A wnaiff y Gweinidog Cabinet ymrwymo i sefydlu a chyhoeddi set ddata delweddu diagnostig gynhwysfawr yn rheolaidd ar gyfer GIG Cymru, gan gynnwys dulliau craidd fel pelydr-X ffilm plaen, CT, ac MRI, er mwyn cefnogi atebolrwydd, tryloywder, a chynllunio gweithlu, capasiti a galw yn effeithiol?
I'w ateb gan: Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal