OPIN-2022-0300 Wythnos ffeibrosis idiopathig yr ysgyfaint (IPF) (19-25 Medi) (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/09/2022

Mae'r Senedd hon:

1. Yn croesawu'r ffaith mai 19-25 Medi 2022 yw wythnos ffibrosis idiopathig yr ysgyfaint.

2. Yn nodi bod ffeibrosis idiopathig yr ysgyfaint yn glefyd prin, nad oes modd ei wella, sy'n achosi creithiau cynyddol o'r ysgyfaint gyda goroesiad canolrifol o dair blynedd yn unig.

3. Yn nodi y gall adsefydlu ysgyfeiniol gyfrannu'n sylweddol at wella ansawdd bywyd.

4. Yn cefnogi gwaith Asthma + Lung UK Cymru a Grŵp Trawsbleiddiol Iechyd yr Ysgyfaint i godi ymwybyddiaeth o ffeibrosis idiopathig yr ysgyfaint a chyflyrau eraill yr ysgyfaint.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno datganiad ansawdd anadlol er mwyn sicrhau bod gan bobl sydd â ffeibrosis idiopathig yr ysgyfaint fynediad at driniaeth a chymorth priodol.