OPIN-2022-0299 Diwrnod Rhyngwladol Aer Glân ar gyfer Awyr Las (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/09/2022

Mae'r Senedd hon:

1. Yn nodi:

a) bod 7 Medi 2022 yn Ddiwrnod Rhyngwladol Aer Glân ar gyfer awyr las;

b) gwaith Awyr Iach Cymru a'r Grŵp Trawsbleidiol ar Ddeddf Aer Glân i godi ymwybyddiaeth o beryglon llygredd aer;

c) ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflwyno Bil Aer Glân o fewn y 12 mis nesaf.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Bil Aer Glân uchelgeisiol cyn gynted â phosib i ymgorffori yng nghanllawiau ansawdd aer newydd Sefydliad Iechyd y Byd a rhoi'r 'hawl i anadlu' aer glân i bawb.