OPIN-2022-0301 Dileu hepatitis C yng Nghymru (e) Wedi’i gyflwyno ar 22/09/2022

Mae'r Senedd hon:

1. Yn croesawu'r gydnabyddiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o'r angen i ail-fywiogi'r ymdrech i gael gwared ar hepatitis C yn dilyn pandemig COVID-19.

2. Yn deall, er bod Llywodraeth Cymru'n dal wedi ymrwymo i'w nod o gael gwared ar hepatitis C erbyn 2030, ei bod yn cydnabod na chafodd targedau triniaeth flynyddol eu cyrraedd cyn y pandemig, a bod effaith y pandemig wedi creu bylchau profi a thrin, sy'n peryglu'r dyddiad targed hwnnw.

3. Yn credu y dylai'r Llywodraeth gyfarwyddo byrddau iechyd a rhoi'r adnoddau iddynt a fydd yn eu galluogi i ddylunio a darparu cynlluniau dileu lleol a gefnogir gan fecanweithiau adrodd data rheolaidd a mesurau perfformiad.