OPIN-2026-0558 Gwaharddiad Arfaethedig ar Barcio ar y Palmant yng Nghymru
(d)
Wedi’i gyflwyno ar 13/11/2026
Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi:
a) bod parcio ar balmentydd yn achosi anawsterau sylweddol i bobl ddall a phobl sy'n gweld yn rhannol;
b) nad yw parcio ar balmentydd yn drosedd benodol yng Nghymru, yn wahanol i rannau eraill o'r Deyrnas Unedig; ac
c) bod nifer o elusennau ac arweinwyr yn y gymuned wedi galw am wahardd parcio ar balmentydd yng Nghymru ers cryn amser.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried cyhoeddi canllawiau clir o ran gwahardd parcio ar balmentydd.