OPIN-2022-0296 Ffatri adweithydd niwclear bach ar gyfer Glannau Dyfrdwy (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/07/2022

Mae'r Senedd hon:
1. Yn cydnabod y rôl y bydd pŵer niwclear yn ei chwarae wrth roi terfyn ar ddibynnu ar danwydd ffosil.
2. Yn nodi'r cyhoeddiad gan Rolls-Royce fod Glannau Dyfrdwy yn un o chwe lleoliad ar y rhestr fer ar gyfer y ffatri adweithydd niwclear bach gyntaf.
3. Yn dathlu'r gweithlu medrus iawn yng ngogledd-ddwyrain Cymru.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud popeth o fewn ei gallu i gefnogi safle arfaethedig Glannau Dyfrdwy.