Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

19/07/2017

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. Datganiad gan y Llwydd

Bydd yr Aelodau’n ymwybodol fod pwynt o drefn wedi cael ei godi ddoe ynglŷn â’r defnydd o iaith yn y Siambr. Mae hyn wedi fy annog i fyfyrio’n fwy cyffredinol ynglŷn â thueddiad diweddar ymysg yr Aelodau i wthio’u lwc mewn perthynas â’r geiriau y maent yn dewis eu defnyddio. Rwy’n fodlon fod fy ymateb hyd yn hyn wedi bod yn gywir ac yn unol â’n Rheolau Sefydlog. Fodd bynnag, mae dyfarniadau o’r fath yn benodol iawn a gallant ddibynnu llawer ar gyd-destun pob achos. Dyma pam na ddylai unrhyw Aelod ddehongli dyfarniad fel un sy’n sefydlu cynsail pendant ar gyfer ymddygiad derbyniol.

Er fy mod wedi dweud yn glir o’r dechrau fy mod yn awyddus i sicrhau y ceir craffu cadarn a dadleuon bywiog, ni fyddai pobl Cymru yn disgwyl i’r Siambr hon fod yn fan lle y gwneir cyhuddiadau ynghylch uniondeb personol yr Aelodau yn aml neu ar chwarae bach. Dylai pob Aelod feddwl yn ofalus ynglŷn â’r geiriau y maent yn eu defnyddio. Ni fyddaf yn caniatáu i batrwm o ymddygiad ddatblygu sy’n profi ein ffiniau yn fwriadol.

2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Felly, rydym ni’n symud ymlaen i’r eitem gyntaf ar yr agenda, sef y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith. A’r cwestiwn cyntaf, Rhianon Passmore.

Twristiaeth yn Islwyn

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddatblygu twristiaeth yn Islwyn er mwyn cynorthwyo adfywio economaidd? OAQ(5)0199(EI)

Gwnaf. Mae ein strategaeth dwristiaeth yn nodi ein hegwyddorion a’n blaenoriaethau ar gyfer cefnogi’r diwydiant ledled Cymru. Mae hyn yn cynnwys ymgyrchoedd marchnata yn y DU a thramor, mae’n cynnwys cyllid datblygu cyfalaf ar gyfer busnesau twristiaeth newydd a rhai sy’n bodoli eisoes, ac mae hefyd yn cynnwys cyllid refeniw ar gyfer prosiectau rhanbarthol.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae tasglu’r Cymoedd wedi mynegi eu dymuniad i ddefnyddio tirwedd naturiol wych Cymru i hyrwyddo ein heconomi. Yn Islwyn, mae gennym daith olygfaol ryfeddol coedwig Cwmcarn, ac mae angen ei hailagor. Mae gennym bwll glo hanesyddol gradd II Navigation, gyda’i adeiladau rhestredig gradd II. Ysgrifennydd y Cabinet, beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i arddangos y Cymoedd gwych i’r byd, ac o ganlyniad, i adfywio ein heconomi?

Wel, a gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei chwestiwn pellach, a diolch iddi hefyd am y diddordeb brwd y mae hi wedi’i ddangos yn yr economi ymwelwyr? Gallai’r Cymoedd elwa’n sylweddol o ganlyniad i’r twf yn nifer y twristiaid i Gymru dros y blynyddoedd diwethaf. Credaf fod y blynyddoedd thematig wedi bod yn arbennig o fuddiol, gan ganolbwyntio ar yr awyr agored, a chan adeiladu ar y prif reswm y daw pobl i Gymru ar wyliau, sef i brofi antur, yr awyr agored, darganfyddiadau’r awyr agored. Ac rwy’n gobeithio, yn y blynyddoedd i ddod, y bydd y cymunedau yn etholaeth fy nghyd-Aelod yn elwa ymhellach ar ein cynlluniau.

O ran y prosiectau penodol y cyfeiria’r Aelod atynt, credaf mai pwll glo Navigation yng Nghrymlyn, yn ôl pob tebyg, yw’r grŵp gorau o hen adeiladau pyllau glo sydd wedi goroesi yng Nghymru, ac fe’i cefnogwyd gan adnoddau ariannol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cyflawni gwaith adfer. Gobeithiaf y byddwn yn gweld rhagor o welliannau yno yn y blynyddoedd i ddod.

O ran taith olygfaol coedwig Cwmcarn, mae’n rhywbeth y gwn ei fod yn hynod boblogaidd pan oedd yn weithredol. Efallai y gallem edrych ar y Flwyddyn Darganfod yn 2019 fel ffordd, a chyfle, i ailagor y daith. Credaf y byddai’n wych ei gweld yn ailagor. Rwy’n cydnabod yr heriau—heriau ariannol—sy’n wynebu Cyfoeth Naturiol Cymru, ond rydym yn chwilio am ddigwyddiadau mawr, gweithgareddau newydd ac arloesol, y gellir eu lansio yn 2019, ac efallai y gallwn gyfarfod â’r Aelod i drafod y cyfleoedd ar gyfer y prosiect penodol hwnnw, ac yn fwy cyffredinol yn ei hetholaeth.

Ysgrifennydd y Cabinet, yn gynharach y mis hwn, dywedodd cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Twristiaeth Cymru ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd nad yw Cymru yn cyrraedd ei photensial llawn o ran denu twristiaid rhyngwladol sy’n gwario llawer o arian. Nododd nad yw Cymru’n gwneud cystal â’n cystadleuwyr yn rhyngwladol, gydag oddeutu 3 y cant o’r ymwelwyr a 2 y cant o’r gwariant. O ystyried pwysigrwydd twristiaeth i economi Cymru, pa gamau y bwriada Ysgrifennydd y Cabinet eu cymryd i gynyddu nifer y twristiaid rhyngwladol a ddaw i Islwyn, a Chymru yn gyffredinol? Diolch.

Ie, rwy’n gwerthfawrogi’r pwyntiau a wnaed gan yr Aelod. Mae’r her o ddenu ymwelwyr rhyngwladol allan o Lundain yn un sy’n wynebu pob rhanbarth y tu allan i Lundain. Nid yw Cymru’n unigryw yn hynny o beth. Ond rydym wedi atgyfnerthu ein hymdrechion i ddenu ymwelwyr i Gymru, ac mae’r canlyniadau, yn fy marn i, yn eithaf trawiadol, mewn perthynas ag ymweliadau o bob math. Gwelsom gynnydd o 15 y cant y llynedd ar y flwyddyn flaenorol. O ran ymweliadau dydd, gwelsom y niferoedd yn cynyddu i dros 103 miliwn y llynedd, ac o ran ymwelwyr rhyngwladol, roedd nifer y teithiau 10.8 y cant yn uwch y llynedd o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. O ran gwariant, sef yr hyn sy’n bwysig, mewn gwirionedd, i fusnesau yn yr economi ymwelwyr, gwelwyd cynnydd o fwy nag 8 y cant yn y symiau a wariwyd. Mae bellach yn ffaith, pan ddaw ymwelwyr i Gymru ar dripiau undydd, eu bod bellach yn gwario mwy y pen na’r cyfartaledd yn y DU. Ond nid ydym am orffwys ar ein bri—rydym am barhau i ddenu rhagor o ymwelwyr rhyngwladol i Gymru a dyna pam ein bod yn cynyddu ein gweithgarwch marchnata, yn sicrhau ein bod yn mynychu mwy o expos teithio tramor, ac yn gwahodd mwy o arbenigwyr twristiaeth ac awduron teithio ar deithiau ymgyfarwyddo, i sicrhau mwy o ddiddordeb yn y cynnig anhygoel sydd gennym yn ein gwlad.

Datblygu Economaidd yng Ngorllewin Cymru

2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i hyrwyddo datblygu economaidd yng ngorllewin Cymru yn ystod y pumed Cynulliad? OAQ(5)0201(EI)

Diolch. Rydym yn datblygu ymagwedd strategol tuag at ddatblygu economaidd yn seiliedig ar ffyniant i bawb, gan alluogi pob rhan o Gymru i elwa ar dwf economaidd a’r cyfle i sicrhau y caiff mwy o swyddi eu creu.

Diolch am hynny, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y gwyddoch, mae rhannau helaeth o fy etholaeth ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, a gall y penderfyniadau a wneir gan y parc effeithio’n sylweddol ar fusnesau sy’n gweithredu naill ai’n gyfan gwbl o’i fewn, neu’n rhannol o’i fewn ac yn rhannol yng ngweddill Sir Benfro. Er fy mod yn deall bod angen rhoi ystyriaeth i brif egwyddorion y parc, mae’n hanfodol i ddatblygiad economaidd yng ngorllewin Cymru fod busnesau’n gallu tyfu ac aeddfedu. A allwch amlinellu pa gefnogaeth y gall eich adran, ynghyd ag adran Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, ei chynnig i fusnesau er mwyn sicrhau y gwneir penderfyniadau yn y modd mwyaf amserol gan y parciau cenedlaethol i leihau’r effaith economaidd ar fusnesau sy’n gweithredu yn yr ardal? Fel arall, ofnaf y bydd nifer o fusnesau yn cael eu gyrru o orllewin Cymru.

Byddwn yn cytuno â’r Aelod fod angen i’n parciau cenedlaethol weithio mewn partneriaeth â’r busnesau sydd wedi’u lleoli ynddynt. Mewn sawl rhan o Gymru, rydym yn gweld parciau cenedlaethol rhagweithiol iawn yn gweithio’n effeithiol ac yn effeithlon iawn gyda busnesau mewn ysbryd o bartneriaeth. Mewn perthynas â’r parc cenedlaethol yn Sir Benfro, credaf ei fod wedi gwneud ymdrech gydunol i fanteisio ar Flwyddyn y Chwedlau a Blwyddyn y Môr sydd i ddod, gan weithio mewn partneriaeth â’r awdurdod lleol, ac yn hanfodol, gyda busnesau.

Mae’r Aelod yn llygad ei le fod yn rhaid i’r parc fod yn rhagweithiol wrth ymgysylltu â busnesau ac wrth gynorthwyo busnesau i—roeddwn yn mynd i ddweud, ‘ecsbloetio’—i fanteisio a gweithio gyda’r parc i ddenu mwy o ymwelwyr a sicrhau bod yr ymwelwyr yn aros am fwy o amser. Mae rhai atyniadau rhyfeddol ar arfordir Sir Benfro. Dyna pam rwy’n mynd yno bob haf ar fy ngwyliau personol a phreifat gyda fy nheulu. Mae’n lle anhygoel, ond hoffem droi ymweliadau dydd ac ymweliadau penwythnos yn ymweliadau wythnos o hyd, a dim ond drwy fabwysiadu dull partneriaeth a ddaw â’r holl fusnesau a darparwyr yr atyniadau a’r digwyddiadau hynny ynghyd y gallwch wneud hynny.

Bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ymwybodol bod maes cyhoeddi llyfrau yn bwysig iawn yng ngorllewin Cymru yn ogystal, ac rwy’n datgan buddiant, fel sydd yn y gofrestr, gan fod fy ngwraig a fy nith yn gweithio yn y maes yma. Hoffwn ofyn iddo am y maes cyhoeddi, ond gan ddechrau trwy dalu teyrnged, os caf fi, i Tony Bianchi—gŵr a fu farw tua thair wythnos yn ôl. Gŵr o Newcastle a ddysgodd Gymraeg ac a drodd yn llenor o fri yn yr iaith Gymraeg, a hyrwyddodd lenyddiaeth a chyhoeddi yng Nghymru, a phroffesiynoleiddio’r grefft hefyd.

Yn y cyd-destun hwnnw, mae ganddo, wrth gwrs, adroddiad gan yr Athro Medwin Hughes, sydd wedi creu tipyn bach o gur pen iddo fe o bryd i’w gilydd yn ystod yr wythnosau diwethaf. Hoffwn i ddiolch iddo fe am y ffordd y mae wedi ymateb i’r adroddiad a’r ffordd y mae wedi dod â phawb at ei gilydd i gytuno ffordd ymlaen. A gaf fi ofyn iddo fe yn benodol a wnaiff e wneud yn siŵr, gan ein bod ni mewn sefyllfa lle mae pobl sydd yn cael eu gweld yn cael eu heffeithio’n ddrwg gan yr adroddiad ar hyn o bryd yn codi eu lleisiau, y bydd hefyd yn gwrando ar y bobl hynny sydd efallai yn fwy tawel ar hyn o bryd ond sydd eisiau gweithio gydag ef, a phawb yn y maes, i sicrhau dyfodol ffyniannus i gyhoeddi yng Nghymru?

A gaf fi ddiolch i Simon Thomas am ei gwestiwn? Mae Simon yn gwneud pwynt pwysig y dylai pob un ohonom ymddwyn yn gyfrifol ac yn deg wrth ymateb i adroddiad o’r math hwn. A gaf fi hefyd dalu teyrnged i Tony Bianchi a’r gwaith anhygoel a gynhyrchwyd ganddo a’i ymrwymiad i lenyddiaeth Cymru? Bydd yn chwith ar ei ôl, rwy’n siŵr, nid yn unig yn etholaeth a rhanbarth fy nghyd-Aelod, ond ledled y wlad a thu hwnt o ystyried pa mor bellgyrhaeddol oedd ei waith. Mewn perthynas â chyhoeddi, credaf fod yr adroddiad wedi’i gynllunio i gryfhau llenyddiaeth a chyhoeddi yng Nghymru. Nawr ei fod wedi’i gynhyrchu, credaf ei bod yn bwysig i’r holl gyrff cyfrannog gydweithio i sicrhau bod pob corff cyfrannog yn cryfhau yn eu meysydd eu hunain, ac yn darparu’r hyn y maent wedi bod yn ei ddarparu’n dda hyd yma hyd yn oed yn well. Cyngor y celfyddydau, Cyngor Llyfrau Cymru a Llenyddiaeth Cymru—mae pob un ohonynt wedi darparu digwyddiadau, gwasanaethau a gweithgareddau godidog, ac yn gwneud llawer iawn i hyrwyddo cyhoeddi. Rwy’n awyddus i sicrhau bod y cyrff hyn yn parhau i gryfhau a ffynnu yn y dyfodol.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Galwaf nawr ar lefarwyr y pleidiau i ofyn eu cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet. Llefarydd Plaid Cymru, Adam Price.

Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, ym mis Tachwedd y llynedd, fe ddywedoch wrth Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau fod y Prif Weinidog wedi dweud ei fod yn disgwyl y byddai’r strategaeth economaidd ganddo erbyn gwanwyn 2017. Yn gynharach eleni, fe ddywedoch yn y Cyfarfod Llawn fod yn rhaid i chi aros tan i strategaeth ddiwydiannol y DU gael ei chyhoeddi ym mis Ionawr. Ar 8 Chwefror, roedd gwelliant gan y Llywodraeth i ddadl ar yr economi yn nodi:

‘cynllun Llywodraeth Cymru i gyhoeddi strategaeth drawsbynciol ar gyfer cefnogi twf economaidd yn nes ymlaen yn y gwanwyn.’

Dywedodd y Prif Weinidog, ar 16 Mai, mewn ymateb i gwestiwn gan David Rees,

‘Rydym ni’n bwriadu cyhoeddi ein dull strategol o greu ffyniant i bawb cyn toriad yr haf.’

Ac yn olaf, ychydig wythnosau yn ôl yn unig, Ysgrifennydd y Cabinet, ar 3 Gorffennaf, yn y pwyllgor materion allanol, fe ddywedoch y byddech yn cyhoeddi’r strategaeth hon yn ystod y tymor hwn. Ysgrifennydd y Cabinet, dyma ddiwrnod olaf y tymor: ble mae’r strategaeth?

Rwy’n falch o allu rhoi gwybod i’r Aelod fod y strategaeth drawsbynciol ‘ffyniant i bawb’ wedi cael ei chymeradwyo gan y Cabinet yr wythnos hon. Mae wedi’i chwblhau. Bydd yn cael ei chyhoeddi yn gynnar yn yr hydref wedi i’r Cynulliad hwn ddychwelyd, a dros yr haf, byddwn yn ymgymryd â—[Torri ar draws.]—rhaglen helaeth i ymgysylltu â rhanddeiliaid er mwyn mireinio’r gwaith ymhellach, yn seiliedig ar weithredu, wedi i’r strategaeth gael ei chyhoeddi.

Ar gyfer y cofnod, mae’r Aelodau’n holi hydref pa flwyddyn rydym yn sôn amdani. Felly, efallai yr hoffai Ysgrifennydd y Cabinet gofnodi hynny. Nawr, efallai mai un o’r rhesymau dros yr oedi yw oherwydd eich bod wedi gorfod ailysgrifennu’r strategaeth ar ôl canlyniadau eich penderfyniad ynglŷn â Cylchffordd Cymru. Nawr, ar 27 Mehefin, Ysgrifennydd y Cabinet, fe ddywedoch wrth y Cynulliad na allech gael ateb pendant gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar fater y fantolen hyd nes bod y contractau wedi cael eu llofnodi. Roedd perygl y gallech, fisoedd lawer yn ddiweddarach, fod â phrosiect ar y fantolen gyda’r holl oblygiadau a fyddai’n deillio o hynny. Rydych bellach wedi cyfaddef i mi mewn ateb ysgrifenedig fod dewis arall: gallech fod wedi gofyn am ddyfarniad dros dro gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Pam na wnaethoch chi hynny?

A gaf fi ddiolch, yn gyntaf oll, i’r Aelod am ei hwyliau da, gan mai hwn fydd ei gyfle olaf yn ystod y tymor hwn i fy holi? A gaf fi ddiolch iddo hefyd am y 12 mis rydym wedi’i gael o holi perfedd a chroesholi a chael fy arteithio, wrth inni anghytuno ar nifer o achlysuron, ond gobeithiaf ein bod wedi gallu cytuno ar nifer o bynciau hefyd? Rwy’n cydnabod ffydd yr Aelod ym mhrosiect Cylchffordd Cymru, ac rwyf hefyd yn cydnabod ei siom nad oedd modd inni ei gefnogi. Byddai bwrw ymlaen ag ef wedi bod yn gwbl anghyfrifol ar sail y risg a gyflwynwyd. Ac mewn perthynas â’r pwynt y mae’r Aelod yn ei wneud, gellir gofyn am gyngor dros dro gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar ddatblygiadau posibl, ond dylid gwneud hynny pan fo’r ddogfennaeth gytundebol ar ffurf sydd bron yn derfynol yn unig, ac yn dilyn penderfyniad mewn egwyddor i gynnig cefnogaeth y Llywodraeth.

Wel, Ysgrifennydd y Cabinet, gofynnodd eich Llywodraeth am ddyfarniad dros dro gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol pan wnaethoch benderfyniad mewn egwyddor ynglŷn â model buddsoddi cydfuddiannol eich Llywodraeth eich hun ym mis Hydref 2016. Yn ychwanegol at hynny, onid yw’n wir, Ysgrifennydd y Cabinet, fod darpariaeth gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd ar gyfer cynigion polisi nad ydynt ar gam bron yn derfynol? Mae eu canllawiau dosbarthu, y cyfeirioch atynt yn eich ateb i mi, yn dweud hyn:

gall adrannau llywodraeth ofyn am gyngor ar gynnig ar gam cynnar o’i ddatblygiad. Mewn achosion o’r fath, bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn rhoi cyngor dros dro ar ddosbarthiad disgwyliedig y cynnig, yn seiliedig ar yr wybodaeth sydd ar gael ar y pryd.

Felly, fy nghwestiwn i chi yw hwn: a ofynnoch chi am gyngor, ac a gawsoch chi gyngor dros dro gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ynglŷn â dosbarthiad disgwyliedig cynnig Cylchffordd Cymru? A gadewch i ni fod yn glir: nid wyf yn gofyn a siaradoch chi â hwy ac yna ffurfio eich barn eich hun ar sail yr hyn a ddywedasant, ond a wnaethoch chi ofyn iddynt am eu cyngor dros dro yn y termau a nodir yn eu canllawiau? A chan fod Ysgrifennydd y Cabinet yn fy ngwahodd i ddod â’r craffu i ben ar nodyn mwy cadarnhaol, a gaf fi ofyn un peth olaf iddo? Pe bai prosiect Cylchffordd Cymru yn cael ei achub o’r rwbel gan yr awdurdodau lleol yn y dinas-ranbarth—gyda’r gobaith bellach, wrth gwrs, y gallai Fformiwla 1 fod yn bosibilrwydd hefyd—a phe gofynnid i Lywodraeth Cymru, nid am ei harian, ond am ei bendith, a fyddech yn croesawu’r syniad o achub y prosiect yn y ffordd hon?

A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiynau pellach? Wrth gwrs, yr un cwestiwn mawr rydym yn dal i aros am ateb iddo yw a yw’n cytuno â’n penderfyniad a wnaed y mis diwethaf, ac yn anffodus nid oes cytundeb, ac rwy’n siŵr fod hynny’n dangos y byddai’r Aelod wedi bod yn fodlon cymeradwyo’r prosiect, a dychwelyd yma, yn ôl pob tebyg ymhen chwe mis, i ddweud wrth y Siambr fod yn rhaid iddo gau’r drws ar dros £300 miliwn o raglenni cyfalaf, sydd, fel rwyf wedi’i ddweud yn y Siambr hon o’r blaen, yn cyfateb i 5,000 o gartrefi fforddiadwy neu 10 ysgol neu un uwchysbyty. Rwy’n galw hynny’n anghyfrifol; rwy’n galw hynny’n eithriadol o ddi-hid. [Torri ar draws.] Clywaf arweinydd UKIP—mae’r tymor clyweliadau ar gyfer pantomeimiau ar y gweill—yn dadlau o’r esgyll, ond y pwynt yw y byddai yntau hefyd wedi cymeradwyo’r prosiect hwn mewn modd anghyfrifol tu hwnt.

Y ffaith yw ein bod wedi cymryd camau cyfrifol ar bwnc dadleuol, sydd wedi tanio angerdd a safbwyntiau yn y Cymoedd, ond rydym bellach yn symud ymlaen gyda gweledigaeth glir ar gyfer Blaenau’r Cymoedd a byddwn yn ei chyflawni. Mae pobl Glynebwy, Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd wedi aros yn ddigon hir. Rydym yma i gyflawni a byddwn yn gwneud hynny.

Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae prosiectau seilwaith wedi cael eu gohirio’n rhy aml gan ystyriaethau gwleidyddol tymor byr, ac mae hyn yn aml wedi arwain at gostau cynyddol a chanslo prosiectau yn gyfan gwbl. Yn ogystal, pan fo lefelau uchel o ansicrwydd ynghlwm wrth gynlluniau seilwaith, o bosibl, yn aml nid yw buddsoddwyr sector preifat yn awyddus i ddarparu cefnogaeth ariannol ar gyfer y mathau hyn o brosiectau. Pan fo’r seilwaith wedi’i gynllunio a’i ddarparu yng nghyd-destun gweledigaeth gadarn, gredadwy a hirdymor, mae’r prosiectau hyn yn aml yn denu lefel uwch o ddiddordeb a buddsoddiad sector preifat. Felly, a gaf fi ofyn, efallai yng ngoleuni digwyddiadau diweddar hefyd, i chi ailystyried rhoi’r comisiwn seilwaith cenedlaethol ar sail statudol? Byddwn hefyd yn awgrymu y byddech yn colli cyfle drwy beidio â gwneud hynny. Credaf mai’r hyn sydd angen i’r Llywodraeth ei wneud yw dangos ymrwymiad gwirioneddol i greu dull sefydlog a hirdymor o ddatblygu seilwaith yng Nghymru.

A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn, yn ogystal â’r gwaith y bu’n ei arwain mewn perthynas ag asesu’r broses o sefydlu comisiwn seilwaith cenedlaethol Cymru? Wrth gwrs, rydym eisoes yn defnyddio mathau arloesol o gyllid. Rydym yn gwneud hynny gyda’r gwaith o ddeuoli’r A465, a byddwn yn parhau i wneud hynny. Mae’r gwaith sy’n mynd rhagddo ar y comisiwn seilwaith yn digwydd yn gyflym. Ar hyn o bryd, rydym yn edrych ar benodi cadeirydd ac aelodau’r comisiwn hwnnw yn gynnar yn yr hydref, ac fel rwyf wedi’i ddweud o’r blaen, byddwn yn adolygu gweithgarwch y comisiwn cyn diwedd tymor y Cynulliad hwn. Rwyf wedi ymrwymo i wneud hynny. Hyd yn hyn, nid oes unrhyw dystiolaeth symbylol wedi dod i law i’w roi ar sail statudol. Fodd bynnag, byddwn yn adolygu effeithiolrwydd a chyflawniad y comisiwn erbyn diwedd y Cynulliad hwn.

Wel, carwn awgrymu, Ysgrifennydd y Cabinet, fod arnom angen dull mwy hirdymor a sefydlog yng Nghymru—yn fwy nag erioed o’r blaen. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae arnaf ofn fod Llywodraeth Cymru wedi llywyddu dros nifer o brosiectau mawr sydd wedi methu. Mae hynny wedi creu dryswch ac ansicrwydd ymhlith darpar fuddsoddwyr sector preifat, ac mae’r methiant a’r broses mewn perthynas â Cylchffordd Cymru—fel y soniodd Adam Price yn gynharach—yn un enghraifft lle y gwelwn lai o hyder, o bosibl, ymysg buddsoddwyr fod Cymru yn agored i fusnes yn wir. A ydych chi, Ysgrifennydd y Cabinet, yn cydnabod y dylid dilyn y broses o greu’r comisiwn seilwaith drwy gyflwyno deddfwriaeth i sicrhau bod gan y comisiwn y pwysau a’r dylanwad ychwanegol sydd eu hangen arno i gyflawni ei waith?

Fel rwyf wedi’i ddweud, byddwn yn asesu effeithiolrwydd y comisiwn erbyn diwedd tymor y Cynulliad hwn. Byddwn yn ei sefydlu erbyn diwedd eleni. Mae’n rhaid i mi anghytuno â’r honiad a wnaed gan yr Aelod ei bod yn ymddangos efallai nad yw Cymru yn agored i fusnes, o ystyried y canlyniadau diweddaraf ar gyfer mewnfuddsoddi, sy’n dangos, rwy’n credu, mai hon oedd y flwyddyn fwyaf llwyddiannus ond dwy. Yn wir, cyrhaeddodd y buddsoddiad o’r DU yng Nghymru y lefel uchaf erioed. Rydym yn parhau â’n hymdrechion i ddenu prosiectau mawr. Yr wythnos diwethaf, gallasom gyhoeddi buddsoddiad gan Construcciones y Auxiliar de Ferrocarriles—buddsoddiad enfawr a fydd yn dod â newid aruthrol i Gasnewydd ac economi de-ddwyrain Cymru, gan greu 300 o swyddi, ond hefyd, yn hollbwysig, un sy’n cynnig potensial enfawr ar gyfer ehangu. Mae hynny’n rhywbeth y byddwn yn adeiladu arno. Ers mis Mai eleni, rydym wedi cyhoeddi bod mwy na 500 o swyddi wedi’u creu eleni drwy ein cymorth ni, ac rydym hefyd yn gweithio i greu llawer mwy o swyddi ledled—a hynny yng Nghymru’n unig dros yr wyth wythnos ddiwethaf. Ond rydym hefyd yn gweithio gyda ffrwd o fuddiannau ar hyn o bryd i greu rhagor o gyfleoedd cyflogaeth dros y misoedd i ddod.

Ac yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, os caf fynd ar drywydd mater a gododd Adam Price yn ei gwestiwn cyntaf efallai, mae peth dryswch i mi o hyd yn hyn o beth, yn sicr mewn perthynas â ‘ffyniannus a diogel’ a’ch strategaeth economaidd. Rwy’n ymwybodol eich bod wedi dweud wrth y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y byddech yn ei chyhoeddi yn ystod y tymor hwn; rwy’n ymwybodol eich bod wedi dweud yr wythnos diwethaf ym Mhwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, y byddai’n digwydd yn yr hydref; fodd bynnag, yn y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog ddydd Gwener yr wythnos hon, gofynnais hynny i’r Prif Weinidog, a dywedodd y byddai ‘ffyniannus a diogel’ yn cael ei chyhoeddi yn ystod y tymor hwn. Felly, mae’n rhaid i mi ddweud fy mod ychydig yn ddryslyd. Felly, gan gofio’r hyn a ddywedodd y Llywydd ar ddechrau trafodion heddiw, pwy sy’n iawn? Ai chi neu’r Prif Weinidog?

Gallaf roi sicrwydd i’r Aelod—gallaf roi sicrwydd i’r Aelod oherwydd bod pob un ohonom yno yn y Cabinet—fod ‘ffyniant i bawb’ wedi cael ei derbyn, wedi cael ei chymeradwyo gan bob aelod o’r Cabinet ddydd Mawrth, ac y bydd yn cael ei chyhoeddi cyn gynted ag y byddwn yn dychwelyd.

Diolch, Llywydd. Nid wyf yn siŵr a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cofio hyn, ond cyn belled yn ôl â ddoe, bûm yn eich holi ynglŷn ag argaeledd cyllid, yn enwedig ar gyfer mentrau bach a chanolig eu maint yn y sector ymchwil a datblygu. Yn eich tystiolaeth i Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yr wythnos diwethaf, fe ddywedoch y byddai banc datblygu Cymru yn symud oddi wrth grantiau uniongyrchol tuag at fenthyciadau ad-daladwy. Onid ydych yn credu y byddai hyn yn peri rhwystr penodol i gwmnïau o’r fath, gan ei bod yn bosibl na fyddant yn gweld manteision ariannol eu hymchwil am sawl blwyddyn?

Wel, mae angen cydbwyso cefnogaeth uniongyrchol ar ffurf grantiau gyda benthyciadau ad-daladwy, gan fod benthyciadau ad-daladwy yn cynnig dull bytholwyrdd sy’n gallu ailgylchu buddsoddiadau i mewn i fusnesau eraill, ond rwy’n derbyn y pwynt y mae’r Aelod yn ei wneud, nad benthyciad ad-daladwy yw’r ateb a’r ffordd orau o gefnogi pob busnes. Am y rheswm hwnnw, byddwn yn parhau â mathau eraill o gymorth uniongyrchol, boed hynny’n grantiau, neu’n wir, yn gyngor, drwy Busnes Cymru a’r banc datblygu ei hun.

Wel, maddeuwch i mi os wyf yn parhau i ymddangos yn rhwystredig, Ysgrifennydd y Cabinet, ond mae gennyf gysylltiad personol ag etholwr sy’n chwilio am arian ar gyfer prosiect sydd i’w weld yn bodloni holl feini prawf Llywodraeth Cymru, gan ei fod yn ymwneud â nanotechnoleg arloesol, bydd ei effaith amgylcheddol yn hynod o fuddiol ac mae ganddo botensial enfawr o ran twf, ac eto, er bod rhywfaint o arian wedi’i ddarparu o ganlyniad i’w ymgysylltiad â phrifysgolion Bangor ac Abertawe, rwyf wedi gweld drosof fy hun pa mor anodd yw cael gafael ar ragor o gyllid i sicrhau bod y cynnyrch hwn yn dwyn ffrwyth. Yn sicr, Ysgrifennydd y Cabinet, os yw Cymru am lwyddo gyda’i dyheadau i fod yn arweinydd byd yn y dechnoleg ecogyfeillgar hon, mae’n rhaid i ni sicrhau bod gennym brosesau ariannu a fydd yn caniatáu i hyn ddigwydd.

Rhaid, yn wir. Mae cyllid ymchwil yn gwbl hanfodol, a dyna pam rydym wedi bod yn glir iawn y dylai Llywodraeth y DU wneud iawn am unrhyw gyllid ymchwil a allai gael ei golli, o bosibl, pan fyddwn yn gadael yr UE. O ran y cwmni penodol y sonia’r Aelod amdano, nid yw’n glir a oes ganddynt reolwr cyfrif yn Busnes Cymru i’w cefnogi, ond byddwn yn fwy na pharod i gysylltu â’r cwmni, os gall yr Aelod ddarparu manylion yn ei gylch, a sicrhau bod Busnes Cymru yno i roi cefnogaeth a chyfeirio’r cwmni at y dull gorau o gyllido eu cynnyrch iddo allu cyrraedd y farchnad.

Datblygu Economaidd yng Nghymoedd De Cymru

3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu economaidd yng nghymoedd de Cymru? OAQ(5)0203(EI)

Gwnaf. Yfory byddwn yn cyhoeddi ‘Ein Cymoedd, Ein Dyfodol’, cynllun gweithredu lefel uchel, sy’n adeiladu ar waith tasglu’r Cymoedd, ac yn ogystal â hyn, byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn gwelliannau seilwaith a sgiliau a’r amgylchedd cyffredinol ar gyfer busnes ledled Cymoedd de Cymru.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb. Rwy’n siŵr y byddai’n cytuno â mi nad yw treftadaeth ddiwydiannol a gweithgynhyrchu’r Cymoedd yn rhywbeth y dylid ei chyfyngu i’w gorffennol, ond dylai fod yn ganolog i’w dyfodol hefyd. Mae heriau arbennig yn ein hwynebu o ran ymchwil a datblygu a chynhyrchiant, a gobeithiaf na fydd yn tanamcangyfrif potensial Llywodraeth Cymru i wneud ymyriadau ystyrlon a all drawsnewid rhagolygon economaidd y rhanbarth hwnnw. Y mis diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban y bydd yn creu sefydliad gweithgynhyrchu cenedlaethol yn yr Alban, yn seiliedig ar y ganolfan weithgynhyrchu uwch lwyddiannus iawn yn Sheffield. Mae gan yr un yn Sheffield dros 100 o bartneriaid preifat, ac mae’n cynnal swyddi tra medrus â chyflogau uchel yn y rhanbarth hwnnw. Felly, gan fod ganddo ychydig mwy o amser yn awr i chwarae â’i strategaeth economaidd dros yr haf, tybed a allai edrych ar rinweddau creu sefydliad gweithgynhyrchu arbenigol, ac ar ei leoli, wrth gwrs, yng Nghymoedd de Cymru.

Rwy’n falch iawn o ddweud wrth yr Aelod fy mod eisoes wedi gwneud hynny. Yn wir, yr wythnos diwethaf cyhoeddais y bwriad i adeiladu sefydliad gweithgynhyrchu uwch yn seiliedig ar y ganolfan ymchwil weithgynhyrchu uwch yn Sheffield, ac a fydd yn cael ei ddarparu gyda Phrifysgol Sheffield a phrifysgolion yng Nghymru. Cymeradwyais y cyllid ar gyfer cam cyntaf y sefydliad yr wythnos diwethaf.

Fy ngweledigaeth hefyd, fel rhan o’r parc technoleg y byddwn yn ei ddatblygu yng Nglynebwy, yw y byddwn yn gweld canolfan ragoriaeth ar gyfer gweithgynhyrchu uwch yn cael ei ffurfio yno hefyd. Mae model y ganolfan ymchwil weithgynhyrchu uwch eisoes wedi’i brofi. Mae gan sefydliadau a busnesau fynediad at werth £0.5 biliwn o offer ymchwil. Dyna pam fod y model mor ddeniadol. Bydd y sefydliad gweithgynhyrchu ac ymchwil uwch yng ngogledd Cymru yn adeiladu ar y model hwnnw, a gellais ddangos hefyd, yn ôl yr achos busnes, y bydd y sefydliad gweithgynhyrchu ac ymchwil uwch yng ngogledd Cymru ag effaith economaidd o hyd at £4 biliwn ar werth ychwanegol gros yn yr 20 mlynedd nesaf. Rwy’n awyddus i sicrhau ein bod yn ailadrodd model o lwyddiant o’r math hwnnw yng Nghymoedd de Cymru.

Edrychaf ymlaen at graffu ar ‘Ein Cymoedd, Ein Dyfodol’ yn y Siambr hon, oherwydd yn sicr, mae arnom angen gweledigaeth drawsffurfiol ar gyfer y Cymoedd. Nid wyf yn siŵr a fyddai parc tirlun y Cymoedd yn ganolbwynt, ond gallai fod yn weledigaeth drawsffurfiol. Mae’n rhaid i ni ddechrau cydnabod gwir botensial yr adnodd hwn. Arferai’r Cymoedd fod ymhlith mannau harddaf Prydain, a byddai teithwyr o bob rhan o’r DU yn dod i baentio lluniau ac ysgrifennu barddoniaeth am y dirwedd wych hon. Dylent ddod eto, a mwy ohonynt. Cymeradwyaf y math o weledigaeth sydd gan eich cyd-Aelod, Huw Irranca-Davies, ar gyfer coedwig y Cymoedd, er enghraifft. Mae potensial mawr yn hynny o beth, ac mae angen inni sicrhau yn awr fod gennym weledigaeth sy’n cyd-fynd â hynny.

A gaf fi ddiolch i David Melding am ei gwestiwn, a hefyd am gyfeirio, unwaith eto yn y Siambr hon, at bwysigrwydd llesiant i’r economi, a’r cyfraniad y gall y dirwedd naturiol ei wneud i’n llesiant? Bydd fy nghyd-Aelod, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, yn gwneud datganiad yn y Siambr ynglŷn â’r syniad o barc y Cymoedd. Rwy’n siŵr ei fod yn syniad y byddwch yn ei groesawu’n fawr iawn, ac rwy’n siŵr y bydd yn cynnwys cryn dipyn o goedwigaeth a gweithgareddau iechyd awyr agored.

Ysgrifennydd y Cabinet, o ystyried y cyfraniad y mae twristiaeth yn ei wneud i ddatblygiad economaidd ledled y wlad, rwy’n falch o nodi’r llwyddiant ysgubol rydym wedi’i weld gyda’r cynllun cymorth buddsoddi mewn twristiaeth ledled Cymru. Ond mae’n peri pryder i mi nodi, o’r 205 o gynlluniau sydd wedi derbyn cynigion am gymorth grant o dan y cynllun cymorth buddsoddi mewn twristiaeth ers mis Ebrill 2011, mai pedwar yn unig o’r rheini sydd wedi’u lleoli yn rhanbarth Cymoedd de Cymru. Rwy’n falch iawn o ddweud bod Rock UK yn fy etholaeth yn un ohonynt. O ystyried yr harddwch gwledig y mae David Melding newydd fod yn siarad amdano, a threftadaeth ddiwydiannol a chymdeithasol gyfoethog yr ardal, a ydych yn rhannu fy mhryder ynglŷn â’r nifer gyfyngedig sydd wedi manteisio ar hyn yn y Cymoedd, hyd yn oed o ystyried bod y cynllun cymorth buddsoddi mewn twristiaeth yn gyllidwr pan fetha popeth arall? A gaf fi ofyn a fyddech yn ystyried gwneud rhywfaint o ymchwil mewn perthynas â pham nad yw busnesau yn yr ardal hon yn barod i fanteisio ar y ffynhonnell benodol hon o gyllid ac a oes lle, mewn gwirionedd, i ehangu’r cynllun—i ehangu cwmpas y cynllun?

A gaf fi ddiolch i Dawn Bowden am ei diddordeb unwaith eto yn yr economi ymwelwyr? Yn rheolaidd yn y Siambr hon, mae Dawn wedi cydnabod gwerth posibl twristiaeth i gymunedau yn ei hetholaeth. Rhannaf ei phryderon ynglŷn â nifer y prosiectau a ariennir drwy’r cynllun cymorth buddsoddi mewn twristiaeth sydd wedi cael eu rhoi ar waith, mewn gwirionedd, yn y cymunedau y soniai amdanynt. Am y rheswm hwnnw, gwnaethom waith i geisio deall pam fod llai o fusnesau wedi dangos diddordeb yn y Cymoedd nag mewn ardaloedd eraill yng Nghymru.

Fel rhan o’r gwaith hwnnw, rydym hefyd wedi sicrhau cyllid twristiaeth o’r rhaglen datblygu gwledig, a fydd yn ein galluogi i ddarparu cyfradd ymyrraeth uwch i fusnesau, a bydd fy swyddogion yn cynnal astudiaeth gwmpasu a rhaglen ymgysylltu gyda’r bwriad o allu datblygu mwy o atyniadau twristiaeth creadigol, diddorol ac arloesol sy’n newid delwedd yng nghymunedau’r Cymoedd.

Credaf fod yr Aelod eisoes wedi nodi un atyniad penodol sydd wedi gweddnewid pethau yn ei chymuned. Ceir llawer o rai eraill. Mae gweithgareddau sy’n seiliedig ar feicio a beicio mynydd, er enghraifft, megis Parc Beicio Cymru, wedi bod yn llwyddiannus tu hwnt ac wedi newid canfyddiadau pobl ynglŷn â’r ardal.

Digwyddiadau Mawr yng Ngogledd Cymru

4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer cynnal digwyddiadau mawr yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0195(EI)

Gwnaf. Eleni, rydym yn cefnogi amrywiaeth o ddigwyddiadau chwaraeon a digwyddiadau diwylliannol yng ngogledd Cymru, gan gynnwys FFOCWS Cymru, Gŵyl Undod Hijinx, GŵylGrai, The Good Life Experience, a Rali Cymru Prydain Fawr. Rydym yn awyddus i ddenu rhagor o ddigwyddiadau rhyngwladol pwysig i Gymru ac rydym yn cynnal trafodaethau parhaus gyda phartneriaid yng Ngogledd Cymru i nodi cyfleoedd newydd.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n falch o glywed am y trafodaethau parhaus i nodi cyfleoedd. Fe fyddwch yn ymwybodol fod gogledd Cymru, dros y misoedd diwethaf yn unig, wedi cael cryn lwyddiant yn cynnal nifer o gyngherddau stadiwm amlwg, o Olly Murs ar y Cae Ras, i Access All Eirias ym Mharc Eirias, sydd bellach yn ddigwyddiad mawr blynyddol, a Llanfest yn eich etholaeth, a oedd yn cynnwys y Manic Street Preachers eleni.

Mae Sir y Fflint hefyd yn gartref i dîm rygbi cynghrair cenedlaethol Cymru, yr unig dîm cenedlaethol sydd wedi’i leoli yng ngogledd Cymru, a thîm a fydd, yn ddiweddarach eleni, yn cystadlu yng Nghwpan Rygbi Cynghrair y Byd yn Awstralia, Seland Newydd, a Papua Gini Newydd, gyda chefnogaeth llawer o sefydliadau a busnesau lleol yn fy etholaeth, gan gynnwys siwtiau ac esgidiau gan Vaughan Davies o’r Wyddgrug.

Rwy’n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet a chyd-Aelodau eraill yn ymuno â mi i ddymuno pob lwc i dîm rygbi undeb Cymru—tîm rygbi cynghrair Cymru, mae’n ddrwg gennyf, yng Nghwpan Rygbi Cynghrair y Byd, ond rwyf hefyd yn ymwybodol, wrth siarad ag etholwyr ac eraill, fod cefnogaeth gyhoeddus gynyddol i ni allu cynnal digwyddiadau a thimau mawr yng ngogledd Cymru, ynghyd â’r buddsoddiad mewn seilwaith sydd ei angen i ni allu ehangu ein cynnig.

Felly, a gaf fi annog ymrwymiad pellach gan Lywodraeth Cymru i fuddsoddi ymhellach yn ein hardal, er mwyn dangos ein gallu gwell i gynnal digwyddiadau, boed hynny mewn lleoliadau eiconig a hanesyddol fel Castell y Fflint, stadia sy’n bodoli eisoes, neu gan edrych un diwrnod efallai ar stadiwm neu leoliad yn y dyfodol yn ardal Sir y Fflint yng ngogledd-ddwyrain Cymru?

Gallwch, ar bob cyfrif. Rwy’n edrych ymlaen at fod yng nghastell y Fflint ddydd Gwener, lle byddwn yn datgelu dyluniad gosodiad celfyddydol o’r radd flaenaf, a fydd nid yn unig yn ysbrydoli pobl y Fflint, ond pobl gogledd Cymru a thu hwnt, rwy’n siŵr. Hoffwn ddymuno’n dda hefyd i dîm Cymru yng Nghwpan Rygbi Cynghrair y Byd. Rwy’n siŵr y byddant yn perfformio’n wych ac yn destun balchder i ni, a dymunaf bob hwyl i bob un ohonynt.

Yn ddiweddar, bu swyddogion yn gweithio gyda 30 o drefnwyr digwyddiadau yng ngogledd Cymru i wneud gwaith cwmpasu ar gyfleoedd pellach. Ar hyn o bryd, rydym yn gwario oddeutu £1.7 miliwn ar gefnogi digwyddiadau mawr yng ngogledd Cymru, ond rydym yn awyddus i adeiladu ar yr enw da sydd gan ogledd Cymru yn fyd-eang erbyn hyn fel un o’r cyrchfannau gorau ar gyfer gwyliau ac ar gyfer gweithgareddau antur yn yr awyr agored. Felly mae’n rhaid inni barhau â’n buddsoddiad yn y cynhyrchion arloesol hyn megis Surf Snowdonia, yn ogystal â’r digwyddiadau mawr arloesol, sy’n gallu denu ymwelwyr newydd yn ogystal â’r ymwelwyr sydd gennym eisoes.

Efallai y bydd yr Aelod yn ymwybodol hefyd fod astudiaeth wedi’i chomisiynu ar gyfleusterau chwaraeon. Mae gwaith ar y gweill i asesu pa gyfleusterau sydd eu hangen i allu cynnal digwyddiadau mawr yng Nghymru yn y dyfodol. Bydd yr astudiaeth honno’n edrych ar bob rhan o Gymru a bydd yn asesu’r seilwaith presennol yn ogystal â’r galw am stadia chwaraeon newydd. Efallai y byddai o ddiddordeb i’r Aelod hefyd fy mod wedi cyfarfod â Chymdeithas Cwrlio Cymru yn ddiweddar i drafod adeiladu cyfleuster pwrpasol yn yr etholaeth gyfagos, Alun a Glannau Dyfrdwy.

Ar 9 Gorffennaf, cefais y pleser, gyda llawer o bobl eraill, o wylio Bryan Adams ym Mharc Eirias ym Mae Colwyn, a Little Mix y noson cynt wrth gwrs, ac edrychaf ymlaen, fel chithau, o bosibl, at un o uchafbwyntiau fy mlwyddyn, ar 4 i 6 Awst, sef Gŵyl Blŵs a Soul yr Wyddgrug—hollol ardderchog: cerddoriaeth wych, cwrw lleol gwych, bwyd gwych, a thywydd gwych, hei lwc. Gan gydnabod bod ymchwil ac arfer yn dangos bod digwyddiadau cerddoriaeth boblogaidd mawr yn ffordd wych o ysgogi’r economi ymwelwyr yng ngogledd Cymru, pa rôl y mae Llywodraeth Cymru yn ei chwarae, neu ba rôl y gallai ei chwarae, yn helpu i hyrwyddo hynny o fewn y cynnig rhanbarthol ehangach?

A gaf fi ddiolch i Mark Isherwood am ei gwestiwn? Edrychaf ymlaen at ymuno ag ef yng Ngŵyl Blŵs a Soul yr Wyddgrug ym mis Awst. Efallai y gallwn rannu peint yn yr Alehouse neu’r Glasfryn wedi hynny. Rwy’n siŵr y bydd yn ddigwyddiad gwych. Mae gan yr Wyddgrug enw da iawn yn y rhanbarth am gynnal digwyddiadau diwylliannol, bwyd a diod a chwaraeon, ac rwy’n siŵr y bydd yr Ŵyl Blŵs a Soul yn llwyddiant ysgubol. Drwy’r gronfa arloesi cynnyrch twristiaeth, rydym yn ariannu nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau rhanbarthol a lleol a gynlluniwyd i gyd-fynd â’r blynyddoedd thematig, ac yng ngogledd Cymru eleni, rydym wedi ariannu nifer o ddigwyddiadau i fanteisio ar Flwyddyn y Chwedlau, yn fwyaf nodedig yng Nghonwy, lle y cynhaliwyd gŵyl anhygoel yn ddiweddar, yn seiliedig ar yr hyn a gâi ei alw’n dwrnamaint, a oedd yn cynnwys ymwan. Rydym yn gweithio gyda chymunedau lleol, darparwyr twristiaeth, a threfnwyr digwyddiadau drwy Croeso Cymru i hyrwyddo’r holl weithgareddau sy’n digwydd, ond yn enwedig gyda’r rheini sy’n cyd-fynd â’r blynyddoedd thematig. Wrth ddod â’r sector cyfan ynghyd drwy ddefnyddio’r blynyddoedd thematig, rydym wedi sylwi ein bod wedi gallu sicrhau gwerth ychwanegol o ran ein cynnig, a dyna sydd wedi arwain at y cynnydd sylweddol yn y gwariant marchnata a gynhyrchwyd o ganlyniad i’r blynyddoedd thematig, cynnydd y credwn ei fod tua 18 y cant, y llynedd yn unig.

Un o’r canolfannau sydd yn ceisio sefydlu ei hunan, wrth gwrs, fel lle ar gyfer cynnal digwyddiadau gyda rhai o’r bandiau mawr yw’r Cae Ras. Rydw i’n gyson wedi codi yr angen i fuddsoddi yn y Cae Ras gyda chi, achos mae angen iddo fe fod—ac mi ddylai fe fod—yn ganolfan adloniant o bwys, ond hefyd, wrth gwrs, yn stadiwm chwaraeon o ansawdd rhyngwladol. Nawr, rydym ni’n gyson yn clywed y Llywodraeth yma yn gwneud datganiadau rhagweithiol iawn ynglŷn â chanolfannau cynadleddau ac yn y blaen. Pryd a welwn ni’r Llywodraeth yn bod yr un mor rhagweithiol wrth sicrhau buddsoddiad yn y Cae Ras?

A gaf fi ddiolch i Llyr am ei gwestiwn? Gwn ei fod yn rhannu diddordeb brwd iawn yn y pwnc hwn gyda fy nghyd-Aelod Lesley Griffiths, a’r Aelod Seneddol lleol, Ian Lucas. Rwy’n siŵr y byddai pob un ohonoch, fel minnau, yn hoffi gweld buddsoddiad yn y Cae Ras er mwyn iddo ddod yn ganolbwynt mwy gweithredol a bywiog yn y gymuned yn Wrecsam, ac yn wir, yn y rhanbarth ehangach. Yn ddiweddar, rwy’n falch o ddweud bod fy swyddogion wedi cyfarfod ag ymddiriedolaeth bêl-droed Wrecsam. Buont yn trafod y weledigaeth ar gyfer y stadiwm, ond bydd rôl allweddol gan yr awdurdod lleol i’w chwarae yn llunio uwchgynllun ar gyfer y dref er mwyn sicrhau bod unrhyw fuddsoddiad yn y stadiwm yn y dyfodol yn cydweddu â chyfleusterau eraill a gwasanaethau eraill sy’n cael eu datblygu yn Wrecsam, ond yn fy marn i, nid oes amheuaeth fod y Cae Ras yn haeddu buddsoddiad er mwyn sicrhau y gall barhau i fod yn stadiwm ryngwladol hynaf Prydain, Ewrop, ac o bosibl, y byd. I wneud hynny, bydd angen buddsoddiad pellach, ac ni ddaw hwnnw heb achos busnes cadarn a gweledigaeth glir iawn, a dyna’n union rydym ni, drwy fy swyddogion, yn ceisio’i sicrhau yn awr.

Statws Cymru fel Rhan Dlotaf y Deyrnas Unedig

5. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i newid statws Cymru fel rhan dlotaf y Deyrnas Unedig? OAQ(5)0212(EI)

Wel, ar fesurau incwm a chyfoeth aelwydydd, nid Cymru yw rhan dlotaf y DU. Serch hynny, mae angen i ni wella cyfoeth a llesiant yn sylweddol. Felly, rydym yn cymryd ystod o gamau i ddarparu ffyniant i bawb yng Nghymru, gan gynnwys buddsoddi mewn sgiliau a seilwaith a chreu amgylchedd lle y gall busnesau sefydlu a thyfu.

Wel, diolch am eich ateb, Gweinidog y Cabinet. Gofynnais y cwestiwn gan yr ymddengys ein bod, wedi blynyddoedd lawer o’r sefydliad hwn, yn gymharol dlotach bellach nag yr oeddem ar ddechrau datganoli. Pam, ar ôl biliynau o bunnoedd o’r hyn a elwir yn ariannu strwythurol Ewropeaidd, ein bod mewn sefyllfa o’r fath? Yn sicr, mae’n bryd mynd i’r afael â’r sefyllfa hon gydag atebion cwbl wahanol i’r rhai a ddefnyddiwyd o’r blaen. Mae’n bryd i Gymru droi oddi wrth economi sy’n cael ei dominyddu gan y sector cyhoeddus ac at un sy’n bwerdy diwydiannol dynamig sy’n cystadlu gyda’r gorau yn y byd. Mae gennym yr adnoddau, y sgiliau, a phoblogaeth weithgar, ddiwyd i sicrhau bod hyn yn digwydd. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet yn meddu ar y priodoleddau hynny, felly a wnaiff eu defnyddio i lywio’r chwyldro diwydiannol newydd hwn yng Nghymru ac i roi terfyn ar y cylch diddiwedd hwn o dlodi?

A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn, y diddordeb brwd y mae’n ei ddangos yn y maes hwn, a’i angerdd wrth siarad am yr angen i dyfu cyfoeth yn ei grynswth yn ogystal ag ar lefel gymunedol, gan wneud yn siŵr ein bod yn lledaenu ffyniant yn fwy cyfartal ar draws Cymru? O ran gweithgareddau ers datganoli, Cymru sydd wedi gweld y cynnydd mwyaf ond pedwar mewn gwerth ychwanegol gros y pen o gymharu â 12 rhanbarth a gwlad y DU. Rydym wedi gweld y nifer uchaf erioed o bobl yn cael gwaith, mae diweithdra ar gyfradd isel iawn yn gyson, ac rydym bellach wedi gweld nifer y busnesau newydd yn codi i’r lefelau uchaf erioed.

Rydym yn gwybod bod bron—rydym bron â chyrraedd 100,000 o fusnesau sydd â’u pencadlysoedd yng Nghymru. Ond yn y blynyddoedd sydd i ddod rydym am weld symudiad tuag at gryfhau economïau rhanbarthol yng Nghymru er mwyn inni allu datganoli a datgrynhoi buddsoddiad. Am y rheswm hwnnw, rwy’n ail-lunio fy adran fel bod gennym unedau rhanbarthol cryf sy’n gallu gweithio gyda’r dinas-ranbarthau, a chyda’r ardal dwf, a chydag awdurdodau lleol ar ôl troed rhanbarthol, er mwyn asesu beth yw’r cryfderau sectoraidd allweddol ar draws Cymru, ac yna mireinio, eu datblygu, ac yn ystod y pedwerydd chwyldro diwydiannol, sicrhau bod sgiliau gan bobl a gwneud yn siŵr fod busnesau yn cael eu diogelu ar gyfer y dyfodol er mwyn creu economi gwerth uwch, un sydd o fudd i Gymru gyfan.

Ysgrifennydd y Cabinet, un o’r ffyrdd gorau o godi allan o dlodi yw drwy waith, ac mae hynny’n golygu creu rhwydwaith trafnidiaeth integredig effeithlon i ganiatáu i bobl, yn enwedig pobl ifanc, allu cyrraedd swyddi o fewn pellter rhesymol i’w cartrefi. Fodd bynnag, gall cost tocynnau fod yn rhwystr yn aml i bobl ifanc rhag gallu cyrraedd swyddi. O ystyried bod cynllun fyngherdynteithio Llywodraeth Cymru, a oedd yn cynnig gostyngiad o draean oddi ar bris tocynnau bws i bobl ifanc, wedi dod i ben ym mis Mawrth eleni, pa gynllun sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i helpu pobl ifanc sy’n chwilio am waith gyda’u costau trafnidiaeth wrth chwilio am waith ar draws Cymru? Diolch. 

A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn? Mae’n hollol gywir fod diffyg trafnidiaeth gyhoeddus fforddiadwy, ddibynadwy a chyson yn rhwystr mawr sy’n atal llawer o bobl rhag dod o hyd i waith. Rydym yn gwybod, yn seiliedig ar yr holl ystadegau sydd ar gael, yn rhanbarth Growth Track 360 gogledd Cymru ac ardal Mersi a’r Ddyfrdwy, nad yw oddeutu chwarter y bobl sy’n cael cyfweliadau am swyddi yn gallu eu mynychu oherwydd na allant ddod o hyd i drafnidiaeth i gyrraedd y cyfweliadau hynny. Mae hynny’n ystadegyn ofnadwy—ofnadwy—ac mae’n rhaid mynd i’r afael ag ef.

Rydym wedi treialu’r cynllun fyngherdynteithio. Mae’n parhau tra’n bod yn ymgynghori â phobl ifanc ac â’r sector bysiau ar gynllun newydd cynaliadwy. Yn fy marn i, mae yna gynlluniau cynaliadwy sy’n gweithredu yn y DU ar hyn o bryd y gallem geisio dysgu oddi wrthynt. Yn ddiweddar, bûm yn Lerpwl, gyda chyd-Aelodau, yn dysgu am y cynllun Merseytravel ar gyfer pobl ifanc y credaf ei fod yn gweithio ar y sail fod £3 yn gallu eich cludo i unrhyw le ar unrhyw adeg, ar gynifer o deithiau ag y dymunwch yn y rhanbarth hwnnw bob dydd. Dyna’r math o fodel sy’n arloesol, yn gynaliadwy, ac yn deg, a dyna’r math o ddatblygiad yr hoffwn ei weld yng Nghymru.

Ond yn y bôn, mae angen i ni ddiwygio’r sector bysiau ei hun—moderneiddio’r sector bysiau, sicrhau bod bysiau o ansawdd gwell yn cael eu defnyddio, a newid canfyddiadau ynglŷn â theithio ar fysiau yn ogystal, fel bod pobl yn cael mynediad at wasanaethau bws, nid fel dewis olaf ond oherwydd eu bod o ansawdd digon uchel i gael taith bleserus. Rwy’n credu bod gwasanaethau bws yn gwbl hanfodol yn enwedig mewn cymunedau gwledig. Rydym wedi cadw’r grant cynnal gwasanaethau bws gwerth £25 miliwn ers nifer o flynyddoedd bellach, oherwydd ein bod wedi cydnabod gwerth gwasanaethau bysiau mewn cymunedau gwledig. Rwy’n awyddus i wneud yn siŵr ein bod yn gweithio gyda’r sector a chyda grwpiau teithwyr i ddod o hyd i ffyrdd mwy cynaliadwy o ddatblygu nawdd ar wasanaethau bws fel y gellir lleihau lefel y cymhorthdal cyhoeddus heb effeithio ar atyniad teithio ar fysiau.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n siŵr y byddech yn cytuno bod y cyhoeddiad diweddar gan y Fframwaith Arfarnu Cyffredin parthed y 200 i 300 o swyddi yng Nghasnewydd—swyddi o ansawdd yn adeiladu trenau’r dyfodol i helpu i ddatblygu’r system drafnidiaeth integredig—yn werthfawr iawn, a byddai’n dda iawn gennyf wybod sut y gallwn fanteisio ar y buddsoddiad hwnnw drwy ddenu buddsoddiad pellach ac yn wir, sicrhau bod cyflenwyr lleol a chwmnïau lleol yn elwa o’r datblygiad hwn sydd i’w groesawu’n fawr.

A gaf fi ddiolch i John Griffiths am ei gwestiwn? Rwy’n gwybod ei fod yn croesawu’r cyhoeddiad gan y Fframwaith Arfarnu Cyffredin o £30 miliwn yn ei etholaeth, a fydd yn arwain at sefydlu cyfleuster gweithgynhyrchu go fawr, a fydd yn cyflogi 300 o bobl. Mae’n werth dweud ein bod wedi llwyddo i guro mwy na 100 o leoliadau ar draws y byd i sicrhau’r buddsoddiad hwn i Gymru, gan gamu ymlaen unwaith eto a churo ein cystadleuwyr o amgylch y blaned. Nawr, bydd y cyfleuster yn galluogi’r cwmni i gydosod, profi a chomisiynu cerbydau newydd yng Nghymru. Bydd ganddo’r gallu i gyflawni prosiectau gweithgynhyrchu yn y dyfodol, yn ogystal â gweithgareddau cynnal a chadw a gwasanaethu. Pan fyddwch yn gosod hynny ochr yn ochr â datblygiad y metro a’r buddsoddiad yn y fasnachfraint nesaf, rwy’n credu bod yna gyfleoedd enfawr i ni dyfu sylfaen sgiliau yn y sector hwn a fydd yn cadw pobl mewn gwaith am genhedlaeth.

Ffyniant yng Nghymoedd De Cymru

6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i wella ffyniant yng nghymoedd de Cymru? OAQ(5)0207(EI)

Gwnaf. Yfory, byddwn yn cyhoeddi ‘Ein Cymoedd, Ein Dyfodol’, gan adeiladu ar waith tasglu’r Cymoedd a gaiff ei gadeirio gan fy nghyd-Aelod Alun Davies. Yn ogystal â hyn, byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn sgiliau, mewn seilwaith ac yn yr amgylchedd busnes cywir i gwmnïau allu ffynnu ynddo.

Ysgrifennydd y Cabinet, bydd y cynigion a gyflwynwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ynghylch dyfodol eu hystâd yng Nghymru yn golygu adleoli tua 200 o staff medrus allan o ganol tref Cwmbrân. Byddai hyn nid yn unig yn cael effaith ddinistriol ar yr economi leol yng Nghwmbrân, ond byddai’n creu anawsterau enfawr i staff â chyfrifoldebau gofalu nad ydynt yn gallu teithio i’r lleoliad arfaethedig, sef ardal Trefforest. Mae’r ffaith fod y lleoliad hwnnw wedi cael ei ddewis yn awgrymu nad oes gan yr Adran Gwaith a Phensiynau fawr ddim dealltwriaeth o ddaearyddiaeth Cymru. Gwn fod y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James, sydd wedi bod o gymorth mawr, wedi cyfarfod â Gweinidog y DU ddydd Iau diwethaf, a byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi, fel Llywodraeth, roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Ond a gaf fi hefyd ofyn i chi roi sicrwydd, Ysgrifennydd y Cabinet, y byddwch yn gwneud popeth yn eich gallu yn bersonol i weithio gyda Julie James i gynrychioli’r staff yr effeithir arnynt gan y cynigion hyn, a fydd yn cael effaith ddinistriol ar un o rannau tlotaf Cymru?

Mae’r Aelod yn llygad ei lle, a hoffwn ailadrodd ein siom fawr na lwyddodd yr Adran Gwaith a Phensiynau i ymgynghori â Llywodraeth Cymru cyn i’r penderfyniad gael ei wneud, heb i unrhyw atebion eraill gael eu hystyried. A gwn fod y Gweinidog yn awr wedi cyfarfod â Gweinidog Llywodraeth y DU, ac rwy’n siŵr y bydd yn darparu diweddariad ysgrifenedig i’r Aelodau yn y dyddiau nesaf ar y trafodaethau a gynhaliwyd a’r gwaith pellach a wneir yn awr. A gallaf sicrhau’r Aelod yn ogystal, os bydd unrhyw weithwyr yn cael eu diswyddo, yna byddwn yn cynnig ReAct fel ffordd o sicrhau bod pobl yn gallu dychwelyd i waith heb gyfnod hir o ddiweithdra. Mae’n gwbl hanfodol nad oes unrhyw un yr effeithir arnynt gan hyn, sy’n cael eu gadael heb waith, yn aros yn ddi-waith am gyfnod hir o amser, a byddwn yn helpu ym mhob ffordd bosibl.

Gweinidog, rydych newydd ddweud y bydd y strategaeth yn cael ei chyhoeddi yfory. Gwnaeth y Gweinidog, Alun Davies, ddatganiad yr wythnos ddiwethaf. Fe bwysais arno yn ystod ei ddatganiad i geisio egluro beth y bydd y canolfannau yn ei gyflawni’n economaidd. Dywedodd y byddai yna chwech o ganolfannau. Un o’r chwech yw’r parc menter modurol—beth bynnag y mynnwch ei alw—ym Mlaenau Gwent y dyfarnwyd £100 miliwn iddo dros 10 mlynedd. Ni allodd roi unrhyw wybodaeth o gwbl; nid wyf yn siŵr ai’r rheswm am hynny oedd nad oedd yn gwybod beth roeddent yn bwriadu ei wneud, neu a oedd yn bod yn ofalus oherwydd, yn amlwg, roedd cymaint o ffocws ar gysyniad Cylchffordd Cymru sydd yn ei etholaeth, wrth gwrs. Byddwn yn ddiolchgar o’ch safbwynt chi pe gallech fy ngoleuo ynglŷn â sut yn union y bydd y canolfannau hyn yn gweithredu. Ai ardaloedd menter bach yn unig fydd y rhain? A fydd themâu iddynt? Ble fyddant yn ddaearyddol? A pha linellau cyllideb a ddyrennir iddynt? O gofio ein bod yn gwybod bod £100 miliwn wedi’i ddyrannu i’r un ym Mlaenau Gwent, a ydym yn sôn am arian tebyg i’r canolfannau eraill a fydd wedi’u gwasgaru o amgylch gweddill y Cymoedd yn rhan o’r strategaeth?

A gaf fi ddiolch i Andrew R.T. Davies am ei gwestiynau? Cododd bwyntiau pwysig iawn—yr angen i sicrhau bod canolfannau’n gweithredu mewn ffordd sy’n cynhyrchu twf cynaliadwy. Rwy’n rhagweld y bydd y canolfannau’n datblygu fel cyfleoedd i glystyru a chrynhoi mewn meysydd arbenigol penodol. Er enghraifft felly, mae’n bosibl y bydd yn fodurol yng Nglynebwy. Mewn canolfan arall, gall fod yn seiliedig ar adeiladu tai. Felly, yn fy marn i, mae gan y canolfannau botensial i fod yn glystyrau cyfarwydd o arbenigeddau, unwaith eto, a all alluogi partneriaethau sgiliau ar draws rhanbarth y Cymoedd i ganolbwyntio ar gyfleoedd sy’n dod i’r amlwg drwy’r ffrwd o fuddiannau sydd gennym eisoes, a bydd y ffrwd o fuddiannau sydd gennym eisoes yn arwain at ddarparu cyllid yn ôl y galw. Felly, bydd unrhyw ofynion cyllido yn dod o fy adran, ac adrannau eraill o bosibl, os yw’n croesi ffiniau pynciau.

O ran y manylion pellach y mae’r Aelod yn gofyn amdanynt, mae hyn yn rhywbeth y bydd Alun Davies yn ei ddatgelu yfory, ond nod y clystyrau, nod y canolfannau, yw sicrhau bod crynodiad o weithgaredd mewn rhai ardaloedd yn seiliedig ar dueddiadau economaidd a gweithgynhyrchu sy’n dod i’r amlwg ac i fanteisio ar thema swyddi gwell yn nes at adref, gan gynnig mynediad at waith i bobl a chyfle i gamu ymlaen yn eu gyrfa mewn meysydd gweithgarwch economaidd lle y gwyddom fod yna ddyfodol cynaliadwy.

Amgueddfa Bêl-droed Genedlaethol

7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr amgueddfa bêl-droed genedlaethol arfaethedig? OAQ(5)0205(EI)[W]

Gwnaf. A gaf fi ddiolch i’r Aelod am y cwestiwn hwn? Mae’n gyffrous iawn. Ar hyn o bryd rydym yn cynnal ymarfer caffael ar GwerthwchiGymru i benodi contractwr i gwblhau astudiaeth ddichonoldeb ar yr amgueddfa bêl-droed. Bydd yr astudiaeth yn cychwyn tua diwedd mis Awst a bydd wedi’i chwblhau o fewn chwe mis.

Wel, diolch i chi am eich ateb, ac rwy’n amlwg yn croesawu’r ffaith fod yr astudiaeth hon yn cael ei chomisiynu o ganlyniad i gytundeb rhwng y Llywodraeth a Phlaid Cymru, wrth gwrs. Ond mae rhai pobl yn gofyn tybed a oes newid bach wedi bod yn y cyfeiriad yma oherwydd yr ymrwymiad gwreiddiol oedd i edrych ar leoli amgueddfa bêl-droed yn y gogledd, ond mae’r astudiaeth ddichonoldeb yn edrych ar amgueddfa chwaraeon fwy cyffredinol, a allai fod yn unrhyw le yng Nghymru o bosibl. Nawr, mae rhai pobl yn poeni y gallai gogledd-ddwyrain Cymru fod ar eu colled.

Iawn. A gaf fi sicrhau’r Aelod fod y fanyleb yn nodi mai’r lleoliad a ffafrir yw Wrecsam neu rywle arall yng ngogledd Cymru? Rwy’n credu bod y ffaith y byddai Gogledd Cymru yn elwa o gael amgueddfa chwaraeon neu amgueddfa bêl-droed—amgueddfa bêl-droed arbenigol—wedi’i chydnabod. Gallai ategu’r amgueddfa bêl-droed ym Manceinion o bosibl. O ystyried ei fod yn destun caffael sydd ar y gweill ar hyn o bryd, ni allaf ddweud llawer ynglŷn â hyn, ond rydym wedi anrhydeddu’r cytundeb rhyngom, ac rwy’n llawn o gyffro ynglŷn â’r gwaith. Rwy’n credu y gallai gynhyrchu syniad deniadol iawn y byddem yn awyddus i’w gyflawni, ar yr amod fod yr astudiaeth ddichonoldeb yn ei wneud yn un fforddiadwy.

Ar thema debyg, mynegwyd pryderon tebyg wrthyf hefyd ynglŷn â’r astudiaeth ddichonoldeb—y ddogfen gaffael y cyfeiriwch ati—sydd, yn ôl y sôn, yn sôn am amgueddfa chwaraeon yng Nghymru, felly mae eich sylwadau’n tawelu fy meddwl. Ond a ydych yn cytuno ei bod yn bwysig fod yr hyn a ddaw o’r astudiaeth yn sicrhau bod ardal y gogledd-ddwyrain yn cael ei chydnabod am ei rôl arloesol yn hyrwyddo camp sydd wedi datblygu, i lawer o bobl, i fod yn gamp genedlaethol—gallai rhai ddadlau mai rygbi’r undeb yw’r gamp genedlaethol, ond i lawer o bobl eraill, pêl-droed yw hi—gan gydnabod bod y clwb hwn wedi cychwyn ym 1872, mai dyma ble y chwaraewyd y gêm ryngwladol gyntaf yng Nghymru, lle y cafodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru ei ffurfio, a’i fod yn gartref, wrth gwrs, i un o glybiau pêl-droed hynaf y byd?

Ydw, yn bendant. Mae gan Glwb Pêl-droed Wrecsam hanes anhygoel sy’n haeddu cael ei gydnabod a’i hyrwyddo. Gallaf hefyd sicrhau’r Aelodau, oherwydd clywais ambell un ar feinciau’r gwrthbleidiau yn mynegi pryderon ynglŷn ag a fyddai hon yn amgueddfa genedlaethol i Gymru neu’n amgueddfa bêl-droed yn unig. Byddwn yn ymgysylltu ag Amgueddfa Genedlaethol Cymru mewn trafodaethau yn rhan o’r astudiaeth ddichonoldeb. O ran Clwb Pêl-droed Wrecsam a phêl-droed yn gyffredinol, mae gan y gogledd-ddwyrain dreftadaeth falch iawn yn y gamp. Yn sicr, byddai llawer ohonom o’r rhan honno o Gymru yn ei hystyried yn un o’r campau cenedlaethol—yr un a chwaraeid yn fwyaf eang gennym yn ôl pob tebyg pan oeddem yn tyfu i fyny—ac rydym yn awyddus i sicrhau bod unrhyw fuddsoddiad mewn cyfleuster fel hwn yn fodd o ysbrydoli pobl yn ogystal â chofio’r gorffennol ac i ysbrydoli pobl i gael llwyddiant mawr yn y byd pêl-droed yn y dyfodol.

3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem nesaf, felly, yw’r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, a’r cwestiwn cyntaf—Rhun ap Iorwerth.

Triniaeth Orthopedig yng Ngogledd Cymru

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am nifer y cleifion sy’n cael eu cyfeirio am driniaeth orthopedig yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0201(HWS)[W]

Diolch am y cwestiwn. Mae cynnydd sylweddol wedi bod mewn atgyfeiriadau orthopedig ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn ystod y pedair blynedd diwethaf ac nid yw’r capasiti wedi gallu ateb y galw. Mae’r bwrdd iechyd lleol yn rhoi ystod o gamau ar waith i ymdopi â’r cynnydd, gan gynnwys defnyddio gwasanaethau brysbennu amrywiol megis ffisiotherapyddion mewn meddygfeydd meddygon teulu a chlinigau ffordd o fyw a rheoli pwysau, yn unol ag argymhellion y rhaglen gofal wedi’i gynllunio.

Mae dros 1,200 o gleifion yn aros mwy na blwyddyn am driniaeth yn y gogledd, ac nid ydy hynny’n dderbyniol. Rydw i’n gobeithio y byddwch chi’n cytuno â hynny. Mae papur diweddar gan y bwrdd ar ddatblygu gwasanaethau orthopedig yn pwysleisio’r angen am fwy o lefydd hyfforddi er mwyn darparu’r gweithlu angenrheidiol i greu gwasanaeth cynaliadwy sy’n gallu cyrraedd targedau rhesymol. Onid ydy’r datganiad y gwnaethoch chi ddoe nad oes yna achos dros sefydlu ysgol feddygol yn y gogledd yn mynd yn gwbl groes i ysbryd y papur hwnnw ac yn groes i’r hyn a ddywedwyd yn adroddiad diweddar y pwyllgor iechyd? Wrth gwrs na all ysgol feddygol gael ei sefydlu dros nos, ond nid ydy eich addewid chi i gael mwy o fyfyrwyr i dreulio mwy o amser yn y gogledd, fel petai hi’n rhyw wlad bellennig, yn amlwg, yn ddigon da. Pryd ydych chi am ddangos rhywfaint o uchelgais ar y mater yma a gosod nod er mwyn inni gael dechrau symud tuag ato fo?

Diolch am y cwestiynau dilynol. Rwy’n cytuno bod amseroedd aros hir yn annerbyniol. Mae yna her wirioneddol i fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr o ran darparu gallu priodol a galw yn ei wasanaethau mewn gwirionedd. Rydym yn gwybod ei bod yn debygol y bydd mwy o alw wrth i ni symud ymlaen a dyna pam fod yn rhaid iddynt roi ystod o gamau ar waith. Ni chafodd y cynllun orthopedig cychwynnol a oedd ganddynt yn y bwrdd ei gymeradwyo oherwydd bod gwaith pellach i’w wneud arno o hyd.

Mae yna her yma am amrywiaeth o’n gwasanaethau, nid gwasanaethau arbenigol yn unig, ond gwasanaethau dewisol yn ogystal, o ran deall sut rydym yn defnyddio’r gallu sydd gennym yn briodol a sut rydym yn ad-drefnu’r gallu hwnnw i wneud defnydd gwell ohono. Rwy’n credu bod y cyswllt rydych yn ceisio’i wneud rhwng penderfyniad ynglŷn ag ysgol feddygol a’r gallu i recriwtio digon o staff i weithio o fewn model gwahanol—nid wyf yn derbyn bod yna gysylltiad uniongyrchol yn y ffordd rydych yn ceisio’i gyflwyno.

Roedd y penderfyniad a gyhoeddais ddoe yn bodloni’r ymrwymiad a roddais i’r Cynulliad i roi gwybod am hyn cyn y toriad, a chafodd ei wneud yn fwriadol cyn y cwestiynau heddiw er mwyn sicrhau bod yna gyfleoedd i gael y ddadl hon yn y Siambr. Ond nid oedd adroddiad y pwyllgor iechyd yn dweud y dylid cael ysgol feddygol yng ngogledd Cymru. Roedd yn gwneud nifer o bwyntiau rwy’n eu cymryd o ddifrif ynglŷn â bod yr achos wedi’i wneud dros sicrhau bod hyfforddiant yn digwydd ar draws y wlad, a ble y caiff y lleoedd addysg feddygol hynny eu darparu mewn gwirionedd. Mae hynny’n cynnwys sgwrs briodol gyda’r ddwy ysgol feddygol ynglŷn â ble mae eu myfyrwyr yn byw, a ble maent yn cael eu haddysg feddygol, ac fel y dywedais yn fy natganiad ddoe, rwy’n credu bod achos priodol dros sicrhau bod mwy o bobl yn cael addysg feddygol yng ngogledd Cymru.

Felly, mae’n rhaid cael partneriaeth briodol rhwng prifysgolion Bangor, Caerdydd ac Abertawe a’r gwasanaeth iechyd gwladol wrth i ni symud ymlaen er mwyn sicrhau ein bod yn darparu mwy o leoedd ar gyfer addysg feddygol. Mae’n rhaid i hynny ddigwydd heb ystyried unrhyw gynnydd yn y niferoedd, oherwydd pe bawn yn ceisio dweud wrthych chi a phobl eraill na fydd hyn yn digwydd oni bai bod yna gynnydd yn y niferoedd sy’n cael addysg feddygol, byddai’n rhoi’r neges anghywir. Rwy’n credu ei bod yn bwysig, gyda’n cohort presennol, ein bod yn meddwl sut y gallwn roi cyfle i fwy o’r bobl hynny ymgymryd â’u haddysg mewn gwahanol leoliadau. Mae hynny’n cyd-fynd â gwaith sydd eisoes ar y gweill, ac rwy’n ymrwymo i wneud hynny ac i gael sgwrs agored a chall gyda rhanddeiliaid, nid ar draws y gwasanaeth iechyd gwladol yn unig ond yn y Siambr hon a’r tu hwnt er mwyn cyflawni’r uchelgais hwnnw, oherwydd rwy’n credu y bydd yna fwy o obaith wedyn y bydd pobl naill ai’n aros yng ngogledd Cymru neu’n dychwelyd i ogledd Cymru i ymgymryd â chyfnodau pellach o addysg feddygol ac yn aros i weithio yn y gwasanaeth iechyd gwladol wedi hynny mewn gwirionedd.

Diolch i’r Aelod o Ynys Môn am godi hyn unwaith eto yn y Siambr. Nawr, yn ôl y ffigurau diweddaraf gan Lywodraeth Cymru, mae nifer y cleifion sy’n gorfod aros dros 36 wythnos am driniaeth orthopedig a thriniaeth ar gyfer trawma yng ngogledd Cymru bellach yn 3,336, ddwywaith mor hir ag amseroedd aros yn Lloegr. Dyma’r uchaf iddo fod erioed. Yn anecdotaidd, bu’n rhaid i fy etholwr benywaidd 84 oed aros 103 o wythnosau—84 oed—mae hynny’n fwy na 720 diwrnod, bron i ddwy flynedd, am ei llawdriniaeth. A bu’n rhaid i etholwr gwrywaidd aros am dair blynedd am lawdriniaethau clun. Mewn ymateb i fy ngohebiaeth, rydych yn dweud eich bod yn disgwyl y bydd bob claf yn cael eu gweld ar y cyfle cyntaf. Mae hynny’n chwerthinllyd. Beth rydych chi’n bwriadu ei wneud ynglŷn â’ch methiant i gyflawni ar gyfer y 3,500 o gleifion yng ngogledd Cymru? Eich Llywodraeth chi yw hi—chi sy’n gyfrifol am y briff a’r portffolio iechyd. Ac rwyf wedi gofyn y cwestiwn hwn dro ar ôl tro, ac rydym yn cael atebion niwlog iawn. Dywedwch wrth y bobl yng ngogledd Cymru—y 3,336 sydd wedi bod yn aros dros 36 wythnos, ddwywaith cyhyd ag yn Lloegr—dywedwch wrthynt pryd y byddant yn cael eu llawdriniaethau.

Gallaf sicrhau’r Aelod nad yw hwn yn fater chwerthin ac yn sicr nid yw’n rhywbeth rwy’n ei weld yn ddoniol o gwbl. Yr her bob amser, boed mewn perthynas â mater lle rydym yn deall fod mwy nag un rheswm dros gynnydd yn y galw, ac anallu’r gwasanaeth iechyd i ateb y galw hwnnw—. Mae’r galw am ateb syml, gwasgu botwm ac ymdrin ag ef—mae hynny’n annhebygol o ddigwydd. A byddai’n llawer gwell gennyf fod yn onest ac ymdrin â Janet Finch-Saunders yn dweud fy mod yn niwlog drwy esbonio’r heriau sy’n ein hwynebu yn onest ac yn glir a’r hyn sy’n cael ei wneud yn eu cylch, yn hytrach nag esgus bod yna lifer hud yn y Llywodraeth ar gyfer datrys hyn i gyd. Rwy’n credu’n sicr mai dyna’r peth anghywir i’w wneud.

Ond rwy’n glir—rwy’n disgwyl i bobl gael eu gweld ar y cyfle cyntaf. A dyna pam fy mod yn glir iawn, nid yn unig gyda hi, ond gydag Aelodau eraill yn y Siambr, ar draws y pleidiau eraill hefyd, fy mod yn credu bod amseroedd aros yng ngogledd Cymru yn annerbyniol. Dyna pam rwy’n disgwyl i’r bwrdd iechyd wella. Dyna pam rwy’n disgwyl gweld cynllun go iawn ar gyfer gwasanaethau orthopedig yng ngogledd Cymru yn gwneud gwahaniaeth go iawn, nid yn unig yn y dyfodol hirdymor, ond yn raddol dros weddill y tymor hwn hefyd.

Cadw Staff Presennol yn y Gwasanaeth Iechyd

2. Pa ymdrechion y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i gadw staff presennol yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru? OAQ(5)0196(HWS)

Mae amrywiaeth o fesurau ar waith. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi a chadw gweithlu presennol y GIG. Rydym yn cynnal deialog agored ac adeiladol gyda’r undebau llafur a chynrychiolwyr staff eraill ac rydym yn benderfynol o greu amgylchedd dysgu cefnogol i’n staff weithio ynddo a darparu gofal o ansawdd uchel gyda, ac ar gyfer pobl Cymru.

Mae yna gysylltiad rhwng amseroedd aros a nifer y staff sydd gennych yn gweithio yn y gwasanaeth. Mae ffigurau diweddar wedi dangos bod nifer y nyrsys a bydwragedd yn y DU sy’n gadael y proffesiwn wedi codi 51 y cant mewn pedair blynedd. O fewn y ffigurau hyn, a gyhoeddwyd gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, gwelir mai ein nyrsys a hyfforddwyd yn y wlad hon sy’n gadael yn y niferoedd mwyaf. Nawr, mae’r Coleg Nyrsio Brenhinol a Choleg Brenhinol y Bydwragedd wedi galw am ddiddymu’r cap cyflog i atal y sefyllfa hon rhag gwaethygu. Onid ydych yn cytuno ei bod yn bryd i chi wireddu addewid maniffesto Llafur Cymru i gael gwared ar y cap, er mwyn sicrhau bod nyrsys yn aros yn eu swyddi yng Nghymru? Yn ail, drwy sicrhau eich bod yn cadw at ymrwymiad eich maniffesto, byddwch yn helpu i atal niwed pellach i ffydd pobl mewn gwleidyddiaeth.

Ceir problem wirioneddol gyda staff o fewn y gwasanaeth, ac nid yw’r cap cyflog yn ymwneud â modd ariannol pobl yn unig—mae yna faterion gwirioneddol yn codi ynglŷn â gwerth. A chafodd hynny ei nodi’n glir iawn yn adroddiad diwethaf corff adolygu cyflogau’r GIG. Cafodd ei nodi eto, nid yn unig o fewn y gwasanaeth iechyd ond ar draws y sector cyhoeddus, mewn adroddiad gan y corff adolygu cyflogau uwch-swyddogion, a gyhoeddwyd yr wythnos hon a chorff adolygu cyflogau’r lluoedd arfog hefyd. Ceir problem wirioneddol gyda’r cap cyflog sy’n parhau, a’r gostyngiad o tua 14 y cant mewn incwm o ran ei effaith mewn termau real.

Mae’r Llywodraeth eisiau cael gwared ar y cap cyflog. Rydym wedi bod yn glir iawn ynglŷn â hynny. Rwyf wedi trafod hynny gyda’r Coleg Nyrsio Brenhinol ac undebau llafur eraill yn ogystal. Ac mae undebau llafur eu hunain yn deall yn dda iawn fod hyn yn ei gwneud hi’n ofynnol i Lywodraeth y DU newid ei safbwynt. I bob pwrpas, mae’r gorchwyl a roddir i gyrff adolygu cyflogau yn dod yn yr amlen ariannol o’r adnoddau sydd ar gael. Ac mae hynny’n golygu, os nad yw Llywodraeth y DU yn newid eu safbwynt ac yn darparu adnoddau i roi codiad cyflog mewn termau real, yr hyn y gallem ei wneud yw rhoi gorchwyl iddynt i roi mwy o godiad cyflog i staff, ac yna byddai’n rhaid i ni ariannu’r codiad cyflog hwnnw i weithwyr y gwasanaeth iechyd gwladol drwy ddiswyddiadau mewn rhannau eraill o’r gwasanaeth cyhoeddus.

Dyna yw realiti ein sefyllfa. Ac nid yw arweinydd Plaid Cymru yn dweud nad yw hynny’n wir o unrhyw ddefnydd—mae angen i ni ymdrin â’r sefyllfa fel y mae, oherwydd mae pobl yn ein gwasanaethau cyhoeddus yn wynebu realiti cap cyflog. Maent yn wynebu realiti’r Torïaid yn parhau â’r cap cyflog hwnnw. Mae’n bosibl eich bod yn credu mai’r ffordd orau o fynd i’r afael â hyn yw drwy roi rhwydd hynt i’r Torïaid ar y mater. Rwy’n credu bod angen i bob un ohonom sydd eisiau gweld codiad cyflog mewn termau real i weithwyr gwasanaethau cyhoeddus nodi achos go iawn y broblem, a gwneud yn siŵr nad yw’r Torïaid yn dianc heb unrhyw gosb o gwbl—ein bod yn gwneud yn siŵr fod Llywodraeth y DU yn cyflawni’r hyn y maent yn ei ddynodi ac yn gwneud yn siŵr fod y cap cyflog yn dod i ben mewn gwirionedd. Dyna beth y mae undebau llafur ei eisiau; dyna beth y mae ein staff ei eisiau; dyna beth y mae’r Llywodraeth hon ei eisiau.

Nid yw’r pryder a fynegwyd wrthyf yng nghanolbarth Cymru yn ymwneud yn gymaint â chadw, ond yn hytrach â recriwtio gweithwyr iechyd proffesiynol yn y lle cyntaf. Mynegir pryderon wrthyf yn rheolaidd ynglŷn â’r prinder difrifol o ddeintyddion sy’n cael eu recriwtio yng nghanolbarth Cymru. Felly, a gaf fi ofyn: beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gymell recriwtio deintyddion, meddygon teulu a gweithwyr proffesiynol meddygol eraill i gymryd swyddi yng nghanolbarth Cymru yn benodol?

O ran adolygu a deall y broses recriwtio ar draws canolbarth Cymru ac yn wir, ym mhob rhan arall o Gymru, mae’r byrddau iechyd eu hunain, o fewn eu cynlluniau tymor canolig integredig, i fod i allu cynllunio ar gyfer y gweithlu. Rydym yn datblygu mesurau i ddeall anghenion y gweithlu a’n gofynion hyfforddiant ac addysg yn fwy priodol. Bydd hynny’n cael ei ddatblygu drwy gyflwyno Addysg a Gwella Iechyd Cymru—mae hwnnw’n rhan o’r darlun.

Ond mae’r darlun cyffredinol o’r broses recriwtio hefyd yn cael ei effeithio gan y mater rydym newydd ei drafod gydag arweinydd Plaid Cymru, ynglŷn â’r cap cyflog sy’n parhau—mae honno’n broblem go iawn yn ymwneud â’r modd y mae pobl yn cael eu gwerthfawrogi. Mae’r ffordd y mae ein gwasanaethau’n gweithio hefyd yn her arbennig i ni. Byddai ceisio esgus bod yna un peth unigol i ddatrys pob un o’r rhain yn golygu y gallai fod gan wleidydd ateb hawdd i’w roi, ond ni fydd yn mynd i’r afael â’r materion y mae ein gweision cyhoeddus yn eu hwynebu neu y mae ein cymunedau yn eu hwynebu.

Yr agwedd arall ar y broses recriwtio na ddylai’r un ohonom ei anghofio yw’r ffaith fod y bwystfil hwnnw a elwir yn Brexit yn prysur agosáu. Os nad oes gennym gytundeb priodol o ran sut olwg fydd ar hyn, bydd y staff o’r Undeb Ewropeaidd sydd eisoes wedi gadael pob rhan o’r gwasanaeth rydych yn cyfeirio ato, a’r rhai sydd eisoes yn ystyried gadael yn ogystal—bydd hynny’n gwneud y sefyllfa’n waeth, nid yn well. Os na allwn ddeall bod pob un o’r materion hynny’n cael effaith ym mhob rhan o Gymru, yna byddwn yn methu deall yr her ac mewn gwirionedd, byddwn yn methu cael ateb priodol i wneud yn siŵr fod gennym wasanaeth iechyd cyhoeddus wedi’i ariannu’n dda ac sydd â digon o adnoddau, gan gynnwys, wrth gwrs, y staff i wneud y gwaith.

Fel y nodwyd yn y Siambr hon ar sawl achlysur, mae prinder nyrsys yn y GIG. Mae’r prinder wedi bod yn gwaethygu’n raddol ers blynyddoedd, a’r rheswm dros hynny, yn y bôn, yw bod Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi methu sicrhau bod digon o leoedd hyfforddi nyrsys yn cael eu hariannu i ddarparu gofal ar gyfer poblogaeth sy’n cynyddu’n barhaol. Pa gamau rydych yn eu cymryd i gynyddu nifer y lleoedd hyfforddi nyrsys yng Nghymru?

Rwy’n falch o gadarnhau bod y Llywodraeth hon wedi cynyddu nifer y lleoedd hyfforddi nyrsys yng Nghymru yn gynyddol. Ym mis Chwefror eleni, cyhoeddais gynnydd sylweddol arall ar ben cynnydd yn y ddwy flynedd flaenorol. Pe baech yn mynd i siarad â’r Coleg Nyrsio Brenhinol, neu ag Unsain, fel yr undeb llafur sy’n cynrychioli’r nifer fwyaf o nyrsys yng Nghymru, byddent yn cydnabod bod y Llywodraeth hon yn cynyddu lleoedd hyfforddi, yn ogystal â’r ymgyrch ‘Hyfforddi/Gweithio/Byw’ a gyflwynwyd gennym, gan weithio ochr yn ochr â rhanddeiliaid yn y gwasanaeth, ac yn ychwanegol at gadw bwrsariaeth y GIG rydym yn falch o fod wedi’i chadw, yn wahanol i’r penderfyniad a wnaed dros y ffin.

Mae hon yn Llywodraeth sydd o ddifrif ynglŷn â chynllunio gweithlu, o ddifrif ynglŷn â gweithio ochr yn ochr â chynrychiolwyr staff ac o ddifrif ynglŷn â chael y staff i wneud y gwaith sydd i’w wneud. Ond mae hynny’n galw am sgwrs wahanol ynglŷn ag adnoddau, ac ni all Aelodau o unrhyw blaid bwyntio bys at y Llywodraeth hon a dweud, ‘Rhyddhewch fwy o adnoddau i’r gwasanaeth iechyd gwladol’ heb nodi pa rannau eraill o wariant gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru y dylid gwneud toriadau pellach ynddynt er mwyn gwneud hynny. Rydym eisoes yn gwneud penderfyniadau hynod o boenus i roi adnoddau ychwanegol i’r gwasanaeth iechyd gwladol. Credaf fod ein staff a’n cyhoedd yn haeddu gonestrwydd yn y ddadl hon a dyna beth y bydd y Llywodraeth hon yn ei wneud.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r adolygiad seneddol interim ar iechyd a gofal cymdeithasol wedi amlygu bod rhwystrau sylweddol o hyd sy’n atal syniadau a pholisïau da rhag cael eu gweithredu’n llawn drwy’r GIG oherwydd gwrthwynebiad diwylliannol ac ofn methiant. Mae yna gydnabyddiaeth, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, fod cyfran sylweddol o’r sector cyhoeddus yn aml yn gwneud pethau heb ddeall beth sy’n gweithio mewn gwirionedd, ac mae’n pwysleisio’r angen i beidio â bod ofn methiant, ond i ddysgu ohono, oherwydd bydd y dull hwn yn caniatáu ar gyfer agwedd lawer mwy arloesol ac agored at newid na all ond esgor ar ganlyniadau cadarnhaol.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n siŵr eich bod yn ymwybodol fod y Tîm Dirnad Ymddygiad, sy’n gweithio’n agos iawn gyda Llywodraeth San Steffan, yn mynd ati i annog y sector cyhoeddus i fynd i’r afael â newid mewn ffordd debycach i’r sector preifat. Roeddwn yn meddwl tybed, a’r hyn yr hoffwn ei wybod yw: a ydych wedi ymgysylltu neu wedi ystyried ymgysylltu â sefydliadau megis y Tîm Dirnad Ymddygiad fel y gallwn gynllunio newid effeithiol a chynaliadwy yn llawn ar draws y GIG yng Nghymru?

Mae pwynt difrifol yn y cwestiwn y mae’r Aelod yn ei ofyn ynglŷn â’n gallu i newid a diwygio gwasanaethau cyhoeddus drwy ddewis, a deall y dewis y byddwn yn ei wneud wrth ddarparu gwasanaeth gwahanol. Ceir dadleuon ein bod eisiau i’r gwasanaeth fod wedi torri cyn ein bod yn ei drwsio. Ac rwy’n derbyn bod yna heriau diwylliannol sylweddol ym mhob gwasanaeth cyhoeddus, gan gynnwys y gwasanaeth iechyd. Felly, rhan o’n her, fel y nodoch yn gywir, yw edrych i weld ble y cafwyd y profiad hwnnw. Mae gennym waith ar y gweill, ac rwy’n sicr yn barod i wrando ar y gwasanaeth ac ar ei gyfer ac i ymgysylltu ag amrywiaeth o wahanol bobl, oherwydd mewn gwirionedd, nid yw cyflawni newid sylweddol mewn cyflogwr sector preifat mawr yn hawdd o reidrwydd, ac felly mae pethau i’w dysgu yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus hefyd. Nid yw hynny’n golygu ein bod yn ildio gwerthoedd ac ethos y gwasanaeth, ond mae angen i ni ddeall sut rydym yn cyflawni’r newid sydd ei angen yn amlwg.

Nid yw ailgynllunio’r broses waith byth yn beth hawdd i’w gyflawni, ond ceir tystiolaeth dda iawn i gefnogi tactegau procio ac arwain a newid diwylliant ac maent wedi cael eu defnyddio’n llwyddiannus yn y sector preifat a’r sector cyhoedd. A byddwn yn annog Ysgrifennydd y Cabinet i ymgysylltu â sefydliadau fel hynny, oherwydd gall pob un ohonom ddysgu, ac mae yna arferion da i’w dysgu oddi wrth y mathau hyn o sefydliadau. Er y bydd y tîm adolygu seneddol hefyd yn gweithio dros yr ychydig fisoedd nesaf ar ddatblygu map mwy manwl i gynorthwyo’r cyfeiriad teithio a nodwyd ar gyfer y GIG a sectorau gofal cymdeithasol, a ydych yn credu y dylai’r sectorau hyn barhau gyda chynlluniau cyfredol ar gyfer diwygio strwythurol? Os ydych, a oes unrhyw waith a arweinir gan y Llywodraeth i sicrhau bod unrhyw wahaniaeth rhwng diwygio strwythurol arfaethedig ar hyn o bryd a’r hyn y gallai’r adolygiad seneddol ei ddweud yn y tymor hwy yn cael ei leihau?

Mae hyn yn mynd yn ôl at y benbleth a drafodwyd gennym mewn perthynas â gosod a chytuno ar y cylch gorchwyl ar gyfer yr adolygiad seneddol. Ar wahân i chi eich hunain, mae llefarydd Plaid Cymru hefyd wedi codi’r pwynt ynglŷn ag ‘A fydd yr adolygiad yn golygu y byddwch yn rhoi’r gorau i wneud pethau y mae angen i chi eu gwneud yn awr ac yn gosod pethau o’r neilltu?’ Mae’n rhaid i chi edrych ar y cydbwysedd wrth ddweud, ‘A ydym eisiau gohirio rhywbeth hyd nes y bydd yr adolygiad yn cyflwyno eu hargymhellion?’ Mae angen cael cydbwysedd, ond rwy’n parhau i gredu, lle y ceir achos clir sy’n dangos bod angen i wasanaethau newid, ac achos clir sy’n dangos bod angen i wahanol rannau o’r gwasanaeth weithio’n agosach gyda’i gilydd, yna dylai hynny ddigwydd. Felly, er enghraifft, ar ofal dewisol, mae bwrdd iechyd Hywel Dda a bwrdd iechyd Abertawe Bro Morgannwg wedi cael cyfarfod cynllunio ar y cyd. Rwy’n disgwyl y bydd y cyfarfodydd hynny’n digwydd yn rheolaidd. Mae’r byrddau iechyd yn ne-ddwyrain Cymru—Cwm Taf, Aneurin Bevan a Chaerdydd a’r Fro—yn cael cyfarfodydd cynllunio ar y cyd yn ogystal. Felly mae’n rhaid cael dealltwriaeth o’r hyn sydd angen digwydd yn awr o ran hynny, yn hytrach nag aros a gohirio popeth hyd nes y bydd yr adolygiad seneddol yn adrodd yn eu cylch. Oherwydd mae’r her a nodwyd gennych yn eich cwestiwn cyntaf am yr heriau diwylliannol—maent yn bodoli ymhlith clinigwyr, maent yn bodoli ymhlith y cyhoedd ac, yn wir, ymhlith gwleidyddion yn ein gallu a’n parodrwydd i gefnogi a hyrwyddo newid. Felly, nid wyf yn credu bod angen gohirio’r cymhelliant i geisio trafod a siarad am newid, ond mae angen deall yn iawn beth fydd yr adolygiad seneddol yn ei gyflwyno mewn nifer o fisoedd—ac rwy’n credu y byddant yn mynd heibio’n go gyflym—ac yna deall sut rydym yn gwneud yr hyn y maent yn ei awgrymu a deall yr hyn rydym yn credu sy’n gweithio ac yna gwneud hynny’n gyflym ac ar raddfa fawr ar draws y gwasanaeth iechyd gwladol.

Credaf fod adroddiad interim yr adolygiad seneddol yn glir iawn o ran y cyfeiriad teithio, a deallaf ei fod wedi cael cefnogaeth y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol, yn ogystal â chefnogaeth wleidyddol o ran y cyfeiriad teithio. Y cwestiwn a ofynnais i chi mewn gwirionedd oedd: a oes rhyw fath o drosolwg yn digwydd i sicrhau bod unrhyw ddiwygiadau strwythurol sy’n cael eu cyflawni ar hyn o bryd, neu sy’n cael eu cynnig gan fyrddau iechyd ar hyn o bryd, wedi cael rhyw fath o adolygiad dros dro er mwyn sicrhau eu bod yn mynd i’r cyfeiriad teithio cywir at ei gilydd? Oherwydd, fel chi, nid wyf yn credu y gallwn roi stop ar bopeth hyd nes y bydd gennym adroddiad mawr trwchus yn ein dwylo y gallwn i gyd ei astudio.

Ac wrth gwrs, un o’r meysydd sydd wedi cael ei nodi’n fynych gan bob un ohonom yma, gan y byrddau iechyd, gan yr adolygiad seneddol, yw bod angen i wasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru, a bod yn onest, gael eu hailwampio’n llwyr ar gyfer oedolion a phlant. Rwy’n derbyn bod gwaith ar y gweill, ac yn wir, roeddwn yn falch o noddi a chadeirio sesiwn a drefnwyd gan Gydffederasiwn y GIG lle y cafodd cynlluniau eu hamlinellu o ran yr hyn y byddwn yn ei wneud i—neu’r hyn y maent yn bwriadu ei wneud i wella a sicrhau newid trawsnewidiol o fewn gwasanaethau iechyd meddwl ar gyfer oedolion a phlant. Ac mae’n amlwg bod rhai ardaloedd yng Nghymru wedi gwneud cynnydd rhagorol. Felly, unwaith eto, rwy’n gofyn i chi: er nad ydym yn disgwyl y bydd yr adroddiad hwn yn cyflawni popeth, beth fyddwch chi’n ei wneud i ysgogi ac i nodi’r mentrau hynny sydd wedi cyflawni rhai newidiadau rhagorol, newidiadau trawsnewidiol, i ofal iechyd meddwl ar gyfer plant ac oedolion? Beth fyddwch chi’n ei wneud i nodi’r rheini a cheisio sicrhau eu bod yn cael eu cymhwyso’n gyson ac yn gyflym drwy weddill Cymru? Oherwydd mae hwn yn un maes lle nad ydym ni fel cenedl yn gwneud yn dda iawn.

Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Yn yr ystyr gyffredinol, ynglŷn ag adolygiad dros dro a’r gallu i feddwl a ydym yn cyflawni newid ac yn gwneud yn siŵr ei fod yn mynd, yn fras, i’r cyfeiriad cywir, dyna pam fod yna gydweithrediaeth y GIG, sy’n dod â phrif weithredwyr at ei gilydd i drafod ac adolygu tystiolaeth ar gyfer newidiadau a gaiff eu hargymell. Dyna pam fod gennym gynlluniau tymor canolig integredig i geisio sefydlu’r cyfeiriad teithio ar gyfer pob bwrdd iechyd—i gael cynllun, wrth symud ymlaen, ar gyfer y newidiadau sy’n cael eu hystyried a’u cyflwyno. Dyna pam fod gan fyrddau iechyd eu hunain [Anghlywadwy.] brosesau sy’n cynhyrchu buddsoddiad cyfalaf hefyd. Mae’n rhaid cael achos busnes, yna ceir bwrdd buddsoddi sy’n edrych ar geisiadau cyfalaf Cymru gyfan, felly, lle y caiff cyfalaf ei ddefnyddio i geisio ailgynllunio gwasanaeth.

Ceir gwahanol haenau o drosolwg mewn perthynas â rhai o’r cynlluniau a’r heriau sy’n gysylltiedig â diwygio gwasanaethau. Yn y maes penodol rydych yn sôn amdano mewn perthynas â phlant a phobl ifanc, ni fyddwn mor besimistaidd ynglŷn â’r angen am ailwampiad llwyr. Ceir heriau mewn gwahanol rannau o’r wlad, o wahanol faint, ond mae hynny’n rhan o’r rheswm—wrth gydnabod, os mynnwch, fod y pwysau wedi cynyddu’n sylweddol yn y tymor byr—pam y gwnaethom y penderfyniadau i ddechrau ymarfer Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc gyda’r GIG, gan weithio gyda’r trydydd sector, gweithio gyda phartneriaid statudol, ac yn wir, gyda phobl ifanc eu hunain yn cael rhan ynddo, ac mae wedyn yn ymwneud â darparu model gwasanaeth y maent yn ei argymell. Dyna pam rydym wedi buddsoddi’r symiau ychwanegol o arian hefyd. Rydym yn gweld amseroedd aros yn gostwng yn y maes gwasanaeth penodol hwn, ac rydym yn gweld mynediad cyflymach at therapïau, wedi’i gefnogi, wrth gwrs, gan safonau llymach ar amseroedd aros yn y maes hwn. Ond nid yw hon yn sefyllfa lle y dylai unrhyw un ohonom ddweud yn awr fod gennym yr ateb perffaith.

Mae’r cynnydd rydym wedi’i wneud yn gynnydd go iawn. Y gwir amdani yw ei bod hefyd yn wir fod yna ormod o blant a phobl ifanc a’u teuluoedd yn aros yn rhy hir o hyd, ac mae’n broses barhaus o adolygu ein sefyllfa a’r hyn sydd angen i ni ei wneud nesaf, ac mae hynny eisoes yn sicrhau newid trawsffurfiol yn ein gwasanaeth. Ond nid yw’n ymwneud yn unig â’r pen arbenigol; mae’n ymwneud â’r gwasanaethau ehangach sy’n gofalu am deuluoedd, ac rydych yn iawn i ddweud ei fod yn ymwneud â chysondeb y gallu i wneud hynny. Dyna pam fod myfyrio, cael mecanwaith cenedlaethol yn ogystal â mecanwaith lleol i wneud hynny, yn wirioneddol bwysig, a dyna pam hefyd ein bod o ddifrif ynglŷn â’r trydydd sector a lleisiau plant a phobl ifanc eu hunain wrth ddylunio a darparu ein gwasanaethau.

Diolch yn fawr. Ddydd Llun, rhyddhaodd yr archwilydd cyffredinol adroddiad beirniadol am ymddygiad Caerdydd a’r Fro mewn perthynas â chaffael a recriwtio. Nawr, rwy’n deall hynny. Mewn ymateb, mae prif weithredwr GIG Cymru wedi ysgrifennu at Fyrddau Iechyd Lleol i ofyn am sicrwydd ynglŷn â’u prosesau. Beth yw eich barn chi? A ydych yn credu mai un digwyddiad ar ei ben ei hun oedd hwn?

Rwy’n credu ei fod yn debygol o fod yn ddigwyddiad ar ei ben ei hun, ond rhan o’r pwynt am y prif weithredwr yn ysgrifennu at bob bwrdd iechyd yw sicrhau mai digwyddiad ar ei ben ei hun ydoedd. Os oes materion eraill yn codi, rydym eisiau eu canfod a rhoi sylw iddynt, gan fod ymchwiliad Swyddfa Archwilio Cymru wedi datgelu darlun nad yw’n dderbyniol o gwbl ac nad yw’n unol â’r prosesau a’r argymhellion sefydledig, ac unwaith eto, mae llythyr y prif weithredwr at bob prif weithredwr GIG Cymru yn dangos yn glir iawn ein bod yn disgwyl i bawb gadw at y safonau hynny’n llwyr.

Amlygodd yr adroddiad ei hun yr hyn rwy’n credu y gallwn gyfiawnhau ei alw’n ‘nepotiaeth’ mewn perthynas â chaffael a recriwtio. Nododd yr archwilydd cyffredinol hefyd ei bod yn anodd iawn cael darlun clir o’r ffeithiau mewn perthynas â’r materion sy’n rhan o’r archwiliad. Mae swyddogion Bwrdd Iechyd y Brifysgol a chyn-swyddogion wedi darparu adroddiadau sy’n anghyson ac yn groes i’w gilydd. Roedd tuedd iddynt feio’i gilydd am y methiannau a nodwyd yn yr adroddiad. Gallwn fynd ymlaen.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae gennym rai rheolwyr a swyddogion rhagorol—nifer o reolwyr a swyddogion rhagorol—yn y GIG yng Nghymru, ond rwy’n siŵr y byddech yn cytuno, yn yr achos hwn, fod ymddygiad wedi bod yn annerbyniol. Mae gennym y Cyngor Meddygol Cyffredinol ar gyfer meddygon, mae gennym y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ar gyfer nyrsys a bydwragedd, felly ble mae’r corff ar gyfer rheoleiddio rheolwyr y GIG? Wrth gwrs, gall rheolwyr wneud yr un faint o niwed i gleifion drwy wneud penderfyniadau gwael. A yw hyn yn rhywbeth y byddech yn ei ystyried?

Rwyf bob amser yn agored i ystyried a yw ein fframwaith atebolrwydd yn gweithio fel y dylai, ond dylai hyn weithio drwy her briodol y bwrdd ei hun—yr aelodau annibynnol, yr aelodau anweithredol. A dyna ran o’r her yma wrth ddeall pa wybodaeth a ddarparwyd, sut na chafodd gwybodaeth ei darparu i’r bwrdd, ac rwy’n credu mai’r gwir yn onest yw bod y bobl sy’n gyfrifol am y penderfyniadau yn yr adroddiad penodol hwn, fel y cafodd ei ddatgelu yn adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, sy’n gam anarferol—. Mae’n anarferol i adroddiad ddarparu hynny i gyd, ac nid wyf yn credu bod yr archwilydd cyffredinol wedi darparu adroddiad fel hwn am GIG Cymru o’r blaen. Mae rywfaint yn fwy cyffredin yn Lloegr, lle mae caffael yn anifail gwahanol. Yr her yma yw gwneud yn siŵr ein bod yn glir ynglŷn â’n disgwyliadau, yn glir ynglŷn â’r atebolrwydd sy’n gorfod dilyn pan fo pobl yn cael hyn yn anghywir, a bod hwnnw’n atebolrwydd priodol. Rwy’n credu, mewn gwirionedd, fod y bwrdd iechyd yn awr—ac roedd yn galonogol clywed ymateb y prif weithredwr newydd, sydd, unwaith eto, wedi dweud yn glir nad oedd yr hyn a ddigwyddodd yn dderbyniol ac na fydd yn cael ei amddiffyn, ac mae’n bwysig fod hyder ymhlith y staff a’r cyhoedd ynglŷn â’r prosesau sydd ar waith heddiw, a’r disgwyliad mewn perthynas ag ymddygiad heddiw hefyd.

Fe sonioch am eu hatebolrwydd o fewn y GIG a sut y mae’r GIG ei hun yn ceisio gwella’i hun drwy ei ddull llywodraethu ei hun. Yn ddiweddar, fe gyhoeddwyd Papur Gwyn gennych ar ddiwygio dull llywodraethu’r GIG, a thynnwyd fy sylw at bryderon go iawn, mewn gwirionedd, ynglŷn â rhai o’r awgrymiadau a wnaed, yn sicr o ran cael gwared ar gynghorau iechyd cymuned a gwneud trefniadau newydd yn eu lle ac yn benodol, y posibilrwydd y bydd gwybodaeth leol yn erydu, a hefyd diffyg sicrwydd y bydd llais cryf a pharhaus i gleifion mewn unrhyw argymhellion newydd. Ond a fyddech yn derbyn mai ffordd well ymlaen, efallai, yn hytrach na diwygio dull llywodraethu’r GIG yn awr, fyddai cael adolygiad annibynnol o reolaeth ar draws GIG Cymru i gychwyn, gan amlygu a cheisio hyrwyddo’r arferion da diamheuol sydd gennym, gan geisio cael gwared ar y drwg ar yr un pryd a defnyddio hynny fel sail ar gyfer deddfwriaeth newydd?

Wel, mae’r Papur Gwyn yn ymgynghoriad dilys. Felly, mae’n wir mai ei unig bwrpas yw er mwyn i bobl fynegi eu barn, ac os nad ydynt yn cefnogi’r argymhellion, i feddwl am ddewisiadau eraill i wella ansawdd a dull llywodraethu a chyfeiriad y gwasanaeth iechyd gwladol. Felly, nid y Llywodraeth yn dweud, ‘Rydym yn gofyn i chi, ond rydym eisoes wedi penderfynu’ yw hyn. Mae’n ymgynghoriad dilys.

Ar y pwynt ynglŷn ag a oes achos bellach dros gael adolygiad annibynnol o reolwyr a rheolaeth o fewn y gwasanaeth iechyd, byddai’n rhaid i mi gael fy mherswadio mai dyna’r peth iawn i’w wneud, ond os ydych yn credu bod achos cryf dros wneud hynny, byddwn yn hapus i ystyried sylwadau gennych ar sut y gall hynny ychwanegu gwerth y tu hwnt i’r hyn sydd gennym eisoes ar waith, ac yn ychwanegol at y disgwyliadau proffesiynol y gallem ac y dylem eu cael yn briodol mewn perthynas ag uwch-reolwyr y GIG a gweithrediad y byrddau o fewn y gwasanaeth iechyd gwladol.

Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r ail arolwg profiad cleifion canser Cymru unwaith eto wedi tynnu sylw at y ffaith fod llawer o gleifion canser heb weithiwr allweddol o hyd. Er ein bod wedi gwneud cynnydd, nid oes gan 14 y cant o gleifion weithiwr allweddol o hyd, a dywedodd mwy na chwarter y cleifion ei bod yn aml yn anodd cysylltu â’r gweithiwr allweddol. Mae’r arolwg hefyd wedi tynnu sylw at y manteision a brofodd rhai cleifion o gael nyrs glinigol arbenigol, gyda’r rhan fwyaf o’r 81 y cant o gleifion a oedd ag un yn datgan bod eu triniaeth wedi gwella’n fawr o ganlyniad i hyn. O ganlyniad, mae Macmillan Cymru wedi galw am fynediad at nyrs glinigol arbenigol i bob person sydd â chanser yng Nghymru. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych yn cefnogi’r farn hon ac a ydych yn cytuno y dylai’r nyrs glinigol arbenigol weithredu fel gweithiwr allweddol ar gyfer cleifion canser yng Nghymru?

Rydym yn sicr eisiau i bob claf gael nyrs glinigol arbenigol lle bo’n briodol ar gyfer darparu gofal. Mae’r her ynglŷn ag ai’r nyrs glinigol arbenigol yw’r gweithiwr allweddol, rwy’n credu, yn wahanol, oherwydd, i rai pobl, nid oes raid mai’r nyrs glinigol arbenigol sy’n gweithredu fel gweithiwr allweddol, er mai’r nyrs glinigol arbenigol, yn ymarferol, yn y mwyafrif helaeth o achosion, sy’n cyflawni’r rôl honno. Mae gwelliant sylweddol wedi bod o ran sicrhau bod pobl yn gwybod pwy yw eu gweithiwr allweddol. Yn yr arolwg cleifion canser blaenorol, yn 2013, 66 y cant o bobl oedd yn gwybod pwy oedd eu gweithiwr allweddol dynodedig. Yn yr arolwg hwn, mae’r ffigur wedi codi i 86 y cant. Unwaith eto, mae hwn yn ymrwymiad sylweddol. Mae dros 6,700 o staff wedi rhoi eu hamser i roi eu barn ar ystod eang o’u profiad eu hunain o ofal canser, ac o ganlyniad i’r arolwg eang hwn, rydym yn gallu deall cyflwr ein gwasanaethau presennol, y meysydd lle rydym wedi gwella, ac yr un modd, y meysydd lle mae angen i ni wella ymhellach yn y dyfodol.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Gan aros gydag arolwg profiad cleifion canser Cymru, dywedodd bron i chwarter y cleifion nad oedd y meddyg teulu wedi bod o ddifrif ynglŷn â’u symptomau cyn eu diagnosis. Yn wir, dywedodd 6 y cant o gleifion eu bod wedi gorfod gweld eu meddyg teulu o leiaf bum gwaith cyn cael eu hatgyfeirio i’r ysbyty. Fel y nodwyd yn y cynllun cyflawni ar gyfer canser, mae canfod canser yn gynharach yn ei gwneud yn fwy tebygol y gall triniaeth fod yn iachaol, yn llai dwys ac yn llai costus. Felly, mae’n hanfodol, pan fydd rhywun â symptomau a allai gael eu hachosi gan ganser, eu bod yn cael eu cymryd o ddifrif. Yn anffodus, mae’n ymddangos ein bod yn gweithredu mewn model lle rydym yn ystyried cyflyrau drwy ddechrau o ddim yn hytrach na’u diystyru yn eu tro. Rydym yn gweithio tuag at y cyflyrau mwyaf difrifol yn hytrach na gweithio’n ôl ohonynt. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, beth arall y gellir ei wneud i wella’r broses o ganfod canser yn gynnar mewn gofal sylfaenol?

Nid wyf yn credu fod y modd rydych wedi disgrifio’r ffordd y mae meddygon teulu yn gwneud eu gwaith yn arbennig o deg. Rwy’n credu bod achos difrifol, fodd bynnag, dros wella nifer ac ansawdd atgyfeiriadau. Mae hon yn her fawr iawn i’r gwasanaeth iechyd, oherwydd mae’r mwyafrif llethol o bobl a gaiff eu hatgyfeirio gydag amheuaeth o ganser yn cael gwybod nad oes canser arnynt mewn gwirionedd. Felly, mae gennym ymrwymiad sylweddol eisoes lle rydym yn chwilio am y lleiafrif o bobl sy’n cael eu hatgyfeirio ac sydd wedyn yn cael gwybod bod ganddynt fath o ganser sydd angen cael ei drin.

Mae hefyd yn wir fod atgyfeiriadau canser wedi codi’n sylweddol yn y flwyddyn ddiwethaf. Maent wedi cynyddu 12 y cant yn y flwyddyn hon yn unig, ac mae’n ymwneud â sut rydym yn parhau i wella’r gyfradd atgyfeirio, ond hefyd beth yw’r gyfradd drosglwyddo, oherwydd yn y byrddau iechyd, ceir cyfraddau atgyfeirio gwahanol, a gwahanol gyfraddau trosglwyddo hefyd. Felly, i’r rhai nad ydynt yn gwybod, y gyfradd drosglwyddo yw nifer y bobl sy’n cael eu hatgyfeirio ac sy’n mynd ymlaen i gael gwybod bod ganddynt ganser penodol. Gallai hynny ymwneud â’r cymunedau eu hunain. Gallai ymwneud hefyd â’r niferoedd o bobl a sut a pham y maent yn cael eu hatgyfeirio. Mae’n bwysig iawn, unwaith eto, fod gennym ddull myfyriol priodol o weithredu lle y gall meddygon teulu siarad â’i gilydd, a rhai eraill yn y gwasanaeth, er mwyn deall beth sy’n digwydd a’r canlyniadau y maent yn eu darparu ar gyfer eu cleifion. Rwy’n credu bod yn rhaid cael dull myfyriol a chefnogol priodol yn hytrach na dweud y bydd yna fai ar feddygon teulu, sy’n cael gwybod eu bod yn gwneud eu gwaith yn y ffordd anghywir. Rwy’n credu bod hynny’n annhebygol o weld y math o ddull myfyriol a chadarnhaol y mae pobl eisiau ei fabwysiadu. Gadewch i ni beidio ag anghofio bod pobl yn dewis mynd i’r byd meddygol er mwyn gofalu am bobl ac er mwyn helpu i wella bywydau, ac mae angen i ni eu helpu i wneud eu gwaith yn ogystal â myfyrio’n briodol ynglŷn â ble mae angen gwella.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn olaf, llai na hanner yn unig o gleifion canser sy’n cael cyfle i drafod eu hanghenion, a 18 y cant yn unig o gleifion a gafodd gynnig cynllun gofal ysgrifenedig. Nid ar anghenion gofal iechyd yn unig y mae cynlluniau gofal yn canolbwyntio, maent hefyd yn ymdrin â chefnogaeth emosiynol, ariannol ac ymarferol. Ni chafodd dros hanner y cleifion yng Nghymru wybodaeth am gymorth ariannol a budd-daliadau na chael cyfle i drafod yr effaith y byddai eu canser yn ei chael ar eu bywydau o ddydd i ddydd. Mae angen inni wella’r ffordd rydym yn ymdrin ag effaith canser ar y claf, nid yn unig ar eu hiechyd corfforol, ond ar yr agweddau ehangach. Felly, beth y mae eich Llywodraeth yn ei wneud, Ysgrifennydd y Cabinet, i sicrhau y cynigir cynllun gofal ysgrifenedig i bob claf sy’n cynnwys asesiad o’u hanghenion holistaidd?

Rydym wedi nodi’n glir ein disgwyliadau ar gyfer gwella’r cynllun cyflawni ar gyfer canser. Nid yw’r ystod eang o weithwyr gofal iechyd proffesiynol mewn gwasanaethau gofal trydyddol, eilaidd a sylfaenol yn dadlau ynglŷn â’r angen i wella, nac ynglŷn â gwerth gwirioneddol cael cynlluniau gofal ysgrifenedig. Y rheswm am hynny yn wir yw oherwydd bod pobl yn gweld y person cyfan, ac nid effaith uniongyrchol penodol canser yn nhermau triniaeth, ond yr hyn y mae hynny’n ei olygu i’r unigolyn dan sylw—eu gallu i weithio, eu gallu i fyw eu bywydau, i wneud penderfyniadau gwahanol ac mewn gwirionedd, eu rhagolygon ar gyfer y dyfodol. Felly mae’n bwysig iawn cael y drafodaeth ehangach honno a deall y bydd yn digwydd ar wahanol adegau i wahanol bobl. Mae’n bosibl y bydd rhai pobl, ar ôl cael diagnosis, eisiau gwybod popeth. Mae’n bosibl fod pobl eraill eisiau gadael yr ystafell cyn gynted ag y bo modd. Mae’n ddealladwy pam fod hynny’n digwydd, a dyna pam na all gwasanaeth fabwysiadu dull un maint sy’n addas i bawb; mae’n ymwneud â bod yn fwy hyblyg ac mae’n rhaid iddo gael ei addasu o gwmpas y person hwnnw. Mae hefyd yn ailadrodd yr angen i sicrhau nid yn unig fod gofal sylfaenol a gofal ysbyty mewn perthynas briodol ac adeiladol â’i gilydd, ond hefyd, gwerth gwirioneddol pobl yn y trydydd sector sy’n gallu cynorthwyo pobl mewn ffordd wahanol, mewn lleoliad anfeddygol.

Ond rwy’n credu ei bod yn bwysig peidio â cholli golwg ar y ffaith fod mwy o bobl yn cael eu hatgyfeirio ar gyfer canser, mae mwy o bobl yn cael eu trin ar gyfer canser, mae mwy o bobl yn cael eu trin ar gyfer canser mewn pryd, ac mae mwy o bobl yn cael canlyniadau gwell. Mae mwy o bobl yn goroesi yn awr nag erioed o’r blaen ac mewn gwirionedd, o ran y profiad o ofal, mae 93 y cant o bobl yn cael profiad da o ofal canser yma yng Nghymru. Felly, mae angen mwy o welliant, rwy’n derbyn hynny’n llwyr, ond gadewch i ni beidio â cheisio dweud fod popeth yn ddrwg yma. Mae gennym lawer o bethau i fod yn falch iawn ohonynt.

Anafiadau sydd wedi’u Hachosi gan Frathiadau Cŵn

3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am nifer yr anafiadau a gaiff eu trin mewn ysbytai yng Nghymru sydd wedi’u hachosi gan frathiadau cŵn? OAQ(5)0210(HWS)

Mae’r wybodaeth ddiweddaraf a gyhoeddwyd ar gyfer 2015-16 yn dangos bod 525 o gleifion wedi cael eu derbyn i ysbytai ar draws Cymru ar ôl cael eu brathu neu eu taro gan gi.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr wybodaeth honno. Deallaf gan Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu fod 1,750 o ddyddiau wedi cael eu colli gan staff y Post Brenhinol ar draws y DU yn ystod y flwyddyn ddiwethaf o ganlyniad i ymosodiadau gan gŵn. Mae staff post wedi dioddef rhai anafiadau ofnadwy, yn cynnwys toriadau esgyrn, niwed tendonau, a thorri coesau neu freichiau i ffwrdd hyd yn oed. Felly rwy’n ddiolchgar fod gennym y ffigurau ar gyfer Cymru gyfan, oherwydd a fyddai’n cytuno bod cael y ffigurau gan y gwasanaeth iechyd yn helpu i gyfrannu at asesu’r darlun cyffredinol a llywio’r farn am y camau sydd angen eu cymryd er mwyn mynd i’r afael â’r broblem gynyddol hon?

Ydw, rwy’n cytuno, ac rwyf am dalu teyrnged i Julie Morgan a’i hetholwr y Cynghorydd Dilwar Ali, am y dull y maent wedi’i fabwysiadu, nid yn unig mewn perthynas â’r unigolyn yr effeithiwyd arno a’i deulu, ond mewn gwirionedd, o ran gweld mater ehangach i ymgyrchu yn ei gylch a’i wella, ar gyfer aelodau o’r cyhoedd yn gyffredinol yn ogystal â staff post yn benodol, sydd, i raddau helaeth, yn aelodau o Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu.

Nid yw hwn, os mynnwch, yn fater i fod yn ysgafn yn ei gylch, lle y caiff y postmon frathiad bach a bod hynny ond yn rhan o’r swydd; mae hon yn broblem wirioneddol ddifrifol. Mae pobl yn cael niwed go iawn, ac nid niwed corfforol yn unig, ond mae’n effeithio ar barodrwydd a gallu rhywun i wneud ei waith mewn gwirionedd. Gwn fod y gwasanaeth post yn treulio cryn dipyn o amser yn ceisio nodi ble mae’n debygol y bydd cŵn nad ydynt yn cael eu rheoli a’r gallu i fynd â phost i’r tŷ hwnnw ac i sicrhau bod gweithwyr yn cael eu diogelu’n briodol.

Felly, rwy’n falch fod y gwasanaeth iechyd wedi darparu gwybodaeth i helpu i ddeall maint a natur y broblem, y gost i bwrs y wlad, y gost i’r unigolyn, a’r gwelliant y mae angen i bob un ohonom chwarae ein rhan ynddo. Gwn fod gwleidyddion sy’n crwydro o amgylch y wlad mewn etholiadau yn cael blas bach o’r hyn y mae gweithwyr post yn ei wneud a’r anawsterau a wynebant yn rheolaidd.

Yn wir, Ysgrifennydd y Cabinet, rydych yn siarad ag un o’r gwleidyddion a ddioddefodd yn y modd hwnnw fis Mai diwethaf. Cefais frathiad drwg iawn ar fy llaw, diolch i ryw gi neu’i gilydd, a phrofais wasanaeth rhagorol yn Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys ysbyty Llwynhelyg, a gyflawnodd lawdriniaeth hir ond sylweddol i atgyweirio fy llaw. Ond yn anad dim, roeddwn yn gallu dychwelyd adref ac am weddill yr wythnos, cefais driniaeth dair gwaith y dydd gan y tîm ymateb aciwt. Yn wir, mae llawer o fy etholwyr wedi cael y timau ymateb aciwt yn ymateb iddynt. Ymyrraeth nyrsio acíwt â therfyn amser iddo yw hwn ar gyfer cleifion yn y gymuned i’w harbed rhag gorfod aros yn yr ysbyty. Cafodd un o fy etholwyr septisemia a dôi’r tîm ymateb aciwt i ymweld ag ef ac edrych ar ei ôl, rwy’n credu, bedair gwaith y dydd mewn gwirionedd.

Ysgrifennydd y Cabinet, a allech roi trosolwg i ni o’r timau ymateb acíwt a beth y gallem ei wneud i hyrwyddo eu defnydd ledled Cymru? Oherwydd maent yn ffordd dda iawn o sicrhau nad yw pobl yn gorfod aros mewn gwelyau, gan ryddhau gwelyau ar gyfer pobl eraill, a rhoi triniaeth gymunedol iddynt yn eu cartrefi, lle maent eisiau bod, ac ni fyddent yn gallu aros yno heb gynllun mor wych â thîm ymateb aciwt, fel yr un yn Hywel Dda.

Wel, mae’n enghraifft dda o’r ffaith fod enghreifftiau o ragoriaeth go iawn ym mhob un o’n byrddau iechyd, a’r cymhelliant yw darparu mwy o ofal yn nes at adref, sy’n golygu nad oes angen i bobl aros mewn ysbyty’n ddiangen. Unwaith eto, y pwynt yw bod meysydd gweithgaredd sylweddol a fyddai wedi cael eu cyflawni gan feddygon yn flaenorol bellach yn cael eu cyflawni gan staff gwahanol. Mae cael ymyrraeth a arweinir gan nyrsys yn enghraifft dda, ac yn enghraifft arall o’r math o ddiwygio rydym eisiau ei weld yn ein gwasanaeth, wedi’i gyflwyno fesul cam, diwygio nad yw’n ymwneud â brics a morter, ond â sut y gwnawn ddefnydd gwell o’n staff mewn gwahanol leoliadau. Rwy’n credu mai dyna rydym angen ei wneud, ac mae disgwyliad ymhlith y cyhoedd, ac rwy’n credu bod yna awydd gwirioneddol ymhlith y staff eu hunain i lunio modelau gofal newydd i wneud yn union hynny.

Gwasanaethau i Gleifion Canser

4. Pa gamau y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cymryd i wella gwasanaethau i gleifion canser yng Nghymru yn 2017? OAQ(5)0197(HWS)

Diolch am y cwestiwn. Cafodd bwriadau Llywodraeth Cymru eu nodi ym mis Tachwedd y llynedd yn y diweddariad o’r ‘Cynllun Cyflawni Canser ar gyfer Cymru’. Drwy’r grwp gweithredu cenedlaethol, bydd ffocws ar ddiagnosis cynnar a bydd byrddau iechyd yn parhau i flaenoriaethu amseroedd aros canser.

Diolch yn fawr i chi am yr ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn ystod yr etholiad cyffredinol yn 2010, addawodd Llafur ddarparu gweithiwr allweddol i bob claf canser yng Nghymru erbyn 2011. Fodd bynnag, canfu arolwg profiad cleifion canser Cymru yn ddiweddar nad oes gan 14 y cant o’r ymatebwyr weithiwr allweddol o hyd. Hefyd, nid yw’n orfodol i Iechyd Cyhoeddus Cymru gasglu data ar weithwyr allweddol. Pa gamau y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cymryd i sicrhau bod y data hanfodol hwn yn cael ei gasglu a phryd y mae’n disgwyl y bydd cleifion canser yng Nghymru yn derbyn y lefel o ofal a addawyd yn ôl yn 2010? Rwy’n credu bod chwech i saith mlynedd yn llawer hwy na’n tymor a dylai’r addewid gael ei gyflawni. Diolch.

Wel, mewn ymateb i’r cwestiwn gan lefarydd UKIP, dywedais unwaith eto fod gan 66 y cant o gleifion canser weithiwr allweddol yn 2013, a, iawn, mae hwnnw wedi codi i 86 y cant yn yr arolwg diweddaraf. Felly, mae cynnydd sylweddol wedi bod ac eto mae mwy i’w wneud, fel y nodais yn flaenorol. Ar hyn o bryd, mae’r wybodaeth am weithwyr allweddol yn cael ei chadw o fewn y system gwybodaeth canser a elwir yn Canisc. Ac fe wyddom fod angen adnewyddu’r system honno, ac felly dylai hynny ei gwneud yn haws wedyn i ddeall amryw o’r meysydd hyn. Yn hytrach na gofyn i fyrddau iechyd ei wneud â llaw neu i ddyfeisio system wahanol i gasglu’r wybodaeth am weithwyr allweddol, hoffwn gael dull priodol o gasglu data a’n galluogi i gwestiynu’r data hwnnw mewn ffordd ystyrlon, nid yn unig mewn perthynas â gweithwyr allweddol, ond mewn nifer o feysydd eraill. Felly mae’r gwaith hwnnw’n cael ei wneud gan rwydwaith canser Cymru a chan swyddogion ar draws y Llywodraeth. Felly mae hwn yn faes lle rwy’n credu y gallwn fod yn falch o’r cynnydd rydym wedi’i wneud, ond fel y dywedais, ac fel rwy’n ei ddweud yn rheolaidd, rydym yn parhau i gydnabod bod mwy i ni ei wneud.

Ysgrifennydd y Cabinet, cafodd y grŵp trawsbleidiol ar asbestos gyflwyniad yn ei gyfarfod ym mis Mai ar imiwnotherapi fel triniaeth bosibl ar gyfer mesothelioma, gan gynnwys y treial SKOPOS yn Felindre, i edrych ar sut y gallai brechlyn o’r enw TroVax weithio ochr yn ochr â chemotherapi ar gyfer y rhai sy’n dioddef o fesothelioma plewrol. Mae’r cyllid ar gyfer y gwaith ymchwil hwn yn dod i ben ym mis Awst eleni ac mae pryder y gallai’r ymchwil sy’n cael ei wneud ar imiwnotherapi ym mhrifysgol Caerlŷr, sy’n ddibynnol iawn ar y gwaith treialu a wnaed gan grŵp ymchwil Caerdydd, fod mewn perygl. A ydych yn cytuno, Ysgrifennydd y Cabinet, fod y gwaith hwn a wneir yn Felindre yn arloesol, a’i fod yn allweddol ar gyfer canfod ffyrdd newydd o drin mesothelioma? Ac a allwch fy sicrhau y byddwch yn edrych ar ba gyllid y gellir ei ddarparu i sicrhau y gall y gwaith hwn barhau ar ôl mis Awst?

Diolch i’r Aelod am godi’r mater. Mae mesothelioma yn rhywbeth y mae gennyf ddiddordeb arbennig ynddo. Heb ddymuno trafod fy rôl flaenorol, roeddwn i a rhywun arall yn y Siambr hon yn gyfreithwyr cyn dod i’r lle hwn, a buom yn gweithio ar nifer o achosion mesothelioma mewn gwirionedd. Roedd cyfarfod ag aelodau o’r teulu a gorfod bod yn dyst i apeliadau yn arbennig o galed ar adegau—profiad anodd iawn, oherwydd mae mesothelioma, hyd yma, bob amser yn angheuol. Mae’r llwybr at y diwedd yn un cyflym a gofidus. Felly mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn gwaith ymchwil a fyddai, o bosibl, nid yn unig yn ymestyn bywydau, ond yn achub bywydau hefyd. Byddwn yn ddiolchgar, mewn gwirionedd, pe bai’r Aelod yn ysgrifennu ataf. Byddwn yn hapus i drafod y mater gyda hi’n fwy manwl—rwy’n deall mai chi yw cadeirydd y grŵp trawsbleidiol—er mwyn deall ein sefyllfa ar hyn o bryd a’r dull y byddwn yn ei gymryd gyda rhannau eraill o’r DU i helpu i wella canlyniadau yn y dyfodol.

Ymchwil ac Arloesedd Clinigol

5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd o ran ymchwil ac arloesedd clinigol yn y GIG yng Nghymru? OAQ(5)0199(HWS)

Diolch am y cwestiwn. Mae ymchwil ac arloesedd yn feini prawf allweddol ar gyfer dynodiadau byrddau iechyd prifysgol yng Nghymru ac yn rhan o fframwaith cynllunio GIG Cymru. Fel Llywodraeth, rydym wedi ymrwymo dros £29 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon i barhau â’n buddsoddiad mewn ymchwil o ansawdd uchel ac arloesedd sy’n canolbwyntio ar dechnoleg o fewn y GIG.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae’r ganolfan arloesi ymchwil clinigol yn Ysbyty Gwynllyw yn enghraifft wych o fuddsoddiad gan fwrdd iechyd Aneurin Bevan sy’n caniatáu i ymchwilwyr a staff gymryd rhan mewn ymchwil arloesol mewn meysydd sy’n cynnwys dementia, diabetes a chanser. Y llynedd, cymerodd dros 17,000 o gyfranogwyr ran mewn bron i 480 o astudiaethau ymchwil clinigol, sy’n helpu ymchwilwyr i ddatblygu triniaethau newydd ac yn sicrhau bod cleifion yn cael mynediad at y rheini’n nes at adref. Pa gynlluniau sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i weithio gyda’r ganolfan, byrddau iechyd ac eraill i sicrhau bod cleifion, gofalwyr a staff yn cael eu cefnogi a’u hannog i gofleidio ymchwil yn llawn a’i wneud yn weithgaredd craidd o fewn y GIG yng Nghymru?

Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Mwynheais ein hymweliadau—wel, fy ymweliadau i—â’ch etholaeth i gyfarfod â staff bwrdd iechyd prifysgol Aneurin Bevan. Fe’m trawyd gan yr ystod o weithgareddau a oedd yn cael eu cynnal. Mae hwnnw’n rhan o’r £21 miliwn rydym yn ei ariannu drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae’r £8 miliwn ychwanegol, pan fyddaf yn cyfeirio at y £29 miliwn, yn dod o’r gronfa Effeithlonrwydd drwy Dechnoleg. Ceir amrywiaeth o lwybrau gwahanol i gyrraedd yno. Ond mewn gwirionedd, mae hyn yn bwysig iawn, nid yn unig i gael staff sy’n ymroddedig ac sydd eisiau deall beth arall y gallant ei wneud, ond hefyd i wella canlyniadau ac ansawdd y gofal sy’n cael ei ddarparu mewn gwirionedd. Fel y dywedais, mae’n rhan allweddol o ddynodiad a statws bwrdd iechyd prifysgol. Mae hefyd yn rhan o’r meini prawf ar gyfer cymeradwyo neu beidio â chymeradwyo’r cynllun tymor canolig integredig. Felly, mae hwn wedi’i ymgorffori yn ein fframwaith cynllunio, ac rwy’n disgwyl ei weld yn ein cyfarfodydd rheolaidd gyda chadeiryddion, yn eu harfarniadau, er mwyn sicrhau bod ymchwil ac arloesedd yn rhan allweddol o’r hyn y mae’r byrddau iechyd yn ei gyflawni heddiw mewn gwirionedd, er mwyn sicrhau ein bod yn gwella gofal iechyd ar gyfer y dyfodol.

Ysgrifennydd y Cabinet, roedd yn bleser mynd gyda chi i seremoni torri’r dywarchen y ganolfan gofal critigol newydd, a elwir bellach yn ysbyty prifysgol y Faenor, ddydd Llun yng Nghwmbrân. Fe drydarais lun da ohonom, a chi’n palu’r sylfeini â rhaw. Mae’r ysbyty newydd wedi bod yn yr arfaeth ers amser hir, fel y gwyddom, a chi oedd y Gweinidog a gafodd y fraint o dorri’r dywarchen—ni ddaeth sawl un o’ch rhagflaenwyr i ben â gwneud hynny. Ond a fyddech yn cytuno ei fod yn ymwneud â mwy na’r adeilad? Rydym am weld bod yr ysbyty newydd yn datblygu i fod yn ganolfan ragoriaeth ac arloesedd o safon fyd-eang. Rwy’n gwybod iddi gael ei hystyried ar un adeg fel canolfan bosibl ar gyfer niwrowyddorau, ond rwy’n meddwl bod hynny wedi mynd ar chwâl. Felly, pa waith rydych yn ei wneud, ac mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, i sicrhau, pan fydd yr ysbyty newydd yn agor yn y pen draw—mewn ychydig flynyddoedd, gobeithio—y bydd yn ysbyty o safon fyd-eang, yn rhywbeth y gall pobl de Cymru fod yn wirioneddol falch ohono, ac a fydd yn denu’r staff meddygol gorau a mwyaf disglair?

Rwy’n credu y dylai wneud gwahaniaeth gwirioneddol a sylweddol i ailfodelu gofal iechyd ar draws ardal Gwent a thu hwnt. Mae i fod i agor, fel y gwyddoch, yn ystod gwanwyn 2021, pan ddylai ysbyty prifysgol y Faenor fod ar agor ac yn weithredol. O ran y cwestiwn a ofynnodd Jayne Bryant a’r pwynt a wnewch, mae’n bwysig deall nad yw’r ffordd rydym yn darparu gwasanaethau yn ymwneud yn unig â darparu gofal iechyd rhagorol—rhaid i ymchwil ac arloesedd ddigwydd ochr yn ochr â hynny a thrwy hynny yn ogystal. Felly, rwy’n disgwyl y bydd ffocws manwl ar ymchwil ac arloesedd pan fydd yr ysbyty’n agor, nid ar adeg yr agoriad yn unig ond drwy gydol y cyfnod o amser, gan fod hynny’n rhan o’r broses o ddenu a chadw staff yno. 

Felly, er enghraifft, mae’r camau a roddwyd ar waith eisoes i gael uned strôc hyperaciwt, a leolir ar hyn o bryd yn Ysbyty Brenhinol Gwent—mae llawer o hynny mewn gwirionedd yn ymwneud â chael model gwasanaeth gwahanol sydd wedi caniatáu iddo ddenu, recriwtio a chadw staff o ansawdd uchel na fyddai wedi dod fel arall yn rhan o hen fodel o ofal. Dylai’r gwaith ymchwil sydd eisoes ar y gweill yno gael ei wneud yn rhan o fodel newydd o ddarparu gofal iechyd hefyd. Felly, i mi, mae’n rhan allweddol o’r hyn rydym yn buddsoddi ynddo ar gyfer y dyfodol, nid brics a morter yn unig. 

Ysgrifennydd Cabinet, beth ydych chi’n ei wneud i hybu ymchwil clinigol mewn iechyd gwledig yma yng Nghymru?

Yn ddiddorol, rwyf wedi cael nifer o sgyrsiau gyda phobl yn y gydweithrediaeth yng nghanolbarth Cymru, gyda Phrifysgol Aberystwyth a chydag ysbyty Bronglais, ond hefyd, yr wythnos diwethaf, mynychais y diwrnod ymchwil ac arloesedd yng ngholeg y Drindod Caerfyrddin, a oedd yn edrych ar ystod o weithgareddau ymchwil ac arloesedd ar draws ardal bwrdd iechyd Hywel Dda. Ceir arwydd clir iawn gan y Llywodraeth hon ein bod yn disgwyl i’r gwaith hwnnw barhau, gan fod nifer o bobl eisiau cyflawni gweithgareddau mewn ardaloedd lle maent yn gwybod y bydd yn rhaid iddynt weithio, i bob pwrpas, mewn ardal drefol neu wasanaeth dinesig, ond ceir llawer o bobl eraill sydd am weithio’n benodol mewn meddygaeth wledig. Mae angen inni wneud yn siŵr nad yw ein gwasanaeth ond yn darparu’r gwasanaethau y mae pobl sy’n byw mewn cymunedau gwledig yn awyddus i’w cyflawni, ond ein bod yn deall y dystiolaeth o’r ansawdd gorau sydd ar gael ynglŷn â sut i gyflwyno’r gwasanaeth hwnnw’n ddiogel mewn ffordd sy’n gwerthfawrogi’r dewisiadau y mae pobl yn eu gwneud i fyw mewn cymunedau gwledig er mwyn iddynt gael gofal iechyd o ansawdd uchel hefyd.

Darpariaeth Meddygfeydd

6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y ddarpariaeth bresennol o feddygfeydd yng Nghymru? OAQ(5)0202(HWS)

Diolch. Rydym wedi ymrwymo i ymarfer cyffredinol o ansawdd uchel fel rhan greiddiol o wasanaeth gofal sylfaenol modern. Bydd buddsoddiad mewn gwasanaethau meddygol cyffredinol yn cynyddu £27 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon. Mae hyn, ynghyd â £40 miliwn ar gyfer ystadau gofal sylfaenol a’n cronfa gofal sylfaenol £43 miliwn, yn cefnogi darpariaeth ymarfer cyffredinol barhaus sy’n gynaliadwy ac o ansawdd uchel.

Rwy’n ddiolchgar am yr ateb hwnnw, ond bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod bod arolwg cenedlaethol Cymru wedi canfod bod 39 y cant o’r ymatebwyr yn ei chael hi’n anodd gwneud apwyntiad cyfleus i weld meddyg teulu, ac roedd 62 y cant i gyd yn anfodlon â’r gwasanaeth a ddarperir gan y GIG yng Nghymru. Ers 2004, fel cyfran o gyllid y GIG, mae ymarfer cyffredinol wedi gostwng o 10 y cant o’r cyfanswm i 8 y cant—mae hwnnw wedi mynd i fyny yn ddiweddar, rhaid cyfaddef—ond er mwyn cyrraedd safle boddhaol, mae Cymdeithas Feddygol Prydain yn dweud y dylai fod yn 12 y cant o’r hyn rydym yn ei wario ar y GIG ar hyn o bryd. A all Ysgrifennydd y Cabinet roi syniad i ni o’r ymateb y byddai’n ei roi i Gymdeithas Feddygol Prydain ynglŷn â’r ffigur hwnnw?

I fod yn deg, pwyllgor ymarfer cyffredinol Cymdeithas Feddygol Prydain yw hwn. Rwy’n hyderus tu hwnt na fyddai clinigwyr mewn gofal eilaidd yn dymuno gweld adnoddau sylweddol yn cael eu trosglwyddo rhwng gofal eilaidd a gofal sylfaenol. Mae honno’n rhan onest o’n her: wrth i ni gynyddu’r arian sy’n mynd i mewn i’r gwasanaeth iechyd—fel y dywedais yn gynharach, ar gost boenus a sylweddol i rannau eraill o weithgarwch gwariant cyhoeddus yma yng Nghymru—pan fyddwch yn meddwl ynglŷn â sut a ble y byddwn yn buddsoddi’r arian hwnnw, y gwir gonest yw bod darparu gwasanaethau mewn gofal eilaidd yn ddrutach na darparu gwasanaethau mewn gofal sylfaenol. Felly, hyd yn oed wrth i ni fuddsoddi i geisio darparu mwy o ofal yn nes at adref—yr enghraifft a roddodd Angela Burns yn gynharach—nid yr un gost sy’n gysylltiedig â hynny bob amser, er enghraifft, â’r cyfalaf sylweddol sydd angen i chi ei fuddsoddi mewn cenhedlaeth newydd o radiolegwyr. Felly mae yna ddewisiadau gonest i’w gwneud yma. Wrth i wasanaethau symud a chael eu had-drefnu, rwy’n benderfynol o sicrhau y darperir cyllid i wneud yn siŵr fod y gwasanaeth yn cael ei ariannu’n briodol ac yn ddigonol. Nid wyf yn credu ei bod yn ddefnyddiol ceisio cadw at ffigur canran o fewn cyllideb y GIG fel nod ac amcan. Rhaid mai’r nod a’r amcan yw darparu’r gofal iawn ar yr adeg iawn yn y lle iawn, a chyda’r adnoddau iawn i alluogi pobl i wneud hynny.

Ysgrifennydd y Cabinet, mewn perthynas â gwasanaethau iechyd meddwl, ceir tystiolaeth y gall gwasanaethau cwnsela da atal ymweliadau mynych â meddyg teulu, ac mae ganddynt enw da am helpu a rheoli a hyd yn oed lleddfu symptomau ysgafn i gymedrol. Rwy’n credu bod y math hwn o arloesi yn rhywbeth sydd angen i ni weld mwy ohono yn y GIG, yn enwedig os ydym am gadw mwy o feddygon teulu, rhai o’r rhai hŷn efallai sy’n meddwl am ymddeol, ac mae nifer go fawr o’r rheini yng Nghymru. Enghraifft yw hon o sut y gallwn helpu i gydbwyso’r llwyth gwaith a defnyddio meddygon teulu ar eu gorau ym mhen dwfn y gwasanaeth sydd ei angen mewn gwirionedd. 

Rwy’n cytuno bod angen inni ystyried sut i wneud y defnydd gorau o weithwyr proffesiynol yn y gwasanaeth, a’r tu allan i’r gwasanaeth yn ogystal. Mae’n rhan sylweddol o faich achosion meddyg teulu, mewn gwirionedd, y mathau hynny o heriau iechyd meddwl ar lefel gymedrol i lefel is sy’n dod â phobl drwy eu drysau. Ac mae’n rhan o’r rheswm pam y mae llawer o glystyrau gofal sylfaenol yn buddsoddi mewn gwasanaethau cwnsela â’r adnoddau rydym wedi eu rhyddhau ar eu cyfer. Mae gwasanaethau iechyd meddwl a therapi yn rhai o’r meysydd mwy sylweddol a chyson, ynghyd â fferylliaeth, ar gyfer buddsoddiad clystyrau. Ac mae’n ymwneud â’r ymdeimlad cyffredinol o lesiant a sut yr awn i’r afael â hynny hefyd. Weithiau, nid ymyrraeth feddygol yw honno. Felly, er enghraifft, pan fyddwn yn meddwl am bresgripsiynu cymdeithasol, mae llawer o hynny mewn gwirionedd yn ymwneud â gwella iechyd meddwl a llesiant yn lle therapi siarad ffurfiol, os mynnwch, neu feddyginiaeth yn wir. Dyna pam hefyd y mae’r Llywodraeth hon wedi ailymrwymo yn ein rhaglen lywodraethu i dreial presgripsiynu cymdeithasol sylweddol y credwn y bydd yn rhoi gwybodaeth bwysig inni ynglŷn â sut i ddatblygu gwasanaeth ar gyfer y dyfodol a ddylai wneud gwahaniaeth go iawn i iechyd meddwl a llesiant. Ac yn amlwg, byddwn yn edrych eto, ymhen blwyddyn neu ddwy, ar ymarfer Camau’r Cymoedd y credwn ei fod wedi gwneud gwahaniaeth go iawn yn y maes hwn eisoes. 

Mae meddygfa Dolwenith ym Mhenygroes yn cau ddiwedd y mis, a fydd yna neb yn dod yn lle’r meddyg sy’n ymddeol. Fo oedd yr unig un a oedd yn cynnig gwasanaeth Cymraeg mewn ardal o 5,000 o bobl, tri chwarter ohonyn nhw yn siarad Cymraeg. Fe fydd gan y dyffryn lai o ddoctoriaid y pen na chyfartaledd Cymru a ddoe, mewn datganiad tila tu hwnt, fe ddywedoch chi na fyddwch chi yn sefydlu ysgol feddygol ym Mangor. Sawl meddygfa arall sy’n gorfod cau? Sawl locwm arall y byddwch chi’n gorfod talu’n ddrud amdanyn nhw cyn i chi sylweddoli mai ysgol feddygol ydy’r unig ffordd gynaliadwy o ddatrys yr argyfwng iechyd sy’n ein wynebu ni yng ngogledd Cymru?

Wel, nid wyf yn rhannu’r pwyntiau a wnewch, ac rwy’n meddwl y gallem naill ai gael sgwrs lle byddwn yn parhau i siarad ynglŷn â sut y darparwn fwy o addysg a hyfforddiant meddygol, a mwy o weithwyr gofal iechyd proffesiynol ym mhob rhan o’r wlad sydd eu hangen—gogledd, canolbarth, gorllewin a de Cymru hefyd—neu gallem fynd drwy ymateb braidd yn fformiwläig, ‘Rydych yn gyfrifol, eich bai chi ydyw ac rwy’n siomedig’. Nid wyf yn credu bod hynny’n mynd â ni’n bell iawn. Rwy’n hapus i gael ffrae os oes angen cael ffrae, ond nid wyf yn credu mai dyma’r man i wneud hynny. Rwy’n meddwl bod y penderfyniad a wnaethom ddoe yn seiliedig ar sylfaen dystiolaeth briodol ynglŷn â’r peth iawn i’w wneud. Rwy’n pryderu am ein gallu i recriwtio, cadw a denu pobl i weithio yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Dyna pam y mae’r cymhellion, er enghraifft, ar gyfer hyfforddiant meddygon teulu yng ngogledd-orllewin a gogledd-ddwyrain Cymru—rydym wedi llenwi’r mannau hynny a oedd yn anodd recriwtio iddynt o’r blaen. Felly, rwyf o ddifrif ynghylch y model cyfan o ofal a ddarperir gennym, ond nid wyf yn rhannu tôn na chynnwys y sylwadau a wnewch. Rwyf wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth iechyd priodol—[Torri ar draws.]—gwasanaeth iechyd priodol ar gyfer cymunedau ledled Cymru, gan gynnwys gogledd Cymru, ac rwy’n ddig ynglŷn â’r awgrym a’r cyhuddiad nad wyf yn poeni am un rhan o Gymru. 

4. 3. Cwestiynau Amserol

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Diogelwch mewn Carchardai Ieuenctid

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y dirywiad mewn diogelwch mewn carchardai ieuenctid yn sgil cyhoeddi adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Carchardai Cymru a Lloegr EM ar gyfer 2016-17? TAQ(5)0172(CC)

Diolch am y cwestiwn. Er bod Llywodraeth Cymru yn gyfan gwbl o ddifrif ynglŷn â diogelwch pobl ifanc yn y ddalfa, y Weinyddiaeth Gyfiawnder a’r bwrdd cyfiawnder ieuenctid sydd â chyfrifoldeb am hyn. Rwyf wedi ymweld â charchar y Parc o’r blaen a byddaf yn dwyn y mater y mae’r Aelod yn gofyn yn ei gylch i sylw Gweinidog y DU.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ymateb, ac rwy’n siŵr ei fod yn rhannu fy arswyd ynglŷn â llawer o’r canfyddiadau a geir yn yr adroddiad hwn. Yn wir, mae Prif Arolygydd Carchardai Ei Mawrhydi wedi dod i’r casgliad nad oes unrhyw un o’r sefydliadau a arolygwyd yng Nghymru a Lloegr y llynedd yn ddiogel i gadw plant a phobl ifanc. Mae cyfraddau hunan-niweidio wedi dyblu ers 2011, roedd 46 y cant o fechgyn yn teimlo’n anniogel yn eu sefydliad, roedd cyfraddau ymosodiadau yn 18.9 fesul 100 o blant, o gymharu â 9.7 yn 2011. Mae’r amgylchiadau y cedwir plant ynddynt wedi dirywio, ac mae lefelau trais yn uchel—ymosodiadau ar staff ac ar bobl ifanc eraill.

Rydym wedi mynd y tu hwnt i’r pwynt argyfwng, rwy’n meddwl. Fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n cydnabod nad yw hyn yn deillio o bolisi Llywodraeth Cymru, ond mae plant Cymru yn cael eu rhoi mewn perygl ac yn cael cam gan y gyfundrefn bresennol. Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant sy’n gyfrifol am hawliau plant a phobl ifanc. Mae Erthygl 19 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn dweud bod yn rhaid i lywodraethau wneud popeth yn eu gallu i sicrhau bod plant yn cael eu hamddiffyn rhag pob math o drais, camdriniaeth, esgeulustod a thriniaeth wael gan eu rhieni neu unrhyw un arall sy’n edrych ar eu hôl. Yn ôl Erthygl 37: ni ddylai plant ddioddef triniaeth neu gosb greulon neu ddiraddiol. Pan gânt eu harestio, eu cadw neu eu carcharu, rhaid i blant gael eu trin gyda pharch a gofal.

O ystyried yr argyfwng hwn, Ysgrifennydd y Cabinet, a gytunwch, fel cam i’w roi ar waith ar unwaith, y byddwch yn mynnu mynediad gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder at yr ystâd carchardai er mwyn i Lywodraeth Cymru archwilio sefyllfa plant Cymru drosti ei hun? Ac yn ail, a wnewch chi geisio datganoli cyfiawnder ieuenctid yn gyflym i’r wlad hon fel nad yw plant Cymru yn cael cam pellach gan y system gosbi doredig sydd gennym ar hyn o bryd?

Rwy’n credu bod yr Aelod yn gwneud pwyntiau diddorol a phwysig iawn am gyflwr y genedl ac yn enwedig pobl ifanc a sut y mae’n rhaid inni sicrhau eu bod yn cael eu hamddiffyn costied a gostio o ran eu sefyllfa o fewn y sector. Gallaf ddweud bod perthynas y bwrdd cyfiawnder ieuenctid â Chymru yn dda iawn, a chafwyd arolwg cyn rhyddhau’r adroddiad, a rhoddwyd camau ar waith, yn enwedig mewn perthynas â’r ystâd ddiogeledd yma yng Nghymru.

Gallaf hysbysu’r Aelod fod y canlyniadau a gyhoeddwyd o arolwg 2016-17 o garchar y Parc dan ‘Diogelwch’, ‘Parch’, ‘Gweithgarwch pwrpasol’ ac ‘Ailsefydlu’ i gyd yn ‘weddol dda’. Gellir dadlau y dylai hynny fod yn well, ond mae’n sicr mewn lle gwell na’r holl sefydliadau diogel eraill ar draws y wlad.

Fy holl ethos, ac ethos fy adran, yw ein bod wedi gwneud cam â’r system mewn gwirionedd pan fydd pobl yn cael eu rhoi yn yr ystâd ddiogeledd. Dylem fynd ati’n llawer mwy rhagweithiol i wneud yn siŵr fod camau atal ar waith i gefnogi pobl ifanc. Dyna pam ein bod yn buddsoddi yn y canolbwynt profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yma yng Nghymru i ddiogelu unigolion rhag pentyrru profiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Rydym yn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru ar draws yr adrannau i wneud yn siŵr ein bod yn gallu helpu pobl ifanc—eu hatal rhag mynd i mewn i’r systemau hyn—ond rwyf wedi cymryd y pwyntiau y mae’r Aelod yn eu gwneud a byddaf yn edrych yn ofalus ar yr argymhellion yn yr adroddiad, ac os oes mwy y gallwn ei wneud, byddaf yn sicr yn rhoi gwybod i’r Aelod.

Strwythurau Peryglus

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y canllawiau cyfredol ar gyfer rheoli a chael gwared ar strwythurau peryglus, ar ôl i ddyn farw pan ddisgynnodd adeilad yn Sblot ddoe? TAQ(5)0166(ERA)

Diolch. Gall awdurdodau lleol orfodi camau gweithredu mewn perthynas â strwythurau peryglus drwy Ddeddf Adeiladu 1984. Defnyddir Adran 77, ‘Adeiladu peryglus’, pan fo posibilrwydd o strwythur peryglus; defnyddir adran 78, ‘Adeiladu peryglus—camau argyfwng’, pan fo angen gweithredu ar unwaith i gael gwared ar y perygl.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw. A gaf fi fynegi fy nghydymdeimlad, Llywydd, â theulu’r dyn a laddwyd ddoe? Rwy’n meddwl bod angen rhoi camau prydlon ar waith pan nodir bod risg uchel yn gysylltiedig ag adeiladau. Mae gennym nifer go fawr o adeiladau cyhoeddus Fictoraidd nad ydynt mewn defnydd cyson, fel yr adeilad hwn, ac sydd mewn perygl o ddirywio. Rwy’n credu bod angen gofal lle mae adeiladau’n creu risg pellach i gymdogaethau lleol neu seilwaith cyfagos. Rwy’n gobeithio y byddwch yn gallu defnyddio’r system gynllunio i bwysleisio pwysigrwydd y materion hyn.

Fel y dywedais, cyfrifoldeb i’r awdurdod lleol yw hwn, ac ni fyddai cynllunio’n cwmpasu strwythurau peryglus. Y ddeddfwriaeth yw Deddf Adeiladu 1984, sy’n ddeddfwriaeth ar gyfer Cymru a Lloegr. Felly, Cymru a Lloegr, felly nid ein deddfwriaeth ni yw hi. Rydym yn gobeithio gweld pwerau’n cael eu trosglwyddo drwy Ddeddf Cymru 2017, o fis Ebrill nesaf, ac mae’n sicr yn rhywbeth y gallwn edrych arno. Ond rwy’n cytuno’n llwyr â chi y dylid rhoi camau prydlon ar waith bob tro.

Nid dyma’r amser i wleidydda. Mae dyn wedi marw, ac mae ein meddyliau gyda’i deulu a’r gymuned yn Sblot. Rwy’n meddwl, fodd bynnag, fod yn rhaid gofyn cwestiynau ynglŷn â sut y digwyddodd ac a oes unrhyw adeiladau eraill yng Nghaerdydd mewn cyflwr peryglus. Ar ran fy ngrŵp, hoffwn gydymdeimlo â’r teulu eto a chynnig unrhyw gymorth y gallwn ei roi, ac mae hynny’n cynnwys grŵp cyngor Caerdydd yn ogystal.

Diolch i Neil McEvoy am y pwyntiau hynny, ac rydym yn sicr wedi clywed arweinydd cyngor dinas Caerdydd yn dweud bod yna gwestiynau i’w gofyn. Mae fy swyddogion wedi bod mewn cysylltiad â swyddogion cyngor dinas Caerdydd ac wrth gwrs, fe wnawn unrhyw beth sy’n ofynnol i ni ei wneud. Ond fel y dywedais, mae angen edrych yn ofalus iawn ar hyn, yn amlwg. Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn ymwneud â hyn, felly nid wyf yn credu y byddai’n briodol dweud rhagor.

Yn amlwg, gan ei fod yn destun ymchwiliad troseddol posibl, mae angen i ni fod yn ofalus iawn ynglŷn â’r hyn a ddywedwn yma, ond yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi nodi eisoes fod yr adeilad mewn cyflwr anniogel, a dyna pam y cafodd y perchennog gyfarwyddyd i’w ddymchwel. Ond yn amlwg, y mater sy’n codi yma yw ansawdd yr asesiad risg roedd angen ei gynnal i sicrhau bod yr adeilad wedi’i ddymchwel yn ddiogel. Yn amlwg, dyna un o’r materion y mae angen inni aros am yr ymchwiliad yn ei gylch, ond nid wyf yn credu bod unrhyw reswm i ragdybio bod adeiladau eraill ar fin cwympo am fod adeilad penodol wedi cwympo mewn modd mor drasig. Nid yw un yn dilyn o’r llall.

Deallaf o adroddiadau yn y wasg fod arolwg wedi’i gynnal yn yr ardal rai blynyddoedd yn ôl gan Network Rail rwy’n meddwl. Rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn fod adrannau cynllunio a rheoliadau adeiladu awdurdodau yn gadarn, ac rwy’n credu bod hwnnw’n waith y gallaf ei wneud gyda fy nghyd-Aelod Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol. Ond fel rwy’n dweud, mae’n fater i’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn awr, felly nid wyf yn credu ei bod yn briodol gwneud unrhyw sylwadau pellach.

5. 4. Datganiadau 90 Eiliad

Diolch, Llywydd. Wel, mae tymor y Cynulliad wedi gorffen ac mae’r flwyddyn ysgol wedi gorffen hefyd. Chwe deg mlynedd yn ôl, daeth Rhyl yn gartref i’r ysgol uwchradd Gymraeg gyntaf. Mae’r ysgol wedi bod yn llwyddiant ac wedi arwain at dwf mewn addysg Gymraeg trwy Gymru. Felly, llongyfarchiadau i ysgol Glan Clwyd. Rydw i’n falch iawn o fod yn Aelod Cynulliad dros Ddyffryn Clwyd, cartref geni addysg iaith Gymraeg. Diolch.

Rwy’n falch o wasanaethu ardal gyda threftadaeth ddiwydiannol gyfoethog, boed yn ddur, glo, neu weithgynhyrchu. Y penwythnos hwn sy’n dod, bydd darn mawr o’r dreftadaeth ddiwydiannol honno’n cael ei dadorchuddio yn agoriad mawreddog olwyn pwll glo wedi’i hadfer a’r strwythur merlen yng nglofa’r Parlwr Du. Y safle oedd y pwll glo dwfn olaf yng ngogledd Cymru, ac er bod yr atgofion yn dal yn fyw i’r rhai a weithiai yno, mae henebion ac adeiledd y pwll hwn wedi pylu ers iddo gael ei ddymchwel. Ond yn awr mae gwaith i drawsnewid y safle allweddol hwn yn mynd rhagddo’n dda. Mae tîm y Parlwr Du Ddoe a Heddiw, dan arweiniad eu cadeirydd angerddol, John Wiltshire, wedi gweithio’n ddiflino i weld atgyfodi atgofion er mwyn adfer a dychwelyd rhannau o’n gorffennol diwydiannol, gan gynnwys pen pwll gwreiddiol sy’n sefyll yn falch ar gyrion Ffynnongroyw. Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri, sydd wedi darparu cymorth ariannol i gyflawni’r uchelgais hwn, wedi dyfarnu dros £40,000 i’r prosiect. Rhannodd John hanes y prosiect yma mewn digwyddiad ym mis Mawrth, a’r mis wedyn agorodd llwybr y Parlwr Du, cam cyntaf y prosiect cyffrous hwn.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Mae dathlu ein treftadaeth ddiwydiannol yn rhan bwysig o ddeall a chydnabod ein gorffennol, ac mae’n hanfodol wrth lunio ein dyfodol. Ddydd Sul, rwy’n cael y fraint o ddadorchuddio’r olwyn pwll glo a adferwyd a’r strwythur merlen yn swyddogol, i nodi dechrau taith o ddarganfyddiad i lawer o deuluoedd, pobl leol, ac yn bwysig, i genedlaethau’r dyfodol, wrth i ran o’n hanes gael ei ddychwelyd adref.

Bydd hwn yn ddiwrnod arbennig i’r gymuned, cyn-weithwyr y Parlwr Du, eu teuluoedd, a’r tîm ymroddedig sydd wedi gweithio i wneud i hyn ddigwydd. Bydd yn foment falch, nid yn unig i mi fel Aelod Cynulliad dros Delyn, ond i mi’n bersonol, gan fod fy nhaid, fy ewythr, a llawer o aelodau fy nheulu wedi gweithio yn y Parlwr Du.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Yr wythnos diwethaf, pleser o’r mwyaf oedd bod yn bresennol ym mhrynhawn coffi masnach deg Ysgol Gynradd Fochriw i ddathlu’r barcud coch. Cynlluniwyd prosiect y barcud coch yn yr ysgol i ddatblygu’r disgyblion i fod yn wybodus yn foesegol ac i arddel gwerthoedd cadarn ynglŷn â’r amgylchedd a byd natur o’u cwmpas. Ar gyfer y prosiect, ffurfiodd yr ysgol eco-bwyllgor a gynigiodd amrywiaeth o syniadau, gan gynnwys llais y disgybl a pherchnogaeth y disgyblion ar y prosiect, tair rheol ysgol, sef dangos parch, bod yn gyfrifol, a bod yn ddiogel, ac yn rhan o hyn, anogwyd y disgyblion i barchu bywyd gwyllt yn fwy byth hyd yn oed, o fewn a thu allan i’r ysgol, i ddatblygu eu sgiliau digidol a bywyd go iawn, ac i hyrwyddo’r Cwricwlwm Cymraeg, gyda hanes y barcud coch yng Nghymru. Drwy’r prosiect, daeth y disgyblion i sylweddoli bod natur o’n cwmpas ym mhob man, ond i ni agor ein llygaid. Fel roeddent yn dweud, mae’n arbennig iawn, ac mae angen i ni fod yn gyfrifol wrth ofalu am fyd natur yn awr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Yn deillio o’u gweithgarwch, mae’r prosiect nid yn unig wedi codi ymwybyddiaeth ynglŷn â’r barcud coch, ond mae hefyd wedi codi arian, gan alluogi’r ysgol i roi cyfraniad i Gymdeithas Adaregol Gwent, sy’n defnyddio’r arian i adnewyddu blychau nythu yng nghoedwig Neuadd Goetre. Dechreuodd y disgyblion ar ymgyrch ddwys yn y cyfryngau cymdeithasol i rannu eu profiadau o’r prosiect a darparu gwybodaeth am y barcud coch, sydd i’w weld yn rheolaidd yn yr ardal o amgylch Fochriw, ac yng Nghwm Rhymni yn ehangach.

Cafodd y prosiect gydnabyddiaeth haeddiannol pan enillodd wobr Ysgol Ynni Gwell Ymddiriedolaeth Pobl Ifanc dros yr Amgylchedd 2017 ar gyfer Cymru a gorllewin Lloegr. A gaf fi ofyn i Aelodau’r Cynulliad ymuno â mi i longyfarch Ysgol Gynradd Fochriw ar ei gwobr, a chymeradwyo eu gwaith gwych ar brosiect y barcud coch, a chodi ymwybyddiaeth o faterion amgylcheddol ymhlith pobl ifanc, a datblygu eu sgiliau digidol ar yr un pryd? Diolch.

Bedwar deg mlynedd i’r wythnos yma, yn 1977, fe adawais i Ysgol Gynradd Llanwnnen, yn 10 oed, i fynd i’r ysgol uwchradd yn Llanbed. Bedwar deg naw mlynedd i’r wythnos yma, fe adawodd fy nhyd-Aelod, Dai Lloyd, ysgol Llanwnnen hefyd i fynd i’r ysgol uwchradd.

Yr wythnos yma, mi fydd pob plentyn yn gadael ysgol Llanwnnen, a’r ysgol yn cau ei drysau am byth. Mi fydd ysgolion Cwrtnewydd a Llanwenog yn cau eu drysau hefyd, ac ym mis Medi, bydd yr holl ddisgyblion yn cyd-gychwyn eu haddysg yn Ysgol Dyffryn Cledlyn, ysgol ardal newydd sbon.

Mae dros 400 mlynedd o addysg wedi ei darparu rhwng y tair ysgol yma—Llanwnnen, Llanwenog a Chwrtnewydd—i genedlaethau o blant. Fe fuodd fy mam-gu, a fy nhad, o fy mlaen i, yn ysgol Llanwnnen. Ond nid amser i ddigalonni yw hyn, ond yn hytrach amser i edrych ymlaen yn eiddgar am ganrif a mwy o addysg eto i blant yr ardal yn Ysgol Dyffryn Cledlyn.

Bythefnos yn ôl, fe gerddais i mewn i ysgol Llanwnnen i sŵn y plant yn canu ‘Rwy’n canu fel cana’r aderyn’—cân yr oeddwn i yn ei chanu 40 mlynedd a mwy yn ôl yn yr ysgol. Felly, mae pethau yn newid—ydyn—ond mae rhai pethau yn parhau. Mae’r adeiladau a’r cyfleusterau yn newid, ond mae’r addysg, y canu, y chwarae, a’r Gymraeg yn parhau.

Diolch, felly, am y cychwyn bywyd gwych a roddodd ysgolion Llanwnnen, Llanwenog a Chwrtnewydd i gymaint ohonom ni. Hir a hapus oes i ysgol newydd Dyffryn Cledlyn.

6. 5. Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid: Diwygio Cyllidol—Gwersi gan yr Alban

Symudwn ymlaen yn awr at eitem pump, sef y datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ar ddiwygio cyllidol—gwersi gan yr Alban.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, ac rwy’n falch o wneud y datganiad hwn heddiw, i rannu’r hyn a ddysgwyd gennym yn dilyn ein hymweliad diweddar â Chaeredin i drafod profiad yr Alban o ddiwygio ariannol.

Yn ystod ein hymweliad, buom ni’n cwrdd â chynrychiolwyr o Bwyllgor Cyllid a Chyfansoddiad Senedd yr Alban, Comisiwn Cyllidol yr Alban, a Chyllid yr Alban. Un o brif swyddogaethau’r Pwyllgor Cyllid yw ystyried y gyllideb ddrafft, a sut y bydd datganoli cyllidol i Gymru yn effeithio ar y ffordd y byddwn yn gwneud hyn. Bydd yr Aelodau yn gwybod bod y Rheolau Sefydlog diwygiedig newydd, a’r protocol cysylltiedig, wedi cael eu cytuno eisoes ar gyfer y gyllideb eleni, sef y gyllideb gyntaf i fod yn rhan o’r trefniadau ariannu newydd. Fodd bynnag, mae’r pwyllgor hefyd yn ystyried proses y gyllideb ddeddfwriaethol ar gyfer y dyfodol.

Yn yr Alban, lle mae proses y gyllideb ddeddfwriaethol eisoes ar y gweill, sefydlwyd grŵp adolygu’r gyllideb, i werthuso proses y gyllideb yn yr Alban, gan edrych yn benodol ar gysylltu â’r cyhoedd, craffu yn ystod y flwyddyn, fframwaith cyllidol, cyllidebau aml-flwyddyn, a chraffu sy’n seiliedig ar ganlyniadau. Roedd aelodau grŵp adolygu’r gyllideb yn yr Alban yn cynnwys swyddogion o Senedd yr Alban a Llywodraeth yr Alban, ynghyd ag arbenigwyr cyllid cyhoeddus allanol, gan gynnwys academyddion a rhanddeiliaid blaenllaw sydd â phrofiad helaeth o drefniadau cyllidol a chyllidebol. Cyhoeddodd y grŵp ei adroddiad ar ddiwedd mis Mehefin, ac roedd yn cynnwys nifer o argymhellion, a oedd â’r nod o wella’r broses o graffu ariannol yn yr Alban. Rwy’n gobeithio y bydd eu profiad yn yr Alban, a’r adroddiad hwn, yn ddefnyddiol wrth i ni baratoi i weithredu ein trefniadau newydd, ac wrth i ni symud ymlaen i ystyried proses newydd bosib hefyd.

Mae sefydlu’r grŵp hwn yn yr Alban yn dangos pa mor bwysig yw datblygu arbenigedd mewn trefniadau ariannol datganoledig, a bydd yn hanfodol bod yr un lefel o gefnogaeth gan arbenigwyr yn cael ei rhoi i ddatblygu ein trefniadau craffu ni i sicrhau ein bod yn gadarn ac yn effeithiol.

Mae datganoli cyllidol a newidiadau yn y Cynulliad yn gyfnod cyffrous a heriol i Gymru. Fel pwyllgor, bydd diddordeb mawr gennym yn y paratoadau ar gyfer sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru. Gan fod yr Alban eisoes wedi sefydlu ei sefydliad cyfatebol sydd wedi bod ar waith ers 2015, teimlwn ei bod yn bwysig dysgu o’u profiad yno, er mwyn sicrhau y ceir trosglwyddiad rhwydd pan fydd Awdurdod Cyllid Cymru yn weithredol o fis Ebrill y flwyddyn nesaf ymlaen.

Clywsom gan Gyllid yr Alban pa mor bwysig yw ymgysylltu â rhanddeiliaid wrth ddatblygu’r wefan a hyrwyddo ei rôl. Arweiniodd yr ymgysylltu helaeth â rhanddeiliaid wrth ddylunio’r rhyngwyneb ar gyfer y system dreth ar-lein at nifer fawr o gyflwyniadau digidol. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ymrwymo eisoes i sicrhau bod y rhyngweithio hwn â rhanddeiliaid yn rhan o’r broses, ond nid yw’n rhy hwyr i ddysgu o brofiad yr Alban ychwaith, i sicrhau bod unrhyw broblemau, waeth pa mor fach, yn cael eu datrys cyn mis Ebrill nesaf.

Buom ni hefyd yn cyfarfod â chynrychiolwyr o Gomisiwn Cyllidol yr Alban, sydd wedi bod yn gweithredu ar sail statudol ers mis Ebrill eleni. Mae cyfrifoldebau’r comisiwn yn cynnwys llunio rhagolygon annibynnol ar gyfer yr Alban, gan gynnwys rhagolygon o refeniw treth, gwariant ar nawdd cymdeithasol a chynnyrch domestig gros ar y tir. Dysgwyd y bydd y comisiwn a’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol—yr OBR, felly—yn darparu rhagolygon cyllidol ar gyfer yr Alban, ond y bydd y comisiwn yn defnyddio data sy’n benodol i’r Alban yn hytrach na data’r Deyrnas Gyfunol a ddefnyddir gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol—yr OBR. Dylai hynny sicrhau bod modelau rhagweld y comisiwn yn fwy cywir.

Yn hytrach na sefydlu corff o’r fath yma, mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, wedi penodi tîm o Brifysgol Bangor i graffu ar ei rhagolygon ar y gyllideb. Ymddengys mai un wers allweddol a ddaw o’r Alban yw bod angen datblygu data penodol ac amserol, ar lefel Cymru, y tu hwnt i’r data a ddarperir ar lefel y Deyrnas Gyfunol gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol. Yn bersonol, rwyf hefyd yn credu y bydd angen corff fel Comisiwn Cyllidol yr Alban arnom yn y pen draw, fel y bydd datganoli trethi yn cael ei roi ar waith. Nodaf fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig yn ddiweddar iawn, yn dweud y bydd sefydlu comisiwn o’r fath yn un o’r dewisiadau y mae’n ei ystyried. Bydd y Pwyllgor Cyllid yn edrych yn fanwl ar y mater hwn pan fyddwn yn craffu ar y gyllideb ddrafft.

Mae’r gwaith hwn ar ddatganoli ariannol yn gyfnod cyffrous i’r Pwyllgor Cyllid, a gobeithio i’r Cynulliad cyfan, a gobeithio y gallwn ddysgu o brofiad yr Alban i sicrhau bod ein trefniadau craffu mor gadarn ag y gallant fod. Diolch yn fawr.

A gaf fi ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid am ei ddatganiad heddiw? Fel un o dri aelod o’r pwyllgor a ymwelodd â Chaeredin, a’r unig un a fu mor annoeth â mynd ar y trên a chymryd llawer mwy o amser na phawb arall, fe’i cefais yn hynod ddefnyddiol pan gyrhaeddais yno, yn enwedig y cyfarfodydd gyda Phwyllgor Cyllid a Chyfansoddiad Senedd yr Alban, Comisiwn Cyllidol yr Alban a Revenue Scotland. Rwy’n credu ei bod yn werth nodi yn ogystal fod y Cadeirydd a minnau—credaf mai ni oedd yr unig rai—wedi ymweld hefyd ag Archwilydd Cyffredinol yr Alban, Caroline Gardner, a oedd â dealltwriaeth a throsolwg gwerthfawr o’r ffordd roedd y sefydliadau gwahanol yn gweithio gyda’i gilydd mewn tirwedd gyllidol newydd sy’n datblygu.

Fel y dywedoch, Simon, mae’r Alban yn dangos pwysigrwydd adeiladu arbenigedd mewn trefniadau cyllidol datganoledig a gallwn ddysgu o arferion da, a chamgymeriadau a wnaed, yn wir, i’r gogledd o’r ffin.

Felly, i droi at fy mhrif gwestiwn: pa rôl y gwelwch y Pwyllgor Cyllid yn gallu ei chwarae yn cynorthwyo yn y broses hon dros weddill tymor y Cynulliad wrth i ddatganoli cyllidol fynd rhagddo? Mae’n fy nharo nad yw’r Pwyllgor Cyllid erioed yn hanes y Cynulliad wedi bod mewn rôl mor allweddol a dylanwadol mewn gwirionedd o ran dyfnhau datganoli, ac rwy’n meddwl bod yna gyfle i’r pwyllgor fod yn wirioneddol effeithiol yn ystod y broses hon.

O ran datblygiad Trysorlys Cymru a gallu darogan economaidd, mae’r rhain yn feysydd enfawr, ac er y byddai Dafydd Elis-Thomas yn dweud eu bod yn faterion i Lywodraeth Cymru yn bennaf ymhel â hwy, rwy’n credu ei bod yn dasg enfawr i unrhyw Lywodraeth orfod ymdrin â hi. Felly, rwy’n credu bod rôl bwysig ar gyfer y Cynulliad hwn a phwyllgorau’r Cynulliad, gan gynnwys ein pwyllgor, i wneud yr hyn a allwn i ddylanwadu, i roi arweiniad ac i adrodd yn ôl i Lywodraeth Cymru ynglŷn â ble y credwn y gellir datblygu arferion da.

Soniodd y Cadeirydd am Revenue Scotland a phwysigrwydd ymgysylltu â rhanddeiliaid wrth lunio’r system er budd trethdalwyr Cymru. Mae gan ein pwyllgor gyfoeth o brofiad mewn ymgysylltu â rhanddeiliaid, felly, unwaith eto, gall chwarae rhan werthfawr yn ymgysylltu ac yn pwyso am yr hyn y credaf sydd ei angen arnom, sef fframwaith codi treth pwrpasol y gall pobl yng Nghymru deimlo’n gyfforddus ag ef a bod yn falch ohono. Rydym wedi siarad am hyn yn y pwyllgor, Cadeirydd, ond nid ydym am gael Awdurdod Cyllid Cymru sy’n ddigonol; rydym am gael Awdurdod Cyllid Cymru o safon fyd-eang. Rydym eisiau rhywbeth a all baratoi’r ffordd o ddifrif—ac nid yw hwnnw’n nod hawdd, rwy’n gwybod, ond credaf mai at hynny y dylem anelu. Yn bersonol, byddai wedi bod yn well gennyf i’r sefydliad fod wedi bod yn ‘refeniw Cymru’, pwynt a wneuthum yn y Cynulliad blaenorol. Rwy’n credu bod pob Aelod arall yn y Siambr wedi pleidleisio yn fy erbyn. Ond rwy’n credu, yn sicr wrth edrych ar y ffordd y mae Revenue Scotland wedi datblygu, y gall ‘refeniw Cymru’ yn sicr ddysgu gan y sefydliad hwnnw i’r gogledd o’r ffin.

Yn fyr iawn, Dirprwy Lywydd, a chan droi at Gomisiwn Cyllidol yr Alban, rwy’n tueddu i gytuno, roedd y dystiolaeth a gymerwyd gennym i’w gweld yn awgrymu nad oedd ei angen ar Gymru, neu nad oedd mynd ar drywydd cael comisiwn cyllidol yn cynnig y gwerth gorau am arian i Gymru o reidrwydd. Fodd bynnag, mae angen i ni wneud yn siŵr fod Llywodraeth Cymru yn cael gweld y data gorau posibl a mwyaf amserol. Nid yw hynny wedi bod yn wir bob amser yn y gorffennol, ond yn achos datganoli cyllidol, mae’n mynd i fod yn wirioneddol bwysig ein bod yn gwybod beth yw beth yn y maes hwnnw cyn gynted ag y bo modd, a gwn y bydd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn dweud bod y pwyllgor yn awyddus i gynorthwyo Llywodraeth Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid cymaint ag y bo modd yn y broses hon.

Diolch i Nick Ramsay. A gaf fi ei sicrhau fy mod wedi cael y trên yn ôl i Aberystwyth, felly rwy’n siŵr fy mod wedi dioddef wrth ei ochr, a thaith ddymunol iawn oedd hi hefyd? Rwy’n meddwl mai’r pwynt allweddol a wnaeth ynglŷn â’r rôl y gall y Pwyllgor Cyllid ei chwarae, ac un o’r rhesymau roeddwn eisiau dod â’r datganiad hwn i’r Siambr, fel y gŵyr, oedd nad ydym ni yn y Pwyllgor Cyllid eisiau i hyn fod yn ddadl yn y Pwyllgor Cyllid yn unig, ond yn hytrach, yn rhywbeth sy’n cynnwys holl Aelodau’r Cynulliad, ac yn fywiog i fod yn ymwybodol fod hwn yn newid ar gyflymder nad ydym wedi’i weld ers peth—wel, nas gwelwyd erioed o’r blaen gan nad ydym wedi gweld datganoli cyllidol o’r blaen. Bydd cyflymder y newid mewn perthynas â’n gwaith craffu ar y gyllideb, o amgylch proses y gyllideb ei hun, yn enfawr yn y ddwy neu dair blynedd nesaf, ac rwy’n credu bod angen i bawb dderbyn hynny, a dyna un o’r rhesymau, rwy’n gobeithio, dros wneud trafodion y Pwyllgor Cyllid ei hun yn agored, i mewn i’r Siambr gyfan yn ogystal. Felly, mae gennym rôl bwysig i’w chwarae, ac rwy’n meddwl mai ein rôl fwyaf perthnasol ar hyn o bryd yw edrych ar, ac archwilio’n ofalus iawn beth yw’r gwersi mewn llefydd fel yr Alban, beth yw’r wers o ran yr ymagwedd ddeddfwriaethol tuag at gyllidebu, a cheisio cymhwyso hynny yng Nghymru.

Ond byddwn yn cytuno gyda’r pwynt y mae’n ei wneud ynglŷn â threfniant pwrpasol yng Nghymru. Nid wyf—. Ni fyddwn yn dadlau—ac nid wyf yn meddwl ei fod ef chwaith—dros gopïo’r Alban neu dros gopïo rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, neu’n wir, dros gopïo deddfwrfeydd datganoledig eraill mewn mannau eraill. Rydym eisiau trefniant sydd ar gyfer Cymru’n benodol ac sy’n gweddu nid yn unig i’n trefniadau craffu, ond hefyd i allu Llywodraeth Cymru i argymell cyllidebau a seiliwyd ar y data sydd fwyaf ar gael a’r data gorau a’r wybodaeth orau bosibl.

Yn hynny o beth, hefyd, byddwn yn mynd ar ôl ei bwynt, mewn gwirionedd, ynglŷn â ble rydym yn symud ymlaen ymhellach. Byddwn yn cytuno ag ef fod yr hyn sydd gennym ar waith yn ddigon cadarn ar gyfer y trefniadau cyfredol, ond wrth inni gael datganoli yn y dyfodol, rwy’n meddwl bod enghraifft y comisiwn cyllidol yn yr Alban yn un ddiddorol i edrych arni a’i harchwilio. Nid oes ei angen arnom heddiw ond efallai mewn dwy neu dair blynedd, yn enwedig, efallai, yn y Cynulliad nesaf pan fydd gennym hawl i arfer y pwerau treth incwm yn llawnach, pan fyddwn wedi cael etholiad, efallai, lle bydd pobl wedi bwrw iddi ar ddadl etholiadol ynglŷn â chodi neu ostwng treth incwm. Yna, bydd angen i ni gael pâr clir iawn o lygaid annibynnol ar gynigion a gaiff eu cyflwyno gan ba Lywodraeth bynnag, pa blaid bynnag y byddant. Felly, diolch i’r Aelod am ei gwmni yng Nghaeredin hefyd, a dim ond dweud ein bod wedi dysgu llawer yno, ond fe ddysgasom hefyd, er ein bod weithiau’n edrych mewn mannau eraill ac yn meddwl eu bod yn gwneud yn llawer gwell na ni, pan edrychwch ar y peth yn fanwl, nid wyf yn credu ein bod yn gwneud mor wael â hynny ein hunain chwaith.

Rwy’n croesawu’n fawr iawn y datganiad gan Gadeirydd y pwyllgor, ac, fel mae’n dweud, rwy’n meddwl ei bod hi’n bwysig iawn, wrth ystyried y newidiadau sydd i ddod yn y blynyddoedd nesaf, fod gwaith y Pwyllgor Cyllid ddim yn cael ei gyfyngu i’r pwyllgor yna, ond yn rhan o drafodaeth genedlaethol, hyd yn oed tu fas i Senedd Cymru. Yn anffodus, ni chefais i’r cyfle a’r anrhydedd i ymweld â’n ffrindiau ni i’r gogledd gyda’r pwyllgor, ond fel cyn-ddinesydd yr Alban, rwy’n dilyn yn agos iawn y datblygiadau yn y wlad honno. Ac mae’n amlwg iawn, wrth siarad â chyd-aelodau’r pwyllgor a oedd wedi mynychu’r daith, fod y daith wedi bod yn un gwerth chweil dros ben.

Mae fy nghwestiynau i heddiw yn canolbwyntio yn bennaf ar gyllidebau cyfranogol—hynny yw, ‘participatory budgeting’—ardal efallai nad yw’r Alban cweit wedi arwain y gad arno ar lefel ryngwladol. Ond fel rhan o’r cytundeb ar gyfer y gyllideb rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru y flwyddyn yma, fe gytunodd y Llywodraeth gomisiynu ymchwil ar gyllidebau cyfranogol, drwy edrych ar fodelau gwahanol, ac hefyd, rwy’n deall, i gynnal cynllun peilot yn dilyn hynny. Yn anffodus, fel pwyllgor, nid ni sydd yn gallu gwneud penderfyniadau ar ran y Llywodraeth—rwy’n siŵr nad yw’n anffodus i’r Llywodraeth—ynglŷn â’r broses maen nhw’n ei ddefnyddio er mwyn creu’r gyllideb. Dim ond argymell ffyrdd gwell o weithredu allwn ni ei wneud. Ond rwy’n ddiolchgar iawn bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn un sydd yn agored i syniadau newydd. Ond yn ein gwaith fel pwyllgor, gallwn fabwysiadu’r egwyddor o gyllidebau cyfranogol er mwyn helpu gyda’n proses ni o graffu ar gyllidebau y Llywodraeth, ac efallai y byddai hyn yn rywbeth y byddai Cadeirydd y pwyllgor yn awyddus i edrych arno.

Fel rhan o’n proses graffu ni ar y gyllideb, rydym ni fel pwyllgor eisoes yn gwahodd mudiadau ac yn y blaen i roi tystiolaeth, ac mae cyfle hefyd i fudiadau, busnesau a dinasyddion unigol gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig. Ond mae’n bosib i ni fod yn fwy rhagweithiol er mwyn cynnwys dinasyddion yn y broses yn fwy, yn fy marn ni. Felly, fy nghwestiwn i’r Cadeirydd yw: sut allwn ni ehangu’r cyfle i ddinasyddion unigol a chymunedau hefyd gymryd rhan yn y broses o lunio’r gyllideb mewn ffyrdd mwy rhagweithiol? Fel arfer da, gallwn ni ddysgu oddi wrth bwyllgorau eraill yn y Cynulliad. Er enghraifft, cynhaliodd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu arolwg barn i benderfynu beth ddylent ymchwilio iddo, gyda 2,700 o bobl yn cymryd rhan a phleidleisio ar gyfer eu dewis gorau nhw o nifer o bynciau gwahanol. Ac rwy’n meddwl bod hynny’n bwysig achos, wrth gwrs, gyda’r gwasgiad sydd gyda ni ar gyllideb y Cynulliad oherwydd y ffordd mae Cymru’n cael ei ariannu ar hyn o bryd, mae cwestiynau mawr yn mynd i ddod i ni fel cenedl ynglŷn â blaenoriaethu’r ‘block grant’. Hyd yn oed gyda datganoli rhannol o rai trethi, mae’r ‘block grant’ yna yn ganolog ac yn gyfyng iawn ar yr opsiynau. Mae model o ‘participatory budget’ efallai yn rhoi cyfle i ni gael trafodaeth go iawn gyda phobl Cymru ar y realiti yna, achos efallai nad yw nifer ohonyn nhw ddim yn ystyried hynny ar ôl i’r arian gael ei roi i Lywodraeth Cymru o San Steffan.

Ac hefyd ar y testun, mae Llywodraeth yr Alban yn cyllido Prifysgol Glasgow Caledonian i arwain ar raglen werthuso dros gyfnod o ddwy flynedd er mwyn asesu effaith cyllidebau cyfranogol ar gymunedau, gwasanaethau a democratiaeth, gyda ffocws benodol ar y berthynas rhwng cyllidebau cyfranogol a chydraddoldeb. A fuasai’r Cadeirydd yn ystyried cynnal arolwg tebyg drwy’r Pwyllgor Cyllid, efallai yn edrych ar ddeddfwriaeth yng Nghymru sy’n ymwneud â chydraddoldeb a llesiant cenedlaethau’r dyfodol? A jest i ategu yr hyn mae Nick Ramsay wedi’i ddweud ynglŷn â phwysigrwydd cael data, wrth i’r genedl yma aeddfedu fel democratiaeth, ac wrth i bwerau newydd ddod, a phwerau ariannol newydd ddod, maen hanfodol bod gennym ni ddata economaidd er mwyn ystyried go iawn y linc rhwng polisi ‘fiscal’ a pholisi economaidd. Felly, byddwn yn gwerthfawrogi barn y Cadeirydd ar sut allwn ni ehangu ar y data sydd ar gael ar hyn o bryd.

Diolch, Steffan Lewis. Yn gyntaf oll, jest ar y pwynt olaf yna, rwy’n cytuno’n llwyr bod angen data llawer mwy amserol, llawer mwy priodol i Gymru, a llawer mwy cadarn, er mwyn llunio rhai o’r penderfyniadau rydym yn gofyn i’r Llywodraeth eu gwneud, ac wedyn, mewn tro, y Cynulliad i’w cymeradwyo. Rwy’n gobeithio y bydd y broses mae’r Llywodraeth eisoes wedi’i wneud, yn comisiynu Prifysgol Bangor, yn dechrau ar hynny. Bydd e yn gwybod, fel aelod o’r Pwyllgor Cyllid, ein bod ni ar fin cychwyn edrych ar y gyllideb ddrafft ein hunain, a byddwn yn gwahodd i mewn nifer o fudiadau a phobl sydd yn cymryd y trosolwg yma o gyllidebau, nid jest yng Nghymru, ond yn fwy rhyngwladol yn ogystal, ac efallai y byddwn ni’n dysgu rhai arferion da o hynny. Beth sydd yn bwysig, rwy’n meddwl, yw ein bod ni’n barod ar gyfer yr her sydd yn ein hwynebu ni, yn enwedig pan ddaw’r dreth incwm, ac nad ydym yn pwyso ar y rhwyfau, gan feddwl, ‘Wel, fe ddaw yr wybodaeth pan mae’n barod’. Mae’n rhaid i ni fod ar flaen y gad. Mae’r rhaid i ni, mewn ffordd, torri tir newydd, a thir anodd o bryd i’w gilydd.

A gaf i droi at y pwynt ehangach roedd e’n ei wneud ynglŷn â’r cyllidebau cyfranogol? Mae’n iawn i atgoffa’r Cynulliad am y cytundeb sydd rhwng y Blaid Lafur a Phlaid Cymru ynglŷn ag edrych i mewn i hynny. Nid fy rhan i, yn sicr, yw ateb dros yr Ysgrifennydd Cabinet y prynhawn yma, ond rydw i’n gwybod bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn edrych ar y mater yma ac yn chwilio am gyfleoedd i ddysgu gwersi a dechrau arbrofi yn y maes, ac mae’n siŵr—rwy’n gobeithio’n fawr—y byddwn ni’n clywed yn y man sut mae hynny’n digwydd. Ond mae hi’n bwysig i ddweud bod y Pwyllgor Cyllid ei hun yn rhan o’r broses yma, er, wrth gwrs, nad ydym ni eisiau cymylu beth mae’r Llywodraeth yn ei wneud a beth mae’r Pwyllgor Cyllid yn ei wneud: ein rôl ni yn craffu ar y Llywodraeth a rôl y Llywodraeth yn cynnig cyllideb.

Fe fuom ni ym Miwmares yr wythnos diwethaf yn cynnal sesiwn gyda’r cyhoedd yn fanna. Rydym ni wedi cael, hefyd, rwy’n cofio, sesiwn lwyddiannus iawn yn Ysgol Basaleg, ger Casnewydd, lle roeddem ni’n gwneud sesiwn ymarfer cyllidebu cyfranogol gyda chymorth y swyddogion addysg yn fan hyn. Yn ddiddorol iawn, ar ôl dosrannu’r holl arian Monopoly a oedd yn y dosbarth, yn fras iawn, roedd y gyllideb yn edrych yn hynod debyg i’r gyllideb sydd gyda chi nawr gan Lywodraeth Cymru. Hynny yw, mae pobl yn blaenoriaethu iechyd, wedyn maen nhw’n blaenoriaethu addysg, wedyn maen nhw’n rhannu ymysg y pethau eraill. Roedd yn ymarfer diddorol iawn, ac fe fyddwn ni yn arbennig yn leicio i’r pwyllgor wneud mwy o hynny gyda phobl ifanc, yn enwedig gyda’r cynnig, wrth gwrs, fod pobl ifanc yn dechrau pleidleisio yn 16 ar gyfer y Cynulliad. Mae yna rôl y gallwn ni ei gwneud yn y fanna. Mae’n siŵr bydd y Pwyllgor Cyllid yn falch o gael diwrnod allan o’r Cynulliad o bryd i’w gilydd i fod yn rhan o’r broses yna. [Torri ar draws.] Mae Nick Ramsay hefyd yn hapus i wneud hynny.

Nid oeddwn i’n ymwybodol o’r gwaith roedd e’n cyfeirio ato fe ym Mhrifysgol Glasgow Caledonian. Nid oeddwn i’n ymwybodol o hynny, felly diolch am hynny, ac fe wnawn ni wneud yn siŵr ein bod ni’n tynnu sylw’r tîm y tu ôl i’r Pwyllgor Cyllid hefyd—ein bod ni’n edrych ar hynny fel rhywbeth sydd yn gallu cyfoethogi ein gwaith ni yn y maes yna.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae’n anodd iawn bod yn bedwerydd i siarad ac yn drydydd person a aeth ar ymweliad a cheisio dweud pethau gwahanol. Fe ymdrechaf i wneud hynny, ac os na wnaf rwy’n siŵr y dywedwch wrthyf. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i Simon Thomas am ei ddatganiad ar ymweliad y Pwyllgor Cyllid â Chaeredin? Rwy’n meddwl mai un peth rydym yn mynd i orfod dechrau arfer ag ef bellach yw bod cyllid yn fwy na rhywbeth a gaiff ei drafod gan y Gweinidog cyllid a’r Pwyllgor Cyllid yn unig a dadl wleidyddol gyflym unwaith y flwyddyn yn y Siambr, lle y gallaf ddweud wrthych beth sy’n mynd i ddigwydd yn y dyfodol—beth y mae pob plaid yn mynd i’w wneud. Rydym yn mynd i orfod cael ymagwedd lawer aeddfetach ato, ac rydym yn mynd i orfod dod i delerau mewn gwirionedd â chodi arian yn ogystal â’i wario, a chredaf fod hynny’n mynd arwain at newid meddylfryd Aelodau ar draws y Siambr, ac rwy’n cynnwys fy mhlaid fy hun yn ogystal â’r lleill sydd yma.

Hoffwn wneud dau sylw cyflym. Nid yw datganoli anghymesur, gyda Chymru’n ceisio dal i fyny â’r Alban yn barhaus, yn dderbyniol. Yr ail bwynt yw hwn: mae’r Pwyllgor Cyllid yn y Cynulliad hwn yn fwy trwyadl yn y modd y mae’n craffu ar y gyllideb na’i bwyllgor cyfatebol yn yr Alban. Rydym yn treulio llawer o amser yn cael gwybod pa mor wych yw’r Alban mewn amrywiaeth eang o feysydd, ond rwy’n siŵr y byddai Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn cytuno â mi fod ein gwaith craffu yn fwy cadarn yma na’r hyn sy’n digwydd yn yr Alban.

Mae gennyf ddau gwestiwn. A ddylai pwyllgor adolygu’r gyllideb adrodd i’r Cynulliad neu’r Llywodraeth, neu’r ddau? A’r pwynt olaf—ac mae’n dilyn ymlaen o rywbeth a grybwyllodd Nick Ramsay a Steffan Lewis—pwysigrwydd data cywir ac amserol. A yw’r Cadeirydd yn cytuno â mi ei bod yn bwysig iawn sicrhau ein bod yn cael data cywir ac amserol? Ac wrth i fwy o adnoddau gael eu dyrannu i ni o’n system drethiant ein hunain, mae’n mynd i fod yn bwysicach fyth inni sylweddoli yn union faint o arian sy’n dod i mewn. Fel arall, rydym yn mynd i fod yn gwario arian heb wybod yn iawn ei fod yn dod i ni. Felly, yr amseroldeb a’r cywirdeb hwn, sut bynnag y caiff ei wneud—. Ac nid wyf yn rhywun sy’n dweud, ‘Mae’n rhaid iddo gael ei wneud gan brifysgol; mae’n rhaid iddo gael ei wneud gan grŵp a sefydlwyd,’ ond mae’r cywirdeb a’r amseroldeb hwnnw, sut bynnag y cânt eu sicrhau, yn hynod o bwysig. A yw’r Cadeirydd yn cytuno â mi mai dyna sydd bwysicaf yn ôl pob tebyg os ydym yn mynd i ddechrau ymdrin â chodi arian—ein bod yn mynd i fod angen cywirdeb ac amseroldeb er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud yr hyn a wnawn yn gywir?

Diolch i Mike Hedges, a chytunaf yn llwyr â’i bwynt olaf fod data cadarn yn hanfodol ar gyfer blaengynlluniau ei Lywodraeth ei hun a’i chynlluniau treth ei hun, a’i fod yn hanfodol i ni fel Cynulliad, felly, ar gyfer dwyn y Llywodraeth i gyfrif a chraffu arnynt. Rwy’n credu fy mod yn rhannu ei bryder ymhlyg nad oes gennym y data’n ddigonol ar lefel Cymru, ac yn sicr nid yw’n ddigon amserol. Mae ar ei hôl hi’n aruthrol. Felly, yn y sefyllfa bresennol, byddwn yn ceisio craffu ar gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer yr economi, ar gyfer buddsoddi, ar ddata sy’n dyddio’n ôl 18 mis neu hyd yn oed ymhellach, ac nid yw hynny’n ddigon da. Mae gwers o’r Alban yn hynny o beth ynglŷn â gweithio i gael rhagor o ddata sy’n gyfredol ac yn ymwneud yn benodol â’r Alban.

Rydym hefyd yn gwybod, o archwilio’r ddau Fil treth a ddatblygwyd gennym fel Pwyllgor Cyllid, wrth i chi edrych ar y data, ac wrth i chi gael mwy o ddata am Gymru, mae’r darlun yn newid. Mae’n newid yn aruthrol. Fe newidiodd ar gyfer y dreth tirlenwi; fe newidiodd yn helaeth ar gyfer y dreth stamp. Felly, mae honno’n wers i ni i gyd. Fe newidiodd ar gyfer y ffin, yn ogystal, ond bydd Mike Hedges yn cofio hynny.

Rhaid i mi ddweud, Dirprwy Lywydd, er ein bod wedi cael sgwrs rhwng aelodau’r Pwyllgor Cyllid yn y Siambr yma, byddwn yn dal i fod eisiau cytuno â phwynt sylfaenol Mike Hedges, sef nad mater ar gyfer y Pwyllgor Cyllid yn unig yw hyn yn awr; mae hyn yn ymwneud â 60 Aelod yn codi treth incwm ar gyfer Cymru. Mae’r ffordd y gwnawn hynny, yn y pen draw, yn mynd i fod yn allweddol i bawb. Felly, os hoffwch, nid wyf am ymddiheuro—fe ddof yn ôl eto gyda datganiadau pellach, rwy’n siŵr, gyda chaniatâd y Cadeirydd a’r Pwyllgor Busnes, i bawb gael cyfle i wybod beth rydym yn ei wneud yn y Pwyllgor Cyllid a sut y mae hynny’n symud ymlaen yn gyflym, mewn gwirionedd, nid yn unig y gwaith craffu, ond y ffordd rydym yn adeiladu dull seneddol o ymwneud â deddfwriaeth ariannol, beth bynnag y gallai hynny fod—Bil cyllideb, Bil ariannol neu beth bynnag fydd gennym yn y pen draw. Hoffwn ddweud ar y pwynt hwnnw y byddwn yn gweld hynny fel gwaith ar y cyd. Rwyf am i Lywodraeth Cymru fod yn rhan o hynny; rwyf am i’r Pwyllgor Cyllid fod yn rhan o hynny. Ein gwaith yma, does bosibl, yw adeiladu’r broses seneddol, ac nid cwestiwn yw hwnnw y mae’r Llywodraeth yn ei gynnig, rydym ni’n ei feirniadu ac yn cynnig dewis amgen, ac yna’u bod hwy’n ein beirniadu ni ac yn y blaen. Mae’n waith ar y cyd, gobeithio, ac yn sicr, fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, byddwn eisiau ei ddatblygu yn yr ysbryd hwnnw, ac rwy’n synhwyro bod y pwyllgor yn awyddus i wneud hynny hefyd. Mae’n rhaid i ni weithio gyda datganoli anghymesur, er y byddai fy meirniadaeth ohono yr un fath ag un Mike Hedges.

Yn olaf, roeddwn yn fwy cynnil na Mike Hedges pan ddywedais nad yw popeth yn yr Alban yn well nag yr ydym ni’n ei wneud yma, ond y ffaith amdani yw na wnaeth y pwyllgor cyllid yn yr Alban graffu ar eu cyllideb ddrafft. Cafodd ei wneud mewn ffordd lawer mwy gwleidyddol, os hoffwch, mewn bargeinion rhwng pleidiau a chytundebau rhwng pleidiau. Mae gennym fargeinion rhwng pleidiau a chytundebau rhwng pleidiau yma, ond nid yw’n atal y Pwyllgor Cyllid rhag craffu ar y gyllideb ddrafft yn drylwyr. Eleni, byddwn yn ei wneud yn fwy trylwyr nag erioed o’r blaen hyd yn oed, a bydd cyfle i bob pwyllgor wneud hynny hefyd, ac rwy’n gobeithio y byddant yn ymuno â ni ac y bydd hon yn broses ddysgu i bawb ohonom.

Diolch yn fawr iawn. Efallai y bydd rhagor o Aelodau’n mynd ar eich taith nesaf, ac yna gallwn i gyd glywed am yr hyn a ddigwyddodd pan oeddech ar eich teithiau, ac y bydd mwy ohonoch yn mynd efallai, ac yna cawn fwy o amser i drafod beth sydd wedi bod yn digwydd mewn mannau eraill.

7. 6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar Gyfoeth Naturiol Cymru: Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2015-16

Eitem 6, felly, ar ein hagenda yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar Cyfoeth Naturiol Cymru a chraffu ar adroddiad blynyddol a chyfrifon 2015-16. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, Nick Ramsay, i gynnig y cynnig.

Cynnig NDM6366 Nick Ramsay

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar Gyfoeth Naturiol Cymru: Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2015-16—a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Mehefin 2017

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch am y cyfle i siarad heddiw am ymchwiliad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus sy’n codi o adroddiad blynyddol Cyfoeth Naturiol Cymru a chyfrifon 2015-16.

Fel y gŵyr yr Aelodau, mae gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus rôl allweddol yn sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei wario’n effeithlon. Yn rhan o’r rôl hon, rydym fel mater o drefn yn craffu ar adroddiadau blynyddol a chyfrifon cyrff a ariennir yn gyhoeddus, ac yn ystyried materion yn ymwneud â gwerth am arian, a threfniadau llywodraethu ac archwilio sefydliadau. Roeddem i fod i ystyried adroddiad blynyddol a chyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru 2015-16 yn hydref 2016. Fodd bynnag, gohiriwyd ein hystyriaeth ohonynt hyd nes y byddai Archwilydd Cyffredinol Cymru mewn sefyllfa i roi barn amodol ynghylch rheoleidd-dra’r cyfrifon, a digwyddodd hynny ym mis Mawrth 2017.

Mae’r archwilydd cyffredinol wedi rhoi barn amodol ar reoleidd-dra datganiadau ariannol Cyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas â dyfarnu contractau gwerthu pren i weithredwr melin goed ym mis Mai 2014. Mae rhoi barn o’r natur hon yn ddigwyddiad anarferol a phrin, ac yn fater y credwn y dylid ei ddwyn i sylw’r Cynulliad hwn. Daethom i’r casgliad fod canfyddiadau’r archwilydd cyffredinol yn peri pryder mawr yn yr ystyr ei fod yn ystyried bod trafodion Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n ymwneud â chontract gwerthu pren yn afreolaidd ac yn ei farn ef, yn ddadleuol ac ôl-effeithiol. Testun pryder pellach i ni oedd bod yr archwilydd cyffredinol wedi dod i’r casgliad fod yna ansicrwydd ynglŷn ag a oedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cydymffurfio ag egwyddorion cyfraith gyhoeddus a rheolau cymorth gwladwriaethol.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Er mwyn ein cynorthwyo gyda’n hymchwiliad clywsom dystiolaeth gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar ddau achlysur a chan y sector diwydiant coed, a gynrychiolwyd gan Gymdeithas Cynnyrch Coedwigoedd y Deyrnas Unedig. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’n tystion am ein cynorthwyo yn ein gwaith. Ar ôl ystyried y dystiolaeth yn ofalus, gwelsom fod nifer o faterion yn codi mewn perthynas â’r modd yr aeth Cyfoeth Naturiol Cymru ati i ddyfarnu ei gontractau gwerthu coed. Yn gyntaf, gwelsom fod diffyg craffu ar ran y bwrdd a’r tîm gweithredol ar benderfyniadau pwysig. Cawsom ein synnu’n fawr o glywed bod y penderfyniad i ymrwymo i gontractau gyda gweithredwr y felin goed wedi’i ddirprwyo i un swyddog yn unig yn Cyfoeth Naturiol Cymru. Ni chawsom ein hargyhoeddi gan honiadau Cyfoeth Naturiol Cymru na wnaed y penderfyniad gan yr un swyddog ar ei ben ei hun a’i fod wedi’i gefnogi gan achos busnes llawn, yn enwedig o ystyried bod Cyfoeth Naturiol Cymru eu hunain, mewn tystiolaeth ddiweddarach i ni, wedi nodi y gellid bod wedi disgrifio’r achos busnes yn well fel ‘papur opsiynau’, heb ddata a dadansoddiadau hanfodol i sicrhau bod penderfyniadau gwybodus yn cael eu gwneud.

Roeddem yn ei hystyried hi’n eithriadol y byddai contract sylweddol, sy’n werth £39 miliwn, yn cael ei ddyfarnu yn y modd hwn. Roedd y ffeithiau hyn ar eu pen eu hunain yn dangos i ni fod trefniadau llywodraethu Cyfoeth Naturiol Cymru yn wan a bod eu prosesau gwneud penderfyniadau ymhell o fod yn gadarn. Canfu ein tystiolaeth hefyd fod methiannau difrifol o ran y modd yr aeth Cyfoeth Naturiol Cymru ati i sicrhau bod contract mawr yn amodol ar gystadleuaeth neu fel arall yn gallu dangos drwy brofi’r farchnad mai un cyflenwr posibl yn unig a oedd ar gael. Er bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dweud wrthym mai un gweithredwr melin goed a oedd yn gallu bodloni eu gofynion gweithredol ar y pryd, ni chlywsom unrhyw dystiolaeth i gefnogi’r achos hwn, ac yn absenoldeb ymarfer tendro, nid oes sicrwydd pendant mai un gweithredwr yn unig a allai fodloni gofynion Cyfoeth Naturiol Cymru.

Testun pryder pellach i ni oedd mai un o’r rhesymau allweddol yr ymrwymodd Cyfoeth Naturiol Cymru i gontract gyda’r gweithredwr felin goed oedd er mwyn creu capasiti ychwanegol yn y diwydiant coed drwy adeiladu llif goed newydd. Fodd bynnag, clywsom gan Cyfoeth Naturiol Cymru fod digon o gapasiti wedi’i sicrhau heb adeiladu llif goed newydd, a oedd yn codi cwestiynau ynglŷn â’r penderfyniad i ddyfarnu’r contract i’r gweithredwr yn y lle cyntaf. Yn ddiweddarach clywsom fod y gweithredwr felin goed yn wir wedi torri ei rwymedigaethau cytundebol mewn perthynas ag adeiladu melin lifio ychwanegol. Roeddem yn siomedig dros ben fod contract gwerth £39 miliwn wedi’i ddyfarnu i’r cwmni, ac nad oedd unrhyw gwmni arall wedi gallu cynnig amdano, a’i fod wedi methu cyflawni elfen mor allweddol o’r contract hwnnw. Arweiniodd ein tystiolaeth at y casgliad fod dyfarnu’r contract i weithredwr melin goed unigol heb ymarfer aildendro neu brofi’r farchnad yn llawn yn gamgymeriad difrifol.

Clywsom fod yr archwilydd cyffredinol wedi dod i’r casgliad fod trafodion yn ymwneud â’r cytundebau gwerthu pren yn ‘ddadleuol ac ôl-effeithiol’, ac yn ôl darpariaethau dogfen fframwaith Cyfoeth Naturiol Cymru a darpariaethau cyhoeddiad Llywodraeth Cymru, ‘Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru’, sy’n cynnwys cyfarwyddiadau gan Weinidogion, roedd hi’n ofynnol i Cyfoeth Naturiol Cymru gyfeirio cynigion dadleuol ac ôl-effeithiol at Lywodraeth Cymru. Ni chyfeiriodd Cyfoeth Naturiol Cymru y contractau hyn at Lywodraeth Cymru, ac felly fe weithredodd y tu allan i fframwaith awdurdod y mae’n ddarostyngedig iddo. Roedd yr archwilydd cyffredinol hefyd o’r farn fod cryn ansicrwydd a oedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cydymffurfio ag egwyddorion cyfraith gyhoeddus o fewn y broses benderfynu ar gyfer dyfarnu’r contract, ac a oedd dyfarnu’r contractau yn cydymffurfio â rheolau cymorth gwladwriaethol. Yn wyneb yr ansicrwydd hwn, ni allodd yr archwilydd cyffredinol ddatgan yn gadarnhaol fod y trafodion gyda gweithredwr y felin goed yn cydymffurfio â fframwaith yr awdurdod sy’n llywodraethu Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mewn tystiolaeth i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, rhoddodd Cyfoeth Naturiol Cymru wybod i ni nad oedd yn credu bod angen cyngor ar gymorth gwladwriaethol ar y pryd ac nad oedd ganddynt unrhyw ymwybyddiaeth o faterion cymorth gwladwriaethol nac wedi gofyn am gyngor ar hynny. Roeddem yn bryderus hefyd i ddarganfod nad oedd Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymwybodol o faterion cymorth gwladwriaethol hyd nes y gwelodd ganfyddiadau’r archwilydd cyffredinol. O ystyried bod cymorth gwladwriaethol yn risg a ddeellir yn glir gan y rhai sy’n gyfrifol am wario arian cyhoeddus, neu fe ddylai fod o leiaf, roeddem yn ei hystyried yn annerbyniol nad oedd Cyfoeth Naturiol Cymru yn teimlo bod angen gofyn am gyngor cyfreithiol ar y mater hwn. Yng ngoleuni hyn, argymhellwyd y dylai Cyfoeth Naturiol Cymru adolygu ei drefniadau dirprwyo yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o gyfraith gwladwriaethol, cyfraith gyhoeddus a’r prosesau ar gyfer dyfarnu contractau. Rydym wedi argymell hefyd y dylid rhannu canfyddiadau’r gwerthusiad hwn gyda’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus er mwyn ein galluogi i fonitro gweithrediad a chynnydd yn erbyn newidiadau a nodwyd.

Fel pwyllgor, rydym yn credu y gallai ac y dylai Cyfoeth Naturiol Cymru fod wedi sicrhau bod trefniadau llywodraethu da ar waith ar gyfer ei broses gontractio, ac wrth fethu sefydlu trefniadau o’r fath ni allent ddangos sut y gweithredodd yn gyfreithlon nac i ba raddau roedd y contractau’n cynnig gwerth am arian. Fel y cyfryw, rydym wedi argymell y dylai Cyfoeth Naturiol Cymru gynnal gwerthusiad llawn o’i drefniadau llywodraethu sy’n ymwneud â phrosesau contractio, gan osod allan yn glir y gwersi a ddysgwyd gan gyfeirio’n benodol at y contractau gwerthu coed dan sylw.

Nodwn fod cyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2016-17 wedi’u cyflwyno i’r Cynulliad ddoe ac mae’r archwilydd cyffredinol wedi rhoi barn amodol ar reoleidd-dra’r cyfrifon hyn am yr un rheswm ag y rhoddodd farn amodol ar reoleidd-dra cyfrifon 2015-16—dyfarniad cyfres o gontractau gwerthu pren. Mae’r farn ar y datganiadau ariannol yn ddiamod.

Mae adroddiad yr archwilydd cyffredinol ar y cyfrifon, sydd wedi’i gynnwys yn nhystysgrif archwilio’r cyfrifon, yn nodi bod Cyfoeth Naturiol Cymru, ers dyddiad ei adroddiad ar gyfer 2015-16, wedi rhoi cynllun gweithredu ar waith i fynd i’r afael â’r materion a nodwyd yn ei adroddiad, a bydd cynnydd yn ei erbyn yn cael ei oruchwylio gan bwyllgor archwilio a sicrhau risg Cyfoeth Naturiol Cymru ar ran ei fwrdd. Rydym yn falch o’r camau a gymerwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru ers cyhoeddi adroddiad yr archwilydd cyffredinol a bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi derbyn yn llawn y tri argymhelliad a wnaed yn ein hadroddiad. Rydym hefyd yn croesawu’r ffaith fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi darparu copi o gynllun gweithredu, sy’n dangos sut y maent yn bwriadu symud ymlaen ar bob un o’n hargymhellion, gan gynnwys amserlenni. Nodwn fod y camau hyn i’w cwblhau erbyn diwedd mis Hydref 2017 ac edrychwn ymlaen at ddiweddariad Cyfoeth Naturiol Cymru ar ei gynnydd ym mis Tachwedd 2017.

Yn ganolog i’n holl waith, mae hybu gwelliant wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn effeithlon a sicrhau gwerth am arian mewn perthynas â gwario cyllid cyhoeddus. Rydym yn gobeithio y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio i gyflawni’r gwelliannau angenrheidiol er mwyn sicrhau llywodraethu da yn y dyfodol, ac fel na chaiff y materion sy’n codi o’r modd yr ymdriniodd â’r contractau gwerthu coed hyn byth mo’u hailadrodd. Hyderwn y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn gweithio gyda phrif weithredwr newydd Cyfoeth Naturiol Cymru, pan gaiff ei benodi, er mwyn sicrhau hynny.

Hoffwn ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ac aelodau’r pwyllgor hefyd am eu diwydrwydd eleni, ond hefyd i’r archwilydd cyffredinol am daflu goleuni democrataidd i gorneli go dywyll. Mae blwyddyn y Cynulliad wedi dod i ben fel y dechreuodd, gydag adroddiadau damniol gan yr archwilydd cyffredinol ar Lafur Cymru. Yn yr achos hwn, rydym yma i siarad am weithgarwch Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae’n sefyllfa wirioneddol ddrwg pan fo contract coed yn ddadleuol. Contract £39 miliwn a roddwyd heb i’r cwmni dendro amdano hyd yn oed, ac fel y dywedodd y Cadeirydd, mae’n bosibl fod rheolau cymorth gwladwriaethol wedi’u torri hefyd, felly gallai Cyfoeth Naturiol Cymru fod yn agored i her gyfreithiol yn awr, ac nid yw’r cyfrifon wedi cael eu hystyried yn holliach. Tri deg naw miliwn o bunnau heb gystadleuaeth—mae’n waith da os gallwch ei gael—a dim prawf o werth am arian chwaith. Dim prawf o werth am arian. Dim achos busnes. Dim achos busnes. Tri deg naw miliwn o bunnau, a dim achos busnes.

Dywedodd prif weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru wrth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn y cyfarfod cyntaf fod achos busnes llawn wedi’i ddarparu. Yna, yn y cyfarfod dilynol, cyfaddefodd yr un prif weithredwr nad oedd unrhyw achos busnes mewn gwirionedd, ond roedd yna bapur briffio heb unrhyw ffigur ariannol ynddo. Mae hynny’n werth ei ailadrodd: contract gwerth £39 miliwn wedi’i roi allan, heb unrhyw achos busnes, a phapur briffio heb unrhyw ffigur ynddo. Ac yna yn sydyn rydym yn clywed bod prif weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru yn gadael ac yn ymddeol yn gynnar heb fod cwestiynau’n cael eu hateb.

Mae’n teimlo fel pe bawn yn y Siambr hon bob wythnos bron yn nodi achos newydd o wastraff arian. Ychydig fisoedd yn ôl yn unig, cafodd cadeirydd a dirprwy gadeirydd Chwaraeon Cymru eu diswyddo ar ôl ymchwiliad Deloitte a ddangosai fod rhai cwmnïau wedi cael manylebau ar gyfer tendro cyn cwmnïau eraill, a’r contractau’n cael eu rhoi i’r cwmnïau breintiedig hynny wedyn. Yr wythnos hon hefyd, rydych wedi cael mater y bwrdd iechyd, a phethau tebyg iawn yno.

Wrth gyflwyno’r ddadl hon, dywedodd Cadeirydd y pwyllgor ei fod yn ystyried bod hyn yn eithaf eithriadol: yr hyn a ddigwyddodd yn Cyfoeth Naturiol Cymru. A yw’r Aelod yn dweud, i’r gwrthwyneb, ei fod yn ystyried bod hwn yn ymddygiad gweddol normal ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru? 

Wel, mae’n eithriadol, ond yr hyn sydd hyd yn oed yn fwy eithriadol yw ei fod yn digwydd drwy’r amser. Wyddoch chi? Y peth nesaf rwyf am siarad amdano yw cytundeb tir Llys-faen. Mae yna ddiwylliant tebyg yn yr adeilad hwn a chyda’r Llywodraeth hon, ac nid wyf ar fy mhen fy hun yn amau y gallai trosedd fod wedi digwydd. Rwyf am i Heddlu De Cymru ailagor yr ymchwiliad i gytundeb tir Llys-faen, fel y mae rhai o swyddogion yr heddlu eisiau ei weld, yn breifat—ac nid wyf yn adnabod yr un ohonynt. [Torri ar draws.] Rwyf wedi ildio unwaith; na, ddim eto. Ni fydd y Prif Weinidog yn rhoi sylwadau ar gytundeb tir Llys-faen oherwydd camau cyfreithiol sydd ar y gweill, ond fe ddywedodd ei bod yn bennod nad oedd yn adlewyrchu’n dda ar y rhai a oedd yn rhan o’r peth. Rwy’n clywed cyd-Aelodau yn y Siambr yn dweud nad yw hyn yn ymwneud â Cyfoeth Naturiol Cymru. Yr hyn rydym yn sôn amdano yma yw diwylliant y Llywodraeth hon a diwylliant y Gymru sydd ohoni. [Torri ar draws.] Rydym yn byw mewn gwladwriaeth un blaid, ac un agwedd ohoni, yn fy marn i, yw anghymhwyster neu lygredd. Nawr, yr hyn sy’n dinistrio—[Torri ar draws.]

Efallai nad oeddech yn y Siambr pan roddais fy ystyriaeth yn gynharach, ond rwy’n cyfarwyddo’r Aelodau i feddwl yn ofalus ynglŷn â lluchio honiadau yn y Siambr hon ac i feddwl yn ofalus am y geiriau rydych yn eu defnyddio. Felly, os nad oeddech yn y Siambr yn gynharach, rwy’n gofyn i chi ddarllen natur fy natganiad yn gynharach ac i barhau mewn iaith sy’n briodol i’r Siambr hon.

Rwy’n credu ei bod yn briodol iawn, Llywydd, oherwydd rydym yn ailadrodd. Ym marn llawer, mae’r weinyddiaeth Lafur hon naill ai’n anghymwys neu’n llygredig, un neu’r llall ac—

Mae eich meicroffon wedi’i ddiffodd ac mae eich amser wedi dod i ben. David Melding.

Diolch i chi, Llywydd. Rwy’n croesawu adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar gyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru, ac yn benodol mewn perthynas â’r contract gwerthu coed. O ystyried faint o arian cyhoeddus a wariwyd yn y cynllun penodol hwn, nid yw’n syndod fod craffu manwl wedi dilyn, a chyhoeddwyd adroddiad priodol a manwl iawn. Fel y clywsom yn awr, mae’r swm o arian dan sylw yn sylweddol tu hwnt, sef £39 miliwn. Rwy’n credu ei fod yn ein harwain i ofyn cwestiynau, ond rwy’n meddwl eu bod yn canolbwyntio mwy ar bolisi nag unrhyw beth arall, a dyna fydd natur fy sylwadau y prynhawn yma, Llywydd.

Flwyddyn yn unig wedi i Cyfoeth Naturiol Cymru gael ei sefydlu, cafodd y modd y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rheoli’r ystâd goedwigaeth ei feirniadu gan sawl corff mewn cyflwyniadau i amryw o bwyllgorau’r Cynulliad a’u trafodion yn y Pedwerydd Cynulliad, Llywydd. Er enghraifft, yn y cyflwyniad a wnaeth Partneriaeth Fusnes Coedwig Cymru, cafwyd cwyn fod diffyg tryloywder llwyr ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru yn y maes hwn, a bod y sector preifat wedi gorfod dibynnu, a dyfynnaf, ar ‘sïon a’r cyfrifon a gyhoeddwyd’. Nid oedd yn ddull cyfathrebu agored. Rwy’n sôn am y rhain am ei bod yn gwbl glir fod enghreifftiau tebyg wedi’u nodi yn adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Felly, rwy’n credu ei fod yn fater ar gyfer craffu ar Lywodraeth Cymru a’r rôl y maent wedi’i chwarae yn gosod polisi yn gyffredinol a’r penderfyniadau sefydliadol a wnaed ganddynt.

Yn wreiddiol, pan gafodd bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru ei benodi gan Weinidog yr Amgylchedd, nid oedd yn cynnwys unrhyw gynrychiolwyr o’r sector coedwigaeth, a mynegodd cadeirydd Comisiwn Coedwigaeth Cymru, Jon Owen Jones—cyn-Aelod Seneddol Llafur mawr ei barch—bryderon na fyddai llais y diwydiant coedwigaeth yn cael ei glywed yn ddigonol yn y sefydliad newydd. Unwaith eto, nodwyd problem debyg yn adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, wrth iddynt ddyfynnu—. Ac rwy’n dyfynnu’n uniongyrchol o’u hadroddiad: ychwanegodd yr archwilydd cyffredinol ei

‘bryderon difrifol iawn am y golled sylweddol iawn o arbenigedd coedwigaeth o fewn CNC, mater sy’n peri gofid mawr.’

Felly, rwy’n meddwl bod yn rhaid inni ofyn i Lywodraeth Cymru, Llywydd, a yw’r uno sefydliadol ar y trywydd iawn ac a yw’n mynd i gyflawni’r diben a fwriadwyd.

Yn ôl yn 2011, pan gyhoeddwyd manylion yr uno arfaethedig rhwng Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd, a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru am y tro cyntaf, dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd y byddai’r newid yn sicrhau rheolaeth fwy cynaliadwy ac effeithiol ar ein hadnoddau naturiol. Nawr, rwy’n cyfaddef nad oedd uno tri yn un byth yn mynd i fod yn hawdd—sefyllfa heriol tu hwnt i’r tîm rheoli yn Cyfoeth Naturiol Cymru—ond fel y clywsom, mae’r tîm ei hun wedi cael sioc a bydd yna newid yn ei arweinyddiaeth yn awr. Felly, rwy’n credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ysgwyddo rhagor o gyfrifoldeb yn hyn o beth—rwy’n gwybod mai corff hyd braich ydyw, ond ar hyn o bryd mae’n sefydliad hyd braich sydd i’w weld yn aneglur ynglŷn ag i ba gyfeiriad y mae’n mynd.

Wrth wrando ar yr Aelod yn egluro’r problemau sydd wedi codi wrth uno tri sefydliad yn y modd hwn, roeddwn yn meddwl tybed i ba raddau y teimlai fod hyn yn deillio mewn gwirionedd o’r ffaith nad oedd gennym Ddeddf a gâi ei chraffu yma yn y lle hwn. Cafodd ei wneud drwy Orchymyn gweinidogol, i bob pwrpas, gan ddefnyddio pwerau rheoleiddio San Steffan, ac mewn gwirionedd, nid yw’r Cynulliad hwn erioed wedi edrych yn iawn ar y modd y caiff Cyfoeth Naturiol Cymru ei lywodraethu.

A gaf fi ddweud, Llywydd—? Gwn eich bod yn warcheidwad ein gweithdrefnau, a’r weithdrefn fwyaf yw pasio Bil, gan ei fod yn helpu Llywodraeth i ddatrys peth o’i meddylfryd, ac mae Llywodraeth ddoethach yn talu sylw i’r trafodaethau, ac yn wir, i rai o’r gwelliannau a ddaw gan bleidiau eraill. Rwy’n credu bod absenoldeb y broses honno wedi cael effaith fawr ar y sefyllfa anffodus hon.

A gaf fi orffen gyda’r mater hwn? Llywydd, rwy’n credu bod angen inni weld cynlluniau wrth gefn cadarn mewn cyrff cyhoeddus a sefydliadau hyd braich, ac mae’n ymddangos bod hynny wedi methu yn yr achos hwn. Ni all Cyfoeth Naturiol Cymru barhau i weithredu yn y modd y mae wedi bod yn ei wneud, neu’r modd y mae’n ymddangos iddi weithredu, yn yr achos penodol hwn.

Rwy’n cydnabod llwyddiant Cyfoeth Naturiol Cymru yn rheoli’r clefyd coed dan sylw, ond nid wyf yn credu bod adegau o argyfwng o’r fath yn cyfiawnhau gweithdrefnau afreolaidd—rhaid i chi gael cynlluniau a phrotocolau ar waith. Yn anffodus, mae clefydau a digwyddiadau naturiol anffafriol yn digwydd, a lle Cyfoeth Naturiol Cymru oedd bod yn ymwybodol o hynny ac mae’n ymddangos ei fod wedi methu gwneud hynny yn yr achos hwn. Diolch.

Diolch i chi, David Melding, am eich persbectif hanesyddol, sy’n ddefnyddiol iawn. Credaf fod manylion y contract hwn, a methiant Cyfoeth Naturiol Cymru i weld bod unrhyw beth o’i le yn y ffordd yr aethant ati, wedi cael eu trafod yn drylwyr iawn yn adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Roeddwn am ychwanegu fy llais i ddweud pam fod methiant Cyfoeth Naturiol Cymru i ddeall eu bod wedi mynd ati mewn modd amhriodol yn taflu goleuni ar y materion ehangach sy’n ymwneud â phwysigrwydd coedwigaeth a’r diwydiant coed yng Nghymru.

Oherwydd yn ystod ymchwiliad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar goedwigaeth, aethom allan a chyfarfod, yn amlwg, â llawer o aelodau o’r diwydiant, ac rwy’n sicr yn cofio mynd i felin goed Crymlyn a chael gwybod eu bod yn hynod o ofidus nad oedd y contract coed llarwydd wedi’i roi allan i dendr cyhoeddus, ac yn wir, yn synnu’n fawr nad oedd wedi’i roi allan ar gyfer aildendro ar ôl i’r archwilydd cyffredinol fynegi ei bryderon gwreiddiol. Felly, rwy’n meddwl, os mynnwch, fod y drosedd wedi’i chyflawni ddwywaith, yn yr ystyr, nid yn unig fod y contract gwreiddiol heb gael ei roi allan i dendr, ond wedyn, pan dynnwyd eu sylw at y camgymeriad, eu bod wedi mynd ati i gloddio twll hyd yn oed yn fwy.

Rwy’n credu ei fod yn destun pryder mawr, oherwydd mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn chwarae rhan strategol iawn yn rheoli pris coed yng Nghymru, ac roedd yn deall y rhan honno oherwydd eu bod yn arfer rhyddhau coed ar y farchnad er mwyn ei sefydlogi. Felly, nid wyf yn gallu deall, er enghraifft, pam na chymerwyd y contract a roesant allan i dendr rhwng mis Mai 2012 a Mai 2013 er enghraifft. Mae’n anodd iawn i berson lleyg ddeall pam na chafodd ei gymryd gan y diwydiant ar y pryd, am eu bod yn dweud heddiw eu bod yn drist iawn na chawsant gyfle i wneud cais amdano.

Mae’n debyg mai’r ail bwynt sy’n anodd i mi ei ddeall yw pam nad oedd yn bosibl ymdrin â’r coed llarwydd heintiedig ar sail fwy cymedrol, yn hytrach na gwthio’r cyfan ar y farchnad, a oedd, yn amlwg, yn mynd i ostwng pris coed; mae hynny’n hollol amlwg. Nid wyf yn deall pam—os ydych yn cwympo coed, onid oes modd ei adael, ac yna ei glirio fel sy’n ofynnol? Oherwydd mae marchnad enfawr ar gyfer coed llarwydd. Caiff ei ddefnyddio ar gyfer cladin, caiff ei ddefnyddio ar gyfer lloriau, a chaiff ei ddefnyddio fel dewis arall yn lle derw. Ac o ystyried mai ni yw’r trydydd mewnforiwr mwyaf o goed yn y byd, mae’n rhaid bod marchnad ar gyfer coed a dyfir yn y wlad hon. Nid wyf yn ei ddeall; nid yw’n gwneud synnwyr—

Ie, rydych chi’n hollol gywir ar hynny; roedd y ffordd y cafodd y coed llarwydd eu marchnata yn broblem fawr. Dylent fod wedi cael eu marchnata mewn llwythi llai, mwy hydrin o goed llarwydd a allai fod wedi’u hamsugno’n haws gan y farchnad. Felly, roedd diffygion difrifol yn hynny o beth.

Felly, roeddwn eisiau ychwanegu fy mhryder ynglŷn â’r modd y cafodd y contract hwn ei drin, a’r oedi wrth i Cyfoeth Naturiol Cymru roi trefn ar bethau, os hoffwch, oherwydd roedd y sesiynau tystiolaeth cychwynnol gyda phrif weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhai gan rywun a oedd yn gwadu bod yna broblem. Felly, rwy’n falch o weld bod y cynllun gweithredu sydd bellach wedi’i gynhyrchu mewn ymateb i adroddiad diweddaraf y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn rhoi’r camau gweithredu gofynnol ar waith, ond rwy’n credu ei fod yn gofyn rhai cwestiynau i Lywodraeth Cymru ynglŷn ag a oes gan Cyfoeth Naturiol Cymru allu mwyach i chwarae’r rôl strategol sydd ei dirfawr angen arnom yn y diwydiant coed yn y wlad hon fel ffurf ar amnewid mewnforion ac fel ffordd o sicrhau bod y deunydd crai yn bodoli i ni allu cael cynhyrchion pren yn lle cynhyrchion eraill mwy niweidiol o ran carbon. Felly, rwy’n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi rhywfaint o sicrwydd ar y pwynt hwnnw, oherwydd credaf fod hynny’n—. Ar wahân i union fanylion y contract, rwy’n meddwl bod y materion strategol hefyd yn bwysig iawn. 

Er bod y ddadl heddiw yn ymwneud â materion o ran dyfarnu contract gan Gyfoeth Naturiol Cymru, mae’r Pwyllgor Cyllid am gyfrannu un peth yn gryno iawn i’r ddadl, achos roedd yna oedi cyn i’r Archwilydd Cyffredinol Cymru osod cyfrifon blynyddol sefydliad Cyfoeth Naturiol Cymru, ac mae hwnnw’n fater o bryder i’r Pwyllgor Cyllid.

Y cefndir yw ei bod yn ofynnol i’r archwilydd cyffredinol gyflwyno adroddiad ar y cyfrifon o fewn pedwar mis i’r dyddiad y gosododd Cyfoeth Naturiol Cymru y cyfrifon hynny, ond yn yr achos hwn nid oedd yn bosib oherwydd bod yr Archwilydd Cyffredinol yn ymchwilio i’r materion sy’n gysylltiedig â dyfarnu’r contract. Dyna beth yw pwrpas adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Ar yr achlysur hwn, ni lwyddodd yr archwilydd cyffredinol i fodloni ei derfyn amser statudol o ran gosod ei adroddiad ar y cyfrifon.

Mae’r sefyllfa hon wedi amlygu’r diffyg darpariaeth i Archwilydd Cyffredinol Cymru ofyn am estyniad i’r amserlen statudol o bedwar mis pe digwydd i unrhyw broblem godi wrth archwilio cyfrifon. Nid yw’r sefyllfa hon yn unigryw i Gyfoeth Naturiol Cymru. Yn wir, yn y blynyddoedd diwethaf mae’r Cynulliad wedi pasio nifer o ddarnau o ddeddfwriaeth sy’n sefydlu cyrff, megis Awdurdod Cyllid Cymru, Gofal Cymdeithasol Cymru, a Chymwysterau Cymru, i gyd yn cynnwys yr amserlen statudol hon o bedwar mis, heb unrhyw ddarpariaeth ar gyfer estyniad. Credwn fel Pwyllgor Cyllid fod hwn yn amryfusedd amlwg mewn deddfwriaeth Gymreig. Rwyf wedi ysgrifennu felly at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ac at y Prif Weinidog ynglŷn â sefydlu cyrff yn gyffredinol gan Llywodraeth Cymru. Mae’n arbennig o bwysig pan fydd cyrff yn cael eu chreu drwy Orchmyn sefydlu, fel Cyfoeth Naturiol Cymru, yn hytrach na deddfwriaeth sylfaenol a statudol.

Rwy’n falch bod y Prif Weinidog wedi cadarnhau bod swyddogion Llywodraeth Cymru wedi dechrau trafod y goblygiadau technegol a deddfwriaethol â Swyddfa Archwilio Cymru, ac y byddant yn gweithio gyda’i gilydd er mwyn penderfynu ar y ffordd ymlaen. Rydym yn edrych ymlaen at gael rhagor o wybodaeth gan y Prif Weinidog am y camau sy’n cael eu cymryd ar ôl i’w swyddogion a Swyddfa Archwilio Cymru gwblhau y gwaith hwn. Diolch yn fawr.

Diolch, Llywydd, a diolch am y cyfle i ymateb ar ran Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar ‘Cyfoeth Naturiol Cymru: Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2015-16’. Gan sicrhau gwerth am arian cyhoeddus, rôl Gweinidogion Cymru yw sicrhau bod cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn cynnal y safonau priodol. Mae angen i ni fod yn gadarn yn ein gwaith craffu ac yn wir, mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, wrth wneud y gwaith craffu hwn ar gyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru, wedi tynnu sylw at bwysigrwydd llywodraethu cadarn i gyrff cyhoeddus a sut y mae’n rhaid dilyn y broses briodol.

Y rheswm dros farn amodol Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfrifon 2015-16, fel y clywsom, oedd y modd y dyfarnwyd contract coed i weithredwr melin goed ym mis Mai 2014. Rwy’n falch fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyfaddef, o edrych yn ôl, y byddent wedi ymdrin â phethau’n wahanol. Mater i swyddog cyfrifyddu a bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru yn bennaf yw’r argymhellion yn adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi fy sicrhau eu bod eisoes wedi rhoi cynllun gweithredu ar waith i fynd i’r afael â’r materion a godwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Rôl Llywodraeth Cymru fydd cefnogi Cyfoeth Naturiol Cymru yn y gwaith y mae angen iddynt ei wneud i sicrhau bod gweithdrefnau cadarn ar waith ar gyfer y dyfodol.

Cyn y gwaith craffu a wnaed gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, roedd y Prif Weinidog eisoes wedi comisiynu swyddogion Llywodraeth Cymru i adolygu trefniadau llywodraethu cyrff hyd braich yng Nghymru. Mae llawer o waith eisoes wedi’i wneud, ac rwyf wedi cael fy nghyfweld gan y swyddog sy’n arwain yr adolygiad. Fel corff hyd braich, caiff Cyfoeth Naturiol Cymru ei reoli gan gytundeb fframwaith cadarn sy’n adlewyrchu’r egwyddorion a nodir yn ‘Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru’. Yn ystod eu hymddangosiad gerbron y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, gofynnodd Cyfoeth Naturiol Cymru am ddiffiniad mwy manwl o’r termau ‘newydd’ ‘dadleuol’, ac ‘ôl-effeithiol’ yn eu fframwaith llywodraethu cyfredol. Gwnaed y cais yn benodol i fynd i’r afael ag argymhelliad Swyddfa Archwilio Cymru fod y contract yn newydd, yn ddadleuol, ac yn ôl-effeithiol ac felly dylent fod wedi cyflwyno eu cynigion i’r adran sy’n eu noddi yn unol â’r fframwaith llywodraethu cyfredol. Fel rhan o’r adolygiad cyfredol o gyrff hyd braich, deallaf fod ystyriaeth yn cael ei rhoi i ddarparu mwy o eglurder ynglŷn â’r materion hyn.

Gofynnodd David Melding a oedd diben Cyfoeth Naturiol Cymru ar y trywydd iawn, ac rwy’n credu ei bod yn werth ystyried, ers i Cyfoeth Naturiol Cymru gael ei greu, eu bod wedi gorfod ymdrin â llawer o faterion unigryw, ac mae hynny’n cynnwys yr achosion o P. ramorum ar draws ystâd coedwigaeth Cymru, y stormydd gwaethaf o fewn cof yn ystod gaeaf 2013-14, a gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, sydd wedi effeithio ar eu diben a’u gweithgaredd o ddydd i ddydd ac wedi golygu bod y sefydliad yn cyflawni cyfrifoldebau statudol ychwanegol.

Nodaf eich sylwadau fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dweud eu bod angen arweiniad pellach ar yr hyn a olygir wrth ‘newydd’ ac ‘ôl-effeithiol’. Ni chefais fy argyhoeddi o gwbl gan y ddadl hon yn y pwyllgor. Roedd yn ymddangos yn glir i’r pwyllgor fod yr hyn roeddent yn ei argymell mor amlwg y tu allan i’r ddealltwriaeth a dderbynnir nes ei bod yn anodd deall bod honno’n ddadl ddifrifol. Roedd yn awgrymu haerllugrwydd ehangach ar ran y tîm arweiniol nid yn unig eu bod yn herio cyngor yr archwilydd cyffredinol yn gyfreithiol cyn iddo ddod gerbron pwyllgor, ond eu bod wedi rhoi perfformiad heb unrhyw ostyngeiddrwydd o fath yn y byd. A yw’r Llywodraeth yn adolygu sgyrsiau’r Gweinidog am—a yw hynny’n cynnwys effeithiolrwydd bwrdd cyfredol Cyfoeth Naturiol Cymru yn dwyn y tîm rheoli i gyfrif?

Wel, fel y dywedais, roedd y Prif Weinidog wedi cychwyn yr adolygiad hwn cyn gwaith craffu’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, a soniais fy mod wedi cael fy nghyfweld gan y swyddog sy’n gyfrifol am yr adolygiad. Yn amlwg, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn sefydliad ac yn gorff mawr iawn yn fy mhortffolio, felly yn amlwg, rwyf wedi cael trafodaethau ynghylch y materion rydych wedi’u codi yn y Siambr.

Er gwaethaf y materion a grybwyllais yn awr mewn perthynas â Cyfoeth Naturiol Cymru—yr hyn y maent wedi gorfod ymdrin ag ef dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rwy’n meddwl eu bod wedi cynnal eu lefel o wasanaeth yn sicr. Hefyd, ers eu ffurfio, maent wedi bod yn destun tri adolygiad ffurfiol, a gyhoeddwyd y llynedd, bob un ohonynt. Cyflawnwyd dau o’r adolygiadau hyn gan Swyddfa Archwilio Cymru. Cafwyd adroddiad prawf, a gyflawnwyd ar ran Gweinidogion Cymru, yn archwilio dwy flynedd gyntaf Cyfoeth Naturiol Cymru. Canfu fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi mabwysiadu dull cadarn o weithredu, gan sefydlu systemau a rheolaethau allweddol i’w alluogi i gael ei greu’n ddidrafferth. Cawsom adroddiad prawf ar werth am arian a daeth yr adroddiad hwnnw i’r casgliad fod y dull o sefydlu Cyfoeth Naturiol Cymru wedi’i strwythuro’n dda ac yn gadarn, a bod hynny wedi rhoi platfform cadarn felly i Cyfoeth Naturiol Cymru allu parhau i wireddu’r manteision a fwriadwyd wrth ei greu, ac ar gyfer mynd i’r afael â’r heriau y bydd yn eu hwynebu yn y dyfodol.

Cyflawnwyd trydydd adolygiad gan Swyddfa Rheoliadau Gwell—Swyddfa Reoleiddio, bellach—yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol—ac adolygiad o gymhwysedd rheoleiddio, a oedd yn argymell y defnydd o sancsiynau sifil mewn modd sy’n cydymffurfio ag egwyddorion rheoleiddio da. Gan ystyried cyd-destun sefydliad sydd newydd ei ffurfio yn mynd drwy drawsnewid radical iawn ac yn gorfod rheoli rhai materion unigryw yn ystod ei flynyddoedd cyntaf, nid wyf yn credu bod gwaith craffu’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi datgelu unrhyw fethiant systematig ehangach ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru. Fodd bynnag, mae dyfarnu’r contract coed yn fater sy’n rhaid mynd i’r afael ag ef, ac mae’n cael sylw. Mae’n rhywbeth rwyf wedi’i ailadrodd yn fy nhrafodaethau gyda’r prif weithredwr a’r cadeirydd.

Gellir mesur llwyddiant Cyfoeth Naturiol Cymru hyd yma yn y modd y maent wedi cyflawni eu dyletswyddau statudol a dyheadau Gweinidogion Cymru yn eu llythyrau cylch gwaith blynyddol. Yn fy marn i, mae hyn yn dangos pa mor ymroddedig yw ei weithlu i gyflawni’r canlyniadau gorau i Gymru, ac er bod adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, wrth gwrs, wedi tynnu sylw at rai gwendidau, rwyf am fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i staff Cyfoeth Naturiol Cymru am eu hymroddiad yn ystod cyfnod o newid, sy’n dal i fynd rhagddo wrth gwrs. Felly, ar ran Gweinidogion Cymru a Llywodraeth Cymru, hoffwn ddiolch i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus am eu hadroddiad.

Diolch, Llywydd. Hoffwn ddiolch i’r holl Aelodau ac Ysgrifennydd y Cabinet am gyfrannu at y ddadl bwysig heddiw. Fel y dywedais ar ddechrau’r ddadl y prynhawn yma, mae gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus rôl hanfodol yn sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei wario’n effeithlon yng Nghymru, felly roedd hi’n bwysig iawn fod y pwyllgor yn cael cyfle i ddod â’r mater hwn i’r Cynulliad, ac rwyf wedi gwerthfawrogi hynny heddiw.

Nid pob dydd y mae corff cyhoeddus mawr fel Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweld barn amodol yn cael ei rhoi ar ei gyfrifon yn y modd hwn ac am y rhesymau a nodwyd heddiw. Os caf droi’n fyr at rai o’r cyfraniadau. Yn gyntaf, Neil McEvoy, fe gyfeirioch at ddiffyg achos busnes priodol. I ddechrau, dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru wrthym fod yna achos busnes. Pan aethom ati i gwestiynu cywirdeb yr achos busnes, dywedwyd wrthym wedyn nad oedd yn achos busnes, mai papur opsiynau ydoedd, neu ryw ddisgrifiad tebyg. Roeddem yn ystyried hynny’n gwbl eithriadol, fel y dywedodd Neil McEvoy, fod contract gwerth £39 miliwn wedi’i ddyfarnu heb achos busnes priodol, a heb unrhyw gefndir ariannol. Rwy’n credu, pan ofynnwyd am ddata ariannol pellach i gefnogi’r penderfyniad, ni ddaeth i law, felly roedd yna wendid mawr yno yn amlwg.

Edrychodd David Melding ar bethau’n ehangach a chwestiynodd yr holl broses uno a arweiniodd at greu Cyfoeth Naturiol Cymru, yn ystod y Cynulliad diwethaf rwy’n meddwl, ac uno’r tri chorff a oedd ar wahân yn flaenorol. Fe holoch a oedd y broses honno wedi gweithio mewn gwirionedd ac a oedd y broblem rydym yn ei thrafod heddiw mewn gwirionedd yn tynnu sylw at nam pwysig yn y ffordd y digwyddodd y broses honno, a phan fyddwch yn uno cyrff gwahanol â’i gilydd yn y ffordd hon, a yw hynny bron yn anochel yn mynd i arwain at broblemau ehangach. Mae honno’n ddadl ar gyfer rhyw dro eto, mae’n debyg, ond rwy’n credu ei bod yn bwysig eich bod wedi dod â’r persbectif hwnnw i’r Siambr heddiw.

Jenny Rathbone, roeddwn yn hoffi eich disgrifiad ‘y drosedd a gafodd ei chyflawni ddwywaith’: dim proses dendro ar y dechrau ac yna, dim ailwerthuso neu gamau unioni go iawn yn ddiweddarach pan oedd yn amlwg fod yna broblem roedd angen rhoi sylw iddi. Ac oedd, roedd yna broblem gyda’r ffordd roedd y coed llarwydd yn mynd i gael eu marchnata. Ni allwch orlifo’r farchnad â llwythi enfawr o goed llarwydd ar unwaith. Nid yw hynny wedi digwydd yn y gorffennol. Dywedodd tystiolaeth a gymerasom gan y sefydliadau coedwigaeth y buom yn siarad â hwy fod hwnnw’n ddull anarferol o weithredu, ac ni chawsom ateb boddhaol gan Cyfoeth Naturiol Cymru pam yr aed ati yn y fath fodd.

Rhoddodd Simon Thomas safbwynt y Pwyllgor Cyllid i ni. Rwy’n aelod o’r Pwyllgor Cyllid hefyd, felly rwyf wedi gweld y ddwy ochr i hyn, ac ydw, rwy’n gwybod mai’r mater sylfaenol i’r Pwyllgor Cyllid oedd methiant yr archwilydd cyffredinol i osod cyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru mewn modd amserol ac yn unol â’i rwymedigaeth statudol. Rydym yn gwybod bod gwrthdaro rhwng ei rwymedigaeth statudol ar y naill law, a chymhwyso’i god ymarfer ei hun ar y llaw arall, a bu’n rhaid iddo ymgodymu â hynny. Ond rydych yn hollol iawn, ni ddylai hynny fod wedi digwydd, ni ddylai ddigwydd yn y dyfodol, ac mae angen trafodaeth ehangach gyda Llywodraeth Cymru neu yn y Cynulliad hwn ynglŷn â sut y gellid newid y system fel nad yw’r archwilydd cyffredinol cyfredol, neu archwilydd cyffredinol yn y dyfodol yn ôl y digwydd, yn cael ei roi yn y fath sefyllfa anodd yn y dyfodol fel bod yn rhaid iddo wneud penderfyniad nad oes yr un o’r ddwy ochr yn mynd i fod yn hapus yn ei gylch.

Fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, dylai Cyfoeth Naturiol Cymru fod wedi gweld bod y contractau a dyfarnu’r contract yn newydd, yn ddadleuol ac yn ôl-effeithiol. Roedd yn anodd iawn i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus weld pam na chafodd ei gydnabod bod y modd y dyfarnwyd y contract yn newydd, yn ddadleuol neu’n ôl-effeithiol. Roedd rhyw nam yn y broses honno, a soniodd Lee Waters—wel, fe gyfeirioch at haerllugrwydd ehangach. Ydy, mae hwnnw’n ymadrodd cryf iawn, fe wn, ond rwy’n meddwl eich bod wedi’i ddweud am y rhesymau iawn, ac yn sicr dangosodd Cyfoeth Naturiol Cymru, yn y dystiolaeth a roesant i ni, pa un a oedd yn haerllugrwydd ehangach neu’n hunanfodlonrwydd—nid wyf yn hollol siŵr sut y byddech yn ei ddisgrifio, ond roeddwn yn credu bod yna broblem gyda’r agwedd yn sicr, o ran y ffordd y teimlent ein bod wedi ystyried y modd y gwerthwyd y coed llarwydd ac y dyfarnwyd y contract. Nid yw £39 miliwn, yn y pen draw, yn swm bach o arian, ac mae’n sicr yn rhywbeth sydd angen ei wneud gydag achos busnes priodol a strategaeth briodol yn sail iddo.

Yng ngoleuni hyn oll, roeddem yn argymell y dylai Cyfoeth Naturiol Cymru adolygu ei drefniadau dirprwyo ochr yn ochr â chodi ei ymwybyddiaeth o gyfraith cymorth gwladwriaethol, cyfraith gyhoeddus a’r broses ar gyfer dyfarnu contractau. Rydym yn falch, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud, fod cynllun gweithredu wedi’i roi ar waith. Byddwn ni, fel Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, yn gwylio hynny’n ofalus, ac rwy’n siŵr y bydd gan y Cynulliad ddiddordeb yn y modd y bydd hynny’n datblygu. Ond gadewch i ni fod yn hollol glir yn y ddadl hon heddiw, Llywydd, na ddylai’r sefyllfa hon fod wedi digwydd, ac mae angen i ni wneud yn gwbl siŵr nad yw byth yn digwydd eto.

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. 7. Cynnig o dan Reol Sefydlog 10.5 i Ymestyn Penodiad Cadeirydd Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru

Mae hynny’n dod â ni at yr eitem nesaf, sef cynnig o dan Reol Sefydlog 10.5 i ymestyn penodiad cadeirydd bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru. Rydw i’n galw ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid i wneud y cynnig—Simon Thomas.

Cynnig NDM6369 Simon Thomas

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Pharagraffau 5(1) a 5(3) o Atodlen 1 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013, ac o dan Reol Sefydlog 10.5, yn ymestyn penodiad Isobel Garner fel cadeirydd Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru am dair blynedd arall.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. O un mater Swyddfa Archwilio Cymru i fater arall, ond rwy’n falch i gyflwyno’r cynnig hwn heddiw ar ran y Pwyllgor Cyllid a gofyn i’r Cynulliad gytuno i ymestyn cytundeb Isobel Garner fel cadeirydd bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru yn unol â Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013. Mae Isobel Garner wedi bod yn gadeirydd y bwrdd ers ei phenodiad ym mis Hydref 2013 ac mae hi wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr yn ystod ei chyfnod yn y swydd. Gwnaed y penodiad am bedair blynedd yn y lle cyntaf, gyda’r Ddeddf yn cynnwys darpariaeth ar gyfer ymestyn y penodiad. Mae’r pwyllgor o’r farn bod rhinwedd mewn ymestyn contract Isobel Garner, yn enwedig gan fod trefn trefniadau llywodraethu Swyddfa Archwilio Cymru o dan y Ddeddf yn dal yn gymharol newydd. Mae’r pwyllgor yn argymell bod ei chontract yn cael ei ymestyn am gyfnod o dair blynedd.

Hoffwn hefyd dynnu sylw Aelodau at adroddiad y pwyllgor sy’n cyd-fynd â’r cynnig hwn ar benodiad aelodau anweithredol a chadeirydd bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru, sydd yn darparu manylion pellach am y broses recriwtio, gan gynnwys penodi Bill Richardson, Alison Gerrard a Steven Burnett fel aelodau anweithredol. Rwy’n gofyn i’r Cynulliad gytuno’r cynnig.

Mae’n bleser ymateb i gynnig olaf ond un y tymor. O ystyried pwysigrwydd Swyddfa Archwilio Cymru a’i fwrdd a’i lywodraethu cadarn, rwy’n credu ei bod yn bwysig ein bod yn ystyried hyn. Rwy’n falch nad yw’r Pwyllgor Cyllid wedi cymeradwyo ailbenodiad tri aelod a chadeirydd yn ddigwestiwn. Yr amod gyfreithiol ar gyfer yr aelodau yw mai dau benodiad yn unig a ganiateir iddynt, ac mae’n pennu proses recriwtio deg ac agored, ac mae’n galonogol fod y Pwyllgor Cyllid wedi nodi hynny a rhoi’r broses honno ar waith. Rwy’n deall yn awr ei fod wedi’i gwblhau ac un aelod yn unig a ailbenodwyd a hynny am dymor o ddwy flynedd yn unig. Ond rwy’n credu y byddem yn awyddus i gofnodi ein diolch i’r aelodau sy’n ymddeol.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Yn wahanol i’r aelodau eraill ar y bwrdd, ceir darpariaeth benodol sy’n caniatáu i dymor y cadeirydd gael ei ymestyn, ac o ystyried trosiant yr aelodau, rwy’n cytuno ei bod yn briodol i dymor y cadeirydd gael ei ymestyn, a nodaf hefyd mai dim ond am dair blynedd y caiff ei ymestyn yn hytrach na phedair. Felly, nid oes dim yn cael ei gymryd yn ganiataol, ac mae hynny hefyd yn sicrhau bod aelodau’r bwrdd yn cylchdroi’n briodol, a chredaf y bydd hynny’n cynorthwyo gyda’r gwaith o’i lywodraethu yn y dyfodol. Hoffwn longyfarch Isobel Garner ar gael ei chontract wedi’i ymestyn, yn amodol yn unig ar bleidlais i ddod. O ystyried bod poblogaeth Cymru’n gymharol fach a phwysigrwydd cael pobl gymwys a galluog yn y rolau gwasanaethau cyhoeddus hyn, bydd yna wrthdaro buddiannau o bryd i’w gilydd, ond yr hyn sy’n bwysig yw bod y gwrthdaro hwnnw’n cael ei ddatgelu ac yn cael ei reoli’n iawn, ac rwy’n credu ein bod yn disgwyl i fwrdd Swyddfa Archwilio Cymru a’i gadeirydd arwain drwy esiampl yn hynny, a bydd grŵp y Ceidwadwyr yn cefnogi’r cynnig hwn.

A gaf fi ymateb yn fyr i sylwadau Mark Reckless, a dweud yn gyntaf y byddwn yn cytuno? Wrth gwrs byddem am i Swyddfa Archwilio Cymru a’r bwrdd i fod y safon aur o ran atebolrwydd cyhoeddus a llywodraethu cyhoeddus yng Nghymru, ac fel Pwyllgor Cyllid, gallaf gadarnhau yr hyn a ddywedodd Mark Reckless. Rydym wedi penodi tri aelod—aelodau anweithredol—o’r bwrdd drwy broses recriwtio agored, ac wrth wneud hynny, cafodd un aelod ei hailbenodi mewn gwirionedd ond ymunodd dau aelod newydd â’r bwrdd, a hoffwn gofnodi fy niolch i’r aelodau sydd wedi gwasanaethu’r bwrdd ers pedair blynedd ac sydd heb gael eu hailbenodi yn awr ond sydd wedi gwasanaethu’n dda. Nid yw’n adlewyrchiad arnynt hwy, mae’n deillio’n syml o’r ffaith fod gennym broses agored a bod gennym syniadau newydd a phobl newydd sy’n gallu ymgymryd â’r rôl honno, ac mae hynny’n golygu bod y bwrdd ei hun yn adfywio ac yn ailfywiogi. Rwy’n credu ei bod yn arbennig o bwysig, wrth i ni benodi Archwilydd Cyffredinol newydd i Gymru rywbryd yn ystod y 12 i 14 mis nesaf, fod cysondeb a rhywfaint o barhad gyda chadeirydd ac arweinyddiaeth y bwrdd, sydd wedi bod yn llwyddiannus hyd yn hyn, a dyna pam y mae’r Pwyllgor Cyllid yn fodlon iawn argymell i’r Cynulliad heddiw fod Isobel Garner yn cael ei hailbenodi am gyfnod o dair blynedd.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

9. 8. Dadl UKIP Cymru: Cymunedau Gwledig a Brexit

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Paul Davies a gwelliant 2 yn enw Rhun ap Iorwerth. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol.

Symudwn ymlaen yn awr at ddadl UKIP ar Brexit ac ardaloedd gwledig. Galwaf ar Neil Hamilton i gynnig y cynnig. Neil.

Cynnig NDM6371 Neil Hamilton

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol:

1. Yn credu:

a) bod Brexit yn galluogi pobl Cymru i gael mwy o reolaeth dros eu bywydau eu hunain drwy ddatganoli pwerau llywodraethol o dechnocrats anetholedig ym Mrwsel i Aelodau’r Cynulliad yng Nghaerdydd ac Aelodau Seneddol yn San Steffan;

b) y gall Brexit greu mwy o ffyniant ar gyfer amaethyddiaeth a’r economi wledig, drwy ddisodli’r CAP gan bolisi amaethyddol wedi’i deilwra’n arbennig ar gyfer anghenion penodol Cymru, gan gyfeirio’n arbennig at gadwraeth a diogelu’r amgylchedd yn seiliedig ar egwyddorion gwyddonol a achosi costau cymesur i drethdalwyr a busnesau gwledig.

2. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu polisïau eraill wedi’u teilwra’n arbennig ar gyfer ardaloedd gwledig o fewn agenda lleoliaeth sy’n grymuso pobl leol drwy:

a) gwneud penderfyniadau cynllunio mawr gydag effaith andwyol sylweddol ar ansawdd bywyd, megis ffermydd gwynt ymwthiol, yn amodol ar refferenda lleol;

b) gwneud newidiadau mawr i’r ddarpariaeth o ysgolion gwledig a gwasanaethau addysgol eraill yn amodol ar ymgynghori lleol dilys;

c) hwyluso tai gwledig mwy fforddiadwy; a

d) rhoi mwy o flaenoriaeth i ddarparu cyfleusterau GIG mewn trefi gwledig llai.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy’n gweld o nifer y seddi gwag yn y Siambr heddiw ein bod wedi cyrraedd dyddiau cŵn yr haf, ond cawn ein gadael o leiaf â hufen Aelodau’r Cynulliad i wrando ar y ddadl hon. Hanfod y cynnig hwn yw lleoliaeth a datganoli, a dyna y mae proses Brexit yn ein galluogi i’w hymestyn.

Cyn mynd ymlaen at y cynnig, rwyf am ymdrin â’r gwelliannau. Nid wyf yn gwybod pam y mae grŵp y Ceidwadwyr bob amser yn gorfod dileu popeth yn ein cynnig a chynnwys rhywbeth sydd bron yn union yr un fath. Mae’r math hwn o ymddygiad rheibus drwy leibio ein cynnig yn resynus iawn yn fy marn i, ond nid oes unrhyw beth y gallwn anghytuno ag ef yng ngwelliannau’r Ceidwadwyr ar wahân i’r geiriau ‘Dileu popeth a rhoi yn ei le’ Ac wrth gwrs, rwy’n deall bod gan Blaid Cymru farn wahanol am y Bil ymadael â’r UE i’r un sydd gennym ni, ond rwy’n meddwl, am resymau a eglurais ddoe, fod yr ofnau hynny’n gyfeiliornus.

Cefais fy ngheryddu gan y Prif Weinidog ddoe am newid fy marn mewn rhyw ffordd neu’i gilydd, na ddylai’r pwerau y mae Brwsel yn eu mwynhau mewn meysydd datganoledig ar hyn o bryd ddod i’r Cynulliad o ganlyniad i Brexit. Rwy’n dal i gredu hynny’n gryf iawn, ac rwy’n ailadrodd yr hyn a ddywedais sawl gwaith o’r blaen, na ddylai Cymru fod geiniog yn waeth ei byd o ganlyniad i adael yr UE, o ran arian cyhoeddus, ac felly y dylid ychwanegu pob ceiniog o’r hyn y mae’r UE yn ei wario ar hyn o bryd yng Nghymru at grant bloc Llywodraeth Cymru, fel y gallwn benderfynu wedyn fel Cynulliad ar ein blaenoriaethau. Wrth gwrs, mae hyn yn hanfodol bwysig i ardaloedd gwledig yn arbennig, gan mai amaethyddiaeth a’r amgylchedd yw’r meysydd polisi lle y ceir fwyaf o gyfle i ddatganoli oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd.

Er nad wyf yn tueddu i ymddiried llawer yn Theresa May, rwy’n meddwl y byddai’n anodd iawn dychmygu amgylchiadau lle y gallai’r Llywodraeth ymgilio rhag datganiadau mor bendant â’r un a ddyfynnais ddoe, pan ddywedodd Theresa May yn y Tŷ Cyffredin,

na fydd unrhyw benderfyniadau a wneir ar hyn o bryd gan y gweinyddiaethau datganoledig yn cael eu cymryd oddi wrthynt.

Ac yn wir, dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol, Alun Cairns, mor ddiweddar â 23 Mehefin pan ofynnwyd iddo gan Paul Flynn mewn cwestiwn ysgrifenedig yn Nhŷ’r Cyffredin a oedd unrhyw gymwyseddau deddfwriaethol ychwanegol yn cael eu datganoli i’r Cynulliad Cenedlaethol o ganlyniad i adael yr UE—fe atebodd:

Mae’r Llywodraeth yn disgwyl y bydd cynnydd sylweddol yn y pwerau a ddatganolir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o ganlyniad i’r DU yn gadael yr UE.

A chan fod y Llywodraeth eisoes wedi dweud y bydd yn ceisio cynnig cydsyniad yn y Cynulliad hwn fel rhan o’r broses, yn amlwg, mae gennym sylfaen yno i sicrhau bod camau’n cael eu rhoi ar waith yn sgil y datganiadau pendant hynny. Felly, nid oes gennyf ofnau y bydd y Bil ymadael â’r UE yn bygwth ein pwerau mewn unrhyw ffordd, ac ni fydd unrhyw gipio tir. Byddai’r Llywodraeth yn ffôl iawn i geisio gwneud hynny. Ni allant elwa dim o wneud hynny.

Ond mae’n rhaid i ni dderbyn, rwy’n meddwl, fod Prydain yn rhan o’r Deyrnas Unedig, ac mae trafod cytundebau masnach ryngwladol yn gymhwysedd ar gyfer y DU. Ni all y Llywodraeth roi ei hun mewn sefyllfa lle, dyweder, y byddai Nicola Sturgeon er enghraifft yn ceisio’u dal yn wystlon tra’n aros am y broses ymadael ei hun. Felly, mae’n amlwg yn gwbl angenrheidiol fod yna gam trosiannol o’r math hwn, ond ar ei ddiwedd, pan fydd yr holl bwerau wedi’u hadfer i’r Deyrnas Unedig o’r UE, fod ein cyfran deg o’r hyn sy’n ddyledus i ni o dan y setliad datganoli presennol yn cael ei ddwyn yma i Gaerdydd, fel y gallwn wneud y penderfyniadau pwysig drosom ein hunain.

Fel cynrychiolydd ar ran Canolbarth a Gorllewin Cymru, wrth gwrs, rwy’n ymwybodol iawn o bwysigrwydd hyn i’n hetholwyr. Credaf fod y cyfle i ddatganoli’r rhan fwyaf o’r penderfyniadau amaethyddol, er gwaethaf y ffaith y bydd angen anochel am gytundeb arwyddocaol rhwng gwahanol wledydd y Deyrnas Unedig ar fframweithiau penodol, er mantais i bawb wedyn—. Serch hynny, mae’n hanfodol bwysig y dylem allu gwneud ein blaenoriaethau ein hunain drosom ein hunain. Ac nid oes gennyf unrhyw ofn, hefyd, dros ffermwyr ac eraill sy’n ymwneud ag amaethyddiaeth fod marchnadoedd yn mynd i ddiflannu a bod eu bywoliaeth dan fygythiad. Mae gennym ddiffyg masnach enfawr gyda’r UE ar fwyd a diod, a phe bai’r UE mor ffôl â gwrthod ymrwymo i ryw fath o gytundeb masnach rydd olynol gyda ni, yna byddem yn gallu ehangu ein marchnad gartref yn sylweddol iawn ar gyfer y rhan fwyaf o gynnyrch amaethyddol. Cig oen yw’r unig broblem sylweddol yn fy marn i yn hyn o beth, ond mae’r ffigurau dan sylw yn gymharol fach fel rhan o gyfanswm y gyllideb. Felly, beth bynnag yw’r canlyniad, beth bynnag yw’r anawsterau—ac mae’n rhwym o fod pwyntiau cadarnhaol a negyddol mewn unrhyw newid enfawr o’r math hwn—dylem allu dygymod â hwy’n gyfforddus o fewn y difidend Brexit. Am bob £5 y mae ffermwyr yn ei gael ar hyn o bryd o’r UE, rydym yn talu £10 i Frwsel er mwyn ei gael. Felly, mae digon o le yno i ni wneud mân newidiadau i’r system. Felly, nid wyf yn besimistaidd o gwbl ynglŷn â hynny.

Y fantais o wneud penderfyniadau mwy lleol yw nad ydym bellach yn gwneud y penderfyniadau pwysig hyn ar raddfa gyfandirol. Dyna’r broblem fawr gyda’r Polisi Amaethyddol Cyffredin. Mae yna 28 o wledydd ac mae’n rhaid i ni gael polisi amaethyddol sy’n gweithio yr holl ffordd o’r Penrhyn Gogleddol i lawr i Wlad Groeg a Gibraltar. A chyda hinsawdd a thopograffi mor amrywiol, yn anochel mae Cymru ar ei cholled. Ond pan fyddwn yn gyfrifol am ein polisi amaethyddol ein hunain, byddwn yn gallu teilwra polisi amaethyddol yn benodol i anghenion Cymru, a pheth da iawn fydd hynny hefyd. A byddwn yn gallu gwneud ein penderfyniadau ein hunain ar faterion fel chwynladdwyr, er enghraifft, a lles anifeiliaid, a byddwn yn gallu—[Torri ar draws.] Mae’n ddrwg gennyf?

Mae’n ddigon posibl, ond os yw cyrff sy’n gwneud penderfyniadau yn gor-reoleiddio, mae hwnnw’n fater o gryn bryder i ni. Mae’r UE am wahardd Asulox, er enghraifft, sy’n bwysig iawn wrth reoli rhedyn ar y bryniau. Ac rydym wedi cael ein heithrio’n flynyddol rhag yr hyn y maent am ei wneud ers y chwe blynedd diwethaf. Byddwn yn gallu penderfynu drosom ein hunain a yw hwnnw’n bolisi call ai peidio, ac nid ydyw. Efallai fod yr UE yn awyddus i gael gwared ar glyffosad fel chwynladdwr, rhywbeth a brynwn mewn archfarchnadoedd fel Roundup. Nid yw hwn yn benderfyniad synhwyrol, ond fe allwn ni wneud y penderfyniad hwnnw yn y dyfodol yn hytrach na biwrocratiaid anetholedig ym Mrwsel. Mae ffermwyr yn cael problemau enfawr gyda thrawsgydymffurfio oherwydd, ar y funud, mae’n rhaid iddynt gydymffurfio â phob manylyn yn y rheoliadau cymhleth y mae’r UE yn eu gorfodi arnom, a byddwn yn gallu mynd drwy’r llu o reoliadau drosom ein hunain i benderfynu pa rai rydym am eu cadw, pa rai sy’n ormodol a pha rai y gallwn eu hepgor yn gyfan gwbl. Felly, ar y cyfan, rwy’n credu bod dod â phenderfyniadau i lawr i’r lefel synhwyrol isaf yn beth hanfodol bwysig a gwerthfawr i ni allu ei wneud.

Mae rhannau eraill ein cynnig, sy’n cyfeirio at feysydd eraill o’r math hwnnw, nad ydynt yn gysylltiedig â’r UE—er enghraifft, ymgynghori ar gau ysgolion gwledig neu benderfyniadau ynglŷn â lleoli ffermydd gwynt gwledig, er enghraifft—yn hanfodol bwysig, rwy’n meddwl, o ran cynnal purdeb a chyfanrwydd ein tirweddau hyfryd yn y canolbarth. Nid wyf yn hoffi gweld coedwigoedd o felinau gwynt yn ymddangos ar ben y bryniau ac wrth gwrs, maent yn amhoblogaidd iawn yn y cymunedau y cawsant eu sodro arnynt. Nid oes raid i ni gael dadleuon am newid yn yr hinsawdd a chynhesu byd-eang a achoswyd gan bobl er mwyn hyrwyddo’r ddadl hon, oherwydd hyd yn oed os ydych yn derbyn y damcaniaethau ynglŷn â chynhesu byd-eang a achoswyd gan bobl, rhaid ei bod yn amlwg fod y cyfraniad y gellir ei wneud i ddatrys problemau newid yn yr hinsawdd drwy gael safbwynt eithafol o blaid lleoli ffermydd gwynt mewn lleoedd amhriodol—nid yw’n gwneud unrhyw gyfraniad go iawn i ddatrys y broblem o gwbl. Ond mae bywydau pobl yn cael eu dryllio, a phe bai gennym ddull lleol o reoli, yna byddem yn gallu rhwystro penderfyniadau o’r fath. Felly, mae’n hanfodol bwysig ein bod yn ymwybodol iawn o’r problemau arbennig sy’n bodoli mewn ardaloedd lle mae gennym boblogaeth denau a chysylltiadau trafnidiaeth anodd, a bod gennym fodd cyfansoddiadol o fynd i’r afael â’r rhain yn y ffordd fwyaf effeithlon. Credaf fod gadael yr UE yn cyfrannu at y broses honno, er nad yw’n ateb hollgwmpasol i’r cyfan.

Os edrychwn ar bysgota, er enghraifft—sy’n bwysig iawn i ni, unwaith eto—mae gan Ganolbarth a Gorllewin Cymru oddeutu 75 y cant o arfordir Cymru yn ôl pob tebyg. Mae’r polisi pysgodfeydd cyffredin wedi dinistrio’r diwydiant pysgota yn llwyr yn y Deyrnas Unedig gyfan. Mae wedi bod yn drychineb ecolegol hefyd fel y gŵyr pawb ohonom gyda’r polisi pysgod taflu yn ôl.

Rwy’n cofio mynd, ychydig flynyddoedd yn ôl, i ymweld â chymdeithas pysgotwyr môr Cymru, pan oedd, ar un adeg, y Sbaenwyr—roedd yna broblem fawr ynglŷn â’r Sbaenwyr yng Nghernyw, ac roeddent yn llosgi baneri Sbaen yng Nghernyw. Euthum i ymweld â chymdeithas pysgotwyr môr Cymru, a gâi ei harwain gan ryw Mr Gonzalez. Yr hyn a oedd wedi digwydd mewn gwirionedd oedd bod pysgotwyr Cymru wedi gwerthu eu cwotâu i’r Sbaenwyr. Felly, rwy’n credu bod beio’r UE am hynny, rwy’n meddwl, yn gamarweiniol.

Wel, mae hynny, wrth gwrs, yn tynnu sylw oddi ar y broblem go iawn: sef nad oedd gan yr UE, cyn 1973, unrhyw ddyfroedd pysgota go iawn ac o ganlyniad i’r ffaith ein bod ni wedi ymuno, cafodd y polisi pysgodfeydd cyffredin ei daflu at ei gilydd fel bod modd ysbeilio dyfroedd Prydain, a chanlyniad hynny yw bod ein diwydiant pysgota bellach yn llawer llai nag yr oedd 40 mlynedd yn ôl. Mae nifer y pysgotwyr wedi gostwng 40 y cant, mae nifer y cychod wedi gostwng 28 y cant, ac rydym wedi byw drwy drychineb ecolegol ym môr y Gogledd ac mewn mannau eraill, rhywbeth sy’n cael ei gydnabod yn eang.

Eluned Morgan a gododd—

Nid wyf yn mynd i gymryd ail ymyriad, mae’n ddrwg gennyf. [Torri ar draws.] Gall yr Aelod wneud ei haraith ei hun, ac rwy’n gobeithio y gwnaiff. Ond mae’n rhoi cyfle inni adfywio diwydiant pysgota Cymru, ac nid pysgodfeydd y glannau yn unig, wrth gwrs, nad ydynt yn cael eu heffeithio gan y polisi pysgodefydd cyffredin, ond i fynd ymhellach i ffwrdd. Nid wyf yn meddwl y gwelwch lawer o bobl sy’n ymwneud â’r diwydiant pysgota sy’n credu bod y polisi pysgodfeydd cyffredin wedi bod yn hwb fel y mae rhai o’r Aelodau i’w gweld yn ei gredu. Y canlyniad yw diwydiant pysgota ar raddfa enfawr, sydd wedi peri i bysgotwyr bach fynd i’r wal, a byddwn yn gallu gwneud newidiadau sylweddol i hynny.

Felly, ceir llawer o resymau pam y dylem gefnogi’r cynnig hwn, ond fel y dywedais ar y dechrau un, mae hwn yn gyfle i ddod â’r broses o wneud penderfyniadau i lawr i’r lefel isaf bosibl fel y gall pobl gyffredin deimlo bod ganddynt ran go iawn i’w chwarae yn y prosesau sy’n rheoli eu bywydau a chyrff cynrychioliadol fel hwn, a etholir gan y bobl, sy’n ysgwyddo’r cyfrifoldeb llawn yn y pen draw am wneud y penderfyniadau hynny, ac rydym yn atebol i’r bobl. Nid yw hynny’n digwydd ar hyn o bryd.

Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi dethol y ddau welliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Galwaf ar Paul Davies i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn ei enw.

Gwelliant 1—Paul Davies

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol:

1. Yn credu bod gadael yr Undeb Ewropeaidd yn cynnig y cyfle i ddatganoli mwy o bwerau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2. Yn cydnabod y bydd cyfle i leihau faint o fiwrocratiaeth sy’n wynebu ffermwyr Cymru ac yn disgwyl i Lywodraeth Cymru weithio gyda Llywodraeth y DU i gyflwyno fframwaith ôl-Brexit sy’n cefnogi ffermwyr Cymru.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i gefnogi cymunedau gwledig ledled Cymru, drwy ddatblygu mwy o bolisïau wedi’u teilwra’n arbennig ym meysydd iechyd, addysg a thai.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rydw i’n cynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn fy enw i. Bydd penderfyniad pobl Prydain i adael yr Undeb Ewropeaidd y llynedd yn cael effaith sylweddol ar gymunedau gwledig ledled Cymru, yn ogystal â’r diwydiannau sy’n seiliedig ar gymunedau gwledig. Fel rydym ni i gyd yn gwybod, mae Cymru wledig yn gartref i 33 y cant o boblogaeth Cymru ac mae’n rhaid i fywiogrwydd a dyfodol y cymunedau hynny fod yn gadarn ar agenda Llywodraeth Cymru. Felly, mae’n hanfodol, wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd, fod pwerau i roi gwell cefnogaeth i gefn gwlad Cymru yn cael eu trosglwyddo yn uniongyrchol i’r Senedd yma.

Rydw i’n derbyn yn llwyr fod angen gwneud llawer mwy o waith i Fil Llywodraeth y Deyrnas Unedig sydd yn delio ag ymadael â’r Undeb Ewropeaidd i sicrhau bod pwerau presennol y lle hwn yn cael eu diogelu a bod y cyfrifoldebau dros faterion datganoledig yn gyfan gwbl yn gorwedd yma ac nid mewn llefydd eraill. Yn wir, rydw i’n gobeithio y bydd y trafodaethau rhynglywodraethol a fydd yn digwydd i drosglwyddo pwerau yn ôl o Frwsel yn datganoli rhagor o bwerau i’r lle hwn er mwyn helpu i roi gwell cefnogaeth i gymunedau gwledig. Byddai hyn yn rhoi hyd yn oed mwy o adnoddau a chyfrifoldebau i Lywodraeth Cymru, ac o ganlyniad dylai’r Llywodraeth gyflwyno polisïau sy’n mynd i’r afael yn benodol â heriau Cymru wledig.

Wrth gwrs, yn ganolog i’n cymunedau gwledig ni yw’r sector amaethyddiaeth, ac wrth i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd, mae Llywodraeth Cymru yn cael cyfle i edrych ar y dirwedd rheoleiddio bresennol ar gyfer ffermwyr a sefydlu gwell ffyrdd o gefnogi ffermwyr. Mae gadael yr Undeb Ewropeaidd yn golygu ein bod ni nawr yn cael y cyfle i ailwampio’r beichiau rheoleiddio ar ffermwyr Cymru a sicrhau bod mwy o ddulliau gwirfoddol yn cael eu mabwysiadu, a phan fod rheoliadau yn cael eu cyflwyno, maent yn cael eu cyflwyno oherwydd tystiolaeth glir. Mae’n gwbl hanfodol bod y lefel o gefnogaeth sydd ar gael i ffermwyr Cymru ar faes chwarae gwastad â’u cystadleuwyr, a dyna pam fod sefydlu fframwaith amaethyddol parhaol ar lefel Brydeinig mor bwysig.

Wrth gwrs, nid yw’r ddadl heddiw yn ymwneud ag effaith Brexit ar amaethyddiaeth yn unig, ond mae hefyd yn ymwneud â darparu gwasanaethau mewn ardaloedd gwledig. Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru gydnabod bod un model ar gyfer pawb o lywodraethu Cymru yn gwbl annerbyniol a bod anghenion cymunedau gwledig yn wahanol iawn i gymunedau trefol.

Yn fy etholaeth i, rydym ni wedi gweld nifer o wasanaethau iechyd pwysig yn cau yn yr ysbyty lleol ac yn cael eu canoli, gan orfodi cleifion i deithio ymhellach ar gyfer triniaethau a gwasanaethau. Mae hyn yn gwbl annerbyniol ac nid yw hyn yn dangos unrhyw ystyriaeth i ddymuniadau ac anghenion y rhai sy’n byw mewn cymunedau gwledig yng ngorllewin Cymru. Hyd yn oed wrth i ni drafod y prynhawn yma, mae bwrdd iechyd Hywel Dda unwaith eto yn ymgynghori ar gael gwared ar wasanaethau yn sir Benfro—yn yr achos hwn, mae’n edrych i ganoli gwasanaethau iechyd meddwl.

Wrth i Brydain baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd, mae cyfle nawr i Lywodraeth Cymru oedi ac i ailfeddwl y ffordd y mae’n rheoli darpariaeth gwasanaethau mewn ardaloedd gwledig. Yn anffodus, ers 1999 mae 227 o ysgolion ar draws Cymru wedi cau, gydag ardaloedd gwledig yn cael eu heffeithio waethaf. Mae ffigurau’r Llywodraeth ei hun yn dweud wrthym ni fod 41 o ysgolion wedi cael eu cau yng ngogledd Cymru ers datganoli. Ac er fy mod i’n derbyn bod yr Ysgrifennydd Cabinet presennol dros addysg nawr o’r diwedd yn cryfhau mesurau i ddiogelu ysgolion, ni fydd hyn o gysur i’r cymunedau hynny sydd wedi colli eu hysgolion ac sydd wedi colli canolbwynt cymunedol hanfodol. Mae’r gwasanaethau hyn yn ddolen gyswllt hollbwysig i drefi a phentrefi gwledig ac maent yn helpu i gyflawni nid yn unig gwasanaethau sydd mawr eu hangen, ond maent yn clymu cymunedau at ei gilydd.

Bydd Aelodau yn gwybod ein bod ni ar yr ochr hon i’r Siambr yn parhau i alw am banel annibynnol i gael ei sefydlu sy’n cynnwys cynrychiolwyr o gymunedau a diwydiannau gwledig ledled Cymru, sydd mewn llawer gwell sefyllfa i graffu ar effeithiau polisïau Llywodraeth Cymru ar eu hamgylcheddau lleol, er mwyn sicrhau nad yw polisïau Llywodraeth Cymru yn negyddol ar gymunedau gwledig, ac rydw i’n mawr obeithio y bydd y Llywodraeth nawr yn ystyried hyn. Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru anfon neges glir i gymunedau gwledig y byddant yn cael cydraddoldeb â rhannau trefol y wlad wrth ddatblygu polisïau a chyllido polisïau.

Mae’r cynnig yma heddiw yn esbonio y gallai Brexit arwain at gyfleoedd sylweddol i Gymru wledig, ond mae’n methu â chydnabod bod heriau sylweddol hefyd, ac mae angen i Lywodraeth Cymru ymgysylltu’n well â Chymru wledig i gwrdd â’r heriau hynny. Felly, wrth gau, Dirprwy Lywydd, rydw i am orffen drwy ailadrodd pwysigrwydd ein cymunedau gwledig, nid yn unig i’n heconomi, ond i’n diwylliant hefyd. Mae’r iaith Gymraeg yn rhan annatod o’n cymunedau gwledig a’n heconomi wledig. Er enghraifft, rydym yn gwybod taw amaethyddiaeth sydd â’r gyfran uchaf o siaradwyr Cymraeg o unrhyw sector. Felly, mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn gwneud llawer mwy i gefnogi ein cymunedau gwledig. Mae’n rhaid i’r Llywodraeth ddefnyddio’r lifrau presennol a’r lifrau newydd i sicrhau dyfodol i’n cymunedau gwledig, ac rwy’n annog Aelodau i gefnogi ein gwelliant.

Diolch yn fawr iawn, a galwaf ar Simon Thomas i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.

Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Yn credu bod y dull gweithredu presennol o ran Brexit drwy Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) Llywodraeth y DU yn rhwystro’r Cynulliad rhag arfer pwerau datganoledig ac yn peryglu’r rheolaeth sydd gan bobl yng Nghymru dros eu bywydau.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch, Dirprwy Lywydd, ac rwy’n cynnig y gwelliant. Mae’n ddiwedd tymor, ond nid oes esgus iddi fod yn ‘groundhog day’ unwaith eto. Mae’n rhaid dweud, rydym wedi bod rownd y rîl am flwyddyn gyfan ar y materion yma, ac yn benodol ddwywaith yr wythnos yma. Felly, fe wnaf fod yn gryno iawn, heb ailadrodd gormod o beth ddywedais i ddoe.

Yn syml iawn, mae Plaid Cymru yn glir o’r farn fod y Bil i dynnu allan o’r Undeb Ewropeaidd, beth bynnag yw hynny’n gywir yn Gymraeg, yn Fil sy’n tynnu pŵer oddi ar bobl Cymru, oddi ar y Cynulliad a’r Senedd, sy’n ymgorffori sofraniaeth Cymru. Wrth gwrs bydd gen i bersbectif gwbl wahanol ar hyn i UKIP. Mae UKIP yn credu yn sofraniaeth San Steffan. Mae UKIP yn credu yn sofraniaeth y Deyrnas Gyfunol uwchben y bobl sy’n byw yng Nghymru. Nid ydym ni’n derbyn hynny fel plaid annibyniaeth Cymru. Nid ydym yn derbyn hynny.

Ond, rydym hefyd yn gweld hwn fel rhywbeth gwbl sinigaidd gan y blaid Dorïaidd ar hyn o bryd—eu bod nhw’n defnyddio pleidlais mewn un refferendwm i wyrdroi pleidlais nad oedden nhw’n licio mewn refferendwm arall. Yn 2011, fe gafwyd canlyniad refferendwm, nid 52 y cant i 48 y cant, ond 66 i 67 y cant o blaid y Senedd hon yn deddfu ym meysydd pysgodfeydd, amaeth, amgylchedd, iechyd ac addysg, ac ati, hefyd. Mae’r ffaith bod y Bil nawr a’r ffaith bod y Llywodraeth Geidwadol nawr yn San Steffan yn defnyddio esgus Brexit i ddal yn ôl ar y broses ddatganoli yn un o’r pethau mwyaf sinigaidd rwyf wedi ei weld yn ddiweddar, yn sicr ers 2011. Ac os oedd yna unrhyw amheuaeth nad oedd y Torïaid yn barod i wneud hyn, ac y byddem ni’n gallu bod gyda Neil Hamilton yn credu yng ngeiriau teg Theresa May, fe welsom ni neithiwr gyda’r Bil undebau llafur ei fod yn fwriad gan y Ceidwadwyr i wyrdroi unrhyw Fil sydd wedi’i basio fan hyn nad ydyn nhw’n fodlon arno. Mae’r wrth-ddemocrataidd llwyr ac mae’n dangos yn glir eu bod nhw’n defnyddio’r Bil i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd yn yr un ffordd.

Rwyf wedi bod yn gwrando yn ofalus iawn ers dros flwyddyn ar Neil Hamilton ac yn aros i’r rhethreg flodeuog ddiflannu ac i rai syniadau ddechrau dod gerbron ynglŷn â beth yw dyfodol amaeth i ffermwyr ar ôl Brexit, ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd—ond nid jest yr Undeb Ewropeaidd, yn ôl beth yw ei ddymuniad ef, ond gadael y farchnad sengl a gadael yr undeb tollau hefyd. Beth yw’r freuddwyd? Nid wyf wedi gweld unrhyw beth o freuddwyd neu weledigaeth ond breuddwyd gwrach. Yr unig beth rwyf wedi’i weld yw breuddwyd gwrach.

Heddiw, fe gawsom ni rhyw gip ar yr hunllef yna: tir Cymru yn llawn cemegau, wedi’i llygru, wedi’i halogi, yn llawn gorwneud. Yr unig beth mae wedi cynnig yw lladd y rhedyn ar y mynydd. Dim unrhyw fath o ddyfodol i fasnachu’r ŵyn sy’n bwyta ar y mynydd, dim unrhyw fath o ddyfodol i’r ffermwyr sy’n dibynnu ar loi sugno, a dim unrhyw fath o ddyfodol i’r ffermwyr sy’n dibynnu ar farchnad gwerth miliynau o bunnoedd. Nid yw’n unrhyw fath o weledigaeth.

Fe allaf i fynd yr wythnos nesaf i’r Sioe Fawr yn Llanelwedd a siarad gyda ffermwyr gyda rhyw fath o hygrededd—pob lwc iddo fe yn trio gwneud hynny. Rwy’n mynd i lynu at y safbwynt sydd gen i fel Aelod Cynulliad sy’n cynrychioli’r un rhanbarth, ond hefyd fel Aelod Cynulliad Plaid Cymru. Rydym ni’n credu’n gryf iawn fod angen cadw’r berthynas yna gyda’r farchnad sengl ar gyfer ffermwyr, cadw’r berthynas yna gyda’r undeb tollau, ac yn fwy pwysig byth, cadw’r amgylchedd sydd gyda ni—ein hamgylchedd lân sy’n cefnogi bwyd o safon a lles anifeiliaid o safon yn ogystal. Dyna sydd wir yn arbennig am Gymru a’r iaith Gymraeg hefyd yn rhan o hynny. Mae unrhyw beth sydd gan UKIP i’w bortreadu fan hyn yn mynd i ddinistrio’r genedl fel rydym ni’n ei hadnabod hi, ac nid wyf i’n fodlon ar hynny. Dyna pam rydym ni’n gwrthod yn llwyr y cynnig sydd gan UKIP heddiw ac yn dodi hyn yn amgen yn ei le.

Y peth olaf y dywedaf i yw ein bod ni wir angen nawr gweld y Bil parhad gan y Llywodraeth. Mae’n rhy hwyr yn y dydd bellach i obeithio—fel roedd y Prif Weinidog yn dweud ddoe—y bydd gwelliannau’n cael eu cyflwyno yn San Steffan. Fedrwn ni ddim trystio y Ceidwadwyr na San Steffan ar hyn. Rydw i’n gwybod, yn eich calonnau, rydych chi, Aelodau Llafur, yn gwybod na fedrwch chi drystio’r Ceidwadwyr ar hyn. Cyflwynwch y Bil parhad a sefwch lan dros hawliau Senedd Cymru.

Rydym yn cyflwyno’r ddadl hon heddiw am fod gennym ddiddordeb—fel sydd gan bob Aelod, rwy’n disgwyl—mewn adfywio’r economi wledig. Rydym wedi cysylltu cynnig heddiw â phwnc Brexit, nid i achosi cynnwrf diangen yn y Siambr ar ddiwrnod olaf y tymor, ond yn hytrach i edrych ar y cyfleoedd a allai ddeillio o Brexit. Nawr, rwy’n gwybod ein bod wedi cael rhyw led anghydweld yn y lle hwn dros fanteision ac anfanteision Brexit, ac rydym yn dal i gael rhywfaint o drafodaeth dwymgalon yma ynglŷn â pha ffurf yn union a fydd neu a ddylai fod ar Brexit. Wel, nid wyf am drafod ffurf Brexit yn ormodol. Dadl a gawsom ddoe yw honno, rwy’n teimlo—fel y soniodd Simon Thomas—i ryw raddau, ac un y byddwn yn ei hailddechrau mae’n debyg ar ôl i ni ddychwelyd yma ar ôl y toriad ym mis Medi—a bydd y ddadl yn parhau am beth amser ar ôl hynny yn ôl pob tebyg. Yr hyn y gallwn gytuno arno efallai yw bod rhyw fath o Brexit yn mynd i ddigwydd, felly mae angen inni feddwl am y cyfleoedd y gallai Brexit eu cynnig i ni a sut y gallai rhai o’r cyfleoedd hynny fod o gymorth i’r gymuned wledig.

Yn ychwanegol at gyfleoedd sy’n deillio o Brexit, mae yna hefyd ddulliau sydd eisoes o fewn cymhwysedd cyfreithiol y Cynulliad y gellir eu defnyddio i helpu’r economi wledig. Hefyd, ceir pwerau sydd wedi llifo i mewn yn ddiweddar, neu ar fin llifo i’r Cynulliad o ganlyniad i gymhwysedd i godi trethi. Nawr, roedd yr holl bleidiau a gâi eu cynrychioli yn y Siambr yn y Pedwerydd Cynulliad eisiau’r pwerau treth, felly nawr yw’r amser i ni feddwl yn adeiladol ynglŷn â sut i’w defnyddio mewn perthynas â’r economi wledig.

Un elfen hanfodol yn hyn i gyd yw tai. Os ydym am gadw pentrefi gwledig ar eu ffurf bresennol, rwy’n credu bod angen inni weithredu’n bendant ac yn gywir yma. Yr hyn nad ydym ei angen yn arbennig yw i bentrefi gwledig golli eu cymeriad drwy ddod yn ddim mwy na threfi noswylio ar gyfer trefi a dinasoedd mwy o faint; nid yw’n ddyfodol rydym eisiau ei hyrwyddo ar eu cyfer. Felly, mae angen i ni fod yn wyliadwrus ynglŷn â datblygiadau tai mawr anghydnaws, ac ynglŷn ag adeiladu ar y llain las. Wrth gwrs, mae angen tai gwledig, ond mae angen eu datblygu mewn modd cydymdeimladol ac yn unol â dymuniad y boblogaeth leol. Gyda datblygiadau mawr, credwn y dylid ymgynghori’n ystyrlon â phobl leol. Os ceir datblygiad dadleuol, yna dylai fod lle i gynnal refferendwm lleol sy’n rhwymo’n gyfreithiol. Mae hyn yn golygu, os ceir digon o lofnodwyr, y gallai cymuned gael pleidlais ar ddatblygiad, a byddai’r awdurdod cynllunio perthnasol wedi’i rwymo’n gyfreithiol i nodi’r canlyniad a gweithredu yn unol â hynny. Gyda refferenda o’r fath sy’n rhwymo’n gyfreithiol byddai rhyw fath o ffurf ystyrlon i’r cysyniad o leoliaeth. Dylai fod mwy o rôl hefyd i gynghorau tref a chymuned yn y broses gynllunio.

Ochr arall y geiniog yw bod angen inni ysgogi adeiladu hefyd os oes cydsyniad lleol i’r cynllun adeiladu. Ac rydym yn gwybod bod mesurau newydd, dulliau newydd, ar gael i’r Cynulliad ym maes adeiladu tai. Un o’r problemau sy’n cyfyngu ar adeiladu tai yw’r broblem o fancio tir. Dyma’r broses lle mae llond llaw o gwmnïau datblygu eiddo cenedlaethol mawr yn crynhoi asedau tir, yn cael caniatâd cynllunio i adeiladu tai, ac yna’n gwneud dim ond eistedd arnynt, yn hytrach nag adeiladu unrhyw beth mewn gwirionedd. Ond gyda’r pwerau treth newydd ar gael, gellir mynd i’r afael â bancio tir drwy gyflwyno cyfres o daliadau: system o dreth tir ar dir lle mae caniatâd cynllunio eisoes wedi’i roi, ond lle nad oes unrhyw dai wedi cael eu hadeiladu. Gallai hyn ddechrau ar ôl tair blynedd dyweder, a chodi wedyn flwyddyn ar ôl blwyddyn hyd nes y bydd y rhaw’n torri’n dywarchen gyntaf. Nawr, mae’r Gweinidog Cyllid, Mark Drakeford, eisoes wedi awgrymu gweithredu yn y cyfeiriad hwn, ac rydym ni yn UKIP yn teimlo y dylem symud i’r cyfeiriad hwn a dylai Llywodraeth Cymru gael y grym i ddatblygu hyn. Nawr, yn yr achos hwn, daw’r pwerau i’r Cynulliad o San Steffan ar ffurf cymhwysedd i godi trethi. Gall pwerau eraill gael eu datganoli o ganlyniad i Brexit.

Er enghraifft, ar ôl i ni ddod allan o’r UE, ni fyddwn yn cael ein llywodraethu gan reolau caffael yr UE mwyach. Mae caffael yn arf arall y gellir ei ddefnyddio i yrru datblygiad economaidd. Rhaid i gyrff y sector cyhoeddus yng Nghymru gael eu hannog, yn ôl statud os oes angen, i ddyfarnu contractau yn y sector cyhoeddus i gwmnïau lleol. Gallai hyn alw am wneud y broses dendro’n haws. Mae angen i ni edrych ar y rheolau a’r rheoliadau ar ôl Brexit, a sicrhau bod rheoliadau amherthnasol yn cael eu diddymu fel bod cwmnïau llai o faint, sy’n tueddu i amlhau mewn ardaloedd gwledig, yn cael caniatâd i dendro am gontractau. Efallai y bydd yn rhaid i ni gyflwyno cymalau fel bod nifer penodol o gontractau sector cyhoeddus yn cael eu dyrannu i gwmnïau o Gymru, yn enwedig i fusnesau bach a chanolig eu maint yng Nghymru. Mae hwn yn arf arall y gellid ei ddefnyddio i helpu’r economi wledig.

Yn y stryd fawr wledig mae angen i ni annog cysyniadau megis cydleoli, er mwyn i siopau, tafarndai, a swyddfeydd post o bosibl, gydfodoli yn yr un lle. Hefyd, gallwn ddefnyddio pwerau dros ardrethi busnes i helpu busnesau gwledig.

Gallai polisïau pysgodfeydd ôl-Brexit helpu i adfywio porthladdoedd pysgota a arferai fod yn ffyniannus yng Nghymru. Rydym wedi crybwyll hynny eisoes, ac rwy’n credu bod hwn yn fater sy’n galw am ddadl ynddo’i hun pan ddown yn ôl fis Medi nesaf, ond yn sicr mae yna gyfleoedd yno.

Ffactor hanfodol arall yw argaeledd band eang mewn ardaloedd gwledig. Nodwn fod Llywodraeth Cymru wedi methu cyrraedd ei thargedau yn gyson mewn perthynas â’r ddarpariaeth band eang cyflym iawn mewn ardaloedd gwledig, felly mae angen gwneud mwy yn hynny o beth.

Gwnaf, yn sicr. Ar y cyfan, gallai fod dyfodol mwy addawol i economi wledig Cymru pe baem ond yn gweld y blynyddoedd nesaf fel cyfnod a allai ddod â rhywfaint o gynnwrf yn ei sgil, yn sicr, ond elfen fawr o gyfle hefyd. Diolch.

Hoffwn ddiolch i UKIP am ddadl arall eto ar Brexit. Rwy’n ofni bod y penderfyniad fel y mae yn llawn o wallau ac unwaith eto, mae’n dangos diffyg ymwybyddiaeth UKIP ynglŷn â sut y mae’r UE yn gweithio mewn gwirionedd. Mae’n paentio’r weledigaeth iwtopaidd ddelfrydol hon o’r dyfodol yng Nghymru am wlad sy’n llawn o laeth a mêl, lle na chaiff y cnafon ar y tu allan ddweud wrthym beth i’w wneud a byddant yn rhoi’r gorau i ddweud wrthym beth i’w wneud.

Felly, dyma ni: mae paragraff 1(a) yn nodi y bydd pobl Cymru yn cael

‘mwy o reolaeth dros eu bywydau eu hunain’

ac yn atal technocratiaid anetholedig yr UE rhag difetha popeth. Wel, gallai hynny fod yn wir—mae gan ddynes ar ei phen ei hun mewn anialwch reolaeth lwyr dros ei bywyd, ond nid yw’n fawr o werth ac nid yw’n fawr o fywyd. Dyna’r math o reolaeth y byddai Neil Hamilton yn hoffi ei gweld yng Nghymru.

Gyda chyhoeddi’r Bil diddymu, a elwir bellach yn Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael), rydym yn gwybod y bydd gan bobl Cymru lais distawach na’r un a oedd gennym pan oedd hawl gennym i sedd wrth y bwrdd mewn system gylchdro pan gâi amaethyddiaeth a materion datganoledig eraill eu trafod ym Mrwsel.

Beth am y pwynt chwerthinllyd am dechnocratiaid anetholedig ym Mrwsel? Pŵer i argymell cyfreithiau yn unig sydd gan y Comisiwn. Y Cyngor Ewropeaidd—Llywodraethau etholedig yr UE, a oruchwylir gan Aelodau etholedig o Senedd Ewrop—sy’n penderfynu a yw’r cyfreithiau hyn yn pasio. I fod yn deg, mae’n debyg nad yw’n ymwybodol o hynny, gan nad oes llawer o ASEau UKIP yn trafferthu mynychu’r pwyllgorau lle y gwneir y penderfyniadau hynny.

Iawn, gadewch i ni symud ymlaen at baragraff 1(b): Bydd Brexit yn ‘creu mwy o ffyniant ar gyfer amaethyddiaeth’ a’r gymuned wledig. Wel, byddwn wrth fy modd yn meddwl bod hynny’n wir, ond mae’n rhaid ei fod yn gwybod, o’r holl sectorau yn yr economi lle bydd yn anodd cael mynediad dirwystr a di-dariff i farchnad yr UE, amaethyddiaeth yw’r un mwyaf agored—nid oes gan Norwy hyd yn oed y math hwn o fynediad. Wyddoch chi beth, gallwch daflu cymaint o gymorthdaliadau ag y dymunwch at ffermwyr, ond os nad oes ganddynt farchnad ar gyfer eu nwyddau, bydd y gêm ar ben os ydynt yn wynebu unrhyw beth tebyg i dariffau Sefydliad Masnach y Byd o 84 y cant ar wartheg a 46 y cant ar gig oen. Mae’n awgrymu y byddwn yn gallu ehangu i mewn i’n marchnad gartref—na allwn, os gwelwn lif o fwyd o’r Ariannin, Seland Newydd a’r holl fannau eraill y mae’n awyddus i lunio cytundebau â hwy.

Gyda llaw, mae’r Torïaid yn awgrymu eu bod yn mynd i allu cyfyngu ar fiwrocratiaeth. O ddifrif? Onid ydych yn deall unrhyw beth am yr undeb tollau? Rhaid i chi lenwi mwy o ffurflenni—ffurflenni gwlad tarddiad. Dyna eich awgrym.

Ar baragraff 2, grymuso pobl leol i wneud polisïau mewn ardaloedd gwledig, efallai yr hoffai arweinydd UKIP ddarllen fy nghynllun datblygu economaidd arfaethedig ar gyfer cefn gwlad Cymru, lle rydym yn galw am ddull o’r gwaelod i fyny at ddatblygu economaidd. Mae’n dweud y dylai penderfyniadau cynllunio mawr gael eu penderfynu’n lleol, yn enwedig mewn perthynas â ffermydd gwynt. Ond rhaid deall, er enghraifft, yn y Canolbarth, gyda datblygu grid trydan wedi’i atgyfnerthu i gynnal y ffermydd gwynt—lle cafodd hynny ei gynnig, a’i wrthod i bob pwrpas gan y boblobgaeth leol—fod canlyniadau go iawn i’r penderfyniadau hyn, fel yr amlinellodd Prif Weinidog Cymru i Russell George ddoe. Nid oes pwynt cwyno am fod eisiau i ystâd ddiwydiannol greu swyddi os na allwch gael pŵer i mewn i’r ardal. Rwy’n credu bod angen i bobl feddwl yn galed ynglŷn â sut y maent yn mynd i symud o gwmpas yn y dyfodol pan fo’r newid hwn i gerbydau trydan, ond ni fydd digon o drydan i wefru’r cerbydau trydan hynny yng nghanolbarth Cymru.

Ar baragraff (b), ysgolion gwledig, mae’r Ysgrifennydd addysg wedi’i gwneud yn glir y bydd yn rhoi camau ar waith i ddiogelu ysgolion bach gwledig.

Ar baragraff (c), wrth gwrs bod angen hwyluso tai gwledig mwy fforddiadwy, ond ar ôl siarad yn ddiweddar ag adeiladwyr tai preifat, sy’n dweud wrthyf nad yw’n ymarferol iddynt yn economaidd i adeiladu mewn rhannau o gefn gwlad Cymru, mae angen i ni gael llawer gwell syniad o sut y mae’r farchnad yn gweithio yng nghefn gwlad Cymru. Nid yw’r atebion yn syml; maent yn gymhleth.

Ar baragraff (d), rhoi mwy o flaenoriaeth i ddarparu cyfleusterau GIG mewn trefi gwledig llai o faint, wrth gwrs, mae’n ymddangos fel datganiad hawdd iawn i’w gefnogi, ond rwy’n gwahodd Mr Hamilton i geisio dod o hyd i bediatregydd ymgynghorol i ddod i weithio yn ysbyty Llwynhelyg, neu feddyg teulu i ddod yn bartner ym Meddygfa Tŷ Ddewi. Rwy’n sicr y bydd y bwrdd iechyd lleol yn brathu eich llaw i ffwrdd os gallwch ddod o hyd i rywun.

A ydych yn derbyn mai un o’r rhesymau pam nad oes gennym ddigon o feddygon teulu, meddygon ymgynghorol, neu weithwyr iechyd proffesiynol eraill yw methiant llwyr eich Llywodraeth i gynllunio’n briodol ar gyfer y gweithlu sydd ei angen ar y GIG yng Nghymru mewn gwirionedd?

Nac ydw. A ydych yn gwybod beth rwy’n—? [Torri ar draws.] A ydych yn gwybod beth rwy’n—? [Torri ar draws.] Fe ddywedaf wrthych beth—. [Torri ar draws.] Gadewch i mi ddweud wrthych. Gadewch i mi ddweud wrthych. Mae’r sefyllfa’n waeth yn awr oherwydd y math o negeseuon a gyflewyd gan bobl fel Neil Hamilton a’i debyg i’r bobl sy’n cefnogi ein GIG, sy’n cefnogi ein gweithwyr gofal. Pobl ydynt sydd yma o’r UE, ac maent yn teimlo bellach nad oes croeso iddynt oherwydd Mr Hamilton a’i debyg.

Rwy’n credu bod y penderfyniad hwn yn nodweddiadol o UKIP—yn llawn o atebion smala, hawdd mewn byd soffistigedig a chymhleth iawn. Maent wedi gwneud addewidion na allant eu cadw, ac na fyddant yn cael eu cadw. Maent wedi camarwain pobl Cymru a’r Deyrnas Unedig, ac rwy’n rhagweld y bydd ef yn ddiogel filltiroedd i ffwrdd o Gymru yn ei dŷ hyfryd yn Wiltshire os methwn ennill y cytundebau addawedig a wnaed ganddo pan ddaw’r holl beth i lawr yn chwilfriw—os na lwyddwn i gael y math o gytundebau y mae’n rhagweld eu bod mor hawdd i’w cael.

Diolch yn fawr iawn. Galwaf yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Wel, ddoe clywais arweinydd UKIP yn cyfeirio at filwyr yn dod allan o’r jyngl i ailymladd brwydrau sydd wedi dod i ben ers amser hir. Roeddwn yn cymryd yn ganiataol ei fod yn cyfeirio at y cynnig heddiw gyda’i gyfeiriadau agoriadol difrïol trist a threuliedig at dechnocratiaid anetholedig ym Mrwsel. A oes unrhyw un yn credu o ddifrif y gall galw enwau dirmygus ffurfio sail i negodi llwyddiannus gyda 27 o wledydd eraill yn Ewrop? A oes unrhyw un yn credu o ddifrif y gall sarhad greu llwyfan i ni allu adeiladu dyfodol llwyddiannus i Gymru y tu hwnt i’r Undeb Ewropeaidd?

Nawr, Dirprwy Lywydd, nid yw’n neges y mae’r rhai a gynigiodd y cynnig hwn yn awyddus i’w chlywed, ond mae’n ffaith syml fod derbyniadau Cymru o’r polisi amaethyddol cyffredin ac o’r cronfeydd strwythurol yn ffurfio cyfran lawer uwch o ddyraniad y DU nag y byddai ein cyfran Barnett byth yn ei wneud. Mae cyllid yr UE ar gyfer y rhaglen datblygu gwledig ar ei ben ei hun yn werth tua £500 miliwn yn y cylch cyfredol, ac roedd yn werth dros £300 miliwn yn y cylch blaenorol, ac mae wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl a chymunedau ledled Cymru. Gyda chronfeydd strwythurol yr UE, mae’r rhain wedi darparu gwasanaethau hynod o ddefnyddiol ac incwm hanfodol i lawer yn ein cymunedau gwledig.

Nawr, fel y dangosodd Eluned Morgan mor fedrus, mae hwn yn gynnig a ysgrifennwyd gan Pollyanna gyda thamaid o help gan Mr Micawber. Mae’n eironig yn wir ein bod yn ei drafod heddiw, y diwrnod ar ôl cyhoeddi adroddiad awdurdodol a argymhellais i Aelodau UKIP, ‘A Food Brexit: time to get real’. Ac mae’r adroddiad hwn, a ysgrifennwyd gan yr Athro Tim Lang, yr arbenigwr mwyaf blaenllaw yn y Deyrnas Unedig ar fwyd, ynghyd â’r Athro Terry Marsden o Brifysgol Caerdydd, yn dod i’r casgliad fod gadael yr Undeb Ewropeaidd yn creu risgiau difrifol i fuddiannau defnyddwyr, iechyd y cyhoedd, busnesau a gweithwyr yn y sector bwyd.

Ond nid yn unig o ran ei fethiant i amgyffred realiti ei gynnwys ei hun y mae’r cynnig yn ddiffygiol, ond yn y modd y mae’n mynd ati’n feius i esgeuluso’r cyd-destun y caiff dyfodol cymunedau a diwydiannau Cymru ei lunio ynddo. Dirprwy Lywydd, nid yw hyd yn oed yn galw ar Lywodraeth y DU i warantu cyllid yn lle’r cyllid y mae Cymru’n ei gael ar y lefel bresennol, heb sôn am yr addewidion o lewyrch ariannol ôl-Brexit a wnaed gan y rhai a gynigiodd y cynnig. Nid yw’r cynnig yn hyd yn oed yn galw ar Lywodraeth y DU i barchu ffiniau datganoli fel y gall y Cynulliad Cenedlaethol hwn barhau i ymateb i anghenion penodol cymunedau gwledig yng Nghymru, a hyn ar adeg pan fo’r galluoedd hynny dan ymosodiad mor uniongyrchol. Dirprwy Lywydd, mae’n anodd bod o ddifrif ynglŷn â chynnig sydd, ei hun, yn gwneud cyn lleied i fod o ddifrif ynglŷn â phethau.

Mewn cyferbyniad, mae’r Llywodraeth hon yn parhau i’w gwneud yn glir fod yn rhaid i Lywodraeth y DU a’r rhai sy’n arwain yr ymgyrch i adael yr Undeb Ewropeaidd warantu bod yn rhaid i bob un geiniog sy’n llifo i Gymru o’r Undeb Ewropeaidd lifo’n uniongyrchol i Gymru yn y dyfodol ac yn ein dogfen bolisi ddiweddar ‘Brexit a Datganoli’, rydym yn nodi ein syniadau ar sut y gellir datblygu trefniadau cyfansoddiadol newydd. Bwriedir i’r ddogfen fod yn gyfraniad adeiladol i’r ddadl bwysig sydd ei hangen ar draws y Deyrnas Unedig ac sy’n arbennig o bwysig mewn ardaloedd gwledig. Byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i gymryd rhan mewn trafodaeth ar ddefnyddio’r ddogfen hon fel man cychwyn ar gyfer datblygu unrhyw fframweithiau sydd eu hangen ar ôl Brexit ar sail cydsyniad a chytundeb ac nid gorfodaeth.

Dirprwy Lywydd, mae’r negeseuon a gawn gan randdeiliaid yng nghefn gwlad Cymru yn glir iawn: yma yng Nghymru, nid yn unig y mae amaethyddiaeth yn wahanol iawn o ran ei natur o gymharu â rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, ond mae’r rhan y mae’n ei chwarae yn ein cymunedau ac yn ein cymdeithas yn wahanol iawn hefyd, o reoli ein dŵr i dwristiaeth, ac fel y nododd Paul Davies yn glir iawn yn ei gyfraniad, yn nyfodol ein diwylliant a’n hiaith yn ogystal. Mae angen i ni adeiladu ar enw da Cymru am gynnyrch o ansawdd uchel a seiliwyd ar ein safonau uchel sy’n diogelu iechyd pobl, yn sicrhau lles anifeiliaid, ac yn cefnogi camau gweithredu amgylcheddol hanfodol. Mae’r safonau hyn yn allweddol i’n cystadleurwydd mewn marchnad fyd-eang yn y dyfodol, ac mae cyfleoedd ar gael yno i ffermwyr arallgyfeirio a manteisio ar farchnadoedd sy’n tyfu mewn meysydd fel ynni.

Nawr, gadewch i ni fod yn glir, Dirprwy Lywydd, fod ymagwedd Llywodraeth y DU tuag at y Bil ymadael yn golygu y byddem yn colli’r gallu i ddarparu dull sy’n unioni diffygion y polisi amaethyddol cyffredin a llunio dull gwell, wedi’i deilwra’n well ar gyfer Cymru. Yn lle hynny, ar y naill law, mae’r Bil ymadael yn ein cloi mewn fframwaith hen ffasiwn ac ar y llaw arall, mae’n cael gwared ar ein gallu i fwrw ymlaen i ddiwygio, gan ein gadael i wynebu Brexit gyda dwy law wedi’u clymu y tu ôl i’n cefnau.

Nawr, gwrandewais yn ofalus ar yr hyn a ddywedodd Paul Davies pan siaradodd am y Bil ymadael, ac rwy’n cymryd bod yr hyn a ddywedodd y prynhawn yma yn gyfraniad adeiladol i’r ffordd y gallwn feddwl am y materion hyn yn y dyfodol—yn wahanol iawn, rwy’n meddwl, i gyfraniad y sawl a gynigiodd y cynnig sydd, gyda difaterwch nodweddiadol, ond yn ystyried y Bil ymadael fel rhywbeth nad oes angen i’r un ohonom yma boeni ein pennau yn ei gylch. Fel rydym wedi’i ddweud, mae’r Llywodraeth hon wedi bod yn glir ein bod yn cydnabod yr angen am ddulliau cyffredin drwy’r DU mewn rhai meysydd amaethyddol, yn enwedig lle mae hyn yn bwysig ar gyfer masnach ac ar gyfer gweithrediad mewnol y farchnad yn y DU, ond rhaid i’r rhain gael eu datblygu a’u cytuno ar y cyd er mwyn sicrhau eu bod yn gweithio ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan, ac nid eu gorfodi arnom o Lundain.

Dyma’r materion pwysig sydd yn y fantol i gymunedau Cymru heddiw. Dyna pam, Dirprwy Lywydd, y bydd y Llywodraeth yn gwrthwynebu’r cynnig ei hun, ond yn cefnogi’r gwelliant a gynigiwyd gan Blaid Cymru ac a esboniwyd mor hynod o glir yma y prynhawn yma gan Simon Thomas.

Gadewch i mi droi yn fyr iawn at rai o fanylion y cynnig, Dirprwy Lywydd, i gofnodi’r camau sy’n cael eu rhoi ar waith gan y Llywodraeth hon i gefnogi pob cymuned wledig. O ran cynllunio, rydym wedi datblygu ein polisi cynllunio cenedlaethol er mwyn ystyried anghenion lleol mewn ardaloedd gwledig ac yn arbennig, i fynd i’r afael â materion yn ymwneud â’r potensial ar gyfer mwy o ddefnydd o’n hardaloedd gwledig i gynhyrchu ynni adnewyddadwy, gan roi sylw i faterion sy’n gysylltiedig ag effeithiau gweledol ac amwynder ar gymunedau cyfagos. O ran tai, mae cyflwyno mwy o dai fforddiadwy mewn ardaloedd gwledig yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, a dyna pam rydym yn ymrwymo i ddarparu cyllid ar gyfer swyddogion galluogi tai gwledig yn ‘Symud Cymru Ymlaen’, ac rydym eisoes wedi gweld prosiectau llwyddiannus ar draws Cymru, gan gynnwys Gwynedd, Ceredigion, Sir Fynwy a Bro Morgannwg. Byddwn yn parhau i ariannu a gweithio gydag awdurdodau lleol gwledig, cymdeithasau tai, a’r swyddogion galluogi tai gwledig er mwyn sicrhau bod mwy o dai fforddiadwy yn cael eu darparu mewn ardaloedd lle y ceir angen gwirioneddol.

Fe glywsoch eisoes gan Eluned Morgan sut y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros addysg yn cefnogi ysgolion gwledig a chaniatáu i gymunedau gael mwy o gyfle i wneud penderfyniadau mewn perthynas â’r ysgolion hynny, ac mae wedi ymgynghori’n ddiweddar ar gryfhau’r cod trefniadaeth ysgolion mewn perthynas â rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig. Ym maes iechyd, mae fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd yn parhau i weithio’n agos gydag ardaloedd gwledig i fynd i’r afael â’r problemau real iawn a wynebir gan wasanaethau mewn ardaloedd anghysbell a gwledig, a’r heriau a nododd Eluned Morgan o ran recriwtio staff i weithio yn yr ardaloedd hynny.

Dirprwy Lywydd, gadewch i mi fod yn glir ein bod yn mynd i’r afael ag anghenion penodol gwasanaethau cyhoeddus ar draws cefn gwlad Cymru. Mae’n amlwg na ellir cynnal manteision yr Undeb Ewropeaidd, yn enwedig drwy fynediad i’r farchnad sengl, safonau cymdeithasol ac amgylcheddol uchel, a lefelau sylweddol o gyllid yn hawdd ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, a bod yna heriau mawr i Gymru wledig. Byddwn yn gweithio gyda’n cymunedau gwledig i’w helpu i wynebu’r rheini gyda’n gilydd.

Ar y llaw arall, yr unig gyfraniad i amaethyddiaeth yng Nghymru gan y rhai a gynigiodd y cynnig yma fydd gweithgynhyrchu ffantasïau ar raddfa ddiwydiannol, ond pe bai’r dyfodol yn cael ei roi yn eu dwylo hwy, bydd blas y ffantasïau hynny i bobl yng nghefn gwlad Cymru yn chwerw iawn yn wir.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mwynheais yr araith liwgar gan yr Ysgrifennydd cyllid, ond nid wyf yn credu ei bod wedi mynd â ni fawr pellach ymlaen yn y ddadl hon. Yr hyn sy’n peri syndod i mi am Blaid Cymru yw eu bod, fel plaid genedlaethol, yn ofni gweld y broses o wneud penderfyniadau yn cael ei datganoli o Frwsel i Gaerdydd. Byddwn wedi meddwl mai’r peth cyntaf y byddai plaid genedlaethol ei eisiau yw pŵer i wneud eu penderfyniadau eu hunain ac i wneud y deddfau sy’n rheoli eu gwlad, ac felly mae Plaid Cymru yn rhoi ei hun yn y gwersyll gyferbyn: maent yn gwrthwynebu’r egwyddorion cenedlaetholdeb y maent yn eu cymhwyso yn ein gwlad ein hunain.

Yn bersonol, nid wyf yn ofni cael y cyfrifoldeb sy’n mynd gyda datganoli grym yn y cyswllt hwn, oherwydd, yn gyffredinol, mae penderfyniadau’n well o’u gwneud ar lefel leol nag o’u gwneud ymhellach i fyny, yn enwedig os ydynt yn cael eu gwneud ymhellach i fyny gan dechnocratiaid anetholedig, rhywbeth na chafodd ei roi yn y cynnig fel term difrïol o gwbl, ond yn hytrach fel datganiad o ffaith yn unig. Mae Comisiwn yr Undeb Ewropeaidd yn cael ei benodi, ac mae’r prosesau gwneud penderfyniadau yn yr Undeb Ewropeaidd yn aneglur. Rwyf wedi bod yn aelod o Gyngor y Gweinidogion: roeddwn yn Weinidog y farchnad fewnol—[Torri ar draws.] Roeddwn yn Weinidog y farchnad fewnol yn yr Adran Masnach a Diwydiant 25 mlynedd yn ôl. Rwyf wedi gweld y ffordd y mae’r prosesau’n gweithio. Maent yn bell iawn o fod yn ddemocrataidd ac mae’n anodd tu hwnt dylanwadu arnynt. Felly, o ganlyniad i allu gwneud penderfyniadau ar lefel leol, credaf fod democratiaeth yn gwella ac ni fydd pobl yn teimlo wedi’u dieithrio i’r fath raddau oddi wrth y system wleidyddol.

Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl ac yn wir, roedd cyfraniad Paul Davies yn gwneud llawer o synnwyr, yn enwedig ei gynnig ynglŷn â phanel craffu ar gyfer ardaloedd gwledig yng Nghymru a’r ffaith nad yw un ateb polisi sy’n gweddu i bawb wedi’i gymhwyso gan Lywodraeth Cymru, o reidrwydd yn addas i ardaloedd gwledig yng Nghymru.

Rwy’n gwybod bod Eluned Morgan yn mynd o gwmpas yn cario arwydd yn dweud ‘mae diwedd y byd gerllaw’, ac nid oedd ei chyfraniad heddiw’n ddim gwahanol i’r arfer, wrth sôn am anrheithio canolbarth Cymru o ganlyniad i adael yr UE. Mae hi’n siarad o hyd am syrthio oddi ar glogwyn. Mewn gwirionedd, y gwaethaf y gallwn ei wneud yw disgyn oddi ar ymyl palmant, gan mai 7 y cant yn unig o’n cynnyrch mewnwladol crynswth sy’n deillio o fasnach â’r UE, ond wrth gwrs, nid wyf yn credu bod yna unrhyw reswm pam y dylai hynny leihau wedyn.

Bydd, fe fydd anawsterau yn y broses o drafod, ac mae ansicrwydd yn y dyfodol, ond yn bersonol, mae gennyf ffydd yn ein pobl, ym menter y wlad hon a’n gallu i wneud ein ffordd yn y byd fel rydym bob amser wedi’i wneud, drwy ein hymdrechion ein hunain a’n dyfeisgarwch ein hunain.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i’r gloch gael ei chanu, symudaf yn syth at y cyfnod pleidleisio.

10. 9. Cyfnod Pleidleisio

Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Neil Hamilton. Os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 5, neb yn ymatal, 46 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.

Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 5, Yn erbyn 46, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6371.

Awn ymlaen yn awr i bleidleisio ar y gwelliannau. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Felly, galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 12, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwrthodwyd y gwelliant: O blaid 12, Yn erbyn 39, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6371.

Galwaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 35, neb yn ymatal, 16 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 1

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 35, Yn erbyn 16, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 2 i gynnig NDM6371.

Cynnig NDM6371 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol:

Yn credu bod y dull gweithredu presennol o ran Brexit drwy Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) Llywodraeth y DU yn rhwystro’r Cynulliad rhag arfer pwerau datganoledig ac yn peryglu’r rheolaeth sydd gan bobl yng Nghymru dros eu bywydau.

Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 35, neb yn ymatal, 16 yn erbyn. Felly, derbyniwyd cynnig fel y’i diwygiwyd.

Derbyniwyd cynnig NDM6371 fel y’i diwygiwyd: O blaid 35, Yn erbyn 16, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6371 fel y’i diwygiwyd.

11. 10. Dadl Fer: Gamblo Cymhellol yng Nghymru

Symudwn ymlaen yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar—[Torri ar draws.] Fe arhoswn am funud. Os ydych yn gadael y Siambr, gwnewch hynny’n gyflym ac yn dawel. Diolch.

Iawn, symudwn yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Darren Millar i siarad ar y pwnc y mae wedi’i ddewis. Darren.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwyf am gadarnhau fy mod wedi rhoi munud yr un o fy amser i Simon Thomas, Jenny Rathbone a Joyce Watson.

Yr wythnos hon yw Wythnos Gamble Aware. Mae’n saith diwrnod pan fo siopau betio ar draws y wlad yn lledaenu’r neges i beidio â betio mwy nag y gallwch fforddio ei golli, ond mae arnaf ofn nad yw eu neges yn cyrraedd y nod. Diolch i benderfyniadau polisi cyhoeddus gwael gan Lywodraethau olynol o bob lliw, nid yw gamblo erioed wedi bod yn haws nag y mae heddiw. Nid oes angen i chi fentro i mewn i siop fetio leol i roi bet bellach, gallwch fetio ar y ffôn, drwy gyfrifiadur, ffôn symudol neu hyd yn oed ar eich teledu clyfar. A chyda bron i 400 o siopau betio a thua 1,500 o beiriannau betio ods sefydlog yng Nghymru, mae’n hawdd gweld sut y gall pobl gael eu sugno i mewn yn gyflym i drobwll o gamblo sy’n mynd allan o reolaeth.

Nid yw gamblo’n ddim byd newydd wrth gwrs. Mae wedi bodoli ers amser hir iawn. Ond mae gamblo gormodol ar gynnydd, ac mae’n ymddangos bod gan Gymru fwy o broblem gyda gamblo na rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig. Yn wir, mae’r ffigurau’n llwm. Mae arolygon y Comisiwn Hapchwarae wedi amcangyfrif bod tua 1.1 y cant o boblogaeth Cymru yn gamblwyr cymhellol, tua 34,000 o bobl, gyda 118,000 arall mewn perygl o ddatblygu’n gamblwyr cymhellol. Rydych fwy na dwywaith mor debygol o fod yn gamblwr cymhellol os ydych yn byw yng Nghymru nag yn Lloegr, ac un rhan o dair yn fwy tebygol na phe baech yn byw yn yr Alban.

Amcangyfrifir bod mwy na £1.6 biliwn yn cael ei gamblo’n flynyddol ar beiriannau betio ods sefydlog yn unig, ac mae hynny’n fwy na chyfartaledd o £1 filiwn y peiriant yma yng Nghymru, oddeutu £675 y pen o boblogaeth Cymru sy’n oedolion. Mae’n ddigon i dynnu dŵr i’r llygad. Ac wrth gwrs, mae’r peiriannau hyn mor gyflym fel ei bod yn gwbl bosibl betio tua £100 bob 20 eiliad. Mae ymchwil wedi dangos, mewn gwirionedd, ei fod yr un mor gaethiwus â chyffur dosbarth A, ac nid yw’n syndod eu bod wedi cael eu galw’n grac cocên y byd gamblo.

Ond yr hyn sy’n fwy o bryder byth yw bod yna gorff cynyddol o dystiolaeth sy’n dangos bod busnesau diegwyddor yn lleoli’r peiriannau hyn mewn ardaloedd difreintiedig. Mae mwy na thraean y siopau betio sydd â’r peiriannau hyn yn y cymunedau tlotaf ledled Cymru. Y rhain yw’r ardaloedd lle y ceir tanfuddsoddi a lefelau uchel o ddiweithdra, ac mae gwneud bet gyflym ac ennill llawer o arian, ni waeth beth yw’r ods, i’w weld yn gynnig deniadol. Ond y bobl sy’n gosod y betiau hyn yn aml iawn yw’r rhai na allant fforddio’u colli. Ond fe wyddom nad yw gamblo yn ffordd allan o dlodi. Yn wir, mae’n ffordd tuag at chwalfa—chwalfa perthynas, chwalfa iechyd a chwalfa ariannol. Diolch i’n hoes ddigidol, hyd yn oed ar ôl i’r siopau betio gau ac wedi i’r casinos gau, gall gamblwyr barhau i’w mentro hi ar-lein. Mae gamblo ar-lein yn ynysu ac yn cuddio dibyniaeth ar gamblo, ond mae hefyd ar gynnydd. Mae mwy a mwy o bobl yn gamblo tu ôl i ddrysau caeedig ac yn y dirgel. Gamblo yw hwn sy’n digwydd o’n cwmpas yn gyson. Gellir chwarae slotiau mewn cyfarfodydd, gellir eu chwarae ym maes parcio’r ysgol wrth aros i godi’r plant o’r ysgol, a gellir eu chwarae yn y toriad rhwng sifftiau hyd yn oed. Mae’n ei gwneud yn anos gwybod pa bobl sydd angen cymorth ac i eraill allu estyn allan atynt cyn iddo droi’n argyfwng.

Mae rhai, wrth gwrs, yn gamblwyr dan oed. Deallwn gan y Comisiwn Hapchwarae mai’r bobl sy’n wynebu fwyaf o berygl o fod yn gamblwyr cymhellol yw rhai rhwng 16 a 24 oed. Mae pobl gyda’u hoes gyfan o’u blaenau mewn perygl o golli popeth. Mae adroddiad ‘Young People and Gambling 2016’ y Comisiwn Hapchwarae yn awgrymu bod cannoedd o gamblwyr cymhellol sy’n blant yma yng Nghymru, ac os cyfunwch hynny â’r ffaith fod 65 y cant o bobl ifanc dan 18 oed eisoes wedi cyfaddef eu bod yn gaeth i’w ffonau symudol, rwy’n meddwl ei bod yn glir iawn fod yna argyfwng iechyd cyhoeddus go iawn ar droed ac yn digwydd yn awr ym mhocedi pobl ifanc.

Yn aml, caiff yr arian a ddefnyddir i gamblo ei dynnu allan ar gredyd. Mae llawer o bobl sy’n gaeth i gamblo yn cael eu dal mewn sefyllfa amhosibl o ddyledion sy’n gwaethygu y byddant wedyn yn ceisio’u had-dalu drwy gamblo mwy. Caiff cynilion oes eu colli, a therfynau cardiau credyd eu croesi. Nid yw gamblo’n parchu neb. Gall effeithio ar bobl ar unrhyw haen gymdeithasol ac o bob cefndir, ond peidiwch â chymryd fy ngair i am y peth. Rwyf am inni roi ychydig funudau i edrych ar y sgriniau a gwrando ar rai o brofiadau Sarah a Joseph yma yng Nghymru.

Dangoswyd cyflwyniad clyweledol. Mae’r trawsgrifiad mewn dyfynodau isod yn drawsgrifiad o’r cyfraniadau llafar yn y cyflwyniad. Mae’r cyflwyniad ar gael drwy ddilyn y linc hon:

Sarah: ‘Rwy’n teimlo’n wirion weithiau, oherwydd fe fyddwn yn mynd a gamblo fy arian, ac rydych bob amser yn meddwl, "O, fe gamblaf £10, £20, dyna i gyd", a’r peth nesaf, rwyf wedi gamblo fy nghyflog mis yn gyfan, ac yna rydych yn mynd i banig ac yn meddwl, "Sut ydw i’n mynd i fforddio bwyd? Sut ydw i’n mynd i wneud unrhyw beth?" Roedd yn rhaid i mi geisio gofyn i bobl am help, fel fy rhieni, ac yna byddent yn gofyn, "Wel, ble mae dy arian?", felly wedyn byddai’n rhaid i chi ddechrau dweud, wn i ddim, "Rwyf wedi’i golli" neu "Ni chefais fy nhalu ar amser".’

Joseph Nolloth: ‘Collais bopeth. Collais fy fflat. Collais bopeth. Roedd arnaf ddyledion di-rif. Cefais fenthyciadau diwrnod cyflog. Gwerthais fy holl eiddo—fy mhethau personol. Hynny yw, roeddwn hyd yn oed yn gwerthu bagiau o ddillad—hen ddillad—i siopau a dalai arian parod am ddillad ac yn y blaen, i gael rhywfaint o arian dyna i gyd, i brynu bwyd. Hyd yn oed gyda’r arian sbâr a oedd dros ben gennyf, byddwn yn ei gamblo i geisio ennill mwy o arian.’

‘Wrth edrych yn ôl ar eich bywyd, beth ydych chi wedi’i golli?’

Joseph Nolloth: ‘O leiaf £50,000, a dim ond 24 oed ydw i. Pe bai gennyf £1 filiwn, mae’n debyg y byddwn wedi gwario’r £1 filiwn ar gamblo.’

‘Yn ôl y rheoleiddiwr, y Comisiwn Hapchwarae, mae Joseph yn perthyn i’r union grŵp oedran sydd fwyaf tebygol o fod â phroblem gamblo. Bydd mwy o ddynion â phroblem na menywod, ond nid ydym yn gwybod faint o broblem yw hi yma yng Nghymru, gan na cheir ystadegau swyddogol.’

Felly, gallwch weld. Rydym wedi clywed gan Sarah a Joseff. Nid gêm yw gamblo, mae’n broblem real iawn. Maent yn talu pris uchel amdano, ac nid hwy yw’r unig rai. Efallai eich bod wedi clywed am weithiwr post yng Nghaerdydd, Colin Chapman, a gafodd ei arestio yr wythnos diwethaf am ddwyn parseli gwerth £40,000 er mwyn ariannu ei ddibyniaeth ar gamblo. Neu efallai y byddwch yn cofio Willie Thorne hyd yn oed, cyn-bencampwr snwcer y DU a aeth yn fethdalwr ar ôl gamblo dros £1 filiwn, ond wrth gwrs, nid arian yn unig sy’n cael ei golli. Mae pobl yn colli eu cartrefi, maent yn colli eu priodasau, maent yn colli eu hiechyd oherwydd straen, ac maent yn colli eu lle a’u pwrpas mewn cymdeithas. Ac yn anffodus, mae rhai hyd yn oed wedi colli eu bywydau.

Ar 31 Mawrth y llynedd, gwisgodd Omair Abbas 18 oed o Gaerdydd ei iwnifform gwaith a dywedodd hwyl fawr wrth ei rieni a gadael cartref, ond yn anffodus, nid oedd yn ddiwrnod fel pob un arall. Lai na phythefnos yn ddiweddarach, cafodd ei ddarganfod yn farw. Roedd wedi cyflawni hunanladdiad ar ôl brwydro â gwerth miloedd o bunnoedd o ddyled. Roedd wedi mynd drwy ei orddrafft, roedd wedi tynnu credyd allan ar ei gardiau credyd, ac er iddo ymddiried yn ei ffrindiau agos ei fod yn dioddef o iselder ac wedi ystyried lladd ei hun o bryd i’w gilydd, yn anffodus nid oeddent yn gallu ei atal rhag digwydd. Rwy’n credu y dylai ei stori, ei farwolaeth, fod yn agoriad llygad i bawb ohonom.

Mae gamblo gormodol yn caethiwo pobl mewn cylch caethiwus o golli ac ennill a cholli a cholli a cholli. Fel y clywsom, gall arwain at broblemau iechyd emosiynol, ariannol a meddyliol hynod o anodd. Ond mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n gaeth i gamblo’n brwydro mewn tawelwch. Ni fydd llawer o’r bobl sy’n cael trafferth gyda gamblo yn gofyn am help hyd nes eu bod yn cyrraedd pwynt o argyfwng, ac mae gwaith ymchwil diweddar yn awgrymu mai dim ond un o bob 10 o bobl sydd â phroblemau gamblo sy’n gofyn am gymorth ffurfiol mewn gwirionedd. Ond yn anffodus, yn rhy aml nid yw’r cymorth sydd ei angen arnynt ar gael iddynt bob amser.

Nawr, diolch i’r drefn, mae pobl yn dechrau deffro i’r bom amser iechyd y cyhoedd hwn, ac roeddwn yn falch iawn o glywed, gan y prif swyddog meddygol yng nghynhadledd ddiweddar Curo’r Bwci, ei fod wedi bod yn gwneud gwaith ar y pwnc hwn. Rydym hefyd yn clywed, wrth gwrs, am waith rhagorol y Stafell Fyw yma yng Nghaerdydd, a CAIS yng ngogledd Cymru, sy’n helpu i godi ymwybyddiaeth o gamblo cymhellol a helpu i ddatblygu gwasanaethau i gefnogi pobl sy’n gaeth i gamblo, ac mae’n dechrau bod o fudd mawr yn awr, rwy’n meddwl. Y Stafell Fyw a CAIS, wrth gwrs, sy’n trefnu cynhadledd flynyddol Curo’r Bwci—cynhadledd Gamblo Gormodol Cymru, a gynhelir yma yng Nghaerdydd, yn y Pierhead, ac mae wedi bod yn amhrisiadwy yn dod ag academyddion, llunwyr polisi, arbenigwyr iechyd cyhoeddus a darparwyr gwasanaethau at ei gilydd i archwilio’r heriau y mae’r broblem yn eu creu ac i weithio tuag at atebion. Mae wedi helpu dwsinau o bobl sy’n gaeth i gamblo hyd yn hyn, ac mae wedi arloesi a datblygu rhaglenni newydd sydd wedi helpu pobl sy’n gaeth i gamblo i newid eu bywydau. Wrth gwrs, rhaid i mi beidio ag anghofio cydnabod y gwaith rhagorol a wnaed gan Carolyn Harris a’r grŵp seneddol hollbleidiol ar gamblo hefyd.

Ymwybyddiaeth Gamblo, GamCare, Curo’r Bwci, y Stafell Fyw, CAIS—maent i gyd yn gwneud eu rhan, ond mae’n dal i fod llawer iawn o waith i’w wneud. Felly, beth y gallwn ni ei wneud? Wel, mae angen inni gyfyngu ar hysbysebu gamblo. Nid yw’n iawn fod yna hysbyseb yn eich annog i gamblo’n ymddangos bob tro y byddwch yn rhoi eich teledu ymlaen. Mae angen i ni newid y system gynllunio yma yng Nghymru er mwyn atal y cynnydd yn nifer y siopau betio yn ein cymunedau ac i atal rhagor o beiriannau betio ods sefydlog rhag ymddangos yn ein cymunedau. Mae angen mwy o gydnabyddiaeth o risgiau gamblo cymhellol i iechyd y cyhoedd a buddsoddiad sylweddol mewn gwasanaethau gwella fel y rhai a ddarperir gan Curo’r Bwci, ac mae angen i ni weithredu ar unwaith ac ar frys i ostwng uchafswm y bet ar beiriannau betio ods sefydlog a lleihau’r nifer ohonynt ar draws y wlad. Nawr, rwy’n cydnabod mai yn San Steffan y mae rhai o’r pwerau i wneud a chyflwyno’r pethau hynny, ond nid yw hynny’n ein hatal rhag gwneud ein rhan gyda’r pwerau sydd gennym eisoes, megis newid y system gynllunio a datblygu gwasanaethau cymorth sydd ar gael i bawb.

Mae gormod yn y fantol i anwybyddu’r broblem hon rhagor. Mae gamblo’n dinistrio bywydau. Gall effeithio ar unrhyw un yn unrhyw le ar unrhyw adeg, ac mae ein pobl ifanc yn arbennig o agored i niwed. Felly, yn hytrach na darllen am argyfyngau sydd wedi digwydd, rwy’n meddwl bod angen i bawb ohonom weithio’n galetach i’w hatal rhag dod yn eitem newyddion yn y lle cyntaf. Er mwyn Omair, Sarah, Joseph a miloedd o bobl eraill yng Nghymru sy’n dioddef o ddibyniaeth ar gamblo, mae’n ddyletswydd arnom i fynd i’r afael â’r broblem gynyddol hon, ac mae’n rhaid i ni weithredu yn awr.

Diolch i Darren Millar am gyflwyno’r ddadl hon heddiw. Ni fyddem yn goddef hyrwyddo sylweddau caethiwus fel alcohol a thybaco mewn cymdeithas fodern yn y ffordd yr ydym wedi goddef gamblo, oherwydd diffyg rheoleiddio, a rhaid inni drin gamblo fel difyrrwch caethiwus yn yr ystyr hwnnw. Nid ydym yn sôn am wahardd, rydym yn sôn am reoleiddio ac rydym yn sôn am ddull go iawn o weithredu. Edrychaf ymlaen at glywed gan y Llywodraeth—os nad heddiw, yn fuan iawn—sut y byddant yn defnyddio’r pwerau cyfyngedig a gânt dros beiriannau hapchwarae ods sefydlog i geisio ymdrin â hyn a gosod y naws gywir. Oherwydd un peth y gallwn ei wneud yma yw gosod naws y ddadl a’r naws a’r ymagwedd tuag at gamblo, yn hytrach na’r modd yr ydym yn awr yn derbyn bod gamblo rywsut yn y gymdeithas fodern yn beth arferol i’w wneud ac yn rhywbeth sy’n cael ei wobrwyo’n benodol gydag elfen o hudoliaeth yn ei gylch, sy’n destun pryder arbennig yn fy marn i. Nid oes gennym ffigurau ar gyfer Cymru, ond mae’r Stafell Fyw yng Nghaerdydd yn amcangyfrif bod 114,000 o bobl mewn perygl yng Nghymru, a cheir 12,000 o gamblwyr gormodol, rhai sydd ag anhwylder gamblo go iawn. Mae hon yn broblem feddygol a chymdeithasol ddifrifol a gobeithiaf y gallwn fynd i’r afael â hi.

Yn olaf, os caf ddweud, hoffwn ddiolch i Wynford Ellis Owen am ei waith. Mae’n ymddeol yr wythnos hon.

I thank him very much for his work in this area.

Hoffwn dalu teyrnged i Wynford Ellis Owen, y bu bron i’w fywyd gael ei ddryllio’n llwyr gan gyffuriau presgripsiwn ac alcohol. Defnyddiodd y ddealltwriaeth sydd ganddo ynglŷn â’r hyn yw dibyniaeth, a’r eithafion y bydd pobl yn barod i fynd iddynt, i hyrwyddo’r achos dros yr angen i fynd i’r afael â dibyniaeth ar gamblo. Felly, credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn ymateb i’r gwaith a wnaed gan Wynford Ellis Owen ac eraill drwy sicrhau ein bod yn trechu dibyniaeth, sy’n dinistrio bywydau pobl yn llwyr. Rwyf wedi cyfarfod ag etholwyr sydd wedi gamblo elw dau dŷ a busnes preifat, nad ydynt yn meiddio mynd ar y bws i’r dref hyd yn oed oherwydd eu bod yn gwybod y byddant yn galw heibio i un o’r peiriannau betio ods sefydlog hyn.

Rwy’n credu bod yn rhaid i ni newid y deddfau cynllunio fel bod y rhagdybiaeth lle y ceir cais am fusnes betio arall eto—y bydd y rhagdybiaeth ar wrthod, oni bai ein bod yn gallu profi, neu eu bod hwy’n gallu profi, na fydd yn gwneud unrhyw niwed. Dyna yw’r peth mawr rwy’n gofyn i’r Gweinidog ei wneud heddiw.

Hoffwn ddiolch i Darren am roi amser i mi siarad yn y ddadl wirioneddol bwysig hon. Y mater gamblo rwyf am ganolbwyntio arno yw gemau pêl-droed. Rwy’n gefnogwr pêl-droed enfawr ac rwyf wedi sylwi’n ddiweddar na allaf wylio gêm bêl-droed heb gael fy mombardio ar y teledu yn fy ystafell fyw i fetio ar y canlyniad nesaf—a oes rhywun yn mynd i sgorio gôl, ai gyda’r droed dde neu’r droed chwith, nid yw o wir bwys. Y pwynt yw ei fod wedi’i anelu’n gyfan gwbl at y grŵp oedran rydych newydd ei nodi fel y rhai sy’n wynebu’r broblem waethaf, neu’r broblem fwyaf sylweddol, gyda gamblo. Mae’n oresgynnol, a phan fyddwn yn edrych ar atal gamblo, credaf fod angen inni edrych hefyd ar ei atal rhag digwydd ar ein sgriniau teledu pan fyddwn yn ceisio hyrwyddo ffordd iach o fyw mewn gwirionedd—hynny yw, cymryd rhan mewn chwaraeon—ac mae’n cael ei ddifetha’n llwyr drwy gynnig dibyniaeth amgen y bydd pobl yn ei chael hi bron yn amhosibl dod allan ohoni.

Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i’r ddadl hon. Rebecca Evans.

Hoffwn ddiolch i Darren Millar am gyflwyno’r ddadl hon heddiw ac i’r holl Aelodau am eu cyfraniadau gwerthfawr. Rwy’n falch o weld bod cefnogaeth drawsbleidiol i fynd i’r afael â phroblem gamblo cymhellol yng Nghymru. Er ein bod yn gwybod bod llawer o bobl yn cymryd rhan mewn gweithgareddau hapchwarae heb unrhyw broblemau amlwg, rydym hefyd yn gwybod bod gamblo, i rai pobl, yn tyfu’n ddibyniaeth sy’n arwain at effeithiau niweidiol ar iechyd ac yn gymdeithasol. Rwy’n credu bod Darren wedi rhannu straeon pwerus iawn gyda ni heddiw—hanesion Sarah, Joseph, Omair ac eraill.

Er bod nifer yr achosion o gamblo cymhellol yn isel, mae’r effaith ar iechyd ac yn gymdeithasol yn sylweddol, ac mae’n effeithio’n anghymesur ar bobl mwy difreintiedig, sydd bum gwaith yn fwy tebygol o ddatblygu problem gamblo cymhellol. Mae effaith gamblo ar unigolion yn cynnwys yr anallu i weithredu yn y gwaith, a phroblemau ariannol a all arwain at ddigartrefedd. Mae’r niwed yn sgil gamblo i’r gymdeithas ehangach yn cynnwys twyll, lladrata, colli cynhyrchiant yn y gweithlu a’r gost o drin y ddibyniaeth hon.

Amcangyfrifir y bydd chwech i 13 o bobl eraill yn cael eu heffeithio am bob person sydd â phroblem gamblo a gall hyn gynnwys aelodau o’r teulu, ffrindiau a chydweithwyr. Gallaf eich sicrhau ein bod, fel Llywodraeth, yn gweithio ar draws portffolios i nodi’r camau y gallwn eu cymryd i leihau nifer yr achosion o gamblo cymhellol a chyfyngu ar ei effaith ar iechyd pobl yng Nghymru ac ar y gymdeithas ehangach.

Er nad yw rheoleiddio a thrwyddedu hapchwarae wedi’u datganoli i Gymru, mae Deddf Cymru yn darparu pwerau newydd i Weinidogion Cymru a’r Cynulliad mewn perthynas â pheiriannau betio ods sefydlog, a byddwn yn edrych ar hyn ymhellach o fis Ebrill 2018 pan fydd disgwyl i ddarpariaethau llawn y Ddeddf gychwyn.

Mae polisi cynllunio cenedlaethol Llywodraeth Cymru yn ceisio cynnal a gwella ffyniant—

Rydym yn gwybod bod y cyfrifoldeb hwn yn dod i’r Cynulliad o’r flwyddyn nesaf ymlaen. Rwy’n gobeithio na fydd y Llywodraeth yn aros i wneud peth o’r gwaith paratoi y gallai fod ei angen i roi’r mesurau diogelu ar waith pan ymddengys bod consensws o amgylch y Siambr hon. Fel y dywedais, rydym yn gwybod beth yw hyd a lled y cyfrifoldebau y byddwn yn eu hetifeddu fis Ebrill y flwyddyn nesaf, felly a allwch gadarnhau bod y Llywodraeth yn ymgymryd â’r gwaith paratoi hwnnw er mwyn i chi allu dechrau arni ar unwaith pan fyddwch yn cael y cyfrifoldebau hynny?

Rwy’n credu bod fy natganiad wedi’i eirio’n wael yn y fan honno yn ôl pob tebyg, oherwydd rwy’n eich sicrhau bod y Llywodraeth yn edrych ar draws ein holl bortffolios o ran yr hyn y gallwn fod yn ei wneud, fel y dywedais, i atal pobl rhag mynd yn gaeth i gamblo yn y lle cyntaf, ac yna i leihau’r effaith y gallai ei chael.

Mae gan Lywodraeth Cymru bolisi cynllunio sy’n ceisio cynnal a gwella ffyniant, hyfywedd ac atyniad ein canolfannau manwerthol a masnachol sefydledig, ac mae effeithiau gamblo cymhellol ar iechyd neu drosedd ac anhrefn yn ystyriaethau perthnasol ar lefel awdurdod cynllunio lleol, lle y gallant ystyried y materion hyn wrth benderfynu ar gais cynllunio.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig eisoes wedi dweud ei bod yn adolygu’r datblygu a ganiateir a roddir drwy ddosbarthiadau defnydd, a bydd yn ymgynghori ar y newidiadau arfaethedig yn ddiweddarach eleni, ac mae’r adolygiad hwnnw yn ystyried a oes angen newidiadau i atal gorgrynhoad o siopau betio. Fel eraill, rwy’n edrych ymlaen at gael canlyniad yr adolygiad hwnnw.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi comisiynu ymchwil i fapio’r holl leoliadau gamblo ledled Cymru a bydd y gwaith hwn yn cynnwys map gwres gweledol sy’n dangos dwysedd lleoliadau gamblo yn ddaearyddol. Bydd hynny’n ein galluogi i dynnu sylw at yr ardaloedd lle y ceir crynhoad o leoliadau gamblo a bydd yn ein cynorthwyo i ystyried a thrafod y mater hwn.

Yn gyffredinol, nid oes unrhyw ymyrraeth feddygol ar gyfer gamblo, ond mewn rhai achosion gall ymyriadau seicolegol helpu i gynorthwyo unigolion i newid eu hymddygiad. Yn ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’ rydym wedi cytuno ar gynllun gyda’r GIG i ehangu gwasanaethau therapi seicolegol ar gyfer oedolion a phlant, ac rydym wedi darparu £4 miliwn ychwanegol y flwyddyn i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r cynllun hwn.

Er y gall cleifion drafod unrhyw beth gyda’u meddyg teulu, i’r rhai yr effeithir arnynt gan ddibyniaeth gamblo patholegol neu gymhellol, ceir gwasanaethau megis Gamblers Anonymous neu GamCare hefyd, a all roi gwybodaeth a chymorth, ac rydym wedi clywed gan Aelodau ynglŷn â gwaith arall, megis y Stafell Fyw, CAIS, Curo’r Bwci ac yn y blaen.

Mae sefydliadau eraill yn rhoi gwybodaeth a chyngor hefyd, gan gynnwys y canolfannau cyngor ar bopeth. Mae’r ganolfan yng Nghasnewydd yn cyflawni peth gwaith ar gymorth ar gyfer niwed sy’n gysylltiedig â gamblo. Mae’n cael ei ariannu gan Gamble Aware, ac maent yn cyflwyno prosiectau i leihau niwed gamblo yng Nghymru, gyda’r nod o fynd i’r afael â niwed sy’n gysylltiedig â gamblo yn y gwraidd drwy addysg ac ymwybyddiaeth, gan weithio’n arbennig gyda phobl ifanc a grwpiau eraill sy’n agored i niwed.

Mae gamblo ar-lein yn peri pryder arbennig. Mae gamblo bellach yn fwy hygyrch nag erioed o’r blaen, fel y clywsom—mynediad 24 awr ar gael yn y cartref, yn y gwaith, tra’n codi’r plant o’r ysgol, a hyd yn oed tra’n cymudo ar eich ffonau symudol. Mae gamblo ar-lein wedi cynyddu’n sylweddol rhwng 2008 a 2014, o 9.7 y cant o’r boblogaeth i 15.4 y cant o’r boblogaeth. Dyma un o’r rhesymau pam y mae ein prif swyddog meddygol yn glir iawn y dylem fod yn edrych ar gamblo, neu gamblo cymhellol, fel problem iechyd cyhoeddus sy’n datblygu.

Mae angen i ni fanteisio ar y cyfleoedd newydd ar gyfer gweithredu a ddarperir gan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017. Bydd hon yn helpu i ymgorffori iechyd a llesiant yn yr holl bolisïau a rhaglenni, a byddwn yn ymgynghori ar yr amgylchiadau pan ddylai cyrff cyhoeddus gyflawni asesiadau o’r effaith ar iechyd. Croesewir sylwadau ar sut y gall yr asesiadau hyn fynd i’r afael â’r holl ystod eang o faterion, ond gan gynnwys gamblo cymhellol hefyd.

Wrth gynnal asesiadau o’r fath, mae’n rhaid i ni gydnabod hefyd fod y diwydiant gamblo yn cynnig cyfleoedd gwaith a hamdden, ynghyd â manteision cymdeithasol ac economaidd eraill. Yn 2015, roedd 3,500 o bobl yn cael eu cyflogi yn y diwydiant gamblo a betio yng Nghymru, tua 0.3 y cant o gyfanswm cyflogaeth.

Felly, rwy’n awyddus i ni gael dadansoddiad trylwyr o’r mater hwn, ac rwy’n falch iawn fod y prif swyddog meddygol yn arwain y gwaith ar y niwed a achosir gan gamblo fel rhan o’r broses o ddatblygu ei adroddiad blynyddol, ac edrychaf ymlaen, fel eraill, at weld ei argymhellion cychwynnol yn ddiweddarach eleni.

Rwyf hefyd yn croesawu’r cyfle i gael trafodaeth bellach ac i ymgysylltu â’r Comisiwn Hapchwarae ar fater gamblo cymhellol yng Nghymru pan fyddant yn cynnal eu derbyniad i randdeiliaid yma yn y Senedd ym mis Medi. Bydd yn rhoi cyfle i Weinidogion ac Aelodau Cynulliad eraill drafod materion sy’n ymwneud â’r diwydiant hapchwarae ac yn benodol, materion yn ymwneud â gamblo cymhellol.

Mae’n amlwg o’r holl gyfraniadau a gawsom yn y ddadl heddiw—ac yn y Siambr yn ystod cwestiynau i’r Prif Weinidog yn ddiweddar hefyd, ac ar adegau eraill—ein bod yn cytuno bod yn rhaid i ni weithio gyda’n gilydd ac ar draws y portffolios. Ac mae’n amlwg nad yw’n fater y gall y GIG fynd i’r afael ag ef ar eu pen eu hunain. Rydym yn cydnabod bod yna gyfle gwirioneddol i feysydd eraill o wasanaeth cyhoeddus, fel addysg, llywodraeth leol a’r trydydd sector, fabwysiadu rôl arweiniol yn helpu i leihau nifer y bobl sy’n dioddef o gamblo cymhellol. Mae potensial gwirioneddol gan ddull aml-bartner o’r fath i leihau nifer yr achosion o gamblo cymhellol a’i effaith ar iechyd pobl Cymru a’r gymdeithas yn ehangach. Ac fel rhan o’r gwaith hwn, byddwn yn parhau i annog Llywodraeth y DU i wneud mwy y gall ei wneud i fynd i’r afael â’r pryderon ac i wneud y gorau o’r gwahanol opsiynau sydd ganddi at ei defnydd i fynd i’r afael â phroblem gamblo cymhellol. Diolch.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:55.