OPIN-2026-0511 Cefnogaeth i Wythnos Genedlaethol Epilepsi (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/05/2026

Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi Wythnos Genedlaethol Epilepsi 2026 sy'n digwydd rhwng 18 Mai a 24 Mai.
2. Yn cydnabod gwaith Epilepsy Action Cymru ar wella canlyniadau i bobl ag epilepsi.
3. Yn nodi bod tua 36,000 o bobl yn byw gydag epilepsi yng Nghymru.
4. Yn nodi ymhellach fod llawer o bobl ag epilepsi yn profi anawsterau o ran cael mynediad at wasanaethau iechyd amserol a phriodol.
5. Yn galw ar y Llywodraeth i:
a) cynyddu ymwybyddiaeth o epilepsi;
b) gwella mynediad at ofal iechyd; ac
c) mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd sy'n wynebu pobl sy'n byw gyda'r cyflwr.