Ymhellach i WAQ79139, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau'r gwahaniaeth rhwng llywodraethu a rheoleiddio yn y cyswllt hwn?
Fel y dywedais yn fy ymateb i’ch cwestiwn cyntaf, mae cymdeithasau tai sy’n landlordiaid cymdeithasol cofrestredig (LCC) yn sefydliadau ymreolaethol, annibynnol sydd â byrddau annibynnol. Felly, nid ydynt yn cael eu llywodraethu gan Lywodraeth Cymru. Yn hytrach, maent yn rhydd i benderfynu ar eu blaenoriaethau, eu strwythurau a’u modelau gweithredu eu hunain. Wrth wneud hynny, fodd bynnag, mae’n ofynnol i gymdeithasau tai weithredu’n unol â’u hofferynnau llywodraethu sefydledig.
Mae rheoleiddio, ar y llaw arall, yn diogelu buddiannau tenantiaid a buddsoddiadau cyhoeddus drwy oruchwylio effeithiol parhaus. Yn y cyd-destun hwn, mae’n ofynnol i LCC roi sicrwydd priodol a digonol i’r rheoleiddiwr eu bod yn bodloni’r safonau perfformiad amrywiol a bennwyd gan Weinidogion Cymru ar gyfer LCC. Mae’r math hwn o reoleiddio yn gofyn am sicrwydd bod LCC yn cydymffurfio â chod llywodraethu ac yn cadw ato, a hefyd sicrwydd o’u hyfywedd ariannol.