OPIN-2026-0501 Protestiadau yn Iran (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/01/2026

Mae'r Senedd hon:
1. Yn talu teyrnged i ddewrder pobl Iran sy'n ceisio rhoi terfyn ar ormes.
2. Yn condemnio cam-drin hawliau dynol ac yn galw am ryddhau ar unwaith yr holl bobl sy'n cael eu cadw am arfer eu hawl i brotestio.
3. Yn annog Llywodraeth y DU i weithio gyda phartneriaid rhyngwladol i amddiffyn hawliau dynol a sicrhau rhyddid sylfaenol i bobl Iran.
4. Yn mynegi undod â'r rhai yng Nghymru nad ydynt yn gallu cysylltu ag anwyliaid yn Iran oherwydd y diffoddiad digidol parhaus.
5. Yn condemnio'r ymosodiad treisgar gan awdurdodau Iran, gan gynnwys arestiadau torfol a lladd dros 500 o brotestwyr.