OPIN-2026-0513 Llw dros Balesteina
(d)
Wedi’i gyflwyno ar 27/05/2026
Mae’r Senedd hon:
1. Yn gwarchod hawliau annatod pobl Palesteina ac yn cefnogi'r gymuned Balesteinaidd yng Nghymru.
2. Yn cefnogi ymdrechion i atal troseddau Israel o ran hil-laddiad, meddiannaeth filwrol, glanhau ethnig ac apartheid, a sicrhau atebolrwydd yn eu cylch.
3. Am sicrhau nad yw Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus yn cyfrannu at achosion o dorri cyfraith ryngwladol gan Israel, gan gynnwys cefnogi galwadau gan Balesteiniaid am foicot, dadfuddsoddi a sancsiynau, a galwadau am ddiddymu pob contract cyhoeddus a chymorth ariannol ar gyfer cwmnïau ac endidau eraill sy'n cyfrannu at droseddau Israel.