WAQ79200 (w) Wedi’i gyflwyno ar 05/12/2019

Ymhellach i WAQ79139, a wnaiff y Gweinidog grynhoi'r trefniadau ar gyfer penodi byrddau cymdeithasau tai, gan gynnwys rhan Gweinidogion Cymru yn y trefniadau?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol | Wedi'i ateb ar 17/12/2019

Disgwylir i aelodau bwrdd gael eu penodi drwy weithdrefnau ffurfiol, cadarn a thryloyw. Mae'n ofynnol mabwysiadu a chydymffurfio â chod llywodraethu sy'n ymdrin â'r materion hyn a materion eraill yn ôl Safon Perfformiad 1 o'r fframwaith rheoleiddio, fel yr amlinellwyd gan Weinidogion Cymru.

Dylai penodiadau o'r fath gael eu gwneud ar sail teilyngdod, yn erbyn meini prawf gwrthrychol a chan ystyried manteision amrywiaeth. Fel arfer, penodir aelodau bwrdd yn seiliedig ar y sgiliau sydd eu hangen i gyflawni cynllun busnes sefydliad a'i weledigaeth, a chaiff y trefniadau a wneir gan gymdeithasau tai eu gweithredu'n unol â'r anghenion hynny.

Mae Deddf Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) 2018 yn mewnosod Pennod 1A newydd i Ddeddf Tai 1996 gan gyfyngu ar bwerau awdurdodau lleol mewn perthynas ag aelodaeth bwrdd landlord cymdeithasol cofrestredig (LCC) a'u hawliau pleidleisio. Ymhlith pethau eraill, mae'r darpariaethau hyn yn cyfyngu ar nifer yr enwebiadau o'r awdurdod lleol, ac felly ni all yr enwebiadau hyn gyfrif am fwy na 24% o aelodaeth unrhyw fwrdd. Cafodd y cyfyngiadau hyn eu cyflwyno gan Ddeddf Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) 2018 er mwyn sicrhau nad yw cynrychiolaeth o'r awdurdod lleol ar fyrddau a'u hawliau pleidleisio yn arwydd o reolaeth y llywodraeth ganolog neu lywodraeth leol gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol wrth iddynt ystyried dosbarthiad LCC.

Fodd bynnag, pe bai'r pwerau gorfodi rheoleiddiol ym Mesur Tai (Cymru) 2011 a Mesur Tai 1996 (fel y'i diwygiwyd) yn cael eu harfer, ceir darpariaethau mewn amgylchiadau penodol i Weinidogion Cymru allu penodi a diswyddo swyddogion LCC. Yn y cyd-destun hwn, mae'r term "swyddogion" yn cynnwys aelodau bwrdd.

Mewn sefyllfa arferol, ni fyddai Gweinidogion Cymru'n disgwyl bod yn rhan o'r broses o benodi aelodau i fwrdd LCC.