A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet rannu'r rhestr bresennol o brosiectau â blaenoriaeth ar gyfer buddsoddiad y cytunwyd arnynt gan Fwrdd Rheilffyrdd Cymru?
Mae Bwrdd Rheilffyrdd Cymru wedi nodi mai argymhellion Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru a Chomisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru ar reilffyrdd yw'r prosiectau y bydd yn rhoi blaenoriaeth i'w cyflawni. Mae'r prosiectau hynny’n cynnwys datrys y cyfyngiadau ar gapasiti yng ngorsaf Caer, gwneud y gwelliannau angenrheidiol i seilwaith ar y llinell rhwng Wrecsam a Lerpwl fel y bo modd darparu gwasanaeth dau drên yr awr, a phum gorsaf newydd ar Brif Linell De Cymru rhwng Caerdydd a Thwnnel Hafren, ochr yn ochr â'r gwelliannau angenrheidiol i’r llinell liniaru. Mae Bwrdd Rheilffyrdd Cymru wedi datblygu a chymeradwyo llif o brosiectau gwella seilwaith, a’r prosiectau uchod yw’r rhai a fydd yn cael blaenoriaeth ar unwaith. Rydym yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU i gytuno’n derfynol ar y llif prosiectau hwnnw.