OPIN-2022-0292 Uned Gobaith - first year anniversary (e) Wedi’i gyflwyno ar 22/06/2022

Mae'r Senedd hon:

1. Yn llongyfarch pawb sy'n ymwneud â'r uned mamau a babanod (MBU) Uned Gobaith yn Ne Cymru ar ei phen-blwydd cyntaf.

2. Yn mynegi ei diolchgarwch am waith ac ymrwymiad Uned Gobaith i gefnogi menywod a theuluoedd yr effeithir arnynt gan broblemau iechyd meddwl amenedigol difrifol.

3. Yn mynegi pryder mai uned dros dro yw Uned Gobaith ar hyn o bryd, ac nad yw MBU hygyrch ar gael yng Ngogledd Cymru o hyd.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu amserlen ar gyfer adolygiad Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru o Uned Gobaith, ac i sefydlu uned mamau a babanod ar gyfer Gogledd Cymru.