OPIN-2023-0361 Cofio Hiroshima - Meiri dros Heddwch (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/07/2023

Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi:
a) y gollyngodd UDA ddau fom atomig ar Hiroshima a Nagasaki ar 6 a 9 Awst 1945, gan ladd amcangyfrif o 140,000 yn Hiroshima a 74,000 yn Nagasaki;
b) y sefydlodd Maer Hiroshima, Takeshi Araki, y fenter Meiri dros Heddwch yn 1982, a galwodd ar ddinasoedd ledled y byd i ymuno â'r alwad am ddiddymu niwclear; ac
c) y cefnogodd y Senedd gynnig yn galw ar bob gwladwriaeth i lofnodi a chadarnhau Cytundeb y Cenhedloedd Unedig ar Wahardd Arfau Niwclear ar 9 Mawrth 2022.
2. Yn annog cynghorau sir, tref, cymuned a dinas i fabwysiadu Hyrwyddwr Heddwch a chefnogi Meiri dros Heddwch.