OPIN-2026-0503 Cefnogi Heddwch ac Ymdrechion Dyngarol yn Syria
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 16/01/2026
Mae'r Senedd hon:
1. Yn cydnabod ymdrechion y gymuned ryngwladol i gyfryngu heddwch hirsefydlog rhwng Lluoedd Democrataidd Syria a lluoedd y llywodraeth yn Syria.
2. Yn mynegi pryder difrifol ynghylch y degau o filoedd o sifiliaid sydd wedi'u dadleoli o ardaloedd mwyafrif Cwrdaidd Aleppo, sef Sheikh Maqsoud ac Ashrafieh.
3. Yn ategu'r alwad gan Gennad Arbennig yr Unol Daleithiau ar gyfer Syria ar i bob parti ymarfer y cyfyngiad mwyaf, rhoi'r gorau i'r gelyniaeth ar unwaith, a dychwelyd at ddeialog.
4. Yn annog Llywodraeth Cymru i gefnogi Llywodraeth y DU i hyrwyddo heddwch cryf a pharhaol yn Syria drwy ddeialog a mesurau dyngarol.
5. Yn sefyll gyda'r cymunedau Cwrdaidd yng Nghymru.