Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

29/11/2016

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem gyntaf ar ein busnes y prynhawn yma yw cwestiynau i’r Prif Weinidog, a’r cwestiwn cyntaf, Janet Finch-Saunders.

Atal Madredd

Mae mynd i'r afael â madredd yn parhau i fod yn un o brif flaenoriaethau diogelwch cleifion yng Nghymru. Mae nodi a diagnosis cynnar yn hanfodol i atal y cyflwr rhag gwaethygu ac i ddarparu triniaeth briodol a phrydlon. Mae Cymru wedi ei chydnabod ar lefel byd-eang am ei gwaith ym maes ymwybyddiaeth ac addysg madredd.

Diolch. Mae gwaith ymchwil a gyhoeddwyd gan Dr Tamas Szakmany yr wythnos hon wedi canfod y derbyniwyd dros 7,500 o bobl i ysbytai yng Nghymru yn dioddef o fadredd, gan arwain at fwy na 1,500 o farwolaethau. Mae hynny'n fwy na chanser y fron a’r brostad gyda’i gilydd. Mae hefyd yn tynnu sylw at rywfaint o amrywiad o ran sut y mae timau clinigol yn ymateb i fadredd, gan, o 290 o gleifion a oedd yn dangos arwyddion o fadredd, dim ond 12 y cant gafodd eu sgrinio i ddechrau a'u trin yn unol ag arfer gorau. Mae llawer o'r rhai yr effeithiwyd arnynt yn disgrifio’r effeithiau sinistr sy’n deillio o glefyd mor beryglus, sy'n bygwth bywyd, gan gynnwys trychiadau a llawer o ganlyniadau sy’n newid bywyd—os byddwch chi’n goroesi, hynny yw. Un thema gyffredin yw diffyg ymwybyddiaeth amlwg, yn enwedig mewn lleoliad iechyd, a'r rhan dristaf o hyn yw y gellid atal neu drin y rhan fwyaf o achosion gyda gwrthfiotigau os cânt eu dal yn ddigon cynnar, yn enwedig yn dilyn ymlaen o—

Mae Lloegr wedi lansio ymgyrch iechyd y cyhoedd 'Could it be Sepsis?'. Gogledd Iwerddon 'Just say Sepsis'—

Sut ydych chi, fel Prif Weinidog, yn bwriadu mynd i'r afael â'r diffygion a’r anghysondebau sy'n amlwg yma yng Nghymru a sut ydych chi’n bwriadu gwneud hyn ar unwaith?

Wel, mae gennym ni’r system sgôr rhybudd cynnar cenedlaethol eisoes ar waith ym mhob ysbyty. Cydnabuwyd gwaith ymwybyddiaeth ac addysg madredd GIG Cymru gan y Gynghrair Fadredd Fyd-eang yng Ngwobrau Madredd Byd-eang 2016, rhywbeth, wrth gwrs, yr ydym ni’n ei groesawu’n fawr iawn. Ond, wrth gwrs, mae'n dal yn wir bod llawer nad ydynt yn cael diagnosis mewn pryd gan ei fod yn gyflwr anodd gwneud diagnosis ar ei gyfer—cydnabyddir hynny. Ond mae'n hynod bwysig bod gennym ni gysondeb ar draws ein hysbytai o ran sut y nodir madredd yn gynnar, ac mae’r system honno yn rhywbeth sydd ar waith ac yn cael ei defnyddio’n eang ar draws GIG Cymru.

Brif Weinidog, mae’r ymchwiliad cyfrinachol cenedlaethol, fel y soniwyd nawr, i ganlyniadau a marwolaeth cleifion, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2015, yn dweud bod madredd yn lladd mwy o bobl na chanser y fron, y coluddyn a’r brostad gyda’i gilydd yn y DU. Mae'r adroddiad yn argymell bod mwy o feddygon a nyrsys yn defnyddio systemau rhybudd cynnar a rhestrau gwirio sgrinio i'w hannog i chwilio am arwyddion o fadredd. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd yn dweud bod ganddo feddwl agored ynghylch ystyried pa un a ddylid gwneud i ysbytai sgrinio cleifion â symptomau yn yr un modd. Felly, a wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y gall Llywodraeth Cymru sicrhau bod gwasanaeth iechyd gwladol Cymru yn sicrhau dull gweithredu cyffredinol a chyson o sgrinio ar gyfer madredd?

Gwnaf. Mae'r system sgôr rhybudd cynnar cenedlaethol yn rhan o'r dull cyson hwnnw. Mae pob ysbyty yn ei defnyddio. Mae'n system syml sy'n galluogi staff i asesu pa un a yw cleifion yn datblygu madredd, a, hefyd, mae parafeddygon y gwasanaeth ambiwlans yn defnyddio’r system honno i ddatblygu systemau i sgrinio cleifion ar gyfer madredd cyn iddyn nhw gyrraedd yr ysbyty. Hefyd, mae staff yn defnyddio sgrinio safonol ar gyfer madredd i nodi madredd ac annog gweithredu cyflym, a elwir y 'Sepsis Six Bundle'. Ac, felly, rydym ni’n parhau i ddatblygu'r gwaith a wnaed eisoes yn ystod y pedair blynedd diwethaf i sicrhau bod mwy o bobl yn cael diagnosis cynnar o fadredd a bod llai o bobl yn colli eu bywydau o’i herwydd.

Brif Weinidog, gyda bron i 2,000 o farwolaethau yng Nghymru bob blwyddyn, llawer ohonynt y gellid eu hatal, madredd yw un o'r lladdwyr mwyaf nad yw'r rhan fwyaf o bobl yn ymwybodol ohono. Er bod addysgu'r cyhoedd i adnabod yr arwyddion, a sicrhau bod camau'n cael eu cymryd yn y GIG i atal dechreuad madredd yn hanfodol, mae sicrhau bod ein gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn adnabod yr arwyddion hefyd yn bwysig. Mae llawer o oroeswyr madredd yn fyw diolch i feddyg teulu a adnabyddodd ddechreuad madredd yn gynnar. Felly, Brif Weinidog, pa gamau mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau bod pob meddyg teulu yng Nghymru yn cael hyfforddiant i adnabod arwyddion yn ogystal â sut i'w atal?

Gan ymhelaethu ar yr hyn yr wyf newydd ei grybwyll, soniais am y bwndel Sepsis Six. Mae hwnnw'n cynnwys tri phrawf cyflym ar gyfer madredd, tair triniaeth syml y profwyd eu bod yn ei ymladd ac a all helpu i ganfod a thrin y salwch ar ei gamau cynharaf. Ond, wrth gwrs, mae'n hynod bwysig bod pob gweithiwr iechyd proffesiynol yn ymwybodol o fadredd, ac, yn wir, maen nhw, ac, yn wir, yn chwilio am yr arwyddion cynharaf, er y gall fod yn anodd gwneud diagnosis a’i drin, yn enwedig ar y camau cynnar.

Ardrethi Busnes

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y system ardrethi busnes? OAQ(5)0290(FM)

Gwnaf. Mae'r system ardrethi annomestig yng Nghymru yn cyfrannu mwy na £1 biliwn tuag at ariannu gwasanaethau lleol yng Nghymru.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ateb. Gan edrych ymlaen at gynigion ar gyfer trefniadau ardrethi busnes newydd ar ôl 2018, a all y Prif Weinidog roi arwydd o’i syniadau am glybiau chwaraeon cymunedol? Deallaf, ar y funud, bod trothwy lle mae’n rhaid i 70 y cant o aelodau clybiau o'r fath fod yn cymryd rhan weithredol yng ngweithgareddau’r clwb hwnnw i fod yn gymwys i gael rhyddhad. Mae'n ymddangos yn drothwy uchel iawn, o ystyried cynlluniau a strategaethau ehangach ar gyfer mwy o hyrwyddo ymarfer corff, yn enwedig ymhlith pobl iau. Felly, byddwn yn gwerthfawrogi pe gallai'r Prif Weinidog roi awgrym o’i syniadau ar y mater hwnnw.

Ydym, rydym ni’n ymwybodol o'r pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud, ac mae'n rhan o'n syniadau wrth i ni ddatblygu system barhaol o 2018 ymlaen.

Brif Weinidog, ar sawl achlysur yn y Siambr hon, rydym ni wedi clywed am y cwestiwn o ryddhad ar gyfer offer a pheiriannau mewn ardrethi busnes, yn enwedig mewn meysydd fel Tata Steel, lle’r oedd gennym ni’r ffwrnais chwyth. A yw eich Llywodraeth wedi rhoi unrhyw ystyriaeth bellach i edrych ar ryddhad ar gyfer offer a pheiriannau yn yr ardrethi busnes, er mwyn sicrhau y gall buddsoddiad ddod i mewn i ddiwydiannau, fel y diwydiant dur, ac na fyddant yn cael eu cosbi o ganlyniad?

Mae'n rhywbeth a ystyriwyd gennym gydag Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Mae'n faes cymhleth iawn. Yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud yn hytrach, wrth gwrs, yw rhoi pecyn mwy hael ar y bwrdd i Tata nag y byddai rhyddhad ardrethi busnes yn ei gynnig. Felly, byddwn yn dadlau bod yr hyn sydd gennym ni ar y bwrdd yn mynd ymhell y tu hwnt i’r hyn y byddai rhyddhad ardrethi busnes ar offer a pheiriannau yn gallu ei gynnig yn y lle cyntaf, yn enwedig o ystyried y cymhlethdodau a'r amser y byddai'n ei gymryd i roi system o'r fath ar waith.

Yng ngoleuni eich ateb i mi yr wythnos diwethaf, Brif Weinidog, yn dweud y byddech chi’n gallu rhoi ystyriaeth lawn, ar ôl datganiad yr hydref, i gynyddu cyllid ar gyfer cymorth i fusnesau bach, sut bydd eich Llywodraeth yn defnyddio arian canlyniadol y gyllideb o gyhoeddiad y Canghellor y bydd yn ymestyn y rhyddhad ardrethi gwledig i 100 y cant, gan roi gostyngiad treth o hyd at £2,900 i fusnesau bach yn Lloegr?

Wel, mae'r arian refeniw canlyniadol yn fach iawn—tua £35 miliwn, y mae £20 miliwn ohono wedi ei gyhoeddi eisoes. Felly, nid ydym ni wedi cael ein boddi mewn haelioni gan Lywodraeth y DU pan ddaw i gyllid refeniw. Serch hynny, byddwn yn edrych i weld sut y gellir defnyddio’r arian yn y modd gorau er lles pobl Cymru.

Brif Weinidog, rwyf wedi cael etholwyr di-ri yn ysgrifennu ataf am ardrethi busnes—perchnogion busnesau bach, pobl sy’n rhedeg siopau annibynnol—ac maen nhw i gyd yn dweud wrthyf fod ardrethi busnes eich Llywodraeth yn bygwth eu busnesau, y gallent olygu y bydd yn rhaid iddyn nhw gau neu, yn sicr, diswyddo pobl. Pam ydych chi’n niweidio busnesau bach yn fy rhanbarth i?

Wel, rwy’n credu bod yn rhaid i’r Aelod gofio mai’r tro diwethaf y bu ailbrisiad oedd pan roedd ei blaid ef mewn Llywodraeth. Ni chlywais unrhyw gwynion bryd hynny. Mae'n iawn i ddweud, mewn rhai rhannau o Gymru, bod problemau penodol y bydd angen mynd i'r afael â nhw, ond mae hyn yn niwtral o ran refeniw. Nid ffordd i’r Llywodraeth gael mwy o arian yw hon. Mae’n ffordd o ailgydbwyso'r system ardrethi busnes heb fod elw net i'r Llywodraeth. Wedi dweud hynny, wrth gwrs, rydym ni’n cydnabod y bydd rhai rhannau o Gymru lle mae pethau’n anodd, a dyna pam yr ydym ni eisoes wedi cyhoeddi cynllun rhyddhad trosiannol o £10 miliwn, a byddwn yn edrych i weld beth arall y gallwn ni ei wneud er mwyn gwneud y broses bontio yn ddidrafferth.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Diolch, Lywydd. Bydd y Llywodraeth yn cael ei chynrychioli yn y gwrandawiad Goruchaf Lys yr wythnos nesaf ar yr achos yn ymwneud ag erthygl 50, ac mae'n hollol resymol y dylai barn Llywodraeth Cymru gael ei mynegi i'r llys. Ond pa gyfarwyddiadau fydd yn cael eu rhoi i'r cwnsler dros Lywodraeth Cymru? A fydd ef, neu hi, yn cefnogi Llywodraeth y Deyrnas Unedig, neu a fydd ef neu hi yn cefnogi'r hawlydd yn erbyn Llywodraeth y Deyrnas Unedig—h.y. a fydd e’n helpu i hwyluso dymuniadau pobl Prydain, fel y’u mynegwyd yn y refferendwm ar 23 Mehefin, neu’r gwrthwyneb?

Ddim y naill na'r llall. Bydd Llywodraeth Cymru yn cynrychioli ei hun, a bydd y cyfarwyddiadau i'r cwnsler yn cael eu rhoi ar y sail o gynrychioli safbwynt Llywodraeth Cymru. Nid yw hyn yn ymwneud ag atal Brexit; mae’n ymwneud â gwneud yn siŵr bod cyfraith gyfansoddiadol yn cael ei dilyn.

Ceir dadl, wrth gwrs, o ran yr hyn y mae'r gyfraith gyfansoddiadol yn ei wneud yn ofynnol yn yr achos penodol hwn. Felly, yr hyn yr wyf i'n ceisio ei ennyn gan y Prif Weinidog yw ar ochr pwy y mae’n mynd i fod arni—ar y safbwynt a fynegir gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig neu’r safbwynt a fynegir gan y cwnsler dros Mrs Miller, sef y ceisydd yn yr achos hwn. Ceir dadleuon cyfreithiol cadarn dros ddweud nad oes angen pleidlais eglur yn Nhŷ'r Cyffredin cyn sbarduno erthygl 50. Yn 2008 ac yn 2011, pasiwyd Deddf Seneddol i ddiwygio deddfwriaeth y DU i wneud pleidlais yn y Senedd y DU yn ofynnol pe byddai unrhyw newidiadau penodol i gyfraith yr UE mewn rhai meysydd fel polisi amddiffyn cyffredin, penodi erlynydd Ewropeaidd, pa un a ddylai Prydain ymuno â'r ewro, pa un a ddylai Prydain ymuno â chytundeb Schengen, pa un a ddylem ni ddisodli’r pleidleisio drwy unfrydedd gyda phleidleisio mwyafrifol amodol, ac amrywiaeth eang o ddigwyddiadau. Yn yr holl achosion hynny, byddai effeithiau uniongyrchol ar bobl Prydain o ganlyniad i'r penderfyniad. Dyna hanfod penderfyniad yr Uchel Lys—mai oherwydd yr effeithiau uniongyrchol hynny ar bobl y mae angen pleidlais benodol yn y Senedd. Ond gan nad oedd erthygl 50 yn un o'r enghreifftiau niferus a osodwyd i lawr mewn Deddf Seneddol, yna’n sicr nid oes sail ar gyfer dweud, yn yr achos hwn, bod gofyniad ymhlyg i Dŷ'r Cyffredin neu Dŷ'r Arglwyddi gefnogi pleidlais o blaid erthygl 50 cyn i'r Llywodraeth allu bodloni dymuniadau pobl Prydain.

Os yw arweinydd UKIP yn cynnig ei hun i weithredu fel cwnsler yn y Goruchaf Lys, mae'n rhoi cynnig rhesymol arni. Mae'n deall y mater cyfansoddiadol y mae'n rhaid ei ddatrys yn y llys. Bydd gan bob un ohonom ein gwahanol safbwyntiau. Y cwestiwn i ni yw: a ellir defnyddio’r uchelfraint frenhinol i ddechrau’r hyn a fyddai'n broses na ellid ei hatal tuag at newid cyfansoddiad Cymru. Ceir dadleuon cyfreithiol pwysig y mae angen eu harchwilio yn y Goruchaf Lys. Mae ef wedi cydnabod hynny, ac rwy’n croesawu hynny. Yn anffodus, mae rhai yn ei blaid sy'n gweld hyn fel rhyw fath o gynllwynio i atal Brexit. Nid dyna beth yw diben hyn. Mae hyn yn ymwneud â sicrhau, os caiff egwyddor gyfreithiol gyfansoddiadol bwysig ei harchwilio ac y rhoir dyfarniad ar hynny, ac nid yn unig ar gyfer Brexit, wrth gwrs, gellid defnyddio hyn yn y dyfodol ar gyfer materion eraill hefyd.

Yn wir. Felly, yr hyn yr wyf i'n ceisio ei ennyn gan y Prif Weinidog, ac nad yw wedi rhoi ateb iddo o hyd, yw: beth fydd y cwnsler dros Lywodraeth Cymru yn ei ddweud yn ystod yr achos hwn? Oherwydd ni ddywedodd y cwnsler dros y Llywodraeth unrhyw beth o gwbl yn yr Uchel Lys. A fwriedir y bydd y cwnsler dros Lywodraeth Cymru yn dweud rhywbeth yn y gwrandawiad Goruchaf Lys, ac, os felly, a fydd e’n dadlau yn erbyn achos Llywodraeth y Deyrnas Unedig y dylem ni fwrw ymlaen a chychwyn erthygl 50 cyn gynted â phosibl heb gymhlethu materion trwy gael rhagor o bleidleisiau yn y Senedd?

Wel, rhwydd hynt iddo ddarllen y sail, sy’n gyhoeddus, a bydd yn gweld yr achos yr ydym ni’n ei gyflwyno. Rydym ni’n cynrychioli ein hunain. Nid ydym ni yno i gefnogi’r naill ochr na'r llall ond i gyflwyno’r achos ar ran pobl Cymru o ran pa egwyddorion cyfansoddiadol y dylid eu dilyn. Digwydd bod mai Brexit yw'r pwnc, ond gallai fod yn unrhyw bwnc arall lle byddai angen ystyried yr egwyddor gyfansoddiadol hon. Felly, mae'n bwysig ei fod yn cael ei archwilio nawr.

Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, cyhoeddwyd gwaharddiad ar ffioedd asiantau gosod yn y cyhoeddiad datganiad yr hydref diweddar, gyda Lloegr yn ymuno â’r Alban bellach. Pan ddaw i Gymru, dywedodd eich Ysgrifennydd cyllid wrth y BBC ei fod eisiau aros i weld sut mae'r gwaharddiad yn yr Alban yn gweithio yn gyntaf. A ydych chi'n gwybod ym mha flwyddyn y gwnaethant wahardd ffioedd asiantau gosod yn yr Alban?

Ydw. Dyma’r sefyllfa yn yr Alban: mae Deddf Rhent (Yr Alban) 1984 yn gwneud talu unrhyw bremiwm o ran rhoi, adnewyddu neu barhau tenantiaeth warchodedig yn drosedd. Mae’r diffiniad hwnnw wedi bod ar waith ers 30 Tachwedd, 2012. Felly, yn ymarferol, mae hynny wedi bod ar waith ers 2012. Gallaf ddweud, fodd bynnag, ein bod ni’n ailystyried y mater hwn. Ein hofn, pe byddai ffioedd yn cael eu diddymu, oedd y byddai hynny’n cael ei lwytho ar renti wedyn. Mae'r dystiolaeth o'r Alban yn ddiddorol yn hynny o beth. Gwn fod hwn yn fater y mae fy nghydweithiwr, Jenny Rathbone, wedi bod yn arbennig o bryderus yn ei gylch, o ystyried yr effaith ar ei hetholaeth.

Rwy'n falch eich bod wedi codi'r pwynt yna am yr Alban, gan fod gwahardd ffioedd gosod yno wedi dangos, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, bod rhenti yng Nghymru a'r Alban wedi cynyddu ar gyfradd sylweddol is nag yn Lloegr dros y chwe blynedd diwethaf, ac mae rhenti yn yr Alban wedi gostwng dros y flwyddyn ddiwethaf. Felly, mae'n dangos nad yw'r gwaharddiad hwn ar ffioedd gosod yn cynyddu rhenti mewn gwirionedd. Nawr, rydych chi'n iawn—gwaharddwyd y ffioedd hyn gan yr Alban yn 2012. Felly, faint yn hwy y mae’n rhaid i denantiaid yng Nghymru aros? Byddwn wedi meddwl bod pedair blynedd yn ddigon hir. Y ffaith yw eich bod wedi bod yn arafach fyth ar y cwestiwn cyfiawnder cymdeithasol hanfodol bwysig hwn na’r Torïaid yn San Steffan hyd yn oed.

Nawr, Brif Weinidog, mae perchentyaeth yn dod yn fater hollbwysig i’r genhedlaeth hon o bobl ifanc; mae'n mynd bron yn amhosibl cael troed ar yr ysgol eiddo. Talu eu rhent yw’r brif flaenoriaeth nawr, ac, yn y sector rhentu, gall symud cartref arwain at gyfres o ffioedd na ellir eu cyfiawnhau, wrth i ymarfer siopa cudd Shelter Cymru rai blynyddoedd yn ôl awgrymu y gall gostio hyd at £1,000 yn ychwanegol. Oni bai fod camau’n cael eu cymryd, dim ond Cymru fydd â’r ffioedd gosod hyn. Byddwn yn croesawu ymrwymiad pendant gennych chi y prynhawn yma, Brif Weinidog, yn egluro i ni sut yr ydych chi’n mynd i wahardd y ffioedd asiantau gosod hyn. A wnewch chi roi’r ymrwymiad hwnnw i ni heddiw?

Gallaf ddweud bod hyn yn rhywbeth sydd o dan ystyriaeth weithredol. Rwy’n deall y pwynt y mae hi'n ei wneud; byddai'n edrych yn rhyfedd i Gymru fod â ffioedd asiantau gosod er nad ydynt gan Loegr a'r Alban. Ceir rhywfaint o dystiolaeth bellach o'r Alban nad oedd yr effaith o ran y cynnydd rhent mor fawr ag yr ofnwyd, ac mae hynny'n rhywbeth a fydd yn cael effaith gref iawn ar y camau y byddwn ni’n eu cymryd yn ystod y misoedd nesaf.

Brif Weinidog, y llynedd, cynigiodd Plaid Cymru welliannau i'r Bil Rhentu Cartrefi (Cymru), ond fe wnaethoch chi wrthod manteisio ar y cyfle i wahardd ffioedd gosod gormodol bryd hynny, yn groes i ddymuniadau'r rhai ar eich meinciau cefn eich hun, mae’n debyg. Ac nid gwahardd ffioedd asiantau gosod gormodol yw'r unig fater y mae eich meinciau cefn wedi dymuno pleidleisio gyda gwelliannau Plaid Cymru i wella deddfwriaeth; roeddem ni eisiau gwahardd contractau dim oriau ym maes gofal cymdeithasol. Ond mae’n ymddangos bod esgus bob amser, Brif Weinidog: naill ai nid yw’r pŵer gennych chi, neu ni chafodd y gwelliant ei ddrafftio’n gywir, neu, fy ffefryn i, 'Nid ydym wedi ymgynghori ar y mater’, hyd yn oed ar ôl 17 mlynedd o fod mewn grym. Pam, Brif Weinidog, pan fydd Plaid Cymru yn ceisio cyflwyno polisïau sy'n helpu’r rhai ar yr incwm isaf ddianc rhag tlodi, mae eich Llywodraeth chi yn pleidleisio yn ein herbyn?

Wel, rwy’n cofio bod ei phlaid hi mewn Llywodraeth am bedair blynedd, sy’n aml yn cael ei anghofio yn gyfleus. A bydd problemau—roedd y mater o gontractau dim oriau ynghlwm wrth y Bil gwasanaethau cymdeithasol, os cofiaf yn iawn, yn broblem. Yr ofn oedd y byddai'r Bil cyfan yn cael ei gyfeirio at y Goruchaf Lys. Nid yw'n fater o anghytuno mewn egwyddor, ddim o gwbl—ymhell ohoni; rydym ni o’r un safbwynt pan ddaw i gontractau dim oriau. Yn yr un modd, byddwn yn ailystyried y mater o ffioedd asiantau gosod yng ngoleuni'r dystiolaeth sydd ar gael o'r Alban, drwy Shelter, ac mae'n iawn i ddweud y byddai'n edrych yn anarferol i Gymru fod â ffioedd asiantau gosod ac i Loegr a’r Alban fod hebddynt. Mae’n ymddangos nawr, o’r dystiolaeth yn yr Alban, bod y pryder sydd gennym ni, y byddai hyn yn cael ei ychwanegu at renti, yn llai o bryder nag o'r blaen.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Brif Weinidog, os caf ddychwelyd at y cwestiwn cyntaf heddiw, ar fadredd, hoffwn ganmol fy nghydweithiwr, Angela Burns, sy’n cadeirio'r grŵp hollbleidiol ar y mater penodol hwn erbyn hyn—ar ôl bod trwy brofiadau eithaf echrydus ei hun, mae hi’n gallu dod â’r profiadau personol hynny at y bwrdd. Mae hwn yn fater sydd, yn amlwg, trwy sylw diweddar yn y cyfryngau, wir wedi dod i flaen meddyliau pobl, ond sydd wedi bod yn llechu’n dawel yn y cefndir ym meddyliau gweithwyr iechyd proffesiynol ers cryn amser. Ac, er tegwch i Lywodraeth Cymru, maen nhw wedi cyflwyno strategaeth i geisio mynd i'r afael â rhai o'r meysydd y mae pobl yn eu hwynebu pan fyddant yn cyflwyno eu hunain ac eisiau cael eu hasesu yn yr ysbyty. Ond mae'n ffaith mai dim ond un o bob 10 o bobl sy’n cael y driniaeth gywir a'r asesiadau cywir mewn ysbytai. Pa fath o darged allwn ni ystyried fel y nod yr adeg hon y flwyddyn nesaf? Gan fy mod i’n clywed y geiriau gwresog ac, yn gywir, y geiriau y mae pobl eisiau eu clywed, ond maen nhw eisiau clywed bod cynnydd ar y mater penodol hwn mewn gwirionedd. Felly, pa gynnydd allwn ni eich dwyn i gyfrif yn benodol amdano o ran sgrinio a thriniaeth ymhen blwyddyn, Brif Weinidog?

Wel, mae'n rhan o’r rhaglen 1000 o Fywydau sydd gennym ni i wneud yn siŵr bod mwy o bobl yn cael y cyfle i oroesi ac yn cael y cyfle i dderbyn y lefel gywir o driniaeth ar gyfer y salwch ei hun. Mae'n gofyn a oes unrhyw ffigurau penodol o ran targed. ‘Nac oes’ yw’r ateb i hynny; nid oes ffigur penodol, ond yr hyn y gallaf ei ddweud yw ein bod ni eisiau gweld mwy o bobl yn cael diagnosis cynnar er mwyn rhoi’r cyfle iddyn nhw oroesi. Mae gennym ni ar waith eisoes, fel y dywedais, y system sgôr rhybudd cynnar, cynllun dadansoddi Sepsis Six hefyd. Rydym ni’n credu y bydd yr holl bethau hyn, gyda'i gilydd, yn cynyddu ymwybyddiaeth o fadredd, yn enwedig ymwybyddiaeth ymhlith meddygon, fel eu bod yn gallu gwneud diagnosis yn gyflymach ac, felly, bod mwy o bobl yn cael diagnosis ac felly’n goroesi.

Diolch am hynna, Brif Weinidog. Roeddwn i’n chwilio’n benodol am darged gennych chi, fel y Prif Weinidog a'r Llywodraeth. Rwy’n sylweddoli efallai na fydd ffigurau eglur a phendant ar gael ar hyn o bryd, ond y ffigur a roddais i chi yw mai dim ond un o bob 10 o gleifion sy’n derbyn, ar hyn o bryd, y sgrinio a’r gefnogaeth honno y mae’n debyg fyddai'n helpu ac yn achub eu bywydau a dweud y gwir. Nawr, mae hwnnw'n ffigur nad yw’r un ohonom ni eisiau ei adael. Rydym ni eisiau gwthio hwnnw yn ei flaen, ac mae gennych chi’r gallu fel Llywodraeth i fwrw ymlaen o'r ffigur hwnnw.

Pan fyddwch chi’n meddwl mewn gwirionedd bod 15 gwaith yn fwy o bobl yn cael eu lladd gan fadredd yng Nghymru, neu’n marw o fadredd yng Nghymru, na mewn damweiniau ffordd—bu gennym ni raglen enfawr, rhaglen lwyddiannus, o ddiogelwch traffig ffyrdd a gwybodaeth traffig ffyrdd—mae hwn yn faes lle mae angen i Lywodraeth Cymru fod ar flaen y gad, a sicrhau canlyniadau pendant yn ein gwasanaeth iechyd. Nid yw pocedi o arfer da yn ddigon da o gwbl, fel y nodwyd yn yr adroddiad diweddar. Felly, hoffwn ddefnyddio fy ail gwestiwn o dri, os caf, i geisio eich gwthio chi i geisio cael ffigur pendant gennych chi o ran ble y byddwn ni yr adeg hon y flwyddyn nesaf, pan ddaw i sgrinio ar gyfer madredd mewn ysbytai a gallu darparu'r triniaethau sydd eu hangen.

Wel, ceir dull cyson eisoes drwy'r system sgôr rhybudd cynnar genedlaethol. Mae honno ar waith ar draws pob ysbyty yng Nghymru. Fe’i defnyddir yn eang gan staff mewn ysbytai cymuned ac mewn cartrefi preswyl i'r henoed ac mewn gwasanaethau iechyd meddwl, mewn gwirionedd. Soniais yn gynharach fod y gwasanaeth ambiwlans yn datblygu systemau ar gyfer sgrinio cleifion ar gyfer madredd cyn cyrraedd. Mae Felindre yn defnyddio system ar draws ei holl feysydd clinigol ac unedau cemotherapi cleifion allanol, gan sicrhau ei fod yn diwallu anghenion cleifion canser, ac yna wrth gwrs, soniais am y bwndel Sepsis Six. Beth mae hynny'n ei olygu o ran niferoedd? Wel, rydym ni’n gweithio gydag Ymddiriedolaeth Madredd y DU; ceir perthynas waith dda iawn. Rydym ni eisiau gweld y ffigur hwnnw o un allan o 10 yn gwella yn y dyfodol fel bod gan fwy o bobl gyfle i oroesi, ac rydym ni’n hyderus y bydd hynny'n digwydd.

Rwy’n gwerthfawrogi nad yw’n ymddangos fy mod i’n gallu cael ffigur allan ohonoch chi heddiw, Brif Weinidog. Rwyf wedi talu teyrnged i'r camau y mae’r Llywodraeth wedi eu cymryd hyd yn hyn, ond nodwyd yn gwbl eglur mai dim ond pocedi o arfer da sydd yn y GIG yng Nghymru, yn anffodus. Rwyf wedi rhoi’r ffigur o un o bob 10 i chi ac rwyf i wedi rhoi’r ffigur i chi bod 15 gwaith yn fwy o bobl yn marw o fadredd nag mewn damweiniau ar y ffyrdd, felly byddwn yn gobeithio efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet wneud datganiad ysgrifenedig i nodi ble mae'r Llywodraeth eisiau bod ymhen blwyddyn, fel y gallwn weld pa mor agored yw ei feddwl i sicrhau cynnydd gwirioneddol yn y maes hwn.

Ond un maes lle y gellir gwneud cynnydd gwirioneddol yw recriwtio a chadw meddygon a staff meddygol. Rwy’n gwerthfawrogi eto bod hwn yn fater y DU gyfan, ac mewn rhai disgyblaethau mae'n fwy amlwg mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig nag efallai yma yng Nghymru. Ond, yn anffodus, mae Coleg Brenhinol y Llawfeddygon wedi tynnu sylw at y ffaith bod 40 y cant o swyddi meddygon ymgynghorol yn wag yma yng Nghymru, ac nid yw llawer ohonynt yn denu—rwy'n sôn am swyddi gwag, nid swyddi staff gwirioneddol—nid yw 40 y cant o swyddi gwag yn derbyn unrhyw ateb i'r hysbysebion a gyhoeddir. Pa gynnydd fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud ac yn ei gynnal dros y flwyddyn nesaf i ddenu clinigwyr i'n GIG a’u cadw yno, fel bod yr arbenigedd gennym, pan ddaw i fadredd a chyflyrau eraill, ar y rheng flaen i wneud y diagnosis hwnnw i wella triniaethau i gleifion sy’n mynd i mewn i'r GIG yma yng Nghymru?

Nid wyf yn hollol siŵr o le mae'n cael y ffigur o 40 y cant. Tua 4 y cant yw’r ffigur swyddi gwag yn y GIG yng Nghymru. Rydym ni’n parhau i fod yn rhagweithiol o ran ein recriwtio. Rydym ni wedi bod yn Llundain a Harrogate mewn digwyddiadau yn ddiweddar er mwyn cyflwyno Cymru fel lle da i fod yn feddyg ynddo. Ar y cyfrif diwethaf, rydym ni wedi cael 280 o ymatebion ac ymholiadau pendant a chadarn iawn i’n hymgyrch—mae'n ymgyrch dda iawn. Rydym ni’n hyderus y byddwn ni’n gallu denu'r meddygon ar bob lefel, a llawfeddygon ar bob lefel, i mewn i GIG Cymru i sicrhau bod digon o bobl yn cael y gwasanaeth sydd ei angen arnynt.

Cynlluniau Datblygu Lleol

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am rôl Llywodraeth Cymru o ran llunio cynlluniau datblygu lleol? OAQ(5)0295(FM)

Gwnaf. Mae'r Llywodraeth yn ymgysylltu’n rhagweithiol ag awdurdodau cynllunio lleol er mwyn sicrhau bod polisi cynllunio cenedlaethol fel y nodir ym 'Mholisi Cynllunio Cymru' a nodiadau cyngor technegol cysylltiedig yn cael ei adlewyrchu’n briodol yn y cynlluniau datblygu lleol.

Diolch i chi am eich ateb, Brif Weinidog. Byddwch yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi llythyrau at brif swyddogion cynllunio sy'n ategu'r polisi cynllunio yng Nghymru. A allwch chi gadarnhau pa un a yw’r llythyrau hyn yn gyfystyr â pholisi cynllunio Llywodraeth Cymru, y mae’n rhaid i awdurdodau lleol eu dilyn, neu ai canllawiau a chyngor yn unig ydynt, y gellir eu derbyn neu eu gwrthod wrth lunio CDLl? Hefyd, byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi nodi pa bwysau y mae Llywodraeth Cymru wedi ei roi ar Gyngor Sir Powys o ran ei gyfarwyddo i gynnwys ardaloedd chwilio lleol ar gyfer cynlluniau ynni adnewyddadwy yn ychwanegol at yr ardaloedd chwilio strategol presennol ar draws y sir?

Nid ydym wedi cyfarwyddo cyngor Powys i ddiwygio ei CDLl. Mae swyddogion y Llywodraeth wedi ymgysylltu â Chyngor Sir Powys i roi cyngor ac arweiniad ar bolisi cenedlaethol, gan gynnwys ynni adnewyddadwy, a chan gynnwys ymateb yn ystod camau ymgynghori ffurfiol. Mae’n rhaid i awdurdodau lleol gadw mewn cof y canllawiau a ddaw gan Lywodraeth Cymru, oherwydd, wrth gwrs, bydd y canllawiau hynny’n cael eu cymryd i ystyriaeth pan fydd y CDLl yn cael ei archwilio gan yr arolygydd, sydd, wrth gwrs, â’r gair olaf ynghylch pa un a yw CDLl yn cael ei dderbyn ai peidio.

Brif Weinidog, swyddogaeth eich Llywodraeth yn CDLl Caerdydd yw’r bwriad i daflu miloedd o anheddau ar ein cefn gwlad. Bydd Plaid Cymru Caerdydd yn sicrhau bod cyngor Caerdydd yn pasio cynnig i fynnu bod y Cynulliad yn diddymu cynllun difa lleol Caerdydd. A wnewch chi gefnogi'r cynnig hwnnw i achub meysydd glas Caerdydd?

Lol gyfreithiol yw hyn, fel y mae’n gwybod yn iawn. Nid yw'n hoff iawn o fewnfudwyr, nac ydy? Mae'n un o'r pethau yr ydym ni’n ei sylwi amdano. Nid yw'n hoffi pobl yn dod i fyw yng Nghaerdydd. Efallai yr hoffai ystyried pa blaid y dylai fod yn aelod ohoni, ond mater iddo ef yw hynny. Y gwir amdani yw mai mater i’r awdurdodau lleol yw mabwysiadu eu CDLlau, mater i’r awdurdodau lleol yw penderfynu beth i'w wneud â'u CDLl. Nid oes gan y Cynulliad unrhyw ran na grym cyfreithiol i ddiddymu CDLl awdurdod lleol, ac ni ellir byth cael pleidlais ar lawr y Siambr hon i ddiddymu CDLl ychwaith. Mae'n fater o ddemocratiaeth leol y gall cyngor lleol lunio ei CDLl, gan gymryd polisi cynllunio cenedlaethol i ystyriaeth, a chan ystyried yr hyn y mae’r arolygydd yn ei ddweud yn rhan o'r broses CDLl honno. Dyna’n union y mae cyngor Caerdydd wedi ei wneud.

Cynllun Gwella’r M4

Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, o ystyried bod cyfran fawr o holl allforion Iwerddon, i'r DU—

Mae'n ddrwg gen i. Wel, gadewais ryw air neu ddau allan ohono. Os wyf i wedi, ymddiheuraf i’r Prif Weinidog—

[Yn parhau.]—ond mae holl ethos y peth—. Iawn, mi ddechreuaf eto, Brif Weinidog.

4. A wnaiff y Prif Weinidog archwilio'r posibilrwydd y gallai rhan o gostau cynllun gwella'r M4 gael ei thalu gan Lywodraeth Iwerddon, o gofio bod tri chwarter holl allforion Iwerddon i'r UE a'r DU yn defnyddio'r ffordd honno? OAQ(5)0301(FM)

Na wnaf, mater i Lywodraeth Cymru yw cynnal cefnffyrdd a thraffyrdd Cymru.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb, ond mae hwn yn gynnig o ddifrif, gan fy mod i’n deall y gallai Iwerddon gael mynediad at gyllid o'r gronfa priffyrdd traws-Ewropeaidd. [Torri ar draws.] Eironig iawn, rydych chi’n dweud. Ac yma rwy’n dyfynnu—[Torri ar draws.] Ac yma—[Torri ar draws.]

Ac yma rwy’n dyfynnu egwyddorion dyrannu cyllid:

Er ein bod ni wedi bod yn buddsoddi llawer mewn gwella seilwaith trafnidiaeth, ceir tanfuddsoddiad mewn llawer o rannau trawsffiniol llai—

Ni allaf glywed y cwestiwn, ac nid wyf yn credu y gall y Prif Weinidog. A all pawb dawelu, os gwelwch yn dda? A wnewch chi ofyn y cwestiwn eto? Nid wyf i’n meddwl—[Torri ar draws.] A hoffwn iddo gael—hoffwn i chi gael eich clywed mewn distawrwydd.

Lywydd, rwy'n falch eu bod nhw’n sylweddoli'r hyn y maen nhw’n ei ddweud, ac y gallwn ni gael cyllid gan yr UE nawr, ar ôl Brexit, wrth gwrs. Mi ddechreuaf eto, Brif Weinidog.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ateb, ond mae hwn yn gynnig o ddifrif, gan fy mod i’n deall y gallai Iwerddon gael mynediad at gyllid o'r gronfa priffyrdd traws-Ewropeaidd. Yma rwy’n dyfynnu egwyddorion dyrannu cyllid—[Torri ar draws.]

Rwyf wedi gofyn i'r cwestiwn hwn gael ei glywed mewn distawrwydd. A wnaiff pawb ganiatáu i’r cwestiwn hwn gael ei glywed? Rwyf eisiau cyrraedd diwedd y cwestiwn hwn.

A finnau hefyd, Lywydd. Diolch yn fawr iawn.

Ceir tanfuddsoddiad mewn llawer o rannau trawsffiniol llai, a thagfeydd.

Hyderaf y byddai'r Prif Weinidog yn cytuno y byddai'r M4 ym Mryn-glas yn sicr yn gymwys ar gyfer y disgrifiad 'tagfa'.

Wel, mae’n ymddangos bod yr Aelod yn fy narbwyllo y dylwn i annog Llywodraeth Iwerddon i wneud cais am gyllid Ewropeaidd i dalu am ffyrdd Cymru. Mae wedi bod yn aelod o blaid ac wedi ymgyrchu ym mis Mehefin i roi terfyn ar gyllid Ewropeaidd ar gyfer ffyrdd Cymru. Ni all, rwy’n awgrymu, fynd at aelod-wladwriaeth yr UE nawr a gofyn iddi wneud iawn am y diffyg y gwnaeth ef ei hun ymgyrchu i’w greu yn y lle cyntaf.

Ceir ail bwynt hefyd. Mae'n rhaid i ni fod yn ofalus iawn yma yn yr ystyr y gallai Lloegr droi atom a dweud bod yr M4 yn croesi pont Hafren, bod yr holl draffig sy'n croesi pont Hafren yn mynd i Gymru, bod llawer o'r M4 yn cael ei defnyddio gan draffig yng Nghymru, ac felly , dylid cael cyfraniad gan Gymru at yr M4 i'r dwyrain o bont Hafren. Gallai awdurdodau Ffrainc ddweud bod mwyafrif llethol y nwyddau sy'n dod o'r DU yn mynd trwy Calais, felly dylai Llywodraeth y DU dalu am seilwaith y porthladd yn Calais a'r ffyrdd sy'n arwain o Calais. Ble mae'r ddadl wedyn? Na; mae'n rhaid i ni fod yn gyfrifol am gynnal a chadw ein ffyrdd ein hunain yn ein gwledydd ein hunain.

Mae hwn yn gwestiwn swreal, hyd yn oed yn ôl safonau eleni. Ond mae'n rhaid i mi ddweud, mae cwestiwn Mr Rowlands yn atgoffa rhywun o ddyn a oedd â chynllun unwaith i adeiladu wal o amgylch ei wlad a rhoi bil i’w gymdogion drws nesaf am y gwaith. Nid wyf yn siŵr beth ddigwyddodd i'r gŵr bonheddig hwnnw.

O ran cydweithio yn y dyfodol rhwng Cymru ac Iwerddon ar brosiectau seilwaith, ceir lle posibl ar gyfer trefniant ffurfiol, trefniant dwyochrog, rhwng Cymru ac Iwerddon, trwy gytundeb Belfast lle gall dau neu fwy o aelodau ymrwymo i gytundebau dwyochrog gyda'i gilydd. A wnaiff y Prif Weinidog ystyried trefniant ffurfiol gyda gwladwriaeth Iwerddon fel y gallwn ni gael cydweithio ar brosiectau seilwaith yn y dyfodol, gan fanteisio hyd yn oed—os meiddiaf ddweud—ar arian Ewropeaidd fel y gallwn ei ffurfioli yn gynghrair môr Celtaidd sy'n rhoi rhywfaint o obaith i'n rhanbarthau gorllewinol a rhanbarthau dwyreiniol gwladwriaeth Iwerddon?

Ydy, mae’r gynghrair môr Celtaidd wedi ei seilio, rwy’n credu, ar y cydweithrediad rhwng Norwy a Sweden fel model o ran sut y byddai hynny'n gweithio. Mae'n debygol y byddwn ni’n colli cyllid INTERREG cyn belled ag y mae Cymru yn y cwestiwn, a fydd yn cael effaith ar ein porthladdoedd fferi yn benodol. Rwy'n awyddus i archwilio perthynas newydd o amgylch môr Iwerddon, pa un a yw gyda’r weriniaeth, Gogledd Iwerddon neu gydag Ynys Manaw, i weld sut y gallwn ni helpu i sicrhau bod cyn lleied o amharu â phosibl pan fydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Wrth gwrs, mae’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn gorff defnyddiol o ran archwilio rhai o'r materion hyn gyda’r gwledydd hynny sy'n ffinio môr Iwerddon.

Gwahardd Ffioedd Asiantaethau Gosod

Mae arweinydd Plaid Cymru eisoes wedi dwyn fy nghwestiwn, ond rwyf am ei ofyn ar gyfer y cofnod beth bynnag.

Yn wyneb y mesurau a gyhoeddwyd yn natganiad yr hydref, a wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried ymuno â Lloegr—

Mae'n ddrwg gennyf, nid yw cwestiynau’n cael eu dwyn yn y lle hwn. Mae rhywun wedi gofyn eich cwestiwn cyn i chi ei gyrraedd. Felly, gofynnwch y cwestiwn ar y papur trefn.

5. Yn sgil y mesurau a gyhoeddwyd yn Natganiad yr Hydref, a wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried ymuno â'r Alban a Lloegr a gwahardd ffioedd asiantaethau gosod? OAQ(5)0306(FM)

Mae'n fater o ble mae cwestiynau’n cael eu gofyn, wrth gwrs, pan fydd y pethau hyn yn codi, ond rhoddaf yr un ateb i’r Aelod a roddais i arweinydd Plaid Cymru, sef: rydym ni’n astudio effaith y gwaharddiad yn yr Alban ac, ynghyd â manylion terfynol cynigion yn Lloegr, bydd hynny’n llywio unrhyw gamau a gymerwn. Ac fel y soniais yn gynharach, diolchaf i'r Aelod am yr eiriolaeth y mae hi wedi ei ddangos ar ran cymaint o denantiaid yn ei hetholaeth, lle maen nhw wedi dioddef camfanteisio am rai blynyddoedd. Mae hwn yn fater y gwn ei bod hi wedi bod yn weithgar iawn o ran ei wrthwynebu.

Dim ond i roi rhai manylion ar esgyrn y mater hwnnw, mae gennyf wybodaeth fod Cyngor ar Bopeth yn dweud mai £337 yw’r ffi tenantiaeth gyfartalog, mae Shelter yn dweud bod 15 y cant o rentwyr yn defnyddio asiantaeth lle bu’n rhaid iddyn nhw dalu hyd at £500 neu fwy, ac mae tenantiaid yng Nghaerdydd wedi dweud bod ffioedd oddeutu £450.

Mae gormod o asiantau, yn sicr yn gweithredu yn fy etholaeth i, yn codi lefelau ffioedd sy’n camfanteisio, yn aml yn llawer uwch na’r gost wirioneddol, a hefyd yn ychwanegu ffioedd cudd, yn aml i bobl sy'n ifanc iawn ac yn gweithio eu ffordd trwy beth yw eu hawliau yn betrus. Gallwch godi £60 neu fwy am archwiliad credyd—archwiliad y bydd y cwmni’n ei gynnal am gyn lleied â £5. Gall y ffi adnewyddu am aros yn yr un cartref fod mor uchel â £300, pan ei fod yn aml yn gyfystyr â fawr mwy nag argraffu contract i’w lofnodi. Felly, mae gormod o asiantau diegwyddor wedi gallu codi ffioedd gormodol a chodi tâl dwbl ar landlordiaid.

Hoffwn gyfeirio'r Prif Weinidog at adroddiad gan Shelter. Mae gwaith ymchwil Shelter yn dangos—nid yw’n ymwneud â’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn unig—nad oedd landlordiaid yn yr Alban yn ddim mwy tebygol o fod wedi codi rhent uwch ers 2012 na landlordiaid mewn mannau eraill yn y DU. Felly, a allwch chi gadarnhau nad yw Llywodraeth Cymru wedi diystyru camau i atal asiantau gosod rhag codi tâl afresymol a chudd?

Gallaf, mi allaf gadarnhau hynny. Mae’r Aelod, wrth gwrs, yn cyflwyno achos cryf dros ddiddymu ffioedd o'r fath. Gwn fod y Gweinidog yn edrych yn ymarferol ar sut y gellir bwrw ymlaen â hyn yn y dyfodol ac yn archwilio'r dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg o'r Alban.

Brif Weinidog, ymddengys y bu rhywfaint o ddryswch ar y pryd—pan drafodwyd hyn gennym o'r blaen, yn y Cynulliad blaenorol—ynghylch pa un a oedd y pwerau gennych chi ai peidio. Ac rwy’n deall eich bod wedi gallu rhoi cyngor i Aelodau Cynulliad Llafur ar y meinciau cefn yn awgrymu nad oedd, mewn gwirionedd, yn gyfreithlon i chi wneud hynny, rhywbeth na rannwyd gyda’r gweddill ohonom ni yn rhan o'r ddadl benodol honno. Hoffwn ofyn yma heddiw, Brif Weinidog, os ydych chi’n bwriadu cyflwyno unrhyw ddadl yn y dyfodol neu unrhyw ddeddfwriaeth yn y dyfodol, a wnewch chi rannu’r cyngor hwnnw gyda’r Cynulliad, fel y gallwn ei ddadansoddi’n annibynnol fel y gallwn asesu’r ffordd ymlaen, gan ei bod hi’n ymddangos ein bod ni’n clywed un peth gan aelodau'r meinciau cefn a rhywbeth arall gan y Llywodraeth.

Wel, nid yw'r Aelod yn aelod o'r grŵp ar yr ochr hon i'r Siambr, a mater iddi hi yw sut y mae hi'n ymwybodol o'r hyn a ddywedwyd ac na ddywedwyd, ond yr hyn y gallaf ei ddweud yw bod unrhyw beth yn agored i her bosibl, oherwydd natur annigonol ein setliad datganoli, a dyna pam, er na fanteisiwyd ar y cyfle’n iawn gan Lywodraeth y DU, bod angen i ni wneud yn siŵr bod mwy o eglurder. Ein bwriad fydd bwrw ymlaen ar y sail y byddwn yn gwneud dros bobl Cymru yr hyn a gynigir yn Lloegr ac yn yr Alban. Mae'r ffaith bod y Llywodraeth, Llywodraeth y DU yn Lloegr, byddwn yn dadlau, eisoes wedi cyfaddef beth bynnag ei bod yn credu bod hyn wedi ei ddatganoli, oherwydd dim ond am Loegr y maen nhw wedi sôn yn hyn o beth, yn rhywbeth sydd, wrth gwrs, yn ddefnyddiol i unrhyw gyfeiriad posibl at y Goruchaf Lys yn y dyfodol.

Brif Weinidog, mae’r ffioedd hyn yn codi dipyn o arswyd. Nid oes llawer o nwyddau a gwasanaethau y codir tâl arnynt am y broses o’u prynu, a cheir cefnogaeth eglur ym mhob rhan o’r tŷ i gamau gael eu cymryd ar hyn. Mae'r ffioedd hyn yn ystumio'r farchnad. Maen nhw’n anghymhelliad i symudedd llafur, a'r profiad eglur yn yr Alban yw y byddai'r ffioedd yn cael eu talu gan y rhai sy'n cynnig cartrefi i'w rhentu, a dyna ble maen nhw wedi bod yn draddodiadol.

Nid wyf yn dadlau yn erbyn yr hyn y mae'r Aelod wedi ei ddweud; mae’r dystiolaeth honno y mae Shelter wedi ei chynhyrchu o ran yr Alban yn ddefnyddiol ac yn dystiolaeth gref a fydd yn llywio'r ffordd ymlaen cyn belled ag y mae Cymru yn y cwestiwn.

Dail ar y Rheilffyrdd

6. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael ag awdurdodau'r rheilffyrdd ynghylch oedi a gaiff ei achosi i wasanaethau oherwydd dail wedi'u cywasgu ar y rheilffordd? OAQ(5)0305(FM)

Wel, nid yw hwn, wrth gwrs, yn fater datganoledig, ond nid yw tanberfformiad gan Network Rail o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd yn dderbyniol. Byddwn yn parhau i alw am ddatganoli pwerau rheilffyrdd fel y gallwn gael mwy o atebolrwydd am wasanaethau rheilffyrdd a ddarperir yng Nghymru.

Diolch am hynna, Brif Weinidog. Ydw, rwy’n ymwybodol ei bod hi’n broblem yr ymdrinnir â hi gan Network Rail yn y bôn. A oes sianeli cyfathrebu rheolaidd rhwng Llywodraeth Cymru a Network Rail?

Oes, mae yna. Rwyf i wedi cwrdd â Network Rail, ond mae’r sianel gyfathrebu fwy rheolaidd rhwng swyddogion a Network Rail. Nid yw'n dderbyniol y dylai gwasanaethau gael eu cwtogi fel hyn. Y broblem yw, os oes dail cywasgedig ar y rheilffordd—ac mae'n hen jôc, ond y gwir yw, yr hyn sy'n digwydd yw, os bydd trên yn sgidio, y gall ddifrodi'r olwynion i'r graddau bod yn rhaid ail-lyfnhau’r olwynion. Felly, mewn gwirionedd, mae'n golygu na ellir defnyddio’r locomotif o gwbl ac, o bosibl, cerbydau hefyd, oherwydd yr effaith honno.

Fyddwn i ddim eisiau meddwl nad yw Network Rail yn gwario cymaint o arian ag y dylen nhw fod ar gynnal a chadw ymyl y cledrau, gan achosi mwy o ddail i ddisgyn. Mae hynny'n rhywbeth y bydd angen i ni siarad â Network Rail amdano, er mwyn diystyru’r posibilrwydd hwnnw.

Bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol o sylwadau gan Ysgrifennydd trafnidiaeth y DU ychydig wythnosau yn ôl bod pwyso am drydaneiddio’r rheilffordd o Gaerdydd i Abertawe yn gynamserol ac, yn fwyaf diweddar, sylwadau gan gadeirydd Network Rail nad oedd y cytundeb wedi’i gadarnhau. Bydd yn gwerthfawrogi y bydd fy etholwyr yng Nghastell-nedd a, mentraf ddweud, rhai cydweithwyr i'r gorllewin o Gaerdydd yn clywed hynny fel troi cefn ar ymrwymiadau blaenorol gan Lywodraeth y DU. Tybed a allwch chi amlinellu pa gamau all Llywodraeth Cymru eu cymryd i bwyso ar Lywodraeth y DU i gadw at ei hymrwymiadau.

Wel, mae'r rhain yn addewidion a wnaed, y byddai trydaneiddio. Yn wreiddiol, wrth gwrs, yr addewid oedd trydaneiddio cyn belled â Chaerdydd, ac yna o Ben-y-bont ar Ogwr i Abertawe; roeddwn i’n meddwl tybed beth yr oeddwn i wedi ei wneud i Lywodraeth y DU i olygu bod bwlch rhwng fy etholaeth i a Chaerdydd. Mewn gwirionedd, roedd oherwydd eu bod wedi methu â sylweddoli bod dwy reilffordd rhwng y ddau anheddiad. Gwnaed yr addewid hwnnw, ac rwy'n disgwyl i’r addewid hwnnw gael ei gadw. Hefyd, mae'n eithaf amlwg bod angen ailwampio gorsaf reilffordd Caerdydd Canolog yn sylweddol er mwyn iddi fod yn addas ar gyfer y dyfodol, ac rwy’n disgwyl gweld—byddwn eisiau gweld—Llywodraeth y DU yn gwneud y lefel cywir o gyfraniad at gynlluniau Network Rail ar gyfer yr orsaf honno hefyd. Nid yw'n ddigon da, ar y naill law, i ddweud na ellir datganoli’r rheilffyrdd, ac ar y llaw arall peidio â gwario digon o arian ar reilffyrdd Cymru. Ni all Llywodraeth y DU ei chael hi bob ffordd.

Buaswn i’n cefnogi, yn naturiol, y sylwadau y mae Jeremy Miles newydd eu gwneud ynglŷn â’r angen dybryd i drydaneiddio’r brif reilffordd i Abertawe. Mae rhai ohonom ni wedi bod yn dadlau am hynny ers degawd a mwy. Ond mae’r cwestiwn gwreiddiol yn y fan hyn ynglŷn â dail ar y lein. Yn naturiol, rydym yn cael hydref bob blwyddyn ac mae’r dail yn cwympo bob blwyddyn. Rwy’n deall y pwynt nad yw’r system yma wedi cael ei datganoli, ond nid wyf yn gwybod a oes rhywun wedi dweud hynny wrth y dail. Ond rwy’n credu bod yna sgôp yn y fan hyn i arloesi mewn trafodaethau i wneud yn siŵr ein bod ni yn dod i fyny efo atebion sy’n cael gwared ar y broblem yma unwaith ac am byth.

Wel, mae hynny’n hollol iawn, wrth gwrs, ond beth sy’n bwysig yw bod Network Rail yn sicrhau bod yna ddigon o waith yn cael ei wneud er mwyn sicrhau bod y coed yn cael eu torri nôl i stopio dail rhag cwympo ar y lein yn y lle cyntaf. Ar hyn o bryd, beth sydd ddim yn glir yw a ydyn nhw’n gwneud digon er mwyn sicrhau bod y broblem yn cael ei lleihau, o gofio’r ffaith ein bod ni yn gwybod bod dail yn cwympo bob blwyddyn yn y wlad hon—o’r rhan fwyaf o goed.

Cysylltais â Threnau Arriva Cymru ar ôl tarfu ar wasanaethau ar y rheilffordd rhwng Wrecsam a Bidston ddiwedd mis Hydref a achoswyd gan ddail yn disgyn a'r tywydd. Fe wnaethom ateb eu bod wedi bod yn ceisio datrys y broblem am nifer o flynyddoedd, ac yn gweithio mewn partneriaeth â chydweithwyr ar y rheilffordd i geisio lleihau'r effaith ar eu cwsmeriaid. Cynhyrchwyd papur ganddynt ym mis Mawrth eleni, wedi’i gefnogi gan grwpiau defnyddwyr lleol a chyrff ar y rheilffordd, ond ni chafodd ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru yn anffodus. Pam oedd hynny, Brif Weinidog?

Nid yw hynny’n gywir. Mae’r hyn y mae'n ei awgrymu—wel, y mae'n ei ddweud, a dweud y gwir, bod gwendid yn y system; hynny yw, bod gweithredwr a pherchennog y rheilffordd wedi ei ysgaru oddi wrth y cwmni trenau ei hun, ond mae honno'n system a roddwyd ar waith gan ei blaid ei hun. Byddai'n system llawer gwell, yn fy marn i, pe byddai’r cwmni trenau a gweithredwr a pherchennog y rheilffordd yn un corff, fel na all un roi'r bai ar y llall os oes unrhyw darfu ar wasanaethau. Ond mae honno'n system a roddwyd ar waith gan ei blaid ef ac y mae eisiau ei chadw.

Cyllid Ychwanegol i Gymru

7. Sut y mae'r Prif Weinidog yn bwriadu defnyddio cyllid ychwanegol i Gymru sy'n deillio o Ddatganiad yr Hydref? OAQ(5)0296(FM)

Byddwn yn canolbwyntio ar adfer yn rhannol y toriadau blaenorol i’n cyllideb gyfalaf a orfodwyd gan Lywodraeth y DU a chyflawni ein blaenoriaethau buddsoddi fel y nodir yn 'Symud Cymru Ymlaen'.

Diolch. Brif Weinidog, bydd datganiad yr hydref yn darparu dros £400 miliwn dros y pum mlynedd nesaf ar gyfer seilwaith—newyddion da. A wnewch chi sicrhau bod pob rhan o Gymru yn elwa ar yr arian ychwanegol hwn, gan gynnwys ardaloedd gwledig fel Sir Fynwy, fy etholaeth i, sy'n derbyn un o'r setliadau llywodraeth leol isaf ond a fyddai wir yn elwa ar fuddsoddiad ychwanegol mewn prosiectau seilwaith a phrosiectau fel cytundeb dinas Caerdydd a metro de Cymru?

Mae Sir Fynwy yn rhan o’r ddau brosiect, wrth gwrs. Mae Sir Fynwy yn rhan weithredol o gytundeb prifddinas-ranbarth Caerdydd, ac yn sicr mae arweinydd Sir Fynwy wedi bod yn rhywun sydd wedi bod yn rhagweithiol iawn wrth symud y cytundeb hwnnw yn ei flaen, a’r metro hefyd. Ceir cyfleoedd i Sir Fynwy elwa ar y metro, yn enwedig wrth i ni edrych ar well gwasanaethau bws a gwasanaethau rheilffordd ysgafn, o bosibl, i mewn i’w etholaeth yn y dyfodol.

Dangosodd datganiad yr hydref y Llywodraeth agwedd ddi-hid iawn gan y Torïaid tuag at argyfwng gofal sydd ar ddod, ac mae eu methiant i ddarparu ar gyfer ein poblogaeth sy'n heneiddio fwyfwy yn golygu y bydd pwysau aruthrol bellach ar y GIG. A wnaiff y Prif Weinidog ymrwymiad i weithio'n agos iawn gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i wneud yn siŵr na fydd argyfwng o'r fath yn digwydd yng Nghymru?

Gwnaf, yn sicr. Rydym ni eisoes yn gwario 6 y cant yn fwy y pen ar wasanaethau iechyd a chymdeithasol yng Nghymru nag sy'n wir yn Lloegr. Ni welsom y synnwyr erioed mewn cymryd arian oddi wrth y gwasanaethau cymdeithasol er mwyn llenwi bylchau mewn cyllid iechyd, sef yr hyn a wnaeth Lloegr. Ni allwch ysgaru un oddi wrth y llall, a byddwn yn parhau i sicrhau bod digon o gyllid ar gael ar gyfer y ddau.

Mae rhywfaint o arian datganiad yr hydref yn Lloegr yn mynd i gael ei ddefnyddio i adeiladu gallu band eang hypergyflym trwy ffeibr i'r safle. Onid oes cyfle yma i ni yng Nghymru, wrth i ni ddechrau meddwl y tu hwnt i Gyflymu Cymru, yn hytrach na buddsoddi mewn monopoli sy'n eiddo preifat, sydd yn peri llawer o broblemau, fel y dangosodd penderfyniad Ofcom heddiw, greu rhwydwaith seilwaith digidol eiddo cyhoeddus i Gymru, rhywbeth y mae arweinydd ei blaid ar lefel y DU wedi galw amdano ar gyfer y DU yn ddiweddar?

Rwy'n credu ei bod yn sicr yn werth ymchwilio i hynny. Yr amcan uniongyrchol yw gwneud yn siŵr bod cynllun presennol Cyflymu Cymru yn cael ei ymestyn a'i gwblhau erbyn canol y flwyddyn nesaf. Y tu hwnt i hynny, wrth gwrs, mae'n iawn i ddweud na allwn eistedd yn ôl a dweud, 'Wel, dyna ni. Bydd y dechnoleg yn aros fel ag y mae am y bum mlynedd nesaf, y 10 mlynedd nesaf neu’r ddwy flynedd nesaf.' Felly, ydy, mae'n hynod bwysig parhau i fuddsoddi mewn mwy o led band a mwy o gyflymder, wrth gwrs, cyn belled ag y mae band eang yn y cwestiwn a byddwn yn parhau i ystyried hynny.

Gwasanaethau Dŵr

8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau dŵr yng Nghymru? OAQ(5)0302(FM)[W]

Mae ein strategaeth ddŵr i Gymru yn datgan ein polisi ar gyfer gwasanaethau dŵr yng Nghymru. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn cwrdd yn rheolaidd â’r diwydiant dŵr yng Nghymru i drafod pob agwedd ar wasanaethau dŵr a charthffosiaeth.

A wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi i gefnogi galwadau am ymchwiliad cam 2 gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd i’r pryniant arfaethedig o Ddŵr Dyffryn Dyfrdwy gan Severn Trent Water? Yn amlwg, ceir goblygiadau enfawr i gwsmeriaid ac i swyddi, yn enwedig yn y gogledd-ddwyrain, yn ogystal â goblygiadau ehangach i’r diwydiant dŵr yma yng Nghymru. A wnewch chi hefyd gefnogi'r apêl i gyfranddalwyr presennol wneud yr hyn a allant i gadw'r swyddi hynny yng ngogledd-ddwyrain Cymru, ac i sicrhau bod Dŵr Cymru yn cael ei redeg o Gymru yn y dyfodol, ac nid o Coventry?

Ni fyddwn yn cefnogi unrhyw newid a fyddai'n arwain at golli swyddi yng Nghymru. Mae'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd wedi lansio ymchwiliad i’r cytundeb. Gwahoddir sylwadau erbyn 1 Rhagfyr, felly rydym yn bwriadu gwneud sylwadau, fel yr wyf yn siŵr y bydd Aelodau eraill hefyd.

Brif Weinidog, mae ein hamgylchedd naturiol ni, yn cynnwys ein hamgylchedd dŵr, yn gallu darparu nifer o fanteision i wella ansawdd ein bywydau, felly mae’n hanfodol ein bod ni’n gwneud popeth y gallwn ni i ehangu mynediad at ein hadnoddau naturiol. Efallai eich bod chi yn ymwybodol o gynlluniau i drawsnewid cronfa ddŵr Llys-y-frân, yn fy etholaeth i, i mewn i barc dŵr er mwyn denu mwy o ymwelwyr i’r ardal. Nawr, yn sgil y cynlluniau hyn, pa gymorth ychwanegol y gall eich Llywodraeth chi ei gynnig i brojectau fel hyn sydd, wrth gwrs, yn hyrwyddo ein hamgylchedd naturiol ni ac yn dod â manteision i’n hardaloedd gwledig ni?

Wel, o adnabod yr ardal yn weddol dda, mae hyn yn rhywbeth, rwy’n credu, efallai a fyddai o les i’r ardal ei hunan. Yn y ffordd arferol, wrth gwrs, byddai angen i unrhyw gynllun ofyn am gymorth ac i ni, wrth gwrs, ystyried a fyddai cymorth ar gael iddyn nhw. Felly, byddwn i’n dweud wrthyn nhw i ystyried pob math o help ariannol er mwyn sicrhau bod y project yn gallu parhau.

2. Cwestiwn Brys: Chwaraeon Cymru

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

Rwyf wedi derbyn tri chwestiwn brys o dan Reol Sefydlog 12.66. Rwy’n galw ar Russell George i ofyn y cwestiwn brys cyntaf.

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y penderfyniad i atal gweithgareddau bwrdd Chwaraeon Cymru dros dro? EAQ(5)0083(HWS)

Ddydd Mercher diwethaf, ataliwyd holl weithgareddau bwrdd Chwaraeon Cymru gan Lywodraeth Cymru nes y bydd adolygiad o sicrwydd llywodraethu wedi ei gwblhau. Darperais ddatganiad ysgrifenedig i'r Aelodau ddoe yn nodi'r amgylchiadau a'r cylch gorchwyl ar gyfer yr adolygiad o sicrwydd. Ni fyddai'n briodol imi roi sylwadau pellach ar y mater hwn tan y bydd yr adolygiad wedi ei gwblhau.

Wel, gobeithio bod hynny yn dal i ganiatáu i mi ofyn nifer o gwestiynau, Weinidog. [Chwerthin.] Wrth gwrs, mae natur sydyn yr ataliad o’r bwrdd yn ymyrraeth ddigynsail gan Lywodraeth Cymru, felly mae rhai cwestiynau yn y fan yma yr hoffwn eu gofyn.

A gaf i ofyn pryd yr oeddech chi’n gwybod gyntaf bod Chwaraeon Cymru wedi mynd yn gamweithredol? A oedd gennych chi a’r Llywodraeth hyder—neu a oes gennych chi yn y llywodraeth hyder yng ngallu cadeirydd Chwaraeon Cymru, ac os nad oes, a yw dilysrwydd ei adolygiad o Chwaraeon Cymru yn cario unrhyw bwysau? Ac, yn wir, a ydych chi’n cydnabod canfyddiadau'r adroddiad a ddatgelwyd yn answyddogol? Rwyf am ofyn a oedd y bleidlais o ddiffyg hyder yn gysylltiedig â chanfyddiadau adroddiad y cadeirydd a ddatgelwyd yn answyddogol?

Diolch i chi am y cwestiynau yna. Credaf ei bod yn bwysig cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi gweithredu'n gyflym ac yn briodol ac er lles gorau y sefydliad. Bu swyddogion yn ymwybodol o densiynau ar y bwrdd yn ystod y ddwy neu dair wythnos diwethaf, ond y disgwyliad mewn gwirionedd oedd y byddai'r prosesau llywodraethu arferol yn galluogi'r bwrdd i reoli hyn a chyrraedd datrysiad cytûn. Ond ni ddigwyddodd hynny. Mae Chwaraeon Cymru yn gorff a noddir gan Lywodraeth Cymru ac, fel y cyfryw, mae ganddo broses lywodraethu ddatblygedig, felly ni fyddwn ond yn ymyrryd mewn amgylchiadau eithriadol, ac yn gyffredinol, rydym yn disgwyl i bob un o'n cyrff noddedig ddatrys eu problemau eu hunain. Nid oeddent yn gallu defnyddio'r broses lywodraethu i ddatrys y problemau, a phan fydd hyn yn digwydd, gellir codi’r problemau wedyn gyda Llywodraeth Cymru. Ond daethpwyd i’r casgliad bod camweithredu, a dyna lle'r ydym ni yn awr, ar sail y ffaith bod y bwrdd wedi cyrraedd pwynt o fabwysiadu pleidlais o ddiffyg hyder heb ddilyn holl gamau’r ddau lwybr hynny.

Mae adolygiad y cadeirydd, a'r adolygiad o sicrwydd y mae Llywodraeth Cymru wedi’i gomisiynu, ar wahân. Mae’n ymddangos eu bod wedi’u cyfuno yn yr adroddiadau diweddar yn y wasg. Mae'n werth nodi fy mod wedi cwrdd â dau o'r pedwar aelod o'r panel annibynnol, sy'n gweithio ar adolygiad y cadeirydd y bore yma i drafod y ffordd ymlaen ar gyfer yr adolygiad hwnnw gan y cadeirydd. Roedd yr aelodau o’r panel y cyfarfûm â nhw hefyd yn cynrychioli’r ddau aelod arall o'r panel nad oeddent yn gallu bod yma heddiw.

Rwyf eisiau achub ar y cyfle hwn i ganmol y panel am yr uniondeb y maen nhw wedi’i ddangos yn y gwaith a wnaed hyd yn hyn. Maen nhw’n glir iawn y bydd y themâu sy'n dod i’r amlwg yn adolygiad y cadeirydd yn ei gwneud yn adolygiad gan gymheiriaid yn ofynnol. Felly, rwy’n disgwyl i'r gwaith hwn ddod i ben yn gynnar yn y flwyddyn newydd, pan fydd yr adolygiad o sicrwydd wedi’i gwblhau. Bydd yr adroddiad terfynol wedyn yn darparu canllawiau i ni hefyd ar y ffordd ymlaen ar gyfer y sector. Ac, wrth gwrs, rwy'n awyddus i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau.

A wnewch chi benodi bwrdd dros dro i symud pethau ymlaen ac a wnewch chi dderbyn pryderon yn ehangach, gan, efallai, sefydliadau sydd eisoes yn rhyngweithio â’r corff? Ac mae'n debyg mai fy mhrif gwestiwn yw: sut ydym ni wedi cyrraedd y pwynt hwn pryd yr ataliwyd y bwrdd yr wythnos diwethaf? Oni ddylai’r pethau hyn fod wedi eu datrys cyn cyrraedd y pwynt hwn?

Credaf fy mod i wedi disgrifio’r sefyllfa a achosodd cyrraedd y penderfyniad yr wythnos diwethaf. Nid oes bwriad i benodi bwrdd dros dro wrth i’r adolygiad o sicrwydd gael ei gynnal yn ystod yr wyth wythnos nesaf, oherwydd bod trefniadau llywodraethu yn bodoli ar hyn o bryd ar gyfer Chwaraeon Cymru. Felly, bydd unrhyw fusnes neu unrhyw faterion y byddai'r prif weithredwr fel arfer yn eu dwyn i sylw'r bwrdd yn awr yn cael eu dwyn i sylw uwch swyddog Llywodraeth Cymru.

Wrth gwrs, mae'n destun pryder bod y bwrdd wedi ei atal dros dro, sy'n awgrymu rhywfaint o ddiffyg cydlynu, ond wrth gwrs mae'n dda y bydd gweithgareddau arferol Chwaraeon Cymru yn parhau yn y cyfamser, a gobeithio y bydd hyn gyda chyn lleied o darfu â phosibl. Rwy'n siŵr y bydd staff y sefydliad yn gallu parhau i redeg pethau yn ystod yr wythnosau nesaf heb gyfraniad y bwrdd. Wrth gwrs, fel y gwyddom, mae aelodau'r bwrdd weithiau yn benodiadau gwleidyddol, felly mae staff weithiau yn gweithredu yn well hebddyn nhw yn busnesu. Ond byddwn yn disgwyl am eich adroddiad ymhen wyth wythnos gyda diddordeb. Diolch.

Diolch i chi am roi'r cyfle hwn i mi gofnodi fy niolch i bob aelod o’r staff yn Chwaraeon Cymru sy'n gwneud gwaith gwirioneddol wych o dan amgylchiadau hynod anodd. Felly, rwyf yn gwerthfawrogi'r cyfle i gofnodi’r diolch hwnnw ac i roi sicrhau'r Aelodau y bydd busnes o ddydd i ddydd Chwaraeon Cymru yn parhau drwy gydol y cyfnod hwn.

3. Cwestiwn Brys: Canolfan Yr Egin

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd y cynlluniau i sefydlu canolfan Yr Egin yng Nghaerfyrddin? EAQ(5)0081(EI)[W]

Gwnaf. Bu swyddogion yn trafod gwahanol agweddau ar y prosiect hwn dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac rwyf wedi gofyn bod trafodaethau yn parhau i benderfynu a ellir cyflwyno achos busnes boddhaol, sy’n dangos hyfywedd ariannol a manteision economaidd, diwylliannol ac ieithyddol y datblygiad, ac sy’n egluro’r angen am ymyrraeth gan y sector cyhoeddus.

Diolch i’r Gweinidog am y datganiad a diolch iddo fe am gadarnhau bod trafodaethau wedi bod yn mynd ymlaen ers dwy flynedd a rhagor am y cynllun hwn. Bu peth dryswch dros y Sul bod y cynllun hwn yn ymwneud ag adleoli S4C i Gaerfyrddin. A wnaiff y Gweinidog gadarnhau nad oes sôn o gwbl am arian Llywodraeth Cymru yn mynd at adleoli S4C—mae hynny’n benderfyniad i gorfforaeth S4C ei hunan? Ond, wrth gwrs, mae Yr Egin yn ymgais gan y brifysgol a phartneriaid i greu clwstwr ar gyfer diwydiannau creadigol yn y gorllewin ac yng Nghaerfyrddin, ac a fydd yn gartref i S4C a nifer eraill o gyrff a diwydiannau creadigol yn ogystal, gan greu hyd at 100 o swyddi o ansawdd da yn y gorllewin.

Wrth fynd ymlaen, a wnaiff y Gweinidog hefyd gadarnhau bod y cynllun—nid oes penderfyniad eto, wrth gwrs, i fuddsoddi ai peidio yn y cynllun—yn gydnaws â strategaeth ddiwydiannau creadigol y Llywodraeth ac yn gydnaws hefyd â strategaethau adeiladu’r economi iaith y Llywodraeth? Yn olaf, pryd y cawn ni ddisgwyl penderfyniad gan y Llywodraeth ynglŷn â sefydlogrwydd y cynllun hwn er mwyn tawelu meddyliau pobl sydd, efallai, wedi camgymryd bod hwn yn rhywbeth i wneud â S4C?

Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau a dweud fy mod i’n gobeithio y deuir i gasgliad yn fuan iawn ar y mater hwn. Mae’r Aelod hefyd yn gywir bod angen i ni wahaniaethu rhwng S4C yn symud a chyfanrwydd prosiect Yr Egin, sy'n ganolbwynt uchelgeisiol i ddiwydiannau creadigol yng Nghaerfyrddin. O ran cyllid S4C ar gyfer ei chyfran o'r prosiect, mae S4C eisoes wedi nodi ei bod yn credu ei bod yn ariannu ei chyfran hi o'r datblygiad yn llawn. O ran y cyllid ychwanegol hefyd, y bwriad gwreiddiol oedd bod y Drindod Dewi Sant yn darparu cronfeydd strwythurol i ddiwallu yr hyn sydd erbyn hyn yn ddiffyg, ond mae’r symiau sylweddol is a ddyrannwyd i'r flaenoriaeth seilwaith rhanbarthol ar gyfer cronfeydd strwythurol yn golygu nad yw’r arian hwn yn ddewis bellach, felly mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais i ystyried a phenderfynu a fyddem ni’n gallu rhoi cymorth grant i'r datblygiad i ateb y diffyg a nodwyd. Cymeradwyaf y brifysgol am ei huchelgais i hybu datblygiad cymdeithasol a diwylliannol, ac, yn wir, economaidd, yn yr ardal, a chredaf ei bod yn werth nodi bod SA1 a cham 2 Yr Egin wedi cael cefnogaeth bwrdd y ddinas-ranbarth ar gyfer y datblygu.

Mae S4C yn gwneud cyfraniad, nid jest yn ddiwylliannol i Gymru ond yn economaidd trwy chwistrelliad o dros £81 miliwn, ac mae llawer o’r arian yma yn mynd tuag at dalu nifer o fusnesau cyfryngau bychan i fwydo’r sianel, fel y digwyddodd yng Nghaerdydd dros y blynyddoedd. Beth yr ydym ni wedi ei weld yw diwydiant llewyrchus yn datblygu. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet egluro sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i sicrhau bod potensial economaidd lleol y mudo o Gaerdydd i Gaerfyrddin yn mynd i gael ei wireddu os nad yw canolfan Yr Egin yn mynd i gael ei datblygu a’i hariannu gan y Llywodraeth yng Nghymru?

Hoffwn ddiolch i Eluned Morgan am ei chwestiwn. Yn union fel y nododd Simon Thomas, mae’r diwydiannau creadigol o fudd enfawr i economi Cymru. Maen nhw’n tyfu'n gynt yng Nghymru nag yn unman arall yn y DU, ac eithrio Llundain, a'n bwriad yw sicrhau bod y diwydiannau creadigol yn mynd o nerth i nerth. Mae gan y Llywodraeth hanes balch, yn fy marn i, o gefnogi'r diwydiannau creadigol, ac, yn benodol, teledu a ffilm cyfrwng Cymraeg. Mae'r prosiect yn sicr yn addo buddiannau economaidd sylweddol, ymhell y tu hwnt i S4C yn symud, ac uchelgais y Drindod yw manteisio ar benderfyniad S4C i symud i Gaerfyrddin. Er enghraifft, gallai fod prif denantiaid eraill yn Yr Egin, gan gynnwys Boom, Gorilla a'r BBC. Mae’n werth ystyried hefyd y ffaith fod y bartneriaeth SA1 eisoes wedi gallu troi £300,000 o gymorth refeniw gan Lywodraeth Cymru yn £5 miliwn o fuddsoddiad cyfalaf, yn 50 o swyddi newydd ac yn bum busnes newydd. Felly, fel yr wyf eisoes wedi’i ddweud, mae swyddogion wedi bod yn trafod â’r Drindod ers peth amser. Rwy'n gobeithio y gall y trafodaethau hynny ddod i ddiweddglo, ond mae'n rhaid cyflawni buddsoddiad ar y sail o ychwanegu gwerth, a dyna’r hyn y byddwn yn penderfynu arno trwy archwilio'r achos busnes.

Rwy'n credu bod y lleoliad yng Nghaerfyrddin yn debygol o ysgogi’r defnydd o’r Gymraeg yn yr economi, fel y byddai'n ei wneud lle bynnag y’i lleolir yng Nghymru. Ond, wrth gwrs, bu rhywfaint o freuder yn y sir benodol hon o ran cadernid twf y Gymraeg ac mae wedi cael rhai anawsterau yn ei chynlluniau statudol Cymraeg mewn addysg yn y gorffennol. Felly, mae lleoli Yr Egin yn y rhan benodol hon o Gymru, yn fy marn i, efallai yn ychwanegu’r gwerth ychwanegol yr oeddech chi’n sôn amdano yn eich sylwadau wrth gloi yn y gan yna. Rwyf hefyd yn sylweddoli eich bod wedi crybwyll y fargen ddinas, ac er, efallai, wrth sôn am Wylfa B, bod y Gymraeg yn y gogledd-ddwyrain yn llawer mwy amlwg, mae arnaf ofn, nag y mae yn y fargen ddinas, er gwaethaf y sylwadau yr ydych newydd eu gwneud. Felly, a fyddech chi’n cytuno â mi, mewn gwirionedd, bod cael y cyfleuster penodol hwn yn y rhan hon o Gymru yn rhoi gwerth ychwanegol i'r fargen ddinas, gan y bydd wedi ei leoli mewn rhan o Gymru lle mae twf y Gymraeg yn rhywbeth y dylem fod yn chwilio amdano—twf newydd, yn hytrach na gwarchod y defnydd presennol o'r iaith mewn bywyd bob dydd? Diolch.

Hoffwn ddiolch i Suzy Davies am ei chwestiynau a dweud y byddwn i'n awyddus i edrych ar dwf newydd yn y Gymraeg a busnesau sy'n cefnogi'r Gymraeg mewn unrhyw le yng Nghymru, boed hynny yn y gogledd-orllewin, y de-orllewin, y de-ddwyrain neu’r canolbarth a’r gorllewin, mewn unrhyw le ledled Cymru. Felly, rwy'n awyddus i gefnogi unrhyw brosiect a all gyflawni manteision economaidd, diwylliannol a chymdeithasol i'r cymunedau y mae wedi’i leoli ynddyn nhw, ond mae’n rhaid iddo fod yn hyfyw ac yn gyflawnadwy.

Rwy’n siŵr y byddwch chi’n cytuno efo fi fod angen i ni fod yn gwbl eglur, ac yn gwbl dryloyw, ynglŷn â’r achos yma. Mae yna dipyn o ddiddordeb ynddo fo. Roeddech yn sôn bod diffyg ariannol ar gyfer y cynllun yma. Pryd ddaeth hynny i’r amlwg, ac ydy hynny yn wahanol i’r trafodaethau sydd wedi bod yn digwydd ers dwy flynedd? A ydym ni’n sôn am rywbeth newydd, mwy diweddar ynglŷn â’r diffyg ariannol roeddech chi’n sôn amdano? Ac ydy’r cynllun i adleoli pencadlys S4C yn ddibynnol ar yr arian sy’n cael ei geisio ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru?

Wel, mae'n siomedig mai dim ond ar ôl i'r prosiect gael ei gyhoeddi y sylwyd bod bwlch yn y cyllid, ond swyddogaeth S4C yw ychwanegu rhywbeth o bwys at Yr Egin a gweithredu fel y prif denant a all ddenu rhagor o fusnesau i gychwyn ac i ffynnu yno. Ac, fel yr wyf eisoes wedi’i ddweud, mae S4C wedi gallu dangos, drwy daliad rhent gwerth £3 miliwn ymlaen llaw, bod eu buddsoddiad yn y prosiect yn ddiogel, a’u bod yn dal yn bwriadu symud i Gaerfyrddin.

Weinidog, cyn belled ag y gallaf i weld, bydd Yr Egin yn cefnogi nod Llafur Cymru a nod Llywodraeth Cymru o gael canolfannau technegol newydd mewn ardaloedd gwledig, ac felly rwy'n cefnogi hyn 100 y cant. Y cwestiwn yr hoffwn ei ofyn i chi—. Rwy'n ymwybodol iawn y bu’r cyllid ar gael. Rwy'n ymwybodol iawn, fel y gwn eich bod chithau, bod S4C wedi ymarfer diwydrwydd dyledus, wedi edrych ar nifer o wahanol leoliadau o amgylch Cymru, ac yn y pen draw wedi penderfynu ar Gaerfyrddin. Rwy'n ymwybodol iawn mai'r bwriad yw adeiladu a chreu diwydiant gwasanaethau o'i gwmpas, a chefnogi gwaith y diwydiant ffilm yn Abertawe, ac, wrth gwrs, ein diwydiant ein hunain yma yng Nghaerdydd hefyd, fel bod gennym ddiwydiant gwasanaethau creadigol amlwg ar hyd ein harfordir deheuol.

Wrth gwrs, mae bod yn gysylltiedig â phrifysgol yn gwbl ardderchog ar gyfer hyn. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, tybed a wnewch chi hefyd efallai roi syniad cyflym i ni o'r pecynnau cymorth eraill y gallai Llywodraeth Cymru fod yn eu hystyried i helpu i hyrwyddo canolfan gwasanaethau creadigol yn yr Yr Egin, yn seiliedig yn Sir Gaerfyrddin, yn seiliedig ar y prif gwmnïau sef S4C, ac efallai rhai o'r cwmnïau eraill yr ydych eisoes wedi sôn amdanyn nhw y gwn eu bod yn ystyried symud i’r adeilad hwnnw ar hyn o bryd, gan feddwl yn arbennig am brentisiaethau, ac am gadw graddedigion ifanc â chanddynt lawer o dalent yn y gorllewin, i barhau i ddatblygu ein cronfa ddata diwylliannol ac ieithyddol, a’r hanfod hwnnw sy'n gwneud Cymru yr hyn ydyw.

Mae'n gwestiwn diddorol iawn, ac rwy’n credu bod gwerth ystyried, nid yn unig y model hwn, ond hefyd modelau sy'n dod i'r amlwg mewn mannau eraill yng Nghymru. Er enghraifft, gwnaethom dorri tywarchen yn ddiweddar ym Mharc Gwyddoniaeth Menai yn y gogledd-orllewin, a chredaf fod hynny yn cynnig dull tebyg lle y gellid cael systemau fertigol integredig sy'n hybu twf prif denant, boed hynny yn y gogledd-orllewin, Wylfa Newydd, neu yn y gogledd-ddwyrain, lle y gwnaethom gyhoeddi sefydliad ymchwil gweithgynhyrchu uwch tebyg—Airbus. Gallwch gael systemau fertigol integredig sy'n efelychu, i ryw raddau, hen fodelau o'r gorffennol, lle'r oedd gennych o fewn un cwmni, bopeth wedi’i adeiladu, popeth wedi’i ddarparu, ond newidiodd hynny wedyn. Yn yr unfed ganrif ar hugain, yr hyn a fydd yn allweddol fydd cysylltu mannau prifysgol, integreiddio mannau prifysgol, a all gynnig mannau agored, creadigol, gyda busnesau mawr a bach, a fydd wedyn yn cael eu seilio nid yn unig ar gyflenwi gofynion y prif gwmnïau, y prif denantiaid, ond a fydd hefyd yn hybu arloesedd ar draws y rhwydwaith.

Felly, rwy’n credu bod y model hwn yn un diddorol iawn y gallem ei ystyried ar gyfer rhywle arall yng Nghymru, ond y pwynt arall yr hoffwn ei wneud yw nad wyf i’n credu y gallwn ni fabwysiadu un model i bob man yng Nghymru. Rwy'n credu ei bod yn hanfodol i ni gymryd y sgiliau a'r cyfleoedd unigryw sydd ar gael ym mhob cymuned, ac wedyn seilio’r math hwn o fodel twf canolfan ar yr elfennau unigryw hynny ar gymunedau Cymru.

Wrth gwrs, rwyf yn annog yr Ysgrifennydd Cabinet i fuddsoddi yn y de-orllewin, yn y diwydiannau creadigol. Rydym wedi gweld buddsoddiad fan hyn yng Nghaerdydd yn Gloworks—Gloworks 2 efallai ar y gorwel—a Pontio ym Mangor. Mae eisiau buddsoddi yn y diwydiannau creadigol ym mhob rhan o Gymru, ac mae eisiau gweld hynny yn y de-orllewin. A gaf ofyn iddo fe—? Rwyf eisiau gweld pob rhan o Gymru yn llwyddo, felly a gaf ofyn iddo fe i edrych, wrth iddo fe asesu y strategaeth economaidd newydd i Gymru, ar y rôl bositif y mae ad-leoliadau yn gallu cyflawni? Mae e wedi mynegi y bwriad, wrth gwrs, i gael pencadlys y banc datblygu yng ngogledd Cymru, ac rwy’n cefnogi hynny o beth. Pam na allwn ni gael yr awdurdod refeniw Cymreig newydd yn y gogledd-orllewin, wrth gwrs, i wneud yn iawn am y swyddi sydd wedi cael eu colli yno drwy Gyllid y Wlad? Ac, a ydym ni’n gallu cael cynllun cenedlaethol i Gymru gyfan? Roedd yna seiliau iddo fe yn y cynllun gofodol—y ‘spatial plan’—ac, yn anffodus, mae hynny wedi mynd off yr agenda. A allwn ni gael hynny nôl yn greiddiol, fel rhan o’n strategaeth economaidd, fel ein bod ni’n gallu gweld buddsoddiadau ym mhob rhan o Gymru a’r sector cyhoeddus, lle mae’n gallu, yn chwarae ei ran yn hynny?

Hoffwn ddiolch i Adam Price am ei gwestiynau, a dweud fy mod i’n credu ei fod yn hollol iawn. Yn gyntaf, credaf fod temtasiwn i lawer—wel, i bob un ohonom—siarad fel aelodau'r meinciau cefn ar ran ein rhanbarthau a’n hetholaethau priodol. Ond mae'n hanfodol i gydnabod y ceir cyfleoedd i hybu’r broses o greu cyfoeth ledled Cymru. Er ein bod yn sôn yn bennaf heddiw am Gaerfyrddin, rwyf yn credu bod y diwydiannau creadigol yn cynnig cyfleoedd ar hyd a lled y wlad, fel y mae sectorau allweddol eraill. Rwyf yn cytuno ag Adam Price fod adleoli a diganoli, yn arbennig sefydliadau'r sector cyhoeddus, i ardaloedd lle y gall twf economaidd wedyn gael ei sbarduno gan eu presenoldeb, yn gwbl hanfodol. Rwy'n credu y bydd hyn yn elfen ddiddorol o waith swyddogion ar hyn o bryd, sy’n ymwneud â'r strategaeth economaidd, o ran sut yr ydym yn defnyddio arian cyhoeddus a'r sector cyhoeddus i sbarduno twf yn y sector preifat, lle y ceir potensial, ond nad oes yr ysgogiad angenrheidiol hwnnw eto i sbarduno’r twf yn y sectoraidd mewn gwirionedd.

Mae S4C ar hyn o bryd wedi'i lleoli yn fy etholaeth i, ar ystâd fasnachu Llanisien yng Ngogledd Caerdydd. Mae'n rhaid i mi fod yn hollol onest, yr wyf yn gresynu ei bod yn gadael ac rwyf wedi dweud hynny yn y Siambr hon o'r blaen. Rwy'n credu bod y penderfyniad yn gamgymeriad. Un o'r pethau sy’n fy mhoeni yw na fydd unrhyw grant a roddir i'r Drindod Dewi Sant yn golygu cymhorthdal i ​​S4C, gan nad yw darlledu wedi'i ddatganoli. Rwy'n credu y byddai'n gamgymeriad mawr i’r Llywodraeth hon ddefnyddio arian grant pan mai Llywodraeth San Steffan ddylai fod yn gwneud hynny mewn gwirionedd. Felly, tybed a all Ysgrifennydd y Cabinet egluro hynny. Ac a wnaiff egluro pa mor ddibynnol yw’r datblygiad yn y Drindod Dewi Sant ar S4C yn symud yno?

Hoffwn ddiolch i Julie Morgan am ei chwestiynau. Ac efallai y byddai'n briodol ar y pwynt hwn i ddweud mai lle S4C yw ateb unrhyw gwestiynau ynghylch penderfyniad S4C, ar sail eu cystadleuaeth i adleoli, boed hynny i Gaerfyrddin neu Gaernarfon. Yn yr un modd, mae’r mater o adleoli o Gaerdydd yn fater i S4C ymdrin ag ef yn hytrach na Llywodraeth Cymru, o ran y cwestiynau ynghylch pam y gwnaed y penderfyniad. Ni fyddem yn rhoi cymhorthdal i S4C symud pe byddem yn cefnogi'r prosiect hwn. Mae’n rhaid i’r prosiect hwn ddangos chwanegedd. Gweledigaeth Yr Egin yw bod yn ganolfan greadigol—yn ganolfan greadigol o bwys—ac, wrth graffu ar y cynllun busnes, mae angen i ni fod yn hyderus y byddai'r cymorth a allai fod ar gael, mewn gwirionedd, yn arwain at greu swyddi na fyddai’n cael eu creu fel arall ond trwy fod S4C yn symud i Gaerfyrddin.

4. Cwestiwn Brys: Y Cytundeb Ardal Economaidd Ewropeaidd

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol amlinellu ei asesiad o oblygiadau cyfreithiol posibl y cyfreitha a fwriedir yn erbyn Llywodraeth y DU mewn cysylltiad ag Erthygl 127 o’r Cytundeb Ardal Economaidd Ewropeaidd? EAQ(5)0015(CG)

Wel, diolch i chi am y cwestiwn brys yna. Gallaf ddweud wrthych fod fy asesiad, mewn gwirionedd, ar gyfnod cynnar iawn. Rwy’n credu ein bod i gyd yn ymwybodol o'r mater hwn trwy erthygl a ymddangosodd dros y penwythnos, sef y cyhoeddiad cyntaf y gellid cymryd camau cyfreithiol. Mae’r felin drafod British Influence yn bwriadu ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Adael yr Undeb Ewropeaidd, i ofyn iddo egluro ei safbwynt ar aelodaeth y DU o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd ar ôl gadael yr UE. Gallai’r broses hon arwain at ddwyn achos, ond nid oes achos llys yn bodoli ar hyn o bryd. Felly, mae'n amlwg bod unrhyw ymgyfreitha yn dal i fod ymhell yn y dyfodol. Gofynnwyd i Lywodraeth y DU egluro ei safbwynt ar dynnu allan o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd o dan erthygl 127 o'r cytundeb hwnnw, ac edrychwn ymlaen at glywed yr hyn sydd ganddi i'w ddweud am hynny.

Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb. Oni fyddai'n cytuno â mi bod yr egwyddorion sydd dan sylw yma, i raddau, yn dibynnu ar y ffawtlin rhwng Brexit caled a meddal, os mynnwch chi? Bydd y DU bellach yn gadael yr UE, ond y cwestiwn yw: a fyddwn ni wedyn yn gadael yr AEE a'r mynediad at y farchnad sengl a ddaw yn sgil hynny? Mae erthygl 127 yn awgrymu bod hwnnw yn gwestiwn ar wahân ac—os caf ddweud—un na ofynnwyd i’r pleidleiswyr. Felly, a yw'n rhannu fy mhryder ei bod yn ymddangos bod Llywodraeth y DU yn colli golwg ar ei rhwymedigaethau cyfreithiol trwy ruthro i wneud penderfyniadau gwleidyddol am yr hyn y mae pobl Prydain wedi pleidleisio drosto.

Wel, mae gennym hefyd, fel y gwyddoch, y gwrandawiad yn cychwyn ymhen wythnos, ar 5 Rhagfyr, a bydd cynrychiolaeth o Lywodraeth Cymru yno, a fydd yn sicr yn penderfynu ar ddull y newid cyfansoddiadol. Yr hyn y gallaf ei ddweud yw fy mod i o’r farn bod yr ymgyfreitha yn datgelu, hyd yn oed yn awr, diffyg llwyr Llywodraeth y DU o ran cynllunio, strategaeth a pharodrwydd ar gyfer Brexit, ac ymddengys bod diffyg ystyriaeth llwyr o gyfansoddiad y DU a rheolaeth y gyfraith. Ymddengys y ceir sefyllfa o anhrefn digynsail yn bodoli wrth wraidd y Llywodraeth, a’i hunig strategaeth yn ôl pob golwg yw ei bod eisiau cael ei ffordd ei hun ym mhopeth.

Diolch i'r Aelod dros Gastell-nedd am gyflwyno'r cwestiwn brys hwn. A all y Cwnsler Cyffredinol egluro ei farn ar y mater hwn—pa un a yw sbarduno erthygl 127 yn gam cyfreithiol angenrheidiol, ac a ddylai hynny ddigwydd ar yr un pryd â chychwyn erthygl 50? Os felly, a wnaiff hefyd egluro pa un a—os bydd proses ymgyfreitha yn y dyfodol—fydd Llywodraeth Cymru yn ymyrryd mewn unrhyw achos cyfreithiol, fel y mae wedi gwneud yn apêl Llywodraeth y DU i’r Goruchaf Lys ar gychwyn erthygl 50? Ac yn olaf, a all ef hefyd ymrwymo i asesu pa un a oes cyfleoedd yn y broses o gychwyn erthygl 127 i endidau is-wladwriaeth, fel Cymru, o bosibl i adael neu aros mewn ffordd wahanol i'r wladwriaeth yn ei chyfanrwydd?

Wel diolch. Rydych chi wedi gofyn nifer o gwestiynau, yn fy marn i, sy’n codi cwestiynau cyfreithiol cymhleth, penodol a hynod dechnegol, a bydd Llywodraeth Cymru yn awyddus i ystyried y rhain yn ofalus ac yn drylwyr maes o law. O ran cychwyn erthygl 127, rwy’n credu y gall rhai o'r materion hynny gael eu penderfynu gan y mater o egwyddor yn yr achos erthygl 50 sy'n cael gwrandawiad yn y Goruchaf Lys yr wythnos nesaf, a byddwn yn ôl pob tebyg yn rhagweld dyfarniad rywbryd yn gynnar ym mis Ionawr. Felly, o ran y broses, efallai mai hynny fydd y dull mewn gwirionedd. O ran yr hyn y gallai’r goblygiadau posibl fod i Gymru, mae’r cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd yn un o'r cytundebau UE sydd wedi ei wau i wead ein setliad cyfansoddiadol gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, felly, pan fyddwn yn gwybod yn union beth sydd wedi digwydd, pan fyddwn yn gwybod beth yn union yw ymateb Llywodraeth y DU i hynny, a phan fyddwn wedi gweld canlyniad yr achos erthygl 50, os bydd unrhyw faterion penodol sy'n berthnasol yn uniongyrchol i Gymru a buddiant Cymru, yna byddwn yn eu hystyried yn briodol a byddaf yn eich hysbysu yn unol â hynny.

Soniasoch am y felin drafod British Influence, ac maen nhw’n dweud nad oes darpariaeth yn y cytundeb Ardal Economaidd Ewropeaidd i aelodaeth y DU ddod i ben os yw’r DU yn tynnu allan o'r UE, felly bydd yn rhaid i'r DU dynnu ei hun allan o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd mewn proses ar wahân i adael yr UE ei hun. Fodd bynnag, mae Kenneth Armstrong, athro cyfraith Ewropeaidd ym Mhrifysgol Caergrawnt, , wedi tynnu sylw at y ffaith nad yw’r DU wedi llofnodi na chadarnhau’r cytundeb oherwydd nad oedd ganddo’r pŵer na’r cymhwysedd i wneud hynny—pŵer a chymhwysedd yr UE oedd hynny—felly, pan fyddai’r DU y tu allan i'r UE, byddai modd gorfodi’r cytundeb ar gyfer dibenion cyfyngedig iawn yn unig. Ar ba sail gyfreithiol, felly, y byddech chi’n herio safbwynt Llywodraeth y DU, sydd wedi ei ddatgan, sef bod y DU yn rhan o'r cytundeb AEE dim ond yn rhinwedd y ffaith ei bod yn aelod wladwriaeth o’r UE ac y bydd yr aelodaeth o’r AEE yn dod i ben yn awtomatig, ar ôl i’r DU adael yr UE?

Wel, diolch yn fawr iawn am hynna. Rydych chi wedi codi’r elfen gyfatebol ddilys i’r ddadl a nodwyd fel y rheswm pam yr anfonwyd llythyr protocol cyn-gweithredu ar gyfer adolygiad barnwrol i Lywodraeth y DU mewn gwirionedd. Felly, yn gyntaf mae angen i ni wybod beth yw ymateb gwirioneddol Llywodraeth y DU i hynny. Yn ôl fy nealltwriaeth i o gronoleg y digwyddiadau, gadawsom Cymdeithas Masnach Rydd Ewrop ym 1973, pan wnaethom ymuno â'r Undeb Ewropeaidd. Cytunwyd ar y cytundeb ardal economaidd Ewrop ym 1992, a daeth i rym ym 1994. Mae’n cynnwys y ddarpariaeth anarferol o ran nad yw wrth gwrs ddim ond yn cynnwys llofnod Gwlad yr Iâ, Liechtenstein a Norwy—y gwladwriaethau EFTA—ond mae hefyd yn cynnwys yr Undeb Ewropeaidd fel llofnodwr yn ogystal â phob gwladwriaeth unigol. Rwy’n credu y bydd penderfynu pa un ai anghysondeb cyfreithiol yw hynny neu a yw’n codi materion cyfansoddiadol yn dibynnu ar nifer o faterion, a gellid cael penderfyniad ar un ohonynt o ganlyniad i wrandawiad y Goruchaf Lys ar erthygl 50 o ran y mater cyfansoddiadol o ran y broses. Ond byddwn yn rhoi ystyriaeth i’r materion sy'n cael eu codi, pan fyddwn yn gwybod yn glir beth yw safbwynt Llywodraeth y DU.

Onid yw'n hen bryd i’r rhai sy’n cwyno am adael yr UE roi’r gorau i geisio rhwystro’r dymuniadau a fynegwyd yn rhydd gan bobl Prydain ym mis Mehefin? Roedd y cwestiwn yn ddigon syml: a ydym ni eisiau aros yn yr UE neu adael yr UE? Nid oedd dim os nac oni bai. Nid oedd unrhyw gyfyngiadau nac amodau. Nid oedd unrhyw sôn am ba un a ddylai fod yn Brexit meddal neu galed. Y penderfyniad a gymerwyd gan bobl Prydain o dan amodau Deddf y refferendwm a basiwyd i hwyluso hyn oedd: a ydych chi eisiau aros neu adael? A phleidleisiodd pobl Prydain i adael. Cynhwysodd y blaid Geidwadol, yn ei maniffesto cyn yr etholiad cyffredinol diwethaf, baragraff a oedd yn dweud:

Rydym yn credu mewn caniatáu i'r bobl benderfynu: felly byddwn yn cynnal refferendwm mewn-allan ar ein haelodaeth o'r UE cyn diwedd 2017.

Mae gan y Llywodraeth fandad i weithredu ar ei haddewid maniffesto, a dylid anwybyddu’r holl wingo hyn gan y British Influence, sydd wedi’i gamenwi’n llwyr, ac sydd yn sefydliad ffrynt ar gyfer dylanwad Ewropeaidd, a dylem symud mor gyflym â phosibl i gychwyn erthygl 50 ac, os oes angen, erthygl 127 a gadael yr UE, yn unol â’r dymuniad a fynegwyd yn rhydd, ac yn ddiamod, gan bobl Prydain.

Wel, yn wahanol i'r Aelod, nid wyf mewn sefyllfa i ddangos dirmyg llwyr i’n cyfansoddiad a rheolaeth y gyfraith. Ymddengys i mi fod gennym system gyfreithiol ag iddi egwyddorion sefydledig. Mae rhai o'r rhain gerbron llys uchaf y wlad ar hyn o bryd, a dylem ni mewn gwirionedd roi cydnabyddiaeth ddyledus i’r ffaith y bydd y llys hwnnw yn arfer ei awdurdodaeth ac yn rhoi penderfyniad fel barnwriaeth annibynnol. Mae gennyf ryw gof fy mod, yr wythnos diwethaf, wedi gofyn i'r Aelod wrthod a datgysylltu ei hun o ymdrechion arweinydd ei blaid ar y pryd i gynnal rhyw fath o orymdaith â ffaglau i’r Goruchaf Lys i godi ofn ar y barnwyr. Ni chlywais ef yn gwrthod hynny. Fy swydd i, fel Cwnsler Cyffredinol, yw amddiffyn y cyfansoddiad ac amddiffyn rheolaeth y gyfraith ac, yn wahanol iddo ef, byddaf mewn gwirionedd yn cyflawni'r ddyletswydd honno.

5. Pwynt o Drefn

Diolch o galon, Lywydd.

I'm raising a point of order under 13.9(iv) and 13.9(v). My background is Irish-English, and my grandfather arrived in Cardiff on a boat from the Yemen. The First Minister suggested that I was somehow anti-immigration, and he accused me of not liking incomers. I have dealt with racism all my life. I have fought racism all my life, and it’s not acceptable for our First Minister—[Interruption.]

Beth yw pwynt— [Torri ar draws.] Arhoswch am funud. Fi fydd yn penderfynu ar yr hyn sy’n bwynt o drefn; nid wyf angen cyngor ar hynny gan Weinidogion. Ewch ymlaen, Neil McEvoy.

Diolch i chi. Diolch. Rwyf i wedi ymladd yn erbyn hiliaeth ar hyd fy oes. Nid wyf yn credu ei bod yn dderbyniol i’r Prif Weinidog ddefnyddio iaith mor anghyfrifol. O dan 13.9 (iv): roedd yn anghwrtais; 13.9 (v): roedd yn sarhaus i rywun, yn enwedig rhywun o’m cefndir i, ac y mae wedi dilorni urddas y Cynulliad hwn.

Diolch am y pwynt o drefn. Ni chlywais unrhyw beth annerbyniol yn sylwadau'r Prif Weinidog heddiw, ond byddaf yn adolygu'r Cofnod.

6. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf ar yr agenda yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rwy’n galw ar Jane Hutt.

Lywydd, yr unig newid sydd gennyf i fusnes yr wythnos hon yw lleihau’r amser a ddyrennir i'r Cwnsler Cyffredinol ar gyfer cwestiynau yfory. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y dangosir ar y datganiad a chyhoeddiad busnes ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Yr wythnos diwethaf, cynhaliodd y grŵp trawsbleidiol ar hemoffilia a gwaed halogedig gyfarfod i glywed am brofiadau’r bobl hynny sydd wedi’u heintio yn ystod y 1970au a'r 1980au, a’u teuluoedd—y profiadau ofnadwy a gawson nhw—ac i drafod y taliadau y cynhelir ymgynghoriad yn eu cylch ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru. Mae’r ymgynghoriad hwnnw’n mynd yn ei flaen, ond y mater arall a godwyd oedd y diffyg o ran ymchwiliad cyhoeddus llawn i sut y digwyddodd y pethau ofnadwy hyn yn y 1970au a'r 1980au. Un o'r pethau yr hoffai’r grŵp trawsbleidiol ei wneud yw gwneud yn siŵr bod Llywodraeth San Steffan yn ymwybodol o'n teimladau. Hoffem gael y cyfle i drafod hyn mewn rhyw ffordd neu'i gilydd yn y Siambr hon, felly a allai’r Gweinidog busnes awgrymu unrhyw ffordd ymlaen?

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Bu Julie Morgan, wrth gwrs, yn cadeirio'r grŵp trawsbleidiol ar hemoffilia a gwaed halogedig ers iddi gael ei hethol i'r Siambr hon, ac yn wir ymunais â’r cyfarfod hwnnw yr wythnos diwethaf ar ddiwedd y cyfarfod a sylwi nid yn unig ar y niferoedd sylweddol, ond ar y teimladau a’r profiadau sylweddol. Wrth gwrs, roedd Ysgrifennydd y Cabinet yno ar gyfer y cyfarfod hwnnw. Mae wrthi ar hyn o bryd yn ymgynghori â’r rhai yr effeithir arnynt mewn cysylltiad â'r taliadau a'r ffordd ymlaen i Gymru. Roedd ef, wrth gwrs, yno i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r grŵp trawsbleidiol ar hemoffilia yr wythnos diwethaf. Fel mesur dros dro, bydd y taliadau ar gyfer gweddill y flwyddyn ariannol hon, mewn gwirionedd, fel y bydd Julie Morgan yn gwybod, ar yr un lefelau â Lloegr, yn unol â'r pecyn o ddiwygiadau y maent wedi’i weithredu yno. Ond, wrth gwrs, mae angen ymateb a syniadau ynghylch y ffordd orau y gallwn ni wneud yn siŵr, ar gyfer y rhai hynny yr effeithiwyd arnynt, fod diogelwch o ran eu bywyd pob dydd. Dyna pam yr ydym ni’n chwilio am gynlluniau pellach, a syniadau a barn bellach ar gyfer cynllun newydd o fis Ebrill 2017 ymlaen. Rwy'n credu bod angen gwneud hyn er mwyn sicrhau bod y rhai hynny, fel y dywedais, yr effeithiwyd arnynt yn cael eu cefnogi'n briodol i sicrhau y cynghorir Ysgrifennydd y Cabinet yn llawn wrth wneud yr ystyriaethau a'r penderfyniadau hynny.

Arweinydd y tŷ, hoffwn fynegi’r un teimladau â’r Aelod dros Ogledd Caerdydd. Fel rhywun, ynghyd â Jenny Randerson, a oedd yn ymdrin â'r mater hwn yn y trydydd Cynulliad, mae angen cynnydd o ran hyn, ac er bod cyhoeddiadau’n parhau i ymddangos, naill ai o San Steffan neu oddi yma, gyda'r bwriadau gorau, ni all fod yn iawn fod hyn wedi’i adael i lusgo ymlaen, a bod cynnydd braidd yn herciog, gawn ei roi felly, wrth ddatrys y materion yn ymwneud â’r mater hwn.

Hoffwn hefyd ofyn am ddatganiad mewn cysylltiad â'r arwyddion ar y draffordd y daethoch o hyd iddynt—yr arwyddion digidol. Daeth etholwr ataf yr wythnos hon a thynnu fy sylw at rai o'r hysbysiadau dibwys sy'n ymddangos ar yr arwyddion hyn. Yr wythnos diwethaf, rhwng pont Hafren a Chasnewydd, tynnodd yr etholwr hwn fy sylw at y ffaith eu bod yn hysbysebu pwynt ynglŷn â chael prawf llygaid. Mae’n rhaid cael protocol y cedwir ato mewn gwirionedd, ynghylch pa negeseuon a arddangosir ar y— [Torri ar draws]. Y pwynt yw bod hyn yn amharu ar allu pobl i ganolbwyntio ar y ffordd. Rwy'n cydnabod ysmaldod y sylw, ond dim ond un gyrrwr sydd ei angen i fynd â’i lygaid oddi ar y ffordd yn ddiangen ac yn sydyn rydych chi yng nghefn lori, neu rydych chi yng nghefn car arall. Yn sicr, mae cael arwyddion sy'n dweud 'Ewch am brawf llygaid’—nid wyf yn hollol siŵr sut y mae hynny’n hysbysu modurwyr am ddiogelwch traffig ar y ffyrdd neu am y mesurau diogelwch y dylen nhw fod yn eu dilyn neu am lif presennol y traffig. Felly, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog trafnidiaeth er mwyn nodi yn union ba brotocolau sydd ar waith sy’n rheoli’r arddangosfeydd hyn, fel y ceir dull mwy cydlynol o ran y negeseuon a arddangosir? Weithiau, mae rhai o'r pethau sy'n ymddangos arnynt yn eithaf chwerthinllyd.

Rwy’n credu, mewn ymateb i'ch pwynt cyntaf, Andrew R.T. Davies, yn amlwg, mae hwn yn fater pwysig iawn. Ceir grŵp trawsbleidiol, sydd wedi bod—yn wir, rydym ni wedi bod yn gweithio'n galed iawn i ddod o hyd i ffordd ymlaen. Ond, fel y dywedais yn gynharach, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon yn ymgynghori ar y ffordd ymlaen, ac rydym ni’n dilyn, ar hyn o bryd, y trefniadau sy'n cael eu gweithredu yn Lloegr o ran y diwygiadau hynny. Rydym ni’n edrych i weld a allwn ddysgu oddi wrth hynny, ond hefyd datblygu hyn i gael cynllun newydd i Gymru o fis Ebrill ymlaen. Rwy'n credu mai dim ond nodi eich pwynt y gallwn ni ei wneud heddiw o ran yr arwyddion hynny ar y draffordd yr wyf yn siŵr, o ran diogelwch ar y ffyrdd a phwysigrwydd negeseuon iechyd cyhoeddus, yn enwedig wrth yrru, eu bod yn berthnasol iawn.

Rwy'n chwilio am ddatganiad gan y Gweinidog dros lywodraeth leol ynglŷn â’r arolwg o’r holl gynghorwyr benywaidd a godais yr wythnos diwethaf. Roedd rhywun arall wedi ymddiswyddo ddoe, sef cynghorydd benywaidd arall o gyngor Caerdydd. Mae'r grŵp Llafur ar draws y ffordd bellach wedi colli mwy na thraean o'i aelodau benywaidd, a chysylltodd aelod o’r cyngor â mi heddiw i sôn am y cam-drin rhywiaethol y mae’n rhaid iddi ei ddioddef yn ddefodol. Nawr, rydym ni’n dda iawn am ddefnyddio geiriau yn y Siambr hon, ond sylwais eich bod wedi trosglwyddo’r cyfrifoldeb yr wythnos diwethaf i’r Llywydd, sydd heb unrhyw awdurdodaeth dros lywodraeth leol. Felly, rwy'n gofyn ein bod yn cael datganiad gan y Gweinidog dros lywodraeth leol y bydd arolwg i asesu profiad ein cydweithwyr mewn llywodraeth leol.

Yn ail, dyma’r drydedd wythnos yn olynol nawr, ac nid oedd yr ateb a roddwyd gennych yr wythnos diwethaf yn dal dŵr mewn gwirionedd, felly byddaf yn dweud eto: o fewn tafliad carreg i’r Cynulliad hwn, caiff cyffuriau dosbarth A eu cyfnewid yn agored ar strydoedd Butetown. Pryd y byddwn ni’n cael datganiad gan y Llywodraeth? Pryd y bydd gweithredu’n digwydd? Byddaf yn gwahodd y Gweinidog i gamu allan o'i gar gweinidogol ac efallai ymuno â mi ar strydoedd Butetown i siarad â phobl am eu profiadau. Pryd fydd y mater hwn yn cael sylw trwy ddatganiad?

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Rwy'n credu mai’r pwynt pwysicaf a godwyd yn y ddadl—canlyniad y ddadl—yr wythnos diwethaf, oedd y cytundeb y byddai arolwg o gynghorwyr benywaidd yn ddefnyddiol ac, wrth gwrs, roedd hynny’n ganlyniad cadarnhaol a gaiff ei ddatblygu.

Rwy’n credu, mewn cysylltiad â’ch materion chi o ran camddefnyddio sylweddau a phryderon am y peth, yn enwedig mewn cymunedau a sut y mae’n effeithio ar gymunedau, fe wnes i ymateb yr wythnos diwethaf ac amlygu’r cynnydd y mae'r Gweinidog yn ei wneud o ran ein cynllun cyflawni yn ymwneud â chamddefnyddio sylweddau, sef y cynllun cyflawni ar gyfer 2016-18. Wrth gwrs, cynllun ydyw ar gyfer gweithio gyda'n gilydd i leihau niwed ac mae'n esbonio'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn ystod y ddwy flynedd nesaf i wella’r canlyniadau ar gyfer y rhai hynny yr effeithir arnynt gan gamddefnyddio sylweddau.

Yn dilyn datganiad yr hydref a wnaed yn San Steffan, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar ddinas-ranbarth bae Abertawe i gynnwys disgrifiad o’r cynigion o ran cludiant, y cynlluniau ar gyfer cefnogi datblygiad economaidd y rhanbarth a’r gefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru?

Credaf y byddai Mike Hedges wedi bod yn falch iawn o’r ffaith y cymerwyd sylw o’i alwadau am gydnabyddiaeth o ddinas-ranbarth bae Abertawe a'r rhagolygon am fargen mewn cysylltiad â’r rhanbarth oherwydd y gwaith caled dan arweinyddiaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol mewn partneriaeth, wrth gwrs, â’r awdurdodau sy’n arwain y cynigion ar gyfer y dinas-ranbarth. Felly, rwy’n credu bod y ffaith y caiff ei gydnabod yn natganiad yr hydref, a’r ffaith bod cynnydd yn cael ei wneud o ran hyn, yn galonogol iawn.

Yn ogystal â chymeradwyo galwad Julie Morgan ynglŷn â hemoffilia a gwaed halogedig, ar ôl bod yn bresennol yn y grŵp trawsbleidiol hwnnw’r wythnos diwethaf hefyd, galwaf am ddatganiad gan y Gweinidog dros iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ar HIV/AIDS, gan gydnabod ei bod hi’n Ddiwrnod Aids y Byd ddydd Iau 1 Rhagfyr. Thema Ymddiriedolaeth Terrence Higgins ar gyfer Diwrnod Aids y Byd eleni yw HIV ‘It’s Not Over’. Maen nhw’n dweud ein bod wedi dod yn bell wrth fynd i'r afael â HIV yng Nghymru. Bellach, mae gan bobl sy'n byw â HIV, sydd wedi cael diagnosis cynnar ac yn cael triniaeth, ddisgwyliad oes arferol o’u blaenau. Hefyd, pan fo unigolyn sy'n byw â HIV yn cael triniaeth yn llwyddiannus ac na chaiff unrhyw feirws HIV ei ganfod yn eu gwaed, mae'n amhosibl trosglwyddo HIV. Felly, mae triniaeth yn cyfateb i atal.

Ond, mae un o bob chwech o bobl sy'n byw â HIV yn anymwybodol o’r ffaith bod ganddynt y feirws, gan roi eu hiechyd eu hunain mewn perygl a throsglwyddo’r feirws yn ddiarwybod. Yng Nghymru, roedd hanner y bobl newydd a gafodd ddiagnosis o HIV y llynedd wedi’u diagnosio’n hwyr, y gyfradd uchaf yn y DU. Gan fod HIV yn effeithio ar bobl hoyw a phobl heterorywiol, roedd 68 y cant o'r holl achosion newydd y llynedd mewn pobl rhwng 25 a 49 oed. Er bod cyfraddau HIV a heintiau a drosglwyddir yn rhywiol yn parhau i godi ar draws Cymru, ac roedd llai o bobl yn cael triniaeth HIV wrthretrofirol yn 2015 na'r flwyddyn flaenorol, mae’r gallu i gael gafael ar wasanaethau iechyd rhywiol ledled Cymru yn parhau i leihau, heb unrhyw ddarpariaeth gwasanaeth iechyd rhywiol statudol o unrhyw fath ar hyn o bryd ym Mhowys, a gwasanaethau atal iechyd rhywiol a hybu iechyd wedi’u dadgomisiynu mewn tri bwrdd iechyd yng Nghymru—Betsi Cadwaladr, Cwm Taf a Hywel Dda—a gwasanaethau cymorth yn cael eu hariannu gan y loteri yn unig, a chyllid yn dod i ben ddiwedd mis Mawrth nesaf.

Mae Ymddiriedolaeth Terrence Higgins yn galw am ymchwiliad o ran y gallu i gael gafael ar wasanaethau iechyd rhywiol ledled Cymru ar hyn o bryd, ac effaith hynny ar ardaloedd lle nad oes modd cael gafael ar wasanaethau neu ardaloedd lle mae’n anodd cael gafael arnynt. Felly, mae angen i’r Gweinidog roi gwybod i ni pa fesurau y mae'n eu cymryd i fynd i'r afael â HIV yng Nghymru, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â’r nifer annerbyniol o uchel o bobl sy’n cael diagnosis hwyr o HIV yng Nghymru, ac a fydd y Gweinidog yn gwneud datganiad i nodi Diwrnod Aids y Byd, gan gydnabod pwysigrwydd y digwyddiad hwnnw, ond hefyd y ffigurau a'r ystadegau sy’n peri pryder a amlygwyd gan Ymddiriedolaeth Terrence Higgins yng Nghymru.

Diolchaf i Mark Isherwood am y ddau gwestiwn a'r pwyntiau hynny ynglŷn â’r datganiad busnes—ac, wrth gwrs, gan gydnabod eich bod chithau hefyd yn bresennol, Mark, yn y grŵp trawsbleidiol ar hemoffilia a gwaed halogedig—ond hefyd y cyfle i dynnu sylw’r Aelodau at y datganiad a wnaethpwyd gan y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 23 Tachwedd, y datganiad ar iechyd rhywiol yng Nghymru, sydd yn mynd i’r afael â llawer o'r pwyntiau, gan amlygu a diweddaru llawer o'r pwyntiau yn dilyn adolygiad o’r cynllun gweithredu ar gyfer iechyd a lles rhywiol yng Nghymru 2010-2015. Yn arbennig, rydych chi’n rhoi rhywfaint o'r wybodaeth o ran y tueddiadau diweddaraf yn ymwneud â chyfraddau heintiau a drosglwyddir yn rhywiol. Os edrychwn ar gyfraddau heintiau a drosglwyddir yn rhywiol a chyfraddau HIV yng Nghymru, er bod y datganiad yn cydnabod y buont yn uchel yn y blynyddoedd diwethaf, mae data a gadarnhawyd mewn labordy, ar gyfer chwe mis cyntaf y flwyddyn hon, yn dangos cwymp o ran cyfraddau heintiau a drosglwyddir yn rhywiol a HIV o’i gymharu â'r un cyfnod yn 2014, sy'n galonogol.

Ond, mae’n amlwg bod y Gweinidog yn cydnabod na allwn fod yn hunanfodlon; mae angen i ni ystyried yr amgylchiadau. Felly, eto, mae hi wedi cyhoeddi yn ei datganiad ysgrifenedig, yr wyf yn annog yr Aelodau i edrych arno, gydnabyddiaeth o Ddiwrnod Aids y Byd ar 1 Rhagfyr, ac mae hi'n cynnal adolygiad sy’n mynd i ddechrau’r flwyddyn nesaf. A hefyd, arweinir a goruchwylir hwnnw gan fwrdd rhaglen iechyd rhywiol, a gadeirir gan y prif swyddog meddygol. Ac mae hi hefyd yn cydnabod, yn y datganiad hwnnw, ein bod am gyflwyno rhaglen frechu feirws papiloma dynol newydd, er enghraifft, sy'n berthnasol i'r cwestiwn hwn heddiw.

Rwy’n mynd i ddatgan diddordeb cyn siarad ar hwn, achos mae gen i nifer o aelodau o’r teulu yn gweithio yn y diwydiannau creadigol. Ond mae yna nifer o gwestiynau yn dal i godi yn fy meddwl i ers iddi ddod i’r amlwg fod Llywodraeth Cymru yn ystyried cais am filiynau o bunnoedd gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ar gyfer prosiect sy’n cynnwys adleoli 55 o swyddi S4C i Gaerfyrddin. Nid ydw i’n hapus ein bod ni wedi cael atebion clir cyn belled heddiw, ac rydw i’n gofyn am ddatganiad llawn ar y mater gan yr Ysgrifennydd Cabinet ar yr economi. A’r math o atebion clir rydym ni eu hangen ar hyn o bryd ydy: beth yw pwrpas yr arian a geisir gan y Llywodraeth? Faint o bres sydd yn cael ei ofyn amdano fo? A ydy hwn yn cynrychioli’r diffyg ariannol—y ‘shortfall’—y soniwyd amdano fo yn gynharach gan yr Ysgrifennydd Cabinet? A oes yna berig i brosiect Caerfyrddin fynd i’r gwellt yn llwyr heb yr arian ychwanegol sy’n cael ei ofyn amdano fo? Ac, os na fydd y prosiect yn symud ymlaen, beth sy’n mynd i ddigwydd i gynllun adleoli S4C? Mae yna nifer fawr o gwestiynau sydd angen atebion. A fyddwn i’n licio gwybod hefyd: beth ydy’r broses yn mynd i fod o hyn ymlaen o ran y Llywodraeth, o ran edrych ar yr achos busnes, a sut y byddwch chi’n gwneud yn siŵr eich bod chi’n bod yn gwbl dryloyw efo’r cyhoedd ynglŷn â beth sydd yn digwydd rŵan? A hefyd, sut byddwch chi’n gwneud yn siŵr eich bod chi yn dod i benderfyniad cadarn ynglŷn â hyn, ac ynglŷn â hefyd yr agwedd lleoliad pencadlys S4C?

Roedd Sian Gwenllian yn gallu gofyn cwestiwn yn dilyn y cwestiwn brys heddiw, ac rwy’n credu ei bod hi’n bwysig ein bod ni’n nodi eich pwyntiau ychwanegol ynglŷn â’r datganiad busnes. Rwyf am ailadrodd eto fod Llywodraeth Cymru, dros y ddwy flynedd diwethaf, wedi cael amrywiaeth o drafodaethau ag S4C a phartneriaid eraill sy'n gysylltiedig â’r broses o symud ei phencadlys i Gaerfyrddin, a’r datblygiadau ehangach hynny ar y safle. Ond mae'n parhau i fod yn wir, fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, y gellir ond ystyried unrhyw gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru os caiff achos busnes manwl a chymhellol ei ddarparu sy'n mynegi’n llawn ac yn rhoi tystiolaeth o fanteision economaidd, diwylliannol ac ieithyddol y datblygiad, ac yn dangos pam mae angen ymyrraeth gan y sector cyhoeddus i’w gyflawni.

Ym mis Mawrth 2015, pasiodd Llywodraeth y DU dan adran 67 Deddf Troseddau Difrifol 2015 gyfraith sy'n ei gwneud yn drosedd i oedolyn gyfathrebu’n rhywiol â phlentyn. Pasiodd y Cynulliad hwn gynnig cydsyniad deddfwriaethol er mwyn galluogi hynny, y mis cynt. Fodd bynnag, dros gyfnod o flwyddyn a hanner yn ddiweddarach, mae’r gyfraith hon, a allai helpu'r heddlu a stopio pobl a allai feithrin perthynas amhriodol â phlant rhag gwneud hynny, dal heb ei gweithredu gan Lywodraeth y DU. A gaf i felly ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant yn ymwneud â manylion am unrhyw drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael â Llywodraeth y DU a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder i ddeddfu adran 67 y Ddeddf Troseddau Difrifol i sicrhau y caiff plant yng Nghymru eu diogelu, ac y rhoddir i’r heddlu y pwerau sydd eu hangen arnynt i ymdrin â throseddwyr?

Diolchaf i Lynne Neagle am y cwestiwn hwnnw. Rwy’n credu, ers cael gwybod am ymgyrch Gwendid yn y Gyfraith, y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant, fod swyddogion wedi bod mewn cysylltiad â swyddfa’r Weinyddiaeth Gyfiawnder er mwyn asesu’r sefyllfa bresennol o ran gweithredu adran 67 Deddf Troseddau Difrifol 2015 y mae Lynne Neagle yn tynnu ein sylw ati heddiw. Rydym ni’n dal i aros mewn gwirionedd—rydym ni’n dal i aros am ymateb. Rydym ni’n gwbl gefnogol i gynnwys yr adran hon yn y Ddeddf. Byddem ni’n croesawu diweddariad ynglŷn ag amseru ar gyfer deddfu gan swyddfa’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, felly croesewir yn fawr y ffaith eich bod chi wedi tynnu sylw’r Cynulliad cyfan at hyn heddiw. Ac mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant yn anfon llythyr dilynol at Liz Truss AS yn fuan.

A gaf i ofyn i arweinydd y tŷ am ddatganiad pellach gan Ysgrifennydd y Cabinet dros gymunedau cyn gwyliau'r Nadolig ar y cynllun Rhentu Doeth Cymru? Adroddwyd efallai bod mwy na 13,000 o landlordiaid preifat yng Nghymru yn gosod eiddo yn anghyfreithlon ar ôl i'r cynllun Rhentu Doeth Cymru ddod yn gyfraith. Yr wythnos diwethaf, cyfarfûm ag etholwr, gwraig oedrannus, sy'n berchen ar un eiddo yn unig, y mae hi wedi’i rentu allan am fwy na 10 mlynedd heb unrhyw broblem. Nawr, mae Llywodraeth Cymru yn mynnu y dylai hi dalu ffi gofrestru a chael hyfforddiant yn gysylltiedig â’i chyfrifoldebau a’i rhwymedigaethau fel landlord. Faint o bobl oedrannus eraill neu bensiynwyr sydd mewn sefyllfa debyg? A hoffwn wybod bod y wlad hon yn gyfeillgar iawn tuag at y bobl hynny sy'n berchen ar eiddo. A gawn ni ddatganiad eto fel y gall Ysgrifennydd y Cabinet egluro pam mae’n rhaid i’m hetholwr dalu'r un ffi â rhywun sy'n berchen ar fwy nag un eiddo, a pham mae Llywodraeth Cymru yn rhoi baich gormodol ar landlordiaid da? Bydd y wraig hon yn talu'r un ffi â rhywun sy'n berchen ar fwy nag un eiddo, gyda llaw, felly, mae Llywodraeth Cymru yn rhoi baich gormodol ar landlordiaid da, yn hytrach na thargedu'n effeithiol y rhai drwg yng Nghymru. Felly, byddaf yn ddiolchgar iawn pe byddai'r Gweinidog yn rhoi sylw i hyn eto, ac rwy’n gofyn am ddatganiad arall. Diolch.

Fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ddatganiad llawn ar hyn yr wythnos diwethaf. Nid oes gennyf i Gofnod y Trafodion ger fy mron; rwy'n siŵr eich bod wedi gofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar y pryd. Mae hwn yn gynllun pwysig a gafodd ei gefnogi o ran deddfwriaeth, deddfwriaeth flaengar, ar yr ochr hon o’r Siambr, ac, wrth gwrs, o ran gweithredu, roedd y cyfle i graffu yr wythnos diwethaf yn bwysig. Ac, wrth gwrs, bydd y pwyntiau a godwyd yn cael eu hystyried wrth ei weithredu.

A gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr amgylchedd, ynni a newid hinsawdd o ran polisi Llywodraeth Cymru yn y dyfodol ynghylch taliadau ffermio a systemau cefnogi ffermydd yn arbennig? Rwy'n bryderus iawn fod y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd yn cael ei ddefnyddio fel ceffyl pren Caerdroea gan rai pobl i ennill tir o ran polisi datganoledig Cymru. Dim ond yr wythnos hon y clywsom arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn honni y byddai ffermwyr yn hapusach pe byddai San Steffan yn gwneud penderfyniadau o ran polisi ffermio yn hytrach nag yma yn ein Senedd ni a etholir yn ddemocrataidd. Wel, nid wyf i’n hapus, ac nid yw’r ffermwyr yr wyf i’n siarad â nhw yn hapus am hynny.

Nid ydyn nhw bob amser yn hapus â’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, wrth gwrs, ond ceir gwahaniaeth rhwng Llywodraeth a Senedd, ac ni ddylai fod yn iawn fod y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd yn cael ei ddefnyddio gan y Ceidwadwyr nid yn unig i adennill y cyfrifoldeb dros bolisi ffermio oddi ar Gymru—ac, yn ei dro, y polisi amgylcheddol, gan eu bod yn mynd law yn llaw—ond hefyd rydym ni eisoes wedi clywed y dylai San Steffan gadw rheolaeth dros bolisi cyllido cydgyfeirio a datblygu rhanbarthol hefyd.

Rydym eisiau i San Steffan gadw ei dwylo blewog oddi ar ein polisïau sydd eisoes wedi’u datganoli fel y gall Llywodraethau’r dyfodol yma wneud penderfyniadau dros bobl Cymru. Yr hyn sydd wir wrth wraidd hyn, wrth gwrs, yw'r ffaith bod y Ceidwadwyr yn gwybod na fyddant byth yn ennill mwyafrif yn y Senedd hon, felly maen nhw’n defnyddio dull drws cefn Llywodraeth Geidwadol—[Torri ar draws.]—Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan i wneud penderfyniadau o ran polisïau ar gyfer Cymru. Rydym ni wedi bod yn brwydro yn erbyn hynny am 40 o flynyddoedd ac enillasom y frwydr honno ac ni fyddwn yn brwydro eto.

Mae'n rhaid i mi ddweud wrth y Gweinidog mai’r hyn sydd ar goll yw’r ffaith y ceir rhywfaint o wactod. Gan nad yw Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cynlluniau clir y gall ffermwyr Cymru gael gafael arnyn nhw, fynegi barn arnyn nhw neu, o bosibl, gytuno â nhw neu ddweud y dylid gwneud rhywbeth gwahanol, ceir gwactod lle y caiff y syniadau niweidiol hyn eu dosbarthu gan y Ceidwadwyr. Felly, rwy’n credu y byddai'n werthfawr iawn i Lywodraeth Cymru yn awr, nodi ei hegwyddorion o ran sut y bydd yn bwrw ymlaen â hyn.

Pwynt olaf ynglŷn â hynny, yr wyf o’r farn y dylai’r datganiad fynd i'r afael ag ef, yw’r ffaith y ceir byd o wahaniaeth rhwng pedair gwlad yn dod at ei gilydd ar lefel y DU a chytuno ar bethau sydd o les cyffredin ym maes ffermio a'r amgylchedd, gan gynnwys pethau fel lles anifeiliaid a safonau cigydda a’r holl fath hynny o—glefydau anifeiliaid. Ceir byd o wahaniaeth rhwng hynny a San Steffan yn penderfynu ac wedyn yn dweud wrthym ni beth i'w wneud.

Yr ail elfen yr hoffwn ddatganiad yn ei chylch, gan fy mod yn credu bod hyn yn gysylltiedig ond ychydig ar wahân, yw sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd i’r afael â'r argyfwng posibl o ran gweithwyr fferm mudol y flwyddyn nesaf. Wedi’i hamlygu eisoes yw’r ffaith bod cnydau hwyr yn y tymor—blodfresych, tatws ac ati—ar hyn o bryd, mae gennym ni oddeutu 70 y cant o'r gweithlu mudol sydd ei angen arnom i hel y cnydau hynny. Efallai nad ymddengys fod hynny’n broblem fawr i Gymru ar hyn o bryd, a’i bod yn fwy o broblem i Swydd Lincoln a rhannau o Loegr, ond mae gennym rhwng 20,000 a 30,000 o weithwyr fferm mudol a gweithwyr cynhyrchu bwyd yn dod i Gymru bob blwyddyn, ac, os ydym ni’n gweld gostyngiad tebyg i hynny y flwyddyn nesaf, yna byddwn ni’n ei chael yn anodd cynnal ein lladd-dai, byddwn ni’n ei chael yn anodd parhau i hel rhai o’n cnydau tymhorol, a byddwn ni’n ei chael yn anodd cynnal ein cyfleusterau cynhyrchu bwyd yng Nghymru. Os nad yw Llywodraeth y DU yn barod i roi'r sicrwydd angenrheidiol i weithwyr yr UE ddod i wneud y gwaith mudol hwnnw, yna mae angen i ni ystyried o'r newydd y syniad o fisâu gwaith yng Nghymru a dadlau'r achos dros hynny, oherwydd bod yn rhaid bodloni ein hanghenion amaethyddol a’n hanghenion o ran gweithlu er mwyn sicrhau bod bwyd ar ein platiau. Felly, rwy’n gobeithio y cawn ddau ddatganiad gan y Llywodraeth ar y materion hynny.

Diolchaf i Simon Thomas am godi hynny heddiw. Mewn gwirionedd, roedd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet, yn ffair aeaf Frenhinol Cymru ddoe. Rwy'n credu ei fod wedi cael croeso cynnes; bod ei chyhoeddiad ynglŷn â thaliadau erbyn 1 Rhagfyr wedi cael croeso cynnes—yn sicr darllenais i’r dyfyniadau gan undebau’r ffermwyr—gan gydnabod, unwaith eto, fod amaethyddiaeth yn fater sydd wedi'i ddatganoli'n llwyr ac wedi bod felly ers 1999, ac rydym wedi cyflawni mewn partneriaeth â'r gymuned ffermio, â'r sector amaethyddol, mewn partneriaeth mewn Llywodraeth â chi ac mewn Llywodraeth â Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, a hefyd, wrth gwrs, mewn partneriaeth â'r gymuned ffermio. A dyna sut yr ydym ni’n dymuno ei ddatblygu. Os edrychwch chi ar fframweithiau rheoleiddio’r UE, wrth gwrs, pan na chânt eu gweithredu mwyach, mater ar gyfer y gweinyddiaethau datganoledig, mater ar ein cyfer ni yma yng Nghymru, ar gyfer yr Alban a Gogledd Iwerddon ydyw i benderfynu sut ac os—fel yr ydych chi’n dweud, ceir meysydd lle y gall fod fframweithiau ar draws y DU gyda Llywodraeth y DU—ond ein cyfrifoldeb ni ydyw.

Nawr, byddwn yn dadlau—o ran ymgysylltiad Ysgrifennydd y Cabinet, y bu’n gant y cant ers canlyniad y refferendwm. Nid yn unig y mae hi wedi gwneud datganiadau a oedd yn ymateb i hyn, ond rwy’n credu ei bod yn werth dweud eto, nid dim ond cwrdd ag undebau ffermwyr, cynrychiolwyr y diwydiant, ond hefyd cynnal y trafodaethau hynny o amgylch y bwrdd crwn o ran y goblygiadau ynghlwm wrth y DU yn gadael yr UE.

Y pwynt arall sy'n werth ei wneud yw bod Andrew R.T. Davies, gan ei fod wedi’i ddangos yn glir—tybed beth y mae ei gydweithwyr yn ei feddwl am ei ddatganiadau, y byddwn i’n dweud, dros y dyddiau diwethaf. Rwy’n cydnabod nad ydyw yma heddiw, ond pa awydd a fyddai beth bynnag, yn San Steffan, i adennill cyfrifoldeb dros amaethyddiaeth yng Nghymru? A dweud y gwir, yn y trafodaethau hynny o amgylch y bwrdd crwn, mae’r broses o ymgysylltu â ffermwyr a'r undebau a’r partneriaid yn y sector wedi bod ynglŷn â sut y gallan nhw weithio gyda ni i ddatblygu polisïau amaethyddol yng Nghymru.

Rwy’n credu bod eich ail bwynt hefyd yn bwysig iawn—mae wedi’i gofnodi—ac wrth gwrs byddwn ni’n ystyried, unwaith eto, sut y gallwn ni godi hyn. Wrth gwrs, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn rhan o bwyllgor yr UE sydd wedi’i sefydlu; mae'n eistedd arno ochr yn ochr â chydweithwyr gweinidogol o weinyddiaethau datganoledig eraill ac, yn wir, Weinidogion Llywodraeth y DU hefyd, gan edrych ar yr union faterion hynny o ran y gweithlu ffermio, a fydd yn cael effaith arbennig, nid yn unig ar Gymru, ond ar weddill y DU.

Hoffwn ofyn i arweinydd y tŷ am ddatganiad sy'n ymwneud â'r diwydiant dur. Mae’r datganiad eisoes wedi crybwyll yr hyn sydd gennyf i’w ddweud, a welais pan eisteddais i lawr y prynhawn yma, ond yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf, rydym wedi gweld rhywfaint o gynnydd mewn gwirionedd o ran datblygiad, efallai, yn y diwydiant dur. Dim ond y penwythnos hwn, gwelsom y newyddion ei bod hi’n debygol bod Tata Steel yn gwerthu eu dur arbenigol i Liberty Steel, ac ymddengys fod hynny’n mynd yn ei flaen, ond mae hynny'n dal i adael y cynhyrchion strip ar ôl. Nodaf fod y datganiad a gawsom y prynhawn yma gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith yn amlygu ei fod wedi ysgrifennu at Ratan Tata a'i fod yn disgwyl ateb o ryw fath, ond rwy’n credu ei bod hi’n amser i ni gael y cyfle i gael datganiad llafar, y gallwn ni ofyn cwestiynau difrifol yn ei gylch yn seiliedig ar ffeithiau ac nid sïon a geir ynglŷn â’r diwydiant dur, er mwyn sicrhau y ceir gwared ar yr ansicrwydd sy’n dal i fodoli yn rhai o'n hardaloedd, yn enwedig yn fy etholaeth i, gymaint ag y bo modd—ein bod yn gweld dyfodol disglair a bod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau ymlaen. Rwy’n sylweddoli bod gan Lywodraeth y DU rai o’r dulliau ysgogi hynny, ond efallai y gallwn ni gael gwybod pa gamau a thrafodaethau y maen nhw wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU ar ddyfodol dur.

Does dim amheuaeth y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn awyddus i gymryd rhan, fel y mae wedi dangos y prynhawn yma, a rhoi diweddariad i’r Aelodau yn unol â hynny.

Arweinydd y tŷ, a gaf i alw am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda? Y cyntaf yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd. Roedd hi’n wythnos ymwybyddiaeth o ffibriliad atrïaidd yr wythnos diwethaf a bydd Aelodau'r tŷ hwn yn ymwybodol y bydd un o bob pump o bobl sy'n dioddef strôc—6,000 ohonyn nhw bob blwyddyn yma yng Nghymru—wedi profi achos o ffibriliad atrïaidd cyn iddyn nhw ddioddef strôc. Hoffwn wybod beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud er mwyn hybu ymwybyddiaeth o AF ymhlith y cyhoedd yn gyffredinol ac, yn wir, ymhlith ymarferwyr meddygol, oherwydd gellir atal llawer o’r strociau hyn os caiff AF ei drin.

Yn ail, a gaf i ofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf gan Ysgrifennydd y Cabinet sy'n gyfrifol am adfywio, ar gynnydd y Llywodraeth o ran cymryd camau cyfreithiol yn erbyn Lambert Smith Hampton yn dilyn y sgandal yn ymwneud â chronfa buddsoddi Cymru mewn adfywio? Yn amlwg, mewn ymateb i adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn gynharach eleni, dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn dilyn proses gyfreithiol yn erbyn Lambert Smith Hampton, yn dilyn y cyngor a gafodd bwrdd CBCA, a olygodd fod trethdalwyr yn methu â chael degau o filiynau o bunnoedd oherwydd bod cyfran dda o'r tir wedi’i gwerthu am bris isel iawn, gan gynnwys yn Abergele yn fy etholaeth i, lle y gwerthwyd darn o dir gan Lywodraeth Cymru i South Wales Land Developments am £100,000 ac y cafodd ei werthu ymlaen yn ei dro am £1.9 miliwn o fewn cyfnod byr iawn o amser ar ôl hynny. Mae trethdalwyr eisiau cyfiawnder, arweinydd y tŷ, ac rwy'n credu ei bod yn briodol, nawr bod cymaint o amser wedi mynd heibio, fod Aelodau'r Cynulliad yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf ar y mater hynod bwysig hwn.

Mae'r Aelod yn codi dau fater pwysig. O ran eich pwynt cyntaf, wrth gwrs, o ran AF a’r broses o atal a chanfod er mwyn atal strôc—mae hwnnw'n bwynt pwysig iawn. Credaf ei bod hi’n bwysig nodi, o'r adroddiad blynyddol diweddaraf yn ymwneud â strôc, dros y 10 mlynedd diwethaf, fod cyfraddau goroesi yn dilyn strôc ar gyfer pobl 74 oed ac iau wedi gwella a bod nifer y bobl sy'n marw o strôc hefyd yn lleihau. Ond mae’n rhaid bod hynny’n rhannol o ganlyniad i godi ymwybyddiaeth, fel y gwnaethoch chi ddisgrifio, a byddwn ni’n bwrw ymlaen â hynny. O ran eich ail bwynt, wrth gwrs, mae'r rhain yn argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ynghylch CBCA—chi oedd y Cadeirydd ar y pryd—a chaiff yr argymhellion hynny eu gweithredu.

7. 3. Datganiad: Y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru)

Eitem 3 ar yr agenda yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ynglŷn â’r Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru), a galwaf ar Mark Drakeford i roi’r datganiad.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Mae cyflwyno’r Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) yn gam arall ymlaen ar hyd y daith datganoli trethi. Dyma’r ail allan o ddwy dreth sy’n cael eu datganoli i Gymru. Mae’n dilyn y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) a gafodd ei gyflwyno ym mis Medi, a’r Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) a gafodd ei phasio yn gynharach eleni. Trwy ddatganoli trethi i Gymru, byddwn yn gallu datblygu system drethu sy’n fwy syml a theg i’n trethdalwyr ac sy’n cefnogi ein huchelgais ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, swyddi a thwf. Am y tro cyntaf mewn 800 o flynyddoedd, rydym ni’n datblygu a gweithredu system drethu sy’n fwy addas i amgylchiadau a phobl Cymru. Rydym ni wedi ymgynghori’n eang gyda rhanddeiliaid drwy gydol y broses o ddatblygu’r Bil hwn, a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu. Rydym yn gwerthfawrogi eu cyfraniad i’r gwaith manwl sydd wedi cael ei wneud ar hyn o bryd, a’r gwaith sydd i ddod.

This Bill will establish a new tax on disposals of waste to landfill, which will replace the existing landfill tax, which is levied on an England-and-Wales basis, from April 2018. The tax aims to ensure the revenue from landfill tax will continue to be collected for investment in public services in Wales. But this is not simply about tax collection, because this Bill is aligned with our waste policy. The landfill disposals tax will play an important role in helping us achieve our goal of a zero-waste Wales. It will continue to ensure the environmental cost of landfilling waste is identified and visible and, in doing so, will encourage greater prevention, reuse, recycling and recovery of waste.

I turn now to the specifics of the Bill and its content. Part 2 contains the definition of taxable disposals and the circumstances in which they may be exempt from tax. Part 3 sets out the arrangements for taxable disposals made at authorised landfill sites, such as liability to pay, calculation of tax, duty to register with the Welsh Revenue Authority and how to account for tax, including reliefs. Part 4 provides the arrangements for taxable disposals made at places other than authorised landfill sites, while Part 5 makes supplementary provision for credits, non-disposal areas, investigation and information sharing and sets out arrangements in relation to persons, groups, partnerships and unincorporated bodies.

A clear message from consultation has been the need for a smooth transition to landfill disposals tax in April 2018. This has been a priority for the Government in drawing up the Bill before you. As a result, the new tax will be broadly consistent with the existing landfill tax—there will be a similar process and approach to tax rates, which will provide stability and reassurance to businesses and minimise the risk of waste tourism. However, in response to stakeholder views, this legislation is both simpler and clearer to apply; it reflects established practices, it is up to date and it is relevant to Wales. Where current landfill tax includes ambiguities, we have sought to provide clarity.

In that context, Dirprwy Lywydd, let me also be clear: all those who have waste to dispose of will need to comply with this tax fully and properly. This Government will take a robust approach to compliance and enforcement. Natural Resources Wales will work with the Welsh Revenue Authority to undertake compliance and enforcement functions for land disposals tax. This will ensure that the Welsh Revenue Authority benefits from Natural Resources Wales’s experience and knowledge of landfill and its established relationships with landfill site operators. The Bill will enable the Welsh Revenue Authority to charge tax on unauthorised disposals of waste, therefore closing down a potential route for tax evasion, and ensuring a fair playing field for legitimate waste businesses. This will make it more financially onerous to make unauthorised disposals, and alter the balance in favour of disposal at an authorised landfill site.

A tax on unauthorised disposals was introduced as part of the Scottish landfill tax, and has been a feature of the Republic of Ireland’s landfill levy for the past 10 years. The decision to include some provision in this Bill has been warmly welcomed by stakeholders in Wales. The legislation will ensure that the process is transparent, proportionate and workable. The proposals have been developed to dovetail with existing environmental regulations, so that they will work alongside each other.

The Tax Collection and Management (Wales) Act 2016 provides overarching powers for the Welsh Revenue Authority to undertake criminal investigations and prosecutions in relation to tax evasion. The Welsh Government will consult about the extent and use of these powers early next year, to ensure that they provide an effective but proportionate deterrent.

Finally, Dirprwy Lywydd, some of the revenue raised from the landfill disposals tax will be used to support environmental and community projects in those areas affected by the disposals of waste to landfill. This will be achieved through a landfill disposals tax communities grant scheme, using powers under the Government of Wales Act 2006. Funding will be distributed to projects which support biodiversity, waste minimisation efforts and other environmental enhancement for the benefit of those communities.

A procurement exercise will be launched after Christmas to appoint a third party to distribute funding directly to projects. This approach will maximise the amount of funding that reaches communities. A paper providing further details about the development of this community scheme will be published before Christmas and in advance of the Finance Committee’s consideration of the Bill. I will, of course, provide further updates as the Bill progresses through the National Assembly.

Ddirprwy Lywydd, mae Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) wedi cael ei ddatblygu i fod yn glir i drethdalwyr ac Awdurdod Cyllid Cymru, ac i sicrhau hyblygrwydd os bydd newidiadau polisi yn y dyfodol. Rydw i’n edrych ymlaen at y broses graffu, ac i glywed gan sefydliadau ac unigolion yn y Siambr hon a thu hwnt. Rydw i’n siŵr y bydd ganddyn nhw ddiddordeb mewn sicrhau bod y Bil hwn yn llwyddiant.

Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am y datganiad yma ar y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru). Rŷch chi’n aros am un dreth Cymreig am dros 700 mlynedd, ac wedyn mae dau yn dod, fel cerbydau cyllidol, gyda’u gilydd. Rŷm ni’n ddiolchgar iawn am y cyfle, wrth gwrs. Nid yw’r dreth yma yn codi cymaint mewn refeniw â’r dreth trafodiadau tir—yn wir, y gobaith yw, wrth gwrs, y bydd y refeniw yn gostwng. Ond mae’r dreth yn cyflwyno posibiliadau pwysig inni o ran sicrhau y nod hynny o greu Cymru ddiwastraff.

Nod y Llywodraeth, fel rwyf yn deall ar hyn o bryd, yw Cymru ddiwastraff erbyn canol y ganrif hon. Roedd Plaid Cymru wedi gosod nod o gyrraedd yr un nod erbyn y flwyddyn 2030, sydd, wrth gwrs, yn nod uchelgeisiol, ond mae Bhwtan hefyd wedi gosod hynny fel targed, ac mae Efrog Newydd wedi gwneud yr un peth. Buaswn i yn gofyn i’r Ysgrifennydd Cabinet i ba raddau y mae’r ffaith bod yr erfyn newydd yma—y gallu trethiannol yma—yn fodd inni, efallai, ailasesu’r nod. Rwy’n deall y rhesymeg, wrth gwrs, o ran, ar y dechrau, bod yn weddol gyson o ran y fframwaith trethiannol o gymharu â Lloegr, ac, wrth gwrs, nid ŷm ni eisiau gweld yr ymadrodd hyll yma, neu’r gweithgaredd mwy hyll fyth, efallai, o dwristiaeth gwastraff yn digwydd ar draws y ffiniau. I ba raddau ŷm ni’n gallu bod ychydig yn fwy creadigol ac arloesol wrth feddwl sut mae’r gallu trethiannol yma, efallai, yn ein galluogi ni i gyrraedd y nod yma o Gymru ddiwastraff yn gynt?

Fel roedd yr Ysgrifennydd Cabinet wedi esbonio, wrth gwrs, mae’r Bil yma hefyd yn dod â gwarediadau gwastraff heb eu hawdurdodi—‘fly-tipping’ ac yn y blaen—o fewn cwmpas y dreth newydd, felly mae’n enghraifft o’r math o arloesi sy’n bosib, ac mae hynny i’w groesawu’n fawr. Mae’r dogfennau esboniadol yn nodi mai Awdurdod Cyllid Cymru a fydd yn gyfrifol am gasglu a rheoli’r dreth, ar y cyd â Chyfoeth Naturiol Cymru, ac mae hyn hefyd yn arloesi tipyn, wrth weld dau gorff yn cydreoli. A allai ddweud rhywfaint yn rhagor ynglŷn â sut fydd hyn yn gweithredu ar gyfer gwarediadau gwastraff heb eu hawdurdodi? Er enghraifft pa ddisgwyliad fydd ar Gyfoeth Naturiol Cymru i arolygu gwarediadau heb awdurdod yn rheolaidd, ac os felly, a ydy’r Llywodraeth wedi ystyried a fydd yna unrhyw gostau ychwanegol yn syrthio arnyn nhw? Ac a allem ni gael sicrhad y bydd yna adnoddau digonol ar gael fel nad yw’r cyfrifoldeb newydd yma yn troi yn faich?

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei groeso cyffredinol i'r Bil a'i ddibenion? Gwnaeth rai pwyntiau pwysig ar y dechrau am gyfochri trethi sy'n dod i Gymru â’n hagenda polisi. Mae hon wedi bod yn dreth lwyddiannus iawn o safbwynt newid ymddygiad. Bu 52 y cant o ostyngiad yng nghyfanswm y tunelli o wastraff yng Nghymru a aeth i safleoedd tirlenwi rhwng 2001 a 2013. Rhagwelodd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn ei datganiad yr hydref y bydd derbyniadau’r dreth hon yn lleihau’n gyflymach nag yr oeddent yn ei wneud yn gynharach yn y flwyddyn ac mae hynny'n rhan o gyfochri’r agenda bolisi â'r agenda dreth.

Ein nod, fel y dywedodd, yw dechrau’r dreth hon drwy efelychu’r trefniadau presennol mor agos ag y gallwn, ond eu gwella hefyd. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth, wrth i’r pwerau hyn ddod yn ymarferol yn weithredol, y bydd y gallu i ailedrych ar ein huchelgeisiau yn y maes hwn, a gweld a oes mwy y gallem ei wneud â’r ysgogiad newydd hwn, yn rhywbeth y bydd Gweinidogion yn dymuno ei ystyried bryd hynny.

Gofynnodd yr Aelod gwestiynau am y berthynas rhwng yr WRA a Chyfoeth Naturiol Cymru. Penderfynwyd gofyn i Gyfoeth Naturiol Cymru ymgymryd â'r agwedd orfodi ar y dreth hon oherwydd ei fod eisoes yn ymwneud â’r maes gwastraff—y ffaith bod ganddo wybodaeth am sut y mae’n gweithredu ar lawr gwlad a’r ffordd orau o ddefnyddio hynny.

Rydym eisoes yn darparu rhywfaint o arian ychwanegol i Gyfoeth Naturiol Cymru i ganiatáu iddo baratoi am y dyletswyddau newydd hyn. Cawn weld a fydd angen parhau i wneud hynny yn y dyfodol yn y ffordd honno. Rwy’n bendant yn agored i drafodaethau wrth i'r Bil ddatblygu ynglŷn â rhai trefniadau rhannu cyllid. Os yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn gallu, drwy dargedu safleoedd gwastraff anghyfreithlon, cynyddu llif cyllid i mewn i'r WRA, nid yw'n ymddangos yn afresymol i mi na ddylai gael cadw cyfran o'r cyllid ychwanegol hwnnw i’w hybu i wneud mwy o waith yn y maes hwn. Rwy’n edrych ymlaen at drafod y posibilrwydd hwnnw wrth i'r Bil symud drwy'r broses graffu.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf innau hefyd ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad, a hefyd am y cwrteisi o roi’r datganiad, neu olwg ar y datganiad, inni rai oriau ymlaen llaw—mae hynny'n ddefnyddiol iawn? Hoffwn ddechrau â meysydd lle’r wyf yn meddwl y bydd cytundeb o amgylch y Cynulliad cyfan. Rwy'n credu bod y nod o fod yn ddiwastraff a chael economi gylchol yn un pwysig, yn un uchelgeisiol, ac fel y clywsom gan Adam Price, mae'n un a rennir gan lawer o wledydd eraill erbyn hyn, yn y byd datblygedig—wel, yr hyn a arferai gael ei alw y byd sy’n datblygu; nid wyf yn siŵr a yw hi’n hollol gywir i ddefnyddio’r termau hynny erbyn hyn. Ond mae hyn yn wir yn rhan bwysig, rwy’n credu, o lawer o offerynnau treth erbyn hyn, ond, yn amlwg, yn enwedig un fel y dreth gwarediadau tirlenwi.

Nodaf y bwriad i wneud y ddeddfwriaeth yn symlach ac yn gliriach. Ni allaf farnu a ydyw ai peidio, ac rwy'n credu mai mater i’r broses graffu lawn fydd hynny bellach, ond o leiaf dyna yw eich nod, ac, wedi dweud hynny, bydd pobl nawr yn craffu ar eich gallu i’w gyflawni. Ond nid yw'n bwynt ystrydebol. Rwy’n credu bod yn rhaid drafftio deddfwriaeth, deddfwriaeth treth hyd yn oed, mewn modd mor syml ac mor eglur â phosibl. Nid yw hynny'n ei gwneud yn ddeunydd darllen amser gwely, rwy’n sylweddoli, ond, er hynny, ni ddylai fod yn ddiangen o aneglur.

Rydym yn croesawu'n arbennig cynllun grant cymunedau’r dreth gwarediadau tirlenwi, ac mae’r nod o helpu prosiectau sy’n canolbwyntio ar yr amgylchedd, wrth gwrs, yn briodol. Rwyf hefyd yn credu ei bod yn gwbl briodol bod y cymunedau hynny sydd â seilwaith pwysig i'r economi leol, ranbarthol a chenedlaethol yn elwa’n uniongyrchol ar ryw ad-daliad o hynny, ac mae hynny’n rhywbeth yr ydym yn ei gefnogi’n gynnes.

A gaf i droi at fy mhwyntiau sydd ychydig yn fwy amheus, ond, rwy’n gobeithio, yn dal i gyflawni fy nod o fod yn adeiladol? Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud y bydd gan Lywodraeth Cymru agwedd gadarn at gydymffurfio a gorfodi. A dweud y gwir, fe wnaethoch bwysleisio’r pwyntiau hynny yn eich datganiad llafar, a bydd y pwyslais yn arbennig ar warediadau gwastraff heb awdurdod. Ac rwy'n siŵr y bydd y cyhoedd yn dweud, 'Hwrê', ond byddant hefyd eisiau gwybod sut, ac nid wyf yn siŵr eich bod wedi ateb yn llawn y pwyntiau a roddwyd ichi gan Adam Price.

Nid yw’r hanes o ran tipio anghyfreithlon yn wych. Nawr, rwy’n sylweddoli mai cyfrifoldeb awdurdodau lleol yn bennaf yw hynny. Ond mae’n rhaid imi ddweud, rwy’n credu bod y bwlch y prynhawn yma wedi ymwneud yn bennaf â sut y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn mynd i gydweithredu ag awdurdodau lleol i wella gorfodaeth—un peth yw’r awdurdod refeniw treth, ond bydd yn rhaid i awdurdodau lleol fod yno o hyd yn rhan o’r gweithredoedd casglu gwybodaeth a chydymffurfio. Ac rwy’n meddwl tybed a ydych chi wir eisiau gweld gwella gorfodi, nid dim ond er budd uniongyrchol i’r Trysorlys, fel petai, ond hefyd i wella ansawdd bywyd i lawer o bobl mewn ardaloedd sy'n cael eu difetha ar hyn o bryd gan dipio anghyfreithlon anghyfrifol. Felly, rwy’n meddwl efallai fod angen ichi ystyried hynny, oherwydd mae gorfodi, yn amlwg, yn dipyn o her weithiau—go brin bod tipio anghyfreithlon yn digwydd yn agored ac yng ngolau dydd, ac mae'n un peth dweud y byddant nawr yn gorfod talu’r dreth, oherwydd, wrth gwrs, mae’n rhaid eu dal yn gyntaf.

Diolch yn fawr iawn i David Melding am y cwestiynau yna. Mae e'n iawn i nodi bod hon yn dreth anarferol, gan fod ganddi, wrth ei gwraidd, uchelgais i’w rhoi ei hun allan o fusnes, ac mae'n llwyddo i wneud hynny. Rwy’n credu bod modd gwirioneddol i wneud y gyfraith yn symlach a chliriach. Roedd y dreth dirlenwi wreiddiol yn deillio o’r 1990au cynnar. Mae wedi tyfu i fyny ers hynny, drwy gymysgedd o ddeddfwriaeth sylfaenol ac eilaidd, arweiniad, Atodlenni—mae'n un o'r trethi hynny sydd wedi tyfu mewn nifer o wahanol leoedd, ac rydym yn gallu dod â hi at ei gilydd mewn un Bil newydd i Gymru.

Rwy’n diolch iddo am yr hyn a ddywedodd am y cynllun cymunedau. Mae'n rhan bwysig iawn o'r dirwedd hon. Rydym yn mynd i ymdrin ag ef yn wahanol. Rydym wir yn credu y gallwn wneud hyn mewn ffordd symlach a mwy effeithiol, ac y gallwn leihau costau gweinyddol. Ac o ystyried y ffaith bod hon yn dreth sy'n lleihau, ac felly bod yr arian sydd ar gael at ddibenion cymunedol yn gostwng yn ogystal, rydym eisiau gwneud yn siŵr ein bod yn casglu cymaint ag y gallwn o’r dreth hon at y dibenion hynny.

Gadewch imi droi at fater gwarediadau heb awdurdod a chydymffurfio a gorfodi. Mae cydymffurfio a gorfodi yn broblem arbennig o ran y dreth hon. Mae'r bwlch treth yn y dreth dirlenwi—y bwlch rhwng y swm y dylai'r dreth ei godi a'r swm y mae'n ei godi—yn 12 y cant. Ar gyfer treth dir y dreth stamp—y dreth arall y byddwn yn ei hetifeddu—mae'n 1 y cant. Felly, mae problem orfodaeth wirioneddol i’w datrys o ran y dreth hon, ac mae ein penderfyniadau i gynnwys gwarediadau heb awdurdod o fewn cwmpas y Bil yn dilyn y profiad sydd eisoes yn yr Alban ac mewn mannau eraill. Mae’r rhannau o'r Bil sy'n ymdrin â'r mater hwn yn rhannau pwysig o’r Bil. Bydd yn gorwedd ar ddau gynnig gwrthbrofadwy: bod rhywun sy'n rheoli cerbyd modur neu ôl-gerbyd neu mewn sefyllfa i’w reoli, neu berchennog, prydleswr neu ddeiliad tir lle mae gwastraff yn cael ei waredu heb awdurdod, yn cael ei drin fel pe byddai wedi achosi neu ganiatáu gwarediad yn fwriadol. Dyna sut y bydd y Bil yn siapio’r rhan hon o'i fwriadau. Nawr, gellir gwrthbrofi’r gosodiadau hynny, ac mae’r nodiadau esboniadol yn dangos sut y gellir gwneud hynny. Ond rydym yn credu y bydd wir yn newid y telerau masnach yn y maes hwn fel y bydd y cyfrifiad y mae rhywun yn ei wneud yn wahanol yn y dyfodol.

O ran tipio anghyfreithlon, nid oes diffiniad cyfreithiol o dipio anghyfreithlon, ond nid y math o dipio anghyfreithlon ar raddfa fach sy'n achosi cymaint o niwsans mewn ardaloedd trefol, er enghraifft, yw pwyslais y Bil hwn yn bennaf. Rydym yn canolbwyntio ar y 60 o safleoedd anghyfreithlon hynny sy'n bodoli yng Nghymru lle mae'n ymddygiad bwriadol wedi’i drefnu, yn hytrach nag ymdrechion ar raddfa fach i geisio osgoi symiau bach o drethi. Mae fy nghydweithiwr, Lesley Griffiths, yn ymdrin â'r agweddau eraill lle mae'r Llywodraeth wedi cymryd gwahanol fathau o fesurau i gryfhau dwylo'r awdurdodau lleol, yn y ffordd yr awgrymodd Mr Melding, i ymdrin â'r agwedd honno ar weithgarwch gwastraff anghyfreithlon.

Yn gyntaf, a gaf i groesawu'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet? Mae'r dreth gwarediadau tirlenwi ynddi ei hun yn dreth anarferol iawn, onid yw? Y prif reswm dros y rhan fwyaf o drethi yw codi arian ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus. Nod y dreth hon yw effeithio ar ymddygiad. A dweud y gwir, pan gafodd y dreth wreiddiol ei chyflwyno, roeddwn yn amheus. Roedd yn ymgais i effeithio ar ymddygiad drwy ddirprwy. Roedd yn codi tâl ar gynghorau am y gwaredu, ond gweithredoedd trigolion a oedd yn effeithio ar faint o wastraff oedd yn mynd i safleoedd tirlenwi. Mae hi, fodd bynnag, wedi gweithio'n eithriadol o dda ac wedi effeithio ar ymddygiad. Bydd y Bil presennol yn llwyddiannus os na fydd unrhyw dreth yn daladwy. Nid wyf yn credu ein bod erioed wedi dweud hynny am dreth o'r blaen; rwy'n siŵr na fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud hynny am y dreth trafodiadau tir—'Bydd yn llwyddiannus os na fydd unrhyw dreth yn cael ei thalu.' Felly, rwy’n meddwl mai mater o newid ymddygiad ydyw mewn gwirionedd.

A gaf i ddweud bod ystod o drethi i'w talu ar bethau sy'n cael eu dympio, heblaw am dreth tirlenwi awdurdodedig, yn gam pwysig i’r cyfeiriad cywir? Rwy’n gwybod ei bod yn anodd ymdrin â thipio anghyfreithlon. Mae pobl yn tueddu i dipio’n anghyfreithlon yn y mannau anoddaf i’w dal. Nid ydynt yn ei wneud mewn ffordd a fyddai'n ei gwneud yn hawdd iddynt gael eu dal. Rwy’n gwybod bod awdurdodau lleol yn gweithio'n galed iawn i ymdrin â thipio anghyfreithlon, ac mae'n anodd, ond nid ydym yn sôn yma am dipio anghyfreithlon, rydym yn sôn am bobl sy'n cynnal safleoedd anghyfreithlon. Maent wedi gwneud hyn yn llwyddiannus iawn, yn ariannol, am nifer o flynyddoedd mewn rhai achosion. Maent yn cael dirwyon, ond nid ydynt yn gorfod talu’r swm y byddent pe byddent yn talu treth arno hefyd. Rwy’n credu y bydd hynny’n darbwyllo pobl yn llwyr oherwydd y byddant yn talu'r dreth ac yn cael dirwy, ac yna ni fydd budd iddynt mewn gwneud hynny. Felly, rwy’n credu y bydd hynny, unwaith eto, yn newid ymddygiad. Os, am bob dull o osgoi talu treth, y caiff hynny ei gau i lawr, byddaf i, beth bynnag, yn teimlo'n hapus.

Mae gennyf ddau gwestiwn. Un yw y bydd amrywio'r gyfradd dreth yn wahanol i'r hyn a godir ar yr ochr arall i’r ffin ar hyn o bryd yn cael un o ddwy effaith: bydd naill ai'n ein gwneud yn fewnforiwr net neu’n allforiwr net o wastraff tirlenwi. Felly, mae pwysau i’w gadw tua'r un faint ag y mae yn Lloegr. Mae cynifer o safleoedd tirlenwi mor agos at y ffin. Mae cymaint yn symud yn weddol agos at y ffin. Ond mae’r perygl hwnnw’n bodoli. Felly, mae pwysau i gadw pethau fwy neu lai yr un fath.

Mae’r ail un—a phle yw hwn, fel yr Aelod Cynulliad lleol—am y cynllun grantiau cymunedol. Mae'n bwysig iawn ac yn ddefnyddiol iawn, ond pan fo’n cael ei roi i bobl bum milltir i ffwrdd nad ydynt yn teimlo ei effaith o gwbl, a phan nad yw pobl sy'n byw ar garreg ei ddrws yn cael unrhyw beth, mae'n achosi rhywfaint o ofid. Felly, a ellir rhoi blaenoriaeth i'r bobl sydd agosaf at y safle tirlenwi? Mae gennym safle tirlenwi yn St Thomas yn Abertawe, ac eto lleoedd yn y maestrefi deiliog—nid fi sy’n cynrychioli’r rheini, rwy’n prysuro i ychwanegu—sy’n elwa arno, ac rwy’n credu bod hynny’n rhywbeth sy’n achosi pryder gwirioneddol. Felly, a fyddai'n bosibl rhoi blaenoriaeth i bobl leol, h.y. y rhai y mae’r lorïau’n effeithio arnynt a’r rhai y mae unrhyw lwch neu bryfed yn effeithio arnynt?

Diolch i Mike Hedges am y ddau gwestiwn yna. Wrth gwrs, rwy’n cydnabod y pwynt y mae’n ei wneud am y ffin a sensitifrwydd tuag at gyfraddau gwahanol ar y ddwy ochr iddi. Ni fyddaf yn datgan y manylion ynglŷn â chyfraddau treth yn y Bil hwn tan hydref y flwyddyn nesaf. Rwy’n sylwi eu bod, yn yr Alban, lle mae fy nghydweithiwr yno wedi gorfod gwneud hyn eisoes, wedi penderfynu pennu cyfraddau sy’n union yr un fath â'r rhai dros y ffin ac, yn ddiau, roedd hynny’n adlewyrchu’r dadleuon y mae’r Aelod newydd eu gwneud. Bydd ef wedi sylwi, rwy’n gwybod, cyn belled ag y mae gwastraff anghyfreithlon dan sylw, bod y Bil yn darparu pŵer i bennu cyfradd dreth ar wahân ar warediadau gwastraff anghyfreithlon, a byddaf yn meddwl yn galed am beth fydd y gyfradd honno a sut y gallai fod angen iddi adlewyrchu costau mynd ar ôl y bobl hynny a fydd, yn y pen draw, yn gorfod ei thalu.

O ran y cynllun grant cymunedol, mae’r mater hwn ynglŷn â’r milltiroedd o amgylch y safle a phwy ddylai elwa arno wedi bod yn un o'r dadleuon mwyaf bywiog yn yr ymgynghoriad yr ydym wedi’i gynnal gyda rhanddeiliaid am ein syniad yma. Dywedais yn fy natganiad y byddaf yn cyhoeddi papur ar y gronfa cymunedau cyn imi ymddangos gerbron y Pwyllgor Cyllid ar 15 Rhagfyr, a byddaf yn sicr yn myfyrio ar y mater hwnnw yn y papur hwnnw.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad. Nodaf ei fod yn dweud y bydd y dreth newydd yn gyson yn fras â'r dreth dirlenwi bresennol, a fydd yn darparu sefydlogrwydd a sicrwydd i fusnesau ac yn lleihau'r risg o dwristiaeth gwastraff. Nid oeddwn yn gyfarwydd â'r cysyniad terfynol hwnnw cyn heddiw, ond rwy’n croesawu'r agwedd gyffredinol. Mae'n agwedd debyg i'r un y mae wedi'i dangos yn y Bil treth trafodiadau tir, un yr wyf wedi mwynhau ymdrin ag ef yn y Pwyllgor Cyllid. Rwy’n credu bod David Melding wedi dweud na fyddai'r Bil yn ddeunydd darllen amser gwely—efallai y gallem estyn gwahoddiad i ymuno â'r Pwyllgor Cyllid lle, o ystyried maint papurau’r pwyllgor yn ddiweddar, mae hynny wedi ymwthio’n eithaf dwfn i mewn i nosweithiau’r aelodau. [Torri ar draws.] Wel, y math o agwedd sydd gan fy mhlaid i at ddatganoli trethi yw: roedd y dreth y mae'n gwneud datganiad amdani heddiw a’r dreth trafodiadau tir yn y cytundeb Dydd Gŵyl Dewi a gwnaethom dderbyn hynny gan obeithio mai dyna fyddai’r setliad datganoli. Rydym efallai’n llai gobeithiol y bydd yn unrhyw fath o setliad nawr, ond rydym yn cefnogi'r dreth hon, yn ogystal â'r dreth trafodiadau tir. Mae ein pryder yn ymwneud â datganoli treth incwm heb y refferendwm a addawyd, neu'r canfyddiad mewn rhai mannau na fydd yr ail dreth hon ond un o gyfres bellach a fydd fel bysiau’n dilyn ei gilydd yn gyflym, rhywbeth y byddai gennym bryderon amdano.

Mae'r trefniant y bydd ganddo yn y dreth hon, ac nad yw yn fersiwn bresennol y DU, neu o leiaf y fersiwn Cymru a Lloegr, o'r dreth, yn ymwneud â gwaredu gwastraff yn anghyfreithlon neu o leiaf heb gofrestriad—. A all ef ddweud ai’r bwriad yn y fan yna yw gwneud gorfodi yn fwy effeithiol drwy, o bosibl, ostwng y safon o brawf—rwy’n tybio yn ôl yr hyn sy'n debygol ar gyfer asesu a oes angen y dreth—ac a all hynny helpu o’i gymharu â'r cosbau troseddol presennol?

Tybed a gaf i hefyd ofyn iddo—. Rwy’n deall nad yw’n dymuno sôn am ba gyfradd y mae'n bwriadu ei gosod ar gyfer hynny tan o leiaf yr hydref nesaf, ond tybed a allai ddweud ychydig mwy am y pwyslais cyffredinol y mae am ei roi i’r dreth hon yn y gyfres o fesurau sydd ar gael. Mae gennym y targedau canrannol ar gyfer ailgylchu, ac mae'r rhain wedi bod yn fesurau eithaf plaen. Rwy’n meddwl am achos Casnewydd, sef fy rhanbarth i, lle mae'r gyfradd ailgylchu gyffredinol yn isel, ond o leiaf mae bron yr holl ddeunydd ailgylchu hwnnw’n cael ei ailgylchu mewn gwirionedd, ond mae cyfran o gyfraddau ailgylchu uwch rhai awdurdodau eraill nad ydynt yn cael ei hailgylchu mewn gwirionedd. Nid yw'n ymddangos bod y mesur hwnnw’n rhoi sylw i hynny, ond efallai y bydd y dreth hon yn ei ystyried. A yw'n bwriadu ei defnyddio yn yr ystyr hwnnw?

Yn ail, i droi’n ôl at yr ymadrodd hyll 'twristiaeth gwastraff', beth mae'n ei olygu mewn gwirionedd wrth hynny? Yn amlwg, mae safleoedd ar gael yng Nghymru, a safleoedd tirlenwi ar gael yn Lloegr, ac mae amrywiol gynyrchiadau o wahanol ganolfannau, neu sbwriel y mae angen ei waredu o bosibl yn y ffordd honno. A yw'n dweud nad yw eisiau gweld unrhyw wastraff yn dod i mewn o Loegr i Gymru, neu nad yw eisiau gweld mwy o wastraff yn mynd o Loegr i Gymru nag ar hyn o bryd? A yw’n ystyried efallai gosod cyfradd uwch er mwyn anghymell yr hyn y gallai ei alw’n dwristiaeth gwastraff, neu a yw'n gweld unrhyw fudd ariannol iddo ef fel Ysgrifennydd y Cabinet i godi’r arian hwn? Pe byddai’n gosod cyfradd is, a yw'n credu y byddai hynny'n arwain at gynnydd i’r refeniw a fyddai’n dod i mewn, oherwydd yr hyn y elwir yn dwristiaeth gwastraff?

Diolch i'r Aelod am y cwestiynau yna. I ateb yr un olaf yn gyntaf, mae 'twristiaeth gwastraff' yn ymadrodd di-raen. Mae'n cael ei ddefnyddio i sôn am yr amgylchiadau y cyfeiriodd Mike Hedges atyn nhw. Mae'r ymchwil yn dangos bod pobl sy’n mynd â gwastraff i safleoedd tirlenwi yn gymharol sensitif i newidiadau cymharol fach yn y gyfradd dreth i'w thalu. Yr hyn yr wyf yn awyddus i’w osgoi yw mynd â gwastraff ar deithiau hir i fannau pellach nag y byddai wedi digwydd fel arall drwy greu anghymhellion yn y system dreth, neu gymhellion yn y system dreth. Felly, fy nod fydd peidio â chyflwyno ffactor newydd i mewn i'r cyfrifiadau y mae pobl yn eu gwneud ar hyn o bryd o ran ble y maen nhw’n cael gwared ar wastraff tirlenwi. Ni fyddwn eisiau gweld ein system dreth yn creu cyfres gwbl wahanol o anawsterau amgylcheddol, a byddwn yn effro iawn i hynny.

Gofynnodd yr Aelod beth yw’r sbardunwyr polisi allweddol y tu ôl i'r Bil yn y pen draw. Er bod hon yn dreth sy'n lleihau cyn belled ag y mae’r Bil dan sylw, y bwriad oedd codi £40 miliwn mewn blwyddyn, ac, fel y Gweinidog cyllid, nid oes gennyf £40 miliwn i lenwi'r twll a gâi ei adael pe na byddem yn cymryd camau i godi'r arian hwnnw yma yng Nghymru. Felly, mae pwrpas pwysig y tu ôl i'r Bil i sicrhau cyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, ond ar yr un pryd mae’n bwysig iawn ei fod yn cyd-fynd â’n polisi amgylcheddol, a’r polisi hwnnw yw, cyn gynted ag y gallwn wneud hynny, lleihau ac yna dileu'r defnydd o safleoedd tirlenwi ar gyfer gwaredu gwastraff.

Yn olaf, y cwestiwn a ofynnodd yr Aelod am warediadau heb awdurdod, a’r cydbwysedd prawf a ddefnyddir yn y maes hwn. Bydd gan yr WRA eisoes bwerau ymchwilio sifil yn rhan o unrhyw ymchwiliad treth, ond nodais yn fy natganiad fy mwriad i ymgynghori yn y gwanwyn ar y pwerau ymchwilio troseddol y mae Deddf Casglu a Rheoli'r Dreth (Cymru) 2016 yn galluogi Gweinidogion Cymru i’w rhoi i Awdurdod Cyllid Cymru. Gwneir hyn drwy is-ddeddfwriaeth. Rwy'n credu bod angen inni fabwysiadu ymagwedd gymesur yn hynny o beth, ond fy mwriad fydd dod â chynigion gerbron y Cynulliad Cenedlaethol i graffu arnynt.

A gaf i atgoffa'r siaradwyr nesaf yn awr ein bod wedi cael y prif siaradwyr yn eich pleidiau, ac felly mai datganiad yw hwn ac nid cyfle am araith? Simon Thomas.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf i ddechrau drwy roi bloedd o ddiolchgarwch i John Selwyn Gummer, a wnaeth gyflwyno’r dreth dirlenwi yn y lle cyntaf 20 mlynedd yn ôl, a chydnabod bod hwn hefyd yn deillio o gyfarwyddeb tirlenwi’r Gymuned neu’r Undeb Ewropeaidd? Mae yna les pendant sydd wedi digwydd i amgylchedd Cymru yn sgil hynny. Dyma’r dreth amgylchedd gyntaf erioed a gawsom ni ym Mhrydain, hefyd.

Mae gen i gwpwl o gwestiynau penodol i’r Gweinidog. Yn gyntaf oll, a fedr e jest gadarnhau—rwy’n credu bod hyn ymhlyg yn yr hyn mae wedi’i ddweud—nad yw’n defnyddio’r Bil yma i newid y polisi amgylcheddol, ac mai trosi’r system drethiannol y mae ef ond nid oes bwriad i newid bwriad y polisi amgylcheddol? Rwy’n credu ei fod ymhlyg, ond mae eisiau clywed hynny ar y cofnod, fel petai.

Mae’r ail gwestiwn ynglŷn â’r cynllun grant ar gyfer cymunedau. Mae yna lot o ddiddordeb gan gymunedau lleol yn y cynllun grant yma, wrth gwrs. A fedr y Gweinidog esbonio pam nad yw wedi rhoi'r cynllun grant yn y Bil? Pam mae e’n defnyddio, yn hytrach, Ddeddf Llywodraeth Cymru? Achos, i fi, mae hynny’n awgrymu bod y Llywodraeth yn gallu tynnu i ffwrdd y cynllun grant rywbryd yn y dyfodol pe bydden nhw’n dymuno gwneud hynny, tra byddai ei roi e yn y Bil yn sicrhau statws tymor hir cyfreithiol a statudol i’r cynllun grant hwnnw.

Y cwestiwn ynglŷn â gwarediadau heb eu hawdurdodi: jest i fod yn glir, nid yw’n fwriad i ddisodli’r angen am gosbi a dirwyo’r cwmnïau sy’n gwneud hyn; ffordd arall o fynd i’r afael â’r broblem sy’n cael ei awgrymu. Gan fod y dreth dirlenwi ar hyn o bryd yn cael ei gosod ar safle’r ‘operator’ yn bennaf, sut felly y mae’n mynd i weithio drwy osod y dreth wedyn ar y person sydd yn symud y gwastraff? Achos mae hynny’n ddau beth gwahanol. Mae gennych chi ddwy ffordd wahanol o godi treth nawr, yn hytrach na rhywbeth syml oedd gyda ni o’r blaen. Yn sgil hynny, a fydd yn sicrhau felly, gan ei fod yn Weinidog cyllid yn ogystal, fod gan Cyfoeth Naturiol Cymru ddigon o adnoddau i fynd i’r afael â’r broblem gwarediadau heb eu hawdurdodi? Achos byddai nifer ohonom ni yn ofni nad yw Cyfoeth Naturiol Cymru cweit wedi dod i’r afael â’i ddyletswyddau presennol, heb sôn am allu ymdopi â dyletswyddau ychwanegol.

Diolch yn fawr i Simon Thomas am y cwestiwn. Rwy’n gallu cadarnhau, i ddechrau, nad oes bwriad i newid y polisi yn y maes yma. Os allwn ni loywi’r polisi i wneud mwy, byddai hynny’n rhywbeth da, ond nid oes newid yn y bwriad. Ar y cynllun yn y gymuned, rŷm ni’n mynd i newid y ffordd rŷm ni’n ei wneud e achos mae’n symlach. Nid oes rhaid inni ddefnyddio’r pwerau yn y Bil newydd achos mae’r pwerau gyda ni yn barod yn Neddf 2006. Rydym yn meddwl, o ran yr arian sydd gyda ni ar gyfer y cynllun, ei bod yn symlach i’w wneud yn y ffordd rydym yn awgrymu, a bydd hon yn ffordd o roi mwy o arian yn nwylo’r bobl sy’n rhedeg y projectau yma yn y gymuned. Atebais i’r cwestiwn gan Adam Price am adnoddau i Gyfoeth Naturiol Cymru. Mae adnoddau gyda nhw’n barod i baratoi am y pwerau a’r cyfrifoldebau newydd maen nhw’n mynd i’w cael ac rwy’n fodlon cadw hynny dan olwg.

On the question of the illegal waste disposals and who will be responsible for paying the tax, the Bill is carefully constructed to make sure that we are able to hold responsible the person who is genuinely responsible for the illegal activity. I’m well aware that there are many landowners who are victims in this area. They have not willingly and knowingly allowed waste to be illegally disposed of on their land. Therefore, we need to distinguish between different players who can be properly held responsible and that’s why that aspect of this Bill is different to the legal and authorised land disposal arrangements where the indirect tax, as you know, is placed on the operator who collects the money from those who use the facilities, which is why we need to do it differently in relation to illegal waste.

Diolch, Weinidog; rwy’n croesawu eich datganiad, ond, mae’n rhaid imi ddweud, gallai sôn am dreth newydd i Gymru ar warediadau gwastraff i safleoedd tirlenwi yn sicr achosi gofid i rai pobl yn fy etholaeth i, o ystyried y gydberthynas uniongyrchol rhwng eu casgliadau biniau wythnosol neu, fel y maent bellach mewn rhai ardaloedd, misol a lefelau'r dreth gyngor yng Nghymru o dan Lywodraeth Lafur Cymru. Wrth gwrs, byddwch yn ymwybodol, yng Nghonwy, y ceir y cynllun arbrofol cyntaf o gasgliadau bin bob pedair wythnos ar draws nifer fawr o eiddo. Mae hyn yn cael effaith wirioneddol wael ar ein trigolion ac mae llawer yn teimlo erbyn hyn na allant ymdopi. Yr wythnos diwethaf, bu ‘Week in, Week Out: Keeping a Lid On It’ yn tynnu sylw at y problemau niferus sy'n gysylltiedig â hyn. Eto i gyd, pan gafodd biniau rhai cartrefi eu harchwilio cyn eu casglu, roedd canran fawr o'u sbwriel, mewn gwirionedd, yn sbwriel y gellid ei ailgylchu. Nawr, er gwaethaf, fel y crybwyllwyd, y targedau ailgylchu uchel a osodwyd gan Lywodraeth Cymru, ac er gwaethaf y ffaith fod yr awdurdodau lleol yn darparu cyfleusterau a chynwysyddion ailgylchu drud, mae’r camgymhariad enfawr hwn yn dal i fodoli rhwng gwastraff domestig ac eitemau eraill sydd, yn y pen draw, yn mynd i safleoedd tirlenwi.

Gofynnais i chi ddod at gwestiwn, os gwelwch yn dda. Rwy’n gofyn ichi ddod at gwestiwn, os gwelwch yn dda.

Yn gyntaf, hoffwn holi am orfodi. Rydym yn gwybod bod Cymru yn enwog am gyfraddau isel o ran erlyn am dipio anghyfreithlon. Dim ond 0.3 y cant oedd y gyfradd erlyniadau llwyddiannus ar draws y wlad. Soniodd Ysgrifennydd y Cabinet am ardaloedd trefol o ran tipio anghyfreithlon, ond gallaf ddweud wrthych, yn Aberconwy, bod llawer o safleoedd twristiaeth gwledig hardd y mae hyn yn cael effaith wael iawn, iawn arnynt. Felly, fy nghwestiwn yw: a allwch chi egluro sut y caiff y dreth hon, yn enwedig o ran Rhan 4, safleoedd heb awdurdod, ei gorfodi mewn gwirionedd? Sut y byddwch chi’n defnyddio'r Bil hwn i’w gwneud yn anodd iawn, os mynnwch chi, i bobl allu difetha ein cefn gwlad? Oherwydd, os oes gennych chi Fil yn dod drwodd, mae'n rhaid ichi allu defnyddio’r ysgogiad hwn a’r offer o fewn hynny i gyflawni rhywfaint o welliant gwirioneddol.

Yn ail, rydych yn nodi y bydd rhywfaint o'r cyllid a godir yn mynd tuag at brosiectau amgylcheddol a chymunedol mewn ardaloedd y mae gwaredu gwastraff a thirlenwi yn effeithio arnynt, ac mae'n rhaid imi ddweud fy mod wir yn croesawu'r rhan hon o hyn, oherwydd byddwch yn gwybod am rwydwaith amgylcheddol ailgylchu Cymru, ac mae'n rhaid imi ddweud bod y cynllun hwnnw wedi bod yn wych. Mae fy etholaeth fy hun wedi elwa ar hynny, ac felly, a dweud y gwir, mae hyn yn rhoi yn ôl i'r gymuned a bydd mewn gwirionedd, gobeithio, yn effeithio ar y bobl hynny sy'n penderfynu torri'r gyfraith a bydd yn helpu cymunedau, ar y cyfan. Diolch.

Diolch i'r Aelod am yr hyn a ddywedodd ar ddiwedd ei chyfraniad ynglŷn â phrosiectau cymunedol, a gwaith WRAP. Rwy'n edrych ymlaen at gael rhannu â holl Aelodau'r Cynulliad Cenedlaethol y papur y byddaf yn ei lunio ar y gronfa gymunedol, ac rwy’n llwyr sylweddoli y bydd bron bob un o’r Aelodau yma wedi cael rhywfaint o brofiad o hynny yn eu hetholaethau eu hunain ac rwy'n awyddus iawn i ddysgu o'r profiad hwnnw i wneud yn siŵr ein bod yn llunio’r cynllun hwnnw yn y ffordd fwyaf effeithiol posibl.

O ran y pwyntiau a wnaeth yr Aelod am orfodi, gwnes fy ngorau yn gynharach i wahaniaethu rhwng y mathau o weithgareddau a ddisgrifiodd; rwy’n gwybod yn iawn o fy mhrofiad fy hun eu bod yn achosi niwsans a gofid mawr i bobl y maent yn effeithio arnynt, a’r gweithgarwch anghyfreithlon ar raddfa fawr a drefnwyd y mae’r Bil hwn wedi'i lunio i ymdrin ag ef. Bydd gorgyffwrdd rhwng y gweithgareddau y mae fy nghyd-Aelod, Lesley Griffiths, yn gyfrifol amdanynt drwy awdurdodau lleol a’r Bil hwn, ond nid dyna yw prif bwyslais y Bil sydd gerbron y Cynulliad Cenedlaethol y prynhawn yma.

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad? Roeddwn yn falch iawn o fynd gyda chi ddoe, Ysgrifennydd y Cabinet, i safle oer iawn ym Merthyr Tudful, safle Trecatti. Mae’r microhinsawdd yno, mewn gwirionedd, y gwnaethoch ei brofi yn cael ei alw ‘un got fawr yn oerach’. Roeddwn yn arbennig o falch o fod yno gyda chi ar y diwrnod hwnnw pan ddaethoch â'r Bil hwn i’r Cynulliad Cenedlaethol, wrth inni gymryd y cam hwn yn un o elfennau allweddol strategaeth Llywodraeth Cymru sydd i'w chroesawu'n fawr tuag at y nod o gyflawni Cymru ddiwastraff. Ond, fel yr ydym eisoes wedi’i glywed, nod y dreth hon mewn gwirionedd yw ei lleihau ei hun wrth inni symud ymlaen, ac mae fy nghwestiwn yn ymwneud â chyllid y cynllun grantiau cymunedol, oherwydd, wrth i’r cyllid hwnnw leihau, bydd yr arian sydd ar gael i'r cynllun grantiau yn lleihau hefyd, ac fe wnes i siarad â chi ddoe am y prosiectau ardderchog sydd wedi elwa ar yr arian Biffa yn fy etholaeth i. Felly, a gaf i ofyn ichi, Ysgrifennydd y Cabinet, i gadarnhau, pan fyddwch yn adolygu'r cynllun grantiau cymunedol, y byddwch yn ystyried ffynonellau cyllid eraill ar gyfer cynlluniau o’r fath wrth i’r dreth gwarediadau tirlenwi leihau?

Hoffwn ddiolch i Dawn Bowden, am ei chwestiwn ac am ei chwmni ddoe ar fryniau eiraog Merthyr. Wrth inni sefyll yno, ein hunig gysur oedd bod aelodau o'r cyfryngau wedi eu hanfon yno 25 munud o’n blaenau a’u bod wedi bod yn mwynhau'r olygfa am gyfnod llawer hwy nag yr oedd angen i ni ei wneud.

Mae hi’n gwneud ei phwyntiau’n dda am y gronfa gymunedol, ac roedd yn braf iawn cael clywed yn uniongyrchol ganddi hi a gan bobl sy'n cynnal y safle hwnnw am y ffordd yr oeddent wedi llwyddo i wneud cyfraniad at weithgareddau amgylcheddol lleol pwysig iawn. Fy nod, fel yr wyf wedi’i ddweud, yw llunio cynllun sydd wedi’i weinyddu yn y ffordd fwyaf effeithiol a diwastraff er mwyn parhau i fuddsoddi yn yr agwedd gymunedol ar y gronfa cyhyd ag y gallwn, tra bo’r cyllid yn caniatáu hynny.

A gaf i groesawu datganiad Ysgrifennydd y Cabinet heddiw? Efallai nad yw’r dreth dirlenwi yn destun sgwrs mewn tafarndai a chlybiau ledled Cymru, ond mae'n dreth bwysig, a gall fod yn arf pwysig i Lywodraeth Cymru i roi polisi amgylcheddol ar waith yng Nghymru.

Byddaf yn cyfrannu at waith craffu’r Pwyllgor Cyllid ar y dreth tirlenwi, felly rwyf am gadw fy sylwadau a fy nghwestiynau yn fyr heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet, bydd y Dirprwy Lywydd yn falch o wybod. Mae gennyf dri chwestiwn. Yn gyntaf, rydych chi a'ch rhagflaenydd, sydd yn y Siambr heddiw, wedi datgan ac ailddatgan dro ar ôl tro eich bod yn credu y dylai trethi Cymru fod yn gyson â’r rhai cyfatebol presennol yn Lloegr i gynorthwyo cyfnod pontio llyfn. Ni ddylai fod gwahaniaeth, oni bai ei fod yn gwbl angenrheidiol, er mwyn osgoi dryswch diangen. Ond fe wnaethoch awgrymu yn eich datganiad heddiw y byddwch yn gwyro oddi wrth drefniadau trethu presennol y dreth dirlenwi lle mae anghysondebau—rwy'n meddwl mai dyna y gwnaethoch eu galw—yn bodoli. Tybed a allech chi ymhelaethu ar yr anghysondebau hyn a beth fydd angen ei wneud i ymdrin â nhw.

Yn ail, soniasoch am y mater pwysig o osgoi talu treth. Bydd hon yn dreth newydd, i bob pwrpas, pan gaiff y dreth bresennol ei diffodd, fel y dywedwn. Pa mor hyderus ydych chi y bydd mesurau yn erbyn osgoi talu treth yn y dyfodol, pan fydd y dreth newydd ar waith, mor effeithlon a thrylwyr ag y maent wedi bod hyd yn hyn? Rwy’n meddwl, o’ch sylwadau cynharach, eich bod yn nodi, mewn gwirionedd, nad yw'r system bresennol wedi bod cystal ag y bu gyda rhai trethi eraill, felly rwy’n deall eich bod yn gweld hyn fel cyfle i wneud y system yn well.

Ac yn drydydd ac yn olaf, ac yn fwy cyffredinol, rydym ni fel Cynulliad, fel Llywodraeth Cymru, yn llunio hon, ail dreth Cymru, tra bod Awdurdod Cyllid Cymru yn dal i gael ei greu. Mae'n dal i fod ar ffurf embryonig; gwyddom y bydd y cadeirydd yn cael ei ddewis yn y dyfodol agos. Felly, mae llwyddiant y dreth hon ac, yn wir, disodli’r dreth stamp, yn gysylltiedig â llwyddiant yr awdurdod newydd. Sut yr ydych chi’n cynnwys y trethi newydd hyn, wrth iddynt gael eu datblygu, yn DNA Awdurdod Cyllid Cymru i wneud yn siŵr bod y trethi newydd ac, yn wir, yr Awdurdod Cyllid Cymru newydd, yn dechrau arni ar unwaith pan gaiff yr hen drethi eu diffodd, oherwydd bydd honno’n broses sydyn iawn? Hoffem iddo fod mor llyfn â phosibl, ond, un ffordd neu'r llall, yn 2018—rwy’n tybio am hanner nos; nid wyf yn siŵr faint o’r gloch yn union y bydd yn digwydd—caiff yr hen drethi hynny eu diffodd, ac mae arnom angen i'r trethi newydd fod mor ddibynadwy ac effeithlon ag y bo modd. Diolch.

Diolch i Nick Ramsay am y tri chwestiwn yna. Mae'n hollol iawn i dynnu sylw at bwysigrwydd Awdurdod Cyllid Cymru, a'n hangen i gynyddu ei allu’n gyflym nawr dros y misoedd nesaf. Gwn ei fod wedi dangos diddordeb brwd yn ein cynlluniau i hysbysebu am gadeirydd a bwrdd yr awdurdod cyllid, ac i wneud yn siŵr bod y sgiliau angenrheidiol ar gael iddo. Rwy'n teimlo ein bod wedi gwneud cychwyn cadarn o ran sicrhau bod gan yr awdurdod y pwerau sydd eu hangen arno i wneud rhai penodiadau cynnar ar yr ochr weithredol i ddarparu’r profiad sydd ei angen, ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda'r pwyllgor, y Pwyllgor Cyllid, a fydd yn gwneud gwaith penodol mewn cysylltiad ag Awdurdod Cyllid Cymru—yr adran anweinidogol gyntaf y byddwn wedi ei chreu fel Llywodraeth Cymru—a bydd dyfodol yr awdurdod a’i addasrwydd ar gyfer y dasg sydd ganddo ar y gweill yn rhan o hynny.

A gaf i droi at y cwestiwn a ofynnodd yr Aelod ynglŷn â’r ffyrdd yr ydym wedi achub ar gyfle’r Bil hwn, gan barhau i fod mor agos ag y gallwn i'r trefniadau presennol am resymau dilyniant, i ddal i geisio gwella pethau? Felly, dyma un enghraifft yn unig ar gyfer y prynhawn yma. Mae'r dreth fel y mae’ hi ar hyn o bryd wedi bod yn agored i ymgyfreitha dros yr hyn a elwir yn brawf 'bwriad i daflu'. Felly, mae'r Bil yn troi ar ba un a yw rhywun sy’n mynd â gwastraff i safle tirlenwi yn mynd ag ef yno gyda'r bwriad o'i daflu ai peidio. Os mai dyna'r bwriad, rydych yn cael eich trethu, ond mae llawer o bobl sy’n mynd â gwastraff i safleoedd tirlenwi wedi dadlau, oherwydd bod gan y gwastraff hwnnw ddefnydd eilaidd—er enghraifft, gallai fod yn cynhyrchu methan, fel yn yr enghraifft a welodd Dawn Bowden a minnau ddoe, a bod y methan hwnnw’n cael ei ddefnyddio i gynhyrchu trydan—felly, nid yw’r defnydd yn cael ei daflu, gan fod ganddo ddefnydd eilaidd. Mae llawer iawn o ymgyfreitha wedi bod gerbron y llysoedd ynglŷn â’r agwedd honno. Rydym wedi achub ar y cyfle yn y Bil hwn i dynhau ac egluro cwmpas y dreth a’i gwneud yn glir mai’r prif ddiben, ac nid unrhyw agweddau eilaidd, a fydd yn benderfynodol cyn belled ag y mae’r bwriad hwnnw i daflu dan sylw. Treth dechnegol yw hon a bydd o ddiddordeb mawr i nifer cymharol fach o bobl, ond rydym wedi gallu manteisio ar grŵp rhanddeiliaid cryf iawn i’n helpu i’w llunio a dim ond un enghraifft yw honno o'r ffordd yr ydym yn bwriadu newid y gyfraith fel y mae ar hyn o bryd yn y Bil hwn i roi mwy o eglurder a phendantrwydd i weithredwyr a hefyd i'r dreth ei hun.

Rwy’n croesawu'n fawr y cynigion i ymdrin ag osgoi talu treth, oherwydd mae’n amlwg bod hynny’n un o'r pethau y bydd pobl yn ei wneud. Mae trigolion o gwmpas safle gwaredu Wedal Road yn sôn am weithredwyr masnachol sy’n rhoi deg punt i drigolion i waredu gwastraff masnachol er mwyn osgoi gorfod gwneud hynny eu hunain. Felly, mae'n debyg mai fy nghwestiwn am hynny yw: a fydd y trigolyn sy'n derbyn y deg punt—nad yw, felly, yn gorfod talu dim—a fydd yn gorfod talu’r dreth hon ar drafodiadau heb awdurdod, oherwydd mae’n amlwg yn gwybod beth mae’n ei wneud wrth dderbyn y gwastraff hwn?

Yn ail, mae gwahaniaeth enfawr rhwng nifer y digwyddiadau yr hysbyswyd amdanynt gan wahanol awdurdodau lleol a faint o arian y maen nhw’n ei wario ar geisio dod o hyd i dipwyr anghyfreithlon a byddai gennyf ddiddordeb mewn cael gwybod ychydig mwy am gymhelliant posibl i awdurdodau lleol i sicrhau eu bod yn ymdrin â thipwyr anghyfreithlon drwy allu gwneud cais am arian ychwanegol i, er enghraifft, addysgu contractwyr adeiladu nid yn unig i gael gwared ar eu gwastraff masnachol yn briodol, ond hefyd i leihau faint o wastraff a gynhyrchir ganddynt yn y diwydiant adeiladu yn y lle cyntaf. Mae pob math o ffyrdd y gellir gwneud hyn, drwy ddefnyddio'r holl ddeunyddiau sy'n cael eu cynhyrchu yn yr adeilad ar y safle, ac mae rhai’n llawer gwell am wneud hynny nag eraill. Hefyd, a fyddai arian ar gael i siarad ag adwerthwyr ynglŷn â sut i leihau pecynnu gormodol; rwy’n gwybod bod hynny’n rhywbeth y mae trigolion yn rheolaidd yn pryderu amdano—. Ond yn gyffredinol, yn amlwg, rwy’n meddwl—

Diolch i Jenny Rathbone am y croeso y mae hi wedi’i roi i'r Bil. Mae’r pwynt am osgoi talu treth a wnaeth ar y dechrau yn un yr ydym wedi cyffwrdd arno nifer o weithiau y prynhawn yma. Mewn rhai ffyrdd, fel y mae'n ei ddweud, mae'n ddealladwy. Mae treth tir y dreth stamp yn eithaf anodd ei hosgoi oherwydd mae’r tŷ yno i bawb ei weld. Mae gwastraff yn llawer, llawer mwy agored i ymddygiad osgoi. Gallwn ddefnyddio amser y Cynulliad y prynhawn yma—ond ni wnaf, oherwydd rwy'n siŵr y bydd yn dod gerbron y Pwyllgor Cyllid—yn sôn am y ffordd y mae faint o ddŵr sydd yn cael ei ychwanegu at wastraff yn cael ei ddefnyddio fel ffordd o osgoi treth y dylid bod wedi ei thalu fel arall a sut yr ydym yn mynd i ddefnyddio’r Bil hwn i geisio rhoi sylw i hynny.

Nid yw’r pwyntiau a wnaethpwyd ynglŷn â phecynnu ac awdurdodau lleol, a bod yn onest, wir yn rhan o'r Bil hwn. O ran y pwynt a wnes yn gynharach wrth ymateb i'r gyfres gyntaf un o gwestiynau am bosibilrwydd o rannu cyllid lle mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cymryd camau gweithredu sy'n arwain at blismona gweithgaredd sydd ar hyn o bryd ddim yn cael ei blismona’n iawn, a lle mae hynny'n arwain at dalu treth, y dylent gael cyfran o hynny, wel, rwy’n meddwl y byddai awdurdodau lleol yn yr un berthynas.

A allai'r Gweinidog egluro sut y mae ailgylchu yn cael ei rannu o safleoedd tirlenwi a sut y mae canran y defnydd i’w ailgylchu’n cael ei gyfrifo? Mae'n berthnasol iawn i'r ffigurau cyffredinol.

Efallai wir, ddirprwy Lywydd, ond nid yw'n berthnasol i'r Bil. Nid oes gan y Bil ddim i'w ddweud am ddim un o'r materion hynny yn uniongyrchol.

Rydych wedi gofyn eich cwestiwn. Mae'n gwestiwn am ddatganiad, felly rwy’n credu bod angen i chi ysgrifennu at y Gweinidog. [Torri ar draws.] Efallai fod angen i chi ysgrifennu i gael eglurhad pellach. Andrew R.T. Davies.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Dau bwynt os caf, i chi, Weinidog. Y cyntaf yw eich bod wedi sôn, yn yr ymateb cynharach, am y ffaith fod y Bil yn rhagweld casglu—bod derbyniadau’r dreth gyfredol tua £40 miliwn, ac yn amlwg, mae adroddiadau’n dweud bod hon yn dreth sy'n lleihau, ac yn y pen draw, gallai fod mor isel â £27 miliwn ac yn disgyn. Felly, a ydych chi wedi edrych ar y ddeddfwriaeth fel ffordd o gynyddu cwmpas casglu, fel bod hynny’n un ffordd o feddalu’r golled incwm? Nid ydych yn sôn am symiau bach o arian yma, o’i gymharu â'r hyn sydd o fewn eich disgresiwn. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mewn cael gwybod a fydd sylfaen ehangach i’r Bil fel ei fod yn cynnwys mwy o wastraff, ac felly’n dod â mwy o gyllid inni, neu os na fydd, sut y mae'r Llywodraeth yn mynd i ad-dalu’r diffyg hwnnw.

Yn ail, gwnaethoch y pwynt y byddai'r cyfrifoldeb ar—mai’r rhagdybiaeth yw bod y tirfeddiannwr yn ymwybodol o'r tipio sy’n digwydd. Yn aml iawn, wrth dipio symiau bach, gall hynny fod yn dipio anghyfreithlon, ar ran y dreth, ond hefyd ar ran y landlord yn ogystal, lle mae rhywun wedi agor giât a thaflu tri neu bedwar llwyth i mewn i'r cae—fersiwn mwy o dipio anghyfreithlon, os mynnwch chi. Felly, sut y mae'r Bil yn mynd i gynnwys y rhagdybiaeth honno gan hefyd amddiffyn landlord a allai ei ganfod ei hun yn y sefyllfa lle mae rhai contractwyr wedi torri’r cloeon, wedi gyrru i mewn ac wedi dympio pump, chwech neu saith llwyth, ond yn amlwg, y landlord sydd yn y pen draw yn gorfod talu'r dreth a chael ei lusgo gerbron y llysoedd?

Diolch i Andrew R.T. Davies am y ddau gwestiwn yna. Nid diben y Bil yw ymestyn cwmpas cynnwys, ac eithrio dympio gwastraff yn anghyfreithlon, a fydd nawr wedi’i ddwyn o fewn y dreth. Nid yw’r pwynt hwn wedi’i godi hyd yn hyn y prynhawn yma, ond gallai fod yn bwysig imi ddweud, wrth gwrs, bod y dreth hon wedi’i chynnwys yn y fframwaith cyllidol, felly, wrth i swm y dreth yr ydym yn ei chodi yng Nghymru ostwng, bydd yr addasiad grant bloc yn ystyried hynny, oherwydd bydd hon yn dreth sy’n gostwng ar yr ochr arall i’r ffin hefyd. Nid yw'n awtomatig yn wir, wrth i’r dreth fynd i lawr, y bydd y cyllid sydd ar gael i Gymru yn mynd i lawr yn ogystal. Bydd y fframwaith cyllidol a'r addasiad grant bloc yn effeithio ar bethau yn yr achos hwnnw.

Rwy'n awyddus iawn i ymateb i'w ail bwynt, oherwydd er y bydd dympio gwastraff yn anghyfreithlon yn cael ei gynnwys gan y dybiaeth wrthbrofadwy hon bod y rhai sy'n ymwneud ag ef yn gwybod beth maent yn ei wneud, rwy'n ymwybodol iawn o'r ffaith bod stwff wedi cael ei ollwng ar dir rhai tirfeddianwyr heb iddynt wybod dim am y peth ymlaen llaw, a bod hyn yn achosi cur pen iddynt hwythau hefyd. Felly, rydym wedi nodi, mewn dogfennau sy'n cyd-fynd â'r Bil, sut y gellir gwrthbrofi’r rhagdybiaeth honno. Rwy’n credu, pan gaiff ef gyfle yn nes ymlaen i edrych ar y manylion hynny, y bydd yn gweld bod y Bil yn amddiffyn yn ofalus iawn yn erbyn yr amgylchiadau a ddisgrifiodd ac na fyddai pobl yn canfod eu hunain yn agored i erlyniad pe byddai rhywbeth wedi digwydd yn gyfan gwbl y tu hwnt i’w gwybodaeth neu eu rheolaeth.

8. 4. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Plant a Gwaith Cymdeithasol

Symudwn ymlaen at yr eitem nesaf ar ein hagenda heddiw, sef y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Plant a Gwaith Cymdeithasol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i gynnig y cynnig—Carl Sargeant.

Cynnig NDM6173 Carl Sargeant

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Plant a Gwaith Cymdeithasol sy'n ymwneud ag asiantaethau mabwysiadu yng Nghymru, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, am y cyfle i osod y cynnig cydsyniad deddfwriaethol heddiw. Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am eu gwaith craffu ar fy memorandwm. Rwyf hefyd yn falch o nodi nad yw’r pwyllgor wedi codi unrhyw wrthwynebiad i'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol, ac mae ei adroddiad yn argymell bod y Cynulliad yn cefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol. Cynigiaf yn ffurfiol.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch o gyfrannu at y ddadl hon heddiw ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn, ac o amlinellu barn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Bydd yr Aelodau yn gweld o'n hadroddiad bod y pwyllgor yn cefnogi'r dull a nodir yn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol, ac yn cytuno ei bod yn briodol i ymdrin â'r darpariaethau hyn yn y Bil Plant a Gwaith Cymdeithasol.

Effaith y gwelliant i'r Bil a gyflwynwyd gan yr Arglwydd Nash fydd mynnu bod asiantaethau mabwysiadu yng Nghymru yn ystyried yr un ffactorau â'r rhai sy'n berthnasol i asiantaethau mabwysiadu yn Lloegr a'r llysoedd. Bydd y gwelliant hefyd yn golygu, i asiantaethau mabwysiadu yng Nghymru, y bydd darpar fabwysiadwyr bellach wedi’u cynnwys ar y rhestr o berthnasoedd y mae’n rhaid iddynt eu hystyried wrth wneud penderfyniad am fabwysiadu plentyn.

Roedd yn ddefnyddiol bod amserlen y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn wedi caniatáu cyfle i’r pwyllgor ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol i lywio ei ystyriaethau, a hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ddarparu digon o amser yn y broses i hyn ddigwydd. Mae'n bwysig bod rhanddeiliaid yn cael cyfrannu at broses y cynnig cydsyniad deddfwriaethol. Mae ymgynghoriad ag asiantaethau mabwysiadu yng Nghymru wedi dangos cefnogaeth i'r darpariaethau perthnasol yn y Bil, a’r farn glir a roddwyd i'r pwyllgor gan Adoption UK Cymru a’r gwasanaeth mabwysiadu cenedlaethol yw eu bod yn croesawu'r cynnig i ganiatáu'r newid arfaethedig yng Nghymru.

Ni wnaeth ein hystyriaethau fel pwyllgor dynnu sylw at unrhyw faterion na phryderon eraill, ac mae'r pwyllgor, felly, yn argymell bod y Cynulliad yn cefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol sydd ger ein bron heddiw. Diolch.

Dim ond i ddiolch i'r Aelod am y cyfraniad. Rwy’n gofyn i’r Aelodau gefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol heddiw.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, caiff y cynnig ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Diolch.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

9. 5. Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru 2015-16

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 a 2 yn enw Paul Davies, a gwelliant 3 yn enw Rhun ap Iorwerth.

Rydym yn awr yn symud ymlaen at eitem 5, sef dadl ar adroddiad blynyddol 2015-16 Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, a galwaf ar y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd i gynnig y cynnig—Rebecca Evans.

Cynnig NDM6174 Jane Hutt

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi'r Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2015-16 gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Rwy’n falch o agor y ddadl hon ar yr adroddiad effaith a chyrhaeddiad blynyddol gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i gofnodi fy niolch i Sarah Rochira a'i thîm am y gwaith gwerthfawr y maent yn ei wneud i wella bywydau pobl hŷn ledled Cymru. Mae'n amlwg o'r adroddiad bod y comisiynydd wedi parhau â'i record drawiadol o weithgarwch. Mae ehangder a dyfnder ei gwaith yn cyffwrdd â chymaint o agweddau ar fywydau pobl hŷn: eu hawliau, eu hiechyd, eu tai a'u diogelwch. Mae hi wedi bod yn unigolyn dylanwadol, gan sicrhau bod llais pobl hŷn yn cael ei glywed bob amser, a bod camau'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r materion sy'n bwysig iddyn nhw. Ac, yn bwysig, nid yw’r comisiynydd erioed wedi anghofio pwysigrwydd dilysrwydd wrth siarad ar ran pobl hŷn. Eleni, mae hi a'i thîm wedi cyfarfod â 218 o grwpiau a mwy na 5,600 o bobl hŷn ar draws y wlad, gan siarad â nhw yn bersonol er mwyn sicrhau eu bod yn canolbwyntio ar y materion sy'n bwysig i bobl hŷn heddiw.

Gan gymryd y gwelliant cyntaf a gyflwynwyd yn enw Paul Davies, rydym yn cydnabod yr effaith y gall unigrwydd ac unigedd ei chael ar iechyd a lles. Dyma pam yr ydym wedi ymrwymo i ddatblygu strategaeth genedlaethol a thraws-Lywodraeth i fynd i'r afael ag unigrwydd ac unigedd. Bydd hyn yn adeiladu ar y gwaith sydd wedi ei ddwyn ymlaen drwy ein strategaeth ar gyfer pobl hŷn a’r rhaglen Heneiddio'n Dda yng Nghymru. Fel y cyfryw, rydym yn cefnogi'r gwelliant hwn.

Rydym hefyd yn cefnogi’r ail welliant a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr Cymreig.  Yn wir, rydym eisoes wedi cymryd camau i gryfhau hawliau i bobl hŷn drwy’r datganiad hawliau i bobl hŷn a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Yn ei hadroddiad, mae'r comisiynydd wedi bod yn glir am ei huchelgais i ddiogelu a hyrwyddo hawliau pobl hŷn drwy ddeddfwriaeth bellach.  Mae’r Prif Weinidog a minnau eisoes wedi cael trafodaethau â'r comisiynydd pobl hŷn ynghylch deddfwriaeth bosibl yn y dyfodol, ac mae’r datganiad ysgrifenedig a gyhoeddais ar y diwrnod rhyngwladol ar gyfer pobl hŷn ddiwedd mis Medi yn cadarnhau ein cefnogaeth i’r egwyddor o gael Bil.

Gan droi at y gwelliant olaf a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth, unwaith eto, rydym yn ei gefnogi.  Rydym yn cydnabod pwysigrwydd llywodraeth leol mewn iechyd a lles pobl hŷn, a dyma pam yr ydym wedi darparu cyllid ychwanegol yn y grant cynnal refeniw i gydnabod y pwysau ar wasanaethau cymdeithasol. Sicrhawyd hefyd bod rhagor o arian ar gael drwy'r gronfa gofal canolraddol.  Bydd y gyllideb ddrafft ar gyfer 2017-18 hefyd yn cyflwyno'r setliad cyllid llywodraeth leol gorau ers blynyddoedd.

Hoffwn ganolbwyntio ar rai o'r themâu allweddol sy'n sail i adroddiad y comisiynydd.  Fodd bynnag, credaf ei bod yn bwysig gosod y ddadl o fewn cyd-destun tirwedd newidiol gofal cymdeithasol yng Nghymru.  O'u cymryd gyda'i gilydd, mae'r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant a Deddf rheoleiddio ac arolygu gofal cymdeithasol yn trawsnewid y ffordd y mae gwasanaethau cymdeithasol yn cael eu darparu. Mae gan bobl erbyn hyn lais cryf a mwy o ddylanwad o ran y gofal a'r cymorth a gânt i sicrhau eu bod yn canolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig iddyn nhw ac i fodloni eu canlyniadau lles yn y ffordd orau.  Mae'r comisiynydd wedi bod yn ymwneud â datblygu’r ddwy Ddeddf, ac rwy’n gwerthfawrogi’r cyfraniad cadarnhaol y mae wedi ei wneud ac y mae’n parhau i’w wneud.

Mae dementia yn un o'r heriau gofal iechyd mwyaf sy'n ein hwynebu fel cymdeithas, ac mae'n un o themâu allweddol adroddiad y comisiynydd.  Dim ond yn ddiweddar, amlygodd y penawdau newyddion bod clefyd Alzheimer a dementias eraill wedi eu cofnodi mewn bron i un o bob wyth o farwolaethau a gofnodwyd yn 2015.  Mae'r ffigurau hyn yn cael eu priodoli i’n poblogaeth sy'n heneiddio yn ogystal â dulliau gwell o ganfod y cyflyrrau hyn a gwell diagnosis.

Ym mis Mawrth eleni, cyhoeddodd y comisiynydd ei hadroddiad, 'Dementia: mwy na dim ond colli cof'.  Daeth hi i nifer o gasgliadau allweddol yn dilyn ei hadolygiad, gan gynnwys diffyg gwybodaeth a dealltwriaeth o ddementia ymhlith gweithwyr proffesiynol a'r cyhoedd, diffyg hyblygrwydd a chydweithrediad o fewn gwasanaethau dementia, ac amrywiad sylweddol mewn profiadau pobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr. Rwy'n falch o gadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd ymdrin â heriau dementia a mynd i'r afael â'r materion y mae'r comisiynydd wedi’u codi.  Mae ‘Symud Cymru Ymlaen' yn nodi ein hymrwymiad i gymryd camau pellach i wneud Cymru yn genedl sy’n ystyriol o ddementia drwy ddatblygu a gweithredu cynllun gweithredu strategol dementia cenedlaethol newydd.  Bydd y cynllun hwn, wrth gwrs, yn ystyried canfyddiadau’r comisiynydd, yn ogystal â gweithio gyda phartneriaid allweddol yn y trydydd sector, fel y Gymdeithas Alzheimer, Cynghrair Henoed Cymru a Chynghrair Cynhalwyr Cymru.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu mwy nag £8 miliwn o arian ychwanegol i ddatblygu gwasanaethau dementia ledled Cymru.  Felly, mae gennym sylfaen gadarn i adeiladu arni.  Byddwn yn defnyddio'r cynllun i gryfhau gwaith sydd eisoes ar y gweill mewn nifer o feysydd allweddol, gan gynnwys codi ymwybyddiaeth a gweithio gyda Chymdeithas Alzheimer ac eraill i gynnal momentwm ymgyrchoedd y Cyfeillion Dementia a Chymunedau Cefnogi Pobl â Dementia. Bydd hefyd yn canolbwyntio ar wella cyfraddau diagnosis, gan ddarparu cymorth ymarferol ac emosiynol, ac ymwreiddio diwylliant sy'n rhoi urddas a diogelwch cleifion yn gyntaf.  Bydd y cynllun yn cael ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol cyn diwedd y flwyddyn hon, gyda'r fersiwn derfynol yn cael ei chyhoeddi yng ngwanwyn 2017.

Fel Llywodraeth, rydym yn gwrthwynebu pob math o wahaniaethu, ac nid yw gwahaniaethu ar sail oedran yn eithriad. Ond er bod rhywiaeth, hiliaeth a homoffobia, er enghraifft, yn cael eu cydnabod a'u deall yn gyffredinol, mae'r comisiynydd yn gwneud y pwynt fod rhagfarn ar sail oedran yn cael ei hesgeuluso yn aml ac anaml iawn y siaredir amdani. Hwn oedd y grym y tu ôl i’w hymgyrch Dywedwch Na wrth Oedraniaeth, a lansiwyd ym mis Hydref y llynedd. Nod yr ymgyrch oedd herio'r stereoteipiau sy'n gysylltiedig â thyfu’n hŷn a phobl hŷn, gan amlinellu'r cyfraniad enfawr y mae pobl hŷn yn ei wneud i'n cymdeithas, gan gynnwys dros £1 biliwn i’r economi bob blwyddyn. Defnyddiodd y comisiynydd ei chyrhaeddiad trawiadol i ledaenu'r neges ar draws Cymru drwy ffilm, cyfryngau cymdeithasol a chyrsiau hyfforddi. Fel rhan o'r ymgyrch, mae'r comisiynydd yn tynnu sylw at wahaniaethu ar sail oedran a gwahaniaethu yn y gweithle, ac mae hyn yn parhau i fod yn broblem sylweddol i lawer o bobl hŷn. Mae hyn yn aml yn seiliedig ar syniadau rhagdybiedig o iechyd gwael, cynhyrchiant is ac amharodrwydd i addasu i newid. Mae'r rhagfarnau hyn, nad oes dim dilysrwydd iddynt, yn rhan o'r rheswm pam fod ceiswyr gwaith hŷn yn fwy na dwywaith yn fwy tebygol o fod yn ddi-waith yn y tymor hir o’u cymharu â cheiswyr gwaith iau, a pham y mae mwy nag un o bob tri pherson yng Nghymru rhwng 50 oed ac oedran pensiwn y wladwriaeth yn ddi-waith.

Rwy'n falch o ddweud bod y Llywodraeth hon yn cydnabod y gwerth y mae pobl hŷn yn ei roi i'r farchnad lafur.  Ni ddylai cyfleoedd dysgu a hyfforddi fod ar gyfer pobl ifanc yn unig.  Rydym wedi ymrwymo i greu o leiaf 100,000 o brentisiaethau o ansawdd uchel i bobl o bob oed.  Byddwn yn gweithio gyda chyflogwyr i sicrhau eu bod yn gwerthfawrogi'r sgiliau a'r profiad y mae pobl hŷn yn eu rhoi i'r gweithlu.  Os yw pobl hŷn yn dymuno aros mewn gwaith neu’n awyddus i ailhyfforddi a dysgu sgiliau newydd i wneud cais am swyddi newydd, byddwn yn eu cefnogi yn y penderfyniad hwnnw.

Trof yn awr at y thema olaf yr hoffwn i dynnu sylw ati o adroddiad y comisiynydd—diogelu ac amddiffyn pobl hŷn yma yng Nghymru.  Mae gwaith y comisiynydd wedi canolbwyntio ar sicrhau ymagwedd systemig i nodi'r bobl hŷn sydd mewn perygl a sicrhau cefnogaeth lawn gan y system cyfiawnder troseddol er mwyn helpu pobl i adennill eu diogelwch a'u lles.  Pan fydd angen gofal a chymorth ar bobl hŷn, byddwn yn sicrhau bod gan y rhai sy'n gofalu am bobl hŷn y wybodaeth, y sgiliau a'r cymwyseddau i ddarparu gofal tosturiol o ansawdd uchel.

Rydym wedi ymrwymo i wella ansawdd y gofal y mae pobl yn ei dderbyn, boed yn eu cartrefi eu hunain, neu yn yr ysbyty, neu mewn cartref gofal, ac i sicrhau eu bod yn cael eu trin ag urddas a pharch.  Mae camau'n cael eu cymryd i ymateb i argymhellion adolygiad Flynn, ac mae hyn yn cynnwys penodi uwch arweinydd gwella ansawdd sy'n gweithio gyda darparwyr cartrefi gofal a rheoleiddwyr ledled Cymru i leihau wlserau pwysau y gellir eu hosgoi.

Mae'r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant wedi rhoi amddiffyn oedolion ar sail statudol gadarn. Mae'r Ddeddf wedi cyflwyno diffiniad o 'oedolyn mewn perygl', ac mae dyletswydd newydd ar yr awdurdod lleol i wneud ymholiadau i benderfynu a oes angen cymryd unrhyw gamau i ddiogelu pobl sy'n agored i niwed. Mae'r Ddeddf wedi cyflwyno nifer o fesurau diogelu allweddol ar gyfer oedolion mewn perygl, gan gynnwys dyletswyddau newydd i adrodd i’r awdurdod lleol am unrhyw un yr amheuir ei fod yn oedolyn mewn perygl o gael ei gam-drin neu eu hesgeuluso, ac i’r awdurdod lleol wneud ymholiadau neu achosi i ymholiadau gael eu gwneud i benderfynu a oes angen cymryd unrhyw gamau i ddiogelu'r bobl hynny sy'n agored i niwed. Mae’r ddyletswydd hon i ymholi yn cael ei hategu gan bŵer i wneud cais i'r llysoedd am orchymyn cymorth ac amddiffyn oedolion. Bydd y gorchymyn yn galluogi swyddog awdurdodedig sydd â'r sgiliau a'r profiad angenrheidiol i fynd i mewn yn ddiogel i'r safle er mwyn siarad gydag oedolyn yn breifat, i benderfynu pa gamau, os o gwbl, y dylid eu cymryd.

Un o'r materion y mae’r comisiynydd yn rhoi sylw iddo yn ei hadroddiad yw'r effaith ddinistriol y gall sgamiau, twyll neu ddichell droseddol ei chael ar fywydau pobl hŷn, ac mae’r troseddau hyn, wedi'u targedu yn fwriadol at rai o'r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas, yn cael effaith andwyol ar les meddyliol a chorfforol. Mae ymchwil wedi dangos bod cost uniongyrchol hefyd i awdurdodau lleol, gan fod dioddefwyr yn colli eu hyder a'u hannibyniaeth, yn dioddef iselder, ac angen ymyrraeth gan y wladwriaeth i ddarparu diogelwch fel llety gwarchod a chefnogaeth gwasanaethau cymdeithasol. Er bod arfer da yn bodoli ledled Cymru i fynd i'r afael â sgamiau yn eu holl ffurfiau, mae Llywodraeth Cymru, y comisiynydd ac eraill yn cydnabod bod angen cydlynu ymdrechion yn well a sicrhau bod ymagwedd gydweithredol ar draws y sector cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector. O ganlyniad, lansiodd y comisiynydd ac Age Cymru Bartneriaeth Cymru yn Erbyn Sgamiau yn ffurfiol ym mis Mawrth eleni, ac mae hyn yn gweithio i wneud Cymru yn lle anghyfeillgar i droseddwyr sy'n aml yn targedu pobl hŷn a bregus yn fwriadol. Mae'r bartneriaeth hefyd wedi datblygu siarter gwrth-sgamwyr gyntaf y DU.

Fel Llywodraeth, rydym yn ymrwymo i sicrhau bod pobl hŷn yn ddiogel ac yn gallu byw heb ofn.  Mae'r fframwaith yn mynd i'r afael â throseddau casineb, sy'n pennu nod Llywodraeth Cymru i herio gelyniaeth a rhagfarn, yn cynnwys oedran fel nodwedd warchodedig.  Mae'r mater hwn yn cael ei archwilio ar lefel strategol gan y bwrdd cyfiawnder troseddol troseddau casineb, a sefydlwyd i sicrhau dull partneriaeth ar draws meysydd datganoledig a heb eu datganoli, gan gynnwys pedwar heddlu Cymru, Gwasanaeth Erlyn y Goron, y Weinyddiaeth Gyfiawnder a'r Swyddfa Gartref.

Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru i bobl hŷn a'r materion y maent yn eu hwynebu yn glir: heb os nac oni bai, mae’r penderfyniad arloesol a gymerwyd yn 2008 i benodi comisiynydd pobl hŷn wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl hŷn yng Nghymru. Nid wyf yn credu bod unrhyw un ohonom yma yn amau ​​dycnwch, ymroddiad a phenderfyniad y comisiynydd a'i thîm wrth gyflawni eu pwrpas fel llais annibynnol i bobl hŷn, gan helpu i gadw'r rhai sy'n agored i niwed yn ddiogel a gweithio i sicrhau eu bod yn cael y gwasanaethau a'r cymorth sydd eu hangen arnynt. Edrychaf ymlaen at y ddadl.

Diolch yn fawr iawn.  Yr wyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig.  Galwaf ar Janet Finch-Saunders i gynnig gwelliannau 1 a 2 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.  Janet.

Gwelliant 1—Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi gwaith y Comisiynydd Pobl Hŷn i fynd i'r afael ag effaith unigrwydd ac unigedd ar bobl hŷn sy'n byw yng Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i fynd i'r afael â'r mater hwn.

Gwelliant 2—Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi y dylai Llywodraeth Cymru ystyried cyflwyno Bil Hawliau Pobl Hŷn i ymestyn a hyrwyddo hawliau pobl hŷn Cymru er mwyn sicrhau bod gan bobl hŷn lais cryf yn unol ag argymhellion y Comisiynydd Pobl Hŷn.

Cynigiwyd gwelliannau 1 a 2.

Diolch, Ddirprwy Lywydd.  Cynigiaf welliannau 1 a 2 yn enw Paul Davies.

Mae tua 800,000 o bobl hŷn yng Nghymru sy'n haeddu pob cyfle i gael eu grymuso i gael eu hawliau wedi eu cryfhau a'u hanghenion wedi eu cyflawni, a hoffwn i ddechrau fy nghyfraniad heddiw drwy dalu teyrnged i’n Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Miss Sarah Rochira, am ymgyrchu’n ddiflino i gyflawni hynny. Nid dim ond y fi sy’n cydnabod y proffesiynoldeb y mae Miss Rochira wedi ei ddangos wrth gyflawni’r swyddogaeth—mae hi'n sicr yn bencampwr go iawn ar gyfer ein henoed yma yng Nghymru. Mae ei gwaith ar sgamiau a thwyll, cartrefi gofal, heneiddio'n dda yng Nghymru, cam-drin domestig a rhagfarn ar sail oedran yn dangos yr ystod eang o faterion sy'n effeithio ar bobl hŷn, yr ydym yn eu cydnabod heddiw. Mae'r comisiynydd yn agor yr adroddiad hwn drwy gyfeirio at bobl hŷn yng Nghymru fel 'ased anhygoel' ac 'arwyr bob dydd'. Gyda chyfraniad o £1 biliwn bob blwyddyn i'n heconomi drwy ofal plant, gwirfoddoli, gofal a gwaith cymunedol, mae'n deg dweud bod hwn yn ddisgrifiad gwych. Eto i gyd, yn rhy aml, nid oes neb yn sylwi neu’n cydnabod gwerth yr 'arwyr pob dydd' hyn. Mae'n gwbl annerbyniol bod gormod o bobl hŷn, yn enwedig y rhai a allai fod yn fwy agored i niwed, yn gweld eu hawliau yn lleihau wrth iddynt fynd yn hŷn, a phan maent wir angen y gefnogaeth fwyaf.

Flwyddyn yn ôl i’r wythnos nesaf, ar Ddiwrnod Hawliau Dynol, galwodd y comisiynydd am ddeddfwriaeth i amddiffyn a hyrwyddo hawliau ein pobl hŷn yma yng Nghymru. Mae ein gwelliannau heddiw yn ceisio cryfhau galwadau’r comisiynydd drwy gyflwyno Bil hawliau pobl hŷn.  Rydym yn dymuno gweld un darn o ddeddfwriaeth i ymgorffori hawliau pobl hŷn yn glir o fewn cyfraith Cymru.  Rydym am weld dyletswydd sylw dyledus ar bob corff cyhoeddus; i roi dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o hawliau pobl hŷn ledled Cymru; ac i gyflwyno mesurau i fynd i'r afael â rhagfarn ar sail oedran, hyrwyddo heneiddio yn dda ac ymgorffori lles pobl hŷn o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus.

Mae'r ffaith bod tîm gwaith achos y comisiynydd wedi darparu cymorth a chefnogaeth i 413 o bobl hŷn ledled Cymru y llynedd yn dangos bod angen gwneud cynnydd o hyd, yn enwedig ym meysydd gofal a gofal preswyl sydd, ar y cyd, yn ffurfio cryn dipyn o waith achos o'r fath. Nododd y comisiynydd y prif themâu a ddaeth i’r amlwg yn ei gwaith achos megis cael gafael ar gyllid gofal iechyd parhaus, effaith cau cartrefi gofal, a chost gyffredinol y gofal.  Mae'r rhain yn themâu yr wyf innau, hefyd, wedi sylwi arnynt mewn llawer o fy ngwaith achos fy hun, ac maent yn rhan o'r rhesymau pam y mae’r Ceidwadwyr Cymreig am weld cap ar gostau gofal, gwaith cydgysylltiedig lawer gwell rhwng y sector iechyd a gofal cymdeithasol, a darpariaeth lawer gwell o welyau, er mwyn atal yr oedi ofnadwy hwnnw wrth drosglwyddo gofal yr ydym i gyd yn gwybod amdano yn ein hetholaethau, ac i sicrhau dewis, addasrwydd a'r lleoliad iawn ar gyfer y rhai sydd angen gofal.

Rydym wedi defnyddio ein gwelliannau i dynnu sylw at y mater o unigedd ymysg pobl hŷn. Mae hwn yn bryder y mae’r comisiynydd wedi canolbwyntio arno o’r blaen, ac rydym am sicrhau nad yw’r Siambr hon yn anghofio'r effaith y gall unigrwydd ei gael ar les corfforol a meddyliol person, yn enwedig ar yr adeg hon o'r flwyddyn. Gall unigrwydd gael effaith ar farwolaeth yn debyg o ran maint i ysmygu 15 sigarét y dydd. Mae ymchwil newydd wedi darganfod bod pobl ag arwyddion cynnar o glefyd Alzheimer yn 7.5 gwaith yn fwy tebygol o fod yn unig iawn. Felly, gadewch i ni ddefnyddio'r adroddiad hwn i ymrwymo i wneud Cymru y genedl gyntaf sy’n ystyriol o ddementia yn y Deyrnas Unedig. Ddirprwy Lywydd, rydym yn ffodus o gael comisiynydd mor ymroddedig ac ymrwymedig yn gweithio ar ran pobl hŷn ledled Cymru, ac rwy’n dweud hyn: hoffwn weld y swyddogaeth honno, lle mae pobl yn gwneud gwaith da iawn—rwy’n gwybod ei bod yn gysylltiedig ag amser, ond hoffwn i weld rhai pobl yn aros yn y swydd ac yn parhau â'r gwaith da y maent yn ei wneud. Dyna un swyddogaeth yr wyf yn arbennig yn credu y dylai barhau, a’r person hwnnw.

Gadewch inni sicrhau ein bod yn gweithio ar y cyd i greu Cymru sy’n ystyriol o oedran, gan sicrhau bod pobl hŷn yn gallu cael mynediad at y gwasanaethau, y gefnogaeth a'r gofal sydd eu hangen arnynt ac y maent yn eu haeddu, a'u bod yn cael eu grymuso i barhau i fyw bywydau sy’n rhoi boddhad a phleser, gan gyfoethogi ein gwead cymdeithasol fel mai dim ond y rhai sydd â’u profiadau bywyd eu hunain sy’n gallu ei wneud. Diolch.

Diolch.  Galwaf ar Sian Gwenllian i gynnig gwelliant 3, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.  Sian.

Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi pwysigrwydd gwasanaethau cyhoeddus a gaiff eu darparu gan lywodraeth leol i iechyd a llesiant pobl hŷn, ac yn gresynu fod heriau ariannol parhaus, o ganlyniad i galedi ariannol, yn rhwystro'r gwasanaethau hyn rhag cael eu darparu.

Cynigiwyd gwelliant 3.

Diolch. Rwy’n cynnig gwelliant 3 yn enw Rhun ap Iorwerth.

Er bod y ddadl yma am wasanaethau sy’n cael eu darparu i bobl hŷn, mae o ddiddordeb i ni i gyd, wrth gwrs, ac am y math o wlad yr ŷm ni am ei chreu yng Nghymru. Pa fath o wlad yr hoffem ni dyfu’n hen ynddi? Wel, dyna ydy’r cwestiwn y mae angen i ni i gyd fod yn ei ystyried.

Mae’r adroddiad yn tanlinellu gwerth cael comisiynydd pobl hŷn, ac mae’r gwaith achos yn dangos bod gwasanaethau yn aml yn rhy gymhleth ac yn anodd cael mynediad atyn nhw. Mae ansawdd y gofal yn arbennig yn fater sy’n cael ei danlinellu dro ar ôl tro.

Rŷm ni’n cefnogi’r syniad o hawl i wasanaethau cyhoeddus sy’n cael eu hargymell gan y comisiynydd, ac yn hapus i weld yr hawliau hynny yn cael eu cryfhau ym mha bynnag ffordd posib. Ond mae yna un eliffant mawr yn yr ystafell, a’r eliffant hwnnw ydy llymder y toriadau, yn enwedig ar gyfer llywodraeth leol. Er bod llywodraeth leol yn cael ei tharo yn llai caled yng Nghymru eleni, diolch i gytundeb cyllidebol Plaid a Llafur, mae’r setliad cyffredinol, a’r sefyllfa yn gyffredinol, yn creu llawer iawn o heriau. Yn anochel, mae hawliau pobl hŷn i gael gwasanaethau fel trafnidiaeth gyhoeddus dda, llyfrgelloedd a thoiledau cyhoeddus, a’r amrediad o wasanaethau sy’n hanfodol i ansawdd bywyd pobl hŷn, o dan fygythiad. Mae llymder parhaol, hirdymor yn milwrio yn erbyn hyrwyddo hawliau pobl hŷn, a bydd deddfwriaeth sy’n cael ei phasio yn y lle hwn ddim mor effeithiol heb y pwerau cyllidol sydd eu hangen i sicrhau bod modd ariannu gwasanaethau cyhoeddus yn briodol. Yn anffodus, mae’n ymddangos y bydd yr heriau’n parhau. Mae sut y byddwn ni’n ymateb iddyn nhw yn mynd i benderfynu a fydd henaint yn brofiad da—y math o brofiad y byddem ni i gyd yn fan hyn yn hoffi ei gael. Neu a fyddwn ni, drwy lymder a thrwy’r sefyllfa, yn creu tlodi pensiynwyr i lawer—y math o beth a welwyd ddegawdau yn ôl.

Mi fuaswn i’n hoffi amlinellu tri pheth o ran agwedd a fyddai’n gallu helpu. I ddechrau, mae’n rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig fod yn llawer mwy gonest efo eu pleidleiswyr craidd am yr angen economaidd i gael gweithlu mwy yn talu lefelau o dreth sydd angen er mwyn cynnal gwasanaethau cyhoeddus hanfodol o ansawdd. Yn ail, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ganfod ffyrdd lle gall gwasanaethau cyhoeddus a’r adrannau o fewn yr un un gwasanaethau weithio efo’i gilydd yn fwy effeithiol. Mae hyn yn golygu dealltwriaeth llawer gwell am hyn, ac am y ffaith bod methu cynnal un gwasanaeth yn golygu costau ychwanegol i wasanaethau eraill, a bod obsesiwn efo gwaelodlin yn creu problemau i’r blynyddoedd a ddaw. Yn y pen draw, mae’n rhatach darparu gwasanaethau cyhoeddus da na gadael i bobl fynd yn sâl yn hirdymor, gadael i bobl fynd yn ddibynnol ar wasanaethau cyhoeddus neu fynd yn ddefnyddwyr cyson ohonyn nhw.

Mae hyn yn arwain at y trydydd pwynt, sydd hefyd yn ymwneud efo agwedd. Rhaid inni roi’r gorau i’r agwedd yma fod y rhai sy’n defnyddio y gwasanaethau cyhoeddus rywsut yn fwrn ar arian y trethdalwyr. Nid ydyn nhw. Mae pobl dros 65 yn gwneud cyfraniad economaidd a chymdeithasol enfawr i Gymru: gwerth £259 miliwn o ofal plant am ddim i wyron ac wyresau; £496 miliwn drwy wirfoddoli. Dim ond dwy enghraifft ydy hynny. Meddyliwch sut y buasai hi ar y gwasanaethau cyhoeddus heb y rhain a llawer mwy. Felly, yr agwedd i’w mabwysiadu yw hyn: os ydyn ni’n gwario arian ar gadw pobl yn iach, yn actif ac yn byw’n annibynnol, yna mi fyddwn ni’n cael gwerth, budd, allan o’r buddsoddiad hwnnw. Ac, yn ei dro, mi fydd hynny’n galluogi mwy ohonom ni i heneiddio’n dda. Dyna enw ar brosiect blaengar yng Ngwynedd, sydd efo’r union fwriad hynny yn graidd iddo, sef galluogi pobl y sir i heneiddio’n dda. Buaswn i’n hoffi diolch i’r comisiynydd a’i thîm am eu gwaith, ac am yr adroddiad yma heddiw. Diolch.

Croesawaf y ddadl hon heddiw, a diolch am y cyfle i siarad.  Hoffwn ailadrodd pa mor falch ydwyf mai Cymru oedd cartref comisiynydd pobl hŷn cyntaf y byd.  Credaf fod hynny yn gyflawniad mawr ac rwy’n meddwl ei fod yn flaengar iawn o Lywodraeth Cymru i sefydlu’r swyddogaeth hon.  Rwy'n credu bod yr hyn y mae’r comisiynydd wedi ei wneud yn dangos ei fod y penderfyniad cywir.

Rwy'n meddwl bod y datblygiadau pwysig y mae’r comisiynydd pobl hŷn cyfredol wedi’u hachosi mewn gwirionedd oherwydd ei bod, fel y dywedodd y Gweinidog pan wnaeth hi ei chyflwyniad, wedi ei gwreiddio'n ddwfn mewn gwrando ar yr hyn y mae pobl hŷn yn ei ddweud. Mae hi yn sicr wedi bod i fy etholaeth i siarad mewn cyfarfodydd ar ddau achlysur, a phan ddisgrifiodd hi ble yr oedd hi wedi bod yng Nghymru—hynny yw, mae hi'n mynd ar hyd a lled, ac yn ôl ac ymlaen ar draws Cymru drwy'r amser, felly rwy’n credu bod ganddi wir wybodaeth am yr hyn y mae pobl hŷn yn ei deimlo.

Rwy’n cytuno â dull sy'n seiliedig ar hawliau ar gyfer pobl hŷn, yn yr un modd ag yr ydym wedi ei ddatblygu ar gyfer plant, ac rwy’n falch iawn y bu trafodaethau â'r Gweinidog ac â'r Prif Weinidog ynglŷn â chynnwys hawliau pobl hŷn mewn cyfraith, oherwydd rwy’n teimlo, os yw hawliau pobl hŷn yn cael eu cynnwys yn gadarn yn y gyfraith, bydd yn gwneud i gyrff cyhoeddus feddwl yn llawer mwy gofalus wrth wneud penderfyniadau sy'n effeithio ar bobl hŷn, ac mae cyfres o feincnodau i fesur y bywydau y mae pobl hŷn yn eu byw.

Rwyf eisiau siarad yn fyr am gyfranogiad pobl hŷn mewn bywyd bob dydd a’r cyfraniadau sydd ganddynt i'w wneud. Mae un o egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer pobl hŷn, a fabwysiadwyd ym 1991, yn cwmpasu cyfranogiad gan bobl hŷn yn y gymdeithas ac yn dweud:

Dylai pobl hŷn barhau i gael eu hintegreiddio yn y gymdeithas, cymryd rhan weithgar wrth ffurfio a gweithredu polisïau sy'n effeithio ar eu lles yn uniongyrchol a rhannu eu gwybodaeth a'u medrau â'r cenedlaethau iau.

Mae eisoes wedi ei grybwyll yma yn y Siambr heddiw am ofal plant, gan na ellir gosod pris ar gyfraniad pobl hŷn i ofal plant ar gyfer eu hwyrion, rwy’n meddwl, oherwydd rydym yn gwybod ei fod mor enfawr.  Rydym yn gwybod, yng Nghymru, bod llawer iawn o ofal plant anffurfiol, ac mae hynny i'w ganmol yn fawr.  Rwy'n meddwl bod profiadau gwych eraill y mae pobl hŷn yn gallu eu rhannu â phlant mewn ysgolion pan fyddant yn mynd i mewn i ysgolion ac yn ceisio helpu plant i ddysgu darllen. Mae nifer o enghreifftiau o hynny'n digwydd yn fy etholaeth i.

Rwy’n meddwl bod agwedd cymdeithas yn newid yn araf.  Bu, yn y gorffennol, lawer o dorbwyntiau mympwyol sy'n golygu na all pobl hŷn barhau i weithio, ond rydym ni yn gwybod erbyn hyn bod llawer o bobl hŷn yn gweithio heibio 65 oed—gan fy nghynnwys i.  Rwy'n credu ein bod hefyd yn gwybod bod polisi'r Llywodraeth yn newid.  Rwy'n siŵr y byddwch wedi clywed yr alwad yn ddiweddar gan y Pwyllgor Dethol ar Gyfiawnder yn San Steffan i ganiatáu i ynadon barhau i weithio heibio’r oedran ymddeol presennol o 70.  Rwy'n credu bod yr alwad hon wedi cael ei gwneud oherwydd y prinder ynadon, ond mae ymestyn amser ynadon i 75 yn hollol synhwyrol oherwydd y cyfraniad sydd ganddynt i’w wneud. Yn bersonol, byddwn yn ymestyn hyd yn oed ymhellach.  Gwn, dan y Llywodraeth glymblaid, mai’r bwriad oedd codi gwasanaeth rheithgor i fyny at 75 hefyd.

Felly, rwy’n meddwl bod llawer o feysydd lle’r ydym yn gweld symudiad tuag at beidio â chael y torbwyntiau mympwyol hyn lle mae pobl yn cael eu gorfodi i ymddeol neu eu gorfodi i roi terfyn ar rywbeth y gallent fod yn gwneud cyfraniad mawr iddo. Wrth gwrs, gall pobl hŷn wneud ac maent yn gwneud cyfraniad enfawr i gyrff llywodraethu ysgolion. Yn sicr, yn fy etholaeth i, mae gennym lawer o bobl hŷn sydd ar gyrff llywodraethu ysgolion, gan gyfrannu fel y maent ar nifer o gyrff cyhoeddus yng Nghymru ac ar fyrddau iechyd. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn annog pobl hŷn i wneud cais am y swyddi hyn. Rwy'n gwybod ein bod yn gwneud ymdrech fawr i sicrhau ein bod yn ceisio cael pobl o gefndiroedd lleiafrifol ac ethnig i wneud cais a phobl iau hefyd, ond mae'r mwyafrif o'r bobl hyn fel arfer yn yr oedrannau hyd at 65 ac rwy’n meddwl y dylem wneud ymdrech i gael pobl hŷn i wneud cais hefyd.

Rwyf am orffen drwy siarad yn fyr iawn am rai o'r gwirfoddolwyr hŷn yn fy etholaeth sydd wedi gwneud argraff fawr arnaf oherwydd eu hegni.  Pan oeddem yn cael ein bygwth â chau swyddfa bost, pwy oedd ar y strydoedd yn ymgyrchu? Y bobl hŷn.  A llwyddwyd i gadw swyddfa bost yn yr Eglwys Newydd drwy’r holl ymdrech hon.  Rwy'n credu fy mod wedi sôn yn y Siambr hon eisoes am yr hen fam-gu 92-mlwydd oed sydd wedi arwain yr ymgyrch am doiledau cyhoeddus yn yr Eglwys Newydd.  Yr ychydig Sadyrnau diwethaf, mae hi wedi bod gyda mi ar stryd fawr yr Eglwys Newydd yn y cael y llofnodion a does neb wedi gwrthod.  Rwy’n meddwl, pan fydd hi’n gofyn iddynt, nad oes neb yn meiddio dweud na.  Felly, mae hynny'n digwydd hefyd.  Ac wrth gwrs, darllenais yn y wasg heddiw am berson 89 mlwydd oed, dyn, yn chwilio am waith.  Felly, rwy’n meddwl bod yn rhaid i ni gydnabod y cyfraniad aruthrol y mae pobl hŷn yn ei wneud.

A gaf fi hefyd ddiolch i’r comisiynydd pobl hŷn am ei gwaith? Byddai’n llawer gwell gennyf, fel y gwyddoch i gyd, ei chael yn uniongyrchol atebol i'r Cynulliad hwn yn hytrach na Llywodraeth Cymru, ond mae ei hadroddiad yn wirioneddol, wirioneddol werthfawr a diolchaf iddi am hynny, yn ogystal â'r bobl eraill y cyfeirir atynt ynddo. Yr wyf hefyd yn diolch iddi am—a soniodd Julie am hyn—y cyswllt gweladwy ac uniongyrchol iawn sydd gan Sarah Rochira â phobl hŷn ac, yn arbennig, am wneud i ni edrych yn fanwl iawn ar yr hyn yr ydym yn ei olygu wrth 'ganlyniadau'.

Yn allweddol i hyn y mae llais cryf, fel y cyfeirir ato yn ein hail welliant, a phobl hŷn yn cael eu grymuso i sicrhau'r hyn sydd ei angen arnynt, fel y cyfeirir ato yn yr adroddiad ei hun.  Ac rwy’n credu bod hyn yn waith eithaf dyrys i'r comisiynydd, oherwydd nid yw pobl hŷn, wrth gwrs, yn grŵp unffurf: mae pobl hŷn sy’n ymladd, ddywedwn ni, wahaniaethu cudd yn y gweithle yn wynebu heriau gwahanol iawn i'r rhai sy’n cynllunio eu gofal cartref eu hunain, ac mae angen math gwahanol o eiriolaeth ar gyfer pobl sy'n unigolion oedrannus, bregus sy'n cael eu hunain yn y drws cylchdroi rhwng yr ysbyty a'r cartref gofal, neu efallai hyd yn oed rhywun sydd â dementia neu nam ar y synhwyrau yn gorfod ymdrin â thrafnidiaeth gyhoeddus.  Rwy’n meddwl os ydym i gofleidio'r dull sy'n seiliedig ar hawliau i lunio polisïau, a allai fedru ymdrin â llawer o'r materion hyn—dull sy'n cael ei annog mewn gwirionedd gan y comisiynydd—yna dwi'n meddwl bod yn rhaid i ni hefyd gydnabod bod bob hawl yn arwain at gyfrifoldeb. A byddai Bil hawliau pobl hŷn yn helpu i egluro pwy allai ysgwyddo’r cyfrifoldeb hwnnw.

I gymaint o bobl ag y bo modd ac am gyhyd ag y bo modd, unigolyn hŷn eu hunain ddylai fod â’r cyfrifoldeb hwnnw dros benderfynu ar sut y maent yn byw—neu unrhyw un, ni waeth beth yw eu hoedran. Mae mwy nag un ffordd o ddiwallu anghenion, ac os nad yw person hŷn wrth wraidd y penderfyniadau perthnasol hynny, yna'r tebygolrwydd yw na fydd yr anghenion hynny’n cael eu diwallu, gystal ag y gallent, pa yn a ydynt yn ofalwyr neu’n bobl sy'n derbyn gofal, neu unrhyw un, mewn gwirionedd. Er bod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn darparu cydraddoldeb ar gyfer gofalwyr a'r rhai y maent yn gofalu amdanynt o ran asesu, rydym eto i weld y dystiolaeth bod asesiad yn arwain at ddiwallu angen yn y ffordd orau bosibl. Rwy’n gobeithio y bydd y comisiynydd yn gallu ein tywys ni at dystiolaeth i'n helpu i weld sut y mae’r Ddeddf honno yn gweithio'n ymarferol dros gyfnod o amser. Tybiaf y bydd yr un dystiolaeth hefyd yn ein helpu ni, a phobl hŷn, i ganfod ffordd gyd-gynhyrchiol fwy unigol, i gydbwyso hawliau ac i gyfrifoldeb am ofal gael ei ddiogelu mewn rhywfaint o ddeddfwriaeth newydd, fel na fydd neb yn cael ei adael â gwasanaethau nad ydynt yn gweddu iddo, nad oes unrhyw un yn cael ei adael yn y purdan lle nad oes neb yn cymryd cyfrifoldeb, ac fel yr ymdrinnir â hawliau a chyfrifoldebau sy'n cystadlu gan y rhai y maent yn effeithio arnynt.

Mae hynny'n fy arwain at waith y comisiynydd ar ddeall integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol. Yn ddiamau, canlyniadau ansoddol yw’r hyn sydd o bwys i berson hŷn sydd angen gwasanaethau. Yn anochel, fodd bynnag, rwy’n credu y bydd llawer iawn o bwyslais ar logisteg integreiddio a sut i ddarparu ar gyfer gwahaniaeth lleol. Efallai fod Cymru, wrth gwrs, yn fach ond nid yw ei daearyddiaeth a’i demograffeg yn caniatáu ar gyfer ymateb sengl, canolog.  Felly, rwy'n awyddus iawn i weld sut y gall y comisiynydd helpu Llywodraeth Cymru a rheolwyr presennol y gwasanaethau yn y cyfnod hwn i gadw'r pwyslais ar ganlyniadau, a sut y bydd ymgysylltu parhaus â phobl hŷn am eu profiadau, i ddyfynnu'r adroddiad, yn edrych mewn gwirionedd.

Mae gennyf rai pryderon gwirioneddol ynghylch pa un a fydd gofal cymdeithasol yn gallu gweiddi yn ddigon uchel yn y broses hon. Nid yw un ar hugain y cant o awdurdodau lleol yng Nghymru hyd yn oed yn gwybod a oes ganddynt ddigon o ofal cymdeithasol eisoes. Ac fel enghraifft wrthgyferbyniol, mewn gwirionedd, mae Salford, yn Lloegr, yn mynd trwy eu proses integreiddio yn awr, ac mae eu gweithwyr cymdeithasol eisoes wedi eu trosglwyddo o’r awdurdod lleol i'r GIG. Felly, maent eisoes yn cystadlu ag ystod o flaenoriaethau GIG ar gyfer statws a chyllid. Pa siawns fydd gan faterion fel ynysu cymdeithasol, cefnogaeth a seibiant i ofalwyr, telerau ac amodau gweithwyr gofal, ymwybyddiaeth o ddementia a darpariaeth gofal cartref i godi i'r wyneb yn yr agenda integreiddio hon? Yn bwysicach fyth, sut fydd y ffordd ansoddol o fesur llwyddiant—y maen prawf 'Sut ydw i'n teimlo?'—sy’n cael ei hyrwyddo, yn gwbl briodol, gan y comisiynydd, yn dal ei dir mewn byd o broses a gwerthuso seiliedig ar rifau? Gwelaf o'r adroddiad bod byrddau iechyd yn gwneud rhywfaint o waith ar hynny yn awr, ac rwy’n gobeithio y gall yr adroddiad nesaf gan y comisiynydd roi sylwadau ar lwyddiant hyn. Yn sicr rwy’n disgwyl i adolygiad seneddol Llywodraeth Cymru o iechyd a gofal cymdeithasol roi pwysau llawn i unrhyw dystiolaeth a ddarperir gan y comisiynydd i osgoi bod yn ddiffygiol o ran bodloni ei nod hanfodol.

Yn olaf, rwy’n edrych ymlaen at y gwaith dilynol ar yr adolygiad o gartrefi gofal a gafodd ei grybwyll yn yr adroddiad, ac rwy'n gobeithio y bydd tystiolaeth ar gael erbyn hynny y bydd y newidiadau i'r arolygiaethau i’w gweld yn glir ac y bydd newyddion da, yn enwedig o ran y defnydd o feddyginiaeth.  Rwy'n sicr yn gobeithio y bydd yr estyniad hyfforddiant dementia yn rhoi gwell profiad i bobl hŷn mewn cartrefi gofal sydd â dementia, ond hefyd ar gyfer y rhai sy'n gofalu amdanynt.  Byddai hefyd, rwy’n meddwl, yn eithaf diddorol clywed a yw'r rhai sydd â dementia nad ydynt yn byw mewn cartref yn cael gwell profiad yn gyffredinol mewn cymunedau oherwydd y twf mewn hyfforddiant ymwybyddiaeth o ddementia. Diolch.

Yn gyntaf, a gaf i ymuno ag eraill i ddiolch i gomisiynydd pobl hŷn Cymru a'i staff am gyflwyno adroddiad mor gynhwysfawr i ni? Mae'r adroddiad yn gywir yn nodi bod pobl hŷn, i lawer ohonom, ein harwyr bob dydd, ond weithiau gwneir iddynt deimlo eu bod yn cael eu heithrio o gymdeithas ac yn ddioddefwyr rhagdybiaethau ffug o gwmpas llesgedd, dirywiad a dibyniaeth. Yr hyn na ellir ei wadu yw’r realiti bod llawer gormod o bensiynwyr yn byw mewn tlodi yng Nghymru.  Mae'r comisiynydd wedi amcangyfrif bod dros 100,000, gyda thua 20 y cant o bobl hŷn yn byw dan y ffin tlodi.

Gwnaeth adroddiad gan Sefydliad Joseph Rowntree yn 2011 nodi gostyngiad mewn tlodi ymhlith pensiynwyr yng Nghymru dros y degawd diwethaf, ond roedd y gostyngiad hwn hanner cyfradd y gostyngiad yn yr Alban. Er bod tlodi yn annerbyniol beth bynnag yw eich oedran, ar gyfer pobl hŷn, mae'n cyfyngu ar eu gallu i wneud cymaint o bethau, ac mae hyn yn aml yn achosi iddynt ddod yn ynysig ac yn unig.

Mae'r adroddiad manwl gan y comisiynydd yn cwmpasu sawl maes, gormod o lawer i ymdrin â nhw yn yr amser sydd ar gael.  Felly, hoffwn ganolbwyntio ar un maes penodol, sef y gweithlu gofal cymdeithasol. Bydd recriwtio a chadw gweithlu ymroddgar ac wedi'i hyfforddi'n dda yn hanfodol i’r ymdrechion i ddarparu gofal o’r safon uchaf posibl ar gyfer ein pobl hŷn. Er bod y gweithlu hwn yn amlwg yn darparu gofal ar draws ystod gyfan o anghenion, mae rhan fawr o'i waith yn ymwneud yn uniongyrchol â gofal pobl hŷn mewn lleoliadau gofal preswyl a gofal cartref.

Byddaf yn siarad am ofal preswyl yn y man, ond yn gyntaf rwyf am ganmol y datganiad gan y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol ddoe, yn dilyn yr ymgynghoriad diweddar ar y gweithlu gofal cartref.  Roedd yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn cwmpasu amrywiaeth o faterion sy'n effeithio ar recriwtio a chadw gweithwyr gofal cartref, gan gynnwys contractau dim oriau, cymwysterau a chofrestru'r gweithlu, talu am amser teithio a chraidd, a llwybrau gyrfa. Croesawaf yr ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i ddarparu ar gyfer mwy o dryloywder dros y defnydd o gontractau dim oriau.

Rwy'n falch bod y datganiad hwn yn nodi bwriad clir i ymestyn y gyfundrefn cofrestru gweithlu i weithwyr gofal cartref erbyn 2020 hefyd.  Hyd yn oed ar gam cynnar, rwy’n meddwl yng Nghymru ein bod yn gweld y manteision o benderfyniad Llywodraeth Cymru i gyflwyno trefn gofrestru ar draws y gweithlu addysg, ac nid oes amheuaeth gennyf y bydd buddion tebyg yn deillio o gofrestru staff gofal cartref.

O ran gofal preswyl, rwy'n falch o nodi bod y comisiynydd wedi derbyn y sicrwydd priodol y bydd Llywodraeth Cymru ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru yn cynnal camau gweithredu a nodwyd yn adroddiad y comisiynydd, 'Lle i’w Alw’n Gartref?', a bod y cynnydd yn cael ei fonitro'n rheolaidd.  Wrth ymweld â chartrefi gofal preswyl yn fy etholaeth i, dwi'n cael fy nharo gan faint o ofal gwych ac arferion da sy’n cael eu cyflwyno.  Fodd bynnag, rwy’n meddwl weithiau tybed a ydym yn gwneud digon i hyrwyddo’r arferion da hynny, ac felly rwy’n croesawu ymrwymiad y comisiynydd i gynnal seminarau pellach yn 2016-17, lle gall darparwyr cartrefi gofal ddod ynghyd a rhannu arferion da.

Yn gynharach, soniais am yr unigrwydd a’r unigedd a deimlir gan lawer o bobl hŷn, ac wrth ddod i'r diwedd, felly, rwy’n diolch i'r Ceidwadwyr am eu gwelliannau adeiladol wrth gydnabod yr angen i fynd i'r afael â hyn, ac am eu cefnogaeth i ystyried Bil hawliau pobl hŷn.  Rwyf hefyd yn croesawu ac yn cefnogi'r gwelliant gan Blaid Cymru sy’n cydnabod swyddogaeth allweddol ein gwasanaethau cyhoeddus, a'r heriau y maent yn eu hwynebu ar ôl blynyddoedd o bolisïau llymder aflwyddiannus Llywodraeth San Steffan.

Diolch yn fawr iawn.  Galwaf ar y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl.  Rebecca.

Diolch.  Diolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at yr hyn yr wyf yn meddwl sydd wedi bod yn ddadl ddefnyddiol ac adeiladol iawn y prynhawn yma, ac wrth gloi, hoffwn nodi ein hymrwymiad parhaus a’n cymorth i bobl hŷn. Rwy'n credu bod hyn yn cael ei atgyfnerthu yn y camau penodol yr ydym wedi’u nodi yn ein rhaglen lywodraethu, ‘Symud Cymru Ymlaen'.

Rydym wedi trafod rhai o'r camau gweithredu hyn yn ystod y ddadl heddiw, ac maent yn cynnwys datblygu strategaeth genedlaethol a thraws-lywodraeth i fynd i'r afael ag unigrwydd ac unigedd, yn ogystal â'n hymrwymiad i wneud Cymru yn wlad sy’n ystyriol o ddementia. Rydym hefyd wedi trafod y gwaith sydd wedi ei ddatblygu drwy Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ac fe gafodd y fframwaith canlyniadau ar gyfer honno ei ddatblygu drwy weithio gyda'r comisiynydd pobl hŷn, sydd hefyd wedi gweithio gyda ni ar yr agenda integreiddio.

Bydd yr Aelodau'n ymwybodol o'r gwaith sy'n cael ei ddatblygu trwy'r gronfa gofal canolraddol, ac mae hynny i atal derbyniadau diangen i'r ysbyty ac i ddarparu gofal cam-i-lawr neu ddychwelyd adref yn gyflymach i bobl.  Rwy'n falch iawn ein bod wedi ymrwymo i barhau i ariannu hwn fel un o'n hymrwymiadau allweddol yn ein rhaglen lywodraethu.

Rydym hefyd wedi bod yn weithgar wrth ddatblygu gwaith i fynd i'r afael â'r argymhellion a nodwyd yn adolygiad y comisiynydd cartrefi gofal.  Mae'r grŵp llywio cartrefi gofal, a sefydlwyd ym mis Gorffennaf 2014, yn cyfarfod bob deufis i ddarparu arweinyddiaeth a chyfeiriad strategol o ran y sector cartrefi gofal yng Nghymru.

Un o'r materion a nodwyd gan y comisiynydd oedd mynediad at wasanaethau gofal sylfaenol ar gyfer pobl sy'n byw mewn cartrefi gofal, a chytunwyd ar wasanaeth newydd gwell, a fydd yn berthnasol i bob cartref nyrsio a chartref gofal preswyl yng Nghymru, yn amodol ar gymeradwyaeth derfynol.

Mae'r gwasanaeth newydd, gwell hwn yn ceisio mynd i'r afael ag amrywiadau yn y ffordd y mae pobl hŷn sy'n byw mewn cartrefi gofal yn gallu cael gafael ar wasanaethau meddygon teulu. Mae hyn yn cynnwys mynediad at ofal iechyd ataliol, megis ffisiotherapi, therapi galwedigaethol, iechyd y geg, atal cwympiadau a chymorth iechyd meddwl.

Mae gwaith hefyd wedi ei wneud drwy'r grŵp llywio cartrefi gofal i ddatblygu canllawiau arfer da, ac mae hyn yn cynnwys pecyn croeso, sy'n darparu fframwaith ar gyfer cartrefi gofal o ran yr wybodaeth y dylent fod yn sicrhau sydd ar gael i bobl a'u teuluoedd er mwyn eu gwneud yn ymwybodol o’r hyn y dylent fod yn gallu ei ddisgwyl gan y cartref gofal.  Datblygwyd canllaw arfer da hefyd i wella'r profiad bwyta i bobl ac fe gafodd y ddau fater hyn eu hamlygu yn adolygiad y comisiynydd.

Felly, hoffwn gloi drwy ddiolch unwaith eto i'r comisiynydd a'i thîm am bopeth y maent wedi ei gyflawni yn 2015-16, a gwn fod y cyflymder wedi parhau byth ers i'r adroddiad gael ei gyhoeddi ym mis Mehefin, gyda rhaglen yr un mor heriol o weithio ar y gweill ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Er y gall deddfwriaeth arfaethedig fod yn ymyrraeth allweddol wrth gryfhau hawliau pobl hŷn ledled Cymru, mae’n rhaid i ni beidio ag anghofio'r gwahaniaeth y gallwn ni i gyd ei wneud yn awr, fel Llywodraeth, fel gwleidyddion, ac fel unigolion. Mae angen i ni herio achosion o ragfarn ar sail oedran lle bynnag y maent yn bodoli, bod yn effro i achosion o gam-drin, a gwella ein dealltwriaeth ein hunain o effaith byw gyda dementia.

Felly, fel y mae’r comisiynydd yn ei gasglu yn ei hadroddiad, ni ddylid byth anghofio ein bod yn ffodus i fod yn genedl o bobl hŷn a’u bod, trwy'r hyn y maent wedi ei wneud a'r hyn y maent yn parhau i’w wneud i ni, yn grŵp a ddylai gael ei edmygu, ei barchu a’i weld fel ased cenedlaethol.

Diolch yn fawr iawn.  Y cynnig yw cytuno ar welliant 1.  A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly caiff gwelliant 1 ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12. 36.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12. 36.

Unwaith eto, y cynnig yw derbyn gwelliant 2.  A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, caiff gwelliant 2 ei dderbyn.

Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12. 36.

Y cynnig yw cytuno ar welliant 3.  A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad. Felly, byddwn yn gohirio'r pleidleisio ar welliant 3 tan y cyfnod pleidleisio

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

10. 6. Dadl: Adroddiad Blynyddol y Prif Swyddog Meddygol ar gyfer 2015-16

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Rhun ap Iorwerth.

Rydym yn awr yn symud ymlaen at eitem 6, sef dadl ar adroddiad blynyddol y prif swyddog meddygol ar gyfer 2015-16.  Rwy'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon i gynnig y cynnig—Vaughan Gething.

Cynnig NDM6175 Jane Hutt

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi'r Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2015-16 gan Brif Swyddog Meddygol Cymru ‘Adfer cydbwysedd i ofal iechyd—Gweithio mewn partneriaeth i leihau annhegwch cymdeithasol’.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd.  Rwy'n hapus i gynnig y cynnig ar y papur trefn ac ar y cychwyn i gadarnhau bod y Llywodraeth hefyd yn hapus i gefnogi'r gwelliant a gyflwynwyd.

Nawr, bob blwyddyn, fel y bydd yr Aelodau yn gwybod, mae Prif Swyddog Meddygol Cymru yn nodi trosolwg annibynnol o’r materion iechyd a lles sy'n wynebu'r genedl.  Rwy'n falch o arwain y ddadl hon i nodi cyhoeddi'r adroddiad blynyddol cyntaf un gan ein prif swyddog meddygol newydd, Dr Frank Atherton.  Fe’i hysgrifennwyd ar y cyd eleni â’r Athro Chris Jones, y dirprwy brif swyddog meddygol.

Mae'r adroddiad blynyddol hwn yn draddodiadol yn nodi asesiad o ble mae Cymru'n sefyll o safbwynt iechyd a lles, ac rwy'n gobeithio y bydd Aelodau wedi nodi, yn yr adroddiad hwn, bod y prif swyddog meddygol wedi rhoi naws wahanol i ni o’i chymharu â’r adroddiadau blaenorol mewn gwirionedd. Nawr, wrth gwrs, mae'n ychwanegu at lawer o negeseuon ei ragflaenwyr, yn enwedig mewn cysylltiad ag atal ac ymyrraeth amserol. Ond mae'r prif swyddog meddygol newydd wedi dewis gweld pethau mewn ffordd ychydig yn llai traddodiadol. Nid yn unig mae wedi ychwanegu adran ar y graddiant cymdeithasol, ond mae wedi canolbwyntio'r adroddiad i gyd yn benodol ar y graddiant cymdeithasol a sut mae pobl o grwpiau difreintiedig yn dioddef lefelau uwch o afiechyd a chyfleoedd gwael mewn bywyd.

Rwy’n croesawu cyfeiriad yr adroddiad hwn. Mae'n herio pob un ohonom yma yn y Siambr hon, fel rhai sy'n gwneud penderfyniadau ac yn craffu. Dylai sbarduno ein dewisiadau yn y dyfodol, ac rwy’n gobeithio y bydd yn llywio’r ddadl iechyd a lles yn y dyfodol yng Nghymru. Mae'n cynnig argymhellion ar sut yr ydym yn gwneud ein gwasanaethau'n fwy effeithiol, yn hygyrch ac yn gynaliadwy i bawb.

Mae'r graddiant cymdeithasol yn effeithio ar bawb a rhaid i holl sefydliadau'r sector cyhoeddus feddwl ac ymddwyn yn wahanol os ydym am fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau sy'n bodoli o fewn cymunedau mewn modd ystyrlon. Mae'r rhain yn anghydraddoldebau o fewn pob cymuned a rhwng gwahanol gymunedau.  Er nad yw’r anghydraddoldebau hyn yn unigryw i Gymru ac maent i’w gweld mewn gwledydd eraill ar draws y byd, mae ganddynt, wrth gwrs, ddimensiwn unigryw Cymreig, o ran hanes, diwylliant a lleoliad daearyddol. Dealltwriaeth y bobl a'r cymunedau y maent yn byw ynddynt, lle mae eu bywyd bob dydd yn digwydd, fydd yn ein helpu ni i weithio gyda'n gilydd i sicrhau’r ymateb mwyaf priodol i’r amgylchiadau hynny.  Oherwydd mae pob un ohonom yn gwybod bod y gwasanaeth iechyd gwladol yn wynebu brwydr barhaus i ateb y galw a achosir gan afiechyd—galwadau yr ydym yn cydnabod sy’n codi, flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Mae gorddibyniaeth ar wasanaethau a defodau ac arferion clinigol sydd wedi dyddio yn gallu achosi llawer iawn o weithgaredd yn y system, ond nid ydynt bob amser yn diwallu anghenion y bobl dlotaf. Rwy'n falch o dynnu sylw yma at y gwaith yr ydym eisoes yn ei wneud wrth geisio diwygio'r system cleifion allanol. Gwyddom ei fod yn achosi aneffeithlonrwydd enfawr yn ein gwasanaethau. Nid yw'n gwneud y defnydd gorau o amser clinigwyr nac, yn wir, yn gwneud y defnydd gorau o amser cleifion, drwy'r amser; mewn gwirionedd mae’n bwynt gweithgaredd a all olygu arbedion enfawr i’n gwasanaeth iechyd ni a llawer mwy o werth o ran yr hyn yr ydym yn ei ddarparu ar ôl hynny.

Mae adroddiad y prif swyddog meddygol yn ddigon teg yn gofyn beth all y GIG ei wneud i ymdrin â'r sefyllfa hon, drwy, ymysg pethau eraill, ddatgloi pŵer ymgysylltiad yr unigolyn a'r gymuned wrth symud oddi wrth afiechyd i les.  Nawr, yn y pen draw, dylai hyn leihau'r galw ar wasanaethau a’u gwneud yn fwy cynaliadwy.  Drwy edrych ar ganlyniadau iechyd drwy lens y graddiant cymdeithasol, gallwn weld nifer uwch o achosion o niwed sy'n gysylltiedig â ffordd o fyw a chefndir cymdeithasol, salwch, a marwolaeth gynnar yn y grwpiau sydd fwyaf difreintiedig yn economaidd.  Felly, mae'r adroddiad yn ceisio nodi'r hyn yr ydym yn ei ddeall gan y graddiant cymdeithasol mewn iechyd ac mae'n dangos ei fod mor ddiamwys yma yng Nghymru ag y mae mewn mannau eraill.  Mae iechyd yn gwella’n gynyddol wrth i sefyllfa economaidd-gymdeithasol pobl a chymunedau wella.  Mae'r adroddiad hefyd yn edrych ar sut y gall penderfynyddion cymdeithasol iechyd gwael, oherwydd profiad anodd yn ystod bywyd cynnar y ffetws neu yn ystod y blynyddoedd cynnar, addysg wael, tai, diweithdra, neu effaith tlodi, bob un ohonynt, effeithio ar ein hiechyd a'n lles yn y tymor hwy. Ac mae hefyd yn edrych ar sut y gall y gwasanaeth iechyd gwladol a chyrff cyhoeddus eraill ymyrryd i ddylanwadu neu liniaru rhai o'r ffactorau negyddol hynny.  Mae'r adroddiad yn atgyfnerthu'r hyn yr ydym wedi ei ddysgu ac yn ei wybod am y ffordd orau o fynd i'r afael â'r graddiant cymdeithasol: hynny yw, drwy wasanaethau cyffredinol sy'n ymateb i lefel yr angen, sy'n wahanol mewn gwahanol rannau o'n gwlad.

Nawr, mae ein GIG ni, sy’n rhad ac am i’w ddefnyddio, ac sydd ag enw da am ragoriaeth ar draws y byd, wedi gwneud llawer i atal anghydraddoldebau iechyd. Ond mae'r adroddiad hwn yn gofyn cwestiynau am sut yr ydym yn defnyddio'r adnodd GIG yma yng Nghymru orau, a sut mae'n rhaid trefnu'r GIG er mwyn lleihau’r graddiant cymdeithasol ymhellach, nid ei gynyddu. Mae’n gofyn beth yw’r ffordd orau o fanteisio ar ein hegwyddorion gofal iechyd doeth yma yng Nghymru a darparu gwasanaethau mwy cyfartal i gael eu cyd-gynhyrchu’n wirioneddol â'r unigolion a'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.  Rwy’n credu mai hwn yw’r pwynt y mae’r gwelliant yn ceisio canolbwyntio arno hefyd.  Rydym yn cydnabod bod cyfrifoldeb arwain ar bobl fel ni, wleidyddion, ac ar bobl y byrddau iechyd a sefydliadau eraill sy’n arwain a rhedeg sefydliadau.  Ond, yn ogystal â’r arweinyddiaeth honno, ni fyddwn yn llwyddiannus mewn gwirionedd oni fyddwn yn gallu gweithio gyda gwahanol gymunedau ac unigolion, nid dim ond dweud wrthynt beth mae'n rhaid iddynt ei wneud.  Ym mhob achos o ryngweithio â gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal, a chyda chefnogaeth cymheiriaid a her cymheiriaid hefyd, rydym yn cydnabod y gallwn helpu i roi’r wybodaeth i bobl wneud dewisiadau gwirioneddol gytbwys.  Gwyddom fod y claf mwy gwybodus yn tueddu i wneud dewisiadau gwell.

Mae'r negeseuon yn yr adroddiad ynghylch system gofal iechyd fwy cynaliadwy a'r angen i reoli'r galw yn rhai heriol, ond yn hanfodol.  Mae GIG Cymru yn system brysur.  Dyma ein gwasanaeth cyhoeddus mwyaf.  Mae'n defnyddio 48 y cant o'n hadnoddau ac, yn wir, mae ein gwariant ar iechyd a gofal cymdeithasol bellach 7 y cant yn uwch fesul y boblogaeth nag yn Lloegr.  Roedd yr adroddiad OECD diweddaraf, a oedd yn adolygu systemau ansawdd sy'n gweithredu ym mhedair adran iechyd y Deyrnas Unedig, yn canmol llawer o'r hyn yr ydym eisoes yn ei wneud yng Nghymru, ond yn teimlo y gallem wneud mwy i gyflawni ein huchelgeisiau.  Mae hynny'n golygu symud i ffwrdd o drin afiechyd a throi at ffyrdd o gefnogi pobl i wneud y gorau o'u cyfleoedd mewn bywyd ac, mewn llawer o achosion, bydd iechyd da yn dilyn.

Mae'r negeseuon yn yr adroddiad hwn gan y prif swyddog meddygol am fodelau gofal newydd, fel rhagnodi cymdeithasol, er enghraifft, a'r angen i ddeall yn well yr heriau a wynebir gan gymunedau er mwyn dod o hyd i atebion, yn rhai amserol ac i’w croesawu. Mae swyddogaeth ganolog gweithwyr iechyd proffesiynol hefyd yn bwysig ac yn cyd-fynd ag arfer gorau tebyg ar gyfer ein holl wasanaethau cyhoeddus o ran diwylliant, arweinyddiaeth ac ymddygiadau. Yn gyffredinol mae ein gweithlu yn werthfawr iawn a gallwn ymddiried ynddo, a chyda mynediad at ein poblogaeth ar adegau allweddol yn eu bywydau, mae angen i ni wneud y gorau o allu’r gweithlu i ymyrryd gydag unigolion o fewn eu cymunedau a gwneud penderfyniadau ar y cyd er mwyn gwella’r canlyniadau hynny i unigolion a theuluoedd. Wrth gwrs, mae hynny hefyd yn cefnogi'r dyheadau a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Mae’r wyth argymhelliad yn yr adroddiad wedi’u hanelu at sefydliadau'r GIG, eu partneriaid, Llywodraeth Cymru a darparwyr addysg. Maent yn adlewyrchu dull cwrs bywyd, gyda'r ymchwil ddiweddaraf, gan gynnwys cyhoeddiadau a thystiolaeth Cymru, a’r pwyslais hwnnw ar atal ac ymyrryd yn gynnar. Maent hefyd yn galw am arloesi a'r angen am ymchwil parhaus i fodelau gofal newydd. Mae llawer o heriau wedi’u nodi yn yr adroddiad. Edrychaf ymlaen at glywed yr hyn sydd gan yr Aelodau i'w ddweud yn y ddadl heddiw.

Rwyf wedi dethol y gwelliant i’r cynnig ac rydw i’n galw ar Rhun ap Iorwerth i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn ei enw ei hun.

Gwelliant 1—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod mynychder iechyd gwael mewn cymunedau tlotach, fel y nodir yn yr adroddiad, yn cael ei achosi gan amodau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd ehangach ac na ellir ei feio'n unig ar ddewisiadau gwael a wneir gan unigolion, ac y dylai polisïau iechyd cyhoeddus adlewyrchu cyfrifoldeb y llywodraeth i fynd i'r afael â hyn, yn hytrach na chanolbwyntio ar ddim ond pregethu wrth bobl.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Lywydd. Rydw i’n cynnig y gwelliant yma, ac mae o’n canolbwyntio ar un elfen o’r adroddiad, mewn difrif. Mae adroddiad y prif swyddog meddygol yn ein hatgoffa ni eto fod y cymunedau tlotaf yn talu pris sylweddol o ran eu hiechyd, yn syml am fod yn dlawd ac am fod pobl yn byw ochr yn ochr â phobl dlawd eraill. Mae yna ormod o ganolbwyntio weithiau, rydw i’n meddwl, ar y dewisiadau mewn ffordd o fyw sy’n cael eu gwneud gan bobl. Mae’n wir, wrth gwrs, fod nifer yr achosion o ysmygu a gordewdra yn fwy yn yr ardaloedd tlotach, ond mi ddylem ni fod yn wyliadwrus bob amser, rydw i’n meddwl, o greu naratif bod y bai am iechyd gwael ar y person ei hun neu ei bod hi wastad yn wir mai pobl dlotach sydd efo’r ymddygiad iechyd gwaelaf.

Mae yna lawer o bobl ar incwm isel sy’n byw bywyd iach iawn, ond sy’n dal yn gorfod delio ag effeithiau cartrefi gwael, cyflogaeth ansicr ac yn y blaen. Cofiwch hefyd fod data arolwg iechyd Cymru’n dangos bod yfed alcohol hyd at fod yn niweidiol yn uwch ymhlith gweithwyr rheoli yn aml nag ymhlith gweithwyr eraill, ac rydw i’n siŵr bod yna rai rheolwyr dosbarth canol a fyddai’n fodlon cyfaddef y gallen nhw wneud efo colli ychydig o bwysau. Felly, rydw i’n falch bod adroddiad y prif swyddog meddygol yn rhoi sylw i’r ffactorau yma, sydd ddim yn gallu cael eu diystyru rywsut fel canlyniad i ymddygiad gwael mewn rhyw ffordd.

Rydym ni wedi tynnu sylw, ar sawl achlysur, at y cysylltiadau rhwng tai gwael ac iechyd, rhwng digartrefedd ac iechyd, cyflogaeth ansicr a diweithdra ac iechyd ac yn y blaen. Ni all yr un o’r rheini gael ei ystyried fel dewis bywyd, wrth gwrs. Mae hefyd yn wir y bydd gwell addysg, mynediad at fannau gwyrdd a chyflogaeth mwy diogel yn cael yr effaith groes ar iechyd gydol oes rhywun.

Rŵan, mae’r prif swyddog meddygol yn ein hatgoffa ni’n benodol am brofiadau plentyndod andwyol hefyd, a phwysigrwydd y 1,000 o ddyddiau cyntaf. Mae o’n nodi bod y dystiolaeth yn dangos y byddai buddsoddi ychydig dros £100 mewn atal profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn arwain at dros £6,000 o arbedion o’u mesur ar draws yr holl wasanaethau cyhoeddus dros bum mlynedd cyntaf bywyd. Mae hynny’n gyfradd buddsoddi llawer gwell na chewch chi mewn llawer o feysydd eraill—ar wahân i roi bet ar Leicester i ennill yr uwch gynghrair o bosib. Mae hwnnw’n ‘return’ eithaf da. Mi allwn ni ddod o hyd i dystiolaeth debyg ar draws gwasanaethau cyhoeddus eraill hefyd. Mi fyddai tai gwell yn atal afiechyd, creu mannau gwyrdd yn arwain at well iechyd, ac yn y blaen.

Dyna pam bod y prif swyddog meddygol yn argymell bod yn rhaid i’r NHS felly weithio efo gwasanaethau cyhoeddus eraill—atal tân, cyngor ariannol, cefnogaeth tai—wrth geisio creu, os liciwch chi, iechyd cynaliadwy i Gymru ar gyfer y dyfodol. Mi fyddwn i’n mynd yn bellach yma hefyd. Mae’r adroddiad yn wir yn dangos bod torri gwariant cyhoeddus, fel ydym ni wedi ei weld gan y Llywodraeth Geidwadol yn Lloegr, wedi bod yn enghraifft o economi ffug o’r lefel uchaf, a’r mwyaf bregus sy’n dioddef pan fo gwariant cyhoeddus yn cael ei dorri. Mae mor syml â hynny.

Wrth wraidd y broblem rydym ni’n ei hystyried yn fan hyn mae anghydraddoldeb. Yr wythnos diwethaf, mi ddangosodd gwaith ymchwil diddorol fod gan y rhai ar waelod haenau hierarchaeth y deyrnas anifeiliaid systemau imiwnedd gwaelach o ganlyniad i statws cymdeithasol isel. Mae yna lawer o academyddion sy’n arbenigo mewn anghydraddoldebau iechyd wedi nodi perthnasedd yr astudiaeth hon i fodau dynol hefyd. Anghydraddoldeb ei hun ydy’r broblem. Mae’r llyfr ‘The Spirit Level’ yn crynhoi llawer o’r ymchwil ar hyn. Mae gwledydd efo llai o anghydraddoldeb yn tueddu bod yn sylweddol iachach, yn tueddu bod â chyfraddau troseddu is, gwell symudedd cymdeithasol ac ati. Mae hynny’n rhywbeth y dylem ni ei ystyried yn ofalus iawn, iawn pan fyddwn ni’n trafod y symiau mawr o arian rydym ni’n eu gwario ar ddelio efo effeithiau anghydraddoldeb. Taclo’r broblem yw’r allwedd, nid delio efo’r symptomau. Mae Plaid Cymru’n credu pe bai’r Llywodraeth yn fwy rhagweithiol i helpu greu amgylchedd iachach, byddai dewisiadau bywyd gwell yn dilyn yn anochel. I gydnabod hynny, cefnogwch y gwelliant yma.

Yn gyntaf oll, hoffwn yn fawr iawn groesawu’r adroddiad hwn gan y prif swyddog meddygol, a hoffwn ddiolch i Dr Frank Atherton a'r Athro Chris Jones am y gwaith y maent wedi ei roi i mewn iddo. Rwy'n credu bod yr adroddiad hwn yn dangos yn amlwg nad yw dull un maint i bawb yn gweithio i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.  Gan fod Rhun ap Iorwerth newydd siarad am y graddiant cymdeithasol, hoffwn i wneud sylw cyflym y byddwn yn cefnogi gwelliant heddiw.

Mae'n ddiddorol nodi’r niwed y gall ymyriadau sydd wedi eu defnyddio neu eu hystyried yn wael eu hachosi.  Fel y dywed yr adroddiad, mae ymyriadau iechyd nad ydynt yn cyrraedd y rhai sydd fwyaf mewn perygl yn debygol o gynyddu anghydraddoldeb canlyniadau iechyd.  Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, yn y gorffennol mae eich adran wedi bod yn amharod i roi dangosyddion perfformiad allweddol ar waith i reoli neu fesur canlyniadau polisi yn effeithiol.  Gyda’r datganiad hwn, mae'n rhaid eich bod yn gweld y perygl y gall polisi aneffeithiol ei gael yn uniongyrchol ar iechyd.  A wnewch chi, felly, ymrwymo i gynhyrchu pwyntiau mesur allweddol i sicrhau effeithiolrwydd y polisïau sydd wedi’u cyflwyno?

Mae'r adroddiad hefyd yn mynd ymlaen i dynnu sylw at y ffaith fod gan ddarparu gwasanaethau GIG heb ystyried y graddiant cymdeithasol y potensial i gynyddu'r anghydraddoldeb.  Felly, ar y sail hon, a fyddech chi hefyd, Ysgrifennydd y Cabinet, yn ystyried rhoi mwy o bŵer i fferyllfeydd cymunedol i ymgymryd â rhai o'r mân swyddogaethau er mwyn galluogi meddygon teulu a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill i ganolbwyntio ar waith mwy manwl a'r rheini sydd â’r angen mwyaf?

Yn ddiweddar, ymwelais â’r practis rhagorol, Eastside Dental, yn Abertawe, sy'n un o ddim ond dwy feddygfa yng Nghymru sy’n treialu'r prototeip newydd o ddarparu dull mwy cyfannol o ymdrin â'u cleifion. Mae'r trefniant hwn yn caniatáu i lawer mwy o waith gael ei wneud i ymdrin ag atal yn hytrach na dim ond ceisio datrys y problemau fel y maent wedi codi o ran deintyddiaeth. Mae'r adroddiad yn sôn am weithio gyda phartneriaethau i leihau anghydraddoldeb cymdeithasol. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, tybed a fyddech yn barod i edrych yn fanwl ar y prototeip hwn sydd wedi cei dreialu yn Abertawe a gweld a allai hwn fod yn fodel y gallwn ni ei gyflwyno ledled Cymru. Mae atal pobl rhag cael dannedd drwg yn y lle cyntaf nid yn unig yn helpu gyda hylendid ac iechyd y geg, ond mewn gwirionedd mae’n helpu gyda'u hiechyd cyffredinol hefyd. Dyma enghraifft arall o sut y gall cyd-gynhyrchu weithio o ddifrif.

Mae gwelliant 5 yn yr adroddiad, rwy’n teimlo, yn mynd i’r afael â chraidd y mater.  Ysgrifennydd y Cabinet, a fyddech cystal ag amlinellu pa drafodaethau yr ydych yn eu cael gyda'ch cydweithiwr yn y Cabinet i sicrhau bod y fframwaith cynllunio diwygiedig yn mynnu bod sefydliadau’n cynllunio ar gyfer canlyniadau iechyd teg ar gyfer eu poblogaethau ac yn canolbwyntio ar leihau'r galw? Rwy’n credu y byddai hynny’n hollol allweddol i allu symud ymlaen o ran yr agwedd ar anghydraddoldeb iechyd a gynhwysir yn yr adroddiad hwn.

Mae dau bwynt arall yr wyf yn dymuno eu gwneud yn gyflym. Cafodd ei wneud yn glir yn yr adroddiad hwn yr effaith y gall profiad andwyol plentyndod ei chael ar ganlyniadau bywyd person arall. Credaf, ar gyfer y rhai a fyddai'n dymuno darllen yr adroddiad hwn, y byddwn yn argymell eich bod yn cael golwg fanwl ar ffigur 7 ac ar effeithiau tymor hir profiadau niweidiol plentyndod. Efallai y bydd pobl sydd wedi cael pedwar neu fwy o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, er enghraifft, 14 gwaith yn fwy tebygol o fod wedi bod yn dioddef trais yn y 12 mis diwethaf, ac 16 gwaith yn fwy tebygol o fod wedi cymryd crac cocên neu heroin. A phe byddem yn atal ACEs— profiadau niweidiol yn ystod plentyndod—i’r bobl ifanc hyn, yna gallwn leihau rhai o'r canlyniadau ofnadwy yr ydym yn eu gweld yn y gwasanaeth iechyd. Felly, pe baem yn edrych ar y defnydd o heroin a chrac cocên, er enghraifft, gallem leihau hynny 66 y cant. Mae hwn yn dabl trawiadol iawn, iawn.

Ysgrifennydd y Cabinet, un o'r meysydd sydd wedi cael eu hamlygu yn ddiweddar yw'r cam-drin rhywiol a’r aflonyddu y mae merched ifanc a menywod ifanc yn eu hwynebu yn yr ysgol.  Maent yn dioddef lefelau o gam-drin rhywiol gan ddynion ifanc nad ydynt wedi deall yn hollol beth y mae’r gêm yn ei olygu, a sut yr ydych yn parchu eich gilydd—lefelau o gam-drin na fyddem yn disgwyl eu dioddef yn ein gweithle, ond mae pobl ifanc yn gorfod ei ddioddef.  A gaf i dynnu eich sylw at adroddiad y pwyllgor dethol o San Steffan a edrychodd ar bob plentyn ysgol a merch ym Mhrydain? Mae dros ddwy ran o dair o ferched wedi dioddef cam-drin rhywiol yn yr ysgol.  Ac a gaf i ofyn ichi siarad â'ch cydweithiwr, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, am sut y gallem flaenoriaethu iechyd rhywiol o fewn ein cwricwlwm, fel y gallwn addysgu ein pobl ifanc sut i fod yn fwy parchus a gallu ymdrin yn well â’r cam-drin sy’n digwydd o fewn perthynas? Oherwydd, pan fyddwn yn edrych ar y rhestr hon o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, mae llawer iawn ohonynt yn mynd yn ôl i’r blynyddoedd cynnar hynny a'r berthynas rhwng dynion a menywod.  Ac mae gofal iechyd doeth yn fater arall yr hoffwn i fod wedi ei godi, ond byddaf efallai yn ysgrifennu atoch ar y mater hwnnw.

Rwyf innau, hefyd, yn credu bod hwn yn adroddiad ardderchog mewn gwirionedd, oherwydd ei fod yn nodi mor glir yr heriau sy'n ein hwynebu yng Nghymru, nid yn unig o fewn y gwasanaeth iechyd, ond ar draws yr holl wasanaethau cyhoeddus. Felly, byddwn o ddifrif yn hoffi llongyfarch yr awduron, gan y credaf ei fod yn rhoi llawer i gnoi cil arno.

Mae'n berffaith amlwg o'r adroddiad hwn na all y GIG fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd ar ei ben ei hun, ac mae Deddf cenedlaethau'r dyfodol yn ei gwneud yn ofynnol i bob corff cyhoeddus weithredu gyda'i gilydd i fynd i'r afael â'r materion hyn.  Mae'n debyg mai un o'r graffiau mwyaf diddorol yw'r un sy’n dangos y canlyniadau ar gyfer gwybyddiaeth mewn plant sydd â statws economaidd-gymdeithasol uchel ac isel a sut y maent yn ymwahanu dros amser.  Mae'n amlwg o'r graff fod plant dwl cyfoethog yn goddiweddyd y plant tlawd disglair erbyn iddynt gyrraedd pump oed, a'r unig ffordd y gallwn wrthsefyll y duedd hon yw drwy gael gofal plant cynhwysfawr ac addysg gynnar o ansawdd da iawn. Oherwydd cafodd ei ddangos mewn astudiaethau eraill mai dyna'r ffordd yr ydym yn curo’r agwedd benodol honno ar amddifadedd.

Ond rwy'n credu, o edrych ar y ffigurau gordewdra a ddyfynnir, chi'n gwybod, mae un o bob saith plentyn ym Merthyr yn rhy drwm neu'n ordew, o’i gymharu ag un o bob 14 ym Mro Morgannwg.  Yn amlwg, mae cysylltiad ag amddifadedd, ond mae’n rhaid i ni hefyd edrych ar gyflwyniad cyferbyniol y ffeithiau, sef nad yw chwech o bob saith plentyn ym Merthyr yn rhy drwm neu'n ordew, ac mae hynny'n rhywbeth i’w ddathlu. Mae'n dangos nad yw'n ffaith bendant bod y rhai sy'n byw ar incwm is o reidrwydd yn mynd i fod yn ordew.  Mae'n gwbl anghywir bod bwyd da yn costio mwy o arian na bwyd sy'n isel o ran cynnwys maethol. Un o'r pwyntiau pwysicaf yn yr adroddiad yw’r gydberthynas rhwng siopau bwyd cyflym ac ardaloedd o amddifadedd, ac mae'n cyfeirio at adroddiad yn Lloegr sy'n dweud eich bod ddwywaith yn fwy tebygol o fod yn ordew os ydych yn byw yn agos at siop bwyd cyflym.  Nid wyf yn credu bod hyn yn berthnasol i Loegr yn unig, gan fy mod wedi bod yn bresennol mewn digwyddiad i arlwywyr Asiaidd yn ddiweddar yn Stadiwm Dinas Caerdydd, ac fe'i gwnaed yn berffaith glir yno, os ydych yn byw neu'n gweithio yn agos at siop bwyd cyflym, rydych ddwywaith yn fwy tebygol o fod yn ordew.  Mae mor blaen â hynny.  Felly, nid yw’n fater o fyw ar incwm isel; ond yr ymddygiadau sy'n eich arwain at fynd i siop bwyd cyflym, yn hytrach na gwneud eich bwyd eich hun, sy’n amlwg yn ffordd o osgoi'r pethau niweidiol sy'n cael eu hychwanegu at fwyd wedi'i brosesu er mwyn gwneud elw. Felly, byddwn yn awyddus i glywed barn Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ar bwysigrwydd y bwyd yr ydym yn ei roi i’n plant yn yr ysgol ac a yw e’n credu bod hon yn agwedd lle gallwn sicrhau bod pob plentyn, waeth beth yw arferion ei rieni, yn gallu blasu a phrofi bwyd da, plaen, er mwyn ei alluogi i dyfu i fyny yn bwyta deiet iach.

Yn ddiweddar, ymwelais ag un o'r ysgolion yn Sir y Fflint, sydd i gyd yn dilyn y rhaglen Bwyd am Oes. Maent wedi dyblu nifer y plant sy'n manteisio ar brydau ysgol, ac roedd hyn, meddai’r pennaeth, yn bendant wedi lleihau nifer y plant sy'n dod â bwyd anaddas mewn pecynnau i’r ysgol, sy'n golygu nad yw’r plant hynny mewn gwirionedd yn cael unrhyw faeth yn ystod y diwrnod ysgol.  Felly, byddwn yn awyddus i gael gwybod beth mae’r Ysgrifennydd iechyd yn credu yw swyddogaeth awdurdodau lleol wrth hyrwyddo nid dim ond y canllawiau 'Blas am Oes', ond y canllawiau ‘Bwyd Da i Bawb’, sy'n sicrhau bod bwyd wedi’i baratoi yn ffres, yn dod o ffynonellau lleol ac yn cael ei weini’n ddyddiol i'n plant i gyd. Felly, rwy’n credu bod hwn yn adroddiad ardderchog mewn gwirionedd, ac rwy’n meddwl y dylem wrando ar eiriau Dr Mair Parry, o’r Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant, sy'n dweud bod Cymru'n parhau i gael y cyfraddau gwaethaf o ran gordewdra ymhlith plant yn y DU ac yn amlwg bod angen gwneud mwy i fynd i'r afael â'r diffygion hyn. Mae pryderon yn dal i fodoli ynghylch nifer y plant sy'n bwyta ffrwythau a llysiau bob dydd ac sy'n gwneud ymarfer corff, ac mae’n amlwg bod rhywbeth pwysig iawn yn digwydd yma.

Rydw i wedi rhedeg allan o amser, ond mae'n debyg mai’r ffaith foel arall yw cyn lleied y mae cymunedau tlawd yn defnyddio deintyddion ac optegwyr. Wrth gwrs, mae'r rhain yn y ddau wasanaeth iechyd—o’u cymharu â meddygon teulu, y maent yn defnyddio llawer mwy arnynt mewn ardaloedd o amddifadedd—y rhain yw’r ddau wasanaeth lle’r ydych mewn gwirionedd yn gorfod talu amdanynt. Mae hyn yn amlwg yn un o'r pethau y mae angen i ni eu hystyried.  Mae’n dweud wrthym nad yw pobl dlawd yn gallu cael mynediad at ddeintyddion neu gael sbectol pan fydd eu hangen arnynt, ac mae hynny'n fater pwysig iawn—byddai'n ddefnyddiol gwybod beth yw barn Ysgrifennydd y Cabinet.

Hoffwn ddiolch i Dr Atherton am ei adroddiad, a chofnodi fy niolch i'r Athro Jones am gynnal yr achos yn dilyn ymddeoliad Dr Hussey.  Mae Dr Atherton yn ei gwneud yn glir mai’r her iechyd fwyaf sy'n wynebu ein cenedl yw mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau iechyd rhwng y cyfoethocaf a'r tlotaf yn ein gwlad.  Dylai’r ffaith fod y bwlch mewn disgwyliad oes rhwng y rhai sy'n byw yn ein hardaloedd o amddifadedd mwyaf a lleiaf yn tyfu fod yn sioc i ni i gyd.  Ni allwn sefyll yn segur tra gall y tlotaf yng Nghymru ddisgwyl byw 11 mlynedd yn llai na'r cyfoethocaf.

Mae’r rhesymau dros fodolaeth y graddiant cymdeithasol mewn iechyd yn gymhleth, ond mae ffactorau cyfrannol yn cynnwys diet gwael; camddefnyddio alcohol a smygu yn fwy cyffredin yn ein hardaloedd mwyaf difreintiedig ; amodau tai tlotach; fflatiau aml-lawr heb ardd i blant chwarae ynddi, a chael yr ymarfer corff sydd ei angen; amodau llaith yn arwain at broblemau anadlu; a hefyd gyfraddau diweithdra uchel mewn ardaloedd tlotach. Mae pobl yn ein hardaloedd o amddifadedd mwyaf ddwywaith yn fwy tebygol o smygu na’r rheini sy'n byw yn ardaloedd mwy cefnog Cymru.  Mae angen cydweithio rhwng gwasanaethau a phartneriaethau i helpu gyda’r anghydraddoldebau hyn.

Er ein bod yn gwneud cynnydd o ran lleihau nifer yr ysmygwyr yn gyffredinol, mae mesurau rheoli tybaco wedi bod yn fwy llwyddiannus wrth leihau’r nifer sy’n dechrau nag annog ysmygwyr presennol i roi'r gorau iddi.  Mae plant sydd ag o leiaf un rhiant yn smygu 72 y cant yn fwy tebygol o smygu yn ystod llencyndod, ac os yw'r ddau riant yn smygu, mae plant bedair gwaith yn fwy tebygol o ddechrau smygu nag ydynt os nad yw unrhyw riant yn smygu.  Felly, rhaid inni ddyblu ein hymdrechion i annog rhieni i roi'r gorau i smygu.

Canfu astudiaeth ar gyfer y British Medical Journal bod ysmygwyr yn amcangyfrif yn rhy isel y risg o ganser yr ysgyfaint, o ran ysmygwyr eraill a rhai nad ydynt yn ysmygu, ac yn dangos camddealltwriaeth o risgiau ysmygu. Caiff hyn ei briodoli i’r ffaith nad ydym, fel rhywogaeth, yn dda iawn am werthuso risg yn y dyfodol. Nid yw dweud wrth rywun y gallant ddatblygu canser mewn 30 neu 40 mlynedd yn anffodus yn eu cymell i roi'r gorau i smygu. Fodd bynnag, rydym yn llawer gwell wrth werthuso risgiau i'n plant. Gall dweud wrth riant bod eu hymddygiad yn annog eu plant i smygu efallai gael y canlyniad a ddymunir.

Mae'n rhaid i ni dderbyn bod llawer o ysmygwyr yn ei chael bron yn amhosibl rhoi'r gorau iddi. Canfu ymchwil gan Ganolfan y DU ar gyfer Astudiaethau Tybaco ac Alcohol bod tua un o bob tri o ysmygwyr yn y DU ar hyn o bryd yn ceisio rhoi'r gorau iddi bob blwyddyn, ond dim ond tua un o bob chwech o'r rhai sy'n ceisio rhoi'r gorau iddi sy’n parhau i ymwrthod am fwy nag ychydig wythnosau neu fisoedd.  Mae'r rhan fwyaf o ysmygwyr sy'n ceisio rhoi'r gorau iddi yn gwneud hynny heb gael unrhyw gymorth proffesiynol, ac nid yw’n ymddangos bod y rhai sy'n defnyddio triniaethau amnewid nicotin dros y cownter yn fwy tebygol o roi'r gorau iddi na'r rhai nad ydynt yn cael help.

Fodd bynnag, mae’r rhai sy'n newid i e-sigaréts yn llawer mwy tebygol o roi'r gorau i dybaco.  Mae Coleg Brenhinol y Ffisigwyr yn nodi

er budd iechyd y cyhoedd, mae'n bwysig hyrwyddo'r defnydd o e-sigaréts, NRT a chynhyrchion nicotin eraill heb dybaco mor eang ag y bo modd i gymryd lle smygu yn y DU.

Mae Iechyd y Cyhoedd Lloegr yn argymell y defnydd o e-sigaréts fel dewis arall i smygu ac yn cyhoeddi canllawiau i gyflogwyr yn dweud y gallant ystyried caniatáu pobl i ddefnyddio e-sigaréts yn y gwaith os yw'n rhan o bolisi i helpu ysmygwyr tybaco i roi'r gorau i'r arfer.  Mae'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd wedi cymeradwyo brand o e-sigaréts i gael ei farchnata fel cymorth i helpu pobl i roi'r gorau i smygu.

Fel y mae’r prif swyddog meddygol yn ei ddweud yn yr adroddiad hwn, ni ddylai'r GIG wneud y graddiant cymdeithasol yn waeth.  Felly, rwy’n eich annog, Ysgrifennydd y Cabinet, i fabwysiadu dull tebyg i Loegr pan ddaw at e-sigaréts a'u swyddogaeth wrth leihau niwed gan dybaco.  Dylem fod yn annog yr ysmygwyr hynny sy'n annhebygol o roi'r gorau iddi i newid i e-sigaréts, gan dynnu sylw at y ffaith bod e-sigaréts 95 y cant yn fwy diogel na chynnyrch tybaco, yn hytrach na chanolbwyntio ar y niwed posibl o ddefnyddio e-sigaréts.  Diolch.  Diolch yn fawr.

Yn fy marn i, mae hwn yn adroddiad ardderchog.  Rwy'n credu bod y ffordd y mae'n cael ei fynegi yn glir iawn ac mae'n dangos yn glir y ffordd y dylem fynd.  Croesawaf yn arbennig y pwyslais ar anghydraddoldebau iechyd a graddiant cymdeithasol oherwydd mae’r dystiolaeth yn gwbl glir bod mwy o salwch a marwolaethau cynnar yn fwy cyffredin mewn ardaloedd mwy difreintiedig yn economaidd. Rydym yn gwybod yng Nghaerdydd ei hun bod y gwahaniaeth rhwng dwy ward, lle efallai y gallwch eu cyrraedd o fewn 10 munud, yn naw i 11 mlynedd o fywyd hirach yn yr ardal fwy cefnog.  Ni all hynny fod yn dderbyniol.  Hefyd, ni all nifer y marwolaethau ymhlith plant sy'n digwydd mewn ardaloedd difreintiedig o’i gymharu â'r ardaloedd mwy cyfoethog hynny fod yn dderbyniol.  Unwaith eto, mae hynny'n rhywbeth yr wyf yn credu y mae’n rhaid inni weithio arno ac mae'n rhaid i ni ei herio.

Felly, rwy’n croesawu’r pwyslais ar yr anghydraddoldebau iechyd.  Rwyf hefyd yn croesawu'r flaenoriaeth glir iawn i’r 1,000 o ddyddiau cyntaf ym mywyd plentyn a bod y dyddiau hynny yn hollbwysig. Credaf fod hwn yn faes y mae'n rhaid i ni bwysleisio arno. Dylai'r wybodaeth am brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, rwy’n credu, bennu sut y byddwn yn cynnal ein polisi yn y Cynulliad hwn. Mae’r dystiolaeth mor gryf am yr hyn sy'n digwydd yn nes ymlaen os byddwch yn cael profiad, dyweder, o bedwar neu fwy o’r profiadau niweidiol hynny yn ystod plentyndod.  Felly, rwy’n meddwl bod yr holl wybodaeth yno ar sut y mae angen inni weithredu.  Yn amlwg, mae sefydlu arferion bwyta da ac iach ac ymarfer corff yn gynnar iawn yn bwysig iawn.

Yr unig beth yr oeddwn i'n synnu nad oedd yn yr adroddiad hwn, ac efallai fy mod wedi colli hynny, ond nid wyf yn credu fy mod wedi gweld unrhyw gyfeiriad at fwydo ar y fron o gwbl. Rwyf o ddifrif yn credu mai dyna un o'r meysydd allweddol y mae angen inni ei ystyried, oherwydd, os ydym yn edrych ar fater bod yn rhy drwm, rydym yn gwybod fod tystiolaeth i ddangos bod plant sy'n cael eu bwydo ar y fron yn llawer llai tebygol o gael plant rhy drwm. Rydym yn gwybod bod Sefydliad Iechyd y Byd yn argymell bwydo ar y fron yn unig am y chwe mis cyntaf, ac mae tystiolaeth hefyd i ddangos bod bwydo ar y fron yn lleihau'r risg o fabanod yn cael heintiau.  Ar gyfer y fam, mae manteision iechyd hefyd, gan gynnwys llai o risg o ganser y fron a chanser yr ofari ac osteoporosis.  Mae'n hanfodol bwysig. Felly, rwy’n synnu nad oes dim yn yr adroddiad hwn, oni bai fy mod i wedi ei golli, sy'n dweud, pan fyddwn yn gweithio yn galed iawn yn y 1000 diwrnod cyntaf, 'Bwydo o'r Fron yw un o'r pethau hollbwysig', gan ei fod yn meithrin perthynas gyda’r fam, ac rydym yn gwybod, drwy edrych ar anghydraddoldebau iechyd, bod llai yn bwydo ar y fron mewn ardaloedd tlotach. Mae'n hanfodol bwysig ein bod yn gwneud ymdrech i sicrhau y gellir annog mamau i fwydo ar y fron.

Rydym yn gwybod bod gweithwyr iechyd proffesiynol dan bwysau ac mae'n cymryd amser ac ymdrech i geisio helpu mamau i fwydo ar y fron, oherwydd weithiau nid yw'n hawdd ac mae angen i chi dreulio amser gyda mamau newydd. Gwn hefyd fod tystiolaeth sy'n dangos bod mamau ifanc yn arbennig—mae’r cyfraddau bwydo ar y fron i famau ifanc yn is na'r cyfartaledd. Felly, rwy’n credu, unwaith eto, mae hynny'n rhywbeth y mae angen inni fynd i'r afael ag ef. Yng Nghymru, mae'r cyfraddau bwydo ar y fron uchaf ym Mwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys, ar 72 y cant, a'r isaf yng Nghwm Taf, ar 50 y cant. O edrych ar y babanod sy'n gadael yr unedau newyddenedigol, cyfarfûm, fel y credaf y gwnaeth eraill, â'r Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant, ac roeddent yn tynnu sylw at y gwahanol gyfraddau bwydo ar y fron ledled y DU pan fydd menywod yn gadael yr unedau newyddenedigol. Roedd y ganran uchaf yn 85 y cant, a'r isaf ar 43 y cant, ac roedd Cymru ar 43 y cant. Felly, nid wyf eisiau tynnu dim oddi ar yr adroddiad hwn, oherwydd rwy’n credu ei fod yn adroddiad gwych, ac rwy’n credu mai dyma’r ffordd y dylem fod yn mynd i'r afael â'r materion hyn. Ond rwy’n credu bod bwydo ar y fron yn genhadaeth fwy, a does dim pwyslais ar fwydo ar y fron yn yr adroddiad. Mae'n helpu, ar y cam cynharaf posibl, i sefydlu‘r bond hwn—ac rydym yn gwybod am werth a maeth llaeth y fron—ond mae’n rhaid ichi wneud ymdrech i wneud iddo ddigwydd, mewn rhai sefyllfaoedd, ac rwy’n meddwl y dylem fod yn rhoi mwy o adnoddau i mewn i hynny. Ac rwy’n gwybod ei bod yn anodd, weithiau, i famau ifanc yn enwedig deimlo y gallant fwydo ar y fron pan fyddant yn teimlo bod stigma cymdeithasol. Yn ddiweddar, yn fy etholaeth i, sef Gogledd Caerdydd, roedd digwyddiad mewn caffi lleol—rydym yn clywed amdanyn nhw bob hyn a hyn, mae’r math hwn o beth yn digwydd—lle’r oedd rhywun yn ddifrïol gyda rhywun oedd yn bwydo ar y fron. Felly, mae’r hinsawdd hwnnw yn dal i fod yno. Felly, mae'n faes y mae angen i ni weithio arno, ac rwy’n meddwl ei fod yn faes lle gallwn wneud gwahaniaeth hirdymor i obeithion plant.

Rwyf innau, hefyd yn croesawu adroddiad y Prif Swyddog Meddygol a'i bwyslais ar greu gwasanaeth iechyd yn hytrach na gwasanaeth salwch, sy'n rhywbeth yr ydym wedi siarad amdano am amser hir, a hefyd ei bwyslais ar statws economaidd-gymdeithasol, sydd eto yn rhywbeth sydd wedi cael ei drafod a'i drafod ers peth amser, ond efallai gyda phwyslais newydd yn yr adroddiad penodol hwn. Mae hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd ffordd o fyw i wahaniaethau mewn disgwyliad oes a disgwyliad oes iach, ac rwy'n credu bod nifer o bethau y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu i fynd i'r afael â'r materion hynny a’u canolfannau economaidd-gymdeithasol. Er enghraifft, mae llawer y gellir ei wneud i annog bwyta'n iach. Gallem gael system goleuadau traffig o labelu bwyd, er enghraifft, rwy’n credu, i hysbysu pobl yn llawer mwy clir ynglŷn â pha fwydydd sy’n iach a pha fwydydd sydd ddim yn iach. Gallem gael treth siwgr, neu dreth fraster, er enghraifft. Yn amlwg, mae problemau’n codi o ran yr hyn sydd wedi ei ddatganoli a’r hyn nad yw wedi'i ddatganoli, a bydd rhywfaint ohono, yn ddiau, yn fater o geisio rhoi pwysau ar Lywodraeth y DU, ond gall rhywfaint ohono fod yn edrych am ddatganoli pellach ac, yn wir, yr hyn y gallem fod yn ei wneud o fewn y pwerau presennol.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn, iawn, fel yr ydym yn aml yn siarad amdano, Lywydd, ein bod yn meithrin agweddau ac ymddygiad da yn ein pobl ifanc mor gynnar â phosibl. Cytunaf yn llwyr â’r pwyslais ar y 1,000 o ddiwrnodau cyntaf, ac rwy’n gwybod bod tystiolaeth gynyddol ynglŷn â phwysigrwydd y blynyddoedd cynnar hynny. Mae gennym rwydweithiau ysgolion iach, wrth gwrs, ac rwy'n credu bod rhywfaint o arfer da iawn yno. Mae gennym gyfleoedd newydd, rwy’n credu, i sbarduno gwelliannau i lythrennedd corfforol, yn dilyn adroddiad Tanni Grey, ac o ran adolygu'r cwricwlwm, ac rwy’n gobeithio’n fawr iawn ein bod yn achub ar y cyfleoedd hynny.

Hoffwn ddweud ychydig am yr hyn yr ydym yn ei wneud yn lleol yng Nghasnewydd, Lywydd, yr wyf wedi’i grybwyll fwy nag unwaith o'r blaen.  Rwy’n meddwl ein bod yn gwneud cynnydd o ran tynnu rhai chwaraewyr allweddol at ei gilydd ym maes iechyd y cyhoedd, o’r bwrdd iechyd, Aneurin Bevan; Newport Live, y darparwyr gwasanaethau hamdden; y clybiau chwaraeon; Cartrefi Dinas Casnewydd, a chymdeithasau tai eraill; Cyfoeth Naturiol Cymru—mae llu o chwaraewyr wedi bod yn cyfarfod yn lleol ers peth amser i drafod sut yr ydym yn cael poblogaeth fwy egnïol yn gorfforol a sut yr ydym yn cael ymddygiadau iachach yn fwy cyffredinol.  Rydym wedi gwneud cynnydd.  Mae sefydliadau wedi ymrwymo i un diwrnod y mis o amser y staff i fynd ar drywydd yr agenda hon.  Maent yn edrych ar gamau y gallant ymrwymo iddynt a sut y gallant wneud un peth arall.  Maent yn edrych ar enghreifftiau o bob cwr o Gymru ac yn lleol o ran sut y byddwch yn cael y newid ar raddfa ehangach, yn hytrach na rhywbeth sydd yn lleol iawn.  Felly, rwy’n credu ein bod yn ceisio gwneud rhywbeth sy'n bwysig yn lleol o ran y materion a amlygwyd yn adroddiad y Prif Swyddog Meddygol. Rwy’n gobeithio hefyd fod ardaloedd eraill yng Nghymru yn edrych ar sut y gallwn adeiladu partneriaethau, dod â chwaraewyr allweddol at ei gilydd a chael cydweithredu newydd.  Felly, rwy’n gobeithio, Lywydd, fod Llywodraeth Cymru yn edrych yn ofalus ar yr hyn sy'n digwydd ar draws Cymru a hefyd yn edrych yn ofalus ar sut y gallai gefnogi’r mentrau hyn, efallai drwy rai cynlluniau peilot, er enghraifft, a allai gefnogi, adeiladu a chryfhau'r gwaith sy'n digwydd. Rwy’n gobeithio y gall y Gweinidog roi sylw i hynny yn ei sylwadau cloi.  Diolch yn fawr.

Diolch i chi, Lywydd.  Rwy'n ddiolchgar i'r Aelodau am gymryd rhan yn nadl heddiw—dadl gydsyniol iawn mewn llawer o ffyrdd, gyda phryderon tebyg a mynegiant o heriau tebyg y gwyddom ein bod oll yn eu hwynebu mewn gwahanol gymunedau ym mhob rhan o'r wlad fwy neu lai.

Rwyf am ddechrau drwy ymdrin â materion a godwyd yn y gwelliant ac yn y cyfraniad gan Rhun ap Iorwerth, ond roedd pob Aelod yn crybwyll heriau ffordd o fyw. Rwy'n credu bod her i ni yma i beidio â chymysgu rhwng bai a chyfrifoldeb. Mae'n iawn nad ydym yn beio pobl, ond mae’n rhaid i ni ddod o hyd i ffordd o gael sgwrs am bobl yn cymryd cyfrifoldeb mwy personol a sut yr ydym yn mynd ochr yn ochr â nhw i'w helpu i wneud dewisiadau gwahanol, ac mae’n rhaid iddi fod yn sgwrs yr ydym yn barod i’w chael yn ein swyddogaethau ein hunain, yn ogystal â disgwyl i ofal iechyd a gwasanaethau eraill wneud hynny hefyd. O'r holl wahanol heriau yr ydym yn eu cydnabod o fewn iechyd y cyhoedd—deiet, ymarfer corff, alcohol a smygu yw'r pedwar mawr—ym mhob un o'r rheini, mae pobl yn gwneud dewisiadau. Dyna sut rydym yn arfogi pobl i wneud dewisiadau gwahanol ac yna sut rydym yn arfogi pobl a'u grymuso i wneud dewisiadau mwy iach yn ddiweddarach os na allwn eu hatal rhag ymgymryd ag ymddygiadau peryglus yn y lle cyntaf. Yn wir, alcohol, fel y soniodd Rhun, yw'r un enghraifft lle gallwch ddangos, mewn gwirionedd, mai pobl dosbarth canol yn bennaf sydd â’r broblem gydag yfed—nid yn gymaint y goryfed mewn pyliau, ond y gorddefnydd rheolaidd o alcohol.

Rwy’n cydnabod nifer o'r pwyntiau a wnaed a byddaf yn ceisio ymdrin â hwy cyn i mi ddod i ben, Lywydd.  Cafwyd nifer o gwestiynau a phwyntiau diddorol gan Angela Burns. Rwyf am ddechrau drwy ddweud y byddwn yn fodlon iawn cael sgwrs aeddfed am yr hyn yr ydym yn ei fesur a pham o fewn ein gwasanaeth iechyd—y gwahanol fesurau sydd gennym, y ffordd y maent wedi cael eu cynhyrchu ac a allwn ni gael rhywbeth synhwyrol, megis a yw’r hyn yr ydym yn ei fesur yn synhwyrol, a yw'n helpu i hybu ymddygiad cywir ac a yw'n dweud rhywbeth defnyddiol wrthym am berfformiad ein gwasanaeth iechyd, ond hefyd am y ffordd y mae'r cyhoedd yn ymgysylltu â'r negeseuon gan y gwasanaeth iechyd hwnnw hefyd.  Gallwn edrych ar bethau fel datblygu fframwaith canlyniadau iechyd y cyhoedd, gan edrych ar ganlyniadau ac nid ar y gweithgarwch yn unig. Rwy'n gobeithio, trwy'r broses adolygu seneddol ar ddiwedd hynny, y gallwn barhau i gael y ddadl honno yn rhan o’r tymor hwn pan, a dweud y gwir, y gallwn ei chael, gan nad wyf yn credu y gallwn gael yr un ddadl yn 12 mis olaf y tymor hwn, os ydym yn berffaith onest.

Rwy'n falch o’ch clywed yn sôn am broses ddeintyddol contractau; mae gen i ddiddordeb yn weithredol ynddynt ac rwy'n edrych ymlaen at y dysgu a gawn o’r cynlluniau peilot hynny ac edrych ar yr hyn y gallem o bosibl ei fabwysiadu ar draws y system.  A dweud y gwir, mae iechyd y geg yn faes lle’r ydym wedi cael rhywfaint o lwyddiant yma yng Nghymru. Mae’r Cynllun Gwên wedi bod yn llwyddiannus.  Nid dyma'r unig beth i'w wneud, ac rydym yn cydnabod yn y gwasanaethau deintyddol cyffredinol, bod heriau o hyd i ni fynd i'r afael â nhw ac ymdrin â nhw.  Rwy'n credu bod cysylltiad yma rhwng gwasanaethau deintyddol a gwasanaethau fferyllol, oherwydd mae rhywbeth nid yn unig yn ymwneud â gwobrwyo gweithgarwch a maint, ond rhywbeth am y ffordd yr ydych yn gwobrwyo ansawdd.  Oherwydd mewn fferylliaeth, a grybwyllwyd gennych, ac rwy’n gwybod bod Aelodau eraill wedi sôn am hyn mewn gwahanol ddadleuon yma yn y gorffennol—credaf fod amser cyffrous iawn ym maes fferylliaeth gymunedol yma yng Nghymru, nid yn unig oherwydd ein bod yn buddsoddi mewn platfform TG i alluogi fferylliaeth i wneud mwy, nid yn unig oherwydd bod ein partneriaid a’n cydweithwyr yn y Gymdeithas Feddygol Prydain mewn gwirionedd mewn lle gwahanol; mae'n ymwneud â chydnabod gwerth fferylliaeth fel rhan o'r tîm gofal sylfaenol ehangach. Mae'r cyfle yno i geisio deall beth arall y gall fferylliaeth ei wneud i dynnu pobl i ffwrdd o’r feddygfa pan nad oes angen iddynt fod yno, i fod yn rhan o'r tîm, ond hefyd i edrych ar daliadau o ansawdd ar gyfer y dyfodol, nid dim ond am faint a gweithgarwch o ran rhagnodi, ond, i'r un graddau, rwy’n meddwl bod darn pwysig iawn o waith eisoes ar waith yn y broses rhyddhau o'r ysbyty. Mae llawer mwy y gallem ei wneud dros fferylliaeth gymunedol, yr unigolyn a gwasanaeth fferyllol yr ysbytai hefyd.

A wnewch chi dderbyn ymyriad? Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet.  Wrth gwrs, y peth arall yw bod llawer o bobl yr ydym wedi siarad amdanynt heddiw, sy'n cael trafferth cael mynediad at nifer o'r gwasanaethau hyn, yn mynd at y fferyllydd. Maent yn mynd at y fferyllydd yn rheolaidd i gael y meddyginiaethau sydd wedi eu rhagnodi iddynt oherwydd eu ffordd o fyw, ac mae hynny’n rhoi cyfle gwych o bosib i'r fferyllydd gael cwrdd â nhw a’u helpu i wneud penderfyniadau gwell am y ffordd ymlaen iddynt. Felly, gallwn ddefnyddio’r fferyllydd fel ymgynghorydd o ran ffordd o fyw ac ymddygiad.

Dyna’r union reswm pam rydym yn buddsoddi yn ein rhwydwaith fferylliaeth gymunedol, a dyna pam rydym yn cyflwyno buddsoddiad ychwanegol yn y llwyfan TG ac yn disgwyl iddynt wneud mwy. Nawr, dyna sgwrs agored yr ydym yn ei chael ac rwy'n falch ar y cyfan fod nid yn unig bwyllgor fferyllol, ond swyddogaeth Fferylliaeth Gymunedol Cymru sydd o ddifrif â meddwl agored am y dyfodol. Mae'n rhywbeth cadarnhaol gwirioneddol, ac mae'n gyferbyniad defnyddiol rhwng Cymru a Lloegr. Rwy'n credu y gall pawb ym mhob rhan fod yn falch iawn ein bod yn dilyn y dull hwn o weithredu yma yng Nghymru.

Mae nifer o bobl wedi crybwyll addysg a phwysigrwydd, nid yn unig y cwricwlwm newydd a’i agweddau ar iechyd a lles, gan gynnwys perthnasoedd, ond yr holl bwynt hwn am ofal plant ac addysg blynyddoedd cynnar. Rwy'n gwybod bod Jenny Rathbone wedi sôn am hwn hefyd. Mae'n bendant yn rhan o agenda'r Llywodraeth hon, nid yn unig i wella ein cynnig gofal plant, ond i feddwl am sut yr ydym yn ychwanegu elfen o ansawdd gwirioneddol i hyn, fel nad yw’n ymwneud â maint yn unig ond ansawdd yr ymyrraeth honno hefyd. Oherwydd rydym yn cydnabod nad talent yw'r rheswm pam mae cymunedau cyfoethocach yn perfformio'n well na chymunedau tlotach, o ran canlyniadau addysgol ac yn wir rhai economaidd ar ei ddiwedd hefyd. Mae llawer mwy iddi na hynny. Rwy'n hapus i gydnabod y pwyntiau a wnaeth Julie Morgan ac Angela Burns am brofiadau niweidiol plant a'u heffaith ar ganlyniadau pobl yn ddiweddarach mewn bywyd, ond yn benodol y rhai gwirioneddol bwysig yw'r 1,000 diwrnod cyntaf, a'r flaenoriaeth yr ydym yn ei rhoi i hynny hefyd.

Nid yw'n cael ei grybwyll yn benodol yn yr adroddiad, ond fel rhan o raglen Plant Iach Cymru a'r pwyslais ar y 1,000 o ddiwrnodau cyntaf, nid oes llaesu dwylo o ran pwysigrwydd bwydo ar y fron ychwaith. Mae rhywbeth am: ai 'y fron sydd orau' yw’r neges o hyd neu ‘mae’r fron yn normal'? Oherwydd mewn gwirionedd mae angen i ni ail-normaleiddio bwydo ar y fron oherwydd, rydych chi'n iawn, mae llawer gormod o enghreifftiau o'r ffordd y mae pobl yn ymateb yn wael neu yn ymosodol pan fydd rhywun yn bwydo ar y fron yn dal i fodoli. Mae'n broses gwbl naturiol ac mae'n dda i’r plentyn a'r fam hefyd, fel y byddwch yn cydnabod mae llawer o waith ymchwil ar gyfer hynny hefyd.

Rwy'n falch o glywed na wnaeth John Griffiths golli'r cyfle i ddweud wrthym am ddiweddariad Casnewydd hefyd, ond rwyf am fynd i'r afael efallai ag un o'r pwyntiau a wnaeth Caroline Jones.  Yn yr adroddiad, rydym yn cydnabod cyfradd wahaniaethol smygu a'i heffaith wirioneddol ar ganlyniadau iechyd.  Nid wyf yn rhannu eich brwdfrydedd yn llwyr dros e-sigaréts fel y ffordd ymlaen ac ateb i bob problem bron ar gyfer ysmygu.  Mae tystiolaeth sydd yn groes ar hyn o bryd.  Mae rhai o'r rhai sydd o blaid e-sigaréts fel dewis amgen, mae tystiolaeth amgen gan Gymdeithas Feddygol Prydain a chan Sefydliad Iechyd y Byd hefyd. Rwy’n credu ein bod yn gwneud y peth iawn wrth gadw meddwl agored, ond barn ragofalus ar e-sigaréts fel arf posibl i helpu pobl i roi'r gorau i smygu, ond nid ydynt yn ddewis amgen heb niwed yn lle smygu.  Mae niwed yn dal i fod yn gysylltiedig ag e-sigaréts.  Rydym yn awyddus i fonitro a deall y dystiolaeth honno cyn i ni ddod i gasgliad pendant.

O ran y pwynt a wnaeth Jenny Rathbone am ordewdra a diabetes yn enwedig mewn plant a phobl ifanc, a phwysigrwydd bwyd a maeth mewn ysgolion ac mewn cymunedau ehangach, mae her wirioneddol yma nid yn unig am yr hyn sy'n digwydd mewn ysgolion, oherwydd rwyf yn falch o'r gwaith yr ydym yn ei wneud mewn ysgolion ar draws y wlad, ond o ran cael neges bwyta'n iach glir iawn a’r bwyd a ddarperir i bobl mewn lleoliad ysgol. Mae mwy y gallwn ei wneud bob amser, ond mae'n rhaid iddo fod yn gweithio gyda'r gymuned ysgol gyfan fel bod rhieni a gofalwyr yn deall y dewisiadau a wnânt y tu allan i gatiau'r ysgol a'r effaith sydd ganddynt, oherwydd mewn gwirionedd mae’r neges yn bwysicach na'r un y mae plant yn ei chael yn yr ysgol.

Lywydd, rwy'n falch iawn gyda'r ddadl a gawsom yma heddiw a'r gydnabyddiaeth bod anghydraddoldebau iechyd yn codi oherwydd anghydraddoldebau mewn cymdeithas, oherwydd yr amodau y mae pobl yn cael eu geni oddi tanynt, yn tyfu, byw, gweithio a heneiddio ynddynt, ac ysgogiadau strwythurol y cyflyrau hynny—dosbarthiad annheg o bŵer, arian, adnoddau a chyfle. Mae’r Athro Syr Michael Marmot, arbenigwr cydnabyddedig ym maes penderfynyddion iechyd ac anghydraddoldebau iechyd, wedi gwneud argymhellion ar gyfer gweithredu i leihau anghydraddoldebau iechyd yn ei adroddiad, 'Bywydau Iach Cymdeithas Deg'.  Mae'n tynnu sylw at y rhan fwyaf o'r camau sydd eu hangen i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb iechyd a graddiant cymdeithasol i ddigwydd y tu allan i'r gwasanaeth iechyd.

Rwyf wrth fy modd o fod wedi cymryd rhan mewn trafodaeth ddefnyddiol ac adeiladol ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r Aelodau ar draws y Siambr dros y blynyddoedd nesaf wrth i ni geisio cyflwyno nid dim ond y neges yn yr adroddiad hwn, ond sut mae gan bob un ohonom gyfraniad i'w wneud.

Y cwestiwn yw felly: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw wrthwynebiad? Felly, derbynnir gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12. 36.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12. 36.

Cynnig NDM6175 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi'r Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2015-16 gan Brif Swyddog Meddygol Cymru ‘Adfer cydbwysedd i ofal iechyd—Gweithio mewn partneriaeth i leihau annhegwch cymdeithasol’.

Yn credu bod mynychder iechyd gwael mewn cymunedau tlotach, fel y nodir yn yr adroddiad, yn cael ei achosi gan amodau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd ehangach ac na ellir ei feio'n unig ar ddewisiadau gwael a wneir gan unigolion, ac y dylai polisïau iechyd cyhoeddus adlewyrchu cyfrifoldeb y llywodraeth i fynd i'r afael â hyn, yn hytrach na chanolbwyntio ar ddim ond pregethu wrth bobl.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig fel y’i diwygiwyd? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly, fe dderbynnir y cynnig.

Derbyniwyd cynnig NDM6175 fel y’i diwygiwyd yn unol â Rheol Sefydlog 12. 36.

We now move to voting time. Unless three Members wish for the bell to be rung, I will proceed directly to voting time.

11. 7. Cyfnod Pleidleisio

Os felly, fe wnawn ni bleidleisio ar y ddadl ar adroddiad blynyddol y comisiynydd pobl hŷn. Rwy’n galw am bleidlais ar welliant 3 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 36, pedwar yn ymatal, 11 yn erbyn. Felly mae’r gwelliant yn cael ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 36, Yn erbyn 4, Ymatal 11.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 3 i gynnig NDM6174.

Cynnig NDM6174 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi'r Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2015-16 gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru.

Yn nodi gwaith y Comisiynydd Pobl Hŷn i fynd i'r afael ag effaith unigrwydd ac unigedd ar bobl hŷn sy'n byw yng Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i fynd i'r afael â'r mater hwn.

Yn nodi y dylai Llywodraeth Cymru ystyried cyflwyno Bil Hawliau Pobl Hŷn i ymestyn a hyrwyddo hawliau pobl hŷn Cymru er mwyn sicrhau bod gan bobl hŷn lais cryf yn unol ag argymhellion y Comisiynydd Pobl Hŷn.

Yn nodi pwysigrwydd gwasanaethau cyhoeddus a gaiff eu darparu gan lywodraeth leol i iechyd a llesiant pobl hŷn, ac yn gresynu fod heriau ariannol parhaus, o ganlyniad i galedi ariannol, yn rhwystro'r gwasanaethau hyn rhag cael eu darparu.

Agorwch y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 41, 11 yn ymatal, neb yn erbyn. Felly mae’r cynnig wedi’i gymeradwyo.

Derbyniwyd cynnig NDM6174 fel y’i diwygiwyd: O blaid 41, Yn erbyn 0, Ymatal 11.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6174 fel y’i diwygiwyd.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:50.