OPIN-2025-0458 Sefyll mewn Undod â Phobl Iran (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/01/2025

Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi'r cysylltiadau rhwng Cymru a phobl Iran.
2. Yn cydnabod ymrwymiad Llywodraeth Cymru i Gymru fod yn genedl gyfrifol yn fyd-eang, o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
3. Yn sefyll mewn undod â phobl Iran.
4. Yn condemnio'r cam-drin hawliau dynol a gyflawnwyd yn Iran.
5. Yn condemnio'r dienyddio a charcharu diwahaniaeth yn Iran, yn enwedig menywod a lleiafrifoedd ethnig.
6. Yn cymeradwyo gwaith hawliau dynol David Afrash a Chymdeithas Academyddion Iran wrth godi ymwybyddiaeth o greulondeb cyfundrefn Iran. 7. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gefnogi'r rhai sy'n wynebu dienyddio a charcharu anghyfiawn yn Iran.

Tanysgrifwyr