WQ96868 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/07/2025

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y gallai ail-geisiadau rheolaidd am fathodynnau glas ei chael ar iechyd meddwl a llesiant plant a phobl ifanc anabl, a'u gofalwyr?

I'w ateb gan: Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru