Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

30/11/2016

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. Datganiad gan y Llywydd

Cyn inni ddechrau ar fusnes heddiw, rwyf i eisiau gwneud datganiad byr. Rwyf wedi rhoi ystyriaeth i Gyfarfod Llawn ddoe, ac, yn wir, i amryw o Gyfarfodydd Llawn diweddar. Yn anffodus, mae pethau anaddas ac annifyr wedi cael eu dweud yma.

Rwyf wedi dweud o’r blaen fy mod am annog trafodaeth ddemocrataidd sy’n rymus a chadarn. Fodd bynnag, dylai Aelodau allu anghytuno ar faterion heb sarhau unigolion. Rwy’n disgwyl i Aelodau ddangos parch priodol tuag at y Cynulliad a chwrteisi at Aelodau eraill bob amser. Mae hyn yn berthnasol inni i gyd, gan gynnwys Gweinidogion—ni ddylai craffu priodol gael ei ateb gydag ymosodiadau personol.

Felly, nid wyf am glywed rhagor o heclo Aelodau cyn gynted ag y maent yn codi ar eu traed, dim mwy o sarhau gan rai yn eu seddi, a dim mwy o ymosodiadau ar gymeriad unigolion. Mae cynnal integriti y lle hwn o’r pwys mwyaf, a byddwn yn llwyddo i wneud hynny os byddwn yn gwrando’n ystyriol ac yn caniatáu i bawb fynegi eu barn—dyna yw hanfod trafodaeth ddemocrataidd.

Mae copi o’r datganiad yma wedi cael ei anfon yn ysgrifenedig at bob Aelod.

2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem gyntaf, felly, ar yr agenda yw’r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ac fe dynnwyd y cwestiwn cyntaf, [AQ(5)0050(EDU)], yn ôl. Yr ail gwestiwn, felly—Neil Hamilton.

Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru yn Ninbych-y-pysgod

Diolch, Lywydd. Rwy’n ddiolchgar iawn i chi am eich datganiad.

2. A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr heriau sy’n wynebu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru yn Ninbych-y-pysgod, sydd newydd gael ei hadeiladu? OAQ(5)0058(EDU)

Agorodd ysgol gynradd newydd yr Eglwys yng Nghymru yn Ninbych-y-pysgod ym mis Medi eleni, yn yr hyn a ddisgrifiwyd gan y pennaeth yn adeilad newydd o’r radd flaenaf. Edrychaf ymlaen at weld yr ysgol fy hun ac at siarad â’r rhai sy’n elwa o’r buddsoddiad hwn, pan fyddaf yn agor yr ysgol yn swyddogol yfory.

Rwy’n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hymateb. Yn ogystal â chroesawu’r ysgol o’r radd flaenaf y mae’n bennaeth arni, dywedodd Mr Palmer ei fod yn ceisio adeiladu ar gynfas gwag ac nad oes digon o arian ar gyfer offer chwarae y tu allan ac ar gyfer dodrefn, nad oes dodrefn mewn nifer o ystafelloedd, gan gynnwys yr ystafell gyfarfod, yr ystafell TG, y cyntedd a mannau dysgu ychwanegol, ac nad oes ganddynt unrhyw offer addysg gorfforol. Mae hefyd yn awyddus i gael blychau plannu, gwelyau plannu uchel, a phlanhigion ar eu cyfer, ac ysgol sy’n dweud wrth bobl beth yw’r sefydliad ac sy’n ddeniadol a chroesawgar. Efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym beth y gall ei wneud i roi cymorth iddynt gael gafael ar yr holl eitemau hanfodol hynny.

A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn atodol? Ynghyd â’r ysgol cyfrwng Cymraeg, Ysgol Hafan y Môr, mae ysgol gynradd yr Eglwys yng Nghymru yn Ninbych-y-pysgod wedi cael buddsoddiad o dros £8.5 miliwn, wedi ei gefnogi gan £4.8 miliwn o’n rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Mae ysgol gynradd yr Eglwys yng Nghymru yn Ninbych-y-pysgod wedi derbyn, fel y dywed y pennaeth, adeilad o’r radd flaenaf a chyfarpar addas. Mae hyn yn cynnwys y sgriniau cyffwrdd LED mwyaf cyfoes yn y sir, darpariaeth Wi-Fi drwy’r ysgol, system sain o’r radd flaenaf, a theledu cylch cyfyng cynhwysfawr. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae’r awdurdod lleol yn awyddus i weithio gyda’r ysgol, a chorff llywodraethu’r ysgol, i ddatrys unrhyw bryderon a allai fod ganddynt ynglŷn ag offer yn yr ysgol. Ac fel y dywedais, byddaf yn gallu gweld hynny fy hun yfory, pan fyddaf yn ymweld â’r ysgol.

Pan fyddwch yn ymweld â’r ysgol yfory, rwy’n siŵr y byddwch yn edmygu’r ystafelloedd dosbarth newydd pwrpasol ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol, sy’n gam enfawr ymlaen o ran darparu gwasanaethau a chymorth i blant ag anghenion dysgu ychwanegol yn ne Sir Benfro. Fodd bynnag, nid oes gan yr ysgol drws nesaf, yr ysgol cyfrwng Cymraeg, gyfleusterau lawn mor flaengar, a thybed a allech drafod gyda’r rhai a fydd yn eich cyfarfod i siarad am yr ysgolion newydd, a’r £8.5 miliwn sydd wedi cael ei wario a’i groesawu—a fyddwch mewn gwirionedd yn siarad â hwy ynglŷn â sut y gallwn ddarparu, yn ne’r sir, cymorth anghenion dysgu ychwanegol ar gyfer plant sy’n dod o gartrefi Cymraeg eu hiaith ac o gefndir Cymraeg? Oherwydd bydd yn peri gofid mawr iddynt os mai drwy gyfrwng y Saesneg yn unig y byddant yn gallu derbyn cymorth.

A gaf fi ddiolch i Angela am ei chwestiwn? Fel y dywedoch, mae gan ysgol newydd yr Eglwys yng Nghymru yn Ninbych-y-pysgod ddarpariaeth anghenion addysgol arbennig ragorol yn yr ysgol. Mae sefydlu ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg ar ei safle ei hun yn Ninbych-y-pysgod yn ddatblygiad y dylid ei groesawu. Mae’n ateb y galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg yn y rhan honno o’r byd, ac rwy’n falch iawn fod Sir Benfro wedi buddsoddi yn yr ysgol honno. Mae’n uchelgais gennyf ein bod yn sicrhau bod cydraddoldeb yn ganolog i bopeth a wnawn ym maes addysg, ac mae mynediad drwy gyfrwng y Gymraeg at gefnogaeth ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol yn hanfodol wrth sefydlu hynny. Byddwch yn gwybod fod Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes a minnau yn bwriadu cyhoeddi Bil anghenion dysgu ychwanegol cyn y Nadolig, a bydd sicrhau darpariaeth gyfartal i’r myfyrwyr sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hatebion hyd yn hyn. Mae hon yn un o’r ysgolion yr unfed ganrif ar hugain cyntaf yn Sir Benfro, wrth gwrs, felly mae angen i ni ddysgu o’r profiad hwn, nad yw wedi bod yn berffaith, ond dyna yw proses ddysgu. A chytunaf ag Ysgrifennydd y Cabinet mai cyfrifoldeb y cyngor sir yn awr, mewn gwirionedd, yw trafod yn briodol â llywodraethwyr yr ysgol ynglŷn â darparu’r cyfleusterau ychwanegol, neu’r cyfleusterau y mae rhai pobl yn teimlo eu bod ar goll o ysgol yr unfed ganrif ar hugain. Ac mae fy nghydweithiwr ym Mhlaid Cymru, Michael Williams, eisoes wedi dwyn hynny i sylw Cyngor Sir Penfro’n uniongyrchol. Felly, pan fyddwch yn ymweld yfory, Weinidog, a fyddwch mewn sefyllfa i edrych ar yr holl gyfleusterau hyn eich hun—rwy’n siŵr y byddwch—ond yn benodol, os byddwch yn gweld ac yn clywed bod yna broblem yno o hyd, a wnewch chi ddefnyddio’r cyfle i siarad yn uniongyrchol â’r cyngor sir er mwyn datrys y problemau hyn cyn gynted ag y bo modd?

Simon, mae fy swyddogion eisoes wedi cysylltu â Chyngor Sir Penfro ynglŷn â’r datganiadau a wnaed am y cyfleusterau yn yr ysgol. Mae’r cyngor sir yn herio rhai o’r datganiadau a wnaed, ond yn cydnabod eu bod yn gywir ynglŷn â phethau eraill, megis, er enghraifft, ailddefnyddio dodrefn ysgol o’r ysgolion blaenorol. Nawr, wrth ddatblygu ysgol newydd, byddai’r cyngor sir fel arfer yn cysylltu â’r corff llywodraethu dros gyfnod o amser i fynd i’r afael â’r pryderon penodol hyn. Gan fod hon yn ysgol newydd, nid oedd y trefniadau arferol hynny ar waith, ac mae Cyngor Sir Penfro wedi rhoi sicrwydd i fy swyddogion eu bod yn bwriadu gweithio ar y cyd gyda’r corff llywodraethu a’r pennaeth i fynd i’r afael ag unrhyw bryderon eraill. Byddaf yn gweld y cyfleusterau fy hun yfory, a bydd fy swyddogion yn parhau i weithio gyda Chyngor Sir Penfro a’r ysgol i sicrhau bod y plant yn cael yr hyn sydd ei angen arnynt.

Addysg Wleidyddol a Dinasyddiaeth

3. A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am addysg wleidyddol a dinasyddiaeth mewn ysgolion? OAQ(5)0055(EDU)

Diolch, Hannah. Mae dinasyddiaeth ac addysg wleidyddol yn rhannau pwysig o’r cwricwlwm a byddant yn ganolog i’r cwricwlwm newydd. Un o bedwar diben y cwricwlwm yw bod pob disgybl yn datblygu i fod yn ddinasyddion moesegol a gwybodus. Yn y cwricwlwm cyfredol, mae dysgwyr yn astudio dinasyddiaeth a gwleidyddiaeth drwy addysg bersonol a chymdeithasol, yn ogystal â Bagloriaeth Cymru.

Diolch. Croesawaf y cyfleoedd y mae Bagloriaeth Cymru a’r adolygiad cyffredinol o’r cwricwlwm yn eu cynnig i ymgorffori camau gweithredu a rhaglenni sy’n galluogi ac yn grymuso ein pobl ifanc i ddod yn ddinasyddion gweithredol, ac yn y pen draw, i ddwyn pobl fel ni i gyfrif. Mae cymaint o enghreifftiau da i’w cael. Yn fy etholaeth i, mae pwyllgor eco yn Ysgol Croes Atti yn y Fflint yn codi ymwybyddiaeth o faterion amgylcheddol yn lleol ac yn annog dysgwyr i hybu dyfodol iachach a gwyrddach. Ac wrth gwrs, senedd Ysgol Merllyn y cefais y pleser o’i chroesawu yma bythefnos yn ôl, a gwn eich bod wedi cyfarfod â hwy mewn gwirionedd. Maent yn cynnal ymgyrch etholiadol go iawn a diwrnod etholiad, a’r gofyniad i fod yn gymwys i bleidleisio yw bod yn rhaid i chi fod o blaid ac yn derbyn addysg amser llawn. Ac mae hynny’n sefydlu pwysigrwydd pleidleisio a bod yn ddinasyddion gweithredol yn y plant hynny’n ifanc iawn. A wnewch chi, Ysgrifennydd y Cabinet, ymrwymo i ymweld â rhai o’r enghreifftiau hyn, nid yn unig yn fy etholaeth i, ond ledled Cymru, er mwyn helpu i lywio’r ddarpariaeth addysg wleidyddol a dinasyddiaeth yn y dyfodol?

Diolch, Hannah. Yn wir, cefais gyfle i gyfarfod â rhai o’r plant o gyngor yr ysgol. Yn wir, cyfarfûm â fy Aelod cyfatebol, y gweinidog addysg ar gyngor yr ysgol, ac roedd ganddi nifer o syniadau da ynglŷn â sut y gallwn wella addysg, nid yn unig yn yr ysgol honno, ond ledled Cymru. Fel y dywedwch, ar hyn o bryd, ymdrinnir â’r materion hyn fel y cyfryw yn y thema dinasyddiaeth weithgar yn y fframwaith addysg bersonol a chymdeithasol sy’n bodoli eisoes, yn ogystal â thrwy Fagloriaeth Cymru. Yn ystod cyfnod allweddol 4 ac ôl-16, mae dysgwyr yn cael cyfle i ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o gymdeithas a’r gymuned y maent yn byw ynddi, ac ymwybyddiaeth o faterion byd-eang drwy ddigwyddiadau a safbwyntiau. Mae’r gwasanaeth addysg yn gweithio’n galed iawn yma yn y Cynulliad Cenedlaethol i ddarparu cyfleoedd drwy fagloriaeth Cymru i bobl ifanc ddod i ddefnyddio ein cyfleusterau ac i drafod, a byddwn yn parhau i edrych ar enghreifftiau o arferion da wrth i ni ddatblygu’r maes hwn o ddysgu a phrofiad ar gyfer ein cwricwlwm newydd.

Ysgrifennydd y Cabinet, yr wythnos diwethaf gwrthodwyd caniatâd i mi fel Aelod Cynulliad i gynnal cyfarfod cyhoeddus yn ysgol newydd Bae Baglan ym Mhort Talbot gan y pennaeth ar y funud olaf, wrth i mi geisio trafod problemau parcio lleol a mynediad at gyfleusterau cymunedol yn yr ysgol. Y rheswm a roddwyd oedd ei fod yn gyfarfod gwleidyddol, ond nid oedd yn gyfarfod gwleidyddol gan fod cynrychiolwyr o bleidiau eraill ac ACau eraill o bleidiau eraill yno yn y cyfarfod. Nid wyf yn disgwyl i chi roi sylwadau ar yr enghraifft benodol hon, ond sut y gallwn ddisgwyl i ddisgyblion a myfyrwyr gymryd rhan yn y broses wleidyddol os nad yw penaethiaid, yn lleol, yn ymwybodol beth yw’r prosesau a’r hyn yr ystyrir ei fod yn wleidyddol a beth yw ein rôl fel Aelodau Cynulliad? Pa hyfforddiant y byddwch yn ei ddarparu, felly, i benaethiaid nad ydynt yn gwybod beth yw’r rheolau hynny o bosibl?

Mae argaeledd cyfleusterau ysgol ar gyfer cyfarfodydd o’r fath yn fater ar gyfer y pennaeth unigol a’r corff llywodraethu, ac ni fyddai’n addas i mi wneud sylw.

Credaf y gall mater addysg wleidyddol mewn ysgolion fod yn eithaf perthnasol o ystyried cynigion y Gweinidog llywodraeth leol i ymestyn y bleidlais i bobl 16 a 17 oed rywbryd yn y dyfodol o bosibl. Felly, roeddwn yn tybio sut y byddwn yn sicrhau bod addysg wleidyddol yn cael ei dysgu mewn ffordd gytbwys er mwyn cynrychioli gwahanol safbwyntiau gwleidyddol.

Rwyf wrth fy modd fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi nodi ei ymrwymiad cynnar i ymestyn y bleidlais i bobl 16 a 17 oed. Mae llawer o’r bobl 16 a 17 oed rwy’n eu cyfarfod ar fy ymweliadau ag ysgolion a cholegau yn awyddus iawn i gael llais ffurfiol yn y broses wleidyddol. Fel yr amlinellais yn fy ateb i Hannah Blythyn, mae gennym amrywiaeth eang o gyfleoedd i blant ddysgu am wleidyddiaeth a’r cymunedau y maent yn byw ynddynt, a chredaf ym mhroffesiynoldeb ein staff addysgu sy’n cyflwyno ein cwricwlwm i wneud hynny mewn modd cytbwys a gwrthrychol.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rŷm ni yn y broses o ddiwygio’r cwricwlwm yma yng Nghymru, gyda nifer o ysgolion yn edrych ar feysydd penodol, o’r cwricwlwm ei hun i ddatblygiad proffesiynol. Mae’r fframwaith cymhwysedd digidol, wrth gwrs, wedi gweld golau dydd. Mae gennym ni dros 100 o ysgolion arloesi yng Nghymru yn gweithredu mewn dulliau gwahanol drwy bedwar consortia gwahanol hefyd. Ond mae yna gonsýrn yn datblygu, o beth yr wyf fi’n ei glywed yn ôl o’r sector, fod yna berig bod rhai o’r rhain yn gweithio mewn rhigolau. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ei hun wedi dweud bod yna gonsýrn eu bod nhw’n gweithio mewn paralel yn hytrach nag yn gweithio mewn ‘collaboration’. Mae yna alw wedi bod am oedi, am gymryd cam yn ôl, cymryd stoc, rhesymoli efallai, a thynnu’r cyfan at ei gilydd cyn symud ymlaen yn gryfach. A ydych chi’n cytuno mai gwneud hyn yn iawn sy’n bwysig ac nid o reidrwydd gwneud hyn yn gyflym?

Diolch, Llyr, am eich cwestiwn. Credaf ei bod yn wir dweud bod rhywfaint o ddiffyg cysylltiad wedi bod, yn hanesyddol, rhwng yr ysgolion arloesi a rhwydweithiau gwahanol. Dyna pam y daethom â hwy ynghyd o dan un rhwydwaith i geisio sicrhau bod mwy o gydweithio ar draws yr ysgolion arloesi. Rydym hefyd yn dwysáu ein hymdrechion i sicrhau bod yr ysgolion hynny nad ydynt yn rhan o’r rhwydwaith arloesi hefyd yn teimlo eu bod yn rhan o’r broses gyffrous hon o gyd-ddatblygu’r cwricwlwm gyrfaoedd gyda’r gweithlu addysgu eu hunain. Yn ddiweddar, lansiais flog cwricwlwm newydd i’n galluogi i gyfathrebu’n uniongyrchol â phawb ym maes addysg ynghylch y newidiadau hyn, a byddwn yn parhau i adolygu ein cynnydd i sicrhau bod pawb yn teimlo eu bod yn rhan o’r broses bwysig hon o gyd-gynllunio ein cwricwlwm newydd.

Rwy’n falch eich bod chi’n cydnabod bod rhai o’r ysgolion sydd ddim yn ysgolion arloesi yn teimlo efallai ychydig y tu fas i’r broses yma, oherwydd mae Cyngor y Gweithlu Addysg, er enghraifft, wedi rhybuddio bod yna berig bod yna system ddwy haen yn datblygu a allai fod yn achosi rhaniadau. Felly, rwy’n croesawi’r ffaith eich bod chi’n cydnabod hynny a’ch bod chi’n bwriadu gwneud rhywbeth ynglŷn â’r peth.

Wrth gwrs, mae angen wedyn y capasiti i allu gwneud y gwaith yma o ddatblygu cwricwlwm, mynychu cyfarfodydd, delio gyda’r ysgolion eraill a’r consortia ac yn y blaen wrth barhau i wneud eu gwaith o ddydd i ddydd, o safbwynt yr athrawon, sy’n dysgu mewn hinsawdd, sydd, y mae nifer yn cydnabod, eisoes yn hinsawdd heriol o safbwynt pwysau gwaith ac yn y blaen.

Mae nifer o athrawon yn ddiweddar wedi bod yn gweithio’n galed i ailysgrifennu cynlluniau gwaith yn sgil cyhoeddi manylebau newydd TGAU er enghraifft, ac mae honno wedi bod i rai yn broses weddol ddigalon o wybod, wrth gwrs, ei bod yn bosibl y bydd y gwaith hynny yn cael ei sgubo o’r neilltu gan y cwricwlwm newydd a allai fod yn cael ei gyflwyno o fewn 18 mis mewn rhai sefyllfaoedd. Er mor anodd yw hynny, a ydych chi yn hyderus bod y capasiti a’r adnoddau digonol allan yna, ymhlith y gweithlu yng Nghymru, i ddelifro’r rhaglen yma, sydd yn newid ac sydd yn mynd i fod yn rhywbeth sydd angen ei wneud i safon ac o fewn amserlen ddigon heriol.

Rwy’n gwbl hyderus y gall y proffesiwn ddatblygu’r cwricwlwm newydd ar y cyd â Llywodraeth Cymru ar gyfer addysgu a dysgu yn 2021. Mae’r Aelod, Lywydd, yn gwbl gywir i ddweud bod angen adnoddau ar gyfer hyn. Felly, mae adnoddau yn fy nghyllideb addysg i sicrhau nad yw’r ysgolion hynny sy’n cymryd rhan yn y gwaith arloesol hwn o dan anfantais a bod y cyfleusterau a’r adnoddau angenrheidiol ganddynt, er enghraifft, i ôl-lenwi pan fo athrawon neu benaethiaid yn cymryd rhan yn y gweithgarwch hwn. Er bod hyn yn creu heriau, gwyddom ei fod hefyd yn rhoi cyfle gwych i ddysgu rhwng ysgolion pan fyddant yn ymwneud â’r gwaith hwn. Mae’r gweithwyr proffesiynol rwyf wedi eu cyfarfod—a thros yr wythnosau diwethaf rwyf wedi siarad â thros hanner penaethiaid ysgolion Cymru—yn dweud wrthyf fod bod yn rhan o’r broses hon wedi arwain at fanteision i’w hysgolion gan eu bod wedi dysgu gan eraill ac wedi mynd â’r gwersi hynny yn ôl gyda hwy. Felly, wrth i ni agosáu tuag at ein cwricwlwm, rydym yn defnyddio’r cyfle hwnnw i wella ein system hunanwella i ysgolion, ac maent yn croesawu hynny’n fawr iawn. Ond mae’n rhaid cael yr adnoddau cywir, ac rwy’n hyderus fod yr adnoddau yno ar eu cyfer.

Mae hi’n mynd i fod yn dipyn o her hefyd, wrth gwrs, i sicrhau bod yr athrawon sydd gennym heddiw wedi’u harfogi ar gyfer delifro’r cwricwlwm newydd yma. Rwy’n gwybod bod bod yn rhan o ysgol arloesi, efallai, yn mynd i fod yn help i nifer i ddod drwy’r broses yna mewn modd mwy naturiol na fyddai’n digwydd mewn sefyllfa y tu hwnt i’r ysgolion arloesi. Ond, mae hefyd yn bwysig, wrth gwrs, bod yr athrawon newydd a fydd yn dod i mewn i’r gyfundrefn wedi’i diwygio yn barod ar gyfer y drefn honno. O feddwl y bydd rhai ysgolion, o bosib, yn cyflwyno’r cwricwlwm newydd yma yn 2018, pa mor hyderus ŷch chi bod y trefniadau yn eu lle i sicrhau bod athrawon newydd sydd yn dod drwy brosesau hyfforddi athrawon ar hyn o bryd yn mynd i fod yn barod ar gyfer y cwricwlwm newydd?

Fe fyddwch yn gwybod, Llyr, nad oes modd i ysgol fod yn well na’r athrawon sydd ynddi. Felly, mae arfogi ein hathrawon—y rhai sy’n newydd i’r proffesiwn a’r athrawon sydd eisoes yn y proffesiwn—gyda’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i gyflwyno’r cwricwlwm newydd yn gwbl hanfodol. Dyna pam, wyddoch chi, rydym wedi dechrau’r gwaith helaeth o ddiwygio ein rhaglen addysg gychwynnol i athrawon. Rydym yn cynnal ymgynghoriad ar hyn o bryd ar y meini prawf newydd ar gyfer y cyrsiau addysg gychwynnol i athrawon newydd. Ond rwy’n disgwyl newid yn awr. Nid wyf yn disgwyl i sefydliadau addysg uwch eistedd yn ôl ac aros am y cyrsiau newydd hynny. Dyna pam fy mod wedi cael fy nghalonogi gan y sgyrsiau a gefais ym Mhrifysgol De Cymru, Prifysgol y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd ynglŷn â’r newidiadau y maent yn eu gwneud yn awr gydag ysgolion lleol yn eu hardaloedd er mwyn gwella’r cynnig ar gyfer ein hyfforddiant cychwynnol i athrawon. Mae angen i ni sicrhau bod hynny’n iawn ar eu cyfer. Fel arall, bydd y broses o ailgynllunio’r cwricwlwm yn ddiwerth.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae Cymdeithas Ysgolion dros Addysg Gymraeg wedi rhybuddio efallai na fydd digon o werslyfrau TGAU ar gael i fyfyrwyr ac i staff erbyn yr adeg pan fydd angen iddynt gael eu datblygu er mwyn iddynt allu manteisio ar baratoi eu disgyblion yn briodol ar gyfer y TGAU a’r Safon Uwch newydd a fydd yn cael eu cyflwyno o’r flwyddyn nesaf. Beth yw eich ymateb i hynny?

Diolch, Darren. Fel y dywedais wrth Angela yn gynharach, mae tegwch yn y system addysg yng Nghymru yn hanfodol i mi. Er fy mod yn cydnabod bod CBAC yn cyhoeddi manylebau a phapurau enghreifftiol mewn maes dwyieithog, mae pryder ynglŷn ag argaeledd gwerslyfrau Cymraeg. Nid wyf yn disgwyl i blant sy’n gwneud eu harholiadau drwy gyfrwng y Gymraeg fod o dan anfantais mewn unrhyw ffordd, ac nid wyf wedi fy modloni nad yw’r sefyllfa bresennol yn peri anfantais i’r plant hynny. Mae Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes a minnau wedi cyfarfod i drafod hyn, fel y gwneuthum innau gyda fy swyddogion. Fy mwriad yw sefydlu uwchgynhadledd rhwng pawb sy’n gysylltiedig â hyn er mwyn edrych ar ffyrdd y gallwn fynd i’r afael â’r pryder hwn, i weld beth y gallwn ei wneud yng Nghymru, gyda’n prifysgolion a’n hysgolion, ein proffesiwn addysgu, a sector cyhoeddi Cymru i fynd i’r afael â’r methiant hwn yn y farchnad. Mae’n amlwg i mi na allwn ddisgwyl i gyhoeddwyr Saesneg ein rhoi ar frig y rhestr. Os na wnânt hynny, bydd angen i ni wneud rhywbeth gwahanol. Os hoffech ddod i’r uwchgynhadledd, Darren, byddai croeso i chi wneud hynny.

Byddwn yn fwy na pharod i fynychu, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n ddiolchgar eich bod wedi cymryd camau o’r fath i sefydlu uwchgynhadledd. Wrth gwrs, nid bai’r cyhoeddwyr yn unig yw hyn. Mae Cymwysterau Cymru eto i gymeradwyo manylion ynglŷn â’r cymwysterau y bydd yn rhaid i’r bobl ifanc hynny eu sefyll. Rwy’n falch eich bod wedi cyfeirio at y ffaith y bydd darparwyr addysg uwch a darparwyr addysg bellach hefyd yn bresennol yn yr uwchgynhadledd. Un peth gwych a welsom yng Nghymru yn y blynyddoedd diwethaf yw llwyddiant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol o ran sicrhau bod darparwyr addysg uwch yn gallu cynnig cyrsiau i bobl ifanc eu hastudio drwy gyfrwng y Gymraeg. Pa ystyriaeth rydych wedi’i rhoi i ymestyn eu cylch gwaith i addysg bellach fel y gall darparwyr addysg bellach hefyd elwa o’r arbenigedd sydd gan y Coleg Cymraeg?

Diolch am hynny, Darren. Fel y gwyddoch, yn ddiweddar, sefydlais grŵp gorchwyl a gorffen i edrych ar y trefniadau ar gyfer y coleg yn y dyfodol. Maent wedi gwneud gwaith anhygoel yn ehangu’r cyfleoedd i fyfyrwyr astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ar lefel uwch. Credaf fod lle i wneud hynny, o bosibl, ar lefel addysg bellach, ac nid wyf am ragfarnu gwaith y grŵp gorchwyl a gorffen o dan gadeiryddiaeth Delyth Evans, ond credaf fod cyfle i wella’r cyfleoedd i fyfyrwyr astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, nid yn unig ar lefel addysg uwch, ond ar lefel addysg bellach.

Wrth gwrs, ni fyddwn ond yn gallu cyflawni’r cynlluniau uchelgeisiol hyn ar gyfer y dyfodol os oes gennym weithlu sy’n addas i ddarparu’r cyrsiau hyn drwy gyfrwng y Gymraeg. Pa ystyriaeth rydych wedi’i rhoi i’r rhybuddion a gawsoch gan wahanol sefydliadau ym maes addysg sydd wedi bod yn dweud nad oes gennym ddigon o athrawon sy’n rhugl yn y Gymraeg i allu cyflawni’r cynlluniau uchelgeisiol hyn, a pha gamau rydych yn eu cymryd i fynd i’r afael â’r prinder hwnnw o athrawon yn y Gymraeg?

Rydych yn llygad eich lle, Darren. Mae angen i ni sicrhau, os ydym yn dymuno cyflawni ein huchelgais ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg, ac yn wir, ar gyfer gwella’r broses o ddysgu’r Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg—oni bai bod gennym y gweithlu ar gael yn barod i wneud hynny. Fe fyddwch yn gwybod, fel y dywedais wrth Llyr Gruffydd, ein bod yn diwygio ein cynnig o ran hyfforddiant cychwynnol i athrawon. Mae yna gymhellion i bobl â sgiliau yn y Gymraeg ddod i mewn i’r proffesiwn addysgu, ac rydym yn darparu adnoddau i ganiatáu i athrawon sydd eisoes yn y proffesiwn ac sydd am ddatblygu eu sgiliau yn y Gymraeg fynd ar gyfnodau sabothol er mwyn gwneud hynny. Mae’r adborth rwyf wedi’i gael o’r cynllun hwnnw yn gadarnhaol iawn yn wir, ac mae angen i ni wneud mwy i annog athrawon i gymryd mantais o’r cyfnodau sabothol hynny er mwyn i ni allu cynyddu argaeledd sgiliau yn y Gymraeg yn y proffesiwn addysgu, a rhoi’r hyder iddynt ddefnyddio’r sgiliau hynny yn y dosbarth.

Diolch, Lywydd. Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd y ‘Sunday Times’ eu tablau ‘parent power’, gan gynnwys y 400 ysgol uwchradd wladol uchaf ledled y DU wedi eu pwysoli yn ôl canlyniadau TGAU a Safon Uwch. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn hapus mai’r ysgol uchaf yng Nghymru ar y rhestr honno oedd rhif cant wyth deg a dau?

Yr hyn sy’n bwysig i mi yw’r cynnydd y mae ysgolion Cymru yn ei wneud. Dylai Aelodau nodi bod canlyniadau TGAU disgyblion Cymru y llynedd yn union yr un fath â rhai eu cymheiriaid dros y ffin yn Lloegr. Ond nid wyf yn bodloni ar feincnodi ein system addysg yn ôl y system dros y ffin. Rwyf am feincnodi ein system yn ôl y goreuon yn y byd. Dyna pam ein bod yn parhau i weithio’n rhagweithiol gyda’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd i sicrhau y bydd y diwygiadau rydym yn eu cyflawni yn ein galluogi i wireddu’r uchelgeisiau hynny.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hateb, ac wrth gwrs y flwyddyn nesaf ac wedi hynny mae’n bosibl na chawn gyfle i wneud cymariaethau o’r fath ar draws y ffin gan fod y system raddio TGAU yn newid yn Lloegr o A i G i 9 i 1, ac ni fydd Cymru yn dilyn y llwybr hwnnw. Fel rhiant sy’n ceisio cymharu ysgolion cynradd, a safonau ar draws ysgolion gwahanol, rwyf wedi gweld hynny’n llawer mwy o her yng Nghymru nag yn Lloegr, gan nad yw’n ymddangos bod canlyniadau cyfnod allweddol 2 yn cael eu cyhoeddi ar ffurf gymharol sy’n caniatáu i rywun gymharu ysgolion yn hawdd. Ai dyna yw bwriad Llywodraeth Cymru, ac oni fyddai’n gwneud synnwyr i gyhoeddi data o’r fath ar ffurf sy’n sicrhau ei fod yn hawdd ei gymharu er mwyn amlygu, yn hytrach na chymylu, y gwahaniaethau rhwng ysgolion?

Lywydd, mae’r Aelod wedi dod draw yma o system a oedd yn credu mewn cystadleuaeth. Mae’r system addysg yng Nghymru yn seiliedig ar system o gydweithio a chydweithredu. Byddwn yn darparu’r addysg sydd ei hangen ar ein plant drwy weithio gyda’n gilydd mewn system hunanwella i ysgolion. Mae’r data sydd ar gael ar ddiwedd yr ysgol gynradd yno’n bennaf i roi gwybod i athrawon yn y sector cynradd a’r ysgolion uwchradd y bydd y plant hynny’n eu mynychu sut y gallwn fynd ati yn y ffordd orau i gefnogi’r plant unigol hynny i gyrraedd eu potensial llawn. Nid yw’r data yno i fod yn ffon i guro’r proffesiwn ac i guro ysgolion unigol; mae yno i fod yn offeryn diagnostig i gynorthwyo’r broses o addysgu plant unigol. Mae myrdd o wybodaeth ar gael i rieni Cymru ar wefan Fy Ysgol Leol. Mae’n edrych ar ddarlun cyflawn o berfformiad ein hysgolion. Mae data ynglŷn â chyflawniad yn un maes pwysig, ond mae lles yr ysgol, gwerth ychwanegol yr ysgol ac ethos yr ysgol yr un mor bwysig i’r rhieni rwy’n eu cyfarfod a siarad â hwy.

Nodaf ymateb Ysgrifennydd y Cabinet, ond nid yw’r cofnod cyflawn ar gael. Fel llawer o rieni eraill, hoffwn edrych ar ganlyniadau cyfnod allweddol 2 gwahanol ysgolion ledled Cymru, a chymharu’r duedd yn hynny o beth a pha welliannau a wnaed, a gwneud cymariaethau, wedi eu haddasu’n briodol, rhwng ysgolion. Mae’r system wedi ei sefydlu ar ei chyfer hi ac ar gyfer y proffesiwn, ac eto, rywsut, ni ystyrir bod rhieni’n gallu gwneud cymariaethau synhwyrol a phriodol. Wrth gwrs, mae cydweithredu’n bwysig, yn ogystal â chystadleuaeth, ond pa ddaioni a ddaw drwy atal data a ddylai fod ar gael i alluogi pobl i wneud cymariaethau priodol?

A gaf fi ofyn iddi hefyd, cyn—gan na chredaf y caf fawr o ymateb i hynny—? Pan fyddwn yn symud y canlyniadau TGAU—. Rydym yn cael cwricwlwm newydd, ac eto rydym wedi dewis peidio â newid i’r system raddio 9-1 sydd ganddynt yn Lloegr. Onid yw’n pryderu y gallai myfyrwyr Cymru—os nad yn awr, yn nes ymlaen—fod dan anfantais? Oherwydd bydd llawer yn ceisio am swyddi yn Llundain neu yn rhywle arall yn Lloegr, ac fel sy’n digwydd yn awr gydag arholiadau Uwch yr Alban, mewn cwmnïau mwy o faint hyd yn oed, yn eithaf aml nid ydynt o reidrwydd yn deall y canlyniadau hynny. Ar ôl nifer o flynyddoedd, neu ddegawdau efallai, os yw ein myfyrwyr yng Nghymru yn cael eu graddio o A-G pan fyddant yn cael eu graddio o 9-1 yn Lloegr, a yw’n hyderus na fydd hynny’n anfantais i fyfyrwyr Cymru?

Rwy’n gwbl hyderus fod ansawdd y cymwysterau rydym yn eu cynnig i’n myfyrwyr yng Nghymru yn gyfwerth ag unrhyw rai eraill—yn gyfwerth ag unrhyw rai eraill. Maent yn anodd, maent yn ymestynnol, maent yn gadarn ac maent yn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen ar ein plant er mwyn iddynt lwyddo yn y byd gwaith ac mewn addysg bellach.

Lywydd, ymddengys bod yr Aelod yn awgrymu nad oes unrhyw ddata ar gael i rieni. Mae myrdd o wybodaeth ar gael i rieni. Mae adroddiadau Estyn ar gael yn gyhoeddus i rieni eu darllen. Mae’r system gategoreiddio ysgolion ar gael i rieni edrych arni. Nid yw’n wir awgrymu nad oes gan rieni fynediad at wybodaeth am berfformiad eu hysgol leol. Nid yw hynny’n wir. Mae amrywiaeth o wybodaeth ar gael yn barod i rieni weld sut y mae eu hysgol unigol yn perfformio. Mae canlyniadau profion ac asesiadau yno yn bennaf fel cymorth dysgu ar gyfer y plant unigol. Nid ydynt yno i ddarparu tablau cynghrair ffug a chystadleuol ar gyfer yr Aelod. Rydym yn credu mewn system hunanwella i ysgolion, yn seiliedig ar egwyddorion cydweithio a chydweithredu, gan ein bod yn gwybod, yn rhyngwladol, mai hynny sy’n gweithio orau.

Ysgolion Cynradd Dwyieithog yng Nghanolbarth Cymru

4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i ysgolion cynradd dwyieithog yng nghanolbarth Cymru? OAQ(5)0054(EDU)

Lywydd, cyn ateb y cwestiwn hwn, hoffwn gofnodi buddiant yn y mater hwn, gan fod gennyf blentyn sy’n mynychu ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yng nghanolbarth Cymru.

Bydd y strategaeth genedlaethol ar gyfer ysgolion bach a gwledig yn darparu cymorth i ysgolion weithio gyda’i gilydd yn ogystal â grant o £2.5 miliwn. Bydd hyn yn cefnogi ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg a dwyieithog i weithio gyda’i gilydd ac i rannu arferion da. Bydd hyn yn cryfhau cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg yr awdurdodau lleol.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Er gwaethaf ymdrechion pennaeth a llywodraethwyr Ysgol Gynradd Llanrhaeadr-ym-Mochnant yn fy etholaeth, er mwyn iddynt sicrhau cyllideb gytbwys, mae’n rhaid iddynt leihau nifer y staff o bum athro i bedwar. Bydd gwneud hynny’n arwain at gyfuno ffrydiau babanod Saesneg a Chymraeg eu hiaith yn y prynhawniau, gan beryglu eu statws dwyieithog fel ysgol, wrth gwrs. A ydych yn cydnabod y gost uwch y mae ysgolion bach gwledig dwy ffrwd yn ei hwynebu, a beth, yn eich barn chi, yw’r ateb o ran sicrhau nad yw ysgolion dwyieithog mewn perygl?

Mae llawer o’r materion y cyfeiriodd yr Aelod atynt yn ei gwestiwn, wrth gwrs, yn faterion ar gyfer yr awdurdod lleol yn hytrach na materion ar ein cyfer ni yma. Ond gadewch i mi ymateb drwy wneud pwynt mwy cyffredinol—credaf fod y pwynt cyffredinol yn haeddu ymateb llawnach na hynny.

Fe fyddwch yn ymwybodol fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwneud datganiad cynhwysfawr iawn i’r Siambr ynglŷn â mater ysgolion gwledig. Fe bwysleisiodd, ar yr adeg honno, bwysigrwydd tegwch, a chyfeiriodd at hynny eto y prynhawn yma, o ran sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad cyfartal at addysg yn y Gymraeg a’r Saesneg. Rydym yn parhau i fod eisiau sicrhau bod y fframwaith cywir ar gael i ysgolion gwledig ac ysgolion ledled Cymru gyfan, yn ogystal â’r adnoddau, er mwyn sicrhau eu bod yn gallu cynnig y cyfleoedd addysgol hynny. Fe ailadroddaf hefyd yr hyn rwyf wedi’i ddweud o’r blaen yn y lle hwn—ein bod yn rhagweld y bydd y cynlluniau strategol cyfrwng Cymraeg yn cael eu darparu i ni y mis nesaf, a bydd cryn ddiddordeb gennyf yn yr hyn y bydd pob awdurdod lleol yn ei gynnig dros y cyfnod cynllunio strategol nesaf.

Mae’n amlwg, y tu mewn i’r cynlluniau strategaeth yr iaith Gymraeg yma, y byddwch chi, gobeithio, yn chwilio i sicrhau nad yw ffrydiau iaith yn cael eu cymysgu. Dyna beth sy’n digwydd, rwy’n deall, nawr yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant gyda’r toriadau presennol—bod y cyfnod sylfaen yn cael eu cymysgu gyda’i gilydd o ran iaith. Nid yw hynny’n briodol ac nid yw’n arfer da. Mae problemau tebyg yn Llanfyllin, a Llandrindod o bosibl, yn datblygu hefyd. Oes, mae’n fethiant ar ran y cyngor sir, a bu methiant ar ran y cyngor sir ers rhai blynyddoedd, i baratoi’n briodol ar gyfer twf addysg Gymraeg yn sir Powys, i ddweud y gwir. Ond, wrth edrych ar y cynlluniau strategol, a fyddwch chi’n gwneud yn siŵr nad ydych yn caniatáu i’r sefyllfa yma barhau ac nad oes cymysgu ffrydiau iaith, a’ch bod felly yn rhoi pwysau priodol ar y cyngor sir i ddarparu yn briodol i gadw’r iaith yn briodol y tu mewn i’r ysgolion hyn?

Llywydd, rŷm ni i gyd yn ymwybodol bod cynigion yn cael eu trafod ym Mhowys ar hyn o bryd. Mae’n bosibilrwydd y bydd y cynigion yna yn dod at Weinidogion Cymru ar gyfer rhywfaint o benderfyniadau. Felly, ni fydd yr Aelod yn gallu fy nhemptio i gynnig unrhyw sylw ar yr enghreifftiau penodol y mae wedi’u disgrifio ym Mhowys y prynhawn yma. Ond a gaf i ddweud hyn ar egwyddor y cwestiwn? Nid wyf eisiau creu un model ac un model yn unig ar gyfer y ddarpariaeth addysg drwy gyfrwng y Gymraeg ac addysg yn y ddwy iaith. Rwyf eisiau clywed gan awdurdodau lleol am eu cynlluniau nhw, ac ar ôl i fi gael cyfle i ystyried y cynigion, mi fyddaf yn dod nôl i fan hyn ac yn gwneud datganiad ar hynny. Ond ar hyn o bryd nid wyf eisiau creu rhyw fath o ‘straitjacket’ ieithyddol a dweud mai un model ac un model yn unig sydd ar gyfer addysg drwy gyfrwng y Gymraeg ar draws Cymru.

Gwella Cyrhaeddiad Addysgol yng Nghwm Cynon

5. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o waith consortia rhanbarthol o ran gwella cyrhaeddiad addysgol yng Nghwm Cynon? OAQ(5)0052(EDU)

Diolch, Vikki. Yn fras, mae’r darlun o gyrhaeddiad addysgol yng Nghwm Cynon yn gwella’n raddol. Wedi ystyried arolygiadau diweddar Estyn o’r consortia, er bod yna’n bendant le i wella, rwy’n hyderus eu bod yn parhau i chwarae rhan bwysig yn y broses o ddarparu gwell canlyniadau i ddysgwyr.

Yn ddiweddar, cyfarfûm â chynrychiolwyr o Gonsortiwm Canolbarth y De yn Ysgol Gyfun Aberpennar yn fy etholaeth, ac roeddwn yn falch o glywed am y gwelliant y mae’r consortiwm wedi’i weld o un flwyddyn i’r llall ar draws pob dangosydd perfformiad, o gyfnod allweddol 2 i gyfnod allweddol 5. Mae llwyddiant mewn ardaloedd fel Caerdydd yn aml yn seiliedig ar waith gyda disgyblion o gefndiroedd amrywiol, lle nad yw Saesneg, yn aml, yn iaith gyntaf. Pa wersi y cred Ysgrifennydd y Cabinet y gellid eu dysgu o waith gyda’r grwpiau hyn i wella perfformiad plant o gefndiroedd mwy difreintiedig, yn enwedig mewn etholaethau fel fy un i? Sut y gall Llywodraeth Cymru fynd ati yn y ffordd orau i gynorthwyo’r consortia i gyflawni gwaith o’r fath?

Diolch am hynny. Rydych yn hollol iawn, yng Nghonsortiwm Canolbarth y De, mae’r awdurdod addysg lleol yn gweithredu amrywiaeth eang o ysgolion. Yn ddiweddar, ymwelais ag Ysgol Uwchradd Fitzalan yma yng Nghaerdydd, lle y mae plant yr ysgol yn siarad 40 o wahanol ieithoedd. Rwy’n awyddus iawn i bob consortiwm ddatblygu cynllun cynhwysfawr ar gyfer sicrhau defnydd effeithiol o’r grant amddifadedd disgyblion, sef ein prif arf sy’n anelu at sicrhau bod plant o gefndir tlotach yn cyrraedd eu potensial llawn. Rwy’n pryderu nad yw’r defnydd o’r grant amddifadedd disgyblion mewn rhai ardaloedd mor effeithiol ag y gallai fod. Er enghraifft, nid yw rhai ysgolion yn dilyn cyngor pecyn cymorth Ymddiriedolaeth Sutton, sy’n cynnwys ymyriadau’n seiliedig ar dystiolaeth ac arferion gorau. Yn fy nghyfarfod herio ac adolygu gyda hwy, rwyf wedi gofyn i Gonsortiwm Canolbarth y De sicrhau bod yr adnodd sylweddol hwnnw sy’n mynd i mewn i’n hysgolion yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd orau a mwyaf effeithlon.

Ysgrifennydd y Cabinet, yn ddiweddar, mae Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon wedi nodi gwaith y consortia, gan ganmol rhai agweddau ar gymorth, ond gwnaethant y pwynt fod yna her sylweddol—a fi fyddai’r person cyntaf i fod eisiau her mewn system, gan fod hynny, yn amlwg, yn datblygu’r system, gobeithio, ond roeddent yn tynnu sylw at ddiffyg cefnogaeth difrifol ar ran y consortia rhanbarthol wrth ddatblygu uwch dimau rheoli, ac yn arbennig, llwybrau ar gyfer penaethiaid. Nawr, ledled y DU, mae yna broblem gyda denu pobl i’r proffesiwn, ac yn arbennig i ddod yn benaethiaid. A ydych yn cydnabod y pwynt a wnaed gan Gymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon nad oes digon o gymorth yn dod gan y consortia rhanbarthol i gynorthwyo gyda datblygu penaethiaid y dyfodol?

Diolch yn fawr, Andrew. Yn ddiweddar, cefais gyfle i annerch a chyfarfod â Chymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon yn eu cynhadledd yng Nghasnewydd. Credaf fod arweinyddiaeth yn un maes lle nad ydym wedi gwneud cymaint o gynnydd ag y byddwn wedi hoffi ei weld ledled y wlad, ac mae gan y consortia rôl hanfodol yn nodi a chefnogi anghenion datblygiad proffesiynol parhaus ein dirprwy benaethiaid, ein penaethiaid cynorthwyol a’n penaethiaid ar gyfer y dyfodol. Fe fyddwch yn ymwybodol fy mod wedi cyhoeddi fy mwriad yn ddiweddar i sefydlu academi arweinyddiaeth genedlaethol. Mae’r grŵp cysgodol, a gadeirir gan Ann Keane, yn dechrau ar eu gwaith yn y maes hwn, ac rwy’n disgwyl i’r consortia fod yn elfen hanfodol wrth weithio ochr yn ochr â’r corff hwnnw i edrych ar gyfleoedd rhagweithiol i ddod o hyd i’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr a darparu’r cymorth sydd ei angen arnynt.

Myfyrwyr sydd ag Anghenion Addysgol Arbennig

6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y gall myfyrwyr sydd ag anghenion addysgol arbennig, a’u teuluoedd, gael gafael ar gyngor cyfreithiol? OAQ(5)0051(EDU)

Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am sicrhau mynediad at wasanaethau gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth annibynnol i blant a phobl ifanc ag anghenion addysgol arbennig. Os oes angen cyngor cyfreithiol, gall plant, pobl ifanc a’u teuluoedd ddod o hyd i gynrychiolaeth gyfreithiol breifat, ac mewn rhai amgylchiadau, gallant fod yn gymwys hefyd i gael cymorth cyfreithiol.

Diolch i’r Gweinidog am ei ateb. Yn dilyn toriadau i gyllid cymorth cyfreithiol gan y wladwriaeth Brydeinig, tri darparwr cymorth cyfreithiol yn unig sy’n gweithio erbyn hyn mewn cyfraith addysg yng Nghymru a Lloegr, ac nid oes yr un ohonynt wedi eu lleoli yn y wlad hon. Gwyddom pa mor galed y mae’n rhaid i rieni plant sydd ag anghenion addysgol arbennig ymladd weithiau er mwyn cael y ddarpariaeth addysg arbennig y mae gan eu plant hawl i’w chael, ac o ystyried y gwahaniaeth cynyddol mewn polisi a chyfraith rhwng Cymru a Lloegr mewn perthynas ag addysg, mae diffyg darparwyr cymorth cyfreithiol yng Nghymru yn rhwystr gwirioneddol i’r rhieni hynny rhag cael mynediad at gyngor cyfreithiol. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru ymyrryd ar frys i sicrhau cydraddoldeb o ran mynediad at gyfiawnder i rieni plant sydd ag anghenion addysgol arbennig?

Byddai’n well gennyf gael gwared ar yr angen am y fath broses yn gyfan gwbl mewn gwirionedd. Bydd yr Aelod yn ymwybodol o’r datganiad busnes ddoe y byddaf yn cyflwyno’r Bil anghenion dysgu ychwanegol yn y lle hwn cyn y Nadolig. Byddwn yn cyflwyno system dribiwnlys fel rhan o hynny, a rhesymeg a sail athronyddol y ddeddfwriaeth honno, os mynnwch, yw darparu cynllun datblygu unigol i bob dysgwr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, a fydd yn mynd â hwy o’r cyfnod cyn ysgol drwy, a thu hwnt i addysg bellach ac uwch, hyd at 25 oed, a bydd yn darparu dull o ddatrys y materion hynny heb fod angen cymorth cyfreithiol, gobeithio, nac unrhyw fath o ymgyfreitha. Ein hymagwedd yma yw sicrhau ein bod yn cael gwared ar y pwysau ar rieni o fewn y system, er fy mod yn derbyn ac yn sicr yn cytuno â’i feirniadaeth o Lywodraeth y DU a’u hagwedd tuag at y maes polisi hwn.

Un feirniadaeth a wnaed o ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at y maes hwn, wrth gwrs, yw’r ffaith nad oes gan unigolion ifanc mewn addysg bellach yr un hawliau i allu herio penderfyniadau a wneir amdanynt o ran y cymorth y gallant ei gael. A yw hyn yn rhywbeth y gallwn obeithio y bydd yn cael sylw yn eich Bil anghenion dysgu ychwanegol?

Addysg ar gyfer Plant Tair Oed

8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am addysg ar gyfer plant tair oed? OAQ(5)0057(EDU)

Mae gan bob plentyn yng Nghymru hawl i addysg cyfnod sylfaen am ddim o’r tymor cyntaf ar ôl eu trydydd pen-blwydd. Gwyddom fod y cyfnod sylfaen yn gweithio a dyna pam rwyf wedi ymrwymo, yn ein hymagwedd at ddysgu, i roi’r dechrau gorau posibl mewn bywyd i bawb.

Diolch am eich ateb. Bron i dair blynedd yn ôl, ysgrifennodd y Gweinidog addysg ar y pryd ataf i gadarnhau y gall awdurdodau lleol, a dyfynnaf, ddarparu’r lleoedd hyn—addysg i blant tair oed—mewn ysgol feithrin, dosbarth meithrin mewn ysgol gynradd, neu leoliadau nas cynhelir, fel cylchoedd chwarae neu feithrinfa ddydd breifat. Nawr, dair blynedd yn ddiweddarach, mae cyngor Abertawe yn parhau i ariannu addysg ar gyfer plant tair oed mewn lleoliadau awdurdod lleol yn unig, felly nid oes dewis i rieni yno o gwbl. Gan fod Llywodraeth Cymru bellach wedi mabwysiadu targed o 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, a ydych yn credu bod ymagwedd Abertawe, nad yw’n gwneud dim i hyrwyddo twf y lleoedd hyn mewn lleoliadau Mudiad Meithrin, yn un y gallwch ei chefnogi?

Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn a’r ffordd y mae hi wedi mynd ar drywydd y mater hwn dros gyfnod maith. Rwyf hefyd yn ymwybodol o’i barn ynglŷn ag ymagwedd cyngor Abertawe yn y materion hyn. Dywedais yn fy ateb i gwestiwn cynharach gan Simon Thomas fy mod yn edrych ymlaen at dderbyn y cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg y mis nesaf, a byddaf yn edrych ar sut y mae pob awdurdod lleol yng Nghymru yn bwriadu cynllunio ar gyfer twf addysg cyfrwng Cymraeg yn eu hardaloedd a’u rhanbarthau eu hunain. Byddaf yn disgwyl hynny gan yr holl awdurdodau i’r un graddau. Ac wrth adolygu’r cynlluniau hynny, byddaf yn edrych ar sut y byddant yn mesur yr angen yn y dyfodol, sut y gallwn ysgogi angen yn y dyfodol a sut y gallwn ddatblygu i dyfu addysg cyfrwng Cymraeg er mwyn cyflawni ein gweledigaeth a’n huchelgais ar gyfer Cymru ddwyieithog.

Sut yn union fydd y cynnydd mewn darpariaeth yn cyfrannu at y strategaeth 1 filiwn o siaradwyr gan y Llywodraeth felly? Hynny yw, a oes gennych chi darged penodol o fewn y maes addysg i blant tair i bedair oed ynglŷn â faint o weithlu sydd ei angen er mwyn darparu addysg ddwyieithog yn y dyfodol?

Mae gennym ni dargedau presennol—mae targedau yn bodoli ar hyn o bryd—ar gyfer faint o blant sydd gennym ni mewn addysg Gymraeg ym mhob un oedran. Rŷm ni hefyd yn gwybod nad ydym wedi llwyddo i gyrraedd y targedau hynny. Felly, yn ystod y cynllunio sy’n digwydd ar gyfer y strategaeth iaith Gymraeg newydd a fydd yn cael ei chyhoeddi fis Mawrth nesaf, mi fydd cynllunio gweithlu yn rhan hanfodol o hynny, yn rhan ganolog o’n cynlluniau ni. Mi fyddwch chi wedi clywed yr ateb gan Kirsty Williams i gwestiwn blaenorol gan Darren Millar am sut rŷm ni’n gallu ehangu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg, a hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r elfennau gwahanol yma yn mynd i fod yn rhan ganolog o sut ŷm ni’n llunio’r strategaeth iaith Gymraeg newydd.

Pobl Ifanc sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol

9. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella canlyniadau addysgol pobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol? OAQ(5)0053(EDU)

Weinidog, mae plentyn yn fy etholaeth sydd ag anghenion dysgu ychwanegol wedi bod yn aros ers dros saith mis am apwyntiad gyda gwasanaethau iechyd meddwl y plant a’r glasoed, ac yn y cyfamser, nid yw wedi bod yn cael mwy nag ychydig oriau’n unig o addysg bob wythnos. Sut y gallwn ddisgwyl i bobl ifanc fel hyn gyrraedd eu potensial llawn os ydym yn eu hatal rhag cael addysg gyflawn a chyfoethog? Weinidog, pa gamau rydych yn eu cymryd i sicrhau bod plant a phobl ifanc, fel y plentyn chwech oed hwn, sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, yn cael yr addysg amser llawn y mae ganddynt hawl iddi?

Os oes gan yr Aelod achosion unigol, yna yn amlwg gall ysgrifennu ataf ac fe awn ar eu trywydd gyda’r awdurdodau priodol. Ond gadewch i mi ddweud hyn o ran y weledigaeth gyffredinol: bydd y Bil anghenion dysgu ychwanegol yn cael ei gyhoeddi cyn y Nadolig, ac rwy’n edrych ymlaen at y ddadl a’r drafodaeth y byddwn yn ei chael yn y lle hwn ac yn y pwyllgor, a’r drafodaeth ehangach ledled Cymru yn ystod proses seneddol y Bil hwnnw. Byddaf yn cyhoeddi’r cod ymddygiad a’r canllawiau statudol, ar gyfer cyflwyno’r Bil hwnnw ddechrau mis Chwefror, felly gall yr Aelodau adolygu, astudio a chraffu, nid yn unig y ddeddfwriaeth sylfaenol, ond yr is-ddeddfwriaeth weithredu yn ogystal. Ond mae’r ddau ddarn o ddeddfwriaeth yn ffurfio rhan o raglen drawsnewid lawer ehangach a lansiwyd gennyf rai wythnosau’n ôl gyda datganiad ysgrifenedig yn addo y byddwn yn sicrhau bod yr holl ddarparwyr anghenion dysgu ychwanegol yn cael digon o gefnogaeth a’r hyfforddiant angenrheidiol. Byddwn hefyd yn sicrhau bod adnoddau’n cael eu darparu i alluogi awdurdodau lleol ac eraill i gyflwyno’r rhaglen drawsnewid fel rydym yn rhagweld.

Helo. [Chwerthin.] Iawn. [Chwerthin.] Rydym i gyd yn edrych ymlaen yn arw at gyhoeddi’r Bil hwn. Rwy’n ddiolchgar iawn i chi am gyfarfod â mi yr wythnos diwethaf gyda Choleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant a Diabetes UK ac am wrando ar y pryderon ynglŷn â’r angen i gynnwys dyletswydd yn y Bil i ddiwallu anghenion meddygol plant yn yr ysgol. A allwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn â’ch syniadau am hynny ar hyn o bryd?

Roedd yn fwy o syndod i mi nag yr oedd i bobl eraill. [Chwerthin.]

Rwy’n ddiolchgar i Lynne Neagle am y sgwrs yr wythnos diwethaf ynglŷn â’r materion hyn, ond hefyd am y gwaith y mae hi wedi bod yn ei wneud fel Cadeirydd y pwyllgor hwn ar baratoi’r pwyllgor er mwyn sicrhau ein bod yn craffu ar y ddeddfwriaeth hon mor fanwl ag y gallwn. Yn y pen draw, byddai’n well gennyf weld Deddf dda yn hytrach na Bil cyflym a chredaf ei bod yn bwysig fod y pwyllgor yn chwarae rhan bwysig yn hynny o beth. O ran y sgwrs a gawsom yr wythnos diwethaf gyda Diabetes UK Cymru a’r coleg brenhinol, gwnaeth yr hyn a oedd ganddynt i’w ddweud argraff fawr arnaf. Credaf eu bod wedi cyflwyno achos cryf ac effeithiol iawn dros wneud newidiadau sylweddol i’r ffordd rydym yn cyflwyno’r ddeddfwriaeth hon a’r ffordd y bydd y rhaglen drawsnewid yn gweithio, a nodwyd pob un o’r pwyntiau hynny a byddwch yn gweld cyfeiriadau atynt wrth i ni fwrw ymlaen â’r ddeddfwriaeth.

Mae gan bobl fyddar yr hawl i gael mynediad at addysg. Lleisiodd etholwyr eu pryder wrthyf nad yw hyn yn digwydd fel y dylai ac nad yw rhai o’r staff yn gallu arwyddo ar lefel uwch na lefel 1 neu lefel 2. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ymgysylltu â myfyrwyr Iaith Arwyddion Prydain sydd wedi pasio lefel 6 i’w hannog i weithio yn y sector addysg, fel y gallwn geisio gwella problemau’n ymwneud â mynediad?

Rwyf eisoes wedi cyfarfod ar sawl achlysur â myfyrwyr byddar, teuluoedd, sefydliadau ac ymarferwyr sy’n gweithio gyda’r bobl hynny er mwyn sicrhau bod y ddeddfwriaeth hon yn cyrraedd pob rhan o’r gymuned addysgol a bod pob rhan o’n cymuned yn cael yr addysg sydd ei hangen arnynt ac y maent yn ei haeddu. Bydd pobl fyddar yn rhan annatod o hynny, ac fel rhan o’r rhaglen drawsnewid ehangach—nid y ddeddfwriaeth yn unig, ond y rhaglen ehangach—byddwn yn sicrhau bod addysg yn cael ei chyflwyno gan bobl sydd â’r hyfforddiant priodol ym mhob iaith, boed yn Iaith Arwyddion Prydain, yn Saesneg neu’n Gymraeg.

Gan hawlio y bydd yn

Trawsnewid y cymorth addysg ar gyfer plant a phobl ifanc

â chyflyrau ar y sbectrwm awtistig, nid yw’r ‘Diweddariad o’r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig’, a gyhoeddwyd heddiw, ond yn cyfeirio wedyn, mewn gwirionedd, at y Bil y cyfeirioch chi ato eisoes, sef Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru). Sut y byddwch yn rhoi sicrwydd i rieni fel fi, sydd wedi gorfod brwydro i gael datganiad ar gyfer eu plant am ei bod yn cael ei defnyddio fel proses ddogni, tystysgrif o hawl, gan gydnabod, er enghraifft, o ran gwahardd plant nad oeddent wedi cael datganiad, a roddwyd yn y categorïau gweithredu gan yr ysgol a gweithredu gan yr ysgol a mwy, fod gwaharddiadau tymor byr wedi dyblu, pan oedd eu nifer wedi lleihau ymhlith plant yn y boblogaeth gyffredinol o blant heb ddatganiad? Onid yw’n bryder gwirioneddol y bydd y cynlluniau datblygu unigol arfaethedig yn galluogi darparwyr i ddogni’r ddarpariaeth yn y ffordd y mae rhieni wedi’i gweld yn cael ei harfer ers gormod o amser yng Nghymru a thu hwnt?

Rwy’n derbyn yn llwyr fod rhieni, ers gormod o amser, wedi gorfod brwydro ac wedi bod drwy gyfnodau anodd ac emosiynol iawn wrth ymdrechu i sicrhau’r ddarpariaeth addysgol y maent ei hangen ar gyfer eu plant, ac mae hynny’n ymwneud yn rhannol nid yn unig â chael datganiad ond â diagnosis hefyd. Mae nifer fawr o broblemau wedi bod mewn perthynas â thaith y plentyn, yn yr achos hwn drwy iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, weithiau drwy sefydliadau a strwythurau addysgol. Rwy’n derbyn bod anawsterau sylweddol a methiannau weithiau wedi bod yn y system honno. Mae cyflwyno’r cynllun datblygu unigol, wrth gwrs, yn ffordd o ymbellhau oddi wrth hynny. Rydym yn gobeithio ac yn rhagweld y bydd yn cyflawni, a bydd yn fater i’r Aelodau ei brofi, wrth gwrs, yn ystod y broses seneddol. Byddwn yn darparu hyblygrwydd ar gyfer pob dysgwr unigol er mwyn sicrhau bod gennym y gallu yn y cod ymddygiad i gael cynllun datblygu unigol sy’n adlewyrchu anghenion yr unigolyn yn hytrach nag anghenion y bobl sy’n darparu’r gwasanaeth yn unig. Felly, byddwn yn canolbwyntio ar yr unigolyn, ond yn sicrhau cludadwyedd y cynllun datblygu unigol hwnnw, fel y gallant gael mynediad at wasanaethau, a bydd yn cael ei gydnabod gan weithwyr proffesiynol mewn gwahanol wasanaethau ac mewn gwahanol ardaloedd. Felly, gobeithio y byddwn yn cynnal y cydbwysedd fel na fydd yn rhaid i bobl ymdrechu, ymladd ac ymgyrchu, weithiau, dros y gwasanaethau a’r addysg y maent yn eu haeddu ac y dylent ei chael heb orfod ymdrechu o gwbl. Ond byddwn hefyd yn sicrhau ein bod yn gwneud hyn mewn ffordd sydd wedi’i theilwra ar gyfer yr unigolyn.

3. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem nesaf yw cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a’r cwestiwn cyntaf, Lee Waters.

Erthygl 50

1. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am hawl Llywodraeth Cymru i ymyrryd yn yr achos yn ymwneud ag Erthygl 50 yn y Goruchaf Lys? OAQ(5)0011(CG)

Diolch am y cwestiwn. Cyfeiriaf yr Aelod at y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd ddydd Gwener diwethaf. Mae’r achos hwn yn codi materion pwysig ynglŷn â threfniadau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig a’r fframwaith ar gyfer datganoli, ac mae’n iawn i Gymru gael ei chlywed mewn perthynas â’r materion hynny, a byddwn yn cyflwyno ein hachos yn y gwrandawiad yr wythnos nesaf. Gan fod hwn yn fater o gryn ddiddordeb a phwysigrwydd i’r cyhoedd, rwyf wedi bod mor agored â phosibl yn y datganiadau a gyhoeddais a’r atebion rwyf wedi eu rhoi yn y gwahanol sesiynau, yn ogystal â dewis cyhoeddi cynnwys testun ein cyflwyniad ysgrifenedig i’r Goruchaf Lys yn ei gyfanrwydd ar-lein.

Diolch. O ystyried bod yr achos dros adael yr UE yn seiliedig, yn rhannol, ar bwysigrwydd dychwelyd pwerau i’r Senedd, a yw’r Cwnsler Cyffredinol yr un mor ddryslyd â minnau fod Llywodraeth y DU yn herio safbwynt y llys y dylai fod gan y Senedd rôl yn sbarduno hyn? A fyddai’n cytuno bod hwn yn fater i holl Seneddau’r DU, ac nid i Senedd San Steffan yn unig? Ac a yw wedi bod mewn cysylltiad â swyddogion y gyfraith eraill i sicrhau bod ein buddiannau yn cael eu diogelu?

Wel, ni allaf ddweud fy mod yn ddryslyd. Yn amlwg, mae Llywodraeth y DU wedi penderfynu ar ei llwybr gweithredu ei hun, sef cyflwyno apêl yn erbyn penderfyniad yr Uchel Lys. Mae’r cyflwyniad a gyflwynais ar ran Llywodraeth Cymru, fel Cwnsler Cyffredinol, yn nodi ein safbwynt yn glir iawn, ac sydd mewn gwirionedd yn cefnogi’r penderfyniad hwnnw nad yr uchelfraint yw’r mecanwaith priodol ar gyfer gwneud newid cyfansoddiadol sylweddol, neu mewn gwirionedd, ar gyfer gwrthdroi deddfwriaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a hefyd mewn perthynas â’r trefniadau cyfansoddiadol sy’n bodoli eisoes.

Cyfeiriaf yr Aelod at un o’r pwyntiau a wnawn yn y cyflwyniad i’r Goruchaf Lys, sy’n dweud mewn gwirionedd, os yw safbwynt Llywodraeth y DU yn gywir ac os yw’r rhesymeg a ddefnyddir yn achos Llywodraeth y DU yn gywir, y gallai’r Prif Weinidog fod wedi diddymu erthygl 50 ar unrhyw adeg, hyd yn oed heb unrhyw awdurdod ar ffurf refferendwm. Felly, dywedwn y byddai hynny’n amlwg yn ddadansoddiad gwrthnysig ac yn amlwg yn anghywir.

Nid ydym yn credu ei fod yn dangos digon o barch i’r Senedd, i’r lle hwn nac i’r deddfwrfeydd datganoledig eraill a etholwyd yn ddemocrataidd. Felly, credwn y bydd rhoi hysbysiad o dan erthygl 50 yn addasu cymhwysedd y Cynulliad a swyddogaethau Llywodraeth Cymru, fel y nodir o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Rydym yn dweud na ellir defnyddio’r uchelfraint i hepgor y statud cyfansoddiadol. Rydym hefyd yn dweud y bydd unrhyw addasiad i gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad, neu’n wir, unrhyw addasiad i swyddogaethau gweithredol o fewn y cymhwysedd datganoledig, yn galw am ystyriaeth o gonfensiwn Sewel, a bod hyn yn arfer cyfansoddiadol allweddol sy’n hanfodol i weithrediad cywir y Deyrnas Unedig. Mae’n darparu ar gyfer deialog rhwng deddfwrfeydd a etholwyd yn ddemocrataidd ynglŷn â newidiadau i’r setliad datganoli. Rydym yn dweud nad oes gan Lywodraeth y DU bŵer i’w bwtgylchedu drwy ddefnyddio’r uchelfraint, felly byddwn yn dadlau dros gadarnhau penderfyniad clir yr Uchel Lys yn achos Miller a thros wrthod apêl Llywodraeth y DU.

Ers ddoe, rwyf wedi cael y fantais o ddarllen achos y Llywodraeth sydd wedi’i argraffu, ac a fydd yn cael ei gyflwyno i’r Goruchaf Lys yr wythnos nesaf. Yn rhyfedd iawn, ymddengys ei fod yn anwybyddu’r un pwynt hanfodol a sylfaenol yn yr holl saga hon, sef bod y Llywodraeth yn ceisio sbarduno erthygl 50 o ganlyniad i benderfyniad gan bobl Prydain i gyd mewn refferendwm. Yn holl hanes yr anghydfodau cyfreithiol gyda’r Brenin yn yr ail ganrif ar bymtheg, a arweiniodd at erthygl 1 o’r Ddeddf Hawliau, ac yn dilyn achosion cyfreithiol sy’n sefydlu grym cyfyngedig y Goron mewn perthynas â’r uchelfraint, roedd y Senedd yn gweithredu fel dirprwy ar ran y bobl ac i reoli defnydd unbenaethol y Brenin o’r uchelfraint. Mae hyn yn hollol wahanol. Gofynnwyd i’r bobl eu hunain, holl bobl y Deyrnas Unedig, am eu barn ynglŷn ag a ddylem aros yn yr UE ai peidio. Pleidleisiodd y bobl o blaid gadael. Y mecanwaith ar gyfer gwneud hynny yw sbarduno erthygl 50. Nid oes gan y Senedd unrhyw rôl ychwanegol i’w chwarae yn hynny o beth. Mae’r bobl wedi dweud eu dweud. Wrth gwrs, bydd digon o gyfle i ystyried holl effeithiau canlyniadol sbarduno erthygl 50 yn y Senedd gan y bydd angen diwygio’r holl ddeddfwriaeth a gyflwynwyd mewn perthynas â’r Undeb Ewropeaidd ers 1973. Felly, ymhell o fod yn anwybyddu’r Senedd, mae hyn yn rhoi cyfle i’r Senedd wireddu dymuniadau pobl Prydain, fel y’u mynegwyd mewn refferendwm lle y dywedasant, heb amod na chyfyngiad, y dylem adael yr UE.

Ymddengys bod yr Aelod yn dweud pethau gwahanol. Ar y naill law, mae’n dweud bod refferendwm wedi bod, a bod hynny’n awdurdodi’r Prif Weinidog i fwrw iddi ac osgoi’r Senedd yn gyfan gwbl, ac yna, ar y llaw arall, mae’n dweud bod hyn yn ymwneud â grymuso’r Senedd. Ond mae’r sefyllfa’n glir iawn: mae gennym gyfansoddiad, mae gennym drefniadau yn eu lle rhwng y Llywodraethau datganoledig, ac yn cwmpasu hyn oll, mae gennym fater rheolaeth y gyfraith. Mae’r Aelod yn dweud yn glir iawn y dylem anwybyddu’r setliad cyfansoddiadol. Mae’n dweud y dylem anwybyddu’r setliad cyfansoddiadol, ac mae hefyd yn dweud nad yw rheolaeth y gyfraith yn berthnasol. Dywedais yn glir iawn ddoe fod dau reswm pam ein bod wedi cyflwyno’r cyflwyniad hwn. Nid yw’n ymwneud â manteision neu anfanteision y refferendwm ei hun. Mae’n ymwneud â sefyll dros ddemocratiaeth, y cyfansoddiad a rheolaeth y gyfraith. Rwy’n pryderu ei bod yn ymddangos bod yr Aelod yn gyson yn dymuno osgoi rheolaeth y gyfraith. I un cyfeiriad yn unig y mae’r ffordd honno’n arwain.

Bil Cymru

2. Pa drafodaethau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u cynnal gyda swyddogion y gyfraith ynglŷn â Bil Cymru? OAQ(5)0013(CG)[W]

Gŵyr yr Aelod fod yr ateb hwn yn amodol ar gonfensiwn sefydledig swyddogion y gyfraith. Mae Llywodraeth Cymru yn galw am welliannau i’r Bil wrth iddo fynd drwy Dŷ’r Arglwyddi. Fe fyddwch yn deall y rhesymau dros gonfensiwn swyddogion y gyfraith, a thra bo natur a chynnwys trafodaethau o’r fath yn gyfrinachol, gallaf roi gwybod i’r Aelod fy mod wedi ymweld â’r Alban ac wedi cynnal cyfarfod â’r Arglwydd Adfocad i drafod materion o ddiddordeb cyffredin.

Diolch i’r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb ac am wthio ffiniau’r confensiwn mor bell ag y mae’n gallu tu mewn i’r Siambr yma. Nid wyf i’n gwybod os yw’n gwneud gwialen i’w gefn ei hunan, ond mae lot mwy o gwestiynau yn cael eu gosod iddo fe nawr ei fod e’n ateb cwestiynau, so mae hwnnw’n rhywbeth i’w gofio. Un peth sydd yn wir am Fil Cymru, mae’n debyg, yw, yn anffodus, na fyddwn ni’n cael awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân—rhywbeth sydd wedi cael ei ofyn amdano ers blynyddoedd gan Blaid Cymru a rhywbeth mae’r Prif Weinidog yn fwy diweddar wedi gofyn amdano hefyd. A derbyn, am y tro, nad yw e’n debyg o ddigwydd, fel prif swyddog y gyfraith yng Nghymru i bob pwrpas, beth mae fe’n ei wneud ar hyn o bryd i ddelio â’r ffaith na fydd awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân ac mi fydd, felly, problemau ac anawsterau’n codi yn sgil hynny? Beth mae’n ei wneud hefyd i baratoi, gyda phroffesiwn y gyfraith yng Nghymru, dros y pump i 10 mlynedd nesaf, i adeiladu’r achos drachefn ar gyfer awdurdodaeth, achos fe ddaw cyn bo hir mewn Bil Cymru arall?

Mae’r Aelod yn tynnu sylw at bwynt hynod o bwysig, ac mae’n debyg fod yn rhaid i mi gyfaddef nad ydym, ar y cam hwn, yn mynd i weld sefydlu yr awdurdodaeth benodol i Gymru yr ystyriwn bob amser ei bod yn broses drosiannol resymol. Roedd yn ddiddorol iawn clywed tystiolaeth yr Arglwydd Brif Ustus i’r Pwyllgor Cyfiawnder yn y Senedd, pan ofynnwyd iddo ynglŷn â’r mater hwn. Ac roedd yn iawn i ddweud bod hwn yn fater gwleidyddol, ond cyfeiriodd yn benodol iawn at y ffaith fod yna gorff cynyddol o gyfreithiau Cymreig, gyda deddfwriaeth arwyddocaol, fel Deddf Tai (Cymru) 2014, a deddfau eraill. Mae mater awdurdodaeth yn creu heriau cynyddol. Ac unwaith eto, credaf mai gwir effaith hyn oll yw y bydd yna, yn anochel, awdurdodaeth benodol i Gymru; credaf y bydd hynny, yn anochel, yn arwain at awdurdodaeth ar wahân ar ryw adeg yn y dyfodol. Gallwn reoli’r systemau sydd gennym am y tro, ond yn amlwg, rydym ar y llwybr tuag at newid awdurdodaethol arwyddocaol.

Hoffwn wneud y pwynt rwyf wedi ei wneud sawl tro, fod yna ryw fath o fytholeg o ran y math o statws sydd wedi datblygu mewn perthynas â’r cysyniad o awdurdodaeth, ac mae hynny’n anwybyddu’r ffaith mai’r rheswm dros fod eisiau creu sail awdurdodaethol i gyfraith Cymru yw ei fod yn ymwneud, yn y pen draw, â gweinyddu cyfiawnder yn effeithlon. A dyna pam y credaf ein bod, yn anochel, ar y llwybr hwnnw, ac fe fyddwn yn cyrraedd yno. Mae’r posibilrwydd o sefydlu rhyw fath o gomisiwn cyfiawnder ym Mil Cymru yn rhywfaint o gysur i mi, a chredaf y bydd hwnnw’n ein galluogi i barhau i edrych ar hynny.

Credaf, hefyd, fod datblygiadau mewn perthynas â phenodi llywydd tribiwnlysoedd ac ati hefyd yn rhoi syniad ynglŷn â’r cyfeiriad y mae deddfwriaeth Cymru a gweinyddu cyfiawnder yn anelu tuag ato, ac yn y pen draw, y cyfeiriad y mae mater yr awdurdodaeth yn datblygu ac yn anelu tuag ato.

Heb geisio perswadio y Cwnsler Cyffredinol i fynd i faes gwleidyddol, a fyddai o’n cytuno mai un o’r gwendidau mawr yn yr holl drafodaethau yr ydym ni wedi bod yn eu canol, yn enwedig yn yr ail Dŷ, ynglŷn â Bil Cymru, ydy amharodrwydd swyddogion cyfraith a Gweinidogion y Deyrnas Unedig i gyfnerthu a chysoni cyfansoddiad Cymru yn gliriach, ar gyfer pobl Cymru, ac ar gyfer gwleidyddion Cymru, ac, yn wir, ar gyfer pawb o ddinasyddion Cymru? Ac, a oes modd iddo fo, fel ein prif gyfreithiwr ni yng Nghymru, gynnal trafodaethau uniongyrchol gyda swyddogion cyfraith yng ngweddill y Deyrnas Unedig, ynglŷn â’r angen difrifol i ddod â chyfansoddiad Cymru o leiaf ychydig bach yn debycach yn ei eglurder i gyfansoddiad Gogledd Iwerddon a’r Alban?

Diolch am y cwestiwn. Ac unwaith eto, mae’n debyg y dylwn ailadrodd, er bod cyfarfodydd gyda swyddogion y gyfraith yn digwydd, fod pynciau trafod y cyfarfodydd hynny, am resymau amlwg, yn gyfrinachol, ac eithrio, yn amlwg, y ffaith fod yna faterion o ddiddordeb cyffredin i’w trafod.

Yn sicr, mae’n tynnu sylw at bwynt a nodir yn adroddiad Comisiwn y Gyfraith, sy’n ymdrin yn helaeth â materion yn ymwneud â chodeiddio, ac sy’n ymdrin, rwy’n meddwl, â’r pwyntiau a nodwch o ran yr angen am fframwaith clir a hygyrchedd mewn perthynas â deddfwriaeth Cymru. Mae hynny’n rhywbeth sy’n cael ei adolygu’n helaeth ar hyn o bryd, a gobeithiaf allu gwneud datganiad ar yr union bwynt hwn ar ryw adeg yn y dyfodol.

Y Bil Diddymu Mawr

3. Pa asesiad y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’i wneud o effaith tebygol Bil Diddymu Mawr Llywodraeth y DU ar ddeddfwriaeth Cymru? OAQ(5)0012(CG)

Gŵyr yr Aelod fod y cwestiwn hwn yn amodol, unwaith eto, ar gonfensiwn sefydledig swyddogion y gyfraith. Er hynny, gallaf roi sicrwydd i’r Aelod y bydd Llywodraeth Cymru’n gweithio’n ddiflino i sicrhau bod sefyllfa Cymru yn cael ei diogelu, a bydd hynny, wrth gwrs, yn cynnwys ystyriaeth ofalus iawn o effaith debygol Bil Diddymu Mawr Llywodraeth y DU ar ddeddfwriaeth Cymru, a pha un a fyddai deddfwriaeth gan y Cynulliad hwn yn briodol.

Diolch am yr ateb hwnnw. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd sy’n berthnasol i’r meysydd sydd wedi eu datganoli yn cael eu trosglwyddo i Gymru?

Wel, mae’n siŵr y bydd yr Aelod yn ymwybodol fod cryn dipyn o waith yn mynd rhagddo, ar draws Llywodraeth Cymru, i sicrhau cymaint o ddylanwad ag y gallwn yn y trafodaethau gyda’r DU, ac wedi hynny, mewn trafodaethau ffurfiol â’r UE, er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i Gymru. Mae is-bwyllgor y Cabinet ar y trefniadau pontio Ewropeaidd yn rhoi cyfeiriad strategol i waith Llywodraeth Cymru mewn perthynas â’r DU yn gadael yr UE, ac wrth gwrs, sefydlwyd grŵp cynghori ar Ewrop, sy’n cynnwys pobl fusnes, gwleidyddion a phobl eraill ag arbenigedd mewn perthynas ag Ewrop, a bydd yn rhoi cyngor ar effaith eang y DU yn gadael yr UE ar Gymru a sut y gallwn oresgyn heriau a manteisio ar gyfleoedd i sicrhau dyfodol llewyrchus a pherthynas gadarnhaol barhaus rhwng Cymru ac Ewrop.

Credaf y dylid cyfeirio’r Aelod hefyd at baragraff 10 yn y cyflwyniadau cyfreithiol, sydd ar gael ar-lein ac a gyflwynwyd gerbron y Goruchaf Lys, gan fod y rheini, rwy’n credu, yn nodi ein safbwynt mewn gwirionedd—safbwynt Llywodraeth Cymru—mewn perthynas â rhai o’r materion hynny. Mae paragraff 10 yn y cyflwyniad hwnnw yn dweud bod nifer fawr o swyddogaethau datganoledig Llywodraeth Cymru yn deillio o gyfraith yr UE, ac y byddant felly’n cael eu colli wedi i’r DU dynnu’n ôl o gytuniadau’r UE. Yna, rydym yn rhestru nifer o enghreifftiau: er enghraifft, dynodiad ardaloedd cadwraeth arbennig, dynodiadau ar gyfer cynllun masnachu allyriadau corff adnoddau naturiol Cymru. Mae Gweinidogion Cymru hefyd wedi cael eu dynodi’n awdurdod cymwys o dan yr honiadau am faeth ac iechyd, ac mae gan Lywodraeth Cymru a Gweinidogion Cymru lu o’r cymwyseddau hyn, a byddant yn diflannu mewn gwirionedd.

Bydd angen sylfaen ddeddfwriaethol newydd ar gyfer y swyddogaethau hyn, i’r graddau y cânt eu cynnal neu eu haddasu, wedi i gymhwysedd cytuniadau’r UE ddod i ben. Y broblem sydd gennym gyda’r Bil diddymu mawr ar hyn o bryd yw nad oes gennym unrhyw syniad mewn gwirionedd sut yn union y byddai’n gweithio, yr hyn y gallai ei gynnwys, ond credaf mai’r hyn sy’n glir iawn o ran ein sefyllfa yw bod yn rhaid i Lywodraeth y DU gydnabod bod yn rhaid i unrhyw bwerau yn y meysydd datganoledig, a ddelir ar hyn o bryd ar lefel yr UE, gael eu harfer ar lefel ddatganoledig, oni bai bod rheswm clir wedi’i gytuno pam y dylent gael eu cadw gan Lywodraeth y DU. A phe bai hynny’n digwydd, byddai’n rhaid cael mecanwaith ar gyfer gwneud penderfyniadau ar y cyd yn y meysydd hyn.

Wel, ni fydd yn syndod i’r Cwnsler Cyffredinol fy mod i, fel aelod o Blaid Annibyniaeth y DU, yn amlwg yn croesawu’r ffaith fod y Prif Weinidog yn gweithio ar Ddeddf Seneddol newydd i ddiddymu’r ddeddf anghyfiawn honno, Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972. Fodd bynnag, i nodi safbwynt UKIP mewn perthynas â hyn, er ein bod yn cefnogi’r Ddeddf, rydym hefyd yn benderfynol na ddylai ddiddymu cymwyseddau’r Llywodraeth hon mewn unrhyw ffordd, a bod yn rhaid i ni yng Nghymru gael rhyddid i newid neu ddiwygio unrhyw ran o’r Ddeddf sy’n effeithio ar y meysydd a ddatganolwyd i’r Cynulliad hwn. A yw’r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno ei bod yn hanfodol ein bod nid yn unig yn cadw’r cymwyseddau a roddwyd i ni, ond y byddwn hefyd yn gallu diwygio’r meysydd datganoledig sydd wedi’u cynnwys yn y Ddeddf i wasanaethu pobl Cymru yn y ffordd orau?

Yn sicr, dadl Llywodraeth Cymru yw na ddylid diddymu unrhyw ran o’r meysydd datganoledig hynny, ac y dylid ymdrin â’r pwerau hynny a ddelir yn Ewrop ar hyn o bryd, ac sy’n ymwneud â’r meysydd datganoledig hynny, fel yr amlinellais. Felly, croesawaf sylwadau’r Aelod. Byddwn yn ei annog i fynd gam ymhellach a chefnogi’r cysyniad o reolaeth y gyfraith mewn perthynas â’r materion sydd gerbron y Goruchaf Lys hefyd.

Y Ddeddf Hawliau Dynol

4. Pa asesiad y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’i wneud o effaith y Ddeddf Hawliau Dynol ar ddeddfwriaeth Cymru? OAQ(5)0010(CG)

Bydd yr Aelodau’n ymwybodol fod fy nghyngor yn gyfreithiol freintiedig. Fodd bynnag, fe fydd yr Aelodau’n gwybod bod y Ddeddf Hawliau Dynol yn rhan annatod o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, ac o ganlyniad, ei bod yn effeithio ar ddeddfwriaeth a wneir gan y Cynulliad a Gweinidogion Cymru.

Diolch. Mae Llywodraeth y DU wedi nodi ei bod yn bwriadu diddymu’r Ddeddf Hawliau Dynol, ac fe fyddwch yn ymwybodol, Gwnsler Cyffredinol, o ymgyrch Amnesty International yn erbyn hyn. Yn wahanol i’r hyn yr hoffai ei gwrthwynebwyr i chi ei gredu, mae’r Ddeddf yn amddiffyn rhyddid, diogelwch ac urddas pobl gyffredin, ac yn helpu pobl i ddwyn awdurdod i gyfrif pan fydd pethau’n mynd o chwith. Yn wir, bu’r Ddeddf yn allweddol wrth gynorthwyo teuluoedd y rhai a fu farw yn nhrychineb Hillsborough i ddatgelu’r gwirionedd o’r diwedd. A wnewch chi, Gwnsler Cyffredinol, amlinellu goblygiadau diddymu’r Ddeddf Hawliau Dynol i ni yng Nghymru?

Diolch am y cwestiwn, ac fel y nodwyd eisoes gan y Prif Weinidog yn ei dystiolaeth i Bwyllgor Dethol Tŷ’r Arglwyddi ar yr UE, mae Llywodraeth Cymru yn llwyr wrthwynebu diddymu Deddf Hawliau Dynol 1998, ac yn yr un modd, mae’n gwrthwynebu unrhyw dynnu’n ôl o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Mae’r Ddeddf Hawliau Dynol yn effeithio ar Weinidogion Cymru a’r Cynulliad mewn dwy ffordd uniongyrchol iawn. Yn gyntaf, maent yn awdurdodau cyhoeddus at ddibenion Deddf Hawliau Dynol 1998, sy’n golygu na allant weithredu mewn ffordd sy’n anghydnaws â hawliau’r confensiwn. Ac yn ail, mae dyletswydd statudol ar Weinidogion Cymru yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Cymru 2006 i beidio â gweithredu neu ddeddfu yn anghydnaws â hawliau’r confensiwn, sy’n golygu bod unrhyw ddarpariaeth ym Miliau’r Cynulliad y tu allan i gymhwysedd y Cynulliad os yw’n anghydnaws â hawliau’r confensiwn. Mae bron yn sicr y byddai mynnu bod y Cynulliad yn cydymffurfio â Deddf Hawliau Prydeinig yn galw am gydsyniad y Cynulliad, drwy gynnig cydsyniad deddfwriaethol.

A gaf fi gyfeirio’n benodol at ymgyrch Amnesty International, sy’n ymgyrch rwy’n ei chefnogi’n frwd, gan fod y Ddeddf Hawliau Dynol wedi cael ei chamddisgrifio’n ddybryd gan rai sefydliadau a phleidiau gwleidyddol? I mi, mae’n un o drysorau ein cyfansoddiad, ein fframwaith deddfwriaethol. Mae rhai o’r pwyntiau a nodwyd yn ymgyrch Amnesty International yn ddiddorol iawn, ac roeddwn yn siomedig iawn o weld bod Network Rail wedi gwahardd eu posteri. Ond gan gyfeirio at y sylwadau a wnaed, er enghraifft, gan Becky Shah, a gollodd ei mam yn Hillsborough, dywedodd:

Heb y Ddeddf Hawliau Dynol ni fyddem byth wedi cael yr ail gwest. Heb y Ddeddf Hawliau Dynol ni fyddem byth bythoedd wedi cael y rheithfarn o ladd anghyfreithlon yn erbyn y rhai a oedd ar fai. Roedd yn ddeddfwriaeth gwbl hanfodol.

Unwaith eto, rhieni John Robinson, a fu farw yn 2006 o ddueg wedi rhwygo, lle y dywedodd y teulu, unwaith eto, pan gododd mater ail gwest, ei bod yn

hanfodol i bawb, o bob cefndir. Mae’n sicrhau mynediad at gyfiawnder i’r dyn yn y stryd. O’r cychwyn cyntaf, yr unig beth roeddem am ei wybod oedd y gwir, ac ni chawsom hynny gan gwest cyntaf annigonol. Roedd defnyddio’r Ddeddf Hawliau Dynol yn gymorth i ni gyflawni ein nod.

I mi, fy marn bersonol a barn Llywodraeth Cymru yw ein bod yn ei gwrthwynebu. Ni allai’r syniad o Ddeddf Hawliau i ddisodli’r Ddeddf Hawliau Dynol ragorol a’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol wneud dim, yn fy marn i, heblaw gostwng safonau hawliau dynol yn ôl pob tebyg, a beth fyddai hynny’n ei ddweud am statws y Deyrnas Unedig yn y byd—ar yr adeg hon, gyda phopeth sy’n digwydd, ein bod yn dweud mai ein hamcan yn awr yw gostwng safon hawliau dynol?

Erthygl 50

5. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad ynglŷn â’i gyfraniad i achos apêl erthygl 50 gerbron y Goruchaf Lys? OAQ(5)0014(CG)[W]

Cyfeiriaf yr Aelod at y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd ddydd Gwener diwethaf, gan atodi fy nghyflwyniadau ysgrifenedig i’r llys. Fel y dywedais yn gynharach, mae’r achos hwn yn tynnu sylw at faterion pwysig yn ymwneud â threfniadau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig, a’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer datganoli. Mae’n iawn i Gymru gael ei chlywed mewn perthynas â’r materion hynny, a byddwn yn cyflwyno ein hachos yn y gwrandawiad yr wythnos nesaf.

Diolch am yr ateb, a chytunaf gyda’r rheswm bod Llywodraeth Cymru yn rhan o’r achos yma. Os ydw i wedi darllen y cynnig i’r Goruchaf Lys yn iawn, mae Llywodraeth Cymru o’r farn y dylid ‘trigger-o’ erthygl 50 drwy Fil gerbron Tŷ’r Cyffredin—dim cynnig neu bleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin, ond Bil. Os felly, a ydych chi wedi ystyried y math o Fil a fyddai’n addas ar gyfer y broses yna? A fyddai’r Bil, er enghraifft, yn cynnwys darn penodol yn ymwneud â Chymru a deddfwriaeth Ewropeaidd sydd yn weithredol yng Nghymru a pharhad y ddeddfwriaeth yna? Ac a ydych chi o gwbl wedi trafod gyda swyddogion y gyfraith eraill sut y byddai Bil o’r fath yn gallu neilltuo amser i barchu penderfyniad pobl Prydain gyfan yn y refferendwm tra’n parchu hefyd lle’r Cynulliad hwn yn y broses ddemocrataidd?

Mae’r Aelod yn nodi pwynt pwysig iawn yn yr ystyr y bydd yn rhaid i ni feddwl y tu hwnt i’r canlyniad yn y pen draw. Os caiff y dyfarniad ei gadarnhau, a bod angen i’r Senedd ddeddfu, yna mae rhagor o faterion yn codi: yn gyntaf, mewn perthynas â chonfensiwn Sewel, yn yr ystyr y bydd y Bil yn cael effaith anochel ar y setliad datganoli, a byddai llais gennym ar y cam hwnnw. Yr hyn rwy’n ei obeithio—ac unwaith eto, credaf mai dyma’r sylwadau a wnaed gan Brif Weinidog Cymru o bryd i’w gilydd—yw y byddai Llywodraeth y DU yn gweithio ar y cam hwnnw i geisio consensws rhwng holl Lywodraethau datganoledig y Deyrnas Unedig i weithio ar y cyd tuag at nod cyffredin, er mwyn sicrhau bod lleisiau pob rhan o’r Deyrnas Unedig yn cael eu clywed.

Croesawaf safbwynt cadarn y Cwnsler Cyffredinol ynglŷn â sicrhau bod llais Cymru yn cael ei glywed yn y Goruchaf Lys. Teimlaf yn gryf fod hynny’n iawn ac yn briodol. A fuasai’n cydnabod bod y meysydd cymhwysedd y cyfeiriodd atynt, wrth gwrs, yn cynnwys amaethyddiaeth a datblygu gwledig, sy’n faes cymhwysedd amlwg iawn yng Nghymru? Er ei bod yn iawn y dylai’r hyn a ddaw o’r gwrandawiad apêl a’r Ddeddf ddiddymu ddilynol gydnabod lle y mae’r cymwyseddau, dylent hefyd gydnabod lle y mae’r llwybrau cyllido. Mae unrhyw awgrym y gallai’r cymwyseddau aros yma, ond bod y cyllid—neu o dan ryw fframwaith, y cymwyseddau cyllido hyn—yn diflannu i ben draw’r M4, yn anghywir a bod yn onest ac yn beryglus iawn i Gymru.

Yn sicr, cytunaf â’r hyn a ddywed yr Aelod. Mae unrhyw awgrym, ar y naill law, fod cymhwysedd yn dod i’r Cynulliad yn ein hardal ddatganoledig, ond bod yr arian yn cael ei symud i gorff arall, boed yn San Steffan neu ble bynnag, yn codi materion difrifol iawn o ran lleihau datganoli, a newid sylweddol yng nghyfeiriad y setliad datganoli, ac yn sicr, o ran tanseilio’r refferendwm a gynhaliwyd yng Nghymru a’r broses seneddol mewn perthynas â Deddf Llywodraeth Cymru, a hefyd o ran y trafodaethau a’r ddeddfwriaeth sy’n mynd drwy’r Senedd ar hyn o bryd mewn perthynas â Bil Cymru. Felly, buaswn yn gwrthod yr ymagwedd honno’n llwyr, a buaswn yn cadarnhau, o ran y cyfrifoldebau a ddaw i Gymru o fewn y fframwaith datganoledig, y dylent hefyd ddod â’r gallu i gyflawni’r cyfrifoldebau hynny, sy’n golygu’r cyllid ar gyfer y meysydd hynny.

Ymgyfreitha Sifil a Llysoedd Hawliau Bychain

6. Pa sylwadau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u gwneud i Lywodraeth y DU ynghylch effaith y newidiadau arfaethedig i ymgyfreitha sifil a llysoedd hawliadau bychain? OAQ(5)0008(CG)

Diolch am y cwestiwn. Rydym yn parhau i gyflwyno sylwadau. Mae’r newidiadau arfaethedig i ymgyfreitha sifil a hawliadau bychain yn debygol o gael effeithiau difrifol ar bobl ledled Cymru, ac rydym yn parhau i herio Llywodraeth y DU parthed diwygiadau sy’n cyfyngu ar fynediad at gyfiawnder.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw. A ydych chi, Gwnsler Cyffredinol, yn cytuno bod hwn yn gam pellach tuag at gyfyngu ar hawliau a mynediad pobl gyffredin at gyfiawnder drwy’r system llysoedd?

Yr ateb syml i’r cwestiwn hwnnw yw ‘ydw’. Fe ymhelaethaf i’r graddau ein bod yn parhau i gyflwyno sylwadau i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ynglŷn â’i llu o ddiwygiadau i’r system gyfiawnder i sicrhau bod mynediad at gyfiawnder ar gael i bawb yn y gymdeithas, gan gynnwys y rhai mwyaf agored i niwed. Mae gennym bryderon difrifol am ansawdd y dystiolaeth a ddarparwyd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder i gefnogi ei chynigion i ddiwygio’r broses ar gyfer hawliadau anafiadau chwiplach i’r meinwe meddal y mae’n ymgynghori arni ar hyn o bryd. Wrth gwrs, yr wythnos diwethaf, adroddodd ‘The Law Society Gazette’ fod y data yn y papur ymgynghori wedi dyddio mewn gwirionedd a gallai, o bosibl, fod yn agored i adolygiad barnwrol. Felly, rydym yn gwasgu ar Lywodraeth y DU i bwysleisio pa mor bwysig yw sicrhau bod hawliau pawb yn cael eu diogelu.

Un o’n pryderon yw y buasai’r cynnig i gynyddu’r terfyn hawliadau bychain o £1,000 i £5,000 yn rhwystro llawer o bobl sydd wedi dioddef anaf, gan golli’r hawl i gyngor cyfreithiol am ddim. Rydym yn pryderu ynglŷn â chryfder y dystiolaeth ategol. Rydym hefyd yn pryderu ynglŷn ag ar ba sail y mae hyn yn symud ymlaen, oherwydd un o’r amcanion mewn perthynas â’r elfen anafiadau chwiplach i’r meinwe meddal yw darparu cap ar iawndal o £450, sy’n llawer is na’r cyfyngiad ar hawliadau bychain ar hyn o bryd. Felly, os mai dyna oedd y nod, buasai rhywun yn gofyn pam y mae hyn yn digwydd mewn gwirionedd. Wel, mae’n rhaid i chi edrych arno i weld y cyfeiriad y mae’n mynd iddo’n fwy cyffredinol, a chynyddu’r terfyn hawliadau bychain yw hwnnw. Buasai rhywun yn gofyn pam y mae hynny’n digwydd ac er budd pwy. Roedd yn ymddangos yn glir iawn i mi fod lobi’r diwydiant yswiriant yn hynod o bwerus ac yn hyrwyddo cyfres o ddiwygiadau i bob pwrpas. Mae Llywodraeth y DU yn ymgynghori ar y diwygiadau hynny. Buasai’n rhaid i mi ddweud bod hon yn frwydr sydd wedi para ers nifer o ddegawdau. Mae pob diwygiad sy’n digwydd yn arwain at lai o fynediad at gyfiawnder i bobl sydd wedi’u hanafu a chynnydd yn elw’r diwydiant yswiriant. Nid wyf wedi gweld sefyllfa eto lle y mae diwygio wedi lleihau iawndal ac wedi arwain at ostyngiadau ym mhremiymau’r diwydiant yswiriant. Rwy’n credu ei fod yn achos pryder os mai dyna yw canlyniad posibl y diwygiadau hyn. Felly, fel y dywedaf, mae ymgynghoriad ar y gweill. Bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb a byddwn yn rhoi cryn ystyriaeth i gynnwys yr ymateb hwnnw i’r broses ymgynghori.

Cydraddoldeb Rhywiol yn y Proffesiwn Cyfreithiol

7. Pa drafodaethau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u cael ynghylch hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol yn y proffesiwn cyfreithiol yng Nghymru? OAQ(5)0009(CG)

Fel Cwnsler Cyffredinol, nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau penodol eto ynghylch hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol o fewn y proffesiwn cyfreithiol yng Nghymru. Fodd bynnag, mae cydraddoldeb yn agwedd bwysig ar fy awydd i’r sector cyfreithiol yng Nghymru gael ei goleddu a’i feithrin, ei gefnogi a’i annog i arloesi a thyfu, ond ei fod hefyd yn gynrychioliadol o’r gymdeithas y mae’n gweithredu ynddi.

Diolch i’r Cwnsler Cyffredinol am yr ymateb hwnnw. Mae ystadegau Bwrdd Safonau’r Bar yn dangos fod y cydbwysedd rhwng y rhywiau ymhlith bargyfreithwyr bron yn gyfartal o ran y bargyfreithwyr sy’n cael eu galw i’r bar. Ond erbyn y daw’n amser i ymarfer fel bargyfreithiwr, ceir gwahaniaeth enfawr, gyda bron ddwywaith cymaint o ddynion na menywod yn ymarfer fel bargyfreithwyr. Beth yw barn y Cwnsler Cyffredinol ynglŷn â’r hyn y gellir ei wneud i fynd i’r afael â’r mater hwn yn y proffesiwn cyfreithiol?

Er nad yw hyn, efallai, yn uniongyrchol berthnasol i’r cwestiwn, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno sylwadau mewn perthynas â’r meysydd hyn, yn enwedig ynglŷn â chyfansoddiad y Goruchaf Lys. Mae’r mater wedi cael ei godi hefyd gan y Comisiwn Penodiadau Barnwrol a chan nifer o farnwyr eu hunain. Mae’n bur bosibl fod yr Aelod yn ymwybodol o rai o’r sylwadau a wnaed gan y Farwnes Hale, yr unig aelod benywaidd o’r Goruchaf Lys. Ceir rhywfaint o ddata a allai fod o ddiddordeb i’r Aelodau: ceir 108 o farnwyr yn yr uchel lys ac mae 21 ohonynt yn fenywod a thri ohonynt yn dod o gefndir ethnig lleiafrifol. Yn y Goruchaf Lys, un yn unig o’r 12 sy’n ddynes, sef y Farwnes Hale. Dynion gwyn sydd wedi cael addysg breifat ydynt yn bennaf ac yn gyffredinol, nid ydynt yn gynrychiadol. Mae penodiadau nifer o ddirprwy farnwyr a barnwyr yr Uchel Lys dan ystyriaeth ar hyn o bryd. Mae un barnwr Goruchaf Lys i’w benodi, a phump i’w penodi maes o law yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf oherwydd ymddeoliadau. Wrth gwrs, dywedodd yr Arglwyddes Ustus Hale y dylai Goruchaf Lys y DU gywilyddio os nad yw’n cynyddu amrywiaeth. Dywedodd hefyd, wrth gwrs, fod pob un ond dau o’r 13 o benodiadau a gafwyd yn ystod y degawd y bu’n aelod o’r Llys hwnnw wedi mynychu Rhydychen neu Gaergrawnt, a bod pob un ond tri wedi mynychu ysgolion preswyl i fechgyn.

Rwy’n credu mai’r pwynt y mae’r Aelod yn ei wneud, wrth gwrs, yw y dylai ein system farnwrol fod yn gynrychiadol o’r bobl er mwyn ennyn hyder y bobl. Credaf ei bod yn glir iawn, nid yn unig o ran y sylwadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru, ond o fewn y Comisiwn Penodiadau Barnwrol ei hun a’r sector cyfreithiol ei hun, fod yna gydnabyddiaeth fod angen llawer mwy o amrywiaeth. Gan y DU y mae un o’r cyfraddau isaf o farnwyr benywaidd yn Ewrop, ac mae’n fater sy’n rhaid rhoi sylw iddo. Mae’n rhaid i ni hefyd roi sylw, rwy’n credu, i’r proffesiwn cyfreithiol ei hun, oherwydd, o’r dechrau i’r diwedd, o blith y cyfreithwyr benywaidd y caiff barnwyr eu dewis yn y pen draw. Felly, mae’n rhaid i ni ofyn pam y mae’r system wedi methu hyd yn hyn. Os edrychwn ar system Cwnsler y Frenhines, 13 y cant yn unig o’r rheini sy’n fenywod. Felly, mae yna broblemau sylweddol wedi cael eu cydnabod, rwy’n credu, ond gobeithio y bydd gwaith yn cael ei wneud i’w datrys, a sicrhau eu bod yn unol â meddylfryd Llywodraeth Cymru a sylwadau gan Lywodraeth Cymru ei hun.

4. Cwestiwn Brys: Trinity Mirror

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Rwyf wedi derbyn tri cwestiwn brys o dan Reol Sefydlog 12.66, ac rwy’n galw ar Bethan Jenkins i ofyn y cwestiwn brys cyntaf.

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am drafodaethau y mae wedi’u cael â Trinity Mirror ynghylch y cynnig i gau gwaith argraffu’r cwmni yng Nghaerdydd, gan golli 33 o swyddi ar y safle? EAQ(5)0085(EI)

Gwnaf. Cyfarfûm heddiw â thîm rheoli Trinity Mirror South Wales, lle y codais y mater gofidus hwn a mynegais fy mhryder ynglŷn â’r cynnig i gau’r wasg argraffu yng Nghaerdydd.

Diolch. Fe fyddwch yn deall fod gennyf ddiddordeb yn y maes penodol hwn, fel Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, o ystyried y byddwn yn cyflawni mwy o waith fel pwyllgor dros y pum mlynedd nesaf ar edrych ar dirlun y cyfryngau yng Nghymru a chadw a datblygu newyddiadurwyr, a’r gwaith sy’n ymwneud â newyddiadurwyr yma yng Nghymru. Dywedwyd wrthym, pan agorwyd y wasg argraffu newydd hon tua 13 mlynedd yn ôl, y buasent yn gallu sicrhau mwy o swyddi argraffu o ganlyniad i’r safle newydd hwn, yn hytrach na llai o bosibiliadau ar gyfer y dyfodol. Felly, a allwch ddweud wrthyf, fel rhan o’ch trafodaethau gyda hwy, pam fod y newid hwn wedi digwydd, sut y bydd y staff yng Nghaerdydd yn cael eu cefnogi, a lle y bydd y papurau newydd Cymraeg dyddiol ac wythnosol yn cael eu hargraffu yn y dyfodol? Buaswn wedi tybio, gyda chaffael Local World y mae’r ‘South Wales Evening Post’ yn rhan ohono yn fy rhanbarth i, y buasai mwy o achos dros gadw a chynnal y wasg argraffu hon yng Nghymru fel y gallwn weld dyfodol i newyddiaduraeth.

Fy nghwestiwn olaf yn hyn oll yw: beth yw eich pryderon, felly, os yw hon yn wasg argraffu sy’n gadael Cymru, a beth y mae hyn yn ei ddweud am ddyfodol newyddiaduraeth yng Nghymru o ystyried ein bod eisoes yn dioddef o ddiffyg democrataidd yma?

A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei chwestiynau a dweud fy mod yn cytuno’n llwyr â’i phryderon? Rwyf hefyd yn cydnabod gwaith pwysig ei phwyllgor a’i bwysigrwydd cynyddol dros y blynyddoedd nesaf wrth fynd ati i ddadansoddi tirlun y cyfryngau a’r rôl bwysig y mae cyfryngau print yn ei chwarae. Mae’r cynnig hwn yn destun ymgynghoriad ar hyn o bryd, a byddaf yn ymateb yn ffurfiol.

Yn anffodus, fel y mae’r Aelod yn ymwybodol o bosibl, nid yw’n benderfyniad sy’n cael ei wneud yma yn lleol yng Nghymru na chan dîm Media Wales. Yn hytrach, mae’n cael ei wneud gan gwmni arall o fewn grŵp Trinity Mirror. Felly, byddaf yn cyflwyno sylwadau’n uniongyrchol i’r cwmni hwnnw, lle y byddaf yn ceisio sicrwydd ynglŷn â dyfodol swyddi’r bobl yr effeithir arnynt os ydynt yn bwrw ymlaen â’r penderfyniad i gau. Yn seiliedig ar y trafodaethau a gefais gyda’r tîm lleol heddiw, rwy’n deall y buasai argraffu’n cael ei grynhoi a’i gyfuno mewn tair gwasg yn Lloegr, sef Watford, Birmingham a Rhydychen, sy’n amlwg yn annerbyniol o ystyried arwyddocâd y papurau newydd sy’n cael eu hargraffu yng Nghaerdydd ar hyn o bryd i dde Cymru.

Nawr, yn anffodus, ceir tuedd i gyfuno gweisg argraffu ar draws y DU, ac rydym yn gweld hyn wrth i werthiant papurau newydd ostwng ac wrth i weithgaredd symud tuag at bresenoldeb ar-lein yn lle hynny. Wedi dweud hynny, mae’n gwbl hanfodol—a bydd yr aelod yn cydnabod bod hon yn ddadl hirsefydlog—fod y cyfryngau print yn cydnabod yr angen i fod yn realistig o ran yr elw y mae’n disgwyl ei ennill yn yr unfed ganrif ar hugain. Wrth fod yn fwy realistig, dylai roi mwy o ystyriaeth i’r bobl sy’n cael eu cyflogi ym maes argraffu a newyddiaduraeth yn y grwpiau papur newydd hynny, pa un a ydynt yn eiddo i gwmnïau yng Nghymru neu’n eiddo i gwmnïau Prydeinig.

5. Cwestiwn Brys: Tata Steel

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adroddiadau ynghylch y posibilrwydd o golli swyddi yng ngwaith dur Tata Steel ym Mhort Talbot? EAQ(5)0086EI

Ie, rwy’n credu’n gryf fod gan ein diwydiant dur ddyfodol cynaliadwy yng Nghymru, ac rydym yn gwbl ymroddedig i wneud popeth yn ein gallu i sicrhau hyn. Fodd bynnag, ni fyddwn yn ymateb i ddyfalu yn y cyfryngau wrth i Tata archwilio opsiynau ar gyfer dyfodol y gweithfeydd yng Nghymru.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn amlwg yn cyfeirio at yr adroddiad pryderus iawn gan Reuters ddoe yn seiliedig ar e-bost a oedd yn cylchredeg ymysg yr undebau llafur a ffynonellau eraill. A fuasai’n gallu dweud ar ba bwynt y daeth yn ymwybodol o’r cynnig posibl i gau un o’r ddwy ffwrnais chwyth ym Mhort Talbot ac a soniodd am hyn yn ei lythyr at gadeirydd newydd dros dro Tata, Ratan Tata? A fuasai hefyd yn gallu dweud: mae’r Prif Weinidog wedi nodi yn y gorffennol, yn niffyg gwarantau hirdymor digonol o ran cynhyrchiant dur sylfaenol, y buasai Llywodraeth Cymru yn gofyn i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol ddefnyddio ei bwerau budd y cyhoedd i ymyrryd er mwyn atal uno—ai dyna yw safbwynt Llywodraeth Cymru o hyd? Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyfeirio yn y gorffennol at yr angen am warant hirdymor. A yw’n gallu datgan ar gyfer y cofnod na fuasai tair blynedd yn warant ddigonol yn bendant? Roedd yr adroddiad yn cyfeirio at Tata a ThyssenKrupp yn cymryd cyfran leiafrifol a’r posibilrwydd o drydydd buddsoddwr. A fuasai Llywodraeth Cymru, ar y cyd â Llywodraeth y DU, yn barod i fod yn drydydd buddsoddwr, yn amodol ar warantau priodol? Yn olaf, pe bai pob un o’r llwybrau hyn yn methu ac os na cheir gwarantau derbyniol gan Tata a ThyssenKrupp, a fuasai ef, fel y dewis olaf, yn barod i wladoli Port Talbot dros dro, fel y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu ei wneud, yn ôl dadansoddiad gan Lyfrgell Tŷ’r Cyffredin, o dan delerau’r Bil Cymru sydd gerbron y Senedd ar hyn o bryd?

A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn a dweud fy mod yn deall y pryderon a fydd wedi cael eu cyflwyno o ganlyniad i adroddiadau diweddar yn y cyfryngau? Ond mae yna lawer o adroddiadau sy’n cylchredeg ar hyn o bryd, gan gynnwys rhai mwy cadarnhaol. Rwy’n meddwl am un a gyhoeddwyd ddydd Gwener, er enghraifft, yn ‘The Guardian’ a oedd yn awgrymu bod Tata yn bwriadu cyhoeddi’n fuan y byddai pob un o’r 11,000 o swyddi yn ddiogel am ddegawd o leiaf. Nid wyf yn credu, felly, mai rôl Llywodraeth Cymru yw darparu sylwebaeth gyson ar ddyfalu yn y cyfryngau, ond yn hytrach i barhau i fod yn gadarn yn y safbwynt rydym yn ei gymryd o ran ymyrraeth bosibl.

Mae’r Aelod yn llygad ei le yn dweud y buasai tair blynedd o warantau yn annigonol. Rydym yn cytuno â’r farn honno. Fel y mae’r Aelod yn gwybod, rydym wedi bod mewn trafodaethau gyda Tata ers peth amser ynglŷn â phecyn sylweddol o gymorth a fuasai’n cydymffurfio â rheolau cymorth gwladwriaethol Ewropeaidd. Buasai’r cymorth hwnnw’n amodol ar Tata yn cytuno ar feini prawf penodol. Buasai’n para y tu hwnt i dair blynedd, buasai’n cynnwys gweithredu o leiaf ddwy ffwrnais chwyth, a buasai hefyd yn cynnwys rheolaeth leol, a fuasai yn ei thro yn ei gwneud hi’n bosibl i fuddiannau dur y DU a Chymru yn Tata i ganfod cyfleoedd newydd yn y farchnad a hefyd i ddatblygu cynhyrchion newydd ac arloesedd a fuasai’n ei roi ar sylfaen gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

Rwy’n credu’n gadarn mai’r ffordd orau o sicrhau cynaliadwyedd i Tata yw datblygu busnes cystadleuol, sydd yn ei dro yn galw am fuddsoddi mewn ymchwil ac arloesedd ac ar gyfer moderneiddio’r safleoedd sydd wedi’u cynnwys yn nheulu Tata Steel y DU. Mae’r Aelod yn gofyn cwestiwn ynglŷn â’r camau y gallai Llywodraeth y DU eu rhoi ar waith mewn perthynas ag uno posibl a buaswn yn dweud y dylai Llywodraeth y DU wneud popeth yn ei gallu i sicrhau cynhyrchiant dur hirdymor yn y DU. Mae’n anffodus na roddwyd digon o sylw yn natganiad yr hydref i’r camau gweithredu a’r ymyrraeth y gellid eu cyflawni ar unwaith, ond rwy’n credu bod yr Aelod yn iawn i ddweud y dylai Llywodraeth y DU ystyried pob un o’r dulliau sydd ar gael iddi er mwyn sicrhau bod swyddi’n ddiogel ar safleoedd Tata Steel ledled Cymru ac yn wir y DU.

O ran y cymorth y buasem yn ei gynnig, fel y dywedaf, buasem yn disgwyl i’r amodau gynnwys gwarant o fwy na thair blynedd—pum mlynedd, fan lleiaf—yn ogystal â gwarantu o leiaf ddwy ffwrnais chwyth. Rwy’n hyderus, fel y dywedaf, fod cyfeiriad teithio y sector dur yng Nghymru dros y 12 mis diwethaf yn un y gallwn fod yn falch ohono. Mae pob safle cynhyrchu dur yn dangos canlyniadau cadarnhaol ond o fewn teulu Tata, rwy’n credu bod y daith a deithiwyd fel rhan o’r bont wedi bod yn drawiadol iawn ac mae’n argoeli’n dda ar gyfer y dyfodol.

A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am y gyfres honno o atebion, gan fy mod yn credu ei bod yn bwysig fod y gweithwyr dur a’r bobl yn fy nghymuned yn deall safbwynt cryf Llywodraeth Cymru ar y sefyllfa hon? Ers dechrau 2016, rydym wedi clywed newyddion drwg iawn. Dechreuodd gyda cholli swyddi, yna’r posibilrwydd o gau gweithfeydd. Mae gweithwyr dur ym Mhort Talbot, eu teuluoedd a’u cymunedau cyfan wedi bod yn byw gyda chleddyf dros eu pennau drwy’r cyfnod hwn o 12 mis. Nid yw’r dyfalu—o newyddion cadarnhaol ddydd Gwener i newyddion llai cadarnhaol ddoe—yn gwneud unrhyw ddaioni i ysbryd y gweithwyr na’u teuluoedd. Mae’n bwysig ein bod yn cael eglurder ar sefyllfa’r gweithfeydd dur a dyfodol ein gwaith dur.

Yn hynny o beth, a gaf fi ymuno ag Adam Price a dweud: a fyddwch yn cyflwyno sylwadau cryf i Lywodraeth y DU er mwyn sicrhau eu bod yn cymryd camau cadarnhaol? Nid wyf wedi clywed Theresa May yn dweud unrhyw beth cadarnhaol ynglŷn â chynhyrchu dur eto mewn gwirionedd. Mae’n hen bryd iddi wneud ac mae’n hen bryd iddi ymrwymo i’r diwydiant dur yn y DU. Mae hynny’n bwysig—ac felly Greg Clark yn yr un modd—er mwyn sicrhau bod gennym lais cryf yma a bod Llywodraeth y DU yn barod i’w gefnogi, oherwydd hwy sy’n rheoli pensiynau, ac mae’n hysbys fod y trafodaethau cyd-fenter y mae Tata wedi bod yn eu cael gyda ThyssenKrupp yn ddibynnol ar ddatrys y pensiynau. Felly mae hwnnw’n faes pwysig. Mae hefyd yn ymwneud â chostau ynni, er mwyn dangos bod yna ddyfodol i gynhyrchu dur. Ond efallai y gallwch fynd gam ymhellach na Llywodraeth y DU a cheisio cael cyfarfod gyda Ratan Tata er mwyn dweud wrtho’n uniongyrchol sut y mae hyn yn effeithio ar gymunedau a’r gweithwyr dur, a’r ymroddiad y maent wedi’i roi i’r diwydiant dros y misoedd diwethaf, ac y dylid eu gwobrwyo am yr ymroddiad hwnnw yn hytrach na’u cosbi drwy’r holl sïon hyn.

Rwy’n cytuno’n llwyr â’r Aelod. Rwy’n credu ei fod yn siarad yn huawdl am yr angen i sicrhau diogelwch ar adeg pan fo sïon y cyfryngau’n achosi rhyw fath o chwyrlwynt emosiynol i lawer o deuluoedd ac aelwydydd sy’n dibynnu ar y sector dur. A byddaf yn sicr yn gofyn am gyfarfod â Ratan Tata yn dilyn fy llythyr ato, a anfonwyd ddoe. Roedd y cyfarfod a gefais gyda’r prif weithredwr yn ôl ar ddiwedd mis Medi yn gadarnhaol iawn, ond rwy’n dymuno sicrhau bod ein neges yn cael ei chyfleu ar bob cyfle i’r lefel uchaf o dîm rheoli Tata: ein bod yn barod i’w cefnogi os ydynt yn barod i wneud y penderfyniad cywir. Byddaf yn cyfarfod ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru yfory, a byddaf yn trosglwyddo’r neges o ddwy ochr y Siambr ei bod yn hanfodol fod Llywodraeth y DU yn gweithredu lle y gŵyr y gall i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor y sector dur ym Mhrydain Fawr, ac yn enwedig yng Nghymru.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich atebion i Adam Price a David Rees, a diolch hefyd am yr hyn rwyf yn awr yn ei gymryd yw eich diffiniad o’r hyn y gallai dyfodol cynaliadwy ar gyfer dur ei olygu, sy’n cynnwys cadw’r ddwy ffwrnais chwyth ac yn hwy na thair blynedd o ran y gefnogaeth rydych yn barod i’w darparu. Os daw’n amlwg na ellir rhoi gwarant i achub y ddwy ffwrnais chwyth ac na fydd gwarant yn cael ei rhoi i sicrhau buddsoddiad parhaus o fwy na thair blynedd, a yw hynny’n golygu y byddwch yn lleihau’r cymorth rydych eisoes wedi ymrwymo i’w roi i Tata Steel? Yn eich ateb i gwestiynau a ofynnais ym mis Gorffennaf, fe ddywedoch fod unrhyw gymorth gan Lywodraeth Cymru i Tata yn amodol ar gynnal swyddi a chynhyrchiant dur cynaliadwy ar gyfer y tymor byr a’r tymor hir, ond hefyd y buasech yn gweithio gydag unrhyw brynwr arall—ac nid yw potensial ThyssenKrupp yn un sy’n apelio at bob un ohonom wrth gwrs—ond y buasech yn gweithio gyda hwy pe buasent yn gwarantu dyfodol cynaliadwy i’r diwydiant dur yng Nghymru. Felly, os nad yw’r warant honno’n cael ei rhoi yn y pen draw, a yw hynny’n golygu y bydd y cymorth presennol yn cael ei leihau?

Yn ail, rwy’n gwerthfawrogi’r hyn a ddywedwch, nad ydych eisiau ymateb i bob datganiad i’r wasg, ond rwy’n chwilfrydig i wybod beth oedd y llythyr a ysgrifennwyd gennych ddoe. Yn amlwg, rydych yn ceisio cael sicrwydd ynglŷn â’r hyn a glywsom yn ddiweddar, ond a ydych hefyd yn ceisio sicrwydd y bydd y dyfalu yn y wasg ynglŷn â buddsoddiad o $500 miliwn yn y gwaith yn dod i law?

Ac yna, yn olaf, gan fod fy nghwestiynau eraill eisoes wedi cael eu hateb, yr wythnos diwethaf, neu’r wythnos cyn honno, mewn ymateb i’r cwestiwn a ofynnwyd gan Bethan Jenkins, fe ddywedoch fod y 49 o swyddi newydd cyfwerth ag amser llawn a gyhoeddwyd ar gyfer Tata yn rhan o gynllun strategol gan Tata mewn perthynas â chyflogaeth, yn hytrach na gwneud rhywfaint o ôl-lenwi neu gyflenwi wrth gefn. Ac rwy’n meddwl tybed a oedd y sïon a glywsom yn y wasg heddiw ynglŷn â cholli swyddi i’w gweld yn gwrth-ddweud y sylw hwnnw. Efallai y gallech roi rhywfaint o eglurhad i ni ar hynny.

Wel, buasai’n ymddangos ei fod yn gwrth-ddweud hynny. Yr hyn a wyddom—. Y ffeithiau yw bod yna gynllun strategol ar safle Port Talbot ac o ganlyniad, mae nifer sylweddol—mwy na phedwar dwsin o bobl a oedd, neu sydd, yn y broses o gael eu recriwtio’n uniongyrchol gan Tata ym Mhort Talbot. Rwy’n hapus i gyhoeddi fy llythyr at Ratan Tata pan fydd wedi’i gael, a buaswn yn gobeithio y bydd yn ei gael, os nad heddiw, yna yn ystod y dyddiau nesaf, fel bod yr Aelodau’n ymwybodol o’r sicrwydd a roddais iddo ynglŷn â’n parodrwydd a’n penderfyniad i weithio gyda Tata i sicrhau dyfodol hirdymor Port Talbot a safleoedd dur eraill yng Nghymru.

Mae’r Aelod yn gofyn cwestiwn ynglŷn â sefyllfaoedd damcaniaethol lle y gallai Tata geisio tair blynedd o amodau’n unig. Rydym wedi dweud mai ein hisafswm yw pum mlynedd. Mae hwnnw’n isafswm pendant. Ac rydym yn dal i fod mewn cysylltiad ag eraill sydd â diddordeb posibl, gan gynnwys Excalibur, er enghraifft. A’n safbwynt yw: byddwn yn gweithio gydag eraill os gall eraill sicrhau dyfodol hirdymor Port Talbot a’r cyfleusterau dur eraill ledled Cymru.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n arbennig o bryderus am y cynllun pensiwn, fel y soniwyd eisoes yn y ddadl hon. Prynodd Tata Corus, fel y gwyddoch, am fwy na’i werth a hynny’n union cyn dirwasgiad, a dylai fod wedi gwneud y diwydrwydd dyladwy a gwybod am y rhwymedigaethau, er y bydd y rhai ohonom sydd wedi ymwneud â materion pensiwn eraill megis ymgyrch pensiynwyr Visteon yn gwybod nad yw diffyg o £700 miliwn mewn cynllun â rhwymedigaethau o £15 biliwn mor fawr â hynny mewn gwirionedd, ac yn llai felly gyda’r honiad nad yw ond £50 miliwn bellach. A ydych yn cytuno â mi, felly, mai dyma sy’n gwneud ymwneud ThyssenKrupp mor sarhaus? Dyma gwmni lle y mae dwy ran o dair o gynllun pensiwn gwerth €9.7 biliwn yn cael ei danariannu’n llwyr. Bloomberg sy’n dweud hynny, a dywedodd hefyd fod y grŵp Almaenig:

yn gwneud mwy o arian o lifftiau nag y mae’n ei wneud yn gwerthu dur.

A yw Llywodraeth Cymru, mewn gwirionedd, eisiau cwmni sydd â thanwariant pensiwn o fwy na €6 biliwn a thwf mor wan yn ymgysylltu â dur Cymru, ac a yw wedi siarad gyda Tata Steel am y materion hyn yn benodol?

Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Fe ddywedaf mai fy mhryder yw swyddi hirdymor y bobl sy’n gweithio yn y sector dur, ac o ran pensiynau, mae Tata wedi cadarnhau ei fod yn chwilio am ateb i gynllun pensiwn Dur Prydain. Unwaith eto, buasem yn annog pob parti i ddod o hyd i ateb boddhaol sydd er budd gorau holl aelodau’r cynllun.

6. Cwestiwn Brys: Cam-drin Rhywiol Hanesyddol mewn Pêl-droed yng Ngogledd Cymru

Cyn i mi alw am y trydydd cwestiwn brys, rwyf eisiau atgoffa Aelodau o’r rheol sub judice. Os oes achos troseddol neu achos ger bron rheithgor ar waith, yna mae Rheol Sefydlog 13.15 yn gwahardd trafodaeth yn y Siambr yma. Rhaid i Aelodau felly sicrhau eu hunain cyn siarad na fyddant yn mynd ar ôl materion a fyddai’n tramgwyddo’r Rheol Sefydlog yma. Rwy’n galw nawr, felly, ar Russell George i ofyn y trydydd cwestiwn brys.

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adroddiad ynghylch ymchwiliad yr heddlu i gam-drin rhywiol hanesyddol mewn pêl-droed yng ngogledd Cymru? EAQ(5)0074(CC)

Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Cyhoeddodd Heddlu Gogledd Cymru ddatganiad am gam-drin rhywiol hanesyddol yn y byd pêl-droed. Maent wedi cadarnhau eu bod yn gweithio gydag Ymgyrch Hydrant sydd ar y gweill. Buaswn yn annog aelodau o’r cyhoedd sydd ag unrhyw wybodaeth am gam-drin plant neu bobl ifanc i gysylltu â’r heddlu.

A gaf fi ddiolch i chi am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet? Ar hyn o bryd, wrth gwrs, mae hyn yn ymwneud i raddau helaeth ag achosion hanesyddol o gam-drin, ac mae’n amlwg heddiw fod y rhan fwyaf o’r bobl sy’n ymwneud â—y mwyafrif o’r bobl sy’n ymwneud â—hyfforddiant pêl-droed yno am y rhesymau cywir, ac yn gwneud gwaith gwych gyda phobl ifanc a’r gymdeithas yn gyffredinol. Rwy’n credu ei bod yn bwysig ein bod yn dweud hynny heddiw. Buaswn yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet pa ymholiadau y mae wedi’u gwneud mewn trafodaethau a gynhaliodd gyda’r corff llywodraethu pêl-droed yng Nghymru ers i’r sgandal ddod yn amlwg am y tro cyntaf bythefnos yn ôl, a pha fesurau, ymchwiliadau a chymorth a gaiff eu cynnig gan y Llywodraeth a’r cyrff pêl-droed amrywiol yng Nghymru i gynorthwyo unrhyw unigolion yr effeithiwyd arnynt, a sicrhau cyfiawnder.

Diolch i chi am eich cwestiwn. Mae fy swyddogion mewn cysylltiad â Chymdeithas Bêl-droed Cymru ac ymddiriedolaethau pêl-droed yn y gymuned i sicrhau y gellir rhoi camau ar waith yn ôl yr angen. Er bod plismona yn fater nad yw wedi’i ddatganoli, mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o ddysgu gwersi ac atal unrhyw achosion pellach o gam-drin plant yn rhywiol, ac rydym yn cymeradwyo dewrder y chwaraewyr sydd wedi camu ymlaen i ddatgelu’r gweithredoedd dirdynnol a gyflawnwyd yn eu herbyn a chydnabod pa mor anodd oedd hyn iddynt hwy a’u teuluoedd. Bydd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn helpu i sicrhau bod partneriaid diogelu lleol yn cael eu cefnogi gan arweinyddiaeth fwy cadarn a fframwaith cryfach a mwy effeithiol ar gyfer cydweithrediad amlasiantaethol yn y maes hwn.

Rwy’n cytuno ei bod hi’n bwysig ein bod ni’n canmol dewrder yr unigolion sydd yn siarad mas yn yr achosion yma ac, wrth gwrs, mi ddangosodd ymchwiliad Waterhouse i ni yn y flwyddyn 2000 nad oedd plant bryd hynny wedi cael eu credu, ac nad oedd pobl wedi gwrando arnyn nhw. Beth wnaeth hynny, wrth gwrs, oedd gosod chwyddwydr ar wasanaethau eiriolaeth yma yng Nghymru, sydd yn rhan bwysig iawn, iawn o’r ddarpariaeth yn y cyd-destun yma. Ers hynny, rydym wedi cael llu o adroddiadau—tri gan bwyllgorau blaenorol yn y Cynulliad yma, pedwar gan gomisiynwyr plant blaenorol hefyd—yn mynegi gofid am wasanaethau eiriolaeth yma yng Nghymru. Ond rŷm ni nawr, wrth gwrs, fel rwy’n gwybod y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn cytuno, yn edrych ymlaen ac yn gobeithio’n fawr y bydd yr ‘approach’ cenedlaethol yma i wasanaethau eiriolaeth statudol yn dod i’w le y flwyddyn nesaf. Ond a fyddech chi yn cydnabod, serch hynny, nad ŷm ni wedi cael yr arweiniad strategol angenrheidiol gan Lywodraethau olynol yma yng Nghymru ar hyn? Oherwydd mae aros dros 10 mlynedd i gyrraedd y pwynt lle rŷm ni wedi cyrraedd—ac nid ydym yn dal, wrth gwrs, mewn sefyllfa lle mae’r ‘approach’ cenedlaethol yma yn ei le—yn annerbyniol.

Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Rwyf wedi cyfarfod yn ddiweddar â’r comisiynydd plant a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a’r cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol i drafod mater y gwasanaeth eiriolaeth. Rwy’n ymwybodol fod pwyllgor y Cynulliad yn cynnal ymchwiliad i hyn ac rwyf wedi cael fy sicrhau gan yr awdurdodau hynny y bydd ganddynt wasanaeth eiriolaeth ar waith erbyn diwedd mis Mehefin y flwyddyn nesaf.

7. 3. Datganiadau 90 Eiliad

Diolch, Lywydd. Roeddwn yn credu y buasai’n addas, yn ystod yr wythnos y mae Cymru’n cynnal y Cynulliad Seneddol Prydeinig-Gwyddelig, i’r Cynulliad Cenedlaethol roi eiliad i gydnabod y cwlwm rhwng Cymru ac Iwerddon, a chyfraniad sylweddol Gwyddelod i fywyd Cymru. Mae llif y bobl rhwng Cymru ac Iwerddon yn rhychwantu miloedd o flynyddoedd ac wrth gwrs, arweiniodd hynny at Gymro’n dod yn nawddsant iddynt. Wrth gwrs, nid oedd pob ymweliad ar draws Môr Iwerddon dros y blynyddoedd o natur gyfeillgar, ac ni chafodd pob un groeso gan bawb yma. Yn wir, roedd cymeriadau Cymreig enwog fel Iolo Morganwg yn anhapus iawn ynglŷn â dyfodiad y Gwyddelod i lannau Sir Benfro ac Ynys Môn yn dilyn gwrthryfel 1798.

Digwyddodd y mewnlifiad mwyaf nodedig o Wyddelod i Gymru, wrth gwrs, yng nghyd-destun erchyllterau’r newyn mawr, ‘an gorta mór’, pan ddaeth y newynog draw i Gymru i chwilio am fwyd ac i gael byw. Saif cofeb ym mynwent Cathays heddiw sy’n cydnabod y rhai a ffoes y newyn hwnnw ac er cof am y cannoedd o filoedd a fu farw.

Mae’r gymuned Wyddelig wedi cyfoethogi bywyd Cymru, gan roi athletwyr, artistiaid, gweithwyr, ffrindiau, a Gweinidog iechyd hyd yn oed, i ni, ac mae 2016 yn nodi canmlwyddiant proclamasiwn annibyniaeth Iwerddon, cyfnod a digwyddiad yr oedd Cymru yn rhan ohono. Cafodd carcharorion rhyfel Gwyddelig eu carcharu yng ngwersyll Frongoch, a dywedir bod dau filwr o Gymru wedi hwyluso ymdrech gwrthryfelwyr Gwyddelig, Ernie O’Malley, Frank Teeling a Simon Donnelly i ddianc o garchar Kilmainham yn 1920. Wrth i’w blwyddyn ganmlwyddiant ddirwyn i ben, mae’n briodol, Lywydd, ein bod yn cydnabod cyfraniad y Gwyddelod i’n cenedl, ac yn ymrwymo i gryfhau’r cysylltiadau rhwng ein dwy wlad yn y blynyddoedd i ddod. Diolch.

Diolch, Lywydd. Tinitws—nid yw’n cael ei grybwyll yn aml yma yn y Senedd. Mae ei effaith yn wanychol a gall y canlyniadau fod yn ddinistriol. Y llynedd, cyflawnodd James Ivor Jones, aelod poblogaidd o fy nghymuned leol, hunanladdiad mewn ffordd drasig ar ôl brwydro yn erbyn tinitws am chwe mis. Mae ei fab yn disgrifio’i ddioddefaint fel profiad annioddefol, ac mae yntau yn anffodus yn dioddef o’r cyflwr bellach.

Fodd bynnag, mae’n aml yn salwch nad yw’n cael ei ganfod, neu ni wneir diagnosis ohono, a rhoddir amcangyfrif rhy isel o faint sy’n dioddef ohono. Caiff ei ddisgrifio’n aml fel canu yn y clustiau, a gall y synau sy’n cael eu clywed gynnwys grŵn, mwmian, crensian, hisian, chwibanu a sïo, ac mewn rhai achosion mae’n cyd-daro â churiad calon person, gan effeithio’n negyddol iawn ar fywyd o ddydd i ddydd, ac arwain at broblemau cysgu ac iselder difrifol yn achos 60 y cant o ddioddefwyr. Mae’r driniaeth, pan fydd ar gael, yn cynnwys therapi sain, cwnsela, therapi gwybyddol ymddygiadol, a therapi ailhyfforddi tinitws. Ni cheir un driniaeth sy’n gweithio i bawb, ac ystyrir bod diagnosis cynnar iawn yn hanfodol.

Mae Action on Hearing Loss Cymru wedi dweud bod yna loteri cod post o ran diagnosis a thriniaeth yma yng Nghymru. Rwy’n siarad heddiw er mwyn galw ar Lywodraeth Cymru a holl Aelodau’r Cynulliad i fod yn fwy ymwybodol o’r salwch hwn, a buaswn yn gofyn i chi ymrwymo i gynyddu ymwybyddiaeth, ffocws, a chefnogaeth i fynediad cynnar at ymyrraeth diagnosteg gynnar a chymorth i’r rhai sy’n dioddef. Diolch.

Ledled Cymru, mae yna gartrefi gofal, wardiau ysbytai a chymunedau lle y mae pobl yn byw heb greadigrwydd, ysbrydoliaeth na gobaith ar gyfer y dyfodol. Mae lefelau achosion a gofnodwyd o unigrwydd ac iechyd meddwl ar gynnydd. Rwy’n gyn-gadeirydd Live Music Now yng Nghymru, rôl sy’n cael ei chyflawni bellach gan y cyn-Lywydd, Rosemary Butler. Dyma elusen sy’n anfon ac yn ariannu cerddorion o ansawdd uchel i chwarae i bobl nad ydynt yn clywed cerddoriaeth fyw fel arfer. Mae’r sefydliad yn canolbwyntio’n benodol ar weithio mewn cartrefi gofal a chartrefi nyrsio ac mewn ysgolion arbennig, a gallaf dystio i’r ffaith fod y profiad o ddod i gysylltiad â’r celfyddydau yn wirioneddol drawsnewidiol i breswylwyr.

Mae gweithgor celf ac iechyd trawsbleidiol newydd y Cynulliad, mewn cydweithrediad â Chyngor Celfyddydau Cymru lle y bo’n briodol, mewn sefyllfa unigryw i ddod â byd y celfyddydau a’r byd iechyd at ei gilydd. Mae’r gweithgor wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd iechyd a’r Ysgrifennydd diwylliant i ofyn am gymorth i ariannu astudiaeth i baratoi adroddiad sy’n seiliedig ar dystiolaeth lle y byddai ymdrechion yn cael eu gwneud i gasglu’r wybodaeth a’r gwaith gwych sydd eisoes yn cael ei wneud yng Nghymru i helpu i gyfiawnhau symud arian o iechyd i’r celfyddydau, a lle y bo angen, i wneud gwaith ymchwil mwy manwl er mwyn cryfhau’r dystiolaeth sydd ei hangen.

Mewn cartrefi gofal, ni sylweddolir gwerth rhyngweithio creadigol, yn enwedig mewn meysydd fel dementia. Gall cymryd rhan yn y celfyddydau a cherddoriaeth wella ansawdd bywyd ac iechyd meddwl pobl hŷn yn sylweddol, ac rydym yn credu bod eu cyflwyno i’r celfyddydau yn fwy costeffeithiol na llyncu tabledi. Rydym yn gobeithio y bydd comisiynu gwaith pwrpasol ar y pwnc yn cyfiawnhau ein safbwynt ac yn helpu i gyflwyno’r achos dros symud cyfran o’r cyllid o’r maes iechyd i’r celfyddydau gyda golwg ar wella canlyniadau iechyd a llesiant ar gyfer pobl Cymru.

8. 4. Datganiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar y Comisiynydd Safonau Newydd

Yr eitem nesaf ar yr agenda yw’r datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, ac rwy’n galw ar Gadeirydd y pwyllgor, Jayne Bryant.

Diolch, Lywydd. Heddiw yw diwrnod olaf Gerard Elias CF yn ei swydd fel y comisiynydd safonau. Hoffwn ddiolch iddo am ei holl waith caled yn sefydlu’r rôl bwysig hon dros y chwe blynedd diwethaf ac rwy’n croesawu ei olynydd, Syr Roderick Evans CF, i swydd y comisiynydd safonau.

Cafodd Gerard Elias ei benodi yn 2010 pan basiwyd Mesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009. Roedd yn benodiad rhagorol i’r Cynulliad, a daeth â’i amrywiaeth eang o brofiad gydag ef, ar ôl bod yn gweithio yn y proffesiwn cyfreithiol am dros 40 mlynedd. Mae ei ymrwymiad cryf i wasanaeth cyhoeddus wedi arwain at nifer o swyddi cyhoeddus. Mae’r rhain yn cynnwys dirprwy farnwr yr Uchel Lys, cofnodwr a chyn-arweinydd cylchdro Cymru a Chaer, canghellor esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu, cadeirydd Comisiwn Disgyblaeth Bwrdd Criced Lloegr a Chymru a chadeirydd Sports Resolutions UK.

Roedd Mesur 2009 yn ceisio sicrhau bod gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru gomisiynydd safonau a oedd yn gallu hyrwyddo safonau uchel mewn bywyd cyhoeddus ymhlith Aelodau’r Cynulliad; yn meddu ar y pwerau a fuasai’n eu galluogi i ymchwilio i gwynion yn drylwyr; ac yn olaf, comisiynydd a oedd yn amlwg yn annibynnol ar y Cynulliad ac felly’n gallu gweithredu’n gwbl wrthrychol. Mae’r rhain i gyd yn faterion o bwys mawr i sicrhau fod gan bobl Cymru hyder yn eu Haelodau etholedig.

Yn ystod ei gyfnod yn y swydd, mae Gerard Elias wedi anelu tuag at, ac wedi cyrraedd nod y Cynulliad i fod yn batrwm o safonau mewn bywyd cyhoeddus. Mae wedi sefydlu swydd annibynnol, uchel ei pharch, ac wedi siapio ei rôl i sicrhau hyder yn safonau’r Cynulliad. Rwy’n credu ei fod wedi mabwysiadu dull pwyllog a chytbwys wrth reoli cwynion ac wedi cymryd rhan mewn trafodaethau adeiladol â phawb, o Aelodau’r Cynulliad i’r cyhoedd yn ehangach, ynglŷn â’r rhesymau dros ei benderfyniadau a’r rhai a gyflwynodd gwynion.

Mae’r dull pragmatig ac agos atoch hwn wedi cael ei werthfawrogi gan Aelodau’r Cynulliad a chan bawb sydd wedi gweithio gydag ef. Ochr yn ochr â’i waith ar gwynion, mae wedi bod yn ffynhonnell cyngor allweddol i’r pwyllgor safonau, yn enwedig yn ystod adolygiad y pedwerydd Cynulliad o’r cod ymddygiad a’r canllawiau cysylltiedig, a arweiniodd at y ddogfen gompendiwm a ddosbarthwyd i’r holl Aelodau ar ddechrau’r pumed Cynulliad. O bwys arbennig, roedd ei waith i sicrhau bod gan y Cynulliad sancsiynau digonol a sancsiynau priodol pe bai Aelod yn tramgwyddo ynghyd â’i ddiweddariad o’r gofynion ar gyfer datgan a chofrestru buddiannau, sydd wedi sicrhau mwy o eglurder a thryloywder yn y system.

Mae’r newidiadau hyn a wnaed yma wedi helpu i sicrhau bod y rheolau sy’n llywodraethu safonau’r Cynulliad yn addas i’r diben yng nghyd-destun cyfnewidiol datganoli. Ar ben hynny, sefydlodd Gerard Elias ddarlith y comisiynydd safonau ar safonau mewn bywyd cyhoeddus, a gynhelir bob dwy flynedd, ac sy’n cyhoeddi i Gymru fod safonau mewn bywyd cyhoeddus yn bwysig. Roedd cael dau Arglwydd Brif Ustus cyfredol i fynychu yn gyflawniad gwirioneddol ac yn dangos arloesedd rhagorol ar ran y Cynulliad. Rwy’n deall bod y comisiynydd newydd yn bwriadu parhau â’r syniad hwn.

Mae’n bleser manteisio ar y cyfle hwn hefyd i groesawu Syr Roderick Evans CF i rôl y comisiynydd safonau. Rwy’n siŵr y bydd yr Aelodau’n cytuno ei fod yn benodiad rhagorol. Mae Syr Roderick yn farnwr Uchel Lys wedi ymddeol ac yn ogystal â gyrfa ddisglair yn y gyfraith, mae hefyd yn gymrawd ym mhrifysgolion Aberystwyth, Abertawe a Bangor, yn gymrawd yng Nghymdeithas Ddysgedig Cymru a chafodd ei groesawu’n aelod o Orsedd y Beirdd yn 2002. Yn ystod y weithdrefn recriwtio gynhwysfawr, mynychodd Syr Roderick wrandawiad cadarnhau cyhoeddus yn un o gyfarfodydd y Pedwerydd Cynulliad. Yn y gwrandawiad hwn, nododd ei weledigaeth ar gyfer dyfodol safonau yn y Cynulliad mewn modd cynhwysfawr ynghyd â’i ddull o ymdrin â’r heriau posibl yn ystod y Cynulliad hwn a thu hwnt. Cadarnhawyd ei benodiad yn unfrydol gan y Pedwerydd Cynulliad.

Mae’r rôl y mae Syr Roderick yn ymgymryd â hi yn dal i fod yn gymharol newydd ac yn esblygu’n barhaus. Yn ddi-os, bydd yna heriau i sicrhau bod y Cynulliad yn cynnal y lefelau uchel o safonau a gyflawnwyd hyd yn hyn, yn enwedig wrth i’r pwyllgor gychwyn ar ei adolygiad o lobïo a nodi’r meysydd sydd angen arweiniad a chyngor pellach. Mae’r pwyllgor yn edrych ymlaen at weithio gyda Syr Roderick i’w gynorthwyo i ddatblygu swydd y comisiynydd safonau ymhellach, ac i gynnal safonau uchel Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Rwy’n siŵr y bydd yr holl Aelodau’n ymuno â mi wrth i mi groesawu Syr Roderick i’r swydd a diolch i Gerard Elias am yr holl waith caled y mae wedi’i wneud ar ddatblygu rôl y comisiynydd a chynnal safonau’r Cynulliad. [Aelodau’r Cynulliad: ‘Clywch, clywch.’]

A gaf i ddiolch i’r Cadeirydd am ei datganiad a’i chroesawu hi, wrth gwrs, i’w rôl? Dyma’i datganiad ffurfiol cyntaf i’r Cynulliad yma ac rwy’n diolch iddi am hynny ac yn edrych ymlaen at gydweithio â hi fel aelod o’r pwyllgor. A gaf innau hefyd ategu’r diolch i Gerard Elias QC, fel y clywsom ni wedi’i benodi yn 2010? Fel aelod o bwyllgor safonau’r Cynulliad diwethaf, mi allaf i dystiolaethu i’r ffaith ei fod e wedi bod yn hyrwyddo’r safonau uchel rŷm ni i gyd yn ymgyrraedd tuag atyn nhw. Y mae wedi bod yn ffigwr annibynnol ei feddwl, wrth gwrs, ond hefyd yn gwbl wrthrychol ei ystyriaethau o’r achosion sydd wedi bod ger ein bron ni, ac mae’n dyled ni, fel Aelodau ac, yn wir, fel cymdeithas yn ehangach, iddo fe yn fawr iawn yn hynny o beth.

Mi gyfeirioch chi at adolygiad y pedwerydd Cynulliad o’r cod ymddygiad a’r canllawiau cysylltiedig â hynny, a, do, mi arweiniodd hynny at ddogfen grynodeb sydd wedi cael ei chyflwyno i bob Aelod o’r pumed Cynulliad yma. Mae hynny’n gyfraniad gwerthfawr, rwy’n meddwl, i sicrhau’r ymddygiad a’r safonau uchel y mae pawb yn eu disgwyl, ond yn gwneud hynny, wrth gwrs—ie, mewn modd cyhyrog, ond heb fod yn anymarferol na’n afresymol o feichus. Mi fyddwn i’n gofyn ichi, Gadeirydd, wrth edrych ymlaen, mai taro’r cydbwysedd yna sydd yn bwysig, hynny yw bod disgwyliadau o ran safonau’n gymesur, wrth gwrs, i’r lefel o risg sydd yna, a bod angen cyfundrefn sydd yn effeithiol ac yn gyhyrog, ond ar yr un pryd, wrth gwrs, yn ymarferol ac yn un sydd yn rhesymol i’w gweithredu.

Mi fyddwn i hefyd yn ategu’ch croeso chi i Syr Roderick Evans QC i’w rôl ef. Cefais gyfle i’w holi e fel rhan o’r broses o gadarnhau’r penodiad, ac rwy’n gwbl hyderus y bydd e nid yn unig yn parhau â’r gwaith da sydd wedi cael ei wneud yn y blynyddoedd diwethaf, ond wrth gwrs yn adeiladu ar waith ei ragflaenydd.

Mae’r rôl, fel y dywedoch chi, yn dal i esblygu, fel y mae’r sefydliad yma, wrth gwrs, yn dal i esblygu, ac mi fydd yna heriau o’n blaenau ni ac mae’n rhaid inni beidio â llaesu dwylo. Rwy’n siŵr y byddwch chi’n cytuno â fi mai proses barhaus yw gwarchod safonau mewn sefydliad fel hwn. A gaf i, efallai, ofyn i chi os ydych chi’n cytuno y bydd datganoli pwerau ychwanegol, yn enwedig, efallai, pwerau’n ymwneud â threthu, yn tanlinellu ymhellach yr angen i barhau â’r gwaith yma o warchod safonau yn wyneb beth ddaw, mae’n debyg, yn sgil mwy o bwerau, mwy o ddiddordebau a dylanwadau allanol a mwy o lobïo, a’i bod yn bwysig ein bod yn parhau i sicrhau bod y safonau uchaf yn cael eu gosod o dan y comisiynydd newydd, wrth i ni symud yn ein blaenau?

Diolch yn fawr iawn, Llyr. Rwy’n gwerthfawrogi’n fawr eich geiriau caredig ar y dechrau hefyd, felly diolch yn fawr iawn. Rwy’n meddwl bod y comisiynydd, Gerard Elias, wedi rhyw lun o fwrw iddi’n syth gyda mi ynglŷn â’r angen am wyliadwriaeth, ond hefyd cymesuredd, felly rwy’n meddwl bod y pwyllgor yn clywed hynny’n uchel ac yn glir. Ac fel y dywedwch yn hollol gywir, gyda’r pwerau newydd sy’n dod i’r Cynulliad, mae’r geiriau allweddol hynny’n bwysig—ein bod yn parhau i fod yn wyliadwrus bob amser, ac i fod yn gymesur.

A gaf fi hefyd groesawu’r datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar y comisiynydd safonau newydd? Mae’r comisiynydd yn chwarae rhan allweddol iawn, wrth gwrs, wrth anelu at gyrraedd y safonau uchaf posibl gennym ni fel Aelodau’r Cynulliad, er mwyn i’r cyhoedd gael hyder yn eu cynrychiolwyr etholedig. Rwy’n credu ein bod wedi bod yn ffodus i fod wedi cael comisiynydd safonau rhagorol yn Gerard Elias CF, ac rwy’n meddwl ei fod wedi gwneud gwaith eithriadol, bob amser yn drwyadl wrthrychol ac annibynnol yn y ffordd y mae ef ei hun wedi ymddwyn yn ogystal. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth o gwbl y bydd Syr Roderick Evans CF yn parhau yn yr un ffordd, ac ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, hoffwn innau groesawu ei benodiad hefyd. Nid oes gennyf amheuaeth y bydd yn eithriadol iawn hefyd.

Credaf ei bod yn hanfodol i gylch gwaith y comisiynydd newydd gael ei sefydlu’n gadarn er mwyn iddo ddeall ehangder ei rôl yn llawn, ac felly byddwn yn falch o wybod a ydych fel Cadeirydd y pwyllgor yn teimlo ei bod yn bryd myfyrio, efallai, ar gwmpas rôl y comisiynydd i weld a allai fod cyfle, oherwydd newid yn y trefniadau yn y Cynulliad hwn, i ddiweddaru hynny mewn rhyw ffordd.

Wrth gwrs, mae’r pwyllgor safonau yno hefyd i ddwyn y comisiynydd i gyfrif, ac rydym i gyd yn cael cyfle i gael golwg ar adroddiad blynyddol y comisiynydd. Ond tybed a allai fod cyfleoedd ychwanegol i fonitro gwaith y comisiynydd a’i swyddfa yn y dyfodol, ac a fydd cyfleoedd ychwanegol i’r pwyllgor safonau allu gwneud hynny, mewn ychydig mwy o ddyfnder o bosibl.

Rwy’n siŵr y bydd y Cadeirydd yn cytuno â mi ei bod yn bwysig i’r comisiynydd newydd gael ymgysylltiad cryf ag Aelodau’r Cynulliad o’r cychwyn cyntaf. Yn amlwg, nid oes yr un ohonom yn y Siambr hon am ei weld yn rhy aml, rwy’n siŵr, am bob math o resymau. Ond mae’n bwysig cael perthynas dda a dealltwriaeth o swyddogaethau ein gilydd, ac rwy’n meddwl tybed a allai fod cyfle i Gadeirydd y pwyllgor drefnu i Aelodau’r Cynulliad allu gwneud hynny yn y dyfodol.

Mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr hefyd, wrth gwrs, fod tryloywder yng ngwaith y comisiynydd, a bod y rheoliadau a’r cod ymddygiad yn cael eu hadolygu’n gyson, a’u bod yn ddealladwy gan Aelodau’r Cynulliad, y comisiynydd ac yn wir, gan y cyhoedd. Tybed a allai fod cyfle, unwaith eto, i’r pwyllgor edrych ar y pethau hyn yn eu cyfanrwydd, yn enwedig o ran ymgysylltu â’r cyhoedd a deall rôl y comisiynydd, os ydynt am wneud cwynion, er enghraifft.

Credaf fod y ffordd y mae Aelodau’r Cynulliad, ar bob lefel, yn ymgysylltu â’u hetholwyr yn parhau i newid. Mae llawer mwy i’w wneud drwy’r cyfryngau cymdeithasol yn awr, er enghraifft, nag yr oedd 10 mlynedd yn ôl pan gefais fy ethol gyntaf i’r sefydliad hwn. Ac o ganlyniad i hynny, rwy’n meddwl ei bod yn ddoeth iawn ein bod yn cadw pethau dan arolwg yn gyson. Ond rwy’n gobeithio’n fawr y bydd y comisiynydd newydd, wrth ymgymryd â’i rôl, yn ystyried hynny’n rhan o’n gwaith, yn enwedig wrth symud ymlaen, i weld a all fod angen unrhyw newidiadau i’r cod ymddygiad er mwyn iddo allu adlewyrchu tirwedd newydd cyfathrebu, os hoffech. Ond carwn gofnodi unwaith eto fy niolch i Gerard Elias, a’r croeso cynnes rydym am ei roi i Syr Roderick Evans.

Diolch yn fawr iawn am y croeso cynnes i Syr Roderick, a’ch geiriau caredig eto am Gerard Elias, gan fy mod yn meddwl ei bod yn wych cael yr holl bleidiau’n gytûn ar hyn, gan ei fod wedi gwneud gwaith gwych.

Rwy’n meddwl eich bod yn gwneud pwynt diddorol iawn am yr angen i edrych ar y rôl yn y dyfodol, ac rwy’n hapus, ynghyd â chyd-Aelodau ar y pwyllgor safonau, y gallwn gael trafodaeth ynglŷn â hynny. Rwy’n awyddus i ni gael y wybodaeth ddiweddaraf a dilyn trywydd priodol. Mae eich pwynt am dryloywder yn gwbl hanfodol, ac unwaith eto, dyna faes lle rydym yn teimlo’n gryf fod yn rhaid i ni fod yn wyliadwrus ynddo. A’r pwynt eto am gyfryngau cymdeithasol: fel y dywedasoch, mae’r rôl hon wedi newid yn anhygoel dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ac mae’n bwysig iawn ein bod yn cynnal y safonau hynny drwy’r cyfryngau cymdeithasol yn ogystal.

A gaf fi hefyd ychwanegu fy llongyfarchiadau i Gadeirydd y pwyllgor safonau ar y ffordd wych rydych wedi cyflwyno eich datganiad cyntaf i’r Siambr? Mae hynny hefyd yn adlewyrchu’r ffordd rydych yn arwain y pwyllgor yn gyffredinol beth bynnag. Iawn. Gan fy mod yn newydd i’r pwyllgor safonau, ni chefais lawer o amser i ddod i adnabod Gerard Elias yn bersonol. Fodd bynnag, rwy’n ymwybodol iawn o’r etifeddiaeth y mae wedi ei gadael o’i gyfnod yn y swydd, nid yn lleiaf ei fewnbwn i’r grynhoi’r Rheolau Sefydlog—llyfr rheolau’r Rheolau Sefydlog. Mae hyn, wrth gwrs, o fudd amhrisiadwy i unrhyw newydd-ddyfodiad i’r Cynulliad, yn ogystal â rhoi arweiniad o’r radd flaenaf i Aelodau sefydledig a staff y Cynulliad. Yn fy amser byr fel Aelod Cynulliad, rwyf wedi dod i sylweddoli cymaint o barch sydd i Gerard Elias gan bawb sy’n ymwneud â Chynulliad Cymru. Mae ei etifeddiaeth yn sicr o fod yn un barhaus.

A gaf fi droi yn awr hefyd at olynydd Gerard Elias, Syr Roderick Evans? Mae’n dangos y statws cynyddol sydd i’r Cynulliad hwn ein bod wedi gallu sicrhau gwasanaethau unigolyn o statws mor uchel. Rwy’n siŵr y bydd yn dod â nifer o rinweddau i’r rôl, gydag annibyniaeth ac awdurdod sydd mor bwysig i’n democratiaeth. Rwyf yr un mor siŵr fod pawb yn y Cynulliad, ac yn enwedig y rhai hynny ohonom yn y pwyllgor safonau, yn ei groesawu’n frwd i’w rôl newydd. Gwn y bydd rôl y pwyllgor safonau’n newid dros y blynyddoedd nesaf, ond rwyf yr un mor fodlon y bydd y Cadeirydd yn ein harwain yn fedrus iawn yn y rôl honno.

Diolch yn fawr iawn, unwaith eto, am eich geiriau caredig ar hynny hefyd. Ac fel chithau, hoffwn adleisio’r pwyntiau am y compendiwm, oherwydd fel Aelod newydd fy hun, rwy’n falch iawn o gael popeth mewn un man. Felly, rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’r comisiynydd newydd. Mae eisoes wedi dod i’r pwyllgor ar sawl achlysur, felly mae’n mynd i sicrhau trosglwyddiad esmwyth yn ogystal. Felly, diolch yn fawr iawn.

Diolch i’r Cadeirydd. Rwy’n gweld Gerard Elias yn yr oriel gyhoeddus. Rydych yn rhy bell oddi wrthyf i mi allu gweld a ydych wedi bod yn gwrido yn sgil yr holl ganmoliaeth a roddwyd i chi. Ond os caf adleisio’r diolch a fynegwyd y prynhawn yma o bob rhan o’r Siambr, ar ran pob un ohonom, am ansawdd y gwaith rydych wedi ei wneud ar ein rhan, a dymuno’n dda i chi ar gyfer y dyfodol. Diolch yn fawr. [Cymeradwyaeth.]

9. 5. Dadl Plaid Cymru: Busnesau Bach

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliannau 2, 3, 4 a 5 yn enw Paul Davies. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2, 3, 4, 5 a 6 yn cael eu dad-ddethol.

Ac rydym yn awr yn symud ymlaen i ddadl Plaid Cymru, ac rwy’n galw ar Adam Price i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6176 Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cynlluniau llwyddiannus fel dydd Sadwrn busnesau bach i gynyddu nifer y bobl sy’n ymweld â chanol trefi ledled Cymru.

2. Yn nodi, o ganlyniad i gytundeb cyllideb Plaid Cymru â Llywodraeth Cymru, y caiff cronfa ei sefydlu a fydd yn galluogi awdurdodau lleol i gynnig cyfleusterau parcio ceir am ddim yng nghanol trefi ledled Cymru, gan roi hwb hanfodol i adfywio canol trefi.

3. Yn gresynu fod y system ardrethi busnes bresennol yn rhoi baich anghymesur ar fusnesau bach sydd ag eiddo yng Nghymru, o’i gymharu â gweddill y DU.

4. Yn gresynu at effaith y gwaith diweddar o ailbrisio ardrethi busnes ar rai busnesau bach yng Nghymru.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) ehangu’r cymorth pontio sydd ar gael i fusnesau bach y mae gwaith ailbrisio ardrethi annomestig 2017 yn effeithio arnynt;

b) archwilio’r posibilrwydd o ddynodi Cymru gyfan yn ardal fenter er mwyn rhoi’r math o fantais gystadleuol i Gymru sydd ei hangen i gau’r bwlch economaidd rhwng Cymru a gweddill y DU;

c) sicrhau y rhoddir y pwysau dyledus i fuddiannau busnesau bach yng ngwaith y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol newydd i Gymru a’r Banc Datblygu Cenedlaethol;

d) pennu targed i godi lefelau presennol caffael o 55 y cant i o leiaf 75 y cant o wariant sector cyhoeddus Cymru yng Nghymru; ac

e) cyflwyno ymgyrch ‘prynu’n lleol’ wedi’i hanelu at ddefnyddwyr a phrif brynwyr yng Nghymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Mae’n bleser mawr cael cynnig y cynnig hwn yn enw fy—nid oes gennym ffrindiau anrhydeddus yn y lle hwn, nac oes? Ond mae’n ffrind ac mae’n eithaf anrhydeddus. [Chwerthin.]

Mae’n ddadl amserol, yn amlwg, gan y bydd y pedwerydd Dydd Sadwrn Busnesau Bach cenedlaethol yn cael ei gynnal cyn hir, digwyddiad a gynhelir ar draws pedair gwlad y Deyrnas Unedig. Mae’n ymgyrch genedlaethol ym mhob un o’r gwledydd hynny, a fe’i cynlluniwyd i annog pobl i siopa’n lleol a chefnogi busnesau bach, ac rwy’n siŵr ein bod am glywed ei fod yn cael—gallaf ragweld yn bendant yn ôl pob tebyg—cefnogaeth drawsbleidiol yn y Cynulliad hwn.

Wrth gwrs, mae’n dipyn o wireb ym myd gwleidyddiaeth i ddweud mai busnesau bach yw asgwrn cefn ein heconomi. Ond mae’n amlwg yn wir, onid yw? Pan edrychwn ar y data, mentrau bach a chanolig eu maint sydd i gyfrif am 99 y cant o stoc busnes Cymru, ac maent yn cyflogi ymhell dros hanner y gweithlu yn y sector preifat. Dyna swyddi i dros 0.5 miliwn o bobl. Ac wrth gwrs, fe welsom, wrth i Gymru ddioddef tonnau—mae’n aml yn teimlo fel ton ar ôl ton—o newid economaidd strwythurol, wrth i ni golli llawer o’n diwydiannau trwm, ac wrth i’n cyflogwyr mawr gilio o’r neilltu, yn anffodus, busnesau bach a chanolig Cymru sydd wedi gorfod ysgwyddo’r baich, ac maent wedi gwneud hynny mewn modd arwrol mewn llawer o achosion, ac mewn amgylchiadau na fuasent hwy na neb arall yn eu dewis. Felly, mae’r ddadl hon yn ymwneud â chyflwyno cynigion polisi cyhoeddus amserol ac arloesol i gefnogi’r peiriant economaidd craidd hwnnw rydym i gyd yn dibynnu arno. Ni allwn gyflawni’r holl bethau y byddem yn dymuno o ran ansawdd ein gwasanaethau cyhoeddus heb y peiriant cynhyrchu cyfoeth hwn, sy’n sylfaen i gymaint o bethau rydym am eu cyflawni fel cenedl ac fel cymdeithas. Felly, mae’r ddadl hon yn gwbl hanfodol.

Mae’n ymddangos i mi ein bod wedi cyrraedd un o’r trobwyntiau hynny yn yr economi. Mae yna ddangosyddion cadarnhaol. Os ydych yn meddwl am rôl bosibl busnesau bach, mae yna rai pethau sy’n destun llawenydd, oherwydd yn sgil technoleg newydd—y rhyngrwyd yn bennaf, ond nid yn unig wrth gwrs—mae’r rhwystrau sy’n atal mynediad i bobl sydd â syniad da ac sy’n awyddus i ddilyn trywydd y syniad hwnnw wedi diflannu. Maent wedi diflannu yng Nghymru ac ar draws y byd, a chaiff hynny ei adlewyrchu yn y cynnydd mewn entrepreneuriaeth. Caiff ei adlewyrchu yn y math o is-ddiwylliant busnes newydd bywiog a welwn yn y ddinas hon ac mewn trefi a dinasoedd ledled Cymru. Felly, dyna un weledigaeth ar gyfer y dyfodol. [Torri ar draws.] Iawn, fe ildiaf.

Diolch i Adam am ildio. A fuasai’n nodi nad arloesedd unigryw mewn busnesau newydd yn unig yw hyn, ond cwmnïau stryd fawr sefydledig, mewn gwirionedd, sy’n gallu edrych fel ffenestri blaen siopau stryd fawr traddodiadol iawn hefyd? Ymhlith y rhain mae siop esgidiau yn fy etholaeth i, yn nyffryn Garw, ym Mhontycymer, sy’n edrych fel siop draddodiadol iawn, os nad braidd yn hen ffasiwn o’r tu blaen, ac eto mae’n gwerthu mwy o Dr. Martens ar y rhyngrwyd na’r rhan fwyaf o gwmnïau eraill yn y DU.

Ie, yn hollol. A fyddwn ni’n ei weld yn gwisgo pâr o’r rheini yr wythnos nesaf hefyd—neu yn awr efallai? [Chwerthin.]

Rwy’n credu bod busnesau sy’n bodoli eisoes yn ailddyfeisio eu hunain, yn sicr, a’r un mor entrepreneuraidd â busnes newydd. Mae’n bosibl ein bod yn cael ein llyncu ormod gan gyhoeddusrwydd busnesau newydd yn unig, efallai, ond mewn gwirionedd fe wyddom o waith y Ffederasiwn Busnesau Bach ar greu’r mittelstand Cymreig fod rôl busnesau presennol a busnesau sefydledig, a pharhad busnesau sydd wedi magu gwraidd a sicrhau bod cynllunio priodol ar gyfer olyniaeth, yn gwbl hanfodol hefyd.

Y weledigaeth gyferbyniol hunllefus ar gyfer y dyfodol, wrth gwrs, yw un lle rydym i gyd yn prynu ein nwyddau gan un darparwr monopoli o’r enw Amazon. Dyna weledigaeth cyfalafiaeth hyperwarysau’r dyfodol, lle y ceir un gadwyn gyflenwi fyd-eang a lle nad oes fawr ddim yn cael ei gynhyrchu’n lleol, ac rydych yn gweld bod yr ymwreiddio sydd gennych drwy fodolaeth busnesau bach yn yr economi leol yn cael ei golli.

Felly, sut y gallwn gael mwy o’r weledigaeth gadarnhaol a llai o’r un negyddol? Rwy’n credu mai dyna’r cwestiwn arholiad, os hoffech, i bleidiau gwleidyddol ac i wleidyddion ar draws y byd gorllewinol ar hyn o bryd. Rydym wedi nodi rhai o’n syniadau yn ein cynnig ac rwy’n siŵr y byddwn yn clywed rhai o syniadau’r pleidiau eraill hefyd.

Pan fyddwn yn edrych ar y data, wrth gwrs, mae’n ddarlun cymysg. Felly, o ran nifer yr ymwelwyr, wrth i ni weld gwahanol batrymau manwerthu yn dod i’r amlwg, mae nifer yr ymwelwyr yn cynyddu: yng Nghaerdydd, mae wedi dyblu, mewn gwirionedd, rhwng 2007 a 2015, ac roedd ychydig o gynnydd ym Mhontypridd ac ym Mhen-y-bont ar Ogwr hefyd. Felly, nid yw’n ddu i gyd, ond mewn gwirionedd, pe baech yn edrych yn fanwl iawn ar y ffigurau—

Gan siarad fel Aelod dros Gaerdydd drwy ranbarth Canol De Cymru, a wnaiff yr Aelod gydnabod bod y cynnydd yn nifer yr ymwelwyr yng nghanol Caerdydd yn rhywbeth i’w groesawu, ond mae’r cynnydd hwnnw wedi ei ganolbwyntio’n bennaf ar ailddatblygiad Dewi Sant 2, sy’n ddatblygiad manwerthu sy’n ticio pob blwch, gydag opsiwn bwyta ac yn aml iawn, nid yw pobl yn bwrw allan i gael profiad ehangach o Gaerdydd, a’i bod yn bwysig fod yr awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo Caerdydd yn yr ystyr ehangach ac nid datblygiad Dewi Sant yn unig?

Yn hollol, ac mae wedi rhagweld fy mhwynt mewn gwirionedd. Mae gan yr eglwysi cadeiriol disglair hyn yn y byd manwerthu modern ran bwysig i’w chwarae, wrth gwrs, ac ni fuasem eisiau i bobl fynd i rywle arall a theithio ymhellach i gael y mathau hynny o brofiadau, ond pan edrychwn ar rai o’r trefi llai a gysylltir, yn draddodiadol, â busnesau llai yn arbennig, ac yn wir, fel y mae’n ei ddweud yn gywir, rhai o’r canolfannau mewn dinasoedd yn ogystal, rydym yn gweld darlun gwahanol, ac mae’n un mwy negyddol. Felly, gostyngiadau mawr yn nifer yr ymwelwyr mewn llefydd fel Aberystwyth, Caerffili a Chaergybi, ac yn y blaen. Mae hynny’n ymwneud yn rhannol ag effeithiau siopa ar-lein; mae’n ymwneud yn rhannol â chystadleuaeth canolfannau siopa ar gyrion y dref yn ogystal. Rydym yn gweld, yn gyffredinol, fod gostyngiad sylweddol wedi bod yn nifer y busnesau manwerthu mewn llawer o drefi a dinasoedd yng Nghymru, ac wrth gwrs, mae gennym gyfradd uwch o siopau gwag o gymharu â Lloegr, er enghraifft: tua 15 y cant ym mis Mehefin eleni o’i gymharu ag 11 y cant neu 12 y cant yn Lloegr ac yn yr Alban.

Felly, mae her patrwm newidiol manwerthu yn sicr yn un bwysig iawn i ni yng Nghymru, ac mae angen i ni ymateb iddi. Mae’n rhaid i ran o’r ymateb, fel rydym wedi’i drafod sawl gwaith yn y Siambr hon, edrych ar ardrethi busnes. Nid yw’n ymddangos yn iawn i mi ein bod, mewn gwirionedd, yn trethu pobl sydd mewn adeilad manwerthu ffisegol yn uwch na’r rhai sy’n masnachu ar-lein. Felly, rwy’n credu bod angen i ni gael ymateb mwy arloesol i hynny.

Yn y gwelliant, rydym wedi cysylltu hwn â photensial ehangach, sef troi Cymru gyfan yn ardal fenter. Mae angen i ni greu rhywfaint o fantais gystadleuol, rhywfaint o fantais gymharol, i’n busnesau yn gyffredinol—busnesau bach, canolig eu maint ac eraill. Nid yw’n syniad gwreiddiol, rhaid i mi gyfaddef, i wneud Cymru gyfan—fel y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei wybod, ond nid wyf yn cyfeirio at yr erthygl yn ‘The Spectator’. A dweud y gwir, Plaid Unoliaethol Ulster a alwodd am wneud Gogledd Iwerddon yn ardal fenter yn ddiweddar, felly nid wyf yn siŵr mai dyna’r math o gynghrair Geltaidd y buasai fy nghyfaill y tu ôl i mi wedi’i chefnogi. Ond gall syniadau da ddod o unrhyw gyfeiriad, ac yn sicr, mae angen i ni geisio dod o hyd i syniadau newydd ac arloesol sy’n rhoi mantais o’r fath i’n busnesau, yn enwedig busnesau bach a chanolig eu maint a busnesau newydd ac yn y blaen.

Caffael—mater allweddol, unwaith eto. Yn amlwg rydym wedi ailadrodd pwysigrwydd y sector cyhoeddus sawl gwaith, ac rwy’n credu y bydd fy nghyd-Aelodau yn cyfeirio at hynny, ond buaswn hefyd yn ein hannog i edrych ar y sector preifat. Gadewch i ni edrych ar yr hyn y gall ein busnesau mawr yn y sector preifat ei wneud hefyd o ran caffael lleol. Pam na allem gael ymgyrch i annog pobl i brynu’n lleol a phrynu cynnyrch Cymreig sy’n cynnwys y sector preifat a chael nod barcud ar gyfer cyfrifoldeb lleol corfforaethol, os hoffech, fel ein bod yn gwybod, hyd yn oed pan fyddwn yn siopa neu’n gwneud busnes gyda busnesau mwy, eu bod hwy eu hunain wedi’u cloi mewn cadwyn gyflenwi leol? Mae Llywodraeth Rwmania newydd basio Bil sy’n mynnu bod 51 y cant o’r bwyd mewn archfarchnadoedd lleol yn Rwmania yn rhan o’r hyn y maent yn ei alw’n ‘gadwyn gyflenwi fer’—hynny yw, mae’n rhan o’r system fwyd leol yn y bôn. Ac maent yn dal i fod yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd. Mae’n ddehongliad llawer mwy creadigol o bosibl nag a gawsom hyd yn hyn o reolau caffael yr UE. Os gallant hwy ei wneud, yna, yn sicr, fe allwn ninnau hefyd.

Y banc datblygu, y comisiwn seilwaith cenedlaethol—yn bendant mae angen i’r sefydliadau newydd hyn y byddwn yn eu creu wrando ar anghenion busnesau bach. Nid yw busnesau bach bob amser wedi—mae ganddynt y Ffederasiwn Busnesau Bach erbyn hyn, ond efallai nad ydynt bob amser wedi bod â’r pŵer lobïo sydd gan fusnesau mawr. Weithiau, pan fyddwn yn ystyried creu’r sefydliadau hyn, mae anghenion busnesau bach yn cael eu hanwybyddu. Rwy’n falch o weld bod yr achos busnes ar gyfer y banc datblygu, yn arbennig, yn pwysleisio’r angen i ddarparu benthyciadau i ficrofusnesau. Yn yr un modd, gyda’r comisiwn seilwaith cenedlaethol, rwy’n gwybod beth y mae’r busnesau bach yng Nghymru yn ei ystyried yn angen dybryd o ran seilwaith. Nid y tagfeydd ar yr M4 yw’r broblem mewn gwirionedd, ond y tagfeydd yn ein seilwaith digidol, yr anallu i gysylltu i’r un graddau ag y mae busnesau o gwmpas y byd yn cysylltu. Rwy’n siŵr mai dyna ble y byddent yn hoffi ein gweld yn buddsoddi.

Rwyf wedi dethol y chwe gwelliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3, 4, 5 a 6 eu dad-ddethol. Rwyf yn galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:

Yn nodi:

a) effaith cynlluniau llwyddiannus fel dydd Sadwrn busnesau bach, sy’n cynyddu nifer y bobl sy’n ymweld â chanol trefi ledled Cymru;

b) cytundeb y gyllideb ddrafft gyda Phlaid Cymru, sy’n cynnwys £3m a fydd yn galluogi awdurdodau lleol i gynnal cynlluniau peilot i asesu effaith cynnig mannau parcio am ddim yng nghanol trefi;

c) bod y system ardrethi busnes bresennol yn codi £1bn, sy’n cefnogi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru y mae busnesau bach yn dibynnu arnynt;

d) nad yw’r gwaith ailbrisio ardrethi busnes a gynhaliwyd gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio, sef asiantaeth annibynnol, wedi ei gynllunio i godi refeniw ychwanegol ac er bod rhai gwerthoedd ardrethol wedi cynyddu, maent wedi gostwng ar y cyfan;

e) ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun rhyddhad ardrethi busnes newydd, parhaol yn 2018;

f) bod y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol wedi cynyddu nifer y busnesau bach yng Nghymru sy’n cael contractau; a

g) bwriad Llywodraeth Cymru i:

i) sicrhau y rhoddir pwysau dyledus i fuddiannau busnesau bach a chanolig yng ngwaith y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol newydd i Gymru a’r Banc Datblygu Cenedlaethol; a

ii) cyhoeddi blaenoriaethau economaidd newydd yn 2017, i wneud Cymru’n fwy llewyrchus a sicr.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Galwaf ar Nick Ramsay i gynnig gwelliannau 2, 3, 4, 5 a 6 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.

Gwelliant 2—Paul Davies

Ychwanegu ar ddiwedd pwynt 1:

‘ond yn gresynu mai yng Nghymru y mae’r raddfa uchaf yn y DU o siopau gwag ar y stryd fawr a bod nifer yr ymwelwyr â’r stryd fawr yng Nghymru wedi disgyn 1.4 y cant o’i gymharu â mis Hydref 2015.’

Gwelliant 3—Paul Davies

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn croesawu ymrwymiad y gyllideb ddrafft i gyflwyno cynllun peilot ar gyfer parcio am ddim ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio mwy gyda’r diwydiant manwerthu i lunio dull integredig o adfywio canol trefi, sy’n ymgorffori parcio am ddim, diwygio ardrethi busnes, cynllunio wedi’i symleiddio, rheolwyr canol trefi ac economi gyfrifol gyda’r nos.

Gwelliant 4—Paul Davies

Ym mhwynt 5, dileu is-bwynt (b).

Gwelliant 5—Paul Davies

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 5:

‘cydnabod manwerthu fel sector flaenoriaeth wrth ddatblygu strategaeth economaidd newydd Llywodraeth Cymru.’

Gwelliant 6—Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod llywodraeth glymblaid Cymru’n Un wedi methu ag ymestyn y rhyddhad ardrethi busnes i fusnesau bach yng Nghymru.

Cynigiwyd gwelliannau 2, 3, 4, 5 a 6.

Diolch, Lywydd. Rwy’n falch o gyfrannu at y ddadl hon ac i gynnig gwelliannau’r Ceidwadwyr Cymreig yn enw Paul Davies. Fel y mae ein gwelliannau yn nodi, Cymru sydd â’r gyfradd uchaf o siopau gwag ar y stryd fawr yn y DU, ac mae nifer yr ymwelwyr wedi gostwng 1.4 y cant, o’i gymharu â Hydref 2015. Iawn, un o nifer o ystadegau, ond ystadegyn pwysig serch hynny. Rwy’n credu ein bod i gyd yn ymwybodol iawn o’r rhan bwysig y mae ein strydoedd mawr yn chwarae mewn economïau lleol ledled Cymru, ac mae hynny’n wir mewn rhannau trefol a gwledig o Gymru. Rydym wedi cael llawer o ddadleuon—rhai ohonom yn fwy nag eraill—yn y Siambr am hyn dros y blynyddoedd. Rwyf wedi siarad mewn llawer ohonynt, ac yn y Cynulliad diwethaf, cadeiriais adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar adfywio strydoedd mawr. Mae gennyf gopi ohono yma. Mae’n parhau i fod yn ddeunydd darllen perthnasol iawn. Roedd yr adroddiad hwnnw’n gwneud nifer o argymhellion—21, mewn gwirionedd. Faint o’r argymhellion hynny a dderbyniwyd ar y pryd gan Lywodraeth Cymru sydd wedi cael eu gweithredu? Yn wir, yn y dyddiau hynny, nid oedd yr ailbrisiad ar ein radar hyd yn oed, ond roedd materion eraill yn ymwneud â dirywiad ein strydoedd mawr ar y radar, ac roedd Llywodraeth Cymru yn ymwybodol ohonynt. Dair blynedd yn ddiweddarach, rwy’n credu ei bod yn bwysig ein bod yn cael y newyddion diweddaraf ynglŷn â gweithredu’r argymhellion hynny.

Nid oes amheuaeth o gwbl ein bod angen dull integredig, sy’n galw am berthynas agos rhwng Llywodraeth Cymru ar y naill law, y diwydiant manwerthu, system gynllunio symlach, a diwygio ardrethi busnes. Wrth gwrs, er bod hwn yn un o’r cynigion dal popeth, neu ddal llawer o bethau, sy’n cynnwys llawer o wahanol agweddau, effaith ailbrisio ardrethi busnes sydd wedi bod ar flaen ein meddyliau dros yr wythnosau diwethaf. Mae’n rhaid i mi ddweud, gan droi at welliant y Llywodraeth i’r cynnig hwn—wel, mae’n gynnig amgen bron, mae’n debyg mai dyna y buasech yn ei alw—rydym yn gwybod nad bwriad yr ailbrisio yw codi refeniw ychwanegol, ac rydym yn gwybod bod ardrethi wedi gostwng ar y cyfan, ond nid yw hynny’n helpu’r busnesau yr effeithiwyd arnynt gan gynnydd yn yr ardrethi. Gadewch i ni beidio ag anghofio bod y busnesau sydd wedi gweld cynnydd, mewn llawer o achosion, wedi gweld cynnydd sy’n dod â dŵr i’r llygaid. Ddoe, derbyniais e-bost gan etholwr sydd â busnes yn Nhyndyrn, a ddywedodd, ac rwy’n dyfynnu, ‘Gyda phryder, nodaf y cynnydd o 60 y cant yn fy ardrethi busnes, ac rwy’n credu bod hynny’n afresymol, yn anghyfiawn ac yn gwbl ddieflig. Canolfan i ymwelwyr sydd gennym, canolfan na allem ei rhedeg o siop gloi’—Ni fuasai’n bosibl rhedeg y ganolfan o safle ar y rhyngrwyd, yn wir. ‘Nid oes tâl mynediad. Eich penderfyniad’—ac anfonwyd hwn yn benodol at Asiantaeth y Swyddfa Brisio, a chopi ataf fi—’Eich penderfyniad fydd yn pennu yn y pen draw a fyddwn yn aros ar agor ai peidio.’

Cefais un arall ychydig o ddyddiau’n ôl: ‘Rwyf newydd gael gwerth ardrethol diwygiedig ar gyfer fy musnes, ac oherwydd nad oes cynnydd yn nhrothwy’r rhyddhad ardrethi i fusnesau bach ar hyn o bryd, ar gyfer 2017, bydd fy musnes yn wynebu taliad o bron i £2,500 nad yw’n ei dalu ar hyn o bryd. Ni allaf fforddio’r gost hon a bydd yn golygu bod fy musnes yn cau.’ Mae’r e-bost yn mynd ymlaen i ddweud: ‘A allwch roi gwybod sut y gellir osgoi hyn os gwelwch yn dda, neu dewch i’r arwerthiant cau siop rwy’n bwriadu ei gynnal?’

E-byst torcalonnus ac ingol gan bobl sydd ar ben eu tennyn ers iddynt sylweddoli’r effaith y bydd hyn yn ei gael ar eu busnesau.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae hon yn sefyllfa ofidus iawn. Os na fydd unrhyw beth yn cael ei wneud, gallem golli nifer o fusnesau bach y flwyddyn nesaf ar raddfa nas gwelwyd o’r blaen, o leiaf yn y rhannau o Gymru lle y gwelir yr effeithiau gwaethaf. Bydd hynny’n cael effaith ganlyniadol ar strydoedd mawr, cyflogaeth a siopwyr. ‘Does bosibl mai dyma’r bwriad. Rwy’n siŵr nad dyma yw bwriad yr ailbrisio na bwriad Llywodraeth Cymru. Mae ein busnesau angen camau gweithredu a sicrwydd, felly rydym yn cefnogi’r alwad i ehangu’r rhyddhad trosiannol sydd ar gael i fusnesau bach yr effeithir arnynt gan yr ailbrisio hwn. Nid ystadegau’n unig yw’r rhain; mae’r rhain yn bobl go iawn gyda bywoliaeth, staff i’w cyflogi, a theuluoedd i’w magu. Mae cael dau ben llinyn ynghyd yn gallu bod yn ddigon anodd, fel y gwyddom, heb y mathau hyn o godiadau yn yr ardrethi.

Fel y mae’r cynnig yn ei ddweud, mae’r system ardrethi busnes gyfredol yn rhoi baich anghymesur ar fusnesau bach yma, o’i gymharu â gweddill y DU. Yn y pen draw, mae hwn hefyd yn fater o degwch. Mae’r Blaid Lafur wedi dweud erioed mai hi yw plaid tegwch—neu arferai ddweud hynny o hyd—felly, nid wyf yn gweld sut y gallwch eistedd yn ôl a chaniatáu i anghyfartaledd o’r fath ddatblygu rhwng y rhai sydd ar eu hennill a’r rhai sydd ar eu colled, yng Nghymru ac yn wir, rhwng Cymru a thros y ffin, lle y gwelsom wahanol becynnau cymorth rhyddhad ardrethi busnes yn cael eu cyflwyno.

I gloi, Lywydd, gan droi’n fyr at rannau olaf y cynnig, rydym yn credu bod gosod targed i gynyddu lefelau caffael yn syniad da. Mae lefelau caffael Cymru gryn dipyn yn is nag y dylent fod. Cyfarfûm â chwmni peirianneg lleol yng Nghas-gwent y llynedd a oedd wedi rhoi’r gorau i wneud cais am gontractau ar yr ochr hon i’r ffin, oherwydd goruchafiaeth cwmnïau mawr yn y broses. Felly, mae angen mwy o bwysoliad tuag at gwmnïau lleol, ac yn wir, buasai strategaeth prynu’n lleol yn ddatblygiad cadarnhaol iawn. Felly, mae llawer o bethau da yn y cynnig hwn. I gloi, hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am ei gyflwyno. Gadewch i ni fwrw ymlaen â’r gwaith o adfywio ein strydoedd mawr a darparu cymorth angenrheidiol i’n busnesau lleol, er mwyn iddynt ffynnu, rhoi arian yn ôl i’r economi leol, a gwella’r amgylchedd economaidd lleol i bawb.

Mae fy sylwadau i yn ymwneud â chymal 2 yn y cynnig, sy’n cyfeirio at barcio. Mae canol trefi gwag a siopau wedi’u bordio i fyny yn olygfa sy’n llawer rhy gyfarwydd ar draws Cymru, er gwaethaf ymdrechion i fywiogi pethau efo ychydig bach o dinsel a goleuadau’r Nadolig yr adeg yma o’r flwyddyn. Mae dirywiad cyson y stryd fawr ledled Cymru yn ein hatgoffa bod angen strategaeth gan y Llywodraeth er mwyn cefnogi busnesau lleol yn ein cymunedau. Fel yr ydym ni wedi’i glywed, mae’n dod yn gynyddol anodd i fasnachwyr oroesi ar y stryd fawr. Tra bod datblygiadau ar gyrion trefi yn ffynnu, a siopa ar-lein ar gynnydd, mae masnachwyr y stryd fawr yn crefu am gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Yn fy etholaeth i, ym Mangor, mae un o bob pum siop yn wag, er mae’n rhaid imi ddweud fod yna arwyddion bod pethau’n gwella er sefydlu’r ardal gwella busnes yn y ddinas.

Mewn tref arall, Caernarfon, stori o ffyniant sydd i’w gweld wrth i fusnesau bach annibynnol, ‘niche’, greu bwrlwm. Felly, nid ydy’r darlun yn un cwbl ddu. Yn dilyn cytundeb ar y gyllideb rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru, mae cronfa o £3 miliwn wedi cael ei sefydlu a fydd yn galluogi awdurdodau lleol i beilota defnyddio cyfleusterau parcio ceir am ddim yng nghanol trefi ledled Cymru. Bydd hefyd yn galluogi awdurdodau i asesu gwir effaith hyn ar adfywio canol trefi. Rwy’n prysuro i ychwanegu nad parcio am ddim pob awr o’r dydd pob dydd o’r flwyddyn ym mhob maes parcio ydy’r ateb. I ddechrau, nid yw hynny’n beth realistig, a gallai o hefyd filwrio yn erbyn y bwriad, efo gweithwyr swyddfa yn camddefnyddio’r cynllun, ac yn parcio yna drwy’r dydd, er enghraifft, gan olygu na fydd yna le i bobl sydd am ddod i mewn i’r canol i siopa.

Mae tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru ei hun wedi dangos bod cyrchfannau y tu allan i ganol trefi sy’n cynnig parcio am ddim ar eu hennill ar draul canol y trefi. Mae llawer o gynghorau ledled Cymru yn cynnig parcio am ddim am gyfnod dros ŵyl y Nadolig mewn ymdrech i ddenu pobl i wario yng nghanol eu trefi. Mae Cyngor Gwynedd, er enghraifft, yr wythnos yma wedi datgan ei fod am gynnig parcio am ddim ledled y sir er mwyn hybu mwy o bobl i ymweld â’n trefi ni yn ystod y Nadolig. Ond beth mae ein cynnig ni heddiw yn ei nodi yw ein llwyddiant ni i sefydlu cronfa newydd a fydd yn galluogi awdurdodau lleol i gynnig cyfleusterau parcio am ddim ar adegau penodol mewn trefi ledled Cymru. Ym marn Plaid Cymru, cronfa fyddai hon a fyddai’n galluogi awdurdodau lleol i wneud cais am grant er mwyn cynnig parcio am ddim am ychydig oriau ar gyfer cefnogi trefi sydd wir angen y gefnogaeth yna. Mi fyddai angen meini prawf penodol er mwyn sicrhau bod trefi penodol yn gymwys. Buaswn i’n meddwl mai’r cynllun gorau fyddai creu pot o bres mae cynghorau wedyn yn bidio amdano, a bod yna feini prawf ar gael ar gyfer y pres. Er enghraifft, byddai cyngor yn rhoi bid i mewn am, dyweder, £100,000 er mwyn gallu cynnig parcio am ddim am dair awr y dydd am flwyddyn mewn maes parcio bychan, hwylus wrth ymyl y stryd fawr, a’r arian wedyn yn mynd yn rhannol i ddigolledu’r cyngor am y ffioedd y maen nhw’n eu colli. Mi fyddai angen i’r bidiau gael eu mesur yn erbyn meini prawf—er enghraifft, stryd fawr sydd wedi colli hyn a hyn o ‘footfall’ ers hyn a hyn o amser, maes parcio a fyddai’n agos at y stryd fawr, ac eglurhad ynghylch pam fod y cyngor yn meddwl y byddai’n gwneud gwahaniaeth. Byddai angen i’r cyngor orfod mesur llwyddiant y cynllun hefyd er mwyn cynyddu’r dystiolaeth sydd ar gael ynglŷn ag effeithlonrwydd cynnig parcio am ddim er mwyn cynyddu defnydd. Dylai’r gronfa alluogi cynghorau sir i dreialu’r cynllun mewn llefydd penodol.

Dyna amlinellu’n fras rai syniadau ynglŷn â sut y dylid mynd ati rŵan efo’r gronfa, ac fe fyddwn ni’n edrych ymlaen at fod yn rhan o’r trafod yna, os yn bosib, er mwyn i ni ddatblygu cynllun sydd yn hyfyw ac sydd wir yn mynd i gael effaith.

Mae angen strategaeth gyflawn er mwyn adfywio ein strydoedd mawr. Nid ydy cynnig parcio am ddim fel polisi ar ei ben ei hun, wrth gwrs, ddim yn mynd i ddatrys yr holl broblemau. Ond mae angen i’r Llywodraeth fentro efo polisïau fel hwn—polisi amgen, gwahanol—er mwyn ceisio gwrthdroi’r dirywiad hanesyddol.

Ddydd Sadwrn, fel rhan o Ddydd Sadwrn y Busnesau Bach, byddaf yn ymweld ag amrywiaeth o fusnesau bach sy’n cyfoethogi fy etholaeth, gan ddechrau gyda’r siop drin gwallt, Headmistress, yng nghanolfan siopa Maelfa yn Llanedern, sy’n dathlu 40 mlynedd o dorri a siapio gwallt trigolion lleol. Rwy’n siwr ei bod, yn ystod y cyfnod hwnnw, wedi gwrando ar yr holl lwyddiannau a’r siomedigaethau, gan gynnwys y genedigaethau, y marwolaethau a’r priodasau sy’n nodi’r cerrig milltir ym mywydau pobl. Wedyn, byddaf yn mynd draw at y cigydd rhagorol drws nesaf—y cigydd gorau yng Nghaerdydd o bell ffordd—dyn sy’n gwybod yn union o ble y daw ei holl gig a’i wyau, ac sy’n gwneud ei basteiod blasus ei hun. Beth sydd yna i beidio â’i hoffi am becyn stiw am £2.96 y kilo, y gall y teulu tlotaf ei fforddio hyd yn oed, yn ogystal â chig oen gwych y glastraeth, a thoriadau eraill ar gyfer achlysuron arbennig? Yna, byddaf yn cerdded ar draws y coridor i’r siop ffrwythau a llysiau, sy’n cael ei rhedeg gan aelod lleol arall o’r coridor. Bob dydd, am y 40 mlynedd diwethaf, mae hi wedi gadael ei chartref am 5 o’r gloch y bore i fynd i farchnad gyfanwerthu Heol Bessemer i wneud yn siŵr ei bod yn cael cynnyrch ffres am y gwerth gorau i’w chwsmeriaid. Mae hi’n dosbarthu eitemau swmpus fel sachau o datws i dai pobl nad oes ganddynt gar.

Mae’r bobl hyn yn darparu gwasanaeth i’w cymuned ac nid yr elw’n unig sy’n bwysig iddynt. Dyna un o hanfodion busnesau bach. Felly, byddaf yn ychwanegu fy llais at y rhai sy’n annog pobl i wario o leiaf £10 mewn siopau lleol ddydd Sadwrn. Mae’n rhaid i ni eu defnyddio neu byddwn yn eu colli, ac mae angen i bobl fod yn ymwybodol o’r cydlyniant cymunedol y maent yn ei gynnig y tu hwnt i allu warysau’r siopau mawr, ac er bod gan y rheini ran i’w chwarae yn darparu nwyddau sych neu bryniadau cyfanwerthol mawr, ni fyddant byth yn gallu atgynhyrchu agosatrwydd a chydlyniant cymunedol busnesau bach. Dyna pam y mae cyngor Llafur Caerdydd yn buddsoddi £1 filiwn i adfywio canolfan siopa Maelfa, ac rwy’n eu canmol am hynny.

Gan droi yn awr at gyfraniad Nick Ramsay, yr agwedd gwydr hanner gwag, hoffwn ddweud wrtho, o gymharu â chynllun Llafur Cymru, lle y bydd mwy na 70 y cant o fusnesau bach yng Nghymru yn cael cymorth naill ai drwy’r cynllun rhyddhad manwerthu neu’r cynlluniau eraill sydd ar gael—. Cymharwch hynny gyda Llywodraeth y DU, dan arweiniad eich plaid chi, lle na fydd ond traean o’r rhai sy’n talu ardrethi busnes yn cael peidio â thalu ardrethi o gwbl. Ni fydd dros 60 y cant yn talu yng Nghymru, felly rwy’n credu bod angen i ni gael rhywfaint o gydbwysedd yn y ddadl hon am y gefnogaeth aruthrol y mae Llywodraeth Cymru—[Torri ar draws.] Ydw, rwy’n hapus i wneud hynny.

Rwy’n ddiolchgar iawn i chi am ildio ar hynny. Fe wnes i ddweud yn fy nghyfraniad fod gostyngiad, ar gyfartaledd, yn yr ardrethi ar draws Cymru. Felly, fe wnes i gydnabod hynny. Fy mhwynt oedd bod y busnesau yn y rhannau hynny o Gymru yr effeithiwyd arnynt wedi cael eu heffeithio’n arbennig o wael. Rwy’n credu mai bod yn hunanfodlon fyddai peidio â chydnabod hynny a rhoi mesurau penodol ar waith ar gyfer y busnesau hynny fel na fydd yn rhaid iddynt ddioddef. Nid ydym am i unrhyw un ddioddef yn sgil yr ailbrisio.

Iawn, rwy’n deall hynny. Ond mae yna gronfa bellach ar gael i ddarparu cymorth trosiannol lle y mae busnesau wedi gweld ardrethi’n codi. Mae’n rhaid i ni gofio bod y swyddfa brisio yn gorff annibynnol, fel yr amlygir yng ngwelliant 1. Mae’n annibynnol ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Er bod rhai gwerthoedd ardrethol wedi codi, ar y cyfan, maent wedi gostwng fel rhan o’r ailbrisiad. Mae £10 miliwn ar y bwrdd ar ffurf rhyddhad trosiannol i fusnesau yr effeithiwyd arnynt yn arbennig o wael, felly bydd mwy na thri chwarter yr holl fusnesau yng Nghymru yn cael rhyw fath o doriad treth i dalu eu biliau ardrethi yn ystod y flwyddyn nesaf. Bydd £200 miliwn ar gael mewn cymorth ariannol dros y flwyddyn nesaf i fusnesau drwy ryddhad gorfodol a disgresiynol.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Rwyf hefyd yn falch iawn o’r gwaith sy’n cael ei wneud i adfywio canol trefi drwy Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid—£110 miliwn i ddod â chanol trefi yn ôl yn fyw, o 2014 hyd at y flwyddyn nesaf—tai fforddiadwy newydd, cyfleusterau cymunedol wedi’u huwchraddio, creu swyddi, cynorthwyo pobl i gael gwaith a sicrhau buddsoddiad ychwanegol, yn bennaf drwy’r UE.

Parcio ceir—rwyf eisiau tynnu sylw at y ffaith nad parcio yw’r ateb i bob problem ar gyfer adfywio cymunedau. Mae yna lawer o enghreifftiau lle y mae parcio am ddim yn atal pobl sydd angen siopa rhag cael lle mewn gwirionedd. Felly, cynhyrchodd Sustrans lawer o enghreifftiau diddorol lle y mae pobl eisiau cyfleusterau gwell i gerddwyr a beicwyr mewn gwirionedd ac maent yn fwy tebygol o ddychwelyd i’r stryd fawr a gwario mwy o arian dros amser na chwsmeriaid sy’n cyrraedd mewn car. Mae parcio am ddim digyfyngiad yn niweidio strydoedd mawr.

Y tu allan i’r DU, yn Efrog Newydd, llwyddodd lonydd beicio newydd a chael gwared ar barcio i hybu masnach ar Eighth Avenue o’i gymharu ag ardaloedd eraill o’r ddinas. Ac mae dull arloesol sy’n cael ei ddefnyddio yn San Francisco yn codi tâl mewn modd sy’n sensitif i’r galw lle y mae pris parcio’n newid yn dibynnu ar faint o leoedd a lenwyd, gan sicrhau trosiant cwsmeriaid ar adegau prysur. Rwy’n credu bod honno’n dystiolaeth wirioneddol ddiddorol o ran arall o’r byd. Rhaid i ni edrych yn fanwl ar yr hyn sy’n gweithio. Nid parcio rhatach yw’r ateb hollgwmpasol i wneud ein strydoedd mawr yn llwyddiant unwaith eto.

Fe fyddaf yn sôn yn bennaf ynglŷn â threthi busnes, ond os caf i ddilyn i fyny gyda’r hyn mae Jenny Rathbone newydd ei ddweud, nid oes neb yn dadlau bod parcio am ddim dros dro mewn dinasoedd yn ‘panacea’ o bell ffordd. Ond, wrth eu gweithredoedd mae eu hadnabod nhw, ac rwy’n sylweddoli bod cyngor Llafur Rhondda Cynon Taf newydd gyhoeddi parcio am ddim dros dro dros y Nadolig er mwyn hybu trefi yn Rhondda Cynon Taf. Felly, mae’n rhaid i chi weithredu eich hunain os ydych chi am feirniadu pobl eraill.

Ond rwyf eisiau canolbwyntio ar drethi busnes a’r cyfle, drwy ddiwygio’r system trethi busnes, i adfywio nifer o’n trefi ni. Fe fyddaf i’n treulio Sadwrn Busnesau Bach, wrth gwrs, yn ymweld â busnesau bach. Rwy’n gobeithio yn fawr iawn y byddaf i yn Arberth, un o’r trefi sydd wedi llwyddo i ddangos sut mae newid trethi busnes yn gallu adfywio canol tref fach. Fe gafwyd gwyliau trethi busnes dros gyfnod hir yn Arberth er mwyn cynnig i fusnesau newydd ffurfio er mwyn torri’r ddolen yna bod yn rhaid i chi ymrwymo am gyfnod hir i gymryd eiddo drosodd. Mae unrhyw un sydd wedi ymweld ag Arberth yn sylweddoli bellach fod y dull yna wedi arwain at nifer o fusnesau bach yn sefydlu eu hunain, o gigydd i siopau bwyd i siopau arbenigol a siopau crefftau, ond siopau pob dydd hefyd. Felly, mae modd mynd i Arberth a chael yr hyn rydych chi eisiau ar gyfer yr wythnos a thalu ychydig iawn i barcio, of caf i ddweud, am awr neu ddwy hefyd.

Ond mae’n wir i ddweud hefyd nad yw’r Llywodraeth wedi ymateb i’r cynnydd mewn trethi busnes mewn ffordd briodol sy’n dysgu o drefi fel Arberth a threfi eraill yng Nghymru. Rydym mewn perygl o greu system trethi busnes yng nghanol trefi ymysg yr uchaf sydd i gael ym Mhrydain. Nid wyf yn meddwl bod hynny’n rhoi’r stryd fawr leol mewn sefyllfa ddelfrydol. Nid wyf yn credu bod y Llywodraeth, felly, yn dangos eu bod nhw eisiau gweld math o farchnad leol yn sefydlu ei hunan, fel roedd Adam Price yn amlinellu wrth agor y ddadl. Rydym ar fin symud i system lle, o ran y trethi ac o ran y gyfradd—rŷm ni’n symud i system lle mai ni yng Nghymru fydd y rhai mwyaf drud o safbwynt hynny ym Mhrydain. Nid yw hynny’n rhoi awch, nid yw’n dangos cefnogaeth i’r busnesau ac nid yw’n rhoi’r sefyllfa gystadleuol rydym eisiau ei gweld wrth hybu ein busnesau bach ni ar y stryd fawr.

Mae hynny, wrth gwrs, yn torri’r addewid a oedd gan y Blaid Lafur yn eu maniffesto i gael system well na’r system bresennol, ac wrth gwrs fe gafwyd y sbin mwyaf fod parhau â’r system bresennol rhyw ffordd yn doriad mewn trethi busnes. Wel, mae’r busnesau bach wedi gweld yn syth drwy’r sbin yna ac yn gweld yn glir, a dweud y gwir, nad yw datganoli trethi busnes wedi’i fanteisio arno yn y ffordd fwyaf priodol gan y Llywodraeth. Rwy’n gobeithio bod hon yn system dros dro, achos mae’n rhaid i ni, os ydym am fod o ddifrif wrth ddatblygu’r economi, ddefnyddio pob arf economaidd posibl sydd gennym ni. Ychydig iawn sydd gyda ni ac nid oes llawer yn mynd i ddod ym Mil Cymru, chwaith. Ond, rydym yn gwybod bod trethi busnes yn un o’r arfau mwyaf pwerus sydd gennym—tu allan i’r ‘block grant’, fel petai. Felly, mae’n un o’r pethau lle rydym yn gallu gwneud gwahaniaeth.

Un peth y gallwn ni ei wneud ac ystyried o ddifrif yma yng Nghymru yw newid y ‘multiplier’ i’r CPI yn hytrach na’r RPI. Peth arall y gallwn ni edrych arno yw pam yn y byd y mae gennym ni un ‘multiplier’ dros Gymru gyfan. Nid yw pob ardal yng Nghymru yr un peth; nid yw pob busnes yr un peth. Mae gan yr Alban, erbyn hyn, ‘multipliers’ gwahanol ar gyfer busnesau bach a busnesau mawr. Byddwn i’n licio—[Torri ar draws.] Mewn eiliad, ie. Byddwn i’n licio meddwl ein bod ni’n gallu edrych ar ‘multipliers’ rhanbarthol hefyd. Er enghraifft, rwyf wastad yn sôn yn y dadleuon hyn am y ffaith fod gan bont Cleddau doll arni, ac felly mae’n doll ar fusnesau bach mewn ardal fenter. Gallwn ni edrych ar sut y gallwn ni ddefnyddio’r ardoll trethi busnes i ymateb i’r ffaith bod y doll yn yr ardal honno. Gwnaf ildio ar y pwynt yna.

Diolch yn fawr. Fe sonioch am gwestiwn y lluosydd hollt sy’n berthnasol yn Lloegr a’r Alban. Onid yw’n wir, fodd bynnag, fod yn rhaid i ni fod yn ofalus ynglŷn â chymharu’n uniongyrchol yn y fath fodd oherwydd bod natur y sylfaen dreth yn wahanol iawn mewn gwirionedd—yn sicr yn Lloegr—i’r hyn a geir yng Nghymru? Yn arbennig gyda’r nifer fach o eiddo ardrethol o werth uwch yng Nghymru, byddai’r baich ar y rheini o ysgwyddo’r gostyngiad ar gyfer y sector busnesau bach mwy o faint yn aneconomaidd yn ôl pob tebyg. A fyddai’n cydnabod hynny?

Nid wyf yn siŵr fy mod i’n derbyn y ddadl reit i’r pen. Rwy’n derbyn y dystiolaeth rydych chi wedi ei gosod, ac mae’n un o’r pethau rydw i eisiau sôn amdano fe, achos mae’n un o’r atebion ynglŷn â meysydd parcio. Un o’r pethau nad ydym ni wedi ei wneud yng Nghymru yw defnyddio trethi busnes i edrych ar bethau fel meysydd parcio ar gyfer archfarchnadoedd a datblygiadau mas o’r dref, sydd heb drethi o gwbl yn y cyd-destun yna. Felly, wrth edrych ar hyn, rydw i’n meddwl bod angen golwg ffres—bydd yn rhaid cymryd y dystiolaeth yna, ond bydd angen golwg ffres iawn, rydw i’n meddwl, ar y ffordd rydym ni’n gallu symud ymlaen.

Y peth olaf rydw i eisiau sôn amdano fe, gan fod amser yn dod i ben, yw’r ffaith, efallai, fod modd adlewyrchu yn y ffordd rydym yn edrych ar hyn ar drethi busnes a threth busnesau twristiaeth. Bu cyfarfod blynyddol neithiwr o gymdeithas marchnata twristiaeth Abersoch, er enghraifft—jest fel enghraifft—lle’r oedd yna gryn sôn, rydw i’n meddwl, am y ffaith bod nifer o fusnesau ond yn weithredol am hanner y flwyddyn, ar adeg prysur iawn o ran twristiaeth. Ac mae unrhyw orolwg o drethi busnes newydd yn gorfod cymryd i ystyriaeth busnesau twristiaeth hefyd.

Dydd Sadwrn y Busnesau Bach—am ffordd wych o helpu ein perchnogion busnes rhyfeddol, ein siopwyr, perchnogion gwestai, gweithredwyr cyfleusterau hamdden, caffis, ein tafarndai, pobl yn y diwydiant gwasanaethau, ein ffermwyr, ein gyrwyr tacsi; mewn gwirionedd, pawb sy’n codi’n gynnar yn y bore, yn gweithio’n galed drwy’r dydd i ennill bywoliaeth iddynt eu hunain a’u teuluoedd—y perchnogion busnesau bach rydym yn disgwyl iddynt ddarparu ar ein cyfer drwy gydol y flwyddyn, saith niwrnod yr wythnos, 52 wythnos y flwyddyn, mewn glaw neu hindda, mewn iechyd neu salwch, a hyd yn oed pan fyddant yn teimlo bod popeth yn cystadlu yn eu herbyn mewn gwirionedd, a bod polisi’r Llywodraeth yn gweithio yn eu herbyn: ardrethi busnes, rhenti, gorbenion, ffurflenni TAW. Gall mentrau o’r fath fod yn hwb gwirioneddol i ganol trefi ar draws Cymru, fel Conwy yn fy etholaeth i, lle y mae 92.5 y cant o’r siopau’n annibynnol. Yma yng Nghymru, fodd bynnag, gennym ni y mae’r gyfradd uchaf o siopau gwag ar y stryd fawr yn y DU, gyda nifer yr ymwelwyr i lawr 1.4 y cant ers y llynedd. Felly mae lle i wella.

Rydym yn cydnabod y fantais y gall parcio am ddim ei chynnig i ganol y dref a’r stryd fawr. Rydym yn croesawu’r cyhoeddiad yng nghyllideb y mis diwethaf fod £3 miliwn o gyllid wedi’i ddyfarnu ar gyfer cynllun peilot a luniwyd i roi diwedd ar ffioedd parcio yng nghanol y dref. Bydd cynghorau Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe yn cynnig parcio am ddim dros gyfnod y Nadolig i ddenu siopwyr a sicrhau budd i fusnesau lleol a chanol trefi. Ond dylai hyn gael ei hyrwyddo drwy gydol y flwyddyn, nid yn y cyfnod cyn y Nadolig yn unig neu ar Ddydd Sadwrn y Busnesau Bach. Gall mentrau o’r fath helpu i wrthsefyll colli busnesau i barciau manwerthu ar gyrion trefi. Mae Blaenau Gwent a Thorfaen yn cynnig parcio am ddim drwy gydol y flwyddyn, wrth iddynt roi blaenoriaeth i adfywio canol y dref. Eto i gyd mae cyngor Caerdydd, a aeth ati i bron â dyblu’r ffioedd parcio uchaf i £10 y llynedd, er gwaethaf llawer o wrthwynebiad, wedi gweld elw o £3.5 miliwn. Nid dyma’r ffordd y dylai cynghorau fod yn ennill refeniw. Rhaid i ni edrych ar system ardrethi busnes well a rhyddhad ardrethi gwell.

Diolch yn fawr am hynny. Os caf nodi mai holl bwrpas codi’r arian o ffioedd parcio yw rhoi’r arian i gynghorau gyflwyno lonydd mwy diogel ar gyfer beicwyr a cherddwyr. Mae honno’n ffynhonnell bwysig o refeniw, fel arall ni fyddwn yn gallu symud ymlaen.

Diolch am hynny, ond faint o fusnesau sy’n cael eu colbio ac sy’n cael eu colli o ganlyniad i’r ffioedd parcio uchel hyn?

Rydym yn galw am ryddhad ardrethi gwell i fusnesau gwerth hyd at £12,000, ac wedi’i leihau’n raddol i fusnesau hyd at £15,000. Mewn ymateb i’r ailbrisiad drafft, mae’r Ffederasiwn Busnesau Bach wedi galw am ailbrisiadau mwy rheolaidd i sicrhau bod biliau’n adlewyrchu amgylchiadau economaidd a rhenti’n well, ac am gytuno safbwynt ar gadw ardrethi busnes yn lleol cyn gynted â phosibl. Byddai eu cadw’n lleol yn sicrhau cefnogaeth awdurdodau lleol i fusnesau, a gellid eu hailfuddsoddi yn y gwaith o hyrwyddo ac adfywio ein strydoedd mawr.

Yn olaf, mae’n hanfodol ein bod yn cydnabod mantais siopau bach i economi Cymru a’n cymunedau. Mae 3,096 siopau cyfleustra sy’n darparu bron i 25,000 o swyddi yng Nghymru. Mae 74 y cant yn eiddo i, ac yn cael eu gweithredu gan berchnogion busnesau bach. Mae’r rhain yn cynnig gwasanaethau cymunedol gwerthfawr—hysbysfyrddau lleol, peiriannau arian, gwasanaethau rhoi arian ar ffonau symudol, casglu parseli a chlicio a chasglu. Cymerodd 79 y cant o fanwerthwyr annibynnol Cymru ran mewn rhyw ffurf ar waith cymunedol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf—casglu arian ar gyfer elusennau, darparu cefnogaeth i ddigwyddiadau a gweithgareddau cymunedol, noddi tîm chwaraeon lleol neu gynnal cyfarfodydd cymunedol neu gymdeithasau busnes lleol a phrosiectau.

Ddirprwy Lywydd, mae’n rhaid i ni gydnabod a gwerthfawrogi ein strydoedd mawr i sicrhau bod canol ein trefi’n parhau’n llewyrchus a bywiog ar ôl Dydd Sadwrn y Busnesau Bach, ar ôl y Nadolig, a thrwy gydol y flwyddyn. Dydd Sadwrn y Busnesau Bach, 3 Rhagfyr—gadewch i ni ei drydar, gadewch i ni ei roi ar Facebook, a gadewch i ni ei ddathlu. [Aelodau’r Cynulliad: ‘Clywch, clywch.’]

Fe ddilynaf eich galwad i’r gad, Janet—mae eich angerdd yn danbaid. Rwy’n meddwl y dylem fod yn cael y ddadl hon mewn perthynas â sut rydym eisiau i’n dadleuon gael eu gweld gan y cyhoedd, a sut y gall y cyhoedd ymgysylltu â’r dadleuon rydym yn eu cael yn y Cynulliad mewn gwirionedd. Rwy’n dweud hyn am fy mod yn meddwl weithiau ein bod yn cyflwyno syniadau eithaf uchel ael, ond pan fyddwn yn siarad â phobl ar y stryd mae’r hyn y maent eisiau ei weld yn digwydd yn eu cymunedau yn syml iawn mewn gwirionedd. Er enghraifft, yng Nghastell-nedd, maent am gael addurniadau ar eu coeden Nadolig a fydd yn gwneud y profiad o fynd i mewn i’r dref yn fwy pleserus. Maent yn awyddus i allu cael profiad siopa pleserus ledled Cymru, ac rwy’n meddwl mai’r hyn rydym yn ei golli yn y ddadl hon yw pwynt gwerthu unigryw ar gyfer canol ein trefi: y Gelli Gandryll, lle ardderchog i fynd i brynu llyfrau; Penarth, siopau bwtîg. Gadewch i ni edrych i weld sut y gallwn wneud map o Gymru ac edrych ar wahanol drefi mewn golau gwahanol, a gwerthu hynny i ni ein hunain a gwerthu hynny i’r bobl sy’n dod i Gymru.

Rwy’n aml yn dychmygu fy hun fel ymwelydd â Chymru, neu fel teithiwr. Beth y byddwn yn ei wneud pe bawn i eisiau mynd dramor, a beth y byddwn am ei weld? Rwy’n meddwl y dylem geisio edrych ar bosibiliadau ein gwasanaethau a’n busnesau bach yn y ffordd honno er mwyn cynnig rhywbeth gwahanol i rywun yn y gwahanol drefi a’r dinasoedd y maent yn ymweld â hwy. Rwy’n meddwl ein bod yn ddiffygiol o ran hynny. Nid ydym yn gwerthu ein hunain yn effeithiol i Gymru, felly sut y gallwn werthu ein hunain i gymuned ryngwladol yn y cyd-destun hwnnw?

Neithiwr, fe nodais ar Facebook fy mod yn mynd i brynu anrhegion Nadolig yn gynnar i’w cael allan o’r ffordd, oherwydd fy mod yn teimlo’n dipyn o Scrooge ac nid oeddwn yn awyddus o gwbl i dreulio mis Rhagfyr ar ei hyd yn siopa. Dywedais fy mod yn eu prynu ar-lein, a chefais fy meirniadu ar unwaith gan bobl am brynu ar-lein. Ond mae yna fusnesau lleol sy’n gwerthu ar-lein, ac nid wyf am enwi brandiau, ond mae Etsy yn wefan dda iawn sy’n cynnwys llawer o wahanol gynhyrchion. Gallwch fynd ati i’w theilwra fel mai o Gymru yn unig y byddwch yn prynu, ac yna cynhyrchwyr o Gymru sydd ond yn gwneud eu crefftau eu hunain a gwneud eu pethau eu hunain. Ac rwy’n meddwl, unwaith eto, fod hyn yn rhywbeth y mae angen i ni ei ddatblygu ac arbenigo arno, gan nad oes raid iddo olygu eich bod yn prynu gan Amazons y byd hwn os ydych yn prynu oddi ar y rhyngrwyd. Mae yna werth mewn eistedd gartref, yn y gwely, yn clicio ar rywbeth a pheidio â gorfod mynd i ganol y dref. Dyna sylw ysgafn; rwy’n dweud bod yna gymysgedd o ffyrdd y bydd pobl am ddod i gysylltiad â busnesau bach, a sut y gallwn ymgysylltu.

Ond rwy’n sicr yn credu mai’r hyn sydd angen i ni wneud mwy ohono yw gweld busnesau bach fel rhan o’r gymuned ac i’r gymuned deimlo bod y busnesau yn gweithio gyda hwy. Defnyddiodd Adam Price Ben-y-bont ar Ogwr fel enghraifft, ond rwy’n gwybod bod busnesau yno’n fwyfwy rhwystredig am y ffaith nad ydynt yn gweld digon o bobl yn dod i ganol y dref i siopa. Yr eliffant yn yr ystafell, onid e, yw nad oes siopau o’r ansawdd neu’r amrywiaeth o siopau y mae pobl am eu gweld ynghanol rhai trefi? Wyddoch chi, ni fydd pobl yn mynd i ganol ein trefi os na fydd ganddynt y math o siopau y maent am siopa ynddynt. Dyna realiti bywyd.

Ym Merthyr, o ble rwy’n hanu, mae gan fy nhad gerdd ar y fainc fel rhan o un o’r grantiau a roddodd Llywodraeth Cymru—meinciau prydferth iawn gyda cherddi ar hyd a lled canol y dref, ond nid yw hynny’n golygu bod mwy o bobl yn mynd i ddod i mewn i’r dref i eistedd ar y meinciau hynny, gan nad yw’r siopau yno yn siopau y maent eisiau siopa ynddynt. Rwy’n meddwl felly bod y rhain yn ddadleuon y mae gwir angen i ni eu cael er mwyn i ni allu annog pobl, unwaith eto, i weld gwerth canol ein trefi. Nid wyf yn gwybod a yw Andrew R.T. Davies—

Diolch yn fawr iawn, Bethan. Fe sonioch am ganol tref Pen-y-bont ar Ogwr ac fel rhywun sy’n gyfarwydd iawn â chanol tref Pen-y-bont ers y 1970au pan oedd yn dref farchnad, un peth y mae siopwyr ym Mhen-y-bont ar Ogwr ei angen—ac nid ydynt yn ceisio ail-greu rhyw gyfnod o’r 1950au a’r 1960au—yw cysondeb gan yr awdurdod lleol ynglŷn â pha gynlluniau sydd ganddynt ar gyfer datblygu. Rydym wedi cael cyfnod o greu parthau cerddwyr, yn awr rydym yn dad-wneud hynny. Byddai ychydig o gysondeb yn rhoi hyder iddynt fuddsoddi yn y cynnyrch y maent yn ei gynnig i’r defnyddiwr sy’n dod i Ben-y-bont ar Ogwr, oni fyddai?

Yn union, ac rwy’n meddwl mai’r cyfan y maent wedi bod eisiau ei wneud yw ceisio dweud wrth y cyngor, ‘Edrychwch, dyma ein problemau. Dyma beth rydym yn ceisio’i oresgyn. Rydym am i bobl wario eu harian yma yng nghanol y dref, ond ar hyn o bryd nid ydynt yn gwneud hynny.’ Mae’n rhaid i ni oresgyn hynny ac rwy’n meddwl weithiau fod anhyblygrwydd swyddogion awdurdodau lleol yn rhwystro datblygiad yn eu gardd gefn eu hunain mewn gwirionedd, sy’n gyhuddiad llawn embaras iddynt pan nad yw’r busnesau mewn gwirionedd ond eisiau cefnogi’r hyn y mae’r cyngor yn ei wneud mewn perthynas â’r datblygiadau busnes hynny.

Rwyf wedi cael ei dweud hi am y dydd, ond rwy’n meddwl ei bod yn bwysig ein bod yn ceisio cefnogi ein busnesau, fel y dywedodd Janet, nid ar ddydd Sadwrn y Busnesau Bach yn unig ond ar bob dydd o’r wythnos, hyd yn oed os yw hynny’n golygu mynd ar-lein.

Rwy’n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl hon ac rwy’n cymeradwyo Plaid Cymru am gyflwyno’r cynnig hwn gerbron y Cynulliad. Gellir dibynnu ar Adam Price bob amser i fod yn wyneb deniadol ei blaid—[Chwerthin.]—ac mae’n gronfa o syniadau da a diddorol. Ac mae rhai ohonynt yn y cynnig hwn. [Torri ar draws.] Rydych am i mi dynnu’r sylw hwnnw yn ôl. [Chwerthin.]

Dywedodd Edmund Burke,

Nid yw dynion yn gallu trethu yn ogystal â phlesio, fwy nag y gallant garu yn ogystal â bod yn ddoeth.

Mae rhan fawr o’r ddadl heddiw wedi canolbwyntio ar y system ardrethi busnes a hynny’n briodol. Gwrandewais gyda diddordeb ar ymgais Jenny Rathbone i amddiffyn yr hyn rwy’n ei hystyried yn system na ellir ei hamddiffyn i raddau helaeth iawn ac yn sicr, arwydd o dreth wael iawn yw bod cyfran mor fawr o bobl sy’n gorfod ei thalu yn gorfod cael eu rhyddhau rhag talu o leiaf ran o’r baich y mae’n ei osod arnynt. Yr hyn y dylem edrych amdano yw trethi sy’n gysylltiedig â gallu pobl i dalu a dylent gael eu talu gan gynifer o bobl â phosibl ar gyfraddau isel. Ar y sail honno, nid yw trethiant yn rhwystro’r gallu i gynhyrchu cyfoeth a chynyddu ffyniant.

Mae’r rhan o’r cynnig sy’n cyfeirio at wneud Cymru gyfan yn ardal fenter yn sicr yn syniad diddorol ond holl bwynt ardaloedd menter yw eu bod ar gyfer ymyrraeth wedi’i thargedu ar ardaloedd penodol gyda phroblemau penodol. Ond rwy’n frwd o blaid gwneud Cymru’n ardal fenter yn yr ystyr ehangaf. Mewn man arall, yn y 1980au, lle y cefais fy ngharcharu yn Nhŷ’r Cyffredin noson ar ôl noson ar ôl noson o ganlyniad i’r problemau a achosodd ailbrisio eiddo ar y pryd i gyllid llywodraeth leol, fe fuom yn trafod y materion hyn yn fanwl iawn. Ar ôl hynny, pan ddeuthum yn Weinidog dadreoleiddio yn Llywodraeth Major yn y 1990au cynnar, ceisiais ei gwneud yn genhadaeth i droi’r Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd yn economi gyda lefelau isel o drethiant a rheoleiddio fel y gallem gael y manteision cystadleuol y mae’r cynnig yn cyfeirio atynt ar gyfer y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd. Felly, yn gyffredinol rwyf o blaid yr ymagwedd y mae Plaid Cymru yn ei mabwysiadu yma.

Mae ardrethi busnes yn fath hynafol o drethiant fel y gwyddom. Nododd Adam y diwrnod o’r blaen eu bod yn mynd yn ôl at ddeddf y tlodion 1601 yn ystod teyrnasiad y Frenhines Elisabeth I. Mae’n rhyfedd, onid yw, y byddwch yn talu mwy mewn trethi os ydych yn gwella eich eiddo? Ond dyna’r ffordd y mae’r system raddio’n gweithio. Felly, mae’n anghymhelliad i bobl wella eiddo. Y ffordd y mae’r economi wedi newid—cyfeiriodd Adam Price at hyn hefyd y diwrnod o’r blaen—gyda thwf y rhyngrwyd, mae eiddo sydd wedi’i leoli mewn lleoliadau penodol ar y stryd fawr yn llai a llai pwysig fel cyfran o’r economi genedlaethol, ac eto, mae’r beichiau sy’n cael eu gosod ar siopau, fel y disgrifiodd Janet Finch-Saunders yn huawdl iawn, wedi dinoethi canol ein trefi o fywyd a bywiogrwydd. Treth wael yn wir sy’n gwagio canol ein trefi a’n dinasoedd, er bod syniadau diddorol fel y nododd Simon Thomas yn Arberth yn sicr yn ymateb i hynny. Ond cyfeiriodd sawl cyfrannwr yn y ddadl hon heddiw at lefel y siopau gweigion yng Nghymru, a gwn fod hyn yn un o’r rhwystrau mwyaf i unrhyw un sy’n ystyried sefydlu busnes; mae’n rhywbeth na allwch ei osgoi, er mai pwrpas y dreth oedd bod yn anosgoadwy a dyna pam ei bod yn dreth ar eiddo. Y ffordd y mae’n gweithio yn awr yw bod y dreth, ydy, yn anosgoadwy ar gyfer yr eiddo, ond nid yw’n anosgoadwy ar gyfer y busnes ac os na all y busnes fforddio lleoli mewn eiddo i dalu’r dreth yn y lle cyntaf, yna mewn gwirionedd mae’n dreth wrthgynhyrchiol iawn yn wir.

Felly, mae’n ymwneud ag anhyblygrwydd y dreth hon yn ogystal, gan nad yw’n ystyried dim o’r newidiadau yn lefelau ffyniant o un flwyddyn i’r llall, sy’n bwysig i’w hystyried. Rydym yn mynd drwy gylch busnes, ond mae’r dreth ei hun yn aros yr un fath ac felly, mewn gwirionedd, pan fo’r economi’n dirywio, mae’n cynyddu’r dirywiad. Felly, mae honno’n ffurf afresymol iawn ar drethiant. Rydym yn mynd drwy’r broses ailbrisio yn awr, ac er fy mod yn gwybod mai’r bwriad yw iddi fod yn niwtral o ran refeniw, fel y nododd Nick Ramsay yn ei araith, mae’n mynd i daro etholaethau penodol yn galed iawn, ac mae Sir Fynwy yn un o’r ardaloedd lle y mae’r cynnydd cyffredinol yn y gwerth ardrethol yn 7 y cant. Mewn gwirionedd, mae’n 9.2 y cant yng Nghonwy i fyny yng ngogledd Cymru, ond mewn ardaloedd eraill, wrth gwrs, mae yna ostyngiadau sylweddol. Mae Bro Morgannwg, er enghraifft, yn cael gostyngiad o 11 y cant yn y gwerth ardrethol a Chastell-nedd Port Talbot yr un fath, ac yn y blaen ac yn y blaen.

Bydd y ffordd y bydd yr ailbrisio’n effeithio ar bobl yn amrywio o le i le. Ond fel rhan o’r cyfle sydd ar ddod i ni ailwerthuso’r ffordd rydym yn trethu eiddo, rhaid i ni edrych go iawn ar atebion arloesol i’r problemau hyn, a mynd ati, fan lleiaf, i drethu gwerth tir yn hytrach na’r adeiladau arno. Felly, rwy’n siŵr mai hon yw’r gyntaf o nifer o ddadleuon o’r fath y byddwn yn eu cael ar y pwnc hwn.

Sbardunwyd cryn amrywiaeth o syniadau gan y ddadl hon ar ddydd Sadwrn y busnesau bach—gyda rhai ohonynt yn gorgyffwrdd yn drawsbleidiol, sy’n eithaf diddorol. Heddiw, soniodd etholwr wrthyf am agoriad parciau manwerthu ar gyrion y dref—Russell Jones ar Twitter—a dywedodd ei bod yn un o’r nifer o heriau sy’n wynebu’r stryd fawr. Yn hollol. A soniodd nifer o’r Aelodau yn y Siambr am hynny heddiw.

O ran parcio am ddim ynghanol y dref, gallai fod neu fe allai beidio â bod yn ffordd ymlaen, ond rwy’n cwestiynu a fyddai o gymorth ym mhob achos, fel y dywedodd Jenny Rathbone. Ond mewn gwirionedd, roedd Sian Gwenllian fwy neu lai’n cytuno â’r haeriad hwnnw ac awgrymodd rai atebion eithaf greddfol i rai problemau, fel y gwnaeth Simon Thomas. Felly, nid wyf yn credu bod Jenny, Sian a Simon filiwn o filltiroedd ar wahân, a bod yn onest gyda chi. Roedd yn ddefnyddiol iawn clywed hynny. Yn wir, yng Nghaerffili—[Torri ar draws.] Peidiwch â bod yn ddigywilydd. [Chwerthin.] Yng Nghaerffili, mwy o lefydd parcio, nid parcio am ddim yw’r mater sy’n codi. Roedd gennyf ddadl fer bythefnos yn ôl ar fentrau bach a chanolig eu maint; mae’n siŵr eich bod i gyd wedi bod yn ei gwylio ar senedd.tv—[Torri ar draws.] Diolch i chi, Lee. Soniais fy mod wedi trafod gydag AC o blaid arall beth y dylem ei wneud gyda’n cwmnïau bach a chanol ein trefi. Un o’r trafodaethau a gawsom—. Nid gyda Bethan Jenkins y bûm yn ei drafod mewn gwirionedd, ond yr ateb oedd: mae gan ganol ein trefi eu cymeriad unigryw eu hunain, a dylem fod yn manteisio i’r eithaf ar hynny—dulliau lleol o weithredu. Ac ar hyn o bryd rwy’n gweithio ar brosiect cysylltiadau busnes yn fy etholaeth, yn ymgysylltu â rheolwyr-berchnogion ac yn trafod rhai o’r dulliau lleol hyn. Efallai y dylem i gyd wneud hynny fel Aelodau Cynulliad.

Ond dro ar ôl tro, mae ardrethi busnes yn codi eu pen. O dan yr ailbrisio diweddar, roedd gan fasnachwyr ar Ffordd Caerdydd yng Nghaerffili werth ardrethol uwch na llawer o siopau yng nghanol dinas Caerdydd. Dyma’r sefyllfa ers 2010, wrth gwrs. Mae gwerthoedd ardrethol yng Nghaerffili—ni fydd Nick Ramsay yn falch o glywed—wedi disgyn ers hynny mewn gwirionedd, ond nid oedd unrhyw fodd yn y byd y gallent fod yn uwch. Rwy’n pryderu, wrth eistedd yn ystafell de Grazing Ground ar Ffordd Caerdydd, mai William Hill sydd yn yr adeilad gyferbyn a siop fetio Coral sydd yn adeilad drws nesaf. Dwy siop fetio y drws nesaf i’w gilydd. Rwy’n amau a fyddai dwy siop fetio annibynnol y drws nesaf i’w gilydd yn gallu gwneud digon o elw i ddal ati. Felly mae angen i ni edrych ar y rhesymau pam y mae’r pethau hyn yn digwydd.

Mae’r ailbrisio wedi gwella pethau i lawer o fusnesau, ac mae cynllun rhyddhad ardrethi Llywodraeth Cymru yn gwneud gwahaniaeth i’r rhai sy’n cael budd ohono. Serch hynny, mae angen i fusnesau bach canol ein trefi wybod na fydd y cynllun y maent yn talu tuag ato yn eu rhoi dan anfantais o gymharu ag eraill. Mae’n rhaid i’r cynllun rhyddhad ardrethi parhaol sy’n cael ei gyflwyno yn 2018 fynd i’r afael â’r materion hyn.

Mae’n broblem ddiddorol. Yn y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau, a gadeirir gan Russell George, canmolodd y Ffederasiwn Busnesau Bach symlrwydd cynllun Llywodraeth Cymru, ond os ydych yn mynd i gyflwyno mesurau blaengar yn rhan ohono, yna rydych yn dechrau ychwanegu haenau o gymhlethdod. Os byddwch yn dechrau cyboli â lluosyddion, fel y dywedodd Jeremy, fe fyddwch yn ychwanegu haenau o gymhlethdod a bydd yn dir peryglus i ddod o hyd i’ch ffordd drwyddo. Felly, nid wyf yn eiddigeddus o swydd Ysgrifennydd y Cabinet, ond byddwn yn ddiolchgar pe gallai nodi pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd, hyd at, yn cynnwys, a thu hwnt i’r pwynt y bydd yr ardrethi busnes yn cael eu hadolygu er mwyn helpu i gefnogi ein strydoedd mawr a chanol ein trefi.

Diolch i chi am ildio. Rwy’n deall yr hyn rydych yn ei ddweud am broblem cymhlethdod ychwanegol, ac nid oes rhinwedd mawr mewn system syml. Ond serch hynny, mae pobl allan yno mewn busnesau yn fy etholaeth ac mewn etholaethau eraill yn poeni’n ddirfawr am hyn, felly mae angen sicrwydd arnynt. Rwy’n deall bod system yn mynd i gael ei rhoi ar waith ar gyfer rhyddhad ardrethi, ond nid yw pobl yn cael eu calonogi ar hyn o bryd. Mae angen i Lywodraeth Cymru roi rhywbeth iddynt, dim ond rhywbeth, sy’n mynd i dawelu eu meddyliau.

Rwy’n meddwl y gallai cymhlethdod gweithredu a chael canlyniadau anfwriadol, ei gwneud yn waeth i bobl eraill. Mae bron fel pe baem yn chwarae gêm o Jenga—rydych yn newid un peth a gallai’r holl beth ddisgyn ar ei ben. Felly, rwy’n meddwl y byddai’n dda defnyddio’r 12 mis nesaf i edrych ar yr hyn sy’n digwydd, cael yr adborth a cheisio gwneud y newidiadau hynny. Ond fel rwy’n dweud, byddai’n ddiddorol clywed gan Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â beth sydd wedi’i gynllunio.

I fynd yn ôl i’r dechrau, o ran ardal fenter Cymru gyfan, byddwn yn rhybuddio—ac fe ddefnyddiodd Adam Price yr ymadrodd hwn—unrhyw Aelod rhag ailadrodd yr ymadrodd treuliedig, ‘busnesau bach yw anadl einioes yr economi’—nid yn unig Adam a’i blaid sydd wedi ei ddefnyddio. Mae’n awgrymu bod cyfrifoldeb ar reolwyr-berchnogion am dwf economaidd, ac nid yw hynny’n wir wrth gwrs. Nid eu cyfrifoldeb hwy yw twf economaidd. Yn wir, yn aml ceir gwahaniaeth rhwng awydd llunwyr polisi i greu swyddi mewn cwmnïau bach a difaterwch rheolwyr-berchnogion ynglŷn â chyflawni’r amcan hwnnw. Maent yn dod o hyd i ddewisiadau eraill yn lle cyflogaeth ac fel y dywedais o’r blaen, maent yn gyflogwyr amharod mewn llawer o achosion, ac yn briodol felly. Felly, yn lle hynny, dylem geisio gwneud bywyd mor hawdd â phosibl i reolwyr-berchnogion, heb osod y cyfrifoldeb am ein hachubiaeth economaidd ar eu hysgwyddau hwy. Rwy’n credu bod yna berygl os ydym yn meddwl, ‘Iawn, rydym yn mynd i symud oddi wrth fewnfuddsoddi i’r syniad fod busnesau bach yn anadl einioes ein heconomi.’ Credaf fod hynny’n beth peryglus.

Yn olaf, byddaf yn gwario £10 yn lleol ar Ddydd Sadwrn y Busnesau Bach—syniad gwych gan y Ffederasiwn Busnesau Bach. Rwyf wedi mwynhau fideos pawb, ac rwy’n gobeithio y byddwch wedi gweld fy un i. Mae’r ddadl hon heddiw yn ffordd dda iawn o dynnu sylw at yr achos hwnnw.

Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddechrau drwy ddiolch i’r Aelodau am eu cyfraniadau i’r ddadl bwysig hon heddiw? Fel rydym eisoes wedi clywed gan gyd-Aelodau ar bob ochr i’r Siambr heddiw, mae canol trefi yn ganolog i gymunedau lleol, yn darparu lleoedd i fyw, siopa, gwneud busnes a chymdeithasu. Fel yr amlinellodd Jenny Rathbone, mae canol trefi a strydoedd mawr yn dod â phobl at ei gilydd mewn amgylchedd mwy llawen na chanolfannau siopa generig. Maent yn rhoi enaid i drefi a dinasoedd.

Rydym wedi gweld tystiolaeth o’r newidiadau diwylliannol cynyddol yn y ffordd y mae pobl yn siopa, lle y mae pobl yn siopa a pha bryd y bydd pobl yn siopa, yn ogystal â’r amgylchedd economaidd heriol sy’n wynebu pawb ohonom. Mae hyn yn ei gwneud yn arbennig o heriol i ganol ein trefi. Gall Llywodraeth Cymru ddarparu rhai atebion ac ymyriadau, wrth gwrs, mae rhai’n dibynnu ar ffactorau economaidd ehangach, ac mae rhai atebion yn nwylo’r busnesau bach eu hunain. Yn wir, gall mentrau fel dydd Sadwrn y Busnesau Bach helpu i gynyddu nifer yr ymwelwyr â chanol trefi ac annog pobl i siopa a phrynu’n lleol. Eleni, byddwn yn hyrwyddo’r ymgyrch drwy Busnes Cymru, ond ar gyfer y dyfodol, o ystyried ei brwdfrydedd a’i hymroddiad amlwg, rwy’n cael fy nhemtio i ofyn i Janet Finch-Saunders arwain y gwaith ar ei hyrwyddo.

Fel Llywodraeth, mae’n bwysig ein bod yn darparu ystod eang o gyngor a mentrau i gefnogi busnesau yng Nghymru. Trwy Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, rydym wedi buddsoddi £110 miliwn mewn 11 o ardaloedd trefol a dinesig, gan greu swyddi, cynorthwyo pobl i gael gwaith a denu £300 miliwn ychwanegol o fuddsoddiad. Trwy ein cynllun benthyca canol trefi, mae £20 miliwn yn cefnogi creu swyddi a thwf economaidd, a chynyddu’r cyflenwad o dai a gwella ansawdd tai. Rydym wedi cefnogi ardaloedd gwella busnes sydd wedi helpu canol trefi fel Bangor, ac rydym hefyd wedi cefnogi 20 o bartneriaethau canol y dref yng Nghymru. Fel y mae hyn yn dangos, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd stryd fawr fywiog ac amrywiol sy’n cefnogi mentrau lleol.

Nawr, mae ardrethi busnes yn amlwg yn broblem sy’n cael sylw cyson. Mae ein cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach yn cynorthwyo tua 70 y cant o’r holl dalwyr ardrethi yng Nghymru, a bydd mwy na hanner y talwyr ardrethi yn osgoi talu unrhyw ardrethi o gwbl. Hyd yn oed o dan y cynllun newydd yn Lloegr, un rhan o dair o fusnesau yn unig fydd yn osgoi talu unrhyw ardrethi. Mae’r gwerth ardrethol cyffredinol yng Nghymru yn gostwng ac ar gyfer y diwydiant manwerthu, mae’n gostwng 8.5 y cant, sy’n dangos nad yw Cymru wedi dod ati ei hun yn iawn ar ôl y dirywiad economaidd.

Ar ôl asesu effaith ailbrisio 2017, rydym wedi ystyried amrywiaeth o opsiynau ar gyfer cynorthwyo busnesau effeithiol ac wedi ymgynghori ar gynllun rhyddhad trosiannol. O ganlyniad, mae ein cynllun rhyddhad trosiannol yn cael ei dargedu’n benodol at fusnesau bach, gan eu galluogi i gyflwyno unrhyw gynnydd yn y rhwymedigaeth yn raddol dros dair blynedd. Mae Nick Ramsay a Hefin David wedi gofyn am sicrwydd i’r busnesau bach yn eu hetholaethau, a bydd fy nghyfaill a fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, yn darparu cymorth ychwanegol i fwy na 7,000 o dalwyr ardrethi. Bydd cynllun rhyddhad ardrethi newydd parhaol i fusnesau bach yn cael ei gyflwyno o 2018 ymlaen. Byddwn yn ymgynghori’n eang â rhanddeiliaid ar ffurf y cynllun parhaol a byddwn yn ystyried ymhellach yr ymatebion a ddaw i law o’n hymgynghoriad ar ein cynllun trosiannol. Gyda rhyddhad trosiannol, gyda rhyddhad ardrethi busnesau bach a chynlluniau gorfodol eraill—

Andrew R.T. Davies a gododd—

Diolch. Diolch i chi am dderbyn yr ymyriad. Mae hyn wedi cael ei drafod yn helaeth yn y Siambr yma am yr ailbrisio, ac rwy’n cymryd bod Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn gorff annibynnol, ac nad oes gan y Llywodraeth unrhyw ddylanwad dros hynny. A bod yn deg, mae’r Llywodraeth wedi rhoi £10 miliwn o’i harian ei hun ar y bwrdd, ond a ydych yn cydnabod y sefyllfa ddifrifol y mae rhai busnesau’n ei hwynebu gyda’r ailbrisio? Mae’r biliau y byddant yn eu talu o fis Ebrill nesaf yn gosod marc cwestiwn enfawr dros eu hyfywedd hirdymor. A ydych yn mynd i fod yn gweithio gyda’r Aelod Cabinet dros gyllid i weld a ellir ymestyn yr arian rhyddhad trosiannol i helpu rhai o’r bobl sydd o dan fwyaf o anfantais yn sgil yr ailbrisio?

Rwy’n credu ei bod yn amlwg, gyda £10 miliwn ar gael i gynorthwyo busnesau bach, y bydd y Llywodraeth hon yn helpu, lle bynnag y bo modd, gyda’r her y mae rhai busnesau bach yn ei hwynebu o ganlyniad i ailbrisio. Byddwn yn parhau i wneud hynny a byddwn yn asesu unrhyw fodd o gynorthwyo’r busnesau sy’n dioddef fwyaf. Ond nid mesur ar gyfer codi trethi yw ailbrisio, ac rwy’n credu y byddai’r Aelod ei hun yn cydnabod mai ailddosbarthu’r ardrethi sy’n daladwy rhwng eiddo yn seiliedig ar eu gwerthoedd cymharol ar adeg yr ailbrisio y mae hyn yn ei wneud. Wedi dweud hynny, caiff £10 miliwn ei ddarparu ar gyfer cynllun rhyddhad, a byddwn yn edrych ar unrhyw ffordd arall bosibl y gallwn gynorthwyo’r busnesau sy’n cael eu taro galetaf, fel y dywedais.

Elfen bwysig arall o’n cefnogaeth, wrth gwrs, yw ardaloedd menter, ac mae honno i’w gweld yn y ddadl hon, ac mae nifer o’r Aelodau wedi sôn am ardaloedd menter a’r potensial i greu un ardal fenter ar gyfer Cymru gyfan. Fel y nododd Neil Hamilton, mae maint yn ystyriaeth bwysig. Po fwyaf yw maint ardal fenter, y mwyaf yw’r goblygiadau o ran y gyllideb a pha mor gyflawnadwy ydyw, a’r mwyaf yw’r risg y bydd unrhyw ffocws ychwanegol yn cael ei wanhau er afles i’r effaith gyffredinol, oni bai bod llawer mwy o adnoddau ariannol ar gael. Er bod yr ardaloedd presennol wedi eu lledaenu ar draws Cymru, mae ôl troed daearyddol penodol pob ardal fenter yn ein galluogi i ganolbwyntio a thargedu gweithgarwch mewn ffordd ymarferol. Wedi dweud hynny, rwy’n awyddus i archwilio’n wrthrychol pob un o’n hymyriadau fel rhan o’r gwaith sy’n cael ei wneud ar y strategaeth ffyniannus a diogel ar gyfer Cymru. Wrth gwrs, byddaf yn ystyried newid lle bynnag y bo angen.

Siaradodd Adam Price am y posibilrwydd o ddatblygu nod ar gyfer cynnyrch o Gymru—nod prynu’n lleol. Mae’n syniad diddorol iawn. Rwy’n cofio pan oeddwn yn aelod o’r pwyllgor menter, dan gadeiryddiaeth Nick Ramsay, rwy’n meddwl fy mod wedi cynnig syniad tebyg o olwyn Cymru a fyddai nid yn unig yn nodi, ar gynhyrchion bwyd a diod, y siwgr, y braster, y cynnwys caloriffig a’r halen, ond hefyd yr effaith amgylcheddol, a byddai pa un a yw cynnyrch yn deillio o’r DU, ac wedi’u gynhyrchu a’i becynnu yn y DU yn dylanwadu’n drwm ar hynny.

Soniodd Simon Thomas am dref Arberth, ac rwy’n cofio bod y pwyllgor menter blaenorol wedi ymweld â’r dref. Rwy’n credu mai’r unig Aelod arall yn y Siambr—. A, roedd David Rees gyda ni ar yr achlysur hwnnw hefyd, gyda Nick Ramsay. Dysgasom lawer ar y daith honno. Dysgasom fod maint yn bwysig. Po fwyaf yw canol y dref, y mwyaf anodd y gall fod i addasu i arferion siopa modern. Un broblem y gwyddom fod llawer o strydoedd mawr yn ei hwynebu, gyda banciau’n cau ac yn y blaen, a siopau’n cau, weithiau gallwch gael, mewn stryd fawr, swyddfa bost ar un pen, fferyllfa ar y pen arall, a siopau gwag yn y canol. Nid yw’n creu amgylchedd siopa dymunol. Yr allwedd i lwyddiant Arberth yw ei bod yn ardal lle nad oes unrhyw adeiladau gwag, neu ychydig iawn o eiddo gwag, ond mae’n hygyrch iawn, ac yn hawdd dod o hyd i’ch ffordd o gwmpas. Rwy’n meddwl bod Bethan Jenkins wedi gwneud pwynt pwysig iawn pan ddywedodd fod ansawdd lleoliad yn hanfodol i lwyddiant canol y dref a’r stryd fawr. Unwaith eto, mae hyn yn rhywbeth a oedd yn glir iawn ar yr ymweliad ag Arberth.

Fel yr amlygwyd yn y ddadl fer ychydig o wythnosau’n ôl, microfusnesau a busnesau bach a chanolig eu maint yw asgwrn cefn economïau lleol ar hyd a lled y wlad, ac mae ganddynt rôl hanfodol yn creu swyddi ac yn cynyddu cynhyrchiant a hybu twf ledled Cymru. Dyna pam y byddwn bob amser yn sicrhau bod buddiannau busnesau bach a chanolig eu maint yn cael sylw dyledus yng ngwaith y comisiwn seilwaith cenedlaethol a banc datblygu Cymru.

Rwyf hefyd yn manteisio ar y cyfle i edrych o’r newydd ar yr hyn ddylai ein blaenoriaethau economaidd fod ym mhumed tymor y Cynulliad. Dechreuais y broses drwy alw ar bobl, busnesau, undebau llafur a sefydliadau ledled Cymru i gynnig eu barn. Mae yna gonsensws rhyfeddol ynglŷn â phwysigrwydd sgiliau, seilwaith, a dylanwad ysgogiadau ehangach megis caffael a chynllunio. Bydd y blaenoriaethau hyn yn bwydo i mewn i’r pedair strategaeth drawsbynciol a fydd yn gosod y fframwaith ar gyfer tymor y llywodraeth hon. Rwy’n credu y gallwn i gyd gytuno—a dangoswyd hynny heddiw yng nghyfraniadau’r holl Aelodau—fod yn rhaid i ni ddefnyddio’r holl offer sydd ar gael i ni i ddarparu cefnogaeth i ganol trefi a strydoedd mawr ledled Cymru er mwyn helpu i ysgogi economïau lleol.

Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Mae wedi bod yn drafodaeth eang a chadarnhaol ar y cyfan, ac yn wir, yn un angerddol iawn ar adegau. Diolch i chi, Janet Finch-Saunders, am gyfrannu’r angerdd hwnnw. Nid wyf yn mynd i’w ddweud yn aml, felly, mwynhewch. [Chwerthin.] Yn wir, diolch i Bethan Jenkins hefyd am ein hatgoffa y gallwn wneud ein rhan dros yr economi yn ein pyjamas hyd yn oed, neu beth bynnag yw ein dewis o ddillad nos. [Chwerthin.]

I fynd â ni’n ôl at y polisi, mae’n amlwg fod ardrethi busnes wedi bod yn un o’r themâu allweddol am ei fod yn un o’r materion polisi pwysicaf sy’n ein hwynebu ar hyn o bryd. Mae’r Ysgrifennydd Cyllid yn ei sedd, felly rwy’n siŵr y bydd wedi clywed, o bob ochr, yr Aelodau’n cyfeirio at y problemau y mae busnesau’n eu hwynebu, yn enwedig yn sgil yr ailbrisio, a byddem yn annog y Llywodraeth i edrych eto ar ychwanegu at y £10 miliwn sydd yn y rhyddhad trosiannol, neu efallai ailgyflwyno, wrth gwrs, y rhyddhad manwerthu a grëwyd yn 2014 yn rhannol mewn gwirionedd oherwydd yr oedi yn y broses o ailbrisio, a chafodd ei chanslo, yn anffodus, cyn yr etholiad yn gynharach eleni. Felly, gadewch i ni weld rhywfaint o weithredu ychwanegol oherwydd y busnesau bach sy’n wynebu problemau ar hyn o bryd. Mae’n wych gweld bod y polisi parcio yn mynd i fod yno, y pot o £3 miliwn ar draws Cymru. Ydy, mae’n wir fod yna dystiolaeth fod polisi cyffredinol syml o barcio am ddim—. Nid wyf yn meddwl bod neb yn dadlau y byddai hynny’n gweithio. Ond mae data ar gael, a chafwyd arbrofion ar draws Cymru. Mae’n bwysig ein bod yn casglu’r data hwnnw hefyd i weld, lle y mae parcio—a bydd y patrwm yn wahanol mewn gwahanol ardaloedd—yn broblem benodol, a allwn helpu yn hynny o beth mewn gwirionedd? Mae’n—

Yn fyr iawn, a gaf fi ofyn, fel rhan o’r pecyn rydych wedi’i negodi, faint o hynny fydd yn cael ei neilltuo ar gyfer gwerthuso i wneud yn siŵr fod y gwersi hynny’n cael eu dysgu?

Wel, nid wyf yn gwybod, ond mae’n gwestiwn y gallwn ei ofyn i’r Llywodraeth ar y cyd. Yn sicr, buaswn yn awyddus iawn i hynny gael ei wneud ar sail casglu data’n briodol fel y gallwn ddysgu’r gwersi ar gyfer y dyfodol hefyd. Rwy’n meddwl bod Hefin David wedi gwneud pwynt da, mewn gwirionedd, fod cymhelliant rheolwyr-berchnogion yn mynd i fod yn wahanol wrth gwrs. Yn y pen draw, maent yno, yn amlwg, i wneud elw fel y gallant gynnal twf eu busnes. Yn sicr, nid ydynt yno’n syml fel crëwyr swyddi. Ond yn bwysig, maent yn grëwyr cyfoeth, wrth gwrs, ac rwy’n cytuno ag ef efallai fod angen i ni symud ffocws ein polisi datblygu economaidd tuag at werth ychwanegol yn hytrach na nifer swyddi’n unig. Felly, rwy’n meddwl ei fod yn gyson â’r hyn roedd yn ei ddadlau yn hynny o beth. Rwy’n meddwl bod y syniad o ardal fenter Cymru gyfan—. Rwy’n ddiolchgar am gefnogaeth fy nghyd-gynddisgybl o Ddyffryn Aman. Cyfeiriais at Blaid Unoliaethol Ulster-Plaid Cymru—os yw honno’n gynghrair dddieflig, yna mae hyn yn ôl pob tebyg yn mynd â ni ar hyd llwybr tywyll iawn yn wir. Ond rwy’n credu mai diben gwneud Cymru gyfan yn genedl fenter, os mynnwch, yw rhoi’r dulliau treth i ni wrth gwrs, yr holl ddulliau treth y gellir eu defnyddio’n wahanol ar gyfer gwahanol sectorau, efallai, a hefyd mewn gwahanol rannau o Gymru. Ond oni bai bod gennym y pwerau treth hynny, wrth gwrs, ni fyddwn yn gallu eu defnyddio’n effeithiol fel cenedl. Dyna, yn y pen draw, yw’r pwrpas, rwy’n credu. Mae’n bwysig iawn, iawn i fusnesau bach, ond i fusnesau o bob maint yn ogystal, ein bod, mewn gwirionedd, yn ogystal â chael strategaeth economaidd newydd, yn meddu ar y dulliau, yr ysgogiadau polisi, sy’n mynd i’n galluogi i gyflawni hynny.

Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

10. 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Gofal Iechyd Trawsffiniol

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Caroline Jones.

Cynnig NDM6177 Paul Davies

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu y gall hyrwyddo defnydd arloesol o ofal iechyd trawsffiniol gynnig gwell canlyniadau i gleifion ar gyfer pobl yng Nghymru a Lloegr.

2. Yn nodi canfyddiadau Comisiwn Silk, a wnaeth argymhellion i wella darpariaeth iechyd drawsffiniol, yn enwedig o ran hyrwyddo gweithio agosach ym maes gwasanaethau arbenigol.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried canfyddiadau adroddiad y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig ar drefniadau iechyd trawsffiniol rhwng Cymru a Lloegr, sy’n cyfleu pryderon am yr anawsterau a’r oedi o ran cael gafael ar wasanaethau eilaidd ac arbenigol ar sail drawsffiniol.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn gynnig y cynnig sydd ger ein bron heddiw, cynnig a gyflwynwyd gan grŵp y Ceidwadwyr Cymreig, a thrwy wneud hynny, hoffwn dynnu sylw at y datblygiadau arloesol y gall gofal iechyd trawsffiniol eu cynnig o ran gwella canlyniadau i gleifion ar y ddwy ochr i’r ffin. Byddem hefyd yn hoffi i’r Cynulliad nodi’r argymhellion cadarn iawn a wnaed gan Gomisiwn Silk, ac a adlewyrchir hefyd yn adroddiad y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig ar drefniadau iechyd trawsffiniol. Gofynnwn i Lywodraeth Cymru gydnabod yr heriau a ddaw yn sgil gweithio trawsffiniol.

Bydd ein cynnig heddiw, Ddirprwy Lywydd, yn edrych ar ffyrdd o wella canlyniadau i gleifion sydd wedi’u lleoli ar y ddwy ochr i’r ffin, yn ystyried yr argymhellion a wnaed ar y mater hwn gan Gomisiwn Silk, a hefyd yn defnyddio’r dystiolaeth a gymerwyd gan y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig i dynnu sylw at nifer o bryderon a godwyd gan gleifion a sefydliadau iechyd eraill. Byddwn hefyd yn ceisio gwneud awgrymiadau adeiladol ar gyfer gwella gofal iechyd trawsffiniol. Mae heriau gofal iechyd trawsffiniol yn annhebygol o wasgu ar feddyliau’r rhan fwyaf ohonom, ac eto mae’n fater sy’n effeithio ar bob un ohonom sy’n byw yng Nghymru. Nid oes wahaniaeth a ydych yn un o’r 50 y cant o Gymru sy’n byw o fewn 25 milltir i’r ffin â Lloegr, neu unrhyw un arall sy’n defnyddio’r GIG, gan ein bod yn dibynnu ar allu defnyddio gwasanaethau, o feddygon teulu i ofal arbenigol, gan y GIG yn Lloegr. Ac eto, mae llawer o gleifion a sefydliadau yn teimlo bod y system yn aml yn llawn dryswch ac ansicrwydd oherwydd nad ydynt yn ymwybodol mewn gwirionedd o ble y maent yn cael eu gwasanaethau.

Dros y blynyddoedd, datblygodd gwahaniaethau clir iawn rhwng polisïau iechyd Cymru a Lloegr. Mae datganoli wedi galluogi’r ddwy Lywodraeth i lunio polisïau yr ystyriant eu bod yn addas i adlewyrchu anghenion eu poblogaethau eu hunain. Fodd bynnag, mae’n golygu bod angen i ni fod yn fwy effro i’r problemau y gall hyn eu cynhyrchu, a dod o hyd i ateb mwy cadarn ac adeiladol. Nid yw’r problemau hyn yn ddibwys o ystyried bod oddeutu 56,000 o gleifion Cymru yn cael eu derbyn i ysbytai yn Lloegr bob blwyddyn. Mae adroddiad y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig yn dweud nad oes unrhyw obaith ymarferol neu realistig o ddargyfeirio’r llif trawsffiniol hwn sydd wedi hen sefydlu, ac ni fyddai’n ddymunol gwneud hynny. Felly, er nad oes ffordd o newid y patrwm hwn, credwn fod yn rhaid cael ffyrdd i ni allu gwella’r sefyllfa fel bod cleifion ar y ddwy ochr i’r ffin yn cael mynediad teg at driniaethau iechyd.

Nid daearyddiaeth yw’r unig her sy’n ein hwynebu. Mae teneurwydd ein poblogaeth yn rhoi problemau i ni o ran tegwch mynediad at wasanaethau iechyd, ac felly mae’n wirioneddol gadarnhaol fod llawer o gymunedau gwledig yng Nghymru yn gallu defnyddio gwasanaethau iechyd drwy groesi’r ffin i ganolfan agosach atynt yn hytrach na gorfod teithio milltiroedd yng Nghymru, yn enwedig os ydynt yn dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Nawr, er mwyn ceisio mynd i’r afael â rhai o’r heriau a wynebir gan y gwasanaethau perthnasol, cyflwynwyd protocol trawsffiniol gan y ddwy Lywodraeth, gyda’r fersiwn ddiweddaraf yn 2013. Mae’r protocol hwn yn nodi pwy sy’n gyfrifol am ddarparu pa wasanaethau ac i bwy. Fodd bynnag, mae’r saith BILl yng Nghymru yn dal i fod yn gyfrifol am gleifion Cymru. Yn eu tro, mae grwpiau comisiynu clinigol Lloegr yn dal i fod yn gyfrifol am gleifion yn Lloegr. Nawr, gall hyn achosi tensiynau, ac mae’n gwneud hynny, tensiynau a all godi pan fydd polisïau gwahanol yn dod yn weithredol ar y naill ochr neu’r llall i’r ffin, ac mae gennym sefyllfa lle y gall un set o reolau fod yn berthnasol i wahanol gleifion yn yr un feddygfa, yn dibynnu ar ble y maent yn byw, neu reolau gwahanol i gymdogion, yn dibynnu ar ba feddygfa y maent wedi cofrestru ynddi. Achos tensiwn arall yw polisïau gwahanol rhwng Cymru a Lloegr mewn perthynas â chleifion yn dewis eu lleoliad eu hunain ar gyfer cael triniaeth. Os ydynt yn system Lloegr gallant ddewis i ba ysbyty y maent am fynd iddo. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn feirniadol o’r rhyddid hwn, a dywedant fod darparu mwy o lais i gleifion yn bwysig. Nawr, nid yw’r ddadl hon yn ymwneud ag edrych ar y polisi hwnnw. Mae her llais y claf yn hytrach na dewis y claf yn golygu bod cleifion o Loegr sy’n cael eu triniaeth yng Nghymru yn colli’r hawliau sydd gan eu cydwladwyr ar draws y ffin. Felly, rydym yn ceisio tegwch i bawb.

Mae targedau rhestrau aros yn fater arall sy’n achosi tensiwn. Mae gan 95 y cant o gleifion Lloegr hawl gyfreithiol i ddechrau triniaeth o fewn 18 wythnos i gael eu hatgyfeirio, ac nid oes disgwyl i neb orfod aros mwy na 36 wythnos. Fodd bynnag, yng Nghymru, nid yw ein huchelgais wedi ei osod mor uchel, gyda tharged o 26 wythnos ar gyfer dechrau triniaeth, ond nid oes unrhyw hawl gyfreithiol. Yn ôl ffigurau’r mis diwethaf, bu bron i 5 y cant o gleifion Cymru yn aros mwy na 36 wythnos rhwng atgyfeiriad a thriniaeth. Dengys ffigurau y gall amseroedd aros fod cymaint â dwywaith a hanner yn hirach yng Nghymru nag yn Lloegr ar gyfer gweithdrefnau arferol hyd yn oed. Mae hon yn sefyllfa ddryslyd iawn i bobl sy’n byw o amgylch ffiniau ein gwlad. Mae’n destun pryder fod y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig wedi amlygu bod llawer o grwpiau comisiynu clinigol sy’n gweithredu ar hyd ochr Lloegr i’r ffin yn gweithredu dwy restr aros o fewn yr un feddygfa—rhestr Cymru a rhestr Lloegr. Nawr, a gaf fi a fy nghyd-Aeelodau yma adleisio barn y pwyllgor fod angen i Lywodraeth Cymru a’r Adran Iechyd ddatrys y broblem hon, ac fel mater o frys? Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch roi sicrwydd y bydd hyn yn digwydd, ac y byddwch yn mynd i’r afael â hyn fel mater o frys? Mae’n ymddangos yn annheg iawn fod un feddygfa’n gweithredu mor wahanol yn dibynnu a ydych yn Gymro neu’n Sais.

Roedd adroddiad y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2015, yn nodi hefyd fod Gweinidog Cymru ar y pryd wedi dweud y byddai’n cynnig diwygio’r rheoliadau angenrheidiol yng Nghymru i gael gwared ar rwystrau i feddygon teulu rhag darparu gwasanaethau ar y naill ochr i’r ffin a’r llall. Rwy’n credu bod hwnnw’n gam ymlaen sydd i’w groesawu’n fawr.

Ysgrifennydd y Cabinet, byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod a oes unrhyw gynnydd wedi’i wneud ar y mater hwn, ac a yw hwn, mewn gwirionedd, yn uchelgais y byddech am ei weld yn digwydd. Deallaf fod y protocol yn destun adolygiad tair blynedd. Fel rwyf eisoes wedi’i sefydlu, lluniwyd y protocol diwethaf yn 2013, felly rwy’n credu y byddwn yn gywir i ddweud ei bod yn rhaid ei bod yn bryd i ni gael adolygiad arall cyn diwedd y flwyddyn. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi roi’r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn ag a yw’r adolygiad hwn wedi ei gynnal, ac os nad yw, a ydych yn bwriadu adolygu, a pha bryd y byddwn yn gweld adolygiad o’r fath?

Mae Comisiwn Silk, a gyflwynodd ei adroddiad ym mis Mawrth 2014, yn mynd ymhellach na darpariaethau protocol 2013 ac yn dadlau y dylid cryfhau’r trefniadau presennol drwy ddatblygu protocolau unigol rhwng pob bwrdd iechyd lleol ar y ffin yng Nghymru a’r Ymddiriedolaeth GIG gyffiniol yn Lloegr. Tybed a oes gennych farn ynglŷn ag a ddylid symud hynny yn ei flaen ai peidio.

Yn ogystal, galwodd Silk ar y gwasanaethau iechyd yng Nghymru a Lloegr i gydweithio’n agosach gyda’i gilydd i ddatblygu strategaethau gwell er mwyn sicrhau cymaint o arbedion effeithlonrwydd â phosibl ar y cyd, ond mae yna ddiffyg eglurder ynglŷn â pha mor bell y mae hynny wedi cael ei symud yn ei flaen. Mae angen i ni wneud y sefyllfa drawsffiniol yn fwy teg o’i chymharu â gwasanaethau y gall pobl eraill yng Nghymru fanteisio arnynt. Felly, a gaf fi ofyn, Ysgrifennydd y Cabinet, pan fydd polisïau’n cael eu cyflwyno ym maes iechyd yn y Cynulliad hwn eu bod yn cael eu gwarantu’n awtomatig neu eu harchwilio i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â phrawf ffin addas fel nad yw pobl Cymru yn cael eu rhoi dan ormod o anfantais os ydynt yn mynd at feddyg teulu yn Lloegr? Rwy’n sylweddoli mai nifer cymharol fach o bobl yn unig y bydd yn effeithio arnynt, ond mae angen ei wneud er mwyn darparu mwy o gysondeb mewn gofal iechyd a’i fod hefyd yn cyd-fynd â rhai o’n trafodaethau ddoe yn deillio o adroddiad y prif swyddog meddygol ynglŷn â lleihau anghydraddoldebau iechyd.

Rwy’n gwybod y bydd fy nghyd-Aelodau’n dymuno siarad mwy am ardaloedd unigol ar y ffin, ond mae’n werth cyffwrdd ar rai o’r materion allweddol. Oherwydd y polisi presgripsiynau am ddim, weithiau gofynnir i gleifion o Gymru sy’n cael eu rhyddhau o ysbyty yn Lloegr dalu am eu meddyginiaethau eu hunain ac yna rhaid iddynt geisio’i hawlio yn ôl. Hefyd, mae’r polisïau sy’n ymwneud â rhyddhau i ofal cymdeithasol yn wahanol rhwng y ddwy wlad, gan arwain yn eithaf aml, at gleifion yn wynebu oedi wrth drosglwyddo gofal yn rheolaidd. A gaf fi ychwanegu atodiad cyflym yma? Nid rhywbeth rwyf wedi ei balu allan o unman yw hyn. Mae’n dod o adroddiad Comisiwn Silk, o adroddiad y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig a chan Gydffederasiwn y GIG. Felly, mae’r rhain i gyd yn enghreifftiau profadwy sy’n digwydd ar lawr gwlad heddiw.

Yn olaf, mae’r diffyg cydgysylltiad rhwng systemau TG ar y naill ochr i’r ffin a’r llall yn prysur ddod yn broblem. Er fy mod yn gwybod bod astudiaeth ar y gweill ar hyn o bryd ar sefydlu system atgyfeirio electronig rhwng meddygon teulu yng Nghymru ac ysbytai yn Lloegr, hoffwn wybod sut y mae’r treial yn mynd rhagddo a pha bryd y cawn wybod ei ganlyniadau. Rwy’n teimlo’n gryf fod mater gwasanaethau TG yn bwysig. Os gallwn gael hyn yn iawn, gallai helpu o ddifrif i symleiddio gwasanaethau a chanlyniadau.

Rhoddwyd tystiolaeth i’r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig gan feddyg yn Ysbyty Iarlles Caer yn Lloegr sy’n ymdrin â diabetes. Disgrifiodd sut y caiff samplau gwaed a gymerir gan feddygon teulu yng Nghymru eu hanfon i Ysbyty Maelor Wrecsam, er bod y claf o dan ei ofal ef. Oherwydd diffyg cydweddoldeb trawsffiniol, nid yw’n gallu cael gafael ar y canlyniadau a darparu ymgynghoriad llawn. Roedd Coleg Brenhinol y Meddygon yn ategu’r farn hon a rhoddodd dystiolaeth ynglŷn â’r modd roedd hi’n aml yn haws ailadrodd profion gwaed yn hytrach na dod o hyd i ganlyniadau o’r ochr arall i’r ffin. Mae’n rhaid bod hyn yn wastraff affwysol o ran amser ac arian. Mae angen i ni allu datrys hyn. Aeth y pwyllgor ymlaen i fanylu ar y modd nad oes rhaglen waith ar y cyd rhwng y GIG yn Lloegr a Llywodraeth Cymru mewn perthynas â threfniadau TG canolog ar hyn o bryd.

Rwy’n cydnabod bod yna wahaniaeth ymagwedd yma, gyda Lloegr yn edrych ar wella’r gallu i ryngweithredu ar gyfer gwasanaethau TG lleol yn Lloegr, ac rydym ni am ddatblygu un system genedlaethol. Ond rwy’n siŵr, Ysgrifennydd y Cabinet, y byddwch yn cytuno ynglŷn â phwysigrwydd trosglwyddo gwybodaeth am gleifion yn effeithiol rhwng gwasanaethau sylfaenol, eilaidd a thrydyddol, ni waeth pa ochr i’r ffin y maent, ac ar draws y ffin. Felly, tybed a allwch ddweud wrthym neu roi rhywfaint o sicrwydd i ni y bydd y mater hwn yn cael sylw cyn gynted ag y bo modd. A wnewch chi hefyd ystyried ateb tymor byr y gellir ei roi a fyddai’n galluogi cleifion sy’n cael gofal trawsffiniol i gael copi caled neu gopi electronig o’u cofnodion i’w gludo gyda hwy i’w hapwyntiadau? Rwy’n credu y gallwn ymddiried yn y cleifion i ofalu am eu data meddygol eu hunain.

Roedd adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ar ansawdd y gwasanaeth iechyd yn y DU yn mynegi pryderon ynglŷn â’r ardal drawsffiniol gyfan, ac er eu bod wedi gweld bod yna drefniadau da ar gyfer gweithio ar y cyd, roeddent yn argymell y gallai cydweithio helpu byrddau iechyd i sicrhau newid ystyrlon drwy ddefnyddio ystod o fentrau, fel partneriaethau mentora rhwng byrddau iechyd, cyfnewid staff a sicrhau bod canlyniadau’n cael eu cymharu’n agored. Byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed, Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych yn bwriadu bwrw ymlaen ag unrhyw rai o’r argymhellion hynny gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd.

Ysgrifennydd y Cabinet, byddai’r Ceidwadwyr Cymreig yn hoffi gweld gwasanaethau iechyd gwladol, y grwpiau comisiynu perthnasol a Llywodraethau’r ddwy wlad yn gweithio gyda’i gilydd mewn ffordd gydsyniol i sicrhau bod cleifion ar y ddwy ochr i Glawdd Offa yn cael y fargen orau bosibl. Gyda mwy o gydweithrediad trawsffiniol, efallai y gallwn fynd i’r afael â’r pryderon a fynegwyd gan lawer o’r tystion wrth y pwyllgorau amrywiol. Efallai hefyd y byddwn mewn sefyllfa well i fynd i’r afael â rhai o’r problemau staffio sy’n wynebu’r GIG yng Nghymru ar hyn o bryd a lleihau’r ddibyniaeth gynyddol ar staff banc ac asiantiaeth. Ac wrth feddwl am y pwysau ar y gweithlu, hoffwn gadarnhau y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi’r gwelliant a gyflwynwyd gan UKIP. Ysgrifennydd y Cabinet, hyderaf y byddwch yn symud ein harsylwadau ymlaen, ac edrychaf ymlaen at eich atebion i’r cwestiynau a ofynnais.

Rwyf wedi dethol y gwelliant i’r cynnig, a galwaf ar Caroline Jones i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn ei henw—Caroline.

Gwelliant 1—Caroline Jones

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi’r problemau o ran recriwtio meddygon teulu mewn ardaloedd gwledig trawsffiniol ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag Adran Iechyd Llywodraeth y DU i sefydlu un rhestr cyflawnwyr ar gyfer meddygon teulu, a fydd yn galluogi meddygon teulu i weithio bob ochr i’r ffin.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Rwy’n cynnig gwelliant 1 yn fy enw i. Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i’r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno’r ddadl hon heddiw. Fel y darganfu’r Pwyllgor Materion Cymreig, mae’r gwahaniaeth cynyddol rhwng y systemau gofal iechyd trawsffiniol nid yn unig yn achosi dryswch i gleifion sy’n dibynnu ar wasanaethau trawsffiniol, ond hefyd mae’n peri anhawster i gael mynediad at wasanaethau. Fel y bydd eraill yn sôn yn ddiamau, nododd tystion i’r Pwyllgor Materion Cymreig broblemau oherwydd comisiynu o fewn y wlad a diffyg cydweddoldeb rhwng seilwaith gofal iechyd ar y naill ochr a’r llall i’r ffin. Ond rwyf am ganolbwyntio yn fy nghyfraniad ar y trydydd maes, sef rhestrau cyflawnwyr meddygon teulu.

Mae cynnal a chadw rhestrau cyflawnwyr ar wahân yng Nghymru a Lloegr nid yn unig yn effeithio ar allu meddygon teulu i weithredu’n rhydd ar y naill ochr a’r llall i’r ffin, ond fel y darganfu’r Pwyllgor Materion Cymreig, mae’n gweithredu fel rhwystr i recriwtio meddygon teulu. Yn ôl Cymdeithas Feddygol Prydain a Chydffederasiwn y GIG yng Nghymru, bydd llawer o feddygon teulu na fyddant yn mynd drwy’r broses o wneud cais ar wahân i gael eu cynnwys ar y rhestr yn y wlad arall, ac mae hyn wedi atal meddygon teulu ar restr cyflawnwyr Lloegr rhag cymryd swyddi gwag ar yr ochr hon i’r ffin. Hefyd, amlygodd Cymdeithas Feddygol Prydain y ffaith fod rhestrau cyflawnwyr ar wahân yn atal meddygon locwm rhag gweithredu ar draws y ffin. Mae hyn yn effeithio’n andwyol ar ofal, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig yn agos at y ffin. Mae hi bob amser wedi bod yn anodd recriwtio meddygon teulu mewn ardaloedd gwledig, a gyda phoblogaeth sy’n heneiddio o feddygon teulu, rydym yn dechrau gweld mwy a mwy o bractisau gwledig yn cau. Fodd bynnag, pe bai’r practisau hynny yn gallu dibynnu ar gefnogaeth gan bractisau cyffiniol ar yr ochr arall i’r ffin, byddem yn gallu cynnig gofal sylfaenol yn yr ardaloedd hynny.

Mae pobl Cymru yn disgwyl gwasanaeth iechyd gwladol—gwasanaeth sy’n darparu gofal iechyd o’r radd flaenaf, waeth ble rydych yn byw, neu ble rydych yn cael triniaeth. Mae anallu meddygon teulu a meddygon locwm i weithredu’n drawsffiniol yn effeithio’n andwyol ar ofal iechyd yng nghefn gwlad Cymru. Nid wyf yn gwrthwynebu cael mwy o wahaniaeth rhwng y systemau gofal iechyd yng Nghymru a Lloegr, ond ni ddylai gwahaniaeth effeithio ar lefel ac ansawdd y driniaeth i gleifion. Mae UKIP yn credu y dylid cael un rhestr cyflawnwyr ar gyfer Cymru a Lloegr ac yn galw ar Ysgrifennydd y Cabinet i weithio gyda’r Adran Iechyd i gyflawni’r nod hwnnw. Ni ddylai biwrocratiaeth a phrosesau byth darfu ar ofal cleifion. Anogaf yr Aelodau i gefnogi’r gwelliant a gyflwynwyd yn fy enw i. Diolch yn fawr. Diolch yn fawr iawn.

Hoffwn ddiolch i Angela Burns am gyflwyno ein dadl a’r mater dan sylw mor dda heddiw. Mae materion gofal iechyd wedi dominyddu fy mewnflwch a fy mag post ers i mi ddod yn AC, ond rwy’n amau mai felly y mae i’r Aelodau ar draws y Siambr. Ond oherwydd yr elfennau trawsffiniol yn fy etholaeth i, mae’r mater yn fwy pwysig, ac yn fy nghyfraniad heddiw, hoffwn dynnu sylw at rai o’r materion y mae fy etholwyr yn eu hwynebu wrth ddefnyddio gwasanaethau iechyd trawsffiniol.

Nawr, Powys, wrth gwrs, yw’r sir gyda’r boblogaeth fwyaf gwasgaredig a’r sir ddaearyddol fwyaf yng Nghymru. Ac wrth gwrs, mae hynny’n creu heriau unigryw i ni. Nid oes gan Bowys ysbyty cyffredinol dosbarth. Yn gyffredinol, caiff trigolion eu gwasanaethu gan Ysbyty Brenhinol Amwythig, Ysbyty’r Dywysoges Frenhinol yn Telford, neu Gobowen. Caiff trigolion yng ngorllewin Sir Drefaldwyn eu gwasanaethu gan Ysbyty Bronglais, ond caiff 80 y cant o fy etholwyr eu gwasanaethu gan wasanaethau ysbytai dros y ffin, ac mae hyn yn golygu, wrth gwrs, fod yn rhaid i fy etholwyr deithio pellteroedd enfawr i gael mynediad at wasanaethau gofal iechyd. Mae’r gwahaniaethau mewn polisi rhwng Cymru a Lloegr yn effeithio’n uniongyrchol ar fynediad at ofal, a chysondeb ac ansawdd gofal i gleifion yn fy etholaeth. Mae llawer o gleifion yn dioddef yn sgil loteri cod post o ran amseroedd aros, penderfyniadau cyllido a blaenoriaethau triniaeth gwahanol. Mae hyn yn golygu bod cleifion canolbarth Cymru yn aml yn syrthio rhwng y craciau gweinyddol wrth gael mynediad at ofal. Dyma’r mater sy’n cael y sylw mwyaf yn fy mag post, yn fwy felly na ACau eraill o bosibl. Rwy’n ymdrin â phroblemau gweinyddol pobl yn syrthio rhwng dwy system wahanol.

Rhoddaf rai enghreifftiau yma. Mae un o fy etholwyr—fe’i galwaf yn Mr L—angen mewnblaniad falf aortig trawsgathetr—rwy’n gobeithio fy mod wedi ei ynganu’n gywir—yn ysbyty athrofaol Stoke, ond gwrthodwyd arian ar gyfer hyn ddwywaith. Pe bai Mr L yn byw yn Lloegr, byddai wedi cael y llawdriniaeth heb fod angen cais ariannu yn y lle cyntaf hyd yn oed. Mae Mr L yn cael gwybod am y sefyllfa gan feddygon ymgynghorol, wrth gwrs, oherwydd eu bod hwy’n rhwystredig hefyd; mae meddygon ymgynghorol yn rhwystredig am fod yn rhaid iddynt weithredu system ddwy haen; maent yn rhwystredig fod yn rhaid iddynt roi llai o wasanaeth, fel y maent yn ei weld, i gleifion o Gymru.

Mae Mrs E angen llawdriniaeth lawn ar y pen-glin a Mr M angen clun chwith newydd. Mae’r ddau’n aros 26 wythnos am lawdriniaeth yn Gobowen, yn hytrach na 18 wythnos pe baent yn byw yn Lloegr. Mae’r amseroedd aros gwahanol hefyd—. Mae’r targedau gwahanol, mae’n debyg, sy’n rhaid i’r ddau ysbyty weithio gyda hwy mewn perthynas â dwy set o dargedau, wrth gwrs, yn broblem yma. Mae ysbytai’n hwyluso system dwy haen o ran cefnogi cleifion o Gymru ac o Loegr. Mae’r mater hwn yn cael ei ddwyn i fy sylw byth a hefyd, pan fydd claf yn cael gwybod, ‘A, Mrs Jones, rydych yn mynd i orfod aros am 18 wythnos’, ac yna wrth i’r ymgynghoriad fynd rhagddo, ‘O, un funud, rwy’n sylwi eich bod yn dod o Gymru, mae’n 26 wythnos.’ Mae hynny’n digwydd yn rheolaidd. Efallai na fyddai hynny’n digwydd pe bai claf yn byw yng Nghymru ac yn mynd i’r ysbyty yng Nghymru. Mae’r meddygon ymgynghorol wedi arfer gweld cleifion o Loegr, felly dyma un o’r problemau sy’n codi.

Mae nifer o etholwyr hefyd wedi mynegi pryder mawr am sganiau tomograffeg allyrru positronau, lle na chaniateir ond un sgan PET fel arfer. Ond yn Lloegr, wrth gwrs, caniateir dau sgan PET—fel arfer un cyn y llawdriniaeth ac un ar ôl cael llawdriniaeth. Felly, mae’r dryswch ynglŷn ag amseroedd aros, trefniadau ariannu a blaenoriaethau triniaeth yn rhemp, a fy neges i Lywodraeth Cymru, a Llywodraeth y DU o ran hynny yw: cydweithiwch i chwalu’r rhwystrau hyn a darparu eglurder i gleifion a chlinigwyr.

Rwy’n cytuno’n gryf â Chydffederasiwn GIG Cymru sydd wedi dweud bod angen mwy o ymgysylltiad trawsffiniol â dinasyddion er mwyn codi ymwybyddiaeth o ddatganoli a’r gwahaniaethau yn argaeledd triniaethau. Unwaith eto, dyma rywbeth sy’n llenwi fy mag post. Rwyf fi byth a hefyd yn ateb etholwyr gan ddweud, ‘Dyma fy nghyngor ar gyfer sut i ymdrin â’ch cais chi, ac fe wnaf sylwadau ar eich rhan’. Yna af ati i roi gwers mewn datganoli iddynt, oherwydd yn aml un o’r materion sy’n codi yw, ‘rwy’n drethdalwr, fe ddylai fod gennym wasanaeth iechyd gwladol, beth sydd wedi mynd o’i le yma?’ Ac wrth gwrs, byddaf yn ateb, ‘Wel, mewn gwirionedd, rydych yn anghywir; bellach nid oes gennym wasanaeth iechyd gwladol; mae gennym ddwy Lywodraeth wahanol gyda blaenoriaethau gwahanol’. Rwyf fi byth a hefyd yn ateb hynny, yn wythnosol o bosibl.

Mae’r Pwyllgor Materion Cymreig—

Dof i ben felly. Hoffwn ddweud felly, Ddirprwy Lywydd, pan fyddwn yn gwneud polisïau, dylem fod yn wneud yn siŵr eu bod yn cydymffurfio â phrawf ffin er mwyn darparu cysondeb mewn gofal iechyd.

Pan fydd gennych wlad lle y mae 50 y cant o’r boblogaeth yn byw o fewn 25 milltir i’r ffin â Lloegr, mae mater gofal iechyd trawsffiniol yn un allweddol. Ni allwn dynnu llinell daclus a mynnu bod yn rhaid i’r boblogaeth sy’n byw ar y ffin fynd i gael eu gweld gan staff y GIG yng Nghymru yn unig. Mae’n afrealistig, mae’n anymarferol, ond yn bennaf oll, ni fyddai ‘n gweddu i lawer o aelodau’r cyhoedd sy’n byw ar y ffin. Felly, mae cael perthynas adeiladol ac iach rhwng byrddau iechyd ar y ddwy ochr i Glawdd Offa yn hollbwysig, ac mae cyhoeddi’r adroddiad yr wythnos hon ar gynaliadwyedd a chynlluniau trawsnewid ar gyfer Swydd Amwythig a Swydd Henffordd yn allweddol i’r ddarpariaeth gofal iechyd ym Mhowys—ardal rwyf fi, fel yr Aelod gyferbyn, yn eu cynrychioli.

Nawr, er ein bod ni yng Nghymru yn cydnabod pwysigrwydd gweithio’n drawsffiniol, rwy’n meddwl ei bod yn werth nodi nad yw’r Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan, yn y canllawiau i ymddiriedolaethau Lloegr, wedi cyfeirio o gwbl at drefniadau gweithio trawsffiniol na’r gofal y dylid ei ddarparu i gleifion o Gymru. Felly, rwy’n croesawu’r ffaith fod y diffyg hwn wedi cael ei gydnabod gan fwrdd partneriaeth Swydd Amwythig, Telford a Wrekin a bod cyfeiriad penodol gan fyrddau iechyd Lloegr mai eu hysbytai yw’r prif ddarparwyr gofal acíwt ar gyfer cymunedau ym Mhowys a’u bod yn deall hynny yn y cynlluniau trawsnewid.

Ond gadewch i ni fod yn glir, er ei bod yn wir fod Cymru angen i’n cleifion ar y ffin gael eu trin yn Swydd Amwythig a Swydd Henffordd, ni fyddai eu gwasanaethau’n gynaliadwy heb gleifion o Gymru—heb yr arian a roddir iddynt gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys. I lawer o bobl sy’n byw ym Mhowys, mae’r rhan fwyaf o’u gofal ysbyty yn cael ei ddarparu yn Lloegr.

Mae’r fframwaith comisiynu strategol a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn nodi sut y mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn gweithio gyda darparwyr yng Nghymru a Lloegr i gyflawni’r safonau ansawdd a mynediad y maent yn ei ddisgwyl ar ran cleifion o Gymru yn unol â threfniadau Cymru a’r DU ar gyfer gofal iechyd trawsffiniol. Mae hefyd yn helpu i gyflawni’r argymhellion a nodir yn adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig ar drefniadau iechyd trawsffiniol.

Nawr, rwyf wedi cyfarfod ag ymgyrchwyr iechyd ym Mhowys sydd â phryderon go iawn, yn enwedig ynglŷn â mynediad at ofal sylfaenol. Nid problem ar y ffin yn unig yw recriwtio meddygon teulu, mae’n broblem rydym yn dod ar ei thraws yn y rhan fwyaf o Gymru ac rwy’n gobeithio y bydd ymgyrch recriwtio’r Llywodraeth yn y mater hwn yn mynd rywfaint o’r ffordd i ddatrys y broblem. Rwy’n credu ei bod yn werth tanlinellu fod yr anawsterau ychwanegol i gleifion a darparwyr ym Mhowys o weithio ar draws dwy lywodraeth, strwythurau gwahanol a chyfeiriadau gwleidyddol gwahanol, yn golygu bod yna broblem o safbwynt atebolrwydd. Ond nid wyf yn credu ei bod yn amhosibl i ddarparwyr iechyd, hyd yn oed ar lefel sylfaenol, ddod at ei gilydd i wneud yr hyn sy’n iawn i gleifion a darparu gwasanaeth di-dor. Ceir enghraifft o hyn lle y mae meddygon teulu ar y ffin rhwng Powys a Swydd Amwythig yn gweithio’n agos gyda’i gilydd ar gyfer y cymunedau yn Nhrefyclo a Clun. Nawr, mae’r ddau bractis cyfredol wedi gweithio ochr yn ochr â’r bwrdd iechyd i oresgyn heriau gofal iechyd gwledig ar draws y ffin, ac felly maent yn cyflawni disgwyliadau rhaglen lywodraethu Llywodraeth Lafur Cymru.

Y bore yma, cyfarfu bwrdd y rhaglen Parod at y Dyfodol ac argymhellodd gyfres o opsiynau a ffefrir ar gyfer darparu gofal iechyd a fydd yn effeithio ar gleifion ym Mhowys ac yn arbennig cleifion yn Nhrefaldwyn. Mae’r argymhellion hyn yn rhoi diwedd ar flynyddoedd o ansicrwydd ynglŷn â ble y dylai gwasanaethau gael eu darparu. Felly, er fy mod yn croesawu adfer canolfan menywod a phlant dan arweiniad meddyg ymgynghorol yn Ysbyty Brenhinol Amwythig, rwy’n awyddus i archwilio ymhellach beth yw effaith symud y rhan fwyaf o lawdriniaethau cleifion allan i Telford. Byddaf yn cyfarfod â Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn y flwyddyn newydd i geisio gweld a ellir cyflawni mwy o lawdriniaethau gofal dydd yr ochr hon i’r ffin, gan leihau amser teithio i gleifion yng Nghymru. Mewn sawl ffordd, efallai fod y ffin rhwng Cymru a Lloegr yn ymddangos yn fwy nag erioed, ond o ran gofal iechyd, fel y gwelsom heddiw ddiwethaf, drwy gydweithio, ymgysylltu cadarnhaol a pharch tuag at y GIG ar y ddwy ochr, gellir gwneud cynnydd i ddatrys y problemau a deimlir ar y ddwy ochr i’r ffin.

Wrth siarad yn nadl y Ceidwadwyr Cymreig ar faterion trawsffiniol yma ym mis Mai 2009, nodais,

‘mae symudiadau trawsffiniol mewn gwasanaethau iechyd... yn ffaith hir sefydledig, yn adlewyrchu’r realiti daearyddol a demograffig.’

Cyfeiriais at adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig ar wasanaethau trawsffiniol ar y pryd a ddaeth i’r casgliad fod diffyg cyfathrebu effeithiol rhwng Llywodraeth Cymru a’r Adran Iechyd yn Lloegr, a galwai ar y ddau i weithio gyda’i gilydd i sicrhau bod hawliau trigolion Cymru i ddefnyddio gwasanaethau yn Lloegr, a’r ffordd arall, yn cael eu diogelu. Roeddent o’r farn fod protocol gwell ar lefel Llywodraeth yn hanfodol i safoni ac egluro trefniadau ariannu a mecanweithiau atebolrwydd, gan ddweud mai’r canlyniad y dylid ei sicrhau yw gofal di-dor i gleifion ar sail angen clinigol.

Roedd llywodraethwyr Sir y Fflint ar fwrdd Ysbyty Iarlles Caer wedi datgan mai eu dewis cyntaf o ysbytai yw Ysbyty Iarlles Caer ac ysbytai addysgu Lerpwl, ac roedd cleifion orthopedig wedi mynegi eu hangen i barhau i ddefnyddio ysbyty Gobowen. Roeddent yn cyfeirio at ddatganiad y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig na ddylai ymgysylltiad â dinasyddion ddod i ben ar y ffin, ac at adroddiad blynyddol bwrdd iechyd lleol Sir y Fflint y flwyddyn flaenorol, a oedd yn dweud bod mwy o gleifion Sir y Fflint yn cael eu trin fel cleifion allanol, achosion dydd neu achosion brys yn Ysbyty Iarlles Caer nag yn Ysbyty Maelor Wrecsam nac Ysbyty Glan Clwyd.

Er bod Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru, yn ystod y trydydd Cynulliad, wedi dweud mai ei phrif nod oedd sicrhau cymaint o wasanaethau ag y gellid eu darparu’n ddiogel o fewn ffiniau Cymru, ac er bod Gwasanaeth Ymchwil diduedd y Cynulliad wedi dweud wrthyf yn 2013 eu bod wedi siarad â swyddog o Lywodraeth Cymru a gadarnhaodd mai polisi Llywodraeth Cymru oedd dychwelyd cleifion o Gymru sy’n cael gwasanaeth ar hyn o bryd mewn sefydliadau cleifion mewnol yn Lloegr, ysgrifennodd Gweinidog Iechyd diwethaf Cymru ataf i ddatgan bod y wybodaeth hon yn anghywir—nid oes polisi cudd i ddychwelyd cleifion i Gymru. Fodd bynnag, mewn cyfarfod gydag Ysbyty Iarlles Caer ym mis Medi 2013, dywedwyd wrthyf fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn lleihau neu’n canslo atgyfeiriadau ac yn tynnu gweithgarwch yn ôl dros y ffin, er nad oedd ganddynt gapasiti i wneud hynny. Fel y dywedasant, dylai’r ffocws fod ar y claf ac roeddent yn awyddus i gyfrannu at ddarparu gofal trawsffiniol cyflymach, gwell a mwy economaidd.

Yn gynnar y llynedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod yn comisiynu clinigau rheoli poen o Loegr ar ôl i restrau aros yng Nghymru gyrraedd 78 wythnos. Cysylltodd etholwyr â mi a oedd mewn poen ac a oedd bob amser wedi cael eu triniaeth yn Ysbyty Iarlles Caer, ond yn lle hynny roeddent bellach yn cael eu rhoi ar restrau aros hir yng Nghymru. Pan soniais wrth y bwrdd iechyd am hyn, roeddent yn cydnabod bod amser aros am y gwasanaeth hwn, ond nad oeddent wedi llwyddo i sicrhau capasiti GIG ychwanegol yng ngogledd-orllewin Lloegr. Felly, cysylltais â phrif weithredwr Ysbyty Iarlles Caer a atebodd fod Cymru wedi tynnu allan o’u gwasanaeth poen ddwy flynedd ynghynt ac o ganlyniad, ni allent dderbyn atgyfeiriadau o Gymru bellach. Ond ychwanegodd:

efallai fod hyn yn rhywbeth y gallech ei drafod gyda Llywodraeth Cymru i weld a oes ewyllys gwleidyddol i ni gael ein gweld fel rhan o’r ateb gofal iechyd acíwt yng ngogledd Cymru.

Pan wneuthum hyn, fodd bynnag, trosglwyddodd y Gweinidog iechyd ar y pryd y baich yn ôl i’r bwrdd iechyd.

Er bod y protocol Cymru-Lloegr ar gyfer gwasanaethau gofal iechyd trawsffiniol wedi ei roi ar waith ym mis Ebrill 2013 i wella cyfathrebu, mae Cydffederasiwn GIG Cymru yn datgan yn awr fod angen i’r broses o wneud penderfyniadau ar y ddwy ochr i’r ffin fod yn fwy cydgysylltiedig, yn fwy cydlynus ac yn fwy tryloyw. Mynegwyd pryder yn adroddiad 2016 y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig ar drefniadau iechyd trawsffiniol rhwng Cymru a Lloegr fod yna ddiffyg cyfathrebu ynglŷn â newidiadau i wasanaethau gofal iechyd, a allai gael effaith ar draws y ffin, ac argymhellodd y dylid rhoi protocolau ffurfiol ar waith i sicrhau bod ymgynghori’n digwydd rhwng byrddau iechyd lleol Cymru a grwpiau comisiynu clinigol yn Lloegr pan fo newidiadau i wasanaethau’n effeithio ar boblogaethau ar draws y ffin.

Fel y dywedodd Dr Dai Lloyd yma yn 2009:

‘Mae cenhedloedd aeddfed yn cydweithio ar draws ffiniau mewn dull hanesyddol er lles iechyd eu holl bobloedd.’

Dyna ffordd ragorol o’i roi. Fel y dywedais ar y pryd, rhaid i ni ar bob cyfrif osgoi llen lechi mewn gwasanaethau rhwng y ddwy genedl Brydeinig hyn. Dylai ein ffin hir a thyllog fod yn achos dathlu a chydweithredu, yn hytrach na rhwystr i effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd.

Mi fydd Plaid Cymru’n cefnogi’r cynnig yma a’r gwelliant. Mae’r argymhellion a gafodd eu gwneud gan y Pwyllgor Dethol Materion Cymreig yn rhai synhwyrol; rydw i’n gobeithio y bydd Llywodraethau ar ddwy ochr y ffin yn eu hystyried nhw. Mae llif trawsffiniol o gleifion, wrth gwrs, yn beth cyffredin iawn, iawn ar draws Ewrop, ac yn sicr ar draws y byd. Rwy’n siŵr ei bod yn aml yn gwneud synnwyr i glaf groesi ffin i gael y driniaeth fwyaf priodol. Mi allwn i dynnu sylw at sawl enghraifft o gydweithio. Mae enghreifftiau’n cynnwys rhannu cyfleusterau iechyd yn yr ardal denau ei phoblogaeth yna ar y ffin rhwng Ffrainc a Sbaen yn y Pyreneau; yswirwyr yn yr Iseldiroedd yn contractio efo ysbytai’r Wlad Belg ar gyfer gwasanaethau arbenigol; a merched yn Ffrainc yn dewis rhoi genedigaeth yng Ngwlad Belg oherwydd agosatrwydd daearyddol a hefyd canfyddiad o ansawdd gwell o ofal. Felly, nid ydy hyn yn ddim byd newydd. Mae o o fudd, felly, i bawb gael pethau’n iawn ac i roi trefn ar y math a’r lefel o gydweithio sy’n cymryd lle.

Mae yna ambell i fater y byddwn i’n dymuno eu codi. Y cyntaf ydy bod sawl cynnig ar y bwrdd ar hyn o bryd i ganoli gwasanaethau brys yn Lloegr, ac yn ôl bob tebyg, mwy ar y gweill. Mae’r rhain yn anochel yn mynd i effeithio ar bobl mewn rhannau o Bowys a’r gogledd yn arbennig, a fydd yn wynebu pellteroedd teithio mwy fyth mewn sefyllfaoedd o argyfwng, ac, o ganlyniad, yn wynebu mwy o risg. Rydw i’n gofyn i Lywodraeth Cymru gydnabod hynny ac i ystyried pa drefniadau allai gael eu gwneud i liniaru effeithiau’r newidiadau yma. Nid dadl yn erbyn gwasanaethau trawsffiniol ydy hyn. Cofiwch beth a ddywedais i ar y dechrau—mae teithio ar draws ffiniau yn digwydd yn aml pan fo hynny’n gwneud synnwyr daearyddol. Mewn sefyllfa lle mae pobl yn gorfod teithio dros dair awr yn y gogledd am wasanaeth dros y ffin, nid ydy hynny’r un fath. Mae o’n annerbyniol. Mae pellteroedd felly’n awgrymu i mi’r angen i gynllunio gwasanaeth iechyd sydd yn fwy addas ar gyfer ardal wledig.

Yr ail bwynt ydy y gallai newidiadau i wasanaethau fod o fantais i Gymru os oes gennym ni yma yr agwedd gywir. Yn rhy aml, rydw i’n meddwl, yn y gorffennol, mae gwasanaethau arbenigol wedi cael eu gweld fel rhywbeth mae pobl yng Nghymru’n gorfod teithio i Loegr i’w cael nhw, efallai am nad oes gennym ni’r boblogaeth angenrheidiol i gyfiawnhau’r gwasanaethau yma, ond cofiwch fod yna fwy o bobl yn dod o Loegr i weld GP na sy’n mynd o Gymru i Loegr ar gyfer gofal sylfaenol. Os ydym ni’n ystyried pobl yn Lloegr sy’n byw wrth y ffin fel darpar ddefnyddwyr gwasanaethau arbenigol yng Nghymru, yna mi allwn ni gyfiawnhau sefydlu, neu ddatblygu neu gryfhau gwasanaethau o’r fath yma, a dod ag arian i mewn i’n gwasanaethau yma, yn ogystal hefyd—ac mae hyn yn bwynt pwysig—â chynyddu atyniad yr NHS yng Nghymru i ddarpar staff ac ati. Felly, mi fyddwn i’n gofyn i’r Llywodraeth a’r Ysgrifennydd Cabinet i gadw llygad ar newidiadau mewn gwasanaethau yn Lloegr i weld os oes yna newidiadau yno yn rhoi sgôp inni ehangu ein gwasanaethau yma. Wedi’r cyfan, fel y clywsom ni gan Eluned Morgan, mae ein poblogaeth ni yn ychwanegu at y ‘critical mass’ i helpu i gynnal gwasanaethau yn Lloegr, ac mi allem ni droi hynny ar ei ben wrth gynnig rhagor o wasanaethau i’n cymdogion ninnau.

Yn olaf, rydw i am symud at y materion trawsffiniol nad ydynt yn effeithio ar Gymru a Lloegr ond sy’n effeithio ar Gymru a gweddill Ewrop. Siarad ydw i am yr hawliau sydd gan ddinasyddion Cymru i driniaeth feddygol yn Ewrop wrth gario cerdyn yswiriant iechyd Ewropeaidd ac, wrth gwrs, yr hawliau sydd gan ddinasyddion Ewropeaidd i driniaeth wrth ymweld â Chymru. Er fy mod i’n siŵr fy mod i’n gallu eithrio un blaid yn y Siambr yma o’r consensws sy’n datblygu ar ofal trawsffiniol, mae’r gweddill ohonom ni, gobeithio, yn parhau i fod yn gefnogol i wasanaethau iechyd trawsffiniol Cymru-Ewropeaidd o’r fath. Felly, mi fuaswn i’n licio cael sicrwydd nad yw’r math yma o ofal iechyd trawsffiniol yn mynd i gael ei adael allan o ystyriaethau Llywodraethau.

I gloi, felly, fel rydw i’n dweud, mi fydd Plaid Cymru yn cefnogi’r cynnig yma heddiw, ac rydw i’n nodi, yn fy ngeiriau olaf, os gall gwledydd eraill ar draws Ewrop ddatrys agweddau ymarferol iechyd trawsffiniol, yna’n sicr mi allwn ni ddatrys materion trawsffiniol rhwng Cymru a Lloegr hefyd, a hynny er budd pobl ar y ddwy ochr i’r ffin.

Mae llwybrau gofal iechyd i gleifion bob amser wedi croesi’r ffin rhwng Cymru a Lloegr. Cyn datganoli, nid oedd yn broblem gan mai un GIG a geid. Darparodd Deddf y GIG 1946 ar gyfer sefydlu gwasanaeth iechyd cynhwysfawr ar gyfer Cymru a Lloegr. Roedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gyfrifol am wasanaethau yn y ddwy wlad, er bod y GIG yng Nghymru wedi dod yn rhan o gyfrifoldebau Ysgrifennydd Gwladol Cymru o 1969 ymlaen. Nawr, gyda dyfodiad datganoli, Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol amdano. Fodd bynnag, gan fod hanner poblogaeth Cymru yn byw o fewn taith 15 munud ar y bws, neu mewn car neu ambiwlans i’r ffin, mae symud drosti i gael mynediad at ofal iechyd yn digwydd fel mater o drefn. Mae oddeutu 55,000 o drigolion o Gymru, fel y mae Angela newydd ei ddweud, yn cael eu derbyn i ysbytai yn Lloegr bob blwyddyn. Mae ysbytai Cymru yn derbyn oddeutu 10,500 o bobl sy’n byw yn Lloegr. Mae ychydig o dan 21,000 o drigolion Lloegr wedi cofrestru gyda phractisau meddygon teulu dan contract gyda’r GIG yng Nghymru. Mae’r ffigur ar gyfer trigolion Cymru sydd wedi cofrestru gyda meddygon teulu yn Lloegr rywle rhwng 15,000 a 16,000.

Mae pawb ohonom am weld pobl yn cael y driniaeth sydd ei hangen arnynt yn y lle gorau ar eu cyfer. Yn amlwg, weithiau bydd y gwasanaethau hynny ar draws y ffin. Yn ei adroddiad, clywodd y Pwyllgor Materion Cymreig am bryderon ynglŷn ag anawsterau ac oedi wrth ddefnyddio gwasanaethau eilaidd ac arbenigol ar sail drawsffiniol. Yn benodol, roedd cleifion yn pryderu ynglŷn â newid canfyddedig i gomisiynu ‘o fewn y wlad’ ar ran Llywodraeth Cymru. Roeddent yn credu mai’r nod yn y pen draw oedd trin yr holl gleifion o Gymru yng Nghymru, pa un a oedd hynny er eu lles gorau ai peidio. Mewn rhai achosion, dywedwyd wrth gleifion a oedd yn byw yn ne-ddwyrain Cymru ac a oedd yn cael triniaeth yn Henffordd neu Fryste na fyddai Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan yn parhau i ariannu eu triniaeth. Cyflwynodd Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan bolisi ym mis Medi 2012 i gyfyngu ar atgyfeiriadau y tu allan i Gymru. Roeddent yn dweud, a dyma’u dyfyniad:

y Bwrdd Iechyd yw darparwr sylfaenol gwasanaethau gofal eilaidd i’r boblogaeth sy’n byw... yng Ngwent... Lle na all gwasanaethau’r Bwrdd Iechyd ei hun ddarparu’r gofal hwn... bydd y Bwrdd Iechyd yn mynd ati i gynllunio a sicrhau’r gwasanaethau angenrheidiol gyda Darparwyr eraill y GIG yng Nghymru drwy ei lwybrau gofal y cytunwyd arnynt.

Cau’r dyfyniad. Ni fyddai Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan yn edrych dros y ffin oni fo bwrdd iechyd yng Nghymru yn methu darparu’r gwasanaethau priodol. Er eu bod wedi newid y polisi hwn yn 2013 ar gyfer trigolion o Loegr gyda meddyg teulu yng Nghymru, ni wnaethant hynny ar gyfer trigolion o Gymru. O ganlyniad, mae angen cymeradwyaeth ymlaen llaw o hyd cyn y gelllir atgyfeirio claf o Gymru yng Ngwent i gael triniaeth gan ddarparwr yn Lloegr.

Yn syml, mae yna lawer o wasanaethau arbenigol nad ydynt ar gael yng Nghymru, Ddirprwy Lywydd. Comisiynir gwasanaethau arbenigol ar sail genedlaethol gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru. Mynegwyd pryderon nad yw bob amser yn bosibl ffurfioli cytundebau lefel gwasanaeth rhwng Cymru a Lloegr oherwydd gwahaniaethau allweddol yn y dogfennau contract. Mae’r gwahaniaethau allweddol a nodwyd yn cynnwys gwahaniaethau o ran meini prawf mynediad, targedau amseroedd aros a’r ffaith nad yw Cymru’n gweithredu cynllun dewis i gleifion. Mae gwahanol raglenni TG sy’n cael eu defnyddio yn y gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru a Lloegr hefyd yn ei gwneud yn anodd i systemau sylfaenol, eilaidd a thrydyddol gyfathrebu â’i gilydd ar draws y ffin. Ddirprwy Lywydd, mae symudiadau trawsffiniol i gael gofal iechyd wedi bodoli ers blynyddoedd lawer. I lawer o drigolion ardaloedd ar y ffin efallai na fydd y darparwr iechyd agosaf yn y wlad lle y maent yn byw. Mae’n hanfodol, felly, nad yw’r ffin yn dod yn rhwystr rhag cael mynediad at y gofal iechyd gorau. Os ydym yn hyrwyddo’r defnydd arloesol o ofal iechyd trawsffiniol, gallwn ddarparu’r canlyniadau gwell i gleifion y mae pawb ohonom am eu gweld yng Nghymru.

Yn olaf, hoffwn ofyn, Weinidog: mae’r rhestr aros a chanslo cleifion yng Nghymru yn wynebu argyfwng go iawn. I rai o fy etholwyr fy hun, o leiaf hanner dwsin o weithiau, gwn fod eu llawdriniaeth wedi ei chanslo ar ôl aros dwy flynedd a hanner. Ac ar ôl hynny—y chweched tro—cafodd y llawdriniaeth ei chanslo. Am drychineb yn y GIG. Dylem ddefnyddio ein teulu ein hunain i roi llawdriniaethau, o fewn nid yn unig 18 mis o aros ond cyn aros am 18 mis, a gadewch i’r rhestrau aros hyn gael eu byrhau cyn gynted ag y bo modd yng Nghymru. Diolch.

Fel Aelod Cynulliad sy’n gwasanaethu etholwyr sydd wedi arfer defnyddio gwasanaethau penodol ar draws y ffin, croesawaf y ddadl hon a’r cyfle i allu cyfrannu’n fyr. Rwyf eisoes wedi sôn droeon yn y Siambr hon sut y mae ardal gogledd-ddwyrain Cymru wedi ei chysylltu’n economaidd ac yn ddiwylliannol â gogledd-orllewin Lloegr, ac mae’r ffin yn cynorthwyo fel llwybr dwy ffordd i ffyniant, yn hytrach na rhwystr braidd yn artiffisial. Yn wir, ni ddylai fod unrhyw rwystr o’r fath hefyd o ran defnyddio gwasanaethau eilaidd arbenigol. I’r rhai sy’n byw mewn rhannau o ogledd Cymru, mae cael mynediad at wasanaethau arbenigol yng ngogledd-orllewin Lloegr yn arfer safonol sy’n mynd yn ôl cyn datganoli. Rwyf fi, fel llawer o’r rhai sy’n byw yn Nelyn ac ar draws gogledd-ddwyrain Cymru, wedi profi hyn yn uniongyrchol ac yn ceisio’r un fath â phawb arall i fy anwyliaid, hynny yw, sicrhau’r driniaeth arbenigol orau bosibl mor agos i’w cartrefi â phosibl, boed yn llawdriniaeth ar y galon yn ysbyty Broadgreen yn Lerpwl, neu driniaeth ganser yn ysbyty Clatterbridge yng Nghilgwri. Rwy’n croesawu’r protocolau trawsffiniol a roddwyd ar waith gan Lywodraeth Cymru ar gyfer trin cleifion a atgyfeiriwyd ar draws y ffin, ond yr her mewn gwirionedd yw sut y cânt eu dilyn a’u gweithredu yn y ffordd orau ar lawr gwlad, o ddydd i ddydd ac wrth gwrs i wneud yn siŵr nad oes unrhyw gleifion sy’n byw yng Nghymru ac sy’n cael triniaeth gan y GIG yn Lloegr yn cael eu trin yn llai ffafriol na’u cymheiriaid sy’n byw yn Lloegr.

O’r ohebiaeth a’r sgyrsiau a gefais gydag etholwyr, mae’n ymddangos bod gwell cyfathrebu â defnyddwyr gwasanaethau iechyd trawsffiniol ar lefel gofal sylfaenol yn allweddol, hyd yn oed ar y lefel sylfaenol fod pobl yn deall pam y cânt eu atgyfeirio i gael triniaeth benodol ar draws y ffin. Drwy gymryd camau i adeiladu ar waith Llywodraeth Cymru mewn perthynas â gofal iechyd trawsffiniol, a thrwy gydweithio mewn gwirionedd ar bob lefel, mae’n bosibl, ac mae’n rhaid i ni sicrhau bod gofal o’r ansawdd gorau posibl yn cael ei ddarparu i gleifion sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd trawsffiniol.

Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Vaughan Gething.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i’r Aelodau am gyflwyno dadl ar y pwnc hwn, fel y gallwn drafod realiti triniaeth drawsffiniol i gleifion rhwng Cymru a Lloegr. Mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, wedi bod yn awyddus i sicrhau bod yr ymagwedd at lif cleifion trawsffiniol yn synhwyrol ac yn bragmatig ac yn canolbwyntio ar ddarparu’r gofal gorau i bawb sydd ei angen. Dyna yw prif ffocws y protocol trawsffiniol wedi bod.

Nod Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod pob claf yn cael gofal iechyd o ansawdd uchel ar yr adeg gywir ac yn y lle iawn. Weithiau, y gwasanaethau a ddarperir ar draws y ffin yn Lloegr fydd orau ar gyfer cleifion o Gymru. Fel sydd wedi’i drafod heddiw, mae llif cleifion hir sefydledig wedi bod i mewn i Loegr ar gyfer gofal ysbyty. Mae gan fyrddau iechyd lleol hyblygrwydd i atgyfeirio cleifion allan o’u hardal am driniaeth pan fo angen a phan fo amgylchiadau clinigol y claf yn cyfiawnhau hynny, neu ble nad yw gwasanaethau’n cael eu darparu yng Nghymru.

Fodd bynnag, ceir realiti’r ymagwedd wleidyddol a ddefnyddiwyd i ddisgrifio GIG Cymru, ac yn anffodus, mae hynny wedi tarfu ar rywfaint o’r ddadl. Nid oedd y sylw am Glawdd Offa yn arbennig o ddefnyddiol, ac nid yw wedi cael ei ddadwneud mewn gwirionedd. Ond a bod yn deg, ac er clod i Angela Burns, nid yw wedi mabwysiadu’r dull dallbleidiol wrth siarad am ofal iechyd trawsffiniol a’r hyn sydd angen i ni ei wneud mewn gwirionedd. [Torri ar draws.] Cafwyd awgrymiadau yn y gorffennol gan sefydliadau yn Lloegr nad yw’r GIG yng Nghymru yn talu o flaen llaw am gleifion o Gymru, ac nid yw hynny’n wir. Roedd hynny’n wirioneddol siomedig ac fe niweidiodd y berthynas ar un adeg mewn gwirionedd rhwng gwahanol sefydliadau a oedd yn gorfod trin cleifion o Gymru. Yn wir, mae’n iawn—ac mae llawer yn y Siambr hon wedi gwneud y sylw hwn o’r blaen—fod y gwasanaethau hynny dros y ffin yn dibynnu ar lif cleifion o Gymru i wneud y gwasanaethau hynny’n gynaliadwy. Felly, mae angen cael sgwrs ddilys a synhwyrol ynglŷn â sut y mae cleifion yn cael triniaeth a ble y maent yn ei chael.

Ac wrth gwrs, nid mater o driniaeth gofal eilaidd safonol yw hyn oherwydd, wrth gwrs, mae yna wasanaethau arbenigol, lle y mae angen i bobl fynd i Loegr. Disgrifiodd Hannah Blythyn rai o’r rheini yn ei sylwadau. Wrth gwrs, mae gan ogledd Cymru gysylltiad â’r ganolfan trawma yn Stoke. Nawr, mae hynny wedi gwella canlyniadau mewn gwirionedd. Mae’r ffaith fod pobl yn teithio ymhellach yn ddaearyddol er mwyn mynd i’r ganolfan gywir yn Lloegr wedi gwneud gwahaniaeth go iawn iddynt mewn gwirionedd o ran gwella canlyniadau. Dyna enghraifft dda o gomisiynu’r gofal iawn, ar yr adeg iawn ac yn y lle iawn er budd cleifion yng ngogledd Cymru.

Ond wrth gwrs, nid llif cleifion allan o Gymru i Loegr yn unig a geir oherwydd mae Ysbyty Treforys yn Abertawe yn gwasanaethu fel canolfan losgiadau arbenigol ar gyfer Cymru a de-orllewin Lloegr, a Chanolfan Ganser Felindre yng Nghaerdydd yn darparu gwasanaethau canser arbenigol i Gymru yn ogystal â thrin nifer o gleifion sy’n cael eu hatgyfeirio o Loegr. Rydym yn gwybod bod yna heriau mewn rhai lleoliadau yn Lloegr lle y mae byrddau iechyd Cymru yn comisiynu gofal fel arfer—Powys a Betsi yn arbennig. Mae gwasanaethau yng ngrŵp comisiynu clinigol dyffryn Gwy, Caerloyw a Swydd Amwythig, er enghraifft, wedi bod yn—neu’n dal i fod—yn destun mesurau arbennig. Mae’n fater rwy’n ei drafod yn rheolaidd pan fyddaf yn cyfarfod â phobl o Fwrdd Iechyd Addysgu Powys—sut y maent yn diogelu eu sicrwydd eu hunain nid yn unig ynglŷn ag ansawdd gofal, ond ynglŷn â pha mor amserol yw’r gofal hwnnw, ac i wneud yn siŵr, fel yr awgrymwyd yn rhai o’r sylwadau, nad yw cleifion o Gymru yn cael eu trin mewn modd llai ffafriol, a’u bod yn cael y gofal y maent yn ei gomisiynu mewn gwirionedd. Felly, mae’n rhan reolaidd o’r sgwrs ar lefel perfformiad yn ogystal ag ar lefel fwy strategol.

Rydym hefyd yn gwybod, yn anffodus, y bydd peth o’r gwasanaeth arbenigol hunaniaeth o ran rhywedd yng nghlinig Charing Cross yn cael ei ddirwyn i ben, a daw hynny â ni yn ôl at yr her, mae’n debyg, ar ddechrau hyn—sut rydym yn sicrhau bod y gofal iawn yn cael ei ddarparu ar yr adeg iawn ac yn y lle iawn ar gyfer y cyhoedd rydym yma i’w gwasanaethu?

Nodaf ganfyddiadau Comisiwn Silk, ac rwy’n hapus i roi gwybod i’r Aelodau fod Llywodraeth Cymru yn cynnal trafodaethau parhaus gyda GIG Lloegr ynghylch darpariaeth gofal iechyd ar hyd ein ffin. Yn fwy diweddar, roedd y trafodaethau hyn yn canolbwyntio ar drefniadau atgyfeirio meddygon teulu, a byddwn yn ystyried anghenion ehangach cleifion y ffin a fydd yn elwa o roi cytundeb mwy ffurfiol ar waith. Oherwydd fel y cydnabuwyd, mae mwy o lif trawsffiniol o gleifion gofal sylfaenol i mewn i Gymru na’r ffordd arall. Mae dros 20,800 o drigolion Lloegr wedi eu cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru, o’i gymharu â’r 14,700 o drigolion Cymru sydd wedi eu cofrestru gyda meddyg teulu yn Lloegr.

Fel Llywodraeth, ni fyddem yn ystyried cychwyn neu atal protocolau unigol rhwng byrddau iechyd lleol a grwpiau comisiynu clinigol, gan fod unrhyw drefniadau ffurfiol rhwng y sefydliadau hynny yn well o’u gwneud ar lefel leol, gan y sefydliadau sydd yn y sefyllfa orau i asesu a darparu yn ôl anghenion cleifion unigol.

Rwyf wedi edrych ar ganfyddiadau ymchwiliad y Pwyllgor Materion Cymreig i ofal iechyd trawsffiniol, ac rwy’n cydnabod bod llawer o’r casgliadau a’r argymhellion a amlygir yn eu hadroddiad eisoes yn cael eu gweithredu ar adeg cyhoeddi’r adroddiad. Ers ymchwiliad y pwyllgor, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda’r Adran Iechyd yn Lloegr, ac i raddau hyd yn oed yn fwy gyda GIG Lloegr, er mwyn helpu’r Adran Iechyd i fynd i’r afael â’i phroblemau gyda diffyg cydymffurfiaeth â’i deddfwriaeth—y ddeddfwriaeth mewn perthynas â thrigolion Lloegr sydd wedi eu cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru sydd angen gofal eilaidd. Mae hyn yn amlygu’r ffaith fod rhai o’r heriau yma yn ymwneud â systemau gwahanol, ac â’r ffordd y mae GIG Lloegr bellach yn nodi hawliau cyfreithiol ymddangosiadol mewn cyfansoddiad ymddangosiadol, felly mae’n anodd gweld sut y caiff rheini eu gorfodi. Ond nid wyf yn meddwl ei fod yn effeithio’n ymarferol ar berfformiad, sy’n her go iawn, fel y gwyddoch, a chyrraedd rhai o’u targedau amseroedd aros. Nid yw’r iaith yn y ddeddfwriaeth wedi newid hynny. Ond mae sgwrs ymarferol go iawn i’w chael ynglŷn â sut rydym yn mynd i oresgyn rhai o’r heriau hynny.

Wrth gwrs mae yna heriau gwirioneddol ynglŷn â sut y mae rhai triniaethau yn cael eu darparu i drigolion o Loegr sy’n gweld trigolion Cymru yn cael gwell gwasanaeth. Mae llawer o’r enghreifftiau a gafwyd yn y ddadl heddiw wedi bod y ffordd arall, gyda phobl yn dweud, ‘A dweud y gwir, hoffem gael yr hyn sydd gan Loegr’, ond ar ystod o faterion, er enghraifft, Sativex, deallwn fod hynny’n her yn Lloegr, lle nad yw wedi bod ar gael ar yr un cyfnod o amser. Mae cael gwared ar y brychau yn broses ddwy ffordd o ran y ffordd rydym yn siarad â’n gilydd.

Yn wir, rwyf wedi clywed y sgwrs—eto, pwynt Eluned Morgan—am ofal iechyd trawsffiniol a’r ffordd y caiff ei gynllunio. Roeddem yn bryderus o’r blaen fod sgyrsiau’n digwydd am gynllun Parod at y Dyfodol y GIG ar draws ein ffin nad oeddent yn ystyried llif cleifion o Gymru yn llawn wrth wneud y dewis hwnnw. Nawr, rydym wedi ein calonogi fod dewis wedi ei wneud heddiw, ond mae’n amlwg fod angen iddo fynd i grwpiau comisiynu clinigol yn Lloegr, felly mae angen i ni wneud yn siŵr o hyd. Nid yw’r sgyrsiau hynny wedi eu cwblhau eto, nid yw’r penderfyniad terfynol wedi ei wneud eto, ac mae angen i ni fod yn rhan o’r sgwrs. Mewn gwirionedd, ers dechrau hynny, mae bwrdd iechyd Powys yn cymryd rhan yn briodol bellach fel rhan o’r bwrdd rhaglen i ddeall beth sy’n digwydd yn y ffordd y mae’r penderfyniadau hynny’n cael eu gwneud.

Rydym yn cydnabod bod cydweithio’n parhau ar lefel leol ar y rhwydwaith trawsffiniol. Mae comisiynwyr a darparwyr gofal iechyd, gan gynnwys meddygon teulu, yn dod at ei gilydd yn chwarterol i drafod materion lleol sy’n effeithio ar ofal iechyd trawsffiniol. Rwyf am fynd i’r afael â mater un rhestr cyflawnwyr yma, oherwydd ni fyddwn yn cefnogi’r gwelliant. Byddem yn hapus i weld un rhestr cyflawnwyr, ond yr Adran Iechyd yn Lloegr yw’r broblem. Nid ydynt yn awyddus i weld hynny’n digwydd. Rydym wedi gwneud popeth a allwn i wneud yn siŵr y gall meddygon teulu fod yn gyflawnwyr ar y ddwy restr yng Nghymru ac yn Lloegr. Rydym wedi gwneud popeth a allwn i wneud y broses yn haws ac yn symlach. Mae’n wirioneddol bwysig mewn ardaloedd ar draws y ffin. Ond rydym am i’r Adran Iechyd ddod i siarad â ni a chytuno ar ffordd ymlaen. Nid ydym mewn sefyllfa i’w gwneud yn ofynnol iddynt weithredu yn y ffordd y byddem yn dymuno, ac y gwn y byddai’r Aelodau yn y Siambr yn dymuno heddiw. Mae wedi bod yn drafodaeth ddefnyddiol ar y pwynt hwnnw, mewn gwirionedd, oherwydd yn syml iawn, ni allaf roi gwarantau ynglŷn â system Lloegr.

Byddwn yn parhau i wneud newidiadau sy’n gwella GIG Cymru, ond ni allwn gael ein dal yn ôl gan Lywodraeth y DU sy’n gwrthod gwneud yr un peth naill ai ar yr un cyflymder neu i’r un cyfeiriad. Dyna realiti cael gwahanol systemau rhwng y ffiniau. Rwy’n awyddus, fodd bynnag, i wneud yr hyn y gallem ac y dylem ei wneud, a chynnwys y pwynt a grybwyllodd Angela Burns ar rannu gwybodaeth am gleifion. Mae mater yno ynglŷn ag ansawdd y gofal y mae pobl yn ei gael.

Nid yr hyn rydym yn ei wneud yn awr yw’r her. Yr her yw beth y gallwn ei wneud i wella’r hyn sydd gennym ymhellach. Rwy’n hapus i weithio gyda GIG Lloegr i wella canlyniadau, ond wrth gwrs, mae’n galw am bartner sy’n barod i wneud hynny a lefel o ymddiriedaeth. Rwy’n hapus i weithio yn y ffordd honno yn awr ac yn y dyfodol er budd cleifion yng Nghymru a Lloegr.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon. Rwy’n credu ei bod wedi bod yn ddadl dda a chafwyd rhai pwyntiau pwysig iawn am rai o’r heriau sy’n deillio o gael dwy system iechyd wahanol ar y ddwy ochr i’r ffin, a’r canlyniadau i lawer o’n hetholwyr o ganlyniad i hynny, yn enwedig yng nghanolbarth Cymru, fel y mae Russ George wedi ei ddweud, ac yn wir mewn rhannau o ogledd Cymru, fel y nododd Mark Isherwood a Janet, ac wrth gwrs mae’n rhaid i ni beidio ag anghofio ychwaith, Oscar, eich sylwadau mewn perthynas â rhai o’ch etholwyr i lawr yng Ngwent.

Mae’r rhain yn faterion difrifol iawn ac wrth eu gwraidd mae cynllunio gwael, weithiau ar ochr Lloegr ac weithiau ar ochr Cymru, diffyg cyfathrebu rhwng sefydliadau iechyd ar y naill ochr i’r ffin wrth iddynt geisio cynllunio ar gyfer anghenion eu poblogaeth, a diffyg cydnabyddiaeth hefyd weithiau o’r gwahaniaethau yn nyheadau Llywodraeth Cymru o ran targedau a thriniaethau. Mae’n hawdd i chi ddweud, Ysgrifennydd y Cabinet, fod gan bob bwrdd iechyd hawl i atgyfeirio ar draws y ffin—mae hynny’n hollol gywir—ond yn aml iawn mae yna broses gomisiynu sy’n rhaid i chi fynd drwyddi er mwyn comisiynu’r gwasanaethau ar draws y ffin, neu’r triniaethau hynny, neu atgyfeiriadau, mewn ffordd nad yw’n creu rhwystrau i gleifion yn Lloegr rhag cael eu hatgyfeirio i rai o’r ysbytai arbenigol hynny.

Yn aml iawn, mae fy mag post yn llawn o adroddiadau gan unigolion yn dweud eu bod yn cael problemau gyda mynediad at rai o’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt. Rwy’n cydnabod bod y Llywodraeth hon yng Nghymru wedi ymrwymo i gynnal y cysylltiadau trawsffiniol â’r gwasanaeth iechyd ac mae hynny’n bwysig iawn. Yn sicr, nid oedd gennym yr ymrwymiad hwnnw pan oedd trefniant clymblaid gyda Phlaid Cymru yn y trydydd Cynulliad, lle y cafwyd penderfyniad polisi bwriadol i ddychwelyd gwasanaethau ar draws y ffin â Chymru a dod â’r holl gleifion yn ôl. Roedd hynny’n gwneud cam mawr â chleifion mewn sawl rhan o Gymru, y polisi penodol hwnnw, ond rwy’n falch fod y sefyllfa honno bellach wedi ei gwrthdroi, a bod pwysigrwydd cynnal y cysylltiadau gwasanaeth iechyd hyn yn cael ei gydnabod yn llwyr.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ymadrodd pwysig arall: dywedodd na ddylai cleifion o Gymru gael eu trin mewn ‘modd llai ffafriol’ o ganlyniad i gael eu hatgyfeirio at ysbyty dros y ffin yn Lloegr. Ond y gwir amdani yw eu bod. Yng ngogledd Cymru, os oes claf yn cael ei gyfeirio gan fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr am lawdriniaeth orthopedig i ysbyty dros y ffin yn Lloegr, hyd yn oed os yw’r ysbyty hwnnw’n gallu eu trin o fewn y targed o 18 wythnos, sef targed amser aros y GIG yn Lloegr, maent yn aml iawn yn gorfod aros am 52 wythnos oherwydd bod bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn dweud, ‘Ni chewch eu trin o fewn unrhyw amser sy’n llai na 52 wythnos oherwydd bod hynny’n gwneud cam’—[Torri ar draws.] Mae hynny’n hollol wir. Mae gen i gopïau o lythyrau, Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy’n hapus i’w rhannu gyda chi, os mai dyna yr hoffech ei weld.

Mae angen i ni wneud yn siŵr—. Cytunaf yn llwyr â’ch dyhead na ddylai fod anfantais, ond mae’n rhaid i ni ddechrau gwireddu rhai o’r pethau hyn, ac nid ydym yn mynd i allu eu gwireddu os ydych yn dal heb wybod y ffeithiau—[Torri ar draws.]

Diolch. Mae eich amser ar ben. Fe gawsoch lawer mwy o amser ac nid oedd unrhyw ymyriadau, felly roeddwn yn hael.

Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Torri ar draws.] Mae’n ddrwg gennyf? Nac oes? Mae’n ddrwg gennyf, ond a all bawb ohonoch ganolbwyntio? Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch. Rwy’n hael am ei bod hi bron yn Nadolig. Iawn felly, gohiriwn y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Cytunwyd y bydd y cyfnod pleidleisio yn digwydd cyn y ddadl fer. Felly, oni bai bod tri Aelod yn dymuno i’r gloch gael ei chanu, symudaf yn syth at y cyfnod pleidleisio. O’r gorau, iawn.

11. 7. Cyfnod Pleidleisio

Symudwn at y cyfnod pleidleisio ar ddadl Plaid Cymru ar fusnesau bach a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliant a gyflwynwyd i’r cynnig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 8, neb yn ymatal, 41 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig, a symudwn ymlaen i bleidleisio ar welliant 1.

Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 8, Yn erbyn 41, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6176.

Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2, 3, 4, 5 a 6 yn cael eu dad-ddethol. Ac felly galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 28, neb yn ymatal, 21 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 1.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 28, Yn erbyn 21, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6176.

Cafodd gwelliannau 2, 3, 4, 5 a 6 eu dad-ddethol.

Cynnig NDM6176 fel y’i diwygiwyd

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi:

a) effaith cynlluniau llwyddiannus fel dydd Sadwrn busnesau bach, sy’n cynyddu nifer y bobl sy’n ymweld â chanol trefi ledled Cymru;

b) cytundeb y gyllideb ddrafft gyda Phlaid Cymru, sy’n cynnwys £3m a fydd yn galluogi awdurdodau lleol i gynnal cynlluniau peilot i asesu effaith cynnig mannau parcio am ddim yng nghanol trefi;

c) bod y system ardrethi busnes bresennol yn codi £1bn, sy’n cefnogi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru y mae busnesau bach yn dibynnu arnynt;

d) nad yw’r gwaith ailbrisio ardrethi busnes a gynhaliwyd gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio, sef asiantaeth annibynnol, wedi ei gynllunio i godi refeniw ychwanegol ac er bod rhai gwerthoedd ardrethol wedi cynyddu, maent wedi gostwng ar y cyfan;

e) ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun rhyddhad ardrethi busnes newydd, parhaol yn 2018;

f) bod y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol wedi cynyddu nifer y busnesau bach yng Nghymru sy’n cael contractau; a

g) bwriad Llywodraeth Cymru i:

i) sicrhau y rhoddir pwysau dyledus i fuddiannau busnesau bach a chanolig yng ngwaith y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol newydd i Gymru a’r Banc Datblygu Cenedlaethol; a

ii) cyhoeddi blaenoriaethau economaidd newydd yn 2017, i wneud Cymru’n fwy llewyrchus a sicr.

Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 45, neb yn ymatal, 4 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

Derbyniwyd cynnig NDM6176 fel y’i diwygiwyd: O blaid 45, Yn erbyn 4, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6176 fel y diwygiwyd.

Symudwn ymlaen yn awr i bleidleisio ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliant a gyflwynwyd i’r cynnig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 48, neb yn ymatal, 1 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig.

Derbyniwyd y cynnig: O blaid 48, Yn erbyn 1, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6177.

Symudwn ymlaen yn awr at—[Torri ar draws.] Os ydych yn gadael y Siambr, gwnewch hynny’n gyflym ac yn dawel os gwelwch yn dda. Rydym yn awr yn mynd i—. Symudwn yn awr at y ddadl fer. Os oes Aelodau’n gadael y Siambr, gwnewch hynny’n gyflym ac yn dawel os gwelwch yn dda.

12. 8. Dadl Fer: Byw gyda Cholli'r Golwg: Sut y Gallwn Wella Hygyrchedd yng Nghymru i Bobl Ddall a Rhannol Ddall

Symudaf yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Nick Ramsay i siarad ar y pwnc y mae wedi ei ddewis. Nick Ramsay.

Diolch. Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf wedi cytuno i roi munud o fy amser i Mark Isherwood. Ceir cyflwyniad agoriadol byr go wahanol ar ddechrau’r ddadl fer hon. Felly, a gaf fi ofyn yn gyntaf i bawb ohonoch gau eich llygaid am funud neu ddwy?

Chwaraewyd recordiad sain.

Diolch; gallwch agor eich llygaid yn awr. Y synau a glywsoch yw’r synau y mae pobl ddall a rhannol ddall yn eu clywed yn ddyddiol. Heb y gallu i weld, fel y gallwch ddychmygu, gall y synau hyn beri anesmwythdod mawr. Yn ddiweddar, euthum ar daith gerdded gyda mwgwd dros fy llygaid gyda chlwb i bobl sydd â nam ar eu golwg yn Nhrefynwy, a chefais brofiadau hynod o ddwys. Mae’r daith gerdded o bont Mynwy i ben uchaf y dref fel arfer yn syml, ond gyda mwgwd, roedd popeth yn wahanol. Ar ôl cyfnod byr o amser, roeddwn yn ddryslyd ac yn gwbl ddibynnol ar y bobl o fy nghwmpas am gefnogaeth. Roedd sŵn y traffig yn ddryslyd, ac roedd A-fyrddau manwerthwyr yn gwaethygu cymhlethdod peryglus y cwrs rhwystrau newydd hwn, fel y gwnâi’r llu o arwynebau gwahanol ar balmentydd a ffyrdd. Yn fyr, roedd yn gythraul o agoriad llygad, os mai dyna’r ymadrodd cywir. Wrth gwrs, roeddwn yn gallu tynnu fy mwgwd ar ôl i ni gyrraedd diogelwch cymharol tafarn Punch House ar ddiwedd fy nhaith, ond gwnaeth i mi feddwl, ‘Beth am fy ffrindiau newydd nad ydynt yn gallu gwneud hynny?’

Y rheswm dros y ddadl hon yw mai’r wythnos hon yw Wythnos Genedlaethol Iechyd Llygaid. Mae llawer o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal ar draws y wlad i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd iechyd y llygaid a chael prawf llygaid. Rwy’n credu bod y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd wedi cael prawf llygaid ei hun yn ddiweddar, ond nid yw un o bob 10 o bobl yn cael prawf llygaid rheolaidd o hyd. Mae yna lawer o bobl nad ydynt yn sylweddoli y gallai eu golwg ddioddef yn y tymor hir, a bod modd osgoi 50 y cant o achosion o golli golwg drwy ganfod a thrin yn gynnar. Dylai pawb gael prawf llygaid bob dwy flynedd. Os oes gennych ddiabetes neu hanes teuluol o glawcoma, dylech gael prawf bob blwyddyn.

Mae colli eich golwg yn effeithio ar bob rhan o’ch bywyd. Dyma’r synnwyr y mae’r rhan fwyaf o bobl fwyaf o ofn ei golli. Rwy’n mynd i siarad ychydig yn awr am y gwahanol bethau y mae pobl ddall a phobl rhannol ddall yn eu profi yn eu bywydau o ddydd i ddydd, a sut y gall llunwyr polisi wneud hyn yn well i bobl sydd wedi colli eu golwg.

Os nad ydych yn gallu gyrru, eich unig ddewis yw defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, rhywbeth a all fod yn anodd am sawl rheswm, nid yn lleiaf am nad yw gwybodaeth mewn safleoedd bws yn cael ei darparu yn y fformatau mwyaf hygyrch yn aml. Yn 2015, canfu Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Deillion Cymru ac ymchwil Guide Dogs Cymru ar gyfer ‘Dewch gyda ni’ fod llawer o broblemau’n wynebu pobl ddall a rhannol ddall wrth iddynt ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus: digwyddiadau fel anghwrteisi i deithwyr rhannol ddall am godi llaw i stopio’r bws anghywir am ei bod yn rhy anodd gweld y rhif mewn pryd. Yn aml, bydd person dall neu rannol ddall yn dysgu llwybr taith i’w galluogi i fyw’n annibynnol. Os na chânt gymorth i ddod o hyd i’w stop, neu os caiff cyhoeddiadau sain eu diffodd, gall pobl yn hawdd iawn gyrraedd y lle anghywir ac efallai na fyddant yn gallu teithio’n annibynnol o gwbl mwyach. Mewn ardaloedd gwledig, mae gwybodaeth mewn safleoedd bws yn aml yn hen neu’n rhy fach neu wedi’i threulio gan y tywydd. Mae gwasanaethau bws gwledig yn hollbwysig i bobl ddall a rhannol ddall nad ydynt yn gallu gyrru. Rhaid diogelu cyllid ar gyfer y gwasanaethau hyn.

Nid yw datblygiadau newydd bob amser yn ystyried anghenion pobl sydd wedi colli’u golwg. Gall adeilad gyda nenfydau gwydr hyfryd fod yn ffasiynol ar y pryd, ond gall achosi problemau i bobl â nam ar eu golwg gan y gall y goleuni achosi anawsterau i’r llygaid o ran deall y llwybr drwy’r adeilad. Mae hon yn sefyllfa frawychus iawn a pheryglus hefyd i rywun â nam ar y golwg. Roedd ailddatblygu gorsaf fysiau Aberystwyth flwyddyn neu ddwy yn ôl yn golygu bod yn rhaid i chi groesi llwybr bws a allai fod yn dod tuag atoch er mwyn mynd i mewn i’r orsaf, heb balmant botymog defnyddiol, ac roedd yn hynod o beryglus. Mae hyn bellach wedi’i gywiro, diolch byth, ond rhaid cael mwy o ddealltwriaeth ar y cychwyn o egwyddorion dylunio diogel mewn datblygiadau cynllunio a pholisi sydd i ddod.

Mae llawer o bobl yn cysylltu mynd yn ddall â henaint, ond y gwir amdani yw bod llawer o bobl yn cael eu geni â nam ar eu golwg. O’r 106,000 o bobl yng Nghymru sy’n byw â nam ar eu golwg, amcangyfrifir bod 1,935 o blant a phobl ifanc rhwng 0 a 25 oed yn eu plith. Mae plant sydd â nam ar y golwg mewn perygl o gael canlyniadau gwael, gan fod 80 y cant o ddysgu yn weledol i blant sy’n gweld yn iawn, a dyna pam y mae angen deall pa gymorth ac addasiadau ychwanegol sydd eu hangen ar blant a aned gydag unrhyw nam ar eu golwg er mwyn sicrhau bod addysg yr un mor hygyrch iddynt ag i’w cyfoedion sy’n gallu gweld.

Gan fod plant sydd â nam ar y golwg yn dysgu’n wahanol, mae’n hanfodol fod athrawon arbenigol sy’n deall hyn yn gallu cefnogi athrawon a dysgwyr. Mae ymchwil a wnaed gan RNIB Cymru wedi dangos bod nifer yr athrawon sydd â’r cymhwyster addysgu ar gyfer yr arbenigedd hwn wedi bod yn lleihau wrth i athrawon gyrraedd yn agosach at oed ymddeol heb fod athrawon cymwys yn dod yn eu lle. Mae’r cymhwyster ar gyfer addysgu plant â nam ar eu golwg wedi cael ei wneud yn orfodol yn Lloegr. Mae’r unig brifysgol sy’n darparu’r cwrs ar hyn o bryd yn y DU yn Lloegr ac nid oes digon o lefydd ar gael, felly ni roddir blaenoriaeth i dderbyn athrawon o Gymru ar y cwrs hwnnw. Mae hefyd yn hanfodol fod cyfundrefnau arolygu ysgolion yn monitro darpariaeth cymorth arbenigol ledled Cymru.

Rydym ar drothwy cyfnod pwysig yn natblygiad polisi anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru, a dyma’r adeg pan allwn wneud gwahaniaeth go iawn i ddysgwyr â nam ar eu golwg. Rhaid i’r Bil anghenion dysgu ychwanegol sicrhau hyfforddiant dysgu arbenigol gorfodol ar gyfer staff sy’n addysgu pobl ifanc ddall a rhannol ddall.

Os caf droi at iechyd, gan fod y rhan fwyaf o gyflyrau colli golwg yn rhai dirywiol ond hefyd yn rhai y gellir eu trin, a chan fod modd atal unigolyn rhag mynd yn ddall mewn rhai achosion, mae’n bwysig fod cleifion offthalmig yn cael eu hadolygu o fewn y GIG yn ôl amserlen dan arweiniad clinigol nad yw ond yn canolbwyntio’n unig ar yr apwyntiad cyntaf ond bod triniaeth lawn y claf yn cael ei monitro, gyda thriniaethau dilynol wedi’u cynnwys yn rhan o hynny. Ar hyn o bryd, nid yw’r targed amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth ond yn canolbwyntio ar y diagnosis cychwynnol a’r driniaeth gyntaf. Nid oes targed ar gyfer apwyntiadau llygaid dilynol ac felly ni ellir rheoli’r risg i’r claf mewn modd digonol. Dyma pam y gallai targed rhwng atgyfeirio a thriniaeth nad yw’n canolbwyntio ar y ffrâm amser glinigol fod yn niweidiol, gan ei fod yn tynnu sylw ac adnoddau oddi ar sicrhau apwyntiadau dilynol amserol.

Y ffaith amdani yw bod canlyniadau gwell mewn offthalmoleg yn mynd i arwain at ganlyniadau iechyd gwell yn gyffredinol a sicrhau arbedion. Er enghraifft, canfuwyd y gellid priodoli bron i hanner yr holl gwympiadau a brofir gan bobl ddall a rhannol ddall i’r ffaith eu bod wedi colli eu golwg. Mae pobl ddall a rhannol ddall angen mynediad amserol hefyd at wasanaethau adsefydlu. Os yw prif nodau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn mynd i gael eu gwireddu, yna mae’n rhaid i bobl ddall a rhannol ddall gael eu hasesu gan weithwyr proffesiynol hyfforddedig a phrofiadol. Bydd asesiad arbenigol hefyd yn golygu y bydd pobl ddall a rhannol ddall yn gwybod pa gymorth sydd ei angen arnynt.

Mae elusennau yn y sector colli golwg yn pryderu fwyfwy am y ddarpariaeth adsefydlu ar gyfer pobl â nam ar eu golwg. Maent yn credu y dylai’r broses gomisiynu warantu bod swyddogion adsefydlu cymwys yn cael eu cyflogi mewn awdurdodau lleol. Y ddarpariaeth ofynnol a argymhellir yw o leiaf un swyddog adsefydlu fesul 70,000 o’r boblogaeth. Nawr, nid wyf yn dweud nad yw hynny’n cael ei gyflawni, ond ar hyn o bryd, mae awdurdodau lleol, y gofynnir iddynt yn fwyfwy aml i wneud mwy gyda llai, yn ceisio darparu’r gwasanaeth gofynnol ar gyfer eu poblogaeth ac nid ydynt yn cynnal digon o asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb i sicrhau bod anghenion mwy cymhleth rhywun sy’n colli eu golwg yn cael eu diwallu.

Ceir swyddogion cyswllt clinigau llygaid ym mhob bwrdd iechyd ledled Cymru hefyd, i gynnig cymorth i bobl sydd wedi colli’u golwg lle y mae ei angen. Cânt eu cydnabod gan Goleg Brenhinol yr Offthalmolegwyr fel rhan ganolog o’r tîm gwasanaeth gofynnol yn y clinig llygaid. Heb y cymorth cywir, gall colli golwg effeithio’n fawr ar rannau eraill o fywyd unigolyn, megis cwympiadau, arwahanrwydd, a’r gallu i ddal ati i weithio. Mewn astudiaeth a gyhoeddwyd gan yr RNIB ac a gynhaliwyd yn Ysbyty Singleton, Abertawe, drwy ddefnyddio methodoleg elw cymdeithasol ar fuddsoddiad, canfuwyd bod buddsoddiad o £1 yn y gwasanaeth ymyrraeth gynnar yn sicrhau elw o £10.57 i gyllidebau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, felly mae yna arbedion go iawn i’w gwneud.

Yn olaf, mae Lloegr newydd lansio safonau ar gyfer gwybodaeth hygyrch i bobl â nam ar y synhwyrau yn y GIG. Daw hyn fwy na dwy flynedd ar ôl i Gymru wneud hynny, felly rydym wedi gwneud cynnydd gwirioneddol yma. Fodd bynnag, gyda phobl sydd wedi colli eu golwg yng Nghymru yn dal i wynebu rhwystrau mawr i’w gofal iechyd, mae angen gwneud mwy. Maent yn dal i adael yr ysbyty bob dydd yn ansicr faint o feddyginiaeth y maent i fod i’w chymryd, neu’n ansicr ynglŷn â’r cyngor a roddwyd iddynt. Yn yr ysbyty, byddai camau gweithredu syml fel newid yn lliw defnyddiau fel bod mwy o gyferbyniad rhwng bwyd a phlatiau, neu welyau a wardiau, toiledau a lloriau—mae’r rhestr yn parhau—yn atal cleifion rhag mynd yn llwglyd, colli eu ffordd neu gwympo; newidiadau syml, ond newidiadau a all gael effaith go iawn. Mae’r safon yn Lloegr yn cynnwys cosbi gwasanaethau nad ydynt yn sicrhau bod pobl â nam ar y synhwyrau yn cael gwybodaeth yn y fformat sydd ei angen arnynt. A yw’n bryd i ni yng Nghymru ystyried cynnwys rheoliad o’r fath yn ein safonau? Efallai y dylai adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru ar ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus ganolbwyntio mwy ar y mathau hyn o ddyletswyddau.

Felly, wrth gloi, Ddirprwy Lywydd, byddwn yn gofyn i bawb ohonoch feddwl am y materion sy’n effeithio ar bobl sydd wedi colli eu golwg yng Nghymru yn ystod Wythnos Genedlaethol Iechyd Llygaid. Mynychwch un o’r digwyddiadau os gallwch, a gadewch i bob un ohonom wneud ein rhan i godi ymwybyddiaeth o’r mater hwn a cheisio gwella safon byw pobl â nam ar eu golwg sy’n byw yng Nghymru heddiw ac yfory.

Mae mannau neu wasanaethau a rennir yn parhau i fod yn fater arwyddocaol i bobl sydd wedi colli eu golwg yng Nghymru, lle y mae diffyg cyrbiau a mannau croesi diogel, rhwystrau ar balmentydd a dibyniaeth ar gyswllt llygad yn troi’r stryd fawr yn llefydd na all pobl ddall a rhannol ddall a chŵn tywys fynd iddynt. Dywedodd etholwr yn Sir y Fflint wrthyf, ‘Mae nam ar olwg fy nau blentyn a minnau, ac os ydym am fynd i siopau a chyfleusterau’r pentref, mae’n rhaid i ni groesi’r ffordd heb gymorth croesfan i gerddwyr, neu gerdded yn y ffordd ei hun’. Mae hyn, meddai, yn beryglus a brawychus. Ychwanegodd, ‘Rwyf wedi ymweld â’r Senedd, ac mae diffyg marciau ar y stepiau a’r llethrau y tu allan i’r adeilad yn ei gwneud yn anodd iawn i rywun sydd â nam ar y golwg eu cerdded yn ddiogel.’ Fel y dywed yr RNIB, dylai awdurdodau lleol weithio gyda phobl ddall a rhannol ddall o dan ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus i asesu mannau a rennir sy’n bodoli eisoes a’u cynnwys wrth gyflwyno cynlluniau newydd. Wrth gwrs, mae’r un peth yn wir am y Cynulliad.

A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i’r Aelod dros Fynwy, Nick Ramsay, am godi’r mater pwysig hwn a defnyddio’r ddadl fer yn ystod Wythnos Genedlaethol Iechyd Llygaid? Rwy’n ddiolchgar iawn iddo am dynnu sylw at yr effaith sylweddol y mae golwg gwan a cholli golwg yn ei chael ar bobl. Mae gwella mynediad at wasanaethau ar gyfer y grŵp hwn ym mhob agwedd ar fywyd Cymru mor bwysig, fel rydych wedi dangos mor briodol yn eich dadl fer.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod cyfrifoldeb ar gyrff cyhoeddus penodol i osod a gweithio tuag at amcanion llesiant, sy’n cyfrannu at bob un o’r nodau llesiant. Un o’r nodau, wrth gwrs, yw creu Cymru fwy cyfartal gyda chymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau. Fel Llywodraeth, mae gwaith yn mynd rhagddo mewn sawl maes sy’n cefnogi’r nod hwn o greu Cymru fwy cyfartal. Un enghraifft yw ein fforwm cydraddoldeb i bobl anabl, sy’n ein galluogi i ymgysylltu’n uniongyrchol â phobl anabl a chlywed ganddynt sut y mae polisïau deddfwriaeth Llywodraeth Cymru yn effeithio ar eu bywydau, a sut y gellid gwella pethau. Mae ein fframwaith ar gyfer gweithredu ar fyw’n annibynnol yn nodi’r camau rydym yn eu cymryd fel Llywodraeth i hyrwyddo hawliau pobl anabl yng Nghymru i fyw’n annibynnol ac arfer yr un hawliau â dinasyddion eraill. Rwy’n cofio, fel y bydd llawer o’r Aelodau o Gynulliadau blaenorol, ein bod wedi bwrw ymlaen â’r fframwaith hwn ar gyfer gweithredu o ganlyniad i ddeiseb a arweiniodd wedyn at y Llywodraeth yn ymateb a datblygu’r fframwaith.

Mae llawer o faterion a godwyd gan bobl anabl yn ymwneud â hygyrchedd a darpariaeth gwasanaethau lleol sydd, wrth gwrs, mor bwysig i bobl sydd wedi colli eu golwg. Rydym yn gwybod y gall grwpiau a sefydliadau lleol i bobl anabl fod yn effeithiol iawn, lle y maent i’w cael, wrth barhau i bwyso am welliannau ar lefel leol. Ac mae’n bwysig fod hyn yn parhau. Fel Llywodraeth, rydym yn ariannu Action on Hearing Loss Cymru, gan weithio gyda RNIB Cymru, i hyfforddi a chynorthwyo pobl â nam ar y synhwyrau i rannu eu profiadau personol gyda darparwyr gwasanaethau yn y sectorau iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a thai. Fel rhan o’r gwaith hwn, cyhoeddwyd canllaw arferion gorau ar gyfer darparwyr tai ac mae canllawiau tebyg yn cael eu cynllunio ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau meddygon teulu.

Gall ein technoleg ddigidol chwarae rhan allweddol yn gwella mynediad i wasanaethau ar gyfer pobl anabl, gan gynnwys pobl sydd wedi colli eu golwg, ac mae hwn yn faes gwaith arall a all helpu i leihau arwahanrwydd a gwella’r gallu i fyw’n annibynnol drwy roi’r un dewis a rheolaeth dros eu bywydau â phawb arall i bobl anabl. Felly, mae rhaglen cynhwysiant digidol Llywodraeth Cymru, Cymunedau Digidol Cymru, yn gweithio gyda sefydliadau pobl anabl fel y gall y sefydliadau hyn ddarparu cymorth gyda sgiliau digidol i’r bobl anabl y maent yn gweithio gyda hwy. Ond rydym hefyd yn cydnabod y gall e-hygyrchedd fod yn rhwystr rhag i fwy o bobl allu elwa’n llawn ar y cyfleoedd niferus y mae’r rhyngrwyd yn eu cynnig. Rwy’n ymwybodol o ymchwil sy’n dangos bod pobl anabl yn fwy tebygol o fod wedi’u hallgáu’n ddigidol, felly mae’n arbennig o bwysig ein bod yn deall y problemau, gan y gellid dadlau bod gan bobl anabl fwy byth i’w ennill o dechnolegau digidol sy’n datblygu drwy’r amser, wrth i dechnoleg greu cyfleoedd a oedd allan o gyrraedd o’r blaen. Os edrychwn ar Cymunedau Digidol Cymru, er enghraifft, mae wedi cynorthwyo RNIB Cymru i gyflawni ei brosiect cynhwysiant digidol Ar-lein Heddiw a ariennir gan y loteri, ac sy’n helpu pobl â nam ar y synhwyrau i gael mwy o fudd o gyfrifiaduron, tabledi, ffonau clyfar a’r rhyngrwyd.

Os symudwn ymlaen at faes cyflogaeth, mae pobl anabl wedi dweud wrthym pa mor bwysig yw cael gwaith a dal ati i weithio iddynt. Rydym hefyd yn gwybod bod agweddau negyddol ac anhyblyg gan gyflogwyr a rheolwyr weithiau yn gallu effeithio’n andwyol ar bobl anabl. Mae’n hanfodol ein bod yn mynd i’r afael â hyn, gan fod pobl anabl wedi dweud wrthym fod bod mewn gwaith yn hybu annibyniaeth, hyder, iechyd a lles, yn ogystal â darparu ffordd allan o dlodi ac yn eu galluogi i gyfranogi yn y gymdeithas. O ganlyniad i glywed y pryderon cyson hyn, mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau i godi ymwybyddiaeth cyflogwyr a phobl anabl o’r cymorth sydd ar gael drwy’r cynlluniau Mynediad i Waith.

Nick Ramsay, fe nodoch fater pwysig trafnidiaeth gyhoeddus, sy’n faes pryder gwirioneddol. Ceir nifer o enghreifftiau lle rydym ni yng Nghymru wedi bod ar y blaen yn hyrwyddo gwelliannau yn ein system trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn gwella hygyrchedd. Roeddech yn nodi mater pwysig hygyrchedd gwasanaethau bws. Ers 2013, ein polisi yw y dylai cerbydau gwasanaeth cyhoeddus sy’n gweithredu gwasanaethau bws a drefnir yn lleol ddarparu cyhoeddiadau clyweledol ar eu bysiau. Mae’r systemau hyn yn galluogi pobl sy’n ddall neu sydd â nam ar y golwg i ddefnyddio ein system trafnidiaeth gyhoeddus yn hyderus, ac maent yn lleihau’r risg y bydd teithwyr yn cael eu gadael yn y safle bws anghywir mewn ardal anghyfarwydd a all fod gryn bellter i ffwrdd o’u cyrchfan terfynol. Ym mis Mawrth, cyhoeddwyd ein safon ansawdd bysiau Cymru gwirfoddol, a oedd, am y tro cyntaf, yn cysylltu’n uniongyrchol y taliad arian grant sydd ar gael o’n grant cymorth gwasanaethau bws i gyflwyno Bws Siarad a disgwyliadau eraill o ansawdd. Am y rheswm hwn rydym wedi croesawu penderfyniad yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth i gyflwyno gwelliant i’r Bil Gwasanaethau Bws a fydd yn gwella argaeledd gwybodaeth hygyrch ar fysiau fel un o ofynion Deddf Cydraddoldeb 2010.

Bydd dyfarnu masnachfraint nesaf Cymru a’r Gororau a datblygiad systemau metro gogledd Cymru a de-ddwyrain Cymru yn sicrhau newid trawsffurfiol y mae’n hen bryd ei gael i drafnidiaeth gyhoeddus yn y meysydd hyn. Rydym yn benderfynol y dylai gwella hygyrchedd y rhwydwaith rheilffyrdd i wella profiadau teithwyr fod yn ganolog i’r gwaith rydym yn ei wneud gyda’r diwydiant rheilffyrdd.

Gan symud ymlaen i faes hanfodol iechyd, ym mis Rhagfyr 2013, cyflwynodd Llywodraeth Cymru Safonau Cymru Gyfan ar gyfer Cyfathrebu a Gwybodaeth Hygyrch i Bobl â Nam ar y Synhwyrau. Y nod yw sefydlu safonau darparu gwasanaeth y dylai pobl â nam ar y synhwyrau ddisgwyl iddynt gael eu cyrraedd wrth iddynt dderbyn gofal iechyd. Dylai pob claf neu ddefnyddiwr gwasanaeth sydd angen cymorth cyfathrebu gael yr angen hwn wedi’i ddiwallu. I weithredu’r safonau, mae Action on Hearing Loss Cymru ac RNIB Cymru wedi gweithio’n agos gyda Chanolfan Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y GIG ar ddatblygu hyfforddiant penodol i staff y GIG ar anghenion pobl â nam ar y synhwyrau. Pecyn e-ddysgu yw ‘Trin Pobl yn Deg’ sydd wedi ei ddatblygu a’i dderbyn gan yr holl fyrddau iechyd lleol fel hyfforddiant gorfodol statudol yn ystod y cyfnod sefydlu. Mae’n ymwneud â thriniaeth deg a chyfartal i bawb sy’n cael gofal iechyd ac mae’n canolbwyntio i raddau helaeth ar gyfathrebu.

Bydd mynediad yn gwella fwyfwy wrth i ofal sylfaenol gael ei drefnu’n well. Er enghraifft, mae angen mwy o opsiynau ar sut i gael help a chyngor ar amrywiaeth ehangach o wasanaethau hunanofal a gweithwyr proffesiynol i ymateb. Rydym yn rheoli mwy o bobl mewn gofal sylfaenol, gan gynnwys mynediad uniongyrchol ar gyfer nifer o gyflyrau, yn hytrach na bod angen atgyfeiriad gan feddyg teulu. Mae ein gwasanaeth gofal llygaid Cymru yn arwain y ffordd yn y DU, ac roeddwn yn falch iawn o fod yn rhan o’r datblygiad hwnnw flynyddoedd lawer yn ôl fel Gweinidog iechyd. Ac rwy’n cofio Dr Dai Lloyd ac eraill—un neu ddau’n dal i fod o’r adeg honno—a David Melding, a oedd yn rhan o hynny ar y pryd, yn sesiwn gyntaf y Cynulliad rwy’n credu. Mae’n cael ei gydnabod mewn gwirionedd fel cam sylweddol ymlaen o ran darparu gwasanaethau gofal llygaid sylfaenol. Ceir dau brif nod: diogelu’r golwg drwy ganfod clefydau llygaid yn gynnar a rhoi cymorth i bobl â golwg gwan sy’n annhebygol o wella.

Diolch i chi am gydnabod, Nick, sut y mae Cymru ar y blaen o ran y GIG, ond rhaid i ni beidio â bod yn hunanfodlon. Mae mwy i’w ddysgu, yn amlwg, fel y dywedwch, ac rydym yn ystyried y dystiolaeth honno. Mae llwybrau doeth gwasanaeth gofal llygaid Cymru o fudd i’r claf drwy wneud eu gofal yn fwy hygyrch ac yn nes at ble y maent yn byw. Maent hefyd yn sicrhau bod optometryddion mewn gofal sylfaenol ac offthalmolegwyr mewn gofal eilaidd yn gweithio ar frig eu trwydded.

Mae’r gofal cymdeithasol a ddarperir gan awdurdodau lleol yng Nghymru yn elfen bwysig o’r gofal a gynigir yn y gymuned, ac rydym yn ysgogi gwelliannau ar gyfer gweithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Felly, mae’n rhaid i ni fod yn sicr fod atal achosion o golli golwg y gellir eu hosgoi yn flaenoriaeth allweddol. Mae’n sicr yn flaenoriaeth allweddol i’r Llywodraeth hon yng Nghymru, ac mae’n llywio ein polisïau. Mae’r heriau a wynebwn mewn gofal llygaid yn hysbys. Rhagwelir y bydd nifer y bobl sydd â chlefyd ar eu llygaid yn cynyddu’n ddramatig, a bydd y baich ar wasanaethau gofal llygaid yn parhau i gynyddu, ond mae’n newydd da—

Diolch i chi, arweinydd y tŷ, dylwn ddweud, am ildio ar hynny. Ar gyfer y cofnod, fe wnes nodi un maes lle roedd gwasanaeth iechyd Cymru ar y blaen i’r hyn a geir ar draws y ffin yn Lloegr, ond mae yna feysydd eraill hefyd lle rydym yn colli tir braidd, ac mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod ar y blaen ym mhob dim. Rwy’n siŵr eich bod yn cytuno.

Ydw, ac rwy’n meddwl, Nick Ramsay, fy mod wedi dweud nad ydym yn llaesu dwylo, mae gennym fwy i’w ddysgu a byddem am edrych ar y dystiolaeth. Yn amlwg, mae hynny’n wir.

Fel y dywedais, mae gennym ddatblygiadau newydd i’w cyflwyno o ran llwybrau newydd i gleifion a all helpu i atal colli golwg, a gwell cefnogaeth i bobl sy’n byw gyda golwg gwan. Rwy’n ymwybodol iawn o’r ffaith fod Mark Isherwood, yn arbennig, bob amser yn ein hannog i siarad â’r bobl sydd wedi colli eu golwg neu sydd wedi wynebu problemau, cyflyrau a rhwystrau eraill yn eu bywydau. Wrth gwrs, dyna beth sy’n rhaid i ni ei wneud, yn ogystal ag edrych ar dystiolaeth o sut y mae gwasanaethau’n cael eu darparu ar draws ffiniau ac mewn mannau eraill, nid yn unig yma yng Nghymru neu’r DU.

Mae cynnydd sylweddol wedi’i wneud ar wella mynediad a mynd i’r afael â chyflyrau sydd wedi effeithio ar olwg pobl, o fuddsoddi mewn gwasanaethau newydd sy’n canfod cyflyrau cyn gynted â phosibl i ddarparu mwy o wasanaethau yn nes at gartrefi pobl. Ers lansio’r cynllun cyflawni ar gyfer gofal llygaid, a gafodd ei ddiweddaru a’i adnewyddu yn 2013, mae Llywodraeth Cymru wedi gweld yr ymdrechion aruthrol gan bob bwrdd iechyd, gan gynnwys offthalmolegwyr gofal eilaidd, optometryddion gofal sylfaenol, awdurdodau lleol, cynghorau iechyd cymuned, a’r trydydd sector. Ond rwy’n falch hefyd fod Nick Ramsay wedi crybwyll pwysigrwydd mynd i’r afael ag anghenion plant a phobl ifanc. Unwaith eto, dyma enghraifft o sut y mae hwn yn faes polisi pob oed ar draws y Llywodraeth lle y mae angen i ni sicrhau ein bod, yn y cyd-destun hwn, yn edrych ar ein gwasanaethau addysg, ein proffesiwn addysgu, a thu hwnt i hynny’n wir at anghenion byw ac amgylchiadau ehangach plant a phobl ifanc, sy’n bwysig iawn y tu allan i addysg yn ogystal â mewn addysg. Ond fel y dywedodd yr Aelod, bydd y Bil ADY yn rhoi cyfle i edrych ac ystyried yr anghenion hyn ymhellach.

Rwy’n meddwl bod Nick Ramsay wedi cyflwyno’r ddadl fer hon heddiw mewn ffordd bwerus iawn. Cawsoch y profiad o gerdded drwy Drefynwy. Yn ddiweddar, rwy’n cofio mynd ar y trac yn Llandŵ, ym Mro Morgannwg, y bydd llawer o’r Aelodau’n gwybod amdano, ble y bu’n rhaid i mi fynd i mewn i go-cart gyda mwgwd am fy llygaid. Rwy’n credu mai’r RNIB a’i trefnodd mewn gwirionedd, ac roedd yn brofiad brawychus. Ond dyma ble rydych yn dysgu’n gyflym iawn. Profiad untro’n unig yw hyn i ni, onid e? Rwy’n gobeithio fy mod wedi gallu dangos heddiw faint o bwyslais y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar wella iechyd a llesiant yr holl bobl hynny yng Nghymru sy’n ddall neu’n rhannol ddall. Mae’r heriau’n parhau, wrth gwrs, yn enwedig gyda phoblogaeth sy’n heneiddio, ond mae’n fater i bob oed o ran anghenion. Mae gennym ddeddfwriaeth, polisïau a rhaglenni ar waith i gefnogi a diwallu’r anghenion hyn. Rydym yn benderfynol o sicrhau y gall pobl sydd wedi colli eu golwg fyw bywydau cynhwysol a llawn. Unwaith eto, hoffwn ddiolch i Nick Ramsay am gyflwyno’r mater pwysig hwn mor rymus ar lawr y Siambr heddiw.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:14.