Mae’r Senedd hon:
1. Yn nodi:
a) nad trasiedi filwrol yn unig oedd colli RFA Sir Galahad ar 8 Mehefin 1982, ond trasiedi a darodd Cymru’n ddwfn hefyd;
b) bod 48 o bobl wedi colli eu bywydau, gan gynnwys 32 o aelodau'r Gwarchodlu Cymreig, a bod llawer wedi dioddef anafiadau a newidiodd eu bywydau; ac
c) bod y goroeswyr, cyn-filwyr a’r teuluoedd mewn profedigaeth yn dal i fyw gyda’r canlyniadau.
2. Yn cydnabod bod teuluoedd yn dal i chwilio am atebion.
3. Yn nodi ymhellach:
a) bod tystiolaeth yn parhau i gael ei chadw yn ôl, a bod rhywfaint ohoni wedi'i selio tan 2065; a
b) bod ymgyrchwyr yn dadlau ei bod yn bosibl y bydd llawer o’r rhai yr effeithiwyd arnynt byth yn gweld y dystiolaeth yn cael ei rhyddhau’n llawn.
4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i ryddhau pob dogfen sy’n ymwneud â’r drychineb, yn ysbryd tryloywder ac atebolrwydd.