OPIN-2022-0297 Pob lwc i Dîm Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad 2022 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/07/2022

Mae'r Senedd:
1. Yn nodi y bydd Cymru'n cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad 2022 yn Birmingham rhwng 28 Gorffennaf ac 8 Awst 2022.
2. Yn cydnabod mai dyma fydd y 22ain tro i Gymru ymddangos, ar ôl cystadlu ym mhob gêm ers eu sefydlu yn 1930.
3. Yn dymuno 'Pob lwc' i'r holl athletwyr sy'n cystadlu - bydd Cymru'n eich calonogi!