OPIN-2022-0293 Gwrthdroi Roe v. Wade (d) Wedi’i gyflwyno ar 28/06/2022

Mae'r Senedd hon:

1. Yn nodi bod gwrthdroi penderfyniad pwysig Roe vs Wade gan Goruchaf Lys yr UD yn dileu hawl menyw i benderfynu pryd ac a ddylid cael plant ai peidio.

2. Yn credu, er bod y gyfraith wedi newid, na fydd yn atal erthyliadau ac y bydd yn arwain at farwolaeth llawer mwy o fenywod sy'n agored i niwed.

3. Yn nodi y bydd llawer o gyfreithiau y mae ddeddfwrfeydd taliaethau'n eu cynllunio ar hyn o bryd yn gwahardd erthyliadau yn achos trais rhywiol neu losgach.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) condemnio'n llwyr y gwrthdroad hwn o hawliau menywod;

b) ailddatgan bod gan fenywod yng Nghymru ac ar draws y byd hawliau sylfaenol i reoli eu cyrff eu hunain.