Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

13/09/2016

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw cwestiynau i’r Prif Weinidog, a’r cwestiwn cyntaf yn enw Neil Hamilton.

Yr Argyfwng Meddygon Teulu yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru

1. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynorthwyo gyda'r argyfwng Meddygon Teulu yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(5)0137(FM)

Mae'n defnyddio’r gair 'argyfwng', ond rydym ni wedi cynyddu buddsoddiad ac rydym yn moderneiddio gwasanaethau trwy ein cynllun gofal sylfaenol. Rydym ni’n gweithio'n agos gyda byrddau iechyd sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau i’w poblogaethau ac sy'n gyfrifol am sicrhau parhad gofal o ansawdd uchel pan fydd meddygfa deulu annibynnol yn dychwelyd ei chontractau busnes.

Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am yr ateb yna, ond, fel y mae’n gwybod, ni wna geiriau teg hau’r tir, ac, i bobl Dwyfor Meirionnydd, nid wyf yn meddwl y byddan nhw’n cael llawer o gysur o’r hyn a ddywedodd. Fel y mae’n gwybod, cyhoeddodd meddygfa ym Mhorthmadog yn ddiweddar, a oedd yn gwasanaethu 7,500 o bobl, mai dim ond rhai sy’n sâl iawn y byddai'n eu gweld. Ym Mlaenau Ffestiniog, mae meddygfa â phedwar meddyg wedi ei lleihau i un erbyn hyn, â llond llaw o staff locwm, ac, yn aml, does neb ar gael. Mae dros hanner y meddygon teulu yn Nwyfor dros 55 oed. Onid yw'n bryd i'r Llywodraeth roi trefn ar bethau a gwneud y gwasanaeth iechyd yn addas i bobl Cymru yn ardal Dwyfor Meirionnydd?

Contractwyr annibynnol yw’r rhain, ac mae ganddyn nhw’r hawl, wrth gwrs, i ofyn am help gan y byrddau iechyd lleol. Ac, yn wir, pan fo’r contractwyr hynny wedi penderfynu nad ydynt yn dymuno darparu'r gwasanaeth hwnnw mwyach, mae’r byrddau iechyd ledled Cymru wedi cymryd yr awennau ac wedi darparu gwasanaeth yr un mor dda, os nad gwell, fel y bydd pobl Prestatyn yn ei esbonio i'r Aelod. Ond, ydym, rydym ni’n gwybod bod anawsterau o ran recriwtio meddygon teulu; nid yw'n broblem sydd wedi ei chyfyngu i Gymru. Mae'n digwydd yn Lloegr, yng Ngogledd Iwerddon ac yn yr Alban hefyd o ran hynny. Rydym ni’n bwriadu lansio ymgyrch recriwtio meddygon teulu y mis nesaf er mwyn gwneud yn siŵr y gallwn, unwaith eto, bortreadu Cymru fel lle da i fod yn feddyg ynddo, ac, wrth gwrs, y gallwn gynnig yr hyblygrwydd sydd ei angen ar y proffesiwn erbyn hyn, gan symud nid o reidrwydd tuag at y model contractwr annibynnol fel y model diofyn, ond i edrych ar fodelau eraill hefyd.

Roeddwn innau hefyd yn brysur yn cyfarfod â fforymau iechyd yn yr haf, Brif Weinidog, a gofynnais gwestiwn fis Gorffennaf diwethaf, pan roesoch ateb cwbl eglur i mi ynghylch cwm Dulais eich bod yn cyflwyno yn fuan iawn cynigion ar gyfer ymgyrch genedlaethol a rhyngwladol i farchnata Cymru a'r GIG fel lle deniadol i weithio ynddo, ac y byddai'r gwaith hwnnw’n cynnwys recriwtio, hyfforddi a chadw meddygon teulu. A gaf i ofyn i chi felly, Brif Weinidog, a oes cynnydd wedi ei wneud dros yr haf?

Oes, gallaf gadarnhau, mis nesaf, y byddwn yn lansio ymgyrch farchnata genedlaethol a rhyngwladol i amlygu Cymru fel lle gwych i hyfforddi, gweithio a byw ynddo, a bydd yr Ysgrifennydd yn amlinellu’r ymgyrch yn ei ddatganiad yr wythnos nesaf. Bydd yn newid sylweddol i’r ffordd yr ydym ni’n marchnata Cymru i gynorthwyo’r gwaith o recriwtio meddygon a meddygon teulu.

Mae cymunedau Porthmadog, y Drenewydd, Aberteifi, Dinbych-y-pysgod, Penfro a Doc Penfro, sy’n gorfod aros pythefnos y dyddiau yma am apwyntiad gyda’r meddyg teulu, yn teimlo bod yna argyfwng, ac yn teimlo bod diffyg recriwtio a diffyg meddygon teulu sy’n fodlon aros yn y cylch. Yn arbennig, mae diffyg yn y nifer sydd am fod yn bartneriaid mewn meddygfeydd. Felly, beth yn ychwanegol y mae’r Llywodraeth yn ei wneud i recriwtio meddygon teulu, ond, hefyd, beth yw dyfodol y feddygfa breifat fel rhan o’r gwasanaeth iechyd ar gyfer gofal sylfaenol?

Nid wyf yn siŵr, pan oedd e’n siarad am feddygfeydd preifat, a oedd e’n meddwl am y feddygfa breifat neu—

Wel, dyna beth yw’r model ar hyn o bryd ac, i rai, dyna beth fydd model y dyfodol, ond nid yw hynny’n meddwl taw dyna’r unig fodel all fod ynglŷn â meddygon teulu. Mae mwy a mwy o feddygon teulu sydd eisiau cael cyflog. Maen nhw’n moyn cael y cyfle i symud o un practis i’r llall, ac mae hynny’n rhywbeth y mae’n rhaid i’r proffesiwn ddelio gydag e. Rydym yn gweithio gyda’r coleg brenhinol, a hefyd gyda’r Gymdeithas Feddygol Brydeinig, er mwyn sicrhau bod yr ymgyrch yr ydym yn mynd i’w lansio’r mis nesaf yn gallu bod yr un mwyaf effeithiol, ac rydym yn erfyn i’r byrddau iechyd weithio gyda meddygon teulu pan fydd yna broblem er mwyn sicrhau bod doctoriaid yn dod mewn fel ‘locums’, os taw dyna beth sy’n mynd i ddigwydd dros dro, ac er mwyn sicrhau dyfodol cynaliadwy i feddygfeydd yn y pen draw. Ond craidd hyn, wrth gwrs, yw sicrhau bod mwy a mwy o ddoctoriaid eisiau gweithio yng Nghymru, a sicrhau bod mwy o fodelau ar gael iddyn nhw er mwyn sicrhau eu bod nhw’n moyn dod.

Brif Weinidog, o ystyried bod gennym ni erbyn hyn dri bwrdd iechyd sydd wedi bod yn destun ymyriadau wedi’u targedu, ac un bwrdd iechyd mewn mesurau arbennig, mae’n rhaid i’r ymgyrch hon i recriwtio meddygon teulu sôn am recriwtio’r teulu cyfan, oherwydd, fel arall, ni fydd y meddygon teulu hyn eisiau gweithio mewn ardaloedd lle maen nhw’n teimlo na fydd cymorth wrth gefn sylweddol, yn feddygol, iddyn nhw yn eu meddygfeydd. Ac mae angen i ni wneud yn siŵr bod y meddygon teulu hyn sydd eisiau dod i Gymru—ac rydych chi'n iawn ei fod yn lle gwych i fyw a gweithio ynddo—eisiau dod â'u teuluoedd; maen nhw eisiau dod â'u priod, eu partneriaid, eu plant, maen nhw eisiau iddyn nhw gael ysgolion da i fynd iddyn nhw, ac maen nhw eisiau cael swyddi da y gall eu partneriaid, eu priod, eu gwneud hefyd. Felly, nid un person yn unig yr ydym ni’n ei recriwtio, ond teulu cyfan, ac os gallwn ni gael y teulu hwnnw i ddod dros y ffin, gallwn ni ei gadw, ond mae'n rhaid i ni roi’r pecyn cyfan hwnnw iddyn nhw. Felly, pan fyddwch chi’n edrych ar y rhaglen gadw a’r rhaglen recriwtio hon, a wnewch chi gadw hynny mewn cof, a chadw mewn cof bod yr holl feddygfeydd teulu hyn, pa un a ydynt yn cael eu rhedeg gan fwrdd iechyd neu aelodau preifat unigol, yn edrych tuag at eu hysbytai a'r GIG lleol am y gwasanaeth sydd ei angen arnyn nhw i ategu eu cymorth i’w cleifion? A chyda phedwar o’r wyth mewn rhyw fath o drafferth, nid yw'n newyddion da.

Yr hyn yr ydym ni’n ei wybod yw nad oes gennym ni argyfwng cyllid mewn ysbytai acíwt, fel sydd gan Loegr, na streic meddygon. Ond mae hi’n gwneud pwynt pwysig iawn, os caf ddweud, gyda pharch i'r Aelod, yn yr ystyr ei bod yn gwbl gywir bod yn rhaid i ni dargedu'r teulu. Flynyddoedd lawer yn ôl, byddai meddygon teulu yn dod i ardal, ac, yn aml iawn, roedd ganddyn nhw briod nad oedd yn gweithio. Nid yw hynny’n wir mwyach. Felly, mae gallu cynnig cyfleoedd i bartner ac amgylchedd da i blant yn bwysig, a bydd hynny'n sicr yn rhan o'r ymgyrch yr ydym ni’n ei lansio ym mis Hydref.

Diwydiant Dur Cymru

2. A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i ddiwydiant dur Cymru ar hyn o bryd? OAQ(5)0126(FM)

Gwnaf. Anfonodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith ddiweddariad llawn at yr Aelodau ddoe ar y cynnydd sydd wedi ei wneud ers y datganiad ysgrifenedig ar 8 Awst. Nid oes unrhyw gynnydd wedi ei wneud eto, fodd bynnag, gan Lywodraeth y DU o ran materion ynni a phensiynau.

Diolch am yr ateb, ac mi gefais y datganiad hwnnw. Yn y llythyr hwnnw gan y Gweinidog, mae'n dweud bod cynnydd da yn cael ei wneud ar amrywiaeth o brosiectau sydd wedi galluogi’r gweithfeydd yng Nghymru i fod yn fwy effeithlon a gallu gwrthsefyll y gystadleuaeth fyd-eang, gan gynnwys datblygu prosiect gwella'r amgylchedd mawr ar gyfer Port Talbot, yn ogystal â'r prosiectau buddsoddi mewn ymchwil a datblygu ym Mhort Talbot. Yn fy marn i, ac os deallais yn iawn, syniadau Plaid Cymru yr ydych chi wedi gwrando arnynt yw’r rhain. Tybed a hoffech chi roi gwybodaeth i ni am ddatblygiad y gwaith pŵer, a hefyd y gweithgareddau ymchwil a datblygu ym Mhrifysgol Abertawe, a gynigiwyd i chi gennym ni ac yr ydych chi wedi bwrw ymlaen â nhw, chwarae teg i chi?

Nid wyf yn credu mai syniad Plaid Cymru yn gyfan gwbl oedd yr egwyddor o gadw ein diwydiant dur. Mae'r mater o waith pŵer yn rhywbeth yr ydym ni wedi bod yn ei drafod ers blynyddoedd gyda Tata, ymhell cyn yr hyn a ddigwyddodd ddechrau'r flwyddyn hon, a dweud y gwir. Yr hyn y gallaf ei ddweud—ac mae cyfyngiad ar yr hyn y gallaf ei ddweud ar hyn o bryd, gan fod trafodaethau’n parhau—yw bod cynnydd da wedi ei wneud, yn ein barn ni, fel Llywodraeth, ar geisio darparu llwyfan ar gyfer dyfodol hirdymor ein diwydiant dur. Ond mae'n wir i ddweud, wrth gwrs, bod y ddau fater hynny o ynni a phensiynau yn dal i fod heb eu datrys ar lefel Llywodraeth y DU.

Brif Weinidog, diolch i chi am yr ateb yna, ac rydym ni’n gweld cefnogaeth Llywodraeth Cymru i’r diwydiant dur, drwy’r prosiectau hyn, yr wyf yn eu croesawu’n fawr iawn, ym Mhort Talbot. Ond hefyd, rydym ni wedi gweld dros yr haf, ers i ni gyfarfod ddiwethaf, gwelliannau ariannol yn y diwydiant dur ym Mhort Talbot hefyd, lle gwelsom golledion o £1 filiwn y dydd cyn hynny, ac rydym ni’n ei droi’n elw mewn mis erbyn hyn—rwy’n credu ei fod yn £5 miliwn ym mis Gorffennaf, ac efallai y bydd yn mantoli’r gyllideb ym mis Awst. Felly, rydym ni’n gweld cynnydd o ran gwneud dur yng Nghymru. Mae'n ddichonadwy, fel y dywedasom. Ond, pan wnaethoch chi gyfarfod â Phrif Weinidog y DU, cawsoch sgwrs am ddur, ac rydych chi eisoes wedi crybwyll yn rhannol y prynhawn yma y mater o safbwynt Llywodraeth y DU. A wnaeth hi awgrymu y byddant wir yn gweithio i wella'r sefyllfa o ran cronfa bensiwn dur Prydain, a, hefyd, a ydyn nhw’n gwneud unrhyw symudiadau tuag at y costau ynni, gan mai’r rhain oedd y prif faterion yr oedd gan unrhyw ddarpar brynwr bryderon amdanynt?

Mae'n wir. Rwy'n credu ei bod yn deg i ddweud bod Prif Weinidog blaenorol y DU yn rhagweithiol iawn yn hyn o beth. Nid ydym wedi clywed cymaint gan y Llywodraeth bresennol o ran y ddau fater hyn. Cafwyd sgyrsiau cychwynnol; nid ydynt wedi bod yn negyddol, ond rwy'n credu bod angen i ni nawr, yn ystod y misoedd nesaf, weld rhywfaint o gynnydd, yn enwedig ar fater pensiynau, ac ar fater prisiau ynni, wrth gwrs—sy’n fater hirhoedlog. Mae gennym ni ohebiaeth yn mynd yn ôl bum mlynedd gyda Llywodraeth y DU ar fater prisiau ynni, nid yn unig yn y diwydiant dur, ond ar gyfer ein holl ddiwydiannau ynni-ddwys. Ni allwn fforddio cael ein gweld fel lle drud i weithgynhyrchu oherwydd prisiau ynni.

Yn dilyn sylwadau gan Brif Weinidog y DU, Theresa May, cytunodd aelodau’r G20 i sefydlu fforwm i roi sylw i faterion capasiti gormodol a gorgynhyrchu yn y farchnad ddur fyd-eang, felly mae’r DU yn symud yn ei blaen ac yn cael arweinwyr y byd i wynebu ac ateb y cwestiwn canolog yn ogystal ag ymdrin â'r materion y maen nhw eisoes wedi bod yn gweithredu arnynt tan yn ddiweddar. Nawr, rwy’n derbyn bod gan Lywodraeth Cymru swyddogaeth fwy cyfyngedig—rwyf yn derbyn hynny—ond fe all wneud gwahaniaeth ymarferol yn fy rhanbarth i. Mae’n debyg nad oedd tynnu allan o gytundeb a allai fod wedi achub 200 o swyddi yn Fairwood Fabrications yn rhan o gadwyn gyflenwi’r diwydiant dur yn gysylltiedig â Phort Talbot o gymorth, felly a allwch chi ddweud wrthym ni’n benodol beth yr ydych chi’n ei wneud i gynorthwyo sefydlogrwydd yng nghadwyn gyflenwi dur Cymru? Diolch.

Wel, yn fwy na dim byd arall, yr hyn yr ydym ni’n ei wneud yw cynorthwyo Tata, gan edrych ar ffyrdd y gallant arbed arian, yn enwedig o ran y gwaith pŵer, gweld beth allwn ni ei wneud o ran sgiliau a hyfforddiant, a darparu'r cymorth sydd ei angen arnyn nhw i fod yn gynaliadwy yn y tymor hwy. Ceir problemau yn ymwneud â busnesau eraill a gafodd eu problemau gyda Tata, a arweiniodd yn anffodus at y canlyniadau y mae’r Aelod wedi eu crybwyll, ond rydym ni’n hyderus y gallwn ni lunio pecyn da cyn belled ag y mae Tata yn y cwestiwn o ran yr hyn y gallwn ei gynnig. Ond mae angen i ni weld cynnydd nawr ar y ddau brif fater, ac mae angen i ni weld y cynnydd hwnnw’n eithaf buan.

Brif Weinidog, mae dur Cymru a diwydiannau ynni-ddwys eraill yn dioddef o ganlyniad i bolisïau lleihau carbon a orfodwyd gan yr UE, sydd wedi arwain at filiau ynni uwch. Er mwyn sicrhau dyfodol dur Cymru, ac yn enwedig gwaith Tata ym Mhort Talbot yn fy rhanbarth i, mae'n rhaid i ni ddiddymu deddfwriaeth yr UE sy'n cynyddu ein costau ynni. Brif Weinidog, a ydych chi’n cytuno â mi mai’r gefnogaeth orau y gall Llywodraeth Cymru ei rhoi i ddiwydiant dur Cymru yw pwyso ar Lywodraeth y DU i gwblhau proses Brexit cyn gynted â phosibl?

Tariffau yw’r bygythiad mwyaf i'r diwydiant dur. Rydym ni’n allforio 30 y cant o'r dur yr ydym ni’n ei gynhyrchu. Nid yw unrhyw beth sy'n cynyddu pris y dur hwnnw’n mynd i fod o gymorth. Os yw hi’n sôn am leihau carbon, yr hyn y mae’n ei olygu yw mwy o allyriadau, felly, mwy yn dod allan o'r gwaith dur nag o'r blaen. Os yw hi eisiau gwerthu hynny i bobl Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr, mae croeso iddi wneud hynny. Yn wir, rwy'n siŵr y bydd cyfleoedd yr wythnos hon pryd y gall hi esbonio’r polisi hwnnw i bobl yn yr ardal—nad yw hi eisiau gweld allyriadau’n cael eu rheoli'n briodol.

Ond mae pwynt arall yma hefyd. Os edrychwch chi ar wledydd eraill yn yr UE, mae eu prisiau ynni nhw’n llawer is na'n rhai ni. Os edrychwch chi ar yr Almaen, 20 y cant yn is. Os edrychwch chi ar Sbaen, 37 y cant yn is. Felly nid yw’n unrhyw beth i wneud â'r UE o gwbl. Mae i’w wneud â'r DU, a marchnad ynni honedig y DU. Mae pob un diwydiant ynni-ddwys yn dweud wrthym ni nad mater yr UE yw hwn—mae i’w wneud â’r ffaith nad yw diwydiant ynni'r DU yn ddigon tryloyw, ac mae'n rhywbeth y mae Celsa Steel wedi ei godi gyda mi, ynghyd ag eraill. Maen nhw'n dweud, ‘Edrychwch, mae'r DU yn lle drud i gyflawni busnes oherwydd ei chostau ynni’. Nawr, mae'r rheoliadau yr un fath ar draws yr UE gyfan, ond y ffaith yw bod y DU yn ddrytach na llawer o’r gwledydd yr ydym ni’n cystadlu â nhw, ac mae’n rhaid i hynny newid. Nid yw hynny’n ymwneud ag allyriadau, oherwydd mae gan yr Almaen a Sbaen yr un rheoliadau. Mae'n ymwneud â'r ffordd y mae'r farchnad yn gweithredu yn y DU.

Brif Weinidog, fel y gwyddoch, mae'r gweithfeydd yn Nwyrain Casnewydd, fy etholaeth i, yng ngweithfeydd Orb a Llanwern, yn rhannau pwysig iawn o weithrediadau cyffredinol Tata yng Nghymru. A wnewch chi fy sicrhau y bydd y gweithfeydd hynny yn parhau i gael eu hystyried yn briodol ym meddyliau a gweithredoedd Llywodraeth Cymru i sicrhau diwydiant dur cynaliadwy yng Nghymru?

Yn sicr. Mae’r pedwar prif safle yn hynod bwysig—Shotton hefyd, wrth gwrs, a Throstre. Maen nhw’n weithrediadau yr ydym ni eisiau eu cadw yng Nghymru, yn cynhyrchu dur yng Nghymru, yn allforio dur o Gymru. Port Talbot, wrth gwrs, sydd wedi cael y sylw mwyaf gan mai dyna’r gwaith mwyaf a hwnnw sydd wedi wynebu’r heriau mwyaf, ond mae pob un o'r pedwar gwaith yn bwysig i ddyfodol Cymru.

Rwy’n croesawu cyhoeddiad Tata ym mis Awst o fuddsoddiad yn safle Shotton i greu'r genhedlaeth nesaf o gotio dur. Treuliais ddiwrnod yno yn fuan ar ôl y cyhoeddiad, a gwn fod y gweithlu'n gwerthfawrogi dull rhagweithiol Llywodraeth Cymru o ran sicrhau’r buddsoddiad hwn. Ond fel yr ydych chi wedi sôn eisoes, rwy’n annog Llywodraeth Cymru wrth symud ymlaen i wneud yn siŵr ein bod yn ystyried bod safle llwyddiannus a phroffidiol fel Shotton yn rhan annatod o unrhyw drafodaethau ar ddyfodol y diwydiant dur wrth symud ymlaen.

Yn sicr, ac rwyf innau, wrth gwrs, wedi bod ym mhob un o'r pedwar safle. Roedd Shotton yn safle proffidiol erioed, ond fel y dywedwyd wrthyf yn Shotton, byddai'n anodd iawn i Shotton weithredu heb y dur o Bort Talbot gan y byddai'n cymryd tua chwe mis i gael gafael ar y dur o rywle arall pe na byddai Port Talbot yno, gan arwain at sgil effaith amlwg o ran colli cwsmeriaid. Felly, mae pob un o'n pedwar gwaith dur wedi eu hintegreiddio â'i gilydd. Mae'n hynod bwysig, felly, eu bod i gyd yn sefyll gyda'i gilydd ac yn ffynnu.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Mae cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau, ac, yn gyntaf, arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd.

The First Minister and I will be able to agree on one thing at least—in congratulating Wales’s athletes on their performance in the Olympic Games and having won so many gold medals. I don’t expect him to agree with me though that he and his administration should get the wooden spoon for pouring cold water on Wales’s chances of hosting the bid for the Commonwealth Games here in 2026.

Wel, tua £1.5 biliwn yw’r gost gysylltiedig. Ar hyn o bryd, mae honno'n gost a fyddai'n golygu na fyddai dim arian i gefnogi digwyddiadau mawr am y degawd nesaf yng Nghymru, fwy neu lai. Roedd yr Albanwyr yn gallu cynnal y gemau am bris rhatach gan nad oedd rhaid iddynt adeiladu cymaint ag y byddai'n rhaid i ni ei adeiladu. Byddai'n rhaid i ni adeiladu stadiwm athletau newydd, adeiladu felodrom newydd, adeiladu pwll nofio newydd neu ymestyn y pwll sydd gennym ni ar hyn o bryd. Felly, mae'r costau cyfalaf yn enfawr mewn gwirionedd, a dyna pam, wrth gwrs, y mae'n ei gwneud yn anodd iawn i Gemau'r Gymanwlad fynd i wledydd llai y dyddiau hyn. Yr hyn yr oeddem ni ei eisiau oedd cyflwyno cais Cymru gyfan—ni edrychwyd ar hynny’n ffafriol—neu yn wir lansio cais ar y cyd â dinasoedd yn Lloegr. Ond, unwaith eto, nid yw hynny'n bosibl o dan y rheolau presennol sy'n gweithredu gyda cheisiadau Gemau'r Gymanwlad. Yr hyn a fyddai'n well gen i ei weld yn y dyfodol fyddai archwilio ffyrdd y gallem ni wneud cais gyda gwledydd eraill y Gymanwlad i gynnal y gemau.

Wel, rwy’n derbyn, wrth gwrs, y pwynt am gostau cyfalaf gwella seilwaith Cymru, ond mae hynny'n gyfiawnadwy ynddo’i hun. Rydym ni’n sôn yma, yn ôl pob tebyg, am oddeutu £1 biliwn i £1.5 biliwn wedi’i amorteiddio dros 10 mlynedd yn y lle cyntaf. Yng nghyd-destun cyllideb Llywodraeth Cymru o £15 biliwn y flwyddyn, rydym ni’n sôn am geiniog a dimau. [Torri ar draws.] Yr hyn yr wyf yn gofyn i'r Prif Weinidog ei wneud yw codi ei fryd a gwella ei berfformiad a hyrwyddo Cymru i'r byd trwy gampau ein hathletwyr. A'r hyn sydd ei angen arnom ni yw gweithredu gan ein Llywodraeth i fod cystal â hynny o ran gwella seilwaith chwaraeon Cymru fel y gallwn gynnal y gemau yn 2026.

Nid wyf yn credu bod 10 y cant o'n cyllideb yn geiniog a dimau, gyda pharch i’r Aelod. Ceir cost cyfle sylweddol. Er enghraifft, rydym ni wedi bod yn hynod lwyddiannus dros nifer o flynyddoedd o ran denu digwyddiadau mawr i Gymru. Mae gennym ni rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn dod y flwyddyn nesaf a rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr y menywod, rydym ni wedi cael Cwpan Ryder, mae gennym ni’r speedway bob blwyddyn, rydym ni wedi cael Cwpan y Byd Rygbi'r Gynghrair, cwpan y byd rygbi'r undeb, rydym ni wedi cael gemau criced mawr rhyngwladol—a chaiff hyn oll ei wneud gydag arian. Ni fyddai’r arian hwnnw ar gael mwyach ar gyfer unrhyw un o'r digwyddiadau hynny pe byddem yn cynnal Gemau'r Gymanwlad.

Mae'n llawer gwell, yn fy marn i, ein bod ni’n defnyddio'r arian hwnnw i ddenu digwyddiadau fel y rheini. Mae rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr, er enghraifft, yn ffordd hynod ddefnyddiol o hyrwyddo Cymru. Dyma ddigwyddiad chwaraeon unigol mwyaf y byd. Pe byddem ni’n gwneud cais am Gemau'r Gymanwlad, ni fyddai’r arian yno i ddenu digwyddiadau o’r fath yn y dyfodol.

Wel, mae'n ddrwg gen i ddweud ei bod yn ymddangos bod gan y Prif Weinidog olwg sydd braidd yn statig ar ei swyddogaethau fel Prif Weinidog. Pam nad ydym ni’n cymryd golwg fwy deinamig ar y prosiectau hyn? Mae gwledydd eraill yn gwneud hynny ac maen nhw’n gallu gweld y manteision o godi ein dyheadau. Mae hon yn gyfres hir o brosiectau y mae'r Llywodraeth wedi tywallt dŵr oer am eu pennau: gwelliannau i’r M4, Cylchffordd Cymru, a nawr y cais am Gemau'r Gymanwlad. Mae'r rhain i gyd yn brosiectau sy'n rhy anodd, yn rhy galed. Rhowch nhw o'r neilltu. Yn y pen draw—gwneud dim. Wel, nid yw'n ddigon da cael gweinyddiaeth gwneud dim yma ym Mae Caerdydd.

Wel, mae’n ymddangos bod gan yr Aelod gamargraff fawr o ran arian, os caf i ddweud, gan y byddai wedi golygu ymrwymiad ariannol sylweddol a byddai wedi golygu na fyddem wedi gallu cynnal llawer iawn o ddigwyddiadau yn y dyfodol. Byddai'n cael sgil effaith ar ein cyllidebau cyfalaf. Mae'n llawer gwell edrych ar fuddsoddi mewn chwaraeon llawr gwlad, ie—trwy adeiladu seilwaith, mae cymaint â hynny’n wir. Mae angen i ni, er enghraifft, edrych ar felodrom â seddi, nad oes gennym ni. Mae angen i ni edrych ar y pwll nofio cenedlaethol—nid oes ganddo seddi. Mae gennym bwll plymio y mae angen ei wella yn y dyfodol. Ond mae'r costau y mae ef yn sôn amdanynt yn enfawr. O’r safbwynt yr ydym ni wedi ei gymryd, rydym ni wedi ystyried yr holl ddewisiadau ar gyfer Gemau'r Gymanwlad, wedi ystyried cynnal y gemau gyda rhywun arall, ac nid oedd y dewisiadau hynny ar gael i ni. Mae'n llawer gwell, felly, ein bod ni’n gallu defnyddio'r arian hwnnw ar gyfer digwyddiadau fel rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr, a fydd yn darlledu Cymru i gynulleidfa enfawr o gwmpas y byd.

Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, bydd y telerau y byddwn ni’n gadael yr Undeb Ewropeaidd yn unol â nhw yn diffinio dyfodol economi Cymru a holl wleidyddiaeth Cymru yn wir. Rydych chi wedi dweud y dylai Cymru gael feto os nad yw'r cytundeb Brexit yn un da i Gymru. Nawr, mae'n un peth i alw am feto, ond yr hyn y mae angen i ni ei weld nawr yw gweledigaeth, ac mae pobl yn disgwyl bod gennych chi’r weledigaeth gynhwysfawr, fanwl sy’n ysbrydoli o ran sut y bydd Cymru yn edrych ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Nid yw ymladd am yr hyn sydd gennym ni eisoes o ran cyllid yn ddigonol, gan y byddai hynny yn darparu’r isafswm yn unig, ac nid yw’n ddigon da. Pryd, Brif Weinidog, allwn ni ddisgwyl clywed eich gweledigaeth o ran sut y bydd Cymru newydd yn edrych ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, neu efallai nad oes gennych chi un?

Wel, bydd yn Gymru, wrth gwrs, sy’n dal i fod yn rhan bwysig o Ewrop, Cymru sy'n edrych tuag allan ac yn parhau i fod yn llwyddiannus o ran denu buddsoddiad. Dyna'r neges a roddais i i'r Unol Daleithiau yr wythnos diwethaf. O’m safbwynt i, mae'n hynod bwysig bod gennym ni fynediad di-dariff at y farchnad nwyddau a gwasanaethau. Ni fyddai'n fanteisiol i ni pe byddai tariffau yn cael eu gosod. Ydym, yn unol â'r addewid a wnaed gan y rhai yn Llywodraeth y DU nawr, rydym ni eisiau gwneud yn siŵr na fydd Cymru yn colli’r un geiniog; mae cymaint â hynny’n wir. Yr hyn y mae angen ei harchwilio nawr yw pa fath o fodel sydd ei angen arnom: ai model yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, ai model Cymdeithas Masnach Rydd Ewrop, ai model tollau-undeb, ai model cytundeb masnach rydd? Dyna'r pedwar model sy'n cynnig mynediad rhannol o leiaf i’r farchnad sengl. Nid yw'r model Sefydliad Masnach y Byd yn gweithio, yn fy marn i, cyn belled ag y mae Cymru yn y cwestiwn. Ond mae angen i ni ddeall, yn gyntaf oll, pa un a fydd Llywodraeth y DU yn cadw at ei hymrwymiad y bydd y Llywodraethau datganoledig wrth galon y trafodaethau, ac nid ar ddiwedd y trafodaethau. Mae hefyd yn golygu bod yn rhaid i Lywodraeth y DU ei hun benderfynu ar beth y mae ei eisiau. Mae wedi sôn am gytundeb wedi’i deilwra; iawn, ond beth yw elfennau'r cytundeb hwnnw y mae Llywodraeth y DU yn eu hystyried yn hanfodol? I mi, mae cyllid a mynediad at y farchnad sengl yn hanfodol. Hebddynt, nid oes amheuaeth y byddai Cymru yn dioddef. Mae angen archwilio’r hyn y mae'n ei olygu i ryddid i symud cyn belled ag y mae pobl yn y cwestiwn. Rydym ni’n gwybod bod llawer iawn o bobl wedi pleidleisio i adael oherwydd y mater hwnnw, ac mae angen ymdrin ag ef yn ofalus o ran barn y cyhoedd. Y camau nesaf yw: cafodd is-bwyllgor y Cabinet gyfarfod ddoe i ystyried yr heriau cychwynnol y mae Brexit yn eu cyflwyno, a bydd y grŵp cynghori allanol yr wyf yn ei sefydlu yn cyfarfod ar ddiwedd y mis.

Brif Weinidog, nid gweledigaeth yw honno. Rydych chi wedi amlinellu'r camau nesaf, rydych chi wedi amlinellu'r hyn yr hoffech chi weld Prif Weinidog y DU yn ei wneud, ond nid ydych chi wedi dweud wrthym beth yr hoffech chi ei weld ar gyfer Cymru. Nawr, cafwyd negeseuon cymysg gan eich arweinydd yn y DU ar y cwestiwn hwn o aelodaeth o’r farchnad sengl, ac nid yw eich datganiadau chi eich hun wedi bod yn llawer mwy eglur ychwaith. Rydych chi wedi galw am fynediad rhydd at farchnad sengl Ewrop, rydych chi hefyd wedi dweud eich bod chi eisiau mynediad di-dor, ac yr wythnos diwethaf, dywedasoch eich bod eisiau gweld moratoriwm saith mlynedd ar symudiad rhydd pobl. Wel, roeddwn i ym Mrwsel yr wythnos diwethaf gyda nifer o aelodau o fy nhîm, ac fe'i gwnaed yn gwbl eglur i ni na allwch chi gael mynediad rhydd llawn heb dderbyn symudiad rhydd pobl. Nawr, gall mynediad gynnwys pob math o gostau, gan gynnwys tariffau—ac rydym ni wedi clywed heddiw sut y byddai hynny'n ddrwg i ddur—gallai olygu costau tollau, a byddai pob un o’r rhain yn groes i les gorau Cymru. Brif Weinidog, a ydych chi’n credu y dylai Cymru aros yn aelod o'r farchnad sengl pan fyddwn ni’n gadael yr Undeb Ewropeaidd?

Diolch i chi am yr eglurder ar y pwynt hwnnw, Brif Weinidog. [Torri ar draws.] Fe wnaethoch chi wrth-ddweud y safbwynt hwnnw yr wythnos diwethaf. Felly, o’r diwedd, mae gennym ni eglurder ac rwy'n ddiolchgar i chi am hynny.

Neithiwr, pleidleisiodd eich ASau Llafur—ASau Llafur Cymru—yn erbyn awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru. Roedd y gwelliannau y pleidleisiodd Llafur yn eu herbyn yn dod o’ch llywodraeth a’ch cyfreithiau eich hun yn y Bil Cymru drafft. Ac nid dyna'r tro cyntaf y mae wedi digwydd. Pan wnaethant bleidleisio yn erbyn Plaid Cymru yn ôl ym mis Gorffennaf, dywedasoch mai mater o amseru oedd y broblem yr adeg honno, ac nid mater o egwyddor. Pam na allwch chi ddylanwadu ar eich cydweithwyr yn San Steffan, Brif Weinidog?

Wel, dau beth: yn gyntaf oll, mae’n debyg fy mod wedi colli cyfrif o sawl gwaith yr wyf wedi dweud bod mynediad at y farchnad sengl yn hynod bwysig i Gymru a bod rhaid iddo fod yn ddi-dor. Felly, i arweinydd yr wrthblaid—

[Yn parhau.]—ddweud, rywsut, bod hyn yn newydd, mae'n amlwg nad yw hi wedi bod yn dilyn y cyfryngau nac yn darllen y papurau dros y ddau neu dri mis diwethaf. Felly, mae mynediad at y farchnad sengl, ar gyfer nwyddau a gwasanaethau, ar sail ddi-dariff yn gwbl hanfodol. Rwyf wedi bod yn dweud hynny drosodd a throsodd. Yn ail, wrth gwrs, mater i San Steffan yw’r hyn sy'n digwydd yn San Steffan. Rydym ni wedi cymryd y safbwynt bod awdurdodaeth ar wahân, o leiaf, yn hynod bwysig a, heb yr awdurdodaeth ar wahân honno, ni ellir cael setliad datganoli sy'n para i Gymru.

Diolch i chi, Lywydd. Brif Weinidog, yr wythnos diwethaf, roeddech chi yn America yn hyrwyddo'r hyn sydd gan Gymru i'w gynnig i fusnesau sy'n awyddus i fuddsoddi yn y DU, ac mae Cymru yn amlwg eisiau cael cyfran fawr o’r gacen honno. Ar ddiwedd yr ymweliad, gwnaethoch ddewis defnyddio araith i siarad am chwalu’r Deyrnas Unedig. Roedd yn ymddangos braidd yn rhyfedd, pan eich bod chi’n ceisio hyrwyddo'r cynnyrch i entrepreneuriaid sydd eisiau buddsoddi cannoedd o filiynau o ddoleri yn y DU—gydag ychydig o lwc—eich bod chi, ar y dydd Gwener, yn cynnig darlun llwm o ragolygon y Deyrnas Unedig. A allwch chi esbonio pam y gwnaethoch chi ddefnyddio taith fasnach fel llwyfan i drafod chwalu’r Deyrnas Unedig?

Yr hyn na ddywedais i, wrth gwrs, oedd bod y rhai ym myd busnes yn chwaraewyr golff tew a diog, sy’n un o themâu ei blaid ef ar hyn o bryd, y blaid fusnes. Allech chi ddim creu’r fath beth, allech chi? Dyna’r hyn a ddywedodd un o’r prif ymgyrchwyr dros Brexit. Tybed a yw ef wedi darllen fy araith mewn gwirionedd, gan i mi ei gwneud yn hynod eglur bod heriau cyn belled ag y bo Brexit yn y cwestiwn ac amlinellais ffordd ymlaen gyda'r heriau hynny. Dywedais hefyd ei bod yn hynod bwysig bod pensaernïaeth y DU yn cael ei harchwilio er mwyn sicrhau bod y DU yn gadarn ar ôl Brexit ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf wedi ei ddweud lawer, lawer gwaith. Roedd gan y gynulleidfa ddiddordeb aruthrol yn hynny.

Brif Weinidog, roedd yn ymddangos yn eglur fel eich bod yn breuddwydio eto am chwalu’r Deyrnas Unedig, sydd yn rhywbeth yr ydych chi’n treulio llawer o amser yn siarad amdano y dyddiau hyn, ac fel unrhyw un sy'n mynd o flaen entrepreneur fel yn ‘Dragon’s Den’ dydych chi ddim yn beirniadu’r cynnyrch yr ydych chi’n ceisio ei werthu iddyn nhw, Brif Weinidog. Ond un peth y gallech chi fod wedi ei wneud ar eich cenhadaeth fasnach fyddai mynd draw i Detroit a siarad ym mhencadlys Ford gyda'r cyfarwyddwyr yno a'r uwch dîm rheoli am y cyhoeddiad a wnaethpwyd yr wythnos diwethaf am leihau cynhyrchiant yng nghyfleuster injans Pen-y-bont ar Ogwr. Rwy'n credu y dylem ni gofio bod gwerth £100 miliwn o fuddsoddiad yn mynd i mewn i'r cyfleuster injans o hyd, ond mae hwn yn gyhoeddiad arwyddocaol ar ran Ford o ran sut y maen nhw’n mynd i fwrw ymlaen â'r ddeinameg yn y gwaith hwnnw. A wnaethoch chi ofyn am gyfarfod gyda Ford, ac os gwnaethoch chi ofyn am y cyfarfod hwnnw, pam na chawsoch chi gyfarfod?

Do, fe wnaethom ni gais am gyfarfod ond dywedwyd wrthym mai mater i Ford yn Ewrop oedd hwn erbyn hyn ac y dylai'r cyfarfod fod gyda nhw. Felly, gwnaethpwyd y cais i gael cyfarfod gyda nhw.

O ran y sylw a wnaeth yn gynharach: mae'n eithaf amlwg nad yw wedi darllen fy araith, onid yw, yn Chicago? Yn amlwg, y cwbl y mae wedi ei wneud yw ymateb i—. Pan ddywedodd, 'Rhoesoch yr argraff eich bod wedi dweud rhywbeth penodol', mae hynny’n god ar gyfer, 'O, nid wyf wedi darllen yr araith. Rwyf wedi ei gymryd o'r hyn yr wyf i wedi ei weld ar-lein. 'Wel, a gaf i awgrymu ei fod yn darllen yr araith? Fe’i darllenwyd gyda chryn ddiddordeb gan bobl a oedd yno a bydd yn gweld nad yw’n union yr hyn y mae'n awgrymu yr oedd. Fel yntau, rwyf i eisiau gwneud yn siŵr bod y DU yn aros yn gyflawn yn y dyfodol, ond bydd angen newidiadau. Ni all barhau fel y mae pan fo cymaint o newidiadau a fydd yn dod yn ddiweddarach pan fyddwn ni’n gadael yr UE. Pan siaradais â busnesau yn America, roedd pob un ohonyn nhw eisiau gwybod beth fydd yn digwydd nesaf gyda Brexit—pob un ohonyn nhw. Hon oedd y thema cyn belled ag yr oedd buddsoddwyr America yn y cwestiwn. Pan roeddwn i’n gallu dweud wrthyn nhw mai fy marn i oedd ei bod hi'n hynod bwysig bod gennym ni fynediad at y farchnad sengl ar sail ddi-dariff, roedd yn sicr yn rhyddhad iddyn nhw. Roedden nhw’n falch o glywed hynny gan nad oedden nhw wedi ei glywed gan Lywodraeth y DU. Felly, mae'n hynod bwysig bod Llywodraeth y DU yn gwneud yn siŵr nawr bod ganddi safbwynt cydlynol yn hytrach na lansio, fel y gwelsom yr Ysgrifennydd Tramor yn ei wneud yr wythnos hon, grŵp pwyso sy’n rhoi pwysau ar ei Brif Weinidog ei hun i wneud rhywbeth. Mae angen i ni weld cydlyniad ac undod yn Llywodraeth y DU er lles pobl Prydain.

Brif Weinidog, rwy’n gresynu’r ffaith nad oedd Ford yn Detroit yn barod i gyfarfod â chi, oherwydd, fel y deallaf, dyna lle gwnaed y penderfyniad am y buddsoddiad ac mae’n ymddangos eu bod wedi pasio’r bêl yn ôl i Ford Ewrop ar y mater hwn. Ond ceir tri chwestiwn dilys iawn yr wyf yn gobeithio bod eich Llywodraeth a chi eich hun fel Prif Weinidog wedi bod yn rhyngweithio gyda Ford arnynt, sef: sut, yn y dyfodol, y gellir diogelu’r swyddi gyda thoriad mor sylweddol i gynhyrchiant yn y ffatri? Hefyd, pa gynhyrchion newydd, o bosibl, allai ddod i'r ffatri i ddiogelu'r 1,850 o swyddi sydd ar y safle ar hyn o bryd? Ac mae'n deg i ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi arian ar y bwrdd i gadw swyddi yn y ffatri injans, ar lefel o 850 o swyddi, yn ôl yr hyn a ddeallaf. Yn amlwg, ceir 1,850 o swyddi ar y safle hwnnw ar hyn o bryd, felly pa sicrwydd allwch chi ei roi ynghylch y trafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael am ddiogelwch swyddi yn y dyfodol, ynghylch cynhyrchion newydd yn dod i'r gwaith ac, yn anad dim, am ddichonoldeb y ffatri yn y dyfodol fel endid sy'n gweithio o fewn capasiti gweithgynhyrchu Ford yn y Deyrnas Unedig?

Pan roeddwn i yn y ffatri, fe’i gwnaed yn gwbl eglur i mi mai tariffau oedd y broblem. Y ffatri hon yw’r ffatri injans mwyaf effeithlon sydd gan Ford. Mae'r gweithlu yno yn ardderchog ond maen nhw’n allforio pob injan y maen nhw’n ei wneud. Mae wedi’i yrru’n llwyr gan allforion. Byddai tariffau yn golygu tariff cydrannau o 5 y cant yn mynd i’r gwaith cydosod a thariff o 10 y cant o bosibl yn dod yn ôl i mewn eto i'r DU. Mae'n dariff o 15 y cant. Ni all neb ymdopi â hynny. Dywedodd llawer o fusnesau yn yr Unol Daleithiau yr un peth wrthyf: maen nhw’n aros i weld o ran yr hyn y bydd y DU yn ei wneud. Byddaf yn blaen ag ef: rwy’n meddwl os byddwn yn llwyddo i sicrhau mynediad rhydd o dariffau i farchnad Ewrop, rwy’n credu bod y broblem wedi ei datrys. Dyna'r hyn y mae buddsoddwyr busnes yn chwilio amdano. Maen nhw i gyd yn weithrediadau Ewropeaidd. Maen nhw’n ystyried y DU yn rhan o weithrediad Ewropeaidd. Mae unrhyw beth sy'n gosod rhwystr rhwng y DU a gweddill gweithrediad Ewrop yn ddrwg i weithrediad y DU. Felly, mae gweithlu Ford yn ardderchog, maen nhw’n effeithlon, ond ni ellir eu rhoi mewn sefyllfa lle byddai rhwystrau tariff yn ymyrryd â dichonoldeb y gwaith yn y dyfodol, a dyna pam yr wyf i wedi bod yn gwbl eglur pa bynnag fodel y mae’r DU yn ei fabwysiadu—ac mae pedwar gwahanol fodel y gellid eu mabwysiadu sy'n rhoi mynediad llawn fwy neu lai i farchnad sengl Ewrop—bod angen i Lywodraeth y DU ddatgan y safbwynt hwnnw nawr er mwyn rhoi’r sicrwydd hwnnw, nid yn unig i Ford ond i'n holl fuddsoddwyr o dramor.

Metro De Cymru

3. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad Metro De Cymru? OAQ(5)0128(FM)

Mae’r broses o gaffael y gweithredwr a’r partner datblygu ar gyfer masnachfraint Cymru a'r gororau, sy'n cynnwys y metro, wedi dechrau. Yn amodol ar gystadleuaeth lwyddiannus, bydd y contract yn cael ei ddyfarnu ddiwedd y flwyddyn nesaf.

Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Mae ein rhwydwaith rheilffyrdd yn amlwg wedi bod yn flaenllaw ym meddyliau fy etholwyr i ac ACau eraill dros yr ychydig ddiwrnodau diwethaf wrth i gyfnod cau chwe wythnos twnnel Hafren gychwyn ar gyfer y gwaith trydaneiddio pwysig. Mae cyflymder teithio yn agwedd allweddol ar ansawdd bywyd, felly roeddwn yn bryderus iawn o glywed efallai na fydd Trefynwy yn rhan o fap metro’r dyfodol, yn dilyn pryderon ynghylch cyllid yn sgil y bleidlais Ewropeaidd. Sut allwch chi sicrhau fy etholwyr i y bydd y cynllun metro yn cyrraedd pob rhan o’r de-ddwyrain, fel nad oes neb yn teimlo eu bod wedi’u hallgau, ac a yw’r Llywodraeth yn ystyried pob dewis o ran y metro mewn ardaloedd gwledig, gan gynnwys gwasanaethau bws a llwybrau bysiau gwell?

Nid oes gennym unrhyw gynlluniau i newid y cynigion presennol ar gyfer y metro, a bydd ef yn gwybod, wrth gwrs, fod Trefynwy yn rhan o'r metro o ran ei ddatblygiad yn y dyfodol. Yr hyn sy'n gywir, fodd bynnag, yw bod disgwyl i werth £125 miliwn o’r cyllid ar gyfer y metro ddod o arian Ewropeaidd. Nawr, heb y cyllid hwnnw, yn amlwg bydd terfyn ar ba mor bell a pha mor gyflym y gall y prosiect metro fynd yn ei flaen. Nawr, rwyf wedi clywed yr hyn a ddywedwyd na fyddai Cymru ar ei cholled o ganlyniad i adael yr UE—gwn, yn wir, y dywedwyd y bydd cyllid ar gyfer bob un rhan o'r DU, gan gynnwys Cymru, yn ddiogel pe byddem yn pleidleisio i adael; Andrew R.T. Davies, 14 Mehefin. Felly, mae ganddo sicrwydd gan ei arweinydd ei hun y bydd y £125 miliwn yn dal i fod ar gael ar gyfer y metro, ac rwy'n siŵr y bydd yn derbyn y sicrwydd hwnnw gyda rhywfaint o gysur.

Brif Weinidog, mae nifer ohonom ni ar y meinciau hyn hefyd yn aelodau o'r Blaid Gydweithredol, a threuliasom ran o'r penwythnos yn trafod swyddogaeth mentrau cydweithredol a mentrau cymdeithasol yn economi Cymru. A ydych chi’n cytuno y byddai'n ganlyniad cadarnhaol i weld cwmnïau dielw, mentrau cymdeithasol a mentrau cydweithredol yn rhan annatod o’r ddarpariaeth o wahanol agweddau ar fetro de Cymru?

Yn sicr; hynny yw, rydym ni eisiau gweld model sy'n buddsoddi, wrth gwrs, yn y rhwydwaith ei hun a model sy'n darparu gwasanaeth da i deithwyr am bris teg. A dyma’r materion y byddwn ni’n eu hystyried wrth i broses gaffael y metro fynd yn ei blaen.

Cyn toriad yr haf, wfftiodd y Prif Weinidog at awgrymiadau y dylid rhoi statws neilltuol i ddinas Casnewydd a chanolfannau eraill y tu allan i Gaerdydd ei hun yn y cynllun economaidd ar gyfer y brifddinas-ranbarth a'r metro arfaethedig. A wnaiff y Prif Weinidog felly gadarnhau nad yw ei gynlluniau ar gyfer y briffddinas-ranbarth yn ddim mwy na gwneud cymudo i Gaerdydd yn haws, yn hytrach na bod yn gynllun cynhwysfawr i ledaenu cyfleoedd i greu swyddi ar draws y de-ddwyrain cyfan?

Na wnaf. Hynny yw, wrth gwrs bod Casnewydd a'r Cymoedd yn rhan o’r rhanbarth gan ei fod yn rhanbarth economaidd. Y gwir amdani yw bod 11 miliwn o bobl y flwyddyn yn dod trwy orsaf Caerdydd Canolog; maen nhw’n gymudwyr—llawer ohonyn nhw’n dod i lawr o gymunedau’r Cymoedd. Mae'n iawn i ofyn y cwestiwn, wrth gwrs: ai dim ond dod â phobl o gymunedau’r Cymoedd i Gaerdydd yw diben hyn? Hanner y stori yw hynny. Hanner arall y stori yw ei gwneud yn haws i fuddsoddwyr symud eu buddsoddiadau i fyny i gymunedau'r Cymoedd wrth iddi ddod, yn eu meddyliau nhw, yn haws cyrraedd yno. Mae'n rhaid iddo fod yn llif dwyffordd er mwyn i’r rhanbarth weithredu'n effeithiol.

Er bod fy mhlaid i’n croesawu'r prosiect metro yn gyffredinol, mae’n anodd rhagweld, o edrych yn fanylach, unrhyw fantais wirioneddol y mae’n ei gynnig i gytrefi Cymoedd y dwyrain. A allai'r Prif Weinidog nodi ble, os o gwbl, y rhagwelir gwelliannau i wella cysylltedd ar gyfer yr ardal hon?

Wel, yn gyntaf oll, wrth gwrs, mae gennym ni’r rhwydwaith rheilffyrdd presennol i mewn i Gaerdydd ac mae hynny’n cynnig y cyfle i ni archwilio sut y gellir gwneud y rhwydweithiau hynny yn gyflymach yn y dyfodol. Ond y pwynt am y metro yw ei fod yn estynadwy—nid yw’n ymwneud yn syml ag edrych ar y strwythur sydd gennym ni ar hyn o bryd. Bydd y metro yn y dyfodol, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth, yn cynnwys rheilffyrdd ysgafn newydd a chysylltedd bws newydd, yn enwedig rhwng Cymoedd, lle, wrth gwrs, mae'n eithaf anodd gan fod popeth yn tueddu i fod o'r gogledd i'r de. Mae dwyrain Caerdydd yn yr un sefyllfa, wrth gwrs—mae dwyrain Caerdydd yn cael ei wasanaethu’n wael gan y rhwydwaith rheilffyrdd—ac wrth i’r metro gael ei gyflwyno, rydym ni’n gwbl ymwybodol o'r ffaith fod angen i ni edrych ar yr ardaloedd hyn lle, yn sicr, nad oes cludiant rheilffordd yn bodoli, neu nad oes llawer ohono, i wneud yn siŵr bod y bylchau hynny’n cael eu llenwi yn y dyfodol.

Tai Newydd yng Nghaerdydd

4. A yw’r Prif Weinidog yn arddel ei safbwynt o 2012 ei bod yn briodol i gyngor Caerdydd gael cynlluniau i adeiladu degau o filoedd o dai newydd o fewn ffiniau’r ddinas, gyda nifer fawr o’r rhain ar gaeau gwyrdd? OAQ(5)0138(FM)

Wel, Brif Weinidog, dywedasoch ar 14 Mehefin fy mod i wedi byw mewn gwlad ffantasi am y tair blynedd diwethaf. Wel, wyddoch chi, meddyliais am hynny, ac felly fe wnes i ychydig mwy o ymchwil a chefais hyd i’r 'South Wales Echo' o 5 Ebrill 2012, lle cawsoch eich dyfynnu yn cyhoeddi y byddai Llafur yn cyflwyno cynllun datblygu lleol o dan y system bresennol, ar dudalen 5. Nawr, dywedodd y 'South Wales Echo', yn ei erthygl olygyddol, bod y papur newydd yn anghytuno’n gryf â chi bod rhaid adeiladu degau o filoedd o gartrefi o fewn terfynau’r ddinas—y sylwadau a adroddwyd, yr ydych chi wedi eu gwadu ers hynny. Felly, fy nghwestiwn i yw: a oedd golygydd y 'South Wales Echo' hefyd yn byw mewn gwlad ffantasi? Ac, a ydych chi'n cadarnhau eich sylwadau ar y mater a wnaed yn y Siambr hon?

Nac ydw, gan nad wyf i byth yn gwneud sylwadau ar CDLlau na cheisiadau cynllunio. Dyna'r holl bwynt o fod mewn Llywodraeth. Y rheswm pam yr ymddangosodd y stori yn y papur yn y ffordd honno yw oherwydd ei fod ef wedi ei rhoi hi yno ac wedi ei geirio felly. [Chwerthin.] Dyna'r rheswm am hyn ac, wyddoch chi, rwy’n rhoi clod iddo: mae ef, wyddoch chi, yn ddiflino; mae’n dal wrthi. Ond, nid wyf byth yn gwneud unrhyw sylwadau am unrhyw CDLl mewn unrhyw le yng Nghymru cyn belled ag a ddylai fynd yn ei flaen ai peidio. Mae gweithdrefn briodol ar gyfer gwneud hynny.

Brif Weinidog, nid wyf yn gwybod os ydw i'n mynd i’ch cynorthwyo, ond beth bynnag, gadewch i mi atgoffa'r Siambr ein bod, dros y 15 mlynedd diwethaf, wedi adeiladu cyfartaledd o 8,000 o gartrefi y flwyddyn yng Nghymru, pan nododd tueddiadau bod angen i ni adeiladu 12,000 o gartrefi y flwyddyn i gadw i fyny â'r galw. Os ydym ni’n mynd i ddal i fyny o gwbl, mae’n debyg y bydd yn rhaid i ni fynd y tu hwnt i 12,000 o gartrefi y flwyddyn. Y ffaith drist amdani, yw os na fyddwn yn wynebu'r prinder a’r argyfwng tai, pobl ifanc sy'n chwilio am gartrefi teuluol fyddai'n methu â chael amodau byw addas y byddai'r rhan fwyaf ohonom ni wedi eu mwynhau yn ein magwraeth.

Mae'n wir i ddweud bod y galw wedi bod yn fwy na’r cyflenwad ers blynyddoedd lawer, yn enwedig tai fforddiadwy ac, wrth gwrs, mae’n rhaid i’r tai hynny fynd lle mae eu hangen—ni ellir eu rhoi lle mae'r galw yn isel; mae'n rhaid iddynt fynd lle mae'r galw ar ei uchaf. Maen nhw’n benderfyniadau anodd iawn i awdurdodau lleol o ran sut y maen nhw’n bodloni’r galw hwnnw yn lleol o ran tai ac maen nhw'n ddadleuol weithiau, ond mae'r Aelod yn iawn i ddweud bod yn rhaid i ni wneud yn siŵr bod gennym ni ddigon o dai ar gael ar gyfer y bobl sydd eu hangen.

Nid wyf am drafod mater yr hyn a ddywedodd neu na ddywedodd y Prif Weinidog yn 2012, ond ceir mater pwysig yma o ran gor-ddatblygiad Caerdydd a datblygiadau tai mawr sydd wedi eu cynnig ac sy’n debygol o fynd yn eu blaenau sy'n mynd yn groes i ddymuniad y rhan fwyaf o drigolion presennol y ddinas. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno bod problem gyda diffyg atebolrwydd y system gynllunio yng Nghymru, yn enwedig gyda'r Arolygiaeth Gynllunio? Ac, a ddylem ni gymryd camau yn y Cynulliad i wanhau pwerau'r Arolygiaeth Gynllunio yng Nghymru?

Nac ydw, dydw i ddim. Rwy’n meddwl bod rhaid cael proses o archwilio sy'n gadarn. Mae Caerdydd yn ddinas sy'n tyfu; mae ei phoblogaeth wedi tyfu’n aruthrol dros y 30 mlynedd diwethaf, ac nid mater i Gaerdydd yn unig yw sut yr ydych chi’n ymdrin â’r galw hwnnw, mae'n fater i’r holl awdurdodau o amgylch Caerdydd, gan ein bod yn gwybod y bydd y galw hwnnw yno y tu allan i ffiniau'r ddinas hefyd. Ond, nid ydym ni byth yn mynd i gael i sefyllfa lle nad ydym yn adeiladu unrhyw dai, oherwydd byddai hynny'n golygu nad yw’r galw’n cael ei fodloni. Felly, i awdurdodau lleol, mae’n rhaid iddyn nhw lunio cynllun datblygu lleol, cyflwyno’r dystiolaeth ar gyfer eu cynlluniau a chael arolygydd cynllunio i brofi’r cynlluniau hynny. Rwy'n credu bod honno'n system gadarn i sicrhau bod CDLl wedi cael ei brofi mor drwyadl a thrylwyr â phosibl yn y dyfodol.

Recriwtio Meddygon Teulu

5. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd Llywodraeth Cymru o ran recriwtio rhagor o Feddygon Teulu? OAQ(5)0120(FM)

Mae cynlluniau i recriwtio a hyfforddi meddygon teulu a gweithwyr gofal iechyd sylfaenol proffesiynol eraill ychwanegol yn flaenoriaeth, ac, wrth gwrs, rwyf wedi bod yn eithaf manwl, o ran yr hyn yr ydym ni’n bwriadu ei wneud ledled Cymru, yn fy ateb i gwestiwn 1.

Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Ceir pryder dealladwy yng Nghydweli, Brif Weinidog, am yr anhawster o ran recriwtio a chadw meddygon teulu ym meddygfa Minafon, ac mae cynghorwyr Llafur lleol wedi bod yn gweithio'n galed gyda'r bwrdd iechyd i geisio hysbysu’r gymuned. Er tegwch i Hywel Dda, maen nhw wedi bod yn gwneud eu gorau i geisio recriwtio tîm clinigol i'r feddygfa ac i ddod â staff locwm i mewn. Roeddwn i’n falch iawn o glywed bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynnal ymgyrch recriwtio yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda byrddau iechyd ac nad ydynt yn cael eu gadael i gynnal eu hymgyrchoedd eu hunain ar wahân. A wnaiff ef roi rhywfaint o fanylion i ni am ei safbwyntiau ar addasu'r model sydd gan feddygon teulu ar hyn o bryd, o ran datblygu eu meddygfeydd eu hunain a phrynu i mewn iddyn nhw? Oherwydd, yn eithaf amlwg, mae anghenion meddygon teulu modern yn fwy amrywiol ac mae hynny’n ymddangos yn hanfodol er mwyn denu meddygon teulu i leoedd fel Cydweli.

Maen nhw. Hynny yw, rwy’n deall bod dau feddyg teulu locwm wedi eu recriwtio i gymryd lle'r ddau feddyg teulu cyflogedig yng Nghydweli a roddodd rybudd eu bod yn gadael, ac mae’r gwasanaeth hwnnw wedi ei ailgychwyn. Yr hyn yr wyf i’n ei weld ymhlith llawer o feddygon teulu iau yw nad oes ganddyn nhw ddiddordeb mewn prynu i mewn i feddygfa. Maen nhw eisiau bod yn gyflogedig; maen nhw eisiau cael yr hyblygrwydd. Yn gyntaf oll, nid yw’r arian ganddyn nhw—mae codi’r arian i brynu i mewn i bractis yn anodd iddyn nhw—a hefyd, wrth gwrs, maen nhw eisiau cael yr hyblygrwydd o allu symud o gwmpas. Mae'r dyddiau pan roedd meddygon teulu yn mynd i rywle ac yn aros yno am eu holl fywydau gwaith—wel, mae llai a llai, rwy’n amau, sydd eisiau gwneud hynny. Mae'n rhaid i’r GIG addasu i’r realiti hwnnw. Mae'n golygu, er enghraifft, pan fo byrddau iechyd yn cymryd meddygfeydd drosodd, mewn gwirionedd, mae'r gwasanaeth yn aml yn gwella o ganlyniad i hynny, ac mae Prestatyn yn enghraifft dda o hynny. Pan fo meddygfa arall yn dymuno cymryd drosodd, mae hynny’n cael ei hwyluso. Mae rhaid cael nifer o wahanol fodelau yn y dyfodol i wneud yn siŵr bod gweithio fel meddyg teulu yn cael ei ystyried yn ddeniadol, yn hytrach na'r un model traddodiadol a fydd yn ddeniadol i rai, ond nid i bawb.

Mi fues i’n cyfarfod wythnos diwethaf efo nifer o feddygon teulu o Ynys Môn, ac mi drafodon ni sut i annog mwy o bobl ifanc i fod eisiau dymuno mynd i yrfa fel GP. Ac rwy’n siŵr y bydd y Prif Weinidog yn rhannu fy mhryder i am y gostyngiad o 15 y cant yn y myfyrwyr o Gymru sydd wedi bod yn gwneud ceisiadau i fynd i astudio meddygaeth. Ond rwy’n siŵr y buasai fo hefyd yn cefnogi fy ngalwad i, a’r BMA ac eraill, am hyfforddi rhagor o feddygon o Gymru yng Nghymru. Mae’r ffigurau yn dangos bod 80 y cant o fyfyrwyr meddygol Gogledd Iwerddon yn dod o Ogledd Iwerddon; rhyw 50 y cant o fyfyrwyr meddygol yr Alban yn dod o’r Alban; a dim ond rhyw 20 y cant o fyfyrwyr meddygol Cymru yn dod o Gymru. A ydy’r Prif Weinidog yn cytuno efo fi bod angen newid y gyfradd yna a bod hynny’n gorfod cynnwys, i raddau, elfen o gwotâu?

Rwy’n credu bod hynny’n deg i wneud y pwynt hwnnw. Fe hoffwn i weld mwy o bobl ifanc yn hyfforddi yng Nghymru. Rwyf wedi clywed straeon sawl gwaith am bobl sydd wedi cael cynnig o ysgol feddygol yn Lloegr ond heb gael cynnig o un yng Nghymru. Felly mae hynny yn rhywbeth sy’n creu pryder i fi. Yn gyntaf, wrth gwrs, mae’n rhaid i ni sicrhau bod mwy a mwy o bobl ifanc eisiau bod yn feddygon, a hefyd wrth gwrs i sicrhau bod yna fwy o gyfle iddyn nhw i hyfforddi yng Nghymru. Rwy’n deall bod ble rydych chi’n hyfforddi yn cael effaith fawr ar ble rydych chi’n gweithio wedyn yn y pen draw, felly mae’r ddau beth yn mynd gyda’i gilydd.

Cyfeiriodd ‘Gweithlu Gofal Sylfaenol wedi’i Gynllunio i Gymru’ at swyddogaeth sy'n dod i'r amlwg cymdeithasau meddygon a’n hysgolion meddygol, fel ffordd o gynyddu nifer y meddygon teulu yng Nghymru. O ystyried argyfwng diymwad y ddarpariaeth o feddygon teulu yng Nghymru, sut ydych chi wedi bwrw ymlaen â’r argymhelliad hwn, a pha gynlluniau sydd gennych chi ar waith i gynyddu’r dim ond 27 o leoedd a ariennir sydd ar gael trwy ein hysgolion meddygol yma yng Nghymru?

Yn gyntaf oll, os oes argyfwng yng Nghymru, mae argyfwng ar draws gweddill Prydain, gan nad yw’n ddim gwahanol yma o'i gymharu â lleoedd eraill. Mae denu meddygon teulu yn anodd ac yn heriol. Rydym ni’n gwybod hynny, a dyna pam mae ymgyrch yn cael ei lansio ym mis Hydref. Nid yw'n ymwneud â chyfle yn unig, nid am hyblygrwydd yn unig; mae hefyd yn ymwneud â darparu, fel y dywedodd yr Aelod dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, yr amgylchedd iawn ar gyfer eu teulu ehangach hefyd. A bydd y datganiad y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei wneud yn amlinellu'n fanwl sut y bydd yr ymgyrch honno’n cael ei chynnal.

Brif Weinidog, cefais gyfarfod ddydd Iau diwethaf gyda Gary Doherty, prif weithredwr bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, a chadarnhaodd i mi mai’r her fwyaf sydd ganddo yn y gogledd yw recriwtio a chadw meddygon, meddygon teulu, a nyrsys hefyd. Un o'r pethau a drafodwyd gennym oedd y posibilrwydd o hyfforddi staff meddygol sy'n siarad Cymraeg yn Ysbyty Gwynedd a hefyd ynghlwm â Phrifysgol Bangor. A ydych chi’n cytuno bod hwn yn syniad da, y byddai hon yn ffordd i ni annog mwy o bobl i astudio yng Nghymru ac i aros yng Nghymru, ond hefyd i helpu gyda'r prinder, y broblem sydd gennym ni o weithwyr proffesiynol sy’n siarad Cymraeg yn y gwasanaeth iechyd? A fyddech chi’n fodlon siarad â'r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, sef canghellor Prifysgol Bangor, a hefyd siarad â Gary Doherty, a oedd yn cytuno â mi bod hwn yn syniad da?

Wel, rydym ni’n agored i unrhyw awgrymiadau. Yr hyn sy'n bwysig, wrth gwrs, yw y gall unrhyw ysgol feddygol roi cyfle llawn o hyfforddiant i fyfyriwr—mae hwn yn un mater, wrth gwrs, sydd wedi cael ei godi o'r blaen: pa un a ellir gwneud hyn ym Mangor. Nid yw yn ein dwylo ni yn gyfan gwbl. Bydd gan y ddeoniaeth, wrth gwrs, farn ar hynny, yn ogystal â’r rhai sy'n gyfrifol am hyfforddiant meddygol yn ehangach. Mae'n iawn i ddweud ei bod yn anodd recriwtio ym mhob rhan o'r DU, a’r hyn sy’n gwbl hanfodol ar hyn o bryd hefyd yw nad ydym yn rhoi'r argraff nad ydym ni eisiau meddygon a nyrsys o'r tu allan i'r DU—maen nhw’n hollbwysig i’r gwasanaeth iechyd—yn aml o'r tu allan i'r UE. Rydym ni’n gwybod bod y farchnad ar gyfer meddygon yn rhyngwladol; mi fydd bob amser. Ni allwch fyth hyfforddi pobl a fydd wedyn yn aros am eu holl fywydau gwaith yn y wlad lle cawsant eu hyfforddi, felly mae'n rhaid i chi apelio’n rhyngwladol yn ogystal â gwneud yn siŵr bod pobl yn teimlo bod croeso iddyn nhw.

Darparu Trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru

6. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer darparu trafnidiaeth yn y dyfodol yng Ngogledd Cymru? OAQ(5)0123(FM)

Rydym ni’n cymryd nifer o gamau i wella pob math o ddarpariaeth trafnidiaeth yn y gogledd, a bydd y prosiect metro gogledd Cymru arfaethedig yn dod â gwelliannau ychwanegol.

Sut ydych chi’n ymateb i'r cyflwyniad gan grwpiau defnyddwyr yn y gogledd-ddwyrain i ymchwiliad y Pwyllgor Materion Cymreig ar ddatganoli masnachfraint Cymru a’r gororau i Gymru bod yn rhaid i gyrff yn Lloegr, fel Rail North, gael cyfrifoldeb masnachfraint datganoledig hefyd, ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru, ar gyfer y gwasanaethau traws-ffin hynny, fel Wrecsam-Bidston i mewn i Loegr, sy'n parhau yn y fasnachfraint ddatganoledig?

Mae'n anodd, wrth gwrs, tynnu llinell bendant, o ystyried natur masnachfraint Cymru a'r gororau. Yr hyn na fyddwn yn cytuno ag ef yw un awgrym a ddaeth gan yr Adran Drafnidiaeth y dylai unrhyw wasanaeth sy'n terfynu yn Lloegr gael ei redeg o Loegr. Byddai hynny'n golygu’n llythrennol na fyddai unrhyw wasanaeth sy’n rhedeg ar draws unrhyw le yng ngogledd Cymru, ac eithrio rheilffordd Dyffryn Conwy, yn cael ei rheoli o Gymru o gwbl. Yr un fath, yn union yr un fath, ar gyfer rheilffordd canolbarth Cymru, rheilffordd Calon Cymru, llawer o wasanaethau arfordirol y Cambrian, yn ogystal, yn ogystal â gwasanaethau rhyng-ddinesig a llawer o'r gwasanaethau sy'n rhedeg i Fanceinion ac sy’n rhedeg, ar hyn o bryd, y tu hwnt i'r ffin. Byddai hynny'n gwbl annerbyniol. Felly, er ein bod ni eisiau gwneud yn siŵr bod gwasanaeth Cymru a'r gororau, gyda'i fasnachfraint, yn cael ei redeg o Gymru, rydym ni’n credu y gallwn ni ddarparu gwasanaeth yr un mor dda i bobl sy'n byw yn Lloegr hefyd.

Trafnidiaeth Gyhoeddus yng Ngogledd Cymru

7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am drafnidiaeth gyhoeddus yng Ngogledd Cymru? OAQ(5)0130(FM)[W]

Wel, rwy’n credu fy mod i wedi rhoi ateb i hwnnw yn yr ateb i’r cwestiwn diwethaf.

Wel, rydym ni wedi gwyntyllu tipyn ar fetro de Cymru yn gynharach yn y sesiwn yma. Wrth gwrs, mi wnaeth eich plaid chi gyhoeddi cynllun ar gyfer metro i’r gogledd-ddwyrain, i bob pwrpas, a oedd yn llinellau ar fap ac mae yna nifer o fudd-ddeiliaid wedi dweud beth roedden nhw’n ei feddwl am hynny. Ond onid siarad gwag yw sôn am ryw fath o fetro pan, mewn gwirionedd, fo yna wasanaethau llawer mwy sylfaenol yn methu cael eu darparu yn sgîl, er enghraifft, methiant y cwmni GHA Coaches? Ac a ydych chi’n derbyn bod yna gwestiynau y dylai eich Llywodraeth chi eu hateb o’r ffaith bod y Llywodraeth yn gwybod fisoedd o flaen llaw bod y cwmni yn wynebu trafferthion ariannol dybryd? Mi fethwyd ag achub y cwmni, wrth gwrs, ond yr hyn, wrth gwrs, a oedd yn siomi nifer o bobl oedd nad oedd yna drefniadau amgen mewn lle yn syth ar ôl i’r cwmni fynd i’r wal. Mae yna bobl yn dal yn methu mynd i’w gwaith yn Wrecsam a dal yn methu mynd i gael addysg yn Wrecsam oherwydd y gwasanaethau sydd wedi eu colli. Onid yw hynny ddim yn ddigon da?

Ond cyfrifoldeb awdurdodau lleol yw hynny, nid Llywodraeth Cymru. Ond a gaf i ddweud yn fwy eang mae’n hollbwysig sicrhau, ac mae hyn yn mynd i ddigwydd, bod y Cynulliad hwn ddylai gael y cyfrifoldeb ynglŷn â gwasanaethau bysiau? Er enghraifft, am flynyddoedd, wrth gwrs, mae wedi bod yn wir fod comisiynydd traffig ym Mirmingham yn rheoli Cymru. Nid yw hynny’n iawn yn y pen draw. Wrth gael y pwerau hynny, byddai’n rhwyddach i ni fel Llywodraeth ac i’r Cynulliad hwn sicrhau bod gwasanaethau yn cael eu rhedeg yn y ffordd byddem ni ei heisiau. Ynglŷn â’r metro, mae yna astudiaethau wedi dechrau yn barod er mwyn datblygu achos busnes i symud y metro ymlaen. Rydym ni’n gweithio gyda rhanddeiliaid mewn trafnidiaeth er mwyn gweld ym mha ffordd allwn ni symud y project ymlaen yn y pen draw.

GIG Cymru

8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae GIG Cymru yn cynnal yr egwyddor o fod am ddim yn y pwynt gofal? OAQ(5)0134(FM)

Mae egwyddorion sylfaenol y GIG—i ddarparu gwasanaethau iechyd sy'n gynhwysfawr, sydd am ddim yn y man darparu ac yn seiliedig ar degwch a chydraddoldeb—yn parhau wrth wraidd y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog. Amcangyfrifwyd bod y farchnad fewnol yn y GIG yn Lloegr yn costio hyd at £10 biliwn y flwyddyn. A fyddech chi’n cytuno â mi bod ymrwymiad Llywodraeth Lafur Cymru i beidio â chael unrhyw farchnad fewnol yn y GIG yng Nghymru wedi bod o fudd aruthrol i gleifion, a’i fod yn ymrwymiad a fydd yn parhau?

Gallaf roi'r ymrwymiad hwnnw 100 y cant. Rydym ni’n gwybod, lle mae marchnadoedd wedi eu cyflwyno yn y GIG mewn mannau eraill, eu bod wedi arwain at wastraff ac aneffeithlonrwydd.

2. Cwestiwn Brys: Ffatri Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Rwyf wedi derbyn dau gwestiwn brys o dan Reol Sefydlog 12.66, ac rwy’n galw ar Bethan Jenkins i ofyn y cwestiwn cyntaf.

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyhoeddiad Ford y bydd yn cynhyrchu llai o beiriannau yn ei ffatri ym Mhen-y-bont ar Ogwr? EAQ(5)0037(EI)

Yn amlwg, roeddwn yn bryderus o glywed y cyhoeddiad. Mae Ford yn gwmni yr ydym yn agos iawn ato ac mae’n cyfateb y cyflenwad â'r galw ond yn dal i fuddsoddi £100 miliwn i’r safle a diogelu 550 o swyddi. Byddaf yn gweithio gyda'r holl randdeiliaid i sicrhau dyfodol y safle a'i weithlu ffyddlon.

Lywydd, mae’n peri cryn bryder i mi bod y Prif Weinidog, gan gofio mai yn ei etholaeth ef y mae hyn, wedi gadael ar yr union gwestiwn hwn gan fy mod eisiau cyfeirio yn gynharach at yr hyn a ddywedodd o ran Brexit gan fy mod yn rhannu ychydig o sinigiaeth ynghylch bod hyn yn ymwneud yn gyfan gwbl â Brexit, o ystyried bod Ford yn gwmni amlwladol, ac ni wnaethant ddweud hyn cyn Brexit. Ers datganoli, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £43 miliwn o arian cyhoeddus yn Ford Pen-y-bont ar Ogwr, buddsoddiad nid ansylweddol mewn ffatri nad yw ond yn 36 mlwydd oed, ac sydd hefyd yn defnyddio ychydig o adnoddau, os o gwbl, o Gymru. Credaf fod yr olaf o'r tair rownd o gyllid ar gyfer yr injan EcoBoost wedi’i thalu y llynedd. O ystyried hanes y cwmni yn Abertawe—ac mae’r creithiau gennyf o hyd, ochr yn ochr â brwydr pensiynau Visteon—pa sicrwydd ydych chi wedi gofyn amdano gan y cwmni na fydd yn cau’r gwaith ac yn gadael, gan adael y staff ar y clwt ac yna rhoi’r swm lleiaf posibl yn ôl i Gymru ar ôl cael cymaint o arian gennych chi fel Llywodraeth Cymru?

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn? Rwyf am anwybyddu’r ergyd hawdd fanteisgar at y Prif Weinidog, ond rwyf yn casglu o'r hyn yr oeddech yn ei ddweud am fuddsoddiad Llywodraeth Cymru yn Ford eich bod yn anghytuno â buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn ffatri Ford a'r 1,850 o bobl sy'n gweithio yno. Rydym yn falch o fod wedi buddsoddi yn y safle: un o'r canolfannau gweithgynhyrchu ceir mwyaf effeithlon ac effeithiol yn Ewrop. Mae'n cynhyrchu injans â chyfanswm gwerth o oddeutu £700,000 ar gyfer y teulu diesel Ford cyfan.  Mae, fel y dywedais, un o'r ffatrioeddffatrïoedd mwyaf effeithiol ac effeithlon, ac mae lefelau cynhyrchiant yno ymhlith y gorau.

O ran Brexit, nid oes amheuaeth o gwbl bod Ford, fel llawer o gwmnïau eraill, yn dymuno gweld mynediad dilyffethair heb dariffau i'r farchnad sengl. Dyna un o'u pryderon mwyaf yn y drafodaeth a'r ddadl ynghylch sut y dylai Cymru weithredu fel rhan o'r DU wrth symud ymlaen. Rwyf yn amlwg yn credu—ac rwy'n siŵr y byddai'r Aelod yn cytuno—y dylem gael mynediad dilyffethair at y farchnad sengl heb dariffau ac o fewn amgylchedd rheoleiddio sefydlog y gallwn weithredu ynddo.

Nawr, gallaf ddweud, o ganlyniad i'r trafodaethau yr ydym eisoes wedi eu cael, bod fy swyddogion yn gweithio’n weithredol gyda staff uwch Ford i edrych ar gyfleoedd buddsoddi uwch-dechnoleg yn y dyfodol ar gyfer y safle. Rwyf hefyd wedi bod yn cynnal trafodaethau ag uwch swyddogion gweithredol o fewn Ford i archwilio'r cyfle ar gyfer prosiectau buddsoddi ychwanegol i ddiogelu'r safle cyfan ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Rwyf yn ymestyn y trafodaethau presennol hynny y tu hwnt i'r rhai sy'n tarddu o Ewrop i gynnwys holl brosiectau Ford ar draws y byd. Yn arbennig, rwy'n agored i drafodaethau gyda phencadlys Ford yn Detroit. Efallai y byddech yn dymuno cael gwybod fy mod wedi cyfarwyddo swyddogion i roi gwybod i Bencadlys Ford fy mod yn bwriadu ymweld a chwrdd â nhw yn ddiweddarach yr hydref hwn.

Mae'r rhan fwyaf o'r gweithwyr yn Ford Pen-y-bont ar Ogwr yn etholaeth fy nghyfaill, y Prif Weinidog, ond hefyd fy un innau. Wedi siarad â'r undebau a'r gweithlu a rheolwyr Ford eu hunain mae'n amlwg, er nad Brexit yw'r ffactor perthnasol yn y penderfyniad hwn—cynhyrchu llai o injans Dragon yw hwnnw—mae'n fater sy'n eu poeni oherwydd yr union fater hwn y mae’r Ysgrifennydd y Cabinet yn sôn amdano, sef bod, er mwyn sicrhau bod y ffatri hon yn llwyddiant, mae angen ailddyfeisio’r llinellau cynnyrch yn gyson yn y dyfodol, buddsoddiad newydd yn y llinellau hynny, a sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn sefyll yn gadarn y tu ôl iddynt, fel yr ydym wedi ei wneud bob amser yn y gorffennol hefyd. Mae hwn yn weithlu hynod o dda. Maent yn fedrus iawn. Mae'n un o'r llinellau mwyaf cynhyrchiol yn Ewrop o unrhyw beirianwyr modurol. Mae ganddo ddyfodol da, ac mae’n rhaid i ni ganmol y ffatri, ond mae gan y gweithlu y pryderon hynny y bydd buddsoddiad yn digwydd mewn llinellau newydd yn y dyfodol mewn gwirionedd. Felly, ar y cyfle cynharaf y gallwn ehangu ar y cynlluniau hynny, byddai hynny'n ddefnyddiol iawn, oherwydd mae angen inni weld y swyddi hyn yn cael eu cynnal yn ne Cymru.

Wel, rwyf yn rhannu pryderon yr Aelod am y gweithlu, ac yr wyf yn rhannu pryderon y gweithlu am weithrediadau’r ffatri yn y dyfodol. Yn wir, rwyf wedi siarad ag ysgrifennydd cyffredinol undeb Unite ac eraill i drafod sut y gallwn gydweithio gyda Ford i nodi cyfleoedd i gynnal gweithrediadau adeiladu injans ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Rwy'n credu bod nifer o bethau cadarnhaol i’w cael o’r sefyllfa bresennol ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Yn gyntaf oll, mae'n debyg y bydd y galw am injans petrol, oherwydd dieselgate, yn cynyddu. Yr hyn y mae Ford wedi ei ddweud wrthym yw, yn ystod y cam cychwynnol, y bydd cynhyrchu'r injan newydd—yr injan diesel—yn dechrau gyda rhywbeth oddeutu 125,000 o unedau bob blwyddyn. Fodd bynnag, maent wedi bod yn glir y bydd gallu i gynyddu hynny hyd at, o bosibl, y 250,000 o unedau. Rwyf wedi dweud y byddaf yn parhau i fod yn gadarn yn fy ymrwymiad i gefnogi Ford, ond bydd lefel ein cefnogaeth yn gymesur â nifer y swyddi y gallant eu sicrhau. Mae'r arian a oedd ar gael i sicrhau'r 770 o swyddi yn dal i fod ar y bwrdd os gallant eu gwarantu.

Nawr, o ran ail beth cadarnhaol, fel y mae’r Aelod newydd ei nodi, mae Pen-y-bont ar Ogwr yn un o'r ffatrïoedd gwneud injans mwyaf effeithlon a chynhyrchiol mewn unrhyw le yn y byd. Yn drydydd, mae ganddo un o'r gweithluoedd mwyaf medrus ar gael i ddibynnu arno. Yn bedwerydd, mae injans trydan newydd a thechnoleg newydd—ac rydym ar flaen y gad yn y cyswllt hwn—y bydd yr holl sector injans yn manteisio arnynt. Hoffwn weld Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn manteisio ar hynny. Yn ogystal, rydym yn gwybod y bydd Aston Martin yn adeiladu ceir yma yng Nghymru. Rwyf yn awyddus i archwilio’r potensial o symud addasiad yr injan Mercedes V12 o'r Almaen i Gymru o bosibl. Rwy'n credu y byddai'n gaffaeliad mawr i Ford. Yn olaf, mae'r potensial yno ar gyfer buddsoddiad cyfalaf pellach, y mae fy swyddogion eisoes yn credu bod cwestiwn i'w ofyn ynglŷn â chynaladwyedd y pris cymharol isel o ran diesel hefyd, fel cynnyrch, sydd wedi sbarduno galw am geir diesel. Nid wyf yn credu y gellir cynnal hynny yn y tymor hir, ac y bydd ailaddasiad tuag at ffafrio petrol, a fyddai yn ei dro o fantais i ffatri Ford Pen-y-bont ar Ogwr.

Diolch, Lywydd. Diolch i chithau hefyd, Ysgrifennydd y Cabinet. Roeddwn yn gweld eich atebion yn eithaf defnyddiol, mewn gwirionedd, oherwydd credaf ein bod i gyd yn rhannu'r un farn ar ansawdd ac effeithiolrwydd y ffatri, ond, er gwaethaf hynny, mae unrhyw ostyngiad mewn buddsoddiad bob amser yn mynd i beri pryder i'r gweithlu. Mae’r Prif Weinidog yn dweud mai tariffau yw’r broblem. Rydych chi wedi dweud bod yna ostyngiad byd-eang yn y galw am y math yma o injans. Rwy'n meddwl tybed pa un yw’r sbardun mwyaf yn hyn o beth, a tybed a allwch chi daflu rhywfaint o oleuni ar hynny. Pan eich bod yn dweud y bydd Llywodraeth Cymru—ac rwy'n eich dyfynnu— yn gwneud popeth o fewn ei gallu—i gefnogi parhad y swyddi ym Mhen-y-bont ar Ogwr, rwy'n meddwl tybed beth yn union yr ydych chi’n ei olygu wrth hynny. Oherwydd, un peth yw dweud bod Aston Martin yno, a bod posibilrwydd y bydd cyfle, gadewch i ni ddweud, ar gyfer Ford yn hynny o beth. Ond, beth yn union mae gan Ford Europe wedi ei ddweud wrthych am y syniadau uwch-dechnoleg hyn sy'n cael eu datblygu, a beth allech chi ei wneud, fel rhan o Lywodraeth Cymru, i symud y syniadau hynny ymlaen yn gyflymach, fel bod y pryderon ynghylch cynhyrchu amgen yno’n gallu eu bodloni a'u terfynu, os mynnwch chi? Oherwydd, o’m safbwynt i, mae'n anodd iawn dychmygu sut y byddai’r cynhyrchu amgen yn edrych, oni bai bod rhywun mewn gwirionedd yn dweud wrthyf sut mae'n edrych.

O ran cymorth ariannol ychwanegol, fe wnaethoch grybwyll y gallai hynny fod ar y bwrdd yn eich ateb olaf i Huw Irranca-Davies yn y fan yna. Ond wrth gwrs, mae £15 miliwn gan Lywodraeth Cymru eisoes wedi mynd i’r ffatri hon.  Hoffwn wybod pa warantau a fynnwyd gennych cyn i chi roi’r £15 miliwn hwnnw.  Ai dim ond y byddai swyddi'n cael eu gwarantu, neu a oedd yn golygu bod lefel buddsoddiad Ford ei hun yn y ffatri honno hefyd wedi ei warantu? Oherwydd, unwaith eto, gwnaethoch grybwyll yn eich ymatebion y gallai fod newidiadau o ran canran yr hyn yr ydych yn mynd i’w roi o ran y £15 miliwn hwnnw os na fyddech yn cael yr atebion yr yr oeddech yn gobeithio eu cael gan Ford. Felly, mewn gwirionedd, os nad yw penderfyniad Ford yn effeithio ar ymrwymiad hwnnw, rwyf ynmae arnaf eisiau gwybod pam.

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei chwestiynau treiddgar? Yn gyntaf oll, o ran gwarantau, o ran yr injan Dragon, rydym wedi bod yn glir, yn rhan o'r contract gyda Ford, na fyddwn yn rhyddhau ceiniog hyd nes y byddwn wedi gweld £90 miliwn yn cael ei fuddsoddi yn y ffatri i ddatblygu'r injan Dragon. Felly, bydd ein buddsoddiad ni yn dilyn eu buddsoddiad nhw. Mae ein meini prawf ar gyfer cefnogi datblygiadau o'r fath yw o leiaf bum mlynedd o gyflogaeth gynaliadwy a diogel ar gyfer nifer penodol o bobl. Cyfatebir y rhif hwnnw i'r graddau yr ydym yn cefnogi'r ffatri. Nododd yr Aelod, rwy’n credu, mai £50 miliwn oedd hwnnw. Mewn gwirionedd, nid yw hynny mewn un cyfandaliad. Ers 2003, rydym wedi buddsoddi oddeutu £57 miliwn yn y ffatri i gefnogi dros 1,000 o swyddi. Mewn gwirionedd, ar hyn o bryd, mae oddeutu 1,850.

Roedd yr Aelod yn gofyn am gynnyrch newydd a chynhyrchion presennol sy'n cefnogi'r gweithlu yno. Rhoddaf drosolwg cyflym o ba gynnyrch sydd yno a sut y maent yn cefnogi’r niferoedd cyflogaeth presennol. Pen-y-bont ar Ogwr sy’n cynhyrchu'r injan AJ. Mae'n injan ardderchog sy'n cael ei defnyddio ar gyfer Jaguar Land Rover—injan V6, V8. Mae'n un o'r goreuon sydd ar gael; mae honno’n mynd i barhau i gael ei chynhyrchu yn y ffatri. Ar hyn o bryd, mae 145,000 o unedau, neu oddeutu hynny, yn cael eu cynhyrchu. Yn ail, bydd yr injan Sigma, a bydd yr Aelod wedi clywed am yr injan EcoBoost, sy'n hynod boblogaidd—ar hyn o bryd, mae oddeutu 550,000 o unedau o'r math hwnnw yn cael eu cynhyrchu.

Wrth i ni nesáu at 2018, bydd y buddsoddiad yn yr injan Dragon newydd yn cael ei gyflwyno, ac o 2018 ymlaen, bydd yr injan honno yn cael ei chynhyrchu. Y nod oedd cynhyrchu 250,000 o unedau o flwyddyn un. Ar hyn o bryd, mae Ford yn dweud, oherwydd y galw byd-eang—a byddaf yn dod at y cwestiwn ar y galw—y bwriedir adeiladu 125,000 o unedau yno erbyn hyn. Fel yr wyf wedi ei nodi, mae dieselgate eisoes yn bodoli ynghyd â chost gymharol isel diesel yn erbyn petrol a allai arwain at gynnydd yn y galw ar gyfer injans petrol wrth i ni nesáu at 2018. Serch hynny, o 2018 ymlaen, bydd, fel mae Ford yn ei nodi ar hyn o bryd, o flwyddyn un, 125,000 o unedau yn cael eu cynhyrchu.

Yn ogystal, mae cydrannau a durniwyd yn cael eu cynhyrchu ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sy'n gyfystyr ag oddeutu 100,000 o unedau. Mae’r rhain yn cael eu hallforio. Felly, yn amlwg, ar hyn o bryd, mae gennym farchnad arian eithaf ansefydlog. Rydym yn gobeithio y byddwn yn gweld sefydlogrwydd yn dychwelyd cyn gynted ag y bo modd, ond o edrych ar werth cymharol y bunt yn erbyn arian arall, rydym yn rhagweld y bydd yr allforion cydrannau a weithgynhyrchir hynny yn parhau ar y lefel hwnnw, os nad yn uwch na’r lefel hwnnw. Dyna hanes y ffatri ar hyn o bryd ac yn y dyfodol agos. Yn ogystal, rydym yn edrych, fel yr wyf wedi ei grybwyll eisoes, ar ystod eang o dechnolegau newydd sy'n dod i'r amlwg yn y sector rhannau ceir. Mae datblygiad y sector rhannau ceir yn cyflymu ac rydym yn awyddus i wneud yn siŵr, pa un a yw’n injans trydan, neu’n gerbydau awtonomaidd, ein bod ar flaen y gad o ran datblygu. Felly, rydym mewn trafodaethau gyda Ford am eu dyheadau ar gyfer eu cynhyrchion a sut y gallwn ni fuddsoddi yn yr arloesedd a'r dechnoleg sydd eu hangen i wireddu eu huchelgais.

O ran y galw, sef y rheswm ar hyn o bryd pam mae Ford wedi lleihau nifer amcangyfrifedig yr injans sy’n cael eu cynhyrchu o flwyddyn un—ar hyn o bryd, y galw yw hwnnw. Fodd bynnag, yn y tymor hwy, y pryder sydd gan Ford, y pryder sydd gennym ni, ac yn sicr yr hyn y dylai pawb ei gydnabod, yw heb fod gennym fasnachu di-dariff gyda’n marchnad allanol unigol fwyaf, byddwn yn gweld nifer o weithgynhyrchwyr mewn trafferthion.  Mae Ford, ymhlith llawer eraill, wedi nodi mynediad di-dariff i’r farchnad sengl fel bod yn hollbwysig yn y trafodaethau Brexit. Rydym yn parhau i fod yn glir iawn, wrth inni drafod sut y dylai Prydain edrych, a sut y dylai Prydain ryngweithio gydag Ewrop yn y dyfodol, bod mynediad dilyffethair at y farchnad sengl, heb dariffau, ac mewn amgylchedd rheoleiddio cadarn a diogel, yn hollbwysig.

Ysgrifennydd y Cabinet, er ei fod yn siomedig bod y buddsoddiad arfaethedig ym Mhen-y-bont yn cael ei leihau, mae'n galonogol clywed Ford yn ailddatgan eu hymrwymiad i ffatri Pen-y-bont ar Ogwr a'i gallu gweithgynhyrchu hyblyg. Mae Ford a'r undebau yn gwrthod yr honiad bod y penderfyniad hwn unrhyw beth i wneud â Brexit. Cafwyd straeon codi braw arall yn y dyddiau diwethaf, gan ddweud bod y cyhoeddiad yn arwydd o fwriad Ford i gau'r ffatri, ond maent yn dal i wneud buddsoddiad helaeth yn y cyfleuster ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae’n rhaid i ni wneud popeth posibl i sicrhau na fydd unrhyw golli swyddi o ganlyniad i benderfyniad Ford, ond nid oes llawer y gallwn ei wneud yn lleol i wrthweithio galw byd-eang. Ysgrifennydd y Cabinet, pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Ford ynghylch eu strategaeth buddsoddi yn y dyfodol ar gyfer ffatri Pen-y-bont ar Ogwr, ac a oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw bryderon ynghylch ei buddsoddiad ei hun yn y ffatri?

Mae Ford yn un o'n cwmnïau angori; mae gennym berthynas waith agos iawn â hwy, a gofynnais i fy mhrif uwch swyddogion uchaf i gyfarfod ag uwch swyddogion gweithredol yn Ewrop i drafod cynlluniau tymor hir ar gyfer safle Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd hynny yn ôl ym mis Mehefin, pan wnaethant ein sicrhau bod y cynlluniau ar y pwynt hwnnw, ar gyfer 250,000 o unedau, yn dal yn hollol iawn. Roedd hynny yn ôl ym mis Mehefin.

Mae’r Aelod yn iawn—fel yr wyf wedi ei ddweud wrth Suzy Davies—sef yn y tymor byr iawn, nad yw Brexit efallai yn broblem ar unwaith o ran ei hun. Er hynny, mae Brexit yn cyfrannu at amgylchedd masnachu ansefydlog oherwydd y newidiadau mewn cyfraddau cyfnewid arian. Ni ellir bod croeso i hynny. Yn y tymor hwy, oni bai bod gennym eglurder ynghylch yr hyn yr ydym yn dymuno ei gael o’r trafodaethau Brexit, yna mae gen i ofn y bydd yn creu hyd yn oed mwy o ansicrwydd. Waeth sut y byddwch yn gweithredu, na’r hyn yr ydych yn gweithredu ynddo, na pha bynnag sector, yr hyn y mae busnes ei eisiau mwy na dim yw sefydlogrwydd—o ran amgylchedd rheoleiddio ac o ran tariffau. Dyna beth yr ydym eisiau eu gweld yn cael eu cyflawni, ar gyfer Ford ac ar gyfer yr holl weithgynhyrchu yng Nghymru.

Diolch i chi, Lywydd. Weinidog, diolch ichi am yr atebion yr ydych wedi eu rhoi. Rwy'n credu eu bod wedi rhoi eglurder mewn rhai meysydd. Rwyf yn croesawu eich ymyriad wrth ddweud eich bod am fynd i Detroit. Nododd y Prif Weinidog yn glir, fodd bynnag, wrth ymateb i mi yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog, cyn belled ag y mae Ford yn y cwestiwn, mae'r datblygiadau parhaus yn y ffatri yn benderfyniad i Ford Ewrop i raddau helaeth, ac, yn y pen draw, bydd y penderfyniadau hynny yn cael eu cymryd yma yn eu pencadlys yn Ewrop. A allwch chi geisio mapio sut yr ydych yn gweld, wrth symud ymlaen felly, y penderfyniadau y mae angen eu gwneud, mewn ffordd gadarnhaol, gan Ford, a chan Lywodraeth Cymru, a'r pyrth, ac yn arbennig y dyddiadau allweddol y mae angen eu bodloni? Ydych chi'n ymwybodol o ddyddiadau allweddol ar gyfer buddsoddi y mae angen gwneud penderfyniadau ynglŷn â nhw yn y 18 mis i ddwy flynedd nesaf, er mwyn sicrhau dichonoldeb y ffatri yn y dyfodol, ac, yn bwysig, ble bydd y penderfyniadau hynny yn cael eu gwneud? A fydd hynny yn Detroit, lle y gwnaed y penderfyniad hwn, ynteu a fydd ym mhencadlys Ford Europe?

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Dylwn ddweud ein bod wedi derbyn sicrwydd gan Ford—mae’n rhaid i mi bwysleisio ein bod wedi cael sicrwydd—na fydd unrhyw warged o lafur yn y tymor byr. Felly, mae’r swyddi hynny yn y fan yna—y 1,850—yn ddiogel ac yn saff yn y tymor byr. Ond, fel yr wyf wedi ceisio ei bwysleisio wrth yr Aelodau, rwyf yn dymuno gweld y ffatri wedi ei sicrhau ar gyfer y tymor hir, ac nid dim ond y 1,850 o bobl sy'n gweithio yno ar hyn o bryd, ond ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, ac, yn wir, gweithlu mwy o faint, a fyddai'n gallu datblygu cenhedlaeth newydd o injans.

O ran fy ymweliad arfaethedig â Detroit, mae'n wir mai Ford Europe yw'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau o ran y gwaith o ddatblygu injans sy'n cael eu cynhyrchu ar y cyfandir, ac o fewn cyfandir Ewrop. Er hynny, ni welaf unrhyw niwed mewn dylanwadu ar Ford ar lefel y pencadlys, o ran y penderfyniad hwn ac unrhyw rai eraill. Felly, rwyf yn awyddus i gyfarfod â nid yn unig Ford Ewrop, ond hefyd Ford yn Detroit, i drafod rhan Cymru yn nheulu Ford. Rwy'n credu ei bod yn werth dweud y byddwn yn cyfarfod—fi a'r Prif Weinidog—yn yr wythnosau nesaf gyda phennaeth uned gweithgynhyrchu pwerwaith Ford Ewrop. Ein bwriad yw trafod gydag ef nid yn unig sut y gellir ysgogi’r galw am yr injan Dragon newydd —gan Ford a gan y farchnad—ond hefyd sut y gallwn ddylanwadu, sut y gallwn helpu a sut y gallwn gynorthwyo mewn technolegau newydd y mae Ford yn dymuno eu datblygu nid yn unig yma, ond ledled Ewrop, neu yn wir, fel y dywedais wrth ateb un o'r cwestiynau cynharach, ym mhob rhan o’r byd.

3. Cwestiwn Brys: Byrddau Iechyd Lleol Abertawe Bro Morgannwg, Caerdydd a'r Fro a Hywel Dda

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am Fyrddau Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, Caerdydd a’r Fro, a Hywel Dda, yn sgîl eu codi i statws ymyrraeth wedi’i thargedu? EAQ(5)0036(HWS) [W]

Diolch am y cwestiwn. Yn dilyn y cyfarfod teirochrog arferol diweddaraf rhwng Llywodraeth Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru, cytunwyd y dylid codi’r tri sefydliad y gwnaethoch sôn amdanynt i statws ymyrraeth wedi’i thargedu yn ein fframwaith uwchgyfeirio ac ymyrraeth.  Cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig ar hyn i holl Aelodau'r Cynulliad ar 7 Medi.

Diolch, Weinidog. Wrth gwrs, roeddwn i wedi derbyn y datganiad ysgrifenedig, ond roeddwn yn awyddus iawn i ofyn cwestiynau ar lawr y Siambr am y penderfyniad a’r rhesymeg y tu ôl i’r penderfyniad yma. Mae hyn nawr yn gadael pedwar mas o’r saith prif fwrdd iechyd sy’n delio â gofal sylfaenol ac eilradd yn nwylo rhyw fath o ymyrraeth arbennig o du’r Llywodraeth. A fedrwch chi esbonio sut mae’r sefyllfa yma wedi codi, ar ôl i’ch Llywodraeth chi benderfynu pasio, er enghraifft, Deddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2014, rhyw ddwy neu dair blynedd yn ôl, a oedd i fod i osod y byrddau iechyd yma ar statws a sefydlogrwydd llawer mwy pendant, ac ar ôl i chi bregethu wrth y byrddau iechyd ynglŷn â’r angen i gynllunio’r gweithlu, un o’r gwendidau amlwg, er enghraifft, ym mwrdd iechyd Hywel Dda, yn ôl beth rwy’n ei ddeall? Ar ôl esbonio sut mae hyn wedi digwydd, a fedrwch chi esbonio pwy oedd yn gyfrifol am y diffygion hyn? Ai’r weinyddiaeth a’r rheolwyr lleol yn y byrddau iechyd, yntau chi—er eich bod chi’n weddol newydd i’r swydd yma—neu chi yn eich swydd flaenorol a’r Gweinidog blaenorol? Yn y cyd-destun hwnnw, a fedrwch chi hefyd ddweud wrth y Cynulliad beth sydd wedi digwydd i Trevor Purt, a oedd yn brif weithredwr ar fwrdd iechyd Hywel Dda, wedyn Betsi Cadwaladr—dau fwrdd iechyd sydd wedi dioddef yn ofnadwy ar ôl iddo fe fod yn brif weithredwr arnyn nhw? A yw Mr Trevor Purt yn dal i gael ei dalu gan y gwasanaeth iechyd yng Nghymru?

Diolch i chi am y gyfres o gwestiynau dilynol. O ran eich pwynt cyffredinol am gyllid y GIG ledled Cymru, wrth gwrs, llwyddodd wyth o'n 10 sefydliad i sicrhau mantoli ariannol y llynedd. Un sefydliad na lwyddodd i wneud hynny oedd Hywel Dda. Mae hyn yn hollol wahanol i’r sefyllfa yn Lloegr, lle nad yw wyth allan o 10 o ymddiriedolaethau ysbytai acíwt yn llwyddo i sicrhau mantoli ariannol.

Mae'r pwynt am gynllunio'r gweithlu a'r modelau gofal yn gysylltiedig yn rhannol â chyllid, ond nid yn union, oherwydd yr hyn y mae'n rhaid i ni allu ei wneud yw cynllunio system sy’n cyflawni gofal iechyd y boblogaeth gyfan, i weithio mewn gwirionedd mewn partneriaeth briodol gyda chydweithwyr awdurdodau lleol a thai yn arbennig. Mae’r her sy'n wynebu Hywel Dda yn rhannol yn un hanesyddol sy’n ymwneud â’i allu i reoli ei gyllid, ac mae’n rhannol yn ymwneud â’i allu i gynllunio a rheoli ei weithlu. Mae hynny hefyd yn golygu bod angen iddo edrych ar ei fodelau gofal, ac mae hynny'n rhan o'r symudiad ehangach yn y GIG o ran sut y mae gwasanaethau ysbyty nid yn unig yn cael eu rhedeg a'u rheoli, ond y gwasanaethau sydd gennym mewn gwirionedd yn y gymuned. Felly, mae’r ymyrraeth hon sydd wedi’i thargedu yn ymwneud â cheisio cefnogi Hywel Dda gyda thîm arweinyddiaeth gymharol newydd, a cheisio deall ar y cyd nid yn unig yr heriau sydd ganddyn nhw, ond beth allwn ni ei wneud ochr yn ochr â nhw i'w cefnogi i wella. Dyna yw ein nod a'n disgwyliadau.

Rwyf eisiau gweld Hywel Dda mewn sefyllfa lle mae ganddo gynllun cymeradwy tymor canolig integredig tair blynedd. Dyna pam maen nhw wedi eu symud i statws ymyrraeth wedi'i thargedu yn y meysydd penodol a amlinellais yn fy natganiad, a dyma’r meysydd yr ydym yn canolbwyntio arnyn nhw. Rwy'n credu bod hyn yn dangos bod y fframwaith ymyrraeth ac uwchgyfeirio yn real. Byddai wedi bod yn llawer mwy cyfleus dod o hyd i ffordd o beidio â chodi eu statws. Gwnaethom ddewis peidio â gwneud hynny oherwydd y cyngor a gawsom gan brif weithredwr GIG Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru oedd mai dyma’r peth iawn i'w wneud: darparu'r gefnogaeth honno mewn modd adeiladol. Rwy’n gobeithio ac yn disgwyl dod yn ôl i'r Siambr yn y dyfodol i ateb cwestiynau ar hyn, ac mae gennyf bwyllgorau yr wythnos hon hefyd. Bydd yn rhan o drafodaeth reolaidd yn y cyfarfod teirochrog nesaf yn y gwanwyn.

Ysgrifennydd y Cabinet, siaradais â chadeirydd Hywel Dda dros y ffôn yn syth ar ôl i chi gyhoeddi eich datganiad. Yr hyn a ddeallais o’r sgwrs honno oedd bod y bwrdd iechyd yn rhoi croeso brwd i’r gefnogaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn awr yn gallu ei darparu iddo. Rwy'n credu bod angen cofnodi nad mater o achub croen gan Lywodraeth Cymru yw hwn, ac nid yw'n fater o Lywodraeth Cymru yn caniatáu i'r byrddau iechyd fynd i'r wal, ond mae'n ymwneud â Llywodraeth Cymru yn ceisio symud i mewn, yn ceisio cefnogi a gwella'r ddarpariaeth ar gyfer y bobl sy'n cyfrif. Hynny yw, yn y pen draw, y claf.

Bydd fframwaith y pedwar lefel uwchgyfeirio nawr yn ein galluogi i lunio siart o dueddiadau. Yn syml, byddwn nawr yn gallu gweld a yw pethau'n gwella neu a fydd angen rhagor o weithredu. Yn achos Hywel Dda a’r amseroedd aros, er enghraifft, rydym wedi gweld dirywiad yn y perfformiad dros rai blynyddoedd, gan gynnwys y cyfnod y bu dan statws monitro gwell. Ond mae cyferbyniad yma, ac rydym hefyd wedi gweld rhywfaint o welliant i amseroedd ymateb ambiwlans, er enghraifft. Felly, rwyf wir yn falch, Weinidog, ein bod wedi ymyrryd ac wedi cydnabod bod gwendidau. Yr hyn yr wyf yn gofyn i chi amdano yw eich bod yn rhoi adborth i ni, Ysgrifennydd y Cabinet—rwy’n ei chael hi’n anodd dod allan o’r arfer o ddweud ‘Weinidog’—bod y Llywodraeth, drwy ymyrraeth wedi’i thargedu, bellach yn gallu cynghori a grymuso Hywel Dda i weithredu'r strategaeth a fydd yn gweld y newidiadau yr ydym i gyd yn gobeithio eu gweld.

Diolch am y cwestiwn a'r pwyntiau a wnaed. Credaf ei bod yn werth atgoffa ein hunain bod ystod o feysydd lle mae Hywel Dda yn gwneud yn arbennig o dda– diagnosteg, er enghraifft, mae wedi ei wneud yn arbennig o dda, ac mae mewn sefyllfa lle, ar ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf, nad oedd unrhyw un yn aros mwy nag wyth wythnos. Felly, mae ystod o bethau cadarnhaol ar gyfer Hywel Dda, yn ogystal â'u heriau, a dyna pam maen nhw yn y maes penodol hwn o ymyrraeth wedi'i thargedu. Nid yw hwn yn ymarfer hyd braich o bwyntio bys; mae a wnelo â dweud, 'Dyma heriau yr ydym ni’n sylweddoli nad ydynt wedi’u datrys yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf’. Mae yma gefnogaeth sy'n mynd i fod yn gefnogol, ac sy’n mynd i helpu i gyflawni'r gwelliant yr ydym ni’n disgwyl ei weld ac y dylen nhw ddisgwyl ei weld ganddynt eu hunain. Rwy'n falch y bu ymateb adeiladol gan y sefydliad, gan fod yn rhaid i ni allu nodi heriau ac yna gwneud rhywbeth ynglŷn â hwy, yn hytrach na dim ond dweud, 'Eich bai chi yw hyn, gwnewch rywbeth amdano'. Ond mae'n werth nodi, yn y drafodaeth ar uwchgyfeirio, nad tri sefydliad yn unig a uwchgyfeiriwyd. Soniasoch am amseroedd ymateb ambiwlans—aeth Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i lawr o ran ei statws uwchgyfeirio oherwydd y cynnydd sylweddol a pharhaus a wnaed ganddi. Mae honno'n stori lwyddiannus y dylem i gyd fod yn barod i’w chlodfori. Mae'n ymwneud ag arweinyddiaeth sefydliad yn gweithio gydag undebau llafur a'r gweithlu i gyflwyno gwelliannau sylweddol ac o ddifrif ledled y wlad.

Weinidog, rwy'n ddiolchgar iawn am eich datganiad, ac rwy'n falch iawn, mewn gwirionedd, o weld eich bod wedi cymryd y cam hwn, oherwydd credaf ei bod yn bryd i ni gefnogi ein byrddau iechyd yn fwy trylwyr. Er hynny, Weinidog, mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn rhoi’r bai yn gyfan gwbl ar eich Llywodraeth chi, eich rhagflaenwyr, eu bod wedi caniatáu i'r byrddau iechyd fynd i’r cyflwr hwn.

Hoffwn siarad am bob agwedd. Sylwaf o'ch datganiad byr eich bod yn dal yn ceisio sicrhau bod y Cynlluniau Tymor Canolig Integredig yn cael eu cymeradwyo. A fyddant yn dal i fod yn Gynlluniau Tymor Canolig Integredig tair blynedd ar ôl y flwyddyn o gymorth? Hoffwn ofyn y canlynol am bob un o’r tri, os caf, o ran: a yw’n ymwneud yn gyfan gwbl â’r arian ar gyfer y tri bwrdd iechyd? A oes rhywfaint ohono’n ymwneud â safonau? A oes rhywfaint ohono’n ymwneud ag amseroedd aros? Rwyf i’n meddwl bod yna ychydig o anhawster wrth ddarllen trwy’r rhesymau dros bob un o'r byrddau iechyd hynny yn cael ymyrraeth wedi'i thargedu. A allech chi’n gyflym iawn amlinellu i ni beth mae 'ymyrraeth wedi'i thargedu' yn ei olygu mewn gwirionedd? A yw’n debycach i fwrdd cynghori gweinidogol y bydd rhywun yn gallu mynd ato, lle bydd grŵp o bobl, a byddant yn helpu'r tîm uwch reolwyr i gael statws Cynllun Tymor Canolig Integredig? Neu a yw'n llawer llai ymarferol na hynny?

Mae'n rhaid i mi wneud y pwynt bod yr ymddiriedolaeth ambiwlans, rwy'n falch o ddweud, wedi dechrau ar drefniadau mwy arferol. Ond, gadewch inni fod yn glir, bu newid sylweddol o ran y targedau, ac felly nid wyf yn synnu eu bod wedi llwyddo i fodloni rhai ohonynt.

Yn olaf, Weinidog, mae’r ffaith fod pedwar o'n hwyth bwrdd iechyd mawr yn destun rhyw fath o ymyrraeth neu fesurau arbennig yn ergyd i’r cyhoedd ac yn ergyd i ysbryd y staff sy'n gweithio yn y sefydliadau hyn. Felly, pa ganllawiau ydych chi wedi'u rhoi i’r byrddau iechyd hyn ar sut y maent yn trin eu staff a disgwyliadau eu staff? Does neb yn hoffi meddwl y gallent fod yn gweithio i sefydliad sy'n methu. Rwy'n credu bod yn rhaid cael eglurder gwirioneddol o’r hyn y mae’n ei olygu a dylai hyn fod yn fwy o gymorth na dweud bod y sefydliadau hyn—neu rwy’n gobeithio y byddwch yn dweud wrthyf fod hyn yn ymwneud mwy â chymorth yn hytrach na dweud bod y sefydliadau hyn mewn gwirionedd yn mynd ar i lawr yn sylweddol, gan y caiff ysbryd y cleifion a’r staff ei daro gan hyn. Credaf ei bod yn ddyletswydd arnoch chi i geisio codi’r ysbryd. Hoffwn ddeall sut yr ydych yn mynd i allu gwneud hynny fel y gallwn sicrhau'r cyhoedd bod defnyddio’r pedwar bwrdd iechyd hynny yn dal yn ddiogel, yn amserol, ac y byddant yn cael y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt pan fydd eu hangen arnynt.

Diolch i'r Aelod am ei sylwadau. Mae yna beth cyferbyniad o'r dechrau i'r diwedd. Ar y naill law mae croeso i’r camau a gymerwyd, ac yna gresynu’r camau a gymerwyd tuag at y diwedd. Rwy'n credu mai’r gwir gonest yw nad dim ond cydnabyddiaeth ac adlewyrchiad pwysig o’n sefyllfa yw'r ymyrraeth wedi’i thargedu, ond mae'n ymwneud â chefnogi’r sefydliadau hynny i wella. Mae gwahanol agweddau ar wella sydd wedi arwain at yr ymyrraeth wedi’i thargedu ym mhob un o'r tri sefydliad, ac rwyf yn nodi’r rhain yn y datganiad. Nid yw’n fater syml o reoli her ariannol, er ei bod yn amlwg, er enghraifft, bod angen i Abertawe Bro Morgannwg weld rhywfaint o welliant parhaus o ran ei berfformiad ym maes gofal heb ei drefnu ymlaen llaw. Mae angen iddynt hefyd wella eu perfformiad o ran canser. Felly, cafodd hynny ei wneud yn glir yn fy natganiad. Bydd y cymorth ymyrraeth wedi’i thargedu yn canolbwyntio ar y meysydd penodol hynny. Yn Hywel Dda, ceir heriau gwahanol, ac yng Nghaerdydd a'r Fro hefyd. Felly mae’n ymwneud mewn gwirionedd â’r ochr gefnogol honno.

Rwy'n falch iawn o'r hyn y mae'r sefydliadau hyn yn ei wneud yn nhermau byd-eang oherwydd nid ydym yn dweud bod y rhain yn sefydliadau sy'n methu. Mae hyn yn rhan o'n her o gael sgwrs aeddfed a gonest am y gwasanaeth iechyd, am yr holl bethau ac mae’r gwasanaeth yn ei wneud yn rheolaidd i newid bywydau, bob dydd, ym mhob rhan o Gymru, ac ar yr un pryd, gallu mynd i'r afael ein hunain â’r meysydd heriol hynny lle mae angen inni weld gwelliant pellach. Dyna'r hyn yr ydym wedi ei wneud gyda’r penderfyniadau ymyrraeth wedi'i thargedu a’r gefnogaeth y byddant bellach yn ei chael gan Lywodraeth Cymru.

Mae hynny'n fy arwain yn ôl yn hwylus at eich pwynt am y Cynlluniau Tymor Canolig Integredig, ac, wrth gwrs, bydd y rhain yn parhau i fod yn gynlluniau tair blynedd. Felly, y disgwyliad yw, gyda'r ymyrraeth wedi'i thargedu a’r gefnogaeth a gânt, y byddant yn ymdopi trwy'r flwyddyn hon, ac rydym am iddynt fod yn y sefyllfa o gael Cynlluniau Tymor Canolig Integredig tair blynedd wedi’u cymeradwyo y flwyddyn nesaf. Dyna ein huchelgais ar gyfer pob un o'r sefydliadau hyn ledled Cymru.

Yn olaf, ar fater ambiwlansys, a grybwyllwyd gennych, penderfynwyd newid y targedau ambiwlans y cyfeiriwyd atynt ar sail y dystiolaeth a'r cyngor clinigol gorau posibl. Rydym yn gwasanaethu pobl Cymru yn well o ganlyniad i wneud hynny, gan ein bod yn canolbwyntio’r adnodd ansawdd uchel a drud hwn a ddarperir gan ambiwlansys brys ar gyfer y bobl hynny sydd angen yr ymyrraeth honno i helpu i achub bywydau. Mae’r hyn yr ydym yn ei wneud gyda'r gwasanaeth ambiwlans yn gwbl dryloyw. Cynhelir adolygiad priodol, a chyhoeddais, yn yr haf eto, y bydd gwerthusiad priodol o'r cynllun arbrofol ei hun. Rwy’n falch o'r penderfyniad yr ydym wedi’i wneud, rwy'n hyderus am ein sefyllfa, ac rwy'n ceisio gwneud yn siŵr bod gennym system, wrth symud ymlaen, sy'n parhau i ddweud y byddwn yn gwneud y peth iawn dros y cleifion sydd â’r angen mwyaf. Yn Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon a gweddill y byd, maent yn edrych yn gadarnhaol ar yr hyn yr ydym wedi penderfynu ei wneud, yn seiliedig ar dystiolaeth a chyngor clinigol.

Hoffwn ddechrau drwy ddatgan bod fy ngwraig yn gweithio i Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg. Ysgrifennydd y Cabinet, rydych chi wedi tynnu sylw at rai o'r agweddau da sy'n digwydd, yn ogystal â thynnu sylw at yr ymyrraeth wedi’i thargedu ar gyfer PABM mewn gwasanaethau canser a gofal heb ei drefnu ymlaen llaw. Pa waith monitro y byddwch yn ei wneud i sicrhau, wrth i ni weld, gobeithio, cynnydd yn y meysydd hynny a dargedwyd, na fyddwn yn gweld diffyg mewn meysydd eraill i wneud iawn am hyn? Pryd fyddwch chi mewn gwirionedd yn cyflwyno adroddiadau ac adroddiadau ar gynnydd i ni fel y gallwn weld sut mae'n gweithio mewn gwirionedd? Mae gennym y ffigurau diwedd blwyddyn, ond rydym eisiau gweld cynnydd drwy gydol y flwyddyn, felly a fyddwn ni’n cael yr wybodaeth ddiweddaraf yn y Cynulliad? A allwch chi ddweud wrthym hefyd pa gamau yr ydych wedi eu cymryd, gan fod rhai o'r pryderon yn amlwg yn gysylltiedig â materion adnoddau? A fyddwch chi’n cynnig cefnogaeth sy'n cynnwys ac yn cyflwyno mwy o adnoddau i rai o'r byrddau hynny er mwyn iddynt allu mynd i'r afael â’r materion hynny yr ydych wedi eu nodi?

Diolch i chi am y gyfres o gwestiynau. Mae amrywiaeth o heriau gwahanol ym mhob un o'r byrddau, fel y soniais o'r blaen, ac rwyf wedi trafod her ariannol Hywel Dda a'r ffaith, yn achos Caerdydd a'r Fro, mai un o'r meysydd ar gyfer eu symud i ymyrraeth wedi'i thargedu oedd ein hyder yn eu gallu i fantoli eu llyfrau eleni a thrwy fersiwn nesaf eu cynllun canolradd. Nid yw’n ymddangos i ni fod ABM yn her oherwydd eu cyllid yn benodol. Ond rwy’n ystyried o ddifrif y pwynt am y ffaith na ddylai fod unrhyw ddirywiad yn y meysydd perfformiad sy'n gweithio'n dda wrth iddynt fynd i'r afael â meysydd ymyrraeth wedi'i thargedu. Bydd hynny'n cael ei ddatblygu yn ein fframweithiau a’r mecanwaith atebolrwydd arferol. Byddaf yn siarad â'r cadeirydd yn rheolaidd yn ystod cyfnod yr ymyrraeth wedi’i thargedu. Cynhelir cyfarfod arferol arall o'r grŵp cynghori teirochrog—prif weithredwr GIG Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru—yn y gwanwyn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf a chyngor i mi ar gynnydd pob sefydliad yn y meysydd ymyrraeth wedi’i thargedu. Felly, bydd yna eglurder ac, unwaith eto, rwyf yn disgwyl gwneud datganiad i Aelodau fel arfer, ar ôl i’r cyfarfod hwnnw gael ei gynnal. Ond, mae llawer o fesurau cynnydd sylweddol yn ABM—er enghraifft, diagnosteg, lle unwaith eto mae cynnydd sylweddol wedi’i wneud a’i gynnal yn gyffredinol dros y flwyddyn hon hefyd. Maent hefyd wedi gwneud cynnydd sylweddol gwirioneddol yn eu hamseroedd aros. Yr her yw gwneud mwy o hynny ac, ar yr un pryd, ymdrin â’r meysydd ymyrraeth wedi'i thargedu. Rwy'n credu y dylai’r camau hyn gael eu gweld fel rhai cefnogol a defnyddiol wrth ganiatáu i’r sefydliad hwnnw wneud yr hyn y dylai ei wneud ar gyfer y boblogaeth y mae'n ei gwasanaethu.

Weinidog, diolch i chi am eich atebion y prynhawn yma. Byddwn ychydig yn llai hael nag Angela drwy ddweud bod 50 y cant o'r Byrddau Iechyd Lleol yn destun mesurau arbennig neu dan ryw fath o oruchwyliaeth y Llywodraeth ar hyn o bryd; mewn gwirionedd mae chwech ohonynt yn fyrddau iechyd sydd ag ysbytai cyffredinol dosbarth o fewn eu cylch gwaith, a dwy ran o dair ohonynt yn awr—pedwar ohonynt—dan ryw fath o ymyrraeth gan y Llywodraeth. Gobeithio y bydd hynny'n cael ei weld fel mesur defnyddiol ar gyfer y byrddau iechyd hynny fel y gallant symud ymlaen yn y meysydd lle y mae angen iddynt wneud hynny. Ond rwy’n credu nad yw hi’n afresymol gofyn y cwestiwn: am ba mor hir yr ydych yn rhagweld y lefel hon o ymyrraeth yn parhau, yn enwedig ar gyfer y tri diweddaraf i gael mynediad at y rhaglen gymorth hon gan y Llywodraeth, os ydych am ei galw'n hynny, neu ymyrraeth y Llywodraeth? Pryd all y staff a phryd all y cleifion gymryd rhyw fath o gysur yn y ffaith y bydd y byrddau iechyd lleol hyn yn dod i'r amlwg fel sefydliadau mwy annibynnol sy’n rhedeg y gwasanaethau o fewn eu maes rheolaeth?

Wel, y pwynt i'w wneud am ymyrraeth wedi’i thargedu, mewn ymateb i'r sylwadau sydd newydd gael eu gwneud, yw ei bod yn cael ei thargedu at feysydd penodol o'r gwasanaeth. Dyma’r meysydd y bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio ochr yn ochr â’r sefydliadau hynny arnynt, gan helpu i’w cyfeirio ar hyd llwybr o welliant. Yn eu meysydd gweithredu eraill, maent yn cadw’r cyfrifoldeb a oedd ganddynt cyn y cyhoeddwyd y sefyllfa hon. Felly, ym mhob un o'r meysydd hynny, byddant yn cadw’r annibyniaeth a fesurwyd a’r annibyniaeth a enillwyd, a disgwylir y byddant yn parhau i gyflawni gwelliannau a mynd i'r afael â'r heriau y mae pob bwrdd iechyd yn eu hwynebu ar draws Cymru ac, yn wir, ledled y Deyrnas Unedig. Credaf, wrth edrych ar yr hyn a fydd yn digwydd wedyn a phryd y byddwn yn gweld yr adroddiad—a dywedais yn gynharach wrth David Rees ac mewn sylwadau cynharach hefyd y bydd y cyfarfod teirochrog yn cael ei gynnal yn y gwanwyn—byddaf yn derbyn cyngor wedyn ar y cynnydd a wnaed ym mhob sefydliad yn erbyn y meysydd hynny o ymyrraeth wedi'i thargedu, a’n dymuniad ni yw gweld bod gan bob un o'r sefydliadau hyn gynllun tymor canolig integredig llwyddiannus y gellir ei gymeradwyo pan ddaw hynny i fyny ar ddechrau'r flwyddyn ariannol nesaf. Dyna’r hyn yr ydym yn dymuno ei weld. Dyna pam y mae ymyrraeth wedi'i thargedu ar waith, a byddaf, wrth gwrs, yn adrodd yn ôl i Aelodau'r Cynulliad ar y cynnydd sy'n cael ei wneud neu beidio.

Rwyf wrth gwrs yn pryderu bod Caerdydd a'r Fro yn wynebu ymyrraeth wedi’i thargedu ac ni fyddwn yn dymuno gwadu bod yno broblemau. Gwn fod y bwrdd iechyd yn awyddus iawn i weithio gyda'r Llywodraeth i wella'r sefyllfa. Ond rwy’n credu bod amgylchiadau arbennig yng Nghaerdydd sy’n cael effaith ar berfformiad ariannol Caerdydd a'r Fro yn hytrach na’i ​​berfformiad clinigol. Rwy'n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol mai Caerdydd yw'r ddinas sy'n tyfu gyflymaf yn y DU, â’i phoblogaeth yn tyfu 10,000, rwy’n credu, bob blwyddyn. Yn amlwg mae hyn yn cael effaith enfawr ar y gwasanaeth iechyd, ac, wrth gwrs, mae’r Bwrdd Iechyd Lleol—Caerdydd a'r Fro—yn ymgymryd â’r achosion trydyddol a'r achosion cymhleth o ardal eang yng Nghymru, ac nid wyf yn gwybod faint y mae hynny’n cael ei adlewyrchu yn y cyllid a gaiff. Meddwl oeddwn i tybed a allai Ysgrifennydd y Cabinet wneud sylwadau ar hynny. Rwy’n meddwl hefyd ei bod yn bwysig cydnabod y gwelliannau mawr sydd wedi'u gwneud mewn perfformiad am yr union reswm o gynnig sicrwydd cyhoeddus. Felly, rwyf am wneud y pwynt bod amseroedd aros yng Nghaerdydd a'r Fro wedi gwella am saith chwarter yn olynol; bod amseroedd aros i gleifion brys yr amheuir bod canser arnynt wedi gwella 25 y cant mewn llai na blwyddyn; cafwyd gwelliannau mawr wrth drosglwyddo o ambiwlansys ac, yn benodol, mewn gofal strôc. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn cydnabod yn y datganiad hwn y cyflawniadau hynny gan ein bod ni am i’r cyhoedd gael sicrwydd, ac mae'r bwrdd iechyd yn awyddus i weithio gyda'r Llywodraeth i fynd i'r afael â’r hyn sydd yn fater ariannol.

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn a'r sylwadau, ac mae'n deg dweud bod gan fwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro uchelgais a gweledigaeth gadarn. Rydych chi'n iawn i dynnu sylw at y cynnydd sylweddol sydd wedi ei wneud a'i gynnal o ran amseroedd aros mewn Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys ac, yn wir, mewn gofal canser hefyd. Mae mwy i'w wneud ond rydym yn cydnabod y cynnydd y mae'r bwrdd iechyd wedi’i wneud. O ran eich pwyntiau ehangach ar ariannu'r gwahanol heriau y mae pobl yn eu hwynebu wrth ddarparu gofal iechyd mewn gwahanol rannau o Gymru, mae gan bob bwrdd iechyd ei achos ei hun i’w wneud ynghylch pam ei fod mewn sefyllfa unigryw a pham y mae angen adlewyrchu hynny yn y cyllid a gaiff, boed hynny wrth ddarparu gofal iechyd mewn lleoliad gwledig, darparu gofal iechyd i boblogaethau difreintiedig y Cymoedd, neu ddarparu gofal iechyd i ddinasoedd eraill yn y wlad sy'n tyfu'n gyflym hefyd. Rydym yn ystyried yr holl bethau hyn yn y cylch ar ddyfodol cyllid. Wrth weithio ochr yn ochr â bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro, rwy’n disgwyl gweld cynnydd, ac rwy'n disgwyl ein gweld ni mewn sefyllfa lle bydd ganddynt gynllun tair blynedd wedi ei gymeradwyo ar ddiwedd y flwyddyn hon. Mae hyn yn ymwneud yn gyfangwbl â chael cynnydd yn y maes hwnnw ac nid yw’n ymwneud â thaflu o'r neilltu neu wrthod cydnabod y cynnydd gwirioneddol a wnaed ganddynt. Rwyf wedi tynnu sylw’r staff at hyn pan rwyf wedi cwrdd â nhw ar sawl achlysur, yn ogystal ag arweinyddiaeth y bwrdd iechyd hefyd.

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, erbyn hyn mae angen rhyw fath o ymyrraeth gan y Llywodraeth ar dros hanner yr holl fyrddau iechyd lleol. Mae fy mwrdd iechyd i yn derbyn ymyrraeth wedi’i thargedu oherwydd perfformiad gwael mewn gofal heb ei drefnu a gofal canser. Mae'r perfformiad gwael hwn yn rhoi bywydau pobl mewn perygl ac yn arwydd damniol o'n polisïau iechyd. Mae'n gwbl amlwg bod yna fethiannau difrifol ym maes gofal iechyd ar draws Cymru. Mae pobl Cymru yn haeddu GIG sy'n darparu'r gofal gorau posibl, ni waeth ble yr ydym yn byw na pha fwrdd iechyd sy’n ein gwasanaethu. Ysgrifennydd y Cabinet, beth yw'r ffordd ymlaen? A oes angen ymchwiliad annibynnol? A allwn ni ailedrych ar ein polisïau a'r ffordd yr ydym yn eu darparu? Mae'n rhaid i ni feithrin hyder yn y staff sy'n gweithio yn y GIG, ond hefyd yn y cleifion. Diolch.

Diolch i'r Aelod am ei chwestiynau a’i sylwadau. Mae pobl yn siarad yn rheolaidd am forâl y staff o fewn y gwasanaeth a'r pryder am lefel yr hyder sydd gan aelodau’r cyhoedd yn y gwasanaeth iechyd ac, yn wir, mae’r ffordd yr ydym yn siarad am y gwasanaeth yn effeithio ar hynny. Pan fyddwch yn siarad am 'fethiannau difrifol' ar draws gofal iechyd yng Nghymru, nid yw'n syndod bod y ddadl yn cael ei chwistrellu â lefel o besimistiaeth nad yw'n adlewyrchu realiti y gofal iechyd o ansawdd uchel y mae'r rhan fwyaf o bobl yn ei brofi. Mae pob arolwg unigol o gleifion yn cydnabod bod pobl yn cael profiad da o ofal iechyd y rhan fwyaf o’r amser, boed yn 92 y cant neu 93 y cant, neu ffigurau eraill.

Yr her sydd gennym yw beth yr ydym ni’n ei wneud am y meysydd hynny lle nad yw hynny'n wir, a sut yr ydym yn mynd ati yn onest i wynebu a datrys y meysydd hynny. Dyna’r pethau yr ydym yn canolbwyntio arnynt. Ac o ran cael golwg ac adolygiad annibynnol ar ofal iechyd ac iechyd a gofal ar draws Cymru, wrth gwrs rydym wedi ymrwymo i gael senedd a fydd yn edrych ar ddyfodol y gwasanaeth. Rydym yn awyddus i gael sgwrs synhwyrol ac aeddfed am ddyfodol y gwasanaeth iechyd nad yw'n mynd â ni yn ôl at gyfres orffwyll o gyhuddiadau a dadleuon am yr hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd o fewn y GIG. Rydym yn awyddus i fod yn synhwyrol ac yn ddifrifol am y meysydd sydd angen eu gwella, sef yr hyn y mae’r mesurau ymyrraeth wedi’i thargedu yn ymwneud â nhw, ac nid ydym, fel y gwnaed y pwynt gan Julie Morgan, am gael ein rhoi mewn sefyllfa lle’r ydym yn gwrthod cydnabod y meysydd hynny o ragoriaeth sylweddol a pharhaus yn y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru.

4. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Rydym yn symud ymlaen i’r eitem nesaf, sef y datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rwy’n galw ar Jane Hutt.

Rwyf wedi gwneud tri newid i fusnes yr wythnos hon. Bydd y Prif Weinidog yn gwneud datganiad ar y trefniadau pontio Ewropeaidd ar ôl y datganiad hwn. Yn dilyn hynny, bydd datganiad deddfwriaethol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru), a datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ar ddigwyddiadau chwaraeon rhyngwladol mawr. Mae’r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y’i dangosir yng nghyhoeddiad y datganiad busnes sydd ymysg papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Dyma'r ail set gylchol o ganlyniadau TGAU sydd wedi'u cyflawni ers lansio Her Ysgolion Cymru. Es i ymweld ag Ysgol Pentrehafod ac Ysgol Gyfun Treforys ar ddiwrnod canlyniadau’r TGAU, a chael gwybod bod Pentrehafod wedi cyflawni eu canlyniadau TGAU gorau erioed, ac y bu cynnydd o 17 y cant yn y graddau A* i C yn Nhreforys. A gaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wneud datganiad am lwyddiant Her Ysgolion Cymru?

Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn falch iawn o glywed, ac yn ymwybodol iawn o'r canlyniadau da iawn hynny, yn enwedig gan yr ysgolion hynny sydd wedi elwa ar Her Ysgolion Cymru yn Nwyrain Abertawe, yn eich etholaeth chi, Mike Hedges. Rwy'n gwybod bod y gwerthusiad, wrth gwrs, ar y gweill. Bydd yn cael ei gwblhau erbyn y flwyddyn nesaf ac yn cael ei gyhoeddi yn unol â phrotocol ymchwil gymdeithasol y Llywodraeth, a bydd yn edrych hefyd ar ganlyniadau TGAU. Ac fe fydd hi, wrth gwrs, yn myfyrio ar y gwerthusiad a chanlyniadau TGAU yr haf hwn drwyddynt draw, ac yn ymrwymedig i adeiladu ar y gwersi o'r her a’u hymgorffori er lles pob ysgol yng Nghymru.

A gaf i groesawu rheolwr busnes y Llywodraeth yn ôl o’r toriad yr ydym ni i gyd wedi’i gael. Rwyf i’n credu bod y rhan fwyaf ohonom wedi cael amser gwirioneddol brysur yn dilyn canlyniad y refferendwm, a bod angen siarad a delio â'n hetholwyr a busnesau a phobl sydd â diddordeb mewn gwybod sut y byddwn yn cynllunio’r ffordd ymlaen yma yn y Cynulliad. Rhyfeddais i weld pa mor ddigyfeiriad oedd arweinyddiaeth y Llywodraeth ar y pryd, mae’n rhaid i mi ddweud, ond mae gennym ni ddatganiad heddiw a fydd yn rhoi cyfle i ni holi’r Prif Weinidog ychydig yn fwy ynglŷn â ble y maen nhw am fynd yn y dyfodol. Felly, trof i ofyn i'r rheolwr busnes am ddatganiad neu ddau ar fater mwy brys, gan fod Tŷ’r Cyffredin neithiwr wedi cwblhau ei waith ar Fil Cymru a'i anfon i fan arall. Nawr, disgrifiodd y Prif Weinidog y Bil hwn ym mis Gorffennaf, i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, yn rhywbeth na allai fyth fod yn gytundeb parhaus, nac yn darparu sylfaen ar gyfer cyfansoddiad i Gymru. Ac rwy'n siŵr y byddai'r Llywodraeth yn cytuno â mi nad yw'r Bil wedi ei newid yn sylweddol i amau ​​geiriau'r Prif Weinidog bryd hynny. Rydym ni, felly, wedi colli cyfle yn awr i roi terfyn ar y chwarae cyson â'r setliad datganoli, mae San Steffan unwaith eto wedi methu â rhoi setliad parhaol i bobl Cymru ac mae gennym setliad disymud, israddol o hyd. Cawsom gyfle i roi eu senedd eu hunain i bobl Cymru â'r offer angenrheidiol i fynd i'r afael mewn ffordd addas â'r heriau mawr sy'n wynebu ein heconomi, y GIG, y system addysg ac, wrth gwrs, Brexit. Nawr, nid oedd yn syndod i mi bod Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar ran y Ceidwadwyr-rhywun sydd i fod i gynrychioli Cymru yn y Llywodraeth-yn aml yn pleidleisio yn erbyn buddiannau Cymru, gan bleidleisio dros Faes Awyr Bryste yn lle Maes Awyr Caerdydd, er enghraifft, a phleidleisio yn erbyn buddiant Cymru o ran cyfoeth naturiol, plismona, meysydd awyr, fel y dywedais, a chyfrifoldeb ariannol. Ond, yn rhyfeddol, pleidleisiodd plaid seneddol Llafur hefyd yn erbyn buddiannau Cymru. Rwy'n credu bod yna blaid seneddol Llafur o hyd, am bythefnos arall o leiaf. Ac o ran yr egwyddorion y bu’r Prif Weinidog yn ymladd drostynt, megis toll teithwyr awyr, awdurdodaeth gyfreithiol, datganoli plismona a sail gyfreithiol ar gyfer cyllid teg i Gymru, gwnaeth ei fainc flaen ei hun naill ai eu gwrthwynebu, ymatal arnynt neu eu gwrthod, neu eu cefnogi ar y funud olaf oll. Gallai Plaid Lafur unedig fod wedi cael gwell bargen o lawer i Gymru o’r Bil Cymru hwn, ac mae'n beth da nad yw’n weithredol a’i bod yn diflannu’n gyflym.

Felly, a oes modd i ni gael datganiad llawn a dadl ar y dull gweithredu y bydd y Llywodraeth yn ei ddefnyddio yn awr i geisio diwygio'r Bil Cymru hwn yn Nhŷ'r Arglwyddi, os yw'r Llywodraeth yn bwriadu ceisio gwneud hynny, neu sut y mae'n bwriadu gweithredu'r Bil, drwy'r Cynulliad hwn, a goblygiadau gweithredu’r Bil diffygiol hwn ar gyfer y Cynulliad? A all y ddadl a’r datganiad hefyd ystyried sut y gallwn ni edrych ar oblygiadau cysylltiedig adolygiad y Comisiwn Ffiniau o’r etholaethau? Mae’n siŵr bod yn rhaid cydbwyso toriad yn y gynrychiolaeth o Gymru â throsglwyddo’r meysydd polisi pwysig hynny i Gymru, er mwyn i ni gael cyfrifoldebau polisi cyfartal â'r Alban a Gogledd Iwerddon. Y rheswm dros leihau’r gynrychiolaeth yn y gwladwriaethau hynny oedd trosglwyddo cyfrifoldebau pwysig, ac nid yw hyn wedi digwydd yng Nghymru hyd yma. Mae’r un cyfrifoldebau a drosglwyddwyd yn y gwledydd hynny yn cael eu gwrthod i ni, ac eto bydd ein cynrychiolaeth yn cael ei lleihau o chwarter. Byddwn i’n dychmygu y bydd diddordeb mawr gan y Blaid Lafur mewn trafod yr agwedd arbennig hon ar y Bil Cymru a goblygiadau'r Comisiwn Ffiniau.

Gan fod etholiadau'r Cynulliad am gael eu trosglwyddo o dan Fil Cymru, mae gennyf ddiddordeb arbennig i gael gwybod, drwy ddatganiad gan y Llywodraeth, sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymateb i sefyllfa lle na fydd ffiniau ac etholaethau yn cyfateb yn San Steffan a'r Cynulliad. A fydd hyn yn golygu newid sut yr ydym yn ethol Aelodau? A fydd hyn yn cynyddu nifer yr Aelodau neu leihau nifer yr Aelodau? A fydd hyn golygu newid ein system bleidleisio? Byddai datganiad gan y Llywodraeth am ei hegwyddorion ar y mater hwn yn cael ei groesawu, oherwydd bod angen i’r Llywodraeth, yn amlwg, ennill cefnogaeth dwy ran o dair o’r man hwn er mwyn pasio unrhyw newidiadau o'r fath.

Rwy’n credu bod y rhain yn faterion pwysig sydd wedi codi ers ein toriad ac rwy'n credu y byddai datganiad cynnar a dadl gan y Llywodraeth yn ddefnyddiol.

Wel, rwyf innau hefyd yn croesawu yn ôl rheolwr busnes Plaid Cymru. Yn wir, rydym ni eisoes wedi cael sgwrs ac rydych chi wedi codi llawer o bwyntiau pwysig iawn ar gyfer y Cynulliad hwn—yn wir, pwyntiau pwysig iawn y bu’r Prif Weinidog yn rhoi sylw iddynt dros fisoedd yr haf. Nid wyf yn gwybod lle yr oeddech chi, ond roeddwn innau yn sicr yn cydnabod bod y Prif Weinidog ar flaen y gad, nid dim ond, wrth gwrs, o ran ein safle cyfansoddiadol, ond hefyd o ran effaith Brexit a'r ffordd ymlaen, yn cwrdd â Phrif Weinidog y DU, ac yn mynd i'r afael hefyd â llawer o'r pwyntiau yr ydych wedi'u gwneud. Ac, wrth gwrs, mae’n rhaid i ni gydnabod bod Bil Cymru yn dal i fod ar ei ffordd. Gwnaeth y Prif Weinidog ei safbwynt ynglŷn â Bil Cymru yn glir iawn pan gawsom y ddadl ar Araith y Frenhines ac yn wir, daeth Ysgrifennydd Gwladol Cymru yma ym mis Gorffennaf.

Mae gennyf ddiddordeb, hefyd, i glywed am weithgarwch y Llywodraeth dros yr haf, a bydd Aelodau'n ymwybodol y bu, mewn gwirionedd, 28 o ddatganiadau ysgrifenedig ynglŷn â’r camau y mae'r Llywodraeth wedi eu cymryd, ers fy natganiad busnes diwethaf, ac, wrth gwrs, rydym ni’n parchu’n fawr y ffaith nad ydym am i bobl feddwl ein bod yn cymryd camau heb ymgynghori neu graffu’n llawn ar y pwynt trwy gydol y toriad, ond rydym ni wedi bod yn glir iawn ein bod wedi bod yn llywodraeth weithredol, ragweithiol, yn bwrw ymlaen â'n cyfrifoldebau drwy gydol y toriad, ac yn cyflawni ein cyfrifoldebau. Felly, mae'r rhain i gyd yn faterion, wrth gwrs, a fydd yn cael eu trafod maes o law.

Arweinydd y tŷ, byddwn yn ddiolchgar pe gallech ofyn yn garedig i'r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth gyflwyno datganiad ynglŷn â band eang a chyflwyno’r prosiect Cyflymu Cymru. Nawr, rwyf wedi derbyn gohebiaeth gan nifer o etholwyr dros yr haf yn pryderu nad ydynt yn gallu cael gafael ar wasanaeth band eang priodol a digonol, a bod eu gwasanaeth band eang, mewn rhai achosion, wedi dirywio'n sylweddol. Er bod band eang cyflym iawn wedi ei gyflwyno mewn rhai rhannau o Gymru, mae rhai cymunedau o hyd, a llawer ohonynt yn Sir Benfro, nad oes ganddynt wasanaeth band eang digonol hyd yn oed. Wrth gwrs, mae'n hanfodol i bobl allu cael gafael ar wasanaethau band eang dibynadwy.

Y llynedd, dywedodd y Gweinidog fod y Llywodraeth yn sicrhau nad yw cymunedau gwledig yn cael eu gadael ar ôl, ond yn ôl gohebiaeth yr wyf wedi ei derbyn yn ddiweddar, nid yw hynny'n wir yn Sir Benfro yn anffodus. Felly, a wnewch chi annog y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth i wneud datganiad ar y mater hwn cyn gynted ag sy’n bosibl, er mwyn i’r bobl sy'n byw yn y cymunedau yr wyf yn eu cynrychioli allu deall beth yn union y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi eu huchelgais i gael gwasanaeth band eang digonol, a sut mae'n bwriadu monitro cyflwyniad gwasanaethau band eang?

Diolch i Paul Davies am y cwestiwn hwnnw. Mae’r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth yn rhoi diweddariadau rheolaidd i'r Aelodau. Yn wir, cefais gyfarfod â chyfarwyddwr BT Cymru yr wythnos diwethaf ac roeddwn i’n falch iawn i glywed eu bod yn cyrraedd dros 90 cant o fy etholaeth i, Bro Morgannwg. Ond mae'n rhaid i ni gydnabod bod Llywodraeth Cymru, hyd yn hyn, wedi gwario £32 miliwn ar ddarparu mynediad band eang cyflym iawn i dros 113,000 o gartrefi a busnesau, a hynny’n amlwg yn ardaloedd Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion, drwy brosiect Cyflymu Cymru, a chyrhaeddwyd o leiaf 93 y cant o ardal fenter y Ddau Gleddau, a gwn y byddwch yn croesawu hyn. Mae'n bwysig cydnabod hefyd fod gennym y cynllun Allwedd Band Eang Cymru, y cynllun taleb gwibgyswllt, a bod hynny yn rhoi mynediad at fand eang cyflym i 167 o eiddo yn Sir Benfro. Rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod hefyd y cyhoeddodd Llywodraeth y DU tua diwedd 2014 ei bod wedi dod i gytundeb sy’n rhwymo’n gyfreithiol gyda gweithredwyr rhwydwaith ffonau symudol, gan fuddsoddi cyfanswm cyfunol o £5 biliwn ar welliannau seilwaith. Felly, yn amlwg mae yna ddiweddaru—. Bydd y Gweinidog hefyd, yn ogystal â rhoi diweddariad ar eich etholaeth eich hun, hefyd yn rhoi diweddariad ar sail Cymru gyfan o ran band eang cyflym iawn, sy'n allweddol i'n seilwaith, yn amlwg.

Yn ystod y toriad, roeddwn i’n falch iawn o gael sesiwn hyfforddi i mi a fy staff ar ddod yn ffrindiau dementia, wedi’i arwain gan Gymdeithas Alzheimer, a chredaf ein bod ni i gyd wedi cael budd mawr o’r digwyddiad. Yn amlwg, mae sut y gallwn ni helpu pobl â dementia yn un o'r heriau mawr sy'n ein hwynebu, ac mae'n arbennig o bwysig ar gyfer gofal cymdeithasol. Felly, roeddwn i’n meddwl tybed, ar ryw adeg, a fyddai'n bosibl cael dadl am ddementia a sut yr ydym yn cefnogi pobl sy'n byw gyda’r cyflwr, er mwyn iddynt allu cadw ansawdd bywyd da am gymaint o amser â phosibl?

Mae Julie Morgan yn codi yn nodwedd bwysig iawn o fywyd Cymru heddiw. Mae Cymru yn arwain y ffordd o ran hyfforddiant ffrindiau dementia, a bydd llawer yn ymwybodol o'r ymateb enfawr ar y penwythnos i'r daith gerdded ym Mae Caerdydd, ddydd Sul. Credaf, o ran lansio'r hyfforddiant ffrindiau dementia, a gefnogir gan gyllid Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, fod gennym dros 35,000 o ffrindiau dementia, fod gennym nifer o gymunedau sy’n ystyriol o ddementia, ac rwy'n siŵr eu bod wedi’u cynrychioli ym mhob un o’n hetholaethau. Ac mae’r rhai sy'n dilyn hyfforddiant ffrindiau dementia yn cynnwys busnesau, yn ogystal â'r sector cyhoeddus, ac yr wyf i’n gwybod am nifer o Aelodau'r Cynulliad a swyddogion Llywodraeth Cymru hefyd sydd wedi derbyn hyfforddiant ffrindiau dementia. Rwy'n siŵr y bydd hyn yn fater i'w drafod.

Arweinydd y tŷ, mae'n newyddion gwych bod trydaneiddio prif linell Great Western wedi cyrraedd twnnel yr Hafren, ond mae'n anochel ac yn amlwg y bydd yn tarfu yn y tymor byr ar wasanaethau dros y chwe wythnos nesaf. Gwn nad yw hwn yn fater sydd wedi'i ddatganoli, gan ei fod yn ymwneud â Network Rail a Llywodraeth y DU, ond fe fydd sgil-effeithiau ar wasanaethau eraill ac economi leol y de-ddwyrain yn y tymor byr cyn i fuddion y trydaneiddio gael eu gwireddu. A allwn ni glywed gan Lywodraeth Cymru sut yr ydych yn cyfathrebu â Network Rail i sicrhau bod y broses hon mor llyfn â phosibl, fel y gall pob un ohonom gyrraedd diwedd cyfnod hwn yn y ffordd fwyaf cyflym a chyfleus bosibl, ac yna mwynhau buddion gwasanaeth trên wedi’i drydaneiddio o Lundain i Gymru?

Diolch i chi, Nick Ramsay. Mewn gwirionedd, cyfarfu Ysgrifennydd y Cabinet â Network Rail ddoe. Rwyf i wedi fy mhlesio’n fawr iawn gan sut yr ydym ni i gyd fel Aelodau Cynulliad wedi cael gwybod, wedi cael ein hysbysu ac wedi cael diweddariadau am y datblygiad, oherwydd, wrth gwrs, bydd yn arwain at y trydaneiddio holl bwysig. Ond gallwn ni eich sicrhau bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyfarfod â nhw, a bydd yn rhoi diweddariad i’r holl Aelodau ar y datblygiad.

Rwy’n galw am ddatganiad unigol ar y fargen twf ar gyfer y gogledd. Yn fuan cyn y toriad, cefais yr ateb a ganlyn gan eich cydweithiwr ar y dde, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, yn y Siambr

'Rydym yn gobeithio'n fawr iawn y bydd cais y fargen twf yn cael ei gyflwyno yn llawn fel cynnig i Ganghellor y Trysorlys erbyn diwedd y mis hwn.'

Hynny yw, mis Gorffennaf. Mewn ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth y DU ym mis Mawrth—roedd yn agor y drws i fargen twf ar gyfer y gogledd, a byddai'n edrych i Lywodraeth nesaf Cymru i ddatganoli pwerau i'r rhanbarth yn rhan o unrhyw fargen yn y dyfodol—byddwch yn ymwybodol bod adroddiad o weledigaeth twf, wedi'i lofnodi gan arweinwyr y chwe chyngor yn y gogledd, arweinwyr ei brifysgolion, arweinwyr ei golegau ac arweinwyr ei fusnesau, wedi'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, gan ddechrau gydag un weledigaeth gydgysylltiedig ar gyfer twf economaidd a chyflogaeth yn y gogledd. Maent yn dweud yn eu llythyr cysylltiedig eu bod yn awyddus i fynd ar drywydd gwahoddiad Llywodraeth y DU i’r gogledd gychwyn trafodaethau ynglŷn â chais twf ar gyfer y rhanbarth, a chyflwyniad ffurfiol y weledigaeth yw'r cam mawr cyntaf tuag at wneud cais twf, y mae angen, unwaith eto, ei egluro, o ystyried cyfeiriad y Gweinidog at gais erbyn diwedd mis Gorffennaf, cyn diwedd y Cyfarfod Llawn. Mae'r adroddiad hwn yn dweud y byddai datganoli pwerau dros gyflogaeth, trethi, sgiliau a thrafnidiaeth i’r gogledd yn rhoi hwb i’r economi, i swyddi a chynhyrchiant, yn creu o leiaf 120,000 o swyddi, ac yn rhoi hwb i werth yr economi leol o £12.8 biliwn i £20 biliwn erbyn 2035. Mae hwn yn beth mawr, ac mae angen i’r gogledd glywed gan Lywodraeth Cymru sut y mae'n bwriadu ymateb a bwrw ymlaen yn hyn o beth. Diolch.

Wel, wrth gwrs, mae’r Aelod ar gyfer rhanbarth y gogledd yn llygaid ei le am ba mor bwysig y mae’r cais hwn i’r gogledd a'r ffaith ei fod yn cynnwys y chwe awdurdod ynghyd â chefnogaeth is-gangellorion, sefydliadau addysg bellach, yr heddlu a'r holl awdurdodau sy'n gwneud gwahaniaeth i les a datblygiad economaidd y gogledd. Mae Ysgrifennydd y Cabinet, wrth gwrs, yn ymwneud yn agos â hyn. Rydym yn aros am ymateb y Canghellor newydd i, yn wir, bolisi’r ‘Northern Powerhouse’ a sut y mae’r datblygiadau hynny yn cael eu dwyn ymlaen gan Lywodraeth y DU, ond rydym yn credu bod yma gyfle i ni ddweud heddiw, ‘Rydym yn annog Llywodraeth y DU i gymeradwyo bargen twf gogledd Cymru.’

Arweinydd y tŷ, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog dros drafnidiaeth ar y cynnydd o ran y gwelliannau i Five Mile Lane ym Mro Morgannwg? Yn yr atebion blaenorol yr wyf wedi eu cael, roedd awgrym y byddai'r dyddiad cychwyn ddiwedd y mis hwn, Medi 2016. Rwyf wedi cyflwyno rhai cwestiynau ysgrifenedig i’r Cynulliad yn ystod misoedd yr haf i geisio egluro materion caffael tir a chost hyd yn hyn, a'r ateb a gefais oedd bod angen i mi siarad â Chyngor Bro Morgannwg gan nad oedd syniad gan Lywodraeth Cymru. Nawr, nid yw hynny'n ymddangos yn sefyllfa synhwyrol iawn i Lywodraeth Cymru fod ynddi ar ôl iddi neilltuo £26 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru—bod Aelod o'r sefydliad hwn, sy’n gofyn am eglurhad ar y gwariant a'r amser dechrau, yn cael ei gyfeirio at yr awdurdod lleol, ar ôl i chi wneud cyfraniad ariannol mor fawr. Felly, byddwn i’n gofyn am ddatganiad. Rwy’n cymeradwyo'r Llywodraeth am wneud y gwelliannau hyn, ond, unwaith eto, nid wyf yn credu ei bod yn afresymol i Aelod geisio eglurhad am y dyddiad dechrau ac am sut y mae'r arian yn cael ei wario ar brynu tir a sicrhau llwybr y ffordd newydd.

A gaf i hefyd ddweud wrth arweinydd y tŷ nad yw’r atebion a ddaw yn ôl gan Lywodraeth Cymru yn foddhaol iawn. Mae’n cyrraedd pwynt pan fo Aelodau’r sefydliad hwn-ac rwyf wedi gorfod gwneud hyn ar sawl achlysur-yn gorfod defnyddio Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 i geisio atebion yn hytrach na defnyddio’r llwybrau arferol a ddylai fod ar gael i Aelod mewn gwirionedd. Byddwn i’n gofyn i chi ddefnyddio eich swyddogaeth, fel arweinydd y tŷ, i geisio mwy o eglurder a gwell atebion gan Ysgrifenyddion y Cabinet o amgylch bwrdd y Cabinet, fel nad oes yn rhaid i Aelodau gyfeirio at y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth wrth geisio atebion y mae’n gwbl gyfiawn eu bod yn eu cael ar ran eu hetholwyr.

Credaf fod Andrew RT Davies yn ymwybodol iawn o'r ffaith mai Cyngor Bro Morgannwg sy'n gyfrifol am reoli prosiect Five Mile Lane. Ac rwy’n falch, unwaith eto, ein bod yn cael y cyfle i groesawu'r ffaith fod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yn natblygiad hollbwysig Five Mile Lane—ffordd hollbwysig, fel y gwyddom, yn yr etholaeth. Rwy’n tybio, yn cwestiynu ac yn annog yr Aelod i drafod hyn â Chyngor Bro Morgannwg. Rwy'n siŵr y bydd yn dymuno cyfarfod â chi i ddweud wrthych am gynlluniau’r prosiect, oherwydd y nhw sy’n gyfrifol. Wrth gwrs, mae croeso i chi gysylltu â mi ag unrhyw dystiolaeth yr hoffech ei chyflwyno o gwestiynau a ofynnwyd i'r Llywodraeth, ond mae'n fater o wneud yn siŵr eich bod yn deall pwy sy'n gyfrifol am beth o ran rheoli prosiectau yn strategol, fel yr ydym ni, gan sicrhau bod yr arian ar gael ar eu cyfer.

Arweinydd y tŷ, a gaf i alw am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda—un gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynglŷn â chydnabod cymhwyster bagloriaeth Cymru gan brifysgolion ledled y DU? Rwyf wedi cael nifer o achosion yn fy etholaeth eleni o rai prifysgolion, a hyd yn oed adrannau mewn prifysgolion, yn gwrthod y fagloriaeth fel cymhwyster sy'n dderbyniol iddyn nhw er mwyn caniatáu i ddysgwyr gofrestru ar eu dewis cyrsiau. Mae hyn yn bryder y mae angen ymdrin ag ef, a gwn fod gennym fagloriaeth newydd a fydd yn dod i'r amlwg o ran y disgyblion hynny sydd yn cymryd rhan ynddi ar hyn o bryd, ond mae'n bwysig iawn bod bagloriaeth Cymru yn gymhwyster y mae gan brifysgolion hyder ynddo, a bod gan ddisgyblion a dysgwyr hyder ynddo hefyd. Felly, byddwn i’n gwerthfawrogi datganiad ar hynny.

A gaf i hefyd ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar gasgliadau gwastraff yng Nghymru? Bydd arweinydd y tŷ yn ymwybodol eu bod yn cyflwyno casgliadau bob pedair wythnos ar gyfer sbwriel cyffredinol yng Nghonwy gan ddechrau y mis hwn, a fydd yn arwain at anhrefn llwyr yn fy etholaeth i, sydd, wrth gwrs, yn llecyn pwysig iawn o safbwynt twristiaeth ac incwm i’r economi yno. Mae llawer o bobl yn poeni am y darpariaethau ar gyfer gwastraff anifeiliaid anwes, gan ddweud eu bod yn annigonol. Mae llawer o bobl yn poeni hefyd am fregusrwydd pobl hŷn sydd efallai’n defnyddio cynhyrchion clinigol neu anymataliaeth a bodd modd gweld hynny yn y cynwysyddion gwastraff newydd sy'n cael eu cyflwyno ar draws y sir i 10,000 o gartrefi. Gofynnaf ac anogaf Ysgrifennydd y Cabinet i ymyrryd yn y sefyllfa a rhoi rhywfaint o arweiniad i Gonwy fel awdurdod lleol, er mwyn iddo allu mabwysiadu dull mwy synhwyrol o gyflawni’r cynllun peilot a sicrhau darpariaeth ddigonol, o safbwynt iechyd y cyhoedd, ar gyfer y gweithlu a fydd yn casglu'r gwastraff hwn ac ar gyfer pobl ag anifeiliaid anwes, ac yn enwedig ar gyfer oedolion hŷn, agored i niwed, i sicrhau eu bod yn cael eu hamddiffyn ac nad oes unrhyw ganlyniad anffafriol i drigolion a busnesau lleol o ganlyniad i'r newidiadau hyn?

Diolch i chi am y ddau gwestiwn, Darren Millar. O ran eich cwestiwn cyntaf, credaf efallai y byddai'n fwy defnyddiol i chi ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros addysg a sgiliau i enwi’r prifysgolion hynny oherwydd, yn sicr, nid ydym yn ymwybodol bod hyn yn digwydd. Ond os oes gennych dystiolaeth, yna byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn amlwg yn dymuno clywed amdanynt ac unioni’r sefyllfa. Mae'n syndod mawr y byddai hynny'n digwydd. Yn wir, wrth gwrs, rydym yn llongyfarch unwaith eto, nid yn unig ein myfyrwyr am eu cyrhaeddiad yn eu canlyniadau TGAU, ond hefyd, wrth gwrs, gynifer y myfyrwyr sydd wedi dechrau yn y brifysgol erbyn hyn, ac y mae Bagloriaeth Cymru wedi eu galluogi i fynd i’r brifysgol, ledled y DU ac, wrth gwrs, i addysg bellach, prentisiaethau a swyddi, sy'n hollbwysig o ran cyfleoedd ar gyfer ein pobl ifanc.

Credaf fod eich ail bwynt—casgliadau gwastraff yn gyfrifoldeb i lywodraeth leol. Wrth gwrs, mae’r sefyllfa yn cael ei monitro'n ofalus o ran y cynllun peilot, a bydd hyn yn cael ei asesu gan Ysgrifennydd y Cabinet, ond mae unrhyw broblemau cychwynnol, wrth gwrs, a materion yr ydych chi’n eu codi—. Byddwn i’n sicr yn codi’r materion hyn gyda fy awdurdod lleol, ac rwy'n siŵr y gwnewch chi hefyd.

Diolch i chi, Lywydd. Arweinydd y tŷ, fel y gwyddoch, heddiw yw diwrnod sepsis y byd. Rwy’n datgan fod hwn yn bwnc sy'n agos iawn at fy nghalon, ac yr wyf am sicrhau bod y cyhoedd yn meithrin gwell dealltwriaeth o’r salwch hwn nad yw’n cael ei adnabod yn aml. Mae'r salwch yn taro yn gyflym ac yn lladd traean o'i dargedau. Mae'n anafu traean arall mewn rhyw ffordd ac yn eu gadael â phroblemau o bob math, ac eto trwy ei ddarganfod yn ddigon cyflym a’i drin yn briodol, mae pobl yn goroesi ac yn goroesi'n dda. Y broblem yw bod sepsis yn ymddangos mewn sawl gwedd, ond fe geir arwyddion cyffredin. Nid yw'r cyhoedd yn adnabod y rhain, nid yw meddygon teulu yn aml yn eu hadnabod, ac nid yw staff unedau damweiniau ac achosion brys, hyd yn oed, yn eu hadnabod, fel y gwn o brofiad personol. Meddwl oeddwn i, arweinydd y tŷ, tybed a allwch chi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet gyflwyno datganiad byr i'r Siambr yn amlinellu ei gynlluniau i helpu i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd a staff meddygol o’r cyflwr hwn, yn enwedig trwy gysylltiadau cyntaf, sef y meddygon teulu a staff unedau damweiniau ac achosion brys, gan fod yna arwyddion rhybuddio cynnar clir o’r salwch dinistriol hwn. Pan gaiff ei ganfod yn gynnar, mae pobl yn byw; pan gaiff ei ganfod yn rhy hwyr, mae pobl yn marw.

Mae’r Aelod yn codi pwynt pwysig. Mae'n ymwneud ag ymwybyddiaeth y cyhoedd. Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ystyried y ffordd orau o fwrw ymlaen â hynny, wrth gwrs gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru yn allweddol i arwain a darparu tystiolaeth.

5. 3. Datganiad: Yr UE—Trefniadau Pontio

Ac yn awr rŷm ni’n symud ymlaen i’r eitem nesaf ar yr agenda, sef datganiad gan y Prif Weinidog ar yr Undeb Ewropeaidd a’r trefniadau pontio. Rwy’n galw ar Carwyn Jones.

Diolch, Lywydd. Mae bron yn dri mis ers y refferendwm Ewropeaidd ac, er bod llawer o gwestiynau mawr heb eu hateb, mae'n bosibl gweld yn gliriach rai o'r heriau y mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru a'r DU yn ei chyfanrwydd eu hwynebu yn awr. Y diwrnod ar ôl y refferendwm, nodais chwe blaenoriaeth allweddol ar gyfer Cymru. Y blaenoriaethau oedd: diogelu swyddi; cyfranogiad llawn i Lywodraeth Cymru yn y trafodaethau ar broses tynnu'n ôl y DU; parhau i gael mynediad at y farchnad sengl ar gyfer nwyddau a gwasanaethau; sicrwydd y cyllid a gyllidebwyd o dan raglenni'r UE; adolygiad tymor hir o’r grant bloc; a pherthynas ôl-Brexit newydd rhwng y Llywodraethau datganoledig a Llywodraeth y DU. Dri mis yn ddiweddarach, mae'r rhain yn parhau i fod yn flaenoriaethau allweddol, ac mae rhai elfennau pwysig o gynnydd wedi eu cyflawni.

Yn ystod y toriad, cyfarfûm â’r Prif Weinidog, ac yn ystod yr haf, bu ystod eang o gyswllt gweinidogol â phobl allweddol yn Whitehall, gan gynnwys Canghellor y Trysorlys a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Adael yr Undeb Ewropeaidd. Ym mis Gorffennaf, galwais gyfarfod eithriadol o'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yng Nghaerdydd i greu trafodaeth eang ymysg y Llywodraethau datganoledig, Llywodraeth Prydain a Llywodraeth Iwerddon, a Llywodraethau’r Ynysoedd— â phob un ohonynt yn cael eu heffeithio'n ddwfn mewn amryw ffyrdd gan yr hyn a fydd yn digwydd nesaf. Bydd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn cyfarfod eto yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd ar gyfer y cyfarfod nesaf sydd wedi’i drefnu.

O fewn Llywodraeth Cymru, rydym wedi sefydlu tîm pontio Ewropeaidd, sy’n adrodd yn uniongyrchol i mi, sydd â'r dasg o arwain a chydlynu dull Llywodraeth Cymru o weithio. Mae ein buddiannau’n gymhleth ac yn eang, ac mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu gwaith ar draws yr ystod sylweddol o fuddiannau portffolio sydd wedi’u heffeithio gan y sefyllfa. Ar lefel y DU, mae trefniadau newydd yn cael eu datblygu i alluogi deialog penodol rhwng Gweinidogion Cymru a’n swyddogion cyfatebol yn yr Alban, Gogledd Iwerddon a Whitehall, a byddaf yn dweud mwy am y rhain fel y maent yn cael eu cwblhau.

Mae llu o weithgorau ar lefel swyddogol, sy’n dwyn ynghyd Llywodraeth Cymru â Llywodraeth y DU a Llywodraethau datganoledig eraill, yn cael eu sefydlu hefyd. Mae'r blaenoriaethau a amlinellais ymysg y pynciau sy'n cael eu trafod yn y rhwydweithiau hyn. Rwyf hefyd wedi sefydlu Is-bwyllgor y Cabinet ar y Trefniadau Pontio Ewropeaidd, a gyfarfu ddoe am y tro cyntaf. Bydd y Cabinet cyfan, wrth gwrs, yn goruchwylio gwaith Llywodraeth Cymru, ond mae'r is-bwyllgor yn darparu’r fformat cywir ar gyfer yr ystyriaeth fanwl o’r polisïau y mae ei hangen arnom er mwyn bwrw ymlaen â'n hagenda.

Yn ystod mis Awst, cyhoeddodd y Trysorlys warant rannol ar gyfer cyllid yr UE. Mae hyn yn golygu y bydd lefel y cyllid ar gyfer ffermio yng Nghymru o dan CAP colofn 1 yn cael ei warantu hyd at 2020, ond nid y tu hwnt i hynny—dyna ddiwedd y persbectif ariannol Ewropeaidd hwn. Ar gyfer y cyllid ymchwil pwysig dan Horizon 2020, gall prifysgolion a busnesau wneud ceisiadau hyd nes y byddwn yn gadael yr UE, a bydd y Trysorlys yn gweithio gyda'r Comisiwn i sicrhau taliad hyd yn oed pan fydd prosiectau yn parhau ar ôl ymadawiad y DU. Cyn belled ag y mae CAP colofn 2 a chronfeydd strwythurol yn y cwestiwn, bydd y Trysorlys yn gwarantu cyllid ar gyfer prosiectau sydd, fel y maent wedi nodi, wedi eu ‘cadarnhau’—nid wyf yn siŵr beth y mae hynny’n ei olygu—cyn y datganiad hydref.

Rwy'n arbennig o falch bod cyllid CAP colofn 1 wedi ei setlo hyd nes 2020. Mae hyn yn golygu bod gennym rywfaint o amser i weithio gyda ffermwyr a'n cymunedau gwledig ac, yn y cyfnod sydd i ddod, i ganiatáu trafodaeth genedlaethol ar y ffordd orau o sicrhau dyfodol bywiog ar gyfer cefn gwlad Cymru yn yr hirdymor. Mae safbwynt y Trysorlys yn mynd rhan o'r ffordd tuag at fodloni gofynion Llywodraeth Cymru, ond nid yn ddigon pell, a’r cwestiwn yw, 'Beth sy'n digwydd ar ôl 2020?'

Nid yw gwarant y Trysorlys yn gynhwysfawr ac mae’n gadael tyllau, yn enwedig o ran cronfeydd strwythurol a buddsoddiad sydd heb eu hymrwymo erbyn adeg datganiad yr hydref. Byddwn yn parhau i bwyso am warant lawn, gyda'r nod o sicrhau nad yw cymunedau ledled Cymru yn colli cyfleoedd i wella eu rhagolygon oherwydd canlyniad y refferendwm. Dywedodd ymgyrchwyr dros Brexit na ddylai Cymru golli ceiniog o arian Ewropeaidd, a byddwn yn sicrhau eu bod yn cyflawni’r addewid hwnnw.

Cyhoeddais hefyd yn ystod yr haf y byddwn yn sefydlu Grŵp Cynghori ar Ewrop. Bydd hwn yn cael ei gadeirio gan Mark Drakeford ac mae’n dwyn ynghyd ystod o arbenigedd o gymdeithas sifil a gwleidyddol yng Nghymru, gyda'r bwriad o greu ymdeimlad eang o fuddiannau Cymru wrth i’r trafodaethau ar yr UE barhau. Rydym ni hefyd yn sefydlu pwyllgor cyswllt ychwanegol gyda Phlaid Cymru yn canolbwyntio ar faterion trefniadau pontio yr UE. Mae'r heriau sy'n ein hwynebu fel cenedl yn eang ac yn ddwfn, ac nid oes gan y Llywodraeth unrhyw fonopoli ar yr atebion. Mae angen trafodaeth genedlaethol ar y cwestiynau hyn arnom, yn y Siambr hon a thu hwnt, a bydd lleisiau sydd am gyfrannu'n adeiladol at y ddadl honno yn gweld bod Llywodraeth Cymru yn barod iawn i wrando.

Lywydd, nid yw'r her yn y dyfodol yn fwy yn unrhyw faes nag yn yr economi. Bûm yn cadeirio cyfarfod o gyngor adnewyddu'r economi ar 25 Gorffennaf, ac rydym yn gobeithio cyfarfod eto ym mis Hydref. Yr wythnos diwethaf, ymwelais â thair dinas yn yr Unol Daleithiau i hyrwyddo Cymru fel partner buddsoddi a masnachol. Byddwn yn gwneud popeth y gallwn i ddatblygu hyder yng Nghymru dramor, a gofynnaf i'r gymuned wleidyddol gyfan i gefnogi'r gwaith hwn ac i gefnogi busnesau yng Nghymru. Ni fyddaf—. Gofynnaf, yn hytrach, i’r rhai hynny sy'n ymosod ar ein busnesau gan ddweud eu bod yn dew ac yn ddiog i ystyried effaith eu sylwadau ar y llwyfan byd-eang ac i ddod o hyd i ffyrdd o wneud iawn ar unwaith. Mae angen arweiniad clir ar ein cymuned fusnes ar hyn o bryd ynghyd â chymorth perthnasol cadarn, nid ymosodiadau cywilyddus gan y Llywodraeth na ellir eu cyfiawnhau.

Lywydd, gadewch i mi fod yn glir ynglŷn â phwysigrwydd mynediad llawn, dilyffethair parhaus at farchnad sengl Ewrop ar gyfer nwyddau a gwasanaethau. Nid yw'n ddigon i boeni dim ond am rwystrau tariff, er y byddai'n gwbl drychinebus i economi Cymru pe bai'r UE yn gosod tollau mewnforio ar nwyddau a gwasanaethau’r DU o ganlyniad i drafodaethau carbwl dros ymadawiad y DU. Llywodraethau olynol y DU a wthiodd y farchnad sengl yn ei blaen am yr union reswm ein bod yn cydnabod y gellid defnyddio rhwystrau di-dariff, megis gwahanol safonau technegol, i rwystro masnach rydd wirioneddol rhyngom ni ac aelod-wladwriaethau eraill a niweidio cystadleurwydd busnesau Cymru a Phrydain. Rydym wedi clywed am fodel Norwy, model y Swistir ac eraill hefyd. Ond, beth bynnag yw’r model, prif flaenoriaeth Llywodraeth Cymru yw sicrhau mynediad llawn di-dor parhaus i farchnad Ewrop ar gyfer nwyddau a gwasanaethau. Ni allwn gytuno i ddim llai.

Gadewch imi fod yn glir, Lywydd, am y math o wlad yw Cymru bellach trwy ddatganoli a chymryd rhan yn yr Undeb Ewropeaidd. Mae hi’n wlad sydd â'r nod o feithrin ffyniant tra'n parchu gwerthoedd megis cynhwysiant, cynaliadwyedd, cydraddoldeb a hawliau unigol a chyfunol. Yn sicr, nid oes unrhyw un yn y Cynulliad hwn eisiau byw mewn gwlad a ddiffinnir gan gyflogau isel, rhagolygon gwael, safonau amgylcheddol sy’n gostwng, ansicrwydd a gwasanaethau cyhoeddus yn lleihau. Bydd unrhyw un sy'n ystyried bod gadael yr UE yn gyfle i ymwreiddio braint, i wrthdroi’r cynnydd yr ydym wedi ei wneud tuag at fyw'n gynaliadwy, i breifateiddio gwasanaethau cyhoeddus, i danseilio hawliau cyflogaeth neu i hyrwyddo annhegwch, yn wynebu gwrthwynebiad penderfynol gan y Llywodraeth hon yn ogystal, rwy’n gobeithio, â'r Cynulliad hwn. Gadewch i mi ddweud, heb betruso, mai ein safbwynt yw y dylai Llywodraeth y DU roi gwarantau diamod i wladolion yr UE sydd eisoes yn byw yn y wlad hon nad oes ganddynt unrhyw beth i'w ofni o ran eu hawliau i fyw a gweithio yma yn y dyfodol, heb unrhyw wahaniaethu.

Mae'r Prif Weinidog yn glir iawn y bydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac mae hynny, wrth gwrs, yn rhywbeth yr ydym ni i gyd yn ei dderbyn, er bod brys cynyddol iddynt roi rhagor o eglurder ynghylch sut y maent yn gobeithio cyflawni'r nod hwnnw. Rydym ni fel Llywodraeth yn glir, yr un modd, nad yw gadael yr Undeb Ewropeaidd yn golygu gadael Ewrop—llai fyth y bydd Cymru yn troi ei chefn ar Ewrop. Mae Cymru, a bydd yn parhau i fod, yn rhan o Ewrop. Mae'n fater o fuddiant masnachol, yn sicr, ond hefyd yn fater o werthoedd, gweledigaeth, diwylliant ac uchelgais a rennir. Bydd ein cyfeillion a’n cymdogion yn Ewrop yn parhau i fod yn ffrindiau ac yn gymdogion i ni yn Ewrop a byddwn yn dod o hyd i ffyrdd eraill o weithio gyda nhw.

Lywydd, mae llawer o gymhlethdodau yn gysylltiedig ag ymadawiad y DU o'r UE. Ymhlith y materion y mae'n rhaid mynd i'r afael â nhw yw uchelgais Llywodraeth yr Alban i aros yn yr UE a'r cwestiwn am y ffin ar ynys Iwerddon. Mae'r rhain ymysg yr amryfal gwestiynau nad yw’r atebion iddynt yn amlwg eto, a dweud y gwir. Un peth yr wyf yn sicr amdano yw na all y DU droi'r cloc yn ôl i 1973. Wrth i ni ystyried perthynas sydd wedi’i newid gyda'n cymdogion yn Ewrop, mae'n rhaid i ni hefyd ystyried perthynas sydd wedi’i newid yma yn y DU. Mae hwn yn fater o anghenraid, yn ogystal â dewis. Mae datganoli wedi gweithredu yng nghyd-destun yr UE yn unig hyd yn hyn. Mae ymadawiad y DU o'r UE yn awgrymu perthynas sylfaenol wahanol rhwng y Llywodraethau datganoledig a’r DU. Mae angen i ni gadw dychymyg a meddwl agored i ddatblygu DU newydd, ddeinamig a chadarn.

Lywydd, roedd ymgyrch refferendwm yr UE yn un a achosodd rwyg, ac roedd y canlyniad yn drawmatig i rai. Ond ni ellir ac ni ddylid anwybyddu’r canlyniad, fel yr wyf wedi ei gydnabod o'r diwrnod cyntaf. Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am arwain buddiannau Cymru wrth i'r trafodaethau ddatblygu. Ond rydym yn sôn am ddyfodol hirdymor ein gwlad, ac mae'r materion a godwyd yn mynd ymhell y tu hwnt i fuddiannau unrhyw Lywodraeth benodol neu, yn wir, unrhyw blaid wleidyddol benodol. Yr wyf i’n gobeithio yn y misoedd a'r blynyddoedd sydd i ddod y byddwn yn cael dadl gynhwysol ac eang am y ffordd orau o ddiogelu buddiannau Cymru a pha fath o wlad yr ydym am i Gymru fod.

O’r datganiad heddiw, eich prif araith yn Chicago, a'r datganiad ysgrifenedig blaenorol a gyhoeddwyd yn ystod mis Awst, mae'n ymddangos bod peirianwaith y Llywodraeth wedi symud yn araf i weithredu dros yr haf. O'r cychwyn cyntaf, ym marn llawer o sefydliadau, busnesau a rhanddeiliaid eraill, mae ymateb Llywodraeth Cymru i Brexit wedi bod yn araf. Fy nghwestiwn cyntaf yw: a yw'n wir eich bod wedi galw uwchgynhadledd frys—? Mae'n ddrwg gennyf. Mae yn wir eich bod wedi galw uwchgynhadledd frys o’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, ac mae hwnnw'n fforwm pwysig, ond, yn dilyn yr uwchgynhadledd honno, i'r rhai hynny sy'n edrych i mewn o'r tu allan, mae'n ymddangos nad oedd unrhyw ymyraethau penodol gennych tan araith yr wythnos ddiwethaf yn yr Unol Daleithiau. Nawr, ar yr ochr dechnegol, bydd yna Grŵp Cynghori ar Ewrop yn awr, a bydd Plaid Cymru yn cyfrannu at hwnnw trwy ein ASE, Jill Evans, a bydd y grŵp hwn yn darparu swyddogaeth dechnegol hanfodol.

Fy nghwestiwn cyntaf yw: a yw'n wir nad yw’r grŵp hwn wedi cyfarfod eto, a pham y gwnaeth gymryd cymaint o amser i sefydlu’r pwyllgor hwn? O ran gallu’r gwasanaeth sifil, yr uned yr ydych wedi ei sefydlu ar gyfer y trefniadau pontio, a gaf ofyn a fydd yr uned honno yn cael yr adnoddau angenrheidiol i gymryd rhan lawn yn y trafodaethau ar Brexit? A yw'n wir bod llawer o'r arbenigedd angenrheidiol sydd gennych ynghlwm â Bil Cymru, a bod hyn yn broblem, ni waeth pa mor effeithiol neu fel arall ydych chi wedi bod i gael cefnogaeth eich Aelodau Seneddol ar gyfer y gwaith hwnnw?

Gan droi at fater cronfeydd yr UE, a’ch ymrwymiad i sicrhau nad yw Cymru'n colli’r un geiniog, roedd y gwaith a wnaed gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru ar hyn yn seiliedig ar amcangyfrifon, ac roedd eu hadroddiad yn gynharach eleni yn ei gwneud yn glir nad oedd ganddynt ddata llawn. Felly, a ydych chi wedi gofyn i’ch swyddogion gyfrifo gwerth llawn cronfeydd yr UE, er mwyn inni wybod gwir faint yr addewid a wnaed i'n cymunedau gan yr ymgyrch 'gadael'?

Mae'n rhaid i mi ddod yn ôl at fy nghwestiwn cynharach i chi, Brif Weinidog, am aelodaeth Cymru o'r farchnad sengl. I ddechrau, wrth ateb fy nghwestiwn, roedd yn ymddangos eich bod yn cael gwared ar y dryswch, cyn mynd ymlaen wedyn i ychwanegu ato. Yn gynharach, gofynnais i chi, Brif Weinidog, am y gwahaniaethau rhwng mynediad at y farchnad sengl ac aelodaeth ohoni. Nawr, yn eich ateb, roeddech yn cytuno eich bod yn cefnogi aelodaeth, ond yna aethoch ymlaen i siarad am y diffiniad aneglur hwn o fynediad.

Nawr, nid yw eich datganiad heddiw yn ymrwymo i fodel penodol o fynediad i farchnad Ewrop. Nid ydym yn gwybod beth yw eich barn. Rydym yn gwybod bod pedwar model posibl. Oni fyddai'n well i chi gynnig model masnach gwirioneddol, megis Ardal Economaidd Ewropeaidd neu aelodaeth o Gymdeithas Masnach Rydd Ewrop, model sy'n well gennych, fel bod rhywfaint o sicrwydd, o leiaf, ynghylch pa opsiwn y mae'r Llywodraeth yn mynd ar ei drywydd? Gallai hynny fod yn ffordd dda o roi terfyn ar y dryswch o ran eich safbwynt ar hyn. Rydych wedi pwysleisio’r angen am sicrwydd. A wnewch chi gymryd y cyfle i roi hynny nawr?

O ran y sylwadau a wnaethoch ar drefniadau pontio yr UE yn eich araith yn Chicago, beth fyddwch chi’n ei wneud i gael cefnogaeth ar gyfer eich nod o gael DU fwy ffederal yn eich plaid eich hun? Ac a allwch chi ddweud wrthym pa bosibiliadau a welwch ar gyfer Cymru yn y sefyllfa gyfansoddiadol newydd? Ac, os nad oes gennych weledigaeth ar gyfer Brexit, a allwch ddweud wrthym ble yr hoffech chi weld Cymru yn gyfansoddiadol—beth yw'r cam olaf, o'ch safbwynt chi, i Gymru mewn DU ffederal?

Yn olaf, a wnewch chi yn awr ddweud wrthym sut y byddwch yn sicrhau bod y DU yn mabwysiadu dull pedair cenedl i'r trafodaethau ar adael yr Undeb Ewropeaidd? A wnewch chi sicrhau bod Cymru yn cymryd rhan uniongyrchol mewn unrhyw drafodaethau o'r fath, ac a wnewch chi ymrwymo i ni heddiw i wneud yn siŵr nad yw Cymru'n cael ei rhoi i’r naill ochr ar hyn?

Mae nifer o gwestiynau yno gan arweinydd yr wrthblaid. Ie, fy ngalwad i oedd y dylai'r BIC gyfarfod ymlaen llaw—galwais am hyn cyn y refferendwm ei hun, pan gyfarfu'r BIC yn Glasgow, y dylem gynnal BIC brys cyn gynted ag y bo modd, cyn gynted ag a oedd yn ymarferol bosibl, ar ôl canlyniad y refferendwm, a dyna'n union a ddigwyddodd. Mae gwahanol Lywodraethau mewn sefyllfaoedd gwahanol. Mae Ynys Manaw, er enghraifft, mewn sefyllfa lle mae ganddynt undeb tollau gyda’r DU, a, thrwy hynny, undeb tollau gyda'r UE. Byddant yn colli yr undeb tollau hwnnw gyda'r UE, ond nid ydynt yn gallu trafod yn uniongyrchol gyda'r UE, felly mae'n golygu eu bod yn ddibynnol ar Lywodraeth y DU, o bosibl, i drafod cytundeb gwahanol ar ei chyfer o'i gymharu â'r DU. Dyna un cymhlethdod a nodwyd ar yr adeg honno.

O ran y grŵp cynghori, mae cael y llythyrau gwahodd allan a'r bobl yn eu lle yn ystod mis Awst yn anodd—mae pobl i ffwrdd. Ond bydd y grŵp ei hun yn cyfarfod, fel y dywedais, y mis hwn. Rwy'n hyderus bod gennym y bobl iawn yn eu lle. Nid yr un bobl â’r rhai sy'n ymwneud â Bil Cymru ydynt, mae llawer o’r rhai hynny yn gyfreithwyr. Mae gennym nifer o staff uwch sydd â phrofiad o weithio ym Mrwsel, ac mae'r Ysgrifennydd Parhaol wedi cael y dasg o sicrhau bod gennym dîm cadarn a phrofiadol yn eu lle.

Mae'r un her yn wynebu Llywodraeth y DU. Nid oes gan Lywodraeth y DU unrhyw brofiad o drafod pan ddaw i gytundebau masnach rydd neu faterion trafod fel hyn gyda'r UE. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei hun yn chwilio am bobl a all ddatblygu’r arbenigedd hwn yn y dyfodol.

O ran y gwerth y bu cronfeydd yr UE i ni: yn fras, cyfanswm o £650 miliwn y flwyddyn. Rydym yn gwybod bod cymorthdaliadau ffermio eu hunain yn £260 miliwn. Nawr, gellir dadlau, am wn i, y byddai’r cyllid hwnnw wedi lleihau yn y dyfodol pe na fyddem yn gymwys ar gyfer y lefel uchaf o gronfeydd strwythurol, ond, serch hynny, rydym yn colli swm sylweddol o arian. Os edrychwn ar gymorthdaliadau ffermio, nid yw cymorthdaliadau ffermio yn dod dan fformiwla Barnett. Y canlyniad gwaethaf y gallem ei ddychmygu ar gyfer Cymru byddai i gymorthdaliadau ffermio gael eu talu ar sail Barnett. Byddai hynny'n doriad sylweddol yn y swm o arian a oedd ar gael i ffermwyr.

Materion fel ffermio a physgodfeydd sy'n dangos pam y mae angen agwedd wahanol tuag at bensaernïaeth gyfansoddiadol y DU. Mae angen cytuno, er enghraifft, ar gyfundrefnau iechyd anifeiliaid. Ni allwch gael pedair gwahanol gyfundrefn iechyd anifeiliaid. Nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr. Mae angen cytuno ar hynny. Mae angen cytuno ar sut y gallai cymorthdaliadau ffermio weithio ledled y DU. A oes sail ar gyfer nifer penodol o reolau cyffredin er bod y systemau yn wahanol iawn ledled y DU? Pan ddaw i bysgodfeydd, a fyddai dull cyffredin o reoli pysgodfeydd? Mae hynny i gyd wedi’i ddatganoli. Ac wrth gwrs, mae’r mater sylfaenol, sef na ddylai cymhwysedd yr UE, o dan unrhyw amgylchiadau, mewn maes sydd wedi’i ddatganoli, fynd yn y pen draw at Lywodraeth y DU. Dylai drosglwyddo yn syth at y Llywodraethau datganoledig. Rydym wedi gwneud y pwynt hwnnw yn glir iawn, iawn.

Mae Llywodraeth yr Alban yn yr un sefyllfa ag yr ydym ni. Hyd nes y byddwn yn gwybod safbwynt y DU mae'n anodd rhoi eglurder llwyr ar y ffordd ymlaen. Ond mae hi yn gofyn y cwestiwn ‘Beth yw'r gwahaniaeth rhwng mynediad at y farchnad sengl ac aelodaeth o’r farchnad sengl?’ Yn ymarferol, nid wyf yn siŵr bod llawer o wahaniaeth, ond mae aelodaeth o’r farchnad sengl yn awgrymu talu i mewn iddo. Mae'n awgrymu bod yn rhwym i reolau’r farchnad sengl a bod yn rhwym gan gyfarwyddebau’r Undeb Ewropeaidd. Dyna’r model Ardal Economaidd Ewropeaidd, ond mae hynny hefyd yn cynnwys symudiad rhydd o bobl, ac fe fydd hi’n gwybod, gystal â fi, bod hwnnw wedi bod yn fater arbennig o ddadleuol yn ymgyrch y refferendwm ei hun. Ar hyn o bryd, mewn theori, mae'n cyfeirio at gytundeb yn arddull masnach rydd, ond eto ni chaiff y pethau hyn eu gwneud o fewn dwy flynedd. Mae gan Canada gytundeb gyda'r UE sy'n rhoi mynediad—mynediad o bron i 100 y cant: 98 y cant o fynediad—at nwyddau a gwasanaethau o’r farchnad Ewropeaidd. Nid yw hi’n rhwym i gyfarwyddebau Ewrop. Nid yw hi’n rhwym i ddyfarniadau Llys Ewrop, ond, wrth gwrs, fel unrhyw un sy'n dymuno allforio i'r Undeb Ewropeaidd, mae'n rhwym i reolau'r Undeb Ewropeaidd os yw'n dymuno allforio yno. Nid oes modd osgoi hynny. Felly, i mi, ar hyn o bryd, mae'n ymddangos mai’r model cytundeb masnach rydd, oherwydd mater y symudiad rhydd o bobl, yw'r un a allai darparu ffordd ymlaen, er nad yw hynny'n hawdd ei drafod. O ystyried y ffaith mai ychydig iawn o amser sydd i wneud hyn, ac nad oes gan y DU yr arbenigedd, mae'n haws mewn theori nag y mae yn ymarferol. O dan yr amgylchiadau hynny mae’n rhaid i ni wedyn ystyried materion megis a yw model Cymdeithas Masnach Rydd Ewrop yn fwy priodol i ni yn hytrach na'r model Ardal Economaidd Ewropeaidd, yr wyf yn amau y byddai’n groes i farn llawer o bleidleiswyr yng Nghymru.

O ran yr hyn y mae'n ei olygu i Gymru a'i pherthynas â Llywodraethau eraill yn y DU, yr wyf wedi rhoi’r enghreifftiau ffermio a physgodfeydd, lle y mae angen pensaernïaeth newydd, ond, ar ddiwedd y dydd, byddwn ar ein colled o oddeutu £650 miliwn. Mae'r arian hwnnw yn eistedd gyda'r Trysorlys. Nid yw'r Trysorlys yn adnabyddus am ei haelioni cyn belled ag y mae Cymru yn y cwestiwn. Maent wedi gwrthod diwygio fformiwla Barnett ers 37 mlynedd, ac rydym yn gwybod nad yw hwnnw'n gwneud unrhyw ffafrau â Chymru. Rwy’n poeni am ddau beth: yn gyntaf, y byddant yn ceisio rhoi swm o arian i ni, er enghraifft ar gyfer cymorthdaliadau ffermio, sy'n adlewyrchu Barnett—nid yw hynny’n ddigon da—a hefyd y gallent geisio ymyrryd yn y ffordd y mae cronfeydd yn cael eu gwario yng Nghymru yn y dyfodol, ac ni fyddai’r naill na'r llall o'r rhain yn dderbyniol. Pam ei bod yn dal yn wir yn y DU, er enghraifft, mai’r Trysorlys yw’r barnwr a’r rheithgor pan fydd anghydfod ariannol rhwng gweinyddiaeth ddatganoledig a Llywodraeth y DU? Mae'r broses datrys anghydfod—. Os oes anghydfod rhyngom ni a'r Trysorlys, y broses o ddatrys hwnnw yn y pen draw yw bod y Trysorlys yn gwneud y penderfyniad. Nawr, mae gan Awstralia gomisiwn grantiau, sy'n datrys y broblem hon. Mae angen inni edrych ar ffyrdd o greu mwy o degwch a chonsensws pan ddaw i ariannu cenhedloedd cyfansoddol y DU ac nid ‘beth bynnag y mae’r Trysorlys yn ei ddweud sy’n cael ei weithredu’. Mae’n rhaid i hynny gael ei ddileu yn y dyfodol—ac mae hyn yn arbennig o bwysig, wrth gwrs, gyda Brexit.

O fy safbwynt i, rwy'n fwy na hapus â'r tîm gwasanaeth sifil sydd wedi ei sefydlu, y bensaernïaeth sydd wedi ei sefydlu, a hefyd y safbwyntiau yr ydym eisoes wedi cyflwyno am yr hyn sy’n hynod bwysig i Gymru mewn unrhyw drafodaethau yn y dyfodol. Ond mae'n rhaid i ni gael dealltwriaeth yn awr ar safbwynt Llywodraeth y DU. A yw Llywodraeth y DU yn ddibryder ynghylch tariffau, fel y mae David Davis? Dywedodd nad oedd ots am y tariffau oherwydd y byddai £2 biliwn yn cael ei godi mewn trethi—a delir gan y defnyddiwr wrth gwrs, oherwydd y defnyddiwr sy'n talu'r tariff, nid y busnes—ac nid oedd yn ymddangos yn arbennig o bryderus am yr hyn y byddai hynny'n ei olygu. Mae rhai, ar begwn eithaf y maes economeg, sydd o’r farn na ddylai fod gennym unrhyw rwystrau tariffau o gwbl, ni waeth beth y mae unrhyw farchnad arall yn ei wneud, ond eto, nid wyf yn credu y byddai’r rhan fwyaf o'n pobl ni yn ffafrio hynny.

Felly mae'r rhain i gyd yn faterion y bydd angen eu harchwilio yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd nesaf, ond mae'n amlwg i mi, cyn y Nadolig, bod angen i ni gael dealltwriaeth gan Lywodraeth y DU ar ei safbwynt ar fater y cyllido, ac yn enwedig ar fater y mynediad i’r farchnad. Yr hyn sy'n gwbl hanfodol i ni—cewch ei alw’n aelodaeth neu’n fynediad—yw bod ein busnesau yn gallu gwerthu eu nwyddau a'u gwasanaethau yn rhydd, heb dariffau, ym marchnad sengl Ewrop. Dyna, i ni, yn bendant yw hanfod y peth.

Diolch i chi am eich datganiad. Mae fy mhlaid i, y Ceidwadwyr Cymreig, o’r farn bod yn rhaid i Gymru elwa ar gymaint o arian, o leiaf, wrth i ni fynd ymlaen a byddwn yn parhau i nodi’r sylwadau hynny yn ein trafodaethau yma ac mewn mannau eraill.

Rydych yn dweud eich bod yn falch bod y Trysorlys wedi cyhoeddi y bydd y cyllid polisi amaethyddol cyffredin colofn 1 i ffermwyr wedi cael ei gytuno tan 2020 ond yn ychwanegu, cyn belled ag y mae CAP colofn 2 a chronfeydd strwythurol yn y cwestiwn, y bydd y Trysorlys ond yn gwarantu cyllid ar gyfer prosiectau sy’n cael eu cytuno'n ffurfiol cyn datganiad yr hydref. Fodd bynnag, roedd y briff a ddarparwyd i aelodau'r pwyllgor materion allanol ar gyfer y cyfarfod yr oeddech yn bresennol ynddo ddoe yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol y bydd y Trysorlys hefyd yn rhoi trefniadau ar waith ar gyfer asesu pa un a gwarantu cyllid ar gyfer prosiectau cronfeydd strwythurol a buddsoddi penodol a allai gael eu cadarnhau ar ôl datganiad yr hydref ond tra ein bod yn parhau i fod yn aelod o'r UE, a rhagor o fanylion i'w darparu cyn datganiad yr hydref. O ystyried pwysigrwydd y datganiad hwnnw a'r cyfeiriad dro ar ôl tro at y sefyllfa gennych chi yma ac mewn mannau eraill, a wnewch chi ein sicrhau ni, a rhoi tystiolaeth i ni, o ba drafodaethau yr ydych chi'n eu cael gyda'r Trysorlys cyn datganiad yr hydref ynghylch yr ymrwymiad hwnnw a wnaed?

Ddoe, unwaith eto, gofynnwyd i chi yn y pwyllgor materion allanol am y grŵp cynghori allanol. Rwy’n meddwl eich bod wedi dweud wrth fy nghydweithiwr, Suzy Davies, y byddech yn ceisio cynnwys pob parti ac amryw o asiantaethau eraill yn hynny. A wnewch chi ddarparu rhagor o fanylion ynglŷn â phryd y bydd hynny’n digwydd ac ar ba sail yr ydych yn bwriadu i hynny barhau? Rydych chi wedi cyfeirio at eich ymweliad â'r Unol Daleithiau gan ddweud y byddwch yn gwneud popeth i ddatblygu hyder yng Nghymru a thramor. Yn amlwg, yn eich araith ddydd Gwener diwethaf, dywedasoch fod Cymru ar agor ar gyfer busnes, ond soniasoch hefyd fod risg o niwed economaidd diangen i’n gwlad a’n dinasyddion. Cywirwch fi os ydw i'n anghywir, ond, fy nealltwriaeth yw eich bod ar ymgyrch werthu. Rwy'n gwybod o fy ngyrfa flaenorol fod pobl ar ymgyrch werthu—gwerthwyr—yn gwerthu'r buddion, gan esbonio mewn modd hyderus, galluog pam y bydd Cymru ar ôl Brexit yn parhau i fod yn lle gwych i wneud busnes. Rwy’n gwybod eich bod chi wedi cael rhywfaint o brofiad busnes o'r blaen, efallai llai o brofiad gwerthu o'r blaen, ond a ydych chi’n deall yr egwyddor sylfaenol honno o werthu a marchnata ac yn cadw hynny mewn cof wrth i chi fwrw ymlaen â thrafodaethau yn y dyfodol?

Rydych yn iawn i sôn am bwysigrwydd mynediad dilyffethair, parhaus at farchnad sengl a masnach rydd ar gyfer nwyddau a gwasanaethau. Ddoe, pan ofynnais i chi am gymryd rhan mewn trafodaethau cyn masnachu—o ystyried ein bod yn gwybod bod trafodaethau archwilio rhwng Prif Weinidog Awstralia a Llywodraeth y DU wedi eu cynnal yr wythnos ddiwethaf a bod gwledydd fel India, Mecsico, De Korea a Singapore wedi dweud wrth Lywodraeth y DU eu bod am gymryd rhan mewn trafodaethau am fasnach â’r Llywodraeth—onid yw hi ychydig bach yn rhy hwyr i aros i Lywodraeth y DU, ar ôl Brexit, ddechrau trafodaethau masnach ffurfiol? Oni ddylech chi fod yn ceisio cymryd rhan uniongyrchol yn y trafodaethau hynny, o gofio pwysigrwydd y materion i Gymru, fel y trafodwyd ddoe, megis tariffau cig oen Seland Newydd?

Gwnaethoch gyfeirio ddoe, ac rydych wedi gwneud hynny eto heddiw, at drafodwyr masnach. Fy nealltwriaeth i yw bod gan y DU tua 120 o drafodwyr masnach, yn rhan o dîm Comisiwn yr UE yn gweithio ym Mrwsel ar hyn o bryd, sy'n dychwelyd—credaf fod cytundeb wedi ei gyrraedd y byddant yn gweithio ar hyn gyda Llywodraeth y DU. Wrth gwrs, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei bod yn recriwtio sawl cant yn fwy yn fewnol yn y gwasanaeth sifil, gyda phrofiad perthnasol a hyfforddiant ychwanegol. Pa ymdrech yr ydych chi wedi'i wneud, neu y byddwch chi’n ei wneud, i geisio penodi rhai o'r trafodwyr hynny i fod mewn sefyllfa i gynghori, ymgysylltu a chynrychioli Llywodraeth Cymru yn rhan o dîm y DU? Y gobaith yw y byddai Llywodraeth y DU yn ymateb yn gadarnhaol i'r awgrym y gallai trafodwr o'r fath yn y sefyllfa honno fod o fudd i bawb.

Rydych chi’n iawn, ac rydym yn cytuno, nad oes unrhyw un yn y Cynulliad hwn yn dymuno byw mewn gwlad a ddiffinnir gan gyflogau isel neu ragolygon gwael. Pan rydych chi’n dweud nad yw gadael yr Undeb Ewropeaidd yn golygu gadael Ewrop ac yn llai fyth fod Cymru yn troi ei chefn ar Ewrop—mae Cymru, a bydd yn parhau i fod, yn rhan o Ewrop—mae hynny, wrth gwrs, yn cyd-fynd â sylwadau a wnaed gan yr Ysgrifennydd Tramor, rwy’n meddwl, wrth gyfarfod â’r Comisiwn ym Mrwsel yn eithaf diweddar. Felly, rydym yn croesawu hynny. Rydym ni hefyd, fel chi, yn rhoi gwerth uchel ar fynediad at farchnad sengl yr UE, ond rydym yn cydnabod bod mynediad at farchnadoedd yn broses ddwy ffordd, a bod llawer o genhedloedd yr UE, yn enwedig y rhai mwy o faint, yn dibynnu'n drwm ar y farchnad yng Nghymru a'r DU. A ydych chi felly'n cydnabod ei bod yn broses ddwy ffordd, a bod hyn, ar hyn o bryd, yn gêm gynnar, a'r ddwy ochr yn ceisio lleoli eu hunain a bod yn rhaid i ni ddefnyddio ein cryfderau, fel y bydd ein ffrindiau a'n partneriaid yn Ewrop yn ei wneud, er mwyn arwain at sefyllfa na fydd yn gwneud unrhyw niwed, gobeithio, i’r naill ochr neu’r llall, gan weithredu er budd pawb? Os byddwn yn cadw siarad am hyn fel dim ond ymbilwyr wrth fwrdd yr ymerawdwr, dyna’n union sut y cawn ein trin.

Yn amlwg, yn y pen draw, ein nod ni hefyd fydd cau'r bwlch ffyniant rhwng Cymru a gwledydd Ewrop. Mae'n eironig bod mynediad i Gymru at rai o ffrydiau cyllid yr UE, yn enwedig cyllid strwythurol, yn sgil y ffaith bod bwlch ffyniant Cymru gyda'r UE a gweddill y DU mewn gwirionedd yn ehangu ers derbyn y cronfeydd. Felly, sut fyddwch chi’n ceisio defnyddio’r trafodaethau a’r gwaith o ad-drefnu polisïau ar ôl y trafodaethau i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd i droi’r bwlch hwnnw yn y gwerth ychwanegol gros a’r bwlch ffyniant sydd wedi lledu yn fwlch culach sy’n cyrraedd y cymunedau hynny, i raddau helaeth, a bleidleisiodd o blaid Brexit? Unwaith eto, yr oedd hwn yn rhywbeth y cyfeiriwyd ato yn y pwyllgor ddoe.

Gwnaethoch sôn yn fyr am Lywodraeth yr Alban a’ch barn ei bod yn annhebygol y byddai yna gytundeb annibynnol oherwydd y sensitifrwydd yn Sbaen ac mewn mannau eraill. A ydych chi’n cytuno â mi, pe byddai’r Alban yn trafod fel cenedl annibynnol, y byddai'n ofynnol iddynt fynd i mewn i ardal yr ewro fel cenedl ardal yr ewro, sy'n rhan o reolau aelodaeth y clwb ar hyn o bryd?

Yn olaf, byddaf yn cyfeirio’n gyflym at amaethyddiaeth—rhywbeth sy'n hanfodol bwysig ond nad wyf wedi cyfeirio ato hyd yn hyn. Yn sioe Dinbych a’r Fflint, roedd panel Undeb Amaethwyr Cymru yn unfrydol yn eu penderfyniad y dylid ystyried y penderfyniad i adael yr UE yn gyfle i lunio dyfodol sy'n addas i ffermwyr Cymru, nid dim ond y rhai hynny ar draws y Sianel. Ar ôl y trafodaethau, dywedodd eu rheolwr gyfarwyddwr ‘Does dim pwynt edrych yn ôl, mae'n rhaid i ni yn awr ganolbwyntio ar y dyfodol a chydnabod y cyfle gwych i ni lunio ein dyfodol ein hunain, un sy'n gweddu amaethyddiaeth Cymru a phobl Prydain.’ Dywedwyd hefyd, os na fyddwn yn newid ein polisi ynglŷn â rheoli TB mewn gwartheg mewn bywyd gwyllt, bod ein hallforion i'r Undeb Ewropeaidd mewn byd ôl-Brexit dan fygythiad sylweddol. Felly, pa drafodaethau yr ydych chi neu eich Llywodraeth wedi'u cael, neu y byddwch chi’n eu cael, gydag Undeb Amaethwyr Cymru ac Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ynglŷn â dechrau trafodaethau ar y sail gadarnhaol honno ac adlewyrchu’r pryderon a’r rhwystrau gwirioneddol y maent wedi eu nodi?

Cafwyd sawl cwestiwn gan yr Aelod. Yn gyntaf oll, o ran cyhoeddiad y Trysorlys, yr hyn y maent wedi'i ddweud yw y byddant yn ariannu unrhyw brosiect sy’n cael ei gymeradwyo cyn y datganiad. Mae dadl yn parhau ar hyn o bryd o ran yr hyn y mae 'cadarnhau' yn ei olygu. Felly, nid yw'n hynod o glir beth yw’r dyddiad cau, er bod yr ymrwymiad yn amlwg. Pan mae'n sôn am golofn 2 a phrosiectau sy'n cael eu cymeradwyo ar ôl i ddatganiad yr hydref gael ei asesu, ffordd y Trysorlys o ddweud ‘Bydd yn rhaid i chi ymbil arnom am yr arian’ yw hynny. Beth mae'n ei olygu yw na fyddwn yn derbyn unrhyw sicrwydd o gwbl y bydd arian a fyddai wedi dod i Gymru fel hawl yn flaenorol yn dod i Gymru o gwbl, gan y bydd y Trysorlys yn ei reoli, yn ôl y rheolau y mae'r Trysorlys ei hun yn eu pennu, a heb unrhyw fath o esboniad. Dyna beth y maent yn ei olygu wrth hynny. Felly, ni allwn roi unrhyw sicrwydd o gwbl y byddwn yn cael ceiniog ar ôl i’r cyfnod cymeradwyo fynd heibio. Bydd ar sail achos unigol, yn ôl y Trysorlys, a byddant yn penderfynu a fydd arian a ddaeth yn awtomatig ar un adeg yn dod o gwbl yn y dyfodol.

O ran y Grŵp Cynghori ar Ewrop, rwy’n ymwybodol nad yw’n gallu cynnwys pobl a oedd ar un ochr ymgyrch y refferendwm yn unig. Felly, bydd angen sicrhau bod y bobl yn y Grŵp yn adlewyrchu’r gwahaniaeth barn, nid dim ond un farn unigol ynghylch y dyfodol. O ran magu hyder, wel, mae'n sôn wrthyf i am ‘ddawn gwerthu’ yn ei eiriau ef, heb ddweud y byddai Brexit wedi bod yr hyn sy'n cyfateb i rywun yn gofyn i mi ‘Wel, faint yw eich cynnyrch?’ a fi yn dweud 'ni allaf ddweud hynny wrthych’ gan fod pob busnes unigol yn dymuno gwybod beth oedd yn digwydd ar ôl Brexit. Byddai pob busnes unigol eisiau gwybod beth yw fy marn i ar fynediad at y farchnad sengl a minnau’n dweud 'Wel, ni allaf ddweud hynny, nid wyf am ddweud wrthych' wedi ymddangos, wel, gallwch ddychmygu sut y byddai hynny’n ymddangos. Felly, roedd yn hynod o bwysig i ddweud wrth gynulleidfa yn yr Unol Daleithiau bod Llywodraeth Cymru yn credu bod mynediad dilyffethair at y farchnad sengl yn bwysig dros ben. Dywedodd pob busnes y siaradais ag ef hynny, oherwydd, fel yr wyf wedi ei ddweud o'r blaen, bod eu busnesau yn weithrediadau Ewropeaidd nid yn weithrediadau yn y DU. Os oes rhwystr rhwng y DU a'r gweithrediadau llawer mwy sydd ganddynt yn Ewrop, y DU fydd yn dioddef o ganlyniad i hynny. Mae angen i ni osgoi hynny ar bob cyfrif.

O ran y materion eraill a gododd, ar drafodaethau cyn masnachu, mae llawer o adroddiadau wedi bod yn y papurau am wledydd yn dod at y DU. Gwlad yr Iâ oedd y cyntaf. Rwyf wedi gweld llawer iawn o rai eraill. Y gwir amdani yw nad oes unrhyw beth wedi digwydd eto a byddem yn disgwyl, wrth gwrs, i fod yn rhan o unrhyw drafodaethau ar gytundebau masnach rydd. Maent yn cymryd blynyddoedd i’w trafod—10 mlynedd, fel arfer, i gytuno arnynt. Mae'r awgrym y gallai'r DU ail-drafod tua 50 o gytundebau masnach rydd mewn dwy flynedd—ni allaf ddychmygu y byddai hynny'n bosibl, yn enwedig yn erbyn gwledydd sy'n drafodwyr masnach profiadol. Felly, mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod yn cydbwyso yr hyn sy'n angenrheidiol gyda’r hyn sy’n wirionedd bosibl. Ar hyn o bryd, mae'r DU yn dal i fod yng nghanol y broses o lunio tîm trafod. Mae'n bell iawn o fod mewn sefyllfa i allu trafod cytundeb masnach rydd gyda bloc masnachu neu wlad arall, a dyna pam y mae damcaniaeth yr hyn y soniais amdano yn gynharach wrth arweinydd yr wrthblaid yn iawn, ond yn ymarferol mae’n llawer mwy anodd ar hyn o bryd.

O ran y farchnad sengl, ie, mae'n rhaid iddo fod y ddwy ffordd ac mae'n dibynnu pwy ydych chi. Os mai Aston Martin neu Jaguar Land Rover ydych chi, mewn gwirionedd efallai na fydd tariffau yn gwneud cymaint â hynny o wahaniaeth i chi. Os mai BMW ydych chi, mewn gwirionedd—bydd pobl yn dal i brynu ceir BMW, tariff neu beidio, os ydynt yn dod o'r Almaen. Ond, os ydych chi’n wneuthurwr ceir fel Nissan neu Ford, mae'n gwneud gwahaniaeth mawr oherwydd y mae hynny o bosibl yn ychwanegu’n fawr at gost y ceir yr ydych yn eu gwerthu, ac yr ydych yn eu gwerthu fel swmp. Felly, y cynhyrchwyr ceir swmp a fyddai’n dioddef fwyaf gyda thariffau, tra byddai ceir crand—i siarad yn blaen, os gallwch chi fforddio prynu Aston Martin, efallai nad yw 10 y cant ychwanegol yn mynd i fod yn anodd i chi. Ond, byddai'n gwneud gwahaniaeth mawr os ydych chi’n gobeithio prynu Ford yn y DU o'i gymharu â Ford ar gyfandir Ewrop. Felly, nid oes angen tariffau arnom ni. Mae angen i ni wneud yn siŵr nad oes tariffau ar waith ac nid wyf yn meddwl bod neb yn dadlau’n rhagweithiol dros dariffau beth bynnag. Cofiwch ar gyfer 60 miliwn y DU, ar y pwynt hwnnw bydd yr UE yn 440 miliwn. Nid ydym yn sôn am ddau floc cyfartal yma. Rydym ni’n sôn am sicrhau ein bod yn cael cymaint o gydraddoldeb â phosibl, ond nid yw fel petai ein bod ni yr un maint.

O ran y materion eraill y crybwyllodd, ydy, mae mynediad at y farchnad yn hynod bwysig i ffermwyr ac, ydy, mae cyfle i ail-lunio polisi amaethyddol, ond mae angen yr arian arnom. Os nad oes gennym dimau goch i dalu ffermwyr ar ôl 2020, gallai fod gennym y system gymorth amaethyddol orau yn y byd, ond dim ceiniog i dalu amdano. Felly, y mae'n rhaid datrys hynny ar draws y DU gan y pedair Llywodraeth yn y DU. Y peth olaf y mae ein ffermwyr ei eisiau—ein cynhyrchwyr cig oen yn arbennig—yw tariff 15 y cant ar gig oen sy’n cael ei werthu i’r Undeb Ewropeaidd. Ydy, mae'n gynnyrch o fri ond bydd yn dal i gael effaith ar y gwerthiant yn ein marchnad fwyaf ar gyfer cig oen. Felly, mae dyfodol ffermio yn dibynnu ar osgoi tariffau, fel y mae ym maes gweithgynhyrchu ac unrhyw sector arall o'r economi, ac mae’n rhaid i hynny fod y llinell sylfaen. Os ydym yn mynd i sefyllfa lle mae'r DU yn ei chanfod ei hun yn ddarostyngedig i reolau Sefydliad Masnach y Byd, bydd hynny yn ei gwneud yn fwy anodd i ddenu buddsoddiad. Pam fyddai buddsoddwyr yn ystyried y farchnad Ewropeaidd ac yn buddsoddi yn y DU yn hytrach nag yn yr Undeb Ewropeaidd lle gallant symud eu nwyddau a’u gwasanaethau o gwmpas heb unrhyw fath o rwystrau tariff? Dyna beth y mae’n rhaid i ni ei osgoi yn y dyfodol ac, fel y dywedais, nid wyf i’n credu bod unrhyw un wedi dadlau’n rhagweithiol dros dariffau beth bynnag. Gadewch i ni eu hosgoi.

Yr wyf i’n croesawu'r datganiad ac rwyf yn croesawu atebion y Prif Weinidog hyd yn oed mwy, a oedd, yn fy marn i, yn ystyriol iawn, i arweinydd yr wrthblaid, yn enwedig ei awgrym mai’r model masnach sy'n cynnig y cwmpas gorau ar gyfer ffyniant Cymru yn y dyfodol. Rwyf hefyd yn croesawu ei ddatganiad na ellir anwybyddu canlyniad y refferendwm ac na ddylid gwneud hynny, ac rwyf yn casglu bod hynny’n golygu nad oes troi’n ôl ar ganlyniad y refferendwm, sy'n ei wahaniaethu ef, ar unrhyw gyfrif, o arweinydd Plaid Cymru, sydd wedi bod yn sôn am ei ail-gynnal, ac, yn wir, arweinydd tybiedig ei blaid ei hun, ar ffurf Owen Smith, sydd yn gyson yn sôn am ail-gynnal y refferendwm. Felly, rwy’n gobeithio ei fod yn mynd i bleidleisio dros y dyn cywir yng nghystadleuaeth arweinyddiaeth y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, yr ydym i gyd yn fy mhlaid i yn ei gefnogi i'r carn, oherwydd ei fod ef ar unrhyw gyfrif—. [Torri ar draws.] Ei fod ef ar unrhyw gyfrif wedi derbyn bod canlyniad y refferendwm yn un sy’n rhwymo.

Rwyf yn cytuno hefyd â'r Prif Weinidog pan ddywed y byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i fagu hyder yng Nghymru, ond mae gen i ofn nad yw’r cwynion a glywn yn rhy aml gan Brif Weinidog Cymru, megis y ffordd y cafodd ei araith yn Chicago ei adrodd, mewn gwirionedd, yn gwneud unrhyw beth i helpu i fagu hyder yng Nghymru. Fel yr oedd Mark Isherwood yn dweud, pan rydych chi’n werthwr rydych chi’n mynd allan yno ac yn gwerthu eich cynnyrch—nid ydych yn sôn am yr anfanteision nac yn pwysleisio’r anawsterau. Oes, mae yna heriau o ran Brexit, wrth gwrs—mae bywyd yn llawn ansicrwydd, o ran a ydym yn aros y tu mewn i'r UE neu a ydym y tu allan iddo—ond mae yna gyfleoedd hefyd. Beth am ganolbwyntio ar y cyfleoedd yn ogystal? Mae cymaint o ddeddfwriaeth Ewropeaidd y mae’n ofynnol i ni ei gweithredu a glynu ati, fel y gyfarwyddeb ynni adnewyddadwy, y gyfarwyddeb tirlenwi, ar ardrethi busnes a rheoliadau cymorth gwladol, ac yn y blaen. Mae gennym gymaint mwy o hyblygrwydd y tu allan i'r UE i leihau costau busnes a lleihau'r rhwystrau sy’n bodoli i greu cyfoeth yng Nghymru. Felly, beth am siarad ychydig mwy am y cyfleoedd ac ychydig yn llai am yr heriau?

O ran y Grŵp Cynghori ar Ewrop, daeth datganiad y Prif Weinidog i ben ar nodyn uchel, lle mae'n dweud

‘ac mae'r materion a godwyd hyd yn hyn yn mynd ymhell y tu hwnt i fuddiannau unrhyw Lywodraeth benodol.’

Mae'n hollol gywir yn hynny. Ac mae'n syndod, felly, er ei fod wedi dod i ryw gytundeb bach cysurus â Phlaid Cymru i roi mynediad ffafriol iddynt i'r farchnad syniadau benodol hon, mae arweinydd y blaid Geidwadol a minnau sydd wir yn credu yn y canlyniad y pleidleisiodd pobl Cymru drosto yn y refferendwm hwn, wrth gwrs, wedi ein heithrio. Nid wyf yn dweud hyn o ganlyniad i unrhyw awydd ar fy rhan i i ychwanegu beichiau pwyllgor ychwanegol at fy mywyd, ond mae'n hanfodol bwysig bod y Grŵp Cynghori ar Ewrop yn cynnwys pobl sy'n eiriolwyr effeithiol o blaid y canlyniad y pleidleisiodd pobl Cymru drosto, ac sy’n awyddus i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd sydd ar gael i ni. Felly, hoffwn ddweud, ac rwy'n siŵr fy mod yn siarad ar ran Andrew Davies, yn ogystal, ein bod yn sicrhau ein bod ar gael i’r Prif Weinidog, yn hyn o beth os nad yn unrhyw beth arall.

O ran y gwahanol fodelau—

O ran y gwahanol fodelau o’r dyfodol y cyfeiriodd y Prif Weinidog atynt, mae bob amser yn beryglus pan fo dynion canol oed, wrth gwrs, yn ymhél â modelau—mae fel arfer yn dod i ddiwedd gwael. [Torri ar draws.]

Ond cefais fy annog gan yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog yn ei ymateb i arweinydd yr wrthblaid, oherwydd nid oes angen i ni fabwysiadu unrhyw fodelau sydd eisoes yn bodoli. Yr hyn sydd ei angen arnom yw ateb sydd wedi ei gynllunio gan Brydain ar gyfer y dyfodol.

Neu un Cymreig o ran hynny, ie, ond nid yw eich plaid chi eich hun hyd yn oed yn credu mewn annibyniaeth bellach, felly nid yw hynny'n cael ei gynnig. Felly, y cyfle y mae hyn yn ei roi i ni, wrth gwrs, yw i wneud bargen masnach rydd â’r UE, a hefyd cytundebau masnach rydd â gweddill y byd, ac maent yn awyddus i wneud y cytundebau hyn â ni. Ni allaf ddeall pesimistiaeth y Prif Weinidog o ran yr amser y mae hyn yn mynd i’w gymryd. Felly, yr hyn yr wyf yn gofyn iddo ei wneud yw rhoi mwy o gefnogaeth i’r syniad o ateb masnach rydd yn y trafodaethau sy’n mynd rhagddynt yn awr.

O ran y pethau negyddol eraill a ddywedodd, pam ei fod yn dal i roi sylw i'r syniad ei bod yn bosibl i ni wahaniaethu yn erbyn dinasyddion yr UE ar ôl Brexit, pan ei fod yn gwybod bod hawliau dinasyddion yr UE wedi eu gwarchod yn llawn dan gytundeb 1969 Fienna ar hawliau gwladolion aelodau sydd wedi cytuno iddo? Nid oes troi’n ôl ar hynny ac mae Llywodraeth y DU, rwy’n credu, eisoes wedi gwneud y sefyllfa honno yn glir.

Ac o ran dyfodol tariffau o fewn yr UE, ni allaf ddeall pam y mae’n meddwl bod tariffau ar fewnforion ac allforion rhwng Prydain a'r UE mewn gwirionedd yn fygythiad difrifol i ni. Os edrychwn ar yr Almaen fel enghraifft, rydym yn allforio gwerth £29 biliwn o nwyddau iddynt bob blwyddyn, ond maent yn allforio dwywaith hynny i ni—£57 biliwn. Felly, mae ef wedi bod yn siarad am ei drafodaethau â Llywodraeth y DU, ond beth am sefydlu rhai trefniadau i siarad â Llywodraeth yr Almaen a Llywodraethau eraill sy'n ffafrio ateb masnach rydd ar gyfer eu hunain yn ogystal ag ar gyfer y DU o fewn i'r Undeb Ewropeaidd a thu hwnt? Pa gamau y mae wedi eu cymryd i gychwyn trafodaethau â Llywodraeth yr Almaen, oherwydd y flwyddyn nesaf ceir etholiad yn yr Almaen ac nid wyf yn credu y bydd Canghellor yr Almaen am ddechrau'r etholiad hwnnw yn dweud bod posibilrwydd y bydd tariff o 10 y cant neu 15 y cant ar allforion BMW, Mercedes, Volkswagen ac ati i'r UE. Felly, yr hyn yr wyf yn ei ofyn i'r Prif Weinidog yw i fod yn fwy cadarnhaol, i ganolbwyntio ar y cyfleoedd sydd o'n blaenau fel y gallwn fanteisio i’r eithaf ar ganlyniad y refferendwm.

Wel, ie, rwy’n derbyn y pwynt am ystyried y cyfleoedd. Mae cyfleoedd o ran cymorth y wladwriaeth, o bosibl, er enghraifft. Os nad ydym yn rhan o'r strwythur presennol, yna, wrth gwrs, nid yw’r cyfyngiadau sydd yno ar hyn o bryd yno bellach—mae hynny’n wir—ond ni allwn anwybyddu'r peryglon a meddwl y byddant yn diflannu’n rhwydd. Soniodd am rai o'r cyfarwyddebau sy'n dod i ni, a'r gyfarwyddeb tirlenwi fyddai’r un olaf y byddwn i wedi ei dewis yn ôl pob tebyg, oherwydd bod y gyfarwyddeb tirlenwi wedi gwneud yn siŵr nad ydym wedi gweld ein gwlad wedi’i gorchuddio â safleoedd tirlenwi. Os yw'n dymuno gweld mwy ohonynt a’i fod yn fodlon ac yn fwy na pharod i wneud yr achos hwnnw ar gyfer pobl Cymru—. Nid yw’n opsiwn di-boen. Un o'r materion a oedd yn fy mhoeni yn ystod ymgyrch y refferendwm oedd yr awgrym, rywsut, fod hyn i gyd yn ddi-boen ac y bydd popeth yn iawn yn y diwedd ac nad oes yn rhaid i ni boeni. Wel, mae llawer o waith i'w wneud yn y cyfamser. Oes, mae gwledydd yn awyddus, efallai, i chwilio am gytundebau masnach rydd â'r DU, ac yn naturiol byddent yn gwneud hynny, gan y bydd y DU y tu allan i'r UE; nid yw’n syndod y byddent yn gwneud hynny. Rydym hefyd yn gwybod bod y DU yn agored i niwed, gan nad oes ganddi unrhyw brofiad o drafod cytundebau masnach rydd ar hyn o bryd, felly mae'n rhaid i ni amddiffyn ein hunain yn erbyn gwledydd eraill a allai fanteisio efallai ar y DU ei hun.

Mae'n sôn am yr Almaen. Y realiti yw bod marchnad allforio’r Almaen yn enfawr. Mae ei allforion i’r UE, mae'n wir, yn fwy o ran y maint a gaiff ei allforio i’r DU na’r hyn yr ydym ni’n ei allforio iddynt hwy, ond mae canran uwch o allforion y DU yn mynd i'r UE na'r ffordd arall o gwmpas, felly mae'n gwbl hanfodol i ni wneud yn siŵr ein bod yn cael mynediad at y farchnad allforio. Ni fydd yr Almaen yn siarad â'r DU ar ei phen ei hun; ni fydd yr Almaen ond yn siarad â'r Undeb Ewropeaidd—maent yn rhan ohoni. Mae’n rhaid i unrhyw gytundeb gael ei gytuno gan y 27 o aelod-wladwriaethau sy'n weddill, yn ogystal â Senedd Ewrop, felly gadewch i ni beidio â diystyru pa mor anodd y gallai hyn fod.

Nawr, mae'n ymddangos i mi nad oes neb am gael tariffau yn yr un modd ag nad oes neb un am weld ffin galed yn cael ei chodi rhwng Gogledd Iwerddon a’r Weriniaeth, ond, mewn gwirionedd, nid oes neb yn gwybod sut i osgoi ei hail-sefydlu, oherwydd byddai dwy ran o ynys â gwahanol bolisïau mewnfudo—un â symudiad rhydd ac un heb, yn ôl pob tebyg. Bydd rheoliadau gwahanol ar y ddwy ochr i’r ffin. Byddai mynediad at bysgodfeydd yn cael ei gyfyngu. Byddai gwahanol dollau yn ddyledus. Dywedodd pobl wrthyf ar garreg y drws, ‘Rydym am reoli ein ffiniau. ’ Ni ellir gwneud hynny oni bai eich bod yn rheoli'r ffin â’r Weriniaeth. Felly, mae nifer o faterion y mae'n rhaid eu datrys yn Iwerddon, hyd yn oed os nad oes neb am weld y ffin yn dod yn ôl. Yr hyn yr wyf i am ei osgoi yw, er nad yw neb am weld y tariffau yn dod yn eu holau, bod hynny’n digwydd beth bynnag, gan nad oes neb wedi gwneud gwaith i'w hatal rhag dod yn ôl. Mae hynny'n golygu bod llawer iawn o waith eto i'w wneud; nid yw mor hawdd â hynny. Mae llawer iawn o waith eto i'w wneud er mwyn osgoi unrhyw fath o dariffau yn y dyfodol.

Mae holl lefarwyr y gwrthbleidiau wedi siarad erbyn hyn ac rydym wedi cael cyfraniadau eithaf hir gan y rhan fwyaf ohonynt. Mae gen i lawer o bobl sydd yn dal yn awyddus i ofyn cwestiynau yn y datganiad hwn. Mae’r amser bron â bod ar ben yn barod, felly os gallaf gael cwestiynau cryno, byr iawn gan rai ohonoch, byddaf yn galw arnoch, ac ymatebion byr gan y Prif Weinidog yn ogystal, ond ni fyddaf yn gallu galw pob un ohonoch a fynegodd diddordeb yn y datganiad hwn y prynhawn yma. Huw Irranca-Davies.

Diolch, Lywydd. Byddaf yn wir yn cadw fy sylwadau'n fyr iawn. Gwnaeth un foment benodol yn y datganiad fy nharo i a rhai pobl eraill ar y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, ac roedd tua diwedd y datganiad, pan ddywedodd y Prif Weinidog:

‘Wrth i ni ystyried perthynas sydd wedi’i newid gyda'n cymdogion yn Ewrop, mae'n rhaid i ni hefyd ystyried perthynas sydd wedi’i newid yma yn y DU.’

Mae'n mynd ymlaen ar ddiwedd y paragraff hwnnw i ddweud:

‘Mae angen i ni gadw dychymyg a meddwl agored i ddatblygu DU newydd, ddeinamig a chadarn.’

A yw o’r farn bod yna feddwl agored yn hyn o beth, ac os nad oes, sut ydym ni’n agor meddyliau pobl?

Nid wyf yn siŵr eu bod yn agored yn fwriadol. Rwy'n credu eu bod yn cael eu cadw ar agor oherwydd y sefyllfa yn yr Alban, ond yr wyf i yn sicr yn gobeithio y byddant yn parhau i fod yn agored am gyhyd ag y bo modd.

Yr oeddwn yn gobeithio y byddai safbwynt Llywodraeth Cymru yn cael ei egluro, ond rwy'n fwy dryslyd nawr nag erioed o’r blaen. Roedd yn ymddangos bod y Prif Weinidog yn mabwysiadu polisi cyfan UKIP, gan lamu dros y Ceidwadwyr a chyhoeddi ei fod o blaid cytundeb masnach rydd, oherwydd byddai aelodaeth o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd yn gofyn am ryddid i symud. Nid yw hynny'n swnio fel arweinyddiaeth; mae hynny'n swnio fel ildio i mi. Felly, os ydw i'n anghywir, efallai y gall y Prif Weinidog egluro'r sefyllfa.

Yn benodol o ran y dull pedair cenedl, a yw’n diystyru’r posibilrwydd o Brexit anghymesur, os dymunwch chi? Clywsom am flynyddoedd lawer am optio allan o reolau Ewrop. A allem gael sefyllfa lle, os byddai budd cenedlaethol Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn wahanol, bod gennym drefniadau optio i mewn i reoliadau amgylcheddol, i hawliau gweithwyr, a pherthynas wahanol â’r sefydliadau Ewropeaidd a allai o bosibl gael eu dewis ar gyfer Lloegr? Ac yn olaf, er mwyn caniatáu trafodaeth lawn ac eang, lle y gallai’r buddiannau cenedlaethol dargyfeiriol hynny gael eu mynegi yn y cyfnod sy’n arwain at weithredu erthygl 50, ond hefyd yn bwysicaf fyth yn y trafodaethau ar ôl hynny, ai nawr yw’r amser i adolygu'r concordat ar faterion yr UE rhwng y deddfwrfeydd datganoledig a Llywodraeth y DU er mwyn, mewn gwirionedd, i’r gwahanol safbwyntiau hynny gael eu mynegi yn gyhoeddus ond hefyd mewn trafodaethau â sefydliadau'r UE?

Nid oes unrhyw rwystr i fynegi gwahanol safbwyntiau; rwyf i wedi gwneud hynny eisoes lawer, lawer gwaith, felly gallaf sicrhau'r Aelod bod hynny’n wir. O ran y pedair gwlad, nid yw'n bosibl—yn sicr mae’r arwyddion yn dangos hynny—bod unrhyw ffordd, er enghraifft, y gall yr Alban gael perthynas wahanol â’r UE tra'i bod y tu allan iddo o'i gymharu â'r DU cyfan. Barn Llywodraeth yr Alban yw bod annibyniaeth yn dal i fod yn bosibl. Mae dadl dros ddweud, pe byddai’r Alban yn pleidleisio dros annibyniaeth o fewn y cyfnod o ddwy flynedd yn dilyn sbarduno erthygl 50, y byddai’r Alban, yn syml, yn parhau i fod yn aelod o’r DU. Ni fyddai’n rhaid iddi ailymgeisio nac ymuno ag ardal yr ewro. Byddaf yn gadael hynny i gyfreithwyr cyfansoddiadol, yr wyf wedi mwynhau eu cwmni yn fawr dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Ond cyn gynted ag y bydd yr Alban yn gadael, byddai ei hail-fynediad i'r UE, pe byddai’r Alban yn wladwriaeth annibynnol, yn golygu ei bod yn ymuno ag ardal yr ewro—nid oes unrhyw eithriadau wedi bod.

O ran i ble yr ydym yn mynd nesaf, fel fi, y mae’n rhaid iddo dderbyn canlyniad y refferendwm. Nid oes unrhyw bwynt esgus bod y bleidlais wedi bod yn wahanol, ac rwyf i, fel yntau, yn gwbl ymwybodol bod llawer o bobl wedi dweud ar garreg y drws, ‘Nid ydym yn hoffi symudiad rhydd pobl’, ac felly mae'n rhaid i ni dderbyn mai dyna'r ffordd y mae pobl yn teimlo ar hyn o bryd. Yn yr un modd, nid wyf yn credu y byddai'n ddefnyddiol i ni fod mewn sefyllfa lle yr oedd yn rhaid i ni weithredu cyfarwyddebau'r UE heb unrhyw fath o hawl i gyfrannu atynt, sy'n ei gwneud yn anodd, gan edrych ar y model Ardal Economaidd Ewropeaidd. Mae nifer o fodelau y mae angen inni eu harchwilio. Mae'n rhaid i ni gadw mewn cof yr hyn a ddywedodd pobl wrthym mewn gwirionedd, nid yr hyn y byddai ef a minnau wedi gobeithio eu bod wedi ei ddweud, er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn cyrraedd sefyllfa sydd er budd busnesau Cymru.

Byddaf yn ei gadw’n eithaf byr, gan ein bod yn brin o amser. Brif Weinidog, a ydych chi’n cytuno ag ymgeisydd ar gyfer arweinyddiaeth eich plaid a’r AS dros Bontypridd, Owen Smith, y dylem wrthod ewyllys democrataidd pobl Cymru a'r Deyrnas Unedig ac ailymuno â'r UE, mabwysiadu'r ewro a chael ffiniau agored drwy'r parth Schengen?

Nac ydw, dim mwy nag yr wyf yn credu y dylai fod refferendwm arall ar ddatganoli.

Brif Weinidog, diolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma. A gaf ofyn am eglurder, os gwelwch yn dda, ar un maes allweddol? Rydych chi’n cytuno i, ac rwy’n meddwl ein bod ni i gyd yn cytuno i symudiad mor rhydd â phosibl o nwyddau a gwasanaethau, oherwydd bod masnach yn dda ar gyfer unrhyw wlad, a'r mwyaf o rwystrau y byddwch yn eu rhoi ar waith, y lleiaf o gyfleoedd gwaith a’r lleiaf o ffyniant yr ydych chi’n ei greu. Yn sgil y refferendwm, rhoesoch ddatganiad clir iawn—yn wir, yr oedd yn y trydydd pwynt o chwech y gwnaethoch ddweud ei bod yn hanfodol ein bod hefyd yn cadw symudiad rhydd o bobl yn yr amod. Dywedwyd hynny ar 24 Mehefin yn rhan o’r chwe phwynt y dywedasoch chi oedd yn amlinellu safbwynt Llywodraeth Cymru. Mae’n rhaid i mi ddweud, ers hynny, ac yn arbennig ar ôl eich cynhadledd i'r wasg ddiwedd mis Awst, rydych chi wedi dweud mai safbwynt Llywodraeth Cymru yn awr yw peidio â gwneud yr un gofynion o system Ewrop o ran rhyddid i symud. Mae’n awyddus i gadw nwyddau a gwasanaethau, ond nid oedd symudiad rhydd o bobl, ac rwyf yn dyfynnu hyn o erthygl, bellach yr un o’r gofynion yr oeddech yn eu disgwyl o'r ail-drafod. Felly, mae yna newid sylweddol yn safbwynt Llywodraeth Cymru o’r hyn a nodwyd gennych yn y chwe phwynt allweddol a amlinellwyd gennych yn y dechrau, ar ddiwedd mis Mehefin/dechrau mis Gorffennaf, i safbwynt y Llywodraeth ar hyn o bryd. A allwch chi gadarnhau bod hyn yn wir, os gwelwch yn dda?

Rwy'n credu ei bod yn anochel bod symudiad rhydd o bobl yn fater dadleuol. Rwy'n credu y byddai'n anodd awgrymu bod pobl wedi pleidleisio o blaid symudiad rhydd o bobl—o ystyried fy mod wedi clywed hynny gymaint o weithiau ar garreg y drws—gan iddynt bleidleisio i adael yr UE. Rhan o'r broblem yw na allwn gael rhestr lawn o’r rhesymau pam fod pobl wedi penderfynu gadael yr UE. Rwy’n clywed yr hyn y mae Plaid Cymru yn ei ddweud, ond mae’n rhaid i chi dderbyn yr hyn a ddywedodd y refferendwm, ac mae'n rhaid i ni geisio deall yr hyn y mae ar bobl Cymru ei eisiau a cheisio dod o hyd i ffordd ymlaen y bydd y mwyafrif o bobl Cymru mewn gwirionedd yn awyddus i’w chefnogi. I mi, yr hyn sy’n hynod bwysig yw symudiad rhydd o nwyddau a gwasanaethau a mynediad at y farchnad sengl. Mae’n sicr, heb hynny, na all busnesau Cymru ac economi Cymru ffynnu. Tu hwnt i hynny, wrth gwrs, mae nifer o bwyntiau trafod na ellir eu datrys yr wythnos hon na’r mis nesaf, na’r mis ar ôl hynny, ond bydd angen eu datrys yn ystod y cyfnod o ddwy flynedd yn dilyn sbarduno erthygl 50.

Byddwn yn cytuno â'r Prif Weinidog bod angen i Gymru gael effaith ar y trafodaethau Brexit—ni ddylid eu gadael i gyd i'r Llywodraeth yn San Steffan—ond mae anfon unrhyw un o'r Ewrop-garwyr sy'n llenwi Llywodraeth Cymru i gynrychioli Cymru yn y trafodaethau Brexit fel gofyn i lwynog i warchod y cwt ieir. Ni fyddech yn anfon gwerthwr heb unrhyw ffydd yn ei gynnyrch i drafod â chwsmer allweddol; ni fyddech yn caniatáu i werthwr a oedd wedi treulio'r ychydig fisoedd diwethaf yn sôn am anfanteision eich cynnyrch a chanolbwyntio ar ei wendidau i drafod prisiau â chwsmer allweddol; ni fyddech ychwaith yn anfon gwerthwr sy'n argyhoeddedig mai’r cwsmer hwnnw oedd yr unig gwsmer yn y byd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dangos dro ar ôl tro yn y Siambr hon nad oes gennych unrhyw ffydd yng Nghymru y tu allan i'r UE a’ch bod yn llwyr ddibynnol ar yr UE i wneud eich deddfau fel y gallwch weithredu fel pwyllgor rheoli. Nid oes angen cynrychiolwyr arnom sy'n gallu canu cân o ddibyniaeth ar yr UE yn eu cwsg ac nad oes ganddynt unrhyw gred yn eu gallu eu hunain i lywodraethu er budd pobl Cymru nac ysbryd entrepreneuraidd pobl Cymru.

Mae arnom angen pobl sy'n deall ein grym bargeinio fel pumed economi fwyaf y byd ac un o gwsmeriaid mwyaf yr UE. Nid ydym yn mynd i ddod o hyd i’r bobl hynny yn Llywodraeth Cymru.

Rwy'n credu bod yn rhaid i’r Aelod dderbyn na enillodd ei phlaid yr etholiad. Maent eisoes wedi colli un Aelod mewn dim o dro. A dweud y gwir, nid wyf am gael fy narlithio gan blaid nad yw pob un o’i haelodau yn byw yng Nghymru—yn siarad am ymrwymiad i'n gwlad. Mae pobl nad ydynt yn byw yn ein gwlad, ac eto yn dal yn awyddus, mae'n debyg, i gael eu talu i orfod gwneud hynny. Mae hynny’n gwbl hurt.

O'n safbwynt ni, mae'n rhaid i ni barchu yr hyn y dywedodd y Cymry. Mae'n rhaid i ni geisio dehongli, hyd eithaf ein gallu, yr hyn a ddywedwyd ganddynt, oherwydd nid oes eglurder, ar wahân i'r ffaith eu bod wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd. Ond, yr hyn nad ydynt ei eisiau yw bod mewn sefyllfa lle maent yn canfod eu hunain mewn sefyllfa waeth yn economaidd. Rwy’n gwybod, cyn belled ag y mae UKIP yn y cwestiwn, bod y byd yn lle syml lle y gall pethau syml gael eu gwneud mewn cyfnod byr o amser. Nid dyna'r ffordd y mae'r byd mewn gwirionedd. Felly, o'n safbwynt ni, rydym yn awyddus i barchu barn pobl Cymru. Am flynyddoedd, nid oedd ei phlaid am i’r lle hwn fodoli. Nawr, maent yma; iawn, maent wedi derbyn realiti democratiaeth. Rydym ni wedi gwneud yr un peth ac, fel mae ei phlaid hi yn honni ei bod wedi ei wneud, byddwn ni’n gwneud yr un peth.

Hyd yn hyn, fodd bynnag, mae amaethyddiaeth wedi ei ddatganoli yn gyfreithiol i Gymru, ond, yn ymarferol, mae'r rhan fwyaf o'r hyn sy'n digwydd yn y maes hwnnw wedi ei osod ar lefel yr UE. Mae’r Prif Weinidog yn gywir ddigon i nodi y bydd gwahaniaeth enfawr rhwng cyfran fformiwla Barnett o wariant ar amaethyddiaeth a'r hyn a gawsom o dan y Polisi Amaethyddol Cyffredin. O ystyried hynny, a yw'n ddoeth iddo osod ei hun yn erbyn polisi tebyg i Bolisi Amaethyddol Cyffredin ar lefel y DU, dim ond oherwydd y byddai'n golygu ymyrryd â’r maes hwnnw sydd wedi ei ddatganoli yn gyfreithiol?

Mae bellach yn dweud nad yw am ymyrraeth o Frwsel, ond y dylai fod ymyrraeth o Lundain. Lle mae hynny'n gadael ffermwyr Cymru? Y realiti yw bod gennym system hollol wahanol o dalu a system gyfrifiadurol wahanol. Ceisio dod â phedair system ynghyd—pob lwc â hynny. Rydym ni, am gyfnod hir, wedi dweud y byddwn yn teilwra ein polisïau er lles ffermwyr Cymru. Yr hyn y mae ei angen arnom yw gwarant o'r arian—yr arian hwnnw a oedd yn dod i ffermwyr Cymru o Ewrop: £260 miliwn o gymorthdaliadau ffermio. Dywedodd ef, a dywedodd ei blaid, na fyddai ceiniog o hwnnw’n cael ei golli. Os oes gennym yr arian hwnnw, gallem weithredu polisi ffermio sy'n ennyn cefnogaeth y bobl sy'n byw yng nghefn gwlad Cymru, yn hytrach na cheisio defnyddio hyn fel esgus i gymryd pwerau oddi wrth gorff etholedig pobl Cymru. Rwyf yn dweud yn awr wrtho ef a phobl eraill yn y Siambr hon: os yw hyn yn mynd i gael ei ddefnyddio fel esgus i ganoli grym yn y DU i ffwrdd o bobl Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, bydd yn gweld gwrthwynebiad cryf yn y Siambr hon a thu allan iddi.

6. 4. Datganiad: Y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru)

Yr eitem nesaf yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar y Mesur Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru). Rwy’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford.

Diolch yn fawr, Lywydd. Ddoe gosodais y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) ynghyd â’r memorandwm esboniadol gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Mae cyflwyno’r Bil hwn yn nodi cam pwysig yn ein taith i ddatganoli trethi, ac mae’n arwydd o gynnydd wrth inni baratoi ar gyfer y trethi Cymreig cyntaf ers bron 800 o flynyddoedd. Mae’r Bil yn dilyn Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016, a gafodd Gydsyniad Brenhinol ym mis Ebrill. Roedd y Ddeddf hon yn darparu fframwaith cyfreithiol ar gyfer casglu a rheoli trethi datganoledig, gan gynnwys sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru—awdurdod a fydd yn ymgymryd â’r swyddogaethau casglu a rheoli mewn perthynas â’r dreth trafodiadau tir.

Rydym wedi ymgynghori’n helaeth â’n rhanddeiliaid ar gynnwys y Bil ac ar ffurf y dreth trafodiadau tir. Hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddiolch yn ffurfiol i bob un sydd wedi chwarae rhan i’w ddatblygu. Rwy’n gwerthfawrogi eu bod yn parhau i gyfrannu at lywio’r gwaith manwl sydd eto i’w ddatblygu o dan y Bil hwn.

So, it is, Dirprwy Lywydd, that this Bill will establish a new tax on land transactions in Wales, which will replace stamp duty land tax from April 2018.

In particular, the Bill sets out in Part 2 the key principles of LTT, including which types of transaction will incur an LTT charge and who will have to pay that charge. In Part 3 the Bill sets out how the tax will be calculated and what reliefs will apply. Part 4 deals with the application of the Bill in relation to leases and licences, while Part 5 sets out the special rules applicable to a variety of persons and bodies, such as partnerships or companies. Part 6 of the Bill includes the rules on making a land transaction return and paying the tax, while Part 7 sets out specific measures to tackle devolved tax avoidance.

To guide us in developing our policies and procedures, the Welsh Government has learned from the experience of both HM Revenue and Customs and Revenue Scotland. The Bill retains key elements of stamp duty land tax, including the approach to partnerships, trusts and companies, and to reliefs and exemptions. This is in order to ensure consistency and stability, which businesses have asked for, and which will enable a smooth transition for the property market.

There are, however, some areas in which land transaction tax is different. Those areas are designed to improve efficiency, effectiveness and to ensure a focus on uniquely Welsh needs and priorities. For example, the Bill introduces a simpler general anti-avoidance rule, which will apply to all Welsh taxes, and a single, overarching and robust anti-avoidance rule, which will apply to all reliefs within the land transaction tax itself. This approach will extend, simplify and strengthen existing stamp duty land tax legislation.

Dirprwy Lywydd, taxes fund the Welsh public services on which we all rely. This Government will take a robust approach whenever we believe that democratically sanctioned taxes are being deliberately avoided in Wales.

The Bill will establish a framework for setting the rates and bands for land transaction tax. We will adopt a marginal tax structure in Wales because this is both fairer and more progressive and is also consistent with the approach taken in Scotland, and more recently across the UK. The legislation before Members this afternoon includes specific provision that commits us to adopt a progressive approach to rates and bands—a key benefit of devolving stamp duty land tax being the opportunity to embed fairness in our legislation.

Rates and bands for land transaction tax will be set through secondary legislation closer to April 2018, in order to reflect the economic conditions and state of the property market at that time. A research paper providing a wider context about existing stamp duty land tax rates and bands in England and Wales, and land building transaction tax in Scotland, together with the economic context, will be published shortly. I plan to make it available in advance of the Finance Committee’s Stage 1 proceedings in the hope that that will assist the committee with its consideration of the Bill. Both the UK and Scottish Governments have made changes to their respective land transaction taxes recently, in particular in relation to the rate on additional residential properties. The UK changes were consulted upon in Wales, England and Northern Ireland earlier this year, and the legislation is currently in the later stages of progression through the UK Parliament. The Welsh Government published a Treasury paper seeking views about a higher rate for additional residential properties over the summer. The responses received are currently being considered. This is a matter, amongst a range of others, on which I look forward to studying the views of the Finance Committee when it comes to completing its Stage 1 report.

Dirprwy Lywydd, land transaction tax is the first of two taxes to be devolved to Wales. Later this year, I will introduce a second Bill to the National Assembly to establish a landfill disposals tax. Devolving taxes to Wales enables the Welsh Government to develop a tax system that is simpler, fairer and that supports our ambitions for public services, jobs and growth. For the first time in almost 800 years, we will take the first steps today towards developing and implementing a tax regime that is more directly suited to the circumstances and people of Wales. We intend to do so in a way that works closely with those most directly involved in the relevant fields, which remains conscious of the need to provide a smooth transition between long-established regimes and new arrangements, while at the same time putting in place a law that is sufficiently flexible to accommodate the development of further distinctiveness in the future. In this way, I believe the Bill can make a real difference to people’s lives. I look forward now to the scrutiny process that will follow, and to the engagement of the many organisations and individuals within this Siambr and beyond, who I know will have an interest in making this Bill a success. Diolch yn fawr.

Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i’r Ysgrifennydd cyllid am ei ddatganiad ac am ei rannu â ni o flaen llaw. Mae llawer o sôn wedi bod dros y dyddiau diwethaf—cyffro hyd yn oed, rwy’n credu, o leiaf ymhlith rhai—am natur hanesyddol y Bil hwn, a fydd, ynghyd â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 a’r Mesur treth tirlenwi, fel a ddywedwyd, yn golygu y bydd Cymru’n codi peth o’i threthi am y tro cyntaf ers Dafydd ap Gruffydd, wrth gwrs, sef y gwir lyw olaf, yn 1283.

Wrth gwrs, rydym yn croesawu’r Mesur hwn ac yn ymfalchïo yn yr arwyddocâd hanesyddol hwn, ond darganfyddwn wir arwyddocâd y pwerau hyn wrth eu defnyddio—wrth eu saernïo, fel yr oedd yr Ysgrifennydd yn ei ddweud, at anghenion penodol Cymru. Felly, mae’n ddyletswydd bwysig ar y lle hwn, wrth gwrs, i sicrhau ein bod yn gwneud defnydd llawn ohonynt, a’r man cychwyn ar gyfer hynny ydy’r craffu y byddwn yn gyfrifol amdano, er mwyn dangos i bobl Cymru, a dweud y gwir, y medrant ymddiried yn y Cynulliad hwn i ddiogelu eu buddiannau pan ddaw at y mater o drethiant.

Mae hwn yn Fesur technegol iawn, ac felly rydym yn croesawu, wrth gwrs, y ffaith ein bod wedi cael Mesur drafft. Roedd hynny’n rhoi cyfle i gyrff gwahanol ar draws Cymru ymateb, ac rwy’n falch i weld bod y Llywodraeth wedi ceisio cyfuno yn y Mesur llawer o ofynion yr ymatebion a gafwyd i’r ymgynghoriad. Ar y cwestiwn yma o’r balans ynddo fe rhwng yr angen, efallai, am gysondeb a sefydlogrwydd wrth symud i fframwaith Cymreig, ac wrth gwrs wedyn i greu platfform ar gyfer efallai creu polisïau sydd wedi’u creu yn benodol i ymateb i anghenion Cymru, a pholisïau radical o bryd i gilydd, mae cyfeiriad yn y datganiad i’r driniaeth o ail dai, a dyna un enghraifft o hynny, ac, wrth gwrs, mae yna ymgynghoriad yn mynd ymlaen yn Lloegr ar hyn o bryd.

Ond i ba raddau dylid sicrhau bod y Mesur yma yn rhoi digon o ryddid i Lywodraethau’r dyfodol ddefnyddio’r gallu yna i fod yn wahaniaethol—er enghraifft, edrych ar y posibilrwydd o fandiau rhanbarthol i adlewyrchu gwahaniaethau mewn marchnadoedd tai yn lleol, sydd yn gallu bod yn ffactor; yn sicr, mae’n un o’r rhesymau, siŵr o fod, dros yr awgrym yma o ran tai ‘buy to let’, yn bennaf oherwydd problemau yn Llundain? I ba raddau y gallai’r dreth yma gael ei defnyddio i gwrdd â nodau polisïau eraill, er enghraifft, adlewyrchu ansawdd tai o ran effeithlonrwydd ynni neu safon ei adeiladwaith, ac yn y blaen? Hynny, gofyn y cwestiwn ydw i: i ba raddau ydy galluogi Llywodraethau’r dyfodol, nid o reidrwydd yn meddwl ein bod ni’n mynd i weithredu hynny yn syth trwy ddeddfwriaeth eilradd, ond creu cymaint o benrhyddid trwy’r Mesur ar gyfer Llywodraethau’r dyfodol i sicrhau bod gyda ni ystod o bwerau ar gael?

O ran trafodaethau gyda’r Trysorlys, wrth gwrs mae cwestiwn y fframwaith cyllidol yn fater o bwys mawr sydd yn codi drafodaeth ehangach ar bwerau trethiannol a fydd yn cyd-redeg, wrth gwrs, gyda chraffu’r Bil hwn. Os gall yr Ysgrifennydd efallai yn ein hysbysu ni ynglŷn â ble mae’r trafodaethau hynny, byddai hynny yn fuddiol iawn, ac yn benodol os gallai fe ymateb i adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru yn benodol ar y Mesur yma yn edrych ar y cwestiwn a ddylid eithrio de-ddwyrain Lloegr a Llundain cyn belled ag y mae asesu'r newidiadau i’r bloc wrth amcangyfrif yr effaith ar y bloc gydag unrhyw newidiadau yn y dreth yma.

Yn fwy eang byth, a gaf i demptio’r Ysgrifennydd efallai i dir perig? Achos mae’r rhan fwyaf o’r economegwyr sy’n edrych ar y dreth yma a’r dreth stamp yn Lloegr wedi dod i’r casgliad mae’n dreth hynod, hynod aneffeithlon. A dweud y gwir, mae’n anodd iawn i’w chyfiawnhau hi. Wrth gwrs, mae yn wir hefyd bod yr ystod o drethi sydd ymwneud rhywsut ag eiddo neu dir rydym wedi’u hetifeddu—y trethi busnes a hefyd, wrth gwrs, y dreth gyngor—i gyd yn llai na foddhaol am ryw rheswm neu gilydd. A yw hi’n amser, efallai, yn ystod y tymor hwn, i ni gael ymchwiliad mwy eang mewn i’r holl gwestiwn o fframwaith trethiant tir ac eiddo i Gymru? Achos byddai hyn yn gyfle i ddod lan ag atebion Cymreig go iawn, rwy’n credu, a fyddai yn sicr yn creu fframwaith mwy buddiol i’r tymor hir.

Wel, diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, i’r Aelod am y cwestiynau a sylwadau yna.

I’ll try and respond to three of the big questions that were being raised. I entirely agree with what Adam Price said, that we are trying to strike a balance in the Bill between immediate continuity—because there is a system that people are very familiar with, it’s a system that has a lot of cross-border components to it as well, and the replies to consultation on the draft Bill were unambiguous from practitioners in asking for us to design a system that would be recognisable to them on the day that it was introduced. But we have to go beyond that to create a Bill that allows for policy departure beyond its introduction. That is what we have aimed to do in the way that the Bill is constructed. It will be of interest, I’m sure, to both the Finance Committee, but also to the constitutional affairs committee, to look at the way some of those regulation-making powers have been constructed in the Bill to try and make sure that, whenever a regulation-making power is used in a way that could alter the tax burden on individuals, that would require an affirmative debate on the floor of this Assembly.

But, at the same time, I believe that it creates a framework of flexibility in which, when new ideas and new possibilities want to be attempted, the Bill, if it becomes an Act, is constructed to allow that to happen.

Again, the Member’s quite right to say that the Bill has a direct line to the fiscal framework negotiations, because it will form part of the block grant adjustment mechanism that we are discussing with the Treasury. I’m very happy to say to Members that I’ve met the Chief Secretary to the Treasury once already, earlier in the summer, and I’m due to meet him again before the end of this month. That will be the start of detailed negotiations that will go on around the fiscal framework and the block grant adjustment mechanisms that will be necessary for this Bill and more generally in relation to the way in which devolved taxes and their interface with the block grant are negotiated for the future. I’m looking forward to meeting members of the Welsh Governance Centre—the authors of the report—tomorrow, to hear directly from them some of those ideas about how we might have a comparator that takes out London and the south east of England, with its distorting effect on comparisons with the rest of the United Kingdom.

Finally, on to the dangerous territory that I was invited onto in the final question—it’s the nature of the powers that this Assembly was provided with through the Government of Wales Act 2014 that we have the powers to replace stamp duty land tax. That’s what we are entitled to do immediately and that’s what this Bill therefore sets out to do. Does that mean that we should avoid a debate on bigger questions about different ways of approaching how we raise revenue, what should be taxed, how these taxes interplay with one another? I don’t think we should avoid that at all. I think this Assembly term may well be the right one to look at those questions, not in the abstract, but looking at how those ideas would, in a practical way, be applied if they were to be operated in Wales, and then to allow those with the responsibility to make informed decisions about them.

Rwy'n croesawu'n fawr y datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar y dreth trafodiadau tir. Rydym yn gwybod fod y dreth trafodiadau tir yn dreth gyfnewidiol a chylchol. Rydym yn gwybod hefyd ei bod wedi gostwng £110 miliwn rhwng 2007-08 a 2009-10. Rydym yn gwybod hefyd fod y gyfradd o gynyddu refeniw yn ne-ddwyrain Lloegr, yn enwedig Llundain, yn fwy nag yng ngweddill y Deyrnas Unedig. Rydym yn gwybod hefyd fod y cynnydd yn Llundain o leiaf yn rhannol o ganlyniad i bryniannau tramor—mae Llundain yn ddinas ryngwladol. Gan fod gwerth y bunt wedi gostwng yn sylweddol yn erbyn yr ewro a'r ddoler, mae prisiau eiddo yn yr arian hynny wedi gostwng yn sylweddol hefyd.

A gaf i ddweud, mae'r Bil yn nodi datblygiad sylweddol o ran datganoli trethi? Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y mae gwir angen i ni ei ystyried. Croesawaf yn fawr gyflwyniad y rheol gyffredinol ar atal osgoi. Yn y Cynulliad diwethaf, roedd rhai ohonom a oedd ar y Pwyllgor Cyllid yn trafod yr angen am reol gyffredinol ar atal osgoi ac rwy'n falch iawn o weld bod hynny wedi digwydd.

Mae gennyf i ddau gwestiwn mewn gwirionedd. Mae un yn ymwneud ag eiddo ar y ffin. Mae'n nodi yn y Bil:

'Yn unol â hynny, mae trafodiad Cymru i'w drin fel trafodiad tir o fewn ystyr y Ddeddf hon (sef caffael buddiant trethadwy sy'n ymwneud â'r tir yng Nghymru).'

Os oes tir yng Nghymru a Lloegr, ac os yw'r gyfradd yr un fath yng Nghymru a Lloegr, a fydd yr un swm yn cael ei gasglu ar ôl cyflwyno'r Ddeddf hon, ac wedyn yn cael ei rannu rhwng Cymru a Lloegr fel sy'n digwydd ar hyn o bryd? H.y., a fydd cyfle i bobl dalu llai o dreth drwy gael gwerth yn Lloegr a gwerth yng Nghymru sy'n golygu eu bod o dan drothwy, a fyddai'n lleihau faint o arian sy'n rhaid iddynt ei dalu?

Mae'r ail bwynt mewn gwirionedd-neu'r ddau bwynt nesaf, mewn gwirionedd, yn ychwanegu at bwyntiau Adam Price; mae’n drueni fy mod heb siarad o'i flaen i ddweud y gwir. Mae'r un cyntaf yn ymwneud â'r rheol dim niwed: a yw honno am gael ei chymhwyso? Os ydym ni’n mynd i weld Llundain a de-ddwyrain Lloegr, yn enwedig Llundain, yn cynyddu mewn gwerth-ac mae yna dai yn Llundain sydd werth £50 miliwn a £60 miliwn; mae gennyf i strydoedd yn fy etholaeth am y prisiau hynny—rwyf wir yn credu bod y sefyllfa hynny'n bodoli, o ran y gwerth sy'n bodoli, sef ein bod yn mynd i golli allan dros gyfnod o amser, oni chyflwynir y rheol dim niwed. Mae hynny naill ai'n golygu, fel y dywedodd Adam Price, eithrio Llundain a de-ddwyrain Lloegr a’n cymharu ni â rhannau cymharol o Loegr, neu feddwl am ryw ffordd arall o'i wneud fel nad yw cyllideb Cymru ar ei cholled.

Y trydydd pwynt—ac rwyf am fod hyd yn oed yn fwy direidus nag Adam Price wrth geisio eich temtio, Weinidog—yw hyn: ai nawr yw’r amser i ddechrau trafod perthnasedd treth gwerth tir, yn hytrach na'r trethi eiddo hyn, lle caiff pobl eu trethu yn ôl gwerth eu tir? Gwn ein bod wedi siarad am y peth o'r blaen, cyn i chi ddechrau yn eich swydd bresennol. A yw hi bellach yn amser o leiaf i ddechrau dadl ar y pwnc hwnnw?

Rwy’n diolch i Mike Hedges am yr holl gwestiynau hynny. Rwy'n ddiolchgar am yr hyn a ddywedodd am y rheol gyffredinol ar atal osgoi, a bydd y rhai a fydd yn edrych yn fanwl ar y Bil yn gweld ein bod wedi dilyn strwythur prawf yr Alban ar gyfer y Rheol Gyffredinol ar Atal Osgoi, sef y bydd trefniadau treth sy'n artiffisial yn cael eu dal gan y Rheol Gyffredinol ar Atal Osgoi, ond o ran treth dir y dreth stamp, mae'n rhaid iddynt fod yn gamdriniol cyn bod y Rheol Gyffredinol ar Atal Osgoi yn berthnasol. Felly, rydym wedi gostwng y trothwy ar gyfer gweithredu’r rheol gyffredinol ar atal osgoi.

Rwy'n siŵr bod y mater sy’n ymwneud ag eiddo ar y ffin yn un y bydd y pwyllgor yn awyddus i dynnu sylw ato yn ystod y gwaith craffu. Rydym wedi gweithio'n agos iawn gyda'r awdurdod gwerth tir. Rydym yn credu bod yna tua 450 o eiddo—gallwn fwy neu lai eu henwi—ac mae tua 30 o'r rhai hynny yn newid perchennog mewn unrhyw flwyddyn benodol. Bydd i ba raddau y bydd eiddo yn dod o dan y drefn newydd yng Nghymru a'r drefn a fydd yn cael ei gweithredu yn Lloegr, yn dibynnu ar y graddau y bydd yr eiddo mewn un wlad neu'r llall. Felly, os bydd chwarter y tir yng Nghymru, bydd chwarter o'i rwymedigaeth yn cael ei phennu gan ein cyfraith ni, ac os bydd tri chwarter o'r tir yn Lloegr, bydd tri chwarter ohoni yn cael ei phennu gan y gyfraith sy'n gymwys yn Lloegr. Dyma pam yr ydym falch nad yw’n berthnasol dim ond i 30 o eiddo, ac mewn gwirionedd, nid yw llawer ohonynt wedi'u rhannu'n chwarter a thri chwarter; maent yn eu hanfod mewn un wlad a chanddynt ddarn ymylol o dir sydd yr ochr arall i'r ffin.

Mae'r egwyddor dim niwed yn hollbwysig o ran addasu grantiau bloc. Beth yw diben addasu grantiau bloc? Ei ddiben yw adlewyrchu'r ffaith na fydd Llywodraeth y DU bellach yn derbyn refeniw gan drethdalwyr yng Nghymru ar gyfer trethi sydd wedi'u datganoli. Felly, os yw'r Cynulliad hwn yn gwneud penderfyniadau sy'n golygu ein bod yn gallu codi trethi, mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn elwa ar hynny; os ydym yn gwneud penderfyniadau i’r gwrthwyneb, mae'n rhaid i ni fod yn glir y byddwn ni'n wynebu canlyniadau hynny. Ond mae'n rhaid i gymaryddion felly fod yn rhai teg, a dyna'r pwynt yr oedd Canolfan Llywodraethiant Cymru yn ei wneud am effaith Llundain.

Yn olaf, o ran trethiant gwerth tir, wel, yn bersonol, yr wyf i bob amser wedi gweld manteision yn hynny.  Yr hyn yr wyf i am i ni ei wneud, os gallwn ni, yn ystod tymor y Cynulliad hwn, yw symud ymlaen o ymarferion cymharol ddamcaniaethol o ran manteision ac anfanteision gwahanol ffyrdd o drefnu trethi. Ceir adroddiad da iawn, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth yr Alban ym mis Rhagfyr y llynedd, ar y cyd â Chonfensiwn Awdurdodau Lleol yr Alban a Llywodraeth yr Alban, sy'n gwneud yr union beth hynny: mae'n ymarfer manteision damcaniaethol sy’n ymwneud â threth gwerth tir, treth incwm leol, diwygio’r dreth gyngor, er enghraifft. Nid wyf yn credu bod angen i ni fynd dros hynny eto. Rydym yn gwybod yn awr yn ddamcaniaethol beth yw'r pwyntiau cadarnhaol a'r pwyntiau negyddol sylfaenol. Mae angen i ni wneud ychydig o waith cymhwysol i weld, fel y dywedais wrth Adam, pe byddem yn penderfynu dilyn unrhyw un o'r ffyrdd hynny yng Nghymru, beth y byddai hynny'n ei olygu mewn gwirionedd ar gyfer cymhwyso trethi yng Nghymru. Wedyn, byddwn mewn gwell sefyllfa i weld pa un o'r modelau hyn a allai fod yn well ar ein cyfer ni.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad. Byddwch yn falch o gael gwybod fy mod i am ofyn i chi am y dreth trafodiadau tir ac nid am yr amrywiaeth o drethi damcaniaethol eraill, boed hynny'r dreth dir neu'n dreth gyfoeth neu beth bynnag. Rwy'n credu bod gennym ddigon ar ein plât wrth fynd i'r afael â'r darn hwn o ddeddfwriaeth. Gwnaethoch chi sôn fod hon yn foment hanesyddol: y dreth Gymreig gyntaf mewn cannoedd—credaf mai 800 o flynyddoedd oedd y rhif. Roeddwn yn teimlo fel pe bai wedi cymryd 800 o flynyddoedd i mi ddarllen y ddogfen. A dweud y gwir, mae’n ddogfen go swmpus, Ysgrifennydd y Cabinet, ac mae llawer ynddi i ni ei ystyried cyn y bydd hwn yn y pen draw yn fodel ar gyfer treth trafodiadau tir a fydd yn cael ei weithredu ar draws Cymru. Er fy mod yn cydnabod y cyfarwyddyd mwy eithafol a nodwyd gan Adam Price a Phlaid Cymru yn gynharach, rwy'n falch eich bod wedi dilyn egwyddor y Gweinidog Cyllid blaenorol o ran cadw pethau yr un fath ag y maent ar draws y ffin, a dim ond gwyro lle mae hynny'n gwbl angenrheidiol. Yn sicr, i ddechrau, ym mlynyddoedd cyntaf gweithrediad y dreth hon, rwy'n credu bod hynny'n benderfyniad call.

Rydych chi'n sôn am beidio â newid er mwyn newid. Gallwn ddweud fod hynny'n ddull Ceidwadol dda o weithio, Ysgrifennydd y Cabinet, ond byddai hynny'n debygol o fod yn elyniaethus, felly byddaf yn peidio â sôn dim mwy am hynny. Gwnaethoch chi sôn am gysondeb—a gofynnwyd i chi gan Mike Hedges ac Adam Price am gysondeb—rwy'n siŵr eich bod yn cydnabod ei bod yn hawdd siarad am gysondeb, ond a allaf ofyn i chi sut yr ydych chi'n sicrhau bod y cysondeb hwn yn cael ei gynnal a sut y bydd yn cael ei gynnal yn ymarferol? Ai mater syml ydyw ar y naill law o gopïo cyfraith Lloegr lle y bo'n briodol, neu wrando ar arbenigwyr yn y maes a allai fod â'u barn eu hunain ynglŷn â'r gyfraith ar draws y ffin a meysydd y maent o'r farn y gallent fod yn well yma a lle, yn wir, y gallai fod yn waeth dros y ffin? Sut ydych chi'n cydbwyso'r cysondeb hwnnw? Ac—rydych chi wedi crybwyll hyn—sut yr ydych chi'n cynnwys rhanddeiliaid mewn proses barhaus wrth i'r dreth gael ei datblygu ac, yn wir, wrth iddi ymwreiddio?

Rydym yn gwybod y bu pryderon a gofidion yn y byd trethi ynghylch sefyllfa lle ceir cyfundrefn dreth wahanol yma. Mae'r dreth trafodiadau tir, fel y dywedasoch, yn arbennig o agored i'r feirniadaeth hon oherwydd y ffordd y mae pobl yn prynu a gwerthu tai ar hyd y ffin. Rwy'n gwerthfawrogi efallai mai dim ond ychydig o eiddo a geir lle mae'r tir ar y ffin, ond mae llawer iawn, iawn o eiddo yn agos at y ffin ac a fydd yn rhan o'r ystyriaeth wrth i bobl benderfynu a ydynt yn mynd i brynu tai yma neu yn Lloegr. Felly, sut rydych chi'n bwriadu mynd i'r afael â phryderon yr arbenigwyr treth hynny? Bydd angen bod â dealltwriaeth o'r gwahaniaethau; sut rydych chi'n hybu'r ddealltwriaeth hon? Rwy'n credu o'm cyfarfod gyda chi yr wythnos diwethaf, fod arbenigwyr treth a rhanddeiliaid sydd eisoes wedi gweld y ddeddfwriaeth, wedi’u sicrhau i ryw raddau, ac rwy'n credu bod hynny i raddau helaeth o ganlyniad i lawer iawn o waith caled gan eich aelodau staff wrth geisio sicrhau, yn y lle cyntaf, fod hyn mor ymarferol â phosibl. Sut rydych chi'n mynd i barhau i roi sicrwydd iddynt yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd sydd i ddod fel nad ydynt yn colli hyder yn y broses?

Yn ystod yr haf, rydym wedi gweld newidiadau i dreth stamp y DU o ran mynd i'r afael ag osgoi talu treth. Gwnaethoch chi sôn am y rheol gyffredinol ar atal osgoi. Fel y gwnaethom drafod yn ein cyfarfod yr wythnos diwethaf, yn Lloegr, bydd cynghorwyr treth hefyd yn atebol am achosion o osgoi, nid dim ond y bobl hynny sydd â'u henwau ar y ffurflenni treth. Bydd yn cynnwys felly gynghorwyr a phobl sy'n llenwi eu ffurflenni treth ac yn talu treth yn y lle cyntaf. Rwy'n credu ei bod yn bwysig bod y ddeddfwriaeth newydd yng Nghymru yn cynnwys y newidiadau hyn. Sut y mae hyn yn mynd i gael ei gyflawni yn awr? Nid wyf yn credu ei fod yn y ddogfen honno ar hyn o bryd. Sut rydych chi'n sicrhau bod y ddeddfwriaeth, yn gyntaf, yn addas ar gyfer y dyfodol, ac yn ail, am gael ei diweddaru'n rheolaidd ag unrhyw newidiadau y mae'r Cynulliad yn eu hystyried yn angenrheidiol dros y blynyddoedd sydd i ddod? Nid wyf yn credu bod diweddaru awtomatig am ddigwydd mwyach wrth i'r dreth hon a threthi eraill yng Nghymru wahaniaethu o drethi Lloegr, felly mae'n bwysig ein bod yn gwybod bod modd sicrhau bod y ddeddfwriaeth hon a deddfwriaeth arall sy'n ymwneud â threthi yn addas ar gyfer y dyfodol.

Dau beth i gloi, Ysgrifennydd y Cabinet: a ydych chi’n cytuno â mi mai'r bwriad yma, y greal sanctaidd os mynnwch chi, yw profi'r beirniaid yn anghywir a gwneud rhywbeth gwell yma yng Nghymru, rhywbeth y byddai trethdalwyr yng Nghymru mewn gwirionedd yn ei ystyried yn well na'r hyn sydd wedi bod o'r blaen, yn hytrach na dim ond creu treth trafodiadau tir boddhaol yn lle treth y DU? Mae'n haws dweud na gwneud, rwy'n gwybod—a’r gwir amdani yw nad talu trethi fydd dewis cyntaf unrhyw un, ond mae'n un o ffeithiau bywyd, ac mae'n rhywbeth yr wyf yn siŵr y byddech chi a'ch Llywodraeth yn awyddus i'w wneud mor hawdd â phosib i bobl yma yng Nghymru.

Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, o ran y mater a godwyd gan Blaid Cymru a Mike Hedges ynglŷn â'r fframwaith cyllidol, ydw, rwy'n credu na allwch chi weld y dreth trafodiadau tir a'r fframwaith cyllidol ar wahân. Mae’n wir, ac yn anochel, ac rydym ni i gyd yn deall y bydd, wrth gwrs, ostyngiad yn y grant bloc i Gymru pan fydd y trethi hyn yn dod i rym, ond yr hyn nad ydym am ei weld—neb ohonom yn y Siambr hon—yw gostyngiad annheg yn y grant bloc. I ddechrau, efallai na fydd hynny'n digwydd, ond wrth i'r blynyddoedd fynd heibio ac wrth i chi wynebu materion megis chwyddiant a newid yn y boblogaeth, mae perygl, oni bai bod y fframwaith cyllidol yn gweithredu'n briodol, y gallai Cymru fod ar ei cholled yn y dyfodol. Pa drafodaethau a gawsoch chi gyda'r Trysorlys, a pha drafodaethau yr ydych chi wedi'u cael â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, i wneud yn siŵr eu bod yn deall ein pryderon yma ac yn eu gwerthfawrogi’n llawn, er mwyn gwneud yn siŵr y bydd y trethi hyn yn gweithio cystal ag sy'n bosibl pan fyddant yn dod i rym?

Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Rwyf bob amser yn falch o glywed Nick Ramsay yn dweud y pethau hynny am y fframwaith cyllidol; gwnes i ei ddyfynnu yn fy nghyfarfod â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys er mwyn rhoi gwybod i Brif Ysgrifennydd y Trysorlys y fath bwysau oedd arnaf i gan feinciau'r Ceidwadwyr yma yn y Cynulliad i sicrhau bod y fframwaith cyllidol yn cael ei drafod yn briodol o safbwynt Cymru. Felly, byddaf yn falch o allu dweud wrtho fod y buddiannau hynny'n parhau yn gadarn iawn.

Gan weithio tuag yn ôl, mewn ffordd, trwy'r cwestiynau, wrth gwrs ei bod yn uchelgais gennym ni nid yn unig i gymryd lle'r dreth bresennol ond i wella'r ffordd y mae'r math arbennig hwn o drethiant yn cael ei weithredu yma yng Nghymru. A ydym ni'n gwneud dim ond copïo cyfraith Lloegr? Nac ydym. Un o nodweddion treth dir y dreth stamp yw'r ffordd, fel y mae deddfwriaeth yn tueddu i wneud, y mae wedi aeddfedu dros y blynyddoedd gan fod darnau yn cael eu hychwanegu ati a darnau'n derbyn pleidlais yn rhan o Fil arall sy'n golygu ei bod yn eithaf anodd cael gwybod popeth y mae arnoch angen ei wybod. Felly, rydym mewn sefyllfa ffodus, sef ein bod ni’n gallu gwneud yr holl newidiadau hynny mewn un lle, gan wneud y gyfraith yn fwy hygyrch a dealladwy. Ac rydym yn sicr wedi dysgu llawer iawn gan arbenigwyr yma yng Nghymru—arbenigwyr ar drethi, ond hefyd arbenigwyr ym maes trafodiadau tir—ac rwy'n credu bod budd y cyngor y maent wedi'i roi o’u gwirfodd i’w weld yn y Bil. Rydym yn sicr yn dymuno, yn y modd y gofynnodd Nick Ramsay, barhau i elwa ar hynny yn ystod hynt yn Bil. Mae'r strwythurau cynghori a roddwyd ar waith i raddau helaeth gan fy rhagflaenydd, Jane Hutt, am barhau i gael eu gweithredu drwy gydol taith y Bil hwn drwy'r Cynulliad Cenedlaethol.

Mae Nick Ramsay yn gwbl gywir i ddweud, er na cheir llawer o eiddo mewn gwirionedd sydd ar y ddwy ochr i’r ffin, mae yna lawer mwy o drafodiadau o eiddo ar hyd y ffin, ac felly mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod gan ymarferwyr ar ochr arall y ffin wybodaeth dda am y rheolau y byddant yn ddarostyngedig iddynt os ydynt yn gweithio yng nghyd-destun Cymru. Mae llawer o waith wedi'i wneud eisoes o fewn y meysydd proffesiynol gan ddefnyddio rhwydweithiau proffesiynol a chyhoeddiadau proffesiynol, ac yn y blaen, i hyrwyddo dealltwriaeth, a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod yr wybodaeth honno ar gael yn rhwydd i bobl sydd angen paratoi eu hunain i allu rhoi cyngor da.

Credaf fod cyhoeddi fersiwn ddrafft o'r Bil yn syth cyn y toriad, gyda chytundeb swyddfa'r Llywydd, wedi bod yn llwyddiannus o ran caniatáu i’r rhai hynny a fydd yn gorfod gwneud y gwaith ymarferol o dan y llyfr rheolau newydd hwn—o ran rhoi sicrwydd iddynt ein bod, yn y lle cyntaf, yn bwriadu cynnal cysondeb a'n bod ni wedyn yn caniatáu ar gyfer dargyfeirio wrth i bethau ddatblygu.

Yn olaf, o ran cosbau ac osgoi trethi, mae Nick Ramsay'n cyfeirio at ddogfen ymgynghori a gyhoeddodd y Trysorlys yn ystod mis Awst, sy'n nodi ei fod yn cynllunio cyfundrefn ataliol newydd ar gyfer y rhai hynny sy'n rhoi cyngor sy'n amlwg wedi'i roi at ddibenion osgoi trethi sydd i'w casglu'n gyfreithlon. Mae'r ymgynghoriad hwnnw'n dod i ben ar 12 Hydref, felly nid ydym yn gwybod yn sicr mewn gwirionedd beth fydd y Trysorlys yn ei wneud. Bu rhywfaint o ymatebion eithaf gelyniaethus i rai o'r syniadau a gynigwyd gan y Trysorlys. Rwy'n awyddus iawn i gadw llygad barcud ar y sefyllfa a gweld faint y byddwn ni'n dymuno ei ail-greu yn ein Bil ni, o ran y mesurau ataliol sy'n cael eu hystyried yn Llundain.

Diolch. Derbyniodd fy mhlaid gytundeb Dydd Gŵyl Dewi a gwnaethom ddweud y byddem ni'n gweithio gyda hynny, yn bennaf rwy'n credu gan ein bod ni'n dymuno canolbwyntio ar ddarparu gwell gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, yn hytrach na pharhau i fogailsyllu ar yr elfen gyfansoddiadol. Nid ydym yn derbyn y newid i ddatganoli pwerau treth incwm heb refferendwm, sy'n wyriad oddi wrth y cytundeb Dydd Gŵyl Dewi hwnnw, ond rydym yn nodi bod y ddwy dreth hyn wedi’u cynnwys o fewn y cytundeb, ac felly, rydym yn ymgysylltu'n adeiladol â hynny.

Tybed, fodd bynnag, a allai Ysgrifennydd y Cabinet esbonio'r rhesymeg ynglŷn â pham y cafodd y ddwy dreth hon—y dreth stamp neu'r dreth trafodiadau tir a'r dreth dirlenwi—eu dewis ac a gafwyd consensws ar y rhai hynny, er budd yr Aelodau newydd neu'r rhai hynny nad oedd wedi cymryd rhan yn y cytundeb Dydd Gŵyl Dewi?

Yn ail, rydym yn gweld, rwy'n credu, ar feinciau Plaid Cymru rywfaint o ddathlu dealladwy o ran yr egwyddor o ddatganoli treth i Gymru, ac er fy mod yn edrych ymlaen at eistedd ar y Pwyllgor Cyllid dan gadeiryddiaeth Simon Thomas, nid wyf o reidrwydd yn rhannu'r ymdeimlad hwnnw o ddathlu, ond byddai'n anfoesgar i ni beidio â chydnabod pwysigrwydd hyn i rai Aelodau yn y Siambr hon. Fodd bynnag, a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno y byddai'r ddwy dreth hyn y rhai cyntaf o nifer i gael eu datganoli ac a ydyw'n gweld y dreth hon yn gyfle i weithredu cyfundrefn dreth i Gymru ar wahân i weddill y Deyrnas Unedig ar gyfer tir ac eiddo yn gyffredinol, yn hytrach na dim ond ar gyfer y dreth gul hon?

Soniodd am ganolbwyntio ar anghenion a blaenoriaethau sy’n unigryw i Gymru, ac rwyf innau, fel Nick Ramsay, wedi mwynhau darllen yn ystod yr haf; rwy'n deall mai hon yw’r gyfraith hiraf y mae Cynulliad Cymru wedi'i hystyried hyd yn hyn. Yn sicr, o'i darllen, ymddengys y dyblygir ychydig yn fwy o ddeddfwriaeth a chyfundrefn y DU—mewn llawer iawn o fanylder technegol mewn rhai mannau—ac ychydig yn llai, o leiaf cyn belled ag yr wyf i wedi'i ddirnad hyd yn hyn, o ychwanegiadau newydd wedi'u bwriadu ar gyfer anghenion a blaenoriaethau unigryw i Gymru. Meddwl oeddwn i tybed a allai roi rhai enghreifftiau o'r anghenion a'r blaenoriaethau unigryw hynny i Gymru y mae'n credu y bydd y ddeddfwriaeth hon yn mynd i'r afael â nhw.

Yn drydydd, fel cyfreithiwr, a allaf eich rhybuddio, ynglŷn â'r awydd a'r uchelgais i ehangu, symleiddio a chryfhau'r system bresennol. Mae’n bosibl y bydd yn sylweddoli bod rhywfaint o densiwn yn bodoli rhwng yr ehangu a'r cryfhau a'r symleiddio. Hyd yn oed pan ymddengys bod codeiddio’n symleiddio arferion presennol neu flaenorol, bydd yn aml yn arwain at—ac mae’n bosibl y bydd yn sylweddoli ar hyn yng nghyd-destun y rheol gyffredinol ar atal osgoi, waeth ba mor syml yr ymddengys—at gyfraith achos a fydd yn datblygu ac yn cynnwys ei chymhlethdodau ei hun, efallai, mewn ffyrdd y mae’n anos eu rhagweld na phe byddai’n digwydd pe bai'r ddeddfwriaeth heb ei newid. I'r graddau y ceir gwahaniaeth rhwng y system yng Nghymru—ac rwy'n cydnabod yr hyn y mae'n ei ddweud mai'r flaenoriaeth gyntaf yw ei gwneud yn gyfarwydd a ydyw'n disgwyl i gwmnïau o gyfreithwyr ar ochr Lloegr i'r ffin sydd, efallai, yn trawsgludo eiddo o Gymru yn achlysurol yn unig—. A yw'n gweld y byddai llawer o'r rhai hynny'n gadael y farchnad ar gyfer darparu gwasanaethau trawsgludo i Gymru, ac a fyddai'n gweld hynny yn rhywbeth cadarnhaol, a fyddai’n golygu bod mwy o wasanaethau cyfreithiol yn cael eu darparu yn y cartref yng Nghymru, neu'n rhywbeth negyddol a fyddai’n golygu lleihau cystadleuaeth yn yr ardal?

Yn olaf, y mater a godwyd yn fedrus gan Mike Hedges ynglŷn ag eiddo trawsffiniol—rwy'n deall nad oes cymaint â hynny o ran nifer, ond pwynt o ryw ddiddordeb neu egwyddor i'r Aelodau. A ydyw wir yn ddoeth cael trefn lle mae gennych ddwy dreth sy'n berthnasol i’r un eiddo? Soniodd Mike am y posibilrwydd y byddai hynny'n arwain at dreth is ac efallai at awydd gan bobl i adeiladu tai ar y ffin, oherwydd gyda threth gynyddol, byddwch yn ei gwahanu i ddwy ran a gallai'r swm cyffredinol a delir fod yn is. A yw hynny wir yn rhywbeth yr ydym am ei weld yn digwydd? Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet bryd hynny, 'Wel, mewn gwirionedd, gyda'r rhan fwyaf ohonynt, dim ond cyfran fach a fydd yn mynd i’r naill ochr neu'r llall'. Os felly, onid yw'n dilyn—? Oni fyddai'n gallach ac yn haws i ymarferwyr, yn ogystal â ni ein hunain, pe byddem yn dweud efallai, pa bynnag ochr i'r ffin y ceir y rhan fwyaf o'r tir, y gallai system dreth y genedl honno fod yn gyfrifol am y dreth yn ymwneud â’r trafodiad penodol hwnnw?

Gan droi at y cwestiwn olaf yn gyntaf: nodir y rheolau ar gyfer ymdrin ag eiddo trawsffiniol wrth lunio'r strategaeth dreth newydd yn Neddf 2014. Nid ydynt yn rhywbeth y mae gennym y rhyddid i'w had—drefnu, hyd yn oed pan geir awgrymiadau call am sut y gellid ei wneud yn wahanol. Mae gennym lyfr rheolau; rydym yn ceisio’i defnyddio i lunio'r system orau bosibl. A ydw i'n disgwyl y bydd ymarferwyr ar ochr yr arall i’r ffin yn gwneud llai o fusnes yng Nghymru o ganlyniad i'r Bil? Nid dyna fwriad y Bil, ond gallaf weld, yn y ffordd yr ydym wedi disgrifio dyfodol y Bil, sut y gall aros yn gymharol agos at ffyrdd hysbys o wneud pethau i ddechrau—. Mwy o wahaniaethu— nid dim ond ar ein hochr ni, ond mae'r gyfraith o ran treth dir y dreth stamp wedi newid yn gymharol gyflym ar sail Cymru a Lloegr, felly fe fydd yna newid yr ochr arall i'r ffin hefyd, a fydd yn pwysleisio’r gwahaniaeth dros amser, ac fe allai hynny newid y ffordd y mae pobl yn cyflawni eu busnes.

Roedd gennyf ddiddordeb yn yr hyn a oedd gan yr Aelod i'w ddweud am densiynau rhwng gwahanol uchelgeisiau ar gyfer symlrwydd ac eglurder ac yn y blaen. Os oes tensiynau yn bodoli nad ydym wedi sylwi arnynt ein hunain, neu a fydd yn dod yn fwy amlwg yn ystod y broses graffu—credaf y bydd hynny'n ddefnyddiol iawn, a byddaf yn sicr yn edrych yn ofalus iawn ar unrhyw enghreifftiau a fydd yn dod i'r amlwg. Gofynnodd yr Aelod am ble yn y Bil y ceir ychwanegiadau newydd, ac er mai ein huchelgais, fel y dywedais, yw caniatáu trosglwyddiad didrafferth, ceir enghreifftiau drwy'r Bil cyfan lle yr ydym wedi addasu trefniadau i ystyried anghenion a blaenoriaethau Cymru. O ran prydlesi, er enghraifft, sydd bob amser wedi bod yn bwnc o ddiddordeb yng nghyd-destun Cymru, byddwch yn gweld na fwriedir i elfen rent y prydlesi preswyl gael ei threthu dan y dreth trafodiadau tir, er eu bod yn cael eu trethu o dan dreth dir y dreth stamp. Rydym yn gwella'r rheolau ar gyfer prydlesi sy'n parhau ar ôl cyfnod prydlesu penodol ac amhenodol, sy'n bwysig mewn cyd-destun Cymreig, a hefyd rydym yn gwneud newidiadau i sut y mae'r rheolau yn gweithredu pan gaiff prydles newydd ei chaniatáu, ond bod y dyddiad y mae i fod i gychwyn wedi'i ôl-ddyddio. Bwriedir yr holl bethau hyn i fod yn gyson â'n huchelgeisiau ar gyfer sicrhau mwy o symlrwydd, cysondeb a thegwch, ond maent yn deillio'n uniongyrchol o'n profiad ni o brydlesi a lesddaliadau yma yng Nghymru.

O ble y daethant, y ddwy dreth benodol hyn? Wel, o'r comisiwn Silk, ac o'r gwaith a wnaeth y comisiwn a'i archwiliad trylwyr iawn o'r holl wahanol bosibiliadau o ran y trethi y gellid eu datganoli i Gymru. Yr egwyddor yr ydym yn ei sefydlu, Ddirprwy Lywydd, i gloi, wrth gwrs yw'r egwyddor ein bod yn gallu cymryd cyfrifoldeb am drethi sy'n effeithio ar bobl yng Nghymru yn uniongyrchol drwy'r Cynulliad Cenedlaethol. Ond mae'n egwyddor ehangach na hynny, a dyna pam ei bod yn iawn ein bod ni’n canolbwyntio arni ac yn ei dathlu i raddau. A honno yw'r egwyddor—sef y dylai corff sy'n gwario refeniw gymryd peth cyfrifoldeb am godi'r refeniw y mae'n ei wario. Nid ydym ni erioed wedi bod yn y sefyllfa honno yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru o’r blaen. Fe fyddwn ni yn y sefyllfa honno unwaith y bydd y gyfraith hon a'r dreth gwarediadau tirlenwi yn dod i rym, a dyna'r daith yr ydym yn cychwyn arni y prynhawn yma.

7. 5. Datganiad: Digwyddiadau Chwaraeon Rhyngwladol o Bwys

Symudwn ymlaen yn awr at yr eitem nesaf ar ein hagenda, sef datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith am ddigwyddiadau chwaraeon rhyngwladol mawr. Galwaf ar Ken Skates i gyflwyno'r datganiad.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n croesawu'r cyfle hwn i fyfyrio ar flwyddyn sydd wedi bod yn un anhygoel i chwaraeon yng Nghymru. Yn benodol, hoffwn sôn am berfformiad anhygoel tîm pêl-droed dynion Cymru ym mhencampwriaeth Ewrop, a’r presenoldeb Cymreig cryf yn sgwad Olympaidd Team GB a dorrodd record. Mae nawr yn wych gweld ein hathletwyr Paralympaidd yn parhau â'n llwyddiant o ennill medalau yn Rio.

Wrth i’n tîm pêl-droed ddechrau eu hymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd yn llwyddiannus, mae'n braf gallu sefyll yma a meddwl bod gan Gymru siawns realistig o gyrraedd y rowndiau terfynol yn 2018. Yn Ffrainc, cyflawnodd y tîm yn fwy nag y gallem fod wedi’i ddychmygu, ac roedd y cefnogwyr ardderchog hynny a aeth i Ewrop i gefnogi'r tîm yn gosod safon ar gyfer ymddygiad a chwarae teg y byddai'r rhan fwyaf o wledydd eraill yn eu cael yn anodd eu hefelychu.

Rydym yn parhau i gefnogi chwaraeon ar lawr gwlad a chwaraeon cymunedol fel sylfaen i gynnal llwyddiant chwaraeon. Er enghraifft, mae Ymddiriedolaeth Bêl Droed Cymru yn cael bron £1 filiwn y flwyddyn o arian Llywodraeth Cymru i gefnogi datblygiad pêl-droed ar lawr gwlad. Eleni, maent wedi defnyddio pencampwriaeth Ewrop fel catalydd i sicrhau bod mwy o bobl yn chwarae pêl-droed, gan gynnal 100 diwrnod recriwtio pêl-droed cymunedol ledled Cymru a pharhau i ymgysylltu ag ysgolion drwy eu rhaglen Chwarae Mwy o Bêl-droed.

Mae llwyddiant athletwyr Cymru yn y Gemau Olympaidd yn rhywbeth y gallwn i gyd ymfalchïo ynddo. Er mai dim ond 7 y cant o Team GB oedd yn dod o Gymru, sicrhaodd y rhain 11 medal, gan gynnwys pedair medal aur. Wrth gwrs, UK Sport sy’n gyfrifol am ddatblygu enillwyr medalau posibl i'r pwynt lle y gallant gystadlu'n llwyddiannus ar y lefel uchaf, ond y gwledydd unigol sy’n gyfrifol am ganfod talent a’i ddatblygu.

Mae Chwaraeon Cymru yn buddsoddi dros £10 miliwn y flwyddyn i gefnogi ymdrechion y cyrff llywodraethu cenedlaethol i ddatblygu llwybrau talent a darparu cefnogaeth elît i athletwyr addawol yng Nghymru. O ganlyniad, rydym wedi cyflawni ein canlyniadau gorau erioed—yn gyntaf yn Glasgow a nawr yn Rio. Rwy'n falch o ddweud bod fy nghyd-Weinidogion a minnau’n gefnogol o adolygiad y cadeirydd presennol o Chwaraeon Cymru. Mae'n hanfodol bod gennym gorff chwaraeon sydd nid yn unig yn gallu adeiladu ar lwyddiannau'r gorffennol ond hefyd wynebu'r heriau sydd o'n blaenau’n hyderus.

Yn union fel y mae ein mabolgampwyr yn cyflawni campau a dorrodd record ar lwyfan y byd, gartref rydym wedi bod yn cynnal rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau chwaraeon rhyngwladol mawr, gan ddangos pedigri Cymru unwaith eto fel cyrchfan i ddigwyddiadau o'r radd flaenaf. Ym mis Mawrth, bu rhai o'r rhedwyr pellter hir gorau yn y byd yn pydru mynd ar strydoedd Caerdydd ym Mhencampwriaeth Hanner Marathon y Byd, un o dri digwyddiad athletau mwyaf y byd. Ym mis Mai, dychwelodd Velothon Cymru i ffyrdd y de-ddwyrain. Dim ond ail flwyddyn y digwyddiad oedd hon, a chafodd sylw cadarnhaol i raddau helaeth, ac mae’r trefnwyr wrthi’n trafod 2017 â phartneriaid perthnasol.

Ym mis Mehefin, croesawyd cymal y DU o'r Gyfres Hwylio Eithafol yn ôl i Gymru. Unwaith eto, rhoddodd Bae Caerdydd gefndir stadiwm i un o ddigwyddiadau hwylio mwyaf ysblennydd y byd. Ym mis Gorffennaf, cynhaliodd Stadiwm Principality grand prix speedway Prydain, rhan o bencampwriaeth speedway y byd. Mae hwn yn benwythnos chwaraeon mawr yn ein prifddinas, sy’n denu miloedd o ymwelwyr tramor, a'r wythnos diwethaf, teithiodd ras seiclo ffyrdd broffesiynol fwyaf y DU, y Tour of Britain, drwy Gymru gyda’r Olympiaid Syr Bradley Wiggins, Mark Cavendish ac, wrth gwrs, ein Owain Doull ni’n cystadlu. Bydd ein rhaglen o ddigwyddiadau a gefnogir yn 2016 yn dod i ben ddiwedd mis Hydref gyda rownd derfynol Pencampwriaeth Rali'r Byd—Rali Cymru Prydain Fawr.

Mae'r digwyddiadau byd-eang hyn yn rhoi hwb sylweddol i economi Cymru. Bydd y digwyddiadau hyn eu hunain yn denu tua 330,000 o ymwelwyr i Gymru, i wario £44 miliwn ychwanegol a chefnogi dros 1,000 o swyddi. Maent hefyd yn codi proffil rhyngwladol Cymru drwy sylw yn y cyfryngau byd-eang, ac yn hybu cyfranogiad. Dewch inni beidio ag anghofio ein bod hefyd yn cefnogi portffolio ffyniannus o ddigwyddiadau celfyddydol a diwylliannol. Eleni, rydym yn cefnogi 20 o ddigwyddiadau ledled Cymru sy'n cynnig ystod gyfoethog ac amrywiol o brofiadau diwylliannol. Maent yn cynnwys: Gŵyl Comedi Machynlleth, Focus Wales, Gŵyl y Gelli, Gŵyl Gregynog, Balchder Cymru a Dinas yr Annisgwyl Roald Dahl, a heddiw mae'n 100 mlynedd ers geni Roald Dahl yn Llandaf.

Mae cyfnod cyffrous o'n blaenau wrth inni baratoi i gynnal rhai o'r digwyddiadau chwaraeon mwyaf a mwyaf mawreddog yn y byd. Yn dilyn llwyddiant ein tîm cenedlaethol i gryfhau safle Cymru ym mhêl-droed y byd, y flwyddyn nesaf bydd Stadiwm Principality yn cynnal rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA. Bydd hwn yn ddigwyddiad cyntaf hanesyddol arall i Gymru. Mae’r twrnamaint eisoes ar y gweill, ac felly mae'r 'ffordd i Gaerdydd' yn sicr yn fyw yn awr. Ychydig ddyddiau’n ddiweddarach, bydd Criced Morgannwg yn cynnal gemau yn Nhlws Pencampwyr y Cyngor Criced Rhyngwladol. A bydd haf o enwogion chwaraeon yn parhau wrth i Glwb Golff Brenhinol Porthcawl gynnal y Bencampwriaeth Agored Golffwyr Hŷn am yr ail dro. Roedd y digwyddiad yn 2014 yn llwyddiant ysgubol, a chafodd ganmoliaeth gan rai o golffwyr gorau’r byd, gan gynnwys Tom Watson.Roedd y digwyddiad yn 2014 yn llwyddiant ysgubol, a chafodd ganmoliaeth gan rai o olffwyr gorau’r byd, gan gynnwys Tom Watson.

Yn 2018, bydd Ras Cefnforoedd Volvo yn cyrraedd Caerdydd ac yn aros yma am bythefnos. Mae’r antur ddynol naw mis o gwmpas-y-byd hon yn un o'r digwyddiadau dygnwch hiraf ac mwyaf anodd yn y byd, a bydd Cymru yn cynnal diwedd y cymal trawsiwerydd gwerthfawr iawn. Ac yn 2019, bydd sylw ar Criced Morgannwg unwaith eto gyda Chwpan Criced y Byd—y twrnamaint criced byd-eang mwyaf mawreddog.

Ni allwn orffwys ar ein rhwyfau. Os ydym am barhau i adeiladu enw da Cymru fel cyrchfan o ddewis i berchnogion digwyddiadau byd-eang, rhaid inni ddefnyddio dulliau gweithredu rhagweithiol a strategol. Gyda hynny mewn golwg, rydym wrthi'n cynnal ymarfer sganio’r gorwel i ganfod cyfleoedd newydd i ddenu mwy o ddigwyddiadau rhyngwladol mawr i bob rhan o Gymru. Rydym yn ymgysylltu â phartneriaid a rhanddeiliaid allweddol yn y sectorau cyhoeddus a phreifat yng Nghymru a thu hwnt i sicrhau eu barn. Mae hyn yn cynnwys pob un o'r 22 awdurdod lleol, Chwaraeon Cymru ac UK Sport. Ar lefel ryngwladol, mae ein gwaith yn cael ei lywio gan wybodaeth a gasglwyd o'n rhwydwaith o gysylltiadau sy'n cynrychioli sbectrwm cyfan y diwydiant digwyddiadau chwaraeon rhyngwladol. Rydym wedi nodi nifer o dargedau posibl i’w cynnal ac rydym yn parhau i asesu costau a manteision cymharol y digwyddiadau hyn. Rydym yn dal i fod yn uchelgeisiol yn ein hagwedd ac yn ymrwymedig i ddenu mwy o ddigwyddiadau rhyngwladol mawr i bob rhan o Gymru, ond mae'n rhaid inni gymedroli’r uchelgais hwnnw â mymryn o realaeth. Rydym yn wynebu rhai heriau anodd. Mae'r hinsawdd ariannol bresennol a'r pwysau ar gyllidebau'r sector cyhoeddus yn her fawr inni i gyd, ac mae angen inni gydweithio â phartneriaid yn y diwydiant digwyddiadau i ddatblygu modelau busnes â mwy o ffocws masnachol a chanfod ffrydiau ariannu arloesol newydd fel Crowdfunder a Kickstarter.

Y broblem fawr arall i ni yw diffyg lleoliadau sy'n gallu cynnal digwyddiadau rhyngwladol mawr—rheswm allweddol pam y penderfynodd y Cabinet yn anfoddog i beidio â gwneud cynnig am Gemau'r Gymanwlad 2026. Roedd y gwaith dichonoldeb a wnaethom ar gyfer Gemau'r Gymanwlad yn tynnu sylw at yr angen am fuddsoddiad sylweddol mewn, er enghraifft, cyfleusterau athletau, gweithgareddau dŵr a felodrom. Rwyf wedi cyhoeddi y byddwn yn cynnal adolygiad o gyfleusterau chwaraeon yng Nghymru i helpu i sicrhau bod Cymru yn y sefyllfa gryfaf bosibl i gynnig am ddigwyddiadau chwaraeon uchel eu proffil, a’u cynnal, yn y dyfodol. Gan ystyried y gwaith hwnnw, byddwn yn parhau â'n deialog adeiladol â Gemau'r Gymanwlad Cymru a Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad ynglŷn â chais posibl i Gymru yn y dyfodol. Hoffem barhau i gydweithio â’r ddau sefydliad i archwilio opsiynau hyblyg ar gyfer cynnig sy'n rhoi gwerth am arian a buddion i Gymru gyfan.

Mae Cymru yn amlwg yn dyrnu’n llawer yn uwch na'i phwysau ym maes digwyddiadau rhyngwladol. Mewn cyfnod byr, rydym wedi dod yn chwaraewr difrifol mewn marchnad fyd-eang gystadleuol dros ben, ac rydym wedi ymrwymo i ddenu mwy o digwyddiadaumwy o ddigwyddiadau rhyngwladol mawr ym meysydd rhyngwladol mawr ym meysydd chwaraeon a diwylliant, sy'n gwella bywydau a lles pobl a chymunedau ledled Cymru.

Diolch yn fawr iawn. Mae gen i nifer o siaradwyr. Rwy’n mynd i geisio rhoi cyfle i bawb, ond rydych yn dibynnu ar eich cydweithwyr i fod yn gryno hefyd. Neil McEvoy.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy longyfarch Olympiaid Cymru ar y ffordd y maent wedi cynrychioli Cymru, gan ddangos eto fyth y meddylfryd ennill sydd gan ein gwlad ac, wrth gwrs, hoffwn longyfarch y Paralympiaid sy’n cystadlu yn Rio ar hyn o bryd. Hoffwn i hefyd longyfarch tîm pêl-droed Cymru am eu buddugoliaeth wirioneddol drawiadol dros Moldova i ddechrau gemau rhagbrofol Cwpan y Byd. Mae'r chwaraewyr a'r cefnogwyr eisoes wedi gwneud argraff dda ar Ewrop yr haf yma gyda'u hangerdd a’u sgiliau a dewch inni obeithio y gallwn fynd ymlaen i Gwpan y Byd—digwyddiad chwaraeon mwyaf y byd. Mae gen i obeithion mawr am dîm y merched hefyd wrth iddynt ddechrau eu hymgyrch Cwpan y Byd, ac rwy’n edrych ymlaen, fel pawb, at rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn stadiwm y mileniwm.

Wrth gwrs, mae rhai yn y Siambr sy'n meddwl mai cenedlaetholdeb pitw yw ein tîm pêl-droed annibynnol, ac sy’n hapus i beryglu ein statws fel cenedl bêl-droed annibynnol yn seiliedig ar eu cenedlaetholdeb Prydeinig ideolegol eu hunain. Mae'n bryd i bawb gefnogi ein tîm a’n gwlad—Cymru. Does dim anrhydedd mwy—dim anrhydedd uwch—na chwarae i Gymru a chynrychioli ein gwlad. I wneud yr hyn y mae ein Olympiaid a’n chwaraewyr pêl-droed wedi ei wneud, mae angen uchelgais; yn sicr, nid yw hwnnw’n dod gan Lywodraeth Cymru. Rwy'n dal i fod wedi fy syfrdanu, mewn gwirionedd, bod Llafur wedi gwrthod y cyfle i wneud cynnig i gynnal Gemau'r Gymanwlad. Mae'n un o’r digwyddiadau chwaraeon rhyngwladol mwyaf sy’n bodoli, ac os siaradwch ag athletwyr Cymru—sbortsmyn Cymru—y digwyddiad y maent yn edrych ymlaen ato fwyaf yw Gemau'r Gymanwlad, oherwydd maent yn gwisgo crys Cymru a fest Cymru. Gallwch siarad fel a fynnwch am sganio'r gorwel, ond Gemau'r Gymanwlad yw'r digwyddiad chwaraeon mawr y dylech fod wedi cynnig amdano. Os oes diffyg lleoliadau—ac mae hynny’n wir—mae'n dangos i ba raddau y mae eich Llywodraeth wedi methu ac y mae’n dal i fethu. Mae'n anhygoel, a dweud y gwir.

Mae yna nifer o gwestiynau difrifol, mewn gwirionedd, sydd heb eu hateb. Yn gyntaf, y tro diwethaf ichi wneud datganiad fel hyn, gofynnais ichi ddod i lawr i Grangetown i gwrdd â'r plant nad ydynt yn gallu fforddio chwarae pêl-droed ar gaeau’r cyngor. Ond, ni chefais ymateb i hynny, felly rwyf am estyn y gwahoddiad eto. A wnewch chi ddod gyda mi i Grangetown a siarad â'r plant sy'n methu â fforddio pêl-droed ar lawr gwlad? [Torri ar draws.] Ydw, rwy'n cytuno; mae mannau eraill hefyd. Ond, yn yr etholaeth hon, ddim ond tafliad carreg i ffwrdd, taith gerdded i lawr y ffordd, gallwch weld y realiti sy’n wynebu ein cymunedau.

Yn ail, er fy mod i’n croesawu llwyddiant ein hathletwyr elît, rwy'n pryderu am gefnogaeth y Llywodraeth i rai o'n chwaraeon eraill—neu ddiffyg cefnogaeth, mewn gwirionedd—agwirionedda hoffwn weld mwy o gefnogaeth i chwaraeon fel rygbi’r gynghrair a phêl fas, sydd mor unigryw, a dweud y gwir, yng Nghymru. Hoffwn gael gwybod pa fentrau neu gefnogaeth sydd gennych efallai i gefnogi’r chwaraeon eraill hyn. Yn y chwaraeon hyn—a dim ond am rygbi'r gynghrair yr wyf am siarad—mae gennym rai o’r chwaraewyr gorau erioed: Billy Boston, a anwyd yn Tiger Bay. Rwy'n meddwl y dylem fod yn gwneud rhywbeth i gofio am bobl tebygdebyg iddo ef a phobl fel y diweddar Gus Risman hefyd. Mae potensial i gynnal rhai digwyddiadau bocsio enfawr yn y ddinas, ond gofynnaf rai cwestiynau am Gemau'r Gymanwlad.

Hoffwn wybod: pryd gafodd y penderfyniad ei wneud i beidio â gwneud cynnig am y gemau? Mae'n ddiddorol eich bod wedi sôn am Glasgow oherwydd, ar gyfer gemau Glasgow, cafodd rhan sylweddol o'r gost ei thalu gan awdurdodau lleol. Felly, a wnaeth Llywodraeth Cymru ofyn yn benodol i awdurdodau lleol a fyddent yn fodlon cyfrannu at Gemau'r Gymanwlad Cymru? A ofynnodd Llywodraeth Cymru i Lywodraeth y DU am unrhyw gymorth ariannol, o ystyried bod y cyn Brif Weinidog, David Cameron, wedi dweud y byddent yn darparu cymorth ariannol i unrhyw gynnig llwyddiannus gan ddinas yn y DU? Pryd wnaeth Llywodraeth Cymru roi gwybod i Gemau'r Gymanwlad a Chwaraeon Cymru am y penderfyniad i beidio â gwneud cynnig?

Yn olaf, hoffwn sôn am ddigwyddiad—Balchder Cymru. Ein cyfeillion dros y ffordd unwaith eto, cyngor Caerdydd, a ganslodd y digwyddiad yn Cooper Field heb ddweud wrth y trefnwyr. Cefais gyfarfod gyda nhw echdoe. Byddwn yn gofyn ichi a fyddech o blaid gofyn i gyngor Caerdydd ddarparu dyddiad penodol i ddigwyddiad Balchder Cymru yn y ganolfan ddinesig, ac a fyddech yn fodlon ychwanegu ychydig o gymorth ariannol i’r digwyddiad hwnnw ai peidio. Mae'n sioe wych i’r ddinas. Mae'n ddigwyddiad gwych, sy'n dymchwel rhwystrau, a dylid ei gefnogi. Diolch yn fawr.

Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau a dweud, yn gyntaf oll, o ran Balchder Cymru, mae hwn yn ddigwyddiad gwych a noddir gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn falch iawn o'r digwyddiad hwnnw. Mae'n denu nifer enfawr o bobl i Gaerdydd o bob cwr o Gymru a'r DU hefyd. Hoffem ei weld yn parhau ac yn tyfu. O ran ei safle ar Gaeau Cooper, rwyf eisoes wedi sôn am y mater hwn ar ôl cael llythyr gan fy nghydweithiwr yr Aelod dros Delyn, Hannah Blythyn, a nododd yn gywir, yn fy marn i, mai’r lleoliad hwnnw yw’r lleoliad gorau i gynnal y digwyddiad yn ein prifddinas. Felly, dywedais hynny wrth gyngor Caerdydd. Yn fy marn i, dylai'r digwyddiad aros ar Gaeau Cooper. Rwyf wedi cael gwybod nad oes ganddynt unrhyw fwriad i’w symud o Gaeau Cooper, ond byddwn yn annog y cyngor a'r trefnwyr i wneud yn siŵr y gallant gyrraedd canlyniad boddhaol i’w sgyrsiau—un sy'n cynnwys dyddiad sy'n gyfleus i bawb i gynnal y digwyddiad yn ystod yr haf, fel sydd wedi digwydd erioed. Mae'n ddigwyddiad gwych ac mae torf enfawr o bobl yn mynd iddo. Hoffwn ei weld yn parhau ar Gaeau Cooper, lle mae wastad wedi bod fwyaf llwyddiannus, ar yr adeg o'r flwyddyn y mae'n fwyaf llwyddiannus. Rwy'n siŵr mai’r trefnwyr yw'r bobl orau i allu dynodi pryd y dylid ei gynnal.

O ran gwariant a chost, dewch inni sôn, yn gyntaf oll, am chwaraeon yn gyffredinol. Mae’r Llywodraeth Cymru bresennol, a Llywodraethau blaenorol Cymru, wedi gwneud mwy i amddiffyn gwariant ar chwaraeon drwy Chwaraeon Cymru, ac felly drwy'r cyrff llywodraethu cenedlaethol, nag oedd yn wir ledled y DU yn ei chyfanrwydd. Ond nid dim ond dyfodol chwaraeon ffurfiol yr ydym yma i’w ystyried heddiw. Mae nifer o fathau o chwaraeon a gweithgarwch corfforol anffurfiol y mae'r Llywodraeth hon wedi’u hariannu ac yn falch i’w hariannu, fel gemau stryd, neu’r gweithgareddau corfforol hynny fel pêl droed cerdded na fyddem o reidrwydd yn ystyried ar unwaith eu bod yn chwaraeon cystadleuol neu’n chwaraeon elît, ond sy'n gwneud gwahaniaeth anhygoel i fywydau pobl, yn enwedig rhai sy’n methu symud cystal, neu’r rhai sy'n hen neu'n fregus.

O ran Gemau'r Gymanwlad, gwnaethpwyd y penderfyniad yn yr haf, ar ôl llawer o waith gan bobl oedd yng nghanol gemau Glasgow—pobl a chanddynt hygrededd aruthrol a dealltwriaeth lawn o gostau a manteision cynnal digwyddiad fel hwn. Gwnaethpwyd y penderfyniad hwnnw yn y Cabinet yn yr haf, ac yna rhoddwyd gwybod i Gemau'r Gymanwlad Cymru. Mae awdurdodau lleol wedi bod yn rhan o'n grŵp llywio drwyddi draw, ond ni allant gyfrannu at gost y gemau ar hyn o bryd. O ran Llywodraeth y DU, cawsom gadarnhad ysgrifenedig gan yr Ysgrifennydd Gwladol y gallai ddarparu cymorth yn y meysydd hynny y mae'n gyfrifol amdanynt—fel fisâu—ond nid oedd dim arwydd o barodrwydd i wario arian i adeiladu'r cyfleusterau eu hunain sydd eu hangen ar gyfer y gemau.

Rwy’n credu mai uchelgais mwy i Gymru fyddai dylanwadu ar newid ar lefel Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad, fel bod modd nid yn unig i Gymru, ond gwledydd bach eraill y Gymanwlad gynnal y digwyddiad lle nad ydynt yn gallu ar hyn o bryd. Byddai'n wych gweld nid dim ond Gemau'r Gymanwlad yng Nghymru, ond efallai Gemau'r Gymanwlad yn ynysoedd y Caribî yn digwydd, ond ar hyn o bryd nid yw hynny'n bosibl. Felly, byddaf yn gweithio gyda gwledydd eraill y Gymanwlad i ddylanwadu ar newid ar y lefel uchaf fel y byddwn ni, a’r gwledydd hynny nad ydynt wedi’u cynnal eto, yn gallu cynnig amdanynt a’u cynnal yn y dyfodol.

Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad. Mae croeso mawr i lwyddiant timau a pherfformwyr o Gymru yn yr arena ryngwladol, a dylid eu canmol. Mae llwyddiant o'r fath yn hysbyseb wych i Gymru ac i ddechrau bydd yn cael effaith o ran annog mwy o gyfranogiad mewn chwaraeon yma. Hefyd, mae gwerth masnachol mawr i Gymru lwyfannu digwyddiadau chwaraeon rhyngwladol mawr. Fodd bynnag, weithiau ceir datgysylltiad mawr rhwng yr hyn y mae cenedl yn ei gyflawni mewn chwaraeon elît a diffyg cyfranogiad cyffredinol ar lawr gwlad. Wrth 'llawr gwlad' nid wyf yn cyfeirio at ddarpar Olympiaid, ond yn hytrach bobl gyffredin sydd byth yn debygol o gyrraedd arena ryngwladol.

Yma yng Nghymru, rydym yn cynhyrchu pêl-droedwyr sydd ymysg y gorau yn y byd, fel Gareth Bale. Mae gennym feicwyr a nofwyr a enillodd fedalau Olympaidd fel Becky James a Jazz Carlin, a llawer o enwogion eraill, ond ar yr un pryd, fel rhanbarthau eraill yn y DU, rydym yn wynebu lefelau digynsail o ordewdra ymysg plant ac oedolion. Yn amlwg mae hyn yn wrthddweud mawr. Yn amlwg, nid yw’r un peth, sef rhagoriaeth mewn chwaraeon rhyngwladol, yn arwain yn awtomatig at y peth arall, sef lefel gyffredinol uchel o iechyd a ffitrwydd. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cydnabod y paradocs ymddangosiadol hwn, a sut mae'n bwriadu ymdrin ag ef?

Yng Nghymru gyfan, mae mwy a mwy o gynghorau’n gofyn i gwmnïau preifat gynnal eu canolfannau hamdden. Mae'n rhaid inni sicrhau nad yw'r polisi hwn yn effeithio ar allu pobl gyffredin i ddefnyddio campfeydd, pyllau nofio a chyrtiau badminton am gost resymol. Sut mae Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau hyn? Mae angen inni annog mwy o gyfranogiad mewn chwaraeon ymhlith pobl ifanc, gan ddechrau drwy sicrhau eu bod yn cerdded i leoedd yn hytrach na mynd yng nghar eu rhieni bob amser. Rwy’n sylweddoli bod y rhain yn broblemau eithaf sylfaenol i'r DU gyfan.

Mae angen inni hefyd annog pobl ganol oed a phobl hŷn i gymryd rhan mewn chwaraeon. Bu cynnydd syfrdanol mewn ffioedd clybiau bowlio yng Nghaerdydd dros y blynyddoedd diwethaf, sydd yn sicr yn wrthgynhyrchiol. Os aiff hen bobl yn fwy anweithgar, byddant yn y pen draw’n costio mwy i’r economi o ran meddyginiaeth a thriniaeth yn y tymor hir.

Yn gynharach heddiw, mae'r Prif Weinidog wedi rhoi ei resymau dros dynnu cynnig Cymru am Gemau'r Gymanwlad yn ôl, ac rwy’n deall y gallai fod rhai rhesymau cadarn yno. Dydw i ddim yn mynd i feirniadu hynny. Rwyf hefyd yn cytuno â'ch datganiadau chi am gynigion ar y cyd oherwydd bu Gemau'r Gymanwlad yn Kingston, Jamaica yn 1966—nawr byddai'n amhosibl i Jamaica eu cynnal. Ac mae Gemau'r Gymanwlad yn tueddu i fynd ar ryw fath o driongl rhwng y DU, Canada, Awstralia, Seland Newydd a dyna ni. Felly, mae angen inni annog mwy o gyfranogiad yn y maes hwnnw. Felly, rwy’n croesawu eich ymdrechion ar lefel y Gymanwlad.

Efallai y gallem hefyd ystyried symud tuag at neilltuo rhai o'r cronfeydd a glustnodwyd ar gyfer prosiect Gemau'r Gymanwlad sydd nawr yn segur, a’u defnyddio i annog chwaraeon ar lawr gwlad yn lle hynny. Diolch.

Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei gyfraniad gwybodus a byddwn yn cytuno’n llwyr ag ef. Rwy’n meddwl, o ran triongl symudiad y gemau, mae'n hollol gywir; mae angen rhoi sylw i hynny. Yn fy marn i, fel yr wyf eisoes wedi’i ddweud, ond byddaf yn ailadrodd, yn fy marn i, mae uchelgais mawr yn fater o fod yn benderfynol i arloesi. Dyna pam yr hoffwn weld newid yn digwydd, nid dim ond fel y gallwn ni gynnal y gemau unwaith mewn bywyd, ond o bosibl ar sawl achlysur mewn bywydau.

Mae’r Aelod hefyd yn gywir wrth sôn am y gemau—neu o ran hynny, am chwaraeon elît yn gyffredinol—nad ydynt yn arwain o reidrwydd at gynnydd mewn lefelau gweithgarwch corfforol ar draws y boblogaeth. Er mwyn cyflawni hyn, mae angen newid ein diwylliant yn llwyr, a dyna pam rydym yn datblygu'r strategaeth gweithgarwch corfforol Cael Cymru i Symud a pham mae cadeirydd Chwaraeon Cymru hefyd yn dymuno adolygu cylch gwaith y sefydliad i wneud yn siŵr nad yw’r sefydliad yn canolbwyntio ar gyfranogiad mewn chwaraeon yn unig, ond ar weithgarwch corfforol cyffredinol.

Mae rhai o'r gweithgareddau y soniodd yr Aelod amdanynt yn rhai yr ydym yn eu cefnogi ar hyn o bryd. Drwy'r rhaglen lywodraethu newydd, byddwn yn treialu bond lles Cymru, yn ogystal â phresgripsiwn cymdeithasol, ac wrth gwrs gronfa her. Mae'r gronfa her yn cael ei chynllunio’n benodol ar gyfer sefydliadau celfyddydau cymunedol a chwaraeon cymunedol.

Ond i’r rheini sy'n dweud y dylem fod wedi bwrw ymlaen â chais o £1.5 biliwn am Gemau'r Gymanwlad, byddwn yn dweud, 'Cymerwch un cam yn ôl; efallai eich bod wedi siarad ag athletwyr elît, ond a ydych wedi siarad â'r plant hynny nad ydynt yn gallu defnyddio’r cyfleusterau chwaraeon hynny?' Byddwn yn sicr yn mynd i’r cyfleusterau chwaraeon hynny gydag unrhyw Aelod ac yn eich gwahodd i egluro iddynt pam fyddai'n well gennych weld gwario £1.5 biliwn ar gyfleusterau a gynlluniwyd nid ar gyfer pobl y wlad, ond ar gyfer digwyddiad sy'n para dim ond pythefnos. Yn ein barn ni, yn gyntaf oll mae angen edrych yn strategol ar yr hyn sydd ei eisiau ar y genedl o ran cyfleusterau ac yna siapio’r gemau o gwmpas y cyfleusterau sydd gennych. Nid ydych yn ei wneud o chwith.

Gan fod gormod o enghreifftiau o gemau, boed yn gemau’r Gymanwlad neu Olympaidd, sy’n frith â chyfleusterau a oedd yn grand pan gawsant eu hagor, ond sydd erbyn heddiw’n pydru. Pam? Gan iddynt gael eu cynllunio nid o reidrwydd ar gyfer y boblogaeth, ond ar gyfer y digwyddiad. Mae'n rhaid ichi wneud hyn y ffordd iawn, a dyna pam y cyhoeddais strategaeth cyfleusterau gan ddweud bod cynnig am Gemau'r Gymanwlad yn y dyfodol yn bendant yn rhywbeth y byddwn yn ei ystyried. Ond mae angen inni hefyd, fel yr wyf yn ei ailadrodd, mae angen inni hefyd weld, yn fy marn i, rywfaint o arloesi a newid ar y lefel uchaf er mwyn galluogi, o bosibl, gynigion ar y cyd neu gynigion lluosog i'w derbyn, a hefyd gynigion cenedlaethol. Rwyf wedi clywed rhai’n dweud ei bod yn anghywir y dylai’r Llywodraeth Cymru hon fod wedi ystyried cynnig i Gymru gyfan neu gynnig gogledd-de. Pam? Os ydych yn mynd i wario £1.5 biliwn fel Llywodraeth ar ddigwyddiad, dylai fod o fudd i'r boblogaeth gyfan ac i bob cornel o'r wlad a phobman yn y canol. Felly, nid ydym yn ymddiheuro am ddymuno gweld digwyddiad mawr sy’n fuddiol i Gymru gyfan.

Diolch yn fawr iawn, mae gennym tua chwe munud ac mae gen i bedwar o siaradwyr. Felly a gaf i apelio am—

Na, rwy’n dod atoch chi nawr. Dim ond dweud, 'A gawn ni apelio am gwestiynau cryno ac atebion cryno gan y Gweinidog hefyd?' Andrew R.T.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, diolch am eich datganiad. Hoffwn gofnodi fy ngwerthfawrogiad a fy llongyfarchiadau i’r holl ddynion a merched chwaraeon sydd wedi perfformio ar wahanol leiniau mewn gwahanol ddinasoedd mewn chwaraeon amrywiol, ledled y byd mewn gwirionedd, drwy gydol haf o ragoriaeth a disgleirdeb mewn chwaraeon yr wyf yn meddwl ein bod i gyd wedi’u mwynhau’n arw. A dyna yn wir yw’r pwynt, sef bod y deinamig chwaraeon y tu ôl i’r holl ddigwyddiadau mawr hyn wedi newid yn radical dros yr 20 mlynedd diwethaf gyda dyfodiad teledu lloeren a theledu cebl, sy’n mynnu’r cyrchfannau aml-leoliad hyn yn amlwg i bortreadu’r llwyfan hwnnw y mae doleri teledu neu bunnoedd teledu—beth bynnag y mynnwch eu galw—yngalwyn talu amdano i goffrau’r priod chwaraeon hynny.

Mae'n siomedig na fyddwn ni, yn anffodus, yn gwneud cynnig am Gemau'r Gymanwlad. Rwyf wedi clywed yr hyn y mae'r Ysgrifennydd wedi’i ddweud y prynhawn yma. Byddwn yn gofyn a allai’r Ysgrifennydd efallai ddarparu sesiwn friffio i Aelodau'r Cynulliad gyda'r ymgynghorwyr a ddarparodd yr adroddiad fel y gall Aelodau'r Cynulliad eu holi’n fanwl ynghylch rhai o'r casgliadau a ffurfiwyd. Byddwn yn dweud wrth Ysgrifennydd y Cabinet, yn fy sgyrsiau gyda Gweinidogion ac Ysgrifenyddion Gwladol ar ben arall yr M4, roedd cefnogaeth i gynnig o Gymru a byddai’r gefnogaeth honno wedi cael ei gwireddu ar ffurf cefnogaeth ariannol hefyd. Roedd yn rhaid iddynt gael rhyw syniad o'r cyllid yr oeddech yn mynd i fod yn ei geisio ac, fel yr wyf ar ddeall, ni chafodd cynigion nac ymatebion manwl eu rhoi gerbron Ysgrifenyddion Gwladol na Gweinidogion ar ben arall yr M4 iddynt eu hystyried. Felly byddwn yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet roi rhywfaint o ystyriaeth i hyn, oherwydd, fel y deallaf, nid yw'n rhy hwyr i gyflwyno cynnig am Gemau'r Gymanwlad. Mae’r ffenestr honno’n dal i fod ar agor, ac rwy’n credu bod cyfle i ailystyried y penderfyniad hwn—er fy mod yn clywed yr hyn a ddywedwch am yr effaith ar chwaraeon ar lawr gwlad, ac mae hynny'n rhywbeth y mae’n rhaid i’r Llywodraeth ei ystyried, oherwydd y pwynt nesaf yr oeddwn yn mynd i’w wneud am y datganiad yr ydych wedi’i wneud heddiw yw, gan ganolbwyntio ar chwaraeon ar lawr gwlad, sy’n cael sylw yn eich datganiad, bod llawer o gynghorau ledled Cymru wedi cymryd codiad mewn ffigurau dwbl neu driphlyg yn y ffioedd chwaraeon y maent yn eu codi ar glybiau amatur i chwarae bob wythnos, ac mae hyn, mewn llawer o achosion, wedi gwneud i’r clybiau hynny naill ai orfod cyfuno neu gau eu drysau. Felly, byddwn yn ddiolchgar am syniad o ba drafodaethau yr ydych yn eu cael ar draws y Llywodraeth ynghylch sut y gall y Llywodraeth weithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod y ffioedd yn fforddiadwy i nifer o glybiau gwirfoddol ar hyd a lled Cymru. Nid mater o un ardal benodol yw hyn; mae’n digwydd ar draws yr holl awdurdodau lleol am resymau amlwg— cyfyngiadau ariannol ar eu cyllideb.

Rwy’n sylwi eich bod, yn eich datganiad, yn rhestru cyfres o ddigwyddiadau sydd wedi cael eu cynnal ledled Cymru. Un o'r tlysau yn y goron, byddwn yn awgrymu, o ran y cyfleusterau sydd gennym yng Nghymru, nad yw'n cael ei ystyried yn naturiol fel lleoliad chwaraeon yn y lle cyntaf, yw maes Sioe Frenhinol Cymru yn y canolbarth. Mae hwnnw wedi cael ei ddefnyddio’n fwyfwy naill ai fel man aros neu fan dechrau neu orffen mewn llawer o ddigwyddiadau fel ralio. Sylwais yr wythnos diwethaf fod prif weithredwr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn sôn am geisio denu mwy o'r math hwn o ddigwyddiad i’r canolbarth. Byddwn yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet roi awgrym: a yw'r Llywodraeth yn ymgysylltu â rhanddeiliaid fel Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru i ddatblygu’r lleoliad hwn, na fyddai’n draddodiadol yn cael ei ystyried yn lleoliad chwaraeon, i ychwanegu at y llu o gyrchfannau sydd gennym i’w cynnig i drefnwyr rhyngwladol a domestig y digwyddiadau hyn?

Byddwn hefyd yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet geisio rhoi gwybod inni, o ran y sganio'r gorwel y mae'n sôn amdano yn ei ddatganiad, ynghylch pa fath o ddigwyddiadau y mae ef yn credu, wrth symud ymlaen, yn y 18 mis i’r ddwy flynedd nesaf, y gallem ddisgwyl yn rhesymol y bydd Cymru mewn sefyllfa i wneud cynnig amdanynt ac, yn wir, sicrhau’r hawliau i gynnal y digwyddiadau hynny.

Yn bwysig iawn, mae fy mhwynt olaf yn ymwneud â seilwaith yn fwy cyffredinol. Cefais sgwrs â'r Gymdeithas Bêl-droed yn ddiweddar, yn y gêm ryngwladol ddiwethaf, ac roeddent yn siarad yn llawn cyffro am rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr sy'n dod fis Mai nesaf, ond yn amlwg roeddent yn tynnu sylw at y materion gwirioneddol o gwmpas pethau syml fel gwelyau mewn gwestai, er enghraifft, ac a oedd y seilwaith lleol ar gael i ddarparu ar gyfer digwyddiadau mor boblogaidd. Bydd llawer o bobl yn gadael yn syth ar ôl y digwyddiad hwnnw gan na fydd y seilwaith lleol yn gallu darparu ar gyfer yr holl bobl sy'n dod, ac mewn gwirionedd byddant yn cael eu gwthio’n ôl dros bont Hafren i Swindon, i Reading, i Fryste, gan fod gan y dinasoedd hynny seilwaith mwy i gynnal darpariaeth ar gyfer cefnogwyr sy'n teithio. Felly, mae'n bwysig eich bod chi, fel Llywodraeth, yn gweithio gyda’r gweithredwyr, yn gweithio gyda’r darparwyr i ddarparu'r seilwaith hwnnw dim ond o ran trafnidiaeth yn ogystal â llety gwesty a hyrwyddo chwaraeon. Diolch.

Hoffwn i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau. Yn gyntaf oll, o ran Cynghrair y Pencampwyr, wrth gwrs, un o'r heriau mawr yno yw na fyddwn yn gwybod pa ddau dîm fydd yn y rownd derfynol tan tua thair wythnos cyn i’r rownd derfynol ddigwydd. Felly, gan ddibynnu ar ba dimau sydd yn y rownd derfynol, bydd yna ddeinameg wahanol iawn o ran y bobl sy'n dod i Gaerdydd, a hefyd o ran am ba mor hir y byddant yn aros yma. Mae gennym grŵp llywio wedi’i sefydlu—a dweud y gwir, mae’r cyfarfod nesaf, rwy’n credu, ddydd Iau—i edrych ar bob un o'r heriau sy'n cael eu cyflwyno o ran seilwaith. Mae ystafelloedd gwesty’n un o'r prif bwyntiau yr ydym wedi bod yn eu harchwilio, a rheilffyrdd yn ogystal, fel yr wyf yn siŵr y bydd yr Aelod yn gwybod, yn ogystal â mynediad ffordd a lletygarwch ar adeg brysur iawn o'r flwyddyn ledled Cymru a thu hwnt. Felly, mae'r rhain yn faterion yr ydym yn edrych arnynt gyda rhanddeiliaid allweddol, sydd i gyd yn awyddus iawn i weld bod rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn llwyddiant mawr.

O ran y mathau o ddigwyddiadau yn ein hymarfer sganio'r gorwel y gallem ddisgwyl cynnig amdanynt yn y dyfodol, rydym yn edrych ar y rhai sy'n cynnig yr elw mwyaf ar fuddsoddiad yn ogystal â'r rhai sy'n cynyddu cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, yn ogystal â'r rhai sydd wedi’u gwasgaru’n gyfartal ac yn deg ledled Cymru. Dyma pam yr wyf yn meddwl bod gan faes Sioe Frenhinol Cymru botensial mawr, oherwydd, yn y canolbarth, mae'n un o brif gyfleusterau’r economi ymwelwyr. Rwy’n meddwl wrth inni edrych ar—ac nid wyf am wneud addewidion, ond, wrth inni edrych ar y strategaeth cyfleusterau ochr yn ochr â'r ymarfer sganio'r gorwel ar gyfer digwyddiadau mawr, rwy’n sicr yn gweld potensial y canolbarth i gynnal mwy. O ran y digwyddiadau penodol hynny, rwy’n meddwl ei bod yn rhesymol disgwyl cynnig am daith fawreddog Ewropeaidd, ac, i’r Aelodau hynny nad ydynt yn siŵr beth yw hynny, digwyddiad beicio ydyw, boed yn daith fawreddog o gwmpas Ffrainc neu'r Eidal.

O ran ffioedd am leiniau, mae'r Aelod yn gofyn cwestiwn yr hoffai nifer o Aelodau eraill yn y Siambr hon ei ofyn, ac mae'n un yr wyf wedi’i godi gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Mae'n un sydd wedi cael ei ateb mewn rhai rhannau o Gymru, ond rwy’n ymwybodol bod mwy o bwysau ar glybiau a sefydliadau chwaraeon mewn rhai rhanbarthau nag mewn ardaloedd eraill. Yn ystod tymor y Llywodraeth hon byddwn yn cyflwyno, fel y dywedais wrth yr Aelod yn gynharach, bond lles a phresgripsiwn cymdeithasol Cymru, a byddwn yn gobeithio y bydd hwnnw’n gweld cynnydd mewn lefelau cyfranogiad, nid dim ond mewn ffurfiau anffurfiol o weithgarwch corfforol, ond hefyd yn gynyddol mewn chwaraeon ffurfiol. Bydd hynny wedyn yn sicrhau bod clybiau a sefydliadau chwaraeon yn fwy cynaliadwy hefyd. Un o'r heriau mawr sy'n wynebu clybiau a sefydliadau chwaraeon ar hyn o bryd yw gostyngiadau yn nifer yr aelodau mewn llawer o chwaraeon. Mae hon yn broblem yn arbennig—. Rwy'n meddwl ei bod yn deg dweud bod golff wedi gweld ei anterth efallai ddegawd yn ôl, ond o ran aelodaeth clybiau nawr mae wedi gweld gostyngiad. Mae angen inni atal hynny ac felly mae'n bwysig bod clybiau golff yn hyblyg, bod clybiau golff yn arloesi hefyd, a bod y gêm yn arloesi i ddenu mwy o aelodau newydd.

Byddwn yn fodlon hwyluso sesiynau briffio. Rwy’n credu bod sesiwn friffio eisoes yn cael ei threfnu gyda Gemau'r Gymanwlad Cymru, ac rwy’n credu bod hyn yn digwydd yr wythnos nesaf. Os yw'r Aelod yn anfodlon ar ôl y sesiwn friffio honno, byddwn yn ceisio trefnu un gyda'r ymgynghorwyr. O ran cost y digwyddiad, rwy’n casglu o'r hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud y gallai fod parodrwydd newydd mewn gwirionedd i gefnogi cynnig gydag arian gan Lywodraeth y DU. Mae hyn yn sicr yn rhywbeth yr hoffwn ei archwilio gyda hwy, oherwydd, yn seiliedig ar ohebiaeth a gawsom ynglŷn â hyn, nid oedd hynny'n wir cyn i'r Cabinet wneud y penderfyniad. Os ydynt wedi newid eu meddyliau, os oes parodrwydd i'w gefnogi ag arian, byddai croeso mawr i hynny.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn gyflym iawn, oherwydd rwy’n gwybod nad oes gennym lawer o amser, hoffwn longyfarch ein holl ferched a dynion o’r maes chwaraeon sydd wedi ein gwneud ni mor falch. Rwy'n falch iawn bod Ysgrifennydd y Cabinet yn pwysleisio chwaraeon ar lawr gwlad a chwaraeon cymunedol. A all ef fy sicrhau y bydd unrhyw arian a roddir gan Lywodraeth Cymru yn cael ei ddefnyddio’n gyfartal er lles menywod a dynion? Oherwydd rwy’n meddwl ei fod wedi dweud yn ei ddatganiad bod £1 filiwn y flwyddyn o arian Llywodraeth Cymru wedi mynd i annog pêl-droed ar lawr gwlad. Rwy'n treulio cryn dipyn o amser ar gaeau pêl-droed ar fore Sadwrn a bore Sul ac nid wyf yn gweld llawer o ferched yn chwarae, a bod yn hollol onest. Bechgyn yw’r mwyafrif a dim ond ambell i ferch. Rwy’n gwybod bod llawer mwy o bwyslais ar bêl-droed merched a phêl-droed menywod nawr a llawer mwy o gyhoeddusrwydd a llawer mwy o gydnabyddiaeth ei bod yn bwysig iawn bod merched a dynion yn elwa o chwaraeon, ond roeddwn yn meddwl tybed pa fonitro y mae’r Llywodraeth yn ei wneud mewn gwirionedd i sicrhau bod yr arian yr ydym yn ei roi gan y Llywodraeth yn mynd yn gyfartal i'r ddau ryw.

O ran Gemau'r Gymanwlad, roeddwn yn siomedig iawn na wnaethom gynnig am Gemau'r Gymanwlad, oherwydd roeddwn yn teimlo ei fod yn gyfle enfawr. Es i Glasgow a gallech weld y trawsnewidiad i’r ddinas yn ystod y cyfnod hwnnw a thrwy'r etifeddiaeth barhaol. Felly rwy'n falch o glywed y byddem yn ystyried gwneud cynnig am Gemau'r Gymanwlad yn y dyfodol, ac rwy’n gobeithio y byddem yn gallu cynnwys aelodau’r awdurdodau lleol i wneud cynnig a allai ddod â chymaint i Gymru.

Hoffwn ddiolch i Julie Morgan am ei chwestiynau, ac, o safbwynt chwaraeon menywod, a dweud y gwir mae'n ffaith, o ran pêl-droed menywod, bod mwy na dwy o ferched dan 18 wedi cofrestru fel chwaraewyr pêl-droed gydag Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru am bob un chwaraewr benywaidd sy'n oedolion. O ran dynion, mae'n un i un. Y gwir yw bod mwy o ferched yn chwarae pêl-droed—dwbl nifer y merched yn chwarae pêl-droed—na menywod. Mae tua'r un nifer o fechgyn â dynion. Felly, mewn gwirionedd, o ran y twf mewn pêl-droed, bydd yn cael ei yrru gan gêm y merched. Mae'n rhywbeth y mae Chwaraeon Cymru a'r corff llywodraethu cenedlaethol hefyd wedi’i gydnabod. Mae angen sicrhau bod cyllid ar gael yn gyfartal i chwaraeon dynion yn ogystal â chwaraeon menywod, ond hefyd ar gael drwy Chwaraeon Anabledd Cymru i bobl â llai o symudedd.

O ran y £1 filiwn yr ydym yn ei gwario bob blwyddyn drwy Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru, maent yn cynnig 4,000 o gyfleoedd hyfforddi bob un flwyddyn. Mae hyn yn hynod werthfawr i’r bobl hynny sy'n dymuno ennill y sgiliau cyflogadwyedd a’r sgiliau cymdeithasol sydd eu hangen fel oedolyn.

Rwy’n meddwl, o ran Gemau'r Gymanwlad, fy mod wedi rhoi bron pob ateb o safbwynt y cynnig presennol ac unrhyw gynnig yn y dyfodol. Ond yr hyn y byddwn yn ei ailadrodd yw fy mod yn meddwl y byddai o gymorth mawr yn y dyfodol—ac rwy'n meddwl y byddai'n fuddiol iawn i Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad—pe gellid ystyried cynigion cenedlaethol ac o bosibl gynigion deuol neu aml-ganolfan.

Iawn, diolch. Galwaf ar y ddau siaradwr terfynol, ond os gallant gadw at gwestiynau, oherwydd rwy’n meddwl bod eich holl lefarwyr neu bobl wedi siarad o'r pleidiau. Felly, Suzy Davies.

Mae hwn yn gwestiwn ychydig yn anodd yma, ond diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n deall bod y datganiad hwn yn ymwneud â digwyddiadau chwaraeon mawr, ond tybed a allech roi rhyw syniad inni o ble ceir tir cyffredin â digwyddiadau diwylliannol mawr, yn enwedig o ran etifeddiaeth barhaus—roeddwn yn gobeithio y byddai eich datganiad ychydig yn fwy manwl ynglŷn â hyn, mewn gwirionedd; dim ond wrth gyfeirio at Gemau’r Gymanwlad y gwnaethoch chi sôn amdano mewn gwirionedd, a hynny mewn ffordd braidd yn negyddol.

Nid yw etifeddiaeth, wrth gwrs, yn fater ariannol yn unig ac, i ddangos hynny, efallai y gallwn dynnu eich sylw at y digwyddiad Kynren blynyddol cyntaf, a gynhaliwyd yn Swydd Durham yr haf hwn. Mae'n antur anferthol a drefnwyd ar y cyd â thref Puy du Fou yn Ffrainc, ac, o ganlyniad i'w gwaith, mae yno economi gynhwysol—nid dim ond economi dwristiaeth tymor byr, ond economi gynhwysol a gwead cymdeithasol sydd wedi cael ei sicrhau gan y math hwn o ddigwyddiad. Rwy’n meddwl bod hon yn egwyddor y gellid ei hymestyn i’r digwyddiadau chwaraeon yr ydych wedi bod yn sôn amdanynt heddiw. Rwy’n meddwl o ran—. Er ei bod yn wych bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r digwyddiadau chwaraeon hyn, rwy’n meddwl, fel y chwaraewyr eu hunain, bod angen inni fod yn uchelgeisiol o ran creu cyfleoedd a manteisio ar y cyfleoedd hynny i gyflawni uchelgeisiau.

Mae’r Aelod yn iawn—mewn gwirionedd, mae gorgyffwrdd mawr rhwng digwyddiadau chwaraeon a diwylliannol, ac mae digwyddiad diwylliannol ynghlwm â llawer o'n digwyddiadau chwaraeon mwyaf hefyd. Er enghraifft, mewn cysylltiad â rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr, caiff llawer o weithgareddau o natur ddiwylliannol eu hyrwyddo o amgylch y ddinas y flwyddyn nesaf. O ran rhai o'r digwyddiadau mawr sy'n cael eu dosbarthu fel rhai diwylliannol, mae gennym rai o'r rhai mwyaf llwyddiannus yn Ewrop, fel Gŵyl y Gelli a Gŵyl y Dyn Gwyrdd, sy'n rhoi cyfleoedd enfawr unwaith eto i bobl wirfoddoli. Felly, mae'r gorgyffwrdd yn digwydd, ond mae'n rhywbeth lle rydym yn hyrwyddo twf yn uniongyrchol a thrwy’r cyrff noddi cenedlaethol—Chwaraeon Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru—ac rwy’n ymwybodol bod trafodaethau wedi cael eu cynnal rhwng prif gadeiryddion y ddau sefydliad i sicrhau, pan fydd digwyddiadau mawr yn cael eu cynnal gan ganolbwyntio’n arbennig naill ai ar chwaraeon neu'r celfyddydau, bod cyfleoedd i’r ochr arall a sefydliadau eraill o’r corff arall allu cymryd rhan a hyrwyddo digwyddiad a ddylai fod yn ddigwyddiad cymysg i bobl o bob oedran.

O ran edrych ar y dyfodol yn achos digwyddiadau mawr cynaliadwy, hoffem hefyd weld ein teulu o ddigwyddiadau domestig yn tyfu. Mae gennym nifer dda o weithredwyr digwyddiadau mawr yng Nghymru, ond drwy ariannu digwyddiadau llai yn strategol ledled Cymru, rydym yn gallu sicrhau eu bod yn tyfu a gwneud yn siŵr bod gennym nifer da o gwmnïau digwyddiadau mawr o Gymru sy'n tyfu ac yn manteisio ar y digwyddiadau mwy wrth wneud hynny.

Dylwn fod wedi ychwanegu hefyd bod y rhestr darged o ddigwyddiadau mawr ar gyfer y dyfodol yn cynnwys trawstoriad o ddigwyddiadau chwaraeon a diwylliannol ac y bydd hefyd yn canolbwyntio’n arbennig ar ddigwyddiadau menywod, boed hynny mewn chwaraeon neu mewn diwylliant.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n ddiolchgar eich bod wedi caniatáu amser imi. Rwyf am fod yn fyr—dim ond un cwestiwn gydag ychydig o gyd-destun o’i flaen. Mae nifer o resymau, wrth gwrs, pam yr ydym yn awyddus i gynnal digwyddiadau chwaraeon mawr. Yn gyntaf, mae’r etifeddiaeth chwaraeon—y cyfranogiad, y byddem i gyd yn ei gefnogi. Yn ail, mae’n sioe arddangos i Gymru, os mynnwch—y clychau a’r chwibanau sy'n dangos Cymru ar sgriniau teledu ledled y byd; yn ein dangos ni mewn golau da. A gorau po fwyaf o’r digwyddiadau hyn sydd gennym, ar wahân i'r ffaith, wrth gwrs, mai cyllideb gyfyngedig sydd gan yr uned digwyddiadau mawr ac mae'n rhaid inni fod yn ofalus iawn, iawn. Nid yw’n wych edrych ar y rhestr o ddigwyddiadau a noddir gan yr uned digwyddiadau mawr yn 2016-17; maent ar wasgar o amgylch Cymru—wyddoch chi, dydy’r gogledd ddim yn cael ei gynrychioli’n arbennig o dda. Y mater arall yw’r effaith economaidd ar y pryd—yr arian sy’n cael ei wario mewn gwestai ac yn y blaen yn ystod digwyddiad.

Y pwynt arall, sef testun fy nghwestiwn, yw'r effeithiau economaidd mwy parhaus. Mae'n rhaid inni edrych, rwy’n meddwl, ar sut yr ydym yn defnyddio cyllideb yr uned digwyddiadau mawr i gryfhau ein diwydiannau ni yma. Mae llawer o'r digwyddiadau hyn yr ydych wedi sôn amdanynt yn cael eu cynnal gan gwmnïau sy'n dod o'r tu allan i Gymru gyda'u staff a’u hadnoddau eu hunain, y cyfan—cwmnïau amlwladol mawr fel Lagardère, er enghraifft. Pa uchelgais sydd gennych, fel Ysgrifennydd y Cabinet, i ddefnyddio arian o gyllideb yr uned digwyddiadau mawr, i wneud yn siŵr ein bod yn buddsoddi yn ein cwmnïau digwyddiadau eu hunain, i wneud yn siŵr ein bod yn datblygu ein diwydiant digwyddiadau ein hunain yma y gallwn yna ei allforio a gadael effaith economaidd barhaol?

Mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn, a dweud y gwir, yng nghyd-destun Gemau'r Gymanwlad, hefyd, oherwydd, mewn llawer o achosion, pan fyddwn yn denu digwyddiadau mawr i Gymru, nid ydym yn berchen ar y digwyddiadau hynny. Felly, perchnogion y digwyddiad fydd yn pennu pwy sy'n cymryd rhan o ran trefnu'r atebion logistaidd i'r problemau y mae’r digwyddiadau’n aml yn gallu eu cyflwyno. Felly, mae'n hanfodol ein bod hefyd yn tyfu ac yn denu nid yn unig ddigwyddiadau sydd wedi’u gwasgaru’n gyfartal o amgylch Cymru, ond digwyddiadau sydd hefyd o wahanol faint, fel bod ein trefnwyr digwyddiadau brodorol ​​yn gallu manteisio arnynt ar bob lefel, ac, fel y dywedais yn fy ateb i'r cwestiynau blaenorol, yn gallu tyfu, hefyd, a manteisio, flwyddyn ar ôl blwyddyn, ar ddigwyddiadau mwy a mwy.

O ran y gogledd, rwy’n meddwl, a dweud y gwir, bod hyn unwaith eto’n tynnu sylw at pam y gwnaethom wneud y penderfyniad cywir am Gemau'r Gymanwlad. Byddem wedi bod wrth ein bodd i allu cynnal Gemau'r Gymanwlad a fyddai o fudd i Gymru gyfan. Ond pe baem wedi bwrw ymlaen â Gemau'r Gymanwlad sy’n cael eu cyfyngu’n ddaearyddol i'r de-ddwyrain, yna, wrth gwrs, byddai hynny wedi cael effaith ar y gogledd. Rwy’n gwybod bod yr Aelod yn awyddus iawn i hyrwyddo cynnig potensial am Gemau'r Ynysoedd a hefyd y Triathlon Sandman, a gynhelir yn etholaeth fy nghydweithiwr. Mae'n gwbl hanfodol ein bod yn rhannu'r cyfoeth; ein bod yn gwneud yn siŵr bod digwyddiadau mawr o fudd i bobl ym mhob cwr o Gymru. Ond o ran defnyddio ein hadnoddau gwerthfawr ar gyfer un digwyddiad mewn un ardal, yn syml ni fyddwn yn gweld hynny.

8. 6. Dadl ar y Cynllun Cyflawni Camddefnyddio Sylweddau 2016-18

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 a 2 yn enw Paul Davies.

Symudwn ymlaen at yr eitem nesaf ar yr agenda, sef y ddadl ar y cynllun cyflawni camddefnyddio sylweddau 2016-18, a galwaf ar y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd i gynnig y cynnig—Rebecca Evans.

Cynnig NDM6082 Jane Hutt

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau, fel y'u hamlinellir yn Camddefnyddio Sylweddau: Cynllun Cyflawni 2016-18.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Rwy'n falch o agor dadl heddiw sy’n cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer camddefnyddio sylweddau fel y’u nodir yn ein cynllun cyflawni newydd ar gamddefnyddio sylweddau 2016-18.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Mae camddefnyddio sylweddau yn fater iechyd pwysig sy'n effeithio ar unigolion, teuluoedd a chymunedau. Roedd adroddiad Iechyd Cyhoeddus Cymru 'Gwneud Gwahaniaeth' a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf eleni yn dangos maint problem camddefnyddio sylweddau, sy'n dangos yr heriau parhaus sy'n ein hwynebu.

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y bygythiad y mae camddefnyddio alcohol yn ei beri i iechyd cyhoeddus yng Nghymru; mae’n un o brif achosion marwolaethau a salwch ac mae’n costio llawer i'r GIG, i gymdeithas ac i'r economi. Er enghraifft, mae alcohol yn gysylltiedig â mwy na 6,000 o achosion o drais domestig bob blwyddyn. Yn ogystal â phryderon cynyddol am effaith camddefnyddio alcohol, mae'r newidiadau cyflym i dirwedd camddefnyddio cyffuriau’n cyflwyno heriau newydd i wneuthurwyr polisi, comisiynwyr, ac asiantaethau triniaeth.

Fel Llywodraeth, rydym yn buddsoddi bron £50 miliwn y flwyddyn i gyflawni'r ymrwymiadau yn ein strategaeth camddefnyddio sylweddau 10 mlynedd, 'Gweithio Gyda'n Gilydd i Leihau Niwed', a gyhoeddwyd yn 2008. Mae dull gweithredu Llywodraeth Cymru yn y strategaeth yn seiliedig ar leihau niwed, sy'n cydnabod bod dibyniaeth yn fater iechyd a gofal, yn hytrach nag un sy'n ymwneud â chyfiawnder troseddol yn unig. Mae ein strategaeth gyffredinol wedi'i hadeiladu o amgylch pedwar nod allweddol: atal niwed, cymorth i gamddefnyddwyr sylweddau, cefnogi ac amddiffyn teuluoedd, a mynd i'r afael ag argaeledd sylweddau ac amddiffyn unigolion a chymunedau drwy weithgarwch gorfodi. Ein nod cyffredinol yw sicrhau bod pobl yng Nghymru yn ymwybodol o beryglon ac effaith camddefnyddio sylweddau er mwyn helpu i wneud dewisiadau doeth a gwybod ble y gallant ddod o hyd i wybodaeth, help a chymorth, os oes angen.

Ers inni lansio ein strategaeth, rydym wedi gweld gwelliannau parhaus mewn amseroedd aros am driniaeth cyffuriau ac alcohol a chanlyniadau eraill i’r grŵp hwn o bobl sy'n agored i niwed ac yn anodd eu cyrraedd, ac mae'n hanfodol ein bod yn cynnal y momentwm hwn. Ni allwn wneud y cynnydd yr hoffem ei wneud heb gefnogaeth ac arbenigedd pobl eraill. Felly, rydym yn gweithio mewn partneriaeth gref â’r trydydd sector, y maes iechyd, llywodraeth leol a’r asiantaethau cyfiawnder troseddol. Mae'r cynllun cyflawni diweddaraf yn nodi'n fanwl y camau penodol a gymerir dros y ddwy i dair blynedd nesaf i ategu ein strategaeth i wneud y cynnydd pellach yr hoffem ei wneud ar yr agenda heriol hon sy'n symud yn gyflym.

Mae hwn yn gynllun sy’n rhoi mwy o bwyslais ar atal, ymdrin â niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol a chydnabod y rhan y gall gwasanaethau gofal sylfaenol ehangach ei chwarae i ddod o hyd i unigolion sy'n ymdrin â chamddefnyddio sylweddau ac ymateb iddynt. Bydd gweithio mewn partneriaeth yn hanfodol i weithredu’n llwyddiannus, ac mae ein saith bwrdd cynllunio ardal yn allweddol i ddatblygu'r gwaith hwn drwy barhau i gomisiynu a darparu’r ystod o wasanaethau yn eu hardaloedd lleol mewn cysylltiad ag ymdrin â chamddefnyddio sylweddau.

Mae'r cynllun hwn yn parhau i adeiladu ar yr ystod o fentrau codi ymwybyddiaeth yr ydym wedi'u sefydlu, fel DAN 24/7, ein llinell gymorth camddefnyddio sylweddau dwyieithog. Rydym hefyd wedi cyflwyno rhaglen hyfforddi genedlaethol ar sylweddau seicoweithredol newydd ledled Cymru. Bydd hon yn sicrhau bod gweithwyr proffesiynol sy'n dod i gysylltiad ag unigolion sy'n defnyddio’r sylweddau neu'n ystyried eu defnyddio yn cael yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt i ddarparu'r wybodaeth, y cyngor a'r gefnogaeth angenrheidiol.

Mae ymyrryd yn gynnar ac addysg yn hanfodol yn yr agenda hon, a thrwy ein rhaglen graidd cyswllt ysgolion Cymru gyfan, rydym yn gweithio gyda phedwar heddlu Cymru i addysgu disgyblion am ystod o faterion personol a chymdeithasol, gan gynnwys camddefnyddio sylweddau, cam-drin domestig ac ecsbloetio rhywiol. Cynhelir y rhaglen ym mhob ysgol gynradd ac uwchradd ledled Cymru ac mae penaethiaid ac eraill mewn ardaloedd lleol yn falch ohoni.

Mae datblygiadau diweddar yn awgrymu pryder cynyddol am y defnydd o gyffuriau sy’n gwella delwedd a pherfformiad. Felly, mae addysg ynglŷn â goblygiadau defnyddio’r cyffuriau hyn hefyd yn bwysig, yn enwedig mewn cysylltiad â chwaraeon. Byddwn yn cynnal y cylch trafod amlasiantaethol cyntaf i dynnu sylw at broblem camddefnyddio cyffuriau mewn chwaraeon a’r materion cymdeithasol ehangach cysylltiedig cyn bo hir. Bydd hyn hefyd yn cysylltu â'r gwaith ehangach y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ei wneud, sydd wedi ei anelu at ddarparu tystiolaeth o natur a graddfa camddefnyddio steroidau a chyffuriau sy'n gwella delwedd a pherfformiad, a’r niwed sy'n gysylltiedig â hynny.

Ar ôl ymgysylltu’n helaeth â rhanddeiliaid yn ystod ei ddatblygiad, ymgynghorwyd yn ffurfiol ar ein cynllun cyflawni rhwng mis Ionawr a mis Mawrth eleni. Cafwyd pedwar deg naw o ymatebion gan ystod eang o sefydliadau, ac mae'r rhain wedi llywio'r cynllun terfynol a welwch ger eich bron heddiw. Fel y gwelir yn y cynllun, rydym yn glir ynghylch y cyfraniad y gall ymdrin â chamddefnyddio sylweddau ei wneud i gyflawni'r nodau a amlinellir yn y Ddeddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol, ac rydym wedi datblygu’r cynllun diweddaraf hwn yn unol â'r ddeddfwriaeth newydd arloesol honno. Mae canlyniadau lefel uchel camddefnyddio sylweddau wedi cael eu mapio yn erbyn y nodau perthnasol fel bod y cysylltiadau’n glir ac yn eglur.

Mae'r cynllun yn seiliedig ar egwyddorion iechyd a gofal darbodus, ac mae hwn yn faes lle gellir dangos enghreifftiau da o ofal iechyd darbodus ar waith. Rwy’n ddiolchgar i'r Aelodau hynny sydd wedi gwasanaethu ar y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol cyn hyn, a gynhaliodd ddau ymchwiliad ar gamddefnyddio sylweddau, ac mae'r cynllun newydd yn ymgorffori holl argymhellion yr ymchwiliadau hynny.

O ganlyniad i'r dull partneriaeth cydweithredol a chynhwysol a ddefnyddiwyd wrth ddatblygu'r cynllun, roedd yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn gadarnhaol iawn. Roedd mwyafrif llethol yr ymatebwyr yn cytuno â'r canlyniadau a ddisgrifir dan bob un o'n hamcanion. Roedd nifer o ymatebion yn amlygu meysydd y gellid rhoi sylw iddynt er mwyn cryfhau'r cynllun cyflawni ymhellach, ac un enghraifft o hyn yw'r angen i sicrhau bod gwasanaethau’n hygyrch i bob defnyddiwr gwasanaeth posibl, gan gynnwys y rhai sydd â nodweddion gwarchodedig. O ran lleihau niwed, teimlai rhai bod angen sicrhau y gwneir rhagor o waith i hyfforddi pob gweithiwr proffesiynol sy'n dod i gysylltiad â'r cyhoedd i adnabod arwyddion o broblemau camddefnyddio sylweddau. Hefyd, roedd rhai o’r farn bod ymdrin â'r newid diwylliannol sydd ei angen i leihau yfed niweidiol yn flaenoriaeth. Nododd ymatebwyr hefyd fod angen mwy o weithredu ar atal gorddos o gyffuriau yn y lle cyntaf. Rydym wedi cyflwyno ein rhaglen naloxone, ond teimlwyd y dylid hyrwyddo dulliau lleihau niwed eraill hefyd, fel helpu pobl sy'n camddefnyddio sylweddau i ddeall y risgiau, arwyddion gorddos, peryglon defnyddio cyffuriau lluosog, ac i annog defnyddio dulliau llai peryglus o gymryd cyffuriau. Cafwyd yr awgrymiadau defnyddiol hyn ac eraill yn ystod y broses ymgynghori, ac rydym wedi eu hymgorffori er mwyn cryfhau ein cynllun ymhellach.

Felly, i gloi, rwy’n cymeradwyo'r cynnig hwn i'r Siambr ac rwy'n cefnogi'r gwelliannau a gyflwynwyd gan Paul Davies. Ar y gwelliant cyntaf, rwy’n cytuno bod rhaid inni gydnabod y problemau sy'n gynhenid wrth ddarparu gwasanaethau camddefnyddio sylweddau, ac ystyried cymhlethdodau cefnogi rhywun sy’n wynebu’r materion hyn. Dangosir hyn gan y ffaith nad yw pob unigolyn o reidrwydd yn rhydd o gyffuriau neu alcohol ar ddiwedd eu triniaeth, oherwydd, i lawer, bydd yn frwydr gydol oes.

O ran yr ail welliant, byddwn yn ystyried y data diweddaraf. Rydym yn defnyddio ac yn parhau i ddefnyddio'r data o'r gronfa ddata genedlaethol ar gamddefnyddio sylweddau i weithio gyda byrddau cynllunio ardal i roi cynlluniau ar waith i ymdrin ag unrhyw bryderon neu feysydd datblygu. Felly, rydym yn falch o gefnogi'r gwelliant hwn hefyd.

Felly, edrychaf ymlaen at gyfraniadau yn y ddadl. Diolch yn fawr iawn.

Rwyf wedi dethol y ddau welliant i’r cynnig. Rwy’n galw ar Mark Isherwood i gynnig gwelliannau 1 a 2 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.

Gwelliant 1—Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod y problemau cynhenid o ran darparu gwasanaethau trin camddefnyddio sylweddau ledled Cymru, o gofio bod yr ystadegau diweddaraf gan Gronfa Ddata Genedlaethol Cymru ar Gamddefnyddio Sylweddau yn dangos mai dim ond 13 y cant o unigolion a ystyriwyd yn rhydd o sylweddau erbyn diwedd y driniaeth o bob un a gafodd eu cyfeirio i asiantaethau cyffuriau ac alcohol yng Nghymru.

Gwelliant 2—Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fyfyrio ar y data diweddaraf gan GIG Cymru ar Gamddefnyddio Sylweddau a chyflwyno cynigion a fydd yn sicrhau bod camddefnyddwyr sylweddau yn cael gafael ar driniaeth amserol ac effeithiol.

Cynigiwyd gwelliannau 1 a 2.

Diolch, Lywydd. Mae ein gwelliannau 1 a 2 yn adlewyrchu'r ystadegau diweddaraf o gronfa ddata genedlaethol Cymru ar gyfer camddefnyddio sylweddau, gan ddangos mai dim ond 13 y cant o unigolion yr ystyriwyd nad oeddent yn defnyddio dim sylweddau erbyn diwedd y driniaeth o 6,084 o atgyfeiriadau i asiantaethau cyffuriau ac alcohol yng Nghymru. Cyrhaeddodd nifer y marwolaethau o wenwyno cysylltiedig â chyffuriau a chamddefnyddio cyffuriau y lefelau uchaf erioed yng Nghymru a Lloegr y llynedd. Roedd marwolaethau o wenwyn cyffuriau i fyny 65 y cant yn Lloegr, ond 153 y cant yng Nghymru ers dechrau cadw cofnodion yn 1993. Er bod marwolaethau o gamddefnyddio cyffuriau yn Lloegr wedi codi 192 y cant, roedd y cynnydd yng Nghymru yn 409 y cant.

Mae alcohol hefyd yn parhau i fod un o brif achosion marwolaeth a salwch yng Nghymru, gyda thua 1,500 o farwolaethau y gellir eu priodoli i alcohol bob blwyddyn—.9 y cant o'r holl farwolaethau. Mae cyfraddau marwolaethau’n uwch yng Nghymru nag yn Lloegr.

Roeddwn yn falch o gyflwyno elusen adsefydlu cyffuriau ac alcohol CAIS sydd wedi’i lleoli yn y gogledd i Ystafell Fyw Caerdydd, y ganolfan adsefydlu yn y gymuned ar gyfer Caerdydd a’r de, ac yna siarad yn eu lansiad uno swyddogol i ddod yn un o ddarparwyr therapi dibyniaeth mwyaf Cymru yma yn 2014.

Mae cynllun cyflawni camddefnyddio sylweddau Llywodraeth Cymru 2016-18, yr ydym yn ei drafod heddiw, yn cydnabod bod y gwaith partneriaeth rhwng y sector statudol a’r trydydd sector yn ganolog i gyflawni ei nodau allweddol. Ond er mwyn i hyn ddigwydd rhaid iddo gael ei gyd-gynhyrchu, ei ddylunio a'i gyflwyno gyda'r trydydd sector. Sefydlwyd byrddau cynllunio ardal tua phum mlynedd yn ôl i oruchwylio’r gwaith o gomisiynu a darparu gwasanaethau camddefnyddio sylweddau. Ni chafodd trefn lywodraethu’r cyrff hyn erioed ei sefydlu’n briodol ac maent wedi esblygu mewn ffyrdd gwahanol iawn, gan arwain at amrywiaethau mewn arferion ledled Cymru. Yn fwy diweddar, mae'r gwahaniaeth wedi tyfu, a rhai bron wedi diflannu, ac asiantaethau arweiniol statudol wedi cymryd eu lle. Mae'r trydydd sector, a hepgorwyd, nawr yn absennol i raddau helaeth o gynllunio strategol.

Mae'r cynllun cyflawni yn eithaf tawel o ran y byrddau cynllunio ardal, ac felly mae angen inni wybod barn y Llywodraeth am y trefniadau llywodraethu disgwyliedig, cynwysoldeb aelodaeth, comisiynu ar y cyd a chynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad yn ymchwiliad 2015 y pwyllgor iechyd i gamddefnyddio alcohol a sylweddau y dylent fapio darpariaeth canolfannau dadwenwyno yng Nghymru, canfod bylchau a nodi sut y bydd y rhain yn cael sylw. Dywedodd y Gweinidog ar y pryd hefyd y byddai’r cynllun cyflawni hwn yn ystyried pa gamau pellach sydd eu hangen yn ganolog i gefnogi gwasanaethau dadwenwyno ac adsefydlu preswyl haen 4 yn genedlaethol. Fodd bynnag, yn lle hynny, yr unig beth y mae'r cynllun cyflawni’n sôn amdano yw byrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol yn gweithio gyda phartneriaid i amlinellu cynllun ar gyfer sut y maent yn bwriadu ymdrin â bylchau mewn gwasanaethau, a haen 4 wedi’i rhestru’n olaf. Yn wir, mae'n naw mlynedd ers i’r adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ar wasanaethau triniaeth camddefnyddio sylweddau haen 4 yng Nghymru gael ei ryddhau i mi a'i wneud yn gyhoeddus ar ôl iddynt geisio ei gladdu. Roedd yn sôn am nifer o adroddiadau am bobl yn aildroseddu, er mwyn gallu cael eu dadwenwyno yn y carchar, ac am dderbyniadau i'r ysbyty oherwydd nad oedd dadwenwyno cleifion mewnol nac adsefydlu preswyl ar gael. Galwodd yr adroddiad am gynnydd sylweddol mewn capasiti, am uned gyfeirio ganolog i Gymru gyfan ac am ddatblygu tair uned dadwenwyno cyffuriau ac alcohol ac adsefydlu ledled Cymru, gan weithio gyda darparwyr y trydydd sector.

Cafodd y neges hon ei hatgyfnerthu mewn adroddiad pellach yn 2010 a dywedodd Llywodraeth Cymru ar y pryd ei bod yn bwrw ymlaen â gwaith i ddatblygu’r tair uned. Yn lle hynny, mae toriadau Llywodraeth Cymru i gyfleusterau dadwenwyno preswyl ddegawd yn ôl yn dal i fod ar waith, ac er bod fframwaith haen-4 Cymru wedi’i gynhyrchu ar ôl i’r Gweinidog iechyd blaenorol gyhoeddi llythyr yn cynghori comisiynwyr i gefnogi cyfleusterau yng Nghymru, mae nifer y lleoedd adsefydlu yng Nghymru wedi gostwng yn sylweddol dros y pum mlynedd diwethaf. Felly, beth yw barn y Gweinidog am hyn, ac, o gofio bod 50 y cant o'r lleoliadau adsefydlu preswyl a ariannwyd mewn cyfleusterau y tu allan i Gymru, sut mae lansiad y fframwaith yn 2015 yn effeithio ar hyn?

Roedd ymchwiliad y pwyllgor iechyd yn 2015 yn disgrifio gweithio mewn seilos, a dim ond yr wythnos diwethaf, dywedodd cadeirydd bwrdd cymunedau mwy diogel y gogledd wrthyf fod gormod yn cael ei wario ar ddiffodd tanau a dim digon ar ymyrraeth ac atal, lle mae tua 75 y cant o'r bobl sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau, gan gynnwys dros 50 y cant sydd â phroblemau alcohol, hefyd yn cael problemau iechyd meddwl. Ond mae'r bylchau sy'n parhau mewn darpariaeth diagnostig ddeuol yr oeddwn yn tynnu sylw atynt ddegawd yn ôl yn golygu bod y drws troi’n parhau, gan greu costau enfawr i iechyd a gwasanaethau cymdeithasol a chyfiawnder troseddol. Oni bai bod y materion hyn yn cael sylw o'r diwedd, bydd y cynllun cyflawni hwn yn parhau i fod y bennod ddiweddaraf mewn hanes hir o frad.

Mae camddefnydd sylweddau yn rhywbeth sy’n gadael ei ôl ar unigolion, ac yn gadael ei ôl ar deuluoedd a chymunedau ledled Cymru. Mae’n effeithio ar iechyd y rheini sy’n camddefnyddio–neu’n waeth, wrth gwrs: mae nifer y marwolaethau yng Nghymru o ganlyniad i gamddefnydd cyffuriau wedi treblu mewn 20 mlynedd. Mae yna effaith ar yr economi hefyd, wrth gwrs, o ran colled incwm i unigolion ac i fusnesau drwy absenoldeb o’r gwaith. Mae’r gost ar yr NHS yn drwm iawn yn amlwg, ond felly hefyd y gwasanaethau cymdeithasol a’r system gyfiawnder troseddol, ac mae awdurdodau lleol, drwy eu gwaith glanhau bob bore Sul os nad drwy ddim byd arall, yn cario baich ariannol hefyd.

Cyferbynnwch y gost honno efo’r rheini sy’n elwa, pa un ai’r rheini sy’n gwerthu cyffuriau yn anghyfreithlon, neu, yn fwy yn yr agored, os liciwch chi, y diwydiant diodydd, sy’n lobïo i geisio perswadio’r Llywodraeth i beidio â chymryd camau i daclo camddefnydd drwy osod lleiafswm pris ar alcohol, er enghraifft.Er bod y lobi honno wedi llwyddo i berswadio ambell blaid wleidyddol yn y Siambr yma, mae’n rhaid inni beidio â thynnu’n ffocws oddi ar yr angen i daclo camddefnydd sylweddau.

Mae sawl menter wedi bod o’r blaen gan y Llywodraeth yn y maes yma, wrth gwrs, ond mae’n rhaid inni farnu llwyddiant y rheini yn erbyn y canlyniadau, yn erbyn yr hyn a gafodd ei gyflawni. Yn anffodus, mae’r gyfradd marwolaethau o ganlyniad i gamddefnydd alcohol wedi aros yn ei hunfan am ddegawd. Mae cynnydd wedi bod yn nifer y marwolaethau oherwydd camddefnydd cyffuriau. Clywsom nifer o ffigurau yn cael eu dyfynnu gan Mark Isherwood. Mae hi’n waeth mewn rhai ardaloedd na’i gilydd. Mi fues i’n darllen erthygl yn y ‘South Wales Evening Post’ a gafodd ei chyhoeddi dros y Sul yn codi pryderon yn benodol am y sefyllfa yn y ddinas honno. Felly, mae’r ffeithiau yn dangos inni, yn sicr ar y lefel o atal marwolaethau, sy’n gorfod bod yn flaenoriaeth, fod y strategaeth flaenorol wedi methu ac felly fod angen ei diweddaru hi.

Pam yr ydym ni’n methu llwyddo i ennill tir yn y maes hwn? Mae diffyg pwerau cyflawn mewn perthynas ag alcohol yn sicr yn un rhwystr. Allwn ni ddim, yma yng Nghymru, roi cyfres o gamau yn eu lle ar y cyd, fel gosod lleiafswm prisiau, atal hysbysebu, newid y limit yfed a gyrru, er enghraifft, fel ymdrech strategol a thraws-lywodraethol i daclo’r broblem honno.

Nid yw’r arweinyddiaeth gan Lywodraeth Cymru wedi bod yn ddigon cadarn wrth weithredu strategaethau. Mae darpariaeth wedi amrywio gormod o ardal i ardal, yn enwedig o ran gwasanaethau preswyl, i ferched yn unig ac ati. Nid canfyddiadau Plaid Cymru yn unig ydy’r rhain—rwy’n eich atgoffa chi o hynny; dyma ganfyddiadau'r pwyllgor iechyd blaenorol hefyd. Felly, rwy’n falch iawn bod argymhellion y pwyllgor hwnnw wedi cael eu derbyn gan Lywodraeth Cymru, a bod yr argymhellion o leiaf wedi dylanwadu ar y cynllun newydd sydd gennym ni o’n blaenau rŵan.

Mae gen i ambell sylw a chwestiwn am y cynllun, y cyntaf yn atseinio’r hyn a glywsom ni gan Mark Isherwood. Mae’r cynllun yn cynnwys bwriad i fapio gwasanaethau camddefnydd sylweddau, ond nid yw’n sôn am wasanaethau preswyl yn benodol. A wnaiff y Gweinidog, os gwelwch yn dda, roi sicrwydd y bydd y broses mapio yn cynnwys hyn, a rhoi ymrwymiad i lenwi’r tyllau sydd yna o ran darpariaeth gwasanaethau ar hyn o bryd? Mae’r cynllun yn sôn, ac yn wir yn brolio, am wario ryw £50 miliwn y flwyddyn ar wasanaethau camddefnydd sylweddau, ond o ystyried maint y broblem a’r goblygiadau i wariant cyhoeddus mewn gwasanaethau eraill o beidio â thaclo’r broblem, a ydy’r Gweinidog wir yn meddwl bod y swm hwnnw’n ddigon i allu arwain at y lleihad mewn camddefnydd yr ydym ni gyd yn dymuno ei weld?

Er fy mod i’n croesawu bod y cynllun gweithredu yn cynnig dangosyddion i fesur llwyddiant neu fethiant, mi fuaswn i wedi dymuno gweld mwy o fanylder o ran targedau, er enghraifft. Nid oes bwriad i ddweud pa mor gyflym y dylem ni fod yn gweld pethau’n gwella. Nid oes dyddiadau yn cael eu gosod ar gyfer cyrraedd y nod, ac mi fuasem ni’n dymuno gweld targedau ac amserlenni mwy penodol, ac mi wnaf i groesawu sylwadau gan y Gweinidog ar hynny.

Yn olaf, rydym ni’n nodi bod y cynllun yn methu â chrybwyll yr angen i sicrhau bod mwy o bwerau ar gael i Lywodraeth Cymru allu datblygu cynllun mwy holistig—y diffyg pwerau y gwnes i gyfeirio ato fo yn gynharach. Lle mae yna dystiolaeth glir bod y setliad datganoli gwan sydd gennym ni yn niweidio pobl Cymru yn gorfforol felly—ac mae’r pwyllgor iechyd diwethaf yn cytuno â hyn, gyda llaw—rydym ni ym Mhlaid Cymru yn credu’n gryf y dylai hi fod yn ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i fod yn gwthio am y pwerau angenrheidiol—profi terfynau’r setliad presennol a thynnu sylw at y gwir gost i safon bywydau ein trigolion, yn ogystal â’r gost ariannol, o ddatganoli gwael. Mae’n werth nodi, wrth gwrs, ein bod ni’n cael y ddadl yma heddiw ddiwrnod ar ôl i Dŷ’r Cyffredin fethu â chymryd cyfle i gryfhau’r setliad yn wirioneddol sylweddol efo’r Bil Cymru newydd.

Mi oedd maniffesto Plaid Cymru yn gynharach eleni yn cynnwys ymrwymiadau sefydlu rhwydwaith o ganolfannau preswyl ar gyfer camddefnyddwyr alcohol a chyffuriau, mwy o hyfforddiant i staff NHS a lleiafswm prisio, ac mi allwch chi fod yn sicr na fuasai Plaid Cymru yn goddef setliad datganoli gwael; mi fyddwn ni wastad yn brwydro i sicrhau bod Cymru yn cael y pwerau sydd eu hangen i ddelio efo materion pwysig fel camddefnydd cyffuriau. Wrth gwrs, mi fyddwn ni—

Diolch yn fawr. Rydym ni’n nodi’r adroddiad yma heddiw. Mi gefnogwn ni y gwelliannau gan y Ceidwadwyr hefyd. Rwy’n edrych ymlaen i glywed ymateb y Gweinidog i rai o fy nghwestiynau, ond yn bennaf oll at allu edrych yn ôl ar lwyddiant yn y maes yma ar ôl gormod o fethiant yn y gorffennol.

Rwy’n croesawu’r cyfle i gymryd rhan yn y ddadl bwysig hon. Mae camddefnyddio sylweddau yn effeithio ar bob rhan o'n cymdeithas a’n cymunedau. Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, yfodd tri deg pedwar y cant o ddynion a 28 y cant o fenywod fwy na'r terfynau a argymhellir ar o leiaf un diwrnod. Mae oedolion sy'n byw mewn aelwydydd yn y grŵp incwm uchaf ddwywaith yn fwy tebygol o yfed yn drwm nag oedolion yn y grŵp incwm isaf. Mae pobl hŷn yn tueddu i yfed yn amlach na phobl iau, ac mae pobl ifanc yn fwy tebygol o gymryd cyffuriau na phobl hŷn. Mae un o bob person 16 i 24 mlwydd oed wedi cymryd cyffuriau anghyfreithlon yn ystod y flwyddyn ddiwethaf o’i gymharu ag ychydig dros un o bob 50 yn y braced 55 i 59-mlwydd oed. Mae dynion canol oed yn fwy tebygol o fod yn gaeth i gyffuriau lleddfu poen sydd ar gael ar bresgripsiwn yn unig, ac mae menywod yn fwy tebygol o fod yn gaeth i feddyginiaeth dros y cownter.

Mae nifer y bobl sy'n cael eu hatgyfeirio am driniaeth ar gyfer camddefnyddio sylweddau wedi codi'n sydyn yn y 12 mis diwethaf, ac mae nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau’n uwch nag erioed. Felly, mae'n hanfodol bod gennym y polisïau cywir ar waith i leihau'r niwed sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau. Mae UKIP yn croesawu cynllun cyflawni diweddaraf Llywodraeth Cymru, yn arbennig y pwyslais a roddir ar ymdrin â chamddefnyddio sylweddau a phroblemau iechyd meddwl sy’n bodoli ar yr un pryd. Mae timau iechyd meddwl yn adrodd am gynnydd yn nifer y cleifion sy'n cymryd sylweddau seicoweithredol newydd, ac mae defnyddio’r sylweddau hyn yn endemig ymysg y boblogaeth yn y carchar, lle mae gan hyd at 90 y cant o garcharorion ryw fath o broblem iechyd meddwl. Mae’r drws troi’n broblem, ac nid yw’n ymddangos bod y materion hyn yn cael eu datrys mor gyflym ag yr hoffem.

Mae croeso eithriadol i benderfyniad Llywodraeth y DU i wahardd cyffuriau anterth cyfreithlon fel y'u gelwir, ond mae'n rhaid inni wneud mwy i hysbysebu'r cyhoedd am beryglon sylweddau seicoweithredol newydd. Ysgrifennydd y Cabinet, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i godi ymwybyddiaeth am y niwed sy'n gysylltiedig â sylweddau seicoweithredol newydd ymysg y cyhoedd? Mae eich cynlluniau cyflawni yn cynnwys hyfforddiant i staff, ac, er bod hyn i'w groesawu, mae angen inni addysgu'r cyhoedd os ydym am wrthdroi'r cynnydd mewn defnyddio sylweddau seicoweithredol newydd a'i niwed cysylltiedig. Mae angen inni hefyd weithio gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder i ymdrin â'r mewnlifiad o sylweddau seicoweithredol newydd yn ein carchardai a sicrhau y gallwn ddarparu gofal iechyd meddwl digonol i garcharorion Cymru. Rydym yn gobeithio y bydd cyflawni eich strategaeth camddefnyddio sylweddau yn cyfateb i’w bwriadau, ac rydym yn gobeithio y gwnaiff y strategaeth wrthdroi'r cynnydd mewn camddefnyddio sylweddau, ac y bydd nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau’n lleihau. Diolch.

Canfu arolwg gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol eleni fod bron 14 y cant o oedolion yng Nghymru wedi cyfaddef iddynt yfed yr un faint o alcohol mewn diwrnod â’r hyn yr argymhellir gan yr arbenigwyr na ddylech yfed yn fwy nag ef mewn wythnos. Felly, mae strategaethau i ymdrin â chamddefnyddio sylweddau i'w croesawu. Mae'r Llywodraeth wedi mynd i drafferth fawr i reoli neu anghyfreithloni pob math o sylweddau, gan gynnwys tybaco. Fodd bynnag, penderfynodd y Llywodraeth Lafur ddiwethaf yn San Steffan wneud y gwrthwyneb yn achos alcohol, un o'r sylweddau mwyaf peryglus o ran niwed a chaethiwed, a rhyddfrydoli'r deddfau trwyddedu i'r fath raddau nes bod alcohol bellach ar gael ym mhob cornel fwy neu lai. Cerddwch i lawr y stryd fawr i mewn i'r archfarchnad, i siopau cornel a hyd yn oed i orsafoedd petrol ac mae alcohol yno, ar gael 24/7. Nid oedd yr heddlu o blaid y rhyddfrydoli, nac ychwaith y cymunedau na’r landlordiaid tafarndai cyfrifol. Yr unig bobl o’i blaid oedd y cwmnïau diodydd, y tafarnau cadwyn ac wrth gwrs Gordon Brown yn y Trysorlys. Felly, er mwyn y derbyniadau trethi, creodd Llywodraeth Lafur, cyd-deithwyr llawer o'r bobl sydd nawr yn eistedd yn Llywodraeth Cymru, fersiwn o Gin Lane i’r unfed ganrif ar hugain, gan anghofio mai’r rhannau o'r gymuned oedd yn debygol o ddioddef fwyaf oedd plant rhieni sy’n gaeth i alcohol. Dylem gofio hyn pan fydd aelodau o Lywodraeth Cymru yn canmol eu hunain am y modd y maent yn ymdrin â symptomau’r rhyddfrydoli gwallgof hwnnw.

Ni allwn roi'r wy yn ôl yn ei blisgyn dros y bobl sy'n cael eu niweidio gan eu camddefnydd nhw eu hunain o alcohol neu gamddefnydd pobl eraill, ond gallwn ddod o hyd i ffyrdd o wneud alcohol yn llawer llai hygyrch. Ni allwn roi'r ŵy yn ôl yn ei blisgyn dros y bobl sy'n cael eu niweidio gan eu camddefnydd nhw eu hunain o alcohol neu gamddefnydd pobl eraill, ond gallwn ddod o hyd i ffyrdd o wneud alcohol yn llawer llai hygyrch. Felly, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yng Nghymru ac yn San Steffan am hyn? Diolch.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Gwnaf fy ngorau i ateb cynifer o'r pwyntiau hynny ag y gallaf yn yr amser sydd ar ôl imi. Dechreuodd Mark Isherwood drwy sôn am leihau marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau, ac mae pob marwolaeth sy'n gysylltiedig â chyffuriau wrth gwrs yn drasig. Ond mae'r niferoedd mor isel nes bod rhaid inni fod yn ofalus iawn wrth ddehongli amrywiadau o flwyddyn i flwyddyn yn y ffigurau hynny. Rydym ni ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn edrych yn fanwl iawn ar yr ystadegau diweddaraf. Rydym yn credu bod heroin mwy pur, a'r ffaith bod pobl hŷn a allai eisoes fod â rhai cyflyrau yn ei gymryd, yn ffactor yn hyn, a hefyd camddefnyddio amryw o gyffuriau—felly, mae cymryd heroin ochr yn ochr â chyffuriau eraill hefyd yn gwneud pethau'n llawer mwy cymhleth. Rydym yn dal i ariannu'r rhaglen naloxone, sef y cyffur sy'n gwrthdroi effeithiau gorddos o opiad dros dro, ledled Cymru ac yn ein carchardai hefyd. Ac ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda phob dalfa ac adran damweiniau ac achosion brys i’w gyflwyno hyd yn oed ymhellach, oherwydd mae hon yn fenter sydd wedi cael ei defnyddio gan gannoedd o bobl eisoes ac rwy’n credu ei bod yn achub bywydau.

Rydych yn cyfeirio at bwysigrwydd cyd-gynhyrchu, ac rwy'n cytuno’n llwyr â chi ar hynny. Yn arbennig, a dweud y gwir, mae'n rhaid inni gyd-gynhyrchu gyda’r defnyddwyr gwasanaeth eu hunain. Felly, mae ein fframwaith defnyddwyr gwasanaeth yn mynnu bod byrddau cynllunio ardal yn mynd ati i gynnwys defnyddwyr gwasanaeth hefyd, oherwydd credwn fod ganddynt y profiad byw a’r arbenigedd i’n helpu ni i ddarparu gwasanaethau camddefnyddio sylweddau llwyddiannus.

Cyfeiriodd Mark Isherwood a Caroline ill dau at broblemau iechyd meddwl sy'n cyd-ddigwydd ochr yn ochr â chamddefnyddio sylweddau. Mae ein fframwaith trin camddefnyddio sylweddau, 'Bodloni anghenion Pobl â Phroblemau Camddefnyddio Sylweddau ac Iechyd Meddwl sy'n Cyd-ddigwydd', wedi ei ddiwygio i gynnwys hynny’n union a chynnwys datblygiadau allweddol sydd wedi digwydd ers ei gyhoeddi am y tro cyntaf—gan sôn am bethau fel defnyddio cyffuriau lluosog a sylweddau seicoweithredol newydd ac yn y blaen hefyd.

Dywedodd Mark Isherwood fod ymyrraeth ac atal yn gwbl allweddol ac mae hynny’n gywir. Mae ein rhaglen gyswllt ysgolion Cymru gyfan yn gweithredu ar draws pob un o'n hysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru ac mae hyn yn rhan hanfodol o'n strategaeth. Rydym yn adolygu cynnwys y rhaglen yn rheolaidd i sicrhau ei bod yn addas i'r diben ac yn adlewyrchu tueddiadau cyfredol defnyddio cyffuriau, gan ganolbwyntio ar hyn o bryd ar sylweddau seicoweithredol newydd ac addysgu plant mewn ysgolion am beryglon hynny.

Soniodd Rhun ap Iorwerth a Michelle Brown am isafswm pris uned—neu am alcohol, a soniodd Rhun am isafswm pris uned—fel ffordd o ymdrin â phroblem camddefnyddio alcohol, oherwydd mae tystiolaeth sylweddol bod pris alcohol yn wirioneddol bwysig ac mae ein cynnig i gyflwyno isafswm pris uned am alcohol yn gynnig effaith uchel i ymdrin â'r niwed i iechyd sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio alcohol. Byddai'n gosod pris gwaelodol ar gyfer alcohol, gan olygu na ellid ei werthu dan y lefel honno. Rydym yn gwybod y byddai hyn yn ein helpu i ymdrin â’r broblem o gamddefnyddio alcohol yng Nghymru, ond mae problemau yma. Mae cynnig tebyg ar hyn o bryd yn y llysoedd yn yr Alban, felly rydym yn gwylio hwnnw’n agos iawn i ddeall pa bwerau allai fod gennym yma.

Y pryder pellach a amlinellodd Rhun yw bod y Bil Cymru drafft hefyd yn cynnwys, fel pŵer a gadwyd yn ôl, werthu a chyflenwi alcohol, a fyddai'n rhwystr mawr inni i gyflawni ein huchelgais. Felly, rydym yn edrych ar yr amserlenni dan sylw i weld beth allai fod yn bosibl o ran ein Bil iechyd cyhoeddus a'r Bil Cymru yno. Ond rwy’n rhannu eich pryderon. Roeddech yn sôn am bwerau’n ehangach, felly byddai hynny'n cynnwys trwyddedu alcohol. Nid yw safbwynt Llywodraeth Cymru wedi newid—dylai trwyddedu a gwerthu a chyflenwi alcohol a darparu adloniant a lluniaeth yn hwyr yn y nos fod yn fater a gedwir i Lywodraeth y DU. Rydym yn credu ac wedi argymell yn gryf y dylai Deddf Trwyddedu 2003 ystyried iechyd y cyhoedd. Rydym yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i ddatganoli pwerau trwyddedu alcohol i'r Cynulliad.

Soniodd Caroline am bobl hŷn. Mae ein strategaeth camddefnyddio sylweddau yn cydnabod yn llwyr pa mor bwysig yw ymdrin â chamddefnyddio sylweddau ymhlith pobl hŷn, gan gynnwys y rhai sy'n ymdrin â materion alcohol. Rydym wedi cyhoeddi canllawiau penodol i ymarferwyr i wella eu dulliau o ganfod gwasanaethau triniaeth camddefnyddio sylweddau i bobl hŷn a defnyddio’r gwasanaethau hyn. Rydym hefyd wedi cynnwys alcohol yn y profion iechyd ar-lein sydd gennym i bobl dros 50 oed. Rwyf wedi gofyn i'r panel ymgynghorol ar gamddefnyddio sylweddau edrych ar faterion camddefnyddio sylweddau ymysg poblogaeth sy'n heneiddio hefyd. Bydd y gwaith hwnnw'n dod ag arbenigwyr ym maes camddefnyddio sylweddau ynghyd ag arbenigwyr ar bobl hŷn, a cheir adroddiad ar hyn yn y dyfodol agos.

Soniasoch hefyd am feddyginiaethau presgripsiwn a thros y cownter a sut y cânt eu camddefnyddio’n aml. Rydym wedi datblygu pecyn e-ddysgu ar gyfer staff fferyllfeydd i'w helpu i nodi a chynnig ymyriadau byr i bobl sy'n camddefnyddio meddyginiaethau presgripsiwn a thros y cownter. Mae data presgripsiynau ar gael fel mater o drefn i fyrddau iechyd lleol a meddygon teulu yng Nghymru, gan ganiatáu inni fonitro arferion rhoi presgripsiynau. Felly, mae hyn yn cynorthwyo byrddau iechyd lleol i nodi amrywiadau a newidiadau i arferion ac mae hynny’n helpu i dargedu cymorth i wella diogelwch ac effeithlonrwydd rhoi presgripsiynau hefyd.

Roedd y ddadl yn cyfeirio at sylweddau seicoweithredol newydd, ac, wrth gwrs, daeth Deddf Llywodraeth y DU, yr ydym yn gefnogol yn fras iddi, i rym ar 26 Mai eleni. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal amrywiaeth o fentrau codi ymwybyddiaeth drwy ein gwasanaeth DAN 24/7. Rydym hefyd wedi creu deunyddiau cymorth i rieni a gofalwyr ynglŷn â sylweddau seicoweithredol newydd ac wedi ystyried pob un o'r argymhellion a wnaethpwyd yn adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynglŷn â hyn. Mae hynny’n sicr wedi'i ymgorffori yn ein cynllun. Roedd yn sicr yn sail i'n meddyliau ar hynny. Ar ôl adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, mae rhaglen hyfforddi genedlaethol hefyd wedi cael ei datblygu a'i darparu ar gyfer rhanddeiliaid yng Nghymru. Rwyf hefyd yn ystyried modiwlau e-ddysgu ar sylweddau seicoweithredol newydd a chyffuriau eraill fel y gall atal camddefnyddio sylweddau ac ymateb i hynny gael eu hintegreiddio’n fwy ym mhrif ffrwd ein darpariaeth gofal iechyd yng Nghymru.

Yn olaf ar hyn, rydym yn gwybod bod gweithlu rheng flaen â’r sgiliau a’r wybodaeth addas yn allweddol er mwyn gwella addysg ac atal risgiau sy'n gysylltiedig â sylweddau seicoweithredol newydd. Felly, mae cynllun bwrsariaeth hefyd ar gael drwy Lywodraeth Cymru i ddatblygu'r gweithlu ymhellach.

Felly, i gloi, rwy’n gobeithio y gwnaiff yr Aelodau ymuno â mi i ddiolch i bob un o'n rhanddeiliaid ymroddedig sydd wedi gweithio gyda ni ar yr agenda hon. Mae'n agenda heriol, ac mae eu gwaith caled nhw, eu hymroddiad a’u tosturi yn hanfodol wrth inni geisio ymdrin â chamddefnyddio sylweddau ledled Cymru. Diolch.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Os na, fe dderbynnir gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn gwelliant 2? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, ac felly fe dderbynnir gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Y cwestiwn sy’n weddill, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig fel y’i diwygiwyd?

Cynnig NDM6082 fel y’i diwygiwyd

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau, fel y'u hamlinellir yn Camddefnyddio Sylweddau: Cynllun Cyflawni 2016-18.

2. Yn cydnabod y problemau cynhenid o ran darparu gwasanaethau trin camddefnyddio sylweddau ledled Cymru, o gofio bod yr ystadegau diweddaraf gan Gronfa Ddata Genedlaethol Cymru ar Gamddefnyddio Sylweddau yn dangos mai dim ond 13 y cant o unigolion a ystyriwyd yn rhydd o sylweddau erbyn diwedd y driniaeth o bob un a gafodd eu cyfeirio i asiantaethau cyffuriau ac alcohol yng Nghymru.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fyfyrio ar y data diweddaraf gan GIG Cymru ar Gamddefnyddio Sylweddau a chyflwyno cynigion a fydd yn sicrhau bod camddefnyddwyr sylweddau yn cael gafael ar driniaeth amserol ac effeithiol.

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:21.