OPIN-2026-0542 Achubwch ein Meddygfeydd i Achub y GIG (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/09/2026

Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi cyhoeddi adroddiad BMA Cymru Wales Achubwch Ein Meddygfeydd i Achub y GIG.
2. Yn cydnabod rôl y practis cyffredinol o ran cynaliadwyedd GIG Cymru.
3. Yn nodi bod Cymru wedi colli 106 practis meddygon teulu ers 2012, gyda chleifion fesul meddyg teulu cyfwerth ag amser llawn yn cynyddu tua 30 y cant.
4. Yn nodi ymhellach, gasgliad yr adroddiad bod pwysau'r gweithlu, y llwyth gwaith a'r capasiti yn bygwth darpariaeth mwy o ofal yn agosach at adref.
5. Yn cefnogi twf y gweithlu meddygon teulu.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi map ffordd ar gyfer cryfhau buddsoddiad mewn Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol a sicrhau cynaliadwyedd parhaol y practis cyffredinol.