OPIN-2022-0294 Dyfodol glanach heb lo (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/06/2022

Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi canfyddiadau chweched adroddiad gwerthuso'r Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd.
2. Yn nodi mai glo yw'r ffynhonnell unigol fwyaf o gynnydd yn y tymheredd byd-eang.
3. Yn croesawu'r datganiad pontio byd-eang ar lo i bŵer glan a lofnodwyd yn ystod llywyddiaeth COP26 y DU.
4. Yn gresynu at sylwadau gan Brif Weinidog y DU am adnewyddu'r gwaith o gloddio a llosgi glo yn y DU.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailadrodd ei gwrthwynebiad i gloddio a llosgi glo.