OPIN-2026-0546 Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 06/10/2026
Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd ar 10 Hydref 2026.
2. Yn nodi pwysigrwydd y thema eleni – Clywed profiadau bywyd: lleisiau go iawn, newid go iawn.
3. Yn dathlu 50 mlynedd o'r elusen salwch meddwl a defnyddio sylweddau, Adferiad
4. Yn cydnabod y gefnogaeth hanfodol a ddarperir gan Adferiad a'i gwaith yn chwyddo lleisiau'r rhai sydd â phrofiad bywyd.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol 2025 - 2035.