Mae'r Senedd hon:
1. Yn cydnabod bod gormod o bobl ifanc yn dechrau bywyd fel oedolion heb waith, hyfforddiant, neu lwybr clir i gyflogaeth.
2. Yn nodi bod diweithdra a thangyflogaeth ymhlith graddedigion yn parhau i fod yn bryderon difrifol, gyda gormod o raddedigion yng Nghymru yn methu â dod o hyd i waith sy'n cyfateb i'w sgiliau, neu'n gadael Cymru i ddod o hyd i gyfleoedd.
3. Yn sylweddoli y gall diweithdra dros gyfnod hir pan yn ifanc gael effeithiau parhaol ar enillion, iechyd, a chyfleoedd bywyd.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud y canlynol:
a) gosod targedau clir a mesuradwy ar gyfer lleihau diweithdra ymhlith pobl ifanc a graddedigion;
b) adrodd yn rheolaidd i'r Senedd ar gynnydd yn erbyn y targedau hynny; a
c) datblygu strategaeth i gadw graddedigion yng Nghymru.