Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

19/09/2017

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. Datganiad gan y Llywydd

Mae’n bleser gen i gyhoeddi, yn unol â Rheol Sefydlog 26.75, fod Deddf Treth Gwaredu Tirlenwi (Cymru) 2017, a Deddf Undeb Llafur (Cymru) 2017 wedi cael Cydsyniad Brenhinol ar 7 Medi 2017.

2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem gyntaf i ni y prynhawn yma yw’r cwestiynau i’r Prif Weinidog, a’r cwestiwn cyntaf, Russell George.

'Gwasanaethau sy'n Addas i'r Dyfodol'

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymgynghoriad Llywodraeth Cymru 'Gwasanaethau sy'n Addas i'r Dyfodol'? (OAQ51025)

Rydym yn croesawu pob cyfraniad i’r ymgynghoriad pwysig hwn. Rydym ni eisoes wedi derbyn dros 700 o ymatebion a bydd y rhain yn cael eu defnyddio i sicrhau bod unrhyw newid deddfwriaethol yn y dyfodol mor effeithiol ag y gall ei fod i bobl Cymru. Bydd yr ymgynghoriad yn para tan ddiwedd y mis hwn.

Prif Weinidog, rwy’n gobeithio y gwnewch chi ymuno â mi i gydnabod y gwaith pwysig y mae cynghorau iechyd cymuned yn ei wneud ledled Cymru. Rwyf wedi cael y cyfle i gyfarfod â chyngor iechyd cymuned Powys ar sawl achlysur dros doriad yr haf. Ac un pryder y maen nhw wedi ei godi gyda mi yw'r cyfeiriad y mae’n ymddangos bod Papur Gwyn Llywodraeth Cymru yn ei ddilyn, ac un mater penodol y maen nhw wedi ei godi gyda mi yw nad yw’r Papur Gwyn yn cynnwys unrhyw gydnabyddiaeth o gymhlethdodau gwasanaethau trawsffiniol, ac nid yw'n cyfeirio ychwaith at y swyddogaeth graffu bwysig y mae ein cynghorau iechyd cymuned yn ei chyflawni ar ran cleifion. Byddwch yn deall, wrth gwrs, bod mwyafrif llethol fy etholwyr yn defnyddio gwasanaethau ar draws y ffin. Pa sicrwydd allwch chi ei roi i gyngor iechyd cymuned Powys bod gan gleifion o Gymru sy'n defnyddio gwasanaethau dros y ffin eiriolwr effeithiol os bydd trefniadau’n newid yn y dyfodol?

Wel, rydym ni eisiau i hynny barhau, wrth gwrs, a dyna pam mae hi mor bwysig bod CIC Powys a CICau eraill yn ymateb i'r ymgynghoriad, fel y gallwn ni fwrw ymlaen â deddfwriaeth gyda'r consensws ehangaf posibl.

Mae gan gynghorau iechyd cymuned annibyniaeth, arbenigedd a phwerau i ymyrryd ar ran cleifion er mwyn cynnal eu diogelwch a'u hurddas. Felly, a all y Prif Weinidog esbonio sut y mae cymryd y fath swyddogaethau oddi wrth y lefel leol a'u canoli'n genedlaethol, ac yna eu gwanhau, yn mynd i wella diogelwch ac urddas cleifion?

Mae’n rhaid i ni gofio, wrth gwrs, nad yw CICau yn arolygiaeth. Mae gennym ni arolygiaeth iechyd sy'n gwneud hynny. Mae ganddyn nhw swyddogaeth, wrth gwrs, o ran gweithredu fel llais cleifion ac mewn sawl ffordd arall. Gallaf ddweud wrth yr Aelodau y bu cyfarfod cadarnhaol iawn gyda bwrdd y CIC. Ceir llawer o dir cyffredin yn y Papur Gwyn ei hun. Ceir rhai materion y bydd angen eu trafod ymhellach, ond y bwriad yw cryfhau llais y claf ar draws Cymru gyfan, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda CICau er mwyn cyflawni hynny.

Gofal Diwedd Oes

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ofal diwedd oes yn ne-ddwyrain Cymru? (OAQ51053)

Mae ein buddsoddiad o £3 miliwn yn yr hosbis newydd ym Malpas a agorwyd yr wythnos diwethaf yn dangos ein hymrwymiad i ofal diwedd oes yn y de-ddwyrain. Mae'r cynllun cyflawni gofal diwedd oes wedi’i ddiweddaru, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2017, hefyd yn nodi'r camau yr ydym ni’n eu cymryd i sicrhau dull cydweithredol o wella gofal diwedd oes ledled Cymru.

Diolch, Prif Weinidog. Yr wythnos diwethaf, ynghyd ag Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, roeddwn i’n bresennol yn lansiad yr uned cleifion mewnol o’r radd flaenaf ym Malpas. Mae'r uned 15 gwely yn cynnig cymorth i bobl ag anghenion rheoli symptomau cymhleth a gofal diwedd oes, ac fel y soniasoch, mae'r buddsoddiad o £3 miliwn o arian Llywodraeth Cymru ar gyfer hosbis Dewi Sant yn enghraifft dda o sut i ddarparu gofal hosbis o'r radd flaenaf ac yn helpu i fodloni’r galw am wasanaethau gofal lliniarol yn y de-ddwyrain. Felly, a wnewch chi ymuno â mi, Prif Weinidog, i dalu teyrnged i weledigaeth y bwrdd cyfarwyddwyr yn Dewi Sant, yn enwedig y prif weithredwr, Emma Saysell, a chefnogaeth aruthrol y gymuned leol a gwirfoddolwyr, ac i ddangos y gall buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â'r bwrdd iechyd a'r awdurdod lleol, wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl pan fo'i angen arnynt fwyaf?

Gwnaf. Mae'n enghraifft wych o weithio mewn partneriaeth, oherwydd mae'r buddsoddiad wedi galluogi tîm gofal hosbis Dewi Sant i ddarparu model gofal lliniarol a gydnabyddir yn gyffredinol fel enghraifft dda o ofal o'r radd flaenaf. Nawr bod yr adeilad newydd wedi’i gwblhau ac ar agor, bydd yr elusen, wrth gwrs, yn gallu cynorthwyo mwy o bobl sydd angen eu cymorth ar ddiwedd eu bywydau nawr, ac rwy’n llongyfarch yr elusen ei hun yn fawr am y gwaith y mae wedi ei wneud i sicrhau bod yr hosbis yn cael ei agor.

Prif Weinidog, a gaf i gytuno â sylwadau Jayne Bryant, a hefyd croesawu agor yr hosbis newydd ym Malpas? Fel y mae’r prif weithredwr, Emma Saysell, wedi ei ddweud, mae hwn yn ddatblygiad nodedig a’r gobaith yw y bydd yn llenwi bylchau a nodwyd yn flaenorol yn y ddarpariaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac rwy'n siŵr y bydd yn mynd o nerth i nerth.

Byddwch yn gwybod, Prif Weinidog, fy mod i’n aml yn codi mater clefyd niwronau motor yn y Siambr hon a'i effaith ofnadwy ar ddioddefwyr, yr amcangyfrifir bod hyd at 5,000 ohonynt ledled y DU ar unrhyw adeg. Mae un o ganfyddiadau allweddol adroddiad diweddar Demos ar effaith ariannol MND ar ddioddefwyr a'u teuluoedd wedi dweud y gall gwasanaethau yn aml fod yn araf i ymateb i anghenion dioddefwyr MND oherwydd cyflymder datblygiad y clefyd. Felly, a allwch chi ymrwymo i edrych eto ar y ddarpariaeth o wasanaethau, gan gynnwys gofal hosbis a lliniarol yng Nghymru, i sicrhau—oes, mae gennym ni adeilad newydd gwych ym Malpas, ac mae hwnnw’n un rhan o'r jig-so—y gall y gwasanaethau a ddarperir gadw i fyny â dioddefwyr clefydau cymhleth fel MND?

Mae'r Aelod yn codi mater pwysig. Roeddwn i ar fai yn anghofio ei longyfarch, wrth gwrs, ar ei briodas ddiweddar, a'i ymroddiad i ddod yn ôl yma. Credaf nad oedd hwnnw’n ddewis iddo ei wynebu, ond, serch hynny, mae ef yma. Ond fy llongyfarchiadau, yn amlwg, iddo ef a'i wraig newydd.

Mae clefyd niwronau motor yn salwch ofnadwy. Mae’n datblygu’n gyflym iawn fel rheol. Weithiau, mae'n symud yn gyflymach mewn rhai pobl nag eraill. Mae'n anodd rhagweld cyflymder datblygiad y salwch, ond, yn anffodus, wrth gwrs, mae'n hysbys beth mae'r salwch yn ei wneud i'r corff yn y pen draw. Rydym ni eisiau gweithio gyda'r elusennau clefyd niwronau motor i sicrhau bod lefel y gofal yn iawn i'r unigolyn, gan ein bod ni’n gwybod nad yw'n bosib rhagweld gydag unrhyw gywirdeb sut y bydd y clefyd yn datblygu o ran ei gyflymder, ac mae hynny'n sicr yn rhywbeth yr ydym ni wedi bod yn gweithio gyda'r elusennau clefyd niwronau motor er mwyn ei gyflawni.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Diolch, Llywydd. Mae hi bron yn 20 mlynedd i'r diwrnod ers y bleidlais ym 1997 i sefydlu'r sefydliad hwn, ac mae’n rhaid i dymor newydd ddod â phennod newydd yn hanes Cymru. Prif Weinidog, ni wnaf i yn bersonol fyth anghofio’r fuddugoliaeth, pan wnaeth cymaint ohonom ni yn y Siambr hon, a’r tu allan, helpu i sicrhau buddugoliaeth i'n gwlad ar y noson honno. Mae llywodraethu ein hunain yn fuddugoliaeth ynddi'i hun. Nid oes unrhyw wlad arall wedi llywodraethu un arall yn dda.

Ond mae Llywodraeth Cymru yn wahanol sefydliad i'r Cynulliad Cenedlaethol. Rwy’n cytuno â Ron Davies pan ddywed fod angen i Weinidogion ofyn cwestiynau anodd i’w hunain ynghylch cyflawniad. Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno ag ef?

Nac ydw. Cafodd Ron, wrth gwrs, y cyfle i lywio cyfeiriad y Cynulliad Cenedlaethol, ond rydym ni’n gwybod, wrth gwrs, am ei stori anffodus. Rwy'n falch o'r hyn yr ydym ni wedi ei gyflawni dros yr 20 mlynedd diwethaf. Pan fyddaf yn edrych yn ôl ar sut le oedd Cymru yn y 1990au: gwlad â diffyg hyder, lle’r oedd pobl ifanc eisiau gadael, gwlad nad oedd ganddi broffil cryf dramor—nid oedd hynny'n digwydd. A’r un peth sy'n fy nharo i yw ei bod yn cael ei dderbyn fel normal bryd hynny y dylai diweithdra fod yn sylweddol uwch yng Nghymru nag yng ngweddill y DU. Ystyriwyd bod hynny’n rhywbeth a oedd yn anochel. Nid dyna'r achos mwyach; mae diweithdra naill ai ar gyfartaledd y DU, neu’n is na chyfartaledd y DU. Gallwn barhau, wrth gwrs, ac efallai y byddai hi’n disgwyl i mi wneud hynny, ond rwy’n dewis cymariaethau penodol yn y fan yma â'r 1990au, yn y ffordd y mae Cymru wedi newid er gwell yn yr 20 mlynedd ers y refferendwm.

Wel, mae pobl yn dal i adael, Prif Weinidog, fel y gwyddoch yn iawn. Ac, y llynedd, dywedasoch fod Llafur hanner ffordd trwy ddegawd o gyflawni. Ond, i lawer o bobl, gweddol yw perfformiad presennol y Llywodraeth ddatganoledig a dweud y lleiaf, ac nid yw pobl wedi gweld ei bod wedi gwneud unrhyw wahaniaeth i'w bywydau nac i ansawdd gwasanaethau cyhoeddus. Ac nid fy ngeiriau i yw’r rhain, ond canfyddiadau ymchwil i agweddau at ddatganoli, y byddwch chi wedi eu darllen ddoe. Os ydym ni hanner ffordd trwy ddegawd o gyflawni, pam mae ein canlyniadau iechyd ac addysg yn gyson waeth na’r rhai yn yr Alban? Pam mae ein cyfradd pasio TGAU eleni yn waeth na chymwysterau cyfatebol yr Alban? Pam mae rhestrau aros yn hwy ar gyfartaledd? Ac mae hynny heb hyd yn oed sôn am gymariaethau â Lloegr neu â gwledydd eraill gorllewin Ewrop. Beth yw’r esboniad nad yw eich Llywodraeth yn cyflawni’r canlyniadau y mae pobl yn eu disgwyl ac yn eu haeddu?

Wel, yn wahanol iawn i hynny—nid wyf yn credu bod yr Alban y Shangri-La a bortreadir. Bu problemau gwirioneddol yn system addysg yr Alban. Ceir problemau o hyd ynghylch y bwlch cyrhaeddiad, yr ydym ni wedi ei gau ac nad ydyn nhw. Os edrychwn ni ar iechyd, a’n bod yn edrych ar y 1990au, roedd yn normal yn y 1990au, yn nyddiau’r Llywodraeth Dorïaidd, i bobl aros dwy flynedd am lawdriniaeth. Roedd hynny'n normal. Nid yw pobl yn derbyn hynny ddim mwy—dim mwy. Gwyddom fod amseroedd aros wedi gostwng yn sylweddol er gwaethaf y ffaith y bu toriad enfawr i’n cyllideb yn y cyfnod hwnnw. Rydym ni newydd weld y canlyniadau TGAU gorau erioed. Mae gan yr Alban ei system addysg ei hun. Allwch chi ddim cymharu eu system gymwysterau nhw â’n system ni gan ei bod mor wahanol. Rydym ni’n adeiladu ysgolion ledled Cymru gyfan; yn Lloegr, nid oes unrhyw beth yn cael ei adeiladu. Rydym ni’n falch o'r ffaith honno. Os edrychwn ni ar yr economi, 4.3 y cant yw ein cyfradd ddiweithdra. Ni ellid bod wedi breuddwydio am hynny yn y 1990au. Rydym ni’n dal i ddenu buddsoddiad rhagorol i Gymru—y ffigurau buddsoddi uniongyrchol tramor gorau ers 30 mlynedd—ac mae hynny oherwydd bod gennym ni Lywodraeth sy'n gallu mynd allan a gwerthu Cymru. Beth bynnag yw gwleidyddiaeth y Llywodraeth honno, mae'r proffil sydd gan Weinidogion yn llawer iawn mwy na'r hyn a welwyd yn y 1990au, a dyna pam yr ydym ni wedi bod mor llwyddiannus o ran dod â swyddi i Gymru.

Rydych chi'n swnio'n hunanfodlon, Prif Weinidog, ac mae’n ymddangos bod eich atebion yma y prynhawn yma'n awgrymu bod pethau eisoes yn mynd mor dda, bod hyn mor dda ag y gall hi fod. Nid degawd o gyflawni, ond yn hytrach degawd o hunanfodlonrwydd. Rydym ni angen, Prif Weinidog, gwlad lle mae premiwm ar hunanlywodraeth. Mae gwneud ein penderfyniadau ein hunain yn gam cyntaf hanfodol, ac mae Plaid Cymru yn falch fod y wlad hon wedi cymryd y cam hwnnw. Ond y cam nesaf yw gwireddu’r premiwm hwnnw. Dylai bod yn ddinesydd Cymru olygu bod bonws gwasanaeth cyhoeddus: difidend datganoli, wedyn, os mynnwch chi. Felly, rhof un her i chi heddiw, wrth i ni nodi 20 mlynedd ers y bleidlais 'ie' honno: erbyn diwedd y tymor Cynulliad hwn, a fydd y Llywodraeth Lafur wedi cau'r bwlch gyda'r Alban o ran iechyd, addysg a'r economi? Ac os byddwn ni’n dod i ddiwedd y tymor hwn a’i bod yn ymddangos nad oes unrhyw arwydd o gau'r bwlch hwnnw, a wnewch chi dderbyn a chyfaddef wedyn bod angen Llywodraeth newydd ar Gymru?

Wel, nid fi y mae eisiau iddi ei argyhoeddi, ond yr etholwyr, ac nid yw hi wedi eu hargyhoeddi nhw o hynny. Nid oes unrhyw bwynt achwyn i mi am ddiffyg llwyddiant ei phlaid ei hun. Nid wyf i’n derbyn bod bwlch rhyngom ni a'r Alban. Nid wyf i’n derbyn bod bwlch rhyngom ni a'r Alban o ran addysg. Mae cyfradd ddiweithdra'r Alban yn gyson uwch na'n cyfradd ni. Nid fel pe byddai'r Alban, yn economaidd, yn gwneud yn hynod o dda, ac o'n safbwynt ni rwy'n falch o'r hyn yr ydym ni wedi ei gyflawni dros yr 20 mlynedd diwethaf. Mae etholwyr Cymru wedi cydnabod hynny. Maen nhw wedi gweld hynny mewn etholiad ar ôl etholiad, ac ni fydd unrhyw arwydd o hunanfodlonrwydd gennym ni. Gwyddom ei bod yn mynd yn fwy a mwy anodd i argyhoeddi pobl i bleidleisio drosom yr hwyaf yr ydym ni mewn Llywodraeth, a byddwn yn gweithio'n fwy a mwy caled i sicrhau bod pobl yn parhau i roi eu cefnogaeth i ni.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, ym mis Awst, cyhoeddwyd yr adroddiad am Kris Wade o Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg. Adolygiad bwrdd gwaith oedd hwn o’r bwrdd iechyd hwnnw yn cyflogi Kris Wade, gŵr sy’n bwrw cyfnod o 21 mlynedd yn y carchar ar hyn o bryd am laddiad ag ysgogiad rhywiol y wraig 65 oed, Christine James. Yn ystod y blynyddoedd yn arwain at lofruddiaeth Ms James, roedd Kris Wade yn destun dim llai na thri honiad ar wahân o gam-drin rhywiol ymhlith cleifion agored i niwed. Ar adeg cyhoeddi’r adolygiad bwrdd gwaith, beirniadwyd yr adroddiad gan fy mhlaid i am ei ddiffyg annibyniaeth. Rydym ni o’r farn na all fyth fod yn dderbyniol i fwrdd iechyd ymchwilio i bryderon difrifol amdano'i hun. Yn dilyn sawl galwad gan fy mhlaid i, a chan y BMA ac eraill yn y Siambr hon yn wir, cyhoeddodd eich Llywodraeth swyddogaeth Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru o ran adolygu'r adroddiad bwrdd gwaith a gyflawnwyd gan y bwrdd iechyd. Sut ar y ddaear y gall hi fod yn dderbyniol i fwrdd iechyd ymchwilio i gyhuddiadau mor ddifrifol o’i fethiant ei hun?

Mae'n ddarlun cymhleth, ac rwy’n deall y galar y mae'r teulu wedi ei wynebu. Roedd tri chyhuddiad; mae hynny'n gywir. Ni chymerwyd unrhyw gamau gan yr heddlu o ran y cyhuddiadau hynny, ac felly ni chyflwynwyd unrhyw achosion troseddol. Wedi dweud hynny, mae'n hynod bwysig bod ymchwiliad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, nid yn unig i’r gwersi y gellir eu dysgu, ond i’r gwersi y gellir eu dysgu fel y gallwn fod yn sicr fel Llywodraeth bod unrhyw fethiannau a allai fod wedi bodoli yn y system bryd hynny yn cael eu hunioni, ac y gall y teulu gael eu sicrhau wedyn bod y bwrdd iechyd wedi gwneud popeth y gallai fod wedi ei wneud i ymdrin â'r sefyllfa. Ni fyddwn yn gwybod yr ateb i'r cwestiwn hwnnw tan y byddwn yn cael canfyddiadau adroddiad yr arolygiaeth iechyd, wrth gwrs.

Prif Weinidog, rwy'n deall na ofynnwyd i’r un claf, yr un gweithiwr proffesiynol meddygol na’r un aelod o staff, roi cyfweliad ffurfiol yn ystod yr adolygiad. Mae hynny, does bosib, yn annerbyniol. A allwch chi gadarnhau y bydd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn cymryd tystiolaeth gan glinigwyr, gan gleifion ac, yn anad dim, gan unrhyw un sy'n gysylltiedig â'r ymchwiliad a ganiataodd i'r trychineb ddatblygu ac a arweiniodd yn y pen draw at y gŵr hwn yn cael ei ddedfrydu i 21 mlynedd yn y carchar?

Mae'n hollbwysig bod yr ymchwiliad yn annibynnol. Nid fy lle i yw dweud wrth Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru beth y dylent ac na ddylent ei wneud, ond rwy'n credu ei bod hi’n briodol i mi ddweud y byddwn yn disgwyl iddyn nhw gael cymaint o dystiolaeth mor eang â phosibl er mwyn i’w canfyddiadau terfynol fod mor gadarn â phosibl.

Rwy'n credu y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn dweud y byddai'n deg i chi neu'ch Llywodraeth, ar ffurf Ysgrifennydd y Cabinet, bennu’r cylch gorchwyl ar gyfer adroddiad, ymchwiliad, beth bynnag yr hoffech chi ei alw, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, oherwydd mae’n amlwg ei fod ef wedi gofyn iddyn nhw wneud hynny. Pan wnes i ddarganfod na ofynnwyd i’r un unigolyn meddygol, na ofynnwyd i’r un claf, gyflwyno tystiolaeth i'r ymchwiliad hwn, mae hynny'n anhygoel, mae'n rhaid i mi ddweud. Ac rwy’n galw arnoch i bennu cylch gorchwyl llym ar gyfer yr ymchwiliad hwn gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru fel y gall yr adroddiad y maen nhw’n ei gyflwyno i'ch Llywodraeth fwynhau hyder yr Aelodau yma, y cyhoedd ehangach, eu bod yn cael eu diogelu rhag pobl fel Kris Wade yn gweithio yn ein gwasanaeth iechyd. A wnewch chi roi'r ymrwymiad hwnnw bod y cylch gorchwyl yn ddigon cadarn o ymchwiliad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru i'r ymchwiliad hwn fel y gallwn ni fod yn hyderus bod cleifion ac aelodau'r cyhoedd yn cael eu diogelu rhag sefyllfa lle nad yw pobl fel Kris Wade byth yn gweithio yn y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru?

Yr ateb i'r cwestiwn yw 'gwnaf', wrth gwrs. Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod yr ymchwiliad ei hun (a) yn annibynnol a (b) yn gadarn. Nid wyf yn siŵr a yw'n dweud, yn y gorffennol, na chyfwelwyd digon o bobl, neu a yw hynny'n digwydd nawr, ond pa bynnag ffordd, byddaf yn sicrhau bod hynny'n cael ei ystyried i sicrhau bod y mater hwnnw'n cael sylw. Ond mae'n amlwg yn bwysig bod y canfyddiadau’n cael eu hystyried yn gadarn ac y gall pawb yn y Siambr hon eu cefnogi.

Diolch yn fawr, Llywydd. Yn nogfen y Llywodraeth, 'Brexit a Thegwch o ran Symudiad Pobl', mae'n cydnabod, yn yr arolwg agweddau cymdeithasol Prydain yn 2013, bod 86 y cant o boblogaeth y DU eisiau gweld llai o fewnfudo, ac eto polisi'r Llywodraeth yma yng Nghaerdydd, yn y ddogfen hon, yw gwrthwynebu cyflwyno unrhyw fath o darged ar gyfer lleihau mewnfudo. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos gostyngiad sylweddol i’r hyn yr ydym ni wedi ei weld yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond hyd yn oed ar y lefel mewnfudiad net o 0.25 miliwn y flwyddyn, sydd gennym ni ar hyn o bryd, byddai hynny'n ychwanegu, pe byddai’n parhau, 8 miliwn at ein poblogaeth erbyn 2032, 21 miliwn erbyn 2064, pan fyddai poblogaeth y DU yn 85 miliwn. Yn syml, nid yw hynny'n gynaliadwy. Cyn i'r Prif Weinidog ddweud, wel, mae mewnfudo’n hollbwysig ar gyfer twf economaidd, yn 2014, cynhaliodd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol astudiaeth ar effeithiau mewnfudo ar lefelau cyfredol, 0.25 miliwn net y flwyddyn. Mae hynny'n ychwanegu 0.4 y cant at CMC ond hefyd 0.4 y cant at y boblogaeth, fel na fyddai CMC fesul pen yn gwella; does fawr ddim gwahaniaeth. Onid yw'n bryd i Lywodraeth Cymru ddeffro i realiti bywyd yn y Brydain fodern?

Dylid teilwra mewnfudo yn ôl anghenion y DU. Targedau—. Mae'n artiffisial. Beth yw pwynt targedau? Gadewch i ni archwilio'r sefyllfa honno. Dywedwch, er enghraifft, ein bod ni’n dymuno recriwtio mwy o feddygon i GIG Cymru ond y dywedwyd wrthym, 'Mae'n ddrwg gennym, rydym ni wedi cyrraedd y cwota ar gyfer eleni'. Nid yw hynny’n gwneud dim synnwyr. Pam ar y ddaear fyddai hynny’n bolisi synhwyrol i unrhyw Lywodraeth ei fabwysiadu? Felly, rydym ni wedi cynnig barn ar fudo. Nid ydym yn gwybod beth yw barn Llywodraeth y DU eto. Dyma ein cynnig ni o ran sut yr ydym ni’n credu y dylai'r system edrych, ond mae'n hollbwysig, wrth gwrs, bod y polisi hwnnw’n cael ei deilwra i'r hyn sydd ei angen mewn gwirionedd ar y DU, nid targed artiffisial.

Mae'r Prif Weinidog yn gwybod nad dyna'r unig ffordd y gall targedau weithio. Yn arbennig, nid yw'r problemau sydd gennym ni ar gyfer y lefelau mewnfudo yr ydym ni’n eu dioddef ar hyn o bryd ym meysydd gweithwyr proffesiynol, fel meddygon a nyrsys, lle byddant bob amser yn gallu cymhwyso ar gyfer beth bynnag yw anghenion sgiliau'r wlad. Ond ar waelod y raddfa incwm, yn arbennig, i’r rhai â sgiliau isel neu sydd heb sgiliau, mae ffactorau sylweddol iawn ar waith sy'n gwthio’r lefelau incwm y mae pobl yn debygol o’i gael i lawr. O gofio bod Cymru'n economi cyflog isel, a’n bod ni ar waelod y raddfa incwm ar gyfer gwledydd a rhanbarthau'r DU, oni ddylem ni fod yn fwy pryderus ynghylch lleihau'r mewnlifiad o fewnfudiad pobl heb sgiliau neu â sgiliau isel er mwyn amddiffyn y rheini sydd fwyaf agored i niwed yng nghymdeithas Cymru?

Rwy'n credu bod arweinydd UKIP wedi datgelu’r gwirionedd pan ddywedodd fod mewnfudo yn rhywbeth yr ydym ni’n ei ddioddef. Mae'n rhaid i mi ddweud wrtho bod cyfran dinasyddion yr UE yng Nghymru yn isel dros ben—llawer is na 5 y cant o'r boblogaeth. Mae'n wir bod pobl yn gweithio yng Nghymru; mae hynny'n wir. Ond mae angen iddo siarad â busnesau, a fydd yn dweud wrtho bod angen iddyn nhw allu recriwtio pobl mewn llawer iawn o wahanol swyddi, rhai ohonynt yn fedrus iawn, rhai ohonynt ddim mor fedrus, ond mae angen y bobl hynny. Yr hyn yr wyf yn ei ddweud wrtho yw y dylem ni ddioddef mewnfudo, fel y byddai’n ei ddweud, ar y lefel sy'n briodol i anghenion ein heconomi. Mae'n rhaid i mi ddweud wrtho: mae'n sôn am economi cyflog isel; mae ef yn rhan o’r broses o leihau cyflogau. A wnaeth ef gefnogi'r isafswm cyflog? Naddo, ni wnaeth ef gefnogi'r isafswm cyflog. Wrth gwrs na wnaeth ef. A yw'n gefnogol o ffyrdd o orfodi'r isafswm cyflog i rwystro unrhyw un sy'n dioddef camfanteisio, ni waeth o ble y maen nhw'n dod? Nac ydy, rwy’n amau ​a yw hynny’n wir. Ni all, ar y naill law, achwyn am leihau cyflogau pan fo’i hanes ei hun yn dangos ei fod yn erbyn yr isafswm cyflog ac felly'n hapus i weld cyflogau’n cael eu gyrru at i lawr pan yr oedd mewn man arall.

Mae'r Prif Weinidog yn gwybod bod polisi fy mhlaid i o blaid yr isafswm cyflog. Yn y dyddiau pan oeddwn i'n aelod o'r Blaid Geidwadol, roedd y Blaid Geidwadol yn erbyn cyflwyno isafswm cyflog, ond mae UKIP wedi cefnogi cyflwyno isafswm cyflog erioed, ac, wrth gwrs, ni fu’r un erlyniad yng Nghymru am dorri'r ddeddfwriaeth isafswm cyflog, er ein bod ni’n gwybod bod hyn yn digwydd. Felly, nid yw Llywodraeth Cymru, er gwaethaf holl brotestiadau’r Prif Weinidog, yn gwneud dim i wneud i’w pholisi ei hun weithio. Pan ddefnyddiais y gair 'dioddef' o ran polisi mewnfudo, yr hyn yr oeddwn i’n ei olygu oedd bod graddfa a chyflymder y mewnfudo hwn yn rhoi straen enfawr ar wasanaethau cyhoeddus, ond hefyd ar incwm y rheini sydd ar waelod y raddfa incwm. Ar hyn o bryd, rydym ni mewn cyfnod o dwf economaidd, ond wrth gwrs mae'r problemau wir yn dod yn amlwg pan fydd y cylch economaidd yn gostwng. Ceir cyfoeth o astudiaethau academaidd, y cyfeirir at rai ohonynt yn y ddogfen hon, sy'n dangos—. Fel astudiaeth Banc Lloegr, er enghraifft—dangosodd fod cynnydd o 10 y cant i gyfran y mewnfudwyr sy'n gweithio mewn swyddi penodol mewn rhanbarthau penodol yn arwain at ostyngiad o 2 y cant i gyflogau. Mae hwn yn fater difrifol mewn economi lle mae enillion cyfartalog yng Nghymru ddim ond 75 y cant o rai'r DU.

Yn gyntaf oll , rwy’n synnu o’i glywed yn dweud na wnaeth sefyll fel ymgeisydd Ceidwadol ym 1997 ar sail ymrwymiad maniffesto i beidio â gwrthwynebu isafswm cyflog. Rwy’n cofio mai dyna’r achos bryd hynny, sydd wedi ei anghofio'n gyfleus nawr. Yn ail, fel y mae’n gwybod yn iawn—neu mae’n bod yn ddrygionus—nid Llywodraeth Cymru yw'r awdurdod erlyn pan ddaw i ddeddfwriaeth isafswm cyflog. Nid yw wedi'i datganoli. Mater i Lywodraeth y DU yw targedu adnoddau i’r awdurdod priodol fel y gall yr erlyniadau hynny ddigwydd. Mae'n sôn am dystiolaeth sy'n dangos bod cyflogau'n cael eu gyrru at i lawr. Ble mae'r dystiolaeth honno? Ni welaf unrhyw dystiolaeth bod hynny'n wir. Rwy’n gweld tystiolaeth o gyflogau yn cael eu gyrru at i lawr gan rai cyflogwyr sy'n ddiegwyddor. Rwy'n gweld cyflogau’n cael eu gyrru at i lawr gan bobl sy'n gweithio ar gontractau achlysurol yn y sector preifat. Rwy'n gweld cyflogau yn cael eu gyrru at i lawr gan bolisïau Llywodraeth y DU o gael gwared ar bethau fel credydau treth sy'n helpu'r rheini ar gyflogau isel, wrth gwrs, gan gyflwyno toriadau treth i’r rhai sy’n cael y cyflogau mwyaf. Nid oes yr un ohonom ni eisiau gweld cyflogau isel; rwy'n deall hynny. Ond a gaf i awgrymu iddo dargedu ei ynnau at y broblem wirioneddol yn y fan yma, sef y polisi a roddwyd ar waith gan Lywodraeth bresennol y DU?

'Brexit a Thegwch o ran Symudiad Pobl'

3. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch dogfen bolisi 'Brexit a Thegwch o ran Symudiad Pobl' Llywodraeth Cymru? (OAQ51052)

Nid ydynt wedi dymuno cael unrhyw drafodaethau, er ein bod ni wedi anfon y ddogfen atynt.

Fodd bynnag, ymddengys fod y Prif Weinidog wedi trafod gyda Phrif Weinidog yr Alban a datblygu strategaeth a dull ar y cyd â Llywodraeth yr Alban. Onid yw'r Prif Weinidog yn sylweddoli bod Cymru wedi pleidleisio 'gadael' yn y refferendwm? Dywedodd ei hun fod gan hynny lawer i'w wneud â symudiad rhydd pobl, ac eto mae ei ddogfen yma yn cefnogi symudiad rhydd pobl ym mhopeth ond enw. Yn hytrach na pharhau i fewnforio pobl i redeg ein GIG, oni ddylem ni fod yn hyfforddi pobl yma yng Nghymru, a pham, ar ôl 20 mlynedd o Lywodraeth dan arweiniad Llafur, mae'r ddogfen hon yn dweud bod angen gwneud gwaith sylweddol o hyd i gyflawni hynny?

Pam mae gennym ni dramorwyr yn ein GIG? Onid dyna’r hyn y mae'n ei ddweud, mewn gwirionedd? Dyna beth yw hyn. Mae'r gwasanaeth iechyd gwladol, fel gwasanaeth iechyd unrhyw wlad arall yn y byd datblygedig, bob amser yn dibynnu ar feddygon o wledydd eraill. Nid wyf i’n poeni o ble mae meddygon yn dod cyn belled â’u bod yn dda a’u bod yn darparu gwasanaethau ar gyfer ein pobl. Dyna sy'n cyfrif yn y pen draw. Nid oes gennyf ddiddordeb mewn gwybod ble y cawsant eu geni; mae gen i ddiddordeb yn eu sgiliau meddygol. Dyna beth sydd gen i i'w ddweud wrtho.

Ydw, rwyf i wedi siarad â Phrif Weinidog yr Alban am y mater hwn. Unwaith eto, dywedaf wrtho nad yw’r dehongliad y rhoddodd ef a'i gyn-blaid ar y bleidlais y llynedd yn ddehongliad yr wyf i’n ei rannu. Y cwbl yr ydym ni’n ei wybod yw bod pobl wedi pleidleisio i adael yr UE. Ni wnaethant bleidleisio dros Brexit caled. Rhoddwyd y cyfle iddynt bleidleisio dros Brexit caled ym mis Mehefin; ni wnaethant bleidleisio dros Brexit caled, ac felly mae'n gyfrifoldeb i bob un ohonom ni yn y Siambr hon geisio dehongli'r safbwynt yr oedd gan bobl ar hynny. Ond mae'n rhaid i mi ddweud na ddywedodd neb wrthyf i ar garreg y drws—dim un person, hyd yn oed pobl a oedd yn gefnogwyr mwyaf brwd Brexit y gallwch chi eu dychmygu—'Yr hyn sydd ei angen arnom yw llai o feddygon o dramor yn y wlad hon'. Ni ddywedodd neb hynny. Ac felly, ymgais yw hon, yn y ddogfen hon, i gyflwyno safbwynt ar sut y gellir gwneud i fudo weithio yn y dyfodol. Nid ydym wedi clywed dim gan ei blaid bresennol na'i blaid flaenorol i ychwanegu at y ddadl honno.

Prif Weinidog, pan gefais i gyfarfod â ffermwyr yn Rhymni yn ddiweddar—oes, mae ffermwyr yn Rhymni—fe wnaethom drafod nifer o faterion yn ymwneud â Brexit, a'i effaith bosibl ar yr economi wledig, ac yn groes i'r awgrymiadau yng nghwestiwn Neil Hamilton yn gynharach, un pryder a oedd ganddynt oedd eu hanallu i allu recriwtio llafur yn lleol—llafur achlysurol, llafur tymhorol—gan arwain at eu dibyniaeth ar ffrwd gyson o lafur mudol yr UE. A fyddech chi'n cytuno â mi fod angen i lafur tymhorol o'r UE wedi’i reoleiddio fod ar gael mewn unrhyw gytundeb ar symudiad pobl ar ôl Brexit?

Wel, mae'n hynod bwysig. Gwyddom, fel arall, y bydd prinder llafur difrifol yn y diwydiant amaethyddol, ac mae hynny'n rhywbeth nad yw Llywodraeth y DU wedi mynd i'r afael ag ef yn briodol eto. Mae'n dod yn ôl i'r pwynt yma eto: rydym ni angen polisi mewnfudo sy'n synhwyrol, sy’n deg, sy’n gytbwys, ac rydym ni’n credu, yn y ddogfen yr ydym ni wedi ei llunio ar Brexit a mewnfudo, ein bod ni wedi gwneud yn union hynny. Nid wyf yn derbyn bod pobl wedi pleidleisio i adael yr UE ac yna penderfynu adeiladu ffens ddychmygol na gwirioneddol o gwmpas y DU gan ar yr un pryd, wrth gwrs, gyda llaw, cadw'r ffin agored gyda'r UE yng Ngweriniaeth Iwerddon, sy’n rhywbeth nad yw wedi ei ddatrys. Felly, mae hon yn ffordd ymlaen yr ydym ni’n credu sy’n synhwyrol, yn deg, ac yn bodloni dymuniadau pobl Cymru a fynegwyd yn y refferendwm y llynedd.

Onid yw'r Prif Weinidog yn gweld efallai bod y rhesymau pam mae’n ymddangos ein bod ni’n ddibynnol ar weithwyr mudol yn ddeublyg? Yn gyntaf, prin yw’r cymhelliad i hyfforddi pobl leol ar gyfer swyddi pan ei bod yn hawdd iddyn nhw fewnforio gweithwyr parod a chymwysedig. Ac, yn ail, mae tâl ac amodau mor wael mai dim ond gweithiwr mudol o wlad sydd â safonau byw sy'n waeth na'n rhai ni sy'n barod i ddioddef camfanteisio fel hyn. Beth ydych chi'n mynd i’w wneud i wrthdroi'r ddibyniaeth ar weithwyr yr UE a gweithwyr mudol?

Wel, yn gyntaf oll, rydym ni i gyd eisiau gweld tâl ac amodau gwell, ac mae'n hynod bwysig ein bod ni’n gweld cyflog byw priodol yn cael ei gyflwyno ar draws ein heconomi, yn y sector preifat hefyd, ac mae’n bwysig bod gennym ni Lywodraeth y DU sy’n cydnabod pwysigrwydd hynny. Ond nid oes gen i obsesiwn â'r syniad mai’r hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud yw taflu cymaint o weithwyr tramor allan â phosibl, sef yr hyn y mae hi'n ei ddweud i bob pwrpas. Ac nid yw pobl Cymru yn rhannu’r dehongliad hwnnw, fel y dangosir gan y ffaith fod ei phlaid—nid wyf yn gwybod a yw hi'n dal yn y blaid ai peidio—wedi ennill canran mor isel o'r bleidlais yn yr etholiad. Onid yw'n dweud rhywbeth wrthych chi nad yw pobl Cymru yn cefnogi'r math o Brexit yr ydych chi'n ei gefnogi, a’n bod ni wedi gweld hynny ym mis Mehefin?

Llafur Dan Orfod

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â llafur dan orfod yng Nghymru? (OAQ51050)

Gwnaf. Rydym ni wedi ymrwymo i weithio gyda chomisiynwyr yr heddlu a throseddu a phartneriaid i fynd i'r afael â chaethwasiaeth, sy'n cynnwys llafur dan orfod. Ym mis Mawrth, lansiwyd ein cod ymarfer cyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi i wneud cadwyni cyflenwi yn dryloyw ac atal camfanteisio ar weithwyr—sy’n torri tir newydd, yn wir, i Gymru ac i'r DU.

Diolchaf i chi am yr ateb yna. Dywedodd yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn ddiweddar bod caethwasiaeth fodern neu lafur dan orfod mor gyffredin erbyn hyn fel bod pobl gyffredin yn debygol o ddod i gysylltiad heb yn wybod â dioddefwyr bob un dydd, a bod y dioddefwyr hynny i'w gweld yn y diwydiannau allweddol, gan dynnu sylw penodol at amaethyddiaeth, gofal cartref a chymdeithasol, pysgota, prosesu bwyd, golchi ceir, ac adeiladu. Ar hyn o bryd, o dan Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015, dim ond cwmnïau â throsiant blynyddol o £36 miliwn y flwyddyn y mae'n rhaid iddynt ddatgan pa gamau maen nhw wedi eu cymryd i atal caethwasiaeth yn eu cadwyni cyflenwi. Rwy'n credu y byddwch chi’n cytuno nad yw'r rhan fwyaf o gwmnïau yng Nghymru yn cyrraedd y trothwy. Felly, Prif Weinidog, pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda chydgysylltydd gwrth-gaethwasiaeth Cymru am ei gynigion ar gyfer cod ymarfer y gallai cwmnïau gytuno i gyd-fynd ag ef yn wirfoddol?

Wel, lansiwyd y cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol a chadwyni cyflenwi gennym ym mis Mawrth. Ei nod oedd cynorthwyo busnesau i wneud cadwyni cyflenwi yn dryloyw ac i atal gweithwyr rhag dioddef camfanteisio. Fel y dywedais, mae hynny’n torri tir newydd i Gymru a'r DU. Gwn fod grŵp arweinyddiaeth gwrth-gaethwasiaeth Cymru yn codi'r broblem o gaethwasiaeth trwy hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth, oherwydd—a gwn ei bod hi’n angerddol ynglŷn â hyn—rydym ni eisiau sicrhau bod Cymru’n elyniaethus i gaethwasiaeth.

Prif Weinidog, mae cydgysylltydd gwrth-gaethwasiaeth Cymru, Stephen Chapman, wedi cyfaddef y gallai fod achosion o gaethwasiaeth fodern yn sector gofal cymdeithasol Cymru. Mae wedi dweud bod hyn yn digwydd yn rhywle. Ar draws sector mor fawr yng Nghymru, mae’n bosibl iawn y gallai problemau fod ymhellach i lawr y gadwyn gyflenwi gyhoeddus. Pa gamau ydych chi'n eu cymryd i sicrhau, lle mae gwasanaethau'n cael eu darparu gan ein cyrff cyhoeddus yng Nghymru, y ceir mesur pendant a chadarn i atal unrhyw fath o gaethwasiaeth fodern yng Nghymru?

Wel, drwy'r hyfforddiant, wrth gwrs, yr wyf i wedi nodi eisoes y mae’r grŵp arweinyddiaeth wedi ei ddatblygu, ac yn ail, wrth gwrs, drwy'r cod ymarfer ei hun. Gwn fod y cydgysylltydd yn angerddol o ran sicrhau ein bod ni'n gyrru caethwasiaeth allan, hyd yn oed lle mae'n gudd, wrth gwrs, mewn rhai sefydliadau. Mae'n sôn am y sector gofal cymdeithasol. Nid oedd yn honni bod ganddi dystiolaeth, er tegwch, bod hynny’n digwydd, ond roedd hi'n dyfynnu’r hyn a allai fod yn digwydd yng Nghymru. Rydym ni’n gweithio'n agos iawn gyda'r cydgysylltydd i sicrhau bod Cymru, fel y dywedais, yn elyniaethus i gaethwasiaeth.

Prif Weinidog, tynnais eich sylw ychydig amser yn ôl at hanes y mewnfudwyr hynny sy’n cael eu gorfodi i weithio yn y diwydiant glanhau ceir. Nodais eu bod nhw’n gweithio am lai na £3.50 yr awr, 10 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos—o dan amodau llafur caethweision i bob pwrpas. Eich ateb ar y pryd oedd nad oedd hyn yn rhan o gylch gwaith Llywodraeth Cymru. Wel, o gofio bod problem llafur caethweision yng Nghymru yn un sy’n tyfu—adroddwyd am 47 o achosion yn 2014, 71 yn 2015 a 124 o achosion yn 2016—onid yw'n ddyletswydd nawr ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio ei holl bwerau i ymyrryd, gan gynnwys ysgogi llywodraeth leol i archwilio'r posibilrwydd o gau'r cyfleusterau ysgeler hyn?

Wel, mae’r grym hwnnw gan lywodraeth leol eisoes, wrth gwrs, o ran ei hymrwymiadau safonau masnach. Os oes gan yr Aelod dystiolaeth bod hynny'n digwydd, byddaf yn falch o edrych ar y dystiolaeth honno ac yna ei rhannu gyda’r awdurdod erlyn priodol. Mae'r hyn y mae'n ei ddisgrifio yn annerbyniol, ond mae'n hollbwysig bod tystiolaeth ar gael i allu bwrw ymlaen â hyn, yn y pen draw, neu gyda’r gobaith, wrth gwrs, o erlyniad llwyddiannus.

Tirlithriad yn Mhant-teg

5. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r tirlithriad diweddar yn ardal Pant-teg, Ystalyfera? (OAQ51011)

Rwy’n gwybod bod yna gyfarfod ar 22 Awst lle roedd swyddogion y Llywodraeth wedi ymuno â chyngor Castell-nedd Port Talbot er mwyn ystyried y ffordd ymlaen. Byddwn ni, wrth gwrs, fel Llywodraeth yn ystyried unrhyw beth mae’r cyngor yn ei ddweud pan fyddant yn rhoi sylwadau i ni, fel cafodd ei gytuno yn y cyfarfod, rwy’n deall.

Diolch am yr ateb yna. Roedd rhai ohonom ni yn rhan o’r cyfarfodydd yna hefyd. Ond mae’n wir i ddweud bod y digwyddiad yma, y tirlithriad yma, wedi bod yn dipyn o ergyd i deuluoedd yn lleol, ac wedi creu cryn dipyn o ansicrwydd hefyd yn ardal Ystalyfera. Gan fod hyn yn ddigwyddiad anarferol iawn, heb ei debyg, a wnewch chi fel Llywodraeth Cymru wneud ymrwymiad cyhoeddus heddiw i roi help ariannol ychwanegol i gyngor Castell-nedd Port Talbot i ddelio efo’r mater, yn ogystal ag unrhyw gronfeydd Ewropeaidd sydd yn agored i ni i ddelio efo’r sefyllfa unigryw yma?

Gallaf i ddeall, wrth gwrs, fel mae’r teuluoedd yn teimlo o achos y ffaith maen nhw’n gorfod wynebu rhywbeth fel hyn. Yn y cyfarfod ym mis Awst, y cytundeb oedd y byddai’r cyngor yn dod nôl i ni gyda’r manylion. Nid yw hynny wedi digwydd eto. Unwaith mae hynny’n digwydd, wrth gwrs, gallwn ni ystyried a thrafod y peth ymhellach.

Diolchaf i Dai Lloyd am ddod â'r cwestiwn hwn i chi y prynhawn yma, Prif Weinidog. Bu hanes o dirlithriadau yn y rhan arbennig honno o'm hetholaeth i. Mae'r perygl newydd yn deillio o dirlithriadau mewn ardaloedd yr ystyriwyd cynt eu bod yn rhai risg isel. Byddwch yn deall pryder yr aelwydydd y gofynnwyd iddynt adael eu cartrefi, a'r pryder a deimlir gan y gymuned ehangach, yn enwedig wrth i’r cyngor ailasesu'r perygl yn yr ardal yn gyffredinol. Byddem yn croesawu unrhyw gefnogaeth y gall Llywodraeth Cymru ei rhoi, i'r gymuned a'r cyngor, i ddatrys y mater hwn, a hefyd, efallai, o gofio bod nifer o fuddiannau portffolio'r Llywodraeth yn rhan o hyn, i gael dull cydgysylltiedig o ran y cymorth y gall Llywodraeth Cymru ei ddarparu.

Nid yw'n eglur eto beth fyddai natur y cymorth hwnnw, a dyna pam yr ydym ni’n edrych ymlaen at dderbyn y sylwadau gan y cyngor, er mwyn i ni ystyried hyn ymhellach. Ond cyn belled ag y mae’r bobl yno yn y cwestiwn, gallaf ddeall yn iawn eu bod nhw eisiau cael sicrwydd cyn gynted â phosibl. Rydym ni’n awyddus i wneud hynny a byddwn yn parhau i weithio gyda'r cyngor er mwyn cyflawni hynny.

Efallai bod maes lle gall Llywodraeth Cymru roi cymorth ar unwaith, a dyma fe: efallai y byddwch chi'n cofio, yn y cyfarfod y cyfeiriwyd ato'n gynharach, y daeth adroddiad annibynnol i'r amlwg a awgrymodd mai'r ardal sydd wedi’i heffeithio oedd y lleiaf tebygol o ddioddef tirlithriad neu lithriad, ac aeth natur yn groes i'r adroddiad hwnnw. Felly, efallai y bydd lle yma i Lywodraeth Cymru allu helpu Castell-nedd Port Talbot ddiffinio'r cylch gorchwyl ar gyfer yr adroddiad newydd sy'n cael ei gomisiynu, er mwyn darganfod a yw'r 150 o gartrefi sydd o bosibl mewn perygl erbyn hyn mewn perygl mewn gwirionedd, ac mae hynny'n rhywbeth sy’n ychwanegol at y cymorth ariannol y mae Dai Lloyd wedi ei awgrymu. Felly, mae hwnnw'n gymorth penodol iawn yr wyf i’n credu y gallwch chi ei roi yn gynnar.

Rydym ni’n fodlon gweithio gyda'r cyngor, wrth gwrs, i weld pa gymorth y gallwn ni ei ddarparu o ran comisiynu unrhyw adroddiad newydd. Ac eto, rydym ni’n disgwyl sylwadau'r cyngor yn hynny o beth.

Rhwydwaith Metro i Fae Abertawe

6. A wnaiff y Prif Weinidog gomisiynu astudiaeth ddichonoldeb cam cynnar lawn o rwydwaith metro i Fae Abertawe? (OAQ51049)

Rydym ni wedi ariannu gwaith datblygu ar gysyniad amlinellol metro ar gyfer de-orllewin Cymru yn y flwyddyn ariannol hon, drwy'r gronfa drafnidiaeth leol. Mae cyngor sir Abertawe—Dinas a Sir Abertawe ddylwn i ddweud—yn cydgysylltu’r gwaith hwn mewn partneriaeth â'r awdurdodau lleol eraill yn y de-orllewin ac mae'r prosiect yn datblygu'n dda.

Diolch, Prif Weinidog. Gan fod Llywodraeth Theresa May wedi cefnu ar ei haddewid i drydaneiddo’r rheilffordd i Abertawe a'r gorllewin, mae hyn wedi rhoi pwyslais pendant ar gysylltedd holl ddinas-ranbarth bae Abertawe. Rwy’n croesawu’r gefnogaeth i’r cysyniad ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus modern, cydgysylltiedig. Rwy'n credu mai’r hyn y mae angen i ni ei weld nawr yw astudiaeth o ddichonoldeb fanwl fel y gallwn ddeall yn iawn sut y gall cymunedau yn etholaeth Llanelli gysylltu â chymunedau eraill ar draws y dinas-ranbarth trwy reilffordd, bysiau a theithio llesol.

Mae'r prosiect wedi dechrau'n dda. Cynhaliwyd gweithdy gyda swyddogion cynllunio rhanbarthol ym mis Mai. Roedd yn darparu’r fframwaith ar gyfer y cysyniadau sy'n dod i'r amlwg. Mae'r gwaith hwnnw'n parhau. Ond ydw, rwy’n rhannu siom yr Aelod at dorri addewid gan Lywodraeth y DU i drydaneiddio’r brif reilffordd cyn belled ag Abertawe. Rwy'n cofio’n iawn yr Ysgrifennydd Gwladol ar y pryd, Cheryl Green—. Cheryl Green? Cheryl Gillan. Cheryl Green yw arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol ym Mhen-y-bont ar Ogwr—dyna ni. Cheryl Gillan. Wnaiff hi ddim maddau i mi am hynna, Cheryl Gillan—yr un o’r ddwy ohonyn nhw, rwy’n amau. Ond rwy'n ei chofio’n iawn yn dweud ei bod y tu hwnt i amheuaeth y byddai'r rheilffordd yn cael ei thrydaneiddio mor bell ag Abertawe—ac mae'r arian wedi mynd. Bydd y bobl sy'n chwilio amdano, rwy’n amau, yn dod o hyd iddo yn Belfast.

Rwy'n falch bod cefnogaeth gynyddol i'r syniad hwn. Mae'n rhywbeth y mae Mike Hedges wedi ei godi yn y Siambr o'r blaen ac yn rhywbeth yr wyf i wedi siarad amdano hefyd. Pan wnaethom ni gyfarfod â'r bwrdd cysgodol fel grŵp o Aelodau Cynulliad lleol fis Rhagfyr diwethaf, dywedasant nad oedd seilwaith trafnidiaeth yn rhan o'u syniadau o ran y bargeinion dinesig. Rwy'n falch bod pethau wedi symud ymlaen ar hynny. Ond mae'n rhywbeth yr wyf i hefyd wedi ei grybwyll i Gymdeithas Porthladdoedd Prydain, sy'n effeithio ar nifer o'r etholaethau yn ardal y fargen, sydd â hanes cryf o ran logisteg ac y mae’n ymddangos nad yw’n chwarae unrhyw ran yn y drafodaeth bargen ddinesig o gwbl. Felly, rwy’n meddwl tybed, pe byddai astudiaeth o ddichonoldeb yn cael ei chomisiynu, a fydd yn cynnwys lle i'r porthladdoedd yn ardal y fargen, ac a fydd lle yn y fargen ddinesig ar gyfer unrhyw ganfyddiadau o'r adroddiad hwnnw, hyd yn oed o dderbyn bod y cymorth ariannol i’r fargen ddinesig yn eithaf hael?

Mae’n rhaid i ni gofio, wrth gwrs, bod y fargen ddinesig yn cael ei hysgogi gan awdurdodau lleol ac nid gennym ni. Mae'n bartneriaeth rhwng Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, ond cyfrifoldeb awdurdodau lleol drwy gydweithio yw blaenoriaethu ac ymgysylltu. Fodd bynnag, yr hyn a wnaf yw rhannu eu sylwadau â'r awdurdodau lleol a gofyn iddyn nhw beth maen nhw'n ei wneud i ymgysylltu ag ABP yn benodol—mae wedi gofyn am hynny—a byddaf, wrth gwrs, yn rhannu'r ymateb hwnnw gyda hi.

Ymhellach i’r egwyddor o sefydlu metro, a ydych chi’n cytuno fod hyn yn gyfle i ni greu, fel man cychwyn, system fysys sydd wedi’i rheoli a’i delifro gan gynghorau lleol yn hytrach na chwmnïau bysys preifat?

Ydw. Wrth gwrs, fe fydd y pwerau yn dod i ni yn ystod y misoedd nesaf, a bydd cyfle wedyn i ystyried ym mha ffordd y dylai bysiau gael eu rheoli. Rydym yn gwybod, wrth gwrs, fod yna achos cryf dros sicrhau bod system yn cael ei ailsefydlu lle mae’n bosib i gynghorau redeg gwasanaethau yn y pen draw—eu hunain neu drwy ddefnyddio ‘franchise’. Ond, wrth gwrs, rydym ni’n moyn sicrhau bod mwy o reolaeth dros fysiau lleol na sydd wedi bod yn wir yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Ategaf y sylwadau a wnaeth Dai Lloyd am bwysigrwydd bysiau i'r rhai ohonom ni ag etholaethau nad ydynt yn realistig yn mynd i gael eu gwasanaethu gan unrhyw ateb ymarferol rheilffordd yn unig. A wnaiff ef ymrwymo bod unrhyw astudiaeth o ddichonoldeb a gomisiynir hefyd yn ystyried y defnydd o dechnoleg fodern? Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi wedi bod yn edrych yn ei waith ar dagfeydd bws ar ddefnyddio technoleg i sicrhau y gall bysiau weithredu mewn system wirioneddol integredig. A fyddai unrhyw astudiaeth o ddichonoldeb yn adlewyrchu'r egwyddorion hynny hefyd?

Bydd, bydd angen iddi. Ceir nifer o ffyrdd y gallwch chi ddarparu metro: rhai fel rheilffyrdd trwm, rhai fel rheilffyrdd ysgafn, bysiau cyflym a’r posibilrwydd o lonydd bysiau penodedig. Ceir llawer iawn o ffyrdd lle gellir cyflwyno system metro ac mae'n hynod bwysig bod unrhyw astudiaeth yn gallu ystyried technoleg fodern sy'n dod i'r amlwg, yn enwedig er mwyn hwyluso dewisiadau cludiant cyflymach i'r cyhoedd.

Hawliau Pobl Anabl

7. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddiogelu a hyrwyddo hawliau pobl anabl yng Nghymru? (OAQ51039)

Mae ein fframwaith ar gyfer gweithredu ar fyw'n annibynnol wrthi’n cael ei adolygu ar hyn o bryd. Rydym ni wedi cydweithio'n agos â phobl anabl a sefydliadau anabledd ledled Cymru i sicrhau ein bod ni’n gwneud cynnydd pendant i hybu a diogelu hawliau pobl anabl ac, wrth gwrs, mae hynny'n rhywbeth y byddwn ni’n parhau i’w wneud yn y dyfodol.

Diolch, Prif Weinidog. Mae Theresia Degener, cadeirydd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau, wedi ei alw'n 'drychineb dynol', yn dilyn eu hymchwiliad i'r ffordd y mae'r DU yn trin ei dinasyddion anabl. Mae Atos a Capita, y mae Llywodraeth y DU wedi eu gwneud yn gyfrifol am gynnal asesiadau taliadau annibynnol personol, wedi ennill dros £0.5 biliwn o arian cyhoeddus ers 2013, tra bod dros 61 y cant o'r rheini a apeliodd yn erbyn eu hasesiadau PIP yn eu hachosion tribiwnlys wedi ennill eu hachos. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynorthwyo pobl anabl yng Nghymru yn ystod y gostyngiadau digynsail i’w hincwm gan Lywodraeth y DU?

Wel, ni allwn wrthdroi'r hyn y mae Llywodraeth y DU wedi ei wneud. Ni allaf anghytuno â'r defnydd o'r ymadrodd 'trychineb dynol'. Mae rhywbeth o'i le gyda'r system lle mae 61 y cant o achosion yn cael eu hapelio'n llwyddiannus. Mae rhywbeth o'i le arni. Mae'r gyfradd apêl honno'n llawer iawn uwch nag y byddech chi'n ei chael yn y llysoedd troseddol ac yn llawer uwch nag y byddech chi'n ei gael mewn mannau eraill. Mae hynny'n arwydd bod yr asesiadau cychwynnol, a bod yn blaen, yn anghywir ar y cyfan, ac os yw'r asesiadau'n anghywir mae'r system wedi torri. Mae hyn yn rhywbeth i Lywodraeth y DU ymdrin ag ef. Byddwn yn parhau i weithio, wrth gwrs, gyda phobl anabl, fel y dywedais, a sefydliadau anabledd, i weithredu fel eu heiriolwr wrth wrthdroi system sy’n amlwg ddim yn gweithio.

Yn amlwg, mae hwnnw'n fater y mae'r grŵp trawsbleidiol ar anabledd hefyd wedi bod yn casglu tystiolaeth arno. Rwy'n credu bod 80 y cant o apeliadau gan bobl â nam ar y synhwyrau yn llwyddiannus, sy’n dangos y broblem yr ydym yn ei hwynebu. Felly, rydym ni’n rhannu eich pryder ynghylch y mater hwn. Ond mewn cyfarfod grŵp trawsbleidiol ar anabledd yn y gogledd ym mis Mehefin, ac yn yr un modd mewn cyfarfod o’r grŵp awtistiaeth trawsbleidiol yn y gogledd ym mis Medi, codwyd pryderon gyda ni gan gynrychiolwyr pobl anabl leol a phobl anabl leol eu hunain ynghylch cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer grant byw'n annibynnol Cymru. Fel y gwyddoch, bu gennych gynllun dros dro gydag awdurdodau lleol ers iddo gael ei drosglwyddo i Lywodraeth Cymru gan Lywodraeth y DU. Cyhoeddwyd gennych y bydd cyfrifoldeb a chyllid yn cael ei drosglwyddo i awdurdodau lleol o 2018-19. Mae pobl anabl yn bryderus y bydd hynny'n atal eu gallu i fyw'n annibynnol a chefnogi eu lefel uchel o anghenion gofal a chymorth. Pa sicrwydd allwch chi ei roi iddyn nhw, felly, y bydd mesurau diogelu ar waith i sicrhau bod yr arian yn mynd i’r lle y bwriedir iddo fynd, y bydd asesiadau'n dal i gael eu cynnal ar sail sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn gyda derbynwyr y grant, ac mai pobl anabl eu hunain fydd y llais arweiniol gydag awdurdodau o ran canfod eu hanghenion?

Byddem yn disgwyl i awdurdodau lleol, wrth gwrs, gyflawni eu rhwymedigaethau i bobl anabl a rhoi digon o arian o'r neilltu i’w hanghenion ariannol gael eu cydnabod a'u bodloni. Wrth gwrs, mae awdurdodau lleol yn atebol i'w hetholwyr os byddant yn dilyn polisïau y mae'r etholaeth yn credu eu bod yn annerbyniol.

Mae symiau bychan o arian yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i rai teuluoedd sydd â phlant neu blentyn anabl. Rwyf wedi sôn am rai enghreifftiau penodol yn y Siambr yma cyn heddiw o deuluoedd yn fy etholaeth i sydd wedi elwa ar grantiau bychan, gan helpu i wella ansawdd bywydau plant anabl, gan gynnwys gwella iechyd meddwl, cryfhau perthynas deuluol a chynyddu cyfleoedd hamdden. A ydych chi’n cytuno â mi fod yr arian y mae’r Llywodraeth yn ei ddarparu i’r ‘family fund’ yn ffynhonnell werthfawr o gymorth, ac y dylid ei gynnal o dros y blynyddoedd nesaf?

Rŷm ni’n deall, wrth gwrs, fod yna gronfeydd sy’n gwneud lot fawr o wahaniaeth i’r gorau i fywydau pobl. Yn anffodus—ac nid wyf yn sôn am y gronfa hon yn uniongyrchol—rydym wedi gweld toriadau yn ein cyllideb ni, ac mae yna benderfyniadau anodd sy’n gorfod cael eu gwneud yn ystod blwyddyn ariannol. Ond rydym ni’n moyn sicrhau ein bod ni’n gallu blaenoriaethu beth sy’n gweithio a beth sydd â’r lles mwyaf i deuluoedd. Hynny fydd yn ein harwain ni fel Llywodraeth dros yr wythnosau cyn bod y gyllideb derfynol yn cael ei chyhoeddi.

Bargen Ddinesig Bae Abertawe

8. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fargen ddinesig Bae Abertawe? (OAQ51002)

Mae'n gwneud cynnydd da, gan ddatblygu'r cynigion a fydd yn datgloi cyllid y Llywodraeth.

Diolch am yr ateb yna. Yn ddiweddarach heddiw, wrth gwrs, byddwn yn trafod yr adolygiad seneddol ar iechyd a gofal cymdeithasol, sydd eisoes wedi nodi potensial technoleg gwybodaeth a thechnoleg gwyddor bywyd arall na fanteisiwyd arno’n llawn o ran diwygio'r gwasanaethau hynny, ac i mi, mae hyn yn cyfeirio’n uniongyrchol at fargen ddinesig bae Abertawe. Pa drafodaethau diweddar ydych chi wedi eu cael gyda'r arweinwyr llywodraeth leol ynglŷn â phennu'r strwythur llywodraethu, gyda chynrychiolaeth gytbwys o'r sector preifat—soniasoch am y porthladdoedd yn gynharach—fel y gallwn weld rhywfaint o weithgarwch cyflymach ar y fargen?

Materion i awdurdodau lleol yw’r rhain yn y pen draw, fel y dywedais, ond rwy'n ffyddiog bod y strwythur llywodraethu sydd ganddyn nhw ar waith yn briodol ac yn effeithiol, a byddwn yn gweithio gyda nhw, fel y bydd Llywodraeth y DU, i barhau i ddarparu’r fargen ddinesig. Mae’n rhaid i mi ddweud mai’r hyn fydd yn hynod bwysig o ran darparu ar gyfer Abertawe fydd cyflwyno morlyn llanw bae Abertawe. Ac er ein bod ni’n gwybod bod adolygiad annibynnol wedi dweud y dylai symud ymlaen, nid ydym wedi gweld unrhyw gamau gan Lywodraeth y DU o hyd. Rwy'n siŵr ei bod hithau'n rhannu'r rhwystredigaeth hon hefyd. Mae hyn wedi bod yn fisoedd ar fisoedd ar fisoedd ar fisoedd heb—. Hynny yw, nid yw hon yn enghraifft ar ei phen ei hun, ydy hi, pan na wnaed unrhyw benderfyniad am brosiect a fyddai'n darparu 1,000 o swyddi ac a fyddai’n helpu i adfywio llawer o'n porthladdoedd? Byddai hynny o gymorth mawr i ardal bae Abertawe, gan weithio, wrth gwrs, ar y cyd, â’r fargen ddinesig ei hun.

Jest ar y pwynt yna, mae datblygiad y morlyn llanw hefyd yn mynd i gyfoethogi cyfleoedd ar gyfer porthladdoedd, rwy’n meddwl, yn ardal dinas-ranbarth bae Abertawe. Roeddwn i’n falch o fod mewn derbyniad wythnos diwethaf yn San Steffan gyda’r Gweinidog, Ken Skates, a oedd yn trafod y cyfleoedd ar gyfer ein porthladdoedd ni. Pa mor bwysig yw e fod ynni o’r môr, pa bynnag ffordd mae’n cael ei ddatblygu, yn rhan o gryfhau y cyfleoedd ar gyfer porthladdoedd, a chyfleoedd hefyd i gyfoethogi cytundeb bae Abertawe?

Hollbwysig, achos rydym yn gwybod, wrth gwrs, os bydd ynni yn cael ei greu yn y môr mae’n rhaid cael lleoedd lle mae modd cynhyrchu y peirianwaith ac i sicrhau bod y peirianwaith yn cael ei gynnal hefyd. Ac, wrth gwrs, mae yna gyfleon yn fanna i borthladdoedd fel Port Talbot, er mwyn creu swyddi yn fanna, er mwyn ailadeiladu rhai rhannau o’r dociau ym Mhort Talbot. Ond nid oes ateb gyda ni eto gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ac mae’n hollbwysig eu bod nhw’n sylweddoli taw hyn yw’r ffordd ymlaen ynglŷn â chreu ynni, ynni gwyrdd, taw hyn yw’r ffordd ymlaen ynglŷn â chreu swyddi yma yng Nghymru, ond mae’n rhaid i ni gael ateb, ac ateb positif, wrthyn nhw.

3. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf ar ein agenda ni yw’r datganiad busnes, ac rwy’n galw ar arweinydd y tŷ, Jane Hutt, i wneud y datganiad.

Diolch, Llywydd. Fel y bydd yr Aelodau yn gweld, mae gennyf nifer o newidiadau i agenda heddiw. Bydd y Prif Weinidog yn gwneud datganiadau yn fuan ar 'Ffyniant i Bawb—Y Strategaeth Genedlaethol', ac yn dilyn hynny, bydd datganiad ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael). Yna bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn cyflwyno datganiad ar bapur polisi Llywodraeth Cymru, ‘Brexit a Thegwch o ran Symudiad Pobl’. Yn olaf, bydd y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud datganiad ar y cynllun cyflawni ar gyfer rheoli tybaco 2017-2020. Ac mae'r busnes am y tair wythnos nesaf fel y dangosir ar y datganiad busnes a'r cyhoeddiad a welir ym mhapurau’r cyfarfod sydd ar gael yn electronig i'r Aelodau.

Arweinydd y tŷ, a oes modd cael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet â chyfrifoldeb dros drafnidiaeth am y gwelliannau ar ffordd Blaenau'r Cymoedd, ac rwy’n defnyddio'r gair 'gwelliannau', oherwydd yn amlwg pan fydd y gwaith wedi'i gwblhau bydd yn welliant sylweddol ar y cyfleoedd trafnidiaeth sydd gan fusnesau yn y rhan arbennig honno o’r byd. Ond yn ddiweddar, mae busnesau o fy rhanbarth i fy hun wedi bod yn dod ataf yn tynnu sylw at ffyrdd wedi’u cau, ciwiau ar y ffyrdd, tagfeydd traffig ac ati yn y rhan hon o'r rhwydwaith ffyrdd yng Nghymru. Mae hyn wedi cael effaith uniongyrchol ar eu proffidioldeb ac, yn wir, eu gallu i ehangu oherwydd eu bod ar ddeall bod y gwaith adeiladu ar ei hôl hi’n sylweddol, ac y bydd y cyfnod cyn i’r gwaith ddod i ben yn sylweddol hwy. Rwyf i wedi clywed enghreifftiau o 12 i 18 mis yn hwy, ac felly dyna pam yr wyf i’n gofyn am ddatganiad fel y gallwn ni gael eglurhad o sut yn union y mae'r gwaith adeiladu yn mynd rhagddo. A yw'r prosiect wedi aros o fewn y gyllideb? Ac, yn bwysicaf oll, pa ffydd y gall Ysgrifennydd y Cabinet ei roi i fusnesau yn y de-ddwyrain fod y gwaith yn mynd rhagddo yn unol â’r amserlen, ac er bod hyn yn achosi problemau byrdymor, y dylid goddef hynny i ryw raddau ac y bydd y manteision hirdymor yn werth y boen yn y pen draw? Ond, ar hyn o bryd, mae llawer o fusnesau yn y de-ddwyrain, ac yn enwedig yng Nghanol De Cymru, o’r farn eu bod yn dioddef y boen heb unrhyw arwydd o ddatrysiad yn y pen draw. Pe byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu rhoi datganiad am gynnydd y gwaith, byddwn i’n gwerthfawrogi hynny'n fawr iawn.

Byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn fodlon ysgrifennu at yr Aelodau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddyn nhw am yr amserlen. Yn sicr, ar ôl teithio, yn wir, ar y rhan newydd wych sy'n mynd â chi y tu hwnt i Lynebwy a gweld unwaith eto sut y mae buddsoddiad cronfeydd Ewropeaidd—rydych chi'n gweld yr arwydd mawr, 'Wedi'i ariannu gan gronfeydd strwythurol yr Undeb Ewropeaidd', ac mae'n amlwg bod y gwelliannau yn gwneud gwahaniaeth mawr yn barod. Ond o ran y rhan olaf o’r ffordd, a oedd bob amser yn mynd i fod y rhan anoddaf o ran peirianneg, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am yr amserlen ddiweddaraf.

A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd ynghylch unrhyw gynnydd a wnaed ar sefydlu'r ymchwiliad cyhoeddus i waed halogedig ac a fu unrhyw gysylltiad rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan ar y mater hwn?

Yn gynharach yn y mis hwn, roeddwn i’n falch o fynd i gyfarfod grŵp hollbleidiol San Steffan ar waed halogedig, dan gadeiryddiaeth Diana Johnson AS, i weld a oedd unrhyw ffordd o gael rhyw fath o safbwynt unedig rhwng Cymru a'r ASau yn San Steffan. Yng Nghymru, yn sicr, mae'r grŵp trawsbleidiol, Hemoffilia Cymru a Llywodraeth Cymru i gyd yn y bôn yn canu’r un gân: bod arnom eisiau ymchwiliad cyhoeddus dan arweiniad barnwr—ymchwiliad statudol—dan Ddeddf Ymchwiliadau 2005, ond ymddengys bod ansicrwydd ynghylch yr hyn sy'n digwydd yn San Steffan mewn gwirionedd. Felly, tybed a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd roi datganiad i ddweud wrthym beth yw'r sefyllfa hyd y gŵyr ef.

Diolch i Julie Morgan am y cwestiwn yna, a hefyd am roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ei hymgysylltiad gweithredol iawn drwy fynd i gyfarfod o’r grŵp trawsbleidiol yn Llundain lle, wrth gwrs, mae Hemoffilia Cymru wedi bod yn ddylanwadol iawn o ran gweithio gyda sefydliadau sy'n cynrychioli pobl sydd wedi dioddef, o ganlyniad i'r gwaed halogedig. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ei gwneud yn glir y dylai'r ymchwiliad edrych yn fanwl ar bob elfen er mwyn datgelu’r gwir ynghylch yr hyn a ddigwyddodd. Mae Vaughan Gething wedi ysgrifennu at yr Adran Iechyd, yn cefnogi'r alwad am ymholiad o dan Ddeddf Ymchwiliadau 2005, i ennyn hyder y rhai hynny y mae'n ceisio eu gwasanaethu. Deallaf fod ymgynghoriad y DU wedi ei ymestyn i 18 Hydref i alluogi pawb yr effeithiwyd arnyn nhw, i fynegi eu barn.

Rydw i’n ymwybodol bod yna ddadl yfory, neu drafodaeth bolisi o gwmpas cael gwared ar y cynghorau iechyd cymunedol, ond mae’r pwynt rydw i eisiau codi’n ymwneud yn fwy penodol â phrosesau ymgynghori ehangach y Llywodraeth yma. Buaswn i’n falch i gael datganiad oddi wrth yr Ysgrifennydd Cabinet sydd â chyfrifoldeb—yr Ysgrifennydd cyllid, hyd y gwelaf i, sy’n gyfrifol am ymwneud â’r cyhoedd a rheoli perfformiad—jest i ddeall yn union beth yw’r cyfundrefnau ffurfiol y mae’r Llywodraeth yma wedi mabwysiadu pan mae’n dod i wahanol fathau o ymgynghoriadau. Beth yw’r safonau y mae’r Llywodraeth yn disgwyl eu cwrdd mewn prosesau o’r fath a pha fesurau monitro sydd yn eu lle i sicrhau bod y safonau yna’n cael eu cyfarfod?

Rŷm ni wedi clywed, er enghraifft, na chafodd y cynghorau iechyd cymunedol wybod bod y Papur Gwyn yn mynd i gynnig eu ddiddymu nhw cyn iddo gael ei gyhoeddi. A phan ofynnwyd pam nad oedd cyfres helaeth o ddigwyddiadau ymgynghori o gwmpas y Papur Gwyn, mi ddywedwyd bod llawer o’r rheini wedi’u cynnal mewn perthynas â’r Papur Gwyrdd, ond, wrth gwrs, nid oedd y Papur Gwyrdd yn cynnig diddymu’r cynghorau iechyd cymunedol, felly, yn amlwg, mae yna gwestiynau yn fanna ynglŷn â’r broses ymgynghori. Erbyn hyn, wrth gwrs, rŷm ni’n deall bod yna ddigwyddiadau wedi’u trefnu, ond bod y rheini wedi’u trefnu ar frys ar y funud olaf gyda phob math o honiadau ynglŷn â sut y mae’r rheini wedi cael eu trefnu. Y cyfan mae hynny’n ei wneud, wrth gwrs, yw tanseilio ffydd y cyhoedd yn y broses ymgynghori, ond hefyd tanseilio ffydd y cyhoedd yn y penderfyniad terfynol pan fydd hwnnw’n cael ei wneud.

Nawr, y flwyddyn ddiwethaf, fe gynhaliodd cyngor iechyd cymuned y gogledd dros 500 o ymweliadau dirybudd â wardiau ysbyty yng ngogledd Cymru—llawer iawn, iawn, iawn yn fwy nag unrhyw gorff arall sydd yn gwneud unrhyw beth tebyg. Ac os ydy Cymru yn symud at fodel tebyg i’r Alban, sydd, gyda llaw, wedi cael ei disgrifio fel rhyw fochdew diddannedd, yna’r peth lleiaf y gallwn ni ei ddisgwyl yn fy marn i yw ymgynghoriad trylwyr, ystyrlon a theg, ac nid yr hyn sydd wedi cael ei ddisgrifio i fi fel yr hyn rŷm ni’n ei gael nawr, sydd yn ymgynghoriad brysiog ac amaturaidd.

Wel, rwyf i’n credu ei bod hi’n bwysig iawn, ac wrth gwrs, cyn y ddadl yfory, ein bod yn pwysleisio—a gwn y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn awyddus i ddweud—ein bod yn croesawu pob cyfraniad i'r ymgynghoriad. Papur Gwyn yw hwn. Bydd ymgynghoriadau yn sicrhau bod unrhyw ddeddfwriaeth yn y dyfodol mor effeithiol â phosibl, ac wrth gwrs mae'n bwysig cydnabod nad yw’r cynigion yn y Papur Gwyn yn ymwneud â’r Cynghorau Iechyd Cymuned yn unig, er eu bod yn canolbwyntio ar hynny, ond bod y cynigion hefyd yn ystyried sut y gallwch chi gryfhau llais y bobl sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, sydd yn amlwg yn fater allweddol o ran y defnyddwyr gwasanaeth hynny, a hefyd i wella ansawdd a threfn lywodraethu y gwasanaethau hynny yng Nghymru.

Rwy’n ymwybodol bod cadeirydd y bwrdd cynghorau iechyd cymuned wedi anfon llythyr agored at arweinwyr y pleidiau, ac rwy'n sicr bod nifer o Aelodau wedi cyfarfod â chynrychiolwyr cynghorau iechyd cymuned yn ystod yr haf. Rwy'n credu ei bod yn glir iawn mai'r ymateb sy’n dod i’r amlwg cyn diwedd yr ymgynghoriad hwn yw bod angen i ni ddysgu sut y gallwn ni fwrw ymlaen â hyn i sicrhau bod cyrff y dyfodol yn annibynnol ac yn gallu clywed gan bobl yn uniongyrchol, gan gynnwys clywed yn uniongyrchol gan bobl wrth iddyn nhw dderbyn gofal. Mae'r pwyntiau hyn yn cael eu gwneud, wrth gwrs, gan y Cynghorau Iechyd Cymuned eu hunain. A’r cynigion hynny, lle mae’r rhai hynny yn ymwneud â llais y cyhoedd yn y Papur Gwyn —mae'r ymatebion hynny ar lefel uchel ac rydym ni eisiau sicrhau bod unrhyw gorff a sefydlir, yn cynrychioli dinasyddion mewn iechyd a gofal cymdeithasol mewn gwirionedd. Felly, unwaith eto, mae'r pwyntiau hyn i gyd yn ddefnyddiol.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. A gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, os gwelwch yn dda? Mae'r cyntaf yn ymwneud â defnyddio Orkambi i drin pobl yng Nghymru sy’n dioddef ffibrosis cystig. Yn ei ateb i fy nghwestiwn ysgrifenedig ar 15 Awst eleni, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet nad oedd y feddyginiaeth hon ar gael fel rheol oherwydd ei chost uchel a’r manteision clinigol cymharol fach. Aeth ati i ddweud nad oedd Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan wedi derbyn ymateb gan y gweithgynhyrchwyr, Vertex, ynghylch arfarniad arall. Rwyf i wedi cael gwybod erbyn hyn bod Vertex wedi cyflwyno cais, sy'n cael ei adolygu gan y grŵp. A gaf i ofyn am ymrwymiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd i wneud datganiad cyn gynted ag y bo modd ar ôl i'r adolygiad hwn ddod i ben er mwyn i’r rhai sy’n dioddef o’r afiechyd difrifol hwn gael yr holl wybodaeth am ba un a yw Orkambi ar gael?

Yn ail, a gaf i ofyn pryd y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu dweud pa un a fydd cyllid ar gyfer menter tîm ymateb i godymau Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn parhau, gan fod y cynllun treialu wedi dod i ben ar 13 Mawrth eleni? Diolch.

Diolch am y cwestiynau yna. Byddaf yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet egluro'r sefyllfa o ran y cyllid sydd ar gael ar gyfer y cyffur, sydd, wrth gwrs, ar gyfer pobl â ffeibrosis systig, ac rydych chi wedi cael ymateb ym mis Awst a byddaf i’n egluro'r sefyllfa. Hefyd, er mwyn ystyried y canlyniad, wrth gwrs, yn ogystal â chydnabod llwyddiant canlyniad y cynllun treialu o ran gwasanaethau ambiwlans Cymru, bydd Ysgrifennydd y Cabinet hefyd yn dymuno cydnabod y ffaith ei fod ar waith erbyn hyn mewn rhannau eraill o'r DU.

Arweinydd y tŷ, yn ystod yr haf, yr oedd yn bleser i mi gael ymweld â chlwb cinio a hwyl yn Ysgol Gynradd Penywaun, sydd yn fy etholaeth i. Roeddwn i'n falch iawn o weld bod y cynllun yn cael effaith gadarnhaol ar y disgyblion a gymerodd ran, yn enwedig wrth fynd i'r afael â’r broblem newyn yn ystod y gwyliau. A gawn ni ddatganiad gan yr Ysgrifennydd addysg, yn myfyrio ar gynllun yr haf hwn, a hefyd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ar y gwersi y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu arnyn nhw yn y dyfodol?

Yn ogystal, mis Medi yw Mis Ymwybyddiaeth Sepsis, a gan fod sepsis yn lladd 2,500 o bobl yng Nghymru bob blwyddyn, a wnaiff yr Ysgrifennydd dros iechyd roi’r wybodaeth ddiweddaraf ni am yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'r cyflwr hwn sy'n bygwth bywyd?

Diolch, Vikki Howells, am y ddau gwestiwn yna. O ran y cwestiwn cyntaf, credaf fod llawer o bobl wedi gweld y cyhoeddusrwydd cadarnhaol iawn, nid yn unig yng Nghymru, ond tu hwnt hefyd, o ran pwysigrwydd y clybiau cinio a hwyl sydd wedi'u sefydlu a'r buddsoddiad a wnaed gennym ni trwy gydol yr haf o ran gweinyddu'r cynllun hwnnw. Wrth gwrs, mae pwyslais y cynllun hefyd yn ymwneud â'r gweithgareddau cyfoethogi ac addysgol y mae'n eu cynnig i’r dysgwyr sy'n mynychu. Fe wnaethom ni dreialu hynny y llynedd. Cyhoeddwyd hynny yn 2017, ym mis Ionawr eleni, ac mae'r canfyddiadau yn galonogol iawn o ran canlyniadau iechyd, cymdeithasol ac addysgol. Ac rwy’n gwybod y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn dymuno rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am hynny, o ran y rhaglen gyfoethogi yng ngwyliau’r haf eleni.

Rwy'n credu bod eich ail bwynt yn bwysig iawn ynglŷn â sepsis. Ers 2013, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi blaenoriaeth uchel ar leihau'r niwed a’r marwolaethau y gellir eu hosgoi, a achosir gan sepsis i'r GIG yng Nghymru, ac mae’n parhau i wneud hynny. Mae llawer mwy yr ydym ni’n dymuno ei gyflawni o ran y dull gweithredu system gyfan, ac rydym yn falch bod grŵp dysgu ymateb brys Cymru i salwch acíwt yn ystyried sut y gallwn gyflwyno systemau yn ein lleoliadau gofal sylfaenol a chymunedol, yn ogystal ag yn ein hysbytai, i allu adnabod symptomau yn gynharach o lawer i sicrhau y gallwn ymyrryd cyn gynted â phosibl.

Fel yr ydym wedi clywed eisoes heddiw, rydym ni i gyd yn gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd wedi cyflwyno datganiad ysgrifenedig yr wythnos diwethaf, yn cyhoeddi y bydd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn cynnal asesiad o’r adolygiad bwrdd gwaith o’r gwersi a ddysgwyd gan Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg. Ni fyddaf yn nodi'r holl fanylion eto, ond roedd hwn yn ddadansoddiad pwysig o ofal a diogelwch cleifion, ac roedd y canlyniadau yn ddifrifol. Gwelwyd diffygion ar bob lefel, o'r brig i’r gwaelod, ac nid oes unrhyw un hyd yn hyn wedi ei ddwyn i gyfrif am y diffygion hynny ym Mhrifysgol Abertawe Bro Morgannwg. Mae llawer ohonom ar draws y rhaniad gwleidyddol, yn ogystal â Chymdeithas Feddygol Prydain, ac aelodau teulu’r fenyw a laddwyd gan Kris Wade, wedi gofyn am ymchwiliad annibynnol sy'n ystyried pob agwedd ar y mater hwn, yn hytrach nag asesiad o’r adroddiad bwrdd gwaith mewnol diffygiol hwn gan Brifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn unig, sydd eisoes wedi achosi gwrthdaro buddiannau yn hyn o beth.

Nid yw’r cylch gwaith yr wyf i wedi ei weld—. Er bod y Prif Weinidog yn dweud heddiw nad oedd unrhyw gylch gwaith, nid yw'r cylch gwaith yr wyf i wedi'i weld gan yr Ysgrifennydd iechyd yn mynd yn ddigon pell. Mae angen i ni sicrhau bod pawb a wnaeth gŵyn bryd hynny yn cael eu clywed, bod y dioddefwyr yn cael eu clywed, a bod teulu y rhai yr effeithiwyd arnyn nhw yn cael eu clywed hefyd. Mae’n rhaid i ni gael atebolrwydd yn y broses hon, ac mae’n rhaid i ni gael rhagor o wybodaeth wrth law fel Aelodau'r Cynulliad. Felly, roeddwn i’n hynod, hynod siomedig pan glywais i’r newyddion hyn yn ystod yr haf. Cafodd yr adroddiad ei gyhoeddi gan Brifysgol Abertawe Bro Morgannwg, ond ni chawsom ddatganiad ysgrifenedig bryd hynny. Ond wythnos cyn i ni ddod yn ôl, cawsom ddatganiad ysgrifenedig. Mae angen datganiad llafar gan yr Ysgrifennydd Iechyd ar hyn, fel y gallwn ofyn cwestiynau perthnasol iddo ynghylch yr hyn y bydd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn ei wneud yn awr, oherwydd os nad yw Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn ystyried yr adroddiad hwn, nac yn casglu eu tystiolaeth eu hunain, ni fydd hynny’n ddigon da a bydd angen i ni godi'r cwestiynau hyn eto. Ond byddwn yn annog y Llywodraeth, er lles democratiaeth agored, wrth i ni ddathlu datganoli, yn enw democratiaeth agored, i ni allu cael datganiad llafar gan yr Ysgrifennydd Iechyd.

Roedd yr ail gwestiwn yr oeddwn i’n dymuno ei ofyn yn ymwneud â gofalwyr ifanc. Cawsom ddadl gadarnhaol iawn cyn diwedd y tymor, a dywedodd y Gweinidog ei bod yn siarad â grwpiau gofalwyr ifanc. Dywedwyd wrthyf ers hynny, bod llawer o YMCAau ledled Cymru ddim yn teimlo yr ymgysylltwyd â nhw, neu y bydden nhw’n hoffi ymgysylltu â’r broses honno. Felly, tybed a gawn ni ddatganiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae'r Gweinidog yn ei wneud ar gyfer gofalwyr ifanc, fel y gallwn ni i gyd fod yn rhan o'r broses arbennig honno.

Diolch am y ddau gwestiwn yna. Yn dilyn y pwyntiau a wnaeth y Prif Weinidog mewn ymateb i’r adolygiad hwn, ac i ychwanegu at ei bwyntiau: wrth gwrs, byddwch chi wedi gweld y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet ar 15 Medi, a chredaf ei bod yn bwysig cyfeirio at ei ddatganiad. Fel y dywed yn y datganiad, 'Rwyf eisiau cael fy modloni', o ran Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn benodol, oherwydd bod y rhain yn wersi i'w dysgu yn ehangach na hynny,

‘rwyf eisiau cael fy modloni bod y bwrdd iechyd wedi nodi camau priodol a bod ei ymateb yn ddigon cadarn. Rwyf hefyd eisiau sicrwydd bod trefniadau effeithiol ar waith ar draws y sefydliad i fonitro'r ffordd y mae unrhyw newidiadau i bolisïau a gweithdrefnau yn cael eu gweithredu a’u hymsefydlu.’

Ac wrth gwrs, fel y gwyddoch, gofynnwyd i Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru gynnal asesiad annibynnol, a bydd ef yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau pan ddaw yr adroddiad hwnnw i law.

O ran eich ail gwestiwn, do, yn amlwg, cawsom ddadl gadarnhaol iawn. Gwn y bydd y Gweinidog yn dymuno ymgysylltu â’r Aelodau a'r pwyllgor priodol o ran datblygu camau cadarnhaol ar gyfer cefnogi ein gofalwyr ifanc.

Arweinydd y tŷ, yn dilyn y datganiad ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Tref y Fflint yn gynharach y mis hwn a nododd na fydd y cynigion ar gyfer gwaith celf yng Nghastell y Fflint yn mynd rhagddo fel y bwriadwyd yn flaenorol, a gaf i ofyn am ddatganiad ar y mater hwn gan Lywodraeth Cymru, o ran diweddaru’r cynllun i fynd ati i fuddsoddi yng nghastell y Fflint yn y dyfodol, a hefyd bod hynny’n rhoi sicrwydd llwyr bod y buddsoddiad a glustnodwyd ar gyfer y Fflint yn dal i fynd i’r Fflint, a bod cymuned y Fflint yn cymryd rhan weithredol mewn penderfynu ar natur y buddsoddiad hwnnw yn y dyfodol?

Diolch, Hannah Blythyn, ac rwy’n credu y gallwch chi fod yn sicr o ran cefnogaeth Ysgrifennydd y Cabinet i hyn. Rydym ni wedi cydnabod nad yw’n addas bwrw ymlaen â'r cynnig ar gyfer y cerflun cylch haearn yng nghastell y Fflint. A chafwyd cyfarfodydd adeiladol a chynhyrchiol iawn â phobl leol a rhanddeiliaid ynglŷn â hyn, o ran canslo’r prosiect. Bydd y buddsoddiad yn cael ei ddefnyddio, ac rwyf wedi fy sicrhau ei fod wedi'i neilltuo ar gyfer y gwaith celf, i helpu i ddatblygu uwchgynllun ehangach ar gyfer y gefnfro, gan ystyried, wrth gwrs, safbwyntiau pobl leol. Bydd hyn yn cynnwys amrywiaeth o fuddsoddiadau cyfalaf ar gyfer yr ardal, cynnal digwyddiadau a gweithgareddau, i wella dealltwriaeth o hanes y castell, ac arwyddocâd y gefnfro. Ond, wrth gwrs, bydd Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Tref y Fflint yn rhan o hynny, i sicrhau bod yr uwchgynllun hwn yn brif flaenoriaeth.

A gaf i ofyn am ymateb gan y rheolwr busnes ar ddwy eitem o fusnes y Llywodraeth? Yn gyntaf, a gaf i ofyn a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu llunio datganiad ar y sefyllfa yng Nghatalonia ar hyn o bryd? Cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban ddatganiad ddau neu dri diwrnod yn ôl. Mae'r sefyllfa yng Nghatalonia yn ymddangos yn llawn peryglon.

Y cefndir yw bod Llywodraeth Catalunya, gyda chymorth Senedd Catalunya, wedi galw refferendwm ar annibyniaeth ar 1 Hydref. Nid yw Llywodraeth Sbaen wedi ymgysylltu â'r broses hon o gwbl, ac mae wedi ceisio tanseilio'r broses ar bob cam. Ac rwy'n credu o ran y rhai ohonom ni sydd yn y lle hwn oherwydd refferenda—a gafodd y cytundeb ar ddyfodol y DU, refferendwm y llynedd, a, dwy flynedd yn ôl, refferendwm ar ddyfodol yr Alban, pob un wedi’i gytuno arno trwy gytundeb Caeredin, a chytundebau eraill, yn rhan o'r ffordd y mae democratiaeth seneddol yn symud ymlaen— mae’r newyddion o Catalunya ar hyn o bryd yn peri pryder mawr. Mae pethau megis symudiad amlwg a ffisegol cerbydau arfog i fyny ac i lawr y ffyrdd yn Barcelona, ​​y brifddinas, a’r cyffiniau, a bygythiadau uniongyrchol i erlyn dros 600 o feiri tref a dinas a alwodd am refferendwm. Nid ydym ni’n sôn am bobl sy'n galw am annibyniaeth yn y fan yma; rydym ni’n sôn am bobl sy'n dweud yn syml y dylen nhw gael yr hawl i ymreolaeth yn unol â siarter y Cenhedloedd Unedig, ac mae rhai ohonyn nhw wedi dweud, 'Gawn ni refferendwm, ond byddaf i’n pleidleisio "na"’, ond maen nhw’n dal yn cael eu bygwth y byddant yn cael eu herlyn gan wladwriaeth Sbaen. A bygythiad penodol, yr wythnos hon, i dynnu cyllid yn ôl oddi wrth Lywodraeth Catalunya— tynnu yn ôl yn uniongyrchol y cyllid hwnnw sy'n caniatáu i ddatganoli weithio yng ngwladwriaeth Sbaen. Nid hon, byddwn i’n awgrymu, yw’r ffordd yr ydym ni’n ymdrîn â heriau hunaniaeth ac annibyniaeth a refferenda yn yr UE, nac yn wir yn hanes y Deyrnas Unedig—mae ein hanes diweddar ar y mater hwn wedi bod yn amlwg iawn ac yn eglur i bawb.

Felly, byddwn i’n gobeithio y byddai Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig i gefnogi'r hyn a ddywedwyd gan Lywodraeth yr Alban; mae seneddau a llywodraethau eraill wedi cyhoeddi datganiadau tebyg yn yr UE hefyd. Rwy'n credu y byddai pobl Catalunya yn croesawu’r gefnogaeth honno yn fawr iawn. A hoffwn i atgoffa’r Aelodau o’r rhan bwysig y chwaraeodd Catalunya yn rhyfel cartref Sbaen, a'r cysylltiadau cryf sydd gan lawer ohonom, oherwydd yng Nghatalunya yr oedd llawer o ryfelwyr Cymru yn ymladd ar y pryd.

Rwyf i hefyd yn gobeithio y gallwn ni fel senedd ddod at ein gilydd—. Mae'n fater ar wahân. Rwy’n gwybod mai hi yw rheolwr busnes Llywodraeth Cymru, ond rwy'n gobeithio y gallwn ni fel senedd hefyd lofnodi llythyr yn cefnogi'r egwyddor o wneud y penderfyniadau hyn—nid 'ie' neu 'nage' i annibyniaeth fel y cyfryw, ond i’r egwyddor o ganiatáu i senedd a llywodraeth wneud penderfyniad i roi ystyriaeth i farn ei phobl, trwy refferendwm. Felly, rwy'n gobeithio'n fawr iawn y gall y Llywodraeth fod yn gadarnhaol iawn ynghylch y galw hwnnw.

Os caf i yn awr droi at fater llawer mwy plwyfol, Llywydd, ac atgoffa'r Siambr, bod Ysgrifennydd y Cabinet, Kirsty Williams, ar 11 Gorffennaf, cyn i ni gau am doriad yr haf, wedi gwneud datganiad yn dweud ei bod yn bwriadu codi ffioedd dysgu yng Nghymru, a bod hynny'n arwydd ei bod hi wedi dwyn perswâd ar y Cabinet Llafur, wrth gwrs, i fabwysiadu polisi llwyddiannus iawn y Democratiaid Rhyddfrydol ar ffioedd dysgu. Felly, hoffwn i, yn awr, gael gwybod gan y rheolwr busnes, oherwydd ni allaf ei weld yn digwydd yn ystod y tair wythnos nesaf, pryd y byddwn yn trafod ac yn pleidleisio ar yr offerynnau statudol a ddaw yn sgil cynnyddu’r ffioedd dysgu yng Nghymru. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ei gweld hi yn ei swydd arall, fel chwip, ei gweld yn gorfodi’r meinciau cefn i bleidleisio dros godi ffioedd dysgu yma yng Nghymru ar ôl, wrth gwrs, iddyn nhw ei wrthwynebu'n llwyddiannus â chymorth y DUP yn Nhŷ'r Cyffredin yr wythnos diwethaf, a arweiniodd at Jeremy Corbyn a'i holl gefnogwyr yn dawnsio ar y stryd yn sgil y fuddugoliaeth wych hon i beidio â chodi ffioedd dysgu yn Lloegr. Felly, gadewch i ni weld a allwn ni ailadrodd y fuddugoliaeth honno yng Nghymru. A fydd hi’n ddigon dewr i ddod ag offeryn statudol i'r Siambr hon er mwyn i ni gael pleidleisio arno? Ac efallai y gall rhai ohonom ni bleidleisio yn unol â pholisi'r Blaid Lafur.

Wel, rwy’n credu, o ran eich cwestiwn cyntaf, Simon Thomas, wrth gwrs, mae gan Gymru gysylltiadau cryf iawn—hanesyddol, diwylliannol ac economaidd—â Chatalonia ac nid oes unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i gyhoeddi datganiad. Rwy'n credu eich bod chi wedi deall y pwynt yn dda o ran y datblygiad y prynhawn hwn. Rwyf i hefyd yn credu ein bod ni’n nodi eich pwyntiau o ran beth yw ein polisïau arloesol o ran ariannu addysg uwch ac addysg bellach. Rydym ni’n nodi eich pwynt.

Rwy'n siŵr bod y rheolwr busnes yn ymwybodol o’r Bil Aelod preifat sydd yn mynd drwy Dŷ'r Cyffredin ar hyn o bryd yn enw’r AS dros y Rhondda, Chris Bryant. Mae wedi’i seilio ar yr ymgyrch Protect the Protectors, sy’n ystyried cynyddu—atgyfnerthu— y ddeddfwriaeth, yr addysg, amddiffyniad y gweithlu, nid yn unig i aelodau'r gwasanaethau heddlu sy'n ymdrin â digwyddiadau brys, ond y gwasanaethau tân, parafeddygon ac eraill hefyd. Rwyf i hefyd yn datgan buddiant, gan fod fy ngwraig i’n gweithio fel radiograffydd mewn adran damweiniau ac achosion brys ar nosweithiau prysur. Yn rhy aml maen nhw hefyd yn gweld y dystiolaeth o ymosodiadau treisgar yn eu gwaith ac ni ddylai hynny fod yn dderbyniol.

Y rheswm yr wyf i’n gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet perthnasol ystyried rhoi datganiad ysgrifenedig ar y mater hwn, yw oherwydd y byddai'n galluogi Llywodraeth Cymru i ddangos ei chefnogaeth i’r egwyddorion y tu ôl i’r bil hwn, ond hefyd i amlinellu, os bydd y Bil hwn yn methu, oherwydd bu ymdrechion blaenorol i basio, mewn gwirionedd, Bil amddiffyn yr amddiffynwyr yn San Steffan—. Roedd yr ymgais gyntaf gan Holly Lynch, ar ffurf Bil Rheol Sefydlog Rhif 23, ym mis Chwefror eleni, ac erbyn hyn mae'n mynd rhagddo— yn llwyddiannus rydym ni’n gobeithio—yn enw yr AS dros y Rhondda. Ond os nad yw’n llwyddo, rwy'n siŵr bod lle i Lywodraeth Cymru a Chynulliad Cymru, o fewn ei gymwyseddau datganoledig, yn arbennig ym meysydd gwasanaethau cyhoeddus, ystyried yr hyn y gallwn ni ei wneud os nad yw Llywodraeth y DU a Senedd y DU yn fodlon rhoi rhwydd hynt i'r Bil yn enw yr AS dros y Rhondda. Felly, gofynnaf am ystyried datganiad ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru maes o law ar sut y gallai gefnogi'r egwyddorion ac ystyried o bosibl ein dewis amgen yng Nghymru.

Wel, diolch i Huw Irranca-Davies am ddod â hynny i'n sylw. Gwyddom y bu Biliau arloesol iawn o’r meinciau cefn, rhai sydd—. Llwyddodd Julie Morgan i gyflwyno un ar ddeddfwriaeth gwelyau haul pan oedd hi'n Aelod Seneddol. Rwy'n credu bod angen i ni edrych ar hyn—mae'n berthnasol iawn, yn amlwg, i'n gweithlu ni yma yng Nghymru—ac edrych ar y Bil Aelod preifat, ‘protect our protectors’, ac rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet eisiau gweld bod gwersi yn cael eu dysgu neu’r hyn y byddwn yn ei wneud os na fydd yn llwyddo.

4. 3. Datganiad: ‘Ffyniant i Bawb: Y Strategaeth i Gymru’

Yr eitem nesaf yw’r datganiad gan y Prif Weinidog ar ‘Ffyniant i Bawb’, y strategaeth i Gymru. Y Prif Weinidog felly i wneud ei ddatganiad.

Llywydd, ddoe gwnaethom ni ddathlu, wrth gwrs, 20 mlynedd ers y bleidlais ‘ie’ yna a ddaeth â datganoli i Gymru. Roedd e’n gyfle i edrych yn ôl ac i ystyried pa mor bell yr ydym ni wedi dod ers dyddiau’r Swyddfa Gymreig, amser pan yr oedd Cymru yn ddim ond adran Llywodraeth arall. Mae hefyd, wrth gwrs, yn gyfle i edrych ymlaen i’r 20 mlynedd nesaf.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Mae sefydlu’r Cynulliad hwn, a hefyd, wrth gwrs, y Llywodraeth hon, wedi bod, wrth gwrs, yn siwrnai o aeddfedrwydd gwleidyddol a hefyd yn stori o hyder sydd yn tyfu a phenderfyniad cadarn wrth bawb yn y Siambr hon i weithredu dros Gymru. Mae’r cam nesaf, wrth gwrs, o’r siwrnai honno wedi cael ei nodi heddiw gan gyhoeddiad y strategaeth genedlaethol sydd wedi cael ei llunio i glymu gyda’i gilydd ymdrechion y sector gyhoeddus gyfan gwbl ynglŷn â gweithredu cenhadaeth ganolog y Llywodraeth hon ynglŷn â gweithredu ffyniant i bawb.

Dirprwy Lywydd, prosperity is about far more than material wealth and cannot be determined, or delivered, indeed, by economic growth alone. It’s about every person in Wales enjoying a good quality of life, living in a strong, safe community, and sharing in the prosperity of Wales. It’s a simple objective and one with which I’m sure no-one can argue. However, delivering it will require every part of the Government and the public service to combine their forces in pursuit of that aim.

This strategy is a first for Government, capturing in one place how the many strands of Government will work together towards a common aim, putting the needs of the people of Wales first. The simple ambition that we can all work together in the long-term interests of Wales is at the heart of the Well-Being of Future Generations (Wales) Act 2015, and this is an important step in realising our vision.

This strategy takes our commitments in ‘Taking Wales Forward’, places them in a long-term context, and sets out how they will be delivered in a smarter, more joined-up way that cuts across traditional boundaries, both inside and outside Government. It recognises that the fundamental challenges we face as a nation can only be properly addressed by putting people before systems and structures and getting more from every pound the public sector spends. It’s a bold vision for delivering our ambitions for Wales. Our ambition is for a Wales that is prosperous and secure, healthy and active, ambitious and learning, and united and connected.

Beginning with the first of those ambitions, ‘prosperous and secure’, our aim is to drive a Welsh economy that spreads opportunity and tackles inequality, delivering individual and national prosperity. We will enable people to fulfil their ambitions and enhance their well-being through secure and sustainable employment.

Turning to the second ambition, ‘healthy and active’, we want to improve health and well-being in Wales for individuals, families and communities, helping us to achieve our ambition of prosperity for all, and taking significant steps to shift our approach from treatment to prevention.

Thirdly, we want a country that is based on the concept of being ambitious and learning. We want to instil in everyone a passion to learn throughout their lives, inspiring them with the ambition to be the best they possibly can be. A prosperous Wales needs creative, highly skilled and adaptable people, so quality education from the earliest age will be the foundation for a lifetime of learning and achievement.

Finally, a united and connected Wales. We will build a nation where people take pride in their communities, in the Welsh identity and language, and our place in the world. We are building the vital links that make it easier for people to come together, for the economy to grow, and to become a confident nation at ease with itself.

It is only by making progress across all of these that we will realise our ambition of prosperity for all. However, there were issues that came up over and over again: times or situations in people’s lives when taking the right early action, often co-ordinated across services, could fundamentally alter an individual’s prospects. We have identified five priority areas—early years, housing, social care, mental health, and skills and employability—where we can have the greatest potential contribution to our long-term prosperity and well-being.

Dirprwy Lywydd, an individual’s experiences during their early years play a significant part in shaping their future, and are critical to their chances of going on to lead a healthy, prosperous and fulfilling life. The bedrock of living well is a good-quality, affordable home, which brings a wide range of benefits to health, learning and prosperity. Compassionate, dignified care plays a critical part in strong communities, ensures that people can be healthy and independent for longer, and is a significant economic sector in its own right. One in four people in Wales will experience mental ill health at some point in their lives, so getting the right treatment at an early stage, coupled with greater awareness of conditions, can in many cases prevent long-term adverse effects.

Dirprwy Lywydd, the better people’s skills, the better their chances of getting fair, secure and rewarding employment. And the stronger the skills base in Wales, the more chance we have of attracting new businesses and growing existing ones to improve prosperity.

We will be working with our partners to deliver better, more seamless services for everyone in these areas. Joining up services has long been the holy grail of government. While we’ve had some notable successes, in Wales we have the opportunity to go much further, and identifying this small number of areas will allow us to focus our and others’ energies on driving big improvements.

What matters now is making this happen. We will put ‘Prosperity for All’ at the heart of Government and it will shape all of our decisions. We’ll finalise a series of plans over the coming weeks and months, setting out in detail how we will deliver our ambitions. This will include a comprehensive economic action plan, led by the Cabinet Secretary for Economy and Infrastructure, marshalling the resources of the whole Government towards sustainable, inclusive economic growth and infrastructure, in line with the strategy.

Health will remain a key priority for this Government, and we will publish an action plan for health next year. This plan will respond, of course, to the parliamentary review, but will also set out how we can deliver our wider public health ambitions and how we can use all the opportunities of Government to move away from treating people when they’re sick to helping people to enjoy better health. And in education, the Cabinet Secretary for Education will next week announce a new action plan for schools, ensuring that all our children and young people can reach their potential.

Dirprwy Lywydd, our programme for government, ‘Taking Wales Forward’, sets out what we will deliver for the people of Wales during this term. This national strategy, ‘Prosperity for All’, sets out how we will deliver this in a smarter, more focused way, driving delivery during this term, but setting the longer term foundations for a more prosperous Wales. We have an ambitious vision for the future of Wales and we are taking concrete steps to deliver it.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Prif Weinidog, diolch am eich datganiad y prynhawn yma. Un peth y mae'n rhaid eich bod chi a fi yn ei gyfrannu at yr economi leol yw ein bod yn prynu ein siwtiau yn yr un siop. Rwy'n sylwi bod gennym ni yr un siwt, ond rydych chi wedi prynu’r wasgod hefyd. [Chwerthin.] Nid wyf yn disgwyl unrhyw gellwair.

Rwy’n croesawu’r datganiad. Yn amlwg, mae'n ddatblygiad o'r rhaglen lywodraethu y sefydlodd y Prif Weinidog y llynedd, ac, fel y dywed y Prif Weinidog yn y datganiad, i raddau, sut gallwch chi anghytuno â llawer o'r pwyntiau sydd yn y datganiad a’r ddogfen y mae wedi ei chyflwyno, oherwydd mae’n cynnwys llawer o bethau y mae pawb yn cytuno eu bod heb amheuaeth yn dda, sydd fel arfer yn rhan o’r mathau hyn o gyhoeddiadau? Sylwais yn sylwadau clo y Prif Weinidog, y bydd, dros gyfnod y tymor hwn—rwy'n tybio—mwy o gig yn cael ei roi ar esgyrn rhai o'r cyhoeddiadau hyn gan wahanol ddatganiadau Ysgrifennydd y Cabinet yn eu meysydd portffolio penodol. Felly, mae'n debyg ei bod yn deg disgwyl, yn amlwg, cael mwy o wybodaeth wrth i'r tymor fynd rhagddo.

Ond ar ddechrau'r datganiad, mae'r Prif Weinidog yn nodi'r angen am fwy o weithio yn y sector cyhoeddus er mwyn sicrhau bod y bunt gyhoeddus yn mynd ymhellach, ac un o'r pethau sy'n rhwystredig eithriadol i etholwyr yw sut na allant gael gwahanol rannau o'r gwasanaethau cyhoeddus, sydd i fod yno ar eu cyfer, i'w helpu i weithio er eu budd eu hunain—ac rwy’n defnyddio gofal iechyd a chymdeithasol fel enghraifft—ac maen nhw’n dod at eu Haelodau Cynulliad. Rwy'n siŵr bod llawer o ACau yn yr adeilad hwn wedi cael y profiad, ac ni allant yn eu byw â deall pam na wnaiff y gwasanaethau hyn weithio i'w galluogi i gael y driniaeth neu'r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt yn y man iawn. Felly, yr hyn y byddwn i'n ei ofyn i'r Prif Weinidog—o gofio’r profiad a chan mai ef oedd y Prif Weinidog a sefydlodd gomisiwn Williams, ynglŷn â diwygio llywodraeth leol yn y Cynulliad diwethaf, pryd y gwnaed llawer iawn o ymdrech gan y Llywodraeth ar y pryd i ddiwygio llywodraeth leol i geisio creu gwell ffordd o weithio, fel yr oedden nhw’n gweld pethau ar y pryd, ac i weithio ar gynigion adolygiad Williams—sut y mae ef yn credu y bydd y Llywodraeth hon damaid yn fwy llwyddiannus o ran diwygio'r gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru a fydd yn creu, fel y dywed yn ei sylwadau agoriadol yn y datganiad, ffordd fwy cydweithredol o weithio i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru sydd o fudd i'r defnyddiwr yn ogystal â'r gwasanaeth ei hun.

Rwyf hefyd yn derbyn y pedwar pwynt y mae'n tynnu sylw atynt yma—Cymru ffyniannus a diogel, na all neb anghytuno ag ef, yn amlwg—ond mewn gwirionedd, pan edrychwch chi ar y niferoedd economaidd dros y 18 mlynedd diwethaf, oherwydd y bu’n rhan o'r Llywodraeth sydd wedi bod mewn grym yma yng Nghymru dros yr 18 mlynedd diwethaf, yn yr adran benodol honno os edrychwch chi ar yr economi, er enghraifft, lle rydym ni i gyd yn cofio'r targed a osodwyd ym mlynyddoedd cynnar datganoli sef targed o 90 y cant ar gyfer gwerth ychwanegol gros, heddiw mae'r ffigwr hwnnw wedi gostwng i 71 y cant o werth ychwanegol gros. Sut yn y byd allwn ni fod ag unrhyw hyder nad ymarfer dibwys arall yw hwn, ac y byddwn ni’n gweld y gwelliannau yr ydym am eu gweld yn economi Cymru i'n rhoi ar ben ffordd i fod y wlad bwerus rwy'n gwybod y gall Cymru fod, pe byddai ganddi’r arweinyddiaeth gywir.

Rydym ni wedi clywed hyn dro ar ôl tro . Rydym ni wedi cael pedair strategaeth economaidd wahanol gan Lywodraeth Cymru: ‘Cymru'n Ennill’ ym 1999; ‘Cymru: Economi yn Ffynnu’ yn 2005; ‘Adnewyddiad economaidd: cyfeiriad newydd’ yn 2009; a nawr, byddwn yn cael cyfeiriad newydd gan Ysgrifennydd y Cabinet pan fydd yn gwneud ei ddatganiad am ei weledigaeth ar gyfer yr economi. Ac eto, fel y dywedais, pan ddaw i werth ychwanegol gros, er enghraifft, mae'r ffigurau'n boenus o ystyfnig, yn ymlusgo y tu ôl i rannau eraill y Deyrnas Unedig. Os edrychwch chi ar anghydraddoldeb rhanbarthol o ran gwerth ychwanegol gros, mae Ynys Môn, er enghraifft, yn £13,411. Yng Nghymoedd Gwent, roedd yn £13,681. Eto, yng Nghaerdydd a'r Fro, er enghraifft, roedd yn £22,783. Unwaith eto, ar ôl 18 mlynedd, sut y gallwn ni fod yn ffyddiog y bydd y Llywodraeth yn gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol fel na fydd gwahanol raddau o anghydraddoldeb mewn gwahanol rannau o Gymru mwyach, ac na fydd gwahaniaethau mor fawr yn ein cymunedau —y gogledd, y canolbarth a’r de?

Ac yna edrychwch ar ein hallforion, er enghraifft, y mae'r Prif Weinidog wedi sôn amdanynt yn aml iawn—am yr allforion a phwysigrwydd hyrwyddo Cymru dramor. Mae hyn yn rhywbeth yr ydym yn cytuno ag ef yn ei gylch, ac rydym yn cynnig ein cefnogaeth lwyr. Ond os edrychwch chi ar allforion i'r Unol Daleithiau, maen nhw wedi gostwng 13 y cant. Os edrychwch chi ar allforion i’r India, maen nhw wedi gostwng 22 y cant. Os edrychwch chi ar Japan, maen nhw wedi gostwng 55 y cant. Unwaith eto, sut bydd y Llywodraeth yn gwrthdroi'r rhifau negyddol hyn pan fo angen i ni, gyda phroses Brexit, fod yn edrych yn fwy byd-eang ar y fasnach yr ydym ni’n dymuno ei hannog er mwyn i’n heconomi allu bywiogi a thâl go iawn gynyddu yma yng Nghymru ?

Yna, mae'n sôn am Gymru iach a gweithgar yn yr ail ran o'r datganiad y mae wedi'i wneud heddiw. Gwyddom fod un o bob saith o bobl yng Nghymru ar restr aros, yn anffodus. Clywsom dros doriad yr haf y bu cynnydd o 400 y cant—ac mae hynny yn werth ei ailadrodd: cynnydd o 400 y cant—yn nifer y bobl sy'n aros am 12 mis neu fwy am driniaeth yma yng Nghymru. Yn y bwrdd iechyd y mae gan Lywodraeth Cymru reolaeth uniongyrchol drosto—Betsi Cadwaladr—mae wedi mynd o ddim i gynnydd o 1,250 y cant yn nifer y bobl sy'n aros am 12 mis neu fwy. Felly, unwaith eto, pan ddarllenwch chi’r rhethreg yn y ddogfen a lansiwyd ar y cyd â'r datganiad y mae wedi'i wneud heddiw, sut y gallwn ni fod yn ffyddiog bod y daith y mae'r Llywodraeth arni—y Llywodraeth hon y mae ef yn ei harwain heddiw—yn dechrau mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau enfawr hyn yn ein cymdeithas?

Yna, mae’r bennod ‘Cymru Uchelgeisiol ac sy’n Dysgu’ yn ddogfen a lansiodd heddiw, a'r drydedd rhan o bedair y mae wedi mynd i'r afael â nhw yn ei ddatganiad yn trafod, ar dudalen 15:

Mae gormod o amrywiad o hyd yng nghyrhaeddiad plant pan fônt yn gadael yr ysgol.

Rwy’n gweld bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn cytuno â hynny ac yn ysgwyd ei phen yn gytûn. Daw hyn gan Lywodraeth sydd wedi bod yn gyfrifol am addysg ers 18 mlynedd—ac rwy'n clywed Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud, ‘Ond nid fi’. Rwy’n derbyn y pwynt hwnnw, er tegwch, ond roeddwn yn credu ei fod yn gyfrifoldeb ar y cyd, ac felly mae'n un Llywodraeth. Sut ydym ni i fod i gredu y bydd y datganiadau beiddgar a choeth yn y ddogfen hon mewn gwirionedd yn gwella lefelau cyrhaeddiad plant ar hyd a lled Cymru pan, ar ôl 18 mis—18 mlynedd, mae’n ddrwg gennyf, nid 18 mis—mae eich dogfen chi eich hun yn dweud bod, a gwnaf ailadrodd hynny eto, yn dal

gormod o amrywiad yng nghyrhaeddiad plant pan fônt yn gadael yr ysgol?

Yn olaf, yn y rhan ‘Unedig a Chysylltiedig’ o'r pedair rhan a nodwyd gennych yn eich datganiad, mae'n bwysig bod pob rhan o Gymru yn teimlo bod y Llywodraeth yn llywodraethu ar eu cyfer nhw. Ni waeth pa liw y gallai’r Llywodraeth honno fod, dyna'r ydym yn ei ddathlu ar hyn o bryd: 20 mlynedd o ddatganoli ac 20 mlynedd o wneud penderfyniadau lleol. Ond mae’n ffaith, yn hanesyddol, bod rhai Llywodraethau y mae'r Blaid Lafur wedi eu harwain yma wedi ceisio sbarduno adeiladu cenedl ar draul yr hyn sydd orau i'r rhan benodol honno o Gymru. Rwy'n cofio'n iawn, pan ddeuthum i'r Cynulliad hwn am y tro cyntaf, yn enwedig ym maes iechyd, roedd ymgyrch yn bod i anfon cleifion o ogledd Cymru i dde Cymru am driniaeth, pan oedd cysylltiadau trawsffiniol da eisoes ar waith ar gyfer cleifion gogledd Cymru i gael y driniaeth honno ym Manceinion, yn Lerpwl, lle'r oedd perthynas naturiol a llif naturiol pobl dros y blynyddoedd wedi datblygu. Rwyf yn gobeithio y bydd y Prif Weinidog yn cefnogi fy ngalwad, wrth ddatganoli cyfrifoldebau i ba bynnag ranbarthau sydd eu hangen i gynyddu eu hôl troed economaidd, ond, yn anad dim, o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus, y bydd hyn yn cael ei ddarparu orau yn lleol, yn hytrach na model Parc Cathays canolog yr ydym wedi'i weld dro ar ôl tro, yn hanesyddol, yn cael ei ystyried fel y dewis gorau o ran gwneud penderfyniadau yma yng Nghymru. Mae llawer, llawer—

A ydym ni'n dirwyn i ben, os gwelwch yn dda? Rydych wedi cael mwy o amser nag y cymerodd y Prif Weinidog i gyflwyno'r datganiad.

Diolch i arweinydd yr wrthblaid am ei sylwadau. Mae'n debyg mai'r cwestiwn na ofynnodd, ac yr wyf yn siŵr y caiff ei ofyn, yw ‘Beth yw diben y ddogfen hon?’, ac rwy’n deall hynny. Wel, mae'n iawn i ddweud y byddwn yn ymhelaethu ar y ddogfen ei hun, wrth gwrs. Diben y ddogfen hon yw ei bod yn rhoi i Aelodau'r Cynulliad hwn ac i’r cyhoedd y fframwaith y bydd penderfyniadau yn cael eu gwneud o fewn iddo. Wrth gwrs bydd hyn yn arwain Gweinidogion. Bydd pob penderfyniad a wneir gan Weinidogion yn cael ei fesur yn ôl yr hyn sydd yn y ddogfen hon, a'r uchelgeisiau yn y ddogfen hon a'r pum maes blaenoriaeth. Fel y soniais yn y datganiad ei hun, bydd cynlluniau gweithredu pellach a gânt eu datblygu yn ystod y misoedd nesaf.

Soniodd am sut i weithio ar draws y sector cyhoeddus. Wrth gwrs, byddwn yn ceisio cyflwyno Bil llywodraeth leol a fydd yn helpu i arwain at fwy o gysondeb mewn llywodraeth leol.

Gan ddod i'r pwynt a wnaeth yn olaf, mae'n iawn i ddweud ein bod ni'n dymuno, fel Llywodraeth, i benderfyniadau gael eu gwneud mor agos â phosibl i gymunedau pobl, ond rydym wedi canfod yn y gorffennol—gwnaeth hyn sbarduno’r ddeddfwriaeth flaenorol nad oedd yn llwyddiannus—bod hynny'n arwain at anghysondeb anferth, lle nad yw rhai cynghorau yn gallu darparu gwasanaethau yn y ffordd y dylent. Cymerwyd rheolaeth o un cyngor, Ynys Môn, oherwydd iddo fethu yn gyfan gwbl. Ar un adeg, roedd chwe chyngor—chwe awdurdod addysg lleol—mewn mesurau arbennig dros addysg. Nawr ni all hynny fod yn iawn. Sut, felly, ydym ni’n datrys hynny? Bydd y Bil llywodraeth leol yn ceisio gwneud hynny er mwyn ysgogi mwy o gysondeb, er mwyn cynorthwyo cynghorau i gyflawni’n well, a chyflawni darpariaeth gyson rhwng rhanbarthau. Nid wyf yn credu y gall unrhyw un esgus ein bod wedi cael system gadarn o lywodraeth leol dros yr 20 mlynedd diwethaf lle mae pob un cyngor bob amser wedi cyflawni fel y byddai pobl yn ei ddisgwyl. Yn amlwg nid dyna yw’r sefyllfa. Felly, er ei bod hi’n bwysig i wneud penderfyniadau yn lleol, mae’n rhaid inni ofalu nad oes anghysondeb mawr yn digwydd, oherwydd hynny, a bydd y Bil yn helpu i sicrhau nad yw hynny'n digwydd.

Mae'n sôn am ystadegau economaidd. Gallwn gyfnewid hyn yn ôl a blaen. Fel y dywedais yn gynharach yn ystod cwestiynau'r Prif Weinidog, mae’r gyfradd ddiweithdra bellach yn 4.3 y cant. Nid dyna'r ffigwr llawn; mae yna ormod o bobl sydd yn dal heb ddiogelwch gyflogaeth. Rwy'n deall hynny. Ond rydym ni wedi bod yn llwyddiannus wrth ddenu buddsoddiad i Gymru na fyddem erioed wedi'i gael o'r blaen. Mae Aston Martin yn un enghraifft. Rydym wedi llwyddo i achub ein maes awyr; byddai hwnnw, i fod yn blwmp ac yn blaen, wedi cau. Yn y dyddiau cyn datganoli, ni fyddai neb wedi ei achub; erbyn hyn mae'n ffynnu. Ein diwydiant dur—rydym ni wedi gallu gweithredu fel eiriolwyr cryf dros ein diwydiant dur er mwyn sicrhau bod y swyddi hynny'n aros yng Nghymru. ProAct a ReAct: roeddynt yn gynlluniau blaenllaw gyda’r gorau yn y byd, ac fe wnaethon nhw helpu i gadw pobl mewn swyddi pan roedd y dirwasgiad ar ei gryfaf—swyddi a fyddai fel arall wedi cael eu colli.

Mae'n cyfeirio at y ffaith, ac mae’r ffaith honno’n wir, bod gwahaniaethau rhanbarthol mewn gwerth ychwanegol gros yng Nghymru. Un o'r problemau yn yr ardaloedd sy'n agos i Gaerdydd yw bod cymaint o bobl yn byw mewn siroedd eraill ond yn gweithio yng Nghaerdydd. Nawr, rwy'n byw yng ngorllewin Cymru a'r Cymoedd. Gan fy mod i'n gweithio yng Nghaerdydd, rwy'n cael fy nghyfrif yn dreth economaidd—efallai y bydd rhai pobl yn dweud bod hynny'n wir beth bynnag, ond yn dreth economaidd ar orllewin Cymru a'r Cymoedd, oherwydd fy mod yn cael fy nhalu yng Nghaerdydd ac rwy'n gweithio yng Nghaerdydd, ac mae hynny'n rhan o'r broblem. Mae cymaint o bobl yn dod i Gaerdydd i gymudo, mae’n gostwng gwerth ychwanegol gros yr ardaloedd o'i chwmpas mewn ffordd nad yw'n bodoli mewn gwirionedd mewn mannau eraill a oedd â statws Amcan 1 o'r blaen. Nid dyna'r esboniad cyfan, wrth gwrs, oherwydd sgiliau yw'r ffordd arall o gynyddu gwerth ychwanegol gros. Nawr, un o'r materion y mae darpar fuddsoddwyr yn ein holi yn ei gylch yw: ‘Os ydym ni'n dod i Gymru, a oes gan eich pobl y sgiliau y mae eu hangen arnom ni i fod yn llwyddiannus?’ Ac, yn gynyddol, gellir ateb hynny'n gadarnhaol. Yn y gorffennol, nid ystyriwyd sgiliau'n bwysig; cyflog isel oedd yn bwysig: dewch i Gymru oherwydd bod y lefelau cyflog yn isel. Wel, mae'r dyddiau hynny ar ben. Nawr, rydym ni eisiau sicrhau ein bod yn denu buddsoddiad ar y sail bod ein lefelau sgiliau yn uchel.

Ond wrth gwrs, yr her fawr i ni yw mai ein marchnad allforio fwyaf yw marchnad sengl Ewrop: mae 67 y cant o'n hallforion yn mynd yno. Ni allwn ni newid hynny. Mae'n amhosibl newid hynny. A pham y byddem ni yn dymuno newid hynny beth bynnag? Mae'n farchnad enfawr ar garreg ein drws. Ni all yr Unol Daleithiau gymryd ei le; mae'n llai ac mae’n bellach i ffwrdd. Ni all Japan gymryd ei le—eto, mae’n bellach i ffwrdd ac yn llai. Ac felly mae’n rhaid ystyried heriau Brexit—a byddwn ni’n dod atyn nhw; bydd hon yn ddadl y byddwn ni, wrth gwrs, yn ei chael am fisoedd a blynyddoedd yn y Siambr hon—trwy'r telesgop o sicrhau'r mynediad gorau posibl—cyfranogiad yn y farchnad sengl, mynediad llawn heb rwystr i’r farchnad sengl, ond y mynediad hawsaf i'r farchnad sengl y gallwn ei gael ar gyfer busnesau Cymru, oherwydd dyna eu marchnad fwyaf a ni ellir cymryd ei lle yn rhwydd.

Soniodd am ‘iach a gweithgar’—mae yna heriau ym mhob gwasanaeth iechyd. Mae Lloegr newydd gofrestru'r nifer mwyaf erioed o bobl ar restrau aros, ac mae heriau y mae Lloegr yn eu hwynebu hefyd. Gwyddom yng Nghymru ein bod wedi gweld gwelliannau mewn rhai meysydd lle mae amseroedd aros wedi gostwng. Mewn meysydd eraill, mae gwaith i'w wneud o hyd. Rydym ni bob amser wedi cydnabod hynny. Ond rydym yn gwybod bod adroddiadau annibynnol wedi dangos bod y gwasanaethau iechyd ledled y DU yn gyfartal ar y cyfan.

‘Uchelgeisiol ac sy’n dysgu’—soniodd am hynny. Wel, byddwn i'n dadlau ein bod yn gweld y gwahaniaeth nawr. Ein canlyniadau TGAU yw'r rhai gorau erioed. Roeddwn yn edrych ar y graff ar gyfer canlyniadau TGAU yn y dyddiau cyn datganoli, pan gafodd llai na hanner y bobl ifanc bump A* i C yn eu TGAU, ac mae'r ffigur hwnnw bellach wedi dringo'n bell y tu hwnt i hynny. Cafwyd gwahaniaeth enfawr yn yr amser hwnnw. Mae’r canlyniadau TGAU y gorau erioed. Rydym ni’n gweld gostyngiadau yn y bwlch cyrhaeddiad. Mae'r grant amddifadedd disgyblion wedi gwneud gwahaniaethau ledled Cymru ac mae hynny'n rhywbeth sy'n gweithio i gymaint o bobl ifanc.

Yn olaf, o ran ‘unedig a chysylltiedig’—. Wel, yr ateb yr wyf i bob amser yn ei roi pan fydd pobl yn dweud, ‘Wel, mae’r Cynulliad yng Nghaerdydd; beth mae'n ei olygu i ogledd Cymru?’—Rwy’n dweud, ‘Wel, mae tri Ysgrifennydd y Cabinet yn y Llywodraeth sy'n dod o etholaethau’r gogledd’. Mae hynny'n lefel enfawr o gynrychiolaeth. Nid oes neb yn Llywodraeth y DU o etholaeth yng ngogledd Cymru. Ond mae llais y gogledd yn gryf iawn. Mae'n rhaid iddo fod. Mae 60 ohonom ni yma. Daw o leiaf chwarter yr Aelodau, fel yr wyf yn ei gyfrif, o'r gogledd. Wrth gwrs, mae'r llais hwnnw'n gryf; yr un fath ar gyfer Cymru wledig, yr un fath ar gyfer canolbarth a gorllewin ein gwlad—llais llawer cryfach nag a fu erioed yn y dyddiau cyn datganoli. Rwy'n cydnabod yr hyn y mae'n ei ddweud ynglŷn â datganoli i'r rhanbarthau. Unwaith eto, rwy’n amau bod barn yr Ysgrifennydd Gwladol a’i ffordd o wneud hynny ychydig yn wahanol i’w un ef. Rwy'n credu mai barn yr Ysgrifennydd Gwladol yw, ‘Gadewch i ni osgoi Llywodraeth Cymru a siarad â chynghorau'n uniongyrchol’. Nid yw hynny, yn amlwg, yn farn yr ydym yn ei rannu, er ein bod yn derbyn yr egwyddor o ddatganoli cymaint â phosib.

Fel Aelod o'r Cynulliad Cenedlaethol hwn, sy’n aml yn derbyn dogfennau strategaeth y Llywodraeth—ac maen nhw'n dod yn aml iawn—byddwch yn aml yn pendilio rhwng cyflwr o ddryswch a chyflwr o anobaith. Mae'n rhaid i mi ddweud, ar ôl darllen y ddogfen hon yn gyflym y prynhawn yma, rwy'n teimlo cymysgedd o'r ddau. Dryswch oherwydd rwy’n credu fy mod wedi camddeall mai dyma fyddai dyddiad cyhoeddi'r strategaeth economaidd newydd. Nid fi yw’r unig un, oherwydd sylwais fod Lee Waters wedi trydar ddoe:

Cyn lansiad strategaeth economaidd newydd Llywodraeth Cymru yfory, rwyf wedi nodi rhai o’m meddyliau yn Western Mail heddiw,

ac erthygl dda iawn oedd hi hefyd. A dyma ble yr ydym ni'n dod at yr anobaith, oherwydd roedd syniadau gwell, mwy diddorol a mwy gwreiddiol yn yr erthygl un dudalen honno na sydd yn y ddogfen hon.

Mewn gwirionedd, yr hyn sydd gennym ni yma—. Cofiwch ein bod ni—[Torri ar draws.] Ac os oeddwn i yno, rwy'n siŵr y byddai'r un peth yn wir am friff busnes Hefin David yr wythnos nesaf. ‘Cyn cyhoeddi strategaeth economaidd Llywodraeth Cymru'—mae angen i chi wella eich cyfathrebu mewnol o leiaf.

Yr hyn sydd gennym ni, mewn gwirionedd, yw fersiwn lawnach o ‘Symud Cymru Ymlaen’, a gyhoeddwyd y llynedd. Mae'n fath o ‘Symud Cymru Ymlaen’ ar steroids, mewn gwirionedd, onid yw? Mae wedi tyfu o 15 tudalen i 27, felly ni all neb gyhuddo Llywodraeth Cymru o beidio â gwneud cynnydd. Dyna gynnydd o 100 y cant yng ngynhyrchiant Llywodraeth Cymru.

Roedd gennym ni bedair strategaeth drawsbynciol. Nawr mae gennym ni—beth yw e’—pum blaenoriaeth drawsbynciol, a phedair thema allweddol a thri chynllun gweithredu. Yn sicr, ni allwch chi eu cyhuddo o beidio â bod yn gynhwysfawr.

Nid oes gennyf yr amser i fynd ar ôl yr holl rai hynny, ond hoffwn ganolbwyntio ar un, ac, o ystyried y buom yn dathlu 20 mlynedd ers 1997 a datganoli, gadewch i ni ganolbwyntio ar yr economi, gan mai dyna oedd y cam mawr ymlaen i fod, y difidend datganoli. Fel y cyfeiriwyd ato eisoes, mewn gwirionedd, mae'r cynnydd yn y fan honno wedi bod yn gyfyngedig wrth gwrs. Gan edrych ar y 18 pwynt bwled—dyna'r cyfan ydyw, os ydych chi'n chwilio am gyfuchliniau'r strategaeth economaidd newydd, 18 pwynt bwled ar draws dwy dudalen—rwy'n ceisio deall, felly, beth y mae hynny’n dweud wrthym ni am gynnwys y strategaeth economaidd newydd. Efallai y bydd y Prif Weinidog yn gallu fy helpu. Y cwestiwn cyntaf yw: a dderbynnir graddfa’r her, mewn gwirionedd? Rwy’n credu eu bod ar feinciau cefn yr ochr sy’n llywodraethu. Nid wyf yn siŵr eu bod ar y fainc flaen. Oherwydd, fel y cyfeiriwyd ato eisoes, ym 1997, ble yr oeddem ni? Saith deg pedwar pwynt un y cant o werth ychwanegol gros y pen. Ble ydym ni nawr yn y ffigurau diweddaraf? Saith deg un y cant. Rydym ni wedi mynd ar yn ôl. Yr oeddem yn seithfed ar y cyfan, gyda llaw, o ran y 12 rhanbarth economaidd safonol yn y DU. Hyd yn oed ar hoff ddangosydd economaidd Llywodraeth Cymru, sef incwm gwario gros aelwydydd y pen, rydym ni hefyd wedi mynd ar yn ôl—87.8 y cant i 85.3 y cant. Felly, a dderbynnir graddfa'r her? Yn ei sylwadau yn gynharach y prynhawn yma, dywedodd y Prif Weinidog ein bod, yn y 1990au, yn wlad yr oedd pobl ifanc yn awyddus i’w gadael. Wel, mewn gwirionedd, gwelsom adroddiad dros yr haf gan y Resolution Foundation yn dangos bod pobl ifanc galluog yn gadael Cymru. Collodd Cymru fwy o raddedigion rhwng 2016—colled net o dros 20,000 o raddedigion yn ystod y cyfnod hwnnw. Rydym ni'n ddegfed o'r 12 rhanbarth safonol yn y Deyrnas Unedig o ran nifer y graddedigion a gollir.

Yn ail, a fydd yna dargedau? Rydym ni wedi cael cynnydd anhygoel o wael. Sut allwn ni fesur, mewn gwirionedd, a ydym ni yn mynd i fod â record well o gyflawni yn y dyfodol? Oherwydd, fel y dywedodd Chris Kelsey, ychydig iawn o fanylion a dim ond ychydig o dargedau penodol a geir yn y strategaeth hon. A lle mae'r awydd, yr awch—yr wyf yn ei synhwyro, i fod yn deg, ar feinciau cefn Llafur—am newid radicalaidd o ran strategaeth? Yn y bôn, rydym wedi dilyn yr un strategaeth am 40, 50 mlynedd, sydd, yn ei hanfod, yn dibynnu ar fuddsoddiad uniongyrchol o dramor. Dyna'r cyfan. Rydym ni wedi torri’r gwys honno. Ac i beth? Ble mae'r awydd yn y 18 pwynt bwled hyn am dderbyn na fydd y strategaeth honno'n ein gwasanaethu'n dda yn y dyfodol, ac felly bod angen syniadau newydd radicalaidd arnom?

Yn olaf, ar ddiwrnod olaf y tymor, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet eich bod yn bwriadu cyhoeddi'r strategaeth drawsbynciol hon ac yna y byddai rhaglen ymgysylltu helaeth â rhanddeiliaid. Rwy'n credu mai jargon yw hynny am ‘siarad â phobl’. Wel, fe wnes i ychydig o siarad dros y penwythnos, oherwydd roeddwn i eisiau gwybod beth fyddai yn y strategaeth economaidd hon nad oedd yn ymddangos, ac fe siaradais i â rhai pobl fusnes blaenllaw yr wyf yn eu hadnabod ac a fydd yn adnabyddus i lawer o’r bobl yma; Siaradais â rhai o economegwyr blaenllaw Cymru. Nid oedd yr un ohonynt yn gwybod beth fyddai yn y strategaeth economaidd nac yn y pwyntiau bwled gan nad oedd neb o Lywodraeth Cymru wedi siarad â nhw. Felly, ar ba sail ydych chi wedi llunio'r 18 pwynt bwled hyn? Pwy ydych chi wedi siarad â nhw? Oherwydd, rwy’n ofni mai’r hyn a gawn ni pan fyddwn ni'n gweld y cynllun gweithredu economaidd o’r diwedd, fydd, unwaith eto, cyfrwng gwag heb unrhyw sylwedd.

Wel, gadewch i mi geisio helpu'r Aelod yn ei ddryswch a'i godi o'i anobaith. Yn gyntaf oll , diolch iddo am gydnabod y cysondeb sy'n bodoli rhwng y ddwy ddogfen y cyfeiriodd atynt. Maent i fod i fod yn gyson. Maent i fod i ddangos cyfeiriad cyffredin.

Nawr, y peth cyntaf y cyfeiriodd ato, y disgrifiodd, oedd perfformiad economaidd anhygoel o wael—nid yw felly. Dywedodd hefyd, i bob pwrpas, fod y strategaeth economaidd wedi bod yr un fath dros y 50 mlynedd diwethaf —eto, nid yw felly. Oherwydd rwy’n cofio’n dda yn y 1990au—diwedd y 1980au a'r 1990au—y penderfynodd Llywodraeth bryd hynny, mai'r ffordd o leddfu diweithdra yng Nghymru, yn eu barn nhw, oedd lleihau cyflogaeth mewn swyddi â chyflogau da fel dur a glo a’u disodli â swyddi â chyflogau gwael mewn sectorau heb sgiliau. Dyna pryd y dechreuodd ein cynnyrch domestig gros lithro, oherwydd, er ei bod yn ymddangos bod diweithdra yn is neu'n mynd yn is, roedd cyfraddau cyflogau pobl yn mynd yn is hefyd. Rydym ni wedi gwrthod hynny. Nid ydym ni’n derbyn bod model economaidd Cymru wedi'i seilio ar fod yr economi cyflog isaf yng ngorllewin Ewrop. Dyna'n union beth oedd yn digwydd ar ddiwedd y 1990au, yn arbennig. Gwnaethom yn siŵr ein bod yn mynd ar ôl buddsoddiad o ansawdd uchel. Mae gennym ni Wylfa B, mae gennym ni Surf Snowdonia, mae gennym ni Airbus, mae gennym ni Raytheon, a Maes Awyr Caerdydd—fe wnaethom ni achub hwnnw, byddai wedi cau—Aston Martin, CGI; mae'r rhestr yn faith. Rydym wedi denu buddsoddiad i Gymru ar lefel sgiliau na fyddai wedi ei ystyried yn y 1990au. Yn y pen draw, bydd hynny'n cynyddu incwm gwario gros aelwydydd, bydd mwy o arian ym mhocedi pobl, ac mae hynny'n rhywbeth na fyddwn ni'n ei newid.

Mynegodd ofid am ddibyniaeth ar fuddsoddiad uniongyrchol o dramor. Nid ydym ni’n mynd i fod yn hunangynhaliol, rydym ni'n deall hynny. Bydd buddsoddiad uniongyrchol o dramor yn hynod bwysig i ni yn y dyfodol; yr Unol Daleithiau yw ein buddsoddwr mwyaf o bell ffordd. Ydym—er na wnaeth y pwynt, rwy’n amau ei fod eisiau gwneud y pwynt hwn—rydym yn dymuno sicrhau ein bod yn annog mwy o entrepreneuriaid ifanc, lleol. Ac rydym yn gweld bod mwy o fusnesau yng Nghymru yn cael eu sefydlu erbyn hyn ac yn fwy llwyddiannus nag o'r blaen. Rwy'n cwrdd â phobl ifanc ac maen nhw’n cael eu hannog nawr mewn ffordd nad oedden nhw byth flynyddoedd yn ôl, pan oeddwn i yr un oed â nhw, ac maen nhw'n sefydlu busnesau, mae ganddyn nhw yr hyder i wneud hynny, mae ganddyn nhw’r hyder i dyfu ac i weithio gydag eraill. Rwy'n gweld ein prifysgolion, nad oedden nhw am amser maith yn gweithio gyda busnesau, nid oedden nhw’n ei ystyried yn rhan o'u cylch gwaith—. Maen nhw bellach yn gallu gweithio gyda'u graddedigion ac ymchwilwyr dawnus i sefydlu busnesau cysylltiedig, ac rydym ni’n eu gweld o gwmpas Abertawe ac o gwmpas Caerdydd—nid yno’n unig, ond yno yn arbennig.

Wrth gwrs, mae angen i ni sicrhau ein bod yn hyblyg, ac, ydw, os ydyn ni wedi cynhyrchu nifer o gynlluniau economaidd dros y blynyddoedd, rwy’n pledio'n euog i hynny; mae hynny oherwydd bod amgylchiadau'n newid. Yr her fwyaf y gwnaethom ni ei hwynebu oedd chwalfa 2008. Roedd hynny'n her enfawr i bob un economi yn y byd datblygol. Gyda ProAct a ReAct, gwnaethom sicrhau (a) bod pobl yn cadw eu swyddi, a (b) eu bod yn cael eu hyfforddi yn y swyddi hynny. Fel arall, byddai diweithdra wedi bod yn llawer, llawer uwch. Rydym ni’n gweithio gyda'n busnesau i gyflawni'r gorau ar gyfer ein pobl. Nawr, yn y pen draw, wrth gwrs, bydd yn cael y cyfle i edrych ar y cynllun gweithredu economaidd. Rwy'n siŵr y bydd yn dadlau ac yn anghytuno ag Ysgrifennydd y Cabinet. Ond pan ddaw i gymharu Cymru nawr â sut yr oedd Cymru yn y 1990au—gwlad â diweithdra uchel, rhagolygon isel, cyflogau isel iawn, polisi bwriadol i ddod â swyddi sgiliau isel, cyflog isel—rydym ni wedi dod ymhell ers hynny, ac rydym ni’n bwriadu mynd llawer ymhellach.

Fel arfer, erbyn i mi gael fy nghyfle i yn y datganiadau hyn, mae bron bob pwynt da wedi'i wneud, ac mae Adam Price wedi dweud yn dda bod—

Wel, gallech chi. Rwy'n siŵr na fyddwch chi, Dirprwy Lywydd, gan eich bod yn llywydd teg ar y Cynulliad. Ond, fel y mae Adam Price wedi nodi'n effeithiol, gan fod y ddogfen ei hun yn ailadrodd ac yn ailwampio deunydd sydd wedi cael llawer o sylw yn y gorffennol, efallai na fydd beirniadaeth ailadroddus ohono'n hollol amhriodol. Pan oeddwn i'n arfer mynd i'r ysgol Sul yn fachgen bach, un o'm hoff emynau oedd ‘Tell me the old, old story’, ac wrth gwrs, dyna sydd gennym ni yma. Rwy'n credu bod y Prif Weinidog, ar un ystyr, wedi bod yn ddigon caredig i gyfaddef bod hynny’n wir. Oherwydd pan es i drwy’r ddogfen hon a gofyn, ‘Beth sy'n newydd?’, a mynd trwy ‘Symud Cymru Ymlaen’, roedd hi’n anodd dod o hyd i unrhyw beth a oedd yn newydd o gwbl. Ac wrth gwrs, gallwn ni i gyd chwerthin ar yr ystrydebau amrywiol sydd ynddo; mae pob llywodraeth yn cynhyrchu dogfennau o'r fath. Nid wyf yn dweud o gwbl bod Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am bopeth sydd o’i le ar Gymru a’i bod wedi methu'n llwyr yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf, ond y prif bwynt sy'n codi, yn fy marn i, o'n profiad ni o'r 20 mlynedd diwethaf, yw bod methiant Llywodraeth Cymru, o'i gymharu â'r hyn sydd wedi bod yn digwydd mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig a gweddill y byd, yn amlwg iawn yn wir. Ac mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi sôn am yr ystadegau amrywiol, ac Adam Price eiliad yn ôl. Mae'n wir bod pobl Cymru yn dlotach heddiw, yn gymharol, nag y maen nhw wedi bod ers blynyddoedd lawer iawn. Mae'n wir, i raddau, fel y dywedodd y Prif Weinidog, oherwydd newid diwydiannol—roedd glo a dur yn swyddi â chyflogau da ac nid oedd yn bosibl cynnal y diwydiannau hynny ar y lefelau yr oedden nhw’n arfer cyflogi—nid ydym wedi llwyddo i ddenu i Gymru y swyddi â chyflogau uwch a ddylai fod wedi dod yn eu lle, a dyna'r her allweddol ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod.

Yr unig beth sy'n bwysig yn y ddogfen hon yw'r darn am feithrin diwylliant entrepreneuraidd, oherwydd os na allwn ni gynyddu gallu economi Cymru i greu cyfoeth, ni allwn gynhyrchu'r refeniw treth sy'n talu am yr holl wasanaethau cyhoeddus sef y pethau da yr ydym ni eisiau eu gweld, ac sydd wedi'u nodi'n dda yng ngweddill y ddogfen. Yma, nid wyf i’n credu bod stori Llywodraeth Cymru yn rhagorol o gwbl. Yn fwyaf diweddar, rydym ni wedi gweld y llanast ynghylch Cylchffordd Cymru. Roedd hwn yn brosiect enfawr o'r sector preifat a fyddai, pe byddai wedi cael ei weithredu, wedi dod â swm sylweddol iawn o gyfalaf ar gyfer y fenter benodol honno, ond yn sgil hynny, efallai y byddai llawer mwy wedi'i ddenu. Roedd ymagwedd Llywodraeth Cymru ynghylch hynny mor ddiddychymyg fel nad oeddwn yn gallu credu’r peth, gan ein bod wedi ein harwain ar y llwybr hwnnw yn ystod y flwyddyn, neu’r 18 mis, diwethaf, dim ond i gael ein gollwng dros ochr y dibyn i’r draen fel y cyfeiriodd y Prif Weinidog ato yn ei sylwadau eiliad yn ôl. Mae hynny'n symptomatig o'r broblem: diffyg gweledigaeth Llywodraeth Cymru, fel y mae Adam Price wedi’i nodi'n angerddol.

Ni allaf ond adlewyrchu, fel yr wyf wedi’i wneud o'r blaen, ar yr hyn sy'n digwydd 60 milltir i ffwrdd i'r dwyrain o Gaerdydd gyda pharc technoleg James Dyson. Pam nad ydym ni'n denu pethau o'r fath i Gymru? Oherwydd bod agwedd Llywodraeth Cymru yn anghywir. Ar gyfer y dyfodol, dylai sylweddoli na all llywodraethau greu diwylliant entrepreneuraidd. Mae'r Llywodraeth yn rhan o'r broblem yma. Os yw Cymru i fod yn fwy cystadleuol, yna mae’n rhaid i’r baich rheoleiddio fod yn fwy cymesur; mae'n rhaid i'r baich treth fod yn fwy cymesur. Mae gennym ni gyfle yn y fan hon, ond nid oes dim am hyn yn y ddogfen. Nawr ein bod yn cael y pwerau hyn i godi trethi ac amrywio trethi, yr hyn y dylem ni fod yn ceisio ei wneud yw gwneud Cymru yn fwy deniadol na rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig i helpu i unioni'r cydbwysedd yr ydym wedi'i etifeddu o'r gorffennol a chamgymeriadau llywodraethau o bob plaid, boed hynny ar lefel y DU neu, yn wir, yma yng Nghaerdydd. O ran cyfraddau busnes, unwaith eto, pam nad oes meddylfryd hirdymor ynghylch sut y gallwn ni godi'r baich hwn, sy'n gymaint o rwystr i fusnesau newydd—busnesau bach—wrth geisio sefydlu yn y lle cyntaf, oherwydd bod cost eiddo yn cael ei gynyddu’n artiffisial gan system ardrethi busnes sy’n hynafol ac yn amhriodol ar gyfer y byd modern?

Mae Brexit yn cynnig heriau, yn amlwg, ac mae'r Prif Weinidog bob amser yn sôn am yr heriau. Beth am y cyfleoedd? Mae'r Prif Weinidog yn eiriolwr profiadol. Mae'n amddiffyn yr anniffynadwy mewn modd darbwyllol iawn yn aml iawn yn y Siambr hon. Mae'n eiriolwr dros Gymru mewn rhannau eraill o'r byd. Ond mae ei gwynion cyson ynglŷn â sut y mae'n ddiwedd y byd os ydym yn gadael y farchnad sengl—. Nid yw’r farchnad sengl yn bopeth i ni. Nid oes marchnad sengl, mewn gwirionedd, beth bynnag, oherwydd fel y dywedodd James Dyson ei hun—sy'n gwerthu nwyddau a gynhyrchir yn yr Undeb Ewropeaidd—y diwrnod o’r blaen, mae cyfres o farchnadoedd rhanedig. Oes, mae system sengl o reoleiddio, yn aml iawn, ac mae hynny'n aml yn cael ei gamddefnyddio ac yn creu anfantais i ddiwydiant. Ond pe byddai'r Prif Weinidog yn gallu cynnig rhyw fath o lygedyn o obaith ac optimistiaeth ar gyfer allforion yn y dyfodol, nid yn unig i'r Undeb Ewropeaidd, ond hefyd i weddill y byd—. Wrth gwrs, fel y mae'n dweud, yn llygad ei le, rydym ni’n allforio mwy o Gymru i'r Undeb Ewropeaidd na rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig ac ni fyddwn ni’n gallu llenwi’r bwlch hwnnw dros nos. Ni fydd yn rhaid i ni lenwi’r bwlch dros nos. Mae symudiadau cyfraddau cyfnewid yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wedi mwy na gwrthbwyso unrhyw gynnydd tybiedig mewn tariffau sy'n debygol o gael eu gorfodi os na cheir unrhyw gytundeb â'r UE. Mae busnesau go iawn yn y byd go iawn yn fedrus ac yn hyblyg. Mae'n rhaid iddyn nhw fod felly neu ni fyddan nhw’n goroesi, a dyma'r broblem gyda'r Llywodraeth heddiw. Nid yw'n fedrus, nid yw'n hyblyg, nid oes ganddi wir weledigaeth ar gyfer y dyfodol, a dyna pam nad yw hyn yn cynnig mwy i ni nag unrhyw un o'r dogfennau blaenorol y mae'n ychwanegu atyn nhw—y pentwr anferth y byddwn heb os yn ychwanegu ato yn flynyddol yn y dyfodol.

Gadewch i ni geisio dadansoddi llif ymwybod. Wel, gadewch i ni ddechrau gyda'r newid diwydiannol y dywedodd ef a ddigwyddodd, o dan ei oruchwyliaeth ef, mewn gwirionedd, lawer ohono. Byddai gwlad synhwyrol wedi deall y byddai swyddi’n cael eu colli ym maes glo a dur. Roedd y diwydiant dur yn cyflogi llawer o bobl, mwy nag yr oedd eu hangen, mae’n debyg. Ond mewn gwlad synhwyrol, byddai cynlluniau wedi'u sefydlu i ail-gyflogi pobl mewn swyddi da, ond nid dyna a ddigwyddodd. Yr hyn a ddigwyddodd oedd diswyddo miloedd o bobl ar un diwrnod a’u bod yn cael gwybod, ‘Dyna ni, nid oes swydd i chi’. Dyna pam y cynyddodd diweithdra a dyna pam y gostyngodd ein cynnyrch domestig gros, oherwydd yr ergyd ddeuol honno. Nid oedd hynny'n ymwneud â newid diwydiannol ar ei ben ei hun. Roedd hynny'n bolisi bwriadol gan Lywodraeth nad oedd yn poeni pe bai pobl yn cael eu diswyddo a lle y byddan nhw’n mynd ar ôl hynny.

Rwy'n cytuno ag ef am yr angen i greu diwylliant entrepreneuraidd a dyna beth mae'r ddogfen yn ei ddangos. Ond mae'n hynod bwysig—soniodd am Gylchffordd Cymru—nad ydym yn ailadrodd camgymeriadau'r gorffennol. LG, gwyddoch chi, oedd un o'r camgymeriadau mwyaf y gwnaeth Awdurdod Datblygu Cymru mewn gwirionedd—. Roedd ganddyn nhw enw da tan hynny, ond hwn oedd un o'r camgymeriadau mwyaf a ddigwyddodd, o edrych yn ôl. Ac mae'n rhaid i ni fod yn ofalus iawn ynglŷn â'r hyn yr ydym ni’n ei gefnogi a’r hyn nad ydym ni’n ei gefnogi.

Mae'n sôn am yr hyn sy'n digwydd 60 milltir i'r dwyrain gyda James Dyson, wrth gwrs. Ymddengys fod ei ddadl ef am yr UE yn ymwneud â rheoleiddio sugnwyr llwch, hyd y gwelaf i. Mae'n eithaf amlwg mai marchnad sengl ydyw. Ble mae'n gweithgynhyrchu? Nid yw'n gweithgynhyrchu yn y DU, nac ydy? Felly, mae problemau yn y fan honno. Os yw mor wladgarol â hynny, efallai y dylai leoli popeth y mae'n ei wneud yn y DU ei hun.

O ran y baich rheoleiddiol y mae'n sôn amdano, beth yw hwnnw? Os yw'n dweud bod baich rheoleiddiol, byddai'n ddiddorol gwybod lle y mae'n gweld y beichiau hynny, gan nad yw'n rhoi unrhyw esiamplau. Mae'n sôn am faich treth. Mae'n rhoi enghraifft o ardrethi busnes. Rydym ni, wrth gwrs, yn ystyried sut y gallwn ni sefydlu system ryddhad barhaol o ran ardrethi busnesau bach. Rydym ni’n ystyried sut y gellir gwneud hynny gyda'r bwriad o weithredu hynny. Mae’n dweud bod ein hagwedd yn anghywir. Wel, gallaf ond cyfeirio—. Gallwn i fynd trwy restr lawn o bethau, ond fe’i cyfeiriaf at y geiriau a ddefnyddiwyd gan Aston Martin. Daethon nhw i Gymru, nid oherwydd bod mwy o arian yn cael ei gynnig, ond oherwydd balchder a phroffesiynoldeb Llywodraeth Cymru. Dyna pam y daethon nhw i Gymru a gellir ailadrodd hynny ar hyd a lled Cymru o ran y swyddi yr ydym ni wedi eu denu i Gymru.

Mae'n sôn am Brexit. Mae'n cydnabod bod yna heriau. Yn wir, mae heriau yn sgil Brexit. Mae'r farchnad sengl yn sicr yn bodoli, oherwydd ei bod yn defnyddio tariff cyffredin, ac o ganlyniad i hynny, i gael mynediad i’r farchnad honno, mae'n rhaid i bob un ohonom ni dalu'r tariffau neu ddod o hyd i ffordd o gytuno i osgoi talu'r tariffau hynny. A fodd bynnag, os oes gennych chi dariffau, mae gennych chi ffin galed yn Iwerddon. Nid oes unrhyw ffordd o osgoi hynny, oherwydd ni allwch chi gael system o dariffau ac yna dweud ‘Gyda llaw, mae gennym ni ffin tir gyda'r UE lle nad oes unrhyw reolau tollau o gwbl nac unrhyw dariffau yn daladwy’. Felly, nid yw eisiau ffin galed—iawn, rwy’n derbyn hynny—ond ni allwch chi gael tariffau a pheidio â chael ffin galed; mae'r ddau yn cyd-fynd â’i gilydd a'r holl ganlyniadau—canlyniadau trasig, mewn gwirionedd—a allai fod o ganlyniad i hynny.

Os gaf i hefyd ddadansoddi dadl y defnyddiodd ef yn gynharach. Dywedodd nad oedd ots am dariffau oherwydd bod y gyfradd gyfnewid wedi datrys y mater hwnnw. Wel, wrth gwrs, mae'r gostyngiad yn y bunt yn golygu bod nwyddau o'r Undeb Ewropeaidd bellach yn ddrutach yn y DU. Ychwanegwch dariffau ar ben hynny ac maen nhw’n ddrutach fyth a’r defnyddiwr sy’n talu amdanynt. Un o'r pethau na allwn ni byth ei ddeall yn y sgyrsiau a gefais gyda David Davis rai misoedd yn ôl oedd ei fod yn parhau i ddweud y gall tariffau roi pot o arian i ni y gallwn ni ei ddefnyddio i gefnogi busnes. Iawn, ond maen nhw'n cael eu talu gan y defnyddiwr. Y dyn cyffredin sy'n talu'r tariffau, nid y busnesau. Yn y pen draw, mae’r gost yn cael ei throsglwyddo i'r rhai sy'n prynu'r cynnyrch y mae tariff arno. Felly, mae'n anodd gweld sut y gall cyfraddau cyfnewid oresgyn y broblem os gorfodir tariffau. Siawns ein bod yn dymuno gweld byd lle, yn hytrach na gweld y DU yn cymryd marchnad o 400 miliwn o bobl ac eisiau gweld tariffau yn cael eu gorfodi ar eu nwyddau sy'n mynd i mewn i'r farchnad—siawns nad oes neb eisiau gweld hynny yn digwydd. Felly, mae llawer o’r hyn a ddywedodd na allaf ei dderbyn. Dywed fy mod i'n amddiffyn yr anniffynadwy. Mae'n rhaid i mi ddweud wrtho, rwy’n fwy na pharod heddiw i amddiffyn ac eirioli dros yr hyn y gellir ei amddiffyn yn fawr iawn.

Hoffwn i ddiolch i Adam Price am y geiriau hyfryd, caredig. Rwy'n siŵr y byddan nhw’n gwneud byd o les i mi; diolch yn fawr. Ond rwy'n credu, mewn gwirionedd, mai rhywbeth i'w ddathlu ydyw, y rhyddid i fynegi ar y meinciau Llafur hyn. Rydym ni wedi cael ein hannog gan y Llywodraeth i gyfrannu at yr hyn y maen nhw’n ceisio'i wneud, ac nid wyf i erioed wedi cael fy annog gymaint i leisio barn fel gwleidydd etholedig.

Gyda hynny mewn golwg, rwy’n mynd i leisio fy marn. Mae gennyf i gwestiwn neu ddau am y strategaeth genedlaethol. Yn gyntaf, ar dudalen 25 mewn cysylltiad â gofal cymdeithasol: mae'n dweud bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu buddsoddi mewn model newydd arloesol ar gyfer darparu gofal yn y gymuned. A wnaiff y Prif Weinidog ateb y cwestiwn hwn yn uniongyrchol? [Torri ar draws.] Ydy e'n ceisio dod o hyd i'r ddogfen? Mae’n sôn ar dudalen 25 am

fuddsoddi mewn model newydd arloesol ar gyfer darparu gofal yn y gymuned.

A fyddai'r Prif Weinidog yn ystyried y sector cyhoeddus yn creu cartrefi gofal gan ddefnyddio adeiladau presennol neu adeiladau newydd, a chaniatáu i weithredwyr dielw bach, lleol eu rhedeg, gan felly roi pwyslais sylfaenol ar ofal cymdeithasol sylfaenol yn ein cymunedau?

O ran cynllunio, ar dudalen 5 mae'n dweud

bod y system gynllunio iawn yn hollbwysig i gyflawni ein hamcanion yn y strategaeth hon.

Byddwn i’n dadlau, er gwaethaf Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 a oedd yn croesawu creu cynlluniau datblygu strategol sydd eto i’w gweithredu, bod cynlluniau datblygu lleol yn amlygu anghydraddoldeb rhanbarthol yn y system gynllunio gyfredol; maen nhw’n fethedig. Rydym ni’n gweld drwy gynlluniau datblygu lleol gorddatblygiad y de, yn enwedig yn fy ardal i ar hyd goridor yr M4, a thanddatblygiad a diboblogi y gogledd. Byddwn i’n dadlau bod cynlluniau datblygu lleol ynghlwm yn llwyr â’r hyn sy'n ddichonadwy, a’r hyn a olygir gan ddichonadwy yw proffidiol. Mae angen i ni ystyried hynny a sut yr ydym yn newid hynny. Ac roedd tudalen 24 y ddogfen yn galonogol i mi, gan ddweud y bydd Llywodraeth Cymru yn

datgloi potensial BBaChau i adeiladu cartrefi.

Mae hynny'n gam calonogol iawn, ond un o'r pethau a fydd yn helpu busnesau bach a chanolig yw adfer safleoedd tir llwyd. A fyddai Llywodraeth Cymru felly yn ystyried adolygu polisi o ddarparu cymorth ar gyfer adferiad, a fyddai'n galluogi busnesau bach a chanolig i ddatblygu safleoedd tir llwyd, yn enwedig yn rhannau gogleddol yr ardaloedd yr wyf i’n eu cynrychioli?

Ac yn olaf, mae croeso mawr i ymagwedd ranbarthol, yn enwedig os yw'n ddull sydd wedi’i seilio ar leoliad, ac edrychaf ymlaen at weld sut y gellir gwneud hynny yn y cynllun economaidd sydd i ddod. Beth fydd yr olion traed rhanbarthol hynny ac a yw'r Prif Weinidog yn ffyddiog bod gan lywodraeth leol y strwythur, a hefyd y sgiliau a'r wybodaeth i gyflwyno strategaethau economaidd lleol? Bydd, bydd y Bil llywodraeth leol yn datblygu strwythur, ond a all ef fod yn ffyddiog y bydd sgiliau a gwybodaeth hefyd yn cael eu datblygu ochr yn ochr â hynny, yn enwedig o ran caffael, er enghraifft?

Yn gyntaf, mae'r Aelod yn gwbl gywir i ddweud ein bod yn annog y math hwnnw o feddwl. Fel y mae’n gwybod, rydym ni wedi trafod sawl gwaith pa mor bwysig yw gallu defnyddio syniadau newydd o’r tu allan i'r Llywodraeth, ac rwy’n croesawu’r sylwadau a wnaeth. Gofynnodd gwestiwn uniongyrchol i mi a'r ateb yw 'ydym'. Rydym ni eisiau ystyried pob strwythur posibl o ran rhedeg cartrefi gofal, ac mae hwnnw’n syniad y gellir ei ystyried, yn sicr, i weld pa mor ddichonadwy ydyw.

O ran CDLlau, mae'n iawn dweud nad yw CDLlau ar eu pennau eu hunain yn ddigonol bellach. Mae’n rhaid i gynllunio rhanbarthol fod yn llawer cryfach, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni’n bwriadu parhau i symud ymlaen ag ef yn rhan o'r Bil llywodraeth leol. Mae'n hollol gywir i ddweud ein bod ni'n byw mewn byd lle nad yw ffiniau llywodraeth leol mewn gwirionedd yn cael eu parchu gan gynllunwyr, na chan natur, na chan ddaearyddiaeth, ac mae'n golygu pan fydd un awdurdod lleol penodol yn edrych ar ei CDLl yng nghyd-destun yr hyn sy'n digwydd yn ei ardal ei hun yn unig, yn aml ceir effaith ganlyniadol rywle arall. Ac felly, bydd gweld cynllunio rhanbarthol yn y dyfodol yn hynod bwysig. Mae’r mater o ôl troed rhanbarthol yn rhywbeth a fydd yn cael ei ystyried yn rhan o'r Bil llywodraeth leol. Rydym ni’n dymuno annog awdurdodau lleol i gydweithio er mwyn sefydlu strwythurau cynllunio rhanbarthol.

Mae'n gofyn y cwestiwn i mi: a ydw i’n ffyddiog y gall pob awdurdod lleol gyflawni o ran strategaethau economaidd lleol? Yr ateb i'r cwestiwn hwnnw yw: nac ydw, ni allan nhw ei wneud ar eu pennau eu hunain. Dyna lle mae angen iddyn nhw weithio gyda'i gilydd. Nid wyf yn credu bod digon o ddyfnder ym mhob awdurdod lleol unigol yng Nghymru i ddatblygu'r math o strategaeth economaidd sydd ei hangen, ond drwy gydweithio ar ôl troed rhanbarthol, gellir creu'r dyfnder hwnnw. Ac wrth gwrs, rydym ni’n gwybod hefyd nad yw economïau yn parchu ffiniau llywodraeth leol. Mae'n hynod bwysig bod awdurdodau Blaenau'r Cymoedd yn gallu gweithio gyda'i gilydd er budd pawb, yn hytrach na meddwl ‘Byddwn ni’n ymdrin â’r hyn sy'n digwydd yn ein hardal ni yn unig.’ Rydym ni’n gwybod nad yw'r byd yn gweithio fel hynny. Ac mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni’n awyddus i'w wneud. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gweithio'n agos iawn gydag arweinwyr llywodraeth leol, ac maen nhw’n deall y neges honno. Ni allwn ni barhau ar drywydd sy'n trin Cymru fel 22 o ardaloedd gwahanol sy'n gweithredu bron yn gyfan gwbl yn annibynnol ar ei gilydd, a dyna pam y bydd cynllunio rhanbarthol yn dod yn bwysicach yn rhan o'r Bil hwnnw.

Yn olaf, mae'n sôn am safleoedd tir llwyd. Ydym, rydym ni eisiau gweld mwy o adfer tir llwyd, ond mae cost sylweddol i hyn. Rwy’n gwybod am o leiaf un enghraifft y gwnes i ymdrin â hi pan oeddwn i'n Weinidog dros yr amgylchedd, pan oedd y gost o adfer un safle bach yn £20 miliwn. Yn y gorffennol oedd hynny, 10 mlynedd yn ôl, oherwydd nad oedd y busnes yn bodoli mwyach —y perchnogion gwreiddiol. Ac o ganlyniad i hynny, mae'r atebolrwydd yn dod i ddwylo Llywodraeth Cymru. Dyma’r sefyllfa gyda glo brig hefyd. Nawr, mae problemau gwirioneddol yn bodoli o ran adfer safleoedd brig glo, a bydd rhai ohonom ni yn y Siambr hon yn fwy na chyfarwydd â nhw, a beth sy'n digwydd os nad yw'r busnes sy'n berchen ar y safle yn bodoli mwyach—mae'n mynd i ddwylo’r derbynwyr neu’n diflannu yn llwyr. Ac felly, mae'r rhain yn faterion yr ydym yn ymrafael â nhw, ond mewn egwyddor, wrth gwrs, rydym ni’n dymuno gweld rhagor o safleoedd tir llwyd yn cael eu hadfer, ond mae’n rhaid i ni wneud hynny ar y sail ei bod yn glir bod cyfyngiad ar yr hyn y gallwn ni fforddio talu amdanyn nhw yn y flwyddyn ariannol.

Prif Weinidog, a gaf i groesawu o ddifrif yr ymdrech i geisio uno gwahanol feysydd gweithgarwch y Llywodraeth? Mae llywodraethau yn aml yn cael eu beirniadu am feddylfryd seilo, ac rwy’n credu bod y Llywodraeth yn haeddu rhywfaint o ganmoliaeth yn y ddogfen hon am y ffordd y mae wedi ceisio dod â gwahanol feysydd ei rhaglen a'i strategaeth at ei gilydd. Ac rwy’n edrych ymlaen, pan gaiff y cynlluniau gweithredu eu cyhoeddi, at fwrw ymlaen â manylion hyn, i weld sut y bydd hynny'n gweithio'n ymarferol.

Y maes penodol yr oeddwn i’n dymuno canolbwyntio arno oedd awtomeiddio, sy'n trawstorri amrywiaeth o bortffolios a meysydd, a bydd yn effeithio'n sylweddol ar bopeth a wnawn. Ac rwy’n synhwyro nad yw pob lefel o’r Llywodraeth yn ddigon parod ar gyfer y storm sy'n cael ei rhyddhau o'n cwmpas. Rydym ni eisoes wedi gweld effaith cau canolfan alwadau Tesco yng Nghaerdydd a'i symud i Dundee, ac rwyf ar ddeall bod hyn wedi’i seilio’n llwyr ar ystyriaethau ynghylch awtomeiddio. Mae cydnabyddiaeth yn y strategaeth mai'r amddiffyniad gorau fydd pobl sydd â'r gallu i weithio'n well ac yn ddoethach na pheiriannau ac sy’n gallu datrys y problemau na all peiriannau eu datrys. Ac, wrth gwrs, mae sgiliau yn rhan bwysig o ymdrin ag awtomeiddio. Ond mae hynny'n colli'r cyfleoedd hefyd.

Ydy, mae'n iawn—mae fformiwla Banc Lloegr yn awgrymu y gallai rhyw 700,000 o swyddi fod dan fygythiad yng Nghymru, ond os ydym ni’n manteisio ar awtomeiddio, mae cyfleoedd i ni hefyd, o ran gweithgynhyrchu, dylunio a chyflwyno roboteg. Es i ar ymweliad diddorol â Choleg Peirianneg Prifysgol Abertawe ddydd Gwener diwethaf, lle mae gwaith arloesol iawn yn digwydd ar yr agenda hwn yng Nghymru, ac ymweliad yr wythnos flaenorol ag EBS Automation Ltd yn Nafen, sy'n gwneud gwaith rhyfeddol. Felly, mae stori gadarnhaol i'w adrodd, ond roedd y pwynt y gwnaeth y Prif Weinidog ychydig o funudau yn ôl yn drawiadol, wrth feirniadu methiant Llywodraethau blaenorol i ymateb i'r swyddi yr oedd disgwyl eu colli yn y diwydiannau glo a dur yn y 1980au, a'r methiant i gynllunio ar gyfer yr hyn yr oedden nhw’n gwybod y byddai’n debygol o fod yn addasiad yn yr economi. Ac rwy'n credu ein bod ni’n wynebu newid tebyg o fewn cenhedlaeth. Rydym yn gwybod y bydd tarfu sylweddol ar y ffordd yr ydym ni’n trefnu gwasanaethau cyhoeddus a'r economi, ac mae’n rhaid i ni fod yn barod ar ei gyfer, ac mae’n rhaid i hyn ddigwydd ar draws y Llywodraeth gyfan. Ac rwy’n gobeithio y bydd ef yn arwain y gwaith hwnnw yng Nghymru.

Mae'r Aelod yn hollol gywir. Y newid mawr, rwy’n credu, a ddigwyddodd yn ystod y blynyddoedd diwethaf yw cyflymder y newid. Ni fyddai wedi bod yn anodd rhagweld yn y 1970au bod glo—yn arbennig glo—yn dirywio. Ni allai neb fod wedi rhagweld y colli swyddi sydyn a ddigwyddodd, ond dyna fu’r duedd ers 1914. Yr hyn yr ydym ni’n ei weld yn awr yw cyflymder newid na fyddai wedi ei ystyried yn bosibl yn y 1970au. Ddeng mlynedd yn ôl, nid oedd y pwysau ar y sector manwerthu yr hyn y maen nhw yn awr, o ran cystadleuaeth o ffynonellau ar-lein, ac mae hynny'n rhywbeth y bu'n rhaid i'r sector manwerthu addasu iddo, yn llafurus iawn. Mae canolfannau galwadau o dan bwysau nawr mewn ffordd nad oedden nhw 10, 12 mlynedd yn ôl, wrth i dechnoleg wella. Yr her i ni, a Llywodraethau eraill, yw sicrhau, os bydd swyddi’n cael eu colli yn y meysydd hynny, bod swyddi eraill yn cael eu creu mewn mannau eraill, yn amlwg, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni’n ymwybodol iawn ohono.

Un o'r diwydiannau lle rydym ni'n arweinwyr byd mewn gwirionedd yw yswiriant—nid yn unig o ran cwmnïau unigol, ond gwefannau cymharu. Un o'r heriau y mae yswirwyr yn ei hwynebu yw ceir heb yrrwr—ceir sy'n gallu gyrru eu hunain. Beth y mae hynny'n ei olygu o ran asesu risg yswiriant? Sut ydych chi'n cyfrifo'r premiwm? Pwy sy’n atebol? Ond mae'r pethau hyn yn cael eu hystyried ar hyn o bryd, gan ein bod ni'n gwybod, ymhen 10 mlynedd—yn gynt na hynny, mae’n debyg—y bydd hon yn broblem wirioneddol. Felly, mae'n hollol gywir i ddweud bod heriau yn y fan honno, mae'n debyg nad ydyn nhw hyd yn oed wedi eu rhagweld eto, y mae'n rhaid eu cydnabod mor gyflym â phosib—rhai sy'n ymddangos yn bell, ond y byddan nhw ar ein gwarthau mewn dim o amser. Rydym ni'n barod iawn am yr her honno, er mwyn sicrhau, lle gwelwn newid yn digwydd, ein bod yn gwybod bod Cymru'n barod ar gyfer y newid hwnnw, a’n bod ni’n gwella sgiliau ein pobl, er mwyn sicrhau eu bod yn gallu manteisio ar y newidiadau hynny, mewn byd sy'n newid yn gyflym.

Fel Adam Price, rwyf innau hefyd wedi gwneud rhywfaint o ddarllen yn gyflym—llwyddais i ddarllen y ddogfen yn ystod un o'r cwestiynau yng nghwestiynau'r Prif Weinidog yn gynharach. Ac roedd pwyntiau yn y ddogfen yr oeddwn yn falch o'i weld yn y fan honno. Ond rwy'n siomedig, heddiw, nad ydym ni wedi gweld strategaeth economaidd gynhwysfawr. Fel aelodau eraill ar draws y Siambr hon, o bob plaid, dyna oeddwn i'n ei ddisgwyl. Ond a gaf i ofyn pam mae oedi wedi bod wrth dderbyn y ddogfen hon? Ym mis Gorffennaf, gwnaethoch ymrwymo y byddem ni’n gweld y ddogfen cyn diwedd y tymor. A gaf i ofyn i chi ddarparu dyddiad penodol o ran pryd y byddwn ni’n gweld y camau gweithredu penodol ar gyfer 'ffyniannus a diogel' a'r strategaeth economaidd? A phan fyddwn ni’n gweld y ddogfen honno, a fydd hynny'n ddogfen gynhwysfawr?

Wrth baratoi'r strategaeth hon, a gaf i ofyn sut y mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod ei bolisïau economaidd yn ategu strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU? Byddwch chi hefyd yn ymwybodol bod y strategaeth ddiwydiannol yn rhoi pwyslais mawr ar fynd i'r afael â'r anghysondeb rhanbarthol yn y ffyniant economaidd a'r prinder sgiliau sy'n bodoli ledled y DU. Nawr, rwy’n croesawu’n fawr iawn yn y ddogfen heddiw—nodaf eich bod yn bwriadu targedu ymyrraeth i anghenion economaidd pob rhanbarth. Mae hynny'n rhywbeth yr wyf i’n ei groesawu'n fawr iawn, a chroesawaf y cyfeiriad hefyd y byddwch chi’n canolbwyntio ar gryfderau pob rhanbarth—mae hynny i'w groesawu hefyd. Felly, sut y bydd strategaeth y Llywodraeth yn mynd i'r afael â'r materion hyn yn benodol, i ysgogi cynnydd mewn cynhyrchiant yn y gogledd a'r canolbarth yn arbennig? A gaf i ofyn yn hynny o beth pa ystyriaeth y mae'r Llywodraeth wedi'i rhoi i ddatblygu strategaeth economaidd ar gyfer canolbarth Cymru yn arbennig, a bargen dwf i ganolbarth Cymru?

Hefyd, ymddengys fod llai o bwyslais ar annog buddsoddiad mewnol yn y strategaeth hon. A wnewch chi, Prif Weinidog, gadarnhau bod eich Llywodraeth yn symud i ffwrdd o fewnfuddsoddiad fel piler allweddol o ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at ddatblygu economi Cymru? Ac os felly, sut y bydd y strategaeth yn sicrhau bod Cymru'n manteisio ar y cyfleoedd buddsoddi ac allforio a fydd yn codi o ganlyniad i Brexit, er mwyn hybu cysylltiadau masnach â phartneriaid eraill o bob cwr o'r byd?

Gofynnwyd am nifer o gwestiynau yn y fan honno, a chamau penodol, yn arbennig. Y pethau pwysicaf yn gyntaf: bydd y cynllun gweithredu economaidd yn cael ei gyhoeddi yn ystod yr hydref a bydd ar gael i'r Aelodau ei weld.

Mae strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU yn aneglur. Nid dyma'r strategaeth fwyaf manwl. Edrychwn ymlaen at weld hynny yn datblygu dros amser. Y cwestiwn mawr nad yw'n cael ei ateb ynglŷn â hynny a'r gronfa ffyniant a rennir yw sut y bydd yn ymgysylltu â gwaith y Llywodraethau datganoledig. Ni fydd cronfa ffyniant a rennir yn gweithio os yw Llywodraeth y DU yn penderfynu ar ei blaenoriaethau yn unig. Ni fydd yn ymgysylltu’n iawn â'r hyn sy'n digwydd yng Nghymru a'r hyn sy'n digwydd yn yr Alban. Rydym ni’n aros i weld sut y bydd hynny'n gweithio allan.

Mae'n sôn am y cytundeb twf canolbarth Cymru—mae hynny, wrth gwrs, yn rhywbeth y byddem ni’n dymuno arno wrth ddatblygu'r ddogfen hon a thu hwnt. Nid ydym ni’n symud i ffwrdd o fuddsoddiad mewnol. Mae buddsoddiad mewnol yn hynod bwysig i economi Cymru ac, yn unol â hynny, rwyf i, ers rhai misoedd, wedi edrych ar sut y gallwn ni roi hwb i'n presenoldeb dramor o ystyried bod Brexit yn digwydd. Ble arall y gallwn ni edrych? Pa farchnadoedd newydd allwn ni edrych arnynt? Ble dylem ni roi swyddogion Llywodraeth Cymru ar waith, fel arfer, â swyddogion yn yr hyn a oedd yn Fasnach a Buddsoddi y DU mewn swyddfeydd ledled y byd? Mae'r gwaith hwn yn bwysig i godi proffil Cymru. Rydym ni’n deall hynny ac mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo, ond mae'n iawn dweud bod codi proffil Cymru yn hynod bwysig—rydym ni’n gwybod hyn—o ran denu buddsoddiad. Byddwn i’n dadlau ein bod wedi gwneud hynny. Rydym ni wedi cael y buddsoddiad gan Qatar Airways, wrth gwrs, i'r maes awyr, ynghyd â llawer o bobl eraill o wledydd eraill, ac mae'n hynod bwysig bod momentwm yn parhau yn y dyfodol fel bod y llwyddiant a gawsom yn ystod y blynyddoedd nesaf yn cael ei ailadrodd pan ddaw at ddenu buddsoddiad tramor uniongyrchol.

Prif Weinidog, hoffwn i groesawu'r ymrwymiad yn y strategaeth genedlaethol i fodel newydd o ddatblygu economaidd sy'n canolbwyntio ar y rhanbarth. Rwy'n credu bod hynny'n arbennig o bwysig yn wyneb Brexit a cholli'r arian rhanbarthol y byddwn ni’n ei brofi o ganlyniad i hynny. Fodd bynnag, mewn cyhoeddiadau diweddar ar ddatblygu rhwydwaith o ganolfannau twf rhanbarthol, ymddengys bod y rhain yn bennaf yn rhannau mwyaf deheuol ein Cymoedd—mannau fel Pontypridd, Trefforest a Chaerffili. Felly, fy nghwestiwn i yw: sut y bydd y pwyslais rhanbarthol newydd yn cynorthwyo datblygiad economaidd yr ardaloedd mwyaf gogleddol yn ein Cymoedd lle yr ydym yn gwybod bod tlodi, diweithdra a salwch yn parhau i fod yn ystyfnig o uchel?

Yn ail, hefyd, fel eiriolwr angerddol ar gyfer yr economi sefydliadol, rwy'n falch o nodi bod y strategaeth yn sôn am gefnogaeth i fusnesau lleol ac arallgyfeirio cadwyni cyflenwi. Pa wybodaeth ychwanegol allwch chi ei rhoi ar sut y bydd Llywodraeth Cymru yn galluogi busnesau bach i dyfu a ffynnu, i lenwi'r canol sydd ar goll a chreu cyflogaeth gynaliadwy, o ansawdd da ac, yn anad dim, sy’n lleol?

Yn gyntaf, mae’r mater o le y gall canolfannau twf fod yn rhan ogleddol y Cymoedd yn fater sy'n cael ei ystyried gan Dasglu’r Cymoedd. Felly, nid yw hynny'n cael ei golli; mae'n rhywbeth sy'n dal i gael ei ddatblygu. Rydym ni’n deall pwysigrwydd y gallu i edrych ar ganolfannau twf, yn enwedig o gwmpas ffordd Blaenau'r Cymoedd, yr ydym ni'n gwybod y bu’n hynod bwysig i ddatgloi datblygiad economaidd ym Merthyr, fel un enghraifft, ond cymunedau eraill hefyd.

Yn ail, wrth gwrs, rydym ni’n gwybod bod mwyfwy o bobl yn hunangyflogedig, felly mae eu gallu i gael cyngor yn hynod bwysig. Mae gennym ni, wrth gwrs, gyfres o fesurau sy'n gallu cynorthwyo pobl i chwilio am gymorth ariannol lle bo'n briodol, i chwilio am gyngor lle bo hynny'n briodol, ac un enghraifft o hynny yw sicrhau y gall pobl gael gafael ar wasanaethau band eang cyflym. Rwyf i wedi dweud hyn o'r blaen yn y Siambr: mae band eang yn yr unfed ganrif ar hugain yn cyfateb i'r rheilffyrdd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Os ydych chi'n gysylltiedig, rydych chi'n gysylltiedig â'r byd a dyna pam, wrth gwrs, rydym ni wedi buddsoddi cymaint o arian yn Cyflymu Cymru: i ddod â band eang cyflym iawn i lu o gymunedau na fydden nhw byth yn ei gael fel arall—rhai cymunedau trefol, rhai gwledig. Rydym ni’n gwybod ei bod hi'n hynod bwysig bod ein cymunedau'n gysylltiedig, gan ei bod yn golygu y gall pobl sefydlu busnesau yno yn hytrach na gorfod symud i lawr i ran ddeheuol de Cymru er mwyn cael gafael ar y cyflymderau sydd eu hangen arnynt.

Diolch yn fawr iawn, Brif Weinidog, ac ymddiheuriadau i'r Aelodau hynny na allem ni alw arnyn nhw yn y datganiad hwnnw.

5. 4. Datganiad: Bil yr UE (Ymadael)

Rydym yn symud ymlaen at eitem 4, sydd, unwaith eto, yn ddatganiad gan y Prif Weinidog—Bil yr UE (Ymadael). Galwaf ar Carwyn Jones i gyflwyno'r datganiad.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am faterion sy’n ymwneud â Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael), ac yn benodol, y gyfres o welliannau a gyhoeddodd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban ar y cyd y bore hwn.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Bydd yr Aelodau'n ymwybodol o'n memorandwm cydsyniad deddfwriaethol a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf. Mae'r memorandwm hwnnw'n nodi'n fanwl yr agweddau hynny ar y Bil sy'n gofyn am gydsyniad y Cynulliad, ac mae'n disgrifio'n glir iawn pam nad ydym yn derbyn y Bil yn ei ffurf bresennol. Nid wyf yn bwriadu cyflwyno’r dadleuon hynny'n fanwl eto. Yn hytrach, hoffwn i ganolbwyntio ar yr ateb adeiladol, y mae’r gwelliannau a gyhoeddwyd yn eu cynrychioli, sef ateb i broblem a grëwyd yn gyfan gwbl gan Lywodraeth y DU i’w hun, ac un y gellid fod wedi'i hosgoi pe bai ymgais wirioneddol i ymgysylltu â'r gweinyddiaethau datganoledig ar gynnwys y Bil hwn. Nid ydym yn brathu. Byddai wedi bod yn llawer haws inni fod wedi cael y drafodaeth hon beth amser yn ôl.

Gadewch i mi, yn gyntaf, fod yn glir iawn am ein dull cyffredinol ni o ymdrin â’r materion y mae'r Bil yn ceisio mynd i'r afael â nhw. I wneud y pwynt cyntaf ac amlwg, nid yw cyflwyno'r gwelliannau hyn yn ymwneud â herio egwyddor Brexit. Nid ydynt yn herio canlyniad y refferendwm, ond mae'n rhaid i ni fod â Brexit sy'n parchu’r datganoli, a bwriad y gwelliannau hyn yw sicrhau hynny. Rydym bob tro wedi cydnabod yr angen i baratoi ein cyfreithiau ar gyfer ymadael â’r UE, ac yn cytuno bod angen deddfwriaeth i roi eglurder a sicrwydd i ddinasyddion a busnesau wrth i ni adael yr UE.

Cytunwn ei bod yn gwneud synnwyr i gyfraith yr UE gael ei throsi i amryw gyfreithiau'r DU ar adeg yr ymadael, ac mai trwy ddeddfu ar gyfer y DU gyfan yn Senedd San Steffan y bydd hyn yn digwydd orau. Ac rydym yn cytuno bod angen pwerau dirprwyedig ar Weinidogion i wneud y gwelliannau technegol niferus iawn y bydd eu hangen i sicrhau bod y gyfraith yn parhau i weithio'n briodol. Rydym ni bob amser wedi derbyn y bydd meysydd polisi a fydd yn gofyn am gytundeb gan y pedair Llywodraeth i sicrhau, pan fyddwn ni y tu allan i'r UE, na fyddwn yn gwneud unrhyw beth i atal llif rhydd masnach yn y DU. A gwnaethom esbonio sut y dylid ymdrin â hyn yn ein dogfen bolisi, 'Brexit a Datganoli', sy'n cyflwyno dull clir ac ymarferol, sy'n parchu datganoli ac yn ateb y cwestiynau ar sut i sicrhau tegwch ledled y DU o ran polisïau lle mae fframweithiau rheoleiddio yr UE, hyd yma, wedi darparu hyn.

Ond, nid yw'r Bil fel y mae ar hyn o bryd yn addas i'w ddiben. Ni fyddai'n sicrhau y caiff holl gyfraith yr UE ei throsglwyddo i lyfr statud y DU: mae hepgor y siarter hawliau sylfaenol yn un amlwg ac wedi’i wneud am resymau gwleidyddol. Byddai'n rhoi pwerau ysgubol i Weinidogion y DU ddiwygio deddfwriaeth sylfaenol, ac mae'n ymosodiad sylfaenol ar ddatganoli. Byddai'n disodli'r cyfyngiadau presennol ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad hwn, a fydd yn diflannu wrth i'r DU adael yr UE, cyfyngiadau, y dylid nodi, sydd yr un mor berthnasol i Senedd y DU, a dim mwy na allwn ni ddeddfu mewn ffyrdd sy'n anghydnaws â chyfraith yr UE, gyda chyfres newydd o gyfyngiadau a fyddai'n berthnasol i'r sefydliadau datganoledig yn unig ac a fyddai’n cael eu rheoli gan Lywodraeth y DU.

Felly, rydym wedi gweithio gyda Llywodraeth yr Alban i ddatblygu cyfres o welliannau a fydd yn ceisio mynd i'r afael â diffygion y Bil sy’n ymwneud â datganoli. Disgrifiaf yn fyr beth mae'r gwelliannau hyn yn ceisio'i gyflawni, ond cyn i mi wneud hynny, mae angen i mi ddweud unwaith eto nad yw hyn yn ymwneud mewn unrhyw fodd â cheisio rhwystro neu wrthdroi'r broses o ymadael â’r UE. I'r rhai hynny sy'n parhau i honni hyn, estynnaf yn syml wahoddiad iddyn nhw nodi pa rai o'n gwelliannau a fyddai, pe’u derbynnir, yn cael effaith o’r fath.

Llywydd, mae'r gwelliannau a gyhoeddwyd gennym yn ceisio cyflawni pedwar amcan. Yn gyntaf, maen nhw'n diddymu’r cyfyngiad newydd a roddir ar gymhwysedd y deddfwrfeydd a'r Llywodraethau datganoledig sy'n rhoi holl gyfraith yr UE a gedwir y tu hwnt i'n pwerau ni i gyd, trwy ei throi'n gyfraith ddomestig. Mae hon yn ddarpariaeth gwbl ddiangen sy'n torri ar draws egwyddorion y setliad datganoli. Fel y nodais eisoes, mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig dewis arall adeiladol i'r cyfyngiad hwn, sy’n cynnwys y DU a gweinyddiaethau datganoledig yn cytuno ar fframweithiau cyffredin pan fo angen er lles y DU yn gyffredinol. Pe baent wedi dewis ymgysylltu â ni ar hyn, efallai na fyddai fod wedi angen y cymal 11 nodedig.

Yn ail, mae'r diwygiadau yn atal y pwerau dirprwyedig eang a roddir i Weinidogion y DU rhag cael eu defnyddio i ddiwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006 neu Ddeddf yr Alban 1998, neu’n mynnu bod angen caniatâd y weinyddiaeth ddatganoledig i wneud hynny. Ni all fod yn iawn bod modd i Weinidogion y DU ddiwygio Deddfau o’r fath arwyddocâd cyfansoddiadol heb gytundeb y deddfwrfeydd datganoledig, nac yn wir Senedd y DU ei hun, o dan y rheolau a’r confensiynau sefydledig presennol.

Yn drydydd, maen nhw'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion y DU geisio caniatâd y gweinyddiaethau datganoledig os ydynt yn defnyddio eu pwerau dirprwyedig mewn meysydd sydd â chyfrifoldeb datganoledig. Rydym yn cydnabod y gallai fod amgylchiadau, am resymau ymarferol, pan fo’n gwneud synnwyr i Weinidogion y DU ddefnyddio eu pwerau yn y modd hwn, ond ni allwn dderbyn y dylent allu gwneud hynny heb ein caniatâd.

Yn olaf, mae'r gwelliannau yn dileu cyfyngiadau ar y pwerau dirprwyedig a roddir i weinyddiaethau datganoledig fel eu bod yn unol â'r rhai hynny a roddir i Weinidogion y DU. Nid oes unrhyw sail i osod cyfyngiadau ar bwerau gweinyddiaethau datganoledig nad ydynt hefyd yn berthnasol i Weinidogion y DU. Gadewch i mi fod yn glir, fodd bynnag: nid yw hyn yn golygu ein bod yn dymuno'r pwerau ysgubol sydd wedi'u cynnwys yn y Bil fel y'i drafftiwyd ar hyn o bryd. Fel llawer o bobl eraill, mae gennym bryderon ynghylch ehangder y pwerau a’r craffu prin ar eu defnydd y mae'r Bil yn ei ddarparu, a byddwn yn fodlon cefnogi gwelliannau a gyflwynwyd gerbron y Senedd i sicrhau bod y pwerau a roddir i Lywodraeth y DU, a ni ein hunain fel Gweinidogion, yn briodol.

Llywydd, ddoe, siaradais mewn digwyddiad a drefnwyd gan y Sefydliad Materion Cymreig i nodi ugeinfed pen-blwydd y refferendwm datganoli. Mae yna eironi chwerw yn y ffaith fy mod i’n sefyll yma heddiw yn gwneud datganiad ar Fil y DU sy'n cynrychioli'r bygythiad mwyaf, y byddwn i'n dadlau, i'n setliad datganoli ers y diwrnod yr enillwyd y refferendwm. Rwy’n gobeithio’n fawr iawn, felly, y bydd Llywodraeth y DU yn ailfeddwl ei dull o weithredu’r agweddau datganoli ar y Bil hwn.

Rwy'n gobeithio y byddan nhw, a'r holl Aelodau yma, yn cydnabod bod y gwelliannau hyn yn gyfraniad adeiladol a fyddai'n sicrhau'r eglurder a'r sicrwydd y mae pob un ohonom yn cytuno sy’n angenrheidiol, ac yn parchu setliadau datganoli caled y DU. Nid yw'n ymwneud ag atal Brexit; mae'n ymwneud ag amddiffyn buddiannau pobl Cymru. Rydyn ni'n fodlon ac yn barod i weithio'n adeiladol gyda Llywodraeth y DU i ddod i gytundeb ar y Bil, ond os byddan nhw’n parhau â hyn beth bynnag, byddan nhw’n ysgogi argyfwng cyfansoddiadol nad oes ei angen arnyn nhw ac nad ydym ni’n ei ddymuno.

Fel y dywedais yn y ddadl ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yma ar 18 Gorffennaf, mae angen i’r Bil sicrhau y gall y llyfr statud weithredu ar y diwrnod y byddwn yn gadael yr UE. Mae'n dechnegol ei natur, yn sicrhau bod deddfwriaeth anweithredol yn weithredol, ac yn rhoi pŵer â chyfyngiad amser i lywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig i gywiro deddfau yn ôl is-ddeddfwriaeth na fyddai’n gweithredu’n iawn fel arall ar ôl i ni adael yr UE, gan sicrhau y gall busnesau Cymru, gan gynnwys ffermwyr a chynhyrchwyr dur, barhau i fasnachu yn yr UE yn syth ar ôl i'r DU adael yr UE. Felly, croesawaf eich cytundeb yn fawr ei bod yn gwneud synnwyr i gyfraith yr UE gael ei throsi'n gyfraith y DU ar y sail hon ac mai trwy ddeddfu ar gyfer y DU gyfan yn Senedd San Steffan y bydd hyn yn digwydd orau. Rydym ni hefyd, fel chi, bob amser wedi derbyn y bydd meysydd polisi a fydd yn gofyn am gytundeb gan y pedair Llywodraeth i sicrhau, pan fyddwn ni y tu allan i'r UE, nad ydym yn gwneud unrhyw beth i atal y llif rhydd o fasnach yn y Deyrnas Unedig.

Ond wedyn rydych yn parhau i ddweud, fodd bynnag, bod y Bil

'yn cynrychioli ymosodiad sylfaenol ar ddatganoli',

sy'n adlewyrchu'n fawr iawn y sylwadau a wnaethoch ar y diwrnod y cyhoeddwyd y Bil, pan wnaethoch chi ei ddisgrifio, ac rwy’n dyfynnu, fel ‘ymgais hyf i fachu pŵer’. Pam wnaethoch chi ddweud hynny bryd hynny, o gofio eich bod wedi dweud y diwrnod wedyn bod Ysgrifennydd Cymru wedi eich sicrhau y byddech chi a fe yn cydweithio i greu sefyllfa dderbyniol, a’ch bod wedi cael y sicrwydd hwnnw eisoes cyn cyhoeddi eich sylw am 'ymgais hyf i fachu pŵer’?

Rydych chi’n datgan mai'r dewis adeiladol arall fyddai i'r DU a gweinyddiaethau datganoledig gytuno ar fframweithiau cyffredin pan fo angen er lles y DU yn gyffredinol, ac wrth gwrs, rydym yn cytuno â chi’n gyfan gwbl ar y pwynt hwnnw. Bydd Cymal 11, yr ydych wedi cyfeirio ato, yn rhewi pwerau cyfredol y Cynulliad i basio deddfau ar ôl diwrnod yr ymadael. Ond mae'r Bil hefyd yn darparu mecanwaith ar gyfer dadrewi neu ryddhau'r pwerau hyn i'r deddfwrfeydd datganoledig yn ddiweddarach trwy Orchmynion yn y Cyngor. Fodd bynnag, nid yw'n—[Torri ar draws.] Datganiad o ffaith yw hynny; rwy'n datgan ffaith yn syml. Fodd bynnag, rwy’n siŵr y byddwch chi hefyd yn cytuno nad yw'n cynnwys yr hyn a elwir—[Torri ar draws.] Dyna mae'n ei ddweud. Nid yw'n cynnwys yr hyn a elwir yn 'gymal machlud', ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni’n ei resynu hefyd oherwydd ein bod yn credu bod angen fframweithiau cytûn ar gyfer y DU gyfan, sy'n parchu'r setliadau datganoli mewn meysydd datganoledig megis amaethyddiaeth, pysgodfeydd a'r amgylchedd, a bod meysydd anghydfod posibl hefyd, megis meysydd cymhwysedd dros fasnach, cyflogaeth ac, wrth gwrs, feysydd megis cymorth gwladwriaethol. Felly, cynigiais ym mis Gorffennaf y gallem ni edrych ar fodel a nododd y gallai'r cyfyngiad ar gymhwysedd datganoledig ddod i ben pan ddaw fframweithiau cytûn cyffredin i rym. Beth yw barn y Prif Weinidog ar y model hwnnw, o ystyried ei bryder ynghylch absenoldeb, rwy’n dyfynnu, 'cymal machlud', ond hefyd y risg y gallai hyn arwain at orfodaeth yn hytrach na chytundeb y fframweithiau y mae pob un ohonom yn ei geisio?

Fel y dywedais ar ddiwedd dadl mis Gorffennaf, gadewch i ni fynd drwy'r Bil yn gyfrifol, nodi'r newidiadau y gallwn ni i gyd gytuno arnynt—ac yn amlwg mae rhai—ac ymgysylltu â Llywodraeth y DU a'r Senedd i'w cyflwyno yn yr Ail Ddarlleniad. Nid yw fy mhlaid i wedi clywed dim oddi wrthych ers hynny, Brif Weinidog. A wnewch chi ddweud pam nad ydym ni wedi ymgysylltu â’n gilydd ar dir cyffredin ac efallai y byddai gweithio ar y cyd yn ddefnyddiol o bosibl wedi helpu i symud pethau ymlaen?

Rwyf hefyd yn clywed gan y Swyddfa Gymreig y bydd y materion yr wyf wedi'u codi gyda nhw, sy'n gyson â’r sylwadau yr wyf eisoes wedi'u gwneud a phynciau allweddol a godwyd gan y gweinyddiaethau datganoledig a rhanddeiliaid allweddol yng Nghymru, yn sicr yn cael eu bwydo i gamau nesaf y Bil. Ond dywedasant wrthyf hefyd fod llawer o ymgysylltu wedi bod â swyddogion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn ystod yr haf. A wnewch chi roi ychydig mwy o fanylion i ni am yr ymgysylltiad hwnnw ac i ba raddau y mae'n gysylltiedig â'r pryderon yr ydych wedi'u hamlygu a'r symud sydd wedi digwydd, yn ôl pob tebyg, rhwng y ddau grŵp o swyddogion, i geisio ffordd ymlaen ar hyn? Diolch.

Mae nifer o faterion yno. Diolch i'r Aelod am gyflwyno barn sy'n wahanol i'r farn yr ydym wedi'i chlywed gan ei blaid yn San Steffan. Dywedodd Ceidwadwyr yr Alban yr un peth, mewn gwirionedd, yn eu dadl nhw, a chredaf fod hynny'n ddatblygiad pwysig o ran y modd y gwelir hyn yn y Siambr hon. Yr egwyddor allweddol yma yw ein bod yn credu mai'r ffordd ymlaen yw trwy gytundeb, nid trwy orfodaeth. Dyna hi; dyna'r egwyddor sylfaenol. Efallai fod gennym yr un nod, ond mae anghytundeb sylfaenol yma ynglŷn â sut y dylid cyrraedd y nod.

Mae'n wir dweud y dywedwyd y bydd y pwerau na fyddant yn dod yma ac a fydd yn mynd i Whitehall, yno dros dro yn unig, ond nid oes cymal machlud, fel y dywedodd. Nid oes gennyf unrhyw ffydd na fydd y pwerau hynny yn aros yno yn barhaol. I mi, ar hyn o bryd, byddai cyflwyno cynnig cydsyniad deddfwriaethol i'r Siambr hon a gofyn i'r Siambr hon ei gefnogi yn golygu y byddai'n rhaid i mi sefyll i fyny a gofyn i'r Aelodau gefnogi cynnig a fyddai'n atal pwerau rhag dod yma o Frwsel, a fyddai'n dod yma’n awtomatig, a derbyn, yn lle hynny, y dylem ganiatáu i'r pwerau hynny fynd i Whitehall ac aros yno am gyfnod amhenodol. Ni allai unrhyw Brif Weinidog, does bosib, dderbyn y sefyllfa honno. Ni fyddai Llywodraeth y DU byth yn derbyn hynny eu hunain, felly pam ar y ddaear bydden nhw’n disgwyl hynny ohonom ni?

Mae'n sôn am yr angen am fframweithiau cyffredin; rydym yn cytuno ar hynny. Rydym hefyd yn cytuno nad oes angen i ddim byd newid nes cytuno ar fframweithiau cyffredin. Rydw i’n cytuno ag ef yn hynny o beth, ond mae’r ffordd y mae'n cael ei wneud, wrth i Lywodraeth y DU, yn y bôn, bennu pryd y mae'n credu y dylid llunio fframwaith cyffredin a sut y dylai edrych. Dyna'r broblem. Os bydd cyfyngiadau, gadewch i’r cyfyngiadau fod ar Weinidogion y DU hefyd—nid dim ond ar Weinidogion datganoledig. Mae'n rhaid iddo fod yn un rheol i bawb neu ddim rheolau o gwbl, ac yn yr ystyr hwnnw byddai angen cytundeb i ddim byd newid nes y cytunwyd ar fframwaith cyffredin ar, dyweder, amaethyddiaeth neu bysgodfeydd yn y dyfodol. Dyna'r broblem yma. Mae'r Bil, fel y'i drafftiwyd, yn tynnu’r pwerau ar eu ffordd i Gymru ac yn eu llusgo i Whitehall am gyfnod diderfyn. Dyna'r broblem ar wyneb y Bil, a dyna pam y mae angen i'r Bil newid er mwyn darparu'r math o gysur sydd ei angen arnom ni ac sydd ei angen ar bobl Cymru.

Pam mae hynny'n bwysig? Oherwydd bod gan Lywodraeth y DU wrthdaro buddiannau mewn cynifer o feysydd. Os ydym yn ystyried amaethyddiaeth a physgodfeydd, bu Llywodraeth y DU ers blynyddoedd lawer, mewn gwirionedd, yn Llywodraeth Lloegr, os caf ddweud hynny. Mae wedi bod yn gyfrifol am amaethyddiaeth Lloegr, pysgodfeydd Lloegr. Sut mae'n datrys y gwrthdaro buddiannau hwnnw? Ers blynyddoedd, rydym wedi dadlau dros gwota wrth sôn am adran benodol o'n pysgodfeydd, lle mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn dadlau y dylai gael cyfran fwy o'r cwota ac y dylem ni roi’r gyfran honno iddyn nhw. Pwy sy'n datrys hynny nawr? Nhw, ac o’u plaid nhw eu hunain. Sut ar y ddaear ydych chi'n datrys y gwrthdaro hwnnw? Mae’n rhaid i ni gael ffordd o fod yn siŵr na cheir sefyllfa lle—i fod yn ddiflewyn ar dafod, ond dyma'r unig ffordd y gallaf ei fynegi—gall Lloegr wneud yr hyn a fynn ond ni all Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Dyna'r broblem yr ydym yn ei hwynebu, y ​​gwrthdaro buddiannau hwnnw.

Oes, mae swyddogion wedi ymgysylltu â’r Swyddfa Gymreig. Ac nid oes problem, dim rheswm pam na ddylem ni ymgysylltu â nhw, ond pa ddylanwad sydd gan y Swyddfa Gymreig, mae'n rhaid i mi ei ddweud. Mae angen i ni fod yn siarad â Phrif Weinidog y DU ynglŷn â hyn. Mae hwn yn fater difrifol sy'n mynd i wraidd y DU a'i dyfodol, ac mae modd ei ddatrys, ac, yn fy marn i, yn eithaf hawdd ei ddatrys. Ond a yw’r Swyddfa Gymreig yn sefydliad lobïo neu a yw'n gallu gwneud penderfyniadau ei hun? Rwy’n amau ​​mai’r diwethaf sy’n wir, yn anffodus.

Mark Isherwood a gododd—

[Torri ar draws.] Trafodwch. Trafodwch. Felly, mae'n hynod bwysig bod gennym y lefel honno o ymgysylltiad gan Lywodraeth y DU. Nid ydym eto wedi cael cyfarfod llawn o'r Cydbwyllgor Gweinidogion. Mae'n iawn dweud bod cyfarfodydd eraill o’r Cydbwyllgor Gweinidogion yn cael eu trefnu, ond, ar y mater pwysig iawn hwn, dim byd—dim cytundeb i gyfarfod, hyd yn oed. Nawr, yn amlwg, nid yw hynny’n ddefnyddiol ar gyfer y dyfodol, yn enwedig wrth i ni geisio datblygu strwythurau a fydd yn ein galluogi i gytuno ar ffyrdd ymlaen cyffredin yn y dyfodol. Ar fater ymylol, ond i roi blas i'r Aelodau o’r anawsterau yr ydym yn eu hwynebu ar hyn o bryd, rydym ni a Llywodraeth yr Alban wedi dadlau bod anghydfod y mae angen ei ddatrys rhyngom ni a Llywodraeth y DU dros y setliad ariannol i Ogledd Iwerddon. Rydym ni’n dadlau ei fod yn chwalu a diystyru, yn ein barn ni, yn eithaf rhesymol, o ran y ddadl, fformiwla Barnett, wrth ddarparu arian ychwanegol, cyllid refeniw ychwanegol, ar gyfer iechyd ac addysg i Ogledd Iwerddon y tu allan i'r fformiwla honno. Rydym ni’n dadlau bod anghydfod. Nid yw Llywodraeth y DU yn derbyn bod anghydfod, ac felly maen nhw’n dadlau na ellir sbarduno’r broses o ddatrys anghydfod. Felly, os oes gennym anghydfod â Llywodraeth y DU ac maen nhw'n anghytuno bod anghydfod o gwbl, maen nhw’n ennill bob tro. Nawr ni all hynny fod yn iawn. Dyna pam mae angen i ni roi strwythur sy'n fwy cadarn ar waith, strwythur sy'n cydnabod y ffaith bod pedair gwlad yn y DU. Mae angen i ni weld mwy o ymgysylltiad gan Lywodraeth y DU i sicrhau ein bod yn gallu amddiffyn buddiannau Cymru. Gwneir y cynnig gan yr Aelod am gael ymgysylltiad trawsbleidiol. Nid oes gennyf unrhyw anhawster yn gweithio gydag ef yn y ffordd honno. Rwyf wedi gweld bod hynny'n digwydd yn yr Alban. Ni welaf unrhyw reswm pam na ddylem wneud hyn yng Nghymru. Bydd anghytuno—wrth gwrs—ar rai agweddau, ond, pan ddaw i hawliau sylfaenol y sefydliad hwn, sydd wedi’i ethol gan bobl Cymru, credaf fod yna dir cyffredin rhyngom ni, sef y dylai'r pwerau orffwys lle maen nhw i fod i orffwys, ac mae hynny'n golygu bod y pwerau hynny yn dod yn ôl i Gymru heb fod angen mynd trwy Whitehall.

Mae datganiad heddiw yn cynrychioli diweddariad pwysig arall ar Fil ymadael â’r UE ac ymateb Cymru. Rydym ni, ym Mhlaid Cymru, wedi bod yn gyson ein safbwynt ers cyhoeddi refferendwm yr UE bod yn rhaid amddiffyn buddiant cenedlaethol Cymru. Mae hynny'n golygu dull o weithredu y mae pawb sydd wedi ymrwymo i warchod pwerau'r Cynulliad hwn a'r wlad hon yn cyfrannu ato, a hynny er gwaethaf yr anghytuno rhwng ein pleidiau ynghylch pa gamau penodol y mae'n rhaid eu cymryd.

Ym mis Ionawr eleni, anogais Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth yr Alban ar ddull gweithredu ar y cyd, yn unol â'n buddiannau cyffredin, ac rwy'n falch o weld datblygiad cyd-welliannau, gan gyflawni yr hyn y mae Plaid Cymru wedi galw amdano. Rydym ni, wrth gwrs, yn bwriadu cefnogi'r gwelliannau hynny ar y cam priodol. Bydd Plaid Cymru hefyd yn cyflwyno ein gwelliannau ein hunain drwy hynt y Bil ymadael â’r UE yn San Steffan, a gallaf sicrhau'r Siambr hon y bydd ein ASau, a Dafydd Wigley yn yr ail Siambr, yn defnyddio pob cyfle sydd ganddynt i wthio gwelliannau sy'n atal San Steffan rhag bachu pŵer yn y dyfodol. Rydym hefyd yn cyflwyno gwelliannau sy'n ceisio amddiffyn ein haelodaeth o'r farchnad sengl a’r undeb tollau, ac sy'n ceisio atal dadreoleiddio a’r ras i'r gwaelod pan fydd y DU yn gadael asiantaethau rheoleiddio amrywiol yr UE.

Rwyf am ailadrodd rhywbeth yr wyf wedi'i ddweud yn y Siambr hon yn y gorffennol. Bydd Bil ymadael â’r UE a'r ymdrechion i'w wella yn dechnegol iawn, ac ni fyddem yn disgwyl iddo fod yn sgwrs yn y dafarn neu'r gweithle, ond, 20 mlynedd ers y bleidlais 'ie' gyntaf, mae un peth y mae pobl yn ei ddeall ac yn siarad amdano. Maen nhw’n gwybod y bu dwy bleidlais i gadarnhau pwerau'r Cynulliad hwn, ac nid yw dinasyddion Cymru yn cefnogi’r cyfyngu ar y pwerau hynny na’u lleihau. Felly, hoffwn i ofyn i'r Prif Weinidog a yw wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i'r broses cynnig cydsyniad deddfwriaethol honno yn y Cynulliad ac yn union sut y bydd yn gweithio. A fyddai'n cytuno y dylai Llywodraeth y DU ymrwymo i dderbyn canlyniad cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn y lle hwn, yn ogystal ag mewn unrhyw senedd arall? Wrth gwrs, mae cynsail o'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fil Cymru, yr ymrwymodd Llywodraeth y DU i’w gydnabod. Tybed a wnaiff amlinellu pa gamau y gellir eu cymryd os yw Llywodraeth y DU yn anwybyddu pleidlais i wrthod caniatâd.

Yn gyntaf, buom yn gweithio gyda Llywodraeth yr Alban nawr ers sawl mis, ac mae'r gwaith hwnnw wedi arwain at y gwelliannau a welwyd heddiw. Hefyd, wrth gwrs, rydym wedi siarad â Llywodraethau megis Gibraltar, sydd mewn sefyllfa ychydig yn wahanol yn yr ystyr eu bod yn yr UE ond y tu allan i'r undeb tollau, ond, serch hynny, yn bryderus iawn am Brexit a’r goblygiadau iddyn nhw. Ynys Manaw, Jersey a Guernsey—byddwn ni’n eu gweld yn y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig. Unwaith eto, maen nhw mewn sefyllfa lle maen nhw y tu allan i'r UE ond y tu mewn i'r undeb tollau, a byddan nhw’n cael eu tynnu allan o'r undeb tollau heb eu caniatâd os bydd y DU yn dewis gadael yr undeb tollau. Rydym yn dadlau, wrth gwrs, fel y gwna hithau, nad yw hynny'n angenrheidiol mewn gwirionedd

O ran y broses cynnig cydsyniad deddfwriaethol, dywedodd David Davis ei fod yn dymuno cael caniatâd y deddfwrfeydd datganoledig. Ni all y caniatâd hwnnw fod ar y sail na all fod yn ganiatâd heb fod Llywodraeth y DU yn cytuno ag ef. Mae’n rhaid iddo fod yn ganiatâd cwbl wybodus, ac mae’n rhaid iddyn nhw dderbyn, os na fydd y Cynulliad hwn yn rhoi caniatâd, y bydd yn rhaid iddyn nhw dderbyn hynny. Mae'r hyn yr ydym wedi'i gynnig, wrth gwrs, yn ffordd o geisio osgoi hynny—i siarad a chael sefyllfa pan ddilëir y rhwystrau sy'n ein hatal rhag rhoi caniatâd o safbwynt datganoli, ac felly mae'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn dod yn fwy derbyniol i’r Aelodau nag ydyw yn awr. Hyd yn hyn, ni chynhaliwyd y trafodaethau hynny a bu—wel, maen nhw wedi digwydd, ond ni wnaed unrhyw gynnydd o ganlyniad iddyn nhw.

Os bydd y Cynulliad hwn yn penderfynu gwrthod caniatâd, wel, gallai Llywodraeth y DU ei anwybyddu. Mae hynny'n creu argyfwng cyfansoddiadol difrifol yn fy marn i. Sut y gall fod yn bosibl parchu datganoli ar y naill law, a dweud wrthym, 'Wel, rydym ni eisiau eich caniatâd, ond, os na fyddwch chi'n ei roi, byddwn ni’n eich anwybyddu chi beth bynnag'? Mae yna lawer yn Nhŷ'r Cyffredin ym mhob plaid a fydd â barn ar hynny; rwy'n siŵr y bydd gan Geidwadwyr yr Alban farn ar hynny. Ac rwy'n siŵr y bydd llawer yn Nhŷ’r Arglwyddi a fydd yn pryderu’n fawr am y syniad o newid cyfansoddiadol—na, nid newid cyfansoddiadol, ond y dylai tynnu pwerau oddi ar Gymru a'r Alban fynd rhagddo er gwaethaf gwrthwynebiad seneddau democrataidd Cymru a'r Alban. Felly, mae llawer yma a all arwain at argyfwng. Mae'n argyfwng yr wyf i’n arbennig o awyddus i'w osgoi. Mae'n argyfwng y gellir ei osgoi. Ni chredaf mai strategaeth bresennol Llywodraeth y DU, yn fy marn i, o ymladd cynifer o bobl o gynifer o gyfeiriadau â phosibl, yw'r ffordd synhwyrol o ymdrin â Brexit. Rydym ni wedi cynnig ffordd o edrych ar y materion hyn, dod i gytundeb ar y daith a'r nod terfynol, a chredaf y gellir gwneud hynny, wrth warchod, wrth gwrs, y setliad datganoli. Mae hynny'n egwyddor bwysig yn fy marn i, ac, rwy'n siŵr ym marn yr holl Aelodau. Bydd Brexit yn digwydd; gwyddom hynny. Ond nid oedd yn fwriad byth, does bosib, y byddai Brexit yn ymyrryd â symudiad naturiol y pwerau rhwng Brwsel a Chymru. Dyna'r union beth yr ydym yn ceisio ei osgoi ac, ar yr un pryd, wrth gwrs, yn creu'r sicrwydd yr ydym yn deall y mae ei angen ar fusnesau a dinasyddion.

Rydw i, yn fras, yn cydymdeimlo â'r hyn y mae'r Prif Weinidog yn dymuno’i gyflawni yn y pen draw, ond credaf fod hyn yn gwneud môr a mynydd o bethau. Mae’n eithaf rhyfeddol fod arweinydd Plaid Cymru yn sôn am gyfyngu ar bwerau'r Cynulliad hwn neu eu lleihau. Nid oes gennym y pwerau yr ydym yn sôn amdanyn nhw yma, ar hyn o bryd, ac nid oedd unrhyw gŵyn o du Plaid Cymru na'r rhan fwyaf o'r Blaid Lafur, yr SNP, ac yn sicr nid y Rhyddfrydwyr, pan anfonwyd y pwerau a oedd yn arfer bod gan Senedd y Deyrnas Unedig etholedig boblogaidd i Frwsel i'w penderfynu gan gomisiynwyr anetholedig, ac nad oes fawr ddim rheolaeth ddemocrataidd ganddyn nhw o gwbl ar eu pŵer. Felly, mewn gwirionedd, i mi mae Brexit yn ymwneud, ac erioed wedi ymwneud, ag adfer rheolaeth ddemocrataidd dros benderfyniadau technocrataidd a gaiff eu gwneud gan bobl na allwch chi hyd yn oed eu henwi, yn aml, heb sôn am eu hethol neu eu gwrthod.

Felly, dylem groesawu hyn fel adfywiad seneddol, gan gynnwys hon. Ac, ydw, rwy’n cytuno'n gryf â'r Prif Weinidog y dylai'r holl bwerau yn y meysydd datganoledig sydd gennym ar hyn o bryd, ond y mae’r pwerau ym Mrwsel ar hyn o bryd, ddod i Lywodraeth Cymru ac i'r Cynulliad hwn. Rwyf wedi dweud hynny lawer tro yma, a bydd ganddo fy nghefnogaeth gref i sicrhau bod hynny'n digwydd. Ond, wrth gwrs, mewn pleidiau eraill, yn benodol Plaid Cymru a'r Rhyddfrydwyr, ac, yn wir, yr SNP hefyd, gwelir polisi o awydd i wrthdroi'r broses Brexit gyfan. Ac mae creu arf newydd i allu rhwystro hyn, er gwaethaf canlyniad y refferendwm fis Mehefin y llynedd, i mi, yn gwbl annerbyniol. Er nad wyf yn credu bod Theresa May wedi trafod cysylltiadau â'r gweinyddiaethau datganoledig mewn ffordd synhwyrol iawn, ac rwy’n cytuno â'r Prif Weinidog y bu gormod o agwedd unbenaethol heb ymdrech ddigonol i ymgysylltu a dwyn perswâd, nid wyf yn credu ei bod yn werth talu'r pris y gallai fod yn rhaid i ni ei dalu os ydym yn cychwyn math o ryfel ffosydd yn y Senedd ynglŷn â’r broses i adennill pwerau nad oes gennym ar hyn o bryd. Felly, nid wyf yn ystyried bod hyn yn ymosodiad ar y broses ddatganoli mewn unrhyw ffordd.

Yn y datganiad, cyfeiriodd y Prif Weinidog at hepgor siarter hawliau sylfaenol. Cofiaf yn dda, yn y flwyddyn 2000, pan drafodwyd hyn, dywedodd Llywodraeth Blair ar y pryd y byddai'n rhoi feto ar unrhyw ymgais i ddeddfu ar gyfer hynny. Ac wrth gwrs, dywedodd Keith Vaz, yn gofiadwy iawn, nad oedd ganddo ddim mwy o bŵer cyfreithiol na chopi o'r 'Beano'. Ac eto, erbyn hyn, mae hyn yn cael ei ddyrchafu yn rhywbeth o bwys mawr. Ac, ydw, rwy’n deall pam mae’r Aelodau'n dweud bod pethau fel hawliau cyflogaeth yn hanfodol bwysig, ond, ar ddiwedd y dydd, os ydym ni’n credu mewn democratiaeth, mae'n rhaid i ni dderbyn y dylai fod gan seneddau yr hawl i wneud pethau nad ydym ni'n eu hoffi. Efallai na fyddwn yn credu eu bod yn synhwyrol iawn yn gwneud hynny, ond, yn y pen draw, y prawf yw: a allwch chi gael y bobl i gefnogi eich polisïau ger y blwch pleidleisio? Yn fy marn i, ni ddylai barnwyr neu weision sifil, neu, yn wir, gyrff cyfreithiol, dynnu pŵer oddi ar y bobl i benderfynu pa newidiadau deddfwriaethol y dylid neu na ddylid eu rhoi ar waith, ac rwyf i’n credu bod yr ymgais, a ddisgrifiwyd gan arweinydd Plaid Cymru foment yn ôl, i geisio nodi meysydd y gyfraith na ellir byth eu newid, oherwydd eu bod yn mynd yn rhai sylfaenol, yn groes i'r broses ddemocrataidd gyfan. Felly, dywedaf wrth y Prif Weinidog, ydw, rwy’n cydymdeimlo ag ef yn yr hyn a ddywedodd. Rwy'n credu ei fod yn hollol gywir, mewn gwirionedd, o ran ei amcan, ond rwy’n hynod bryderus ynghylch y modd y mae'n ceisio cyflawni’r amcan hwnnw, ac felly byddwn ni’n edrych yn ofalus iawn ar y gwelliannau hyn cyn i ni benderfynu a fyddwn ni'n eu cefnogi ai peidio.

Wel, ni ellir rhoi’r bai arnaf i am i'r DU ymuno â'r Gymuned Ewropeaidd ym 1972, o gofio fy mod i’n bump oed ar y pryd, yn yr un modd ag y gofynnwyd i mi pa ffordd yr oeddwn wedi pleidleisio yn refferendwm 1979. Yn amlwg, mae angen i mi edrych ychydig yn iau, oherwydd dim ond 12 oed oeddwn i. Serch hynny, mae'n rhaid i ni gofio bod y DU wedi ymuno â'r Gymuned Economaidd Ewropeaidd oherwydd ei fod yn dyheu am wneud hynny yn fawr iawn. Ond trafodaeth ar gyfer diwrnod arall yw honno o bosibl.

Nid yw hyn yn ymwneud â gwrthdroi Brexit. Rwyf wedi dweud hynny dro ar ôl tro. Siawns bod hyn yn achos o 'Mae’n rhaid i Brexit ddigwydd ar y telerau a gyflwynir gan Lywodraeth y DU yn unig'. Oherwydd dyna'r hyn maen nhw'n ei ddweud: 'Ein Brexit ni neu hen dro i chi'. Nawr, nid yw hynny'n ffordd synhwyrol o ymdrin â materion pan ddaw i ddatganoli. Nid yw’r DU fel yr oedd ym 1972. Nid yw'n wladwriaeth unedol gydag un Llywodraeth. Mae'n bartneriaeth o bedair gwlad lle mae gwahanol gyfrifoldebau wedi'u dyrannu i’r gwahanol lywodraethau yn unol ag a ydyn nhw wedi'u datganoli neu heb eu datganoli.

Dychwelaf at y pwynt y gwnes i’n gynharach, i atgoffa arweinydd UKIP. Yr hyn y gofynnir i mi ei wneud yma fel Prif Weinidog, os caiff Llywodraeth y DU ei ffordd, yw sefyll gerbron y Cynulliad a dweud wrth y Cynulliad y dylai'r pwerau a fyddai'n dod yn awtomatig i'r Cynulliad fynd i Lundain am gyfnod diderfyn ac y dylem ni fel Cynulliad gefnogi hynny. Does bosib na fyddai neb yn dymuno cefnogi sefyllfa o’r fath—wel, mae’n bosibl y byddai rhai, ond ni fyddai neb yma eisiau cefnogi sefyllfa o’r fath, lle mae pwerau a fyddai'n dod atom ni yn cael eu cipio. Yn wir, nid ydyn nhw’n bwerau yr ydym yn eu harfer ar hyn o bryd, ond yn naturiol, byddan nhw’n dod atom ni. Pa wahaniaeth y mae'n ei wneud—mae'n cwyno am Frwsel—os ydyn nhw wedyn yn mynd i Whitehall ac yn diflannu i’w fecanweithiau, ac wedyn rydym mewn sefyllfa lle rydym yn ei chael yn anodd llunio amaethyddiaeth, llunio datblygiad economaidd, llunio ein polisi pysgodfeydd yn y ffordd y byddem yn ei dymuno? Wrth gwrs, ni ellir rhoi rhyddid i bawb. Rwy'n deall hynny. Mae'n rhaid i ni sicrhau bod marchnad sengl yn y DU, ac nad oes gennym unrhyw reolaeth o gwbl dros sut y telir cymorthdaliadau. Ni allwn ennill y frwydr honno. Mae Lloegr yn fawr iawn. Ni allwn ennill y frwydr honno. Felly, mae'n rhaid cael rheolau. Rydym yn deall hynny. Ond dylid gwneud hyn trwy ganiatâd ac nid trwy orfodaeth. Hynny sy’n allweddol.

Y Bil hwn—gellir dileu'r cymalau dadleuol o'r Bil hwn sy'n ymdrin â datganoli. Mae hynny'n dileu rhwystr, o ran datganoli, wrth symud y Bil hwn ymlaen. Mae yna faterion eraill a drafodir yn y Senedd, rwy'n siŵr, ac yn y Siambr hon. Nid oes pris i Lywodraeth y DU am hyn. Nid oes unrhyw gost iddyn nhw. Nid oes unrhyw anfantais iddyn nhw o gwbl. Y cyfan y mae'n rhaid iddyn nhw ei wneud yw gweithio gyda ni i ddod i gytundeb derbyniol, ac mae'n dileu problem iddyn nhw. Ni allaf ddeall y synnwyr strategol o ddweud, 'Gadewch i ni frwydro yn erbyn pawb posibl', yn hytrach na dweud, 'Gadewch i ni ganolbwyntio ar y materion. Mae hon yn broblem i Gymru a'r Alban. Nid yw'n broblem i ni mewn gwirionedd. Gadewch i ni ddod i gytundeb ar y mater ac ymdrin ag ef’. Hyd yn hyn, ni fu unrhyw awgrym eu bod wedi gallu gwneud hynny, ond mae'n rhywbeth yr ydym ni’n dymuno ei weld yn y dyfodol, a dyna'r mater sylfaenol yma. Mewn rhai ffyrdd, nid yw'n ymwneud â Brexit. Mewn gwirionedd, mae'n ymwneud â sicrhau bod y pwerau lle maen nhw i fod, a’r egwyddor o ganiatâd wrth sôn am greu fframweithiau cyffredin mewn meysydd datganoledig, yn hytrach na gorfodi’r Bil hwn, ar yr wyneb—. Rwy’n clywed yr hyn a ddywedir gan Weinidogion y DU, ond mae'r hyn sydd ar wyneb y Bil yn eithaf gwahanol. Yr hyn y byddai'r Bil yn ei wneud fyddai amddifadu pobl Cymru o’r pwerau y mae ganddyn nhw’r hawl iddynt am gyfnod amhenodol, ac ni allwn i awgrymu i’r Cynulliad, mewn unrhyw fodd, y dylai'r Cynulliad bleidleisio o blaid hynny.

Hoffwn i ddechrau trwy groesawu ffordd wirioneddol adeiladol, yn fy marn, y Prif Weinidog o ddisgrifio’r gwelliannau y mae wedi eu cyflwyno, a'r ffordd y mae'n fodlon gweithio gyda Llywodraeth y DU i beidio â rhwystro'r llais a oedd yn glir yn y refferendwm, nac i rwystro’r Bil ymadael â’r UE, ond i'w wneud yn addas yn gyfreithiol ac yn gyfansoddiadol hefyd?

Efallai y bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol bod grŵp mawr o Aelodau’r Cynulliad o’n dau bwyllgor trawsbleidiol—pwyllgor David Rees, y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, a'm Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i—wedi eistedd am oriau lawer ddoe yng nghwmni dros 60 o awdurdodau amlwg, o safbwynt y DU ac o safbwynt Cymru, i ystyried y materion cyfreithiol a chyfansoddiadol. Mae'n debyg na fydd yn syndod cael gwybod bod siâp y gwelliannau a gyflwynwyd gan y Prif Weinidog yn adlewyrchu ac yn ymateb i lawer o'r pryderon a godwyd gan y bobl hynny, a bod y rhain yn cynnwys pobl o Gymdeithas Hansard a'r Sefydliad Llywodraeth yn San Steffan yn ogystal ag awdurdodau Cymru. Nid oedd unrhyw anghytundeb bod yna fygythiadau gwirioneddol. I ymateb i bwynt Neil, maen nhw’n cydnabod pwysigrwydd hyn. Nid materion technegol yr ydym ni'n eu tafod, ond materion cyfansoddiadol sylfaenol a ddylai fod yn destun pryder—ac rwy’n credu eu bod yn destun pryder, gyda rhywfaint o feddwl—i bob un ohonom yma yn y Cynulliad.

Felly, y cwestiwn yr hoffwn i ei ofyn i'r Prif Weinidog ynghylch y gwelliannau y mae wedi eu cyflwyno—. Gyda llaw, cyn i mi ofyn y cwestiwn hwnnw, yr oedd yn ddiddorol nodi ddoe, ar un adeg, heb unrhyw anghytuno, fod un cyfranogwr wedi awgrymu ddoe y byddai ffordd wahanol o gyflwyno’r Bil hwn wedi gweithio, sef ei lunio mewn ffordd a oedd yn cydnabod nad oedd unrhyw rwystr cyfreithiol i Fil ymadael â'r UE gwahanol iawn—un a fyddai’n rhoi i Gymru yn llwyr ac yn glir, yr hyn sydd, ar ôl ymadael â’r UE, yn rhan o’n cymhwysedd presennol. Gwelwyd nad oedd unrhyw rwystr cyfreithiol i lunio Bil tra gwahanol. Ond gadewch i ni roi hynny o’r neilltu. Yr hyn yr hoffwn i ei ofyn i'r Prif Weinidog yw hyn: a yw o’r farn, ar ôl dweud eisoes na all argymell ymateb yn gadarnhaol i’r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil fel y mae ar hyn o bryd—a yw'n ei ystyried yn hanfodol bod yn rhaid derbyn yr holl welliannau y mae wedi eu cyflwyno, neu y mae’r Llywodraeth wedi eu cyflwyno mewn rhyw fodd, yn foddhaol, bob un, er mwyn gwneud y Bil ymadael â’r UE hwn yn addas at ei ddiben, ym marn y Prif Weinidog? Yn ail, a yw hefyd yn credu bod y mecanweithiau ychwanegol hynny, i ddatrys anghydfod yn y dyfodol a cheisio cytundeb yn y dyfodol, hefyd yn hanfodol ac yn rhan o ddweud ie i'r Bil ymadael â’r UE hwn.

Yn gyntaf, rydym wedi cyflwyno'r holl welliannau gyda'r amcan o’u derbyn i gyd. Credwn eu bod yn ymdrin â'r materion sy'n effeithio ar ddatganoli yn benodol ac y byddent yn dileu'r rhwystrau o ran datganoli y mae'r Bil yn eu cynnwys ar hyn o bryd.

Gofynnodd y cwestiwn: a yw cefnogaeth i'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn dibynnu ar fecanwaith? Ar hyn o bryd, byddwn i’n dweud 'nag ydyw'. Rwy'n credu y gallai derbyn y gwelliannau olygu digon o gynnydd, ond nid oes amheuaeth bod mabwysiadu mecanwaith ar fin digwydd. Mae ei angen. Pe derbynnir yr egwyddor ei bod yn fater i'r Llywodraethau gytuno ar ffordd gyffredin ymlaen, mae'n rhaid ei bod hefyd yn wir y derbynnir bod yn rhaid creu mecanwaith er mwyn i hynny ddigwydd, ac mae hynny'n golygu creu cyngor o Weinidogion y DU.

Yr anhawster, yn fy marn i, yw bod llawer yn y Llywodraeth yn Llundain ar hyn o bryd sydd o'r farn y byddai hynny'n rhoi Llywodraeth y DU ar lefel o gydraddoldeb nad ydyn nhw’n dymuno ei gweld. Nid ydyn nhw’n ystyried eu bod yn gydradd â'r Llywodraethau datganoledig, hyd yn oed mewn meysydd datganoledig, ac maen nhw’n ei chael yn anodd derbyn hynny. Ond, rydym ni’n byw mewn cyfnod pan fo angen atebion newydd a dulliau newydd arnom.

Wrth sôn am feysydd datganoledig, y realiti yw ein bod yn llywodraethau cyfartal mewn gwirionedd. Ni fyddem byth yn derbyn sefyllfa lle byddai gan Lywodraeth y DU, er y gallan nhw wneud hynny’n gyfreithlon, ryw fath o hawl i ymyrryd neu newid cyfraith Cymru a pholisi Cymru. Nid dyna swyddogaeth Llywodraeth y DU mewn meysydd datganoledig ac mae pobl Cymru wedi penderfynu ar ddau achlysur nad honno yw eu swyddogaeth chwaith.

Ond rwy'n credu bod sefydlu mecanwaith yn ganlyniad naturiol i dderbyn y gwelliannau. A gellir gwneud hyn yn gyflym. Mae'r strwythur ar gael eisoes. Ni fyddai'n cymryd llawer o amser i newid y Cyd-bwyllgor Gweinidogion yn gyngor priodol o Weinidogion. Gellid gwneud hyn i gyd yn eithaf hawdd cyn i'r DU adael yr UE yn y diwedd, ni waeth pryd fyddai hynny.

Tasg gyntaf y cyngor Gweinidogion fyddai cytuno ar beth i’w rewi, ar y cyd; mae synnwyr yn hynny o beth wrth ystyried ffermio a physgodfeydd. Yr ail dasg fyddai ystyried sut i ddatblygu system o reolau cymorth gwladwriaethol o fewn y DU sy'n effeithio ar y DU a chael dyfarnwr annibynnol i oruchwylio’r rheolau hynny. Mae hynny, byddwn i’n dadlau, yn eithaf hawdd: rydych chi’n dweud mai’r Goruchaf Lys ydyw. Mae'r Goruchaf Lys yn gweithredu fel dyfarnwr y farchnad sengl, yn yr un modd ag y mae Llys Cyfiawnder Ewrop yn gwneud hynny ym marchnad sengl Ewrop, fel y mae Goruchaf Lys yr Unol Daleithiau yn gwneud hynny gyda masnach ryng-daleithiol yn yr Unol Daleithiau. Nid yw’n anodd gwneud hynny.

Mae’r cwestiwn ynghylch rheolau cymorth gwladwriaethol yn anoddach. Mae gwahanol safbwyntiau ynghylch a ddylai fod unrhyw reolau o gwbl ymysg rhai o'r gweinyddiaethau—neu un o'r gweinyddiaethau blaenorol, beth bynnag—yn y DU. Ond dyna'r fforwm lle dylid penderfynu ar y pethau hyn. Rwy’n derbyn y gwelliannau, ond yn fy marn i, mae'n arwain yn naturiol at ffordd well o lawer o gydweithio i ddatblygu fframweithiau cyffredin yn y DU ac o gael y sicrwydd hwnnw yr ydym yn derbyn y mae busnesau ei eisiau.

A gaf i ddiolch i’r Prif Weinidog am ei ymdrech i esbonio i’r Cynulliad hwn ac i bobl Cymru beth y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi bod yn ceisio ei wneud? Ond, a all fy helpu ychydig ymhellach? A all roi arwydd o wybodaeth i’r Cynulliad yma pa mor gynnar y cafodd o ragwybodaeth o fwriadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddeddfu yn y ffordd hon? Oherwydd yr hyn sydd yn ‘bygio’ fi—fel rydym yn ei ddweud yn Llanrwst—yw pam fod deddfwriaeth ddatganoli wedi cael ei gosod mewn deddfwriaeth Ewropeaidd yn lle ei bod wedi cael ei thrin fel deddfwriaeth ddatganoli. Ar ôl yr holl amser a wastraffom ni ar Ddeddf Cymru, fel y mae erbyn hyn, yn ceisio datblygu strwythur newydd o bwerau, mae’r cyfan i gyd yn cael ei dynnu o dan ein traed ni, fel petai—y map datganoli—gan farn a ffordd y Deyrnas Unedig o ddeddfu. Rwy’n amau mai wedi methu â drafftio mewn ffordd gallach y maen nhw. Hynny yw’r gwendid yn fan hyn yn sylfaenol.

Y ffordd synhwyrol o wneud hyn fyddai i siarad gyda ni yn gynnar, cyn drafftio’r Mesur ei hunan, er mwyn gweld os gallwn ni gael unrhyw fath o gytundeb ynglŷn â’r ffordd ymlaen. Nid felly oedd hi. Fe gawsom ni rai rhannau o’r Mesur o flaen llaw, cwpwl o wythnosau—dim popeth, ond rhai o’r cymalau—ond nid digon i gael unrhyw fath o synnwyr o beth oedd y darlun llawn. So, nid oedd hwnnw’n help. Ac, wrth gwrs, fe ddywedom ni ar y pryd, ‘Wel, nid yw’r Bil fel y mae wedi cael ei ddrafftio ar hyn o bryd yn rhywbeth y gallwn ni gytuno arno’. Ond, er eu bod nhw’n gwybod taw dyna beth oedd ein safbwynt ni fel Llywodraeth, nid felly oedd y sefyllfa pan aethon nhw, wrth gwrs, i gyhoeddi’r Mesur eu hunan. Y trueni yw, wrth gwrs, nad yw hyn wedi cael ei wneud mewn ffordd ynglŷn â gweithio mewn partneriaeth. Nid ydw i’n gwybod os oedden nhw’n ofn beth oedd yn mynd i ddigwydd yn yr Alban, yn ofn beth fyddai Gogledd Iwerddon yn ei wneud, ond nawr, wrth gwrs, maen nhw’n mynd i fod mewn sefyllfa lle mae yna gyfle wedi cael ei golli—ddim yn gyfan gwbl, achos mae’r cyfle yn dal i fod yna ar y ford. Beth sy’n hollbwysig nawr yw bod y cyfle’n cael ei gymryd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn i ni weithio ar beth rydym ni’n gallu cytuno arno, ac rydw i’n credu bod yna lawer yna y gallwn ni gytuno arno ynglŷn â strwythur y Deyrnas Unedig yn y pen draw a’r ffordd y mae penderfyniadau yn cael eu gwneud yn y meysydd datganoledig. Dyna fe; mae’r cynnig yn dal i fod yna. Fe gawn ni weld beth fydd yr ateb.

A wnaiff y Prif Weinidog gytuno â llawer, gan gynnwys y rhanddeiliaid a nodwyd gan fy nghyd-Aelod Huw Irranca, y byddai Bil Ymadael Ewropeaidd heb ei ddiwygio yn ymosodiad annheg a sylfaenol ar ddatganoli, ac yn ogystal â hyn, y gallai Gweinidogion y DU, ar ôl datganoli, ddeddfu, ac felly ansefydlogi, i bob pwrpas, yr 20 mlynedd o ddatganoli democrataidd, ac, fel Neil Hamilton, ddeall bod y Bil hwn felly o arwyddocâd cyfansoddiadol mawr iawn i Gymru, ac felly pobl Cymru?

Ydy. Hynny yw, o safbwynt Llywodraeth y DU, mater bach yw hwn. O'n safbwynt ni mae'n fater pwysig iawn. Fel y dywedais, nid oes—. Nid yw cytundeb ar eu rhan nhw yn costio dim iddyn nhw o gwbl; nid oes unrhyw bris i’w dalu ganddyn nhw. Ond mae pris enfawr i Gymru.

Rhan o'r anhawster yma yw’r ffaith bod Llywodraeth y DU ar hyn o bryd yn ei chael yn anodd deall pa mor bwysig yw'r broblem hon i ni a'r Alban. Nid wyf i’n credu eu bod nhw’n deall, ond, yn sicr, rydym ni’n deall, ac mae pobl Cymru yn deall. Dyna'r egwyddor sylfaenol, sef y dylai pwerau ddod i’r mannau hynny sy'n briodol o ran meysydd datganoledig: yn y sefydliadau datganoledig. O'n safbwynt ni, ni all fod yn iawn i Weinidogion y DU allu ymyrryd â chyfraith Cymru a basiwyd gan y Cynulliad hwn, neu ei newid, o bosibl, heb gyfeirio at y Cynulliad hwn, nac, yn wir, at Senedd y DU. Rwy’n cofio’n dda rai o'r dadleuon a oedd yn cael eu hymarfer yn ystod y refferendwm i ddod â phwerau yn ôl i’r—'senedd' meddan nhw, fel pe bai'n un: 'i'r Senedd'. Yna, wrth gwrs, y peth cyntaf sy'n digwydd yn rhan o'r Bil diddymu yw nad yw'r Senedd yn cael y pwerau hynny; maen nhw’n aros yn nwylo'r Llywodraeth. Mae yna faterion i ni fel Llywodraeth Cymru, oherwydd wrth i bwerau ddychwelyd atom ni, mae'n hynod bwysig bod y pwerau hynny yn dychwelyd, i'r graddau y mae’n bosibl gwneud hynny, i'r sefydliad hwn, ac nid i'r Llywodraeth, fel y sefydliad etholedig. O reidrwydd, mae angen i bwerau'r Llywodraeth fod mor gyfyngedig â phosibl, o ystyried y ffaith bod y sefydliad hwn, wrth gwrs, wedi ei ethol. Ond mae Llywodraeth y DU wedi mynd yn groes i hyn, drwy fynd i'r llys i ymladd y pwynt hwn. Ond dylai'r pwerau fod yn nwylo’r weithrediaeth, nid yn nwylo’r ddeddfwrfa. Mae'n rhaid bod hynny yn anghywir mewn egwyddor.

Un o'r themâu sydd wedi codi heddiw gan gynifer o siaradwyr yw bod llawer o ffyrdd gwell o wneud hyn na'r ffordd y mae Llywodraeth y DU wedi’i chymryd ar hyn o bryd. Mae'n deg dweud, rwy'n credu, bod llawer ar feinciau y Ceidwadwyr sy'n cydnabod hynny. Gallaf ddeall bod amser a lle ar gyfer dweud pob peth; rwy'n deall hynny. Mae hwn yn fater y gellir ei ddatrys, ond mae angen i Lywodraeth y DU ymgysylltu, ac mae hynny yn cynnwys Prif Weinidog y DU, mae’n cynnwys y bobl hynny sy'n gwneud y penderfyniadau hyn. Nid y Swyddfa Gymreig sy'n penderfynu ar hyn; y Swyddfa Gymreig, i bob pwrpas, yw—rwy'n dweud hyn fy hun; y Swyddfa Gymreig 20 mlynedd yn ôl—Mae’r Swyddfa Gymreig ei hun yn fath o eiriolwr yn yr ystyr hwnnw. Pe bai hyn yn nwylo’r Swyddfa Gymreig, efallai y gallai fod gwell ymgysylltiad, ond nid dyna’r sefyllfa. Mae hwn yn gyffordd sylfaenol ar daith datganoli. Rydym naill ai yn symud tuag at sefyllfa lle mae Llywodraeth y DU yn cadw pwerau mewn meysydd yr ydym yn eu rheoli ar hyn o bryd, neu rydym yn symud tuag at sefyllfa lle mae pwerau'n dod i’r man priodol ac mae gennym well strwythur, nid yn unig i Gymru, ond i'r DU gyfan, sy'n cynrychioli partneriaeth y cenhedloedd sy'n bodoli yn y DU.

6. 5. Datganiad: ‘Brexit a Thegwch o ran Symudiad Pobl’

Diolch i’r Prif Weinidog. Datganiad nawr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar Brexit a thegwch o ran symudiad pobl. Mark Drakeford.

Wel, Lywydd, bythefnos yn ôl, fe gyhoeddom ni ‘Brexit a Thegwch o ran Symudiad Pobl’, y diweddaraf mewn cyfres o ddogfennau polisi sy’n edrych yn fanwl ar oblygiadau ymadael â’r Undeb Ewropeaidd i Gymru. Yn ein dogfen rydym yn edrych ar rôl mudo yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar fudo o Ewrop. Rydym ni’n dadansoddi’r modelau posibl y gallai Llywodraeth y Deyrnas Unedig eu mabwysiadu ar gyfer system fudo yn y dyfodol ac yn ystyried effaith bosibl rhain ar Gymru.

Rydym yn cynnig ffordd hyblyg, ond dan reolaeth o edrych ar fudo, lle gallai pobl o Ewrop symud i’r Deyrnas Unedig ar yr amod eu bod nhw eisoes wedi cael cynnig swydd, neu fod modd iddyn nhw ddod o hyd i swydd yn gyflym. Ar yr un pryd, rydym yn dadlau dros gymryd camau cryfach i orfodi deddfwriaeth i herio camfanteisio ar weithwyr.

Llywydd, we’ve published this document to provide clear, evidence-informed articulation of Wales’s interests, for our people and our economy. With only 18 months to go until the UK’s exit date from the European Union, the UK Government is yet to set out its proposals for how future migration from Europe to the UK will be managed. Our document is timed to ensure that Welsh views and interests are known and understood in that discussion. And, Llywydd, these views are significant.

Welsh employers are worried about whether they will be able to recruit and retain workers from the European Union. The sustainability of their businesses often depends on those workers from the EU, just as does the job security of the Welsh workers in those same businesses. And, Llywydd, they are right to be worried, when we see the recent increase in the number of EU citizens who are leaving the United Kingdom. The latest migration statistics, published in August, show that net migration decreased by 81,000 people compared to the previous year, and that two thirds of this was due to a decrease in EU net migration. This was driven by an increase in people leaving the United Kingdom, particularly from countries that joined the EU in 2004. Now, the UK Government could have provided a unilateral guarantee of rights for such EU citizens in the UK. It has, lamentably, failed to do so. No wonder EU citizens are leaving the United Kingdom when the UK Government has failed to take the actions needed to make them feel valued and welcome.

Here in Wales we celebrate the contribution that EU citizens bring to the Welsh economy and society, and the fact that many EU citizens have chosen to build their lives here in Wales. And, Llywydd, because that immigration directly affects many of our devolved responsibilities, the staffing of our health service and our universities and the success of our economy is why we have published our paper. The analysis and evidence in our document clearly shows the importance of EU citizens to the Welsh workforce. Here in Wales 7 per cent of NHS doctors, 5 per cent of tourism industry workers, 27 per cent of workers in food and drink manufacturing and 7 per cent of our university staff are all from the European Union. That is why our priority is for a UK immigration system that supports our ambition for full and unfettered participation in the single market—a market of 500 million people, free of tariff and non-tariff barriers, which is of such vital importance to businesses and jobs across Wales. Achieving that ambition will only be possible if our future migration system is flexible enough to allow people to move, for the purposes of employment, between the UK and the EU. That, above all, is the reason why we believe that our future special relationship with Europe should include a differentiated and preferential approach to immigration for European Economic Area and Swiss nationals, while preserving the common travel area with the Republic of Ireland and the rest of the British isles. And we welcome the commitments from the UK Government and the European Union that the common travel area should be preserved.

Llywydd, let me absolutely clear: we do not believe that a system based on arbitrary net migration targets is in Wales’s interests, nor is it in the interests of the rest of the UK. Such an approach leads to the absurdity of counting students within the net migration target, based on what we now know is a grossly overstated estimate for the number of students overstaying their visas. We have consistently said that we do not agree with this policy, and our fair movement of people document sets out both the evidence and the analysis that lead us to oppose a restrictive numbers-and-sectors approach to immigration from the EU and the rest of the EEA. But if the UK Government does choose such a path, the Welsh Government will press, as we’ve set out in our document, for a full and fair Welsh migration quota where we could determine our priorities for migration to Wales. Our evidence shows that the sectors in Wales that depend on migrant workers are different from those in the rest of the UK. There is a strong risk that our migration needs would not be addressed when pitted, for example, against demand in the south-east of England.

Now, Llywydd, of course we realise that many people in Wales at the time of the referendum were concerned about some aspects of immigration and what this might mean for their communities, for their employment prospects and for wages and working conditions. We believe that connecting migration more closely to employment will help to alleviate those concerns and create a climate in which the facts can get a hearing, because, Llywydd, those facts and the evidence we set out clearly demonstrate that the overall effect of migration here in Wales is a positive one. The Institute for Fiscal Studies, for example, reports that migration creates a net benefit to public finances. The Department for Work and Pensions’s own data shows that in Wales 4 per cent of working-age EU migrants claim working-age benefits, compared to 17 per cent of UK-born nationals.

And, Llywydd, it is also a fact that eight years into the flawed and failing policies of austerity far too many Welsh citizens have had the collective protections of the state withdrawn from them through cuts to legal aid, attacks on trade unions and draconian policing of an ever-reducing benefit system. Little wonder that those whose daily circumstances are so precarious add exploitation in the workplace to their fears about the future. Our paper addresses this issue head on, while also challenging the dangerous perception that somehow immigration is responsible. Exploitation is caused by unscrupulous employment practices, not by immigration, but migrant workers are particularly vulnerable to the instruments of exploitation—tied accommodation, tied transport, false self-employment and so on—which then gives rise to the risk of exploitation of others. The evidence we set out demonstrates that, since 2010, the UK Government simply hasn’t done enough to enforce the laws that are meant to protect workers from exploitation. They have the responsibility to ensure that all workers are aware of their rights, and have access to support from trade unions, so that those workers are better able to identify exploitation and take action when it happens to them, without fear of repercussions.

And there is more that we as a Welsh Government can do to build further on our ethical procurement policies, on making the Welsh Government itself and the Welsh NHS living wage employers and in the passing of our Trade Union (Wales) Act 2017. We will continue to find ways, working with trade union partners and others, to identify and tackle worker exploitation and create greater compliance amongst employers in Wales.

Thus, Llywydd, we are proposing a fair and realistic system for migration between the European Union and the United Kingdom. This is not only right for Wales, but, we believe, right for the UK. And crucially, this is a constructive basis for the UK’s negotiation with the EU-27. We hope, of course, that the UK Government will give serious consideration to our proposals, and I look forward to hearing the views of Assembly Members this afternoon.

Byddaf yn osgoi ymgais i ddechrau dadl ar economeg; arhosaf am y ddadl nesaf ar yr economi er mwyn ildio i'r demtasiwn honno. Ond fel y dywedodd Gweinidog Llywodraeth y DU yr wythnos diwethaf, bydd gennym ni system fewnfudo

sy'n gweddu i'r DU, nid yn cau'r drws yn glep—ond yn croesawu'r doniau sydd eu hangen arnom ni, o'r UE ac o’r holl fyd. Wrth gwrs, byddwn yn sicrhau bod busnes yn cael y sgiliau sydd eu hangen arno, ond ni fydd busnes yn gallu defnyddio mewnfudo yn esgus i beidio â buddsoddi ym mhobl ifanc y wlad hon.

Ac maen nhw wedi dweud y byddan nhw’n cyflwyno eu cynigion cychwynnol am system fewnfudo newydd yn yr hydref eleni.

O ystyried, fel y cyfeiriais ato yn gynharach fod cadarnhad gan Swyddfa Cymru fod llawer iawn o ymgysylltiad â swyddogion Llywodraeth Cymru a swyddogion yn Llywodraeth y DU wedi digwydd—ac rwy’n pwysleisio Llywodraeth y DU ac nid Swyddfa Cymru yn unig—dros yr haf, o ran yr hyn, ac eithrio'r papur hwn, sydd wedi cael ei drafod, pa ddatblygiadau, os o gwbl, sydd wedi deillio hyd yn hyn o hynny?

Fel chwithau, rydym o blaid gweithredu i sicrhau talu'r isafswm cyflog a gorfodi deddfwriaeth i fynd i'r afael â chamfanteisio ar gyflogeion, ni waeth o ble y maen nhw’n dod. Mae llawer o hynny, yn amlwg, heb ei ddatganoli ond mae llawer a allai fod o fewn meysydd cyfrifoldeb datganoledig, ac nid yn lleiaf gasglu tystiolaeth yn y dirgel. Pa swyddogaeth, neu swyddogaeth ehangach, beth bynnag fyddo canlyniad y model mewnfudo a fabwysiedir yn y dyfodol, yr ydych chi'n teimlo y gallai Llywodraeth Cymru ei chyflawni wrth symud hynny ymlaen?

Mae'r datganiad hwn, yn amlwg, yn ymwneud â mudo, ac nid â mater hollol wahanol ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru, fel y gwn y deallwch chi ac y credwch yn gryf ynddo. A wnewch chi ddatganiad clir, er mwyn i’r cyhoedd gael gwybod, fod hynny’n wir a bod pawb ohonom yn cefnogi gweld Cymru yn dod yn genedl noddfa—mater gwahanol i'r materion mudo sy'n cael eu trafod heddiw?

Rydych yn dweud bod eich cynnig chi yn cysylltu mudo â gwaith ac yn cefnogi eich uchelgais o fynediad llawn a dilyffeithair i'r farchnad sengl. Serch hynny, fel y dywedodd y Prif Weinidog ym mis Ionawr, byddai hynny, i bob diben a phob pwrpas, yn golygu peidio ag ymadael â’r UE o gwbl. A dyna pam y gwnaeth y ddwy ochr yn yr ymgyrch refferendwm hi'n glir y byddai pleidlais i ymadael â’r UE yn bleidlais i adael y farchnad sengl. Dywedodd hi:

Yn lle hynny, rydym yn ceisio’r mynediad gorau posibl iddi trwy gytundeb masnach rydd newydd, cynhwysfawr, hyderus ac uchelgeisiol.

Sut, felly, yr ydych chi'n ymateb i'r datganiadau yr wythnos diwethaf gan faer Llafur Manceinion Fwy, Andy Burnham, fod y Blaid Lafur mewn perygl o golli cyswllt â phleidleiswyr Brexit gogledd Lloegr pe bai’r blaid yn methu â chymryd camau i dorri i lawr ar ryddid symudiad, ac yn peryglu adlach ffyrnig gan bleidleiswyr ‘gadael’ gogledd Lloegr a allai deimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu? Er mai cefnogi 'aros' a wnaeth ef yn y refferendwm, dywedodd ei fod yn gofidio am gynigion Llafur i aros yn y farchnad sengl, gan ddweud y byddai hyn bron yn sicr yn ein hatal rhag rheoli polisi mewnfudo.  Dywedodd y byddai hynny’n achosi ymraniad mawr iawn os yw'n edrych yn debyg bod yna adlach o du’r sefydliad, byddai’n golygu gwrthod canlyniad y refferendwm bron ac yn rhybuddio yn erbyn Brexit Llundain-ganolog. Felly, a ydych chi'n credu, fel y gwnaf innau, y dylai Cymru sefyll gyda thrigolion gogledd Lloegr neu gyda thrigolion Llundain? Er fy mod yn hoff iawn o’r naill a’r llall ohonyn nhw, mae’n amlwg.

Rydych yn dweud y gallasai Llywodraeth y DU fod wedi rhoi yn unochrog warant o hawliau i ddinasyddion o’r fath o’r UE yn y DU, a’i bod yn anffodus wedi pallu â gwneud hynny. Mewn gwirionedd, dim ond dydd Iau diwethaf, er enghraifft, dywedodd Gweinidog cyllid y DU, Philip Hammond, fod Prydain yn agos iawn at ddod i gytundeb â'r UE ar sut i amddiffyn hawliau dinasyddion yr UE yn y DU a dinasyddion y DU yn yr UE wedi iddi adael y bloc. Efallai y bydd trafodaethau yn digwydd bob pedair wythnos, ond mae trafodaethau a deialog yn digwydd yn barhaus, ac yn ffodus mae'r safbwyntiau a gymerir gan y ddwy ochr yn symud tuag at gytundeb ar ddatrysiad i setliad yr ysgariad fel y’i gelwir.

Rydym ni o’r un farn â chi o ran cydnabod yr angen am ddiogelu'r ardal deithio cyffredin â Gweriniaeth Iwerddon a gweddill ynysoedd Prydain, ac rydym yn croesawu ymrwymiadau Llywodraeth y DU a'r UE i gadw'r ardal deithio gyffredin. Rydych yn sôn eich bod wedi pwyso am gwota mudo llawn a theg i Gymru, fel y gallech bennu eich blaenoriaethau ar gyfer mudo i Gymru. Onid yw hyn yn gwbl anymarferol heb osod rheolaethau ffin ar Glawdd Offa, fel petai? Ac yn olaf, gan nodi wrth gwrs bod Schengen yng nghyd-destun Iwerddon yn golygu bod yna—. Mae dewis Iwerddon a'r DU i eithrio o Schengen yn golygu bod yna ffin allanol o Iwerddon, os mai dyna'r hyn y gallech fod yn ei ddweud, ond yn fewnol yn y DU, byddai cwotâu yn amhosibl eu gorfodi.

Ac yn olaf, rhaid cofio bod gan Gymru'r gyfradd gyflogaeth isaf ym Mhrydain. Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos cynnydd o 18,000 mewn anweithgarwch economaidd i 460,000, sy'n golygu bod 525,000 o bobl o oedran gweithio yng Nghymru yn ddi-waith ar hyn o bryd. Mae llawer ohonyn nhw yn dymuno gweithio ond yn wynebu rhwystrau diwylliannol a chorfforol. Felly, ar ôl 18 mlynedd, beth all Llywodraeth Cymru ei wneud yn wahanol i fynd i'r afael â'r lefelau uchel hynny o anweithgarwch economaidd a helpu'r bobl hynny i gael gwared ar y rhwystrau i weithio er mwyn i'r sgiliau a'r cryfderau sydd ganddynt helpu hefyd i gyfrannu at lenwi’r bwlch sgiliau?

Wel, Llywydd, gadewch mi ddechrau trwy geisio dod o hyd i feysydd cyffredin gyda'r Aelod. Rwy'n falch iawn o’i roi ar gofnod, fel y gwnaeth ef, nad papur am geiswyr lloches a ffoaduriaid yw hwn, a chefnogaeth gref Llywodraeth Cymru i bolisïau lloches a ffoaduriaid sy'n croesawu pobl i Gymru sydd wedi wynebu profiadau mor ofnadwy mewn mannau eraill yn y byd ac sy'n dod yma am noddfa. Gadewch imi ddweud hefyd ein bod yn falch o'n hymddygiad yng Nghymru yn dilyn datganoli. Rydym wedi gweld gostyngiad cyflymach o ran anweithgarwch economaidd yng Nghymru nag a welwyd ar draws y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd, ac wrth gwrs nid oes dim o gwbl yn ein dogfen ni sy'n awgrymu na fyddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i feithrin sgiliau pobl sy'n byw yng Nghymru eisoes, i greu cyfleoedd newydd i bobl sydd wedi bod y tu allan i'r gweithle ac sy'n dymuno dychwelyd iddo. Ond nid ydym yn cyd-fynd am eiliad â'r bobl hynny sydd, fel y crybwyllodd Mark Isherwood i ddechrau, yn awgrymu rywsut bod mewnfudo a phresenoldeb pobl o'r Undeb Ewropeaidd yn ein plith oherwydd bod cyflogwyr wedi defnyddio hynny yn esgus i beidio â buddsoddi mewn pobl ifanc.

Mae'r cyflogwyr yr ydw i wedi cwrdd â nhw yn ystod yr haf hwn wedi mynd allan o'u ffordd i egluro i mi y camau y maent yn eu cymryd, gan weithio gyda'u colegau addysg bellach lleol ac ati, i geisio paratoi pobl sy'n byw yn eu cymunedau i fanteisio ar y cyfleoedd am swyddi sydd ar gael. Ond hyd yn oed pan fyddan nhw wedi gwneud hynny hyd eithaf eu gallu, mae'n rhaid iddyn nhw allu denu pobl o'r tu hwnt i'w ffiniau eu hunain er mwyn sicrhau cyflogaeth barhaus y bobl sydd o'r ardaloedd lleol hynny. Llywydd, rhoddodd y Prif Weinidog enghraifft dda iawn pan gyflwynodd y papur hwn ychydig wythnosau yn ôl, o westy yng nghefn gwlad Cymru sy'n cyflogi 100 o bobl: mae 80 o'r bobl hynny yn dod o'r gymuned leol eisoes, ac mae 20 o bobl yn dod o rannau eraill o'r Undeb Ewropeaidd. Dywedodd y sawl sy'n rhedeg y gwesty hwnnw'n hollol glir fod swyddi'r 80 o bobl hynny yn dibynnu ar ei allu i i ddenu 20 o bobl i ddod i gefnogi'r busnes. A heb yr 20 hynny, ni fyddai gan yr 80 o bobl sy'n byw yma eisoes swyddi chwaith.  Dyna pam mae ein cynigion yn gynigion sy'n iawn i Gymru, a'r Llywodraeth hon a'n cyfrifoldebau ni sy’n ganolbwynt, nid yr hyn a allai fod yn iawn mewn ardaloedd eraill, ond yr hyn sy'n iawn i Gymru. Ac rydym o'r farn fod y papur hwn, sydd ym mhrif ffrwd bragmataidd cynigion, yn ein barn ni, yn rhoi glasbrint i wneud yn union fel hynny.

A oes yna fwy y gallwn ni ei wneud fel Llywodraeth i sicrhau'r hawliau a ddylai fod yno i amddiffyn pobl sy'n dod i'r gweithle trwy gyfrwng swyddi lefel mynediad ac yn y blaen? Wel, dywedais yn fy natganiad fod mwy y gallwn ei wneud ac yr ydym yn bwriadu ei wneud, gan adeiladu ar ein llwyddiant, gyda chod ymarfer ar gyflogaeth foesegol, gyda’r cod dwy haen ar ein model partneriaeth gymdeithasol, a gallaf ddweud wrth yr Aelod bod ein gweithredoedd yn yr ardal hon yn cael eu harsylwi'n ofalus a’u herio lle bo angen yng nghyngor partneriaeth y gweithlu ac mewn mannau eraill lle mae pobl sy'n gweithio gyda ni ar yr agenda hon yn dod i gynghori Llywodraeth Cymru.

Yn olaf, o ran mater y cwota mudo, gadewch imi ddweud eto, Llywydd, nad hwn yw ein polisi dewisol. Nodir hynny yn bendant yn y ddogfen. Nid dyna'r hyn y credwn y byddai'n gweithio orau i Gymru na'r Deyrnas Unedig. Ond os yw Llywodraeth y DU yn benderfynol o roi rheolaethau mudo o flaen anghenion economi'r DU ac yn penderfynu gwneud hynny trwy gwotâu mudo net, yna rydym yn argyhoeddedig y bydd system o fod â chwota i Gymru er ein lles gorau ni. Dyma'r polisi a argymhellir gan Gorfforaeth Dinas Llundain ar gyfer Llundain a chan y grŵp senedd hollbleidiol ar integreiddio cymdeithasol yn Nhŷ'r Cyffredin. Gall weithio os bydd yn rhaid inni ei roi ar waith. Nid dyma'r dull y byddem yn ei ddewis ar gyfer Cymru na'r DU.

Diolchaf i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad heddiw ac am gyhoeddiad y ddogfen tegwch o ran symudiad pobl, sydd, wrth gwrs, yn ymhelaethu ar y Papur Gwyn ar y cyd a gyhoeddwyd rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn ddiweddar. Rwyf fi, fel yntau, yn ofer o bosibl, yn edrych ymlaen at yr amser pan fyddwn yn gallu cynnal dadl onest a difrifol ar fewnfudo sy'n ystyried y ffeithiau a'r gwir effaith y mae mewnfudo wedi ei chael ar ein cymdeithas a'n heconomi. Ac afraid dweud bod Plaid Cymru yn ailadrodd eto ei gwerthfawrogiad o'r rhai sy'n dod o bob cwr o'r byd i gyfrannu at gymunedau Cymru a busnesau Cymru a gwasanaethau cyhoeddus Cymru. Mae croeso iddyn nhw yma ac maen nhw'n cael eu gwerthfawrogi yma.

Byddai'r model a awgrymir yn y cyhoeddiad hwn yn caniatáu i Gymru a'r Deyrnas Unedig barhau i gymryd rhan yn y farchnad sengl Ewropeaidd, sy'n ystyriaeth hollbwysig gan Blaid Cymru, wrth gysylltu gwaith gyda symudiad pobl ar gyfer gwladolion yr UE a’r Swisdir. Rwy'n cytuno ag Ysgrifennydd y Cabinet, wrth gwrs, mai dull pragmataidd yw hwn, ac wrth inni weld y negodwyr Prydeinig yn ymddatod wrth y bwrdd trafod ym Mrwsel, dyn a ŵyr fod angen pragmatiaeth arnom ni ar y pwynt hollbwysig hwn. Dim ond 18 mis i fynd tan ddiwrnod y gwahanu a'r fath annibendod y mae Llywodraeth Prydain ynddo.

O ran manylion y cyhoeddiad hwn heddiw, hoffwn ofyn dau gwestiwn i Ysgrifennydd y Cabinet. Yn gyntaf, awgrymodd y Prif Weinidog, rwy’n credu, yn ystod amser cwestiynau'r Prif Weinidog y prynhawn yma, fod copi o'r ddogfen hon wedi ei hanfon at Lywodraeth Prydain, ond roeddent yn amharod i gwrdd â Llywodraeth Cymru i'w thrafod hi. Tybed a all Ysgrifennydd y Cabinet ymhelaethu ar hynny—a yw hwn yn fater o drefnu dyddiad neu o gael pobl Cymru i ystyried eu safle yn y teulu aruchel hwn o genhedloedd a sut y meiddiwn ni awgrymu ffordd ymlaen ar gyfer y DU gyfan ar fater polisi na ddylem ni feiddio ei drafod.

Ond yn ail—a phwynt yr anghytundeb rhwng Ysgrifennydd y Cabinet a minnau a rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth—yw cwestiwn y gyfundrefn cwota neu drwydded waith sydd yn rhanbarthol neu’n wladol ledled y Deyrnas Unedig. Rwy’n credu y gwelwn ni, fel y crybwyllodd Ysgrifennydd y Cabinet ei hun yn ei ddatganiad, y duedd sy'n digwydd yn awr, oherwydd yr arwydd a roddir gan Lywodraeth y DU i weddill y byd, ein bod yn ei chael hi'n anodd denu nifer y bobl sydd ei angen arnom i’n heconomi. A soniodd yn ei ateb blaenorol i gwestiwn blaenorol am waith Corfforaeth Dinas Llundain wrth fodelu’r ffordd y gallai trwydded gwaith yn Llundain weithredu wedi’r gwahanu. Da y gallwn ddychmygu, credaf i, gyda'r profiad sydd gennym yng ngwleidyddiaeth Cymru, sefyllfa pan gyrhaeddwn ddiwrnod y gwahanu a bydd Llywodraeth Prydain, yn daer am gadw Dinas Llundain yn ganolfan ariannol fyd-eang a’i phen uwch y dŵr ac fel yr unig fan yn naearyddiaeth y DU sy'n darparu digon o incwm i’w chynnal ei hun, yn caniatáu i Lundain gael statws arbennig yn y DU, ond neb arall. Unwaith eto, dof yn ôl at hyn. Does gen i ddim bwriad i wawdio Aelodau unoliaethol y Siambr hon, ond unoliaethwyr ydych chi ac mae hyn yn rhywbeth y bydd yn rhaid i chi ei ystyried efallai dros y cyfnod sydd i ddod: os yw hwn yn deulu gwirioneddol gyfartal ac yn deulu o genhedloedd, yn sicr ni fydd yn dderbyniol i Lundain, yr unig ranbarth o'r DU sydd eisoes yn cael mantais economaidd a gwleidyddol enfawr dros bawb arall—. Mae holl adeiladwaith economaidd y Deyrnas Unedig gyfan yn seiliedig ar yr un gornel honno. Os caniateir iddyn nhw gael eu trwyddedau gwaith eu hunain, ac nid y gweddill ohonom ni, bydd hynny'n niweidiol iawn i wlad fel Cymru sydd eisoes yn agosáu at gyflogaeth lawn ac ni fydd ganddi’r gallu, wedyn, i wynebu’r diffygion yn ei sectorau cyhoeddus na phreifat, tra gall Llundain fynd o nerth i nerth yn barhaus. Byddai hynny'n annerbyniol. Rwy'n siomedig nad yw Llywodraeth Cymru yn modelu ar hyn o bryd, nac yn cyhoeddi ar hyn o bryd, yr effaith ar economi Cymru pe byddai triniaeth ffafriol i ddinas Llundain o ran trwyddedau gwaith rhanbarthol ac nid i Gymru. Ac mewn gwirionedd, hyd yn oed pe byddem yn cyrraedd y sefyllfa lle byddai gan ddinasyddion yr AEE yr hawl i ddod i'r DU i weithio, rwy'n dal i gredu na allai hynny fod yn ddigon i gynnal anghenion economi Cymru o ran y prinder sgiliau sydd eisoes yn cael eu gwaethygu gan y broses wahanu sydd ond megis dechrau.

Felly, byddwn yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet gymryd amser, efallai, i roi mwy o ystyriaeth i gyhoeddi rhagor o wybodaeth a modelu ar nid yn unig sut y gallai system drwyddedau gwaith ymhlith cenhedloedd a rhanbarthau'r DU weithredu—. Oherwydd nid ydym yn awgrymu na allai weithredu; rydym yn gwybod ei fod yn gweithredu. Mae gan bob gwladwriaeth ffederal y gallwch chi feddwl amdani—. Gyda rhai eithriadau, ond mae gan lawer o wladwriaethau ffederal y gallwch chi feddwl amdanyn nhw eisoes gwotâu gwahanol a systemau trwyddedau gwaith. Felly, fe all weithredu—mae yn gweithredu—ond nid yn unig hynny, gadewch inni beidio â cholli golwg ar y cyfle y mae'n rhaid inni ddadlau drosto nawr, yn ystod y 18 mis nesaf, cyn iddi fod yn rhy hwyr a chyn, unwaith yn rhagor, i’r wladwriaeth Brydeinig fynd â Chymru i ddistryw.

Roedd Steffan Lewis yn hollol gywir i ddechrau trwy ddweud bod y cynigion yn y ddogfen hon yn ymhelaethu ar y sefyllfa sylfaenol y gwnaethom ni ei nodi yn y ddogfen a gyhoeddwyd ar y cyd rhwng ein dwy blaid. Roeddwn i’n dymuno gwneud yn siŵr fy mod wedi cydnabod hynny.

Cododd Steffan Lewis ddau gwestiwn penodol. Anfonwyd copïau o'n dogfen at Lywodraeth y DU a'u rhannu â chydweithwyr yn Llywodraeth yr Alban hefyd. Weithiau mae'n rhaid i chi ofyn mwy nag unwaith i wneud yn siŵr eich bod yn cael trafod cynnwys y dogfennau hyn gyda phobl yr ydych chi'n credu y byddai o ddiddordeb iddyn nhw. Nid wyf wedi rhoi'r gorau i ymdrechu i sicrhau trafodaeth o'r fath, gyda'r Ysgrifennydd Cartref a chyda Gweinidogion eraill yn y Swyddfa Gartref, ond hefyd gyda'r Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Ac os ydym yn llwyddo i gael cyfarfod o’r Cyd-bwyllgor Gweinidogion ar Adael yr Undeb Ewropeaidd, yna byddwn yn sicr yn disgwyl gweld y ddogfen hon ar yr agenda yno fel y gellid ei rhannu a'i thrafod yn iawn gyda chydrannau'r DU.

Ar yr ail gwestiwn, nid wyf i o’r farn ein bod mor bell oddi wrth ei gilydd. Mae’n fater o'r hyn yr ydych chi'n ystyried y dylid rhoi blaenoriaeth iddo, a blaenoriaeth glir y Llywodraeth hon o hyd yw cael un system fudo sy'n gweithio i bob rhan o'r DU, ac rydym yn credu ein bod yn amlinellu un a allai gyflawni hynny yn y fan hon. Os nad hynny fydd hoff ddewis y Deyrnas Unedig, yna rydym i raddau helaeth iawn yn yr un sefyllfa ag y gwnaeth Steffan Lewis ei hamlinellu. Wrth gwrs, ni fyddem yn dymuno bod mewn sefyllfa lle rhoddir anghenion Dinas Llundain o flaen anghenion yr economïau mewn rhannau eraill o'r DU. Nid ydym chwaith yn dymuno gweld dull sectoraidd o weithredu cwotâu yn golygu y byddai anghenion economaidd rhannau eraill o'r economi nad ydynt yn cael eu hadlewyrchu yn natur economi Cymru yn cael triniaeth ffafriol yn y modd y byddai cwotâu yn cael eu gwasgaru. Os ydym yn y sefyllfa honno, rydym yn dadlau y dylai Llywodraeth Cymru gael cwota ar gyfer Cymru y gallem ni ei wasgaru.

Gwaith sy’n mynd rhagddo yw'r ddogfen hon. Mae mwy eto i'w wneud i ymhelaethu ar ymarferoldeb rhannau ohoni, a byddwn yn parhau i roi ystyriaeth i'r hyn a ddywedwyd y prynhawn yma a hefyd i bethau eraill y mae angen inni eu gwneud i helpu i lunio'r dyfodol.

Wel, mae hon yn ddogfen ddefnyddiol ac yn gyfraniad gwerthfawr i'r ddadl hon. Ond, o'r ffordd y mae'r Ysgrifennydd cyllid ac eraill yn siarad am fewnfudo a'i bwysigrwydd i'r economi, tybed sut y gwnaethom ni lwyddo i oroesi cyn y flwyddyn 2004, pan gafodd cyfyngiadau ar symudiadau o wledydd dwyrain Ewrop eu llacio’n sylweddol neu eu diddymu. Y ffaith yw, sy'n anghyfleus i'w dadl nhw, wrth gwrs, am sawl degawd hyd at y mileniwm, roedd mudo net cyfartalog i'r Deyrnas Unedig tua 50,000 y flwyddyn. Ers 2004, mae'r cyfartaledd wedi bod yn 225,000 y flwyddyn ar gyfer mudo net. Nawr, mae hynny'n gynnydd blynyddol enfawr yn ychwanegol at yr hyn yr ydym wedi'i brofi trwy weddill ein hoes. Credaf na all neb ddadlau’n gredadwy nad yw mewnfudo ar y fath raddfa a chyflymder yn sicr o roi pwysau a straen ar wasanaethau cyhoeddus, ar ddefnydd tir, ar drafnidiaeth, ar swyddi. Ar hyn o bryd, rydym mewn cyfnod economaidd cymharol ddiniwed, ond, pan fydd y rhod yn troi, fel y dichon y bydd, efallai y bydd pethau'n troi eto. Gyda chwymp yn y cyfraddau cyfnewid yn ystod y misoedd diwethaf, effeithiwyd yn gadarnhaol ar y ffigurau mudo net hyn yn barod, a oedd, ychydig fisoedd yn ôl, hyd draean o filiwn neu fwy—erbyn hyn i lawr i 0.25 miliwn, ond maen nhw’n dal i fod ar 0.25 miliwn. Pan gafwyd astudiaeth gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllideb dair blynedd yn ôl yn unig, dyna'r ffigwr a ddewison nhw ar gyfer y dyfodol hirdymor ar gyfer mudo net i Brydain. Camsyniad yw dweud, fel y gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ddatganiad, neu, nid mewn datganiad, mewn ymateb i rywun yn gynharach, rwy'n credu, fod mewnfudwyr yn gwneud cyfraniad net ardderchog i ffyniant economaidd ym Mhrydain. Dim ond golwg tymor byr y gall hynny fod. Gan fod ymfudwyr yn tueddu i fod yn bobl ifanc, maen nhw'n dueddol o fod yn y cyfnod pan maent yn ennill eu bywoliaeth ac nid ydynt yn gwneud cymaint o ddefnydd o wasanaethau cyhoeddus, yn enwedig gwasanaethau iechyd, fel ag y gwnânt wrth fynd yn hŷn, ac yn sicr, wrth gwrs, pan fyddant yn derbyn eu pensiwn. Os ystyriwch lif arian dros oes mewnfudwr, gwyddom o astudiaethau eraill a wnaed, a chyfeiriais at un yn gynharach yn fy nghwestiwn i'r Prif Weinidog gan y Swyddfa ar gyfer Cyfrifoldeb y Gyllideb, fod 225,000 o fewnfudwyr net y flwyddyn, mae hynny’n ychwanegu 0.4 y cant i’r GDP ond hefyd yn ychwanegu 0.4 y cant i'n poblogaeth, ac felly does dim cyfraniad net o gwbl o ran GDP y pen.

Felly, nid wyf yn honni bod mewnfudwyr yn gost i'r wlad dros y tymor hir. Ond rwyf yn dweud hefyd nad ydyn nhw o fantais fesuradwy mewn gwirionedd. Felly, o ran lles cenedlaethol nid oes dadl y naill ffordd na'r llall. Ond mae anwybyddu graddfa a chyflymder mewnfudo presennol, rwy'n credu, yn peryglu ansefydlogrwydd mewn gwleidyddiaeth. Rydym wedi ei weld mewn rhannau eraill o Ewrop mewn ffordd annifyr, a dyna'r prif reswm pam yr wyf yn credu bod angen inni gael system briodol o reolaeth dros fewnfudo. Y paradocs yw, wrth gwrs, fod hyn yn ei le gennym ar gyfer gweddill y byd nad yw'n rhan o'r Undeb Ewropeaidd. Nawr, os mai'r ddadl yw, gan fy mod yn tybio o'r hyn yr oedd Steffan Lewis yn ei ddweud funud yn ôl, mai peth da yw mewnfudo, a dylem gael mwy ohono, ac na ddylem roi cyfyngiadau arno o’r UE, pam na wnawn ni ond agor y llifddorau i weddill y byd? Bydd yr un dadleuon sy'n berthnasol i Ewrop yn berthnasol i weddill y byd hefyd. Mae yn Ewrop 450 miliwn o bobl, gan dynnu’r Deyrnas Unedig allan ohono. Mae gennym filiynau o bobl ar draws y byd a allai ddod i gyfrannu at economi Prydain pe byddem yn ymestyn yr un system o ddim rheolaeth sydd gennym ni o fewn yr UE i weddill y byd. Ni allwch ei chael hi’r ddwy ffordd. Naill ai rydych chi o blaid rheoli neu nid ydych o blaid rheoli. Os ydym o blaid rheolaeth o ran gweddill y byd, pam na ddylem ymestyn hynny i'r Undeb Ewropeaidd mewn modd synhwyrol? Nid wyf yn gwrthwynebu'n llwyr, mewn egwyddor, i gael systemau cwota rhanbarthol a chenedlaethol os oes modd eu gweithredu. Y cymhlethdod, wrth gwrs, yw bod y system o reoli mewnfudo sydd gennym yn y wlad hon yn anniben iawn. Nid oes gennym syniad pwy sy'n dod i mewn i'r wlad neu, hyd yn oed yn fwy felly, pwy sy'n ei gadael, ac ni allwn reoli symudiadau o fewn y Deyrnas Unedig. Felly—[Torri ar draws.] Wel, wrth gwrs, mae’n wir; nid oes gennym unrhyw fodd o wybod ble mae pobl. Yn y cyfrifiad diwethaf ychydig flynyddoedd yn ôl, nodwyd dros 0.5 miliwn yn fwy o bobl nag yr oedd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn ei ddisgwyl, ac nid yw'r cyfrifiad ynddo’i hun yn dal dŵr. Felly, hyd nes y cawn ni systemau gweinyddol sy'n gallu ymdopi â'r cymhlethdodau y byddai hynny’n eu cyflwyno, mae angen i mi gael fy argyhoeddi.

Ond rwy'n credu bod hwn yn gyfraniad gwerthfawr i'r ddadl, a chredaf ei bod yn rhywbeth y dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei ystyried. Os yw'n dweud na ellir rhoi hyn ar waith ac yn egluro pam, yna byddaf yn gwrthwynebu hynny. Ond, os gellir ei weithredu, a heb danseilio hanfodion yr hyn y mae angen inni ei gyflawni trwy reoli ein ffiniau, yr ystyriaf i’n hanfodol i genedligrwydd, cenedl annibynnol, sef bod yn alluog i reoli a phenderfynu pwy sy'n dod i mewn i’ch gwlad chi ac ar ba delerau. Fel arall, byddwch yn agor y llifddorau i weddill y byd hefyd, drwy gael—[Torri ar draws.] Wel—

Nac ydyw, nid oes gan hynny ddim byd i'w wneud â mwgwd yn llithro o gwbl, Llywydd. Os ydym o blaid rheoli mewnfudo o weddill y byd, pam nad ydym ni o blaid hynny ar gyfer Ewrop? Pa reswm sydd gennym i wahaniaethu yn erbyn gweddill y byd? Nid y fi sy'n hiliol. Mae'r polisi mewnfudo presennol sydd gennym yn un hiliol, oherwydd rydym yn rhoi cyfyngiadau ar y rhai sydd â wynebau o wahanol liw nad ydym yn eu rhoi ar y rhai lle mae’r mwyafrif llethol yn wyn.

Wel, gadewch imi ddechrau gyda'r pwynt olaf, oherwydd nodais yn benodol yn fy natganiad y rhesymau pam rydym yn credu y dylai ein perthynas arbennig yn y dyfodol ag Ewrop gynnwys dull gwahaniaethol a ffafriol o ymdrin â mewnfudo i wladolion yr AEE a Swistir. Gwnawn hynny oherwydd y 40 mlynedd o hanes sydd gennym gyda'r Undeb Ewropeaidd. Mae'n bosibl—mae'n bosibl yn ddeallusol ac o ran polisi—i wahaniaethu rhwng polisi yr hoffech ei gael mewn cysylltiad â'r gwledydd hynny a'r polisi a fyddai gennych gyda gweddill y byd, ac rydym yn gwneud hynny yn ein papur.

Gadewch imi ddweud, Llywydd, nad yw ein papur yn anwybyddu am funud y pwysau na'r straen a grewyd, ym marn rhai cymunedau gan raddfa a chyflymder mewnfudo Rydym yn ceisio mynd i’r afael â hynny’n uniongyrchol. Rydym yn ceisio nodi ffeithiau'r mater. Rydym yn ceisio esbonio pam, yn ein barn ni, mae pobl o weddill y byd yn gwneud cyfraniad net sylweddol i fywyd yma yng Nghymru. Maen nhw'n gwneud hynny'n economaidd, a chredwn fod yn rhaid i'r Aelod weithio'n hynod o anodd i geisio dod o hyd i ddadl oedd yn ceisio tanseilio'r cynnig hwnnw. Byddwn i gyd yn hŷn ryw ddiwrnod, Llywydd, a heb fod yn gwneud yr un cyfraniad economaidd ag a wnawn ni nawr. Ond, yma ac yn awr, mae pobl o'r Undeb Ewropeaidd sydd yma heddiw yn sicr yn gwneud cyfraniad net i'n cyfoeth cenedlaethol, ac maen nhw’n gwneud llawer mwy na hynny. Ac nid y cyfraniad economaidd yn unig y maen nhw’n ei wneud; ond y cyfraniad y maen nhw'n ei wneud ym mhob math o ffyrdd eraill. Ond nid ydym yn anwybyddu'r pryderon y mae pobl wedi eu hwynebu, hyd yn oed pan oeddech yn nodi'r ffeithiau, a dyna pam rydym ni'n rhoi pwyslais mor gryf yn ein papur ar sicrhau bod y camau diogelu a ddylai fod yno i bobl sy'n byw bywydau bregus yn economaidd a bod ganddyn nhw amheuon fod rhyddid symudiad wedi troi mor rhwydd yn rhyddid i gamfanteisio—. Rydym ni o’r farn bod angen cryfhau a gwneud yn fwy effeithiol y mesurau i ddiogelu'r bobl sydd eu hangen ac yn eu haeddu.

Rwy’n diolch i'r Aelod am yr hyn a ddywedodd ar y diwedd ynghylch gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn ymateb o ddifrif i'r papur hwn. Rwy’n credu os gwnân nhw ac os oes ganddyn nhw ddiddordeb mewn rhoi anghenion economi’r Deyrnas Unedig ar frig eu rhestr pan ddaw yn fater o drafodaethau wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd, y byddan nhw’n dod o hyd i lawer yma a fyddai’n eu galluogi i sicrhau'r canlyniad hwnnw.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Rwy’n croesawu’r datganiad hwn. Rwy'n credu mai da o beth yw ei fod yn dathlu'r cyfraniad a wneir gan weithwyr Ewropeaidd yma yng Nghymru. Rwy'n credu ei fod yn ddatganiad cadarnhaol ac fel y mae llawer un wedi dweud, yn gyfraniad ymarferol, gwirioneddol i'r ddadl sy'n mynd rhagddi.

Yn bersonol, rwy'n credu bod y ddadl hyd yn hyn yn San Steffan yn edrych fel bod Llywodraeth San Steffan yn rhoi’r nod o dynnu mewnfudo i lawr y tu hwnt i anghenion economaidd y wlad, a chredaf fod hyn i gyd yn ymwneud ag amser trychinebus Theresa May yn y Swyddfa Gartref, pan fethodd hi’n llwyr â gostwng mewnfudo yn y modd yr addawodd ei wneud, ac mae hynny wedi parhau hyd heddiw. Rwy’n credu y byddai'n anffodus inni orfod dilyn unrhyw fathau o gwotâu, ond rwy’n deall pam mae Ysgrifennydd y Cabinet yn bwrw ymlaen â'r posibilrwydd o gwotâu rhanbarthol pe byddem yn cyrraedd y sefyllfa lle byddai’n angenrheidiol.

Rwy'n credu bod y dogfennau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cynhyrchu yn ddogfennau gwerthfawr iawn i'r ddadl. Credaf fod gwybodaeth ddiddorol iawn yma y mae’n bwysig iawn i ni ddysgu ohoni. Roeddwn i o’r farn mai un o'r pwyntiau pwysig iawn yn y ddogfen hon yw'r ffigurau sy'n dangos nad yw mwyafrif helaeth dinasyddion yr UE yn bobl ifanc, sengl, ond mai rhan o uned deuluol ydyn nhw. Rwy'n credu ei fod yn dweud yno bod mwy na 20,000 o blant yn byw mewn cartrefi yng Nghymru lle mae un rhiant o leiaf yn ddinesydd yr UE.  Efallai y buaswn i’n datgan diddordeb yma, oherwydd y mae tri o'm hwyrion i yn y sefyllfa honno. Ond rwy'n amau, wyddoch chi, ein bod ni yn trafod y ddadl am Brexit a symudiad teg pobl mewn termau economaidd yn bennaf ac, yn amlwg, rwy'n credu ei bod yn rhaid inni edrych ar yr effaith gymdeithasol enfawr y mae hynny'n ei chael ar fywydau teuluoedd lle mae un o’u haelodau o'r UE ac yn ansicr o'r dyfodol. Holi wyf i a yw Llywodraeth Cymru yn gwneud unrhyw beth o ran hynny. Nid yw’n syndod i mi, fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ddatganiad, fod llawer o ddinasyddion yr UE yn gadael y wlad erbyn hyn, am nad ydyn nhw yn teimlo bod croeso iddyn nhw.

Un o'r pethau yr oeddwn i am ofyn iddo oedd ynglŷn â’r broses o gynhyrchu'r dogfennau hyn, oherwydd gwn mai un o'r grwpiau sydd wedi teimlo i’r byw am yr holl faterion hyn yw pobl ifanc, a gwn, yn yr Eisteddfod, rwy'n credu, fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwneud ymrwymiad y byddai’n ymgynghori â phobl ifanc ynghylch y dogfennau hyn a sut y byddai rhan iddyn nhw i’w chwarae, ac mae’n amlwg fod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i ymgynghori â phobl ifanc. Felly, rwy’n gofyn a allech chi ddweud wrthym ni a oedd pobl ifanc wedi bod â rhan yng nghynhyrchu'r ddogfen hon. Hynny yw, ni chawsant gyfle i bleidleisio, y rhai 16 ac 17 oed. Gobeithio y gallwn ni wneud rhywbeth am hynny yn y dyfodol, ond, yn amlwg, dyna’r sefyllfa ar hyn o bryd.

Ac, yn olaf, rwy'n credu ei fod yn bwynt pwysig iawn yn y ddogfen, sef nad yw'r mewnfudo hwnnw'n gyfrifol am dynnu cyflogau i lawr; cyflogwyr diegwyddor sydd yn manteisio ar bobl sy’n agored i niwed. Ac felly rwy'n cefnogi'r ymrwymiad yn y datganiad.

Mae'r broses o gynhyrchu'r dogfennau, y gyfres o ddogfennau, yn un yr ydym yn gwneud ein gorau ynddi i gynnwys barn a safbwyntiau ystod eang o bobl sydd â diddordeb arbennig yn y maes hwn. Mae'r ddogfen hon yn cael ei dylanwadu'n arbennig gan farn cyflogwyr, undebau llafur a sector y prifysgolion. Cafodd hyn ei drafod yn y grŵp cynghori Ewropeaidd yr wyf i'n ei gadeirio. Gwn fod y pwyllgor monitro rhaglenni y mae Julie Morgan yn ei gadeirio hefyd wedi cyfrannu at ddatblygiad y gyfres o ddogfennau yr ydym yn eu cynhyrchu, ac roeddwn yn ddiolchgar iawn am y cyfle i siarad yn yr Eisteddfod mewn digwyddiad dan gadeiryddiaeth Llyr Huws Gruffydd gerbron cynulleidfa o bobl ifanc a sefydliadau pobl ifanc am Brexit, ac mae Carl Sargeant, fy nghyd - Aelod, wedi ymrwymo i ariannu cyfres o ddigwyddiadau, gyda chymorth Plant yng Nghymru, lle gall barn a safbwyntiau pobl ifanc gael eu bwydo yn fwy uniongyrchol i broses ystyriaeth Llywodraeth Cymru o Brexit yn ei chyfanrwydd.

Rwy’n gorffen drwy adleisio'r hyn a ddywedodd Julie Morgan: nid yw’n ddigon da i'r Llywodraeth, fel y dywedodd Mark Isherwood wrthym ni, ddweud nawr nad ydym yn bell iawn oddi wrth gael cytundeb ar statws pobl o’r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol. Roedd y refferendwm ymhell dros flwyddyn yn ôl. Byddai hi wedi bod yn bosibl—. Dywedodd David Davis, yr Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, lawer o fisoedd yn ôl wrthyf i mai hwn oedd un o'r pethau rhwyddaf i gytuno â'r Undeb Ewropeaidd arno, a dyma ni, fisoedd lawer yn ddiweddarach, heb gytundeb ar y maes byth. Mae hynny'n golygu bod pobl sy'n byw mewn teuluoedd, yn ceisio cael siâp ar eu bywydau, yn ceisio dod o hyd i ddyfodol iddyn nhw eu hunain, wedi byw gyda'r ansicrwydd hwnnw, ac nid oes syndod bod pobl sydd â sgiliau y mae galw mawr arnynt ac sy’n rhydd iawn i symud yn penderfynu y byddai'n well ganddyn nhw fynd i rywle arall lle maen nhw’n fwy diogel eu safle ac y maen nhw’n gwybod fod y croeso yn iawn yno ar eu cyfer nhw. Gallai ac fe ddylai Llywodraeth y DU fod wedi gwneud yn siŵr nad oeddem ni yn y sefyllfa honno yn y fan hon yn y Deyrnas Unedig.

Dywedodd yr Athro Jonathan Portes, arbenigwr mwyaf blaenllaw y maes hwn yn y Deyrnas Unedig gyfan, ar y diwrnod y cyhoeddwyd ein hadroddiad:

Roedd papur Llywodraeth Cymru ar fewnfudo yn bopeth nad oedd papur y Swyddfa Gartref : cadarnhaol, adeiladol, seiliedig ar dystiolaeth,

a dyna pam yr ydym yn gobeithio y bydd yn cael effaith ar y ddadl yma yng Nghymru, a hefyd yn ehangach yn y Deyrnas Unedig.

7. 6. Datganiad: Cynllun Gweithredu Cymru ar Reoli Tybaco 2017-2020

Yr eitem nesaf, felly, yw’r datganiad gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y cynllun gweithredu rheoli tybaco. Felly, rydw i’n galw ar y Gweinidog, Rebecca Evans.

Diolch. Rwy'n falch o lansio ein cynllun cyflawni Cymru ar reoli tybaco ar gyfer 2017-20. Datblygwyd y camau a gynhwysir yn y cynllun hwn i fynd i'r afael â’r defnydd o dybaco yng Nghymru, a bydd yn sicrhau bod ein gwaith yn parhau ar y trywydd cywir i leihau lefelau ysmygu i 16 y cant erbyn 2020.

Ysmygu sigaréts sy’n achosi’r nifer mwyaf o farwolaethau cynamserol yng Nghymru, gan achosi rhyw 5,450 o farwolaethau y flwyddyn. Mae clefydau sy'n gysylltiedig ag ysmygu yn ataliadwy, ac maent yn costio tua £302 miliwn i’r GIG yng Nghymru bob blwyddyn. Mae ysmygu hefyd yn un o’r prif bethau sy’n achosi anghydraddoldebau iechyd, gyda chyfraddau ysmygu mewn ardaloedd tlotach fwy na dwywaith yn uwch nag mewn ardaloedd cyfoethog.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Mae lleihau lefelau ysmygu yng Nghymru yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'n Llywodraeth. Yn 2012, gwnaethom gyhoeddi ein cynllun cyflawni Cymru ar reoli tybaco.  Pennodd y cynllun darged i leihau lefelau ysmygu o 23 y cant yn 2010 i 16 y cant erbyn 2020. Roedd hefyd yn cyfleu gweledigaeth o gymdeithas ddi-fwg i Gymru lle caiff y niwed a achosir gan dybaco ei ddileu. Rwy'n falch o ddweud bod cynllun 2012 wedi arwain at ystod o welliannau iechyd i bobl Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys lleihau effaith mwg ail-law, mwy o gefnogaeth i'r rhai sydd eisiau rhoi'r gorau i ysmygu, a gweithredu er mwyn helpu i atal pobl rhag ifanc rhag dechrau ysmygu. Mae’r gyfradd ysmygu wedi gostwng i 19 y cant. Mae hyn yn galonogol, ond mae rhagor o waith i’w wneud. Mae angen inni sicrhau ein bod yn cymryd y camau angenrheidiol os ydym ni’n bwriadu cynnal y momentwm hwn er mwyn cyflawni ein targed o 16 y cant ymhen dim ond tair blynedd.

Gan gofio hynny, sefydlwyd y bwrdd strategol rheoli tybaco y llynedd. Mae'r bwrdd, sydd dan gadeiryddiaeth y prif swyddog meddygol, a'i is-grwpiau ar gyfer rhoi'r gorau iddi, atal a lleihau effaith ysmygu, wedi gweithio'n galed i ddatblygu a chwblhau'r cynllun cyflawni hwn, a fydd yn arwain y gweithgarwch hyd at 2020, a hoffwn ddiolch iddyn nhw am y gwaith hwnnw.

Mae'r cynllun yr wyf yn ei lansio heddiw yn nodi'r camau gweithredu unigol y bydd Llywodraeth Cymru a'n rhanddeiliaid yn eu cymryd i hybu gweithgarwch a'n helpu ni i gyrraedd y targed a'r weledigaeth a nodir yng nghynllun 2012. Mae'n adeiladu ar y cynnydd a wnaed hyd yn hyn a bydd yn cael ei gefnogi gan bwerau newydd sydd wedi'u cynnwys yn Neddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 i'n galluogi ni i ymestyn y gwaharddiad ar ysmygu i rai lleoliadau awyr agored, megis tiroedd ysbytai a mannau lle mae plant yn chwarae. Bydd hefyd yn ein galluogi ni i gyflwyno mesurau eraill i annog pobl i beidio â defnyddio tybaco a gwella canlyniadau iechyd, megis cyflwyno cofrestr o fanwerthwyr o gynhyrchion tybaco a nicotin. Bydd hefyd yn ei gwneud hi'n drosedd i roi cynhyrchion tybaco neu nicotin i bobl dan 18 oed wrth ddefnyddio gwasanaethau casglu a dosbarthu i gartrefi.

Bydd y camau gweithredu yn y cynllun cyflawni yn cefnogi pobl i roi'r gorau i ysmygu ac yn helpu i atal pobl rhag dechrau ysmygu yn y lle cyntaf. Mae nifer o gamau hefyd wedi'u cynnwys i leihau cysylltiad ag ysmygu, ac felly cael gwared ar y canfyddiad bod ysmygu yn ymddygiad arferol, bob dydd. Nod y camau hyn a'r rheoliadau newydd i ymestyn y gwaharddiad ysmygu i ardaloedd y mae plant yn eu defnyddio’n aml yw amddiffyn plant a phobl ifanc. Bydd hyn yn helpu i roi'r dechrau gorau iddynt mewn bywyd.

Ein bwriad yw bod gan bobl uchelgais i fyw yn ddi-fwg a bydd y cynllun yn cael ei lansio heddiw o dan ein brand trosfwaol Dewiswch fod yn Ddi-fwg. Datblygwyd y brand fel un a fydd yn cael ei gydnabod a'i ddefnyddio ar gyfer pob elfen o waith rheoli tybaco yng Nghymru. Mae ei enw yn cyfleu’n glir iawn yr hyn y mae'n ei olygu. Bydd hyn yn sicrhau cysondeb ac yn sicrhau bod y bobl sydd eisiau rhoi’r gorau i ysmygu yn cael eu cyfeirio at y gwasanaethau priodol. Yn gynharach eleni, roeddwn yn falch o lansio ein gwasanaeth rhoi'r gorau i ysmygu, Helpa Fi i Stopio, sef y gwasanaeth cyntaf i weithredu o dan ein brand newydd. Mae'r gwasanaeth wedi'i gynllunio i'w gwneud hi'n haws i smygwyr gael gafael ar help i roi'r gorau i ysmygu. Mae dros 40 y cant o’r smygwyr yn gwneud o leiaf un cais i roi’r gorau iddi bob blwyddyn, felly mae'n bwysig bod cynifer â phosibl o'r rhai hynny yn gofyn am help i roi'r gorau iddi gan fod hyn yn cynyddu’n sylweddol y posibilrwydd i’w hymgais i roi'r gorau iddi fod yn llwyddiannus.

Mae'r cynllun cyflawni hwn yn gyson â nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a datblygwyd drwy fabwysiadu'r dulliau o weithio sy'n sail i'r Ddeddf. Mae hefyd yn un o'r ymatebion i'n strategaeth genedlaethol, 'Ffyniant i Bawb'. Ei nod yw gwella iechyd a lles pobl yng Nghymru a rhoi mwy o bwyslais ar atal.

Yn ystod oes y cynllun, bydd ein bwrdd strategol ar reoli tybaco a'i is-grwpiau yn parhau i ganolbwyntio ar gynnydd a byddant ar wyliadwriaeth am gynhyrchion tybaco newydd a chynhyrchion sy’n datblygu, sy'n bygwth yr hyn yr ydym wedi gweithio mor galed i'w gyflawni yng Nghymru ers cyflwyno'r gwaharddiad ar ysmygu 10 mlynedd yn ôl. Bydd y bwrdd yn sicrhau ein bod yn parhau i gynllunio y tu hwnt i 2020 a bydd yn gosod nodau pellach i sicrhau cymdeithas ddi-fwg.

Gweinidog, diolch am eich datganiad heddiw. Croesawaf y cynllun cyflawni. Rwy'n falch ei fod yn parhau i osod nifer o dargedau uchelgeisiol i leihau cyfraddau ysmygu. Rwy’n credu ei bod hi’n dal i fod yn gywilyddus y bydd hyd at ddwy ran o dair o smygwyr hirdymor yn marw o glefydau sy'n gysylltiedig ag ysmygu, ac rwy'n credu ei bod yn werth atgoffa ein hunain bod Gweinyddiaeth Bwyd a Chyffuriau yr Unol Daleithiau wedi dweud yn blwmp ac yn blaen mai sigaréts yw

yr unig gynnyrch defnyddwyr cyfreithiol a fydd, pan gaiff ei ddefnyddio fel y bwriedir, yn lladd hanner yr holl ddefnyddwyr hirdymor.

Felly, rwy’n eich llongyfarch ar gyrraedd y targed o ostwng y defnydd i 19 y cant. Hoffwn ddeall, Gweinidog, a ydych chi o’r farn ei bod yn realistig y bydd y targed o 16 y cant yn cael ei gyrraedd erbyn 2020, gan fy mod yn nodi yn eich cynllun eich bod yn dweud y bydd hyn yn darged heriol iawn. Ac o ystyried hyn, byddai gennyf ddiddordeb mawr i glywed eich barn ynghylch pa un a ydych chi'n ystyried y gellir cyrraedd nod Cancer Research UK o weld cyfradd ysmygu sy’n llai na 5 y cant ar draws yr holl grwpiau economaidd-gymdeithasol erbyn 2035 yng Nghymru, oherwydd nid oes pwrpas i ni osod targed hollol amhosibl, ond efallai ei bod yn rhywbeth y gallwn ni anelu ato.

Rydych chi’n siarad yn eich datganiad am y rhaglen Helpa Fi i Stopio, ac er hynny yn 2016-17, dim ond 2.9 y cant o'r boblogaeth sy’n ysmygu a gafodd eu gweld gan wasanaeth rhoi'r gorau i ysmygu, ac ni chyflawnodd unrhyw fwrdd iechyd y targed. Yn wir, ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, dim ond 1.3 y cant o'r boblogaeth sy’n ysmygu a wnaeth gais i roi'r gorau iddi. Gweinidog, byddai gennyf ddiddordeb cael gwybod pam yr ydych chi’n meddwl ei bod wedi cymryd cymaint o amser i'r byrddau iechyd ddod i gefnogi hyn. A oes gennych chi unrhyw gynlluniau i edrych ar y targedau eto neu i ddarparu adnoddau ychwanegol i sicrhau eu bod yn gyraeddadwy?

Rwy'n deall bod ymgyrchoedd cyfryngau torfol yn effeithiol iawn ac rydych chi'n siarad cryn dipyn am hynny yn y cyflwyniad, ond mae ffigurau Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos gwahaniaethau sylweddol yn y cyfraddau ysmygu ar draws siroedd Cymru. A wnewch chi ddweud wrthym ni beth sy'n cael ei wneud i sicrhau bod yr adnodd yn cael ei dargedu at y meysydd lle gall wneud y gwahaniaeth mwyaf? Er ei bod yn ffasiynol iawn, ac rwy’n gwybod bod rhyw ran o'r boblogaeth yn hoff iawn o’r cyfryngau cymdeithasol, nid yw nifer fawr o'r bobl sy'n ysmygu yn gyfarwydd â’r cyfryngau cymdeithasol, nid ydyn nhw o reidrwydd yn gallu cael gafael ar gyfrifiaduron, neu maen nhw’n byw mewn ardaloedd a chysylltiad rhyngrwyd gwael. Felly, tybed a wnewch chi roi gwybod i ni sut y byddwch yn sicrhau nad yw'r carfannau hynny yn cael eu hanwybyddu.

Dau beth yn olaf. Mae pobl â phroblemau iechyd meddwl yn ysmygu mwy o lawer na'r boblogaeth gyffredinol. Pa gynlluniau sydd gennych ar waith—oherwydd ni welais unrhyw rai yn y cynllun cyflawni—i geisio addysgu'r bobl hynny am yr angen i roi'r gorau i ysmygu neu geisio lleihau faint y maen nhw’n ei ysmygu? Gan fod y nifer o bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl sy'n ysmygu yn sylweddol uwch. A’r ffigurau eraill a oedd yn fy synnu'n fawr oedd y ffigurau ar gyfer mamau beichiog sy’n ysmygu yn ystod eu beichiogrwydd. Dywed y cynllun cyflawni nad yw'r data ar gael ar gyfer yr is-grŵp hwn, ond cyhoeddodd Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru ddata y llynedd yn dangos bod dros 18 y cant o famau yn ysmygu yn ystod beichiogrwydd, ac roedd anghysondebau ar draws y byrddau iechyd ac ar draws y ffin economaidd-gymdeithasol. Felly, tybed, Gweinidog, pa gynlluniau sydd gennych chi i fynd i'r afael â'r ddau grŵp hynny.

Ac yn olaf, Dirprwy Lywydd, dros yr haf, Gweinidog, fe wnes i gefnogi galwadau i swyddogion iechyd y DU ystyried rheolau newydd sy'n gorfodi gostwng lefel y nicotin mewn cynhyrchion tybaco i lefelau di-gaethiwus yn dilyn cyhoeddiad am ymgynghoriad nodedig yn yr Unol Daleithiau gan Weinyddiaeth Bwyd a Chyffuriau yr Unol Daleithiau. Rwy'n credu bod yn rhaid inni wneud rhywbeth radical i geisio atal y felltith o ysmygu, a hoffwn ofyn am eich barn ar fenter o’r fath. Os ydych chi'n credu y byddai’n werthfawr bwrw ymlaen â rhywbeth felly, a fyddai modd i chi geisio cysylltu â swyddogion yr adran iechyd yn San Steffan i weld a allwn edrych ar ddeddfwriaeth gynhwysfawr a fyddai’n ceisio gwneud rhai o'r cynhyrchion gwenwynig hyn yn llai gwenwynig i'r rhai hynny sy’n dewis eu defnyddio? Diolch.

Diolch yn fawr iawn. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn am y croeso y mae’r cynllun wedi’i gael, ond hefyd ar gyfer y cwestiynau pwysig hynny hefyd. Dechreuoch chi drwy sôn am ba mor gywilyddus ydyw hi bod cymaint o bobl yn dal i ysmygu a'r effaith y mae hyn yn ei chael ar deuluoedd. Yn fy natganiad, dywedais fod ysmygu yn lladd mwy na 5,000 o unigolion bob blwyddyn. Felly, mae hynny'n 5,000 o deuluoedd sydd wedi’u heffeithio’n ofnadwy gan ysmygu. Dyma’r prif beth sy’n achosi marwolaethau ataliadwy ac, wrth gwrs, mae hynny'n ein hysgogi i gyrraedd ein targedau. Mewn gwirionedd, un o'r ffeithiau sy'n fy sbarduno ymlaen yn arbennig ar hyn yw ei fod mewn gwirionedd yn broblem o anghydraddoldebau iechyd hefyd, oherwydd y gwyddom fod pobl mewn cymunedau tlotach yn llawer mwy tebygol o ysmygu, ac o ganlyniad, mae’n llawer mwy tebygol o gael yr effeithiau iechyd gwael hynny sy’n ganlyniad iddo. Felly, mewn gwirionedd, mae'n fater o gydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol hefyd. Felly, mae hyn yn wir yn ein sbarduno ymlaen i geisio cyflawni'r targedau hynny.

Gwnaethoch chi ofyn am y targed o 16 y cant. Rwy’n fodlon mentro a dweud, ydw, rwy'n credu y byddwn ni’n gallu cyflawni'r targed hwnnw gyda chymorth y gwahanol gamau gweithredu newydd a nodir yn ein cynllun, a hefyd gyda chymorth Bil iechyd y cyhoedd—neu Ddeddf Iechyd y Cyhoedd erbyn hyn—a basiwyd yn ddiweddar gan y Cynulliad hwn. Mae'n darged heriol; nid oes unrhyw amheuaeth ynglŷn â hynny. Ond, ar yr un pryd, credaf fod yr egni ar gael i gyrraedd yn y fan honno. Gwnaethoch ofyn am dargedau yn y dyfodol, ac, wrth gwrs, ein huchelgais pennaf yw Cymru ddi-fwg. Bydd hyn yn rhywbeth y byddaf yn gofyn i'r bwrdd strategol ar reoli tybaco edrych arno, gosod targedau newydd pan fyddwn yn adolygu pethau yn 2020, pan ddaw'r cynllun hwn i ben. Felly, byddwn yn sicr yn dymuno cael targedau parhaus er mwyn mynd â ni i’r sefyllfa ddi-fwg yr ydym yn dyheu amdani.

Rydych chi'n hollol gywir i ddweud bod angen inni gynyddu ein hymdrechion o fewn y GIG o ran y gefnogaeth a gynigir i bobl drwy'r GIG er mwyn rhoi'r gorau i ysmygu. Mae rhai camau gwirioneddol bwysig o fewn y cynllun cyflawni arbennig hwn, ac un ohonynt, mewn gwirionedd, yw gwelliant i’r gwasanaethau ar gyfer rhoi'r gorau i smygu trwy ddylunio a datblygu gwasanaeth 'stopio ysmygu' integredig. Nawr, rydym ni wedi dechrau hynny gyda'n brand newydd, a'r gwasanaeth newydd y gwnes ei ddisgrifio, Helpa Fi i Stopio, sydd eisoes wedi’i lansio. Ond mewn gwirionedd, mae angen i ni wneud llawer mwy. Un o'r pethau yr ydym yn ei wneud yw cryfhau'r llwybr atgyfeirio ar gyfer gwasanaethau mamolaeth i gynnwys atgyfeirio pob menyw feichiog sy'n ysmygu i wasanaethau rhoi'r gorau iddi, a hefyd cryfhau llwybrau atgyfeirio i gynnwys atgyfeirio i wasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu i bawb sy'n ysmygu sy'n naill ai yn gleifion cyn llawdriniaeth, oherwydd ein bod yn gwybod yr effaith y bydd hynny'n ei gael ar y tebygolrwydd o gael canlyniad cadarnhaol ar ôl llawdriniaeth, pobl â chlefyd yr ysgyfaint, a phobl sydd â chyflyrau iechyd meddwl hefyd. Felly, mae hynny’n gam gweithredu penodol yn y fan hon. Mae yna gamau gweithredu hefyd ar gyfer clystyrau gofal iechyd sylfaenol o ran diffinio faint o atgyfeiriadau y bydd angen iddynt eu gwneud er mwyn gweld gostyngiad mewn ysmygu o flwyddyn i flwyddyn hefyd. Felly, rydym ni’n gwybod bod gan ofal sylfaenol ran bwysig iawn i'w chwarae yn hyn o beth. A chamau gweithredu ar gyfer fferyllfeydd hefyd. Felly, byddwn yn ceisio sicrhau bod pob fferyllydd yn gallu cynnig gwasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu fel rhan o'u hyfforddiant cyn cofrestru. Felly, byddai hwn yn ddatblygiad newydd hefyd. Ac, unwaith eto, byddwn yn ceisio gwella'r rhan y mae deintyddion yn ei chwarae o ran cynnig gwasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu hefyd. Felly, mae llawer o waith ar y gweill a llawer o ddulliau newydd o fewn y GIG hefyd.

Gwnaethoch gyfeirio yn benodol at y ffaith bod cyfryngau cymdeithasol yn wych o ran lledu’r neges, ond nid yw pawb yn gallu cael mynediad at gyfryngau cymdeithasol. Felly, yn rhan o'n hymgyrch Helpa Fi i Stopio, roedd gennym ni rai hysbysebion teledu a rhai hysbysfyrddau hefyd. Roedd mynd ar ymweliad i sefyll ger hysbysfwrdd yn un o’r pethau mwyaf rhyfedd yr wyf wedi eu gwneud ers i mi fod yn Weinidog, ond dyna ble y gwnaethom lansio’r ymgyrch oherwydd ein bod ni'n teimlo ei bod yn bwysig bod gennym ni bresenoldeb cyhoeddus iawn a gweladwy mewn cymunedau hefyd.

Yn ystod gwanwyn 2018, byddwn ni’n ymgynghori â defnyddwyr, staff a rhanddeiliaid y gwasanaeth iechyd meddwl ar ddileu'r esemptiad ar gyfer y lleoedd hynny sy'n ddi-fwg o fewn unedau iechyd meddwl. Ac rwy'n wirioneddol awyddus i ni gael barn pobl sydd â phrofiad o aros mewn unedau iechyd meddwl yn hynny o beth. Dyna'r bobl y mae angen i mi fod yn gwrando arnynt yn fwy nag unrhyw un arall yn yr amgylchiadau hyn.

Yn olaf, a chyfeiriais ato yn fyr, ond gwnaethoch chi sôn am gefnogaeth i fenywod beichiog. Mae canlyniadau ein cynllun peilot ysmygu yn ystod beichiogrwydd, modelau ar gyfer cael gafael ar gefnogaeth i roi'r gorau i ysmygu ar gyfer mamau, sydd â’r acronym cyfleus iawn MAMSS, wedi dangos bod menywod beichiog yn fwy tebygol o ymgysylltu â gwasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu wrth ddefnyddio cymorth sydd wedi'i fewnosod yn y gwasanaethau mamolaeth hynny. Ac mae hefyd yn bwysig gwybod bod plant 70 y cant yn fwy tebygol o ysmygu os yw eu mam yn ysmygu, a thair gwaith yn fwy tebygol o ysmygu os yw'r ddau riant yn ysmygu hefyd. Felly, dyma'r math o ymyriadau byr y gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, bydwragedd a gweithwyr gofal iechyd eu defnyddio gyda theuluoedd drwy'r gwaith y maent yn ei wneud yn rhan o gynlluniau Plant Iach Cymru a 10 Cam i Bwysau Iach hefyd.

Mi hoffwn innau groesawu cyhoeddi’r cynllun gweithredu. Mi allem ni gyd, rwy’n siŵr, groesawu unrhyw ymrwymiad i barhau i geisio gostwng cyfraddau ysmygu ac yn arbennig, rwy’n meddwl, y camau i geisio atal pobl rhag dechrau ysmygu yn y lle cyntaf, achos rwy’n grediniol mai dyna’r elfen fwyaf arwyddocaol a mwyaf allweddol yn y frwydr i ostwng cyfraddau ysmygu yn yr hirdymor.

Os gallaf edrych yn benodol ar ambell bwynt sy’n codi yng ngham gweithredu 2 yn y strategaeth newydd—mae’n sôn am edrych ar ddefnyddio technoleg, er enghraifft, cyfryngau cymdeithasol, mewn camau i atal ysmygu ymhlith yr ifanc yn benodol. Hefyd, mae’n sôn am edrych ar dystiolaeth ryngwladol ynglŷn â thargedu’r ifanc a phobl sydd mewn perig o ddechrau ysmygu. Yn y ddwy enghraifft hynny mae sôn am ddechrau’r gwaith yma erbyn mis Mawrth, mis Ebrill, y flwyddyn nesaf. Tybed a fyddai’r Gweinidog yn cytuno â mi nad oes yna amser i oedi yn fan hyn ac y dylai’r mathau yna o gamau, siawns, eisoes fod ar waith?

O ran y brand newydd, ‘Dewiswch fod yn ddi-fwg’, mi edrychaf ymlaen at weld a ydy hwnnw’n taro deuddeg efo pobl ac, wrth gwrs, rydym yn gobeithio y bydd o. Ond tybed faint o arian—. A oes yna fanylion ynglŷn â’r cyllid a fydd yn mynd i mewn i farchnata’r cynllun yna a’r camau newydd sy’n rhan o’r strategaeth yma?

Mi oeddwn innau hefyd yn eiddgar i wneud y pwynt ynglŷn ag ysmygu a chyfraddau ysmygu ymhlith y rheini sydd â phroblemau iechyd meddwl. Rwy’n meddwl bod 36 y cant o bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn ysmygu, o’i gymharu ag 19 y cant o’r boblogaeth yn gyffredinol. Mae tystiolaeth yn dangos bod rhoi’r gorau i ysmygu yn gallu bod yn rhan effeithiol o driniaeth iechyd meddwl. Felly, er bod y Gweinidog wedi gwneud sylwadau ynglŷn â hyn yn barod, mi fyddwn yn annog y Llywodraeth i wneud mwy o waith yn y maes yma.

Yn olaf, targedau. Rwy’n croesawu’r sylwadau wnaeth y Gweinidog wrth ymateb i gwestiynau Angela Burns ynglŷn â’i pharodrwydd i edrych ar addasu a chryfhau targedau hirdymor ar gyfer lleihau cyfraddau ysmygu. Mi grybwyllwyd yn benodol y targed yma sydd gan Cancer Research UK o anelu am 5 y cant o’r boblogaeth erbyn y flwyddyn 2035. A ydy’r Gweinidog, tybed, wedi ystyried yn barod, er y bydd hi’n edrych ymhellach ar hyn, fod hwnnw yn darged y gallai hi fod â diddordeb yn ei fabwysiadu, achos mae o’n darged y mae Cancer Research UK yn sicr yn gobeithio y gallwn ni ei ystyried fel un realistig, er yn uchelgeisiol? A’r targed arall yna wedyn o drin 5 y cant neu gynnig gwasanaethau i 5 y cant o’r rheini sydd yn smygu, a ninnau yn cyrraedd llai na 3 y cant ar hyn o bryd—erbyn pa bryd mae’r Llywodraeth yn hyderus y byddwch chi’n gallu taro y 5 y cant yna?

Diolch yn fawr iawn am y cwestiynau hynny, ac yn arbennig am y pwyslais y gwnaethoch ei roi ar y dechrau o ran yr hyn y gallwn ni ei wneud i atal plant a phobl ifanc rhag dechrau ysmygu yn y lle cyntaf. Ac mae ein Deddf Iechyd y Cyhoedd diweddar, fel y gwyddoch, yn ymestyn y gwaharddiad ar ysmygu i leoedd y mae plant a phobl ifanc yn eu defnyddio’n aml. Ac mae ymrwymiad yn y Ddeddf honno y bydd Gweinidogion yn cael ychwanegu lleoedd eraill i'r rhestr o leoliadau di-fwg maes o law hefyd. Felly, mae ymrwymiad yn ein cynllun i ystyried pa leoliadau eraill y gellir eu hychwanegu at hynny hefyd, a byddaf yn troi yn y lle cyntaf at y grŵp darparu rheoli tybaco a'i is-grwpiau i gynghori, er fy mod yn ymwybodol iawn y cafodd llawer o syniadau eu cyflwyno wrth graffu ar y Ddeddf. Ac wrth gwrs, buom yn trafod yn helaeth am sut yr ydym ni yn ei hanfod yn gwahardd gweithred gyfreithiol mewn man cyhoeddus, felly mae llawer o ystyriaethau hawliau dynol i feddwl amdanynt. Ond wrth gwrs, mae hyn yn ymwneud ag iechyd plant a phobl ifanc Cymru.

Mae rhai camau sydd eisoes wedi dechrau o ran ein cynllun gweithredu a lansiwyd gennym ni heddiw, ac mae un ohonynt yn adolygu'r meini prawf tybaco o fewn y wobr ansawdd genedlaethol ar gyfer cynllun rhwydwaith ysgolion iach Cymru, ac mae hynny er mwyn sicrhau ei fod yn adlewyrchu'r arfer gorau a'r dystiolaeth orau sydd gennym ni o ran pobl ifanc a thybaco. Mae hynny hefyd yn cynnwys cynhyrchion tybaco eraill megis e-sigaréts. Rydym ni’n gwybod bod yn rhaid i ni fod yn ymatebol ac yn graff iawn o ran y ffyrdd newydd y gall tybaco gael ei weinyddu i bobl, ac rydym yn glir iawn o fewn y cynllun gweithredu y bydd ein bwrdd strategol ar reoli tybaco a'i is-grwpiau yn weithgar iawn o ran monitro'r tueddiadau diweddaraf, y technolegau diweddaraf a'r defnydd diweddaraf ac yn y blaen.

Rydym hefyd yn awyddus i ddefnyddio'r cwricwlwm i weld yr hyn y gallwn ei wneud i sicrhau bod pobl ifanc yn cael y negeseuon cywir am beryglon ysmygu. A hefyd yn ein cynllun gweithredu, mae gennym ni gamau gweithredu ar gyfer addysg bellach a lleoliadau addysg uwch gan fod y rhain yn adegau pan fydd pobl ifanc yn meddwl am ddechrau ysmygu, ond hefyd adegau pan fydd cyfle da mewn gwirionedd i ymgysylltu â nhw a darparu'r wybodaeth sydd ei hangen arnynt a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt mewn lleoliad gwahanol i roi'r gorau i ysmygu hefyd.

Rwy'n rhannu eich pryderon ynghylch y lefel uchel o ysmygu ymhlith pobl sy'n dioddef o salwch meddwl, ac unwaith eto mae hyn yn dod yn ôl at y mater cyfiawnder cymdeithasol hwnnw na ddylem fod yn derbyn amodau gwaeth ar gyfer pobl sy'n dioddef o salwch meddwl, ni ddylem fod yn derbyn amodau gwaeth ar gyfer pobl sy'n byw mewn cymunedau tlotach—dylem fod yn disgwyl iechyd da a gwasanaethau da i'r holl bobl hyn. Felly, rwy'n falch bod hyn yn cael sylw yn y cynllun ond, unwaith eto, byddwn yn dweud bod y bwrdd strategol ar reoli tybaco hefyd yn agored iawn i unrhyw syniadau pellach y gallai fod gan bobl o ran sut y gallwn ni gryfhau ein hymagwedd, ac rwy'n awyddus i siarad, wrth inni edrych eto ar y rheoliadau ar ysmygu mewn unedau iechyd meddwl, i gael trafodaeth ehangach, mewn gwirionedd, â phobl sydd â salwch meddwl a'r sefydliadau sy'n eu cynrychioli hefyd.

Ac ar y pwynt hwnnw, dylai fod gennyf ar ddiwedd fy sylwadau ymateb i Angela, a soniodd am y mater o lefelau nicotin. A byddwn yn awyddus i gynnal cyfarfod gyda chi i drafod hynny ymhellach, pe byddai hynny'n ddefnyddiol hefyd.

Mae llawer o dargedau a llawer o gyfleoedd i fonitro'r broses o gyflawni'r cynllun. Fe welwch fod gennym ni ddangosyddion o'r arolwg cenedlaethol o ymddygiad iechyd mewn plant oedran ysgol, astudiaethau Rhwydwaith Ymchwil Iechyd yr Ysgol, dangosyddion mamolaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru, dangosyddion eraill Iechyd Cyhoeddus Cymru, a thargedau perfformiad eraill hefyd. Felly, dylai fod yn glir iawn i bobl i ba raddau yr ydym yn cyrraedd ein targedau a'n uchelgeisiau o fewn y cynllun.

O ran y cynllun tymor hirach hwnnw a’r dyhead tymor hirach hwnnw ar gyfer Cymru ddi-fwg, rwy'n ymwybodol o uchelgais Cancer Research UK a Sefydliad Iechyd y Byd i gael Cymdeithas ddi-fwg erbyn 2035, ac yn sicr bydd hyn yn rhywbeth y mae'r bwrdd strategol ar reoli tybaco yn ei ystyried wrth ymgynghori ar y targedau nesaf. Er hynny, byddwn yn dychmygu y byddent yn dymuno gosod targed agosach. Felly, pe byddwn yn ailgyhoeddi cynllun newydd yn 2020, yna rwy'n dychmygu y byddem yn edrych tuag at, dyweder, targed 2025 ac yn y blaen. Ond, yn y pen draw, yn amlwg, ein gweledigaeth ni yw Cymru ddi-fwg.

Diolch ichi am eich datganiad, Gweinidog. Rwy’n croesawu’r cynllun cyflawni. Ers gweithredu'r gwaharddiad ar ysmygu, mae'n newyddion da bod ysmygu yn y cartref wedi gostwng 80 y cant i 46 y cant. Dywed ASH Cymru fod hyn yn awgrymu bod gwell dealltwriaeth o beryglon mwg ail-law, yn enwedig o amgylch plant a theuluoedd. Felly, er ein bod yn edrych ar hyn fel gostyngiad o 34 y cant mewn ysmygu yn y cartref, rhaid inni gofio bod y bobl eraill yn y cartref yn elwa ar y ffaith nad ydynt yn dioddef effeithiau'r mwg ail-law hwn hefyd.

Fel y crybwyllwyd, ysmygu yw un o brif achosion anghydraddoldebau iechyd, ac mae cyfraddau ysmygu mewn ardaloedd tlotach fwy na dwywaith yn uwch na’r rhai mewn ardaloedd cyfoethog. Felly, tybed sut yr ydym yn mynd i'r afael â'r agwedd anghydraddoldeb.

Wrth ymweld ag ysbytai yn fy rhanbarth, cefais fy syfrdanu gan nifer y bobl y tu allan i'r ysbyty, ond yn y man cyhoeddus, sy'n dal i ysmygu. Felly, rwy’n falch bod y datganiad yn cydnabod hyn ac mae'n bwriadu ymestyn y gwaharddiad i gynnwys meysydd fel y rhain. Ymddengys na fyddai'r holl wybodaeth yn y byd yn helpu rhai pobl i guro'r ddibyniaeth hon, ac nid wyf yn beirniadu, ond yn ceisio deall, pan fo pobl yn dod yn gaeth i sigaréts, mae'n rhaid bod yn ofnadwy os na allwch guro'r ddibyniaeth. Er eu bod yn ymwybodol o beryglon ysmygu, a’i fod yn cyfrannu at 5,450 o farwolaethau’r flwyddyn yng Nghymru, mae pobl yn dal i ysmygu. Felly, mae hyn yn destun pryder ac mae’n rhaid inni wneud popeth a allwn ni i fynd i'r afael â hyn a gwneud mwy i helpu pobl.

Fy mhryder i yw'r ysmygu ail-law sy'n gysylltiedig â babanod a phlant. Rwyf wedi gwylio rhaglenni ar y teledu ynglŷn â sut y mae babi yn y groth yn ymateb i ysmygu, ac mae hyn yn peri pryder mawr i’w wylio, ond hoffwn i, mewn ffordd, ei weld yn cael ei hysbysebu mwy. Mae rhieni sy'n ysmygu yn debygol iawn o ddylanwadu ar y plant sy'n byw gyda nhw, felly mae'n syfrdanol i ddarllen bod 64 y cant o ddisgyblion ysgol uwchradd yn dweud eu bod yn dioddef effeithiau fwg ail-law. Felly, tybed a ydych yn cytuno â mi fod angen ystyried y maes hwn.

Gan fod 19 y cant o oedolion Cymru yn dal i ysmygu, pa ymchwil a gwybodaeth sydd eisoes gan Lywodraeth Cymru i gynorthwyo i leihau'r nifer hwn? Hefyd, mae ASH wedi datgan bod y gwaharddiad yn llwyddiannus 100 y cant mewn carchardai, ond rwy’n deall, ers y gwaharddiad hwn, bod nifer y digwyddiadau hunan-niweidio yn y carchar wedi cynyddu ymhlith carcharorion, fel y mae trais, a hynny carcharor ar garcharor a charcharor ar staff. A yw hyn oherwydd rhwystredigaeth—dyfeisio sigarét drwy geisio ysmygu bagiau te er mwyn cyflenwi lle’r sigarét nad yw’n gallu mynd i mewn? Felly, mae gan y bobl hyn broblemau iechyd meddwl, ac, ynghyd â chael eu cloi, mae hyn yn ychwanegu straen. Felly, tybed a gawn ofyn i rywfaint o ymchwil gael ei wneud ynghylch y datganiad uchod—bod ASH yn nodi cydymffurfiad o 100 y cant i hyn—ac a allwn ni ail-werthuso, os oes angen, yr hawliadau am lwyddiant ynglŷn â'r carchardai hyn.

Mae'n hanfodol bod gwahardd ysmygu yn agos at feysydd chwarae ac ardaloedd plant, ac rwy'n falch o weld bod y cynllun yn gwneud darpariaethau i atal hyn. Rwy'n falch bod y datganiad yn cydnabod y niwed y mae ysmygu ail-law wedi'i achosi a'r cynlluniau i ddelio ag ef. Hefyd, hoffwn ofyn am y cydweithrediad â gwasanaethau eraill, megis Cancer Research, ASH a meysydd eraill. Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr iawn am y cwestiynau hynny. Byddaf yn dechrau o’r man lle gwnaethoch orffen o ran trafod cydweithio â sefydliadau eraill sydd â diddordeb brwd yn y maes hwn. Ariannwyd ASH Cymru am dair blynedd i'n cefnogi ni wrth gyflwyno ein cynllun, ond mae ganddynt ran bwysig iawn hefyd o ran cael trafodaethau ehangach â'r holl bobl hynny sydd â diddordeb mewn rheoli tybaco yng Nghymru—ar draws y trydydd sector hefyd. Felly, mae yna ddeialog dda, rwy'n credu, o ran yr holl sefydliadau hynny sydd â diddordeb. A hefyd, ar waelod y cynllun cyflawni, gallwch weld rhestr o holl aelodau'r bwrdd strategol ar reoli tybaco, a hefyd yr is-grwpiau sy'n cefnogi'r gwaith hwnnw, a gobeithio y byddech yn cytuno eu bod yn adran amrywiol sy'n adlewyrchu barn ein cymdeithas yn hynny o beth.

Roeddech chi’n iawn i’n hatgoffa, mewn gwirionedd, bod ysmygu yn ddibyniaeth ofnadwy oherwydd, yn fy marn i, fel rhywun nad yw'n ysmygu, mae'n eithaf hawdd anghofio yn aml ei fod yn gaethiwed gwirioneddol. Mae'n ddibyniaeth ddrud iawn, ac mae chwech o bob 10 o smygwyr ar hyn o bryd, heddiw, yn dymuno rhoi'r gorau iddi. Felly mae angen inni fod yn y fan honno i gefnogi'r chwech allan o 10 hynny a hefyd i ddarparu'r negeseuon a'r addysg gywir ar gyfer y pedwar arall o ran eu helpu i ddeall y difrod ac yna gwneud dewisiadau yn hynny o beth.

Gwnaethoch sôn am y gwaith sy'n digwydd mewn carchardai; bu'n llwyddiannus iawn o ran y ffaith bod yr holl garchardai yng Nghymru yn ddi-fwg erbyn hyn. Rwy'n awyddus iawn i sicrhau, pan gaiff carcharorion sy'n hanu o Gymru, eu rhyddhau o'r carchar yn ôl i'r gymuned, eu bod mewn gwirionedd yn dal i gael cefnogaeth i aros ar y siwrnai ddi-fwg honno, ac mae hynny'n cael ei adlewyrchu yn ein cynllun gweithredu hefyd.

Gwnaethoch sôn, fel y gwnaeth eraill, am ba mor bwysig yw hi i gefnogi rhieni i roi'r gorau i ysmygu. Gwyddom, fel y soniais yn gynharach, fod plant sy'n gweld eu rhieni yn ysmygu yn llawer mwy tebygol o ddechrau ysmygu eu hunain, ac mae'r ymchwil ddiweddaraf yn dangos bod y rhan fwyaf o smygwyr sy'n oedolion yn dechrau ysmygu mewn gwirionedd cyn 18 oed. Felly, mae’r rhieni a'r rhieni sy’n fodelau rôl yn ffactor pwysig iawn yn hyn hefyd.

Mae mwg ail-law yn fater hynod o bwysig hefyd, ac fe wnaethoch chi siarad am y perygl y gall hynny ei achosi i blant a phobl ifanc. Un o'r llwyddiannau mawr, rwy’n credu, yw’r gwaharddiad ar ysmygu mewn ceir gyda phlant. Rwy'n credu bod pobl wedi dilyn y gwaharddiad yn dda, oherwydd mae plismona’r gwaharddiad yn beth anodd, fel y gallwch chi ddychmygu, ond mae pobl wedi ymlynu ato. Ac am wn i mae’r mathau hynny o newidiadau diwylliannol, wyddoch chi, mae'n cymryd amser i newid diwylliant, ond mewn gwirionedd rwy'n credu ein bod ni'n agos ati nawr gan ddefnyddio amryw wahanol ddulliau, ac wrth i lawer o bartneriaid weithio gyda’i gilydd.

Ac os gallwch chi ofyn cwestiwn yn gyflym iawn ac os gall y Gweinidog ei ateb yn gyflym iawn, byddaf yn ei ganiatáu. Russell George.

Diolch. Gweinidog, a gaf i ofyn: a ydych chi wedi rhoi unrhyw ystyriaeth, ac os naddo, a wnewch chi, i wahardd ysmygu mewn ystafelloedd gwely gwestai yng Nghymru?

Diolch i chi am y cwestiwn hwnnw. O dan y rheoliadau presennol ar gyfer safleoedd di-fwg 2007, mae rheolwyr gwestai, tai llety, llety gwely a brecwast, canolfannau preswyl a chlybiau aelodau â llety preswyl yn cael dynodi ystafelloedd gwely lle caniateir ysmygu. Nid oes unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol arnynt i wneud hynny, gan mai’r rheolwr sy’n penderfynu pa un a ydynt am ddyrannu ystafelloedd ysmygu. Ond, wrth symud ymlaen â rheoliadau o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, bydd yr holl ddarpariaethau di-fwg yn cael eu hadolygu yn unol ag arferion da, a bydd ymgynghoriad llawn yn cael ei gynnal ar y rheoliadau drafft hynny. Felly, o ran yr hyn y mae hynny'n ei olygu i westai, gwely a brecwast ac yn y blaen, fel y dywedais—rwy'n credu fy mod wedi ateb yn ysgrifenedig ar y mater hwn yn ddiweddar iawn hefyd—ar hyn o bryd y gwesty neu'r rheolwr busnes sy’n dewis, ond mae'n rhaid iddyn nhw fod yn hollol hyderus, ac mae'n rhaid dangos, nad yw'r ystafell ysmygu yn effeithio mewn unrhyw ffordd ar yr ystafelloedd cyfagos, er enghraifft, o awyrellau ac yn y blaen.

8. 7. Dadl: ‘Adroddiad Interim yr Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol’

Symudwn ymlaen at yr eitem nesaf, sef y ddadl ar yr adolygiad seneddol o iechyd a gofal cymdeithasol, yr adroddiad interim. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon i gynnig y cynnig. Vaughan Gething.

Cynnig ND6504 Jane Hutt

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad interim yr Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gynnig y cynnig sydd ger ein bron heddiw yn ffurfiol. I fynd yn ôl i'r man lle'r oeddem ni ym mis Mehefin, rwy'n dal i fod yn falch o fod wedi cael adroddiad interim yr adolygiad seneddol o iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru y gwnaethom ei rannu gydag Aelodau, mae’n ddrwg gennyf, ym mis Gorffennaf, nid ym mis Mehefin eleni, ond cyflwynais y ddadl hon heddiw i ganiatáu mwy o drafodaeth gan fod Aelodau wedi cael mwy o amser i ystyried yr adroddiad interim erbyn hyn.

Ceir grŵp cyfeirio gwleidyddol, wrth gwrs, sy'n cael diweddariad rheolaidd ar gynnydd gyda'r adolygiad, a bydd yn cyfarfod eto y mis yma, ond mae hwn yn gyfle i bob Aelod wneud sylwadau yn uniongyrchol. Mae'r panel annibynnol yr ydym wedi ei ffurfio wedi edrych ar ddata, wedi casglu tystiolaeth ac wedi defnyddio profiad rhyngwladol helaeth i ddatblygu ei farn ei hun ar iechyd a gofal cymdeithasol yma yng Nghymru. Mae'r adroddiad interim yn diffinio materion allweddol sy'n wynebu iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'n cyflwyno’r achos dros newid, ac yn nodi meysydd lle mae angen gwelliannau. Mae'r adroddiad yn dynodi meysydd yr hoffai’r panel eu harchwilio ymhellach dros y misoedd nesaf cyn cwblhau'r adolygiad a chyflwyno adroddiad terfynol gydag argymhellion i mi erbyn diwedd y flwyddyn galendr.

Dylwn ddweud bod yr adroddiad interim yn nodi bod achos cryf dros newid, gyda chonsensws cyffredinol ymhlith rhanddeiliaid a'r bobl sydd wedi rhoi tystiolaeth hyd yma ar yr angen am integreiddio pellach ac am wasanaethau sydd ar gael yn fwy hwylus yn y gymuned. Mae'r adroddiad hefyd yn glir nad yw diffyg gweithredu yn ddewis wrth symud ymlaen, ac mae'r adroddiad yn herio pob un ohonom: a ydym ni'n barod i gefnogi newid ac i oresgyn yr heriau anodd hynny? Mae hynny'n ei gwneud yn ofynnol inni wneud dewisiadau ar gyfer gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru neu y cwbl y byddwn yn ei wneud fydd caniatáu i ddewisiadau gael eu gwneud drosom. Felly, mae'r dyfodol yn ymdrech ar y cyd ar draws pleidiau gwleidyddol a bydd angen y lefel barhaus o aeddfedrwydd ac arweinyddiaeth ar draws y pleidiau a arweiniodd at sefydlu’r adolygiad hwn yn y lle cyntaf.

Nid yw Cymru, wrth gwrs, ar ei phen ei hun o ran wynebu'r heriau a nodir yn yr adroddiad interim. Mae angen inni edrych ar sut y gallwn ni lunio ffordd o weithio yn y dyfodol sy'n gynaliadwy ac yn parhau i gyflawni canlyniadau da. Mae cyhoeddi’r adroddiad yn golygu bod brys o’r newydd arnom ni i drafod a phenderfynu, a bod angen ennyn ymgysylltiad dinasyddion a'r gweithlu wrth benderfynu ar y math o wasanaethau a fydd ar gael mewn cymunedau yn y dyfodol. Mae’r strategaeth genedlaethol a lansiwyd gan y Prif Weinidog heddiw, 'Ffyniant i Bawb', yn cyd-fynd â'r llwybr arfaethedig a nodir yn yr adolygiad seneddol a'i adroddiad interim. Mae'n ein hymrwymo ni fel Llywodraeth i ymateb i'r adolygiad a chyhoeddi cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol y flwyddyn nesaf.

Mae'r panel, fodd bynnag, yn ei adroddiad, wedi cydnabod y ddeddfwriaeth bwysig y mae Cymru eisoes wedi ei datblygu—mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn ddwy Ddeddf benodol sydd, ynghyd â gofal iechyd darbodus, yn cynnig set bwerus o egwyddorion i ni y gellir eu cymhwyso’n gyfartal i GIG Cymru a gofal cymdeithasol, ac mae cryn gefnogaeth iddynt. Dylai defnydd eang a chynhwysfawr o'r egwyddorion hyn ein helpu i weddnewid iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Fodd bynnag, mae maint yr her yn golygu bod angen gweithredu ar y cyd a chydag elfen o frys. Rwy’n cael fy atgoffa’n gyson o’r negeseuon yn yr adroddiad interim wrth i mi deithio’r wlad yn gwrando ar staff a chleifion, yn enwedig o ran llais y claf a'r defnyddiwr gwasanaeth, oherwydd bod yr adroddiad yn cydnabod yr angen cynnwys mwy ar staff, defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr wrth lunio, gweithredu, gwerthuso a datblygu modelau gofal newydd dilynol, a sicrhau bod swyddogaethau a chyfrifoldebau ar y cyd mwy eglur.

Rwy'n cydnabod bod y canlyniadau gorau yn aml yn dod trwy gydgynhyrchu gweithredol ac mae hyn yn rhywbeth yr hoffwn weld mwy ohono. Mae un o'r cynigion adolygu interim allweddol yn canolbwyntio ar ddatblygu modelau gofal newydd i'w treialu, eu gwerthuso ac yna eu cynyddu’n gyflym. Wrth gwrs, mae'r cyfeiriadau at anghenion dinasyddion lleol yn bwysig yn hyn o beth, a gwn o siarad â chadeirydd yr adolygiad bod y fforwm rhanddeiliaid a sefydlwyd i helpu i ddatblygu'r gwaith hwn yn ceisio llunio’r egwyddorion a'r safonau sy'n nodweddu modelau llwyddiannus y gellir eu defnyddio wedyn i ddatblygu a phrofi modelau mwy newydd o weithio. Dylai hynny roi elfen o sicrwydd inni am ein cysondeb ar lefel genedlaethol gyda'r rhyddid a'r lle i addasu i anghenion lleol, yn enwedig yn y cyd-destunau gwledig a / neu drefol.

Nodaf fod y grŵp adolygu bellach wedi bod yn gweithio dros doriad yr haf i gasglu enghreifftiau o fodelau gofal integredig llwyddiannus, a deallaf y bu ymateb da i ymgysylltu parhaus gan randdeiliaid ar draws y wlad, ond maen nhw’n edrych ar enghreifftiau o'r tu allan i Gymru hefyd. Dim ond un elfen o hyn yw'r modelau, wrth gwrs. Edrychaf ymlaen at yr argymhellion a gânt eu llunio o amgylch y nod driphlyg o wella iechyd y boblogaeth, gwella ansawdd y gofal ac, wrth gwrs, gwella gwerth a chynhyrchedd.

Wrth gwrs, bydd y gweithlu yn allweddol i wneud y newidiadau sydd eu hangen, felly mae'n dda gweld cyfeiriad at gynllunio ar raddfa fawr ar gyfer y sgiliau a'r llwybrau gyrfa sydd eu hangen er mwyn i'r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol ddarparu'r modelau newydd hyn—y ffyrdd newydd hyn o weithio. Mae'r adroddiad yn nodi bod y prinder yn y gweithlu presennol yn llesteirio newid ac mae angen mynd i'r afael â hynny, a dyna rywbeth yr wyf yn ei gydnabod. Yn arbennig, mae rhai arbenigeddau meddygol a rhai ardaloedd daearyddol yng Nghymru lle y ceir anawsterau arbennig ac, unwaith eto, gallwn weld patrwm tebyg mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Dyna pam yr ydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i barhau i weithredu i ddenu a hyfforddi a chadw mwy o feddygon teulu, nyrsys a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill yma yng Nghymru.

Fe wnaethom ni lansio ymgyrch i annog meddygon, gan gynnwys Meddygon Teulu, i ddod i Gymru i hyfforddi, gweithio a byw ac, fel yr wyf wedi ei ddweud o’r blaen, mae hynny wedi cael effaith gychwynol sylweddol a chadarnhaol gyda 91 y cant o swyddi gweigion i feddygon teulu dan hyfforddiant yn cael eu llenwi o'i gymharu â 68 y cant y llynedd, ac mae hynny'n cynnwys cyfradd lenwi o 100 y cant mewn rhai o'n hardaloedd anoddaf i recriwtio iddynt o ran hyfforddiant Meddygon Teulu, yn enwedig rhannau mwy gwledig o Gymru. Mae hefyd yn bwysig ein bod ni'n cynnal yr ymgyrch Hyfforddiant, Gweithio, Byw, nid yn unig i feddygon, ond i nyrsys, ac yn ddiweddarach eleni bydd ymgyrchoedd eraill ar gyfer therapyddion a fferyllwyr hefyd.

Mae'r adroddiad yn arwydd i ni o’r angen i symleiddio a chyfochri trefniadau llywodraethu, cyllid ac atebolrwydd ym mhob agwedd ar iechyd a gofal cymdeithasol. Yn gysylltiedig yn agos â hynny ceir y dyhead am ymagwedd fwy systematig ac effeithiol at wella ansawdd yn barhaus a sut yr ydym yn annog a datblygu diwylliant sy'n creu amgylchedd cefnogol a deniadol i'n staff ac, wrth gwrs, mae'r Llywodraeth yn rhannu'r uchelgais hwnnw; byddech chi'n disgwyl i ni wneud hynny. Mae hynny o gymorth i ategu ein hymagwedd at ein Papur Gwyn 'Gwasanaethau sy’n Addas i’r Dyfodol'. Mae’n ymwneud â sut y byddwn yn rhyddhau’r potensial i fyrddau iechyd lleol ddangos eu bod yn llywodraethu ac yn ymddwyn yn strategol a bod ansawdd wrth wraidd popeth a wnant.

Mae'r adroddiad interim hefyd yn tynnu ein sylw at yr angen i ledaenu arloesedd a gwneud defnydd gwell o ddata a gwybodaeth i ddylunio a monitro cynnydd y newid. Mae hwn yn faes hanfodol i ni, ac edrychaf ymlaen at weld sut y gellir cefnogi hyn ymhellach. Wrth gwrs, ceir cydbwysedd rhwng cyfeiriad cenedlaethol ac ymreolaeth leol wrth sbarduno newid, ac mae hynny'n rhan o'n her o gyflawni gwelliant parhaus, yn seiliedig ar ganlyniadau i ddinasyddion ar draws yr holl system iechyd a gofal, ac o fewn hynny pa mor gyflym mae angen newid, gydag eglurder ac atebolrwydd wrth wneud penderfyniadau.

Mae'r adroddiad eto yn ailadrodd i ni y ffactorau sy'n arwain at newid: datblygiadau mewn gofal iechyd, disgwyliadau cyhoeddus cynyddol er gwaethaf y ffaith bod gwariant cyhoeddus yn lleihau wrth i’r cyni barhau—mae hynny yn peri her anochel, ni waeth beth yw safbwyntiau ein pleidiau gwleidyddol .Yn ychwanegol at hynny, fodd bynnag, gwyddom fod y galw yn parhau i godi. Mae hynny’n rhannol oherwydd, yn anffodus, bod gennym ni boblogaeth llai iach nag oedd gennym ni yn y degawdau a fu, ac nid yw hynny yn achos dathlu. Fodd bynnag, beth sydd yn achos dathlu yw'r ffaith y gallwn ni i gyd ddisgwyl byw yn hwy, ond mae hynny'n rhoi inni heriau gwahanol a gwahanol ofynion ychwanegol sy'n dod i'n system. Fodd bynnag, mae hynny'n golygu na allwn ni esgus i’n hunain na'r cyhoedd ehangach y bydd gwneud dim ond parhau â'r system iechyd a gofal sydd gennym ni heddiw yn addas ar gyfer y dyfodol. Os byddwn ni’n caniatáu i hynny ddigwydd, bydd ein system yn mynd yn bendrwm a byddwn yn caniatáu niwed gwirioneddol i'n dinasyddion cyn gorfod wedyn newid ein system ar adeg o argyfwng, yn hytrach na cheisio cynllunio ffordd ymlaen i ddatblygu a chyflwyno'n fwriadol system sydd wedi ei haddasu, ei diwygio a’i gwella sy'n wirioneddol gynaliadwy.

Ond dylem lawenhau yn y ffaith bod pobl wirioneddol ddawnus yng Nghymru sydd eisoes yn cyflwyno newidiadau i wella gwasanaethau a chynnig gofal gwell, oherwydd yr wyf yn aml yn gweld arloesedd lleol sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gleifion. Rwy'n siŵr bod Aelodau'n gweld hynny yn eu hetholaethau a'u rhanbarthau hefyd. I ni, mae'n hanfodol ein bod yn deall yr hyn y gellid ac y dylid ei gynyddu’n gyflym fel bod y buddiannau’n cael eu darparu ar draws y system, ac mae angen arweinwyr lleol yn y maes iechyd a gofal arnom ni i hyrwyddo gwelliannau—nid dim ond gyda'r cyhoedd, ond gyda'u cymheiriaid hefyd.

Felly, mae neges yr adroddiad interim, rwy'n credu, yn glir: ni allwn wneud y gwelliannau y mae arnom ni i gyd eisiau eu gweld o ran ansawdd a phrofiad heb weld newid yn y modd y mae ein gwasanaeth yn gweithio. Mae'r adroddiad interim, rwy'n credu, yn gytbwys, ac mae'n asesiad annibynnol o ble yr ydym ni nawr. Rwy'n cydnabod y cynnydd yr ydym ni wedi ei wneud, ond mae angen newid yn gyflymach fel bod ein system iechyd a gofal yn gynaliadwy yn y dyfodol. Edrychaf ymlaen at dderbyn yr adroddiad terfynol cyn diwedd y flwyddyn galendr hon, ac i barhau i weithio'n adeiladol gyda'r holl bartïon er mwyn helpu i weithredu cymaint o'i argymhellion ag sy'n bosibl, ac edrychaf ymlaen at glywed barn Aelodau yn y ddadl heddiw.

Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi cynnig heddiw i nodi'r adroddiad interim gan yr adolygiad seneddol o iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r adroddiad interim yn cynnig digon i feddwl amdano. Mae'n nodi, gydag elfen o onestrwydd na chaniateir yn aml, maint yr her sy'n wynebu ein gwlad o ran sut yr ydym yn cynnal ac yn adnewyddu gwasanaeth iechyd cenedlaethol Cymru a'r sector gofal.

Mae'r panel wedi gwneud camau breision o ran siarad â defnyddwyr, cleifion, clinigwyr, arbenigwyr, rheolwyr ac—rwy'n ddiolchgar iawn am hyn—gyda ni wleidyddion. Er hynny, dim ond adroddiad interim yw hwn, ac rydym ni wedi trafod yr adroddiad interim hwn mewn pwyllgorau ac mewn datganiad Cyfarfod Llawn, felly nid wyf eisiau ailadrodd fy holl sylwadau blaenorol. Y gwir amdani yw bod angen cam 2 arnom. Bydd yr adroddiad terfynol, rwy’n gobeithio, yn rhoi awgrymiadau ynghylch sut y gallem ddatrys rhai o'r heriau mwy anodd eu trin. Mae rhai o'r heriau hyn yn amlwg, ac rwy’n pryderu na fyddwn ni o bosib yn ymdrechu i oresgyn yr heriau hynny oherwydd ein bod yn dal ein gwynt wrth aros am y ddogfen derfynol.

Hoffwn wybod pa feysydd, os o gwbl, a nodwyd gan yr adroddiad interim y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi eu datblygu. Er enghraifft, rydym ni i gyd yn gwybod bod sector gofal Cymru yn fregus iawn. Nid yw'r gweithlu gofalwyr cyflogedig bob amser yn cael eu talu'n deg nac yn cael eu trin yn dda; nid yw hyfforddiant bob amser ar gael neu nid oes fawr ohono; mae trosiant staff yn uchel; rydym ni’n dibynnu’n helaeth iawn ar weithwyr dros dro; nid oes fawr ddim neu ddim dilyniant gyrfa ar gael i'r gofalwr cyflogedig; mae'r gofalwyr di-dâl wedi ymlâdd ac yn aml yn cael eu hanwybyddu; nid oes neb yn dod i gartref gofalwyr sydd ar ben eu tennyn ac sy’n dyheu am gefnogaeth, am seibiant, am gydnabyddiaeth. Mae'n broffesiwn sydd yn aml yn cael ei ystyried yn un heb sgiliau neu heb fawr o sgiliau, sef yr ergyd greulonaf un, oherwydd, mewn gwirionedd, mae gofalu am fod dynol arall yn mynd at hanfod ein dynoliaeth.

Mae'r adroddiad interim yn cydnabod y bregusrwydd hwn a’r diffyg sylfaen sgiliau. Clywodd yr adroddiad bod angen i ofalwyr anffurfiol ymwneud â chynllunio a datblygu'r gweithlu, bod angen inni gynyddu sgiliau a datblygu llwybr gyrfa. Y cwbl y mae’r casgliadau hyn ei wneud yw atgyfnerthu sefyllfa yr ydym yn ymwybodol ohoni ac y gallem ddechrau mynd i'r afael â hi nawr. Byddai gennyf ddiddordeb mewn cael gwybod, Ysgrifennydd y Cabinet, beth y gellir ei ddysgu. Wrth gwrs, yn y GIG, mae'r sefyllfa o bosib yn fwy anodd. Rydym ni i gyd yn gwybod am y mater recriwtio sy'n rhwystro darparu gofal o'r radd flaenaf yn gyson ac yn gynhwysfawr ledled Cymru. Gwyddom fod angen mwy o feddygon a nyrsys arnom ni a mwy o weithwyr gofal iechyd perthynol. Ond gadewch imi roi enghraifft arall i chi lle mae diffyg staff yn peri problemau. Mae gennyf e-bost gan ymgynghorydd amlwg ac mae e'n dweud,

Yr anhawster nawr yw na fydd gennyf neb yn gwneud fy ngwaith ysgrifenyddol yn y dyfodol rhagweladwy , sy'n golygu na allaf drefnu apwyntiadau na phrofion. Rwyf wedi bod heb ysgrifennydd gweithredol ers blwyddyn a hanner, ac nid oes unrhyw beth arall y gallaf ei wneud i’w cael i ddatrys hyn

Felly, oherwydd nad oes ganddo ei ysgrifennydd ei hun, ni all fynd ymlaen a gwneud ei swydd i eithaf ei allu. Mae'n anghynhyrchiol ac yn gostus. Felly, rydym yn talu llawer o arian i bobl ddeallus wneud tasgau cymhleth ac yna yn eu gwneud yn anghynhyrchiol. Mae'r unigolyn hwn yn dod o fwrdd iechyd yn y de, ond rwyf hefyd wedi cael y gŵyn hon gan glinigwyr ledled Cymru. Felly, i mi, mae gwir gryfder yr adroddiad hwn yn y gydnabyddiaeth o ymrwymiad a bwriad yr unigolyn o fewn y GIG a chydnabod yr anawsterau yn y system, ac mae hyn yn enghraifft dda o hynny.

Rwy'n falch bod y panel wedi nodi bod un o'r rhwystrau allweddol i weithredu newid yn llwyddiannus yn canolbwyntio ar y sut. Sut yr ydym ni'n llenwi'r bwlch rhwng polisïau da a mentrau lleol rhagorol? Sut yr ydym ni'n sicrhau bod llwyddiannau cychwynnol mewn ardaloedd lleol yn cael eu cynyddu a'u cymhwyso mewn modd cydlynol a chyson? Sut yr ydym ni'n edrych ar ddefnyddwyr mewn modd cyfannol gan roi sylw i salwch, tai a gofal diwedd oes? Mae hanes Llywodraeth Cymru yn gyforiog o adroddiadau a pholisïau nad ydynt wedi eu trosi’n llwyddiannus i weithredu ar y rheng flaen, a pham? Mae oherwydd y sut. Mae angen inni newid rhywfaint o’r diwylliant ynghyd â rhywfaint o’r arferion. Mae angen inni ddeall na ellir gweddnewid popeth yn llwyddiannus ar yr un pryd, ond bod angen bod yn ystyriol a rhoi prawf ar bethau. Mae angen fframwaith cydlynol a phobl fedrus arnom ni. Eto, nododd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, mewn adroddiad diweddar, nad oedd gan Gymru y gallu i fanteisio ar yr arferion arloesol yr ydym wedi'u datblygu.

Fel arfer mae'r ddadl ynghylch iechyd yn seiliedig ar nifer y staff rheng flaen, lleoliadau ysbytai neu ble mae'r gwasanaethau. Felly, roeddwn i'n falch o weld bod yr adroddiad interim yn herio diwylliant a phrosesau. Roedd yn nodi materion gydag aeddfedrwydd a hyblygrwydd, a sgiliau a hyfforddiant.  Nid yw’n ymwneud yn gyfan gwbl â pholisïau newydd, rhaglenni newydd a mentrau newydd, Gweinidog. Rwy'n credu bod yr adroddiad hwn yn gosod gweledigaeth a chynfas glân, ond mae'n rhaid i gam 2 ddarlunio’r manylion. Mae angen inni nodi'n glir y pethau hynny sy’n rhwystro newidiadau a llunio cynigion dychmygus i bontio'r bwlch rhwng syniad a gweithredu.

A gaf i yn gyntaf groesawu yr adroddiad interim yma? Mae o’n adroddiad trylwyr, ag ôl gwaith ymchwil ac ymgynghori trylwyr arno fo. Mae o’n rhoi cryn fanylion i ni am gyflwr a heriau yr NHS a’r sector gofal yng Nghymru heddiw, ond mae’n rhaid dweud hefyd nad ydy’r canfyddiadau yn rhai a ddylai ein synnu ni ryw lawer. Beth sydd gennym ni ydy darlun o bwysau ariannol, pwysau demograffig, yn gymysg efo cynllunio gweithlu gwael, tanberfformiad a diffyg integreiddio rhwng gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Rydym ni’n gweld yn glir y rhagoriaeth sydd yna ymhlith y staff proffesiynol yn yr NHS a’r sector gofal, ond yn gweld y straen a’r pwysau sydd arnyn nhw wrth iddyn nhw geisio gweithredu hyd at eithaf eu gallu.

Mae’r dystiolaeth yn glir yn barod, felly, rydw i’n meddwl, er mai adroddiad interim ydy hwn, na allwn ni barhau fel yr ydym ni. Mae hynny hefyd yn golygu rhoi’r gorau i dwyllo y gall Llywodraeth Prydain barhau â’i pholisïau llymder tra bod Llywodraeth Cymru, ar yr un pryd, yn parhau i wasgu ar gyllid awdurdodau lleol ac felly ar ofal cymdeithasol, ac nad yw hynny rhywsut am gael effaith wirioneddol andwyol ar ein gallu i ddarparu gwasanaethau gofal ac iechyd fel y mae pobl yn eu disgwyl ac yn eu haeddu.

Mae’n glir o’r adroddiad bod angen i gyllid y gwasanaeth iechyd gynyddu wrth i anghenion y boblogaeth gynyddu, ond, ar yr un pryd, fod angen buddsoddi mwy fyth mewn gofal cymdeithasol. Rydym ni yn gwybod bod gofynion ar wasanaethau yn mynd i gynyddu, er bod faint y byddant yn cynyddu yn dibynnu ar faint, o ddifri, y bydd y Llywodraeth yma yn ymateb i wahanol heriau—heriau gordewdra, er enghraifft; yr angen i annog byw yn iach. Mae elfennau eraill hefyd: safon tai, yr amgylchedd ac, wrth gwrs, toriadau i’r wladwriaeth les, pan mae’r gwannaf yn ein cymdeithas yn cael eu gwasgu gan y polisïau mwyaf creulon. Rydym ni’n gwybod bod digartrefedd ar gynnydd, bod hunanladdiad ar gynnydd, bod defnydd o wasanaethau iechyd ar gynnydd. Felly, mae’r achos dros newid yn gryf, a newid yn y ffordd y mae Llywodraethau yma ac yn Llundain yn edrych ar, ac yn cefnogi, yr holl ecosystem o wasanaethau iechyd a gofal a chefnogaeth gymdeithasol.

Mi allaf gyfeirio at ambell elfen benodol sy’n cael ei phwysleisio yn yr adroddiad yma—cynllunio gweithlu, er enghraifft. Mae gwell cynllunio gweithlu o fewn ein cyrraedd ni, os gwelwn ni'r Llywodraeth yn cymryd camau priodol, fel cyflwyno canolfan addysg feddygol ym Mangor ac annog rhagor o bobl ifanc o Gymru ac o wahanol gefndiroedd, gan gynnwys y cefndiroedd mwy difreintiedig, i astudio meddygaeth. Mae hyn yn golygu cymryd y camau angenrheidiol i gynyddu faint o nyrsys yr ydym yn eu hyfforddi a rhoi’r gefnogaeth sydd ei hangen i’r nyrsys dan hyfforddiant er mwyn gwneud hwn yn broffesiwn sy’n ddeniadol o hyd iddyn nhw.

Mae’r adroddiad yn tanlinellu’r sgôp i ddefnyddio technoleg i gynnig ffyrdd gwahanol—ffyrdd gwell, a ffyrdd rhatach yn aml iawn—o drin ac ymgeleddu cleifion. Ond mae hynny’n golygu cael gwasanaethau a sefydliadau iechyd a gofal sy’n hyblyg ac yn gallu ymateb i ddatblygiadau newydd. Mi fydd rhai o’r datblygiadau yma sy’n dod yn gyflym tuag atom ni yn rhai gwirioneddol chwyldroadol, ac allwn ni yng Nghymru ddim cael ein gadael ar ôl. Felly, mae yna heriau sylweddol ond cyfleoedd sylweddol hefyd.

We have major challenges ahead of us, but real opportunities too, if Wales has the ambition and has the positivity to take advantage of those opportunities, rather than pretend our job is to manage a decline and moan about things that we can’t do anything about. It’s about Welsh Government, more specifically, showing that it is ready to step up to the plate. A core problem, the elephant in the room, is this: Labour in Government has always run the NHS since the people of Wales decided to devolve it nearly exactly 20 years ago. Wales cannot afford any longer to have a Government refusing to admit to the depths of some of the NHS’s and the care sector’s problems, because to do so would be to admit that they are responsible for those problems. The people of Wales need to see a real gear change in how Welsh Government runs health and social care in Wales and thinks about the delivery of health and social care in Wales. We have an interim report now highlighting some of the main challenges. We will soon have a completed review and, hopefully, a set of recommendations that can spur some real action.

Rydym yn croesawu'r adroddiad interim a’i natur ddiflewyn ar dafod, a byddwn yn cefnogi'r adroddiad heddiw. Gan fod y GIG yn gyflogwr mawr yng Nghymru ac felly’n chwarae rhan arwyddocaol yn economi Cymru, mae'n bwysig bod y gyllideb hon yn cael ei gwario'n ddoeth, fel y gall cleifion, pan eu bod angen hynny, gael gofal a chefnogaeth a gaiff ei darparu mewn modd hyderus, effeithlon a gofalgar. Gyda gwariant doeth daw’r cyfle i newid ac arloesi. Mae’n rhaid inni edrych ar sut y mae'r galw am ein gwasanaethau yn newid a sut y gallwn ni fodloni'r galw hwn orau. Felly, mae'n rhaid nodi'r materion sy'n wynebu'r GIG nawr a llunio gweledigaeth glir ynglŷn â sut y gellir darparu atebion a newidiadau yn effeithiol—newidiadau sy'n gynaliadwy, a newidiadau y cawn fwy o fanylion yn eu cylch yn ail ran yr adroddiad.

Cymru sydd â'r gyfran sy’n tyfu fwyaf a chyflymaf o bobl hŷn yn y DU, ac felly mae mwy o bwyslais ar ofal. Mae’r newid demograffig hwn wedi bod yn digwydd ers peth amser, a fy nghwestiwn i yma yw: sut mae ymateb i'r newid hwn? Efallai trwy ailddyfeisio a diwygio ysbytai cymuned. Mewn cyferbyniad â'r cynnydd hwn, rhagwelir y bydd llai o oedolion oedran gweithio yn yr un cyfnod, ac effaith hyn yw’r posibilrwydd y bydd y sylfaen drethi yn lleihau. Felly, o ystyried y ffactorau hyn hyd yma, sut y bydd gofal yn cael ei ddarparu a chan bwy? Rydym yn aml yn anghofio y gofalwyr di-dâl yn ein cymunedau a'r cyfraniad enfawr a wnânt. Felly, mae'n deg eu crybwyll heddiw.

Oherwydd bod pobl yn byw'n hwy, rydym yn disgwyl i bobl weithio'n hwy, ond edrychwch ar sefyllfa Menywod yn erbyn Anghydraddoldeb Pensiwn y Wladwriaeth, sydd wedi achosi llawer o bryder ac ansicrwydd, gyda Guy Opperman, y Gweinidog dros Bensiynau, yn cynnig bod pobl o 64 yn ailhyfforddi ar gyfer sgiliau newydd, i’w galluogi i gael gwaith. Fel y mae llawer o'm hetholwyr wedi ei ddweud wrthyf, pan eich bod chi’n 60 oed neu’n hŷn, gallwch fynd i gyfweliadau, ond mae’r siawns o beidio â chael swydd yn 99 y cant.

Mae cyfranogiad a sylwadau cleifion wedi eu cymryd ar hap o'r pwys mwyaf. Sut mae modd cyflawni hyn yn y ffordd fwyaf cost-effeithiol ac effeithlon? Mae llawer o sôn am gleifion bregus ac oedrannus yn cael eu cadw yn yr ysbyty pryd y gellid eu rhyddhau ond nad oes ganddynt neb i ofalu amdanynt. Ac yn yr amgylchiadau hyn, mae integreiddio gwasanaethau yn hanfodol er mwyn darparu'r canlyniad gorau i'r unigolyn. Fodd bynnag, mae fy mhrofiad diweddar o integreiddio rhwng iechyd a’r gwasanaethau cymdeithasol wedi fy ngadael gyda theimladau cymysg ynghylch y gofal a'r gefnogaeth a roddwn i'n henoed a'n pobl fregus. Mae achos etholwr yr wyf i’n gyfarwydd ag ef, a aeth, yn 83 oed, i'r ysbyty i gael llawdriniaeth ddargyfeiriol driphlyg ar y galon. Fe'i rhoddwyd yn nwylo llawfeddyg gwych a gyflawnodd y llawdriniaeth yn llwyddiannus. Yna cafodd ofal mewn dau ysbyty. Roedd un ysbyty wedi'i drefnu'n dda, gyda staff a oedd gan fwyaf yn hapus a hwyliog ac a oedd yn amlwg yn mwynhau eu gwaith. Yn yr ail ysbyty roedd ysbryd y staff yn isel ac fe wnaethon nhw ryddhau’r claf yn gwybod ei fod yn byw ar ei ben ei hun a bod angen ychydig ddyddiau neu wythnosau o ofal arno i’w helpu i ddod ato’i hun ar ôl y llawdriniaeth. Gofynnais pam nad oedd wedi derbyn pecyn gofal ar ôl cael ei ryddhau, a’r ateb oedd y gallai gerdded i fyny’r grisiau, ei fod o gwmpas ei bethau ac nad oedd wedi gofyn am becyn. Fe'i rhyddhawyd heb alw’r person a oedd wedi ei nodi fel y person i gysylltu ag ef ar adeg ei ryddhau, ond aethpwyd ag ef adref mewn car, gofynnwyd iddo a oedd ganddo rywfaint o fwyd ac yna fe’i gadawyd. Nid oedd neb i fynd ag ef i apwyntiadau dilynol, ac fe'i gadawyd gyda nifer fawr o dabledi i geisio eu datrys drosto'i hun.

Mae ei feddyg teulu, meddai, yn wych. Ni all ddiolch ddigon i’r llawfeddyg. Roedd yr ôl-ofal a gafodd yn yr ysbyty yn union wedyn yn wych. Ac mae'n dweud ei fod bellach wedi cael blas newydd ar fyw, ac mewn chwe mis mae’n mynd i Benidorm. Fy mhryder i yw nad oedd ôl-ofal ar gael ar gyfer y person hwn, ac mae’n rhaid pwysleisio'r gwahaniaeth mewn gofal rhwng un ysbyty a’r llall. Mae angen inni edrych ar arferion gorau a sicrhau eu bod yn digwydd ym mhob ysbyty. Byddai pecyn gofal wedi gwneud llawer o wahaniaeth yn yr achos hwn, ac mae angen inni sicrhau bod yr holl staff wedi'u hyfforddi'n briodol. Mae cyfathrebu rhwng gwasanaethau yn bwysig, ac mae'n rhaid i ni allu ymdrin â'n cleifion hŷn neu fregus mewn modd trugarog.

Os ydym ni am fabwysiadu newid, mae angen inni edrych ar recriwtio a chadw staff rheng flaen, a chafwyd llawer o dystiolaeth o’r problemau hynny yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae prinder staff wedi arwain at fwy o faich gwaith, ac mae llawer o staff yn methu ag ymdopi â hynny. Mae hyn wedi arwain at ysbryd isel ymhlith staff a salwch sy'n gysylltiedig â straen. Mae’n rhaid inni gofio bod angen digon o staff cymorth a gweinyddol hefyd, fel y dywedodd Angela Burns, i gynnal profion diagnostig, nyrsio pobl yn ôl i iechyd, a sicrhau bod cymorthfeydd yn cael eu rhedeg yn effeithlon. Fy nghwestiwn i yw: sut y gallwn ni ysgogi clinigwyr i hyfforddi ac aros yng Nghymru? Mae rhai darpar glinigwyr brwdfrydig yn methu â chael y cymwysterau mynediad i fod yn feddyg teulu o drwch blewyn, ac rydym ni’n gwrthod pobl dda am y rheswm hwn. Mae'n bryd adolygu'r agwedd hon.

Yn olaf, gwyddom fod angen newid, ond sut allwn ni gyflawni hyn orau? Atal cyn gwella: sut ydym ni'n mynd i'r afael ag anfanteision cymdeithasol salwch, sy'n effeithio ar bobl o bob oed? Sut gallwn ni sicrhau, wrth i ddisgwyliad oes gynyddu, bod ansawdd bywyd yn cynyddu hefyd? Po fwyaf yr wybodaeth yr ydym ni'n ei rhoi i bobl ar fyw'n iach, a allai gynnwys newidiadau mewn ffordd o fyw, ac mae’n rhaid i hynny fod yn hwylus ac ar gael i bawb—.Yna mae pobl yn rhydd i wneud dewisiadau gwybodus am newid. Felly, mae'n rhaid i'n seilwaith a thechnoleg yn y dyfodol fod yn addas i'w ddiben ac yn gyson â'n hanghenion ar gyfer y dyfodol. Diolch, Llywydd.

Roeddwn i wrth fy modd o glywed Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud nad yw diffyg gweithredu yn ddewis, ac rwyf yn llwyr gytuno â hynny, oherwydd mae galw cynyddol am ofal sylfaenol yn enwedig, a thystiolaeth glir bod rhywfaint o straen yn y system, gyda nifer sylweddol o feddygon teulu yn rhoi’r gorau iddi, ond hefyd mae cynnydd yn nisgwyliadau'r cyhoedd y dylai gwasanaethau iechyd weithredu yn union fel unrhyw wasanaeth arall y mae pobl yn dymuno ei gael ar unwaith. Ond rwy'n credu bod angen newid y berthynas rhwng y dinesydd a'r gwasanaeth i sicrhau ei bod yn bartneriaeth wirioneddol, sef—. Nid yw'n ymwneud â gwasanaeth ar alw. Nid yw yr un fath â mynd i mewn i siop a dweud, 'Rwyf eisiau hyn’; partneriaeth yw hi.

Yn aml, mae pobl ar feinciau'r Ceidwadwyr—.  Fe’u clywais nhw’n dweud yn y gorffennol bod hyn i gyd oherwydd bod y GIG yng Nghymru wedi ei danariannu, ond mae'r ffeithiau yn gwrthddweud hynny. Mae'r dadansoddiad ystadegol ar gyfer gwariant cyhoeddus ar gyfer 2015-16, a gyhoeddwyd gan Drysorlys y DU, yn dangos bod gwariant ar iechyd a gofal cymdeithasol fesul person yng Nghymru 6 y cant yn fwy nag yn Lloegr, ac mae gwario ar iechyd yn unig yng Nghymru 1 y cant yn fwy nag yn Lloegr felly, mae hynny'n £21 yn fwy y pen. Felly, nid yw'n ymwneud ag arian. Mae'n ymwneud â'r ffordd yr ydym ni’n trefnu'r gwasanaethau, ac yn fy marn i, mae'n bwysig dargyfeirio adnoddau o ofal eilaidd, yr ydym ni’n sôn amdano'n gyson, i ofal sylfaenol, lle mae 90 y cant o holl wasanaethau’r GIG yn cael eu darparu.

Mae'n dda gweld bod llawer o gytuno ynglŷn â’r cyfeiriad y dylem ni fod yn teithio iddo. Yr wythnos diwethaf, cadeiriais gyfarfod ynglŷn â ffurf y ganolfan iechyd newydd yn Llanedeyrn a’r gwasanaethau sydd angen bod yno. Mae'n amlwg bod angen adeilad newydd, gan fod y cladin yn disgyn oddi ar y waliau ac mae ganddi sgôr ynni trychinebus. Ond roedd rhai o'r pwyntiau a wnaeth dinasyddion yn glir iawn ynghylch yr hyn y dylai pobl ei ddisgwyl, yn ogystal â rhai o'r pethau y mae angen inni eu gwneud ar y cyd â dinasyddion.

Credaf mai un o'r rhesymau y mae Meddygon Teulu o dan gymaint o straen yw oherwydd mai gweld eich meddyg teulu, os mynnwch chi, yw’r gwasanaeth drws agored olaf. Mae llawer o wasanaethau cyhoeddus eraill wedi crebachu, a'r meddyg teulu yw'r lle olaf y mae gennych hawl i fynd iddo. Yn aml, mae pobl yn mynd am y rhesymau anghywir i weld meddyg teulu am rywbeth y gallent fod yn gweld pobl eraill, boed hynny'n ateb syml ar gyfer mân broblem iechyd y gellid ymateb iddi yn hawdd dros y ffôn, neu drwy'r fferyllydd, sydd ar gael yn amlwg yn ystod yr oriau pan fo’r siop ar agor. Mae’n rhaid inni weld y meddyg teulu fel, os mynnwch chi, cydlynydd gofal sylfaenol, a sicrhau ei fod yn defnyddio aelodau eraill y tîm amlddisgyblaethol mewn ffordd a fydd yn ei alluogi i wneud yn fawr o’i amser a sicrhau, er enghraifft, y gall pobl sy'n gweithio gael apwyntiad safonol gyda'u meddyg teulu heb, mewn gwirionedd, orfod cymryd amser i ffwrdd o'r gwaith.

Fe'm trawyd gan y—. Mae'r Gymdeithas Iechyd Sosialaidd wedi ysgrifennu papur yn ddiweddar yn awgrymu y dylem dreialu modelau gwahanol o wasanaethau meddygon teulu͏—ar y naill law, contractwyr annibynnol, ac ar y llaw arall, meddygon teulu cyflogedig. Byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed yr hyn sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet mewn golwg o ran y posibilrwydd o edrych ar wahanol fodelau gofal sylfaenol pan fo pethau'n methu.

Rwy'n credu bod cydgynhyrchu yn hanfodol, oherwydd nid oes diben o gwbl mewn cynnig trawsblaniad yr iau i alcoholig oni bai bod ei ddibyniaeth o dan reolaeth ganddo. Rwy'n credu mai un o'r swyddogaethau pwysicaf i'r llywodraeth yw sicrhau y galluogir dinasyddion i gael bwyd na fydd yn eu gwenwyno, ac a fydd yn cyfrannu at eu hiechyd. Dros y penwythnos, roeddwn yn darllen llyfr o'r enw 'How Not to Die' gan Michael Greger, ac mae'r bennod ar Parkinson's, rhywbeth y mae cyfaill i mi yn dioddef ohono, yn gwneud i chi sylweddoli ei bod hi'n rhy hwyr i'r rhai ohonom sydd eisoes wedi bod yn bwyta'r sylweddau gwenwynig hyn yn ein diet. Ond dyma'n gwaith ni fel deddfwyr i sicrhau na fydd y gwenwynau a fydd yn y pen draw yn gwneud eu ffordd i’r môr yn halogi'r genhedlaeth nesaf. Ein diet yw prif achos marwolaeth ac anabledd cynamserol, mae'n honni, a daw hyn â mi, yn amlwg, at y mater pwysig iawn o sicrhau ein bod yn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd. Mae'n hollol syfrdanol fod llai na 3 y cant o blant yn beicio i'r ysgol, sy'n ymddangos i mi i fod yn hawl sylfaenol i bob plentyn, tra bod dros draean yn cael eu cludo i'r ysgol mewn car, sy'n golygu eu bod yn gwbl ddibynnol ar eraill, heb gael dewis pwy maent yn mynd i'r ysgol gyda nhw, pa bryd y maent yn mynd i'r ysgol, ac maen nhw’n llwyr ddibynnol ar oedolyn i fynd â nhw i bobman.

Fel eraill, croesawaf yr adroddiad interim a'r cyfle i drafod y materion hynod bwysig a nodir ynddo. Rwyf yn gobeithio y bydd adroddiad terfynol yr adolygiad seneddol hwn yn rhoi sail i'r Cynulliad cyfan hwn ddod i gonsensws gwleidyddol newydd sy'n ein helpu i gyflawni'r newidiadau parhaus y mae angen inni eu gwneud er mwyn darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sy'n gwella’n barhaus ledled Cymru yn y dyfodol. Dyma'r hyn y bydd pobl yn ei ddisgwyl gennym ni ac yr wyf yn cynnwys yn hynny yr aelodau staff hynny sy’n ganolog i ddarparu'r gwasanaethau hanfodol hynny yn feunyddiol am 365 diwrnod y flwyddyn.

Er gwaethaf yr heriau yr ydym yn eu hwynebu, a disgrifir llawer ohonynt yn yr adroddiad interim, mae yna lawer o arbenigwyr o hyd sy'n cydnabod bod ein GIG yn parhau i fod yn esiampl wych o'r system gofal iechyd orau yn y byd. Ond rwy’n cydnabod bod adrannau o'r adolygiad pwysig hwn yn tynnu sylw at y newidiadau sylweddol y mae angen eu gwneud o hyd i’r ffordd yr ydym ni’n darparu gwasanaethau, yn y mannau yr ydym ni’n darparu gwasanaethau ynddynt, ac wrth baratoi ac arwain staff i wneud y newidiadau hynny.

Felly, roeddwn i eisiau cyfeirio fy sylwadau penodol heddiw at faterion cynllunio gweithlu, at fylchau mewn sgiliau, at gymell staff i fod yn rhan o ddyfodol y gwasanaethau hyn. Rwy'n falch bod yr adroddiad interim wedi cydnabod pwysigrwydd cynllunio gweithlu effeithiol, hyfforddiant rhyngddisgyblaethol, ac ymgysylltu â staff, oherwydd gwn o brofiad personol ein bod wedi gwneud rhywfaint o gynnydd yn y meysydd hyn ond mae gennym ffordd bell eto i fynd, ac fe wn i ba mor hir y gall y newidiadau hyn gymryd i ymwreiddio. Dim ond wrth fabwysiadu rhai gwerthoedd gwirioneddol ar weithio mewn partneriaeth gymdeithasol y gwelwn ni bobl yn croesawu agenda ar gyfer newid ac yn croesawu’r cyfle mewn difrif i fod yn rhan o'r ateb.

Fel y dywedais, mae newid yn cymryd amser. Mae'n gofyn am arweinyddiaeth dringar, ac mae angen cynllunio gweithlu effeithiol arno i gyflawni'r atebion hynny. Mae hefyd yn waith sydd yn wastadol ar y gweill, oherwydd, yn unol ag union natur y gofynion ar y gwasanaethau hyn, mae'n golygu y bydd angen newid parhaus ar draws yr holl ddisgyblaethau a’r holl feysydd gwasanaeth o ran iechyd a’r gwasanaethau cymdeithasol yn y blynyddoedd i ddod.

Felly, mae croeso mawr i'r gydnabyddiaeth yn yr adroddiad hwn bod angen cynllunio gweithlu strategol ac integredig cryfach. Bydd hefyd yn dod yn fwyfwy angenrheidiol gan fod newid technolegol yn creu’r angen i ailsgilio’r gweithlu ac yn cyflwyno cyfleoedd ar gyfer uwch-sgilio staff a fydd hefyd yn helpu i gyflawni'r broses integreiddio yr hoffem ni ei gweld.

Wrth wneud fy ail bwynt, hoffwn ategu sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch yr angen am fwy o gonsensws wrth i ni wynebu rhai o'r heriau sylfaenol hyn. Felly, er mwyn cael dadl adeiladol, byddaf yn rhoi o’r neilltu y ddadl ynghylch cyllidebau cyni sydd wedi nodweddu’r saith mlynedd ddiwethaf. Ond mae angen i bawb ohonom ni fel ACau, trethdalwyr, a defnyddwyr y gwasanaethau hyn, fyfyrio ar y ffordd y gallwn fodloni gofynion y gwasanaeth orau yn y dyfodol ac a yw hynny am oresgyn prinder staff a sgiliau, i wynebu'r prinder y mae llawer o gydweithwyr yn ei grybwyll ynghylch gwasanaethau yn ein cymunedau gwledig, neu i fodloni'r gofynion iechyd a gofal cymhleth mewn nifer o gymunedau'r Cymoedd, yr wyf yn fwy na chyfarwydd â nhw.

Mae’n rhaid inni ofyn i ni ein hunain sut y byddwn yn goresgyn yr heriau hyn os canfyddwn, er enghraifft, y gall staff yn y gwasanaethau cymdeithasol ddod o hyd i swydd sy'n talu’n well ac sy’n llai beichus, er enghraifft, yn y sector manwerthu lleol. Felly, rwyf yn parhau i ddadlau bod trafodaethau parhaus â staff a'u hundebau llafur yn hanfodol i fynd i'r afael â'r heriau hyn.

Mae'r pwynt olaf yr wyf am ei wneud heddiw yn ymwneud â chyfnewid gwybodaeth ac arfer gorau. Ni allaf ond dychmygu, Ysgrifennydd y Cabinet, eich bod ychydig yn ddig pan fyddwch yn gweld yn yr adroddiadau hyn enghreifftiau o arfer gorau nad ydym yn ymddangos fel pe byddem yn dysgu ohonynt. Er gwaethaf yr holl newidiadau technolegol, ac er gwaethaf y cyflymder y gall newyddion deithio, mae'n parhau i fod yn rhwystredig na allwn ni fabwysiadu arferion gorau yn gyflym ar draws ein gwasanaethau. Nid yw hynny'n rhywbeth newydd, ond rwy'n gobeithio y gallwn ni edrych ar yr adolygiad hwn i helpu i gyflymu'r broses honno yng Nghymru. Wrth gwrs, rydym eisoes yn gwybod am nifer o'r materion a nodwyd yn yr adroddiad interim, ac roeddent yn amlwg hefyd yn nodwedd yn yr adroddiad terfynol ar ddiwedd y flwyddyn. Felly, rwy'n gobeithio y byddwn yn parhau i ddatblygu a chryfhau'r camau hynny yr ydym eisoes yn eu cymryd er mwyn sicrhau cynnydd yn y materion pwysig hyn a pheidio â llaesu dwylo yn y meysydd hynny lle y gwyddom ni y gallwn ni weithredu ynddynt ar hyn o bryd.

Mae deg y cant o'r holl ymyraethau gofal iechyd yn gysylltiedig â niwed; Nid yw 20 y cant o'r holl waith a wneir gan y gwasanaeth iechyd yn cael unrhyw effaith ar ganlyniadau—dyfyniad o'r adolygiad yw hwn, ac, er y gallai'r adolygiad hwnnw fod yn osgoi’r cwestiwn braidd yn anodd o sut y byddwn ni’n ariannu iechyd a gofal cymdeithasol yn y dyfodol, mae'n eithaf eglur o ran dangos ein bod ni, fel gwlad, yn gwario hanner ein grant bloc ar system sy'n cynhyrchu'r ystadegau hyn. Ac rwyf eisiau pwysleisio yma mai system yr wyf yn ei olygu, nid yr unigolion, oherwydd, fel Dawn, nid wyf eisiau i hyn fod yn bêl-droed gwleidyddol yn y dyfodol; mae'n llawer rhy bwysig. Ond rwy'n credu bod angen i Lywodraeth Cymru gydnabod nawr, mewn gwirionedd, na all craffu mewn modd egwyddorol ac adeiladol ar yr hyn y byddwn yn sôn amdano yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf fod yn ddim byd ond cymorth yn y mater polisi anferthol hwn. Bydd ymddiriedaeth yn hanfodol yn y ddadl hon, a chredaf fod yr adolygiad seneddol—mae'n rhaid imi gymeradwyo Ysgrifennydd y Cabinet ar hwnnw—wedi bod o gymorth mawr wrth osod y sefyllfa ar gyfer hynny, oherwydd, yn fy marn i, nid Brexit fydd yn diffinio'r pumed Cynulliad hwn, ond cyflymder a dewrder ein hymateb i ofynion iechyd a gofal cymdeithasol. Ac mae'r ffaith bod angen i'r ymateb hwnnw fod yn gyflym ac yn ddewr yn brawf o'n haeddfedrwydd fel sefydliad, yn sicr, wrth i ni ystyried syniadau a allai fod yn anodd eu trafod, ond hefyd fel gwlad, wrth i ni ystyried syniadau a allai fod yn anodd eu clywed. Felly, credaf fod angen inni ddechrau paratoi pobl Cymru ar gyfer newid radical, lle mai nhw fydd yn chwarae’r brif ran.

Mae galw am newid diwylliant yn britho’r adroddiad hwn. Mae yna lawer yno ynglŷn â newid cydbwysedd cyfrifoldebau, ond yr un bwysig yw'r cydbwysedd rhwng yr unigolyn a'r wladwriaeth, fel y crybwyllodd Jenny, ac nid yw honno byth yn sgwrs gyfforddus yn y lle hwn. Mae'r adroddiad hwn yn sôn cryn dipyn am gydgynhyrchu. Dyna yr wyf i’n sôn amdano, ac mae honno, fel y dywed Jenny, yn bartneriaeth sydd, ynddo'i hun, angen gweld newid ym meddylfryd y boblogaeth, poblogaeth sydd, ar y cyfan, ar hyn o bryd wedi arfer gadael i weithwyr gofal iechyd proffesiynol wneud y penderfyniadau ynglŷn â’u gofal ar eu rhan. Nawr, mae brenin cydgynhyrchu yn eistedd y tu ôl i mi—Mark Isherwood—a gwn y bydd rhai ohonoch chi sydd wedi bod yma ers rhai blynyddoedd yn ddigon graslon i gydnabod y bu’n hyrwyddo'r egwyddor hon ymhell cyn ei hymgorffori mewn deddfwriaeth . Mae'n rhywbeth real, ac mae'r adroddiad hwn yn ein cyfeirio at fodelau lle mae gan yr unigolyn fwy o reolaeth dros y math o driniaeth a gaiff a chyfrifoldeb am benderfyniadau sy'n effeithio arno.

Mae ein poblogaeth yn mynd yn hŷn, a bydd mwy ohonom yn anffodus yn cyrraedd cam lle nad yw’r gallu meddyliol gennym ni mwyach, ac yna bydd angen gofal arnom ni na fydd gennym ni fawr o reolaeth bersonol drosto. I'r gweddill ohonom, mae gwasanaethau sydd wedi eu cyfeirio at ddinasyddion yn golygu arfer gwneud penderfyniadau a chymryd camau drosom ein hunain a’n hanwyliaid, heb weld hynny fel y wladwriaeth yn gwrthod helpu. Mae'r adroddiad hwn yn glir: roedd awydd i ddod i gytundeb amlwg gyda'r cyhoedd ar swyddogaethau a chyfrifoldebau priodol gwasanaethau ac unigolion, ond nid oes unrhyw ddiben bod 91 y cant o bobl yn credu eu bod yn gyfrifol am eu hiechyd eu hunain oni bai eu bod , mewn gwirionedd, yn ddigon hyderus a gwybodus i arfer y cyfrifoldeb hwnnw heb ofni cael eu hamddifadu. Ac mae'n sicr yn berthnasol o ran gwneud dewisiadau iach, rwy’n cytuno'n llwyr, ond mae hefyd yn berthnasol i'r modd y mae unigolion yn deall eu hanghenion a sut y maen nhw’n dod yn hyderus i wneud penderfyniadau am eu gofal, gan nad oes unrhyw ddiben ailgyflunio ein system tuag at gydgynhyrchu os ydym ni, fel poblogaeth, yn dal i gael ein rhaglennu i ymateb i unrhyw gwestiynau am ein gofal gyda 'Beth bynnag yw eich barn chi, Doctor'.

Ni all unrhyw system genedlaethol gynnig gwasanaeth personol, ond rydym ni'n mynd yn nes o lawer at hynny mewn system sy'n hwyluso, nid rhwystro rhywun sydd â'r hyder i ddweud, 'Rwy'n cael fy archwilio gan offthalmolegydd y stryd fawr pan fo’n gyfleus i mi, yn hytrach nag aros mewn clinig ymgynghorydd ar gyfer cleifion allanol’ ac, yn yr un modd, sy'n hwyluso, nid rhwystro, meddyg teulu sydd â'r hyder i ddweud wrth rywun,' Pam ydych chi yma? Ewch at y fferyllydd'. Mae cyfrifoldeb y dinesydd yn gweithio’r ddwy ffordd ac mae Jenny yn iawn yn hynny o beth. Rydym ni'n mynd yn agosach o lawer at y nod hefyd, rwy'n credu, pan fydd gennym ni berson oedrannus sydd â'r hyder i ddweud, 'Wyddoch chi be, nid wyf eisiau talu gweithiwr gofal i wneud cwpanaid o de i mi; Rwyf eisiau talu am gludiant cymunedol fel y gallaf fynd i rywle a chael cwmni’.

Mae'r adroddiad hwn yn dweud nad oes gennym ni amser i lusgo traed ar gydgynhyrchu. Nawr, un peth yw sôn am newid dewr a chyflym mewn diwylliant o ran bod Llywodraeth Cymru yn ymddiried mewn pobl, o ran meddylfryd cul, o ran prosesau, o ran disgwyliadau staff ac arweinyddiaeth, ond nid wyf yn credu y gallwn ni ychwaith esgeuluso naill ai sut yr ydym ni’n helpu ein hetholwyr i wneud penderfyniadau yn hyderus, oherwydd hebddynt bydd y newidiadau y mae'r adolygiad hwn yn cyfeirio atynt yn darfod yn y cyfnod interim. Os ydym ni am edrych ar hyn o ddifrif fel ffordd ymlaen, mae'n rhaid i ni helpu ein dinasyddion i ymddiried ynddynt eu hunain. Diolch.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Hoffwn innau hefyd groesawu'r gwaith hwn a wnaed gan Ruth Hussey a'r tîm arbenigol. Rwy'n credu ei bod yn glir, os edrychwn ni ar y boblogaeth sy'n heneiddio, bod mwy o'r un peth yn syml yn anghynaladwy, a chredaf mai dyna'r hyn sy'n dod i'r amlwg yn yr adroddiad hwn. Mae integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol ymhellach yn rhywbeth rwy'n credu bod y rhan fwyaf o bobl yn awr yn ei dderbyn. Yn syml, mae'n rhaid iddo ddigwydd.

Mae'n amlwg bod yn rhaid rhoi lle canolog i atal, ac mae'n rhaid i bob un ohonom gael ein hannog i gymryd mwy o gyfrifoldeb am ofalu amdanom ni ein hunain. Rwyf wrth fy modd bod yr adroddiad yn gofyn am fodelau newydd i'w treialu ledled Cymru. Mae gwaith gwych eisoes yn cael ei wneud ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn inni gydnabod hynny. Es i i gartref sy’n cynnig gofal ychwanegol yn y Drenewydd ym Mhowys yn ddiweddar, wedi'i ariannu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru—enghraifft wych. Mwy o hynny yw'r math o beth yr ydym ni eisiau ei weld. Mae hwnnw’n fodel drud; mae modelau eraill y bydd angen inni edrych arnynt. Ond mae'n gyfle i ni roi prawf ar rai syniadau newydd radical.

A gaf i groesawu'r ffaith bod yr adolygiad hefyd yn sensitif i'r ffaith y bydd y ddarpariaeth yn wahanol mewn gwahanol rannau o Gymru, a bod angen ystyried anghenion pobl hŷn o ran y Gymraeg yn arbennig?

Mae Dawn wedi sôn llawer am yr angen am sgiliau yn y gweithlu, ac i'r gweithlu hwnnw gael ei gydnabod a'i werthfawrogi. Oni bai ein bod yn mynd i'r afael â'r mater hwnnw o ddifrif, rwy'n credu y byddwn ni’n gweld llif cyson o weithwyr anfedrus yn ein gwasanaeth gofal, ac nid yw hynny'n rhywbeth sy'n gynaliadwy. Felly, ar ryw adeg, mae'n rhaid i ni siarad am ariannu'r bobl hynny yn iawn.

Y peth allweddol i'w gofio yw bod yn rhaid canolbwyntio ar bobl. Mae'n rhaid rhoi’r sylw canolog i’r defnyddiwr terfynol yn y fan yma. Clywsom y prynhawn yma am y strategaeth genedlaethol 'Ffyniant i Bawb', a'r angen am fodel gofal arloesol yn y gymuned. Mae un maes yr wyf o'r farn sydd ar goll o'r adroddiad—ac rwy'n deall pam nad oedd yn rhan o'r cylch gwaith͏—a’r maes hwnnw yw tai. Oni bai ein bod yn cael pethau’n gywir yn y maes tai, rwy’n credu y bydd hi’n anodd iawn inni ofalu am anghenion gofal y cyhoedd. Felly, mae angen inni rywsut, ar ryw adeg, gynnwys tai yn y drafodaeth hon, ac yna fe allwn ni lunio strategaeth datblygu economaidd yn sgil hynny hefyd, gyda'r agenda sgiliau gyfan i ddilyn hynny. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn inni gadw llygad arno.

Ond ar ryw adeg mae'n rhaid i ni gael sgwrs gyda'r cyhoedd ynghylch, mewn gwirionedd, yn gyntaf oll, beth yw'r sefyllfa bresennol. Oherwydd mae’r rhan fwyaf o bobl yn cerdded i mewn i gartref gofal ac yn synnu'n fawr o ddarganfod y bydd angen siec o £700 yr wythnos ganddynt. Nid ydynt yn ymwybodol o hynny. Mae'n rhaid i ni ddweud wrthynt beth yw'r sefyllfa bresennol ac yna cael sgwrs ynglŷn â sut yr hoffent i bethau fod yn y dyfodol. Mae'n rhaid i ni fod yn ddewr ynglŷn â hyn. Does dim dwywaith bod angen i ni fod yn ddewr. Ac un o'r pethau sydd wedi fy nghalonogi'n fawr iawn y prynhawn yma yw'r ffaith ein bod ni wedi clywed awgrymiadau gwirioneddol adeiladol gan bob plaid. Oni bai ein bod ni'n gweithio gyda'n gilydd ar hyn, rwy'n credu na fydd pobl Cymru yn maddau i ni, oherwydd os byddwn ni’n cael hyn yn anghywir, os na fyddwn ni’n mynd i'r afael â hyn, ein cymdogion, ein teulu, ein ffrindiau a fydd yn talu'r pris, ac ni fyddan nhw’n maddau i ni. Felly, mae gennym ni gyfle yma i arwain yng Nghymru, i wneud rhywbeth cyn bod gweddill y Deyrnas Unedig yn ei wneud, ond yr unig ffordd y mae hyn yn mynd i weithio yw drwy i ni weithio gyda'n gilydd a bod yn ddewr ac yn onest â phobl Cymru am yr hyn sydd angen digwydd. Ar ryw adeg, mae'n rhaid i'r sgwrs honno fod yn ymwneud â'r hyn y gallant ei gyfrannu hefyd. Mae'n ymwneud â gofalwyr yn rhannol, a ninnau'n helpu gofalwyr, ond gall fod angen trafodaeth ariannol arnom ni ar ryw adeg. Ni a ddechreuodd y GIG; yng Nghymru y dechreuwyd hynny. Fy mreuddwyd i yw gweld gwasanaeth gofal cenedlaethol yn cael ei ddatblygu yng Nghymru hefyd, a chredaf y gallwn ni gyflawni hynny gyda'n gilydd.

Diolch yn fawr iawn. Nawr, galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb i'r ddadl. Vaughan Gething.

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch hefyd i bob Aelod sydd wedi cyfrannu at y ddadl heddiw. Nid wyf yn credu y byddaf yn gallu ymdrin â'r holl bwyntiau, ond eto, rhan o ddiben cael y ddadl hon heddiw yw i'r Aelodau roi amrywiaeth o safbwyntiau ar y cofnod wrth i ni fynd ymlaen i'r cam nesaf o gael yr adroddiad terfynol ac yna dal i orfod gwneud rhai dewisiadau. Ac rwy'n credu bod rhywfaint o'r hyn yr ydym ni wedi'i glywed— mae wedi bod yn ddiddorol yn y ddadl clywed gan nifer o bobl, gan Jenny, Caroline, Eluned ac eraill, am benderfynyddion iechyd a phenderfynyddion cymdeithasol iechyd hefyd. Ac mewn gwirionedd, cyfraniad gweddol fychan i'n canlyniadau iechyd a wneir gan y gwasanaeth. Mewn gwirionedd y dewisiadau eraill, ehangach hynny yr ydym ni’n eu gwneud ac a wneir drosom ni sy'n cyfrannu at ein canlyniadau iechyd ein hunain ac effaith hynny ar ein hanghenion gofal hefyd. Caiff hynny ei gydnabod yn 'Ffyniant i Bawb', sef y dull Llywodraeth gyfan yr ydym yn ei fabwysiadu. Rydym yn cydnabod nad dim ond dweud y gallai ac y dylai’r gwasanaeth iechyd wneud popeth yn y cyswllt hwnnw yw hyn. Mae yn ymwneud â chydnabod bod perthynas â gwasanaethau eraill, ydy, ond hefyd bod ein ffyniant economaidd a'n dyfodol mor bwysig hefyd.

Byddaf yn canolbwyntio ar rai o'r materion penodol y mae pobl wedi'u crybwyll hefyd. Rwy'n ddiolchgar i Angela, Rhun a Caroline fel llefarwyr, ond hefyd am y ffordd adeiladol y maen nhw wedi cyfrannu at ddadl heddiw a'r croeso mawr i’n sefyllfa bresennol. Unwaith eto, mae tynnu sylw at hyn wedi bod yn adolygiad gwirioneddol annibynnol lle mae'r cylch gorchwyl wedi ei gytuno a phobl wedi gorfod cyfaddawdu a dewis yr hyn a gaiff ei gynnwys yn y cylch gorchwyl i sicrhau bod gennym ni ddarn hylaw o waith y medrwn ni gyfeirio’n ôl ato ac y gallwn ni wedyn seilio dewisiadau arno i helpu penderfynu ar ddyfodol ein system gyfan.

O ran y pwyntiau a wnaed ynghylch staff ledled ein holl wasanaeth, mae'r Gweinidog Rebecca Evans eisoes wedi gwneud rhai datganiadau am y dyfodol ar gyfer staff gofal cymdeithasol, dilyniant gyrfa a'r cymysgedd sgiliau yn y gweithlu gofal cymdeithasol. Felly, byddwn yn clywed mwy gan y Llywodraeth ynglŷn â hynny. Ni fyddwn yn disgwyl i’r adroddiad gael ei gyhoeddi. Ond yn sicr mae rhywbeth yno o ran, yn arbennig, rhai o'r sylwadau a wnaeth Dawn ynghylch bod angen sicrhau bod ein staff yn cymryd rhan yn y sgwrs hon yn awr, ac nid yn unig o ran cynllunio gweithlu ond er mwyn penderfynu ar rai o'r modelau hynny ar gyfer y dyfodol a sicrhau y bydd gan yr undeb llafur ehangach ran mewn gwneud hynny hefyd.

Yr hyn yr oeddwn i eisiau cyfeirio ato, o ran y sylwadau a wnaeth Rhun ac Angela yn ogystal â bod angen mwy o feddygon, nyrsys a staff gofal iechyd eraill hefyd, yw mai dyma'r unig faes lle'r ydym yn dal i ddisgwyl i'r sector cyhoeddus ehangu ac i fwy o staff fod ar gael flwyddyn ar ôl blwyddyn. Ni chaiff y cwestiwn fyth ei ofyn, 'Sut allwch chi ymdopi â llai?' o ran staff; y gân o hyd yw, 'Mae angen mwy o feddygon, mwy o nyrsys, mwy o weithwyr gofal iechyd proffesiynol arnom ni.' Mae rhywbeth am y gonestrwydd yn y ddadl y mae angen i ni ei chael am hyn, oherwydd bydd pob grŵp yn dod ac yn galw am fwy o bethau. Mae hynny'n ddealladwy. Hyd yn oed wrth i ni sôn am gael trawstoriad gwahanol o weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n darparu gwasanaethau, boed hynny mewn ysbyty neu mewn lleoliad cymunedol, mae'n rhaid i ni barhau i fod yn onest ynghylch, 'Mae yna swm cyfyngedig o arian yn y fan yma i bob un ohonom ni ei wario’. Ac nid yw'n bwysig beth yw eich sefyllfa o ran cyni, mae’n un o ffeithiau bywyd gwleidyddol y mae angen inni ei ystyried wrth wneud ein dewisiadau yn awr ac yn y tymor byr a’r tymor canolig.

Diolch am dderbyn ymyriad. Yn fyr iawn, nid yw hi bob amser yn ymwneud â mwy a mwy o staff. Mae’n ymwneud â sicrhau, er enghraifft, pan fyddwn ni'n hyfforddi meddygon yng Nghymru, ein bod yn cadw mwy ohonyn nhw yng Nghymru, oherwydd mae llawer gormod o fyfyrwyr meddygol sydd wedi'u hyfforddi yng Nghymru yn y pen draw yn gweithio y tu allan i Gymru, ac mae arnom ni eisiau hyfforddi mwy o'n myfyrwyr ein hunain yma yng Nghymru, gan gynnwys ym Mangor.

Wel, nid ydym yn anghytuno am y ffaith bod arnom ni eisiau hyfforddi mwy o bobl o Gymru yng Nghymru a'u cadw. Mae angen i ni hefyd sicrhau bod y realiti rhyngwladol o recriwtio staff gofal iechyd yn effeithiol o ran yr hyn yr ydym yn ei gael a pham. Mae rhywbeth yn y fan yma ynghylch pa mor gystadleuol ydym ni gyda gweddill y byd— gweddill y byd datblygedig—yn dal i gystadlu am yr un staff, ac mae'r adolygiad yn rhoi cyfle inni ailffurfio ein system i'w gwneud yn fwy deniadol i bobl sydd eisoes yma a'r rhai yr ydym eisiau eu denu yn y dyfodol. Rwy'n falch o glywed rhywbeth a ddywedodd Suzy Davies. Roedd hi'n dyfynnu o'r adroddiad ond mewn gwirionedd mae hynny’n nodi'r dull gofal iechyd darbodus a nodwyd gan fy rhagflaenydd uniongyrchol wrth gydnabod y niwed mae rhai ymyraethau yn y gwasanaeth yn eu hachosi, pan fo rhai pethau nad ydynt yn gwneud unrhyw les o gwbl mewn gwirionedd. Mae rhywbeth yn y fan yma ynglŷn â’r sgwrs gyda'r cyhoedd er mwyn deall bod angen i ni ailffurfio’n sylfaenol y ffordd yr ydym ni’n darparu ein gwasanaeth i ddarparu nid yn unig ansawdd uchel a gwerth uchel, ond mewn gwirionedd fe allem ni wneud cymaint mwy pe byddem ni’n cael gwared ar yr ymyraethau dianghenraid hynny.

Roeddwn i eisiau dweud rhywbeth cyn i mi orffen sôn am y sylwadau buddiol a wnaethpwyd am lais dinasyddion a chyfrifoldeb personol. Roedd gennyf ddiddordeb mewn clywed am sgwrs Jenny y byddai hi wedi'i chael yn y Maelfa am ddyfodol gofal iechyd lleol a bod pobl yn ymgysylltu’n briodol erbyn hyn ynghylch gwneud dewisiadau a lefel yr ymarferoliaeth sydd gan lawer o'n cymunedau am yr hyn y maen nhw ei eisiau a pham. Ac mae'r adroddiad hwn yn rhoi cyfle i ni i geisio parhau â'r sgwrs honno am gyfrifoldeb personol. Felly, beth yw'r fargen o safbwynt y system iechyd a gofal? Beth fyddwn ni'n ei ddarparu? Ac yna, beth ydym ni'n disgwyl i'r dinesydd ei wneud a sut yr ydym ni'n ei alluogi i wneud mwy o'i ddewisiadau ei hun? Oherwydd, fel arfer, mae dinasyddion sy'n gwneud eu dewisiadau—dewisiadau ymarferol eu hunain— yn dueddol o wneud rhai gwell, ac mae'n bwysig iawn i iechyd ein gwlad yn y dyfodol nad yw hynny'n rhywbeth y byddwn yn caniatáu iddo ddigwydd ar ddamwain. Mae'n rhywbeth yr ydym yn awyddus i’w annog yn gadarnhaol, a dyna pam mae gan yr adolygiad swyddogaeth mor bwysig.

Byddaf yn dod i derfyn nawr, Llywydd, gan fy mod yn gweld mai dim ond rhyw 30 eiliad sydd ar ôl. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at adroddiad terfynol yr adolygiad annibynnol a'r dadleuon y bydd yn rhaid inni eu cael, ond hefyd y dewisiadau y bydd yn rhaid inni eu gwneud wedyn—dewisiadau anodd ond angenrheidiol ynglŷn â'n dyfodol. Rwy'n parhau i fod yn galonogol am ein parodrwydd i ddewis llwybr cynllun ar gyfer y dyfodol. Oherwydd nid yw’n ymwneud yn unig â bod yr hyn a allai ddigwydd fel arall yn ofnadwy os byddwn yn caniatáu i bethau ddigwydd i ni, ond mae yna wobr go iawn i bob un ohonom fanteisio arni trwy gael system y byddwn yn dewis ei llunio a'i chyflawni a bwrw ymlaen â'r system ansawdd uchel y mae pob un ohonom yn dymuno ei chael yn awr ac yn y dyfodol ym mhob cymuned yng Nghymru.

Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae’r cynnig wedi’i dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:41.