OPIN-2023-0367 Nagorno-Karabakh (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/09/2023

Mae'r Senedd hon:

1. Yn nodi'r cysylltiadau hanesyddol rhwng pobl Armenia a Chymru.

2. Yn mynegi pryder ynghylch y cynnydd diweddar o ran gelyniaeth gan fyddin Azerbaijan yn rhanbarth Nagorno-Karabakh.

3. Yn condemnio'r blocâd ar goridor Lachin gan Azerbaijan fel rhywbeth sy'n groes i gyfraith ryngwladol, sydd wedi arwain at argyfwng dyngarol yn y rhanbarth.

4. Yn gobeithio bod y trafodaethau presennol rhwng Azerbaijan a gweriniaeth Artsakh yn arwain at ddatrys yr argyfwng yn heddychlon a bod hawliau poblogaeth Armenaidd Nagorno-Karabakh yn cael eu parchu'n llawn yn unol â chyfraith y Cenhedloedd Unedig.