OPIN-2022-0326 Jiwbilî plwtoniwm y bom atomig - cydnabyddiaeth i gyn-filwyr a oedd yn gysylltiedig â phrofion niwclear (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/12/2022

Mae'r Senedd hon:

1. Yn nodi:

(a) mai 2022 yw'r Jiwbilî Plwtoniwm, sef 70 mlwyddiant bom atomig cyntaf y Deyrnas Unedig;

(b) bod pobl sy'n gysylltiedig â'r profion atomig/niwclear, y mae llawer yn eu plith yn Gymry, yn fwy tebygol o farw o ganser a dioddef camesgoriadau ac mae'n fwy tebygol y bydd gan eu plant ddiffygion geni.

2. Yn credu bod y cyn-filwyr a oedd yn gysylltiedig â'r ffrwydradau niwclear hyn, gan gynnwys disgynyddion a phobl frodorol, wedi cael eu camdrin gan lywodraethau olynol.

3. Yn cefnogi galwadau am:

(a) ymddiheuriad cenedlaethol;

(b) medal i gydnabod gwasanaeth/aberth y cyn-filwyr hyn;

(c) cymorth ariannol i gyn-filwyr/teuluoedd;

(d) rhaglen addysg ar y profion a'u heffaith;

(e) ymchwil i ddisgynyddion.