OPIN-2023-0330 Cefnogaeth i bobl Armenia (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2023

Mae'r Senedd hon:
1. Yn cydnabod y cysylltiadau hanesyddol hirsefydlog rhwng Cymru ac Armenia.
2. Yn condemnio'r rhyfel terfysgol y mae pobl Armenaidd yn Nagorno Karabakh yn ei wynebu.
3. Yn galw ar Lywodraeth y DU i roi cymorth i osgoi argyfwng dyngarol sy'n wynebu 120,000 o bobl Armenaidd o ganlyniad i flocio coridor Lachin.
4. Yn cofio erchyllterau hil-laddiad Armenaidd 1915-23 ac yn cydnabod y bygythiad o hil-laddiad arall yn digwydd yn 2023.