A wnaiff Llywodraeth Cymru gyhoedddi manylion y swyddi newydd sydd wedi eu hariannu mewn ysgolion ers cychwyn y pandemig?
Gan weithio gyda'n partneriaid awdurdod lleol, rydym wedi sicrhau dadansoddiad llawn o'r swyddi sydd wedi'u hariannu drwy'r rhaglen Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau yn ystod tymor yr hydref 2020. Ledled Cymru, mae'r hyn sy'n cyfateb i 1,995.3 o swyddi llawn amser wedi'u hariannu gan y rhaglen. Mae'r cyfanswm hwn yn cynnwys: 615.4 o athrawon CALl, 1148 o CAau CALl a 231.3 o swyddi CALl eraill. O'r swyddi hyn, mae Awdurdodau Lleol yn adrodd bod dros 75% (1508.1) yn newydd.
Darparwyd y pecyn cymorth ar lefel ysgol i ganiatáu creu capasiti ychwanegol i fodloni gofynion gwell addysg a chymorth yng nghyd-destun COVID-19, ac mae ysgolion wedi cael yr hyblygrwydd i ddyrannu eu cyllid yn unol ag anghenion penodol eu dysgwyr.