OPIN-2023-0358 Wythnos Gwaith Ieuenctid (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/06/2023

Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi y cynhelir Wythnos Gwaith Ieuenctid rhwng 23 a 30 Mehefin.
2. Yn cydnabod ac yn cymeradwyo cyfraniad y rhai sy'n gweithio mewn gwasanaethau gwaith ieuenctid.
3. Yn gresynu at y ffaith bod Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi tynnu ei rhaglen gwaith ieuenctid a chymunedol israddedig yn ôl ac felly nid oes llwybr o gymhwyster Lefel 3 Cymorth Gwaith Ieuenctid i gymhwyster proffesiynol yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i annog cyfleoedd i bobl ifanc fel y gallant gyflawni eu potensial.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i annog Prifysgol Glyndŵr Wrecsam i ymrwymo i ddarparu rhaglen gwaith ieuenctid a chymunedol israddedig.