OPIN-2026-0549 Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babi (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/10/2026

Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi bod Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Baban 2026 yn cael ei chynnal rhwng 9 a 15 Hydref.
2. Yn cydnabod bod yr wythnos hon yn gyfle i godi ymwybyddiaeth o golli baban yn ystod beichiogrwydd a marwolaeth baban, a'r gwaith sydd ei angen i wella canlyniadau beichiogrwydd ac achub bywydau babanod ledled Cymru.
3. Yn nodi ymhellach y daw’r wythnos i ben â Thon o Oleuni ar 15 Hydref, pan fydd teuluoedd ledled y byd yn cynnau cannwyll am 19:00.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i welliannau o ran y gofal a’r gefnogaeth i deuluoedd mewn profedigaeth, ac o ran atal colli baban yn ystod beichiogrwydd a marwolaeth baban.