OPIN-2025-0456 Cymryd rhan yn y Cytuniad Peidio ag Amlhau Tanwyddau Ffosil
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 17/01/2025
Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi:
a) bod gwledydd sy'n cymryd rhan ffurfiol mewn trafodaethau ar ddatblygu Cytuniad Peidio ag Amlhau Tanwyddau Ffosil yn cynnwys 16 o genedl-wladwriaethau, Senedd Ewrop a Sefydliad Iechyd y Byd; a
b) bod dros 120 o ddinasoedd a llywodraethau is-genedlaethol wedi cefnogi eu hymdrechion, ac mae'r llywodraethau hyn yn ystyried y cytuniad arfaethedig fel mecanwaith cyfreithiol newydd i sicrhau trosglwyddiad teg i ffwrdd o olew, nwy a glo, a chyfle'r byd i aros o fewn y terfyn hinsawdd 1.5°C.
2. Yn galw:
a) ar Lywodraeth Cymru i ddechrau trafodaethau i gymryd rhan yn y Cytuniad Peidio ag Amlhau Tanwyddau Ffosil; a
b) i Lywodraeth y DU ystyried cymryd rhan yn y cytuniad.