Y Cyfarfod Llawn

Plenary

23/04/2024

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Natasha Asghar. 

Gwasanaethau Cyswllt Toresgyrn

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ddarpariaeth gwasanaethau cyswllt toresgyrn ar draws byrddau iechyd yng Nghymru? OQ60990

Gwnaf. Mae cynnydd da yn cael ei wneud ar ein hymrwymiad i sicrhau darpariaeth gwasanaethau cyswllt toresgyrn o 100 y cant ledled Cymru erbyn mis Medi 2024.

Diolch yn fawr iawn, Prif Weinidog. Dim ond yr wythnos diwethaf, cyfaddefodd Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd eich Llywodraeth yn agored nad yw'r GIG yng Nghymru yn perfformio'n ddigon da, wrth i record arall gael ei chyrraedd eto o ran amseroedd aros. Yn ôl eich sylwadau diweddar, yr amseroedd aros hyn yw eich prif flaenoriaeth, ond ceir ymrwymiadau eraill y bydd angen i chi eu hystyried ochr yn ochr os ydych chi'n mynd i osgoi torri eich addewidion. Ym mis Medi 2023, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd iechyd ddatganiad yn ymrwymo i sicrhau, fel y gwnaethoch chi sôn, ddarpariaeth o 100 y cant i bob bwrdd iechyd gan wasanaethau cyswllt toresgyrn erbyn 2024. Ond, yn anffodus, Prif Weinidog, rydym ni bellach ddwy ran o dair o'r ffordd drwy'r amserlen o 18 mis a nodwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet, a dim ond pedwar o'r saith bwrdd iechyd sydd â'r gwasanaethau hyn hyd yn oed. Yn anffodus, mae mwy i hyn nag a welir, gan mai dim ond 21 y cant o gleifion torasgwrn yn genedlaethol sy'n cael eu nodi yn ein GIG yng Nghymru, oherwydd tanberfformiad yn y gwasanaethau hyn, hyd yn oed lle maen nhw'n weithredol ar hyn o bryd. Gan ei bod hi'n edrych yn fwyfwy annhebygol bellach y bydd y targed hwn a osodwyd ym mis Chwefror 2023 yn cael ei gyrraedd, a allwch chi gadarnhau heddiw a yw eich Llywodraeth yn dal i fod wedi ymrwymo i'r ffigur o 100 y cant, ac, os felly, y bydd hyn yn cynnwys mynediad i bawb dros 50 oed yng Nghymru at wasanaeth cyswllt toresgyrn o ansawdd sy'n bodloni dangosyddion perfformiad allweddol safon glinigol genedlaethol? Diolch.

Rydym ni ar y trywydd iawn i gyflawni'r ymrwymiad a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd. Edrychaf ymlaen at weld y gwasanaethau newydd yn dechrau ym mis Medi i gyflawni yn erbyn yr ymrwymiad hwnnw. Rydym ni'n cydnabod y gall torasgwrn breuder fod yn boenus ac o bosibl yn wanychol. Dyna pam rydym ni wedi cydnabod swyddogaeth gwasanaethau cyswllt toresgyrn, sy'n darparu ymyrraeth gynnar a mynediad hawdd at ofal osteoporosis i leihau'r risg o doresgyrn o'r fath. Ac mae llawer o gynnydd wedi cael ei wneud ers penodi Dr Inder Singh fel yr arweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer cwympiadau ac eiddilwch yn 2022. Rydym ni wedi dod yn bell. Mae mwy i fynd, ond rydym ni'n dal i fod ar y trywydd iawn i gyflawni'r ymrwymiad a roddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd.

Prif Weinidog, ar gyfartaledd, mae menywod yn colli hyd at 10 y cant o'u màs esgyrn yn y pum mlynedd gyntaf ar ôl y menopos. Mae bod â lefelau is o estrogen yn cynyddu'r risg o ddatblygu osteoporosis, felly mae menywod sy'n mynd drwy'r menopos mewn mwy o berygl o dorri esgyrn. Bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol y bydd un o bob dwy fenyw dros 50 oed yn torri asgwrn yn ystod eu hoes. Mae gwasanaethau cyswllt toresgyrn ym mhob ardal bwrdd iechyd yn gam ymlaen i'w groesawu'n fawr, ond beth arall sy'n cael ei wneud i wella iechyd esgyrn a gwasanaethau GIG yng Nghymru?

Diolch am y cwestiwn. Mae'n bwynt pwysig i'w wneud ein bod ni'n disgwyl y bydd un o bob dwy fenyw dros 50 oed yn torri asgwrn yn ystod y cyfnod hwnnw o'u hoes. Nawr, i ni, mae hynny'n ymwneud â'r ddau bwynt yr ydych chi'n eu gwneud—am iechyd esgyrn a'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud i geisio gwneud yn siŵr bod pobl yn gallu gwneud eu dewisiadau eu hunain am sut i fyw'n dda a gwella eu hiechyd esgyrn eu hunain, yn ogystal â'r hyn y mae'r GIG yn ei wneud. Dyna'r model gwasanaeth y mae gwasanaethau cyswllt toresgyrn yn ei gynrychioli. Mae hefyd, fodd bynnag, yn ymwneud â bod â mynediad at y dystiolaeth a'r cymorth triniaeth diweddaraf hefyd. Dyna pam y gwnaeth y Gymdeithas Frenhinol Osteoporosis gydnabod penderfyniad NICE—y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal—i wneud y driniaeth cyffur osteoporosis newydd gyntaf ar gael mewn degawd. Mae'r cyffur newydd hwnnw—dydw i ddim yn mynd i ynganu'r enw technegol gan ei fod yn dipyn o gwlwm tafod, â sawl z ynddo—wedi bod ar gael yng Nghymru ers 2022. Mae'n enghraifft arall o le mae meddyginiaethau newydd yn cael eu gwneud ar gael, a argymhellir gan NICE, yng Nghymru, oherwydd y ffordd yr ydym ni'n cefnogi'r broses honno ac, yn wir, y ffordd yr ydym ni'n defnyddio ein cyllid. Mae'r mynediad cynnar hwnnw at driniaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gael ledled Cymru gyfan bellach. Wrth gwrs, bydd mwy y gallwn ni ei wneud. Wrth i ni gyflwyno'r gwasanaeth cyswllt toresgyrn, byddwn yn dysgu gwersi o'i weithredu, ac edrychaf ymlaen at weld Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i bobl, yn ogystal â'r arian y mae wedi dod o hyd iddo i fuddsoddi yn y gwasanaeth.

Wrth gwrs, rwy'n croesawu creu'r gwasanaethau cyswllt toresgyrn ledled Cymru, ond a allech chi, Prif Weinidog, roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y ddarpariaeth ym Mhowys, lle nad oes unrhyw ysbytai cyffredinol ardal, a sut y bydd y gwasanaeth hwnnw'n cael ei ddarparu?

Mae'n bwynt teg, wrth gwrs, gan ein bod ni'n disgwyl i'r chwe bwrdd iechyd ag ysbytai gofal eilaidd fod ar y trywydd iawn i ddarparu'r gwasanaeth erbyn diwedd mis Medi. Mae gan bedwar y gwasanaeth hwnnw eisoes. Rydym ni'n disgwyl i'r ddau arall fod ar y trywydd iawn i ddarparu ym mis Medi, gan gyflawni'r ymrwymiad a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd. Mae gwahanol fodel yn cael ei ddatblygu ym Mhowys gan nad oes ysbytai gofal eilaidd yno. Felly, yn y sefyllfa unigryw honno, mae Powys yn gweithio gyda byrddau iechyd cyfagos i wneud yn siŵr bod gan boblogaeth Powys fynediad at y gwasanaeth hwnnw. Felly, mae angen i'r model ddarparu nid yn unig yn y chwe bwrdd iechyd sydd â'r ddarpariaeth ysbyty, ond gofal teg a mynediad ato i drigolion ym Mhowys, ac rydym ni ar y trywydd iawn i wneud hynny. Mae Powys, wrth gwrs, wedi arfer â gorfod darparu'r gwasanaethau hyn mewn gwahanol ffordd—i gomisiynu a threfnu gwasanaethau o fewn Cymru ac, yn wir, weithiau dros y ffin. Felly, rydym ni'n eglur y dylai'r llwybr fod ar waith i bobl sy'n byw ym Mhowys gael yr un mynediad teg at yr un ansawdd o ofal a'r gwelliant y mae'r gwasanaeth hwn yn ei gynrychioli.

13:35
Y Sefyllfa yn Gaza

2. Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i gefnogi teuluoedd yng Nghymru y mae'r sefyllfa yn Gaza yn effeithio arnynt? OQ60991

Mae Gweinidogion a chydweithwyr Cabinet wedi cyfarfod ag arweinwyr ac aelodau'r cymunedau Iddewig a Mwslimaidd ers dechrau'r rhyfel rhwng Israel a Gaza. Rydym ni'n parhau i gydymdeimlo â'r holl bobl hynny y mae'r argyfwng presennol yn effeithio arnyn nhw. Mae nifer o deuluoedd a grwpiau cymunedol yn cael eu heffeithio'n uniongyrchol mewn cymunedau ledled Cymru. A byddwn yn parhau i gefnogi unrhyw ddioddefwyr troseddau casineb drwy ein Canolfan Cymorth Casineb Cymru.

Diolch am yr ateb yna.

Yr wythnos diwethaf mewn digwyddiad yn y Senedd, clywsom gan Mr a Mrs Brisley o Ben-y-bont ar Ogwr, y lladdwyd eu merch a'u hwyresau gan Hamas ar 7 Hydref. Fe wnaethon nhw ddweud nad oedden nhw wedi clywed gan neb o Lywodraeth Cymru ers colli eu hanwyliaid. Hoffwn wybod a yw'r un peth yn wir am bob dinesydd o Gymru sydd wedi colli perthnasau yn y rhanbarth yn ystod y chwe mis a hanner diwethaf o wrthdaro gwaedlyd. Hoffwn wybod hefyd a roddwyd unrhyw gefnogaeth i ddinasyddion Cymru sydd wedi gwneud popeth o fewn eu gallu, yn ariannol ac yn emosiynol, i gael eu perthnasau allan o'r ardal o berygl yn Gaza. Mae rhai o'n trigolion sydd â chysylltiadau â Phalesteina wedi mynd i ddyled ofnadwy i ddiogelu eu hanwyliaid. Rydym ni wir angen i lwybrau diogel gael eu sefydlu i osgoi'r trychineb dyngarol cynyddol yn Gaza, a hoffwn wybod beth all y Llywodraeth ei wneud am hynny. Ac yn olaf, o gofio'r digwyddiadau ers 7 Hydref, gyda mwy na 30,000 o bobl wedi marw, a gwystlon yn dal i gael eu dal, a yw bellach yn cytuno â'r Aelodau ar feinciau Plaid Cymru mai cadoediad ar unwaith yw'r unig ffordd i sicrhau diwedd y tywallt gwaed, ar gyfer dychwelyd y gwystlon, a diwedd ar y newyn yr ydym ni'n ei weld yn Gaza?

Safbwynt Llywodraeth Cymru ers cryn amser yw y dylai fod cadoediad ar unwaith. Mae angen cynnydd sylweddol i lwybrau ar gyfer cymorth, yn ogystal â faint o gymorth sy'n cael ei ddarparu, oherwydd mae argyfwng dyngarol gwirioneddol yn digwydd o'n blaenau, yn ogystal â datrys y materion ynghylch yr erchyllterau a ddigwyddodd ar 7 Hydref, sy'n cynnwys rhyddhau'r holl wystlon. Nawr, nid wyf i'n credu, ar draws y Siambr hon, y bydd pobl yn anghytuno â'r safbwynt hwnnw. Ein her yw lefel y dylanwad sydd gennym ni ar y rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn y rhanbarth, y sgyrsiau sy'n cael eu cynnal rhwng gwahanol weithredwyr i geisio sicrhau cadoediad, a'r gallu i roi terfyn ar y lladd.

Nawr, o ran yr hyn y gallwn ni ei wneud yn ymarferol yng Nghymru—fe wnaethoch chi sôn am deulu Lianne Sharabi—rydym ni'n parhau i ddarparu cymorth ymarferol, o ran llesiant emosiynol pobl sy'n byw yng Nghymru. Rwy'n cydnabod bod pobl ar bob ochr i'r gwrthdaro hwn sy'n cael eu heffeithio'n uniongyrchol mewn etholaethau a rhanbarthau yma yng Nghymru. Pe gallai'r Aelod roi manylion cyswllt mwy uniongyrchol i mi ar gyfer lle mae'r teulu ar hyn o bryd, a sut y maen nhw neu nad ydyn nhw wedi manteision ar wasanaethau, byddaf yn hapus i wneud yn siŵr bod y cymorth sydd ar gael yn cael ei ddarparu iddyn nhw. Ond rydym ni'n siarad mewn gwirionedd am gefnogaeth ymarferol ac emosiynol i deuluoedd. Mae hwn yn faes lle nad oes gennym ni gyfrifoldeb dros ymdrin â pholisïau ffoaduriaid a dychweliadau ac aduniad teuluol. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn eglur, fodd bynnag, ein bod ni eisiau dull mwy hael o ymdrin â phobl sy'n ceisio lloches, pobl sy'n ffoi o ardaloedd rhyfel, ac am wasanaeth aduniad teuluol priodol. A dweud y gwir, fe wnaethon ni ddarparu cyllid tuag at y gwasanaeth a ddarperir gan y Groes Goch. Fel y dywedais i, rwy'n cydnabod bod pryder ar bob ochr i'r Siambr hon. Byddwn yn parhau i chwarae rhan mor adeiladol ag y gallwn ni ei wneud yma yn Llywodraeth Cymru, a chyda, fel y dywedais i, yr eglurder yn ein galwad am gadoediad, am gynnydd i gymorth ac i'r gwystlon gael eu rhyddhau.

Diolch yn fawr, Prif Weinidog, am yr ateb yna. Fel pobl eraill yn y Siambr hon, rwyf i wedi bod yn bryderus iawn am y cynnydd mewn gwrthsemitiaeth, ac, yn wir, casineb gwrth-Fwslimaidd, ers 7 Hydref, hyd yn oed ar ein strydoedd ni yma yng Nghymru. Nawr, un o'r pethau y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i geisio mynd i'r afael â gwrthsemitiaeth, yn enwedig ar ein campysau prifysgol, yw ei gwneud yn ofynnol, fel amod o gyllid ar gyfer ein prifysgolion, i sefydliadau addysg uwch fabwysiadu diffiniad Cynghrair Ryngwladol Cofio'r Holocost o wrthsemitiaeth. A yw hyn yn rhywbeth y bydd eich Llywodraeth yn ei gwneud yn ofynnol iddyn nhw ei wneud? 

13:40

Mae'r Llywodraeth, wrth gwrs—y Llywodraeth hon yng Nghymru—wedi cydnabod diffiniad IHRA o wrthsemitiaeth. Felly, mae'n cyfrannu at y gwaith yr ydym ni'n ei wneud. Mae'n rhan o'r ffordd yr ydym ni'n gweld ein darpariaeth o Gymru wirioneddol wrth-hiliol. Rwy'n falch bod yr Aelod yn cydnabod y bu cynnydd mewn gwrthsemitiaeth ar y strydoedd mewn cymunedau yr ydym ni'n eu cynrychioli ac, yn wir, cynnydd mewn Islamoffobia. Rwyf i wedi gweld hynny yn fy etholaeth fy hun, yn anffodus. Nid wyf i'n siŵr y bydd y cynnig y mae'n ei wneud o ran ei gwneud yn ofynnol cydnabod yr IHRA fel amod ariannu i brifysgolion mewn gwirionedd yn helpu i gyflawni'r mesurau ymarferol sydd eu hangen arnom ni i weld gostyngiad mewn gwrthsemitiaeth ac Islamoffobia ar gampysau prifysgolion. Rwy'n credu ei fod yn rhan o her ac ymdrech cymdeithas gyfan, lle rydych chi eisiau i bobl allu trafod pynciau mewn ffordd sy'n ddiogel ac nad yw'n cynyddu'r casineb a'r rhaniad sydd eisoes yn bodoli. Bydd hynny'n parhau i lywio'r dull y mae'r Llywodraeth hon yn ei ddilyn yn ein hymgysylltiad â theuluoedd, cymunedau a rhanddeiliaid ehangach yng Nghymru.

Prif Weinidog, effeithiwyd ar lawer o deuluoedd yn Nwyrain Casnewydd, ac effeithiwyd arnynt gan y digwyddiadau yn Israel a Gaza, a'r hyn y maen nhw ei eisiau, fel yr ydym ni eisoes wedi sôn amdano, yw cadoediad ar unwaith a pharhaol, rhyddhau gwystlon, cymorth dyngarol digonol yn cyrraedd Gaza ac, yn wir, dechreuadau proses wleidyddol a fydd yn dod ag ateb heddychlon sy'n para. Rwy'n credu bod António Guterres, Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, wedi siarad yn rymus iawn am yr adegau pwysig hyn mewn hanes a'r angen i beidio â bod yn wyliwr. Felly, y cwbl y byddwn i'n ei ddweud, Prif Weinidog, yw bod gennym ni wahanol lefelau o gyfrifoldeb, yn amlwg, fel yr ydych chi wedi sôn, ar wahanol lefelau o Lywodraeth, ond mae'n bwysig iawn i arweinwyr gwleidyddol a gwleidyddion—pob un ohonom ni—ar bob lefel i beidio â bod yn wylwyr ac i alw ar ddynoliaeth i fod yn drech.

Eto, nid wyf i'n credu bod yr un Aelod ar draws y Siambr hon a fyddai'n anghytuno â'r safbwynt a'r datganiad a wnaed gan John Griffiths. Mae gen i ddiddordeb mewn sut y gall sifiliaid diniwed, pa un a ydyn nhw'n Israeliaid neu'n Balestiniaid, gynllunio dyfodol gyda'r heddwch a'r diogelwch yr ydym ni'n eu cymryd yn ganiataol yn y wlad hon. Fel y dywedais, mae Llywodraeth Cymru yn eglur: rydym ni eisiau gweld terfyn ar y lladd ar unwaith, cadoediad; rydym ni eisiau gweld cynnydd sylweddol ar unwaith yn y cymorth y gellir ei ddarparu; rydym ni eisiau gweld gwystlon yn cael eu dychwelyd. Fy safbwynt i o hyd yw mai'r ffordd hirdymor i sicrhau'r sefydlogrwydd a'r diogelwch heddychlon y dylai dinasyddion ei ddisgwyl yw cael Israel hyfyw, ddiogel, fel cymydog i wladwriaeth Balesteinaidd hyfyw a diogel. Rydym ni ymhell i ffwrdd o gyflawni hynny mewn gwirionedd.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.    

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, pam mae crebwyll Gweinidog yr economi o ran derbyn rhoddion gwleidyddol yn fwy egwyddorol nag un chi?

Nid wyf i'n credu bod gwahaniaeth o ran egwyddor o gwbl. Rwyf i wedi bod yn eglur, fel, yn wir, y mae'r ddwy ymgyrch arweinyddiaeth o'r gorffennol diweddar, y bydd yr holl roddion yn cael eu datgan yn unol â'r holl ofynion. Maen nhw wedi cael eu cofrestru a'u cofnodi, maen nhw ar gael, a byddwn yn ymdrin nid yn unig â'r rheolau ar gyfer yr ornest, y gofynion cyfreithiol, ond byddwn yn parhau i fod yn agored am yr hyn sydd wedi digwydd a'r dyfodol. Mae fy mhlaid fy hun yn cynnal adolygiad yn dilyn ein cystadleuaeth arweinyddiaeth ddiweddar. Roedd yn gyfarfod cytûn a chadarnhaol iawn o weithrediaeth Cymru Llafur Cymru, bydd yr Aelod yn falch iawn o wybod, ac mae gennym ni gytundeb ar ffordd ymlaen i edrych ar ohebiaeth ag aelodau, cyllid ymgyrchoedd, enwebiadau ac, yn wir, hyd yr ornest. Ac rwy'n edrych ymlaen at y grŵp gwrthrychol hwnnw o bobl yn dod yn ôl gyda'u hadroddiad.

Yn amlwg, ymchwiliad mewnol yw hwnnw, Prif Weinidog. Rwy'n credu y byddai'r rhan fwyaf o bobl sy'n edrych yn wrthrychol ar hyn yn cytuno â honiad Gweinidog yr economi ar The Politics Show na fyddai wedi cymryd rhodd gan gwmni sydd ag euogfarnau troseddol niferus yn ei erbyn am droseddau amgylcheddol. Cyhoeddwyd y newyddion dros y penwythnos am gwmni sy'n derbyn benthyciad o £400,000 gan sefydliad sydd ar hyd braich o Lywodraeth Cymru mai chi oedd y Gweinidog a oedd yn gyfrifol amdano, ac sydd â nifer o geisiadau cynllunio, parc solar yn arbennig, gerbron Arolygiaeth Gynllunio Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd. Rwy'n credu y byddai unigolyn rhesymol, sef yr hyn y mae'r cod y gweinidogion yn sôn amdano, yn dweud bod gwrthdaro buddiannau posibl yno o ran chi eich hun a'r sawl a wnaeth y rhodd hon. A fyddech chi'n cytuno â mi y byddai unigolyn rhesymol yn dod i'r un casgliadau â Gweinidog yr economi? Pe bai ef wedi cael cynnig y rhodd honno, byddai wedi ei gwrthod.

13:45

Rwy'n credu y byddai gan unigolyn rhesymol ddiddordeb yn y ffeithiau. Gadewch i mi fynd drwy'r ffeithiau am y mater yr ydych chi wedi ei godi am gefnogaeth Banc Datblygu Cymru. Mae'r banc datblygu wedi rhoi'r datganiad ffeithiol canlynol: yn 2023 cytunodd ar fenthyciad i Neal Soil Suppliers o £400,000 a ariannodd brynu parc solar yn etholaeth Bro Morgannwg; mae'r pryniant hwnnw wedi digwydd ac maen nhw ar y trywydd iawn i ad-dalu'r benthyciad hwnnw gyda llog yn y tymor pum mlynedd y cytunwyd arno.

Mae'r banc datblygu yn gwneud benthyciadau masnachol a buddsoddiadau ecwiti mewn busnesau bach a chanolig yng Nghymru. Y banc datblygu sy'n gwneud y penderfyniadau benthyca a buddsoddi hynny, ac maen nhw'n gwbl annibynnol ar Weinidogion Llywodraeth Cymru. Nid wyf i'n credu y byddai unigolyn rhesymol sy'n deall ffeithiau'r mater yn dod i'r casgliad wedyn bod gwrthdaro yn bodoli.

Yn wir, wrth gwrs, yng nghod y gweinidogion, ceir y gofyniad i wahanu buddiannau gweinidogol ac etholaethol. Cyfeiriodd yr Aelod at gais a allai ddod gerbron Gweinidogion Cymru. Gan ei fod yn fy etholaeth i, ni allaf ac ni fydd gennyf unrhyw ran i'w chwarae yn y penderfyniad hwnnw, pwynt sydd wedi cael ei wneud yn eglur iawn gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros dai, llywodraeth leol a chynllunio. Rwy'n credu y byddai gan unigolyn rhesymol ddiddordeb yn y ffeithiau.

Dylwn hefyd ei gwneud yn eglur fy mod i'n credu bod Banc Datblygu Cymru yn un o lwyddiannau Cymru. Mae ganddo 11 cronfa weithredol ar gyfer busnes gwerth £1.2 biliwn, sy'n cefnogi mwy na 2,700 o fusnesau ledled y wlad. O ran ei fenthyciadau masnachol a'i fuddsoddiadau ecwiti, nid yw Gweinidogion wedi gwneud penderfyniad yn unrhyw un o'r mwy na 2,700 o ddewisiadau buddsoddi hynny.

Mae hyn yn cael effaith ddeifiol wirioneddol ar y Llywodraeth, fel y mae tawelwch eich meinciau eich hun yn ei ddangos yma gerbron pawb heddiw. Ni all fod unrhyw gwestiwn y byddai'r unigolyn rhesymol hwnnw yr ydych chi a minnau'n cyfeirio ato yn dod i'r casgliad y daeth Ysgrifennydd yr economi iddo, na ddylid fod wedi derbyn y rhodd hon.

Dywedais wrthych chi, Prif Weinidog, mewn llythyr mai'r ffordd i fynd i'r afael â hyn fyddai yn y ffordd y gwnaeth eich rhagflaenydd yn 2017 pan oedd materion a oedd yn tynnu sylw oddi wrth waith pwysig y Llywodraeth—sef penodi cynghorydd annibynnol ar god y gweinidogion i edrych ar hyn a rhoi sylw gwirioneddol i'r pryderon hyn sydd gan bobl. Yn anffodus, y bore yma, rydych chi wedi anfon llythyr ataf i yn dweud na fyddwch yn ymgymryd â'r cynnig cwbl resymol hwnnw o gael cynghorydd annibynnol i edrych ar yr awgrymiadau a wnaed ynghylch y rhodd hon.

Byddai'n well gen i fod yma yn eich holi chi heddiw am yr argyfwng yn y gwasanaethau canser ledled Cymru a amlygwyd gan gyfarwyddwr Macmillan Cymru yn ei sylwadau dros y penwythnos. Byddwn yn eich annog eto, Prif Weinidog, o ystyried difrifoldeb rhai o'r honiadau a wnaed, ac yn enwedig natur ddeifiol yr honiadau hynny, i ystyried penodi cynghorydd annibynnol i fynd i'r afael â'r pryderon hyn a rhoi'r hyn yr wyf i'n ei obeithio sy'n eich clirio'n llwyr—rwyf i wir yn gobeithio hynny—fel y gallwch chi fel Prif Weinidog, ynghyd â gweddill y Llywodraeth, fwrw ymlaen â'r gwaith pwysig hwnnw o gyflawni'r gwaith pwysig hwnnw o leihau amseroedd aros iechyd, cael ein heconomi i symud a gwella cyrhaeddiad addysgol ledled Cymru. Dyna'r agenda y dylai'r Llywodraeth fod yn mynd i'r afael â hi, nid wythnos ar ôl wythnos yn gweld y gwahanol ddarnau hyn o wybodaeth yn ymddangos ynghylch y rhoddion a wnaed i'ch ymgyrch arweinyddiaeth, y dywedodd Ysgrifennydd yr economi na fyddai wedi eu derbyn.

Gadewch i ni ddychwelyd eto at y ffeithiau. Mae'r rhoddion wedi cael eu datgan ar gyfer y ddwy ymgyrch arweinyddiaeth. O ran cymorth a ddarparwyd gan Fanc Datblygu Cymru, fe wnaeth ddewis buddsoddi gyda benthyciad masnachol dros flwyddyn yn ôl, ac mae hwnnw wedi mynd at brynu ased unigol, ac mae ad-daliadau'n cael eu gwneud yn unol â thelerau'r benthyciad hwnnw. Mae'r holl fuddsoddiadau benthyciad ac ecwiti hynny i fusnesau yng Nghymru yn cael eu gwneud yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru gan Fanc Datblygu Cymru. Dyna'r ffeithiau. Does dim rheswm i gynnal ymchwiliad pan fo'r ffeithiau mor eglur a diamwys. A dywedaf eto, mae Banc Datblygu Cymru yn un o lwyddiannau Cymru. Mae mwy na 2,700 o fusnesau'n cael eu cefnogi gan ei weithgarwch. Mae'n gwneud y dewisiadau hynny yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru. A bydd yr holl faterion hynny yn effeithio ar etholaethau a rhanbarthau ledled Cymru sy'n cael eu cynrychioli gan wahanol Aelodau yn y Siambr hon. Rwy'n eglur iawn am y ffaith mai dyna'r ffeithiau.

Nid oes unrhyw reswm i gynnal ymchwiliad annibynnol unigol dim ond ar sail datganiad i'r wasg gan yr wrthblaid. Rwy'n cytuno ag arweinydd yr wrthblaid, fodd bynnag, bod y busnes pwysig iawn ar gyfer dyfodol ein gwlad yn mynd yn ôl i'r blaenoriaethau a amlinellais yr wythnos diwethaf—y blaenoriaethau sy'n wynebu teuluoedd ym mhob etholaeth, pobl sy'n poeni a ydyn nhw'n mynd i allu talu eu biliau ar ddiwedd y mis, pobl sydd wedi gweld cynnydd parhaol yn eu taliadau morgais, diolch, wrth gwrs, i'r hyn sydd wedi digwydd dros y blynyddoedd diwethaf. Mae'r Llywodraeth hon yn canolbwyntio ar realiti'r argyfwng costau byw, y baich treth cynyddol i bobl sy'n gweithio, y realiti bod gennym ni fwy i'w wneud ar amrywiaeth o faterion. Dyna pam rwyf i mor falch bod y trafodaethau wedi dechrau ddoe gyda Chymdeithas Feddygol Prydain i helpu i ddatrys gweithredu diwydiannol. Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar yr heriau sy'n wynebu Cymru. Dyna farn yr holl Weinidogion yn y Llywodraeth hon. Dyna fydd Llafur Cymru yn bwrw ymlaen ag ef yn ein pwrpas—cyflawni dros Gymru.

13:50

Diolch, Llywydd. Mae dros fis bellach ers i'r Prif Weinidog ddechrau ei swydd. Hon yw ei ail sesiwn graffu. Nid yw'r cwestiynau hyn yn diflannu, ydyn nhw? Rydym ni wedi cael gwir faint y taliadau i'w ymgyrch arweinyddiaeth—£200,000. Rydym ni wedi cael ffynhonnell yr arian hwnnw—llygrydd a gafwyd yn euog. Yna rydym ni'n gwybod bod y cwmni hwnnw mewn dyled i Lywodraeth y Prif Weinidog ei hun. Dylai pawb yn y Siambr hon fod eisiau amddiffyn democratiaeth Cymru rhag y niwed y gall y mathau hynny o weithredoedd ei achosi. Nawr, gyda hyd yn oed ASau Llafur yn codi llais, ac aelod o'i Lywodraeth ei hun, ei wrthwynebydd yn yr ornest arweinyddiaeth, rydym ni'n gwybod bod y rhan fwyaf o Aelodau'r Senedd yma yn credu ei fod wedi dangos crebwyll gwael.

Ond fel y gallwn ni ddeall, pan gynigiwyd yr arian, a wnaeth y Prif Weinidog ofyn gan bwy yr oedd wedi dod, a ddywedwyd wrtho am orffennol troseddol y rhoddwr a dweud, 'O, does dim ots, fe gymeraf i'r arian beth bynnag', ac os felly, mae hynny'n codi cwestiynau sylfaenol o ran crebwyll, neu ai'r gwir, er gwaethaf maint y rhodd hon, oedd na wnaeth feddwl gofyn am ddiwydrwydd dyladwy priodol? Byddai hynny, eto, yn grebwyll gwael iawn. Pa un oedd hi?

Cyflawnwyd yr holl ddiwydrwydd dyladwy ynghylch a oedd hwn yn rhoddwr a ganiatawyd y gellid derbyn arian ganddo, a chafodd ei ddatgan yn briodol ac mae ar y cofnod nawr. Mae'n werth nodi, a dweud y gwir, y bydd prosesau ar waith i unrhyw un o'r rhoddwyr i'r naill neu'r llall o'r ymgyrchoedd arweinyddol i wneud yn siŵr na all yr unigolion hynny wneud dewisiadau am y busnesau hynny sydd wedi rhoi, ac mae hynny i wneud yn siŵr y cydymffurfir yn briodol â chod y gweinidogion ac nad oes gennym ni achosion o wrthdaro buddiannau. 

Rwy'n eglur iawn—a gwnaeth yr Aelod y pwynt, eto, a wnaed gan arweinydd y Ceidwadwyr—am y realiti bod Banc Datblygu Cymru wedi darparu cymorth benthyciad, cymorth benthyciad a ddarparwyd heb unrhyw gyfeiriad at Weinidogion Llywodraeth Cymru, dim cyfranogiad yn y broses, gyda'u hasesiad unigol eu hunain o ba un a ddylid darparu'r benthyciad hwnnw, ac fe'i defnyddiwyd at y diben y cafodd ei roi—prynu fferm solar—ac mae ar y trywydd iawn i gael ei ad-dalu o fewn y tymor. Rwy'n gyfforddus iawn y gallai ac y dylai Banc Datblygu Cymru redeg ei fusnes ei hun heb ymyrraeth weinidogol mewn dewisiadau benthyciadau a buddsoddi unigol. Byddai hynny ynddo'i hun yn broblem wirioneddol, ac yn un na fyddaf yn ei chyflawni.

Nid yw'r ffaith eich chi bod wedi cofrestru rhodd gan lygrydd a gafwyd yn euog yn golygu ei fod yn grebwyll da eich bod wedi derbyn y rhodd honno. Rydym ni wedi cysylltu San Steffan â llygredd gwleidyddol ers amser maith; nid dyna'r ydym ni ei eisiau yma yng Nghymru. Yn ei araith dderbyn, dywedodd y Prif Weinidog newydd ei fod eisiau arwain gwlad sy'n llawn gobaith, uchelgais ac undod. Ni all hyd yn oed uno ei blaid ei hun ar ba un a oedd yn iawn ai peidio, ac nid wyf i'n synnu bod anniddigrwydd amlwg ar ei feinciau ei hun, blaen a chefn. 

Nawr, mae'r datgeliad bod Dauson mewn dyled i Fanc Datblygu Cymru wedi codi pryderon hyd yn oed yn fwy gan ei fod yn mynd at wraidd gweithrediadau'r Llywodraeth, ac ni ddylai'r Prif Weinidog fod yma yn gwyro hyn at Fanc Datblygu Cymru. Nid ydym ni'n cwestiynu uniondeb Banc Datblygu Cymru, rydym ni'n cwestiynu ei uniondeb ef. Mae cod y gweinidogion yn eglur:

'Rhaid i'r Gweinidogion sicrhau nad oes unrhyw wrthdaro, nac unrhyw argraff bod gwrthdaro, rhwng eu dyletswyddau cyhoeddus a'u buddiannau preifat'.

Buddiant preifat, yn yr achos hwn, fyddai gornest arweinyddiaeth i'r Blaid Lafur.

'Ni ddylai'r Gweinidogion dderbyn unrhyw rodd neu letygarwch a allai godi amheuon am ddoethineb eu barn neu a allai eu rhoi o dan rwymedigaeth amhriodol neu a allai, yn rhesymol, roi’r argraff honno'.

Nawr, rwy'n credu y cyrhaeddwyd y trothwy hwnnw, a dyna pam yr ysgrifennais at yr Ysgrifennydd Parhaol, yn gofyn am ymchwiliad annibynnol llawn ac i'r canfyddiadau gael eu cyhoeddi. Nawr, o ystyried, rwy'n credu, mai prin fyddai'r hyder y byddai gan y cyhoedd yn y Prif Weinidog ei hun yn gweithredu fel barnwr a rheithgor yn ei achos ei hun, a fyddai'n cytuno ar yr angen i ymchwiliad fod yn annibynnol?

13:55

Wel, gadewch i ni ddychwelyd at y ffeithiau: pan ddaw at y dewis a wnaed gan Fanc Datblygu Cymru—ac rydych chi'n cwestiynu'r dewis—mae'r dewis yn cael ei wneud yn annibynnol gan y—[Torri ar draws.] Mae'r dewis yn cael ei wneud yn annibynnol gan y banc datblygu. Mae'n penderfynu yn annibynnol a ddylid buddsoddi ai peidio, ac mae hynny'n hollol ar wahân i unrhyw ddewis a wneir gan Weinidog Llywodraeth Cymru. Os nad oes gan Weinidog Llywodraeth Cymru unrhyw ymgysylltiad na chyfranogiad yn y dewis, mae'n anodd gweld sut mae gwrthdaro. Ac yn fwy na hynny, wrth gwrs, busnes yn fy etholaeth i yw hwn, ac mae cod y gweinidogion yn gwbl eglur na allaf i wneud dewisiadau ynghylch busnesau yn fy etholaeth. Felly mae'n anodd gweld lle mae rheswm neu dystiolaeth i gefnogi ymchwiliad annibynnol. Ac, mewn gwirionedd, fel yr ydym ni wedi ei drafod yr wythnos diwethaf, mae'n nodwedd reolaidd bod yn rhaid i Weinidogion wahanu eu buddiannau etholaethol eu hunain. Mae'n digwydd, er enghraifft, pan fydd cyflwyniadau yn cael ei gwneud ynghylch Celsa Steel UK, sydd wedi'i leoli yn fy etholaeth i—ni allaf ac nid wyf i'n gwneud dewisiadau amdanyn nhw. Mae'n union yr un fath o ran busnesau eraill os oes mater lle mae angen i Weinidog Cymru wneud dewis.

A phan ddaw at y dyfodol, rwyf i wedi bod yn gwbl eglur ynghylch y gefnogaeth i drefn llywodraethu amgylcheddol newydd, gan gynyddu safonau ar gyfer yr hyn yr ydym ni'n ei ddisgwyl gan fusnesau a'u hôl troed amgylcheddol. Mae hynny'n dal i fod yn ymrwymiad gan y Llywodraeth hon; edrychaf ymlaen at weld hynny'n dod i mewn i ddeddfwriaeth yn ystod y tymor hwn.

A phan ddaw at undod, mae pwyllgor gweithredol Cymru Llafur Cymru wedi bod yn unedig iawn—cynhaliwyd cyfarfod cadarnhaol iawn ddydd Sadwrn. Ceir undod ynghylch y broses yr ydym ni'n ymgymryd â hi, gan symud ymlaen, ac, yn wir, y pwyslais ar y blaenoriaethau a amlinellais yr wythnos diwethaf: y teuluoedd sydd â diddordeb mewn p'un a allan nhw dalu eu biliau ar ddiwedd y mis, a'r busnesau sy'n poeni a ydyn nhw'n mynd i gael y math o ddyfodol a sefydlogrwydd yn y Llywodraeth y maen nhw eisiau ei gweld ar lefel Cymru a'r DU. Mae'r her dros ffrâm wahanol o fuddsoddiad yn ein gwasanaethau cyhoeddus a'n cefnogaeth i'r economi. Dyna'r blaenoriaethau y bydd y Llywodraeth hon yn parhau i ganolbwyntio arnyn nhw, a bydd pob Aelod o'n Llywodraeth yn parhau i wneud hynny.

Efallai mai oherwydd bod pobl yn ei chael hi'n anodd yn ariannol na allan nhw ddeall pam mae'r Prif Weinidog hwn mor wamal ynghylch rhodd o £200,000. Ac ar gyfer y cofnod, nid wyf i'n cwestiynu penderfyniad a wnaed gan Fanc Datblygu Cymru; y dewis yr ydym ni'n sôn amdano yma oedd dewis y Prif Weinidog i dderbyn neu beidio â derbyn yr arian hwnnw.

Nawr, mae'r Prif Weinidog bellach wedi comisiynu un o'i ragflaenwyr, Carwyn Jones, i gynnal adolygiad o'r rheolau yn ymwneud â rhoddion yn ei chystadlaethau arweinyddiaeth. Er mwyn tryloywder, mae'n destun gofid bod y Prif Weinidog wedi dewis rhywun y tu mewn i'r blaid yn hytrach na rhywun nad yw'n gysylltiedig â Llafur i gynnal yr adolygiad hwnnw, ond o leiaf mae gobaith na fydd Carwyn Jones yn ymatal, ar ôl galw'r rhoddion yn 'anffodus' yn flaenorol a honni bod gan y Prif Weinidog wersi i'w dysgu.

Nawr, dywedodd y Prif Weinidog olaf wrthyf yn y Siambr hon nad oedd cystadleuaeth arweinyddiaeth Llafur yn ddim o'm busnes i. Rwy'n credu bod hyn oll yn dangos ei fod yn fusnes i bob un ohonom ni. Y Blaid Lafur yn y pen draw a ddewisodd y Prif Weinidog hwn, felly yn y cyd-destun hwnnw, a wnaiff ef ymrwymo i gyhoeddi canfyddiadau'r adolygiad hwnnw?

Ceir dau beth. Y cyntaf yw fy mod i'n falch fod yr Aelod wedi ei gwneud yn eglur nawr nad yw'n herio penderfyniad Banc Datblygu Cymru. Mae hynny'n derbyn gwrthrychedd y penderfyniad hwnnw a diffyg unrhyw fath o ddylanwad Gweinidogion Cymru. Os nad ydych chi'n derbyn hynny, ni allwch ddweud nad ydych chi'n herio'r penderfyniad a'r ffeithiau ynghylch sut y mae'n gwneud dewisiadau buddsoddi yn annibynnol. Ac os, mewn gwirionedd, y gwnaethoch chi gydnabod nad oes her o ran ei ddewis, mae'n anodd gweld sut mae rheswm dros ymchwilio i hynny. Beth sydd i'w ymchwilio os ydych chi'n derbyn nad oes her i'r penderfyniad? Os nad ydych chi'n hoffi'r ffordd y darperir rhoddion o fewn y gystadleuaeth, wel mae hwnnw'n fater gwahanol, ac nid yw hynny'n ddim i'w wneud â dewis Banc Datblygu Cymru.

Pan edrychwch chi ar yr hyn y gallwn ni ei wneud, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod fy mhlaid yn ymgymryd â phroses ar ôl yr ornest arweinyddiaeth, i ddysgu gwersi ac i symud ymlaen. Bydd yn benderfyniad i weithrediaeth Cymru, pan fydd yn derbyn yr adroddiad, ynglŷn â'r hyn y mae'n ei gyhoeddi. Nid oes gen i unrhyw amheuaeth o gwbl y bydd yn y parth cyhoeddus. Yn y cyfamser, a hyd yn oed ar ôl hynny, edrychaf ymlaen at yr heriau a'r cyfleoedd y mae eleni yn eu cyflwyno: yr heriau yr ydym ni'n eu hwynebu gyda Llywodraeth bresennol y DU nad yw'n ffrind i Gymru; y cyfle i ddadlau dros ddyfodol cwbl wahanol, cyfleoedd y byddwch chi'n eu clywed yn cael eu cyflwyno eto heddiw—yr wythnos diwethaf gan Huw Irranca-Davies yn ei friff newydd; heddiw, byddwch chi'n clywed gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth, ac yn wir yr Ysgrifennydd dros yr economi ac ynni, yn nodi'r hyn yr ydym ni'n bwriadu ei wneud yn ystod gweddill eleni, a'r cyfleoedd ar gyfer y dyfodol i greu'r Gymru well y mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i'w sicrhau.

14:00
Polisi Iechyd o fewn y Gwasanaethau Tân ac Achub

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnydd Llywodraeth Cymru mewn perthynas â pholisi iechyd o fewn y gwasanaethau tân ac achub? OQ60950

Diolch. Mater i gyflogwyr yw iechyd a diogelwch yn y gweithle. Fodd bynnag, rydym ni wedi dod i gytundeb ag awdurdodau tân ac achub ac undebau ar leihau'r perygl o ganser y gallai diffoddwyr tân ei wynebu yn eu gwaith.

Diolch am yr ateb, Prif Weinidog. 

Comisiynwyd Prifysgol Canol Swydd Gaerhirfryn gan Undeb y Brigadau Tân i gynnal arolwg halogiad diffoddwyr tân y DU er mwyn darparu sylfaen dystiolaeth ar gyfer deall risgiau a ffynonellau cyffredin o amlygiad i halogyddion i ddiffoddwyr tân, ac roedd y canfyddiadau'n llwm. Mae achosion o ganser ymhlith diffoddwyr tân rhwng 35 a 39 oed hyd at 323 y cant yn uwch nag yn y boblogaeth gyffredinol yn yr un categori oedran. 323 y cant yn uwch.

Nawr, wrth gwrs, mae gwaith ar y gweill i amddiffyn diffoddwyr tân yn well rhag amlygiad, fel y gwelwn ni drwy ymgyrch DECON, ond ar hyn o bryd nid oes unrhyw fath o raglen monitro canser neu glefydau eraill ataliol ar waith ar gyfer diffoddwyr tân y DU. Nawr, mae astudiaeth o gyfraddau marwolaethau o glefydau galwedigaethol diffoddwyr tân yn yr Alban yn dod i'r casgliad bod angen monitro iechyd ataliol ar frys i ddiogelu iechyd diffoddwyr tân y DU. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno, ac a wnaiff ef ymrwymo nawr i gyflwyno monitro iechyd penodol ar gyfer diffoddwyr tân Cymru?

Ceir dau beth. Y cyntaf yw fy mod i'n deall y risgiau galwedigaethol i amrywiaeth o wahanol weithwyr, gan gynnwys diffoddwyr tân. Yn wir, yn ystod fy ngyrfa fel cyfreithiwr undebau llafur cyn dod i'r lle hwn, gweithiais ar achosion, ac achosion anafiadau personol yn ogystal ag achosion cyflogaeth yn wir, a oedd yn edrych yn uniongyrchol ar ganlyniadau i ddiffoddwyr tân ar ôl iddyn nhw fod mewn digwyddiadau i ddiogelu'r cyhoedd. Felly, rwy'n cydnabod bod hwn yn fater gwirioneddol iawn i'r grŵp hwn o weithwyr ac, o bosibl, i eraill.

Rwy'n falch ei fod wedi sôn am y gwaith ymchwil a gomisiynwyd gan Undeb y Brigadau Tân gan Brifysgol Canol Swydd Gaerhirfryn. A dweud y gwir, rydym ni wedi cymryd hwnnw drwy ein fforwm partneriaeth gymdeithasol ac nid ydym ni wedi ystyried eu hargymhellion yn unig, ond rydym ni'n chwilio am waith y gellir ei wneud i ddeall yr hyn y gallwn ni ei wneud i wella'r sefyllfa iechyd a diogelwch galwedigaethol i ddiffoddwyr tân.

O ran ei gais penodol am sgrinio canser ar gyfer diffoddwyr tân fel grŵp galwedigaethol, byddai angen i ni weld sylfaen dystiolaeth sy'n dod drwy'r cyngor yr ydym ni'n ei gael fel Llywodraeth ac ar gyfer ein gwasanaeth drwy Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU. Byddwn yn parhau i fonitro nid yn unig y sylfaen dystiolaeth, ond argymhellion gan y pwyllgor allweddol hwnnw ynghylch sut rydym ni'n gwneud y defnydd gorau o'n hadnoddau. Os byddwn ni'n eu neilltuo i faes penodol, yna efallai y bydd her ynghylch a ellid defnyddio'r adnoddau sgrinio hynny i gael mwy o effaith mewn gwahanol rannau o'r boblogaeth. Felly, bydd y dystiolaeth honno yn ein tywys o ran y defnydd gorau o adnoddau i sicrhau'r canlyniadau gorau, ond, boed yn ddiffoddwyr tân neu'n eraill, mae canllawiau eglur ar gael, os yw pobl yn poeni am symptomau neu amlygiad galwedigaethol, ynghylch ble y gallan nhw fynd i gael cymorth a chyngor ym myd gwaith a'r tu allan iddo.

Prif Weinidog, mae gwaith ymchwil diweddar wedi dangos bod cydberthynas uniongyrchol rhwng amlygiad diffoddwyr tân i elifion tân ac iechyd meddwl gwael. Yn benodol, dangoswyd bod aflonyddwyr endocrin, fel biffenylau polyclorinedig, sy'n arafwyr fflamau cyfnod nwy a ddefnyddir mewn padin dodrefn a charpedi ac mewn casinau plastig caled, nid yn unig yn arwain at anghydbwysedd hormonau a chamweithrediad niwroendocrin, ond y gallan nhw hefyd arwain at gyflyrau fel iselder a gorbryder. Mae astudiaethau wedi dangos, er enghraifft, bod menywod beichiog yn wynebu risg uwch o iselder a gorbryder, ac mae amlygiad i'r cemegau hyn, yn enwedig yn ystod tri mis cyntaf beichiogrwydd, yn cael sgil-effaith bosibl ar blant, sydd, o ganlyniad i iselder mamol, yn fwy tebygol o ddioddef seicopatholeg gyffredinol, o arddangos mwy o broblemau mewnoli ac allanoli, ac yn dioddef o weithrediad gwybyddol gwaeth yn ogystal ag arddangos twf corfforol is-optimaidd. Gyda hyn mewn golwg, Prif Weinidog, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod gwasanaethau tân ac achub yng Nghymru yn hysbysu eu staff am y risgiau i iechyd meddwl o gael eu hamlygu i'r cemegau hyn, a pha gamau ydych chi'n eu cymryd i orfodi codau ymarfer llym sy'n lleihau'r tebygolrwydd o amlygiad cronig? Diolch.

Diolch. Ceir nifer o wahanol bwyntiau. Mae'n werth myfyrio, o'r cwestiwn cychwynnol, ar y gwaith ymchwil a wnaed gan Brifysgol Canol Swydd Gaerhirfryn a'r hyn y mae'n ei olygu. Roedd rhan o hyn yn ymwneud â sut i amddiffyn diffoddwyr tân rhag amlygiad i halogyddion a allai fod yn gysylltiedig â chanser. Ceir effeithiau ehangach posibl hefyd, ac ni ddylai unrhyw un o'r rhain ein synnu. Os ydych chi'n mynd i ddigwyddiad tân, ni ellir rhagweld natur y cemegau a'r newid sy'n digwydd yn gywir bob amser. Fodd bynnag, ceir sylfaen dystiolaeth ynghylch y cysylltiadau i amlygiad a hefyd yr hyn y mae hynny'n ei olygu wedyn ar gyfer y cyfarpar anadlu a ddarperir i ddiffoddwyr tân o dan yr amgylchiadau hynny. Mae hynny'n sail i'r gwaith sydd wedi cael ei wneud, ac rydym ni wedi dod i gytundeb ar fwrw ymlaen â nifer o'r argymhellion, ac mae awdurdodau tân ac achub yn edrych ar hynny. Nawr, yn amlwg, Julie James yw'r Ysgrifennydd Cabinet sy'n gyfrifol am y gwasanaeth tân bellach, felly byddwn yn dychwelyd at hynny, nid yn unig trwy bartneriaeth gymdeithasol, ond yn y diweddariadau yr ydym ni'n eu cael ar ba un a yw awdurdodau tân ac achub yn bwrw ymlaen â hynny yn seiliedig ar yr argymhellion a wnaed yn adroddiad Undeb y Brigadau Tân. Felly, rydym ni wedi cytuno ar raglen ar gyfer gwaith; mae bellach yn ymwneud â sicrhau bod honno'n cael ei chyflawni, ac yna p'un a fyddwn ni'n gweld gwelliant yn yr effeithiau iechyd corfforol a meddyliol ar gyfer ein diffoddwyr tân.

14:05
Deintyddiaeth y GIG yn Arfon

4. A wnaiff y Prif Weinidog wneud datganiad am argaeledd deintyddiaeth y GIG yn Arfon? OQ60946

Gwnaf. Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i gynyddu mynediad i gleifion newydd yn rhan o ddiwygio deintyddol ac, ers mis Ebrill 2022, mae dros 320,000 o gleifion newydd wedi cael mynediad at ddeintydd GIG ledled Cymru, gan gynnwys bron i 62,000 o gleifion newydd yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Does yna ddim un practis deintyddol yn Arfon yn derbyn cleifion NHS newydd ar hyn o bryd, ac mae'n ymddangos eu bod nhw hefyd wedi gorfod cau eu rhestrau aros. Mae llawer o fy etholwyr i, felly, yn methu cael mynediad at y gwasanaeth deintyddol cyhoeddus, sydd yn sefyllfa gwbl annerbyniol. Fe agorwyd academi ddeintyddol Bangor ddiwedd 2022, efo addewid beiddgar gan y bwrdd iechyd lleol mai dyma gam cyntaf mynd i'r afael â phrinder parhaus o ddeintyddion yr NHS ar draws y gogledd. Mae'r academi wedi cael ei hyrwyddo sawl tro gan Weinidogion yn yr un termau. Dwi ar ddeall bod yr academi honno wedi cau ei llyfrau i gleifion NHS. Dydyn nhw ddim yn derbyn cleifion NHS i'w gweld, na chwaith yn eu derbyn ar restrau aros. Ond maen nhw yn croesawu cleifion preifat. Wnewch chi ymyrryd ar fyrder i sicrhau bod cynllun academi ddeintyddol Bangor yn cael ei wireddu, a hynny yn llawn?

Fy nealltwriaeth i yw bod y llawr gwaelod yn gwbl weithredol bellach, ac y gwelwyd ychydig dros 3,000 o gleifion ers iddi agor ym mis Medi 2002. Y bwriad o hyd yw y bydd ail lawr yr academi ddeintyddol newydd yn weithredol ar gyfer gwasanaeth deintyddol cymunedol, a bydd hwnnw eto yn cymryd cleifion GIG, yn amlwg. Nid wyf i'n ymwybodol o fanylion unigol y cynllun ar gyfer pryd y dylai hwnnw fod yn weithredol. Rydym ni'n deall bod oedi wedi bod. Byddaf yn cysylltu ag Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd i sicrhau bod briff ffeithiol am y sefyllfa bresennol, ond hefyd, o bwynt yr Aelod, rwy'n credu ei bod hi'n gwbl deg a rhesymol iddi ddisgwyl diweddariad ar yr hyn y gellir ei ddisgwyl yn y dyfodol ar gyfer darparu deintyddiaeth GIG a'r capasiti yr ydym ni'n cydnabod sydd ei angen, a dyna pam rydym ni wedi ymgysylltu mewn gwirionedd i geisio creu'r academi ddeintyddol ym Mangor yn y lle cyntaf. Rwy'n fwy na pharod i wneud yn siŵr bod yr Aelod yn cael sesiwn friffio a diweddariad priodol ar y dyfodol.

Mae Siân Gwenllian yn gwbl gywir i godi hyn, oherwydd yn anffodus nid oes gan lawer gormod o bobl yn Arfon ac ar draws y gogledd fynediad at ddeintydd GIG, mater y mae Aelodau yn y Siambr wedi bod yn ei godi ers amser maith, mater a godais i'n bersonol gyda'r Gweinidog iechyd dros 12 mis yn ôl, a dywedwyd wrthym ni bryd hynny bod hyn yn cael ei ddatrys. Ac rydym ni wedi clywed fis diwethaf gan gadeirydd pwyllgor practisau deintyddol cyffredinol Cymru, ac rwy'n dyfynnu, y gallai mwy o bobl gael eu gorfodi i dynnu eu dannedd eu hunain allan oherwydd diffyg mynediad priodol. Felly, yn amlwg, ceir rhywbeth sydd ddim yn gweithio, Prif Weinidog. Felly, beth ydych chi'n ei ddweud heddiw wrth bobl yn Arfon a ledled Cymru sy'n wynebu'r penderfyniad o hunan-ddeintyddiaeth?

Rydym ni wedi ymrwymo i ddiwygio nid yn unig contract deintyddol y GIG, ond y rheswm pam mae diwygio contractau yn bwysig yw oherwydd y bydd yn datgloi capasiti newydd ar gyfer deintyddiaeth y GIG. Dyna pam rydym ni'n buddsoddi yn y broses anodd honno. Ond mae'n darparu mwy o gapasiti o fewn ein GIG mewn gwirionedd. Ac o fewn hynny, mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n cael y sgwrs gyda'r proffesiwn a chyda'r cyhoedd ynghylch lle'r ydym ni'n deall bod bylchau o hyd, a, lle mae pobl yn dychwelyd eu contractau GIG, i wneud yn siŵr bod darpariaeth GIG sy'n dal i fod ar gael. Dyma un o'r prif flaenoriaethau ar gyfer Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd. Mae wedi gwneud hynny yn eglur yn rhagweithiol, bod ganddi ddiddordeb yn nyfodol diwygio a mynediad at ddeintyddiaeth GIG. Bydd yn parhau i fod yn wir y byddwn ni'n chwilio am gyfleoedd i fuddsoddi ac i wneud yn siŵr ein bod ni'n gwneud y math o ddarpariaeth GIG y mae cymunedau yn ei disgwyl yn briodol.

14:10

Prif Weinidog, rydym ni wedi clywed llawer am broblemau wrth gael mynediad at ddeintyddiaeth, yn enwedig yn y gogledd, gan gyrff proffesiynol a hefyd etholwyr, yn dilyn y pandemig. Rwy'n deall bod rhai prosiectau treialu addawol i ddod â deintyddiaeth symudol i ysgolion yn y gogledd, sy'n bwysig iawn i'n plant. A fydd hyn ar gael yn ehangach?

Bydd. Rwy'n falch bod Carolyn Thomas wedi cyfeirio at gam cychwynnol y cynllun treialu. Ceir cyfleuster deintyddol symudol therapydd deintyddol sydd wedi'i gyd-leoli yn Ysgol y Moelwyn ym Mlaenau Ffestiniog ar hyn o bryd, ac maen nhw'n cynnal asesiadau ar gyfer disgyblion 11 a 12 oed. Mae'r rhain yn glinigol effeithiol ac yn seiliedig ar dystiolaeth. Dyna un o'r pethau yr ydym ni'n bwriadu eu hymgorffori yn y contract i wneud yn siŵr bod sail dystiolaeth eglur ynghylch sut mae gweithgarwch deintyddol yn cael ei redeg a'i gyflawni. Mae cam cyntaf y rhaglen honno yn cael ei werthuso ac mae'r canlyniadau cychwynnol yn edrych yn gadarnhaol, felly ceir cynllun i wneud yn siŵr y gall yr uned symudol symud ymlaen i fwy o ddarpariaeth mewn ysgolion, a dylai'r ysgol nesaf fod yn ardal y Bala, a nodwyd tair ysgol arall ar draws y gogledd. Rwy'n siŵr y byddai Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd yn fwy na pharod i wneud yn siŵr bod yr Aelod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am eu cynnydd.

Yr Argyfwng Parhaus yn y Dwyrain Canol

5. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi teuluoedd yng Nghymru y mae'r argyfwng parhaus yn y Dwyrain Canol yn effeithio arnynt? OQ60974

Diolch am y cwestiwn. Rydym ni'n dal i bryderu'n fawr am y gwrthdaro parhaus, yr argyfwng dyngarol yn Gaza, a'r effeithiau ehangach yn y rhanbarth. Rydym ni'n parhau i weithio'n agos gydag arweinwyr Iddewig a Mwslimaidd i gefnogi cydlyniant cymunedol a sicrhau y gall unrhyw ddioddefwyr casineb barhau i gael cymorth trwy Ganolfan Cymorth Casineb Cymru.

Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. Mae fy nghwestiwn yn dilyn cwestiwn 2 yn gynharach. Rwy'n credu ei bod hi'n werth i ni fyfyrio ar yr hyn a ddigwyddodd i Gill a Pete Brisley o Bencoed. Roedd eu merch, Lianne, yn byw yn Kibbutz Be'eri yn ne Israel. Roedd gan y teulu ddwy ferch, Yahel, 16 oed, a Noiya, 13 oed. Ar 7 Hydref, llofruddiwyd Lianne. Cafodd ei llofruddio ynghyd â'i dwy ferch, Yahel a Noiya. Cymerwyd ei gŵr yn wystl gan Hamas. Cymerwyd ei frawd, Yossi, yn wystl y bore hwnnw hefyd. Rydym ni'n gwybod bellach bod Yossi wedi cael ei lofruddio gan Hamas tra oedd mewn caethiwed. Mae lleoliad a statws Eli yn dal yn anhysbys.

Mae'r teulu wedi bod trwy brofiad brawychus a thrasig ac erchyll ar 7 Hydref, ac ers hynny rydym ni wedi gweld y golygfeydd torcalonnus sydd wedi datblygu ar draws y dwyrain canol, a'r effaith ar bobl yma yng Nghymru. Mae Aelodau eraill eisoes wedi mynegi hynny y prynhawn yma. Rwyf i wedi trafod y materion hyn gyda Huw Irranca-Davies, yr Aelod lleol dros y teulu, a gwn hefyd fod Chris Elmore, AS yr ardal, hefyd wedi bod yn weithredol, yn cefnogi'r teulu. A fyddai'n bosibl, Prif Weinidog, i chi gyfarfod â'r teulu hwn, sydd wedi bod trwy brofiad mor greulon, ac edrych ar sut y gallwn ni fel Senedd a chi fel Llywodraeth Cymru ddarparu cymorth i bobl sydd wedi bod drwy'r profiadau hyn a pharhau i weddïo am ddychweliad diogel eu mab-yng-nghyfraith?

Rwy'n credu bod hyn yn tynnu sylw poenus at effaith ddynol wirioneddol iawn yr hyn a ddigwyddodd nid yn unig ar 7 Hydref ond yr hyn sydd wedi digwydd ers hynny hefyd, a'r lluniau yr ydym ni i gyd wedi eu gweld mor warthus o rheolaidd. Nid oes angen i chi fod yn rhiant i ddeall y drasiedi a'r effaith ddynol gwirioneddol sy'n datblygu.

Rwy'n falch bod yr Aelod wedi crybwyll mai etholwyr Huw Irranca-Davies yw'r rhain. Wrth gwrs, nid yw'n gallu gofyn cwestiynau i mi ar hyn o bryd. Byddaf yn fwy na pharod i weithio gydag Alun Davies a Huw Irranca-Davies i ddeall pa gymorth ymarferol y gallem ni ei ddarparu i'r teulu ac yna i weld a yw hwn yn amgylchiad unigol lle y gallai fod angen y cymorth hwnnw, neu a oes cyfle ehangach mewn gwirionedd i gynorthwyo pobl y y mae'r gwrthdaro yn effeithio'n uniongyrchol arnyn nhw yn well. Rwy'n gwybod o fy mhrofiad fy hun yn fy etholaeth fy hun bod gen i deuluoedd yr effeithiwyd arnyn nhw'n uniongyrchol ar bob ochr i'r gwrthdaro. Felly, nid mater sydd wedi digwydd yn rhywle arall yn unig yw hwn. Ceir effaith wirioneddol mewn cymunedau ledled ein gwlad ein hunain, a dyna pam mae angen i ni barhau i gymryd diddordeb; er nad ydym yn gwneud penderfyniadau yn y gwrthdaro, mae'n rhaid i ni ymdrin â chanlyniadau'r hyn sy'n digwydd a sut rydym ni'n cynorthwyo ein dinasyddion ein hunain yn briodol. Rydym ni'n fwy na pharod i ymgymryd â'r sgwrs honno'n bwrpasol gyda'r Aelod etholaeth a'r teulu, gan gofio ei fod hefyd wedi cael ei godi mewn cwestiwn blaenorol gan wahanol Aelod hefyd.

14:15

Prif Weinidog, mae'r rôl hon yn rhoi llawer o gyfleoedd i ni, ac mae'r cyfle i glywed aelodau o'r teulu Brisley yn rhannu eu stori am lofruddiaeth ddinistriol eu merch a'u dwy wyres yn yr ymosodiadau ar 7 Hydref a gyflawnwyd gan derfysgwyr Hamas yn un o'r digwyddiadau mwyaf pwerus a theimladwy yr wyf i wedi'u profi yn ystod fy nghyfnod fel Aelod o'r lle hwn. Roedd yn fraint cyd-noddi'r digwyddiad gyda'r Aelod dros Flaenau Gwent, ac fel y soniodd, mae Eli, mab-yng-nghyfraith y teulu Brisley yn parhau i fod yn wystl, ac rwy'n siŵr bod y Siambr gyfan yn dymuno ei weld yn cael ei ryddhau'n ddiogel ac yn gyflym.

Nawr, er bod y teulu Brisley wedi clywed gan Brif Weinidog y DU, yr Ysgrifennydd Tramor a'r Ysgrifennydd Cartref, a chael gohebiaeth ganddyn nhw, cawson nhw ddim byd gan Lywodraeth Cymru, sydd, i mi, fel Cymro, yn destun edifeirwch. A wnewch chi gadarnhau y byddwch chi'n cyfarfod â'r teulu Brisley ac unrhyw deuluoedd eraill y mae eu hanwyliaid wedi cael eu dal yn y gwrthdaro yn y dwyrain canol?

Rwy'n credu mai'r hyn sydd bwysicaf, mewn gwirionedd, yw sut yr ydyn ni'n cefnogi pobl yr effeithir arnynt yn uniongyrchol. Nid wyf i'n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi cael gohebiaeth gan y teulu Brisley; rwy'n gwybod bod cyswllt uniongyrchol wedi bod gyda Chris Elmore, ac rwy'n gwybod bod Aelod y Senedd yma wedi cysylltu â'r teulu yn y ffordd yr ydyn ni'n darparu'r gwaith cefnogol hwnnw. Felly, rwyf i eisiau deall pa gyswllt sydd wedi bod, ac, yn wir, sut yr ydyn ni'n sicrhau bod cefnogaeth barhaus yn briodol ac yn cael ei gydlynu â'r teulu ac ar eu cyfer. Rwy'n credu mai dyna'r ffordd gywir ymlaen. Ac, o gofio'r hyn yr wyf i wedi dweud wrth yr Aelod dros Flaenau Gwent o ran eisiau cael ffordd bwrpasol ymlaen sy'n cefnogi'r teulu, i ddeall nid yn unig eu hamgylchiadau unigol, ond sut yr ydyn ni'n cefnogi pobl a fydd yn sicr o gael eu heffeithio'n uniongyrchol, yw'r ffordd gywir ymlaen.

Heriau sy'n Wynebu'r Gwasanaeth Iechyd

6. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o heriau sy'n wynebu'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn y dyfodol? OQ60988

Diolch am y cwestiwn. Y llynedd, cyhoeddodd y prif gynghorydd gwyddonol ar iechyd adroddiad yn disgrifio'r heriau y mae ein GIG yng Nghymru yn debygol o'u hwynebu yn ystod y 10 mlynedd nesaf. Rydyn ni o'r farn mai 'Cymru Iachach', ein cynllun 10 mlynedd hirdymor ar gyfer iechyd a gofal, yw'r ymateb priodol o hyd i'r heriau hynny. Wrth gwrs, bydd yna faterion cyllid ac adnoddau o ran darparu'r gwasanaeth iechyd a'r gwasanaeth gofal y credwn y mae pobl Cymru yn ei haeddu.

Diolch am yr ateb hwnnw, Prif Weinidog. Fodd bynnag, rwy'n ofni bod dull presennol Llywodraeth Cymru o ymdrin â'r argyfwng yn ein GIG yn rhy gibddall o lawer. Ar ôl siarad â llawer o feddygfeydd, mae'n amlwg eu bod nhw'n wynebu pwysau cynyddol wrth i'w llwyth gwaith gynyddu, ond nid yw hyn yn cyd-fynd â'r adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw. Yn wir, mae llawer yn gorfod rhoi'r gorau i ddarparu gwasanaethau nad ydyn nhw'n cael eu talu amdanyn nhw ond mae cleifion yn eu gwerthfawrogi'n fawr, ac mae hyn yn golygu bod cleifion yn cael eu rhoi ar restrau aros hir am driniaethau ar ôl iddyn nhw gael eu hasesu—eu hasesu'n gyflym yn flaenorol gan eu meddygon teulu. Os yw gwella'r gwasanaeth iechyd wir yn flaenoriaeth uchel ac mae atal salwch yn hanfodol i chi, a wnewch chi ymrwymo i adolygu contractau meddygon teulu i sicrhau eu bod yn gallu darparu'r lefelau gofal y mae ar ein dinasyddion gymaint o'u hangen?

Mae cwpl o bwyntiau i sôn amdanyn nhw, ac mae'r cyntaf yn bwynt i'r Aelod, ac, rwy'n credu, i bob Aelod yn y Siambr—ac rydw i eisiau gwneud y pwynt oherwydd rydych chi'n cynrychioli rhan o fwrdd iechyd Aneurin Bevan yng Ngwent—am yr achosion presennol o'r frech goch. Rwy'n gobeithio ein bod ni'n cytuno bod brechu yn ymyrraeth hynod effeithiol, ond mae'n un lle'r ydyn ni wedi gweld gostyngiad mewn cyfraddau brechu; nid yw rhai o'n plant a'n hoedolion wedi cael eu brechu neu nid ydynt wedi cael digon o frechiadau. Ac, felly, mewn gwirionedd, er mai'r newyddion da yng Nghymru yw bod gennym ni gyfradd frechu well nag yn Lloegr, mae gwir angen i ni godi ein lefelau brechu yng Nghymru. Yn flaenorol, gwelsom achosion yng Nghaerdydd y llynedd, ac rwy'n gobeithio y gall pob Aelod ar draws y Senedd, ym mha beth bynnag yr ydyn ni'n ei ddweud am y gwasanaeth iechyd, ailadrodd yr angen i sicrhau bod pobl yn cael eu brechiadau ac i gefnogi pobl i fynd i'r gwasanaethau dal i fyny sydd ar gael. Oherwydd yn rhanbarth yr Aelod, mae yna bobl sydd â'r frech goch, sy'n salwch difrifol, nad oes angen iddyn nhw fod yn y sefyllfa honno.

O ran eich pwynt ehangach ar ddiwygio contractau meddygon teulu, wrth gwrs, mae practisau cyffredinol yn helpu i ymgymryd ag amrywiaeth o wasanaethau brechu. Rwy'n awyddus iawn i sicrhau ein bod ni'n manteisio ar y ffyrdd gwahanol y gallwn ni ddefnyddio'r gwasanaethau ar draws gofal sylfaenol. Felly, yn ogystal â diwygio contractau ar gyfer ein meddygon teulu, sy'n broses barhaus, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cymryd mwy o gamau, fel yn wir, yr rwyf innau hefyd a Gweinidogion Iechyd blaenorol, y mae nifer ohonyn nhw ar gael yn yr ystafell hon. Felly, bydd y broses honno o ddiwygio contractau'n parhau. Ei diben yw sicrhau ein bod ni'n gwobrwyo ac yn cefnogi ein meddygon teulu a'r tîm gofal iechyd sylfaenol ehangach yn briodol i ddarparu gofal iechyd mewn cyd-destun sy'n newid yn barhaus. Mae pobl yn aml yn meddwl am adrannau damweiniau ac achosion brys fel drws ffrynt y gwasanaeth iechyd; mewn gwirionedd, practisau cyffredinol yw'r drws ffrynt mwyaf, lle mae'r mwyafrif helaeth o gysylltiadau yn digwydd. Dyna hefyd pam, yn ogystal â diwygio contractau ar gyfer meddygon teulu, rydyn ni wedi edrych yn gynyddol ac yn olynol ar ddiwygio contractau ar gyfer fferylliaeth, fferylliaeth gymunedol, ond hefyd ar gyfer gwasanaethau optometreg y stryd fawr hefyd—optegwyr, mewn hen arian, yn dibynnu ar eich oedran—yn ychwanegol at yr hyn yr oedden ni'n sôn amdano yn gynharach, sef diwygio contractau deintyddol hefyd. Mae yna broses ddiwygio enfawr, a bob blwyddyn rydyn ni'n gwneud mwy o gynnydd o ran defnyddio ein hadnoddau'n well, defnyddio amser gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol yn well, ac mae honno'n llwybr y mae'n rhaid i ni barhau i'w droedio.

14:20

Prynhawn da, Prif Weinidog. Un o'r pethau allweddol sydd ei angen arnoch chi pan fyddwch chi'n asesu gwasanaeth iechyd yw data. Ac i fynd â ni yn ôl at y mater sy'n ymwneud â deintyddiaeth, mae'n wir nad oes gan Lywodraeth Cymru restr aros ganolog o hyd ar gyfer y bobl hynny sydd angen deintydd y GIG. Felly, i mi, mae hynny'n dweud nad ydych chi'n gwybod beth yw'r angen ledled Cymru. Mae gan rai byrddau iechyd restr aros—mae Powys yn un ohonyn nhw. Ym Mhowys, os ydych chi'n chwilio am ddeintydd y GIG, rydych chi'n ffonio llinell gymorth, maen nhw'n cymryd eich manylion ac, unwaith y bydd lle ar gael ar gyfer deintydd y GIG, maen nhw'n rhoi gwybod i chi. Nawr mae hynny'n system dda. Yn anffodus, nid dyna'r sefyllfa yn Nwyfor Meirionnydd. Ac mae'n syfrdanol bod yn rhaid i chi ddysgu mai'r sefyllfa yn Nwyfor Meirionnydd yw nad oes neb yn gallu cael mynediad at ddeintydd y GIG. Felly, siawns mai'r ffordd ymlaen yw i Lywodraeth Cymru symud ymlaen i gael rhestr aros ganolog sy'n sicrhau eich bod chi'n gwybod beth yw'r galw, eich bod chi'n gwybod beth yw'r angen ac felly eich bod chi'n gallu ymateb. Diolch yn fawr iawn. 

Diolch am y cwestiwn.

Rwy'n credu bod llawer yn yr hyn y mae'r Aelod wedi'i ddweud sydd, nid yn unig yn synhwyrol, ond mewn gwirionedd yn nodi lle mae'r Llywodraeth hon eisiau ei gyrraedd hefyd. A gallaf ddweud wrthi fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn siarad â mi'n rheolaidd am yr angen i sicrhau bod gennym ni fwy o fuddsoddiad yn ein systemau digidol a data yn y GIG fel eu bod yn addas i'r diben, eu bod nhw'n gallu helpu'r ymarferwyr proffesiynol, ond hefyd yr unigolyn, i gymryd rhan yn ei driniaeth a'i ofal ei hun, ac i ddeall lle mae'r cyfleoedd hynny'n bodoli i wneud yn well.

Rydyn ni'n ystyried y system y gwnaethoch chi gyfeirio ati ym Mhowys, y broses o'i chyflwyno a'r gwersi sydd wedi'u dysgu, er mwyn defnyddio Powys fel enghraifft gyntaf ar gyfer cyflwyno system genedlaethol. Mae'n hwyrach nag y byddai unrhyw un ohonon ni wedi'i ddymuno, ond rydyn ni wedi ymrwymo i wneud hynny. Ac fel y dywedoch, mae'n bwysig iawn deall ble mae'r angen hwnnw sydd heb ei ddiwallu ac yna sut yr ydyn ni'n defnyddio adnoddau i ddiwallu anghenion y person sydd angen cymorth iechyd a gofal, a sicrhau bod ein staff a'n hadnoddau yn y lle cywir. Felly, rwy'n gobeithio, yn ystod y misoedd nesaf, y byddwch chi'n cael gweld mwy nid yn unig o ran sut olwg fydd ar y broses gyflwyno, ond yna'r gwersi sydd wedi'u dysgu o'r cam cychwynnol hwnnw. Yna, hoffwn i weld y broses gyflwyno honno'n cael ei chyflymu ledled y wlad, a gwn y byddai'r Aelod yn hoffi gweld hynny hefyd.

Cynllun Grantiau Ansawdd Aer Lleol

7. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith ar Gymru yn sgil Llywodraeth y DU yn dileu'r cynllun grantiau ansawdd aer lleol? OQ60986

Diolch am y cwestiwn. Nid yw penderfyniad Llywodraeth y DU i beidio ariannu ei chynllun grantiau ansawdd aer lleol yn effeithio ar Gymru. Mae'n cefnogi awdurdodau lleol yn Lloegr yn unig, na fyddant yn gallu cael mynediad i'r cynllun hwnnw. Fodd bynnag, yng Nghymru, ar 19 Ebrill, cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ar gyllideb o £1 filiwn ar gyfer cronfa cymorth rheoli ansawdd aer leol Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol yr ydyn ni ynddi nawr.

Wel, diolch yn fawr iawn, Prif Weinidog, am ymchwilio i hynny a hefyd am ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet, oherwydd rydyn ni'n gwybod bod miloedd o blant yn byw ar ffyrdd llygredig. Dydyn nhw ddim yn dewis byw yno, mae'n rhaid iddyn nhw fyw yno oherwydd dyna'r unig ddewis sydd ar gael iddyn nhw. Ac mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â hyn fel un o brif ffynonellau llygryddion, ynghyd â thanwydd ffosil yn gyffredinol, sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer gwresogi ac ar gyfer gyrru ceir modur. Felly, tybed a allech chi ddweud wrthyn ni a fydd y cynllun y bydd Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen ag ef nawr yn cael ei effeithio mewn unrhyw ffordd gan y symiau canlyniadol a allai fod wedi dod i law Llywodraeth Cymru o ganlyniad i Lywodraeth y DU yn troi ei chefn ar lygredd aer, yn ôl pob golwg.  

Rwy'n credu bod dau bwynt eang i sôn amdanyn nhw. Y cyntaf yw mai dim ond ar gyfer Lloegr y mae'r penderfyniad a wnaethpwyd gan Steve Barclay. Penderfynodd beidio â pharhau i ariannu cymorth cynllun rheoli ansawdd aer lleol yn Lloegr. Byddai hynny wedi bod yn £6 miliwn yn Lloegr nad yw'n mynd i ddigwydd mwyach oherwydd ei fod wedi cael gwared ar y cynllun. A dweud y gwir, mae'r hyn yr ydyn ni'n ei wneud yng Nghymru gyda'r £1 filiwn y mae Huw Irranca-Davies wedi penderfynu ei fuddsoddi yn y maes hwn yn golygu ein bod ni'n mynd i barhau â'r cymorth. Y cyferbyniad, rwy'n credu, yw pe baen ni yng Nghymru wedi bwrw ymlaen â chynllun o faint tebyg i'r £6 miliwn yn Lloegr, yna byddai wedi bod yn ostyngiad o tua dwy ran o dair yn y cynllun yr ydyn ni'n ymgymryd ag ef. Felly, mewn gwirionedd, mae lefel y cymorth yma yng Nghymru yn sylweddol well hyd yn oed pe bai Lloegr wedi bwrw ymlaen â'r cynllun sydd ganddi.

Rydyn ni'n cydnabod y manteision iechyd a lles amgylcheddol y gall ansawdd aer gwell eu cynnig. Rydyn ni'n cydnabod bod gennym ni fannau heriol iawn mewn gwahanol gymunedau yng Nghymru. Mae hyn yn ymwneud â sut y byddwn ni'n cynorthwyo cymunedau ac awdurdodau lleol i geisio gwneud gwahaniaeth go iawn ac yna deall y camau ehangach y mae angen i ni eu cymryd ledled y wlad. Felly, rwy'n credu bod yna ddyfodol mwy cadarnhaol i ni, dyfodol sy'n ystyried ansawdd aer, sy'n ystyried dyfodol ein heconomi, sy'n ystyried dyfodol trafnidiaeth. Mae ein taith i sero net yn un bwysig i ni o ran iechyd yr amgylchedd, ac rwy'n credu—ac fe fyddwch chi'n clywed yn ddiweddarach heddiw gan Ysgrifennydd yr economi ac ynni—mewn gwirionedd, dyfodol sy'n chwilio am fwy o fuddsoddi a mwy o gyfleoedd mewn economi wirioneddol gynaliadwy.

14:25
Dyfodol Rheilffyrdd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru

8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol rheilffyrdd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ60982

Diolch am y cwestiwn.

Rydyn ni'n canolbwyntio ar wella gwasanaethau rheilffyrdd, integreiddio dewisiadau trafnidiaeth gyhoeddus, a diwallu anghenion cenedlaethau'r dyfodol ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Diolch yn fawr iawn. Rŷn ni wedi clywed y Llywodraeth yn sôn nifer fawr o weithiau fod cael pobl allan o’u ceir yn flaenoriaeth allweddol, ac mae hynny wrth gwrs er mwyn mynd i’r afael â newid hinsawdd a hefyd cyrraedd net sero. Gobeithio y gallaf i gymryd yn ganiataol fod y Gweinidog trafnidiaeth newydd o’r un farn â’i ragflaenydd ar y mater hwn. Os felly, rhaid imi ddweud nid yn unig nad yw hyn yn cael ei gyflawni yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, ond dwi'n ofni bod pethau wedi mynd tuag yn ôl, mewn gwirionedd. Dwi wedi sôn sawl gwaith yn y Siambr hon am effeithiau’r toriadau bysys mewn ardaloedd gwledig, a’r gwasanaeth gwael ar ein rheilffyrdd hefyd, sydd â’r sgoriau boddhad cwsmeriaid gwaethaf yn y Deyrnas Gyfunol. Ac ŷn ni wedi clywed yn ddiweddar am doriadau pellach ar lein y Cambrian a hefyd Calon Cymru. Mae hyn yn golygu torri gwasanaethau o bum gwaith y dydd i bedair gwaith y dydd o Ragfyr eleni ymlaen, a chael gwared ar y gwasanaethau nos o Abertawe i Lanymddyfri a Llandrindod. Allaf i fi ofyn ichi, Brif Weinidog, felly: sut yn y byd y gallwn ni ofyn i bobl i adael eu ceir os na allwn ni ddarparu trafnidiaeth gyhoeddus y gallant ddibynnu arno?

Diolch am y cwestiwn dilynol. Rwy'n credu bod hyn yn cydnabod rhai o'r heriau sydd gennym ni, nid yn unig o ran cyllido, ond o ran cael mwy o bobl i ddefnyddio'r dewisiadau sydd gennym ni.

Felly, o ran y grant bysiau, rydyn ni wedi trafod hyn lawer gwaith yn y Siambr, a'n gallu i barhau i gefnogi'r gwasanaeth a'r rhwydwaith cyn ail-reoleiddio bysiau a sut yr ydyn ni'n perswadio mwy o bobl i ddefnyddio ein system drafnidiaeth. Yn wir, rwyf i, fel y mae'r Llywodraeth hon yn ei chyfanrwydd, wedi fy argyhoeddi y bydd ail-reoleiddio’r bysiau gyda Bil a fydd yn cael ei gyflwyno yn nhymor y Senedd hon, nid yn unig yn ffordd well o drefnu'r gwasanaeth, bydd yn sicrhau gwell gwerth am arian ac yn ein galluogi wedyn i fuddsoddi yn y rhwydwaith a'i ehangu.

O ran y rheilffyrdd, wrth gwrs, sy'n ddrutach o lawer na bysiau, mae'r adolygiad a gynhaliwyd gan Trafnidiaeth Cymru wedi ystyried rheilffordd Calon Cymru a'r heriau gwirioneddol sy'n wynebu gwasanaeth nad oes fawr o ddefnydd yn cael ei wneud ohono sy'n cael cymhorthdal sylweddol. Maen nhw'n ystyried sut y gallan nhw wedyn fuddsoddi mewn llwybrau gwahanol, gan gynnwys gwasanaethau bysiau, i sicrhau bod yna ddewisiadau trafnidiaeth gyhoeddus gwirioneddol. Maen nhw wedi gwneud hynny drwy ymgynghori'n agored â chynrychiolwyr etholedig, ac yn wir drwy ystyried grwpiau teithwyr rheilffyrdd i ddeall y gwirionedd o ran sut mae'r gwasanaeth hwnnw y bwriedir ei symud o bump i bedwar yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd a beth allai hynny ei olygu yn y dyfodol. Dyma'r dewisiadau y bydd angen i'n gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus eu gwneud, nid yn unig o fewn ein cyllideb, ond wedyn sut ydyn ni'n perswadio mwy o bobl i wneud defnydd effeithiol o'r gwasanaethau sydd gennym ni, a chaniatáu llwyfan i ni fuddsoddi ynddyn nhw yn y dyfodol, ac rwy'n edrych ymlaen at allu gwneud hynny.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes. Dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw. Jane Hutt.

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae dau newid i fusnes yr wythnos yma. Mae dau ddatganiad llafar heddiw wedi cael eu hestyn i 45 munud ac mae’r teitlau wedi newid. Mae’r amser ar gyfer cwestiynau i Gomisiwn y Senedd yfory wedi cael ei leihau i 10 munud. Mae busnes drafft y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd ar gael yn y papurau cyfarfod ar-lein.

14:30

Fe wnaeth Cyd-bwyllgor Comisiynu newydd GIG Cymru gyfarfod y bore yma, Trefnydd, ac, yn siomedig, pleidleisiodd ar benderfyniad i dderbyn cau canolfannau ambiwlans awyr y Trallwng a Chaernarfon. Rwy'n siomedig, felly, nad oes datganiad yn y Siambr hon y prynhawn yma, nac wedi'i drefnu ar gyfer yfory, ar fater mor bwysig sy'n effeithio ar ddegau o filoedd o bobl ar draws y canolbarth a'r gogledd.

Ond hefyd, Gweinidog, nid y cyhoedd yn unig sy'n gofidio am y cynnig hwn. Ym Mhowys, er enghraifft, does ganddon ni ddim ysbyty cyffredinol dosbarth, felly rydyn ni'n fwy dibynnol ar wasanaeth ambiwlans awyr critigol, ac felly mae cymaint o glinigwyr sydd wedi'u lleoli yn y Trallwng a Chaernarfon hefyd yn gwrthwynebu'r penderfyniad ar sail glinigol, a chlinigwyr a gweithwyr proffesiynol ar draws ardaloedd eraill hefyd. Hefyd, Gweinidog, gwrthododd bwrdd iechyd Powys a bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr y cynigion hyn hefyd yn y cyfarfod y bore yma. Felly, nid aelodau o'r cyhoedd yn unig yw'r rhain; mae gweithwyr proffesiynol hefyd yn dweud mai dyma'r penderfyniad anghywir. Felly, hoffwn i'r Gweinidog ystyried galw'r penderfyniad hwn i mewn, i ganiatáu ar gyfer craffu priodol, ac i Weinidogion Cymru wneud y penderfyniad hwn yn dilyn dadl yn y Siambr hon.

Mae pryder hefyd ynghylch y broses. Yn wreiddiol, cafodd cynigion i gau canolfannau'r Trallwng a Chaernarfon eu datgelu'n answyddogol dros ddwy flynedd yn ôl, ac, ar y pryd, roedd hynny'n seiliedig ar dystiolaeth, y cawson ni wybod, y byddai 583 o ymweliadau ychwanegol â safleoedd yn cael eu cyflawni. Mae hynny wedi cael ei danseilio ers hynny, ac mae'n ymddangos, ers hynny, bod tystiolaeth wedi'i cheisio i gyd-fynd â'r cynigion gwreiddiol a wnaed ddwy flynedd yn ôl. Rwy'n arswydo ynglŷn â'r ffordd y mae'r broses hon wedi datblygu dros y ddwy flynedd ddiwethaf—y diffyg tryloywder a methiant i wrando ar y cyhoedd a gweithwyr proffesiynol hefyd. Felly, a gaf fi ofyn, Trefnydd, i'r Gweinidog iechyd, neu'r Prif Weinidog, wneud datganiad i'r Siambr hon, naill ai heddiw neu yfory, a sicrhau eu bod ar gael i ateb cwestiynau ar fater mor bwysig i bobl yn y canolbarth a'r gogledd?

Diolch yn fawr, Russell George. Mae'n bwysig eich bod chi wedi cael y cyfle hwn heddiw yn y datganiad busnes i godi'r pwynt hwn, oherwydd cafodd y penderfyniad terfynol, fel y dywedoch, sy'n dod ar ôl 18 mis o ymgysylltu, ei wneud yn gynharach heddiw gan Gyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru. Bydd cynlluniau yn cael eu datblygu nawr i gyfuno gwasanaethau sy'n cael eu darparu ar hyn o bryd yn y Trallwng a Chaernarfon ar safle newydd yn y gogledd-ddwyrain, a bydd hyn yn golygu y bydd pawb sy'n derbyn y gwasanaethau adalw a throsglwyddo meddygol brys hynny ar hyn o bryd yn parhau i dderbyn gofal. 

Yn amlwg, rydych chi, fel y dywedoch, Russell—a chydweithwyr—wedi cymryd rhan yn yr ymgysylltu. Mae llawer o ohebiaeth wedi bod sy'n nodi pryderon a chwestiynau, ond y dystiolaeth yw y bydd y newid yn gwella mynediad i'r gwasanaeth achub bywyd hwn i bobl mewn rhannau o Gymru sydd â mynediad cyfyngedig, os o gwbl, yn ystod y nos ar hyn o bryd. Felly, rydyn ni'n deall cryfder y teimladau sy'n cael eu mynegi gan bobl sy'n byw mewn rhannau o'r canolbarth a'r gogledd, yn enwedig yn y rhai sy'n agos at y canolfannau presennol, ond, yn y pen draw, bydd y penderfyniad yn gwella'r gofal a'r canlyniadau i bobl yn y gogledd a'r canolbarth os byddan nhw'n dioddef argyfwng sy'n peryglu bywyd sy'n gofyn am gymorth EMRTS, yn enwedig yn y nos. 

Byddwn i hefyd yn ychwanegu bod y cyd-bwyllgor comisiynu wedi cael sicrwydd gan y prif gomisiynydd gwasanaethau ambiwlans bod yr holl bryderon wedi cael sylw drwy ohebiaeth gyda'r partïon perthnasol. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cael sicrwydd ysgrifenedig gan y tîm adolygu ynghylch lefel yr ymgysylltu a sut mae adborth trigolion lleol wedi llywio'r broses adolygu.

Trefnydd, hoffwn ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda. Mae'r datganiad cyntaf y byddwn yn hoffi gofyn amdano gan y Prif Weinidog, yn ymateb i'r holl adroddiadau o ran y £200,000 y derbyniodd fel rhan o'i ymgyrch arweinyddol. Rydyn ni wedi clywed cwestiynau unwaith eto yr wythnos yma; dydyn ni ddim yn teimlo bod yr atebion yn ddigonol. Mae angen, er mwyn hygrededd y Senedd hon, cael datganiad llawn, diamwys gan y Prif Weinidog, fel ein bod ni'n gallu cael yr atebion angenrheidiol i ni fel Senedd. 

Yn ail, hoffwn ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth o ran Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008. Fe fyddwch chi'n ymwybodol ein bod ni wedi cael datganiad ysgrifenedig gan ei ragflaenydd, ond fe fyddwch chi hefyd yn gwybod bod nifer fawr o Aelodau yn y Siambr hon yn awyddus iawn i weld y Llywodraeth yn symud ymlaen efo hyn, gan gynnwys, wrth gwrs, Senedd Ieuenctid Cymru, a oedd yn daer bod yn rhaid i hwn fynd rhagddo. Mae'n bwysig ein bod ni'n cael cyfle i ofyn cwestiynau a hefyd deall beth ydy blaenoriaethau Llywodraeth Cymru i sicrhau nad oes neb yn colli diwrnod o ysgol oherwydd na allwn nhw fforddio bws.

14:35

Diolch yn fawr, Heledd Fychan, am eich cwestiynau.

O ran eich cwestiwn cyntaf, mae trafodaethau helaeth eisoes wedi digwydd ar y mater hwn. Yn wir, ni chafodd y cwestiwn brys ei gymeradwyo gan y Llywydd heddiw, ac mae'r Prif Weinidog wedi ymdrin ag ef yn llawn heddiw. A hefyd, o ran yr ymateb y gwnaeth y Prif Weinidog ei roi y bore yma ynghylch y rôl a'r gwaith sy'n cael ei gyflawni nawr, a gafodd ei gefnogi gan bwyllgor gweithredol Cymru y penwythnos hwn, mae adolygiad yn cael ei gynnal o drefniadau ein cystadleuaeth arweinyddiaeth. Felly, mae proses glir bellach ar waith gyda'r cynnig hwnnw. A hefyd, yn amlwg, i ddilyn yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog, roedd yr holl roddion i'r ymgyrchoedd yn cydymffurfio yn gyfreithiol a chawsant eu hadrodd yn dryloyw. Bydd yr adolygiad yn adrodd yn yr hydref, a bydd y panel yn dechrau ar ei waith yn fuan.

Hefyd, o ran y cwestiynau sydd wedi cael eu codi o ran Banc Datblygu Cymru, unwaith eto, mae ymatebion helaeth wedi bod i hynny hefyd. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig, unwaith eto, i ddweud, neu i ychwanegu efallai at ymatebion a roddwyd gan y Prif Weinidog heddiw, bod penderfyniadau buddsoddi sy'n cael eu gwneud gan Fanc Datblygu Cymru yn gwbl annibynnol ar Lywodraeth Cymru. A hefyd, efallai y gwnaf i ychwanegu bod y ddogfen fframwaith rhwng Llywodraeth Cymru a'r banc datblygu yn nodi sut mae'r berthynas rhwng y Llywodraeth a'r banc yn cael ei rheoli a'i gweithredu. Ac i ddyfynnu, mae'n nodi'n benodol, 'Ni fydd Gweinidogion Cymru a swyddogion Llywodraeth Cymru yn cymryd unrhyw ran mewn materion gweithredol o ddydd i ddydd, materion masnachol na phenderfyniadau a wneir ledled grŵp BDC, yn benodol dim ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru o ran gweithrediadau buddsoddi.'

Mae'n ddrwg gen i, mae gen i ail gwestiwn gan Heledd Fychan. Byddaf i'n codi hyn, o ran yr wybodaeth ddiweddaraf am y Mesur teithio gan ddysgwyr, gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth, ac rwy'n siŵr y bydd yr wybodaeth honno'n cael ei rhoi.

Rwy'n gofyn am ddau ddatganiad. Mae'r cyntaf ar dai. Rwyf wedi dosbarthu dros 3,000 o daflenni ar draws Dwyrain Abertawe ym mis Ebrill, ac roedd rhwng 1 y cant a 2 y cant o'r holl eiddo yn wag. Ynghyd â methiant Llywodraeth San Steffan i godi lwfans tai lleol, mae hyn wedi arwain at fwy o brinder o eiddo fforddiadwy. Rwy'n gofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf am lwfansau tai lleol ac a allai Llywodraeth Cymru ystyried pa gamau eraill y gellid eu cymryd o ran eiddo sydd wedi bod yn wag am gyfnod hir. 

Mae'r ail ddatganiad yr wyf i'n gofyn amdano yn ymwneud â chymdeithion meddygol. Mae cymdeithion meddygol yn raddedigion sy'n ymgymryd â hyfforddiant ôl-raddedig ac yn gweithio dan oruchwyliaeth meddyg. Pa feddwl a roddwyd i ddylunio a dangos tystiolaeth o'r rôl yn ffurfiol, a sut y bydd yn cael ei gwerthuso? Oherwydd os bydd yn gweithio'n dda, gallai drawsnewid gofal sylfaenol.

Diolch yn fawr, Mike Hedges. Mae eich cwestiwn cyntaf ar dai yn hanfodol bwysig. Fel y gwnaethoch chi sylwi—ac rwy'n credu ein bod ni i gyd yn gwneud hynny wrth i ni ymgyrchu yn ein hetholaethau, ein cymunedau, a chwrdd â phobl ar y stryd—rydyn ni'n cydnabod bod cartrefi gwag yno, ac maen nhw'n niwsans ac yn falltod ar ein cymunedau. Mae'n bwysig atgoffa cyd-Aelodau, ym mis Ionawr y llynedd, fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun grant cartrefi gwag, er mwyn sicrhau bod hyd at 2,000 o eiddo sydd wedi bod yn wag am gyfnod hir yn cael eu defnyddio eto. Mae grantiau o hyd at £25,000 ar gael i berchnogion tai, neu ddarpar berchnogion tai, gael gwared ar beryglon sylweddol o'u heiddo er mwyn sicrhau bod yr eiddo hwnnw yn ddiogel i fyw ynddo ac i wella ei effeithlonrwydd ynni. Rydyn ni hefyd yn cefnogi awdurdodau lleol i ddefnyddio'r amrywiaeth lawn o bwerau deddfwriaethol sydd ar gael iddyn nhw i fynd i'r afael ag eiddo gwag. Yn wir, mae hyn yn cynnwys hyfforddiant i gynghorwyr a swyddogion ar draws llywodraeth leol ar ddefnyddio mesurau gorfodi i ymdrin ag eiddo gwag. Hefyd, er mwyn tawelu meddyliau cyd-Aelodau ar draws y Siambr, mae gan y cynllun grant cartrefi gwag gyllideb o £25 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon, ac mae gwaith yn cael ei gyflymu i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd ac ategu ein cynlluniau presennol.

Mae eich ail gwestiwn hefyd yn gwestiwn pwysig iawn ynglŷn â chymdeithion meddygol. Maen nhw'n raddedigion, maen nhw wedi ymgymryd â hyfforddiant ôl-raddedig ac maen nhw'n gweithio, fel y dywedwch, o dan oruchwyliaeth meddyg. Rydyn ni wedi ymrwymo i ddatblygu tîm amlddisgyblaethol sy'n gweithio o amgylch y claf, ac mae hyn yn cynnwys defnyddio cymdeithion meddygol mewn gofal sylfaenol. Mae llawer o ddiddordeb wedi bod, fel yr ydych chi wedi'i nodi, Mike Hedges, yng Nghymru ac yng ngweddill y DU, gyda'r BMA, Coleg Brenhinol yr Anesthetyddion a'r Cyngor Meddygol Cyffredinol. Mae llawer o sylwadau ar hyn. Mae BMA Cymru wedi mynegi pryderon ynghylch defnyddio meddygon a chwmpas ymarfer meddygon yn GIG Cymru, ond hoffen ni ddweud, fel Llywodraeth Cymru, fod cymdeithion meddygol yn rhan bwysig a gwerthfawr o weithlu GIG Cymru, ac rydyn ni'n gweithio'n agos o ran sicrhau bod cynnydd graddol yng ngweithlu cymdeithion meddygol GIG Cymru. Yn amlwg, mae tystiolaeth gadarn yn cael ei chasglu ar y manteision a all ddeillio o'r rolau hynny mewn lleoliadau a chyd-destunau penodol iawn. 

14:40

Trefnydd, rwy'n codi eto yn y Siambr hon i ofyn am ddatganiad brys ar y sefyllfa ar safle tirlenwi Withyhedge yn fy etholaeth i. Fel sydd eisoes wedi'i godi y prynhawn yma, mae pryderon difrifol iawn am y rhodd a dderbyniodd y Prif Weinidog gan Dauson Environmental Group, sy'n gweithredu'r safle tirlenwi hwn. Rwy'n rhannu pryderon yr Aelodau am y rhodd ac yn cytuno ei bod yn gwbl hanfodol bod y mater hwn yn destun ymchwiliad annibynnol. Ond yn bwysicach byth, yn y cyfamser, mae'n rhaid i fy etholwyr barhau i fyw gyda'r drewdod a'r aroglau drwg sy'n dod o safle tirlenwi Withyhedge. Fel y dywedais o'r blaen, mae hwn yn fater amgylcheddol ac, yn wir, yn fater iechyd y cyhoedd. Felly, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru wneud datganiad yn egluro'i safbwynt o ran y mater parhaus hwn. Ydy Llywodraeth Cymru yn credu ei bod hi'n dderbyniol bod pobl sir Benfro yn parhau i ddioddef? Mae fy etholwyr a minnau'n gwbl glir y dylai'r gweithredwr gael ei drwydded wedi'i dirymu'n syth ac y dylai Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru gymryd y camau hyn ar unwaith.

Diolch yn fawr iawn, Paul Davies, am eich cwestiwn. Fel y gwnes i ymateb yr wythnos diwethaf, mae hwn yn fater pwysig iawn o ran yr effaith ar eich cymuned a'ch preswylwyr. Hefyd, cyfrifoldeb Cyfoeth Naturiol Cymru, fel y gwyddoch chi, yw monitro, archwilio ac adolygu. Byddaf i'n mynd â hyn yn ôl at Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig o ran yr effeithiau, unwaith eto, yr ydych yn eu cyflwyno i ni yn y datganiad busnes heddiw—yr effeithiau niweidiol ar eich cymuned.

A gaf i alw am ddatganiad am drafnidiaeth gyhoeddus yn ein cymunedau gwledig, os gwelwch yn dda? Yr wythnos diwethaf, cawsom ni ddealltwriaeth bod Trafnidiaeth Cymru yn bwriadu torri gwasanaethau trên llinell y Cambrian, fel dŷn ni wedi ei glywed. Bydd pedwar gwasanaeth y diwrnod yn llai, gyda'r gwasanaethau yn cael eu hymestyn yn yr haf ar gyfer ymwelwyr, gan amddifadu pobl sy'n byw yn y cymunedau sy'n cael eu gwasanaethu gan y llinell yma ac sy'n ddibynnol arni ar gyfer eu haddysg, ar gyfer gwaith, siopa a phethau eraill hanfodol. Mae hyn, wrth gwrs, yn dilyn toriadau i'r gwasanaethau bysys—y T2, y T3 a'r 32—sy'n golygu bod pobl bellach yn ddibynnol ar geir neu ar gael lifftiau gan deulu a chyfeillion. Yn yr holl achosion yma, dŷn ni ddim wedi cael unrhyw fath o ymgynghoriad dilys na digonol. Yn achos y rheilffordd, mae o'n dilyn y ffaith bod y Llywodraeth wedi tynnu arian ffordd Llanbedr i ffwrdd, gan annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, a bellach dydy pobl Llanbedr ddim yn mynd i fedru defnyddio'r rheilffordd yr un mor aml. Fedrwch chi, felly, sicrhau nad ydy hyn yn mynd i ddigwydd, a gofyn i'r Gweinidog trafnidiaeth ddod a rhoi datganiad brys i ni ynghylch hyn, i ddangos sut mae'r Llywodraeth yma yn mynd i ddarparu trafnidiaeth gyhoeddus addas i bobl Dwyfor Meirionnydd a chymunedau gwledig? 

14:45

Diolch yn fawr, Mabon ap Gwynfor—pwyntiau hollbwysig yr wyf yn siŵr y byddwch chi'n eu codi gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth y prynhawn yma wrth iddo roi datganiad ar ei flaenoriaethau trafnidiaeth. Ond hefyd, i gydnabod—ac rwy'n credu bod cwestiwn wedi dod i'r Prif Weinidog gan eich cyd-Aelod—mae'n bwysig iawn ein bod ni'n ystyried hyn o safbwynt gwledig hefyd. Mae hyn yn drawslywodraethol o ran Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig. Yn amlwg, mae yna bwysau, ond, mewn gwirionedd, mae heriau Trafnidiaeth Cymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wedi troi cornel, gan weld gwelliannau'n gyson, ond gan hefyd ystyried yr hyn y gellir ei fforddio a lle mae arferion teithio teithwyr ar ôl COVID yn gliriach. Unwaith eto, rwy'n siŵr y bydd y cwestiynau hynny ar gyfer yr Ysgrifennydd Cabinet yn ddiweddarach y prynhawn yma.

Hoffwn i gael datganiad ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn parhau i'w wneud i ddiogelu hawliau plant. Rwy'n siŵr bod y Trefnydd yn ymwybodol bod Coleg Brenhinol y Pediatregwyr ac Iechyd Plant wedi cyhoeddi adroddiad yr wythnos diwethaf a gafodd gyhoeddusrwydd eang ac a oedd yn galw ar Lywodraeth y DU a Chynulliad Gogledd Iwerddon i ddilyn arweiniad Cymru a'r Alban a dileu'r amddiffyniad o gosb resymol, gan ei gwneud hi'n anghyfreithlon i rieni ddefnyddio cosb gorfforol yn erbyn eu plant. Cyflwynodd yr adroddiad dystiolaeth hefyd a oedd yn dangos bod plant 2.6 gwaith yn fwy tebygol o brofi problemau iechyd meddwl os ydyn nhw’n cael eu cosbi'n gorfforol a'u bod yn llawer mwy tebygol o ymddwyn mewn modd mwy treisgar yn ddiweddarach mewn bywyd os ydyn nhw'n cael eu cosbi'n gorfforol. Felly, a fyddai hi'n cytuno, yng Nghymru, ein bod ni wedi cymryd cam cadarnhaol iawn pan wnaethon ni newid y gyfraith ac y dylai deddfwriaeth debyg gael ei chyflwyno cyn gynted â phosibl yn Lloegr a Gogledd Iwerddon fel bod pob plentyn sy'n byw yno, gan gynnwys plant o Gymru, wrth gwrs, sy'n byw yn y gwledydd hynny neu'n ymweld â'r gwledydd hynny, yn cael yr un amddiffyniad rhag cosb gorfforol ag y mae plant yma yng Nghymru?

Diolch yn fawr, Julie Morgan. A gaf i hefyd gydnabod y rôl bwerus yr ydych chi wedi'i chwarae? Yn wir, fe wnaethoch chi gyflawni Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020, a ddaeth i rym ym mis Mawrth 2022. A gawn ni gydnabod eto heddiw ar draws y Siambr hon fod hwn yn gam hanesyddol o ran amddiffyn hawliau a lles plant, y gwnaethoch chi ei ddatblygu yn eich rôl weinidogol flaenorol, ond, yn wir, y gwnaethoch chi ymgyrchu drosto am flynyddoedd lawer cyn hynny, ac, yn wir, fe geisioch chi wneud y newid hwnnw yn Lloegr pan oeddech chi'n AS dros Ogledd Caerdydd hefyd? Rwy'n cofio'r adegau hynny pan oeddech chi'n galw am hynny.

Rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig am hyn—ac rydyn ni'n ymfalchïo'n fawr fel Llywodraeth Cymru ein bod wedi dileu'r amddiffyniad o gosb resymol yng Nghymru—yw bod y gyfraith hon yn rhoi'r un amddiffyniad i blant rhag ymosodiad ag sydd gan oedolion. Mae'n dangos sut yr ydyn ni'n gwerthfawrogi ein plant ac yn parchu ac yn cefnogi eu hawl i gael eu hamddiffyn rhag trais. Hefyd, roeddech chi'n rhoi'r dystiolaeth arall honno a gafwyd gan y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant ynghylch amddiffyn hawliau plant a thystiolaeth o'r effaith o ran iechyd meddwl. Rwy'n falch iawn o ddweud bod canlyniadau'r arolwg diweddaraf, yr wyf yn siŵr eich bod chi'n ymwybodol ohonyn nhw, ar ddod â chosbi plant yn gorfforol i ben, yn parhau i ddangos lefelau uchel o ymwybyddiaeth o'r gyfraith. Rydyn ni wedi gweithio'n galed cyn ac ar ôl ei gweithredu, y gwnaethoch chi ei ysgogi, i sicrhau bod pobl yn cael gwybod yn llawn am y newid a'r hyn y byddai'n ei olygu iddyn nhw. Nid yw dros ddwy ran o dair o'r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu am blant o dan saith oed yn gweld unrhyw gyfiawnhad dros gosbi plentyn yn gorfforol ac maen nhw'n cefnogi'r gyfraith, arwydd clir ein bod ni yng Nghymru wedi troi cornel ac yn benderfynol o ddangos sut yr ydyn ni'n gwerthfawrogi ein plant ac yn parchu ac yn cefnogi eu hawl i gael eu hamddiffyn rhag trais. Diolch am eich arweiniad ar y mater hwn.

A gaf i alw am ddau ddatganiad heddiw, os gwelwch yn dda, Trefnydd, gyda, yn gyntaf, ddatganiad brys gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ar adroddiadau atal marwolaethau yn y dyfodol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? Fel y gwyddoch, efallai, cofnododd y bwrdd iechyd 28 o'r adroddiadau hyn mewn cyfnod o 16 mis. Mae hyn yn fwy na phob un o fyrddau iechyd eraill Cymru gyda'i gilydd, ac mae'n ystadegyn sydd, wrth gwrs, yn peri gofid mawr i gleifion a'u hanwyliaid ar draws y gogledd yn gyfan gwbl. Yn gwbl briodol, maen nhw wedi bod yn galw am ymchwiliad annibynnol i pam nad yw'n ymddangos bod y bwrdd iechyd hwnnw'n dysgu o'i gamgymeriadau, ac rwy'n cytuno â nhw. Rwy'n credu bod angen cyfle arnon ni i holi'r Gweinidog am hyn, o gofio, mewn adroddiadau dros y penwythnos, bod awgrym nad oedd hi'n teimlo bod ymchwiliad annibynnol i'r marwolaethau hyn a pham bod cynifer ohonyn nhw yn y gogledd yn briodol.

Yn ail, hoffwn i gael yr wybodaeth ddiweddaraf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth ar fater ffyrdd heb eu mabwysiadu. Fe wynebodd Sandy Cove ym Mae Cinmel, sydd â thua 250 eiddo ar ffyrdd heb eu mabwysiadu, lifogydd yn ystod storm Pierrick ychydig dros 10 diwrnod yn ôl. Cafodd canlyniadau'r llifogydd hwnnw eu gwaethygu'n rhannol oherwydd diffyg draenio ar yr ystad honno. Mae'n amlwg bod angen gwella'r seilwaith draenio. Mae angen i'r ffyrdd hynny fod wedi cyrraedd safon fabwysiadwy, ac mae eu cyflwr gwael yn gwneud bywyd yn anodd i drigolion lleol. Felly, mae angen yr wybodaeth ddiweddaraf arnom gan yr Ysgrifennydd Cabinet am y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ymdrin â'r mater hwn o ffyrdd heb eu mabwysiadu. Rwy'n gwybod bod cronfa ffyrdd heb eu mabwysiadu wedi'i sefydlu yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond nid wyf yn credu ei bod yn gwneud cynnydd digonol ar y mater hwn, ac mae angen i ni ei symud ymlaen.

14:50

Diolch yn fawr, a diolch yn fawr iawn am y ddau gwestiwn hynny. Mewn gwirionedd, fe gododd y pwynt hwnnw am Betsi Cadwaladr yr wythnos diwethaf hefyd—nid wyf i'n siŵr a oeddech chi yn y Siambr bryd hynny—ond roedd yn fater pwysig a godwyd, yn enwedig i adrodd yn ôl ar y pwynt hwnnw bod y bwrdd iechyd, Betsi Cadwaladr, wedi sefydlu rhaglen ymchwiliadau a dysgu, a'r cyfarwyddwr meddygol yw'r uwch swyddog cyfrifol enwebedig. Mae'r rhaglen honno'n cael ei goruchwylio'n uniongyrchol gan y prif weithredwr a'r tîm gweithredol ehangach. Mae'n bwysig bod cysylltiad agos hefyd â'r pwyllgor ansawdd, diogelwch a phrofiad fel y gall uwchgyfeirio materion a sicrhau bod y broses yn gadarn. Yn amlwg, mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn cadw llygad barcud ar yr hyn sy'n digwydd o ran y materion hyn a byddwch chi'n cael cyfle i'w holi pan ddaw hi ymlaen ar gyfer ei chwestiynau llafar yn fuan.

Rydych chi hefyd yn codi pwynt pwysig am effaith llifogydd ac, wrth gwrs, mae hyn yn arbennig o berthnasol i ffyrdd heb eu mabwysiadu. Rwy'n credu ei bod yn bwysig bod hwn yn fater trawslywodraethol hefyd o ran Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth, a fydd yn rhoi ei ddatganiad y prynhawn yma ar flaenoriaethau trafnidiaeth, o ran cyfle yno i chi godi'r materion hyn. Ond mae hefyd, o ran y seilwaith, yn fater i'r Gweinidog newid hinsawdd a materion gwledig o ran effaith y storm a'r llifogydd. Felly, unwaith eto, diolch am godi hynny y prynhawn yma.

Prynhawn da, Gweinidog. Hoffwn i ofyn am ddatganiad, os caf i, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol ar gyflwr cymorth cyflogaeth anabledd yma yng Nghymru, yn dilyn y cyhoeddiad cywilyddus gan Lywodraeth y DU ar ddileu'r Rhaglen Gwaith ac Iechyd. Mae'r penderfyniad hwn, ynghyd â chynlluniau i dorri budd-daliadau anabledd i 420,000 o bobl, yn codi pryder mawr ynghylch y rhagolygon swyddi i unigolion anabl yma yng Nghymru. Dangosodd ymchwil gan yr Adran Gwaith a Phensiynau eleni fod y Rhaglen Gwaith ac Iechyd wedi helpu cyfranogwyr i ddod o hyd i waith â thâl 27 y cant yn amlach, gyda thros 80 y cant yn fodlon â'r cymorth personol. Mae llawer o elusennau a phobl anabl yn ofni nawr, heb y cymorth cyflogaeth penodol hwn, y gall cyflogwyr ddychwelyd i arferion cyflogi gwahaniaethol yn erbyn ymgeiswyr swyddi anabl. Felly, hoffwn i'r Gweinidog, os gwelwch yn dda, godi'r mater hwn gyda'i Haelod cyfatebol yn Senedd y DU i fynegi ein pryder mawr ac i ofyn i'r penderfyniad hwnnw gael ei wrthdroi. Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr, Jane Dodds. Rwy'n arbennig o falch eich bod chi wedi codi'r mater hwn oherwydd, ymhlith y cyhoeddiadau a ddaeth ddiwedd yr wythnos diwethaf a thros y penwythnos, a oedd yn gyhoeddiadau a gafodd ei gwneud gan Brif Weinidog y DU—cyhoeddiadau a oedd yn ymwneud â'r ffaith ei fod eisiau torri budd-daliadau i 420,000 o bobl sâl ac anabl; dyna oedd y pennawd—o dan y pennawd, roedd y toriad hwn o £100 miliwn i'r Rhaglen Gwaith ac Iechyd, sy'n gweithredu yng Nghymru a Lloegr, ac rydyn ni'n deall ei bod yn mynd i ddod i ben yn yr hydref, mae darparwyr wedi cael gwybod. Mae hi wedi bod yn rhaglen bwysig. Cafodd ei lansio nôl ym mis Tachwedd 2017 ac roedd yn cael rhywfaint o arian gan yr UE. Cynllun gwirfoddol oedd hi'n bennaf, gyda'r nod o helpu pobl anabl i gael gwaith. Roedd hyn, fel y dywedais i, yng nghyd-destun polisi llawer ehangach gan Brif Weinidog y DU, gan Rishi Sunak, sydd eisiau torri budd-daliadau, ac, fel y dywedwch, mae elusennau wedi disgrifio hyn fel ymosodiad di-baid ar bobl anabl.

Bydd ymgynghoriad, rwy'n deall, hefyd, ar daliadau annibyniaeth personol, sy'n helpu pobl anabl i dalu costau ychwanegol byw gydag amhariad neu afiechyd. Felly, er mwyn tawelu meddwl Jane Dodds a'r Senedd, mae hyn yn rhywbeth y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol yn ei godi gyda Llywodraeth y DU. Mae gennym ni drefniadau dwyochrog yno, fel rhan o weithdrefnau rhyng-weinidogol y Llywodraeth, i gwrdd yn uniongyrchol â Gweinidogion Llywodraeth y DU ar nawdd cymdeithasol, a byddwn ni'n eu hatgoffa nad yw'r diwygiadau hyn yn cyd-fynd â'n gweledigaeth ar gyfer system fudd-daliadau dosturiol, gyfiawn a theg. Fe wnaethon ni nodi hynny'n glir iawn yn siarter budd-daliadau Cymru Llywodraeth Cymru, ac rydyn ni'n bryderus iawn bod gan y newidiadau hyn y potensial i ehangu anghydraddoldebau mewn cymdeithas a gwthio mwy o bobl i dlodi.

14:55

Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd Busnes, rwy'n gofyn eto, am yr ail wythnos yn olynol, am ddatganiad brys gan Lywodraeth Cymru ar adolygiad Cass ac, wrth gwrs, yr hyn y mae'n ei olygu ar gyfer gwasanaethau rhywedd Cymru yng Nghymru yn y dyfodol.

A gaf i ddweud fy mod i'n falch o weld Llafur Cymru yn gwahardd meddyginiaeth atal y glasoed o'r diwedd? Ond, nid oedd hyn drwy unrhyw newid a wnaethoch chi i bolisi, ond o ganlyniad i newid polisi yn Lloegr, ac roedd hynny'n golygu, wrth gwrs, nad oedd unrhyw lwybr i bobl ifanc dan 18 oed gael meddyginiaeth atal y glasoed ar bresgripsiwn. Mae angen eglurder ar y Senedd hon, Ysgrifennydd Cabinet. Byddai'n well mewn datganiad llafar—naill ai hynny neu ddatganiad ysgrifenedig, ond mae angen eglurder arnon ni. Mae pobl yn galw amdano o bob cwr o Gymru erbyn hyn. Mae angen i'r Llywodraeth fod yn glir ynglŷn â hyn. Yr wythnos diwethaf, cafodd Lloegr ddatganiad a chwestiynau ar adroddiad pwysig adolygiad Cass, bydd hyd yn oed yr Alban, yr wythnos hon, yn cael datganiad a chwestiynau ar yr adroddiad. Ac eto, yma yng Nghymru, rydyn ni'n dal i aros am ddatganiad, yn dal i aros i'r Llywodraeth Cymru hon gyfaddef iddyn nhw fod yn anghywir ac yn dal i aros am eglurder ynghylch beth mae hyn yn ei olygu i wasanaethau rhywedd i bobl, wrth symud ymlaen. Nid yw'n iawn nad yw datganiad wedi'i gyflwyno eto. Mae angen atebion arnom. Mae angen atebion ar Gymru ac mae angen datganiad arnom, os gwelwch yn dda, Ysgrifennydd Cabinet, ac mae ei angen arnom ar frys.

Diolch am y cwestiwn, y gwnes i ei ateb yr wythnos diwethaf, ac fe wnaf i ailadrodd yr hyn a ddywedais i'r wythnos diwethaf mewn ymateb i'ch cwestiwn, Laura Anne Jones. Nod adolygiad Cass, yr ydyn ni'n ei wybod ac yr ydyn ni'n ei ddeall, yw sicrhau bod plant a phobl ifanc sy'n cwestiynu eu hunaniaeth rhywedd neu sy'n profi dysfforia rhywedd ac sydd angen cymorth gan y GIG yn cael gofal o safon uchel sy'n diwallu eu hanghenion ac sy'n ddiogel, yn gyfannol ac yn effeithiol. Rydyn ni wedi ymrwymo i wella'r llwybr datblygu hunaniaeth rhywedd a'r cymorth sydd ar gael i bobl ifanc yng Nghymru yn unol â'r ymrwymiadau yn ein cynllun gweithredu LHDTC+. Fe wnawn ni ystyried canfyddiadau'r adroddiad. Fe wnawn ni barhau i gael ein hysgogi gan dystiolaeth sy'n cefnogi anghenion pobl ifanc Cymru sy'n cwestiynu eu rhywedd orau. Rydyn ni'n comisiynu gwasanaethau hunaniaeth rhywedd ar gyfer pobl ifanc o GIG Lloegr, ac mae GIG Cymru wedi'i gynrychioli ar fwrdd y rhaglen trawsnewid gwasanaethau dysfforia rhywedd yn Lloegr. Ac mae gwaith y rhaglen honno eisoes wedi'i lunio gan y canfyddiadau yn adroddiad dros dro Cass. Ond rwyf i hefyd eisiau ychwanegu'r pwynt y prynhawn yma fod y rhaglen drawsnewid wedi gwneud cynnydd da yn dilyn adolygiad dros dro Cass, ac mae hyn yn cynnwys dau wasanaeth rhywedd newydd i blant a phobl ifanc, a agorodd y mis hwn. Bydd hyd at wyth canolfan ranbarthol yn cael eu comisiynu a bydd Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru yn gweithio gyda GIG Lloegr i ystyried canolfan ranbarthol yng Nghymru. Mae'r cynnydd hefyd yn cynnwys sefydlu Bwrdd Goruchwylio Ymchwil Dysfforia Rhywedd Plant a Phobl Ifanc cenedlaethol, dan gadeiryddiaeth yr Athro Syr Simon Wessely. A bydd y cyd-bwyllgor comisiynu yn gweithio nawr gyda'r rhaglen drawsnewid wrth iddyn nhw ddatblygu cynllun gweithredu ar ôl ystyried adroddiad terfynol Cass. Ond rwy'n credu hefyd fod yn rhaid i ni gydnabod bod yn rhaid i'n pobl ifanc yng Nghymru gael y cyfle i fynegi eu barn a dylanwadu ar y ffordd ymlaen yng Nghymru.

15:00
Cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau

Yr eitem nesaf, felly, fydd y cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau. Yn unol â Rheolau Sefydlog 12.24 a 12.40, os nad oes unrhyw wrthwynebiad, rwy'n cynnig bod y cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau yn cael eu grwpio ar gyfer eu trafod a'u pleidleisio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu hynny? Nac oes, does yna ddim gwrthwynebiad. Felly, fe wnaf i alw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynigion yn ffurfiol. Heledd Fychan.

Cynnig NNDM8546 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Mark Drakeford (Llafur Cymru) yn lle Jack Sargeant (Llafur Cymru) a Sam Rowlands (Ceidwadwyr Cymreig) yn lle Gareth Davies (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelodau o’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Cynnig NNDM8547 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Hefin David (Llafur Cymru) a Jack Sargeant (Llafur Cymru) yn aelodau o’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

2. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Tom Giffard (Ceidwadwyr Cymreig) yn lle Laura Anne Jones (Ceidwadwyr Cymreig), a Gareth Davies (Ceidwadwyr Cymreig) yn lle James Evans (Ceidwadwyr Cymreig), yn aelodau o’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

Cynnig NNDM8548 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Mark Drakeford (Llafur Cymru) yn lle John Griffiths (Llafur Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad.

Cynnig NNDM8549 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Julie Morgan (Llafur Cymru) yn lle Jenny Rathbone (Llafur Cymru) a Carolyn Thomas (Llafur Cymru) yn lle Huw Irranca-Davies (Llafur Cymru) yn aelodau o’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith.

Cynnig NNDM8550 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Lee Waters (Llafur Cymru) yn lle Hefin David (Llafur Cymru) a Laura Anne Jones (Ceidwadwyr Cymreig) yn lle Tom Giffard (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelodau o’r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol.

Cynnig NNDM8551 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Jenny Rathbone (Llafur Cymru) yn lle Buffy Williams (Llafur Cymru) yn aelod o Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig.

Cynnig NNDM8552 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol John Griffiths (Llafur Cymru) yn lle Buffy Williams (Llafur Cymru), a Peter Fox (Ceidwadwyr Cymreig) yn lle Joel James (Ceidwadwyr Cymreig), yn aelodau o’r Pwyllgor Deisebau.

Cynnig NNDM8553 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Buffy Williams (Llafur Cymru) yn lle Jack Sargeant (Llafur Cymru) a James Evans (Ceidwadwyr Cymreig) yn lle Altaf Hussain (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelodau o’r Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru.

Cynnig NNDM8554 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Carolyn Thomas (Llafur Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol.

2. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Julie Morgan (Llafur Cymru) yn lle Sarah Murphy (Llafur Cymru) a Joel James (Ceidwadwyr Cymreig) yn lle Altaf Hussain (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelodau o’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol.

Cynnig NNDM8555 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Jack Sargeant (Llafur Cymru) yn lle Jayne Bryant (Llafur Cymru), Lee Waters (Llafur Cymru) yn lle Carolyn Thomas (Llafur Cymru), Altaf Hussain (Ceidwadwyr Cymreig) yn lle Sam Rowlands (Ceidwadwyr Cymreig), a James Evans (Ceidwadwyr Cymreig) yn lle Joel James (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelodau o’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.

Cynigiwyd y cynigion.

Mae'r cynigion wedi'u gwneud yn ffurfiol. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynigion. A oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae'r cynigion yna wedi'u derbyn, ac mae'r Aelodau wedi'u hethol i'r gwahanol bwyllgorau.

Derbyniwyd y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

3. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol

Eitem 3 sydd nesaf, y cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Gareth Davies.

Aildroseddwyr Ifanc

1. Sut mae'r glasbrint ar gyfer cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru yn mynd i'r afael ag amlder cynyddol troseddau a gyflawnwyd gan bob aildroseddwr ifanc? OQ60956

Diolch i chi am eich cwestiwn. Mae'r glasbrint ar gyfer cyfiawnder ieuenctid yn nodi ein gweledigaeth ni ar gyfer cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys lleihau niferoedd plant yn y system cyfiawnder ieuenctid drwy weithgarwch dargyfeirio effeithiol, gan atal aildroseddu a chefnogi plant i fyw bywydau gwerthfawr, heb droseddu.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Diolch yn fawr iawn i chi, Cwnsler Cyffredinol. Fe hoffwn i eich llongyfarch chi ar achlysur eich ailbenodi i'ch swydd yr wythnos diwethaf, gan fy mod i'n credu mai hwn yw eich sesiwn cwestiynau cyntaf ers eich ailbenodi. Felly, llongyfarchiadau i chi ar ein rhan ni. Fe garwn i chi wneud asesiad ynghylch llwyddiant Glasbrint ar gyfer Cyfiawnder Ieuenctid yng Nghymru, ac a yw'r glasbrint yn mynd i'r afael mewn ffordd ddigonol â chyfradd amlder y troseddau a gyflawnir fesul aildroseddwr.

Mae'r glasbrint yn mynd i'r afael ag atgwympo ieuenctid, sydd wedi bod yn gostwng ledled Cymru a Lloegr dros y degawd diwethaf, ond mae cyfradd amlder y troseddau yn parhau i fod yn fawr iawn. Mae'r data diweddaraf ar gyfer y de yn arddangos cynnydd yn nifer y troseddau a gyflawnir gan bob troseddwr. Mae troseddoldeb ieuenctid yn bryder yng Nghymru, o ystyried ei natur anghymesur. Mae'r grŵp oedran 18-25 oed yng Nghymru yn rhoi cyfrif am oddeutu 12 y cant o gyfanswm y boblogaeth, ond fe wyddom ni fod pobl ifanc 18 i 25 oed yn cyflawni 33 y cant o'r holl droseddau a gofnodir yn y de, fel un enghraifft.

Er bod gwedd dda ar rai ystadegau, mae materion eraill yn mynd i'r cyfeiriad anghywir. Er bod gwaith da yn cael ei wneud i atal pobl ifanc rhag ymgysylltu â throseddoldeb yn y lle cyntaf, mae'r gyfradd amlder yn awgrymu nad oes digon yn cael ei wneud i fynd i'r afael â phobl ifanc sydd eisoes yn y cylch hwnnw o droseddu. Felly, o gofio mai'r Cwnsler Cyffredinol sy'n gyfrifol am gyfiawnder ieuenctid a datblygu polisi prawf, ac o ystyried bod Llywodraeth Cymru yn dymuno gweld troseddau ieuenctid a chyfiawnder yn cael eu datganoli, sut mae Llywodraeth Cymru yn ceisio mynd i'r afael â mater amlder troseddau ymhlith aildroseddwyr ieuenctid yng Nghymru?  

A gaf i ddiolch i chi am gwestiwn treiddgar iawn yn fy marn i, a chwestiwn perthnasol iawn, o ran y gwaith sy'n digwydd ar hyn o bryd, i ystyried materion cyfiawnder ieuenctid a phrawf? Fel gwyddoch chi, ar hyn o bryd, mae'r cyfrifoldeb dros gyfiawnder troseddol, gan gynnwys cyfiawnder ieuenctid, yn fater a gedwir yn ei ôl, ond mae llawer o agweddau arno, yn gwbl briodol, yn wasanaethau sy'n ddatganoledig i Gymru, ac maen nhw'n rhan annatod o'r system cyfiawnder ieuenctid. Mewn gwirionedd, y nhw yw prif ran y system cyfiawnder ieuenctid, yn fy marn i: materion sy'n ymwneud â thai, addysg, gofal iechyd ac ati.

Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod hefyd, wrth gwrs, fod y glasbrint ar gyfer cyfiawnder ieuenctid, yr ydym ni'n ei weithredu, yn rhywbeth y cytunwyd arno gyda'n gilydd, mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, plismona yng Nghymru ac, yn wir, y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid. Un o'r meysydd yr ydym ni'n ymdrin â nhw, yn amlwg, yw argaeledd agregiad data sy'n ddigonol a chyflawn, er mwyn i chi allu llwyr ddeall yr hyn sy'n digwydd mewn gwahanol rannau o Gymru. Mae gennym ni nifer o ymyraethau hefyd. Felly, mae'r grant plant a chymunedau yn cynnwys y gronfa hybu ymgysylltiad cadarnhaol.

Yr hyn sydd wedi digwydd gyda chyfiawnder ieuenctid dros y degawd, ac rwy'n deall y pwynt yr ydych chi'n ei wneud o ran yr arwyddion fod cynnydd wedi bod o ran aildroseddu ac mewn rhai meysydd o droseddu, yw, serch hynny—. Yr amcan yw cadw pobl ifanc allan o'r system cyfiawnder troseddol, a chwilio am fesurau dargyfeiriol cyn gynted â phosibl, sy'n rhywbeth sydd, o edrych dros y degawd, wedi bod yn hynod lwyddiannus. Felly, er enghraifft, er i gynnydd fod o ran rhai troseddau mewn rhai meysydd, rwy'n credu ei bod hi'n werth nodi bod troseddu gan blant wedi lleihau yn sylweddol dros y 10 mlynedd diwethaf. Roedd y dadansoddwyr data cyfiawnder ieuenctid yn darparu'r data—. Nid yw data ar gael bob amser, ond mae'r data sydd gennym ni'n dangos yn eglur i ni, yn ôl y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, bod ystadegau a gyhoeddwyd yn 2021 yn dangos bod 613 o bobl ifanc yng Nghymru a oedd wedi derbyn rhybudd neu euogfarn—nawr, dyna 76 y cant yn llai nag oedd yn 2013-14. Felly, mae'r cynnydd sydd wedi bod, a'r llwyddiant yn y maes cyfiawnder ieuenctid, yn bwysig, yn fy marn i, ond nid wyf i'n credu bod unrhyw achos inni fod yn hunanfodlon.

Rwy'n credu mai'r dull gweithredu y gwnaethom ni ei fabwysiadu yw'r dull cywir, sy'n cydnabod effaith profiadau'r blynyddoedd cynnar ar blant, ond sy'n edrych ar y ffordd bwysicaf o gadw pobl ifanc allan o'r system cyfiawnder troseddol yn y dyfodol hefyd, sef trwy'r ymyrraeth gynnar honno. Felly, mae'r ffigurau sydd gennym ni'n llawer llai nag y maen nhw wedi bod yn y gorffennol. Mae'r cynnydd yn niferoedd mynediad i'r system gyfiawnder am y tro cyntaf yn llai nag y bu yn y gorffennol, ond mae cryn dipyn o sylw yn cael ei roi i'r ffordd y byddwn ni nid yn unig yn parhau â hynny, ond sut y byddwn ni'n cael gwelliant mewn gwirionedd.

Yn ddiweddar, bûm yn ymweld â'n cymheiriaid ni yn yr Alban o ran cyfiawnder ieuenctid, ac roedd y gwaith sy'n mynd rhagddo yn gynnar iawn yno i nodi pobl sydd ar y llwybr troseddol hwnnw yn gwneud argraff fawr arnaf i. A thrwy droseddoldeb, nid dim ond pobl ifanc a allai fod yn cyflawni troseddau, mae camfanteisio ar bobl ifanc yn dod â nhw i mewn i'r system droseddol hefyd. Felly, mae'r fframwaith atal, yn fy marn i, yn rhywbeth sy'n dod â'r holl dystiolaeth a'r chydweithio i'r un lle. Dyna'r cyfeiriad yr ydym ni'n awyddus i fynd iddo. Rwy'n credu bod hynny'n wir hefyd—. Dyna pam mae hi mor bwysig, yn fy marn i, fod cyfiawnder ieuenctid yn rhywbeth a ddylid ei ddatganoli, oherwydd mewn gwirionedd mae angen i ni fod â chysondeb fel hyn yn y trefniant o bolisi cyfiawnder ieuenctid a'i ymgysylltiad â 90 y cant o'i swyddogaethau, sy'n swyddogaethau a ddatganolwyd eisoes.

15:05

Cwnsler Cyffredinol, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn, wrth edrych ar gyfiawnder ieuenctid, ein bod ni'n cymryd ymagwedd sy'n rhoi'r plentyn yn y canol, ac yn ystyried plentyn yn blentyn yn gyntaf ac yn droseddwr yn ail, ac rwy'n falch iawn o ddweud mai honno yw ymagwedd tîm gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid Casnewydd. Maen nhw wedi cael eu canmol gan Brifysgol Warwick am fabwysiadu dull unigryw ac arloesol o ran eu prosiect Levelling the Playing Field, sy'n defnyddio grym chwaraeon i'r dibenion hyn. Felly, tybed, Cwnsler Cyffredinol, a wnewch chi longyfarch tîm gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid Casnewydd am yr ymagwedd hon a'r gwaith hwn, ac a fyddech chi'n barod i gwrdd â nhw?

Yn gyntaf, fe fyddwn i'n hapus i gwrdd ac, yn wir, rwyf i wedi cwrdd â nifer o dimau'r gwasanaeth ieuenctid ledled Cymru ac, yn wir, fe gwrddais i â rhai o'u cymheiriaid nhw yn yr Alban. A'r hyn y gallaf i ei ddweud yw bod y gwaith y maen nhw'n ei wneud yn drawiadol ac yn aml yn anodd iawn, iawn, ac yn gofyn ymrwymiad mawr iawn. Yr hyn sy'n eglur, yn fy marn i, yw bod dwy agwedd ar hynny. Wrth gwrs, hyd at 18 oed, mae pobl ifanc yn mynd yn oedolion wedyn, ond, wrth gwrs, y dystiolaeth amlwg yw bod yr elfen o 18 i 25 yr un mor bwysig hefyd, gan fod pobl yn dal i ymffurfio, wrth ddechrau bod yn oedolion, ac mae deall y rhyng-gysylltedd rhwng y ddwy elfen yn gwbl hanfodol. Ond rwy'n cymeradwyo—. Fe fyddwn i'n hapus i gwrdd ag unrhyw wasanaeth cyfiawnder ieuenctid i siarad am hyn mewn gwirionedd. Ac, mewn gwirionedd, fe fu yna lawer iawn o waith yn mynd rhagddo, ac ymgysylltu hefyd, gan edrych at baratoi ar gyfer datganoli cyfiawnder ieuenctid yn y dyfodol, mewn gwirionedd.

Yn amlwg, mae hyn yn gorwedd yn gyfan gwbl ar ymyl garw cyfiawnder troseddol, gan nad yw cyfiawnder troseddol wedi ei ddatganoli, ond rwy'n falch iawn o glywed eich bod chi'n gweithio mor agos, a'ch bod chi'n parhau i wneud hynny, ynglŷn â'r mater pwysig iawn hwn. Fe hoffwn i gymeradwyo'r glasbrint hwn ar gyfer gostwng yn sylweddol niferoedd y plant sy'n cael eu hanfon i sefydliadau troseddwyr, oherwydd mae hynny'n gwaethygu'r broblem fel arfer, yn rhannol oherwydd eu hoedran ifanc a'u natur argraffadwy, ac fe geir recriwtio i lefelau llawer dyfnach o droseddu.

Mae 12 mis wedi bod ers i'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol gyhoeddi ein hadroddiad, '60%—Rhoi llais iddyn nhw' ar yr anawsterau o ran lleferydd, iaith a chyfathrebu a brofir yn y system cyfiawnder ieuenctid, ac ar ôl i'r uwchgynhadledd cyfiawnder ieuenctid a ymgynullwyd ar 24 of fis Ionawr gan y cyn-Weinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, pryd canmolwyd Castell-nedd Port Talbot am ragoriaeth ei wasanaeth, nid 60 y cant ydyw, mae'n debycach i 80 y cant, os gellir credu Castell-nedd Port Talbot, oherwydd dyma'r glasbrint ar gyfer y gwasanaethau yr ydym ni'n dymuno bod â nhw ledled Cymru. Yr hyn yr oedd ein hadroddiad yn ei ofyn amdano oedd cynnydd yn nifer y therapyddion lleferydd, iaith a chyfathrebu yn ein gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid gan nad yw 80 y cant, pedwar o bob pump, o'r bobl ifanc hyn yn deall yr hyn y mae'r llys yn ei ddweud wrthyn nhw ac mae'n debyg nad oedden nhw erioed wedi deall yr hyn yr oedd eu hathro nhw'n ei ddweud wrthyn nhw yn yr ysgol, chwaith. Felly, mae'n rhaid i hwn fod yn wasanaeth pwysig iawn i sicrhau bod pobl ifanc yn cael gwrandawiad teg a'n bod ni'n rhoi'r gwasanaeth priodol ar waith ar gyfer yr unigolyn arbennig hwnnw.

15:10

Rwy'n credu eich bod chi'n gwneud pwynt pwysig iawn. Fe eisteddais i yn y llys ieuenctid yng Nghaerdydd yn ddiweddar a gwrando ar nifer o'r achosion yno, a'r hyn a oedd yn amlwg iawn i mi oedd, rwy'n credu, wrth i bob unigolyn ddod gerbron yno, roeddech chi'n gallu amgyffred cefndir naill ai o dlodi neu o anfantais. Ond roeddech chi'n gweld hefyd, o ran y materion sy'n ymwneud â dealltwriaeth, ymgysylltiad, cyfathrebu, yr oeddech chi'n gweld yn aml iawn fod llawer o bobl wedi cael eu siomi gan y system addysg, yn y bôn, rhai a oedd wedi ymadael â'r system addysg. Felly'r math o ddull o ymyrraeth a chymorth fel sydd gennym ni yw'r cyfeiriad cwbl gywir i fynd iddo. Mae'n rhaid trin pobl ifanc fel pobl ifanc, a'u rhoi nhw'n gyntaf er eu lles nhw hefyd, ac ystyried sut y gellir eu cadw nhw allan o'r system cyfiawnder troseddol drwy'r math priodol o ymyraethau, a chydnabyddiaeth o hynny. Dyna'r hyn a welais i hefyd pan oeddwn i yn yr Alban, ac rwy'n siŵr fod yr un peth yn union yn digwydd mewn rhannau o Loegr hefyd. Mae newid aruthrol fawr wedi bod, rwy'n credu, yn ein hystyriaeth o bobl ifanc, yn sicr o'r amser pan oeddwn i yn fy arddegau, o gymharu â sut mae'r system yn gweithio erbyn hyn, ac yn enwedig o ran sut mae hi wedi newid, yn sicr yng Nghymru, dros y degawd diwethaf gyda'r symudiad i'r cyfeiriad arbennig hwnnw.

Disodli Deddf Crwydraeth 1824

2. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch amserlenni ar gyfer cyflwyno deddfwriaeth i ddisodli Deddf Crwydraeth 1824? OQ60957

Mae'r Bil Cyfiawnder Troseddol, i gyflwyno deddfwriaeth i ddisodli'r Ddeddf Crwydraeth, yn cael ei ystyried yn unol â gweithdrefnau cyfansoddiadol sefydledig. Gosododd Llywodraeth Cymru femorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil ar 29 o fis Ionawr. Rydym ni'n disgwyl i ddyddiad y Cyfnod Adrodd gael ei gyhoeddi yn fuan.

Diolch i chi am yr ateb yna, Cwnsler Cyffredinol. Rwy'n credu bod cytundeb eang nad yw'r ddeddfwriaeth Sioraidd a orfodir yng Nghymru yn addas i'r diben erbyn hyn. Bythefnos yn ôl, adroddwyd bod 2,500 o arestiadau wedi cael eu gwneud yng Nghymru a Lloegr ers 2019, ac wrth gwrs fe allai rhai o'r rhain fod yn faterion gwirioneddol o ymddygiad gwrthgymdeithasol, ond yn aml mae pobl ddigartref yn cael eu targedu a'u herlid o dan y Ddeddf hon, ac mae hynny'n gwbl annerbyniol.

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bod yn awyddus i ddiddymu'r Ddeddf Crwydraeth pan fydd deddfwriaeth newydd yn barod, ond roedd anghytundeb ynghylch yr hyn a gaiff ei gynnwys yn y Bil newydd. Bu llawer o wybodaeth anghywir a chodi bwganod dros gynnwys y Bil hwn, sydd wedi arwain at ei hepgor o Araith y Brenin, a chan hynny gadw'r Ddeddf Crwydraeth ar y llyfr statud am gyfnod hwy.

Mae hi'n ddealladwy ei bod hi'n rhaid i ddeddfwriaeth newydd roi ystyriaeth i'r tebygolrwydd o ymddygiad gwrthgymdeithasol problemus a fyddai'n tarfu ar fywydau busnesau a'r cyhoedd, ac rwy'n credu y gellir mynd i'r afael â hynny mewn ffordd dosturiol. Gyda'r llwch yn hel ar y Bil newydd ac Ysgrifennydd Cartref newydd yn ei swydd, a yw'r Cwnsler Cyffredinol wedi cynnal trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynghylch ei bwriad i ddisodli'r Ddeddf Crwydraeth a beth yw ei hamserlen ar gyfer gwneud hynny?

15:15

Diolch i chi am y cwestiwn a diolch am godi'r mater arbennig hwn. Yn amlwg, fe fyddai'r trafodaethau a fyddai'n cael eu cynnal o ran y polisi a'r materion sy'n ymwneud â phynciau cydsyniad deddfwriaethol, yn amlwg, yn ymgysylltu yn bennaf ag Ysgrifennydd Cabinet yn hynny o beth. Ond, yn amlwg, fe geir materion a godwyd yn y Bil Cyfiawnder Troseddol sy'n peri pryder mawr. Ar y naill law, yn amlwg, mae mater diddymu Deddf Crwydraeth 1824, y darn gwarthus hwn o ddeddfwriaeth sydd yn 200 mlwydd oed, yn gwbl briodol. Ond mae'n rhaid i mi ddweud ein bod ni o'r farn fod y ffordd y mae Llywodraeth y DU wedi mynd ati yn gwbl amhriodol mewn gwirionedd.

Fel gwyddoch chi, fe gawsom ni femorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar 29 o fis Ionawr, ac roedd hwnnw'n tanlinellu, mewn gwirionedd, y pryderon dwfn sydd gennym ni gyda'r cynigion yn y Bil, a phethau fel cardota niwsans, achosi niwsans drwy gysgu ar y stryd, a fyddai'n disodli'r Ddeddf Crwydraeth. Ac mae'n rhaid i mi ddweud bod pryder gwirioneddol ynglŷn â'r hyn sy'n ymddangos fel awgrym o droseddoli pobl ddigartref. Roedd gen i ddiddordeb mawr mewn gwirionedd wrth ddarllen y cylchgrawn, The Big Issue, sy'n mynd i'r afael yn wirioneddol â llawer o'r materion am ddigartrefedd—. Roeddwn i'n bryderus iawn o ddarllen un o'r adroddiadau gan chwythwr chwiban yn Llywodraeth y DU, un o'r gweision sifil, a ddywedodd hyn:

'Nid wyf i erioed wedi bod â chymaint o gywilydd i'm galw fy hun yn was sifil. Mae'r cod yn ei gwneud hi'n ofynnol i ni weithio ar beth bynnag mae'r llywodraeth yn dymuno i ni ei wneud, ond ar ôl blynyddoedd o syniadau Torïaidd hanner call, ni allaf ddioddef dim mwy. Troseddoli digartrefedd oedd y pennog gyda phwn a dorrodd asgwrn cefn y ceffyl.'

Ac roeddwn i'n cytuno llawer iawn â'r sylwadau a wnaeth Bob Blackman, AS Ceidwadol, unwaith eto, a oedd yn dweud bod y cynigion yn warthus ac yn waeth na chrwydraeth. A gaf i ddweud nad yw troseddoli pobl ddigartref yn datrys digartrefedd? Mae'r syniad y gallai rhywun sy'n ddigartref gael dirwy o hyd at £2,500 yn hollol chwerthinllyd o ran y goel y gallai dirwy o'r fath gael ei thalu fyth. Ac mae'r syniad o garcharu, unwaith eto, yn amcan cwbl anghyson.

Yr ymagwedd y gwnaethom ni ei mabwysiadu yng Nghymru yw defnyddio dull sy'n rhoi'r unigolyn yn y canol ar gyfer helpu pobl oddi ar y strydoedd. Rwy'n credu bod y newidiadau diweddar i'n deddfwriaeth ni'n amlygu ffaith bod yr holl bobl sy'n cysgu allan yn flaenoriaeth ar gyfer cymorth tai a digartrefedd. Unwaith eto, fel dywedais i unwaith eto wrth wneud fy mhwynt diwethaf, nid yw troseddoli pobl ddigartref yn ddatrysiad i hyn. Rwy'n credu bod Llywodraeth y DU yn mynd i'r cyfeiriad cwbl anghywir yn hyn o beth, ac rwy'n gobeithio y bydd lle i wneud newidiadau sylweddol, ac yn sicr yn y rhannau hyn, er mwyn ei wella. Ni fyddai unrhyw beth gwaeth na disodli'r Ddeddf Crwydraeth gyda rhywbeth sydd hyd yn oed yn waeth na'r Ddeddf Crwydraeth.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau yn awr gan lefarwyr y pleidiau, ac, yn gyntaf, llefarwyr y Ceidwadwyr Cymreig, Mark Isherwood.  

Diolch. A oes rhywun yn fy nghlywed i? Oes. Os felly, ymchwiliadau eang a gynullir gan Weinidog yn y Llywodraeth yw ymchwiliadau cyhoeddus. Yr unig gyfiawnhad sy'n ofynnol ar gyfer ymchwiliad cyhoeddus yw bodolaeth pryder ymhlith cyhoedd am ddigwyddiad neu gyfres benodol o ddigwyddiadau. Er mai'r Llywodraeth sy'n eu cychwyn a'u hariannu nhw, cynhelir ymchwiliadau cyhoeddus yn annibynnol. Mae eich cyfrifoldebau chi'r Cwnsler Cyffredinol yn cynnwys rhoi cyngor cyfreithiol i Lywodraeth Cymru. Ar 21 o fis Mawrth, fe gyhoeddodd y Sefydliad Astudiaethau Cyllid ei adroddiad 'Major challenges for education in Wales', a oedd yn canfod bod y rownd ddiweddaraf o sgoriau Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr yn dodi'r rhai yng Nghymru ar eu lefel waelaf erioed, yn sylweddol waeth na'r cyfartaledd ar draws gwledydd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ac yn sylweddol waeth na'r rhai a welwyd ledled gweddill y DU, ac nad yw canlyniadau addysgol gwael yn debygol o fod yn adlewyrchiad o dlodi gwaeth yng Nghymru, na chymysgedd ethnig gwahanol o ddisgyblion, na rhagfarnau ystadegol na gwahaniaethau o ran adnoddau, a'u bod nhw'n fwy tebygol o fod yn adlewyrchu gwahaniaethau o ran polisi ac ymagwedd.

Fe wnaethon nhw argymell seibiant ac, mewn rhai achosion, ailfeddwl am ddiwygiadau yn y gorffennol a pharhaus mewn meysydd gan gynnwys rhoi mwy o bwyslais ar wybodaeth benodol yng Nghwricwlwm newydd Cymru, a gohirio diwygiadau i TGAU i roi amser priodol i ystyried eu heffeithiau ar ganlyniadau hirdymor, llwyth gwaith athrawon ac anghydraddoldebau. Yfory, fe fydd galwad yn cael ei gwneud felly— 

—yn cael ei gwneud felly i Lywodraeth Cymru gomisiynu adolygiad annibynnol i'w diwygiadau addysgol presennol. Er mwyn tawelu pryderon y cyhoedd, pa gyngor a fyddech chi'n ei roi felly i Lywodraeth Cymru yn hyn o beth?

15:20

A gaf i ddweud, mewn ymateb i'r cwestiwn yna, fy nghyngor i chi fyddai, mewn gwirionedd, y dylech gyfeirio'r cwestiwn hwn at yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg?

Wel, diolch i chi, ond rwy'n hyderu yn rhinwedd eich swydd yn Gwnsler Cyffredinol y byddech chi'n rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru, ac y byddai Gweinidogion perthnasol yn dod atoch chi am gyngor yn unol â hynny. Ac fe ddylai eich blaenoriaeth chi fod, fel dywedais i, ar faterion mor bwysig, o ran pryderon y cyhoedd ac nid fel arall.

Gadewch i mi roi cynnig ar rywbeth arall. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Gogledd Cymru yn wynebu galwadau i fod yn destun ymchwiliad cyhoeddus ar ôl i 28 o adroddiadau atal marwolaethau yn y dyfodol gael eu cofnodi dros gyfnod o 16 mis, mwy na'r nifer cyfun a roddwyd i'r chwe bwrdd iechyd arall yng Nghymru. Mae adroddiad arbennig gan ITV Cymru yn datgelu maint pryderon crwneriaid am y gofal y mae pobl yn ei gael gan y bwrdd iechyd hwn cyn marw gyda gŵr mewn profedigaeth yn rhybuddio y gallai nifer yr adroddiadau atal marwolaethau yn y dyfodol a gofnodir fod yn ddim ond brig y rhewfryn. Fel gwyddoch chi, fe all crwner gyhoeddi adroddiad atal marwolaethau yn y dyfodol os oes ganddo bryderon ynglŷn â'r amgylchiadau lle bu rhywun farw, ac os yw hi'n ymddangos bod perygl y gallai marwolaethau ddigwydd. Fe fyddai ymchwiliad cyhoeddus yn ennyn hyder yn y system unwaith eto ac yn helpu i wneud gwelliannau ar faterion hirsefydlog. Er mwyn tawelu pryderon y cyhoedd, pa gyngor a fyddech chi'n ei roi, felly, yn Gwnsler Cyffredinol, i Lywodraeth Cymru ynglŷn â hyn?

Wrth gwrs, mae gwasanaeth y crwner yn wasanaeth a gedwid yn ôl; mae'n rhywbeth y dylid ei ddatganoli yn fy marn i. Ond fe ddylid cyfeirio'r meysydd eraill y gwnaethoch chi eu codi i gyd at yr Ysgrifennydd Cabinet priodol.

Wel, unwaith eto, rwy'n bryderus iawn, fel Cwnsler Cyffredinol, nad ydych chi'n fodlon rhannu'r cyngor y mae hi'n anochel eich bod chi wedi ei roi neu y gofynnwyd i chi ei roi i Weinidogion Llywodraeth Cymru ar y materion hyn.

Felly, fe roddaf i un cynnig olaf arni. Yng nghyfarfod olaf y grŵp awtistiaeth trawsbleidiol, yr wyf i'n ei gadeirio, fe rannodd nifer o'r rhai a oedd yn bresennol eu profiadau nhw o'r system iechyd a gofal cymdeithasol. Rhannodd cyfranogwyr ymdeimlad o gael eu hymlid gan staff mewn gwasanaethau, gydag un cyfranogwr yn nodi bod hyn wedi effeithio ar ei allu i deimlo yn ddiogel yng Nghymru. Roedd rhai a oedd yn bresennol yn teimlo eu bod nhw wedi bod yn destun ymagwedd o weld bai ar rieni ac yn nodi bod hynny'n cael ei anelu at famau yn arbennig. Roedd rhai yn disgrifio pa mor niweidiol fu hyn hefyd a sut mae hyn wedi peryglu gwarchodaeth eu plant. Roedd un yn disgrifio ei brofiad gyda'r gwasanaethau yn un o elyniaeth a rhagfarnau. Cododd y cyfranogwyr ddiffyg hyfforddiant a dealltwriaeth gan staff mewn gwasanaethau awtistiaeth, ac amharodrwydd i dderbyn diagnosis o awtistiaeth, ac mae llawer yn cytuno bod diffyg atebolrwydd ynghylch y materion a godwyd.

Un awdurdod lleol a nodwyd gan sawl cyfranogwr fel mater o bryder oedd Cyngor Sir y Fflint, a dywedwyd yr hoffen nhw weld ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i safonau'r ymarfer yn sir y Fflint. Er mwyn tawelu pryderon y cyhoedd, pa gyngor a fyddech chi'n ei roi felly i Weinidogion Llywodraeth Cymru, yn Gwnsler Cyffredinol, i Lywodraeth Cymru ynglŷn â hyn, y byddai gofyn i chi ei roi, mae'n debyg?

Ni wnaf i ddim ond rhoi'r un cyngor i chi ag a roddais i o'r blaen, sef nad yw'r materion yr ydych chi'n eu codi nhw'n rhai dibwys, ond fe ddylech chi eu codi nhw gyda'r Ysgrifennydd priodol yn y Cabinet.

Rwy'n gobeithio, Cwnsler Cyffredinol, fy mod i ar dir cadarnach, o gofio bod eich rhestr chi o gyfrifoldebau gweinidogol yn parhau i gynnwys polisi etholiadau a Bil diwygio'r Senedd, i ddweud bod diwygio democrataidd—iechyd democrataidd, yn hytrach—yn ei ystyr ehangaf, yn rhan o faes eich cyfrifoldeb. Roeddwn i'n meddwl tybed a ydych chi'n gweld cysylltiad rhwng hynny ac iechyd meddwl a llesiant cynrychiolwyr etholedig democratiaethau. Ac rwy'n arbennig o awyddus i ofyn i chi, yn dilyn erthygl ddiweddar gan Isabel Hardman, newyddiadurwr y cylchgrawn The Spectator, sydd wedi siarad am argyfwng iechyd meddwl ymhlith ASau yn San Steffan. Nawr, efallai y bydd rhesymau penodol am yr argyfwng hwnnw yno nawr, ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod ei bod hi'n broblem gyffredinol. Yn wir, pan gynhyrchodd y Sefydliad Anwleidyddol, sy'n felin drafod fyd-eang, ei adroddiad ar iechyd meddwl a llesiant yn ddiweddar, rwy'n credu bod tua 10 y cant o'r rhai a ymatebodd yn Aelodau o'r sefydliad hwn. Felly, a ydych chi'n gweld y cysylltiad rhwng iechyd democrataidd ac iechyd meddwl a llesiant gwleidyddion o ran denu a chadw pobl mewn gwleidyddiaeth, ar gyfer bod yn wirioneddol gynrychioliadol? Ac mae pobl iach yn gwneud penderfyniadau gwell hefyd ac felly a ddylem fod yn poeni am yr argyfwng cynyddol hwn o ran iechyd meddwl a chynrychiolwyr etholedig?

15:25

Diolch am y cwestiwn. Mae hyn yn codi cryn dipyn o faterion mewn gwirionedd, a'r rhain yw'r straen a'r pwysau sydd ar bobl sy'n penderfynu ymgymryd â gwasanaethu'r cyhoedd—dyna yw gwleidyddion i bob pwrpas. Rydym ni'n byw mewn amgylchedd lle mae'r amgylchedd yn un anodd dros ben yn enwedig o ran y cyfryngau cymdeithasol, a gorfod ymdrin â chanlyniadau'r cyfryngau cymdeithasol, gwybodaeth, camwybodaeth, a'r heriau arbennig eraill i gyd. Rwy'n amau bod effeithiau'r straen a'r pwysau gwirioneddol o ran gwasanaethu'r cyhoedd a gwleidyddiaeth yn fwy nawr nag y buon nhw erioed o'r blaen, mae'n debyg. Felly, mae'r pwynt, rwy'n credu, yr ydych chi'n ei godi, yn gwbl gywir. Fe garem ni weld llywodraethu da; rydym ni'n awyddus i weld pobl yn ymgyflwyno i wasanaeth y cyhoedd; nid ydym ni'n dymuno i bobl gael eu rhwystro rhag gwasanaethu'r cyhoedd oherwydd pryder y gellid defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol naill ai i ymosod arnyn nhw, neu i ymosod ar aelodau o'u teuluoedd nhw'n wir, a'r effaith y gallai hynny ei gael ar iechyd pobl hefyd. Rwy'n credu ein bod ni eisoes wedi gweld, onid ydym ni, nifer o wleidyddion o wahanol bleidiau gwleidyddol sydd eisoes wedi dweud nad ydyn nhw am barhau i wasanaethu'r cyhoedd am yr union resymau hynny, ac weithiau dyna'r rheswm oherwydd yr effaith yn uniongyrchol arnyn nhw, ond yn aml iawn hefyd oherwydd yr effaith ar y bobl sydd o'u cwmpas nhw ac ar eu teuluoedd nhw, sy'n aml iawn, drwy'r cyfryngau cymdeithasol, yn cael eu hystyried yn gocyn hitio.

Rwyf i o'r farn fod yna broblem o ran llesiant. Rwy'n credu mai mater i'r Seneddau, ac yn wir i'r Senedd yn y fan hon, yw bod yn ymwybodol o hynny mewn gwirionedd. Rwy'n gwybod bod hyn yn amlwg yn rhywbeth sy'n cael ei ystyried, ac, fel un sydd ar y Comisiwn, mae hynny'n amlwg yn rhywbeth a gaiff ei godi. Ond rwy'n credu bod hon yn rhan annatod o'r darlun o'r hyn yr oeddwn i'n sôn amdano, sef iechyd democrataidd, ac mae'n debyg eich bod chi'n iawn: nid mater o ddenu pobl i fod â rhan yn y system yw hynny'n unig; mae'n ymwneud â galluogi pobl sy'n dymuno bod â rhan ynddi neu sy'n awyddus i gyfrannu mewn rhyw ffordd neu'i gilydd hefyd. Felly, mae yna gyplysiad i hynny. Rwy'n gobeithio y bydd hynny'n dechrau cyfrannu rhywbeth at y mater pwysig y gwnaethoch chi ei godi.

O ystyried—[Anghlywadwy.]—natur y mater cynyddol bwysig hwn, fel rydych chi'n dweud, mewn cyfnod o gamdriniaeth a bygythiadau cynyddol mewn gwleidyddiaeth, sy'n creu amgylchedd sy'n fwy heriol fyth hyd yn oed, roeddwn i'n meddwl tybed a fyddech chi'n codi hyn yng nghyfarfod nesaf y Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer Etholiadau a Chofrestru. Rwy'n sylwi bod iechyd democrataidd ar agenda'r cyfarfod nesaf, mewn gwirionedd fel roedd cydnerthedd. Fe gefais i fy nghalonogi gan hynny nes i mi ddarllen mai cydnerthedd cyflenwyr argraffu deunyddiau etholiad oedd hwnnw, ond efallai y gallech chi godi cydnerthedd mewn ystyr wahanol, sef mai pobl sydd wrth wraidd democratiaeth wedi'r cyfan, ac awgrymu rhai syniadau efallai. Rwy'n credu, yn y fan hon, fod gennym ni stori dda yn yr ystyr bod ein hadran Adnoddau Dynol—un o'r materion a godwyd gan Isabel Hardman—mor fawr â'r un yn San Steffan mewn gwirionedd, sy'n sefydliad llawer mwy. Ond rhai o'r syniadau eraill a awgrymwyd o ran hyfforddiant gorfodol, nid dim ond hyfforddiant dechreuol, ond yn flynyddol, i bob gwleidydd, a allai hynny fod yn rhan o agenda ein hysgol lywodraethu genedlaethol newydd, nid yn unig  wrth hyfforddi gweision sifil, y Cwnsler Cyffredinol, ond arweinwyr etholedig presennol ac arweinwyr etholedig y dyfodol hefyd? Ochr yn ochr â chod ymddygiad, pam nad oes disgrifiad swydd gennym ni, fel nad dim ond 'y pethau na ddylech chi eu gwneud' sydd gennym ni, ond bod 'rhai pethau y dylech chi eu gwneud' hefyd sy'n gadarnhaol, ac nid dim ond bod â phwyllgorau ymddygiad, ond ein bod ni â phwyllgorau o ddiwylliannau cadarnhaol yn y gweithle yn ogystal ag yn ein sefydliadau seneddol? 

Rwy'n credu bod y rhain yn bwyntiau dilys bob un, ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n rhoi'r pwyntiau hynny gerbron y Comisiwn yn ystod y flwyddyn i ddod. Rwy'n credu mai'r hyn yr ydych chi'n ei ystyried mewn gwirionedd yw bod cyflwr ein hiechyd democrataidd â llawer o agweddau arno, mae cymaint o agweddau arno, o'r gymdeithas ddinesig hyd at y rhai sydd mewn gwleidyddiaeth hefyd, sy'n gwasanaethu'r cyhoedd, a'u llesiant, oherwydd mae'r llesiant hwnnw'n ymwneud hefyd â'u gallu nhw i ddarparu'r gwasanaeth cyhoeddus hwnnw cystal ag y gallen nhw. Rwy'n credu mai dyma un o'r ffactorau o ran pam mae angen i ni weld y Senedd hon yn cael ei diwygio a'i chynyddu o ran maint, oherwydd y pwysau a'r gofynion sydd yma, i sicrhau y gall pobl wneud eu gwaith yn iawn a'u bod nhw'n fodlon hefyd fod yr adnoddau a'r amser ar gael ganddyn nhw i allu gwneud y gwaith gorau posibl, yr hyn y mae'r rhan fwyaf yn awyddus i'w wneud. Fel rwy'n dweud, rwy'n edrych ymlaen at gyfrannu at ran bwysig o'r drafodaeth sydd, yn fy marn i, yn rhan bwysig o ddadleuon na chawsant eu codi, ond rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig yw bod y rhain yn bethau sydd o fewn perchnogaeth y Senedd i raddau helaeth. Rwy'n credu mai un maes sydd ar ben hyn yw, yn ôl pob tebyg, yn aml, y diffyg dealltwriaeth sydd yn y gymdeithas ddinesig o ran y swyddogaethau penodol hynny, a bod swyddogaethau addysgol a swyddogaethau ymgysylltu'r un mor bwysig hefyd. 

15:30
Llywodraeth y DU yn Deddfu mewn Meysydd Polisi Datganoledig

4. Beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru ar ddefnyddio Llywodraeth y DU i ddeddfu mewn meysydd polisi datganoledig? OQ60941

Diolch i chi am y cwestiwn. Dylai deddfwriaeth y gellir ei llunio yng Nghymru gael ei llunio yng Nghymru. Mae'n rhaid i ddeddfwriaeth a lunir gan Senedd y DU neu Lywodraeth y DU fod yn parchu datganoli.

Diolch yn fawr iawn i chi am eich ateb, Cwnsler Cyffredinol. Pan oeddwn i'n eistedd ar y pwyllgor deddfwriaeth, cyfansoddiad a chyfiawnder—rwy'n methu â chofio'r enw; nid wyf i wedi bod arno ers cryn amser erbyn hyn—roeddem ni'n mynd yn bryderus, mewn gwirionedd, ynglŷn â chymaint yr oedd Llywodraeth Cymru yn defnyddio Llywodraeth y DU ar gyfer deddfu mewn meysydd datganoledig. Mae hwnnw'n bryder difrifol iawn oherwydd rwyf i'n awyddus i weld cyfraith Cymru yn cael ei llunio gan y rhai sy'n llunio polisïau Cymru yma yn y Senedd, ac nid gan bobl ar ben arall yr M4 nad ydyn nhw wir yn deall anghenion Cymru. Nid yw hynny'n rhoi cyfle i ni graffu ar y gyfraith honno yn y fan hon a sicrhau ei bod hi'n addas i'r dyfodol i ni yma.

Roedd un pryder gennym ni ynglŷn â'r gallu o fewn Llywodraeth Cymru. Felly, a wnewch chi gadarnhau heddiw, Cwnsler Cyffredinol, a yw'r gallu deddfwriaethol a chyfreithiol priodol gan Lywodraeth Cymru o fewn Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod cyfraith yn cael ei llunio yng Nghymru, er mwyn Cymru?

Wel, diolch i chi am y cwestiwn, ac mae hwn yn amlwg yn gwestiwn y mae'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad wedi ei ofyn i mi sawl gwaith. Felly, mae rhan o'r ateb sydd gennyf i yn aros yr un, sef: mae'r egwyddorion a amlinellais i ar y dechrau, yn fy ymateb cyntaf i'ch cwestiwn, yn parhau. Ond, wrth gwrs, mae yna lawer o ffactorau sy'n dechrau ein tynnu ni i ffwrdd oddi wrth hynny.

Y cyntaf ohonyn nhw, wrth gwrs, yw nad oes unrhyw reolaeth gennym ni dros raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU. Mae'r Llywodraeth yn cyflwyno llawer o Filiau; ar un cyfnod, rwy'n credu bod gennym ni 32 o Filiau Llywodraeth y DU a oedd yn cael eu prosesu. Nawr, pan fo'r Biliau hynny'n gorgyffwrdd â meysydd datganoledig, nid oes unrhyw ddewis gennym ni ond cyfranogi yn y broses cydsyniad deddfwriaethol; dyna'r gofyniad i ni yn ein Rheolau Sefydlog. Felly, nid dewisiadau a wnaethom ni mo'r rhain i Lywodraeth y DU fod yn deddfu ar ein rhan. Pan fyddwn ni'n ymgysylltu â'r prosesau cydsyniad deddfwriaethol hynny, mae'r hyn a wnawn ni'n pwysleisio confensiwn Sewel i raddau helaeth iawn. Fe allaf i ddweud wrthych chi fod ymgysylltiad ynglŷn â chonfensiwn Sewel wedi bod yn anodd dros ben, oherwydd yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, fe welwyd cynnydd yn nifer y toriadau arno, fel pryd bynnag y dylid bod yn gofyn caniatâd, o ran unrhyw faes a fyddai'n effeithio ar gyfrifoldebau datganoledig, mae Llywodraeth y DU yn bwrw ymlaen yn rheolaidd erbyn hyn ac yn dweud, "Nage, am ymgynghori yr ydym ni." Nid oes gan ymgynghori unrhyw statws barnwrol na chyfreithiol o gwbl, ac mewn amgylchiadau fel hynny mae toriad.

Pan fyddom ni'n siarad am y Bil Dioddefwyr a Charcharorion yn un enghraifft—ac mae gennym ni femorandwm cydsyniad deddfwriaethol yn dod ar 30 o fis Ebrill—mae honno'n enghraifft nodedig iawn lle mae ymgysylltiad wedi digwydd, mae hynny wedi bod yn gadarnhaol mewn rhai meysydd, er enghraifft, gydag eiriolwyr cyhoeddus a'u gwaith nhw o ran meysydd datganoledig, ac roeddem ni'n rhagweld gwelliannau a fyddai'n gofyn caniatâd. Yn sydyn, fe ddaeth newid nawr i orfodi neu wthio mater ymgynghoriad yn unig drwy San Steffan. Nawr, mae hwnnw'n doriad ar gonfensiwn Sewel. Nid oes unrhyw resymeg i'r peth, ac mae hi'n anodd deall o ble mae'r ymyrraeth sydyn honno wedi dod sydd wedi newid naws a natur y trafodaethau penodol hynny ar amrantiad. Ond mae honno'n mynd yn duedd gyffredin iawn.

A gaf i ddweud bod meysydd eraill, wrth gwrs, lle mae deddfwriaeth Llywodraeth y DU yn codi materion na fyddai'r gallu gennym ni i ddeddfu arnyn nhw heb amharu ar ein rhaglen ddeddfwriaethol ein hunain a chynlluniad honno? Ac, wrth gwrs, rydych chi'n sylweddoli nad unig ystyr cynllunio yw'r adnoddau ar gyfer drafftio a pharatoi deddfwriaeth; mae hynny'n rheoli llif y ddeddfwriaeth a'r amser sydd gan y pwyllgorau i ymdrin â hi mewn gwirionedd hefyd. Gadewch i mi roi un enghraifft i chi, sef y Bil Tybaco a Fêps. Rwy'n credu bod honno'n enghraifft dda o gyfle i ni fod ag ymgysylltiad â Llywodraeth y DU, pryd, mewn gwirionedd, y bu ymgysylltiad â phedair cenedl ynglŷn â hyn, ac rwy'n credu bod nifer o enghreifftiau eraill pryd y digwyddodd hynny hefyd.

Felly, rhywbeth anghyffredin iawn yw i ni fod yn troi at Lywodraeth y DU i ddeddfu ar ein rhan. Pryd y digwyddodd hynny, roedd hynny fel arfer mewn amgylchiadau pan oedd Llywodraeth y DU yn deddfu ar faes, a ninnau wedi nodi nad yw hwnnw'n rhan o'n rhaglen ddeddfwriaethol ni ar hyn o bryd, ond fe fyddai manteision i bobl Cymru pe byddai rhywbeth yn cael ei ymestyn i Gymru. Ond rhywbeth anghyffredin iawn yw hwnnw mewn gwirionedd. Mae'r rhan fwyaf o faterion sy'n mynd y tu hwnt i'n rhaglen ddeddfwriaethol ni, pryd y byddwn ni'n deddfu yn benodol, yn deillio fel arfer o'r ymgysylltiad â Llywodraeth y DU ynglŷn â'i rhaglen ddeddfwriaethol hi. Mae'n rhaid i mi ddweud bod ymgysylltu yn anodd tu hwnt; mae hynny wedi gwella mewn rhai meysydd, ond mae gwendid sylfaenol yn parhau o ran cymhwyso confensiwn Sewel.

15:35
Y Bil Dioddefwyr a Charcharorion

5. Pa gyngor y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i gydweithwyr yn y Cabinet o ran effaith y Bil Dioddefwyr a Charcharorion ar drigolion Cymru? OQ60943

Diolch am y cwestiwn yna. Rwy'n gweithio gyda chyd-Ysgrifenyddion yn y Cabinet ar effeithiau'r Bil ar eu portffolios nhw. Rydym ni'n ymgysylltu â Llywodraeth y DU ynglŷn â sawl elfen o'r Bil. Fe fydd yr Ysgrifennydd Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol yn arwain cynnig cydsyniad deddfwriaethol—yr un yr wyf i newydd gyfeirio ato, mae arnaf i ofn—yn y ddadl ar y Bil ar 30 o fis Ebrill.

Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ymateb. Cwnsler Cyffredinol, fe godais i'r pryderon sydd gennyf i am y Bil hwn sawl tro, am nad yw'n mynd yn ddigon pell o gwbl i ateb gofynion ymgyrch 'Hillsborough Law Now.' Mae'r Bil hwn yn ddifrifol ddiffygiol mewn meysydd allweddol, megis dyletswydd gonestrwydd. Mae dioddefwyr na allan nhw fod yn sicr o gael y cyfiawn wir ar y gofyniad cyntaf yn annhebygol o gael y cyfiawnder y maen nhw'n ei haeddu. Beth yw dewisiadau Llywodraeth Cymru o ran ceisio annog Llywodraeth y DU i ailystyried y Bil hwn?

A gaf i ddiolch i chi yn gyntaf am ddal ati i godi'r mater hwn a mater cyfraith Hillsborough? Fel gwyddoch chi, fe gwrddais i â rhai o ymgyrchwyr Hillsborough beth amser yn ôl, ac rwyf i wedi ymgysylltu â nhw hefyd. Mae'n sicr yn wir fod y—. Wel, i ddechrau, mae gan y Bil rai elfennau eraill ynddo sy'n faterion y byddem ni yn y Llywodraeth yn eu cefnogi nhw, rwy'n credu, o ran gwaed halogedig ac iawndal gwaed halogedig, ac mae'r mater hwnnw'n bodoli ers cryn amser. Felly, mae'r rhain yn bethau cadarnhaol sydd yn y Bil yn fy marn i.

Ond y pwynt yr ydych chi'n ei godi yn benodol yw: a yw'r Bil hwn yn mynd i'r afael mewn gwirionedd â'r materion a godwyd gan ymgyrchwyr Hillsborough? Y gwir amdani yw nad yw yn gwneud hynny. Yr hyn y mae'n ei wneud yw rhoi ymgais gwangalon iawn, rwy'n credu, ar greu eiriolwyr cyhoeddus, ac y mae pwrpas hynny'n annelwig iawn ar hyn o bryd. A hwnnw, wrth gwrs, yw'r maes yr oeddwn i'n cwrdd â Gweinidog Llywodraeth y DU yr wythnos diwethaf—roedd Ysgrifennydd Cabinet arall a minnau'n cwrdd—mewn gwirionedd dim ond i wthio'r pwynt eu bod nhw'n parchu'r eiriolwyr cyhoeddus mewn canllawiau, pan fyddai hynny'n ymwneud yn benodol â chyflawni swyddogaethau datganoledig, ac y dylai fod gofyniad i gydsynio. Dyna'r hyn y mae Sewel yn ei ddweud, a dyna'r hyn yr oeddem ni'n ei ddisgwyl a fyddai'n digwydd. Mae'r Bil yn amlwg yn y Cyfnod Adrodd yn Nhŷ'r Arglwyddi ar hyn o bryd, felly roedd hi'n siomedig tu hwnt, ar fyr rybudd, i ni fod yn clywed bod Llywodraeth y DU am gyflwyno gwelliant a oedd yn ei gwneud hi'n ofynnol iddi wneud dim ond ymgynghori. Ac am y rheswm hwnnw fe fydd y mater hwn yn dod ar 30 o fis Ebrill fel mater o gydsyniad deddfwriaethol.

Yr un maes, wrth gwrs, yr ydych chi wedi bod yn ei godi yn gyson yw mater dyletswydd gonestrwydd cyhoeddus, ac mae hi'n ymddangos i mi fod hwnnw'n gwbl sylfaenol. Nid oes sôn am hynny yn y Bil. Mae dyletswydd gonestrwydd yn rhwymedigaeth sylfaenol sydd ar weision cyhoeddus i ddweud y gwir. Nid oes dyletswydd gyfreithiol arnyn nhw i wneud hynny a dod ymlaen â hynny'n rhagweithiol. A dyna un o'r gofynion sylfaenol o ran cyfraith Hillsborough, fel y gelwir hi. Yr hyn yr wyf i'n falch iawn o'i ddweud yw, wrth gwrs, yw bod Syr Keir Starmer eisoes wedi nodi y bydd Llywodraeth Lafur sy'n dod i mewn yn cyflwyno cyfraith Hillsborough lawn, a fydd yn cyflwyno eiriolwyr cyhoeddus. Rwy'n sicr y bydd yn parchu'r setliad datganoli hefyd, ond fe fydd yn sefydlu'r ddyletswydd honno i fod yn onest hefyd, sy'n sylfaenol yn fy marn i.

Wrth gwrs, fe geir ffordd lawer haws o fwrw ymlaen, a honno fyddai, yn y bôn, agor drysau cymorth cyfreithiol i'r rhai sy'n mynd yn ddioddefwyr. Honno fyddai wedi bod y ffordd fwyaf syml ac uniongyrchol o wneud hyn mewn gwirionedd, ac mae hi'n ymddangos i mi ei fod yn gam yn rhy bell. Ond mae diffyg dyletswydd gonestrwydd yn rhywbeth sy'n berthnasol beth bynnag, hyd yn oed wrth agor drysau cymorth cyfreithiol, pe byddai hynny'n digwydd. Felly, nid yw hyn yn mynd yn agos at fod yr hyn yr oeddwn i'n credu yr oeddem ni'n ei ddisgwyl ac, mae arnaf i ofn, ymgais lipa iawn yw hon i ymateb i'r gofynion hynny a wnaethpwyd.

15:40
Eithrio'r Brenin

6. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch eithrio'r brenin o'r Ddeddf Amaeth (Cymru) 2023? OQ60958

Diolch yn fawr iawn i chi am y cwestiwn. Mae'r egwyddor na ellir erlyn y brenin yn un hirsefydlog. Yn unol â'r egwyddor a'r confensiwn hwnnw, yn ystod y broses gydsynio ynglŷn â Bil Amaethyddiaeth (Cymru), fel gelwid ef ar y pryd, fe roddwyd sicrwydd y byddai'r confensiwn yn cael ei ystyried wrth wneud rheoliadau pan fyddai'r Bil yn cael ei ddeddfu.

Rwy'n ei chael hi'n ofidus iawn fod y Brenin, mae'n debyg, yn gallu anwybyddu ein cyfreithiau ni yng Nghymru. A ydym ni'n dweud os yw darn o dir yn perthyn i'r sofran nad oes angen ei reoli mewn ffordd gynaliadwy? Neu a ydym ni'n cyfaddef, yn rhinwedd bod yn frenin, na all ef wneud dim arall ond perchen tir mewn ffordd sy'n gynaliadwy? Neu nid y naill beth na'r llall, a dim ond y ffaith amdani yw bod ein cyfreithiau a'n harferion ni'n dod gyda dyletswydd o deyrngarwch? Ym mis Medi 1267, fe wnaeth Cytundeb Trefaldwyn rhwng Llywelyn ap Gruffudd a Brenin Harri III o Loegr ddarparu y byddai'r tywysog a'i olynwyr ef yn rhwymedig i wrogaeth, teyrngarwch a gwasanaeth i Frenin Lloegr a'i etifeddion. A yw telerau'r cytundeb hwnnw'n ein plagio ni hyd y dydd heddiw? A yw pwerau ein Senedd ni'n dragwyddol ddarostyngedig i'r ffaith mai deiliaid i frenin ydym ni?

Wel, gwrandewch, diolch i chi am yr ymateb yna. Mae'n rhaid i mi ddweud nad yw Cytundeb Trefaldwyn yn rhywbeth a ddarllenais i'n ddiweddar, er fy mod i'n ymwybodol ohono. Yn sicr, mater cyfansoddiadol yw'r mater hwn. Fe geir safbwyntiau cadarn ac amrywiol yn hyn o beth. Yn union fel rydym ni'n ceisio cydymffurfio â chonfensiynau a cheisio cydymffurfio, er enghraifft, â chonfensiwn Sewel, rydym ni wedi cydymffurfio â'r confensiynau eraill hefyd sy'n bod o ran deddfwriaeth, ond mae hi'n amlwg bod dadl yn mynd rhagddi ynglŷn â'r mater arbennig hwn.

Mae yna anachroniaeth gyfansoddiadol sy'n bodoli. Ond a gaf i ddweud hyn o ran y Bil? Mewn ymateb i gais y palas, fe wnaeth Llywodraeth Cymru roi sicrwydd mewn ysgrifen ar y pwynt hwn o gonfensiwn i gynghorwyr y Brenin, ac roeddem ni'n dweud hyn:

'rydym ni'n cadarnhau, wrth wneud rheoliadau yn unol â Rhan III o Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023, y bydd Gweinidogion Cymru yn dwyn i gof eithrio drwy gonfensiwn y Goron o ran gorfodi troseddol a phwerau mynediad.'  

Y sicrwydd oedd y rhoddid ystyriaeth i'r confensiwn wrth lunio rheoliadau. Nid oedd Gweinidogion Cymru yn ymrwymo i unrhyw gamau gweithredu penodol wrth wneud rheoliadau ac, wrth gwrs, fe fydd unrhyw reoliadau a gyflwynir yn unol â hynny'n dod gerbron y Senedd hon, a phe ceir pryderon ar y cam hwnnw, materion i'r Senedd hon a fyddai'r rheiny.

Datblygwyr Prosiectau Mawr

7. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch sicrhau bod datblygwyr prosiectau mawr yn cyflawni eu rhwymedigaethau contractiol? OQ60951

Diolch i chi am y cwestiwn. Mae 11 o adeiladwyr tai mawr wedi llofnodi contract datblygwyr Llywodraeth Cymru. Mae'r contractau yn ymrwymo'r datblygwyr hyn i wneud gwaith i gywiro materion diogelwch tân mewn adeiladau a ddatblygwyd ganddyn nhw dros y 30 mlynedd diwethaf. Rwy'n ymwybodol bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi ymrwymo i sicrhau y bydd datblygwyr yn cyflawni eu rhwymedigaethau cytundebol.

Diolch i chi am yr ateb yna. Rwyf i am edrych ar agwedd ychydig yn wahanol, ac efallai na fyddwch chi'n synnu o glywed bod y cwestiwn hwn yn cael ei ofyn gydag un llygad ar waith glo brig Ffos-y-Fran ym Merthyr, yn fy rhanbarth i. Gwarth o beth yw bod perchennog y pwll yn ceisio dianc rhag ei rwymedigaethau cyfreithiol rwymol i adfer y tir a'i wneud yn gynefin i blanhigion ac anifeiliaid unwaith eto. Ar ôl cymryd gwerth degau o filiynau o bunnau o lo o'r safle, mae trychineb ecolegol dyfrllyd iawn yn datblygu, sy'n achosi pryder gwirioneddol nawr i drigolion lleol sy'n dioddef ers amser maith.

Nawr, efallai na fyddwch chi'n gallu siarad am fanylion yr achos hwn, am resymau cyfreithiol, ond fe hoffwn i chi siarad yn gyffredinol am egwyddor cwmni sy'n ei heglu hi ar ôl gwneud elw mawr. Beth mae hyn yn ei ddweud wrth ddatblygwyr eraill pan nad oes unrhyw gamau cyfreithiol yn cael eu cymryd yn erbyn datblygwyr anghyfrifol? Oes yna ganfyddiad erbyn hyn fod yr awdurdodau a'r ceidwaid yng Nghymru yn ddi-rym? Mae hyn yn bwysig, yn enwedig yn fy rhanbarth i, gan fod yna gynlluniau ar gyfer cynllun diogelwch tomenni glo arall ar safle hen lofa Bedwas. Mae cyfrif ysgrow yn rhan o'r cynlluniau i sicrhau bod y gwaith adfer yn mynd rhagddo pan fydd y cynllun wedi dilyn ei gwrs—llwybr cyfarwydd iawn. Pa gyngor cyfreithiol a ydych chi'n ei roi i wrthsefyll y canfyddiad fod Cymru yn rhoi gormod o rwydd hynt i ddatblygwyr?

15:45

Dydw i ddim yn rhoi cyngor cyfreithiol yn benodol ar y pwynt olaf hwnnw. Mae'n amlwg yn bwysig bod yr holl drefniadau contractiol y mae cyrff cyhoeddus yn ymrwymo iddynt yn gadarn. Rwy'n gwybod, er enghraifft, fod y contract o ran adfer gyda phwll glo'r Tower, lle roedd cyfrif ysgrow hefyd, yn un yr ymddengys ei fod wedi gweithio ac wedi'i gyflawni. O ran cyfeiriad ehangach y cwestiwn rydych chi'n ei godi gyda mi, rwy'n credu bod hwnnw'n un y dylid ei godi eto gydag Ysgrifennydd priodol y Cabinet.

Cyngor Cyfreithiol ar Fil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol)

9. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ar Fil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol)? OQ60936

Diolch am y cwestiwn. Mae'r Bil wedi bod trwy'r holl brosesau arferol y mae holl ddeddfwriaeth y Llywodraeth a gyflwynir i'r Senedd yn mynd drwyddynt. Mae'r Aelod sy'n gyfrifol wedi nodi safbwynt y Llywodraeth o ran y Bil yn ei datganiad llafar ac yn ystod ei thystiolaeth i'r Pwyllgor Biliau Diwygio.

Cwnsler Cyffredinol, y cyngor a roddwyd i Lywodraeth Cymru yw bod hyn o fewn cymhwysedd cyfreithiol y Senedd. Yn anffodus, nid yw'r Llywydd yn cytuno â'r safbwynt hwnnw. Nid yw tystiolaeth i'r pwyllgor diwygio yn cytuno ei fod o fewn cymhwysedd cyfreithiol y Senedd. Nid yw Llywodraeth y DU yn cytuno bod y ddeddfwriaeth hon o fewn cymhwysedd cyfreithiol y Senedd hon ac nid yw cynghorwyr cyfreithiol annibynnol yn y maes hwn o gyfraith ledled y wlad yn cytuno bod hyn o fewn cymhwysedd cyfreithiol y Senedd. Felly, byddai gen i ddiddordeb mawr mewn gwybod sut rydych chi wedi dod i'r safbwynt hwnnw ac mae cyfreithwyr Llywodraeth Cymru wedi dod i'r safbwynt hwnnw i ddweud ei bod o fewn cymhwysedd, pan fo mwyafrif helaeth y gweithwyr cyfreithiol proffesiynol sy'n astudio yn y maes hwn o'r gyfraith yn anghytuno â safbwynt Llywodraeth Cymru. Rwyf am gadw ar wahân p'un a wyf yn cytuno â'r polisi ai peidio. Ond rwy'n credu bod angen i ni sicrhau, pan fyddwn ni'n cyflwyno cyfraith yng Nghymru, bod hynny mewn gwirionedd o fewn cymhwysedd, ac nad yw Llywodraeth Cymru yn gwastraffu arian yn ymladd hyn yn y Goruchaf Lys pan fo'n gwybod na ddylai fod wedi cyflwyno'r Bil yn y lle cyntaf, os nad yw'n eistedd o fewn cymhwysedd cyfreithiol y Senedd hon.

Mae mater cymhwysedd yn amlwg yn rhan sylfaenol o'n proses ddeddfwriaethol. Yn sicr, mae'n wir fod hyn yn un lle mae barn gyfreithiol wahanol o ran cymhwysedd. Mae cymhwysedd yn aml yn faes cymhleth ac amwys iawn. Mae'r ddeddfwriaeth hon, wrth gwrs, yn cael ei thywys gan y Trefnydd. Felly, nid Bil sydd o fewn fy mhortffolio i o gyfrifoldebau ydyw. Y rheswm pam y byddwn i'n ofalus ar hyn o bryd yw am y rheswm hwn: mae'r materion hynny wedi cael eu cydnabod, mae'r mater wedi'i gymryd yn ôl i'r Senedd ac ar hyn o bryd mae'n cael ei ystyried gan bwyllgor priodol. Mae'r pwyllgor hwnnw, rwy'n gwybod, yn ystyried mater cymhwysedd ac wedi cymryd tystiolaeth ar hynny. Byddant yn dod i farn a byddant yn adrodd yn ôl i'r Senedd hon ar y cam penodol hwnnw. Ar y cam hwnnw, bydd y Senedd yn penderfynu a yw'n fater priodol i fwrw ymlaen ag ef. O ran fy rôl i fel Cwnsler Cyffredinol, fel swyddog cyfreithiol, rwy'n gweithredu'n annibynnol ar y Llywodraeth, ond dim ond ar ôl i ddeddfwriaeth gael ei phasio ac wedi dod i gasgliad. Mae'r un sefyllfa o ran y Twrnai Cyffredinol. Mae gen i'r awdurdod, fel sydd gan y Twrnai Cyffredinol, i gyfeirio mater i'r Goruchaf Lys os oes mater cyfansoddiadol yn gysylltiedig ag ef. Wrth gwrs, gall cymhwysedd fod yn un o'r rhain. Felly, nid yw'n briodol iawn i mi wneud unrhyw sylw pellach ar hyn ar wahân i'r hyn rwyf wedi'i ddweud—heblaw am hynny, wrth gwrs, yn dibynnu ar sut mae'r ddeddfwriaeth yn mynd yn ei blaen, ar adeg benodol bydd gofyn i mi arfer fy rôl fel swyddog y gyfraith.

4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Creu Cenhedlaeth ddi-fwg a mynd i’r afael â fepio ymhlith pobl ifanc

Eitem 4 heddiw yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar greu cenhedlaeth ddi-fwg a mynd i’r afael â fepio ymhlith pobl ifanc. Galwaf ar yr Ysgrifennydd, Eluned Morgan.

Diolch yn fawr. Diolch am y cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y gwaith pwysig yr ydym yn ei wneud i greu Cymru ddi-fwg ac i fynd i'r afael â fepio gan bobl ifanc. Er gwaethaf ein holl lwyddiant o ran lleihau cyfraddau smygu, mae'n parhau i fod yn brif achos niwed a marwolaeth y gellir ei osgoi yma yng Nghymru. Mae smygu yn niweidio bron pob organ o'r corff ac, yn unigryw, mae'n niweidio nid yn unig yr smygwr ond y bobl o'i gwmpas. Rydym yn i gyd yn gwybod yr effeithiau y mae smygu yn eu cael ar unigolion, ar gymdeithas ac ar ein gwasanaeth iechyd. Nid gor-ddramateiddio yw dweud bod y rhain yn ddinistriol.

I unigolion, mae tybaco yn cynyddu'r risg o ganser, clefydau anadlol, a dementia yn sylweddol. Ar gyfer ein cymdeithas, mae smygu yn achosi anghydraddoldebau iechyd ac yn costio biliynau i'r economi bob blwyddyn. Lansiodd y cyn-Ddirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ein strategaeth Cymru ddi-fwg ddwy flynedd yn ôl a'n nod uchelgeisiol o leihau nifer yr achosion o smygu i 5 y cant erbyn 2030. Rydym yn gweithio tuag at yr uchelgais hwnnw, gan gefnogi pobl i roi'r gorau i smygu ar bob cam o'u bywydau.

Mae'r Prif Weinidog wedi rhoi pwyslais o'r newydd ar 1,000 diwrnod cyntaf bywyd plentyn i sicrhau bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau mewn bywyd. Mae smygu yn ffactor risg sylweddol ar gyfer canlyniadau iechyd gwael sy'n gysylltiedig â beichiogrwydd. Rydym wedi bod yn gweithio i gynyddu cefnogaeth i smygwyr i roi'r gorau iddi am byth yn ystod beichiogrwydd, ac rwyf wedi gosod amcanion clir i fyrddau iechyd ddarparu monitro carbon monocsid yn ystod apwyntiadau cynenedigol i helpu menywod i gyflawni'r nod hwnnw. Mae ein gwasanaeth rhoi'r gorau i smygu cenedlaethol am ddim, Helpa Fi i Stopio, yn parhau i gefnogi miloedd o bobl bob blwyddyn, ac rydym yn cyflwyno ein rhaglen rhoi'r gorau i smygu yn yr ysbyty fel y gall staff y GIG gefnogi ein cleifion mewnol i roi'r gorau iddi.

Mae tybaco anghyfreithlon a chynhyrchion fepio yn her gynyddol a chymhleth, felly rydym yn gweithio'n agos gyda safonau masnach i gefnogi gorfodi ac atafaelu cynhyrchion anghyfreithlon a allai fod yn beryglus. Rydym hefyd wedi cefnogi ysgolion uwchradd ledled Cymru drwy ddarparu gwybodaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth i athrawon a staff ysgolion am sut i fynd i'r afael â sigaréts ac adnoddau i helpu dysgwyr i ddeall effaith fepio ar eu hiechyd a'u llesiant. 

Yn ogystal â'r gwaith yng Nghymru, rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda phartneriaid ledled y DU ar gamau i fynd i'r afael â fepio gan bobl ifanc ac i greu cenhedlaeth ddi-fwg. Cafodd Bil Tybaco a Fêps Llywodraeth y DU ei gyflwyno yn Senedd y DU ar 20 Mawrth a chafodd ei ail ddarlleniad yr wythnos diwethaf. Mae gan y ddeddfwriaeth y potensial i fod yn un o'r ymyriadau iechyd cyhoeddus mwyaf arwyddocaol mewn cenhedlaeth a'r cam mwyaf ymlaen yn y frwydr yn erbyn tybaco ers i ni wahardd smygu mewn mannau cyhoeddus caeedig yn 2007.

Gyda'n caniatâd a'n cefnogaeth ni, ynghyd â chyd-weithwyr yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, bydd y prif fesurau yn y Bil—ei gwneud yn anghyfreithlon gwerthu cynhyrchion tybaco i unrhyw un sy'n troi'n 15 oed yn 2024 neu'n iau a lleihau apêl ac argaeledd cynhyrchion fepio—yn berthnasol ledled y DU. Mae'r darpariaethau hyn, wrth gwrs, yn cael effaith ar feysydd cymhwysedd datganoledig. Felly, byddaf yn gosod cynnig cydsyniad deddfwriaethol ddechrau mis Mai. Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod yr Aelodau'n gallu ystyried manylion y Bil yn llawn a'i effaith yma yng Nghymru. Edrychaf ymlaen at glywed sylwadau'r Aelodau maes o law. 

Wrth holi ysmygwyr, bydd y rhan fwyaf ohonyn nhw'n dweud eu bod nhw'n difaru dechrau, a bydd llawer yn dweud eu bod yn cael trafferth rhoi'r gorau iddi. Bydd nifer wedi dechrau'n ifanc—mwy na phedwar o bob pump cyn eu pen-blwydd yn 20 oed. Dyna pam fod gan y Bil yma'r pŵer i wneud gwahaniaeth go iawn, wrth roi sigaréts a thybaco allan o gyrraedd pobl ifanc. Ni fydd unrhyw un sydd wedi ei eni ar ôl 1 Ionawr 2009 byth yn gallu prynu sigarét nac unrhyw fath arall o dybaco yn gyfreithlon. Dros amser, bydd hyn yn arwain at genhedlaeth ddi-fwg.

Mae llawer wedi dadlau yn ddiweddar y dylai ysmygu fod yn ddewis. Er na fydd y Bil yn gwneud ysmygu'n drosedd, dwi'n cytuno yn gryf â'r prif swyddog meddygol a'r llu o arweinwyr iechyd eraill ei fod yn ddibyniaeth. Mae'n arfer sydd, yn y pen draw, yn lladd hyd at ddwy ran o dair o'i defnyddwyr hirdymor. Ar ôl mynd yn gaeth, nid dewis yw hi bellach, ond dibyniaeth. Mae'r Bil yma yn gyfle unigryw i gymryd camau pendant i warchod cenhedlaeth o bobl ifanc a phlant yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig rhag dibyniaeth. Mae e hefyd yn rhoi mwy o bwerau i ni fynd i'r afael â fepio ymhlith pobl ifanc. Mae ein neges am fepio yr un mor glir ag erioed: os nad ydych chi'n ysmygu, peidiwch â fepio.

Ddylai'r cynhyrchion yma byth fod yn nwylo ein plant a'n pobl ifanc. Dyma pam mae cynnydd yn y nifer o bobl ifanc sy'n fepio yn achos pryder mawr, o gofio nad ydyn ni'n gwybod beth yw'r effaith hirdymor, a bod modd mynd yn gaeth i nicotin yn hawdd iawn. Hefyd, mae cynhwysion a allai fod yn niweidiol mewn rhai fêps anghyfreithlon. Mae'r ffordd mae rhai yn cael eu hyrwyddo yn aml, a'r blasau di-ri a'r deunydd pecynnau llachar, yn apelio i blant, fel y stondin losin mwyaf deniadol. Bydd y Bil yn cyflwyno pwerau i gyfyngu ar hyn ar gyfer fêps nicotin a'r rheini heb nicotin.

Wrth gwrs, er mwyn i'r newidiadau gael effaith, bydd angen i ni sicrhau eu bod nhw'n cael eu gweithredu a'u gorfodi'n briodol, yn enwedig i ddelio â gwerthu tybaco a fêps yn anghyfreithlon. Felly, mae'r Bil yn cryfhau'r system orfodi drwy gyflwyno dirwyon yn y fan a'r lle am werthu tybaco a fêps i bobl dan oed yng Nghymru a Lloegr. Bydd hyn yn sicrhau bod swyddogion safonau masnach yn gallu cymryd camau ynghynt. Law yn llaw â'n strategaeth uchelgeisiol Cymru ddi-fwg, mae'r Bil yma yn gam ymlaen ar gyfer iechyd y cyhoedd ac mae ganddo'r potensial i atal salwch, anabledd a marwolaethau. Byddaf i'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau wrth i ni symud ymlaen gyda'r gwaith yma, sy'n hanfodol i'n helpu ni greu cenedl iachach i ni i gyd. Diolch.

15:55

Diolch yn fawr, Ysgrifennydd Cabinet, am eich datganiad. Rwy'n siarad ar y datganiad hwn heddiw yn rhinwedd fy swyddogaeth swyddogol fel Gweinidog yr wrthblaid dros iechyd meddwl a blynyddoedd cynnar, yn hytrach na mewn capasiti personol. Mae'r portffolio iechyd meddwl a'r blynyddoedd cynnar yn cynnwys dibyniaeth.

Yn aml, gall deddfwyr fod yn eithaf swrth wrth ymateb i broblem sy'n ymddangos yn sydyn, a byddwn yn rhoi fepio gan bobl ifanc yn y categori hwnnw. Mae'n bwysig ein bod yn gweithredu'n gyflym gan fod hon wedi bod yn broblem gynyddol ers rhai blynyddoedd, ond rwy'n falch o weld y Bil Tybaco a Fêps yng Nghyfnod y Pwyllgor yn San Steffan, felly mae'n bwysig nad ydym yn cael ein gadael ar ôl yng Nghymru. Heb ddeddfwriaeth debyg yng Nghymru, mae pryder y gallai fod cynnydd yn nifer y bobl ifanc o Loegr sy'n croesi'r ffin i Gymru i brynu sigaréts neu fêps tafladwy.

Wrth siarad am bwysigrwydd creu cenhedlaeth ddi-fwg, byddaf yn sôn yn gyflym am rai o'r ystadegau hynny nawr. Dechreuodd dros 80 y cant o smygwyr cyn eu bod yn 30 oed, llawer ohonyn nhw'n blant, ac amcangyfrifir bod dros 200,000 o blant y flwyddyn yn dechrau smygu yn y DU, a cheir rhywfaint o gysylltiad rhwng smygu a chamddefnyddio sylweddau eraill. Rydym eisoes yn gwybod pa mor ddrwg yw smygu i'ch iechyd. Mae'n cynyddu'r risg o farw-enedigaethau, asthma mewn plant, dementia, strôc, methiant y galon, ac, wrth gwrs, canser.

Rydym eisoes yn ennill y frwydr ar smygu, ond mae'r rheoliad fepio sydd wedi'i gynnwys yn y Bil yn hanfodol. Mae cwmnïau'n marchnata'r cynhyrchion mewn ffordd ddeniadol i apelio at bobl dan 18 oed gyda lliwiau llachar a blasau egsotig. Mae'r fêps tafladwy hyn wedi disodli smygu mewn ysgolion i raddau helaeth, gydag un o bob pump o bobl ifanc o flynyddoedd 7 ac 8 wedi rhoi cynnig ar fepio yn ôl y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion, a 5 y cant o ddisgyblion ysgolion uwchradd yng Nghymru yn fepio o leiaf unwaith yr wythnos. Rhaid i mi bwysleisio bod e-sigaréts yn llwybr cyfreithlon a llwyddiannus ar gyfer rhoi'r gorau i smygu, ond mae eu marchnata tuag at blant yn anghywir, ac mae wedi arwain at nifer fawr o blant yn eu defnyddio. Ein problem ni i'w datrys yw honno nawr.

Mae'r Bil Tybaco a Fêps yn gam hanesyddol ac uchelgeisiol gan y Prif Weinidog i ddatrys y broblem hirdymor hon a sicrhau nad yw ein pobl ifanc byth yn dechrau smygu. Fodd bynnag, hawl oedolyn yw smygu os yw'n dewis gwneud hynny, yn yr un modd hawl unigolyn yw bwyta bwyd sothach neu gymryd rhan mewn unrhyw arfer peryglus arall, ac nid wyf yn tueddu tuag at bolisïau tadol pan ddaw i'r hyn y mae oedolion yn ei wneud gyda'u cyrff eu hunain. Fodd bynnag, o ran marchnata, mewn modd ysglyfaethus, cynhyrchion afiach wedi'u hanelu at blant, mae angen camau gweithredu gan y wladwriaeth. Mae angen gorfodi'r cyfreithiau presennol yn well er mwyn atal pobl ifanc rhag smygu, ond mae hyn hefyd yn dechrau mewn ysgolion lle mae athrawon yn adrodd am faterion plant yn fepio gydag amlder cynyddol. Mae angen i ysgolion fod yn rhagweithiol wrth fynd i'r afael â'r defnydd o'r dyfeisiau hyn, ochr yn ochr â'r camau deddfwriaethol, ac rwy'n gobeithio y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg hefyd yn mynd i'r afael â'r mater hwn.

Mae Plaid Lafur y DU yn cefnogi'r Bil hwn, ac rwy'n falch bod Llywodraeth Lafur Cymru a Llafur Cymru yn gyffredinol yn arddel yr un safbwynt. Rydym yn falch bod yr Ysgrifennydd Cabinet dros iechyd wedi cyhoeddi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn i sicrhau parhad gyda Lloegr a gweinyddiaethau datganoledig eraill wrth weithredu Bil Tybaco a Fêps 2024. Barn y Ceidwadwyr Cymreig yw mai dyma'r penderfyniad cywir i sicrhau iechyd y genhedlaeth nesaf. Diolch yn fawr iawn.

16:00

Diolch yn fawr, Gareth, ac a gaf i eich llongyfarch ar gadw eich rôl? Mewn gwirionedd, rwy'n credu na fydd gan yr hen Rishi Sunak druan lawer i'w ddangos o ran ei waddol, ond mae hyn yn rhywbeth rwy'n credu y bydd, gobeithio, yn rhan o'i waddol. Dyma bron iawn yr unig beth gwerth chweil y mae wedi'i wneud fel Prif Weinidog, oherwydd y ffaith yw bod tybaco yn lladd tua 8 miliwn o bobl ledled y byd bob blwyddyn. Yng Nghymru mae hynny tua 5,600 o farwolaethau'r flwyddyn, ar gost o £302 miliwn. Felly, nid yw hyn heb gost, ac nid yw heb gost, yn amlwg, i'r unigolion, ond nid yw heb gost i ni fel cymdeithas chwaith.

Un o'r pethau rwy'n pryderu fwyaf amdano ar hyn o bryd o ran iechyd yw ein cyfraddau canser. Rwy'n poeni'n fawr iawn am yr hyn sy'n digwydd. Ond un o'r pethau rwy'n poeni fwyaf amdano yw'r gwahaniaethau o ran y canlyniadau i bobl sydd â chanser. Mae cysylltiad uniongyrchol, fel y nodais i yn fy natganiad, rhwng yr ardaloedd hynny sy'n fwy difreintiedig a'r rhai lleiaf difreintiedig o ran cyfraddau canser. Felly, mae tua 22 y cant o bobl yn ein hardaloedd mwyaf difreintiedig yn smygu, a thua 8 y cant yn ein hardaloedd lleiaf difreintiedig, ac mae hynny'n mynd i gael effaith. Mae targedu'r ardaloedd hynny yn mynd i fod yn hanfodol.

O ran fêps, rwy'n cytuno â chi. Rwy'n credu bod angen camau gweithredu gan y wladwriaeth. Mae'n eithaf brawychus o ran nifer y bobl ifanc sydd wedi dechrau fepio, ac yn sicr bydd y gyfraith newydd yn helpu. Gallaf eich sicrhau bod yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg, a oedd, yn amlwg, yn arfer arwain y mater hwn yn flaenorol, rwy'n gwybod, yn mynd i ymdrin â hyn o ddifrif mewn perthynas ag addysg hefyd. Yn amlwg, mae'r Blaid Lafur yn gefnogol iawn o hyn. Mae'n drueni nad oedd mwy o Aelodau Torïaidd yn ei gefnogi pan aeth drwy Dŷ'r Cyffredin.

Fel rwyf wedi sôn sawl gwaith, mae'r agenda ataliol yn ganolog i ddyfodol hirdymor y GIG yng Nghymru, ac ychydig iawn o faterion mwy brys sydd i'r agenda hon fynd i'r afael â nhw na smygu, sy'n parhau i orfodi costau cymdeithasol ac economaidd annioddefol o uchel. Mae smygu yn lladd 5,600 o bobl y flwyddyn yma yng Nghymru, tra bod materion iechyd sy'n gysylltiedig â thybaco yn creu bil o dros £300 miliwn y flwyddyn ar gyfer GIG Cymru. Fel y dangosir gan arolwg diweddaraf ASH Cymru, mae arferion smygu hefyd yn rhedeg ar hyd llinellau dosbarth presennol, gan ymwreiddio anghydraddoldebau iechyd yn ein cymdeithas. Er bod 8 y cant o'r rhai sy'n byw yn y graddau cymdeithasol uchaf yn smygu, mae 17 y cant o'r rhai sy'n byw yn y radd gymdeithasol isaf yn smygwyr. Mae arferion smygu hefyd yn llawer mwy cyffredin ymhlith unigolion sy'n byw mewn tai cymdeithasol, o gymharu â pherchnogion tai. Mae effaith niweidiol mwg ail-law hefyd wedi'i chofnodi'n dda, a chyda tua 13 y cant o oedolion Cymru nad ydynt yn smygu yn byw mewn aelwydydd ag o leiaf un smygwr, mae'r risg y mae defnyddio tybaco yn ei hachosi yn amlwg yn ymestyn ymhell y tu hwnt i'r hyn a wynebir gan y smygwyr eu hunain.

Mae ffigurau o'r fath yn tanseilio'r gwrth-ddadl libertaraidd coegwych bod mesurau i atal smygu rywsut yn ymosodiad ar ryddid personol. Mae cynnal rhyddid personol hefyd yn golygu gwarantu na ddylai unrhyw un orfod datblygu cyflyrau iechyd niweidiol o ganlyniad i weithredoedd pobl eraill, a sicrhau nad yw cenedlaethau'r dyfodol yn cael eu llethu gan y gost gymdeithasol enfawr y mae smygu'n ei hachosi. Ar ben hynny, pan nad yw hi'n cwyno am wladwriaeth ddofn—sydd erbyn hyn, mae'n ymddangos, yn cynnwys y letys enwog a oroesodd yn hwy na'i phrifweinidogaeth—mae Liz Truss wedi dod yn ffigwr blaenllaw o ran y gwrthwynebiad i'r fenter ddi-fwg, sy'n dweud popeth y mae angen i chi ei wybod am ei hygrededd. Os yw hi'n gwrthwynebu, yna mae'n rhaid ei bod yn syniad da.

Felly, rwy'n croesawu'r datganiad heddiw a'r consensws ar draws gwledydd y DU ar y mater hwn. Mae'n amlwg, fel y nodir yn arolwg ASH Cymru, fod awydd eang ymhlith pobl nad ydynt yn smygwyr a smygwyr fel ei gilydd am ddewrder ar y mater hwn. Mae 50 y cant o ymatebwyr wedi dweud nad yw Llywodraeth Cymru yn gwneud digon ar hyn o bryd ar reoli tybaco, sy'n cynnwys 20 y cant o smygwyr presennol. Felly, os ydym am wireddu'r uchelgais o greu Cymru ddi-fwg erbyn 2030, mae'n rhaid i ni fod yn barod i fanteisio ar y fenter yn ddi-oed.

Heb os, mae'r fframwaith deddfwriaethol a ddarperir gan Fil Tybaco a Fêps y DU yn gam i'r cyfeiriad cywir ar bapur, ond yn ymarferol ni all ond fod yn effeithiol os caiff ei ategu gan gamau gorfodi cadarn sydd wedi'u hariannu'n llawn. Felly, byddwn i'n ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog egluro pa sicrwydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gael gan Lywodraeth y DU ynghylch y goblygiadau adnoddau perthnasol i heddluoedd Cymru. Pa mor hyderus yw'r Gweinidog y byddant yn derbyn cyllid ychwanegol i orfodi'r ddeddfwriaeth hon, yn hytrach na chael cais i wneud mwy gyda'r un pot annigonol o arian?

Ac er bod y datganiad yn ymwneud yn bennaf â mesurau sy'n cael eu gweithredu o dan ymbarél deddfwriaeth y DU gyfan, mae'n bwysig hefyd nad yw ysgogiadau datganoledig sydd ar gael i Lywodraeth Cymru yn cael eu hanwybyddu chwaith. Mae'r mater o bobl ifanc yn fepio yn bryder cynyddol ymhlith y cyhoedd, fel yr eglurodd disgyblion Ysgol Glan y Môr ym Mhwllheli i mi yn ddiweddar, yn enwedig o ystyried nad yw'r diwydiant wedi'i reoleiddio i raddau helaeth. Mae'r pwerau i greu cofrestr fanwerthu gyda safonau trwyddedu penodol ar gyfer gwerthwyr fêps wedi'u cynnwys yn Neddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, ond nid ydynt erioed wedi'u defnyddio hyd yn hyn. Felly, a allai'r Gweinidog esbonio'r amryfusedd hwn ar ran Llywodraeth Cymru, a phryd allwn ni ddisgwyl gweld cofrestr manwerthu fêps yn cael ei rhoi ar waith yng Nghymru? Yn olaf, a allai'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr amserlenni tebygol ar gyfer cyflwyno gwaharddiad deddfwriaethol ar fêps tafladwy yng Nghymru, sy'n parhau i achosi costau amgylcheddol sylweddol? Diolch yn fawr.

16:05

Diolch yn fawr. Wel, rwy'n credu, yn gyntaf oll, y dylem ddathlu ychydig o lwyddiant yn y maes hwn. Y gwir amdani yw bod cyfraddau smygu wedi gostwng yn sylweddol dros y 10 mlynedd diwethaf. Felly, yn 2010 roedd 23 y cant o boblogaeth Cymru yn smygu. Heddiw, mae'r ffigur hwn yn 13 y cant. Felly, nid yw'n welliant gwael, ond mae gennym ffordd bell i fynd o hyd, ac mae gennym ni'r uchelgais hon i gyrraedd 5 y cant erbyn 2030. Felly, byddai hynny, mae'n debyg, yn ein gwneud ni'n Gymru ddi-fwg. Dydw i ddim wedi gweithio allan yn union sut mae 5 y cant yn eich gwneud chi'n ddi-fwg, ond dyna ni, dyna maen nhw'n ei ddweud sy'n bosibl—dyna ni.

Yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych yw bod gennym ni gynllun cyflawni clir iawn, felly rwy'n credu ei bod yn annheg dweud nad yw Llywodraeth Cymru yn gwneud digon yn y maes hwn. Rydym yn bendant wedi gwneud cryn dipyn o waith ar yr amgylchedd di-fwg, mae gwelliant parhaus a chefnogaeth o ran arloesi, rydym yn targedu ac yn mynd i'r afael â grwpiau blaenoriaeth, rydym yn mynd i'r afael â'r fasnach anghyfreithlon mewn tybaco ac rydym yn gweithio ledled y DU. Ac, wrth gwrs, mae gennym ni fesurau i gefnogi pobl yn eu hymdrechion i roi'r gorau i smygu.

O ran gorfodi—fe ofynnoch chi am hynny—wrth gwrs, safonau masnachu sy'n gorfod rheoleiddio yn y maes yma, ac, rydych chi'n hollol iawn, mae pawb yn cael ei ymestyn ar hyn o bryd. Felly, wrth gwrs, mae angen i ni sicrhau, pan fyddwn ni'n cyflwyno deddfau newydd, fod gennym ni'r gallu i sicrhau bod yr arian yno. Pobl ifanc yn fepio: fêps, mae'n rhaid iddyn nhw fod wedi cofrestru â'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd, ond, rydych chi'n hollol iawn, ar hyn o bryd does dim gofyniad i gael unrhyw fath o drwyddedu mewn perthynas â gwerthu fêps. Ac nid wyf yn amharod i edrych ar hynny, ond fy nealltwriaeth i yw y gall fod angen rhai pwerau sylfaenol ychwanegol arnom, ac, yn amlwg, mae ein rhaglen ddeddfwriaethol yn eithaf trwm ar hyn o bryd. Ond fel egwyddor, byddwn i'n barod iawn i ystyried a yw hynny'n rhywbeth y gallem edrych arno fel Llywodraeth.

Ysgrifennydd Cabinet, mae'r Pwyllgor Deisebau wrthi'n ystyried dwy ddeiseb ar hyn o bryd. Un ohonyn nhw yw deiseb sy'n galw am waharddiad ar werthu fêps untro, gyda chyfanswm o 455 o lofnodion, ac rwy'n falch bod yr Ysgrifennydd Cabinet dros newid hinsawdd wedi gwneud cyhoeddiad ddoe ar gynnydd gyda dyddiad o—rwy'n credu mai Ebrill 2025 ydoedd. A byddai hynny'n golygu, pan fyddai gwaharddiad yn dod i rym, y byddai deiseb arall yn sicrhau llwyddiant gwirioneddol yma o ran newid polisi.

Derbyniodd yr ail ddeiseb, Ysgrifennydd Cabinet, gyfanswm o dros 9,000 o lofnodion ac roedd yn cyfeirio at yr hyn yr oeddech chi'n cyfeirio ato, Mabon ap Gwynfor, o ran trwyddedu siopau sy'n gwerthu fêps. Maen nhw eisiau sicrhau bod staff wedi'u hyfforddi'n iawn; maen nhw hefyd eisiau sicrhau diogelwch cwsmeriaid. Mae ganddyn nhw bryderon gwirioneddol ynghylch y fêps ffug a hefyd gynhyrchion anghyfreithlon sydd ar gael yn rhy rhwydd i lawer o bobl. Clywais yr hyn a ddywedoch mewn ymateb i Mabon ap Gwynfor, ond efallai y gallai'r Gweinidog ymrwymo i ddiweddaru'r Siambr eto pan fyddwch wedi meddwl mwy am y mater hwnnw. Diolch.

16:10

Diolch yn fawr. Roeddwn i'n falch iawn bod Huw Irranca-Davies wedi gallu gwneud y cyhoeddiad hwnnw, sy'n golygu y byddwn ni'n cael gwared ar y fêps untro hynny yn raddol, a fydd wrth gwrs yn cael mantais ddwbl, nid yn unig i'r amgylchedd, ond yn amlwg gobeithio y bydd yn atal pobl ifanc rhag manteisio ar y cyfleoedd, oherwydd rwy'n credu bod yna duedd gynyddol bryderus yn bendant o ran hynny. Mae tua 5 y cant o bobl ifanc oed ysgol uwchradd rhwng 11 ac 16 oed yn smygwyr rheolaidd; mae 20 y cant ohonyn nhw wedi rhoi cynnig ar fêps, ac mae tua 14 y cant ym mlwyddyn 11 yn fepio bob wythnos. Felly, mae'r rhain yn niferoedd eithaf uchel, rwy'n credu, ac yn amlwg yr hyn nad ydych chi ei eisiau, ac rydw i wedi cael trafodaethau diddorol iawn gyda'r comisiynydd plant yr wythnos diwethaf, sydd hefyd wedi canolbwyntio ar y mater hwn, ac mae hi wedi gwneud gwaith ymchwil diddorol iawn, dim ond siarad â rhai plant am eu pryderon—. Ac un o'r pethau yr oedd hi'n ei ddweud yw eu bod nhw, mewn gwirionedd, yn poeni am y nifer cynyddol, a nifer y plant sy'n methu mynd trwy wers gyfan nawr oherwydd bod angen iddyn nhw gael fêp, felly mae hynny'n wirioneddol bryderus. Felly, mae hyn yn mynd yn ddifrifol, ac rwy'n credu bod hyn yn digwydd ar yr adeg iawn.

Dylwn roi gwybod i chi hefyd fod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi gwneud rhywfaint o ymchwil ar hyn, ac roedd ganddyn nhw grŵp ymateb i ddigwyddiadau. Fe gyhoeddon nhw bapur ar 18 Ebrill, felly dim ond yr wythnos diwethaf, ar y mater penodol hwn, ac un o'r pethau y gwnaethon nhw sôn amdano yn eu hymateb hefyd oedd a oes angen i ni fod yn ystyried trwyddedu siopau sy'n gwerthu fêps. Felly, yn bendant nid yw wedi'i dynnu oddi ar yr agenda; y cwestiwn yw a allwch adael i mi wneud ychydig mwy o ymchwil ynghylch a allai fod yn bosibl trwy is-ddeddfwriaeth—yn amlwg mae'n anoddach os yw'n ddeddfwriaeth sylfaenol—ond fel egwyddor, yn sicr fyddwn i ddim yn gwrthwynebu edrych ymhellach i mewn i hynny.

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet. Dwi'n falch bod y cyn-Weinidog addysg yma hefyd, oherwydd yn sicr un o’r negeseuon gan ysgolion, ond gan blant a phobl ifanc hefyd, ydy faint o broblem ydy hon, a'i bod hefyd yn golygu bod ysgolion, i drio delio efo'r peth, yn cloi tai bach, sy’n golygu wedyn, o ran mislif ac ati, fod diffyg mynediad i dai bach wedyn yn broblem enfawr. Roeddwn i mewn ysgol gynradd yn ddiweddar yma, a dyma'r prif bwnc roedden nhw eisiau siarad efo fi amdano fo, ac yn gofyn, 'Plis wnewch chi wneud rhywbeth?', gan ddweud eu bod nhw'n gallu prynu ar TikTok Shop, felly dydy o ddim jest mewn siopau ond bod TikTok Shop mor hawdd iddyn nhw, bod y blasau wedi cael eu targedu atyn nhw—pethau fel Slush Puppy, er enghraifft—a’i fod o'n rhywbeth y maen nhw wir eisiau gweld gweithredu arno fo gennym ni fel gwleidyddion. Felly, mi wnes i addo, pan fyddwn i'n cael y cyfle i ofyn cwestiwn, y byddwn i'n codi’r pryderon yma, oherwydd mae'r mynediad sydd ar gael rŵan a'r diffyg rheoleiddio o ran y math o vapes—. Yn sicr, mae yna rôl bendant i 'vape-io' o ran helpu pobl i roi'r gorau i ysmygu, ond mae'r problemau mae hyn yn ei greu o ran plant a phobl ifanc rŵan yn sylweddol, a dwi'n meddwl bod ysgolion angen cymorth hefyd.

Felly, gaf i ofyn: a wnewch chi weithio efo'r Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg newydd hefyd i sicrhau bod yna fwy o gefnogaeth i ysgolion o ran sut mae delio efo hyn, a’n bod ni’n edrych ar ymgyrch i godi ymwybyddiaeth ynglŷn â'r pryderon sydd gan ein plant a'n pobl ifanc ni, a'u cefnogi nhw i stopio'u cyd-ddisgyblion rhag bod yn 'vape-io'?

Diolch yn fawr, a dwi'n sicr yn barod i weithio gyda'r Ysgrifennydd addysg ynglŷn â sut gallwn ni fynd ati a rhoi mwy o help i ysgolion i ymdrin â'r mater yma. Yn sicr, mae'n anhygoel bod plant mewn ysgolion cynradd yn siarad fel hyn, ac mae hwnna'n codi pryderon, wrth gwrs. Un o'r pethau bydd y ddeddf newydd yma'n ei wneud yw mynd ati i roi llai o ffocws ar y lliw a'r blas a'r targedu yna, sydd ar gael i blant ac sydd wedi eu targedu at blant. Felly, bydd hwnna yn mynd fel canlyniad i'r ddeddf newydd. Un peth arall sydd werth ei ddweud, efallai, yw bod Canghellor y Deyrnas Unedig wedi rhoi duty ar fêps i ddod i mewn yn hydref 2026, felly bydd cost fêps yn mynd i fyny a bydd hwnna, gobeithio, yn atal plant hefyd rhag prynu fêps yn y dyfodol.

16:15

Hoffwn longyfarch Llywodraeth Cymru ar ei gwaith dros Gymru ddi-fwg a chenhedlaeth ddi-fwg, a hefyd longyfarch Llywodraeth y DU am y camau beiddgar y mae wedi'u cymryd i helpu i greu'r genhedlaeth ddi-fwg honno. Ysgrifennydd Cabinet, o ran cofrestru, fe gafodd ei drafod, mewn gwirionedd, yng nghyfarfod olaf y grŵp trawsbleidiol ar smygu ac iechyd, lle teimlwyd y gallai fod yn bosibl ei wneud o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, lle y gallai'r is-ddeddfwriaeth y soniasoch amdani fel posibilrwydd fod yn rhan ohoni, am wn i. Pwysleisiwyd pa mor bwysig yw cael y cofrestru hwnnw, y system honno i gael rhywfaint o reolaeth dros fanwerthwyr tybaco, fêp a nicotin, oherwydd, yn amlwg, mae'n rhaid i ni fod mewn sefyllfa lle gallwn ni wneud llawer mwy i atal gwerthu fêps yn anghyfreithlon, er enghraifft. Rydym wedi clywed pa mor niweidiol ydynt i'n pobl ifanc, a hoffwn ychwanegu un peth at hynny, Ysgrifennydd Cabinet. A fyddech chi'n cytuno mai un o'r agweddau pryderus iawn yw ymchwil a gynhaliwyd gan wyddonwyr yn Lerpwl lle canfuon nhw fod 29 y cant o fêps anghyfreithlon yn cynnwys plwm, metel y mae Sefydliad Iechyd y Byd yn rhybuddio y gall lefelau uchel o amlygiad iddo effeithio ar ddatblygiad ymennydd ein pobl ifanc? Mae'n mynd yn waeth ac yn waeth, onid ydyw, cyn belled ag y mae fepio a phobl ifanc yn y cwestiwn.

Diolch yn fawr, a doeddwn i ddim yn ymwybodol o'r ymchwil benodol honno, felly mae hynny'n destun pryder mawr. Yn amlwg, mae fêps yn cael eu rheoleiddio gan yr MHRA, ac ni ddylai pobl fod yn—. Yn sicr, os ydyn nhw'n mynd i fepio, yna dylid gwneud yn siŵr ei fod wedi'i drwyddedu gan yr MHRA. Ond mae hynny'n destun llawer iawn o bryder. Rwy'n gwybod eich bod chi wedi bod yn hyrwyddwr tymor hir yn y maes hwn, ac, fel y dywedais, rwyf wedi ymrwymo i edrych ar p'un a allai fod yn bosibl cyflwyno rhyw fath o drwyddedu o dan y deddfau presennol sydd gennym. Ond fyddwn i ddim yn diystyru, yn y dyfodol, yn amlwg—byddai'n anodd yn ystod tymor y Senedd hon—edrych ar p'un a allen ni, os nad yw hynny'n bosibl, ystyried deddfwriaeth sylfaenol yn y maes hwn o bosibl.

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad heddiw. Rwy'n croesawu'r gwaith parhaus rydych chi'n ei wneud i fynd i'r afael â'r broblem felltith o smygu a gofnodir yn dda a'ch gwaith i fynd i'r afael â'r materion iechyd a chymdeithasol sy'n datblygu o ran fepio. Ymwelais â'm hoptegydd yr wythnos diwethaf ac roedd gen i ddiddordeb mewn gweld y gwaith a oedd yn cael ei wneud yno i gyfeirio pobl at wasanaethau rhoi'r gorau i smygu. Rwy'n deall bod y cyfeirio hwn yn rhan o'r contract optometreg, felly, Ysgrifennydd Cabinet, a allech chi ddweud mwy wrthym am y gwaith hwn ar draws pob rhan o GIG Cymru i helpu i gefnogi pobl i roi'r gorau i smygu a sut rydych chi'n monitro ac yn olrhain perfformiad y mentrau hyn? Yn ail, rwy'n croesawu eich dull o fynd i'r afael â fepio ymhlith y rhai nad ydynt erioed wedi ysmygu, yn enwedig ymhlith pobl ifanc. Mae'n amlwg bod hyn yn gofyn am ddull amlochrog sy'n pontio meysydd datganoledig a rhai heb eu datganoli. Felly, yn eich barn chi, Ysgrifennydd Cabinet, gan nodi'r gwaith y mae Llywodraeth y DU wedi'i wneud yn y maes hwn hyd yma, a ydych chi'n credu y bydd y cymysgedd hwn o gyfrifoldebau datganoledig a heb eu datganoli yn ei gwneud hi'n anoddach i chi gymryd y camau rydych chi eu heisiau, neu a ydych chi'n ystyried bod safbwynt Llywodraeth y DU yn ategu a hyd yn oed efallai'n cefnogi gwaith Llywodraeth Cymru yn y maes hwn?

Diolch yn fawr Vikki Howells. Dydw i ddim yn genedlaetholwr. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n rhaid i ni ei wneud yw amddiffyn ein poblogaeth, ac os yw'n golygu y gallwn ni neidio ar gefn yr hyn sy'n digwydd yn San Steffan ar gyfer rhywbeth a fydd o fudd i'r cyhoedd yng Nghymru, felly nid wyf i yn gwrthwynebu hynny o gwbl. Felly, rwy'n falch iawn ein bod ni wedi gallu cydweithio ar hyn ledled y DU gyfan. Felly, rwy'n falch iawn. Ac efallai y bydd meysydd eraill, yn enwedig, efallai, pan gawn ni Lywodraeth Lafur, lle byddwn ni'n gwneud llawer mwy o hynny.

Rwy'n falch iawn o weld bod y contract o ran optometryddion yn gweithio. Mae hyn yn rhan o'n hymdrechion i weld bod pob cyswllt yn cyfrif, a pham na fyddem ni'n manteisio ar y cyfle, pan fydd gan unrhyw berson iechyd cyhoeddus y cyswllt hwnnw â'r cyhoedd, i siarad am bethau eraill ar wahân i'r hyn y maen nhw wedi dod i mewn ar ei gyfer? Ac felly rwy'n falch iawn, iawn o glywed ei fod yn digwydd ar lawr gwlad, ei fod yn gwneud gwahaniaeth a bod y contract optometreg newydd yn gweithio'n dda. Felly, diolch yn fawr.

16:20
5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg: Ein dyfodol economaidd

Eitem 5 yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg, ein dyfodol economaidd. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Jeremy Miles.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Sail ein cenhadaeth economaidd yw sicrhau tegwch wrth bontio i ddyfodol cynaliadwy lle mae gwaith teg yn ganolog. Mae hyn yn cynnwys sicrhau cyfleoedd da ar gyfer pobl ifanc, buddsoddi yn y sgiliau a'r arloesi sydd eu hangen arnom i ffynnu yn y dyfodol a gweithio gyda'n partneriaid rhanbarthol ac eraill. 

Wth inni edrych tuag at y blynyddoedd nesaf, rhaid inni geisio tyfu ein heconomi mewn modd gwirioneddol gynaliadwy, gan greu rhagor o gyfleoedd ar gyfer gwaith â thâl da a lefelau uwch o ffyniant. Bydd hyn yn ein galluogi i gynyddu safonau byw, gwella canlyniadau iechyd, ymateb i'r argyfwng hinsawdd, herio tlodi a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau—amcanion sydd wrth wraidd ein nodau ehangach fel Llywodraeth. Er mwyn cyrraedd ein nod o fod yn wlad dosturiol rhaid hefyd fod yn wlad ffyniannus.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Rydym eisiau i'n hentrepreneuriaid, busnesau a'n gweithlu ffynnu ym mhob rhanbarth yng Nghymru. Er mwyn cyflawni hyn, rwyf eisiau i ni osod uchelgais feiddgar i wneud Cymru y lle gorau i ddechrau, i fuddsoddi ynddo a thyfu busnes yn y Deyrnas Unedig, a chyfleu hynny'n glir yng Nghymru a'r tu allan iddi.

Fy mlaenoriaeth gyntaf yw cynyddu ein cynhyrchiant a'n dynamiaeth economaidd, gan adeiladu ar ein hymyriadau mewn sgiliau, arloesedd, entrepreneuriaeth a chymorth allforio a gwaith y banc datblygu, gan sicrhau mai ein darpariaeth cymorth busnes yw'r un fwyaf effeithiol. Bydd alinio gwaith prifysgolion, buddsoddwyr, entrepreneuriaid, busnesau presennol a'r Llywodraeth â'n blaenoriaethau economaidd allweddol yn cefnogi hyn. Ac mae'n rhaid i ni wneud hyn yng nghyd-destun ein hymrwymiad clir i waith teg ac i bartneriaeth gymdeithasol gydag undebau a chyflogwyr, os ydym am gyflawni ein nodau cymdeithasol ehangach. Nid yw'r dulliau i gynyddu cynhyrchiant i gyd yn nwylo Llywodraeth Cymru, ond bydd y rhai sydd yn ei dwylo yn cael eu defnyddio'n benderfynol.

Fy ail flaenoriaeth yw denu ac annog buddsoddiad busnes yng Nghymru, mewn busnesau sefydledig yng Nghymru a gan fuddsoddwyr newydd. Bydd hyn yn creu swyddi newydd da ac yn ysgogi twf mentrau Cymru o bob maint, cadwyni cyflenwi a chadwyni gwerth. Yn realistig, ni all hyn ymwneud â chefnogaeth uniongyrchol gan arian cyhoeddus yn unig, er y gall hynny fod yn bwysig. Bydd angen ymdrech gydweithredol o fewn a rhwng pob haen o'r llywodraeth a dull gweithredu penodol o ymdrin â sectorau a blaenoriaethau sy'n cyd-fynd â'n hasedau presennol.

Fy nhrydedd flaenoriaeth yw ailgynllunio ein cymorth cyflogadwyedd a sgiliau, helpu ein gweithlu a'r rhai sy'n chwilio am waith, yng nghyd-destun realiti sy'n newid a'n hymrwymiad i waith teg. Mae sgiliau'n hanfodol i wella cynhyrchiant ac yn hanfodol i gyflawni'r cyfleoedd economaidd wrth bontio i Gymru sero net. Bydd gweithredu ein cynllun sgiliau sero net yn helpu i gyflawni pontio teg, a bydd diffinio ein hanghenion sgiliau cenedlaethol yn glir ar draws yr economi ar gyfer y dyfodol yn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau i wireddu'r cyfleoedd a ddaw. Mae hyn yn cynnwys alinio blaenoriaethau economaidd, ein sgiliau a'n darpariaeth prentisiaethau a'n cynnig addysg alwedigaethol yn ddi-dor. Rydym yn wynebu heriau sylweddol yn y farchnad lafur. Mae gweithgarwch economaidd yn fater parhaus i ni yng Nghymru. Mae'r galw am raglenni cyflogaeth a sgiliau yn uchel yn barhaus, felly mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod yn gallu ymateb.

Mae'n rhaid i ni arwain y chwyldro diwydiannol presennol yn ein system ynni i ddod â phontio teg i system ynni carbon isel, ac i ysgogi economi gylchol i ganolbwyntio ar gyfleoedd economaidd ac amgylcheddol. Bydd dod â'r economi a'r portffolios ynni at ei gilydd yn hwyluso ein gwaith i wneud hyn, gan roi ein dyfodol ynni gwyrdd wrth wraidd ein polisi economaidd.

Daw'r holl flaenoriaethau uchod ynghyd i fynd i'r afael â'r cyfleoedd hynny o amgylch y pontio ynni hwn, gyda buddsoddiad newydd mewn ynni adnewyddadwy a thrawsnewid diwydiannol i sicrhau'r ynni carbon isel cost isel a fydd yn hanfodol i'n busnesau a'n cymdeithas ehangach. Mae'r cyfleoedd o wynt arnofiol ar y môr yn dangos y wobr enfawr i Gymru, a byddwn yn symud yn gyflym ac yn ymateb i hyn yn sionc fel nod Llywodraeth Cymru gyfan.

Mae ein cyfyngiadau ariannol parhaus a'r ansicrwydd gwleidyddol ac economaidd parhaus ar lefel y DU a thu hwnt yn gwneud y nodau hyn yn heriol. Mae gwaddol ymadael â'r UE, y pandemig a'r cyfyngiadau cyllidebol parhaus wedi gwanhau'r economi. Mae'r ffaith fod cynhyrchiant y DU wedi arafu wedi effeithio ar allbwn, cyflogau ac incwm cartrefi, ac roedd yr anghydraddoldebau hyn eisoes yn fwy acíwt yng Nghymru cyn y cyfnod hwn. Mae hyn wedi arwain at gostau ychwanegol i fusnesau, heriau i allforio a masnach ryngwladol, a phwysau newydd ar gapasiti'r Llywodraeth. Mae hyn yn cynnwys methiant polisïau ffyniant bro Llywodraeth y DU a'i haddewid toredig i sicrhau cyllid i ddisodli cronfeydd yr UE. Yn hytrach, mae wedi anwybyddu Llywodraeth Cymru a'r Senedd hon ac wedi gwarafun cyllid hanfodol i ni i gefnogi cyfleoedd strategol ar gyfer twf.

Y pryder mwyaf amlwg ar hyn o bryd, wrth gwrs, yw'r posibilrwydd o golli swyddi yn Tata, a byddaf yn sicrhau y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi ein gweithwyr a'n hundebau i wneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu swyddi a'n diwydiant dur yng Nghymru. Disgwylir etholiad cyffredinol yn y DU o fewn y misoedd nesaf, gyda phosibilrwydd go iawn o bolisi economaidd gwell a thecach gan Lywodraeth newydd yn y DU.

Mae mentrau cydweithio megis porthladdoedd rhydd, parthau buddsoddi a bargeinion dinesig a thwf yn cynnig gwell siawns o lwyddo na Llywodraeth y DU yn osgoi Llywodraeth Cymru, ac mae cydweithio'n agos â llywodraeth leol a chyd-bwyllgorau corfforaethol yn hanfodol i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd economaidd sydd o'n blaenau. Rydym wedi bod yn gweithio gyda'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ar sut y gallwn weithio mwy ar y cyd mewn datblygu rhanbarthol ar draws gwahanol lefelau o lywodraeth. Wrth edrych i'r dyfodol, byddwn yn defnyddio'r gwaith hwn i sicrhau ein bod yn cyd-fynd yn agos â mentrau cyllido, ein blaenoriaethau economaidd cenedlaethol a'n hymrwymiad i bartneriaeth ranbarthol.

Yn olaf, mae polisi economaidd a'r Gymraeg wedi cael eu cynnwys o fewn yr un portffolio am y tro cyntaf, a bydd hyn yn cefnogi ein gwaith datblygu economaidd mewn cymunedau lle mae’r Gymraeg yn cael ei siarad yn helaeth. Rydym ni'n gwybod bod iechyd economaidd y cymunedau hynny'n hanfodol er mwyn i'r Gymraeg ffynnu yn y dyfodol. Rŷm ni eisoes yn ehangu menter Arfor ac yn hwyrach eleni bydd adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg yn helpu i lywio ein gwaith yn y dyfodol mewn perthynas â'r economi bob dydd, perchnogaeth cyflogeion a chymunedau, a chyfleoedd economaidd ehangach ar gyfer y cymunedau hynny.

Mae sicrhau twf economaidd gwirioneddol gynaliadwy, a'r gallu y mae'n ei gynnig i gyfrannu at ein hagenda polisi ehangach, yn gofyn am ddull gweithredu traws-Lywodraethol cydlynol er mwyn cyflawni ein polisïau, ac yn yr wythnosau nesaf byddaf yn gweithio gyda Gweinidogion eraill i’r perwyl hwn. Byddwn ni hefyd yn adnewyddu ein dull ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid ar draws portffolio'r economi, gyda threfniadau newydd ar waith er mwyn inni sicrhau bod gennym ni fynediad at gyngor allanol priodol, yn ogystal â her adeiladol.  

16:25

Croesawaf yr Ysgrifennydd Cabinet newydd i'w rôl, er fy mod yn dychmygu bod rôl wahanol y byddai wedi dymuno ei chael. Rwy'n siŵr y byddwch wrth eich bodd fy mod yn mynd i barhau i gael y cyfle i fynd yn eich erbyn yn eich portffolio newydd.

Mae economi Cymru yn tanberfformio, ac mae pobl Cymru ar eu colled oherwydd hyn. Roedd hyd yn oed gydnabyddiaeth o hyn yn eich maniffesto, a ddywedodd:

'Nid oes llwybr i'r wlad fwy tosturiol yr ydym eisiau i ni fod, nad yw'n mynd drwy'r wlad fwy ffyniannus y mae angen i ni fod.'

A byddwn yn cytuno: mae angen newid arnom—newid yn y ffordd yr ydym yn ymdrin â'r economi yng Nghymru, a newid yn y ffordd yr ydym yn rhoi sgiliau i'n gweithlu. Os edrychwn ni ar rai o'r ystadegau diweddar a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, yna gwelwn pam y mae angen newid arnom. Mae ffigurau'r Llywodraeth hon yn dangos cynnydd mewn diweithdra sy'n cyfateb i gynnydd o bron i 3,000 o bobl ddi-waith yn y tri mis cyn mis Chwefror. Mae hynny'n gyfradd sydd tua 60 y cant yn uwch na chyfartaledd y DU—tuedd bryderus, er bod lefelau diweithdra yn parhau'n isel.

Yr hyn sy'n peri pryder, fodd bynnag, yw cyfraddau anweithgarwch economaidd a chyflogaeth. Rydych chi'n nodi'n gywir fod anweithgarwch economaidd yn fater parhaus, ond ar ôl 25 mlynedd o Lafur, mae'r ffigurau hyn yn eithaf syfrdanol. Yng Nghymru, cyfradd anweithgarwch economaidd yw 26.2%, cynnydd o bron i 2% mewn tri mis yn unig. Mae Prif Weinidog y DU wedi amlinellu rhai cynigion ynghylch sut mae Llywodraeth y DU yn bwriadu mynd i'r afael â'r broblem hon, felly byddwn yn gofyn pa gynlluniau sydd gennych i ostwng y ffigur uchel hwn, gan gofio ei fod bron 27 y cant yn uwch na chyfartaledd y DU, ac yn codi deirgwaith mor gyflym. Yn sicr, rhaid i'r gwaith o ymdrin â'r materion hyn fod yn flaenoriaeth. Mae anweithgarwch economaidd yn brifo pawb: nid yw'n cynhyrchu cyfoeth—cyfoeth sydd ei angen arnom i ariannu ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol—ac mae'n dwyn potensial oddi wrth ein pobl ifanc a allent fel arall fod yn cyfrannu at gymdeithas a'u llesiant eu hunain, oherwydd y tu ôl i bob un o'r ystadegau hyn mae person.

Un ffordd o helpu ein pobl ifanc yn sicr yw darparu prentisiaethau sy'n cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr. Felly, gofynnaf i chi, Ysgrifennydd Cabinet: ble ydym ni o ran cyllido darparwyr sy'n cynnig llwybrau galwedigaethol i mewn i ddiwydiant? Dim ond yr wythnos diwethaf siaradais â PeoplePlus Cymru, sy'n pwysleisio pwysigrwydd hyfforddiant sgiliau sy'n berthnasol i'r gweithlu mewn gwirionedd, gan sicrhau eu bod yn barod am swydd. Ond pan fyddwn yn siarad am fod yn barod am swydd pan fyddant yn gadael hyfforddiant, yna mae angen swydd go iawn arnynt i fynd iddi. Ni wnaeth eich rhagflaenydd osod targedau ar gyfer creu swyddi—mewn gwirionedd, dim ond un swydd yr oedd eisiau ei llenwi erioed. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, a gaf i ofyn i chi gyflwyno targedau creu swyddi wrth symud ymlaen, oherwydd rwy'n credu y byddai hwn yn fesur a fyddai'n cael ei groesawu yn y Siambr hon, ac ar draws diwydiannau yma yng Nghymru?

Rydych chi'n sôn am ynni adnewyddadwy a'r cyfleoedd y mae hwnnw'n eu cyflwyno i Gymru. Mae angen sicrhau ein bod yn hyfforddi digon o bobl ifanc nawr i lenwi'r bylchau sgiliau a fydd yn ymddangos yn y dyfodol. Rwy'n cytuno pan ddywedwch fod sgiliau yn hanfodol ar gyfer ein cyfle economaidd, felly a wnaeth Llywodraeth Cymru unrhyw asesiad o faint o weldwyr, gwneuthurwyr, peirianwyr, swyddogion cynllunio neu unrhyw broffesiynau eraill sydd eu hangen i gyflawni'r ystod o brosiectau yma yng Nghymru? Os nad ydym yn gwybod faint sydd eu hangen arnom, yna sut allwn ni sicrhau ein bod ni'n hyfforddi digon i wireddu'r cyfleoedd hyn?

Rwy'n gwerthfawrogi'r sôn am borthladdoedd rhydd a gwynt arnofiol ar y môr yn eich datganiad, a byddwn yn gobeithio y gellir meithrin perthynas waith gadarnhaol ar faterion fel y rhain, sy'n pontio'r llinell rhwng elfennau a gedwir yn ôl a'r elfennau a ddatganolwyd. O ran Tata, byddwn yn gofyn a all yr Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau, yn wahanol i'w ragflaenydd, a oes unrhyw gymorth ariannol neu gyfraniad yn cael ei wneud tuag at y bwrdd pontio.

Y pwynt nesaf—ac mae'n wir yn flin gen i ddweud hyn, a dylai'r Llywodraeth hon deimlo cywilydd—yw bod Cymru bellach yn olaf yn y DU o ran cyflog canolrifol, ar ôl disgyn y tu ôl i Ogledd Iwerddon y llynedd. Rydych chi'n dweud yr effeithiwyd ar gyflogau oherwydd bod economi'r DU wedi arafu, ond mae gweithwyr Cymru wedi mynd adref â llai o arian na'u cymheiriaid yn unrhyw le arall yn y DU ers amser maith. Rydych hefyd yn dweud eich bod eisiau i Gymru fod y lle gorau i ddechrau busnes. Felly, a gaf i ofyn, Ysgrifennydd Cabinet, pa gynllun sydd gennych chi i ddenu a darparu swyddi sy'n talu'n uwch i economi Cymru a mwy o fusnesau yn gyffredinol? Yma yng Nghymru, fe wnaethon ni lofnodi'r siec £1 miliwn gyntaf erioed, ond ar hyn o bryd, dim ond un cwmni FTSE 100 sydd gennym ni.

Felly, Ysgrifennydd Cabinet, a fyddwch chi'n cadw at eich addewid maniffesto personol sef bod angen i ni fod yn genedl fwy ffyniannus? Oherwydd bod y cyfleoedd yng Nghymru, ar draws ystod o sectorau a diwydiannau, wir yn gwneud imi deimlo'n gyffrous o ran sut y gallai Cymru edrych, sut y dylai dyfodol Cymru edrych. Drwy ailadrodd yr un camgymeriadau â rhagflaenwyr gweinidogol bydd Cymru'n parhau i fod â photensial heb ei wireddu, bydd Cymru'n parhau i fod ar ei hôl hi o gymharu â gweddill y DU, a bydd Cymru'n parhau i danberfformio, pan ddylai berfformio'n well mewn gwirionedd. Diolch, Llywydd.

16:35

Diolch i Samuel Kurtz am ystod eang iawn o gwestiynau, ac rwy'n ei groesawu i'w gyfrifoldebau newydd. Edrychaf ymlaen yn fawr at ein trafodaethau ar draws y Siambr, ac efallai y tu allan i'r Siambr o bryd i'w gilydd hefyd.

Rhagosodiad cwestiynau'r Aelod oedd bod Cymru yn wlad annibynnol sydd â rheolaeth lwyr dros yr holl ysgogiadau sy'n dylanwadu ar yr economi. Mae'r patrwm y bydd wedi sylwi arno mewn perthynas ag anweithgarwch economaidd yn un sy'n cael ei ailadrodd ledled y DU, yn ogystal â nifer o'r ystadegau eraill y cyfeiriodd atynt. Mae angen i ni fod â Llywodraeth yn San Steffan sydd â'r un ymrwymiad ag sydd gennym yng Nghymru i dyfu ein heconomi'n gynaliadwy a sicrhau gwaith teg ym mhob rhan o'n gwlad.

Siaradodd am anweithgarwch economaidd. Nodais fel un o'm tair blaenoriaeth yn fy natganiad, adnewyddiad o'n cymorth cyflogadwyedd a sgiliau a fydd yn mynd at wraidd cefnogi'r unigolion hynny sydd bellaf o'r farchnad lafur gyda'r cymorth sydd ei angen arnynt er mwyn gallu dychwelyd i'r gwaith ac adeiladu gyrfaoedd llewyrchus drostynt eu hunain. Rwy'n credu bod hynny'n ddull llawer gwell na'r dull trwsgl a amlinellodd Prif Weinidog y DU i ymdrin â nodiadau ffitrwydd a nodiadau salwch yr wythnos hon, sy'n ffordd llawer mwy creulon o fynd i'r afael â her gymhleth iawn, a bydd wedi fy nghlywed yn siarad am hynny yn fy natganiad.

Rydym yn falch iawn o'n gwaith yn Llywodraeth Cymru i gefnogi prentisiaid ledled Cymru. Mae gennym dargedau uchelgeisiol mewn cysylltiad â hynny. Maent wedi bod yn heriol i'w cyflawni, ond mae ein hymrwymiad i fod â rhaglen brentisiaeth ledled Cymru sy'n darparu ar gyfer unigolion, ond hefyd ar gyfer yr economi, mor gryf ag erioed. Rydym wedi gwneud cyfres o ddiwygiadau o ran sut y byddwn yn bwrw ymlaen â phrentisiaethau yn y dyfodol gyda Chomisiwn newydd ar gyfer Addysg Drydyddol ac Ymchwil. Bydd hynny'n ein helpu i fod â dull ystwyth, hyblyg, dull ymatebol, o ddarparu prentisiaethau yn y dyfodol.

Mae'n iawn i ddweud bod cael y cyfuniad cywir o sgiliau ar gyfer y dyfodol yn hanfodol er mwyn i ni allu manteisio ar y cyfleoedd hynny ac, yn hollbwysig, cysylltu'r cyfleoedd hynny â bywydau pobl yng Nghymru, gan sicrhau ein bod yn rhoi cyfle i bob person yng Nghymru rannu yn y dyfodol hwnnw o ffyniant. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn gallu mapio anghenion ein heconomi yn y dyfodol, fel y gallwn deilwra ein darpariaeth heddiw at y diben hwnnw, ac mae cyfle i ni weithio gyda'n partneriaethau sgiliau rhanbarthol i gael darlun cenedlaethol o sut rydym yn gwneud hyn. Mae enghraifft dda a fydd yn agos at ei galon mewn cysylltiad â gwynt arnofiol ar y môr, lle rydym eisoes yn mapio'r gadwyn gyflenwi a'r proffil sgiliau sydd eu hangen er mwyn gwneud hynny.

Gofynnodd imi tua diwedd ei gwestiynau, mewn cysylltiad â'r sefyllfa yn Tata, pa gefnogaeth yr ydym yn ei ddarparu. Gadewch i mi fod yn glir: mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi, drwy fuddsoddiad cyfalaf a chymorth sgiliau, y gwaith dur ym Mhort Talbot ers blynyddoedd lawer. Rydym wedi bod yn pwyso ers 14 mlynedd ar Lywodraeth y DU i gymryd dyfodol dur o ddifrif a chynllunio ar gyfer pontio i gynhyrchu mwy gwyrdd, a dim ond yn ystod y misoedd diwethaf y mae hynny wedi dwyn ffrwyth, er ein bod wedi eirioli dros hynny ers dros ddegawd. Rhan o'r rheswm pam nad ydym yn gallu bod yn benodol iawn ar hyn o bryd ynghylch lefel y galw y byddwn yn anochel yn ei wynebu ar y cymorth cyflogadwyedd a ddarparwn yw oherwydd nad oes gennym fanylion y cytundeb rhwng Llywodraeth y DU a Tata. Nid yw hyn wedi'i ddarparu i ni. Felly, mae'r mapio sydd ei angen er mwyn i ni allu nodi hynny'n fanwl heb ei rannu â ni. Rwy'n gobeithio y bydd hynny'n newid, ond mae gennym raglenni cymorth cyflogadwyedd a fydd ar gael i weithwyr Tata, a byddwn yn dal i frwydro i gefnogi'r swyddi hynny a gweithio gyda'n cydweithwyr yn yr undebau a'r gweithlu yno i sicrhau bod y swyddi hynny'n cael eu diogelu cyn belled ag y gallwn, a byddwn yn camu i mewn i gefnogi, fel gwnaethom ni yn y gorffennol.

Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd Cabinet, ac am nodi eich blaenoriaethau. Ar yr wyneb, nid oes llawer y byddwn yn anghytuno â nhw yma, sydd ychydig yn rhwystredig fel llefarydd ar ran yr wrthblaid. I fod yn deg, nid oes llawer yma y gallai unrhyw un anghytuno â nhw. Yn ei hanfod, rhestr o nwyddau economaidd yr hoffai'r Llywodraeth eu gweld yng Nghymru sydd yma, ond nid oes cynllun gwirioneddol o ran sut y bydd y nwyddau hynny'n cael eu darparu, dim map ffordd, dim arwyddbyst a dim synnwyr manwl gywir o'r cyrchfan terfynol. Mae sectorau ar draws yr economi wedi bod yn galw am strategaeth ddiwydiannol gynhwysfawr ac ystyrlon ers blynyddoedd bellach, felly rwy'n gobeithio y gwelwn hyn yn fuan.

Trof yn awr at sylwedd y datganiad. Bydd yr heriau a'r cyfleoedd yn economi werdd Cymru yn cael eu rheoli gan ddau beth. Mae cynhyrchu ynni a chapasiti'r grid yn un ohonynt, a dyna pam rwy'n croesawu gweld ynni'n dod o fewn portffolio'r Ysgrifennydd Cabinet. Yr ail un, wrth gwrs, yw sgiliau a chynllunio'r gweithlu, ac rwy'n croesawu'r ffaith ei fod yn cydnabod hynny.

Mae sefydliadau fel Ffederasiwn y Busnesau Bach a'r Sefydliad Ffiseg wedi bod yn glir ers peth amser ynghylch y prinder sgiliau clir yn y dechnoleg werdd a'r sectorau cysylltiedig. Mae hyn yn golygu bod angen i ni fynd i'r afael â'r mater ac mae hynny'n golygu deall yn glir ble mae uchelgais y Llywodraeth o ran hyn. Rwy'n gwybod y bydd y Llywodraeth yn pwyntio at y cynllun gweithredu sero net, ac er bod hyn yn gosod y sylfeini, os siaradwch â'r sector addysg bellach, maent yn dal i fod yn y niwl o ran beth yn union y mae'r Llywodraeth eisiau iddynt ei wneud—pa gyrsiau i'w cynnig, ac ati.

Clywsom gan lefarydd y Ceidwadwyr am sgwrs a gafodd gyda darparwr AB. Wel, dywedodd un darparwr AB wrthyf ei bod yn sefyllfa ar hyn o bryd o roi bys yn yr awyr, gweld pa ffordd mae'r gwynt yn chwythu, a gobeithio am y gorau. Nid yw hynny'n fy ngwneud yn obeithiol iawn y byddwn yn mynd i'r afael â'r oedi cynyddol yn yr agenda sgiliau gwyrdd. Mae'n un o'r rhesymau pam rwy'n credu bod angen archwiliad sgiliau blynyddol, a synhwyrais o'r hyn yr oedd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ei ddweud ei fod yn meddwl ar hyd yr un llinellau—archwiliad sgiliau sy'n edrych ar ble mae'r bylchau, lle mae'r cyrsiau perthnasol ar gael a lle nad ydynt ar gael, ac yna defnyddio'r data hwnnw fel sail ar gyfer gweithredu. Os felly, mae croeso mawr i hynny.

Nawr, rydych chi wedi sôn am dargedau ac uchelgeisiau ar gyfer prentisiaethau. Wel, os ydym yn cyplysu'r hyn rwyf newydd ei ddweud am gyfeiriad a chynllunio'r gweithlu gyda'r cyhoeddiadau a ddaeth o'r gyllideb ynghylch cyllid prentisiaeth, mae'r darlun hyd yn oed yn waeth. Rydym eisoes wedi ailadrodd y dadleuon ynghylch colli arian yr UE. Nid yw hynny'n tynnu oddi wrth raddfa'r her a'n gallu i'w goresgyn heb ddigon o gapasiti i greu mwy o leoedd prentisiaeth. Rydym wedi crybwyll o'r blaen yr heriau a ddaw yn sgil yr ardoll brentisiaethau hefyd.  

Felly, a gaf i ofyn am rywfaint o eglurder, os gwelwch yn dda, ynghylch i ba gyfeiriad yr ydych yn gweld strategaeth prentisiaethau yn mynd? Rwy'n credu efallai eich bod eisoes wedi cael gwahoddiad gan y grŵp trawsbleidiol prentisiaethau i ddod i un o'n cyfarfodydd. Os nad ydych wedi ei gael, fe wnaf sicrhau eich bod yn cael y gwahoddiad, a chymerwch hwn fel gwahoddiad swyddogol. Mae llawer o ewyllys da ar draws y Siambr hon o ran prentisiaethau i gael hyn yn iawn. O'r cwestiynau a ofynnwyd gan Sam Kurtz yn flaenorol, rwy'n gobeithio bod hynny'n glir iawn. Rydym i gyd yn barod i dynnu i'r un cyfeiriad yma; dim ond cael gwybod i ba gyfeiriad sydd ei angen arnom.

Wrth gwrs, mae Tata Steel yn parhau i fod yn un o'r heriau mwyaf a wynebir yn y portffolio hwn, a dim ond y prynhawn yma cefais i a'm cyd-Aelodau ddeiseb i achub ein diwydiant dur gan weithwyr Unite. Ac rwyf am ddatgan ar gyfer y cofnod, Llywydd, fy mod yn eistedd ar fwrdd pontio Port Talbot. Rwy'n gwybod, fel ambell un ohonom ni yma, ei fod yn ymwybodol iawn o'r sefyllfa. Rwy'n gwybod ei fod hefyd yn adnabod pobl yn y gweithlu yno hefyd. Sut ydym ni fel Senedd, nid yn unig Llywodraeth Cymru, ond sut ydym ni fel Senedd yn parhau i gefnogi'r gweithwyr hynny, fel y mae'n ei nodi yn ei ddatganiad? A oes unrhyw beth y mae angen iddo ei wneud yn wahanol i'w ragflaenydd, er enghraifft? A yw wedi ystyried rhai o'r syniadau a gyflwynwyd gan aelodau Plaid Cymru, fel y syniad a gyflwynwyd gan Adam Price ynglŷn â defnyddio'r system gynllunio i amddiffyn y ffwrneisi chwyth? Byddai croeso mawr i rai sylwadau ganddo ar hynny.

I gloi, Llywydd, rwyf am ddychwelyd at sut yr agorais fy nghyfraniad a'r ffaith nad oes llawer iawn i anghytuno â nhw yn y datganiad hwn. Mae'r hyn mae'n ei ddweud am flaenoriaethu cynhyrchiant rwy'n credu yn bwysig. Mae cyfeirio at gyngor allanol, gweithio gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol, unwaith eto'n bwysig. Rydym yn gwybod ei bod yn anodd dod o hyd i ddata penodol i Gymru ar yr economi. Mae'r hyn sydd ar goll yma, serch hynny, yn broblem sy'n gyffredin i bron pob un o ddatganiadau Llywodraeth Cymru ac yn enwedig y rhai yr ydym wedi dod i arfer â nhw ym mhortffolio'r economi, a dyna sut yr ydym yn mesur llwyddiant. Roeddwn yn feirniadol iawn o'r genhadaeth economaidd a nodwyd gan ragflaenydd yr Ysgrifennydd Cabinet oherwydd ei bod yn amwys. Nid oedd unrhyw dargedau penodol na mesuradwy. Nid oedd unrhyw synnwyr o sut y byddai'r Llywodraeth yn ceisio ei chyflawni. Dim ond ail-lunio datganiadau, strategaethau a fframweithiau blaenorol oedd yma. Felly, a gaf i ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet gefnu ar y traddodiad hwnnw a bod yn uchelgeisiol, bod yn benodol ac, yn olaf, amlinellu sut y bydd yn ceisio mesur llwyddiant o'i gymharu â'r weledigaeth a amlinellodd y prynhawn yma?

16:40

Diolch i Luke Fletcher am y sylwadau yna ac am y croeso cychwynnol, o leiaf, a roddodd i'r datganiad a'r tir cyffredin a nododd. Byddwn yn anghytuno ag ef mewn cysylltiad â'i sylwadau agoriadol. Gallwch weld mewn unrhyw nifer o'r dulliau yr ydym wedi'u mabwysiadu dros y blynyddoedd ddull clir o ymdrin â'r blaenoriaethau y byddwn yn eu cynnig yn yr economi yng Nghymru. Felly, y cynllun gweithredu gweithgynhyrchu, soniodd ei hun am y cynllun gweithredu sgiliau sero net, sy'n dal yn ei gamau cynnar, ac roeddwn i mewn coleg yn, rwy'n credu, etholaeth Sam Kurtz yn ddiweddar iawn—etholaeth Paul Davies, mewn gwirionedd, maddeuwch i mi—pan oeddwn i'n trafod gyda'r coleg y berthynas agos sydd ganddyn nhw gyda'r sector ynni adnewyddadwy lleol, a oedd yn cefnogi prentisiaethau a darpariaeth sgiliau, ac roeddent yn dangos dealltwriaeth fanwl a soffistigedig iawn o anghenion y sectorau y maent yn eu blaenoriaethu yn y rhan honno o Gymru. Mae'r math hwnnw o weithio agos rhwng y sector a darparwyr addysg bellach yn hanfodol er mwyn gallu gwneud cynnydd yn yr hyn sydd, wedi'r cyfan, yn sector sy'n newid yn gyflym iawn. Ac weithiau, nid yw'n ymwneud â chymhwyster newydd, mae'n ymwneud ag addasu sgiliau presennol i gyd-destun newydd, gan sicrhau y gellir eu cymhwyso yn y ffordd honno. Mae hynny'n rhan o'r rheswm pam mae'r cyfrifon dysgu personol wedi'u teilwra tuag at sgiliau sero net a sgiliau digidol er mwyn annog darpariaeth drwy golegau AB i gefnogi'r sectorau hynny.

Mae cyngor da i'r Llywodraeth yn adolygiad Lusher, a edrychodd ar y ddarpariaeth sgiliau i'r dyfodol, yn y ffordd yr oedd Luke Fletcher yn awgrymu y dylem fwrw ymlaen. Rydym wedi ymateb i hynny mewn ffordd groesawgar iawn. Rwy'n credu bod cyfle i alinio blaenoriaethau economaidd, darpariaeth sgiliau, darpariaeth prentisiaethau, y soniodd amdanynt, a sut rydym yn darparu addysg a hyfforddiant galwedigaethol, fel ei fod yn gyfanwaith di-dor. Rwy'n credu bod hynny'n dod yn fwyfwy pwysig yn y sectorau hynny o'r economi sy'n datblygu'n gyflym, fel y mae hwn. Ond rwy'n credu ei bod yn iawn dweud bod gallu gwneud hynny'n hanfodol er mwyn gallu manteisio ar y cyfleoedd hynny yn y dyfodol.

Nid wyf yn credu y gall rhywun ddiystyru—efallai nad oedd yn ei ddiystyru—arwyddocâd effaith colli cyllid yr UE ar ein dull o gefnogi sgiliau a chefnogi prentisiaethau; mae wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i'r pwysau ar y Llywodraeth. Ac mae ein huchelgeisiau yn dal i fod fel yr oedden nhw; maen nhw mor gryf ag erioed, fel y dywedais yn fy atebion cynharach i gwestiynau. Felly, yr her sy'n ein hwynebu yw sicrhau bod hynny'n cael ei ariannu i'r graddau mwyaf posibl. Rydym wedi bod â heriau yn y gyllideb, ond bydd yr Aelod hefyd yn gwybod ein bod wedi dod o hyd i arian ychwanegol i adfer rhai o'r toriadau hynny, gan ein bod yn gweld pa mor bwysig yw'r ddarpariaeth brentisiaeth.

Hoffwn gydnabod y ddeiseb a gyflwynwyd heddiw gan Unite ar ran gweithwyr dur ym Mhort Talbot. Credaf ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu fel Senedd, yn ogystal â'r gwaith y byddwn yn ei wneud fel Llywodraeth, i sicrhau bod hyn yn parhau'n glir iawn ar yr agenda ar gyfer y cyhoedd yng Nghymru, ac i bobl ddeall, yng Nghymru ac ar draws y DU, effaith colli capasiti cynhyrchu dur sylfaenol fel sector sylfaenol yn ein heconomi. Bydd yn weithred eithriadol o hunan-niweidio economaidd i Lywodraeth y DU ganiatáu i hyn ddigwydd, a bydd yn cyffwrdd â bywydau pob un ohonom mewn ffordd nad wyf yn siŵr fod pawb yn ei deall eto. Felly, rwy'n credu y byddai ymdrech ar y cyd i atgoffa pobl o'r effaith, nid yn unig ar y gweithwyr ac ar eu cymunedau, ond ar economi Cymru a'r DU, rwy'n credu, yn cyfrannu’n sylweddol at hynny.

16:45

Rwy'n ddiolchgar i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei ddatganiad y prynhawn yma a'i sylwadau yn benodol ynghylch y diwydiant dur a'i gefnogaeth barhaus i'r diwydiant dur. Ysgrifennydd Cabinet, mae fy nghymuned yn falch o'n treftadaeth weithgynhyrchu. Rydym yn parhau i ddenu gweithgynhyrchu uwch-dechnoleg oherwydd ffactorau fel y gweithlu medrus iawn a chystadleurwydd y cadwyni cyflenwi. Mae gennym hefyd allu ymchwil a datblygu yn y Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch ym Mrychdyn, sy'n hanfodol i weithiau fel prosiect Airbus, Wing of Tomorrow. Fodd bynnag, ni allwn gymryd unrhyw beth yn ganiataol. Wrth i ni edrych tuag at ddyfodol carbon niwtral, mae cyflogwyr mawr yn edrych ar y cadwyni cyflenwi a'u gallu i ddatgarboneiddio. I gyflenwyr, bydd eu gallu i ddatgarboneiddio yn dibynnu ar y gefnogaeth sydd ar gael. Ysgrifennydd Cabinet, pa gymorth ydych chi'n ei ragweld sydd ar gael, a pha gymorth sydd ei angen yn y maes penodol hwn? Diolch.

Diolch i Jack Sargeant am hynna. Mae'n iawn i ddweud bod hyn yn rhan hanfodol o'n mantais gystadleuol yn y dyfodol, ein gallu i sicrhau bod pob rhan o'n heconomi yn cael ei datgarboneiddio a bod gennym economi wirioneddol gynaliadwy i'r dyfodol. Bydd arwain y ffordd ar hynny, lle bynnag y gallwn, yn rhoi'r fantais honno inni. Mae'n iawn i ddweud y bydd buddsoddwyr mewn sectorau yr ydym yn poeni llawer amdanynt, mewn sectorau yr ydym eisiau eu hehangu yng Nghymru, yn edrych ar hynny. Rwyf wedi cael fy nharo, wrth ddarllen manylion mân y portffolio, cymaint yw'r gefnogaeth a ddarparwn—drwy'r banc datblygu, trwy Busnes Cymru a thu hwnt—sy'n dod drwy lens cynaliadwyedd ac yn sicrhau bod cyflogwyr a busnesau yn datgarboneiddio. Mae darn o waith ar y gweill ar hyn o bryd a fydd yn darparu arweiniad pellach, gobeithio, defnyddiol iawn, arweiniad ymarferol iawn, i fusnesau ledled Cymru o ran y math o gadwyni cyflenwi y mae Jack Sargeant yn sôn amdanynt, a fydd yn darparu'r cymorth ymarferol ychwanegol hwnnw yn ogystal â'r cyllid a ddarparwn. A byddwn yn ceisio darparu, drwy'r banc datblygu ac eraill, gynyddu cyllid, fel y mae adnoddau'n caniatáu, er mwyn cefnogi busnesau i wneud hynny.

16:50

A gaf i hefyd groesawu'r Ysgrifennydd Cabinet i'w rôl newydd? Fel Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, edrychaf ymlaen at graffu arno ef a'i swyddogion wrth symud ymlaen. Yn wir, bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ymuno â'r pwyllgor bore yfory i roi tystiolaeth i ymchwiliad y pwyllgor i Fanc Datblygu Cymru. 

Mae'r datganiad heddiw yn nodi blaenoriaethau economaidd yr Ysgrifennydd Cabinet, ac mae'n dweud ychydig mwy wrthym am gyfeiriad y daith dros y misoedd nesaf. Fel y dywedwyd eisoes gan fy nghyd-Aelod, Samuel Kurtz, mae ystadegau diweddaraf y farchnad lafur yng Nghymru wedi datgelu cynnydd sylweddol mewn anweithgarwch economaidd a gostyngiad sylweddol mewn cyflogaeth o'i gymharu â gweddill y DU, ac mae'r ystadegau hyn, yn wir, yn peri pryder mawr. Mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi dweud wrthym heddiw am rai o'i gynlluniau ar gyfer ei adran wrth symud ymlaen, ond fel Luke Fletcher, byddwn yn ddiolchgar pe gallai ddweud wrthym sut y bydd yn monitro ei bolisïau i sicrhau eu bod yn gweithio ac yn cyflawni canlyniadau go iawn. Rhaid i bolisïau gynhyrchu canlyniadau, a rhaid adolygu a phrofi eu heffeithiolrwydd, felly efallai y gallai ddweud mwy wrthym am sut y mae'n bwriadu gwneud hynny yn benodol yn ei rôl newydd.

Rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd yr Aelod. Does gen i ddim llawer o ddiddordeb mewn mewnbynnau; mae gen i lawer mwy o ddiddordeb mewn canlyniadau o'r polisïau rydyn ni'n eu cyflwyno. Byddai'n well gen i gael fy mesur ar y rheini yn hytrach na'r mewnbynnau, felly rwy'n derbyn pwynt yr Aelod.

O ran cyflogadwyedd yn benodol, mae data da iawn am effeithiolrwydd yr ystod o bolisïau yr ydym wedi'u cefnogi yng Nghymru ers blynyddoedd lawer, ac mae hynny, fel y gwyddoch rwy'n siŵr, o edrych ar y tueddiadau yn nata'r SYG ers nifer o flynyddoedd, wedi dangos canlyniadau cadarnhaol iawn o ran cyflogadwyedd, Ond mae galw parhaus ar adeg o bwysau ariannol cynyddol. Mae hynny'n her i ni fel Llywodraeth, ond ein tasg wrth ailgynllunio ac adfywio'r gefnogaeth honno yw sicrhau, fel y mae angen i bob llywodraeth ei wneud, fod y gefnogaeth a ddarparwn yn briodol ar gyfer anghenion ein heconomi ar unrhyw adeg benodol. Mae'n iawn i ddweud y bydd y data y mae'n cyfeirio ato yn ei gwestiwn yn rhan bwysig o'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer sut rydym yn bwrw ymlaen â'r rhaglen gymorth honno, a diwygio'r rhaglen honno. Gobeithio, dros yr wythnosau nesaf, y byddwn yn gallu trafod mwy o hynny yn fanwl yn y Siambr wrth i'r gwaith hwnnw ddwyn ffrwyth.

Dwi'n falch iawn eich bod chi wedi crybwyll y Gymraeg yn eich datganiad, rhywbeth wnaeth y Prif Weinidog ddim ei wneud pan wnaeth o wneud ei ddatganiad blaenoriaethau yr wythnos diwethaf, a sylwyd ar hynny gan nifer o bobl. Tra'n cytuno o ran eich sylwadau o ran cymunedau Cymraeg, yn amlwg fe ddylai'r iaith fod yn plethu i mewn i'ch holl flaenoriaethau economaidd. Felly, allwch chi amlinellu sut byddwch yn sicrhau hynny, ac a fyddwch chi'n rhoi datganiad cyffelyb yn fuan yn amlinellu eich blaenoriaethau o ran y Gymraeg?

Bydd elfen o gysondeb, o ran fy mlaenoriaethau gyda pholisi'r Gymraeg, gyda'r hyn sydd wedi bod yn y gorffennol, ond byddaf i'n hapus iawn i dderbyn gwahoddiad neu argymhelliad yr Aelod i wneud datganiad pellach os gwnaiff y Llywydd ganiatáu hynny.

O ran polisi'r Gymraeg a'r economi, yr hyn roeddwn i eisiau ei nodi oedd pa mor bwysig yw'r cyfle nawr o gael y ddau bortffolio ynghyd i allu sicrhau, fel mae Heledd Fychan yn dweud, ein bod ni'n plethu ac yn gwau'r Gymraeg drwy'r ystyriaethau economaidd yn ehangach. Mae Arfor yn bwysig, ac mae gwaith y comisiwn yn bwysig o ran cefnogi cymunedau sy'n gadarnleoedd, fel y byddem ni'n arfer eu galw nhw, ond mae wir yn bwysig bod hyn yn elfen dros yr economi yn gyfan gwbl. Mae elfennau cryf o hynny o ran y ddarpariaeth sgiliau, o ran y ddarpariaeth prentisiaethau, a gweithio gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac ati. Ac mae'r peth yn fwy integredig nawr bod y ddau yn yr un portffolio, felly bydd cyfleoedd pwysig, dwi'n credu, yn dod yn sgil hynny.

Mae economi Cymru dan bwysau mewn sectorau cyflog uchel fel gwyddorau bywyd, TGCh a gwasanaethau proffesiynol, sy'n un o'r rhesymau dros y gwerth ychwanegol gros isel a'r cyflog canolrif isel. Mae Belfast a Chaeredin yn y 12 dinas orau yn y DU ar gyfer TGCh, ond nid yw Abertawe a Chaerdydd yn eu plith. Mae dinasoedd llai Lloegr fel Caerfaddon a threfi fel Reading hefyd yn y 12 uchaf. Yr hyn sydd ei angen ar ein heconomi yw mwy o gyfranogiad prifysgolion Cymru wrth ddatblygu cyflogaeth yn y sectorau hynny, yn enwedig gwyddorau bywyd; strategaeth twf TGCh i sicrhau bod gan Gymru ei chyfran o swyddi TGCh; ac adleoli swyddi gwasanaeth sifil ymhellach, ar bob lefel, o Lundain a de-ddwyrain Cymru. Mae'r Gweinidog, fel fi, yn ymwybodol iawn o bwysigrwydd hanfodol y DVLA, yr asiantaeth pensiynau a'r gofrestrfa tir i'n heconomi yn rhanbarth bae Abertawe, gan ddod â swyddi cyflog cymharol uchel. Mae angen i ni barhau i wneud haearn a dur er mwyn sicrhau parhad diwydiant dur integredig yng Nghymru. A yw'r Gweinidog yn cytuno â'm dadansoddiad a'r atebion a awgrymais?

16:55

Diolch yn fawr Mike Hedges. A gaf i fynd at y pwynt ar ddechrau ei gwestiwn mewn cysylltiad â'r sectorau allweddol hynny y soniodd amdanynt? A dweud y gwir, nodwedd rhai o'r llwyddiannau a gawsom yn y sectorau hynny yw'r berthynas rhwng sylfaenwyr rhai o'r busnesau hynny a oedd wedyn ar ôl astudio mewn prifysgolion yng Nghymru—naill ai yn dod yn ôl i Gymru i sefydlu busnes neu'n sefydlu busnes ar ôl graddio. Maent wedi bod, fel y disgrifiodd nhw, rwy'n credu, mewn sectorau gwerth uchel. Dyma'r pwynt yr oeddwn yn ei wneud yn fy natganiad. Rwy'n credu bod potensial sylweddol yn y ffordd yr ydym wedi'i dangos mewn cysylltiad â lled-ddargludyddion cyfansawdd, lle mae stori lwyddiant gref wrth sicrhau bod yna aliniad agos rhwng y Llywodraeth, prifysgolion, busnesau, buddsoddwyr ac entrepreneuriaid ynghylch nifer fach o flaenoriaethau economaidd allweddol. Mae tystiolaeth gref bod hynny'n galluogi cwmnïau sy'n gallu cynnig cyflogaeth dda sy'n talu'n dda i dyfu, a byddant yn straeon llwyddiant Cymreig. Felly, dyna'r rhesymeg y tu ôl i hyrwyddo'r dull hwnnw, a chredaf y byddai'n cytuno â hynny.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Byddaf i, fel chi, yn edrych ymlaen at Lywodraeth y DU sydd â strategaeth ddiwydiannol, nad oes gennym ni ar hyn o bryd. Mae'n ymddangos i mi nad yw rhoi arian i golli swyddi heb sicrhau eich bod yn mynd i'w cael yn ôl ac ymrwymiadau cadarn i'w cadw mewn gwirionedd yn strategaeth ar gyfer unrhyw beth.

Roedd Tony Blair yn enwog am sôn am bwysigrwydd addysg, addysg, addysg. Rwy'n gobeithio y byddwch chi, Ysgrifennydd Cabinet, yn canolbwyntio ar sgiliau, sgiliau, sgiliau, oherwydd eu bod yn hanfodol i'ch holl flaenoriaethau eraill, mae'n ymddangos i mi—gwella cynhyrchiant, mewnfuddsoddi, a chyflawni'r cyfleoedd wrth bontio i sero net. Clywais eich bod yn dweud bod y cynllun sgiliau sero net yn ei gamau cynnar, ac rwy'n croesawu eich ymrwymiad i ganlyniadau, nid mewnbynnau.

Gwnaed gwaith gwych gan leoedd fel Coleg Llandrillo ar brentisiaethau, yr amharwyd arno yn anffodus, i ddathlu  bod llawer o bobl fedrus wedi graddio yn gynharach eleni. Felly, sut ydych chi'n bwriadu alinio eich blaenoriaethau economaidd, darpariaeth sgiliau, a'n cynnig addysg alwedigaethol yn ddi-dor? Fy nealltwriaeth yw—

—nad oes ond tair fframwaith cymeradwy ar gyfer prentisiaethau gradd: adeiladu, peirianneg, a TG. Mae'r rhain i gyd yn bwysig, ond dynion yw'r mwyafrif o'r prentisiaid.

A oes angen i chi ddeddfu i ddatblygu gradd mewn gofal, gradd mewn gweinyddu gwasanaethau cyhoeddus, neu radd mewn sgiliau sydd eu hangen i ailgynllunio ein ffyrdd i ddiwallu anghenion pob defnyddiwr yn well?

Mae'r rhain yn hanfodol i wella cynhyrchiant yn ein gwasanaethau cyhoeddus.

Diolch i Jenny Rathbone am hynna. Rwy'n credu, yn flaenorol, fy mod wedi dweud mai addysg yw'r polisi economaidd gorau. Rwy'n credu ei fod wrth wraidd rhoi'r cyfleoedd hynny i bobl drwy gydol eu bywydau. Mae yna brentisiaethau gradd eraill, gyda llaw, ond rwy'n credu bod achos bob amser dros sicrhau ein bod yn defnyddio'r ymyrraeth bolisi honno i fynd i'r afael ag anghenion ein heconomi, felly byddwn yn parhau i adolygu hynny.

Fel roeddwn i'n dweud, un o fy uchelgeisiau yn y portffolio hwn—ar ôl dod o'r portffolio addysg, deallais rai o ddimensiynau'r polisi o'r safbwynt hwnnw—yw bod mwy o botensial i ni alinio'r cynnig addysg cyn-16 â'r sgiliau a'r blaenoriaethau economaidd. Byddaf yn edrych ymlaen at wneud hynny, gyda fy nghyd-Ysgrifennydd, yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg, dros y misoedd nesaf. Soniais am adolygiad Lusher yn gynharach, ac wrth wraidd yr hyn yr oedd Sharron Lusher yn ei argymell i ni fel Llywodraeth yw bod gennym ddull gweithredu cenedlaethol ar gyfer hynny, ac rwy'n credu bod llawer i'w ganmol yn y dull hwnnw.

Fe sonioch chi am Goleg Llandrillo, ac roeddwn i yno ychydig wythnosau yn ôl gyda Carolyn Thomas, yn siarad â'r prentisiaid ifanc yno am eu gobeithion ar gyfer y dyfodol. Roedden nhw'n gweithio ar ynni adnewyddadwy a thyrbinau gwynt ac ati, ac mae'r cyffro rydych chi'n ei deimlo wrth siarad â phobl ifanc sy'n dechrau eu gyrfaoedd mewn sector a fydd yno tan ddiwedd eu hoes gwaith a thu hwnt yn gwbl gyffrous, a dyna pam rydyn ni mor ymrwymedig i sicrhau bod gan bobl ifanc yng Nghymru fynediad at y prentisiaethau hynny.

17:00

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch, Ysgrifennydd Cabinet, am eich datganiad heddiw, sy'n cyffwrdd â llawer o faterion sy'n allweddol i ysgogi ein heconomi yn ei blaen. Nodaf eich cyfeiriad at yr angen i ddarparu mwy o gyfleoedd ar gyfer gwaith sy'n talu'n dda, ac mae hyn yn cyd-fynd yn agos â dau adroddiad proffil uchel diweddar: adroddiad y Gynghrair Cymunedau Diwydiannol, 'Mwy o Swyddi, Gwell Swyddi, Yn Nes at Gartref'; a 'Cyflwr y Meysydd Glo 2024', a gomisiynwyd gan Ymddiriedolaeth Adfywio'r Meysydd Glo. Ysgrifennydd Cabinet, pa ddadansoddiad y gallech fod wedi'i wneud o'r ddau adroddiad hyn, a sut allai eu canfyddiadau eich cynorthwyo gyda'r strategaethau rydych yn bwriadu eu datblygu ar gyfer cymoedd y de yn benodol?

Yn ail, nodaf eich bod yn cyfeirio at sut mae mentrau cydweithio yn cynnig y cyfle gorau o lwyddo. Y mis hwn lansiodd prifddinas-ranbarth Caerdydd ei menter Cymoedd y Gogledd, rhaglen fuddsoddi £50 miliwn sy'n canolbwyntio ar fusnesau sydd â photensial o dwf uchel, mewn ymdrech i helpu i drawsnewid cymoedd y gogledd. Felly, sut all Llywodraeth Cymru ymgysylltu â'r rhaglen hon i helpu i sicrhau ei bod yn cyd-fynd â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ac yn sicrhau'r canlyniadau gorau un i'r cymunedau hynny?

Diolch i Vikki Howells am y cwestiynau pwysig yna. Nid wyf wedi darllen y ddau adroddiad y cyfeiriodd atynt eto, ond gwn am y gwaith y mae'n ei wneud mewn cysylltiad â hen gymunedau'r maes glo, felly fe wnaf sicrhau fy mod yn darllen y rheini. Rwy'n credu bod dull sy'n seiliedig ar le o ran ein hymyriadau, yn enwedig ynghylch rhai o gymunedau'r Cymoedd, yn hanfodol, ac rwy'n credu ei bod hi'n iawn i nodi gwaith prifddinas-ranbarth Caerdydd. Rwy'n credu mai gweithio law yn llaw—Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol a Llywodraeth y DU—yw'r ffordd orau o allu cyflawni ein huchelgeisiau economaidd. Rydym yn falch iawn o'r gwaith a wnawn fel partneriaid ym mhrifddinas-ranbarth Caerdydd, ac yn wir yn y bargeinion twf eraill ledled Cymru. Credaf mai dyna'r ffordd orau o sicrhau ein bod yn gallu cyfleu i bobl, yng Nghymru a thu allan i Gymru, ein huchelgais i wneud Cymru y rhan orau o'r DU i fuddsoddi ynddi ac i weithio ynddi hefyd.

6. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth: Blaenoriaethau ar gyfer Trafnidiaeth: Gwrando, partneriaeth, gwneud newid

Eitem 6 heddiw yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth ar y blaenoriaethau ar gyfer trafnidiaeth—gwrando, partneriaeth, gwneud newid. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Ken Skates.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Pan wnes i ymgymryd â'r rôl hon, gosodais dair blaenoriaeth i'm tîm: gwrando, gweithio mewn partneriaeth a gwneud i newid ddigwydd lle mae ei angen. Ar 20 mya, rydym wedi dechrau gwrando. Rwyf wedi bod yn glir yn fy holl sgyrsiau y byddwn yn rhoi cymunedau wrth wraidd ein meddwl ac y byddwn yn gwrando ar leisiau pob dinesydd.

Fel y dywedais yn y Senedd yr wythnos diwethaf, mae consensws cynyddol ar gyflymder diogel mewn cymunedau y gallwn adeiladu arno. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gredu mai 20 mya yw'r terfyn cyflymder cywir mewn mannau ger ysgolion, ysbytai, meithrinfeydd, canolfannau cymunedol, mannau chwarae ac mewn ardaloedd preswyl adeiledig. Mae hyn yn arbennig o wir pan fo plant a phobl agored i niwed mewn cysylltiad agos â thraffig. Prif amcan y polisi yw galluogi pobl i deimlo'n fwy diogel yn eu cymunedau drwy leihau gwrthdrawiadau. Yr hyn rwy'n ei wneud nawr yw gwrando ar yr hyn y mae pobl yn dymuno ei gael ar gyfer y ffyrdd yn eu cymunedau, a bwrw ymlaen â mireinio'r polisi a chael y cyflymder cywir ar y ffyrdd cywir. Er mwyn cyflawni hyn, rydym yn cychwyn nifer o gamau.

Elfen gyntaf fy null gweithredu yw cael rhaglen wirioneddol o wrando ar bobl. Rhwng nawr a mis Gorffennaf, byddwn yn gwrando ar ddinasyddion, gyrwyr bysiau, gwasanaethau brys, yr heddlu, pobl ifanc, pobl agored i niwed, busnesau a chynghorwyr mewn cynghorau sir, tref a chymuned, er mwyn deall eu safbwyntiau ar ddiogelwch ar y ffyrdd mewn ardaloedd preswyl. Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, rwyf wedi cwrdd ag arweinwyr ac aelodau trafnidiaeth arweiniol o bob awdurdod lleol yng Nghymru i atgyfnerthu fy ymrwymiad i weithio gyda nhw, fel y rhai sy'n gwneud penderfyniadau dros derfynau cyflymder ar y rhan fwyaf o ffyrdd. Rwy'n falch eu bod i gyd wedi cytuno i weithio mewn partneriaeth â mi yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf.

Ail elfen fy nghynllun yw gweithio mewn partneriaeth â chyrff allweddol i baratoi'r tir ar gyfer newid. Mae cynghorau eisoes yn edrych ar ffyrdd lleol lle gallai fod angen newidiadau. Fel rhan o'n rhaglen wrando, byddaf yn annog pobl i gysylltu â'u cyngor lleol i ddweud wrthynt ble maen nhw'n credu y dylid targedu 20 mya. Bydd gwybodaeth am sut y gallwch wneud hyn ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Byddaf hefyd yn gweithio gyda chynghorau tref a chymuned i sicrhau bod eu lleisiau'n rhan o'r sgwrs genedlaethol hon. Ochr yn ochr â hyn, bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu ei chanllawiau eithrio, eto trwy weithio mewn partneriaeth â chynghorau.

Rwy'n falch o roi gwybod i'r Aelodau heddiw fod fy swyddogion wedi gofyn i'r adolygiad allanol presennol ddod â'i waith i ben yn gyflym. Rwy'n disgwyl yr adroddiad terfynol o fewn yr wythnosau nesaf. Byddaf yn ei gyhoeddi cyn gynted â phosibl.

Byddaf wedyn yn cyhoeddi canllawiau eithrio diwygiedig erbyn yr haf. Bydd hyn yn caniatáu i awdurdodau lleol dargedu 20 mya yn well ar lwybrau priodol. Mae'n bleser gennyf adrodd heddiw, er mwyn cefnogi'r broses honno, y byddwn yn defnyddio cyngor gan Gymdeithas Syrfewyr Sirol Cymru, a fydd hefyd ar gael i roi cyngor a chymorth ar newidiadau i bob awdurdod lleol. Yn y pen draw, mae'r penderfyniad yn nwylo'r awdurdod priffyrdd.

Y drydedd elfen wedyn yw cyflawni'r newidiadau angenrheidiol ar lawr gwlad. Unwaith y bydd awdurdodau lleol wedi gweithio gyda chymunedau a bod canllawiau newydd wedi'u cwblhau, bydd awdurdodau priffyrdd yn gallu dechrau'r broses o addasu terfynau cyflymder ar ffyrdd perthnasol, ac rwy'n disgwyl i'r broses hon ddechrau o fis Medi. Yn y pen draw, ni fydd y newid ym mhob un o'n hawdurdodau lleol yn cael ei bennu gennyf i a Llywodraeth Cymru, ond gan y cyhoedd a chynghorau, fel yr awdurdod priffyrdd ar gyfer y rhan fwyaf o ffyrdd preswyl. A gadewch imi fod yn glir ar bwynt pwysig arall sydd wedi dod i'r amlwg trwy fy ymgysylltiad ag arweinwyr cynghorau yr wythnos hon: rwy'n cydnabod yn llwyr yr ystod o bwysau sy'n wynebu ein partneriaid mewn llywodraeth leol, ac mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i sicrhau bod ganddynt yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i weithredu newid. Ni fyddwn yn disgwyl i gynghorau, sy'n wynebu pwysau ariannol anodd, dalu cost addasu llwybrau yn ôl i 30 mya.

I grynhoi: byddwn yn gwrando, yn gweithio mewn partneriaeth â chynghorau ac yn cefnogi'r gwaith o gyflawni newid wedi'i dargedu ar lawr gwlad. Nid yw'r dull hwn wedi'i gyfyngu i'n gwaith ar derfynau cyflymder. Byddaf yn parhau i wrando ar bobl ledled Cymru ar faterion trafnidiaeth y maent yn eu hwynebu. Byddwn yn cryfhau partneriaethau â'n rhanbarthau, gan eu galluogi i lunio eu blaenoriaethau trafnidiaeth eu hunain sy'n gweithio i'w cymunedau. A byddwn yn lobïo Llywodraethau'r DU, y presennol a'r dyfodol, i wneud yr un peth, ac i fuddsoddi yn ôl yr angen yma. Rydym yn gwybod bod newid yn bosibl. Rydym ni'n dechrau gweld canlyniadau trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd. Yn ystod y mis llawn cyntaf o weithredu, roedd gwasanaethau rheilffordd ar reilffordd Treherbert ar amser 92.5 y cant o'r amser.

Rydym yn mabwysiadu dull gwahanol iawn yng Nghymru: rydym yn rhoi teithwyr yn gyntaf ac yn sicrhau bod ein gwasanaethau'n cwrdd â gofynion megis pryd mae pobl eisiau ac angen teithio ar ôl COVID, ac rydym yn darparu mwy o wasanaethau i'w galluogi i wneud hyn. Diolch i'n buddsoddiad o £800 miliwn mewn fflyd newydd, mae teithwyr ledled Cymru bellach yn gallu teithio ar drenau newydd, ac mae gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru heddiw yn perfformio'n well nag unrhyw weithredwr arall yng Nghymru.

Drwy leihau cyllid ar gyfer gweithrediadau, cynnal a chadw ac adnewyddu mewn termau arian parod, er gwaethaf yr holl chwyddiant a welsom, mae Llywodraeth y DU yn arwain dirywiad rheoledig o seilwaith rheilffyrdd Cymru y tu allan i Linellau Craidd y Cymoedd. Disgwylir llai o ddibynadwyedd asedau, mwy o fethiannau sy'n effeithio ar wasanaethau a llai o ddibynadwyedd yn ôl Network Rail, a dim ond buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn trenau newydd fydd yn atal hyn rhag cael effaith fwy difrifol ar berfformiad a theithwyr yng Nghymru.

Rydym hefyd yn mynd i adeiladu ffyrdd newydd a gwella'r rhai presennol, ond byddwn yn codi safon ac yn adeiladu'n well nag o'r blaen. Byddwn yn defnyddio'r technegau mwyaf arloesol o bob cwr o'r byd. Byddwn hefyd yn dylunio'n well ein rhwydweithiau trafnidiaeth i ddarparu ar gyfer lonydd blaenoriaeth bysiau, ac rwy'n awyddus i edrych ar sut y gallwn gefnogi mwy o bobl i gerdded rhwng eu cartref, safleoedd bws a'u cyrchfannau terfynol.

Os oes gennych unrhyw amheuaeth ynghylch dyfodol ffyrdd, gadewch imi ddweud hyn: bydd croesfan newydd yr A494 dros Afon Dyfrdwy yn mynd yn ei blaen; bydd gwelliannau Ffordd Yr Wyddgrug i Wrecsam yn mynd yn eu blaen; rydym wedi derbyn argymhellion Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru ar gyfer rheoli traffig yn well yng nghyffiniau pont Menai. Dim ond tair enghraifft yw'r rhain. Yn y meysydd hyn, a meysydd eraill, byddwn yn bwrw ymlaen â chynlluniau sy'n adlewyrchu'r her sero net sy'n ein hwynebu.

Ochr yn ochr â hyn, byddwn yn parhau i ddiwygio sut mae ein system drafnidiaeth yn cael ei threfnu. Yn benodol, bydd ein Bil bws nodedig yn cywiro methiant trychinebus preifateiddio yng nghanol y 1980au. Bydd yn caniatáu i ni weithio gyda rhanbarthau i ddylunio rhwydweithiau bysiau y mae eu cymunedau eu hangen a rhoi contractau ar waith i'w cyflawni. Edrychaf ymlaen at weithio gyda chi i gyd mewn partneriaeth a gobeithio y byddwch yn ymuno â'n cenhadaeth i symud Cymru ymlaen. Diolch.

17:05

Mae nifer fawr o bobl eisiau siarad. Mae faint rydw i'n llwyddo i'w galw yn dibynnu arnoch chi'n cadw at eich amser ac ar y Gweinidog yn ateb yn gryno. Natasha Asghar.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a hoffwn ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ddatganiad y prynhawn yma. Mae'n amlwg o'r rhethreg fod Llywodraeth Cymru o'r diwedd wedi tynnu sylw at y ffaith bod y polisi 20 mya wedi bod yn draed moch llwyr. Er fy mod yn wirioneddol falch o weld bod yr Ysgrifennydd Cabinet erbyn hyn yn cydymdeimlo â safbwynt y Ceidwadwyr Cymreig sef mabwysiadu dull o dargedu, i mi'n bersonol, nid yw'n mynd yn ddigon pell. Mae angen i ni weld y Llywodraeth yn dychwelyd terfyn cyflymder diofyn Cymru i 30 mya gydag eithriadau 20 mya yn hytrach na'r gwrthwyneb. Yn anffodus, Ysgrifennydd Cabinet, gyda phob parch, yn dilyn eich datganiad yr wythnos diwethaf, mae eich geiriau mewn gwirionedd wedi achosi dryswch sylweddol, gyda grwpiau a sefydliadau llawer o drigolion bellach o dan yr argraff y bydd ffyrdd Cymru yn cael eu dychwelyd i 30 mya yn dilyn y datganiad heddiw, ond nid yw hynny'n wir, nac ydi? Ysgrifennydd Cabinet, a allwch gadarnhau er budd pobl ledled Cymru na fydd y Llywodraeth hon yn diddymu'r polisi 20 mya heddiw? Gwnaiff 'bydd' neu 'na fydd' y tro, oherwydd os nad ydych chi'n ailwampio'r polisi hwn yn llwyr, ac nid yw'r Llywodraeth, yn anffodus, yn gwrando ar y cyhoedd yn wirioneddol, ac er gwaethaf yr holl eiriau cynnes sydd i'w clywed, does dim byd yn newid heddiw.

Rwy'n gwerthfawrogi eich bod yn cyflymu'r adolygiad ac wedi ymrwymo i wrando ar y bobl, ond ni allwch anwybyddu'r ffaith bod ychydig llai na hanner miliwn o bobl ledled y wlad wedi lleisio eu barn ar y prosiect £33 miliwn hwn yn gwbl glir: yn syml, nid ydynt eisiau hwn. Un o'r prif bethau sydd wedi cynhyrfu a gwylltio llawer o etholwyr oedd diffyg ymgynghori eich rhagflaenydd a'r Llywodraeth flaenorol gyda'r cyhoedd. Yn ddealladwy, roeddent yn teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu a'u hesgeuluso. Rydych chi'n dweud bod Llywodraeth Cymru yn mynd i wrando ar ddinasyddion, gyrwyr bysiau, gwasanaethau brys, cynghorau a busnesau, ymhlith eraill, rhwng nawr a Gorffennaf, ac rydw i wrth fy modd eich bod chi'n gwneud hyn. Er fy mod i wir yn croesawu'r dull hwn o waelod fy nghalon, dyna lawer iawn o bobl rydych chi'n mynd i ymgysylltu â nhw mewn cyfnod mor fyr, felly sut allwch chi fod yn ffyddiog eich bod chi'n mynd i grynhoi barn pobl Cymru mewn cyfnod cymharol fyr? Rydych chi wedi rhestru rhai o'r grwpiau rydych chi'n ymgysylltu â nhw, ond a gaf i hefyd eich annog chi i siarad â grwpiau fel y Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd?

Ysgrifennydd Cabinet, rydych chi'n gwneud yr holl synau cywir; rydych chi'n dweud yr holl bethau iawn am wrando ac ymgysylltu â'r cyhoedd a sefydliadau eraill, ond sut mae'n mynd i weithio? Dyna fy nghwestiwn i. Sut fyddwch chi'n cael y sgyrsiau hyn? A wnewch chi wahodd sylwadau ysgrifenedig? A fyddwch yn mynd i gymunedau ledled Cymru ac yn cynnal cyfarfodydd cyhoeddus i glywed barn preswylwyr? Gadewch i ni beidio ag anghofio, yn flaenorol, fod Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu â'r cyhoedd ynghylch yr union bolisi hwn, a honnwyd bod 60 y cant o bobl yn cefnogi 20 mya mewn gwirionedd. Ac yna daeth yn amlwg mai dim ond 1,002 o bobl a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad i ddechrau. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, mae angen i'r Llywodraeth hon sicrhau ei bod yn mynd ymhellach wrth geisio gwir deimladau'r cyhoedd y tro hwn. Cyn belled ag yr wyf i yn y cwestiwn, os yw'r Llywodraeth hon yn wirioneddol yn bwriadu gwrando ar bobl Cymru, yna byddai'n derbyn bod y gyfraith hon wedi bod yn gamgymeriad ac yn ei diddymu. Mae unrhyw beth llai, rwy'n ofni, yn sylw arwynebol yn unig. A gadewch i ni fod yn glir, nid gosod polisi, yna penderfynu ystyried barn y cyhoedd yw'r ffordd y dylai'r Llywodraeth fod yn gweithredu, ond dyna fe. Dylai'r llywodraeth ymgysylltu â'r cyhoedd ar bolisi, ei fireinio ar ol cael sylwadau, ac yna ei gyflwyno.

Un o'r pethau mae pobl wedi ei ganfod yn rhwystredig ynghylch y polisi hwn—ac mae 'na lawer—yw'r broses o gysylltu ag awdurdodau lleol i gyflwyno awgrymiadau o ran y ffyrdd y dylid eu dychwelyd i 30 mya. Mae'n ymddangos bod gan bob awdurdod lleol broses wahanol ac nid yw bob amser yn hawdd cysylltu â nhw. Felly, a wnewch chi ymrwymo i symleiddio'r broses ar gyfer cyflwyno apeliadau a cheisiadau? Yn enw tegwch, efallai—ac awgrym yw hwn—mai proses unffurf i bob cyngor ar draws Cymru fyddai'r dull gorau. Byddai hyn yn gwneud pethau'n llawer haws ac yn helpu i adfer ffydd a hyder y cyhoedd yn y Llywodraeth, yn ogystal â'r cyngor lleol o ran y polisi hwn.

Rydym hefyd yn gwybod mai problem fawr arall ynghylch y cynllun 20 mya hwn oedd y dryswch ynghylch canllawiau a roddwyd i awdurdodau lleol gan Lywodraeth Cymru o ran gweithredu'r polisi hwn a oedd ychydig yn aneglur. Nawr, Ysgrifennydd Cabinet, sut y byddwch chi'n sicrhau nad yw'r un camgymeriad yn cael ei ailadrodd eto wrth gyhoeddi canllawiau diwygiedig i gynghorau Cymru? Rydym i gyd yn gwybod bod cynghorau'n mynd i gael dweud eu dweud wrth lunio'r polisi hwn, o ystyried mai nhw yw'r rhai yr ydym yn cyfeirio atynt fel 'yr esgidiau ar lawr gwlad'. O'r sgyrsiau rydych chi wedi'u cael gydag arweinwyr cynghorau hyd yn hyn, ynghyd â'ch gwybodaeth, i ba raddau ydych chi'n disgwyl i'r canllawiau i awdurdodau lleol newid, gan y bydd hyn yn cael effaith uniongyrchol ar nifer y ffyrdd sy'n newid, a'r gost? Bydd cost y newidiadau hyn, fel y dywedoch, yn cael ei thalu gan Lywodraeth Cymru, felly a oes gennych chi neu'ch swyddogion amcangyfrif bras o ran faint mae hyn yn mynd i gostio? Cawn wybod yma yn y Siambr hon dro ar ôl tro fod Llywodraeth Cymru yn brin o arian, ac nid rhoi pwniad bach yw hwn—byddwch yn dawel eich meddwl pan ddywedaf hyn—gan fy mod yn hapus iawn eich bod wedi newid eich meddwl rywfaint ynghylch y polisi hwn, ond tybed a allech chi amlinellu o ble y daw'r arian ychwanegol hwn. Rwy'n falch o glywed bod gwaharddiad adeiladu ffyrdd Llywodraeth Cymru yn dod i ben, gydag addewid i adeiladu rhai prosiectau seilwaith ffyrdd pwysig. Rydych chi wedi rhestru ychydig yma heddiw, Ysgrifennydd Cabinet, ond rhaid iddo beidio â stopio yn y fan honno. Mae angen i ni weld cynlluniau, a sonioch am drydedd groesfan Menai, a byddai croeso mawr i ffordd osgoi Dinas Powys a ffordd osgoi Cas-gwent ac mae angen eu cyflawni.

Ysgrifennydd Cabinet, rydych wedi ymrwymo i wella ein ffyrdd presennol, rhywbeth y mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw amdano ers tro byd ac wedi ymrwymo i ddefnyddio'r technegau mwyaf arloesol o bob cwr o'r byd. Allwch chi amlinellu beth yw rhai o'r rhain—

17:10

—ac rwy'n ymwybodol o amser, sut yn union mae'r Ysgrifennydd Cabinet—[Torri ar draws.] Bydd masnachfreinio gwasanaethau bysiau yn ateb gweddïau'r diwydiant bysiau. Yn lle gwneud—

17:15

Na. Na, rwyf wedi gofyn ers tro—[Torri ar draws.] Dyma—[Torri ar draws.] Na, Natasha. Mae llawer o bobl eisiau siarad. Mae'n rhaid i chi gadw at eich amser, fel arall ni fydd unrhyw un yn cael ei alw, gan gynnwys eich cyd-Aelodau. 

Rwy'n deall. Rwy'n deall yn llwyr. Felly, Gweinidog, os gwelwch yn dda atebwch y cwestiynau ynglŷn â sut rydych chi'n mynd i sicrhau bod Cymru yn symud ymlaen eto. Dyna fe. 

A gaf i ddiolch i lefarydd y Ceidwadwyr am ei chyfraniad gwerthfawr i'r datganiad hwn? Gadewch i ni adeiladu ar y consensws y gwnaethom ei gyrraedd yr wythnos diwethaf, yn gyntaf oll. Rydym i gyd yn cytuno bod 20 mya yn gweithio'n dda iawn lle mae'n bwysig iawn. Y tu allan i ysgolion, ysbytai, mewn ardaloedd adeiledig, lle mae plant yn dod i gysylltiad agos â cherbydau modur, mae'n gweithio; mae'r polisi 20 mya yn gweithio yn yr ardaloedd hynny, a bydd yn parhau. Ond rydym hefyd yn derbyn, onid ydym, ar draws y Siambr, ar rai llwybrau nid yw wedi bod yn briodol, a byddwn yn symud yn gyflym, am y gost leiaf, i gywiro hynny. 

Nawr, mae dau opsiwn ar y bwrdd—dau opsiwn—un, opsiwn Llywodraeth Cymru, sef y cyflymaf a'r lleiaf drud o bell ffordd, neu safbwynt y Ceidwadwyr, yn fy marn i, sef cael gwared â'r polisi 20 mya, troi pob un ffordd 20 mya yn ôl i 30 mya ym mhobman, unrhyw fan, ac yna defnyddio gorchmynion rheoleiddio traffig—[Torri ar draws.] Na, gorchmynion rheoleiddio traffig, byddai'n rhaid iddynt ddefnyddio'r rhain, dyma'r unig fodd sydd ar gael i ddychwelyd llwybrau 30 mya yn ôl i 20 mya y tu allan i ysgolion, y tu allan i ysbytai, y tu allan i fannau chwarae. Byddai'n costio £3,500 y ffordd. Ar y cyfrif diwethaf, roedd 148,000 o strydoedd yng Nghymru. Bydden nhw'n gwneud Cymru yn fethdalwr, ac yn ôl pob tebyg, sawl cyngor, a bydden nhw hefyd yn clymu cynghorau am flynyddoedd ar ôl blynyddoedd mewn biwrocratiaeth. Rydym eisiau consensws lle mae anghytundeb. [Torri ar draws.] Byddwn yn croesawu cytundeb y Ceidwadwyr bod gennym y cynlluniau i wneud yn union hynny.

Ysgrifennydd Cabinet, un eiliad. Hoffwn wrando ar yr Ysgrifennydd Cabinet, felly pe bai pob Aelod ar bob ochr yn caniatáu i'r Ysgrifennydd Cabinet roi'r ateb, byddai'n ddefnyddiol iawn. Ysgrifennydd Cabinet. 

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Roeddwn i'n ceisio cyflawni hynny yn y modd mwyaf siriol posib ac mewn ffordd sy'n dangos gostyngeiddrwydd, gobeithio, mewn ffordd sy'n dangos trugaredd, ac mewn ffordd sy'n dangos ein bod yn ymateb i'r cyhoedd. Pe bai Torïaid y DU dim ond yn gallu gwneud yr un peth. Dim gostyngeiddrwydd yn sgil chwalu'r economi, dim derbyn y bu anghymhwysedd difrifol ynghylch HS2, ac, yn sicr, yn y ffordd y mae newid hinsawdd a lloches yn cael eu defnyddio fel arfau gan Brif Weinidog y DU, dim tosturi ychwaith. 

O ran y sgyrsiau sy'n mynd i ddigwydd, mae sefydliadau fel y Gymdeithas Gludo ar y Ffyrdd eisoes wedi'u trefnu i gwrdd â mi. Bydd hwn yn ymarfer mawr i ddod â chymaint o bartïon â diddordeb a chynifer o bobl ynghyd i gyrraedd consensws, lle mae pobl yn cytuno ar y consensws hwnnw y cytunwyd arno yr wythnos diwethaf, bod 20 mya yn gweithio, yn y mannau cywir. Lle mae angen gwneud addasiadau, byddant yn cael eu gwneud, gyda chanllawiau diwygiedig a gyda chefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru.

Nawr, byddaf yn mynd i mewn i gymunedau. Siaradais â phapur newydd The Leader ychydig yn gynharach heddiw, ac rwyf wedi dweud y byddaf yn ymuno â nhw ym Mwcle, a oedd yn un o'r cynlluniau treialu. Rwy'n hoff iawn o Fwcle. Treuliais lawer, lawer o nosweithiau Sadwrn yn neuadd ddawns Tivoli pan oeddwn yn tyfu i fyny. Rwyf wir yn hoffi Bwcle, ac rwyf eisiau ymweld â'r lle cyn gynted ag y gallaf i edrych sut mae'n gweithredu ar lawr gwlad a hefyd i edrych ar y llwybrau y mae pobl eisiau eu gweld yn dychwelyd i 30 mya.

Mae un pwynt pwysicach yr hoffwn ei wneud ynglŷn â hyn: mae angen i ni fod â dull cyson ar draws Cymru, nid yn unig ar gyfer yr ymarfer gwrando, yr wyf yn cytuno ag ef arno, ond hefyd o ran y cais. Bwriad cynnull y syrfewyr sirol yw gwneud yn union hynny, i sicrhau bod gan gynghorau yr hyder a'r gefnogaeth i allu rhoi dychweliadau ar waith mewn ffordd gyson a synhwyrol wrth wrando ar y cyhoedd bob amser. 

Yn gyntaf, hoffwn eich croesawu chi unwaith eto i'r rôl hon. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chi. 

Hoffwn nodi rhai o'r meysydd lle teimlwn ni y dylid bod blaenoriaeth. Rwyf eisoes wedi mynegi fy mhryderon ynghylch penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â mynd ar drywydd camau cyfreithiol ynghylch HS2. Nid yw cledrau HS2 yn teithio i Gymru o gwbl, ond rydyn ni'n dal i dalu amdano. Oherwydd rhyw dwyll yn y Trysorlys, mae wedi ei frandio yn brosiect ar gyfer Cymru a Lloegr—penderfyniad llawn twyll, yn amlwg yn wrthbrofadwy i unrhyw un sydd â map a'r mymryn lleiaf o synnwyr cyffredin, cwmpawd a chydwybod. Gofynnaf eto pam nad yw Llywodraeth Cymru yn herio'r dynodiad hwn mewn cyfraith. Pam na wnewch chi wneud hyn yn y llysoedd? Nid dim ond safiad i'w gymryd ar egwyddor yw hwn—mae biliynau o bunnoedd yn y fantol; dylai ein Llywodraeth fod yn mynnu hynny, oherwydd byddai'r arian hwnnw'n cael effaith sylweddol ar wella ein gwasanaethau trafnidiaeth ein hunain.

Ysgrifennydd Cabinet, mae hyn yn dod â fi at flaenoriaeth allweddol arall: cyllid bysiau cynaliadwy. Mae ein gwasanaethau bws wedi cael eu torri'n sylweddol, mae prisiau wedi cynyddu. Mewn cymunedau fel ardaloedd gwledig, fel rhannau o'r Cymoedd hefyd, lle nad yw llinellau trên yn cyrraedd, mae llawer o bobl yn ddibynnol ar wasanaethau bysiau, ond fwyfwy maen nhw'n methu â chyrraedd pobl er mwyn eu cludo i le mae angen iddyn nhw fod a'u cludo nôl adref. Nawr, rwy'n gefnogwr enfawr o fuddsoddiad mewn rheilffyrdd. Nid wyf ychwaith yn credu y dylid gwneud hynny ar draul gwasanaethau bws. Felly, sut y byddwch chi'n cysoni'r blaenoriaethau hynny, os gwelwch yn dda?

Nawr, byddwn yn awyddus i weithio gyda chi i weld mwy yn cael ei wneud ar ddiogelwch trafnidiaeth, ac fe wnaethoch chi gyffwrdd â hyn. Roeddwn wrth fy modd rai wythnosau yn ôl i gael cynnig deddfwriaethol wedi'i basio gan y Senedd i wella goleuadau stryd mewn prif orsafoedd ac yn agos atynt ac mewn prif safleoedd bws, gwell hygyrchedd, i edrych ar ymarferoldeb disgwyliad ar ddarparwyr trafnidiaeth gyhoeddus y dylent gludo teithwyr agored i niwed i le diogel ar ôl iddi dywyllu pan gaiff gwasanaethau eu canslo. Byddwn yn awyddus iawn i weithio gyda chi a'ch adran i gynnal momentwm ar y materion hynny.

A sôn am ddiogelwch eto, fe drof at 20 mya. Nawr, rwy'n cytuno â chi bod gan weithrediad y polisi hwn ei ddiffygion; mae wedi arwain at ddryswch, arweiniodd at rwystredigaeth. Cafodd gwelliant Plaid Cymru ei basio gan y Senedd hon chwe mis yn ôl yn galw am adolygiad parhaus o weithrediad y polisi, am well arweiniad a phwerau i gynghorau ailddynodi ffyrdd i 30 mya yn yr ardaloedd hynny lle nad yw 20 mya yn gwneud synnwyr ac i wrando ar bryderon lleol. A allwch gadarnhau bod y Llywodraeth bellach yn gweithredu ar y gwelliant hwnnw gan Blaid Cymru a basiwyd?

Nawr, roedd problemau, ond nid wyf eisiau i ni golli golwg chwaith ar ba mor radical yw'r polisi hwn. Mae Sustrans wedi ysgrifennu at ASau yn nodi y lladdwyd plentyn bach pedair oed mewn damwain yn Birmingham ychydig ddyddiau yn ôl. Roedd hi'n chwarae ar y palmant y tu allan i faes chwarae; dylai hi fod wedi bod yn ddiogel. Bydd lleisiau, lleisiau uchel, a fydd yn ceisio ein perswadio mai dim ond y tu allan i ysgolion y mae angen cadw plant yn ddiogel, gan anghofio, efallai, nad yw plant yn byw mewn ysgolion. Maen nhw'n byw ar strydoedd, maen nhw'n chwarae ar strydoedd, mae eu bywydau yr un mor werthfawr ac mor agored i niwed ar strydoedd. Byddwn yn erfyn arnoch chi, os gwelwch yn dda, a gwn fod lleisiau uchel, ond, os gwelwch yn dda, mae lleisiau'r rhai yr effeithir fwyaf arnynt gan hyn yn dal yn rhy ifanc i gael eu clywed yn uchel.

Yn olaf, galwaf ar y Llywodraeth i ailystyried y penderfyniad y mae wedi'i wneud ar gludiant i ddysgwyr. Mae gormod o blant yn cael eu siomi gan y penderfyniad hwn. Rwy'n arbennig o bryderus ynghylch sut y bydd yn effeithio ar ysgolion cyfrwng Cymraeg, unwaith eto, mewn cymunedau fel y Cymoedd sydd â dalgylchoedd mwy. Os ydyn ni'n mynd i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg, mae'n rhaid i ni ei gwneud hi'n haws, nid yn anoddach, i rieni nad ydynt yn siarad Cymraeg eu hunain gymryd y cam hwnnw i anfon eu plant i addysg Gymraeg. Allwn ni ddim ei gwneud hi'n anoddach iddyn nhw gyrraedd yno, neu ni fydd yr un ohonom yn y pen draw yn y lle rydyn ni eisiau neu angen bod.

17:20

A gaf i ddiolch i Delyth Jewell am ei chyfraniad hefyd heddiw? Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda llefarwyr yr wrthblaid mewn meysydd y maen nhw'n pryderu amdanyn nhw sy'n benodol i'w pleidiau a'u hardaloedd daearyddol penodol. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at weithio gydag Aelodau ar draws y Siambr i archwilio atebion ar gyfer yr heriau sy'n ein hwynebu ac y mae'r bobl yr ydym ni'n eu gwasanaethu yn eu hwynebu o ddydd i ddydd.

O ran cyllid bysiau, credaf ei fod yn bwynt hynod werthfawr y mae'r Aelod yn ei wneud, bod gwasanaethau bysiau yn gwbl hanfodol i lawer o bobl yn ein cymdeithas. Nid oes gan un o bob pump o bobl fynediad at unrhyw ddull arall o deithio. Iddyn nhw, nid dewis yw'r bws, dyma'r unig drafnidiaeth sydd ar gael, felly mae'n hanfodol bwysig ein bod yn creu pont wrth symud tuag at ailreoleiddio. Unwaith y bydd y Bil bysiau wedi'i basio gan y Senedd hon, a gobeithiaf y bydd pob plaid yn cefnogi'r ddeddfwriaeth honno, byddwn yn gallu dylunio system lle rydym yn rhoi teithwyr cyn elw. Yn y cyfamser, mae'n rhaid i ni greu pont i'r cyfnod hwnnw. Mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio'n agos iawn gyda chwmnïau bysiau a gydag awdurdodau lleol yn edrych ar sut y gallwn ni ddefnyddio'r adnoddau presennol a dynodi rhagor o adnoddau i wella gwasanaethau bysiau ledled Cymru.

O ran diogelwch i fenywod a merched, cefais adroddiad heddiw gan y Grŵp Cyflenwi Rheilffyrdd yr hoffent wneud gwaith yn yr union faes hwn. Rwy'n edrych ymlaen at ddysgu yn fuan, pan fyddaf yn cwrdd â nhw, beth mae eu gwaith yn ei olygu a beth fydd y canlyniadau tebygol, a gobeithio y gallai hyn fod yn rhywbeth y gallwn ni ei drafod yn fanylach pan fyddwn yn cyfarfod yn ddiweddarach yr wythnos hon. Credaf hefyd ein bod ni wedi cyrraedd pwynt, ydw yn wir, o ran y terfyn 20 mya lle mae consensws fod, yn yr ardaloedd hynny lle mae plant mewn perygl—ac rydych chi'n gywir, nid dim ond tu allan i ysgolion yw hynny—lle mae plant mewn perygl, lle mae pobl fregus mewn perygl, lle mae'r henoed mewn perygl, lle mae pobl yn cerdded a beicio mewn perygl, mae'n rhaid i ni sicrhau eu bod yn cael eu diogelu. Mae angen i ni helpu pobl i deimlo'n fwy diogel yn eu cymunedau. Ac wrth gwrs, lle mae yna ffyrdd wedi'u nodi gan y bobl rydym ni'n eu gwasanaethu a chan awdurdodau lleol a ddylai ddychwelyd i 30 mya efallai, byddwn yn cynorthwyo yn yr ymdrech honno. Ond mae'r egwyddor o wneud Cymru'n fwy diogel yn sefyll, a chredaf fod hynny'n cael ei gefnogi, er gwaethaf peth o'r rhethreg, gan y mwyafrif, y mwyafrif helaeth, o'r Aelodau yma.

O ran trafnidiaeth i ddysgwyr, mae hwn yn faes sy'n peri pryder sydd ar restr hir o bynciau a ddylai fod yn denu rhagor o adnoddau, er bod ein cyllidebau'n parhau i leihau. Mae'n rhywbeth yr hoffwn i fynd i'r afael ag ef gyda chydymdeimlad ac empathi mawr, ond y gwir amdani yw ein bod yn wynebu amseroedd o brysur bwyso difrifol o ran cyllidebau Cymru.

Ac yn olaf, o ran HS2, roedd y cyngor cyfreithiol yn glir iawn y byddem yn debygol o fethu. Pan fyddwch yn cymryd cyngor cyfreithiol o'r natur honno, mae'n rhaid i chi farnu a fyddai'n synhwyrol ac yn ddoeth i'r pwrs cyhoeddus parhau â rhywbeth rydych chi'n gwybod fydd yn aflwyddianus. Wedi dweud hynny, fe ddylem ni fod wedi elwa o £350 miliwn hyd yma. Mae gwobrau enfawr i'w hennill os bydd Llywodraeth y DU—ac rwy'n amau mai'r un bresennol fydd honno, ond os yw Llywodraeth y DU yn y dyfodol—yn ymrwymo i fuddsoddi yn seilwaith rheilffyrdd Cymru fel sydd ei angen ac fel sy'n ddyledus inni; byddai manteision enfawr i'w cael o hyn yn y gogledd, yn y de, yng nghanolbarth ac yng ngorllewin Cymru.

17:25

Roedd y symudiad i barthau 20 mya yn digwydd ymhell cyn cyflwyno'r terfyn cyflymder diofyn o 20 mya. Mewn ardaloedd lle nad oedd parthau 20 mya, roedd rhwystrau igam-ogam, twmpathau arafu a dulliau eraill o arafu traffig yn cael eu cyflwyno.

Mae etholwyr wedi dweud wrthyf i, 'Nid oes angen terfynau cyflymder; gadewch i yrwyr benderfynu', bod marwolaeth ac anaf difrifol yn bris sy'n werth ei dalu am 30 mya, ac, y peth tristaf i gyd, os yw plentyn yn cael ei daro a'i ladd, 'Wel, eu bai nhw yw hynny.' Rwy'n cefnogi 20 mya ar ffyrdd mewn ystadau ac ardaloedd o dai hŷn. Mae ffyrdd A a B yn wahanol; dyna pam eu bod yn cael eu dosbarthu felly. Ac rwy'n gofyn i awdurdodau lleol benderfynu ar benderfyniadau ar derfynau cyflymder ar ffyrdd A a B heb unrhyw ganllawiau gan Lywodraeth Cymru.

A yw'r Gweinidog yn cytuno, o ran trafnidiaeth gyhoeddus, bod angen ail-gydbwyso cymorth rhwng bysiau a'r rheilffyrdd? I'r rhan fwyaf o fy etholwyr, mae trafnidiaeth gyhoeddus yn golygu bysiau, ac fel y gŵyr y Gweinidog, mae dros 80 y cant o deithiau trafnidiaeth gyhoeddus yn cael eu gwneud ar fws. Mae preifateiddio wedi methu ar gyfer defnyddwyr bysiau ac rwy'n edrych ymlaen at y Bil bysiau.

A gaf i ddiolch i Mike Hedges am ei sylwadau? Maen nhw'n anodd iawn, iawn i anghytuno â nhw neu i ganfod unrhyw ddiffyg ynddynt. Byddwn i'n cytuno bod angen i ni nodi ffyrdd o wella darpariaeth bysiau ledled Cymru, a bydd hynny'n cael ei wneud ar y cyd â'n gwaith o bwyso am y ddeddfwriaeth sydd ei hangen mor daer arnom ni. Roedd preifateiddio gwasanaethau bysiau yng nghanol yr 1980au yn drychineb llwyr, yn gamgymeriad mawr, ond byddwn yn ei gywiro gyda'n deddfwriaeth, a byddwn yn edrych am unrhyw ffordd i wella gwasanaethau bysiau i bobl Cymru yn y cyfamser.

Rwyf hefyd yn credu, o ran 20 mya, wrth gwrs, fod parthau 20 mya yn bodoli cyn i'r polisi gael ei gyflwyno ac mae'n ymddangos fy mod yn cofio, rai blynyddoedd yn ôl, Aelodau'r Siambr hon yn rhuthro i gael tynnu lluniau, gan weiddi fod 'ugain yn ddigon', ond sydd bellach yn gwrthwynebu'r polisi. Rwy'n credu ei bod hi'n gwbl hanfodol, serch hynny, ein bod ni yn ymbwyllo ac yn rhoi ffrwyn ar y rhethreg dros hyn ar bob ochr, oherwydd credaf y gallwn ni gyrraedd sefyllfa lle mae consensws ledled y wlad, lle mae 20 mya yn gweithio, ei fod yn gweithio'n dda iawn wrth amddiffyn pobl ac y dylai aros, a, lle nad yw'n gweithio, gellir gwneud cywiriadau.

Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Mae gen i ddiddordeb gwybod sut y gallai eich canllawiau a'ch proses fynd i'r afael â rhai cyfyngiadau cyflymder eraill ar y ffyrdd hefyd, fel 30 mya a 40 mya. Felly, er enghraifft, mae yna lawer o barthau 30 mya sy'n fwy priodol i fod yn 40 mya, a pharthau 40 mya i fod yn 30 mya. Er enghraifft, os ydw i'n teithio ar hyd y gefnffordd yng nghanolbarth Cymru, pentrefannau tebyg iawn, mae un ar hyn o bryd yn 20 mya ac mae un yn 40 mya. Yn fy marn i, byddai'n llawer mwy synhwyrol petai'r ddau yn 30 mya. Felly, dim ond i ddeall sut y gellid mynd i'r afael â hynny yn y datganiad rydych chi wedi'i amlinellu heddiw, Gweinidog.

Yn ogystal, dros y 13 mlynedd diwethaf, fy mhrofiad o fod yn aelod lleol yw fy mod yn aml yn cael sylwadau gan gynghorau tref neu gymuned, a chynghorwyr sir, a gofynnir i mi gyflwyno sylwadau ar eu rhan. Os yw'n gefnffordd, rwy'n gwneud hynny i Weinidogion Llywodraeth Cymru. Yr ateb arferol y byddaf yn ei gael yn ôl yw, 'Wel, byddwn yn edrych ar hyn yn yr adolygiad ffyrdd nesaf, sy'n digwydd ymhen hyn a hyn o flynyddoedd.' Os byddaf yn ysgrifennu at awdurdodau lleol, yr ateb a gaf yn ôl yw, 'Does gennym ni mo'r arian ar gael ar hyn o bryd mewn gwirionedd.' Felly, sut, yn y broses hon, y gallwch ei gwneud hi'n haws, lle mae cefnogaeth leol glir drwy'r dref, y gymuned, Aelodau'r Senedd leol, i wneud newidiadau i gyfyngiad ar y ffyrdd, ac nad yw'r un ymateb ag yr wyf newydd ei amlinellu i chi?

17:30

Wel, a gaf i ddiolch i Russell George am ei gyfraniad? Cefais sgwrs gydag un arall o'ch cyd-Aelodau, Darren Millar, y prynhawn yma, ynglŷn â chefnffordd drwy ei etholaeth. Mae yn Llanferres. Aeth tri o fy neiaint i'r ysgol yn Llanferres, ac rwy'n adnabod yr ardal honno'n dda iawn. Ar hyn o bryd mae'n 40 mya, a hoffai Darren Millar ei weld yn gostwng i 30 mya. Byddwn i hefyd. Rwy'n credu y byddai'n gwneud synnwyr mawr o ran diogelwch ar y ffyrdd.

Mae yna ddarnau eraill o ffyrdd fel yna ar draws Cymru y dylid eu lleihau mewn cyflymder efallai. Y ffordd fwyaf priodol o wneud hynny fyddai trwy orchmynion rheoleiddio traffig. Nawr, mae pob plaid yn derbyn, rwy'n credu, bod y ddeddfwriaeth sy'n sail i orchmynion rheoleiddio traffig yn drwsgl ac nad yw'n addas i'r diben. Mae honno'n ddeddfwriaeth y mae Llywodraeth y DU yn gyfrifol amdani ar hyn o bryd. Mae'n gyfrifoldeb a gadwyd yn ôl sy'n berthnasol iddo. Felly, fe hoffem ni weld Llywodraeth yn y dyfodol yn diwygio'r problemau a grëwyd drwy'r Ddeddf sy'n sail i orchmynion rheoleiddio traffig.

Yn y cyfamser, mae dwy broblem yn wynebu awdurdodau lleol. Un yw cyllid, yr wyf eisoes wedi'i chrybwyll, a'r ail yw'r broses ei hun a nifer y ceisiadau am newid cyflymder darnau o ffyrdd. Felly, byddaf yn cyflwyno sylwadau i Weinidogion Llywodraeth y DU ynghylch y Ddeddf y mae gorchmynion rheoleiddio traffig yn deillio ohoni, yn y gobaith y gallwn ni gael ffordd llawer symlach ac effeithlon o newid cyfyngiadau cyflymder ledled y DU yn y dyfodol.

Rwy'n croesawu datganiad heddiw. A gaf i ganolbwyntio fy sylwadau ar fysiau, os gwelwch yn dda? Roeddwn yn falch o glywed yn eich ymateb y gydnabyddiaeth mai dyma'r unig ffordd o deithio i nifer o bobl yn ein cymunedau. Rwy'n gwybod ei fod yn aml yn un o'r cwynion, achos mae'n effeithio wedyn ar bobl yn gallu cyrraedd apwyntiadau meddygol, sydd wedyn yn golygu methu apwyntiadau, ac yn y blaen. Mae angen i ni sicrhau bod pwyslais, felly rwy'n croesawu'r sylwadau gan Mike Hedges hefyd, oherwydd mae'n rhaid blaenoriaethu cael hyn yn iawn i fynd i'r afael ag ynysu yn ein cymunedau hefyd.

Hoffwn hefyd ategu'r pwynt a wnaed gan Delyth Jewell ynghylch mesur teithio dysgwyr, a gofyn a allwch chi weithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i weld a oes unrhyw beth y gallwn ni ei wneud i sicrhau bod y plant hynny sy'n colli'r ysgol ar hyn o bryd oherwydd na allan nhw fforddio mynd ar fws—. Mae newidiadau ar y gorwel, mewn llefydd fel Rhondda Cynon Taf, fydd yn golygu bod llai o ddisgyblion yn gymwys. A allwch chi weithio i sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn colli diwrnod ysgol oherwydd nad yw'n gallu fforddio'r bws?

Gallaf, fe allaf sicrhau'r Aelod y byddaf yn gweithio'n agos iawn gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros addysg ar ddyfodol teithio dysgwyr. Mae'n rhywbeth rwy'n gwybod bod Lynne Neagle yn bryderus iawn, iawn amdano—yr angen i sicrhau ein bod yn lleihau absenoldeb yn yr ysgol, sy'n aml yn gysylltiedig â ffactorau eraill, ond sy'n gallu bod oherwydd bod diffyg trafnidiaeth ar gael. Mae'n ffaith o hyd, mae gen i ofn, mewn rhannau o Gymru, na all hyd at 20 y cant o bobl ifanc hyd yn oed gyrraedd eu cyfweliad swydd oherwydd nad ydyn nhw'n gallu fforddio na chael mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus, yn bennaf mewn ardaloedd lle mae yna wasanaethau bysiau yn unig.

Gadewch i mi eich sicrhau bod dyfodol bysiau yng Nghymru yn un o'm prif flaenoriaethau. Mae gwella trafnidiaeth gyhoeddus yn gwbl hanfodol er mwyn sicrhau bod pobl yn cael dewis arall i'r car. Os ydym ni am sicrhau ein bod yn cael newid moddol, mae'n rhaid i ni sicrhau bod yna system drafnidiaeth gyhoeddus addas i'r unfed ganrif ar hugain sy'n cynnig gobaith a chyfle i bawb yng Nghymru.

Gallaf feddwl am dri rheswm pam mae angen diwygio'r polisi hwn. Yn gyntaf oll, mae yna ffordd yn fy etholaeth sy'n 20 mya, ac mae bron pawb yn cytuno y dylai fod yn 30 mya. Prin fod unrhyw dai arni, ac mae pobl ond yn anwybyddu'r terfyn cyflymder, sy'n tanseilio holl ethos yr 20 mya. Mae yna ffordd yn fy etholaeth i sy'n 60 mya ac sydd â thri thŷ arni, ac fe ddylai fod, yn y fan yna, yn 20 mya. Ac mae ystadau diwydiannol y mae'r cwmnïau bysus wedi dweud y dylent fod yn 30 mya, nid 20 mya, oherwydd eu bod yn arafu eu llwybrau. Y tair enghraifft hynny, rwyf wedi codi gyda'r cyngor, a phob tro, yr ymateb yw, 'Ni allwn wneud hynny, oherwydd ni fydd y canllawiau yn gadael i ni.' Felly, mae'n amlwg bod angen adolygu'r canllawiau hyn, i ddatrys y broblem hon, ond hefyd, yn bwysig, cynnwys cynghorwyr ward lleol yn y penderfyniad hwn, o ba bynnag blaid. Rydych chi'n gwybod y byddan nhw mewn cyswllt agos iawn—neu'r cynghorwyr gorau, beth bynnag—mewn cysylltiad â thrigolion, a bydd eu cael yn rhan o'r drafodaeth yn helpu i ddod â newid perthnasol pellach a fydd yn datrys rhai o'r problemau gyda chyflwyno'r polisi hwn.

17:35

A gaf i ddiolch i Hefin David am ei sylwadau, a gwneud dau bwynt mewn ymateb? Un, rwy'n awyddus i ymweld ag etholaethau a rhanbarthau gydag Aelodau i ddeall sut mae'r polisi hwn o fudd i bobl a chymunedau, fel yr amlinellwyd gan lawer o bobl, ond hefyd i edrych ar y ffyrdd hynny y gellid eu hadolygu a'u troi'n ôl i 30 mya. Felly, rwy'n hapus i ymweld ag unrhyw etholaeth gydag unrhyw Aelod fel rhan o'n rhaglen o wrando ar bobl Cymru. A byddwn yn cytuno â Hefin David ar yr ail bwynt bod cynghorwyr ward yn hanfodol bwysig wrth sicrhau ein bod yn gwrando ar bobl ac yn gwneud newidiadau sy'n briodol, ac yn sensitif hefyd, i gymunedau. Roedd yn ffaith yn ystod COVID, y cawsom ein hatgoffa ohoni yn rheolaidd, po agosaf ydych chi at gymunedau, fel cynrychiolydd etholedig, y mwyaf y mae pobl yn ymddiried ynoch chi. Felly, bydd cynnwys cynghorwyr yn y rhaglen wrando yn gwbl ganolog i'r hyn a wnawn.

A gaf i fanteisio ar y cyfle i groesawu Ysgrifennydd y Cabinet i'w rôl a dechrau drwy ddiolch i'w ragflaenydd am y gwaith a wnaeth i sicrhau goleuadau traffig ar gyffordd Nash Fingerpost ar yr A477, nad yw wedi ei gwblhau eto, ond gwn fod y gymuned yn ddiolchgar iawn am y gwaith ar hynny? Fodd bynnag, rwyf yn ailadrodd fy ngalwadau am adolygiad llawn o ddiogelwch ar hyd yr A477 o Sanclêr i Ddoc Penfro, yn dilyn nifer o faterion a godwyd gyda mi gan drigolion Milton, Rhos-goch a Llanddowror. A gaf i holi a gofyn am estyniad i'r adolygiad hwn i gwmpasu rhan yr A40 rhwng Sanclêr a Chaerfyrddin? Nawr, mae'r rhan hon o'r ffordd wedi cael ei galw'n un o ffyrdd peryclaf y genedl, gan ystyried y nifer fawr o gyffyrdd ar y brif gerbytffordd, ac nid oes gan y rhan fwyaf ohonyn nhw lonydd ymuno. Yn wir, ers dechrau'r ddegawd, yn anffodus rydym ni wedi gweld y ffordd hon yn hawlio tri bywyd—rhai James Beer ym mis Medi 2020, Swyddog Heddlu Dyfed-Powys Lynwen Thomas ym mis Chwefror 2021, ac Owen Lewis yn oriau mân Dydd Llun y Pasg eleni. Mae astudiaeth arweiniad ar werthuso trafnidiaeth yn cael ei chynnal ar y rhan hon o'r ffordd, fodd bynnag, fe hoffwn i wybod canlyniad hyn. Ond os yw Ysgrifennydd y Cabinet yn ddidwyll yn ei gynnig o wrando, a gaf i ofyn iddo wrando ar fy ngalwadau a  chreu adolygiad diogelwch o'r holl ddarn o'r A40 a'r A477 rhwng Doc Penfro a Chaerfyrddin? Diolch, Dirprwy Lywydd.

Diolch i Sam Kurtz am ei sylwadau ac am ei gwestiynau, ac rwy'n gwybod gan Joyce Watson ac Eluned Morgan pa mor bwysig yw diogelwch ar y ffyrdd yng nghanolbarth a gorllewin Cymru. Deallaf fod cyffordd yr A477 Nash Fingerpost yn fater a aeth i'r Pwyllgor Deisebau ac a gafodd ei hystyried gan Jack Sargeant a'r pwyllgor. Rwy'n ddiolchgar iawn i Lee Waters am fynd ar ofyn gwelliannau diogelwch ar y gyffordd honno, a fydd yn cael eu cyflawni.

Rwyf hefyd yn barod i drafod sut i wella'r A477 i gyd, ac os byddai'r Aelod yn dymuno cyfarfod â mi, rwy'n fwy na pharod i drafod hynny ymhellach. Ac, wrth gwrs, ar yr A40, mae gwelliannau diogelwch rhwng Sanclêr a Chaerfyrddin bellach yn cael eu hystyried, ac mae cynllun diogelwch ar y ffyrdd wedi'i gynnwys yn y cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth. Ar hyn o bryd mae'n cael ei ddatblygu drwy gamau WelTAG, a bydd y cynllun, gallaf eich sicrhau, o fudd i bawb sy'n defnyddio'r ffordd. Ond, unwaith eto, byddwn yn hapus i gael sgwrs fanylach am y rhaglen benodol honno gyda'r Aelod.

Mae yna argraff glir yng nghefn gwlad Cymru erbyn hyn fod y Llywodraeth yma wedi cefni ar Gymru wledig. Yn fy etholaeth i, rydyn ni wedi gweld gwasanaethau bysiau y T2, y T3, y T19, gwasanaeth y 32, ac eraill, yn crebachu. Canlyniad hyn, wrth gwrs, ydy bod pobl yn methu mynd i'r ysgol, neu fynd i'r colegau, pobl yn methu mynd i'r siopau, pobl yn methu mynd i'r gwaith. Ar ben hyn, yr wythnos diwethaf, ddaru ni glywed bod llinell trên y Cambrian am gwtogi ei gwasanaethau, ond yn ymestyn nhw yn ystod yr haf ar gyfer twristiaid, a'r un modd wedyn hefyd efo llinell Calon Cymru yn gweld gwasanaethau wedi'u cwtogi.

Roeddech chi'n dweud ar ddechrau eich cyflwyniad chi mai eich bwriad chi a'ch gobaith chi oedd gwrando ar bobl. Yn yr holl achosion yma, does yna ddim ymgynghoriad llawn wedi bod a dydy pobl y cymunedau sy'n cael eu heffeithio ddim wedi cael eu lleisiau wedi'u clywed neu wedi cael cymryd rhan mewn proses i benderfynu ar hyn. Felly, pa gamau ydych chi am eu cymryd er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau bysys yma am ddod yn ôl, a'n bod ni ddim am golli gwasanaethau trenau y llinell Cambrian a llinell Calon Cymru?

17:40

Hoffwn roi sicrwydd i Mabon ap Gwynfor fod dyfodol cymunedau gwledig yr un mor bwysig i Lywodraeth Cymru â dyfodol cymunedau trefol. Ac o ran cefnogaeth i wasanaethau bysiau ac ymgynghori â chymunedau mewn ardaloedd gwledig, rwyf eisoes wedi siarad â Trafnidiaeth Cymru i sicrhau bod ymgynghoriadau llawn yn digwydd yn y dyfodol gyda phobl mewn cymunedau lle gallai newidiadau i wasanaethau gael effaith.

Credaf fod y sylw y mae'r Aelod yn ei wneud am heriau mewn ardaloedd gwledig yn arbennig o bwysig o ran y gwaith sy'n cael ei wneud gan Drafnidiaeth Cymru ac awdurdodau lleol ar y cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol. Mae'r rhain yn gynlluniau hynod bwysig a fydd yn galluogi ac yn grymuso rhanbarthau i ddatblygu patrymau gwasanaeth, darparu gwasanaethau, ar gyfer y cymunedau y maen nhw'n eu gwasanaethu. Rwy'n credu'n gryf bod awdurdodau lleol a chynghorwyr yn adnabod eu cymunedau orau, ac felly os ydyn nhw'n arwain ar gynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol, gyda chefnogaeth Trafnidiaeth Cymru, rwy'n credu'n gryf y byddwn yn gweld gwell rhwydwaith o drafnidiaeth gyhoeddus i bobl Cymru ar draws pob cymuned.

Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am y datganiad heddiw. Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn y Rhondda yn profi un o'i drawsnewidiadau mwyaf gyda'r addewid o deithio gwyrddach, cyflymach ac amlach ar y rheilffordd, ond yn y Rhondda Fach does dim gwasanaeth trên, mae'r ffordd osgoi ond yn cyrraedd cyn belled â Phont-y-gwaith, ac er bod pedwar bws yr awr, mae trigolion sy'n teithio ar fws yn talu mwy na thrigolion y Rhondda Fawr sy'n gallu teithio ar y trên. Mae grŵp angerddol o bobl sy'n ymgyrchu am fwy na £200 miliwn i gwblhau ail gam y ffordd osgoi, ond rwy'n credu bod ateb llawer mwy cyraeddadwy i'w ganfod y gellir ei weithredu yn llawer cynt. Rhannodd dros 600 o drigolion eu barn gyda mi ynghylch ailgyflwyno'r bysiau gwennol trên, gyda dros 90 y cant yn dweud y byddent yn dal y bws trên a dros 85% yn dweud y byddent yn defnyddio'r trên yn fwy. A wnaiff y Gweinidog gyfarfod â mi i drafod y data hwn ac o bosib cael trafodaeth ehangach gyda darparwyr bysiau lleol, Trafnidiaeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf?

A gaf i ddiolch i Buffy Williams am ei chais a dweud, ydw, rwy'n fwy na pharod i gwrdd â chi a'ch trigolion ac unrhyw un arall sydd â diddordeb ynghylch dyfodol trafnidiaeth gyhoeddus yn eich cymunedau? Rwy'n credu eich bod yn gwneud sylw amhrisiadwy bod cyfiawnder cymdeithasol wrth wraidd darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus, ac rydym yn benderfynol, trwy ddeddfwriaeth, drwy'r Bil bysiau, i sicrhau cyfiawnder cymdeithasol i bobl nad ydynt, ar hyn o bryd, yn gallu mynd o'u cartrefi i wasanaethau neu weithio yn hawdd ac yn ddibynadwy ac yn fforddiadwy ar fws neu ar y trên. Rwy'n gwybod, yn y Rhondda, fod y cymorth sy'n cael ei ddarparu ar gyfer gwasanaethau bysiau wedi golygu bod cyngor Rhondda Cynon Taf wedi gallu diogelu a chadw gwasanaethau bysiau yn eu hardaloedd, yn ogystal ag adfer rhai gwasanaethau bws gyda'r nos ar rai llwybrau, ond rwyf yn cydnabod yr her benodol sy'n wynebu trigolion yn y Rhondda Fach, a dyna pam y byddaf yn hapus i gwrdd â nhw a gyda chi. 

Yn y datganiad, dywedodd y Gweinidog

'rydym wedi derbyn argymhellion Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru ar gyfer rheoli traffig yn well yng nghyffiniau pont Menai.'

Roedd argymhellion y comisiwn yn ymwneud â rheoli traffig yng nghyffiniau Pont Britannia. Ydy'r Gweinidog yn sôn am y bont gywir? Ac o ystyried ei ddatganiadau am fod yn fodlon, efallai, i edrych eto ar yr angen am ddeuoli, yn y bôn, pont Britannia, gyda thrydedd groesfan dros y Fenai, a all roi mwy o fanylion inni ynghylch sut mae'n bwriadu bwrw ymlaen â hynny?

Diolch, ac ymddiheuriadau—roeddwn i'n meddwl fy mod i'n cyfeirio at groesfan y Fenai, yr ydw i wastad yn ei hystyried yn bont Britannia. Os dywedais 'Pont Menai', rwy'n ymddiheuro, ond roeddwn i'n golygu dweud 'croesfan y Fenai'. 

Nawr, mae'r argymhellion gan gomisiwn Burns bellach wedi derbyn cymorth ariannol ar gyfer bwrw ymlaen â nhw, ac maen nhw'n cynnwys ymyriadau y gellir eu datblygu yn bur gyflym hefyd a ddylai wella cydnerthedd yn y maes hwnnw. Fodd bynnag, ar yr un pryd, rydym yn cydnabod bod angen i ni gadw llygad ar anghenion pobl Ynys Môn yn y dyfodol, gwrando ar gymunedau, gwrando yn arbennig ar yr awdurdod lleol, ac i'r perwyl hwnnw byddaf yn cyfarfod â chynghorwyr i drafod dyfodol croesfan y Fenai a thrydedd groesfan bosibl dros y Fenai. Mae'n rhaid i mi rybuddio o ran unrhyw drafodaeth am adeiladu ffyrdd yn y dyfodol, serch hynny, bod ein cyllid cyhoeddus yn hynod dynn, yn enwedig cyllid cyfalaf. 

Ond rwy'n cydnabod, yn enwedig gyda photensial Wylfa Newydd, y gallai fod galw ychwanegol sylweddol am le ar y ffyrdd ac am drafnidiaeth gyhoeddus hefyd ar yr ynys ac i'r ynys, y bydd angen mynd i'r afael ag ef fel rhan o unrhyw ystyriaeth o'r hyn sy'n cael ei adeiladu ar safle Wylfa Newydd, a'r potensial am gyflogaeth ychwanegol. Felly, byddaf yn cyfarfod â'r Aelod, rwy'n siŵr, am groesfan y Menai, boed yn rhan o grŵp trawsbleidiol neu yn ni ein dau, a byddaf yn falch iawn o glywed ei farn am y pwnc hwn.  

17:45

Rwy'n croesawu'r datganiad, Ysgrifennydd Cabinet. Bydd gweithio mewn partneriaeth yn bwysig iawn i gynghorau yn y gogledd, gan fod ganddyn nhw lawer o brif lwybrau gydag ardaloedd preswyl poblog ar hyd y prif lwybrau hynny. Rwy'n croesawu y bydd croesfan yr A494 dros yr Afon Dyfrdwy, sydd wedi bod yn dirywio dros y blynyddoedd diwethaf, yn mynd yn ei blaen. A fydd ymgynghoriad ar y cynlluniau yr haf hwn, fel y cynlluniwyd o'r blaen? A dim ond ynglŷn â ffyrdd a gynhelir yn lleol yn ogystal â phriffyrdd strategol, maen nhw hefyd yn dirywio'n gyflym. Rwy'n gwybod ein bod ni wedi gweld dros ddegawd o gyni sydd wedi cael effaith wirioneddol. Wrth symud ymlaen, sut y byddwch chi'n gallu mynd i'r afael â hyn gyda'ch cyllideb gyfyngedig? 

Rwy'n credu bod Carolyn Thomas yn gwneud pwynt pwysig iawn am yr angen i gynnal y rhwydwaith ffyrdd. Mae'r rhwydwaith ffyrdd ar gyfer pawb sy'n ei defnyddio—i fodurwyr ac i feicwyr—ac mae rhwydwaith ffyrdd a gynhelir yn wael yn beryglus i fodurwyr ac i feicwyr. Un thema allweddol sydd wedi dod i'r amlwg o'r trafodaethau rwyf wedi'u cael gydag arweinwyr ac aelodau arweiniol yr wythnos hon ledled Cymru yw'r angen i fynd i'r afael â phryderon ynghylch cynnal a chadw ffyrdd. Wrth gwrs, mae ystyriaethau ariannol yn flaenllaw yn yr hyn a wnawn ni ar hyn o bryd, o ystyried bod cyllid cyhoeddus dan straen, ond rydym yn chwilio am bob ffordd o ryddhau cymaint o arian ag y gallwn ni i fynd i'r afael â'r ffyrdd hynny y mae angen cynnal a chadw brys arnynt. 

Wrth gwrs, mae'n werth cofio hefyd—ac fe gaiff y Gweinidog Cyllid fy nghywiro ynghylch hyn—bod awdurdodau lleol wedi cael eu diogelu'n well yn ystod ac ers cyni nag awdurdodau lleol yn Lloegr, sydd efallai'n esbonio pam, pan fyddwch chi'n gyrru ar ffyrdd dros y ffin, rydych chi'n dod o hyd i dyllau ym mhobman. Nid yw hynny'n golygu nad oes gennym her yma yng Nghymru, ond o leiaf rydym wedi diogelu cynghorau yn well i gadw eu ffyrdd yn cael eu cynnal a'u cadw'n well. 

Fe hoffwn i ailadrodd y pwynt y mae Heledd Fychan eisoes wedi'i wneud ynglŷn â chludiant o'r cartref i'r ysgol. Rhywbeth sydd wedi dod yn amlwg iawn i mi ers fy ethol i'r Senedd yw'r rhwystr y mae hynny'n ei gyflwyno i lawer o deuluoedd, nid yn unig yn fy rhanbarth fy hun ond ledled Cymru, yn enwedig i'r rhai o gefndiroedd incwm isel. Rwy'n rhoi esiampl o gwm Llynfi. Ym mlaenau cwm Llynfi—bydd Aelodau yn y Siambr sy'n ymwybodol o'r lle—mae Caerau. Mae gennym ni sefyllfa lle mae angen i blant o gefndiroedd incwm isel gerdded dros awr i gyrraedd yr ysgol ym mhob tywydd, rhai ohonyn nhw'n cyrraedd yr ysgol, pe bai hi wedi bod yn bwrw glaw, yn wlyb domen ac yn eistedd yn yr ysgol am weddill y dydd yn wlyb domen. Mae hynny'n rhwystr enfawr i lawer o bobl, yn rhwystr na ddylai fodoli, ac rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn ei datrys cyn gynted â phosib. 

A gaf i ddiolch i Luke Fletcher am wneud unwaith eto sylw gwerthfawr iawn am gludiant i ddysgwyr? Dylai pob person ifanc ddisgwyl gallu cael eu haddysgu lle maen nhw'n dymuno cael eu haddysgu, boed hynny drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg, a dylid rhoi'r cymorth sydd ei angen. Rwy'n amau mai eitem rhif 1 ar yr agenda fydd hon pan fyddaf yn cwrdd â Delyth Jewell yn ddiweddarach yr wythnos hon. Byddaf yn sicr o gael sgwrs drylwyr am ddyfodol teithio i ddysgwyr a'r hyn y gallwn ni ei wneud i helpu pobl ifanc ledled Cymru.  

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad heddiw? Rwy'n cytuno'n fawr bod consensws cryf yn y Siambr hon a hefyd allan yn ein cymunedau bod y polisi 20 mya yn sylfaenol gywir, ac mae ei angen i amddiffyn ein cymunedau, yn enwedig plant. Dyna rwy'n clywed gan bobl yn Nwyrain Casnewydd. Ond maen nhw hefyd yn cytuno'n fawr iawn bod nifer fach o ffyrdd y gellid eu toi'n ôl o 20 mya i 30 mya heb gyfaddawdu'r diogelwch ar y ffyrdd sydd mor bwysig. Felly, rwy'n cytuno'n fawr â'r hyn y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i ddweud heddiw. 

Un o'r materion yr hoffwn sôn amdano'n fyr yw teithio llesol, Ysgrifennydd Cabinet. Mae'n dda iawn bod Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod cymaint o arian ar gael ar gyfer teithio llesol, sydd, yn fy marn i, yn gwbl gywir, ond ni yw pob man yng Nghymru yn cael yr un budd ohono. Er bod amgylchiadau gwahanol mewn gwahanol ardaloedd, credaf fod achos i'w wneud dros fwy o gefnogaeth ganolog, gan gydnabod y gwahanol gapasiti mewn adrannau priffyrdd awdurdodau lleol gwahanol, a swyddogion teithio llesol yn arbennig. Mae lle yma i Trafnidiaeth Cymru, rwy'n gwybod, ond a wnewch chi sicrhau bod yr ymgyrch ganolog honno yn bodoli i sicrhau bod ein cymunedau i gyd yn elwa o bolisi teithio llesol?

17:50

Bu John Griffiths wastad yn eiriolwr cadarn dros amddiffyn pobl ifanc a bregus, ac rwy'n diolch iddo am y gwaith y mae wedi'i wneud yn hynny o beth. O ran teithio llesol, credaf fod yr Aelod yn llygad ei le bod angen cymorth ar awdurdodau lleol i ddatblygu cynlluniau a chynigion ar gyfer gwell teithio llesol, a dyna pam rydym ni'n datblygu'r cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol hynny, gyda chymorth Trafnidiaeth Cymru. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi dod â dirnadaeth a chyngor amhrisiadwy i lawer o awdurdodau lleol yn barod, yn unigol ac yn rhanbarthol, ac rwy'n benderfynol o sicrhau bod y cymorth hwnnw'n parhau i fod ar gael i gynghorau ledled Cymru.

Rwy'n croesawu eich pwyslais ar ymgynghori â rhanddeiliaid cyn i chi ruthro i wneud penderfyniadau. Nid wyf eto wedi cwrdd ag unrhyw un sydd eisiau cynyddu'r terfyn cyflymder ar y ffordd maen nhw'n byw arni, a meddwl ydw i tybed a gawsoch chi—byddai gen i ddiddordeb clywed ganddyn nhw. Rydych chi'n dweud yn eich datganiad eich bod yn bwriadu caniatáu i Lywodraeth Cymru dalu am gost addasu llwybrau yn ôl i 30 mya. Mae hynny'n swnio ychydig fel gwobrwyo methu ag ymgynghori â chymunedau'n iawn yn y lle cyntaf, o gofio bod rhai awdurdodau lleol wedi dehongli'r rheoliadau yn wahanol iawn i eraill. Hoffwn eglurder y byddai Llywodraeth Cymru hefyd yn talu costau lleihau o 30 mya i 20 mya mewn ardaloedd lle mae pobl eisiau cyflymderau arafach yn eu cymunedau.

Yn olaf, rwy'n croesawu'n fawr eich pwyslais ar lonydd blaenoriaeth bysiau—ffordd bwysig iawn o gynyddu dibynadwyedd bysiau. Tybed, yn eich golwg chi ar gefnogi pobl i gerdded rhwng y cartref a'r cyrchfannau terfynol, pe byddech yn ystyried blaenoriaethu llwybrau cerdded a beicio i'r ysgol ac oddi yno, oherwydd, yn amlwg, plant yw'r rhai mwyaf agored i niwed ar y ffordd.

Allwn i ddim cytuno mwy. Yn fyr, oes, mae angen i ni flaenoriaethu llwybrau cerdded a llwybrau beicio i ac o ysgolion. Credaf fod yr ystadegau diweddaraf yn dangos cynnydd mewn gwirionedd yng nghyfran y bobl ifanc sy'n cerdded neu'n beicio i'r ysgol. Mae hynny i'w groesawu'n fawr, ond rwy'n gwybod, o sgyrsiau wrth giât yr ysgol, y byddai llawer mwy o rieni yn hoffi i'w plant feicio, neu y byddent yn cerdded gyda'u plant neu'n beicio gyda'u plant, pe bai'r seilwaith ar gael. Diogelwch yw'r pryder mwyaf y mae rhieni'n ei godi gyda mi bob amser, felly rwy'n benderfynol o bwyso am well cyfleoedd teithio llesol rhwng tai ac ysgolion.

O ran cefnogi cynghorau, byddwn, byddwn yn cefnogi cynghorau gyda newidiadau i'r naill gyfeiriad neu'r llall.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, a gaf i ofyn i chi am yr A494 ym Mhwll-glas ac yn Llanferres? Roeddech yn sôn am yr angen am gyflymder priodol ar ffyrdd priodol. Yn amlwg, mae'r terfyn cyflymder o 40 mya drwy'r ddau bentref hynny'n amhriodol, ac, wrth gwrs, mae'r rhain ar y rhwydwaith cefnffyrdd y mae Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol gyfrifol amdano. Rydych chi wedi dweud eich hun eich bod yn teimlo bod 30 mya yn fwy priodol yn Llanferres; ymwelodd y Prif Weinidog blaenorol, yn garedig iawn, â Phwll-glas, a gwelodd drosto'i hun y terfyn cyflymder amhriodol trwy'r pentref hwnnw a theimlai, yn yr un modd ag y gwnewch chi, y dylid lleihau cyflymder. A gaf i ofyn pa mor hir y bydd yn cymryd i Lywodraeth Cymru weithredu'r newidiadau hyn ar y ffyrdd y mae'n gyfrifol amdanyn nhw, nid dim ond y ffyrdd hynny y mae awdurdodau lleol yn gyfrifol amdanyn nhw?

Ac yn olaf, mae ffyrdd heb eu mabwysiadu yn dal i greu trafferthion mewn llawer o gymunedau ledled Cymru. Mae gan bob un ohonom ni nhw yn ein cymunedau, ond mae gen i'r broblem fwyaf o ran ffordd heb ei mabwysiadu, mewn ardal o'r enw Sandy Cove ym Mae Cinmel, a fu o dan ddŵr yn ddiweddar, ac oherwydd y diffyg draeniau ar y ffyrdd hynny, gwnaed y llifogydd hynny yn waeth. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd, pa adnoddau y mae Llywodraeth Cymru yn eu darparu, i fynd i'r afael â'r sefyllfa hon yn ein cymunedau, fel y gall pobl fyw ar ffyrdd y gallan nhw fod yn falch ohonyn nhw?

A gaf i ddiolch i Darren Millar am ei gwestiynau a chytuno y bu trigolion Llanferres a Phwll-glas yn glir iawn y dylid lleihau'r terfyn cyflymder drwy eu cymuned? Mae'n rhywbeth y mae swyddogion yn Llywodraeth Cymru yn ymwybodol ohono. Rwy'n hapus i ymweld â'r naill neu'r llall o'r pentrefi hynny, os byddai'r Aelod yn dymuno i mi wneud hynny, fel y galla i weld eto yr hyn sy'n digwydd ar lawr gwlad. O ran amserlenni ar gyfer unrhyw newid posibl, byddai angen i mi ysgrifennu at yr Aelod, oherwydd byddai'n rhaid ymgymryd â'r rhain yn unigol, ac nid ydynt yn rhan o'r adolygiad yr ydym yn ei gynnal ar hyn o bryd ynghylch 20 mya.

O ran ffyrdd heb eu mabwysiadu, rwy'n credu bod y sefyllfa ddiweddaraf i'w gweld mewn ateb i gwestiwn ysgrifenedig gan eich cyd-Aelod, arweinydd y Ceidwadwyr, felly mae gwybodaeth ar gael ynglŷn â ffyrdd heb eu mabwysiadu. 

17:55

Rydych chi eisoes wedi ateb y pwyntiau roeddwn i'n eu codi, os caf ddweud hynny.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.

A gaf i ddiolch i'r Aelodau am gadw at eu hamseroedd? Roedd yn caniatáu i bob Aelod ofyn eu cwestiynau. 

7. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cerbydau Awtomeiddiedig

Eitem 7 heddiw yw'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Cerbydau Awtomeiddiedig. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth i wneud y cynnig—Ken Skates.

Cynnig NDM8541 Ken Skates

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Cerbydau Awtomeiddiedig i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch am y cyfle hwn i egluro cefndir y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn ar y Bil Cerbydau Awtomataidd. Fel y nododd Llywodraeth y DU wrth gyflwyno'r Bil hwn, mae cerbydau awtomataidd yn prysur agosáu at bwynt ble gellid eu gwerthu mewn marchnadoedd ledled y byd, ac erbyn 2035, gallai 40 y cant o geir newydd yn y DU allu gyrru eu hunain. Mae'n edrych yn debygol y bydd dosbarthu nwyddau a gwasanaethau teithwyr yn gweithredu mewn cerbydau hunan-yrru o fewn amserlen debyg, felly mae angen i'r gyfraith fod yn barod ar gyfer y datblygiadau sylweddol hyn mewn technoleg trafnidiaeth. Felly, rwy'n croesawu'r Bil hwn, sy'n gweithredu argymhellion yr adolygiad pedair blynedd o reoleiddio ar gyfer cerbydau awtomataidd, a gynhaliwyd ar y cyd gan Gomisiwn y Gyfraith Cymru a Lloegr a Chomisiwn Cyfraith yr Alban. Bydd yn gosod y fframwaith cyfreithiol ar gyfer defnyddio cerbydau hunan-yrru yn ddiogel ym Mhrydain Fawr. Yn fras, mae'r Bil yn gwneud hyn drwy greu trefn awdurdodi ar gyfer cerbydau awtomataidd i'w defnyddio ar ffyrdd, rheoleiddio cyrff sy'n gyfrifol am nodweddion awtomataidd a gweithrediad cerbydau awtomataidd awdurdodedig, a thrwy gyflwyno cyfundrefn orfodi a chreu system drwyddedu ar gyfer cerbydau teithwyr awtomataidd.

Ers cyflwyno'r Bil, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i archwilio a yw'r cynigion deddfwriaethol yn briodol ar gyfer amgylchiadau Cymru. Rydym ni wedi dod i'r casgliad eu bod. Rydym yn cydnabod yr angen i hwyluso'r defnydd diogel ac effeithlon o gerbydau hunan-yrru. Yn ein barn ni, mae natur ryng-gysylltiedig systemau trafnidiaeth yng Nghymru a Lloegr a'r cyfuniad o faterion a gadwyd yn ôl a materion datganoledig dan sylw yn golygu ei bod yn fwyaf effeithiol a phriodol datblygu darpariaeth i'r ddau fath ar yr un pryd, yn yr un offeryn deddfwriaethol. Gan fod y dechnoleg yn datblygu'n gyflym yn y maes hwn, fe hoffem ni sicrhau bod y fframwaith deddfwriaethol yn parhau'n gyfredol ac yn gwbl gydnaws ar draws y DU.

Rydym ni wedi gallu sicrhau gwelliannau pwysig i'r Bil sy'n adlewyrchu cyfrifoldebau Gweinidogion Cymru, a sicrhau bod gennym y pwerau cyfatebol i rai Gweinidogion y DU lle bo hynny'n briodol. Rwy'n ddiolchgar i Lywodraeth y DU am weithio gyda ni ar hyn. Rwyf hefyd yn ddiolchgar i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am graffu ar ein gwaith mewn perthynas â'r Bil hwn. Hoffwn sicrhau'r pwyllgor cynnig cydsyniad deddfwriaethol nad ar chwarae bach yr wyf yn gofyn am ganiatâd i Senedd y DU ddeddfu mewn meysydd datganoledig, ond yn yr amgylchiadau hyn, credaf mai dyma'r ffordd gywir o ddeddfu. Fe wnaethon ni geisio darparu gwybodaeth mewn modd amserol i hwyluso craffu o fewn cyfyngiadau amserlenni a phrosesau San Steffan a Whitehall. Gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn. 

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae fy mhwyllgor wedi adrodd ar bob un o'r memoranda cydsyniad deddfwriaethol a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ar y Bil Cerbydau Awtomataidd, a chyflwynwyd ein hadroddiad terfynol brynhawn ddoe mewn perthynas â thrydydd memorandwm, a gyflwynwyd ychydig dros bythefnos yn ôl. Byddaf yn dechrau drwy gadarnhau bod fy mhwyllgor o'r farn bod darpariaethau'r Bil fel y'u nodir ym mhob un o'r tri memorandwm yn dod o fewn diben o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, fel y disgrifir yn Rheol Sefydlog 29, ac felly bod angen cydsyniad y Senedd.

Dirprwy Lywydd, bydd fy nghyfraniad i'r ddadl hon y prynhawn yma yn canolbwyntio ar ddau faes: pwerau dirprwyedig yn y Bil, a dull Llywodraeth Cymru o ddeddfu yn y maes hwn. Yn gyntaf, fel y crybwyllwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r Bil yn cynnwys pwerau newydd i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau, ac mae dirprwyo pwerau ychwanegol i'r Pwyllgor Gwaith bob amser yn fater sylweddol. O ystyried mai Bil sy'n pasio drwy Senedd wahanol yw hwn, sy'n golygu bod gwahanol Aelodau etholedig yn cymeradwyo'r ddirprwyaeth hon, mae'n bwysig dwyn sylw ato yma heddiw.

Yn ail, ac yn olaf, Dirprwy Lywydd, yn adroddiad cyntaf y pwyllgor, manteisiwyd ar gyfle i archwilio gyda Llywodraeth Cymru y rhyngweithio rhwng y Bil hwn a chynigion Llywodraeth Cymru ei hun ar gyfer deddfwriaeth tacsis newydd a cherbydau hurio preifat. Fel y soniwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet, roedd y pwyllgor yn ymwybodol yn ei adroddiad ar y cyd ar gerbydau awtomataidd yn 2022, bod Comisiwn y Gyfraith Cymru a Lloegr a Chomisiwn Cyfraith yr Alban yn argymell y dylid cyflwyno Deddf cerbydau awtomataidd newydd, ac y dylai Llywodraethau'r DU, yr Alban a Chymru weithio gyda'i gilydd i gyflwyno cynllun unffurf.

Roedd y pwyllgor o'r farn ei bod yn ddefnyddiol gofyn i Lywodraeth Cymru egluro pryd y penderfynodd ddefnyddio'r Bil ar gyfer y darpariaethau sydd angen cydsyniad a sut mae'r penderfyniad hwn yn ymwneud â'i deddfwriaeth arfaethedig ei hun. Gofynnwyd hyn i helpu deall dull cyffredinol Llywodraeth Cymru o ddefnyddio Biliau'r DU i wneud darpariaeth mewn meysydd datganoledig. Amlygir yr ymateb a ddarparwyd gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ar y pryd yn ein hail adroddiad, a dywedwyd wrth y pwyllgor na ofynnodd Llywodraeth Cymru am y darpariaethau yn y Bil sy'n gofyn am gydsyniad y Senedd, ac yn hytrach cawsant eu drafftio ar gais Llywodraeth y DU. Dywedodd y Dirprwy Weinidog blaenorol hefyd nad yw'r darpariaethau o fewn cwmpas deddfwriaeth arfaethedig Llywodraeth Cymru ac, felly, nid ydynt yn cael unrhyw effaith arno.

Yn ein trydydd adroddiad a'n hadroddiad terfynol, nodwyd y bu Llywodraeth Cymru yn ddiwyd yn ceisio newid sawl cymal yn y Bil ers ei gyflwyno. Ac er bod gan y pwyllgor bryderon ers tro byd ynghylch y diffyg democrataidd sy'n dod i'r amlwg o ganlyniad i Filiau yn Senedd y DU yn gwneud darpariaeth i Gymru mewn meysydd datganoledig, mae croeso mawr i'r gwaith rhynglywodraethol adeiladol ar y Bil hwn. Diolch.

18:00

Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i siarad yn fyr am y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn y prynhawn yma. Wrth i'r dechnoleg hon ddatblygu'n gyflym, rydym yn disgwyl gweld cynnydd o 40 y cant o geir newydd yn y DU yn gallu gyrru eu hunain erbyn 2035. Erbyn 2025, rhagwelir y byddwn yn dechrau gweld cerbydau hunan-yrru yn gwella'r ffordd y caiff nwyddau eu symud ledled y wlad. A minnau'n siarad fel rhywun sy'n fodurwr brwd ac yn hoff iawn o dechnoleg, mae hyn yn rhywbeth sy'n fy nghyffroi i'n fawr, ac mae'n wych gweld bod Llywodraeth y DU yn arwain y ffordd yn y maes hwn.

Gyda chamgymeriadau dynol yn ffactor sy'n cyfrannu at 88% o wrthdrawiadau ffyrdd, gallai cerbydau hunan-yrru helpu i leihau marwolaethau ac anafiadau ar ein ffyrdd. Bydd y dechnoleg newydd hon, heb os, yn gwneud teithio'n fwy cyfleus a hygyrch, yn enwedig ar gyfer yr henoed, y rhai ag anableddau a phroblemau symudedd. Gyda'r cynnydd hwn mewn technoleg, mae'n hollbwysig bod gofynion diogelwch yn cael eu rhoi ar waith, a dyna'n union mae'r Bil hwn yn bwriadu ei wneud. Yn y pen draw, bydd yn darparu un o'r fframweithiau cyfreithiol mwyaf effeithiol a blaengar ar gyfer cerbydau hunan-yrru sydd â diogelwch wrth ei galon. Yn ôl Llywodraeth y DU, bydd hefyd yn gosod y trothwy diogelwch ar gyfer hunan-yrru cyfreithiol, yn sefydlu cynllun rheoleiddio mewn defnydd i fonitro diogelwch parhaus y cerbydau hyn, a sicrhau atebolrwydd clir i'r defnyddiwr. Nid yn unig hynny, ond bydd y Bil hwn hefyd yn mynd yn bell o ran cadarnhau safle'r DU fel arweinydd byd-eang yn y diwydiant uwch-dechnoleg a thwf uchel hwn, a fydd yn creu hyd at 38,000 o swyddi.

Rwy'n croesawu'r cysondeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghylch y Bil hwn, fodd bynnag, mae gennyf gwestiwn i Ysgrifennydd y Cabinet. Hoffwn wybod i ba raddau y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymgysylltu â pharamedrau ehangach y Bil hwn ac a yw Llywodraeth Cymru wedi bod yn archwilio ffyrdd o sicrhau bod Cymru hefyd ar flaen y gad yn y dechnoleg hon. Fel y dywedais i, mae'r rhain yn amseroedd cyffrous iawn, ac mae'r Bil hwn yn gam pwysig o ran cyflwyno'r dechnoleg arloesol hon, wrth symud ymlaen. Diolch.

Hoffwn ddiolch i'r ddau Aelod am gyfrannu at y ddadl hon. Rwy'n dal i fod o'r farn y dylem ni ddarparu cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil hwn, ac rwy'n gofyn i'r Aelodau, felly, gytuno i'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, dwi wedi clywed gwrthwynebiad. Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Ac rydym wedi cyrraedd y cyfnod hwnnw nawr. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Cyfnod Pleidleisio

Dim ond un bleidlais sydd heno, ar eitem 7, a galwaf am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Ken Skates. Agor y bleidlais. O blaid 41, neb yn ymatal, 11 yn erbyn, felly mae'r cynnig wedi ei dderbyn.

Eitem 7—Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cerbydau Awtomeiddiedig: O blaid: 41, Yn erbyn: 11, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Daeth y cyfarfod i ben am 18:04.