Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi:
a) bod Gweithredwr y System Ynni Genedlaethol yn cynllunio cyswllt tensiwn uchel, o bosibl peilon, rhwng Bangor ac Abertawe;
b) y gallai hyn dorri drwy Barciau Cenedlaethol Eryri a Bannau Brycheiniog a Mynyddoedd Cambria;
c) bod Rheolau Holford y Grid Cenedlaethol yn datgan y dylai llinellau uwchben foltedd uchel newydd osgoi parc cenedlaethol yn gyfan gwbl os yw'n bosibl;
d) y gall gosod llinellau tensiwn uchel tanddaearol drwy barciau cenedlaethol fod yn ddrud ac yn niweidiol yn ecolegol;
e) bod cynlluniau Gweithredwr y System Ynni Genedlaethol yn cynnwys ceblau tanfor.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud yn glir ei barn i Adran yr Amgylchedd a Newid Hinsawdd y dylai gosod y cyswllt ar y môr o amgylch gorllewin Cymru fod yr opsiwn a ffefrir, yn amodol ar asesiad amgylcheddol boddhaol.