Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

24/10/2018

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Dirprwy Lywydd (Ann Jones) yn y Gadair. 

Enwebiadau ar gyfer Cadeirydd Pwyllgor

Os caf fi alw'r Aelodau i drefn, rydym yn dechrau trafodion y prynhawn yma gyda'r enwebiad ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid. Oherwydd bod swydd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid bellach yn wag, rwy'n gwahodd enwebiadau o dan Reol Sefydlog 17.2F ar gyfer ethol Cadeirydd newydd. Mae'r Pwyllgor Busnes wedi penderfynu y dylai'r Cadeirydd barhau i ddod o grŵp Plaid Cymru. Aelod o'r grŵp gwleidyddol hwnnw yn unig all gael ei enwebu fel Cadeirydd, a dim ond aelod o'r un grŵp gwleidyddol sy'n cael gwneud yr enwebiadau. Felly, rwy'n gwahodd enwebiadau ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid.

Diolch. A oes unrhyw enwebiadau pellach? Mae Llyr Gruffydd wedi'i enwebu ar gyfer swydd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid. [Cymeradwyaeth.] Wel, roeddwn am ofyn i chi: a oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Roeddwn yn nodi hynny am fy mod yn gallu clywed pobl yn gofyn, ond rwy'n cymryd nad ydych yn gwrthwynebu. Ond bydd yn rhaid i mi ofyn: a oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu'r enwebiad? Nac oes. Felly, mae Llyr wedi'i ethol fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid. Felly, diolch am hynny, a llongyfarchiadau, Llyr. Felly, dyna ni.

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Symudwn yn awr at y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, a daw'r cwestiwn cyntaf gan Llyr Gruffydd.

Swyddi Mewn Ardaloedd Gwledig

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ynglŷn ag argaeledd swyddi mewn ardaloedd gwledig? OAQ52811

Diolch. Mae gwella argaeledd ac ansawdd gwaith ym mhob rhan o Gymru yn gwbl hanfodol i'n nod o fynd i'r afael ag anghydraddoldebau rhanbarthol. A thrwy ein cynllun gweithredu economaidd, rydym yn cymryd camau i alluogi pobl a rhanbarthau i elwa ar dwf cynhwysol yn ogystal â chyfrannu ato.

Diolch i chi am eich ateb. Mi fyddwch chi'n ymwybodol, wrth gwrs, fod yr Ysgrifennydd Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros amaeth ar hyn o bryd yn ymgynghori ar ddogfen o'r enw 'Brexit a'n Tir', ac mae yna gynigion penodol o fewn y ddogfen honno a fydd â goblygiadau pellgyrhaeddol i'r economi wledig yng Nghymru. Nawr, mae'r ymgynghoriad yna yn digwydd pan nad oes yna unrhyw fath o fodelu nac unrhyw fath o adolygu o beth fydd impact y cynigion yna o gwbl ar swyddi mewn ardaloedd gwledig. Ac rwyf i jest eisiau gofyn a ydy eich adran chi, felly, yn edrych ar beth fyddai'r impact o ymgymryd â chamau o'r fath, oherwydd mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn mynd rownd yn dweud wrth bawb, beth bynnag fydd yn dod allan o'r ymgynghoriad, ei bod hi'n mynd i barhau â'r cynigion.

Wel, rwy'n credu ei bod yn werth dweud bod y materion hyn yn cael eu trafod yn is-bwyllgor y Cabinet ar ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, ac mae fy swyddogion a minnau—ac yn wir, holl Weinidogion y Llywodraeth rwy'n credu—yn cydnabod y byddai Brexit 'dim cytundeb' yn arbennig yn peryglu swyddi gwledig a chymunedau'n fawr iawn. Rwy'n credu ei bod yn deg dweud mai'r sector prosesu cig coch a fyddai'n wynebu'r perygl mwyaf. Mae'n cyflogi, rwy'n credu, tua 2,000 o bobl yng Nghymru, a bydd unrhyw golled o ran mynediad at y farchnad sengl yn peryglu'r swyddi hyn. O'n rhan ni, yn yr adran economi a thrafnidiaeth, rydym yn sicrhau bod Busnes Cymru yn darparu'r cyngor gorau posibl i fusnesau o bob maint a math, ond yn benodol i'r rheini sy'n fusnesau bach a chanolig ac yn ficro-fusnesau, mewn ardaloedd trefol neu ardaloedd gwledig.

Credaf ei bod yn werth dweud, Ddirprwy Lywydd, fod cyfraddau cyflogaeth mewn rhannau gwledig o Gymru wedi gwella'n gynt na mewn ardaloedd trefol yn y blynyddoedd diwethaf, a bod cyfraddau diweithdra wedi gostwng i raddau mwy na mewn ardaloedd trefol. Fodd bynnag, rydym eisiau sicrhau bod gwelliannau i'r economi wledig yn cael eu cynnal, a thrwy'r gwasanaethau a gynigir gan Busnes Cymru, a chan Lywodraeth Cymru, a gweithio gyda'n partneriaid mewn addysg bellach ac addysg uwch, a chyda rhanddeiliaid yn y gymuned ffermio, rwy'n credu y byddwn yn gallu sicrhau ein bod yn rhoi Cymru yn y sefyllfa orau sy'n bosibl. Serch hynny, cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw sicrhau bod canlyniadau'r trafodaethau yn golygu na fydd y cymunedau gwledig rydym yn eu gwasanaethu, ac y mae llawer ohonom yn byw ynddynt, o dan anfantais sylweddol. A byddaf yn gweithio gyda fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, i sicrhau bod Llywodraeth y DU yn parhau i wrando a gobeithio, yn parhau i weithredu ar y galwadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru.

Mae fy rhanbarth i yn amlwg yn drefol, wedi'i dorri yn hanner gan yr M4, ond mae fy etholwyr mewn rhannau gwledig o Orllewin De Cymru angen gwaith hefyd. Mae'n debygol y byddai pobl sy'n teithio i'r gwaith o gymunedau gwledig y cymoedd yn nwyrain fy rhanbarth yn elwa o gyswllt rheilffordd o Bracla, er enghraifft. Ond yng ngorllewin fy rhanbarth yn ogystal, byddai llwybr strategol i Abertawe yn helpu trigolion y Gŵyr i gael mynediad at gyfleoedd gwaith heb fod angen teithio i'r ddinas, yn ogystal â gweithredu fel cyswllt cyflym, wrth gwrs, ar gyfer cymunedau yn sir Gaerfyrddin. Rwy'n credu y bydd y ddau syniad yn helpu cyflogwyr yn y dyfodol i feddwl o ddifrif ynglŷn â lleoli eu busnesau y tu allan i dde-ddwyrain Cymru, sydd eisoes yn gynyddol orlawn. Yn ogystal â sefyll ar eu pen eu hunain, gallai'r syniadau hyn ffurfio rhan o fetro Gorllewin De Cymru. Felly, rwy'n meddwl tybed beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu i ddatblygu'r syniadau hyn.

13:35

Wel, mae gwaith yr awdurdod lleol yn mynd rhagddo o ran datblygiad metro de-orllewin Cymru, ac o'n rhan ni, rydym hefyd wedi gofyn i'r Athro Barry sicrhau bod prosiectau y gallai Llywodraeth y DU eu hariannu yn cael eu cyflwyno gydag achos busnes cadarn cyn gynted â phosibl.

Mae'r Aelod yn codi nifer o ragolygon diddorol a allai ddenu arian gan Network Rail a Llywodraeth y DU. Yn hanesyddol, rydym wedi gwneud yn eithriadol o wael o gymharu â rhannau eraill o'r DU, ac wrth gwrs, mae'r penderfyniad i ganslo cynlluniau i drydaneiddio i Abertawe wedi cael effaith fawr, nid yn unig o ran cystadleurwydd yr ardal, ond hefyd, rwy'n credu, ar hyder yr ardal. O ganlyniad, credaf ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn nodi cynlluniau rheilffyrdd a allai ddenu buddsoddiad Llywodraeth y DU drwy Network Rail i wella'r rhagolygon y gallwn rannu ffrwyth twf economaidd yn fwy teg ar draws y wlad, ac mae hynny'n cynnwys y cymunedau y mae'r Aelod wedi'u nodi yn ei rhanbarth.

Pont Newydd dros Afon Dyfi

2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau ar gyfer y bont newydd dros afon Dyfi? OAQ52806

Gwnaf. Rwy'n falch iawn o ddweud ein bod yn ystyried sylwadau a wnaed gan randdeiliaid statudol ac anstatudol ar hyn o bryd, a bydd y sylwadau hyn yn fy helpu i benderfynu sut y dylid datblygu'r cynllun penodol hwn ac a fydd angen ymchwiliad cyhoeddus lleol.

A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb? Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol, wrth gwrs, ac yn cytuno ar yr angen am y bont newydd dros afon Dyfi, yn arbennig o ystyried y llifogydd sydd wedi cau'r bont ar nifer o achlysuron, fel y gwnaeth unwaith eto fis diwethaf ac ym mis Awst, gan amharu'n sylweddol ar y traffig. Nawr, ysgrifennais atoch yn gynharach yn yr haf ac fe ysgrifenasoch yn ôl ataf ym mis Awst yn cadarnhau bod disgwyl i chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf ar hyn ym mis Medi. Rwyf braidd yn bryderus nad ydym wedi cael y diweddariad hwnnw eto. A gaf fi ofyn pa mor bell ydych chi o allu tawelu meddyliau gwrthwynebwyr, o bosibl, oherwydd mae yna ychydig o wrthwynebwyr? Os gellir tawelu meddyliau'r gwrthwynebwyr hynny, ni fydd angen ymchwiliad cyhoeddus—dyna yw fy nealltwriaeth i—ac os yw hynny'n wir, beth fyddai'r amserlen i'r gwaith adeiladu ddechrau ar y bont newydd dros afon Dyfi?

Mae'r Aelod yn llygad ei le; rydym yn gweithio'n galed i ddatrys nifer fach o wrthwynebiadau i'r cynllun, ac mae'r Aelod hefyd yn iawn i ddweud na chafodd y bont bresennol ei chynllunio i gario'r lefel gyfredol o draffig, ac felly mae'n fan cyfyng mawr ar yr A487. Ac fel y mae'r Aelod wedi nodi, mae'r ffordd ar gau yn aml oherwydd llifogydd hefyd, gyda dargyfeiriadau'n digwydd sy'n golygu bod yn rhaid i fodurwyr deithio 30 milltir yn ychwanegol ar sawl achlysur. Felly, byddai'r cynnig yn golygu gosod system pwmp draenio newydd ar bont rheilffordd y Cambrian er mwyn mynd i'r afael â llifogydd yn yr ardal. Byddwn yn parhau i weithio'n agos â thirfeddianwyr i ddatrys y gwrthwynebiadau statudol sydd ar ôl, ac rydym hefyd yn cwblhau cytundebau tir gyda Network Rail.

Mae'r broses hon, fel y gallwch ddychmygu, o ystyried y gwrthwynebiadau a gawsom, a'n hawydd i'w datrys er mwyn osgoi ymchwiliad cyhoeddus lleol, wedi cymryd yn hwy nag y byddem wedi'i hoffi ac wedi'i ddisgwyl. Fodd bynnag, os gallwn ddatrys y gwrthwynebiadau sydd ar ôl, byddwn yn gallu osgoi ymchwiliad cyhoeddus, a byddai hynny'n arbed amser sylweddol o ran y rhaglen gyflawni. Hyd nes y gwneir penderfyniad ynglŷn â'r angen am ymchwiliad cyhoeddus lleol, ni allaf gadarnhau dyddiad penodol ar gyfer dechrau'r gwaith, ond rwy'n cydnabod pwysigrwydd mawr y prosiect penodol hwn i'r gymuned a'r ardal ehangach.

Ysgrifennydd y Cabinet, fel y mae Russell George wedi'i ddweud, ac fel rydych wedi'i gydnabod eich hun, mae hon yn ddolen gyswllt hollbwysig, sy'n cysylltu rhannau o'r rhanbarth rwy'n ei gynrychioli. Mae'r anghyfleustra a fydd yn codi, yn enwedig i fusnesau, ond hefyd i deuluoedd, pan fo'r bont ar gau yn sylweddol iawn. Yn amlwg, rwy'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â hyn. Roeddwn am ofyn cwestiwn i chi ynglŷn â'r amserlen, ond gan ystyried yr hyn rydych wedi'i ddweud eisoes, sef ei bod yn anodd iawn gwneud hynny hyd nes y byddwch yn gwybod a fydd angen ymchwiliad, a wnewch chi ymrwymo i ddychwelyd i'r Siambr pan fyddwch yn gwybod beth fydd yr amserlenni, oherwydd mae gwybod hynny'n eithaf pwysig, yn enwedig i gynlluniau busnesau lleol?

A gaf fi ddiolch i Helen Mary Jones am ei chwestiwn? Rwy'n ymrwymo heddiw i wneud datganiad ar y prosiect penodol hwn a pha un a fydd angen ymchwiliad cyhoeddus pan fyddwn wedi cwblhau ein trafodaethau gyda'r gwrthwynebwyr.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, nifer o wythnosau'n ôl, dywedasoch, mewn ymateb i gwestiynau a ofynnwyd gennyf fi, rwy'n credu, eich bod yn bwriadu cyfarfod â phrif weithredwr Trafnidiaeth Cymru i drafod nifer o faterion gydag ef mewn perthynas â masnachfraint rheilffyrdd newydd Cymru a'r gororau. Fe egluroch chi mai un o'r materion y byddech yn ei godi oedd manylion ynghylch amserlennu, sef yn benodol, y gwelliannau arfaethedig i wasanaethau, gan gynnwys y rheini rhwng Merthyr Tudful ac Aberdâr a Chaerdydd, a rhwng Llandudno a Chaer. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni, Ysgrifennydd y Cabinet, ynglŷn â chanlyniad y trafodaethau hynny gyda Trafnidiaeth Cymru, ac yn arbennig, canlyniad y trafodaethau ar amserlennu?

13:40

Gallaf gadarnhau fy mod bellach wedi cyfarfod â phrif weithredwr Trafnidiaeth Cymru ar ddau achlysur ers y tro diwethaf i mi ateb cwestiynau'r Aelod. Rydym wedi trafod amrywiaeth fawr o faterion, gan gynnwys y rhai a nodwyd ganddo. Buaswn yn hapus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau, nid yn unig am y materion amserlennu, ond hefyd am faterion sy'n ymwneud â llywodraethu Trafnidiaeth Cymru, y broses recriwtio ar gyfer cadeirydd a hefyd y rôl bosibl i Trafnidiaeth Cymru yn y dyfodol o ran cyflawni'r agenda trafnidiaeth ehangach.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Roeddwn yn gobeithio y gallech roi atebion penodol o ran y materion amserlennu rwyf wedi'u codi heddiw. Os ydych yn gallu gwneud hynny, gwnewch hynny heddiw os gwelwch yn dda.

Mae Trafnidiaeth Cymru a'r Llywodraeth wedi gwneud nifer o ymrwymiadau i deithwyr rheilffyrdd mewn perthynas â darparu trenau newydd. Fel y byddwch yn gwybod, un o'r prif gwynion mewn perthynas â threnau ar reilffyrdd Cymru yw'r ffaith bod trenau'n orlawn, yn hen, yn fudr ac yn is na'r safon yn amgylcheddol. Fe fyddwch yn deall, wrth gwrs, fod teithwyr yn siomedig ac yn rhwystredig fod yr un hen drenau'n dal i gael eu defnyddio, er bod cyfnod y fasnachfraint newydd wedi dechrau. A gaf fi ofyn i chi ei gwneud yn gwbl glir pryd fydd y trenau newydd yn cyrraedd o'r diwedd? A wnewch chi hefyd amlinellu strategaeth gerbydau fel y gall y cyhoedd fod yn hyderus y bydd y trenau newydd yn cyrraedd, fel yr addawyd? Ac yn olaf, a wnewch chi roi gwybod i ni pryd y bydd manyleb y tendr a'r cytundeb terfynol a ddefnyddiwn i ddarparu'r fasnachfraint newydd yn cael eu cyhoeddi? Gwn eich bod wedi ymrwymo i wneud hyn eisoes. 

Gwnaf, yn sicr. Mae'r Aelod yn codi nifer o gwestiynau. O ran y trenau, etifeddu trenau gan Trenau Arriva Cymru a wnaethom pan gafodd Trafnidiaeth Cymru y fasnachfraint, ond fe ddywedasom yn glir hefyd y bydd £40 miliwn yn cael ei wario ar wella'r trenau sy'n bodoli'n barod tra byddwn yn aros am gerbydau newydd. Rydym yn rhagweld y bydd y cerbydau newydd yn cael eu darparu erbyn 2021. Bydd y cyntaf o'r trenau newydd hyn yn rhedeg ar reilffordd arfordir gogledd Cymru. Bydd cymysgedd o drenau'n cael eu hadeiladu yng Nghymru a'u hadeiladu dramor. Nododd yr ymarfer caffael y cerbydau gorau ar gyfer pob un o'r llwybrau penodol a fydd yn cael eu gwasanaethu gan y fasnachfraint newydd. Yn ychwanegol at y £40 miliwn a fydd yn cael ei wario ar wella'r trenau presennol, rwy'n falch o ddweud hefyd y bydd yr holl orsafoedd yn cael eu glanhau'n drylwyr o fis Rhagfyr y flwyddyn hon ymlaen, ac erbyn 2023, bydd trenau newydd wedi dod yn lle'r holl drenau ar y rhwydwaith. Mae hefyd yn werth nodi, yn ystod y 15 mlynedd nesaf, y byddwn yn gwario bron i £200 miliwn ar wella pob un o'r gorsafoedd ar rwydwaith y fasnachfraint.

O ran y pwyntiau eraill a godwyd gan yr Aelod, rwy'n hapus i ddarparu diweddariadau ar yr ymholiadau. Byddaf yn ysgrifennu at yr Aelodau gyda manylion yr amrywiol bwyntiau a gododd yr Aelod.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Buaswn yn gwerthfawrogi datganiad, efallai, fel y gallwn gael gwybodaeth bendant a manwl o ran pryd y bydd y trenau'n cyrraedd, gyda dyddiadau cysylltiedig. Hefyd, gofynnais i chi am y broses dendro a'r manylebau tendro yn y cytundeb terfynol. Pe gallech roi ateb ar hynny heddiw—o ran pryd rydych yn rhagweld y bydd y rheini ar gael i'r cyhoedd er mwyn i ni allu craffu arnynt—buaswn yn gwerthfawrogi hynny.

Mae nifer o orsafoedd rheilffyrdd Cymru mewn cyflwr gwael iawn ac maent wedi'u hesgeuluso ac wedi cael llai o fuddsoddiad nag y maent ei angen ers rhai blynyddoedd. Unwaith eto, mae Trafnidiaeth Cymru wedi cyhoeddi'n ddiweddar y bydd yna raglen fuddsoddi i uwchraddio gorsafoedd Cymru fel rhan o gytundeb y fasnachfraint newydd. A allwch chi sicrhau y bydd Trafnidiaeth Cymru yn cyhoeddi amserlen ar gyfer gwelliannau i orsafoedd fel bod teithwyr trên yn gwybod yn union pryd y bydd eu gorsaf yn cael ei huwchraddio? Oherwydd un thema yn y cwestiynau heddiw yw bod teithwyr eisiau gwybodaeth a chyfathrebu, ac mae bod yn agored ac yn dryloyw yn gwbl allweddol.

13:45

Credaf fod yr Aelod yn hollol iawn. Mae cyfathrebu'r rhaglen welliannau'n hanfodol er mwyn sicrhau y gellir gwarantu hyder teithwyr. Rydym eisoes wedi cyhoeddi'r amserlen ar gyfer cyflwyno trenau newydd. Fodd bynnag, buaswn yn hapus i anfon honno at yr Aelodau eto. Yn y gorffennol, rwyf wedi cynnig nifer o weithdai gyda Trafnidiaeth Cymru i Aelodau pan fyddant yn gallu darparu amserlen fanwl o ran pryd y bydd y cerbydau newydd yn cael eu darparu, ac mae hefyd yn cael ei chyhoeddi ar-lein. Ond rwy'n fodlon rhoi tabl manwl o'r holl gerbydau newydd a ddaw'n weithredol dros y pum mlynedd nesaf. Ac o ran manyleb y tendr a'r cytundeb, rydym yn dod i gytundeb o ran sut y gallwn eu cyhoeddi mewn ffordd addas. Rwy'n awyddus i sicrhau eu bod yn cael eu cyhoeddi cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau tryloywder a chraffu.

O ran y gwelliannau i orsafoedd, rydym yn llunio offeryn asesu ar hyn o bryd er mwyn sicrhau y gallwn gategoreiddio a blaenoriaethu'r gwelliannau i orsafoedd, a phan fyddwn wedi gwneud hynny, credaf y bydd yn bwysig i ni allu nodi amserlen addas ar gyfer y gwelliannau hynny. Rwyf wedi dweud yn y gorffennol y bydd £15 miliwn ar gael, er enghraifft, ar gyfer gwella mynediad i orsafoedd. Rwy'n awyddus i sicrhau ein bod yn gallu nodi'r gorsafoedd a fydd yn elwa o'r arian hwnnw a'n bod yn gallu nodi pryd y byddant yn cael eu gwella.

Efallai y bydd yr Aelod yn gwybod ein bod eisoes wedi cyhoeddi dyddiadau penodol ar gyfer gorsafoedd penodol sy'n cael eu gwella, ond credaf fod yr Aelod yn gywir, a byddaf yn ymdrechu i lunio tabl o'r 274 o orsafoedd a fydd yn cael eu huwchraddio a'u gwella. Ond mae'n bwysig ailadrodd y bydd y gwelliannau hynny'n dechrau ym mis Rhagfyr eleni pan fydd y gorsafoedd yn cael eu glanhau'n drylwyr.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rydym oll yn ymwybodol o'r problemau gyda thagfeydd yn nhwnelau Bryn-glas yng Nghasnewydd. Er gwaethaf y penderfyniad ar y llwybr du neu fel arall, mae'n amlwg y bydd unrhyw ymyrraeth yn cymryd cryn dipyn o amser i fod yn effeithiol. Pa fesurau y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn eu rhoi ar waith i leddfu'r broblem yn y tymor byr?

Wel, mae yna nifer o fesurau tymor byr rydym yn parhau i edrych arnynt. Mae nifer o fesurau tymor byr rydym eisoes wedi'u rhoi ar waith. Credaf y bydd yr adnoddau ychwanegol a ddyrannwyd ar gyfer teithio llesol yn gwella argaeledd cyfleoedd teithio llesol diogel yng Nghasnewydd ei hun, gan dynnu traffig nad oes angen iddo fod ar y draffordd oddi arni, o ystyried y nifer sylweddol o gerbydau sy'n defnyddio'r draffordd er mwyn mynd o un ochr i Gasnewydd i'r llall.

Bydd diwygiadau i wasanaethau bysiau a deddfwriaeth ar y rhwydwaith bysiau yn ein helpu i wella darpariaeth y gwasanaethau bysiau lleol ledled Cymru, gan gynnwys yn ardal Casnewydd, a bydd y diwygiadau hynny'n cael eu hamlinellu'n fuan iawn. Felly, trwy ddiwygio gwasanaethau bysiau lleol mewn modd sylweddol a radical ar draws y wlad, rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu denu mwy o bobl o'u cerbydau preifat ac ar y bysiau, yn enwedig mewn ardaloedd mwy trefol.

Gellir defnyddio arian y gronfa drafnidiaeth leol i greu llwybrau bysiau a thacsis dynodedig, a sicrhau bod y ddarpariaeth a'r defnydd o wasanaethau bysiau yn fwy deniadol i bobl a fyddai fel arall yn teithio mewn car o bosibl, ac rwyf hefyd yn awyddus i weithio gydag ysgolion a chydweithwyr addysg er mwyn annog plant ifanc i gymryd rhan mewn teithiau llesol yn hytrach na defnyddio cerbydau preifat er mwyn teithio i ac o ysgolion, colegau a phrifysgolion.

O ran y rhwydwaith ffyrdd ei hun, wrth gwrs, rydym wedi edrych ar, ac wedi gweithredu terfynau cyflymder newidiol er mwyn sicrhau bod y traffig yn llifo'n gyson, ac mae'r gwelliannau hyn wedi bod yn arbennig o lwyddiannus ar yr M4. Credaf fod modurwyr yn gwerthfawrogi'r ymyrraeth hon. Ar y dechrau, rwy'n credu efallai fod rhai modurwyr yn credu ein bod yn gostwng terfynau cyflymder er mwyn lleihau nifer y cerbydau ar y ffordd. Mewn gwirionedd, pwrpas y penderfyniad hwnnw oedd sicrhau bod mwy o gysondeb yn y ffordd y mae pobl yn gyrru a sicrhau nad oedd gennych draffig yn arafu ac yn cyflymu ar y draffordd. Felly, mae'r holl fesurau hyn sydd eisoes wedi cael eu gweithredu, ac a fydd yn cael eu gweithredu, yn cyfrannu, rwy'n credu ac yn gobeithio, tuag at leihau amseroedd teithio. 

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ateb hwnnw, ac rwy'n cydnabod yr ymyriadau rydych yn cyfeirio atynt. Os caf siarad am ymyrraeth fwy uniongyrchol, rydych newydd sôn am derfynau cyflymder, ond fel rhywun sy'n wynebu tagfeydd ar sail ddyddiol bron, daeth yn amlwg i mi fod terfynau cyflymder sy'n cael eu defnyddio ar adegau penodol yn gwaethygu'r sefyllfa gryn dipyn mewn gwirionedd. Mae terfyn cyflymder o 40 mya ar waith yn aml, yn enwedig ar adegau prysur. A fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn ystyried ail-werthuso’r drefn hon?

13:50

Wel, rydym bob amser yn edrych ar y dystiolaeth o'r—. System gyfrifiadurol yw hi, yn y bôn, nid person sy'n cynyddu neu'n lleihau'r terfyn cyflymder ar hap. Mae'n offeryn cymhleth sy'n sicrhau bod traffig yn llifo'n ddidrafferth. Un o'r ffactorau mwyaf sy'n cyfrannu, os mynnwch, at dagfeydd traffig rhithiol yw cerbydau'n symud o stop i gyflymder uchel ac yna'n stopio eto'n sydyn. Effaith slinky dog ydyw i bob pwrpas. Gall achosi tagfa draffig rithiol, sydd yn ei thro yn achosi tagfeydd mwy, a all gymryd cryn dipyn o amser i'w datrys, ac felly mae sicrhau bod traffig yn teithio ar gyflymder cyson, er yn is na'r terfyn cenedlaethol, yn lleihau tagfeydd.

Mae hefyd yn bwysig cydnabod bod modurwyr sy'n dewis newid lonydd yn rheolaidd hefyd yn cyfrannu at dagfeydd. Nawr, mewn rhannau eraill o Gymru—yn arbennig ar hyd arfordir gogledd Cymru ar yr A55—cynhaliwyd astudiaeth gydnerthedd gennym i edrych ar y posibilrwydd o gyfyngu mynediad i'r gefnffordd ar gyfer rhai cerbydau sy'n symud yn araf ar adegau penodol o'r dydd. Rwy'n hapus i adolygu—. Pe baem yn gweithredu'r mesur penodol hwnnw, yn seiliedig ar yr ymgynghoriad a fydd yn digwydd, buaswn yn hapus i werthuso hwnnw a phenderfynu a ellir defnyddio ymyrraeth o'r fath ar gefnffyrdd eraill, gan gynnwys yr M4. Rwy'n benderfynol o wneud yn siŵr fod pobl, drwy deithio mewn cerbydau preifat neu ar drafnidiaeth gyhoeddus, yn gallu mynd i ac o'u cyrchfannau cyn gynted â phosibl, ac yn seiliedig ar yr holl dystiolaeth sydd ar gael i ni, mae terfynau cyflymder newidiol yn cyfrannu at wneud hynny.

Unwaith eto, diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb, ac rwy'n cydnabod bod yna broblem, fel rydych wedi crybwyll, gyda newid lonydd, yn enwedig y newidiadau lonydd hwyr, hynny yw, o gyffordd Malpas yn ôl ar y brif ffordd. Maent yn peri problemau difrifol iawn. Ond ar ôl profi'r ffyrdd o dan bob math o draffig bron, o draffig ysgafn i draffig trwm iawn, rwy'n credu'n gryf y byddai dwy bont arwyddion, un cyn cyffordd High Cross, ac un arall 500 llath ymhellach ymlaen yn rhoi cyfarwyddiadau clir iawn ar sut i symud i'r lôn briodol ar gyfer defnyddio'r twneli yn dileu'r angen am gyfyngiadau cyflymder ac felly'n caniatáu i draffig lifo'n rhydd. Daw'r sylw hwn ar ôl gweld amodau traffig trwm ond bod traffig yn dal i lifo'n rhydd pan nad oes terfynau cyflymder. Hoffwn dynnu eich sylw at y ffaith bod gan dwneli llawer hwy ar y cyfandir, sy'n aml yn cynnwys troadau, derfyn cyflymder o 80 i 100 km yr awr. Pam fod angen terfyn cyflymder o 40 milltir yr awr ar dwnnel mor fyr â Bryn-glas? A gaf fi annog Ysgrifennydd y Cabinet i gynnal gwerthusiad priodol o fy nghynnig, gan fy mod yn credu y byddai'n gwneud llawer i leddfu problemau tagfeydd yng Nghasnewydd?

Dylwn ailadrodd unwaith eto mai diben y cyfyngiad cyflymder o 40 milltir yr awr—neu 50, pan fydd 50 yn cael ei gyflwyno—yw atal traffig sy'n cael ei achosi gan bobl yn arafu ac yn cyflymu. Credaf fod y cynnig penodol y mae'r Aelod wedi'i awgrymu yn haeddu ei archwilio ymhellach. Byddaf yn sicr yn gofyn i fy swyddogion trafnidiaeth edrych ar y cynnig hwnnw. Lluniwyd nifer o atebion y gellir eu defnyddio ar unrhyw ffordd benodol i leihau a dileu tagfeydd a gwella diogelwch, ac os oes gan yr Aelod unrhyw awgrymiadau pellach, buaswn yn eu croesawu'n fawr iawn.

Yn ogystal, credaf ei bod yn bwysig cydnabod cyfraniad yr hyn y mae'r Ffrancwyr yn eu galw yn 'raswyr eliffant', rwy'n credu, tuag at dagfeydd ar gefnffyrdd—cerbydau mawr yw'r raswyr eliffant sy'n goddiweddyd ei gilydd ac yn mynd â darn enfawr o'r ffordd er mwyn gwneud hynny, gan beri i'r holl draffig y tu ôl iddynt symud yn arafach o lawer, ac o ganlyniad mae hyn yn aml yn achosi tagfeydd traffig rhithiol. Felly, unwaith eto, ar yr A55, fel rhan o'r astudiaeth gydnerthedd, rydym yn edrych ar gamau i roi terfyn ar y math hwnnw o ymddygiad gan yrwyr ac i sicrhau bod traffig yn llifo mor rhwydd â phosibl. Gall yr holl gamau hyn gyda'i gilydd wneud gwahaniaeth enfawr. Weithiau, fodd bynnag, mae modurwyr yn credu ein bod yn eu gwneud am resymau ar wahân i wella llif traffig. Gallaf warantu mai'r peth pwysicaf oll i ni yw diogelwch traffig, diogelwch teithwyr a bod traffig yn llifo'n rhwydd.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, fel rydych chi'n gwybod, mae rheilffordd HS2 wedi cael ei dynodi'n broject Lloegr a Chymru, er bod yna ddim milltir ohoni yma yng Nghymru, ac er bod astudiaethau yn dangos yn glir y bydd yn costio arian i’r economi Gymreig. Mae’r dynodiad yn golygu na fydd Cymru yn cael dyraniad Barnett llawn ar y costau gwreiddiol o ryw £55 biliwn. Roedd hynny’n golygu Cymru’n colli rhyw £25 miliwn y flwyddyn. Rydym ni’n sôn erbyn hyn o bosib am £100 biliwn ar gyfer y project yma—£50 miliwn y flwyddyn i Gymru dros broject o ryw 15 mlynedd. Mae hynny’n £750 miliwn. A allwch chi ddweud wrthyf i beth ydych chi a Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei wneud i drio cael gafael ar y dyraniad Barnett llawn yna, fel mae Gogledd Iwerddon a’r Alban yn ei gael, wrth gwrs?

13:55

Wel, a gaf fi yn gyntaf groesawu'r Aelod i'r rôl newydd hon? Mae'n dda iawn gweld cyd-ogleddwr â briff sy'n ymwneud â'r economi, ac rwy'n falch mai un o'i weithredoedd cyntaf yn y rôl oedd croesawu'r cyhoeddiad am y llwybr a ffafrir ar gyfer y drydedd bont dros y Fenai, rhaglen seilwaith arbennig o bwysig sy'n gwasanaethu ei etholaeth ei hun. Roedd ei ragflaenydd yn y rôl yn awyddus iawn ar sawl achlysur i hyrwyddo trac rasio penodol yn ne Cymru. Rwy'n obeithiol y bydd yr Aelod yn awyddus i hyrwyddo trac rasio penodol yn ei etholaeth ei hun yn ogystal—y Trac Môn rhagorol.

O ran HS2, credaf fod yr holl dystiolaeth yn dangos y byddai gogledd-ddwyrain Cymru yn un o brif fuddiolwyr y buddsoddiad penodol hwnnw, cyhyd â bod canolfan Crewe yn mabwysiadu'r ateb cywir. Yn yr un modd, i lawer o rannau eraill o Gymru, a de Cymru yn bennaf, gallai'r effaith ar yr economi fod yn sylweddol ac yn negyddol iawn. Dyna pam ein bod wedi dweud wrth Lywodraeth y DU ein bod yn dymuno gweld, ochr yn ochr â chyllid canlyniadol, mwy a mwy o fuddsoddi yn y gwaith o liniaru'r effaith andwyol ar economi de Cymru, ac i sicrhau ein bod yn manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd ar gyfer gogledd Cymru gyfan, er enghraifft, drwy drydaneiddio.

At hynny, rydym hefyd wedi dadlau y dylai'r trenau a fyddai'n cael eu defnyddio ar y gwasanaeth rheilffordd HS2 gael eu hadeiladu yma yng Nghymru. Pe baent yn cael eu hadeiladu yma yng Nghymru, byddai hynny'n darparu gwaith amhrisiadwy i fwy na 1,000 o bobl, o bosibl. 

Diolch am y geiriau caredig, ac wrth gyfeirio at ogledd Cymru a manteision yn sgil HS2 i ogledd Cymru, rydych yn dweud bod hynny'n ddibynnol ar fod y cysylltiadau cywir yn cael eu gwneud yn Crewe. Nid ydym wedi cael y sicrwydd rydym ei angen ynglŷn â'r cysylltiadau yn Crewe.

Er mwyn rhoi rhywfaint o bersbectif am y costau rydym yn sôn amdanynt yma, rhagwelir y bydd y 6.6 milltir cyntaf i'r gogledd allan o Lundain yn costio £8.25 biliwn. Dyna £1.25 biliwn y filltir. Gallech ariannu'r gwaith o ailagor rheilffordd Caerfyrddin i Aberystwyth, trydaneiddio rheilffordd Caerdydd i Abertawe, ailagor rheilffordd Gaerwen i Amlwch yn fy etholaeth am gost un filltir o HS2 yno, a dal i fod â digon o newid i brynu digon o frechdanau i bara oes, heb amheuaeth, ar droli bwffe newydd Trafnidiaeth Cymru.

Nawr, mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi'r prosiect yn y gorffennol, er i chi ddyfynnu astudiaeth Llywodraeth y DU sy'n dangos colli gweithgarwch economaidd, yn y de yn arbennig, ond mae hynny'n wir ar gyfer Cymru gyfan, cofiwch. A allwch enwi Llywodraeth arall a fyddai'n barod i gefnogi prosiect, gan wybod y bydd yn costio i'w heconomi ei hun ac y bydd yn niweidio'r economi honno'n hirdymor?

Gadewch i ni fod yn glir ynglŷn ag ychydig o bethau. Mae'r ateb yn nghanolfan Crewe yn gwbl hanfodol; nid yw'n fater ymylol. Os nad yw'r ateb yn Crewe yn fuddiol i ogledd Cymru, bydd hynny'n arwain at HS2 yn effeithio'n andwyol ar ogledd y wlad yn ogystal ag ar y de. Nawr, mae Cymru eisoes wedi derbyn cyllid ychwanegol dros gyfnod yr adolygiad o wariant cyfredol o ganlyniad i'r cynnydd yng nghyllideb yr Adran Drafnidiaeth, oherwydd HS2 i raddau helaeth, ac rydym yn gwneud achos cryf dros weld mwy o gyllid canlyniadol yn dod i ni cyn gynted â phosibl.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig dweud, mewn perthynas ag ail-gydbwyso economi'r DU, fod angen i ni sicrhau ein bod yn ail-gydbwyso economi Cymru i gyd yn ogystal. Mae sawl rhan o Gymru'n rhyngweithio'n agos iawn â rhannau eraill o'r DU, yn bennaf yr ardaloedd ffiniol. Nawr, mae'n hanfodol, felly, fod gwariant Llywodraeth y DU sy'n sicrhau llif economaidd trawsffiniol yn cael ei ddefnyddio cymaint â phosibl. Mae hynny'n golygu gwella coridor yr M4, mae'n golygu gwella rheilffordd y Great Western, mae'n golygu gwella arfordir gogledd Cymru, mae'n golygu gwella'r ardal drawsffiniol yng ngogledd-ddwyrain Cymru ac wrth gwrs, rhwng canolbarth Cymru a chanolbarth Lloegr yn ogystal. Mae'n golygu gwario llawer mwy o arian gan yr Adran Drafnidiaeth ar wasanaethau rheilffyrdd a seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru yn y dyfodol nag a wnaed yn y gorffennol.

Nodaf fod y prosiectau penodol y mae'r Aelod wedi dweud y gallai'r rhaglen HS2 fod wedi talu amdanynt i gyd yn etholaethau Plaid Cymru. Buaswn yn awgrymu ei bod yn hanfodol, wrth i ni symud ymlaen, nad ydym yn ceisio nodi prosiectau sydd ond yn mynd i fod o fudd i'n hardaloedd uniongyrchol ein hunain yn unig, a'n bod yn dibynnu ar gyngor arbenigol Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru pryd bynnag a sut bynnag y gallwn wneud hynny. Mae'r comisiwn hwnnw bellach yn weithredol. Byddaf yn ceisio cyngor gan y comisiwn. Buaswn yn annog pob Aelod, o ystyried ei annibyniaeth—pob Aelod—i wneud datganiadau o gefnogaeth i unrhyw raglen seilwaith sy'n seiliedig ar y dystiolaeth a ddarperir a'r cyngor a ddarperir gan yr arbenigwyr sy'n rhan o'r comisiwn.

14:00

Maddeuwch i mi am godi ar fy nhraed yn rhy gynnar; roeddwn yn meddwl na fyddech chi byth yn gorffen. Rydych—[Torri ar draws.]

[Anghlywadwy.]—er i mi nodi nifer o brosiectau a oedd i gyd mewn etholaethau Plaid Cymru, dywedais y gallai dalu am drydaneiddio o Gaerdydd i Abertawe. Nawr, byddant yn etholaethau Plaid Cymru un diwrnod, ond nid yw hynny'n wir eto.

O ran eich gwyriadau, rydych yn gwneud fy mhwynt ar fy rhan—rydych yn gwneud fy mhwynt ar fy rhan drwy ddweud bod Crewe a chael y cysylltiad hwnnw'n bwysig. Yr holl bwynt yw nad yw'r cysylltiad hwnnw wedi'i sicrhau eto, felly dyna fethiant arall o safbwynt yr hyn sydd yn HS2 i Gymru. 

Ar gyllid canlyniadol Barnett, mae'n rhaid i mi ddweud, er mwyn deall hyn yn iawn, mae gan yr Alban ffactor cymharedd o 100 y cant, sy'n golygu, yn syml, nad yw'n cael ei ystyried fel prosiect ar gyfer yr Alban, felly mae'n cael cyllid canlyniadol ychwanegol. Mae gan Gymru ffactor cymharedd o 0 y cant, a dyna pam fod Cymru hyd at £50 miliwn y flwyddyn, mwy na thebyg, ar ei cholled. Nawr, o ystyried ei bod yn amlwg na fydd Cymru'n derbyn cyllid canlyniadol llawn, fod cwmnïau o Gymru wedi bod ar eu colled yn y broses gaffael—beth bynnag yw eich gobeithion ar gyfer adeiladu trenau yn y dyfodol, nid oes gennym y sicrwydd hwnnw—y gost bosibl i economi Cymru, nad oes unrhyw newyddion ynglŷn â thrydaneiddio yn y gogledd na'r de, o ystyried eich bod wedi methu ennill y cyllid canlyniadol hwnnw yn llawn, onid yw'n bryd i Lywodraeth Lafur Cymru newid ei meddwl a dadlau yn erbyn HS2, gan ei fod yn erbyn buddiannau Cymru?

Roedd yn ddrwg gennyf glywed yr Aelod yn ymateb mewn ffordd mor gynhyrfus ac anghyfeillgar. Credaf ei bod yn bwysig cydnabod, ar lawer o faterion—[Torri ar draws.] Ar lawer o faterion, credaf y byddem yn cytuno. Ac ar fater penodol buddsoddi yn y rheilffyrdd, nid oes unrhyw wahaniaeth, rwy'n siŵr, ar draws y Siambr, o ran ein barn y dylid gwario mwy yng Nghymru. Ond mae'r Aelod eisoes wedi amlygu ei fod yn awyddus i ysgwyddo'r cyfrifoldeb am wario arian trethdalwyr Cymru ar brosiectau y dylai Llywodraeth y DU fod yn buddsoddi ynddynt, megis trydaneiddio o Gaerdydd i Abertawe. Cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw hwnnw—nid cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru—a dylai'r arian ddod o Lywodraeth y DU. Pam nad ydych yn herio Llywodraeth y DU ynglŷn â'r mater a dweud eich bod chi am wneud y gwariant hwnnw? Mae'n hurt. Mae'n hurt. Gwn fod Calan Gaeaf ar y gorwel, gyda jôcs a straeon brawychus, ond nid yw eich syniad o wario arian trethdalwyr Cymru ar wasanaethau a seilwaith y dylai Llywodraeth y DU fod yn talu amdanynt yn ddim llai na jôc.

Y Fasnachfraint Rheilffyrdd Newydd

3. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mesur llwyddiant gwelliannau i wasanaethau sy'n deillio o'r fasnachfraint rheilffyrdd newydd? OAQ52823

Wel, fy nod yw sicrhau mai gwasanaeth rheilffordd Cymru a'r gororau fydd y gwasanaeth rheilffordd gorau yn y DU i deithwyr o fewn y 15 mlynedd nesaf. Bydd y cytundeb newydd yn mesur llwyddiant drwy gasglu data ar niferoedd teithwyr, adborth o arolygon teithwyr, ynghyd â mesur yr amser y mae teithwyr yn ei golli o ganlyniad i amhariadau.

Iawn. Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Byddai'n dda iawn gennyf wybod pa fath o gytundeb lefel gwasanaeth rydych wedi'i sefydlu gyda deiliad y fasnachfraint newydd, yn enwedig mewn perthynas â'r targedau a'r dangosyddion perfformiad a nodwyd yn y cytundeb lefel gwasanaeth hwnnw. Pa mor llym rydych yn gorfodi'r dangosyddion perfformiad hynny yn y cytundebau lefel gwasanaeth—? Pa atebion sydd gennych yn y cytundeb lefel gwasanaeth a chytundeb y fasnachfraint i orfodi'r cytundeb lefel gwasanaeth mewn gwirionedd?

Credaf fod yr Aelod yn codi pwynt pwysig iawn, ac mae'n bwysig oherwydd, yn nhrefniadau'r fasnachfraint yn ddiweddar, ychydig iawn o fetrigau a oedd gennym ar gyfer profi perfformiad y gweithredwr. Yng nghytundeb y fasnachfraint, un mesur allweddol, wrth gwrs, fydd cynnydd neu fel arall yn niferoedd y teithwyr, ond byddwn hefyd yn edrych ar berfformiad gweithredol, sy'n cynnwys dulliau sy'n canolbwyntio mwy ar deithwyr o fesur amser teithwyr a gollir. Bydd yn ystyried prydlondeb gwasanaethau drwy gydol y daith, yn hytrach na'r gyrchfan derfynol yn unig, fel yn achos y cytundeb blaenorol. Byddwn hefyd yn edrych ar y ganran o orsafoedd a gaiff eu hepgor. Bydd hwnnw'n cael ei fonitro'n barhaus. Byddwn hefyd yn edrych ar drenau heb ddigon o gerbydau. Ceir mesurau mwy caeth ar gyfer trenau â llai na'r arfer o gerbydau a nifer y gorsafoedd a gaiff eu hepgor. Mae hefyd yn werth imi nodi bod trefn ansawdd gwasanaeth yn cael ei gweithredu sy'n ei gwneud yn ofynnol i drenau a gorsafoedd fodloni amrywiaeth o safonau'n seiliedig ar deithwyr mewn arolygiadau rheolaidd. Ac wrth gwrs, byddwn hefyd yn defnyddio'r arolwg teithwyr rheilffyrdd cenedlaethol yn ogystal ag arolygon boddhad cwsmeriaid rheolaidd, a bydd arolygon cwsmer cudd yn cael eu cynnal hefyd. Bydd perfformiad y gweithredwr a'r partner datblygu yn cael ei fonitro ar sail barhaus. Os bydd y perfformiad yn disgyn islaw'r lefelau rydym yn eu disgwyl a'r lefelau y cytunwyd arnynt, byddwn yn rhoi sefyllfa unioni ar waith. Gallai'r sefyllfa unioni arwain at ostwng neu atal y taliad cymhorthdal i'r gweithredwr a'r partner datblygu.

14:05

Ysgrifennydd y Cabinet, mae rhan o'r fasnachfraint newydd yn cynnwys ymrwymiad i ddarparu gwasanaeth rheilffordd bob hanner awr ym Mro Morgannwg. Rwyf wedi ymgyrchu am wasanaeth bob hanner awr ers blynyddoedd lawer, gan gredu bod datblygu cynllun trafnidiaeth gyhoeddus integredig yn ffordd fwy cynaliadwy o sicrhau cysylltedd ar gyfer cymudwyr, trigolion y Fro, ymwelwyr â'r arfordir treftadaeth a maes awyr Caerdydd. Ysgrifennydd y Cabinet, gwn eich bod yn ymwybodol o'r gwrthwynebiad sylweddol i gynigion y Fro ar gyfer ffordd fawr newydd i gysylltu'r A48 â'r M4. Mae ymgyrchwyr yn bryderus iawn ynglŷn â llygredd a diffyg cynrychiolaeth i'r grŵp amgylcheddol yn y grŵp adolygu ffyrdd. Felly, a ydych yn cytuno y dylid prysuro fy ngalwad am wasanaeth bob hanner awr yn y Fro? Mae'n ymddangos bod mwy byth o frys amdano.

Wel, a gaf fi ddiolch i'r Aelod am arwain yr ymgyrch dros wasanaethau rheilffyrdd gwell ar gyfer ei hetholwyr, ac a gaf fi hefyd ddiolch i'r Aelod am gytuno i gyfarfod â mi yn ddiweddar i drafod pryderon lleol am y cynigion ar gyfer ffordd fawr newydd i gysylltu'r A48 â'r M4? Mae'r mater y mae'r Aelod yn ei godi yn ymwneud â nifer y cerbydau trên sydd ar gael. Nawr, bydd rheilffordd Bro Morgannwg yn gweld cynnydd i ddau drên yr awr o 2023 ymlaen, ac mae'r cynnydd yn nifer y gwasanaethau yn dibynnu, wrth gwrs, ar gael cerbydau tri-moddol newydd sbon yn weithredol. Byddai'r amseroedd rhagbaratoadol cyfredol yn awgrymu mai'r dyddiad cynharaf y bydd y trenau hyn ar gael fydd 2023. Fodd bynnag, os oes unrhyw ffordd o gaffael y trenau'n gynt na hynny, byddwn yn eu gweithredu cyn y dyddiad hwnnw.

Rwy'n meddwl tybed a allaf fod yn gwsmer cudd o dan y fasnachfraint newydd, Ysgrifennydd y Cabinet—bydd rhywun yn siŵr o sylwi arnaf.

Un maes y gwyddoch fod gennyf ddiddordeb mewn gweld gwelliant mawr ynddo—codais y mater gyda'r Prif Weinidog yn ystod y cwestiynau yr wythnos diwethaf—yw mynediad i bobl anabl yn ein gorsafoedd. Ni chafodd ei wella cymaint â hynny o dan y fasnachfraint flaenorol. Gwn fod y Prif Weinidog wedi addo bod gwelliannau ar y gweill o dan y fasnachfraint newydd. Rwy'n arbennig o bryderus ynglŷn â mynediad i bobl anabl yng ngorsaf y Fenni, fel y gwyddoch. Rwy'n meddwl tybed a allech chi roi mwy o fanylion i ni am yr hyn a argymhellir ar gyfer gorsafoedd o ran gwella mynediad i bobl anabl, mewn perthynas â'r gorsafoedd yn fy etholaeth i yn benodol. 

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? A byddaf innau hefyd yn ystyried ei gais i fod yn gwsmer cudd ar gyfer y fasnachfraint. [Chwerthin.] Rwy'n falch o ddweud y bydd gorsaf y Fenni yn orsaf a fydd yn elwa o fuddsoddiad i sicrhau nad oes unrhyw risiau yno er mwyn gwella mynediad i bawb. Mae'n dipyn o gyferbyniad mai tua £600,000 yn unig a wariwyd yn ystod y 15 mlynedd diwethaf ar wella gorsafoedd ledled Cymru a'r gororau, ac yn y 15 mlynedd nesaf, bydd bron i £200 miliwn yn cael ei wario ar wella'r gorsafoedd hynny, gorsafoedd nad oedd y gweithredwr blaenorol yn gweld eu gwerth, ar sawl ystyr.

Nawr, credaf ei bod yn bwysig nodi hefyd, o fewn y £200 miliwn hwnnw, y bydd tua £15 miliwn ohono'n cael ei wario ar wella mynediad i orsafoedd. Byddwn yn ceisio sicrhau nad oes grisiau mewn cynifer o orsafoedd â phosibl, er mwyn gwella hygyrchedd gwasanaethau rheilffyrdd Cymru a'r gororau i bobl anabl yn enwedig.

Gwasanaethau Hygyrch i Bobl ag Anableddau

4. Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gydag Arweinydd y Tŷ am weithio gyda darparwyr trafnidiaeth i sicrhau bod eu gwasanaethau yn hygyrch i bobl ag anableddau? OAQ52803

Wel, fel Llywodraeth, rydym yn gwbl ymrwymedig i wella mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus er mwyn dileu rhwystrau i deithio, hybu byw'n annibynnol, a grymuso grwpiau agored i niwed i gyfranogi ym mywyd y gymdeithas. Dyma un o gonglfeini 'Symud Cymru Ymlaen', sy'n nodi ein huchelgais i adeiladu Cymru unedig, gysylltiedig â chynaliadwy.

14:10

Ysgrifennydd y Cabinet, roedd cyhoeddiad Trenau Arriva Cymru ychydig wythnosau yn ôl am eu pecyn newydd i gynorthwyo defnyddwyr rheilffyrdd sydd â nam ar eu golwg yn galonogol iawn. Roedd yn cynnwys pethau fel canllawiau sain arbenigol, cardiau cŵn cymorth a theithiau ymgyfarwyddo ar gyfer grwpiau sy'n cefnogi pobl â nam ar eu golwg. Rydym yn gwybod bod 107,000 o bobl â nam ar eu golwg yng Nghymru, ac mae'r RNIB yn awgrymu nad yw 80 y cant o'r rheini'n gallu teithio pryd bynnag neu i ble bynnag y byddent yn hoffi. Hoffwn wybod hyn: a fydd y darparwr newydd, Trafnidiaeth Cymru, yn cyflwyno'r pecyn hwn o fesurau cymorth a gyflwynwyd gan Arriva yn flaenorol, fel bod cynlluniau uchelgeisiol fel y metro yn hygyrch i bawb yng Nghymru?

Bydd. Hoffwn, yn gyntaf oll, ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn a chydnabod ei diddordeb brwd yn y maes hwn. Gallaf gadarnhau mai'r bwriad yw parhau i wella profiad pobl â nam ar eu golwg ac sy'n dymuno defnyddio ein system drafnidiaeth gyhoeddus. Rwy'n falch o ddweud hefyd y bydd darpariaethau fel canllawiau sain ar gyfer cynorthwyo teithio, y cynllun waled oren, sgwteri symudedd a chynlluniau teithio cŵn cymorth yn cael eu cyflwyno ledled Cymru.

Nawr, credaf ei bod yn deg dweud bod bysiau'n darparu nifer enfawr o deithiau ar gyfer pobl â nam ar eu golwg. Ac rwy'n credu ein bod ni wedi arwain ar hyn mewn sawl ffordd trwy sicrhau bod cyhoeddiadau clyweledol yn cael eu gwneud ar wasanaethau bysiau sy'n dibynnu ar gymorthdaliadau trethdalwyr. Roedd hyn yn uchelgeisiol iawn ac ar y pryd, roedd yn fesur eithaf dadleuol—roedd yn ymyrraeth ddadleuol ac yn galw am lawer gan y diwydiant. Fodd bynnag, ni wnaethom gilio rhag hynny, ac rwy'n awyddus, drwy gyfrwng y diwygiadau y soniais amdanynt yn gynharach y prynhawn yma, i barhau i wella profiadau teithwyr, nid yn unig ar drenau ond ar fysiau hefyd, i bobl o bob gallu, i bobl sydd â golwg cyfyngedig neu bobl sydd wedi colli eu golwg yn llwyr.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n croesawu'r cyhoeddiad diweddar y bydd mynediad i bobl anabl yn cael ei ddarparu yng ngorsaf reilffordd y Fenni ar ôl ymgyrch hir gan drigolion lleol. O gofio nad yw bron i chwarter y gorsafoedd rheilffordd yng Nghymru yn hygyrch i gadeiriau olwyn, a all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrth y Cynulliad hwn pa drafodaethau y mae wedi'u cael ynglŷn â sicrhau bod pob gorsaf yn gwbl hygyrch i bobl anabl a pha bryd y bydd yr amcan hwn yn debygol o gael ei gyflawni yng Nghymru?

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Rwyf wedi dweud wrth Nick Ramsay sut y bwriadwn wario £15 miliwn o'r £200 miliwn sydd ar gael ar gyfer gwella gorsafoedd ar wella mynediad i bobl anabl yn benodol. Byddaf yn ysgrifennu at yr Aelodau cyn gynted ag y byddwn wedi llunio'r adnodd a fydd yn mesur pa orsafoedd y dylid rhoi blaenoriaeth iddynt. Rwy'n cydnabod bod nifer o Aelodau yn y Siambr hon yn cynrychioli etholaethau gyda chymunedau sydd â phlatfformau nad ydynt yn hygyrch i bobl anabl ar hyn o bryd. Rwy'n dymuno sicrhau bod y dull a fabwysiadir i fesur y gorsafoedd â blaenoriaeth yn un tryloyw, yn deg ac yn hawdd ei ddeall. Byddaf yn ysgrifennu at yr Aelodau gyda manylion yr adnodd hwnnw cyn gynted â phosibl.

Gwasanaethau Bysiau Gwledig

5. Pa drafodaethau diweddar y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael am wasanaethau bysiau gwledig yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ52819

Wel, mae hwn yn fater eithriadol o bwysig ar draws Cymru, yn enwedig yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, rwy'n credu. Rydym yn parhau i ymgysylltu ag awdurdodau lleol a'u hariannu er mwyn eu galluogi i ddarparu gwasanaethau bysiau lleol, ac rydym hefyd yn gweithio'n agos iawn gyda hwy mewn sawl ffordd i wella gwasanaethau bysiau ymhellach, yn enwedig yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ymateb. Ni fydd yn synnu clywed bod mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus yn un o'r problemau y bydd fy etholwyr ar draws y rhanbarthau rwy'n eu cynrychioli yn ei ddwyn i fy sylw amlaf. Mae nifer o gwestiynau penodol y gallwn eu codi, a byddaf yn ysgrifennu ato ynglŷn â rhai o'r rheini. Ond yn benodol heddiw, hoffwn ofyn pa drafodaethau y mae ef a'i swyddogion wedi'u cael gyda chynghorau Gwynedd a Chonwy am y posibilrwydd o gynnwys ardal Blaenau Ffestiniog yn llwybr gwasanaeth T2 TrawsCymru, ac os oes trafodaethau o'r fath wedi bod, pa gynnydd a wnaed.

Mae arnaf ofn y bydd yn rhaid i mi ysgrifennu at yr Aelod gyda manylion y trafodaethau sydd wedi bod mewn perthynas â'r gwasanaeth T2 yn benodol. Rwy'n falch o ddweud ein bod yn gwbl ymrwymedig i wella ac ymestyn y gwasanaethau TrawsCymru ledled Cymru. Maent wedi profi'n hynod o boblogaidd, ac mae'r cynllun peilot a oedd yn cynnig trafnidiaeth am ddim ar benwythnosau wedi bod yn arbennig o boblogaidd, gyda chynnydd o lawer mwy na 60 y cant yn niferoedd y teithwyr. Rwyf hefyd yn credu bod gwasanaeth TrawsCymru wedi gallu ategu gwasanaethau rheilffyrdd mewn ardaloedd o Gymru a fyddai fel arall heb fodd o'u cyrraedd. Felly, rwy'n awyddus, fel y dywedaf—a gallaf roi sicrwydd i'r Aelod fy mod yn awyddus—i weld y gwasanaeth penodol hwnnw, TrawsCymru, yn cael ei ymestyn ymhellach yn y blynyddoedd i ddod.

14:15

Ysgrifennydd y Cabinet, mae ymgyrch leol yn galw am adfer gwasanaeth bws o Landudoch yn fy etholaeth i Aberteifi, gwasanaeth sydd wedi cael ei ddiddymu'n ddiweddar. Rhoddwyd llwybr newydd yn ei le sy'n golygu bod y bws olaf o Aberteifi'n cyrraedd Llandudoch am 4.24 p.m. Rwy'n siŵr y byddwch yn cydnabod yr anawsterau y gall hyn eu creu i'r gymuned leol, ac rwy'n deall na all Llywodraeth Cymru ymroi i ficroreoli gwasanaethau bysiau, ond pa waith penodol rydych chi a'ch swyddogion yn ei wneud, gan weithio gydag awdurdodau lleol fel sir Benfro a Cheredigion, i ddod o hyd i atebion ymarferol a realistig sy'n gallu diwallu anghenion cymunedau gwledig lleol?

Yn bennaf oll, mae'n bwysig cydnabod bod angen diwygio, mae angen deddfwriaeth, a byddwn yn cyflwyno hyn yn fuan. Yn amlwg, siom yw clywed am y newidiadau i'r gwasanaethau a amlinellwyd gan yr Aelod. Mae pob awdurdod lleol, wrth gwrs, yn gyfrifol am benderfynu pa wasanaethau y mae'n eu cefnogi ac am ddefnyddio'i gyllidebau ei hun, neu ein dyraniadau o'r grant cynnal gwasanaethau bysiau i ychwanegu at gyllidebau awdurdodau lleol at ddibenion darparu gwasanaethau na fyddent yn ymarferol ar sail fasnachol yn unig.

Rydym wedi ymyrryd lle bo angen, a lle bo'n fforddiadwy, ac wedi cyflwyno mesurau eithriadol, unigol yn aml, i fynd i'r afael ag ymdrechion arbennig a wneir gan awdurdodau lleol. Felly, er enghraifft, fe wnaethom ymyrryd yn sir Ddinbych, sir y Fflint a Wrecsam pan aeth GHA Coaches i'r wal. Rydym yn gweithio, nid yn unig gydag awdurdodau lleol, ond gyda'r sector a chyda grwpiau teithwyr i asesu sut y gallwn sicrhau bod newidiadau i wasanaethau yn bodloni disgwyliadau teithwyr a gofynion teithwyr, a bod modd adlewyrchu newidiadau drwy ymgynghori'n llawn ac yn ddiffuant â defnyddwyr. Credaf ei bod yn gwbl hanfodol, pryd bynnag y bydd gwasanaeth yn cael ei ddirwyn i ben neu ei newid, fod hynny'n cael ei wneud ar sail ymgynghori diffuant a dilys gyda'r bobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau hynny.

Y Diwydiant Theatr yng Nghymru

6. Sut y mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi'r diwydiant theatr yng Nghymru? OAQ52802

Drwy Gyngor Celfyddydau Cymru, mae'r Llywodraeth hon yn cefnogi amrywiaeth eang o weithgarwch theatr ledled Cymru yn y ddwy iaith, gan gynnwys Theatr Genedlaethol Cymru, National Theatre Wales, ac wrth gwrs, y canolfannau cynhyrchu hollbwysig hynny sydd wedi'u lleoli yn Theatr y Torch yn Aberdaugleddau, Theatr Sherman yma yng Nghaerdydd ac yn Theatr Clwyd.

Diolch. Diolch yn fawr iawn. Wrth gwrs, Theatr Clwyd yw'r ganolfan gynhyrchu neu'r theatr gynhyrchu fwyaf yng Nghymru. Mae'n cyfrannu'n sylweddol at economi gogledd-ddwyrain Cymru, mae'n gyflogwr mawr, ac mae wedi gweld trosiant cynyddol dros y blynyddoedd diwethaf. Roeddech yn sôn am gyngor y celfyddydau. Maent wedi ariannu astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer y prosiect ailddatblygu cyfalaf arfaethedig, ac maent bellach wedi buddsoddi eu swm mwyaf erioed, sef £1 miliwn, ar gyfer y cam cynllunio a datblygu, gyda'r cyngor yn cyfrannu arian cyfatebol. Ond at ei gilydd, byddant angen £15 miliwn i £22 miliwn dros dair blynedd i gwblhau'r prosiect, ac maent yn dweud wrthyf y bydd yn rhaid cau'r adeilad os na allant gyflawni'r rhaglen gyfalaf yn awr. Beth rydych chi a'ch adran yn ei wneud i'w cefnogi, i roi'r hyder iddynt wybod y gallant gael mynediad at gyllid ar y lefel honno, er mwyn sicrhau y bydd y theatr gynhyrchu fwyaf yng Nghymru yn parhau i ffynnu a thyfu?

Rwy'n falch o roi sicrwydd y bydd yr adeilad yn cael ei gadw fel theatr fyw, a bydd yn cael ei adnewyddu dros gyfnod o amser. Yn wir, mae iddo le, ac mae wedi ennill ei le eisoes, fel enghraifft o foderniaeth ddiweddar yn argraffiad diweddaraf John B. Hilling ar bensaernïaeth Cymru, sydd newydd gael ei gyhoeddi.

Rwyf wedi ymweld â Theatr Clwyd fy hun, ac wedi cael trafodaethau hir gyda hwy. Ni allwn ddynodi'n glir sut y byddwn yn bwrw ymlaen o ran y gwaith adnewyddu hwn, ond rwy'n cydnabod yr hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud am bwysigrwydd y theatr, nid yn unig fel ased diwylliannol yng ngogledd-ddwyrain Cymru, ond fel sbardun economaidd ar draws y Gororau, gan ei fod yn cael llawer o gefnogaeth, fel y gwn yn dda o fy ymweliadau â'r lle, gan ogledd-orllewin Lloegr yn ogystal. Mae'n brosiect â blaenoriaeth uchel, i gyngor celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru, a byddwn yn parhau i sicrhau, fel y dywed yr Aelod, y bydd yr adeilad hwn yn parhau i fod yn ganolfan gynhyrchu fawr ar gyfer drama fyw, wedi'i leoli yn harddwch cefn gwlad Clwyd, ac yn benodol, yn ardal yr Wyddgrug ac afon Alun.

14:20
Bargen Ddinesig Prifddinas-ranbarth Caerdydd

7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd? OAQ52822

Gydag arian y Llywodraeth yn llifo i fargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd, mae'r rhanbarth yn parhau i nodi, blaenoriaethu a chytuno prosiectau ac ymyriadau a fydd yn sbarduno twf economaidd cynaliadwy, ac a fydd o fantais i'r rhanbarth cyfan.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ymateb hwnnw ac rwy'n croesawu'r buddsoddiad a ddaw yn sgil y fargen ddinesig, o ran swyddi a thrafnidiaeth. Ond rwy'n awyddus iawn i weld y fargen yn ei chyfanrwydd yn cael mewnbwn menywod, a bod y gwasanaethau a'r prosiectau a ddatblygir yn ystyried beth y mae menywod ei angen. Oherwydd, o'r arweinwyr cyngor, y 10 arweinydd cyngor sy'n ffurfio cabinet y fargen, un yn unig sy'n fenyw, Debbie Wilcox o Gasnewydd. Felly, roeddwn yn meddwl tybed pa gamau y gallai Ysgrifennydd y Cabinet eu cymryd i sicrhau bod y fargen ddinesig yn cael effaith gadarnhaol ar fenywod yn y gymuned yn yr ardaloedd sydd wedi'u cynnwys yn y fargen.

A gaf fi ddiolch i Julie Morgan am ei chwestiwn? Roeddwn yn meddwl am anghydbwysedd rhwng y rhywiau yn ddiweddar mewn gwirionedd, ond mewn perthynas â rhan arall o Gymru, wrth drafod bargen benodol yn y gogledd, lle nad wyf yn credu bod cydbwysedd teg yn bodoli o ran dynion a menywod fel arweinwyr cynghorau, nac yn wir ar gynghorau yn gyffredinol. Mae'r cynllun gweithredu economaidd yn gwneud twf cynhwysol yn brif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, a chredaf ei bod hi'n gwbl hanfodol ein bod yn sôn am dwf cynhwysol, ein bod yn sôn am gydbwysedd a thwf teg, ac mae angen inni edrych—nid yn unig mewn llywodraeth leol, ond yn Llywodraeth Cymru hefyd—fel y gymuned rydym yn ei gwasanaethu. Felly, mae'n gwbl hanfodol, pan fo lluniau'n cael eu tynnu neu pan fo cytundebau'n cael eu llofnodi, fod y bobl sydd yno gyda'r pin ysgrifennu, sy'n cyflawni'r ddyletswydd bwysig honno, yn adlewyrchu'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Felly, dylai fod yn gytbwys a dylai gynrychioli pobl y gymuned y maent yn ei chynrychioli.

A gaf fi gymeradwyo Llywodraeth Cymru a chyngor Caerdydd, a'r sector preifat, am y  cydweithio rhagorol sy'n gwneud cymaint i weddnewid canol Caerdydd ar hyn o bryd? Yr unig ddrwg yn y caws a welaf ar hyn o bryd yw'r tir ar Sgwâr Callaghan sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru, sydd wedi bod yn barod i'w ddatblygu ers peth amser rwy'n credu. Yn sicr, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn berchen arno ers 2013. Pryd y gwelwn rywfaint o gynnydd o ran gwneud defnydd priodol o'r safle yn y rhan bwysig hon o'n prifddinas?

Rydym yn ystyried prosiect arbennig yn Sgwâr Callaghan. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn sylweddoli bod gwerth y tir hwnnw wedi cynyddu ers i Lywodraeth Cymru ei gaffael, ac rydym yn gweithio i wneud yn siŵr ei fod yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd orau ar gyfer y gymuned a'n bod yn gwneud yr elw mwyaf posibl ar y buddsoddiad i'r trethdalwr. Fel rhan o'r gwaith o ddatblygu canol Caerdydd, credaf y gallai ddod yn fan hollbwysig ar gyfer ailddatblygu, ac felly rydym yn awyddus i wneud yn siŵr ein bod yn manteisio i'r eithaf ar y cyfle unwaith mewn cenhedlaeth hwn i bobl Caerdydd a'r rhanbarth ehangach.

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol

Eitem 2 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Helen Mary Jones.

Hawliau Dinasyddion yr UE yng Nghymru

1. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU i sicrhau y diogelir hawliau dinasyddion yr UE yng Nghymru os bydd y DU yn gadael yr UE? OAQ52829

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i warantu na fydd gwladolion yr UE yn y DU yn colli eu hawliau, hyd yn oed mewn Brexit 'dim cytundeb'. Byddai creu amgylchedd gelyniaethus lle mae gwladolion yr UE yn penderfynu gadael yn niweidiol iawn i'n heconomi, ein gwasanaethau cyhoeddus a'n henw da yn rhyngwladol.

Rwy'n ddiolchgar i chi am eich ateb, Gwnsler Cyffredinol. Fe fyddwch yn gwybod cymaint yw pryder dinasyddion yr UE a'u teuluoedd yng Nghymru ac ar draws y rhanbarth. Mae dinasyddion mewn prifysgolion yn y rhanbarth a gynrychiolaf wedi mynegi eu pryderon wrthyf. A ydych wedi cael ymateb ffurfiol gan Lywodraeth San Steffan i'ch papur 'Brexit a Thegwch o ran Symudiad Pobl'? A pha sicrwydd pellach y gallwch ei roi i ddinasyddion yr UE a'u teuluoedd y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i roi blaenoriaeth i bwyso ar Lywodraeth y DU mewn perthynas â'r mater hwn? Mae'n hynod ofidus i deuluoedd sy'n teimlo nad oes croeso iddynt yn eu cartrefi mwyach, ac rwy'n siŵr y byddech yn cytuno â mi fod hyn yn gwbl annerbyniol.

14:25

A gaf fi ategu'r pwynt y mae'r Aelod wedi'i wneud mewn perthynas â hynny? Mae'n hollol anfoddhaol ein bod yn gorfod cael y mathau hyn o drafodaethau, ac er ei fod yn anodd i ni, mae'n llawer iawn anos i'r dinasyddion unigol hynny y mae eu bywydau mewn limbo ar un ystyr oherwydd diffyg eglurder hirdymor ynglŷn â rhai o'r materion hyn.

Mae'r Llywodraeth wedi croesawu cytundeb cyfnod 1 ar hawliau dinasyddion yn y cytundeb ymadael drafft, a bydd yr Aelod yn gwybod fod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi'r datganiad o fwriad ar anheddu yn yr UE ym mis Mehefin eleni, ac fe grybwyllodd bobl sy'n gweithio yn y sector addysg uwch—ym mis Hydref, cytunodd y Swyddfa Gartref i ymestyn cyfnod prawf beta preifat y cynllun anheddu i Gymru, i gynnwys sefydliadau addysg uwch, y sector gofal cymdeithasol a'r GIG.

Mae deialog parhaus wedi bod rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU mewn perthynas â'r cynllun anheddu yn gyffredinol—. Mae gennym bryderon, ac rydym wedi'u mynegi'n gryf, mewn perthynas â'r posibilrwydd na fydd miloedd o bobl, o bosibl, yn gallu manteisio ar y cynllun hwnnw oherwydd eu bod yn agored i niwed, efallai, neu oherwydd eu bod yn grwpiau sy'n anodd eu cyrraedd, ac annigonolrwydd y cyfathrebu mewn perthynas â hynny. Ond yn arbennig, o ran y cynllun peilot, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid wedi gwneud sylwadau penodol wrth Lywodraeth y DU. Nid ydym yn fodlon mai i unigolion yn unig y mae'r cynllun yn agored ac nid i'w teuluoedd. Rydym yn credu bod hynny'n amharchus a hefyd yn tanseilio bywyd teuluol ac yn wir, efallai ei fod yn tanseilio bwriad y cynllun ei hun hyd yn oed. Rydym hefyd yn pryderu ynglŷn â diffyg mecanwaith apelio statudol, a mentraf ddweud bod yna bobl sy'n oedi rhag dod i gysylltiad â'r cynllun hwnnw hyd nes y cânt fwy o sicrwydd y bydd eu teuluoedd yn cael eu cynnwys ynddo ac y byddant yn gallu cael mynediad at broses apelio.

Felly, mae nifer o bwyntiau sy'n peri pryder y parhawn i'w dwyn i sylw Llywodraeth y DU mewn perthynas â hyn, a bydd yr Aelod yn ymwybodol, wrth gwrs, fod hyn yn ymwneud, os caf ei roi felly, â'r cynlluniau uniongyrchol. Mae diffyg eglurder o hyd mewn perthynas â'r cynlluniau hirdymor ac rydym yn gwybod yn dda iawn yng Nghymru fod angen ymfudiad i Gymru i gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus a'n heconomi.

Rwyf eisiau codi sefyllfa dinasyddion Ewropeaidd sy'n byw ym Mhrydain, sy'n briod â dinesydd Prydeinig, sydd â phlant Prydeinig, ac sy'n ofni y bydd yn rhaid iddynt adael y wlad, a gadael eu partner a'u plant ar eu holau. Nid yw'n gwestiwn academaidd, nid yw'n un sy'n seiliedig ar bosibilrwydd—mae'n gwestiwn gan un o fy etholwyr sy'n ofni canlyniad o'r fath. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Llywodraeth San Steffan ynglŷn â'r broblem hon a allai fod yn ddifrifol iawn i'r unigolyn dan sylw?

Diolch i Mike Hedges am y cwestiwn atodol hwnnw, ac mae'r mater y mae'n ei godi yn fater rwy'n siŵr y bydd llawer ohonom, os nad pob un ohonom, wedi'i drafod yn ein cymorthfeydd, fel ein cymheiriaid, yr Aelodau Seneddol. Mae hynny'n dangos pa mor bwysig yw'r mater hwn i bob cymuned yng Nghymru.

O dan y cynllun anheddu, mae'r etholwr rydych newydd ddisgrifio ei amgylchiadau—. Bydd angen i ddinasyddion yr UE ac aelodau o'u teuluoedd sydd, erbyn diwedd 2020, wedi bod yn byw yn y DU yn barhaus am bum mlynedd, wneud cais am statws preswylydd sefydlog. Bydd pobl a fydd wedi cyrraedd erbyn hynny, ond na fydd wedi bod yn byw yma ers pum mlynedd, yn gallu ymgeisio am statws preswylydd cyn sefydlog, a fydd wedyn yn eu galluogi i fodloni'r trothwy pum mlynedd. Ac os oes ganddynt aelodau agos o'r teulu sy'n byw dramor ar y pwynt hwnnw, byddant yn gallu ymuno â dinasyddion yr UE ar ôl y dyddiad hwnnw lle'r oedd y berthynas yn bodoli ar y dyddiad hwnnw.

Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ymateb cynhwysfawr iawn i Helen Mary Jones ac roeddwn yn cytuno â phob gair. Mae'n resyn nad yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi hawlio'r tir uchel moesol yn hyn o beth. Byddai wedi bod yn eithaf hawdd i Lywodraeth y DU ar ei phen ei hun warantu hawliau dinasyddion yr UE sy'n byw ac yn gweithio'n gyfreithlon yn y Deyrnas Unedig, ni waeth beth yw barn Comisiwn yr UE. Yn amlwg, maent eisiau trin pobl fel testunau bargeinio yn y broses negodi, a chredaf fod hynny'n gwbl anghywir. Ymladdodd UKIP yr etholiad cyffredinol diweddar, ac etholiad y Cynulliad yn wir, ar sail rhoi gwarant o'r fath i ddinasyddion yr UE sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru, a bydd fy mhlaid yn rhoi pob cymorth posibl i'r Cwnsler Cyffredinol a Llywodraeth Cymru wrth iddynt barhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i wneud y peth iawn.

14:30

Wel, efallai fod ei blaid ef wedi ymgyrchu ar y sail honno yn y ddau etholiad diwethaf, ond yn sicr ni wnaeth ymgyrchu ar sail cymdeithas agored a chynhwysol yn ystod refferendwm Brexit ei hun.

Ac mae cryn dipyn o'r pryder a achoswyd ac a ddioddefwyd gan y bobl sy'n byw yn y DU a thramor yn deillio o'r mathau o sylwadau a dadleuon a gâi eu gwneud gan ei blaid yn ystod y refferendwm hwnnw.

Gwnsler Cyffredinol, mae'r cwestiynau wedi canolbwyntio llawer iawn ar ddinasyddion yr UE. Ddydd Llun, aeth aelodau o'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol i lysgenhadaeth Norwy, ac fe'n hatgoffwyd hefyd mai dinasyddion Ardal Economaidd Ewropeaidd sydd angen inni feddwl amdanynt. Felly, a gaf fi ofyn i chi sicrhau, pan fyddwch yn cael trafodaethau gyda'ch cymheiriaid yn San Steffan, eich bod yn canolbwyntio ar ddinasyddion yr UE ac AEE mewn gwirionedd, er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu trin yn gyfartal?

Wel, mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn. Mae'n gwbl hanfodol ein bod yn gwneud yn siŵr fod dinasyddion yr AEE yn cael yr un amddiffyniad â dinasyddion yr UE o dan y cytundeb fel y'i deallwn. Rydym wedi talu sylw gofalus i'r drafftiau olynol o'r cytundeb ymadael, a byddwn yn parhau i gyflwyno sylwadau i ategu hynny.

Achos Wightman yn Llysoedd yr Alban

2. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r goblygiadau ar gyfer Cymru o achos Wightman yn llysoedd yr Alban ynghylch Erthygl 50? OAQ52826

Wel, mae'r achos yn codi cwestiwn pwysig ynghylch y dehongliad o erthygl 50, a byddai'n ddefnyddiol iddo gael ei ateb er mwyn sicrhau y gellir gwneud penderfyniad deallus ar unrhyw gytundeb ymadael y deuir iddo rhwng Llywodraeth y DU a'r Undeb Ewropeaidd, neu os ceir canlyniad 'dim cytundeb'.

Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Gwnsler Cyffredinol. Yn amlwg, mae'r golygfeydd di-drefn a welsom yn San Steffan o ganlyniad i fethiant Llywodraeth y DU i gael unrhyw beth yn debyg i gytundeb ar hyn o bryd yn gwneud hyn yn llawer tebycach i: beth y gallwn ei wneud i ymestyn neu hyd yn oed i ddirymu erthygl 50? A gwn fod yr achos hwn yn ei roi'n ôl mewn sefyllfa Llys Cyfiawnder Ewrop, ond nid yw'n debygol o adrodd yn ôl mewn gwirionedd tan rywbryd o gwmpas diwedd y flwyddyn, ar ôl pleidlais ystyrlon o bosibl hyd yn oed. Felly, sut y gallwch gyflwyno'r neges hon i Lywodraeth y DU, fod y llanast y maent yn ei greu, y dylent fod yn rhoi sylw i'r mater hwn, ac efallai'n edrych ar y posibilrwydd o ddirymu erthygl 50, fel y gallwn gael yr amser ychwanegol y mae pawb yn erfyn amdano? Oherwydd mae'r amser mor brin, mae'n annhebygol ein bod yn mynd i gwblhau unrhyw beth erbyn mis Mawrth 2019.

Wel, diolch i'r Aelod am y cwestiwn pellach. Gallai fod yn ddefnyddiol inni atgoffa'n hunain beth sydd yn y fantol yn yr achos ei hun. Mae'r datganiad yn honni bod dehongliad Llywodraeth y DU o erthygl 50, ac yn arbennig ei honiad amlwg nad yw'n bosibl yn gyfreithiol i ddirymu hysbysiad erthygl 50 yn unochrog, yn anghywir. Dyna'r ddadl sy'n cael ei rhoi. Ymateb Llywodraeth y DU yn syml yw nad oes ganddi unrhyw fwriad i'w dirymu, ac felly nid yw'r cwestiwn yn codi ynglŷn â'r posibilrwydd o wneud hynny'n gyfreithiol ai peidio.

Cytunodd llysoedd yr Alban—Tŷ Mewnol Llys y Sesiwn—i gyfeirio'r cwestiwn i Lys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd, a cheir dyddiad dros dro, fel yr awgrymai ei gwestiwn, rwy'n credu, sef 27 Tachwedd er mwyn penderfynu arno. Ond mae Llywodraeth y DU wedi ceisio caniatâd i apelio yn awr yn erbyn y cyfeiriad at Lys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd, a gaiff ei glywed ar 8 Tachwedd, yn yr Alban. Bûm yn cadw llygad manwl ar ddatblygiad yr achos hwn, fel y bydd wedi'i ddisgwyl, a rhagweld y posibilrwydd cynyddol o Brexit 'dim cytundeb', a fyddai, fel rydym wedi dweud dro ar ôl tro, yn drychinebus i Gymru ac i'r DU.

Rwy'n credu mai'r ffordd orau o ddisgrifio canlyniad posibl yr achos hwn yw ei fod yn gyd-destun pwysig i'r trafodaethau a'r penderfyniadau y bydd angen eu gwneud yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Rwy'n credu bod angen cydnabod y byddai'n rhaid i unrhyw Lywodraeth y DU feddwl yn ofalus iawn cyn cymryd y cam o ddirymu erthygl 50, hyd yn oed os ydym yn darganfod o broses y llys ei bod yn bosibl gwneud hynny. Safbwynt Llywodraeth Cymru yw bod canlyniad y refferendwm yn golygu y dylai'r ddadl ymwneud â ffurf ac nid ffaith Brexit, ond fel y mae ei gwestiwn yn dweud yn glir, mae'r modd trychinebus a di-glem y mae Llywodraeth y DU wedi trin y negodiadau, sy'n gwneud senario 'dim cytundeb' yn fwyfwy tebygol, yn golygu bod angen inni gael eglurder ynghylch yr holl opsiynau cyfreithiol a allai fod ar gael wrth i'r penderfyniadau a'r trafodaethau hynny ddatblygu.

Creu Comisiynydd Traffig i Gymru

3. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o sail gyfreithiol y memorandwm cyd-ddealltwriaeth rhwng Gweinidogion Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth ynghylch creu comisiynydd traffig i Gymru? OAQ52807

14:35

Cwblhawyd y memorandwm cyd-ddealltwriaeth rhwng Gweinidogion Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, sydd yn ei hanfod yn gwneud trefniadau i hwyluso'r broses o benodi a chyllido Comisiynydd Traffig i Gymru, yn 2016. Darparodd fy swyddogion gyngor ar y sail gyfreithiol pan ymrwymwyd i'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth.

Diolch ichi am hynny. Deallaf yn awr fod hyn bellach yn dod o fewn ein cylch gorchwyl ni, gan fod Comisiynydd Traffig Cymru yn benodiad ar gyfer Cymru. Ym mis Awst eleni, rhoddodd ef, neu ei swyddfa, hysbysiad yn y papurau lleol yn gofyn am sylwadau gan bobl ynghylch cais trwyddedu cerbyd nwyddau a wnaed gan uwchfferm fawr yng ngorllewin sir Gaerfyrddin. Ac ar ran pobl Llan-y-bri, Llanllwch, Llan-gain, Llansteffan a Heol Allt-y-cnap, ysgrifennais yn ôl ato yn nodi ein gwrthwynebiad yn y modd cryfaf. Mae'r uwchfferm hon wedi bod yn boen i'w chymdogion ers amser maith a chafwyd llawer o ddamweiniau a llawer o broblemau. Syndod llwyr i mi oedd cael llythyr yn ôl a ddywedai, a dyfynnaf,

Gan nad oes Aelodau o Gynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'u cynnwys yn y rhestr o wrthwynebwyr statudol—

ac nid ydym bob amser yn wrthwynebydd statudol—

ni chaiff ACau wrthwynebu cais o safbwynt ei effaith arnynt hwy'n bersonol oni bai eu bod yn berchen ar, neu'n meddiannu eiddo yng nghyffiniau'r ganolfan weithredu.

Gan fod y comisiynydd traffig bellach wedi dod yn endid Cymreig, tybed a fyddech yn gallu adolygu'r sefyllfa hon. Roeddwn o'r farn ei fod yn perthyn i'ch cylch gorchwyl chi yn hytrach nag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, oherwydd, pa un a ydym yn wrthwynebwyr statudol ai peidio, rydym yn cynrychioli llawer iawn o etholwyr, a chefais fy mrawychu'n llwyr gan yr ymateb hwn oherwydd mae wedi effeithio ar gannoedd o bobl, ac os ydynt yn gofyn i mi fod yn llais iddynt, yr holl bwynt pam rwy'n sefyll yma ger eich bron heddiw yw bod yn llais iddynt.

Diolch i'r Aelod am dynnu fy sylw at y mater hwn. Credaf fod yna ddau bwynt i'w gwneud. Mae'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth rhwng Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r comisiynydd traffig i bob pwrpas yn darparu cyllid ar gyfer gwasanaethau ychwanegol. Ers ymrwymo i'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth, cafwyd newid yn y setliad datganoli, a bellach, mae gwasanaethau cofrestru bysiau, a ddarperir gan y comisiynydd trafnidiaeth, wedi'u datganoli i'r lle hwn, a chlywsoch Ysgrifennydd y Cabinet yn sôn am ei gynlluniau mewn perthynas â'r rheini'n gynharach. Ond mae'r ystod arall o swyddogaethau y mae Comisiynydd Trafnidiaeth Cymru'n eu harfer, gan gynnwys yr un y cyfeiriodd ati yn ei chwestiwn, yn gymwyseddau a gedwir yn ôl. Maent wedi'u cadw'n ôl i Lywodraeth a Senedd y DU o dan y setliad. Ac ni allaf sôn yn benodol am yr enghraifft unigol a roddodd, yn amlwg, oherwydd bydd yn cael gohebiaeth ynglŷn â'i swyddogaethau statudol yn rhinwedd ei swydd. Ond buaswn yn hapus i edrych ar y pwynt ehangach y mae hi'n ei godi ynglŷn ag ymgynghoriadau a gallu Aelodau'r Cynulliad i gyflawni eu swyddogaethau, hyd yn oed os yw'n digwydd trwy ddealltwriaeth anffurfiol yn hytrach nag ar sail statudol.

Y System Tribiwnlysoedd yng Nghymru

4. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael ynghylch capasiti'r system tribiwnlysoedd yng Nghymru? OAQ52827

Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Mae'r tribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru yn gweithredu'n effeithiol gyda llwyth gwaith sylweddol, ond rwy'n ymwybodol fod system tribiwnlysoedd Cymru a Lloegr, sy'n system lawer mwy o faint, yn gweithio ar hyn o bryd i oresgyn problemau penodol gyda chapasiti yng ngoleuni dyfarniad calonogol y Goruchaf Lys ar ffioedd tribiwnlysoedd cyflogaeth y llynedd.

Diolch i chi, Gwnsler Cyffredinol. Ac fel cyn swyddog undeb llafur, gwn yn rhy dda pa mor werthfawr yw'r gwasanaeth tribiwnlysoedd yn sicrhau cyfiawnder yn y gweithle i gynifer o bobl. Ac rwy'n falch iawn mai fy undeb, Unsain, a aeth â'r achos hwnnw i'r Goruchaf Lys a gwrthdroi'r system ffioedd tribiwnlysoedd hynod o anghyfiawn a oedd wedi gwadu mynediad i gynifer o weithwyr yn eu lle gwaith. Ac efallai mai'n rhannol mewn ymateb i hynny y gwelsom gymaint o gynnydd yn nifer yr hawliadau sy'n cael eu dwyn yn erbyn cyflogwyr ar draws y DU. Deallaf fod barnwriaeth ei Mawrhydi wedi dweud yn ddiweddar y bydd yn ceisio recriwtio barnwyr i ymdopi â'r llwyth achosion cynyddol yn y tribiwnlysoedd, gan gynnwys caniatáu i rai heb brofiad barnwrol blaenorol i wasanaethu mewn tribiwnlysoedd. Felly, o gofio hyn oll, Gwnsler Cyffredinol, pa drafodaethau a gawsoch i sicrhau y gall gweithwyr yma yng Nghymru gael mynediad amserol at wasanaethau'r tribiwnlysoedd?

Diolch ichi am y cwestiwn. Hoffwn ategu'r ffaith y credaf fod Unsain, y gwn ei bod hi wedi gweithio iddynt o'r blaen, wrth gyflwyno'r achos hwnnw yn y Goruchaf Lys, wedi gwasanaethu'r cyhoedd yn wych, ac roedd yn amlwg fod cyflwyno'r ffioedd tribiwnlys hyn wedi arwain at gau'r caead ar niferoedd mawr o anghyfiawnderau a'r gallu i'w datrys. Felly ers y penderfyniad, rydym wedi gweld cynnydd mawr iawn yn nifer y cwynion sy'n cael eu cyflwyno. Rwy'n credu bod y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu wedi cofnodi eu bod wedi derbyn dros 700 o gwynion ychwanegol yr wythnos, sy'n rhoi syniad i chi o faint y broblem.

O ganlyniad i gyflwyno'r ffioedd tribiwnlys, cafodd capasiti barnwrol y tribiwnlys ei leihau'n sylweddol. A'r hyn sy'n digwydd yn awr, fel y mae ei chwestiwn yn ei ragweld, yw ymarfer recriwtio i bob pwrpas er mwyn cyflogi barnwyr tribiwnlysoedd, yng Nghymru a Lloegr, i fynd i'r afael â'r ôl-groniad a'r llwyth gwaith yn y dyfodol. Felly, rwy'n falch fod hynny'n digwydd. Mae'n amlwg yn hanfodol cael system dribiwnlysoedd sy'n gwbl weithredol ac wedi'i staffio'n briodol i allu clywed yr achosion hynny.

Hoffwn groesawu'r ffaith hefyd fod llywydd y tribiwnlys cyflogaeth yn edrych am geisiadau gan rai heb brofiad barnwrol confensiynol. Credaf fod gan hynny botensial i agor llwybrau newydd ar gyfer recriwtio i'r rôl honno, a thrwy wneud hynny, gallai gynyddu amrywiaeth ymhlith barnwyr tribiwnlysoedd, a chredaf fod hwnnw'n amcan y byddai pawb ohonom yn awyddus i'w weld.

14:40
Technolegau Digidol yn y Sector Cyfreithiol

5. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael am y defnydd cynyddol o dechnolegau digidol yn y sector cyfreithiol? OAQ52810

Rwyf wedi cyfarfod gyda nifer o gwmnïau cyfreithiol ledled Cymru dros y chwe mis diwethaf, ac er bod eu defnydd o dechnolegau digidol newydd a'u defnydd ohonynt o reidrwydd yn amrywio, mae'n amlwg fod pob un ohonynt yn gweld y cyfleoedd i wella cynhyrchiant a gwella eu gwybodaeth arbenigol a'u sgiliau. Croesewir y defnydd o dechnoleg ac arloesedd yn y sector cyfreithiol.

Diolch i chi, Gwnsler Cyffredinol. Dywedodd llywydd Cymdeithas y Cyfreithwyr yn ddiweddar nad yw proffesiwn y gyfraith yn paratoi newydd-ddyfodiaid ar gyfer realiti ymarfer cyfredol, heb sôn am y newidiadau y gallwn eu rhagweld. Rwy'n falch iawn eich bod chi a'r Gweinidog materion digidol, arweinydd y tŷ, a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes yn gallu mynychu'r drafodaeth bwrdd crwn rwy'n ei chynnal y mis nesaf gydag ysgolion y gyfraith a'r cwmnïau cyfreithiol mawr i ystyried goblygiadau hyn ar gyfer y sector. Gwn eich bod wedi dangos llawer iawn o ddiddordeb yn y modd y gall datblygiadau mewn technoleg wella mynediad at gyfiawnder. Hefyd, a wnewch chi ystyried y goblygiadau ar gyfer y model busnes i nifer o gwmnïau cyfreithiol bach? Yn fy etholaeth i yn unig, ceir oddeutu 30 o gwmnïau cyfreithiol bach. Gallai datblygiad awtomatiaeth yn y sector yn hawdd effeithio ar y proffesiwn cyfreithiol yn yr un modd ag yr effeithiodd ar fanciau'r stryd fawr, lle cânt eu colli o'n trefi. Buaswn yn ddiolchgar pe baech yn ystyried goblygiadau hyn a sut y gallwn helpu'r sector i addasu.

Mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn. A dweud y gwir, cefais gyfarfod gyda swyddogion y bore yma i drafod y pwnc hwn, ymhlith pynciau eraill, ac mae'n amlwg, fel yr awgrymais yn fy ateb cychwynnol, fod her a chyfle technoleg i'w deimlo ar draws y sector, er bod hynny'n digwydd mewn gwahanol ffyrdd mewn gwahanol rannau o'r sector, fel y byddech yn ei ddisgwyl.

Soniodd am y cwestiwn ynglŷn â'r angen am set sgiliau newydd, os caf ei roi felly, ar gyfer pobl sy'n mynd i mewn i'r proffesiwn, er mwyn mynd i'r afael â realiti newydd. Mae ymgyrch recriwtio ddiddorol wedi'i chynllunio mewn gwahanol gwmnïau yng Nghymru, lle mae pobl yn edrych ar lwybrau anghonfensiynol drwy'r ymarfer, yn hytrach na llwybr confensiynol y gweithiwr cyswllt a'r partner—y gallwch ddilyn llwybr sy'n datblygu eich arbenigedd ar y rhyngwyneb rhwng technoleg a chyfraith efallai. Mae hynny'n digwydd eisoes yn rhai o gwmnïau mwy o faint y ddinas yn Llundain, ond mae hefyd yn digwydd yma yng Nghymru. Credaf fod hwnnw'n ddatblygiad diddorol sy'n cydnabod rhai o'r newidiadau hyn.

Ond hefyd ceir agweddau sy'n mynd y tu hwnt i'r effaith ar y model busnes, sy'n bwysig, i mewn i realiti'r gyfraith, gyda chontractau deallus a 'blockchain' yn dod yn realiti cynyddol mewn rhai agweddau ar ymarfer. Mae hynny'n galw am ffordd wahanol iawn o ymarfer y gyfraith ynddi ei hun. Mae Comisiwn y Gyfraith yn cychwyn ar brosiect i adolygu'r gyfraith yn y maes, felly efallai y bydd gennych ddiddordeb yn hynny. Credaf mai'r neges i gwmnïau cyfreithiol ym mhob rhan o Gymru yw bod yna gyfleoedd, ond bygythiadau hefyd, i rai agweddau ar eu model busnes ac y dylent ymwneud â hynny'n weithredol ac rydym yn barod i'w cefnogi mewn unrhyw ffordd sy'n bosibl.

3. Cwestiynau Amserol

Eitem 3 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r cwestiynau amserol. Mae gan Llyr Gruffydd gwestiwn amserol i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig. Llyr.

14:45
Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau a yw ei sylwadau yn y Farmers Guardian ar 18 Hydref, lle y dywedodd na fydd yn ystyried cynnal rhyw fath o daliad uniongyrchol i ffermwyr, hyd yn oed pe bai’r rhan fwyaf o ymatebwyr i 'Brexit a’n Tir' yn gofyn am hynny, yn adlewyrchu safbwynt Llywodraeth Cymru? 224

Diolch. Mae Llywodraeth Cymru bob amser wedi dweud yn glir fod cynllun y taliad sylfaenol yn dod i ben. Fel y nodir yn 'Brexit a'n Tir', rwy'n bwriadu gosod rhywbeth yn lle'r polisi amaethyddol cyffredin yn ei gyfanrwydd. Mae'r ymgynghoriad yn mynd rhagddo a byddaf yn ystyried ymatebion cyn gwneud penderfyniadau. Ni fydd unrhyw newidiadau i daliadau fferm yn digwydd heb ymgynghori ymhellach.

Wel, mae'r erthygl gennyf yma. Rydych chi newydd ddweud wrthym y byddwch yn ystyried ymatebion, ond yma rydych yn dweud,

Pan ofynnwyd iddi a fyddai'n ystyried cadw rhyw fath o daliad uniongyrchol pe bai mwyafrif helaeth yr ymatebwyr i'r ymgynghoriad yn gofyn am hynny, dywedodd: 'Na fuaswn'.

Nawr, yr wythnos diwethaf yn unig roeddech yn ceisio ailysgrifennu hanes ynglŷn â'r hyn a ddywedodd Sue Hayman mewn sylwadau ynghylch taliadau yn Lloegr, a heddiw efallai eich bod chi'n ceisio ailysgrifennu ychydig o hanes yma o ran yr hyn a ddywedoch chi. Mentraf ddweud eich bod yn dechrau swnio ychydig bach fel Donald Trump Cymru. Ac mae'n teimlo fel jôc wael, onid yw? Pa bryd nad yw ymgynghoriad yn ymgynghoriad? Wel, pan fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn amlwg wedi penderfynu'n union beth y mae am ei wneud, ni waeth beth fydd unrhyw un yn ei ddweud. A go brin fod hynny'n edrych yn dda. Rydych chi wedi gwneud cawlach o'r broses hon, mentraf ddweud. Yn gyntaf, eich ymyrraeth gyda'ch llythyr hanner ffordd drwy'r ymgynghoriad i ffermwyr yn ymyrryd ac yn dylanwadu ar y drafodaeth ar y pryd, ac yn awr, ni waeth beth y mae pobl yn ei ddweud, rydych chi'n dweud nad ydych yn mynd i wrando ar eu safbwyntiau. Felly, sut y gall y cyhoedd gael hyder yn y broses hon, Ysgrifennydd y Cabinet? Onid yw eich sylwadau'n tanseilio holl ddilysrwydd eich ymgynghoriad cyhoeddus—neu ymgynghoriad cyhoeddus honedig? Onid yw'n creu amheuaeth ynghylch uniondeb ymgysylltiad Llywodraeth Cymru â rhanddeiliaid ar y mater hwn?

'Dim o gwbl' yw'r ateb byr i'ch cwestiwn. Gadewch imi gywiro rhai o'r pwyntiau a godwyd gennych. Fel y dywedais, ymhell cyn i'r ymgynghoriad ddechrau, roeddem yn dweud bob amser y dôi cynllun y taliad sylfaenol i ben. Rydym o'r farn nad dyna yw'r cynllun gorau i gefnogi ein ffermwyr—[Torri ar draws.] Os hoffai'r Aelod wrando. [Torri ar draws.]

Felly os ydych am wrando, fe ddywedasom cyn i'r ymgynghoriad ddechrau y byddai cynlluniau'r taliad sylfaenol yn dod i ben. Rwyf wedi bod yn glir ar sawl achlysur—byddwch wedi fy nghlywed yn ei ddweud yn y Sioe Frenhinol, byddwch wedi fy nghlywed yn ei ddweud yn y Siambr, efallai y byddwch wedi fy nghlywed yn ei ddweud mewn pwyllgorau, ac rwy'n bendant wedi'i ddweud yn fy nghyfarfodydd bwrdd crwm, felly roedd yr holl randdeiliaid yn ymwybodol iawn o hynny. Rhaid inni gefnogi ffermwyr mewn ffordd well. Felly, mae'n ymgynghoriad ar yr hyn a ddaw yn lle'r polisi amaethyddol cyffredin yn ei gyfanrwydd, fel y dywedais.

Rydym wedi cynnig dau gynllun mawr hyblyg: y cynllun cadernid economaidd a'r cynllun nwyddau cyhoeddus, a dyna rydym yn ei gynnig mewn perthynas â chymorth incwm ar gyfer ein ffermwyr. Mewn perthynas â Sue Hayman, gallai fod o ddiddordeb i chi weld y llythyr y mae Sue Hayman wedi'i anfon at y lywydd NFU Cymru heddiw, a chefais gopi ohonom, ac fe welwch pam y dywedais yr hyn a ddywedais. Felly, credaf fod hwnnw'n bwynt pwysig iawn i chi hefyd.

Fe gyfeirioch chi hefyd at y llythyr agored a anfonais at ffermwyr. Mae Brexit yn ddigynsail. Credaf mai dyna'r gair a ddefnyddioch chi—fy mod wedi gwneud rhywbeth digynsail. Mae'n gwbl briodol i Lywodraeth Cymru roi eglurder pellach ar ei chynigion. Rydym am weld dadl frwd a gwybodus. A rhaid imi ddweud, roeddwn yn bryderus iawn pan gyflwynwyd yr ymgynghoriad hir hwn y byddai pobl wedi blino ar Brexit. Mae'n wych nad yw hynny wedi digwydd. Mae'n dda iawn ein bod yn ymgysylltu mewn ffordd—. Roeddech chi, fel finnau, yn y digwyddiad amser cinio a gynhaliwyd ac a noddwyd gan Paul Davies. Rwy'n meddwl ei bod hi'n wych ein bod yn cael yr ymgynghoriad hwn. Ond mae'n ymgynghoriad ystyrlon. Os oes unrhyw un yn ei danseilio, chi yw hwnnw. Nid wyf eisiau i hynny barhau. Rwyf am i bobl ddeall bod yr ymatebion a gawn—ac rydym wedi cael miloedd, yn llythrennol—. Nid yw'n dod i ben tan ddydd Mawrth, a buaswn yn ddiolchgar pe gallai pawb gyflwyno eu safbwyntiau.

Ysgrifennydd y Cabinet, cefais y fraint o gynnal y sesiwn friffio ar y cyd y cyfeirioch chi ati'n gynharach gydag NFU Cymru ac Undeb Amaethwyr Cymru, ac roeddwn yn falch eich gweld yn y digwyddiad hwnnw. Nawr, credaf mai'r hyn a gafodd ei gyfleu'n eglur yn y digwyddiad oedd bod ffermwyr ledled Cymru yn pryderu nad yw Llywodraeth Cymru yn gwrando arnynt, a gwelir yr ymgynghoriad hwn fel llen fwg i Lywodraeth Cymru fwrw ymlaen doed a ddel a rhoi diwedd ar daliadau uniongyrchol ni waeth beth fydd ewyllys y sector amaethyddol neu'r busnesau yn y gadwyn gyflenwi yr effeithid arnynt yn anuniongyrchol gan y cynigion hyn hefyd. Mae'n bwysig iawn fod unrhyw gynigion yn y dyfodol yn rhoi pwyslais haeddiannol ar gynhyrchu bwyd, yn sicrhau cydraddoldeb i ffermwyr Cymru ac yn cydnabod y goblygiadau difrifol y gallai'r cynigion hyn eu cael i economi wledig Cymru ac yn wir, ar ein diwylliant. Mae'n hollbwysig fod y cydbwysedd yn gywir rhwng rheoli tir a chynhyrchu bwyd er mwyn gwarchod cynaliadwyedd y diwydiant ar gyfer y dyfodol. Felly, a wnewch chi ymrwymo yn awr i wrando ar safbwyntiau ffermwyr Cymru ar ôl i'r ymgynghoriad hwn ddod i ben er mwyn diogelu'r sector ar gyfer y dyfodol, a gweithio gyda'r diwydiant i ddatblygu cynigion sy'n deg, yn briodol ac sydd o ddifrif yn adlewyrchu barn y diwydiant ffermio a'r economi wledig ehangach yma yng Nghymru?

14:50

Roeddwn yn falch iawn o fod yn y digwyddiad amser cinio; mae'n ddrwg gennyf nad oeddwn yn gallu aros am yr awr gyfan. Nid wyf yn gwybod os oeddech yn gwrando, ond yr hyn a glywais gan Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ac Undeb Amaethwyr Cymru, pan ofynnwyd iddynt a oeddent yn teimlo ein bod yn gwrando, oedd 'ydym'. Mae'r ddau unigolyn a oedd ar y llwyfan, y ddau lywydd, yn rhan o fy mwrdd crwn Brexit. Dywedodd y ddau nad oedd unrhyw beth annisgwyl yn y ddogfen honno, oherwydd roeddent wedi eistedd o gwmpas y bwrdd hwnnw. Dywedodd un ohonynt wrthyf, 'Mae hon yn adeg ar gyfer diwygio radical', ac mae'r hyn rydym yn ei gynnig yn radical—rwy'n derbyn hynny—ond rhaid inni gynllunio'r system orau ar gyfer cymorth i ffermydd yma yng Nghymru, a dyna rydym yn ymgynghori yn ei gylch.

Cytunaf yn llwyr â chi ynglŷn â chynhyrchu bwyd, ac os edrychwch ar y pedwar ymgynghoriad a gynhelir yn y DU ar amaethyddiaeth, credaf fod cynhyrchu bwyd yn llawer mwy canolog i'r ymgynghoriadau hynny yng Nghymru nag yn unrhyw un o'r ymgynghoriadau eraill.

Soniais yn fy ateb i Llyr ein bod wedi argymell dau gynllun. Bydd hynny'n rhoi cyfle i ffermwyr greu busnesau mwy cadarn a mwy amrywiol. Mae'n hollol iawn ein bod yn eu gwneud mor gynaliadwy â phosibl. Rydym am iddynt aros ar y tir. Rydym am iddynt gystadlu mewn marchnadoedd byd-eang. Mae cymaint o ansicrwydd i'w deimlo ar hyn o bryd. Hefyd, rydym am iddynt ddarparu'r nwyddau cyhoeddus sydd eu hangen ar bawb ohonom fel cymdeithas, ac ar hyn o bryd, ni fuaswn yn dweud bod ffermwyr yn cael eu talu amdanynt. Felly, mae yna lawer o nwyddau cyhoeddus ar hyn o bryd nad ydynt yn cael incwm amdanynt, a dyna fydd y cynllun nwyddau cyhoeddus yn ei wneud.

Mae'n hollol iawn i Ysgrifennydd y Cabinet gael meddwl agored ynghylch dyfodol y polisi amaethyddol a'r cyfle y mae Brexit yn ei roi, ond rwy'n credu bod yn rhaid iddi gydnabod bod ffermwyr Cymru yn dibynnu llawer mwy ar y polisi amaethyddol cyffredin na ffermwyr yn Lloegr; gall ffurfio hyd at 80 y cant o incwm ffermydd yng Nghymru, ond 55 y cant yn unig yw'r cyfartaledd yn Lloegr. Felly, mae'n bwysig iawn, yn fy marn i, inni edrych ar hyn gam wrth gam, heb ruthro i wneud newidiadau ar raddfa eang mewn amser rhy fyr, a fyddai'n ei gwneud hi'n anodd iawn rheoli'r cyfnod pontio. O ystyried bod 85 y cant o'r cymorthdaliadau'n cael eu talu o dan golofn 1 yn hytrach na cholofn 2, fel eu bod yn daliadau uniongyrchol yn hytrach nag ar gyfer cynlluniau amgylcheddol cysylltiedig, mae'n anodd i mi weld sut y gallem symud yn gyflym iawn i wneud y mathau hynny o gynlluniau colofn 2 yn ddigon cadarn i gynnal lefelau presennol o incwm ffermydd. O ystyried bod incwm ffermydd yn llai nag £20,000 ar gyfartaledd a bod swm y cymhorthdal a dderbynnir mewn taliad uniongyrchol oddeutu £16,000 ar gyfartaledd, rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn deall pam y mae llawer o ffermwyr yn bryderus iawn y byddant yn colli symiau sylweddol o incwm na allant fforddio ei wneud, gan wthio eu busnesau o fod yn fentrau sy'n gwneud elw bach i fod yn fentrau sy'n gwneud colled. Gallai hynny arwain at ganlyniadau trychinebus i gefn gwlad yn gyffredinol.

Os caf sôn am y ddau bwynt y credaf fod Neil Hamilton yn eu gwneud, credaf eich bod yn gywir am yr 80 y cant o ffermydd ac mai dyna yw eu hincwm, a chredaf fod hynny'n dweud stori wrthych, a dyna'n union rwy'n ei ddweud: yn fy marn i nid yw'r polisi amaethyddol cyffredin yn annog nac yn amddiffyn ffermwyr rhag llawer o'r ansefydlogrwydd, yn fwyaf arbennig, rydym wedi'i weld. Rydym am eu gwneud yn fwy gwydn. Nid wyf yn meddwl fod y PAC wedi gwneud hynny os oes gennym ffermydd sy'n ddibynnol ar y cynlluniau hynny am 80 y cant o'u hincwm.

O ran symud pethau gam wrth gam, rydych yn llygad eich lle, ac rwyf wedi dweud yn glir iawn nad oes unrhyw benderfyniadau wedi'u gwneud ac ni fyddant yn cael eu gwneud hyd nes y daw'r holl ymatebion i'r ymgynghoriad i law. Rwyf wedi dweud yn glir iawn y bydd ymgynghori pellach yn digwydd yn ystod y gwanwyn nesaf. Ni fydd unrhyw newidiadau i daliadau o gwbl. Ni fydd unrhyw gynlluniau'n cael eu cynllunio heb asesiad effaith priodol. Ni fydd unrhyw hen gynlluniau'n cael eu dileu cyn i'r cynlluniau newydd ddod yn barod. Felly, rwyf wedi ymrwymo i gynlluniau'r taliad sylfaenol ar gyfer 2018-19, ac yna byddwn yn edrych ar hyn o 2020 ymlaen. Rwyf wedi dweud hyd yn oed—a chredaf fy mod wedi'i ddweud yn yr erthygl y cyfeiriodd Llyr ati—os credwn fod angen iddi fod yn flwyddyn arall o bontio neu ddwy flynedd arall o bontio, byddwn yn edrych ar hynny. Rwy'n hyblyg iawn ynglŷn â hynny. Cawn weld beth a ddaw o'r ymgynghoriad.

14:55
4. Datganiadau 90 Eiliad

Un flwyddyn ar ôl sefydlu'r mudiad #MeToo, ac nid yw'r newid enfawr y gobeithiai llawer ohonom y byddai'n ei sbarduno wedi digwydd. Mae annog pobl i roi gwybod yn bwysig, ond yn rhy aml, pan wnânt, nid oes unrhyw beth yn digwydd. Nid yw gwasanaethau cymorth yr heddlu a chymorth i ddioddefwyr yn cael digon o gyllid, mae rhestrau aros ar gyfer cwnsela a chymorth arall yn annerbyniol o hir. Mae gweithdrefnau sefydliadau'n annigonol ac ni allant ymdrin â nodweddion penodol aflonyddu rhywiol ac ymosodiadau rhywiol. Yn aml nid oes lle i ystyried cwynion hanesyddol neu batrymau ymddygiad. Mae dioddefwyr yn amharod i rannu gwybodaeth, ac ni ellir gwarantu y caiff dioddefwyr aros yn ddienw, neu y cânt eu diogelu rhag erledigaeth. Nid oes gan bobl hyder yn ein systemau ac felly mae'r rhan fwyaf o ddigwyddiadau yn mynd heb eu cofnodi.

Felly, rwy'n galw heddiw ar unrhyw un sydd â diddordeb mewn newid y modd yr awn i'r afael ag aflonyddu rhywiol ac ymosodiadau rhywiol i gysylltu â mi i fod yn rhan o rwydwaith newydd. Anfonwch neges e-bost ataf fel y gallwn greu rhwydwaith ar gyfer darparu cymorth emosiynol, ymarferol a chyfreithiol, rhannu gwybodaeth ac ymgyrchu dros newid gwleidyddol.

I lawer o fenywod, y mudiad #MeToo oedd y tro cyntaf iddynt deimlo y gallent siarad yn agored am eu profiadau o aflonyddu rhywiol ac ymosodiadau rhywiol, ac mae arnaf ofn, fel arweinwyr gwleidyddol ac fel cymdeithas, ein bod yn gwneud cam â hwy. Ni allwn ganiatáu i'w lleisiau gael eu hanwybyddu, ac ni allwn adael i'r alwad am gyfiawnder fynd heb ei hateb.

Am ymhell dros ganrif, mae pobl o Yemen wedi bod yn dod i'n gwlad i wneud Cymru'n gartref iddynt. Un ffaith nad yw'n hysbys iawn yw mai ar Stryd Glynrhondda yng Nghaerdydd yr adeiladwyd y mosg cyntaf ym Mhrydain. Daeth yr Yemeniaid yma fel morwyr i weithio ar gychod glo a hwyliai i borthladd Aden cyn dychwelyd i Gaerdydd a Chasnewydd. Roedd fy nhaid yn un o'r morwyr Yemenïaidd a wnaeth gartref yng Nghymru. Mae'r wlad a adawsant mewn cythrwfl bellach. Ers 2015, bu o dan ymosodiad gan ymgyrch filwrol filain a arweinir gan Saudi Arabia. Lladdwyd miloedd o sifiliaid, ac mae'r rhai na syrthiodd o dan y bomiau a'r bwledi bellach yn wynebu clefydau a newyn mawr. Ychydig iawn a wnaeth Llywodraeth Prydain heblaw gwerthu mwy o arfau i Saudi Arabia, ond fel Senedd Cymru mae angen inni sefyll dros gymunedau sy'n byw yng Nghymru, gan gynnwys y gymuned Yemenïaidd hirsefydlog. Rwyf wedi cyflwyno datganiad barn yn galw am gymorth iechyd meddwl a chymorth gan Lywodraeth Cymru i gymuned Yemenïaidd Cymru i helpu gyda'r frwydr go iawn, o wybod beth y mae aelodau'r teulu yn Yemen yn ei wynebu. Rwy'n gobeithio y gall pawb ohonoch lofnodi'r datganiad ac y gallwn weithredu'n gadarnhaol i ddatrys y trychineb hwn dan law dynion.

Cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau— Plaid Cymru

Yr eitem nesaf ar yr agenda yw'r cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau ar gyfer Plaid Cymru. Yn unol â Rheolau Sefydlog 12.24 a 12.40, rwy'n cynnig bod y cynigion i ethol Aelodau i'r pwyllgorau hynny'n cael eu grwpio ar gyfer dadl a phleidlais. Felly, galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol—Rhun ap Iorwerth.

Cynnig NDM6836 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Cyllid yn lle Steffan Lewis (Plaid Cymru).

Cynnig NDM6837 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Leanne Wood (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Deisebau yn lle Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru).

Cynnig NDM6838 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Llyr Gruffydd (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn lle Dai Lloyd (Plaid Cymru).

Cynnig NDM6839 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Bethan Sayed (Plaid Cymru) yn aelod o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn lle Adam Price (Plaid Cymru).

Cynnig NDM6840 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Sian Gwenllian (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn lle Llyr Gruffydd (Plaid Cymru).

Cynnig NDM6841 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Leanne Wood (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn lle Bethan Sayed (Plaid Cymru).

Cynnig NDM6842 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Helen Mary Jones (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn lle Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru).

Cynnig NDM6843 Elin Jones

Cynnig Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Dai Lloyd (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn lle Sian Gwenllian (Plaid Cymru).

Cynnig NDM6844 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Helen Mary Jones (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn lle Llyr Gruffydd (Plaid Cymru).

Cynnig NDM6845 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Llyr Gruffydd (Plaid Cymru) yn aelod amgen o’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn lle Adam Price (Plaid Cymru).

Cynigiwyd y cynigion.

Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynigion hynny. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes?—[Torri ar draws.] Clywais y gair 'gwrthwynebu'—[Torri ar draws.] Na, na. Mae'n ddrwg gennyf, clywais y gair 'gwrthwynebu'. Felly, gohiriwn y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, fe'i clywais a meddyliais—. Beth bynnag, dyna ni.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor—UKIP

Felly, cynnig i ethol aelod o UKIP i bwyllgor, ac unwaith eto, galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol—Neil Hamilton.

Cynnig NDM6846 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Neil Hamilton (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig) yn aelod amgen o’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn lle Michelle Brown (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig).

Cynigiwyd y cynnig.

Yn ffurfiol. Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.]—[Torri ar draws.] Iawn, o'r gorau. Gohiriwn y pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar ei Ymchwiliad, 'Tai Carbon Isel: yr Her'

Eitem 5 ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar ei ymchwiliad i 'Tai Carbon Isel: yr Her'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Mike Hedges.

Cynnig NDM6832 Mike Hedges

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, 'Tai Carbon Isel: yr Her', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Awst 2018.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o agor y ddadl heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar yr heriau o ddiwallu ein hangen am dai carbon isel. Hoffwn ddiolch i'r holl aelodau presennol a blaenorol o'r pwyllgor a gyfrannodd at ein hymchwiliad, y tîm clercio, y Gwasanaeth Ymchwil a'r rhai a roddodd dystiolaeth i ni.

Mae ein hadroddiad yn mynd i'r afael â'r rhesymau pam y mae angen cartrefi effeithlon o ran eu defnydd o ynni, costau cael tai nad ydynt yn defnyddio ynni'n effeithlon a'r camau angenrheidiol i ni gyrraedd lle mae angen inni fod er mwyn diwallu ein hymrwymiad ar leihau allyriadau. Pam y mae angen newid? Ceir llawer o resymau pam y dylem wella gallu ein stoc dai i arbed ynni. Y pwysicaf yw'r angen i gyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol i gael gwared ar dlodi tanwydd a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mae angen i Lywodraeth Cymru leihau allyriadau 80 y cant erbyn 2050. Mae targedau heriol yn galw am atebion heriol. Bydd lleihau faint o ynni a ddefnyddiwn yn ein cartrefi yn cyflymu'r cynnydd tuag at y nodau hyn yn sylweddol. Bydd cyrraedd y targedau hyn yn galw am gynyddu uchelgais yn sylweddol a rhaid i hynny rychwantu holl ysgogiadau polisi Cymru.

Ein prif argymhelliad yw y dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno strategaeth carbon isel 10 mlynedd, gan gynnwys cerrig milltir a thargedau mewn chwe maes allweddol, gan gynnwys adeiladu o'r newydd, ôl-osod a chynllunio. Byddaf yn canolbwyntio ar dri o'r meysydd allweddol hynny heddiw.

Yn gyntaf, ôl-osod. Erbyn 2050, mae'n debygol y bydd llawer iawn mwy o dai a adeiladwyd yn yr ugeinfed ganrif nag o dai a adeiladwyd yr unfed ganrif ar hugain, ac mewn sawl rhan o Gymru, bydd mwy o dai a adeiladwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg nag o dai a adeiladwyd yr unfed ganrif ar hugain. Felly, yn amlwg, mae angen inni ôl-osod. Mae cartrefi aneffeithlon o ran eu defnydd o ynni yn arwain at filiau tanwydd uwch a'r tlotaf yn ein cymdeithas sy'n dioddef waethaf o ganlyniad i hyn. Mae gormod o bobl sy'n agored i niwed yn talu gormod am eu gwres heb fod unrhyw fai arnynt hwy eu hunain.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwario miliynau lawer ar liniaru tlodi tanwydd trwy ôl-osod mesurau effeithlonrwydd gwresogi ar gyfer y rhai sy'n wynebu fwyaf o berygl. Mae ein hadroddiad yn canmol ymdrechion i fynd i'r afael â'r broblem hon a'r cyhoeddiad o £72 miliwn pellach yn rhaglen Arbed i barhau'r rhaglen. Er gwaethaf ymdrechion y Llywodraeth, ni chyrhaeddwyd y targed tlodi tanwydd. Rydym wedi clywed bod angen gwneud gwaith ôl-osod ar raddfa fawr er mwyn cael unrhyw effaith ar dlodi tanwydd, ac ôl-osod 40,000 o dai y flwyddyn er enghraifft er mwyn bod ag unrhyw obaith o gyrraedd y targed erbyn 2050. Rydym wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru anelu at ôl-osod yr holl dai sydd mewn tlodi tanwydd yng Nghymru i fyny at safonau gweithredu di-garbon o fewn 10 mlynedd.

Yr ail faes yr hoffwn ganolbwyntio arno yw adeiladu o'r newydd. Er mai 6 y cant yn unig o dai a adeiladir o'r newydd, mae'n rhywbeth sy'n rhaid ei gael yn iawn. Bydd adeiladau newydd heddiw yn dal i gael eu defnyddio yn yr ail ganrif ar hugain. Rydym wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru, o fewn oes ein strategaeth 10 mlynedd arfaethedig, sicrhau bod pob tŷ newydd yn cael ei adeiladu yn ôl safonau di-garbon.

Ychydig o adeiladwyr tai ar raddfa fawr a geir, ac nid oes llawer o gymhelliad i gynnig mwy na'r safon sy'n ofynnol yn ôl y rheoliadau adeiladu, ond mae rhai adeiladwyr mawr braidd yn amharod i adeiladu ffyrdd i safonau mabwysiadwy, heb sôn am wneud yn siŵr fod tai'n cael eu hadeiladu i fod yn gynnes. Dywedwyd wrthym y byddai newidiadau i'r rheoliadau adeiladu yn arwain at adeiladu llai o dai yng Nghymru. Mae pawb ohonom wedi clywed hynny o'r blaen, onid ydym, Ddirprwy Lywydd? Dywedwyd hynny wrthym am systemau chwistrellu. Ond dywedwyd wrthym hefyd, gyda rhybudd ac amser, y bydd cwmnïau adeiladu tai mawr hyd yn oed yn gallu addasu i safonau adeiladu uwch. Credwn y dylai Llywodraeth Cymru nodi amserlen glir i symud tuag at dai di-garbon ar waith, fel y gall adeiladwyr tai, y gadwyn gyflenwi a darparwyr sgiliau baratoi. Rwy'n falch fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn ein hargymhelliad ar hyn.

Roeddem hefyd yn bryderus i glywed rhanddeiliaid yn dweud wrthym nad yw'r safonau adeiladau presennol yn cael eu gorfodi. Yn amlwg, nid yw'r system yn gweithio. Mae angen i'r system arolygu fod yn llawer mwy trylwyr ac annibynnol. Rydym wedi galw ar y Llywodraeth i gyflwyno marc ansawdd ar gyfer mesurau arbed ynni mewn tai a adeiladir o'r newydd a thechnoleg ôl-osod i gynyddu hyder defnyddwyr mewn cartrefi carbon isel. Rhaid i arolygu a gorfodi'r nod ansawdd hwn gael ei orfodi'n annibynnol ac yn drylwyr. Hefyd, dylai osod rhwymedigaeth ar y gosodwr i sicrhau bod y perfformiad gofynnol yn cael ei ddarparu neu atgyweirio, neu osod technoleg o'r newydd. Nid 'Dyma'r hyn y gallech ei gyflawni pe bai popeth arall yn gweithio'n berffath.'

Wrth gwrs, ni ellir darparu'r mesurau uchelgeisiol hyn ar gyfer ôl-osod ac adeiladu o'r newydd oni bai fod gennym fynediad at y sgiliau cywir ar yr amser cywir. Gwelsom fod prinder gweithwyr proffesiynol medrus yn gweithio yn y diwydiant. Mae'r angen i dalu am lafur ychwanegol yn cynyddu cost y dechnoleg angenrheidiol, sy'n gwneud adeiladwyr yn amharod i'w gosod. Dywedodd cynrychiolwyr y diwydiant wrthym mai'r rhwystr mwyaf i fuddsoddi mewn hyfforddiant yw diffyg sicrwydd yn y farchnad. Er mwyn buddsoddi mewn hyfforddiant, mae angen iddynt wybod y bydd y sgiliau hynny'n cael eu defnyddo. Dyma pam y mae ymrwymiad clir i amserlen 10 mlynedd tuag at safonau gweithredu di-garbon mor bwysig. Bydd yn rhoi hyder i'r diwydiant hyfforddi'r gweithlu sydd ei angen arnom i ddod â'n cartrefi i mewn i'r unfed ganrif ar hugain.

Yn olaf, hoffwn droi at ymateb Llywodraeth Cymru. Nid wyf wedi treulio llawer o amser yn siarad amdano hyd yma. Bydd yn gyfarwydd iawn i'r Aelodau—derbyn argymhellion mewn egwyddor, ond nid oes gennym syniad sut y cânt eu cyflawni'n ymarferol. Dywedir wrthym fod pynciau'n cael eu hadolygu gan grwpiau o ymgynghorwyr neu weision sifil. Gellir maddau i Aelodau am deimlo rhywfaint o déjà vu. Rwy'n meddwl am 'gytuno mewn egwyddor' fel rhywbeth sy'n golygu, 'Nid ydym yn mynd i'w wneud, ond nid ydym am gael dadl ynglŷn â pheidio â'i wneud, felly fe wnawn dderbyn mewn egwyddor fel bod gennym elfen gadarnhaol yno.' Mewn gwirionedd, ac rwy'n edrych arnoch chi, Ddirprwy Lywydd, rwy'n credu bod arnom angen system lle mae pethau naill ai'n cael eu derbyn, eu derbyn yn rhannol a bod y rhannau a dderbynnir yn cael eu henwi, neu'n cael eu gwrthod. Byddai'n well o lawer gennyf gyflwyno argymhellion sy'n cael eu gwrthod a gallaf ddadlau'r achos pam na ddylent gael eu gwrthod wedyn. Sut y mae dadlau yn erbyn 'cytuno mewn egwyddor'? Mae gennych y 'cytuno' i mewn yno—hynny yw, rydych yn cytuno ag ef mewn egwyddor, felly sut y mae dadlau'r achos hwnnw? Mae'n gwneud bywyd yn anodd iawn, ac nid yn achos yr adroddiad hwn yn unig y mae'n digwydd, Ysgrifennydd y Cabinet. Felly, nid ymosodiad personol yw hynny, mae'n ymateb eithaf cyffredin gan y Llywodraeth y credaf ei fod yn annerbyniol.

Cymerwch ein hargymhelliad allweddol ynghylch strategaeth gynhwysfawr 10 mlynedd ar gyfer tai carbon isel. Dywed yr ymateb fod grŵp cynghori eisoes yn edrych ar y materion hyn ac y bydd yn adrodd yn ôl yn haf 2019. Cynhwyswch yr amser y bydd yn cymryd i'r Llywodraeth ymateb, ac yna ychwanegwch yr amser y bydd yn cymryd i ddatblygu polisi go iawn sy'n ymarferol a'r amser sydd ei angen i ymgynghori yn ei gylch—ychydig iawn o gynnydd a wnawn yn ein rhaglen 10 mlynedd. Rwy'n credu y byddwn i lawr i bump wedi'r rhestr honno, os nad aiff dim o'i le. Mae'n wirioneddol bwysig inni fod o ddifrif ynglŷn â chreu tai carbon isel.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n siarad ar ran y pwyllgor cyfan—rydym yn teimlo'n rhwystredig oherwydd yr oedi a'r diffyg cynnydd. Mae ein hadroddiad yn cynnwys cynigion uchelgeisiol a heriol i Gymru. Rydym yn gobeithio yn eich ymateb y byddwch yn dangos yr un uchelgais ag a ddangoswyd gennym ni tuag at sicrhau tai carbon isel i Gymru.

15:05

Mae'n bleser cael dilyn ein Cadeirydd rhagorol. Dywedaf 'ein' Cadeirydd rhagorol—bellach rwyf wedi gadael y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, ond fe fwynheais fy amser yn aelod ohono, ac roeddwn yn credu bod hwn yn adroddiad arbennig o bwysig, ac yn un addas i orffen fy amser ar y pwyllgor.

Mae tai'n faes allweddol ar gyfer lleihau allyriadau carbon, ac os ydym yn mynd i gyrraedd ein targedau uchelgeisiol i leihau allyriadau 80 y cant erbyn 2050, maent yn mynd i fod yn ganolog i unrhyw strategaeth. Ond er mor uchelgeisiol yw'r targedau hynny—wel, roeddent yn sicr yn uchelgeisiol pan gawsant eu gwneud—mae'r dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf yn awgrymu efallai y bydd yn rhaid inni fynd ymhellach ac yn gyflymach. Mae cyflymder cynhesu byd-eang bellach yn peri pryder enfawr.

Rwy'n rhannu diffyg amynedd Mike â'r system o ymateb i adroddiadau a dweud 'derbyn mewn egwyddor'. Nawr, roeddwn yn meddwl bod yr Ysgrifennydd Parhaol eisoes wedi gwneud ymrwymiad na fyddai Llywodraeth Cymru yn ymateb yn y ffordd hon; dylai wneud yn union yr hyn a ddywedodd Mike Hedges: derbyn, gwrthod neu dderbyn yn rhannol. Ddirprwy Lywydd, pe bai rhywun yn gofyn i Lywodraeth Cymru, 'Beth yw eich barn am y 10 gorchymyn?', tybed a fyddent yn dweud, 'Derbyn mewn egwyddor'. [Chwerthin.] Wel, wyddoch chi, nid yw hyn yn mynd â ni'n bell iawn mewn gwirionedd. Mae'r rhain yn angenrheidiol, dyna pam y mae gennym adroddiadau, ac mae angen ymatebion polisi clir. Rwy'n cytuno'n gryf â'r hyn a ddywedodd Cadeirydd y pwyllgor, pan fyddwn yn cyflwyno adroddiad ar ôl cael tystiolaeth gynhwysfawr, wedi'i hystyried yn ofalus iawn, a'i chefnogi gan ysgrifenyddiaeth rhagorol, a sylw'r aelodau, wrth gwrs, dan arweiniad y Cadeirydd, rwy'n credu o ddifrif mai dyna'r dystiolaeth gadarnaf a gewch ar y materion hyn. Felly, rwy'n credu bod angen inni gael ymateb cryfach.

Roeddwn yn arbennig o siomedig ynglŷn â derbyniad amodol Llywodraeth Cymru i argymhelliad 1. Mae angen strategaeth 10 mlynedd arnom ar frys, ac rydych chi'n dweud eich bod yn mynd i aros am adroddiad y grŵp cynghori ar ddatgarboneiddio cartrefi, ond a ydych am gael strategaeth wedyn? Dywedwch hynny wrthym o leiaf, os ydych yn disgwyl i'r grŵp hwnnw gyflwyno'i adroddiad. Yr hyn a ddywedasom yw bod angen strategaeth arnoch, a chredaf fod hwnnw'n argymhelliad eithaf uniongyrchol y gallem gael 'ie' neu 'na' yn ateb iddo.

Os symudaf at argymhelliad 3—eto wedi'i dderbyn mewn egwyddor—ac mae hwnnw'n ymwneud mewn gwirionedd â sicrhau ansawdd, rwy'n derbyn bod y Llywodraeth wedi sylweddoli bod hynny'n wirioneddol bwysig. Ond gadewch i ni gofio na fydd y systemau gorau'n cyflawni os cânt eu gosod yn wael, a gwelsom dystiolaeth fod hyn wedi bod yn digwydd. Hefyd, os ydym yn ceisio cael pobl i dalu eu harian eu hunain am ôl-osod— a gall gostio £15,000 ar gyfartaledd—rhaid inni allu rhoi sicrwydd i bobl eu bod yn mynd i gael cynnyrch o ansawdd. Nodaf felly mai Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am y marc ansawdd newydd ar gyfer ôl-osod cynhyrchion, ond hoffwn wybod beth fydd Llywodraeth Cymru'n ei wneud i sicrhau defnydd effeithiol o'r marc siarter hwnnw yn ei rhaglenni ei hun. Credaf fod hynny'n rhywbeth y gallwch ei ateb yn awr.

Gwrthodwyd argymhelliad 6, ac yn y ffocws ar ôl-osod, mae hwn yn pwysleisio angen y rhai sydd yn y categori o berchnogion cartrefi sydd â gallu i dalu ac ar incwm isel. Mae hon yn rhan wirioneddol bwysig o'r farchnad, gan mai dyma'r bobl y mae gwir angen inni eu denu os gallwn gael y llu o bobl hynny i fynd ati i ôl-osod. Maent yn mynd i fod y tu allan i raglenni cyhoeddus fel arfer, nid ydynt mewn tai cymdeithasol, ac maent yn mynd i orfod ysgwyddo cost yr ôl-osod. Efallai y bydd modd inni eu helpu mewn ffyrdd penodol gyda chynhyrchion morgais deniadol neu fenthyciadau neu beth bynnag, ond mae'n faes eithriadol o bwysig a chredaf fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru roi arweiniad.

O ran argymhelliad 7, unwaith eto, pwynt a wnaed gan ein Cadeirydd: mae angen inni sicrhau bod gweithlu talentog a medrus ar gael. Ond teimlwn fod yr ymateb i'n hadroddiad yn arbennig o hunanfodlon, oherwydd oni bai ein bod yn gwybod y bydd gennym strategaeth a maint y gwaith ôl-osod y byddwn yn ei wneud, ni allwn obeithio hyfforddi'r nifer o bobl y byddwn eisiau iddynt fod yn gymwys ar gyfer y gwaith adeiladu pwysig hwn.

Yn olaf, ar argymhelliad 13, a wrthodwyd, credaf ei bod yn amlwg nad ydych yn credu bod cymhellion treth uniongyrchol yn briodol ar gyfer y sector perchnogion tai sydd â gallu i dalu ac ar incwm isel, ond wedyn credaf fod angen inni gael gwell dangosydd o ba ddewisiadau eraill rydych yn mynd i'w defnyddio. Ni allwch ddweud, 'Ceir tystiolaeth ryngwladol fod systemau grantiau a strategaethau cyfathrebu yn well.' Beth rydych chi'n mynd i'w wneud? Dyna rydym am ei wybod. Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd.

15:10

Fel aelod newydd sbon o'r pwyllgor hwn nad oedd yn ddigon ffodus i glywed llawer o'r dystiolaeth a gafwyd, fe fwynheais ddarllen yr adroddiad yn fawr, a darllenais ymatebion y Llywodraeth i'r argymhellion hefyd. Mae'n amlwg ein bod yn dal i wynebu heriau sylweddol wrth geisio cyflawni ein rhwymedigaethau newid hinsawdd yma yng Nghymru, a bydd gostyngiad o 80 y cant mewn allyriadau erbyn 2050 yn galw am gamau gweithredu hirdymor beiddgar a phendant gan Lywodraeth Cymru, ac mae gwneud tai yn elfen ganolog o gyflawni hynny o ran gwneud ein cartrefi'n fwy effeithlon o ran eu defnydd o ynni yn mynd i fod yn un o'r elfennau allweddol wrth gyflawni hynny, er yn un anodd iawn, yn amlwg, oherwydd oedran ein stoc dai—mae ymhlith yr hynaf yn Ewrop, ac mae'r adroddiad yn galw'n briodol am weledigaeth uchelgeisiol gan Lywodraeth Cymru. Mae angen cynyddu graddfa a chyflymder y gwaith o gyflawni cartrefi effeithlon iawn o ran eu defnydd o ynni ar frys, neu wrth gwrs, fe fyddwn yn methu ateb yr heriau a wynebwn. A byddaf yn ymhelaethu ar rai o'r negeseuon hyn yn ein dadl ddiweddarach ar newid hinsawdd.

Hoffwn ategu'r sylwadau a wnaeth y Cadeirydd a David Melding ynglŷn â'r duedd hon i dderbyn mewn egwyddor. Roedd yn amlwg yn nodwedd yn adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 'Cadernid Meddwl'. Yn yr achos hwnnw, wrth gwrs, gyrrwyd y Gweinidogion a'r Ysgrifenyddion Cabinet yn ôl i edrych ar beth o hwnnw eto. Ac rydych yn iawn i gyfeirio at lythyr gan yr Ysgrifennydd Parhaol, David Melding, ond roedd y llythyr yn ymwneud yn benodol â'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, ac rwy'n meddwl tybed—credaf ei fod wedi cyrraedd pwynt yn awr lle mae gwir angen inni ystyried a ddylid ei ymestyn i gynnwys yr holl bwyllgorau, neu o leiaf fod proses ar waith i edrych ar hyn i gyd.

Beth bynnag, mae gwir angen i Lywodraeth Cymru uwchraddio ei rhaglenni effeithlonrwydd ynni yn y cartref yn sylweddol er mwyn mynd i'r afael â thlodi tanwydd yn ogystal â materion newid hinsawdd wrth gwrs, fel y gwyddom, ac i fanteisio ar y swyddi a gaiff eu creu yn ogystal. Hoffwn ein gweld yn gosod targed i leihau'r galw am ynni, ac agregu hwnnw i lawr i lefel leol hyd yn oed, fel y gallwn annog mwy o berchnogaeth leol ar yr hyn sydd angen ei wneud mewn gwirionedd, a gwneud uchelgais byd-eang yn rhywbeth y gall pobl mewn cymunedau unigol uniaethu ag ef a theimlo y gallant gyfrannu mewn modd cadarnhaol tuag at ei wireddu.

Mae tua 23 y cant o aelwydydd yng Nghymru yn byw mewn tlodi tanwydd, ac rydym yn amcangyfrif bod tua 1,800 o farwolaethau ychwanegol yn ystod y gaeaf bob blwyddyn, ac yn 2016-17, gellid priodoli tua 540 ohonynt i gartrefi oer. Nawr, mae hynny'n adrodd ei stori ei hun yn ogystal. Mae'r Sefydliad Materion Cymreig wedi defnyddio dinas-ranbarth bae Abertawe fel astudiaeth achos o sut y gallai'r rhanbarth hwnnw ddiwallu ei ofynion ynni rhagamcanol yn gyfan gwbl o adnoddau adnewyddadwy erbyn 2035. Canfu bosibiliadau sylweddol ar gyfer cyfleoedd i gyflawni'r her honno. Er enghraifft, byddai angen i 200,000 o gartrefi—dyna 60 y cant o'r eiddo domestig yn y rhanbarth hwnnw—fabwysiadu mesurau effeithlonrwydd ynni er mwyn cyrraedd y nod ar gyfer 2035. Nawr, byddai hynny hefyd wrth gwrs yn sicrhau y byddai pob cartref yn arbed rhwng £350 a £420 y flwyddyn ar eu bil ynni blynyddol. Nawr, fel plaid rydym wedi dweud y byddem yn lansio rhaglen effeithlonrwydd ynni genedlaethol i helpu i wneud cartrefi'n gynhesach, lleihau biliau ynni, creu swyddi a helpu'r amgylchedd mewn rhaglen fuddsoddi gwerth biliynau lawer o bunnoedd dros ddau ddegawd.

Cyn i fy amser ddod i ben, nid wyf eisiau anghofio'r ail argymhelliad sy'n cyfeirio at Ran L y rheoliadau adeiladu. Yn y Cynulliad diwethaf, pan oeddwn yn llefarydd y blaid ar y mater hwn ar y pryd, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar wella effeithlonrwydd ynni, ac roedd ganddynt ddau opsiwn yn yr ymgynghoriad. Roedd un ar gyfer gwelliant o 40 y cant; roedd y llall ar gyfer gwelliant o 25 y cant. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad, ac chytunwyd ar lefel o 8 y cant. Nawr, roedd hwnnw'n gyfle mawr a gollwyd yn fy marn i, i Gymru fod ar flaen y gad, i ennill mantais y symudwr cyntaf ar y daith, wrth gwrs, lle mae'n rhaid i bawb ohonom sicrhau lefel benodol erbyn adeg benodol mewn amser, felly nid oedd erioed yn fater o ddewis a oeddem am symud i'r cyfeiriad hwnnw, ac mae'n dda gweld pobl a bleidleisiodd yn erbyn hynny ar y pryd yn llawer mwy brwd ynglŷn â hyn, ac rwy'n falch fod y Llywodraeth yn symud i'r cyfeiriad hwnnw. Serch hynny, yn fwy cyffredinol, o gofio bod y cloc yn fy nhrechu, rhaid imi ddweud fy mod braidd yn siomedig o weld pa mor gymedrol yw ymateb Llywodraeth Cymru. Nid yw'n cyfleu'r brys sydd ei angen arnom, nac yn wir yr uchelgais y mae gennym hawl i'w ddisgwyl.

15:15

Diolch i Gadeirydd y pwyllgor am gyflwyno'r ddadl heddiw. Cododd Mike Hedges y mater ynglŷn â faint o reoleiddio sydd ei angen arnom yn y rhan hon o'r farchnad dai, ac wrth gwrs rhaid inni fod yn ofalus i beidio â gor-reoleiddio, ond credaf iddo wneud achos da fod angen lefel benodol o reoleiddio er mwyn ymdrin â phroblem hen dai a'u diffyg effeithlonrwydd ynni. Felly, mae tai carbon isel yn un ffordd y gallwn wneud hynny. Mae ôl-osod yn mynd i fod yn rhan angenrheidiol o'r rhaglen, fel y nododd Mike Hedges, ac mae angen inni gael sicrwydd ansawdd os ydym yn mynd i gyflwyno rhaglen ôl-osod, er mwyn osgoi problemau a gawsom yn y gorffennol gyda chontractwyr anfedrus yn mynd i mewn i'r farchnad, fel y gwelsom gydag inswleiddio waliau ceudod. Felly, rhaid inni fod yn ofalus nad ydym yn ailadrodd camgymeriadau a wnaed yn y gorffennol.

Mae hyfforddiant yn broblem. Fel y dywedodd Mike, roedd gennym bobl a gymerodd ran yn yr ymchwiliad yn crybwyll materion ynglŷn â hyfforddiant. Nawr, bydd angen sgiliau newydd yn y gwaith o gynhyrchu cartrefi carbon isel yn y dyfodol, oherwydd nid yw'r mathau o sgiliau sydd eu hangen arnoch i adeiladu'r rhain yn sgiliau adeiladu traddodiadol. Gallai colegau addysg bellach gynnig y mathau hyn o gyrsiau. Clywsom dystiolaeth gan dystion yn nodi hyn. Ond wrth gwrs, mae angen inni wybod y bydd yna farchnad ar gyfer y sgiliau hyn yn y dyfodol, ac mae angen inni gael rhywfaint o sicrwydd y bydd rhyw fath o gymorth gan y Llywodraeth tuag at gynlluniau tai carbon isel. Crybwyllwyd materion cynllunio yn yr ymchwiliad hefyd. Nodwyd materion yn ymwneud ag ôl-osod waliau'n benodol, oherwydd dywedwyd wrthym fod ôl-osod waliau, o dan ddehongliad llym o'r rheolau cynllunio—. Nid oedd caniatâd cynllunio i fod yn ofynnol, ond dywedwyd wrthym ei bod hi'n anhygoel pa mor aml y mae arolygwyr cynllunio'n penderfynu bod angen caniatâd cynllunio i ôl-osod waliau, ac awgrymwyd y gallai hyn fod yn rhan o system gan gynghorau lleol, sydd â hawl i godi eu ffioedd cynllunio eu hunain, i benderfynu codi tâl ar bobl am wahanol bethau nad oedd angen codi tâl amdanynt a bod yn fanwl gywir, er mwyn codi refeniw ychwanegol i'w hawdurdod lleol sy'n brin o arian. Nid wyf yn gwybod pa mor real yw'r broblem honno, ond soniodd un neu ddau o bobl amdani, felly mae'n werth ymchwilio i hynny mae'n debyg.

Mater derbyn argymhellion mewn egwyddor: nid yw'n arfer da iawn, ac mae i'w weld yn cael ei ddefnyddio fwyfwy gan Lywodraeth Cymru. Ond mae Aelodau eraill wedi—maent wedi dangos eu teimladau ynglŷn â hynny, ac rwy'n falch fod Mike Hedges wedi gwneud hynny yn ogystal, a'i fod yn dal i ddangos annibyniaeth barn gref fel Cadeirydd y pwyllgor. Diolch yn fawr iawn.

15:20

A gaf fi alw yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths?

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu adroddiad y pwyllgor, sy'n cydnabod bod darparu tai carbon isel yng Nghymru yn cynnig cyfleoedd a heriau sylweddol. Adeiladau domestig sy'n gyfrifol am gyfran bwysig o allyriadau carbon Cymru. Fodd bynnag, mae'n bwysig deall y gellir lleihau allyriadau mewn llawer o ffyrdd gwahanol, a bydd angen amrywiaeth o atebion, yn seiliedig ar y math o dŷ, deiliadaeth, perfformiad ynni, demograffeg, defnydd adeiladau ac amrywiaeth o ffactorau eraill. Mae'r Gweinidog Tai ac Adfywio a minnau, ochr yn ochr â'n cyd-Aelodau gweinidogol, yn ymrwymedig i drawsnewid Cymru yn wlad ffyniannus mewn byd carbon isel.

Ym mis Gorffennaf, cytunodd y Cabinet i wneud datgarboneiddio yn faes blaenoriaeth yn 'Ffyniant i Bawb'. Ym mis Rhagfyr, byddwn yn gofyn i'r Aelodau gytuno ar dargedau allyriadau ar gyfer 2020, 2030 a 2040, a'n dwy gyllideb garbon gyntaf. Bydd hyn yn darparu llwybr datgarboneiddio clir ar gyfer Cymru. Dros yr haf, lansiwyd ymgynghoriad gennym i ofyn am safbwyntiau rhanddeiliaid ar ein dull o ddatgarboneiddio Cymru, ac roeddwn yn hapus iawn gyda'r ymateb. Mae'r ymatebion hyn yn cael eu dadansoddi ar hyn o bryd a byddant yn llywio datblygiad ein cynllun cyflawni carbon isel, a gyhoeddir ym mis Mawrth 2019.

Roedd ein hallyriadau o'r sector preswyl yn 8 y cant o gyfanswm allyriadau Cymru yn 2016, ac mae allyriadau o'r sector wedi gostwng 25 y cant ers y llinell sylfaen yn 1990. Rydym eisoes wedi ymrwymo i ddatblygu rhaglen newydd o gamau gweithredu a fydd yn datgarboneiddio cartrefi yng Nghymru 80 y cant erbyn 2050. Bydd targedau a cherrig milltir clir i'r rhaglen hon. Rydym wrthi'n datblygu'r rhaglen gan ddefnyddio ymchwil annibynnol wedi'i chomisiynu'n arbennig i ddarparu sylfaen dystiolaeth gref. Mae'r grŵp cynghori ar ddatgarboneiddio cartrefi, sy'n cynnwys amrywiaeth eang o randdeiliaid allanol, yn ein helpu i ddatblygu'r rhaglen, a'i chyflwyno wedyn.

Ar hyn o bryd, nid yw'n bosibl cefnogi argymhelliad y pwyllgor ynglŷn â strategaeth tai carbon isel yn llawn, gan ei bod hi'n dal yn aneglur beth fydd yr ymchwil a'r grŵp cynghori ar ddatgarboneiddio yn ei argymell i Weinidogion. Disgwylir yr adroddiad yn ystod haf 2019. Ond yn ddiweddar, siaradais mewn digwyddiad a drefnwyd gan Mark Isherwood, ac fe ymrwymais i fod yn barod iawn i weithio ar gyflwyno'r strategaeth honno yn gynt, a chredaf mai'r cyngor a roddodd y rhanddeiliaid imi yn y cyfarfod hwnnw oedd y byddai gofyn cael strategaeth 10 mlynedd.

Yn y cyfamser, defnyddir ein rhaglen tai arloesol i brofi atebion carbon isel. Yn 2018-19, mae'n agored i landlordiaid cymdeithasol a'r sector preifat. Mae hyn yn bwysig gan ei fod yn annog y sector busnesau bach a chanolig ym maes tai yng Nghymru i ddechrau adeiladu eto, ond mewn ffordd sy'n newid eu harferion presennol. Drwy bartneriaethau sgiliau rhanbarthol a rhaglenni cymorth amrywiol, mae Llywodraeth Cymru yn darparu buddsoddiad yn y ddarpariaeth hyfforddiant i sicrhau bod gan y sector adeiladu weithlu gyda'r sgiliau priodol i gyflawni ei dargedau ar gyfer cartrefi sy'n defnyddio ynni'n effeithlon. Mae'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn casglu ac yn dadansoddi gwybodaeth am y farchnad lafur er mwyn darparu gwybodaeth i Lywodraeth Cymru ar lefelau darparu presennol yn erbyn tueddiadau cyfredol, ond maent hefyd yn gweithio gyda chyflogwyr a phrosiectau datblygu sylweddol i ragweld anghenion sgiliau yn y dyfodol.  

Mae Rhan L o'r rheoliadau adeiladu yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd i gynyddu effeithlonrwydd ynni cartrefi newydd a darparu cartrefi sydd bron yn ddi-ynni fan lleiaf. Cyfeiriodd David Melding at fwlch perfformiad fel y'i gelwir, ond rwy'n credu'n sicr y bydd yr adolygiad hwn yn mynd i'r afael â hynny yn y dyfodol. Byddaf yn ystyried gosod safonau llymach os na fydd adeiladu bron yn ddi-ynni yn bodloni ein dyheadau presennol o ran ynni. Fel rhan o'r gwaith ar gyflawni'r newidiadau nesaf i Ran L, byddwn yn nodi cyfleoedd ar gyfer gwelliannau yn y dyfodol y tu hwnt i'r adolygiad presennol a'r amserlen ar gyfer eu cyflawni.

Drwy ein rhaglenni ein hunain, rydym yn hyrwyddo safonau uchel o ran effeithlonrwydd ynni a gosod. Gyda chau'r tariffau cyflenwi trydan ym mis Mawrth 2019, bydd angen inni edrych hefyd i weld sut yr ysgogwn ostyngiadau mewn allyriadau drwy fesurau ynni adnewyddadwy mewn cartrefi. Eleni, rydym wedi dyfarnu a pharatoi contractau ar gyfer cyfnod nesaf y rhaglen Cartrefi Clyd. Mae contractau Nyth ac Arbed 3 yn mynnu bod asesiadau tŷ cyfan yn cael eu cynnal i sicrhau bod yr ateb cywir yn cael ei gynnig. Golyga hyn ein bod yn gwella effeithlonrwydd ynni yn y cartref ac yn rhoi'r cymorth y maent ei angen i bobl beidio â byw mewn tlodi tanwydd. Rydym yn buddsoddi'n sylweddol yn y rhaglen hon, gyda buddsoddiad o £104 miliwn rhwng nawr a 2021. Bydd ein buddsoddiad hefyd yn denu hyd at £24 miliwn o gyllid o'r UE yn ogystal â chyllid o rwymedigaeth cwmni ynni y DU, a bydd hyn yn ein galluogi i wella hyd at 25,000 o gartrefi.

Eisoes mae gennym gynlluniau i gomisiynu dadansoddiad cost a budd o ôl-osod cartrefi, a bydd hynny'n cynnwys aelwydydd sydd mewn tlodi tanwydd. Bydd hyn yn gwella'r modd y byddwn yn helpu pobl allan o dlodi tanwydd yn y dyfodol, tra'n cefnogi ein hamcanion o ran datgarboneiddio tai. Rydym hefyd yn arwain y ffordd drwy ddangos ffyrdd y gall darparwyr morgeisi gymell cyfraddau benthyca ffafriol ar gyfer cartrefi carbon isel. Mae'r prosiect i fenthycwyr dan arweiniad y diwydiant wedi darparu fformiwla ar gyfer asesiadau fforddiadwyedd sy'n ystyried effeithlonrwydd ynni'r eiddo a gall ddarparu benthyciadau ychwanegol ar gyfer cartrefi mwy effeithlon. Cyflwynwyd y fformiwla hon i gyfrifwr fforddiadwyedd Cymorth i Brynu—Cymru ym mis Mehefin eleni.

Er ein bod yn cydnabod pwysigrwydd symud tuag at gartrefi di-garbon neu garbon isel, nid ydym am gyflwyno hyn i'r holl gynlluniau ar hyn o bryd, ond yn hytrach, cyflwyno'r math hwn o ofyniad dros gyfnod o amser. Mae cronfa safleoedd segur Cymru, er enghraifft, wedi'i chynllunio i ddod â chohort o BBaChau sy'n datblygu at ei gilydd cyn inni gyflwyno gofyniad o'r fath. Rydym yn parhau'n ymrwymedig i ystyried yr holl dystiolaeth berthnasol, ac os daw rhagor o dystiolaeth i law sy'n cefnogi'r achos dros newidiadau i bolisi neu drethiant, bydd Llywodraeth Cymru'n hapus i edrych eto ar yr achos. Diolch.

15:25

Diolch. A gaf fi ddiolch i David Melding am ei sylwadau y prynhawn yma, am ei gyfraniad i'r ddadl, ac am ei gyfraniad yn ystod y pwyllgor? Gallaf ddweud y byddwn yn gweld eich colli yn y pwyllgor pan fyddwn yn trafod tai.

Mae'n nodi bod sicrwydd ansawdd yn bwysig. Mae angen i bobl gael sicrwydd os ydynt yn prynu rhywbeth, fod yr ansawdd sydd ganddynt yn golygu nad ydynt yn talu arian fel y mae pobl wedi'i wneud am bethau eraill a gawsant a oedd i fod i helpu eu cartrefi ac na wnaeth hynny.

Pobl ar incwm isel ac sy'n berchnogion tai ar incwm isel sy'n byw mewn eiddo hŷn, drwy ddiffiniad. Nid deiliaid tai ar incwm isel sy'n tueddu i fyw yn eich tai sengl pum ystafell wely; mewn tai teras dwy/tair ystafell wely y mae perchen-feddianwyr ar incwm isel yn tueddu i fyw, ac mae'n bwysig fod ôl-osod yn digwydd i eiddo o'r fath. Mae'n debyg mai dyma'r grŵp mwyaf o bobl a allai elwa nid yn unig o ran tlodi tanwydd, ond gallent elwa o ôl-osod mewn gwirionedd.

Llyr Gruffydd—unwaith eto, pwysigrwydd cael dull o leihau allyriadau carbon, a rhaid i dai fod yn rhan ohono. Mae angen cynyddu graddfa a chyflymder—credaf fod hynny'n rhywbeth rydym wedi'i ddweud am lawer iawn o bethau yn ein hadroddiadau o bryd i'w gilydd, ond credaf ei fod, os gallwch grynhoi llawer iawn o bethau yma, yn symud i'r cyfeiriad cywir ond heb fod yn ddigon yn gyflym. Credaf fod hynny mwy na thebyg—. Nid wyf yn meddwl bod unrhyw un wedi beirniadu'r cyfeiriad y mae Llywodraeth Cymru yn mynd iddo. Ni feirniadodd neb y ffaith bod Llywodraeth Cymru yn symud i leihau tlodi tanwydd. Maent yn symud i leihau carbon. Credaf mai pryder y pwyllgor—a gall unrhyw un o aelodau'r pwyllgor ddweud wrthyf os wyf yn anghywir—yw nad yw'n digwydd yn ddigon cyflym.

Swyddi newydd—rydym wedi sôn llawer am y ffaith, ac rydym wedi cael Lee Waters, nad yw i mewn yma, yn dweud wrthym yn rheolaidd am effeithiau awtomatiaeth, ond bydd swyddi eraill yn cael eu creu. Bydd y gwaith ôl-osod yn annhebygol o fod wedi'i awtomeiddio, yn sicr yn y tymor byr. Felly, mae'n wirioneddol bwysig ein bod yn gwella sgiliau pobl i allu gwneud hyn.

Soniodd Gareth Bennett ein bod angen sgiliau. Mae angen i'r colegau hyfforddi pobl, ond ni fydd pobl yn cael hyfforddiant, ni fydd colegau'n rhoi cyrsiau, oni bai eu bod yn gwybod bod yna farchnad a bod sicrwydd o barhad, y gwyddant—y bobl sy'n mynd ar gwrs hyfforddi—fod yna werth 10, 15 mlynedd o waith i'w ôl-osod, yn hytrach na bod newid polisi ymhen tair blynedd, newid cyfeiriad a bod eu sgiliau'n hen ffasiwn.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hymateb. Rwy'n croesawu llawer o'r sylwadau a wnaeth yn fawr. Ac mae nifer o wahanol ffyrdd o leihau allyriadau. Nid wyf yn gweld—ac efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet egluro wrthyf—pam y mae deiliadaeth yn effeithio ar y dull o ôl-osod. Gallaf ddeall sut y mae'r math o eiddo yn effeithio arno, ond ni allaf ddeall sut y byddai tŷ sy'n cael ei rentu'n breifat, neu sy'n eiddo i berchen-feddianwyr, neu i gymdeithas dai yn effeithio ar y math o ôl-osod y byddai ei angen arnoch. Efallai y gall y Cabinet—rwy'n eithaf hapus i dderbyn ymyriad i gael hynny wedi'i egluro i mi.

Mae datgarboneiddio'n flaenoriaeth—a nododd Ysgrifennydd y Cabinet ostyngiadau. Rydym yn mynd i gael cerrig milltir a thargedau wedi'u gosod; credaf y byddai'r rhan fwyaf o'r Aelodau yma yn hoffi gwybod pryd. Ystyried safonau llymach—ie, dyna'r cyfeiriad rydym eisiau symud iddo. Adolygu Rhan L—credaf fod hynny'n rhywbeth sydd angen ei newid. Mae pawb ohonom yn croesawu Nyth ac Arbed 3, ac rwy'n siŵr y bydd pwy bynnag fydd yn sefyll yma mewn pum neu chwe blynedd yn croesawu Nyth ac Arbed 4. Ond ar ryw gam, mae angen inni fod yn gwneud cynnydd i'r fath raddau fel na fydd angen Nyth ac Arbed 5, 6, 7, 8, 9 a 10 arnom.

Mae tlodi tanwydd yn broblem enfawr. Rwyf am orffen gyda hyn—stori am un o fy etholwyr. Mae'n mynd i'r gwely am 7 o'r gloch o'r nos gyda'i merch. Pam? Dyna'r unig ffordd y gallant gadw'n gynnes. Maent yn byw mewn tŷ ar rent preifat, mae'n debyg oherwydd eu bod yn gwario mwy ar gadw'n oer nag y mae'r rhan fwyaf o bobl yma'n ei wario ar eu tai i'w cadw'n gynnes. A chredaf mai dyna'r broblem. Mae gennym y lefel hon o dlodi tanwydd, a'r bobl dlotaf sy'n dioddef, nid yn unig oherwydd cost tanwydd, ond oherwydd y math o eiddo y maent yn byw ynddo—ffenestri sengl gyda bylchau sy'n golygu eu bod yn gwresogi'r byd yn dda iawn, ond heb fod cystal am wresogi eu tai eu hunain. O ddifrif, rhaid i dlodi tanwydd fod yn brif flaenoriaeth. Gwn fod Llywodraeth Cymru am ei leihau, ond mae angen inni fod yn wirioneddol ymrwymedig i'w ddileu.

15:30

Daeth Joyce Watson i’r Gadair.

Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: 'Taro’r Tant: Ymchwiliad i ariannu addysg cerddoriaeth a gwella mynediad ati'

Eitem 6 yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu , 'Taro'r Tant: Ymchwiliad i ariannu addysg cerddoriaeth a gwella mynediad ati'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6833 Bethan Sayed

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, 'Taro'r Tant—Ymchwiliad i ariannu addysg cerddoriaeth a gwella mynediad ati’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Mehefin 2018.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn. Rwy’n falch iawn o ddechrau’r drafodaeth hon ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, 'Taro'r Tant', ar ariannu addysg cerddoriaeth a gwella mynediad ati. Waeth beth fo ein cefndiroedd, ein proffesiynau, neu ein teyrngarwch, rwy’n siŵr ein bod ni oll, ar ryw adeg, wedi cael boddhad a balchder mawr yn statws ein gwlad fel 'gwlad y gân'. Mae cerddoriaeth yn amlwg iawn yn hanes Cymru erioed. Wel, beth pe bai’r statws hynny yn newid?

Mewn cyfweliad gyda'r BBC ym mis Rhagfyr 2016, eglurodd Dr Owain Arwel Hughes, sylfaenydd Proms Cymru, a chyn arweinydd Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru, fod y toriadau i wasanaethau cerddoriaeth ysgol, a'r diffyg cyfleoedd dysgu o ganlyniad i hynny, yn peri'r hyn a ddisgrifiodd fel argyfwng mewn addysg cerddoriaeth yng Nghymru. Adlewyrchwyd pryderon Dr Hughes hefyd yn arolwg cyhoeddus y pwyllgor. Yn haf 2016, gofynnwyd i'r cyhoedd bleidleisio ar beth ddylai ein hymchwiliad nesaf fod. O'r 11 opsiwn, daeth arian ar gyfer addysg cerddoriaeth i'r brig.

Nid diwylliant a threftadaeth Cymru yn unig sy'n manteisio o addysg cerddoriaeth. Mae addysg cerddoriaeth yn effeithio'n gadarnhaol mewn cymaint o ffyrdd ar ddatblygiad plentyn. Eto ac eto, dywedwyd wrthym gan y rhai a roddodd dystiolaeth, fod addysgu cerddoriaeth yn eu hysgolion yn dysgu gwerth pethau fel ymrwymiad estynedig, amynedd, a gwaith caled i blant yn eu blynyddoedd ffurfiannol—yn ogystal â disgyblaeth. Bydd adran bres llawer o gerddorfeydd ledled Cymru yn deall pam y mae angen disgyblaeth—nid oes angen imi ddweud wrthynt yma heddiw. Ar ôl eu caffael, dyma rinweddau y gellid eu defnyddio mewn nifer di-ben-draw o feysydd a disgyblaethau.

Fel cerddor fy hun, a dyfodd drwy system y gwasanaeth cerddoriaeth, gallaf dystio bod y datganiadau hyn yn wir. Drwy addysg cerddoriaeth, cefais gyfleoedd a phrofiadau anhygoel, a gyfoethogodd fy addysg. Maent yn brofiadau yr wyf yn eu gwerthfawrogi hyd at heddiw.

Cafodd pethau fel teithio dramor yn rhan o dîm a chwarae peth o gerddoriaeth gerddorfaol enwocaf y byd effaith bendant a chadarnhaol arnaf, mewn ffyrdd rwy'n dal i elwa ohonynt heddiw. Ac ni allaf wrando ar Mahler 1 heb gael atgofion melys iawn o fy nghwrs cerddorfa ieuenctid cenedlaethol diwethaf. Fel y cyfryw, rwy'n teimlo'n angerddol ynglŷn â sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael cyfle i fanteisio ar yr hyn a oedd yn rhan mor werthfawr o fy addysg fy hun. Mae'r amser wedi dod i beidio â phapuro dros y craciau, ond i feddwl am atebion radical yn wyneb toriadau parhaus a hirsefydlog i'r gwasanaethau hyn, a Wrecsam yw'r diweddaraf mewn cyfres hir o doriadau a arweinir gan awdurdodau lleol yn y maes hwn.

Fel y soniais yn gynharach, deilliodd yr ymchwiliad o arolwg barn cyhoeddus a ddefnyddiwyd gennym i ofyn i'r cyhoedd yng Nghymru beth ddylai ein hymchwiliad nesaf fod. Hwn oedd y tro cyntaf i bwyllgor Cynulliad drosglwyddo penderfyniad o'r fath yn uniongyrchol i bobl Cymru. Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr hyn a oedd, i ni fel pwyllgor, yn ymarfer gwerthfawr iawn, mor werthfawr, yn wir, fel ein bod wedi penderfynu ei wneud eto dros yr haf ar bwnc hollol wahanol.

Nid oes unrhyw amheuaeth yn fy meddwl bod gwasanaethau cerddoriaeth yng Nghymru yn wynebu, neu'n mynd i wynebu, argyfwng os na weithredwn yn awr. Oni roddir camau brys ar waith, rydym yn edrych ar ddiraddio'r gwasanaethau hanfodol hyn ymhellach. Yn ddiweddar, mewn papur at y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, gan grynhoi effaith bosibl cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru,

bydd gwasanaethau llai o faint fel cerddoriaeth yn dod i ben.

Os nad ydynt wedi dod i ben eisoes wrth gwrs.

Roedd dwy o'r prif themâu a gyflwynwyd trwy gydol yr ymchwiliad yn canolbwyntio ar gydraddoldeb mynediad a darpariaeth gyfartal. Dywedwyd wrthym yn gyson fod lefel y gwasanaethau sydd ar gael yn ddibynnol iawn ar yr ardal y mae'r disgybl yn byw ynddi, gydag awdurdodau lleol yn cynnig lefelau gwasanaeth gwahanol tu hwnt. Mewn rhai ardaloedd, trosglwyddir cost hyfforddiant yn gyfan gwbl i rieni, gan arwain at sefyllfa lle mae'r disgyblion o gefndiroedd tlotach yn cael cynnig llawer llai o gyfleoedd na'r rhai y mae eu rhieni'n gallu ei fforddio. Mae'r sefyllfa'n gwbl annerbyniol.

Mae sicrhau digon o arian ar gyfer y gwasanaethau hyn yn amlwg yn fater pwysig. Fodd bynnag, clywsom gan y sector ei fod yn dioddef o ddiffyg cyfeiriad strategol—felly nid yw'n ymwneud yn gyfan gwbl ag arian—a bod hyn hefyd wedi cyfrannu at natur amrywiol y gwasanaethau sydd ar gael. O ganlyniad, rydym wedi galw ar y Llywodraeth i ddarparu'r cyfeiriad strategol hwn.

Felly, argymhelliad canolog ein hadroddiad yw bod Llywodraeth Cymru'n trosglwyddo cyfrifoldeb am ddarparu gwasanaethau cerddoriaeth i gorff cenedlaethol hyd braich. Gellid trafod sut beth fyddai hwnnw, wrth gwrs. Er bod y pwyllgor yn gefnogol i'r egwyddor o wneud penderfyniadau'n lleol, ac y byddai angen i hynny fod yn ffactor, nid yw'r system bresennol, o'i roi'n syml, yn gweithio. Mae gwasanaethau cerddoriaeth, o fod yn anstatudol, yn dadfeilio o dan bwysau cyllidebau awdurdodau lleol sy'n lleihau.

Rwy'n falch iawn o weld bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn yr argymhelliad hwn mewn egwyddor, yn amodol ar ganlyniad astudiaeth ddichonoldeb. Fodd bynnag—ac mae yna 'fodd bynnag'—nid yw rhoi penderfyniad terfynol ar ganlyniad yr ymarfer hwn i awdurdodau lleol, sydd eisoes â budd yn hyn—fel y nodir yn ymateb Ysgrifennydd y Cabinet i ni fel pwyllgor—yn rhywbeth y byddem yn awyddus i'w weld yn fy marn i. Credaf ei bod yn bryd i'r Llywodraeth gymryd rheolaeth ar y sefyllfa hon yn ganolog er mwyn penderfynu ar y ffordd orau ymlaen a'i rhoi ar waith cyn gynted â phosibl.

Bu'r pwyllgor yn ystyried opsiynau eraill. Buom yn trafod llawer ar glustnodi cyllid ar gyfer cerddoriaeth o fewn cyllidebau awdurdodau lleol, neu wneud darparu gwasanaethau'n rhwymedigaeth statudol. Daethom i'r casgliad ein bod eisiau cynnig syniadau gwahanol yn ateb a fyddai'n hirsefydlog ar gyfer y dyfodol. Mae'n amlwg fod ariannu'n bryder mawr. Oni bai ein bod yn mynd i'r afael ag ariannu, bydd problemau megis natur amrywiol y ddarpariaeth yn debygol o barhau. Dyma pam y galwasom ar y Llywodraeth i roi'r cyllid angenrheidiol i'r corff cenedlaethol arfaethedig allu cynnal mynediad a darpariaeth gyfartal ar lefel Cymru gyfan. Beth bynnag fydd canlyniadau astudiaeth ddichonoldeb Ysgrifennydd y Cabinet, rydym yn disgwyl i unrhyw system newydd gael ei hariannu'n ddigonol ac i gael cyllid craidd wedi'i glustnodi gan Lywodraeth Cymru.

Argymhelliad canolog arall yn ein hadroddiad yw bod Llywodraeth Cymru yn cymryd perchnogaeth strategol o wasanaethau cerddoriaeth trwy ymgynghori â rhanddeiliaid er mwyn creu cynllun gweithredu cenedlaethol ar gyfer cerddoriaeth.

Mae absenoldeb cyfarwyddyd o'r fath wedi arwain at anghysondeb a chymhlethdod. Mae angen cyfarwyddyd yn awr ar frys er mwyn osgoi dirywiad pellach y gwasanaethau sydd ar gael. Nid yw hyn yn golygu mai'r gwasanaethau eu hunain yw'r unig bethau yr effeithir arnynt gan ddiffyg strategaeth gyffredinol. Mae telerau ac amodau staff y sector yn amrywio'n fawr rhwng awdurdodau. Rhaid rhoi sylw i hyn hefyd. Byddai cysondeb mewn perthynas â thelerau ac amodau staff yn caniatáu ymagwedd fwy cydweithredol tuag at ddarpariaeth, gan alluogi awdurdodau lleol i gydlynu gwasanaethau a rhannu adnoddau. Gellid defnyddio strategaeth o'r fath hefyd i gyflwyno mesurau a thargedau perfformiad er mwyn sicrhau safonau cyfatebol ledled Cymru. O'r herwydd, er fy mod i'n siomedig fod yr argymhelliad hwn wedi'i wrthod, yn ôl pob golwg, rwy'n credu, ar y sail nad oedd y gair 'addysg' yn y teitl ar ein cynllun arfaethedig, rwy'n falch fod byrdwn yr argymhelliad yn cael ei ystyried yn  astudiaeth ddichonoldeb Ysgrifennydd y Cabinet.

Fodd bynnag, rhoddodd Ysgrifennydd y Cabinet ei henw dan ragair yr adroddiad flwyddyn yn ddiweddarach ar y gwasanaethau cerdd, felly nid wyf yn deall pam y mae Ysgrifennydd y Cabinet, drwy wrthod argymhelliad 2, wedi datgan nad yw'n credu y dylai gymryd cyfrifoldeb strategol am wasanaethau cerddoriaeth, gan eu bod y tu allan i'w phortffolio. A beth bynnag, rwy'n credu bod llawer o enghreifftiau wedi digwydd eisoes o fewn Llywodraeth Cymru o Weinidogion yn mabwysiadu arweiniad strategol ar bethau nad ydynt yn eu portffolio'n llwyr. Gwn ei bod hi wedi gwneud cyhoeddiadau mewn perthynas â'r gwaddol ac arian ychwanegol ar gyfer offerynnau. Felly, rwy'n credu ei bod wedi arwain drwy esiampl yn hynny o beth.

Mae'n amlwg yn yr adroddiad ein bod yn sôn am gynllun ar gyfer addysg cerddoriaeth. Felly, rwy'n credu bod gwrthodiad Ysgrifennydd y Cabinet o argymhellion 2, 6, 8 a 12, sydd oll yn ymwneud â'n cynllun gweithredu cenedlaethol arfaethedig ar gyfer cerddoriaeth, braidd yn fyrbwyll. Awgrymaf fod yr argymhellion wedi'u cymryd allan o gyd-destun, ond byddaf yn falch o glywed beth yw dadansoddiad Ysgrifennydd y Cabinet, a gobeithiaf y gallwn ddod i gasgliad cadarnhaol.

Wrth gwrs, rydym wedi croesawu cyhoeddiad Ysgrifennydd y Cabinet y bydd pob cyngor yn derbyn £10,000 ychwanegol ar gyfer prynu offerynnau cerdd. Nodwyd prinder offerynnau cerdd yn ystod ein hymchwiliad fel un mater ymysg llawer o faterion mwy o faint. Ond rwy'n credu bod gan bob awdurdod lleol broblemau unigryw a chlywsom gan wasanaethau cerddoriaeth lleol fod angen inni ystyried y cyflenwad presennol, y boblogaeth ddisgyblion a lefel amddifadedd. Mae'r hyn y gall Merthyr Tudful ei wneud gyda £10,000 yn wahanol iawn i'r hyn y gall Caerdydd ei wneud gyda'r arian hwnnw.

Rydym yn croesawu creu Anthem, Cronfa Gerdd Cymru—gwaddol cenedlaethol ar gyfer cerddoriaeth a gyflwynwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet, gyda chefnogaeth buddsoddiad o £1 filiwn gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn amlwg yn gam i'r cyfeiriad cywir, ac yn un y gobeithiaf y bydd yn darparu rhan effeithiol o ateb mawr ei angen i'r argyfwng presennol, ac rwy'n siŵr y bydd gan gyd-aelodau'r pwyllgor, fel fi, ddiddordeb brwd yn hyn o beth.

Ers cyhoeddi ein hadroddiad, rwy'n falch fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi agor deialog gyda mi er mwyn trafod ffordd ymlaen. Ac mae'r sgyrsiau hyn wedi bod yn adeiladol o ran eu cywair a hoffwn glywed yr hyn sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i'w ddweud yma heddiw mewn perthynas â hynny. Diolch i'r llu o randdeiliaid sydd wedi rhoi syniadau mewn perthynas â sut y gallwn godi'r pryderon hyn gydag Ysgrifennydd y Cabinet.

Rwyf hefyd wedi ysgrifennu at ei swyddogion yn uniongyrchol, gan ddweud sut yr hoffwn weld y £2 filiwn o gyllid Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth yn y cytundeb cyllidebol gyda Phlaid Cymru yn cael ei wario. Nid wyf am roi manylion hynny yma heddiw, ond gobeithio y gall Ysgrifennydd y Cabinet, naill ai heddiw, neu rywbryd yn y dyfodol agos, roi syniad inni o'i chynigion ar gyfer gwaith yn y dyfodol.

I gloi, os ydym ni, fel cenedl, yn gwerthfawrogi ein treftadaeth gerddorol gyfoethog, ac yr hoffem ni i fanteision y rhan mor werthfawr hon o fywyd Cymru barhau am amser hir eto, rhaid inni weithredu nawr i fynd i’r afael â’r argyfwng hwn.

Mae gwerth cerddoriaeth i Gymru ac i'r rheini sy'n byw ac yn dysgu o fewn ein gwlad wedi bod yn ased pwerus ers talwm iawn, ac yn un sy'n creu balchder, llawenydd a boddhad i ni ac felly mae'n rhaid iddo barhau. Mae'n werthfawr eithriadol i'n sector diwydiannau creadigol, a chredaf fod yn rhaid cydnabod nad un sector yn unig o gymdeithas y mae'n effeithio arno, mae'n codi uwchlaw ein bywydau yma yng Nghymru ac yn treiddio trwy bob agwedd ar ein bywydau, boed trwy'r modd y gweithredwn yn awr fel gwleidyddion i'r modd y gallwn fwynhau amser y tu allan i'r lle hwn yn ein theatrau lleol, yn ein cyfleoedd cerddorfaol lleol.

Edrychaf ymlaen at glywed beth fydd gan bawb ohonoch i'w ddweud yma heddiw ac at ymateb Ysgrifennydd y Cabinet. Diolch yn fawr iawn.

15:40

A gaf fi gymryd eiliad fer i ddiolch i bawb ar y pwyllgor, gan gynnwys y rhai a fu'n gyd-aelodau i mi o'r pwyllgor ac aelodau o'r tîm clercio? Mwynheais fy amser ar y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn fawr, ac er fy mod yn falch iawn o siarad am addysg yn awr, rwy'n mynd i gofio'r ddwy flynedd a hanner hynny, nid yn unig gyda hoffter, ond oherwydd i mi ddysgu cymaint yno sy'n mynd i fod yn werthfawr yn fy mhortffolio newydd, ac fe ddof at hynny wrth imi wneud fy nghyfraniad heddiw.

Digwyddodd yr ymchwiliad hwn am fod pobl Cymru wedi gofyn inni ei wneud, a gwn ei fod o ddiddordeb arbennig i'r Cadeirydd, ond ni sylweddolais fod cymaint o awydd i daflu goleuni ar yr hyn y gwelwyd ei bod yn sefyllfa sy'n codi ledled Cymru nes inni wneud yr apêl hon i'r cyhoedd yng Nghymru. Ac rwy'n dal i feddwl bod y ffordd arloesol hon o benderfynu ar ran o leiaf o'r hyn a fyddai'n waith i'r pwyllgor yn werthfawr iawn ac yn bendant yn werth i bwyllgorau polisi eraill ei hystyried. Gyda'r ymchwiliad penodol hwn yn unig, cynorthwyodd y broses i nodi'r angen am gyngor arbenigol, er enghraifft, na fyddech wedi bod yn ymwybodol ohono o'r blaen efallai, ac roedd hynny o gymorth inni ddeall bod angen inni gasglu rownd arall o dystiolaeth, a gwnaethom hynny, ar ôl canfod fod materion o bwys yn deillio o'r cylch casglu tystiolaeth gwreiddiol. Felly, gwledd symudol yn bendant, ond ffordd newydd o wneud pethau y credaf ei bod wedi sicrhau ein bod oll fel aelodau pwyllgor yn teimlo inni gael ein haddysgu'n briodol cyn i ni lofnodi argymhellion yr adroddiad.

Rwy'n mynd i ganolbwyntio ar rai o'r argymhellion yn unig, gan ddechrau gyda'r ddau gyntaf. Mae gwir angen i rywun gymryd cyfrifoldeb dros fodolaeth a llwyddiant gwasanaethau cerddoriaeth, ac rydym yn credu mai Llywodraeth Cymru a ddylai wneud hynny, yn bennaf o ganlyniad i'r nodau llesiant statudol sy'n effeithio ar lywodraeth bellach yn ogystal â gwasanaethau cyhoeddus eraill. Roedd gennym ddiddordeb mewn amrywiaeth o fodelau cyflawni, a byddaf yn dychwelyd atynt, ond roeddem yn glir na ellir gadael hyn i gynghorau heb fawr o arian geisio achub y gwasanaethau hyn eu hunain—mae'r pwysau o ran ariannu gweithgareddau nad ydynt yn statudol ym mhob cyngor yn ddifrifol y dyddiau hyn—ac ni all ddibynnu ar ddiddordeb swyddogion allweddol mewn cynghorau, nac yn wir o fewn arweinyddiaeth ysgolion, er mwyn i'r gwasanaethau hyn fodoli o gwbl, mae'n ymddangos i mi. Nid yw'n ffordd ddiogel o sicrhau'r gwasanaethau hynny. Hefyd, cawsom siom braidd—credaf ichi sôn am hyn, Bethan—na wnaed unrhyw gynnydd sylweddol iawn ar argymhellion go ddefnyddiol a wnaed gan grŵp gorchwyl a gorffen y Llywodraeth ei hun ar wasanaethau cerddoriaeth flwyddyn neu ddwy yn ôl.

Nawr, wedi dweud hynny, credaf yn gryf fod cynllunio gwasanaethau cerddoriaeth yn weithgaredd cydgynhyrchiol. Nid wyf yn meddwl y dylai hynny fod yn fater i Lywodraeth Cymru. Nid mater i weision sifil ydyw, a dyna pam yr oeddwn yn hapus iawn i gefnogi argymhelliad 1, oherwydd credaf mai rôl y Llywodraeth yw pennu amcanion strategol ar gyfer gwasanaethau cerddoriaeth sydd, yn fy marn i, yn mynd y tu hwnt i ddiben craidd gwasanaethau cerddoriaeth, sef tyfu ein cenhedlaeth nesaf o gerddorion. Drwy edrych ar gyfranogiad mewn cerddoriaeth fel arf i gyflawni ystod gyfan o amcanion lles ac addysg, hyd yn oed y tu hwnt i'r cynllun dysgu creadigol, os oes angen—arf ar gyfer mynd i'r afael â thlodi, er enghraifft. Mae gennym adroddiad Kay Andrews. Rwy'n gobeithio y bydd rhywfaint o waith wedi'i wneud ar hwnnw'n eithaf buan i weld sut y mae'r ddarpariaeth i'w gweld yn erbyn hwnnw. Ond mae'r rhain oll yn ffyrdd o adeiladu angen am wasanaethau cerddoriaeth.

Felly nid yw'n fater o'r diben craidd yn unig. Gall gwasanaethau cerddoriaeth wneud cymaint yn fwy, ac mae angen i bobl eraill dderbyn bod yna gyfrifoldeb i sicrhau ein bod yn cynnal y gwasanaethau hynny y tu hwnt i'r diben craidd. Mae'n golygu mwy nag un ffrwd incwm i ddechrau, ac rwy'n credu efallai y bydd rhai puryddion allan yno sy'n credu efallai ei bod yn ffordd braidd yn weithrediadol o edrych ar wasanaethau cerddoriaeth, ond mae'r ffordd rwy'n edrych arno'n adeiladu ar gasgliadau sylfaenol y pwyllgor y bydd pethau'n methu os ydym yn parhau fel y gwnawn. Felly, os gall sectorau polisi eraill ddechrau edrych ar sut y gall cerddoriaeth fod o werth iddynt hwy—ac fe sonioch am rai enghreifftiau, rwy'n meddwl, Bethan—yna credaf fod ei fodolaeth yn dod yn fwy o flaenoriaeth wleidyddol. Gorau po fwyaf o bobl sydd â budd ynddo.

Rwy'n credu mai corff cenedlaethol, sydd er hynny'n gweithredu'n helaeth ar lefel ranbarthol a lleol, yw'r ffordd orau o sicrhau bod y ddarpariaeth yn deg, fod safonau'n cael eu cynnal, fod pob rhan o Gymru'n cael ei chynnwys, ac wrth gwrs fod yna safonau ar gyfer talu am ddarparwyr gwasanaethau cerddoriaeth. Credaf ei bod hi'n rhaid mai corff cenedlaethol yw'r dull gorau o wneud hynny, yn ogystal â chyd-drefnu'r ffrydiau incwm amgen hyn. Felly, os yw hynny'n golygu gwella rôl Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, neu rywbeth ar wahân, nid oes ots gennyf mewn gwirionedd, ond rwy'n credu bod angen inni wneud hynny.

Yna'n fyr fe ddychwelaf at y cwestiwn sy'n codi ynghylch argymhelliad 4. Un ateb sy'n gweddu i bawb—nid ydym ei angen, nid yw'n ddymunol. Cawsom dystiolaeth ardderchog gan grŵp cydweithredol yn sir Ddinbych, rwy'n credu. Pam y dylem ailddyfeisio'r olwyn pan fo'r darparwyr cerddoriaeth eu hunain yn gallu cynllunio gwasanaethau sy'n gweithio'n dda?

Yn olaf hoffwn ddweud, fel unigolyn di-dalent fy hun, fy mod yn dibynnu ar eraill i wneud cerddoriaeth i fy ngwneud i'n hapus, ond mae hynny'n wir hefyd am y bobl unig, ynysig, y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol, problemau cyfathrebu, dementia, pobl â phroblemau iechyd meddwl—maent yn dibynnu ar gerddoriaeth mewn rhai achosion i'w helpu i fyw eu bywydau, ac mae pawb ohonom ei hangen er mwyn cymryd rhan yn ein diwylliant cenedlaethol. Diolch.

15:45

Nid yw'r adroddiad hwn wedi'i frysio. Cynhaliwyd y sesiwn dystiolaeth gyntaf ym mis Ionawr 2017, ac am yr amser roeddwn i ar y pwyllgor, roedd y rhai ohonom a wasanaethodd—ac mae'n arwyddocaol, pan edrychwch chi ar yr adroddiad, faint o bobl wahanol sydd wedi mynd drwy'r broses benodol hon; mae wedi ymwneud â hyd at un rhan o bump o holl Aelodau'r Cynulliad. Ond credaf ein bod wedi cymryd ein hamser yn fwriadol, oherwydd roedd yn hawdd rhuthro i gael ateb slic a chyflym i'r hyn sy'n fater anodd iawn yn yr oes hon o gyni. Rwy'n credu ein bod wedi dod i gytundeb cyffredinol fod cael darpariaeth o wasanaethau cerddorol mewn ysgolion yn nwydd cyhoeddus ac yn hawl ddiwylliannol. Ond gyda llai a llai o adnoddau i awdurdodau lleol a dyletswydd i ddarparu gwasanaethau statudol, nid oedd unrhyw ffordd hawdd allan. Ac er cymaint y demtasiwn i ymateb i alwad Owain Arwel Hughes a soniai am argyfwng drwy gyhoeddi adroddiad yn dweud bod hyn yn bwysig ac y dylai cynghorau wario mwy arno, byddai'n annheg i'n cydweithwyr mewn llywodraeth leol, sy'n cael trafferth i ymdopi â phenderfyniadau anodd bob wythnos.

Felly, fe wnaethom gymryd ein hamser ac fe sefydlwyd panel arbenigol i graffu ar ein syniadau cychwynnol a gweithio gyda ni, ochr yn ochr â ni, i roi prawf ar y syniadau a oedd yn datblygu, i weld a oeddent yn dal dŵr. Felly, rwy'n credu bod y pwyllgor i'w ganmol am gymryd ei amser, er nad oes amheuaeth gennyf fod y rhanddeiliaid yn teimlo braidd yn rhwystredig ein bod wedi cymryd cyhyd i lunio adroddiad.

Rhaid imi ddweud, roeddwn yn credu bod ymateb Ysgrifennydd y Cabinet yn galonogol iawn. Nid wyf yn siŵr a wyf fi wedi'i gamddarllen, ar ôl gwrando ar ddisgrifiad Cadeirydd y pwyllgor a oedd braidd yn surbwch yn fy marn i. Roeddwn yn meddwl bod yr ymateb yn adeiladol iawn ac yn ymgais go iawn i geisio llunio ateb a fyddai'n para i'r hyn sydd, heb amheuaeth, yn set anodd o amgylchiadau.

Roeddwn yn drist iawn o glywed yn ddiweddar fod Cerddorfa Ieuenctid Sir Gaerfyrddin wedi rhoi'r gorau iddi am y tro, a chredaf fod hyn yn destun pryder i bawb sydd wedi mynd drwy'r gwasanaethau, fel Cadeirydd y pwyllgor ei hun ac fel Jeremy Miles hefyd, a fu'n gwasanaethu ar y pwyllgor gyda mi. Ceir ymdeimlad go iawn o ymrwymiad, rwy'n credu, ar ran aelodau'r pwyllgor i gadw'r hyn sydd yno.

Roeddwn yn meddwl wrth ddarllen am effaith y modd y mae byd gwaith yn newid, ac awtomatiaeth a digido a sgiliau rydym yn eu dysgu i bobl ifanc i roi gallu iddynt wneud swyddi nad ydynt wedi'u creu eto. Ac mewn gwirionedd, nid pwysigrwydd codio neu raglennu yw'r peth pwysicaf. Y peth pwysicaf yw creadigrwydd, gwaith tîm, empathi, sgiliau dynol. Yn union y math o bethau a gewch o addysg gerddorol. Ac roeddwn yn gwrando ar y radio yr wythnos hon ar rywun yn sôn am y profiad a roddwyd iddynt, o fod â diddordeb mewn cerddoriaeth yn hytrach na dawn. Roeddent yn cael sylw mawr ac anogaeth drwy ddangos diddordeb yn unig—y math o brofiad diwylliannol rydym am ei roi i bobl ifanc.

Felly, mae'r agenda hon yn ganolog i'r agenda sgiliau yn y dyfodol. Nid yw'n rhywbeth ychwanegol, 'Oni fyddai'n braf pe bai gennym fwy o arian i ariannu gwasanaethau awdurdod lleol?' A dyna pam rwy'n credu bod galwad y pwyllgor i roi hyn ar hyd braich oddi wrth awdurdodau lleol, i roi arweiniad cenedlaethol—. Oherwydd fe edrychasom ar y grŵp gorchwyl a gorffen a sefydlwyd o dan Huw Lewis ac olrhain ei gynnydd, ac ychydig iawn a oedd wedi digwydd iddo. Cawsom dystiolaeth nad oedd yn drawiadol iawn gan CLlLC. Ac rwy'n cydymdeimlo â'r cyfyng-gyngor y maent ynddo, ond maent wedi methu. Maent wedi methu yn y dasg o ddarparu arweinyddiaeth ar hyn ac rwy'n deall pam, ond nid yw hynny'n ddigon da. Felly, credaf ei bod yn iawn i Lywodraeth Cymru gamu i mewn a dweud y dylid gwneud hyn ar sail Cymru gyfan.

Rwy'n cymeradwyo'r modelau newydd a gyflwynwyd drwy'r gwaddol gan Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Rwy'n poeni amdanynt, ar ôl bod yn rhedeg elusen a cheisio cael arian gan ymddiriedolaethau a sefydliadau. Mae'n anodd ar y naw. Mae'n wirioneddol anodd, ac nid yw ymddiriedolaethau a sefydliadau Llundain yn gyflym i ddod i helpu gwasanaethau diwylliannol y tu allan i'r fetropolis. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n iawn ein bod wedi'u sefydlu, ond rhaid inni beidio â gadael iddynt ddihoeni—rhaid inni ddilyn hynny gyda chefnogaeth, ar ffurf arian parod, ond hefyd ar ffurf cymorth. Rwy'n cymeradwyo'r amnest offerynnau cerdd roeddwn yn falch iawn o roi gitâr fy merch iddo. Strymiais ryw ychydig cyn imi ei hestyn iddynt.

Felly, rwy'n credu bod yr ymyriadau y mae'r Llywodraeth eisoes yn eu gwneud yn iawn ac i'w croesawu. Credaf mai'r cyfeiriad teithio a nodir gan y pwyllgor yn yr adroddiad yw'r un cywir. Mae pwysigrwydd yr agenda hon yn hanfodol, o ran hawliau diwylliannol, ond hefyd o ran sgiliau yn y dyfodol. Ac fe fyddaf fi, ynghyd ag eraill, yn gwylio gyda diddordeb wrth i'r Llywodraeth ddatblygu'r hyn a oedd yn ymateb calonogol yn fy marn i. Ond yn anochel, yr hyn sy'n bwysig yw beth sy'n dilyn. Diolch.

15:50

Mae'n hyfryd i minnau gael cymryd rhan yn y ddadl bwysig yma hefyd. Wel, fel roedd Lee Waters wedi'i grybwyll, mae tua phumed ran o’r Senedd yma wedi bod yn aelod o’r pwyllgor yma tra rydym wedi bod wrthi’n traddodi’r pwnc hynod bwysig yma, ac, i fod yn deg, mae’r pwnc o gerddoriaeth yn ein hysgolion ni yn bwnc sylfaenol, o bosib. Dyna y mae cyhoedd Cymru wedi bod yn ei ddweud wrthym ni, a dyna sut y daethom ni i drafod y pwnc hwn yn y lle cyntaf, achos roedd pobl Cymru eisiau inni drafod y pwnc yma. Rwy’n talu teyrnged i frwdfrydedd heintus y Cadeirydd, a’i gallu cerddorol, yn naturiol, yn dod yn amlwg, ond hefyd ei gallu i yrru'r agenda yma ymlaen. Rydym ni i fod, fel cenedl, mewn cariad efo cerddoriaeth—gwlad y gân, wedi’r cwbl, fel y gwnaeth Bethan sôn—ond, wrth gwrs, mae yna argyfwng syfrdanol, fel y dywedodd Owain Arwel Hughes wrthym ni yn y pwyllgor. Owain Arwel Hughes, wrth gwrs, yw sylfaenydd Proms Cymru, yn enwog drwy’r byd i gyd, a phan fydd o’n dweud bod yna argyfwng, mae’n rhaid i bobl eistedd i fyny a gwrando.

Cawsom ni dystiolaeth fanwl, hir a dwys dros wythnosau a misoedd ac, ie, mi fuon ni’n trin a thrafod pa ffordd oedd y ffordd orau ymlaen. Rwy’n dal i gofio’r dadleuon yna: a oeddem ni’n mynd i ddal i fynd ymlaen efo'r sefyllfa fel yr oedd hi, ac wrth gwrs arian yn brin a blaenoriaethau gwahanol gan wahanol awdurdodau lleol, ac ati, neu a oeddem ni’n mynd i fod yn ddewr a chrybwyll bod angen corff hyd-braich cenedlaethol a oedd yn gallu pennu blaenoriaethau? Wrth gwrs, ar ddiwedd y dydd, dyna ydy’r prif argymhelliad. Hwnnw yw argymhelliad rhif 1: bod angen datblygu corff cenedlaethol hyd braich, achos mae’r agenda yma yn fwy na dim ond dysgu cerddoriaeth yn yr ysgolion. Fel y gwnaeth Lee Waters ei grybwyll, a Bethan cyn hynny, mae’n rhan o’n datblygiad naturiol ni fel pobl, fel plant. Rydym ni’n ennyn disgyblaeth, rydym ni’n ennyn bod yn rhan o dîm, rydym ni’n ennyn gorfod gweithio’n galed weithiau er mwyn gallu dod a rhagori, ac ymarfer dro ar ôl tro er mwyn cyrraedd y brig.

Dim ond rhyw getyn organydd mewn capel fues i erioed, ond mae’r sgiliau amgen hynny yn eich datblygu chi fel nad oes gennych chi un ffordd gul yn yr hen fyd yma. A dyna yr oedd nifer o’n tystion ni yn ei ddweud wrthym ni. Wrth gwrs, rwyf mor hen rŵan, pan oeddwn i yn yr ysgol, roeddem ni’n cael dosbarthiadau cerddoriaeth ta beth. Roedd pawb yn eu cael nhw. Roeddech chi’n troi i fyny yn naturiol i'w cael nhw; roedd miwsig ar yr agenda. Ac roeddem ni’n eu mwynhau nhw ac, wrth gwrs, roedd hynny’n ennyn diddordeb ar y pryd ac roedd yna ddigon o gyfle yn yr ysgol i gael gwersi efo’r ffidil—er, nid oeddwn i’n llwyddiannus ar hwnnw. Roedd pawb yn cael cyfle bryd hynny. Roedd yn amser gwahanol. Rwy’n sôn am flynyddoedd maith yn ôl.

Mae yna waith bendigedig yn mynd ymlaen yn y sector wirfoddol. Buasai'n well inni sôn am Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, yr Eisteddfod Genedlaethol ei hun, ond mae mudiad yr Urdd hefyd yn cyflawni gwyrthiau: miloedd o blant yn dysgu pob math o offerynnau a hefyd yn canu yn ein gwahanol gorau ni ac ati, ac yn datblygu fel cantorion. Mae pobl fel Bryn Terfel wastad yn sôn am y ffaith eu bod nhw wedi cyrraedd y brig yn rhannol achos y fath ddisgyblaeth a’r cyfle y gwnaethon nhw ei gael drwy wahanol eisteddfodau'r Urdd a’r genedlaethol. Mae eisiau inni ddatblygu’r llwyfannau naturiol yna sydd gennym ni fel cenedl, achos mae’n fater o gryfder.

Pan rydym ni’n sôn weithiau yn gul, rydym ni’n anghofio am y gwaith bendigedig sy’n mynd ymlaen ar lawr gwlad drwy wahanol aelwydydd yr Urdd a drwy’r Urdd yn genedlaethol yn magu dyfodol pendant i’n pobl. Achos mae yna weithgaredd rhyfeddol, ysbrydoledig yn mynd ymlaen ar lawr gwlad. Ie, gydag athrawon ysbrydoledig ym mhob man, yn enwedig efo'r cerddorfeydd, ond i ennyn y diddordeb yna yn y lle cyntaf, diddordeb mewn cerddoriaeth sy’n mynd i’ch helpu chi i ddatblygu fel person, felly—

15:55

Rwy'n cytuno'n llwyr â'r pethau rydych wedi'u dweud, ac rydych wedi sôn am yr Urdd a sefydliadau cenedlaethol, a buaswn hefyd yn dweud bod yna sefydliadau cerddorol lleol megis Cerddoriaeth Gwent yn fy ardal i, a ariennir yn rhannol gan awdurdodau lleol, a sefydliadau eraill fel hynny ar draws Cymru sy'n gwneud llawer iawn i hyrwyddo cerddoriaeth y tu allan i ysgolion mewn gwirionedd.

Rwy'n cytuno 100 y cant, ond wrth gwrs, fel y dywedodd Owain Arwel Hughes, rydym ni'n wynebu argyfwng, achos mae gwybodaeth oddi wrth Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn dweud taw dim ond 13 y cant o ddisgyblion o Gymru sy'n cynnig am le yn ein Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn ddiweddar—13 y cant. Mae yna argyfwng ac mae angen mynd i'r afael â'r peth. Diolch yn fawr.  

16:00

Fel aelod o'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, hoffwn ddechrau drwy ganmol ymdrechion ein Cadeirydd, Bethan, a chyd-aelodau'r pwyllgor a'r clercod am eu gwaith diwyd a phwysig yn cynhyrchu'r adroddiad hwn. Yn aml, gofynnir i mi pam rwy'n rhoi cymaint o flaenoriaeth i addysg cerddoriaeth, ac er nad fi yw'r unig un, yn ystod mis Medi 2016, cyn i mi wasanaethu ar y pwyllgor, fel y gwyddoch, fe ofynnwyd i'r cyhoedd beth ddylai blaenoriaethau'r pwyllgor fod, a daeth hyn i'r brig wrth gwrs. Y rheswm am hynny yw bod y cyhoedd yn deall gwerth addysg cerddoriaeth yn ein hysgolion i'n pobl ifanc—nid yn unig i'r bobl ifanc hynny, ond i ni fel gwlad, i ni fel cenedl, ac i ni fel diwylliant.

Fel Cadeirydd ein pwyllgor, rwy'n gerddor, a diolch i fy nghyd-Aelodau yn y coridor yn Nhŷ Hywel, gan gynnwys Lee Waters a Jack Sargeant, sydd wedi gwneud sylwadau ar fy chwarae, ac fel dysgwr gydol oes rwy'n dal i fod yn fyfyriwr cerddoriaeth ac rwy'n addo cyrraedd y nodyn cywir hwnnw iddynt, ond yn fwy felly i fy etholwyr. [Chwerthin.] Ac os yw'n golygu cymaint i mi yn bersonol fel Aelod Cynulliad i ddysgu a pherffeithio a chwarae offeryn cerdd, ni allaf ddweud wrthych pa mor hollbwysig yw hi i mi wybod nad oes unrhyw blentyn yng Nghymru yn colli cyfle i godi offeryn a chael cyfle i ddysgu ei chwarae, nid yn seiliedig ar allu i dalu, ond yn seiliedig ar y gallu i chwarae.

Mae'n ymwneud â mwy na dysgu chwarae offeryn. Mae'n ymwneud â sicrhau cyfle cyfartal i bob un o'n myfyrwyr ledled Cymru, a'n hunaniaeth yn rhyngwladol fod rhaid inni barhau i fod, yng geiriau'r adroddiad a gomisiynodd fy swyddfa gan yr Athro Carr, yn 'wlad y gân'. Ni all hynny fod mewn enw'n unig. Rhaid inni gael y seilwaith yn sail i'r gwasanaethau sydd eu hangen arnom er mwyn cyflawni ar ran ein holl ddisgyblion. Felly, edrychaf ymlaen yn fawr at glywed sut y mae'r Cadeirydd ac Ysgrifennydd y Cabinet yn mynd i weithio drwy'r argymhellion hyn, ac rwy'n arbennig o falch fod argymhelliad 13 wedi'i dderbyn mewn egwyddor gan Lywodraeth Cymru, argymhelliad sy'n sicrhau ac yn ceisio sicrwydd fod gwasanaethau cerddoriaeth yn parhau i fodoli, er mwyn sicrhau bod y gallu gan ddisgyblion o bob cefndir mewn bywyd i gyrraedd y lefel o ragoriaeth sy'n ofynnol ar gyfer cael lle mewn ensembles cenedlaethol. Ac fel y clywsom eisoes, yn gynyddol nid yw hynny'n wir.

Mae'n iawn y dylai ein holl ddisgyblion, beth bynnag am incwm, gael yr un gallu a chyfle i gael hawl i ddysgu offeryn cerdd—cyfle cyfartal i bob un o'n myfyrwyr. Rydym yn wynebu adeg allweddol iawn ar berfformiad addysg cerddoriaeth yng Nghymru. Rydym yn gwybod ein bod wedi cael gormod o flynyddoedd o gyni, a bellach mae'n iawn i ni asesu a chydnabod effaith wirioneddol colli gwasanaethau cymorth cerddoriaeth ledled Cymru, i ni gydnabod yr anghydraddoldebau sy'n bodoli, ac fel gwleidyddion, i ni ddod at ein gilydd i ddarparu'r atebion. Mae diogelu a darparu addysg cerddoriaeth a gwasanaethau cymorth cerddoriaeth mor allweddol—maent yn darparu'r dechrau, ensembles elfennol, canolraddol ac uwch, sy'n darparu cyfleoedd i'r rhai na allant dalu—a rhaid i hyn ddod yn genhadaeth genedlaethol y gall Aelodau ein holl bleidiau, a'r rhai heb bleidiau, uno y tu ôl iddi. Credaf fod Bethan, fel gwleidydd Plaid Cymru, fi fy hun fel gwleidydd Llafur, ac Ysgrifennydd y Cabinet fel Democrat Rhyddfrydol, yn dangos sut rydym yn ceisio cytundeb ar draws y rhaniadau gwleidyddol. Hoffwn ddiolch hefyd am y cyfraniadau gan eraill yn y pwyllgor.

Ond rwy'n credu mai'r thema heddiw yw ei bod yn bryd gweithredu yn awr dros Gymru ac yn awr dros ein disgyblion. Gwelir hyn yn amlwg yn argymhelliad 1, sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i drosglwyddo cyfrifoldeb am ddarparu'r gwasanaeth i gorff cenedlaethol hyd braich. Nawr, mae yna ddadl ynglŷn â hyn o hyd, a beth bynnag yw'r dull, gwn ei bod yn galonogol fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad hwn mewn egwyddor i ariannu gwasanaethau cymorth cerddoriaeth. Edrychaf ymlaen at weld Llywodraeth Cymru'n adrodd yn ôl i'r pwyllgor ar gynnydd yr ymarfer dichonoldeb, ond hoffwn danlinellu'r ffaith mai yn awr y mae gwasanaethau cymorth cerddoriaeth yn dadfeilio fel gwasanaethau anstatudol. Os ydynt yn mynd i barhau i fod yn anstatudol, mae cyfrifoldeb arnom i ariannu gwasanaethau cymorth cerddoriaeth ledled Cymru, beth bynnag fo'r dull, a rhaid gwneud hynny'n gyflym. Diolch.   

Diolch yn fawr iawn, Lywydd dros dro. Cyn imi ymateb i'r pwyntiau a wnaed yn y ddadl ac amlinellu gwaith y Llywodraeth yn y maes hwn, rwyf am dawelu meddwl yr Aelodau ar draws y Siambr mai anaml y byddaf yn ymweld ag ysgol lle na chaf fy nghyfarch gan ddoniau cerddorol y disgyblion yn yr ysgol honno—corau, bandiau samba, bandiau dur, pedwarawdau ffidil a llu o berfformwyr unigol. Weithiau rwy'n jocian ei bod hi'n drueni nad yw'r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr yn mesur doniau cerddorol yn ogystal â mathemateg, gwyddoniaeth, Saesneg a darllen, gan y buaswn yn cysgu'n haws bob tro y byddai PISA yn digwydd.

16:05

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Fodd bynnag, rwy'n falch iawn o ddweud, pan fo'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd wedi edrych ar ein rhaglen Dysgu Creadigol drwy'r Celfyddydau, maent wedi'i disgrifio fel un 'sy'n arwain y byd' ac maent wedi'i defnyddio fel enghraifft o arfer da i wledydd eraill sydd am wneud yn union yr hyn y siaradoch chi amdano, Lee: cyflwyno elfennau o greadigrwydd yn eu cwricwlwm, oherwydd maent yn cydnabod mai dyna rai o'r sgiliau y bydd eu pobl ifanc eu hangen yn y dyfodol, ac mae'r OECD yn cydnabod ein bod yn gwneud hyn yn dda drwy ein rhaglen Dysgu Creadigol drwy'r Celfyddydau.

Hoffwn ddiolch i'r pwyllgor am yr adroddiad. Fel y dywedais o'r blaen, rwy'n rhannu uchelgais y pwyllgor ar gyfer darparu mynediad o safon i bawb at addysg cerddoriaeth ar gyfer pob dysgwr yng Nghymru. Rwy'n cydnabod yr angen hefyd i sicrhau bod llwybrau priodol yn bodoli ar gyfer dysgwyr sy'n awyddus i ddatblygu a gwella eu profiadau a'u harbenigedd cerddorol er mwyn cyrraedd eu potensial llawn.

Hoffwn ddiolch i Bethan am gydnabod yn yr adroddiad y camau niferus rydym wedi'u cymryd i geisio gwneud cynnydd yn y maes hwn. Nawr, mae'r argymhellion yn sylweddol, gyda goblygiadau sefydliadol ac ariannol pellgyrhaeddol i'r sector addysg cerddoriaeth, ac fel y cyfryw maent yn galw am amser ac adnoddau priodol i'w harchwilio a'u hystyried yn fanwl. Hoffwn dynnu sylw at rai o'r materion sy'n codi a'r argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad, felly.

Fel y clywsom gan amryw o siaradwyr y prynhawn yma, mae argymhelliad 1 yn cyfeirio at drosglwyddo cyfrifoldeb am ddarparu gwasanaethau cerddoriaeth i gorff cenedlaethol hyd braich er mwyn sicrhau bod cyfleoedd teg yn cael arian craidd gan Lywodraeth Cymru. Mae'n hanfodol fod mynediad at gerddoriaeth ac addysg cerddoriaeth ar gael ar gyfer pob dysgwr, ni waeth beth fo'u lleoliad, eu cefndir cymdeithasol a'u gallu i dalu. Rydym yn gwneud popeth a allwn i sicrhau bod rhwystrau i gyfranogiad yn cael eu dileu. Fodd bynnag, nid yw gwneud yr hyn a argymhellir mor hawdd â hynny, yn enwedig yn ystod y cyfnod hwn o gyni economaidd pan fo cyllidebau'n dynn. Fel y clywsom hefyd, ar hyn o bryd cyfrifoldeb awdurdodau lleol ac nid Llywodraeth Cymru yw darparu gwasanaethau cerddoriaeth. Felly, nid yw trosglwyddo'r cyfrifoldebau hynny i gorff arall yn arbennig o syml i'w wneud. Rhaid inni ystyried yr effaith a'r goblygiadau'n ofalus iawn cyn gwneud hynny. O ganlyniad, rwyf wedi awgrymu ein bod yn cynnal astudiaeth ddichonoldeb er mwyn ymchwilio i opsiynau addas ar gyfer darparu gwasanaethau cerddoriaeth yn y dyfodol. Fel y cydnabu'r Cadeirydd ei hun, mae'n dal i fod angen gweithio drwy union strwythur, rolau a chyfrifoldebau'r corff hwnnw. Fel cam cyntaf, mae fy swyddogion wrthi'n trefnu cyfarfod ymgynghori â rhanddeiliaid gyda phartneriaid allweddol i drafod cwmpas a chylch gorchwyl yr astudiaeth honno, a byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor cyn gynted â phosibl ar y cynnydd a wneir wrth gwrs.

Mae'r adroddiad hefyd yn argymell fy mod yn perchnogi gwasanaethau cerddoriaeth er mwyn paratoi cynllun gweithredu cenedlaethol ar gyfer cerddoriaeth. Fodd bynnag, yn bersonol rwy'n credu nad yw'n briodol i mi gymryd cyfrifoldeb strategol fy hun am wasanaethau cerddoriaeth, gan fod y meysydd hyn yn llawer ehangach na fy nghyfrifoldebau portffolio ar gyfer ysgolion yn unig. Fel rydym newydd ei glywed gan Dai Lloyd, ceir llawer o gyfleoedd i bobl ifanc fynd ar drywydd cerddoriaeth y tu hwnt i addysg orfodol, ac wrth gwrs ceir cyfrifoldebau trawsbynciol gyda'r adran ddiwylliant yma o fewn Llywodraeth Cymru. Ond rwy'n credu y dylai fod yn rhan o astudiaeth ddichonoldeb, a bydd yr astudiaeth honno'n edrych ar ystyried cynllun cenedlaethol ar gyfer addysg cerddoriaeth. Efallai y dylwn ymfalchïo yn y ffaith bod y Cadeirydd am imi ysgwyddo cyfrifoldeb dros y cyfan. Ac mae'n dweud mai oherwydd fy mod wedi gwneud rhai pethau penodol ers dechrau yn fy swydd y mae'n dweud hynny; wel, bydd hynny'n wers imi, oni fydd—[Chwerthin.]—am gadw fy mhen uwchben y parapet a cheisio cael pethau wedi'u gwneud? Mae'n golygu y bydd gofyn ichi wneud rhagor o bethau.

Byddaf hefyd yn ehangu'r astudiaeth ddichonoldeb i ystyried hyfywedd modelau amgen o ddarparu gwasanaethau cerddoriaeth. Rwy'n ymwybodol fod nifer o awdurdodau lleol wedi datblygu modelau gwahanol, ac mae angen deall effeithiolrwydd a'r galw am y modelau hynny. Ar daith i sir Ddinbych yn ddiweddar, gwelais y trefniant cydweithredol a roddwyd ar waith yno, a chefais adborth gan athrawon ysgolion yn yr ardal sy'n dweud wrthyf fod mwy o blant yn cael mynediad at gerddoriaeth ac mae'n costio llai iddynt mewn gwirionedd. Felly, mae'r rhain yn bethau diddorol sydd angen inni eu deall ac mae angen inni edrych ymhellach arnynt.

Rwy'n falch fod llawer o'r argymhellion gan grŵp gorchwyl a gorffen Huw Lewis ar wasanaethau cerddoriaeth awdurdodau lleol wedi'i gwblhau, er fy mod yn rhannu eich rhwystredigaeth. Rydym wedi ceisio ailedrych ar y materion hyn gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn y cyfarfodydd rwy'n eu cael gyda hwy. Ond byddaf yn darparu diweddariad llawn ar y cynnydd o adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen erbyn diwedd y flwyddyn hon.

Gan droi at y sylwadau a wnaed yn yr adroddiad ynglŷn ag ariannu gwasanaethau cerddoriaeth, nid wyf am falu awyr: rwy'n derbyn yn llawn ac yn cydnabod bod yna heriau sylweddol o ran cyllid, ond credwch fi, Lee, pan ddywedwch eich bod yn deall yr anawsterau a wynebir gan awdurdodau lleol wrth wneud penderfyniadau ynglŷn â ble i flaenoriaethu'r cyllidebau hynny, dyna'r un sgyrsiau'n union sy'n digwydd yma ar lefel Llywodraeth Cymru. Nid oes unrhyw atebion cyllido hawdd i'r broblem hon i ni fel Llywodraeth ychwaith. Mewn ymateb, fodd bynnag, er gwaethaf yr heriau hynny, rwy'n falch ein bod wedi gallu cynyddu'r arian sydd ar gael i awdurdodau lleol ar gyfer prynu offerynnau cerdd. Rydym wedi rhyddhau £1 filiwn y flwyddyn ar gyfer 2018-19 a 2019-20 ar gyfer y ddarpariaeth gerddoriaeth, ac ar hyn o bryd rwy'n ystyried argymhellion ar sut y dylid dyrannu'r arian. Mae hyn yn cynnwys opsiwn i sicrhau o bosibl fod mwy o arian ar gael i bob awdurdod lleol allu prynu rhagor o offerynnau eto. Rwy'n ddiolchgar i'r Aelodau yn y Siambr sydd wedi cyfrannu eu hofferynnau a oedd yn llechu yn eu cypyrddau, boed yn gitâr merch Lee Waters, ffidil fy merch, ac rwy'n credu bod mab Lynne Neagle yn falch o weld cefn yr offerynnau y gallodd Lynne eu cyfrannu. Ond rydym hefyd wedi gallu cefnogi prynu offerynnau. Wrth ymweld â sir Ddinbych, cefais weld y piano newydd a brynwyd ar gyfer y trefniant cydweithredol yno o ganlyniad i'r arian. Gan weithio gyda Bethan, byddaf yn penderfynu ar y ffordd orau o ddyrannu'r arian hwn i sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio yn y modd mwyaf effeithiol ac yn hollbwysig, ei fod yn gynaliadwy, ac rwy'n gobeithio gwneud cyhoeddiad cyn diwedd tymor yr hydref.

Mae sawl un o argymhellion yr adroddiad yn rhai ar gyfer sefydliadau sy'n gweithredu y tu allan i reolaeth uniongyrchol y Llywodraeth, megis Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Ni allaf ymateb ar ran y sefydliadau hynny, ond gallaf gadarnhau bod swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda Chyngor Celfyddydau Cymru a Chelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru er mwyn sicrhau bod yr argymhellion hyn yn cael eu harchwilio'n llawn.

Os trof at Anthem, Cronfa Gerdd Cymru, sydd wedi'i sefydlu, penodwyd cadeirydd newydd, a bydd y penodiad yn cael ei gyhoeddi i'r cyhoedd ym mis Tachwedd. Er mai sefydliad elusennol annibynnol fydd Anthem heb unrhyw gysylltiadau uniongyrchol â'r Llywodraeth, fe fyddwn ni, ynghyd â sefydliadau rhanddeiliaid eraill, yn gweithio mewn partneriaeth agos gyda'r corff newydd wrth iddo ddatblygu yn y blynyddoedd i ddod. Felly, gallaf ddweud wrthych, Lee—nid ydym yn mynd i'w adael i grwydro ymaith ar ei ben ei hun. Mae Anthem yn wynebu'r her o sefydlu brand a hunaniaeth ei hun tra'i fod yn dechrau ar strategaeth godi arian uchelgeisiol ar gyfer denu'r cyfalaf sy'n angenrheidiol i'w alluogi i ddechrau cael effaith go iawn ar gyfer cerddorion ifanc erbyn 2021. Rwy'n cydnabod ei bod hi'n hanfodol bwysig fod hyn yn cael ei wneud heb niweidio'r arian sydd ar hyn o bryd yn cefnogi'r celfyddydau eraill a'r ddarpariaeth addysg, ond rwy'n hyderus y gellir cyflawni hyn. Dylem bwysleisio nad yw pawb yn hoffi cerddoriaeth o reidrwydd, a'r hyn rydym yn awyddus i sicrhau yw bod cyfleoedd creadigol ac artistig o bob math ar gael i'n plant, yn dibynnu ar beth sy'n tanio'u brwdfrydedd.

16:10

Ie, iawn. O ystyried y nifer o elfennau gwahanol a'r mentrau da iawn sy'n datblygu, a ydych chi felly'n cydnabod yr angen am strategaeth neu gynllun cydlynol i allu tynnu'r holl fentrau hyn at ei gilydd o dan un weledigaeth strategol ar gyfer addysg cerddoriaeth yng Nghymru?

Fel y dywedais yn gynharach, Rhianon, byddwn yn edrych ar yr argymhelliad ynglŷn â'r cynllun fel rhan o'r astudiaeth ddichonoldeb. Nid wyf am weld addysg cerddoriaeth yn digwydd ar wahân i bopeth arall o fewn yr ysgol. Rhaid inni edrych ar y cyfleoedd yn eu cyfanrwydd, ond dyna fydd yr astudiaeth ddichonoldeb yn edrych arno.

I grynhoi, Ddirprwy Lywydd, mae'r pwyllgor wedi gosod her go iawn i Lywodraeth Cymru ystyried y ffordd orau o ymdrin â gwasanaethau cerddoriaeth a'r ddarpariaeth gerddoriaeth, ond mae'n her rwy'n hapus iawn i'w derbyn. Gallai gymryd peth amser i archwilio'r holl opsiynau posibl sydd ar gael yn llawn, ond byddwn yn parhau i fonitro a gwerthuso'r sefyllfa mewn perthynas â'r ddarpariaeth bresennol yn y maes yn ogystal â rhoi camau ar waith lle gallwn er mwyn lleddfu'r pwysau hwnnw. Byddaf yn darparu diweddariadau rheolaidd a chynnydd ar gamau allweddol i'r pwyllgor ac i gyd-Aelodau'r Cynulliad.

16:15

Rwy'n ymwybodol o'r amser, ac nad oes llawer ohono i fynd drwy sylwadau pawb, ond diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan. Gwn eich bod wedi cael eich lobïo i fynychu a chymryd rhan yn y ddadl hon, ac y byddech yn gwneud hynny beth bynnag oherwydd ei fod mor bwysig. Felly, diolch yn fawr iawn—ac i holl aelodau'r pwyllgor, yn y gorffennol a'r presennol, sydd wedi dangos cymaint o frwdfrydedd ynglŷn â hyn.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am bob un o'i sylwadau. Mae'n galonogol clywed y byddwch yn rhoi hyn ar flaen yr agenda wleidyddol, ac nid ceisio bod yn—nid wyf yn gwybod beth oedd y gair—surbwch oeddwn i yn yr hyn y ceisiwn ei ddweud am y cynlluniau cerddoriaeth mewn addysg, ond os cafodd yr argymhellion eu gwrthod, yn amlwg, fel pwyllgor, mae angen inni fynd drwyddynt yn fanwl iawn i ddeall sut y gallwn eu symud yn eu blaen. Mae'n galonogol clywed, felly, fod hynny'n mynd i gael ei ystyried yn yr astudiaeth ddichonoldeb fel y gallwn ddeall, os nad yw'n mynd i fod yn un cyfrifoldeb uniongyrchol o fewn y Llywodraeth, o ran eich rôl fel Ysgrifennydd y Cabinet dros addysg, sut y gallai edrych o bosibl trwy ymgysylltu ag arbenigwyr yn y maes. Dyna'r cyfan rwyf fi ac eraill yn poeni amdano rwy'n credu—deall sut y byddai cynllun yn gweithio a sut y gallwn gynnwys y bobl orau yng Nghymru mewn perthynas â sicrhau bod hynny'n digwydd. Felly, rwy'n edrych ymlaen at glywed, erbyn diwedd y flwyddyn, beth yw argymhellion y grŵp gorchwyl a gorffen, yn ogystal â pharhau trafodaethau o ran y £2 filiwn hefyd.

Rwy'n credu fodd bynnag ei bod hi'n werth pwysleisio'r ffaith bod yr OECD wedi dweud hynny am ddysgu creadigol drwy'r celfyddydau, oherwydd os ydym yn mynd i fod—. Mae llawer o'r sylwadau yma wedi nodi sut rydym am brif ffrydio, sut rydym am sicrhau bod hon yn agenda sgiliau—os gallwn ddangos i'r byd ei fod yn cael ei ddefnyddio drwy ein systemau addysg, mae honno'n un ffordd, yn anad dim arall, o allu gwneud hynny. Felly, rwy'n croesawu'r gwaith hwnnw yn ogystal.

I droi at Aelodau eraill o'r Cynulliad yn fyr, gwn fod Suzy Davies—. Diolch i chi—rydych wedi gadael y pwyllgor erbyn hyn, ond diolch ichi am eich cyfraniad gwerthfawr, ac rwy'n siŵr y bydd yn eich helpu fel llefarydd y portffolio addysg. Soniasoch am y cyngor arbenigol. Roedd hwnnw'n ddefnyddiol iawn a gobeithio ei fod yn rhywbeth y gall Llywodraeth Cymru ei ystyried fel rhan o'r astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer y corff hyd braich, oherwydd heb—. Roeddem yn gyson yn dychwelyd at y gweithwyr cerddoriaeth proffesiynol i ddweud wrthym sut roeddent yn credu bod ein syniadau'n datblygu, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth yr hoffwn ei wneud mewn ymchwiliadau pwyllgor yn y dyfodol. Ac fe ddywedoch chi hefyd na allwn ei adael i gynghorau sy'n brin o arian ysgwyddo'r gwaith, a chredaf yn y bôn mai dyna pam y daethom i'r casgliad hwn. Mae cydgynhyrchu'n hynod o bwysig, wrth gwrs, oherwydd gallwn osod y cyfeiriad strategol cenedlaethol, ond y bobl sy'n deall ar lawr gwlad sut y mae gwasanaethau cerddoriaeth yn gweithredu sy'n allweddol yma.

Lee Waters, diolch i chi am eich cyfraniadau yn ogystal ag yn ystod y pwyllgor. Roeddwn yn gwerthfawrogi'r ffaith ichi ddweud ei fod yn fater anodd a'n bod wedi cymryd amser i edrych arno'n benderfynol. Nid oedd yn rhywbeth y credwn y dylem ei ruthro, oherwydd gallem fod wedi dweud pethau poblogaidd iawn wrth rai pobl, ond byddai hynny wedi bod yn anodd iawn ei weithredu. Er enghraifft, pe baem wedi'i wneud yn statudol, beth fyddai hynny wedi'i ddweud am wasanaethau eraill? Dyna'r mater dadleuol sy'n rhaid inni ei wynebu yma heddiw. Yn bersonol, rwy'n cytuno â chi mewn perthynas â CLlLC. Efallai eu bod yn siarad yn fwy cadarnhaol bellach gydag Ysgrifennydd y Cabinet, ond pan ddaethant i roi tystiolaeth, nid oedd yn ymddangos eu bod yn gwybod beth oedd yn digwydd gyda'r argymhellion. Efallai fod yr holl ddadl hon wedi'u bywiogi rywfaint; rwy'n gobeithio mai dyna sydd wedi digwydd yn y cyswllt hwn.

Yn fyr ar y gwaddol cyn imi orffen, credaf ei bod yn werth nodi yma yn y ddadl hon fy mod wedi cyfarfod â'r sefydliad cymunedol. Mae ganddynt gyfoeth o brofiad mewn perthynas â'r cronfeydd gwaddol, ac nid ydynt wedi cael eu defnyddio eto mewn perthynas ag Anthem yn ôl yr hyn a ddeallaf, felly gallai fod yn werth ymgysylltu â hwy—os oes ganddynt y sylfaen sgiliau honno yma yng Nghymru eisoes, dylem ei defnyddio.

Nid oes gennyf amser ar ôl; rwy'n gweld y system yn goch i fyny acw. Diolch i Rhianon—gwn eich bod yn teimlo'n angerddol ynglŷn â'r maes hwn—ac i Nick Ramsay a Dr Dai Lloyd a gymerodd ran yn y ddadl hon y prynhawn yma. Mae'n dangos pa mor bwysig yw hyn, ac rwy'n gobeithio y gallwn weld newid ar lawr gwlad fel bod ein teuluoedd a'n plant yn y dyfodol i gyd yn gallu cymryd rhan mewn gwasanaethau cerddoriaeth ac y bydd ganddynt yr un straeon i'w hadrodd—a gwell peidio ag adrodd rhai ohonynt yn yr ystafell hon—am eu hamser gyda cherddorfeydd amrywiol neu gwmnïau dawns, fel y gallant ddangos i genedlaethau'r dyfodol pa mor bwysig yw hyn iddynt.

Diolch yn fawr iawn i'r tîm clercio hefyd ac i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y gwaith pwysig yma, ac i'r bobl sydd wedi troi lan yma heddiw ar gyfer y ddadl. Mae'n bwysig bod y cyhoedd yn rhan dyngedfennol o'r hyn rydym ni'n ei wneud fel pwyllgor. Diolch yn fawr iawn.

16:20

Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl Plaid Cymru: Newid Hinsawdd

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 a 4 yn enw Julie James, gwelliant 2 yn enw Neil McEvoy, a gwelliant 3 yn enw Darren Millar. Os derbynnir gwelliant 3, caiff gwelliant 4 ei ddad-ddethol.

Eitem 7 ar yr agenda ein y prynhawn yma yw dadl Plaid Cymru ar newid hinsawdd a galwaf ar Llyr Gruffydd i gynnig y cynnig.

Cynnig NDM6835 Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi adroddiad Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig.

2. Yn nodi casgliad yr adroddiad bod yn rhaid i lywodraethau weithredu ar frys ac ar lefel pellgyrhaeddol erbyn 2030 er mwyn cadw cynhesu byd-eang at uchafswm o 1.5 gradd celsius.

3. Yn nodi bod y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig wedi canfod bod Llywodraeth Cymru yn debygol o fethu â chyrraedd ei thargedau ar leihau allyriadau carbon erbyn 2020.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adrodd yn ôl i’r Cynulliad ar ba gamau breision y bydd yn eu cymryd mewn ymateb i adroddiad y Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd:

5. Yn credu y dylai’r camau hynny gynnwys:

a) gwaharddiad ar ffracio yng Nghymru;

b) rhoi’r gorau i gynllun llwybr du yr M4 a buddsoddi mewn atebion mwy cynaliadwy i ddatrys problem capasiti yr M4 yn yr ardal;

c) cynnydd sylweddol mewn buddsoddiad mewn ôl-osod tai a chryfhau rheoliadau adeiladu er mwyn cyrraedd y nod o adeiladau ynni agos at sero; a

d) sefydlu cwmni ynni cenedlaethol er mwyn helpu cyrraedd y nod o gynhyrchu cymaint o drydan ag sy’n cael ei ddefnyddio yng Nghymru o ynni adnewyddadwy erbyn 2035 gan fuddsoddi elw mewn gwell gwasanaeth a phrisoedd i gleientiaid.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a sefydliadau cyhoeddus eraill yng Nghymru i fod yn rhan o’r symudiad byd-eang i ddad-fuddsoddi mewn tanwydd ffosil.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae trafod y tywydd yn rhywbeth rŷm ni, fel Cymry, wrth ein boddau yn ei wneud, ac, wrth gwrs, mae 2018 wedi bod yn fodd i fyw i nifer o bobl pan fo’n dod i’r tywydd, wrth gwrs. Rŷm ni’n cofio’r eira a’r oerfel mawr ar ddechrau’r flwyddyn, y glaw di-baid yna—rŷm ni i gyd yn cofio hynny, rydw i’n siŵr, yn y gwanwyn—haf crasboeth, wedyn—un o’r poethaf ar record—ac, wrth gwrs, storom Callum yn yr hydref yn dod â gwerth mis o law mewn dim ond deuddydd. Wrth gwrs, ar draws y byd, mae’r stori’r un fath, gydag enghreifftiau cynyddol o dywydd eithafol, ymhlith arwyddion eraill bod yr hinsawdd yn newid.

Nawr, ychydig o wythnosau yn ôl, fe gyhoeddwyd adroddiad arbennig y panel rhyngwladol ar newid hinsawdd, yr IPCC, ac nid jest unrhyw adroddiad arall i ddwyn ambell i bennawd rhad oedd hwnnw, ond pen llanw gwaith a gafodd fewnbwn gan filoedd o wyddonwyr hinsawdd o ar draws y byd i gyd. Mae’r neges yn yr adroddiad hwnnw’n gwbl glir: mae amser yn rhedeg allan. Mae amser yn prinhau i wneud y newidiadau i’r ffordd rŷm ni’n byw, y ffordd rŷm ni’n cynhyrchu ac yn defnyddio ynni, y ffordd rŷm ni’n symud o gwmpas y ddaear yma, y ffordd rŷm ni’n adeiladu a chynhesu ein cartrefi, yn defnyddio’n hadnoddau naturiol. Oherwydd mae’r trajectory rŷm ni arni o ran cynhesu byd eang yn golygu os na fyddwn ni’n newid ein ffordd, mi fydd yr oblygiadau’n niweidiol ac yn eithafol—nid dim ond mwy o lifogydd, ond gwladwriaethau cyfan yn mynd o dan ddŵr oherwydd codiad yn lefel y môr; nid dim ond mwy o sychder, ond mwy o newyn ar lefel ryngwladol yn dod yn ei sgil; diflaniad eang o rywogaethau ac amgylchedd llawer mwy gelyniaethus i fywyd ar y ddaear yma.

Nawr, casgliad yr adroddiad, wrth gwrs, yw bod yn rhaid i Lywodraethau weithredu ar frys ac ar lefel pellgyrhaeddol erbyn 2030 er mwyn cadw cynhesu byd-eang at uchafswm o 1.5 gradd Celsius. Nid oes dim amheuaeth erbyn hyn, yn fy marn i, mai hon yw’r her fwyaf sy’n wynebu dynoliaeth. Rŷm ni oll yn cofio, wrth gwrs, y trafod yng nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar newid hinsawdd ym Mharis yn 2015 fod yn rhaid cyfyngu cynhesu byd-eang i lai na 2 radd Celsius ac y dylid ymdrechu i gadw e o dan 1.5 gradd. Wel, yr hyn mae adroddiad yr IPCC yn ei ddweud wrthym ni bellach yw bod cynhesu byd-eang yn debygol o gyrraedd 1.5 gradd Celsius rhwng 2030 a 2052 os yw’n dal i gynyddu ar y raddfa bresennol. Byddai pob elfen leiaf o gynhesu y tu hwnt i hynny, wedyn, wrth gwrs, yn dod â risg o newidiadau hirdymor a di-droi nôl, gydag ecosystemau cyfan yn cael eu colli.

Nawr, yr hyn nad yw’r adroddiad yma’n ei wneud i’r un graddau, wrth gwrs, yw amlinellu’n union beth sydd angen i bob un ohonom ni geisio ei gyflawni er mwyn gwireddu’r newid sydd ei angen—mater i gymdeithas yn ehangach yw hynny. Mae gennym ni, fel gwleidyddion, wrth gwrs, rôl allweddol wrth greu’r amgylchedd arall hwnnw—yr amgylchedd bolisi a’r amgylchedd gyllido a fydd yn ysgogi a hwyluso llawer o’r newid sydd angen ei weld.

Mae ein cynnig ni heddiw yn nodi bod y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig fan hyn yn y Cynulliad wedi dod i’r casgliad bod Llywodraeth Cymru’n debygol o fethu â chyrraedd ei thargedau ar leihau allyriadau carbon erbyn 2020. Diben y cynnig yma, felly, yw i alw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu pa gamau breision y byddan nhw’n eu cymryd mewn ymateb i adroddiad yr IPCC. Rŷm ni hefyd, wrth gwrs, yn achub ar y cyfle i amlinellu ambell i beth rŷm ni fel plaid yn teimlo sydd eu hangen—dim y cyfan, wrth gwrs; yn bell o hynny—fel rhan o’r trawsnewidiad sydd ei angen yn wyneb yr heriau newid hinsawdd yma sydd o’n blaenau ni. Maen nhw’n cynnwys, wrth gwrs, gweithredu o ran ynni, gweithredu o ran trafnidiaeth, tai a rhai o’r sectorau sy’n cyfrannu fwyaf at allyriadau carbon.

Nawr, mae angen taclo ynni o ddau gyfeiriad, wrth gwrs—yn gyntaf, lleihau’r defnydd o ynni ac yna cynyddu’r ynni sy’n cael ei gynhyrchu o ffynonellau adnewyddadwy. Fe wnaeth pwyllgor cynaliadwyedd y Cynulliad diweddaf, yn ei adroddiad 'Dyfodol Ynni Craffach i Gymru', alw am greu targedau blynyddol i leihau'r galw am ynni, ac mae'n siomedig nad yw hynny wedi derbyn ymateb positif. Fe wnaeth hefyd alw am fwy o help i bobl ddefnyddio ynni yn fwy effeithlon, ac fe wnaf i ymhelaethu ychydig ar hynny mewn munud.

Rydw i wedi sôn yn y Siambr yma o'r blaen, wrth gwrs, am sut mae Plaid Cymru am weld sefydlu cwmni ynni cenedlaethol, Ynni Cymru, a fyddai'n cynorthwyo â'n nod ni o sicrhau bod cymaint o drydan ag sy'n cael ei ddefnyddio yng Nghymru yn cael ei gynhyrchu o ynni adnewyddadwy erbyn 2035. Nawr, mae hynny'n uchelgeisiol, ond mae hynny hefyd yn bosib. Mae gwledydd eraill yn symud yn llawer cynt na ni ar yr agenda yma. Mae'r Almaen, er enghraifft, wedi ymrwymo erbyn 2050 i sicrhau bod 80 y cant o'u holl ynni yn dod o ffynonellau adnewyddadwy ac, yn fwy na hynny, erbyn yr un flwyddyn, ei bod hi'n torri defnydd ynni mewn adeiladau 80 y cant, ac yn creu miliynau o swyddi, ac yn ychwanegu at ei GDP. Mae'n rhaglen drawsnewidiol sydd, wrth gwrs, yn dangos y ffordd ymlaen i nifer ohonom ni. Mae'n werth edrych hefyd ar sut mae rhywle fel Wrwgwái, sydd â phoblogaeth ddim yn annhebyg i Gymru, wedi llwyddo i sicrhau, mewn cyfnod o lai na 10 mlynedd, fod 95 y cant o'i trydan yn dod o ynni adnewyddadwy gan, wrth gwrs, leihau ei hôl-droed carbon, ond hefyd lleihau biliau i'w phobl ar yr un pryd. Felly, maen nhw wedi dangos, gyda gweledigaeth ac arweiniad penderfynol, fod modd gwneud cynnydd sylweddol a sydyn tuag at economi carbon isel.

Rydw i'n credu'n gryf hefyd mewn rhoi'r gymuned yng nghalon polisi ynni. Rydw i wedi siarad sawl tro am yr angen i symud i ffwrdd o'r model hub and spoke yma o gynhyrchu ynni mewn pwerdai mawr sydd wedi'u canoli ac yna trosglwyddo'r ynni yna ar hyd a lled y wlad drwy grid sy'n hynafol, yn aneffeithlon ac yn gostus. Mae angen inni symud i fodel o gridiau lleol, clyfrach, gyda'r ynni yn cael ei gynhyrchu yn nes at le mae e'n cael ei ddefnyddio—yn y gymuned gan y gymuned—a rhwydweithiau sy'n fwy effeithlon, yn cynnig mwy o gydnerthedd, wrth gwrs, sy'n llai hagr ar y dirwedd hefyd, sydd yn rhywbeth sy'n cael ei drafod yn gyson yn y Siambr yma, ac yn rhatach hefyd o ran cost cynnal a chadw.

Nawr, mae cynhyrchu ynni adnewyddadwy yn un peth, ond, fel soniais i yn gynharach, mae angen lleihau defnydd ynni hefyd, ac mae hynny'n greiddiol i'r dasg sydd o'n blaenau ni. A gydag aelwydydd yn y Deyrnas Unedig yn gwario 80 y cant o'u costau ynni ar wresogi ystafelloedd a dŵr yn y cartref, yna mae cryfhau safonau effeithlonrwydd ynni tai newydd, a gwella effeithlonrwydd ynni ein stoc tai presennol ni drwy ôl-ffitio, yn gwbl, gwbl allweddol. Mi wnes i ymhelaethu ychydig ar hyn yn y ddadl flaenorol, felly fe wnaf i ddim ailadrodd. Ond tra bod cynlluniau fel Arbed a Nyth yn cyfrannu, yn sicr, i'r dasg yma, cyfraniadau cymharol fychan ydyn nhw. Yn sicr, nid ydyn nhw nunlle yn agos at faint yr her sydd yn ein hwynebu ni, a lefel y buddsoddiad sydd ei angen mewn gwirionedd. Dyna pam, wrth gwrs, fel roeddwn i'n esbonio gynnau, fod yna ymrwymiad wedi bod ym maniffesto Plaid Cymru i fuddsoddi biliynau o bunnoedd dros ddau ddegawd i gwrdd â'r her yna drwy gomisiwn is-adeiledd cenedlaethol i Gymru. Dyna lefel yr uchelgais sydd ei hangen.

Mae'r cynnig yn cyfeirio at waharddiad ffracio. Rydw i'n cofio, yn fy nghyfnod blaenorol fel llefarydd y blaid ar y maes yma, mewn neges fideo, yn dweud bod angen i ddau beth ddigwydd i ni fedru gwireddu gwaharddiad go iawn ar ffracio yng Nghymru: yn gyntaf, bod y pwerau yn cael eu datganoli i ganiatáu i ni wneud hynny, ac, yn ail, bod y Cynulliad hwn yn ewyllysio i hynny ddigwydd. Wel, mae'r darnau hynny bellach yn eu lle, ac er gwaethaf moratoriwm nad oedd yn foratoriwm—ac mi ddywedaf i hynny tra byddaf i; rydw i'n gwybod bod y Llywodraeth yn anghytuno, ond nid oedd e'n foratoriwm—mae hi yn dda gweld y Llywodraeth nawr yn symud, gobeithio, i'r cyfeiriad o gael gwaharddiad go iawn yn y pen draw.

Mae trafnidiaeth yn faes y gad pwysig arall yn y frwydr i leihau allyriadau carbon, ac, os oes un achos eiconig a fydd yn brawf litmws i'r Llywodraeth yma, yna'r penderfyniad ynglŷn â llwybr du'r M4 fydd hwnnw. Nawr, mae un o'm cyd-Aelodau yn mynd i ymhelaethu ar hyn mewn munud, ond mi fyddai palu ymlaen gyda'r llwybr du yn golygu mwy o gerbydau ar ein ffyrdd a llai o debygrwydd y bydd Cymru yn cwrdd â'i thargedau newid hinsawdd. Fe gawsom ni gadarnhad ddoe gan arweinydd y tŷ y byddai'r bleidlais yn un ymrwymol, ond, wrth gwrs, beth mae nifer o bobl, byddwn i'n tybio, ar feinciau cefn y Llywodraeth eisiau gwybod yw a fydd honno yn bleidlais rydd, oherwydd mi fyddai penderfyniad gan y Cynulliad yma i beidio â bwrw ymlaen gyda'r llwybr du ac i fuddsoddi mewn opsiynau amgen yn ddatganiad clir ein bod ni'n gwbl o ddifri ynglŷn â rôl Cymru wrth daclo allyriadau a newid hinsawdd. A dyna'r neges hefyd, wrth gwrs, a fyddai'n cael ei hanfon yng nghymal 6 ein cynnig ni, sef bod Llywodraeth Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a sefydliadau cyhoeddus eraill yng Nghymru yn dod yn rhan o'r symudiad byd-eang i ddadfuddsoddi mewn tanwydd ffosil. Byddai hynny'n arwydd o’r cydgyfrifoldeb sydd gennym ni oll i daclo newid hinsawdd.

Fe wnaf i gloi am y tro jest drwy wneud un pwynt olaf. Rŷch chi'n gwybod, yn y gorffennol, fod pobl wedi cysylltu lleihau allyriadau gyda, rywsut, gorfod cyfyngu ar dwf a chynhyrchiant—ei fod e'n rhwystr i dwf busnes. Wel, ystyriwch yr ystadegyn yma: yn y cyfnod y mae Prydain wedi lleihau allyriadau 40 y cant, mae cynhyrchiant a thwf—productivity and growth—wedi codi 70 y cant. Nawr, mae hynny'n dangos yn glir y gallwn ni ddatgysylltu twf oddi ar allyriadau. Nid yw un yn gorfod mynd law yn llaw gyda'r llall rhagor, fel yr oedd, wrth gwrs, flynyddoedd yn ôl.

Mae'r OECD wedi dweud y bydd gweithredu ar newid hinsawdd yn hwb i dwf economaidd, nid yn unig wrth osgoi effeithiau newid hinsawdd, ac mae yna gost sylweddol i'r effeithiau hynny, wrth gwrs, ond hefyd wrth fuddsoddi mewn technolegau glân, effeithlon, arloesol, newydd. Meddyliwch am ôl-ffitio tai fel un enghraifft: creu swyddi ac arbedion economaidd ar un llaw; creu manteision cymdeithasol ar law arall, drwy daclo tlodi tanwydd; a chreu manteision amgylcheddol amlwg wedyn drwy leihau allyriadau. Mi fydd arloesedd a thechnoleg yn ein helpu ni i fynd ymhellach ac ymhellach yn y blynyddoedd i ddod wrth i ddatblygiadau newydd gyflymu'r broses honno.

Felly, tra mai newid hinsawdd yw'r her fwyaf sy'n wynebu dynoliaeth heddiw—her sy'n dod â bygythiadau difrifol eithriadol—er mwyn peidio â gorffen ar nodyn rhy negyddol a chalon drom, mae angen inni gofio bod taclo newid hinsawdd yn dod â chyfleoedd gydag ef hefyd, nid dim ond y cyfleoedd amlwg amgylcheddol, ond rhai economaidd a chymdeithasol. Ond, yr hyn y mae'r cynnig yma yn ei gwestiynu mewn difri yw: i ba raddau yr ydym yn barod i wynebu'r her honno, ac i ba raddau yr ydym yn barod i afael yn y cyfleoedd hynny? Mae'r neges yn glir gan yr IPCC. Nid ydym ni ddim yn pasio'r prawf ar hyn o bryd. Mae'n rhaid i Gymru godi ei gêm, neu ein plant ni, wrth gwrs, fydd yn talu'r pris.    

16:30

Diolch. Rwyf wedi dethol y pedwar gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 3, caiff gwelliant 4 ei ddad-ddethol. A gaf fi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i gynnig gwelliannau 1 a 4, a gyflwynwyd yn enw Julie James, yn ffurfiol?

Gwelliant 1—Julie James

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn nodi’r dystiolaeth sy’n dangos yr heriau i Gymru sydd ynghlwm wrth gyflawni ymrwymiadau Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 o ran lleihau allyriadau o leiaf 80 y cant erbyn 2050.

Gwelliant 4—Julie James

Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:  

Yn nodi’r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd hyd yma o ran y newid yn yr hinsawdd gan gynnwys:

a) gosod targedau interim a chyllidebau carbon i Gymru a datblygu’r cynllun cyflenwi carbon isel cyntaf.

b) cyhoeddi’r fersiwn ddrafft o’r polisi echdynnu petroliwm at ddiben ymgynghori.

c)  cynlluniau a gyhoeddwyd yn ddiweddar gyfer gwasanaeth rheilffordd newydd gwerth £5 biliwn a fydd yn arwain at leihad o 25 per cent mewn allyriadau carbon ar rwydwaith Cymru a’r Gororau a chynlluniau i ddatblygu Strategaeth Trafnidiaeth Cymru newydd a all gefnogi rhwydwaith trafnidiaeth carbon isel ac aml-ddull ar draws Cymru.

d) buddsoddi dros £240 miliwn yn rhaglen Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru, sy’n cynnwys Nyth ac Arbed, gan wella effeithlonrwydd ynni dros 45,000 o gartrefi a chymeradwyo buddsoddiad pellach o £104 miliwn ar gyfer y cyfnod 2017-2021.

e) cychwyn adolygiad o ran L o’r rheoliadau adeiladu er mwyn cynyddu lefel yr effeithlonrwydd ynni sy’n ofynnol ar gyfer cartrefi newydd

f) gosod targed sy’n golygu bod 70 y cant o’r trydan a ddefnyddir yng Nghymru’n dod o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2030, gyda gwahanol gamau gweithredu gan Lywodraeth Cymru’n cefnogi cynnydd i 48 y cant yn 2017.

Cynigiwyd gwelliannau 1 a 4.

Yn ffurfiol.

Gwelliant 2—Neil McEvoy

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 3:

Yn gwrthwynebu defnyddio ynni niwclear fel ffordd o fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae fy ngwelliant yn syml iawn, sef bod Cynulliad Cymru:

'Yn gwrthwynebu defnyddio ynni niwclear fel ffordd o fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.'

Cyflwynais y gwelliant oherwydd fy mod eisiau rhoi pleidlais i bob Aelod o'r Cynulliad hwn dros neu yn erbyn pŵer niwclear. Hefyd, rwyf am i'r cyhoedd allu dwyn pob un ohonom i gyfrif ar fater pŵer niwclear. Rwyf bob amser wedi bod yn wrth-niwclear, ond mae ymgyrch mwd niwclear Hinkley wedi fy ngwneud yn ymgyrchydd gwrth-niwclear bellach.

Gan wisgo fy het sofran, buaswn yn dweud bod Wylfa B yn anfforddiadwy i Gymru sofran yn y dyfodol. Roeddwn yn falch o groesawu Cyfeillion y Ddaear Japan yma yr wythnos diwethaf, ac roeddwn yn ddigon ffodus i gyfarfod a siarad â rhywun o Fukushima. Ni allent ddeall pam y mae Cymru'n derbyn technoleg ynni niwclear gan Hitachi yn Japan. Roeddent yn siarad am yr allfudo mawr yn ystod argyfwng Fukushima ar ddiwrnod y ddamwain, ac yn nodi y byddai'n amhosibl i 80,000 o bobl adael Ynys Môn gyda dim ond dwy bont. Felly, y cwestiwn yw: os yw Wylfa B yn mynd rhagddo, beth fyddai'r cynllun dianc pe bai'r gwaethaf yn digwydd? Y realiti yw na allai'r rhan fwyaf o bobl ddianc.

Ar y teledu nos Lun, cyfaddefodd un o'r ymgeiswyr ar gyfer yr arweinyddiaeth Lafur y byddai risg o ddatblygu gorsaf ynni niwclear newydd ar Ynys Môn. Ond dywedodd na ddylem sôn am y perygl hwnnw er bod gwir angen inni wneud hynny mewn gwirionedd. Mae'r gwastraff yn sgil pŵer niwclear hefyd yn achosi problemau enfawr i genedlaethau'r dyfodol, ac mae pŵer niwclear hefyd yn peri risgiau i iechyd ar hyn o bryd.

Yn 2003, gwelodd ymchwil a gomisiynwyd gan Swyddfa Ffederal yr Almaen ar gyfer Diogelwch Ymbelydrol fod pobl sy'n byw o fewn 5 km i adweithyddion niwclear yn yr Almaen yn wynebu cynnydd yn y gymhareb o 1.61 ar gyfer pob math o ganser, a chynnydd yn y gymhareb o 2.19 ar gyfer lewcemia ymhlith plant yn gyffredinol. Nawr, dylai'r Aelodau yma fod yn ymwybodol o'r clwstwr lewcemia o amgylch Hinkley Point, gyda'r dystiolaeth a ddarparwyd gan yr Athro Barnham. Wel, yn yr Almaen, caeodd y Llywodraeth wyth adweithydd niwclear ac maent yn cael gwared ar yr holl adweithyddion niwclear fesul cam erbyn 2022.

Nid yw niwclear yn ecogyfeillgar. Mae'n cynnwys cost garbon uwch nag ar gyfer ynni adnewyddadwy, ond mae'r gost yn digwydd ar ddechrau'r broses. Yn ogystal, mae'r Oxford Research Group yn rhagweld y bydd pob gorsaf niwclear erbyn 2050 yn cynhyrchu cymaint o garbon â gorsafoedd wedi'u pweru â nwy, wrth i safon mwyn wraniwm ostwng. Nawr mae gennym adnoddau naturiol gwych yng Nghymru: gwynt, dŵr, morlin. Mae pŵer niwclear yn tynnu sylw oddi ar yr hyn y dylem ei wneud, sef datblygu ynni adnewyddadwy. Deddfodd Senedd sofran Gwlad yr Iâ i ddefnyddio eu hadnoddau naturiol er mwyn cynhyrchu ynni. A gallai senedd sofran yng Nghymru yn y dyfodol wneud yr un peth. Gallai Cymru fod yn gwbl gynaliadwy gydag ynni adnewyddadwy, a phobl Cymru ddylai benderfynu ar bolisi ynni yn y wlad hon.

I fynd yn ôl at y prif bwynt, mae fy ngwelliant yn dweud bod Cynulliad Cymru:

'Yn gwrthwynebu defnyddio ynni niwclear fel ffordd o fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.'

Beth yw eich barn chi?

16:35

Gwelliant 3—Darren Millar

Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:

5. yn croesawu Papur Gwyn Ceidwadwyr Cymru, 'Dinasoedd Byw', sy'n cyflwyno cynigion i liniaru achosion ac effeithiau newid yn yr hinsawdd, gan gynnwys:

a) gwneud Caerdydd yn brifddinas carbon niwtral gyntaf y DU;

b)  gosod offer monitro llygredd aer ym mhob ysgol a meithrinfa yng Nghymru;

c) cyflwyno menter cartrefi clyfar i gefnogi micro gynlluniau ynni a chynlluniau ynni cymdogaethau sydd am gynhyrchu, storio a chludo eu hynni eu hunain;

d) ymrwymo i darged o orchudd canopi coed trefol o 20 y cant erbyn 2030;

e) cymell ac annog toeau gwyrdd ar ddatblygiadau masnachol yng Nghymru; a

f) cyflwyno cerdyn gwyrdd a fydd yn rhoi teithiau bws am ddim i bob plentyn rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru.

Cynigiwyd gwelliant 3.

Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n cynnig gwelliant 3 yn enw Darren Millar. Ac a gaf fi ddiolch i Blaid Cymru, a Llyr Gruffydd yn benodol, am gyflwyno'r cynnig heddiw? Credaf ei bod yn ddadl bwysig iawn, ac rydym wedi clywed dau gyfraniad angerddol iawn a bod yn deg. Ac nid yw'n syndod, o ystyried yr heriau y gwyddom ein bod yn eu hwynebu o ran tystiolaeth wyddonol ddiamheuol. Mae Pwyllgor y DU ar Newid yn yr Hinsawdd wedi gweld bod y cynnydd yn parhau i fod ymhell o dargedau presennol Llywodraeth Cymru i leihau lefelau allyriadau i 40 y cant islaw eu lefel yn 1990 erbyn 2020. Ac mae rhesymau am hyn; nid yw'n rhywbeth y gallwn ymroi'n unig i golbio'r Llywodraeth yn ei gylch, ac mae baich trwm ar Gymru o'i gorffennol diwydiannol blaenorol, ac mae gennym gyfran uchel iawn o'r diwydiant trwm sy'n weddill yn y Deyrnas Unedig. Ond nid yw hynny'n esgus dros beidio â gweithredu ychwaith. Felly, credaf fod angen inni sicrhau bod y ddadl hon yn creu rhywfaint o egni, os caf ddefnyddio'r gair hwnnw, ac nad yw'n ddifflach, ond ein bod yn cyflwyno ein hatebion amgen ein hunain lle credwn fod y Llywodraeth yn ddiffygiol, a dyna rwy'n bwriadu ei wneud y prynhawn yma.

Mae llawer yng nghynnig Plaid Cymru y gallwn gytuno ag ef. Nid yw pwyntiau 1 i 4 yn peri unrhyw anhawster imi, ond nid wyf yn cytuno â phopeth ym mhwynt 5. Rwy'n siŵr nad yw hynny'n syndod i chi, a dyna'r rheswm dros ein gwelliant. Os caf edrych ar rai manylion, o ran yr M4, credaf fod angen inni ddisgwyl am adroddiad yr ymchwiliad ar ba lwybr y dylid ei ddewis, os ydym eisiau cynllun ffordd enfawr yno. Ac mae hwn yn gwbl briodol yn faes dadleuol, a dylem gael dadl drylwyr iawn arno. Ond efallai y gellid ei gyfiawnhau, ac yn sicr mae angen inni gadw meddwl agored ar y mater.

O ran ynni niwclear, gwelliant Neil yn hytrach na chynnig Plaid Cymru yw hwn yn amlwg. Ni chredwn y gallwch ddweud yn syml nad yw niwclear yn rhan o'r gymysgedd. Credwn ei fod, oherwydd mae ei angen yn enwedig yn ei rôl wrth gefn i ffynonellau adnewyddadwy cynaliadwy allu bod yno, oherwydd maent yn amrywio ac mae arnom angen darpariaeth wrth gefn gyson o'r fath ar gyfer tua 20 y cant, yn y dyfodol y gellir ei ragweld beth bynnag, hyd nes y cawn well ffordd o'i ddarparu. Felly, am y rheswm hwnnw, nid ydym yn cefnogi eich gwelliant.

Yna, ar ffracio, rydym yn cydnabod bod yna bryderon gwyddonol a thechnegol y gellir eu cyfiawnhau ac y byddai'n amlwg angen rhoi sylw iddynt cyn y gallai unrhyw gynllun fynd rhagddo. Rhaid imi ddweud fod yna beth perygl y cawn ein perswadio i roi'r gorau i'r ymgyrch dros ynni adnewyddadwy wrth weld tanwyddau ffosil glanach. Mae'n rhaid wynebu hynny eto—mae'n her go iawn—ond ni fuaswn yn ei ddileu'n gyfan gwbl o'r cymysgedd. Efallai y bydd rhai ohonoch wedi mynychu cyfarfod Prifysgol Abertawe, a gynhaliwyd yma yn y Senedd fis diwethaf, a edrychai ar ffracio di-ddŵr a'i fanteision, ac yn wir, credaf fod Helen Mary Jones wedi noddi'r digwyddiad hwnnw, er yn fwy mewn rôl flaenorol, os gallaf fod yn gynnil yn ei disgrifio felly. Felly, gadewch i ni beidio â dweud 'na' ar ei ben. Gadewch inni weithredu ar sail y dystiolaeth. Dyna rydym yn annog pobl i'w wneud, does bosib, mewn perthynas â newid hinsawdd.

Felly, byddem yn dadlau o blaid amrywiaeth eang o fesurau i leihau ein hôl troed carbon yn gyflym, ac rydym wedi pecynnu rhai o'r pethau rydym wedi'u pwysleisio yn ein strategaeth ar gyfer adfywio trefol, 'Dinasoedd Byw', ac yn wir, dyna yw swmp a sylwedd ein gwelliant 3, oherwydd credwn fod angen inni wneud cynnydd cyflym iawn. Clywsom ein bod wedi cael cynhesu byd-eang o un radd eisoes, ac os na wnawn ddim byddwn yn gweld cynhesu o dros dair gradd. Fel y dywed Martin Wolf yn y Financial Times heddiw—ac mae'n rhywbeth pan ddaw peth o'r newyddiaduraeth orau o'r prif bapur busnes—mae'n dweud: beth fydd ein disgynyddion yn ei feddwl? Wel, maent yn debygol o feddwl rhywbeth yn debyg i'r hyn y meddyliwn ni am ein cyndeidiau a eisteddai'n ôl yn ddigyffro a gwneud dim byd ynglŷn â chaethwasiaeth. Bydd yn cael ei weld mewn dimensiwn moesol o'r fath, felly rhaid inni fynd ati a gweithredu'n gyflym.

Un o'r pethau yr hoffem ei weld yw Caerdydd yn dod yn ddinas gyntaf y DU i fod yn niwtral o ran carbon. Mae amryw o ddinasoedd Ewropeaidd yn anelu tuag at y nod hwn, a rhai ohonynt yn gobeithio'i gyflawni mor fuan â 2025. Felly, dyna un peth penodol. Byddem yn cynyddu'r—

16:40

Os oes gennyf amser. Rwy'n sylweddoli bod y Dirprwy Lywydd yn llawer mwy goddefgar nag y bûm innau erioed yn y materion hyn.

Rydych wedi gwneud achos gwych dros ynni adnewyddadwy, felly a ydych chi'n gresynu at y modd y cafodd y Ceidwadwyr wared ar y tariff cyflenwi trydan pan ddaethant i rym gyntaf?

Sylwaf fod ynni adnewyddadwy bellach yn dod yn ddewis y farchnad, a dyna'n sicr y dylem fod yn anelu tuag ato, ac i gyflawni hynny y lluniwyd y cymhellion hyn.

Roeddwn yn mynd i orffen gyda'r pwynt fod arnom angen mwy o goetir a choedwigoedd, gan gynnwys strategaeth ar gyfer gorchudd canopi coed trefol o 20 y cant, a rhaid i deithio llesol, unwaith eto, fod yn elfen allweddol—teithio llesol sy'n ein cynnwys ni oll yn unigol. Dyna ran fawr o'r ymrwymiad. Ond er nad ydym yn mynd i allu cefnogi cynnig Plaid Cymru yn llawn, rwy'n credu bod y pwysau y tu ôl iddo am  gonsensws gwleidyddol pwerus yng Nghymru i'n helpu i leihau newid hinsawdd mewn ffordd radical yn un sydd i'w groesawu'n fawr.

Credaf mai un o'r problemau mwyaf ynglŷn â ffordd liniaru'r M4 yw sut y gall Llywodraeth Cymru ei chysoni gyda'i huchelgais i gyflawni gostyngiad o 43 y cant mewn allyriadau carbon o gerbydau erbyn 2030. Os yw'n bwrw rhagddi ar ffordd liniaru'r M4, byddai'n arwain at gynnydd o rywbeth tebyg i 42,000 o gerbydau'r dydd. Felly, nid wyf yn deall sut yn y byd y gallem gyflawni ein rhwymedigaethau newid hinsawdd a'n targedau yn hynny o beth pe baem yn bwrw ymlaen â ffordd liniaru'r M4. Gallai leihau tagfeydd dros dro o gwmpas Casnewydd wedi iddi gael ei hadeiladu—byddai'n rhaid iddynt ddygymod â llawer iawn o dagfeydd yn y cyfamser—ond byddai'n cynyddu'r tagfeydd yng Nghaerdydd ac ymhellach i lawr yr M4 yn aruthrol. Nid wyf yn gweld sut y gall unrhyw un gyfiawnhau cynyddu tagfeydd yng Nghaerdydd pan fo gennym naw o ysgolion a nifer o feithrinfeydd heb eu henwi gyda lefelau llygredd aer sy'n anghyfreithlon eisoes, ac mae pawb ohonom yn gwybod nad yw'r arwyddion yn dda o ran iechyd, yn enwedig i ysgyfaint ifanc. Felly, rwy'n teimlo'n gryf mai ateb ugeinfed ganrif yw ffordd liniaru'r M4, a grybwyllwyd yn gyntaf yn 1991, ac nid yw'n addas ar gyfer y problemau unfed ganrif ar hugain sy'n ein hwynebu yn awr. Cafodd ei gwyntyllu ar adeg pan nad oeddem mor ymwybodol ag rydym bellach o'r newid cyflym a difrifol yn ein hinsawdd, ac felly credaf fod angen inni feddwl eto am hynny.

Ni fyddaf yn cefnogi gwelliant 2. Nid yw'r polisi niwclear wedi'i ddatganoli, felly nid oes ots mawr iawn beth yw safbwynt y Cynulliad ar y mater, gan mai Llywodraeth y DU sy'n penderfynu ar hyn. Yn amlwg, credaf y dylem fod yn defnyddio—. Rwy'n anghytuno â David Melding ar hyn, y dylem fod yn defnyddio ynni niwclear fel ateb wrth gefn ar gyfer ynni adnewyddadwy. Rwy'n teimlo mai nwy ddylai chwarae'r rhan honno, fel darpariaeth wrth gefn, ac mae'n fy mhoeni braidd fod nwy'n cael ei losgi ar y lefel y mae'n cael ei losgi, oherwydd yn amlwg, mae'n adnodd y mae pen draw iddo a dylem fod yn ei ddefnyddio'n fwy darbodus nag a wnawn ar hyn o bryd.

Mae gennyf lawer i'w ddweud wrth welliant 3. Credaf fod y cynigion a ddrafftiwyd gan David Melding, ac uchelgais David Melding ar gyfer gwneud ein prifddinas yn brifddinas garbon niwtral gyntaf y DU, yn atyniadol iawn. Mae'r syniad o osod monitorau mesur llygredd aer yn ein holl ysgolion a meithrinfeydd yn un y teimlaf y dylai Llywodraeth Cymru ei groesawu.

Yn sicr, rwyf wedi ymrwymo i'r syniad o orchudd canopi coed trefol o 20 y cant erbyn 2030, oherwydd, yn amlwg, dyna un o'r ffyrdd y gallwn fynd i'r afael â'r llygredd aer ofnadwy sydd gennym. Ac yn amlwg, dylem fod yn cymell pobl i roi toeau gwyrdd ar unrhyw adeiladau newydd neu unrhyw ddatblygiad newydd, neu unrhyw do a adnewyddir. Ond er mwyn peidio â gwneud y prif chwip yn bryderus, yn anffodus, ni fyddaf yn gallu cefnogi gwelliant 3. Serch hynny, rwy'n teimlo y dylem estyn allan ar y cyd at y syniadau rhagorol y mae David Melding wedi'u hargymell.

Credaf fod gwelliant 4 yn dangos llawer o syniadau posibl, yn amlwg, ond mae'r rhain yn syniadau y dylem fod yn bwrw ymlaen â hwy ers peth amser bellach. Y ffaith nad yw'r adolygiad o Ran L y rheoliadau adeiladu ond wedi cyrraedd y cam ymgynghori, a bod pobl yn parhau i adeiladu'r holl gartrefi hyn nad ydynt wedi'u cysylltu â thrafnidiaeth gyhoeddus, heb lwybrau teithio llesol wedi'u cynnwys, ac nad oes llwybrau bysiau wedi'u cynnwys ynddynt hyd yn oed. Mae datblygiad Llys-faen a hen ddatblygiad Llanedern ar gyrion fy etholaeth yn enghreifftiau o hyn, lle mae'n mynd i gynyddu'r tagfeydd yn fy etholaeth yn aruthrol. Ac ar yr un pryd, mae Cyngor Caerdydd yn ystyried cau llwybrau cefn, sy'n lleoedd gwych i bobl seiclo a cherdded ynddynt, oddi ar ffyrdd prysur iawn. Mae'n ymddangos bod hyn yn mynd i'r cyfeiriad cwbl anghywir.

Felly, hoffwn weld cynigion gwirionedd gynhwysfawr ar gyfer ymdrin â thagfeydd o gwmpas Casnewydd trwy drafnidiaeth gyhoeddus lawer gwell, a dyna'r mathau o bethau yr hoffwn eu gweld gan ein Llywodraeth.

16:45

Mae yna sawl trywydd y buaswn i'n gallu mynd ar ei ôl o heddiw yma. Roedd sylwadau Llyr Gruffydd ynglŷn â'r cyfleon economaidd a fyddai'n dod o ddatblygu diwydiannau gwyrdd a buddsoddi mewn 'retro-osod' offer arbed ynni mewn tai, ac ati, yn rhywbeth sy'n apelio ataf i, ac yn rhywbeth y gwnes i siarad amdano fo pan oeddwn i'n dal y rôl economi yn y Cynulliad diwethaf, ond mi ydw i am ganolbwyntio, os caf i, ar drafnidiaeth yn benodol.

Mi ddywedodd pwyllgor newid hinsawdd y Cynulliad yn ddiweddar fod Llywodraeth Cymru yn wynebu'r her benodol yma sydd yn deillio o nifer o allyrwyr mawr o garbon deuocsid yng Nghymru. Felly, meddai'r pwyllgor,

'mae angen gwneud y mwyaf o effaith ymyriadau i leihau allyriadau mewn meysydd eraill, megis trafnidiaeth'.

Ac mae o hefyd yn enwi tai. Hynny ydy, mae mynd i'r afael ag allyriadau trafnidiaeth yn rhywbeth rydym ni'n gallu ei wneud yma yn y byd datganoledig sydd gennym ni, felly mae angen sicrhau ein bod ni’n gwthio i’r eithaf y potensial sydd o’n blaenau ni. Mi oedd trafnidiaeth, yn 2014, yn cyfrif am 12.77 y cant o gyfanswm yr allyriadau yng Nghymru, ond dros 21 y cant o’r allyriadau o fewn cymhwysedd datganoledig. Hynny ydy, y pethau rydym ni’n gallu gwneud rhywbeth amdanyn nhw, ac mae trafnidiaeth yn un o’r rheini.

Mae adroddiad gan y Sefydliad Materion Cymreig ar ddad-garboneiddio trafnidiaeth yng Nghymru yn dweud bod Cymru’n fwy dibynnol ar y car nag unrhyw genedl neu ranbarth arall yn y Deyrnas Unedig. Ac mae hynny’n datgan yn glir fod yn rhaid inni wneud rhywbeth am hyn ac mae’n rhaid inni chwilio am y newid modal yma. Rydym ni’n gwneud llawer o siarad amdano fo, ond yn methu ag ennill digon o dir arno fo mewn gwirionedd o ran mynd i’r afael â’r broblem rydym ni’n ceisio ei thaclo—yn y modd mwyaf sylfaenol, cael pobl allan o’u ceir ac ar eu beiciau neu ar eu traed. Mae gennym ni Ddeddf teithio llesol, ond nid ydym yn gweld y buddsoddiad yn mynd i mewn i gefnogi’r ddeddfwriaeth yna y dylem ni fod yn ei weld. Rydym ni’n gweld mai tua £10 y pen y flwyddyn sy’n cael ei wario gan Lywodraeth Cymru ar deithio llesol, lle mae pwyllgor economi’r Cynulliad wedi argymell gwariant o rhwng £17 ac £20 y pen y flwyddyn. Oes, mae’n rhaid i bobl gael eu perswadio i newid eu diwylliant eu hunain o ran y ffordd maen nhw’n mynd o A i B, ond gadewch inni roi’r anogaeth yna drwy fuddsoddi yn yr isadeiledd sydd yn gwneud hynny gymaint yn haws. Nid oes ond angen inni edrych ar y system beiciau newydd Nextbike yng Nghaerdydd. Mae buddsoddiad wedi mynd i mewn yn y man yna, ac mae pobl yn defnyddio’r beiciau yna, a minnau yn eu plith nhw. Mae yna synnwyr yma yng Nghaerdydd fod yna, go iawn, deimlad o newid tuag at deithio llesol. Mae’n rhaid i hyn ddigwydd ar draws Cymru, nid dim ond yn ein prifddinas ni.

Mae’n rhaid inni symud pobl i fysys. Mae’r un adroddiad y gwnes i gyfeirio ato fo’n gynharach gan y Sefydliad Materion Cymreig yn adrodd bod gwasanaethau bysys yng Nghymru wedi bod mewn dirywiad difrifol dros dymor hir. Mae’n rhaid inni wyrdroi hyn. Rydym ni’n gwybod am y llefydd lle rydym ni angen buddsoddi mewn rheilffyrdd. Mae'n gywilydd bod Llywodraeth Prydain wedi peidio â buddsoddi a dim ond wedi trydaneiddio’r rheilffordd ar draws y de. Mae’n gywilydd nad ydy trydaneiddio ar draws y gogledd hyd yn oed ar yr agenda, mewn difrif. Mi ddylwn ni fod yn siarad o ddifrif, bob un ohonom ni, fel rydym ni ym Mhlaid Cymru yn ei wneud, am wneud y cysylltiad rheilffordd yna i fyny’r gorllewin—nid yn unig o Gaerfyrddin i Aberystwyth, ond wedyn o Aberystwyth drwodd i Fangor. Ydyn, mi ydym ni eisiau agor y rheilffordd sydd ar draws Ynys Môn. Hynny ydy, mae’r prosiectau yma i gyd yno ond inni gael yr uchelgais i fynd ar eu holau nhw. Os edrychwch ar—ac roeddem ni’n trafod hyn mewn cwestiynau yn gynharach yma—ar y £100 biliwn sy’n cael ei wario ar HS2 yn Lloegr a meddwl beth y gallem ni ei wneud am gyfran fechan iawn, iawn, iawn o’r cyfanswm yna.

Mi gyfeiriaf i’n sydyn at yr M4. Rydym ni’n cytuno mai gwastraff a denu pobl i ddefnyddio’u ceir yn fwy ydy mynd am y llwybr du. Oes, mae eisiau ateb ar gyfer y de-ddwyrain, rwy’n cydnabod hynny, ac mae’n rhaid inni fod yn glyfar yn y ffordd rydym ni’n ateb y pos yna o gwmpas y twneli Bryn-glas.

16:50

Yn fyr, gellir cymhwyso'r hyn a briodolwch i'r llwybr du i'r llwybr glas hefyd, ac rydych yn cefnogi hwnnw. A fyddech yn barod i ailystyried eich safbwynt ar hynny?

Yr hyn a ddywedais—nid wyf wedi edrych eto ar hyn ers cael y briff yn ôl, ond yr hyn a ddywedais yn y gorffennol, ac rwy'n ei ddweud eto, yw bod angen inni edrych ar atebion posibl eraill ar gyfer y broblem sydd gennym yn y de-ddwyrain, gan gynnwys rhywbeth sy'n seiliedig ar y llwybr glas o bosibl. Nid wedi ymrwymo i'r llwybr glas fel yr ateb perffaith ar gyfer datrys y broblem sydd gennym. Yr hyn yr hoffwn ei weld yn fwy na dim yw symud pobl ar drafnidiaeth gyhoeddus, ond rwy'n cydnabod bod yna broblem gyda ffyrdd hefyd.

A hefyd wrth orffen, gadewch i mi ddweud bod rhaid inni gyfaddef, yn enwedig yn y Gymru wledig, y bydd y car bob amser yn bwysig iawn i unigolion a theuluoedd. Dyna pam rwy'n treulio cymaint o amser ac yn ymdrechu cymaint ag y gallaf i hyrwyddo cerbydau trydan. Dyna pam yr enillasom £2 filiwn o gyllid drwy drafodaethau ar y gyllideb i roi hwb cychwynnol i fuddsoddiad mewn rhwydwaith gwefru ledled Cymru. Felly gadewch i ni wneud y newid hwnnw a buddsoddi mewn hydrogen hefyd. Rwy'n tybio nad oes gennyf amser i dderbyn ymyriad—

Mae'n ddrwg gennyf, buaswn wedi gwneud.

Gadewch inni fod yn greadigol a gadewch i ni ddefnyddio'r holl arfau sydd ar gael at ein defnydd i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud ein rhan yng Nghymru i fynd i'r afael â newid hinsawdd.

16:55

Ateb syml i Neil McEvoy: ymholltiad niwclear, na, ymasiad niwclear, ie. Ac rwy'n credu fy mod yn dal i gefnogi gwneud cynnydd pellach ar droi hydrogen yn ynni trwy ymasiad niwclear.

Ond rwy'n cefnogi'r gwaharddiad ar ffracio yng Nghymru yn llwyr. Gallwn fod o ddifrif ynglŷn â newid hinsawdd a cheisio atal tymheredd y byd rhag codi, neu gallwn gefnogi ffracio. Ni allwn wneud y ddau. Ffracio: rydych yn drilio i mewn i'r ddaear, caiff cymysgedd dŵr dan bwysedd uchel ei anelu at y graig i ryddhau'r nwy y tu mewn; rydych yn gyrru dŵr, tywod a chemegau i mewn i'r graig ar wasgedd uchel, a gallwch ei wneud yn llorweddol neu'n fertigol.

Mewn byd sy'n brin o ddŵr glân, a yw ffracio'n syniad da? Yn yr UDA, gwelodd Asiantaeth Diogelu'r Amgylchedd ganolrif o 14 o gemegion ar gyfer pob sampl a gymerodd. Y mwyaf cyffredin oedd methanol, asid hydroclorig a distylladau petrolewm ysgafn wedi'u trin â dŵr. Halogiad dŵr yw un o'r pryderon amgylcheddol mwyaf wedi bod, a lle digwyddodd rhai o'r digwyddiadau mwyaf adnabyddus. Daeth ymchwiliad gan Asiantaeth Diogelu'r Amgylchedd yr UDA i'r casgliad yn 2016 fod ffracio wedi niweidio cyflenwadau dŵr yfed mewn rhai achosion. A yw honno'n risg rydym yn barod i'w chymryd?

Testun pryder mawr arall yw daeargrynfeydd a achosir gan hollti hydrolig. Er bod y ddau ddaeargryn yn 2011 a arweiniodd at foratoriwm y DU ar ffracio wedi'u graddio'n rhai bach ar y raddfa Richter, mae'r Unol Daleithiau wedi profi rhai llawer cryfach. Mae arbenigwyr yn Oklahoma wedi nodi gwerth mil o flynyddoedd o ddaeargrynfeydd mewn dwy flynedd oherwydd ffracio yno. A yw hon yn risg rydym am ei chymryd i bobl Cymru a'n gwlad? Mae ganddynt sefyllfa yn etholaeth Rebecca Evans lle mae pobl wedi bod yn ystyried ffracio yn yr ardal honno. Mae fy etholwyr i, yn ogystal â'i rhai hi yn wrthwynebus iawn i ffracio ddigwydd yno. Ac os nad wyf eisiau iddo ddigwydd yn fy etholaeth i neu ger fy etholaeth i, nid wyf am iddo ddigwydd yn etholaeth rhywun arall neu'n agos at etholaeth rhywun arall.    

Ar lwybr du yr M4, rwy'n sgeptig a allai gael ei berswadio. A yw'n gyd-ddigwyddiad fod gennym dagfeydd traffig lle ceir llawer o gyffyrdd yn agos at ei gilydd a dwy lôn ar yr M4? Pam fod problem draffig ar yr M4 o amgylch Casnewydd? Dywedwyd wrthyf unwaith gan Weinidog yn Llywodraeth Cymru—nid y Gweinidog a fydd yn ateb—fod hynny'n digwydd oherwydd bod llawer o gerbydau'n defnyddio'r ffordd. Er bod y datganiad syml hwnnw'n amlwg yn gywir, mae gwir angen inni wybod rhwng pa leoedd y maent yn symud, pam eu bod yn defnyddio'r M4 , ac a oes dewisiadau eraill o ran y dull o deithio a'r llwybr y gellir ei ddefnyddio. Pam fod pobl, fel fi fy hun, wrth deithio i'r gorllewin o Gastell-nedd, wrth ddod o orllewin canolbarth Lloegr a gogledd Lloegr, yn mynd yr holl ffordd i lawr at yr M4 ac yn troi i'r dde, yn hytrach na mynd ar draws ffordd Blaenau'r Cymoedd? Ai oherwydd bod ein hoffer llywio â lloeren yn ein cyfeirio y ffordd honno? Mae hynny ynddo'i hun yn broblem. Gallech leihau nifer y bobl sy'n defnyddio'r M4 pe bai gennych lwybrau amgen, ac nid yw pobl yn defnyddio llwybrau amgen. Mae'r rhain yn gwestiynau sydd angen eu hateb.

Ar y llwybr glas, ni fydd yn gweithio. Yn gyffredinol, nid yw traffig yn gadael traffordd i fynd ar ffordd ddosbarthu. Beth y gellir ei wneud i leihau traffig ar adegau allweddol ar yr M4 o amgylch Casnewydd? A allai gwella'r arwyddion at lwybrau eraill helpu? A fydd creu ffordd newydd yn creu rhagor o draffig? Hyn heb edrych ar y difrod amgylcheddol a chost ei hadeiladu. Rydym wedi gweld yr M25, a oedd yn syniad gwych ac a oedd yn mynd i roi diwedd ar y problemau traffig o gwmpas de-ddwyrain Lloegr. Wel, nid wyf yn hollol siŵr fod hynny wedi gweithio. Rwy'n credu bod yr M25 yn aml yn cael ei disgrifio fel maes parcio mawr iawn.  

Cyfrifir gwerth ffordd yn ôl yr amser a arbedir yr ystyrir ei fod yn gynhyrchiol. I lawer o bobl, gan fy nghynnwys i, os gadawaf 10 munud yn hwyrach yn y bore a dychwelyd adref 10 munud yn gynharach yn y nos, y cyfan y mae'n ei gyflawni yw 10 munud yn ychwanegol yn y gwely a 10 munud yn hwy yn darllen y papur newydd neu'n gwylio'r teledu. Mae'r ddau'n dda iawn i mi fel unigolyn, ond nid wyf yn siŵr eu bod yn gynhyrchiol i'n heconomi.  

Rwyf wedi bod drwy fy marn ar ôl-osod tai yn fanwl iawn. Rwy'n credu mewn cryfhau'r rheoliadau adeiladu er mwyn cyflawni'r amcan o adeiladau bron yn ddi-ynni. Fel y dywedais yn fanwl iawn yn gynharach, mae'r rhan fwyaf o'r tai y bydd pobl yn byw ynddynt yn 2050 wedi'u hadeiladu yn barod. Mewn rhai ardaloedd, bydd mwy o bobl yn byw mewn tai o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg nag a fydd yn byw mewn tai o'r unfed ganrif ar hugain, felly mae'n rhaid inni ôl-osod. Edrychodd adroddiad a gyhoeddwyd gan y Bwrdd Strategaeth Technoleg ar ganlyniadau'r gystadleuaeth ôl-osod ar gyfer y dyfodol, a gafodd ei threfnu ar y cyd gan y bwrdd ac a hwylusodd y gwaith o ôl-osod mwy na 100 o dai ar draws y DU. Y nod oedd sicrhau gostyngiad o 80 y cant mewn gollyngiadau carbon deuocsid ym mhob eiddo a oedd yn rhan o'r rhaglen, a hybu cydweithio rhwng darparwyr tai, cynllunwyr, contractwyr ac ymchwilwyr, gan helpu i ysgogi cyfleoedd busnes newydd i ôl-osod y farchnad ar yr un pryd.

Credaf fod gwir angen inni gael dull cydgysylltiedig o weithredu, ac un o'r pethau pwysicaf yw i ba raddau y gallwn leihau allyriadau carbon, ac mae hynny'n golygu bod yn rhaid inni deithio llai yn y car, a hefyd rhaid inni gael tai di-garbon neu'n agos iawn at fod yn ddi-garbon.

17:00

Nid oes neb wedi siarad heddiw am y costau sy'n ymhlyg i bobl gyffredin yn sgil y mesurau y bydd eu hangen i geisio cyrraedd y targedau yn adroddiad yr IPCC. Yn 2015-16, gwyddom fod ardollau amgylcheddol, fel rhan o bolisïau gwrth-newid hinsawdd y Llywodraeth bron yn £5 biliwn, ac ar gyfer 2017-18, cododd mor uchel ag £11 biliwn, a rhagwelir y bydd yn codi i bron £14 biliwn erbyn 2022, gan ychwanegu dros £200 y flwyddyn i'r bil ynni ar gyfartaledd. Bydd hyn yn effeithio'n bennaf wrth gwrs ar y rhai sydd fwyaf agored i niwed—y tlodion, y rhai sydd ar incwm isel. Felly, rhaid inni fod yn berffaith siŵr fod yr hyn a wnawn wrth fynd ar hyd y ffordd hon yn mynd i gynhyrchu'r canlyniadau sydd eu hangen, a dyna rwyf am roi sylw iddo yn gyntaf oll, oherwydd mae'r adroddiad hwn yn seiliedig ar y rhagdybiaeth y gallwn lwyddo i leihau'r cynnydd tebygol yn y tymheredd i 1.5 gradd ac mai'r ffordd o gyflawni hynny yw drwy leihau allyriadau carbon deuocsid. Ond os edrychwn ar y dystiolaeth o arsylwadau yn y 100 mlynedd diwethaf, gallwn weld nad oes unrhyw gysylltiad amlwg rhwng cynnydd yn y lefelau carbon deuocsid a'r hyn sy'n digwydd yn yr atmosffer o ran tymheredd.

Rhwng 1850 a 2010, cyn belled ag y gallwn ei fesur, mae'r tymheredd byd-eang wedi codi 0.8 gradd canradd ar gyfartaledd, ac os edrychwn ar wahanol gyfnodau yn ystod y 100 mlynedd diwethaf, byddwn yn gweld nad oes unrhyw gydberthynas o gwbl rhwng lefelau carbon deuocsid a thymheredd. Rhwng 1900 ac 1940, cododd y tymheredd byd-eang yn gyflym, ond cynnydd cymharol fach a gafwyd mewn carbon deuocsid. Yna, rhwng 1940 ac 1970, gostyngodd y tymheredd ychydig bach mewn gwirionedd, ond cafwyd cynnydd pendant mewn carbon deuocsid. Rhwng 1970 a 1990, cododd y tymheredd a charbon deuocsid gyda'i gilydd. A rhwng 1995 a 2015, mae'r tymheredd wedi lefelu, ac eto cafwyd cynnydd uwch nag erioed mewn carbon deuocsid. Nid oes neb wedi gallu esbonio'r saib. A'r rheswm pam na allant ei egluro yw mai modelau'n unig yw'r hyn y seiliwyd yr adroddiad arnynt: modelau'n seiliedig ar ddamcaniaethu ynghylch tymheredd yn y gorffennol ac ar ddamcaniaethu beth allai ddigwydd yn y dyfodol o dan amgylchiadau penodol ar sail gwybodaeth annigonol, gwybodaeth nad oes modd inni ei chasglu beth bynnag.

Mae'r data ei hun yn annibynadwy, yn gyntaf oll am y rheswm amlwg iawn fod 71 y cant o arwyneb y blaned yn ddŵr, lle nad oes unrhyw gyfleusterau ar gyfer mesur tymheredd, ac mae llawer o arwyneb y tir yn anhygyrch hefyd. Nid oedd gennym ddata lloeren dibynadwy tan 1978—

Teimlaf fod yn rhaid imi ymyrryd am eich bod yn torri'r ganrif ddiwethaf yn flociau 10 mlynedd, 15 mlynedd. Onid yw'n glir mai'r hyn sy'n digwydd yma yw tuedd sydd wedi bod yn eithaf clir am y 50 neu 60 mlynedd diwethaf? Ac rydych yn sôn am y cefnforoedd: mae cynhesu cefnforol yn rhan ganolog o'r dystiolaeth a welwn, sy'n profi bod newid hinsawdd yn digwydd a'i fod yn cael effaith drychinebus a niweidiol ar y byd o'n cwmpas.

Na, rwy'n anghytuno'n sylfaenol â hynny. Rwy'n darllen ffigurau'r sefydliad ymchwil hinsoddol mewn gwirionedd, sefydliad nad yw'n gasgliad o bobl sgeptig ar fater cynhesu byd-eang; yn wir, maent yn gwbl groes i hynny. Felly, mae'r data rwy'n ei ddyfynnu wrthych yn dod gan y rhai sy'n cefnogi eich safbwynt chi, ond ni cheir unrhyw gydberthynas amlwg yn y ffigurau rhwng beth sy'n digwydd yn yr atmosffer o ran carbon deuocsid a'r hyn sy'n digwydd i'r tymheredd byd-eang cyn belled ag y gallwn—. Nid ydym yn deall effaith lawn y cefnforoedd, sef tri chwarter arwyneb y byd, ar yr hinsawdd. Nid ydym yn deall yn iawn beth yw effaith yr haul, ffynhonnell yr holl gynhesu, ac mae llawer iawn nad ydym yn ei ddeall mewn gwirionedd. Egwyddor gyntaf gwyddoniaeth yw deall eich cyfyngiadau eich hun a'r hyn nad ydych yn ei wybod yn hytrach na'r hyn rydych yn ei wybod.

Dechreuodd Jenny Rathbone ei haraith drwy siarad am garbon deuocsid fel llygrydd i bob pwrpas. Ond wrth gwrs nid yw carbon deuocsid yn llygrydd; nid yw'n debyg i nwyon eraill, fel sylffwr deuocsid. Wrth gwrs, mae pawb ohonom am weld aer glân, ond mae carbon deuocsid yn hanfodol ar gyfer twf planhigion. Felly, o ganlyniad i'r cynnydd a welsom mewn carbon deuocsid yn yr atmosffer dros y blynyddoedd diwethaf, mae rhan sylweddol iawn o'r blaned na allai dyfu cnydau o'r blaen bellach yn gallu tyfu cnydau. Rydym yn gweld y blaned yn gwyrddu mewn gwirionedd. Anwedd dŵr yw'r cyfrannwr mwyaf i'r effaith tŷ gwydr yn yr atmosffer: 95 y cant ohono, mewn gwirionedd. Ac felly nid ydym yn deall effaith lawn hynny ar y posibilrwydd—[Torri ar draws.] Nid wyf yn siŵr fod gennyf amser i ildio eilwaith, mae'n ddrwg gennyf, oherwydd, fel arall, rwy'n—

17:05

Dewiswch chi. Mater i chi yw hynny. Os dymunwch wneud hynny, fe allwch, ond os nad ydych—nac ydych. Mae hynny'n iawn. Gallwch barhau.

Y pwynt allweddol yma yw mai 3 y cant o'r holl garbon deuocsid yn yr atmosffer a gafodd ei achosi gan bobl mewn gwirionedd. Felly, rydym yn sôn am rifau hynod o fach yma. Mae'r DU yn cyfrannu 2 y cant o'r carbon deuocsid a achoswyd gan bobl yn fyd-eang. Nid yw'r carbon deuocsid ei hun ond yn cyfrannu 3 y cant o'r carbon deuocsid byd-eang, sydd ynddo'i hun ond yn cyfrannu 5 y cant yn unig o effaith nwyon tŷ gwydr. Rydym yn sôn am ffracsiynau hynod o fach o 1 y cant o'r carbon deuocsid yn yr atmosffer. Felly, hyd yn oed pe baem yn gallu gweithredu'r holl fesurau a grybwyllir yn adroddiad yr IPCC, mae'r tebygolrwydd y bydd yn cael unrhyw effaith fesuradwy ar dymheredd yn eithriadol o fach. Felly, y brif neges rwyf am ei chyfleu heddiw yw hon: hyd yn oed pe bai yna gysylltiad, y cred rhai sy'n anghytuno â mi ei fod yn bodoli, rhwng cynnydd yn y tymheredd byd-eang a charbon deuocsid, mae costau cyflawni'r hyn y dymunwch ei wneud yn andwyol a bydd yr effeithiau'n ddibwys mewn gwirionedd.

Os gwrandawn ar y rhai sy'n gwadu bodolaeth newid hinsawdd ar yr asgell dde eithafol, byddwn yn gwneud cam â chenedlaethau'r dyfodol. Nid oes unrhyw amheuaeth o gwbl am hynny. Newid hinsawdd yw'r bygythiad mwyaf sy'n wynebu'r blaned hon, ac mae'n hynod frawychus fod pobl yn barod i wadu hynny.

Yn ôl yn 2011, cynhyrchais y Cynllun Gwyrdd ar gyfer y Cymoedd. Nawr, rhaglen yw hon ar gyfer adfywio ein cymunedau anghofiedig sydd wedi cael cam drwy sicrhau bod ganddynt ddyfodol economaidd gyda gwaith cydweithredol a all arwain at ganlyniadau cynaliadwy. Pe baem wedi gweithredu'r cynigion yn y cynllun gwyrdd, byddem yn llawer agosach at gyrraedd lle mae angen inni fod o ran economi gynaliadwy. A gadewch inni fod yn glir yma: nid yw ymdrin yn iawn â newid hinsawdd yn golygu tincera ar yr ymylon. Nid yw hynny'n mynd i wneud unrhyw beth. Rydym wedi bod yn gwneud hynny ers blynyddoedd bellach. Yr hyn sydd ei angen arnom yw dim llai na newid trawsnewidiol. Mae angen inni newid y sail sy'n pennu beth yw diben ein heconomi. Nid yw'n bodoli er mwyn y sefydliadau corfforaethol neu'r elît neu'r pwerau byd-eang. Dylai'r economi fod wedi'i llunio mewn modd sy'n darparu ar gyfer pobl, a dylai sicrhau ein bod yn diogelu ac yn gwarchod y blaned rydym yn byw arni, a dylem fyw o fewn ein modd yn ecolegol. Ond fel y dywed Raymond Williams wrth agor y cynllun gwyrdd,

Mae polisi economaidd a fyddai'n dechrau gyda phobl go iawn mewn lleoedd go iawn, ac a fyddai'n cael ei gynllunio i gynnal eu bywydau i'r dyfodol, yn galw am newid mawr yn ein ffordd o feddwl.

Yn wir, mae'n galw am newid mor fawr yn ein ffordd o feddwl fel nad ydym wedi llwyddo i'w wneud eto, ond mae'n rhaid inni ei wneud. Rhaid inni gael cynllun economaidd sydd â datblygu cynaliadwy ac nid twf anghynaladwy yn ganolog iddo, gan ddefnyddio adnoddau naturiol helaeth Cymru i bontio i economi nad yw'n ddibynnol ar danwydd ffosil mwyach.

Felly, beth y gallem fod yn ei wneud i wneud gwahaniaeth go iawn? Mae yna bethau y gallwn i gyd eu gwneud fel unigolion: gallwn hedfan yn llai aml, gallwn fwyta llai o gig, gallwn feicio mwy, ond mae arnom angen mwy o weithredu cymdeithasol a llywodraethol hefyd. Gallem wneud cymaint mwy i gymell cynhyrchiant ynni adnewyddadwy drwy fentrau cydweithredol ar raddfa fach neu fentrau cymdeithasol. Gwelodd y Sefydliad Materion Cymreig y gallai £4.6 biliwn o fuddsoddiad mewn cynhyrchu trydan adnewyddadwy, ynghyd ag £1.2 biliwn mewn effeithlonrwydd ynni domestig, greu tua 4,500 o swyddi mewn cyfnod o 15 mlynedd o fuddsoddi. Gallem wneud hyn drwy gwmni ynni cenedlaethol, a gallem edrych hefyd ar gronfeydd pensiwn awdurdodau lleol fel ffynhonnell ar gyfer buddsoddiad o'r fath. Mae cronfeydd pensiwn llywodraeth leol Cymru ar hyn o bryd yn buddsoddi dros £1 biliwn mewn tanwydd ffosil sy'n difetha'r hinsawdd. Nid yw hyn yn gwneud unrhyw synnwyr ac mae'n rhaid iddo ddod i ben.

Rwyf am gloi fy nghyfraniad y prynhawn yma drwy dynnu sylw at y problemau gyda ffracio. Mae gan Lywodraeth Cymru bŵer i wahardd ffracio yng Nghymru, a barn Plaid Cymru yw y dylai wahardd ffracio cyn gynted â phosibl. Clywsom yn gynharach yr wythnos hon am ddigwyddiad seismig maint 0.4 ar raddfa Richter ger Blackpool lle mae Cuadrilla yn ffracio am nwy mewn craig siâl. Nid wyf wedi fy argyhoeddi ynghylch mathau eraill o ffracio, oherwydd mae'n rhaid inni symud y tu hwnt i'n dibyniaeth ar danwydd ffosil. Felly, dylid cynnal yr egwyddor ragofalus i rwystro'r risg y byddai ffracio'n ei hachosi i Gymru. Ac yn anad dim arall, rwy'n mawr obeithio y bydd y Llywodraeth hon yn gweithredu i atal ffracio ac na fydd yn gweld y cynnig o swyddi neu gil-dwrn gan gwmnïau ffracio fel esgus i ganiatáu iddo ddigwydd. Yn rhy hir, mae ein hawch i gael swyddi neu gyllid wedi ein harwain i dderbyn prosiectau nad ydynt yn ddymunol ac ni ellir caniatáu i hyn ddigwydd gyda ffracio. Os ydym o ddifrif ynglŷn â mynd i'r afael â newid hinsawdd, ac os ydym am wrando ar y rhybuddion yn adroddiad diweddaraf yr IPCC y cyfeiriodd Llyr Gruffydd ac eraill atynt, rhaid inni newid y ffordd yr edrychwn ar swyddi a'n heconomi fel nad ydym yn parhau i dderbyn manteision tymor byr sy'n creu risg o boen yn fwy hirdymor.

17:10

Credaf ei bod yn amlwg fod y blaned mewn perygl, Ddirprwy Lywydd, ac mae barn mwyafrif helaeth y wyddoniaeth a'r gwyddonwyr ar y materion hyn yn gwneud hynny'n glir. Dyna pam y mae'r IPCC wedi dweud bod newid yn yr hinsawdd yn digwydd yn gynharach ac yn gyflymach na'r disgwyl a bod gennym 12 mlynedd i atal y newid peryglus yn yr hinsawdd a bod rhaid i Lywodraethau weithredu camau radical ar unwaith i'w atal. Yn y math hwnnw o gyd-destun, rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi gofyn i'r pwyllgor newid hinsawdd adolygu allyriadau yng Nghymru i wneud yn siŵr ein bod yn chwarae ein rhan i gyfyngu'r cynnydd yn y tymheredd byd-eang i 1.5 gradd, oherwydd bod difrifoldeb y sefyllfa'n mynnu hynny.

Felly, mae llawer y gallwn ei wneud fel Llywodraeth, Ddirprwy Lywydd, ac y gallwn ei wneud fel unigolion ac y gall sefydliadau ei wneud, ac mae'n her i bob un ohonom, onid yw? Nid her i Lywodraeth Cymru'n unig yw hi, mae'n her i bob un o Aelodau'r Cynulliad, y pleidiau gwleidyddol a'r Aelodau annibynnol yma heddiw. Er enghraifft, pe baem yn edrych ar gymorth amaethyddol ar ôl Brexit, ceir rhai materion anodd i bleidiau gwleidyddol. O ran rheoli tir a chymorth amaethyddol, gwyddom fod angen rhoi'r amgylchedd ar y brig i raddau llawer helaethach nag sydd wedi digwydd hyd yma wrth inni symud ymlaen, a bydd hynny'n creu anawsterau i bleidiau gwleidyddol, rwy'n credu, o ran y lobïo arnynt a rhai o'r etholaethau y maent yn eu cynrychioli. Felly, bydd angen penderfyniadau dewr o ran y materion hynny.

Yn amlwg, ceir penderfyniadau anodd i Lywodraeth Cymru, ac un yr hoffwn dynnu sylw ato, a amlygwyd yma heddiw eisoes, yw trafnidiaeth, oherwydd mae trafnidiaeth yn rhan bwysig iawn o'r darlun cyffredinol. Gwyddom ei bod yn gwbl bosibl cael system drafnidiaeth sy'n llawer mwy integredig na'r hyn sydd gennym yma yng Nghymru oherwydd mae nifer o wledydd eraill wedi llwyddo i wneud hynny. Yn amlwg, ni fyddwn yn cyrraedd yno dros nos, ond mae'r metro, er enghraifft, yn un enghraifft o sut y gallwn wneud cynnydd pwysig ac arwyddocaol, ac rwy'n gobeithio gwneud hynny o fewn y cyfnod o amser o 12 mlynedd y mae'r IPCC yn ei nodi. Felly, gallem roi mwy o adnoddau tuag at y metro na'r hyn a gynlluniwyd ar hyn o bryd, a gallem ei adeiladu'n gyflymach pe baem yn gwneud penderfyniad, er enghraifft, i roi'r adnoddau a glustnodwyd ar gyfer ffordd liniaru'r M4 ar hyn o bryd tuag at y system metro yn lle hynny. Buaswn yn cefnogi hynny'n bendant iawn. Gwelsom yr adroddiad gan gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol yn gwneud pwyntiau pwysig iawn. Rydym yn aros am adroddiad yr ymchwiliad, ond bydd gennym benderfyniadau anodd i'w gwneud—pob un ohonom a Llywodraeth Cymru—yn eithaf cyflym ar y mater pwysig hwnnw. Credaf y bydd yn dangos pa mor ddifrifol rydym ni ynglŷn â rhoi camau eofn, radical ac effeithiol ar waith i ymdrin â heriau newid hinsawdd.

Hoffwn weld teithio llesol yn cael mwy o flaenoriaeth fel rhan bwysig iawn o'r newid diwylliannol sydd ei angen arnom mewn perthynas â thrafnidiaeth i wneud i bobl gerdded a beicio mwy. Hoffwn ein gweld yn gwneud 20 mya yn derfyn cyflymder diofyn ledled Cymru, gyda'r gallu i awdurdodau lleol gyflwyno gorchmynion traffig 30mya wedyn ar ffyrdd trefol mewnol fel eithriadau yn hytrach na'r arfer. Mae hynny'n mynd i arwain at feicio a cherdded mwy yn yr ardaloedd hynny ac unwaith eto, bydd yn rhan o'r ymagwedd honno tuag at drafnidiaeth integredig, ac yn rhan o'r newid diwylliannol sydd ei angen arnom.

Hefyd, Ddirprwy Lywydd, hoffwn gytuno fy mod yn credu bod gan Gaerdydd, fel ein prifddinas, gyfrifoldeb i fod yn esiampl wirioneddol dda, fel y mae dinasoedd yn ei wneud mewn mannau eraill. Credaf fod Caerdydd ar y daith honno. Mae ganddi lawer mwy o ardaloedd 20 mya bellach. Mae ganddi lawer mwy o feicio, a cherdded yn wir. Mae ganddi gynllun beiciau, a gwn ei bod yn ystyried camau radical ar gyfer lleihau nifer y teithiau cerbydau ar y ffyrdd yng Nghaerdydd, ac rwy'n gobeithio'n fawr y byddwn yn gweld y camau radical hynny ar waith cyn bo hir. Felly, mae'n berffaith bosibl ymateb i'r heriau hyn, Ddirprwy Lywydd, ond mae'n her fawr i Lywodraeth Cymru, i bob un ohonom, i'n hawdurdodau lleol, i'n prifddinas, i bob sefydliad a phob unigolyn yn ein gwlad.

17:15

Ceir ambell ddiwrnod pan deimlaf fod gwleidyddiaeth yn eithaf rhwystredig, ac yn aml, ar y dyddiau hynny, rwy'n meddwl tybed beth a wnaf ar y diwrnod pan na fyddaf yn y lle hwn mwyach, ac rwy'n eithaf hoff o'r syniad o addysgu. Rwy'n credu y byddai'r ddadl heddiw a'r cynnig ger ein bron yn gwneud astudiaeth achos dda iawn o'r hyn sydd o'i le ar y ffordd rydym yn gwneud gwleidyddiaeth, oherwydd rwy'n edrych ar gynnig Plaid Cymru ac nid oes unrhyw beth ynddo rwy'n anghytuno ag ef, ac eto, y prynhawn yma, byddaf yn pleidleisio yn ei erbyn, a byddaf yn cael fy nghondemnio gan res barod o bobl ar Twitter, sef pam y mae Plaid Cymru wedi cyflwyno'r cynnig hwn heddiw yn ôl pob tebyg, er mwyn ceisio ein baglu. Byddant yn fy nghondemnio am beidio â gwneud yr hyn y credaf sy'n wir. [Torri ar draws.] Wel, mae Llyr Huws Gruffydd yn dweud nad dyna'r ffordd y maent yn gweithio; ddoe, Llyr—[Torri ar draws.] Ddoe, mynychais y rali ar ail bleidlais ar refferendwm yr UE. Nawr, ynghyd â llawer o bobl yn y Siambr hon, llofnodais y llythyr trawsbleidiol yn galw am ail refferendwm. Pasiodd y Cynulliad gynnig rai wythnosau yn ôl lle roedd ail refferendwm yn un o'r opsiynau. Ddoe, roedd yna rali dda gyda siaradwyr o bob plaid o blaid cynnal ail refferendwm. Sefais yno a gwrandewais ar arweinydd Plaid Cymru yn gwneud pwyntiau gwleidyddol ynglŷn â sut nad yw ACau Llafur wedi cefnogi refferendwm, pan oedd pawb ohonom yn sefyll yno gyda'n gilydd dros achos cyffredin i geisio cael gwleidyddiaeth flaengar oddi ar y ddaear. A dyma ni—[Torri ar draws.] Dyma ni eto—[Torri ar draws.] Dyma ni unwaith eto. Ac rwy'n ei chael hi'n wirioneddol rwystredig ein bod yn treulio amser yn ceisio baglu'n gilydd. Felly, mae Neil McEvoy yn ceisio baglu Plaid Cymru, ar gyfer pan gaiff ei adael yn ôl i mewn rwy'n tybio, fel y gall osod ei stondin fel rhywun sy'n wrth-niwclear. Mae Plaid Cymru'n ceisio baglu—. Neil Hamilton, Duw a'n helpo—lle mae dechrau yno? Roeddwn yn darllen, Neil—wrth wrando ar y dadleuon rydych wedi'u gwneud sawl gwaith—. Roeddwn yn darllen yn 1984 i chi bleidleisio yn erbyn gwahardd petrol a oedd yn cynnwys plwm, am eich bod yn dweud nad oedd unrhyw dystiolaeth ei fod yn niweidiol ac y byddai swyddi'n cael eu colli yn eich etholaeth. A wyddoch chi, rydych wedi bod yn gyson anghywir. Roeddech yn anghywir ynglŷn â phetrol a gynhwysai blwm, roeddech yn anghywir ynglŷn ag apartheid, rydych chi'n anghywir ynglŷn â newid hinsawdd, rydych chi'n anghywir ynglŷn ag Ewrop. Felly, os gwelwch yn dda—er mor ddiddorol yw eich cael chi yma fel rhyw fath o ffigwr Madame Tussauds i'n hatgoffa pa mor erchyll oedd rhai o ddadleuon y gorffennol, nid oes amser ar gyfer hyn heddiw. Mae hwn yn fater difrifol. Rwy'n malio am hyn. Mae hwn yn fater difrifol.

Na wnaf, David. Rwyf am ddatblygu'r ddadl. Ceir achos cyffredin ar draws pob plaid yma. Ceir dadl fod—dywedodd David Melding na fyddai cenedlaethau'r dyfodol yn maddau i ni'n hawdd am beidio â gweithredu o ddifrif. Yn hytrach na baglu'n gilydd a sgorio pwyntiau gwleidyddol—. Rwy'n cytuno â llawer o'r pwyntiau yn y cynnig, fel rwy'n dweud, ac rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth Cymru newydd yn y flwyddyn newydd yn gweithredu ar nifer ohonynt. Ond ar yr M4, mae rheswm da pam nad wyf am bleidleisio o blaid cynnig Plaid Cymru ar yr M4 y prynhawn yma, er fy mod yn cytuno ag ef: oherwydd bydd yna bleidlais o sylwedd arno. Fel y dywedodd arweinydd y tŷ ddoe, cynhelir pleidlais o sylwedd arno cyn y Nadolig. Bydd pleidlais ar y gyllideb. Dyna'r adeg i ddangos ein hochr ar yr M4, a'r cyfan y gallech ei wneud heddiw, trwy wneud arwydd symbolaidd, a chaf fy meirniadu amdano, yn ddiau—. Mae trafodaethau anodd yn mynd rhagddynt, a beth yw pwynt merthyrdod ffug heddiw, pan fo brwydrau difrifol i'w hymladd? [Torri ar draws.] Na, Rhun, nid wyf am ildio; ni wnaf. Mae brwydrau difrifol i'w hymladd, a materion o egwyddor ynglŷn â dyfodol ein gwlad a rhoi ystyr i'r agenda hon. A dyna beth—[Torri ar draws.] A dyna beth—[Torri ar draws.] A dyna beth y dylem ganolbwyntio arno, nid ceisio—[Torri ar draws.] Mae Rhun yn benderfynol o ymyrryd, ac felly fe ildiaf.

Diolch ichi am dderbyn ymyriad. Yn yr ystafell ddosbarth rydych newydd ei disgrifio, lle byddwch yn rhoi'r ddarlith hon, a fyddwch yn cyfarwyddo neu'n pwysleisio wrth y disgyblion hynny fod glynu at eich egwyddorion yn eithaf pwysig, ac os ceir cynnig ger eich bron y byddwch yn cytuno â'i gynnwys, y dylech benderfynu pleidleisio o'i blaid fel mater o egwyddor?

17:20

Rwy'n credu—[Torri ar draws.] Mae eironi hynny, o ystyried y ddadl o fewn Plaid Cymru ar ynni niwclear, yn glir i mi. Ond gadewch imi ddweud, yr hyn y byddaf yn ei ddweud wrth y dosbarth yw nad yw'r pethau hyn yn ddu a gwyn, fod yn rhaid i chi ddewis eich eiliadau ac ymladd eich brwydrau. Nid wyf am gymryd unrhyw bregethau gan Blaid Cymru ar y record ar newid hinsawdd. Arweiniais yr ymgyrch i greu Deddf teithio llesol. Sefydlais y prosiect yn y Sefydliad Materion Cymreig sydd bellach yn gwneud gwaith arloesol ar lunio map ar gyfer ynni adnewyddadwy. Gan weithio ar draws y pleidiau, rwyf wedi bod yn ddadleuwr allweddol yma ar y llwybr du ers dwy flynedd a hanner. Felly, nid wyf am gymryd unrhyw bregethau gan neb ar yr ochr acw ynglŷn â glynu wrth egwyddorion. Ond ceir eiliad mewn gwleidyddiaeth pan fyddwch yn taro a phan fyddwch yn gweithredu. Nid hon yw'r eiliad honno. Eiliad yw hon i eraill dynnu llygaid ei gilydd allan a sgorio pwyntiau, ac rwy'n gresynu at hynny.

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths?

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn fod Plaid Cymru wedi cyflwyno'r ddadl hon, yn dilyn cyhoeddiad panel rhynglywodraethol y Cenhedloedd Unedig ar y newid yn yr hinsawdd. Rwy'n cytuno'n llwyr â Llyr Huws Gruffydd, yn ei sylwadau agoriadol, mai newid hinsawdd yw un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu'r ddynoliaeth.

Mae ein Deddf amgylchedd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru sicrhau bod allyriadau yng Nghymru o leiaf 80 y cant islaw'r llinell sylfaen ar gyfer 1990 erbyn 2050. Mae un o welliannau'r Llywodraeth yn cydnabod heriau datgarboneiddio, o ystyried ein proffil economaidd. Dros y ddwy flynedd a hanner ddiwethaf, rydym wedi canolbwyntio ar sefydlu fframwaith polisi a rheoleiddio i wireddu ein hymrwymiad statudol, yn seiliedig ar ymgysylltiad sylweddol â rhanddeiliaid a chyngor gan ein cynghorwyr statudol.

Rhaid i'n hymagwedd at newid hinsawdd gael ei llywio gan wybodaeth wyddonol, felly rwy'n croesawu adroddiad yr IPCC. Dyma'r asesiad gorau o bob gwybodaeth sydd eisoes yn bodoli ar y pwnc, ac mae'n gwneud asesiad beirniadol o filoedd o astudiaethau o bob rhan o'r byd. Rwyf wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU i gymeradwyo comisiwn ar y cyd i gael cyngor gan ein cynghorwyr statudol, Pwyllgor y DU ar Newid yn yr Hinsawdd, ar oblygiadau'r dystiolaeth. Cyhoeddir yr adroddiad cyn diwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf.

Ym mis Rhagfyr, byddaf yn gofyn i'r Cynulliad gytuno'r targedau interim a'r ddwy gyllideb garbon gyntaf ar gyfer Cymru. Mae'r rhain yn cyd-fynd â chyngor gan Bwyllgor y DU ar Newid yn yr Hinsawdd, a byddant yn gosod y cyd-destun ar gyfer cyflawni'r camau gweithredu sydd angen inni eu rhoi ar waith fel Llywodraeth. Mae llawer o gonsensws trawsbleidiol ar yr agenda hon a'r camau sydd angen eu cymryd, ac mae hyn yn galonogol i ni fel cymdeithas. Rwy'n cytuno â llawer o'r teimladau yn y cynnig gan Blaid Cymru. Fodd bynnag, ni allaf gefnogi'r cynnig, gan y byddai gwneud hynny'n rhagbennu penderfyniadau, yn enwedig mewn perthynas â'r M4 ac echdynnu petrolewm, y mae gofyn iddynt ddilyn y broses briodol.

Mae datgarboneiddio ein sector pŵer yn arbennig o heriol, ac mae angen cymysgedd o ffynonellau cynhyrchu a thechnolegau i'n galluogi i addasu. Cred Llywodraeth Cymru fod niwclear yn rhan o'r gymysgedd o safbwynt cynhyrchu ynni carbon isel sylweddol, a dyma pam rydym yn gwrthwynebu gwelliant 2 gan Neil McEvoy. Fodd bynnag, ers dod i'r rôl hon, rwyf wedi gosod targed uchelgeisiol i gynhyrchu 70 y cant o ddefnydd ynni Cymru o ffynonellau adnewyddadwy. Cynhyrchodd ynni adnewyddadwy ddigon o drydan i ddiwallu 43 y cant o'r defnydd yng Nghymru yn 2016, ac mae'r arwyddion yn awgrymu bod hwn wedi codi ymhellach, i 48 y cant yn 2017. Rydym hefyd wedi pennu targedau ar gyfer perchnogaeth gymunedol a lleol er mwyn sicrhau ein bod yn sicrhau manteision i Gymru o'r newid i system ynni carbon isel.

Bydd ein cynllun cyflawni carbon isel cyntaf, a gaiff ei gyhoeddi ym mis Mawrth, yn nodi'r camau, y polisïau a'r cynigion y byddwn yn eu rhoi ar waith i leihau allyriadau a chefnogi twf carbon isel ar draws amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys trafnidiaeth, adeiladau a defnydd tir. Rydym eisoes yn cyflawni amrywiaeth o gamau gweithredu yn y meysydd hyn, ac felly, er ei bod yn galondid fod y Ceidwadwyr yn meddwl ar hyd llinellau tebyg, ni allaf gefnogi eu gwelliant 3, a hoffwn gyflwyno gwelliant gan y Llywodraeth sy'n cydnabod y camau sylweddol hyd yma.

Rydym eisoes yn gwneud cynnydd da. Er enghraifft, mae'r targedau lleihau allyriadau carbon rwy'n eu hargymell ar gyfer Cymru yn fwy uchelgeisiol na rhai ein cymheiriaid ar draws y DU, ac yn agos at yr mwyafswm sy'n dechnegol ymarferol ar gyfer Cymru. Rydym wedi gwneud datgarboneiddio yn ganolog ym mholisi Llywodraeth Cymru, gan ei gynnwys yn un o'n chwe blaenoriaeth drawsbynciol yn y strategaeth genedlaethol. Mae hefyd yn golofn ganolog yn ein cynllun gweithredu economaidd ar gyfer Cymru. Rwyf wedi nodi fy uchelgais ar gyfer sector cyhoeddus carbon niwtral yng Nghymru. I gefnogi hyn, gwnaethom ymrwymo £28 miliwn o fenthyciadau cyfalaf di-log yn 2017-18, gan ychwanegu at y £27 miliwn yn y ddwy flynedd flaenorol. Bydd y buddsoddiad hwn yn sicrhau arbedion o £183 miliwn i'r sector cyhoeddus dros oes y technolegau a osodir a hefyd yn arwain at 820,000 tunnell yn llai o allyriadau carbon.

Yn 'Symud Cymru Ymlaen' Llywodraeth Cymru, rydym yn egluro ein gwrthwynebiad i ffracio. A bellach mae gennym bwerau mewn perthynas â ffracio, a dros yr haf, cynhaliais ymgynghoriad cyhoeddus ar echdynnu petrolewm yng Nghymru, a oedd yn nodi polisi nid yn unig i wrthwynebu ffracio, ond a oedd hefyd yn argymell na ddylid rhoi unrhyw drwyddedau petrolewm newydd yng Nghymru. Rydym yn credu bod datblygu ffynonellau petrolewm newydd pellach yn mynd yn groes i uchelgeisiau a nodwyd yn y nodau llesiant a'n hymrwymiad i ddyfodol carbon isel. Ac yn dilyn yr ymgynghoriad, byddaf yn gwneud datganiad erbyn diwedd y tymor hwn yn cadarnhau ein safbwynt.

Yn ddiweddar, cyhoeddasom gynlluniau ar gyfer gwasanaeth rheilffordd newydd gwerth £5 biliwn, a fydd yn arwain at ostyngiad o 25 y cant mewn allyriadau carbon ar rwydwaith Cymru a'r gororau, a chynlluniau ar gyfer datblygu strategaeth drafnidiaeth newydd i Gymru a all gefnogi rhwydwaith drafnidiaeth amlfodd integredig a charbon isel ledled Cymru.

Ers 2011, rydym wedi buddsoddi mwy na £240 miliwn yn rhaglen Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru, sy'n cynnwys Nyth ac Arbed, gan wella effeithlonrwydd ynni mwy na 45,000 o gartrefi, ac rydym wedi cytuno ar fuddsoddiad pellach o £104 miliwn ar gyfer y cyfnod rhwng 2017 a 2021. Rwy'n adolygu Rhan L o'r safonau rheoliadau adeiladu er mwyn cynyddu effeithlonrwydd ynni gofynnol cartrefi newydd. Er mai un o'r nodau yw sicrhau cartrefi bron yn ddi-ynni fan lleiaf—sy'n ofynnol o dan gyfarwyddeb yr UE—byddaf yn ystyried gosod safonau mwy caeth i wireddu ein huchelgeisiau.

Gall y ddadl ynghylch dadfuddsoddi fod yn ffordd bwerus o ddenu cyfraniad unigolion, cronfeydd buddsoddi, a'r gymdeithas ehangach yn y mater hwn. Mae angen i reolwyr cronfeydd feddwl yn ofalus ynglŷn â beth y maent yn buddsoddi ynddo, o ran cywirdeb, risg o fuddsoddiad parhaus yn y sector tanwydd ffosil, a cholli cyfleoedd o bosibl o beidio â buddsoddi yn y sectorau carbon isel. Mae'r cyfeiriad byd-eang yn glir iawn bellach. Mae'n hollbwysig ein bod yn parhau i ysgogi momentwm yn y maes pwysig hwn, a buaswn yn croesawu cymorth pawb ohonoch i helpu i hwyluso'r newidiadau sydd eu hangen ledled Cymru. Diolch.

17:25

Wel, diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Nid wyf yn siŵr ai mwynhau neu gasáu'r profiad a wneuthum mewn gwirionedd; roedd yn gwyro o un o emosiwn i'r llall, o'r consensws roedd David Melding yn sôn amdano, i rywbeth gwahanol iawn gan Lee Waters. Ond dyna ni, felly mae hi. Nid wyf yn meddwl bod y lle hwn yn ddiflas os mai dyma'r mathau o ddadleuon a gawn, ond dyna ni.

Mae gormod o siaradwyr i mi ymateb i bob un ohonynt, ac fe ddefnyddiais ormod o amser yn fy sylwadau agoriadol, ond hoffwn ddweud fy mod yn cytuno â llawer o'r hyn a ddywedodd yr Aelodau yma. Credaf fod David Melding yn berffaith gywir, mewn gwirionedd, i ddweud y bydd pobl yn edrych yn ôl ar y ffordd rydym yn mynd i'r afael â hyn mewn ffordd nid annhebyg i'r modd y mae pobl yn ystyried caethwasiaeth. Wyddoch chi, caf fy atgoffa'n gyson gan gyfaill i mi, na fydd pobl yn y blynyddoedd i ddod yn deall pam ein bod yn defnyddio dŵr glân i fflysio ein toiledau. Dyna'r math o beth, wyddoch chi, y bydd pobl yn ei gwestiynu mewn blynyddoedd i ddod.

A Rhun, diolch i chi am eich cyfraniad yn ogystal. Roedd fy nhad ar y daith olaf a wnaeth y trên o Aberystwyth i Gaerfyrddin, ac rwy'n benderfynol ei fod yn mynd i fod ar y daith gyntaf y bydd y gwasanaeth newydd yn ei darparu, yn y dyfodol heb fod yn rhy bell rwy'n gobeithio. A'r £100 biliwn ar HS2 a beth y gallem ei wneud â hwnnw—hynny yw, beth yw'r gair Cymraeg am 'mindblowing'? Roeddwn yn ceisio meddwl—o ddifrif, beth y gallem ei wneud â'n cyfran o hwnnw.

Rwy'n credu bod yn rhaid i mi ymateb i rai o sylwadau Lee, ac nid wyf byth yn siŵr, weithiau, a yw o ddifrif neu a yw'n gwneud drygioni, ond fe gymeraf yr hyn a ddywedodd. Fe ddywedoch chi fod yna eiliad pan fyddwch yn taro a bod yna eiliad pan fyddwch yn gweithredu. Wel, mae yna eiliad pan fo disgwyl i ni fel  gwrthblaid osod cynnig gerbron y Cynulliad hwn hefyd. A dyma'r eiliad honno, wyddoch chi—dyma hi. Felly, ymddiheuriadau os wyf wedi'ch cynhyrfu chi—wel, rwy'n teimlo y dylwn ymddiheuro o leiaf. Efallai fod rhoi'r argraff ei fod yn rhyw fath o gynllwyn mawr i'ch rhwydo braidd yn chwerthinllyd, rhaid i mi ddweud, ond dyna ni.

Fe af i'r afael ag un neu ddau o'r gwelliannau yn yr amser byr iawn sydd gennyf ar ôl—neu'r holl welliannau yn yr amser byr iawn sydd gennyf ar ôl.

Y gwelliant cyntaf, gan y Llywodraeth—fyddwn ni ddim yn cefnogi gwelliant 1, oherwydd ei fod yn ymgais i ailysgrifennu bach o hanes, a dweud y gwir. Datganiad syml yw e, yn nodi casgliad un o bwyllgorau'r Cynulliad yma, sef bod y Llywodraeth yn degybol o fethu â chyrraedd ei thargedau ar leihau allyriadau carbon erbyn 2020. Nid oes eisiau bod yn ofn hynny. Hynny yw, os yw hynny'n debygol, wel, mae'n rhaid inni 'ffrynto lan' iddo fe, inni gael cyfieithu yn sâl iawn derm Saesneg. [Chwerthin.]

O ran gwelliant y Ceidwadwyr, mi fyddwn i'n cytuno â llawer iawn o beth sydd ynddo fe, ond fel sydd wedi cael ei ragweld, oherwydd eich bod chi'n dileu llawer o'r hyn ŷm ni'n dweud y leiciem ni i ddigwydd, byddwn ni ddim yn gallu ei gefnogi e.

Ar yr ail welliant, nid ydw i yn erbyn y gwelliant, ond mae Plaid Cymru yn glir ar lefel cenedlaethol ein bod ni'n gwrthwynebu gorsafoedd niwclear newydd, ac mae yna sawl rheswm dilys i wneud hynny, ond nid ydw i'n credu o reidrwydd mai hwn ydy'r un gorau. Nid yma, er enghraifft—. Nid oes ond eisiau edrych ar sut mae rhai amgylcheddwyr amlwg fel Monbiot wedi bod yn ymrafael â'r cwestiwn yma i gydnabod bod yna ddim consensws penodol ar hyn. Ond yn sicr, mae'n rhywbeth sy'n haeddu inni fod yn ei bwyso a'i fesur e ac yn cael y drafodaeth ehangach yna ynglŷn ag e.

O ran y gwelliant olaf, gwelliant y Llywodraeth, a fyddai eto yn dileu ein holl awgrymiadau ni, nid amlinellu beth sy'n digwydd yw nod y cynnig yma, ond amlinellu beth yn fwy sydd angen ei wneud.

Byddai derbyn y gwelliant hwn gan y Llywodraeth Lafur yn ei wneud yn gynnig hunanglodforus braidd, sydd ond yn rhestru beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar hyn o bryd, a byddai hynny wrth gwrs yn gwrthgyferbynnu'n llwyr â neges ganolog adroddiad y panel rhynglywodraethol. Nid, 'Beth rydym yn ei wneud ar hyn o bryd?' yw'r cwestiwn. Y cwestiwn yw, 'Beth rydym yn mynd i'w wneud yn ychwanegol at, a thu hwnt i'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd?' Oherwydd os na wnawn hynny, os parhawn fel rydym yn ei wneud, fel y mae adroddiad y panel yn dweud wrthym, byddwn yn methu ar newid hinsawdd, ac mae goblygiadau hynny'n glir i bron bawb ohonom. Rhaid imi ddweud, ar ôl cyfraniad Neil Hamilton, efallai y byddaf yn ailasesu'r honiad a wneuthum yn fy araith mai'r bygythiad mwyaf i'r ddynoliaeth yw newid hinsawdd, oherwydd rwy'n meddwl bellach efallai mai'r bygythiad mwyaf i'r ddynoliaeth mewn gwirionedd yw'r rhai sy'n gwadu bod newid hinsawdd yn digwydd.

17:30

Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Cyfnod Pleidleisio

Symudwn ymlaen yn awr at y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, symudwn ymlaen ar unwaith i bleidleisio. Iawn, o'r gorau.

Symudwn yn awr at bleidlais ar y cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau ar ran Plaid Cymru. Felly, galwaf am bleidlais ar y cynigion a gyflwynwyd yn enw Elin Jones. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 47, neb yn ymatal, 3 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynigion.

Cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau- Plaid Cymru: O blaid: 47, Yn erbyn: 3, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynigion

Symudwn ymlaen yn awr i bleidleisio ar gynnig i ethol Aelod i bwyllgor gan UKIP, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Elin Jones. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 13, roedd 3 yn ymatal, a 34 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig hwnnw.

Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor - UKIP: O blaid: 13, Yn erbyn: 34, Ymatal: 3

Gwrthodwyd y cynnig

Mae angen imi wneud. Mae'n gwestiwn pwysig iawn. A yw fy mhleidlais yn dod drwodd, oherwydd nid yw i'w gweld ar y sgrin?

Ydy, mae hi. Mae'n ddrwg gennyf. Peidiwch â phoeni, rwyf wedi gwneud yn siŵr fod eich pleidlais wedi'i chyfrif. O'r gorau, mae hynny'n iawn. Dyna eglurhad. Mae hynny'n iawn.

Felly, symudwn ymlaen yn awr i bleidleisio ar ddadl Plaid Cymru ar newid hinsawdd, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 11, roedd 1 yn ymatal, a 38 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.

NDM6835 - Dadl Plaid Cymru - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 11, Yn erbyn: 38, Ymatal: 1

Gwrthodwyd y cynnig

Galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 28, roedd 12 yn ymatal, a 10 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 1.

NDM6835 - Gwelliant 1: O blaid: 28, Yn erbyn: 10, Ymatal: 12

Derbyniwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais ar welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Neil McEvoy. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 1, roedd 8 yn ymatal, a 41 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 2.

17:35

NDM6835 - Gwelliant 2: O blaid: 1, Yn erbyn: 41, Ymatal: 8

Gwrthodwyd y gwelliant

Os derbynnir gwelliant 3, caiff gwelliant 4 ei ddad-ddethol. A galwaf am bleidlais ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 10, roedd 4 yn ymatal, a 36 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 3.

NDM6835 - Gwelliant 3: O blaid: 10, Yn erbyn: 36, Ymatal: 4

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais ar welliant 4 a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 28, roedd 12 yn ymatal, a 10 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 4.

NDM6835 - Gwelliant 4: O blaid: 28, Yn erbyn: 10, Ymatal: 12

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM6835 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi adroddiad Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig.

2. Yn nodi casgliad yr adroddiad bod yn rhaid i lywodraethau weithredu ar frys ac ar lefel pellgyrhaeddol erbyn 2030 er mwyn cadw cynhesu byd-eang at uchafswm o 1.5 gradd celsius.

3. Yn nodi’r dystiolaeth sy’n dangos yr heriau i Gymru sydd ynghlwm wrth gyflawni ymrwymiadau Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 o ran lleihau allyriadau o leiaf 80 y cant erbyn 2050.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adrodd yn ôl i’r Cynulliad ar ba gamau breision y bydd yn eu cymryd mewn ymateb i adroddiad y Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd:

5. Yn nodi’r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd hyd yma o ran y newid yn yr hinsawdd gan gynnwys:

a) gosod targedau interim a chyllidebau carbon i Gymru a datblygu’r cynllun cyflenwi carbon isel cyntaf.

b) cyhoeddi’r fersiwn ddrafft o’r polisi echdynnu petroliwm at ddiben ymgynghori.

c)  cynlluniau a gyhoeddwyd yn ddiweddar gyfer gwasanaeth rheilffordd newydd gwerth £5 biliwn a fydd yn arwain at leihad o 25 per cent mewn allyriadau carbon ar rwydwaith Cymru a’r Gororau a chynlluniau i ddatblygu Strategaeth Trafnidiaeth Cymru newydd a all gefnogi rhwydwaith trafnidiaeth carbon isel ac aml-ddull ar draws Cymru.

d) buddsoddi dros £240 miliwn yn rhaglen Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru, sy’n cynnwys Nyth ac Arbed, gan wella effeithlonrwydd ynni dros 45,000 o gartrefi a chymeradwyo buddsoddiad pellach o £104 miliwn ar gyfer y cyfnod 2017-2021.

e) cychwyn adolygiad o ran L o’r rheoliadau adeiladu er mwyn cynyddu lefel yr effeithlonrwydd ynni sy’n ofynnol ar gyfer cartrefi newydd

f) gosod targed sy’n golygu bod 70 y cant o’r trydan a ddefnyddir yng Nghymru’n dod o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2030, gyda gwahanol gamau gweithredu gan Lywodraeth Cymru’n cefnogi cynnydd i 48 y cant yn 2017.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a sefydliadau cyhoeddus eraill yng Nghymru i fod yn rhan o’r symudiad byd-eang i ddad-fuddsoddi mewn tanwydd ffosil.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig fel y'i diwygiwyd 37, roedd 3 yn ymatal, a 10 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd.

NDM6835 - Dadl Plaid Cymru - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 37, Yn erbyn: 10, Ymatal: 3

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

9. Dadl Fer: Newyddion ffug: Sut y gallwch ei adnabod a sut y gallwch ei drechu?

Symudwn yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Bethan Sayed i siarad ar bwnc a ddewiswyd ganddi—Bethan.

Diolch. Penderfynais gyflwyno'r ddadl hon yr wythnos hon oherwydd fy mod wedi bod yn ystyried y cwestiwn ehangach ynglŷn ag ansawdd a lluosogrwydd cyfryngau Cymru ers cael fy ethol yn 2007. Yn 2017, dywedais wrth gynhadledd fy mhlaid nad newyddion ffug yw'r broblem yng Nghymru yn aml iawn, ond dim newyddion. Dywedais hynny oherwydd ei fod yn adlewyrchu fy marn i a sawl un arall fod yna brinder cyfryngau yng Nghymru, yn enwedig yn y byd gwleidyddol a materion cyfoes. Mae diffyg cyfryngau sefydledig ehangach—gyda newyddion cenedlaethol yng Nghymru yn cael ei ddominyddu gan dri sefydliad, gydag amrywio o ran ansawdd a graddfa ar adegau, gadewch i ni fod yn deg—yn golygu bod gwactod peryglus y gellid ei lenwi gan rai sy'n meddu ar agenda i gamarwain.

Yn gyntaf, gadewch inni sôn am y cefndir i hyn. Wrth gwrs, daeth hyn yn ffenomen gyntaf yn 2016, ond buaswn yn dadlau iddo ddod yn fater y gellid ei ddeall a'i adnabod lawer cyn hynny. Dechreuodd Fox News yn yr Unol Daleithiau gamarwain pobl yn fwriadol a chyflwyno newyddion a alwent yn 'deg ac yn gytbwys' mewn ffordd sy'n gwbl groes i hynny amser maith yn ôl. Yn y flwyddyn 2000, helpodd ymgyrch barhaus o gamwybodaeth yn erbyn yr Is-Arlywydd Gore, yn cynnwys honiadau a ailadroddwyd yn fynych, rhai camarweiniol mai ef a ddyfeisiodd y rhyngrwyd, i gyfrannu at ei drechu.

Yn y cyfnod cyn rhyfel Irac, collodd y sianel bob synnwyr o gydbwysedd a hyd yn oed y ffasâd o natur ddiduedd yn ei darllediadau o'r rhyfel yn Irac, gydag un gohebydd yn datgan, 'A wyf fi'n rhagfarnllyd? Siŵr iawn fy mod.' Yma, wrth gwrs, rydym wedi hen arfer â phapurau newydd tabloid ac wedi dod i arfer â'r angen i gymryd rhai straeon gyda'r pinsiad diarhebol o halen. Rydym yn gwybod, ar adegau, fod papurau tabloid yn camliwio a hyd yn oed yn mynd ati i ddweud anwiredd a difenwi pobl er mwyn hyrwyddo agenda wleidyddol.

Yr hyn sy'n fy mhoeni, ac a ddylai boeni pawb, yw'r gwagle sy'n cael ei lenwi ar-lein gan ffynonellau. Ceir llawer o bobl nad ydynt yn gwybod pa mor eirwir yw'r ffynhonnell, nid oes ganddynt unrhyw syniad fod yr hyn y maent yn ei rannu'n dod o wefan anghyfreithlon, debyg i bot ac maent yn rhagdybio bod yr hyn y maent yn ei ddarllen yn wir. Hoffwn roi dwy enghraifft ingol i chi—un yn enghraifft o'r adain chwith ac un o'r adain dde yn wleidyddol. Dewisais y ddwy enghraifft am nad wyf am wahaniaethu yma. Os yw'r adain dde yn gwneud camgymeriadau neu'n llunio straeon ffug er mwyn cyflawni agenda, mae'n anghywir, mae'n ddrwg. Ac os yw'r chwith yn gwneud yr un peth, mae'r un mor anghywir. Mae'n ymosodiad ar y gwir ac yn ymgais i ddrysu a chamarwain pobl.

Dyma ddarn o'r hyn yr honnir ei fod gan gyn-Brif Weinidog Awstralia, Julia Gillard, ar fewnfudo, a dyfynnaf:

EIN GWLAD NI, EIN TIR NI, a'n FFORDD O FYW NI yw hon, a byddwn yn caniatáu pob cyfle i chi fwynhau hyn oll. Ond pan fyddwch wedi rhoi'r gorau i gwyno, nadu a grwgnach am Ein Baner, Ein Llw, Ein credoau Cristnogol, neu Ein Ffordd o Fyw, rwy'n eich annog yn gryf i fanteisio ar un agwedd arall ar ryddid Awstralia, 'YR HAWL I ADAEL'.

Twyll yw hyn, wrth gwrs, rhan o erthygl olygyddol ydyw gan gyngreswr Ceidwadol yn yr Unol Daleithiau. Pwynt twyll mor ddigywilydd o'r fath yw helpu i gyfreithloni safbwyntiau fel hyn trwy eu cysylltu ag arweinydd byd-eang. Cafodd y geiriau hyn, wedi'u priodoli i Gillard, eu rhannu gannoedd o filoedd o weithiau.

17:40

Daeth Suzy Davies i’r Gadair.

Ffotograff yw fy ail enghraifft, o brotestiadau Standing Rock yng Ngogledd Dakota yn 2017 yn ôl pob golwg. Y nod oedd atal pibell rhag cael ei hadeiladu ar draws tiroedd brodorol cynhenid America gan fygwth eu hamgylchedd a'u cyflenwadau dŵr. Penderfynodd rhai ymgyrchwyr yn amlwg y byddai'n dda chwyddo maint y protestiadau a chyhuddo'r cyfryngau o beidio â rhoi sylw iddynt. Yr hyn a wnaethant oedd sefyll mewn ffotograff o brotest Standing Rock gyda ffotograff o ŵyl Woodstock yn 1969 yn nhalaith Efrog Newydd—miloedd o filltiroedd a 48 mlynedd allan ohoni. Unwaith eto, mae'r sail dros weithredu'n glir: sut y gallwn ddrysu pobl fel nad ydynt yn deall beth yw gwir natur eiliad benodol mewn amser? Nid plygu'r gwir yn unig, nid gorddweud, ond twyllo. Po fwyaf a mwyaf beiddgar yw'r celwydd, mae'n debyg, y pellaf y mae'n ymddangos y gall deithio. Mae'n sefyllfa wirioneddol druenus, heb sôn am un sy'n peri pryder mawr.

Mae angen trafodaeth gyhoeddus fwy dwys a difrifol ar yr holl fater, a rhaid inni ganolbwyntio ar rai atebion posibl. Yn gyntaf, rhaid inni wneud lle a helpu i hwyluso adferiad yn y wasg leol a newyddion lleol. Gall gwasanaethau hyperleol, a gefnogir yn gyntaf gan y Llywodraeth os oes angen, ddarparu ateb amgen effeithiol a dibynadwy, a helpu pobl i ddychwelyd at yr arferiad o gydnabod ffynhonnell newyddion y gellir ymddiried ynddi. Rydym eisoes yn gwybod bod llawer mwy o ymddiriedaeth mewn newyddion lleol nag mewn unrhyw fath arall o newyddion, a cheir llawer llai o ymddiriedaeth mewn newyddion ar y cyfryngau cymdeithasol. Dywedodd 59 y cant o'r bobl a holwyd ar gyfer baromedr ymddiriedaeth Edelman yn 2018 eu bod yn ansicr beth o'r hyn a welant yn y cyfryngau sy'n wir a beth nad yw'n wir, a dywedodd bron i saith o bob deg eu bod yn poeni bod newyddion ffug yn cael ei ddefnyddio fel arf. Dim ond un o bob pedwar o bobl Prydain sy'n ymddiried yn y newyddion a welant ar y cyfryngau cymdeithasol, tra bo ymddiriedaeth mewn newyddion lleol dair gwaith yn fwy na Facebook.

Fel rhan o'r fargen ar y gyllideb rhwng Plaid Cymru a'r Blaid Lafur, daethom i gytundeb i ddarparu £200,000 mewn cyllid sbarduno i wasanaethau hyperleol; cam cyntaf pwysig. Mae'n rhan o gael trafodaeth onest yma yng Nghymru, trafodaeth sydd mor brin mewn cyfryngau lluosogaethol, i weld a ydym yn ystyried bod newyddion a materion cyfoes yn hanfodol i'n bywyd dinesig. A ydym yn gweld newyddion a'r cyfryngau fel endid masnachol arall a dim mwy na hynny, neu fel rhywbeth sy'n allweddol i iechyd ein democratiaeth a'n cymdeithas? A ydym am fentro dechrau cael trafodaeth ehangach ynglŷn ag a ydym am ddechrau cynnig cyllid ehangach ar gyfer newyddiaduraeth a chyfryngau annibynnol, yn enwedig ar lefel leol? Mae hyn yn rhywbeth sydd wedi'i wneud mewn gwledydd eraill fel mater trafod. Nid yw'n gyfan gwbl y tu hwnt i fod yn dderbyniol, ac efallai y bydd angen iddo fod yn angenrheidiol.

Rydym ni ym Mhlaid Cymru wedi bod yn galw ers amser hir hefyd am ddatganoli pwerau darlledu a mecanweithiau rheoleiddio eraill mewn perthynas â'r cyfryngau. Pe bai'r pwerau hynny yma, gellid ystyried atebion sy'n iawn ar gyfer y wlad lle ceir diffyg amgylchedd cystadleuol ymhlith cyfryngau newyddion lluosogaethol. Felly, siarter efallai i ddarparu fersiynau Cymreig o bapurau newydd, cam yn agosach efallai tuag at amgylchedd cyfryngol mwy cystadleuol. Un diwrnod, gobeithio y gallem gael yr holl ddarlledwyr i roi'r gorau i osod eitemau megis straeon y GIG o Loegr ar frig eu hagenda newyddion yn y DU. Rwy'n galw'r math hwn o beth hefyd yn newyddion camarweiniol, ond mae'n ymddangos fel pe bai'n cael ei dderbyn yn y wlad hon.

Rwy'n credu y byddai hyn yn dechrau llenwi'r gwactod yng Nghymru cyn i newyddion ffug allu symud i mewn ar lefel Cymru. Fodd bynnag, yn fwy cyffredinol, ceir problem fawr ar lefel fyd-eang. Nid yw'r atebion i fynd i'r afael â hi'n hawdd, er y gallwn gael cysur o'r wybodaeth nad oes cymaint â hynny o bobl yn credu'r wybodaeth a welant ar-lein o reidrwydd. Yr her hefyd yw gwella dryswch ar-lein fel y gall mwy o bobl nodi'n fwy clir beth sy'n ffug a beth sy'n real, beth sy'n ddadansoddiad newyddiadurol teg a gwrthrychol a beth sy'n ddarn o waith gan haciaid a ysgrifennwyd ar sail agenda. Mae'n hanfodol hefyd ein bod yn gwahaniaethu rhwng newyddiadurwyr go iawn a sylwebyddion gwleidyddol gweddus, a dylanwadwyr sy'n hyrwyddo ffantasi gelwyddog.

Crisialwyd yr her ym mis Tachwedd y llynedd, pan gyfeiriodd y Daily Mail at drydariad 10 diwrnod oed, heb unrhyw dystiolaeth, am lori'n taro cerddwyr a thanio gwn yng nghyffiniau Oxford Circus yn Llundain. Eto heb unrhyw dystiolaeth, cyfeiriodd Tommy Robinson fel y'i gelwid at yr erthygl a thrydar

Pa mor hir cyn inni ddarganfod mai Mwslim a gyflawnodd yr ymosodiad heddiw yn Oxford Circus?

Felly, mae angen darganfod pwy sy'n ddilys ac yn ddylanwadwyr go iawn a/neu'n newyddiadurwyr a phwy sydd ddim. Rhaid inni ddechrau mynnu cydymffurfiaeth â safonau ffynonellau newyddion papurau tabloid a'r rhai sydd â theyrngarwch gwleidyddol penodol. Pan fo anwiredd yn digwydd, dylai fod yn gyfrifoldeb i ni fel gwleidyddion, ni waeth beth yw ein safbwynt ar y sbectrwm gwleidyddol, i'w ddwyn i gyfrif er lles democratiaeth.

Ond rhaid cael gweithdrefnau mwy cadarn ar waith, gan ddefnyddio a hyrwyddo ein cyrff gwarchod presennol i wneud eu gwaith, a gallu ei wneud yn fwy effeithiol. Dylem hyrwyddo'r rhai sydd â graddau da mewn newyddiaduraeth ac sydd wedi'u hachredu gan y diwydiant. Dylem ddefnyddio a hyrwyddo Sefydliad Safonau Annibynnol y Wasg i sicrhau tegwch ehangach, a'i hyrwyddo fel lle i gwyno am ffynonellau camarweiniol. Rhaid i hyn fod yn rhan o raglen addysg ehangach o amgylch safleoedd dilys y gellir ymddiried ynddynt a ffynonellau newyddion, gan annog y defnydd o wirwyr ffeithiau i ehangu dealltwriaeth, er enghraifft.

Buaswn yn gobeithio hefyd y gallwn annog mwy o ddefnydd o newyddion yn gyffredinol fel hyn. Rwy'n deall ein bod yn byw mewn cyfnod pan fo cyfryngau cymdeithasol yn tra-arglwyddiaethu, ond rydym hefyd mewn cyfnod sy'n cael ei ddominyddu ar lawer ystyr gan fyd sy'n newid yn helaeth. Byddai'n werth defnyddio'r cyfle hwn i annog mwy byth o gyfranogiad.

Felly, cyflwynais y ddadl hon yma heddiw oherwydd bod angen inni gadw ffocws ar yr hyn sy'n fygythiad cynyddol. Gwyddom fod gweithredwyr tramor yn defnyddio'r strategaethau hyn i danseilio etholiadau a newid y ddadl gyhoeddus. Er nad yw'r rhan fwyaf o bobl o reidrwydd yn credu'r hyn a ddarllenant ar Facebook neu rwydweithiau cyfryngau cymdeithasol eraill, mae'r straeon sy'n cael eu pedlera, y memynnau, y sylwadau gan botiau, oll yn rhan o amgylchedd cyffredinol o ddryswch ac ymyrraeth seicolegol a gynlluniwyd i sicrhau ein bod yn amau gwerth newyddion ac yn cwestiynu'r hyn a gredwn, er mwyn ein gorfodi i ystyried a yw'r sefydliadau rydym wedi ymddiried ynddynt erioed, ar hyd ein hoes, yn rhoi dadansoddiad a sylwebaeth fedrus i ni. Mae hyn yn rhywbeth sy'n fy mhoeni'n fawr iawn yn hynny o beth.

Mae un pwynt olaf i'w wneud. Rhaid i hyn gynnwys gwleidyddion hefyd. Mae'r ffenomen ofnadwy hon yn eang bellach, yn rhannol oherwydd bod gwleidyddion wedi helpu i'w meithrin. Mae rhai gwleidyddion wedi mynd ati'n fedrus, ac ar adegau mewn ffyrdd amrwd, i droi rhannau mawr o'r cyhoedd yn erbyn newyddiadurwyr y gellir ymddiried ynddynt, a thuag at ffynonellau anghymeradwy sy'n rhannu eu hagenda, boed yn Trump yn yr UDA, Orbán yn Hwngari neu'r Arlywydd Duterte yn Ynysoedd Philippines. Rhaid i wleidyddion a systemau gwleidyddol gydnabod eu hunain pa bryd y maent yn croesi'r llinell i dir twyll a chamarwain, a sicrhau eu bod yn gweithredu er lles ein democratiaeth.

I orffen, hoffwn chwarae clip byr yn awr gan fy mrawd, Ciaran Jenkins, sy'n newyddiadurwr ymchwiliol gyda Channel 4. Mae wedi gwneud cryn dipyn o ohebu ar hyn yn Ynysoedd Philippines a hefyd mewn rhannau o Ewrop, lle mae bechgyn ifanc yn gwneud bywoliaeth mewn gwladwriaethau tlawd wrth sicrhau y gallant barhau'r syniad o newyddion ffug. Felly, hoffwn orffen gyda hynny ac i roi digon inni gnoi cil arno ynglŷn â sut y gallwn atal newyddion ffug rhag tyfu yma yng Nghymru.

17:45

Dangoswyd cyflwyniad clyweledol. Mae’r trawsgrifiad mewn dyfynodau isod yn drawsgrifiad o’r cyfraniadau llafar yn y cyflwyniad.

Ciaran Jenkins: 'Yn Ynysoedd Philippines a stori anhygoel yr arlywydd a etholwyd yn ddemocrataidd, Rodrigo Duterte. Lladdwyd miloedd o bobl ar strydoedd Ynysoedd y Philippines, ac maent yn dal i gael eu lladd, gan sgwadiau lladd vigilante, a gyfreithlonwyd gan yr arlywydd ei hun. Ac eto, yn y wlad honno, ychydig iawn o anghytuno cyhoeddus a fu i'r hyn oedd yn digwydd, er bod mwy o bobl wedi'u lladd o dan ei oruchwyliaeth ef nag o dan yr unben blaenorol. Daeth yn amlwg fod y defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol yn Ynysoedd Philippines ymhlith yr uchaf yn y byd, a gwelsom bobl yn cynnig gwasanaethau am dâl lle gallent fwrw iddi i danseilio neges y byddai rhywun dylanwadol yn anghytuno â hi. Byddinoedd o droliau cyfryngau cymdeithasol oedd y rhain a gâi eu talu i ymosod ar ddylanwadwr cyfryngau cymdeithasol ar yr ochr arall gyda'r nod o danseilio eu hygrededd, er mwyn rhoi'r argraff fod gwrthwynebiad i'r neges honno ac i hyrwyddo neges amgen, hyd yn oed os oedd y neges honno'n eithafol neu'n wahanol iawn i'r consensws cyffredinol.'

'Mae gennych droliau yn gweithio i chi.'

'Oes.'

Ciaran Jenkins: 'Ac rydych yn creu proffiliau ffug ar Facebook y byddwch yn eu gweithredu wedyn ac yn honni bod yn bobl eraill.'

'Ydym.'

Ciaran Jenkins: 'Mae Armand Nocum yn dweud bod ganddo weithredwyr ar draws Ynysoedd Philippines yn rheoli 30 neu 40 o gyfrifon ffug bob un.'

'Felly, os wyf yn ymgeisydd gwleidyddol yn Ynysoedd Philippines a fy mod yn dweud rhywbeth yn erbyn eich ymgeisydd, a fydd eich troliau'n ymosod arnaf?'

'Byddant, wrth y cannoedd. Rydym yn manteisio ar duedd pobl i fynd ble mae llawer yn mynd. Byddech yn galw hynny'n "feddylfryd heidiol".'

Ciaran Jenkins: 'Meddylfryd heidiol.'

'Byddem yn naïf, rwy'n credu, pe na baem yn credu bod y mathau hyn o bethau'n digwydd o fewn ein systemau democrataidd ein hunain hefyd. Yr hyn a oedd gan y ddwy stori a oedd gennyf yn gyffredin yw eu bod yn dangos y dulliau sy'n ei gwneud hi'n bosibl tanseilio ffydd y cyhoedd mewn ffeithiau a'r gwirionedd a realiti. Rwy'n credu mai'r cwestiwn sy'n rhaid inni ei ofyn bob amser gyda newyddion ffug yw: pwy sy'n ennill, pwy sy'n elwa pan fo perthynas pobl â'r gwirionedd yn cael ei thanseilio mewn modd mor sylfaenol?'

17:50

Wel, galwaf ar y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon i ymateb i’r ddadl—Dafydd Elis-Thomas—ac efallai i’r ffilm hefyd.

A gaf i yn y lle cyntaf ddiolch i Bethan Sayed am gyflwyno pwnc mor athronyddol, sydd yn rhoi cyfle i mi barhau’r seminar o bosibl? Oherwydd, yn amlwg, fel Llywodraeth, mae ein pwerau ni dros y cyfryngau yn gyfyngedig gan ddeddfwriaeth datganoli. Nid wyf eisiau mynd yn ôl i’r ddadl dros ddatganoli darlledu, ond y rheswm yn fy marn i dros beidio â dadlau dros ddatganoli darlledu ydy byddem ni wedyn yn sôn am geisio rheolaeth a fyddai o bosibl yn rhyw fath o ffug reolaeth neu'n rheolaeth gyfyngedig dros un llwyfan, tra rwy’n meddwl ei bod yn bwysig inni edrych—fel rydym wedi cael ein hannog i edrych gan Bethan Sayed yn y ddadl yma—ar y cwestiynau sylfaenol ynglŷn â dinasyddiaeth a chyfranogaeth sydd yn rhan o’r cwestiwn yma.

Mae’r cyfryngau o fewn unrhyw gymdeithas yn fodd i gynnal trafodaeth, a lle mae’r cyfryngau yna yn cael eu rheoli gan unrhyw leiafrif o unrhyw fath—lleiafrif pwerus yn rhinwedd strwythur y sefydliadau sydd yn rheoli’r cyfryngau, neu er enghraifft, fel y gwelsom ni tua’r diwedd yna, o bobl a oedd yn ddrwgweithredu mewn gwirionedd drwy ddefnyddio a phrynu pobl i danseilio barn—mae’r tueddiadau yma yn dueddiadau nad oes, yn fy marn i, ddim ond un ffordd ymarferol i ni fel Llywodraeth o geisio eu tanseilio nhw. A hynny yw drwy gynyddu y pwyslais ar addysg adeiladol ym maes cyfryngau ac ym maes deallusrwydd cymdeithasol o beth yw natur y cyfryngau torfol.

Fe fues i, flynyddoedd yn ôl, yn dysgu yn y maes yma ac rwy’n meddwl ein bod ni wedi colli y pwyslais sylfaenol yn aml iawn, sef nad ydym ni yn addysgu’r boblogaeth sut i ddarllen y cyfryngau torfol yn ddigonol. Nid yw’r pwyslais yn ein hysgolion ni, nag yn ein cyrsiau ni, nag o bosibl hyd yn oed mewn llefydd fel y fan yma lle rydym ni’n trafod gwleidyddiaeth. Efallai bod ni ddim yn trafod digon fod dealltwriaeth yn dibynnu ar allu yr unigolyn a’r grŵp penodol y mae rhywun yn rhan ohono fo i allu dadansoddi’r hyn sy’n cael ei ddweud.

Felly, mae’n rhaid imi ddweud fy mod i’n ei ffeindio hi'n anodd iawn fel rhyw fath o gyn athronydd rhan amser i ymateb i ddadl lle mae rhywun yn gallu sôn am 'y gwirionedd' neu am 'y realiti' neu am 'y digwyddiadau', oherwydd fel yr adroddwyd nhw fel y digwyddon nhw. Oherwydd, i mi, mae pob digwyddiad yn cael ei gyfryngu. Mae pob digwyddiad yn cael ei ddehongli. Felly, beth mae eisiau i ni helpu i'w greu yw poblogaeth weithredol sydd yn gallu dadansoddi yn eu meddwl, sydd yn teimlo cyn gynted ac y maen nhw’n cael gosodiad ger eu bron nhw, am unrhyw ddigwyddiad, mai’r cwestiwn nesaf sy’n codi yw: beth ddigwyddodd mewn gwirionedd? Nid bod rhywun yn gallu ffeindio’r gwir, oherwydd nid oedd y person, efallai, sydd yn cael y neges ddim yn rhan o’r digwyddiad ac felly nid oes tyst yn yr ystyr yna, ond bod rhywun yn magu deallusrwydd beirniadol. Rwy’n meddwl bod hynny yn ganolog i’n dealltwriaeth ni.

Ac, felly, beth rydw i am ei gymryd o'r drafodaeth yma ydy'r angen i ni, fel Llywodraeth—ac mae hwn yn fater nid jest o ran diwylliant a'r cyfryngau, ond hefyd yn arbennig o ran cwricwlwm ac addysg—ein bod ni yn chwilio i weld sut y gallwn ni ddefnyddio'r dibenion sydd yn y cwricwlwm newydd i Gymru fel y bydd ein plant a'n pobl ifanc ni yn ddinasyddion sydd yn ystyriol o ran moesegaeth ac yn gallu gwerthuso, ac yn gallu defnyddio tystiolaeth, ac yn gallu bod yn ddinasyddion beirniadol oherwydd yr unig wir yn fy marn i—a fi ddefnyddiodd y gair yna rŵan fy hun—yr unig ffordd effeithiol, ddylwn i ddweud, i ymateb i unrhyw ffug newyddion yw drwy ddadansoddi beth yw digwyddiad a beth yw dealltwriaeth o ddigwyddiad.

Gwendid y gair 'ffug newyddion', wrth gwrs, yw ei fod o'n awgrymu bod yna'r fath beth â newyddion sydd yn wir ac sydd ddim yn ffug. Mae pob newyddion yn ddisgrifiad o ddigwyddiad, ac felly mae'n rhaid i ni fagu'r deallusrwydd yna i weld drwy'r hyn a ddigwyddodd ac i fod yn ystyriol ac yn feirniadol. Mae deall cyfrifoldebau ac hawliau democrataidd yn golygu bod yn rhaid inni ddeall bod rhagfarnau'n digwydd yn gyson mewn cymdeithas, a bod yn rhaid inni hefyd allu dadansoddi'n rhagfarnau ein hunain, ac, felly, wrth wneud hynny—. A wyt ti eisiau ymyrryd? 

17:55

Rydw i'n dilyn gyda chryn ddiddordeb llinyn y Gweinidog. Gan dderbyn, wrth gwrs, fod yna'r fath beth â fersiynau gwahanol o'r gwir, a ydyw ef yn derbyn, yn yr achos yma, wrth gwrs, y gwahaniaeth ydy bod yna bobl yn fwriadol yn mynd ati i gyfleu'r wybodaeth y maen nhw eu hunain yn gwybod nad sydd yn wir? 

Ie, wel, mi allai rhywun ddadlau bod llawer iawn o'r cyfryngau torfol wedi bod yn gwneud ar hyd y blynyddoedd yr un math o beth. Hynny yw, nid wyf i'n credu y gall rhywun ddibynnu ar ddadansoddi cymhelliad unigolyn, ond fe all rhywun ddadansoddi cymhelliad sefydliad a'r angen i greu ymateb i'r cymhelliad yna drwy greu cymuned ddadansoddol.

Felly, codi ymwybyddiaeth bod pob neges sy'n cael ei throsglwyddo ar unrhyw gyfrwng yn neges y dylai'r bobl sy'n ei derbyn hi ei chwestiynu. Mae hynny, rydw i'n meddwl, yn hanfodol i'r hyn rydw i'n ceisio ei ddatblygu. 

Yn ail, hyfforddiant manwl mewn disgyblaeth casglu newyddion i ddinasyddion, yn enwedig dinasyddion ifanc, fel bod pobl yn deall natur y broses o greu newyddion, o greu'r neges, o gyfathrebu'r neges, a gweld beth ydy ystyr egwyddorion delio â gwybodaeth sydd yn glir ac yn annog dealltwriaeth. 

Rydw i'n cofio, os caf i ddweud, un stori na ddylwn i ddim ei dweud, ond rydw i'n teimlo fel ei dweud hi heddiw. Roeddwn i yng nghanol rhyw drafodaeth flynyddoedd yn ôl gyda rhywun a oedd yn gweithio i gorfforaeth ddarlledu yng Nghymru, ac roeddwn i'n ceisio dadlau'r ddadl nad oedd yna ddigon o newyddion Cymreig, ac ateb y newyddiadurwr yna i mi—yn Saesneg oedd y drafodaeth:

Peidiwch â siarad â mi am newyddion, fachgen. Newyddion yw'r hyn sy'n dod i lawr o Lundain ar y weiar.

Nawr, rŵan yntê. Hynny yw, mae'n rhaid inni gael dealltwriaeth gliriach na hynny o beth yw natur creu newyddion a dadansoddi newyddion; rhannu'r gallu i fod yn greadigol ac yn feirniadol ymhlith ein pobl ifanc; ac yna, wrth gwrs, ystyried y cwestiwn a oes angen cryfhau rheoleiddio. Ond y flaenoriaeth y byddaf i'n ceisio ei dilyn ydy'r un sydd yn dilyn y drafodaeth a gafwyd yn flaenorol ar y gyllideb ddwy flynedd yn ôl, sef ein bod ni yn chwilio am ffordd o gyllido datblygiad ymarfer newyddiadurol ar lefel leol ac ar lefel leol iawn, os mai dyna yw'r gair priodol am ‘hyperleol’. Ac yna, rydw i’n meddwl bod pwysigrwydd gwariant ar hynny a phwysigrwydd datblygu creadigrwydd drwy gyfrwng y cwricwlwm cenedlaethol newydd yn ddwy ffordd y gallwn ni, fel Llywodraeth, ddylanwadu.

Nid oes gen i fawr o olwg ar yr hyn y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ei wneud ar hyn o bryd yn y maes yma, lle mae yna adolygiad wedi cael ei sefydlu, ond, wrth gwrs, fe fyddwn ni’n dilyn hwnnw, rhag ofn y gallan nhw awgrymu rhywbeth adeiladol. Ond, beth garwn i ei weld ydy a fyddai gan y pwyllgor diwylliant ddiddordeb mewn dychwelyd at y pwynt yma yn ystod ei weithgareddau yn y misoedd nesaf, fel y gallwn ni barhau â’r drafodaeth unwaith eto. Wedi dweud hynny, rydw i yn ddiolchgar i Bethan Sayed am roi pwyslais rhyngwladol, yn ganolog, ar ein gweithgaredd fel Cynulliad, oherwydd nid jest Cynulliad i Gymru ydy’r lle yma, ond mae e’n Gynulliad i Gymru yn y byd.

18:00

Daeth y cyfarfod i ben am 18:01.