Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

08/05/2019

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Helen Mary Jones. 

Trafnidiaeth Gyhoeddus Wledig yn Sir Gaerfyrddin

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogi trafnidiaeth gyhoeddus wledig yn Sir Gaerfyrddin? OAQ53813

Gwnaf, wrth gwrs. Rydym yn bwrw ymlaen â'n gweledigaeth uchelgeisiol i ail-lunio seilwaith a gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru, gan gynnwys, wrth gwrs, gwasanaethau bysiau lleol, gwasanaethau rheilffyrdd, teithio llesol a'r amryw brosiectau metro, a fydd yn lasbrint ar gyfer trafnidiaeth integredig ledled Cymru gyfan.

Diolch i'r Gweinidog am ei ymateb. Mae etholwyr yn dweud wrthyf eu bod yn credu bod llawer o bwyslais ar gysylltedd mewn cyd-destunau trefol, ac yn enwedig yn y Cymoedd, ac yn amlwg, mae hynny'n bwysig iawn. Ond a all y Gweinidog ddweud ychydig mwy am yr hyn y mae'n ei wneud, yn enwedig yng nghyd-destun gorllewin Cymru, i sicrhau y rhoddir blaenoriaeth i'r cysylltedd hwnnw ar gyfer cymunedau gwledig hefyd? Ceir problemau go iawn ar hyn o bryd mewn perthynas â chysylltedd rhwng trenau a bysiau yn sir Gaerfyrddin, a cheir problemau hefyd ynghylch amlder gwasanaethau. Er enghraifft, mae mwy o drenau o lawer yn mynd drwy'r orsaf yng Nghydweli nag sy'n aros yno. Felly, a all y Gweinidog ddweud ychydig mwy am yr hyn y mae'n ei wneud i sicrhau y gellir darparu'r cysylltedd hwnnw, a pha drafodaethau diweddar y mae wedi'u cael, ac yn enwedig, efallai, yng nghyd-destun cytundeb dinas-ranbarth Abertawe, lle mae sôn unwaith eto, wrth gwrs, am gysylltedd a thrafnidiaeth gyhoeddus, ond ceir diffyg eglurder hyd y gwelaf ynglŷn â sut y mae hynny'n effeithio ar yr ardaloedd mwy gwledig—sir Gaerfyrddin a sir Benfro—yn ogystal â chanol dinas Abertawe ei hun?

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am gwestiwn hynod o bwysig? I lawer o bobl, gwasanaethau bysiau, a thrafnidiaeth yn gyffredinol, yw'r her fwyaf y maent yn ei hwynebu o ran cael mynediad at wasanaethau, at gyfleoedd hamdden, ac yn bwysicaf oll mewn sawl ardal, at waith. Ac rwyf wedi dweud yn y Siambr hon o'r blaen fod rhai rhannau o Gymru lle na all cymaint ag 20 y cant o bobl fforddio neu sicrhau ffordd o fynd i'w cyfweliadau am swyddi, heb sôn am fynd i'r gwaith. Maent wedi eu cloi allan o'r gweithle i bob pwrpas. Ac felly, mae'r diwygiadau radical rydym yn eu hargymell i wasanaethau bysiau lleol yn gwbl hanfodol. Rydym wedi cyhoeddi'r Papur Gwyn. Gwn y cafwyd ymateb ardderchog i'r ymgynghoriad a ddaeth i ben ar 27 Mawrth. A buaswn yn cytuno'n llwyr â'r Aelod na ellir canolbwyntio'n unig ar ardaloedd trefol lle mae'r rhan fwyaf o'r boblogaeth yn byw, ac y dylid canolbwyntio lawn cymaint ar atebion ar gyfer ardaloedd mwy gwledig. Ac rwy'n falch ein bod wedi cyhoeddi pedwar cynllun peilot yn ddiweddar, gan gynnwys un yng ngorllewin Cymru, i archwilio'r potensial ar gyfer defnyddio trafnidiaeth seiliedig ar alw—fel y mae rhai wedi'i ddweud, 'ubereiddio' gwasanaethau bysiau, ond gyda chwistrelliad o enaid. A chredaf mai'r hyn a fydd yn bwysig yn y cynlluniau peilot hyn yw y bydd modd inni brofi ffordd newydd o ateb galw teithwyr, ond ffordd sydd yr un mor fforddiadwy, ac o bosibl, hyd yn oed yn llai costus i'r trethdalwr o ran cymorthdaliadau na ffurfiau confensiynol ar wasanaethau bysiau a gwasanaethau bysiau rheolaidd.

Nawr, wrth i'r cynllun peilot hwn yng ngorllewin Cymru a'r tri chynllun peilot arall fynd rhagddynt, rydym yn gweithredu cyfres o wasanaethau TrawsCymru, ac rwy’n falch o ddweud ein bod wedi dechrau darparu llwybr TrawsCymru newydd ddoe yng ngorllewin Cymru, i gysylltu Abergwaun â Thyddewi, Hwlffordd, ar lwybr T11. Ond rwy'n awyddus i sicrhau, drwy ddiwygiadau, drwy ddefnyddio'r cymhorthdal ​​cyhoeddus yn well, ein bod yn gweld mwy o wasanaethau bysiau yn ymateb i ofynion teithwyr ym mhob cymuned—rhai trefol a rhai gwledig.

Costau Teithio ar y Rheilffordd yng Nghanolbarth Cymru

2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gostau teithio ar y rheilffordd yng nghanolbarth Cymru? OAQ53806

Yn sicr. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod Trafnidiaeth Cymru yn darparu strategaeth brisiau siwrneiau sy'n gynaliadwy a'r lefel uchaf o wasanaeth i'r holl gwsmeriaid rheilffyrdd ledled Cymru a fydd yn diwallu anghenion cymunedau mewn ardaloedd gwledig ac mewn ardaloedd trefol.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Tybed a gaf fi ofyn i chi gysylltu â Trafnidiaeth Cymru i sicrhau nad yw fy etholwyr yn cael eu rhwystro rhag teithio gan brisiau siwrneiau ar drenau sy'n amhriodol ar gyfer llwybrau ar draws gorsafoedd canolbarth Cymru, yn enwedig o Gymru i Loegr? Mae un o fy etholwyr wedi gwneud gwaith a ddengys y gall etholwr brynu tocyn yng Nghaersws, Y Drenewydd neu'r Trallwng i fynd i Telford neu Wellington, ac mae'r gost yn ddrytach na phe baent wedi prynu tocyn i Birmingham New Street. Felly, ymddengys bod hynny allan o'r cyd-destun o ran y milltiroedd a deithiwyd. Buaswn yn ddiolchgar am eich sylwadau a'ch ymrwymiad i sicrhau y caiff teithiau eu prisio'n addas ar gyfer y pellter a deithiwyd, i annog yn hytrach nag anghymell teithio ar drenau.

13:35

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn a diolch iddo hefyd am gysylltu â Trafnidiaeth Cymru yn uniongyrchol mewn perthynas â'r ymchwiliad y soniodd amdano eto heddiw? Roedd yn waith pwysig a wnaed gan un o etholwyr Russell George, ac rwy'n gwerthfawrogi'r adborth adeiladol a gawsom ynghylch prisiau siwrneiau ar reilffordd y Cambrian. Dylwn ddweud, cyn i mi symud at fater ehangach y gyfundrefn brisiau siwrneiau, fod Trafnidiaeth Cymru wedi trosglwyddo'r adborth hwn i'r tîm sy'n gyfrifol am bennu prisiau siwrneiau ar drenau; maent yn edrych ar y mater ar hyn o bryd, er mwyn bod yn barod ar gyfer y rownd nesaf o newidiadau i brisiau siwrneiau. A gallaf sicrhau'r Aelod y bydd Trafnidiaeth Cymru'n rhoi sylw arbennig i'r prisiau siwrneiau ar y llwybr hwn er mwyn sicrhau yr eir i'r afael ag unrhyw anomaleddau.

Nawr, mae'r gyfundrefn brisiau siwrneiau, wrth gwrs, yn seiliedig ar reoliadau sy'n ddegawdau oed, a bydd Trafnidiaeth Cymru yn gwneud nifer o ymyriadau, ac maent yn eu gwneud eisoes, i leihau prisiau siwrneiau i lawer o bobl, yn enwedig pobl ifanc, ac i sicrhau bod y gyfundrefn brisiau siwrneiau yn fwy tryloyw ac yn haws ei deall. Ond mae'r mater hwn yn hynod o bwysig ar gyfer y 15 mlynedd nesaf—am oes gyfan y fasnachfraint newydd. Ac am y rheswm hwnnw, mae'r Rail Delivery Group, sy'n cynnwys Trafnidiaeth Cymru, yn ystyried darparu system brisiau siwrneiau sy'n haws ei defnyddio ac yn cynnig llawer mwy o werth am arian. Bydd yn seiliedig ar ystod o brisiau siwrneiau sy'n haws ei defnyddio, a bydd yn cael ei chyflwyno drwy ddiweddaru'r set honno o reoliadau y soniais amdani. Gallai olygu cyflwyno system dalu wrth fynd, gyda chap pris, ar wasanaethau cymudo ledled y wlad. Gallai roi bargen well o lawer i weithwyr hyblyg o ganlyniad. Byddai hefyd yn caniatáu mwy o reolaeth leol dros brisiau siwrneiau, sy'n rhywbeth y gwn fod Aelodau yn y Siambr hon yn awyddus i'w weld. A chredaf y byddai hefyd, yn ei dro, yn arwain at integreiddio gwell rhwng prisiau siwrneiau ar drenau a mathau eraill o drafnidiaeth, er enghraifft, gyda bysiau, lle rydym hefyd yn bwriadu rhoi mwy o reolaeth i gynghorau.

Gyda system brisiau siwrneiau wedi'i diwygio'n llawn, am y tro cyntaf byddai modd i deithwyr elwa ar warant y byddent yn talu'r prisiau gorau am eu taith bob tro, heb orfod prynu sawl tocyn. Mae hynny'n rhan o'n gweledigaeth am system drenau, bysiau a thrafnidiaeth gyhoeddus gwbl integredig a theg yng Nghymru.

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ateb i Russell George—mae'n bwysig iawn, ac mae'n ddefnyddiol clywed beth yw'r blaengynlluniau. Yr wythnos diwethaf, teithiais ar lein arfordir y Cambrian—mae'n rhaid imi ddweud, er mawr cywilydd imi—am y tro cyntaf i'r gogledd o Fachynlleth; roeddwn wedi defnyddio'r rhan arall o'r rheilffordd sawl tro. A sylwais yno ar y nifer uchel iawn o deithwyr sy'n defnyddio'r trên hwnnw ar gyfer teithiau byr iawn—un neu ddau stop—yn enwedig disgyblion ysgol. A gaf fi ofyn i'r Gweinidog sicrhau, yn yr adolygiad hwn o brisiau siwrneiau, ei fod yn cadw mewn cof, fel y dywed y bydd yn ei wneud, yr angen i gadw prisiau siwrneiau'n fforddiadwy i bobl ifanc, gan y byddai'n rhaid i rieni'r bobl ifanc hyn ddarparu trafnidiaeth ar y ffyrdd pe na baent yn teithio ar y trên, neu byddai'n rhaid i'r cyngor sir ddarparu trafnidiaeth ar y ffyrdd, sy'n rhywbeth rydym yn ceisio'i osgoi, a sicrhau hefyd y caiff defnyddwyr gwasanaethau rheolaidd fynediad ffafriol at drefniadau tocyn tymor, fel y gallwn barhau i annog ein hetholwyr i wneud y teithiau byr yn ogystal â defnyddio rheilffyrdd ar gyfer teithiau hirach?

A gaf fi ddiolch i Helen Mary Jones am ei chwestiynau, ac am y pwyntiau pwysig a wnaed ganddi o ran sicrhau bod gennym y prisiau siwrneiau isaf posibl ar gyfer pobl ifanc, pobl sy'n dibynnu'n fawr ar drafnidiaeth rheilffyrdd o ddydd i ddydd? Dylwn ddweud, o dan y gweithredwr blaenorol, mai ar nifer cyfyngedig o lwybrau'n unig yr oedd modd prynu tocynnau rhatach. Bellach, gyda Trafnidiaeth Cymru yn gweithredu'r fasnachfraint, mae tocynnau ymlaen llaw yn docynnau sengl ar gyfer trenau penodol, y gellir eu prynu o 12 wythnos ymlaen llaw hyd at 6 p.m. cyn y diwrnod teithio. Bydd teithwyr yn prynu tocyn sengl ymlaen llaw arall wedyn ar gyfer y daith yn ôl. Nawr, yn y tymor hwy, rwy'n bwriadu diwygio'r sefyllfa hon. Fodd bynnag, yn y tymor byrrach, dylid nodi mai 48 y cant yw'r arbediad cyfartalog drwy'r mecanwaith tocynnau ymlaen llaw—arbediad sylweddol. Rydym hefyd yn ystyried cyflwyno tocynnau clyfar ar rwydwaith Cymru a'r gororau. Ac mewn mannau eraill, bydd modd i gwsmeriaid ddefnyddio tocynnau ar ffonau symudol i sicrhau eu bod yn talu'r pris lleiaf bob amser.

Nawr, o ran pobl ifanc, ac o ran teithio ar fysiau, rydym eisoes wedi ymestyn cynllun fyngherdynteithio. Ac rydym wrthi'n edrych ar ffyrdd y gallem gofrestru'r holl bobl ifanc yn awtomatig i'r cynllun hollbwysig hwnnw sy'n cynnig arbediad sylweddol i deithwyr ifanc. Ond ar gyfer y rheilffyrdd, mae Trafnidiaeth Cymru yn bwriadu ymestyn amodau teithio presennol y rheilffyrdd cenedlaethol, gan ganiatáu teithio am ddim ar reilffyrdd i blant hyd at 11 oed. Yn ychwanegol at hyn, Lywydd, mae Trafnidiaeth Cymru yn cynnig cyflwyno teithio am ddim ar adegau tawel i bob teithiwr o dan 16 oed, sy'n teithio gydag oedolion sy'n talu, ar lwybrau lle gall Trafnidiaeth Cymru osod prisiau tocynnau ac sydd ar reilffyrdd Cymru a'r gororau. Hefyd, Lywydd, rwy'n falch o ddweud eu bod hefyd yn bwriadu codi'r terfyn oedran ar gyfer tocynnau plant i 18 oed ar wasanaethau Cymru a'r gororau.

13:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Russell George.

Diolch, Lywydd. A yw'r Gweinidog yn rhannu fy mhryderon fod Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru ar ei hôl hi o ran cyflawni ei gylch gwaith?

Byddaf yn cyfarfod â 'r comisiwn seilwaith cenedlaethol cyn bo hir. Byddaf yn trafod eu cylch gwaith a byddaf yn trafod eu blaenraglen waith. O gofio eu bod yn ystyried anghenion seilwaith yn y tymor hwy, rwy'n fodlon ar gyflymder y gwaith hyd yma. Fodd bynnag, hoffwn pe bai unrhyw waith a wneir o hyn ymlaen yn cael ei wneud yn y ffordd fwyaf cynhwysfawr posibl.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Nid wyf yn ymwybodol fod unrhyw argymhelliad wedi dod i law eto o ran prosiectau seilwaith dros y pump i 30 mlynedd nesaf, sef pam y sefydlwyd y comisiwn, wrth gwrs. Ond rwy'n awgrymu, Weinidog, mai un broblem strwythurol allweddol yw bod cynllunio, ariannu a chylchoedd cyflwyno prosiectau seilwaith ac adeiladu yng Nghymru yn aml wedi eu cydlynu'n wael.

Er enghraifft, ledled Cymru ar hyn o bryd, mewn cyfnod y cyfeirir ato gan y sector adeiladu yn 'fis Mawrth gwallgof', mae pob awdurdod lleol yn gwario arian ar yr un pryd ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Yn ychwanegol at hyn, yn aml, nid yw cylchoedd gwario llywodraeth leol yn cyd-fynd â strategaethau darparu seilwaith sefydliadau eraill, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Felly, golyga'r dull di-drefn hwn fod gan y diwydiant adeiladu yng Nghymru weithlif ysbeidiol iawn, ac ansicrwydd ynghylch pa brosiectau a ddaw i fodolaeth yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod. Ac wrth gwrs, holl bwynt y comisiwn seilwaith cenedlaethol yw darparu rhywfaint o drosolwg ar y broblem, gyda'r nod yn y pen draw o helpu'r diwydiant adeiladu i gadw gweithwyr medrus a chaniatáu buddsoddiad a chymorth a thwf yn ein diwydiant adeiladu yng Nghymru.

Felly, o gofio pwysigrwydd y comisiwn seilwaith cenedlaethol, a fyddech yn cytuno â mi nad yw'r adnoddau a ddyrannwyd i gefnogi gwaith y comisiwn yn ddigonol? Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae un o swyddogion y Llywodraeth wedi'i secondio o Lywodraeth Cymru i'r comisiwn. Beth yw eich cynlluniau i wella'r sefyllfa yn y dyfodol?

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Yn gyffredinol, cytunaf â'r pwyntiau pwysig a wnaeth ynglŷn â chylchoedd cyllido, a dyna pam ein bod wedi cynnwys, yn y cynllun gweithredu economaidd, yr addewid i newid i rownd fwy cynaliadwy a gwarantedig o gylchoedd cyllido nid yn unig ar gyfer cynlluniau seilwaith a ddatblygir gan Lywodraeth Cymru, ond hefyd o bosibl ar gyfer awdurdodau lleol.

Credaf ei bod yn gwbl briodol dweud bod angen datblygu ffrwd gyson o brosiectau seilwaith er mwyn sicrhau y gall pobl aros mewn gwaith wrth iddynt symud o un prosiect i'r llall. Mae Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru yn ystyried anghenion seilwaith Cymru yn y tymor hir, a'r rhai sy'n mynd y tu hwnt i bum mlynedd y cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol.

Ar hyn o bryd, rydym hefyd yn y broses o adnewyddu strategaeth drafnidiaeth Cymru, a fydd, rwy'n siŵr, yn ystyried cylchoedd cyllido a natur y sector ar hyn o bryd. Ond yn ystod y sgyrsiau y byddaf yn eu cael gyda'r comisiwn seilwaith cenedlaethol, byddaf yn codi mater dyrannu adnoddau, ac yna byddaf yn penderfynu a oes angen adnoddau ychwanegol.

Hoffwn ddiolch i chi am eich ateb adeiladol yn hynny o beth, Weinidog. Rwy'n pryderu bod ymagwedd y Llywodraeth tuag at gynllunio a darparu seilwaith hirdymor yn wan iawn. Wrth gwrs, un enghraifft y cyfeiriais ati yw ffordd liniaru'r M4. Mae arian wedi'i wario—arian cyhoeddus; mae symiau enfawr o arian cyhoeddus wedi eu gwario—ac wrth gwrs, rydym yn dal i aros am benderfyniad terfynol.

Os yw'r sector adeiladu a seilwaith am fod â hyder yng ngallu'r Llywodraeth i gynllunio a chyflwyno prosiectau newydd yn y dyfodol, ac os yw busnesau a chymunedau ledled Cymru am fod â hyder yng ngallu eich Llywodraeth, mae'n gwbl hanfodol eich bod yn sicrhau bod y comisiwn seilwaith cenedlaethol ar waith a bod yr adnoddau priodol yn cael eu darparu ar ei gyfer. Mae'r comisiwn hwnnw wedi bod ar waith ers blwyddyn bellach, ac er enghraifft, pe bai'r comisiwn hwnnw yn cael yr adnoddau priodol, ac rwy'n awgrymu nad yw hynny'n digwydd ar hyn o bryd, efallai y dylid sicrhau bod cynllun B ar waith os nad yw ffordd liniaru'r M4 yn mynd i gael ei hadeiladu, gan fod hyn, wrth gwrs, yn bryder gwirioneddol i'r sector adeiladu a seilwaith.

13:45

Buaswn yn cytuno â'r Aelod fod gwaith Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru yn gwbl hanfodol. Mae'r cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol yn rhoi rhywfaint o sicrwydd ynghylch dyraniadau cyllid ar gyfer prosiectau seilwaith yn y tymor byr, ond o ran y cynlluniau tymor hwy, dyna'r union reswm pam y sefydlasom Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru i asesu ac i nodi beth sydd orau ar gyfer y wlad, ac yna i Lywodraeth Cymru gynllunio a chyhoeddi cynlluniau buddsoddi ar gyfer y tymor hwy. Rwy'n bwriadu sicrhau bod y gwaith hwnnw'n cael ei gwblhau, ond mae'n deg dweud bod gwaith cychwynnol y comisiwn seilwaith cenedlaethol wedi canolbwyntio i raddau helaeth ar ymgysylltu ac asesu.

Credaf ei bod yn iawn fod y comisiwn wedi rhoi amser i gyfarfod ag amryw randdeiliaid—rhestr helaeth o randdeiliaid, rhaid dweud—ac i asesu pa un o'r ymyriadau seilwaith mawr y gall y Llywodraeth eu gwneud a all ddarparu'r canlyniadau gorau, yn enwedig mewn byd sy'n newid yn gyflym lle rydym yn mynd i'r afael ag argyfwng hinsawdd, lle rydym yn gweld mathau newydd o yriant pŵer yn cael eu cyflwyno i gerbydau, lle rydym yn gweld dulliau a moddau newydd o drafnidiaeth, a lle rydym yn gweld natur trafnidiaeth yn newid o symud o A i B i fod yn wirioneddol symudol, ac o fod yn symudol, bod mewn sefyllfa i weithio neu mewn sefyllfa hamdden.

Diolch, Llywydd. Weinidog, fel y dywedais i yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog ddoe, mae dathlu 20 mlynedd o ddatganoli yn gyfle i asesu 20 mlynedd o'r Cynulliad, ein Senedd genedlaethol ni sy'n llais i bawb, wrth gwrs, ac mae o'n gyfle i edrych yn ôl ar 20 mlynedd o waith Llywodraeth Cymru. O ran Plaid Cymru, mi fuom ni mewn Llywodraeth am bedair blynedd yn dal y brîff economi. Dwi'n falch iawn o'r hyn a wnaeth fy rhagflaenydd i, Ieuan Wyn Jones, yn cynnwys gwthio rhaglenni ProAct a ReAct a wnaeth gymaint, ar y pryd, i liniaru rhai o effeithiau gwaethaf yr argyfwng ariannol ar y pryd. Ond pedair blynedd allan o 20 oedd hynny—20 mlynedd wedi eu harwain gan Lywodraeth Lafur. Sut ydych chi yn gallu egluro bod cyfoeth cymharol Cymru wedi mynd lawr dros yr 20 mlynedd diwethaf o dan eich arweinyddiaeth chi?

Gadewch i ni edrych ar rai o'r ffeithiau cyffredinol a phwysig sydd wedi effeithio ar yr economi yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf, a sut rydym wedi gallu llywio economi Cymru i gyfeiriad gwahanol iawn i'r cyfeiriad yr aed iddo yn ôl yn y 1980au a'r 1990au cynnar. Yn yr 20 mlynedd diwethaf, rydym wedi gweld nifer y bobl yng Nghymru heb gymwysterau yn gostwng o fwy nag un o bob tri i lai nag un o bob pump. O ganlyniad, mae gennym bellach gyfradd is na chyfartaledd y DU o ran anweithgarwch cyflogaeth. A allem fod wedi dychmygu hynny yn y 1990au, pan roedd ein cyfraddau bron ddwywaith cymaint â chyfartaledd y DU?

Heddiw, mae gennym 300,000 yn fwy o bobl mewn gwaith nag a oedd gennym yn 1999, yn bennaf oherwydd ymyriadau Llywodraeth Lafur Cymru dros y blynyddoedd hynny. Ac efallai mai un o'r rhaglenni mwyaf llwyddiannus a roddwyd ar waith gennym yn ystod datganoli yw rhaglen a seiliwyd ar un a gyflwynwyd gan Lywodraeth Gordon Brown yn San Steffan, ond a gafodd ei diddymu wedyn gan Lywodraeth Geidwadol Cameron, sef Twf Swyddi Cymru. Cynorthwyodd Twf Swyddi Cymru filoedd ar filoedd o bobl ifanc i osgoi diweithdra hirdymor.

Yn ystod y cyfnod rhwng 2010-15, gallwch gymharu rhannau o Gymru â rhannau o Loegr. Cododd diweithdra hirdymor ymhlith pobl ifanc 2,000 y cant mewn rhai rhannau o Loegr yn ystod y cyfnod hwnnw. Roedd y ffigur yma yng Nghymru yn llai na 100 y cant, sy'n dal i fod yn rhy uchel o lawer, ond mewn sawl rhan o Loegr a'r Alban, gwelsom ddiweithdra hirdymor ymhlith pobl ifanc yn codi gannoedd os nad miloedd y cant. Fe wnaethom ni achub gobeithion, dyheadau a gyrfaoedd miloedd o bobl ifanc ar ôl 2008, a hyd heddiw, rydym yn dal i weithredu cynllun llwyddiannus iawn sy'n rhoi gobaith a chyfleoedd i lawer o bobl ifanc.

Ac mae unrhyw ystadegyn sy'n cyfeirio at lwyddiant i'w groesawu. Mae'n rhaid i mi ddweud bod yna elfen o chwarae bingo yma yr wythnos hon. Ystadegyn yr wythnos yw cyfraddau anweithgarwch economaidd. Hwn oedd yr un a ddefnyddiwyd gan y Prif Weinidog yn ei araith i nodi 20 mlynedd o ddatganoli ddoe ac fe'i defnyddiwyd gan y Gweinidog Brexit ar y teledu neithiwr, felly mae'n amlwg ei fod yn rhan o friffiau Llafur ar gyfer wythnos yr ugeinfed pen-blwydd. Rwy'n eich llongyfarch ar ddod o hyd i'r ystadegyn hwnnw sy'n edrych yn ffafriol. Mae lefelau diweithdra sylfaenol yn ffefryn arall i sôn amdano, ac a wyddoch chi beth? Gallwn ddathlu, wrth gwrs, bob tro y bydd rhywun yn sicrhau cyflogaeth, ond unwaith eto, nid yw'r cyfraddau diweithdra hynny'n adrodd y stori lawn. Nid ydynt yn adrodd hanner y stori. Gwyddom fod tangyflogaeth yn dal i fod yn endemig a bod cyflogau isel yn dal i fod yn endemig. Gwyddom fod Llafur yn parhau i fethu mewn meysydd allweddol fel cynyddu cyflogau a chynhyrchiant. Gadewch i ni edrych ar gynhyrchiant yn gyflym. Mae Cymru i lawr ar waelod y rhestr o 12 gwlad a rhanbarth y DU o ran gwerth ychwanegol gros am bob awr a weithiwyd. Rydym bob amser yn agos at y gwaelod o dan eich arweinyddiaeth chi. Oes, mae gwelliant wedi bod o ran gwerth ychwanegol gros yng Nghymru yn ddiweddar, ond nid yw'n ddigon o bell ffordd i newid safle Cymru ar y rhestr honno. Pam na all Llafur ddatrys hyn?

13:50

Soniodd am chwarae bingo yr wythnos hon; caiff 'full house' gennyf fi. Gadewch i ni sôn am werth ychwanegol gros, ie? Mae gennyf ffigur gwych y gallaf ei ddyfynnu yma. Ers datganoli, gan Gymru y gwelwyd y pumed cynnydd uchaf mewn gwerth ychwanegol gros y pen o gymharu â 12 o wledydd y DU a rhanbarthau Lloegr. Gadewch i ni siarad am werth ychwanegol gros am bob awr a weithiwyd. Ers 2011, sef y flwyddyn, wrth gwrs, y cawsom Lywodraeth Lafur yn unig yng Nghymru unwaith eto, mae twf cynhyrchiant Cymru wedi bod yn uwch na holl wledydd a rhanbarthau'r DU. Symudaf ymlaen. Diweithdra: cafwyd gostyngiad o 31,000 o ran nifer y bobl ddi-waith dros yr 20 mlynedd diwethaf. Y ffigur rhwng hynny, 270,000 o ran gweithgarwch pobl nad oeddent yn weithgar ym 1999, ond y gallasom eu hyfforddi i feithrin y sgiliau er mwyn cael gwaith ac i aros mewn gwaith hefyd. Ac mae'n werth dweud bod cyfraddau diweithdra wedi gostwng yn gyflymach yng Nghymru nag yn y DU ers datganoli. Credaf mai'r ffigur yw oddeutu 3.3 y cant i lawr yng Nghymru, o gymharu â 2 y cant yn unig ledled y DU.

Wrth gwrs, mae tangyflogaeth yn un o brif bryderon Llywodraeth Cymru. Mae'n rhaid iddi fod. Mae'n rhaid mai dyna'r amcan mawr nesaf—sicrhau bod pobl yn cael eu cyflogi ar y lefel y mae eu sgiliau yn galluogi iddynt gael eu cyflogi arni ac i sicrhau eu bod yn cael cyflog teg am y gwaith hwnnw. Dyna pam y sefydlasom y Comisiwn Gwaith Teg. Mae'r Comisiwn Gwaith Teg bellach wedi cyflwyno'i adroddiad. Mae'r Comisiwn Gwaith Teg wedi gwneud gwaith rhagorol o ran asesu natur gwaith yn y dyfodol, a byddwn yn edrych ar bob argymhelliad a'r broses o weithredu'r argymhellion hynny, er mwyn sicrhau ein bod yn gwella ansawdd, cynaliadwyedd a diogelwch a thâl am waith yng Nghymru.

Er mwyn parhau â'r gyfeiriadaeth fingo, os mynnwch, credaf fod Llywodraeth Cymru yn edrych i lawr pan ddylem fod yn edrych i fyny. A golyga'r pwynt rydym yn dechrau ohono ar y daith hon fod yn rhaid inni anelu'n uwch. Rydych yn crybwyll ffigurau gwell yng Nghymru, ond fel y dywedais, nid yw hynny'n ddigon i'n symud i fyny'r rhestr honno. Rydym yn dal i fod yno ar y gwaelod.

Nid oes unrhyw amheuaeth gennyf y bydd yr amgylchedd yn un o themâu pwysig 20 mlynedd nesaf datganoli, a bydd cryn dipyn o ryngweithio rhwng yr amgylchedd a'ch briff chi, yr economi a thrafnidiaeth. Rwyf am edrych ar gymudo yn gyflym. Mae cymudo bellach yn cymryd mwy o amser nag 20 mlynedd yn ôl. Er bod mwy o ymwybyddiaeth amgylcheddol, mae traffig ceir wedi cynyddu 12 y cant ers 1999, gan gynyddu'n gyflymach na thwf y boblogaeth. Nid yw pethau'n edrych yn wych ar gyfer y dyfodol. Mae cael gwared ar y tollau ar bont Hafren wedi gwaethygu'r traffig. Credaf y byddai llwybr du'r M4 yn anochel yn arwain at fwy o draffig. Ond rwy'n synhwyro uchelgais yn y Cynulliad fel corff i weithredu. Dro ar ôl tro, clywn alwadau o fy meinciau ac o feinciau eraill am symud ymlaen go iawn ar deithio llesol. Mae'r Cynulliad hwn wedi rhoi deddfwriaeth wych i Lywodraeth Cymru allu gweithio ohoni. A yw'r Gweinidog, yn y cyd-destun hwnnw, yn derbyn, o ran y rhyngweithio rhwng yr amgylchedd a'r economi a thrafnidiaeth, fod bwlch clir yn bodoli o hyd rhwng dyhead y Cynulliad i weithredu a gallu'r Llywodraeth i wneud hynny?

Ddim o gwbl, ddim o gwbl. Rwy'n gwrthod hynny'n llwyr. Ac i ddychwelyd at y pwynt cyntaf, y pwynt fod angen i ni edrych i fyny: dyna'n union rydym ni yn Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei wneud. Dyna pam y llwyddasom i gyflawni'r canlyniadau syfrdanol o ran lleihau anweithgarwch economaidd, gwella rhagolygon swyddi, gwella lefelau sgiliau. Ac efallai mai'r blaid y mae'r Aelod yn ei chynrychioli a ddylai edrych i fyny gydag ychydig mwy o uchelgais, ac yn hytrach na beirniadu Llywodraeth Cymru yn llwyr ac yn rheolaidd am ddenu cwmnïau fel Aston Martin, sydd ymhlith y cwmnïau gorau y gallwch eu cael yn y sector modurol, dylid dathlu'r mathau hynny o fuddsoddiadau.

Nawr, o ran yr argyfwng hinsawdd, roedd fy adran eisoes yn gwneud gwaith rhagorol ar leihau'r cyfraniad y mae trafnidiaeth yn ei wneud i'n hôl troed carbon cyffredinol. Mae gennym dargedau hynod uchelgeisiol, gan gynnwys fflyd fysiau a thacsis dim allyriadau yn ystod y 10 mlynedd nesaf. Bydd cant y cant o'r trydan a ddefnyddir ar reilffyrdd craidd y Cymoedd yn y fasnachfraint newydd yn dod o ffynonellau adnewyddadwy, a bydd 50 y cant ohono yn dod o Gymru. Fe ddatblygasom gynllun gweithredu economaidd gyda datgarboneiddio yn ganolog iddo; dyna pam fod datgarboneiddio yn un o bedwar maen prawf y contract economaidd. Ni fyddwch yn sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru oni bai eich bod yn gallu dangos sut rydych yn datgarboneiddio eich busnes. Mae hynny'n ymrwymiad enfawr i'w wneud, ac mae'n dangos pam roedd ein hadran, mewn sawl ffordd, ar flaen y gad.

Ond o ran prosiectau ffyrdd ac o ran teithio llesol, rydym eisoes wedi dyrannu £16 miliwn yn ychwanegol ar gyfer teithio llesol. Ac o ran y seilwaith ffyrdd, wrth gwrs, bydd yn rhaid inni wneud llawer o benderfyniadau anodd ynglŷn â llawer o wahanol ffyrdd wrth inni ymateb i'r argyfwng hinsawdd. Buaswn yn gwahodd pob Aelod i ystyried hyn: mae ffordd liniaru'r M4 sy'n cael ei hyrwyddo gan Lywodraeth Cymru yn gynllun ffordd a fydd yn garbon niwtral dros ei hoes. A yw pob cynllun ffordd arfaethedig arall ledled Cymru, ym mhob rhan o Gymru, yn garbon niwtral, neu a ydynt yn waeth? Os ydynt yn waeth, a fyddai'r Aelodau sy'n eu cefnogi yn rhoi'r gorau i'w hyrwyddo?

13:55

Diolch, Lywydd. Weinidog, credaf ei bod yn wir dweud bod myfyrwyr prifysgol yn aml yn cael eu portreadu mewn ffordd negyddol, ond oni ddylem gydnabod bod llawer o feysydd lle mae myfyrwyr o bob rhan o'r sbectrwm academaidd yn dangos blaengarwch ac egni, yn aml y tu allan i'w cwricwlwm penodol? Mae'n galonogol felly fod myfyrwyr o Gymru wedi perfformio'n well na myfyrwyr mewn rhannau eraill o'r DU o ran sefydlu eu busnesau eu hunain. Felly, a ydych yn cytuno y dylem ddathlu'r ffaith bod hyd at 13 y cant o fyfyrwyr Cymru yn gadael ac yn sefydlu eu busnesau eu hunain, a bod y ffigur hwn yn fwy nag unrhyw ran arall o'r DU?

Rwy'n cytuno'n llwyr ac yn dathlu'r ffaith bod gan Gymru gyfradd uwch o entrepreneuriaeth graddedigion mewn busnesau newydd nag unrhyw le arall. Dyma'r gyfradd uchaf yn y DU—nid oes gan unrhyw ran arall o'r DU gyfradd uwch—ac mae hynny'n bennaf oherwydd yr ymyriadau y mae prifysgolion yn eu gwneud, wrth gwrs, yn ogystal â gweithio mewn partneriaeth â'r Llywodraeth—yr hyn a wnawn, er enghraifft, drwy Syniadau Mawr Cymru, a gynlluniwyd i ysbrydoli pobl ifanc pan fyddant yn yr ysgol i fod yn entrepreneuriaid ac i fod yn berchen ar eu busnes eu hunain ac i weithredu eu busnes eu hunain.

Diolch i'r Gweinidog am hynny. Mae rhai beirniaid yn tynnu sylw at y ffaith bod cymaint â 44 y cant o'r busnesau newydd hyn yn methu, a bod darpar entrepreneuriaid yn dilyn y llwybr hwn am nad ydynt yn gallu dod o hyd i gyflogaeth addas. Ond a yw'n wir dweud bod llawer o fusnesau yn methu, busnesau nad ydynt yn cael eu cychwyn gan fyfyrwyr, ac y dylem gydnabod hefyd y gellir dysgu llawer o bethau drwy fethu? Mae llawer o resymau dros fethiant busnes, ond mae'n debyg mai'r peth mwyaf cyffredin yw ymchwil gwael i'r farchnad a diffyg cyfalaf. Er fy mod yn cydnabod bod y Llywodraeth wedi sefydlu ffynonellau cyngor a chyfalaf, yn enwedig drwy Fanc Datblygu Cymru a Busnes Cymru, a ydym yn gwneud digon i ddod â phrifysgolion a'r ddau sefydliad hwn at ei gilydd, er mwyn cael mwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i'r entrepreneuriaid ifanc hyn?

Mae'r Aelod yn codi nifer o bwyntiau pwysig, yn gyntaf oll ynghylch deallusrwydd economaidd a'r rôl sydd gan Fanc Datblygu Cymru yn hyn o beth. Mae ganddo uned wybodaeth economaidd sy'n gallu asesu tueddiadau'r farchnad a thueddiadau cwsmeriaid mewn amrywiaeth o wahanol amgylcheddau ac ar draws gwahanol sectorau. Mae angen i wybodaeth economaidd o'r fath gael ei defnyddio, wrth gwrs, gan brifysgolion a chan fyfyrwyr mewn prifysgolion pan fyddant yn ystyried dechrau eu busnesau, ond yn yr un modd, mae rôl gan Gyrfa Cymru i'w chwarae. Roeddwn wrth fy modd ar ddechrau'r mis wrth lansio Cymru'n Gweithio, sy'n wasanaeth cyngor cyfunol; yn y bôn, mae'n ddrws blaen i unrhyw un sy'n awyddus i gael cyngor gyrfaoedd allu cael mynediad at gyngor arbenigol a phroffesiynol mewn modd amserol. Yn aml, gall hynny arwain at atgyfeiriad at Busnes Cymru. Felly, erbyn hyn, mae gennym Gyrfa Cymru a Busnes Cymru yn gweithredu ar y cyd i raddau helaeth, gan blethu dros entrepreneuriaeth.

Mae Busnes Cymru wedi bod yn hynod o lwyddiannus yn cynorthwyo busnesau i gychwyn dros y blynyddoedd diwethaf, a bellach mae gennym y nifer fwyaf erioed o fusnesau yng Nghymru. Rydym yn hynod o agos bellach at fod â 260,000 o fusnesau'n gweithredu yng Nghymru, ac mae gennym y nifer fwyaf erioed o fusnesau sydd â'u pencadlys yma yng Nghymru. Ond mae'r Aelod hefyd yn codi pwynt ynghylch cyfradd y busnesau sy'n methu, ac ofni methiant. Ni chredaf y dylai unrhyw un sy'n dechrau busnes ofni methiant, neu deimlo cywilydd am fethu. Mae methiant yn rhan o'r broses ddysgu mewn bywyd ac mae hynny'n cynnwys mewn busnes, ac ar hyn o bryd, mae cyfradd y busnesau sy'n methu yng Nghymru oddeutu 10.4 y cant. Ledled y DU, mae cyfradd y busnesau sy'n methu yn 13.1 y cant. Er mwyn cael economi ddynamig, mae'n rhaid i chi hefyd gael gwrthgiliad yn yr economi, ac am y rheswm hwnnw, buaswn yn dweud wrth unrhyw un sy'n ystyried dechrau busnes, 'Peidiwch ag ofni methiant, yn enwedig ar eich ymgais gyntaf', gan fod llawer o'r bobl fusnes fwyaf llwyddiannus yn ein gwlad wedi methu, ac nid unwaith yn unig, ond ar sawl achlysur.

14:00
Datblygu Busnesau ym Mharc Bryn Cegin

3. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i ddatblygu busnesau ym Mharc Bryn Cegin, Bangor? OAQ53796

Diolch yn fawr iawn. Mae'r tir ym Mharc Bryn Cegin ar gael i'w ddatblygu ar hyn o bryd ac yn cael ei farchnata gan ein hasiantaeth eiddo masnachol, ein cronfa ddata ar eiddo a chan Gyngor Gwynedd.

Diolch. Ddoe, roedd yn briodol iawn ein bod ni'n dathlu sefydlu'r Cynulliad hwn 20 mlynedd yn ôl. Mae llawer o bobl yn fy etholaeth i yn rhoi'r bai ar y Cynulliad am un o sgandalau mawr y cyfnod, sef bod Parc Bryn Cegin ar gyrion Bangor yn parhau i fod yn hollol wag a dim un swydd wedi'i chreu. Ond, wrth gwrs, nid bai y Cynulliad ydy hyn ond bai y Llywodraeth Lafur sydd wedi bod yn dal grym yn y lle yma ers 20 mlynedd.

Mae'r parc bellach yn un o dri hwb busnes cynllun twf y gogledd, a dwi'n falch o hynny, ond a wnaiff eich Llywodraeth chi roi blaenoriaeth i ddenu busnes a gwaith o ansawdd i'r parc yma? Fe wariwyd miliynau ar yr isadeiledd, ond does yna ddim oll yno o ran gwaith, busnes na swyddi.

Wel, bydd yr Aelod yn ymwybodol mai Liberty Properties yw'r datblygwr a ffafrir ar gyfer datblygiad hamdden a sinema sydd wedi cael cryn dipyn o sylw ar y plot blaen ers peth amser bellach. Rwy'n falch o ddweud bod Liberty yn dweud bod un gweithredwr sinema a rhwng tri a phedwar o weithredwyr bwytai yn dal i ddangos diddordeb, a'u bod yn adolygu opsiynau eraill yn y sector hamdden i gefnogi hyfywedd yr ardal, a byddant yn cyflwyno gwerthusiad prosiect diwygiedig pan fydd wedi'i sefydlu a phan fydd diddordeb y sector preifat wedi'i werthuso'n llawn. Gallaf roi sicrwydd i'r Aelod fod fy swyddogion yn gweithio gyda Chyngor Gwynedd i hwyluso'r gwaith o ddarparu cyfleuster parcio a theithio ar dir nad yw wedi'i ddyrannu at ddefnydd cyflogaeth, ac mae'r cyngor wedi sicrhau caniatâd cynllunio ar gyfer y cyfleuster hwnnw, a fydd yn ei wneud yn llawer mwy deniadol i ddatblygu'r prosiect sinema.

Yn ogystal, o dan fargen dwf y gogledd, mae'r bwrdd uchelgais economaidd wedi nodi achos busnes amlinellol ar gyfer menter tir ac eiddo ar y cyd rhwng y bwrdd uchelgais economaidd a'r Llywodraeth Lafur hon, i gynyddu cyflenwad a darpariaeth safleoedd, adeiladau a thai yng ngogledd Cymru, ac wrth gwrs, mae Parc Bryn Cegin wedi'i nodi fel un o'r pum cyfle cynnar ar gyfer datblygiad posibl. Ac edrychaf ymlaen at weld yr Aelod yn croesawu llwyddiant Llywodraeth Lafur Cymru yn sicrhau bod swyddi'n cael eu creu ar y safle pwysig hwnnw. Rydym yn ystyried achosion busnes ym margen dwf gogledd Cymru ar hyn o bryd a byddwn yn ymateb i'r bwrdd uchelgais economaidd erbyn diwedd y mis.

Mewn gwirionedd, penododd Llywodraeth Cymru Liberty Properties Developments Ltd yn ddatblygwyr ar gyfer safle Parc Bryn Cegin ym Mangor yn 2015. Fis Medi diwethaf, dywedodd y cyn Brif Weinidog wrth y Cynulliad hwn fod

'tir datblygu Parc Bryn Cegin, Bangor yn cael ei farchnata gan ein hasiantaeth eiddo masnachol... ein cronfa ddata ar eiddo a Chyngor Gwynedd.'

Yn rhyfedd iawn, yr union eiriau a ddefnyddiwyd gennych yn eich ymateb cychwynnol heddiw. Felly, llongyfarchiadau ar gysondeb eich briffwyr.

Ym mis Ionawr, honnodd Bangor Aye,

Erbyn hyn, deellir bod Liberty mewn trafodaethau gyda Chyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru ynglŷn â chynlluniau newydd ar gyfer y safle.

Felly, tybed a allech ymhelaethu ar beth yw'r cynlluniau newydd hynny ar gyfer y safle, a chan ymateb i'ch sylwadau ynghylch cynnwys prosiect safle strategol Parc Bryn Cegin yn nogfen cais bargen dwf gogledd Cymru, pa drafodaethau rydych chi'n eu cael nid yn unig â bwrdd uchelgais economaidd gogledd Cymru, ond gyda grŵp cyflawni busnes gogledd Cymru, a sefydlwyd i'w gefnogi, ynglŷn â gwireddu eu dyheadau i gynhyrchu 250 o swyddi anuniongyrchol, pum busnes mawr a hyd at £12 miliwn o drosoledd sector preifat yn sgil manteisio ar y cyfle hwn.

14:05

Wel, hoffwn ddweud bod Mark Isherwood yn codi pwynt pwysig iawn tuag at ddiwedd ei gwestiwn ynglŷn â rôl grwpiau busnes yn llywio datblygiad economaidd yng ngogledd Cymru, ac rwyf wedi bod yn awyddus iawn i bwysleisio wrth y bwrdd uchelgais economaidd y rôl allweddol sydd gan y sector preifat yn llunio bargen dwf wirioneddol drawsnewidiol, un sydd wedi'i hategu gan fuddsoddiad y sector preifat, ac un sy'n gallu ysgogi mwy o fuddsoddiad gan y sector preifat hefyd. Ac felly, boed hynny o ran Parc Bryn Cegin neu unrhyw un arall o'r safleoedd a'r adeiladau, neu unrhyw un o'r prosiectau eraill ym margen dwf gogledd Cymru, credaf ei bod yn gwbl hanfodol fod y bwrdd uchelgais economaidd, y bwrdd rhaglen a fy swyddogion yn ymgysylltu â'r sector preifat a chyda'r cyflogwyr a fydd, o bosibl, yn meddiannu'r safle.

Cyfeiria'r Aelod at gyfarfod a gynhaliwyd ym mis Rhagfyr 2018 a oedd yn cynnwys cynghorwyr Cyngor Gwynedd a swyddogion Cyngor Gwynedd hefyd, lle nododd Liberty y byddai ymgorffori manwerthwr bwyd disgownt yn eu cynnig yn lle rhai unedau bwytai, pe caniateir hynny, yn gwella hyfywedd y cynllun. Gwrthodwyd hynny. Fodd bynnag, mae Liberty, fel y dywedaf, wedi dweud yn ddiweddar fod ganddynt un gweithredwr sinema a nifer o weithredwyr bwytai yn dangos cryn dipyn o ddiddordeb o hyd, ac maent yn adolygu opsiynau eraill yn y sector hamdden i gefnogi hyfywedd y prosiect.

Hyfforddiant Sgiliau

5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella hyfforddiant sgiliau yng Nghymru? OAQ53808

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu gweithlu medrus, gan gynnwys darparu 100,000 o brentisiaethau pob oed yn ystod tymor y Cynulliad hwn. Mae ein rhaglen sgiliau hyblyg yn cynorthwyo busnesau ledled Cymru i uwchsgilio eu gweithlu. Rydym yn gweithio gyda'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol i sicrhau bod y ddarpariaeth sgiliau ym mhob rhanbarth yn ymateb i alw busnes.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae system hyfforddiant addysg alwedigaethol yr Almaen yn cyfuno llyfrau a hyfforddiant ymarferol sydd wedi'i ymgorffori mewn amgylchedd gwaith go iawn—fe'i gelwir yn system ddeuol. Yn yr Almaen, nid yw'r Llywodraeth yn talu cyflogwyr i gyflogi prentisiaid, ond mae'n talu am offer a gweithredu colegau galwedigaethol. Mae'r cwmnïau sy'n darparu hyfforddiant yn cyfrannu drwy roi mwy o arian i hyfforddiant deuol, sydd o fudd i gwmnïau mawr a busnesau bach a chanolig. Pa astudiaeth a wnaed gan y Gweinidog o system yr Almaen i weld pa wersi y gellir eu dysgu i wella hyfforddiant sgiliau yng Nghymru er mwyn diwallu anghenion ein cyflogwyr yng Nghymru yn well?

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Credaf fod pob Gweinidog sgiliau sydd wedi gwasanaethu yn y Llywodraeth hon neu unrhyw Lywodraeth arall ers datganoli wedi dangos cryn dipyn o ddiddordeb yn system ddeuol yr Almaen ac wedi ystyried a ellid ei thrawsblannu o'r Almaen i Gymru. Fodd bynnag, daeth pob un o'r Gweinidogion sgiliau hynny i'r casgliad fod angen inni ddatblygu system sydd, o'r gorau, yn seiliedig ar y system orau yn y byd, ond nad yw o reidrwydd yn dyblygu unrhyw system unigol yn llwyr. Yn wir, rhybuddiodd y damcaniaethwr gwleidyddol de Tocqueville yn erbyn ceisio dyblygu diwylliannau yn union fel y maent mewn gwahanol wledydd, gan fod rhai arferion na ellir eu trawsblannu o un wlad i'r llall. Yn lle hynny, mae'n rhaid i chi ddatblygu eich system eich hun sy'n ymateb i'ch anghenion penodol eich hun a mympwyon eich diwylliant a'ch cymdeithas.

O'n rhan ni, mae gennym gynllun cyflogadwyedd bellach sy'n ymateb i anghenion busnesau, ond sy'n adlewyrchu anghenion unigol pawb sy'n ceisio cymorth. Mae gennym hefyd system brentisiaeth gref iawn, un sydd bellach—yn sicr o gymharu â phan oeddwn i yn yr ysgol—yn cael ei hyrwyddo'n dda mewn ysgolion ac sy'n rhoi cyfle go iawn i bobl fynd ar drywydd y llwybr galwedigaethol yn hytrach na'r llwybr academaidd pur. Ond er mwyn parhau i adeiladu system sgiliau sy'n ymateb i economi heddiw, rydym wedi datblygu partneriaethau sgiliau rhanbarthol ledled Cymru i sicrhau bod y ddarpariaeth yn seiliedig ar yr hyn sydd ei angen ar yr economi, nid yn unig heddiw, nid yn unig y mis hwn, eleni, ond tair, pump, 10 mlynedd yn y dyfodol. Ac wrth gwrs, mae gwaith y partneriaethau sgiliau rhanbarthol wedi'i lywio gan wybodaeth gynhwysfawr am y farchnad lafur a thueddiadau sydd, yn eu tro, yn dod o wahanol arsyllfeydd. Ac rwy'n falch ein bod wedi comisiynu'r Athro Phil Brown i gynnal asesiad cynhwysfawr o'r rôl y bydd technoleg ddigidol ac awtomatiaeth yn ei chwarae yn newid natur gwaith yn y blynyddoedd i ddod. Bydd gwaith yr adolygiad penodol hwnnw'n llywio pob un o'r tair partneriaeth sgiliau ranbarthol, ac yn ei dro, yn gwella ein darpariaeth sgiliau yng Nghymru.

14:10

Weinidog, fis Ebrill eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru becyn cyllido £3 miliwn ar gyfer Sgiliau Bwyd Cymru, a fydd yn weithredol tan 2023, a thros y tair blynedd gyntaf, disgwylir i'r rhaglen hon gefnogi 650 o fusnesau. Weinidog, gyda sector bwyd a diod Cymru eisoes yn cynhyrchu £6.9 biliwn i economi Cymru, onid yw buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn arwydd o bwysigrwydd gwella sgiliau a'r hyn y gall hynny ei wneud i economi Cymru? A sut y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i flaenoriaethu'r gallu i ddenu a chadw gweithlu dawnus a gwella sgiliau yn y diwydiant hwn?

Wel, mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn ynglŷn â gwerth economaidd y sector bwyd a diod. Credaf hefyd fod gan fwyd a diod—. Maent yn cynnig diffiniad pwerus o ddiwylliant a chymeriad gwlad, ac wrth inni geisio hyrwyddo Cymru yn fwy penodol dramor, buaswn yn disgwyl i rôl bwyd a diod wella a chynyddu, ac rwy'n dychmygu y bydd gwaith y Gweinidog materion gwledig a'r Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol yn ystyried yn ofalus rôl bwyd a diod yn hyrwyddo brand Cymru. Nawr, mae'r sector bwyd a diod yng Nghymru wedi'i nodi fel sector ag arwyddocâd economaidd rhanbarthol gan bob un o'r tair partneriaeth sgiliau ranbarthol, ac fel y dywedais eisoes, mae ganddynt rôl allweddol yn cynhyrchu gwybodaeth ranbarthol a lywir gan gyflogwyr, gan gynnwys cyflogwyr o'r sector bwyd a diod.

Tasglu'r Cymoedd

6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd Tasglu'r Cymoedd fel y mae'n effeithio ar Flaenau Gwent? OAQ53792

Diolch. Do, ymwelais â Blaenau Gwent yr wythnos diwethaf i gyfarfod â'r cyngor i drafod eu blaenoriaethau ar gyfer tasglu'r Cymoedd. Rwy'n disgwyl iddynt gyflwyno cynigion ar gyfer Parc Bryn Bach drwy barc rhanbarthol y Cymoedd yr wythnos hon.

Mae'n dda clywed bod y Gweinidog wedi ymweld â Blaenau Gwent ac yn mynd i'r afael â'r gwaith y mae tasglu'r Cymoedd wedi'i nodi yn eu hamcanion. Fe fydd yn ymwybodol o'n sgyrsiau mai un o'r siomedigaethau a gefais fel Gweinidog yn y maes hwn oedd na lwyddasom i gwblhau'r gwaith ar gynllun economaidd strategol ar gyfer Blaenau'r Cymoedd. Fe fydd yn gwybod bod Sefydliad Bevan ac eraill wedi dangos bod angen cynllun economaidd wedi'i lunio'n benodol ar gyfer Blaenau'r Cymoedd, yn ymestyn o Hirwaun draw hyd at Fryn-mawr, ac mae'n bwysig, gan fod yna faterion penodol yn effeithio ar y cymunedau hynny. Gwyddom hefyd fod deuoli'r A465 yn arf economaidd i fynd ar drywydd a chreu amodau ar gyfer buddsoddiad economaidd yn y cymunedau hynny. Buaswn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am y gwaith y mae'n ei wneud ar greu cynllun ar gyfer swyddi a datblygiad economaidd yn y cymunedau hynny ym Mlaenau'r Cymoedd.

Diolch. Gallaf sicrhau fy nghyd-Aelod fy mod yn parhau â'r gwaith a ddechreuwyd ganddo i sicrhau ein bod yn manteisio i'r eithaf ar ffordd Blaenau'r Cymoedd. Trafodais hyn gydag arweinydd y cyngor yr wythnos diwethaf, ac rwy'n ddiolchgar iddo am y sgyrsiau a gawsom ynglŷn â hyn hefyd. Cyflwynwyd adroddiad ar y gwaith a gomisiynodd gan Brifysgol De Cymru, ac mae wedi bod yn ddechrau gwerthfawr. Rydym wedi sefydlu gweithgor fel rhan o'r tasglu i weld a allwn ddatblygu hynny ymhellach, ac yn awr, drwy weithgor, rydym yn edrych ar ddata pellach i wella hynny, a byddwn yn datblygu cynllun. Yn ychwanegol at hynny, rydym wedi ymrwymo i edrych yn benodol ar y Cymoedd gogleddol i weld sut y gallwn fynd i'r afael â'r amodau yno, ac rwy'n siarad ag arweinwyr cynghorau ynglŷn â'u safbwyntiau ar beidio â chanolbwyntio'r holl arian a ddyrannwyd gennym ar y canolfannau, sydd wedi'u lleoli yn rhan ddeheuol y Cymoedd gan mwyaf, ac yn lle hynny, gweld sut y gallwn fynd ati mewn ffordd fwy thematig i ganiatáu i'r cynghorau eu hunain fynd i'r afael ag ardaloedd blaenoriaethol, a lledaenu'r cyllid hwnnw ledled y Cymoedd, nid yn y canolfannau'n unig. Ac rwy'n gobeithio rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd cyn bo hir, ar ôl i mi orffen cyfarfod ag arweinwyr yr holl gynghorau.

A yw'r Gweinidog wedi gweld angen i wneud unrhyw welliannau i dasglu'r Cymoedd ers iddo ddod yn Weinidog?

14:15

Wel, rydym yn sicr yn adolygu gwaith y tasglu. Cyhoeddodd fy nghyd-Aelod Alun Davies gynllun cyflawni cyn y Nadolig sy'n cyfleu'r amrywiaeth o weithgareddau sy'n mynd rhagddynt ar draws y Llywodraeth yn ardal tasglu'r Cymoedd. O ganlyniad i hynny, mae llawer o waith wedi bod yn mynd rhagddo ac mae cynnydd yn cael ei wneud. Felly, er enghraifft, mae'r gwaith o ddatblygu'r metro wedi cael ei lywio i raddau helaeth gan y ganolfan strategol yng Nghaerffili, er enghraifft. Mae gwaith yn mynd rhagddo yn awr gyda'r cyngor ar greu canolfan drafnidiaeth integredig yno na fyddai wedi digwydd pe na bai tasglu'r Cymoedd wedi cael ei greu. Fel y dywedais, rydym yn ceisio mabwysiadu ymagwedd fwy thematig. O ganlyniad i hynny, mae'n ddigon posibl y byddwn yn ceisio ail-lunio rhywfaint o aelodaeth tasglu'r Cymoedd er mwyn sicrhau bod y sgiliau iawn gennym yno i fwrw ymlaen â'r gwaith hwnnw.

Trafnidiaeth yng Nghanol Ardaloedd Trefol

7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar gyfer trafnidiaeth yng nghanol ardaloedd trefol yng Nghymru? OAQ53822

Gwnaf, wrth gwrs. Ar gyfer ardaloedd trefol mewnol, mae trafnidiaeth gyhoeddus integredig yn allweddol er mwyn hyrwyddo newid moddol o'r car personol i ddulliau trafnidiaeth mwy cynaliadwy, ac wrth gwrs, gostyngiad yn lefelau allyriadau carbon deuocsid a nitrogen deuocsid. Bwriad ein rhaglen ddiwygio yw cynyddu niferoedd teithwyr ar drafnidiaeth gyhoeddus, yn ogystal â'r rhai sy'n cerdded, ac yn beicio wrth gwrs.

Diolch i'r Gweinidog am hynny. Weinidog, yng nghwestiynau'r Prif Weinidog ddoe, cyfeiriodd y Prif Weinidog at sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen i fwrw ymlaen â therfyn cyflymder diofyn posibl o 20 mya mewn ardaloedd trefol yng Nghymru, a chredaf y byddai hynny'n darparu llawer o fanteision. A allech roi rhagor o fanylion inni am y trefniant newydd hwnnw, Weinidog, o ran aelodaeth a chadeiryddiaeth y grŵp gorchwyl a gorffen, ei gylch gwaith a'r amserlen ar gyfer ei waith a'i drefniadau adrodd? Os nad yw'r holl fanylion gennych wrth law heddiw, buaswn yn gwerthfawrogi pe gallech ysgrifennu ataf gyda'r manylion hynny.

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Rwy'n cydnabod ei fod wrth ei fodd â chyhoeddiad y Prif Weinidog ddoe. Rwy'n siŵr y bydd y Dirprwy Weinidog yn ysgrifennu at yr holl Aelodau gyda manylion ynglŷn â chylch gwaith ac amserlen waith y grŵp, a fydd yn cael ei gadeirio, Lywydd, gan Phil Jones, sy'n uchel ei barch yn y maes hwn ac a arweiniodd ar y gwaith ar y canllawiau cynllunio.FootnoteLink Yn y cyfamser, byddwn yn parhau i gynorthwyo awdurdodau lleol i gyflwyno parthau 20 mya, a byddwn yn gwneud hynny drwy ddyrannu adnoddau o'n cyllidebau. Bydd Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn cyhoeddi cyllid ar gyfer cynlluniau 20 mya ledled Cymru cyn bo hir.

Maes Awyr Caerdydd

8. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda swyddogion maes awyr Caerdydd ynghylch ehangu ei wasanaethau cludo nwyddau a'r ardal fusnes? OAQ53820

Wel, yn ddiweddar, cymeradwyais uwchgynllun ymgynghori drafft 2040 ar gyfer Maes Awyr Caerdydd, sy'n nodi cyfleoedd i gynyddu nifer y busnesau sy'n gysylltiedig â chludo nwyddau. Dyma un o nifer o gyfleoedd i arallgyfeirio sylfaen fusnes y maes awyr ac i sicrhau ei gynaliadwyedd. Mae fy swyddogion yn gweithio'n agos gyda Maes Awyr Caerdydd i helpu i gyflawni uchelgeisiau uwchgynllun drafft 2040.

Weinidog, mae'r maes awyr wedi wynebu ychydig o anawsterau yn ddiweddar—a chyhoeddiad Flybe yw'r gwaethaf. Nid wyf yn siŵr a fyddech wedi clywed bod Peter Phillips, cyn-uwch reolwr ym Maes Awyr Caerdydd a chyn-gynghorydd i feysydd awyr Brisbane ac Amsterdam, wedi dweud bod angen i Faes Awyr Caerdydd ddatblygu ei wasanaethau cludo nwyddau a'i barth busnes mewn ymateb i gyhoeddiad Flybe. O ran cludo nwyddau, mae wedi datgan y dylai maes awyr Dwyrain Canolbarth Lloegr fod yn dempled ar gyfer y DU. Felly, a ydych yn edrych ar feysydd awyr eraill i ddysgu'r arferion gorau? Hefyd, mae hwn yn gyfnod pwysig i'r maes awyr, gan y bydd ei arweinyddiaeth yn newid cyn bo hir.

Ydw, yn sicr. Credaf fod yr Aelod yn gwneud pwynt pwysig. Mae Peter Phillips yn gwneud pwynt pwysig iawn hefyd. Ond buaswn yn ychwanegu at unrhyw ffocws ar nwyddau na allwch ddatblygu cludiant nwyddau heb gael teithwyr hefyd. Felly, mae'n rhaid i chi ddatblygu llwybrau teithwyr er mwyn sicrhau y gellir cludo nwyddau hefyd. Felly, buaswn yn rhybuddio rhag unrhyw newid yn y ffocws i gludo nwyddau'n unig, ac yn awgrymu mai'r ffordd orau o dyfu'r maes awyr yw sicrhau ein bod yn cynyddu niferoedd teithwyr, yn ogystal â chyfleoedd i fusnesau sy'n gysylltiedig â chludo nwyddau.

Gwelliannau Adran 5 a 6 yr A465

9. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd diweddar a wnaed o ran gwelliannau adran 5 a 6 yr A465? OAQ53818

Gwnaf. Rwy'n falch o ddweud fy mod wedi cymeradwyo'r gorchmynion drafft ar gyfer y cam hwn o'r broses ddeuoli, a fydd, ar ôl ei orffen, yn cwblhau'r broses ddeuoli ac yn datgloi'r ystod lawn o fanteision cymdeithasol ac economaidd i'w darparu gan y prosiect arloesol hwn.

14:20

Diolch am eich ymateb, Weinidog. Fe'ch cyfeiriaf at wefan Llywodraeth Cymru, sy'n datgan:

'Mae lled y ffordd yn cyfyngu ar lif y traffig ac ar gyfleoedd diogel i basio. Mae’r gwelededd yn wael mewn sawl man arni. Mae’r rhan fwyaf o ddamweiniau’n digwydd o gwmpas y cyffyrdd a’r mannau lle ceir gwelededd gwael.'

Felly, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi fod angen i ni fwrw ymlaen â'r gwelliannau i adrannau 5 a 6, ac mae fy etholwyr wedi bod yn aros am y gwelliannau hyn ers tro. Felly, a ydych yn cytuno bod cwblhau ffordd Blaenau'r Cymoedd yn elfen hanfodol a strategol o'n cynlluniau hirdymor i helpu i wella cymunedau'r Cymoedd? Ac a allwch gadarnhau, er gwaethaf yr oedi parhaus ar y darn rhwng Bryn-mawr a Gilwern, fod cwblhau adrannau 5 a 6 yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth ac y bydd y gwaith adeiladu yn dechrau heb oedi diangen?

Gallaf roi sicrwydd i'r Aelod fy mod yn cefnogi'r cynllun yn llwyr. Fel y dywedaf, rwyf eisoes wedi cymeradwyo'r gorchmynion drafft. Os bydd popeth yn iawn, bydd y gwaith adeiladu'n dechrau yn 2020 a bydd wedi'i gwblhau erbyn 2023, a byddwn yn ceisio manteisio ar bob budd a allwn o'r buddsoddiad pwysig hwn o oddeutu £900 miliwn i gymunedau Blaenau'r Cymoedd.

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit)

Yr eitem nesaf, felly, yw cwestiynau i'r Gweinidog Brexit, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Mike Hedges.

Y Gyfarwyddeb Llosgi Gwastraff

1. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael ynghylch dyfodol y gyfarwyddeb llosgi gwastraff ar ôl Brexit? OAQ53815

Nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau ynglŷn â llosgi gwastraff ar ôl Brexit, gan nad yw hyn wedi codi yn benodol yn y trafodaethau Brexit. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynnal safonau amgylcheddol ar ôl inni adael yr Undeb Ewropeaidd, ac er nad wyf wedi cael trafodaethau penodol ynglŷn â llosgi gwastraff, rydym wedi gwneud paratoadau er mwyn sicrhau bod deddfwriaeth, gan gynnwys y rheoliadau perthnasol, yn parhau ar waith ar ôl Brexit.

Diolch am eich ateb, Gwnsler Cyffredinol. Gofynnaf y cwestiwn hwn fel rhywun sydd wedi gwrthwynebu llosgi gwastraff anfeddygol ers peth amser. A yw'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno â mi ynglŷn â phwysigrwydd y gyfarwyddeb a pha mor bwysig yw ei chadw ac y cydymffurfir â hi? Er hynny, mae'n rhaid i mi ychwanegu y byddai'n well gennyf gael moratoriwm ar losgi gwastraff anfeddygol.

Wel, bydd yr Aelod yn gwybod bod ffocws polisi'r Llywodraeth ar ailgylchu ac mae'r targed ar gyfer ailgylchu yn lleihau'r defnydd o wastraff mewn unrhyw gyd-destun arall.

Mewn perthynas ag effaith Brexit ar y maes hwn, fel rhan o'r paratoadau deddfwriaethol ar gyfer ymadawiad 'dim bargen' posibl, bydd yr Aelod yn gwybod bod deddfwriaeth gywirol wedi'i rhoi ar waith, ac mae hynny'n cynnwys deddfwriaeth i sicrhau bod Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016 yn parhau i fod yn weithredadwy mewn senario 'dim bargen'.

O ran datblygu polisi yn y dyfodol mewn amgylchedd ôl-Brexit mewn perthynas â'r maes polisi penodol hwn, mae trafodaethau'n mynd rhagddynt rhwng y pedair gweinyddiaeth ynglŷn â sut y byddant yn cydweithio mewn perthynas â'r maes penodol hwn ar ôl i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mentrau yn y Gymuned

2. A wnaiff y Cwnsler Cyfredinol ddatganiad am ddosbarthu cymorth ariannol i fentrau yn y gymuned drwy Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru? OAQ53819

Mae dros £80 miliwn o arian yr UE wedi'i ymrwymo i fentrau cymunedol a sefydliadau trydydd sector drwy Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru fel rhan o raglenni cronfeydd strwythurol cyfredol yr UE.

Mae Canolfan Galw Heibio i Bobl Ifanc Senghennydd yn fy etholaeth wedi gwneud cais am gyfran o'r cyllid hwnnw. Rwyf wedi dweud wrth y Gweinidog am hynny drwy ohebiaeth ysgrifenedig. Mae Canolfan Galw Heibio i Bobl Ifanc Senghennydd yn fenter gymunedol sy'n cynnal canolfan galw heibio i bobl ifanc yn ardal Senghennydd ac mae'n hynod werthfawr yn fy etholaeth. Ar hyn o bryd, mae ganddynt dir ar gyfer prosiect ynni gwyrdd ac mae ganddynt ganiatâd cynllunio i ddatblygu tyrbin gwynt ar y tir. Roeddent yn ei chael hi'n anodd bwrw ymlaen ac fe'u rhwystrwyd rhag gallu bwrw ymlaen gyda grant am gyllid gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru ar gyfer y tyrbin gwynt cymunedol hwnnw oherwydd y meini prawf eithaf anhyblyg sydd gennym ar gyfer y mathau hynny o geisiadau. Gwn na all y Gweinidog, ac rwy'n derbyn yn llwyr na all y Gweinidog wneud unrhyw sylwadau penodol am geisiadau unigol, ond gyda'r profiad hwn mewn golwg, a fyddai'n ymrwymo i ystyried sut y gallwn ddysgu o brofiad Canolfan Galw Heibio i Bobl Ifanc Senghennydd er mwyn sicrhau bod ceisiadau gwyrdd cymunedol yn fwy llwyddiannus gyda Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru yn y dyfodol?

Wel, diolch i'r Aelod am ei gwestiwn atodol. Yn amlwg, rwy'n ymwybodol o'r prosiect yn ei etholaeth yn seiliedig ar yr ohebiaeth a gawsom. Mae wedi cydnabod na allaf wneud sylw penodol ar hynny, ac mewn gwirionedd, mai Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru sy'n gwneud y penderfyniadau hynny, nid Gweinidogion Cymru. Mae nifer fawr o brosiectau llwyddiannus wedi mynd i sefydliadau cymunedol a thrydydd sector, gan gynnwys mentrau meithrin gallu er mwyn annog ceisiadau llwyddiannus pellach gan y trydydd sector. Cyfarfûm yn ddiweddar â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, er enghraifft, i drafod eu diddordeb a'u rôl fel corff cyfryngol yn cynorthwyo Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru gyda gweinyddu cronfeydd yr UE.

Mewn perthynas â'r pwynt penodol a wnaed ganddo ynglŷn â gwella rôl sefydliadau cymunedol ymhellach fel rhai sy'n elwa o gronfeydd yr UE, mae hynny'n sicr yn rhywbeth y byddem yn dymuno'i weld, ac mewn perthynas â'r prosiect penodol yn ei etholaeth, buaswn yn annog y sefydliad i gysylltu â swyddogion i drafod y prosiect penodol hwnnw.

14:25

Weinidog—Gwnsler Cyffredinol, dylwn ddweud—credaf fod Hefin David, yr Aelod dros Gaerffili, wedi gwneud pwynt pwysig ynglŷn â'r potensial yn y dyfodol—gan gydnabod bod cronfa Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru wedi bod yn eithriadol o bwysig i brosiectau cymunedol yn y gorffennol, fod potensial bellach i sicrhau bod y strwythur newydd yn fwy addas i'ch ardal chi, Hefin, a fy ardal i, er mwyn cefnogi prosiectau amgylcheddol yn well. Gwyddom ein bod, fel y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddweud, yn wynebu argyfwng newid hinsawdd, felly pa drafodaethau a gawsoch gyda'r Gweinidog sy'n gyfrifol am ynni i sicrhau, yn y dyfodol, pa strwythur bynnag—gwn ei bod yn ddyddiau cynnar—a ddaw yn lle'r cyllid y mae Cymru wedi'i gael ar gyfer y mathau hyn o brosiectau, fod prosiectau amgylcheddol ac ynni adnewyddadwy yn ganolog i hynny, fel y gall Cymru fod ar flaen y gad yn y DU a sicrhau mai ni yw'r rhan o'r DU sy'n gwneud fwyaf o les yn amgylcheddol?

Wel, wrth wraidd cwestiwn yr Aelod a chwestiwn Hefin David ceir cwestiwn ynghylch sicrhau bod blaenoriaeth Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y gymuned yn cymryd rhan mewn prosiectau adnewyddadwy lleol yn cael ei gwella, ac afraid dweud bod hynny'n parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Mewn perthynas â chynlluniau yn y dyfodol, yn amlwg, rydym yn awyddus i sicrhau bod gennym fynediad at yr un lefel o gyllid, ac y gall Llywodraeth Cymru barhau i wneud penderfyniadau mewn perthynas â chyllid rhanbarthol yma yng Nghymru. Y rheswm pam fod hynny'n bwysig yw am y gallant adlewyrchu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru yn y dyfodol wedyn, gan gynnwys y flaenoriaeth y soniodd ef a Hefin David amdani yn eich cwestiynau. Ond er mwyn i hynny ddigwydd, mae angen inni weld gweithredu clir ar ran Llywodraeth y DU i gadw at yr ymrwymiadau a wnaed gan Brif Weinidog y DU i sicrhau nad ydym yn colli arian a bod y setliad datganoli yn cael ei barchu. Nid yw hynny wedi digwydd eto, ac rwy'n mawr obeithio y bydd yn ymuno â mi i alw ar Lywodraeth y DU i gadw at eu haddewidion yn y maes hwnnw.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch, Lywydd. A yw'r Gweinidog yn cytuno bod y toriadau ariannol a wnaed gan San Steffan ers 2010 wedi peri cryn dipyn o drallod i unigolion a chymunedau ledled Cymru?

Ie, rydym mewn cyfnod o gyni. Mae'r toriadau a wnaed gan Lywodraeth y DU wedi'u teimlo ym mywydau pobl Cymru, fel ym mywydau pobl ledled y DU. Fel Llywodraeth, rydym wedi ceisio lliniaru hynny gymaint â phosibl drwy wneud penderfyniadau gwahanol gyda chyllidebau sy'n lleihau, ond gwyddom y bydd effaith cyni ar lawer o'n cymunedau wedi bod yn ffactor yn y penderfyniadau a wnaed yn 2016 mewn perthynas â refferendwm Brexit.

Mae'r Gweinidog wedi datgan ei farn ynglŷn â'r difrod a achoswyd i gymdeithas gan doriadau gwariant, a chytunaf â sylwedd ei ateb, felly gadewch i ni ystyried mater gwariant cyhoeddus yng nghyd-destun Brexit. Roedd dadansoddiad effaith Llywodraeth y DU a gyhoeddwyd y llynedd yn rhagweld y byddai twf y DU yn dioddef ergyd o rhwng 2 ac 8 y cant pe bai Brexit yn mynd rhagddo, yn dibynnu ar y math o gytundeb economaidd y cytunid arno rhwng y DU a'r UE. Mae hanner isaf yr amcanestyniad hwn yn seiliedig ar aelodaeth barhaus y DU o farchnad sengl yr UE, sy'n rhywbeth nad yw Llywodraeth Cymru yn ei gefnogi. Felly, mae Llywodraeth Cymru, i bob pwrpas, o blaid polisi a fyddai'n arwain at ddirywiad o 2 y cant fan lleiaf i dwf, a llawer mwy yn ôl pob tebyg. Pan ychwanegwch hyn at yr effaith ar sectorau penodol yng Nghymru, ar fusnesau sy'n dibynnu ar fasnach gyda'r UE am eu proffidioldeb, a'r effeithiau canlyniadol y byddai rhwystrau tariff a rhwystrau di-dariff yn eu cael ar swyddi ac amodau gwaith, byddai'r effaith ar economi Cymru yn sylweddol ac yn ddifrifol. Weinidog, a ydych yn cytuno y byddai gadael yr UE yn gwaethygu effeithiau cyni yng Nghymru?

14:30

Wel, mae'r Aelod yn iawn i dynnu sylw at ddadansoddiad economaidd Llywodraeth y DU ei hun, sy'n dangos niwed sylweddol i economi Cymru, fel i economi'r DU yn gyffredinol. Rydym wedi dweud yn glir mai ein barn ni fel Llywodraeth yw mai'r ffordd orau o ddiogelu economi Cymru yw fel rhan o'r Undeb Ewropeaidd, ond y polisi a ddisgrifir yn 'Diogelu Dyfodol Cymru', sy'n disgrifio'r math o berthynas ôl-Brexit â'r Undeb Ewropeaidd y teimlwn ei bod yn parchu refferendwm 2016, ond sydd hefyd yn gwneud y niwed lleiaf i economi Cymru—polisi y cytunodd ei phlaid yn ei gylch—yw'r math gorau o Brexit i Gymru yn ein barn ni os ydym yn mynd i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Weinidog, byddai'r math o gytundeb y mae Llafur yn ei argymell yn golygu gadael y farchnad sengl a'r undeb tollau Ewropeaidd, a byddai hyn yn peri niwed di-ben-draw i economi'r DU, gan arwain at ragor o doriadau yng nghyllidebau Llywodraeth Cymru, a byddai'n niweidio economi Cymru yn uniongyrchol, gan arwain at gau busnesau a cholli swyddi. Ac nid Plaid Cymru yn unig sy'n dweud hyn; mae ASau Llafur Cymru Owen Smith, Tonia Antoniazzi ac Anna McMorrin yn cytuno, ac mae ACau Llafur Cymru Alun Davies, Lynne Neagle a Vaughan Gething yn cytuno. A neithiwr, yn ei araith i nodi 20 mlynedd ers datganoli, dywedodd y Prif Weinidog fod toriadau i gyllid cyhoeddus yn uniongyrchol gysylltiedig â chynnydd mewn tlodi plant, y defnydd o fanciau bwyd a digartrefedd yng Nghymru.

Ymddengys bod eich Llywodraeth yn benderfynol o flaenoriaethu hwylustod gwleidyddol dros ddiogelu lles y bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas drwy gefnogi penderfyniad Jeremy Corbyn i gynnal trafodaethau gyda'r Torïaid ynglŷn â chytundeb Brexit posibl. Oni ddylai eich Llywodraeth Lafur yng Nghymru fod yn amddiffyn buddiannau economaidd Cymru drwy gymryd pob cam posibl i aros yn yr UE, yn hytrach na chefnogi Mr Corbyn, sydd mewn trafodaethau i helpu'r Ceidwadwyr i weithredu eu polisi Brexit caled?

Ac yn olaf, gadewch i mi droi at yr unig ffordd y gellir osgoi'r trychineb hwn, sef rhoi cyfle i'r bobl gamu'n ôl oddi wrth y dibyn wrth gwrs drwy gynnal pleidlais y bobl gyda'r opsiwn i aros. Yr wythnos diwethaf, dywedodd y Prif Weinidog mai polisi Llywodraeth Cymru ar bleidlais y bobl yw, a dyfynnaf,

'os na all Senedd y DU gytuno ar un cynnig amgen sy'n cynnwys bod yn rhan o'r farchnad sengl ac undeb tollau, yna'r unig ddewis sydd ar ôl yw rhoi'r penderfyniad yn ôl i'r bobl.'

Ers hynny, mae'r Blaid Lafur wedi cyhoeddi ei pholisi ar gyfer yr etholiad Ewropeaidd, sy'n cynnwys cafeat ychwanegol, sef y byddent yn ceisio gorfodi etholiad cyffredinol cyn cefnogi refferendwm os na chytunir ar gytundeb Brexit. Weinidog—a gofynnaf i chi ateb y cwestiwn hwn yn uniongyrchol gan fy mod wedi sylwi yn y gorffennol eich bod wedi ateb cwestiynau ar faterion rydym yn cytuno arnynt mewn cryn dipyn o fanylder, ac mae hynny i'w ganmol, ond o bryd i'w gilydd rydych wedi esgeuluso cwestiynau a allai eich gwneud ychydig yn anghyfforddus—ai polisi Llywodraeth Cymru yn awr yw ceisio etholiad cyffredinol cyn pleidlais y bobl os na chytunir ar gytundeb Brexit sy'n dderbyniol i'r Blaid Lafur?

Wel, diolch i'r Aelod am ei chyngor ar sut i ateb y cwestiynau. Credaf ei bod yn hawdd colli golwg weithiau ar nifer y cwestiynau mewn unrhyw ymateb penodol. Ond gwnaf fy ngorau i ateb y cwestiynau allweddol o leiaf. Mewn perthynas â'i disgrifiad o safbwynt Llywodraeth Cymru, sy'n dal i fod yr un fath, fel y dywedaf eto, â'r hyn a ddisgrifir yn y ddogfen bolisi y cytunwyd arni gyda'i phlaid, nid yw'n fater o fod y tu allan i undeb tollau. Rydym wedi galw am undeb tollau parhaol gyda'r Undeb Ewropeaidd ac aliniad agos â'r farchnad sengl. Felly, hoffwn egluro'r camddealltwriaeth hwnnw. Ac rwy'n gwrthod y pwynt ynghylch hwylustod gwleidyddol. Mae penderfyniadau anodd i'w gwneud wrth gysoni ymateb y cyhoedd ym Mhrydain yn 2016 â'r hyn y gwyddom yn y lle hwn, ar y meinciau hyn, ac ar feinciau ei phlaid rwy'n gwybod, y bydd yn niweidio economi Cymru o ganlyniad i Brexit. Mae'r ffordd orau o gysoni hynny, yn ein barn ni, wedi'i disgrifio yn 'Diogelu Dyfodol Cymru'. Os na allwn gyflawni rhywbeth sy'n adlewyrchu'r egwyddorion yn y ddogfen honno, ein polisi fel y bu, ac fel y'i cymeradwywyd gan y Cynulliad hwn ar ddau achlysur gwahanol fan lleiaf, yw bod pleidlais y bobl yn ffordd amgen o ddatrys y sefyllfa. Mewn gwirionedd, rydym wedi galw ar Lywodraeth y DU i gymryd camau i baratoi ar gyfer y posibilrwydd hwnnw, a chodais hynny'n uniongyrchol gyda David Lidington yn ddiweddar yn fy sgwrs gydag ef ar 11 Ebrill.

Diolch, Lywydd. Weinidog, a allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am y pwyllgor llywio a sefydlwyd i edrych ar y mecanweithiau darparu ar gyfer cronfeydd strwythurol yn y dyfodol?

Gallaf. Mae'r pwyllgor hwnnw wedi bod yn cyfarfod o dan gadeiryddiaeth Huw Irranca-Davies. Yr amcan yw cynghori Llywodraeth Cymru ynglŷn â sut, yn y dyfodol, y gallwn ddefnyddio buddsoddiad rhanbarthol yng Nghymru, gan ddysgu o'r profiad o ddefnyddio'r cronfeydd hynny yn ystod ein cyfnod fel aelodau o'r Undeb Ewropeaidd, a dod o hyd i ffordd o alinio hynny â'r sectorau sydd wedi elwa ledled Cymru, ac i wneud hynny mewn ffordd sy'n arloesol ac sy'n darparu syniadau newydd a ffres ynglŷn â sut y gallem wneud hynny.

14:35

Rwy'n ddiolchgar am y diweddariad. Nodaf nad yw aelodaeth y pwyllgor llywio hwn yn y parth cyhoeddus. Nid wyf yn gwybod pwy yw'r aelodau eraill a chredaf y byddai'n ddefnyddiol iawn pe gallai Llywodraeth Cymru rannu'r wybodaeth honno gyda'r Aelodau, i sicrhau ei fod yn bwyllgor cwbl gynrychioliadol a fydd yn edrych yn ddifrifol ar fethiannau'r defnydd blaenorol o gronfeydd strwythurol yng Nghymru, sydd, wrth gwrs, wedi methu cyflawni'r gweddnewidiad i'n heconomi y gwnaethoch chi, eich Llywodraeth, Llywodraethau blaenorol, ei addo o ran y defnydd o gronfeydd strwythurol. A ydych yn derbyn bod cronfeydd strwythurol blaenorol wedi cael eu gwastraffu gan Lywodraeth Cymru ar sawl ystyr? A ydych yn derbyn bod rhywfaint o gyfrifoldeb ar Lywodraeth Cymru am fethu defnyddio'r arian hwnnw i roi hwb i'n heconomi yng Nghymru, yn enwedig o gofio bod ein gwerth ychwanegol gros, ein cynhyrchiant a'n cyflogau ar ei hôl hi o gymharu a sawl rhan arall o'r DU, a'n bod yn parhau i fod yn un o'r gwledydd tlotaf—yn sicr yng ngorllewin Cymru a'r cymoedd—yn Ewrop?

Nid wyf yn derbyn hynny o gwbl. Credaf y byddwch wedi clywed y dadleuon yn gynharach yn y Siambr ynglŷn â'r manteision i bobl yng Nghymru o ran gwella sgiliau, o ran cynhyrchiant, dros y degawdau diwethaf. Credaf y byddai'n well pe bai'r Aelod yn canolbwyntio ei ymdrechion ar geisio perswadio ei ffrindiau yn San Steffan i gadw at eu hymrwymiad i sicrhau nad yw Cymru yn colli ceiniog na cholli pŵer o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Rydym yn aros am yr ymrwymiadau hynny, ni chadwyd atynt, ac mae'n hen bryd i hynny ddigwydd.

Rwyf yma i ofyn cwestiynau i'r Llywodraeth hon sy'n gwasanaethu pobl Cymru. A chredaf ei bod yn bwysig iawn fod pobl yn cydnabod methiannau eich Llywodraeth, a gweinyddiaethau blaenorol, i reoli'n briodol y cronfeydd Ewropeaidd a oedd ar gael iddynt. Rydym wedi mynd am yn ôl o ran twf cyflog o gymharu—fel cyfran—â rhannau eraill o'r DU. A chredaf ei bod yn warthus, a dweud y gwir, nad ydych yn barod i gydnabod methiannau yn yr un modd ag y mae aelodau eraill o feinciau cefn Llafur, a Gweinidogion yn flaenorol, wedi'u cydnabod o ran y ffordd y gwariwyd yr arian hwnnw.

A gaf fi ofyn cwestiwn i chi ynglŷn â'r ffordd y mae eich Llywodraeth yn gobeithio dosbarthu'r arian hwnnw? Fe fyddwch yn ymwybodol fod Llywodraeth y DU yn awyddus i sefydlu cronfa ffyniant gyffredin, y bydd yr arian hwnnw ar gael i Gymru, ac y byddai sawl rhan o Gymru na allant elwa o'r cronfeydd strwythurol Ewropeaidd presennol ar hyn o bryd yn debygol o allu elwa o dan drefniadau gwahanol drwy gronfa ffyniant gyffredin y DU. A ydych yn derbyn nad yw llawer o bobl yn ymddiried yn Llywodraeth Cymru i ddosbarthu arian yng Nghymru, o ystyried y ffordd rydych yn torri setliadau llywodraeth leol, o ystyried y ffordd rydych yn torri arian arall, a'ch bod fel pe baech yn ei ddosbarthu mewn lleoedd yn ôl eich blaenoriaethau gwleidyddol, yn hytrach na'r lleoedd sydd ag angen gwirioneddol am y math o fuddsoddiad sydd ar gael?

Ac a allwch ddweud wrthym beth yw'r amserlen ar gyfer gwaith y pwyllgor llywio a sefydlwyd, o ran yr argymhellion y gallai eu gwneud, ac a fyddwch yn cyhoeddi holl gofnodion y cyfarfodydd hynny, pwy sy'n eu mynychu, a beth yn union fydd agenda'r cyfarfodydd hynny yn y dyfodol? Oherwydd rwy'n credu y bydd llawer o bobl yn awyddus i weld yr amrywiaeth o weithgarwch sy'n mynd rhagddo gan Lywodraeth Cymru er mwyn edrych ar sut y gallech reoli cronfeydd strwythurol yn y dyfodol, o ystyried methiannau'r gorffennol.

Wel, gwrthodaf yr honiadau gwarthus a wnaeth yr Aelod yn y Siambr. Credaf fod yr honiadau o gamreoli yn gwbl amhriodol—yn gwbl amhriodol. Y cyfle y mae gwaith y grŵp llywio yn ei gynrychioli, ac yn wir, gwaith y comisiwn a roddwyd i'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, yw ceisio'r mewnbwn gorau posibl i'r modd y caiff y polisïau hyn eu dyfeisio yn y dyfodol. Mae Llywodraeth Cymru yn dyrannu'r arian hwn ar sail hyd braich drwy Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, fel y gŵyr yn iawn. Ac felly mae'r pwyntiau penodol a wnaed ganddo yn gwbl annerbyniol ac amhriodol.

Gan edrych tua'r dyfodol, ceir cyfle i edrych ar sut rydym yn rheoli buddsoddiad rhanbarthol yng Nghymru mewn ffordd sy'n ei alluogi i gyd-fynd yn well â'r blaenoriaethau sydd gennym yng Nghymru, i gyd-fynd yn well â buddsoddiad y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud drwy ffynonellau eraill, ac yn wir, y gallai llywodraeth leol ei wneud drwy ffynonellau eraill ledled Cymru. Mae'r rhain oll yn wobrau sylweddol os gallwn ddyfeisio'r ffordd gywir ymlaen.

Ond unwaith eto, buaswn yn dweud wrtho, os yw'n credu mai cronfa a reolir gan Lywodraeth y DU yw'r ateb i'r sefyllfa hon, mae angen iddo edrych ar fethiannau Llywodraeth y DU o ran ei gwaith yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf. Ac os yw'n credu nad yw pobl yn ymddiried yn Llywodraeth Cymru i reoli'r cronfeydd hyn—credaf ei fod yn hynod o optimistaidd os yw'n credu y byddai unrhyw un yng Nghymru yn ymddiried yn Llywodraeth y DU i reoli'r cronfeydd hyn yn well.

14:40
Paratoi am Bleidlais y Bobl

3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i baratoi am bleidlais y bobl o ran ymadawiad y DU â'r UE? OAQ53799

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Fel y dywedais yr wythnos diwethaf, cyfrifoldeb Llywodraeth y Deyrnas Unedig yw hyn ac rŷm ni wedi galw arnyn nhw i baratoi am refferendwm posib os ydynt am ddatrys y sefyllfa. Mae Prif Weinidog Cymru hefyd wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Parhaol i ofyn beth allai Llywodraeth Cymru ei wneud i hwyluso hyn.

Yn y gorffennol, mae Plaid Cymru a Llafur wedi gweithio ochr yn ochr efo'n gilydd. Dyna sut dŷn ni wedi ennill refferenda yn y gorffennol. Yn sgil datblygiadau diweddar, ydych chi a Llywodraeth Cymru yn barod i roi gwleidyddiaeth bleidiol i un ochr, fel y gallwn ni weithio efo'n gilydd eto—gwethio efo'n gilydd i wthio Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gynnal refferendwm er mwyn rhoi'r gair olaf i bobl? Dŷn ni'n barod i weithio efo chi ar y mater yma. Ydych chi'n barod i weithio efo ni?

Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am fod yn glir bod yna awydd i gydweithio. Rwy'n cytuno gyda hi bod ein cydweithio ar 'Diogelu Dyfodol Cymru' wedi bod yn beth pwysig iawn, yn disgrifio'r ffordd ymlaen yn y cyd-destun hwnnw. Mae'n ymddangos nawr fod polisi eich plaid chi wedi newid ychydig o ran y safbwynt hynny. O'n safbwynt ni, os ydy hynny'n bosib, mae hynny'n gallu ein helpu ni i ddatrys y broblem. Ond, os na, bydd rhaid cael refferendwm er mwyn gwneud hynny.

Fel roeddwn yn ei ddweud wrth yr Aelod yn fy ateb i'r cwestiwn yn gynharach, mae hefyd yn bwysig, yng nghyd-destun yr amser sydd ar ôl, bod camau penodol yn cael eu cymryd i sicrhau bod hyn yn opsiwn—bod y cwestiwn o refferendwm yn opsiwn—os bydd angen gwneud hynny. Ond o ran cydweithio, rŷm ni wastad fel plaid, wrth gwrs, yn hapus iawn ac yn gweld gwerth mewn cydweithio.

Yr wythnos diwethaf, gwrthododd corff llywodraethu'r Blaid Lafur alwadau i'r blaid ymrwymo i ail refferendwm ar yr UE, gyda rhai uwch ffigurau Llafur yn cynghori y byddai gwneud fel arall wedi fforffedu ardaloedd Llafur a oedd yn cefnogi gadael, ond gydag eraill wedi gadael y Blaid Lafur ers hynny oherwydd methiant Mr Corbyn i gefnogi ail refferendwm—sefyllfa, os caf ddweud, y gallai pleidiau eraill fod yn gyfarwydd â hi i'r cyfeiriad arall hefyd. Sut, felly, yr ymatebwch i'r rhai sy'n dweud y bydd etholiadau'r UE, y gwyddom bellach y byddant yn cael eu cynnal ar 23 Mai, yn ail refferendwm i bob pwrpas?

Diolch am dynnu sylw at y trafodaethau a arweiniodd at benderfyniadau'r pwyllgor gweithredol cenedlaethol yn fy mhlaid. Soniasoch am wahaniaethau barn—credaf fod hynny'n eithaf hyf, o ystyried anallu'r Llywodraeth Geidwadol ar unrhyw bryd yn y Senedd dros yr wythnosau a'r misoedd diwethaf i gynnal unrhyw fath o undod mewn perthynas â phob un o'r cwestiynau sylfaenol hyn.

Byddwn yn cymryd rhan yn yr etholiadau hyn, gan atgoffa pobl o'r manteision y mae aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd wedi'u darparu i Gymru. Credaf mai'r wers i ni yma yw y dylai pob un ohonom, yn y lle hwn, gydnabod y gwerth y mae Cymru wedi'i gael o fod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd, gan adlewyrchu'r atebion a roddais funud yn ôl. Credaf fod unrhyw berthynas â'r Undeb Ewropeaidd sy'n llai na hynny yn waeth i Gymru nag aelodaeth. Credaf y byddwn yn manteisio ar y cyfle, yn ystod yr wythnosau nesaf, i atgoffa pobl o'r manteision a gawsom fel aelodau o'r Undeb Ewropeaidd.

Refferendwm yr Undeb Ewropeaidd

4. Beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar weithredu'r penderfyniad a wnaed yn refferendwm yr UE? OAQ53800

Fel yr eglurodd y Prif Weinidog wrthych ddoe, cyhoeddasom bolisi clir yn 'Diogelu Dyfodol Cymru' a oedd yn cydnabod canlyniadau'r refferendwm drwy nodi glasbrint ar gyfer ein perthynas â'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol, sy'n diogelu buddiannau Cymru pe baem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

14:45

Do yn wir, ond nid yw 'Diogelu Dyfodol Cymru' yn dweud unrhyw beth ynglŷn â chynnal ail refferendwm. Yn wir, mae'n dweud eich bod yn parchu canlyniad y refferendwm. Dim ond ers hynny rydych wedi newid eich polisi. Tybed efallai a yw'r Gweinidog a'i blaid wedi mynd yn rhy bell. Rydym yn gweld deunydd etholiadol gan y blaid Lafur sy'n disgrifio'r blaid fel y blaid fwyaf o blaid 'aros' i atal Brexit. Ddoe, dywedodd ASE Llafur sy'n sefyll yn yr etholiad, Paul Brannen, fod Llafur wedi atal Brexit rhag digwydd dair gwaith hyd yn hyn. Ai ar y sail hon y mae Llafur yn apelio am gefnogaeth ymhen pythefnos?

Buaswn yn dweud bod y naratif ehangach ynglŷn â phobl yn peidio â pharchu'r refferendwm yn rhan o naratif ehangach ynglŷn â bradychu sy'n peri cryn ofid ac yn niweidiol iawn. Buaswn yn dweud wrth yr Aelod nad yw bwydo'r naratif hwnnw yn adlewyrchu'n dda ar unrhyw un ohonom yn y lle hwn. Rydym mewn cyfnod lle dylai fod yn rhan o rôl gwleidyddion i beidio ag annog hynny; yn hytrach, dylent gydnabod yr hyn rydym wedi methu ei gydnabod ac a arweiniodd at refferendwm 2016, sef bod y penderfyniadau hyn yn rhai anodd a bod iddynt ganlyniadau go iawn ym mywydau unigolion. Mae gwleidyddion yn y lle hwn ac yn San Steffan yn ymgodymu â sut i gysoni refferendwm 2016 â set o gysylltiadau â'r Undeb Ewropeaidd sy'n gwneud y lleiaf o niwed i bobl Cymru a'r DU, a buaswn yn ei annog i gymryd rhan yn y ddadl honno yn hytrach na cheisio sgorio pwyntiau gwleidyddol.

Paratoi am Brexit heb Gytundeb

5. Pa gamau y mae'r Cwnsler Cyffredinol yn eu cymryd i weithio gyda phob awdurdod lleol ledled Cymru i baratoi am Brexit heb gytundeb? OAQ53812

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda llywodraeth leol yn uniongyrchol a thrwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i helpu awdurdodau i gynllunio i liniaru ac ymateb i effeithiau niweidiol Brexit 'dim bargen'. Mae'r Llywodraeth yn credu'n gryf na ddylai'r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.

Diolch. Ym mis Chwefror, cyhoeddodd yr archwilydd cyffredinol adroddiad am baratoadau yng Nghymru ar gyfer Brexit 'dim bargen', ac amlygodd hyn y ffaith bod strwythurau, prosesau a'r paratoadau yn amrywio'n fawr ar draws y sector llywodraeth leol yng Nghymru. Er fy mod yn gwerthfawrogi'r gwaith a wnaed gan CLlLC, a wnewch chi ddatgan pa gamau rydych yn eu cymryd fel Gweinidog Brexit i sicrhau bod gan awdurdodau lleol ddull cyson a digonol o baratoi ar gyfer pa fath bynnag o Brexit a gawn yn y pen draw?

Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Cafodd yr adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru ei groesawu gennym, fel y gŵyr. Roeddem yn teimlo ei fod yn gydnabyddiaeth fod llawer iawn o waith yn mynd rhagddo yn y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i ymdrin â chanlyniadau digroeso gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae'n llygad ei lle yn dweud bod cyfeiriad yn yr adroddiad, bryd hynny, at amrywioldeb ar draws y gwasanaethau cyhoeddus, er fy mod yn credu bod y dystiolaeth a oedd yn sail i'r adroddiad hwnnw wedi ei chasglu ychydig fisoedd ynghynt. Ond mae hi wedi cydnabod yn ei chwestiwn y gwaith a wnaethom gyda CLlLC i alluogi i arferion gorau gael eu rhannu ar draws awdurdodau lleol.

Hefyd, mewn ymateb i gais gan awdurdodau lleol yng Nghymru, rydym wedi darparu arian ychwanegol i feithrin gallu er mwyn sicrhau bod adnoddau staffio, os mynnwch, mewn awdurdodau lleol i gydgysylltu ac arwain y gwaith gweithredol a wneir gan awdurdodau lleol. Rydym wedi darparu £1.2 miliwn o gronfa bontio'r UE er mwyn cefnogi'r gwaith hwnnw. Ceir lefel uchel iawn o ymgysylltiad ag awdurdodau lleol drwy'r panel cynghori llywodraeth leol ar barodrwydd i ymadael â'r UE a thrwy'r cyngor partneriaeth, sy'n darparu'r cyfleoedd i rannu arferion gorau.

Pan fo cabinetau awdurdodau lleol wedi edrych ar sut y gallant asesu eu parodrwydd eu hunain, gwn eu bod wedi edrych ar brofiadau cynghorau eraill wrth gynnal eu dadansoddiad eu hunain, er mwyn dysgu o'r arferion gorau hynny. Rwy'n credu bod enghraifft yn ddiweddar—credaf fy mod yn iawn i ddweud—yn Nhorfaen, ohonynt yn gwneud yn union hynny a defnyddio hynny fel arf i asesu eu parodrwydd eu hunain.

Credaf fod Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu ymagwedd eithaf cyfrifol a diwyd tuag at baratoi ar gyfer 'dim bargen', ond nid yw hynny wedi digwydd heb rywfaint o gostau uniongyrchol real hyd yma, a chostau anuniongyrchol real hefyd yn sgil dargyfeirio adnoddau o flaenoriaethau eraill. Fodd bynnag, nid yw hyn yn ddim o gymharu â chost gadael ar sail 'dim bargen' a'r difrod parhaol y gwnaiff hynny i swyddi yn ein hardaloedd awdurdodau lleol, i economïau lleol, gwasanaethau cyhoeddus, ac mae'n rhaid i mi ddweud, i gydlyniant cymunedol, wrth i effeithiau 'dim bargen' darfu ar ein cymunedau am flynyddoedd i ddod. Felly, a yw'r Gweinidog yn cytuno ei bod yn hanfodol fod y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan yn gwneud popeth yn ei gallu yn awr i osgoi 'dim bargen', ac yn sicr, nad yw'n gwastraffu'r misoedd nesaf cyn yr hydref yn ein gwthio tuag at ymyl y dibyn unwaith eto? Ni fydd hanes yn maddau os caiff buddiannau plaid flaenoriaeth dros fuddiannau'r wlad ar yr adeg hollbwysig hon.

14:50

Wel, rwy'n ategu'r teimladau yng nghwestiwn yr Aelod. Credaf ei fod yn iawn i'n hatgoffa bod posibilrwydd gwirioneddol y bydd 31 Hydref yn ymyl dibyn gohiriedig oni bai y cymerir camau yn y cyfamser. Ac mae Llywodraethau ledled y DU wedi gorfod ildio cryn dipyn o adnoddau o dan yr amgylchiadau, o ran arian ac o ran amser, ac mewn gwirionedd, y costau cyfle yn sgil hynny. Fel y dywedais o'r blaen, cymryd y camau hynny yw'r weithred i Lywodraeth gyfrifol yn y lle hwn. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod, yn amlwg, y byddai'n well gennym pe na baem mewn sefyllfa lle byddai'n rhaid i ni wneud hynny. Wrth inni sefyll yma heddiw, rydym yn ceisio cydbwyso ein hymrwymiad parhaus i sicrhau ein bod yn cymryd y camau hynny i sicrhau, hyd eithaf ein gallu, fod Cymru'n barod gyda'r ffaith bod yn rhaid inni fod yn eglur fod y defnydd o adnoddau yn gymesur â'r gwaith hwnnw. Felly, byddwn yn defnyddio'r ychydig wythnosau nesaf i gynnal dadansoddiad gwersi a ddysgwyd o'r camau a gymerwyd cyn y diwrnod ymadael—wel, y diwrnod ymadael arfaethedig—ar 29 Mawrth, fel ein bod yn deall yr hyn y gallwn ei wneud yn well dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf.

Fodd bynnag, ceir risg yn fy marn i ein bod bellach yn edrych ar y chwe mis nesaf ac yn meddwl, 'Wel, mae hyn ymhell yn y dyfodol.' Rydym eisoes oddeutu saith wythnos i mewn i'r cyfnod hwnnw o saith mis o oedi. Efallai y cyrhaeddwn doriad yr haf heb ddatrysiad, yna byddwn yn colli amser dros yr haf, ac rydym yn wynebu'r risg o ddod yn ôl yng nghanol mis Medi gyda chwe wythnos tan y terfyn amser newydd. Felly, rwy'n annog pobl i ystyried hynny. Ac rwy'n cytuno ag ef fod yn rhaid canolbwyntio ein hegni bellach ar ddatrys y mater hwn.

Effeithiau Posibl Brexit ar Gadwyni Cyflenwi

6. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad ynghylch a yw Llywodraeth Cymru wedi cynnal dadansoddiad o effeithiau posibl Brexit ar gadwyni cyflenwi yng Nghymru? OAQ53805

Mae ymgysylltiad busnes uniongyrchol yn parhau gyda chwmnïau ar faterion sy'n ymwneud â'r gadwyn gyflenwi. Rydym hefyd wedi comisiynu ymchwil i wella ein dealltwriaeth o'r cadwyni cyflenwi Ewropeaidd a byd-eang cymhleth a weithredir gan fusnesau yng Nghymru.

Diolch i'r Gweinidog am ei ateb. Ers refferendwm 2016, mae'r sector modurol yn y DU wedi cyhoeddi eu bod yn cau nifer o safleoedd. Mae'r ddadl ynglŷn ag i ba raddau y mae Brexit ar fai yn parhau, ond yn y cyfamser, mae gan bobl bryderon gwirioneddol ynglŷn â'u swyddi. Mae cau ffatri Honda yn Swindon yn peri cryn bryder imi, gan mai un o'u cyflenwyr cydrannau yw ffatri Kasai ym Merthyr Tudful yn fy rhanbarth i sy'n cyflogi 200 o bobl. Mae'n un o 12 cyflenwr yng Nghymru sy'n wynebu risgiau difrifol yn sgil cau'r un ffatri honno yn Swindon, ac mae'n dilyn y newyddion fod disgwyl 400 o ddiswyddiadau gwirfoddol yn ffatri Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr a 220 o swyddi yn y fantol yn sgil cau ffatri Schaeffler yn Llanelli. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynorthwyo cyflenwyr cydrannau i oroesi yn ystod y cyfnod anodd hwn i'r diwydiant modurol, a pha sicrwydd y gall y Gweinidog ei roi i weithwyr yn y sector fod eich Llywodraeth yn gwneud popeth yn ei gallu i ddiogelu eu swyddi?

Wel, diolch i'r Aelod am ei chwestiwn pwysig. Mae ei chwestiwn yn adlewyrchu'r ffaith y gallai penderfyniadau a wneir mewn rhannau eraill o'r DU o bosibl—soniodd am Honda; Nissan gynt, wrth gwrs—effeithio ar Gymru a rhannau eraill o'r DU. Yn sicr, rydym ni fel Llywodraeth wedi cyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU yng nghyd-destun eu cynlluniau ar gyfer y DU gyfan i sicrhau nad yw'r dimensiwn hwnnw'n cael ei golli yn yr ystyriaethau a bod gan benderfyniadau economaidd a wneir yn Lloegr ganlyniadau ymhell y tu hwnt i'r wlad honno. Ceir nifer o fusnesau yng Nghymru, a soniodd am un yn ei chwestiwn, sy'n agored iawn o ran y gadwyn gyflenwi i gyfleusterau cynhyrchu mewn rhannau eraill o'r DU.

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda fforwm modurol Cymru i drafod a deall effaith Brexit, ac yn arbennig effaith Brexit 'dim bargen'. Mae'n amlwg fod llawer o bwysau ar hyn o bryd ar benderfyniadau a wneir gan gwmnïau modurol ledled Cymru, ond yn sicr, mae Brexit yn un ohonynt, a buaswn yn dadlau ei fod yn un sylweddol, ac mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i sicrhau bod gan y cwmnïau hynny fynediad at gymorth Llywodraeth Cymru. Mae rhan o'r gwaith sydd wedi'i gychwyn yn cynnwys ystod o dimau arbenigol ymateb cyflym i alluogi Llywodraeth Cymru i ddarparu cymorth i gwmnïau sy'n wynebu amgylchiadau anodd mewn ffordd sydd ar gael yn gyflym ac wedi'i haddasu ar eu cyfer.

14:55

Weinidog, mae hwn yn gwestiwn pwysig iawn. Mae Tri-Wall Europe, cyflogwr mawr yn Nhrefynwy yn fy etholaeth, yn gwmni sy'n cynhyrchu deunydd pecynnu cardbord ar gyfer y diwydiant moduro a llawer o ddiwydiannau eraill hefyd, ac mae eu pencadlys yn y dwyrain pell ond maent yn defnyddio eu canolfan yn Nhrefynwy i gyflenwi ledled Ewrop. Yn y Cynulliad diwethaf, dywedodd Gweinidog yr economi ar y pryd, ar ôl ymweld â Tri-Wall, ei bod yn gobeithio mapio'r cadwyni cyflenwi sy'n bwydo'r cwmni hwnnw a'u deall yn well, yng Nghymru a ledled Ewrop. Tybed a oes unrhyw waith wedi'i wneud ar y broses honno o fapio cadwyni cyflenwi a dosbarthu, oherwydd mae hyn yn amlwg—. Mae'n bwysig iawn ein bod yn cael hyn yn iawn mewn unrhyw gytundeb Brexit a bod y cadwyni cyflenwi hyn yn ganolog i unrhyw gytundeb. Felly, tybed pa dystiolaeth, pa wybodaeth sydd ar gael i Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd i sicrhau, yn y trafodaethau hynny, pan fyddwch yn rhoi mewnbwn i Lywodraeth y DU sydd wrth y bwrdd, fod buddiannau cwmnïau fel Tri-Wall a chwmnïau tebyg eraill ledled Cymru yn ganolog i'r trafodaethau hyn.

Ie, diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Nid wyf yn gwybod, y tu hwnt i gyd-destun Brexit, cyd-destun hanesyddol hynny, ond bydd yn gwybod am waith Ysgol Fusnes Caerdydd sy'n cael ei ategu ar hyn o bryd mewn perthynas â rhai o'r materion a nodwyd yn ei gwestiwn. Rydym hefyd wedi sicrhau bod cyllid ar gael drwy gronfa bontio'r UE i gefnogi prosiectau ymchwil, i ddeall rhai o ddimensiynau'r cadwyni cyflenwi mewn mwy o fanylder, gan eu bod yn arbennig o gymhleth. Credaf ei fod yn sôn am gadwyn gyflenwi ryngwladol yn ei gwestiwn, os deallaf yn iawn, ond un o'r materion sylweddol sy'n ein hwynebu yng Nghymru—un o nodweddion ein heconomi, os mynnwch—yw'r cadwyni cyflenwi o fewn y DU, sydd hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i ni ddeall effaith Brexit ar y rheini mewn rhywfaint o fanylder, a bydd yr ymchwil hwnnw'n darparu peth o'r manylder hwnnw.

Effaith Brexit ar GIG Cymru

8. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael yn ddiweddar gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch effaith Brexit ar GIG Cymru? OAQ53811

Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a minnau mewn cyswllt rheolaidd a mynych, fel sy'n wir gyda phob Gweinidog, i drafod ymatebion Llywodraeth Cymru i'r ystod o heriau amlwg a digroeso i Gymru yn sgil Brexit.

Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ymateb. Wrth gwrs, mae llawer ohonom yma yn gobeithio na fydd hon yn sefyllfa y bydd yn rhaid inni ei hwynebu, ond o gofio y gallai fod, mae gennym rai misoedd ychwanegol, fel y dywedasoch yn eich ymateb i Huw Irranca-Davies, i geisio paratoi ar gyfer y senario waethaf sy'n bosibl. Wrth drafod â'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, tybed a wnaiff y Cwnsler Cyffredinol fanteisio ar y cyfle hwn i edrych yn fanylach ar faterion yn ymwneud â'r gweithlu a all godi yng Nghymru, yn enwedig yn y gwasanaeth iechyd a gwasanaethau gofal os yw pobl naill ai'n methu aros yma neu'n teimlo nad oes croeso iddynt fel dinasyddion yr UE, ac wrth gwrs, yn y dyfodol, efallai na fydd gwasanaethau gofal, yn arbennig, yn gallu recriwtio mor effeithiol o'r UE ag y gallent yn y gorffennol. Beth bynnag yw ein barn am y cyfnod o oedi, mae'n rhoi rhywfaint o amser inni o leiaf i ystyried lle mae'r bylchau hynny'n debygol o fod ac i ddechrau rhoi rhai camau ar waith i gynorthwyo cyrff iechyd a gofal i geisio cau'r bylchau hynny os bydd angen.

Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn atodol. Credaf ei bod yn taro'r hoelen ar ei phen. Mae ein gwasanaethau iechyd a'n gwasanaethau gofal, yn arbennig o bosibl, yn dibynnu ar ddinasyddion yr UE i ddarparu gwasanaeth hanfodol, yn aml i unigolion bregus iawn. Fe fydd yn ymwybodol, rwy'n gwybod, o'r gwaith y buom yn ei wneud i ddeall maint hynny. Rydym wedi nodi, ac rwyf wedi crybwyll yn y Siambr o'r blaen, fod problem benodol yn codi ynglŷn â nyrsys cofrestredig ym maes gofal cymdeithasol, lle mae niferoedd sylweddol iawn ohonynt yn ddinasyddion yr UE a nifer fwy nag a geir yn y gweithlu yn gyffredinol.

Byddwn yn sicrhau ein bod yn deall ac yn darparu cefnogaeth mewn perthynas â'r gweithlu yn y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn gyffredinol. Gwn fod y Gweinidog yn canolbwyntio ar hynny. Mae'n bwysig i'r Llywodraeth yn gyffredinol, ac rydym yn edrych ar ba waith trawsbynciol y gall y Llywodraeth ei wneud i ddeall yr effaith y gall penderfyniadau mewn mannau eraill ei chael ar rai o'r cwestiynau hyn sy'n ymwneud â'r gweithlu yn ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Fe ddywedaf hefyd fy mod yn credu bod materion eraill yn codi o'r cwestiwn ynglŷn â chyfnod oedi, a byddwn eu hystyried hwythau hefyd, fel bod angen edrych eto ar ymyriadau a allai fod yn briodol wrth ystyried ymadael ym mis Mawrth i weld a ydynt yn briodol yng nghyd-destun ymadawiad posibl ym mis Hydref. Felly, mae'r holl agweddau hyn yn sicr yn rhai sydd dan ystyriaeth gan y Llywodraeth ar hyn o bryd.

15:00

Diolch, Lywydd. Ein staff iechyd yw conglfaen ein GIG, ac mae llawer o'r rhain yn dod o'r Undeb Ewropeaidd yn wreiddiol. Yng Nghymru, mae 4 y cant o feddygon teulu a 15 y cant o ddeintyddion yn ennill eu cymhwyster meddygol sylfaenol yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd. Yn ôl adroddiad o'r enw 'Goblygiadau Brexit i Iechyd y Cyhoedd yng Nghymru: Ymagwedd Asesu Effaith ar Iechyd', mae Brexit yn creu potensial cadarnhaol i ddenu gweithwyr medrus i sectorau allweddol yng Nghymru o wledydd y DU a gwledydd y tu allan i'r UE. Gwnsler Cyffredinol, yn ogystal â thawelu meddyliau gwladolion yr UE eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a bod eu hangen yng Nghymru o hyd, a wnewch chi ddatgan pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddenu gweithwyr meddygol proffesiynol o wledydd y tu allan i'r UE?

Rydym—. Nid wyf yn hollol siŵr lle i ddechrau gyda hynny, mewn gwirionedd. Rydym wedi bod yn gwbl glir, a byddai'n dda gennyf pe bai hi, ynghyd ag Aelodau yn ei phlaid, ychydig yn fwy eglur nag y maent wedi bod ar y mater hwn o bosibl, o ran pa mor bwysig yw hi fod ein gwasanaethau iechyd a gofal yn parhau i allu dibynnu ar wasanaethau gweithwyr gwerthfawr iawn sy'n dod o'r Undeb Ewropeaidd. Rydym wedi cymryd camau penodol—mae'n sôn am gymwysterau yn ei chwestiwn—i sicrhau bod y cymwysterau hynny'n parhau i gael eu cydnabod a'u parchu yma yng Nghymru a ledled y DU. Mae'n disgrifio Brexit fel cyfle. Yn y cyd-destun arbennig hwn, credaf fod hwnnw, yn ôl pob tebyg, yn un o'r disgrifiadau mwyaf rhyfedd i mi eu clywed. Credaf fod Brexit yn fygythiad i'r gweithluoedd yn y lleoedd hyn ledled Cymru, ac mae'n ddyletswydd arnom i gyd yn y lle hwn i atgoffa dinasyddion yr UE sy'n gweithio yn ein gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u croesawu ac y byddant yn parhau i gael eu gwerthfawrogi a'u croesawu yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod.

3. Cwestiynau Amserol
4. Datganiadau 90 Eiliad

Diolch yn fawr, Llywydd. Yr wythnos diwethaf, cynhaliwyd angladd Llywelyn Williams o Lanrug yn fy etholaeth i. Gŵr ifanc, deallus a disglair. Mae ei golli’n golled i Gymru, i Arfon ac i’w gymuned, ond yn bennaf oll i’w deulu. Mynychodd Ysgol Gynradd Llanrug ac yna Ysgol Uwchradd Brynrefail, cyn dilyn cwrs gradd yn Aberystwyth mewn gwleidyddiaeth a hanes. Cafodd ysgoloriaeth gerddorol i’r brifysgol, ac yno fe fu’n aelod ffyddlon o’r gerddorfa. Tra yn y brifysgol yn Aberystwyth, roedd yn aelod brwd o’r cymdeithasau Cymreig, ac roedd yn rhan o sefydlu papur newydd Yr Heriwr ar gyfer myfyrwyr. Roedd yn weithiwr cydwybodol gyda changen y coleg o Blaid Cymru, gan gydweithio’n agos â'r gangen leol yn Aberystwyth. Yn ôl teulu Llew, un o uchafbwyntiau’r cwrs gwleidyddiaeth oedd cyfle i fynd ar brofiad gwaith i’r Senedd yn Llundain gyda’r Aelodau Seneddol Elfyn Llwyd a Hywel Williams. Yno, magodd hyder a brwdfrydedd i edrych am yrfa mewn gwleidyddiaeth ac i wasanaethu’r gymuned leol.

Ar ôl ei gyfnod yn Aber, symudodd yn ôl i Lanrug i weithio gyda chyngor Môn, ond, yn anffodus, o fewn ychydig fisoedd, fe aeth yn sâl, a chafodd lawdriniaeth yn ysbyty Walton, Lerpwl. Dros y tair blynedd a hanner ddiwethaf parhaodd yn bositif a brwdfrydig, gan ailafael yn ei ddiddordebau cerddorol gyda bandiau pres lleol a chôr Dyffryn Peris. Gweithiodd yn selog o fewn ei gymuned fel cynghorydd cymuned a thrwy bwyllgorau’r Blaid ac fel llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Llanrug. Fe fu’n bositif a chadarn, gan frwydro’n ddewr i’r diwedd er gwaethaf ei salwch. Fe gofiwn Llew fel person annwyl a bonheddig, brwdfrydig dros lwyddiant eraill, a Chymro i’r carn. Anfonwn ein cydymdeimlad llwyraf at ei deulu a’i gyfeillion ar yr adeg anodd a thrist yma.

15:05

Mae Gŵyl Werin Tŷ Tredegar ymhlith yr uchafbwyntiau yng nghalendr diwylliannol Casnewydd. Y penwythnos hwn, mae'r ŵyl hon, sy'n para tridiau, yn dathlu ei phen-blwydd yn 30 oed. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae cannoedd o gerddorion, cantorion a dawnswyr o bob rhan o'r byd wedi bod yn ymgynnull yng Nghasnewydd. Yn fwy nag erioed, bydd digwyddiad eleni yn ddathliad go iawn o rym cerddoriaeth i ddod â phobl at ei gilydd. Mae rhywbeth arbennig ynglŷn â chyfuno treftadaeth ddiwylliannol Cymru â thraddodiadau a hanesion gwledydd o bob cwr o'r byd. Yn ogystal â grwpiau sy'n ymweld, bydd enillwyr diweddar gwobrau gwerin BBC Radio Wales yn perfformio hefyd. Cynhelir sesiynau ceilidh, gweithdai, dawns a cherddoriaeth. Mae'n hyfryd gweld pobl o bob oed yn cofleidio'r fath amrywiaeth o berfformiadau ac arddulliau. Mae bob amser rhywbeth newydd a gwahanol i'w fwynhau. Rwy'n falch eu bod wedi gofyn i mi fod yn llywydd yr ŵyl werin, gan olynu Paul Flynn, a oedd yn gefnogwr brwd a diysgog. Mae Stephen Lyons a'r trefnwyr blynyddol wedi cynllunio rhaglen wych unwaith eto. Fel bob amser, mae eu hymroddiad a'u gwaith caled wedi creu arddangosiad go iawn o'n diwylliant cyfoethog. Ynghyd â llawer o stiwardiaid gwirfoddol, mae eu hymroddiad yn sicrhau bod ymwelwyr yn parhau i ddychwelyd flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae'r cyffro'n cynyddu ar gyfer y pen-blwydd arbennig hwn, ac edrychaf ymlaen at weld sut y bydd yr ŵyl yn parhau i dyfu dros y 30 mlynedd nesaf.

Aelodaeth Pwyllgor

Yr eitem nesaf yw'r cynnig ar aelodaeth pwyllgor, a dwi'n galw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol. Rhun ap Iorwerth. 

Cynnig NDM7049 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn dileu Gareth Bennett (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig) fel Aelod o’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad.

Cynigiwyd y cynnig.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: E-chwaraeon

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Rebecca Evans. 

Daw hynny â ni at ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar e-chwaraeon. Dwi'n galw ar David Melding i wneud y cynnig. 

Cynnig NDM7044 Darren Millar

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod yr effaith gynyddol y mae'r diwydiant e-chwaraeon yn ei chael ar economïau lleol ledled y byd, megis twrnameintiau 2017 yn Valencia a Cologne a ddenodd rhwng 15,000 a 40,000 o gefnogwyr.

2. Yn nodi bod Adran Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU yn cynnal ymchwiliad i archwilio'r potensial ar gyfer e-chwaraeon yn y DU, ymhlith tueddiadau eraill o ran technoleg.

3. Yn croesawu argymhellion adolygiad Bazalgette o'r diwydiannau creadigol, a gomisiynwyd gan Lywodraeth y DU, sy'n amlinellu argymhellion ar gyfer sut y gall y sector e-chwaraeon fod yn sail i dwf economaidd y DU yn y dyfodol, drwy:

a) godi statws e-chwaraeon gyda chystadlaethau a noddir gan y Llywodraeth, timau cenedlaethol, a sylw yn y cyfryngau; a

b) cynyddu buddsoddiad Llywodraeth y DU o £23.7 miliwn yn ychwanegol dros bum mlynedd i ymestyn rhaglenni datblygu lwyddiannus ac arloesol cronfa gemau'r DU a'r 'Transfuzer'.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) archwilio manteision economaidd posibl y diwydiant e-chwaraeon yng Nghymru;

b) ymgynghori â rhanddeiliaid addas i drefnu a chynnal cystadleuaeth ryngwladol e-chwaraeon yng Nghymru;

c) adrodd yn ôl i'r Cynulliad ar gynnydd, erbyn 1 Hydref 2019.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy'n falch iawn o agor y ddadl hon gan y Ceidwadwyr Cymreig ar bwnc sydd—credaf ei bod yn deg dweud—yn cael ei gyflwyno am y tro cyntaf yn y Cynulliad Cenedlaethol. Mae'n bwnc sy'n ffres ac yn gyffrous iawn yn fy marn i, ac mae iddo botensial ar gyfer twf sylweddol yng Nghymru os yw'n cael y gydnabyddiaeth a'r sylw haeddiannol yn sgil ei lwyddiant hyd yma.

Ledled y byd, mae gwledydd yn croesawu ffenomen e-chwaraeon a gemau rhithwir cystadleuol, er gwaethaf stigma parhaus, ac mae'r cynnydd mwyaf i'w weld yn y gwledydd hyn, wrth iddynt fanteisio ar fuddion economaidd enfawr y sector, tra'n rhoi cyfleoedd pellach i bobl ifanc gymryd rhan mewn gweithgareddau tîm cystadleuol. Ar yr un pryd, mantais y diwydiant hwn yw ei fod hefyd yn annog pobl i gofleidio llawer o'r sgiliau digidol a thechnolegol craidd sy'n dod yn fwyfwy pwysig yn ein byd digidol, modern.

Bum mlynedd yn ôl, ni fyddech wedi gallu dychmygu cystadlaethau gemau fideo yn cael eu darlledu ar yr un sianel â chwaraeon traddodiadol, ond mae pethau'n newid. Diolch i boblogrwydd aruthrol e-chwaraeon, a ysgogwyd i raddau helaeth gan y genhedlaeth sy'n ffrydio'r rhyngrwyd, mae'r tirlun adloniant wedi trawsnewid yn sylweddol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Nawr, mae e-chwaraeon wedi bod o gwmpas ers cyhyd â'r diwydiant gemau fideo ei hun, ac maent yn cyfeirio'n gyfunol at chwarae gemau fideo cystadleuol gan chwaraewyr proffesiynol ac amatur. Yn ôl yn y 1990au cynnar, roedd yn bodoli'n syml drwy fod grŵp o ffrindiau yn eistedd o amgylch consol Sega Mega Drive neu Nintendo 64. Ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae cynnydd yn y nifer sy'n gwylio gemau ac ymgysylltiad chwaraewyr wedi dyrchafu e-chwaraeon i fod yn ddiwylliant prif ffrwd fel camp broffesiynol ddilys gyda niferoedd enfawr o ddilynwyr yn fyd-eang. Rydym i gyd wedi clywed am League of Legends, Call of Duty, FIFA a Halo 5. Yn 2018, amcangyfrifodd Goldman Sachs fod cynulleidfa fisol fyd-eang e-chwaraeon yn 167 miliwn o bobl, ac erbyn 2022, mae'n amcangyfrif y bydd y gynulleidfa yn cyrraedd 276 miliwn, neu, i'w roi mewn persbectif, cynulleidfa sy'n debyg o ran maint i NFL yr Unol Daleithiau heddiw. Mae amcangyfrifon eraill yn honni bod gan e-chwaraeon $900 miliwn o refeniw blynyddol—dyna refeniw'r gamp—a 380 miliwn o wylwyr ar draws y byd. Felly, ni waeth pa fesur a ddefnyddiwn, gallwn weld maint y diwydiant, ac mae rhywfaint o ddadlau ynglŷn â'i faint ar hyn o bryd oherwydd ei fod yn tyfu mor gyflym.

Mae'r potensial, Ddirprwy Lywydd, yn amlwg yn eang, ond eto, nid yw Cymru wedi chwarae ei rôl lawn na'r rôl y gall ei chyflawni, er gwaethaf rhywfaint o weithgarwch clodwiw, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cyfeirio at hynny yn nes ymlaen. Ond dyma ddiwydiant sydd eto i gyflawni ei botensial llawn mewn gwirionedd, ac os gallwn fynd ati yn awr i fanteisio ar y tueddiadau hyn, gallwn fod yn arweinydd go iawn.

Mae dinasoedd eraill yn y DU yn manteisio ar botensial y diwydiant gyda Birmingham a Llundain, er enghraifft, yn cynnal pencampwriaethiau gemau rhithwir cystadleuol mawr eleni a disgwylir y byddant yn denu torfeydd o 21,000 a 30,000 yn y drefn honno. Mae'n syndod faint o ddiddordeb sydd gan wylwyr yn y cystadlaethau hyn. Dychmygwch yr effaith y gallai hyn ei chael ar economïau a busnesau lleol yng Nghymru pe baem yn denu'r gwylwyr hyn ac yn eu gweld yn dod o bob cwr o'r byd, o bosibl. I roi hyn mewn termau hanesyddol, ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, rwy'n siŵr fod llawer o bobl hen ffasiwn wedi dweud, 'O, y chwaraeon newydd hyn sydd wedi cael eu gwneud yn ddigwyddiadau rheolaidd yn ddiweddar, rygbi, criced a phêl-droed, nid ydynt yn ddim mwy na chwiw ac ni ddylem adeiladu stadia ar gyfer 30,000, 40,000 o bobl oherwydd ni fyddwn yn gwybod beth i'w wneud â'r mannau hyn mewn 10 mlynedd—byddwn yn tyfu tatws yno.' Ond yn ffodus, ni wnaethom fabwysiadu'r ymagwedd honno ac fe wnaethom adeiladu ar frwdfrydedd y Fictoriaid a'r Edwardiaid tuag at chwaraeon i wylwyr. Mae wedi bod yn rhan enfawr o'n diwylliant a'n heconomi o ganlyniad i hynny.

Yn wir, mae byd e-chwaraeon a chwaraeon corfforol traddodiadol bellach yn cydgyfarfod. Ceir llawer o enghreifftiau o dimau chwaraeon yn cymryd rhan mewn e-chwaraeon, gan gynnwys Paris Saint-Germain, Manchester City, West Ham United, AS Roma a brandiau Fformiwla 1 fel McLaren, i enwi rhai yn unig. Ac yn wir, mae mentrau fel yr e-Uwch Gynghrair a fydd yn cael ei lansio yn ddiweddarach eleni—pencampwriaeth e-chwaraeon FIFA lle bydd clybiau'r Uwch Gynghrair yn cystadlu'n erbyn ei gilydd—a Chyfres E-Chwaraeon Fformiwla 1, a phencampwr y gyfres honno, ar y foment, yw'r e-chwaraewr proffesiynol o Brydain, Brendon Leigh.

Mae'r Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol hefyd yn edrych ar e-chwaraeon, ac mae rhai o'n prifysgolion ledled y DU bellach wedi dechrau cynnig cyrsiau e-chwaraeon hyd yn oed, sy'n arwydd o'u dyfeisgarwch technolegol a'u potensial economaidd. Os edrychwn o gwmpas dramor am gymariaethau rhyngwladol, gallwn weld bod gwledydd eraill ymhell ar y blaen i ni mewn perthynas â datblygu'r sector hwn. Mae e-chwaraeon bellach yn rhan o'r diwylliant prif ffrwd yn Ne Corea, gyda'r wlad yn arwain yn fyd-eang ar ddatblygu gemau, e-chwaraeon a marchnata e-chwaraeon. Yn ddiweddar, mynychodd 40,000 o bobl bencampwriaeth e-chwaraeon y byd a chwaraewyd mewn stadiwm bêl-droed a ddefnyddiwyd yng Nghorea ar gyfer gêm gynderfynol Cwpan y Byd yn 2002, a datblygwyd diwylliant gemau drwy sefydlu caffis gemau. Mewn ymateb i'r poblogrwydd cynyddol, aeth Llywodraeth Corea ati i hyrwyddo e-chwaraeon, gan greu Cymdeithas e-chwaraeon Corea i ysgogi twf datblygiad gemau a chynyddu cyfranogiad mewn gemau ar-lein. A'r wythnos diwethaf, rhyddhaodd Llywodraeth Denmarc strategaeth e-chwaraeon swyddogol i feithrin twf domestig a rhyngwladol y sector gan ganolbwyntio ar amgylcheddau a chymunedau iach.

Mae Llywodraeth y DU wedi cydnabod y cyfleoedd y mae'r diwydiant e-chwaraeon yn eu cynnig i'n heconomi. Mae'r Adran Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn cynnal ymchwiliad ar hyn o bryd i archwilio potensial y sector hwn yn y DU ymysg tueddiadau technolegol eraill, felly mae angen i ni symud ymlaen hefyd. Ddirprwy Lywydd, mae ein cynnig heddiw yn gofyn i Lywodraeth Cymru archwilio manteision economaidd posibl y diwydiant e-chwaraeon i Gymru, ymgynghori â rhanddeiliaid addas i drefnu a chynnal cystadleuaeth e-chwaraeon ryngwladol yng Nghymru ac adrodd yn ôl i'r Cynulliad ar ei chynnydd erbyn 1 Hydref fan bellaf. Os ydym eisiau sicrhau bod Cymru ar y blaen yn y duedd hon sy'n datblygu, mae angen i ni wneud hynny yn awr.

Rydym yn gweld astudiaethau newydd sy'n edrych ar y dylanwad y mae perfformiad mewn e-chwaraeon yn ei gael, megis y cydberthyniad rhwng cynnydd mewn gweithgarwch gwybyddol a gemau a'r effeithiau cadarnhaol ar iechyd meddwl. Nawr, mae'n rhaid dweud bod rhai pryderon ynglŷn â'r modd y gwneir cysylltiad rhwng hapchwarae ag e-chwaraeon, ond nid yw'n greiddiol i'r gweithgaredd; mae'r gweithgaredd yn arloesol ac yn ddyfeisgar iawn i'r bobl sy'n chwarae'r gemau hyn, yn enwedig y chwaraewyr proffesiynol, a'r gwylwyr sy'n eu dilyn.

A gaf fi ddweud, Ddirprwy Lywydd, fy mod yn siomedig ynghylch gwelliant y Llywodraeth? Mae'n dileu pwynt 4 a ddyfynais yn awr, o ran y camau gweithredu rydym eu hangen, a chredaf ei fod yn gwanhau'r cynnig rhywfaint. Ac yna mae'n disodli eitem 4 gyda'i welliant niwlog a braidd yn hunanglodforus ei hun. Fodd bynnag, credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn anfon neges unfrydol heddiw, os gallaf berswadio'r Cynulliad i gefnogi ein cynnig heb welliant, a chan gymryd bod gwelliant y Llywodraeth wedyn yn cael ei dderbyn, gan ei fod yn dal i adael y cynnig yn gyfan i raddau helaeth—ac fel y dywedais, mae angen anfon y neges unedig hon—buaswn yn dal i ofyn i Aelodau gefnogi'r cynnig os bydd yn cael ei ddiwygio. Edrychaf ymlaen at gyfraniadau i'r hyn y gobeithiaf y byddwch yn cytuno sy'n drafodaeth bwysig y prynhawn yma.

15:15

Diolch. Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans, yn ffurfiol.

Gwelliant 1—Rebecca Evans

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

Yn nodi’r buddsoddiadau sylweddol a wnaed gan Lywodraeth Cymru a’i phartneriaid dros y blynyddoedd diwethaf sydd wedi helpu i greu sector Diwydiannau Creadigol ffyniannus yng Nghymru.

Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i fabwysiadu dull trawslywodraethol o ehangu’r diwydiant e-chwaraeon yng Nghymru, gan gydnabod y ffaith y bydd y Sector Diwydiannau Creadigol yn cyfrannu’n sylweddol at ei lwyddiant.

Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod Cymru a’r gweinyddiaethau datganoledig eraill yn derbyn cyllid ychwanegol ar gyfer y diwydiannau creadigol fel bod modd iddynt fanteisio ar gyfleoedd newydd o fewn yr economi greadigol.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Bydd y rhan fwyaf ohonom yma heddiw yn ymwybodol fod e-chwaraeon yn creu lefel debyg o ddiddordeb a chyffro â Chwpan y Byd. Hyd yma, fodd bynnag, nid yw Llywodraeth Cymru wedi manteisio'n llawn ar y manteision economaidd aruthrol sydd i'w hennill o hyrwyddo'r diwydiant hwn drwy hwyluso cydweithrediad â rhanddeiliaid.

Mae e-chwaraeon a'r diwydiant gemau rhithwir yn ffynhonnell adloniant sy'n arbennig o boblogaidd, wrth gwrs, ymhlith y boblogaeth wrywaidd. Yn gynyddol, mae'r diwydiant hwn wedi gwneud lle canolog i'w hun ar y rhyngrwyd ac yn y cyfryngau. Nawr, o gofio datblygiad technolegol aruthrol ein cymdeithas, a'n rhyng-gysylltiadau gwell â'n rhanbarthau, ein pobl a'n syniadau, mae poblogrwydd ac argaeledd gemau ar-lein wedi cynyddu.

Yn ôl NewZoo, roedd cynulleidfa e-chwaraeon y DU yn 2016 yn 6.5 miliwn, a disgwylir y bydd y ffigur hwn yn cynyddu gyda mynediad gwell at lwyfannau ffrydio megis Sky Sports, YouTube a Twitch—nid wyf erioed wedi clywed am yr un diwethaf. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gydnabod bod gan y diwydiant hwn botensial difrifol i gyflymu ein twf economaidd, creu swyddi ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol ac arfogi'r rheini sy'n ymwneud â'r diwydiant hwn ac yn ymddiddori ynddo â'r sgiliau busnes, digidol a chreadigol a fydd yn rhoi Cymru ar y map o ran llwyddiant gemau ac e-chwaraeon, fel yr arweinydd presennol yn y maes, De Corea.

Yn ôl casgliadau adolygiad Bazalgette, crëwyd 300,000 o swyddi rhwng 2011 a 2015, ac erbyn 2030, rhagwelir y bydd 1 filiwn o swyddi newydd yn cael eu creu o fewn y diwydiant hwn. Yn 2016 yn unig, amcangyfrifodd Cymdeithas E-chwaraeon Prydain fod e-chwaraeon wedi cyfrannu £18.4 miliwn i economi'r DU yn 2016. O ystyried bod chwaraewyr gemau wedi gwario dros $5.6 biliwn yn y wlad sydd ar y brig, De Corea, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gydnabod potensial llawn y farchnad gyffrous hon sy'n tyfu'n gyflym drwy ddechrau paratoi ar gyfer cydweithrediad â sefydliadau creadigol, busnesau gemau a'n prifysgolion ein hunain.  

Yn wir, gan mai ein cenhedlaeth ifanc sy'n hybu'r ffyniant technolegol hwn a llwyddiant e-chwaraeon, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gydnabod y manteision a ddaw yn sgil ehangu'r cydweithrediad â phrifysgolion Cymru, i ddatblygu partneriaethau â chwmnïau technolegol byd-eang, gan sicrhau buddsoddiad pellach a denu'r graddedigion mwyaf cymwys i Gymru. Mae prifysgolion Lloegr, megis Caerefrog a swydd Stafford, eisoes wedi datblygu cyrsiau a modiwlau e-chwaraeon a fydd yn arfogi pobl ifanc sydd â diddordeb mewn dilyn gyrfa yn y maes hwn â'r sgiliau a'r wybodaeth y byddant eu hangen yn y dyfodol.

At hynny, mae'n werth cydnabod bod Prifysgol De Cymru a Gemau Tiny Rebel yn ne Cymru wedi cydweithio â chwmnïau digidol a chreadigol megis Aardman Animations, ac maent wedi sicrhau buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd gan Lywodraeth y DU ar gyfer gwaith ymchwil i greu gêm rithwir newydd. Mae angen i'r math hwn o fuddsoddiad barhau ac ymestyn i gynnwys y gwaith o hyrwyddo digwyddiadau e-chwaraeon a all ddenu miloedd o wylwyr a datblygu seilwaith a chysylltedd rhyngrwyd. Yn ddiweddar, yn Ne Corea, mynychodd 40,000 o bobl bencampwriaeth League of Legends y byd, a gellir cysylltu'r llwyddiant hwn â buddsoddiad Llywodraeth Corea ym maes telathrebu a'r rhyngrwyd. Felly rwy'n annog y Llywodraeth i ystyried y pwyntiau a wneuthum, ynghyd â'r pwyntiau a wnaeth fy nghyd-Aelod, David Melding, ac i ddechrau cydweithio â phartneriaid technolegol a chreadigol i roi'r cyfle gorau i Gymru, a'r Cymry, fanteisio ar y datblygiad byd-eang hwn. Diolch.

15:20

A gaf fi ddiolch i'r Aelod David Melding am gyflwyno'r ddadl hynod ddiddorol hon heddiw? Roeddwn eisiau gwneud cyfraniad byr a dweud fy mod yn credu bod yr Aelod yn llygad ei le, wrth agor y ddadl hon, pan ddywedodd fod argaeledd y tueddiadau a'r talentau yn rhan amlwg o'r rheswm pam ein bod wedi gweld y fath gynnydd mewn e-chwaraeon a pham y bydd yn parhau i dyfu yn y dyfodol. Yn wir, mae PricewaterhouseCoopers yn awgrymu y gallai marchnad y DU fod yn werth £5.2 biliwn erbyn 2021.

Felly, Ddirprwy Lywydd, sut y gallwn sicrhau ein bod ni yng Nghymru yn cael cyfran o'r farchnad honno? Efallai y bydd yn dechrau gyda'n e-gystadleuaeth ein hunain yn y Cynulliad, oherwydd clywais fod fy nghyd-Aelod ar draws y meinciau, Darren Millar, wedi bod yn ymarfer yn galed i fy nghuro ar FIFA, felly tybed, Ddirprwy Lywydd, a hoffai'r Aelod gael gêm rhyw ddiwrnod ar ôl y Cyfarfod Llawn. [Chwerthin.] Ar nodyn mwy difrifol—mater ariannu—gwyddom fod cronfa arloesi digidol y Llywodraeth wedi helpu a chefnogi arloesedd technegol yn ogystal â sbarduno twf yn y diwydiant gemau.

Mae gogledd-ddwyrain Cymru yn arbennig mewn sefyllfa dda i fod yn rhan o'r twf hwn gyda'r cyllid rhanbarthol sydd ar gael, yn ogystal â chysylltiadau â dinasoedd mawr dros y ffin. Nawr, mae hynny'n bwysig, oherwydd gwyddom fod y DU yn dda am ddenu a chadw a hyfforddi gweithwyr medrus yn y sector digidol, gyda Llundain, Caergrawnt a Birmingham, fel y soniasom yn gynharach, yn gweithredu fel magnedau mawr. Ond, Ddirprwy Lywydd, gallai hynny olygu bod ardaloedd yng ngogledd Cymru—ar hyd arfordir gogledd Cymru i gyd—yn cysylltu â dinasoedd Lloegr dros y ffin, gan elwa ar y farchnad hon hefyd.

Mae Cymru eisoes wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau chwaraeon mawr, fel rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yma yng Nghaerdydd, felly nid oes unrhyw reswm o gwbl pam na ddylem roi camau ar waith i gynnal yr e-Uwch Gynghrair newydd, fel y clywsom eisoes, neu fersiwn Ewropeaidd hyd yn oed. Nawr, mae'n rhaid i mi ddweud y byddai fy nhad-cu a fy ffrindiau agos yn hapus iawn, ond yr unig beth rwyf am ei ddweud yw ei fod yn destun gofid i mi mai Lerpwl a enillodd yr e-Uwch Gynghrair, er eu bod wedi chwarae'n dda iawn ddoe.

I gloi, Ddirprwy Lywydd, credaf fod Cymru mewn lle gwych i arwain y ffordd mewn perthynas â'r diwydiant e-chwaraeon a sefyll ymysg y goreuon, ond yr hyn a wyddom yn sicr yw bod angen i ni adeiladu ar y gwaith a welsom hyd yn hyn, yn ogystal ag ystyried penderfyniadau'r Llywodraeth yn y dyfodol, megis penderfyniadau'n ymwneud â chronfeydd buddsoddi, goblygiadau treth a mynediad at weithwyr yn y diwydiant gemau yng Nghymru ar ôl Brexit. Diolch.

Mae'n bleser gennyf gyfrannu at y ddadl ar e-chwaraeon heddiw a hoffwn gytuno â llawer o'r sylwadau huawdl a wnaed gan fy nghyd-Aelod, David Melding, wrth iddo agor y ddadl hon. Mae'n rhaid i mi fod yn onest, fodd bynnag, fod fy ngwybodaeth am y maes hwn braidd yn gyfyngedig, ond o'r hyn a ddarllenais dros yr ychydig ddyddiau diwethaf, wrth geisio dod yn gyfarwydd â holl faes e-chwaraeon, mae hon yn drafodaeth sy'n tyfu'n gyflym ac mae'n drafodaeth y teimlaf nad ydym wedi rhoi sylw digonol iddi yng Nghymru, mae'n debyg, a dylem wneud mwy i gymryd rhan ynddi yn y dyfodol, oherwydd mae'n rhan arwyddocaol sy'n tyfu o'r diwydiannau creadigol, yng Nghymru ac yn y DU.

Nawr, soniodd David Melding am welliant y Llywodraeth. Rwy'n credu bod gwelliant y Llywodraeth yn haeddu canmoliaeth am ei greadigrwydd ei hun—ei fedrusrwydd, dylwn ddweud, yn osgoi mater e-chwaraeon a chanolbwyntio'r ddadl ar y diwydiannau creadigol. Fel y dywedodd David Melding, ar wahân i hynny, ni fyddwn yn cefnogi gwelliant y Llywodraeth fel ag y mae, ond os bydd y gwelliant hwnnw'n cael ei dderbyn, byddwn yn cefnogi'r cynnig fel y'i diwygiwyd, oherwydd mae'r pwyntiau y mae'n eu gwneud am y diwydiannau creadigol yng Nghymru, a'u cefnogi a'u hannog, yn bwyntiau a wnaed yn dda iawn ac maent yn haeddu cael eu cefnogi gan bob un ohonom yn y Siambr.  

Ond os gallaf droi at y mater pwysig, roedd adolygiad Bazalgette yn gwneud rhai argymhellion pwysig yn y maes hwn, gan gydnabod potensial cynyddol e-chwaraeon i'r economi gan edrych ar ffyrdd y gallwn ochel rhag rhai o'r agweddau mwy negyddol sy'n deillio o'r ddadl hon, megis peryglon annog hapchwarae, a pheryglon annog pobl i gymryd rhan mewn rhai o'r agweddau llai corfforol ar fywyd y mae pobl yn eu hofni ac wedi'u hofni yn y gorffennol mewn perthynas ag e-chwaraeon, a gobeithio y bydd y ddadl hon yn helpu i niwtraleiddio'r rheini, gan fod yna agweddau ar e-chwaraeon sy'n fuddiol ac y dylid eu hannog.

Mae un peth yn amlwg: mae e-chwaraeon a gemau, hoffi neu beidio, yn chwarae rhan gynyddol, ond rhan nad yw wedi cael digon o sylw, yn economi'r DU ac economi Cymru. Gall Cymru fod ar flaen y gad yn y maes hwn, ac nid yw hynny'n wir ar hyn o bryd, gan fod gwasgariad daearyddol y swyddi yn y maes hwn yn anwastad. Yn wir, roedd yr ystadegau a welais yn dweud bod 46.7 y cant o swyddi'r diwydiannau creadigol wedi'u canoli yn Llundain a de-ddwyrain Lloegr ar hyn o bryd, gyda chanran fach yn yr Alban; 2.8 y cant yn unig yng Nghymru ar hyn o bryd, a gwn y byddai pawb ohonom yn gobeithio newid hynny. Rwy'n credu bod modd goresgyn hyn, ond mae'n rhaid i ni dderbyn na fydd yn hawdd, ac mae'n cyffwrdd â nifer o feysydd eraill.

Mae'r adroddiad a grybwyllais yn dangos bod cysylltiad cryf rhwng ansawdd a hygyrchedd cynhyrchiant a chysylltedd band eang, ac mae'n hawdd deall hynny. Mae'r diwydiannau creadigol, yn enwedig gemau ac e-chwaraeon, angen seilwaith rhyngrwyd a gwasanaethau cwmwl cyflym a dibynadwy. Felly, mae'n rhaid i safleoedd gael mynediad at fand eang cyflym iawn, a gwyddom, yng Nghymru, fod hynny wedi bod yn broblem yn y gorffennol. Felly, mae'n rhaid i ni fynd i'r afael ag unrhyw oedi wrth gyflwyno cam 2 Superfast Cymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Wrth gwrs, mae ardaloedd gwledig yn fy ardal i hefyd yn rhan o ddinas-ranbarth ehangach Caerdydd, ac mae'r rhanbarth hwnnw'n cynnwys buddsoddiad mewn technoleg ddigidol, fel y mae bargen ddinesig Abertawe, yn wir. Felly, gellir mynd i'r afael ag e-chwaraeon ar lefel dinas-ranbarth, nid ar lefel leol yn unig, neu lefel Cymru, yn wir.

Felly, beth yw manteision hyn oll? Wel, fel y dywedodd David Melding wrth agor y ddadl, mae manteision gwybyddol i'w cael o hyrwyddo'r maes hwn. Mae modd ei ddefnyddio hefyd ar gyfer gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg. Gall e-chwaraeon helpu i ddatblygu sgiliau megis gwella'r broses o wneud penderfyniadau, hyrwyddo gwaith tîm, sgiliau cyfathrebu, a datblygu technoleg a sgiliau digidol. Mae'r rhain o fudd i nifer o feysydd o fewn a'r tu allan i'r sector digidol. Rydym yn gwybod am bwysigrwydd—. Rydym yn sôn yn aml yn y Siambr hon am bwysigrwydd STEM i economi ehangach Cymru. Fel aelod o'r grŵp trawsbleidiol ar wyddoniaeth yma yn y Senedd, grŵp sy'n cael ei gadeirio'n fedrus gan David Rees, mae'n faes sy'n bwysig i mi, a gwn ei fod yn bwysig i lawer o Aelodau Cynulliad eraill hefyd.

Mae cynllun gweithredu STEM Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr angen i fynd i'r afael â'r ffaith nad oes digon o bobl ifanc yn dewis pynciau gwyddonol a gyrfaoedd gwyddonol, ac mae hwn, i bob golwg, yn un maes lle gallwn, drwy ddefnyddio'r diwydiannau creadigol a datblygu e-chwaraeon, annog mwy o bobl iau i ddod yn rhan o'r sector hwn. Mae prifysgolion ar draws y DU eisoes ar y blaen. Mae Prifysgol Caerefrog wedi bod yn edrych ar y maes hwn. Gadewch i ni obeithio y bydd prifysgolion Cymru hefyd yn gwneud yr un peth, ond gadewch i bawb ohonom gefnogi'r cynnig hwn heddiw a bwrw ymlaen â'r gwaith o annog e-chwaraeon a chefnogi'r diwydiannau creadigol yng Nghymru.

15:25

Rwy'n ddiolchgar i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r ddadl hon. Yn wir, dyma'r tro cyntaf i'r pwnc hwn gael ei gyflwyno. Roedd yn ddiddorol gwylio'r siaradwyr cyntaf a meddwl pwy oedd â'r diddordeb mwyaf mewn e-gemau, David Melding, Janet Finch-Saunders neu Jack Sargeant. Rwy'n falch fod Jack Sargeant wedi datgelu mai ef ydoedd. Ni fuaswn wedi bod yn oedraniaethol mewn unrhyw ffordd drwy awgrymu nad un o'r ddau arall oedd â'r diddordeb mwyaf. Rwy'n chwarae e-gemau fy hun—nid o safon broffesiynol, ond mae gennyf fab 15 oed y gallaf ei guro ar FIFA o bryd i'w gilydd, a hoffwn gymryd rhan yng nghystadleuaeth y Cynulliad.

Mae'n arwydd o sut rydym wedi symud ymlaen. Pan oeddwn yn gweithio yn y BBC, roeddem yn arfer cael cystadlaethau Subbuteo yn ystod amser cinio—nid oedd angen band eang cyflym ar gyfer hynny. Ond rydym yn sôn am y diddordebau, am y gweithgareddau hamdden, ac yn wir, fel rydym yn ei sefydlu yma, am gamp y dyfodol. A dywedaf hynny fel rhywun sy'n angerddol dros wthio'r agenda gweithgarwch corfforol ar gyfer plant ifanc yn arbennig. Ac nid wyf yn credu y dylem ddrysu rhwng cymorth i e-chwaraeon fel endid ynddo'i hun a bod hynny rywsut yn rhwystr i weithgarwch corfforol, oherwydd, yn amlwg, ni allwn feddwl yn y ffordd honno. Ond rwyf wedi dysgu llawer am y syniad o e-chwaraeon a sut y mae wedi tyfu fel grym economaidd dros y blynyddoedd diwethaf—y syniad fod gennym ddiwydiant £1 biliwn yma, y syniad fod gennym bencampwriaethau e-chwaraeon y byd, y syniad fod adrannau prifysgol yn cynnig cyrsiau'n cynnwys e-chwaraeon, y syniad fod gan golegau'r Unol Daleithiau glybiau e-chwaraeon sy'n tyfu o flwyddyn i flwyddyn. Mae hyn—

15:30

Diolch yn fawr. Roeddwn i jest eisiau tynnu sylw at y ffaith ces i'r pleser o ymweld â Choleg Llandrillo Menai yn ddiweddar, a'r adran yn fanna sydd yn cynorthwyo myfyrwyr i ddatblygu gemau. Ac roedd o'n dipyn o agoriad llygad i mi, oherwydd nid yn unig datblygu cysyniad gêm, ond datblygu'r feddalwedd a'r graffeg—mae angen cyfansoddi cerddoriaeth, mae angen storïo. Hynny yw, mae'r ystod o sgiliau sydd yn rhan o'r sector yma lawer iawn yn ehangach nag roeddwn i wedi ei feddwl. Ac roedd hi mor braf gweld myfyrwyr o Gymru yn cael y cyfle yna i hyfforddi, datblygu syniadau, a datblygu mentrau hefyd. Roedd mentergarwch yn rhan o'r cwrs, ac mae hynny, wrth gwrs, yn rhywbeth a fyddai'n dod â budd i'r economi yn y pen draw, yn ogystal â budd i'r unigolion.

Dŷch chi yn hollol iawn, ac roeddwn i'n mynd i ddod ymlaen at y pwynt yna, fod hwn yn gorfod rŵan ddod at graidd yr hyn dŷn ni'n ei gynnig i bobl o ran cyfleon—mewn addysg yn gyntaf, a chyfleon mewn busnes. Beth sydd angen i Gymru ei ddangos, a pham ei bod hi mor bwysig bod y Llywodraeth yn bwrw ymlaen i wneud gwaith ymchwil penodol yn y maes yma, fel mae'r mesur yn ei ofyn amdano, ydy ein bod ni'n chwilio am ffordd i fod yn flaengar, ein bod ni'n dweud bod Cymru'n eiddgar i fod ar y blaen. Ac, er mwyn gallu gwneud hynny, mae'n rhaid edrych ar beth sy'n digwydd allan yna, ac ystyried yn ofalus beth allwn ni ei gyflawni yng Nghymru, o osod uchelgais.

Mi fues i yn yr Alban yn ddiweddar—yn gwneud darn o waith ar geir trydan, fel mae'n digwydd, ac mi fyddaf i'n cyhoeddi adroddiad ar hynny yr wythnos nesaf. Mi fues i yn ninas Dundee. Newyddiaduraeth oedd y diwydiant mawr—jute, jam and journalism oedd y tair elfen i economi Dundee yn draddodiadol. Erbyn hyn, mae'r diwydiant gemau wrth galon y cyffro sydd yna yn Dundee ar hyn o bryd, a Rockstar North, un o'r cwmnïau mawr rhyngwladol yna ym myd y gemau, yn gyflogwr mawr yn lleol, ac yn arwydd i ni o'r hyn y gellir ei gyflawni o wneud y buddsoddiad iawn yn y lle iawn. Yn digwydd bod, mae Dundee hefyd yn flaengar iawn ym maes cerbydau trydan—dyna pam yr oeddwn i yno. A dwi'n meddwl mai beth sydd gennym ni yn fanna ydy arwydd, lle mae gennych chi gymuned, neu dref, neu wlad fel Cymru, yn penderfynu, 'Mae hyn yn rhywbeth dŷn ni'n benderfynol o'i wneud', yna mae'n bosib anelu tuag at y pwynt hwnnw.

Felly, dwi'n croesawu'r cynnig. Byddai, mi fyddai hi'n drueni pe bai cynnig y Llywodraeth yn cael ei basio. Er enghraifft, mae o'n nodi, onid ydy, y

'buddsoddiadau sylweddol a wnaed gan Lywodraeth Cymru a’i phartneriaid...sydd wedi helpu i greu sector Diwydiannau Creadigol ffyniannus yng Nghymru.'

Dŷn ni'n sôn yn fan hyn am sector penodol iawn o fewn y diwydiannau creadigol yng Nghymru y mae angen buddsoddiad penodol iawn iddo fo. Felly, byddai, mi fyddai hi yn drueni pe bai hwnnw yn cael ei basio, ond gan bod y Ceidwadwyr fel cynigwyr y cynnig gwreiddiol yn awgrymu ac yn argymell y dylem ni gefnogi y cynnig beth bynnag, os y pasith hwnnw, mi wnawn ninnau yr un modd.

Mae'r sgiliau sy'n gysylltiedig ag e-chwaraeon a gemau, fel gwneud penderfyniadau, datrys problemau, llythrennedd digidol a chyfathrebu, yn creu goblygiadau mawr i'r economi. Maent yn arbennig o berthnasol i'r busnesau a seiliwyd ar wyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg. Gall hyrwyddo e-chwaraeon, a defnyddio gemau ar-lein i helpu, bwysleisio agenda STEM, gallai helpu i leihau'r bylchau sgiliau presennol yng Nghymru a thyfu economi Cymru. Tynnwyd sylw at hyn gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, a gynhyrchodd ffigurau'n ddiweddar sy'n dangos mai Cymru sydd â'r gyfran isaf o ddefnyddwyr y rhyngrwyd sy'n meddu ar y pum sgìl digidol sylfaenol. Gwelsant mai 66 y cant o ddefnyddwyr y rhyngrwyd sydd â'r pum sgìl sylfaenol, o gymharu â chyfartaledd y DU o 79 y cant. Yn Lloegr, mae Llywodraeth y DU wedi cymryd camau i fynd i'r afael â phrinder sgiliau digidol lleol drwy sefydlu partneriaethau sgiliau digidol. Sefydlwyd y cyrff hyn er mwyn dod â busnesau rhanbarthol, y sector cyhoeddus, sefydliadau ac elusennau at ei gilydd i fynd i'r afael â heriau lleol fel diweithdra a bylchau sgiliau. Y pwynt yr hoffwn ei bwysleisio yw y bydd manteision ehangach yn deillio o annog mwy o bobl, yn enwedig pobl ifanc, i mewn i'r sector gemau digidol, oherwydd ei fod yn cadarnhau pynciau STEM.  

Mae llawer iawn o ffyrdd o gymhwyso sgiliau a gaiff eu meithrin trwy gemau a datblygu gemau. Maent yn cynnwys gwell sgiliau gwneud penderfyniadau a sgiliau gwybyddol, gan hyrwyddo gwaith tîm a sgiliau cyfathrebu a datblygu gwybodaeth ddigidol a allai fod o fudd i nifer o sectorau o fewn y sector digidol a'r tu allan iddo. Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd sgiliau pynciau STEM i'r economi. Awgrymodd adroddiad diweddar gan Lywodraeth y DU y bydd un o bob pum swydd newydd yn y Deyrnas Unedig erbyn 2022 yn galw am sgiliau o'r fath. Mae'n bwysig, felly, fod y system addysg yng Nghymru yn ymateb i'r her hon.

Roedd yr adroddiad 'Menywod Dawnus ar gyfer Cymru Lwyddiannus' yn 2016 yn tynnu sylw at heriau sylweddol wrth ddarparu addysg yng Nghymru. Un o'r pwyntiau a wnaeth oedd nifer isel y merched a menywod sy'n astudio pynciau STEM. Aeth ymlaen i nodi a thynnu sylw at y nifer gymharol fach o athrawon ysgolion cynradd ac uwchradd sydd â chefndir a sgiliau sy'n benodol i STEM. Yn ôl yr adroddiad, 44 y cant o fyfyrwyr TGCh Safon Uwch a 12 y cant o fyfyrwyr cyfrifiadura safon uwch sy'n fenywod, a dim ond 28 y cant o athrawon ysgolion uwchradd sydd â chefndir STEM arbenigol. Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod yr angen i gynyddu'r cyflenwad o sgiliau STEM drwy sicrhau bod mwy o bobl ifanc yn dilyn y pynciau hyn fel opsiwn. Mae gemau ar-lein ac e-chwaraeon yn arbennig o boblogaidd gyda phobl ifanc a nifer gynyddol o ferched. Gallai hyn arwain at fwy o fenywod yn dilyn pynciau sy'n seiliedig ar STEM, os cymerir mantais ar y diddordeb mewn gemau a datblygu gemau.

Mae ymchwil gan Brifysgol Surrey yn dangos bod merched 13 a 14 oed sy'n chwarae gemau am dros naw awr yr wythnos dair gwaith yn fwy tebygol o wneud gradd mewn STEM. Dywedodd Dr Anesa Hosein, awdur arweiniol yr adroddiad, a dyfynnaf:

dylai addysgwyr sy'n ceisio annog rhagor i ddewis pynciau gwyddorau ffisegol, technoleg, peirianneg a mathemateg (PSTEM) dargedu merched sy'n chwarae gemau, gan fod ganddynt ddiddordeb naturiol eisoes yn y pynciau hyn.

Aeth ymlaen i ddweud:

Mae angen i ni fod yn well am adnabod arwyddion yn gynnar i nodi pa ferched a allai fod â mwy o ddiddordeb mewn gwneud graddau PSTEM.

Cau'r dyfyniad. Ddirprwy Lywydd, gall defnyddio gemau ac e-chwaraeon i annog diddordeb mewn pynciau STEM fod o gymorth i ddatblygu myfyrwyr a graddedigion sgiliau lluosog gyda sgiliau a phrofiadau y gellir eu trosglwyddo'n uniongyrchol sy'n darparu sylfaen ar gyfer gyrfaoedd yn y dyfodol. Bydd hyn o fudd mawr i economi Cymru, i'r dyfodol ac i'n plant. Diolch.

15:35

Rwy'n croesawu'r cyfle i gymryd rhan yn y ddadl heddiw a diolch i David Melding am gyflwyno'r ddadl. Rhaid imi gyfaddef nad oeddwn yn ymwybodol o e-chwaraeon cyn gweld y ddadl hon ar yr agenda, ond rwy'n cydnabod gwerth posibl y diwydiannau creadigol i economi Cymru.

Mae e-chwaraeon a gemau fideo yn gyffredinol yn rhan werthfawr o'n sector creadigol sy'n tyfu yng Nghymru. Fodd bynnag, nid wyf yn credu y dylai Llywodraeth Cymru fod yn cynnal pencampwriaethau e-chwaraeon. Dyna yw gwaith Cymdeithas E-chwaraeon Prydain, sy'n gallu, ac sydd yn cynnal cystadlaethau yn y DU. Roedd tîm o Ysgol John Bright yn ail yn adran Overwatch Pencampwriaethau E-chwaraeon Prydain, a gynhaliwyd yn NEC Birmingham ychydig wythnosau yn ôl. Trefnir Pencampwriaethau E-chwaraeon Prydain gan Gymdeithas E-chwaraeon Prydain ar gyfer myfyrwyr ysgol a choleg 12 oed a hŷn. Nododd arolwg o ddisgyblion sydd wedi cymryd rhan mewn e-chwaraeon eu bod yn cynyddu lefelau canolbwyntio, ymddygiad a phresenoldeb. Mae e-chwaraeon yn tyfu yn eu poblogrwydd ond tua 3 miliwn yn unig o bobl yn y DU sy'n eu gwylio o hyd. Ni ddylem wario arian trethdalwyr yn hybu'r diwydiant hwn; yn lle hynny, dylid gwario adnoddau'r Llywodraeth ar sicrhau nad oes unrhyw rwystrau i'w dwf yng Nghymru. Rhaid inni sicrhau bod Cymru'n darparu'r amgylchedd cywir a bod ganddi ddigon o bobl â'r sgiliau angenrheidiol er mwyn i e-chwaraeon a'r sector gemau fideo yn ehangach allu ffynnu yng Nghymru.

Rhaid inni sicrhau hefyd nad ydym yn hyrwyddo gweithgaredd sy'n cynnig cyn lleied o ymarfer corff drwy annog pobl ifanc i chwarae gemau fideo yn unig yn y gobaith o fod yn seren e-chwaraeon sy'n enwog drwy'r byd. Yn wahanol i'r mwyafrif o chwaraeon traddodiadol, nid yw e-chwaraeon yn annog mwy o weithgarwch corfforol. Ac felly, byddaf yn cefnogi gwelliant Llywodraeth Cymru ac yn cydnabod bod eu dull o weithredu yn fwy tebygol o weld sector e-chwaraeon ffyniannus yng Nghymru. Diolch.

15:40

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dafydd Elis-Thomas?

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddweud yn gyntaf gymaint o bleser ydy hi i mi fod ar fy nhraed yn wythnosol yn y Siambr yma yn trafod materion yn ymwneud â'r diwydiannau creadigol? A dwi'n ddiolchgar i'r Ceidwadwyr am ddod â'r pwnc yma gerbron, ac mae'n ymddangos ein bod ni, yn y ddadl yma yn barod, wedi canfod unoliaeth annisgwyl a phleserus iawn yn y Cynulliad Cenedlaethol ar draws y pleidiau, o'r diwedd. A dwi'n gweld bod y Prif Weinidog yn gwenu, ar ôl y dathliad mawr ddoe, fod gyda ni sail i unoliaeth mewn chwaraeon electronig. Dwi'n meddwl bod y term 'chwaraeon electronig' yn esbonio'n gliriach efallai yn y Gymraeg nag ydy e-sports yn Saesneg beth yw natur y chwaraeon yma, sef mai chwarae mewn defnyddiau digidol ac electronig a olygir, a hynny yn aml, ac fel arfer, yn digwydd ar y we.

Ond dwi'n ddiolchgar iawn i bob Aelod sydd wedi cyfrannu, a dwi'n meddwl ein bod ni wedi cael trafodaeth sydd yn sail i ni ddatblygu ein polisi fel Llywodraeth ymhellach. Fe wnes i gyfeirio'n fyr yn y datganiad yr wythnos diwethaf ar y diwydiannau creadigol at y sector yma. Ond dwi'n derbyn nad ydy galw sector lle mae yna dros 450 o filiynau o bobl yn chwarae drwy'r byd—allwn ni ddim galw hwnna yn sector sydd yn sector gemau yn unig. Mae o'n sector ymarferiad digidol ac electronig ac mae'r cyfle i Gymru i gyfrannu i hwnna yn fater sydd o ddiddordeb arbennig i Lywodraeth Cymru.

Dwi'n derbyn bod adroddiad Bazalgette, y cyfeirir ato fo yn y cynnig, wedi rhoi cysylltiad rhwng y diwydiant chwaraeon electronig a'r posibiliadau datblygu ar yr agenda yn y Deyrnas Unedig. Ac mae'n bwysig dweud ein bod ni yng Nghymru yn barod yn cyfrannu yn y cyfeiriad yma. Mae cyfraniad Mochi Mode, o Brifysgol De Cymru, yn 2017 fel busnes newydd a'r llwyddiant a gawson nhw. Mae cyfraniad Prifysgol Glyndŵr yn y gogledd yn cael ei chydnabod yn 2018 yn ganolfan y flwyddyn mewn hwb yn y maes yma yn gyfraniad sydd yn bwysig i ni fel Llywodraeth i fanteisio arno fo.

Mae'r meysydd twf yma yn datblygu potensial deallusol ac rydyn ni'n cytuno â hynny. A dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn nad ydyn ni'n gosod dadl ffug rhwng y datblygiad deallusol wrth chwaraeon electronig yn erbyn y syniad o ddatblygiad corfforol drwy chwaraeon corfforol, oherwydd mae'r ddau beth yr un mor angenrheidiol i bobl ifanc, buaswn i'n tybio, ag i bobl o bob oed yn eu datblygiad fel dinasyddion ac fel personau. Yn yr ystyr yna, dŷn ni yn croesawu'r ymchwiliadau mae adran diwylliant Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ei wneud yn y maes yma, ac mi fyddwn ni yn dilyn yn ofalus yr hyn y maen nhw yn ei gyhoeddi ac yn ceisio manteisio arno fo wrth ddatblygu yr hyn rŷm ni'n ei wneud yma yng Nghymru.

Mae'n bwysig imi ddweud—a dyma oedd pwynt ein gwelliant ni fel Llywodraeth—fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi cefnogaeth weithredol gadarn i dwf y sector yma. Yn y daith fasnach lwyddiannus i'r gynhadledd datblygu gemau yn San Francisco, roedd yna wyth cwmni gemau o Gymru yn arddangos eu cynnyrch. Bu cyfle i gwrdd â buddsoddwyr a mynd i ddigwyddiadau rhyngweithiol. Mae'r rhagolygon yr ydym ni'n ymwybodol ohonyn nhw yn dangos bod yna fusnesau o Gymru wedi sicrhau dros £300,000 o waith newydd ers y gynhadledd yna, gyda chytundebau gwerth £1 miliwn arall yn cael eu trafod ar yr un pryd.

A derbyn bod y sector yma yn newydd a bod yna heriau yn cael eu hwynebu, mae'n bwysig datgan ein bod ni eisoes yn edrych ar sawl menter ar draws y Llywodraeth sydd yn ymwneud â hyn. Mae'r uned digwyddiadau mawr, sydd o fewn yr adran rydw i yn ei rhannu â'r Gweinidog, yn trafod yn rhyngweithiol gyda phartneriaid yng Nghymru, yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt, gan gynnwys perchnogion hawliau a threfnwyr chwaraeon electronig, i achub ar gyfleoedd i ddenu digwyddiadau e-chwaraeon sylweddol i Gymru. Mae hynny'n cynnwys trafod gyda'r Gymdeithas Adloniant Rhyngweithiol Rhyngwladol yn y Deyrnas Unedig, Cynghrair Gemau Ewrop ac ESL, sef perchnogion sawl eiddo mawr rhyngwladol yn y sector yma. Mae Chwaraeon Cymru hefyd wedi trafod â Chymdeithas E-chwaraeon Prydain.

Mae'n ymddangos i mi, felly, bod gyda ni sail i gytundeb ar y pwnc yma heddiw, a dwi'n croesawu hynny'n fawr iawn. Wedi derbyn hynny, rydym ni yn gweld bod yna her inni fel Llywodraeth i fod yn fwy rhyngweithiol, ac i gydnabod bod technoleg chwaraeon electronig yn datblygu ffurfiau newydd sydd hefyd yn galluogi pobl i gynyddu eu gweithgarwch cymdeithasol. Dydyn ni ddim yn gweld chwaraeon electronig fel rhywbeth sydd, o angenrheidrwydd, yn cau pobl i mewn uwchben eu sgriniau, ond bod yna gyfle iddyn nhw gymryd rhan mewn cymdeithas estynedig fyd-eang. Felly, does yna ddim gwrthdrawiad, fel yr awgrymais yn gynharach, rhwng iechyd corfforol a diddordeb digidol a diddordeb mewn chwaraeon electronig.

Felly, i grynhoi, gan nad wyf i ddim yn gweld unrhyw wrthwynebiad difrifol yn y ddadl hon, am unwaith—ac mae hynny'n rhoi pleser mawr i mi, fel un o'r Aelodau Cynulliad a oedd yn meddwl ar ôl datganoli y byddai bron pob plaid yng Nghymru yn gallu cydweithio â'i gilydd—efallai ein bod ni wedi cael rhagweliad o ddyfodol electronig llawen yn nemocratiaeth Cymru heddiw. Diolch yn fawr i chi.

15:45

Wel, rhaid imi ddilyn sylw ysbrydoledig y Gweinidog sef, wyddoch chi, efallai mai dyma'r byd a fydd bellach yn nodi 20 mlynedd nesaf datganoli, lle byddwn yn trafod pynciau y byddwn yn cytuno'n fras arnynt, ond pynciau sy'n dal yn hanfodol i'n cymdeithas—ac yn yr achos hwn yr economi a'r diwydiannau creadigol. Ond a gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon? Mae wedi bod yn ddadl hynod ddiddorol, llawn gwybodaeth a hael.

Dechreuodd Janet y cyfraniadau, a phwysleisiodd y gwerth adloniadol y mae pobl yn ei gael o gemau—ac maent yn rhyddhaol iawn i gynifer o bobl. Hynny yw, nid yw'n syndod bod pobl yn eu gwerthfawrogi ac yn eu mwynhau cymaint. Yna, edrychodd ar rai o ystadegau'r DU, nad oeddwn wedi tynnu sylw penodol atynt fy hun, ac amcangyfrif NewZoo o gynulleidfa o 6.5 miliwn yn y DU. Hi oedd y gyntaf o nifer o siaradwyr i sôn am y potensial ar gyfer swyddi yn y dyfodol.

Edrychodd Jack Sargeant ar dwf marchnad y DU, a siaradodd yn ymarferol iawn wrth alw am gystadleuaeth FIFA i'r Cynulliad. Darren—dyna fyddai'r gêm ddarbi mewn gwirionedd, o ardaloedd cyfagos yng ngogledd Cymru. Roeddwn i'n meddwl bod Jack wedi gwneud pwynt pwysig iawn: er tegwch i Lywodraeth Cymru, mae wedi cael peth llwyddiant yn cynnal digwyddiadau mawr, a dylem gofio bod hwn hefyd yn faes a fyddai'n deilwng o gefnogaeth o'r fath.

Dywedodd Nick Ramsay fod ei wybodaeth yn gyfyngedig ond yn tyfu yn y maes hwn, ac yna cyflwynodd araith hynod gynhwysfawr a medrus, a aeth â ni i adolygiad Bazalgette a phwysigrwydd yr adroddiad gwirioneddol gynhwysfawr hwnnw. Unwaith eto, nid yw hynny'n rhywbeth y cyfeiriais ato, ond rwy'n credu ei fod yn waith ardderchog. A soniodd am bwysigrwydd seilwaith, band eang cyflym iawn, a nododd bwysigrwydd STEM, y cyfeiriodd siaradwyr eraill ato hefyd.

Roedd y cyfrinachau'n llifo erbyn hyn, a dywedodd Rhun ei fod e'n chwaraewr e-gemau ac mae'n curo'i fab 15 oed ar FIFA o bryd i'w gilydd. Felly, efallai y bydd yn rhoi mwy o fanylion inni ynglŷn â ble y mae'n sefyll yn y gynghrair arbennig honno. Ond beth bynnag, efallai na ddylwn ymyrryd mewn cystadleuaeth deuluol. Ac mae'r byd wedi symud ymlaen cymaint ers y Subbuteo yn y BBC. Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod o'r farn fod hwnnw'n ddarlun hyfryd. Ac ymyrrodd Llyr i sôn am ymweliad diweddar a wnaeth â choleg lle'r oedd y myfyrwyr yn datblygu gêm, a gweld yr ystod o sgiliau y galwai hynny amdanynt, credaf fod honno'n enghraifft fyw iawn.

Treuliodd Oscar y rhan fwyaf o'r amser ar STEM, gan adlewyrchu ei ddiddordeb hirsefydlog mewn sgiliau a phwysigrwydd gwneud penderfyniadau, datrys problemau, yn ogystal â'r sgiliau technegol a'r angen i leihau'r bwlch sgiliau. Ac mae yna berthnasedd clir yma o ran myfyrwyr yn meithrin y sgiliau yma tra'n gwneud rhywbeth y maent yn ei fwynhau'n fawr. Ac rwy'n credu bod cyfle allweddol ar gyfer hynny, gan gynnwys i fenywod, sy'n aml heb eu cynrychioli'n ddigonol o ran astudio pynciau STEM.

Dywedodd Caroline hefyd ei bod yn newydd i'r pwnc, ond ei bod yn gweld ei botensial ar unwaith fel rhan o ddiwydiant creadigol. Credaf ei bod yn deg dweud mai Caroline, o'r holl siaradwyr, oedd y mwyaf laissez-faire o ran ei hymagwedd, yn y modd y croesawodd y twf o lawr gwlad i fyny a rhybuddio yn erbyn gormod o weithgarwch llywodraethol. Ond rwy'n credu bod hwn yn faes lle mae'r farchnad yn ehangu, lle nad yw'n rhy llawn ar hyn o bryd. Mae llawer iawn o botensial yno, felly mae'n rhaid i ni fwrw ymlaen, ac mae gan y Llywodraeth ran i'w chwarae yn hynny o beth, fel y gwelwn gyda phethau fel adolygiad Bazalgette, strategaeth Llywodraeth y DU sy'n datblygu, y gwaith yng Nghorea, a'r wythnos diwethaf yn Nenmarc. Felly, ni ddylem fethu'r gwersi y mae hynny'n eu dangos inni hefyd.

Ac yna, gorffennodd y Gweinidog drwy ddweud mai polisi sy'n datblygu yw hwn, dadl ddefnyddiol, a thybiwn ei fod wedi gwneud y pwynt pwysig tu hwnt na ddylem sefydlu e-chwaraeon a gemau yn arbennig drwy ddweud bod e-chwaraeon yn atal pobl rhag cymryd rhan mewn chwaraeon go iawn. Wel, wyddoch chi, gallwch wneud y ddau; gallwch ragori yn y ddau beth. Gallwch fwynhau'r ddau. Nid dyna'r gystadleuaeth. Mae'r byd yn lle digon agored a chyffrous i gael gweithgaredd e-chwaraeon a gweithgaredd chwaraeon traddodiadol. Ac rwy'n credu iddo ddangos yn gyffredinol fod gan y Llywodraeth uchelgais a meddwl agored yma. Ceir ychydig o anghytuno rhyngom ynghylch y gwelliant, ond a gaf fi ddweud y buaswn yn annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig heb ei ddiwygio? Ond os caiff y cynnig ei ddiwygio, yna cefnogwch y cynnig fel y'i diwygiwyd. Diolch.

15:50

Diolch yn fawr iawn. Felly, y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

6. Dadl Plaid Cymru: Byrddau Iechyd

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Rebecca Evans. 

Yr eitem nesaf ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl Plaid Cymru ar fyrddau iechyd, a galwaf ar Helen Mary Jones i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7046 Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cyhoeddi'r adroddiad Adolygiad o Wasanaethau Mamolaeth Bwrdd Iechyd Cwm Taf ar 30 Ebrill 2019.

2. Yn nodi bod pryderon mawr ynghylch ansawdd gofal a threfniadau llywodraethu byrddau iechyd hefyd wedi cael eu codi yn yr adroddiadau canlynol:

a) Ymddiried mewn Gofal: Adolygiad annibynnol o Ysbyty Tywysoges Cymru ac Ysbyty Castell-nedd Port Talbot ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, 2014;

b) Ymchwiliad allanol Donna Ockenden i bryderon a godwyd ynghylch gofal a thriniaeth cleifion ar ward Tawel Fan, 2014; ac

c) Adolygiad Donna Ockenden o'r trefniadau llywodraethu sy'n ymwneud â gofalu am gleifion ar ward Tawel Fan, 2018.

3. Wedi colli hyder bellach yn y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol presennol yn Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r methiannau systemig a godwyd yn yr adroddiadau hyn, ac mewn adroddiadau eraill.

Cynigiwyd y cynnig.

Ddirprwy Lywydd, codaf heddiw i wneud y cynnig hwn yn yr ysbryd mwyaf difrifol. Nid mater ysgafn yw gofyn i unrhyw senedd fynegi diffyg hyder mewn Gweinidog a benodwyd. Mae'r trothwy ar gyfer gwneud galwad o'r fath yn uchel, ac yn briodol felly. Plaid y Gweinidog sydd â'r nifer uchaf o Aelodau yn y lle hwn a thrwy drefniadau gydag eraill, mae'r Prif Weinidog wedi sicrhau mwyafrif. Mae hyn yn rhoi mandad iddo lywodraethu ac i ddewis ei Weinidogion ei hun.

Fodd bynnag, yn wyneb patrwm systematig y methiannau yn ein gwasanaeth iechyd a'r ffaith bod y Gweinidog, i bob golwg, yn amharod neu'n analluog i ddwyn uwch-reolwyr i gyfrif am y methiannau hynny neu i gymryd cyfrifoldeb drostynt ei hun, roeddem ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn teimlo nad oedd gennym ddewis ond cyflwyno'r cynnig hwn heddiw. Yn y bôn, mae'n fater o atebolrwydd, ac yn y cyd-destun hwn, mae'n teimlo'n iawn inni atgoffa'r Siambr hon lle mae'r atebolrwydd am ein gwasanaeth iechyd gwladol. Ailstrwythurwyd y gwasanaeth gan ddeddfwriaeth a basiwyd yn y lle hwn yn 2009, gan ddileu mecanweithiau'r farchnad a gwneud y gwasanaeth iechyd yn amlwg atebol i'r Gweinidog iechyd, a thrwyddo ef neu hi i'r Cynulliad hwn, a thrwy'r Cynulliad hwn i'r bobl. Nid oes amwysedd yma. Nid yw cyrff iechyd bellach yn gyrff lled-ymreolaethol, ac nid ydynt wedi bod felly ers blynyddoedd lawer.

15:55

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Cynhyrchodd Swyddfa Archwilio Cymru femorandwm yn 2015 yn nodi'n glir y trefniadau atebolrwydd ar gyfer y GIG. Mae'r rolau hyn yn y memorandwm, yn unol â'r ddeddfwriaeth, a'r rhain yw'r rolau a briodolir gan y memorandwm hwnnw i'r Gweinidog, sy'n pennu cyfeiriad polisi a fframwaith strategol, gan gytuno yn y Cabinet fel rhan o drafodaeth ar y cyd ar adnoddau cyffredinol i'r GIG, penderfynu sut i ddosbarthu adnoddau cyffredinol yn strategol, gosod y safonau a'r fframwaith perfformiad, ac yn hollbwysig, Lywydd, dwyn arweinwyr y GIG i gyfrif. Rydym yn cynnig, Lywydd, fod y Gweinidog, ar yr ystyriaeth olaf hon, wedi methu yn ei ddyletswyddau, ac mae i'w fethiannau ganlyniadau difrifol i'r bobl. Mae'n ddyletswydd arnom fel Cynulliad i'w ddwyn i gyfrif am hyn.

Trafodasom adroddiad Cwm Taf yn bur faith yma yr wythnos diwethaf, ond teimlaf fod yn rhaid imi ddychwelyd at rai o'r materion a godwyd. Mae profiadau teuluoedd a gafodd eu dal yn y sefyllfa hon wedi bod yn wirioneddol ofnadwy, ac mae plant wedi colli eu bywydau. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw, ymhlith pethau eraill, at y diffyg meddygon ymgynghorol, y defnydd o staff locwm heb raglenni sefydlu effeithiol, diffyg ymwybyddiaeth o'r camau priodol i'w cymryd mewn ymateb i ddigwyddiadau difrifol, ac yn hollbwysig, system lywodraethu nad yw'n cefnogi arferion diogel, a diwylliant o fewn y gwasanaeth sy'n dal i gael ei ystyried yn un cosbol. Mae'n amlwg hefyd i lawer o deuluoedd gael eu trin ag amarch a dirmyg dychrynllyd, a bod diwylliant mewn rhai wardiau ac mewn rhai amgylchiadau lle'r oedd yr urddas a'r parch a ddylai fod wedi cael eu rhoi i famau a'u teuluoedd yn frawychus ac yn gwbl absennol. Gwelwyd methiant trychinebus yn y gwasanaeth hwn—nid oes amheuaeth am hynny. Y cwestiwn i ni heddiw yw: a allai ac a ddylai'r Gweinidog fod wedi bod yn ymwybodol ohono a bod wedi gweithredu ynghynt?

Mae'r adroddiad yn rhestru wyth adroddiad gwahanol rhwng 2012 a 2018, a dylai unrhyw un ohonynt fod wedi bod yn ddigon o leiaf i sbarduno golwg fanwl, os nad ymyrraeth, gan Weinidog a'i swyddogion. Nid wyf am fanylu arnynt i gyd yma. Maent oll ar gael yn gyhoeddus ac rwy'n siŵr y bydd yr holl Aelodau wedi darllen yr adroddiad. Nawr, bydd amddiffynwyr y Gweinidog yn ddiau yn dweud bod rhai o'r adroddiadau hyn yn rhai mewnol, a bod yr adroddiad ei hun yn tynnu sylw at ddiffyg tryloywder ar ran y bwrdd, ac mae hyn yn wir. Ond roedd y rhan fwyaf o'r adroddiadau hyn ar gael i'r Gweinidog a'i swyddogion. Yn 2012, mynegodd adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru bryderon difrifol ynglŷn ag ansawdd profiad cleifion, darparu gofal diogel ac effeithiol, ac ansawdd rheolaeth ac arweinyddiaeth. Dylid bod wedi gofyn cwestiynau bryd hynny.

Nododd ymweliad Deoniaeth y Cyngor Meddygol Cyffredinol yn 2007 chwe maes pryder ynghylch methiannau yn y contract addysgol, gan gynnwys ymsefydlu. Yn arolwg y Cyngor Meddygol Cyffredinol yn 2018 mynegwyd pryderon ynghylch ymsefydlu a goruchwyliaeth glinigol. Dylai'r adroddiadau hyn, ynghyd â phryderon a fynegwyd ar y pryd gan Aelodau Cynulliad unigol o ganlyniad i faterion a ddygwyd i'w sylw gan eu hetholwyr, fod wedi dangos patrwm i'r Gweinidog a'i swyddogion. Dylai fod wedi camu i mewn yn gynt, a phe bai wedi gwneud hynny, gellid bod wedi achub llawer o deuluoedd rhag y trawma a'r golled a gawsant yn y gwasanaeth diffygiol hwn. Felly, o'r diwedd, yn yr hydref y llynedd, fe wnaeth y Gweinidog weithredu. Comisiynwyd adroddiadau, ac yn y pen draw, aeth y gwaith yn ei flaen, er, o gofio difrifoldeb y pryderon, mae'n ymddangos yn berthnasol inni ofyn pam na chynhaliwyd adolygiad a gomisiynwyd yn yr hydref tan fis Ionawr. Gwyddom, wrth gwrs, beth a ganfu'r adolygiad hwnnw.

Felly, sut y mae'r Gweinidog wedi ymateb i hyn? Wel, mae wedi ymddiheuro. Mae wedi rhoi'r gwasanaeth mewn mesurau arbennig. Mae wedi anfon bwrdd i mewn i ddarparu cyngor a her ac mae wedi siarad am yr angen i newid y diwylliant. Ond gadawodd yr holl unigolion uwch hynny a fu'n llywyddu dros ddatblygiad y diwylliant trychinebus hwn. Mae'r prif weithredwr, sydd wedi cadw ei swydd ers 2011, wedi cael aros yn ei swydd. Hyd y gwyddom, ac yn bwysicach na hynny, hyd y gŵyr y teuluoedd, nid oes neb wedi'i ddisgyblu am ganiatáu i'r sefyllfa hon ddatblygu a pharhau. Nid oes neb wedi cael ei ddwyn i gyfrif am y trawma i'r mamau a marwolaethau 26 o blant.

Mae'n siŵr y bydd y Gweinidog yn ymwybodol fod ymchwil helaeth ar y gweill ynglŷn â sut i sicrhau newid diwylliannol effeithiol o fewn sefydliadau. Dylai wybod mai un o'r ffactorau allweddol ar gyfer cyflawni newid diwylliannol effeithiol yw arweinyddiaeth newydd—newid ar y brig. A yw o ddifrif yn disgwyl i'r staff a oedd yn gweithio mewn amgylchiadau lle'r oedd yn amhosibl iddynt fynegi pryderon gredu bod eu rheolwyr yn dymuno bod yn agored yn awr, y byddant yn cael eu hannog a'u cefnogi i fod yn agored am fethiannau yn y gwasanaeth, gan yr un rheolwyr a oedd yn eu tawelu cyn hynny? A yw'n disgwyl i'r teuluoedd a fynegodd bryderon ac sy'n dal i deimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu gredu bod yr un rheolwyr a wnaeth eu trin yn nawddoglyd, eu bychanu, ac mewn o leiaf un achos a wnaeth fygwth camau cyfreithiol yn eu herbyn, yn sydyn yn mynd i ddechrau eu trin gyda pharch a bod o ddifrif ynglŷn â'u pryderon? A oes disgwyl inni gredu bod yr arweinwyr hyn, a barhaodd y diwylliant o dawelwch a chaniatáu i fenywod a'u babanod barhau i gael eu cam-drin yn ofnadwy, a ydym i fod i gredu bod y bobl hyn wedi dod i'r casgliad yn sydyn mai bod yn agored a gonest sydd orau? Rwy'n amau hynny. Felly, er bod y pethau cywir wedi cael eu dweud, nid oes unrhyw beth wedi cael ei wneud i bob pwrpas ac mae'r teuluoedd yn haeddu gwell.

Nawr, canolbwyntiais fy sylwadau ar sefyllfa Cwm Taf gan mai hwn yw'r methiant diweddaraf a mwyaf difrifol o'r methiannau y mae'r cynnig yn tynnu sylw atynt. Bydd cydweithwyr yn siarad am y sefyllfa yn y gogledd lle mae bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr wedi bod yn destun mesurau arbennig ers pedair blynedd heb fod y gwelliannau angenrheidiol wedi'u cyflawni. Bydd yr Aelodau hefyd yn cofio'r adolygiad annibynnol o Ysbyty Tywysoges Cymru ac Ysbyty Castell-nedd Port Talbot yn 2014 a oedd hefyd yn tynnu sylw at fethiannau difrifol.  

Yr hyn sy'n gyffredin yn yr holl sefyllfaoedd hyn yw methiant ar ran y Llywodraeth i ddwyn uwch-reolwyr i gyfrif. Tra bo modd diswyddo staff rheng flaen a'u hatal rhag ymarfer, mae'n ymddangos bod rheolwyr yn gallu symud o un rhan o'r gwasanaeth i ran arall yn ddi-gosb, heb unrhyw sancsiwn, waeth pa mor wael y maent wedi perfformio. Sut y gall teuluoedd Cwm Taf a'r staff rheng flaen gredu y bydd newid go iawn pan fo Betsi Cadwaladr yn dal i fod angen ymyrraeth ar ôl pedair blynedd o fesurau arbennig? Nid yw hyn yn gwneud y tro.  

Mae arnom angen corff proffesiynol ar gyfer rheolwyr y GIG gyda'r gallu i ddiswyddo rheolwyr am berfformiad gwael. Mae angen inni sicrhau gwir annibyniaeth Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. Mae angen dyletswydd gyfreithiol o ddidwylledd ar gyfer pob gweithiwr iechyd proffesiynol gan gynnwys rheolwyr, a system gwyno ddidwyll, gadarn a thryloyw sy'n cefnogi rhieni a theuluoedd. Addawyd rhywfaint o hyn, ni chyflawnwyd dim ohono. Mae diwylliant yn parhau lle mae'n ymddangos nad yw rheolwyr byth yn cael eu dwyn i gyfrif. Nid yw hyn yn newydd a rhaid iddo newid.

Mae'r Gweinidog wedi llywyddu dros y gwasanaeth hwn yn gyntaf fel Dirprwy Weinidog ac yna fel Gweinidog ers 2014 ac nid yw'r diwylliant wedi cael ei herio, heb sôn am ei drawsnewid. Rhaid i'r Gweinidog gymryd cyfrifoldeb, ac os na wnaiff hynny, rhaid inni ei ddwyn ef i gyfrif. Lywydd, nid oes neb yn amau nad oes gan unrhyw Weinidog iechyd sy'n gwasanaethu ein gwlad waith anodd iawn i'w wneud. Mae hi neu ef yn atebol am wasanaeth eang a chymhleth, gwasanaeth sy'n gwario'r rhan helaethaf o gyllideb y Llywodraeth hon, a gwasanaeth sy'n hanfodol i bob un ohonom fel dinasyddion a phob unigolyn a gynrychiolir gennym.

Mae'n rhaid i ni allu dibynnu ar Weinidog iechyd i ddarparu her wirioneddol gadarn i'r gwasanaeth, er mwyn sicrhau, lle bo methiant, ei fod yn cael sylw, ac arferion gorau yn cael eu rhannu. Yn hytrach, mae gennym gyfres o fethiannau difrifol ac nid oes neb yn atebol. Rhaid cael atebolrwydd am y gyfres hon o fethiannau ac am yr ymateb annigonol iddynt. Felly, Lywydd, gyda'r difrifoldeb mwyaf, rhaid imi gymeradwyo'r cynnig hwn, heb ei ddiwygio, i'r Cynulliad hwn.  

16:00

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig ac rwy'n galw ar y Gweinidog iechyd i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans.

Gwelliant 1—Rebecca Evans

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn derbyn argymhellion yr adroddiad ac yn cydnabod y trallod a'r trawma a achoswyd i deuluoedd;

Yn nodi’r camau sy’n cael eu cymryd i sicrhau gwelliannau ar unwaith ac yn barhaus i wasanaethau mamolaeth cyn Fwrdd Iechyd Cwm Taf; ac

Yn nodi’r camau sy’n cael eu cymryd i ganfod a mynd i’r afael ag unrhyw faterion llywodraethiant ehangach o fewn Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg ac ar draws GIG Cymru.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Rwy'n codi â chalon drom iawn heddiw. Darllenasom yr wythnos diwethaf—gallaf glywed yr ebychiadau ar y meinciau gyferbyn, ac rwy'n siomedig iawn am hynny. Rwy'n ddiffuant pan ddywedaf fy mod yn codi â chalon drom iawn. Yr wythnos diwethaf, gwelsom adroddiad arall a gorddai'r stumog yn cael ei gyhoeddi ar fethiannau yn ein gwasanaeth iechyd gwladol gwerthfawr. Yn yr adroddiad hwnnw, darllenasom am staff rheng flaen dan ormod o bwysau a heb adnoddau digonol. Darllenasom am ddiffyg urddas yng ngofal cleifion, cleifion sy'n agored i niwed. Darllenasom am bryderon cleifion a theuluoedd yn cael eu diystyru, a rhai unigolion yn cael eu hystyried gan y staff fel rhai a oedd â'u bryd ar achosi trwbl pan wnaethant y cwynion hynny. Darllenasom am system gwyno a fethodd ddysgu o gamgymeriadau; cofnodion cleifion a oedd yn annigonol neu ar goll; diwylliant afiach ymhlith y staff; ymddygiad amhroffesiynol a oedd yn torri codau ymarfer proffesiynol; sicrwydd ffug a roddwyd i gynrychiolwyr etholedig a oedd yn tynnu sylw at  broblemau yn eu hetholaethau ar ran unigolion; llawer o gyfleoedd i ymyrryd wedi'u colli; methiannau o ran gofynion llywodraethu sylfaenol; gwybodaeth heb ei datgelu i unigolion lle dylid bod wedi'i datgelu ac o ganlyniad, cleifion yn cael niwed—marwolaethau, marwolaethau diangen babanod agored i niwed, a'r trallod a'r gofid a ddaw yn sgil hynny. Ac roedd pob un o'r pethau hynny bron yn union yr un fath â'r adroddiad a ddatgelodd y methiannau a'r sgandalau erchyll yn uned Tawel Fan yng ngogledd Cymru.

Gallwn fod wedi rhestru unrhyw un o'r rheini a byddai wedi bod yn union yr un fath. Ac fe'n sicrhawyd yng ngogledd Cymru, pan gyhoeddwyd yr adroddiad ar fethiannau Tawel Fan, mai hwnnw fyddai'r olaf o'i fath oherwydd y byddech yn mynd i'r afael â'r problemau hynny. Gwnaethoch ddatganiad ar ôl datganiad yn sgil cyhoeddi adroddiad Tawel Fan y byddai pethau'n newid, na fyddem byth yn gweld y fath beth eto, ac eto dyma ni, bedair blynedd yn ddiweddarach, gyda bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn dal i fod mewn mesurau arbennig, yn dal i fethu darparu gwasanaethau o ansawdd priodol, o ran ei ofal iechyd meddwl yn bendant, a sefyllfa lle nodwyd methiannau bron yn union yr un fath mewn gwasanaethau eraill, y tro hwn ar gyfer babanod ifanc a'u mamau yng Nghwm Taf.  

Beth sydd ei angen i'n gwasanaeth iechyd gwladol ddysgu gwersi, i newid arferion a chyflawni'r gwelliannau sydd angen inni eu gweld? Nid yw'n mynd i newid heblaw ein bod yn newid y rheini sydd ar frig y sefydliad. Ac mae Helen Mary Jones, yn ddigon priodol, wedi tynnu sylw at y ffaith mai chi, fel y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yma yng Nghymru sydd â'r cyfrifoldeb yn y pen draw. Cawsoch gyfrifoldeb dros y sefyllfa mesurau arbennig ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr. Fe ysgwyddoch chi'r cyfrifoldeb hwnnw, a phob tro y byddem yn mynegi pryderon ynglŷn â'r diffyg cynnydd, roeddech yn canu'r un hen gân eich bod wedi egluro eich bod am weld gwelliant. Wel, nid yw geiriau ar eu pen eu hunain yn sicrhau'r math o welliant sydd angen i ni ei weld. Mae pobl am gael gwasanaeth iechyd yng Nghymru sy'n atebol am ei fethiannau, lle mae pobl yn cyfaddef ac yn derbyn cyfrifoldeb pan fydd pethau'n mynd o chwith. Ond mae arnaf ofn ein bod yn eich gweld chi, Weinidog, yn cymryd y clod yn rhy aml yn y Siambr hon pan fydd pethau'n mynd yn iawn ac yn golchi'ch dwylo pan fydd pethau'n mynd o chwith yn ein gwasanaeth iechyd gwladol. Dyna beth a welsom, ac nid oes amheuaeth mai dyna y byddwch yn ceisio ei wneud heddiw. Os nad ydych yn derbyn eich cyfrifoldeb am y methiannau hyn a'ch cyfrifoldeb am fethu datrys y sefyllfa yng ngogledd Cymru, mae arnaf ofn nad ydym byth yn mynd i weld y newid sydd ei angen arnom, a dyna pam nad oes gennyf unrhyw hyder ynoch i gyflawni'r gwelliannau sydd angen inni eu gweld yn ein gwasanaeth iechyd.  

Nid wyf yn amau nad oes nifer yn y Siambr hon a fyddai am eich gweld yn parhau yn eich rôl, ond mae arnaf ofn fy mod wedi colli hyder yn eich gallu i wneud y swydd benodol hon, a chredaf fod pobl yng ngogledd Cymru, pobl yng Nghwm Taf a phobl mewn mannau eraill yn y wlad yn haeddu gwell. Ac os caf ddweud hefyd, lle mae gennych uwch-arweinwyr mewn sefydliad sydd â methiannau ofnadwy, credaf y dylai prif weithredwyr a chadeiryddion ymddiswyddo, ac os na fyddant yn ymddiswyddo, dylent gael eu diswyddo, heb unrhyw daliadau, heb unrhyw becynnau ymddeol mawr, dylent fynd. Pan fydd bwrdd yn methu yn ei drefniadau llywodraethu sylfaenol, dylai'r person sy'n gyfrifol am y trefniadau llywodraethu hynny yn y bwrdd, y cadeirydd, adael. Pan fydd prif weithredwr yn methu dangos yr arweinyddiaeth sydd ei hangen i bennu'r diwylliant mewn sefydliad, i'w wneud yn agored ac yn dryloyw ac i ddysgu o gamgymeriadau, dylai fynd. Nid ydym wedi gweld unrhyw ymddiswyddiadau am y mathau hyn o fethiannau, a hoffwn weld pobl yn derbyn cyfrifoldeb. Mae'n hen bryd i ni weld gwasanaeth iechyd atebol yng Nghymru. Nid oes gennym un ar hyn o bryd o dan eich arweinyddiaeth chi.

16:10

Heddiw, hoffwn ddiolch i chi, Weinidog, am gymryd y cam cywir yn comisiynu adolygiad annibynnol o'r gwasanaethau mamolaeth yng Nghwm Taf, adolygiad y mae'n rhaid iddo fod yn sylfaen newydd i ailadeiladu mwy o ffydd yn y gwasanaethau pwysig hyn. Mae'r ffaith fod y Gweinidog ei hun wedi comisiynu'r adolygiad annibynnol yn dweud wrthyf beth sydd angen imi ei wybod ar y pwynt hwn.

Credaf fod y Gweinidog, fis Hydref diwethaf, wedi cymryd y camau angenrheidiol i ddeall y problemau yn y gwasanaethau mamolaeth hyn, nid adroddiad mewnol mewnblyg, ond adroddiad cwbl annibynnol ar y Llywodraeth a'r bwrdd iechyd a roddodd gamau pendant ar waith i ddilyn hynny a gosod y gwasanaeth hwnnw mewn mesurau arbennig.

Y neges a glywais gliriaf yw bod yn rhaid i'r gwasanaeth wella, fel nad yw menywod eraill yn profi'r hyn a ddaeth i'r amlwg yn sgil yr adolygiad annibynnol, a buaswn yn sicr am ychwanegu fy llais at hynny. A byddwn yn disgwyl i hynny ddigwydd, gan gynnwys ymdrin y gadarn ag unrhyw unigolion y canfyddir eu bod yn gyfrifol am fethiannau.

Ac oherwydd fy mhryderon, rwyf wedi rhoi amser fy hun dros yr wythnos ddiwethaf i adolygu a dysgu o'r profiad diweddar hwn. Gobeithio ein bod i gyd wedi gwneud yr un peth. Mae'n bwysig, gan fod adolygiad fel hwn yn arwain at gwestiynau sylfaenol. Er fy mod yn derbyn yn llwyr ac yn llawn yr holl fethiannau a nodwyd gan deuluoedd, gallaf ddweud yn onest nad oes neb wedi dod ag unrhyw waith achos unigol yn ymwneud â gwasanaethau mamolaeth Cwm Taf i fy sylw ers fy ethol ym mis Mai 2016. Mae hynny'n wir tan y misoedd diwethaf hyn, pan gyhoeddwyd y byddai'r adolygiad yn digwydd a phan ddechreuodd ar ei waith.

Fodd bynnag, ers i'r adolygiad ddechrau ym mis Hydref 2018, rwyf wedi cael cyswllt uniongyrchol â dau etholwr, a'r farn a glywais ganddynt yn glir oedd yr angen i wella profiad y menywod sy'n defnyddio'r gwasanaethau. Yna, ym mis Ionawr, wrth i'r adolygiad annibynnol fynd rhagddo, roeddwn yn un o nifer o Aelodau Cynulliad a gafodd lythyr dienw gan aelodau o staff yn mynegi eu pryderon, yn bennaf ynghylch rheoli'r gwasanaeth. Ynghyd ag o leiaf un AC arall, gwneuthum gynnwys y llythyr hwnnw yn hysbys i'r bwrdd iechyd. A chan fod yr adolygiad annibynnol wedi'i gwblhau bellach, byddaf yn mynd ar drywydd y pryderon hynny er mwyn sicrhau bod sylw digonol wedi'i roi i'r materion a godwyd ynddo, a disgwyliaf i hynny gynnwys gwybodaeth am gamau a gymerir yn erbyn unrhyw un y canfyddir ei fod yn gyfrifol.

Y llynedd, ysgrifennais adroddiad cwbl ddigyswllt am wasanaethau iechyd a gofal lleol yn fy etholaeth i, y mae rhan helaeth ohoni, wrth gwrs, yn ardal bwrdd iechyd Cwm Taf, ac roedd yr adroddiad hwnnw'n cynnwys adran ar yr hyn a wnawn pan fydd pethau'n mynd o chwith. Yng nghyd-destun ein gwasanaethau iechyd, fy marn ar y pwynt hwnnw oedd bod angen inni fod yn agored ynghylch y camgymeriadau, mae angen inni adolygu a dysgu'r gwersi, ymddiheuro a gwneud iawn lle mae hynny'n angenrheidiol, cywiro materion yn y dyfodol, a sicrhau camau dilynol cadarn.  

Gan ddefnyddio fy ngeiriau fy hun yn ffon fesur felly, mae'n ymddangos i mi mai'r tamaid pwysig iawn y mae angen inni barhau i'w wella yw'r angen i fod yn yn agored ynglŷn â chamgymeriadau. Fel y dywed yr adroddiad annibynnol, mae materion yn codi ynglŷn â diwylliant sy'n galw am sylw o hyd, ond fel yr ysgrifennais ynglŷn â phwysigrwydd camau dilynol cadarn, mae angen inni ailedrych ar hynny. Ac wrth i ni adolygu a dysgu, gwn y bydd y cyhoedd rwy'n eu cynrychioli yng Nghwm Taf a thu hwnt yn mynnu cael gwybod yn llawn am y camau a gymerwyd gan y bwrdd iechyd hwn.

Yn olaf, byddwn angen sicrwydd gan y Gweinidog y ceir gwybod yn gyflym am y cynnydd sy'n cael ei wneud, a chredaf y cawn y sicrwydd hwnnw. Dyna yw cyfrifoldeb y Gweinidog iechyd, a dyna pam rwy'n parhau i fod â hyder yn ei arweinyddiaeth.

Roeddwn i'n edrych ar un o'r adroddiadau sy'n cael ei gyfeirio ato yn y cynnig wrth baratoi ar gyfer y ddadl yma heddiw, ac roedd hwnnw yn sôn am sut bod yna ddiffyg yn y modd mae'r uwch arweinyddiaeth wedi gweithredu ar amser er mwyn delio â'r risgiau sy'n bodoli o fewn y gwasanaeth. Roedd yr adroddiad yn sôn am ddiffyg enfawr o ran adrodd digwyddiadau difrifol, bod oedi o ran ymateb i gwynion ac, mewn rhai achosion, fod y cwynion hynny ddim yn cael unrhyw fath o ymateb o gwbl. Pa adroddiad oedd hwnnw, meddech chi? Wel, adroddiad Ockenden, neu un o adroddiadau Ockenden ar Tawel Fan. Fe edrychais i ar adroddiad arall wedyn, a oedd yn ategu llawer o’r un negeseuon: system gwyno adversarial gyda rheolaeth araf, problemau gyda’r strategaethau sefydliadol ar ddiogelwch cleifion, ar ddatblygu capasiti, ar gynllunio’r gweithlu, a rhai enghreifftiau o ofal claf cwbl erchyll ac ysgytwol. Adroddiad Andrews oedd hwnnw, yn cyfeirio at Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg o 2014. A nawr, wrth gwrs, mae gennym ni adroddiad y coleg brenhinol, sy’n dangos eto fod staff yn cael eu gorweithio, yn gweithio o dan arweiniad rheolwyr sydd ddim yn cyflawni eu rôl yn effeithiol, bod yna dan-adrodd digwyddiadau difrifol yn digwydd. Mae’r adroddiad yn dangos nad yw diogelwch cleifion yn flaenoriaeth o ran y broses o wneud penderfyniadau a bod staff yn gyndyn i adrodd pryderon am ddiogelwch cleifion oherwydd ofn cael eu cam-feio neu eu hatal o’r gwaith dros dro, neu wynebu gweithredu disgyblu am adrodd eu pryderon. Ac mae pryderon hefyd am y broses gwyno eto yn cael eu hamlygu yn fan hyn.

Mae’r Gweinidog presennol, wrth gwrs, wedi bod yn gyfrifol am redeg yr NHS o ddydd i ddydd ers Medi 2014, oherwydd dyna oedd ei rôl e fel Dirprwy Weinidog bryd hynny. A mater o fisoedd yn unig yn dilyn cyhoeddiad adroddiad Andrews i ABMU, ac o gwmpas yr un amser yr oedd adroddiad Ockenden cyntaf yn cael ei ysgrifennu yr oedd e’n dod i’w rôl, wrth gwrs. Ac mi fyddai’n rhesymol, wrth gwrs, inni beidio â beio’r Gweinidog am fethu ag atal y sgandalau hyn, ond mae ganddo fe gyfrifoldeb dros ei ymateb e iddyn nhw.

Yn fy rhanbarth i yn y gogledd, wrth gwrs, mae bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, fel rŷm ni wedi clywed, wedi cael ei roi o dan fesurau arbennig, a hynny, wrth gwrs, pan oedd y Prif Weinidog yn Ysgrifennydd Cabinet iechyd ar y pryd. Roedd hynny i fod yn rhywbeth dros dro. Pedair blynedd o reolaeth uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddarach, wrth gwrs, rŷm ni’n dal ddim wedi gweld y gwelliannau y byddem ni oll wedi gobeithio eu gweld pan aethon nhw i mewn i fesurau arbennig. Ac yn wir, mae yna derminoleg nid annhebyg i 'fesurau arbennig, arbennig' wedi bod yn cael ei defnyddio ers hynny, ac mae hynny, wrth gwrs, yn peri gofid i ni i gyd. Ac mae'r bwrdd wedi cael ei lethu gan nifer o sgandalau, wrth gwrs, dros y blynyddoedd. Un o'r materion cyntaf ar ôl i fi gael fy ethol oedd y sgandal C. difficile yn Ysbyty Glan Clwyd, os cofiwch chi, nifer o flynyddoedd yn ôl. Ond dim un aelod o'r bwrdd nac o’r uwch-reolwyr yn cael ei ddisgyblu am y methiant yna.

Rydym wedi gweld methiannau o ran cynllunio'r gweithlu hefyd, ac un enghraifft ddiweddar y tynnais sylw ati yma yn y gorffennol, wrth gwrs, oedd sefyllfa chwerthinllyd nyrsys yn hyfforddi ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam, ond yn methu cael lleoliadau gwaith i lawr y lôn yn Ysbyty Maelor Wrecsam ac o ganlyniad, wrth gwrs, yn gorfod mynd i'r GIG yn Lloegr ac i ymarfer preifat a'r nyrsys hynny'n cael eu colli i'r GIG yng Nghymru. Ddoe, gofynnais gwestiwn ynglŷn â chau ysbytai cymunedol, gan gynnwys Llangollen, y Fflint, Prestatyn, Blaenau Ffestiniog, a'r modd y mae'r sector preifat yn camu i mewn yn awr i lenwi bwlch y gwelyau a gollwyd.

Bu bron inni weld y staff GIG cyntaf yng Nghymru yn trosglwyddo i'r sector preifat dan gontract dialysis newydd wedi'i lunio gan adran y Gweinidog yn ddiweddar. Oherwydd bod y staff wedi cysylltu â ni, llwyddasom yn y pen draw i sicrhau na chawsant eu trosglwyddo, ond mae hynny'n dal i adael talpiau mawr o'r gwasanaeth arennol yng ngogledd Cymru, wrth gwrs, dan reolaeth uniongyrchol cwmnïau preifat. Clywsom am uned Tawel Fan, ac nid oes angen i mi ailedrych ar yr enghraifft benodol honno oherwydd, fel y cawsom ein hatgoffa, dywedwyd wrthym na fyddem byth yn gweld adroddiad o'r fath yn y dyfodol am fod y gwersi wedi cael eu dysgu

Wel, wyddoch chi, cawsom ddau uwch-adroddiad, fel y crybwyllais ar y dechrau, a oedd yn tynnu sylw at y graddau y mae angen i ddiwylliant y byrddau a'r ffordd y maent yn gweithredu newid, ac mae angen inni weld camau'n cael eu cymryd i newid y diwylliannau hynny. Ond yr hyn a welwn, wrth gwrs, yw bod gennym drydedd enghraifft ac adroddiad y coleg brenhinol yr wythnos diwethaf, sy'n tynnu sylw at yr un methiannau, a rhaid inni ofyn: beth a wnaed i newid y diwylliant pwdr sy'n bodoli yn rhai o'r byrddau hyn?

Mae'r symptomau yr un fath, wrth gwrs, fel rwyf wedi'u rhestru, ond nid wyf yn ymwybodol o un rheolwr a ddisgyblwyd am gyfrannu at y diwylliant hwn neu am ei gynnal. Yn wir, gwyddom am un rheolwr mewn swydd uwch gyda chyfrifoldeb am ofal cleifion yng Nghwm Taf a Betsi Cadwaladr yn ystod y cyfnodau dan sylw, ac a gafodd ei gyflogi mewn swydd debyg ar ôl sgandal Tawel Fan. Wrth gwrs, ar yr un pryd, cafodd meddygon a nyrsys eu diswyddo a bu'n rhaid iddynt wynebu ymchwiliadau troseddol am y sgandalau hynny, ond gall rheolwyr sy'n methu barhau i weithio.

Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, ef sy'n gyfrifol am berfformiad y byrddau hynny a'r prif weithredwyr hynny. Gwnaeth y Gweinidog benderfyniad clir yr wythnos diwethaf i ochri gyda hwy ac nid gyda chleifion, ac ni allwn ymddiried ynddo mwyach.

16:20

Ugain mlynedd i mewn i lywodraethu datganoledig, byddech yn disgwyl y dylai Cymru a'i phoblogaeth fod yn derbyn gwasanaethau hanfodol o safon uchel. Wel, gallaf ddweud wrthych nad oes enghraifft fwy o gamreoli'r broses ddatganoli na'r enghreifftiau o wasanaethau iechyd sy'n methu. Nid datganoli sy'n gwneud cam â'r gweithwyr meddygol proffesiynol gweithgar yn ein cymunedau, ond y ffordd y mae Llywodraeth Cymru ei hun yn trin ac yn camreoli GIG Cymru.

Nawr, nid oes angen inni edrych ymhellach na'r bwrdd iechyd ar gyfer yr etholaeth y mae'n anrhydedd fawr imi ei chynrychioli i weld y bwrdd iechyd a'r methiannau o ganlyniad i'r Llywodraeth hon. Er bod Betsi Cadwaladr wedi bod mewn mesurau arbennig ers mis Mehefin 2015, mae newydd gofnodi'r amseroedd aros damweiniau ac achosion brys gwaethaf yng Nghymru. Gwelwyd llai na 60 y cant o gleifion o fewn pedair awr yn Ysbyty Maelor Wrecsam ac Ysbyty Glan Clwyd. Er gwaethaf y mesurau hyn, dyma'r bwrdd a welodd y nifer uchaf o ddigwyddiadau diogelwch cleifion o holl ymddiriedolaethau'r GIG yng Nghymru, ac er gwaethaf mesurau arbennig, dyma'r bwrdd iechyd a oedd yn gyfrifol am drin y ganran isaf o bobl a oedd yn aros am ofal wedi'i gynllunio o fewn 26 wythnos i gael eu hatgyfeirio gan feddyg teulu ym mis Chwefror. Y bwrdd iechyd hwn oedd â dros hanner o'r 13,000 o bobl yng Nghymru a oedd yn aros dros 36 wythnos am driniaeth ym mis Chwefror ac mae newydd gofnodi'r diffyg mwyaf o blith saith bwrdd iechyd GIG Cymru, sef £42 miliwn.

Pedair blynedd o fesurau arbennig, a methiant a rhwystredigaeth o hyd ynghylch gwasanaethau yn y dyfodol. Mae Llywodraeth Cymru yn gwybod hyn a'r Gweinidog, mewn gwirionedd, wedi cyfaddef ar 6 Tachwedd 2018 fod anawsterau sylweddol yn parhau. A yw hyn yn dderbyniol wrth ystyried bod y bwrdd iechyd wedi bod o dan eich rheolaeth uniongyrchol chi, ein Gweinidog iechyd, am y cyfnod hwyaf o gymharu ag unrhyw un o gyrff y GIG ym Mhrydain? Nid yw fy etholwyr a minnau'n credu ei fod. Yn wir, mae Aberconwy'n dweud 'na'. Nodwyd diffyg cynnydd gan Donna Ockenden, a chanfu ei hadolygiad fod y bwrdd wedi methu cyrraedd targedau allweddol ers 2017, gan gynnwys arweinyddiaeth a goruchwyliaeth yn ei drefniadau llywodraethu, gwasanaethau iechyd meddwl, ac ailgysylltu â'r cyhoedd ac adennill hyder y cyhoedd. Mae hynny'n dweud 'adennill hyder y cyhoedd'—nid yw'r hyder hwnnw yno, Weinidog. Yn fwy na hynny, llythyr mwy diweddar Mrs Ockenden am gynnydd annigonol o ran gwella'r gwasanaethau iechyd meddwl hynny—rwy'n synnu clywed bod ei chynnig i helpu wedi'i wrthod mewn gwirionedd.

Mae'n fy nhristáu bod nifer o feysydd y mae angen mynd i'r afael â hwy o hyd cyn y gellir ystyried isgyfeirio o fesurau arbennig. Yn amlwg, nid yw'r sefyllfa er lles gorau fy etholwyr i. Fodd bynnag, mae'n ymddangos bod y problemau'n mynd yn waeth ar draws Cymru, gyda phump yn awr o'r saith bwrdd iechyd mewn rhyw fath o fesurau arbennig. Mae'r mesurau hyn yn dangos methiant. Er enghraifft, yr heriau a wynebir yng Nghwm Taf. Canfu'r adolygiad o wasanaethau mamolaeth yng Nghwm Taf ddiffyg ymagwedd gydlynol tuag at ddiogelwch cleifion neu ddealltwriaeth o'u rolau a'u cyfrifoldebau tuag at ddiogelwch cleifion y tu hwnt i'r gofal a ddarparwyd ganddynt ar gyfer menyw benodol neu grŵp o fenywod, fod aseswyr wedi eu hysbysu'n gyson gan staff ynglŷn ag amharodrwydd i roi gwybod am faterion yn ymwneud â diogelwch cleifion am eu bod ofn cael eu beio, eu hatal o'u gwaith dros dro neu wynebu camau disgyblu, a phrin iawn oedd y dystiolaeth o arweiniad clinigol effeithiol ar unrhyw lefel. Mae angen adolygiad mawr o bob agwedd ar wasanaethau mamolaeth yno er mwyn diogelu teuluoedd yn y dyfodol rhag wynebu'r colledion a welsom ac y clywsom amdanynt. Fel y dywedodd eich AS Llafur Cymru eich hun, Owen Smith, mae penderfyniad Llywodraeth Cymru ynghylch ad-drefnu i'w weld fel pe bai wedi dwysáu'r problemau sy'n wynebu Cymru. Rwy'n ymwybodol ei bod wedi cymryd llawer gormod o amser hefyd i roi'r mesurau arbennig ar waith—bron i saith mlynedd ar ôl i bryderon gael eu codi'n ffurfiol am y tro cyntaf. Nid yw hynny'n rhagweithiol. Rydych yn gweithio ar sail adweithiol, Weinidog.

Heddiw rydym yn wynebu oedi gan Lywodraeth Cymru rhag gweithredu yng Nghwm Taf, methiannau parhaus i reoli Betsi Cadwaladr. Yn sicr, nid oes gennyf hyder y gall y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol presennol yn Llywodraeth Cymru fynd i'r afael â'r methiannau systemig a nodwyd yma heddiw. Aeth pedair blynedd heibio ers i ogledd Cymru ddod o dan reolaeth uniongyrchol Llywodraeth Cymru. Felly, sut ar y ddaear y gellir disgwyl i ni gredu unrhyw beth a ddywedwch wrthym mwyach, Weinidog? Nawr, rwy'n cefnogi'n llwyr y cynnig heddiw gan Blaid Cymru, a hoffwn ofyn i chi ystyried eich sefyllfa o ddifrif. Pe bawn i yn eich esgidiau chi, buaswn yn ymddiswyddo. Buaswn yn mynd gam ymhellach: os nad ydych yn barod i wneud y peth anrhydeddus er mwyn i fy etholwyr i a chleifion eraill ledled Cymru gael gofal iechyd digonol, buaswn yn gofyn i'r Prif Weinidog eich diswyddo. Diolch.

16:25

Mae wedi bod yn wythnos drist iawn i unrhyw un sydd wedi darllen neu wedi bod yn rhan o adolygiad y coleg brenhinol o wasanaethau mamolaeth yng Nghwm Taf. Mae tystiolaethau'r mamau y bu eu babanod farw yn cyffwrdd â phob un ohonom, ac mae'r ffordd y cawsant eu trin yn ddigon i wneud unrhyw un yn ddig. Nawr, gofynnais y cwestiwn yr wythnos diwethaf ynglŷn ag a fyddai hyn wedi digwydd mewn ardal arall—er enghraifft, gwasanaeth ysbyty mewn dalgylch cyfoethocach, dyweder, lle byddai'r cleifion yn fwy tebygol o fod yn perthyn i'r dosbarth canol. A fyddem yn gweld adroddiad yn amlygu agweddau diystyriol a methiant i ymddiheuro, ac ymatebion a oedd yn fformiwläig ac a oedd i'w gweld â mwy o ddiddordeb mewn amddiffyn enw da unigolion a'r bwrdd iechyd mewn ardal gyfoethocach? Rwy'n amau hynny'n fawr. Ac nid pwynt dadleugar yw hwn; mae'n ffurfio rhan o'r ddeddf gofal gwrthgyfartal y mae'r Gweinidog ei hun wedi'i chydnabod mewn digon o amgylchiadau eraill. Nid yw'r oslef ddiystyriol a ddefnyddiodd y Gweinidog i ddiystyru’r pryderon hyn yr wythnos diwethaf yn ennyn hyder ynof y caiff pethau eu hunioni. Wedi'r cyfan, craidd y broblem yma yw bod pobl, menywod dosbarth gweithiol yn bennaf, wedi cael eu diystyru, a dyma'r Gweinidog iechyd yn gwneud hynny wedyn. Ond nid yw dwyn y Gweinidog i gyfrif yn golygu na ddylai'r rhai sy'n gyfrifol yn y bwrdd iechyd gael eu dwyn i gyfrif hefyd—wrth gwrs y dylent—a hyd at yr wythnos diwethaf, roedd cwestiynau'n codi ynglŷn â'u gweithredoedd.

Ym mis Hydref y llynedd, cyn comisiynu'r adolygiad allanol, dywedodd llefarydd ar ran Cwm Taf wrth y cyfryngau fod eu hadolygiad mewnol yn ymarfer rheolaidd ynglŷn ag a ddylid gwneud pethau'n wahanol. Ar yr un pryd, roedd gan y bwrdd iechyd adroddiad mewnol yn ei feddiant a oedd yn dweud bod pethau'n llawer gwaeth. Ble mae'r tryloywder yma? Roedd cuddio'r adroddiad hwnnw yn ein camarwain: tystiolaeth fod gan y bwrdd fwy o ddiddordeb mewn amddiffyn ei enw da na chywiro'r problemau o fewn y gwasanaeth. Mae'n dal i fod yn anghyfiawnder difrifol, yn fy marn i, y gellir diswyddo meddygon, nyrsys a bydwragedd ac y gallant wynebu ymchwiliadau troseddol—yn briodol, wrth gwrs—am fethiannau ym maes gofal cleifion, ond nid oes yr un rheolwr hyd y gwyddom wedi wynebu sancsiynau cyfatebol erioed. Nid yw hynny'n iawn ac mae'n nodweddiadol o'r diwylliant seiliedig ar ddosbarth sy'n heintio bywyd cyhoeddus. Mae prif weithredwyr ein byrddau iechyd yn cael llawer mwy o gyflog na'r Prif Weinidog, ac nid ydynt yn wynebu atebolrwydd cyfatebol, er bod pawb ohonom yn gwybod, pe bai gweithiwr ar gyflog isel neu ar raddfa isel yn gwneud rhywbeth a fyddai chwarter mor ddifrifol yn eu gweithle, byddent yn wynebu canlyniad hollol wahanol.

Nid yw'r Gweinidog ei hun wedi cydnabod mai ef sy'n rhedeg y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Ef sy'n gyfrifol; mae'r cyfrifoldeb i fod arno ef, ond hyd yma, nid yw hyn wedi golygu fawr ddim. Ond yma heddiw, gallwn o leiaf anfon neges y gellir diswyddo Gweinidogion. Wedi'r cyfan, mae hwn yn fater mwy o faint na'r diswyddiadau diweddar yn San Steffan. Ymddiswyddodd Liam Fox am wahodd cyn gynghorydd arbennig dramor i gyfarfodydd. Fe wnaeth Amber Rudd gamarwain pwyllgor, a'r honiad yw bod Gavin Williamson wedi datgelu gwybodaeth gyfrinachol. Nawr, buaswn yn dadlau bod methiannau gwasanaethau a arweiniodd at yr adroddiad damniol hwn yr wythnos diwethaf yn llawer mwy difrifol na'r materion a arweiniodd at ymddiswyddiad y Gweinidogion yn San Steffan.

Beth am gyferbynnu ymddygiad y Gweinidog iechyd yma dros yr wythnos ddiwethaf â'r gweinidog iechyd blaenorol yn Tunisia. Ym mis Mawrth eleni, bu farw 11 o fabanod yn drasig mewn ysbyty yn Tunis, yn dilyn achosion o haint a briodolwyd i arferion gwael ar y ward. Gweithredodd y gweinidog iechyd yn Tunisia yn ôl ei gydwybod, cymerodd gyfrifoldeb ac ymddiswyddodd, er mai dim ond ers pedwar mis y bu yn y swydd. Rwy'n bendant iawn ei bod hi'n bryd i ni arfer yr un safonau o atebolrwydd a chyfrifoldeb yma.

Clywsom yr wythnos diwethaf gan Lynne Neagle fod problemau yng Nghwm Taf dros 16 mlynedd yn ôl, ac yn amlwg, rhaid inni sicrhau bod y problemau a ganfuwyd bryd hynny wedi cael eu cywiro wedyn, ond yn amlwg, nid yw'n ymddangos mai dyna'r sefyllfa yn yr ystyr fod pobl yn dweud bod problemau wedi parhau drwy gydol yr amser hwn. Y cwestiwn a ofynnais i mi fy hun wrth ddarllen yr adroddiad hwn oedd, 'Ble'r oedd goruchwyliwr y bydwragedd yn hyn oll?' Oherwydd eu dyletswydd hwy oedd sicrhau bod uned yn ddiogel, ac os nad oedd yn ddiogel, roedd ganddynt bwerau i'w chau. Felly, dyna farc cwestiwn mawr yr hoffwn fod wedi'i weld yn cael ei ateb, gan nad yw—. Newidiwyd eu rôl wedyn yn 2017, fel na fyddai ganddynt bwerau ymchwilio o'r fath mwyach, ond yn hytrach, y byddent yno mewn rôl gefnogol, sef yr hyn a ddymunai bydwragedd yn wir. Ac roedd Cymru, i ryw raddau, ar y blaen o ran egluro rôl newydd y goruchwylwyr clinigol bydwragedd. Ond yn ôl yr hyn a ddeallaf, yng Nghwm Taf, ni newidiwyd y rôl yn unol â'r ddeddfwriaeth, a'u bod wedi parhau i gael eu galw i ymchwilio i ddigwyddiadau difrifol yn hytrach na chyflawni'r gwaith o gefnogi a datblygu arferion da ym maes bydwreigiaeth. Roedd yn amlwg fod yna lawer o enghreifftiau o'r rheswm pam fod yna bryderon ynghylch arferion bydwreigiaeth, oherwydd y niferoedd o farw-enedigaethau, nifer y genedigaethau Cesaraidd, a ddylai fod wedi bod yn amlwg i'r bwrdd ar y pryd.

Ac yn amlwg, os nad oedd yr—. Nid yw'n deg â bydwragedd, sydd yno i gynorthwyo genedigaethau normal, os nad oes ganddynt arbenigwyr i alw arnynt pan fydd cymhlethdodau'n dechrau ymddangos. Mae'r ffaith bod yr obstetregydd ymgynghorol yn aml yn absennol ac nad oedd ar gael am hyd at awr, sy'n llawer iawn o amser pan fo beichiogrwydd yn mynd o'i le—. Roedd hi'n amlwg fod y gwasanaeth—. Dylai fod wedi bod yn glir, yn gwbl amlwg, i'r holl staff uwch—yr obstetregydd ymgynghorol, y paediatregydd ymgynghorol—nad oedd hwn yn wasanaeth a oedd wedi'i gyfarparu ar gyfer gofalu am y babanod a gâi eu geni'n gynnar iawn ar ôl 28 wythnos o feichiogrwydd yn unig. A dylent fod wedi chwythu'r chwiban.

Rwy'n credu bod y foment allweddol wedi digwydd pan gyflwynodd y fydwraig ymgynghorol ei hadroddiad ym mis Medi 2018, ac roedd yn amlwg ei fod wedi'i guddio o olwg pawb, oherwydd nid oedd yr aseswyr a aeth i fyny yno ym mis Ionawr yn ymwybodol ohono hyd yn oed tan y diwrnod y cyraeddasant. Ond a yw'n wir nad oedd y bwrdd yn gwybod amdano, neu eu bod yn gwybod amdano ac na wnaethant ddim yn ei gylch? Yn amlwg, nid oedd y Gweinidog yn gwybod am y peth, oherwydd wedyn comisiynodd ymchwiliadau ychwanegol ym mis Hydref y llynedd. Felly, cymerodd gamau priodol, yn fy marn i. Ond rwy'n credu bod rhai materion difrifol iawn na ddylid colli golwg arnynt drwy geisio rhoi'r Gweinidog iechyd ar brawf. Mae'n rhaid i bob un ohonom dderbyn ein dyletswydd gyfunol i sicrhau bod gan fyrddau iechyd bwerau, cylch gwaith a chyfrifoldeb am ddarparu'r gwasanaeth i'r gymuned y maent yn gyfrifol am ei gwasanaethu.

Felly, pa newidiadau, os o gwbl, sydd angen eu gwneud o ran trefniadau llywodraethu byrddau iechyd, a sut y gallwn sicrhau bod y diwylliant o fewn y byrddau iechyd yn un sy'n ceisio gwella'n barhaus a diwallu anghenion poblogaethau'n well? Rhaid inni sicrhau bod staff ar y wardiau mewn amgylchedd lle gallant chwythu'r chwiban os nad ydynt yn credu bod y gwasanaeth yn gweithredu'n ddiogel, ac yn amlwg nid yw'n ymddangos bod hynny wedi digwydd yng Nghwm Taf. Felly, credaf mai dyna'r problemau sydd ger ein bron. Rwy'n credu bod galw am ymddiswyddiad y Gweinidog iechyd, a siarad yn blaen, yn dacteg ddargyfeirio. Mae'n rhaid inni gael y gwasanaeth yn iawn—

16:30

Na wnaf.

—y gwasanaeth sydd gennym yng Nghwm Taf ac yn ein holl wasanaethau mamolaeth i sicrhau eu bod yn addas at y diben, yn unol â 'Genedigaethau Gwell'. Felly, credaf mai dyna'r mater sydd ger ein bron a dyna'r un y dylem fod yn craffu arno'n fanwl.

Ddoe, gwelsom gynnig arall gan y Llywodraeth Lafur hon nad oedd yn gwneud fawr mwy na llongyfarch ei hun, fel pe bai popeth yn GIG Cymru'n fendigedig, ac rydym yn ei weld yn rheolaidd. Mae'r Gweinidog wedi bod yn eistedd yno dros y rhan fwyaf o'r ddadl hon, yn cilwenu—nid wyf yn gwybod sut y gallwch, Weinidog. O ddifrif, nid wyf yn gwybod sut y gallwch wneud hynny.

Mae'r gwelliannau a gyflwynwyd—[Torri ar draws.] Mae'r gwelliannau a gyflwynwyd gan y Llywodraeth Lafur heddiw'n dangos y gwadu a'r hunanfodlonrwydd, nid bod arnom angen mwy o dystiolaeth o hynny. Ydw, rwy'n nodi'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd mewn perthynas â Chwm Taf, ond nid yw'n fawr o gysur. A ydw i'n meddwl y byddant yn gallu mynd i'r afael â'r broblem go iawn a gwneud y penderfyniadau anodd y mae angen iddynt eu gwneud er mwyn datrys methiannau Betsi Cadwaladr, Cwm Taf ac eraill? Nac ydw. Mae'n eithaf clir, yn enwedig yn ôl yr adroddiadau trasig ar farwolaethau babanod yr wythnos diwethaf, mai'r peth olaf y mae gan Lafur hawl i'w wneud yw llongyfarch ei hun, fel y mae'n ei wneud mor aml, neu eistedd a gwadu pethau fel y mae'n ei wneud heddiw. Yn hytrach, dylai ostwng ei ben cyfunol mewn cywilydd a chyflwyno cynnig a fyddai'n ymddiheuro'n llaes i deuluoedd sy'n galaru ac yn darparu'r camau gweithredu cadarn y bwriadant eu rhoi ar waith i unioni'r sefyllfa.

Mae Llafur wedi bod yn rhedeg y GIG ers 20 mlynedd yng Nghymru, a phob etholiad dywedant y byddant yn trawsnewid y GIG a'i fod yn ddiogel yn eu dwylo hwy. Ac eto, ym mhob tymor Cynulliad, maent yn gwneud pethau'n waeth. Pam y dylem ni neu'r cyhoedd gredu, yn sydyn iawn, y bydd y gwasanaethau'n gwella pan nad ydynt wedi gwneud hynny ers degawdau?

Mae'r Llywodraeth hon yn cwyno bod ein GIG yn dibynnu ar ymfudwyr ac yn defnyddio argyfwng recriwtio i guddio y tu ôl iddo—hynny yw, pan nad yw'r Gweinidog yn cuddio y tu ôl i'r staff. Ond mae Llywodraethau olynol, wedi'u cefnogi gan y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru, wedi creu'r broblem recriwtio yn y GIG. Mae'n costio llawer iawn o arian i hyfforddi i fod yn feddyg, sy'n golygu ei fod yn broffesiwn llawer mwy brawychus i ymuno ag ef, fel pe na bai'r cyfrifoldebau sydd ynghlwm wrth y gwaith yn ddigon brawychus. Ond ar yr un pryd, nid yw nifer y lleoedd hyfforddi wedi cynyddu ochr yn ochr â'r boblogaeth. I bob pwrpas, mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi rhoi hyfforddiant meddygol ar gontract allanol i leoedd fel y trydydd byd, lle'r ydym yn dwyn llawer o'n meddygon o gymunedau sydd eu hangen yn ddybryd eu hunain.

Ac wrth gwrs, gwaethygir y broblem recriwtio gan yr enw sydd gan rai o'r byrddau iechyd yng Nghymru. Sut y gallwn obeithio recriwtio staff pan fydd nodi rhai o'r byrddau iechyd yng Nghymru ar eu curriculum vitae yn gallu amharu ar eu rhagolygon gyrfa hirdymor? Diben cael y GIG wedi'i ddatganoli i Lywodraeth Cymru oedd y byddai'n gallu ymateb i anghenion lleol a pherfformio'n well i bobl Cymru nag a wnâi'n flaenorol. Yn hytrach, mae Llywodraeth Cymru wedi niweidio'r GIG fel bod ganddo broblemau, yn hytrach na manteision, sy'n unigryw i Gymru. Mae gwasanaeth iechyd sydd â phob rheswm i fod yn fwy ymatebol i anghenion lleol yn llai ymatebol mewn gwirionedd. Ceir rhestri aros hwy a chanlyniadau gwaeth na'r rhai cyfatebol yn Lloegr nad yw Llafur yn eu rheoli, lefelau anghymhwyster sy'n lladd babanod, rhestrau aros o filoedd y cant, pobl ifanc yn cael eu bywydau wedi'u difetha'n disgwyl am driniaeth iechyd meddwl. Sut y gall pobl yn y byd go iawn fod ag unrhyw hyder y gall y Llywodraeth hon naill ai gynnig y syniadau sydd eu hangen i ddatrys anrhefn y GIG yng Nghymru neu weithredu'r camau y maent yn eu haddo? 

Wrth gwrs, rwy'n croesawu unrhyw syniadau a chamau gweithredu sy'n gwella'r GIG, ond fel llawer o rai eraill yma ac allan ledled Cymru, nid oes gennyf unrhyw ffydd y gall y Llywodraeth hon gyflawni dim heblaw argyfwng parhaus i wasanaeth iechyd gwladol ein gwlad. Fe wnaeth y bobl a bleidleisiodd dros y Llywodraeth hon eu rhoi yn eu lle i lywodraethu, nid i geisio osgoi atebolrwydd. Roedd yr un bobl yn ymddiried yn y Blaid Lafur ac yn gosod eu system GIG yn ei dwylo ac yn nwylo'r Gweinidog. Bellach, rhaid i'r Gweinidog ysgwyddo'r cyfrifoldeb eithaf am y methiannau yn y GIG, a byddaf yn cefnogi cynnig Plaid Cymru heddiw, ond mae'n siŵr y bydd y grŵp Llafur yn trechu cynnig Plaid Cymru, a bydd hynny'n dangos yn dra effeithiol pa mor anghywir oedd pleidleiswyr Llafur i roi eu hyder yn y Blaid Lafur. Diolch.

16:35

Hoffwn ddechrau fy nghyfraniad y prynhawn yma drwy ymuno â fy nghyd-Aelod, Dawn Bowden, i ddiolch yn ddiffuant iawn i'r Gweinidog am roi camau mor bendant ar waith cyn gynted ag y daeth y problemau yng ngwasanaethau mamolaeth Cwm Taf i'r amlwg, gan gomisiynu'r adolygiad annibynnol hwn sydd wedi ein galluogi i dynnu sylw at fethiannau yn y gwasanaeth ac i ddechrau unioni pethau. Felly, ar gyfer fy nghyfraniad heddiw, hoffwn grybwyll dwy thema bwysig y soniais amdanynt yn y Siambr yr wythnos diwethaf, a chanolbwyntiaf fy sylwadau ar adroddiad Cwm Taf, gan mai dyna'r un sy'n effeithio'n uniongyrchol ar fy etholwyr yng Nghwm Cynon.

Fel y dywedais yn y fan hon yr wythnos diwethaf, ers imi gael fy ethol i'r lle hwn dair blynedd yn ôl, nid oes amheuaeth mai'r adroddiad hwnnw yw'r peth mwyaf gofidus y bu'n rhaid imi ei ddarllen, ac mae fy meddyliau'n dal yn gadarn iawn gyda'r holl deuluoedd yr effeithiwyd arnynt. Yn gyntaf, i'r holl fenywod y siaradais â hwy o fy etholaeth a hefyd y menywod o Gwm Cynon y mynegir eu barn yn yr adroddiad hwnnw, mae un thema'n amlwg iawn, ac mae'n ymwneud â nodiadau'n diflannu neu ddim yn cael eu gwneud, o gofnodion nad oedd yn fanwl gywir, o fenywod yn mynd drwy gyfnod anodd iawn wrth esgor a'r honiad yw bod aelodau gwahanol o staff yn gofyn iddynt dro ar ôl tro i drosglwyddo gwybodaeth ar lafar, yn hytrach na bod y wybodaeth yno wrth law. Un enghraifft yw Joann Edwards sy'n byw yn Aberpennar. Mae Joann wedi sôn sut y gofynnwyd iddi'n gyson i ailadrodd rhesymau dros gymell geni a'r math o enedigaeth, a nododd y cyfathrebu gwael rhwng staff a sifftiau. Fel y dywedodd,

Nid oedd un person i'w weld fel pe bai'n cyfeirio at fy nodiadau a oedd hyd yn oed yn cynnwys lluniau sgan gan y meddyg ymgynghorol gyda manylion mesuriadau hylif.

Neu Chloe Williams o Ynysybwl—nawr, roedd Chloe wedi dal E. coli yn ystod ei beichiogrwydd, ond ni chafodd hynny ei gofnodi yn ei nodiadau. Dioddefodd boen aruthrol ac yn drasig, roedd ei mab yn farw-anedig. Nawr, y rheswm pam rwy'n rhoi'r enghreifftiau hyn mor fanwl—fel y bydd yr Aelodau'n gwybod, bu'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ystyried gwybodeg y GIG yn ddiweddar ac roedd ganddo ganfyddiadau go glir ar hynny, ac yn yr un modd, rwyf wedi cael trafodaethau defnyddiol yn ystod yr wythnos ddiwethaf gyda sefydliadau fel y Coleg Nyrsio Brenhinol i drafod hyn, ac mae'n amlwg i mi fod yn rhaid defnyddio gwybodeg yn fwy effeithiol i sicrhau bod yr holl wybodaeth sydd ei hangen ar fydwragedd a meddygon wrth law er mwyn gwneud y penderfyniadau cywir ar yr adeg gywir i famau a babanod.

Yn ail, pwynt a wneuthum oedd bod gan Gwm Taf broblemau penodol o ran ei gyfansoddiad economaidd-gymdeithasol. Ceir problemau iechyd sy'n deillio o hyn, ac er nad yw'n esgus, maent yn amlwg yn effeithio ar ganlyniadau. Ond mae gan ardaloedd eraill yng Nghymru yr un heriau, ac mae'r ardaloedd eraill hynny hefyd yn gweld llai o ymyriadau a chanlyniadau diogelach i famau a babanod. Felly, mae'n bwysig iawn fod bwrdd iechyd Cwm Taf yn defnyddio'r profiadau hyn gan fyrddau iechyd tebyg ac yn dysgu oddi wrthynt er mwyn i bethau fod yn wahanol wrth symud ymlaen. Rwy'n croesawu'n fawr y sicrwydd a roddodd y Gweinidog i mi'n bersonol yn y Siambr yr wythnos diwethaf ynghylch y cydweithio hwn.

Rwyf hefyd am dreulio ychydig o amser yn mynd i'r afael â chanfyddiadau'r adroddiad ynghylch llywodraethu. Mae'r adroddiad yn sôn am ddiffygion mewn arweinyddiaeth glinigol, dim hyfforddiant a dim tystiolaeth o gynlluniau ar lefel y bwrdd i ddatblygu sgiliau neu gefnogi arweinwyr, diffyg atebolrwydd gweladwy, a'r hyn sy'n waeth, darparu sicrwydd ffug i'r bwrdd. A hyd yn oed pan fynegwyd pryderon yn sgil ymweliadau dirybudd â'r bwrdd y dylid bod wedi cael ymateb iddynt, sonnir am ddiffyg gweithredu. Gan symud i'r pedwerydd cylch gorchwyl, mae'n ymddangos i mi'n anhygoel fod adolygiadau o drefniadau llywodraethu wedi'u comisiynu ac yna wedi'u gadael ar y silff. At hynny, roedd yna ddiffyg cyfranogiad clinigol. Nid oedd systemau safonol ar waith ar gyfer casglu, dilysu ac archwilio data. Nid oedd unrhyw ddisgwyliadau o ran arweinyddiaeth ar gyfer y swyddogaethau hyn, felly daethant i fod yn fusnes i neb.

Hoffwn gyfeirio'n fyr at bwynt olaf cynnig Plaid Cymru, ac egluro pam y credaf nad dyma'r dull cywir o weithredu. Pan roddodd y Gweinidog ei ddatganiad yr wythnos diwethaf, amlinellodd ystod o ymyriadau i wneud pethau'n iawn. Mae ei ffocws ar sefydlu panel goruchwylio mamolaeth annibynnol, cryfhau arweinyddiaeth y bwrdd a darparu craffu a chymorth allanol yn ddull gweithredu cywir, yn fy marn i, a disgwyliaf i hyn arwain at ddatrys yr heriau yn y systemau llywodraethu a ddisgrifiais yn awr—systemau llywodraethu a all gael effaith mor ddinistriol ar fywydau pobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau.

Yn yr un modd, mewn ymateb i'r pryderon a nodais ar ôl ei ddatganiad, rwy'n croesawu sylwadau'r Gweinidog ynglŷn â gwell defnydd o dechnoleg i ddarparu gwell cadernid a sicrwydd ynghylch trosglwyddo cofnodion. Gadewch inni beidio ag anghofio na fyddai'r problemau hyn wedi'u hamlygu heb ymyrraeth y Gweinidog. Felly, yn hytrach na chreu bwch dihangol ac edrych am benawdau hawdd, gadewch inni ganolbwyntio ar wneud pethau'n iawn i'r bobl sy'n dibynnu ar y gwasanaethau hyn, ac mae hynny'n cynnwys y staff eu hunain.

16:40

Diolch, Lywydd. Cyhoeddwyd yr adroddiad ar wasanaethau mamolaeth Cwm Taf yr wythnos diwethaf. Roedd yn ysgytwad i bawb yn y Siambr hon, fel y dylai fod. Roedd adolygiad annibynnol y colegau brenhinol a gomisiynwyd gennyf yn nodi nifer o fethiannau ac yn amlygu gofal gwael a phrofiadau gofidus i fenywod a'u teuluoedd. Rwy'n llwyr gydnabod difrifoldeb canfyddiadau'r adolygiad mamolaeth. Rwy'n eu derbyn yn llawn. Ac fe ailadroddaf eto yr ymddiheuriad a roddais i deuluoedd a gafodd gam.

Fodd bynnag, hoffwn nodi'r hyn nad wyf yn mynd i'w wneud heddiw. Ni chaf fy nhynnu i mewn i geisio dadansoddi detholiad o adroddiadau dros bum mlynedd diwethaf ein GIG. Roedd pob un o'r adroddiadau hynny'n peri gofid ynddo'i hun. Roedd pob un yn eithriadol o anodd i'r bobl yr effeithiwyd arnynt. Roedd gwersi i'w dysgu o bob un ohonynt: gwersi ar gyfer ein GIG; gwersi o ran ein hymagwedd tuag at ymyrraeth ac uwchgyfeirio. Felly, nid wyf am ddefnyddio enghreifftiau o berfformiad y GIG er mwyn pwyntio bys at bobl eraill neu rannau eraill o'r GIG yn y DU. Rwy'n glir fod gornest gwleidyddiaeth plaid, wythnos yn unig ar ôl cyhoeddi'r adroddiad, yn tynnu sylw pawb ohonom oddi wrth yr hyn y mae teuluoedd wedi dweud wrthym sy'n bwysig mewn gwirionedd. Ein gwaith ni yw gwrando arnynt ac unioni'r hyn na ddylai fod wedi mynd o'i le, a dyna pam y cyflwynasom ein gwelliant.

Ni all yr un ohonom ddeall yn iawn pa mor ofidus y mae hyn wedi bod, ac yn parhau i fod, i'r teuluoedd yr effeithiwyd arnynt. Ond mae'r ffordd urddasol y maent wedi ymateb yn creu argraff arnaf. Mae lefel yr ymrwymiad y maent wedi'i ddangos wrth fynegi eu dymuniad i weithio gyda ni, i lywio a llunio'r gwelliannau sydd eu hangen mewn gwasanaethau mamolaeth, yn dyst i hynny. Fy mlaenoriaeth yn awr yw cymryd pob cam angenrheidiol i fodloni eu disgwyliad na fydd hyn yn digwydd i deuluoedd eraill.

Bydd y panel goruchwylio annibynnol yn allweddol i roi'r sicrwydd hwnnw. Mae Mick Giannasi, fel cadeirydd y panel, wedi dechrau ar ei waith ar unwaith. Siaradais ag ef ddoe, ac mae'n llwyr ddeall cyfrifoldeb ei rôl. Bydd Mick Giannasi a Cath Broderick, awdur yr adroddiad teuluoedd, yn ymuno â mi yr wythnos nesaf pan fyddaf yn cyfarfod â'r teuluoedd. Rwyf am i'r teuluoedd hynny gael dweud eu barn wrth lunio gwaith y panel, ond rwyf hefyd am ddiolch iddynt yn bersonol am y ffordd y maent wedi cymryd rhan yn yr adolygiad ac am fod yn barod i rannu eu profiadau. Gobeithio y gallant gael rhyw gysur o wybod bod rhywun yn gwrando arnynt, ac y bydd camau'n dilyn.

Ni ellir gwadu bod y safonau a ddaeth yn norm mewn rhannau o'r gwasanaethau mamolaeth hyn yn gwbl annerbyniol. Mae'r methiannau yn y  prosesau llywodraethu a olygai nad oedd canlyniadau'n cael eu huwchgyfeirio i'r bwrdd yr un mor annerbyniol. Rwyf wedi dweud yn glir wrth Gadeirydd y bwrdd iechyd fy mod yn disgwyl iddo ef a'r bwrdd ystyried yn llawn sut y digwyddodd hyn, gan fod hynny'n rhan hanfodol o sicrhau na welwn fethiant tebyg yn y system yn y dyfodol. Rwy'n disgwyl i fwrdd Cwm Taf Morgannwg wneud popeth sydd ei angen i sicrhau bod trefniadau llywodraethu cadarn ar waith o'r ward i'r bwrdd, a rôl David Jenkins yw eu helpu i gyflawni hyn.

Y prif ofyniad yw sicrhau diogelwch, gofal a lles mamau a babanod sy'n derbyn gwasanaethau mamolaeth. Rhaid i hynny gynnwys y diwylliant a'r arferion mwy agored a nodwyd gan Dawn Bowden, i ddisodli'r diwylliant cosbol a ddisgrifir yn yr adroddiad. Yn yr un modd, rhaid iddo hefyd gynnwys y gwelliannau o ran ymarfer, profiadau a chanlyniadau y cyfeiriodd Vikki Howells atynt. Rhaid i'r gwelliant y mae pawb ohonom yn ei geisio fod yn gyflym ac yn barhaus, a dyna fydd y sbardun sy'n llywio fy ngweithredoedd wrth imi gyflawni fy nghyfrifoldebau. Rwy'n benderfynol fod GIG Cymru yn ei gyfanrwydd yn dysgu o'r methiannau hyn yn y system. Byddaf yn gwneud hynny'n glir i gadeiryddion y byrddau iechyd pan fyddaf yn cyfarfod â hwy yfory. Rhoddwyd pythefnos iddynt adolygu canfyddiadau'r adroddiad a chyflwyno adroddiad ar eu gwasanaethau eu hunain. Felly, byddaf yn cael yr adroddiadau hynny yr wythnos nesaf.

Gwyddom i gyd fod y mwyafrif helaeth o bobl yn cael gofal rhagorol gan ein gwasanaethau iechyd, ond ceir adegau pan fydd pethau'n mynd o chwith. Mae hynny'n wir yn anffodus am bob system gofal iechyd. Rydym wedi dangos y byddwn yn rhoi camau pendant ar waith i nodi ac ymateb i fethiannau pan fyddant yn codi. Rydym wedi dysgu gwersi, wedi datblygu ac yna wedi addasu ein dull o ymdrin ag uwchgyfeirio ac ymyrraeth o ganlyniad i hynny. Rydym wedi comisiynu ymchwil gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru i helpu i lywio ein dull o weithredu, gan ddefnyddio cymaryddion rhyngwladol, ac rydym yn ystyried ein profiad ein hunain. Felly, rwyf ymhell o fod yn hunanfodlon. Byddaf yn parhau i gymryd cyngor rheoleiddwyr, y panel annibynnol, fy swyddogion ac fel y dywedais, i geisio barn teuluoedd wrth inni ymateb i'r diffygion a nodwyd yn yr adroddiad hwn. Felly, byddaf yn parhau i weithredu.

Rwy'n cydnabod y bydd menywod a theuluoedd, Aelodau yn y Siambr hon, a'r cyhoedd yn gyffredinol yn parhau i ddisgwyl tryloywder, gweld y camau a nodwyd gan adolygiad annibynnol y colegau brenhinol yn cael eu gweithredu'n llawn, clywed bod gofal mamolaeth yn hen ardal Cwm Taf yn ddiogel, yn urddasol, ac yn diwallu anghenion menywod a'u teuluoedd, a gweld tystiolaeth o hynny gan y panel annibynnol a chan y rhai sy'n derbyn gofal. Gweld a chlywed canlyniad y panel annibynnol a benodais. Bydd y panel annibynnol hwnnw'n adrodd yn rheolaidd felly, a chadarnhaf y byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau a'r cyhoedd yn ehangach am eu gwaith a'u hargymhellion ar gyfer gweithredu yn y dyfodol.

Fel y gŵyr yr Aelodau, bydd y gwaith a wneir gan y panel annibynnol a David Jenkins yn cael ei ategu gan waith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru. Mae'r cyrff hynny'n annibynnol ar y Llywodraeth. Byddant yn gosod telerau eu gweithgaredd eu hunain iddynt eu hunain yn seiliedig ar eu dadansoddiad o'r problemau. A bydd eu canfyddiadau, yn ôl yr arfer, yn cael eu cyhoeddi.

Dros yr wythnos ddiwethaf, cafwyd galwadau gan amryw o Aelodau'r gwrthbleidiau i rywun gael ei ddiswyddo. O ganlyniad i'r camau a gymerais, gallai'r panel annibynnol neu'r bwrdd ddod o hyd i dystiolaeth o ymddygiad sy'n galw ar y cyflogwr neu reoleiddiwr proffesiynol i weithredu. O dan yr amgylchiadau hynny, rwy'n disgwyl iddynt weithredu'n briodol, ond nid wyf wedi—ac ni fyddaf yn gofyn iddynt gymryd camau er fy lles i. Eu cylch gwaith yw helpu i wella ein gwasanaeth, er mwyn helpu i wasanaethu ein cyhoedd yn well. Nid oes bwledi arian ar gael. Dyna pam y dewisais y dull o weithredu a gyhoeddais. Gwneuthum ddewis, ac nid wyf am fynd ar ôl gwaed neb arall er fy lles i, i roi sicrwydd ffug, i roi camargraff o ateb sydyn na fyddai'n gwneud fawr ddim i sicrhau'r gwelliannau y mae menywod a'u teuluoedd yn eu disgwyl ac yn eu haeddu.

Wythnos yn ôl, cyhoeddais adroddiad annibynnol llawn y colegau brenhinol a gomisiynwyd gennyf. Amlinellais y camau rwy'n eu cymryd. Credaf fod yn rhaid inni roi'r ffocws ar fenywod a'u teuluoedd sydd wedi cael cam, menywod a theuluoedd sy'n dal i fod angen gwasanaethau mamolaeth. Yn sicr, dyna yw fy ffocws i.

16:50

Diolch yn fawr, Lywydd. Ddoe, roeddem yn dathlu 20 mlynedd o'r lle hwn fel senedd. Swyddogaeth senedd yw dwyn llywodraeth i gyfrif, ac rwy'n hynod siomedig felly fy mod newydd glywed y Gweinidog yn disgrifio'r mater difrifol hwn a'r hyn a oedd, yn fy marn i, yn ddadl urddasol iawn, fel gornest wleidyddol. Mae'n rhaid i mi ddweud wrth y Gweinidog pe baem eisiau gornest wleidyddol y gallem gael un yn wythnosol. Nid ydym wedi dewis gwneud hynny.

Rwy'n ddiolchgar iawn i'r rhan fwyaf o'r Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon. Ni allaf gyfeirio at eu holl gyfraniadau, ond yr hyn a welsom drwy drwch y cyfraniadau hynny yw patrwm, ac rwy'n siomedig iawn na all y Gweinidog weld y patrwm hwnnw. Dywed ei fod wedi ymrwymo i sicrhau na fydd yr hyn a ddigwyddodd i deuluoedd Cwm Taf yn digwydd i deuluoedd eraill. Wel, fel y clywsom gan Darren Millar, mae'n debyg iawn i'r hyn a ddigwyddodd i deuluoedd Tawel Fan.

Dywedodd y Gweinidog na fyddai'n cael ei ddenu i wneud cymariaethau. Mae'n peri pryder difrifol nad yw'n gweld yr hyn sy'n gyffredin rhwng y ddau beth. Ei fethiant ef i weld yr elfennau cyffredin hynny, a'i fethiant i fynd i'r afael â'r pethau sy'n gyffredin—methiant rheolwyr ym mhob rhan o'r system, y methiant i ddwyn pobl i gyfrif—sydd wedi golygu ein bod wedi cyflwyno'r cynnig hwn heddiw.

Nawr, mae Dawn Bowden yn tynnu sylw'n briodol at rai o'r pethau sy'n codi. Dywed fod yn rhaid i'r gwaith o wella gwasanaethau ymdrin yn gadarn ag unigolion. Ar dystiolaeth y ddadl heddiw neu ddatganiad yr wythnos diwethaf, nid wyf yn deall sut y gall fod â'r hyder hwnnw. Ac fe'm cyffyrddwyd gan gyfraniad Vikki Howells. Mae'n amlwg ei bod yn teimlo'n ddwfn iawn ynglŷn â beth sydd wedi digwydd i'w hetholwyr. Mae'n gwybod am yr effaith a gafodd hynny ar ei bywyd. Ac eto, mae hi'n diolch i'r Gweinidog. Mae'n llygad ei lle'n tynnu sylw at fethiannau. Mae'n sôn am ddiffyg gweithredu ar ran y bwrdd. Mae'n sôn am ddull gweithredu anghywir. Yn sicr, mae angen i'r aelodau hynny o'r bwrdd gael eu dwyn i gyfrif.

Nawr, Lywydd, rwyf wedi adnabod llawer o Aelodau ar y meinciau Llafur ers blynyddoedd lawer, a gwn eu bod yn bobl anrhydeddus. A gwn eu bod yn bobl deyrngar. Ond rwy'n teimlo bod yn rhaid i mi ofyn iddynt heddiw i bwy y dylent ddangos teyrngarwch. A ddylent ei ddangos i Weinidog—a dylwn bwysleisio nad yw hyn yn bersonol mewn unrhyw ffordd—sydd wedi methu deall yr elfennau cyffredin yn y problemau sy'n ei wynebu, ac sydd wedi methu ag ymateb yn briodol? Neu a ddylent ei ddangos i'w hetholwyr, pobl Cymru? Nid wyf yn tanbrisio pa mor anodd yw hyn i rai ohonynt, ond ein dyletswydd ni, fel gwrthblaid sy'n deyrngar i bobl Cymru, yw galw arnynt i ystyried.

Ddoe, cyfarfûm—rwyf wedi siarad â nifer o deuluoedd dros y ffôn a thrwy e-bost, ond ddoe cyfarfûm â thad ifanc. Mae'n credu y byddai ei wraig a'i blentyn wedi marw pe na bai'n digwydd bod yn weithiwr proffesiynol meddygol ei hun, ac wedi gallu sylwi ar rai o'r problemau yr oedd y gwasanaeth yn methu gwneud rhywbeth yn eu cylch. Cafodd gefnogaeth o'r radd flaenaf gan un o'i Aelodau Cynulliad lleol. Mae hi'n gwybod pwy yw hi. Ni wnaf ei henwi. Dywedodd wrthyf ei fod yn ddiolchgar inni am godi llais am nad yw'n credu y gall y gwasanaeth newid tra bo'r un bobl a ddiystyrodd ei bryderon, a fychanodd ei wraig, a wnaeth hwyl am ei phen tra oedd yn esgor, ac a'i bygythiodd yn y pen draw y byddent yn dwyn camau cyfreithiol yn ei erbyn pan fynegodd ei bryderon—nid yw'n credu y byddai'r gwasanaeth hwnnw'n newid tra bo'r un bobl yn dal i fod yn gyfrifol. Mae'r fam ifanc honno'n disgwyl plentyn arall. Ni fydd yn rhoi genedigaeth i'r plentyn hwnnw yng Nghwm Taf.

Dyletswydd y Cynulliad hwn yw craffu ar waith Gweinidogion a'u dwyn i gyfrif. Yma i wneud hynny rydym ni. Dyma oedd diben creu'r Cynulliad hwn. Dyma yw ystyr democratiaeth. Nawr, Lywydd, rwy'n credu ein bod yn gwybod pa ffordd y mae'r bleidlais yn debygol o fynd heddiw. Ond gallaf ddweud hyn wrth y teuluoedd, wrth deuluoedd Cwm Taf: ar y meinciau hyn, ni fyddwn yn eich anghofio. Dyna oedd neges y tad ifanc wrthyf ddoe—peidiwch ag anghofio amdanom. Peidiwch ag anghofio beth sydd wedi digwydd. Ar y meinciau hyn, ni fyddwn yn eich anghofio, ac os na fydd y Gweinidog yn ysgwyddo'i gyfrifoldeb, yna drwy'r strwythurau pwyllgor, drwy ddadleuon ar lawr y Siambr hon, drwy gwestiynau, byddwn yn parhau i ddwyn y Gweinidog i gyfrif am brofiadau brawychus y teuluoedd a'r plant sydd wedi mynd.

Bydd y pwyllgor iechyd yn craffu ar Gwm Taf yn fuan mewn perthynas â'r materion hyn, ac rwyf wedi gofyn am sicrwydd gan y Cadeirydd y bydd lleisiau'r teuluoedd hyn wrth wraidd y gwaith craffu hwnnw. Ni fyddwn yn gwrando ar nonsens gan fiwrocratiaid nad ydynt yn atebol. Byddwn yn mynd â lleisiau'r teuluoedd at y Gweinidog, ac rwy'n ddiolchgar ei fod yn bwriadu eu cyfarfod, ond tybed pa mor ddiogel y byddant yn teimlo i fod yn wirioneddol agored a gonest gydag ef, yn wyneb yr hunanfodlonrwydd a ddangosodd yr wythnos diwethaf a'r wythnos hon.

Gyda chryn ofid, Lywydd, y teimlais yr angen i gyflwyno'r ddadl hon i'r Siambr. Byddai'n llawer iawn gwell gennyf pe gallai'r Gweinidog weld y methiannau systematig yn y modd y rheolir y system a bod yn barod i fynd i'r afael â hwy. Mae wedi dweud wrthym heddiw na fydd yn gwneud hynny. Felly, mater i ni, yr wrthblaid yn y lle hwn, yw bod yn llais i'r teuluoedd hynny—[Torri ar draws.]—ac fe dderbyniaf ymyriad yn llawen os oes rhywun yn dymuno gwneud un. Nac oes? Dyna a feddyliais.

Rwyf am orffen—

16:55

Mae gennyf reolaeth lwyr arnaf fy hun, Mr Waters. Mae'n ymddangos i mi efallai nad oes gennych chi.

Mae'n rhaid i mi ddod â fy nghyfraniad i ben, Lywydd, drwy ofyn pa lefel o fethiant gan wasanaeth cyhoeddus yn ein gwlad y mae'n mynd i gymryd i Weinidog Llafur—a dyna fy unig bwynt gwleidyddol bleidiol heddiw—pa lefel o fethiant y mae'n mynd i gymryd i Weinidog Llafur wneud y peth anrhydeddus?

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriaf y bleidlais ar yr eitem tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. Dadl Plaid Cymru: Uno TATA Steel a ThyssenKrupp
8. Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Gweithio Gartref

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Rebecca Evans, a gwelliant 2 yn enw Darren Millar. 

Mae hynny'n dod â ni at ddadl UKIP ar weithio gartef, a dwi'n galw ar Gareth Bennett i wneud y cynnig. Gareth Bennett.

Cynnig NDM7045 Gareth Bennett

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi y cynhelir Wythnos Genedlaethol Gwaith Doeth rhwng dydd Sul 12 Mai a dydd Sadwrn 18 Mai 2019.

2. Yn credu bod gweithio gartref yn rhoi mwy o hyblygrwydd ar gyfer cyfrifoldebau teuluol, a bod iddo fanteision ehangach hefyd, megis llai o draffig a llygredd, gwaith mwy hygyrch i bobl anabl, a chadw costau adeiladau yn isel i fusnesau.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gan bob corff cyhoeddus yng Nghymru ddyletswydd i gynnwys gweithio gartref yn y broses o gynllunio swyddi a recriwtio.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth benodol ar gyfer gweithio gartref o fewn y prosiect sy'n olynu Superfast Cymru, er mwyn sicrhau nad yw pobl sy'n dymuno gweithio gartref yn cael eu rhwystro gan ddiffyg mynediad at fand eang.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Diolch eto, Lywydd. Mae'r ddadl heddiw'n ymwneud â gweithio gartref, a gobeithio y bydd yr Aelodau'n cytuno bod y pwnc yn un diddorol ac yn haeddu rhywfaint o amser i'w archwilio yn y Siambr. Rydym ni yn UKIP yn meddwl, yn gyffredinol, fod caniatáu i fwy o weithwyr weithio gartref yn amcan da, cyn belled, wrth gwrs, â mai dyna y mae'r gweithwyr eu hunain eisiau ei wneud. Felly, rwy'n credu bod angen i ni edrych ar y dulliau sydd gennym yma yn y Cynulliad i weld beth y gallwn ei wneud i hyrwyddo lefel uwch o weithio gartref yng Nghymru.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

17:00

Yn ei hanfod, dyna yw pwrpas y cynnig heddiw. Nid yw'n bwnc arbennig o bleidiol sy'n galw am rannu pobl ar hyd llinellau pleidiau. Mae'r cynnig heddiw yn ymwneud mwy â cheisio dod o hyd i gonsensws rhwng y gwahanol bleidiau yma, fel rydym ni yn UKIP bob amser yn ceisio ei wneud wrth gwrs. Felly, rwy'n ystyried y gwelliannau heddiw gan gadw hynny mewn cof.  

Mae'n ymddangos bod y Llywodraeth yn cytuno'n fras â'n hamcanion. Nid yw eu gwelliannau ond yn dileu rhan o un o'n pedwar pwynt. Fodd bynnag, er bod cymaint â hynny'n wir, mae'n dileu ein hawydd am strategaeth benodol gan Lywodraeth Cymru ar weithio gartref o fewn y prosiect i olynu Superfast Cymru. Mae arnom angen i Lywodraeth Cymru yn y pen draw ymrwymo i fanylion os ydym am gyrraedd unman gyda'r genhadaeth hon. Felly, nid ydym yn cytuno â'r gwelliant hwn, er ein bod yn cydnabod mai dyna'r unig ran y mae'r Llywodraeth yn awyddus i'w newid. Nid ydynt yn dweud 'dileu popeth' yn ein cynnig y tro hwn. Felly, mae hynny fach yn addawol.  

Mae gwelliant y Ceidwadwyr yn nodi'r pwynt y gall fod anfanteision i weithio gartref. Nid wyf yn gwadu na fydd gweithio gartref yn gweithio i bawb o reidrwydd. Felly, nid y nod yw gwthio pobl i weithio gartref yn erbyn eu hewyllys, ond yn hytrach ei gwneud yn haws i'r bobl y byddai'n well ganddynt weithio gartref i allu gwneud hynny. Mewn gwirionedd, mae'r pwynt a ddyfynnir yng ngwelliant y Ceidwadwyr yn deillio o un rhan o adroddiad sydd, ar y cyfan, yn ffafriol i'r syniad o weithio gartref. Ond wrth gwrs, mae'n rhaid i ni gofio nad ydym am wthio pobl i wneud rhywbeth nad ydynt am ei wneud. Felly, rydym yn derbyn rhesymeg y gwelliant a byddwn yn cefnogi gwelliant y Ceidwadwyr heddiw.

Y sbardun y tu ôl i'r cynnig heddiw yw technoleg newydd a'r newidiadau yn ein ffordd o fyw y gallai technoleg newydd eu galluogi. Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth y DU wedi cael ei llethu gan brosiect trafnidiaeth drud iawn—rwy'n cyfeirio at HS2—sydd wedi bod yn hynod o ddadleuol ac a fu'n faen melin am wddf Llywodraeth San Steffan am bron yr holl amser y bu mewn grym. Yn ddiddorol, er ein bod bron â bod wedi anghofio hyn yn awr o bosibl, syniad gwreiddiol y Llywodraeth Lafur ddiwethaf oedd HS2 mewn gwirionedd. Cafodd ei gynnig yn gyntaf yn 2009 pan oedd Gordon Brown yn dal yn ei swydd. Yma yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi wynebu dryswch tebyg ynglŷn â ffordd liniaru'r M4. Mae'r cynllun hwn hefyd wedi gweld costau cynyddol, a fydd yn anochel yn atal gwariant mewn meysydd eraill os bydd y prosiect yn cael ei gymeradwyo mewn gwirionedd.

Y rheswm pam y soniaf am y cynlluniau trafnidiaeth hyn yw y gallent fod bron yn ddiangen mewn ffordd. Rwy'n gwybod bod hynny'n swnio'n rhyfedd pan fo gennym gymaint o draffig yn llenwi'r ffyrdd, ond y pwynt i'w gadw mewn cof yw bod buddsoddi mewn ffyrdd a rheilffyrdd, mewn rhai ffyrdd, yn gyfystyr â buddsoddi mewn hen dechnoleg. Mae'n fuddsoddiad sy'n seiliedig ar syniad y bydd angen am byth i filiynau lawer o bobl deithio'n ffisegol o un lle i'r llall yn ddyddiol er mwyn gwneud eu gwaith.  

Pan feddyliwch am y peth, pe baem yn datblygu rhwydwaith band eang cyflym a dibynadwy ledled y DU, ni fyddai angen i gynifer o bobl deithio ar drenau neu geir neu hyd yn oed ar fysiau. Ni fyddai angen i gymaint o bobl deithio i swyddfa bob dydd pe bai modd iddynt wneud yr holl waith y byddent yn ei wneud yn y swyddfa yr un mor hawdd gartref. Rhaid cyfaddef na fydd gweithio gartref, wrth gwrs, yn effeithio fawr ddim ar y sector gweithgynhyrchu, y sector prosesu neu'r sector amaethyddol. Ond wrth gwrs, mae swyddi gweinyddol wedi dod yn rhan fawr o'r economi a gallai gweithio gartref effeithio'n fawr ar y sector hwnnw. Os oes angen cyswllt rhwng y cyflogai a'r rheolwr neu'r rheolwr canol, gellir hwyluso hyn dros y ffôn y dyddiau hyn, gan gynnwys drwy alwad gynadledda neu drwy Skype, drwy e-bost gan gynnwys drwy gadwyni e-bost sy'n cynnwys llawer o bobl, a dulliau eraill o negeseua electronig. 

Nid wyf yn awgrymu y gall pob gweithiwr swyddfa weithio gartref drwy'r amser, ond os gallwn leihau nifer y bobl sy'n teithio i'r gwaith bob dydd, byddai hynny'n helpu i leddfu'r pwysau ar rwydweithiau ffyrdd a rheilffyrdd. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, efallai nad oes llawer o gymhelliant i gwmnïau symud tuag at fwy o weithio gartref. I benaethiaid cwmnïau, gellid ystyried bod cyflwyno mwy o weithio gartref yn niwsans. Dyna pam y mae'n rhaid i ni feddwl am ddefnyddio cymhellion treth a/neu brosesau cytundebol i geisio cael cwmnïau i feddwl mwy ar hyd y llinellau hyn.

Rwyf wedi holi Llywodraeth Cymru beth yn union y mae'n ei wneud i annog mwy o weithio gartref. Rwyf wedi gofyn dau gwestiwn i'r Prif Weinidog ar y pwnc hwn, er enghraifft. Er eu bod yn cytuno'n fras â'r nodau, mae'r atebion a gefais hyd yn hyn braidd yn amwys ynglŷn â'r manylion. Rydym yn sylweddoli yn UKIP fod prosiect mawr yn mynd rhagddo gan Lywodraeth Cymru i wella ansawdd a chyflymder band eang ledled Cymru, ac yn amlwg bydd y prosiect hwnnw'n effeithio'n fawr ar ba mor bell y gallwn esgor ar oes o fwy o weithio gartref. Felly, rydym yn cydnabod hynny. Ond o ran cynlluniau penodol sy'n cymell cwmnïau yng Nghymru i gyflwyno neu ymestyn gweithio gartref, nid wyf wedi gallu dod o hyd i rai. Wrth gwrs, mae gennyf ddiddordeb yn ymateb y Gweinidog heddiw ac os wyf wedi methu gwaith pwysig y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn benodol yn y maes hwn, byddaf yn bendant yn syrthio ar fy mai. Ond yn sicr, nid wyf wedi gallu dod o hyd i unrhyw waith penodol gan Lywodraeth Cymru yn y maes hwn.

Gwn fod yna raglen datblygu busnesau ar gael, sy'n ceisio tynnu sylw busnesau bach a chanolig eu maint yng Nghymru at fanteision defnyddio cysylltedd band eang gwell pan fydd yn bodoli yn eu hardal, a cheir gwaith academaidd diweddar sydd hefyd yn amlygu manteision masnachol gwneud hynny. Ceir cysylltiad hefyd â'r gwaith a wneir gan y Comisiwn Gwaith Teg, gyda rhan ohono'n ceisio annog cwmnïau i feddwl am allbynnau yn hytrach na'r oriau a weithir. Mae hwn yn ddull arall a allai helpu cwmnïau i feddwl am fwy o weithio gartref, er nad yw'r naill ongl na'r llall yn ymwneud yn benodol ag union fater gweithio gartref.

Felly, a oes pethau eraill y gallai Llywodraeth Cymru eu gwneud? Yn y gorffennol, dywedwyd wrthym y byddent yn hwyluso'r broses o benodi cydlynwyr cynlluniau teithio, a oedd i fod i weithio gyda chyflogwyr ledled Cymru i annog teithio cynaliadwy, a byddent yn annog pethau fel rhannu ceir, ond hefyd, yn fwy at y pwynt ar gyfer y cynnig heddiw, fideogynadledda a gweithio gartref. Serch hynny, cefais drafferth dod o hyd i lawer o wybodaeth am y cydlynwyr cynlluniau teithio hyn, ac efallai ei fod yn syniad sydd mewn perygl o lithro drwy'r craciau.

Yn y cynnig heddiw, gofynnwn am fesurau penodol, megis galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod dyletswydd ar bob corff cyhoeddus yng Nghymru i gynnwys gweithio gartref yn y gwaith o gynllunio swyddi a sut y caiff y swyddi hynny eu hysbysebu a sut y caiff pobl eu recriwtio. Rydym hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth benodol ar gyfer gweithio gartref o fewn y prosiect i olynu Superfast Cymru, er mwyn sicrhau nad yw pobl sy'n dymuno gweithio gartref yn cael eu llyffetheirio gan ddiffyg mynediad at fand eang.

Soniais am y manteision i'r system drafnidiaeth o annog mwy o weithio gartref, ac nid dyna'r unig fantais, o bosibl. Mae'n ffaith hefyd mai un o'r problemau sy'n effeithio ar ddiwydiant Prydain yw cynhyrchiant. Os yw pobl yn gweithio mewn amgylchedd sy'n fwy dymunol iddynt, mae'n ddigon posibl y bydd y cynnyrch yn cynyddu, cyn belled, wrth gwrs, â bod y rhai sy'n gweithio gartref wedi'u hyfforddi'n briodol i wneud y gwaith ac yn cael hyfforddiant parhaus. Mae manteision hefyd i'r rheini sydd â chyfrifoldebau gofal plant neu gyfrifoldebau gofalu eraill, sy'n tueddu i fod yn fwy tebygol o fod yn fenywod, a hefyd rhai ag anableddau corfforol o gyflwyno amgylchedd gwaith yng Nghymru sy'n fwy parod i dderbyn gweithio gartref.

Mae'r pwyntiau hyn wedi'u gwneud hefyd gan ysgrifennydd cyffredinol Cyngres yr Undebau Llafur, Frances O'Grady. Nododd ym mis Mai 2018 mai dim ond 1.6 miliwn oedd nifer y bobl a weithiodd yn rheolaidd o gartref yn y DU yn y flwyddyn flaenorol, ffigur a oedd wedi aros yr un fath ers y flwyddyn cynt. Nododd ddau reswm pam y mae gweithio gartref wedi arafu. Un oedd cyflymder band eang hynod amrywiol y DU, y llall oedd bod gormod o reolwyr llinell yn dal i gredu na ellir ymddiried mewn gweithwyr heb eu goruchwylio'n gyson. Felly, mae yna frwydr ddiwylliannol i'w hennill o ran yr ail bwynt.

I ryw raddau, mae angen i bobl sy'n gweithio ym maes rheoli gael eu hargyhoeddi o fanteision gweithio gartref. Fodd bynnag, yn ddiddorol, mae 12 y cant o reolwyr yn gweithio gartref yn barhaol, ond tua 2 y cant yn unig o gyflogeion sy'n gwneud hynny. Ystadegyn trawiadol arall yw mai 6 y cant yn unig o weinyddwyr sy'n gweithio gartref yn y DU er y gellid yn hawdd gyflawni llawer o'u tasgau o bell y dyddiau hyn. Felly, ledled y DU, mae'n amlwg fod llawer o waith i'w wneud ar y mater hwn. Efallai y gallwn geisio arwain y ffordd ar hynny yma yng Nghymru.

17:05

Diolch. Rwyf wedi dethol dau welliant i'r cynnig, a galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans, yn ffurfiol.

Gwelliant 1—Rebecca Evans

Ym mhwynt 4, dileu:

'ddatblygu strategaeth benodol ar gyfer gweithio gartref o fewn y prosiect sy'n olynu Superfast Cymru, er mwyn'.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2—Darren Millar

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod yr Athro Sharon Clarke a Dr Lyn Holdsworth o Ysgol Fusnes Manceinion wedi datgan bod gweithwyr hyblyg, yn enwedig gweithwyr cartref, yn wynebu'r posibilrwydd o gynnydd mewn straen galwedigaethol o ganlyniad i ddwysáu gwaith, gwrthdaro â chyd-weithwyr, ac amharu ar lif gwybodaeth ac mae'n cydnabod yr angen i'r materion hyn gael eu hystyried wrth lunio polisïau yn y dyfodol.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi gynnig gwelliant 2 yn enw fy nghyd-Aelod Darren Millar?

Byddwch yn sylwi nad ydym wedi dileu unrhyw ran o gynnig UKIP. Cytunwn gyda chynnig UKIP fel y mae wedi cael ei osod. A chredaf fod consensws cyffredinol ynghylch yr hawl i ofyn am weithio hyblyg, a gefnogir i raddau helaeth, rwy'n credu, gan y gymuned fusnes hefyd. Amcan ein gwelliant i'r cynnig hwn heddiw yw sicrhau nad yw'r ddadl ond yn rhoi darlun cwbl gadarnhaol yn unig, ond ei bod hefyd yn cydnabod goblygiadau posibl trefniadau gweithio hyblyg, yn enwedig gweithio gartref, a all arwain o bosibl at straen galwedigaethol i rai pobl a gwrthdaro posibl â chydweithwyr nad ydynt yn cael yr un hyblygrwydd.

Dangoswyd hyn gan ymchwil gan yr Athro Clarke a Dr Holdsworth o Ysgol Fusnes Manceinion yn eu hadroddiad ar hyblygrwydd yn y gweithle. Felly, mae'n sicr yn bwysig, rwy'n credu, fod y ddadl hon ac unrhyw bolisïau a wneir yn y maes hwn yn y dyfodol yn ystyried y goblygiadau posibl hyn, yn ogystal â'r manteision niferus posibl y tynnodd Gareth Bennett sylw atynt. Ac rwy'n cytuno â'r rhan fwyaf, os nad y cyfan, o sylwadau Gareth Bennett yn ei anerchiad agoriadol heddiw, yn enwedig y materion cysylltedd y mae'n tynnu sylw atynt, sydd wrth gwrs yn rhwystr i weithio gartref mewn sawl rhan o Gymru. Efallai y buaswn yn annog yr Aelodau ar ôl y cyfnod pleidleisio i aros yn y Siambr i wrando ar ddadl fer fy nghyd-Aelod Paul Davies yn ddiweddarach y prynhawn yma.

Mae adolygiad Taylor 2017 o arferion gwaith modern yn nodi, ac rwy'n dyfynnu yma,

Mae hyblygrwydd yn y farchnad lafur yn bwysig a rhaid ei gadw er mwyn cadw cyfraddau cyfranogiad yn uchel.

Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig ailadrodd yr hyn a ddywedais yn y ddadl yr wythnos diwethaf i sicrhau nad yw'r gwrthwynebiad i gontractau achlysurol gan rai yn y Siambr hon yn arwain yn anfwriadol at gyfyngu ar hyblygrwydd gweithwyr, gan atal cyflogwyr rhag cynnig patrymau gwaith sy'n gweddu i'w hamgylchiadau ac sy'n ateb galw cwsmeriaid ar adegau prysur, ac yn ei dro, yn atal gweithwyr rhag gallu gweithio mewn ffordd sy'n gweddu iddynt hwy.

Dylid cydnabod, wrth gwrs, fod 'Good Work Plan' Llywodraeth y DU yn nodi ymrwymiad i sicrhau y gall pob gweithiwr sicrhau gwaith teg a gweddus. Unwaith eto, hoffwn dynnu sylw at y ffaith ein bod ni ar y meinciau hyn yn cytuno â'r cynnig a gyflwynwyd gan UKIP heddiw, a gobeithiwn fod ein gwelliant wedi ychwanegu at y ddadl hon mewn modd adeiladol.  

17:10

Gall gweithio gartref o dan rai amgylchiadau fod yn werthfawr iawn i'r cyflogwr a'r gweithiwr, ond nid wyf yn gweld y manteision a honnir yn y cynnig hwn. Yn amlwg mae'n rhaid ystyried gweithio gartref yn ofalus ac nid ei orfodi ar gyflogwyr na chyflogeion, boed yn y sector preifat neu'r sector cyhoeddus, ond nid yw gweithio gartref yn ymarferol o gwbl mewn llawer o swyddi, yn enwedig yn y sector cyhoeddus lle mae swyddi'n fwy tebygol o alw am gysylltiad uniongyrchol â'r cyhoedd. Roedd Gareth yn sôn am weithwyr gweinyddol. Nid wyf yn gweld sut y byddai eich clerc gweinyddol arferol yn gallu gweithio gartref yn effeithiol. Mae'r rolau hyn yn tueddu i ddibynnu ar fewnbwn ac allbwn o ryw fath o ddogfennaeth copi caled, felly nid wyf yn gweld sut y byddai'n gweithio i lawer iawn o ddosbarthiadau o staff, hyd yn oed y rhai sydd fel rheol wedi'u lleoli mewn swyddfa. Unwaith eto, gyda'r sector cyhoeddus, mae'r swyddi hynny'n tueddu i ddod i gysylltiad mwy uniongyrchol â'r cyhoedd, felly unwaith eto, nid wyf yn gweld sut y mae'n ymarferol.  

Mae'r cynnig yn amheus ar sawl ystyr yn fy marn i. Rwy'n meddwl i ddechrau ei fod yn cyfuno gweithio gartref gyda gweithio hyblyg. Pan fyddaf yn sôn am weithio gartref, rwy'n golygu gweithio gartref yn ystod eich oriau arferol yn hytrach na gweithio mewn man canolog. Nid yw o reidrwydd yn golygu cwtogi neu ad-drefnu oriau gwaith yn effeithiol er mwyn sicrhau cydbwysedd gwell rhwng bywyd a gwaith. Nid yw gweithio gartref ynddo'i hun o reidrwydd yn cynnig hyblygrwydd ar gyfer cyfrifoldebau teuluol ychwaith, er ei fod yn anochel yn golygu bod y gwaith yn hygyrch i'r teulu yn y cartref, a allai, yn eironig, gynyddu'r straen o weithio gartref, oherwydd eich bod yn gorfod jyglo pethau teuluol a phethau gwaith tra'n ceisio cynnal perthynas gyda'ch tîm.  

Fel y mae gwelliant Darren Millar yn ei ddweud yn glir, mae pryder dilys y gall gweithio gartref ychwanegu at lefelau straen yn hytrach na bod o gymorth, ac rwyf wedi sôn am un rheswm pam y gallai hynny fod. Ond yn y pen draw, mae pobl yn anifeiliaid cymdeithasol ac nid ydynt wedi'u cynllunio ar gyfer byw ar eu pen eu hunain. Mae gan dimau iach ymdeimlad o gyfeillgarwch ac maent yn darparu cymorth pan fydd gweithiwr yn wynebu anhawster gyda'i waith. Ac unwaith eto, mae sicrhau cydbwysedd gwaith iach yn anos mewn gwirionedd i rai sy'n gweithio gartref am nad ydynt yn cael y toriad seicolegol o'r gwaith a ddaw o adael y gweithle ar ddiwedd y dydd, neu hyd yn oed os ydych yn mynd â'ch gwaith adref gyda chi, rydych yn dal i fod ar ryw adeg yn ei roi i gadw a dyna ni—dyna yw eich toriad seicolegol ar gyfer y diwrnod hwnnw. Nid oes gan rai sy'n gweithio gartref y math hwnnw o doriad, oherwydd bod eu gwaith yn eu cartref mewn gwirionedd; mae'n anos iddynt ddianc oddi wrtho.

O ran mynediad cynyddol i bobl anabl, ofnaf y byddai'r cynnig yn galluogi cyflogwyr i osgoi cadw at gyfreithiau cydraddoldeb anabledd. Dylai sefydliadau fod yn gwneud eu gweithleoedd yn hygyrch i bawb eisoes, nid cael cyfle i osgoi gwneud hynny drwy gynnig gweithio gartref fel ffordd o arbed y gost a'r ymdrech. Ac nid yw lleihau llygredd drwy ddefnyddio gweithio gartref mor amlwg ag y gallai ymddangos ar yr olwg gyntaf. Bydd yn rhaid i rai sy'n gweithio gartref wresogi eu cartrefi am amser ychwanegol, bydd yn rhaid iddynt ddefnyddio trydan ychwanegol; daw hynny oddi ar eu biliau cyfleustodau hwy, nid biliau'r cyflogwyr, a'r cyflogwyr fyddai'n talu'r costau hynny fel rheol. Nid wyf yn credu ei bod hi'n iawn trosglwyddo costau a fyddai fel arfer yn cael eu talu gan y cyflogwr i weithwyr. Felly, buaswn yn dadlau bod hynny'n sicr yn rheswm pam na fyddai'n arbennig o boblogaidd gyda gweithwyr.

Felly bydd gweithio gartref, wrth gwrs, yn cael gwared ar y cymudo a'r llygredd sy'n deillio o hynny ar y diwrnodau y mae'r gweithiwr yn gweithio gartref, ond bydd y llygredd sy'n cael ei greu wrth ddyblygu adnoddau a fyddai fel arall yn cael eu rhannu yn y gweithle, megis cyfarpar, gwres, goleuo ac ati yn mwy na gwrthbwyso'r toriad yn y llygredd. Hefyd, byddwch yn cael offer ychwanegol yn y swyddfa, offer ychwanegol yn y cartref. Mae'n llawer mwy cymhleth nag y credaf fod grŵp UKIP yn ei feddwl. Efallai y gallai fod yr un mor hawdd inni leihau tagfeydd oriau brig drwy ddarbwyllo cyflogwyr i drefnu eu horiau gweithredu ar adegau gwahanol, fel nad yw ystadau diwydiannol cyfan yn gollwng pawb ar yr un ffyrdd ar yr un pryd. Ond mae'n rhaid i chi gael cyflogwyr i gydweithredu â hynny.

Ac ar sail cost ac ymarferoldeb, nid wyf yn credu bod unrhyw rinwedd mewn mynnu bod cyrff cyhoeddus yn cynnwys trefniadau gweithio gartref yn y broses o gynllunio swyddi a recriwtio. Am lawer o'r amser, bydd yn ymarfer gwastraffus. Bydd yn mynd ag amser ac arian oddi wrth y sefydliad y gellid eu defnyddio i gyflawni eu swyddogaeth graidd yn well. Ac fel y dywedais, nid yw llawer o swyddi'n addas ar gyfer gweithio gartref. Wrth i unrhyw achos busnes ar gyfer gweithio gartref dyfu, rwy'n siŵr y bydd cyflogwyr—y cyflogwyr rhesymol, hynny yw—yn ystyried ei ddarparu fel rhan o'r pecyn recriwtio heb i Gareth roi'r syniad iddynt. Nid yw'r achos dros weld y Llywodraeth yn datblygu strategaeth benodol ar gyfer gweithio gartref o fewn y prosiect a fydd yn olynu Superfast Cymru wedi'i wneud yn argyhoeddiadol, ac rwy'n meddwl bod gwelliant Rebecca Evans yn gwneud llawer o synnwyr. Fodd bynnag, ni fyddaf yn cefnogi'r cynnig heddiw, wedi'i ddiwygio nac fel arall. Credaf fod perygl y bydd yn gorlwytho cyrff cyhoeddus, heb sicrhau'r manteision y mae'n eu honni, ac nid wyf ychwaith yn credu ei fod yn flaenoriaeth i bobl yng Nghymru. Diolch.

17:15

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Nawr, fel y dywedais yn ystod fy natganiad ar waith teg ddoe, rydym am i Gymru fod yn fan lle gall pawb gael gafael ar waith sy'n weddus ac yn gwella bywyd, yn rhydd o gamfanteisio a thlodi a lle caiff pobl gyfle i ddatblygu eu sgiliau ac i symud ymlaen. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau twf economaidd cynhwysol yng Nghymru. Rydym am gael busnesau llewyrchus, gyda gweithwyr yn elwa drwy gyflogaeth deg a sicr ar gyflog da.

Mae partneriaeth gymdeithasol yn darparu mecanwaith i helpu i gyflawni'r amcan hwn. Drwy gynnwys y Llywodraeth, undebau a busnesau mewn penderfyniadau sy'n helpu i lunio'r amgylchedd gwaith ar lefel leol a chenedlaethol, gallwn weithio gyda'n gilydd i sicrhau economi decach. Mae Llywodraeth Cymru yn gwbl ymrwymedig i amcanion partneriaeth gymdeithasol. Gan weithio law yn llaw â'r undebau llafur, rydym wedi arwain yn y DU, gan hyrwyddo pwysigrwydd sicrwydd swydd, cyflog ac amodau gwaith gweddus. Mae'r heriau a wynebwn yn golygu bod yn rhaid i ni gryfhau ein model partneriaeth gymdeithasol ymhellach, gan roi lle canolog i gydraddoldeb. Rydym wedi ymrwymo i ddeddfu, felly, i roi partneriaeth gymdeithasol ar y sail statudol honno a drafodwyd gennym ddoe ddiwethaf yn ystod fy natganiad.

Ar y cyd â'r gwaith hwn, mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo gweithio hyblyg ac arferion cyflogaeth deg eraill, gan wneud hyn drwy ein contract economaidd, y cynllun cyflogadwyedd a'r cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi er enghraifft. Mae gwefan Busnes Cymru yn rhoi gwybodaeth i gyflogwyr ar sut i wella cynhyrchiant drwy drefniadau gweithio hyblyg, a sefydlwyd y Comisiwn Gwaith Teg i'n cynghori ar beth arall y gallwn ei wneud. Mae wedi cwblhau ei waith ac fel y dywedais ddoe yn ystod fy natganiad, mae'r adroddiad wedi'i gyhoeddi a byddwn yn ymateb cyn bo hir.

Roedd galwad y Comisiwn Gwaith Teg am dystiolaeth yn rhoi cyfle gwych i'r sector cyhoeddus yng Nghymru, y sector preifat ac unigolion ledled Cymru hyrwyddo a darparu safbwyntiau ar waith teg, gan gynnwys arferion gwaith hyblyg, ac fel y nododd Russell George, mae'n bwysig iawn cydbwyso'r hyn sy'n iawn i unigolion yn ogystal â chyflogwyr a busnesau. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi fod lles gweithwyr yn hollbwysig, ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau arferion gweithio teg a moesegol, tra'n amddiffyn hawliau a chyfrifoldebau unigolion a gyflogir hefyd. Mae ein contract economaidd, sydd wedi'i nodi yn ein cynllun gweithredu economaidd, yn cyflwyno ein cyfle i gynnal deialog gyda chyflogwyr ar faterion sydd â'r potensial i gefnogi unigolion yn ogystal â'u busnesau. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i fusnesau sy'n ceisio cymorth ariannol uniongyrchol ymrwymo i ystod o feini prawf, gan gynnwys gwaith teg a hybu iechyd, uwchsgilio a dysgu yn y gweithle, ac mae hynny'n cynnwys hyrwyddo arferion gweithio hyblyg—neu fodern, fel y'u gelwir mewn gwirionedd. Bydd angen i bob cwmni sy'n gwneud cais am gymorth grant busnes uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru ddangos ei fod wedi ymrwymo i waith teg ac i hybu iechyd yn y gweithle—ac wrth ddweud gweithle, wrth gwrs, rwyf hefyd yn golygu cartrefi pobl, os mai dyna, yn rhannol, yw eu gweithle.

Rydym hefyd yn cydnabod nad oes digon o bobl anabl mewn gwaith. Nod yr ymrwymiadau yn ein cynllun cyflogadwyedd yw mynd i'r afael â hyn. Byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid i fynd i'r afael â'r materion sy'n sail i hyn, gan gynnwys agweddau cyflogwyr, cynllun swyddi ac arferion gweithio. Rydym yn ailddatgan ein hymrwymiad i'r model cymdeithasol o anabledd a goresgyn y rhwystrau niferus ac amrywiol y gall cymdeithas eu rhoi yn ffordd pobl anabl er mwyn iddynt allu dilyn eu dyheadau gyrfaol. Gwyddom nad oes ateb cyflym ac mae angen gweithredu i oresgyn rhwystrau fel trafnidiaeth, agweddau cyflogwyr ac mewn rhai achosion, arferion cyflogaeth, a all wahaniaethu'n uniongyrchol neu'n anfwriadol yn erbyn pobl ag anableddau. Gwyddom hefyd, fodd bynnag, fod llawer o gyflogwyr yn gosod esiampl a gall eraill ddysgu llawer am eu harferion da.

O fewn Llywodraeth Cymru, mae swyddogion wedi sefydlu gweithgor cydraddoldeb ar gyfer ein cynllun cyflogadwyedd. Blaenoriaeth gyntaf y grŵp yw edrych ar anabledd a chyflogaeth a goruchwylio gweithgareddau sy'n cefnogi ein hymrwymiadau i leihau'r bwlch cyflogaeth i bobl anabl. Rydym yn cydnabod y bydd strwythurau a diwylliant ehangach gweithleoedd yn effeithio'n uniongyrchol ar gyflogadwyedd pobl anabl, ac yn y cynllun cyflogadwyedd rydym yn ymrwymo i gynyddu nifer y cyflogwyr sy'n rhoi pwyslais ar greu gweithleoedd sy'n amgylcheddau cynhwysol a chefnogol, neu'n 'hyderus o ran anabledd', fel rydym yn hoff o'u galw.

Rydym yn herio cyflogwyr i feddwl yn greadigol am y modd y maent yn cynllunio swyddi ac yn recriwtio'r bobl i'w llenwi, ac os caf ddweud hefyd, mae hynny'n cynnwys llawer o'r safbwyntiau a glywsom yma heddiw mewn gwirionedd. Yr hyn yr ydym am ei weld yw cyflogwyr sydd wedi'u grymuso i edrych ar allbwn eu gweithwyr ac nid lle maent yn gweithio na'r oriau y maent yn eu gweithio. Felly, gall gweithiwr sy'n gallu cynhyrchu'r allbynnau angenrheidiol, wneud y gwaith yn dda, ac os byddant yn gwneud y gwaith hwnnw o'r cartref neu yn y gwaith neu gyfuniad o'r ddau, ni ddylai hynny wneud unrhyw wahaniaeth o gwbl.  

Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU drwy ei huned gwaith ac iechyd a'r Adran Gwaith a Phensiynau i gysylltu â'r gwaith o gyflawni eu targed ar draws y DU i gael mwy nag 1 filiwn yn rhagor o bobl anabl i mewn i waith erbyn 2027. Rydym yn bendant am weld mwy o ganlyniadau cadarnhaol yn cael eu cyflwyno i fwy o bobl anabl ac i'r rheini sydd â chyflyrau iechyd cyfyngus ledled Cymru. I'r perwyl hwnnw, mae Llywodraeth Cymru yn ymchwilio i'r posibilrwydd o gael rhwydwaith hyrwyddwyr cyflogaeth i bobl anabl. Y rôl fydd gweithio gyda chyflogwyr ledled Cymru i helpu i gydnabod talentau pobl anabl ac annog arferion recriwtio cynhwysol. Wrth wneud hynny, byddwn yn gweithio gyda'r sector anabledd, cyflogwyr a rhanddeiliaid i sicrhau ein bod yn sefydlu ymagwedd gynhwysol yn y broses recriwtio a chyflogi. Ond dylem gofio hefyd, fel y mae amryw o bobl wedi ei nodi, nad yw pawb am weithio gartref ac mae angen datblygu gweithleoedd cwbl gynhwysol i'r rheini sy'n dymuno gweithio mewn gweithle.

Gan droi at brosiect olynol Superfast Cymru a band eang, rwy'n cytuno'n llwyr, lle bo hynny'n bosibl ac yn ddymunol, y dylem sicrhau bod y dechnoleg yn ei lle i alluogi hyn. Mae Superfast Cymru—hoffwn atgoffa pawb—wedi newid tirwedd band eang Cymru yn sylfaenol, gan ddod â band eang cyflym iawn i ardaloedd o Gymru na fyddent byth wedi cael eu cysylltu heb y prosiect. Mae angen inni gydnabod cyflawniad sylweddol y prosiect peirianneg mawr hwn, ac o ganlyniad iddo, mae cartrefi a busnesau ar hyd a lled Cymru'n mwynhau manteision y buddsoddiad a'r mynediad at wasanaethau digidol. Gall y mwyafrif helaeth o safleoedd yng Nghymru ddefnyddio'r gwasanaeth band eang cyflym iawn o'i gymharu â phrin hanner bum mlynedd yn ôl. Yn yr ardaloedd hynny, mae busnesau ac unigolion yn mwynhau'r manteision a ddaw yn sgil band eang cyflym erbyn hyn, gan gynnwys y gallu i weithio gartref neu'n fwy hyblyg neu ar sail allbwn. Fodd bynnag, bydd yr Aelodau hefyd yn ymwybodol fod mwy i'w wneud i gyrraedd gweddill y safleoedd nad ydynt eto'n gallu manteisio ar fand eang cyflym. O ystyried maint y dasg o ddarparu band eang cyflym, dibynadwy i'r safleoedd na allant gael mynediad iddo ar hyn o bryd, bydd angen amrywiaeth o ymyriadau arnom yn y dyfodol, a dyna pam y mae ein gwelliant yn dileu un linell yn benodol, a hynny ddim ond am ein bod am gael ystod o ymyriadau, nid y rhaglen olynol yn unig. Gan nad oes un ateb sy'n addas i bawb, mae angen i ni sicrhau bod yr ymyriadau hyn yn ategu ei gilydd, yn ymdrin â'r angen sy'n weddill am fand eang cyflym, ac yn adlewyrchu'r galw lleol am wasanaethau. Mae tair elfen i'n dull o weithredu: cymorth unigol drwy ein cynlluniau talebau, cymorth i gymunedau drwy ein cynlluniau talebau ac ymyriadau a arweinir gan y gymuned, a rhaglenni cyflwyno wedi'u hariannu'n gyhoeddus drwy'r prosiect sy'n olynu Superfast Cymru. Felly, mae'r prosiect olynol yn llenwi un rhan o'r gyfres honno o ymyriadau, fel y dywedais.

Bydd 26,000 safle cychwynnol yn cael eu darparu drwy fynediad at fand eang cyflym, dibynadwy erbyn Mawrth 2021, ar gost o bron i £22.5 miliwn i'r pwrs cyhoeddus, ond rydym hefyd yn ymchwilio gyda BT a ellir ychwanegu safleoedd at y prosiect hwnnw yn y dyfodol. Rydym hefyd yn ymrwymedig i ddarparu cymorth unigol i'r safleoedd nad ydynt yn gallu cael mynediad at fand eang cyflym drwy barhau â'r cynllun Allwedd Band Eang Cymru. Fe wnaethom gyhoeddi yn gynharach eleni hefyd ein bod wedi dod i gytundeb gyda Llywodraeth y DU i ddarparu arian ychwanegol ar gyfer safleoedd yng Nghymru drwy gynllun talebau band eang gigabit Llywodraeth y DU, ac ar gyfer prosiectau grŵp, y bydd Llywodraeth Cymru yn talu hyd at £3,000 ychwanegol i bob busnes bach a chanolig a £300 ychwanegol fesul eiddo preswyl. Golyga hyn fod hyd at £5,500 ar gael i bob busnes ar gyfer prosiectau grŵp yng Nghymru, a bod hyd at £800 ar gael ar gyfer pob eiddo preswyl.

Yn ogystal â'n hymyriadau, mae Llywodraeth y DU hefyd yn dyfeisio rhaglen newydd i fynd i'r afael â safleoedd gwledig a gwledig iawn. Ac o gofio'r heriau sylweddol sy'n codi yn sgil daearyddiaeth Cymru, mae'n hanfodol fod Cymru'n elwa o'r cyfleoedd newydd hynny.

Felly, Ddirprwy Lywydd, rydym wedi ymrwymo i greu dyfodol gwell i bawb sy'n gweithio yng Nghymru. Rydym yn cytuno â'r cynnig at ei gilydd, ond ceir mân welliant am reswm technegol, ond heblaw am hynny, rwy'n falch o ddweud ei bod yn ymddangos bod yna gonsensws fod pawb yma wedi ymrwymo i greu dyfodol gwell i bawb sy'n gweithio yng Nghymru. Diolch.

17:25

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i'r rhai a gymerodd ran yn yr hyn a fu'n ddadl ddiddorol. Diolch i Russell George, a ddywedodd fod y grŵp Ceidwadol at ei gilydd yn cefnogi amcanion y cynnig heddiw. Ac fel y dywedais yn fy sylwadau agoriadol, roeddwn yn deall rhesymeg eu gwelliannau ac roeddem yn cefnogi eu gwelliannau. Nawr, fe wnaeth Russell godi rhai o'r anawsterau posibl o weithio gartref y dylem fod yn ymwybodol ohonynt. Roeddent yn bwyntiau a godwyd hefyd gan Michelle, ac yn fwy gwenieithus yn achos Michelle, buaswn yn ei ddweud; yn sicr, nid oedd hi mor frwdfrydig.

Nawr, rhaid inni sylweddoli bod yna anfanteision posibl, wrth gwrs. Mae'r problemau a grybwyllwyd, hyd yn oed gan y rhai a oedd yn cefnogi mwy o weithio gartref, wedi cynnwys arwahanrwydd cymdeithasol posibl a diffyg cyfeillgarwch gweithwyr a theimlo allan ohoni. Roedd gwrthdaro â gweithwyr eraill yn bwynt a gododd Russell yn benodol, a Michelle hefyd—wel, fe soniodd hi am nifer o bethau. Nawr, mae'r rhain i gyd yn faterion dilys iawn, ac mae'n rhaid inni eu hystyried, ond pwynt y cynnig heddiw oedd y dylid galluogi pobl i weithio gartref os ydynt yn dymuno gwneud hynny. Nid oedd yn golygu bod pobl yn cael eu gorfodi i weithio gartref. Ac fe wneuthum hynny'n glir yn y sylwadau agoriadol a hoffwn ailbwysleisio'r pwyntiau hynny.

Nawr, ymateb y Llywodraeth—diolch i chi am eich cefnogaeth gyffredinol, ac rwy'n derbyn eich bod yn teimlo'r angen i'w newid am y rhesymau a roddodd y Gweinidog. Nawr, rydym yn derbyn bod Superfast Cymru wedi bod yn rhaglen dda. Ceir anawsterau sylweddol gyda daearyddiaeth ffisegol Cymru, ac mae'n debyg mai darparu cyflymder band eang da iawn a chyflymder band eang dibynadwy, wrth gwrs, yw'r mater pwysicaf a fydd yn ein galluogi i symud ymlaen gyda mwy o weithio gartref. Llawer o bethau cyffredinol gan y Llywodraeth yn ymwneud â chydraddoldeb ac arferion gwaith teg sydd, wrth gwrs, yn amcanion da, ond hoffem fwy o ymrwymiad, os oes modd, i union fanylion gweithio gartref yn y dyfodol. Felly, gobeithio y cawn hynny ac y gallwn fwrw ymlaen â hyn a datblygu mesurau penodol i wella gweithio gartref, ond diolch yn fawr iawn am gymryd rhan.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch. Felly, gohiriwn y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Rwy'n bwriadu symud ymlaen yn awr i'r cyfnod pleidleisio, oni bai fod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu. Na. Iawn.

9. Cyfnod Pleidleisio

Trown at y cyfnod pleidleisio, felly, ac mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar e-chwaraeon. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 24, neb yn ymatal, a 30 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.

17:30

NDM7044 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 24, Yn erbyn: 30, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Symudwn ymlaen yn awr i bleidleisio ar y gwelliannau, a galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 30, neb yn ymatal, 24 yn erbyn, felly derbyniwyd gwelliant 1.

NDM7044 - Gwelliant 1: O blaid: 30, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM7044 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod yr effaith gynyddol y mae'r diwydiant e-chwaraeon yn ei chael ar economïau lleol ledled y byd, megis twrnameintiau 2017 yn Valencia a Cologne a ddenodd rhwng 15,000 a 40,000 o gefnogwyr.

2. Yn nodi bod Adran Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU yn cynnal ymchwiliad i archwilio'r potensial ar gyfer e-chwaraeon yn y DU, ymhlith tueddiadau eraill o ran technoleg.

3. Yn croesawu argymhellion adolygiad Bazalgette o'r diwydiannau creadigol, a gomisiynwyd gan Lywodraeth y DU, sy'n amlinellu argymhellion ar gyfer sut y gall y sector e-chwaraeon fod yn sail i dwf economaidd y DU yn y dyfodol, drwy:

a) godi statws e-chwaraeon gyda chystadlaethau a noddir gan y Llywodraeth, timau cenedlaethol, a sylw yn y cyfryngau; a

b) cynyddu buddsoddiad Llywodraeth y DU o £23.7 miliwn yn ychwanegol dros bum mlynedd i ymestyn rhaglenni datblygu lwyddiannus ac arloesol cronfa gemau'r DU a'r 'Transfuzer'.

4. Yn nodi’r buddsoddiadau sylweddol a wnaed gan Lywodraeth Cymru a’i phartneriaid dros y blynyddoedd diwethaf sydd wedi helpu i greu sector Diwydiannau Creadigol ffyniannus yng Nghymru.

5. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i fabwysiadu dull trawslywodraethol o ehangu’r diwydiant e-chwaraeon yng Nghymru, gan gydnabod y ffaith y bydd y Sector Diwydiannau Creadigol yn cyfrannu’n sylweddol at ei lwyddiant.

6. Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod Cymru a’r gweinyddiaethau datganoledig eraill yn derbyn cyllid ychwanegol ar gyfer y diwydiannau creadigol fel bod modd iddynt fanteisio ar gyfleoedd newydd o fewn yr economi greadigol.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig fel y'i diwygiwyd 52, un yn ymatal, un yn erbyn, felly derbyniwyd y cynnig.

NDM7044 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 52, Yn erbyn: 1, Ymatal: 1

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Symudwn ymlaen yn awr i bleidleisio ar ddadl Plaid Cymru ar fyrddau iechyd. Ac unwaith eto, galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 23, neb yn ymatal, 31 yn erbyn, felly gwrthodwyd y cynnig.

NDM7046 - Dadl Plaid Cymru - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 23, Yn erbyn: 31, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Symudwn ymlaen i bleidleisio ar y gwelliannau a galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 30, neb yn ymatal, 24 yn erbyn, felly derbyniwyd gwelliant 1.

NDM7046 - Gwelliant 1: O blaid: 30, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM7046 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cyhoeddi'r adroddiad Adolygiad o Wasanaethau Mamolaeth Bwrdd Iechyd Cwm Taf ar 30 Ebrill 2019.

2. Yn derbyn argymhellion yr adroddiad ac yn cydnabod y trallod a'r trawma a achoswyd i deuluoedd;

3. Yn nodi’r camau sy’n cael eu cymryd i sicrhau gwelliannau ar unwaith ac yn barhaus i wasanaethau mamolaeth cyn Fwrdd Iechyd Cwm Taf; a

4. Yn nodi’r camau sy’n cael eu cymryd i ganfod a mynd i’r afael ag unrhyw faterion llywodraethiant ehangach o fewn Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg ac ar draws GIG Cymru.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig wedi'i ddiwygio 41, un yn ymatal, 12 yn erbyn, felly derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd.

NDM7046 - Dadl Plaid Cymru - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 41, Yn erbyn: 12, Ymatal: 1

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Symudwn ymlaen yn awr i bleidleisio ar ddadl UKIP ar weithio gartref, ac unwaith eto galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Gareth Bennett. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliant a gyflwynwyd i'r cynnig. Felly, galwaf am bleidlais ar y cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig pedwar, neb yn ymatal, 50 yn erbyn, felly gwrthodwyd y cynnig.

NDM7045 - Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 4, Yn erbyn: 50, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 30, wyth yn ymatal, 15 yn erbyn, felly derbyniwyd gwelliant 1.

NDM7045 - Gwelliant 1: O blaid: 30, Yn erbyn: 15, Ymatal: 8

Derbyniwyd y gwelliant

Galwaf yn awr am bleidlais ar welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 45, un yn ymatal, wyth yn erbyn, felly derbyniwyd gwelliant 2.

NDM7045 - Gwelliant 2: O blaid: 45, Yn erbyn: 8, Ymatal: 1

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM7045 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi y cynhelir Wythnos Genedlaethol Gwaith Doeth rhwng dydd Sul 12 Mai a dydd Sadwrn 18 Mai 2019.

2. Yn credu bod gweithio gartref yn rhoi mwy o hyblygrwydd ar gyfer cyfrifoldebau teuluol, a bod iddo fanteision ehangach hefyd, megis llai o draffig a llygredd, gwaith mwy hygyrch i bobl anabl, a chadw costau adeiladau yn isel i fusnesau.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gan bob corff cyhoeddus yng Nghymru ddyletswydd i gynnwys gweithio gartref yn y broses o gynllunio swyddi a recriwtio.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau nad yw pobl sy'n dymuno gweithio gartref yn cael eu rhwystro gan ddiffyg mynediad at fand eang.

5. Yn nodi bod yr Athro Sharon Clarke a Dr Lyn Holdsworth o Ysgol Fusnes Manceinion wedi datgan bod gweithwyr hyblyg, yn enwedig gweithwyr cartref, yn wynebu'r posibilrwydd o gynnydd mewn straen galwedigaethol o ganlyniad i ddwysáu gwaith, gwrthdaro â chyd-weithwyr, ac amharu ar lif gwybodaeth ac mae'n cydnabod yr angen i'r materion hyn gael eu hystyried wrth lunio polisïau yn y dyfodol.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig fel y'i diwygiwyd 43, roedd 10 yn ymatal, un yn erbyn, felly derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd.

NDM7045 - Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig - Cynnig wedi'i ddiwygio : O blaid: 43, Yn erbyn: 1, Ymatal: 10

Derbyniwyd y cynnig

10. Dadl Fer: Y frwydr am fand eang gwell

Symudwn ymlaen yn awr at y ddadl fer, felly os nad yw'r Aelodau'n aros ar gyfer y ddadl fer, a allwch adael yn gyflym ac yn dawel os gwelwch yn dda? Os nad yw'r Aelodau'n aros ar gyfer y ddadl, a allant adael yn gyflym ac yn dawel? Symudwn yn awr at y ddadl fer a galwaf ar Paul Davies i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddo—Paul Davies.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gael cyfle unwaith eto i godi mater cysylltedd band eang yn y Siambr hon, ac rwy'n hapus i roi munud o fy amser i Russell George.

Ar wahân i fater diogelu gwasanaethau yn Ysbyty Llwynhelyg, cysylltedd band eang, heb os nac oni bai, yw'r mater sy'n cael ei grybwyll amlaf ymysg fy etholwyr, ac mae hynny wedi digwydd ers imi gael fy ethol i'r lle hwn yn ôl yn 2007. Er fy mod yn derbyn bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyllid i ehangu gwasanaethau band eang drwy Gymru gyfan, mae'n hanfodol y bydd anghenion y rheini sydd â band eang cyfyngedig neu ddim band eang o gwbl yn cael eu diwallu ac na chânt eu hesgeuluso ar draul darparu band eang cyflym iawn mewn ardaloedd eraill. Mae pobl yn ardaloedd gwledig Cymru, ac yn arbennig pobl sy'n byw yn sir Benfro, yn parhau i frwydro i sicrhau darpariaeth band eang sylfaenol, tra mae pobl sy'n byw mewn ardaloedd eraill yn symud ymlaen yn awr ac yn mwynhau gwasanaethau band eang cyflym iawn.

Mae signal band eang cyflym iawn yng Nghymru wedi cynyddu i 93 y cant o gartrefi a busnesau o 89 y cant y llynedd, yn ôl adroddiad 'Cysylltu'r Gwledydd 2018' Ofcom, ac felly, er fy mod yn derbyn bod rhywfaint o gynnydd yn cael ei wneud, mae angen gwneud llawer mwy i fynd i'r afael â'r ardaloedd a adawyd â darpariaeth band eang is na'r safon. Rwy'n siŵr y bydd y Dirprwy Weinidog yn cytuno ei bod yn gwbl hanfodol fod ardaloedd fel sir Benfro yn cael eu cysylltu er mwyn galluogi cymunedau lleol i chwarae eu rhan yn gyfartal â gweddill Cymru, a gweddill y Deyrnas Unedig yn wir.

Yn ôl ffigurau Llywodraeth Cymru ei hun, mae £85 miliwn wedi'i ddyrannu ar gyfer ail gam ymdrechion Openreach i gyflwyno gwasanaeth band eang digonol ledled Cymru. Nawr, gwyddom fod disgwyl i gam 2 y prosiect gostio £22 miliwn, a fyddai'n gadael dros £60 miliwn yn weddill ym mhoced Openreach. Rwy'n deall, wrth ymateb i gwestiynau diweddar ar y mater penodol hwn gan fy nghyd-aelod Russell George, fod y Dirprwy Weinidog wedi cadarnhau nad oedd yn gwybod sut y caiff yr arian dros ben ei ddefnyddio, gan fod y Llywodraeth yn dal i ystyried goblygiadau sut yn union y dylai wneud hynny. Felly, wrth ymateb i'r ddadl heddiw, efallai y bydd y Dirprwy Weinidog o leiaf yn ymrwymo'n awr i ddarparu dadansoddiad o faint yn union o arian a gaiff ei wario ym mhob ardal awdurdod lleol fel y gall pobl Cymru, er budd tryloywder, weld lle bydd yr arian yn cael ei dargedu a sut y bydd eu cymunedau'n cael eu blaenoriaethu pan fydd Llywodraeth Cymru yn penderfynu sut i symud ymlaen.

Nawr, bydd yr Aelodau'n cofio adroddiad y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig yn 2012 ar y band eang yng Nghymru, a ganfu fod

mynediad dibynadwy i'r rhyngrwyd yn cael ei ystyried yn gynyddol yn sbardun i berfformiad economaidd ac yn hanfodol i fusnes, addysg a phobl sy'n byw ar eu pen eu hunain neu mewn ardaloedd anghysbell.

Mae hynny'n sicr yn wir yn fy etholaeth i, lle mae busnesau bach a ffermwyr wedi bod o dan anfantais oherwydd y ddarpariaeth band eang gyfyngedig. Tynnodd yr adroddiad hwnnw gan y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig sylw at dystiolaeth gan Gymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad, a ddadleuai, ac rwy'n dyfynnu:

Heb fand eang, bydd ardaloedd gwledig yn parhau i frwydro, a gwaethygir hyn gan ymdrechion y Llywodraeth i ddigideiddio'r rhan fwyaf o ffurfiau ar weinyddiaeth, megis y taliad sengl a'r dull fferm gyfan.   

Cau'r dyfyniad. Yn wir, dangosodd arolwg blynyddol Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr o'r ddarpariaeth fand eang a symudol fod 45 y cant yn credu nad yw eu cyflymder presennol yn ddigon cyflym ar gyfer eu hanghenion busnes. Yn y fan hon, mae'n werth atgoffa'r Aelodau fod ffermwyr yng Nghymru yn gorfod bod yn gynyddol ddibynnol ar wasanaethau a chymwysiadau ar-lein, ac felly mae'n hanfodol fod ganddynt fynediad digonol. Mewn ardaloedd fel sir Benfro, mae ffermio'n ddiwydiant hynod bwysig i'r ardal leol, ac felly mae'n hanfodol fod y ffermwyr hynny'n cael pob arf posibl i helpu eu busnesau i barhau i ffynnu. Felly, rhaid i Lywodraeth Cymru gryfhau ei hymdrechion i ddarparu band eang digonol mewn ardaloedd gwledig fel y gall y ffermwyr hyn barhau i fod yn gystadleuol yn y dyfodol.

Fodd bynnag, nid ffermwyr yn sir Benfro yn unig sy'n ei chael hi'n anodd, ond busnesau bach, teuluoedd, ac ysgol hyd yn oed. Fel y bydd yr Aelodau'n gwybod, mae gan sir Benfro ddiwydiant twristiaeth iach, sy'n cynnwys darparwyr llety a busnesau bwyd a diod llai o faint yn bennaf. Afraid dweud bod angen dirfawr i'r busnesau hynny farchnata eu hunain ar-lein er mwyn denu a chreu busnes a denu ymwelwyr o rannau eraill o'r DU, ac yn wir, o bob rhan o'r byd.

Meddai Dennis O'Connor, rheolwr cyswllt twristiaeth ar gyfer Twristiaeth Sir Benfro yn ddiweddar, ac rwy'n dyfynnu, 'Mae twristiaeth yn werth tua £585 miliwn y flwyddyn i economi sir Benfro, ond er mwyn sicrhau twf yn y dyfodol, mae angen i ddarparwyr twristiaeth gael cysylltedd da i allu cynnal neu gynyddu'r gyfran o'r farchnad. Ni allant bellach ddibynnu ar yr awdurdod lleol i farchnata cyrchfannau, oherwydd cyllidebau sy'n crebachu, sy'n golygu bod mwy o bwyslais ar fusnes i gario'r baich.' Cau'r dyfyniad.

Mae'n wir o hyd fod gweithredwyr twristiaeth sir Benfro o dan anfantais o gymharu â rhannau eraill o Gymru, a gweddill y DU yn sicr.

Nawr, mae map allgáu digidol 2017 gan Go ON UK wedi nodi bod sir Benfro yn un o siroedd Cymru lle ceir llawer o allgáu digidol. Dengys nad yw 3,747 o gartrefi yn sir Benfro yn derbyn band eang ar gyflymder o 10 Mbps neu fwy, gydag ychydig dros 13 y cant o'r oedolion yn y sir heb fod ar-lein yn y tri mis diwethaf.

Unwaith eto, adroddiad arall sy'n ddeunydd darllen annymunol os ydych yn byw yn sir Benfro, ac mae'n ein hatgoffa eto fod sir Benfro'n dal i lusgo y tu ôl i ardaloedd eraill. Ac ni ellir gorbwysleisio difrifoldeb yr allgáu digidol hwn. Yn anffodus, gwelir un o'r enghreifftiau mwyaf difrifol a dybryd o ran y ddarpariaeth band eang yn sir Benfro yn Ysgol Llanychllwydog yng ngogledd sir Benfro, sy'n dal i fod yr unig ysgol yn y wlad gyfan heb fand eang. Yn gynharach eleni, dywedodd pennaeth yr ysgol, Mrs Lawrence, ac rwy'n dyfynnu:

Mae'n bwysig i mi fod gan blentyn yr un hawliau a mynediad at addysg lle bynnag y bo.

Cau'r dyfyniad. Ac mae hi'n llygad ei lle. Er fy mod yn derbyn bod lleoliad yr ysgol yn creu her arbennig, does bosibl na ddylai'r ffaith mai hon yw'r unig ysgol yng Nghymru heb fand eang fod yn ysgytwad. Mae'n gwbl annerbyniol fod dysgwyr o dan anfantais yn 2019 yn syml oherwydd nad oes gan yr ysgol y maent yn ei mynychu ddarpariaeth band eang digonol. Fodd bynnag, rwy'n deall bod rhywfaint o gynnydd yn cael ei drafod ar hyn o bryd, ac efallai, wrth ymateb i'r ddadl y prynhawn yma, y gallai'r Dirprwy Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd ar unwaith i sicrhau bod y problemau yn Ysgol Llanychllwydog yn cael sylw cyn gynted ag y bo modd. Os na chymerir camau brys i fynd i'r afael â'r problemau hyn, bydd dysgwyr sy'n byw mewn ardaloedd gwledig fel sir Benfro yn parhau i lusgo ar ei hôl hi, a bydd hyn yn effeithio ar addysg plant.

Nawr, fel y dywedais yn gynharach, rwy'n derbyn bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddatrys problemau cysylltedd digidol Cymru a bod arian ychwanegol wedi'i ddyrannu i fynd i'r afael â'r cymunedau hynny nad ydynt yn gallu cael mynediad at fand eang cyflym iawn. Fodd bynnag, mae hefyd yn bwysig fod pob cymuned ledled Cymru yn teimlo eu bod yn rhan o'r broses a bod rhyngweithio iachach gyda darparwyr gwasanaethau, ac felly rwy'n gobeithio y bydd y Dirprwy Weinidog yn gwneud popeth yn ei allu i hwyluso hyn.

Nawr, fel y gŵyr y Dirprwy Weinidog, rwyf wedi clywed pryderon gan bobl yn sir Benfro sy'n credu o ddifrif nad yw darparwyr gwasanaethau'n gwneud digon i helpu cymunedau i gael gwell gwasanaethau band eang, ac mae hynny'n destun pryder mawr. Yn ddiweddar, anfonodd un o fy etholwyr y neges hon ataf, ac rwy'n dyfynnu: 'Mae pawb ohonom yn dioddef o hyd gyda chyflymderau lawrlwytho rhwng 1 Mbps a 1.5 Mbps. Yn achlysurol iawn gall gyrraedd yn agos at 2 Mbps o gyflymder lawrlwytho. Rydym i gyd yn teimlo ein bod wedi cael ein hanghofio'n llwyr. Mae banciau lleol yn cau, mae siopau'n cau. Mae ein cyflymder rhyngrwyd mor wael fel ei bod weithiau'n anodd, os nad yn amhosibl, defnyddio'r rhyngrwyd i fancio ar-lein. Rhaid inni yrru ymhellach ac ymhellach i ddefnyddio banciau, siopau a gwasanaethau eraill sydd ar gael ar-lein. Roeddem i fod i gael mesurydd clyfar wedi'i osod, a gyrrodd technegydd o Lanelli draw i osod un. Nid oedd digon o signal symudol na chysylltedd rhyngrwyd i wneud i hyn weithio. Nid yw ein ffonau symudol yn gweithio yma oni bai eu bod wedi eu gosod i dderbyn galwadau rhyngrwyd Wi-Fi.' Cau'r dyfyniad.  

Credaf ei bod yn deg dweud bod ymgysylltiad a chymorth gwell i gymunedau gwledig yn hanfodol bellach er mwyn symud Cymru yn ei blaen, ac mae gan ddarparwyr gwasanaethau swyddogaeth i gryfhau eu perthynas â chymunedau lleol. Felly, estynnaf wahoddiad i'r Dirprwy Weinidog ddod i sir Benfro, i gyfarfod â phobl yr effeithir yn uniongyrchol arnynt gan wasanaethau band eang is na'r safon, fel y gall ddweud wrthynt yn uniongyrchol beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â'u pryderon penodol.

Yn ôl yr hyn a ddeallaf, dim ond 375 eiddo yn sir Benfro fydd yn rhan o'r prosiect Superfast 2 ar hyn o bryd. Daw'r cyhoeddiad siomedig yn erbyn cefndir y ffaith mai sir Benfro yw'r ddeunawfed sir allan o 22 o siroedd Cymru sydd â mynediad at fand eang cyflym iawn. Credaf ei bod yn deg dweud bod sir Benfro, unwaith eto, yn dal i fod yn un o'r ardaloedd etholaethol isaf ar gyfer y cyfnod cyflwyno nesaf, ac mae hynny'n peri i rywun ofyn pam. Does bosibl nad yw'n bryd i Lywodraeth Cymru gryfhau ei hymdrechion a sicrhau bod yr ardaloedd nas gwasanaethwyd o'r blaen gan gamau cyflwyno blaenorol yn cael eu blaenoriaethu yn awr.  

I lawer o gymunedau yn sir Benfro, gofyn yn syml am gael yr un fath â rhannau eraill o Gymru y mae pobl. Tan hynny, bydd Aelodau'r Cynulliad fel fi a gwleidyddion eraill yn parhau i gael gohebiaeth yn dweud wrthym fod diffyg band eang yn eu hardal leol wedi gadael pobl yn ynysig a busnesau'n llai cystadleuol yn fasnachol.  

Gadewch imi hefyd atgoffa'r Dirprwy Weinidog fod ardaloedd fel sir Benfro hefyd yn gweld nifer arbennig o uchel o fanciau'n cau. Gwyddom y bydd Barclays yn cau ei gangen yn Aberdaugleddau ym mis Gorffennaf, ac mae hynny'n dilyn yr achosion blaenorol o gau banciau yn y blynyddoedd diwethaf gan NatWest, HSBC a Lloyds. Yn wir, mae tref Abergwaun bellach yn dref heb unrhyw fanc, sy'n gwbl syfrdanol o ystyried pwysigrwydd strategol y dref i'r economi ranbarthol a chenedlaethol. Felly, heb fynediad at wasanaeth band eang o safon, mae llawer o bobl sy'n byw yn y cymunedau hyn yn teimlo na allant wneud y trafodion bancio symlaf heb orfod teithio ymhellach. Ddirprwy Lywydd, nid dyma sut y dylai pethau fod yng Nghymru'r unfed ganrif ar hugain.

Felly, wrth gloi, mae angen i rywbeth ddigwydd ar frys. Rwy'n siŵr y byddai pawb ohonom yn cytuno bod economi lwyddiannus yn y byd modern yn dibynnu ar wasanaeth band eang cyflym ac effeithlon. Fodd bynnag, ni ddylai ardaloedd gwledig fel sir Benfro gael eu gadael ar ôl. Yn anffodus, er bod rhai rhannau o Gymru'n cymryd camau i'r cyfeiriad iawn, mae band eang cyfyngedig yn fy etholaeth yn rhoi ffermwyr, busnesau a chymunedau lleol o dan anfantais. Felly, mae'n hanfodol fod pob ymdrech yn cael ei gwneud er mwyn sicrhau bod cymunedau yn sir Benfro yn gallu cael gwasanaeth band eang teilwng. Felly, rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod ei pholisïau digidol yn rhoi ystyriaeth lawn i anghenion cymunedau ledled Cymru. Pan fydd symiau sylweddol o arian yn cael eu dyrannu, rhaid darparu strategaeth fanwl, gan ddarparu gwasanaethau band eang mawr eu hangen i'r rhai sy'n byw mewn ardaloedd gwledig. Mae fy neges yn eithaf syml yma y prynhawn yma, Ddirprwy Lywydd: rhaid i sir Benfro beidio â chael ei gadael ar ôl. Mae fy etholwyr yn haeddu gwasanaeth band eang sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.  

17:45

Hoffwn ddiolch i Paul Davies am ganiatáu munud o'i amser i mi yn y ddadl hon heddiw. Y gwir o hyd yw bod 13 y cant o safleoedd yn sir Drefaldwyn yn methu cael cysylltedd band eang derbyniol, ac nid yw'r rhaniad trefol-gwledig ond yn peri mwyfwy o rwystredigaeth i bobl. Yr hyn sy'n gwneud pobl hyd yn oed yn fwy rhwystredig yw gweld seilwaith yn hongian o bolion ond heb allu cael mynediad at y seilwaith hwnnw—mor agos ond eto mor bell.

Mae'n siŵr y bydd y Dirprwy Weinidog yn sôn am gam 2 y prosiect, ond hoffwn dynnu sylw at y ffaith nad yw 10,000 o safleoedd yn sir Drefaldwyn wedi cael unrhyw fath o fand eang cyflym iawn eto. Dim ond 11 y cant o'r 10,000 safle hwnnw—dim ond 11 y cant—a gaiff eu gwasanaethu gan gam 2; ni fydd 89 y cant yn cael hynny. Felly, byddai'n ddefnyddiol pe gallai Llywodraeth Cymru gadarnhau yn awr y bydd yn ystyried darparu cymorth ariannol i dalu'r gost ychwanegol yn rhannol neu'n llawn os yw'r gost o ddarparu band eang i eiddo yn uwch na throthwy cost yr ymrwymiad gwasanaeth cyffredinol o £3,400.

Cawsoch wahoddiad gan Paul Davies i'w etholaeth i siarad ag etholwyr am broblemau gyda band eang. Hoffwn gynnig yr un gwahoddiad i sir Drefaldwyn. Diolch i Paul Davies am ddefnyddio ei amser yn y ddadl fer hon heddiw i dynnu sylw at drafferthion band eang yn y Gymru wledig.

Diolch. Galwaf yn awr ar Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i ymateb i'r ddadl. Lee Waters.

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n falch iawn o gael fy ngwahodd gan gynifer o Aelodau i gyfarfodydd er mwyn i'w hetholwyr gael gweiddi arnaf mewn neuaddau pentref ledled Cymru. Rwyf eisoes wedi cael y pleser yn sir Gaerfyrddin, ac yn yr wythnosau nesaf rwy'n mynd i sir Frycheiniog hefyd, lle byddaf yn cyfarfod â phobl rwystredig iawn, ac rwy'n deall eu rhwystredigaeth yn llwyr.

Yn hael iawn, nododd y Gweinidog tai lawer o safbwynt y Llywodraeth yn ei haraith i gloi'r ddadl ddiwethaf, felly nid wyf am fynd drwy restr o gyflawniadau Llywodraeth Cymru—dyblu nifer y safleoedd yng Nghymru sydd â mynediad at fand eang cyflym iawn o fewn pum mlynedd. Ond hoffwn nodi fod gwelliant sylweddol wedi bod. Hoffwn wneud tri phwynt. Rwy'n gwerthfawrogi'r ffordd adeiladol y cyflwynodd yr Aelod ei achos, a hoffwn ymateb yn yr un modd, ond rwy'n credu bod angen gwneud tri phwynt.

Yn gyntaf, nid yw hwn yn faes sydd wedi'i ddatganoli. Nid mater bach yw hwn. Mewn unrhyw chwyldro telathrebu, mae cyflymder y newid wedi bod yn sydyn, ond ni fu'n gyfartal. Cymerodd beth amser i bolion ffôn godi ar draws Cymru ac erialau teledu hefyd. Mae'r un peth yn wir am y chwyldro telathrebu hwn. Mae'n arbennig o anodd cyrraedd ardaloedd gwledig. Mae'n ddrutach nag y mae i gyrraedd ardaloedd trefol. Mae'r ddaearyddiaeth a'r dopograffeg yn anodd iawn, ac mae effaith real ac ymarferol iawn i hynny. Mae'n rhywbeth y bydd yn rhaid ymdrin ag ef ar sail y DU gyfan hyd nes y caiff ei ddatganoli.

Nawr, yn anffodus, nid yw Llywodraeth y DU wedi ystyried trin band eang fel cyfleustod allweddol. Cytunaf â'r hyn a ddywedodd Paul Davies: yn y byd modern, rydym yn disgwyl gallu cysylltu'n gyflym â gwasanaeth ar-lein cyflym er mwyn gallu cyrraedd y gwasanaethau y mae pawb ohonom yn eu cymryd yn ganiataol erbyn hyn. Dyna pam y dylai fod ymrwymiad gwasanaeth cyffredinol go iawn. Yn union fel y mae'n rhaid i'r Post Brenhinol ddosbarthu cerdyn post i ben draw trac fferm yn yr un ffordd ag y mae'n gorfod gwneud hynny i res o dai teras mewn canolfan drefol, neu fel y mae'n rhaid darparu trydan i bobman sydd am ei gael, dylai'r un peth fod yn wir am fand eang, ond nid felly y mae. Mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod trin band eang yn yr un ffordd ag y mae'n trin cyfleustodau eraill. Credaf fod hynny'n gamgymeriad, ac rwy'n sicr yn croesawu cefnogaeth arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig i gyflwyno'r achos i'w Lywodraeth ei hun newid ei safbwynt. A byddem yn sicr yn gweithio gyda'n gilydd ar hynny.

Maent wedi cyhoeddi rhywbeth a elwir ganddynt yn ymrwymiad gwasanaeth cyffredinol, nad yw'n hollol fel y mae'n ymddangos ar yr wyneb, oherwydd mae'n rhoi hawl i ofyn am gysylltiad, nid hawl i gael un. Ac mae'r swm o arian y gellir ei hawlio yn llawer llai na'r swm o arian y byddai ei angen. Nid ydych ond yn gallu gofyn am gyflymder lawrlwytho o 10 Mbps a hawlio hyd at £3,400. Rhaid i unrhyw beth uwchlaw hynny gael ei ariannu ganddynt hwy eu hunain. Nawr, nid yw hynny'n ymrwymiad gwasanaeth cyffredinol yn ôl unrhyw ddiffiniad rhesymol. Credwn y dylid ei osod ar 30 Mbps ac na ddylai fod trothwy ariannol o'r math hwnnw.

Felly, credaf ei bod yn deg nodi nad yw wedi'i ddatganoli. Rydym yn cydnabod ei effaith hanfodol; dyna pam rydym wedi bod yn barod i wario arian datganoledig ar geisio ymyrryd lle mae'r farchnad a lle mae'r Llywodraeth wedi methu. Rydym wedi gwario £200 miliwn o arian Llywodraeth Cymru a'r UE yn y pum mlynedd diwethaf ar gynllun band eang Superfast Cymru, ac mae hwnnw'n arian nad yw ar gael i ysgolion ac ysbytai a gwasanaethau cyhoeddus, oherwydd bu'n rhaid inni ymyrryd lle nad yw Llywodraeth y DU wedi gwneud hynny. Felly, rwy'n credu ei bod ond yn deg cydnabod ymdrechion Llywodraeth Cymru mewn maes lle na ddylai fod yn gorfod gweithredu o gwbl, am mai cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw hyn.

Yr ail bwynt i'w wneud yw bod y farchnad yn methu yma. Soniodd Paul Davies am y ffenomen a welwn, lle mae darparwyr gwasanaethau'n baglu dros ei gilydd i gael cyflymder cyflymach byth i bobl mewn lleoliadau trefol ac nad oes ganddynt ddiddordeb mewn darparu unrhyw gyflymder i bobl mewn rhai ardaloedd gwledig. Nawr, methiant yn y farchnad yw hynny. Clywn yn aml gan y meinciau yn y fan honno am bwysigrwydd caniatáu i'r farchnad fod yn oruchaf, a dyma beth sy'n digwydd pan fydd y farchnad yn oruchaf: mae allgáu'n digwydd.

Nawr, rhoesom £80 miliwn pellach ar y bwrdd yn yr hyn y mae'r Aelodau sy'n gohebu'n rheolaidd ar hyn yn ei adnabod fel lot 2. Dywedasom fod £80 miliwn ar gael i'r farchnad wneud cais amdano, er mwyn cyrraedd yr eiddo nas cyrhaeddwyd o dan y prosiect Superfast. Ac o'r £80 miliwn a roddwyd gennym i wneud cais amdano, gwnaeth Openreach gais am £26 miliwn yn unig, i'w wario erbyn 2021. Felly, nid oes gan y farchnad ei hun ddiddordeb mewn cael cymhorthdal cyhoeddus i gyrraedd y safleoedd nad ydynt eto wedi'u cyrraedd o dan y rhaglen flaenorol a ariannwyd gennym. Felly, mae gennym broblem. Nid nad yw'r arian yno neu nad ydym yn barod i'w wario, er nad yw wedi'i ddatganoli. Mae yno. Rydym wedi dewis ei wneud, ond yn syml iawn, nid oes gennym bartneriaid sector preifat sy'n barod i wario ac estyn yn ddwfn i mewn i'r ardaloedd rydym am eu cyrraedd. Fel y soniodd Paul Davies, er mai sir Benfro o dan Superfast sydd â'r lefel uchaf ond dwy o wariant ledled Cymru, gyda £15 miliwn yn sir Benfro yn unig, o dan y cynllun nesaf, dim ond 300 o safleoedd sy'n mynd i gael eu cynnwys yn lot 2, ac mae hynny'n siomedig dros ben. Yn sicr, nid yw'n sefyllfa rydym ni'n awyddus i'w gweld.

Ond credaf fod angen inni wynebu'r ffaith bod awydd y farchnad, hyd yn oed gyda chymhorthdal, i gyrraedd safleoedd gyda band eang ffibr i'r eiddo yn dod i ben. Ac mae llawer o'r safleoedd hyn—gadewch inni gofio, mae 20 y cant o safleoedd yng Nghymru heb gysylltiad nwy, ac eto rydym yn disgwyl iddynt gael band eang cyflym iawn i'r eiddo, ac nid yw hynny'n mynd i ddigwydd yn y tymor byr. Nawr, os yw Llywodraeth y DU yn barod i gamu i'r adwy a chael ymrwymiad gwasanaeth cyffredinol go iawn, yna gellid gwneud hynny, ond ni all Llywodraeth Cymru ei wneud ar ei phen ei hun, a chredaf fod angen inni fod yn onest ynglŷn â hynny a'i wynebu.

Felly, fy nhrydydd pwynt yw hwn: beth y gallwn ei wneud? Ac rydym yn cydweithio'n agos â Llywodraeth y DU; rydym wedi cytuno i ychwanegu at eu cynllun talebau band eang gigabit, felly mae cymhorthdal llawer mwy hael ar gael yn awr yng Nghymru nag yn Lloegr am fod Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda'i gilydd. Ac o dan y rhaglen cysylltedd gigabit honno y disgwyliwn i'r ysgol y soniodd Paul Davies amdani, Ysgol Llanychllwydog, gael ei chysylltu erbyn dechrau'r flwyddyn academaidd. Ond mae hwnnw'n brosiect sydd wedi'i wneud yn uniongyrchol gyda Llywodraeth y DU. Nid yw'n rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymwneud ag ef, ond gobeithio y bydd modd iddynt gael cysylltiad erbyn pan fyddant yn dychwelyd ar ôl gwyliau'r haf.

Rydym yn edrych yn awr ar ymyriadau anghonfensiynol, fel y dywedais, oherwydd ein bod yn credu bod ffeibr i'r safle'n cyrraedd terfynau'r hyn y mae'r farchnad yn barod i'w ddarparu. Ceir prosiect diddorol iawn yn etholaeth Nick Ramsay, yn Nhrefynwy, lle maent yn defnyddio'r hyn a elwir yn ofod gwyn teledu i sicrhau cyflymderau o hyd at 10 Mbps. Mae'n defnyddio'r hen signal teledu analog lle gadawyd bylchau rhwng y sianelau er mwyn caniatáu ar gyfer ymyriant, ac yn y gofod gwyn hwnnw gallant drosglwyddo signalau band eang hyd at 10 Mbps. Ymwelais â'r cynllun pentref y mae Cyngor Sir Fynwy yn gwneud gwaith da iawn o'i redeg, ac mae'n edrych yn addawol iawn. Mantais defnyddio'r signal teledu yw ei fod yn gallu ymestyn ar draws bryniau ac i mewn i gymoedd mewn modd sy'n amlwg yn mynd i fod yn anodd iawn ac yn ddrud iawn i ffibr i'r safle ei wneud. Felly, mae gan brosiect o'r fath botensial sylweddol yn fy marn i, a byddem yn sicr yn fodlon—[Torri ar draws.] Rwy'n hapus i dderbyn ymyriad os caf, Lywydd.

17:55

Diolch am ildio, Ddirprwy Weinidog. Rydych yn llygad eich lle—rwy'n ymwybodol o'r prosiect hwnnw hefyd, ac efallai ein bod weithiau'n treulio gormod o amser yn poeni ac yn canolbwyntio ar y ffyrdd traddodiadol o ddarparu band eang lle bydd yn gostus iawn ac yn anodd iawn cysylltu pobl mewn rhai ardaloedd gwledig, ac efallai fod yr hyn rydych newydd ei ddweud, y defnydd o ofod gwyn, yn un maes arloesol y gallai Llywodraeth Cymru edrych arno.

Yn hollol. Mae'n cael ei dreialu, ac yn sicr maent yn cael problemau gyda sefydlogrwydd y cysylltiad, ond mae lefel yr ymyrraeth yn fach iawn—dim ond erial bach ar ochr y tŷ. Yn yr un modd, mae defnyddio 3G a 4G yn ffordd o gael band eang i lawer o bobl, a gallai fod yn llawer mwy realistig ac ymarferol na ffibr i'r safle. Felly, byddem yn sicr yn awyddus i weithio gyda Chyngor Sir Penfro i weld a allwn gyflwyno'r dysgu o brosiect sir Fynwy i sir Benfro. Gwn fod Cyngor Sir Gâr, er enghraifft, wedi cyflogi rhywun i weithio gyda chymunedau i geisio cael gafael ar y talebau amrywiol sydd ar gael, talebau rydym ni a Llywodraeth y DU yn eu darparu. Ond mae'n anodd yn aml i gymunedau allu trefnu a chael gafael ar y cronfeydd hyn, ac mae'n iawn, rwy'n meddwl, fod awdurdodau lleol yn cydnabod eu rôl yn hyn hefyd. Rwy'n gweld nifer o awdurdodau lleol yn gwneud hynny'n awr, ac rwyf eisoes wedi sôn am y gwaith da sy'n digwydd yn sir Fynwy.

Felly, credaf fod yna bethau y gallwn eu gwneud, ond yn hytrach na chwyno am fethiant Llywodraeth Cymru i gyrraedd cymunedau mewn maes nad yw wedi'i ddatganoli, mewn ardal y mae'r farchnad wedi penderfynu nad yw'n gallu ei gwasanaethu, a ninnau wedi gwario dros £200 miliwn eisoes, a rhoi mwy o arian ar y bwrdd nad oes gan y farchnad ddiddordeb yn ei ddefnyddio—rwy'n meddwl ei bod ond yn deg i ni nodi hynny hefyd. Ond rydym yn gwneud ein gorau. Mae fy swyddogion a minnau'n gweithio'n amyneddgar gydag Aelodau pan fyddant yn cysylltu â gohebiaeth i geisio cynnig cymaint o wasanaeth personol ag y gallwn i oresgyn yr anawsterau ymarferol hyn. Felly, a bod yn deg, credaf ein bod yn gwneud yr hyn a allwn, ond mae hwn yn fater anodd iawn. Nid yw'n fater syml, ac fel y dywedais, rydym yn wynebu cyfnod o newid aruthrol o gyflym ac mae'n anodd lledaenu'r manteision hyn yn gyfartal.  

Ond i ddychwelyd at y pwynt a wnaeth yr Aelod, rwy'n cytuno'n llwyr fod yn rhaid inni ymdrechu'n galetach i'w wneud, gan ei fod yn wasanaeth hanfodol, a hoffwn gydweithio, cyn belled ag y gallwn, gydag awdurdodau lleol, Llywodraeth y DU ac Aelodau o bob plaid i roi'r gwasanaeth hanfodol hwn i bob rhan o Gymru.  

Daeth y cyfarfod i ben am 17:59.