OPIN-2022-0295 Pardwn Streic y Glowyr a'r angen am ymchwiliad DU-gyfan i anghydfod (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/06/2022

Mae'r Senedd hon:
1. Yn croesawu pasio Bil Streic y Glowyr (Pardynau) yn Senedd yr Alban i roi parwdn i gyn-lowyr a gafwyd yn euog o droseddau penodol yn ystod Streic y Glowyr 1984-85.
2. Yn llongyfarch Llywodraeth yr Alban am gynnal adolygiad o effaith plismona ar gymunedau'r Alban yn ystod yr anghydfod diwydiannol
3. Yn cydnabod graddfa'r anghyfiawnder o gollfarnu'r rhai a oedd yn picedu am eu hawliau.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ysgrifennu at Ysgrifennydd Cartref y DU yn gofyn am greu ymchwiliad cyhoeddus DU-gyfan i'r streic ac ystyried cynllun iawndal y DU ar gyfer cyn-lowyr.