WQ98186 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/02/2026

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ddichonoldeb a chost-effeithiolrwydd cyflwyno manyleb ymyrraeth gynnar genedlaethol ar gyfer anhwylderau bwyta yng Nghymru, ac a wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet gyhoeddi unrhyw ddadansoddiad sy'n cymharu'r ddarpariaeth bresennol o fewn byrddau iechyd â dulliau ymyrraeth gynnar sy'n seiliedig ar dystiolaeth a ddefnyddir mewn mannau eraill yn y DU?

I'w ateb gan: Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol