enrichment programme—bydd y mwyaf eang byddwn ni wedi'i redeg. Ond rwy'n derbyn fod ymrwymiad gyda ni yn ein maniffesto ni i edrych ar y cymwysterau ar gyfer prydiau bwyd am ddim a rŷn ni'n sicr yn mynd i fwrw ymlaen gyda hynny.

Gweinidog Addysg y Cabinet—a gaf i hefyd ddechrau drwy eich llongyfarch chi ar gael eich penodi yn Weinidog y Gymraeg ac Addysg? Rwy'n gwybod na fydd gan blant Islwyn a Chymru well hyrwyddwr a diolch i chi am eich datganiad llawn gwybodaeth heddiw.

Mae ysgolion Islwyn, plant, staff, teuluoedd a llywodraethwyr wedi gwneud popeth o fewn eu gallu a mwy i gynnal dysgu a chadernid yn ystod y pandemig digynsail hwn. Ac mae croeso cynnes iawn i'r cyhoeddiad heddiw y bydd £13 miliwn ychwanegol yn cael ei ddarparu i gefnogi anghenion unigryw dysgwyr y blynyddoedd cynnar, ynghyd â £6.25 miliwn ychwanegol i helpu ysgolion i feithrin cadernid drwy COVID.

Gweinidog, a wnewch chi ymuno â mi i ddathlu ymdrechion anferth ysgolion ledled Islwyn, ac yn enwedig Ysgol Gynradd Trinant a'u pennaeth, Mrs Sian James, am eu gwaith arloesol iawn fel rhan o gymuned FareShare Cymru? Ac a wnewch chi, yn rhinwedd eich swyddogaeth yn Weinidog addysg yn gyntaf, dderbyn gwahoddiad i ymweld ag Islwyn—yn gynnar yn eich cyfnod yn y swydd—i ymweld ag Ysgol Gynradd Trinant a gweld drosoch chi eich hun y gwaith rhagorol hwnnw y maen nhw'n ei wneud i sicrhau bod pob plentyn yn symud ymlaen i gyrraedd y potensial llawn hwnnw? A hefyd, a wnewch chi ymuno â mi i groesawu portffolios gweinidogol llesiant a'r celfyddydau a gweithio cydgysylltiedig i hyrwyddo potensial a lles disgyblion ac, yn amlwg, yn arbennig nawr, wrth i Lywodraeth Cymru geisio cyflwyno addewid maniffesto cerddoriaeth Cymru, cyflawni potensial pobl ifanc a chydraddoldeb wrth fanteisio ar gyfleoedd addysgol yn seiliedig ar y gallu i chwarae yn hytrach na'r gallu i dalu?

15:50

Diolch i Rhianon Passmore am hynna ac am barhau i hyrwyddo anghenion a buddiannau pobl ifanc ledled Cymru, yn ogystal ag yn ei hetholaeth ei hun, sef Islwyn. Rwy'n ymuno â hi i longyfarch y gweithlu addysg yn yr ysgol y soniodd hi amdani ac ar draws Islwyn, yn wir, ledled Cymru, am yr ymdrechion eithriadol y maen nhw wedi'u dangos yn ystod y 12 i 15 mis diwethaf, sydd, yn amlwg, wedi bod yn eithriadol o heriol. Ond rwy'n credu bod athrawon a'r gweithlu addysg yn fwy cyffredinol wedi dangos arloesedd mawr, tosturi mawr a chreadigrwydd mawr wrth sicrhau bod profiad dysgwyr y gorau y gall fod o dan yr amgylchiadau eithriadol o heriol hynny, a byddaf i'n ddiolchgar iawn o dderbyn gwahoddiad os caf i un i ymweld â'r ysgol.

Daeth hi i ben drwy siarad am y maes yr wyf i'n gwybod sydd wedi bod yn anhygoel o agos at ei chalon hi ac un y mae hi wedi bod yn gweithio'n galed iawn i sicrhau y gallwn ni i gyd wneud cynnydd arno, ac mae hynny'n ymwneud â darparu cerddoriaeth yn yr ysgol. Mae hi a fi wedi siarad ychydig am hyn droeon gan fod y ddau ohonom ni wedi elwa ar hynny, yn fawr iawn, yn ein cyfnod yn yr ysgol. Bydd hi'n ymwybodol o'r ymrwymiad sydd gennym ni i gyflwyno gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol. Braint fy nghyd-Aelod Dawn Bowden fydd bwrw ymlaen â hynny, ond rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda hi. Rwy'n credu bod yr Aelod yn cyfarfod â hi'n fuan iawn, a byddaf i'n cyfarfod â fy nghyd-Aelod yn fuan iawn ar ôl hynny i'w chefnogi hi a'i gwaith yn bwrw ymlaen â hynny.

Gweinidog, un o'r ffactorau pwysig wrth helpu plant ifanc i adfer o'r pandemig yw'r amgylchedd dysgu. Mae hefyd yn bwysig iawn, wrth gwrs, i'w lles a lles staff. Ond mae llawer o bobl ifanc a'u rhieni wedi codi pryderon gyda mi ynglŷn â'r gofyniad parhaus i wisgo masgiau wyneb a gorchuddion wyneb mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru. O gofio bod newid sylweddol wedi digwydd dros y ffin yn Lloegr ac nad yw'r gofyniad hwnnw yno nawr, pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i edrych ar y gofyniad penodol hwn eto, yn enwedig o gofio bod pryderon wedi'u codi gan y comisiynydd plant ynglŷn â'r effaith y gall gorchuddion wyneb eu cael ar les pobl ifanc o ran yr anghysur y gall pobl ei brofi, y brechau a'r cyflyrau croen y mae pobl yn eu cael, a'r ffaith, wrth gwrs, y gall y rhai sy'n gwisgo sbectol yn aml ei chael hi'n anodd gweld drwy'r sbectol honno oherwydd y stêm sy'n cael ei greu? Rwy'n credu ei fod yn rhywbeth y mae angen edrych arno.

Diolch i Darren Millar am y cwestiwn pwysig yna. Y pwynt yn ei gwestiwn sy'n fy nharo i'n hanfodol, rwy'n credu, yw gwrando ar leisiau plant a phobl ifanc y mae hyn yn effeithio arnyn nhw, a gwnes i gyfarfod â'r comisiynydd plant yn ddiweddar, ac, yn amlwg, dyma un o'r materion yr oeddem ni wedi'u trafod. Rhoddodd grŵp ffocws diweddar o ddysgwyr a gafodd ei gynnal ar ein rhan gan Plant yng Nghymru eu barn o ran gwisgo masgiau wyneb neu orchuddion wyneb, ac roedd y safbwyntiau'n gymysg, rwy'n credu, ac mae rhywfaint ohonyn nhw'n adlewyrchu'r hyn y mae'r Aelod yn ei ddisgrifio, ac roedd rhai ohonyn nhw'n adlewyrchu pryderon ynghylch y ffaith eu bod eisiau parhau i'w gwisgo. Felly, rwy'n credu ei fod yn ddarlun cymysg.

O ran y gymhariaeth â Lloegr, fel y mae'r Aelod, yn ymwybodol, rydym ni'n ystyried y cwestiynau hyn yn y cylch tair wythnos yr ydym ni wedi'i osod. Mae angen i'r Llywodraeth ystyried pob ymyriad ar y sail honno; dyna'r hyn y mae'r gyfraith yn ei dweud wrthym ni i'w wneud, a dyna a wnawn ni. Er ein bod ni'n gwybod bod nifer y trosglwyddiadau yng Nghymru yn well nag y maen nhw wedi bod ers amser maith a'u bod mewn lle da, rydym ni hefyd yn ymwybodol o effaith yr amrywiolyn sy'n peri pryder yr ydym ni wedi bod yn sôn amdano'n gynharach yn y sesiwn hon. Ac felly, mae'n rhaid i ni edrych ar y darlun, rwy'n credu, yn ei gyfanrwydd. Ond y sicrwydd y gallaf i ei roi i'r Aelod yw ein bod ni yn edrych arno yn ei gyfanrwydd, rydym ni'n ymwybodol o'r effeithiau anffafriol a gaiff hyn yn ogystal â'r effaith ragofalus a gaiff, a byddwn ni'n gweithio gyda'r grŵp cynghori technegol a'u harbenigedd, y cyngor iechyd cyhoeddus yr ydym ni'n ei gael, i sicrhau bod y penderfyniadau yr ydym ni'n eu gwneud yn y maes hwn yn gadarn a'u bod, yn ein barn ni, yn adlewyrchu'r asesiad risg fel y mae. Fel y dywedais i, mae'n rhywbeth yr ydym ni'n ei adolygu'n gyson, a byddwn ni'n gweithio gyda'r proffesiwn, awdurdodau lleol ac yn gwrando ar leisiau pobl ifanc wrth wneud y penderfyniadau hynny.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Llongyfarchiadau i chi ar eich penodiad, a llongyfarchiadau i chi, Ysgrifennydd y Cabinet dros addysg, hefyd. Diolch i chi am eich datganiad heddiw, a bydd athrawon, myfyrwyr a rhieni ledled Cymru yn croesawu ei gynnwys a'i gywair, rwy'n siŵr. Ac fel cyn-athrawes, rwy'n gwybod yn iawn am y baich y mae biwrocratiaeth yn ei roi ar ein staff addysgu, a sut y mae'r baich hwnnw'n amharu ar yr amser y gall ein hathrawon ei dreulio ar baratoi a chyflwyno gwersi o safon, yn ogystal ag effeithio ar yr amser sy'n cael ei dreulio yn cynnig gofal bugeiliol hanfodol a chymorth i'w myfyrwyr hefyd. Felly, ar ran athrawon ym mhobman, a gaf i ddiolch i chi, Gweinidog, am gydnabod biwrocratiaeth yn eich datganiad cyntaf oll fel Gweinidog addysg ac am ymrwymo i fynd i'r afael â biwrocratiaeth ddiangen o fewn y proffesiwn hefyd? Rwy'n gwbl argyhoeddedig bod gwneud hynny'n allweddol i godi nid yn unig calon ymhlith y proffesiwn, ond hefyd codi safonau'n gyffredinol drwy ryddhau athrawon i addysgu. Felly, a gaf i ofyn, Gweinidog, pa sgyrsiau yr ydych chi wedi'u cael, neu'n bwriadu eu cael, gydag undebau'r athrawon ynglŷn â'r ffordd orau o nodi a dileu'r haenau hyn o fiwrocratiaeth, a pha enghreifftiau o arfer gorau y gallech chi fod yn eu hystyried o wledydd eraill ledled y byd ynglŷn â sut y gellir gwneud hyn?

Yn gysylltiedig â hyn, rydych chi yn llygad eich lle'n tynnu sylw at y ffaith bod ein system addysg wedi dangos cadernid a hyblygrwydd rhyfeddol yn ystod y pandemig a bod yn rhaid i ni ddysgu o hyn. Gweinidog, sut ydych chi'n bwriadu dwyn ynghyd yr arferion gorau a ddaeth i'r amlwg yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, eu cyflwyno ledled Cymru ac, yn hollbwysig, eu hymgorffori yn arferion addysgu a dysgu sefydledig?

Yn olaf, Gweinidog, yr wyf i'n falch o weld—

15:55

Mae'r Aelod wedi cael tri chwestiwn ac rydym ni wedi mynd dros amser, felly rwy'n credu y gwnawn ni ofyn y cwestiynau.

Diolch i Vikki Howells am y cwestiynau y mae hi wedi'u gofyn. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod bod angen i ni ystyried o'r newydd cwestiwn y fiwrocratiaeth neu rai o'r beichiau o ran gweinyddu yr ydym ni'n eu rhoi ar y proffesiwn ac ystyried hynny'n greadigol a gweld beth y gallwn ni ei dynnu o ran y fiwrocratiaeth ddiangen honno, os hoffech chi. Mae yna grŵp rheoli llwyth gwaith a lleihau biwrocratiaeth, sydd wedi'i sefydlu o fewn Llywodraeth Cymru i ystyried y materion hyn, o ganlyniad i'r pandemig ond hefyd yn yr hirdymor yn y ffordd yr oedd ei chwestiwn hi'n ei ragweld. Rwy'n credu ei bod yn bwysig i ni sicrhau ein bod ni'n gwrando ar ein gweithwyr proffesiynol, ac mae'r grŵp ei hun yn cynnwys aelodau o undebau llafur athrawon, awdurdodau lleol ac ymarferwyr, a'u gwaith nhw fydd yn helpu i lywio ein huchelgais yn y maes hwn.

Y pwynt arall yr wyf i eisiau ei wneud yw fy mod i'n credu ei bod yn hynod bwysig i ni ystyried arfer gorau lle bynnag y gallwn ni ddod o hyd iddo, boed hynny mewn rhannau eraill o'r DU neu ymhellach i ffwrdd, ac mae'n sicr yn un o fy uchelgeisiau i ein bod ni'n parhau i wneud hynny wrth i ni ddatblygu'r gwaith hwn.

Diolch, Dirprwy Lywydd, a llongyfarchiadau i chi, Gweinidog, ar eich penodiad, a diolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma. Hoffwn i yn gyntaf ymuno â chi i ddiolch i'n gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio'n galed a hefyd i'n dysgwyr am eu holl ymdrechion yn ystod y 14, 15 mis diwethaf, o dan amgylchiadau anodd iawn. Mae eich datganiad chi'n ymwneud yn benodol â lles a chefnogaeth dysgwyr a'u cynnydd hefyd, ac mae'n amlwg mai rhan sylweddol o'r cynnydd hwnnw yn ystod pum mlynedd nesaf tymor y Senedd hon yw gweithredu'r cwricwlwm newydd. Mae nifer o bobl sydd â phryderon ynglŷn â'r cyllid i gyflwyno'r cwricwlwm newydd hwnnw sydd ar y gorwel wedi cysylltu â mi. Felly, y cwestiwn yw: pa gyllid ychwanegol y byddwch chi'n ei ddarparu i ysgolion ac i addysgwyr i sicrhau bod y cwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno yn y ffordd orau posibl?

Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Wel, byddwn ni'n sicrhau bod ein hysgolion ni'n cael eu hariannu er mwyn gallu parhau â'r gwaith da y maen nhw'n ei wneud nawr ac i allu cyflwyno'r cwricwlwm mewn ffordd sydd o fudd i ddysgwyr ledled Cymru. Fel y gwnes i sôn yn fy ateb i'r cwestiwn cynharach, rwy'n credu ein bod ni wedi dysgu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf pa mor bwysig yw hi ein bod ni'n sicrhau bod lles ein dysgwyr wrth wraidd popeth yr ydym ni'n ei wneud a hefyd bod gan ein dysgwyr ni yr adnoddau i fod yn hyblyg ac i ymateb i newidiadau yn y byd o'u cwmpas. Felly, byddwn ni eisiau sicrhau ein bod ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu ni i sicrhau bod cyflwyno'r cwricwlwm yn digwydd yn esmwyth ac yn effeithiol ac er budd ein dysgwyr ledled Cymru.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

5. Rheoliadau'r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2021

Yr eitem nesaf yw Rheoliadau'r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2021. Rwy'n galw ar y Gweinidog materion gwledig i gynnig y cynnig. Lesley Griffiths.

16:00

Cynnig NDM7694 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Mawrth 2021.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd, ac rwy'n cynnig y cynnig. Diolch am y cyfle i egluro'n gryno gefndir Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2021. Gwnaed y rheoliadau hyn gan ddefnyddio'r weithdrefn gadarnhaol a wnaed o dan bwerau a roddwyd i Weinidogion Cymru gan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018. Fe'u gwnaed ar 22 Mawrth, a'u gosod gerbron y Senedd ar 24 Mawrth, a daethant i rym ar 31 Mawrth. Oherwydd yr angen brys i ddiwygio'r dyddiad 1 Ebrill 2021, roedd angen gwneud y rheoliadau hyn a'u gweithredu cyn eu cymeradwyo drwy benderfyniad gan y Senedd. Er mwyn i'r rheoliadau hyn barhau i fod mewn grym, gofynnir am gymeradwyaeth y Senedd heddiw.

Mae'r rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 5 i Reoliadau'r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011 i newid y dyddiad y mae gofynion pontio hysbysu ymlaen llaw ar gyfer mewnforio i Gymru cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid yn gymwys o 1 Ebrill 2021 i 31 Gorffennaf 2021. Y rheswm dros y newid yn y dyddiad yw, yn dilyn adolygiad gan swyddogion o'r cynllun gweithredu ar gyfer rheolaethau mewnforio, y gwnaed penderfyniad ym mhwyllgor gweinidogol gweithrediadau ymadael Llywodraeth y DU i ohirio cyflwyno gwiriadau dogfennol a chorfforol. Y rheswm dros hyn yw, ers diwedd y cyfnod pontio, mae busnesau ac awdurdodau cymwys wedi gorfod addasu a bodloni gofynion newydd helaeth wrth symud nwyddau o dan y berthynas fasnachu newydd â'r UE. Gan fod y gweinyddiaethau eraill yn cytuno i ymestyn y cyfnod pontio, gwnaed newidiadau ar lefel Prydain i gadw cyfraith yr UE gan Lywodraeth y DU, gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru.

Er mwyn cyd-fynd â'r newidiadau i gyfraith a deddfwriaeth yr UE a gedwir yn yr Alban a Lloegr, mae'r rheoliadau hyn felly hefyd yn diwygio'r dyddiad 1 Ebrill 2021 i 31 Gorffennaf 2021 yn Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011. Ni chodwyd unrhyw bwyntiau o ran y rheoliadau hyn yn y nodyn cyngor cyfreithiol a baratowyd gan gynghorwyr cyfreithiol y Senedd ac a osodwyd gerbron y Senedd ar 24 Mai. Diolch.

Does gyda fi ddim—does neb wedi datgan eu bod nhw eisiau siarad, ac felly does dim angen ymateb. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, ac felly rŷn ni'n derbyn y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai bod Aelod yn gwrthwynebu, caiff y pump cynnig o dan eitemau 6 i 10 eu grwpio i'w trafod, ond gyda phleidleisiau ar wahân. Does yna ddim gwrthwynebiad i hynny. Dwi ddim yn gweld gwrthwynebiad. 

6., 7., 8., 9. & 10. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2021, Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2021, Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2021, Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2021 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10) 2021

Ac felly mi wnaf i alw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i wneud y cynigion yma. Eluned Morgan.

Cynnig NDM7690 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Mawrth 2021.

Cynnig NDM7689 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Ebrill 2021.

Cynnig NDM7691 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Ebrill 2021.

Cynnig NDM7692 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Mai 2021.

Cynnig NDM7693 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Mai 2021.

Cynigiwyd y cynigion.

Diolch yn fawr, Llywydd. Dwi'n cynnig y cynnig sydd ger ein bron—y cynigion sydd ger ein bron. Fe gyhoeddwyd cynllun rheoli coronafeirws ar 14 Rhagfyr 2020. Mae'n nodi pedair lefel rhybudd sy'n cyd-fynd â lefel y risg, gan gynnwys y mesurau angenrheidiol ar bob lefel i reoli lledaeniad y feirws. Daeth Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 i rym ar 20 Rhagfyr y llynedd. Roedd rhain yn sefydlu'r fframwaith ddeddfwriaethol ar gyfer y system lefelau rhybudd ac yn rhoi Cymru ar lefel rhybudd 4, y lefel uchaf o gyfyngiadau.

Ym mis Mawrth, lluniwyd cynllun newydd i reoli'r coronafeirws, oedd wedi'i ddiweddaru i gymryd i mewn i ystyriaeth y rhaglen frechu a'r amrywiolyn o Gaint. Roedd y cynllun yma yn nodi sut y bydden ni'n symud i lawr trwy'r lefelau rhybudd yn ofalus, fesul cam, ac yn cymryd camau gofalus wrth lacio'r cyfyngiadau.

Roedd Llywodraeth Cymru yn gyson glir o ran sut yr oeddem ni yn mynd i lacio cyfyngiadau yn dilyn y cyfnod clo a'n prif flaenoriaeth bob amser oedd galluogi plant i ddychwelyd i ddysgu wyneb yn wyneb. Cymeradwyodd y Senedd ddiwethaf ddiwygiadau blaenorol i'r rheoliadau a ddechreuodd y symudiad gofalus, cam wrth gam i lefel rhybudd 3. Parhaodd rheoliadau diwygio rhifau 6, 7, 8 a 9, sydd ger ein bron heddiw, y symudiad cynyddrannol hwn i lefel rhybudd 3 a gwblhawyd ar 3 Mai. Mae'r rhain wedi golygu llacio'n sylweddol ar y cyfyngiadau ar bobl a busnesau ledled Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys dileu'r gofynion 'aros yn lleol', yn darparu ar gyfer pob manwerthwr a champfa i ailagor, a'i gwneud yn bosibl i aelwydydd estynedig gael eu ffurfio rhwng unrhyw ddwy aelwyd.

Mae'r gwelliannau parhaus yn y sefyllfa iechyd cyhoeddus yn golygu y gallwn ni symud rhwng y lefelau rhybudd mewn camau unigol ar hyn o bryd. Roedd rheoliadau diwygio Rhif 10 yn symud Cymru yn uniongyrchol i lefel rhybudd 2 o 17 Mai. Roedd hyn yn cynnwys caniatáu i hyd at chwech o bobl o wahanol aelwydydd gyfarfod dan do mewn tafarndai, caffis a bwytai. Nawr, mae'n amlwg bod angen parhau i fonitro'n agos adroddiadau cynyddol yn Lloegr am achosion o'r amrywiolyn Indiaidd, fel y'i gelwir. Bydd yr amodau iechyd cyhoeddus, gan gynnwys y cyngor diweddaraf o ran yr amrywiolyn newydd pryderus hwn, yn penderfynu a allwn ni symud i lefel rhybudd 1 ar ôl yr adolygiad nesaf o'r cyfyngiadau, a fydd yn cael ei gyhoeddi erbyn 3 Mehefin. Nawr, byddai unrhyw symudiad i lefel rhybudd 1 yn bennaf yn cynyddu maint y cynulliadau a ganiateir. Byddai hyn yn cynnwys darparu ar gyfer y rheol chwech, er mwyn galluogi mwy o gymysgu dan do yng nghartrefi ein gilydd.

Mae'r holl reoliadau diwygio i'r cyfyngiadau coronafeirws wedi bod yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol am resymau brys. Gwnaed rheoliadau diwygio Rhif 9 tra roedd y Senedd wedi'i diddymu ar gyfer yr etholiadau, ac fe'u gosodwyd cyn gynted â phosibl ar ôl ffurfio'r Senedd newydd. Nawr, rydym yn ymwybodol iawn bod y cyfyngiadau sydd ar waith yn aml wedi bod yn heriol iawn i deuluoedd a busnesau, ac rwy'n ddiolchgar iawn i bobl Cymru am eu holl waith caled, sy'n golygu mai ni sydd â'r cyfraddau coronafeirws isaf yn y Deyrnas Unedig gyfan ar hyn o bryd. Ynghyd â hyn, mae ein rhaglen frechu yn parhau i wneud cynnydd rhyfeddol. Mae'r amodau hyn wedi ein galluogi i lacio'r cyfyngiadau mewn modd gofalus. Nawr, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i adolygu'r rheoliadau hyn yn ofalus, dan arweiniad cyngor gwyddonol a meddygol, er mwyn sicrhau ein bod yn cadw Cymru'n ddiogel. Diolch, Llywydd.

16:05

A gaf i ddiolch yn gyntaf i'r Gweinidog am ei chyflwyniad i'r rheoliadau heddiw, ac a gaf i longyfarch y Gweinidog yn ddiffuant iawn ar ei phenodiad newydd hefyd? Byddwn ni yn y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r rheoliadau y prynhawn yma, oherwydd, yn fy marn i, ac ym marn y Ceidwadwyr Cymreig, dyma'r dull cywir o ran llacio'r cyfyngiadau ar yr economi ac agor cymdeithas eto.

Hoffwn wneud ychydig o bwyntiau y gallwch chi, gobeithio, Gweinidog, eu hystyried ar adeg eich adolygiad nesaf hefyd. Y rhain yw—. Yn gyntaf oll, mae'n ymwneud â chymorth i fusnesau, ac rwy'n gobeithio y gallaf dawelu rhai o'r trafodaethau yn gynharach heddiw, yn gyntaf oll drwy ddweud fy mod yn credu bod busnesau'n hynod ddiolchgar am gefnogaeth Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn ystod y pandemig, ac rwy'n credu eu bod yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth honno. Rwy'n credu bod y cylch diweddaraf o gyfyngiadau—mae'n ddrwg gennyf, y cylch diweddaraf o gymorth busnes—o ran y gwiriwr cymhwysedd a ryddhawyd ddydd Llun diwethaf, wedi peri pryder i lawer o fusnesau. Yn syml—. Mae rhai o'r meini prawf yn rhy anhyblyg. Nawr, rwy'n deall bod yn rhaid i ni fod â'r meini prawf hynny—arian cyhoeddus yw hwn sy'n cael ei wario—ond rwy'n cwestiynu'r cydbwysedd yn hynny o beth, ac rwy'n gobeithio y gall hyn gael ei ystyried gennych chi a'ch cyd-Aelodau ar adeg yr adolygiad nesaf.

Mae hefyd yn bwysig cofio nad yw llawer o fusnesau'n gallu ailagor o hyd, hyd yn oed o ystyried y llacio ar y cyfyngiadau ar hyn o bryd. Rwy'n meddwl am y sector lletygarwch yn arbennig, llawer o fwytai, tafarndai a chaffis, dim ond oherwydd na allan nhw gynnig yr elfen pellter cymdeithasol honno ac na allan nhw agor yn yr awyr agored. Felly, rwy'n meddwl yn benodol amdanyn nhw, ac nid ydyn nhw hyd yn oed wedi gallu adfer eu colledion ers y llynedd. Felly, rwy'n credu bod y rhain yn ystyriaethau pwysig ar adeg dyddiad yr adolygiad nesaf.

Hefyd, pe gallwn godi pwynt hefyd am byllau nofio sydd wedi'i godi gennyf i ac eraill, Gweinidog, ac rwy'n credu y gallai fod wedi'i godi gyda chi hefyd. Er bod y cyfyngiadau wedi'u llacio, nid yw llawer o byllau nofio'n gallu agor oherwydd y cyfyngiadau—nid yw cyfyngiadau cadw pellter cymdeithasol yn caniatáu i hynny ddigwydd; nid yw'n gost-effeithiol iddyn nhw agor. Nawr, rwy'n gwerthfawrogi bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno rhywfaint o gyllid yn hynny o beth, ond efallai y byddwn i yn gofyn iddi ail-edrych ar y cyllid hwnnw a'r cyfyngiadau hefyd i weld a ellir agor mwy o byllau nofio, oherwydd fy ofn i fyddai, os na fydd hynny'n newid, yna ni fydd rhai o'r pyllau nofio hyn byth yn ailagor eto, ac wrth gwrs rydym i gyd yn gwybod beth yw sgil-effeithiau hynny o ran meddyliau Llywodraeth Cymru ac yn wir fy meddyliau i fy hun o ran pwysigrwydd pyllau nofio wrth i ni symud ymlaen hefyd, a phobl yn gallu mynd i'r pyllau nofio hynny.

Gweinidog, rwy'n eithaf balch clywed yr hyn y gwnaethoch chi ei ddweud o ran dyddiad yr adolygiad nesaf o ran aelwydydd yn cymysgu dan do. Rwy'n credu bod hyn i'w groesawu'n fawr. Fe wnaethoch chi eich hun, Gweinidog, dynnu sylw at y ffaith bod gennym gyfraddau heintio is yma yng Nghymru ac mae'r rhaglen frechu'n mynd rhagddi'n dda. Felly mae hynny'n rhoi cyfle i ni, rwy'n credu, ac yn rhoi'r cyfle i chi fel Llywodraeth Cymru, ail-feddwl am aelwydydd yn cymysgu dan do. Rydych chi wedi cyfeirio at hynny, ac rwy'n falch iawn o hynny ac rwy'n croesawu hynny'n fawr. Ac yn sicr rwy'n credu bod y cyhoedd yn meddwl am y ffaith y gallwch chi fynd i fwyty, gall chwech o bobl gyfarfod—chwe aelwyd wahanol—ac eto ni allwch chi gyfarfod yng nghartref rhywun. Rwy'n credu bod cwestiynau ynghylch hynny, ac rwy'n credu i mi hefyd fod llawer o bobl nad ydyn nhw'n gallu mynd allan i fwyty a chwrdd â ffrindiau neu deulu, ac felly nid ydyn nhw'n cwrdd â'r bobl hynny, yn wahanol i eraill sy'n gallu gwneud hynny, ac rwy'n credu bod problemau iechyd meddwl o ran pobl yn gallu cyfarfod. Gwyddom mewn rhannau eraill o'r wlad y gall pobl gofleidio a chwrdd hefyd, felly rwy'n gobeithio, Gweinidog, ar adeg eich dyddiad adolygu nesaf, y byddwn yn clywed mwy o ran aelwydydd yn cymysgu dan do. Ond, wrth gwrs, rwyf hefyd yn ymwybodol o'r amrywiolyn dan do—mae'n ddrwg gennyf, yr amrywiolyn Indiaidd—hefyd, a bydd hyn yn effeithio ar eich ystyriaethau hefyd. Felly, rwy'n gobeithio, Gweinidog, yn eich sylwadau cloi, efallai y byddwch yn gallu siarad ychydig am ganiatáu cymysgu aelwydydd, a hefyd eich ystyriaethau yn hynny o beth o ran yr amrywiolyn Indiaidd hefyd.

Ac yn olaf, tybed pa gynnydd sydd wedi'i wneud ar y pasbortau brechu drwy ap y GIG, fel yr amlinellwyd gan y Prif Weinidog ychydig wythnosau'n ôl. Gobeithio yn eich sylwadau cloi efallai y gallech chi sôn am hynny hefyd. Diolch, Llywydd. 

16:10

A gaf innau gymryd y cyfle yma i longyfarch y Gweinidog ar ei phenodiad? Dwi'n edrych ymlaen at weithio yn agos efo hi i geisio dylanwadu gorau y gallaf i ar rai o'r penderfyniadau mawr sydd ar ôl i'w gwneud, wrth gwrs, wrth i'r pandemig barhau. Mae wedi bod yn ddiddorol gwrando ar rai o sylwadau Dominic Cummings heddiw, onid ydy, yn dweud bod Llywodraeth Prydain wedi gwneud camgymeriadau trychinebus wrth ddelio â'r pandemig. Mae'n bwysig cofio bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio ar lefel pedair gwlad ar lawer o'r penderfyniadau hynny, felly mae'n bwysig cofio ar y pwynt yma bod yna wersi i'w dysgu o hyd i drio gwneud y penderfyniadau gorau. 

I droi'n syth at y rheoliadau o'n blaenau ni, rydym ni'n eu cefnogi nhw i gyd, ond mae yna sawl sylw sydd angen ei wneud, dwi'n meddwl. Mae diwygiadau 6 a 7 yn mynd â ni nôl yn bell iawn i ddiwedd Mawrth, dechrau Ebrill. Mae 8 a 9 yn dod â ni ymlaen rai wythnosau, ond mae'n bwysig ein bod ni'n nodi yma bod y rhain yn ddiwygiadau a gafodd eu cyhoeddi yn anterth cyfnod etholiad, efo'r newidiadau yn dod i rym mor ddiweddar â thri diwrnod cyn yr etholiad. A does dim angen i fi dreulio llawer o amser yn trafod arwyddocâd hynny—prin y gallai unrhyw un o unrhyw blaid wleidyddol wadu'r potensial i gyhoeddiadau felly, wrth gwrs, ddylanwadu ar brosesau democrataidd. Ond mae hi yn bwysig crybwyll hyn, achos pe baem ni rywsut yn canfod ein hunain mewn sefyllfa debyg eto, mae eisiau gwneud yn siŵr ein bod ni'n dysgu pob mathau o wersi o'n profiad ni dros y flwyddyn ddiwethaf, ac mae hynny'n cynnwys gwersi democrataidd hefyd, yn ogystal â gwersi mwy ymarferol ar sut i ddelio efo pandemig. 

Diwygiad 10 wedyn—hwn yn fwy cyfoes. Hyd yn oed wedyn, rydym ni'n sôn am reoliadau sydd bron yn bythefnos oed, ac mi wnaf i apêl yn fan hyn, yn gynnar yn y tymor seneddol newydd, ar y Llywodraeth, mewn cydweithrediad efo'r Pwyllgor Busnes, i chwilio am bob ffordd i allu (1) gwneud cyhoeddiadau yn y Senedd er mwyn gallu eu trafod nhw yn syth, a (2) i gyflymu'r amserlen ar gyfer trafod newidiadau a diwygiadau a rheoliadau o bwys. Faint o weithiau ydym ni wedi trafod rheoliadau sydd eisoes wedi dod i ben cyn iddyn nhw ddod o flaen y Senedd i gael eu cymeradwyo i'w cyflwyno yn y lle cyntaf?

Mae yna nifer o bwyntiau eraill dwi jest am eu gwneud rŵan. Dwi am eu rhoi nhw mewn llythyr i chi, Weinidog, hefyd, er mwyn cael ymateb llawnach, ond a hithau wedi cymryd misoedd lawer i'r Llywodraeth ateb rhai ymholiadau yn y flwyddyn ddiwethaf—bron flwyddyn gyfan yn achos un ymholiad, a dweud y gwir—dwi am fynd drwyddyn nhw yn fan hyn jest i'w rhoi nhw ar y cofnod ac i chi gael eu clywed nhw yn uniongyrchol. O ran lle rydym ni arni yn gyffredinol, rydym ni i gyd yn falch, wrth gwrs, ein bod ni mewn lle positif o ran niferoedd yr achosion a bod y broses frechu yn symud ymlaen yn dda. Mae fy niolch i'n fawr, wrth gwrs, i bawb sy'n rhan o'r broses honno. Dwi yn gofyn i chi chwilio yn ddyfal am ffyrdd o godi mwy o gyfyngiadau mor fuan â phosib, ond wrth gwrs, dim ond pan mae'n ddiogel i wneud hynny, ac rydym ni'n gwybod bod angen bod ar ein gwyliadwriaeth o hyd, yn enwedig o ystyried y twf yn yr amrywiolyn o India.

Felly, dwi am wybod, yn y cyd-destun hwnnw, pa fath o gamau fydd yn cael eu rhoi mewn lle i ymateb i unrhyw dwf sydyn, ac yn wir i drio atal y drydedd don. A fydd yna raglenni brechu dwys, cyfyngiadau lleol, cyfyngiadau teithio i ac o ardaloedd haint uchel, er enghraifft? A hefyd, efo'r dystiolaeth yn glir mai drwy'r awyr y mae'r feirws yn lledaenu yn bennaf, mi hoffwn i wybod pa gamau sy'n cael eu cymryd i ymateb i'r dystiolaeth yna, yn cynnwys rhoi masgiau FFP3 i weithwyr iechyd a gofal sydd mewn cyswllt efo cleifion COVID, a hefyd mi leiciwn i adroddiad yn benodol ar y potensial o gyflwyno camau diheintio yn defnyddio golau uwch-fioled UVC, a allai fod mor werthfawr mewn lleoliadau fel ysgolion, er enghraifft.

Mae yna nifer o bwyntiau eraill y gwnaf eu rhoi, fel dwi'n dweud, mewn llythyr. Mi ydyn ni angen gwybod, er enghraifft, pa gamau fydd yna i ganiatáu pethau fel parkruns i ddigwydd yn fuan—digwyddiadau chwaraeon sydd mor llesol ar gyfer y corff a'r meddwl. Mi wnaf i apêl yn fan hyn ar y funud olaf i chi ganiatáu cefnogwyr i wylio Caernarfon yn erbyn y Drenewydd, ddydd Sadwrn yma. Mae modd gwneud y pethau yma yn ddiogel. Gwnewch bopeth y gallwch chi. Mi fydd yna lythyrau gan Heledd Fychan a gan Luke Fletcher ar faterion economaidd ar ben y materion iechyd yma, ond yn fy mriff i, yn sicr dwi angen gwybod llawer mwy gan y Llywodraeth ynglŷn â chamau i fynd i'r afael â long COVID, sydd yn gymaint o boen i bobl. Mae'n rhestr hir.

I gloi, dwi'n nodi mai dyma wrth gwrs y tro cyntaf i fi allu codi rhai o'r materion yma yn y Senedd newydd ers cyn y cyfnod diddymu, ond fel dwi'n dweud, dwi ddim yn disgwyl atebion llawn rŵan. Mi ddaw'r rheini yn ysgrifenedig yn fuan iawn, gobeithio. Ond mae hi'n fesur, onid ydy hi, o'r gwaith sydd o'ch blaen chi, fel Gweinidog newydd—dwi'n dymuno'n dda i chi—ac mae'n fesur hefyd o'r gwaith sydd o'n blaenau ni fel Senedd i'ch dal chi a'r Llywodraeth i gyfrif.

16:15

Byddwn i'n ddiolchgar am eglurhad o'r rheoliadau, Gweinidog, yn ysgrifenedig o bosibl maes o law. Codwyd materion gyda mi gan Harriers Casnewydd ynglŷn ag athletau ieuenctid ac a ganiateir cyfarfodydd cynghrair datblygu ieuenctid o fewn y rheoliadau, a hefyd a yw rhieni yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfodydd hynny. Mae Harriers Casnewydd yn defnyddio stadiwm awyr agored, a byddwn i'n ddiolchgar am eglurhad cyn gynted ag y bo modd—fel y dywedais i, efallai'n ysgrifenedig—ar y materion hynny.

Hoffwn hefyd gefnogi Rhun ap Iorwerth o ran parkruns. Maen nhw'n ddigwyddiadau iechyd cyhoeddus gwych ac yn sicr mae ganddyn nhw y manteision hynny i bobl o ran eu hiechyd a'u lles corfforol a meddyliol, ac maen nhw i fod i ailddechrau, yn ôl yr hyn a ddeallaf, ddechrau mis Mehefin yn Lloegr. Byddai'n dda cael syniad gan Lywodraeth Cymru ynghylch pryd y maen nhw'n debygol o allu ailddechrau yma yng Nghymru. Diolch yn fawr.

Gweinidog, hoffwn eich llongyfarch a'ch croesawu i'ch swydd. Rwy'n eich adnabod chi a gweithiais yn agos iawn gyda chi pan oeddwn yn aelod o Gyngor Sir Powys, ac edrychaf ymlaen at weithio'n agos gyda chi nawr.

Gweinidog, rwyf i a'm plaid yn croesawu'r ffaith bod rheoliadau COVID yma yng Nghymru yn parhau i gael eu llacio. Gyda niferoedd COVID-19 ar eu hisaf erioed, mae holl wledydd y Deyrnas Unedig wedi symud i ffwrdd o'r cyfyngiadau symud a thuag at ailagor ein heconomi wrth i ni adfer o bandemig y coronafeirws. Mae pobl Cymru, ac yn fy etholaeth i, sef Brycheiniog a Sir Faesyfed, wedi aberthu'n aruthrol er mwyn sicrhau bod niwed COVID yn gyfyngedig gymaint â phosibl i ddiogelu ein cymunedau a'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Treuliwyd misoedd yn ystod y cyfyngiadau symud, heb weld anwyliaid, ac heb allu byw y bywydau yr oedden nhw wedi gweithio mor galed i'w hadeiladu. Diolch byth, oherwydd bod rhaglen frechu Llywodraeth y DU yn cael ei chyflwyno'n llwyddiannus ar draws y pedair gwlad, rydym ni'n gweld hawliau pobl yn cael eu hadfer, ac mae'n rhaid i mi ganmol GIG Cymru a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, fy mwrdd iechyd fy hun, am gyflwyno'r rhaglen frechu yn wych, sydd wedi ein galluogi i fod yn y sefyllfa yr ydym ynddi ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae'n rhaid i Lywodraethau o bob lliw fod yn ofalus iawn cyn ceisio cymryd y rhyddid hwn oddi ar bobl y wlad hon eto.

Roeddwn i'n falch o glywed fy nghyd-AS Russell George yn codi'r pwyntiau'n gynharach am ailagor y sector lletygarwch. Mae'n hanfodol bod ein busnesau bellach yn cael y rhyddid sydd ei angen arnyn nhw i fasnachu'n llwyddiannus. Bydd gormod o reoliadau yn rhwystro'r busnesau hyn rhag gallu cyflawni'r gwerthiant a'r fasnach y mae eu hangen arnyn nhw er mwyn creu cyfoeth a thalu trethi y mae angen hanfodol arnom i ariannu ein gwasanaethau cyhoeddus a'n GIG.

Un maes sy'n peri pryder mawr i mi—a llawer o bobl ar hyn o bryd—yw cyflwr iechyd meddwl y genedl. Mae llawer o bobl wedi dioddef o unigedd dros y flwyddyn ddiwethaf, a'r cyfyngiadau symud yn chwarae rhan bwysig yn y dirywiad yn iechyd corfforol a meddyliol pobl, ac mae'r rhan fwyaf o'r bobl hynny wedi'u gadael i ddioddef yn dawel heb unrhyw gefnogaeth, neu oedi mawr yn yr ôl-groniadau yn y gefnogaeth i'r bobl hynny sydd wedi bod yn ddigon dewr i ofyn am gymorth. Roedd cyfraddau hunanladdiad yng Nghymru yn codi hyd yn oed cyn y pandemig ac maen nhw wedi parhau i wneud hynny. Dynion yw 75 y cant o ddioddefwyr hunanladdiad yng Nghymru. Er fy mod yn siŵr bod Llywodraeth Cymru wedi cymryd cryn amser i ystyried y cynnydd posibl mewn hunanladdiad cyn iddyn nhw gyflwyno eu rheoliadau COVID y llynedd, tybed a allai'r Gweinidog amlinellu sut y mae hi a'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant yn bwriadu mynd i'r afael â'r broblem enfawr hon yng Nghymru. Mae eich Llywodraeth wedi addo cynyddu'r gefnogaeth i'r rhai sy'n dioddef o salwch sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl, ond siawns na fyddai Llywodraeth Cymru wedi ystyried yr effaith ar iechyd meddwl pobl cyn iddyn nhw gyflwyno rheoliadau COVID yn gynnar y llynedd, ac y byddai'r cynghorwyr meddygol a gwyddonol wedi dweud hyn, y byddai cynnydd enfawr pe byddai'r cyfyngiadau symud yn parhau i gael eu gorfodi. Felly, a wnewch chi ddweud wrthyf, Gweinidog, pa gymorth ychwanegol sydd wedi'i roi ar hyn o bryd i gefnogi'r rhai hynny sy'n dioddef o salwch meddwl?

Ac yn olaf, Gweinidog, yn eich sylwadau cloi, efallai y gallwch chi amlinellu sut y byddwch chi a'ch Llywodraeth yn sicrhau, pe byddem ni byth yn dod ag unrhyw reoliadau newydd yn ôl, y byddai iechyd meddwl pobl yn brif flaenoriaeth, gan y gallai unrhyw benderfyniadau ar gyfyngiadau symud a chyfnod atal byr yn y dyfodol wneud yr argyfwng iechyd meddwl presennol yng Nghymru yn waeth. Diolch, Llywydd.

16:20

A gaf i gytuno â'r pwyntiau sydd newydd gael eu gwneud am iechyd meddwl? Heb amheuaeth, mae llawer o'r sefydliadau yn fy etholaeth i wedi dod allan o hyn yn araf ac yn dod yn ôl yn araf i gyfarfod â'i gilydd, er, mae'n rhaid i mi ddweud, yn ofalus, oherwydd nid yw rhai ohonyn nhw, yn enwedig y rheini sydd ag aelodau sy'n agored i niwed eu hunain, eisiau dod yn ôl wyneb yn wyneb ar frys, maen nhw eisiau ei wneud yn ddiogel iawn, iawn. Ond rwy'n siŵr y byddwn ni yn wir yn gweld sgil-effeithiau hynny a byddwn i'n croesawu ymateb y Llywodraeth ar hynny. 

Ond mae gennyf un cwestiwn penodol ac mae'n ymwneud â pherfformiadau byw. Rwy'n diolch i swyddogion a chynghorwyr y Gweinidog am ymgysylltu â mi dros y pythefnos diwethaf yn helaeth, hyd syrffed, bob yn ail ddiwrnod mae'n debyg, i geisio cael eglurder ar bwynt syml iawn, sef a ganiateir perfformiadau byw o gwbl ar hyn o bryd mewn lleoliadau sydd wedi eu trwyddedu neu heb eu trwyddedu. Os yw pobl yn cario peint o gwrw neu win mewn lleoliad sydd wedi'i drwyddedu, ond gyda gitarydd yn eistedd yn y gornel, yn canu yn dawel, yn dawelach na lefel codi lleisiau pawb—. Mae'n rhaid i mi ddweud, roeddwn i allan nos Sadwrn diwethaf mewn tafarn, y dafarn leol, tafarn dda iawn, yn cael peint, a'r tu ôl i mi yr oedd grŵp a oedd yn llawer mwy swnllyd nag unrhyw fand roc, byddwn i'n dweud. [Chwerthin.] Ond mae gwir angen eglurder arnom ni. Ar hyn o bryd, a ganiateir perfformiad byw, o unrhyw fath, mewn lleoliadau sydd â thrwydded? Ac os na, ar ba adeg fydd hynny? Ai ar lefel rhybudd 1, er enghraifft? Byddai'r eglurder hwnnw o gymorth mawr. Er eu bod eisiau perfformio nawr, os dywedir wrthyn nhw nad yw ar hyn o bryd ond y bydd pan y gallwn ni symud i lefel rhybudd 1, bydd hynny'n arwydd clir iddyn nhw y gall pethau ddychwelyd ar ryw adeg, os byddwn yn parhau gyda'r cynnydd yr ydym wedi'i wneud.

Ac yn olaf, Llywydd, a gaf i ganmol y dull sydd wedi'i ddefnyddio yma yng Nghymru? Gallaf ddweud wrth y Gweinidog, er gwaethaf grwgnach, er gwaethaf cwynion—yn ddealladwy, weithiau—fod y rhan fwyaf o'm hetholwyr a'm busnesau eisiau i ni symud ymlaen mewn modd sy'n sefydlog, yn ofalus, yn fwriadol ac yn seiliedig ar dystiolaeth, fel nad oes yn rhaid i ni ddychwelyd i'r sefyllfa yr oeddem ni ynddi o'r blaen, fel y gallwn barhau i aros ar agor a bydd y llacio yn parhau nes ein bod yn ôl i fod mor agos ag y gallwn fod at normalrwydd.

16:25

Gweinidog, un o drychinebau mwyaf y pandemig fu'r effaith y mae wedi'i chael ar y rhai sy'n byw yn ein cartrefi gofal. Maen nhw wedi'u gwahanu oddi wrth eu teuluoedd, yn methu â cofleidio eu hwyrion, heb allu cael cyswllt corfforol ag anwyliaid. Mae hyn wedi bod yn arbennig o anodd i'r rhai sy'n dioddef o ddementia, yn aml dydyn nhw ddim yn gallu deall pam mae eu teuluoedd wedi cefnu arnyn nhw. Roedd yr unigrwydd a'r arwahanrwydd nid yn unig yn anodd iawn i breswylwyr y cartrefi gofal, ond roedd eu teuluoedd hefyd wedi dioddef yn ofnadwy.

Gweinidog, mae bron pob preswylydd a staff cartrefi gofal wedi'u brechu'n llawn erbyn hyn, ac mae'r boblogaeth ehangach o oedolion yn dechrau cael eu hail ddosau. Ni fydd yn hir cyn y bydd y boblogaeth wedi'i hamddiffyn rhag salwch difrifol a marwolaeth o ganlyniad i bandemig COVID-19. Gyda hynny mewn golwg, pryd gallwn ni ddileu'r terfyn dau berson ar ymweliadau â chartrefi gofal? Pryd gall preswylwyr cartrefi gofal chwarae gyda'u hwyrion neu gofleidio eu hanwyliaid? Mae angen atebion i'r cwestiynau hyn ar ein hetholwyr yn Nyffryn Clwyd, a ninnau hefyd.

Deallaf, ar y dechrau, y bu angen pasio'r rheoliadau hyn yn gyflym. Fodd bynnag, nid yw hyn yn wir bellach. Nid yw'r sefydliad hwn yma i gymeradwyo penderfyniadau Llywodraeth Cymru; rydym ni yma i graffu. Gobeithio y gallwch chi fynd i'r afael â'r materion hyn cyn yr adolygiad nesaf, a rhoi gobaith i'r rheini sydd mewn gofal hirdymor. Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr, a diolch am y sylwadau yna. Yn gyntaf i gyd, a gaf i ymateb i Russell George?

Llongyfarchiadau ar eich swydd newydd fel Gweinidog iechyd yr wrthblaid. Deallaf y byddwn yn siarad â'n gilydd yn aml yn y dyfodol, felly rwy'n edrych ymlaen at hynny. O ran cymorth i fusnesau, yn sicr rwy'n credu y dylem fod yn falch iawn o'r ffaith ein bod wedi llwyddo i gael dros £1.9 biliwn mewn i gyfrifon busnes dros y 12 mis diwethaf. Felly, mae llawer o hyn wedi'i gyflawni gan awdurdodau lleol—tua £1 biliwn o'r arian hwnnw.

Rydym ni'n ymwybodol iawn bod y cyfyngiadau'n dal i effeithio ar lawer o fusnesau. Felly, er gwaethaf y ffaith bod lletygarwch ar agor, er enghraifft, wrth gwrs mae'n rhaid iddyn nhw gadw at y rheolau yr ydym ni wedi'u nodi'n glir iawn mewn canllawiau. Wrth gwrs, rydym ni wedi bod yn gweithio gyda busnesau i ystyried sut beth ddylai'r pecyn hwnnw o fesurau fod. Felly, er eu bod ar agor, dylid cael rhywfaint o gefnogaeth iddyn nhw o hyd. Felly, mae honno'n ddeialog barhaus, a chlywsoch chi y Prif Weinidog yn dweud heddiw mai'r peth cyntaf a wnaeth ar ôl cael ei ailethol oedd rhyddhau'r cyllid ychwanegol hwnnw, £200 miliwn ohono wedi'i glustnodi'n benodol ar gyfer cymorth busnes, ac £16 miliwn o hynny eisoes wedi dechrau cael ei ryddhau.

O ran pyllau nofio, wrth gwrs maen nhw wedi gallu ailagor yn barod. Rwy'n credu bod hyn yn wirioneddol bwysig o ran iechyd ac iechyd meddwl. Ond, wrth gwrs, mae gwahanol awdurdodau lleol yn delio â'r pethau hyn mewn gwahanol ffyrdd. Felly, rydym wedi rhoi'r pŵer iddyn nhw ailagor ac, wrth gwrs, byddwn ni'n eu hannog i sicrhau y gall pobl ddefnyddio'r cyfleuster hwnnw.

Wrth gwrs, mae rheswm pam ein bod ni'n gwneud pethau'n araf o ran cymysgu dan do. Rydym ni'n gwybod bod y feirws yn lledaenu'n haws y tu mewn. Efallai ei bod yn swnio'n rhyfedd eich bod yn gallu cymysgu mewn tafarn yn haws nag y gallwch gymysgu mewn cartref, ond maen nhw'n wahanol iawn, oherwydd mae un yn amgylchedd rheoledig ond dydy'r llall ddim. Rydym ni i gyd yn gwybod ein bod yn llai gofalus pan fyddwn yng nghartref rhywun arall. Felly, mae rheswm dros hynny. Ond, wrth gwrs, byddwn ni'n edrych ar hyn yn ystod yr adolygiad nesaf.

Yna, ar y pasbort brechu, wrth gwrs rydym ni wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i weld a allwn ni ddefnyddio'r ap y maen nhw'n ei ddatblygu. Mae rhai materion technegol yr ydym ni'n dal i geisio'u datrys, yn yr un modd â'r Alban a Gogledd Iwerddon. Rydym ni'n gobeithio y bydd hyn yn cael ei ddatrys erbyn diwedd mis Mehefin. Yn y cyfamser, wrth gwrs, rydym ni wedi'i gwneud yn gwbl glir nad ydym eisiau i bobl deithio, os yw'n bosibl—yn sicr dramor. Dyna yw ein safbwynt fel Llywodraeth Cymru. Ond, rydym ni'n cydnabod y gallai fod yn hanfodol i rai pobl deithio. Dyna pam, ddydd Llun, y cyhoeddais ddatganiad a oedd yn cynnwys rhif ffôn y gall pobl ei ffonio i gael pasbort papur dros dro, i bob pwrpas, i ddangos eu bod wedi cael y brechlyn.

Diolch yn fawr, Rhun, a dwi'n edrych ymlaen at gydweithio gyda chi ar sut rŷm ni'n symud ymlaen o ran y pandemig, ond hefyd ar ôl y pandemig. Bydd lot fawr o waith gyda ni i'w wneud o ran dal i fyny.

Dwi eisiau ymrwymo i sicrhau ein bod ni yn gwneud cyhoeddiadau yn y Senedd, pan fo hynny'n bosibl. Dwi'n awyddus iawn i fod yn dryloyw. Dwi'n meddwl ein bod ni'n gwneud polisïau gwell os ŷn ni’n dryloyw ac os ŷn ni’n cael y sialens yna. Felly, yn amlwg, dwi’n gobeithio nawr, ar ôl inni ddod mas o’r etholiad—yn amlwg roedd yn anodd inni bryd hynny. Ond mae hefyd angen inni ystyried, yn ystod y cyfnod yma, y bydd adegau pan fydd yn dal angen inni symud yn rili gyflym. Ac, wrth gwrs, bydd rhaid inni ddiddymu’r cyfyngiadau pan nad oes eu hangen nhw yn gyflym hefyd. Felly, mae’r sefyllfa’n gweithio y ddwy ffordd.

Fe fydd yna drydedd don, Rhun; rŷn ni’n ymwybodol iawn y bydd y drydedd don yn dod. Y cwestiwn yw: pa mor fawr fydd y don yna? Ac o ran yr amrywiolyn newydd, ŷn ni wedi gwneud lot o waith o ran paratoi. Rŷn ni’n ymwybodol o’r ffaith ei bod hi'n debygol y byddwn ni yn gweld cynnydd yma yng Nghymru, a dyna pam ŷn ni wedi rhoi mesurau mewn lle i alluogi grwpiau lleol i wneud y surge testing yma a’r surge vaccinations os bydd angen. Rŷn ni’n dal ar lefel eithaf isel ar hyn o bryd—57 o achosion yma yng Nghymru ar hyn o bryd—ond wrth gwrs byddaf i’n hapus hefyd i ymateb i lot mwy o’r sylwadau roeddech chi wedi eu gwneud mewn manylder.

John Griffiths, diolch yn fawr. Rydym yn awyddus iawn i bobl ifanc yn arbennig ddychwelyd i weithgareddau awyr agored. Mae yna ganllawiau eisoes o ran gweithgareddau wedi'u trefnu, o ran sut y gall rhieni wylio plant yn ddiogel. Rwy'n awyddus iawn ein bod ni fel Cabinet yn ystyried y mater parkruns. Wrth gwrs, bydd hynny'n rhywbeth y byddwn ni'n ei ystyried o ran yr adolygiad 21 diwrnod. Rydym ni, wrth gwrs, wedi cynnal y cynlluniau treialu awyr agored bach hyn; mae angen i ni adolygu'r cynlluniau treialu hynny. Dyna bwrpas cynllun treialu—gweld beth oedd y canlyniad. Os byddan nhw'n cyflawni yr hyn yr oeddem ni'n gobeithio y bydden nhw'n ei gyflawni, yna yn amlwg byddem ni'n hoffi gweld beth y gallwn ni ei wneud i lacio'r cyfyngiadau hynny ymhellach.

James Evans, croeso i'r Senedd. Hoffwn ymuno â chi i ddiolch i'r timau sydd wedi gwneud gwaith cwbl ryfeddol ledled Cymru o ran y rhaglen frechu. Rwy'n credu bod hyn yn arwydd o waith tîm: Llywodraeth Cymru gyda'r awdurdodau lleol, gyda'r byrddau iechyd, gyda'r gefnogaeth filwrol, ac, wrth gwrs, llawer iawn o wirfoddolwyr, ac mae'n dystiolaeth gwirioneddol o'u gwaith gwych nhw ein bod ni yn y sefyllfa yr ydym ynddi heddiw.

Rydym ni'n awyddus iawn, wrth gwrs, i sicrhau y gall busnesau agor cyn gynted â phosibl. Ac nid er mwyn y busnesau'n unig y mae hyn; mewn gwirionedd, aethoch chi ymlaen i sôn am iechyd meddwl. Fel y cyn Weinidog yn y swyddogaeth honno, mae perthynas rhwng y pethau hyn. Os na all pobl agor eu busnesau, maen nhw'n mynd i fod yn bryderus. Wyddoch chi, mae canlyniad economaidd iddyn nhw. Felly, mae llawer o niwed y mae angen i ni ei ystyried yma. Nid mater meddygol yn unig ydyw, yn y fan yma; nid mater iechyd yn unig ydyw. Mae llawer iawn o niwed arall, ac, wrth gwrs, rydym yn ystyried y niwed hwnnw bob tro y byddwn ni'n gwneud y penderfyniadau hyn o ran yr hyn yr ydym ni'n mynd i'w llacio a sut yr ydym ni'n mynd i'w llacio.

O ran yr hyn yr ydym ni wedi'i roi ar waith, byddwch chi eisoes wedi gweld ym maniffesto Llafur ein bod wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn gweld mwy o gymorth iechyd meddwl, sydd, gadewch i ni beidio ag anghofio, wedi'i neilltuo—£780 miliwn o bunnoedd o arian wedi'i neilltuo'n benodol ar gyfer cymorth iechyd meddwl. Ond mae arnom ni eisiau i fwy o'r arian hwnnw fynd i gymorth haen 0, haen 1—ymyrraeth gynnar iawn yw hynny. Gadewch i ni gael y gefnogaeth iddyn nhw'n gyflym. Dyna beth yr ydym ni'n awyddus iawn i'w wneud, ond hefyd i ddeall bod 80 y cant o broblemau iechyd meddwl yn dechrau pan fydd pobl yn blant a phobl ifanc, ac mae arnom angen mwy o'r arian i fynd yno. Felly, rydym yn rhoi cyfarwyddiadau nawr i'r byrddau iechyd er mwyn iddyn nhw ddeall mai dyna'r ffordd yr hoffem i bethau symud yn y dyfodol. Ac rydym wedi rhoi £40 miliwn o gyllid ychwanegol, wrth gwrs, i fynd i'r afael â'r mater hwn. Felly, mae'r mater iechyd meddwl yn sicr ar frig maniffesto Llafur.

Wrth gwrs, Huw, ar berfformiadau byw, rwy'n gwybod eich bod chi wedi bod yn ymgysylltu ar hyn, sy'n wych, ac mae'n un o'r pwyntiau sydd ar fy agenda. Felly, rydym ni'n cymryd hynny o ddifrif, Huw. Clywais gerddoriaeth fyw yn ddiweddar iawn yn eglwys gadeiriol Tyddewi, felly mae yn bosibl. Mae angen i ni edrych ar beth yw'r rhesymau a beth yw'r amodau. Rwy'n gwybod ein bod ni'n gwneud llawer o waith. Rydym ni'n Gymry, er mwyn popeth; rydym ni'n dwlu ar ganu. Rydym ni i gyd eisiau clywed canu eto, felly mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n gallu gwneud hynny mewn ffordd ddiogel. Felly, mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod wedi gwneud yr holl baratoadau i wneud yn siŵr, pan fyddwn ni'n dychwelyd at ganu, y gallwn ni ei wneud gydag awch a brwdfrydedd, fel yr ydym ni yn hoffi ei wneud fel cenedl.

Ac yn olaf, o ran cartrefi gofal, rwy'n siŵr y byddwch chi'n falch o glywed ein bod wedi diweddaru ein canllawiau ddydd Llun ar gyfer cartrefi gofal, sydd bellach yn golygu nad oes raid i chi fod â dau berson y bu'n rhaid eu cofrestru ymlaen llaw i fynd i mewn i gartrefi gofal. Gall unrhyw un fynd i mewn i gartrefi gofal yn awr. Mae'r cyfyngiad hwnnw wedi'i ddileu. Wrth gwrs, mae'n rhaid iddyn nhw gydymffurfio â'r canllawiau, ond mae'r ffaith bod gennym 98 y cant o bobl yn ein cartrefi gofal sydd bellach wedi cael y brechlyn cyntaf, a 92 y cant sydd wedi cael y ddau frechlyn, yn golygu bod lefel o ddiogelwch yno nad oedd yno ar ddechrau'r pandemig. Felly, rydym ni'n gyfforddus â hynny, mae'n rhaid i ni yn awr sicrhau bod y cartrefi gofal eu hunain yn gyfforddus â'r sefyllfa honno.

Felly, diolch yn fawr, a gobeithio y bydd pobl yn cytuno â'r syniadau newydd yma. Diolch.

16:35

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 6? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yna yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Y cwestiwn nesaf yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 7? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna'n cael ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Y cwestiwn nesaf yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 8? A oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig o dan eitem 8.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 9? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly rŷn ni'n derbyn y cynnig.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 10? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly rŷn ni'n derbyn y cynnig hynny hefyd.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynnig i atal Rheolau Sefydlog

Y cynnig nesaf yw i atal Rheol Sefydlog 12.10(ii) a Rheol Sefydlog 12.20(i) dros dro i alluogi dadl ar eitemau 11 ac 12. Dwi'n galw ar y Trefydd i wneud y cynnig hynny'n ffurfiol.

Cynnig NDM7698 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(ii) a Rheol Sefydlog 12.20(i), er mwyn caniatáu i NDM7696 a NDM7697 gael eu hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher, 26 Mai 2021.

Cynigiwyd y cynnig.

Y cwestiwn yw: a ddylid atal y Rheolau Sefydlog dros dro? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, ac felly fe rydym ni'n atal y Rheolau Sefydlog ac yn derbyn y cynnig i wneud hynny.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

11. Cynnig o dan Reol Sefydlog 16.1 i sefydlu Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth Dros Dro

Y cynnig, felly, o dan Rheol Sefydlog 16.1, yw i sefydlu Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth Dros Dro. Dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y cynnig hynny'n ffurfiol.

Cynnig NDM7697 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1:

Yn sefydlu Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth Dros Dro i gyflawni swyddogaethau’r pwyllgor cyfrifol a nodir yn Rheol Sefydlog 21.

Cynigiwyd y cynnig.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly rŷn ni'n derbyn y cynnig hynny.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

12. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.2T mewn perthynas â'r Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth Dros Dro

Y cynnig nesaf, o dan Reol Sefydlog 17.2T mewn perthynas â'r Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth Dros Dro. Dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y cynnig yn ffurfiol.

Cynnig NDM7696 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.2T, yn penderfynu na fydd Rheolau Sefydlog 17.2A i 17.2S (ethol cadeiryddion pwyllgorau) yn gymwys mewn perthynas â’r Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth Dros Dro.

Cynigiwyd y cynnig.

Y cwestiwn felly yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly rŷn ni'n derbyn y cynnig yna hefyd.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

13. Cynnig i ethol Aelodau i'r Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth Dros Dro

Y cynnig nesaf yw i ethol Aelodau i'r Pwyllgor Isdeddfwriaeth Dros Dro. Dwi'n galw y Trefnydd i wneud y cynnig hynny hefyd yn ffurfiol.

Cynnig NDM7695 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:

1. Jack Sargeant (Llafur Cymru), Mark Isherwood (Ceidwadwyr Cymreig), a Rhys ab Owen (Plaid Cymru) fel aelodau o’r Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth Dros Dro.

2. Y Dirprwy Lywydd yn Gadeirydd y Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth Dros Dro.

Cynigiwyd y cynnig.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, ac fe dderbynnir y cynnig hynny.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Dyna ddod â ni at ddiwedd—. Ie, dyna'r ddiwedd.

Ac rwy'n addo i chi y bydd ychydig yn fwy cyffrous na'r pum munud diwethaf. [Chwerthin.]

Diolch yn fawr, felly. Hwyl.

Daeth y cyfarfod i ben am 16:38.