OPIN-2026-0510 Mis Ymwybyddiaeth Arthritis (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/05/2026

Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi mai mis Mai yw Mis Ymwybyddiaeth Arthritis ac yn cydnabod bod arthritis yn achosi poen, blinder, anabledd, a straen meddyliol ac ariannol.
2. Yn cydnabod bod arthritis a chyflyrau cyhyrysgerbydol yn effeithio ar bron i filiwn o bobl yng Nghymru, yn gallu taro ar unrhyw oedran, gan gynnwys plentyndod, ac yn effeithio ar y gallu i weithio, gofalu am deulu, a byw'n annibynnol.
3. Yn cydnabod yr angen i ddatblygu gwasanaethau arthritis drwy atal, diagnosis cynnar, hunanreoli â chymorth, a mynediad amserol at wasanaethau a thriniaeth amlddisgyblaethol.
4. Yn cadarnhau'r angen i flaenoriaethu lleihau amseroedd aros hir ar gyfer llawdriniaeth orthopedig.

Tanysgrifwyr