OPIN-2026-0512 Trwsio Loterïau Cod Post Byrddau Iechyd Cymru (d) Wedi’i gyflwyno ar 21/05/2026

Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi bod llawer o Ymddiriedolaethau'r GIG yn Lloegr yn gwasanaethu poblogaethau o fwy na miliwn o bobl yn uniongyrchol ac ymhell dros boblogaeth Cymru ar gyfer gofal trydyddol.
2. Yn nodi bod anghysondeb sylweddol mewn amseroedd aros rhwng gwahanol fyrddau iechyd.
3. Yn nodi bod gofal ar draws ffiniau byrddau iechyd yn anghyson ac yn cael ei oedi.
4. Yn nodi bod dyblygu strwythurau rheoli ar draws byrddau iechyd yn aneffeithlon.
5. Yn credu mai'r canlyniadau gorau i gleifion yng Nghymru fyddai diddymu ffiniau byrddau iechyd a symleiddio strwythurau rheoli gan ddefnyddio dull tri rhanbarth a Chymru gyfan drwy gyfuno adnoddau mewn Canolfannau Rhagoriaeth mwy effeithlon.