WQ96009 (w) Wedi’i gyflwyno ar 14/03/2025

Pa gynnydd y mae’r Llywodraeth wedi’i wneud wrth ddatblygu canllawiau i awdurdodau lleol fesur yr allyriadau carbon a gynhyrchir drwy gaffael, er mwyn cefnogi ei nod o gyrraedd sero net erbyn 2030?

Wedi'i ateb gan Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig | Wedi'i ateb ar 21/03/2025

Mae tîm datgarboneiddio’r sector cyhoeddus, cydweithwyr ym maes caffael a’r Ymddiriedolaeth Carbon yn cydweithio er mwyn gwella’r canllawiau ar allyriadau a gynhyrchir drwy gaffael. Y nod yw eu cyhoeddi erbyn Gwanwyn 2026, a hynny fel rhan o’r nod o gyrraedd Sero Net erbyn 2030.

Rydym hefyd yn cefnogi rhaglen hinsawdd CLlLC, gan gynnig hyfforddiant a chanllawiau ymarferol er mwyn helpu i ddatgarboneiddio, gyda phwyslais ar gaffael, sy’n cyfrif am 70% o allyriadau awdurdodau lleol.